Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/07/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb.
Prynhawn da, bawb.
Awn yn syth nawr i eitem 1, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Cwestiwn 1, Laura Anne Jones.
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Sir Fynwy Torfaen? OQ64391
Diolch am y cwestiwn yna.
Nodais flaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Sir Fynwy Torfaen, yn fy natganiad llafar ar 2 Mehefin. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar wella mynediad, cryfhau gwasanaethau lleol, darparu mwy o ofal yn nes at y cartref, lleihau amseroedd aros, cefnogi staff a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Diolch. Er mwyn gwella gwasanaethau i bawb yn fy etholaeth a ledled Cymru, mae angen inni sicrhau ein bod yn diogelu hawliau menywod yn unol â dyfarniad y Goruchaf Lys fod rhyw yn golygu rhyw biolegol, gan ddiogelu wardiau, toiledau ac ystafelloedd newid un rhyw. Mae pob un ohonom yn gyfarwydd ag achos nyrsys Darlington, felly mae hyn yn hanfodol i atal y sefyllfaoedd hyn nid yn unig i gleifion, ond i staff. Mae iaith yn y GIG hefyd yn bwysig. Menywod a merched sy'n cael mislif, menywod sy'n bwydo ar y fron, nid dynion. Ym maes iechyd, mae hyn yn bwysig. Mae rhyw yn golygu rhyw biolegol. Mae ffeithiau'n bwysig. Gadewch inni roi’r gorau i’r nonsens. Weinidog, a wnewch chi edrych nawr ar wneud newidiadau ar frys yn GIG Cymru yn unol â’r dyfarniad i ddiogelu menywod a merched yng Nghymru, fel y maent eisoes wedi dechrau ei wneud mewn rhannau eraill o’r DU?
Diolch am y cwestiwn atodol yna.
Lywydd, mae’r cwestiwn hwn wedi’i ofyn sawl gwaith yn y Siambr hon, felly rwyf am ailbwysleisio’r ffaith y bydd y Llywodraeth hon yn parchu dyfarniad y llys wrth gwrs, ond rydym hefyd yn glir y byddwn yn trin pawb o fewn y GIG—sy’n mynd i mewn i’n GIG, sy’n mynd i mewn i’n meddygfeydd, sy’n mynd i mewn i’n hysbytai, lle bynnag y bônt yn y system iechyd a gofal—gyda’r urddas a’r parch y maent yn ei haeddu, gan barchu pwy ydynt a bod yno ar eu cyfer pan fyddant angen hynny.
Diolch am eich ateb, Weinidog Cabinet. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar lefel uwchgyfeirio 4 o ran cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad, yn ogystal â chanlyniadau gofal brys a gofal argyfwng. Rwy’n bryderus iawn ynghylch y ffordd y mae hyn yn effeithio ar y cleifion mwyaf agored i niwed a’r rheini sy’n aros am ofal a gynlluniwyd. Oherwydd amseroedd aros hwy, mae pobl yn ymgyflwyno gydag anghenion mwy cymhleth. Fe wnaeth un unigolyn y gwn amdani, sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth i gael pen-glin newydd, syrthio'n ddiweddar a thorri ei chlun. Rwy'n bryderus iawn am yr amseroedd aros hir y mae cleifion yn fy etholaeth yn eu hwynebu, a gwn fod y gyllideb a gynlluniwyd, y pleidleisiodd Reform a Llafur yn ei herbyn neithiwr, wedi cynnig £145 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros ledled Cymru. Beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud nawr i wella'r sefyllfa i gleifion agored i niwed yn Sir Fynwy Torfaen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn fwy cyffredinol?
Diolch am y cwestiwn gan yr Aelod. Fel y dywedodd yr Aelod, yn y gyllideb atodol ddoe, o ran iechyd, fe wnaethom ganolbwyntio ar ganlyniadau, ar wella iechyd a lles pobl drwy gyflwyno mwy o gyllid i fynd i'r afael â'r rhestrau aros, ac roedd yn siomedig iawn, a dweud y lleiaf, gweld pobl sydd wedi dweud eu bod am gefnogi polisi o'r fath yn pleidleisio yn ei erbyn. Rydym am wella canlyniadau i bobl a sicrhau bod yr effaith ar gleifion yn well. Felly, rydym wedi sicrhau bod Perfformiad a Gwella GIG Cymru bellach yn rhan o'r gwaith. Maent wedi cytuno ar ddull ymyrryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'w cefnogi. Mae eu cynllun gwella'n canolbwyntio ar gefnogi pobl fregus a hŷn yn y gymuned—i ateb yr union bwyntiau a gododd yr Aelod—gan gynyddu'r capasiti drws blaen ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth a sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau mewn modd amserol. Rydym hefyd wedi dyrannu £3 miliwn yn ychwanegol eleni er mwyn helpu i gyflawni'r cynllun gwella.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae etholwyr wedi dweud wrthyf, wrth ffonio 999, nad ydynt bellach yn cael amser cyrraedd amcangyfrifedig ar gyfer ambiwlansys. Nawr, rwy'n deall y gallai hyn adlewyrchu arferion gweithredol yn hytrach na pholisi ffurfiol, yn enwedig yn dilyn newidiadau diweddar i fesurau perfformiad ambiwlansys. Fodd bynnag, gall peidio â gwybod pryd y mae cymorth yn debygol o gyrraedd ychwanegu pryder sylweddol i gleifion a'u teuluoedd—a ddylent aros neu a ddylent ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd yr ysbyty? Felly, a allwch chi egluro beth yw'r safbwynt o ran darparu amseroedd cyrraedd amcangyfrifedig a rhoi sicrwydd i'r Senedd fod cyfathrebu a sicrwydd yn parhau i fod yn rhan o ddull gweithredu'r gwasanaeth ambiwlans? A pha gyngor y byddech chi'n ei roi i'r cyhoedd?
Diolch. Bydd yr Aelod yn ymwybodol—rwy'n siŵr ei fod yn aelod o'r pwyllgor y tro diwethaf inni drafod ambiwlansys yn y Senedd ddiwethaf—mai'r rheswm pam y cyflwynwyd y newidiadau hynny yw oherwydd argymhellion a gyflwynwyd gan ein pwyllgor. Bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, wedi darllen y stori yn y newyddion yn ddiweddar ynglŷn â sut y mae gwledydd eraill bellach yn edrych ar gyflwyno'r targed porffor a sut y maent yn gwella canlyniadau yn yr ymddiriedolaeth ambiwlans, sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'r pwynt ehangach y credaf fod yr Aelod yn ei godi ynglŷn â chyfathrebu'n bwysig. Nid yw cyfathrebu yn gyffredinol yn y GIG wedi bod cystal ag y dylai fod o ran sicrhau bod cleifion yn gwybod beth i'w ddisgwyl a phryd i'w ddisgwyl. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei godi yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r ymddiriedolaeth ambiwlans, ac rwy'n fwy na pharod i roi gwybod i'r Aelod am unrhyw ddatblygiadau.
2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gofal i gleifion â chlefyd cardiofasgwlaidd y mae angen triniaeth drawsffiniol arnynt? OQ64417
Pan fydd cleifion angen mynediad at ofal arbenigol y tu allan i'w hardal bwrdd iechyd, rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd sy'n comisiynu fod wedi rhoi trefniadau llwybr cadarn ar waith fel bod pobl yn cael gofal di-dor o ansawdd uchel. Bydd natur y trefniadau hyn yn dibynnu ar y cyflwr.
Diolch, Weinidog. Mae gennyf brofiad personol o'r mater hwn. Cafodd fy nhad ei ruthro i'r ysbyty yn Henffordd, dros y ffin, 42 milltir o'i gartref, ar ôl dioddef trawiad ar y galon wrth addysgu adfywio cardiopwlmonaidd, yn eironig ddigon. Yna, bu'n rhaid mynd ag ef i Wolverhampton—sef yr ysbyty lle'i ganed mewn gwirionedd—lle cafodd lawdriniaeth ddargyfeiriol bedwarplyg ar ei galon. Ychwanegodd y daith yno a hyd ei arhosiad, a pha mor anodd oedd mynd i ymweld ag ef, at straen y profiad. Roedd y profiad cyfan yn drallodus iddo ef a'i anwyliaid. Gellir dirnad maint yr her a achosir gan afiechyd cardiofasgwlaidd yn sgil y ffaith bod British Heart Foundation Cymru yn dweud bod oddeutu 26,000 o bobl yn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd yng Ngwynedd Maldwyn yn unig heddiw, ac mae'r nifer hwnnw ar gynnydd. Mae'r clefyd hwn yn achosi 57 o farwolaethau bob mis a 680 o farwolaethau bob blwyddyn yn fy etholaeth i yn unig. Mae'r British Heart Foundation yn cyfrifo bod cost flynyddol y clefyd i ofal iechyd ledled Cymru yn £770 miliwn i gyd. Er bod yr Archwiliad Cenedlaethol o Lawfeddygaeth y Galon i Oedolion yn cynnwys data ar gyfer amseroedd aros a llawdriniaethau a gyflawnir yng Nghymru a Lloegr, nid yw'r holl ddata ar gael ar gyfer Cymru, sy'n ei gwneud yn llawer anos craffu ar berfformiad GIG Cymru.
Cwestiwn, plis, Claire.
Mae’n ddrwg gennyf. A all y Gweinidog ddweud wrth y Senedd pa gynlluniau sydd ganddo i sicrhau bod yr holl ddata perthnasol ar gyfer Cymru ar gael i ni?
Yn gyntaf, a gaf i ddweud ei bod yn flin iawn gennyf glywed am y profiadau y bu'n rhaid ichi fynd drwyddynt, a phrofiad eich tad? Rhaid ei fod wedi bod yn brofiad trallodus ac rwy'n mawr obeithio bod eich tad wedi gwella'n llwyr yn y cyfnod hwnnw.
Mae'r Aelod hefyd yn codi pwynt pwysig am y pellteroedd hir sy'n gysylltiedig â chael mynediad at wasanaethau o'r fath, mater sy'n arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd Maldwyn. Dyma pam y mae ein hagenda yn rhoi pwyslais penodol ar fynd i'r afael â rhwystrau daearyddol anghymesur i gael mynediad at driniaeth gyda chamau gweithredu yn y cynllun 100 diwrnod cyntaf, yn ogystal â mesurau mwy hirdymor a gynlluniwyd i gefnogi'r amcan hwn.
O ran y materion penodol a godwyd ar ddata, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru sy'n gyfrifol am gomisiynu llawfeddygaeth y galon ar ran byrddau iechyd yng Nghymru. Fel rhan o'r gofynion comisiynu, rhaid i ganolfannau yng Nghymru a'r rhai a gomisiynwyd yn Lloegr gyflwyno data i'r Archwiliad Cenedlaethol o Lawfeddygaeth y Galon i Oedolion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nawr, er bod adroddiadau diweddaraf yr Archwiliad Cenedlaethol o Lawfeddygaeth y Galon i Oedolion yn ôl pob golwg yn cynnwys data o ganolfannau a gomisiynwyd yng Nghymru ac ar hyd y ffin, nid yw hynny'n golygu bod y data hwn yn darparu'r sbectrwm cyfan o brofiadau cleifion, ac mae adolygu a mireinio parhaus yn elfen bwysig iawn o drin data. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion pellach am y bylchau penodol y mae wedi'u canfod, ac fe gyfarwyddaf fy swyddogion i wneud ymholiadau ar ei rhan.
Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu bwrdd iechyd Powys yw'r cynnydd sylweddol yng nghostau triniaethau trawsffiniol a godwyd gan NHS England, sydd wedi cyfrannu at fwlch ariannol o tua £7.8 miliwn. Yn ogystal, mae bwrdd iechyd dyffryn Gwy yn ceisio codi premiwm gwledig ychwanegol, sydd erbyn hyn oddeutu £13 miliwn. Mae'r materion hyn wedi rhoi pwysau sylweddol ar gyllid y bwrdd iechyd, ac ni fu cefnogaeth gan y Llywodraeth flaenorol i fynd i'r afael â'r costau ychwanegol hyn. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £145 miliwn i leihau rhestrau aros ledled Cymru. Felly, a all y Gweinidog Cabinet egluro pa asesiad sydd wedi bod i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn elwa trigolion Powys? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig ar y dechrau drwy sôn am ba mor bwysig oedd y gyllideb atodol ddoe, yn rhoi £145 miliwn yn y flwyddyn ariannol yma er mwyn mynd i'r afael â rhestrau aros, er mwyn gwella'r isadeiledd a gwella'r ddarpariaeth sydd gennym ni ar gyfer rhestrau aros. Roedd yn siomedig aruthrol gweld Aelodau Llafur a'r Rhyddfrydwyr yn ochri efo Reform er mwyn pleidleisio yn erbyn polisïau ac yn erbyn ariannu a fyddai'n mynd i'r afael ag un o'r materion pwysicaf sydd wedi ein hwynebu ni yn y maes iechyd yma yng Nghymru dros y ddegawd a rhagor ddiwethaf.
Ond, mi fyddwn ni'n parhau efo cynlluniau er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros hynny, ac mi fydd y rheini'n uniongyrchol o fudd i bobl Powys. Rydyn ni'n ymwybodol o bobl sydd ar restrau aros am amseroedd rhy hir ym Mhowys. Mi fyddan nhw'n cael budd o hyn. Ond, mi fyddwn ni hefyd yn gwneud yn siŵr fod yna rapid diagnostic centre ar gyfer canser yn cael ei chyflwyno ym Mhowys er mwyn gweld pobl ynghynt, yn lle bod pobl yn mynd i'r ysbytai yna sydd ymhell i ffwrdd pan fyddan nhw'n cyrraedd cam 4 yn eu taith canser, sydd yn mynd i fod lawer yn rhy hwyr i nifer ohonyn nhw. Mi fyddwn ni'n edrych yn gynt arnyn nhw ac yn sicrhau eu bod yn cael diagnosis cynt hefyd.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn cyntaf, llefarydd Reform UK, James Evans.
Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog Cabinet ddweud wrthym pryd y bydd amseroedd aros dwy flynedd yn cael eu dileu?
Rydym wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn mynd i'r afael ag amseroedd aros dwy flynedd mewn mater o fisoedd.
Mae bellach yn 'fater o fisoedd'. Rydym wedi clywed 'mater o wythnosau'. Rydym wedi clywed yr ysgrifennydd cyllid yn dweud y bydd yn 12 mis. Rydym wedi eich clywed chi'n dweud y gallai fod yn flynyddoedd. Nawr, mae'n mynd i fod yn fisoedd, nid wythnosau. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ym mha fis y byddant yn cael eu dileu, gan fod y Llywodraeth yng Nghymru yn dda iawn am greu clipiau slic ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ond nid ydynt yn dda iawn ar y manylion. Dyna’r broblem ar y funud. Rydych chi'n dweud y bydd yn cymryd misoedd. Nid yw pobl sy'n aros mewn poen ledled Cymru yn mynd i fod yn hapus iawn ynglŷn â hynny. Maent eisiau amserlen bendant o ran pryd y byddant yn cael eu dileu, pryd y gallant ddisgwyl eu llythyrau ar gyfer llawdriniaethau, a dylech allu darparu'r manylion hynny heddiw.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Llywodraeth flaenorol wedi gosod nifer o dargedau ac wedi methu eu cyflawni am nad oeddent yn realistig. Rydym yn gwbl realistig ynglŷn â sut rydym yn buddsoddi’r arian hwn i wella canlyniadau fel bod pobl yn cael eu gweld yn gynt. Gwyddom fod gennym broblemau mewn perthynas â gynaecoleg. Gwyddom fod gennym broblemau mewn perthynas â chataractau. Gwyddom am orthopedeg. Felly, dyma’r pethau y mae angen inni edrych arnynt a’u gwella. Dyna pam ein bod yn mynd i sefydlu’r hyb gofal a gynlluniwyd, fel y gallwn weld pobl yn gyflymach, fel y gall pobl gael eu triniaeth o fewn yr amserlen sydd ei hangen, fel eu bod yn gwella ac yn gallu parhau â’u bywydau. Felly, rydym yn gwbl glir. Rydym wedi bod yn glir bob amser. Nid wyf yn siŵr o ble y daw’r cwestiynau hyn. Rydym yn glynu wrth bopeth a ddywedwyd gennym yn y gorffennol. Byddwn yn cyflawni hyn mewn mater o fisoedd. Fodd bynnag, gadewch imi eich atgoffa eich bod chi a’ch cyd-Aelodau ac eraill yma wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb ddoe, a oedd yn cynnwys £145 miliwn i fynd i’r afael â hyn. Felly, gadewch inni beidio â chael unrhyw ddagrau crocodeil eich bod yn poeni am restrau aros. Mae'n amlwg nad ydych. Pe baech, fe fyddech chi wedi cefnogi'r gyllideb atodol fel y gallem ddarparu'r arian hwn i'r rheng flaen i allu gweld pobl cyn gynted â phosibl.
Rwyf am weld mwy o arian yn ein GIG. Gallech roi mwy o arian i mewn i’r GIG pe baech yn gwrando arnom ac yn rhoi’r gorau i ariannu rhai o’ch prosiectau porthi balchder fel plannu coed dramor, fel rhai o’r prosiectau rydych chi'n eu gwneud yn nes at adref, gwastraffu arian Llywodraeth Cymru wrth edrych ar annibyniaeth i Gymru, rhywbeth na phleidleisiodd y mwyafrif llethol o'r cyhoedd drosto. Dyna'r arian a allai fynd i'r GIG. Rydym wedi clywed hefyd am 'newid mân' ar gyfer ein swyddfeydd tramor. Mae hwnnw'n arian a allai fynd i mewn i'n GIG. Dyna’r rheswm pam y gwnaethom bleidleisio yn erbyn eich cyllideb atodol, am ei bod yn fargen wael i Gymru.
Roeddech chi'n siarad ar eich cyfer yn eich ateb i mi, Weinidog, gan na ddywedoch chi mewn gwirionedd pryd y byddem yn gweld diwedd ar yr amseroedd aros dwy flynedd hynny. Rydych chi wedi dweud 'misoedd'. Rydych wedi sôn am hybiau gofal a gynlluniwyd. Erbyn iddynt fynd drwy'r camau cynllunio, erbyn i Lywodraeth Cymru symud papur o amgylch eu swyddfeydd, mae hynny'n mynd i fod yn flynyddoedd. Rydych chi'n gwybod sut y mae'r system yn gweithio. Roeddech chi ar y pwyllgor gyda mi pan oeddem yn trafod y pethau hyn. Nid ydynt yn digwydd dros nos. Felly, a allwch chi amlinellu dyddiad i ni ar gyfer dileu amseroedd aros dwy flynedd yng Nghymru, gan fod gormod lawer o bobl wedi bod yn aros mewn poen? Fe wnaethoch chi addo i bobl y byddech yn datrys hyn, ac mae’n hen bryd ichi ddechrau gwneud hynny, gan na all eich mis mêl bara am byth.
Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y £145 miliwn ddoe, oni wnaethoch? Gadewch imi eich atgoffa o’r hyn a ddywedodd eich llefarydd, Cai Parry-Jones. Nododd nifer o linellau coch, ac o fewn un o'r llinellau coch hynny, pam eich bod yn ei gwrthwynebu, oedd y ffaith ein bod yn cyflogi meddygon Indiaidd yma. Felly, yn amlwg, nid ydych chi'n pryderu—[Torri ar draws.] Nyrsys Indiaidd, mae'n ddrwg gennyf, os caf gywiro'r cofnod—nyrsys Indiaidd. Felly, gadewch inni fod yn glir. Nid ydych yn poeni am wella canlyniadau iechyd pobl yng Nghymru. Nid ydych am weld gweithlu gwell yma, a dyna rydym ni'n bwriadu mynd i'r afael ag ef.
Nawr, fe sonioch chi hefyd am gynllunio. Nid cynllunio yw popeth. Mae gennym—ac rwyf wedi sôn am hyn gymaint o weithiau—nifer o ofodau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol yma, gofodau theatr nad ydynt yn cael eu defnyddio'n briodol. Felly, rydym yn mynd i wella'r mannau theatr hynny fel bod triniaethau'n cael eu cynnal a phobl yn cael eu gweld yn gynt. Dylech wybod hyn fel llefarydd yr wrthblaid sydd wedi bod yn aelod o'r pwyllgorau. Nid yw'n anodd; dyma hanfod y mater. Ac rydym yn gwybod beth a wnawn am fod popeth a gynigiwyd gennym wedi'i arwain yn glinigol. Nawr, os nad ydych chi eisiau gweld canlyniadau gwell i bobl, iawn, daliwch ati. Ond fe wyddom ni ein bod yn cael ein harwain gan feddygon, gan lawfeddygon, gan reolwyr gweithredol sydd wedi gwneud hyn yn llwyddiannus mewn rhannau o Gymru ac yn Lloegr, a fydd yn ein cynghori ar y ffordd orau ymlaen er mwyn inni allu gwella canlyniadau yng Nghymru. Dyna yw ein ffocws.
Llefarydd Llafur Cymru, Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Mae staff ymroddedig ein GIG yn gweithio'n ddiflino, ac yn yr wythnosau diwethaf, mae llawer wedi wynebu amodau gwaith heriol iawn oherwydd y tywydd poeth. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddigwyddiad critigol yn dilyn un o'r cyfnodau prysuraf o bwysau parhaus ar wasanaethau yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd y galw ymhell uwchlaw'r lefelau arferol o ganlyniad i'r gwres eithafol, ac rwy'n deall bod cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y bobl ifanc a oedd yn ymgyflwyno â symptomau dadhydradiad. Rydym wedi arfer â'r angen i'r GIG baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, ond pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau, adeiladau a'r gweithlu yn cael adnoddau addas i ymdopi ag effaith tywydd poeth?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am godi'r mater. Yn gyntaf oll, credaf fod angen inni gydnabod a bod yn realistig fod hyn yn digwydd. Mae cynhesu byd-eang yn digwydd o flaen ein llygaid. Rydym yn ei brofi. Mae rhai pobl eisiau gwadu hynny. Unwaith eto, rwy'n pwyntio fy mys at Reform, sy'n fwy na pharod i ddweud nad yw'n digwydd. Gwaith dyn yw hyn, ac mae'n effeithio ar lesiant pobl yng Nghymru, y bobl rydych chi'n eu cynrychioli, ac mae'n ddyletswydd arnom i ymateb i hyn cyn gynted ag y gallwn.
Roedd ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru o dan bwysau sylweddol yr wythnos diwethaf a'r wythnos cynt, ac rydym wedi eu gweld yn mynd i'r afael â hyn ac yn sicrhau eu bod yn ymateb cystal ag y gallant. Rwy'n codi fy het i'r parafeddygon, y gyrwyr ambiwlansys a'r bobl yn y gwasanaeth hwnnw sydd wedi gwneud gwaith mor wych yn ymateb i'r galwadau amrywiol y maent wedi'u derbyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Achosodd y don wres yn ddiweddar alw digynsail ar y gwasanaethau, gan arwain at ddatgan digwyddiad critigol a chynnydd sylweddol mewn galwadau brys a digwyddiadau aciwtedd uchel. Felly, fe wnaethom gyhoeddi nodyn cyfarwyddyd i'r holl ysbytai a'r byrddau iechyd yn dilyn y don wres flaenorol, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol fod angen iddynt baratoi ar gyfer yr haf hwn a'r rhai sydd i ddod.
Byddwch wedi fy nghlywed hefyd yn fy natganiadau ar bwysau'r gaeaf yn cyfeirio at y tonnau gwres, a'r ffaith ein bod bellach yn mabwysiadu dull o asesu'r sefyllfa drwy gydol y flwyddyn. Rydym eisoes yn paratoi trafodaethau dwyochrog gyda gwahanol Weinidogion Cabinet, yn yr achos hwn y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, gan edrych ar sut y mae angen inni gynnwys ystyriaethau'n ymwneud â chynhesu byd-eang a'r amgylchedd o amgylch y system iechyd o ran cynllunio yn y briffiau a'r portffolios hynny, fel ein bod yn paratoi ar gyfer hyn yn y dyfodol wrth symud ymlaen.
Diolch, ac yn sicr, mae'r gweithlu'n gwbl allweddol. Yn gynharach heddiw, gyda fy nghyd-Aelod Shav Taj, cyfarfûm â myfyrwyr bydwreigiaeth o garfan mis Medi 2023. Maent yn teimlo fel pe baent wedi cael eu gadael mewn limbo, heb unrhyw swyddi ar gael. Dywedodd un fydwraig newydd gymhwyso wrthyf ei bod bellach yn gweithio fel technegydd dŵr, ac mae eraill yn gweithio fel baristas ac yn y sector lletygarwch. Dywedwyd wrth y myfyrwyr y gallai fod cyfleoedd i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond nid dyma maent eisiau ei wneud na'r hyn y maent yn gymwys i'w wneud. Nawr, gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r sefyllfa, ond ni allai'r myfyrwyr bydwreigiaeth fod wedi bod yn gliriach heddiw; maent yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl ac maent yn teimlo'n ddiobaith.
Diogelodd Llafur Cymru gynllun bwrsariaeth GIG Cymru, gan gefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd i hyfforddi a gweithio yn GIG Cymru, ond heb brofiad clinigol, ni all myfyrwyr bydwreigiaeth gael swyddi ac ni allant ddefnyddio eu gradd ar gyfer unrhyw beth arall. Un opsiwn fyddai ymestyn y fwrsariaeth am flwyddyn arall i dalu am yr hyfforddiant tiwtoriaeth sy'n galluogi bydwragedd i bontio i ymarfer proffesiynol. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn fel un opsiwn?
Felly, y Llywodraeth flaenorol sydd ar fai am y broblem gyda'r graddedigion. Mae hon yn broblem a oedd o dan eich goruchwyliaeth chi, yn ôl yn 2023. Fel y dywedoch chi, y myfyrwyr hyn oedd carfan 2022-23, a bydd yn cymryd ychydig flynyddoedd i weithio drwy'r system. Dyna pam mai un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan ddeuthum i'r swydd hon oedd sefydlu uwchgynhadledd graddedigion, er mwyn ceisio dod o hyd i opsiynau i gynifer o'r bobl ifanc hyn â phosibl. Oherwydd yma yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, mae wedi ei symleiddio, felly mae addewid yn cael ei wneud iddynt. Felly mae angen inni geisio anrhydeddu'r addewid hwnnw, ac mae'n siomedig ein bod wedi cael ein gadael mewn sefyllfa lle torrwyd yr addewidion hynny gan y Llywodraeth flaenorol. Felly rydym nawr yn ceisio dod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer hyn. Dyna pam ein bod wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru weithio gyda'r byrddau iechyd, i weithio gyda'r cyrff cynrychiadol, i ddod â'r cynllun hwnnw at ei gilydd, ac rwy'n disgwyl gweld cynllun erbyn diwedd mis Rhagfyr—neu ddechrau'r hydref, mewn gwirionedd.
Nawr, o ran y cynllun bwrsariaeth, unwaith eto, a gaf i eich atgoffa nad oedd hyn yn rhan o unrhyw drafodaethau a gyflwynwyd gennych ar gyfer y gyllideb atodol, y pleidleisioch chi yn ei herbyn fel plaid, er mwyn gwella canlyniadau iechyd yng Nghymru. Rwy'n fwy na pharod i drafod unrhyw opsiynau a allai fod gennych ac ystyried eu heffaith ac asesu sut y gellid eu cynnwys, ond rwy'n eich atgoffa, fel y cawsom wybod gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, fod pwysau enfawr yn y flwyddyn ar hyn o bryd yn y gwasanaeth iechyd, a dim ond gwaethygu a wnaiff y pwysau hwnnw wrth i amser fynd heibio oherwydd setliadau sy'n dod o Lundain a'r ffaith nad oes gennym fformiwla gyllido deg i Gymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog Cabinet, mae canser y pancreas yn un o'r mathau mwyaf angheuol o ganser yn y DU, ac yn effeithio ar fwy na 500 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae wyth o bob deg o bobl yn cael diagnosis ar gam hwyr, pan fo'n aml yn rhy hwyr i gael triniaeth, ac mae 50 y cant o bobl yn marw o fewn tri mis i'r diagnosis. Yn fy etholaeth i, 23 y cant yn unig yw'r gyfradd sy'n goroesi am un flwyddyn. Mae'r ffigurau brawychus hyn wedi'u hategu gan gyfres o ddiagnosisau hwyr ac opsiynau triniaeth aneffeithiol, sydd wedi golygu mai dim ond 25 y cant o'r rheini â chanser y pancreas fydd yn cael eu trin o fewn targed 62 diwrnod Llywodraeth Cymru.
Mae symptomau amhendant yn gwneud canser y pancreas yn anhygoel o anodd ei ganfod, ac mae 90 y cant o gleifion yn ymweld â'u meddyg teulu sawl gwaith cyn cael diagnosis. Y rheswm am hyn yw nad oes prawf canfod cynnar ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae gobaith ar y gorwel, gyda phrawf anadl cyntaf y byd ar gyfer canser y pancreas yn cael ei ddatblygu. Mae'r prawf hwn yn cael ei dreialu ledled y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys ym myrddau Betsi Cadwaladr, Abertawe a Chaerdydd, ac mae'r data'n addawol iawn hyd yma. Er y gallai'r datblygiad hwn newid y dirwedd yn gyfan gwbl, mae mwy y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud o hyd.
Mae'n rhaid darparu'r cyllid a'r cymorth sydd ei angen ar fyrddau iechyd ledled Cymru i ddarparu'r llwybr cenedlaethol gorau posibl ar gyfer canser y pancreas, gan sicrhau bod pawb sy'n cael diagnosis yn cael y gofal amserol o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu. Felly, Weinidog Cabinet, gwn eich bod wrth eich bodd yn defnyddio'r geiriau 'o dan arweiniad clinigol'. Mae'r dystiolaeth yno. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gofal i'r rhai sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yma yng Nghymru?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod y targedau a gyrhaeddir o ran canser y pancreas—y rhan fwyaf o'r canserau mewn gwirionedd, yn enwedig y canserau mwyaf prin yng Nghymru—lle dylent fod. Fel gwlad, rydym yn gweld gormod o bobl yn dioddef o ganser ac yn colli eu bywydau'n rhy gynnar, felly mae angen inni fynd i'r afael â hyn.
Pan fyddwch yn sôn am y datblygiadau gyda'r prawf anadl a grybwyllwyd gennych, sydd wedi'i dreialu, y datblygiadau hyn—. Mae llawer o bethau'n mynd rhagddynt ym maes canser ar hyn o bryd, ac mae'n gyffrous iawn gweld y datblygiadau hynny'n digwydd yma yng Nghymru. Nid ydynt yn cael digon o gydnabyddiaeth. Dyna pam y cefais sgyrsiau a chyfarfodydd yn ddiweddar gyda'n hadrannau ymchwil ac arloesi o fewn GIG Cymru i weld beth arall y gallwn ei wneud, gan fod angen inni ddenu mwy o dreialon clinigol yng Nghymru, ac mae angen inni ddenu mwy o ymchwil yma yng Nghymru. Felly, rydym yn gweithio ar hynny nawr fel y gall Cymru ddod yn arweinydd byd-eang yn hynny o beth ac yna gwella'r llwybr optimaidd y mae angen inni edrych arno. A bydd hynny'n elfen benodol yn ein strategaeth canser. Byddwch wedi darllen y datganiad ysgrifenedig ar y strategaeth canser a gyhoeddais heddiw. Nawr, mae hwnnw wedi'i groesawu gan Gynghrair Canser Cymru, a byddwn yn gweithio gyda nhw ac eraill er mwyn sicrhau bod y strategaeth canser honno'n bellgyrhaeddol, yn gynhwysfawr ac yn ateb yr anghenion hynny.
Diolch am eich ymateb, Weinidog Cabinet. Mae'n amlwg eich bod wedi darllen fy meddwl, gan fy mod yn glynu wrth thema canser ac fe ddarllenais y cynllun yn fanwl ac yn drylwyr. Felly, Weinidog Cabinet, fel y gŵyr pob un ohonom, mae'r pancreas yn un o'r chwe chanser llai goroesadwy gyda chanser yr ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, y stumog a'r oesoffagws. Y chwe chanser llai goroesadwy hyn sydd i gyfrif am dros 40 y cant o'r holl farwolaethau canser, ac mae gan bobl sy'n cael diagnosis o'r canserau hyn ddisgwyliad oes syfrdanol o isel. Dim ond 39 y cant yw'r gyfradd oroesi un flwyddyn gyfartalog ar gyfer claf sy'n cael diagnosis o ganser llai goroesadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cyferbynnu'n llwyr â'r gyfradd oroesi un flwyddyn gyffredinol ar gyfer pob canser, sef 70 y cant yn unig. Er hyn, mae'r canserau hyn yn cael lefelau anghymesur o isel o gyllid ymchwil, gan gyfrannu at gylch dieflig o gyfraddau goroesi gwael a datblygiadau cyfyngedig o ran triniaeth. Ni wnaeth dull gweithredu pan-ganser y Llywodraeth flaenorol fynd i'r afael yn ddigonol â'r anghydraddoldebau dwfn a wynebir gan y rhai sy'n cael diagnosis o ganserau llai goroesadwy. Dim ond 28 y cant o bobl â chanserau llai goroesadwy sy'n cael diagnosis yng ngham 1 neu 2, o gymharu â 52 y cant ar gyfer pob math arall o ganser. Mae'r diagnosis hwyr hwn, sy'n digwydd ar gam hwyr mewn cymaint o achosion, yn cyfyngu ar botensial triniaethau a allai wella cyfraddau goroesi'n sylweddol. Mae tegwch mewn gofal canser yn golygu sicrhau bod gan bob claf, beth bynnag y bo'u diagnosis, gyfle cyfartal i oroesi.
O ystyried yr heriau sy'n benodol i'r canserau hyn o ran canfod a thriniaeth, a wnaiff y Gweinidog Cabinet ymrwymo i gynnwys pennod, neu gynllun gweithredu o leiaf, yn benodol ar ganserau llai goroesadwy yn y cynllun canser newydd yma yng Nghymru?
Mewn byr eiriau: gwnaf.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella mynediad at wasanaethau diagnostig ac orthopedig ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64372
Nodais fy mlaenoriaethau ar gyfer GIG Cymru ar 2 Mehefin. Roedd hyn yn cynnwys lleihau amseroedd aros a gwella mynediad at wasanaethau. I gefnogi hyn, rwyf wedi sefydlu panel arbenigol ar ddatblygu hybiau llawfeddygol ac rwy'n comisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad. Rydym wedi dyrannu £145 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynlluniau cyffrous ar gyfer Parc Iechyd Llantrisant, menter ar draws byrddau iechyd a ddatblygwyd ac a ariannwyd o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru, gyda dros £200 miliwn wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn. Bydd yr hyb llawfeddygol yn ehangu capasiti, yn lleihau amseroedd aros ac yn gwella profiad cleifion ledled de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys fy etholwyr ym Mhontypridd Cynon Merthyr. Yng ngham cyntaf y cynllun, y disgwylir iddo gael ei gyflawni y flwyddyn nesaf, bydd yr hyb diagnostig cymunedol o'r radd flaenaf hwnnw'n cael ei greu, gyda llawdriniaethau orthopedig i ddilyn yn nes ymlaen. Roedd gwella mynediad at wasanaethau diagnostig ac orthopedig drwy fuddsoddiad a chydweithio yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru, felly hoffwn ofyn a yw'r rhain yn flaenoriaethau i chithau hefyd.
Mae'n ddigon posibl fod hynny'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth ddiwethaf. Rwy'n amau a yw'n flaenoriaeth i'ch plaid chi ar hyn o bryd gan ichi bleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol, a oedd yn cynnig £145 miliwn i ddatblygu hybiau diagnostig a hybiau gofal a gynlluniwyd ledled Cymru. Ond ydy, mae'n flaenoriaeth.
Weinidog Cabinet, mae cleifion ym Mhontypridd Cynon Merthyr yn parhau i wynebu amseroedd aros annerbyniol o hir am brofion diagnostig a thriniaethau orthopedig. A all y Gweinidog Cabinet amlinellu'r camau gweithredu a'r buddsoddiad penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i leihau amseroedd aros? A phryd y gall cleifion ddisgwyl gweld gwelliannau mesuradwy o ran mynediad at ofal?
Diolch. Fel y soniwyd yn y cwestiwn blaenorol, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad Parc Iechyd Llantrisant, a fydd yn gwella canlyniadau i'r bobl yn eich ardal.
4. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar gynllunio ar gyfer swyddi gwag yn y gwasanaeth iechyd? OQ64368
Mae nodi a chynllunio ar gyfer bylchau yn y gweithlu yn y dyfodol yn rhan hanfodol o gynllunio'r gweithlu'n effeithiol. Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gryfhau rhagolygon, gwella deallusrwydd y gweithlu ac alinio addysg, hyfforddiant, recriwtio a swyddi a ariennir yn well. Bydd hyn yn cefnogi gwasanaethau diogel nawr a gweithlu GIG cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
O, na bai hynny'n wir. Nid oes swyddi GIG i dri o bob 10 nyrs sy'n graddio yng Nghymru yr haf hwn. Nid oes unrhyw un wedi dweud wrthyf fod gan y wardiau ormod o nyrsys; mae llawer wedi dweud wrthyf fod angen mwy o nyrsys ar y wardiau y maent wedi cael eu trin arnynt neu lle maent wedi ymweld â chleifion. Mae myfyrwyr nyrsio wedi dweud eu bod wedi teimlo'n siomedig, yn bryderus ac yn flin ar ôl blynyddoedd o waith di-dâl yn y GIG yn ystod eu hyfforddiant ac ar ôl benthyg llawer o arian i gymhwyso. A wnaiff y Gweinidog iechyd ddarparu warant swyddi i raddedigion nyrsio, fel y gofynnodd y Coleg Nyrsio Brenhinol amdani? A byddwch eisiau gwybod o ble mae'r arian yn dod: mae £247 miliwn heb ei ddyrannu, a dim ond £100 miliwn ohono roeddem ei eisiau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod—[Torri ar draws.] Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod gennym broses symleiddio yng Nghymru, sydd i fod i sicrhau bod ganddynt swyddi, fod gan nyrsys a bydwragedd ac eraill swyddi pan fyddant yn graddio. Yn anffodus, oherwydd methiant y Llywodraeth flaenorol i anrhydeddu hyn, ni all llawer o nyrsys, bydwragedd a pharafeddygon yng Nghymru heddiw gael mynediad at y swyddi hynny, a dyna pam y gwnaethom sefydlu'r uwchgynhadledd graddedigion. Felly, nid wyf am ailadrodd yr ateb hwnnw eto; rwyf wedi'i ateb unwaith eisoes, felly maddeuwch i mi os nad af ar drywydd hynny ymhellach.
Mae'n ddrwg gennyf fod yn fath o gysurwr Job, fel y byddai fy mam annwyl yn ei ddweud, ond rwy'n mynd i ychwanegu at eich trafferthion—eich pentwr sylweddol o drafferthion—mae'n ddrwg gennyf. Nid nyrsys a bydwragedd yn unig yw'r sefyllfa, mae'n cynnwys hyfforddeion meddygol hefyd, gan siarad, eto, o safbwynt offthalmig, sy'n galw am saith i 10 mlynedd o hyfforddiant caled yn ogystal â'r gost. Ac rydym yn colli traean o'n hyfforddeion i Loegr oherwydd bod diffyg cynllunio canolog ar gyfer swyddi meddygon ymgynghorol erbyn yr adeg pan fydd pobl yn gadael y system. Felly, yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw—ac eisoes, gennym ni y mae'r nifer isaf o offthalmolegwyr ymgynghorol arbenigol y pen ym Mhrydain—rydym yn recriwtio o dramor i lenwi'r bylchau. Ond pe bai gennym awdurdod canolog i baru hyfforddeion â'u swyddi, byddem yn datrys y broblem. Felly, a ydych chi'n cytuno bod angen cynllunio canolog ar sail arbenigedd i atal y draen dawn o'n gwlad?
Mae'r Aelod yn hollol gywir fod gennym lawer o swyddi gwag yn y maes offthalmig, fel mewn llawer o feysydd eraill ym maes iechyd a gofal. Y gwir amdani yw nad yw'r system fel y mae, yr un a welsom pan ddaethom i mewn, yn cofnodi'n llawn yr holl weithlu sydd gennym yng Nghymru. Felly, yn achos rhai o'r bylchau sydd gennym, rydym yn dibynnu ar gyrff eraill i'n hysbysu ynghylch eu sefyllfa orau.
Felly, rhaid inni unioni hyn a gwneud yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw'r sefyllfa bresennol ac wrth symud ymlaen, ein bod yn gwybod beth fydd ei angen arnom. Dyna pam ein bod wedi sefydlu dau gynllun. Yn gyntaf oll, cynllun clinigol i Gymru fel ein bod yn deall beth yw anghenion clinigol Cymru wrth symud ymlaen, ac o dan y cynllun clinigol hwnnw, bydd gennym, ac rydym yn ei ddatblygu nawr, y cynllun gweithlu cynhwysfawr llawn—ac rwyf wedi sôn am hyn yn y Siambr o'r blaen—lle byddaf yn cynhyrchu'r rhan lefel uchel gyntaf o'r cynllun gweithlu hwnnw ac yn ei gyflwyno i'r Senedd yn yr hydref.
Weinidog, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi recriwtio dros 450 o nyrsys o dramor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd, nid yw nyrsys sy'n graddio o Brifysgol Abertawe, sydd wedi cwblhau miloedd o oriau o hyfforddiant clinigol di-dâl yma yng Nghymru, yn gallu dod o hyd i waith yn GIG Cymru. Rydym yn hyfforddi ein pobl ni ac yna'n eu troi ymaith wrth recriwtio o dramor i lenwi'r bwlch. Ni all hynny fod yn gynllunio gweithlu cadarn. Felly, Weinidog, pam y mae Llywodraeth Cymru yn fodlon gweld graddedigion o Gymru'n cael eu cloi allan o swyddi gan ddibynnu ar recriwtio o dramor? Oni fyddai'n well cyflogi'r nyrsys a'r bydwragedd rydym eisoes wedi'u hyfforddi yma yng Nghymru?
Mae hyn ychydig yn rhwystredig, oherwydd rydych chi'n siarad am ddau beth gwahanol sy'n digwydd. Mae'r sefyllfa gyda graddedigion yn mynd yn ôl i 2022-23 ac mae'n mynd i gymryd ychydig flynyddoedd i weithio drwy'r system. Felly, dyna pam y mae gennym broblem gyda'r graddedigion nawr, am eu bod wedi dechrau eu cyrsiau yn 2022 pan oedd swyddi gwag yn y system, ac roedd y mapio a'r modelu'n awgrymu y byddai swyddi gwag yn y system, ond mae lefelau cadw staff wedi gwella oherwydd y sefyllfa economaidd y mae'r wlad ynddi, sy'n golygu nad yw'r swyddi hynny ar gael mwyach. Felly, mae hynny'n dyddio'n ôl i 2022, pan oedd gennym y swyddi gwag hynny.
A'r broblem gyda chael nyrsys Indiaidd—. Ac unwaith eto, rydych chi'n siarad am nyrsys Indiaidd, gadewch inni wneud yn siŵr ein bod yn dangos ein diolch am waith y nyrsys sy'n dod i'r wlad hon, sy'n trin eich anwyliaid chi, fy anwyliaid i; maent yno'n gweithio, yn trin pobl sy'n sâl, yn gwneud yn siŵr bod ein hanwyliaid yn gwella. Maent wedi cael eu recriwtio dros y blynyddoedd diwethaf cyn i fater graddedigion eleni gael ei gydnabod fel problem, sy'n broblem a grëwyd gan y Llywodraeth flaenorol.
Felly, dyna pam y cawsom uwchgynhadledd graddedigion, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto. A phan fydd angen inni recriwtio mwy o nyrsys, ac os nad yw'r nyrsys hynny ar gael yng Nghymru, yn hollol, os yw'r nyrsys hynny eisiau dod i weithio gyda ni yma yng Nghymru o India, byddwn yn eu croesawu, oherwydd maent yn ein helpu ni yma yng Nghymru. Yr un peth gyda'r nyrsys a gofalwyr niferus sydd gennym o Nigeria ac Ynysoedd Philippines yn gweithio yn y system, yn helpu ein hanwyliaid, a dylem ddangos ein diolch am y gwaith a wnânt.
Mae niferoedd staffio isel yn cynyddu hyd rhestrau aros ar draws llawer o wasanaethau'r GIG, ond ni all mamau sy'n disgwyl ymuno â rhestrau aros, am nad yw babanod yn aros. Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn dweud wrthyf fod gennym lefelau staffio anniogel mewn gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Mae effaith y sefyllfa hon yn ddifrifol iawn. Mae peidio â chael profiad geni da yn ddigon gwael, ond mewn rhai achosion, mae'n arwain at gymhlethdodau meddygol. Gall y cymhlethdodau hyn gael effaith ddinistriol ar fabanod, eu rhieni, ac ar staff y GIG yn wir. Yn ogystal â'r effaith ddynol, mae'r costau i'r GIG o drin cyflyrau sy'n deillio o gymhlethdodau genedigaeth ac achosion mamolaeth yn enfawr. Rwy'n deall bod un achos mamolaeth fel arfer yn costio £5 miliwn. Rwy'n deall hefyd y byddai cyflogi'r 70 o raddedigion bydwreigiaeth nad ydynt wedi cael cynnig swyddi eto yn costio llai na £3.5 miliwn. Byddai peidio â chyflogi'r bydwragedd hynny—
Cwestiwn, Paul.
—yn teimlo fel economi ffug gydag effaith ddynol na ellid ei chyfiawnhau. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau swyddi i'r holl raddedigion bydwreigiaeth eleni a gwneud cynllun i ddychwelyd gwasanaethau bydwreigiaeth i lefel staffio ddiogel?
Mae'r Aelod yn hollol gywir ein bod wedi gweld nifer o adroddiadau ar unedau mamolaeth a bydwreigiaeth yma yng Nghymru sy'n tynnu sylw at lefelau staffio anniogel ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n falch ein bod, er enghraifft, wedi gweld adroddiad newydd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru ar fae Abertawe yn dangos gwelliant sylweddol yno, ac mae hynny i'w groesawu. Dyna beth rydym eisiau ei weld, mwy o welliant yn y meysydd hynny.
Unwaith eto, a chan fentro ailadrodd fy hun, rwyf am ddweud bod y problemau sydd gennym gyda graddedigion eleni yn deillio o'r ffaith eu bod wedi dechrau ar eu cyrsiau yn ôl yn 2022 ac mae'n rhywbeth a adawyd ar ôl gan y Llywodraeth flaenorol rydym bellach yn gorfod delio ag ef. Dyna pam y cefais yr uwchgynhadledd graddedigion, er mwyn dod â Choleg Brenhinol y Bydwragedd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r byrddau iechyd at ei gilydd i geisio dod o hyd i gymaint o swyddi â phosibl i'r myfyrwyr hynny, i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr nad ydynt yn fydwragedd nawr yn dod yn fydwragedd llawn pan fydd yr amser yn caniatáu a phan fydd swyddi'n caniatáu, a'n bod yn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu argaeledd parhaus gwelyau cymunedol yn y GIG yng Nghymru? OQ64403
Mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd ar lefel leol i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol, gan weithio gyda'u rhanddeiliaid a'u partneriaid allweddol.
Mae trigolion yn fy etholaeth i'n bryderus iawn am ddyfodol Ysbyty Cymunedol Maesteg. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg argymhellion ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd sy'n golygu y bydd gwasanaethau'n cael eu hadleoli o Faesteg, ond mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau na fydd y safle newydd yn gartref i unrhyw welyau cymunedol ar y safle. Yn y cyfamser, mae'r bwrdd iechyd yn dweud nad yw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol safle Ysbyty Cymunedol Maesteg, gan ei adael ef a thrigolion yr ardal mewn limbo, gan achosi llawer o drallod. A wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod â bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i drafod sut y gellir sicrhau bod gwelyau cymunedol yn parhau i fod ar gael ym Maesteg? Diolch.
Rwy'n deall cryfder y teimlad ynghylch Ysbyty Cymunedol Maesteg. Rwy'n disgwyl i unrhyw newid i'r gwasanaeth gael ei ddatblygu'n dryloyw gyda phobl leol yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac wedi'i ategu gan dystiolaeth gadarn, arfarniadau o opsiynau ac asesiadau effaith. Rwy'n glir fod yn rhaid i wasanaethau fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben i'r boblogaeth leol. Yn yr opsiwn y mae'n ei ffafrio ar gyfer datblygu canolfan iechyd a lles newydd, mae'r bwrdd iechyd wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd lefel uwch ac ystod uwch o wasanaethau ar gael o'r safle arfaethedig newydd. Mae hyn yn ychwanegol at gysylltiadau trafnidiaeth agosach gyda safle bws a gorsaf reilffordd yn agos.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith cydweithredol pellach ar adeilad ysbyty Maesteg i sicrhau nad yw'n cael ei golli. Rwy'n deall bod y bwrdd wedi gofyn am gynllun ymgysylltu ar hyn i'w gyflwyno yng nghyfarfod bwrdd mis Gorffennaf y mis hwn, yn ogystal â diweddariad ar y cynllun ar gyfer gwelyau cymunedol yn ardal cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf eisoes wedi cyfarfod â chadeirydd bwrdd iechyd Cwm Taf er mwyn trafod y rhain.
Weinidog, yn achos ysbyty Maesteg y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod ato, tynnodd Llais sylw at gryfder y teimlad yn lleol ynglŷn â chadw capasiti gwelyau cymunedol, ac yn wir, rydych chi newydd gyfeirio at y cryfder teimlad hwnnw. Hefyd, roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu parhaus â thrigolion wrth i gynigion ddatblygu. Mae cryn bryder yn lleol ynglŷn â sut y bydd darpariaeth gymunedol amgen, gan gynnwys gofal cam-i-lawr a gofal seibiant, yn cael ei ddarparu yn ymarferol.
Roeddwn yn ddiolchgar am eich ymateb yn gynharach y mis hwn i lythyr oddi wrthyf i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru sy'n cynrychioli Afan Ogwr Rhondda, yn dilyn penderfyniad y bwrdd iechyd i fwrw ymlaen â'r cynigion hyn. Yn eich ateb, fe nodoch chi y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Gyda hynny mewn golwg, a allech chi amlinellu, os gwelwch yn dda, pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth o welyau cymunedol yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn, gan ragdybiaethau cadarn ac ymgysylltu ystyrlon â chymunedau lleol cyn y collir unrhyw gapasiti presennol? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n adlewyrchu cryfder y teimlad yng Nghwm Llynfi a rhannau eraill sy'n cael eu gwasanaethu gan ysbyty Maesteg. Ac rwy'n deall bod pryderon yn ei gylch; dyna pam y cefais y sgwrs honno gyda chadeirydd y bwrdd iechyd er mwyn codi'r pryderon hynny, pryderon a godwyd yn y Siambr hon a godais innau gyda'r cadeirydd, gan wneud yn siŵr eu bod yn deall bod yr ymgysylltu parhaus hwnnw'n hollbwysig, eu bod yn ystyried safbwyntiau'r preswylwyr, ein bod yn cael sicrwydd fod unrhyw benderfyniadau a wneir yn cael eu gwneud gan glinigwyr ac yn cael eu harwain yn glinigol, ac yn ystyried y pellteroedd teithio a'r anhawster i rai pobl gael mynediad at wasanaethau yn yr ardal. Felly, rhaid i ni wneud yn siŵr, a rhaid i fyrddau iechyd, yn enwedig pan fyddant yn cyflwyno cynlluniau, wneud yn siŵr bod y pethau hyn yn cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd ac i'r graddau mwyaf posibl er mwyn dod i benderfyniad.
Prynhawn da, Weinidog. Mae mater gwelyau cymunedol yn ein cymunedau a'n hardaloedd lleol yn bwysig iawn fel y gwyddoch, ac roeddwn i eisiau canolbwyntio ar Bowys. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael trafodaeth am hyn, ond fe fyddwch yn gwybod ei bod wedi dod i'r amlwg yn answyddogol yn ddiweddar fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried cael gwared ar welyau cleifion mewnol o wyth o'n 10 ysbyty cymunedol. Mae hynny'n golygu y byddwn yn eu colli o Ystradgynlais, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Tref-y-clawdd, Bronllys, y Trallwng, Llanidloes a Machynlleth. Dyna hyd at 146 o welyau'n diflannu mewn sir heb ysbyty cyffredinol dosbarth, lle mae'r boblogaeth yn hŷn, yn fwy gwledig ac ymhellach i ffwrdd o ofal arall nag unrhyw le arall yn y wlad. Rydym eisoes yn gwybod, onid ydym, fod arosiadau ysbyty ym Mhowys yn 40 diwrnod ar gyfartaledd yn erbyn yr uchelgais y cytunwyd arno'n genedlaethol o'i gael i lawr i 21.
Felly, Weinidog Cabinet, rwy'n sylweddoli nad yw'r cynlluniau hyn wedi'u cadarnhau eto, ond a gaf i ofyn am eich safbwyntiau ar y cynlluniau posibl hyn? A hefyd, a wnewch chi ystyried ymyrryd, fel y gwnaeth Gweinidog arall yn 2013 ym mwrdd iechyd Hywel Dda, pan oedd pryder am fater tebyg? Diolch yn fawr iawn.
Nid yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto ar ei gynllun gwasanaethau clinigol nac unrhyw opsiynau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus posibl yn ddiweddarach eleni, gan fod y gwaith hwn yn parhau i gael ei ddatblygu. Fel rhan o'r broses o ddatblygu'r cynllun gwasanaethau clinigol, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cyflawni gwaith ymgysylltu cychwynnol ehangach ledled Powys dros y flwyddyn ddiwethaf, i helpu i ddeall cryfderau a gwendidau'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau a helpu i lywio a datblygu gweledigaeth yn y dyfodol, modelau gofal posibl ac opsiynau ar gyfer newid.
Bydd y cynllun gwasanaethau clinigol yn gynllun hanfodol ar gyfer darparu ffyrdd newydd o weithio sy'n mynd i'r afael â gwendidau critigol mewn gwasanaethau, gan sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac o ansawdd uchel, y bydd yn rhaid eu cefnogi gan dystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i unrhyw newid i wasanaethau gael ei ddatblygu'n dryloyw gyda phobl leol yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac wedi'i ategu gan dystiolaeth gadarn, arfarniadau o opsiynau ac asesiadau effaith i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben.
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn diagnosis o gyflwr iechyd difrifol i blentyn? OQ64398
Diolch am y cwestiwn. Rydyn ni’n gwybod bod rhieni sydd yn y sefyllfa hon yn aml yn wynebu sawl rhwystr i ddychwelyd i’r gwaith, a’r rhesymau hynny’n rhyng-gysylltiedig yn aml. Mae ein rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu mentor un-i-un i helpu rhieni i gael gafael ar becyn o gymorth a dolen gyswllt â rhwydweithiau lleol, er mwyn delio ag anghenion cyflogaeth yn ogystal ag amgylchiadau teuluol ehangach.
Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac rwyf am ddatgan buddiant: rwyf wedi gweithio gyda'r bwrdd iechyd hwn o'r blaen pan oeddwn i'n gweithio yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Felly, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â thîm pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i drafod effaith economaidd-gymdeithasol diagnosis diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cyfarfûm ag Ansruta Vijay Anand a Dr Ambika Shetty, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae'r ddwy wedi'i wneud yn y maes hwn. Myfyrwraig feddygol yw Ansruta, a siaradodd gyda mi am ei hymchwil. Roedd ei chanfyddiadau'n drawiadol. Mewn 68 y cant o achosion lle roedd plentyn wedi cael diagnosis o ddiabetes math 1, bu newid i gyflogaeth rhiant. Roedd hyn yn cynnwys llai o oriau gwaith, cymryd seibiant dros dro o'r gwaith ac mewn rhai achosion gadael cyflogaeth yn gyfan gwbl. Ac er mai ymchwil ddiweddar ydyw, rwy'n gwybod yn anecdotaidd fod pobl eraill hefyd wedi cael y profiadau hynny ers degawdau. Canfuwyd hefyd fod llawer o blant yn profi oedi sylweddol wrth ddychwelyd i'r ysgol, y feithrinfa neu leoliadau gofal plant eraill ar ôl iddynt gael diagnosis. Dros y degawd diwethaf, mae nifer y plant sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes wedi cynyddu 29 y cant—
Cwestiwn, plis.
O ystyried y dystiolaeth hon, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teuluoedd ar ôl i'w plentyn gael diagnosis o ddiabetes math 1? A gaf i ddiolch i bob unigolyn sy'n gweithio yn y GIG, ble bynnag y cawsant eu geni, am y gwaith y maent yn ei wneud er ein mwyn? Diolch yn fawr.
Hoffwn adleisio'r teimladau a gyflwynwyd gan yr Aelod a diolch i'r Aelod am ddod â hyn i fy sylw. Rwy'n croesawu ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y mater hwn. Yn amlwg, mae'r canfyddiadau'n sobreiddiol ac yn taflu goleuni newydd ar y rhyngberthynas lechwraidd rhwng iechyd gwael ac economeg gymdeithasol. Rydym yn aml yn siarad am benderfynyddion cymdeithasol iechyd a sut y maent yn cyfrannu at anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd, ond mae'r astudiaeth hon yn tanlinellu y gall y ddeinameg hon weithio'r ddwy ffordd, lle gall cyflyrau iechyd ynddynt eu hunain arwain at ddirywiad mewn amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n seiliedig ar iechyd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod yna gam gweithredu 100 diwrnod cyntaf ar adolygu anghydraddoldebau ar sail iechyd yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar y canfyddiadau. Yn y cyfamser, er bod y GIG yn darparu pecynnau cymorth i helpu teuluoedd i ddelio â diagnosis a dysgu rheoli eu cyflwr, gan gynnwys gofal cleifion allanol rheolaidd gan arbenigwyr, rhaglenni addysg ac atebion technolegol i leihau'r baich o ddarparu inswlin a monitro rheoli glwcos, mae'r dystiolaeth o'r ymchwil gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dangos yn glir fod yn rhaid inni fynd ymhellach i gryfhau'r mecanweithiau cymorth hyn. Buaswn yn croesawu ymgysylltiad pellach â'r Aelod a'r ymchwilwyr i ddeall sut y gallwn ddefnyddio'r canfyddiadau hyn i ddysgu, addasu a gwella.
Ac yn olaf, cwestiwn 7, Louise Emery.
7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod GIG Cymru yn defnyddio'r dechnoleg bresennol i gyflymu mynediad at ymgynghoriadau cleifion a gwasanaethau cysylltiedig? OQ64423
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru i wneud y gorau o'r dechnoleg bresennol i wella mynediad at ofal. Mae hyn yn cynnwys cryfhau ap GIG Cymru, cefnogi apwyntiadau rhithwir a defnyddio technoleg llais amgylchynol. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif ar eu perfformiad yn cyflawni canlyniadau cleifion a disgwylir iddynt ddefnyddio technoleg sy'n bodoli fel galluogwr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Mae hynny'n wych i'w glywed, oherwydd yn amlwg mae ymgynghoriadau cychwynnol wyneb yn wyneb yn dal i fod yn hanfodol i'r rhan fwyaf o bobl, ond i'r rhai sydd â chyflyrau hirdymor neu'r rhai sy'n gweithio'n llawn amser neu sydd â phroblemau trafnidiaeth, mae ymgynghoriadau ar-lein yn mynd i weithio. Rydym wedi cyfeirio at Betsi Cadwaladr. Fe wnaethant dreialu Attend Anywhere. Roedd pump o gleifion yn 2020—pump o gleifion mewn pum mlynedd, ac nid ydynt wedi dweud unrhyw beth wrth y cyhoedd ynglŷn â sut y mae'r dechnoleg hon yn perfformio yng ngogledd Cymru. Felly, rwy'n cytuno â'ch teimlad ein bod yn gwybod ei fod yn rhan hanfodol o wasanaethau'r GIG, ond yn Betsi Cadwaladr, a allech chi ddweud wrthyf beth sy'n digwydd o ran sut y maent yn defnyddio Attend Anywhere a thechnoleg arall i helpu fy etholwyr?
Diolch i'r Aelod am ddod â hyn i fy sylw. Mae'n ymddangos ei fod yn achos arall o un o'r darnau o arferion gorau sydd gennym mewn rhannau o fyrddau iechyd ledled Cymru nad yw'n cael ei wireddu neu nad yw'n cael ei rannu, neu sy'n eistedd ar silff yn rhywle. Mae angen inni ddysgu o unrhyw ddarn o arfer da sydd i'w gael a sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno'n gyffredinol. Felly, byddaf yn codi hyn gyda'r bwrdd iechyd. Rwy'n hapus i'ch cadw chi'n hysbys ynghylch unrhyw ymateb a gaf yn ôl, oherwydd os yw'n dda a'i fod yn gweithio, mae angen inni sicrhau bod eraill yn elwa ohono.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Symudwn ymlaen i gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Cwestiwn 1, Stephen Senior.
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynlluniau pensiwn llywodraeth leol yn rhydd i fuddsoddi mewn cwmnïau amddiffyn ac ynni Prydeinig allweddol? OQ64395
Diolch yn fawr iawn, a phrynhawn da, bawb. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn gyfrifol am ddeddfwriaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â chynlluniau pensiwn llywodraeth leol, gan gynnwys buddsoddiadau. Yr awdurdodau gweinyddu a Phartneriaeth Pensiwn Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae'r arian yma yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.
Weinidog, er nad yw pensiynau'r sector cyhoeddus wedi'u datganoli, fe wyddoch mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am oruchwylio llywodraeth leol a'r gronfa £25 biliwn sydd yng nghynllun pensiwn llywodraeth leol Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu pwysau enfawr gan aelodau etholedig a grwpiau pwysau i ymddihatru oddi wrth gwmnïau arfau, cwmnïau ynni a'r system fancio. Weinidog Cabinet, ychydig cyn yr etholiad ym mis Mai, adroddwyd eich bod chi yn ddiweddar wedi cefnogi addewid Senedd Palesteina, a gynhyrchwyd gan Ymgyrch Undod Palesteina. Dyna grŵp sy'n gysylltiedig ag asiantaeth newyddion Palesteina, y gwnaf atgoffa'r Aelodau ei fod yn arfer bod yn rhan o Fudiad Rhyddid Palesteina, a hefyd Stop the War, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac Extinction Rebellion. Felly, mae ganddo hanes hir o wahanol grwpiau. Roedd tri o'ch Gweinidogion Cabinet yn cefnogi hynny. Weinidog, gan eich bod bellach wedi newid o fod yn ymgyrchydd i fod yn y Llywodraeth, a allwch chi roi sicrwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw bwysau ar y cynlluniau pensiwn llywodraeth leol hynny i ymddihatru oddi wrth y cwmnïau amddiffyn ac ynni allweddol hynny, sydd eu hangen arnom yn y wlad wych hon?
Dydy'r ffaith fy mod i rŵan yn Weinidog mewn Llywodraeth ddim yn newid fy ngwerthoedd i o gwbl. Dwi'n parhau i fod yn ymgyrchydd yn ogystal ag yn Weinidog o fewn Llywodraeth Cymru, a dwi'n siŵr bod Aelodau eraill y Cabinet yn cyd-fynd â hynny.
Mae yna le i gronfeydd pensiwn yng Nghymru fuddsoddi'n gyfrifol ac yn lleol. Wrth gwrs, er, fel rydych chi'n nodi, nad does gennym ni ddim cyfrifoldeb uniongyrchol dros y cronfeydd pensiwn, mae yna drafodaethau yn digwydd, ac rydyn ni'n annog awdurdodau pensiwn i fuddsoddi'n gyfrifol ac yn foesegol, fel bod pensiynau'r sector cyhoeddus yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddyfodol Cymru—yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Un defnydd gwych o gronfeydd pensiwn ydy buddsoddi yn y stoc tai cymdeithasol, ac rydych chi'n gwybod fy mod i'n ymgyrchu dros fwy o dai cymdeithasol. Dwi'n deall bod cronfa bensiwn dinas a sir Abertawe newydd greu cronfa effaith lleol gwerth £51 miliwn a fydd yn buddsoddi mewn tai cymdeithasol lleol, ymhlith pethau eraill. Dwi'n gefnogol iawn i hynny.
Partneriaeth Pensiwn Cymru sydd yn gyfrifol am esbonio sut y byddan nhw'n buddsoddi. Dydy hynny ddim yn golygu peidio â buddsoddi yn y diwydiant amddiffyn, er enghraifft, ond mae o'n golygu peidio â buddsoddi mewn cwmnïau sy'n cynhyrchu arfau dadleuol. Felly, mae yna, yn barod, fframwaith moesegol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Fel rydych chi wedi esbonio, mae gan gronfeydd pensiwn Cymru botensial enfawr i fod yn rym er lles ac i ysgogi buddsoddiad moesol a moesegol. Enghraifft arall fyddai'r gronfa gyfoeth Norwyaidd. Ond yn rhy aml rydym yn clywed bod ein cronfeydd pensiwn yn cael eu defnyddio i gefnogi'r diwydiant arfau, tanwydd ffosil neu gynlluniau gwneud arian sydyn eraill sy'n gweithredu ar draul y blaned neu'n cyfrannu at y math o ddioddefaint dynol a welsom yn Gaza, Libanus ac mewn mannau eraill. Felly, hoffwn ofyn pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod cronfeydd pensiwn Cymru yn cael eu buddsoddi'n foesegol ac yn darparu enillion cryf i ddeiliaid pensiwn tra'n cefnogi lles ein cymunedau yma yng Nghymru a heb elwa o'r niwed a wneir i eraill ledled y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, mae angen i'r cronfeydd pensiwn fuddsoddi mewn ffordd sydd yn gadarn ac sydd yn gwarchod y rheini sydd yn elwa yn uniongyrchol o'r cronfeydd hynny, ond dwi'n credu ein bod ni eisiau gweld buddsoddiad cyfrifol a moesegol gan awdurdodau pensiynau, fel bod pensiynau'r sector cyhoeddus yn cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at ddyfodol Cymru, a hynny'n economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Ar ôl pasio Deddf Cynlluniau Pensiwn 2026 y Deyrnas Unedig yn gynharach eleni, mi fydd awdurdodau pensiwn a chronfa Cymru yn cytuno ar eu strategaethau buddsoddi dros y misoedd nesaf. Felly, dydy'r strategaethau yna ddim yn rhai sydd wedi cael eu diffinio yn fanwl eto, ond dwi yn edrych ymlaen at drafod efo nhw yn unol â gwerthoedd y Llywodraeth yma.
Mae'r cwestiwn hwn yn fy atgoffa, mewn ffordd braidd yn rhyfedd, o'r dyddiau pan oedd llawer ohonom yn brwydro i berswadio ein cynlluniau pensiwn—yn fy achos i, Cynllun Blwydd-daliadau Pensiwn y Prifysgolion—i ymddihatru oddi wrth danwydd ffosil, ffrwydron tir, bomiau clwstwr a thybaco. Mae'r gwrthwyneb i'r frwydr honno'n wir bellach. O bryd i'w gilydd, byddai gweithredwr pensiwn sector cyhoeddus yn fy atgoffa'n dawel y gellid cyflawni'r enillion gorau ar fuddsoddiad o'r farchnad dybaco ryngwladol broffidiol, a gwerthu sigaréts i blant mewn gwledydd sydd â llai o reoleiddio na ni yma yng Nghymru. Fe wnaethom wthio ein cynlluniau pensiwn i fuddsoddi'n gadarnhaol mewn pethau fel ynni adnewyddadwy a thai cymdeithasol, ac roedd yr enillion yn dda. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai gwneud dewisiadau cadarnhaol, cynaliadwy ar gyfer ein pensiynau yw'r peth moesol i'w wneud, ond ei fod hefyd yn cynhyrchu enillion mawr, hirdymor i'n pensiynau, enillion nad ydynt yn dibynnu ar ansefydlogrwydd byd-eang neu risg asedau tanwydd ffosil anwadal?
Diolch yn fawr iawn. Ydw, dwi yn cytuno efo chi. Dyna pam dwi'n awyddus i weithio efo Partneriaeth Pensiwn Cymru i archwilio pa gamau pellach y gallwn ni eu cymryd efo'n gilydd i gryfhau cyfraniad cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru i Gymru, ac i'r math o fuddsoddiadau rydym ni am eu gweld yn digwydd yn ein gwlad ni.
Dwi'n sôn am dai eto, oherwydd dwi yn credu bod tai cymdeithasol yn un o'r materion hynny rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, sef nid yn unig y peth iawn i wneud, oherwydd ein bod ni eisiau cyflymu'r broses o gyflenwi mwy o dai cymdeithasol, ond hefyd mae yna lif cyson o incwm yn dod drwy'r rhent o dai cymdeithasol. Felly, mae'n gwneud synnwyr yn gyffredinol hefyd ar gyfer buddsoddi yma yng Nghymru. Dwi'n falch iawn o'r cyfraniad yna gennych chi yn cefnogi yr hyn rydym ni'n ei wneud o fewn Llywodraeth.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi yng Ngwynedd Maldwyn? OQ64419
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Bydd y tasglu canol trefi y byddwn ni'n cyhoeddi mwy amdano yn fuan iawn yn mynd i'r afael â'r heriau strwythurol sy'n wynebu canol trefi, gan gynnwys edrych ar ardrethi busnes a diwygio'r drefn gynllunio, a thrwy weithio ar y cyd â phartneriaid a chynnal ffocws cryf ar gyflawni i helpu canol trefi i addasu, denu buddsoddiad a gweithgarwch a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch am eich ateb, Weinidog. O ystyried yr ystod o faterion a phryderon a nodwyd ac a gafwyd eu dwyn i fy sylw, megis eiddo gwag a heb ei ddefnyddio'n ddigonol, dim cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr, a'r angen i gefnogi twf hirdymor y sector preifat, ochr yn ochr â llawer o broblemau eraill, mae'n hanfodol fod yr Aelodau'n cael dadansoddiad cynhwysfawr o'r ffordd y mae arian y fenter Trawsnewid Trefi wedi'i wario ledled Cymru a sut y mae hynny'n cael ei rannu yn ôl etholaeth neu hyd yn oed yn ôl ardal awdurdod lleol. Ddydd Iau diwethaf, nid oedd yr wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd. A allwch chi ddweud wrthym pryd y bwriadwch gyhoeddi'r wybodaeth hon fel y gall yr Aelodau sicrhau bod yr arian hwn wedi'i wario'n dda?
Diolch yn fawr iawn. Medraf ddweud wrthych chi y prynhawn yma fod Powys wedi elwa ar fwy na £12.9 miliwn o gyllid adfywio Llywodraeth Cymru ers 2021. Mae hyn o dan y weinyddiaeth flaenorol, wrth gwrs. Mae'r gronfa yma wedi bod yn datblygu ar hyd y blynyddoedd. Felly dwi yn falch o fedru cyhoeddi bod £12.9 miliwn ym Mhowys, yn cynnwys yn Llandrindod, sydd yn agos i lle rydych chi'n byw, dwi'n credu, lle mae cymorth wedi cael ei roi i alluogi adfer adeilad hanesyddol Auto Palace, gan greu canolfan fusnes newydd yng nghanol y dre. Yn y Drenewydd, mi fues i yn ddiweddar yn Hafan yr Afon, datblygiad pwysig iawn sydd yn gweddnewid y rhan yna o'r dref. Mae hwnnw wedi cael ei gefnogi efo £1.1 miliwn o gyllid. Mae'r adeilad yna wedi cael ei greu, gyda llaw, efo dull passive house, sef y safon ddylunio fwyaf ynni effeithiol yn y byd, ac mae hwnna yn y Drenewydd ac wedi defnyddio peth arian allan o'r gronfa yma. Felly mae'r wybodaeth yna, a dwi'n siŵr y gallwn ni roi'r darlun cyfan fesul awdurdod lleol hefyd.
Roeddwn i'n falch iawn i glywed ddoe am ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno hawl y gymuned i brynu. Mae yna esiamplau da o drefi marchnad sy'n llwyddo creu bwrlwm ac egni, efo nifer o siopau a busnesau cynhenid wedi eu gwreiddio yno. Yn fy etholaeth i, mae yna nifer fawr o esiamplau ym Machynlleth o grwpiau cymunedol yn prynu asedau cymunedol, fel eglwysi a thafarndai ac ati, ac yn eu cadw'n fyw er lles y gymuned a'r economi leol. Gall y Gweinidog Cabinet wneud datganiad ar hawl y gymuned i brynu? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn ac roeddwn i'n hynod o falch o weld y cyhoeddiad yma yn rhan o'r cyhoeddiad am raglen ddeddfu y Llywodraeth yma. Dŷn ni wedi ymrwymo yn glir i gyflwyno Bil hawl cymunedol i brynu a bydd hynny'n flaenoriaeth gennym ni yn ystod y misoedd nesaf yma rŵan.
Dwi'n ymwybodol iawn o nifer fawr o grwpiau cymunedol sydd yn awyddus iawn i brynu ac i gaffael adeiladau sydd yn dod yn wag yn eu cymunedau nhw, er mwyn eu troi nhw'n asedau sydd o ddefnydd i'r gymuned, i fywiogi'r gymuned ac i fywiogi'r stryd fawr yn aml hefyd. Dwi'n ymwybodol hefyd fod rhwystrau yn dod ar draws hynny yn aml iawn, ac weithiau maen nhw'n colli'r cyfle i brynu ased ac i'w droi o at ddefnydd y gymuned. Felly, dwi yn gobeithio y byddwn ni i gyd yn gallu cytuno ar ddeddfwriaeth newydd fydd yn grymuso grwpiau cymunedol, fel eu bod nhw'n gallu adnabod, yn y lle cyntaf, asedau sydd yn eu cymunedau nhw y gallan nhw fod eisiau eu prynu i'r dyfodol, ein bod ni'n creu cofrestr yn nodi'r rheini i gyd, ac wedyn, pan maen nhw'n dod ar y farchnad, eu bod nhw'n cael y cynnig cyntaf i brynu, ac wedyn yn cael y cyfle i wneud achos busnes ac i fynd ymlaen efo'r broses. Dydy hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd ac mae yna gyfleon yn cael eu colli.
Dwi yn bwriadu trefnu cyfres o weithdai dros fisoedd yr haf rŵan efo partneriaid, efo cymunedau, er mwyn inni gael mwy o gig ar yr asgwrn ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd yma. Dwi'n eich annog chi i gyd i gymryd rhan yn hwnna ac annog grwpiau cymunedol yn eich etholaethau i fod yn rhan o'r ddeddfwriaeth newydd bwysig yma.
Diolch. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Francesca O'Brien.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn Lloegr wedi darparu gorchmynion cyweirio ac amddiffyniadau cost i lesddeiliaid ers 2022. Dim ond nawr y mae Cymru wedi darparu'r un pwerau hynny drwy Ddeddf 2026, ac mae is-ddeddfwriaeth yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad tan fis Medi—bedair blynedd y tu ôl i Loegr, gyda dim ond pedwar allan o 161 o adeiladau wedi'u cyweirio'n llawn. O ystyried bod Lloegr wedi cynnal yr un broses ymgynghori yn gyntaf, a yw Llywodraeth Cymru’n defnyddio'r dystiolaeth a'r modelau sydd eisoes wedi'u sefydlu i asesu'r hyn sydd ei angen yma ac i gyflymu'r broses o'r diwedd?
Mae'r ddeddfwriaeth newydd, yr oeddwn i'n rhan o'i chreu yn y Senedd ddiwethaf, yn fwy pellgyrhaeddol na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr a ddaeth i rym rai blynyddoedd yn ôl. Mi ydyn ni yn ymgynghori ar reoliadau newydd. Fe wnes i wthio'r weinyddiaeth flaenorol i gynnwys y gallu yna. Felly, dŷn ni'n ymgynghori ar reoliadau newydd a fydd yn golygu bod pobl sydd yn byw mewn adeiladau sydd ddim wedi cael eu hadfer, neu sydd yn wynebu costau ychwanegol drwy fod eu costau gwasanaeth nhw wedi cynyddu'n sgil gwaith sydd yn gorfod cael ei wneud—bydd gan y bobl yna, unwaith mae'r rheoliadau yna'n dod i rym, lwybr i fynd â materion i dribiwnlys. Rŵan, mae hynny'n gam sylweddol ymlaen, ac mae o'n mynd i gymryd ychydig bach o amser, ychydig o fisoedd, tan ein bod ni'n dod â'r rheoliadau yna i rym. Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi—dwi'n siŵr y byddwch chi'n cefnogi—y rheoliadau yna.
Mae yna dair agwedd mewn gwirionedd, onid oes? Mae'r ddeddfwriaeth newydd sydd yng Nghymru, ond mae hefyd y gwaith adfer, sydd yn hynod o araf deg; mae o'n hynod o araf deg—dŷn ni'n derbyn hynny. Dwi wedi gwadd y cwmnïau sydd yn dal wrthi'n gwneud y gwaith i'm cyfarfod i fis nesaf, lle byddan nhw'n cael neges hollol glir fod y Llywodraeth yma yn mynnu bod y gwaith adfer yna yn cyflymu, a bod pace y gwaith yn cyflymu.
Diolch, Weinidog. Rwy'n credu eich bod wedi cyfarfod â'r Welsh Cladiators yn ddiweddar, felly diolch am hynny. Rwy'n siŵr bod deddfwriaeth yn cymryd amser, ond mae pobl yn byw mewn adeiladau anniogel, felly rwy'n eich annog i roi pwysau ar y rheini yn yr wythnosau nesaf. Felly, diolch am eich ateb i hynny.
Hoffwn droi at dai. Sylwaf fod eich datganiad ddydd Llun wedi cadarnhau eich ymrwymiad, neu wedi ail-gadarnhau eich ymrwymiad, i greu 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Mae datganiad arall, fodd bynnag, heb darged blynyddol yn golygu nad oes ffordd o fesur perfformiad eich Llywodraeth. Ond wrth gwrs, mae tai yn fater o gyflenwad a galw. Mae diffyg atebolrwydd a thryloywder difrifol ynghylch pwy sy'n byw yn ein tai cyngor a thai cymdeithasol mewn gwirionedd. Mae data yn Lloegr yn dangos bod llawer iawn o dai'n cael eu dyrannu i bobl sy'n wladolion tramor. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich adran i gasglu data cenedligrwydd cywir gan gynghorau a chymdeithasau tai fel y gall pobl Cymru wybod pwy fydd yn byw yn y tai hyn y mae trethdalwyr yn eu sybsideiddio?
Diolch yn fawr. I fynd yn ôl at eich pwynt chi am y Cladiators, do, mi ges i gyfarfod adeiladol iawn efo nhw ddydd Llun. Roeddwn i'n falch iawn o'u cyfarfod nhw a chlywed eu pryderon nhw'n uniongyrchol ganddyn nhw.
Mi wnes i ddatganiad ysgrifenedig ddydd Llun a oedd yn cadarnhau yr 20,000 o dai cymdeithasol newydd sydd mawr eu hangen yng Nghymru, i bawb sydd yn byw yng Nghymru. Mae'r ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dynodi yn fater i awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn casglu cofrestr tai ac mae tai yn cael eu dyrannu yn ôl angen, ac felly y dylai hi fod hefyd. Felly, dwi'n edrych ymlaen i'r gwaith rŵan o gyflenwi mwy o dai cymdeithasol. Dyna ydy gwraidd y broblem; gwraidd y broblem, gwraidd yr argyfwng tai yng Nghymru, ydy bod gennym ni ddim digon o dai cymdeithasol. Dydy'r cyflenwad ddim yn ddigonol i ateb y galw, ac yn y fan yna y dylem ni fod yn rhoi ein hymdrechion ni drwy'r amser.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Felly, rwy'n cymryd mai 'na' yw hynny, ond peidiwch â chynhyrfu, roeddwn yn meddwl mai dyna fyddai'r rheswm, neu'r ateb. Ond mae fy nhîm a minnau wedi bod yn gweithio'n galed yn casglu'r data hwn gan gynghorau. Cymerwn Gyngor Caerdydd fel enghraifft; rwy'n siŵr y bydd ein ffrind yn y gornel yn gwrando ar hyn gyda diddordeb. Mae'r ffigurau y cefais afael arnynt o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn syfrdanol. Maent gennyf yma, a byddant yn cael eu gwneud yn gyhoeddus wrth inni siarad.
Felly, gadewch inni edrych ar stoc dai cymdeithasol y cyngor o dros 14,000 o gartrefi, lle mae cenedligrwydd wedi'i gofnodi mewn gwirionedd. Mae mwy na 31 y cant o'r prif denantiaid yn wladolion tramor. Ar y rhestr aros o dros 9,000 eiddo, ymgeiswyr nad ydynt yn Brydeinig yw 22 y cant o'r rhai a gofnodwyd. Ac o'r tenantiaethau newydd a ddarparwyd y llynedd, aeth bron i 30 y cant o'r dyraniadau a gofnodwyd i ymgeiswyr nad ydynt yn Brydeinig. Yn y cyfamser, mae 35 y cant o'r bobl mewn llety dros dro yn wladolion tramor, lle mae'r data wedi'i gofnodi. Mae hyn yn cyfateb i filoedd o aelwydydd sy'n wladolion tramor mewn un ddinas, sy'n cael eu sybsideiddio.
Cwestiwn, plis.
Ond dyma'r sgandal go iawn, sef, o'r 14,000 o gartrefi, nid yw cenedligrwydd—
A gaf i gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Iawn, rwy'n dod ato, diolch.
Nid yw cenedligrwydd 11,000 o denantiaid, sef 70 y cant, wedi'i gofnodi.
Francesca, a gaf i gwestiwn os gwelwch yn dda?
Felly, a wnaiff y Gweinidog—? Yn hytrach na darparu cartrefi i genhedloedd, gadewch inni wneud hynny i bobl Cymru—
Cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Iawn, wrth gwrs. A wnewch chi ymrwymo i ddiwygio rheoliadau dyrannu tai a digartrefedd, i gyfyngu ar y cymhwysedd a rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr Prydeinig? Ac a wnewch chi ddefnyddio eich pwerau cyfreithiol i osod safon sy'n gorfodi pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru i gofnodi a chyhoeddi cenedligrwydd ymgeiswyr a thenantiaid?
Cyn i chi ateb, Weinidog—os dwi'n gofyn am gwestiwn, dwi yn disgwyl cwestiwn. Dwi ddim yn disgwyl i rywun fynd 45 eiliad dros yr amser. Diolch. Weinidog.
Dwi'n siomedig iawn efo'r cwestiwn yna. Yn sicr i chi, dwi ddim yn gwybod a ydy'r ystadegau yna'n gywir neu a ydyn nhw ddim. Beth bynnag, dwi'n siomedig eich bod chi'n mynnu mynd ar ôl hyn dro ar ôl tro yn y Siambr yma. Fel roeddwn i'n dweud, mae'r argyfwng tai yn cael ei greu oherwydd bod yna ddiffyg cyflenwad o dai cymdeithasol i fynd o gwmpas i ddiwallu yr angen. Mae pawb sydd yng Nghymru yn haeddu cael to uwch eu pen a lle saff i fyw. Felly, dwi ddim eisiau mynd ar ôl y mater yma ymhellach.
Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac fe fyddaf o dan funud.
Pan drafodwyd y gyllideb gyfredol gennym yn nhymor y Senedd ddiwethaf, cafwyd cefnogaeth eang gan Blaid Cymru, gan eich cynnwys chi, Weinidog, fod pwysau sylweddol ar lywodraeth leol. Fe wnaethom oresgyn syniad chwerthinllyd cyn-Weinidog Cyllid fod y mynegai prisiau defnyddwyr yn nodi chwyddiant llywodraeth leol, fel pe bai'r newid ym mhris eitemau fel hwmws, cwrw heb alcohol, eitemau steilio anifeiliaid anwes, cartrefi modur, camerâu fideo ceir, dalennau o bapur lapio a lager premiwm mewn poteli yn effeithio ar gost rhedeg gwasanaethau llywodraeth leol.
Fy nealltwriaeth i yw bod meysydd gwariant llywodraeth leol ar anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys gofal henoed a gofal plant, digartrefedd a gwasanaethau ataliol yn achosi pwysau ar gyllidebau cynghorau. Weinidog, ai dyna'ch dealltwriaeth chi, neu a hoffech chi newid y rhestr honno?
Diolch yn fawr iawn. Mae rhan olaf eich cwestiwn chi ynglŷn â'r pwysau mawr sydd yn wynebu llywodraeth leol yn gywir, ydy. Dŷch chi'n sôn am anghenion dysgu ychwanegol, dŷch chi'n sôn am wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau gofal. Mae llywodraeth leol o dan bwysau mawr iawn ac wedi bod yn cwtogi cyllidebau am flynyddoedd lawer, ac wedi bod yn gorfod cwtogi cyllidebau mewn rhai mannau sydd wirioneddol dan bwysau rŵan, o ran cynllunio, er enghraifft, a rheolau adeiladu. Mae'r gwasanaethau yna wedi cyrraedd pwynt anodd iawn, ond, wrth gwrs, maen nhw wedi gwneud hynny er mwyn diogelu rhai o'r gwasanaethau sydd yn cefnogi'r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymdeithas ni. Doedd ganddyn nhw ddim dewis o ran gwneud hynny, oherwydd polisïau llymder y Torïaid ar draws cymaint o flynyddoedd, polisïau sydd wedi cael eu dilyn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig hefyd.
Diolch am eich ateb; roedd yn hirach na'r hyn a ddisgwyliwn. Rydym wedi cytuno bod galw cynyddol am wasanaethau cyngor penodol. Mae yna hefyd safonau masnach ac iechyd yr amgylchedd—gwasanaethau hanfodol y mae angen eu cefnogi. Mae pethau fel diogelwch bwyd a safonau masnach yn diogelu defnyddwyr. Weinidog, faint o arian ychwanegol rydych chi a'ch cyd-Weinidogion wedi gofyn amdano gan y Gweinidog cyllid i ateb y galw cynyddol hwn o'r £247 miliwn sydd heb ei ddyrannu?
Wel, mi fyddwch chi'n cofio, adeg eich cyllideb chi fel Llafur, fe wnaeth Plaid Cymru ddod i sefyllfa lle roeddem ni yn gallu atal ein pleidlais ar y gyllideb honno drwy negodi, yn gyfrifol ac yn aeddfed, £112.8 miliwn, dwi'n meddwl, yn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol. Mi alluogodd hynny i'ch Llywodraeth chi sefydlu cyllideb. Roedd yn hynod o siomedig gen i ddoe fod yr ysbryd yna o negodi a chyfaddawdu ddim wedi cael ei wireddu gan eich plaid chi. Mi oedd Plaid Cymru wedi dod â chynnig gwerth £120 miliwn dros dair blynedd i'r bwrdd, a chafodd hwnna ei wrthod gan Lafur. Roedd hwnna ar gyfer yr anghenion dysgu ychwanegol dŷch chi'n sôn amdano fo. Dŷch chi wedi penderfynu nad ydych chi ddim eisiau mynd lawr y llwybr yna.
I fi, roedd ddoe yn ddiwrnod trist iawn i Gymru, lle mae'r ysbryd yna o geisio creu cydweithio er mwyn pobl Cymru—fe aeth hwnna drwy'r ffenestr ddoe, mae arnaf i ofn. Ond dwi yn gobeithio y gallwn ni ddychwelyd at sefyllfa lle dŷn ni'n rhoi pobl Cymru yn gyntaf ym mhopeth dŷn ni'n ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, diolch am eich datganiad ddydd Llun. Roeddwn yn obeithiol y byddai datganiad o'r fath yn dod i'r Siambr ar gyfer dadl ddyfnach, felly fe ddefnyddiaf un o fy nghwestiynau arno. Er bod yr uchelgais i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol i'w groesawu'n llwyr, mae eich datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau y bydd eiddo wedi'i gaffael yn cyfrif tuag at y targed o 20,000 o gartrefi, ochr yn ochr ag adeiladau newydd. Nawr, bydd llawer o bobl yn clywed y cyhoeddiad hwn ac yn tybio ei fod yn golygu 20,000 o gartrefi cymdeithasol wedi'u hadeiladu o'r newydd. Fodd bynnag, drwy gynnwys y caffaeliadau, ymddengys bod y targed yn dibynnu'n rhannol ar eiddo presennol sydd eisoes o fewn stoc dai Cymru, yn hytrach nag yn gyfan gwbl ar greu cartrefi newydd. Weinidog Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym faint o'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol rydych chi'n disgwyl iddynt gael eu darparu drwy gaffaeliadau a faint fydd yn adeiladu newydd go iawn?
Diolch yn fawr am y cwestiwn yma ac am gyfle i esbonio ychydig bach am beth oedd yn y datganiad ysgrifenedig ddydd Llun. Yn hollol, mi ydyn ni am i'r targed o 20,000 yma gynnwys eiddo gwag uwchben siopau yn ein strydoedd mawr ni, a bydd hyn yn rhan o'r gwaith mae'r tasglu canol trefi yn mynd i fod yn edrych arno fo, wrth gwrs, a sut ydyn ni'n cyflymu'r broses i alluogi mwy o eiddo sydd yn wag ar hyn o bryd i ddod i mewn i'r stoc.
Dwi'n pwysleisio fy mod i'n meddwl ei fod o'n bwysig i fod yn hollol dryloyw ac, felly, dwi wedi dweud mai dim ond cartrefi fydd yn aros yn gartrefi cymdeithasol i gymunedau ac i deuluoedd fydd yn cael eu cyfrif fel rhan o'r 20,000. Rŵan, beth yn union fydd y canran rhwng y rhai newydd a'r rhai fydd yn dod drwy ddulliau eraill o ran eiddo gwag ac yn y blaen, allaf i ddim rhoi ffigwr i chi ar hynny yn union. Ond dwi hefyd, yn y datganiad yna ddydd Llun, wedi sôn am dai o dan arweiniad y gymuned, ac mi fyddwn i'n hoffi cynnwys tai sydd yn cael eu creu drwy grwpiau cymunedol—drwy'r hawl i brynu, er enghraifft—a'n bod ni'n cynnwys y tai yna hefyd o fewn y targed oherwydd maen nhw'n cynnig ateb cydnaws â chymunedau yn yr ardaloedd gwledig ac yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Diolch, Weinidog Cabinet. Yn amlwg felly, mae angen casglu cryn dipyn o ddata er mwyn inni allu canfod faint o dai newydd y mae angen i ni eu hadeiladu, ac rwy'n gobeithio bod y gwaith hwnnw'n parhau. Gan droi'n ôl at adfywio canol trefi, gwyddom mai canol trefi—ac fe fyddwch chi'n cytuno—yw calon ein cymunedau, ond maent yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Os ydym am gynyddu nifer yr ymwelwyr, mae angen amgylchedd arnom lle gall busnesau ffynnu. Nawr, mae Cwmbrân yn enghraifft dda. Mae'n parhau i ddangos pwysigrwydd cyfleustra i siopwyr, gyda busnesau yno'n cyfeirio at barcio am ddim fel un o'r ffactorau y tu ôl i'r niferoedd cryf o ymwelwyr. Fodd bynnag, mae busnesau ledled Cymru'n parhau i godi pryderon ynghylch y costau busnes uchel, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, rheoliadau cyfyngol a pha mor anodd yw denu cwsmeriaid yn ôl i ganol y dref. Nawr, mae adfywio'n ymwneud â mwy na dod â mentrau newydd i'r trefi, mae a wnelo â chadw busnesau presennol a'u galluogi i oroesi. Weinidog Cabinet, gan weithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid a thrwy eich grŵp gorchwyl ar ganol trefi, pa fesurau penodol rydych chi'n barod i'w hystyried neu eu cyflwyno i gymell busnesau i ailsefydlu yng nghanol ein trefi a helpu i adfywio'r strydoedd mawr hynny sy'n ei chael hi'n anodd?
Diolch am y cwestiwn ac am eich diddordeb chi yn y maes penodol yma. Yn ystod 100 niwrnod cyntaf y Llywodraeth yma, mi fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad llawn ynglŷn â phwrpas y tasglu ac aelodaeth y tasglu newydd rydyn ni wrthi'n sefydlu. Wrth gwrs, y tasglu fydd yn edrych ar ei gylch gorchwyl yn benodol, felly, a dwi'n awyddus iawn i hynny ddigwydd, yn hytrach nag ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gosod rhyw fath o feini prawf. Y bobl yn y tasglu yna, yn ymgynghori efo eraill, fydd yn gosod y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith. Ond mi fyddwn ni'n cymryd yn ganiataol, o fod wedi ymwneud â'r math yma o waith am flynyddoedd, y bydd edrych ar drethu busnes a sut gallwn ni wneud cynnal siop yng nghanol tref yn fwy atyniadol nag ydy hi i fod ar y cyrion mewn canolfan siopa, y byddai hwnna'n un maes, byddwn i'n meddwl, y byddan nhw'n edrych arno fo. Mae cynllunio hefyd a sut i gyflymu'r broses er mwyn trosi adeiladau gwag yng nghanol ein trefi ni. Ond hefyd, bydd yr awydd yma, mae'n siŵr, i edrych yn holistaidd ar ba wasanaethau cyhoeddus a allai ddod i mewn i ganol ein trefi ni a sut i gyflymu'r broses gynllunio o gwmpas hynny. Mae yna dasg fawr yna, ond mae'n dasg gyffrous, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio efo'r tasglu.
3. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru'? OQ64366
Diolch yn fawr. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei adolygu yn barhaus i sicrhau ei fod o'n parhau yn effeithiol, yn berthnasol, a’i fod o'n ymateb i’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. Mae swyddogion yn adolygu canllawiau cynllunio ar hyn o bryd. Maen nhw’n gwneud hyn gan nodi pa agweddau y gall fod angen eu diweddaru yn y dyfodol i sicrhau bod y fframwaith cynllunio yn adlewyrchu blaenoriaethau y Llywodraeth Cymru yma.
Diolch. Un maes y gallwn ddweud yn bendant fod angen ei ddiweddaru yw polisi ynni Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun polisi cynllunio, yn enwedig o ran 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Gŵyr pob un ohonom ei fod wedi dyddio mewn perthynas â thyrbinau gwynt a pheilonau ar raddfa ddiwydiannol ar draws rhan helaeth o gefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru. Gŵyr pob un ohonom am y tyrbinau 220m sy'n mynd i gael eu codi os caiff Bute Energy eu ffordd. Byddai hynny'n dinistrio fy nghymunedau'n llwyr. Ond yn 'Cymru'r Dyfodol', nid yw'n ystyried maint presennol y tyrbinau hynny sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd. Nid yw chwaith yn ystyried y sŵn amledd isel y maent yn ei gynhyrchu. Felly, rwy'n gofyn i chi, Weinidog: a ydych chi'n barod i roi moratoriwm ar y cynlluniau diwydiannol mawr hyn ar gyfer cefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru, oherwydd oni bai bod polisi cynllunio'n cael ei ddiweddaru, byddwn yn gweld rhywbeth a allai gael ei gymeradwyo a fydd yn cael effeithiau hirdymor dinistriol ar gymunedau heb ganllawiau cynllunio wedi'u diweddaru i allu gwneud penderfyniad gwybodus?
Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n falch ein bod ni'n cytuno bod angen edrych o ddifrif ar 'Cymru'r Dyfodol', 'Future Wales', sef y cynllun cenedlaethol, yr haen uchaf yna o ddatblygu a datblygiadau yng Nghymru. O dan hwnna, wrth gwrs, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gorwedd, felly rydym ni angen gwneud y gwaith ar y lefel uchel yna o gwmpas strategaeth ofodol genedlaethol, gan roi yn hwnna y blaenoriaethau cyfoes ar gyfer twf, seilwaith, ynni, trafnidiaeth a datblygu rhanbarthol. Felly, mae ganddo fo statws statudol, a dwi'n awyddus iawn—mae'r gwaith wedi dechrau i edrych ar yr haen uchaf yna—wedyn i weld beth sydd angen ei newid o ran y polisïau cynllunio, gan gynnwys, wrth gwrs, y polisi ynni a pholisi ynglŷn â thrydaneiddio a llinellau trydan newydd, a'r materion yna i gyd. Felly, gallaf eich sicrhau chi fod y gwaith yn digwydd ar hwnna.
Weinidog, diolch am eich ymrwymiad i hyrwyddo system gynllunio sy'n canolbwyntio ar y gymuned a chryfhau llais pobl leol. Mae Cymru’n dod i'r amlwg fel lleoliad pwysig ar gyfer datblygu canolfannau data, gyda dau o ardaloedd twf AI dynodedig Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid oes ganddynt ddosbarth defnydd penodol ac nid oes sôn amdanynt yn 'Polisi Cynllunio Cymru', er bod eu maint a'u gofynion ynni a dŵr yn codi cwestiynau pwysig i'n hamgylchedd a'n system gynllunio y tu hwnt i'w hardal leol. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, cafodd canolfan ddata ei chynnig yn Llanrhymni, ar safle cyfleuster parcio a theithio dwyrain Caerdydd, sy'n gwasanaethu Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae hyn wedi arwain at ddadlau y tu hwnt i'r ardal dan sylw. Bydd y cyfleuster 150 MW arfaethedig, nid nepell oddi wrth ysgolion cynradd a chartrefi lleol, yn dibynnu ar dyrbinau nwy sy'n cael eu pweru â thanwydd ffosil yn ogystal â generaduron diesel wrth gefn sy'n llygru. A wnaiff y Gweinidog, felly, nodi pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i adolygu'r gofynion cynllunio ar gyfer canolfannau data, ac edrych yn benodol ar gais safle parcio a theithio dwyrain Caerdydd, fel nad yw cymunedau fel Llanrhymni yn talu'r pris cymdeithasol ac amgylcheddol tra bo'r elw'n mynd i rywle arall? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Yn anffodus, fedraf i ddim sôn am ddatblygiadau penodol mewn etholaethau penodol. Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau mewn meysydd fel yna, a phwy a ŵyr efo'r mater penodol yma, felly fedraf i ddim sôn yn benodol. Ond rydych chi'n dod â phwynt pwysig ymlaen ynglŷn â sut mae'n polisïau cynllunio ni, ein strategaethau ni, yn edrych ar faterion i wneud efo canolfannau data, sy'n mynd yn ôl at y pwynt roedd James Evans yn ei wneud—yr angen i fod yn edrych eto ar y prif fframwaith datblygu cenedlaethol, 'Future Wales'. Mae angen ei ddiwygio fo. Mae hon yn un enghraifft o pam, ac felly mae'r gwaith yna yn digwydd. Yn ystod ein 100 niwrnod cyntaf ni, mi fydd yna gyhoeddiad penodol ynglŷn â'r broses sydd angen digwydd efo hwnna. Mae yna broses benodol; fedrwn ni ddim jest eistedd i lawr a'i newid o. Mae'n rhaid mynd drwy broses, ac mi fyddwn ni'n cyhoeddi mwy am hynny yn ystod y 100 niwrnod cyntaf.
Mae ar Gymru angen mwy o dai. Rydych chi wedi dweud hynny heddiw, Weinidog, ond fe glywom ni yn y wasg dros y penwythnos ddatblygwyr a chymdeithasau tai yn sôn ei bod hi'n gallu cymryd rhwng tair a pum mlynedd i sicrhau caniatâd cynllunio.
Wrth ichi ddiweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru', a allwch chi gadarnhau eich bwriad, felly, i wneud y system gynllunio yn fwy caniataol fel y gallwn adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, ac yn wir, adeiladu'r datblygiadau diwydiannol sydd eu hangen ar Gymru? A wnewch chi ei gwneud yn fwy caniataol, neu a wnewch chi barhau i fentro gadael i'r frigâd 'nid-yn-fy-ardal-i' atal datblygiadau a gohirio datblygiadau sydd o fudd enfawr i'r cyhoedd?
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cytuno efo chi—mae angen cyflymu'r broses gynllunio, yn enwedig yn y maes tai. Dydy o ddim yn dderbyniol ei bod hi'n cymryd blynyddoedd weithiau i ddatblygiadau ddwyn ffrwyth. Felly, mae hi'n fwriad gen i i gyhoeddi yn ystod y 100 niwrnod cyntaf y byddwn ni'n gwneud galwad am dystiolaeth ar gyfer diwygio'r drefn gynllunio yn y maes tai yn benodol, er mwyn ceisio cael pobl broffesiynol—pobl fel chi sydd wedi bod yn arwain cyngor ac sydd yn deall ar lawr gwlad beth ydy'r rhwystrau cynllunio hynny—i ddod â thystiolaeth ymlaen, fel ein bod ni'n gallu mynd ati o ddifrif i ddiwygio 'Polisi Cynllunio Cymru' ac i'w wneud o'n fwy pwrpasol ac yn fwy cyflym ar gyfer anghenion ein cymunedau ni.
Mae yna ddwy Ddeddf wedi cael eu pasio ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf sydd yn dod â'r polisïau cynllunio ynghyd, a dwi'n meddwl bod hwnna yn ei hun yn mynd i fod yn help, ond dydy o ddim yn mynd hanner digon pell.
Cwestiwn 4 ar-lein, Weinidog. Becca Martin.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod caffael llywodraeth leol yn cefnogi busnesau Cymru ac yn gwneud y mwyaf o fanteision economaidd gwariant cyhoeddus yng Nghymru? OQ64389
Diolch yn fawr, ac mae hwn eto'n gwestiwn pwysig. Mae'r Lywodraeth yma eisiau ein gweld ni'n gallu mynd ymhellach nag ydyn ni ar hyn o bryd yn y maes yma, a rhoi mwy o hyblygrwydd i lywodraeth leol ddefnyddio caffael i gefnogi busnesau Cymru a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol. Dydy hwn ddim yn fy mhortffolio i'n uniongyrchol, ond dwi wedi chwilio am wybodaeth amdano fo. Felly, gobeithio y medraf i ateb eich ail gwestiwn chi.
Diolch, Weinidog. Mae A.N. Richards, cyflenwr Cymreig sefydledig yn Froncysyllte yn fy etholaeth, wedi cysylltu â mi, ac maent wedi codi pryderon ynghylch y defnydd cynyddol o fframweithiau caffael sydd wedi'u lleoli yn Lloegr gan awdurdodau lleol Cymru, a'r rhwystrau sy'n llywio swyddogion caffael tuag atynt. Dywed y cwmni fod porth caffael Lloegr, a ddefnyddir yn yr achos hwn ar gyfer prynu eu fflyd, yn haws ei ddefnyddio ac yn fwy effeithlon na'r porth cyfatebol yng Nghymru. O ganlyniad, gall swyddogion caffael gael eu denu at fframweithiau sydd wedi'u lleoli yn Lloegr, gan greu anfantais strwythurol i gyflenwyr Cymreig a thanseilio nod Llywodraeth Cymru o wneud y mwyaf o fudd economaidd gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae cynllun a defnyddioldeb systemau caffael Cymru yn ei chael ar benderfyniadau caffael awdurdodau lleol? A pha gamau y mae'n eu cymryd i wella llwybrau caffael sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a sicrhau bod mwy o wariant awdurdodau lleol yn cael ei gadw yn economi Cymru?
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn atodol yna, ac mae'r Gweinidog perthnasol newydd gerdded i mewn i'r Siambr. [Torri ar draws.] O, ti ydy o. O, da iawn. Mae'r Gweinidog cyllid, felly, wedi clywed eich cais chi, a dwi'n deall, ar ôl holi am wybodaeth, fod yna ddatganiad polisi caffael newydd yn mynd i fod yn cael ei gyhoeddi yn adlewyrchu'r cynllun uchelgeisiol i gynyddu gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Mae pethau wedi gwella, ac roedd yna Ddeddf caffael 2023, a basiwyd yn y Senedd yma, sydd wedi'i gwneud hi'n haws i fusnesau bach a chanolig gystadlu am gyfleoedd, ac i Fusnes Cymru, sy'n cynnig cymorth wedi’i deilwra i fusnesau Cymru i'w helpu nhw i ehangu, i dyfu a chryfhau, ac i ddeall y prosesau caffael cymhleth sydd yna. Ond dwi'n gwybod bod y Gweinidog cyllid yn awyddus iawn, fel ydw i, i fynd llawer iawn pellach o fewn ein grymoedd ni yn y Senedd yma. Felly, diolch.
Diolch am hynny ac yn amlwg mae'n debyg y bydd hyn yn mynd at y Gweinidog ariannol hefyd, felly rwy'n mynd i barhau, gan fod yr Aelod newydd barhau. Busnesau bach yw asgwrn cefn ein cymuned yng Nghymru, ond mae llawer ohonynt yn cael eu cau allan o gontractau'r sector cyhoeddus cyn i'r broses ddechrau hyd yn oed. Mae gan gwmnïau mawr dimau pwrpasol i ddelio â chaffael, gofynion cyfreithiol a dogfennau tendr hirfaith. Efallai y bydd gan fusnesau bach lleol un unigolyn sy'n ceisio gwneud hynny i gyd tra bydd hefyd yn rhedeg busnes o ddydd i ddydd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau i fwy o arian cyhoeddus aros yng Nghymru, rhaid iddi sicrhau bod busnesau lleol yn cael cyfle teg i gystadlu. Felly, fy nghwestiwn yw: pa gymorth ymarferol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i symleiddio'r broses gaffael a helpu busnesau o Gymru i gynnig yn llwyddiannus am gontractau awdurdodau lleol? Ac a wnaiff y Gweinidog gefnogi cyhoeddi ffigurau'r cynghorau fesul un i ddangos faint o wariant cyhoeddus sy'n cael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i fusnesau Cymru er budd tryloywder? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn yna ac am eich cefnogaeth chithau hefyd i gynyddu'r caffael cyhoeddus i fusnesau lleol. Mae rhywun yn gwybod bod yna waith i’w wneud yn y maes yma—gymaint o enghreifftiau lle dydy o ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Fel dwi'n dweud, mae pethau wedi gwella ychydig, ond araf ydy pace y gwella yna ers pasio'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn 2023. Mae'r Ddeddf yna yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i wella llesiant economaidd cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy gaffael, gan gynnwys ystyried mynediad ar gyfer busnesau bach a chanolig, a hefyd gwaith teg yn cael sylw yn y Ddeddf yna.
Ond, wrth gwrs, mae yna le i fynd, fel rydych chi'n dweud. Dwi hefyd yn gobeithio y bydd y strategaeth bwyd newydd yn cyfarch rhan o hwn, oherwydd mae cynhyrchu bwyd yn lleol a chreu cadwyni cyflenwi lleol ar gyfer y sector cyhoeddus hefyd yn ffordd o atgyfnerthu busnesau lleol a’r sector amaethyddol ac yn y blaen. Felly, mae yna nifer o wahanol faterion medrith dod ynghyd yn fan hyn, gan gynnwys hefyd, wrth gwrs, y gwaith y bydd yr awdurdod ddatblygu cenedlaethol newydd yn gallu ei wneud i gefnogi busnesau er mwyn teimlo eu bod nhw'n cael mynediad at y contractau yma sydd yn cael eu cynnig.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyrraedd ei thargedau tai cymdeithasol? OQ64420
Diolch yn fawr. Rydym ni eisoes yn cymryd camau drwy'r grant tai cymdeithasol a rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Mi fydd hyn yn mynd i'r afael â digartrefedd, yn lleihau dibyniaeth ar lety dros dro ac yn gwneud yn siŵr bod gan bobl ledled Cymru fynediad at gartrefi o safon sy'n effeithlon o ran ynni. Rydym ni hefyd yn sefydlu Unnos i gyflymu'r broses o ddarparu tai cymdeithasol ar draws Cymru.
Diolch, Weinidog. Yn dilyn yr hyn y mae ein llefarydd Reform eisoes wedi'i ddweud, hoffwn eich annog ymhellach i gael targedau blynyddol fel y gellir olrhain unrhyw gynnydd ar ddarparu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol hynny yn hawdd. Rydym i gyd yn gwybod na chafodd Rhufain mo'i hadeiladu mewn diwrnod, ond hoffem wybod faint o gartrefi a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru mewn blwyddyn.
Weinidog, ochr yn ochr â'r nodau i gael pobl i mewn i dai cymdeithasol cyn gynted â phosibl, roeddwn yn meddwl tybed a fydd y potiau o arian a roddir ar hyn o bryd i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i addasu hen stoc—hen stoc cyfredol—i ddiwallu galw ac anghenion y rhai sydd ar restrau aros presennol yn parhau.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n deall y pwynt ynglŷn â chael targedau blynyddol, ond yn aml mae yna waith yn gallu digwydd tua diwedd y cyfnod. Felly, fuasai roi targedau blynyddol rigid mewn ffordd, felly, yr un un targed bob blwyddyn, ddim yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa, achos dydy o ddim yn digwydd mewn ffordd linear. Yn aml iawn, mae'r broses yn cychwyn ac mae'r cyflymder yn digwydd tua diwedd y cyfnod. Ond mi wnaf i edrych i weld pa mor dryloyw—. Dwi eisiau bod yn dryloyw, a dwi am roi cymaint o wybodaeth i chi ag sy’n bosib. Dwi’n mynd i fod yn gofyn rŵan i fod yn rhan weithredol o rai o’r cyfarfodydd yma sydd yn digwydd efo’r gweision sifil imi gael deall yn union beth sydd yn mynd ymlaen.
Ac o ran y cymdeithasau tai yn dod â hen stoc i fyny i bwrpas, mae yna grant arall ar gyfer hwnna, yr optimised retrofit scheme, sydd yn llwyddiannus iawn yn gwella cyflwr ein tai cymdeithasol ni. Mae eisiau cyflymu hynny, ac mae eisiau hefyd gweld y stoc yn y sector preifat yn gallu symud ymlaen hefyd, fel bod ansawdd ein tai ni ym mhob man ac ar draws pob deiliadaeth yn gwella.
6. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at sefydlu rhaglen ôl-osod niwtral o ran deiliadaeth? OQ64397
Diolch yn fawr. Mae hwnna’n cario ymlaen yn daclus iawn o’r ateb diwethaf yna, achos mae yna gynnydd yn cael ei wneud, ac, yn sicr, yn ein maniffesto ni, byddwch chi'n cofio bod sefydlu rhaglen ôl-osod sydd yn niwtral o ran deiliadaeth yn hollbwysig. Felly, gobeithio bod hynny'n arwain at ail gwestiwn—dwi'n anghofio bod yna ail gwestiwn.
Rwy'n croesawu'n gynnes ymrwymiad Llywodraeth Cymru i raglen genedlaethol ar gyfer ôl-osod cartrefi. Mae tai da yn iechyd da. Bydd cartrefi wedi'u hinswleiddio'n well nid yn unig yn lleihau biliau ynni ac allyriadau carbon, maent hefyd yn gwella iechyd pobl ac yn lleihau'r pwysau ar y GIG. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gall mynd i'r afael ag oerfel gormodol yn unig yng nghartrefi Cymru arbed mwy na £40 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Hefyd, mae byw mewn cartrefi oer, llaith a llawn llwydni yn cynyddu'r risg o afiechydon anadlol, yn enwedig mewn plant a phobl hŷn. Felly, Weinidog Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y bydd rhaglen ôl-osod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu mynd i'r afael â lleithder, llwydni ac oerfel gormodol mewn cartrefi fel ei bod yn gwella iechyd y cyhoedd, yn lleihau'r pwysau ar y GIG ac yn lleihau biliau ynni i deuluoedd ledled Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Mae yna nifer o resymau, onid oes, pam mae hi’n bwysig inni fod yn gwella cyflwr ein tai ni. Un rheswm ydy er mwyn eu datgarboneiddio nhw er mwyn ein bod ni yng Nghymru yn cyfrannu llai drwy ein tai ni tuag at newid hinsawdd. Mae tai yn cyfrannu 11 y cant o allyriadau carbon yng Nghymru ar hyn o bryd, a dwi'n awyddus iawn i weld hynna yn gostwng, ac mae cael cynllun i datgarboneiddio tai yn hollbwysig. Ond mae manteision ynglŷn â biliau, costau biliau yn dod i lawr oherwydd ein bod ni'n gwneud ein tai yn fwy ynni effeithiol—mae'n bwysig i ni edrych ar hynny—ac mae hefyd tlodi tanwydd yn broblem yng Nghymru, so mae o'n mynd i fod yn ein helpu ni i daclo tlodi. Ond hefyd mae'r effaith ar iechyd yn hollbwysig, a dwi yn cael trafodaethau efo'r Dirprwy Weinidog ar waith ataliol, oherwydd, i fi, mae tai yn hollol ganolog i wella iechyd pobl, ac mi fedrwn ni wella deilliannau iechyd ein gwlad ni drwy roi ffocws clir ar wella cyflwr ein tai ni. Dwi'n mynd dydd Iau i weld—tŷ cymdeithasol ydy o—sut mae'r cynlluniau gwella wedi helpu teulu penodol yn y fanna, ac mi fyddaf i'n gwneud mwy o gyhoeddiadau ynglŷn â'r maes penodol yma hefyd yn y 100 diwrnod cyntaf.
Diolch. A'r cwestiwn olaf, Weinidog, Anna Nicholl.
7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Llywodraeth i adolygu'r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol? OQ64400
Diolch yn fawr. Mi wnes i drafod yr adolygiad penodol yma ar y fformiwla gyllido efo'r is-grŵp cyllid ar 8 Gorffennaf. Yr is-grŵp cyllid ydy'r is-grŵp o dan y WLGA sydd yn ymdrin â'r materion yma.
Diolch. Mae Ceredigion a sir Benfro ymysg yr awdurdodau mwyaf gwledig Cymru. Mae pobl yng Nghymru wledig yn wynebu costau byw uwch tra, yn aml, yn ennill cyflogau is, ac mae poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus sydd yn barod dan straen enfawr. Am rhy hir, mae cynghorau gwledig wedi gorfod gwneud mwy gyda llai. Nid yw'r fformiwla cyllid presennol yn adlewyrchu'r gwir gost o ddarparu gwasanaethau ar draws cymunedau gwledig gwasgaredig. Mae angen bargen deg ar gynghorau gwledig. A wnaiff y Gweinidog Cabinet, felly, ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau gwledig drwy gydol yr adolygiad fformiwla cyllid yma?
Gwnaf. Gwnaf i ymrwymo i weithio nid yn unig efo cynghorau gwledig, ond efo cynghorau ar draws Cymru—cynghorau trefol hefyd, oherwydd dwi yn hollol glir mai gwaith rydym ni'n ei wneud efo'n gilydd ydy hwn. Fel rydych chi'n sôn, mae'r agwedd wledig yn un bwysig, ond mae amddifadedd yn bwysig hefyd, ac, wrth gwrs, mae amddifadedd yn digwydd hefyd mewn ardaloedd gwledig.
Pwrpas yr adolygiad ydy ceisio gweld a oes angen newid, ac, os ydym ni'n mynd i newid, fod hynny'n adlewyrchu'n deg yr anghenion ar draws Cymru mewn gwahanol feysydd. Mae'r gwaith wedi dechrau ac, hyd yma, mae arweinwyr cyngor wedi bod yn rhoi mewnbwn adeiladol iawn i mewn i'r gwaith, ac mi fyddwn ni'n para efo'r gwaith. Mi fyddwn ni'n comisiynu adolygiad allanol i wneud yn siŵr bod y dystiolaeth yn gywir a bod y gwaith yn digwydd mewn ffordd sydd yn dryloyw ac i bawb gael deall beth sydd yn mynd ymlaen. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith yna hefyd. Byddan nhw'n edrych ar brofiadau mewn gwledydd eraill—yn ogystal â rhoi ffocws ar Gymru, byddan nhw'n edrych i weld sut mae fformiwlâu dosbarthu yn gweithio mewn gwledydd eraill. Diolch.
Diolch, Weinidog.
Symudwn ymlaen i gwestiynau amserol—Mair Rowlands.
1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar y tân gwyllt ym Mwlch Sychnant? TQ1484
Diolch yn fawr. Mae'r tân bellach dan reolaeth, a diolch i ymdrechion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r holl bartneriaid. Mae hyn yn ein hatgoffa ni o fygythiad newid hinsawdd a'r angen i bob gwasanaeth cyhoeddus addasu i hynny.
Diolch. Mae'r golygfeydd brawychus a gwelsom ar fynydd Conwy dros y penwythnos nid yn unig wedi cael effaith uniongyrchol ar drigolion, cymunedau, ffermwyr, busnesau lleol a byd natur, ond maent hefyd wedi codi cwestiynau difrifol ynglŷn â'r effaith gwirioneddol mae newid hinsawdd yn ei gael ar y blaned.
Hoffwn ddechrau drwy roi ar y cofnod unwaith eto fy niolch diffuant i'r gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol ac i gymunedau cyfagos am eu hymateb cyflym a phendant yn wyneb yr argyfwng dros y dyddiau diwethaf. Ddirprwy Lywydd, fel y soniais yn y Siambr ddoe, rwy'n falch bod y gwaethaf o'r argyfwng y tu ôl i ni erbyn hyn. Serch hynny, mae nifer o fy etholwyr yn dal i ofyn cwestiynau am beth fydd yr ymateb, rŵan, i'r difrod a'r heriau a grëwyd gan y tân gwyllt. Gwerthfawrogwn, felly, pe gallai'r Gweinidog Cabinet roi mwy o fanylion ar sut bydd Llywodraeth Cymru'n cydlynu ymdrechion gyda'r rhanddeiliad lleol i ddechrau ar y gwaith o ail-adfer y 200 erw o dir amaethyddol a choedwigol a ddifethwyd. Hoffwn hefyd wybod os bydd mesurau'n cael eu cyflwyno i warchod trigolion sydd gyda phroblemau anadlu a resbiradaeth yn sgil y difrod a wnaed i ansawdd aer yr ardal leol.
Ac yn olaf, bydd digwyddiadau'r penwythnos yn sicr wedi bod yn ergyd i ffermwyr a busnesau lleol. Byddwn yn gwerthfawrogi, felly, pe gallai'r Gweinidog sôn am unrhyw gymorth fydd ar gael i'w cefnogi nhw. Ac fel y dywedais ynghynt, dylem ni i gyd yn y Siambr hon fod yn bryderus o'r hyn mae digwyddiadau ar fynydd Conwy, ynghyd â digwyddiadau tebyg yng nghoedwig Braichmelyn ym Methesda, yn ei ddweud wrthym am fygythiad dirfodol newid hinsawdd. Roeddwn yn falch o glywed y Trefnydd yn cytuno ddoe fod angen cynllun mwy cynhwysfawr yn ei le ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Gwerthfawrogwn, felly, pe gallai'r Gweinidog Cabinet ymhelaethu ychydig ar ba fesurau bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i atal digwyddiadau tebyg rhag bod yn gyffredin ar draws Cymru, a sicrhau ein bod ni wedi paratoi gymaint â phosib, os ydy digwyddiadau fel hyn yn codi yn y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am ddod â'r mater yma gerbron y Senedd. Mae rhywun yn meddwl am y bobl gafodd eu heffeithio gan y tân yma. Dwi ond yn gallu dychmygu gymaint o ofn roedden nhw'n byw ynddo fo yn ystod y cyfnod yna pan oedd y fflamau yn rhuo ar y mynydd ym Mhenmaenmawr, ardal dwi'n gyfarwydd iawn â hi. Mi fu'n rhaid i 36 o aelwydydd adael eu cartrefi yn ystod y gwaith diffodd y tân, ond yn lwcus mi oedd modd iddyn nhw fynd yn ôl adref nos Lun. Mi wnaeth cyngor Conwy ddarparu llety dros dro i'r rhai oedd ei angen, felly rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i gyngor Conwy am eu gwaith nhw ac yn ddiolchgar i Gyfoeth Naturiol Cymru, ond wrth gwrs i'r gwasanaeth tân. Mae ymladd tanau gwyllt yn waith hynod o anodd a pheryglus, ac mae eisiau talu teyrnged i holl ddiffoddwyr tân y gogledd a'r asiantaethau partner sydd wedi gweithredu mor gyflym i ymateb i'r digwyddiad yma a chadw pobl a chymunedau yn ddiogel.
Rydych chi'n holi pa gefnogaeth gall Llywodraeth Cymru ei rhoi. Wel, wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio efo'r partneriaid lleol. Y cyngor sir ydy'r lle cyntaf, debyg, i fod yn deall beth ydy'r problemau sydd efallai'n parhau rŵan oherwydd beth sydd wedi digwydd, a hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn ag adfer y tir ac unrhyw waith sydd angen digwydd o ran yr ochr natur o bethau. Ond rydych chi'n iawn, mae hwn yn ein dychryn ni ac yn gwneud i ni sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa o ran yr hinsawdd, yr argyfwng natur a hinsawdd rydyn ni'n wynebu yma. Dwi ddim yn meddwl y medrith neb ddechrau bod yn gwadu bod hwnna yn real iawn. Rhwng y tanau yma, rhwng y gwres llethol yma, sydd hefyd yn effeithio pobl mewn ffyrdd sydd yn negyddol iawn, mae'n rhaid i ni yn wirioneddol daclo'r argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yng Nghymru.
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddilyn ôl troed Llywodraeth yr Alban a datblygu cynllun gweithredu strategol i fynd i'r afael â bygythiadau tanau gwyllt cynyddol yng Nghymru?
Diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n falch bod—.
Dwi'n falch eich bod chi yn poeni yr un fath â fi am y twf mewn tanau gwyllt, nid yn unig yn eich etholaeth chi ond ar draws Cymru. Mae'r Cabinet, y Llywodraeth, yr wythnos yma wedi bod yn trafod ein cynllun carbon ni fel Llywodraeth, sut ydyn ni yng Nghymru yn mynd i fod yn cyfrannu tuag at y dasg anferth, nid yn unig o daclo newid hinsawdd ond o liniaru ac addasu, fel rydych chi'n sôn. Dwi ddim yn siŵr beth mae'r Alban wedi'i wneud yn union, ond yn sicr mi fyddwn ni'n edrych ar hynny.
Diolch, Mair, am roi eich cwestiwn i mewn. Fe wnaethom gyflwyno cwestiwn brys ein hunain, y Ceidwadwyr Cymreig, y peth cyntaf fore Llun; rywsut mae'n ymddangos bod hwnnw wedi'i wrthod. Ond rwy'n falch eich bod chi wedi cyflwyno un hefyd. Felly, hoffwn gymeradwyo'r holl ddiolchiadau sydd wedi'u gwneud: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac asiantaethau partner eraill. Achubodd eu hymateb anhygoel o gyflym lawer mwy o erwau.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i drigolion lleol a adawodd eu cartrefi'n gyflym, ond a wnaeth yr hyn a allent hefyd i geisio helpu. Gallai fod wedi bod yn llawer mwy difrifol, er ei fod yn anhygoel o ddifrifol ynddo'i hun. Ein ffermwr, Gareth Wyn Jones, y bu'n rhaid iddo fynd ei hun mewn gwres tanllyd i geisio achub moch o'r ucheldiroedd. Rhaid bod cwestiynau nawr yn sgil yr effaith a gafodd hyn ar drigolion lleol a orfodwyd i adael eu cartrefi, ac sy'n gofyn sut y gallwn eu cefnogi, oherwydd mae'n brofiad brawychus. Bu'n rhaid i bobl adael 36 o gartrefi, gydag un teulu'n nodi bod y tân yn eu dreif, ac fe effeithiwyd ar 200 erw o dir.
Rhaid i bawb ohonom fod yn ofalus. Tybed a allai negeseuon fynd allan ar ffurf graffeg neu rywbeth. Wyddoch chi, dim ond gwydr sydd ei angen arnoch? Os ydych chi'n cario gwydr clir ar laswellt poeth, sych, gall droi'n dân yn hawdd. Nid sigarét wedi'i diffodd yn llawn: ni ddylem fod yn cael pobl, wyddoch chi—. Gallant gynnau tân yn anfwriadol, gan arwain at ddifrod sylweddol a rhoi bywydau mewn perygl.
Roedd yn ymgyrch a gostiodd lawer mewn adnoddau ac arian i'r holl asiantaethau partner. Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n gofyn yw: a fyddwch chi'n darparu adnoddau nawr yn sgil hyn? A fyddwch chi'n cysylltu â'r asiantaethau partner i weld sut y gall eich Llywodraeth eu cefnogi'n ariannol? Ond mae angen cynllun strategol arnom hefyd. Nid wyf yn hoff o gynlluniau strategol, ond mae angen rhywbeth arnom, oherwydd gallai hyn ddigwydd eto. Nid ydym ond hanner ffordd drwy'r haf; gallai hyn ddigwydd eto ac eto, ac rwyf am fod yn siŵr nad yw'r holl asiantaethau partner a'r gwasanaethau achub yn brin o gyllid mewn unrhyw ffordd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Janet, a dwi'n cyd-fynd efo chi. Y teulu yna lle roedd y tân yn agos iawn at eu cartref nhw, roedd hynny yn ddychrynllyd iawn, onid oedd? Mae'n rhy gynnar i wybod ar hyn o bryd beth wnaeth achosi'r tân penodol yma ar y mynydd ym Mhenmaenmawr. Fel arfer, mae'r tanau yma yn digwydd yn gynt yn y flwyddyn, onid ydyn? Maen nhw'n digwydd rhwng mis Mawrth a mis Mai, ond maen nhw yn gynyddol yn digwydd yn yr haf, sydd eto yn arwydd o'r newid hinsawdd sydd yn digwydd. Ac mi ydych chi'n iawn, dwi'n meddwl bod eisiau i ni gael y neges yna allan, bod eisiau i bobl fod yn hynod ofalus wrth ddefnyddio barbeciws, wrth daflu pennau sigaréts, wrth adael gwydr ar ôl—mae gwydr yn gallu tanio pan fydd haul arno fo, ac yn gallu lledaenu ar draws y llystyfiant sydd yn sych iawn yr adeg yma o'r flwyddyn, a dydyn ni ddim wedi cael fawr ddim glaw. Felly, fel roeddwn i'n dweud, mae eisiau i ni wirioneddol feddwl ein bod ni'n blaenoriaethu taclo'r newid hinsawdd, a'n bod ni'n meddwl am y lliniaru a'r addasu sydd angen digwydd i ni i gyd yn ein bywydau ni. O ran y gefnogaeth a'r cymorth ariannol, mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn siarad efo'r asiantaethau i gyd rŵan i weld lle'n union y medrwn ni fod yn helpu, beth yn union ydy goblygiadau y tân sydd wedi digwydd.
Diolch, Weinidog. A'r ail gwestiwn, Lynne Neagle.
2. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar y Dyfarniad Cyflog Athrawon 2026-27? TQ1485
Fe wneuthum ddatganiad ysgrifenedig ddydd Llun, yn cyhoeddi fy mwriad i ymgynghori ar ôl gwyliau'r haf ar ddyfarniad cyflog o 3.5 y cant i athrawon ac arweinwyr, a dyfarniad cyflog o 5 y cant i athrawon heb gymhwyso. Byddaf yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i weithredu'r dyfarniad cyflog.
Diolch. Fel rydych chi wedi nodi, fe wnaethoch y datganiad ysgrifenedig hwnnw ddydd Llun, gan gyhoeddi y byddech chi'n ymgynghori o fis Medi. Mae hyn yn hwyrach nag y byddai rhanddeiliaid yn ei hoffi. Fel y gwyddoch, cafwyd ymrwymiad o'r blaen i ymgynghori cyn gwyliau'r ysgol, fel y gall athrawon gael eu codiad cyflog cyn gynted â phosibl, ond rwy'n croesawu eich ymrwymiad i ddechrau'r broses yn gynharach yn y blynyddoedd i ddod.
Fel y trafodwyd ddoe, mae Llywodraeth Cymru bellach mewn anghydfod cyflog gyda'r ddau undeb arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru, gyda chyflog yn ogystal â chyllid anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu nodi fel rhesymau dros yr anghydfod. Roedd yn bryderus iawn gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn syth ar ôl y ddadl ddoe, yn dweud na fyddai arian ar gyfer ADY, er y gallai Llywodraeth Cymru ddyrannu'r arian hwnnw, fel y maent yn ei wneud gyda'u blaenoriaethau nhw. Ond mae'n hollbwysig nawr fod y Llywodraeth yn trafod gydag undebau llafur er mwyn atal gweithredu diwydiannol yn yr hydref.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog Cabinet pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr anghydfod hwn sy'n canolbwyntio ar gyflogau ac ADY yn cael ei ddatrys ar frys?
Os caf gymryd y pwynt ar amseriadau'r dyfarniadau cyflog yn gyntaf: fe fyddai wedi bod yn haws ymgynghori ar adeg gynharach. Efallai ei bod wedi sylwi bod etholiad wedi bod. Roedd yna gyfnod pan na allai'r ymgynghoriadau hyn fod wedi mynd rhagddynt, a dyna'n union pam y gwneuthum y cyhoeddiad ar y dyfarniad cyflog o 3.5 y cant i athrawon a 5 y cant i athrawon heb gymhwyso, oherwydd mewn sylwadau i mi, roeddent yn dweud yn glir iawn mai arwydd cynnar—gan gyfaddef y byddai angen i'r ymgynghoriad ddigwydd yn yr hydref nawr—sicrwydd cynnar, a sicrwydd cynnar i lywodraeth leol y byddai cyllid ar gael i dalu am y codiadau cyflog hyn, oedd dymuniad y gweithlu. Dyna pam y gwneuthum y datganiad ar y pwynt hwnnw.
Ar ADY, rwy'n credu ein bod yn ailadrodd sgwrs a gawsom ddoe. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau cyllidol ar lywodraeth leol ac ar ysgolion, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y rheini'n sgyrsiau parhaus. Ar ADY yn benodol, yr hyn roeddem yn bwriadu ei wneud, mewn sgwrs gyda chi—ac roeddwn i'n meddwl ein bod yn siarad am yr un peth, sef sut i gyrraedd model cynaliadwy ar gyfer ADY. Ers nifer o flynyddoedd, mae wedi bod yn amlwg nad dyna lle rydym ni. Dywedir wrthym yn gyson, gan rieni, teuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol, fod y system bresennol yn wynebu anawsterau sylweddol, ac ar y sail honno y gwnaethom gyflwyno dadl dros £40 miliwn eleni, £40 miliwn y flwyddyn nesaf ac o leiaf £40 miliwn yn y drydedd flwyddyn, er mwyn dod â ni at bwynt lle byddai gennym system ADY gynaliadwy y gallem fod yn falch ohoni. Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn hynny ddoe.
Ar yr anghydfod ei hun, roeddwn yn amlwg yn siomedig o dderbyn llythyr gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, yn cofnodi'r anghydfod yn ffurfiol, o ystyried ein bod wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd a fy mod i wedi bod yn ymrwymedig i'r bartneriaeth gymdeithasol nawr a thrwy gydol fy ngyrfa. Ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen yn gyflym i ddatrys y materion hyn. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r bartneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n ystyried y materion a'r ymateb ar hyn o bryd.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog fod gwella canlyniadau addysgol yn galw am ymgysylltu ystyrlon ag athrawon, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u clywed. Mae'n eironig braidd nad oeddent yn denu'r un lefel o graffu pan gafodd codiadau cyflog tebyg eu cynnig i athrawon mewn blynyddoedd blaenorol, o dan Lywodraethau blaenorol. Ers gormod o amser, mae Cymru wedi wynebu heriau parhaus gyda chadw athrawon. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chodi safonau, rhaid inni weithio mewn partneriaeth go iawn â'n gweithlu addysg. Mae athrawon yn ganolog i'n system addysg a dylent allu canolbwyntio ar addysgu a chefnogi dysgwyr, yn hytrach na chael eu llethu gan bwysau diangen. Felly, Weinidog, ar adeg pan fo athrawon yn wynebu galwadau a disgwyliadau cynyddol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag athrawon, undebau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y proffesiwn yn cael ei gefnogi'n briodol, fod lles athrawon yn cael ei flaenoriaethu ac y gall ysgolion ddenu a chadw'r staff sydd eu hangen arnynt?
Diolch yn fawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y gwerth a roddwn ar y proffesiwn addysgu, ac rydym yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth. Mae gennyf berthynas yn barod gydag athrawon ac arweinwyr ysgolion ledled Cymru, ac rwyf mewn deialog gyson â nhw yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ac mae gennym lawer iawn yr ydym am ei wneud gyda'n gilydd o ran llwyth gwaith, cadw a recriwtio athrawon, y syniadau sydd gennym ar lythrennedd a rhifedd ac eglurder disgwyliadau, gan edrych ar y cwricwlwm. Mae'r rhain yn bethau y mae'r proffesiwn addysgu wedi'u croesawu, ac mae'n ddeialog barhaus a fydd yn cyffwrdd â'r holl feysydd y soniodd yr Aelod amdanynt. Bydd yn cynnwys yr undebau a mewnbwn mor eang â phosibl gan y bobl sy'n cyflawni ar lawr gwlad ac sy'n bwysig i ni.
Fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn uniongyrchol am yr heriau sy'n wynebu ein hysgolion a'r ymrwymiad aruthrol a ddangoswyd gan athrawon ac arweinwyr ysgolion ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Wrth gwrs, mae cefnogi athrawon yn hanfodol, ac mae cyflog teg yn rhan bwysig o hynny, ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod bod y pwysau sy'n wynebu'r proffesiwn yn mynd ymhell y tu hwnt i dâl yn unig. Mae llwyth gwaith, recriwtio a chadw, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a'r gofynion cynyddol a roddir ar ysgolion i gyd yn mynnu sylw. Nodaf fod Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, undeb yr arweinwyr ysgolion, a'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, sydd ei hun yn un o gyn-arweinwyr Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, i gofnodi anghydfod yn ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r setliad cyflog, ochr yn ochr â phryderon ynglŷn â chyllid ADY. Yr hyn sy'n ei wneud yn arbennig o arwyddocaol yw nad yw'r naill undeb na'r llall wedi bod mewn anghydfod ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru o'r blaen; mae'r rhain yn amgylchiadau digynsail. Felly, a all y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ailadeiladu consensws gyda'r undebau hyn, datrys y materion sydd wedi arwain at yr anghydfod hwn, a pha gamau pellach y gellir eu cymryd i gefnogi athrawon ac arweinwyr ysgolion ledled Cymru?
Diolch, ac rwy'n siŵr y bydd y cyn-Weinidog yn ddiolchgar am eich cefnogaeth. O ran yr anghydfod, rwy'n awyddus i'w ddatrys cyn gynted â phosibl, fel y dywedais yn gynharach, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda nhw. Rwy'n credu bod tir y gallwn adeiladu arno yma ac rwy'n benderfynol o ddatrys y mater cyn gynted ag y gallaf.
Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am gyflwyno'r eitem hon yma heddiw. Fel y gwyddoch, Weinidog Cabinet, mae ysgolion ledled Cymru yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio fwyfwy o ran cyllid. Ac wrth gwrs, rydych chi eisoes wedi nodi'r heriau difrifol o ran cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gyda llawer o ysgolion yn ei chael hi'n anodd darparu'r gefnogaeth y mae dysgwyr yn ei haeddu.
Rydych chi wedi sôn eto am y cynnig o £40 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru. Ond gadewch inni beidio ag anghofio, neithiwr, fod y Senedd hon wedi gwrthod hynny fel opsiwn, gan fod y Senedd hon yn credu nad oedd hynny'n ddigon i gefnogi ADY ledled Cymru. A nawr, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru unwaith eto'n amharod i ddarparu'r dyfarniad cyflog a argymhellir i athrawon. Mae hyn yn ategu'r pwynt eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio. Weinidog Cabinet, ni allwn fentro cael streic yn yr hydref oherwydd y sefyllfa hon.
Rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn anfon y neges anghywir at broffesiwn sydd eisoes yn teimlo'r pwysau aruthrol hwnnw. Mae athrawon, fel y disgrifiwyd eisoes gan eich cyd-Aelod o Blaid Cymru, yn ganolog i'n system addysg, ac mae risg wirioneddol y bydd y mater cyffredinol hwn ynghylch cyllid yn effeithio ar recriwtio a chadw athrawon, ac yn y pen draw, ar ganlyniadau i'n plant a'n pobl ifanc.
Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r ffordd y mae arweinwyr ysgolion yn gorfod rheoli'r sefyllfa hon ar hyn o bryd, ac rwy'n datgan buddiant fel llywodraethwr ysgol fy hun. Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn gorfod rheoli cyllidebau sydd o dan bwysau, ac os bydd ysgolion yn gorfod pontio'r bwlch ariannu eu hunain, y plant fydd teimlo effaith hynny yn y pen draw. Felly, Weinidog Cabinet, a allwch chi egluro pa sicrwydd y gallwch ei roi i benaethiaid a chyrff llywodraethu na fydd yn rhaid iddynt ddewis rhwng talu eu staff yn deg ac yn briodol a diogelu'r gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion?
Diolch. Rwy'n credu ein bod wedi trafod y rhesymau pam y bydd cyllid ADY eleni yn anodd yn y cyd-destun penodol hwn, ond rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog cyllid ar adeiladu'r system ADY gynaliadwy y gwnaethom ymrwymo iddi yn ein maniffesto ac y gwn fod cefnogaeth iddi ledled Cymru.
Ar gyllid ysgolion yn fwy cyffredinol, rhan o'r cyhoeddiad a wneuthum ddydd Llun ar y dyfarniad cyflog oedd y byddem yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol fel na fyddai hynny'n bwysau ychwanegol ar gyllidebau ysgolion. Ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod arweinwyr ysgolion a'r gweithlu ysgolion ehangach yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'n bod fel Llywodraeth yn ymgynghori â nhw, ac rwy'n bwriadu parhau yn yr ysbryd hwnnw.
Diolch, Weinidog.
Symudwn nawr at eitem 4, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Llŷr Powell.
Diolch, Lywydd. Cefais fy nhristau a fy synnu dros y penwythnos wrth glywed am farwolaeth y Gwir Anrhydeddus Ann Widdecombe. Nid wyf am wneud sylwadau heddiw ar yr amgylchiadau, ond fe wnaf ei dathlu fel unigolyn.
Roedd Ann yn Aelod Seneddol dros Maidstone am 23 mlynedd. Gwasanaethodd yn Llywodraeth y DU, gan wasanaethu'r wlad yr oedd yn ei charu fel y Gweinidog Gwladol dros gyflogaeth a Gweinidog Gwladol dros garchardai. Daeth Ann yn Aelod o Senedd Ewrop dros Dde-orllewin Lloegr yn 2019. Yn ei geiriau hi, roedd yno i sicrhau bod y bleidlais ddemocrataidd fwyaf y mae'r Deyrnas Unedig wedi'i chael yn cael ei gwireddu, ac fe'i gwthiodd drwodd. Daeth yn drysor cenedlaethol annhebygol drwy ei hymddangosiadau ar Strictly Come Dancing. Bu ar Big Brother. Ymddangosodd mewn sawl pantomeim ledled y wlad yn y tymhorau pantomeim, ac fe ymddangosodd mewn cynhyrchiad yn y Tŷ Opera Brenhinol hyd yn oed.
Roedd yn ymgyrchydd ymroddedig dros achosion anifeiliaid. Aeth Ann yn erbyn ei phlaid ei hun a'i ffrindiau pan oedd yn ddi-flewyn-ar-dafod ei chefnogaeth i'r gwaharddiad ar hela llwynogod, gan honni ei bod yn anfoesol peidio â'i gefnogi. Safodd o blaid anifeiliaid fel asynnod a'u lles. Ymladdodd dros wahardd defnyddio anifeiliaid mewn syrcasau. Dangosodd Ann i ni y gallech fod yn Geidwadwr go iawn, ceidwadwr 'c fach', ond y gallech chi hefyd sefyll dros eich egwyddorion, gallwch fynd yn erbyn eich plaid. Mewn teyrngedau, rydym wedi clywed bod Ann yn rebel; mae'n wir. Roedd yn eofn mewn dadl, roedd ganddi galon garedig, roedd yn driw i'w ffydd bob amser.
Cefais y pleser o gyfarfod ag Ann yn 2019. Roedd yn gyfeillgarwch rwy'n ei drysori'n fwy nag unrhyw beth. Cerddais strydoedd Glynebwy gyda hi, lle gwelais fenywod yn gadael salon trin gwallt a bar ewinedd yn gyflym i gael hunlun gyda seren Strictly Come Dancing, Ann Widdecombe. Ni ddeallai sut roedd hi'n seren—gwelai ei hun yn syml fel Ann. Dyna'r unigolyn roeddwn i'n ei hadnabod bob tro y byddwn yn ei chyfarfod. Mae'n golled i'r wlad hon, i'n plaid ac i Brydain gyfan. Byddwn ni ar y meinciau hyn, ac ar draws y Siambr, gobeithio, yn talu teyrnged i'w theulu ac i'r unigolyn y gwelwn ei cholli'n fawr. Gorffwys mewn hedd, Ann.
Yn dilyn digwyddiad Cofio Srebrenica ddydd Iau, a fynychwyd gan Aelodau ar draws y Senedd hon, cymerwn saib i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr hil-laddiad Srebrenica. Mae thema eleni, 'Rydym yma', yn ein hatgoffa, er bod yr hil-laddiad wedi ceisio dileu poblogaeth gyfan, fod y goroeswyr yn parhau gydag urddas, dewrder a chryfder, ac mae eu straeon yn parhau i addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn cofio'r 8,372 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd a lofruddiwyd yn nhref Srebrenica yn unig. Rydym yn cofio'r mwy na 100,000 o bobl a lofruddiwyd ledled Bosnia a Herzegovina. Rydym yn cofio'r 2 filiwn o bobl a orfodwyd o'u cartrefi. Ac rydym yn cofio'r mwy na 50,000 o fenywod a fu'n ddioddefwyr treisio hil-laddol rhwng 1992 a 1995. Oherwydd y tu ôl i bob rhif, gwyddom fod enw, bywyd a gollwyd a theulu a newidiwyd am byth.
Rydym hefyd yn cydnabod gwaith hanfodol Cofio Srebrenica Cymru. Mae buddsoddiad parhaus mewn addysg, gan gynnwys cymorth ar gyfer mwy o ymweliadau gan ysgolion a cholegau â Bosnia a Herzegovina, yn hanfodol i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu'r gwersi hyn ac yn helpu i wireddu uchelgeisiau ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Fel y dywedodd Ei Fawrhydi y Brenin Charles III yn ei eiriau ei hun, drwy gofio poen y gorffennol a dysgu ei wersi, gallwn sicrhau gyda'n gilydd nad yw byth yn digwydd eto.
Wrth inni edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod y Garreg Las i Lantwd, sir Benfro, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i'r ŵyl arbennig yma. Ymhen pythefnos, byddwn unwaith eto yn dathlu a chlodfori ein diwylliant, ein hanes a'n cymunedau lleol, a fydd yn cael eu harddangos ar lwyfan cenedlaethol i Gymru gyfan.
Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r holl bobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau lleol sydd wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r Eisteddfod hon. Mae eu hymrwymiad a'u gwaith caled wedi bod yn allweddol i lwyddiant y paratoadau. Gosodwyd targed o £400,000, ac fe wnaeth cymunedau sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin sir Gâr chwalu'r targed, gan godi dros £500,000—mwy o arian nag unrhyw Eisteddfod Gen erioed, tystiolaeth glir o gryfder ein cymunedau a'n cefnogaeth i'r Gymraeg a'n diwylliant.
Mae hefyd wedi bod yn bleser gweld y dathliadau sydd wedi tynnu sylw at arwyddocâd hanesyddol yr Eisteddfod hon, yn enwedig wrth inni gofio am yr Arglwydd Rhys, a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf yng nghastell Aberteifi 850 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n fraint gallu croesawu'r Eisteddfod nôl adre i Geredigion Penfro, a dwi'n edrych ymlaen at groesawu holl Aelodau'r Senedd i'r maes yn wythnos gyntaf Awst. Diolch.
Hoffwn i longyfarch a dathlu pen-blwydd yr elusen BAWSO yn 30 mlwydd oed. Am dri degawd, mae BAWSO wedi bod yn cefnogi pobl ledled Cymru ar rai o achlysuron mwyaf anodd eu bywydau.
Wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd gan grŵp bach o fenywod du a lleiafrifiedig, roedd BAWSO yn cydnabod bod angen gwasanaethau ar oroeswyr cam-drin domestig a oedd yn deall eu profiadau a'r rhwystrau a wynebwyd ganddynt wrth geisio cymorth. Maent wedi tyfu o ystafell wedi'i rhentu gyda dim ond desg, cadair a ffôn i sefydliad ar draws Cymru gyfan sy'n cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gyda llinell gymorth am ddim sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Mae BAWSO yn aml wedi arwain y ffordd ar fynd i'r afael â materion fel priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, ymhell cyn i lawer o'r materion hyn gael y sylw roeddent yn ei haeddu.
Wrth i BAWSO ddathlu eu pen-blwydd yn 30 oed, hoffwn ddiolch i'r staff, y gwirfoddolwyr a'r ymddiriedolwyr am bopeth a wnânt. Hoffwn gydnabod yn arbennig gyfraniad eu prif weithredwr sefydlol, Mutale Merrill, a'u prif weithredwr presennol, Samsunear Ali, dwy y gweithiais yn agos gyda nhw dros y blynyddoedd. Rwy'n deall y bydd digwyddiad gala i ddathlu yn cael ei gynnal ddydd Gwener, ac rwy'n siŵr fod croeso mawr i bob un ohonom yno. Diolch.
Ac yn olaf, Rebeca Phillips.
Diolch, Lywydd. Ganwyd Gaynor Hopkins ar 8 Mehefin 1951 yn Sgiwen, Castell-nedd, yn un o chwech o blant i'w thad, Glyndwr Hopkins, glöwr, a'i mam, Elsie Hopkins. O'i gwreiddiau syml, daeth yn adnabyddus ledled y byd am ei llais cras nodweddiadol, ei gyrhaeddiad emosiynol aruthrol a'i hanthemau bytholwyrdd. Oedd, roedd Bonnie Tyler yn arwres. Gyda'i chaneuon adnabyddus fel 'Total Eclipse of the Heart' a 'Holding Out for a Hero', aeth Bonnie Tyler yn ei blaen i werthu miliynau o recordiau ledled y byd. Yn fwy na chantores yn unig, roedd Bonnie yn llysgennad i lawer o elusennau, a defnyddiodd ei phroffil byd-eang i'w hyrwyddo, gan gefnogi achosion ac ymddangos mewn digwyddiadau elusennol. Gan ddweud unwaith, 'Dim ond merch o dref fach yng Nghymru ydw i sy'n caru canu', nid anghofiodd ei gwreiddiau yn Sgiwen erioed. Yn anffodus, ar 9 Gorffennaf 2026, yn 75 oed, clywsom am farwolaeth y gantores. Rydym yn cydymdeimlo gyda'i theulu, ei ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei marwolaeth.
Diolch i ti, Bonnie, am fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd gyda dy dalent a dy garedigrwydd, ac am ddangos i'r genhedlaeth newydd fod breuddwydion yn bosib. Cwsg mewn hedd.
Diolch, bawb.
Symudwn nawr at eitem 5, cynnig i sefydlu pwyllgor y Llywydd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Paul Davies.
Cynnig NDM9289 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18.B4, yn ethol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd:
a) Y Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor;
b) Sam Rowlands (Cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac
c) Marc Jones (Plaid Cymru), Stephen Senior (Reform UK), Jayne Bryant (Llafur Cymru) ac Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), pobl ifanc a chyflogaeth. Galwaf ar Shav Taj i gyflwyno'r cynnig, a gyflwynwyd yn ei henw hi ac yn enwau Jane Dodds a Paul Rock.
Cynnig NDM9247 Shav Taj [R], Jane Dodds, Paul Rock
Cefnogwyd gan Anna Nicholl, Jayne Bryant, Ken Skates, Kiera Marshall, Lynne Neagle, Mike Hedges, Vikki Howells, Zaynub Akbar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod gormod o bobl ifanc yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau i gael mynediad at gyflogaeth ddiogel â chyflog da ac o ansawdd uchel, gan gyfrannu at allfudo, anweithgarwch economaidd ac anghydraddoldeb o ran cyfleoedd.
2. Yn cydnabod Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at sicrhau bod pob person ifanc rhwng 16 a 24 oed yn gallu cael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu hunangyflogaeth, tra'n cydnabod nad yw canlyniadau bob amser yn arwain at waith parhaus o ansawdd da.
3. Yn cydnabod bod Cymru'n lle deniadol i fyw, astudio a gweithio, gyda llawer o bobl ifanc yn dewis aros ac adeiladu eu dyfodol yma, ond yn nodi gyda phryder bod Cymru'n parhau i golli gormod o bobl ifanc i gyfleoedd mewn mannau eraill oherwydd bylchau o ran argaeledd ac ansawdd swyddi.
4. Yn cydnabod bod llawer o bobl ifanc yn profi cyflogaeth ansicr, cyflog isel a dilyniant cyfyngedig, a bod lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs) yn parhau i fod yn uchelgais allweddol, a bod angen cynnydd pellach.
5. Yn cydnabod bod rhai grwpiau o bobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor fel tiwmorau ar yr ymennydd, gofalwyr ifanc, a'r rhai o gefndiroedd incwm is yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gael mynediad at gyfleoedd, ac na ddylid penderfynu ar fynediad at gyflogaeth o ansawdd da drwy loteri cod post.
6. Yn cydnabod pwysigrwydd creu swyddi o ansawdd da gyda chyflog teg, diogelwch, dilyniant a chyfle yn sgil trawsnewidiadau economaidd, gan gynnwys symud i sero net a buddsoddi mewn sectorau twf, er mwyn ehangu cyfleoedd i bobl ifanc.
7. Yn nodi'r ymrwymiadau i greu swyddi ar gyfer y dyfodol ac i ehangu cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau, ac yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y rhain yn cael eu troi'n swyddi hygyrch o ansawdd uchel i bobl ifanc ar draws pob rhan o Gymru.
8. Yn nodi camau Llywodraeth y DU i ehangu cyfleoedd i bobl ifanc, gan gynnwys rhaglenni cyflogaeth a sgiliau a buddsoddiad ehangach fel y Cynllun Cartrefi Cynnes sydd â photensial sylweddol i greu swyddi mewn sectorau gan gynnwys adeiladu, ôl-osod ac ynni glân.
9. Yn nodi, gyda phryder, anghydraddoldebau rhanbarthol o ran mynediad at gyflogaeth, darpariaeth sgiliau a thrafnidiaeth, sy'n effeithio yn arbennig ar bobl ifanc mewn cymunedau gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol.
10. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r broses o gyflawni'r Warant Pobl Ifanc i sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfleoedd ystyrlon sy'n arwain at gyflogaeth ddiogel a chyflog da;
b) nodi uchelgeisiau clir ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gyda ffocws ar ddilyniant a chanlyniadau hirdymor;
c) hyrwyddo gwaith teg a gwella ansawdd swyddi ar draws rhaglenni cyflogaeth a sgiliau a ariennir yn gyhoeddus;
d) alinio rhaglenni cyflogaeth a sgiliau Cymru â mentrau ehangach y DU i wneud y mwyaf o gyfleoedd a buddsoddiad yng Nghymru;
e) amlinellu sut y bydd yn creu a chefnogi llwybrau i bobl ifanc i sectorau twf, gan gynnwys diwydiannau gwyrdd, ôl-osod tai, gweithgynhyrchu uwch a'r economi gofal;
f) ehangu mynediad at brentisiaethau o ansawdd uchel a llwybrau galwedigaethol sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd hirdymor;
g) sicrhau bod rhaglenni cyflogaeth, sgiliau a chymorth i bobl ifanc yn gynhwysol ac yn hygyrch, gan gynnwys cymorth wedi'i deilwra i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol; a
h) mabwysiadu dull cryf cydgysylltiedig ar draws polisi economaidd, tai, addysg a thrafnidiaeth i sicrhau y gall pobl ifanc adeiladu dyfodol sy'n werth aros amdano yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n tynnu fy siaced, mae'n boeth ofnadwy. Diolch, Lywydd. Roeddwn eisiau dweud fy mod yn falch iawn o wneud y cynnig hwn heddiw. Dyma fy nadl Aelod unigol gyntaf, ac rwy'n falch iawn ei bod ar y mater hwn, gan ei fod yn fater mor fawr. Rwy'n falch iawn fod y cynnig wedi'i gyd-gyflwyno gan y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Rwyf am ddatgan buddiant—rwyf wedi dweud hyn o'r blaen—rwy'n gyn-ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, felly mae'r mater hwn, o ran pobl ifanc a chyflogaeth, yn agos iawn at fy nghalon ac yn bwysig iawn i mi.
A gaf i ddechrau drwy nodi mai heddiw, mewn gwirionedd, yw Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd? Mae hwn yn gyfle gwirioneddol inni ddathlu potensial y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yng Nghymru a sicrhau bod y Llywodraeth newydd hon yn eu paratoi i lwyddo. Mae gan bob un ohonom, yn y pen draw, gyfrifoldeb yn y maes hwn, ac mewn ysbryd o gydweithio trawsbleidiol, hoffwn ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr ar gyfer y ddadl hon, Jane Dodds a Paul Rock, am helpu i gael y mater hwn ar yr agenda. Ar Ddiwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd, ni allai'r amseru fod yn well.
Dywedir yn aml mai pobl ifanc yw ein dyfodol, ond rwyf am atgoffa pawb nad problemau ar gyfer y dyfodol yw'r problemau sylfaenol sy'n gysylltiedig â phobl ifanc a chyflogaeth, maent ar gyfer y presennol. O ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol, diffyg cyfleoedd gwaith, diffyg gwaith diogel â chyflog da, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, neu hyd yn oed methu dal bws mewn pryd, neu allu dal bws neu drên i gyrraedd lleoliad y swyddi, ac effaith deallusrwydd artiffisial ar swyddi lefel mynediad, dyma'r rhwystrau go iawn, ac maent yn digwydd nawr, sy'n golygu bod yr un brys ynghlwm wrth y materion hyn ag unrhyw beth arall y gallem fod yn ei drafod yn y Senedd.
Nawr, efallai y bydd cenedlaethau iau heddiw eisiau'r un pethau ag yr oeddem ni eu heisiau yn y gorffennol. Hynny yw, rwy'n cofio fy swydd gyflogedig swyddogol gyntaf pan oeddwn yn 17 neu 18 oed yn y Sweater Shop yn y dref. Cawn fy nhalu £2.65 ac roedd yn swydd ofnadwy. Ond y peth cyntaf a wneuthum oedd prynu fy mhâr cyntaf o esgidiau Nike, oherwydd nes hynny, esgidiau Matchstick oedd hi bob tro, am mai dyna y gallai fy rhieni fforddio eu prynu i mi o Woolworths. Ond wrth gwrs, mae pobl ifanc nawr eisiau'r un pethau. Maent eisiau gwneud eu harian eu hunain. Maent eisiau sicrhau y gallant dalu eu ffordd mewn bywyd, a dechrau adeiladu dyfodol wrth gwrs, nid yn unig iddynt eu hunain, ond i lawer o rai eraill hefyd. Mae gan lawer ohonynt gyfrifoldebau gofalu. Maent eisiau gallu prynu tŷ neu hyd yn oed ddechrau teulu.
Nawr, Lywydd, fel y mae'r cyn-Ysgrifennydd iechyd Alan Milburn wedi'i nodi yn ei adolygiad, rydym mewn perygl o golli cenhedlaeth o bobl ifanc. Mae un o bob wyth o bobl ifanc rhwng 16 a 24 yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a elwir hefyd yn NEETs, a synnais ddarganfod bod y data o ddiwedd y llynedd yn dangos bod y sefyllfa yng Nghymru hyd yn oed yn waeth mewn gwirionedd. Mae un o bob chwech o bobl ifanc heb fod mewn gwaith, heb fod mewn addysg na hyfforddiant, a dylai hynny wylltio pob un ohonom a'n gwneud yn ddigon blin i fod eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch ac i gydweithio ar y materion hyn, gan nad yw diweithdra ieuenctid yn fater ymylol. Mewn gwirionedd, mae'n symptom o fethiant systemig, yn fwy nag unrhyw bolisi, yn fwy nag unrhyw adran neu Lywodraeth, ac yn amlwg, nawr, mae'n galw am ymateb hyd yn oed yn fwy a hyd yn oed yn well.
Nawr, gwelais yn ystod fy amser yn TUC Cymru fod Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi rhoi camau cadarnhaol iawn ar waith. Helpodd y warant i bobl ifanc a gyflwynwyd, pan oeddem yn dod allan o bandemig COVID, oddeutu 10,000 o bobl ifanc i gael gwaith; dechreuwyd 30,000 o brentisiaethau; a chafodd mwy o bobl gymorth i ddatblygu eu haddysg neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain. Ond yn amlwg, nid yw'r warant honno wedi bod yn effeithiol ym mhobman. Felly, nid yw wedi gwneud yr holl bethau yr oeddem yn gobeithio eu gwneud. Dim ond oddeutu hanner y bobl a gefnogwyd drwy'r amryw gynlluniau hyn a aeth yn eu blaenau i gyflawni canlyniad cadarnhaol mewn gwirionedd. A dim ond y bobl a oedd yn ymwybodol fod y gefnogaeth hon yn bodoli yn y lle cyntaf ac a oedd yn gallu manteisio arni a'i llywio yw hynny. Ond beth am y bobl nad oeddent yn ymwybodol, nad oeddent yn gallu llywio'r systemau a sefydlwyd?
Nawr, fel y nodwyd gan y Gweinidog sgiliau a phartneriaeth gymdeithasol blaenorol, Jack Sargeant, bydd yr amryw gynlluniau sy'n ffurfio'r warant i bobl ifanc yn cael eu disodli gan raglen gymorth cyflogadwyedd newydd, gan ddechrau'r flwyddyn nesaf. Os gwnawn hyn yn iawn, credaf y gall fod yn gyfle euraidd inni wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru, i nodi'r hyn sy'n gweithio a'i symleiddio gyda ffocws gwirioneddol ar sicrhau swyddi da a theg a chyfleoedd eraill i bobl ifanc. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithredu nifer o gynlluniau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Y grant swyddi ieuenctid, a ddechreuodd y mis diwethaf—sy'n rhoi cymhelliant ariannol gwirioneddol i rai cyflogwyr gyflogi pobl ifanc sydd wedi bod allan o waith ac sy'n hawlio credyd cynhwysol. Ac wrth gwrs, mae gennym y cynllun blaengaredd anweithgarwch economaidd, sydd wedi'i dreialu ym Mlaenau Gwent, sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot, ac sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae'r cynllun hwn, sy'n edrych ar brif achosion sylfaenol diweithdra hirdymor, yn darparu'r gefnogaeth wedi'i theilwra sydd ei hangen ar bobl, boed hynny ar gyfer mentora, cwnsela neu unrhyw fath arall o gefnogaeth arbennig y gallai fod ei hangen ar yr unigolyn hwnnw.
Nawr, er yr holl waith da, yr holl bethau rydym wedi'u gwneud hyd yn hyn, nid yw'r broblem gyda diweithdra ieuenctid yn unigryw i Gymru, ond gallwn arwain o'r blaen i ddod o hyd i atebion a'u rhoi ar waith. Ac mae'n rhaid inni ddechrau gyda'r dystiolaeth wrth gwrs. Gadewch inni wrando ar y bobl sy'n gwybod orau, sef y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio, sy'n wynebu'r heriau real hyn o ddydd i ddydd, gan nad oes gennym yr holl atebion, a dyna'r gwir. Mae rhai pobl, pobl ifanc yn enwedig, yn cael eu siomi'n fwy nag eraill.
Mae'r ystadegau diweddaraf, yr ystadegau swyddogol gan Lywodraeth Cymru, yn dangos nad yw 40 y cant o bobl rhwng 19 a 24 oed sydd ag anableddau mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Gwyddom nad yw hynny oherwydd eu bod yn brin o sgiliau neu ddyheadau nac unrhyw un o'r pethau hynny. Methiant cymdeithas ydyw, diffyg cyfle a diffyg cefnogaeth briodol. Mewn gwirionedd, nid yw un o bob tri gweithiwr anabl yn cael yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnynt yn y lle cyntaf. Cymharol ychydig o sefydliadau'r sector cyhoeddus hyd yn oed sydd â'r lefel uchaf o achrediad Hyderus o ran Anabledd. Ac yn ôl Mencap, mae 86 y cant o bobl ifanc ag anableddau dysgu eisiau bod mewn gwaith â thâl, ac mewn gwirionedd, dim ond 5 y cant—5 y cant—sydd mewn gwaith â thâl. Mae hyn yn syfrdanol, ac nid yw'n iawn.
Felly, er bod gennym y cynlluniau hyn a'u bod yn trawsnewid rhai bywydau, mae bylchau amlwg yn y ddarpariaeth, a gwyddom eu bod yn bodoli a bod angen inni wneud rhywbeth yn eu cylch. Nawr, pan fydd pobl ifanc ag anableddau'n dweud yn gyson fod y systemau y maent i fod yn eu defnyddio, sydd i fod yno—. Wel, maent yn dweud, 'Nid ydynt wedi'u hadeiladu gyda ni mewn golwg.' Ac nid mater o farn yw hynny, dyna'u profiad bywyd fel unigolion. Dyma'r bobl sy'n fwyaf cyfarwydd â'r problemau, a byddai'r systemau'n gweithio'n well pe baem ni'n gwrando'n well ar y bobl sy'n eu defnyddio. Felly, dyna ddylai fod yn fan cychwyn i ni bob amser—i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, i bob un ohonom yn y Senedd hon, mae angen i ni, bob amser, fynd allan i'n cymunedau, gwrando a dysgu a gweithredu.
A beth arall sydd ei angen ar bobl ifanc yng Nghymru? Un ateb syml: mwy o swyddi wedi'u hymgorffori. Ond nid unrhyw hen swydd—swyddi da, swyddi da ar gyflogau da, sy'n ddiogel ac sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl gamu ymlaen i'r yrfa honno, beth bynnag y bo'r yrfa y maent yn ei dewis. Ac mae gan Gymru ddwysedd is o swyddi na Lloegr a'r Alban. Felly, mae honno'n broblem, argaeledd swyddi. Ond mae ansawdd swyddi wedi bod yn ddiffygiol iawn hefyd. Nawr, yn ôl ymchwil gan y Sefydliad Iechyd, o'r holl genhedloedd a rhanbarthau, Cymru yw lle mae gweithwyr yn fwyaf tebygol o wynebu agweddau lluosog ar ansawdd swyddi. Mae llawer o bobl ifanc wedi gorgymhwyso ar gyfer y rolau sydd ar gael iddynt, ac maent yn llai tebygol na chydweithwyr hŷn o gael mynediad at unrhyw hyfforddiant a datblygiad.
Nawr, mae galw bob amser am bobl ifanc mewn sectorau fel manwerthu, lletygarwch a gofal cymdeithasol. Ond pan gânt y swyddi hynny, beth sy'n digwydd iddynt wedyn? Maent yn sownd mewn swyddi gyda hyfforddiant cyfyngedig ac yn methu camu ymlaen. Nawr, mae TUC Cymru wedi codi pryderon, ac rwyf wedi bod ger bron un pwyllgor ar ôl y llall yn dweud bod swyddi ansicr yn siapio cenhedlaeth o bobl. Mae bwlio, aflonyddu a thriniaeth wael yn parhau i fod yn broblemau real iawn ac yn bryderon i bobl ifanc yn y gwaith.
Mae rhieni sy'n gweithio yn ei chael hi'n anodd i helpu eu plant eu hunain i lywio'r byd gwaith, ac mae llawer o weithwyr ifanc hefyd, wrth gwrs, yn rhieni eu hunain, felly mae'n frwydr iddynt gydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu. Felly, oes, mae angen inni greu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc, ond mae angen gwaith ar gyflogau da, gwaith sy'n ddiogel, ac mae angen inni gael gweithleoedd croesawgar yn y lle cyntaf, a diwylliannau mewn gweithleoedd lle mae pobl yn teimlo y gallant siarad a'u bod yn cael eu cefnogi yn y lle cyntaf. Nid geiriau cynnes yn unig, nid polisi arall, nid ffordd arall wedi'i pherffeithio o wneud pethau—mae angen camau gweithredu pendant arnom. Mae mor bwysig fod pobl ifanc yn deall beth sy'n dderbyniol yn y gweithle a'r hawliau a'r amddiffyniadau sydd ganddynt. Pobl sydd wedi cael eu talu o dan yr isafswm cyflog, nad ydynt wedi cael seibiannau neu sydd wedi wynebu aflonyddu yn y gweithle—mae perygl y gallant feddwl, 'Dyma sut y mae hi, ac nid oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i'w newid.'
Nawr, i rai pobl ifanc, mae yna ddiffyg dealltwriaeth ynghylch y swyddi sydd ar gael, hyd yn oed pan fyddant yn astudio neu'n hyfforddi i weithio mewn diwydiant penodol. I lawer o bobl ifanc, mae syniadau am yrfaoedd yn y dyfodol a'r cyfleoedd y gallant eu cael yn seiliedig ar eu cysylltiadau eu hunain. Gall hynny wneud chwilio am swydd hyd yn oed yn anos, yn enwedig os ydynt o gefndiroedd difreintiedig. Nawr, mae TUC Cymru wedi gwneud gwaith da ar godi ymwybyddiaeth gyda Llywodraeth Cymru ar addysgu pobl ifanc am eu hawliau yn y gwaith, rôl undebau llafur, materion fel iechyd a diogelwch a deallusrwydd artiffisial, a hynny drwy'r rhaglen Byd Gwaith sydd wedi'i chyflwyno mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid a llawer o leoedd eraill hefyd. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi'r gwaith hwnnw.
Cynllun arall gan Lywodraeth Cymru, sy'n haeddu canmoliaeth wrth gwrs yw Taith. Nawr, roedd honno, ac mae'n dal i fod, mewn gwirionedd, yn rhaglen Gymreig unigryw sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig deithio. Nawr, yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn fy etholaeth a siaradais â rhai o'r disgyblion sydd wedi elwa o'r cynllun hwn. A chefais fy ysbrydoli gymaint gan y sgiliau newydd a'r hyder y mae Taith wedi'i roi iddynt, ac yn amlwg, nid buddsoddiad untro yw hwn—mae'n fuddsoddiad gydol oes mewn pobl ifanc ledled Cymru. Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r prosiect hwn y tu hwnt i'r cyllid presennol, gan fod lle iddo yng Nghymru yn bendant, yn fy marn i, ochr yn ochr ag Erasmus+, i estyn allan at ysgolion, a sefydliadau ieuenctid ac oedolion. Y rhai nad oedd erioed wedi meddwl y caent gyfleoedd i deithio—dywedodd cymaint o'r plant ifanc y siaradais â nhw nad oedd ganddynt basbort hyd yn oed. Nid oeddent hyd yn oed yn credu y byddai hon yn daith go iawn. Cawsant gyfle i fynd i Malaysia, a nawr, bydd dirprwyaeth o blant yn ymweld â'r wlad hon. Ac yn onest, roedd yr hyn y siaradent amdano'n anhygoel.
Nawr, mae'r rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd a fydd ar waith y flwyddyn nesaf yn gyfle inni adeiladu system well sy'n adlewyrchu anghenion y bobl y mae'n bwriadu eu helpu. Ac mae hynny'n rhoi help llaw go iawn i unrhyw un a allai fod ei angen. Mae angen inni fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau. Lle mae swyddi'n cael eu creu mewn sectorau fel ynni glân, digidol a thwristiaeth—y ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot neu brosiect parcffordd Caerdydd wrth gwrs—mae angen inni sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn gallu cyrraedd lle mae angen iddynt fod, yn llythrennol, ond hefyd o ran trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy—ond hefyd eu bod yn cael cyfle i gael swyddi da a chyfle i gamu ymlaen.
Felly, er fy mod yn falch o gyflwyno'r ddadl hon, mae'r gwaith go iawn i'w wneud gan bob un ohonom ni pan fyddwn yn gadael y Siambr. A gwn fod Aelodau o bob plaid yn angerddol iawn am helpu pobl ifanc—Aelodau â gwahanol brofiadau, sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ac ar eu rhan cyn iddynt hyd yn oed ddod i'r Senedd, gyda llawer o wahanol fewnwelediadau. Felly, gadewch inni ddod at ein gilydd a defnyddio'r rheini. Gadewch inni fynd allan i'n hetholaethau dros yr haf, gadewch inni wrando ar y bobl sy'n wynebu'r heriau hyn ac edrych ar yr hyn sy'n gweithio. Gadewch inni feddwl ynglŷn â’r hyn y gallem ei wneud yn well ac yna gadewch inni fynd ati i'w wneud, fel bod Cymru gystal ag y gall fod i bobl ifanc sy'n gweithio, lle nad oes unrhyw unigolyn ifanc yn cael ei adael ar ôl. Diolch, Lywydd.
Hoffwn innau ddatgan buddiant. Efallai y bydd yn syndod i rai pobl fy mod yn gyn-unigolyn ifanc fy hun. Roedd hynny amser maith yn ôl bellach, ond—. Pan fyddwch yn meddwl am y daith y mae pobl ifanc yn mynd arni, am lawer rhy hir, rwy'n credu bod addewid wedi'i gamwerthu iddynt sy'n dweud os ewch chi i'r brifysgol, fod yna nirfana euraidd yn aros amdanoch ar yr ochr arall, swydd dda a llwyddiant mawr, ond y gwir amdani yw nad yw hynny wedi—. Yn lle hynny, mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru, a'r DU yn wir, yn mynd i mewn i'r broses honno ac maent yn gadael gan orfod ymgeisio am swyddi ddi-dâl neu swyddi ar gyflogau isel mewn maes digysylltiad, am nad yw cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r radd a gawsant ac nad yw'r economi ei heisiau. Maent yn gadael gyda dyled. A'r gwir caled amdani yw bod breuddwydion y bobl ifanc sy'n ymgymryd â'r cyrsiau prifysgol hynny yn aml wedi cael eu chwalu, ac mae llawer o siom ar yr ochr arall. Ac ar ddau ben yr M4, mae graddau wedi'u camwerthu i bobl ifanc, maent wedi cael eu gwthio drwy'r system ac wedi gadael gyda degau o filoedd o bunnoedd o ddyled yn faich arnynt am ddegawdau. Economi o weithwyr medrus y mae'n rhaid i'r cyflogwyr hynny fynd allan i'r byd i chwilio amdanynt i lenwi'r bwlch hwnnw—gallem fod yn ei lenwi yma yng Nghymru. Ac mae llawer o bobl yn y genhedlaeth honno'n talu'r pris am y penderfyniadau yr ydym ni, fel y genhedlaeth hŷn, wedi bod yn eu gwneud, ac yn y Siambr hon yn sicr.
Nawr, fel y soniwyd eisoes, mae 17 y cant o bobl ifanc Cymru yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac nid yw hynny, i economi honedig ddatblygedig, yn sefyllfa dderbyniol i fod ynddi. Yn wahanol i lawer ohonynt, dechreuais fy ngyrfa gyda phrentisiaeth, a buaswn yn dweud mai dyma oedd un o'r penderfyniadau gorau a wneuthum erioed. Hoffwn achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'r dynion a'r menywod yn yr ysgol hyfforddi dechnegol i sifiliaid yr euthum yn fy mlaen i weithio gyda hi. Maent wedi mynd yn eu blaenau ledled y byd i gyflawni pethau rhyfeddol. Mae'n drueni na allem eu cadw mewn gwaith yma yng Nghymru, a dyna sy'n rhaid inni geisio ei wneud. Roeddwn yn gallu ennill arian a dysgu ar yr un pryd, ac arweiniodd hynny at yrfa hir a llwyddiannus dros 30 mlynedd yn y maes awyrofod ac amddiffyn. Yn gyntaf oll, gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan—prentisiaeth dair blynedd a ddysgodd hanfodion peirianneg awyrofod i mi a fy nghyd-brentisiaid. Yna euthum yn fy mlaen i'r sector amddiffyn mewn stori lwyddiant Gymreig arall yn General Dynamics, ac amryw o swyddi uwch reoli yn fuan wedyn. Felly, gall prentisiaethau fod o natur alwedigaethol, ond gallant arwain at leoedd cyffrous iawn i bobl ifanc.
Gwn o brofiad uniongyrchol beth y gall prentisiaethau ei gyflawni. Rwy'n deall pŵer prentisiaethau, i gyflogwyr ac i bobl ifanc. Mae iddynt werth deuol, ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried hynny. Nawr, rwyf am i bob unigolyn ifanc yng Nghymru gael yr un cyfleoedd hynny. Rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Rwy'n credu y bydd consensws o amgylch y Siambr ar hynny. Rwy'n credu bod pŵer yn hynny. Mae hynny'n golygu symud ein ffocws oddi wrth raddau gwerth isel a rhoi crefftau medrus yn ôl wrth wraidd lle maent yn perthyn, sef wrth wraidd addysg Cymru, fel bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae'r crefftau hynny'n ei olygu i'r economi wrth iddynt ddod drwy'r ysgol a gwneud y dewisiadau hynny.
Nawr, heddiw, mae pobl ifanc sydd eisiau bod yn drydanwyr, peirianwyr, plymwyr a thechnegwyr yn ymladd dros lond llaw o leoedd prentisiaeth. Er gwaethaf y galw cynyddol, mae nifer y prentisiaethau sy'n dechrau yng Nghymru wedi gostwng oddeutu 37 y cant dros y degawd diwethaf. Honnodd y Llywodraeth ddiwethaf eu bod wedi darparu 100,000 o brentisiaethau dros dymor y Senedd ddiwethaf, ond fel y gŵyr pob un ohonom bellach, fe wnaethant ystumio'r ffigurau a chafodd y cyhoedd eu camarwain ar hynny, ac mae hynny'n waddol ofnadwy i'w gadael. Darpariaeth ofnadwy a chamliwio data. Ond mae angen inni wrthdroi hynny.
Nawr, mae'r ddadl hon heddiw yn ymgais i adennill y naratif hwnnw; rydym yn deall hynny. Ond rwy'n credu y gallwn ddod at ein gilydd i gydnabod nad yw rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru a ReAct yn ddigon i gael ein myfyrwyr drwy'r broses i gynhyrchu swyddi o ansawdd uchel i gyflogwyr. Yn rhy aml, mae'r rhaglenni hyn wedi dod yn ddrws tro o gyrsiau, lleoliadau a gwaith papur, yn hytrach na llwybr go iawn i gyflogaeth a hyfforddiant diogel. Nawr, wrth gwrs, nid yw'n ddigon imi ddweud beth na fyddem yn ei wneud; ni yw'r blaid sy'n dweud wrth y cyhoedd beth yn union y byddem yn ei wneud. Byddai Reform Cymru yn ehangu gradd-brentisiaethau o ansawdd uchel, yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn gwneud sgiliau galwedigaethol yr un mor uchel eu parch â chymwysterau academaidd.
Mae angen inni gael sgwrs onest hefyd am effaith mewnfudo heb ei reoli ar ein marchnad swyddi. Mae peidio â chydnabod y gydberthynas uniongyrchol yn golygu peidio â chydnabod realiti'r pwysau y mae pobl yn ei wynebu. Mae 400 o nyrsys Cymru, er enghraifft, parafeddygon a bydwragedd a hyfforddwyd yma yng Nghymru, sy'n barod, yn fodlon ac yn gallu gweithio yn ein GIG, yn methu dod o hyd i waith, wrth i ninnau fewnforio staff o dramor. Nawr, mae hynny'n gwbl annerbyniol i'r dynion a'r menywod sy'n chwilio am swyddi yn ein GIG. Ond dyna sy'n digwydd pan nad yw gweithwyr Cymru yn cael eu rhoi yn gyntaf. Nawr, rydym yn gwerthfawrogi unrhyw un sydd eisiau gweithio yn ein GIG a chyfrannu, ond ni all hynny fod ar draul ein pobl ifanc yng Nghymru. Nid yw geiriau cynnes yn ddigon. Mae arnom angen gwell na'r warant i bobl ifanc. Dyna pam—
Jason.
—byddwn yn ymatal heddiw. Pwynt olaf, ac fe'i gwnaf yn sydyn.
Os gwelwch yn dda.
Mae pob plaid wedi methu blaenoriaethu anghenion ein pobl ieuengaf. Maent yn haeddu gwell. Bydd Restore yn ymatal. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl bwysig hon, ac rwy'n diolch i Shav a'r lleill am ei chyflwyno i'r Siambr.
I lawer o bobl ifanc, nid a allant ddod o hyd i waith yw'r cwestiwn, ond a allant adeiladu dyfodol iddynt eu hunain yma yng Nghymru. Rydym yn dathlu Cymru fel lle gwych i fyw, a hynny'n briodol, ond dylem hefyd anelu at ei wneud y lle gorau i ddechrau eich gyrfa. Mae hynny'n golygu sicrhau nad yw cyfle wedi ei bennu gan god post neu amgylchiadau personol. Yn rhy aml mae pobl ifanc yn wynebu rhagolygon gwahanol iawn yn dibynnu ar ble maent yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd neu yng Nghymru. Fel y clywsom, mae'r rhai sy'n byw gydag anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor, cyfrifoldebau gofalu neu incwm aelwydydd is yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chyfle cyfartal, rhaid inni gydnabod nad yw pawb yn dechrau o'r un lle a sicrhau bod y gefnogaeth yn adlewyrchu'r realiti hwnnw.
Yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, gwelwn y rôl hanfodol y mae addysg bellach yn ei chwarae yn ehangu'r cyfleoedd hynny. Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu miloedd o ddysgwyr ar draws ein rhanbarth, gyda llawer ohonynt o gymunedau sydd wedi wynebu lefelau uwch o anfantais yn hanesyddol. Yn ddiweddar, tynnodd ei brifathro a'i brif weithredwr, Jonathan Morgan, sylw at y pwysau sylweddol sy'n wynebu'r coleg ar hyn o bryd. Er iddo gael mwy na 6,000 o geisiadau ar gyfer y mis Medi hwn, mae gostyngiadau mewn cyllid yn golygu bod cannoedd o ddarpar ddysgwyr wedi cael eu rhoi ar restrau aros. Mae'r dysgwyr hynny'n ceisio am gymwysterau mewn adeiladu, gweithgynhyrchu, technolegau digidol, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a sectorau eraill lle mae angen gweithlu cryf ar Gymru. Ar adeg pan ydym yn annog pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau y mae ein heconomi eu hangen ac yn ddibynnol arnynt, ni allwn fforddio creu rhwystrau ar yr un pryd i atal y cyfleoedd hyn. Mae buddsoddi mewn addysg bellach yn fuddsoddiad mewn twf economaidd, cymunedau cryfach a gwell cyfleoedd bywyd.
Hefyd, mae angen system sgiliau arnom sy'n adlewyrchu dyheadau pobl ifanc ac anghenion cyflogwyr Cymru. Mae sylfeini cryf mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg yn parhau i fod yn hanfodol, ond rhaid gwerthfawrogi addysg alwedigaethol a phrentisiaethau yn gyfartal a'u cysylltu â llwybrau clir i gyflogaeth ddiogel o ansawdd uchel. Wrth i'n heconomi newid, bydd cyfleoedd newydd hefyd yn dod i'r amlwg mewn diwydiannau gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch, iechyd a gofal, ac arloesedd digidol. Rhaid inni sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd hynny ble bynnag y maent yn byw.
Dylem edrych y tu hwnt i'n ffiniau hefyd, gan roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc astudio, hyfforddi a gweithio ledled Ewrop, gan eu hannog i ddod â'r sgiliau a'r profiadau hynny yn ôl i Gymru. Gall hynny gryfhau gyrfaoedd unigol a'n heconomi yn gyffredinol. Yn y pen draw, mae'r ddadl hon yn ymwneud â mwy nag ystadegau cyflogaeth. Mae'n ymwneud â rhoi hyder i bobl ifanc y gallant adeiladu bywydau boddhaol yma yng Nghymru, ac mae hynny'n galw am weithredu cydgysylltiedig ar draws addysg, sgiliau, trafnidiaeth, tai a datblygu economaidd. Os cawn y blociau adeiladu hynny'n iawn, byddwn yn lleihau nifer y bobl ifanc sy'n NEET ac yn gwella ffigurau cyflogaeth, ond byddwn hefyd yn creu Cymru y mae pobl ifanc yn dewis aros ynddi, nid am nad oes ganddynt ddewis arall, ond am fod y cyfleoedd yma lawn mor uchelgeisiol â'r dyfodol y maent am ei adeiladu iddynt eu hunain. Diolch.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n diolch i Shav Taj am roi'r cyfle i mi siarad amdano. Yn ei hanfod, mae'r cynnig yn ymwneud ag egwyddor syml: mae pob person ifanc yn ein gwlad yn haeddu cyfle i adeiladu dyfodol diogel, cynaliadwy a gwerth chweil yma yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw arnom i feddwl yn hirdymor. Mae hynny'n golygu sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn dod o hyd i swyddi, ond yn adeiladu gyrfaoedd sy'n gynaliadwy, yn wydn ac yn ddiogel i'r dyfodol.
Mae llawer y gellir ei ddweud am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc, o gyflog isel a gwaith ansicr i ddiffyg cyfleoedd i gamu ymlaen, ond rwyf am ganolbwyntio ar y cyfleoedd sy'n cael eu creu gan ein hymrwymiadau hinsawdd, a'r swyddi o ansawdd da a all ddod gyda nhw. Fel Gwyrddion, rydym yn gweld cyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd nid fel baich, ond fel cyfle enfawr. Gall greu miloedd o swyddi medrus hirdymor. Yn allweddol, mae angen gyrfaoedd sy'n arfogi pobl ifanc gyda sgiliau am oes. Ni ddylem gyfeirio pobl tuag at ddiwydiannau gyda dyddiad dod i ben ynghlwm wrthynt. Yn hytrach, dylem fuddsoddi mewn sectorau y gwyddom y byddant yn parhau i dyfu a darparu cyflogaeth sefydlog am ddegawdau i ddod.
Bydd rhai o'r gyrfaoedd hynny yn y crefftau. Mae angen inni gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy, ôl-osod ein stoc dai bresennol ac adeiladu cartrefi a seilwaith cynaliadwy y dyfodol. Mae angen mwy o beirianwyr, mwy o weithwyr adeiladu medrus a mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu os yw Cymru am ddod yn arweinydd byd-eang.
Hoffwn dynnu sylw at botensial ynni'r môr a'r llanw. Mae Cymru wedi'i bendithio ag arfordiroedd rhyfeddol a'r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd. Drwy harneisio'r fantais naturiol honno, gallwn greu gyrfaoedd medrus gan gryfhau ein diogeledd ynni. Os nad yw Cymru'n barod ar gyfer y newid hwn, bydd ein pobl ifanc unwaith eto'n colli cyfle. Mae angen inni allu eu harfogi i gamu ymlaen i'r gyrfaoedd da hirdymor hyn, neu fel arall bydd y cyfleoedd yn mynd i rywle arall.
Mae'r cynllun Cartrefi Clyd yn enghraifft dda arall o ble y daw nodau amgylcheddol ac economaidd at ei gilydd. Bydd ôl-osod cartrefi ac adeiladu cartrefi heb danwydd ffosil o'r dechrau yn lleihau allyriadau, yn lleihau biliau ynni ac yn creu swyddi medrus mewn adeiladu a pheirianneg. Mae'r rhain yn swyddi sydd wedi'u gwreiddio yn y cymunedau, a swyddi y bydd eu hangen arnom os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd. Dyna pam fy mod mor falch o gefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried a sicrhau bod y llwybrau i ddiwydiannau gwyrdd yn uchelgeisiol, yn hygyrch ac ar gael i bobl ifanc ledled Cymru. Diolch.
Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon, ac i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma. Mae creu llwybrau i gyflogaeth i bobl ifanc yn hanfodol bwysig, fel y manylir yn y cynnig. O ystyried hyn, rwy'n croesawu ysbryd y cynnig hwn yn fawr. Mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddod o hyd i atebion i hyn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo bod mwy i ni ei wneud. Mae angen mwy o ffocws ar brentisiaethau galwedigaethol, yn enwedig mewn perthynas â'r diwydiant adeiladu. Ar y pwynt hwn, rhaid imi ddatgan buddiant, gan fod fy mrawd iau ar hyn o bryd yn cwblhau prentisiaeth alwedigaethol o'r fath.
Mae crefftau ac adeiladu yn gyflogwr sylweddol ledled ein gwlad. Fodd bynnag, o brofiad fy mrawd, gallaf ddweud wrth y Siambr fod y toriadau i gyllid prentisiaethau'n ergyd enfawr i lwyddiant y prentisiaethau galwedigaethol hyn. Rwy'n cofio misoedd o bryder pan oedd prentisiaeth fy mrawd yn y fantol. Cafodd drafferth dod o hyd i grefft gymwys i'w gyflogi fel prentis. Rhaid inni gydnabod bod y mwyafrif helaeth o grefftau yn unig fasnachwyr neu'n fach o ran maint, pobl sydd heb gronfeydd o arian i gyflogi prentis a'r holl gostau a all ddod i ganlyn hynny.
Yn flaenorol, roedd cyllid ar gael i helpu i dalu'r costau hyn. Gallai prentisiaid ddod o hyd i leoliadau gwaith sefydlog, a oedd yn hanfodol iddynt allu cwblhau eu cyrsiau, a châi cyflogwyr eu cefnogi. Roedd gennym lwybr i bobl ifanc ddysgu crefft, ennill profiad gwaith gwerthfawr a chamu ymlaen i waith llawn amser. Fodd bynnag, pan ddaeth toriadau i gyllid, roedd y llwybr hwn wedi'i gyfyngu. Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â chreu llwybrau i gyflogaeth ar gyfer pob unigolyn ifanc, rwy'n credu y dylai'r cynnig hwn alw am ailsefydlu'r llwybrau hynny.
Mae hyn yn fy arwain at fy mhwynt nesaf. Yn fy rôl flaenorol, roeddwn i'n gweithio mewn elusen, a oedd, ynghyd â nifer o wasanaethau eraill, yn rhedeg rhaglen ddychwelyd i'r gwaith lwyddiannus. Fe wneuthum helpu i arwain prosiect a gyflogodd 16 o unigolion dros gyfnod o dri mis, pobl ifanc a oedd wedi bod yn ddi-waith yn hirdymor yn bennaf, a byddem yn eu talu i weithio gyda ni. Dros dri mis, fe wnaethom roi profiad gwaith go iawn iddynt. Hefyd, fe wnaethom neilltuo un diwrnod lle gwnaethom uwchsgilio'r cyfranogwyr mewn ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliad, cymorth chwilio am swydd, hyfforddiant codi a chario, cymorth cyntaf, iechyd meddwl a chymorth lles, i enwi rhai'n unig o'r sgiliau y gwnaethom helpu ein cyfranogwyr i'w meithrin. Dros ddwy flynedd y prosiect, fe wnaethom helpu mwy na 40 o bobl ifanc yn ôl i waith amser llawn.
Dysgais ddau bwynt allweddol o fy amser gyda'r prosiect hwn. Yn gyntaf, fel y credwn eisoes, ni all y Llywodraeth mo'i wneud ar ei phen ei hun. Gallwn greu'r holl asiantaethau, prosiectau a chynlluniau Llywodraeth a ddymunwn, ond oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cefnogi'r sector preifat yn ariannol, ac yn bwysig, y trydydd sector, i ddarparu cyfleoedd gwaith i bobl ddi-waith yn hirdymor, byddwn yn methu creu'r llwybrau hynny i gyflogaeth.
Yn ail, un o'r rhwystrau mwyaf i gael pobl i mewn i waith yw profiad. Heb brofiad gwaith go iawn, mae llawer o bobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cael yr hyder i wneud cais am swyddi. Maent yn methu gwneud hynny drwy brosesau cyfweld neu nid ydynt yn gwybod ble i ddechrau chwilio am waith. Ni allaf ddweud digon wrthych chi am y nifer o bobl ifanc y gweithiais gyda nhw yn uniongyrchol ar y prosiect hwn a oedd yn gallu ac yn barod i weithio, ond nad oeddent yn gwybod ble i ddechrau. Roedd gweld y newid y gwnaethant fynd drwyddo yn y cyfnod byr hwnnw o dri mis gyda ni yn rhyfeddol.
Felly, daw hyn â mi at fy mhwynt olaf. Rhaid inni gydnabod pwysigrwydd swydd ran-amser gyntaf unigolyn ifanc, gwaith fel golchi llestri neu weini bwyd. Er nad yw hon yn yrfa gydol oes i rai, mae'r profiad yn y gweithle a'r sgiliau a enillant yn amhrisiadwy wrth gamu ymlaen i waith arall. Dyma'n union y pwynt y ceisiais ei wneud yr wythnos diwethaf yn y lle hwn. Mae'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn ddarn hanfodol o'r darlun yn y mater hwn. Roeddwn i, fel llawer o bobl eraill ledled Cymru, yn gweithio yn y sector lletygarwch. Roedd gennyf swydd ran-amser o'r adeg pan oeddwn yn 15 oed, ac roeddwn yn gweithio o gwmpas yr ysgol, ar benwythnosau a chyda'r nos. Ac roeddwn i'n sylweddoli bod fy mhrofiad yn y sector hwn, gweithio mewn tafarndai, bwytai, caffis mewn amrywiaeth o rolau, wedi rhoi sgiliau i mi na allai unrhyw ystafell ddosbarth eu dysgu. Dysgodd i mi werth gwaith caled. Fe wnaeth fy helpu i ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol a rhoddodd eirdaon i mi ar gyfer fy CV. Mae'r rhain i gyd yn elfennau hanfodol os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â diweithdra ieuenctid. Felly, os ydym o ddifrif ynghylch hyn, rwy'n credu'n gryf fod yn rhaid inni ymgysylltu â'r sector twristiaeth a lletygarwch, oherwydd rwy'n dweud wrthych, maent wedi bod yn cefnogi pobl ifanc i weithio ac yn eu huwchsgilio ers degawdau.
Felly, i gloi, rwy'n croesawu ysbryd y cynnig hwn, ond rwy'n credu bod gennym fwy o elfennau y mae angen inni eu hystyried os ydym yn mynd i lwyddo i drechu diweithdra ieuenctid yn y dyfodol.
Fe wnaf ddatgan buddiant fel rhywun gweddol ifanc. Ond diolch, Shav, am gyflwyno—
Ifanc yn bendant.
Ifanc i wleidyddiaeth. Diolch, Shav, am gyflwyno'r ddadl hon a hefyd am ymuno â'r grŵp trawsbleidiol ar gyflogaeth ieuenctid. Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a mynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu i gael mynediad at gyflogaeth ac addysg, felly rwy'n gwahodd unrhyw Aelodau yma heddiw i ddod i ymuno â'r grŵp. Oherwydd dyma un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu'r Senedd hon, ond rwy'n credu hefyd ei fod yn un o'r materion lle mae gennym gefnogaeth drawsbleidiol.
Mae dros 56,000 o bobl ifanc yng Nghymru heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, sydd tua'r un maint â phoblogaeth y Barri. Rydym yn gwybod nad yw hwn yn fater sy'n effeithio ar ein holl bobl ifanc yn gyfartal. Rydym yn gwybod ei fod yn effeithio'n anghymesur ar ddynion ifanc, ac rydym yn gwybod ei fod yn effeithio'n anghymesur ar ddynion ifanc yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Cefais fy magu ar un o ystadau tlotaf Cymru, yn Townhill yn Abertawe, yn erbyn cefndir o gyni'r Torïaid. Gwelais drosof fy hun beth y gall diffyg cyfle ei wneud. Gwelais fy ffrindiau'n cael cam oherwydd hynny, gwelais fy nghymdogion yn cael cam. Rwyf mor lwcus a breintiedig i fod yma heddiw, ac rwy'n benderfynol o ddefnyddio fy llais i ganolbwyntio ar y mater hwn, oherwydd ni allwn wneud cam â chenhedlaeth arall.
Mae gan bobl ifanc botensial diderfyn, yr angerdd i ddysgu a thyfu, ond mae'r system yn eu cyfyngu yn hytrach na'u cefnogi. Bûm yn siarad ag arweinwyr chwaraeon yn Nhrelái ar y mater hwn, ac mae fel déjà vu. Ond nid yw'r cyfan yn ddiobaith, oherwydd yn aml mae gan gymunedau'r atebion. Mae popeth y byddaf yn sôn wrthych amdano wedi dod ataf yn uniongyrchol gan bobl yn fy etholaeth sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, neu gan bobl ifanc eu hunain—ffyrdd syml, ymarferol y gallwn newid pethau er mwyn dechrau mynd i'r afael â'r broblem hon.
Yn gyntaf, trafnidiaeth, gyda'r tocyn bws o £1 i bobl ifanc. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn: y Llywodraeth flaenorol am y cynllun peilot, i Jane Dodds am negodi arno, a'r Llywodraeth newydd am ei barhau. Ond nid yw'n mynd yn ddigon pell eto, oherwydd fe wyddom fod cost teithio yn rhwystr i ddysgwyr sy'n ceisio cael mynediad at gyfleoedd addysgol, a rhaid i ddatrys hyn fod yn flaenoriaeth i ni dros dymor y Senedd hon.
Yn ail, pellter. Os yw pobl ifanc mewn perygl o ymddieithrio rhag y system addysg, nid ydynt yn mynd i deithio hanner ffordd ar draws Caerdydd i gael mynediad at addysg nad ydynt yn siŵr ei bod yn gweddu iddynt. Mae ehangu addysg alwedigaethol a phrentisiaethau'n rhoi'r cyfle unigryw hwn i ni ddarparu addysg yn ein cymunedau. Gwyddom fod yna wledydd eraill sy'n cynnig addysg alwedigaethol, fel prentisiaethau iau, ar oedran llawer cynharach, cyn i bobl ifanc gyrraedd pwynt o argyfwng ac mewn ffordd sy'n ei gyflwyno fel cymhwyster cydradd.
Yn drydydd, mynediad. Mae gennym gynnig amrywiol allan yno i'n pobl ifanc, a gobeithio y bydd hynny'n tyfu dros dymor y Senedd hon, ond mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dweud wrthyf fod ganddynt ddysgwyr ar restrau aros ac maent yn gorfod gwrthod pobl ifanc neu eu rhoi ar gyrsiau nad ydynt yn cyd-fynd â'u dewisiadau, a fydd ond yn gwaethygu problem pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ac yn yr un modd, oni bai bod ein pobl ifanc yn gwybod am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt a'r hyn y gallant anelu tuag ato, ni allant wneud penderfyniadau ar y mater. Yr wythnos diwethaf, siaradais â phrentisiaid yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a dywedodd pob un ohonynt wrthyf eu bod wedi gorfod gadael yr ysgol, newid llwybrau neu wneud eu hymchwil eu hunain i ddod o hyd i'r hyn a oedd ar gael iddynt. Ni allwn adael i hyn barhau.
Mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth wedi newid ers i mi adael yr ysgol ddegawd yn ôl, a'r unig gyflogwr a ddaeth i mewn i fy ysgol oedd y fyddin. Ni chawsom glywed am y wyddoniaeth, y dechnoleg a'r beirianneg sy'n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, am y diwydiant twristiaeth yn y Mwmbwls. Ni chawsom ddim o hynny. Ac mae etholwyr wedi tynnu sylw at enghreifftiau o arferion gorau, fel Ymrwymiad Caerdydd, a phob clod i Huw Thomas a Chyngor Caerdydd, oherwydd rwy'n clywed pethau gwych am y prosiect hwn, a dylem edrych ar sut y gallwn gyflwyno hynny ar raddfa fwy.
Ac yn olaf, hoffwn siarad am ffrydiau sgiliau lleol. Rwyf wedi bod yn siarad â phobl ifanc yn Butetown, ac maent yn dweud wrthyf am y datblygiadau sylweddol sy'n digwydd ym Mae Caerdydd ac yn Butetown, ond sut na wnaed unrhyw ymdrech go iawn, er eu bod yn aml yn cael arian cyhoeddus, i ddefnyddio'r sgiliau sydd ar gael yn y gymuned, ac yn hytrach, rydym yn defnyddio cwmnïau o rywle arall i fynd ar drywydd y prosiectau hyn. Felly, os ydym o ddifrif am greu Cymru ar gyfer y dyfodol, am adeiladu cenedl, rhaid inni sicrhau ein bod yn cefnogi'r rheini sydd ar ddechrau eu taith i gyrraedd eu potensial a chyflawni pethau gwych, oherwydd mae gennym yr atebion, rydym wedi clywed rhai ohonynt heddiw, a thrwy weithredu ar y rhain, byddwn yn effeithio ar fywydau dirifedi mewn ffyrdd cwbl anhygoel. Diolch yn fawr.
Diolch i Shav am gyflwyno hyn. Mae'n wych gweld bod cefnogaeth drawsbleidiol. Rwyf eisiau dweud, pan fyddwch chi'n cyfarfod ag unigolyn ifanc sy'n methu dod o hyd i swydd, mae'n wirioneddol dorcalonnus, oherwydd mae diffyg gobaith a chylch o anobaith i'r unigolyn ifanc hwnnw yn y dyfodol.
Rydym yn gwybod bod y ffigur diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn codi, a hynny naw gwaith yn gyflymach na'r Alban a phum gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Felly, yr hyn a ddylai ein poeni yw nid yn unig lefel diweithdra ieuenctid, ond y cyflymder y mae'r sefyllfa'n dirywio. Am ormod o amser, a gadewch inni beidio â beio unrhyw un, nid ydym wedi gweld camau gweithredu i gyflawni'r buddsoddiad a'r twf economaidd sy'n creu'r swyddi sgiliau uchel sydd eu hangen ar bobl ifanc. Cyfunwch hynny â chostau cynyddol tai a baich dyled myfyrwyr, fel y clywsom, ac mae'n dod yn llawer haws deall pam y mae cymaint o bobl ifanc dalentog yn teimlo mai'r tu allan i Gymru y mae eu dyfodol.
Ond ni ddylai hon fod yn ddadl o anobaith, oherwydd nid dyna beth y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym. Canfu baromedr busnes y Brifysgol Agored, a gyhoeddwyd y mis hwn, y byddai 71 y cant o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a elwir fel arall yn NEET, fel y clywsom, yn fodlon ailhyfforddi neu uwchsgilio i wella eu rhagolygon. Mae 82 y cant yn dweud y byddent yn aros yn hwy gyda chyflogwr sydd wedi buddsoddi yn eu datblygiad. Mae hynny'n galonogol. Argyfwng cyfle yw hyn felly, nid diffyg dyhead—nid diffyg dyhead ar ran ein pobl ifanc. A byddaf bob amser yn eu hamddiffyn pan fyddaf yn clywed drwy'r amser yr ymadroddion hynny sy'n lladd ar ein pobl ifanc.
Maent yn tynnu sylw at y rhwystrau: iechyd meddwl gwael, pwysau ariannol, cyflogwyr sy'n gofyn am brofiad nad ydynt erioed wedi cael cyfle i'w feithrin. Nid problemau anochel yw'r rhain, ond methiannau polisi, ac rydym am iddynt gael eu datrys. Mae gennyf dri maes i dynnu sylw atynt. Yn gyntaf, fel y nodwyd gan lawer o'r siaradwyr, rhaid inni fynd i'r afael â'r prinder lleoedd addysg a hyfforddiant. Mae'r warant i bobl ifanc yn ymrwymiad pwysig, ond nid yw'n ystyrlon os nad oes cyfleoedd yn bodoli y tu ôl i'r addewid. Yn ail, credaf fod angen inni newid sut y cefnogwn y bobl ifanc sydd bellaf o'r farchnad lafur. Clywsom am bobl ifanc ag anableddau, ond rwyf eisiau siarad yn fyr am bobl ifanc sydd wedi cael y profiad o ofal.
Canfu ymchwil ddiweddar gan Gweithredu dros Blant nad oes gan un o bob pedwar o'r bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal ddulliau adnabod sylfaenol sy'n angenrheidiol i sicrhau cyflogaeth. Mynediad cyfyngedig os o gwbl sydd gan bron i chwarter yr unigolion hyn at ffôn symudol neu gyfrifiadur, o'i gymharu â dim ond 7 y cant o'u cyfoedion. Ac mae 41 y cant o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn mynd i mewn i'r farchnad lafur gyda diagnosis o gyflwr iechyd meddwl, ac mae naw o bob 10 ohonynt yn dweud ei fod yn effeithio ar eu gallu i ddod o hyd i'w swydd gyntaf a'i chadw. Mae'r rhain yn broblemau ar ben problemau, wedi'u gwaethygu gan ddiffyg dealltwriaeth a chefnogaeth.
Fy mhwynt olaf yw hyn: rhaid inni nid yn unig ymateb i'r farchnad lafur heddiw, rhaid inni baratoi ar gyfer marchnad lafur y dyfodol. Fel y dywedwyd, dechreuodd llawer ohonom, yn y Siambr hon efallai, mewn gwaith rhan-amser neu waith dydd Sadwrn, ond mae'r cyfle hwnnw wedi diflannu bron yn llwyr. Gwaith ar ddydd Sadwrn oedd gennyf i ar y stondin pick-'n'-mix yn Woolworths. Mae'n debyg na fydd y rhan fwyaf ohonoch chi yma hyd yn oed yn cofio Woolworths, na hyd yn oed yn cofio pick-'n'-mix. Roedd yn waith ofnadwy, oherwydd nid yn unig fod yn rhaid i mi estyn y pick-'n'-mix, roedd yn rhaid i mi weini Slush Puppies hefyd, a byddai'r Slush Puppies yn colli ar fy nhraed yn rheolaidd, a byddai fy esgidiau'n blastr o siwgr. Ond rhoddodd hynny gyfle i mi, credwch fi, i allu mynd i mewn i'r byd gwaith a rhoi'r profiad a gefais mewn CV. Mae hynny'n bwysig, oherwydd swydd lefel mynediad heddiw yw gweithiwr medrus yfory; dyna'r gris cyntaf ar yr ysgol ac os yw'n diflannu heb ddim yn dod i'w le, rydym yn creu perygl o sychu'r ffrwd sy'n cyflenwi'r gweithlu sydd ei angen arnom yma yng Nghymru.
Nid yw ein pobl ifanc wedi troi eu cefnau ar Gymru, ond gall deimlo fel pe bai Cymru wedi troi ei chefn ar ein pobl ifanc. Mae angen gweithredu, Weinidog. Mae angen inni glywed gennych beth yw eich cynllun. Mae angen inni glywed gennych sut rydych chi'n mynd i ymgysylltu â'n pobl ifanc er mwyn adeiladu'r economi sydd ei hangen arnom i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle i fynd i mewn i'r byd gwaith ac aros yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Ers dechrau datganoli 27 mlynedd yn ôl, mae pobl ifanc Cymru wedi cael cam, o ran yr addysg a gawsant a'u hymdrechion i ddod o hyd i waith da, ac mae cysylltiad annatod rhwng y ddau beth. Mae'n anfaddeuol fod cenedl fel ein cenedl ni sydd â chymaint o botensial wedi dod yn lle mor annymunol i bobl ifanc sy'n chwilio am waith, a'n bod yn gwaedu talent cartref gwerthfawr yn ein pobl ifanc a'u bod nhw'n gadael Cymru. Ond nid yw'n syndod. Mae cyflogau yma'n is ac mae pobl yn talu cyfran uwch o'u hincwm mewn treth nag unrhyw le arall ym Mhrydain. Felly, pam na fyddai unigolyn ifanc, sydd newydd adael y byd addysg, ac eto i fwrw gwreiddiau, yn chwilio am gyfleoedd ac yn setlo yn rhywle arall?
Mae'r un peth yn wir am ein busnesau. Ein pobl ifanc—rhai o'n pobl ifanc—yw arloeswyr y dyfodol, y rhai sy'n gadael addysg gyda syniadau ffres ar gyfer dechrau busnesau. Ond gydag ardrethi busnes ofnadwy o uchel a seilwaith trafnidiaeth gwael, bydd unrhyw unigolyn ifanc a chanddo ben busnes yn naturiol yn edrych y tu hwnt i Gymru os yw am leihau ei gostau ac ennill cymaint ag y gall.
Ond hyd yn oed cyn i'n pobl ifanc edrych ar y farchnad swyddi, mae eu dewisiadau wedi cael eu cyfyngu gan y system addysg sy'n perfformio waethaf yn y DU. Ac rwy'n beio Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Mae ganddynt lawer llai o gyfleoedd na'u cymheiriaid dros y ffin ar ffurf cyrsiau, prentisiaethau a graddau. Mae ein rhwydweithiau seilwaith a thrafnidiaeth yn chwarae eu rhan yn y broblem. Maent yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad cronig, ac mae polisïau brolio rhinweddau fel 20 mya a gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd wedi ein niweidio ac wedi golygu nad yw busnesau a swyddi'n dod i Gymru yn agos at y niferoedd y dylent.
Ond fe wnaf ddweud fodd bynnag fy mod yn croesawu'n fawr yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i drydedd bont Menai yn fy etholaeth i, sef Bangor Conwy Môn, rhywbeth y buom yn ymgyrchu drosto ers amser maith. Bydd hyn yn hanfodol i'r ehangu a'r cyfleoedd swyddi newydd yn Wylfa, a dyna'n union sydd angen inni ei ailadrodd ledled Cymru: buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth, adeiladu ffordd liniaru'r M4 sy'n fawr ei hangen.
Polisïau niweidiol eraill fel y dreth twristiaeth. Mae'n anhygoel pam eich bod chi'n parhau i daro'r union fusnesau, fel y dywedodd Tom Montgomery yn dda iawn, y mae pobl ifanc eisiau mynd i mewn iddynt, yn y diwydiant lletygarwch. Maent eisiau gweithio mewn siopau sglodion neu weini diodydd iâ yn Woolworths. Ond rydym yn gwneud popeth a allwn i'w gwneud hi'n anodd i fusnesau annog pobl ifanc i fynd i weithio yno.
Yn ystod yr etholiad, roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun cadarn ar gyfer twf economaidd. Dyma'r unig gynllun credadwy i ddarparu mwy o swyddi a ffyniant, ac yn allweddol, i ddod â ni at yr un lefel â gweddill y DU. Nawr, rydym yn hapus i weithio gyda Phlaid Cymru, a chefais gyfarfod adeiladol iawn gyda'r Gweinidog ddoe, Adam Price. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol, fel y dywedwyd, ond mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â defnyddio'r dulliau sydd gennych chi fel Llywodraeth Cymru. Mae angen i chi ddileu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post. Mae angen inni wneud contractau caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch, yn enwedig i'n busnesau bach. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers 15 mlynedd, ond nid yw wedi digwydd. Rhaid inni roi blaenoriaeth i gwmnïau lleol Cymru.
Mae angen inni weithio gyda darparwyr addysg i ehangu'r dewis o gyrsiau sydd ar gael i bobl ifanc, yn enwedig mewn pynciau STEM a phrentisiaethau. Mae angen inni weithredu i fynd i'r afael â mannau lle nad yw'r signal symudol yn gryf a lle mae cyflymder band eang yn wael, fel nad yw ein pobl ifanc mewn cymunedau anghysbell a gwledig yn cael eu gadael ar ôl ac nad yw eu hastudiaethau'n cael eu llesteirio. Yn allweddol, mae angen inni edrych ar y broblem gyda phobl ifanc a diweithdra yn ei chyfanrwydd, gan ddechrau gyda gwella ein system addysg, a gorffen gyda thrwsio ein heconomi. Dyna'r unig ffordd o greu swyddi diogel ar gyflogau da i'n pobl ifanc, i gystadlu â swyddi yng ngwledydd eraill y DU, a gweddill y byd yn wir.
Felly, rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau da iawn sydd wedi'u gwneud yn y ddadl hon, ond gadewch inni beidio ag anghofio pwy sy'n gyfrifol am y llanast rydym ynddo gyda'n marchnad swyddi. Mae Plaid Cymru wedi dweud yr holl bethau cywir am bobl ifanc a chyflogaeth cyn yr etholiad, ond fel y dywedais ar y diwrnod y cefais fy ailethol, byddaf yn eich gwylio ar hyn, oherwydd ni wnewch dyfu Cymru heb dyfu eich pobl ifanc. Nid wyf yn teimlo'n optimistaidd iawn y gwnewch chi gyflawni popeth rydych chi wedi'i addo, a byddwn yn eich dwyn i gyfrif am—
Diolch, Janet.
—ond rydym yn barod i weithio gyda chi ar hyn.
Diolch yn fawr iawn.
Ond fe fyddwn yn ymatal.
Diolch, Shav, am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch i bawb am eu cyfraniadau hyd yma. Hoffwn ddechrau ar rai pwyntiau lle rydym yn cytuno, yn gyntaf gyda fy nghyd-Aelod o Reform am y ffaith na allwn anwybyddu pwysau mewnfudo ar y farchnad gyflogaeth i bobl ifanc. Mae'r Arsyllfa Fudo ym Mhrifysgol Rhydychen yn nodi bod 10 y cant o swyddi yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn ddinasyddion y DU. Mae hynny i fyny o 6 y cant yn 2021, sy'n dangos tuedd uwch o gystadleuaeth yn y farchnad swyddi sy'n mynd i effeithio ar bobl ifanc.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Diolch. Rwy'n cynrychioli Bangor Conwy Môn, un o'r trefi mwyaf yw Llandudno, a gennym ni y mae'r nifer mwyaf o welyau ledled Cymru yn y diwydiant twristiaeth. Gallaf eich sicrhau nad ydym yn dioddef yn sgil mewnfudo. Rydym yn dioddef o ardrethi busnes rhy uchel a'r holl bethau y soniais amdanynt yn fy araith. Gallaf ddweud yn onest wrthych nad ydym yn dioddef yn sgil mewnfudo. Nid yw mewnfudwyr yn mynd â swyddi pobl.
Wel, bydd rhaid i chi drafod hynny gyda Phrifysgol Rhydychen, oherwydd eu hystadegau nhw yw'r rhain, Janet, ond dyna ni.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Jane Dodds hefyd am yr argyfwng cyfle sydd gennym yn y wlad ar hyn o bryd. Fel y nodwyd, roedd gan genedlaethau blaenorol gontract cymdeithasol lle, os oeddech chi'n mynd i weithio, roeddech chi'n gweithio'n galed ac yn gwneud popeth a allech, a byddai eich bywyd yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond yn gynyddol, mae pobl ifanc yn teimlo nad yw'r contract cymdeithasol hwnnw ar waith iddynt ar hyn o bryd, ac ni waeth pa mor galed y maent yn gweithio neu faint o ymdrech a wnânt dros yr economi, nid yw'n dychwelyd y difidendau'n seiliedig ar yr ymdrech y maent wedi'i roi i mewn.
Ar y nodyn hwnnw, gallwn edrych ar Tsieina am symptomau o'r hyn sydd wedi digwydd yn eu heconomi nhw, sy'n debyg i'r hyn sydd wedi digwydd yma. Yn Tsieina, digwyddodd ffenomen gymdeithasol o'r enw tang ping, sy'n cyfieithu'n fras yn 'gorwedd yn wastad', sef, yn y bôn, gwrthryfel torfol gan bobl ifanc i ymddieithrio rhag yr economi gymaint â phosibl, gwrthod cymryd rhan yn y strwythur gwaith gormesol, y 996—gweithio naw tan naw, chwe diwrnod yr wythnos—gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, dechrau teulu, neu gymryd rhan mewn cymdeithas. Roedd hyn mor ddifrifol fel bod yn rhaid i Arlywydd Tsieina wneud anerchiad cyhoeddus ar y teledu, gan erfyn ar bobl ifanc i bob pwrpas, er lles y wlad, i dderbyn swyddi yr oeddent yn orgymwys ar eu cyfer, ac erfyn ar raddedigion prifysgol i wneud pethau fel gwaith dosbarthu bwyd. Os caniatawn i bethau barhau yn y wlad hon, rwy'n ofni y gallem gyrraedd sefyllfa debyg i bobl ifanc. Rydym eisoes wedi gweld adroddiadau am bobl yn rhoi'r gorau iddi'n dawel ychydig flynyddoedd yn ôl. Nid yw pobl yn rhoi'r gorau iddi'n dawel am eu bod yn ddiog; rydych chi'n gwneud hynny am eich bod chi wedi ymddieithrio'n llwyr rhag y system ac am nad ydych chi'n teimlo ei bod yn cyflawni i chi.
Fe wnaf orffen gydag un neu ddau o ystadegau o'r arolwg o'r farchnad lafur a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill, ac mae yna ddau ystadegyn sy'n wirioneddol drawiadol. Yn gyntaf, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yn 26 y cant, i fyny 8.1 y cant. Ond yn ogystal â hynny, mae'r gyfradd ddiweithdra ieuenctid hefyd yn 15.4 y cant. Wrth ystyried y ddau ystadegyn gyda'i gilydd, gweithgarwch economaidd yn eithrio pobl mewn addysg a diweithdra ieuenctid, dyna oddeutu 40 y cant o bobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, pa un a ydynt yn chwilio amdano ai peidio, ac mae hwnnw'n ystadegyn cwbl frawychus i mi ei ddarllen, felly fe wnaf orffen gyda hynny. Mae angen inni wneud popeth posibl i wella rhagolygon pobl ifanc yn y wlad hon. Ond yn anffodus, nid wyf yn credu mai gwarant i bobl ifanc yw'r ateb, oherwydd cafodd ei lansio yn 2021 fel y cam cyntaf, ac rydym yn dal i weld pa mor frawychus yw'r ystadegau heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwy'n mynd i geisio gwasgu un cyfraniad byr olaf i mewn cyn inni alw'r Gweinidog. Sera Evans.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n fy ngwasgu i mewn, a diolch i Shav Taj am gyflwyno'r ddadl hon. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau mwy cadarnhaol heddiw, gobeithio, ar ateb i lawer o'r pwyntiau a godwyd yn y cynnig—a dylid dweud bod y cynnig yn ei gydnabod—a'r angen i ehangu prentisiaethau a llwybrau galwedigaethol o ansawdd uchel. Yn benodol, hoffwn gyffwrdd eto â'r rôl bwysig y mae prentisiaethau iau a llwybrau amgen cryf 14 i 19 oed yn ei chwarae yn cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i'r llwybr cywir ar yr adeg iawn.
Mae ein llwyddiant mewn cymaint o feysydd yn dibynnu ar ein gallu i feithrin gweithlu medrus iawn, ac mewn sawl ffordd mae gennym y deunydd crai fel petai, system sgiliau wych, ond mae angen aildrefnu'r manylion yn fwy effeithlon. Ac mae'n rhaid dweud, roedd datganiad y Dirprwy Weinidog ddoe yn ddechrau addawol i ddarparu sefydlogrwydd i'r sector trydyddol. Mae'r Llywodraeth wedi amlinellu cynhyrchiant fel metrig allweddol y bydd yn mesur ei llwyddiant yn ei erbyn, ac efallai y bydd hynny'n swnio fel haniaeth, ond mae'n ymwneud â phobl yn y pen draw. Mae'n ymwneud â phob unigolyn ifanc sy'n gadael yr ysgol heb lwybr clir i waith, addysg neu hyfforddiant. Mae hynny'n gyfle a gollwyd iddynt hwy, i'w cymuned, i'r economi, y gwasanaeth iechyd, a beth bynnag arall.
Gall prentisiaethau iau newid hynny. Drwy roi sgiliau ymarferol, hyder a llwybr uniongyrchol i bobl ifanc at ddysgu pellach neu gyflogaeth, maent yn helpu i dorri'r cylch o ddod yn NEET. Gall y canlyniadau fod yn drawsnewidiol. Soniais yn y Siambr ddoe am y bartneriaeth prentisiaethau iau rhwng Ysgol Gyfun Cwm Rhondda a Choleg y Cymoedd, sydd wedi darparu llwybr ymarferol a chefnogol i bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio. A Lywydd, rwyf am dynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, a nodi fy mod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.
Dros amser, datblygodd un dysgwr, Alice, hyder a hunan-barch, gan ei galluogi i ddod o hyd i'w llais a dod yn fwyfwy annibynnol. Mae hi wedi cyflawni cymwysterau TGAU mewn mathemateg, rhifedd, Saesneg a gwyddoniaeth, yn ogystal â thystysgrif estynedig lefel 2 Agored Cymru. Mae hwn yn gyflawniad eithriadol i ddysgwr a oedd mewn perygl o ymddieithrio'n llwyr rhag addysg brif ffrwd. Mae stori Alice yn dangos yn union pam y mae'r llwybrau hyn yn bwysig, ac roeddwn yn falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cydnabod ddoe y bydd datblygu llwybrau cwricwlwm amgen cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, gan fod hynny'n fwlch yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Yn fras, fe geir arferion da y gall y Llywodraeth adeiladu arnynt a sicrhau bod y llwybrau hyn yn cael effaith barhaol yn ein hymdrechion i ddileu diweithdra ieuenctid.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon ac yn diolch i'r Aelod dros Gaerdydd Ffynnon Taf am ei chyflwyno. Meddyliwch am ferch 19 oed yn y Rhyl a adawodd yr ysgol dair blynedd yn ôl ac sydd heb weithio ers hynny. Mae'r ymchwil ar yr hyn sy'n digwydd nesaf yn glir. Heb gymorth, gall y person ifanc yma gario craith gyflog rhwng 10 y cant a 15 y cant, sydd yn dal i'w gweld pan yn 42 oed, yn ddyfnach fyth ar ôl pob cyfnod pellach mas o waith. O ran dim ond yr allbwn economaidd, mae eithrio un person ifanc yn costio tua £100,000 gydol oes i'r gymdeithas gyfan. Yng Nghymru, fel rŷn ni wedi ei glywed, rŷn ni'n amcangyfrif bod tua 50,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae hynny'n fethiant cymdeithasol ac yn un economaidd: 50,000 dyfodol yn culhau, a Chymru gyfan yn ysgwyddo'r gost.
Dylem fod yn fanwl gywir pwy ydyn nhw, gan fod y diagnosis yn penderfynu beth yw'r driniaeth. Dydyn nhw ddim yn un grŵp. Mae tua thraean yn ddi-waith yn yr ystyr gonfensiynol, yn chwilio am waith ond yn methu â dod o hyd iddo. Mae tua dwy ran o dair yn economaidd anweithgar, ddim yn chwilio am waith neu ddim yn gallu ei wneud, ac yma mae afiechyd, yn anad dim afiechyd meddwl, wedi dod yn un o'r gyrwyr sy'n tyfu gyflymaf. Y rhai a adawodd addysg gynharaf yw'r rhai mwyaf tebygol o aros ar wahân i’r farchnad lafur hiraf. Bydd system a adeiladwyd ar gyfer y rhai sydd yn ceisio gwaith yn unig yn parhau i golli'r grŵp mwy. Bydd system wedi'i hadeiladu o amgylch rhwystrau iechyd yn unig yn colli'r gweddill. Ac oherwydd bod y ffordd yn agor neu yn cau cyn i berson ifanc gyrraedd y farchnad lafur, mae ysgolion a cholegau yn rhan o'r ateb hefyd. Felly, mae angen ateb cyfansawdd sydd yn mynd i'r afael â'r holl ffactorau yma.
Mae'n iawn, ar ddechrau'r weinyddiaeth newydd hon a'r Senedd newydd hon, ein bod yn gofyn cwestiynau anodd am y system a etifeddwyd gennym. Daeth y Llywodraeth hon i rym gyda gwariant ar gymorth cyflogadwyedd ychydig bach yn uwch y pen na rhannau eraill o'r DU, a chyda chyfran y bobl ifanc sy'n NEET yn cynyddu'n sydyn yn ôl data'r arolwg diweddaraf. Felly, gwariant uwch yng Nghymru, ac eto mae mwy o bobl ifanc wedi ymddieithrio. Nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn y Siambr yn gweld hynny'n dderbyniol, ac nid yw'r Llywodraeth chwaith.
Un o'r cwestiynau allweddol i mi yw pa mor hir ar ôl iddynt ymddieithrio y mae'r system yn cyrraedd unigolyn ifanc am y tro cyntaf. Mewn gwirionedd, ai'r system sydd wedi ymddieithrio rhagddynt hwy, yn hytrach na bod y bobl ifanc wedi ymddieithrio rhag y system? Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu'r nifer hwnnw'n union. Wrth lunio unrhyw bolisi, mae buddsoddi'n bwysig wrth gwrs, ond fel y dywedodd yr Aelod dros Gaerdydd Ffynnon Taf, mae canlyniadau'n bwysicach. Nid nifer y bobl sy'n dechrau mewn swyddi neu'r bobl ar raglen y gallwn eu cyfrif yw'r mesur o lwyddiant, ond a yw unigolyn ifanc yn dal i fod mewn gwaith da neu'n dysgu chwe mis yn ddiweddarach, a 12 mis yn ddiweddarach. A dyna'r safon rwyf eisiau ei chymhwyso i bob rhaglen yn fy mhortffolio.
Lluniwyd y warant i bobl ifanc gan y weinyddiaeth flaenorol. Mae Llywodraethau'n newid ond ni ddylai ac nid yw'r ymrwymiad i bobl ifanc yn newid. O dan y Llywodraeth hon, o dan y Gweinidog hwn, rwyf am iddo dyfu hyd yn oed yn gryfach. Dyna pam ein bod yn falch o gefnogi'r cynnig heddiw. Ni ddylai unrhyw unigolyn ifanc yng Nghymru gael eu gadael heb lwybr at addysg, hyfforddiant neu waith. Nid ein tasg yw gwneud llai i bobl ifanc, ond i wneud yn well iddynt, ac mae gwneud yn well hefyd yn galw am onestrwydd. Nid yw polisïau presennol—y DU a Chymru fel ei gilydd—o dan Lywodraethau o bob lliw wedi bod yn ddigonol i gyflawni'r dasg. Mae angen gwell arnom.
Nid ydym yn dechrau o ddalen wag o bapur. Daw rhai o'r canlyniadau mwyaf addawol yn rhyngwladol o ddulliau sy'n cyfuno cyflogaeth a chymorth iechyd gyda'i gilydd, ac o warantau sy'n gosod terfyn amser pendant ar ba mor hir y mae unigolyn ifanc yn aros am gynnig. Pan fyddaf yn cyfarfod ag Alan Milburn yn fuan, byddaf yn trafod y syniadau hyn a sut y gallwn weithio fel dwy Lywodraeth gyda'n gilydd. Fel Gweinidog, rwyf am weithio gyda phawb yn y Siambr hon, a chyda'r grŵp trawsbleidiol ar gyflogaeth ieuenctid—ni cheir monopoli ar syniadau da—ac rwyf am i'n gwaith gael ei arwain gan dystiolaeth. Rhaid imi ddweud nad wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol fy hun fod mewnfudo'n ffactor cyfrannol mawr i ddiweithdra ieuenctid.
Rydym yn gwybod rhai pethau am yr hyn sy'n gweithio, a gallwn dynnu ar brofiad y Fargen Newydd i'r di-waith, 25 mlynedd yn ôl—un o'r ymyriadau mwyaf llwyddiannus erioed o ran polisi gweithredol ar gyfer y farchnad lafur. Gwyddom fod degau o filoedd o bobl ifanc heb fod mewn gwaith nac mewn addysg nawr, tra bod cyflogwyr Cymru'n dal i nodi'r swyddi gwag y maent yn ei chael hi'n anodd eu llenwi. Yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf yw bod hyn yn fwy na mater o baratoi pobl ar gyfer swyddi; mae'n strwythurol.
Nid yw'n werth dim os oes swydd yn bodoli ond nad ydych chi byth yn clywed amdani, neu os nad ydych chi wedi clywed am y warant i bobl ifanc, neu os na allwch chi fforddio'r bws i'w chyrraedd, neu os nad yw'r llwybr bws yn bodoli hyd yn oed i'ch helpu chi i gyrraedd yno. Nid yw cefnogaeth ar ei phen ei hun yn ddigon oherwydd ni allwch hyfforddi unigolyn ifanc i mewn i swydd nad yw'n bodoli. Felly, mae angen gwaith ar ochr y galw yn ogystal ag ar ochr y cyflenwad. Mae gwaith ein hawdurdod datblygu newydd ar helpu i ehangu cwmnïau Cymru, ar adeiladu sectorau'r dyfodol, a helpu rhai o'n sectorau traddodiadol fel twristiaeth a bwyd a diod i ddarparu'r swyddi cyntaf hynny, yn allweddol. A byddwn yn gofyn mwy gan gyflogwyr. I adleisio'r pwynt a wnaed gan un o'r Aelodau yma, gall Llywodraethau wneud hyn a hyn, ond ni all Llywodraethau ar eu pen eu hunain wneud popeth, ac mae arnom angen i gyflogwyr wneud mwy ar greu swyddi cyntaf hefyd.
Mae yna her anos sydd wedi bod ar y gorwel ac sydd bellach wedi cyrraedd. Nid yw deallusrwydd artiffisial, yn ôl y dystiolaeth gynnar, yn diddymu galwedigaethau, ond mae'n cael gwared ar y tasgau rheolaidd y mae lefelau mynediad yn draddodiadol wedi'u hadeiladu ohonynt mewn gweinyddiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, gwaith proffesiynol iau. Os nad yw cwmnïau'n ailgynllunio'r gris cyntaf, bydd yn diflannu. Ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw helpu i sicrhau bod newid technolegol yn ehangu cyfleoedd yn hytrach na'u cyfyngu, ac mae angen y system sgiliau arnom i'n galluogi i wneud hynny. Rhaid i'n cefnogaeth ar draws y Llywodraeth ateb marchnad lafur yfory, nid y farchnad lafur 10 neu 15 mlynedd yn ôl.
Nid oes dim o hyn yn gweithio os nad yw unigolyn ifanc yn gallu dod o hyd i'r ffordd i mewn. Yn rhy aml, rydym yn gofyn i'r bobl ifanc sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i lywio drwy'r rhan fwyaf tameidiog o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae cysylltiadau y gellir ymddiried ynddynt yn helpu unigolyn ifanc yn ôl i mewn i'r system: gwasanaethau ieuenctid, cynghorau, cyflogwyr, colegau, undebau llafur, sefydliadau cymunedol. Ein gwaith ni yw gwneud y cysylltiadau hynny'n symlach ac yn gryfach fel nad oes rhaid i unrhyw unigolyn ifanc adrodd eu stori ddwywaith.
Lywydd, mae gwaith teg yn rhoi mwy na chyflog; mae'n rhoi pwrpas, trefn, lle ymhlith pobl eraill, cymuned. Byddwn yn parhau i brofi beth sy'n gweithio. Byddwn yn seilio hynny ar y dystiolaeth a phrofiad bywyd pobl ifanc. Fe fyddwn yn onest am yr hyn nad yw'n gweithio. Fe newidiwn ein llwybr lle mae'r dystiolaeth yn mynnu hynny. Bydd ein ffocws yn ddi-baid ar ganlyniadau, nid gweithgarwch yn unig, ac mae'r prawf ar gyfer popeth yn syml: a ydym yn cyrraedd yr unigolyn ifanc 19 oed hwnnw yn y Rhyl yn gynt, yn cynnig rhywbeth iddynt sy'n werth ei gymryd, ac yn adeiladu gris cyntaf sy'n wydn. Diolch.
Galwaf nawr ar Shav Taj i ymateb i'r ddadl.
Wel, ble mae dechrau? Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael trafodaeth mor dda ac rwyf am groesawu sylwadau'r Gweinidog yn gyntaf. Fe wnaethoch chi fy ngweld yn nodio ac roeddwn i'n amlwg yn cytuno â llawer o'r hyn roeddech chi'n ei ddweud, oherwydd y gwir amdani yw ein bod wedi cael ystod o wahanol gynlluniau. Mae rhai ohonynt wedi gweithio ac mae rhai ohonynt wedi bod â bylchau o hyd, boed yn rhai a grëwyd gennym ni yma yng Nghymru neu'n rhai a gafodd eu creu mewn mannau eraill.
Y peth mawr i mi ym mhob dim a glywais gan bawb, yn enwedig Aelodau iau y Senedd, yw bod angen inni ddeall bod hyn yn ymwneud â'r materion cymdeithasol ac economaidd a dod â nhw at ei gilydd. Os nad ydym yn mynd i wneud unrhyw beth real iawn mewn perthynas ag adeiladu mwy o gartrefi sy'n fforddiadwy, gan fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â hawliau rhentwyr, er enghraifft, os nad ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r pethau mawr sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd ac yn y blaen, ni fydd dyfodol i unrhyw un. Ac rwy'n poeni, yn amlach na pheidio, am fy mhlant fy hun, a hyd yn oed pan oeddwn i'n ystyried cael plant, roeddwn i'n meddwl, 'A wyf i'n gwneud y peth iawn?' A nawr rwy'n edrych ar fy mhlant, mae un yn 15 ac un yn 13, ac rwy'n meddwl, mawredd—. Nawr, rwyf yn yr adeilad hwn. Ac mae fy merch yn cadw fy atgoffa, 'Mam, eich bai chi yw ein bod ni yn y sefyllfa hon.' Felly, rwy'n ei gael gartref bob dydd, felly pan fyddaf yn cerdded i mewn—. Edrychwch, i mi, yr hyn y buaswn i'n ei ddweud, ac fe ofynnaf i'r Gweinidog, yw: a allwch chi adrodd yn ôl i'r Senedd ar ôl y drafodaeth y byddwch chi'n ei chael gyda Milburn? Mae llawer o bobl y siaradais â nhw, o lawer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys y TUC eu hunain, wedi dweud ei bod yn dda ein bod wedi cael yr adolygiad hwnnw, ond roedd bylchau'n dal i fod yn hwnnw hyd yn oed. Ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg fod mwy o waith i'w wneud.
Fe wnaed llawer o sylwadau am fewnfudo, a gallwn siarad am y pethau hyn drwy'r dydd, ond nid yw'r data'n cefnogi hynny. Ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod hefyd wedi clywed gan Janet, a ddywedodd yn glir iawn ei fod yn ymwneud ag ardrethi busnes. Ac rwy'n cytuno. Mae angen inni adolygu ardrethi busnes. Mae mwy o waith i'w wneud yno. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo wedi bod yn beth da i Gymru ac i'r wlad gyfan.
Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud, o ran caffael cyhoeddus yn benodol—
Shav—
Mae'n werth nodi—mae'n ddrwg gennyf, fe ddof i ben yn gyflym—fod 75 y cant o gaffael sector cyhoeddus ledled Cymru yn deillio o Gymru. Roedd yn gaffael gan fusnesau yng Nghymru. Ac unwaith eto, 50 y cant yng Nghaerdydd. Nawr, nid wyf yn dweud bod gennym yr holl atebion yr eiliad hon, ond rwy'n credu ein bod wedi cael trafodaeth dda iawn heddiw, ac rwy'n gobeithio y gall y rhan fwyaf o'r pleidiau yn y Senedd hon gefnogi hyn a'i weld fel man cychwyn yn hytrach na diwedd y drafodaeth. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lynne Neagle.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, dadl Reform UK—TB buchol. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9288 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Iain McIntosh, Jason O'Connell, Sarah Cooper-Lesadd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith barhaus TB buchol yn ariannol, yn emosiynol ac o ran lles anifeiliaid ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig Cymru.
2. Yn cydnabod bod TB buchol yn glefyd cymhleth gyda sawl llwybr trosglwyddo, gan gynnwys trosglwyddo o wartheg i wartheg a haint o fywyd gwyllt.
3. Yn gresynu bod y dull presennol wedi methu ag ennyn hyder llawer o ffermwyr ac nad yw wedi cyflawni'r cynnydd sydd ei angen tuag at ddileu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal safonau bioddiogelwch cadarn;
b) manteisio ar gyngor y Grŵp Cynghori Technegol TB wrth ddatblygu dull newydd o reoli TB buchol;
c) cydnabod bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint;
d) galluogi dulliau rheoli sydd wedi'u dilysu'n wyddonol; ac
e) sicrhau, os bydd y Grŵp Cynghori Technegol TB yn argymell camau rheoli bywyd gwyllt wedi'u targedu, gan gynnwys difa, fod argymhellion o'r fath yn cael eu hystyried yn llawn ac yn briodol ac, os ydynt yn cael eu cefnogi gan y dystiolaeth, y byddant yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o ddileu TB buchol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud ein cynnig Reform heddiw yn enw Llŷr Powell.
Rydym wedi aros am hyn ers amser hir. Rwy'n credu, o'r diwedd, fod gennym gonsensws ar draws y Siambr hon ar sut a pham y mae angen inni fynd i'r afael â'r clefyd TB buchol creulon hwn unwaith ac am byth. Rwy'n gwneud hynny mewn ysbryd o ddifrifoldeb a chyfrifoldeb, ar ôl gweld dynion a menywod, ffermwyr, ar eu gliniau'n crio oherwydd bod eu gwartheg wedi cael eu lladd yn sgil methiant Llywodraethau blaenorol i fynd i'r afael â'r clefyd dinistriol hwn.
Nid yw problem bleidiol wleidyddol yw TB buchol. Mae'n un o'r materion mwyaf dybryd a phoenus sy'n wynebu ein cymunedau amaethyddol hyd heddiw—nid yn fy ôl i neu fy mhlaid yn unig, ond yn ôl cymunedau gwledig cyfan ledled Cymru. Pan gefais fy ethol i'r lle hwn gyntaf yn 2003, roedd TB buchol eisoes yn dinistrio ffermydd Cymru ac wedi taflu cwmwl tywyll dros y diwydiant. Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae ffermwyr yn dal i fyw o dan yr un cwmwl tywyll, yn gwylio gwartheg iach yn cael eu cludo ymaith, yn dioddef cyfyngiadau diddiwedd ac yn gweld busnesau teuluol ac aelodau o'r teulu'n cael eu gwthio at ymyl y dibyn. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ar draws y Siambr nad yw'r strategaeth bresennol na strategaethau'r gorffennol wedi gweithio. Ni allwn barhau i wneud yr un peth a disgwyl canlyniadau gwahanol. Rydym i gyd yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Mae ein ffermwyr yn galw am ddechrau newydd ar hyn, a dull mwy beiddgar, wedi'i dargedu a'i arwain gan wyddoniaeth.
Mae'r clefyd hwn yn achosi niwed ariannol enfawr, ond mae'r niwed emosiynol yn anos i'w fesur. A minnau'n hanu o deulu a chymuned ffermio yn sir Fynwy, rwyf wedi gweld y realiti. Rwyf wedi gweld y boen a'r caledi y mae'n ei achosi—wedi gwylio gwartheg y maent wedi'u magu ac wedi gofalu amdanynt yn cael eu cludo ymaith i'w lladd, a hynny'n ddiangen mewn llawer o achosion. Ac ar hynny, rhaid gwella profion. Rhaid iddynt fod yn gliriach. Rhaid iddynt fod yn fwy cywir. I'r rhai nad ydynt wedi ei weld yn eu cymunedau eu hunain, efallai eu bod wedi gweld y bennod ddiweddar o Clarkson's Farm lle caiff buwch ei chludo ymaith i'w lladd a hithau'n cario dau lo a gafodd eu lladd hefyd, oherwydd prawf a ddaeth yn ôl yn amhendant.
Dyma wirionedd creulon yr hyn y mae ein ffermwyr yn gorfod delio ag ef. Ac nid un achos yn unig yw hwn. Mae'r niwed y mae hyn wedi'i wneud i rai o'n ffermwyr yng Nghymru wedi eu harwain i gyflawni hunanladdiad. Rhaid ystyried y gost i fywydau anifeiliaid yn ogystal â'r gost i fywydau pobl. Rhaid inni hefyd ystyried y gost enfawr i'r pwrs cyhoeddus. Weinidog, faint y mae TB buchol yn ei gostio i Gymru bob blwyddyn? Faint y mae degawdau o fethiant i fynd i'r afael â'r clefyd hwn eisoes wedi ei gostio i drethdalwyr Cymru, a faint yn fwy y bydd yn ei gostio i Gymru os bydd eich Llywodraeth yn dilyn ôl troed blaenorol Llywodraethau'r gorffennol drwy fethu gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol?
Rydym hefyd yn cydnabod yn ein cynnig fod anifeiliaid gwyllt yn ffynhonnell haint, a dyna'r camau sydd wedi bod ar goll. Ynghyd â safonau uwch a phopeth arall y mae ffermwyr yn eu derbyn, mae'n rhan sylweddol o'r broblem y mae angen mynd i'r afael â hi nawr. Yn rhy aml, mae ffermwyr yn cael eu portreadu'n anghywir fel rhai nad ydynt yn poeni am les anifeiliaid na'r amgylchedd; ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir. Mae ffermwyr Cymru ymhlith y rhai sy'n malio fwyaf am anifeiliaid a nhw yw ein gwarcheidwaid amgylcheddol mwyaf. Nid ydynt eisiau gweld unrhyw anifail yn cael ei ladd yn ddiangen. Mae ein cynnig yn cydnabod cymhlethdod TB buchol, gyda'r ffyrdd lluosog y mae'r haint yn trosglwyddo, yn ogystal â'r haint o fywyd gwyllt, ond rhaid inni gydnabod a derbyn bod anifeiliaid gwyllt yn un o ffynonellau'r haint.
Mae angen inni sefydlu difa yn ein cynllun, ond yn wahanol i Loegr, rydym am weld dull wedi'i dargedu'n well, wedi'i arwain gan wyddoniaeth a fydd yn nodi anifeiliaid gwyllt a ffeuau sydd â TB yn unig, nid dull cyffredinol sy'n targedu pob ffau. Bydd hyn, wrth gwrs, yn achub anifeiliaid gwyllt ac yn arbed lladd diangen, a hefyd bydd yn helpu i ddileu'r clefyd yn well, gellid dadlau, na'r dull yn Lloegr. Os yw'r grŵp cynghori technegol yn ei argymell, rhaid ystyried yr argymhelliad hwnnw'n llawn. Mae'r dystiolaeth sydd eisoes allan yno'n dangos bod hyn yn debygol o fod yn elfen allweddol er mwyn llwyddo i gael gwared ar y clefyd creulon hwn o Gymru unwaith ac am byth.
Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, Weinidog, fod angen inni edrych yn gyntaf ar ganolbwyntio'r ymdrechion hyn i reoli bywyd gwyllt yn yr ardaloedd sydd â'r lefel uchaf o glefyd TB buchol—yn sir Fynwy, sir Benfro, Ceredigion ac yn y blaen. Dylid defnyddio tystiolaeth leol sy'n dangos i ni ble mae'r clefyd hwn yn gyffredin i nodi'r ffeuau hynny a dangos i ni ble mae angen gweithredu. Bydd hyn yn ei dro'n diogelu poblogaethau moch daear iach, yn diogelu ac yn achub gwartheg iach ac yn rhoi cyfle i ffermwyr yn yr ardaloedd a'r cymunedau yr effeithir arnynt waethaf dorri'r cylch o haint.
Ers blynyddoedd, ar ôl Llywodraethau Llafur olynol, rhoddwyd strategaethau, adolygiadau ymgynghori a geiriau cynnes i ffermwyr, ac mae gwelliant Llafur heddiw'n dangos eu bod yn dal heb ddysgu'r wers honno. Ar ôl 27 mlynedd mewn grym, bron i dri degawd o fethu trechu'r clefyd hwn, maent eisiau i'r Siambr eu llongyfarch ar ddull partneriaeth fel y'i gelwir a phwyntio at ystadegau sy'n awgrymu ei fod yn gwella. Ond rwy'n gwahodd y rhai sy'n teimlo fel hyn i fynychu ffermydd da byw, i ymweld â ffermydd a gwrando ar ffermwyr, gan fod pawb ledled Cymru eisiau i TB buchol ddiflannu am byth, gan gydnabod y dinistr y mae'n ei achosi a'r brys i fynd i'r afael â hyn.
Ni fydd ffermwyr sy'n byw drwy achosion, cyfyngiadau a lladd gwartheg iach dro ar ôl tro yn adnabod y darlun gobeithiol rydych chi'n ei gyflwyno. Rydym yn galw am ddull wedi'i dargedu, dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mewn ardaloedd lle mae'r lefelau mwyaf difrifol o TB buchol. Mae ffermwyr eisoes wedi talu pris rhy uchel am na wnaeth Llywodraethau blaenorol roi'r camau hynny ar waith. Maent angen cynllun sy'n gweithio, maent angen amserlen. Gadewch inni fod yn feiddgar gyda'n nodau. Gadewch inni geisio atal gwartheg, moch daear ac anifeiliaid gwyllt rhag gorfod marw'n ddiangen ac mewn poen o TB.
Mae gennym Weinidog nawr sy'n cytuno na allwn osgoi'r hyn y mae pawb ohonom bellach yn gwybod ei fod yn wir—fod anifeiliaid gwyllt yn rhan o'r broblem. Mae gennym Weinidog nawr sydd wedi dweud yn y Siambr hon na fyddai'n ofni gwneud y penderfyniadau anodd hynny os mai dyna beth y mae'r wyddoniaeth yn ei awgrymu. O'r diwedd, mae gennym gonsensws a chytundeb ar draws y Siambr fod angen dull gwahanol ar frys i gael gwared ar TB buchol o Gymru. Mae'r mwyafrif ohonom yn cytuno nawr fod angen dull wedi'i dargedu a bod angen inni wneud y penderfyniadau anodd hyn i ddiogelu bywyd gwyllt, achub moch daear iach, gwartheg iach, ac achub ein ffermwyr rhag rhagor o artaith feddyliol.
Dyma ni. Mae'n bryd. Dyma'r Senedd i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig. Weinidog, os cefnogwch ein cynnig heddiw ac os gwrandewch ar y gri o'n cymunedau gwledig sydd angen gweld gweithredu go iawn, bydd Reform, a phleidiau eraill yn y Siambr hon, rwy'n gwybod, yn eich cefnogi, a byddwn y tu ôl i chi 100 y cant. Mae gennym gyfrifoldeb i wneud hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r cyfrifoldeb terfynol, wrth gwrs, ar eich ysgwyddau chi. Rwy'n gobeithio heddiw y byddwch chi'n defnyddio'r cyfle hwn i ddatgan eich bwriadau clir, i wneud cyhoeddiad gyda chynlluniau cadarn, clir ac amserlen ar gyfer gweithredu. Rydym yn ddiolchgar am eich geiriau cynnes hyd yma ar hyn, Weinidog, ond mae'n bryd gweithredu nawr. Gadewch i ni fod y Senedd a chi'r Llywodraeth i newid hyn. Rwy'n eich annog i gyd i ddod at eich gilydd ar draws y Siambr heddiw, cyn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf, a'r sioeau lleol yn eich etholaethau yr haf hwn, a phleidleisio gyda'n gilydd o blaid cynnig a fydd yn anfon neges gref i dawelu meddyliau ein diwydiant amaethyddol ein bod yn barod i wneud y penderfyniadau anodd hynny sy'n seiliedig ar realiti a gwyddoniaeth, a fydd yn golygu y gallwn gefnogi ein ffermwyr o'r diwedd, achub anifeiliaid a chael gwared ar y clefyd creulon hwn o Gymru unwaith ac am byth. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Vikki Howells i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Vikki Howells.
Gwelliant 1—Lynne Neagle
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod:
a) y dull partneriaeth a gymerwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru yn gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon;
b) bod achosion mewn buchesi ar hyn o bryd ar ei werth isaf ers mis Ionawr 2017; ac
c) bod bron i 95 y cant o fuchesi yng Nghymru bellach yn rhydd o TB buchol ar hyn o bryd.
3. Yn nodi y dylid rhoi ystyriaeth lawn a phriodol i dystiolaeth ac argymhellion a wnaed gan y Grŵp Cynghori Technegol TB.
4. Yn cydnabod rôl bwysig brechu wrth ddileu TB buchol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â gwaharddiad ar ddifa moch daear yn dorfol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol. Fe ddechreuaf drwy fynd i'r afael â'r un elfen o gynnig Reform y mae Llafur Cymru yn cytuno'n llwyr ag ef ac nad ydym yn ceisio ei ddiwygio, sef yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a chymunedau ffermio pan fydd achos o TB mewn buches. Rydym yn cydnabod yr effaith emosiynol ac ariannol, y dinistr pur a'r canlyniadau mwy hirdymor o ddelio â'r statws hwn. Felly, mae'n bwysig ein bod yn onest gyda ffermwyr a chymunedau ffermio, ein bod yn cyflawni mesurau a fydd yn gwneud pethau'n well iddynt ac yn peidio â chyflawni mesurau na fydd yn cael effaith. Ac mae hynny'n wir gyda rhai o'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig Reform, ac fe dreuliaf beth amser yn archwilio'r rhain.
Pwynt 2: er bod bTB yn glefyd cymhleth a bod sawl llwybr y gellir ei drosglwyddo, nid yw pob llwybr yn gyfartal. Y prif lwybr trosglwyddo i raddau helaeth iawn yw rhwng gwartheg. Dyna sy'n gyfrifol am 94 y cant o'r haint mewn buchesi—19 o bob 20 achos.
Pwynt 3: mae'n ddrwg gennyf am unrhyw golli ffydd yn null y Llywodraeth flaenorol o fynd ati, ond mae ein gwelliant yn atgoffa o'r dull partneriaeth sy'n seiliedig ar fynd i'r afael â throsglwyddiad yr haint o fuwch i fuwch a weithredwyd gan y Llywodraeth flaenorol, gan weithio ar y cyd â ffermwyr a milfeddygon. Fe gyflawnodd, ac mae'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Ar hyn o bryd mae mynychder bTB mewn buchesi ar ei lefel isaf ers mis Ionawr 2017. Mae nifer y buchesi ag achosion newydd wedi mwy na haneru. Mae bron i 95 y cant o fuchesi yng Nghymru yn rhydd o bTB ar hyn o bryd, ac mae nifer y gwartheg a laddir wedi gostwng dros un rhan o bump. Wrth gwrs, mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ac mae angen inni wneud hynny, gan adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth, ond mae angen inni gydnabod ein bod yn adeiladu ar sylfeini cadarn.
Rwy'n ddiolchgar i Laura Anne Jones am egluro yn y Siambr heddiw ei bod yn siarad am ddull wedi'i dargedu yn hytrach na difa torfol, ond rwyf am ddweud hefyd nad oes unrhyw ffydd mewn difa torfol. Mae tri o bob pump aelod o'r cyhoedd yn erbyn difa torfol a hyd yn oed mwy yn erbyn y syniad o wario, gwastraffu arian cyhoeddus ar ddifa torfol. Hoffwn nodi y byddai dull o'r fath, pe bai'n cael ei fabwysiadu, yn llyncu arian y gellid ei ddefnyddio fel arall i gefnogi ffermwyr neu'r ymyriadau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Ac yn hyn o beth, rwy'n siŵr y gallwn i gyd gofio sylwadau chwerthinllyd cyn-Ysgrifennydd Torïaidd dros yr amgylchedd yn cyfiawnhau methiant difa yn Lloegr drwy ddweud bod moch daear wedi symud y pyst gôl. Prin eu bod yn sylwadau i seilio hyder neu bolisi cyhoeddus arnynt.
Daw hynny â ni at bwynt 4. Mae'n cyfeirio'n helaeth at y grŵp cynghori technegol TB, ac mae hynny'n dda. Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru a sefydlodd y corff hwn, ac mae'n dda gweld hyder ynddo gan Reform, ac o bob rhan o'r Siambr hefyd, rwy'n gobeithio. Ond yn fwy na hynny, rhaid inni gofio safbwynt y grŵp cynghori, sef bod angen mwy o dystiolaeth cyn i unrhyw newid polisi gael ei ystyried, ac y dylid gwneud hyn heb ymyrraeth wleidyddol. Rhaid i edrych yn ehangach ar y wyddoniaeth fod yn sail i'n penderfyniadau ar y pwnc. Felly, hoffwn bwysleisio un pwynt allweddol: ni cheir consensws gwyddonol fod difa anifeiliaid gwyllt, moch daear, yn effeithiol wrth ddelio â bTB. Mae nifer cynyddol o astudiaethau diweddar a adolygwyd gan gymheiriaid wedi ystyried effaith difa moch daear yn Lloegr, ac mae'r astudiaethau hyn yn pwyso ar ddau brif gasgliad: mae difa moch daear yn aneffeithiol ar gyfer lleihau bTB mewn gwartheg ac nad moch daear yw ffynhonnell na chronfa'r haint. Rwy'n disgwyl clywed sôn yn y Siambr heddiw—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Onid ydych chi'n cydnabod, lle digwyddodd difa moch daear yn Lloegr, fod cyfraddau ailheintio ac achosion wedi gostwng mewn gwirionedd? Felly, lle rydych chi'n cael gwared ar anifeiliaid gwyllt heintiedig, mae'n profi ei fod yn gwella'r sefyllfa gyffredinol o ran TB mewn gwirionedd.
Rwy'n credu, James, eich bod chi'n dyfynnu o Birch et al a Downs et al, y gwn ei fod wedi cael sylw yn rhai o'r dogfennau rhanddeiliaid a anfonwyd atom heddiw. Ond casgliad y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yw bod yr astudiaethau hynny'n cyfuno difa moch daear a mesurau eraill sydd wedi'u hanelu at wartheg, a bod yr awduron yn cydnabod nad oeddent yn gallu penderfynu a yw difa moch daear yn effeithiol i leihau bTB mewn gwartheg. Dyna pam y mae angen i'r grŵp llywio hwn edrych ar y dystiolaeth wyddonol yn ei chyfanrwydd.
Mae cynnydd wedi'i wneud drwy brofion gwartheg cynharach a mwy sensitif, gwell mesurau rheoli symud, gwell bioddiogelwch a gwell rheolaeth ar fuchesi, gyda gwell cefnogaeth gan y Llywodraeth i ffermwyr. Fe wyddom fod yna frechlyn hynod effeithiol; yr un un ag a ddefnyddir mewn pobl. Gyda'r rhan fwyaf o'r trosglwyddiad bTB yn digwydd rhwng gwartheg, mae gennyf ddiddordeb mewn gweld beth y mae ein grŵp cynghori technegol yn ei ddweud ynglŷn â defnydd mwy eang o frechlyn mewn buchesi, ymarferoldeb hyn a sut y gellid talu'r costau hynny.
Felly, Lywydd, fe wnaf orffen drwy ddweud wrth ASau Plaid Cymru yn arbennig fy mod i'n gwybod bod llawer ohonoch yn teimlo'n angerddol am ein hamgylchedd, am ei warchod a'i feithrin fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, ac nid wyf yn credu y bydd cynnig Reform, gyda'i awgrymiadau o ladd yng nghefn gwlad, heb fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, yn cyflawni hynny. Diolch.
Fel un o Aelodau Gwynedd Maldwyn, mae'n fraint cael cynrychioli un o'r etholaethau mwyaf a mwyaf gwledig yng Nghymru, lle mae amaethyddiaeth yn asgwrn cefn ein heconomi a'n cymunedau, ac felly rwy'n ddiolchgar am gael siarad i gefnogi'r cynnig hwn. Cyn y ddadl heddiw, roeddwn eisiau clywed nid gan swyddogion na phapurau polisi, ond gan bobl sy'n byw gyda TB buchol bob dydd. Felly, dros y penwythnos, cyfarfûm â ffermwyr o bob rhan o sir Drefaldwyn. Roedd yr hyn a ddywedodd y ffermwyr hynny wrthyf yn ymwneud â mwy na gwartheg yn unig—roedd yn ymwneud â chostau emosiynol, ariannol a dynol byw o dan gysgod cyson TB buchol.
Yn ôl ystadegau diweddaraf yr NFU, yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2024, cafwyd 500 buches ag achosion newydd o TB buchol ledled Cymru, a chafodd mwy na 10,000 o wartheg eu lladd yn rhan o'r mesurau rheoli TB. Nid ystadegau'n unig yw'r rhain. Maent yn cynrychioli cannoedd o fusnesau ffermio, a miloedd o sgyrsiau anodd o amgylch byrddau cegin ledled y Gymru wledig. Pan fyddwn yn trafod TB buchol, mae'n hawdd ymgolli mewn ystadegau, trefniadau profi a dadleuon polisi. Mae'r pethau hynny'n bwysig, ond ni ddylem byth golli golwg ar y bobl sy'n byw drwy'r clefyd bob dydd.
Nid oedd y ffermwyr y cyfarfûm â nhw'n gofyn am gydymdeimlad. Roeddent yn gofyn am sicrwydd. Roeddent yn gofyn am arweinyddiaeth. Disgrifiodd ffermwyr o bob rhan o gymoedd Tanat, Efyrnwy a Hafren sut roeddent yn byw gyda'r pryder cyson y gallai'r prawf rheolaidd nesaf newid popeth. Dywedodd rhai wrthyf hefyd eu bod wedi lleihau niferoedd eu gwartheg neu wedi newid o gadw gwartheg yn gyfan gwbl, am na allent barhau i fyw gyda'r ansicrwydd a'r risg o gyfyngiadau TB hir. Dylai hynny fod yn destun pryder i bob Aelod o'r Senedd hon. Os yw ffermwyr yn newid natur eu busnes oherwydd ofn TB buchol, mae effaith y clefyd hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r fferm unigol.
Pan gaiff TB ei ganfod, ni all ffermwyr cig eidion werthu eu gwartheg yn rhydd mwyach. Mae ffermwyr llaeth yn parhau i gynhyrchu llaeth, ond mae cyfyngiadau symud yn dal i amharu ar eu busnesau ac yn ei gwneud hi'n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae'r effaith, fodd bynnag, yn mynd ymhell y tu hwnt i'r fantolen. Gall ffermwyr baratoi ar gyfer tywydd gwael. Gallant baratoi ar gyfer marchnadoedd anodd. Yr hyn na allant baratoi ar ei gyfer yw'r ansicrwydd o beidio â gwybod a fydd y prawf rheolaidd nesaf yn newid popeth. Gyda phob prawf TB daw'r un cwestiwn, 'Beth os daw'r un hwn yn ôl yn bositif?' Mae'r ansicrwydd hwnnw'n effeithio ar lesiant meddyliol, ar fywyd teuluol a hyder yn y dyfodol. Mae'n creu nosweithiau di-gwsg a phryder cyson ynglŷn â gallu busnes i wrthsefyll heintiad arall.
Un o'r sgyrsiau anoddaf a gefais oedd gyda ffermwr a ddisgrifiodd y realiti o orfod lladd buwch a oedd newydd roi genedigaeth i lo ar y fferm oherwydd cyfyngiadau TB buchol. Mae hynny'n rhywbeth nad oes unrhyw geidwad da byw byth eisiau ei brofi. Mae'n atgoffa'n glir fod pobl go iawn y tu ôl i bob polisi a phob ystadegyn, yn gwneud penderfyniadau torcalonnus am anifeiliaid y maent wedi gofalu amdanynt bob dydd.
Fe wnaeth y ffermwyr bwynt arall a wnaeth argraff arnaf: er bod milfeddygon a phrofwyr yn cael eu talu, yn ddigon priodol, am gynnal y drefn brofi, nid yw ffermwyr eu hunain yn cael dim am yr amser sylweddol a dreulir yn casglu'r da byw, yn trin y gwartheg ac yn delio â'r aflonyddwch. Mae cost ariannol i'r amser hwnnw.
Nid yw'r effeithiau'n dod i ben wrth gât y fferm chwaith. Mae amaethyddiaeth yn cynnal marchnadoedd da byw, masnachwyr bwyd anifeiliaid, cyflenwyr amaethyddiaeth, contractwyr, cludwyr, gwerthwyr peiriannau a llawer o fusnesau gwledig eraill. Pan fydd fferm yn dioddef heintiad TB hir, mae'r effeithiau'n ymestyn drwy'r economi wledig gyfan. Lywydd, os mai ein hamcan cyffredin yw dileu TB buchol—ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn ei rannu—mae dyletswydd arnom i ofyn cwestiwn syml: a yw'r dull presennol yn cyflawni'r amcan hwnnw? Os na, mae gennym gyfrifoldeb i archwilio pob ffynhonnell o haint, a phob dull rheoli a ddilyswyd yn wyddonol sydd ar gael i ni. Pa argymhellion bynnag a wneir yn y pen draw gan y grŵp cynghori technegol TB, credaf fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i'w hystyried yn wrthrychol, yn gymesur, ac ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Nid ideoleg yw hynny, ond polisi da.
Y tu ôl i bob cyfyngiad ar fuches mae teulu ffermio sy'n cario baich emosiynol ac ariannol enfawr. Y tu ôl i bob prawf positif mae yna sgwrs anodd arall o amgylch bwrdd y gegin. Y tu ôl i bob ystadegyn mae teulu ffermio sy'n ceisio cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae rhai bellach yn cwestiynu a ydynt yn mynd i barhau i gadw gwartheg, a dylai hynny beri pryder i bob un ohonom. Oherwydd, os yw gwartheg yn gadael ein ffermydd, mae'r effeithiau i'w teimlo ar draws yr economi wledig ehangach. Nid ar wartheg yn unig y mae ein penderfyniadau heddiw yn effeithio. Maent yn effeithio ar bobl, maent yn effeithio ar deuluoedd, maent yn effeithio ar fywoliaeth pobl, ac maent yn effeithio ar ddyfodol ein cymunedau gwledig.
Lywydd, gall ffermwyr fyw gyda llawer o heriau: tywydd gwael, marchnadoedd anwadal a chostau cynyddol. Yr hyn na allant fyw gydag ef yw ansicrwydd amhenodol. Maent yn haeddu hyder fod Cymru o ddifrif ynglŷn â dileu TB buchol ac yn barod i ddilyn y dystiolaeth lle bynnag y mae'n arwain. Er mwyn ein ffermwyr, eu teuluoedd, a'r cenedlaethau a fydd yn dilyn, rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Gaf i ddweud, fel mab fferm, fy mod i'n ymwybodol iawn, iawn o effeithiau TB? Mae TB yn taflu cysgod trwchus dros ein cynhyrchwyr gwartheg a llaeth a'n cymunedau gwledig, ac mae'n un o'r prif rwystrau i gyflawni diwydiant amaethyddol Cymreig cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol. Mae cael TB ar fferm yn effeithio ar bob agwedd ar reolaeth fferm ddydd i ddydd. Mae'n effeithio ar farchnata anifeiliaid, fel gwerthu buchod stôr, anifeiliaid magu a lloi, sy'n arwain at gostau ychwanegol, bwyd ychwanegol, porthiant, llety a phori ac ati.
Mae colli buchod cynhyrchiol a magu yn sgil TB yn effeithio'n negyddol ar y cynnyrch, er enghraifft, llai o litrau o laeth, a chynhyrchiant y fferm, er enghraifft trwy golli potensial genetig. Mae achosion o TB yn arwain at straen ariannol ac emosiynol sylweddol i ffermwyr a'u teuluoedd. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael, ledled Cymru yn ystod cyfnod Ebrill 2025 i Fawrth 2026, cafodd 10,395 o wartheg eu lladd oherwydd TB. Cynhaliwyd dros 14,000 o brofion buchesi, cynhaliwyd bron i 2 miliwn o brofion gwartheg unigol, a chanfuwyd 479 o ddigwyddiadau buchesi newydd. Dyw'r ystadegau hyn yn fawr iawn o gysur i ffermwyr ledled y wlad, sy'n parhau i fyw gyda'r clefyd erchyll hwn. Mae'n werth nodi bod bron i ddau draean o'r anifeiliaid y byddai'n cael eu lladd oherwydd TB yng Nghymru dros y cyfnod adrodd 12 mis diwethaf yn ardal TB uchel y gorllewin, sef sir Benfro a rhannau o Gaerfyrddin a Cheredigion, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth rhanbarthol yn y clefyd yma.
Rhaid hefyd sylweddoli bod gan ffermwyr gyfradd uchel o hunanladdiad, hyd at un y wythnos. Mae arolwg ymhlith ffermwyr yn dangos bod y mwyafrif yn credu mai iechyd meddwl gwael yw'r broblem fwyaf mewn amaethyddiaeth. Teimlodd 64 y cant o ffermwyr a arolygwyd gan Farmers Weekly yn bositif am eu hiechyd corfforol, ond dim ond 55 y cant o ffermwyr sy'n teimlo'n bositif am eu hiechyd meddwl. Mae'r haint yn cynyddu’r straen.
Roedd 50 y cant o ffermwyr a holwyd gan Rwydwaith Cymuned Ffermio wedi'u siomi gan neu'n poeni am TB. Mae rhai ffermwyr yn meddwl nad yw'r cyhoedd yn deall heriau ffermio ac yn teimlo eu bod yn cael eu tanwerthfawrogi. Diolch byth, mae Samariaid Cymru yn ceisio torri'r cylch risg hunanladdiad yng nghefn gwlad Cymru drwy brosiect Ein Ffermio, Ein Dyfodol. Mae'r bartneriaeth â'r elusen cymorth ffermio Tir Dewi yn gweithio'n agos gyda chlybiau ffermwyr ifanc Cymru a'u haelodau i ddatblygu adnoddau a gweithgareddau a arweinir gan gymheiriaid a all gael eu defnyddio a'u rhannu ym mhob clwb, gyda'r bwriad yn y pen draw o leihau'r risg o hunanladdiad mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, a diolch iddynt am eu gwaith.
Erbyn diwedd y 1960au, roedd presenoldeb TB mewn gwartheg yn y Deyrnas Unedig bron iawn â diflannu. Erbyn canol y 1970au, roedd pob buches yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu glanhau o'r clwyf, er nad ar yr un pryd. Rhaid derbyn polisïau rheoli clefydau sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth, yn dryloyw ac yn amlwg yn effeithiol. Ym mis Mawrth 2023, lansiodd y Llywodraeth Cymru flaenorol gynllun gweithredu pum mlynedd a nododd gyfeiriad polisi'r dyfodol ar gyfer rhaglen dileu TB. Sefydlwyd grŵp cynghori technegol TB bovine ym mis Ebrill 2024 fel rhan o ddiwygiadau llywodraethu a bennwyd yn y cynllun gweithredu. Mae TAG yn darparu cyngor gwyddonol a thechnegol arbenigol annibynnol i Weinidogion Cymru ac i uwch swyddogion ar raglen dileu TB ac yn dod â gwahanol arbenigedd technegol ac ymarferol at ei gilydd i roi'r cyngor hwnnw. Mae aelodaeth yn cynnwys rhai o'r arbenigwyr gorau yn y byd ym maes gwyddoniaeth epidemioleg ac imiwnoleg, ac mae'n rhywbeth y dylen ni i gyd ymfalchïo ynddo. Ac felly, yn union yr un modd a ddefnyddir tystiolaeth wyddonol i gael gweithredu ar heriau newid hinsawdd, rhaid gweithredu ar sail dystiolaeth wyddonol mewn perthynas â TB. Dyna pam rhaid gwrando, darllen, deall a pharchu gwaith y panel maes o law—un a sefydlwyd, ar ddiwedd y dydd, gan Lywodraeth Lafur flaenorol. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn cytuno ar un peth: nid oes neb eisiau i TB buchol fod yn rhan o ffermio yng Nghymru ymhen 10 neu 20 mlynedd arall. Beth bynnag yw ein barn ar sut y cyrhaeddwn yno, rydym i gyd eisiau gweld y clefyd hwn yn cael ei reoli'n fwy effeithiol, nid yn unig mewn gwartheg, ond yn y boblogaeth o anifeiliaid gwyllt yn gyffredinol hefyd. Yr anhawster yw bod ffermwyr wedi bod yn clywed yr uchelgais hwnnw ers amser hir iawn, ond os siaradwch chi â nhw heddiw, nid yw'r mwyafrif yn teimlo ein bod ni'n dod gam yn agosach at y nod hirdymor o ddileu'r clefyd. Mae ffermwyr yn dal i fyw gyda'r un ansicrwydd, yr un cyfyngiadau symud a'r un pryder llesteiriol bob tro y daw'n bryd gwneud prawf. Maent yn dal i weld gwartheg iach, cynhyrchiol yn cael eu lladd. Ni allaf roi mewn geiriau pa mor ofidus yw darllen y data diweddaraf. Cafodd dros 10,000 o wartheg eu lladd yng Nghymru y llynedd yn unig, gyda 479 o fuchesi ag achosion newydd wedi'u canfod—479. Rwy'n cydymdeimlo â phob unigolyn sy'n gwneud eu gorau glas i ymdopi â'r straen feddyliol a achosir gan TB buchol. Dyna pam y mae Reform wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd nid ydym yn credu ei bod yn ddigon da i barhau â'r un sgwrs ag y buom yn ei chael ers blynyddoedd a disgwyl i ffermwyr gredu bod rhywbeth ar fin newid.
Un peth sydd wedi fy nharo dros yr wythnosau diwethaf, ac yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn wir, yw fy mod wedi gwrando ar Blaid Cymru yn dweud y byddant yn dilyn y wyddoniaeth. Nid wyf yn anghytuno â hynny. Mewn gwirionedd, dyna'n union y dylai'r Llywodraeth ei wneud. Ond rwy'n dal i ddod yn ôl at yr un cwestiwn: dilyn y wyddoniaeth i ble? Nid clefyd newydd yw hwn. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Mae Llywodraethau Cymru wedi bod â blynyddoedd o dystiolaeth ar gael iddynt. Maent wedi cael cyngor gwyddonol. Maent wedi cael y grŵp cynghori technegol. Maent wedi cael arbenigedd milfeddygol, blynyddoedd o ddata cadw gwyliadwriaeth a blynyddoedd o brofiad bywyd gan y ffermwyr eu hunain. Nid yw ffermwyr yn fy etholaeth i'n gofyn a oes gan y Llywodraeth ddigon o dystiolaeth eto. Maent yn gofyn beth y mae'r Llywodraeth wedi'i gasglu o'r dystiolaeth wyddonol sydd ganddi eisoes. Nid tystiolaeth sy'n gwneud penderfyniadau, Gweinidogion sy'n eu gwneud. Ac mae gan y Gweinidog presennol flynyddoedd o brofiad yn yr wrthblaid. Mae'n gwybod yn well na neb beth yn union y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrtho. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon ddangos yr hyn y mae wedi'i ddysgu o'r dystiolaeth y mae wedi treulio blynyddoedd yn ei chasglu, a bod yn barod i harneisio'r data hwnnw a rhoi camau ystyrlon ac ymarferol ar waith i reoli TB buchol yng Nghymru.
Rwy'n dal fy hun yn meddwl yn ôl at yr hyn yr arferai Plaid Cymru ei ddweud pan oeddent yn eistedd ar feinciau'r wrthblaid. Siaradodd Llyr Gruffydd yn angerddol am TB buchol, fe heriodd ddull Llafur o weithredu, siaradodd am y pwysau ar deuluoedd ffermio a chwestiynodd a oedd y strategaeth bresennol yn cyflawni'r hyn a addawyd i ffermwyr. Siaradodd am yr angen i wrando ar y dystiolaeth ac ar y diwydiant. Roedd y rhain yn gwestiynau hollol ddilys i'w gofyn ac maent yr un mor ddilys ers i Blaid Cymru ddod yn Llywodraeth.
Nid yw ffermwyr yn gweld gwleidyddiaeth yn y ffordd rydym ni'n ei gweld. Nid ydynt yn edrych ar ba feinciau y mae pobl yn eistedd arnynt; maent ond eisiau gwybod a oes unrhyw beth yn mynd i newid mewn gwirionedd. Beth y mae'r Senedd hon yn ei wneud i'w helpu, i wneud eu bywydau'n haws ac i roi dyfodol i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr? Os mai'r ateb yw bod angen mwy o amser, rwy'n tybio y bydd llawer o ffermwyr yn dweud eu bod eisoes wedi rhoi digon o amser i Lywodraethau olynol. Os mai'r ateb yw adolygiad arall, byddant yn dweud ein bod wedi cael adolygiadau o'r blaen. Os mai'r ateb yw mwy o dystiolaeth, byddant yn gofyn yn eithaf rhesymol beth ddigwyddodd i'r holl dystiolaeth a gasglwyd gennym eisoes. Nid dadl yn erbyn gwyddoniaeth yw hynny—i'r gwrthwyneb; mae'n ddadl dros gael yr hyder i weithredu ar y wyddoniaeth.
Nid wyf erioed wedi derbyn y dylai'r ddadl hon gael ei lleihau i fod yn un lle mae pobl yn dewis ochrau cyn iddynt hyd yn oed drafod y dystiolaeth. Boed yn fesurau rheoli gwartheg, bioddiogelwch, brechu neu ddifa anifeiliaid gwyllt dan reolaeth, rhaid i'r man cychwyn fod yn asesiad gonest o'r hyn sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio. Oherwydd os na allwn ofyn y cwestiynau hynny nawr, ar ôl popeth y mae ffermwyr wedi byw drwyddo, pryd y gallwn ni wneud hynny?
Ar ôl degawdau o fesurau rheoli gwartheg mwyfwy llym, y realiti anghyfforddus yw bod Cymru'n dal i gofnodi miloedd o adweithyddion bob blwyddyn a channoedd o fuchesi ag achosion newydd. Mae'n gwbl rhesymol gofyn a yw'r strategaeth yn ei chyfanrwydd yn mynd â ni lle rydym i gyd eisiau bod. Nid wyf yn credu ei bod yn feirniadaeth ar ffermwyr—i'r gwrthwyneb; mae ffermwyr wedi gwneud yr hyn y mae Llywodraethau olynol wedi gofyn iddynt ei wneud. Maent wedi derbyn mesurau rheoli llymach, mwy o gostau a mwy o fiwrocratiaeth, am eu bod yn credu eu bod yn cyfrannu tuag at reolaeth well ar y clefyd. Rhaid i'r Llywodraeth ddangos yr un parodrwydd nawr i archwilio ei dull ei hun, oherwydd—[Torri ar draws.] Na, rwyf am wneud cynnydd. Y tu ôl i bob ystadegyn mae teulu sy'n ceisio gwneud bywoliaeth; y tu ôl i bob buches a heintiwyd mae blynyddoedd o fridio, buddsoddiad a gwaith caled. Nid wyf yn credu bod ffermwyr yn disgwyl gwyrthiau, maent yn gwybod mai dyma un o'r heriau iechyd anifeiliaid anoddaf sy'n ein hwynebu, ond maent yn disgwyl arweinyddiaeth, yn enwedig wedi i'r Gweinidog siarad mor gryf pan oedd mewn gwrthblaid.
Gyda phob parch—ac rwy'n dweud hyn mor adeiladol â phosibl—a yw'r Gweinidog eisiau i'w waddol yn y Llywodraeth fod yn waddol rhywun sy'n gweithredu, neu a yw am gael ei gofio fel siaradwr neu rywun a wnâi addewidion? Mae siarad yn rhad, mae ffermwyr yn glir: nid ydynt eisiau gobaith, maent eisiau gweld gweithredu'n digwydd. Diolch yn fawr.
Mae TB buchol yn parhau i fod yn un o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu ffermwyr yng Ngheredigion Penfro, ac mae'r neges rwy'n parhau i'w chlywed gan ffermwyr lleol yn hollol glir. Maent eisiau gweld camau ystyrlon i fynd i'r afael â'r clefyd hwn. Ymhlith y rhai yr effeithir arnynt y mae fy nheulu-yng-nghyfraith fy hun y mae eu fferm wedi ei heffeithio gan TB buchol ers mwy na dau ddegawd. Ac felly, rwy'n datgan buddiant, oherwydd drwy eu profiad nhw, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y niwed emosiynol, ymarferol ac ariannol dwfn y mae TB buchol yn parhau i'w wneud i deuluoedd ffermio. Mae eu stori'n debyg i stori llawer o ffermwyr eraill yn fy etholaeth, a chyda'i gilydd, maent yn ailadrodd yr angen am fesurau effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog hon.
Fel y dywedwyd eisoes, mae'n dorcalonnus. Yr ofn a'r pryder ynghylch profi, y gofid a'r straen ynghylch achos o TB a'r lladd sy'n dilyn, a'r pryder, wrth gwrs, o ddelio â thaliadau iawndal a cheisio rhedeg busnes cynaliadwy. Nododd arolwg NFU Cymru yn 2023 fod 85 y cant o'r ymatebwyr yn dweud bod TB buchol wedi effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl eu hunain neu rywun yn eu teulu, a dywedodd dros 93 y cant eu bod yn bryderus tu hwnt neu'n bryderus iawn ynghylch TB buchol. Felly, gyda Llywodraeth newydd a Gweinidog Cabinet sy'n cydymdeimlo â ffermwyr a'r gofid y maent yn mynd drwyddo, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gweithredu nawr i fynd i'r afael â'r clefyd ofnadwy hwn.
Fel y mae'r ail bwynt yn y cynnig yn nodi, rhaid cydnabod y llwybrau trosglwyddo lluosog, gan gynnwys haint o anifeiliaid gwyllt. Yn y Senedd ddiwethaf, cefais y fraint o gadeirio'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a chynhaliwyd ymchwiliad gennym i raglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol. Gwnaeth y pwyllgor argymhellion pwysig mewn meysydd fel profi, iawndal, a hyd yn oed anifeiliaid gwyllt. Roedd y pwyllgor yn pryderu am y diffyg data ynghylch rôl anifeiliaid gwyllt yn lledaenu TB buchol, ond y gwir amdani yw na allwch reoli'r clefyd heb ddelio â chronfa'r haint mewn anifeiliaid gwyllt.
Rydym i gyd yn cydnabod bod sawl mecanwaith trosglwyddo, ac mae hyd yn oed y Llywodraeth flaenorol wedi derbyn hynny yn eu hymateb i'r pwyllgor, a dyna pam y mae angen pecyn o fesurau sy'n ymdrin â phob un o lwybrau trosglwyddo'r clefyd hwn. Dywedodd y Llywodraeth flaenorol wrth y pwyllgor ei fod yn golygu mwy na deall mecanweithiau trosglwyddo yn fanylach, gan ein bod yn gwybod eu bod yn digwydd, ond yn fwy am ddeall yr amlder cymharol y maent yn digwydd a pham eu bod yn digwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd lleol.
Felly, os ydym i gyd yn derbyn bod trosglwyddiad yn digwydd drwy anifeiliaid gwyllt, pam na fu unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael â hyn yn y lle cyntaf? Ni all hyn fod yn wir ar gyfer y dyfodol. Mae'r Gweinidog Cabinet ei hun wedi dweud bod anifeiliaid gwyllt yn rhan o'r broblem TB buchol a bod rhaid iddo fod yn rhan o'r ateb, a nawr mae mewn sefyllfa i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae ffermwyr ledled Cymru'n gwylio, ac maent wedi blino gorfod dweud yr un peth wrthym dro ar ôl tro. Maent eisiau gweld gweithredu'n digwydd.
Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, lladdwyd 3,068 o wartheg yn sir Benfro a 971 arall yng Ngheredigion. Dyna dros 4,000 o wartheg wedi'u lladd mewn dwy sir yn unig dros gyfnod o 12 mis. Pan gefais fy ethol gyntaf yn 2007, roedd y ffigur ar gyfer sir Benfro yn 2,384 ac ar gyfer Ceredigion, yn ddim ond 296. Wrth gwrs, mae profion yn llawer mwy sensitif na'r hyn oeddent bryd hynny, ond mae hynny'n dal i fod yn gynnydd enfawr yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd, a'r tu ôl i bob lladd mae teulu ffermio wedi'i ddinistrio ganddo, a dyna pam fy mod wedi ymgyrchu ar y mater penodol hwn dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Lywydd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma, er nad ydym yn credu bod y cynnig yn ddigon cryf. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau consensws ac er mwyn gwthio'r mater hwn yn ei flaen, byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig. Mae'r cynnig yn nodi, os bydd y grŵp cynghori technegol TB yn argymell rheolaeth wedi'i thargedu ar fywyd gwyllt, gan gynnwys difa, y caiff argymhellion o'r fath eu hystyried yn llawn ac yn briodol. Wel, rwy'n credu bod y dystiolaeth eisoes yno i ddangos bod angen mynd i'r afael â'r clefyd hwn yng nghronfa'r haint mewn anifeiliaid gwyllt, ac felly nid wyf yn credu bod angen inni aros am ragor o wybodaeth a chyngor cyn i unrhyw weithredu go iawn ddigwydd.
Rydym yn cefnogi cynnal safonau bioddiogelwch cadarn wrth gwrs, ond rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael iddi i fynd i'r afael â phob dull o drosglwyddo'r clefyd hwn. Lywydd, rydym am weld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddileu TB buchol. Cafwyd trafodaethau diddiwedd ynglŷn ag a ddylid cyflwyno dull cyfannol ai peidio, ac rydym yn credu bod yr amser i siarad drosodd bellach. Rydym eisiau gweld gweithredu'n digwydd nawr.
Rwy'n mynd i wneud fy ngorau i gael un neu ddau yn fwy o siaradwyr cyn i ni ddod atoch chi, Weinidog, ond rwy'n mynd i fod angen help yr Aelodau i wneud hynny. Stephen Senior.
Diolch, Lywydd. Nawr, i rai, dyma'r adeg i dynnu eich hancesi allan, oherwydd mae angen inni siarad am foch daear a cheirw, gyda'r ddau anifail yn ymddangos ar y rhan fwythus o'r sbectrwm anifeiliaid, er fy mod yn sylwi bod gennym gryn dipyn o seddi gwag.
Edrychais ar rywfaint o'r data ar hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud, i ddechrau, pan edrychais ar Gymru a Lloegr, roedd y data'n edrych yn rhyfeddol o debyg, ac roeddwn i'n meddwl, beth yw'r broblem? Ond wedyn edrychais ar yr Alban, ac mae'r Alban yn ddiddorol iawn. Ac yna edrychais ar ranbarthau Lloegr, ac edrychais ar ranbarthau Cymru, a daeth y goleuni. Gallwn weld drosof fy hun beth oedd y broblem.
Mae'n rhyfedd fod rhai materion wedi dod, yn rhyfedd ddigon ac yn anghywir, yn faterion chwith a de, er enghraifft casgliadau biniau a therfynau cyflymder. Am ryw reswm, mae moch daear yn disgyn i'r categori hwnnw. Ni ddylai fod yn wir. Mae gan y rhai yn y Siambr hon sydd efallai'n figaniaid ddadl gwbl ddilys i'w defnyddio: ni ddylai fod gwartheg yng nghefn gwlad, gan eu bod yn bodoli er ein budd ni fel defnyddwyr yn unig. Dim gwartheg, dim problem moch daear. Ond i'r rhai ohonom sy'n mwynhau cynhyrchion llaeth a chig ac yn defnyddio lledr, fe wyddom fod cyfaddawd rhwng ein dymuniadau ni a bywyd gwyllt. Pur anaml y mae'r cefn gwlad sy'n rhoi pleser i ni fod ynddo yn naturiol. Mae wedi cael ei greu gan ein ffermwyr dros gannoedd o flynyddoedd. Maent yn gwneud gwaith rhyfeddol, a dylem wrando arnynt.
Mewn byd perffaith, byddai gennym brawf dibynadwy ar gyfer TB buchol. Byddai gennym frechiad profedig ar gyfer TB buchol, un y byddem yn ei ddefnyddio mewn gwartheg, yn gymharol hawdd, ac mewn anifeiliaid gwyllt, sydd ychydig yn anos i'w gyflawni. Ond nid oes gennym ddim o hynny eto, felly mae'n rhaid inni ddelio â'r sefyllfa fel y mae. Y ffaith amdani yw bod lefelau ffrwydrol o TB buchol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'n wir fod gwartheg yn fwy tebygol o'i ddal gan wartheg eraill yn y fuches, ond mae hefyd yn wir fod yr un a heintir gyntaf yn y fuches yn debygol o gael ei heintio gan anifail gwyllt, ac mae cysylltiad clir rhwng nifer y moch daear a'r haint. Mae'r Alban yn glir i raddau helaeth o TB buchol ac mae ganddi boblogaeth isel iawn o foch daear. Ceir tystiolaeth o Loegr fod difa moch daear yn yr ardaloedd lle mae'r cronfeydd TB hynny yn lleihau nifer yr achosion yn sylweddol ar ôl pedair blynedd.
Dylai diogeledd bwyd fod ar flaen ein meddyliau i gyd, heb sôn am y risg o golli llinachau prin a cholli ffermwyr sydd â gwybodaeth helaeth a sgiliau mewn ffermio llaeth a chig eidion. Dylem fod yn gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i sicrhau bod pob anifail a heintiwyd yn cael ei ddifa'n gynnar, ond ni waeth beth yw eich barn neu sut y daethoch ati, mae'r ffaith yn aros bod gwartheg a moch daear yn cyd-fyw. Mae llawer o ymdrech a gwaith papur yn mynd i brofi gwartheg cyn ac ar ôl symud. Yn anffodus, anghofiodd rhywun anfon y memorandwm i'r moch daear ynglŷn â pheidio â symud o gwmpas. Yn y byd go iawn, rhaid i ddifa strategol o fewn cronfeydd yr haint mewn anifeiliaid gwyllt fod yn rhan o'r gwaith o reoli TB, am nawr o leiaf.
Cynnig Reform UK yw hwn, ond mae'n gynnig i helpu ffermwyr Cymru. Mae'n enghraifft o sut y gall y Senedd estynedig hon weithio gyda'i gilydd er lles Cymru. Cefnogwch ef os gwelwch yn dda.
Rwyf am ddechrau drwy gydnabod, fel y mae eraill wedi'i wneud yn y Siambr, yr effaith ddofn y mae TB buchol yn parhau i'w chael ar deuluoedd ffermio ac ar gymunedau gwledig ledled Cymru. Mae'n effeithio ar bobl a lles anifeiliaid fel ei gilydd. I ormod o fy etholwyr yng Ngheredigion Penfro, mae hyn yn realiti dyddiol. Dro ar ôl tro, mae ffermwyr wedi siarad â mi am straen emosiynol ac ariannol TB buchol ar eu busnesau a'u teuluoedd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd un etholwr wrthyf eu bod wedi cael eu gorfodi i ddifa tua 600 o wartheg oherwydd y clefyd. Yn anffodus, mae eu hachos nhw ymhell o fod yn unigryw.
Ar draws Ceredigion Penfro, mae ffermwyr yn gwneud penderfyniadau torcalonnus sy'n arwain at ganlyniadau ariannol enfawr ac yn cael effaith sylweddol ar eu llesiant meddyliol. I rai, mae'r pwysau hyn wedi dod mor llethol fel eu bod yn cwestiynu a allant barhau yn y diwydiant o gwbl. Mae TB buchol yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu amaethyddiaeth yn fy etholaeth i. Ochr yn ochr â'r canlyniadau economaidd, rhaid inni gydnabod y gost ddynol. Ni ellir mesur y straen, yr ansicrwydd a'r pryder a brofir gan deuluoedd ffermio sy'n byw o dan gyfyngiadau TB hirfaith mewn termau ariannol yn unig.
Tynnodd Ffermio S4C sylw at y realiti hwn yn bwerus, gan ein hatgoffa bod pobl, teuluoedd a chymunedau sy'n byw gyda chanlyniadau'r clefyd hwn y tu ôl i bob ystadegyn. Rwy'n deall y gall fod yn bwnc anodd ac emosiynol, ond rwy'n annog pawb yn y Siambr i osgoi'r demtasiwn i ddefnyddio hyn i bolareiddio dadl neu i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Yn union oherwydd ei fod mor bwysig ac mor gymhleth, rhaid i'n hymateb gael ei arwain gan y dystiolaeth. Nid mater du a gwyn mohono. Nid oes ateb un maint i bawb. Nid yw'r wyddoniaeth yn statig, ac mae'n rhaid inni fod yn barod i fod yn ymatebol i ddatblygiadau ac arloesedd newydd, yn ogystal â'r hyn a ddysgwyd gennym o raglenni blaenorol. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth hon i barhau i fod yn agored i ystyried pob mesur a all gyfrannu at ddileu TB buchol.
Dyna pam rwy'n edrych ymlaen at dderbyn argymhellion y grŵp cynghori technegol TB buchol, ac rwy'n croesawu'r pwyslais yn y cynnig fod angen rhoi ystyriaeth lawn a phriodol i unrhyw argymhellion a ddaw gan y grŵp hwn, er fy mod yn nodi nad yw'n ymddangos bod yr Aelod Reform yn cytuno â'r elfen honno yn y cynnig. Roedd cynnydd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn boenus o araf. Heb newid sylweddol, mae bwrdd y rhaglen TB buchol wedi dweud na fydd Cymru'n dileu TB buchol erbyn 2041, a dylai hynny beri gofid i bob Aelod o'r Senedd.
Mae pobl ar bob ochr i'r ddadl eisiau cynnydd, nid sgorio pwyntiau gwleidyddol. Maent eisiau hyder fod penderfyniadau'n cael eu gwneud am eu bod yn effeithiol, yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Maent eisiau Llywodraeth sy'n barod i wneud penderfyniadau anodd lle bo angen, gan wybod bod y rhain wedi'u gwneud yn dilyn ystyriaeth ofalus a chytbwys, rhywbeth y mae gennyf hyder llawn y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud.
Mae'r ddadl hon yn arbennig o arwyddocaol i fy etholaeth i. Roedd tua dwy ran o dair o'r holl wartheg a laddwyd oherwydd TB buchol yng Nghymru y llynedd yn ardal TB uchel y gorllewin, sy'n cwmpasu sir Benfro gyfan a rhannau o Geredigion, fel y soniodd Paul Davies. Mae hynny'n tanlinellu'r angen am weithredu sy'n adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad. Ni fydd dull un maint i bawb o weithredu yn ei ddileu. Mae angen ymyriadau wedi'u targedu, wedi'u harwain gan wyddoniaeth, sy'n cynnwys ffermwyr a milfeddygon a rhanddeiliaid eraill yn rhan o strategaeth eang i ddileu TB buchol o'r diwedd. Am y rhesymau hynny, byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw.
Rwy'n croesawu ymrwymiad clir y Gweinidog i ddileu TB er budd pobl, yr economi ac anifeiliaid gwyllt fel ei gilydd, ac rwy'n annog y Gweinidog nawr i gadw ei ffocws clir ar gyflawni'r canlyniad hwnnw. Diolch.
Ac yn olaf—yn fyr iawn—Paul Rock.
Diolch, Lywydd. Mae TB buchol yn achosi cymaint o boen, trawma ac ansicrwydd i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru. Fodd bynnag, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â gwleidyddiaeth berfformiadol ddi-fudd ac anamserol y cynnig, yn ogystal â'r casgliadau camarweiniol yn ei eiriad. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y dystiolaeth wyddonol, ac yn briodol felly, ond mae'r cynnig hefyd fel pe bai'n awgrymu y dylai difa moch daear fod yn elfen bwysig o'r ateb. Ers i Lywodraeth flaenorol Cymru gyhoeddi ei phenderfyniad i roi'r gorau i ddifa moch daear ym mis Mawrth 2012, mae nifer y buchesi ag achosion newydd wedi mwy na haneru, ac mae TB buchol bellach ar ei lefel isaf ers bron i 20 mlynedd. Mae hyn oll wedi'i gyflawni heb unrhyw reolaeth angheuol ar anifeiliaid gwyllt.
Fel y clywsom, mae'r dystiolaeth yn dangos bod 94 y cant o drosglwyddiad TB buchol yn digwydd o fuwch i fuwch. Dyma lle mae'r atebion a lle mae mesurau profi a bioddiogelwch gwell eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ar hyn o bryd, mae'r grŵp cynghori technegol yn ystyried y dystiolaeth sy'n berthnasol i frechu a TB buchol. Yn ddiweddar, cydnabu'r Gweinidog Cabinet yr ymchwil hon ac fe'n hatgoffodd ni o bwysigrwydd caniatáu i'r gwaith hwn gael ei gwblhau cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau. Mae amseriad y ddadl hon, felly, cyn cyhoeddi'r canfyddiadau hyn, yn rhy gynnar. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig ac o blaid y gwelliant er mwyn i'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y grŵp cynghori technegol gael ystyriaeth briodol ar yr adeg briodol. Mae gwaith y grŵp yn annibynnol yn wleidyddol ac mae’n rhaid iddo barhau felly er mwyn cynnal dull o weithredu cadarn sy'n cael ei arwain gan wyddoniaeth. Diolch.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Dwi hefyd eisiau dechrau drwy gydnabod yr effaith sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn parhau i'w gael ar deuluoedd sy'n ffermio ledled Cymru. Mae TB, wrth gwrs, fel rŷn ni'n gwybod, yn effeithio ar fywoliaethau, yn effeithio ar les anifeiliaid, yn effeithio hefyd ar les ffermwyr a'u teuluoedd. Felly, dwi'n cytuno'n llwyr pan fod y cynnig yn dweud bod yn rhaid inni gydnabod y baich ariannol ac emosiynol parhaus y mae'r clefyd yma yn ei roi ar gymunedau gwledig. Dwi wedi gweld yr effeithiau dinistriol yma drosof fi fy hun, a dyna pam mae mynd i'r afael â TB mewn gwartheg yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i fi, ond yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth yma hefyd.
Nid oes dwywaith fod TB buchol yn glefyd cymhleth, heriol ac ystyfnig iawn. Nid un llwybr trosglwyddiad a geir, ac nid oes ateb syml. Mae trosglwyddiad o fuwch i fuwch yn parhau i fod yn broblem sylweddol, ond cydnabyddir y gall anifeiliaid gwyllt hefyd fod yn ffynhonnell haint, a dyna pam y mae'n rhaid i'n hymateb fod yn gynhwysfawr ac yn seiliedig ar y dystiolaeth. Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i adnewyddu'r rhaglen i ddileu TB. Mae sylfeini'r rhaglen bresennol yn gryf, ond mae angen i bob un ohonom adeiladu ar y cynnydd hwnnw nawr a chynyddu ein hymdrechion os ydym am gyflawni ein huchelgais o Gymru heb TB erbyn 2041.
Rwyf wedi cyfarfod ag undebau'r ffermwyr, Cymdeithas Milfeddygon Prydain, bwrdd y rhaglen TB a chadeirydd y grŵp cynghori technegol. Ynghyd ag aelodaeth ehangach y grŵp cynghori technegol, bydd eu harbenigedd a'u cyngor cyfunol yn helpu i siapio cam nesaf ein dull o weithredu. Rwy'n cytuno bod yn rhaid i safonau ac arferion bioddiogelwch cadarn barhau i fod yn gonglfaen i'r gwaith o reoli clefydau ar ffermydd. Mae bioddiogelwch effeithiol yn gyfrifoldeb a rennir, gyda ffermwyr a milfeddygon yn gweithio mewn partneriaeth i atal, canfod ac ymateb i fygythiadau clefyd, gan ddiogelu iechyd anifeiliaid, bywoliaeth pobl, iechyd y cyhoedd a gwydnwch ein ffermydd. Ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn onest gyda ni ein hunain. Er bod bioddiogelwch a mesurau rheoli gwartheg yn hanfodol, nid dyna yw'r ateb cyfan. Os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau Cymru heb TB, rhaid inni ystyried pob ffynhonnell haint a phob mesur rheoli wedi'i ddilysu'n wyddonol sydd ar gael i ni. Dyma pam y cytunaf fod yn rhaid i unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol gydnabod anifeiliaid gwyllt fel un o sawl ffynhonnell i'r haint a all gyfrannu at ledaeniad TB buchol.
Er fy mod yn cydnabod y gall anifeiliaid gwyllt chwarae rhan yn y broses o drosglwyddo TB buchol, mae'n bwysig nad ydym yn esgus mai anifeiliaid gwyllt sy'n gyfrifol ym mhob achos, ac ni ddylem ragfarnu casgliadau ein cynghorwyr arbenigol. Mae'r grŵp cynghori technegol yno i ddarparu arbenigedd a chyngor gwyddonol annibynnol, tra bo bwrdd y rhaglen yn dwyn cyfoeth o arbenigedd a phrofiad ymarferol ynghyd o bob cwr o'r sector. Ar hyn o bryd, rwy'n aros am gyngor pellach gan y ddau grŵp ar rôl anifeiliaid gwyllt ac ymyriadau anifeiliaid gwyllt, ymhlith pynciau eraill, ac edrychaf ymlaen at ystyried y sylfaen dystiolaeth a'u cyngor yn ofalus. Gyda llaw, rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi'r cyngor hwnnw i lywio'r ddadl ehangach.
Rwy'n deall rhwystredigaethau'r rheini sy'n credu nad yw'r cynnydd wedi bod yn ddigon cyflym, ac ydw, rwy'n rhannu'r rhwystredigaethau hynny cymaint ag unrhyw un arall. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn a bod ein penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, a'n bod hefyd yn ystyried effeithiolrwydd, ymarferoldeb, cyflawnadwyedd, lles anifeiliaid a gwerth am arian i'r trethdalwr. Rhaid inni gydnabod hefyd fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yng Nghymru. Gadewch inni beidio ag anghofio bod mwy na 95 y cant o fuchesi Cymru heb TB yn swyddogol. Mae hynny, rhaid dweud, yn adlewyrchu ymdrechion sylweddol a gwaith caled y ffermwyr eu hunain, y milfeddygon y maent yn gweithio gyda nhw a swyddogion ledled Cymru. Rwy'n credu y dylem bob amser gydnabod bod yr ymdrechion hynny'n parhau.
Ond yr her sy'n ein hwynebu nawr yw adeiladu ar y cynnydd hwnnw a gwthio ymlaen tuag at ddileu TB yng Nghymru. Mae prosiectau arloesol yn sir Benfro a gogledd Cymru, er enghraifft, yn dangos gwerth cydweithio, ymgysylltu cryfach rhwng ffermwyr a'u milfeddygon, a gweithredu lleol wedi'i deilwra. Yn union fel nad oes dwy fferm yr un peth, rwy'n gwybod nad oes dau achos o TB yr un peth, a bydd y mesurau i gadw TB allan o fuchesi unigol yn wahanol eto. Rwy'n canmol gwaith y ddau brosiect hynny ac yn cydnabod yr adborth cadarnhaol y maent yn ei gynhyrchu. Bydd yr wybodaeth a'r profiad o'r ddau brosiect yn helpu i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol. Gan nodi rhai sylwadau a wnaed ein bod yn gwybod beth sydd angen inni ei wneud a bod y dystiolaeth yno, fel y dywedodd Anna Nicholl wrthym, nid yw'r wyddoniaeth yn statig. Dyna pam ein bod wedi dod â gwyddonwyr, milfeddygon ac arbenigwyr byd-enwog ynghyd ar ffurf y grŵp cynghori technegol. Maent wedi teithio hanner ffordd o amgylch y byd i ddod i Gymru i'n helpu i ddelio â'r sefyllfa hon, ac mae'n esblygu'n gyson. Rydym yn dysgu'n gyson o'r prosiectau lleol hynny, o brofiadau mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt. Nid yw ond yn deg ein bod yn gadael i'r arbenigwyr ein cynghori a pheidio â meddwl mai gwleidyddion sy'n gwybod orau.
O ran y gwelliant a gynigiwyd, rwy'n croesawu dull adeiladol yr Aelod o gydnabod bod cynnydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ni allwch wadu bod papur sefyllfa bwrdd y rhaglen, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi'n glir fod angen newid sylweddol os ydym am gyrraedd ein targed o ddileu TB yma yng Nghymru. Heb hynny, bydd mwy o anifeiliaid, mwy o ffermwyr, mwy o deuluoedd ffermio'n profi'r gofid a achosir gan achosion o TB am fwy o amser.
Lywydd, y gelyn cyffredin fan hyn yw TB mewn gwartheg, ac mae ein hymrwymiad yn glir. Byddwn yn diweddaru'r rhaglen dileu TB ac yn datblygu dull newydd sy'n cael ei arwain gan wyddoniaeth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n holistaidd ac sydd yn dod â phobl at ei gilydd. Hynny yw, rŷn ni'n ei ddatblygu mewn modd cydweithredol. Does dim atebion cyflym, dwi'n ofni, i TB mewn gwartheg, ond drwy weithio gyda'n gilydd a chanolbwyntio ar wartheg, ar bobl ac ar fywyd gwyllt, dwi'n credu y gallwn ni gyflymu'r cynnydd a symud Cymru'n agosach at yr uchelgais dwi'n gwybod rŷn ni i gyd yn ei rhannu yn fan hyn yn y Siambr, sef i gael gwared ar TB erbyn 2041. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant perthnasol: mae gennyf deulu agos sy'n cadw gwartheg. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniad at y ddadl heddiw, ac i unrhyw un sy'n ymwneud â'r diwydiant sy'n gwylio hyn ac yn chwilio am newid yma, a'r holl Aelodau hynny a siaradodd am y pwysau ariannol, emosiynol a dynol y mae TB buchol yn ei roi ar ein teuluoedd ffermio ledled Cymru.
Agorodd Laura Anne Jones y ddadl gan ddweud bod gennym gonsensws o'r diwedd yn y Siambr fod angen i rywbeth newid. Fe sonioch chi am y straen a'r pryder y mae ffermwyr yn ei wynebu, ond hefyd am y niwed economaidd i'r diwydiant. Ond fe sonioch chi hefyd am y gost ddynol, a'r gost mewn bywydau yn y diwydiant hefyd. Ac fe dynnoch chi sylw hefyd at yr anifeiliaid gwyllt heintiedig a'r ffaith bod angen newid sylweddol arnom yma. Fel y pwysleisiodd y Gweinidog hefyd, mae bwrdd y rhaglen wedi dweud bod angen newid sylweddol arnom yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi hefyd gadarnhau bod Llywodraethau blaenorol wedi methu mynd i'r afael â'r clefyd, gyda nifer o brosiectau na lwyddodd i wella ein sefyllfa, dim ond ein rhoi yn y llanast rydym ynddo nawr.
Vikki Howells, roedd yn dda eich bod wedi cydnabod y pwysau y mae'r clefyd wedi'i roi ar ffermwyr. Rydych chi hefyd yn dweud bod lefelau trosglwyddiad o fuwch i fuwch yn uchel. Nid wyf yn gwadu hynny, ond mae'n rhaid iddynt gael eu heintio o rywle yn y lle cyntaf, ac mae hynny'n tueddu i ddigwydd o'r boblogaeth anifeiliaid gwyllt. Fe ddywedoch chi hefyd fod nifer yr achosion yn gostwng, ond hoffwn eich atgoffa'n garedig fod nifer y gwartheg ledled Cymru wedi gostwng 40 y cant, felly mae'n naturiol y bydd gostyngiad yn nifer y buchesi sy'n cael eu heintio pan fydd llai a llai o bobl ledled y wlad yn cadw gwartheg, am nifer o'r rhesymau a amlygwyd gan yr Aelodau heddiw.
Fe ddywedoch chi hefyd fod angen mwy o wyddoniaeth ar y grŵp cynghori technegol a bod angen mwy fyth o wyddoniaeth arnom, ond rydym wedi clywed hynny gan Lywodraethau Llafur blaenorol ers nifer o flynyddoedd. Maent yn gwybod beth yw'r wyddoniaeth, ond pan nad ydynt yn hoffi'r cyngor gwyddonol a roddir iddynt, maent yn dweud bod angen mwy arnom, ac yna mae angen mwy eto. Ni allwch barhau i ofyn am fwy o wyddoniaeth nes y cewch chi'r ateb rydych chi ei eisiau. Os yw'r ateb yn glir o nifer o astudiaethau, mae angen gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Soniodd Andrew Griffin am y 500 o fuchesi lle ceir achosion newydd a'r 10,000 o wartheg sy'n cael eu colli bob blwyddyn. Mae hynny eisoes yn argyfwng. Mae niferoedd critigol y gwartheg ledled y wlad mor isel nawr, mae hynny'n rhoi pwysau enfawr ar y system ehangach, fel ein lladd-dai. Siaradodd Aelodau eraill am elfennau economaidd hynny, yn enwedig y swyddi a welwn yn cael eu colli mewn rhai o'r lladd-dai ledled y wlad. Mae'r cyfan yn cyfrannu at y rheswm pam nad yw pobl yn cadw mwy o wartheg, oherwydd effaith ddynol y clefyd hwn. Mae cynnal profion parhaus ar wartheg drwy'r amser yn rhoi straen enfawr ar ein ffermwyr, ond mae hefyd yn rhoi straen enfawr ar yr anifeiliaid, sy'n eu gwneud yn beryglus iawn pan fyddwch chi'n eu trin drwy'r amser. Dyna pam ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu hanafu gan wartheg gyda phrofion TB parhaus.
Elwyn Vaughan, diolch am eich cyfraniad. Gwn eich bod wedi sôn am hyn nifer o weithiau pan oeddem yn eistedd yn siambr Cyngor Sir Powys gyda'n gilydd. Fe dynnoch chi sylw at yr effeithiau meddyliol y mae hyn yn eu cael ar deuluoedd, a hefyd y gwaith y mae clybiau ffermwyr ifanc yn ei wneud ledled y wlad, sefydliad a wnaeth wneud i mi ddod yma. Fe sonioch chi am y gwaith a wnânt i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl ledled y wlad. Ac rwyf am ddweud wrth unrhyw un sy'n gwylio'r ddadl hon, os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles yn y diwydiant, mae nifer o elusennau gwledig a all gamu i mewn i'ch helpu, gan na ddylai unrhyw un orfod dioddef ar ei ben ei hun.
Helen Jenner, fe ddywedoch chi fod ffermwyr yn teimlo bod angen inni symud ymlaen. Rydym wedi cael y trafodaethau hyn, a gallaf ddweud wrthych fy mod wedi siarad yn y Siambr hon nifer o weithiau am TB, yn fwy nag y siaradais am unrhyw beth arall yma yn ôl pob tebyg. Ac mae angen rhywfaint o symud arnom. Mae'n braf clywed y bydd Plaid Cymru’n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, o'r hyn y cefais fy arwain i gredu, ac mae'n gam cadarnhaol fod gennym fwyafrif nawr sydd eisiau symud ymlaen a gwneud rhywbeth am hyn. Mae ein teuluoedd ffermio wedi aros yn rhy hir, a nawr yw'r amser i weithredu.
Paul Davies, hoffwn ddiolch i chi am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud ar hyn ers 20 mlynedd, ac rwyf hefyd yn cydnabod yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar eich teulu. Gwn eich bod wedi hyrwyddo hyn. Gwn fod eich cyn gyd-Aelod yma, Sam Kurtz, wedi codi prosiect yn sir Benfro ynghylch hyn a'r gwaith y maent wedi'i wneud, ond hefyd y gwaith a wnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn flaenorol ar hyn. Roedd darn arall o dystiolaeth yr hoffwn ei grybwyll wrth Vikki Howells. Adroddiad trawsbleidiol oedd hwnnw a ddywedodd fod angen inni weithredu mewn perthynas ag anifeiliaid gwyllt. Ond mae angen imi fod yn glir: nid difa anifeiliaid gwyllt ar raddfa dorfol yw hyn, fel y soniodd pobl. Mae hwn yn ddull sy'n cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan y bydd unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am y pwnc yn dweud wrthych, os oes gennych foch daear nad ydynt wedi'u heintio, y peth gorau i'w wneud â nhw yw gadael llonydd iddynt. Mae yna rai pobl wedi bod â moch daear ar eu ffermydd ers nifer o flynyddoedd a heb erioed gael achosion o TB. Mae hwn yn ddull wedi'i dargedu lle gallwch fynd i mewn a chael gwared ar anifeiliaid gwyllt heintiedig. Gwn fod Aelodau eraill wedi sôn am frechlyn, ond y broblem sydd gennym gyda brechlyn yw na allant wahaniaethu, pan wneir profion, rhwng pa anifeiliaid sydd wedi cael eu brechu a pha anifeiliaid nad ydynt wedi cael eu brechu. Felly, nid yw'r brechlyn yno eto, ond diolch, Paul, am bopeth rydych chi wedi'i wneud ar hyn.
Stephen Senior, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedoch chi am ffermwyr yn siapio ein hamgylchedd a sut y mae angen eu cefnogi, ond hefyd yr elfennau biwrocrataidd sydd ynghlwm wrth TB—y gwaith papur a ddaw gydag ef, gyda milfeddygon achos a'r holl bobl sy'n dod o'ch cwmpas drwy'r amser; mae'n niwsans llwyr, ac mae'n rhoi llawer o straen ar ein ffermwyr.
Diolch, Anna Nicholl, am eich cyfraniad pwerus, yn tynnu sylw at y rhaglen ddogfen Ffermio. Rwy'n cofio yn y Senedd flaenorol pan gafodd hynny ei grybwyll. Ni chredaf y gallai unrhyw un ar draws y Siambr hon fod heb eu cyffwrdd gan yr hyn a ddywedwyd ar y rhaglen a'r fuwch a gafodd ei difa yno a oedd yn disgwyl llo hefyd. Cafodd llawer o bobl eu cyffwrdd gan hynny. Roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd y byddai'r Llywodraeth flaenorol yn symud ar hynny. Fe wnaethant symud ychydig o ran polisi ar hynny, ond ni chafwyd newid mawr, rhywbeth yr oedd pob un ohonom yn gobeithio ei weld.
Paul Rock, rwy'n parchu eich hawl i'ch barn am gyfraddau heintio, ond hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, sef bod nifer y buchesi wedi gostwng 40 y cant yma yng Nghymru, felly fe fydd yna lai o niferoedd wedi'u heintio.
Mae angen gweithredu nawr, ac rwy'n credu bod angen inni gael cyfeiriad clir yn y Siambr hon i'r Gweinidog, ac os bydd y grŵp cynghori technegol yn dweud bod angen inni gael ymyrraeth wedi'i thargedu mewn anifeiliaid gwyllt, fod gan y Gweinidog olwg clir ar y ffaith bod mwyafrif yn y Siambr hon eisiau symud i'r cyfeiriad hwnnw a pheidio â chael mwy o eiriau gwag a dadleuon i ohirio'r mater. Mae angen inni symud ymlaen.
Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet—. Rwy'n credu fy mod yn gwneud yn iawn o ran amser. Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, dylwn ddweud, nid Ysgrifennydd y Cabinet—diolch am eich ymateb. Mae'n braf iawn clywed Gweinidog yn eistedd yn y gadair honno'n dweud bod angen inni fwrw ymlaen i ddatrys y mater hwn ac nid amddiffyn polisi sydd wedi methu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Oherwydd rwy'n cytuno â chi ynglŷn â bioddiogelwch, nad yw hwn yn fater lle mae un ateb yn addas i bawb, ac nid oes unrhyw ddau achos yr un peth. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r bioddiogelwch. Gweithio gyda milfeddygon—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—i ddeall eich amgylchiadau unigol ac unioni hynny, a gobeithio, bydd Llywodraeth Cymru, wrth edrych ar y grantiau—. Gwnaethant lawer iawn o waith mewn gwirionedd ar godi cafnau bwydo fel nad yw anifeiliaid yn bwydo ar y llawr, a gwneud yn siŵr bod stalau wedi'u gorchuddio, i sicrhau y gallwn gael y clefyd hwn dan reolaeth.
Ond hoffwn ddweud wrth y Gweinidog, un peth nad yw wedi'i grybwyll, mae'n debyg, yw milfeddygon achos—rhywbeth rydych chi a minnau wedi'i godi, mae'n debyg—sicrhau bod cysondeb gyda milfeddygon achos pan fyddant yn mynd allan ar ffermydd, gan nad oes unrhyw beth yn fwy rhwystredig i bobl os oes ganddynt filfeddygon gwahanol drwy'r amser, ac mae hynny'n achosi llawer o bryder yn y diwydiant.
Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau, ac rwy'n profi amynedd y Llywydd, gan fod y cloc yn goch ac mae pobl eisiau mynd adref, ond hoffwn ddweud 'diolch' wrth yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae gennym safbwyntiau gwahanol, ond rwy'n credu bod y mwyafrif yn y Siambr hon nawr eisiau inni symud ymlaen ar y mater hwn. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw. Gadewch inni gael y newid sylweddol sydd ei angen arnom, gadewch inni gefnogi'r ffermwyr hynny a gadewch inni gael y clefyd hwn, o'r diwedd, dan reolaeth unwaith ac am byth. Rwy'n cynghori'r holl Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Object. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 8 nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cynllun dychwelyd ernes. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9287 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn llongyfarch pobl Cymru ar gyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd.
2. Yn cefnogi'r gwaith o sefydlu cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach.
3. Yn credu y bydd dargyfeirio rheoleiddiol diangen oddi wrth Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd ernes arfaethedig presennol Llywodraeth Cymru yn arwain at;
a) cynyddu costau i gynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr yng Nghymru;
b) cyflwyno risg o dwyll trawsffiniol sylweddol; ac
c) peri risg o danseilio ewyllys da y cyhoedd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cynlluniau presennol i gynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd ernes Cymru, er mwyn sicrhau aliniad rhwng Cymru a gweddill y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae gan Gymru bob rheswm i fod yn falch o'i record o ran ailgylchu. Mae gennym y gyfradd ailgylchu uchaf ond un yn y byd, gyda chyfradd ailgylchu genedlaethol o 68.4 y cant. Mae deuddeg o 22 awdurdod lleol Cymru eisoes wedi cyflawni targed statudol Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant o wastraff trefol, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae fy awdurdod lleol i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cael pwyntiau gennyf am eu bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus. Mae'r cyflawniadau hyn yn dyst i ymdrechion ein cartrefi, ein hawdurdodau lleol a'n busnesau yng Nghymru, sydd wedi cofleidio ailgylchu a chynaliadwyedd. Dyna pam fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi egwyddor cynllun dychwelyd ernes dro ar ôl tro, gan y credwn y gall leihau sbwriel, cynyddu cyfraddau ailgylchu, annog ymddygiad cyfrifol a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, ein mamaliaid môr a'n bywyd gwyllt.
Nawr, yn 2016, roeddwn yn hynod falch o fod wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol llwyddiannus ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru. Mae hi bellach yn 2026. O gwmpas y byd, mae cynlluniau llwyddiannus mewn gwledydd fel yr Almaen a Norwy yn cyflawni cyfraddau dychwelyd o dros 90 y cant yn gyson, gan leihau sbwriel a chadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad. Felly, nid dadl ynglŷn ag a ddylai Cymru gael cynllun dychwelyd ernes yw hon, ond un sy'n gofyn a yw'r cynllun arfaethedig yn addas i’r diben, yn fforddiadwy ac yn gweithio i fusnesau a chwsmeriaid fel ei gilydd. Dewisodd Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru greu system sy'n wahanol—a hyn ar ôl 10 mlynedd—i weddill y DU drwy gynnwys gwydr yn y cynllun, er yr holl dystiolaeth sy'n awgrymu bod hynny'n anymarferol. Bydd y gwahaniaeth hwn er mwyn bod yn wahanol yn unig yn arwain at ganlyniadau real i economi Cymru. Mae Cymru eisoes yn casglu 92 y cant o wydr wrth ymyl y ffordd, felly ni allaf ddeall pam y mae cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes yn flaenoriaeth mor bwysig i Lywodraeth Plaid Cymru. Mae arnaf ofn fod hyn yn edrych fel trychineb arall a ariennir gan drethdalwyr Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Mae cynnwys gwydr yn gwneud y cynllun yn llawer mwy cymhleth ac yn llawer drytach, gan fod gwydr angen seilwaith casglu pwrpasol, triniaeth arbenigol, cludiant drud oherwydd ei bwysau o gymharu â phlastig a chaniau a phapur, a pheiriannau rhoi arian am ailgylchu drytach, sydd oll yn golygu costau gweithredu uwch i fanwerthwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd. A dywedaf hynny eto: i fanwerthwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd. Rydym yn sôn, unwaith eto, am ergyd arall i'n busnesau.
Mae Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain wedi rhybuddio y gallai'r penderfyniad hwn gynyddu cost rhai poteli hyd at 50c, a fyddai, ar rywbeth fel potel fach o ddŵr, yn gynnydd cyfrannol enfawr. Disgrifiodd y gwneuthurwr blaenllaw o Gymru, Radnor Hills, gynlluniau Llywodraeth Cymru fel llanast llwyr. Mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi rhybuddio y gallai gweithgynhyrchwyr drosglwyddo'r costau ychwanegol yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu hyd yn oed dynnu cynhyrchion yn ôl o'r farchnad yng Nghymru yn gyfan gwbl. Nawr, nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond yn sicr, os wyf i'n cael diod, mae'n well gennyf ei hyfed o botel wydr. Mae gormod o blastig yn cael ei lyncu nawr drwy yfed o boteli plastig. Felly, mae dewis defnyddwyr yn y fantol yma.
Nid pryderon damcaniaethol yw'r rhain, maent yn rhybuddion gan y busnesau y disgwylir iddynt gyflawni'r cynllun hwn, ac rwyf bob amser wedi gwrando ar fy musnesau yn Aberconwy a Bangor Conwy Môn nawr. Mae methiant Llywodraeth Cymru i benodi sefydliad rheoli ernes i redeg y cynllun yn peri mwy fyth o bryder. Gyda dyddiad lansio ym mis Hydref 2027, ychydig dros flwyddyn o nawr, nid oes gweinyddwr, TG, seilwaith na chynllun gweithredu go iawn wedi'u cadarnhau o hyd, dim ond ideoleg a chynllun di-ddim nad yw'n gwrthsefyll craffu ac sydd â'r potensial i niweidio ein busnesau. Mae cwestiynau difrifol heb eu hateb o hyd: sut y bydd y cynllun hwn yn gweithredu o ddydd i ddydd? Faint o gymorth ariannol y bydd manwerthwyr yn ei gael am weithredu mannau dychwelyd? Pa fanwerthwyr bach fydd yn gymwys ar gyfer eithriadau? Sut y bydd cynhyrchwyr yn paratoi eu cadwyni cyflenwi? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn creu ffin galed i bob pwrpas drwy gyflwyno labeli ar gyfer Cymru'n unig? Dyma'r un Llywodraeth a fu'n siarad ddoe am edrych allan, edrych allan yn rhyngwladol ac ati, ac eto rydych chi eisiau labeli ar gyfer Cymru'n unig ar boteli. Sut y bydd awdurdodau lleol yn ariannu casgliadau gwydr? Ni all busnesau fuddsoddi heb sicrwydd, ond eto mae sicrwydd wedi bod yn gwbl absennol drwy gydol y broses hon.
Mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi nodi eu pryderon yn gwbl glir. Maent yn rhybuddio y gallai siopau lleol gael eu gorfodi i brynu peiriannau rhoi arian am ailgylchu 'gollwng gan bwyll' drytach sy'n gallu trin gwydr yn ddiogel neu wynebu'r risgiau sy'n gysylltiedig â gafael mewn gwydr wedi torri. Mae'n bryder iechyd a diogelwch clir. Rhybuddiodd Ed Woodall, prif weithredwr y Gymdeithas Siopau Cyfleustra—grŵp trawsbleidiol yr oeddwn yn falch o'i gadeirio am dymor llawn—oni bai bod gweinyddwr yn cael ei benodi ar frys, y bydd busnesau Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Gwnaeth bwynt pwysig arall hefyd: y gobaith gorau o lwyddo yw cynllun dychwelyd ernes sydd yr un fath ledled y DU. Dyna mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i gefnogi o'r cychwyn cyntaf. Mae Sainsbury's, y Co-operative Group a Coca-Cola oll wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at y Prif Weinidog yn rhybuddio bod perygl y gallai'r polisi presennol gynyddu prisiau, lleihau dewis cwsmeriaid a chreu ansicrwydd cynyddol i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghymru—gan annog cyflenwyr i beidio â masnachu yng Nghymru yn gyfan gwbl. Felly, pam y mae'r rhybuddion hyn gan fusnesau pwysig o'r fath, arbenigwyr pwysig y diwydiant, yn syrthio ar glustiau byddar?
Mae'r ffigyrau blaenllaw hyn yn y diwydiant hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i benodi Exchange for Change ar unwaith, gan eu bod yn credu mai dyma'r unig lwybr realistig i gyflawni cynllun ar amser, gan sicrhau cydweddoldeb ar draws y pedair gwlad. Ac eto, er mai nhw oedd yr unig ymgeisydd, gwrthodwyd Exchange for Change i gychwyn, sy'n peri cryn bryder. Os nad yw'r tendr hwn yn gynnig deniadol i'r rhai yn y diwydiant, sut ydych chi, Weinidog Cabinet, yn meddwl y gallech chi redeg pethau'n well? O ble fyddech chi'n dod o hyd i'r arbenigedd? Ble fyddech chi'n creu'r seilwaith angenrheidiol mewn cyfnod mor fyr?
Gydag amser yn brin, mae Llywodraeth newydd Cymru yn ei chael hi'n anodd datrys problemau o'i gwaith ei hun ac ystyfnigrwydd cyn-Lywodraeth Lafur Cymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio'n gyson yn erbyn creu system ar wahân i Gymru. Ni ddylid gorfodi busnesau sy'n masnachu ar draws ffin Cymru a Lloegr i weithredu systemau labelu gwahanol, cadwyni cyflenwi ar wahân a rheoliadau sy'n gwrthdaro. Ni ddylai cynhyrchwyr bach Cymru wynebu biwrocratiaeth ddiangen. Ni ddylai defnyddwyr wynebu dryswch ynghylch pa gynwysyddion sy'n gymwys ai peidio. Ac ni ddylai trethdalwyr wynebu costau ychwanegol gweithredu system fwy cymhleth na'n cymdogion.
Mae cynnwys gwydr eisoes wedi gohirio trefniadau ailddefnyddio llawn sy'n cynnwys gwydr tan 2031, gan gydnabod bod cymhlethdodau sylweddol yn parhau. Os na ellir integreiddio gwydr yn llawn yn realistig am sawl blwyddyn arall, pam mynnu gwneud y cynllun cychwynnol mor ddiangen o anodd nawr a ninnau eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith? Nawr, byddem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn mynd ati mewn ffordd wahanol. Byddem yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes sy'n gweithio o'r diwrnod cyntaf. Byddem yn alinio Cymru â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu un system ddi-dor ledled y DU. Byddem yn cael gwared ar wydr o gam cychwynnol y cynllun er mwyn lleihau costau, symleiddio gweithrediadau ac osgoi beichiau diangen ar fusnesau. Byddem yn gweithio mewn partneriaeth go iawn gyda gweithgynhyrchwyr, siopau cyfleustra, busnesau lletygarwch a sefydliadau ailgylchu Cymru, yn hytrach na gorfodi'r atebion biwrocrataidd a diangen hyn heb wrando.
Weinidog Cabinet, rhaid eich bod yn gallu cydnabod eich bod wedi peintio eich hunain i gornel gyda'r cynllun gwael hwn a'r amserlen anghyflawnadwy. Fe ddywedoch chi yn eich maniffesto yn gynharach eleni y byddech chi'n cyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer cynwysyddion diodydd plastig a metel, a chan gynnwys gwydr pan fydd hynny'n ymarferol. Nid yw'n ymarferol. Rydych chi'n cydnabod bod cynnwys gwydr yn broblemus, felly beth sydd wedi newid?
Pam eich bod yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r cynllun hwn? Mae'n mynd i fethu. Mae'r gost, y potensial am dwyll, effaith rhyngweithredu trawsffiniol ar systemau casglu presennol, y gost i awdurdodau lleol, y risg y bydd cyflenwyr yn rhoi'r gorau i fasnachu yng Nghymru, ac yn anad dim, y gost i bwrs y wlad, pe bai hyn yn methu, yn gwneud y cynllun yn gwbl anymarferol ac yn amhosibl ei weithredu erbyn mis Hydref 2027. Byddai cynllun dychwelyd ernes ymarferol, cysylltiedig yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu ac yn gwella canlyniadau amgylcheddol, gan gefnogi busnesau Cymru a diogelu defnyddwyr rhag costau diangen. Mae cynnwys gwydr yn bygwth difetha'r cynllun cyn iddo gael ei roi ar waith hyd yn oed.
Felly, Weinidog Cabinet, mae gennym gymaint i fod yn falch ohono yng Nghymru o ran ein cyfraddau ailgylchu. Mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn arloeswyr ac wedi cyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cynllun dychwelyd ernes hwn yn iawn. Rwy'n eich annog i gefnogi cael gwared ar wydr o'r cynllun hwn, ac rwy'n annog Aelodau eraill yma i gefnogi ein safbwynt ar hyn. Diolch.
Diolch i'r Aelod. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni cynllun dychwelyd ernes sy’n gweithio i Gymru, a hynny’n unol â Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cynnig yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Ymlaen i'n siaradwyr—Laura Anne Jones yn gyntaf.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, onid oes? Rhown glod lle mae'n ddyledus: o ran ailgylchu, rydym yn hollol wych ac yn arweinwyr byd, ac ar gasgliadau wrth ymyl y ffordd yn enwedig. Ac os nad yw ein system i ailgylchu gwydr wedi torri, pam ein bod ni'n ei thrwsio? Nid yw Reform yn gwrthwynebu cynllun dychwelyd ernes, ond rydym yn cwestiynu a oes angen gwneud rhywbeth yn wahanol ddim ond er mwyn bod yn wahanol. Rydym yn cefnogi mesurau ymarferol i leihau sbwriel, i wella ailgylchu a diogelu ein hamgylchedd. Rydym yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rydym yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i greu system ar wahân i'r Deyrnas Unedig.
Dyma lle mae'r cynllun yn mynd o fod yn syniad synhwyrol i fod yn eco-wallgofrwydd biwrocrataidd. Rydym yn sefyll ar ymyl trychineb economaidd arall wedi'i goginio yma yn swigen Bae Caerdydd. Mae Llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru, wedi'i chefnogi gan weddillion polisïau aflwyddiannus Llafur chwith, ar fin gwthio cynllun drwodd sydd mor ddatgysylltiedig oddi wrth realiti fel y byddai'n ddoniol pe na bai'n beryglus. Nawr ar bapur, mae'n swnio'n hyfryd, onid yw? Rydym ni'n mynd i helpu'r amgylchedd. Ond gadewch inni edrych ar y realiti. O dan eu cynllun, pan fyddwch chi'n prynu diod, rydych chi'n talu ernes orfodol, a dim ond os ydych chi'n llusgo eich poteli a'ch caniau gwag yn ôl i'r siop y byddwch chi'n ei chael yn ôl. Ond dyma'r ergyd, y gwallgofrwydd llwyr sy'n crynhoi'n berffaith y sefydliad hwn ym Mae Caerdydd: maent wedi mynnu cynnwys gwydr yn y cynllun Cymreig, gan ynysu Cymru'n llwyr oddi wrth Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Meddyliwch beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Bydd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweithredu un system wedi'i halinio'n fras, tra bod Cymru'n mynnu mynd ei ffordd ei hun. Mae hon yn wleidyddiaeth glasurol Plaid Cymru-Llafur, sy'n gwneud Cymru'n wahanol ddim ond er mwyn bod yn wahanol. Bydd pobl yn prynu diodydd yn Henffordd, Caer, Bryste ac yn dod â nhw'n ôl i Gymru, tra bydd disgwyl i fusnesau ddeall a gweinyddu rheolau gwahanol yn dibynnu ar ba ochr i'r ffin y maent yn digwydd bod arni.
Mae'r diwydiant ei hun wedi rhybuddio bod yr ystyfnigrwydd ideolegol hwn yn agor risg enfawr o dwyll trawsffiniol, gyda Chymdeithas Diodydd Meddal Prydain yn rhybuddio am risg posibl o dwyll gwerth £300 miliwn oherwydd bod ein gwleidyddion eisiau edrych yn rhinweddol yn hytrach na bod yn ymarferol. Mae'n wahoddiad agored i gamfanteisio. A phwy sy'n talu am hyn? Pobl weithgar Cymru, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn argyfwng costau byw creulon. Mae Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain wedi rhybuddio'n benodol y gallai gorfodi gwydr i mewn i'r cynllun ychwanegu hyd at 50c at gost un botel o ddiod—50c ar un botel. Mae swyddogion gweithredol o Tesco, Sainsbury's a Coca-Cola wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn rhybuddio y gallai'r cynllun hwn achosi prisiau uwch a llawer iawn llai o ddewis i ddefnyddwyr. Mae brandiau mawr eisoes yn edrych ar Gymru ac yn dweud nad yw'n werth y drafferth. Nid ydynt yn mynd i argraffu labeli ar wahân drud ar gyfer Cymru'n unig ddim ond i fodloni Bae Caerdydd. Bydd silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd a bydd gan deuluoedd Cymru waledi gwacach. Mae'n newyddion ofnadwy i'n heconomi.
Beth am ein manwerthwyr annibynnol? Disgwylir i'n siopwyr ddod yn safleoedd gwaredu gwastraff. Mae masnachwyr gwin ar y ffin eisoes wedi dweud eu bod yn bryderus iawn ynglŷn ag ehangu neu fuddsoddi yng Nghymru oherwydd bod y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â chadw stoc Cymru a Lloegr ar wahân yn gwbl anfforddiadwy. Mae Bae Caerdydd yn cosbi'r union bobl sy'n cadw economi Cymru'n fyw. Ac i beth? Beth yw'r wobr fawr amgylcheddol yma? Fel y dywedais, mae ailgylchu wrth ymyl y ffordd yng Nghymru o safon byd-eang—i roi clod lle mae'n ddyledus. Mae ein cymunedau eisoes yn ailgylchu dros 90 y cant o'u gwydr drwy gasgliadau arferol y cartref. Mae'r system yn gweithio. Ond yn hytrach na'i gadael i fod, mae'r Llywodraeth hon eisiau datgymalu system sy'n gweithio. Mae eisiau gorfodi preswylwyr oedrannus, rhieni prysur, y rhai sy'n anabl i lwytho gwydr trwm i mewn i'w ceir a gyrru at beiriant archfarchnad ddim ond i gael eu harian eu hunain yn ôl. Nid yw'n lleihau allyriadau carbon. Mae'n eu cynyddu. Meddyliwch am yr holl deithiau car diangen a chynyddol hynny. Mae'n frolio rhinweddau clasurol gan Blaid Cymru ar ei wedd fwyaf haerllug ac abswrd.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cyfan yn llanast llwyr. Gyda llai na 15 mis tan y dyddiad cychwyn ym mis Hydref 2027, nid yw'r Llywodraeth wedi llwyddo i benodi gweinyddwr i redeg y cynllun. Fe wnaeth wrthod yr unig ymgeisydd realistig o'r diwydiant am ei bod wedi'i dallu gan ei dogma ei hun. Mae gweddill y DU yn defnyddio Exchange for Change, ond cafodd ei wrthod gan Blaid Cymru. [Torri ar draws.]
Nid ydym wedi ei wrthod. Mae hynny'n ffeithiol anghywir. Gwnaed y penderfyniad hwnnw cyn i ni ddod i rym.
Mae'r Gweinidog newydd nodi bod hynny'n ffeithiol anghywir, ac fe gymeraf hynny, felly. [Torri ar draws.]
Ac fe wnaf ei egluro.
Iawn, ac fe wnewch chi egluro hynny. Gwych.
Os nad oes gan Gymru gynllun cyfaddas ar waith pan fydd gweddill y DU yn lansio, gallai defnyddwyr Cymru orfod talu ernes o 20c heb unrhyw ffordd hawdd o'i hadennill oni bai eu bod yn croesi'r ffin i Loegr. Byddai hynny'n troi ernes ad-daladwy yn dreth weithredol o 20c ar ddiodydd i bobl Cymru. Mae'n cerdded yn syth i mewn i'r un chwalfa drychinebus a welsom pan geisiodd yr Alban wneud hyn a methu.
Gadewch imi fod yn glir ynghylch safbwynt Reform: nid ydym yn erbyn cynllun dychwelyd ernes; rydym yn erbyn cynllun gwydr ar wahân sy'n creu cost uwch, mwy o fiwrocratiaeth a gwahanu diangen oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig. Mae cynllun ledled y DU ar gyfer caniau a photeli plastig yn un peth, ond mae llusgo gwydr i mewn iddo, er gwaethaf rhybuddion, yn wirion. Mae angen inni ryddhau busnesau Cymru rhag gor-reoleiddio gormodol. Mae angen inni roi'r gorau i drin defnyddwyr Cymru fel peiriannau arian parod ac arbrofion ideolegol. Mae'n bryd taflu'r polisi gwydr toredig hwn i'r bin lle mae i fod, alinio â gweddill y DU, a dechrau canolbwyntio ar bolisïau sy'n tyfu ein heconomi, yn lleihau biliau pobl ac yn cefnogi busnesau lleol. Byddwn yn cefnogi'r cynnig Ceidwadol heddiw. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw a'u bod yn cytuno bod angen cynllun dychwelyd ernes ar Gymru, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddwn i gyd yn cytuno arno y prynhawn yma. Mae'r hyn rydym ni'n siarad amdano pan fyddwn yn siarad am gynllun dychwelyd ernes yn ffordd effeithiol iawn o fynd i'r afael â melltith sbwriel drwy ddarparu rhwydwaith o gyfleusterau dychwelyd ernes sy'n cyd-fynd â'r nifer cynyddol o batrymau bwyta ac yfed wrth fynd, sy'n nodwedd mor gyffredin o'r gymdeithas brysur heddiw. Mae Janet wedi siarad am sbwriel, ac rwy'n cytuno â hi. Mae sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau, yn ein hafonydd, ar ein rheilffyrdd ac ar ochr ein ffyrdd. Mae sbwriel yn dod o hyd i'w ffordd i mewn i'n hardaloedd o harddwch naturiol, ac i'n moroedd hefyd yn anffodus. Rwy'n credu y gallem ddweud bod yna gonsensws trawsbleidiol fod sbwriel yn falltod ar ein holl gymunedau, ac mae'n un o'r pethau sydd bob amser yn codi mewn sgyrsiau gyda'n hetholwyr.
Rwy'n falch ein bod wedi pasio deddfwriaeth o dan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru i ddeddfu cynllun dychwelyd ernes a bod cynlluniau hefyd yn cael eu gweithredu ar draws gweddill y DU. Ac fel y soniodd eraill, dylai Cymru fod yn falch iawn o'r ffaith mai ni yw'r genedl ailgylchu orau ond un yn y byd, ond mae sbwriel yn parhau i fod yn broblem, ac mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn gwaethygu mewn gwirionedd, er gwaethaf ymdrechion gwych timau glanhau strydoedd awdurdodau lleol, Cadwch Gymru'n Daclus a chasglwyr sbwriel gwirfoddol ledled Cymru.
Mae'r ddadl yma heddiw yn ymwneud â ffurf y cynllun dychwelyd ernes. Clywais y galwadau, fel eraill hefyd, gan y diwydiant diodydd, yn galw am eithrio gwydr o'r cynllun, ond nid wyf yn cytuno y dylem ddilyn y llwybr hwnnw. A'r rheswm am hynny yw'r cynnydd mewn sbwriel gwydr. Ac mae'r ffigurau'n llwm iawn. Mae'r poteli gwydr yn ein sbwriel yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y pedair blynedd diwethaf. Drwy gynnwys gwydr, bydd y cynllun yn cynnig mwy o fudd amgylcheddol, ond yn bwysig i ni ar y meinciau hyn, bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd economaidd ar gyfer twf gwyrdd, yn batrwm o'r dull o weithredu a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nawr, mae 'twf gwyrdd' yn ymadrodd bach, ond mae'n bwysig iawn oherwydd yr hyn y mae'n ei olygu yw swyddi. Mae cyfle yma i Gymru arwain gweddill y DU pan fyddant yn dal i fyny â ni yn y pen draw ac yn cynnwys gwydr yn eu cynlluniau dychwelyd ernes, gyda safleoedd ailgylchu gwydr yng Nghymru a allai arwain y ffordd ar hynny, gan adeiladu arbenigedd mewn diwydiant sy'n ddiwydiant gwyrdd cynaliadwy ac wedi'i ddiogelu at y dyfodol. Mae llawer o wledydd Ewropeaidd eraill yn llwyddo i ailgylchu gwydr drwy gynlluniau dychwelyd ernes heb niweidio'r busnesau sy'n gwerthu poteli cwrw a diodydd eraill mewn gwydr. Mae'r Ffindir yn enghraifft dda iawn. Mae wedi bod yn cynnig cynllun dychwelyd ernes ar gyfer gwydr ers 1952. Felly, rwyf am ofyn i Reform a'r Ceidwadwyr pam eu bod yn meddwl na allwn ni wneud hynny yma yng Nghymru os gall gwledydd eraill ei wneud. Mae'n ymddangos i mi fod meddwl felly'n sarhad ar Gymru, ac nid dyna lle rwyf eisiau i ni fod. Mae'r ystadegau'n dangos bod cynlluniau dychwelyd ernes yn gweithio i leihau sbwriel a gwella ein hamgylchedd, ac rwyf am weld y cynllun ehangaf posibl yn cynnig y manteision mwyaf posibl a chyfle i Gymru greu swyddi gwyrdd ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon yma heddiw. Yn y Siambr hon, wrth gwrs, rydym eisoes wedi clywed bod llawer ohonom yn rhannu'r uchelgais ar gyfer cynllun dychwelyd ernes sy'n adeiladu ar gyfraddau ailgylchu Cymru sy'n arwain y byd, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni gytuno hefyd fod rhaid i bolisi da weithio'n dda yn ymarferol, nid edrych yn dda ar bapur yn unig. Ac nid a ddylem wella ailgylchu yw'r cwestiwn, ond ai creu cynllun dychwelyd ernes mwy cymhleth ar wahân i weddill y DU yw'r ffordd orau o gyflawni hynny.
Mewn ymateb i her y siaradwyr blaenorol yn ôl i'r Ceidwadwyr funud yn ôl, y mater sylfaenol dan sylw yma yw'r gwahanu oddi wrth weddill y DU a'r cymhlethdod y mae hynny'n ei greu yn y system, gan gynyddu'r gost, cynyddu'r pwysau ar fusnesau, ac i ddefnyddwyr yn y pen draw, sef y rhai a fydd yn talu cost lythrennol hyn ar y diwedd.
Fel Aelod dros etholaeth Fflint Wrecsam, rwy'n gweld bob dydd pa mor rhyng-gysylltiedig yw ein cymunedau yma yn y DU. Mae pobl yn symud rhwng Cymru a Lloegr yn gyson i weithio, siopa ac ymweld â theulu, gyda busnesau'n masnachu'n ddi-dor ar draws y ffin honno. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw sicrwydd a chysondeb, nid gwahaniaeth a biwrocratiaeth ychwanegol er ei mwyn ei hun. Dyna pam, fel y nododd Janet Finch-Saunders wrth agor, ein bod ni'n gyson wedi cefnogi cynllun dychwelyd ernes wedi'i alinio'n llawn ar draws y pedair gwlad.
Dyma hefyd yw safbwynt Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru, sydd wedi rhybuddio y bydd gwahanol gynlluniau ledled y DU yn creu cymhlethdod diangen a chostau ychwanegol yn y pen draw. Mae'r gymdeithas wedi galw am ddull pedair gwlad wedi'i alinio'n llawn, a fyddai'n golygu eithrio gwydr o'r cynllun. Byddai gwydr yn creu cymhlethdod diangen a chostau ychwanegol i gynhyrchwyr, manwerthwyr—ac unwaith eto, gadewch inni beidio ag anghofio'r defnyddwyr, sef y rhai a fyddai'n talu am hyn drwy eu pryniannau. Gallai'r costau hynny arwain at brisiau uwch yn y pen draw, lleihau dewis defnyddwyr gan y bydd rhai brandiau'n ailystyried marchnad Cymru, a mwy o bwysau ar fusnesau llai o Gymru. Unwaith eto, siaradodd y siaradwr Llafur blaenorol am y cyfleoedd twf gwyrdd, ond yr hyn sydd heb ei gydnabod yw'r colledion posibl oherwydd y costau uwch o ddelio â'r cynllun arfaethedig hwn.
Mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi codi pryderon tebyg. Byddem i gyd yn rhannu'r teimlad bod siopau lleol yn ganolog i gymunedau ledled Cymru, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Byddent yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant unrhyw gynllun dychwelyd ernes. Eto, nid oes gan lawer o siopau cyfleustra le i ddarparu ar gyfer dychwelyd gwydr, ac mae'r peiriannau rhoi arian am ailgylchu arbenigol sydd eu hangen yn sylweddol ddrytach. Yn enwedig ar adeg pan fo llawer o fanwerthwyr annibynnol eisoes o dan bwysau, mae hyn yn bryder difrifol iawn iddynt. Nid cwestiwn amgylcheddol yn unig yw cynnwys gwydr, mae'n un ymarferol. Dylem ofyn ai dyma'r ffordd iawn i gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, heb roi beichiau diangen ar fanwerthwyr, cynhyrchwyr, ac yn bwysig eto, ar ddefnyddwyr.
Eisoes yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, crybwyllwyd y cwestiwn o barodrwydd. Gyda'r cynllun i fod i lansio ym mis Hydref 2027, ychydig dros flwyddyn i ffwrdd, mae'n ymddangos nad yw busnesau wedi cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt. Mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra, fel y clywsom eisoes, wedi annog Llywodraeth Cymru i benodi'r sefydliad rheoli ernes cyn gynted â phosibl fel y gall y manwerthwyr hynny fuddsoddi, addasu eu gweithgarwch a hyfforddi staff yn briodol. Heb y sicrwydd hwnnw, bydd dyddiad cychwyn ym mis Hydref 2027 yn dod yn fwyfwy anodd i'w gyflawni. Rwy'n gwybod efallai fod y Gweinidog Cabinet eisiau siarad am y pwynt hwnnw'n benodol yn ei ymateb, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddo ar hynny.
Rwy'n credu hefyd fod y Gweinidog Cabinet yn deall y broblem. Rwy'n gwybod ei fod yn gweld y broblem y mae busnesau'n ei hwynebu ar hyn o bryd gyda hyn a'r problemau y bydd gwahaniaethu'n eu creu. Gofynnaf i'r Gweinidog Cabinet ystyried yr hyn y mae'n teimlo yn ei galon yw'r problemau y bydd hyn yn eu hachosi, a myfyrio ar y costau y mae'n mynd i'w hachosi i fusnesau. Roedd eich Llywodraeth Blaid Cymru yma yn aml yn siarad yn eu hymgyrch eu bod am i'r economi fod wrth galon Llywodraeth newydd Plaid Cymru. Felly, gwrandewch ar yr hyn y mae busnesau'n ei ddweud wrthych am y cynllun hwn nawr, gwrandewch ar eu pryderon ac aliniwch â gweddill y DU.
Felly, gofynnaf i'r Gweinidog Cabinet yn benodol: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda gwledydd eraill y DU i gyflawni cynllun dychwelyd ernes gwirioneddol ryngweithiol? A wnewch chi ystyried bod cynnwys gwydr wrth ei lansio'n creu perygl o gynyddu costau i fusnesau a defnyddwyr Cymru? A wnewch chi gydnabod hynny? Ac a wnewch chi benodi sefydliad rheoli ernes ar frys fel bod busnesau'n cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i baratoi?
Ddirprwy Lywydd, fe wnaf orffen drwy ddweud y dylai uchelgais amgylcheddol a synnwyr cyffredin economaidd fynd law yn llaw. Gallwn ddarparu cynllun dychwelyd ernes llwyddiannus, ond ddim ond os yw'n ymarferol, yn fforddiadwy ac wedi'i alinio â gweddill y DU. Diolch yn fawr iawn.
Ni ddylai neb yn y Siambr hon fod yn ddifater ynghylch sbwriel, ac rydym wedi clywed hynny eisoes. Nid oes neb eisiau poteli plastig a chaniau ar ein traethau, yn ein hafonydd—siaradais am hyn pan siaradais yn y ddadl ar afonydd—yn ein parciau neu ar ochr ein ffyrdd. Gall Cymru fod yn falch iawn o'i chyflawniad amgylcheddol, yn sicr, ond nid yw bwriadau da'n gwneud polisi da yn awtomatig, a dylem fod yn ymwybodol o hynny heddiw. Nid a yw ailgylchu'n bwysig yw'r prawf ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes hwn—wrth gwrs ei fod—y gwir gwestiwn yw a yw Gweinidogion yn cynnig ateb i broblem go iawn, neu a ydynt yn ceisio trwsio rhywbeth sydd eisoes yn gweithio'n rhyfeddol o dda, yn enwedig mewn perthynas â gwydr.
Lywydd, rwyf wedi dod i'r casgliad fwyfwy, gyda gwydr, fod y cynnig mewn perygl o symud o ailgylchu synhwyrol i'r hyn a alwodd Laura Anne Jones, yn 'wallgofrwydd ailgylchu'. Rwy'n ei chael hi'n eithaf doniol bod rhai pobl yn siarad fel pe bai ailgylchu'n ffenomen fodern. Cefais fy magu mewn cymdeithas lle roedd ailddefnyddio ac ailgylchu'n rhan o fywyd bob dydd. Roedd fy rhieni a fy nheidiau a fy neiniau yn perthyn i'r genhedlaeth 'ailddefnyddio a thrwsio'. Fe wnaethant fy annog i i wneud yr un peth. Os oedd rhywbeth yn torri, roeddech chi'n ei drwsio; os gellid ailddefnyddio rhywbeth, fe fyddech chi'n ei ailddefnyddio. Nid oedd unrhyw beth yn cael ei waredu'n ddiangen ac fel plentyn, rhan o hynny oedd mynd â photeli'n ôl a chael tair ceiniog, y byddech chi'n eu gwario ar losin a phethau felly, ac fe wnaem ni hynny bob wythnos. Fe fyddech chi'n mynd â'r poteli yn ôl i'r siop am ychydig geiniogau. Nid oedd gennym fin glas bryd hynny, felly fe fyddech chi'n mynd â phethau'n ôl. Y dyddiau hyn, mae gennym fin glas i allu taflu gwydr iddo.
Felly, nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor o gynlluniau dychwelyd ernes, oherwydd cefais fy magu gydag un. Roeddwn i'n deall y rhesymeg y tu ôl iddynt. Yn wir, roeddwn i'n credu mewn cynlluniau dychwelyd ernes ymhell cyn iddynt ddod yn ffasiynol. Ond mae bywyd hefyd wedi dysgu rhywbeth arall i mi. Nid yw cynllun dychwelyd ernes ond yn gwneud synnwyr pan fo'n gwella ar yr hyn sy'n bodoli eisoes, ac nid yw cynnig y Llywodraeth yn gwneud hynny. Daw hyn â ni at y cwestiwn sylfaenol sydd o'n blaenau heddiw: pa broblem y mae Gweinidogion yn ceisio ei datrys yma? Yn wir, mae Cymru eisoes, fel y clywsom, yn ailgylchu tua 92 y cant o wydr y cartref drwy systemau casglu presennol. Mae hwnnw'n gyflawniad anhygoel, ac nid ydym yn tanberfformio yng Nghymru. Nid ydym yn llusgo ar ôl yn Ewrop. Rydym ymhlith y perfformwyr gorau yn unrhyw le yn y byd, fel y mae siaradwyr eraill yma wedi dweud.
Felly, gadewch inni fod yn onest ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei gynnig. Nid dadl yw hon am symud o fethiant i lwyddiant. Mae'n ddadl am osod costau sylweddol ac aflonyddu ar fusnesau Cymru a defnyddwyr Cymru drwy fynd ar drywydd yr hyn a allai fod yn ddim mwy na gwelliant ymylol. Dyna'r pwynt lle mae ailgylchu synhwyrol, fel y soniais, mewn perygl o droi'n wallgofrwydd ailgylchu. Nawr, peidiwch â derbyn fy ngair i am hynny. Ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr o'r diwydiant bwyd a diod, a dyma beth roeddent hwy'n ei ddweud: 'Pam y dylid disgwyl i ni weithio'n galetach, cydymffurfio â mwy o reoliadau, amsugno mwy o gostau a chymryd mwy o risgiau heb unrhyw elw o gwbl?' Nid corfforaethau rhyngwladol yw'r rhain, ond busnesau Cymreig, bragdai Cymreig, cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig, pobl sy'n cyflogi gweithwyr lleol ac yn buddsoddi mewn cymunedau lleol.
Felly, beth yw'r ateb posibl? Gallai defnyddwyr o Gymru ddal i dalu ernes o 20c ar gynwysyddion a werthir yng Nghymru, er nad oes system ymarferol o adennill yr arian drwyddi. Lywydd, ni fyddai hynny'n teimlo fel polisi amgylcheddol i lawer o bobl; byddai'n teimlo fel treth ar ddefnyddwyr Cymru. Felly, gofynnaf eto: beth yw'r broblem y mae Gweinidogion yn ceisio ei datrys yma? Os mai ailddefnyddio yw'r dyfodol mewn gwirionedd, treialwch hynny, profwch hynny, casglwch y dystiolaeth, ond peidiwch â rhoi beichiau ychwanegol ar gynhyrchwyr Cymru cyn i'r dystiolaeth fodoli. Rhaid i bolisi amgylcheddol gael ei lywio gan synnwyr cyffredin. Mae gwahaniaeth rhwng cyfrifoldeb amgylcheddol a gorgyrraedd amgylcheddol, mae gwahaniaeth rhwng datrys problemau a chreu rhai newydd, ac mae gwahaniaeth rhwng ailgylchu synhwyrol a gwallgofrwydd ailgylchu. Felly, dylem adeiladu ar y llwyddiant sydd gennym eisoes, dylem wella ar yr hyn sy'n gweithio, ond ni ddylem roi pwysau ar fusnesau Cymru a defnyddwyr Cymru drwy gostau anghymesur wrth fynd ar drywydd enillion ymylol.
Pan fydd gwlad eisoes yn ailgylchu 92 y cant o'i gwydr cartref, nid arweinyddiaeth amgylcheddol yw gwario miliynau i fynd ar drywydd yr ychydig ganrannau olaf—1 y cant, rwy'n credu—ond gwyrdroi stori lwyddiant, trwsio'r hyn nad yw wedi torri a throi synnwyr cyffredin yn nonsens. Dyna pam na allaf gefnogi'r gwelliant gan y Llywodraeth, ac rwy'n cefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.
Ymddengys nad oes unrhyw anghytundeb yma yn y Siambr fod angen inni gefnogi ailgylchu a chynllun dychwelyd ernes. Mewn gwirionedd, yr unig beth rwy'n ymrafael ag ef yw fy mod fel pe bawn i'n cytuno â'r Ceidwadwyr mewn perthynas â'u cynnig. Felly, yr hyn sy'n fy mhoeni i, fel y clywsom, yw'r penderfyniad i gynnwys gwydr pan nad yw gweddill y DU yn gwneud hynny. A dyna pam y pleidleisiais yn erbyn y cynllun dychwelyd ernes pan ddaeth gerbron y Senedd. Roedd yna ychydig o resymau, ac mae un yn ymwneud â gwrando ar fusnesau. Yn fawr neu'n fach, nhw yw calon ac enaid ein system economaidd yma yng Nghymru. A'r llall, i ymateb i'r cwestiwn 'Pam na ddylem ei wneud yma yng Nghymru pan allwn ei weld mewn gwledydd eraill?', yw bod gennym ffin enfawr gyda gwlad arall, gwlad yr wyf am barhau i weithio gyda hi. Nid wyf eisiau inni fod yn annibynnol. Felly, mae angen inni edrych ar sut rydym ni'n mynd i weithio gyda Lloegr, sydd â ffin enfawr gyda ni. Fel nifer, rwyf wedi siarad â busnesau ar draws fy etholaeth, yn fawr ac yn fach, ac mae'r neges wedi bod yn rhyfeddol o debyg: maent yn cefnogi'r cynllun, maent yn deall pam ein bod yn ei wneud, ond maent yn poeni am yr ansicrwydd a grëir gan ddull Cymru'n unig o weithredu ar wydr.
Un sgwrs a arhosodd gyda mi oedd un a gefais gyda chynhyrchydd seidr annibynnol bach. Dyma'r union fath o fusnes yr ydym am ei gefnogi. Roeddent yn dweud, hyd yn oed gyda'r cyfnod pontio arfaethedig o bedair blynedd, nad ydynt yn gwybod sut y bydd system Gymreig ar wahân ar gyfer gwydr yn gweithio ochr yn ochr â gweddill y DU. Fe wnaethom siarad hefyd â Radnor Hills, sydd yn fy etholaeth i, cynhyrchydd diodydd mwyaf Cymru, ar y ffin â Lloegr—yn llythrennol, maent oddeutu pum cam i ffwrdd o'r ffin â Lloegr. Mae tua 95 y cant o'u gwerthiannau y tu allan i Gymru. Maent yn gofyn cwestiwn syml: a yw'n gwneud synnwyr i ailgynllunio llinellau cynhyrchu, labeli a warws ar gyfer y 5 y cant sy'n weddill? Yr ateb yn amlwg, iddynt hwy, yw 'na'. Mae'r rhybudd hwnnw'n bwysig oherwydd dyma'r busnesau sy'n mynd i orfod gwneud i'r cynllun weithio. Mae angen amser arnynt i dreialu peiriannau rhoi arian am ailgylchu mewn siopau, sicrhau hygyrchedd, hyfforddi miloedd o gydweithwyr ac addasu cadwyni cyflenwi cymhleth.
Ac fel y clywsom, fe welsom beth sy'n digwydd pan fydd gweithredu'n digwydd cyn gorffen paratoi, yn yr Alban. Gwelsom fod eu hymdrech i lansio eu cynllun dychwelyd ernes eu hunain wedi'i ohirio dro ar ôl tro cyn i Circularity Scotland chwalu. Dylai Cymru ddysgu o'r profiad hwnnw, nid ei ailadrodd. Os gwnawn hynny, gall Cymru barhau i arwain ar ailgylchu. Mae angen inni wrando ar ein busnesau. Nid oes angen inni fod yn wahanol ddim ond er mwyn bod yn wahanol. Gydag amser, o bosibl, mae angen inni ddatblygu cynllun ailgylchu gwydr y mae gan weddill y DU hyder i'w fabwysiadu. Gadewch inni gael hyn yn iawn yn gyntaf. Yna, gadewch inni arwain. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, Peter Fox.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Cymru ymhlith y goreuon yn y byd am ailgylchu. Rydym wedi clywed hynny sawl gwaith, ac yn sicr, rwy'n falch o'r hyn a wnaethom yn sir Fynwy, sy'n ymfalchïo ynghylch ei chyfradd ailgylchu uwch na chyfartaledd Cymru. Felly, nid dadl ynghylch pa mor bwysig yw ailgylchu i ni yw'r ddadl hon—mae'n amlwg ei fod yn bwysig i ni i gyd. Y cwestiwn yw a yw Llywodraeth Cymru'n mynd i allu cyflawni'r cynllun hwn yn iawn, ac yn seiliedig ar yr hyn a welsom hyd yma, mae gennyf rai pryderon. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog Cabinet, gan ei fod yn ddyn pragmatig a synhwyrol sy'n deall y sefyllfa, yn lleddfu rhai o'n hofnau.
Gydag ychydig dros flwyddyn nes iddo gael ei weithredu, mae busnesau'n dal i fod heb gael gwybod sut y bydd y cynllun yn gweithredu, pa eithriadau fydd yn bodoli, neu sut y bydd y mannau dychwelyd yn cael eu hariannu. Yn wir, yn gynharach heddiw yn yr adeilad hwn roeddwn i'n siarad â manwerthwr a oedd yn bryderus iawn am nad oedd yn siŵr sut y byddai'n gweithio, sut y byddent yn ei ariannu, sut y gallai fforddio rhedeg y peiriannau rhoi arian am ailgylchu yn ei busnes hi. Felly, mae yna lawer o gwestiynau heb eu hateb. Felly, rwy'n credu nad yw bod yn wahanol yr un peth â bod yn well. Mae holl wledydd eraill y DU yn bwrw ymlaen â phlastig ac alwminiwm, ond dim ond Cymru, fel y gwyddom, sy'n mynnu cynnwys gwydr. Ac fel y nododd Jane Dodds nawr, rydym yn wynebu sefyllfa hurt lle mae potel wydr a werthir yn Henffordd yn gweithredu o dan un set o reolau, ac eto, yn sydyn iawn dros y ffin yn y Fenni, mae'r system yn newid.
Nawr, ni ddylai busnesau sy'n masnachu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr orfod gweithredu dwy system ar wahân ddim ond am fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd ei ffordd ei hun. Mae pob haen ychwanegol o gymhlethdod yn golygu costau ychwanegol, a bydd y costau hynny yn y pen draw yn cael eu talu gan ddefnyddwyr. Mae'n hawdd iawn llunio cynllun ym Mae Caerdydd; mae'n llawer anos gwneud iddo weithio mewn siop bentref yn sir Fynwy, manwerthwr annibynnol yng Nghwmbrân, neu siop gyfleustra deuluol sy'n gwasanaethu ei chymuned leol.
Pan fydd Coca-Cola, y Co-op a Sainsbury's oll yn mynegi pryderon, dylai Gweinidogion dalu sylw. Pan fydd y cynhyrchydd Cymreig Radnor Hills yn disgrifio'r cynllun fel llanast llwyr, yn bendant fe ddylai Gweinidogion dalu sylw. Yn hytrach, hyd yma, mae pryderon wedi'u hysgubo o'r neilltu. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru: os yw'r cynllun hwn yn barod, ble mae'r gweinyddwr? Os yw ar y trywydd iawn i weithredu, pam y mae penderfyniadau gweithredol allweddol yn dal heb eu datrys? Os oes angen sicrwydd ar fusnesau heddiw, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gadael iddynt aros tan yfory? Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig, a hyd yma nid yw Plaid Cymru wedi darparu atebion sy'n argyhoeddi.
Rydym yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes, rydym yn cefnogi cyfraddau ailgylchu uwch, rydym yn cefnogi lleihau sbwriel a diogelu ein hamgylchedd, ond rhaid cael synnwyr cyffredin i gyd-fynd ag uchelgais amgylcheddol. Rhaid i gynllun llwyddiannus fod yn fforddiadwy, yn ymarferol ac wedi'i alinio â gweddill y Deyrnas Unedig. Dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i'r gwahaniaeth diangen hwn, tynnu gwydr o gyflwyniad cychwynnol y cynllun a chanolbwyntio ar gyflawni'r cynllun hwnnw mewn ffordd sy'n gweithio i ddefnyddwyr Cymru, manwerthwyr Cymru a busnesau Cymru. Rwy'n annog pawb i gefnogi ein cynnig.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, fel mae nifer wedi ei wneud, dwi eisiau cychwyn drwy longyfarch pobl Cymru ar gyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd. Mae hynny yn dystiolaeth glir o ymrwymiad pobl Cymru, dwi'n meddwl, i ddiogelu'r amgylchedd a'r pwys mawr sy'n cael ei roi ar ofalu am yr amgylchedd gyda strydoedd, traethau a mannau cyhoeddus glân yn cael eu hystyried nid yn unig yn flaenoriaeth amgylcheddol, ond hefyd, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o falchder cymunedol ac o hunaniaeth Cymru fel cenedl gynaliadwy.
Dwi eisiau diolch i'r Ceidwadwyr hefyd am gyflwyno'r ddadl yma, fel bod yna gyfle i fi esbonio ymrwymiad y Llywodraeth yma i gyflwyno cynllun sy'n gweithio i Gymru yn unol, wrth gwrs, â Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.
Nawr, mae cynlluniau dychwelyd ernes yn ffordd a brofwyd yn rhyngwladol o gynyddu ailgylchu, casglu deunyddiau o ansawdd uchel, cefnogi ailddefnyddio, ac mae hynny'n bwysig, a lleihau effaith amgylcheddol cynwysyddion diodydd untro. Ac i Gymru, mae'n cynnig cyfle i ni adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu drwy helpu i ddechrau'r newid i ailddefnyddio, gan ddysgu, fel y dywedais, o lwyddiant profedig rhai o gynlluniau gorau'r byd. Felly, mae gwneud y cynllun hwn yn iawn yn galw am sicrhau y bydd y cynllun yn gweithio i Gymru fel ei fod yn darparu enillion clir ar fuddsoddiad ac yn sicrhau manteision gwirioneddol i gynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr.
Nawr, er y gall fod safbwyntiau gwahanol ar agweddau ar y cynllun, rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ar yr uchelgais a rennir i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes llwyddiannus sy'n gweithio i Gymru, ac y gall ryngweithredu â'r cynlluniau eraill yn y DU. Mae'r safbwynt ar gwmpas y cynllun wedi'i sefydlu wrth gwrs, a'r Senedd wedi pasio'r rheoliadau sydd bellach yn y gyfraith, ac yn cynnwys gwydr a chyflwyno ailddefnyddio fesul cam. Byddai ailagor yr elfennau sylfaenol hyn ond yn creu ansicrwydd pellach ac yn sicr yn gohirio'r dyddiad lansio ym mis Hydref 2027 y mae'r diwydiant yn galw amdano, a byddai'r manteision y gall y cynllun dychwelyd ernes eu rhoi i Gymru hefyd yn cael eu gohirio yn sgil hynny.
Nawr, hoffwn fynd i'r afael yn uniongyrchol â rhai honiadau ffeithiol anghywir a welais yn cylchredeg am gostau'r cynllun hwn. Gadewch imi fod yn glir: nid yw'r ffigurau a ddyfynnwyd fod cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru yn mynd i gostio £200 miliwn neu ychwanegu 50c at bris diodydd mewn poteli gwydr yn gywir. Maent yn deillio o amcangyfrif uchaf y diwydiant o gost bosibl twyll yn absenoldeb cynllun yng Nghymru. Nid ydynt yn adlewyrchu'r senario yr ydym yn gweithio gyda hi, ac rydym yn glir ynghylch yr angen i gyflwyno cynllun yng Nghymru ochr yn ochr â'r rhai mewn mannau eraill ar draws y DU. Yn unol â gofynion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n bwysig ein bod hefyd yn edrych ar hyn yn hirdymor, gyda chynllun dychwelyd ernes yn chwarae rhan bwysig fel buddsoddiad mewn economi gylchol fwy cynaliadwy i Gymru yn fwy hirdymor.
Mae busnesau wedi bod yn glir fod angen sicrwydd arnynt ac angen i'r cynllun gael ei gyflawni ochr yn ochr â'r cynlluniau yng ngweddill y DU, fel y dywedais, ac mae'r rheoliadau'n darparu fframwaith clir i ddiwydiant baratoi, buddsoddi a chynllunio'n hyderus, ac rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â diwydiant i gyflawni'r cynllun erbyn mis Hydref 2027. Ac fel y nodwyd—fel Llywodraeth, mae ein hymrwymiad maniffesto'n glir—er bod gwydr yn rhan ohono o'r cychwyn cyntaf, mae angen gweithredu'r gofynion llawn mewn perthynas â gwydr yn bragmatig a phan fo'n bosibl, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Felly, rydym wedi ymrwymo, fel y dywedaf, i weithio gyda'r diwydiant i sicrhau gweithrediad ymarferol y rheoliadau, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ryngweithredu â chynlluniau ledled y DU. A chydag enghreifftiau rhyngwladol eisoes wedi dangos bod amrywiadau o ran cwmpas mewn marchnad sengl a rennir yn gwbl gyflawnadwy, ni ddylid drysu rhwng y gallu i ryngweithredu ag unffurfiaeth, ac mae'r angen i sicrhau bod gan Gymru gynllun sy'n gweithio i ni, yn ogystal â gweddill y DU, yn berffaith gyraeddadwy. Mae yna enghreifftiau; soniodd rhywun am y Ffindir yn gynharach, ac roedd cyfeiriad at ffin hir yng Nghymru. Mae ffin y Ffindir tua 20 neu 30 gwaith yn hirach na'r un sydd gennym yng Nghymru. Mae gan daleithiau'r Unol Daleithiau allu i ryngweithredu sy'n gweithio mewn systemau gwahanol iawn.
Diolch yn fawr. Roeddwn i'n mynd i ddod at hynny, a fi oedd yr un a soniodd am y ffin hir. Y gwahaniaeth, fodd bynnag, onide, yw bod y Ffindir yn wlad ar ei phen ei hun ac yn gwneud ei chyfreithiau ei hun, ac nid oes cyfle wedyn i chi fynd—rhaid i chi fynd dros ffin, yn llythrennol. Nid wyf hyd yn oed yn gwybod ble mae ffin y Ffindir—[Torri ar draws.]
O'r gorau. Lle mae'r Ffindir.
Diolch, Rwsia. Rwy'n siŵr bod ganddi—.
Iawn, os ydych chi'n meddwl—[Anghlywadwy.]
Felly, a allech chi—? A fyddech chi cystal â mynd i'r afael â'r mater yn ymwneud â'r ffin a sut y bydd y cwmnïau hynny—fel Radnor Hills, er enghraifft—yn gallu edrych ar gynllun sy'n gweithio iddynt hwy? Rydym ni'n edrych ar—
Mae'n ddrwg gennyf, mae hyn yn fwy nag ymyriad; mae hon yn dipyn o araith. Wel, na, dewch. Hynny yw, mae fy amser innau'n gyfyngedig hefyd.
Rwyf newydd ofyn cwestiwn i chi. Diolch.
Mae croeso i chi gario ymlaen. Diolch.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Soniais am daleithiau'r Unol Daleithiau hefyd. Wyddoch chi, maent hwy mewn sefyllfa debyg. Nid yw'r rheini'n ffiniau caled fel y credwch chi eu bod yn bodoli ym mhobman. Fe all y cynlluniau hyn fod yn rhyngweithredol ac fe fyddant. Mae darnau helaeth o'r rheoliadau yng Nghymru yn adlewyrchiad gair am air o'r rheoliadau yn Lloegr. Rydym ar daith. Rwy'n gwybod yn union i ble rydym eisiau cyrraedd, ac mae yna lwybr y mae angen inni ei weld yn digwydd. Rhoddwyd y gallu i Gymru gynnwys gwydr. Mae gennym Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 oherwydd fe'i hystyriwyd yn gyfle i weld sut y gellid datblygu hynny a sut y gallai hynny weithio, ac rwy'n awyddus i gyflawni hynny, ond fel y dywedaf, gan weithio gyda'r diwydiant a gweithio gyda phobl Cymru sydd eisoes wedi dangos uchelgais i fynd ymhellach.
Rwyf am wneud pwynt ynglŷn â phenodi'r sefydliad rheoli ernes; dyna lle roeddwn i. Edrychwch, ein nod yw mabwysiadu dull cytbwys a phragmatig o weithredu. Roeddwn i'n dweud, gan gyfuno uchelgais hirdymor â chyflawnadwyedd, ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio'n gyflym i gwblhau'r broses ffurfiol o benodi sefydliad rheoli ernes. Fe wnaed honiad yn gynharach ein bod wedi gwrthod—ni wnaethom hynny. Roedd hynny wedi digwydd o dan y Llywodraeth flaenorol. Rydym nawr yn bwrw ymlaen o'r fan honno, ac rwy'n optimistaidd y byddwn yn cwblhau hynny'n fuan iawn. Fy ffocws, a ffocws fy swyddogion, yw sicrhau y bydd y sefydliad a benodir yn gallu cyflawni cynllun sy'n gweithio yng Nghymru, a byddai'n amhriodol imi ragfarnu'r canlyniad neu wneud sylwadau ar unrhyw geisiadau unigol, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r penodiad gael ei wneud drwy broses deg, dryloyw a chadarn yn unol â'r rheoliadau. Ond fel y dywedaf, rwy'n gobeithio cwblhau hynny'n gadarnhaol yn fuan iawn.
Fel y dysgasom o gynlluniau rhyngwladol, mae penodi sefydliad rheoli effeithiol yn garreg filltir hanfodol i weithredu, oherwydd pan fyddant wedi'u penodi, maent yn chwarae rôl ganolog yn gweithio gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr a rhanddeiliaid ehangach i oruchwylio'r cyflawniad, i roi sicrwydd i'r diwydiant ac i helpu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei lansio'n llwyddiannus. fel y cynlluniwyd ar gyfer mis Hydref 2027. Ac fel y soniwyd eisoes, mae'r cynllun yng Nghymru o reidrwydd yn wahanol oherwydd mae ein man cychwyn ni ar ailgylchu'n wahanol iawn. Rydym yn canolbwyntio ar roi cynllun ar waith sy'n darparu manteision clir i Gymru.
Dywedodd un o fy nghyd-Aelodau, Carrie Harper, mewn trafodaeth yr wythnos diwethaf ar gyllid teg fod tanfuddsoddiad heddiw yn dod yn anfantais yfory, ac mae'r un peth yn berthnasol yma gyda'r cyfleoedd economaidd sy'n gysylltiedig â chynllun dychwelyd ernes a'r economi gylchol ehangach. Os yw'n ofynnol i Gymru aros i eraill ddal i fyny, rydym mewn perygl o golli buddsoddiad posibl, swyddi posibl, a'r manteision a welwn eisoes yn ein heconomi ehangach o'n statws fel un o'r cenhedloedd ailgylchu gorau yn y byd. Yn rhy aml, mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru'n cael eu gwneud mewn mannau eraill gan sefydliadau y gallai eu blaenoriaethau wrthdaro â buddiannau Cymru. Dylai Cymru allu siapio ein dyfodol ein hunain, ond dylem hefyd allu manteisio ar werth ein hadnoddau ein hunain a gwireddu manteision economaidd y trawsnewid i economi gylchol yma yng Nghymru, yn hytrach na gweld y cyfleoedd hynny'n cronni mewn mannau eraill.
Nid yw'r penderfyniadau hyn y rhai hawsaf bob amser, rwy'n derbyn hynny, ond dyma'r rhai cywir, ac rwy'n credu bod pobl Cymru'n disgwyl inni ddangos yr arweinyddiaeth honno. Yn y pen draw, ein nod, a wneir yn angenrheidiol fel y dywedaf gan ein cyfraddau ailgylchu presennol, yw nid yn unig darparu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer ailgylchu, rhywbeth y mae pawb wedi bod yn siarad yn ei gylch, ond un sy'n cefnogi Cymru i symud i fyny'r hierarchaeth wastraff, fel bod cynwysyddion diod yn cael eu defnyddio a'u hailddefnyddio dro ar ôl tro, fel bod adnoddau gwerthfawr yn parhau i fod mewn cylchrediad, fel y gall cynhyrchwyr wedyn elwa o leihad yn y deunyddiau sydd eu hangen i becynnu eu diodydd, ac fel y gall pobl Cymru hefyd elwa o'r gwelliannau amgylcheddol a'r cyfleoedd economaidd y mae hyn eisoes yn eu creu i wledydd a rhanbarthau eraill ym mhob cwr o'r byd.
Nawr, mae Cymru yn arweinydd yn y maes yma, Ddirprwy Lywydd, a rŷn ni eisoes wedi dangos bod gweithredu penderfynol yn gallu sicrhau buddion go iawn i'r amgylchedd ac i'r economi. A thrwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes sy'n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau unigryw Cymru, fe allwn ni adeiladu ar y record ragorol yna ym maes ailgylchu, gallwn ni leihau sbwriel, gallwn ni hyd yn oed gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach, ond mi allwn ni hefyd gefnogi busnesau a chymunedau ledled Cymru a chyflymu'r trawsnewid yna i economi fwy cylchol a charbon isel.
Fel dwi wedi dweud, dwi'n gwbl glir ar le rŷn ni eisiau cyrraedd, ond fe wnawn ni weithio'n bragmataidd ac ar y cyd gydag eraill er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud yn nes at y nod honno. Mae gennym ni gyfle gwirioneddol i adeiladu ar ein llwyddiannau ni a gosod sylfaen ar gyfer system sy'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol. A dwi yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ledled Cymru er mwyn trio gwireddu'r uchelgais honno.
Diolch, Weinidog. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu y bydd unrhyw un sy'n gwylio'r ddadl hon yn y Siambr yn meddwl, 'Edrychwch, rwy'n ailgylchu eisoes. Ni ddylai'r mater hwn effeithio arnaf.' Ond rydym i gyd yn gwybod, pob un ohonom yma, y bydd. Bydd yn effeithio ar bob unigolyn sy'n prynu diod mewn potel wydr; bydd yn effeithio ar siopau, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, manwerthwyr ar-lein, ein strydoedd mawr; ac wrth gwrs, fe fydd yn effeithio ar fusnesau annibynnol, fel bragdai, gwneuthurwyr seidr, a gwneuthurwyr bwyd a diod eraill. Ond yn bwysicaf oll, mae hyn yn mynd i effeithio ar bocedi pobl, ac mae'n mynd i achosi anghyfleustra iddynt.
Rwyf am nodi nawr fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ailgylchu. Rydym am ddiolch i bobl Cymru am yr ymdrechion y maent yn eu gwneud i ailgylchu. Mae'n eithaf rhyfeddol fod Cymru yn un o'r gwledydd sy'n ailgylchu orau yn y byd. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn fod yn wirioneddol falch ohono. Felly, nid ydym yn gwrthwynebu ailgylchu, ond rydym yn gwrthwynebu i Gymru fynd ei ffordd ei hun ar y mater penodol hwn oherwydd y dryswch, oherwydd y gost ychwanegol, oherwydd y cymhlethdod diangen y gallai hyn ei greu.
Nid yw ein system wedi torri ar hyn o bryd: mae 92 y cant o gynwysyddion gwydr yn cael eu hailgylchu o dan y trefniadau presennol, y trefniadau wrth ymyl y ffordd. Ac mae'r cynllun hwn yn gwneud ailgylchu'n fwy cymhleth i'r defnyddiwr a'r cartref. Gadewch inni feddwl am hyn, iawn? Ar hyn o bryd, rydych chi'n prynu poteli o gwrw neu ysgytlaeth, neu beth bynnag yw eich hoff ddiod, neu botel o saws HP, ac rydych chi'n ei yfed neu'n ei fwyta, ac fel arfer fe fyddwch chi'n rhoi'r botel honno yn rhywbeth rydych chi'n ei adael ar ben draw eich dreif neu'r tu allan i'ch drws blaen i'r cyngor ei gasglu, yn effeithlon iawn, mewn cerbydau trydan mawr fel arfer, cerbydau y maent yn eu gyrru i ganolfan drosglwyddo gwastraff ailgylchu leol. O dan y cynllun newydd, rydym yn disgwyl i bobl feddwl, yn gyntaf oll, ble y gwnaethant brynu'r botel saws, ble y gwnaethant brynu eu hysgytlaeth—oherwydd nid yw'n mynd i weithio fel arall ar sail drawsffiniol. Fe fyddwch chi'n cael y cwestiwn ynghylch twyll y mae pobl wedi'i godi. Felly, bydd yn rhaid iddynt feddwl, yn gyntaf oll, 'O ble y prynais i'r botel hon? Pa siop? I ba ochr i'r ffin y mae angen imi ei dychwelyd, neu a gaf i ei gadael ar gyfer y casgliadau wrth ymyl y ffordd?' Ac yna, os mai gan fanwerthwr yn Lloegr y gwnaethant ei phrynu a'i bod wedi cael ei chludo i Gymru, ni fyddant o reidrwydd yn gallu cael arian am ei dychwelyd os ânt â hi i siop leol. Mae'n gwbl wallgof. Ac nid yn unig hynny, ond ar ôl iddynt feddwl lle y gwnaethant brynu eu cynnyrch, maent yn gorfod neidio i mewn i'w car a gyrru, gan achosi allyriadau posibl i'r amgylchedd, yr holl ffordd i siop, ac mae'n rhaid i'r siopwr wedyn ddod o hyd i rywle i storio eu potel er mwyn i gerbyd arall ddod i'w chodi, pan allai fod wedi cael ei chodi gan y fan sy'n pasio ymyl eu ffordd, neu ben draw eu dreif, wedi'i hanfon gan y cyngor lleol. Mae'n aneffeithlon, nid fydd yn dda i'r amgylchedd o reidrwydd.
Felly, mae'n wallgof. Nid oes ei angen arnom. Mae angen inni newid y dull o weithredu. Mae angen dull cyson arnom ledled y DU. Ac mae'n rhaid i chi wrando ar lais y manwerthwyr, rhaid i chi wrando ar y defnyddwyr, ac mae'n rhaid i chi wrando am ein bod wedi gwneud camgymeriadau o'r blaen drwy ruthro yn ein blaenau. Rydym i gyd yn cofio ffiasco'r 20 mya yng Nghymru. Ac fe ddywedaf hyn, mae'n teimlo fel moment broffwydol, fe welwch ymateb tebyg ledled Cymru o ganlyniad i gyflwyno'r system hon, Weinidog Cabinet, os na wrandewch chi. Gadewch i'r geiriau hyn ganu yn eich clustiau dros y misoedd nesaf, wrth ichi ystyried y materion hyn a phenderfynu ar ddyfodol cynllun dychwelyd ernes.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gwnaf i symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod pump Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Felly, yn ôl i eitem 6, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): pobl ifanc a chyflogaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enwau Shav Taj, Jane Dodds a Paul Rock. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 51, yn ymatal chwech, ac yn erbyn 31. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - pobl ifanc a chyflogaeth: O blaid: 51, Yn erbyn: 31, Ymatal: 6
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn ymlaen i'r bleidlais ar eitem 7, dadl Reform UK: TB buchol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 79, ymatal dim, ac yn erbyn naw. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl Reform UK - TB buchol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 79, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Gwnawn ni symud ymlaen i'r bleidlais ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cynllun dychwelyd ernes. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 38, ymatal dim, yn erbyn 50. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cynllun dychwelyd ernes. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 38, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 50, ymatal dim, yn erbyn 38. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cynllun dychwelyd ernes. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 50, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM9287 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn llongyfarch pobl Cymru ar gyflawni un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd.
2. Yn cefnogi'r gwaith o sefydlu cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach.
3. Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni cynllun dychwelyd ernes sy’n gweithio i Gymru, a hynny’n unol â Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 50, ymatal dim, yn erbyn 38. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Diolch yn fawr iawn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cynllun dychwelyd ernes. Cynnig wedi’i ddiwygio.: O blaid: 50, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel fel y gallwn symud ymlaen at yr eitem nesaf. Gadewch yn gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda er mwyn inni allu symud ymlaen at weddill yr agenda.
Os gwelwch yn dda, os gallwch chi adael yn sydyn ac yn dawel er mwyn inni allu symud ymlaen ar yr agenda. Diolch.
Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw. Galwaf ar Lyn Ackerman i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch. Rwy'n rhoi munud i Jayne Bryant a Peredur Griffiths.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon ar wella mynediad at gyfleoedd economaidd lleol yng Nghasnewydd Islwyn. Mae cyfle economaidd yn golygu mwy na gweld a oes swyddi, cyrsiau, cynlluniau neu gymorth yn bodoli yn rhywle yn y system; mae'n ymwneud â gallu pobl i weld y cyfleoedd hynny, eu cyrraedd a'u defnyddio. Mae pobl yng Nghasnewydd Islwyn eisiau gwaith gweddus. Maent eisiau i bobl ifanc gael dyfodol yn agos at adref. Maent eisiau i fusnesau lleol lwyddo. Mae hyn yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, colegau, cyflogwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda'i gilydd. Ond mae gan y Llywodraeth rôl i wneud y system yn haws i'w deall ac yn haws ei chyrchu. Dyma rwy'n ei ddadlau yma.
Os nad yw unigolyn ifanc yn gallu gweld y cysylltiadau rhwng yr hyn y maent yn ei astudio a'r gwaith sydd ar gael iddynt, mae uchelgais yn dechrau edrych fel rhywbeth y mae'n rhaid ichi adael yr ardal i ddod o hyd iddo. Dylem fod eisiau i bobl yma weld dyfodol yng Nghymru a deall y llwybr tuag ato. Os yw oedolyn eisiau ailhyfforddi neu symud i waith gwell, ni ddylai'r man cychwyn ddibynnu ar wybod eisoes sut y mae'r system yn gweithio. Os yw cyflogwr lleol eisiau ehangu, cyflogi prentisiaid neu fuddsoddi mewn safle, dylent wybod ble i fynd, pa gefnogaeth sy'n bodoli a phwy sy'n gyfrifol. Ni ddylent orfod mynd ar drywydd gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus i ddarganfod y pethau hyn.
Mae datblygu economaidd yn swnio'n haniaethol. Nid yw ei effaith yn haniaethol. Mae swydd ddiogel yn newid cartref. Mae llwybr hyfforddi yn rhoi hyder i rywun. Mae prentisiaeth yn newid yr hyn y mae teulu'n credu ei fod yn bosibl. Dyna pam y dylid trin mynediad at gyfleoedd fel prawf ar gyflawniad. A all pobl weld beth sydd ar gael? A allant ei gyrraedd? A allant ei ddefnyddio?
Rwyf am ofyn tri pheth i Lywodraeth Cymru. Yn gyntaf, sut y byddwch chi'n gwneud cynnig yr economi leol—sgiliau, hyfforddiant, prentisiaethau, cymorth cyflogaeth a llwybrau'r sector twf—yn fwy gweladwy mewn etholaethau fel Casnewydd Islwyn? Yn ail, sut y byddwch chi'n cryfhau'r cysylltiadau rhwng addysg, sgiliau a chyflogwyr lleol fel bod pobl yn deall pa sgiliau sydd eu hangen a sut i symud o un cam i'r llall? Yn drydydd, sut y byddwch chi'n ei gwneud hi'n haws i gyflogwyr lleol ymgysylltu â'r sector cyhoeddus pan fyddant eisiau tyfu, buddsoddi a chreu swyddi?
Dadl sy'n ymwneud â mynediad yw hon. Mae gan Gasnewydd Islwyn uchelgais, busnesau a chymunedau galluog sydd eisiau gweld cyflawniad. Y dasg yw gwneud y llwybr at gyfleoedd yn glir. Yn yr ysbryd hwnnw rwy'n cyflwyno'r ddadl hon. Diolch.
Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yma heddiw. Coleg Gwent yw'r darparwr addysg bellach amser llawn mwyaf yng Nghymru, gyda dros 18,000 o ddysgwyr, gan gynnwys campysau yng Nghasnewydd a Crosskeys, ac mae'r coleg yn gyflogwr pwysig, gyda dros 1,200 o staff. Mae'r coleg yn gweld y lefelau uchaf erioed o geisiadau am gyrsiau, ac rwy'n credu y byddai pawb yn y Senedd yn cytuno bod colegau fel Coleg Gwent yn hanfodol i atal pobl ifanc rhag cael eu colli yn sgil ymddieithrio hirdymor rhag addysg a'r farchnad lafur. Maent bob amser yn rhoi ail gyfle i bobl, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth newydd hon yn eu cefnogi. Diolch.
Diolch i Lyn am roi amser i mi gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'r ddau ohonom yn cynrychioli Casnewydd Islwyn, gyda Jayne a Natasha ac eraill yma yn y Siambr hon. Yn ddiweddar, ymwelodd Lyn a minnau â'r cwmni lled-ddargludyddion KLA yng Nghasnewydd. Mae KLA wedi bod yn stori lwyddiant go iawn ac ar fin tyfu allan o'r cyfleuster ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf sydd ganddynt. Mae KLA yn rhan o glwstwr lled-ddargludyddion CSconnected yng Nghasnewydd Islwyn, sy'n cefnogi miloedd o swyddi yn uniongyrchol a llawer mwy yn anuniongyrchol drwy gadwyn gyflenwi helaeth o gwmnïau lleol. Mae'r rhain yn swyddi ar gyflogau da. Er enghraifft, mae'r cyflog cyfartalog yn KLA ymhell dros £60,000 y flwyddyn. Mae KLA yn cyflawni gwaith allgymorth ac yn dod â'u cwmni a'u diwydiant ehangach i sylw plant a phobl ifanc drwy ymweliadau ag ysgolion a gwaith gyda chlybiau chwaraeon.
Yr hyn yr hoffwn ei wybod gan y Llywodraeth, a chan adleisio'r hyn y mae Lyn wedi'i ofyn, yw sut y gall y Llywodraeth hon gynorthwyo cwmnïau fel KLA i gyfleu eu neges i'n cymunedau a sut y mae pobl ifanc yn arbennig yn deall y bydd yna swyddi ar gyflogau da mewn diwydiant blaengar a'u bod ar gael yn lleol fel nad oes rhaid iddynt symud o'r cymunedau lle cawsant eu magu. Hoffwn ddeall hefyd, yn debyg i'r hyn yr oedd Jayne yn ei ofyn, am y cysylltiadau ag ysgolion, addysg bellach a sefydliadau addysg uwch i geisio creu'r llwybrau i bobl ifanc allu mynd i'r swyddi hynny. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i ymateb i'r ddadl—Adam Price.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Gasnewydd Islwyn am ddod â'r ddadl hon gerbron, y ddadl olaf yn ystod y sesiwn yma, ac ar bwnc mor bwysig. Dwi'n ddiolchgar hefyd am y cyfraniadau gan Aelodau eraill. Mae hon yn drafodaeth werthfawr, nid yn unig am ddyfodol economaidd un etholaeth, ond am y rôl ehangach y gall de-ddwyrain Cymru ei chwarae wrth sicrhau ffyniant i Gymru gyfan. Mae'r etholaeth yma'n unigryw. Mewn un daith fer, gallwch fynd o Gaerllion, lle cadwai Rhufain ei llengoedd, drwy Gasnewydd, dinas y Siartwyr, ac i fyny'r cwm, drwy Risga, Trecelyn ac Abercarn, i'r Coed-duon—cymunedau a gododd diwydiant Cymru â'u dwylo eu hunain.
Ychydig iawn o etholaethau sy'n dal cymaint o hanes Cymru mewn cyn lleied o filltiroedd, ac ychydig iawn sy'n dal cymaint o'i dyfodol: gweithgynhyrchu uwch, arloesedd sydd yn arwain y byd, gwasanaethau cyhoeddus cryf, gweithwyr medrus, diwydiannau digidol sydd yn tyfu, a sefydliadau addysgol arbennig. Pan fyddwn yn siarad am dwf economaidd, nid maint y twf yw'r unig beth sy'n cyfrif; y cwestiwn go iawn yw a yw'r twf hwnnw yn codi safonau byw, yn creu swyddi gwell eu cyflog ac yn cryfhau cymunedau. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon wedi gosod amcan uchelgeisiol iddi hi ei hun ac i Gymru i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Dydy 'cynhyrchiant' ddim yn air sy'n cynhesu’r galon, efallai. Hyd y gwn i, does neb erioed wedi ysgrifennu cerdd amdano—hyd yma, efallai. Talwrn y Beirdd nesaf, efallai. Rwyf wedi chwilio. Ond mae ei arwyddocâd yn syml ac yn drawiadol, onid yw e? Economïau mwy cynhyrchiol sy'n talu cyflogau uwch, yn denu mwy o fuddsoddiad ac yn creu mwy o gyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol. Os ydyn ni o ddifri ynglŷn â ffyniant Cymru gyfan, yn enwedig yn y cymunedau hynny sydd wedi teimlo'n rhy aml eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â chynhyrchiant Cymru. Nid jargon mohono; cyflog dydd Gwener yw e yn y pen draw, cynhaliaeth teuluoedd a chymunedau.
Y newyddion da yw bod Casnewydd Islwyn eisoes yn meddu ar lawer o'r cynhwysion allweddol ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru. Dechreuwch gyda Chasnewydd—dinas sydd wedi arfer cyrraedd yn gynnar i'r dyfodol. Ym 1839, gorymdeithiodd miloedd i lawr Stow Hill i fynnu pleidlais genhedlaeth neu fwy cyn i weddill Prydain ddal i fyny â nhw. Mae Casnewydd yn gynnar eto heddiw. Mae wedi dod yn un o ganolfannau economaidd pwysicaf Cymru. Mae'n gartref, fel y clywsom, i fusnesau lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch arwyddocaol yn fyd-eang.
Mae'r byd modern yn rhedeg ar ddarnau o silicon sy'n deneuach na gwallt dynol—yn ein ffonau, ein hysbytai, ein cerbydau trydan, yn ein deallusrwydd artiffisial—ac mae cyfran ryfeddol o'r medrusrwydd hwnnw yn fyd-eang yn gorwedd o fewn ychydig filltiroedd i'r cymunedau rydym yn eu trafod y prynhawn yma. Onid yw hynny'n beth cyffrous i'w ddweud? Roeddem wrth wraidd chwyldro diwydiannol yn y gorffennol ac rydym ni yno, yn y canol, ar flaen y gad heddiw. Mae twf y clwstwr lled-ddargludyddion yn ne-ddwyrain Cymru yn setlo hen ddadl. Gall Cymru gystadlu'n rhyngwladol mewn diwydiannau gwerth uchel, gwybodaeth-ddwys. Nid mewn theori, ond yn ymarferol, nawr. Dyma'r union sectorau sy'n gyrru cynhyrchiant ac yn creu'r swyddi medrus iawn ar gyflogau da y mae ein cymunedau yn eu haeddu.
Ochr yn ochr â'r cryfder diwydiannol hwnnw mae ased mawr arall, Prifysgol De Cymru a'i champws Casnewydd wrth gwrs. Nid dim ond lle y bydd pobl ifanc yn pasio drwyddo am dair blynedd yw prifysgol. Fel sefydliad angori, mae'n rhan o beirianwaith economaidd y rhanbarth. Mae ei waith ym maes peirianneg, technoleg ddigidol, seiberddiogelwch, arloesedd busnes a datblygu'r gweithlu yn helpu i sicrhau bod cyflogwyr lleol yn gallu dod o hyd i'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae'n darparu pont hanfodol rhwng ymchwil, arloesedd a chyfle masnachol. Os yw Cymru am ddenu a chadw diwydiannau gwerth uchel, bydd sefydliadau fel hyn yn ganolog i'r genhadaeth. Mae'r un peth yn wir am Goleg Gwent ac addysg bellach. Mae addysg bellach ac addysg uwch gyda'i gilydd, gan weithio fel fersiwn ranbarthol o ddull tîm Cymru, yn mynd i fod mor ganolog i'n llwyddiant economaidd.
Mae cryfderau Casnewydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i weithgynhyrchu ac addysg uwch. Dyma'r ddinas lle mae'r Deyrnas Unedig yn cyfrif ei hun ac yn cofrestru ei syniadau. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadw ffigurau'r genedl—y genedl hon, a'r un drws nesaf, a'r un i fyny yn y gogledd hefyd. Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gwarchod ei dyfeisiadau yma. Rwy'n credu bod yna rywbeth tawel foddhaol yn y ffaith mai dinas sydd wedi cael ei thangyfrif ers gormod o amser yn y stori genedlaethol yw'r lle sy'n gwneud y cyfrif mewn cymaint o gyd-destunau. Yn fwy ymarferol, efallai, mae'r sefydliadau hyn wedi gwneud Casnewydd yn hyb i gyflogaeth fedrus iawn, gan ddenu pobl dalentog i'r ddinas a chreu lle i'r sector preifat dyfu o'u cwmpas. Ychwanegwch gysylltedd rhagorol drwy goridor yr M4, y rhwydwaith rheilffyrdd yr ydym yn ceisio ei adeiladu allan ac adeiladu arno, a mynediad at farchnadoedd rhanbarthol ehangach, ac mae Casnewydd wedi dod yn gysylltiad, yn sbardun i weithgarwch economaidd, nid yn unig iddi hi ei hun, ond i'r rhanbarth ehangach ac i'r genedl gyfan.
Mae'r un peth yn wir am gymunedau'r Cymoedd sy'n rhoi ei chymeriad unigryw i'r etholaeth hon. Pan oedd peirianwyr Fictoraidd eisiau adeiladu'r draphont reilffordd dalaf ym Mhrydain, fe wnaethant ddewis Crymlyn. Mae'r Coed Duon, Trecelyn, Rhisga ac Aber-carn yn cynnal treftadaeth ddiwydiannol falch a gweithlu sydd â phrofiad dwfn mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a'r crefftau medrus. Adeiladodd y cymunedau hyn economi Cymru unwaith, ond nid mewn amgueddfa y mae eu lle; mae ganddynt rôl yr un mor bwysig i'w chwarae yn adeiladu economi nesaf Cymru hefyd.
Nawr, ein her yw sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd pob rhan o Gymru a phob rhan o'r etholaeth hon, ac fel y dywedoch chi, sicrhau y gall pobl leol gyrraedd y cyfleoedd sy'n cael eu creu. Mae hynny'n golygu buddsoddi mewn sgiliau, creu, fel y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud nawr, a llunio system sgiliau sy'n cyflawni anghenion ein cyflogwyr, ond yn allweddol hefyd, sy'n caniatáu i'n pobl ifanc gyrraedd eu gwir botensial, cefnogi busnesau lleol, gwella trafnidiaeth, cysylltedd digidol, gan alluogi pobl i ddod o hyd i waith o safon yn agos at adref.
Mae hefyd yn golygu dysgu o'n hanes ein hunain, ac ychydig o lefydd sy'n dysgu'r wers yn well na'r etholaeth hon. Am genedlaethau, daeth glo i lawr y cymoedd hyn i'w losgi yn Aber-wysg a'i allforio o'r porthladd, ac aeth gormod o'r cyfoeth a greodd i fannau eraill. Am ormod o amser mae Cymru wedi cynnal prosiectau ynni heb gadw digon o'r gwerth y maent yn ei gynhyrchu. Rhaid gwrthdroi hynny nawr. Os yw tir, gwynt, dŵr a gwely'r môr yng Nghymru yn creu cyfoeth, dylai pobl Cymru weld mwy o'i werth. Mae stori ynni Casnewydd Islwyn eisoes ar gerdded. Yn Aber-wysg, mae'r hen orsaf ynni glo yn cael ei thrawsnewid yn un o'r canolfannau storio batri mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan storio pŵer glân ar yr union safle a oedd unwaith yn llosgi glo y Cymoedd. Wrth ymyl y gwaith dur yn Llan-wern mae un o'r datblygiadau solar mwyaf ym Mhrydain. Mae'r ucheldiroedd uwchben cymoedd Sirhywi ac Ebwy yn dal y gwynt, ac oddi tanynt, mae'r hen weithfeydd glo bellach yn llawn o'r dŵr cynnes y mae cynlluniau dŵr mwyngloddio mewn mannau eraill eisoes yn ei roi mewn cartrefi. Mae hyd yn oed ein diwydiannau mwyaf newydd yn pwyntio i'r un cyfeiriad, oherwydd mae clwstwr lled-ddargludyddion yn gwsmer llwglyd am bŵer glân, dibynadwy, fforddiadwy. Felly, nid a fydd y trawsnewidiad ynni'n digwydd yma yw'r cwestiwn mwyach i'r etholaeth hon ac i Gymru, i Gymru gyfan, ond pwy fydd yn berchen arno, pwy fydd yn ei yrru a phwy fydd yn elwa ohono. Dyna'r cwestiwn y mae fy ngwaith i ar ran y Llywodraeth ar strategaeth ynni genedlaethol wedi'i gynllunio i'w ateb, a byddwn yn archwilio'r liferi y gallwn eu defnyddio yng Nghymru i adeiladu strategaeth sydd o fudd i bobl Cymru a Chasnewydd Islwyn yn economaidd ac yn gymdeithasol, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r wobr honno.
Bydd y strategaeth yn gosod targed ynni uchelgeisiol ond cyraeddadwy, gan gynnwys targedau ar gyfer ynni cymunedol lleol ac ynni mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Basgiaid wedi ei wneud. Mae Iberdrola, cwmni Basgaidd, yn un o'r cewri mwyaf ledled Ewrop nawr, am eu bod wedi llunio eu system weithgynhyrchu, ond hefyd eu system ynni, o gwmpas sicrhau bod y budd yn cael ei gadw. Gallwn wneud hynny yng Nghymru hefyd.
Yn allweddol i hyn, wrth gwrs—. Mewn unrhyw economi, bydd datblygu preifat a chyfalaf preifat bob amser yn chwarae rôl ganolog, ac rydym am ddenu'r cyfalaf hwnnw i fuddsoddi yng Nghymru i'n galluogi i gyflawni ein potensial, ond ni allwn wneud hynny'n unig drwy ddatblygu preifat. Dyna pam y mae datblygu ein cwmni ynni cyhoeddus ein hunain, fel y dywedais, ond gan gydlynu hefyd ar draws gwahanol rannau o'r Llywodraeth, ar draws y gwahanol sefydliadau—bydd hynny'n hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni'r potensial yng Nghasnewydd Islwyn a ledled Cymru.
Dyna pam y mae creu awdurdod datblygu cenedlaethol newydd mor bwysig. Ar yr union bwynt hwn am y dirwedd ddryslyd sydd gennym ar hyn o bryd, rydym eisiau cael un drws blaen. Os wyf i'n berchennog busnes neu'n fuddsoddwr neu'n sylfaenydd a fy mod am wybod ble i fynd, mae angen inni symleiddio hynny, oherwydd rydym am weithio'n gyflymach ac ymhellach gyda'r cwmnïau hynny i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle, nid yn unig iddynt hwy, ond i Gymru gyfan. Mae ein gweledigaeth ar gyfer awdurdod datblygu yn adlewyrchu ein penderfyniad i fod yn fwy uchelgeisiol, yn fwy strategol, yn fwy rhagweithiol. Bydd yn gweithio i ddenu mewnfuddsoddiad, ond yn hollbwysig hefyd i ddatblygu ein busnesau ein hunain i ehangu, i gryfhau economïau lleol a rhanbarthol a darparu'r swyddi gwerth uchel sydd eu hangen arnom.
Yn allweddol, rydym yn deall bod rôl bwysig yma i drafnidiaeth; nid yw'n fater sy'n annibynnol ar dwf economaidd. Dyna pam ein bod ni'n gweithio mor agos, fi a'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, am fod seilwaith yn rhan allweddol o'r ffordd rydym yn cyflawni'n gymdeithasol ac yn economaidd i'n cenedl, ac i bob rhan o'n cenedl. Mae cynllun trafnidiaeth rhanbarthol de-ddwyrain Cymru yn rhoi llwyfan inni gysylltu cymunedau yng Nghasnewydd Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach. Rydym yn adeiladu ymhellach ar y cynllun hwnnw. Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol o ran y ffordd y gall trafnidiaeth gyfrannu at sicrhau bod gennym botensial yno.
Mae metro de Cymru yn ganolog i'r uchelgais honno o hyd. Rhaid iddo olygu gwell cysylltiadau rhwng trenau, bysiau a chyfnewidfeydd, a rhwng y rheini a phobl, wrth iddynt gerdded, olwynio a beicio, gan ei gwneud hi'n haws cyrraedd gwaith, hyfforddiant ac addysg, heb orfod dibynnu ar gar ar gyfer pob taith. I gymunedau Casnewydd Islwyn, mae'r prawf yn un syml: a yw'r buddsoddiad yn gwella mynediad go iawn at gyfleoedd ar draws Casnewydd Islwyn, ar draws rhanbarth ehangach y Cymoedd a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac ar draws Cymru?
Ddirprwy Lywydd, nid stori am botensial yn unig yw stori economaidd Casnewydd Islwyn. Mae eisoes yn lle o gryfderau sylweddol, capasiti gweithgynhyrchu uwch a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag economi ddigidol ac arloesedd sy'n tyfu, cyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus, prifysgol flaenllaw a chymunedau â thraddodiad balch o sgiliau, gwydnwch a menter. Mae'r cryfderau hynny'n sylfeini cadarn at y dyfodol. Wrth inni anelu at haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, adeiladu diwydiannau'r dyfodol a sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd i ysgogi buddsoddiad a thwf, bydd etholaethau fel Casnewydd Islwyn yn ganolog i'n llwyddiant ni.
Ac nid damwain yw bod yr etholaeth hon yn cario enw bardd—Islwyn. Mae yna thema yn fan hyn, onid oes? Y bardd Islwyn o Ynys-ddu yng nghwm Sirhywi a ddysgodd inni fod yr oll yn gysegredig. Roedd e'n iawn. Nid oes dim byd cyffredin am y cymunedau hyn, nac am eu pobl, nac am eu dyfodol, ac mae'r gwaith o adeiladu'r dyfodol hwnnw eisoes ar y gweill.
Mae ein nod ni yn glir. Mae'r weledigaeth yn gyffrous. Rŷn ni'n gallu cymryd ysbrydoliaeth o'r rhagoriaeth rŷn ni'n ei weld, fel gwnes i ei weld pan oeddwn i'n mynd o gwmpas KLA a gweld dyfodol Cymru o fy mlaen i—pobl ifanc gyda sgiliau ar eu huchaf, a chwmni sydd wedi rhoi lawr gwreiddiau mewn clystyrau ehangach mewn meicrocosm o Gymru rŷn ni eisiau ei chreu. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A diolch i chi eto am eich cyfraniadau yr wythnos yma. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.