Y Cyfarfod Llawn
Plenary
19/05/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Croeso cynnes i bawb, a chroeso i'r sesiwn hwn o'r Senedd y prynhawn yma. Rydyn ni'n dechrau gyda'r cynnig i benodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes. Felly, galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig—Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9236 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:
Yn penodi'r Llywydd, Heledd Fychan (Plaid Cymru), Llŷr Powell (Reform UK), Lynne Neagle (Llafur Cymru), a Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ac yn gwahodd Aelodau'r Senedd i gytuno ar benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes.
Diolch yn fawr iawn, Heledd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nesaf—. Rydyn ni'n joio'r dechnoleg yma. [Chwerthin.] Rydyn ni'n symud nawr i'r cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i eitemau gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig—Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9237 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn cytuno i'r cynnig i'r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf:
Cwestiynau i’r Prif Weinidog;
Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol;
Datganiad a chyhoeddiad busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ac yn gwahodd Aelodau'r Senedd i gytuno bod cwestiynau i'r Prif Weinidog a chynnig i gytuno ar argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi o berson i'w benodi yn Gwnsler Cyffredinol yn cael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer ein Cyfarfod Llawn nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Heledd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, nawr rydym ni'n symud i eitem 3 ar yr agenda. Eitem 3 ar yr agenda yw'r dataganiad gan y Prif Weinidog: blaenoriaethau'r Prif Weinidog. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Lywydd, gyd-Aelodau'r Senedd, â ninnau’n cyfarfod am yr ail waith fel Senedd ers yr etholiad lai na phythefnos yn ôl, dwi’n gobeithio bod awydd fy Llywodraeth i gynnal momentwm ac i fwrw ati ar unwaith i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn glir i bawb ei weld.
Pleser oedd cyhoeddi fy nhîm gweinidogol egnïol a dawnus dros y dyddiau diwethaf, a dwi’n falch o ddweud ein bod ni eisoes wedi cyfarfod i drafod blaenoriaethau’r weinyddiaeth newydd hon ac i dderbyn diweddariad ar effaith y rhyfel yn y dwyrain canol ar gostau byw aelwydydd Cymreig.
Lywydd, addawais arwain Llywodraeth a fyddai'n dod ag egni newydd, syniadau newydd ac arweinyddiaeth newydd, ac rwy'n falch bod ein hwythnos gyntaf yn y swydd wedi gwneud datganiad clir o fwriad yn hynny o beth.
Roeddwn yn falch o gael siarad â'r Prif Weinidog Keir Starmer yr wythnos diwethaf i nodi'r pwysigrwydd yr wyf yn ei roi ar berthynas adeiladol â Llywodraeth y DU, ac i wthio'r achos am drafodaeth bellach ar sut y gall mwy o ddatganoli a chyllid teg wella bywydau pobl Cymru, gan ein harfogi â'r offer i fynd â Chymru ymlaen. Fel yr wyf wedi pwysleisio sawl gwaith, rwy'n disgwyl i'n cenedl gael ei thrin fel partner cyfartal yn y trafodaethau hynny, ac i'r camau gweithredu sy'n dilyn gan Lywodraeth y DU adlewyrchu hynny'n wirioneddol, nid yn unig mewn rhethreg. Nid yw honni bod hwn yn undeb cyfartal yn ddigon, oherwydd mae unrhyw ddadansoddiad o'r realiti yn amlygu mai geiriau gwag yw'r geiriau hynny. Rwyf eisiau gwneud cynnydd cynnar ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, Ystad y Goron, a datblygu fformiwla ariannu teg, gan gynnwys materion fel rheilffyrdd, i fynd i'r afael ag anghyfiawnder HS2—pob mater sydd â chefnogaeth y mwyafrif yn y Siambr hon.
Lywydd, roeddwn bob amser yn glir y byddai'r Llywodraeth y byddwn i'n ei harwain yn chwistrellu cyflymder i mewn i'r gwaith o droi polisi yn weithredoedd, ac rwy'n falch ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar ein cynllun 100 diwrnod cyntaf. Mae Swyddfa'r Cabinet eisoes wedi'i chryfhau, wedi'i strwythuro i roi pwyslais newydd ar effeithiolrwydd a chanlyniadau'r Llywodraeth, gan feithrin mwy o gydlyniant rhwng adrannau, gyda'r nod cyffredin o gyflawni ein cenhadaeth fel un. Mae tîm craidd o Weinidogion wedi cael y dasg o sicrhau cynnydd ar ein blaenoriaethau allweddol gan adrodd yn rheolaidd i'r Cabinet.
A yw'r bobl iawn yn y lleoedd iawn yn canolbwyntio ar y pethau iawn? Mae hwnnw'n gwestiwn a esgeuluswyd dros amser rhy hir, rwy'n credu, gan weinyddiaethau blaenorol. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol am symud mor gyflym i roi strwythurau newydd, addas i'r diben yn ystod y dyddiau cynnar hyn i'n galluogi i gyflawni'r canlyniadau gorau i'r bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Ni fydd atebolrwydd yn rhyw air haniaethol yn unig, ond yn hytrach yn rhywbeth rydym ni'n ei brofi fel Llywodraeth wythnos ar ôl wythnos.
Mae gennyf nifer o genadaethau craidd: gostwng rhestrau aros, codi safonau yn ein hysgolion, creu swyddi, cefnogi busnesau, mynd i'r afael â thlodi plant, helpu aelwydydd gyda'r argyfwng costau byw a sefyll dros Gymru. Bydd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn dechrau ar y gwaith o roi ein cynllun ar waith i ostwng rhestrau aros ar unwaith, ond bydd meddwl trawslywodraethol, tymor hwy yn nodwedd o'r Llywodraeth hon. Yn yr achos hwn, rwyf wedi penodi Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am iechyd cyhoeddus ac ataliol, fel yr addawyd cyn yr etholiad, gan adlewyrchu sut rwy'n gweld hyn fel blaenoriaeth hanfodol wrth sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r GIG. Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd o brif weithredwyr holl fyrddau iechyd, ochr yn ochr â'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a'r Gweinidog dros gyllid, i ddatblygu map ffyrdd ar gyfer symud adnoddau'r GIG yn gynaliadwy tuag at ofal sylfaenol.
Rŵan, mae gormod o'n plant yn gadael yr ysgol heb y sgiliau neu'r cymwysterau hanfodol sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu. Er mwyn codi safonau yn ein hysgolion, mae ein gwaith i wella llythrennedd a rhifedd eisoes wedi dechrau drwy ddechrau datblygu cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Byddwn hefyd yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, rhieni a phlant i asesu'r materion sy'n ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad yn ein hysgolion, gwella'r broses o ddarparu'r system anghenion dysgu ychwanegol, ymgorffori ymarfer cynhwysol ar gyfer pob plentyn a phobl ifanc.
Er mwyn creu swyddi a chefnogi busnesau, byddwn yn canolbwyntio ar dyfu cwmnïau Cymreig cryfach, gan gynyddu nifer y busnesau canolig a mawr sy'n gallu ehangu, allforio a chadw gwerth yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydym yn ceisio gwneud ynni'n fantais gystadleuol, gan sicrhau bod pŵer yn ddibynadwy, fforddiadwy ac yn gynyddol lân, gan gefnogi buddsoddiad a chreu swyddi hirdymor. Dyna pam rydw i wedi sefydlu portffolio economaidd newydd sy'n canolbwyntio ar fenter, ynni a chysylltedd, gyda chymuned bob amser yn ganolog iddo. Rydym eisiau economi Gymreig sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn falch o fod yn Gymreig, yn edrych allan, yn gryf ac yn gystadleuol. A byddwn yn cryfhau cysylltedd economaidd, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at swyddi ac yn haws i fusnesau gyrraedd cyflenwyr a marchnadoedd. Mae hyn yn cynnwys gwella cysylltiadau ar draws pob rhanbarth, gan gynnwys y Cymoedd, y gogledd, Cymru wledig, fel bod twf a chyfleoedd yn cael eu rhannu'n fwy cyfartal.
Er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun newydd, gan osod targedau clir, meincnodau, cerrig milltir i sbarduno newid uchelgeisiol ond cyflawnadwy. Ein cynnig gofal plant trawsnewidiol newydd fydd y mwyaf hael yn hanes datganoli a'r DU, gan helpu i roi hwb i incwm aelwydydd a helpu i godi teuluoedd allan o dlodi—ar ôl ei gyflwyno'n llawn, 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. A byddwn yn cyflwyno Cynnal, sy'n treialu taliad wythnosol newydd wedi'i dargedu at deuluoedd â phlant dan chwech oed sydd eisoes yn derbyn credyd cynhwysol, i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i'r rhai sydd ei angen fwyaf, a gwneud yr achos dros ddatganoli pwerau lles i allu helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. Er mwyn helpu aelwydydd gyda'r argyfwng costau byw, byddwn yn ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol o fis Medi ymlaen, gan gefnogi dysgu myfyrwyr, a dyna un gost yn llai i deuluoedd boeni amdano.
Trwy dyfu a chynnal busnesau sy'n eiddo i Gymru, datblygu a darparu swyddi da ac adfywio canol ein trefi, byddwn yn rhoi hwb i safonau byw. Byddwn yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai yng Nghymru i wella safonau byw, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon cartrefi.
O ran ein difrifoldeb ynglŷn â sefyll dros Gymru ar bob cyfle, rwyf eisoes wedi defnyddio fy sgyrsiau cyntaf gyda Phrif Weinidog y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wthio'r achos dros gyllid a phwerau teg. Ac rydym wedi cytuno y dylai'r cyfarfod personol cyntaf gyda'r Prif Weinidog gael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf.
Mae dim ond angen i ni edrych ar argyfwng diweddaraf San Steffan i weld pa mor fuan y mae Llywodraethau yn talu pris mawr pan fyddant yn gwyro o'r llwybr y maen nhw wedi addo ei ddilyn. Fy addewid i i bobl Cymru yw na fyddwn yn simsanu, oherwydd, trwy wireddu'r blaenoriaethau hyn, rydym yn adeiladu'r genedl y mae pobl yn ei haeddu. Ni fyddaf byth yn rhoi gorau i fynd ar drywydd triniaeth deg i'm cenedl—o ran cyllid, manteision llawn ein hadnoddau naturiol, a'r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl. Mae llawer wedi aros am amser hir am y foment hon, a gydag ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a gostyngeiddrwydd, rwy'n bwriadu gwobrwyo eu hamynedd a'u hymddiriedaeth trwy wneud yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud fel Prif Weinidog.
Lywydd, does gen i ddim bwriad anghofio gwerth a grym geiriau. Dwi yma i anrhydeddu’r addewidion dwi wedi eu gwneud i bobl Cymru, a dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran y Llywodraeth gyfan wrth ddweud hynny. Fydd y llwybr ddim bob amser yn llyfn a di-rwystr, ond mi wynebwn ni’r heriau efo’n gilydd, efo’r amcan o ddweud ein bod ni wedi gwneud ein gorau dros Gymru bob amser.
Rwy'n ymwybodol mai ceidwaid yn unig ydym wrth i ni weithio i fynd ar drywydd delfryd yr ydym yn gobeithio y bydd yn goroesi unrhyw un ohonom yma: gwella'r genedl rydym ni'n ei charu. Gweinyddiaeth newydd gyda dull newydd, un sy'n ein hysbrydoli i symud ag egni newydd a chyflymder newydd i droi dyheadau yn ganlyniadau er budd pawb sy'n galw Cymru yn gartref. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Brif Weinidog. Nawr, yn unol â'r drefn arferol, bydd gan y siaradwyr cyntaf o bob grŵp bum munud i gyfrannu, a bydd gan bob siaradwr arall un funud. Nawr, galwaf ar Dan Thomas.
Diolch. Brif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw, a llongyfarchiadau ar eich canlyniadau yn yr etholiad. Mae'r etholiad wedi dangos un peth yn glir iawn: mae'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi newid. Ar ôl degawdau o wleidyddiaeth Cymru yn edrych yn union yr un fath, mae pobl Cymru o'r diwedd wedi dweud digon yw digon, gyda bron i draean o bleidleiswyr yn ymddiried yn Reform i ddod â newid go iawn. Mae pobl eisiau gwleidyddion yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig: y GIG, addysg, yr economi, seilwaith a chostau byw. Dyna pam mae Reform wedi ymchwyddo ledled Cymru—nid oherwydd obsesiynau cyfansoddiadol neu ideoleg, ond oherwydd ein bod yn siarad ar ran y bobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, eu gor-drethu a'u hanghofio: y bobl sy'n sownd ar restrau aros y GIG, y gweithwyr sy'n eistedd mewn traffig wrth dwneli Brynglas, y rhieni sy'n poeni am safonau addysgol sy'n gostwng, a'r bobl ifanc nad ydynt bellach yn gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain yng Nghymru. Dyma'r bobl y mae Reform yn eu cynrychioli. Mae'r heriau sy'n wynebu Cymru bellach yn rhy ddifrifol i'r un wleidyddiaeth flinedig sydd wedi siomi'r wlad hon am ddegawdau.
Mae Plaid Cymru wedi cael degawdau i baratoi ar gyfer y foment hon, felly bydd pobl Cymru, fel y dylent, yn disgwyl gweithredu ar unwaith a gwelliannau cyflym. Efallai y bydd gobaith ac ystrydebau yn taro tant yn ystod yr ymgyrch etholiadol, ond mae llywodraethu Cymru yn gofyn am arweinyddiaeth weinidogol, cyflawni a chanlyniadau. Dyna pam roeddwn i'n siomedig o ddarllen adroddiadau bod un o'ch trafodaethau cyntaf gyda Phrif Weinidog y DU sy'n ymadael wedi crybwyll annibyniaeth. Byddwn yn croesawu eich clywed yn cadarnhau pa un a yw'r adroddiadau hynny'n wir. Oherwydd er y gall y dadleuon cyfansoddiadol gyffroi gwleidyddion a sylwebwyr, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gofyn cwestiynau llawer mwy sylfaenol: 'A allaf gael apwyntiad meddyg teulu? A fydd fy mhlentyn yn derbyn addysg dda? A allaf fforddio talu fy miliau? A fydd fy nheulu yn cael cyfleoedd yng Nghymru ymhen pedair blynedd?' Dyma'r materion sy'n bwysig, ac, er bod eich datganiad heddiw yn awgrymu mai dyma yw eich blaenoriaethau, mae crybwyll annibyniaeth gyda Llywodraeth y DU yn awgrymu bod materion cyfansoddiadol yn mynd â'ch meddwl chi.
Fe wnaethoch hefyd drafod fformiwla Barnett a chyllid, rheilffyrdd, pwerau benthyca a datganoli pellach gyda Phrif Weinidog y DU. Ond mae'n ymddangos mai'r unig bwnc yr oedd y Prif Weinidog yn barod i'w drafod yn y dyfodol oedd datganoli. Felly, bydd pobl ledled Cymru, yn ddealladwy, yn gofyn, 'Ble mae'r cynnydd o ran cyllid? Ble mae'r cynnydd o ran y rheilffordd? A beth yw cynllun amgen y Llywodraeth os yw'r ceisiadau hynny yn cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU?', oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cyflwynwyd llawer o'r cynigion hyn fel rhai allweddol ar gyfer ariannu eich ymrwymiadau gwariant mawr.
Fe wnaethom hefyd ddysgu bod eich Llywodraeth yn ceisio mwy o bwerau benthyca. Mae gan bobl Cymru hawl i wybod beth yw pwrpas y benthyciad hwnnw. A yw ar gyfer prosiectau seilwaith a allai gryfhau economi Cymru, neu a yw ar gyfer ariannu ymrwymiadau gwariant y bydd yn rhaid i genedlaethau'r dyfodol dalu amdanynt yn y pen draw? Ni ddylai cenedlaethau'r dyfodol gael eu llethu gan ddyled anghynaliadwy oherwydd nad oes gan Lywodraethau y dewrder i gyflawni effeithlonrwydd heb fenthyg.
Mewn Llywodraeth leiafrifol, bydd angen cefnogaeth arnoch ar draws y Siambr hon os ydych am lywodraethu'n llwyddiannus. Mae cefnogaeth yma i bolisïau ymarferol sy'n gwella gofal iechyd, cryfhau seilwaith, cefnogi ffermio a busnesau Cymru ac adfer safonau mewn addysg. Cyn belled â bod eich Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, mae cyfle i ymgysylltu yn feirniadol ond adeiladol yn y Siambr hon.
Ond nid oes llawer o awydd ymhlith pobl gyffredin o Gymru i weld ehangu cyfansoddiadol diddiwedd tra bod gwasanaethau sylfaenol yn cael trafferth. Nid yw pobl Cymru yn galw am fwy o wleidyddion gyda mwy o bwerau. Maen nhw'n galw am wleidyddion i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw eisoes yn briodol. Mae Cymru wedi cael Llywodraeth ddatganoledig ers dros chwarter canrif. Felly, mae pobl yn iawn i ofyn, 'Os yw'r GIG yn cael trafferth, os yw canlyniadau addysgol yn gostwng ac os yw twf economaidd yn wan, pam mai'r ateb bob amser yw mwy o bwerau i wleidyddion yn hytrach na chyflawni'n well er budd y cyhoedd?'
Brif Weinidog, fel arweinydd y grŵp gwrthblaid mwyaf yn y Senedd, gallaf eich sicrhau y bydd Reform yn gwylio'n fanwl. Pan fydd eich Llywodraeth yn siomi pobl Cymru neu'n gwastraffu arian trethdalwyr neu'n colli golwg ar y brwydrau bob dydd sy'n wynebu teuluoedd cyffredin, byddwn yn eich dwyn i gyfrif, oherwydd bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros newid gwirioneddol. Bydd Reform yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn y Siambr hon. Diolch yn fawr.
A gaf i groesawu arweinydd yr wrthblaid i'r Senedd? Mae'n hollol gywir, wrth gwrs, i ddweud bod y dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi newid yn yr etholiad hwn, ac yn sicr fy mwriad bob amser, fel y Prif Weinidog, yw adlewyrchu'r lluosogrwydd barn a fynegwyd yn yr etholiad diweddar hwnnw. Bydd yn rhaid i ni chwilio am dir cyffredin ar draws y Siambr hon, a dywedaf yn sicr fy mod yn rhannu'r uchelgais honno i fod yn effeithiol yn ein defnydd o arian cyhoeddus yng Nghymru, i fod yn glyfar yn y ffordd yr ydym yn gwario arian er budd y bobl y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu. Rwy'n cytuno mai'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru yw darparu gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y datganiad yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw, boed hynny ar iechyd, neu ar addysg, neu ar greu swyddi, neu'r cynnig gofal plant, a sefyll dros Gymru. Mae'r materion hyn yn bwysig iawn, iawn.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn parhau i groesi cleddyfau ar y cwestiwn o uchelgais i'n cenedl. Efallai y gallwn siarad am funud neu ddau yma, Lywydd, am beth yw'r uchelgais hwnnw, ac rwy'n gwahodd pawb i ymuno â mi ar lefel yr uchelgais rydw i'n ei osod i'n cenedl. Mae'r cyhuddiad yn aml yn cael ei wneud bod yna obsesiwn o ran y cyfansoddiad. Wyddoch chi beth? Mae gen i obsesiwn ynghylch gwneud y peth iawn i Gymru. Mae gen i obsesiwn ynghylch mynd â'n cenedl ymlaen, ac mae hynny'n golygu cael yr offer cywir yn ein dwylo i wneud y gwaith. Fe roddaf gyfatebiaeth i chi: rydych chi eisiau gosod cwpwrdd—mae eich sgriwdreifar wedi torri. Mae angen yr offer arnom i wneud y gwaith, ond rydych chi'n parhau i frwydro gyda sgriwdreifar wedi torri. Gadewch i ni wneud yr hen sgriwdreifar yn wych unwaith eto. [Chwerthin.] Gadewch i ni gael yr offer cywir i wneud y gwaith, a dyna'r cyfan rydym ni'n sôn amdano pan fyddwn ni'n sôn am ehangu'r pwerau sydd gennym.
Do, soniais i am annibyniaeth. Mae gen i lefel o uchelgais ar gyfer fy ngwlad lle dywedais fy mod am arwain sgwrs genedlaethol sy'n creu'r hyder hwnnw yn ein gallu, heb os, i fod yn genedl annibynnol fel cymaint o wledydd fel ein gwlad ni. Ond, dywedais wrth y Prif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud trwy gydol fy nghyfnod mewn gwleidyddiaeth a byddaf yn parhau i wneud hynny, rydym yn ymdrin â'r materion yr ydym yn ymdrin â nhw nawr, ac rydym yn gosod taith y bydd yn rhaid i bobl Cymru benderfynu yn y pen draw ar lwybr a chyflymder honno. Byddaf yn cynnig arweinyddiaeth; byddaf yn gwneud hynny yma, o fewn y Senedd, mewn partneriaeth ac yn ceisio cydweithredu ag Aelodau ar draws y Senedd hon, ond bob amser gyda buddiannau pobl Cymru wrth wraidd popeth.
Galwaf ar Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Rwy'n credu bod ein Haelodau Llafur yn deall cyfrifoldebau a heriau Llywodraeth yn well na'r mwyafrif yn y Siambr hon, ac rwy'n dymuno'n dda i'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau. Nawr, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn deall pwysigrwydd gwrthblaid sy'n drylwyr, ac rwy'n siŵr mai ef fyddai'r cyntaf i ddweud bod gofyn cwestiynau lletchwith i gyd yn rhan o'n gwaith. Roedd yn eithaf medrus wrth wneud hyn ei hun yn yr wrthblaid, a nawr ei dro ef yw eu hateb.
Er ei bod yn ei dyddiau cynnar, mae rhai meysydd clir i'w gwella yn y Llywodraeth hon. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl bron i ddegawd i ddod o hyd i'r tro diwethaf i Brif Weinidog benodi Llywodraeth lle roedd mwyafrif yr aelodau yn ddynion, a dyma ni eto. Fel gwleidyddion, rydym yn aml, ac yn briodol, yn cael ein hatgoffa mai'r hyn sy'n bwysig yw gweithredoedd, nid geiriau. Nid yw'r Llywodraeth hon yn sicr yn adlewyrchu amrywiaeth ein cenedl fodern.
Roedd hefyd yn siomedig peidio â gweld rôl amlwg i'r amgylchedd yn y Cabinet hwn. Rwy'n teimlo dros yr Aelodau Gwyrdd mewn perthynas â hyn. Ar ôl cefnogi enwebiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid eu bod nhw'n dioddef yr achos mwyaf difrifol o edifeirwch y prynwr ers i Zack Polanski brynu cwch preswyl. Byddwn yn sicr yn rhoi pwysau i sicrhau nad yw newid hinsawdd a datgarboneiddio yn cael eu hanwybyddu. Felly, beth fydd Gweinidogion yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd afonydd? Mae glanhau ein hafonydd yn angenrheidiol ar gyfer yr amgylchedd ac ni ddylid ei anwybyddu. Roeddwn hefyd yn siomedig oherwydd na chyfeiriwyd at ffermio, o ystyried pa mor bwysig yw diogeledd bwyd i'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu.
Nawr, ein dyletswydd yn yr wrthblaid hefyd yw mynnu gonestrwydd a thryloywder, oherwydd gosod y blaenoriaethau a'r uchelgeisiau yw rhan hawdd y swydd mewn gwirionedd. Mae arweinyddiaeth go iawn, Llywodraeth go iawn a'r penderfyniadau go iawn yn cychwyn pan fydd yn rhaid i chi benderfynu ar beth, yr hyn na fyddwch chi'n ei wneud, yr hyn y byddwch chi'n ei gwtogi, yr hyn na fyddwch chi'n talu amdano. Cymerwch, er enghraifft, y polisi gofal plant. Mae wedi bod dros saith mis ers i'r polisi gael ei gyhoeddi gyntaf—saith mis—ac eto, nid yw'r cyhoedd wedi cael ateb i'r cwestiwn sylfaenol iawn hwnnw, sef sut y bydd yn cael ei ariannu. Nawr ei fod yn y Llywodraeth, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym o ble y bydd y £400 miliwn yn dod? Edrychwch, nid yw ail-flaenoriaethu yn ateb go iawn, ac nid yw adolygu rhaglenni tlodi plant chwaith. Beth fydd yn cael ei gwtogi, faint a phwy yr effeithir arnynt? Dyna beth mae'r cyhoedd angen ac yn haeddu cael gwybod.
Ac yna, dros y penwythnos, clywsom y bydd Plaid Cymru yn cynyddu cyllid diwylliant a chwaraeon drwy gymryd arian o'r GIG. Nawr, wrth gwrs, ni fydd neb yn cwyno ynghylch cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon. Pan oeddem mewn grym, a thrwy'r rhaglen Cyfuno, fe wnaethom roi hwb i weithgarwch drwy'r economi ehangach, digwyddiadau mawr a chyllideb dwristiaeth. Ond, unwaith eto, dim ond hanner y stori yw pennawd Plaid Cymru. Felly, faint o arian fydd yn cael ei gymryd o wasanaethau iechyd? O ystyried bwriad datganedig i gymryd arian o ofal eilaidd a'i roi mewn gofal sylfaenol, a yw'n golygu, felly, y bydd hyd yn oed mwy o arian yn cael ei gymryd o'n hysbytai? Faint o arian fydd yn cael ei gymryd o wasanaethau iechyd? Faint o weithwyr proffesiynol mewn gofal eilaidd a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i hyn o bosib? Nawr, yn yr etholiad, fe wnaethom addo ailadeiladu Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a datblygiad ysbyty mawr yn y gorllewin. A fydd y Llywodraeth hon yn gwneud yr un peth?
I ni yn Llafur Cymru, dylai Llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru flaenoriaethu cyflawni gwelliannau ar draws ein gwasanaethau, yn ein hysbytai, ar ein strydoedd, mewn cymorth cyflogaeth, ac yn ein hysgolion. Fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae miloedd o staff cymorth ysgolion yn byw gyda'r ffaith eu bod yn cael eu talu dim ond yn ystod y tymor. Dyna ein cynorthwywyr addysgu, ein gofalwyr, staff y gegin a mwy. Fe wnaethom addo sefydlu corff trafod i ddarparu cyflog drwy gydol y flwyddyn. Gwn ei bod yn ffaith bod rheolwr Bil ar waith ar hyn o bryd yn y Llywodraeth hon, yn barod i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth honno. Felly, a fydd y Llywodraeth hon yn ymrwymo i fwrw ymlaen â hynny? Mae gan staff cymorth ysgolion gefnogaeth lawn Llafur Cymru, a byddwn yn eu cefnogi yn eu hymgyrch dros degwch.
O ran taliadau wedi'u targedu i deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, Lywydd, mae pobl wedi cael addewid y byddant yn derbyn arian o fewn wythnosau. Sawl wythnos—pedair neu bump, neu 40 i 50? Ac a yw'r Llywodraeth bellach wedi sicrhau data sy'n ymwneud â hawlwyr credyd cynhwysol?
Ein prif ffocws fel un o'r gwrthbleidiau fydd gweld a yw'r Llywodraeth yn gwella bywydau pobl ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen arnom, ar y materion bara a menyn sef y rhai pwysicaf. Mae Llafur Cymru bob amser wedi gwasanaethu cymunedau ac wedi hyrwyddo pobl Cymru, a byddwn yn parhau i chwilio am degwch mewn Cymru iachach a chyfoethocach.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf hefyd yn croesawu arweinydd y grŵp Llafur yma. Rwy'n croesawu ac yn cofleidio'r gwrthwynebu a'r craffu cadarn yr wyf yn gwybod y byddwn yn eu derbyn. Os yw'n helpu, wnes i ddim ceisio bod yn lletchwith, ond rwy'n disgwyl pethau lletchwith o bryd i'w gilydd, a byddaf yn cymryd y pethau lletchwith yn yr un ysbryd yr wyf yn siŵr â'r hyn a fwriadwyd.
Rwyf am ei ddwyn i gyfrif am ei fathemateg, yn gyntaf oll, yn yr ystyr bod gennym raniad gweinidogol 50-50 rhwng dynion a menywod yn y Llywodraeth hon. Mae'n rhaid i mi wneud safiad dros Llŷr Gruffydd yn yr ystyr ei fod wedi cael cam i raddau yn y cyfraniad yna, oherwydd ei gefndir rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd yma. Bydd yn Weinidog Cabinet ardderchog dros yr amgylchedd. Mae hwn yn fater sydd bob amser wedi bod yn fater sydd wrth wraidd gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer ein cenedl, i ddatblygu cenedl werdd ar gyfer y manteision amgylcheddol sy'n dod yn sgil hynny, ar gyfer y manteision swyddi sy'n dod yn sgil hynny, a byddwn yn Llywodraeth sy'n ysgogi agenda werdd gref. Mae cyhuddo Llŷr Gruffydd hefyd o beidio â bod yn hyrwyddwr dros amaethyddiaeth yn rhywbeth na fydd yn mynd i lawr yn dda mewn sawl rhan o'r sector amaethyddiaeth, oherwydd rwy'n gwybod bod angen hyrwyddwyr ar gyfer ffermio, ac rwy'n falch o gael Llŷr yn fy nhîm, yn cynnig yr arweinyddiaeth honno, gan weithio ochr yn ochr â'r sector amaethyddiaeth i ddarparu'r gorau ar gyfer rhan mor allweddol, nid yn unig o'r economi, ond o gymdeithas yng Nghymru.
O ran cyllid, rydym wedi gosod cynlluniau sydd, ie, yn uchelgeisiol ond fe wyddom eu bod yn gyraeddadwy. Dyna ddylai pobl allu ei ddisgwyl gan Lywodraeth—nid mynd am yr opsiwn hawdd, ond gwthio ffiniau o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni fel Llywodraeth. Rwy'n cofio'r weinyddiaeth Lafur flaenorol yn ei gwneud yn glir na fyddai prydau ysgol yn fforddiadwy mewn unrhyw ffordd, ond, wrth gwrs, trwy ddylanwad Plaid Cymru fel gwrthblaid, dangoswyd nid yn unig ei fod yn fforddiadwy, ond ei fod yn angenrheidiol er mwyn darparu cyfleoedd cyfartal i blant yn ein hysgolion. Yr un peth fydd ein hegwyddorion arweiniol y tro hwn. Rydym ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud; rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n heriol. Ac wrth edrych ar ofal plant, oes, mae yna ffocws, yn ddealladwy, ar y cyllid, yr ydym yn gwybod y gellir ei reoli, er y byddwn yn gwthio ein terfynau fel Gweinidogion, ond mae'n rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar y gweithlu, sut rydym ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ddigon o bobl i roi'r rhaglen uchelgeisiol hon ar waith i helpu teuluoedd a'u helpu gyda chostau byw. Byddwn yn gwneud ein gorau gyda rhaglen wedi'i chynllunio'n ofalus, ac mae'n bleser nawr gallu gweithio gyda'r gweision sifil hynny a fydd yn ein galluogi ni i gyflawni.
Ar rai o'r materion a grybwyllwyd tua diwedd y cyfraniad, cawsom ein hatgoffa, Lywydd, o'r rhaglen lywodraethu a gyflwynwyd gan Lafur yn yr etholiad diweddar. Roedd honno'n rhaglen lywodraethu a wrthodwyd gan bobl Cymru, ond lle mae syniadau da ar draws pleidiau gwleidyddol, gadewch i ni siarad am y rheini a gweld sut y gallwn roi cyfres o syniadau a delfrydau ar waith a all fynd â Chymru ymlaen, gan dynnu ar dalent, o ble bynnag y daw hwnnw, ar draws y Senedd hon.
Diolch. Nesaf, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a gaf i eich llongyfarch ar eich penodiad a diolch hefyd am eich datganiad heddiw a dderbyniwyd saith munud yn unig cyn i'r cyfarfod llawn hwn ddechrau? Confensiwn, wrth gwrs, o ran rhannu datganiadau o flaen llaw y byddech wedi cwyno amdano pe baech wedi derbyn datganiad saith munud ynghynt.
Felly, rydym ni wedi cael 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae'n amlwg iawn bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros newid, ac, wrth gwrs, nid y newid sydd wedi digwydd yw'r newid yr oedd fy mhlaid yn chwilio amdano. Byddem wedi hoffi Senedd wahanol iawn, ond mae'r pleidleiswyr wedi mynegi eu barn ac rwy'n gwybod eich bod chi'n angerddol am y wlad hon ac eisiau ei gwella. Nid wyf yn amau mai dyna yw eich ymrwymiad, ac yn wir ymrwymiad holl Aelodau'r Siambr hon, ni waeth beth fo'u teyrngarwch gwleidyddol. Ac er y byddwn yn anghytuno â chi ar lawer o faterion, rydym hefyd, ar y meinciau hyn, yn rhannu eich uchelgais i weld Cymru gryfach gyda gwasanaeth iechyd gwell, system addysg well gyda safonau uwch ac economi lawer mwy deinamig a chryf, gan greu'r swyddi â chyflog da sydd eu hangen ar bobl Cymru.
Felly, byddaf yn rhoi'r ymrwymiad hwn i chi, Brif Weinidog: pan fyddwch yn cyflwyno, a phan fydd eich cyd-Aelodau o'r Cabinet yn cyflwyno mesurau synhwyrol a fydd yn wirioneddol yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru, byddwn yn eich cefnogi. Ond rwyf eisiau bod yn glir hefyd, pan fyddwn yn teimlo bod yr uchelgeisiau hynny'n cael eu tanseilio gan benderfyniadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud, byddwn yn rhoi pwysau arnoch i fod yn atebol, oherwydd dyna ein dyletswydd ni fel gwrthblaid gyfrifol yma yn y Senedd hon. Rydym eisiau eich dwyn i gyfrif yn drwyadl er mwyn cyflawni er budd pobl Cymru.
Nawr, yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac rydych chi wedi cyfeirio ato heddiw yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r cynllun hwnnw, y cynllun 100 diwrnod ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Plaid Cymru. Wrth gwrs, mae'r cloc eisoes yn tician. Rydym eisoes wythnos i mewn ers i chi gael eich penodi'n Brif Weinidog. Ac, wrth gwrs, bydd y 100 diwrnod yn dod i ben yng nghanol mis Awst, yn ystod y toriad. Felly mae tywod amser eisoes yn dechrau rhuthro i lawr, a dim ond 90 diwrnod sydd gennych nawr i gyflawni'r cynllun 100 diwrnod hwn. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi gyfeirio at y GIG, rhywbeth wrth gwrs sy'n werthfawr i bob un ohonom, ac rydym ni i gyd eisiau iddo lwyddo a gwella. Nawr, yn y gorffennol, mae eich plaid yn y Siambr hon, wedi cefnogi ein galwadau am ddatgan argyfwng y GIG er mwyn i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau brys yn ein GIG, yn enwedig o ran gofal a thriniaeth mewn sefyllfa lle mae perygl i fywyd yn ein hadrannau brys oherwydd tanberfformiad y rheini. A gaf i ofyn i chi: a ydych chi'n bwriadu datgan argyfwng iechyd fel y gallwn ganolbwyntio ar y GIG o fewn y 100 diwrnod hyn rydych chi wedi cyfeirio atynt? Oherwydd ni wnaethoch chi gyfeirio ato yn benodol o ran argyfwng iechyd yn eich datganiad.
A gaf i hefyd ofyn i chi—? Roedd yna bethau eraill nad oeddech chi'n sôn amdanynt yn eich datganiad yr wyf yn credu y gallwn ddod o hyd i rywfaint o dir cyffredin yn eu cylch. Felly, er enghraifft, yn eich dogfen 100 diwrnod, rydych chi'n cyfeirio at gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae ein plaid wedi bod yn galw amdano ers cryn amser. Rydym yn barod i'ch cefnogi i gyflawni'r uchelgais honno. Allwch chi ddweud wrthym: ydych chi'n barod i'w gyflawni? Beth ydych chi eisoes wedi'i wneud i sbarduno'r camau angenrheidiol er mwyn ei gyflawni? Fe wnaethoch chi sôn am adolygiad fformiwla cyllido llywodraeth leol—unwaith eto, rhywbeth sy'n gyffredin rhyngom. Rydym ni eisiau gweld y fformiwla ariannu honno yn cael ei hadolygu. Nid yw'n deg ar hyn o bryd, yn enwedig i awdurdodau lleol mewn cymunedau gwledig. Ac nid yw'n deg chwaith o ran y gwahaniaethau a welir o ran cyllid cenedlaethau, oherwydd mae'n hen ffasiwn. Nid yw'n addas i'r diben.
Fe wnaethoch chi grybwyll ynni adnewyddadwy yn eich ateb ar gynaliadwyedd yn gynharach. Un o'r pethau sy'n peri pryder ledled Cymru ar hyn o bryd, a bydd wedi cael ei ailadrodd i chi a llawer o'ch ymgeiswyr ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, yw'r cynigion ledled Cymru ar gyfer ffermydd solar a gwynt ar raddfa fawr yn ein cymunedau gwledig. A wnewch chi gychwyn, fel mater o frys, foratoriwm ar bob cais cynllunio newydd ar gyfer datblygiadau o'r fath er mwyn i ni allu amddiffyn ein tirweddau rhag diwydiannu diangen? Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig, ac mae angen i ni gael arwydd gennych chi ar unwaith.
A gaf i hefyd ofyn—? Nid oeddech chi'n cyfeirio yn eich dogfen 100 diwrnod at y diwydiant ynni niwclear. Efallai nad yw hynny'n syndod, o ystyried bod gan eich plaid farn amrywiol ar y mater penodol hwn, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, yn eich etholaeth eich hun ac yn y gogledd-orllewin, ac rydym eisiau gweld swyddi newydd yn y diwydiant niwclear yn gyflym yn y cyfleuster newydd yn Wylfa yn arbennig, ac yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol. Allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w cymryd dros y 100 diwrnod nesaf er mwyn helpu i hwyluso'r swyddi hynny?
Ac os gallaf, wrth gloi, Lywydd, un o'r pethau eraill na wnaethoch chi sôn amdanynt, sy'n bwysig iawn, iawn i bobl ledled Cymru ac sy'n rhywbeth y maen nhw'n dal i bryderu amdano, yw gangiau grŵmio. Felly, rydym ni'n gwybod bod gangiau grŵmio wedi bod yn gweithredu yng Nghymru. Rydym ni wedi galw yn y gorffennol am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau grŵmio. Rydym wedi cael trafodaethau a dadleuon yn y Siambr hon, rwy'n gwybod, ond, o ystyried eich bod bellach yn y Llywodraeth, a wnewch chi adolygu'r wybodaeth sydd ar gael i chi yn y Llywodraeth i benderfynu a yw hyn yn rhywbeth y gallwn hefyd gytuno arno a gweithio ar y cyd arno fel y gallwn gadw pobl ifanc agored i niwed, plant, ac yn enwedig ein merched, yn ddiogel? Diolch.
Diolch yn fawr am y cyfraniad yna.
Crybwyllwyd nifer o faterion. Ni fyddwn wedi bod yn hapus pe na bai wedi dechrau gyda chŵyn, ond byddwn yn gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y bydd datganiadau yn eich cyrraedd chi ar amser.
Nifer o faterion. O ran iechyd, fe wnaf ddefnyddio'r geiriau: rydym yn amlwg yn wynebu argyfwng o fewn y GIG yng Nghymru. Ond yn bwysicach na beth rydych chi'n ei alw yw beth rydych chi'n ei wneud mewn ymateb, a dyna pam mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cael y dasg o ddechrau, nid yr wythnos nesaf, ond eisoes, i roi'r mesurau hynny yr ydym eisoes wedi'u hamlinellu ar waith er mwyn ymdrin â, ie, y mater o amseroedd aros a'r angen dybryd i gymryd camau i fynd i'r afael a'r rheini, ond hefyd y meddwl tymor hirach, yr agenda ataliol, yr agenda iechyd menywod, yr agenda iechyd meddwl ac ati. Felly, gallwn ystyried beth rydym yn ei alw, neu gallwn ystyried beth rydym ni'n ei wneud.
Ynghylch y ffonau symudol, mae ymrwymiad maniffesto—rydych chi'n hollol iawn—i helpu ysgolion i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn eisiau mynd ar ei ôl yn y Llywodraeth.
Cwpl o faterion ar ynni. Yr un cyntaf: yn sicr mae ynni nad yw'n ddatganoledig yn y maniffesto diweddar. Ac wrth gwrs, byddwn ni, fel yr wyf wedi bod, yn weithgar wrth sicrhau bod Cymru'n gallu elwa ar y cyfleoedd yno, er heb effaith uniongyrchol ar benderfyniadau, oherwydd nad ydynt wedi'u datganoli. Ac ar y cynlluniau adnewyddadwy hynny, ble bynnag y byddant, mae'r gwahaniaeth o ran dull y Llywodraeth hon i'w weld yn y pwyslais clir iawn, iawn ar ble mae'r gymuned yn eistedd. Rydym o blaid cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Rwy'n gobeithio, fel egwyddor, bod hynny'n rhywbeth yr ydym i gyd yn gallu ei gefnogi. Fel y soniais yn gynharach, mae am resymau amgylcheddol, mae am resymau economaidd. Dylem fod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Ond yr hyn sydd ar goll, yn rhy aml, yn yr ystyriaethau yw'r effaith—negyddol yn yr angen am liniaru, a chadarnhaol, o ran perchnogaeth gymunedol ac ati—a all lifo o brosiectau ynni. Bydd hynny'n egwyddor graidd a fydd yn ein harwain ni fel Llywodraeth.
Ar y mater olaf, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ddweud—ac mae'n bwysig dweud—y bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod mesurau'n cael eu cymryd i ofalu am lesiant pobl, gan weithio gyda'r heddlu. Unwaith eto, heb ei ddatganoli. Mae angen cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol a phlismona yng Nghymru fel bod gennym fwy o ddealltwriaeth ynghylch y mesurau y gallwn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r materion a grybwyllwyd. Unwaith eto, mae'r lefel honno o ysgogi er mwyn cael yr offer sydd eu hangen arnom yn ein dwylo yn rhywbeth a fydd yn arwain y Llywodraeth hon bob amser.
O, ac a gaf i ddweud, wrth orffen, hefyd, un peth yn olaf? Ydw, rwy'n angerddol dros Gymru, ond rwy'n credu'n gryf hefyd nad yw angerdd dros Gymru yn fonopoli sydd gan Blaid Cymru. Rŵan, fe hoffwn i ddenu'r angerdd hwnnw o bawb sydd yma a throi'r angerdd hwnnw yn syniadau ynghylch sut y gallwn ni symud pethau ymlaen trwy ein Senedd er mwyn gwella bywydau holl bobl ein cenedl.
Diolch. Dwi'n rhoi llawer o latitude y prynhawn yma. Ond nawr, yn bwysig iawn, i'r Aelodau eraill, un funud, os gwelwch yn dda—un funud. Ac yn gyntaf, Zaynub Akbar.
Diolch, Lywydd. Mae teuluoedd ledled Caerdydd yn wynebu costau gofal plant cynyddol ar adeg pan fo gormod o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Ni ddylai rhieni gael eu gorfodi i ddewis rhwng gwaith a gofal plant fforddiadwy, ac mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae'r her hon yn arbennig o ddifrifol ar hyn o bryd ledled Caerdydd, lle mae 41.6 y cant o blant yn byw mewn amddifadedd incwm, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 38.7 y cant, sy'n tynnu sylw at raddfa'r angen yn ein cymunedau. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ehangu'r ddarpariaeth gofal plant a mynd i'r afael â thlodi plant unwaith ac am byth. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai buddsoddi mewn cynnig gofal plant cyffredinol yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi teuluoedd, rhoi hwb i gyflogaeth a rhoi dechrau teg i blant? A wnaiff amlinellu sut y bydd y manteision hynny'n cael eu cyflawni mewn cymunedau ledled Caerdydd, ac, yn wir, ledled Cymru gyfan? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu Zaynub Akbar i'r Senedd. Mae'n rhaid i mi fod yn arbennig o ofalus wrth ateb y cwestiwn hwn, gan eich bod wedi fy enwebu i fod yn Brif Weinidog. [Chwerthin.] Pwy a ŵyr? Efallai na fyddwn i yma, oni bai am Zaynub Akbar.
Ond rwy'n cytuno â chi yn gryf iawn. Nododd Plaid Cymru hwn, Lywydd, fel mater yr oeddem ni'n ei flaenoriaethu oherwydd y mae ei angen. Mae ei angen ar deuluoedd. Mae ei angen ar gymunedau. Byddwn yn edrych ar y cynnig gofal plant presennol i Gymru a rhaglenni gofal plant Dechrau'n Deg i ddysgu oddi wrthynt, oherwydd nid yw hon yn Llywodraeth sydd eisiau taflu popeth allan a dechrau eto. Lle mae arfer da, rydym ni'n adeiladu arno, felly rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi bod ar waith ac yn helpu i lunio, o'r hyn a ddysgwyd, sut olwg fydd ar ddyfodol gofal plant yng Nghymru. Ein ffocws yw ehangu mynediad, gan sicrhau bod y system yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel. Byddwn yn mabwysiadu dull graddol, cynaliadwy, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r sector, wrth gwrs, i greu capasiti a chynnal ansawdd, oherwydd rhaid i ehangu gofal plant fynd law yn llaw â chefnogi darparwyr a'r gweithlu, ac rydym yn gwybod, Lywydd, fod y galw am ofal plant yn cynyddu, gan adlewyrchu pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hyn i deuluoedd yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, fel yng ngweddill Cymru.
Fel rhywun sydd dod yn syth o swydd dysgu yn y dosbarth i'r Senedd, dwi'n gwybod pa mor bwysig yw athrawon i ddyfodol Cymru. Bob dydd, mae athrawon yn gwneud llawer mwy na dysgu. Maen nhw'n cefnogi pobl ifanc, yn helpu teuluoedd ac yn gweithio o dan bwysau mawr. Ond, fel y gwn i, mae llawer o athrawon heddiw yn wynebu straen, problemau ymddygiad gan ddisgyblion a llwyth gwaith cynyddol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cadw staff profiadol ac annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn. Felly, Brif Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a chefnogi athrawon yn y gweithle a sicrhau bod addysg yn yrfa ddeniadol yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, a dwi'n croesawu'r Aelod dros Fangor Conwy Môn i'r Senedd yma. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n meddwl, wastad, am y disgyblion a’r hyn rydyn ni am eu galluogi nhw i’w gyflawni, ond bob amser yn cyflawni i'r rheini sydd yn gefn iddyn nhw ac yn galluogi'r llwyddiant hwnnw. Dwi wedi bod yn ddisgybl ac yn rhiant, felly mae'r ochr disgyblion a'u lles nhw yn rhywbeth sydd yn fyw iawn i fi. Roedd fy nau riant i yn athrawon, a'r ddau ohonyn nhw'n llywyddion undeb athrawon, felly mae materion yn ymwneud â lles athrawon yn rhywbeth sydd wedi bod o fy nghwmpas i drwy gydol fy mywyd.
Rydyn ni wedi disgrifio gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru yn dyrchafu pwysigrwydd addysg eto o fewn y genedl yng Nghymru. Yn rhy aml mae addysg wedi cael ei adael i lithro, dwi'n meddwl, yn y rhestr o flaenoriaethau cenedlaethol. Wnaiff y Llywodraeth yma ddim caniatáu i hynny ddigwydd. Ac rydyn ni wedi sôn, onid ydyn, am y cynllun llythrennedd a rhifedd fydd yn galluogi disgyblion i gyrraedd eu potensial. Ond mae cefnogi athrawon, recriwtio rhagor o athrawon, sicrhau bod y proffesiwn yn ddeniadol, yn gwbl, gwbl angenrheidiol er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno. Heb athrawon da, fydd plant ddim yn llwyddo. Ac, yn gweithio efo'r Gweinidog Cabinet, mi wnawn ni'n siŵr, ym mhob modd rydyn ni'n gweithredu, fod athrawon yn deall bod hon yn Llywodraeth sydd ar eu hochor nhw.
Yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, ac mewn cymunedau ledled Cymru, dim ond yn ystod y tymor y mae staff cymorth ysgolion, sy'n gweithio'n galed, yn cael eu talu. Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i gorff negodi staff cymorth ysgolion, ac mae'r fframwaith hwnnw'n barod. Mae hyn i gyd yn ymwneud â thâl, gan arwain at gyflogau tecach, dod â bylchau cyflog cod post i ben; diogelwch swyddi, gwneud yn siŵr bod gan bobl gontractau cliriach, llai o rolau tymor byr; staff cymorth disgyblion, sicrhau bod hynny'n rhoi cyfle i ysgolion recriwtio a chadw'n well; sefydlogrwydd i blant; cydraddoldeb—oherwydd, wrth gwrs, mae 90 y cant o staff cymorth ysgolion yn fenywod—a byddai cyflog teg yn codi miloedd o deuluoedd allan o dlodi mewn gwaith. Felly, wrth i Gyngres yr Undebau Llafur gychwyn heddiw, gan alw am gytundeb gwell i weithwyr, a fydd y Prif Weinidog nawr yn ymrwymo i gyflawni hyn ar frys?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn ac, unwaith eto, croeso i'r ail Aelod o Gaerdydd Ffynnon Taf yma i'r Senedd.
Yn amlwg, mae'n bwysig bod gennym eiriolwyr yma dros weithlu'r sector cyhoeddus a'r gweithlu ehangach yng Nghymru, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelod, o ystyried ei chefndir hi, yn eiriolwr cryf dros weithwyr ym mhob man.
O ran staff cymorth ysgolion, mae'n amlwg bod hwn yn fater a amlygwyd gan ei phlaid, ac rwy'n credu y byddai pawb yn cydymdeimlo. O fy mhrofiad fy hun, yn fy nghyfnod mewn gwleidyddiaeth, gwelais bobl yn symud i ffwrdd o gyfnod pan oedd y cyflog hwnnw trwy gydol y flwyddyn i'r strwythurau newydd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw llygad ar sut rydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn wrth symud ymlaen, ond mae yna hefyd ffyrdd eraill y gallwn ddangos ein bod, fel Llywodraeth, yn cefnogi'r gweithlu ehangach hwnnw. Fe wnaethom sôn am athrawon, ond mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, cofio mai dim ond rhan o'r gweithlu hwnnw mewn ysgolion yw'r gweithlu addysgu ac, fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni fod, yn hollol gywir, yn chwilio am ffyrdd o ddangos y gefnogaeth honno mewn ffyrdd ymarferol.
Brif Weinidog, gwnaed blaenoriaethau pobl Ceredigion Penfro yn glir iawn yn ystod ymgyrch etholiadol y Senedd: maen nhw eisiau gweld eu gwasanaethau ysbyty lleol—hynny yw, llawdriniaeth gyffredinol argyfwng a'r uned strôc—yn aros yn ysbytai Llwynhelyg a Bronglais yn y drefn honno. Maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac atal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhag israddio a chanoli gwasanaethau ymhellach i ffwrdd o gymunedau yn y gorllewin.
Gwnaeth eich plaid hi'n glir bod dileu'r gwasanaethau hyn yn golygu amseroedd teithio hirach i bobl mewn angen brys, ac y byddai'n rhoi bywydau mewn perygl. O ystyried rhai o'r sylwadau a glywsom yn ystod yr ymgyrch etholiadol am sefyll dros ysbytai gwledig bach, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymyrryd ar frys i atal y bwrdd iechyd rhag cymryd gwasanaethau oddi wrth yr ysbytai hyn. Felly, Brif Weinidog, o ystyried yr ymrwymiadau a wnaed yn ystod yr ymgyrch etholiadol, a allwch chi gadarnhau ei bod yn parhau i fod yn fwriad eich plaid ac felly eich Llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg a Bronglais? Os felly, pryd fydd eich Llywodraeth yn ymyrryd i atal tynnu'r gwasanaethau hyn o'r ysbytai hyn?
Diolch am y cwestiwn, a chroeso yn ôl i'r Senedd. Bydd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn ymwybodol iawn, iawn o'r angen i wneud yn siŵr bod y cydbwysedd yn cael ei ddarganfod bob amser rhwng y cyflawni lleol mor lleol â phosibl, y mae pawb ei eisiau, a'r cyflawni effeithiol o ran iechyd yn gyffredinol. Rydym yn ymwybodol iawn o faterion penodol sy'n ymwneud ag ysbytai cyfagos, y rhai yn ein cymunedau, a byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Cabinet dros iechyd i sicrhau bod cydnabyddiaeth wirioneddol o'r pryderon o fewn cymunedau lleol. Mae'r un peth yn wir yn fy un i, mae'r un peth yn wir yn y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan bawb sy'n eistedd yma yn y Senedd hon. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud bob amser yw sicrhau bod y gwasanaethau lleol hynny'n cael eu diogelu a'n bod hefyd yn creu gwasanaeth iechyd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd fy Ngweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn mynd â'r mater hwnnw ymlaen.
Prynhawn da i chi, Brif Weinidog, a chroeso mawr i'r swydd hefyd. Diolch yn fawr iawn am osod allan y blaenoriaethau, a dwi'n eu croesawu nhw i gyd—
—yn enwedig yr un ar dlodi plant, yr ydym wedi'i grybwyll heddiw, a chostau byw, y GIG, gofal plant. Pan fyddwch chi'n symud gyda chyflymder a brys go iawn ar y materion hyn, fe welwch chi fy mod yn bartner adeiladol.
Rwyf eisiau siarad ar ran y rhai nad ydynt yn y Siambr heddiw: y bobl ifanc nad ydynt yn gallu gweld dyfodol iddyn nhw eu hunain yng Nghymru, y teuluoedd sy'n ofni agor eu biliau, a'r gofalwyr sy'n cadw system gofal cymdeithasol gyda'i gilydd a hynny heb lawer o gymorth. Ni wnaeth un pwynt dwy filiwn o bobl yng Nghymru bleidleisio 12 diwrnod yn ôl, nid oherwydd difaterwch, ond oherwydd eu bod wedi colli ffydd mewn system yma ym Mae Caerdydd nad yw'n gallu dod o hyd i ffordd i mewn i'w bywydau. Os ydym eisiau i bobl Cymru gredu y gall pethau fod yn wahanol, ac y gallwn ddweud wrthynt y bydd rhestrau aros y GIG yn wahanol ymhen dwy flynedd, y gallwn ddweud wrthynt y bydd tlodi plant yn cael ei leihau, y gallwn ddweud wrthynt pa gynnydd y gallwn ei wneud ar ddiwedd tymor y Senedd hon, yna mae angen targedau arnom, rhywbeth y gofynnodd llawer ohonom yn y Senedd ddiwethaf amdano. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, pryd y byddwch chi'n nodi'r targedau clir y bydd eich Llywodraeth yn eu gosod yn y meysydd allweddol hyn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, a chroeso yn ôl.
Pan fyddwn yn siarad am ein hawydd i gael ein dwyn i gyfrif, rydym eisiau darparu'r offer er mwyn helpu pobl i ddwyn ni i gyfrif. Rydym eisoes yn datblygu'r mathau o offer digidol a fydd yn ein galluogi ni i gyflwyno'r camau rydym ni'n eu cymryd ar ystod o faterion, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag iechyd a gofal. Mae rhywfaint ohono'n ymarferol, ond mae rhywfaint ohono'n golygu gweithio'n agos iawn, iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gosod targedau uchelgeisiol bob amser. Gallwn osod targedau hawdd heddiw, ond rydym eisiau gosod y targedau uchelgeisiol hynny, nid yn unig ar draws iechyd a gofal, ond pan fyddwn yn siarad am dlodi plant, pan fyddwn yn siarad am ein targedau ar gyfer cyflawniad addysgol. Byddwn yn cyflwyno manylion y dangosfyrddau digidol hynny a'r gwahanol ffyrdd o fesur ein cynnydd i'r Senedd hon, ac rydym yn hyderus y byddwch yn eu defnyddio'n gadarn i fesur sut rydym yn llwyddo.
Fel rhywun sydd â dim ond wythnos o brofiad, doeddwn i ddim wedi bwriadu siarad heddiw, ond o ystyried bod eraill yn rhagdybio eu bod yn siarad ar ran y Gwyrddion roeddwn i'n meddwl y dylwn ddweud ychydig eiriau. [Chwerthin.] Yn gyntaf, croeso i'r Prif Weinidog a'r Cabinet newydd, a'r datganiad rydych chi wedi'i gyflwyno heddiw. Roedd hwn yn etholiad hanesyddol—mae pobl wedi siarad am hynny—mae'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi newid, ac rwy'n falch iawn o'r rhan y mae Plaid Werdd Cymru wedi'i chwarae wrth fod yn rhan o'r newid hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr hon i fynd i'r afael â'r argyfyngau lluosog sy'n wynebu poblogaeth Cymru.
Fe wnaethom sefyll ar lwyfan clir yn yr etholiad hwn, llwyfan clir o bolisïau beiddgar i gyflawni dyfodol uchelgeisiol i bobl Cymru, i'r amgylchedd a dyfodol ein planed yma yng Nghymru. Rydym ni yma, Gwyrddion Cymru, i siarad ar ran tenantiaid sy'n talu rhenti na ellir eu fforddio am dai llaith, llawn llwydni. Rydym ni yma i siarad ar ran pobl mewn swyddi ansicr, sy'n gweithio mewn tair neu bedair swydd, sy'n dal yn methu â bwydo eu plant. Rydym ni yma ar gyfer y teuluoedd ifanc hynny sy'n cael trafferth gyda chostau gormodol gofal plant. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r—. A hefyd heb sôn am yr argyfwng natur a hinsawdd. A beth sy'n bwysig i ni yw gweithredoedd, nid geiriau.
Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru ac eraill yn y Siambr hon i gyflawni'r camau beiddgar hynny sydd eu hangen ar ein cymunedau. Roedd hwn yn etholiad o newid. Rhaid i newid fod yn fwy na gair. Ymhen pedair blynedd, mae'n rhaid i ni fod wedi cyflawni'r newid hwnnw i bobl Cymru a'r blaned. Diolch.
Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau yna, ac yn eich llongyfarch eto ar sicrhau presenoldeb i'ch plaid yma yn y Senedd am y tro cyntaf. Mae thema yma, yr wyf yn ei chroesawu'n fawr, o Aelodau yn nodi'r meysydd hynny y maent yn ceisio cydweithredu arnynt. Mae hwnnw'n lle da iawn i ddechrau, boed ar yr hawl honno i gartref, sy'n bwysig iawn, iawn i ni, p'un a yw'n ehangu prydau ysgol am ddim, sy'n bwysig i adeiladu ar waith y Llywodraeth ddiwethaf, a gyflawnwyd mewn cydweithrediad â fy mhlaid i, boed ar yr argyfwng natur a hinsawdd, ar y defnydd effeithiol o gyllid, ar y GIG, ar afonydd glân. Rydym eisoes yn gweld y sail y gallwn ffurfio llwyfannau ar gyfer cydweithredu arni, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu'r berthynas honno yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Mae economi Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gyda Chymru yn agos at waelod tablau cynghrair y Deyrnas Unedig ar fesurau fel gwerth ychwanegol gros y pen, cynhyrchiant, cyfraddau cyflogaeth ac incwm gwario. Yn fy etholaeth i, Gwynedd Maldwyn, mae'r dangosyddion hyn hyd yn oed yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae gormod o bobl ifanc yn parhau i fod allan o waith, addysg neu hyfforddiant. Rwy'n gwybod y bydd fy etholwyr yn elwa o ffocws o'r newydd ar dwf economaidd drwy greu asiantaeth ddatblygu newydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai pobl ym mhob rhan o Gymru, trefol a gwledig fel ei gilydd, ddisgwyl yr un cyfleoedd o ran swyddi a chyflog da a sgiliau uchel? Ac a all e amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y buddion hynny yn cael eu teimlo ar draws pob cymuned?
Ie, y geiriau pwysig yn fanna ydy 'pob rhan', 'pob cymuned', ac mae honno'n egwyddor rydyn ni wedi ceisio ei gwneud hi'n glir sydd yn mynd i fod yn bwysig iawn i ni. Mae'n rhaid i bobl ym mhob rhan o Gymru, pa un ai ym Maldwyn wledig neu yn ein dinasoedd ni, yn y Cymoedd, mewn pentrefi a threfi ledled y wlad, mae'n rhaid i bobl deimlo bod ganddyn nhw fynediad at yr un cyfleon am swyddi da wedi eu talu'n dda. Rydyn ni wedi dechrau gweithio'n barod o fewn y cynllun 100 diwrnod. Rydyn ni'n cymryd camau buan iawn i drio datgloi potensial economaidd Cymru: cefnogi busnesau wedi'u perchnogi yng Nghymru, gosod sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy mewn blynyddoedd i ddod.
Rydyn ni'n gwybod bod economi Cymru wedi tanberfformio yn erbyn cymaint o fesurau dros y blynyddoedd—GVA, lefelau incwm, lefelau cynhyrchiant, ac ati. Pan fydd rhywun yn gweld wedyn cymunedau penodol, yn cynnwys rhai gwledig, yn dioddef yn arbennig, a'r problemau yn fwy dwys, mae hynny yn fy ngyrru i ymhellach i drio rhoi camau mewn lle i ymateb, ac, ydy, mae'r asiantaeth ddatblygu newydd yma wrth graidd hynny. Dwi wedi bod yn eithaf meddwl agored ynglŷn â manylder sut y gallai'r corff hwn weithio. Mae'r gwaith yn dechrau ar unwaith o osod y cylch gorchwyl, ond mae yna un peth dwi wedi mynnu o'r dechrau, bod yn rhaid i'r syniad o effaith gyfartal ar draws Cymru fod yn egwyddor gwbl, gwbl sylfaenol i'r holl waith y mae o'n ei wneud.
Diolch am y datganiad heddiw gan y Prif Weinidog, a llongyfarchiadau ar eich penodiad. Dymunwn yn dda i chi.
Hoffwn sôn am y broblem amlwg sydd wedi'i hanwybyddu ymhlith Aelodau Plaid Cymru yn yr ystafell heddiw. Dywedodd un o'ch ASau, sydd bellach wedi'i hethol i'r Senedd, o'r blaen ei bod hi'n casáu'r Saeson, ac rwy'n dyfynnu,
'fel hil, fel pobl, fel gwlad'.
Ydych chi'n cefnogi'r sylwadau hyn, a beth ydych chi a'ch plaid yn mynd i'w wneud i sicrhau bod y teimlad gwrth-Seisnig, senoffobig hwn yn cael ei ddileu? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, a chroeso i'r Senedd. Rwy'n credu y gallai gwersi ar eironi fod yn ddefnyddiol hefyd. Mae'r Aelod dan sylw yn dod o gefndir Saesnig ei hun, ac mae'r erthygl rwy'n meddwl eich bod chi'n cyfeirio ati wedi'i hysgrifennu o'r safbwynt hwnnw, yn esbonio natur chwerthinllyd elfennau o'r drafodaeth am hunaniaeth. Byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr eich bod chi'n gallu cael mynediad at yr eglurhad hwnnw a wnaeth hi, fel rhywun sy'n dod o gefndir Seisnig, ac rwy'n credu ei bod wedi'i geni yn Lloegr.
Rwyf o ran natur yn arweinydd ac yn wleidydd sy'n credu mewn chwilio am yr elfennau hynny sy'n dod â ni at ein gilydd, gan geisio'r gwerthoedd hynny o oddefgarwch a dealltwriaeth o'n gilydd a all ein gwneud ni'n gryfach. Nawr, rwy'n deall bod gwleidyddiaeth yn rhwystro hynny weithiau, ond rwy'n annog pawb i ymuno â mi yn yr ysbryd hwnnw wrth i ni gychwyn ar waith y seithfed Senedd.
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i chi yn eich swydd newydd, Brif Weinidog. O’m rhan i, mae’n fraint ac yn anrhydedd o'r mwyaf i gael sefyll yma yn cynrychioli Caerdydd a Phenarth. O draethau Sblot a Phenarth i gopa’r Garth, o waith dur Tremorfa i swyddfeydd canol y ddinas, ac o Stadiwm Cardiff City i Ganolfan Mileniwm Cymru, mae'r etholaeth hon, dwi'n credu, yn cyfuno'r gorau o brydferthwch naturiol, diwylliant a diwydiant Cymru.
Ac eto, mae tlodi ac anghydraddoldeb yn parhau yn y cymunedau hyn, nid oes unman yn fwy amlwg felly nag ym maes tai, a chefais fy synnu nad oedd unrhyw sôn yn eich datganiad am yr angen i adeiladu cartrefi newydd. Mae cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn mynd ar drywydd rhaglenni beiddgar i adeiladu tai cyngor, ond nid yw eu huchelgais i'w gweld ym maniffesto Plaid Cymru, y mae ei thargedau ymhell yn is na'r hyn sydd ei angen, ac yn wir yn achos Caerdydd, yr hyn sydd eisoes ar y gweill. Beth, Brif Weinidog, sydd y tu ôl i ddiffyg uchelgais Plaid Cymru yn y maes hwn? A ydych chi'n bwriadu cwtogi'r grant tai cymdeithasol efallai, neu a ydych chi'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid yn unol â chwyddiant adeiladu, fel y gall cynghorau a chymdeithasau tai ledled Cymru fynd ymlaen a darparu'r cartrefi sydd eu hangen ar ein pobl? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, a gaf i groesawu'r Aelod i'r Senedd? Ydy, mae o'n cynrychioli rhan hyfryd o'r brifddinas hyfryd dwi mor falch ohoni, a da cael crybwyll Stadiwm Dinas Caerdydd i mewn hefyd, er y bydd cael amser i fynd yno, mae'n debyg, yn eithaf anodd.
Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y tlodi, ac mae tai annigonol yn un o'r etifeddiaethau hynny a ddaeth yn sgil 27 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ôl pob tebyg wedi rhoi cymaint o waith ymchwil a chynllunio polisi iddo ag mewn unrhyw faes pwnc arall yn y cyfnod cyn yr etholiad diweddar. Y targedau—ie, wyddoch chi beth? Mae'n debyg y byddwn i'n hoffi cael targedau mwy uchelgeisiol, ond wrth wthio terfynau'r hyn y gallwn ei wneud, rydych chi hefyd yn edrych ar yr hyn sy'n gyflawnadwy. Maen nhw'n fwy uchelgeisiol na thargedau'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf, wrth gwrs, wrth geisio gwneud, o fewn tymor pedair blynedd yr hyn yr oedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ond yn gallu ei wneud mewn pump. Felly, rydym yn gosod lefel uchel o uchelgais yma, ac rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu'r stoc dai y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Brif Weinidog, a gaf eich llongyfarch ar eich penodiad, a'ch holl gyd-Aelodau yn y Cabinet? Rwy'n dymuno'n dda i chi wrth i chi gyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen arnom yn y wlad hon. Er bod llawer o'ch ymrwymiadau maniffesto yn ganmoladwy, rwy'n credu y bydd gan bob un ohonom gwestiynau difrifol, fel yr ydym eisoes wedi clywed, ynglŷn â sut y byddwch chi'n eu hariannu, mewn refeniw ac yn nhermau cyfalaf. Dywedoch chi eu bod nhw'n gyraeddadwy, ond mae eich ymrwymiadau yn dibynnu mewn sawl ffordd ar weithredu gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â datganoli pwerau pellach—rhywbeth y mae'n ymddangos eu bod yn diystyru ym mhob agwedd. Yn amlwg, bydd eich ymrwymiadau yn gofyn am effeithlonrwydd, toriadau i wasanaethau cyhoeddus neu gynnydd mewn trethiant. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrth bobl Cymru heddiw beth y gallant ei ddisgwyl? Ai toriadau i wasanaethau, ai effeithlonrwydd dwfn, neu ai chynnydd mewn trethi a ddisgwylir?
Croesawaf yr Aelod yn ôl i'r Senedd. Fe wnaethoch chi ddechrau'n dda iawn: mae llawer o ymrwymiadau maniffesto yn ganmoladwy. Rwy'n gwerthfawrogi bod yna elfennau o'r rhaglen lywodraethu y mae Aelodau ar draws y Senedd hon wedi dweud eu bod yn awyddus i weithio gyda ni arnyn nhw.
Bydd llawer o linynnau i'n dull gweithredu. Mae datganoli pwerau pellach yn rhoi'r offer i ni wneud y gwaith. Eisoes, rydw i wedi siarad â Phrif Weinidog y DU am fwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny. Mae'r rhain yn bethau y mae angen i ni eu gwneud. Disgrifiodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y lleiafswm o fesurau moel oedd eu hangen i ddiogelu'r hyn sydd gennym. Mae gofyn am ddatganoli plismona yn datgan yr amlwg i ni fel cenedl ar adeg pan fo'r Swyddfa Gartref wedi cychwyn ar yr adolygiad mwyaf o blismona yn y DU ers 200 mlynedd. Gadewch i ni wneud hwn; gadewch i ni ddefnyddio'r cyfle hwn. Yn hytrach na darnau, rhowch i ni—. Roedd mesur i'w groesawu yr wythnos hon ar gyfiawnder ieuenctid, er enghraifft. Gadewch i ni edrych ar y cyfan o'r hyn y gallwn ei gyflawni pe bai gennym y pwerau.
O ran cost y rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, mae'r gyllideb ei hun yn fynegiant, mewn rhifau, o beth yw'r rhaglen honno. Rydym wedi gosod y rhaglen honno. Mae i fyny i chi ein dwyn i gyfrif amdano. Rydym wedi dod i'r casgliad, ar ôl meddwl yn ofalus iawn, cynllunio a dadansoddi annibynnol, bod hyn yn gyflawnadwy. Eich swydd chi yw ein dwyn i gyfrif amdano. Rwyf wedi ei gwneud yn glir na fydd cynnydd yn y dreth incwm, er enghraifft, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd yn y dreth a gymerir oherwydd llwyddiant cynyddol economi Cymru. Mae'n rhaid i ni edrych ar y rhain o wahanol onglau. Toriadau? Na. Ail-flaenoriaethu? Ie. Toriadau i'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn eu mwynhau? Na. Darparu gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithiol? Ie. Felly, cofiwch ein dwyn ni i gyfrif. Craffu ar y camau rydym ni'n eu cymryd. Mae gennym bedair blynedd i gyflwyno rhaglen yr ydym yn credu y gall ddechrau trawsnewid Cymru.
Mae'r etholiad diweddar wedi dangos bod pobl yng Nghymru eisiau llywodraeth sy'n sefyll yn hyderus ac yn gyson dros ein cenedl. Mae etholaethau fel fy un i yn Fflint Wrecsam eisiau cydweithrediad adeiladol ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU. Rydym yn gwybod bod hynny'n hanfodol i gyflawni ar gyfer ein cymunedau lleol. Yn wahanol i Lywodraethau Cymru blaenorol sydd, ar adegau, wedi trin sefyll dros Gymru fel ychwanegiad, gwn fod fy etholwyr yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i fod yn ddi-baid wrth sefyll dros Gymru, gan gynnwys herio San Steffan pan fo angen, gan hefyd adeiladu perthnasoedd gwaith cryf ac adeiladol. A wnaiff y Prif Weinidog nodi sut y bydd y Llywodraeth hon yn cyflawni'r dull hwnnw yn ymarferol, gan sicrhau bod Cymru'n sicrhau cyllid teg, cynnydd ar y rheilffyrdd a'r pwerau sydd eu hangen arnom, gan gynnal partneriaeth gynhyrchiol â Llywodraeth y DU? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, a chroeso yma i'r Senedd.
Mae'r berthynas honno yn bwysig iawn i ni. O ddydd i ddydd, mae cysylltiadau trawsffiniol yn bwysig iawn mewn etholaeth fel un yr Aelod, ond bydd y berthynas honno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn allweddol. Mae sefyll dros Gymru yn hynny o beth bob amser wedi bod, a bydd bob amser, wrth wraidd fy mlaenoriaethau a'r hyn yr wyf wedi addo ei wneud: sefyll dros Gymru a bod yn hyrwyddwr dros Gymru yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU fel erioed o'r blaen.
O ran sut mae hynny'n gweithio, mae'n gweithio mewn llawer o wahanol ffyrdd. Roedd ein maniffesto yn glir bod Cymru ar daith gyfansoddiadol ac y byddwn yn mynd ar drywydd datganoli pwerau pellach yn ystod tymor y Senedd hon, gyda'r camau eisoes wedi'u cymryd mewn sgyrsiau cychwynnol gyda'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'r ffocws uniongyrchol ar welliannau ymarferol trwy bwerau ychwanegol, gan gynnwys meysydd fel seilwaith rheilffyrdd, cyfiawnder ac ynni. Rydym yn edrych yr wythnos hon ar ffigurau newydd unwaith eto wedi'u diwygio i fyny ar gyfer cost HS2. Mae hynny'n adolygu'r anghyfiawnder i Gymru yn sgil colli'r biliynau o bunnau a allai drawsnewid ein seilwaith a'r cynhyrchiant a'r enillion cymdeithasol a allai ddeillio o hynny. Rydym ni'n mynd â'r dadleuon hynny ymlaen. Maen nhw'n ddadleuon dros gyfiawnder y dylai pob un ohonom allu uno y tu ôl iddynt.
Ein dull ni yw symud ymlaen trwy bartneriaeth a chydweithio, lle bo hynny'n bosibl, a pharhau bob amser i hyrwyddo ein huchelgeisiau cyfansoddiadol hirdymor, ond gweithio ar hyn o bryd ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Mae'r cywair yn bwysig—y cywair cynhyrchiol, cydweithredol hwnnw. Mae'n ymwneud â dod o hyd i dir cyffredin. Rydym ni wedi siarad amdano yma yng nghyd-destun y Senedd hon. Rydym ni eisiau'r tir cyffredin hwnnw, lle gallwn ddod o hyd iddo, gyda Llywodraeth y DU. Mae'n werth ein hatgoffa ein hunain bod mwyafrif o fewn y Senedd hon o blaid datganoli ehangach. Dylai pob un ohonom sydd o'r farn honno roi ein pwysau y tu ôl i hyn.
Yn gyllidol ac yn ariannol, wrth gwrs, mae Cymru yn cael ei dal yn ôl oherwydd y fformiwla ariannu annheg honno yn ei chyfanrwydd. Nid yw'n ymwneud â Barnett yn unig y dyddiau hyn. Mae hynny'n dal i fod yn rhan ohono, ond mae'n ymwneud â sut rydych chi'n dod â chyllid rheilffyrdd i mewn iddo, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym fwy o hyblygrwydd treth fel y gallwn adeiladu system dreth sy'n gweithio i Gymru, fel y gallwn wneud y system drethi yn decach ac yn fwy blaengar. Ac, wrth gwrs, rydym eisiau gweld dileu cyfyngiadau diangen o du'r Trysorlys ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn a chwmpas i fenthyca, ac ati. Felly, mae'n ddull amlochrog a fydd yn symud orau pan fyddwn yn siarad mor uchel ag y gallwn ac mor unedig ag y gallwn fel Senedd.
Brif Weinidog, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, codwyd nifer o faterion gan fy etholwyr. Un o'r materion amlycaf oedd Bute Energy a Green GEN Cymru yn diwydiannu canolbarth Cymru gyda'u peilonau a'u tyrbinau. Mae nifer o'ch ymgeiswyr, rhai ohonynt yn eistedd yma, a Gweinidogion eich Llywodraeth eich hun, wedi tynnu sylw at y cynigion hyn a dweud bod angen eu hatal. Felly, a wnewch chi gymryd y cyfle heddiw i ddweud y bydd eich Llywodraeth yn gwrthod ceisiadau cynllunio sydd wedi eu cyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PCAC) ar hyn o bryd? Fe wnaethoch chi ddweud, os yw'n dderbyniol gan y gymuned, byddwch chi'n gwrando arnyn nhw. Dywedodd y gymuned yn gryf iawn—yr ymateb mwyaf a gafodd PCAC erioed i gais cynllunio—nad oedd ei angen. Felly, gobeithio, byddwch chi'n manteisio ar y cyfle hwnnw heddiw i ddweud y bydd y cais hwnnw'n cael ei wrthod.
Yr ail fater oedd gofal trawsffiniol a gofal fy etholwyr mewn rhannau o Bowys yn cael ei ohirio yn Lloegr oherwydd nad oedd y bwrdd iechyd yn gallu bodloni'r gofynion cyllido i dalu am y llawdriniaethau hynny. Dywedodd eich ymgeiswyr eto eu bod yn cefnogi galwadau a wnes i a phobl eraill—cyn-Aelodau fel Russell George—i wneud yn siŵr y gallwn gael y gofal sydd ei angen ar bobl. Felly, a wnewch chi gymryd y cyfle heddiw, Brif Weinidog, i amlinellu eich bod yn sefyll gyda'r cymunedau hynny yn eu brwydr yn erbyn peilonau a thyrbinau, ac i wneud yn siŵr bod ein pobl yn cael y gofal hwnnw yn Lloegr pan fydd ei angen arnynt? Ni ddylid oedi oherwydd na allwn fodloni'r gofynion cyllido sydd eu hangen ar bobl er mwyn cael eu llawdriniaethau.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod, ac yn ei groesawu yn ôl i'r Senedd. O ran gofal trawsffiniol, mae'n amlwg bod yr etholaeth a gynrychiolir gan yr Aelod mewn—. Nid yw'n unigryw, ond mae'r etholaethau hynny mewn sefyllfa unigryw, a chafwyd sgyrsiau eisoes yn ystod yr etholiad gyda fy Ngweinidog Cabinet dros iechyd erbyn hyn i wneud yn siŵr ein bod yn creu tirwedd iechyd fwy cadarn i wasanaethu pobl Powys sy'n derbyn gofal iechyd ar draws y ffin.
Ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, mae pobl yn awgrymu moratoria neu wrthodiadau cyffredinol o ran cynllunio ac ati. Nid wyf yn credu mai dyna'r dull cywir, oherwydd rydych chi'n ymdrin â nhw fesul achos. Ond hefyd, mae yna egwyddorion wrth wraidd yr hyn rwy'n credu sy'n ddull pwysig o ddatblygu cynlluniau ynni, a hynny yw, fel y soniais i yn gynharach, rhoi'r gymuned wrth wraidd penderfyniadau. Mae hynny'n golygu datblygu cynhyrchu a throsglwyddo. Ond gall agweddau newid o fewn cymunedau pan fydd pobl yn deall pa fuddion all lifo ohonynt. Byddant yn amrywio o brosiect i brosiect. Rydw i wedi edrych ar solar a gwynt ac ar y môr. Bydd gan bob un ei gymeriad ei hun. Mae'n ymwneud â rhoi wrth wraidd polisi yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth mae cymuned yn dymuno ei gael, pa fuddion y gall ddod i gymuned. Gallai fod yn ynni rhatach, gallai fod yn berchnogaeth, gallai fod yn llu o faterion. Ond mae cymryd yr ymagwedd wirioneddol gymunedol honno at ynni yn ein rhoi mewn sefyllfa wahanol i ble rydym ni wedi bod hyd yn hyn.
Diolch, Brif Weinidog, am nodi eich blaenoriaethau heddiw. Brif Weinidog, bydd pobl ledled Cymru yn gofyn un cwestiwn syml heddiw: 'Ble mae'r brys?' Rydych chi wedi etifeddu gwasanaeth iechyd mewn argyfwng. Rydym eisoes yn gwybod beth yw maint y methiant ar ôl 27 mlynedd o dargedau wedi'u colli, adolygiadau diddiwedd a chanlyniadau'n gwaethygu. Ochr yn ochr â'r argyfwng yn y GIG, mae system arall o dan bwysau enfawr, a hynny yw gofal cymdeithasol. Dylai gofal cymdeithasol da fod yn drawsnewidiol, gan alluogi pobl i fyw gydag urddas, cynnal annibyniaeth, a mwynhau ansawdd bywyd gwell. Mae hyn yn bwysig oherwydd ni all iechyd a gofal cymdeithasol weithredu heb ymwneud ag eraill. Mae angen integreiddio priodol rhwng y ddau ohonynt.
Brif Weinidog, nid oes angen adolygiadau ac uwchgynadleddau diddiwedd ar bobl Cymru. Mae angen Llywodraeth sydd o'r diwedd yn barod i gyflawni. Ar ôl 27 mlynedd o annhyfiant, ni all Cymru fforddio mwy o oedi wedi'i wisgo fel strategaeth. Oherwydd tra bod Llywodraethau'n mynd a dod, mae dioddefaint cleifion, teuluoedd, gofalwyr, busnesau a thrigolion ledled Cymru yn parhau, ac mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Fe ddywedoch chi yn ystod yr ymgyrch etholiadol fod Plaid Cymru yn barod i gyflawni cynnydd ar ôl blynyddoedd o annhyfiant. Nid wyf wedi clywed unwaith am unrhyw brosiectau adeiladu ffyrdd yr ydych yn bwriadu eu cyflwyno yn y tymor hwn. Rydych chi'n gwybod bod Natasha Asghar yn hoffi ffyrdd. Felly, hoffwn wybod a ydych chi'n bwriadu cyflawni ffordd liniaru ddi-doll yr M4, yr wyf i, gyda fy mhlaid, wedi bod yn gofyn amdani ers cryn amser. Brif Weinidog, mae'r areithiau bellach drosodd, mae'r sloganau ymgyrchu wedi dod i ben, ac mae'r cyfrifoldeb bellach ar eich ysgwyddau. Mae pob llygad arnoch chi a'ch tîm, a bydd pobl Cymru yn eich barnu nid ar eich addewidion, ond ar eich canlyniadau.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn ac rwy'n croesawu'r Aelod yn ôl. Dydw i ddim yn siŵr y gallem weithredu gyda llawer mwy o frys nag yr ydym wedi bod yn ceisio ei wneud. Rydym ni yma yn ein hail gyfarfod yn y Senedd, gyda llai na phythefnos ers yr etholiad. Mae gennym Gabinet ar waith. Mae gennym y gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar y cynllun 100 diwrnod. Mae ein llygaid ar gyflawni'r cynllun 100 diwrnod hwnnw, a'n llygaid ar raglen bedair blynedd ar gyfer llywodraeth a chredaf y gall ddechrau trawsnewid Cymru. Mae gennym Weinidog a fydd yn edrych yn benodol ar ofal cymdeithasol, yn edrych ar yr agenda integreiddio honno, gan sicrhau ein bod yn ceisio datblygu'r meddwl cydgysylltiedig hwnnw sydd ei angen arnom er mwyn creu cynaliadwyedd ar draws y dirwedd iechyd a gofal. Mae gennym ddau Weinidog yn gweithio gyda'i gilydd ar yr agenda cysylltedd. Rydym yn benderfynol o edrych yn ei gyfanrwydd ar sut rydym yn cyflawni'r cysylltedd hwnnw—ar reilffordd, ar fws, ar y ffordd—i wneud yn siŵr bod ein heconomi a'n cymunedau yn cael eu gwasanaethu'n dda gan y Llywodraeth hon.
Beth yw'r gair am penultimate yn Gymraeg? Laura Anne Jones.
Diolch. Yn gyntaf, Brif Weinidog, llongyfarchiadau. Rwy'n siŵr bod pob person yn y Siambr hon eisiau i chi wneud yn dda er mwyn ein gwlad. Fodd bynnag, mae gen i amheuon enfawr ynghylch p'un a allwch chi gyflawni'r canlyniadau gorau i Gymru gyda'r llwybr rydych chi'n ei gymryd.
O ran amaethyddiaeth, beth mae'r teitl 'Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig' yn ei olygu mewn gwirionedd? Mae'r ffermwyr yn fy etholaeth newydd i, sef Sir Fynwy Torfaen, yn bryderus iawn nad oes sôn am ffermio, dim sôn am amaethyddiaeth, ac mae hynny'n bwysig, ynghyd â'r ffaith nad oedd amaethyddiaeth hyd yn oed wedi'i grybwyll yn eich chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer y llywodraeth ddoe, neu heddiw yn eich araith 1,387 o eiriau, dim sôn, yn wahanol i Reform, y bydd amaethyddiaeth bob amser yn brif flaenoriaeth iddyn nhw. Rwy'n gweddïo nad yw hyn yn arwydd o'ch gwir fwriadau.
Brif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i'r Siambr a ffermwyr ledled Cymru y byddwch chi'n gwrando arnynt, y byddwch chi'n torri biwrocratiaeth, ac y byddwch chi'n canolbwyntio polisi ar yr hyn y mae ffermwyr yn ei wneud orau, a hynny yw bwydo ein cenedl, yn hytrach na gadael i amaethyddiaeth farw ar allor dogma sero net a thargedau amgylcheddol afrealistig? Roedd yn swnio nawr fel pe bai newid hinsawdd yn brif flaenoriaeth i'ch Gweinidog yma, ac amaethyddiaeth yn ôl-ystyriaeth yn unig. Onid ydych chi'n cytuno â Reform bod ffermio ac amaethyddiaeth yn haeddu bod yn brif flaenoriaethau i unrhyw Lywodraeth Cymru?
Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn ac rwy'n croesawu'r Aelod yn ôl. O, chwi o ychydig ffydd, fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hi'n gofyn, 'Beth mae gwydnwch a chynaliadwyedd gwledig yn ei olygu?' Mae'n golygu gwydnwch Cymru wledig a chynaliadwyedd. Nid wyf yn siŵr y dylwn dynnu sylw at y ffaith letchwith nad yw eich plaid wedi sôn am iechyd fel blaenoriaeth yn eich rhaglen lywodraethu. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod Plaid Cymru yn blaid sydd bob amser wedi hyrwyddo amaethyddiaeth a Chymru wledig a chynaliadwyedd ein hamgylchedd. Rwy'n gwybod, gan weithio gyda'n gilydd, y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar sector amaethyddol cryf, gwydn er mwyn adeiladu gwydnwch yn ein sector bwyd a diod, a'n bod yn adeiladu diogeledd bwyd mewn ffordd wydn. Ydw i'n dechrau torri drwodd? Dyma beth mae gwydnwch gwledig yn ei olygu, ac rwy'n credu ei fod wedi'i ddisgrifio'n dda iawn yn y rôl sydd bellach yn cael ei chymryd gan Llŷr Gruffydd. Mae gennym yma dîm Llywodraeth sydd nid yn unig yn cwmpasu'r seiliau ond sy'n gosod sylfeini ar gyfer symud agendâu ymlaen, boed hynny ar amaethyddiaeth neu ar yr amgylchedd neu ar iechyd a'r holl faterion hynny sy'n bwysig i bobl Cymru.
Ac yn olaf heddiw, Brif Weinidog, galwaf ar Sara Crowley.
Diolch, Lywydd. Gadawodd hanes Llywodraethau Llafur blaenorol ormod o bobl ledled Cymru yn aros yn rhy hir am driniaeth, ac, yng Nghwm Taf Morgannwg, mae gormod o gleifion yn parhau i wynebu oedi hir ar gyfer apwyntiadau a gofal. Mae fy etholwyr ledled Pontypridd Cynon Merthyr angen GIG sy'n canolbwyntio nid yn unig ar leihau rhestrau aros, ond ar ddarparu diagnosisau cyflymach a chanlyniadau gwell i gleifion. Gwn y byddant yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddiwygio sut mae gofal dewisol yn cael ei ddarparu a gwella canlyniadau canser ledled Cymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd mesurau fel canolfannau gofal dewisol pwrpasol, diagnosteg gyflymach a mwy o ddefnydd o teleiechyd yn helpu i leihau amseroedd aros a gwella gofal cleifion mewn cymunedau a wasanaethir gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu Aelod newydd arall yma heddiw. Nawr, o dan ein cynllun 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cynnull grŵp gorchwyl a gorffen gofal dewisol, sy'n cynnwys arbenigwyr perthnasol. Byddant yn gyfrifol am ddatblygu cynllun cyflawni ar gyfer sefydlu hyd at 10 canolfan gofal dewisol newydd ledled Cymru. Mae'n ymwneud â thrawsnewid y dull a gwella'r profiad i gleifion yng Nghymru, ac mae'n ymwneud â chefnogi timau clinigol. Buom yn siarad am gefnogi athrawon yn gynharach mewn perthynas â gwella addysg. Byddwn yn Llywodraeth sy'n deall yn iawn yr angen i gefnogi ein timau clinigol.
O ran canser, rydym wedi gwneud ymrwymiad yn y maniffesto i gyflwyno cynllun canser cenedlaethol—hirddisgwyliedig—ac mae'r gwaith ar hyn wedi'i gynnwys yn y cynllun 100 diwrnod ar gyfer y Llywodraeth. Mae gwaith paratoi eisoes ar y gweill i fwrw ymlaen â hynny, i osod blaenoriaethau ar gyfer y GIG yng Nghymru, a byddwn yn estyn allan at randdeiliaid i glywed eu barn ar yr adeg briodol. Yn y cyfamser, mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi'r GIG yng Nghymru i wella perfformiad amser aros canser ac i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn mynediad ledled Cymru, ac mae'n rhaid i ni wneud mynediad yn fwy cyfartal.
Teleiechyd—yn hollol ie. Rydym yn benderfynol o fanteisio mwy ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Ac o ran atal, yn olaf, mae gormod o fywydau yng Nghymru yn cael eu torri'n fyr oherwydd salwch y gellir ei atal, ac rydym yn bwriadu mabwysiadu dull trawslywodraethol o atal salwch, gan gydnabod pwysigrwydd amodau byw da, cefnogi amgylcheddau blynyddoedd cynnar, ysgogyddion diwylliannol ac economaidd, ac ati. Gan fynd yn ôl at gwestiwn a godwyd yn gynharach ac na wnes i ymateb iddo, does dim awgrym o gymryd arian o iechyd i'w roi tuag at ddiwylliant. Mae'n ymwneud â meddwl yn gyffredinol am sut mae gweithredoedd trawsbynciol gan y Llywodraeth yn effeithio ar ei gilydd. 'Mae rôl ataliol ym maes iechyd ar gyfer diwylliant' yw'r dull rydym ni'n ei fabwysiadu. Os nad ydym yn blaenoriaethu atal salwch y gellir ei osgoi, bydd pwysau ar y GIG yn gwaethygu, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gallwn fod yn sicr o hynny, gan y bydd pwysau yn y dyfodol yn dwysáu, yn enwedig ar gyfer cyflyrau lluosog, hirdymor fel canser, eiddilwch, diabetes a chyflyrau cardiofasgwlaidd. Rydym ni'n barod ar gyfer y dasg.
Diolch, Brif Weinidog, a diolch, bawb, hefyd.
Byddaf yn ceisio fy ngorau yma i wneud yn siŵr fy mod yn galw cymaint o bobl ag y gallaf—y siaradwyr meinciau blaen, o bob plaid, a hefyd cymaint o'r rhai ar y meinciau cefn ag y gallaf. Dydyn ni ddim wedi llwyddo heddiw, ond rydym ni wedi cael ychydig o gwestiynau. Felly, diolch yn fawr am gadw eich cwestiynau yn gryno, a'ch atebion yn gryno hefyd, wrth fynd i mewn i'r manylion sydd eu hangen.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Dyddiad y Cyfarfod Llawn nesaf fydd 2 Mehefin. Diolch i bawb.
Mwynhewch y toriad. Hwyl.
Daeth y cyfarfod i ben am 14:50.