Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft oโ€™r Cofnod syโ€™n cynnwys yr iaith a lefarwyd aโ€™r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwynoโ€™r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso nรดl, bawb. Prynhawn da i chi i gyd. Rydym ni'n symud nawr yn syth i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Art Wright. 

Perfformiad Unedau Damweiniau ac Achosion Brys

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i gynnal o berfformiad unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghasnewydd ac Islwyn? OQ64075

13:35

Brif Weinidog, dros y chwe mis diwethaf, rydych chi'n gwybod fy mod wedi cael profiad personol iawn o feddyginiaeth frys ar รดl disgyn yng Nghasnewydd a rhwygo tendon yn fy mhen glin. Fe wnes i gael fy ngweld yn y royal Gwent, yn y Grange a wedyn cael llawdriniaeth yn St Woolos. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelais y gorau o fwrdd iechyd Aneurin Bevan, ond hefyd y pwysau aruthrol sydd ar y system. Roedd y staff yn broffesiynol ac yn garedig, ac yn gwneud eu gorau glas o dan amgylchiadau anodd iawn. Gwelais hefyd beth mae pwysau ar y system yn ei olygu i gleifion: arosiadau hir, diffyg capasiti, pwysau ar welyau. I fi, y peth mwyaf anodd i ddelio efo fo oedd yr ansicrwydd yn y cyfathrebu am beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf. Felly, Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod gwella gofal brys yng Nghasnewydd Islwyn yn golygu edrych ar daith gyfan y claf, nid jest y targedau, a bod cyfathrebu'n glir yn fewnol rhwng adrannau a gyda chleifion a theuluoedd yn rhan annatod o wneud yn siลตr bod pobl yn cael eu trin gydag urddas o'r dechrau i'r diwedd? 

Heb os, a dwi'n falch o weld yr Aelod yn รดl ar ei draed, yn llythrennol. Mae'n cynlluniau ni i wella'r gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar ddull system gyfan. Fel mae'r Aelod yn ei nodi yn gywir, bydd ein cynllun gweithlu newydd, er enghraifft, yn cynnwys pwyslais ar well cynllunio strategol ar gyfer gwasanaethau er mwyn hwyluso llif cleifion, yn tynnu ar arfer gorau sydd eisoes i'w weld mewn rhai rhannau o Gymru, ond mae angen ei ledaenu o a'i wreiddio fo ar raddfa genedlaethol. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhaid i'r mesurau fynd law yn llaw รข chryfhau gofal cymunedol, a dwi'n gwybod bod gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod pwysigrwydd proffesiynau perthynol i iechyd yn gweithredu'n effeithiol a bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cynlluniau ni. 

Llygredd Dลตr

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael รข llygredd dลตr? OQ64070

13:40
13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Arweinydd Reform UK, Dan Thomas.

13:50

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

13:55
Ymateb i'r Argyfwng Natur a Hinsawdd

3. Sut fydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod cynnydd wrth ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ar draws portffolios y Llywodraeth yn cael ei fesur a'i adrodd yn dryloyw ac yn ystyrlon, heb Weinidog penodol dros yr amgylchedd? OQ64072

14:00
TGAU Gwyddoniaeth

4. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gynnig TGAU ffiseg, cemeg a bioleg ar wahรขn, a gwrthdroi cynlluniau'r weinyddiaeth flaenorol i gynnig gwyddoniaeth gyfunol yn unig? OQ64074

14:05
Safonau Addysg

5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi safonau addysg i bawb, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at addysg o ansawdd uchel ym mhob ysgol? OQ64081

14:10
Gofal Cymdeithasol

6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael รข'r materion syโ€™n parhau i godi ym mhob maes gofal cymdeithasol? OQ64078

14:15
Y Sector Lletygarwch

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector lletygarwch, er mwyn diogelu busnesau a swyddi? OQ64077

Hawliau Pobl Anabl

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau i sicrhau bod hawliau pobl anabl wedi'u hymgorffori'n llawn yn y gyfraith a bywyd cyhoeddus? OQ64080

14:20
Gwaith Teg i Weithwyr y Sector Cyhoeddus

9. Sut y mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo gwaith teg i weithwyr y sector cyhoeddus? OQ64073

14:25
Blaenoriaethau ar gyfer Amaethyddiaeth

10. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth? OQ64067

Diolch, Brif Weinidog. Diolch, Aelodau, hefyd. 

Cyn mynd ymlaen, galwaf ar Andrew R.T. Davies.

2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol

Eitem 2 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnigโ€”Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NNDM9238 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod y Senedd, yn unol รข Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno รข'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi benodi Elfyn Llwyd yn Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Pleser ydy enwebu Elfyn Llwyd ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol. Yn fargyfreithiwr ac yn seneddwr profiadol, dwi'n gwybod y bydd Elfyn yn camu i'r rรดl efo'r un urddas, yr un angerdd a'r un agwedd bragmataidd a ddiffiniodd ei yrfa yn San Steffan ac a ddenodd barch o bob cwr o Dลท'r Cyffredin. Mi weithiodd o'n drawsbleidiol i arwain yr ymgyrch dros greu trosedd benodol o stelcian. Mi fu yn lladmerydd diflino dros hawliau cyn-filwyr a thros system gyfiawnder i Gymru.

Mae'n debyg i Elfyn ragweld y foment yma mewn cyfweliad efo Dewi Llwyd chwe blynedd yn รดl, gan rannu fod un uchelgais yn weddill ganddo, sef i ddod yn Gwnsler Cyffredinol yn y Senedd. Ddywedodd o ddim wrthyf fi, ond mi ddywedodd o bryd hynny, a dwi'n dyfynnu:

'byswn i'n licio cyfrannu gymaint ag y medrwn i tuag at ddatblygu'r Gymru newydd trwy'r cyfrwng hynny.'

Lywydd, does gen i ddim amheuaeth y bydd y cyfraniad hwnnw yn un gwerthfawr, meddylgar ac egwyddorol. Dwi'n gofyn i Aelodau gefnogi'r enwebiad hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Brif Weinidog. Galwaf nawr ar y darpar Gwnsler Cyffredinol i wneud cyfraniad byr.

Diolch, Lywydd. Anrhydedd, wrth reswm, ydy cael fy enwebu gan y Prif Weinidog ar gyfer penodiad fel Cwnsler Cyffredinol Cymru. Os bydd y Senedd yn cytuno gyda'i argymhelliad o, rwy'n addo cynnal y safonau a ddisgwylir gennyf gan y cod gweinidogol, ac ymgymryd รข'm dyletswydd, fel sy'n ofynnol, gan edrych ar uniondeb, annibyniaeth a pharch at reolaeth y gyfraith. Ymrwymaf i ddarparu cyngor clir, cadarn a diduedd i Lywodraeth Cymru, a gweithio at gryfhau ansawdd a hygrededd cyfraith Cymru wrth inni gymryd y cam nesaf arwyddocaol hwn yn ein hanes datganoledig.

Ymrwymaf, felly, i weithio'n adeiladol gyda'r Llywodraeth, a gyda chi, y Senedd, gan gydnabod rรดl hanfodol y Senedd wrth graffu, a sicrhau tryloywder yn y ffordd y gwneir penderfyniadau cyfreithiol. Dwi'n addo hefyd i gyflawni fy nyletswyddau yn deg, yn ddiwyd, gyda ffocws clir ar fynnu'r gorau i Gymru bob amser, a chyda'r egni newydd sy'n llywio gweledigaeth y Llywodraeth yma, er budd pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.

14:30

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.

3. Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd

Nesaf, eitem 3, cynnig i benodi Comisiwn y Senedd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.

Cynnig NDM9241 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol รข Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru), Laura Anne Jones (Reform UK), Vikki Howells (Llafur Cymru) ac Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Heledd Fychan 14:31:47
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Cynnig yn ffurfiol.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol รข Rheol Sefydlog 12.36.

4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 4, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan. 

Member
Heledd Fychan 14:32:18
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch, Lywydd. Ers y Cyfarfod Llawn diwethaf, mae dau ychwanegiad wedi'u gwneud i agenda heddiw. Mi fydd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn gwneud datganiadau llafar ar eu blaenoriaethau portffolio. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Mair Rowlands.

Diolch, Lywydd. Fe hoffwn ofyn am ddatganiad pellach gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ynglลทn รข chau pont y Borth dros yr hanner tymor ac eto y bore yma. Roeddwn i'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Dirprwy Weinidog dros y toriad, ac yn fwy fyth y camau pendant a gymerwyd gan y Llywodraeth i rwystro rhagor o gerbydau rhy drwm rhag croesi'r bont.

Roedd hi'n wythnos brysur ym Mangor Conwy Mรดn yn croesawu holl ymwelwyr a chystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd, ond mae miloedd o drigolion lleol yn dibynnu ar y bont drwy gydol y flwyddyn hefyd, ac felly mae angen mesurau yn eu lle i sicrhau bod y bont ar agor o hyd. 

Fe fydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol bod y Llywodraeth flaenorol wedi addo y byddai'r gwaith cynnal a chadw wedi'i orffen dros flwyddyn yn รดl, ond bod sawl oedi wedi bod ers hynny, ac mae'n ddealladwy, felly, fod yna rwystredigaeth fawr yn lleol. 

Mae gen i bob ffydd yn Llywodraeth Plaid Cymru i fod yn llawer mwy gweithgar wrth fynd ati, nid yn unig i sicrhau bod y gwaith cynnal a chadw presennol yn cael ei gwblhau mor fuan รข phosib, ond hefyd y bydd datrysiad tymor hir yn cael ei ganfod i sicrhau nad oes yna rwystr i bobl deithio rhwng Ynys Mรดn a'r tir mawr. Byddai datganiad pellach ar y camau hynny yn cael ei werthfawrogi gan drigolion Bangor Conwy Mรดn. 

Diolch am y cwestiwn. Fel rhywun oedd ar yr ynys, fy mam ynys i, fel rhywun o Fรดn yn wreiddiol, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, dwi'n meddwl, oedd, mi oedd o'n rhwystredigaeth, ond, yn amlwg, i bobl yr ynys sydd yn byw efo hyn bob dydd, a'r ansicrwydd, mae o'n fater sydd angen cael datrysiad, a dwi'n siลตr bod yr Aelod wedi clywed sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach yn ystod y cwestiynau y prynhawn yma. 

Mae pobl Ynys Mรดn a phobl ledled gogledd Cymru, wedi cael eu siomi am lawer rhy hir o ran gwydnwch croesfannau'r Fenai, ac mae heddiw yn profi unwaith yn rhagor pam mae angen canfod datrysiad. Tra bod y Llywodraeth flaenorol wedi methu รข gweld y mater yma fel blaenoriaeth, mi fydd y Llywodraeth yma yn gweithredu gyda mwy o frys a ffocws i geisio ymateb i'r sefyllfa. 

Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth yn edrych ar y mater hwn ar fyrder, ac mi fydd o'n falch iawn i ddod รข datganiad llafar ymlaen i'r Senedd yr wythnos nesaf. 

14:35

Diolch am y ddau gwestiwn. O ran y pwynt cyntaf, mi fyddwch chi'n ymwybodol, fel y gwnaethoch chi sรดn, am yr ymchwiliad gan Archwilio Cymru. Yn sicr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canfyddiadau a'r argymhellion yn llawn, ac yn diweddaru canllawiau cenedlaethol i gryfhau'r due diligence sydd ei angen a sicrhau bod trefniadau yn parhau i fod yn gadarn, yn gymesur ac yn gyson ledled Cymru.

O ran Seren, mi fyddwch chi'n ymwybodol, yn ein cynllun 100 diwrnod cyntaf, y bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer diwygio Academi Seren i ganolbwyntio mwy ar fynd i'r afael รข'r bwlch cyfranogiad, cefnogi dysgwyr o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, yn ogystal รข galluogi dysgwyr yn well i wneud cais i sefydliadau uwch yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn maes o law.

14:40

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y Llywodraeth hon yn cydnabod gwerth y sector twristiaeth i Gymru a'n bod ni wedi ymrwymo i fod yn edrych ar hyn. Mae'r Gweinidog perthnasol yn y Siambrโ€”mi fyddan nhw wedi clywed eich cais chi heddiw.

Diolch yn fawr iawn am godi mater mor eithriadol o bwysig. Rydych chi'n iawn: mae'r Gweinidogion perthnasol yma ac wedi clywed hynna'n uniongyrchol heddiw. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r ffaith fod y Prif Weinidog wedi apwyntio Dirprwy Weinidog sydd yn edrych yn benodol ar y meysydd hyn o ymrwymiad y Llywodraeth hon i edrych ar sut rydyn ni'n gallu sicrhau, yn draws-bortffolio, ein bod ni'n gallu cefnogi pobl yn well. Dลทn ni hefyd yn gwerthfawrogi'r pwysau mawr sydd ar y trydydd sector, sydd yn gwneud gwaith gwyrthiol a phwysig, ond hefyd pa mor fregus ydy nifer o'r gwasanaethau hyn. Ac yn sicr, mae'n ffaith ein bod ni wedi clywed hynny'n glirโ€”diolch i chi am ei godi o. Dwi'n siลตr y bydd y Gweinidogion eisiau bod yn ymwneud efo Aelodau sydd o'r farn dลทch chi wedi ei mynegi heddiw.

Diolch am y cwestiwn ac am fynegi'r pryderon hyn. Mae yna nifer, wrth gwrs, wedi eu hamlygu, a dลทn ni'n deall, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle mae seilwaith trafnidiaeth yn anodd, pa mor bryderus ydy hyn. Fel y gwyddoch, mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi gwneud y penderfyniad ar lawdriniaeth gyffredinol frys, ond nid ydy'r bwrdd iechyd wedi cyrraedd penderfyniad terfynol ar wasanaethau strรดc eto. Felly, fe hoffem ni fel Llywodraeth fod yn atgoffa cleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn rhedeg am wyth wythnos. Mi fydd hyn yn rhoi cyfle ychwanegol a phwysig i randdeiliaid adolygu'r cynigion yn fanwl ac i godi unrhyw bryderon neu roi adborth pellach. Mae'n bwysig bod y pryderon ynghylch y cynigion gwreiddiol yn cael eu cydnabod, ac mae angen inni weld gwelliannau mewn gwasanaethau strรดc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Fel y byddwch chi'n ymwybodol, y bwrdd iechyd sydd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i boblogaeth leol, ond wrth gyflawni'r rรดl yma, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnal asesiadau trylwyr ar gyfer unrhyw newidiadau arfaethedig ac ymgysylltu รข'u cymunedau yn unol รข chanllawiau cenedlaethol. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn y Siambrโ€”mi fydd o wedi clywed eich cais heddiw, ac mi fydd hefyd yn cyflwyno ei ddatganiad blaenoriaethau yn ddiweddarach heddiw, felly mae yna gyfle i holi ymhellach.

14:45

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Dwi'n gobeithio eich bod chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach a'r holl bethau y gwnaeth o ymrwymo iddyn nhw. Yn sicr, mae'r Gweinidog Cabinet perthnasol yma hefyd. Mae hwn yn fater rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif. Dwi'n gobeithio eich bod chi wedi clywed hynny'n glir gan y Prif Weinidog. Ym amlwg, mi fydd yna gyfle i chi ymgysylltu'n bellach gyda'r Gweinidog Cabinet perthnasol.

Diolch i'r Aelod am y geiriau caredig ar ddechrau'r cwestiwn hwnnw.

Yn sicr, mi fyddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma ar y pwnc hwn. Mi fyddwch chi'n ymwybodol y bydd yna gyfle i roi cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet perthnasol yr wythnos nesaf. Ond, gadewch i ni fod yn berffaith glir, o ran popeth sydd wedi'i ddweud ynghylch y maes hwn, mae hwn ynglลทn รข'r amgylchedd, o ran sicrhau ein bod ni'n dilyn y wyddoniaeth. Doedd yna ddim cyhoeddiad na phenderfyniad pendant. Yr ymrwymiad oedd o ran adolygu. Yn sicr, mi fydd y Gweinidog Cabinet yn diweddaru, ac mi fyddwn ni yn derbyn cwestiynau pellach a sylwadau, wrth gwrs, holl Aelodau'r Siambr hon.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gen i glywed bod hynny wedi digwydd. Yn sicr, mi fyddwn ni yn codi hynny. Mi ddylai pob Aelod fod yn ymwybodol, a diolch am fy wneud i'n ymwybodol. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny, ac mae'n bwysig bod Aelodau yn sรดn wrthyf i fel fy mod i'n gallu dod รข datrysiad gerbron. Mi ydym ni, wrth gwrs, yn parchu pob Aelod yn y Siambr hon. 

O ran y pwynt cyntaf, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi gweld y bydd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn dod รข datganiad ar flaenoriaethau gerbron yn fuan. Yn amlwg, mae cyllid yn rhan bwysig o hyn. Rydyn ni yn deall y trafferthion y mae nifer o ysgolion wedi eu hwynebu. Mae hynny wedi bod yn wybyddus iawn drwy waith achos a'r holl gyfathrebu sydd wedi bod gan Aelodau i ni fel Llywodraeth a'r Llywodraeth flaenorol. Felly, yn sicr, mi fydd yna gyfle i holi'r Gweinidog Cabinet dros addysg yn fuan iawn ar y mater hwnnw.

14:50

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. 

O ran y cwestiwn, yn amlwg, mi fyddwn ni'n parchu'r penderfyniad a wnaed gan y Senedd ddiwethaf. Mae Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026 yn darparu cyfnod pontio clir o fis Ebrill 2027 i 2030 i gefnogi dirwyn y diwydiant i ben yn drefnus. Mae'r amserlen hon รข'r bwriad o alluogi busnesau a chymunedau sydd wedi'u heffeithio arnynt i gael mynediad at gymorth wedi ei dargedu wrth i newidiadau ddod i rym. Trwy'r grลตp gweithredu, mi fyddwn ni fel Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i reoli effeithiau a darparu canllawiau ymarferol. 

Wel, gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater o bwys mawr? Mae gwirfoddolwyr, wrth gwrs, yn chwarae rรดl mor hanfodol ac allweddol, ac mi fyddwch chi wedi clywed nifer ohonon ni sydd rลตan yn y Cabinet pan oeddem ni yn yr wrthblaid yn mynegi pryder ynglลทn รข diffyg cefnogaeth i sefydliadau a pha mor fregus oedd nifer o wasanaethau oherwydd yr angen am wirfoddolwyr, ond hefyd pa mor anodd ydy hi i wirfoddolwyr allu parhau yn y rolau hanfodol hyn. 

Mae'r Gweinidog perthnasol wedi clywed yr alwad yma. Dwi'n gwybod ei bod hi'n awyddus i gael cyfle i wneud datganiad ar hyn, ond, yn sicr, mi fedraf, yn ddiamwys, rhoi'r sicrwydd hwn i bob Aelod yma: ein bod ni'n gwerthfawrogi'r sector hwn yn fawr, ein bod ni'n diolch i bob gwirfoddolwr am y gwaith diflino maen nhw'n ei wneud yn ein cymunedau ni bob dydd, ac, yn sicr, mi welwch chi'r ymrwymiad hwnnw gan y Llywodraeth hon i'w cefnogi nhw. 

5. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd a Gofal

Rydyn ni'n symud ymlaen nawr at yr eitem nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: blaenoriaethau ar gyfer iechyd a gofal. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi'n falch o gael siarad yn y Siambr yma am y tro cyntaf fel Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ac o gael cynrychioli sector sydd, mewn cymaint o ffyrdd, yn adlewyrchu ein rhinweddau gorau ni fel cymdeithas ac fel cenedl. Does dim amheuaeth bod y Llywodraeth yma wedi etifeddu system iechyd sy'n wynebu sawl argyfwng ac sydd, o bosib, mewn sefyllfa fwy ansicr a bregus nag y bu hi erioed.

Ar draws nifer o feysydd amrywiol, mae cleifion a staff fel ei gilydd yn cael eu gadael i lawr. Mae'r rhestrau aros sydd wedi cronni yn cyfateb i ran helaeth o'r boblogaeth, ac mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn y sefyllfa yma ers blynyddoedd. Mae adrannau brys yn gwegian o dan bwysau galw di-baid a diffyg capasiti, tra bod arferion anniogel, fel gofal mewn coridorau, yn cael eu normaleiddio.

Maeโ€™r safonau gofal ar gyfer cyflyrau fel canser yn dal i lusgo ymhell y tu รดl iโ€™r hyn y byddem niโ€™n ei ddisgwyl. Mae diffyg cydraddoldeb mewn iechyd yn รดl daearyddiaeth, dosbarth, hil a rhyw yn dal i fod wedi gwreiddioโ€™n ddwfn. Mae ein gweithlu ymroddedig yn gweithio o dan bwysau cynyddol, ac maeโ€™r pwysau ariannol yn ddifrifol o hyd. Yn y cyfamser, mae'r galw'n cynyddu, y boblogaeth yn heneiddio a'r anghenion yn mynd yn fwy cymhleth. Yn syml, mae'r symptomauโ€™n ddifrifol aโ€™r unig iachรขd yw gweithredu beiddgar a radical.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad, fe wnes i addo gweithredu yn ysbryd Bevan ac arwain proses o adnewyddu yn ein system iechyd a gofal, i adfer ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr iโ€™w briod le fel gwasanaeth y gallwn fod yn falch ohono fel gwlad, ac syโ€™n destun eiddigedd i weddill y byd. Fydd hyn ddim yn waith hawdd, a fydd o ddim yn digwydd dros nos, ond maeโ€™r gwaith yn dechrau rลตan, ac mi fyddwn niโ€™n cydio yn y mandad am newid a gafodd ei fynegi mor glir gan bobl Cymru yn y blwch pleidleisio, ac yn mynd atiโ€™n ddiflino i sicrhauโ€™r gwelliannau maen nhw wir yn eu haeddu. Dwiโ€™n gwybod y bydd y llu o staff ymroddedig syโ€™n gweithio ym mhob rhan oโ€™r system iechyd a gofal yn rhannu'r un dyhead.

Fy mlaenoriaeth i ar unwaith ydy tacloโ€™r rhestrau aros sydd wedi cronni. Mae hyn wedi bod yn faen melin am wddf yr NHS yn llawer rhy hir, ac maeโ€™n rhoi straen annerbyniol ar staff a chleifion fel ei gilydd. Mae gorfod aros blynyddoedd am driniaeth, gyda'r holl boen a phryder syโ€™n dod yn sgil hynny, yn realiti annioddefol i lawer gormod o bobl ar hyd a lled Cymru, a dwi'n gwbl benderfynol o droi'r dudalen ar y gwaddol truenus yma unwaith ac am byth. 

Lywydd, mae iechyd a lles ein poblogaeth a dyfodol yr NHS yn dibynnu ar atal salwch y maeโ€™n bosib ei osgoi ac ar ddarparu gofal yn gynt, yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Mi fyddaf iโ€™n dod ag arweinwyr system, awdurdodau lleol a chlinigwyr at ei gilydd i yrruโ€™r newid hwnnw a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethauโ€™n cael eu cynllunio, eu comisiynu aโ€™u darparu ar hyd a lled Cymru.

Maeโ€™n rhaid rhoi pwyslais ar atal, ac mae penodiโ€™r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn arwydd o hynny. Mi fyddwn niโ€™n gweithredu ar draws y Cabinet a chyda phartneriaid i dacloโ€™r ffactorau ehangach syโ€™n achosi iechyd gwael, i leihau anghydraddoldeb ac i wella canlyniadau iechyd, gan gynnwys tlodi plant, bwytaโ€™n iach, gweithgarwch corfforol, tai a chyflogaeth. Mi fyddwn niโ€™n symud i ffwrdd oddi wrth reoli salwch, ac yn rhoiโ€™r pwyslais ar sicrhau bod gan bobl y modd i fyw bywydau iachach a hapusach. A thra byddaf i wrth y llyw, fyddaf i ddim yn mesur llwyddiant ar sail nifer y bobl sydd yn yr ysbyty, ond yn hytrach ar sail y nifer na fu raid iddyn nhw fynd yno yn y lle cyntaf.

Yn olaf, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn effro iโ€™r bygythiadau gwirioneddol i statws yr NHS fel sefydliad dan berchnogaeth gyhoeddus sydd ar gael am ddim pan foโ€™i angen. Dwiโ€™n credu'n angerddol bod y gwasanaeth iechyd yn eiddo i bobl Cymru, heddiw ac am byth, a dwiโ€™n addo gwneud pob peth yn fy ngallu iโ€™w amddiffyn yn erbyn y biliwnyddion anatebol aโ€™u gweision gwleidyddol fyddaiโ€™n ceisio elwa ar ein hased cenedlaethol mwyaf gwerthfawr.

Lywydd, yr hyn dwi wedi'i nodi heddiw ydyโ€™r camau cyntaf ar hyd llwybr hirdymor o adnewyddu. Dwiโ€™n hollol ymwybodol o faint yr her, a wnaf i ddim addo bydd canlyniadau cadarnhaol i'n hagenda iโ€™w gweld yn amlwg yn syth bin, achos dwi ddim yma i chwilio am ddatrysiadau cyflym ac atebion hawdd, ac mi ddylai hynny fod yn wir am unrhyw un syโ€™n credu yn yr hyn sydd orau iโ€™r NHS. Ond, drwy ganolbwyntioโ€™n llwyr ar ein nod terfynol, dwiโ€™n ffyddiog y byddwn ni, erbyn diwedd tymor y Senedd yma, wedi dechrau ysgrifennu pennod newydd, ddisglair yn hanes ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mi fyddwn niโ€™n mynd atiโ€™n ddi-oed, drwy uchelgais a gweithredu pendant, i ddiogeluโ€™r gwasanaeth iechyd a chreu Cymru iachach a thecach gyda system iechyd a gofal syโ€™n rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyflawniโ€™r newid sydd ei angen ar ein cenedl. Diolch.

15:05
15:10
15:15
15:20
15:25

Diolch. Rwyf nawr yn symud i gyfraniadau o un funud, a galwaf ar Jane Dodds. 

15:30

Rydyn ni'n gwybod bod rhestrau aros y GIG yng Nghymru o dan Llafur wedi bod yn llawer rhy hir ac yn llawer rhy uchel, gyda'r data mwyaf diweddar yn dangos 666,000 o gleifion yn dal yn aros cyn dechrau eu triniaeth. O'r rheini, mae bron i 25 y cant yn aros dros 36 wythnos.

Yn fy mhrofiad i fel offthalmolegydd, mae gormod o bobl yn sefyll yn llawer rhy hir am driniaeth am gyflyrau fel macular degeneration, ac yn mynd yn ddall o ganlyniad i hyn. Mae'n amlwg bod angen newid sylfaenol i'r ffordd y mae'r GIG yn gweithredu, a dwi'n falch na fydd y Llywodraeth Plaid Cymru newydd yn parhau gyda'r drefn arferol. 

Felly, Weinidog Cabinet, a allwch chi amlinellu pa gamau pellach fydd yn cael eu cymryd i ostwng y rhestrau aros, a sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau gwelliant cynaliadwy, yn hytrach na dibynnu ar fesurau byrdymor fel allanoliโ€”outsourcingโ€”i gwmnรฏau preifat? Diolch

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, a diolch am ei waith blaenorol o fewn y gwasanaeth iechyd. Dwi'n falch iawn o'i gael o'n aelod o'r grลตp er mwyn medru ein cynghori ni ar nifer o bethau yn y maes iechyd. 

Mae'r Aelod yn iawn i uwcholeuo'r pwysau arbennig y mae offthalmoleg, er enghraifft, yn dioddef. Mae offthalmoleg wedi cael ei esgeuluso yn arbennig gan y Llywodraeth flaenorol, rhywbeth a amlygwyd yn gryf gan adroddiad y pwyllgor iechyd yr oeddwn i'n rhan ohono.

Ond i ateb cwestiwn penodol yr Aelod, mae gennym ni raglen uchelgeisiol er mwyn sefydlu hybiau llawfeddygol ar draws Cymru, fel dwi wedi sรดn, er mwyn delio รข'r pwysau rhestrau aros sydd yn llawer rhy uchel. Fe wnes i ymweld รข chanolfan o'r fath yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddiweddar er mwyn gweld yr effaith go iawn ar gleifion. 

Ond mae hefyd yn bwysig pwysleisio nad dim ond achos o ddelio รข'r pwysau fel maen nhw ar hyn o bryd ydy hyn; mae hefyd yn ffordd o ymgorffori gofynion gofal dewisol yn fwy cynaliadwy mewn i weithgarwch rheolaidd yr NHS yn y tymor hir, ac i sicrhau na fyddwn ni fyth eto yn y sefyllfa yr ydym ni wedi bod ynddi.

Bydd ein cynlluniau gofal dewisol, felly, gyda chefnogaeth adolygiad annibynnol o berfformiad yr NHS, yn gyrru'r cynnydd hwnnw. Yn hyn o beth, ni fyddwn ni felly yn gorfod dibynnu yn unig ar brynu capasiti allanol ar draul buddsoddiad strategol mewn cryfhau gwasanaeth lleol; mi fyddwn ni yn buddsoddi yn ein capasiti yn yr NHS yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am hwnna. Mae'r pwynt mae hi'n ei godi yn un arbennig o bwysig. Mi oeddwn i, fel dwi wedi sรดn, yn rhan o adroddiad y pwyllgor iechyd a gofal ddaru edrych mewn i offthalmoleg, a dwi'n ymwybodol o'r diffygion sydd gennym ni yn y maes. Dyna pam ein bod ni, fel rhan o'r broses o leihau rhestrau aros, wedi sรดn am yr hybiau yma. Mi fydd elfen o'r hybiau yna yn edrych ar yr anghenion foliwm uchelโ€”high volumeโ€”yma sydd gennym ni, รข chataracts yn eu plith nhw, er mwyn gwneud yn siลตr bod pobl sydd yn dioddef yn cael eu gweld yn gynt ac yn medru mynd mewn am driniaeth ac allan ar yr un diwrnod. Yn ogystal รข hynny, mi fyddwn ni'n edrych i wneud yn siลตr bod strategaeth genedlaethol ar gyfer offthalmoleg yn cael ei gweithredu er mwyn gwneud yn siลตr nad ydy pobl yn dioddef yn fwy nag sydd angen.

15:35
15:40
6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: Blaenoriaethau ar gyfer Mentrau, Cysylltedd ac Ynni

Rydyn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: blaenoriaethau ar gyfer mentrau, cysylltedd ac ynni. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price.

Member
Adam Price 15:41:46
Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae Cymru ar agor ar gyfer busnes. Rydyn niโ€™n genedl รข chryfderau economaidd sylweddol. Ledled ein gwlad, rydyn niโ€™n gweld mentrau ffyniannus, diwydiannau syโ€™n gystadleuol yn fyd-eang, prifysgolion cryf, gweithlu medrus iawn, a chyfleoedd go iawn mewn sectorau fel gweithgynhyrchu uwch ac ynni glรขn. Mae'r rhain yn asedau y byddai llawer o wledydd yn eiddigeddus ohonynt. Ac eto, ers gormod o amser, nid ydym wedi llwyddo i elwa ar y cryfderau hynny er mwyn cyflawni'r lefel o berfformiad economaidd y dylem ei disgwyl.

Nid diffyg potensial yw'r her ganolog sy'n ein hwynebu; mae'n fethiant i'w wiredduโ€™n llawn. Yn rhy aml, nid yw'r gwahanol rannau o'n system economaiddโ€”buddsoddiad, seilwaith, y byd academaidd, sgiliau, allforio, cynllunio ac arloesiโ€”wedi cyd-fynd รขโ€™i gilydd. Pan fydd yr elfennau hyn ar draws y sector preifat aโ€™r sector cyhoeddus yn cysylltu ac yn atgyfnerthu ei gilydd, mae twf yn dilyn. Pan nad ydyn nhw'n gwneud hynny, mae cyfle yn cael ei golli.

Nid yw hyn yn ymwneud รข gostwng safonau, mae'n ymwneud รข gwella sut mae'r Llywodraeth a'i phartneriaid yn gweithio, bod yn gliriach am flaenoriaethau ac yn gyflymach wrth wneud penderfyniadau i gydgysylltu'r systemau y mae busnesau'n dibynnu arnynt. 

Her allweddol y mae'n rhaid inni fynd i'r afael รข hi yw maint busnesau. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy'n tyfu i'r maint lle gallant fuddsoddi yn hyderus mewn arloesi, gwneud defnydd llawn o'r sgiliau sydd ar gael a chystadlu mewn marchnadoedd gwerth uwch. Felly, byddwn niโ€™n canolbwyntio ar gefnogi cwmnรฏau i dyfu, gan gryfhau'r sylfeini sy'n galluogi'r twf hwnnw.

Mae diwygio ein system sgiliau yn ganolog i hyn. Byddwn niโ€™n sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn cyd-fynd yn agosach ag anghenion economaidd, gan sicrhau ei bod yn cefnogi gweithgarwch gwerth uwch ac yn galluogi unigolion i symud i rolau รข chyflogau gwell. Byddwn niโ€™n cryfhau cysylltiadau rhwng addysg, cyflogwyr a sefydliadau ymchwil, fel bod gwybodaeth yn llifo'n fwy effeithiol i'r economi.

Ochr yn ochr รข hyn, byddwn niโ€™n adeiladu system arloesi gryfach, gan gefnogi cwmnรฏau i fabwysiadu technolegau newydd, buddsoddi mewn ymchwil a datblygu ac elwa yn llawn ar gryfderau ymchwil sylweddol Cymru. Rydyn niโ€™n cydnabod hefyd fod rhai o'r ffactorau sy'n llywio ein heconomi y tu hwnt i reolaeth ddatganoledig. Dyna pam y byddwn niโ€™n gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, gan alinio polisi a buddsoddiad lle bynnag y mae er budd Cymru i wneud hynny.

15:45
15:50
15:55
16:00
16:05
16:10
16:15

Rydyn ni'n symud nawr ymlaen at gyfraniadau o un funud, ac i ddechrau, Kiera Marshall.

16:20
16:25
16:30

Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet.

Nid oes gennym gyfnod pleidleisio heddiw, felly daw hynny รข thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:31.