Y Cyfarfod Llawn
Plenary
24/02/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, ac i gyfarfod cyntaf y Senedd yma yn y Siambr newydd. Hon yw'r Siambr a fydd yn gartref i ddemocratiaeth Cymru am y ganrif a mwy nesaf. Chi, Aelodau, yw'r Aelodau a gymerodd y penderfyniad i ddiwygio ein Senedd a'i phwrpasu ar gyfer Cymru yr unfed ganrif ar hugain, felly mi oeddwn i yn benderfynol taw chi, Aelodau, ddylai fod y rhai cyntaf i gymryd eich sedd yn y Siambr newydd hon.
Rhoddwyd terfyn amser cadarn i'n staff a'n contractwyr yr wythnos hon i'r Siambr hon fod yn weithredol, ac, ar ran pob un ohonom ni, hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am wneud yr ymdrech ychwanegol honno i gyflawni'r terfyn amser hwnnw. Penseiri gwreiddiol y Senedd, Rogers Stirk Harbour, oedd y penseiri. Cwmni o Gymru oedd y prif gontractwr adeiladu—BBI Group o Aberhonddu—ac roedd yr holl isgontractwyr yn gwmnïau o Gymru. Roedd ein prif gyflenwyr deunyddiau adeiladu yn amrywio o gwmnïau o Gasnewydd i Flaenau Ffestiniog. Nid y gwaith adeiladu yw'r stori gyfan, wrth gwrs; mae hefyd yn ymwneud â'r gwaith rheoli prosiect a gosod TG. Diolch i bawb a oedd yn rhan o hynny. Rydym ni wedi gallu mynd i'r afael â rhai o'r cyfaddawdau dylunio 20 mlynedd yn ôl. Mae pob rhan o'r Siambr hon yn hygyrch bellach heb ddefnyddio grisiau mecanyddol. Rydym ni hefyd wedi gallu diogelu ein capasiti TG ar gyfer y dyfodol.
Agorwyd adeilad y Senedd ei hun yn swyddogol union 20 mlynedd yn ôl yr wythnos hon. Wrth i mi eistedd yma, rwy'n cael fy atgoffa o'm sgwrs olaf gyda'r diweddar Frenhines wrth iddi agor y Senedd yn 2021. Yn y lifft ar y ffordd allan, rhannodd sylwadau â mi ar aeddfedrwydd ein Senedd fel yr oedd wedi datblygu dros y blynyddoedd. Byth yn un i golli cyfle, soniais ein bod ni'n awyddus i beidio â sefyll yn llonydd ac y gallai fod cynnydd i nifer yr Aelodau ar ryw adeg yn fuan. Bob amser yn ymarferol, gofynnodd sut y byddem ni'n eu ffitio nhw i gyd yn y Siambr, a dywedais wrthi am ragwelediad fy rhagflaenydd a'r wal gefn ffug. Ni wnaeth fynegi barn, ond gwenodd yn rhadlon. Mewn oes arall, mae'n bosibl y gellid bod wedi cymryd hynny fel Cydsyniad Brenhinol, ond bu'n rhaid i ni wneud hynny yn y ffordd ddemocrataidd anoddach, trwy ddeddfwriaeth a phleidlais. Yn y pen draw, nid yw'r Siambr hon yn ymwneud â'r waliau, na'r desgiau, na'r cyfrifiaduron, ond mae'n ymwneud â'r Aelodau a etholwyd yma i gyflawni swyddogaeth, i lywodraethu ac i graffu ar ran pobl Cymru. Felly, gadewch i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw; mae gennym ni lawer i'w wneud cyn diwedd ein tymor yn y Senedd.
Y cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly, yn gyntaf y prynhawn yma. Y cwestiwn cyntaf, Julie Morgan.
Ac mae'n rhaid i mi weithio allan lle mae'n eistedd. Dyna hi. Julie Morgan.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gydnabod personél milwrol a dioddefwyr rhyfel o Gymru? OQ63881
Diolch yn fawr, Julie. Cyn i mi ateb eich cwestiwn, hoffwn ychwanegu fy niolch at rai'r Llywydd, a diolch iddi am ei harweinyddiaeth wrth yrru'r prosiect hwn ymlaen, a hefyd am ragwelediad, fel y dywedodd, y Llywydd blaenorol o ragweld y byddai angen i ni weld ehangiad. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gyflawni'r prosiect yn brydlon ac yn unol â'r gyllideb. Dyna beth rydyn ni eisiau ei weld yng Nghymru bob tro.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynny.
A hoffwn hefyd nodi ei bod hi'n bedair blynedd i heddiw, 24 Chwefror, ers i'r Arlywydd Putin lansio ei ymosodiad llawn yn Wcráin. Mae'n foment lle rwy'n gobeithio ailddatgan undod diwyro Cymru â phobl Wcráin, anrhydeddu'r gwydnwch yn wyneb ymosodiad creulon, a chydnabod y tosturi rhyfeddol a ddangoswyd gan gymunedau ledled Cymru i'r bobl hynny sydd wedi dod yma i geisio lloches.
Rwy'n croesawu Mick Antoniw ac Alun Davies yn ôl o'u hymweliad ag Wcráin—15 ymweliad maen nhw wedi eu cynnal bellach i gefnogi'r bobl yn y wlad honno. Diolch yn fawr i chi. [Cymeradwyaeth.]
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cydnabod gwasanaeth ac aberth trwy weithredu, nid geiriau, personél milwrol. A thrwy ein cyfamod lluoedd arfog, rydym ni'n gwella mynediad at dai, gofal iechyd, cyflogaeth a chymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â'r Oriel VC yn Hwlffordd—enghraifft wych o gyn-filwyr yn creu lle i gyfarfod, cymdeithasu, cefnogi ei gilydd ac ailadeiladu hyder. Mae'r math hwnnw o gymorth gan gymheiriaid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, oherwydd nid yw cydnabyddiaeth yn fater o fedalau a chofebion yn unig; mae'n fater o gymorth ymarferol, cysylltiad ac urddas, bob un dydd.
Diolch am yr ateb.
Mae fy etholwr, Bethan Chedzey, wedi tynnu fy sylw at achos ei hewythr, Neville James Alfred Lawes. Ym 1943, suddwyd agerlong teithwyr a chargo o Japan gan long danfor USS Bonefish, tra'r oedd yn cludo 548 o garcharorion rhyfel y cynghreiriaid. Boddodd llawer o garcharorion, a saethwyd eraill. Er i ddwsinau o hanesion personol a datganiadau ar lw gael eu cynhyrchu ar ôl y drasiedi, gorchmynnodd Llywodraeth y DU na ddylid cynnal unrhyw dreial troseddau rhyfel ac na ddylid dweud wrth deuluoedd y carcharorion rhyfel beth oedd wedi digwydd i'w hanwyliaid. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU erioed wedi ymddiheuro am wrthod dod â'r troseddwyr rhyfel hysbys i gyfiawnder. Roedd pedwar deg un o'r dynion ar fwrdd y llong honno yn Gymry, a Neville Lawes oedd un ohonyn nhw. Mae eu teuluoedd wedi byw gyda'r wybodaeth am amgylchiadau ofnadwy eu marwolaethau byth ers hynny, ac maen nhw'n ymgyrchu i gael cyfiawnder. A wnewch chi, Prif Weinidog, gael sgwrs gyda Llywodraeth y DU am ymddiheuriad i deuluoedd y rhai a laddwyd yn drasig y diwrnod hwnnw?
Diolch, Julie. Diolch am ein hatgoffa am digwyddiad ofnadwy hwn, y Suez Maru, pan gafodd llong o Japan, fel yr ydych chi'n dweud, yn cludo'r 450 o deithwyr hynny a oedd yn garcharorion rhyfel—fel yr ydych yn dweud, 41 ohonyn nhw o Gymru—eu taro gan long danfor o'r Unol Daleithiau, a bu colled bywyd ofnadwy. Yr hyn a oedd yn arbennig o ofnadwy, fel yr ydych yn dweud, oedd bod milwyr o Japan wedi dychwelyd ac fe wnaethon nhw saethu'r goroeswyr tra'r oedden nhw yn y dŵr. Roedd yn ddigwyddiad ofnadwy a gallaf ddeall yn llwyr sut mae disgynyddion yn teimlo. Mae dadl yn gysylltiedig â hyn, gan fod Llywodraeth y DU, fel y gwnaethoch chi sôn, wedi cynnal ymchwiliad ar y pryd, ond yna fe wnaethon nhw roi cynlluniau i orfodi rhai o'r bobl i sefyll prawf am droseddau rhyfel o'r neilltu. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn chwilio am ymateb ar hyn. Mae'n fater yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ei godi gyda Llywodraeth y DU, ac rydym ni wedi rhannu'r ymateb gyda chi. Ein dealltwriaeth ni, o ran y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd), yw na fydd hwn yn berthnasol ar sail ôl-weithredol.
Mae angen ein cydnabyddiaeth ar gyn-filwyr, wrth gwrs, ond mae angen ein hamddiffyniad arnyn nhw hefyd. Mae llawer o gyn-filwyr yr wyf i wedi siarad â nhw yn bryderus iawn am weithredoedd Llywodraeth y DU o ran gwrthdroi Deddf Trafferthion Gogledd Iwerddon (Etifeddiaeth a Chymodi) 2023 yn rhannol, a oedd yn gwneud darpariaethau imiwnedd amodol i gyn-filwyr a oedd wedi gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon a rhai o'r gweithredoedd y gofynnwyd iddyn nhw eu cyflawni i wasanaethu eu gwlad wrth wneud hynny. Maen nhw bellach yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu herlyn am y gweithredoedd a gyflawnwyd ganddyn nhw yng Ngogledd Iwerddon i amddiffyn ein gwlad. Yn amlwg, mae hynny'n destun gofid aruthrol iddyn nhw, a dylai fod yn gywilydd ar bob un ohonom ni bod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n ei wynebu. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am ddiogelu'r cyn-filwyr hynny o Brydain, ac o Gymru yn benodol, rhag cael eu herlyn am y gweithredoedd a gyflawnwyd ganddyn nhw yng Ngogledd Iwerddon?
Diolch. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn, wrth gwrs. Ond, yn amlwg, mae angen i ni feddwl am gyn-filwyr ar bob achlysur. Mae llawer ohonyn nhw'n dioddef effeithiau hirdymor cymryd rhan mewn rhyfel. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw'n awyddus iawn i ni barhau â'n cefnogaeth i'r lluoedd arfog, nid yn unig o ran eu hamddiffyn yn yr hirdymor, ond hefyd i wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei chyfran deg. Rydym ni'n cyfrannu 7 y cant at y lluoedd arfog o ran personél, ac rwy'n awyddus iawn i weld ein bod ni'n cael mwy gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o ran sicrhau buddsoddiad o'r swm cynyddol o arian a fydd yn cael ei wario ar amddiffyn yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol ein bod ni'n byw mewn oes ansicr iawn. Mae tensiynau rhyngwladol yn cynyddu. Mae goblygiadau dybryd i bob un ohonom ni, â'r Unol Daleithiau yn mynnu bod Ewrop yn gwneud mwy drosti ei hun o ran amddiffyn ein hunain, â chyfran uwch o arian yn cael ei gwario yn y DU ar amddiffyn. Roeddwn i'n falch iawn bod cytundeb twf amddiffyn i Gymru wedi cael ei gyhoeddi ddydd Iau yr wythnos diwethaf, ac ymrwymiad o £50 miliwn yn dod i sicrhau y bydd busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn gallu elwa, a sefydliadau eraill, o'r arian ychwanegol hwnnw sy'n cael ei wario ar amddiffyn.
Prif Weinidog, roedd gen i etholwr a gysylltodd â mi, sy'n gyn-filwr a wasanaethodd ein gwlad gyda rhagoriaeth, ac a gafodd ei wneud yn ddigartref heb fod unrhyw fai arno ef ei hun. Pan ofynnodd am gymorth, cafodd ei drosglwyddo o wahanol asiantaeth i wahanol asiantaeth ac roedd yn ddigartref am tua 12 mis. Mae bellach wedi dod o hyd i lety, sy'n wych, ond, pan fydd ein cyn-filwyr yn chwilio am lety, dylen nhw fod yn cael y cymorth mwyaf sydd ei angen arnyn nhw i ddod o hyd i'r cartref hwnnw y maen nhw ei angen mor daer. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu ein cymunedau a'n gwlad yn cael eu gadael ar y strydoedd?
Mae'n sefyllfa ofnadwy pan fydd hynny'n digwydd, ac, yn amlwg, mae llawer ohonyn nhw hefyd yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae angen y cymorth cofleidiol hwnnw arnyn nhw yr ydym ni'n gallu ei roi o dan rai amgylchiadau. Edrychwch, rydym ni o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â phrinder tai yng Nghymru, a dyna pam rydym ni'n falch iawn, erbyn diwedd eleni, y byddwn ni'n cyrraedd y targed hwnnw o 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod mwy o gyfleoedd wedyn i gyn-filwyr allu dod o hyd i lety hefyd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a fydd unrhyw ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru heb eu cyflawni erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63878
Mae Llywodraeth Lafur Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r rhan helaeth o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu erbyn diwedd y tymor hwn. Ers i mi ddod yn Brif Weinidog, rydym ni wedi canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth eglur: gwell iechyd, a'r hyn yr ydym ni wedi ei weld eto yr wythnos diwethaf, am y seithfed mis yn olynol, yw ein rhestrau aros hiraf yn lleihau a'r gostyngiad misol mwyaf erioed; rydym ni wedi gweld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu—20,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol ar y trywydd iawn, er gwaethaf y ffaith fod Liz Truss wedi chwalu'r economi, gan gynyddu costau adeiladu; mwy o swyddi—100,000 o brentisiaethau wedi'u darparu a dros 64,000 o bobl ifanc wedi'u cynorthwyo drwy'r warant i bobl ifanc; a thrafnidiaeth well bellach—roeddem ni'n gwneud ein rhan, ac mae Llywodraeth y DU bellach wedi addo £14 biliwn mewn ymrwymiadau i helpu i ddiwygio ein strwythur rheilffyrdd yng Nghymru.
Am sylw rhyfedd i ddweud 'mwy o swyddi'. Ewch i ddweud wrth rywun ym maes lletygarwch yng Nghymru bod mwy o swyddi ar gael diolch i'ch Llywodraeth yn San Steffan, gyda chynnydd i yswiriant gwladol a'r holl fiwrocratiaeth arall yr ydych chi wedi ei lwytho arno.
Ond mae'r pwynt yr wyf i eisiau ei godi gyda chi, Prif Weinidog, yn ymwneud â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd. Ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig â'r safle hwn yn ôl yn nhymor yr hydref. Gwelsom safle tir llwyd enfawr a fydd angen llawer iawn o fuddsoddiad. Hyd yn hyn, nid yw'r bron i £70 miliwn y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ei gyfrannu wedi llwyddo i symud y prosiect hwnnw ymhell iawn ymlaen yn anffodus. Wrth gyflwyno'r achos busnes i'r Adran Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU, aeth y gweision sifil a'r Ysgrifennydd Gwladol yn ôl at eich Llywodraeth a dweud bod angen cryfhau'r achos hwn. Bydd y Llywodraeth newydd ym mis Mai yn etifeddu gofyniad o ddod o hyd i £330 miliwn i wneud y prosiect hwnnw yn hyfyw. Sut mae'r Llywodraeth hon yn mynd i wneud yn siŵr na fydd y prosiect adfywio hwnnw yn mynd yr un ffordd â phrosiect Cylchffordd Cymru, lle'r oedd geiriau coeth ond ychydig o sylwedd o ran darparu'r hyn y byddai rhywun yn gobeithio fyddai'n brosiect ailddatblygu cyffrous yn y canolbarth?
Rydym ni'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud o ran rheilffyrdd yng Nghymru. Y gwir amdani yw ein bod ni wedi darparu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad i uwchraddio rheilffyrdd y Cymoedd ac £800 miliwn ar drenau newydd. Ac oes, mae gennym ni uchelgeisiau i ddatblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd—cyfle strategol mawr i ddyffryn Dulais. Ceir diddordeb cryf gan ddiwydiant. Rydym ni wedi ymrwymo symiau sylweddol o arian Cymru i'r prosiect hwn, ac felly hefyd Llywodraeth y DU. Bydd y penderfyniad buddsoddi terfynol, wrth gwrs, yn fater i'r Llywodraeth nesaf. Mae'n un o'r prosiectau a hyrwyddwyd gennym ni yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi, ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael buddsoddiad gan y sector preifat ar gyfer y prosiect hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei geiriau caredig yn gynharach, ac at y genedl noddfa yr hoffwn ddychwelyd. Yr arwydd o unrhyw Lywodraeth dda yw sut y mae'n trin pobl. Rwy'n ddiolchgar am yr undod ar draws y Siambr hon. Rwy'n ddiolchgar i Darren Millar, i Rhun ap Iorwerth, ac i Jane Dodds hefyd, am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ceisio lloches yma yng Nghymru ac sydd wedi derbyn cymorth nid yn unig gan y Senedd hon ond gan ein pobl. Gwelodd Mick a minnau, yr wythnos diwethaf, realiti bywyd yn Wcráin. Fe glywsom ni'r rhybuddion o gyrchoedd awyr. Fe wnaethom ni deimlo'r oerfel. Fe welsom ni'r strydoedd mewn tywyllwch. Fe welsom ni effaith rhyfel ar fodau dynol. Mae'r genedl noddfa yn arwydd o'n gwareiddiad. Mae'n arwydd o bwy ydym ni fel cenedl ac fel gwlad. Mae'n dweud wrth bawb y bydd pobl Cymru bob amser yn cynorthwyo'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel. Ac mae'r genedl noddfa wedi cael ei defnyddio i raddau enfawr i gynorthwyo pobl o Wcráin sy'n ceisio cymorth gennym ni yma, noddfa tra bod eu gwlad yn cael ei hymosod. Rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, y byddwch chi'n gallu cadarnhau bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'r genedl noddfa ac y bydd yn parhau i gynorthwyo pobl sy'n ffoi rhag rhyfel, o Wcráin ac o fannau eraill, ac y bydd Cymru bob amser yn wlad ac yn genedl sy'n cynorthwyo'r rhai sy'n ffoi rhag perygl ac yn ffoi rhag gwrthdaro.
Diolch yn fawr, Alun. Rydych chi'n gwbl gywir. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod y wlad hon wedi croesawu pobl o Wcráin pan oeddynt â'r angen fwyaf. Mae wedi bod yn ddiddorol ac yn wych cyfarfod â phobl wydn y genedl honno sydd bellach yn cyfrannu'n adeiladol iawn at ein cymunedau. Mae naw deg un y cant o'r arian a wariwyd ar y genedl noddfa wedi cael ei wario ar gynorthwyo 8,000 o Wcreiniaid sydd wedi dod o hyd i loches yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch ohono. Ac mae'r cwestiwn hwn hefyd yn berthnasol i gyn-filwyr, a gadewch i ni beidio ag anghofio bod rhan sylweddol arall o'r 9 y cant sy'n weddill yn cael ei wario mewn gwirionedd ar gynorthwyo pobl o Afghanistan a gynorthwyodd ein byddin yn Afghanistan. Felly, mae'r rhain yn bobl y dylem ni fod yn eu cynorthwyo. Fe wnaethon nhw sefyll yn gadarn â ni a'n milwyr, ac mae'n gwbl gywir ein bod ni'n sefyll yn gadarn â nhw.
Prif Weinidog, roedd rhaglen lywodraethu eich Llywodraeth Cymru a'ch cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru i fod i gyflawni gwelliannau i bobl Cymru. Fe wnaethoch chi addo Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, ond beth mae Plaid Cymru a chithau wedi ei gyflawni mewn gwirionedd? Mae eich methiannau mwyaf yn cynnwys y pecynnau cyflog isaf, y canlyniadau addysgol gwaethaf a'r rhestrau aros GIG hiraf ym Mhrydain Fawr. A beth oedd eich ymateb i hyn? 20 milltir yr awr diofyn, mwy o Aelodau'r Senedd a phlannu coed yn Uganda. Nid dyma flaenoriaethau pobl Cymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, ym mha bynnag ffurf y mae hynny wedi ei chymryd, wedi methu Cymru yn llwyr? Mae angen Reform ar Gymru nawr, ac onid ydych chi'n cytuno â mi na all 7 Mai ddod yn ddigon buan? Diolch.
Rwy'n awyddus iawn i 7 Mai ddod gan y bydd yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod pobl Cymru yn sylweddoli, mewn gwirionedd, bod risgiau sylweddol o beidio â chefnogi Llywodraeth Lafur Cymru. Yr hyn sydd gennym ni yma yw system lle mae pobl yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw yn eu cymunedau. Ac os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud o ran iechyd, rydym ni'n gwario mwy na 50 y cant o'n cyllideb ar iechyd ac rydym ni wedi gweld ymateb i hynny. Oherwydd ein bod ni wedi cael mwy o arian nag erioed o'r blaen yn dod gan Lywodraeth Lafur y DU, ar ôl blynyddoedd o gyni cyllidol. Diolch i'r blaid, y blaid Dorïaidd yr oeddech chi'n arfer bod yn rhan ohoni, nid oeddem ni'n gallu rhoi'r arian hwnnw ar waith fel y byddem ni wedi ei hoffi. Fe allwn ni wneud hynny nawr. Mae'r tapiau wedi cael eu troi ymlaen ac mae'r rhestrau aros hiraf wedi gostwng 92 y cant. Rydym ni wedi gweld trawsnewidiad yn y system reilffyrdd. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu'r cartrefi hynny. Rydych chi'n gofyn am swyddi—rydym ni wedi creu a diogelu bron i 46,000 o swyddi yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac rydym ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi cynorthwyo 64,000 o bobl drwy'r warant i bobl ifanc a bod bywydau dros 100,000 o brentisiaid wedi cael eu newid diolch i Lywodraeth Lafur Cymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'ch sylwadau o ran y pedair blynedd ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda phobl Wcráin yn wyneb ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin. Слава Україні!
Prif Weinidog, dim ond yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cafwyd cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i israddio ysbytai a rhoi terfyn ar lawfeddygaeth gyffredinol frys yn Llwynhelyg a chael gwared ar wasanaethau strôc o Fronglais. Mae'n gic yn nannedd pobl sir Benfro a Cheredigion, a bydd yn arwain at gleifion yn gorfod teithio llawer ymhellach mewn sefyllfaoedd lle mae eu bywydau mewn perygl, gan oedi mynediad at y gofal a'r driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw ac arwain at niwed i gleifion ac, yn anffodus, marwolaethau. Nawr, mae pobl yng nghefn gwlad Cymru wedi cael llond bol ar gael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth o ran cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd, felly dywedwch wrthym ni, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod eich agenda ganoli gyda'r GIG yng Nghymru yn methu cymunedau mewn rhannau gwledig o'r wlad hon, ac a wnewch chi ymyrryd nawr i atal yr israddiadau peryglus hyn i ysbytai rhag cael eu gweithredu?
Rwy'n gwybod bod llawer o ofid mewn cymunedau ar draws ardal Hywel Dda ac ar draws byrddau iechyd eraill o ran ad-drefnu gwasanaethau. Mae pobl yn sir Benfro ac ar draws Cymru gyfan eisiau sicrwydd. Nid wyf i'n credu mai'r hyn y maen nhw eisiau ei weld yw sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Mae gwasanaethau diogel yn gwbl hanfodol. Bydd y Llywodraeth hon yn rhoi diogelwch cleifion uwchlaw unrhyw beth arall. Rydym ni wedi bod yn eglur ein bod ni eisiau gweld gwasanaethau yn cael eu darparu mor lleol â phosibl, ond dim ond lle bydd diogelwch, ansawdd a gweithlu cynaliadwy yn caniatáu. Dyma'r safon yr ydym ni'n ei chymhwyso i bob bwrdd iechyd, gan gynnwys Hywel Dda. Mater i'r bwrdd iechyd yw cyflwyno cynigion a'u cyfiawnhau i'r cyhoedd. Felly mae'n iawn eu bod nhw'n esbonio'r rhesymau am unrhyw ad-drefnu.
Prif Weinidog, gyda pharch, chi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw deithio'n rhy bell mewn sefyllfaoedd brys sy'n peryglu eu bywydau, ac mae gennych chi'r pwerau i allu ymyrryd yn y sefyllfa hon, nid dim ond i adael iddo setlo gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Rydym ni wedi gweld ymyriadau gan y Llywodraeth yn y gorffennol pan fu ymdrechion i israddio Ysbyty Glan Clwyd gyda'i wasanaethau brys o ran gwasanaethau mamolaeth, ac fe wnes i groesawu hynny, ac rwyf i angen gweld yr un math o weithredu nawr gennych chi fel Prif Weinidog a chan eich Llywodraeth.
Ac rydych chi'n gwbl gywir: nid pobl yng ngorllewin Cymru yn unig sy'n cael eu siomi o ran gwasanaethau GIG, oherwydd mae gennym ni'r un broblem yn fy iard gefn fy hun yn y gogledd, ac mae'r sefyllfa'n hollol gywilyddus. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr newydd gyhoeddi ei ffigurau perfformiad adran achosion brys gwaethaf erioed. Mae bron i 70 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, ac mae traean o'r bobl sy'n dod i ddrws ffrynt yr ysbyty yn treulio mwy na 12 awr yn yr adran achosion brys honno heb gael eu derbyn—tra maen nhw'n aros i gael eu derbyn am wely neu cyn cael eu rhyddhau. Mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Nawr, yn ôl yn 2013, addawyd ysbyty newydd sbon i bobl yng ngogledd sir Ddinbych ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl â 30 o welyau, cyfres o wasanaethau i gefnogi'r GIG yng ngogledd Cymru, ac uned mân anafiadau i leddfu pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac eto, er gwaethaf y ffaith bod y pwysau wedi cynyddu ers hynny, yr wythnos hon fe wnaethoch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cynlluniau sydd wedi cael eu cyfyngu'n sylweddol, â llai na hanner y gwelyau gwreiddiol hynny a addawyd i bobl gogledd sir Ddinbych. Mae'n rhy ychydig, yn rhy hwyr. Pam mae eich Llywodraeth wedi bradychu pobl y Rhyl a'r gogledd fel hyn? Ac o gofio bod pob un addewid cyn etholiad am y prosiect hwn ers 2013 wedi cael ei dorri, pam ddylai unrhyw un gredu gair yr ydych chi'n ei ddweud?
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch iawn o weld bod 63 y cant yn llai o gleifion yn aros am dros ddwy flynedd, felly mae hynny'n dod i lawr, ac mae hynny'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Ond, o ran Ysbyty Brenhinol Alexandra, gadewch i mi fod yn eglur: fe wnaeth y Torïaid amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus o gyllid cyfalaf am dros ddegawd—dros ddegawd. Heddiw—heddiw—rydym ni'n gallu rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd diolch i'r cyllid ychwanegol yr ydym ni wedi ei gael gan fod y tapiau wedi cael eu troi yn ôl ymlaen bellach. A dyna pam rydym ni'n dathlu'r ffaith bod rhestrau aros yn lleihau am y seithfed mis yn olynol. Mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ar ei hisaf ers tair blynedd, ac mae'r rhestrau aros hiraf wedi lleihau 92 y cant ers yr uchafbwynt. 19 wythnos yw'r amser aros cyfartalog yng Nghymru. A ydym ni eisiau gwella hynny? Yn sicr. Ond rydym ni'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac mae'r arian ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Lafur y DU yn helpu.
Nawr, gadewch i ni siarad am Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwy'n falch iawn ac roeddwn i'n falch iawn o fod yno gyda'r Ysgrifennydd iechyd ddoe i gyhoeddi'r buddsoddiad o £33 miliwn yng ngham cyntaf Ysbyty Brenhinol Alexandra. Bydd yn cymryd pwysau sylweddol oddi ar Ysbyty Glan Clwyd. Bydd yn arbed 4,400 diwrnod gwely y flwyddyn. Bydd gwelyau gofal llai dwys newydd. Bydd pedair ystafell ddeintyddol newydd. Bydd gwasanaethau radioleg sydd wedi'u hehangu. A nac ydym, dydyn ni ddim yn paratoi ar gyfer system a ddatblygwyd 10 mlynedd yn ôl. Rydym ni'n paratoi ar gyfer system iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae pethau wedi newid ers i'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra gael eu llunio. Rwy'n falch iawn mai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dod â chefnogaeth yn ôl i ysbytai ac, ie, lle bo'n bosibl, yn ôl i gartrefi pobl, sef lle mae pobl eisiau derbyn gofal.
Byddwn yn eich atgoffa—byddwn yn eich atgoffa—Prif Weinidog eich bod chi wedi addo cael gwared ar yr arosiadau dwy flynedd hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Fe wnaethoch chi fethu â'i wneud. Fe wnaethoch chi fethu â'i wneud erbyn Ebrill 2024. Fe wnaethoch chi fethu â'i wneud. Rydych chi wedi parhau i newid y rheolau. A nawr rydych chi'n hawlio clod am y gostyngiadau yr ydym ni wedi eu gweld. Edrychwch, y ffeithiau yw bod pobl yn y gogledd yn aros yn hirach am eu profion, yn hirach am eu triniaeth ac yn hirach am eu hapwyntiadau nag yn unman arall yn y wlad hon.
Rydych chi'n cwyno am arian. Rydych chi'n cwyno am arian. Am bob £1 y pen sy'n cael ei wario ar glaf yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Mae gennych chi ddigon o arian i wario degau o filiynau o bunnoedd ar newid parthau 20 mya ledled ein gwlad, fe wnaethoch chi wario degau o filiynau ar faes awyr nad oes angen i chi fuddsoddi ynddo ac rydych chi'n barod i wario £120 miliwn ar fwy o wleidyddion. Allwch chi ddim gwneud y dadleuon hyn am arian pan eich bod chi'n gwario yn y ffordd wastraffus honno. Nawr, y gwir yw bod gennych chi arian ar gyfer y rheini, ond nid yw byth yn ymddangos bod gennych chi ddigon i'w fuddsoddi mewn lleoedd fel y Rhyl, neu mewn gwasanaethau strôc ym Mronglais, neu yn yr adran achosion brys yn Llwynhelyg. Mae angen i ni weld rhywfaint o newid. Ac nid yw'n fater o'r gorllewin yn unig, nid y gogledd yn unig—mae gennym ni broblemau yma yng Nghaerdydd hefyd.
Darren Millar, yn ystod eich cwestiwn diwethaf, fe wnes i ganiatáu cwestiwn atodol arbennig o hir, ac roedd hynny ar y sail nad oeddwn i'n gallu dod o hyd i fotwm fy meicroffon. [Chwerthin.] Rwyf i bellach wedi dod o hyd iddo, a bydd angen i chi ddod at eich cwestiwn.
Rwyf i wrth fy modd o glywed na allech chi ddod o hyd iddo, Llywydd. [Chwerthin.] Wrth fy modd o glywed hynna. Mae'n wych cael y dechnoleg newydd hon yn y Siambr.
Nid yw'n fater o'r gogledd yn unig, nid y gorllewin yn unig, Prif Weinidog—mae gennym ni broblemau yn Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd, yn ein prifddinas, â cholomennod mewn theatrau.
Bydd yn rhaid i chi ofyn cwestiwn, Darren Millar.
Felly, a gaf i ofyn i chi—? A gaf i ofyn hyn i chi: os nad ydych chi wedi gallu trwsio ein GIG ar ôl 27 mlynedd, a ydych chi'n derbyn nad ydych chi byth yn mynd i allu ei drwsio, ei bod hi'n bryd symud ymlaen ac ethol Llywodraeth Geidwadol i Gymru ym mis Mai?
Na, nid wyf i'n derbyn hynny, Darren. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario mwy o arian nag erioed o'r blaen yn hanes Cymru ar iechyd yng Nghymru. Mae'r GIG yng Nghymru yn gweld 2.75 miliwn o bobl ar gyfer apwyntiadau yn fisol mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Yr hyn sydd ei angen arnom—. Rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl Cymru eisiau ei glywed yw sicrwydd. Maen nhw eisiau sicrwydd a dydyn nhw ddim eisiau codi bwganod. Ac yr wythnos hon, yr hyn y mae eich plaid wedi bod yn ei wneud yw codi bwganod. Rydych chi wedi bod yn codi bwganod yn sir Benfro. Chi wnaeth ddechrau'r sibrydion am yr adran achosion brys yn Llwynhelyg yn cael ei chau. Paul, chi wnaeth ddechrau'r sibrydion hynny. Bydd pobl yn parhau—gadewch i mi fod yn eglur—byddan nhw'n parhau i dderbyn gofal brys ac argyfwng yn ysbyty Llwynhelyg, ac mae'n annefnyddiol dros ben i wleidyddion awgrymu fel arall.
Gadewch i mi esbonio i chi sut mae hyn yn gweithio. Yn 2007, fe wnaeth y Torïaid godi'r posibilrwydd y byddai Llwynhelyg yn cau. Ni chafodd ei gau. Fe wnaethoch chi hynny eto yn 2010. Ni chafodd ei gau. Fe wnaethoch chi hynny eto yn 2011. Ni chafodd ei gau. Yn 2015; ni chafodd ei gau. Yn 2016; ni chafodd ei gau. Mae hwn yn batrwm yr ydym ni'n ei weld bob tro cyn etholiad. Mae camarwain y cyhoedd yn fater difrifol iawn, ac mae angen sicrwydd ar bobl yn sir Benfro a ledled Cymru gyfan o ran eu gwasanaethau iechyd, a dyna'r hyn y gallwn ni ei roi iddyn nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Bedair blynedd ers yr ymosodiad ar Wcráin, rydym ni'n datgan yn ddiamwys heddiw ein bod ni'n sefyll gyda phobl Wcráin. Ac, wrth i ni fyfyrio ar ormes greulon Putin, rydym ni'n cofio pwysigrwydd democratiaeth, gan gynnwys un ein hunain.
Wrth i ni ymgynnull am y tro cyntaf yn sedd ein democratiaeth Gymreig, rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi bod y tryloywder yr ydym ni'n ei weld ym myd gwleidyddiaeth o'r pwys mwyaf. Mae hyn yn arbennig o wir, wrth gwrs, wrth i ni wynebu etholiadau'r Senedd ym mis Mai, pan fydd pobl Cymru yn penderfynu pwy maen nhw eisiau i arwain eu Llywodraeth nesaf.
Felly, gan fynd ar drywydd y tryloywder hwnnw, rwy'n edrych ar un mater penodol: prentisiaethau. Cwestiwn syml yn gyntaf oll. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur nifer y prentisiaethau sy'n cael eu creu yng Nghymru?
[Anghlywadwy.]—system eglur o gyfrif. Bu gennym ni'r uned gyflawni, sydd wedi dod i mewn o'r tu allan i Gymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni mewn ffordd sy'n dryloyw, sy'n eglur, ac mewn ffordd y mae pawb wedi gwneud hyn yn gyson ledled Cymru.
Gadewch i mi fod yn eglur ein bod ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod wedi llwyddo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau ledled Cymru—roedd yn bleser gwirioneddol i mi gael cyfarfod â rhai ohonyn nhw yn y gogledd dim ond ddoe—gan drawsnewid eu bywydau. A'r gwir amdani yw ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny er gwaethaf y ffaith fod cyllid Ewropeaidd wedi cael ei dynnu'n ôl, â'i gwnaeth hi'n llawer anoddach. Diolch i Brexit, mae wedi bod yn anoddach, ond rydym ni'n dal wedi llwyddo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n falch iawn ohono.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn y syniad hwn o syniadau newydd o'r tu allan i Gymru ar fesur cyflawniad. Fe wnaf i ddweud wrthych chi sut mae prentisiaethau wedi cael eu cyfrif yn draddodiadol. Dydych chi ddim yn eu cyfrif nhw tan fod prentis wedi cwblhau wyth wythnos. Dydych chi ddim yn mesur y rhai sy'n rhoi'r gorau iddi cyn hynny, gan eich bod chi'n chwilio am ganlyniadau cadarnhaol a llwyddiannus.
Ar 22 Ionawr, cyhoeddodd Medr ffigurau yn dangos y darparwyd ychydig dros 91,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor Senedd hwn. Yna, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, ar 10 Chwefror, cyhoeddodd y Gweinidog sgiliau yn y Siambr fod Llywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu, wedi bodloni ei tharged o fod wedi darparu 100,000 o brentisiaethau.
Nawr, gan roi o'r neilltu y ffaith mai 125,000 oedd y targed gwreiddiol, bellach wedi'i leihau o 25,000 o brentisiaid, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod y ffigur o 100,000 wedi cael ei gyrraedd, mewn gwirionedd, trwy ddefnyddio mesur llawer llai trylwyr, lle mae'r Llywodraeth bellach yn cynnwys y rhai sydd wedi rhoi'r gorau iddi yn gynnar?
Mae gennym ni system sy'n ddibynadwy ac sy'n cael ei deall, a does gen i ddim cywilydd cael pobl o'r tu allan i Gymru i ddod i gicio'r teiars ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. A yw hynny'n rhywbeth na fyddai eich Llywodraeth chi, pe baech chi fyth mewn sefyllfa i fod mewn grym, eisiau ei weld? Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn dda ein bod ni'n cael rhyw fath o asesiad gwrthrychol o'r hyn sy'n digwydd.
Hefyd, mae'n ddiddorol, oherwydd weithiau dyna sydd ei angen arnom ni. Rydym ni'n eglur iawn yng Nghymru, pan fyddwn ni'n cyfrif, er enghraifft, ein rhestrau aros, ein bod ni'n cyfrif pethau fel therapïau a diagnosteg. Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny yn Lloegr. Felly, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n cyfrif pethau, ein bod ni'n cyfrif pethau mewn ffordd gyson ar draws yr holl bartneriaid sgiliau ledled Cymru, a dyna'r hyn y mae'r uned gyflawni wedi ein helpu ni i'w wneud.
Felly, rwy'n falch iawn, a'r gwir yw bod cyllid Ewropeaidd yn gwbl ganolog i'r ddarpariaeth o brentisiaethau yng Nghymru. Tynnwyd hwnnw yn ôl o ganlyniad i Brexit. Mae hynny'n filiynau o bunnoedd—miliynau o bunnoedd—nad oedd gennym ni, ac eto rydym ni wedi cyrraedd y targed o 100,000 o brentisiaethau. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch iawn ohono.
Gosodwyd y targed ar ôl Brexit ac yna chafodd ei dorri 20 y cant, ond rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn methu'r pwynt braidd. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl pa un a ddaeth y cyngor i newid y mesur o'r tu mewn neu'r tu allan i Gymru. Y pwynt yw bod y sector yn eglur: mae'r mesur wedi cael ei newid yn ddiweddar, ac mae etifeddiaeth Llafur, yn rhy aml, yn un o fethu targedau coll ac yna newid y rheolau i guddio eu methiannau eu hunain. Maen nhw wedi gwneud hynny gydag arosiadau dwy flynedd yn y GIG, gydag amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a nawr maen nhw'n ei wneud eto gyda phrentisiaethau. Ond ni wnaiff pobl Cymru gael eu twyllo, ac yn bwysicach fyth, mae gweithlu'r dyfodol yn haeddu gwell. Ac mae'r ystwytho ffigurau yn dod, fe wnaf i eich atgoffa, ar adeg pan mai dim ond y llynedd, cafwyd y nifer isaf erioed o bobl yn dechrau prentisiaethau yng Nghymru.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn rhannu sut y gall bod yn llawer mwy tryloyw mewn grym arwain at well llywodraeth; dyna'r hyn y mae Plaid Cymru yn benderfynol o geisio ei wneud os cawn ni'r cyfle hwnnw ym mis Mai. A yw'r Prif Weinidog fyth yn myfyrio ar y ffaith mai un o'r rhesymau pam mae pobl wedi colli ffydd yn Llafur yw oherwydd, yn gyntaf, bod eu record, mor aml, yn un o fethu â chyflawni, ac yn ail, pan fydd methiant yn digwydd, byddan nhw bob amser yn chwilio am ffordd o roi côt o siwgr arno?
Nid wyf i'n derbyn ein bod ni wedi methu â chyflawni; rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w gyflawni dros bum mlynedd o Lywodraeth Lafur. Rwyf i wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n tyfu'r economi; gwneud yn siŵr ein bod ni'n bodloni'r targed hwnnw o 100,000 o brentisiaethau; gwneud yn siŵr ein bod ni'n darparu 20,000 o gartrefi. Ac mae'n ddiddorol, onid yw, eich bod chi eisiau siarad am le'r ydym ni'n mynd yn y dyfodol a sut mae'r dyfodol yn edrych. Fe wnaf i ddweud wrthych chi sut mae'r dyfodol yn edrych ac mae'n ddiddorol iawn heddiw nad oes unrhyw gwestiwn, fel yr ydym ni wedi ei gael ers wythnosau lawer, am gyllid rheilffyrdd, oherwydd cawsom ni gyhoeddiad—[Torri ar draws.] Cawsom ni gyhoeddiad y llynedd. Roeddech chi eisiau £4 biliwn ar gyfer cyllid rheilffyrdd; mae gennym ni £14 biliwn ar gyfer cyllid rheilffyrdd ac mae hynny'n rhywbeth na allwch chi ddod â'ch hunain i'w groesawu. Dyna sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael Llywodraeth Lafur Cymru sy'n cyflawni dros bobl Cymru.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl? OQ63873
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cadarnhau £33 miliwn ar gyfer cam 1 Ysbyty Brenhinol Alexandra; rhan o fuddsoddiad o £60 miliwn yn y safle. Roedd yn bleser cael bod gyda chi yn y Rhyl ddoe i nodi'r garreg filltir honno. I deuluoedd ar draws y Rhyl a'r gogledd, mae hyn yn golygu gwell amgylchedd, gwasanaethau wedi'u hehangu a mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn agosach at adref. Mae hefyd yn golygu gwell amodau gwaith i staff ymroddedig y GIG sy'n gwasanaethu eu cymunedau bob dydd. Dyma sut mae buddsoddiad hirdymor mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus yn edrych, gan gryfhau gofal lle mae ei angen fwyaf ar bobl.
Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged i ddycnwch Ann Jones, yr Aelod o'r Senedd blaenorol dros yr ardal, a dywedodd wrthyf, pan gymerais yr awenau fel Aelod Llafur o'r Senedd dros yr ardal, 'Byddai'n well i chi wneud yn siŵr bod hynna'n cael ei gyflawni yn ystod y tymor Senedd hwn.' Felly, rwy'n falch iawn bod hynny'n mynd i fod yn digwydd nawr.
Nawr, wrth gwrs, cafwyd gwared ar hualau cyni cyllidol Torïaidd a'r pandemig, llwyddodd Cyngor Sir Ddinbych i gael caniatâd cynllunio, mae gennym ni gyllid Llywodraeth Cymru ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno safle y gellir ei ddarparu ar gyfer 2027. Mae'n newyddion gwych i'r ardal. Prif Weinidog, pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud, bod â'r uned mân anafiadau honno a'r gwelyau gofal canolradd i drigolion y Rhyl a'r ardal ehangach? Hefyd, rwy'n credu, ym mis Ebrill, bod gennym ni'r uned orthopedig o Landudno yn cael ei chyflwyno hefyd, felly, gyda'i gilydd, mae hynny'n £62.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal. Pa wahaniaeth fydd hynny'n ei wneud i drigolion y Rhyl a'r gogledd? Diolch.
Wel, a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i chi am eich dycnwch o ran y prosiect hwn hefyd? Rwy'n credu eich bod chi'n etifedd gwych i'r dycnwch a ddangoswyd gan Ann Jones, ac roedd yn wych ei gweld yn y cyhoeddiad ddoe. Rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn bwysig ofnadwy i bobl y Rhyl. Mae'n wir, roedd cynnydd yn araf, ac roedd hynny oherwydd blynyddoedd o gyni cyllidol a wasgodd y gyllideb gyfalaf, ac yna cawsom ni bandemig, wrth gwrs. Fe wnaeth pethau arafu yn ystod y cyfnodau hynny. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n amlwg nawr yw ein bod ni'n bwrw ymlaen â phethau.
Y cwestiwn, felly, yw: pa wahaniaeth fydd yn ei wneud? Rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r bobl sy'n byw yno. Mae gennym ni'r gwelyau ailalluogi hyn, a fydd yn helpu tua 220 o bobl bob blwyddyn i adennill annibyniaeth yn lleol, a bydd hynny'n arbed tua 4,400 o ddiwrnodau gwely y flwyddyn yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae tynnu'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd yn hanfodol i'r gwasanaethau yno.
Wrth gwrs, y peth arall sydd gennym ni yw'r uned mân anafiadau ac anhwylderau, ac mae honno'n mynd i drin 20,000 o bobl bob blwyddyn. Bydd hynny'n dargyfeirio 16 y cant o achosion oddi wrth Ysbyty Glan Clwyd. Rwy'n credu bod hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr. Mae'n ddrwg gen i ei fod wedi cymryd cyhyd. Roedd rhywfaint o hynny allan o'n dwylo, allan o'n rheolaeth, ond rwy'n falch iawn o weld a hysbysu bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon o ddifrif iawn ynglŷn â gwasanaethu pobl y Rhyl, sydd wedi bod yn amyneddgar iawn. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio nawr, hefyd yn fuan iawn, y byddwn ni'n gweld y ganolfan orthopedig honno yn agor yn Llandudno, a fydd, unwaith eto, yn cyflymu'r broses o ddarparu gwasanaethau orthopedig yn y gogledd.
Rwy'n talu teyrnged i ddycnwch fy nghyd-Aelod Gareth Davies AS ar hyn. Yn 2013, cymeradwyodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, gynlluniau ar gyfer ysbyty newydd ar safle presennol Royal Alexandra, a oedd i fod i gael ei gwblhau erbyn 2016, gan gynnwys 30 o welyau cleifion mewnol a 18 o welyau ychwanegol ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl ac uned mân anafiadau. Yna rhoddwyd addewidion cyn yr etholiad a dorrwyd y byddai'r ysbyty yn cael ei ddarparu yn 2016, 2017, 2019 a 2021, wrth i gostau datblygu gynyddu'n aruthrol o £22 miliwn i oddeutu £80 miliwn, addewidion a wnaed gan eich Llywodraeth er eich bod chi bellach yn dweud nad oedd gennych chi'r arian i dalu amdanyn nhw. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad diwygiedig ym mis Rhagfyr y llynedd, gyda'r gwaith adeiladu yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru, a chan gyfeirio at atgyfodiad sydyn o'r cynlluniau yn y cyfnod cyn etholiad, fe wnaeth Gareth Davies ofyn i chi a fyddai gwaith adeiladu yn dechrau yn gynnar eleni a pha un a fyddai hwn yn unol â manylebau gwreiddiol 2013. Ar y gair, fe wnaethoch chi ymweld â'r safle ddoe i gyhoeddi cynllun newydd ar raddfa lai ar gyfer uned ailalluogi 14 gwely ac uned mân anafiadau â buddsoddiad o £33 miliwn, gyda'r nod o'u cwblhau yn 2027, ac yn sylweddol llai na'r ymrwymiad gwreiddiol o 30 gwely yn 2013. Felly, ar ôl blynyddoedd ar flynyddoedd o oedi, pam ddylai etholwyr drwgdybus weld hyn fel dim mwy na mater o iro dwylo wedi'i wanhau cyn etholiad, sy'n methu â diwallu anghenion lleol?
Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd, fel y gwyddoch chi. Mae wedi cymryd amser maith i ni. Mae Ann Jones a Carolyn wedi bod ar ein cefnau drwy'r holl gyfnod hwnnw, doedden ni byth yn mynd i adael iddo fynd. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi mai un o'r pethau gwych sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw yw ein bod ni, mewn gwirionedd, wedi creu partneriaeth. Rydym ni wedi creu partneriaeth. Nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn unig, mae'n fater o'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd, oherwydd mae'r model gofal iechyd a ragwelwyd yn 2013 wedi newid. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld nawr yw trin pobl yn agosach at adref, integreiddiad ag iechyd a gofal cymdeithasol, a lleihau'r ddibyniaeth honno ar dderbyniadau acíwt i'r ysbyty. Mae pobl eisiau derbyn gofal yn eu cartrefi cyn belled â phosibl. Roedd hi'n wych ddoe cyfarfod â nyrsys ardal a oedd yn gwneud yn union hynny, a byddan nhw'n cael eu lleoli allan o Ysbyty Brenhinol Alexandra. Gofal pedair awr ar hugain yng nghartrefi pobl, dyna sut mae angen i'r model ar gyfer y dyfodol edrych. Ni ddylai pobl fod mewn ysbytai am amser maith. Mae'n fodel sydd wedi newid. Mae'n gwbl gywir ei fod wedi cael ei ad-drefnu a'i ail-ddylunio, ac rydym ni'n gallu ei ddarparu oherwydd ein bod ni wedi cael cymorth cyfalaf ychwanegol.
Wel, gwnaf i groesawu unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd, wrth gwrs. Rŷn ni wastad eisiau symud i'r cyfeiriad yna, ond maddeuwch i fi am fod yn sinigaidd oherwydd, fel ŷn ni wedi clywed, mi gawsom ni'r union yr un math o gyhoeddiad yn 2013, ac addewid y byddai yna ysbyty newydd ymhen rhai blynyddoedd, a nawr, 10 wythnos cyn etholiad, rŷn ni'n cael yr un addewid eto, bod yna arian ychwanegol ac y bydd yna ysbyty mewn blynyddoedd i ddod. Dwi yn teimlo teimladau cymysg fan hyn, oherwydd mi addawyd hyn 13 blynedd yn ôl, ac rŷn ni'n dal i bob pwrpas yn aros, er gwaethaf addewidion tebyg i'r rhai rŷn ni wedi eu cael o'r blaen. Ond y blas cas y tro hwn yw ei fod e ddim ond hanner yr hyn a addawyd yn y lle cyntaf. Rŷch chi'n iawn, mae model iechyd yn newid, ond mae'n dal angen y ddarpariaeth. Hanner y gwelyau a addawyd yn wreiddiol. Felly, esboniwch i ni pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd a pham fod pobl gogledd sir Ddinbych nawr yn gorfod dygymod â dim ond hanner y gwelyau a addawyd yn y lle cyntaf. A ydych chi'n beio pobl (a) am fod yn sinigaidd, ond (b) am fod yn siomedig nad yw hyn yr hyn a addawyd yn y lle cyntaf?
Roedd y bobl yr oeddwn i'n siarad â nhw yn y Rhyl ddoe wrth eu boddau gyda'r cyhoeddiad; roedden nhw wedi mopio'n lân, y bobl sy'n gweithio yno. Maen nhw wedi bod yn aros ers amser, ond maen nhw'n falch iawn y bydd hyn yn cael ei ddatblygu bellach. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw model gwahanol. Nid ydym ni'n sôn am bobl yn aros mewn ysbytai am wythnosau lawer. Os byddan nhw'n mynd i mewn i'r Rhyl, fe fydd hynny at ddibenion ailalluogi, er mwyn cael mynd adref mor gyflym â phosibl, ac fel na fyddan nhw'n defnyddio'r diwrnodau costus iawn hynny mewn gwelyau mewn ysbytai. Rwy'n eglur iawn ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir, gyda'r dull o bartneriaeth. Nid gorfodi'r bwrdd iechyd y mae Llywodraeth Cymru; mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddod atom ni gyda'i gynigion, ac roedd yn rhaid iddo ailfeddwl am ei gynigion. Roedd yn rhaid iddo feithrin perthynas amgen wrth i'r modelau hynny o iechyd a gofal ddod at ei gilydd. Dyna'r hyn sydd gennym ni yn y model newydd hwn a ad-drefnwyd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwy'n falch iawn dros bobl y Rhyl y bydd hyn yn trawsnewid y gofal iechyd y maen nhw'n ei gael.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y preswylwyr sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ63855
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gwasanaethu tua 450,000 o bobl, gan gynnwys cymunedau ledled y Rhondda. Dan Lywodraeth Lafur Cymru, ym mhob mis, fe geir 227,000 o achosion cysylltu â meddygon teulu, tua 17,000 o dderbyniadau mewn adrannau brys, a 50,000 o apwyntiadau cleifion allanol. Nid system mo hon sy'n sefyll yn ei hunfan; dyma wasanaeth iechyd sy'n gweithio fel lladd nadroedd er mwyn y bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli. A oes yna bwysau? Wrth gwrs, mae yna bwysau. Ar ôl 14 mlynedd o gyni, mae'r GIG yn dal i gario'r pwysau hwnnw. Ond mae rhestrau aros yn byrhau. Roeddwn yn falch iawn o fod ym Merthyr Tudful ddydd Iau diwethaf ar gyfer y cyhoeddiad, mewn gwirionedd, am y seithfed mis yn olynol, fod y rhestrau aros hynny'n byrhau.
Prif Weinidog, wrth i'r contract deintyddol newydd ddod i rym ym mis Ebrill, a wnewch chi amlinellu sut mae disgwyl i'r newidiadau hyn effeithio ar ddeintyddion a chleifion yn ymarferol? Mae trigolion yn ardal Ynyshir wedi cysylltu â mi yn dilyn llythyrau a gawson nhw oddi wrth eu practis deintyddol yn amlinellu newidiadau i'r ffordd y maen nhw'n cael eu rhedeg. Mae'r iaith sy'n cael ei defnyddio wedi codi ofn a chreu ymdeimlad pendant o bwysigrwydd dechrau taliadau misol preifat yn gyflym, yn hytrach na chymryd amser i ystyried dewisiadau fel porth mynediad y GIG, lle gall drigolion bennu'r pellter y maen nhw'n fodlon neu'n gallu ei deithio ar gyfer apwyntiadau GIG. A wnewch chi bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu eglur, cytbwys a chyfrifol â'r cleifion yn ystod y trawsnewidiad hwn sy'n parhau, os gwelwch chi'n dda?
Diolch yn fawr i chi am godi hyn. Rwy'n deall sut y byddai llythyrau o'r fath yn peri pryder gwirioneddol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hynod siomedig i glywed y gallai rhai practisiau fod yn defnyddio'r trawsnewidiad hwnnw tuag at gytundeb GIG newydd yn gyfle i uwchwerthu triniaethau preifat. Nid chwarae teg mo hynny, a bod yn onest. Nid dyna yw pwrpas y diwygiad hwn ac nid yw'n cadw at ysbryd y GIG.
I'r rhan fwyaf o gleifion sydd â pherthynas barhaus â'u deintyddion eisoes, ychydig iawn ddylai fod yn newid. Yr hyn a fydd yn newid yw canolbwyntio pendant ar ddilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal o ran cyfnodau adalw. Hyd yma, mae pobl yn cael eu galw i mewn bob chwe mis, ni waeth beth fo cyflwr eu dannedd nhw. Mae canllawiau NICE yn awgrymu y gellid cael ysbeidiau hwy, a dyna'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yn y cytundebau.
Gadewch i ni fod yn eglur: mae deintyddion yn dal i fod yn gontractwyr annibynnol, a nhw sy'n penderfynu faint o waith y GIG y byddan nhw'n ei ddarparu. Ond, os byddan nhw'n tynnu allan, fe fydd y cyllid yn aros gyda'r GIG ac yn cael ei roi mewn cytundebau eraill â phobl eraill. Felly, fe fydd yn dal i fod yng nghytundebau'r GIG. Weithiau fe fydd hi'n cymryd ychydig o amser i ymrwymo'r cyllid hwnnw o'r newydd, ond fe fydd yn aros yn y GIG.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau uniondeb etholiad y Senedd? OQ63879
Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n credu y dylid cael sefydliadau cadarn, gwybodaeth eglur, ac ymddiriedaeth mewn bywyd cyhoeddus. Mae democratiaeth yn werthfawr, ac mae angen i ni ei hamddiffyn. Rydym ni'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid y DU, gan gynnwys y tasglu amddiffyn democratiaeth, i sicrhau uniondeb etholiad y Senedd. Rydym ni wedi cryfhau rheolau ymgyrchu, wedi gwella tryloywder, ac wedi deddfu er mwyn i'r pleidleiswyr allu cael gwybodaeth eglur, ddibynadwy am etholiadau Cymru. Rydym ni hefyd yn cryfhau gwaith craffu drwy ddiwygio'r Senedd, gyda 96 o Aelodau o 2026 ymlaen a gofynion o ran preswylio ar gyfer ymgeiswyr.
Diolch i chi, Prif Weinidog. Dyna sefyllfa drist yw hi pan fo raid i ni drafod yr angen i amddiffyn ein democratiaeth rhag dylanwadau allanol a hunan-fudd. Ond, wrth gwrs, dyna'r sefyllfa wirioneddol yr ydym ni'n ei hwynebu. Pa un a ddaw hynny oddi wrth deyrnedd Rwsiaidd sy'n ceisio cefnogi'r adain dde eithafol gydag arian llwgr ac ymgyrchoedd twyllwybodaeth a gynlluniwyd i hau anghytgord, neu oddi wrth elît cyfoethog sy'n ceisio cryfhau llwybrau er mwyn i'w ffrindiau ddod i rym, mae ein hetholiadau ni dan fygythiad. Mae'n rhaid i ni edrych ar yr anhrefn sy'n traflyncu San Steffan ar hyn o bryd i weld pa mor fregus y gall ein system ni fod. Fe wnaeth Labour Together roi arian i gario Syr Keir i rif 10, ac yna fe gafodd orchymyn ganddyn nhw i benodi eu ffrindiau nhw i swyddi o awdurdod. Dim ond ar ôl achos Mandelson y daeth hynny i'r amlwg. Ond, hyd yn oed ar ôl y llanastr hwnnw, fe welsom ni benodi Antonia Romeo, er gwaethaf rhybuddion niferus yn erbyn hynny. Yn anffodus, mae hyn yn tanseilio ymddiriedaeth yng ngwleidyddiaeth ac yn cryfhau dadleuon rhai ar y chwith eithafol a'r dde eithafol sy'n ceisio ymraniad ac anghytgord. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i alw am ymgyrch wleidyddol ar gyfer etholiadau'r Senedd a fydd yn rhydd o anonestrwydd, hunan-fudd a gwleidyddiaeth front?
Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cynnal uniondeb swyddi cyhoeddus, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb fel unigolion i wneud ein rhan yn hynny o beth. Mae adolygiad Philip Rycroft i ymyrraeth dramor mewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, yn fy marn i. Rydym ni'n fwy na ymwybodol yn y Siambr hon o sut y gall gweithredwyr allanol geisio dylanwadu ar ein prosesau democrataidd. Rydym ni wedi gweld cyn-Aelod yn y Siambr hon, cyn-arweinydd Reform yng Nghymru—. Nid yw pobl Reform yn gwrando, hyd yn oed. Fe'i cafwyd yn euog o gymryd llwgrwobrwyon oddi wrth Rwsiaid a'i ddedfrydu i dros 10 mlynedd o garchar. Mae hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cadw gweithredwyr rhyngwladol allanol draw oddi wrth ein democratiaeth ni. Fe fu honiadau diweddar, er enghraifft, fod gweithgarwch wedi bod o gyfeiriad Iran o ran dyfodol cyfansoddiadol yr Alban. Rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i ni gymryd unrhyw ymyrraeth o dramor yn ein systemau democrataidd ni'n ddifrifol iawn.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bwyd wedi'i brosesu'n helaeth ar y GIG? OQ63893
Mae deiet gwael yn niweidio pobl ac yn rhoi pwysau ar ein GIG. Mae gordewdra yn cynyddu'r risg o ganser, clefyd y galon a strôc. Dyna pam mae atal yn bwysig. I Lafur Cymru, mae hynny'n ymwneud â chyfiawnder lawn cymaint ag iechyd. Ni ddylai dyfodol unrhyw blentyn gael ei bennu gan god post eu mebyd, na'r bwyd y maen nhw'n gallu fforddio ei fwyta. Dyna pam mae atal yn un o'n blaenoriaethau creiddiol. Trwy ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', rydym ni'n buddsoddi mewn cymorth blynyddoedd cynnar, gweithredu cymunedol a gwell mynediad at fwyd iach fforddiadwy.
Diolch i chi. Mae'r cyfan yn dechrau gyda bwydo ar y fron, ond nid dyna yw pwnc fy nghwestiwn atodol heddiw.
Mae'r wybodaeth ar gael yn amlwg fod bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon a strôc yn sylweddol, gyda chynnydd o 40 y cant i 50 y cant mewn diabetes, y gwyddom ni ein bod ni'n gwario swm enfawr eisoes o gronfa'r GIG ar geisio ei drin. Mae'n cynyddu'r risgiau o wahanol fathau o ganserau hefyd. Mae'r diwydiant bwyd i gyd yn gwybod hyn, ond ni fyddan nhw'n newid oni bai y ceir gwell rheoleiddio, ac rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud hynny.
Ond o ystyried y dystiolaeth lethol, mae angen i ni fynd i'r afael hefyd â sut yr ydym ni'n defnyddio ein caffael cyhoeddus. Ni allwn fynd ymlaen i fwydo sylweddau sy'n achosi niwed i ddisgyblion a chleifion. Mae menter gymdeithasol, Well-Fed yn Shotton, wedi tynnu pob bwyd wedi'i brosesu'n helaeth allan o'u prydau nhw. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i roi dyddiad ar gyfer gwahardd bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth rhag caffael cyhoeddus?
Mae safonau bwyd a maeth y sector cyhoeddus i gefnogi'r gwaith o gaffael dewisiadau bwyd sy'n fwy iach yn cael eu llywio eisoes gan sawl fframwaith a menter, ac fe fyddwn ni'n adolygu'r rhain ar gyfer cyfleoedd i gryfhau eu gweithrediad ymhellach yng Nghymru yn lleoliadau'r sector cyhoeddus. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol iawn ein bod ni wedi gwneud llawer iawn o waith o ran y cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac rydym ni wedi ymrwymo i ymgynghori ar ddewisiadau i wella'r cynnig bwyd iach yn lleoliadau'r sector cyhoeddus.
Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol nad oes diffiniad cytunedig o fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth. Mae'n bosibl egluro'r cysylltiadau andwyol a welir gyda bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth gan fod llawer o fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yn uchel o ran braster dirlawn, siwgr a halen, ac mae lleihau'r defnydd o'r rhain yn rhan o'r cyngor deietegol yr ydym ni'n ei ddarparu eisoes.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014? OQ63888
Roedd gwerthusiad annibynnol yn canfod bod y Ddeddf wedi ysgogi newid diwylliannol gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n rhoi urddas, llais ac atal wrth hanfod gofal. Mae Llafur Cymru o'r farn y dylai gofal cymdeithasol gael ei adeiladu o amgylch pobl, nid biwrocratiaeth, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda chynghorau a'r trydydd sector i wneud hynny'n realiti. Diwygiad i'r hirdymor yw hwn ac yn gyfan gwbl dyma'r cyfeiriad cywir i Gymru.
Diolch i chi. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, nid wyf i'n argyhoeddedig ei fod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr ydych chi'n ei awgrymu nawr. Ers 1999, mae 4,277 o welyau wedi cael eu colli o'r GIG, ac mae 40 o gartrefi gofal yng Nghymru wedi cau, ond dim ond pedwar sydd wedi agor rhwng 2020 a 2023. Mae ymchwil gan Christie & Co yn arddangos y gallai'r golled fod mor fawr fel y byddwn 10,000 o welyau yn brin dros y degawd nesaf.
Mae pobl yn byw yn hŷn, sy'n beth hyfryd, ond yn amlwg mae hynny'n dod â'i heriau ei hun o ran darparu gofal cymdeithasol. Fe welsom ni roi cyllidebau cyfyngedig i'n hawdurdodau lleol dros y blynyddoedd ar gyfer ein sector gofal cymdeithasol. Rydym ni'n clywed gan etholwyr a'u teuluoedd nawr iddyn nhw gael eu cadw mewn gwelyau mewn ysbytai am nad oes unrhyw gytundebau wedi cael eu gwneud iddyn nhw allu gadael yr ysbyty a chael lleoedd mewn cartrefi gofal i'w cefnogi nhw.
Rwy'n clywed nawr, Prif Weinidog, sy'n rhywbeth pryderus iawn, pe byddai digwydd bod angen i mi fynd i'r ysbyty heddiw, gan adael gwely mewn cartref gofal, a phe byddwn mewn ysbyty am chwe wythnos, fe fyddai'r cyllid hwnnw'n peidio. Yna, pe byddwn i'n ddigon iach i adael yr ysbyty hwnnw, fe allai hi gymryd sawl wythnos o ffeirio rhwng yr awdurdod lleol a'r darparwr cartref gofal i ganiatáu iddyn nhw fynd â'r preswylydd hwnnw yn ôl i'w cartref. Ni all hynny fod yn iawn.
Mae angen y cyd-fynd cyfunol hwn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd, ac felly yn cymryd y gwelyau ysbyty gwerthfawr hynny—
A wnewch chi ddod at eich cwestiwn, Janet Finch-Saunders?
Beth fyddwch chi'n ei wneud, Prif Weinidog, i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-fynd a'i gilydd yn llawer gwell, fel roedd y Ddeddf ei hun yn 2024 yn datgan y byddai'n digwydd?
Rwy'n credu bod Deddf 2014 wedi arwain at newid diwylliannol mewn gofal cymdeithasol, gydag egwyddorion craidd fel atal, lles, llais a rheolaeth, cydgynhyrchu a gweithio amlasiantaeth. Mae hynny i gyd wedi cael ei gydnabod a'i werthfawrogi yn eang. Fe gawsom ni bartneriaethau o academyddion yn awgrymu bod hyn yn cael ei werthfawrogi yn eang oherwydd yr egwyddorion sydd ynddo.
Gadewch imi egluro ein bod ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a'n bod ni wedi gwario £1,054 y pen yng Nghymru ar wasanaethau cymdeithasol. Dyna £154 y pen yn fwy nag yn yr Alban, a £278 yn fwy nag yn Lloegr. Nid swm dibwys o arian mohono. Rydych chi'n gofyn am sicrhau bod y bartneriaeth yn cael ei datblygu yn well; rydym ni wedi rhoi dros £150 miliwn i'r gronfa integreiddio ranbarthol i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn gweithio gyda'r trydydd sector, gyda'i gilydd, gan ysgogi gwelliant ar gyfer pobl yn y system honno.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, John Griffiths.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid buddsoddi mewn rheilffyrdd yn Nwyrain Casnewydd? OQ63884
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sicrhau ymrwymiad hanesyddol hirdymor yn y rheilffyrdd sy'n werth £14 biliwn i Gymru oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU. Roedd honno'n gryn dipyn o ymdrech, gadewch i mi ddweud wrthych chi, ond fe gyrhaeddom ni'r fan. Mae hynny'n cynnwys saith gorsaf newydd ledled Cymru, y cytunwyd arnyn nhw yn yr adolygiad gwariant cyfredol. Fe fydd tair o'r saith gorsaf yn Nwyrain Casnewydd, yn Somerton, Llanwern a Magwyr. Mae hynny'n ychwanegol i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu metro de Cymru eisoes, gyda leiniau wedi'u trydaneiddio, cerbydau newydd, gwasanaethau mwy cyson a system arloesol tocynnau talu wrth fynd.
Y pwynt gwirioneddol ynglŷn â buddsoddiad mewn trafnidiaeth yw nad ei ystyr yw estyn cyfle i deithio o un lle i'r llall, ei ystyr yw cysylltu pobl â swyddi, addysg a chymdeithas. Am flynyddoedd, roedd Cymru wedi cael ei hamddifadu o gynnig teg gyda'r rheilffyrdd dan y Llywodraeth Geidwadol. Nawr mae buddsoddiad mwy nag erioed gennym ni yn ogystal â sicrwydd i'r hirdymor.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i o'r farn fod y cyhoeddiad hwn sydd i'w groesawu yn fawr yn ddechreuad pwysig o ran mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hirsefydlog a fu yn y rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae metro de Cymru yn trawsnewid y ddarpariaeth o wasanaethau sy'n gyson, fforddiadwy, o safon dda ac sy'n cysylltu pobl ledled yr ardal â swyddi, hyfforddiant ac addysg, ac yn denu buddsoddiad economaidd ar draws yr ardal. Mae hyn felly nid yn unig yn caniatáu i bobl deithio ar gyfer gwaith a chyfleoedd eraill, ond dod â'r swyddi hynny a chyfleoedd eraill at garreg y drws iddyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o adeiladu system drafnidiaeth integredig, y mae ei hangen hi'n fawr ar Gymru.
Yn Nwyrain Casnewydd, Prif Weinidog, fe fydd hynny'n helpu i leddfu'r pwysau ar yr M4, sy'n fater hanfodol. Ac fe gafodd hyn i gyd ei nodi, wrth gwrs, yng nghomisiwn Burns sy'n cynnwys buddsoddiad mewn traciau, a'r gorsafoedd newydd hynny y soniwyd amdanyn nhw yn Nwyrain Casnewydd, sy'n gwobrwyo'r ymgyrch gymunedol hirdymor ac effeithiol iawn ar gyfer gorsaf llwybrau cerdded ym Magwyr a Gwndy, yn ogystal â Llanwern a Somerton.
Felly, mae hyn i gyd i'w groesawu yn fawr iawn, Prif Weinidog, ac a wnewch chi gadarnhau heddiw, tybed, mai rhan yw hon o ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth y DU a Chymru, sy'n arddangos ymrwymiad i gynllun Burns yn ei gyfanrwydd ar hyd ac ar ôl y cyfnod adolygu gwariant cyfredol.
Fe fuom ni'n gofyn ers amser maith am y buddsoddiad hwn. Gadewch i ni fod yn eglur: fe wnaethom ni ofyn amdano dan y Torïaid, ac ni wnaethon nhw ei roi i ni. Ac rydym ni wedi gofyn amdano dan Lywodraeth y DU. Ac fe fuom ni'n eglur ynglŷn â'r peth, a'r hyn y gwnaethon nhw ei ddweud oedd, 'Dangoswch i ni beth rydych chi'n dymuno ei ddatblygu.' Felly, dyna'r hyn a wnaethom ni. Fe wnaethom ni lunio cynllun i roi gweledigaeth ar gyfer Cymru—'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'—sy'n dangos sut yr ydym ni'n dymuno gweld datblygiad y weledigaeth honno ar gyfer Cymru. Fe edrychodd yr adran drafnidiaeth yn y DU ar hynny. Ac fe wnaethon nhw gytuno â hynny. Fe aeth o gwmpas Llywodraeth y DU i gyd, ac roedden nhw'n deall ac maen nhw wedi cymeradwyo hyn.
Nawr, yr hyn yr ydych chi'n ei ddeall, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddeall yn well na neb, yw pan fyddwch chi'n buddsoddi o ran y rheilffyrdd, mae'n rhaid i chi edrych i'r hirdymor. Felly, 15 mlynedd yn ôl, fe gafwyd gweledigaeth ar gyfer metro de Cymru. Pe na bai fy rhagflaenwyr wedi glynu wrth y weledigaeth honno, ni fyddai wedi cael ei chyflawni. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw mai'r hyn sydd ei angen arnoch chi yw Llywodraeth sy'n sefydlog. Mae angen gweledigaeth hirdymor, ond mae angen i Lywodraethau dilynol gadw at y weledigaeth honno hefyd. Ac mae hynny'n arbennig o wir o ran y rheilffyrdd. Ac mae hi'n wych gweld y bydd pobl yn eich etholaeth chi'n gweld mantais nawr o ganlyniad i'r gorsafoedd hynny sy'n cael eu hadeiladu yn unol â Burns. Ac rwy'n credu mai peth trist iawn yw bod pleidiau yn y Siambr hon yn ffaelu yn deg â chroesawu'r cyhoeddiad a wnaeth Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad busnes yma.
Un peth da—erbyn hyn, nid oes raid i mi aros am eiliad i ganiatáu i'r Prif Weinidog symud o'i lle ac i'r Trefnydd fynd at y podiwm. Mae'n digwydd yn syth. Y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona wedi ei gohirio tan 10 Mawrth. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, o ystyried sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â phenderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gamau nesaf ei gynllun gwasanaethau clinigol. Fel clywsoch chi'n gynharach, fe gynhaliodd y bwrdd iechyd gyfarfod eithriadol dros ddau ddiwrnod yr wythnos diwethaf. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaethon nhw bleidleisio ar ddarparu naw gwasanaeth clinigol yn ardal y bwrdd iechyd yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, un o'r penderfyniadau hynny oedd cael gwared ar wasanaethau llawdriniaeth gyffredinol argyfwng. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae hyn wedi cythruddo a chynhyrfu llawer o'm hetholwyr i. Gadewch i mi wneud hyn yn gwbl eglur: fe gaiff y Prif Weinidog geisio rhoi'r wedd orau ar hyn gymaint ag y dymuna—nid codi bwganod mo hyn pan fo ysbyty Llwynhelyg eisoes wedi colli gwasanaethau fel yr uned gofal arbennig babanod, er enghraifft. Felly, fe fydd y penderfyniad i gael ymwared ar wasanaethau llawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn gorfodi mwy o bobl eto hyd yn oed i deithio ymhellach am driniaethau brys ac fe fydd hynny'n tanseilio hyfywedd adran damweiniau ac achosion brys ysbyty Llwynhelyg yn ddifrifol.
Mae'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn awyddus i weld camau yn cael eu cymryd ar fyrder i rwystro'r bwrdd iechyd rhag gweithredu'r penderfyniad trychinebus hwn, a hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollol dawedog ynglŷn â hyn. Mae'r Prif Weinidog yn ysgwyd ei phen, ond fe fu Llywodraeth Cymru yn gwbl dawedog ynglŷn â hyn. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru er mwyn iddi egluro a yw hi'n cefnogi penderfyniad y bwrdd iechyd i ddiddymu'r gwasanaethau llawdriniaeth gyffredinol argyfwng yn ysbyty Llwynhelyg, ac os nad felly, yna mae angen iddi nodi beth mae hi'n bwriadu ei wneud cyn i benderfyniad y bwrdd iechyd gael ei roi ar waith. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, Paul Davies. Wrth gwrs, fel gwyddoch chi, y byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer eu poblogaethau lleol, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a fu'n ymgymryd ag adfywiad strategol o ran ei gynllun ar gyfer gwasanaethau clinigol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eglur o ran ei ddisgwyliad y bydd bob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, ac sy'n cwrdd ag anghenion eu poblogaethau lleol. Y byrddau iechyd sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn disgwyl iddyn nhw gynnal arfarniad trylwyr o'r dewisiadau ac asesiad effaith ansawdd o ran unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau, ac ymgysylltu â'r cyhoedd yn unol â'r canllawiau cenedlaethol hynny.
Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mi hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan y Prif Weinidog ar y weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd. Datganiad ysgrifenedig yn unig gawsom ni, ond, yn amlwg, mae'r Prif Weinidog yn awyddus iawn i gael trafodaeth yn y Siambr hon, ac rydym ninnau hefyd yn awyddus i gael trafodaeth a'r cyfle i graffu.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano fo ydy un gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, o'r streic gan ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a fydd yn para am fis. Mae hyn yn bryderus dros ben. Mae o ynglŷn â chyflog a bandio'r ymwelwyr iechyd hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn beio Llywodraeth Cymru am y broblem. Felly, yr hyn y buaswn i'n hoffi ei wybod ydy beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatrys hyn ar fyrder, oherwydd dwi'n pryderu yn fawr am y diffyg gwasanaeth a'r gefnogaeth sydd yna i famau a theuluoedd, ar adeg lle mae angen y gefnogaeth yma.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Diolch i chi am y cwestiwn yna ynglŷn â 'Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau'. Roedd y Llywodraeth yn dymuno sicrhau bod y Senedd yn ymwybodol o'r ddogfen ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru'r wythnos diwethaf, ac, yn wir, y pecyn hwnnw o £14 biliwn a gyhoeddwyd. Ond mewn gwirionedd, fe fyddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn hoffi gwneud datganiad llafar. Rydym ni'n ymgeisio am bosibilrwydd ac amser i wneud hynny nawr, ac rwy'n siŵr y byddai croeso i hynny. Ond fe fyddai'n rhoi cyfle hefyd i Ken sicrhau bod y Senedd yn gwybod yn llawn am ehangder, lled, a dyfnder y pecyn hwn o £14 biliwn Felly, rwy'n credu y byddai croeso i ddatganiad llafar. Fe fyddwn ni'n gwneud ymgais, gyda'n hamserlen lawn yn y Pwyllgor Busnes, i roi gwybod i bawb sut y gallwn ni sicrhau y bydd hynny'n digwydd yn yr wythnosau nesaf.
Mater i Gwm Taf yw hwn o ran y sefyllfa yn ardal Cwm Taf ynglŷn ag effaith bosibl hyn. Yn amlwg, rydym ni'n gweithio ac yn ymrwymedig i bartneriaeth gymdeithasol, sy'n hanfodol o ran y ffordd y byddem ni'n disgwyl i'n byrddau iechyd weithio hefyd. Mater yw hwn lle mae'r cyfleoedd i godi hyn gyda'ch bwrdd iechyd chi, wrth gwrs, yn eglur ac yn bwysig iawn.
Fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar gyfer cynorthwyo gydag amrywiaeth yr ymgeiswyr a ddaw yma yn yr etholiadau i'r Senedd. Fe wn i fod y Trefnydd wedi mynd ar drywydd hynny'n bendant iawn. Roeddwn i'n meddwl tybed a gawsoch chi unrhyw gyfle i weld pa dystiolaeth sydd i'w chael fod yr amrywiaeth yn debygol o gynyddu yn yr etholiadau nesaf i'r Senedd, o'r hyn yr ydych chi wedi gallu ei weld hyd yn hyn.
Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan, am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, fe wnaethom ni roi'r cyfle hwn i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd hwnnw'n gam mawr ymlaen, ac fe wnaethom ni ei basio trwy gyfrwng cyfraith Cymru. Roeddem ni'n ystyried y byddai hyn yn rhoi mwy o dryloywder i bleidleiswyr ynghylch sut y caiff yr ymgeiswyr eu dewis, sy'n helpu i ysgogi'r newid cadarnhaol sydd ei angen i greu Senedd sy'n adlewyrchu ac yn cynrychioli pobl Cymru yn wirioneddol. Mewn gwirionedd, rydym ni'n arwain y ffordd o ran cynhyrchu'r canllawiau hyn ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld y rhain yn cael eu cyhoeddi gan bob plaid wleidyddol yn y Senedd. Rwy'n ymwybodol bod un neu ddwy blaid, ac yn sicr mae ein plaid ni, Llafur Cymru, wedi cyhoeddi'r canllawiau hynny o ran amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae hyn yn ymwneud â'r ffyrdd y gall pleidiau gwleidyddol gryfhau amrywiaeth a chynhwysiant nawr, cyn gofynion cyfreithiol yn y dyfodol yn unol ag adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010. Roeddwn i'n falch iawn o weld ein canllawiau ni'n cael eu nodi fel esiampl o arfer da yn yr alwad a ailadroddwyd ddoe gan Gomisiwn Moesgarwch Jo Cox i bob un o'r cenhedloedd datganoledig eu gweithredu. Fel dywedais i, rydym ni yn Llafur Cymru wedi cyhoeddi ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym ni'n aros i weld y rhestrau terfynol o ymgeiswyr yn dechrau cael eu cyhoeddi ar gyfer etholiad y Senedd. Fe fyddwn ni'n edrych gyda diddordeb i weld i ba raddau y mae pleidiau gwleidyddol wedi ymateb i'r alwad honno am amrywiaeth a chynhwysiant. Rwy'n annog pleidiau yn daer i gyhoeddi gwybodaeth yn wirfoddol ynglŷn ag amrywiaeth eu hymgeiswyr nhw ar ôl yr etholiad hefyd.
Trefnydd, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd. Rwyf i wedi cysylltu â llawer o etholwyr yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd cyfleusterau cyhoeddus yn cael eu cau yn eu cymunedau nhw. Fe wyddom ni fod cyfleusterau cyhoeddus yn bwysig iawn, yn enwedig i'r bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau, o ran gallu cael mynediad atyn nhw. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n asedau pwysig i'n heconomi ymwelwyr ni hefyd. Ond mae hi'n bryderus ein bod ni'n gweld llawer o'r rhain yn cau ledled Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi bod gan Lywodraeth Cymru Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdodau lleol gyhoeddi strategaethau ar gyfer eu cyfleusterau cyhoeddus nhw, ond nid oes unrhyw ofyniad statudol arnyn nhw o ran darparu cyfleusterau cyhoeddus. Rwy'n credu bod hwn yn fater y mae angen ei ystyried ar gyfer sicrhau nad ydym ni'n colli rhagor o'n tai bach ledled Cymru. A gawn ni ddatganiad ynghylch a yw hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried?
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Rwy'n credu eich bod chi'n adlewyrchu nid yn unig y budd i'r cyhoedd yn hyn o beth, o ran argaeledd cyfleusterau cyhoeddus, ond mater iechyd cyhoeddus amlwg iawn. Roeddem ni'n gallu sicrhau, trwy'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus, bod angen cyhoeddi strategaethau ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus. Rwy'n gallu cofio, dros y blynyddoedd, ein bod ni wedi trafod y ffaith hefyd ein bod ni wedi gofyn i siopau a busnesau roi eu cyfleusterau nhw at ddefnydd y cyhoedd hefyd. Felly, mae hyn yn gofyn am strategaeth, sy'n cael ei hysgogi yn lleol, gydag ymgysylltiad pobl leol. Ond mae hwn yn fater sydd, rwy'n siŵr, yn cael ei ystyried gan bleidiau gwleidyddol o ran gofynion statudol yn y dyfodol y gallai pleidiau fod o'r farn y bydden nhw'n ddefnyddiol ac yn angenrheidiol. Ond mae hi'n bwysig eich bod chi wedi rhoi hyn ar yr agenda gyhoeddus unwaith eto heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy'n gofyn am ddiweddariad ar gynigion y metro ar gyfer Bae Abertawe. Mae angen i hyn gynnwys y dyddiad y bwriedir ailagor gorsafoedd rheilffordd Glandŵr a'r Cocyd. Mae angen i'r datganiad gynnwys diweddariad hefyd o ran gwybodaeth amser real am fysiau mewn safleoedd bws, y cafodd rhai arwyddion eu gosod eisoes. Mae angen i'r datganiad gynnwys gwybodaeth am y cyfnewidfeydd arfaethedig ar gyfer bysiau a threnau.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ynglŷn â chwmni sy'n cyflogi dros 100 o bobl y tybir mai'r bwriad yw y bydd yn cau? Y Gweilch yw'r cwmni hwnnw. Mae pryderon gennyf i ynglŷn â cholli clwb chwaraeon mawr o Abertawe, ond mae'r pryder yr wyf i'n ei godi nawr yn ymwneud â cholli swyddi. Mae Media Wales yn rhestru'r cwmni yn un o'r 100 gorau yn Abertawe a'r gorllewin. A gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar gefnogaeth i'r bobl sy'n cael eu cyflogi yno ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr, Mike Hedges. O ran y cynigion ynghylch metro Bae Abertawe, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £6 miliwn mewn datblygu cynlluniau ar gyfer metro Bae Abertawe a'r gorllewin. Mae hynny'n cynnwys ystod o welliannau rheilffyrdd arfaethedig, gan gynnwys gorsafoedd newydd yng Nglandŵr a'r Cocyd. Wrth gwrs, fel gwyddoch chi'n dda iawn, mae'r rhaglen honno'n canolbwyntio ar gynnig ar gyfer saith gorsaf reilffordd newydd yn ardal drefol Bae Abertawe. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynigion manwl ar gyfer y gorsafoedd hyn, gan gynnwys Glandŵr a'r Cocyd. Fe wn i chi fod yn falch iawn o weld cynnwys y rhain yn 'Ymlaen, Gyda’n Gilydd', y weledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd a gafodd ei lansio'r wythnos diwethaf. Mae hyn unwaith eto yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth o gynigion ar gyfer metro Bae Abertawe yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw'r wythnos diwethaf sydd i'w groesawu yn fawr.
Rydych chi wedi codi mater y sefyllfa o ran y Gweilch ar bob cyfle a gawsoch chi. Mae Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig heddiw, yn ystyried yr effeithiau ar gyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, wrth gwrs, gyda Cymru'n Gweithio, y Ganolfan Byd Gwaith a'r awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yr effeithir arnyn nhw gan ddiswyddiadau, mewn unrhyw amgylchiadau, yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad sydd eu hangen arnyn nhw i gael y cymorth sydd ar gael ar eu cyfer nhw. Mae hynny'n amlwg yn cynnwys cymorth diswyddo ReAct+, grantiau hyfforddiant galwedigaethol, rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy a Busnes Cymru. Mae hwn yn gyfle pwysig i atgoffa pobl yr effeithir arnyn nhw—ac fe wnaethoch chi gyfeirio at un amgylchiad penodol—o'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu mewn partneriaeth â llywodraeth leol a'r Ganolfan Byd Gwaith.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar anhwylderau bwyta. Mae hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta mewn gwirionedd ac mae elusen Beat yn tynnu sylw at yr angen taer i gryfhau a safoni gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Mae anhwylderau bwyta yn effeithio ar o leiaf 62,500 o bobl ledled Cymru ac mae angen ymyrraeth amserol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella'r canlyniadau ac ysgafnu'r pwysau hirdymor ar y GIG. Felly, maen nhw'n gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod technegau arloesol a gafodd eu profi, megis cymorth cymheiriaid â phrofiad bywyd a dulliau ymyrraeth gynnar, yn cael eu hymgorffori yn systematig yn narpariaeth y GIG ar draws pob bwrdd iechyd. Yn benodol, maen nhw'n gofyn sut y bydd yr hyn sy'n cael ei ddysgu drwy fentrau, megis y gwasanaeth cymorth cymheiriaid a lansiwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn cael ei ymestyn hyd raddfa genedlaethol, a sut y caiff cysondeb, ansawdd ac effaith eu mesur. Mae angen eglurder hefyd o ran y cynnydd tuag at ddatblygu llwybr ymyrraeth gynnar cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta, a fyddai'n cynnwys sut y bydd dichonoldeb, cost-effeithiolrwydd ac amrywiad yn y ddarpariaeth bresennol yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at gymorth amserol ble bynnag y bo pobl yn byw yng Nghymru. Rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd yn unol â hynny.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod wedi codi'r mater hwn, sy'n effeithio ar lawer o bobl, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, gan dynnu sylw hefyd at ddarpariaeth Bwrdd Aneurin Bevan a'r angen i sicrhau bod cefnogaeth gyson i'w chael ledled Cymru. Fe fyddaf i'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni drwy gyfrwng datganiad ar anhwylderau bwyta a chefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw, yn enwedig felly o ran profiad bywyd.
Roeddwn i'n awyddus i godi goblygiadau cau swyddfa StepChange yng Nghaerdydd, sef elusen sy'n rhoi cyngor arbenigol ar ddyledion. Yn y swyddfa yng Nghaerdydd y caiff tîm eiriolaeth a chleientiaid agored i niwed yr elusen ei leoli, sy'n rhoi cefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol neu anafiadau sy'n newid bywydau, neu'n dioddef cam-drin domestig, neu â salwch terfynol. Maen nhw'n gofyn i ychydig yn llai na 30 o bobl adleoli i Gaer neu Leeds, ac o bosibl fe allai hynny olygu colli cynghorwyr dyled arbenigol mewn sefyllfa lle gwyddom ni fod llawer gormod o bobl yn cael eu twyllo gan bobl sy'n eu gwahodd nhw i fynd i fwy o ddyled nag y gallan nhw ei fforddio. Felly, tybed a gafodd Llywodraeth Cymru unrhyw gyfle i asesu'r goblygiadau ar gyfer argaeledd gwasanaethau cynghori ar ddyledion, gan gofio bod gwasanaethau cyngor ar bopeth rhagorol iawn gennym ni sy'n cael eu darparu yn lleol.
Diolch i chi am godi hyn, Jenny Rathbone, oherwydd rwy'n deall bod elusen dyledion StepChange yn un o'r darparwyr mwyaf yn y DU sy'n cynghori pobl ar ddyled am ddim ac yn ddi-duedd. Mae'n darparu ei wasanaethau cynghori o bellter trwy gyfrwng galwadau ffôn a chyfathrebu ar-lein ac, fel gwyddoch chi, nid yw'n cynnig gwasanaethau yn y cnawd i neb. Ond maen nhw wedi mynegi, StepChange hynny yw, eu bod nhw'n ymgynghori ar gau eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Birmingham. Rwyf i wedi gofyn iddyn nhw am gyfarfod ynglŷn â hyn oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater, o ran gwasanaethau cynghori, yr wyf i'n arbennig o bryderus yn ei gylch os oes yna unrhyw effeithiau ar wasanaethau nad oes yna efallai, i Lywodraeth Cymru, o ran ein cefnogaeth ariannol i StepChange, ond rwy'n ceisio edrych yr hyn fydd yr effaith. Rwy'n deall bod StepChange yn honni na fydd unrhyw leihad yn nifer yr ymgynghorwyr dyled a gaiff eu cyflogi nac unrhyw effaith ar allu'r sefydliad i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth, ac felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y cyhoeddiad hwn ac yn cael rhagor o wybodaeth ac yn ymgysylltu â StepChange ar lefel y DU.
Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar sut mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gynllunio i'w gwneud yn fwy cadarn i ymdrin â busnesau sy'n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol. Fe godais i faterion lawer gwaith yn y Siambr hon dros y blynyddoedd diwethaf ond ni welsom unrhyw gamau gweithredu, ac mae pryder cynyddol ymysg y cyhoedd. Fe ddatgelodd y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr y llynedd fod pedwar busnes yn y gogledd, gan gynnwys busnes golchi ceir, barbwr arddull Twrcaidd yn fy etholaeth i, a siop cludfwyd, wedi cael eu dirwyo am gyflogi gweithwyr anghyfreithlon. Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi bod yn rhoi pwyslais arbennig hefyd ar olrhain busnesau sy'n gysylltiedig â gwyngalchu arian a masnachu pobl, ond dim ond newydd ddechrau arni y maen nhw o ran datrys problem aruthrol fawr. Mae angen mynd i'r afael â hyn trwy'r system gynllunio hefyd, trwy gyfyngu ar nifer y masnachwyr mewn un ardal y mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn nodi fel rhai sy'n fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â throseddu, fel barbwyr arian parod yn unig, siopau fêps a siopau melysion ar arddull Americanaidd. Mae amlhad busnesau troseddol dan gochl parchusrwydd ar y stryd fawr yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau gonest a chyfreithlon, ac rwy'n clywed y pryderon hyn gan etholwyr yn rheolaidd. Felly, a gaf i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu pa fesurau sy'n cael eu hystyried i wneud y system gynllunio yn un sy'n fwy cadarn, i sicrhau nad yw strydoedd mawr Cymru yn hafan mwyach i fentrau troseddol? Diolch i chi.
Rwy'n credu ein bod ni'n falch iawn o'n strydoedd mawr yng Nghymru ac, mewn gwirionedd, yr effaith gadarnhaol a gaiff ein buddsoddiad Trawsnewid Trefi ar ganol ein trefi. Ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o'n busnesau a llawer o fusnesau annibynnol yng nghanol ein trefi a'r swyddogaeth bwysig sydd ganddyn nhw, sy'n cynnwys darparu gwasanaethau personol allweddol i bobl. Ond, yn amlwg, mae'r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol—na chafodd ei datganoli, ac ni chafodd plismona ei ddatganoli, er ein bod ni'n ceisio cael mwy o bwerau a chyfrifoldebau o ran plismona—yn amlwg yn ymwybodol o faterion ac yn gweithio yn glòs iawn gyda'r awdurdodau lleol ynghylch unrhyw droseddau cyfundrefnol y gallan nhw fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan yr unigolyn perthnasol sy'n gyfrifol am lygredd dŵr—neu am fonitro llygredd dŵr, nid yn gyfrifol am lygredd dŵr? Fe gefais i'r fraint fawr heddiw o gwrdd â phlant ysgol a Surfers Against Sewage y tu allan i'r Senedd, a oedd yn protestio yn erbyn graddfa'r llygredd dŵr yn ein moroedd a'n hafonydd. Ddeuddeng mis yn ôl, roeddwn i'n falch o sicrhau £5 miliwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yng nghytundeb ein cyllideb, ond nid oedd hynny'n ddigonol. Mae Afon Gwy, ym mro fy mhreswylfa, yn wynebu chwalfa ecolegol erbyn hyn. Ni ddaeth y cynllun gweithredu o £35 miliwn a addawyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU erioed i'r golwg. Nid yw Llywodraeth Lafur newydd y DU wedi llwyddo i weithredu unrhyw gynllun tebyg arall yn lle hwnnw eto. Yn y cyfamser, mae ymchwiliadau llygredd wedi cael eu lleihau, ac mae cymunedau yn cael eu gadael yn pryderu nad yw'r adnoddau gan y rheoleiddwyr i weithredu yn gadarn. Mae hon yn afon sy'n llifo yn drawsffiniol ac nid yw llygredd yn stopio ar Glawdd Offa. Heb gydlyniad cadarn rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, mae cynnydd ar un ochr mewn perygl o gael ei ddadwneud ar yr ochr arall. Felly, a gaf i ofyn i chi beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd yn yr afonydd a llygredd ar ein traethau hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rydym ni'n cydnabod pa mor daer yw'r pwysau ar Afon Gwy, sy'n cynnwys llygredd maethynnau a'r dirywiad o ran bywyd gwyllt, ac mae hi'n rhagorol gweld plant ysgol yn ymgysylltu â hyn ac yn codi'r materion hyn gyda chi heddiw. Yn amlwg, mae cydweithrediad agos â Llywodraeth y DU yn hanfodol ar gyfer yr afon drawsffiniol hon, ac rydym ni wedi ymrwymo i wella ansawdd ei dŵr gyda'n gilydd. Mewn gwirionedd, fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog â'r Gweinidog o Lywodraeth y DU, Emma Hardy, gyfarfod ym mis Rhagfyr i siarad am Afon Gwy. Mae hi'n llifo ar hyd ffiniau Cymru a Lloegr. Fe gytunodd y ddwy Lywodraeth i weithio gyda'i gilydd yn fwy clòs er mwyn canfod ffyrdd gwell o gydweithio â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru ac yn Lloegr.
Yr hyn sy'n bwysig, yn fy marn i, yw i reoliadau llygredd amaethyddol fod yn allweddol o ran mynd i'r afael â hyn. Mae'r gorfodi yn cynyddu, gyda thros £1.58 miliwn eleni i gefnogi CNC i dargedu gweithgareddau risg uchel. Ond mae hi'n bwysig ystyried Dŵr Cymru hefyd. Maen nhw wedi ymrwymo i roi £133 miliwn tuag at uwchraddio dalgylchoedd afonydd fel afon Gwy. Ac rydym ni'n cefnogi Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch Gwy dan arweiniad lleol, gyda dros £341,000 o gyllid hyd yn hyn, i nodi ffynonellau o lygredd a darparu atebion wedi'u targedu at ddalgylch penodol. Yn ogystal â hynny, mae'r bwrdd hwnnw'n allweddol i ddatgloi datblygiadau tai sydd wedi oedi yn nalgylch afon ardal cadwraeth arbennig Gwy.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu eglwysi yng Nghymru, os gwelwch chi'n dda. Fel gwyddoch chi, dros y penwythnos, fe gyhoeddodd Zia Yusuf, Ysgrifennydd Cartref nesaf y DU, gynlluniau y byddai'r Llywodraeth Reform yn rhoi statws gwarchodedig i eglwysi, er mwyn gweld treftadaeth Gristnogol Prydain yn cael ei harbed. Fe fyddwn ni'n rhoi statws rhestredig i bob eglwys ar gyfer gwahardd eu trosi yn fannau addoli ar gyfer unrhyw ffydd arall. Fel gwlad Gristnogol falch gyda ffydd Gristnogol gref, mae hi'n hanfodol ein bod yn adfer ystyr ddiwylliannol ledled ein cenedl. Mae cenedl Gristnogol yn genedl gynhwysol; nid yw'n allgáu, fel gwna crefyddau eraill. Heb ystyried ffydd rhywun neu ei diffyg hi, neu i ba ffydd y maen nhw'n perthyn, mae treftadaeth Gristnogol y wlad hon yn bwysig iawn, felly hefyd ei hamddiffyn hi. Fel arall, fel gellir dadlau, nid cenedl mohoni; ond parth economaidd. Mae crefydd bob amser wedi bod yn bwysig i bobl Cymru; mae'n dod â chymunedau ynghyd â gwerthoedd a rennir. Trefnydd, fe hoffwn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i amddiffyn ein heglwysi ledled Cymru. Diolch.
Wrth gwrs, o ran ein heglwysi, mae amrywiaeth o enwadau yn ceisio amddiffyn eglwysi a chefnogi eglwysi o ran adeiladau a defnyddio eglwysi ar gyfer llawer o gyfleusterau eraill. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod ein grant cyfleusterau cymunedol, yn aml, yn ariannu eglwysi ac addoldai, yn wir. Fe hoffwn ymestyn y cwestiwn hwn dim ond ar gyfer ddiweddaru'r Aelodau ar y ffaith bod ein haddoldai yn cynnwys mosgiau, yn cynnwys temlau, oherwydd cenedl ydym ni sy'n cydnabod ymrwymiad gwahanol grefyddau gyda'n fforwm cymunedau ffydd. Ond fe fyddwn i'n dweud hefyd, o ran eich sylwadau chi, mae 'câr dy gymydog fel ti dy hun' yn un o'r gwerthoedd Cristnogol y byddwn i'n awgrymu i chi ei gydnabod hefyd, o ran y ffaith bod Reform yn fygythiad i lawer o'r bobl hynny y gwnaethom ni eu croesawu a'u cefnogi yn rhan o'n cenedl noddfa cyn hyn. Ac rwy'n meddwl: ym mha le, tybed, y mae hynny'n cyd-fynd â'r pwyntiau a wnaethoch chi'r prynhawn yma?
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn â'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya? Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen, dros y toriad, am y gostyngiad sylweddol yn nifer y marwolaethau a'r anafiadau difrifol ledled Cymru ar ffyrdd sydd wedi'u gostwng i 20 mya. Ac mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y gostyngiad bron ddwywaith nag yw mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Nid oedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn yn cofnodi'r ystadegau hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad pellach, sy'n egluro'n bwysig y gostyngiad yn nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol sy'n newid bywydau, a hefyd yn darparu'r ystadegau sylweddol diweddaraf.
Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna Lesley Griffiths, oherwydd, yn amlwg, mae'r gostyngiad mwy mewn marwolaethau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i'r polisi i sicrhau y gall lefelau cyflymder is 20 mya achub ac mewn gwirionedd y maen nhw'n achub bywydau ac yn lleihau anafusion. Ac mae'r darlun, o ran yr hyn sy'n dod drwodd o ran ystadegau, yn galonogol iawn. A hefyd i atgoffa ein cyd-Aelodau bod cyflymderau is â chysylltiad cryf â llai o wrthdrawiadau a llai o rai difrifol. Mae'r gostyngiad rydyn ni'n ei weld eisoes yn ddangosydd cynnar pwysig bod y polisi yn gweithio fel y bwriadwyd. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos yn gyson y gall hyd yn oed gostyngiadau bychain mewn cyflymder cyfartalog arwain at ostyngiadau sylweddol mewn anafusion.
Mae gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafusion yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y duedd ar i lawr hon yn parhau, wrth gymharu gwrthdrawiadau ac anafusion 20 mya a rhai 30 mya cyn ac ar ôl cyflwyno'r polisi 20 mya. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 mya a 30 mya 33 y cant yn is nag yn yr un un chwarter yn 2023, sef y chwarter olaf cyn y newid i'r terfyn cyflymder diofyn. Mae anafusion ar ffyrdd 20 mya a 30 mya 33 y cant yn is nag yr oedden nhw yn yr un chwarter yn 2023. Ac ar draws Cymru, mae'r nifer a laddwyd ac a ddioddefodd anafiadau difrifol wedi gostwng o 150 yn chwarter 3, 2023 i 115 yn chwarter 3, 2025—arwyddion cynnar pwysig bod 20 mya yn lleihau cyflymderau, yn gwella diogelwch, yn helpu i greu amgylcheddau sy'n cefnogi mwy o gerdded, olwyno a beicio, yn enwedig i blant, pobl hŷn a defnyddwyr ffyrdd mwy agored i niwed.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rydyn ni bron iawn wedi defnyddio'r amser i gyd ac mae pedwar Aelod yn dymuno siarad, felly rwyf am alw pob un o'r pedwar, ond a gaf i ofyn i chi fod yn gryno ac yn eithaf ymatebol hefyd, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Cabinet? Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y gwaith cynnal a chadw parhaus mewn ysgolion sy'n digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r cyngor i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol i leihau'r effaith ar addysg plant? Er ein bod i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a gwella ein hadeiladau ysgol, rwy'n fwyfwy pryderus, mewn rhai achosion, fod y gweithiau hyn yn cymryd blynyddoedd yn hytrach nag wythnosau i'w cwblhau.
Efallai y byddwch chi'n cofio, pan godais yr enghraifft o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, roedd y sgaffaldiau yno wedi bod i fyny ers cymaint o amser fel bod plant yn symud ymlaen trwy'r ysgol gyfan ac yn gadael, wedi'u hamgylchynu gan dywyllwch a malltod du, heb wybod sut olwg oedd ar yr adeilad mewn gwirionedd. Mae Ysgol Gynradd Parc y Rhath ac Ysgol Gynradd Albany bellach mewn sefyllfaoedd tebyg.
Trefnydd, pan fydd prosiectau'n ymestyn dros gyfnodau mor hir, maent yn peidio â bod yn anghyfleustra tymor byr ac yn hytrach yn dod yn rhan o brofiad ysgol bob dydd plant. Am y rheswm hwnnw mae'n rhaid i ni gydnabod yr effaith real iawn ac uniongyrchol y gall gweithgarwch adeiladu a chynnal a chadw hirdymor ei chael ar ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgolion hyn, ar eu llesiant corfforol ond hefyd ar eu hiechyd meddwl. Felly, gyda hyn mewn golwg, a allwn ni o'r diwedd gael rhywfaint o gyfarwyddyd cadarn gan Lywodraeth Cymru ar hyn? Oherwydd mae'n rhaid eich bod chi hyd yn oed, Trefnydd, yn cytuno bod hyn yn annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain. Diolch.
Wel, mae bob amser yn rhyfeddol bod y Ceidwadwyr Cymreig yn codi'r materion hyn ynglŷn â gwariant ar ôl 14 mlynedd o gyni a pheidio â chefnogi ein cyllideb, sydd, mewn gwirionedd—. Yn ddiweddar, roedd y gyllideb yn rhoi mwy o arian i gynnal a chadw ysgolion, ond hefyd y cyllid sydd ar gael ar gyfer ein rhaglen adeiladu ysgolion, y mae pobl Cymru a phlant a rhieni Cymru mor falch ohoni wrth gwrs, y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud. Ond, yn amlwg, bydd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb o fudd i Gaerdydd a'r ysgolion o ganlyniad.
Ysgrifennydd Cabinet , hoffwn ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Hoffwn un datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch y 2,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfer y cais tyrbin gan Bute Energy ar gyfer cais cynllunio Nant Mithil. Rydw i wedi bod yn gadarn yn fy ngwrthwynebiad i'r cais cynllunio hwnnw a sut mae'n mynd i niweidio Cymru wledig yn anadferadwy a diwydianeiddio ein cefn gwlad. Hoffwn ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i reoli lefel yr atebion i'r ymgynghoriad a'r camau nesaf yn y broses ymgynghori honno.
Hoffwn hefyd ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros faterion gwledig am benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i gneifwyr ddod yma o hemisffer y de. Bydd hynny'n cael effaith ddifrifol ar ein tymor cneifio eleni, oherwydd mae angen i'r cneifwyr hynny ddod draw i wneud yn siŵr bod defaid yn cael eu cneifio er mwyn gwella ein lles anifeiliaid ledled Cymru. Felly, hoffwn ddatganiad brys gan y Dirprwy Brif Weinidog ar hynny, i weld beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi pwysau ar eu cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
Wrth gwrs, o ran eich pwynt cyntaf, bydd yr ymgynghoriad ar gais cynllunio yn dilyn ei gwrs, ac yn iawn felly. Rwy'n gwybod y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn hwnnw.
Eich ail bwynt: ie, dyma lle rydyn ni eisiau croesawu pobl sy'n gallu ein helpu o ran eu sgiliau, a sgiliau arbenigol yn arbennig. Mae hynny'n rhywbeth wrth gwrs, o ran eich plaid a'r erchyllterau rydyn ni wedi'u clywed yn ddiweddar am yr hyn y mae eich plaid yn ei ddweud am ystyried rhyw fath o reolaethau diogelwch ffiniau a mentrau fel yr ICE ofnadwy yn yr Unol Daleithiau, yn bryderus iawn, iawn.
Ar y pedwerydd pen-blwydd hwn o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ymwelodd Alun Davies a minnau yn ddiweddar â thair dinas yn Wcráin—Kyiv, Pavlohrad a Dnipro—i gyd yn agos at y rheng flaen ac o dan ymosodiad rheolaidd. Yn Pavlohrad, fe wnaethom gyfarfod â chynrychiolwyr o'r naw glöwr a laddwyd gan ymosodiad drôn wrth iddynt ddychwelyd o'u shifft yn y lofa. Yna cafodd y rhai a oroesodd y ffrwydrad eu hymlid gan ddrôn arall, a chafodd mwy eu lladd a'u hanafu.
Mae cyngor Rhondda Cynon Taf, un ardal lofaol, bellach yn bwriadu gefeillio â Pavlohrad, ardal lofaol arall, i roi'r undod hwnnw ac i ddatblygu'r cysylltiadau hynny rhwng dwy ardal debyg. Ac yng Nghymru, mae gennym bellach 8,300 o deuluoedd o Wcráin, menywod a phlant yn bennaf, sydd wedi ceisio statws lloches yng Nghymru. Diolch am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud ar hynny dros y pedair blynedd diwethaf. A wnewch chi ysgrifennu at Rondda Cynon Taf i'w llongyfarch ar eu menter? A wnewch chi hefyd ddatganiad ar bwysigrwydd polisi cenedl noddfa wrth gefnogi'r ffoaduriaid o Wcráin hynny a phawb arall sydd wedi ffoi rhag rhyfel, gormes a cheisio diogelwch yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn, diolch yn fawr, Mick Antoniw, a diolch am yr adroddiad yna yn uniongyrchol o Wcráin, yn uniongyrchol o'r rheng flaen. Rydym eisoes wedi cydnabod y dewrder a'r gwroldeb anhygoel a welsoch eto ar eich ymweliad yr wythnos diwethaf, a'r cyflenwadau hollbwysig hynny a oedd gennych eto ar y daith honno. Rwy'n gwybod bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r gwaith ac i'r ymrwymiad rydych chi wedi'i wneud.
Rwy'n credu bod y datblygiad diweddaraf o ran trefniant gefeillio Rhondda Cynon Taf, o ran y ddwy ardal lofaol hynny, yn rhywbeth y byddem am longyfarch RhCT arno, ac yn sicr byddaf yn ysgrifennu atynt. Roeddwn i eisiau dweud hefyd yr oedd hi'n fraint mawr iawn cael cwrdd heddiw â Mick Antoniw, Larysa Martseva a Helen McAdie o'r ganolfan Wcreinaidd yng Nghaerdydd i nodi pedwerydd pen-blwydd yr ymosodiad ar Wcráin ac i ddiolch iddynt am eu gwaith. Ond roeddwn i eisiau diolch yn arbennig i Larysa Martseva a Helen am y ffordd y maen nhw wedi cefnogi'r genedl noddfa yn ddiweddar mewn darllediad ar BBC Cymru, a hefyd i ddiolch i'r gymuned Wcreinaidd am eu cefnogaeth barhaus i'r genedl noddfa, y maent wedi cydnabod ei bod wedi helpu i groesawu dros 8,000 o bobl sydd wedi'u dadleoli gan y rhyfel drwy'r DU i ddod i fyw gyda ni yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog iechyd mewn perthynas â'r streic sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gan ymwelwyr iechyd? Rwy'n gwerthfawrogi mai bwrdd iechyd Cwm Taf yw cyflogwr yr ymwelwyr iechyd, ond mae'n amlwg bod gan Lywodraeth Cymru fuddsoddiad er mwyn cyrraedd nod yma. Mae ymwelwyr iechyd yn darparu gwasanaeth pwysig i rai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, gyda phlant ifanc wedi'u geni, babanod, ac, yn amlwg, gwneud yr ymweliadau cyntaf pwysig hynny a gwneud yn siŵr bod cynnydd y rhai bach yn cael ei ddatblygu o fewn y cyd-destun teuluol a'r cyd-destun cymunedol. Mae'n ffaith, er mwyn i chi fod yn ymwelydd iechyd, yn amlwg mae angen gradd Meistr arnoch, ac, yn y pen draw, o'r dystiolaeth a ddarperir yn yr ymgyrch hon, mae'r ymwelwyr iechyd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn credu eu bod yn cael eu talu £8,000 i £9,000 yn llai na'r hyn sy'n ddigonol. Felly, mae'n hanfodol bod trydydd parti ar ffurf Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan, datrys yr anghydfod hwn ac, yn y pen draw, sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn dychwelyd i'r rôl hanfodol bwysig y maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau.
Diolch am y cwestiwn.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae'n bwysig iawn bod hyn yn cael ei ddatrys yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac mae'r neges honno, rwy'n siŵr, wedi'i chyfleu'n glir iawn i fwrdd iechyd Cwm Taf.
Diolch, Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, cynllun buddsoddi cronfa twf lleol Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Croesawaf y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran datblygu cynllun buddsoddi gyda phartneriaid i fuddsoddi £547 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU drwy gronfa twf lleol Cymru rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029.
Ym mis Hydref, cyhoeddwyd ar y cyd â Llywodraeth y DU y bydd y cyllid hwn a'r penderfyniadau sy'n ymwneud ag ef yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru ac yn destun craffu gan y Senedd. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU i weithio o fewn fframwaith cyffredinol y DU lle mae cronfa twf lleol sy'n canolbwyntio ar dwf economaidd yn gweithredu ar draws y pedair gwlad. Fel rhan o hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar gynllun buddsoddi gyda Llywodraeth y DU lle rydym wedi parhau i wthio am lai o oruchwyliaeth a biwrocratiaeth na'r model UE. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU i nodi'r trefniadau hyn, y byddwn yn eu cyhoeddi unwaith y cytunir arnynt. Mae'r cytundeb hwn yn anrhydeddu'r ymrwymiad i adfer y broses o wneud penderfyniadau dros gronfeydd ar ôl yr UE ar ôl i Lywodraeth flaenorol y DU, drwy ei chronfa ffyniant gyffredin, anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd. Ers y cytundeb ym mis Hydref, rydym wedi symud yn gyflym, gan weithio'n agos gyda llywodraeth leol a gyda phartneriaid ehangach.
Er mwyn llywio ein cynllun buddsoddi, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, wedi'i ategu gan bedwar digwyddiad rhanbarthol. Roedd y cynigion ymgynghori wedi'u seilio ar sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o raglenni blaenorol, gan gynnwys argymhellion pwyllgorau'r Senedd, mewnbwn gan lywodraeth leol a'n grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, dan gadeiryddiaeth Carolyn Thomas AS, ein prosiectau gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddatblygu rhanbarthol ac arfer gorau rhyngwladol, fframwaith buddsoddi rhanbarthol 2020, a dadansoddiad economaidd-gymdeithasol manwl.
Gan ddefnyddio'r dystiolaeth hon, canolbwyntiodd ein hymgynghoriad ar ddau brif amcan ar gyfer ysgogi ein heconomi, helpu busnesau a gweithwyr i gynyddu cynhyrchiant, creu swyddi gwell a chodi cyflogau, a lleihau anghydraddoldebau economaidd trwy dargedu cymorth lle mae lefelau anweithgarwch economaidd neu ddiweithdra ar eu huchaf. Er mwyn helpu i gyflawni'r amcanion hyn, roedd ein cynigion yn ceisio barn ar egwyddorion arweiniol, blaenoriaethau ac amcanion, trefniadau pontio, dull tymor hwy o ariannu twf rhanbarthol, a monitro a gwerthuso. Mae ein dull yn defnyddio cynllunio a blaenoriaethu rhanbarthol, gyda chefnogaeth cyflawni lleol. Mae hyn yn ceisio dysgu gwersi o dros 20 mlynedd o gyllid yr UE ac o arferion gorau rhyngwladol, ac o arferion gorau rhyngwladol, gan gynnwys trwy waith Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Y nod yw osgoi'r gor-ganoli a oedd yn feirniadaeth ar gronfeydd yr UE, a'r darnio a'r diffyg cydlyniant strategol sy'n deillio o ddulliau rhy leol, fel y gronfa ffyniant gyffredin.
Yn bwysig, mae dull rhanbarthol hefyd yn galluogi aliniad llawer cryfach rhwng y gronfa twf lleol a ffrydiau a strategaethau cyllido rhanbarthol eraill. Er enghraifft, mae cyd-bwyllgorau corfforedig eisoes yn arwain ar gynlluniau trafnidiaeth a datblygu strategol rhanbarthol, partneriaethau arloesi a pharthau buddsoddi, gyda rhai hefyd yn goruchwylio bargeinion dinesig a thwf. Mae'r gronfa twf lleol yn rhoi cyfle i lenwi bylchau ym mhob rhanbarth ac i fuddsoddi mewn ardaloedd sydd â photensial i ddal i fyny, neu lle mae buddsoddiad cystadleuol yn llai tebygol o lifo.
Rydym wedi cynnig blwyddyn bontio ar gyfer y gronfa twf lleol yng Nghymru, ond nid yw hyn yn barhad o'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae gan y gronfa newydd amcanion gwahanol a chymysgedd cyllido gwahanol iawn. Fodd bynnag, gan weithio gyda llywodraeth leol, bydd y flwyddyn bontio yn ein helpu i liniaru rhai effeithiau pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i ben, gan ganiatáu amser ar gyfer cynllunio rhanbarthol mwy manwl gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig, yn unol ag argymhellion y Sefydliad ar Gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, OECD, ac eraill.
Derbyniodd ein hymgynghoriad 154 o ymatebion, a daeth dros 200 o bobl i'n digwyddiadau rhanbarthol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad erbyn diwedd yr wythnos hon, sy'n dangos cefnogaeth gref i fframwaith cenedlaethol gyda hyblygrwydd rhanbarthol, aliniad â strwythurau presennol, llais cymunedol clir, a chynllunio amlflwyddyn. Rydym wedi gwrando'n astud ar adborth gan ein partneriaid mewn llywodraeth leol, y sector preifat, addysg uwch, addysg bellach, a'r trydydd sector. Mae hyn yn cynnwys trwy fy nhrafodaethau parhaus gyda llefarwyr economi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae cefnogaeth eang ond amodol i'n cynnig ar gyfer blwyddyn bontio. Fodd bynnag, cododd partneriaid bryderon sylweddol am golli refeniw, y pwysoliad trwm tuag at gyfalaf, a'r cylch cyllido tymor byr. Rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i liniaru'r effeithiau hyn lle bynnag y bo modd, tra bod dyluniad ein trefniadau pontio yn adlewyrchu'n uniongyrchol geisiadau llywodraeth leol i gynnal capasiti allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer dull mwy rhanbarthol.
Tynnodd partneriaid sylw hefyd at yr angen am gryfhau capasiti, gallu, trefniadau partneriaeth a gwneud penderfyniadau o fewn cyd-bwyllgorau corfforedig, yn ogystal â chanllawiau effeithiol ac amserol. Byddwn yn gweithio'n agos gyda chyd-bwyllgorau corfforedig a llywodraeth leol i ddatblygu'r rhain yn ystod y flwyddyn bontio. Mae ein dull gweithredu yn dangos y berthynas waith agos rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Yng Nghymru, bydd pob rhanbarth yn derbyn cyllid. Mae hyn yn cyferbynnu â phenderfyniadau yn Lloegr a'r Alban, lle nad yw ymgynghoriadau wedi'u cynnal, nid yw trefniadau pontio yn cael eu darparu, ac mae llawer o ranbarthau ac awdurdodau lleol yn colli mynediad at gyllid yn gyfan gwbl. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd ag adborth partneriaid ac adroddiad ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a gyhoeddwyd ddoe, yn tanlinellu pwysigrwydd blaenoriaethu'r cyllid hwn yn hytrach na'i ledaenu'n rhy denau.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn bwriadu mireinio ein blaenoriaethau buddsoddi i dri maes sydd fwyaf hanfodol ar gyfer twf cynhyrchiant. Y rhain yw cystadleurwydd busnes, gan gynnwys ymchwil, datblygu ac arloesi; sgiliau a arweinir gan y galw a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd; a seilwaith rhanbarthol, gan gynnwys safleoedd ac adeiladau strategol, gwelliannau trafnidiaeth, ynni ac effeithlonrwydd ynni. Yn seiliedig ar adborth ymgynghori, byddwn yn lleihau nifer yr amcanion ym mhob maes blaenoriaeth i helpu partneriaid cyflawni i ganolbwyntio ar eu gweithgaredd.
Ein nod o hyd yw i ranbarthau gadw hyblygrwydd sylweddol i lunio eu portffolios buddsoddi eu hunain i fynd i'r afael â chyfleoedd a heriau penodol, ond bydd yn ofynnol iddynt flaenoriaethu o fewn dewislen benodol o opsiynau. Yn dilyn y flwyddyn bontio, rydym hefyd yn bwriadu cefnogi prosiectau Cymru gyfan neu draws-ranbarthol, lle mae'r rhain yn cael eu datblygu ar y cyd â rhanbarthau a gallant wella cysondeb a chydlyniant strategol, lleihau dyblygu, a chyflawni arbedion graddfa. Byddwn yn gweithio gyda rhanbarthau a'r bartneriaeth ehangach yn ystod y flwyddyn bontio i ddatblygu opsiynau ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf Cymru gyfan neu draws-ranbarthol. Bydd cyllid refeniw, fodd bynnag, yn parhau i fod o dan reolaeth ranbarthol.
Hoffwn ddiolch i CLlLC, llywodraeth leol, y grŵp llywio, yr holl bartneriaid a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am eu cyfraniadau i'r gwaith hwn. Gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod cronfa twf lleol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni eraill i hybu twf cynhyrchiant, cefnogi busnesau a chyflogau gwell, a helpu i sicrhau safonau byw uwch ac economi sy'n tyfu'n gynaliadwy. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ymhellach ar gynnydd, gan gynnwys cyhoeddi ein cynllun buddsoddi a'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad ar gronfa twf lleol Cymru. Gadewch i ni ddechrau gyda'r hyn sy'n cael ei gynnig. Mae'r gronfa twf lleol yn werth £547 miliwn dros dair blynedd—tua £182 miliwn y flwyddyn. Pan fyddwn yn cymharu hynny â ffrydiau blaenorol, boed yn gronfeydd strwythurol yr UE neu gronfa ffyniant gyffredin y DU, mae'n amlwg bod hyn yn cynrychioli gostyngiad sylweddol mewn cymorth blynyddol. Yn wir, roedd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ddiamwys yn ei asesiad. Yng nghasgliad 1 o'i adroddiad, mae'n nodi,
'Rydym yn siomedig gyda’r gostyngiad mawr yn y cyllid y bydd Cymru yn ei gael drwy’r Gronfa Twf Lleol o’i gymharu â’r cynlluniau datblygu economaidd blaenorol gan fod hyn yn golygu y bydd llai o arian i gefnogi a buddsoddi yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.'
Nid rhethreg yr wrthblaid yn unig yw hon; mae hon yn farn yn dilyn ystyriaeth pwyllgor trawsbleidiol y Senedd. Ac mae'n mynd i wraidd y mater: gyda llai o arian, byddwn yn anochel yn wynebu dewisiadau anoddach. Y cwestiwn yw a yw'r gronfa hon wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o'i heffaith.
Dywedir wrthym mai'r amcanion yw cefnogi twf cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau economaidd. Mae'r rhain i gyd yn nodau rydyn ni'n eu rhannu, ond rhaid cefnogi uchelgais gydag adnoddau a chan y cymysgedd cyllid cywir. Fel y sonioch chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r rhaniad 70:30 o blaid cyfalaf dros refeniw yn nodi gwyriad clir o'r gronfa ffyniant gyffredin, a oedd yn seiliedig ar refeniw yn bennaf. Gall buddsoddiad cyfalaf, safleoedd strategol, cysylltiadau trafnidiaeth, seilwaith ynni, ac ati, fod yn drawsnewidiol, ond nid yw cynhyrchiant yn cael ei gyflawni gan seilwaith yn unig, mae'n dibynnu ar bobl, ar ddarpariaeth sgiliau, cyngor busnes, cymorth arloesi a rhaglenni cyflogadwyedd i'r rhai y tu allan i'r farchnad lafur ar hyn o bryd.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut y bydd y Llywodraeth yn diogelu'r ymyraethau cyllido refeniw, gwasanaethau cymorth busnes, cynlluniau hyfforddi a mentrau sy'n mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd pan fydd refeniw bellach yn gyfran mor gyfyngedig o'r setliad cyffredinol? A sut mae'r model cyfalaf hwn yn cyd-fynd â'r realiti bod llawer o'n cymunedau mwyaf difreintiedig angen cymorth dwys sy'n canolbwyntio ar bobl er mwyn symud unigolion i gyflogaeth gynaliadwy?
Mae Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol, yn ei adroddiad diweddar, 'The Demolition of British Regional Policy', yn tynnu sylw at y ffaith bod ardaloedd diwydiannol hŷn de Cymru yn parhau i gofnodi rhai o'r cyfraddau hawlwyr uchaf ar gyfer budd-daliadau di-waith yn y DU. Roedd Gorllewin Cymru, a gydnabuwyd yn flaenorol fel rhanbarth llai datblygedig o dan ddosbarthiad yr UE, yn fuddiolwr mawr o gronfeydd strwythurol yn union oherwydd gwendidau economaidd strwythurol. Elwodd hefyd ar gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin oherwydd hyn. Os bydd cyllid bellach yn cael ei leihau a gweithgarwch refeniw wedi'i gyfyngu, sut bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau nad yw'r cymunedau hynny yn syrthio ymhellach ar ei hôl hi? A fydd adnoddau yn cael eu targedu'n dynn tuag at ardaloedd o fwy o angen neu eu dosbarthu mor eang fel bod yr effaith yn cael ei wanhau?
Rydym hefyd yn wynebu'r mater o hyd; bod rhaglen tair blynedd yn cynnig sicrwydd cyfyngedig. Mae datblygu economaidd yn gofyn am lif prosiectau tymor hir, yn enwedig lle ceisir cyd-fuddsoddiad preifat. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch parhad y tu hwnt i fis Mawrth 2029? Sut bydd y Llywodraeth yn osgoi'r cylch atal a chychwyn sydd wedi tanseilio polisi datblygu rhanbarthol yn rhy aml?
Mae'r Llywodraeth yn siarad am gyflawni rhanbarthol trwy gyd-bwyllgorau corfforedig a blwyddyn bontio i reoli newid. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn awgrymu cefnogaeth i fframwaith cenedlaethol gyda hyblygrwydd rhanbarthol. Mae hynny'n synhwyrol mewn egwyddor, ond mae partneriaid wedi codi pryderon am gapasiti, gallu a llywodraethu o fewn gyd-bwyllgorau corfforedig. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrwng addas i reoli portffolios cyfalaf sylweddol, a pha gamau pendant fydd yn cael eu cymryd o ran tryloywder? Yn wir, rydym yn eiriol dros asiantaeth ddatblygu.
Yn olaf, mae craffu a thryloywder yn bwysig. Bydd y gronfa hon yn destun goruchwyliaeth gan y Senedd a Llywodraeth y DU. Rhaid i'r craffu hwnnw fod yn ystyrlon. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i gyhoeddi meini prawf dewis prosiectau clir, dangosyddion cynhyrchiant mesuradwy a data perfformiad blynyddol, fel y gall Aelodau asesu'n briodol a yw swyddi'n cael eu creu, cyflogau'n codi ac anweithgarwch economaidd yn gostwng?
Dirprwy Lywydd, Mae angen twf parhaus a chynhwysol ar Gymru. Mae angen buddsoddiad seilwaith arnom—wrth gwrs, mae ei angen—ond mae angen buddsoddiad cyfalaf dynol arnom hefyd sy'n galluogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd. Mae'r pwyllgor wedi rhybuddio bod llai o arian ar gael i gefnogi ein cymunedau mwyaf agored i niwed. Mae'r realiti hwnnw'n gofyn am ffocws mwy craff, blaenoriaethu cliriach, ac, felly, atebolrwydd a thryloywder trylwyr. Rydym yn barod i gefnogi'r mesurau sydd wirioneddol yn ysgogi twf ac yn lleihau anghydraddoldeb, ond lle mae cyllid yn cael ei leihau, refeniw wedi'i gyfyngu ac ansicrwydd hirdymor yn glir, ein cyfrifoldeb ni yw gofyn y cwestiynau anodd, oherwydd mae ein cymunedau yn haeddu hyn a dim llai. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna y prynhawn yma, ac mae'n ffaith, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bod y cyllid sydd gennym ar gael yn llai. Roedd hynny'n ddewis a wnaed, ac roedd hynny'n ddewis a ddeallwyd ar y pryd. Ond mae'n well gen i edrych ar y gwydr penodol hwn fel un mwy na hanner llawn: mae mwy na £540 miliwn o fewn y gwydr hwnnw dros y tair blynedd nesaf, ac rwy'n gwybod y gallwn wneud pethau sylweddol drwy ein partneriaid lleol a rhanbarthol i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael effaith fawr yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae'r ffaith ein bod yn gallu cefnogi cymunedau ledled Cymru yn arwyddocaol, oherwydd, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym dim ond yn ei wneud yma yng Nghymru. Rydym wedi dewis gwneud yn siŵr bod pob rhan o Gymru yn gallu elwa; nid yw hynny'n rhywbeth y gellir ei ddweud yn Lloegr na'r Alban, o ganlyniad i'r dewisiadau sydd wedi'u gwneud yno.
Mae'r pwynt, fodd bynnag, ynglŷn â'r rhaniad cyfalaf-refeniw yn un pwysig iawn, ac mae'n un yr wyf wedi bod yn ei godi gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU ers peth amser. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gydnabod difrifoldeb y pwynt penodol hwn. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hynny. Ar hyn o bryd, mae'n 70 y cant o gyfalaf, 30 y cant o refeniw. Mae hynny'n heriol iawn, ond nid wyf yn credu ein bod mewn sefyllfa nawr lle rydyn ni'n mynd i weld newid meddwl gan Lywodraeth y DU ar y pwynt penodol hwnnw, felly rydyn ni'n gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol i wneud yn siŵr bod y cyllid yn cael ei wario'n dda ac wedi'i dargedu'n dda.
Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir bod y gronfa twf lleol yn gronfa newydd. Mae'n dweud bod y gronfa ffyniant gyffredin yn dod i ben, ac mae gan y gronfa newydd amcanion economaidd gwahanol, cryfach o'i chymharu â'r gronfa ffyniant gyffredin. Ar gyfer ein cynllun penodol, y pwynt am gynhyrchiant yw'r llinyn aur sy'n rhedeg trwy gydol hwnnw.
Rydym wedi ceisio cymryd rhai camau penodol i liniaru effaith hyn ar lywodraeth leol, serch hynny. Rydym wedi cytuno i'r flwyddyn bontio ychwanegol hon. Dim ond yma yng Nghymru y mae hynny'n digwydd, ac mae hynny'n rhoi cyfle i lywodraeth leol barhau i weithio gyda ni i gynllunio ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf. Rydym hefyd wedi cytuno, yn hollbwysig, ar gyfer y flwyddyn bontio hon, i ddefnyddio'r strwythurau presennol o fewn llywodraeth leol ac i ddefnyddio'r fethodoleg dyrannu bresennol. Gofynnwyd am y ddau beth hynny gan lywodraeth leol, ac roeddem yn hapus i weithio gyda nhw i gyflawni hynny.
Mae fy nghyd-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi ysgrifennu at arweinwyr yn gynharach y mis hwn i dynnu sylw at yr hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol yr ydym yn ei roi ar waith i'w cefnogi hefyd, ac i dynnu sylw at y canllawiau ar y defnydd hyblyg o gyfarwyddyd derbyniadau cyfalaf a ddefnyddiwyd yn 2025. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud i geisio cefnogi llywodraeth leol wrth iddi symud i'r cam nesaf.
Rwy'n credu bod y cwestiwn am y fformiwla yn wirioneddol bwysig, felly ceisiodd ein hymgynghoriad farn ar fformiwla addas sy'n seiliedig ar anghenion i ddyrannu cyllid rhanbarthol. Yn y flwyddyn bontio, fel y dywedais, byddwn yn defnyddio methodoleg y gronfa ffyniant gyffredin bresennol ar gyfer dyrannu cyllid i'r awdurdodau arweiniol ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin, a bydd hynny'n helpu i liniaru rhai o'r effeithiau yr ydym wedi siarad amdanynt. Ond ar ôl y flwyddyn bontio honno, felly, rydym yn bwriadu defnyddio model cyllido dyrannu i'r cyd-bwyllgorau corfforedig, a bydd hynny'n cynnwys mynegai amddifadedd lluosog Cymru. Mae hwnnw yno i gynrychioli a chydnabod angen. Dyna fydd y rhan fwyaf o'r fformiwla honno. Ac yna bydd cynhyrchiant hefyd yn cael ei adlewyrchu yno, i adlewyrchu'r bylchau mewn cynhyrchiant a welwn mewn gwahanol rannau o Gymru, a bydd gwledigrwydd yn cael ei gydnabod hefyd, i adlewyrchu'r heriau ychwanegol sy'n wynebu'r ardaloedd hynny, megis y diffyg cydgrynhoad, poblogaethau wedi'u dadleoli ac ymyloldeb ac ati. Felly, ein bwriad, fel y dywedais, yw rhoi'r pwysloliad mwyaf ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru.
Unwaith eto, rwy'n cydnabod yn llwyr yr her o amgylch natur tair blynedd cyllid. Mae hynny'n rhywbeth, eto, yr ydym yn parhau i'w godi gyda Llywodraeth y DU. Rydym yn credu, fodd bynnag, fod y ffaith ein bod wedi penderfynu mai cyd-bwyllgorau corfforedig fydd y mecanwaith ar gyfer cyflawni'r rhaglen yn y dyfodol yn ddefnyddiol, oherwydd mae gan gyd-bwyllgorau corfforedig eu cynlluniau rhanbarthol eisoes, mae ganddynt eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, mae ganddynt eu dulliau datblygu economaidd rhanbarthol, felly mae ganddynt eisoes syniad da o ble y gall gwariant cyfalaf wneud gwahaniaeth go iawn.
O ran dangosyddion perfformiad allweddol, unwaith eto, mae hwn yn argymhelliad pwysig iawn gan y pwyllgor. Byddwn yn datblygu a chyhoeddi fframwaith monitro a gwerthuso. Byddwn yn gwneud hynny gyda phartneriaid. Bydd hynny'n nodi mwy o fanylion, ond bydd yn cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Gallaf weld y Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf; rwy'n gwybod y byddaf yn gallu dychwelyd at rai o'r themâu hyn mewn cwestiynau y bydd cyd-Aelodau eraill, rwy'n gwybod, eisiau eu codi.
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r amser. Rydyn ni wedi cymryd 18 munud a dim ond un person yn gofyn cwestiynau.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad, ac am y diweddariad ar y cynnydd tuag at gynllun buddsoddi'r gronfa twf lleol. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, rydym wedi cymryd diddordeb arbennig yng nghynnydd y gronfa hon. Mae yna elfennau yma sy'n amlwg i'w croesawu, yn enwedig dychwelyd y broses o wneud penderfyniadau i Gymru, a'r ymrwymiad y bydd penderfyniadau ariannu unwaith eto yn destun craffu gan y Senedd. Ond mae'n teimlo fel y gofynnir i'r rhai yr effeithir arnynt gan newidiadau i'r gronfa hon i dderbyn model sy'n fwy anhyblyg, mor drwm o ran cyfalaf, ac yn llai ymatebol na'r gronfa ffyniant gyffredin a ragflaenodd hon.
Gadewch i ni edrych ar y cyfnod pontio hwnnw yr ydym wedi'i glywed yn cael ei ddisgrifio heddiw. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet flwyddyn bontio a fydd yn lliniaru effeithiau wrth i'r gronfa ffyniant gyffredin ddod i ben, ond mae hynny'n codi cwestiwn amlwg iawn. Sut yn union ydych chi'n llyfnhau pontio heb unrhyw gyllid ychwanegol? Sut olwg sydd ar y pontio hwnnw'n ymarferol i awdurdodau lleol, ac i bartneriaid trydydd sector sy'n dibynnu ar y parhad hwnnw?
Fe wnaethoch chi hefyd sôn yn eich datganiad bod gan y gronfa newydd amcanion gwahanol a chymysgedd cyllido gwahanol iawn. Dyma'n union lle mae'r pryder mwyaf yn gorwedd—yn y rhaniad cyfalaf-refeniw. Wrth gwrs, mae'n wahanol iawn yn Lloegr, ond mae'n creu problemau enfawr a lefelau enfawr o bryder. Rydym wedi clywed dro ar ôl tro gan bartneriaid, gan gynnwys trwy'r ymgynghoriad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio ato, bod pryderon sylweddol ynghylch y pwysoliad trwm tuag at gyfalaf a cholli cyllid refeniw. O leiaf, dychwelyd i'r rhaniad cyfalaf-refeniw a oedd yn berthnasol yn flaenorol i gronfa ffyniant gyffredin y DU yw'r canlyniad a ffefrir yma, yn ôl yr holl randdeiliaid hynny a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Rwy'n credu mai dyma lle mae'r wleidyddiaeth yn wirioneddol bwysig. Pe bawn yr Ysgrifennydd Cabinet, byddwn i'n hollol ffyrnig gyda'r sefyllfa rydyn ni nawr yn cael ein hunain ynddi. Byddwn wedi meddwl y byddai hyn wedi bod yn rhywbeth eithaf syml a chymharol uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Cabinet ei ddatrys gyda Llywodraeth y DU mewn sgwrs â chydweithwyr yn San Steffan, yn enwedig gyda chymaint yn y fantol, ac yn enwedig pan fyddwch chi, Ysgrifennydd Cabinet, wedi cydnabod y byddai'n well gennych gymysgedd mwy cyfartal o gyllid cyfalaf a refeniw.
Ond gadewch i ni fod yn glir: mae'r newid arfaethedig i wariant cyfalaf yn ergyd lethol i wasanaethau a ariennir gan refeniw. Mae miloedd o swyddi sy'n darparu'r gwasanaethau hyn mewn perygl. Yn ôl Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol, ar sail y data gan awdurdodau sampl, amcangyfrifir bod 1,500 o swyddi yn cael eu cefnogi drwy ddarparu gwasanaethau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ariennir gan refeniw yng Nghymru, ac mae'n debyg bod o leiaf gymaint o swyddi yn cael eu cefnogi yn y trydydd sector. Os ydych chi'n credu bod y rhaniad yn anghywir, os yw rhanddeiliaid yn dweud wrthym fod y rhaniad yn anghywir, os yw'r model blaenorol yn gweithio'n well gyda mwy o refeniw, yna pam nad yw Whitehall yn ymateb i hynny? Neu a yw'r realiti yn syml—bod gennym enghraifft arall o bryderon Cymru nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif?
Pam, pan ddywedwyd wrthym y byddai'r bartneriaeth mewn grym yn cyflawni i'n cymunedau, y mae hyn yn teimlo fel enghraifft arall eto lle nad yw Llywodraeth Cymru yn cael ei phig i mewn? Pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda Llywodraeth y DU ar hyn ers y mis diwethaf, pan ymddangosodd yr Ysgrifennydd Cabinet gerbron Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a beth yw'r ymatebion hynny? Mae'r ddau ohonom yn gwybod bod cyllid refeniw yn cadw prosiectau'n fyw. Mae'n talu staff. Mae'n darparu rhaglenni sgiliau. Mae'n cefnogi busnesau. Mae'n ariannu gwaith adfywio cymunedol. Mae'n hanfodol i gymaint o bobl.
Y blaenoriaethau a nodir gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gan gynnwys seilwaith rhanbarthol a safleoedd strategol, yw'r rhai cywir, ond maent yn cynnwys prosiectau cyfalaf sylweddol. Mae cyflawni prosiectau cyfalaf o fewn amserlen mor dynn a gynigir ar gyfer y gronfa twf lleol newydd yn anodd iawn, mewn gwirionedd. Ac yna, wrth gwrs, rydych chi'n ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig i'r cymysgedd. Rwy'n credu mai dyma'r cwestiwn cywir i'w ofyn: ai'r cyd-bwyllgorau corfforedig yw'r model cyflawni cywir ar gyfer hyn? Mae sicrhau, fel y gwyddom, y caniatâd angenrheidiol yn cymryd amser. Mae prosesau caffael yn cymryd amser. Ac mae hyn cyn i unrhyw waith hyd yn oed ddechrau ar lawr gwlad. Felly, pa gynllunio wrth gefn sydd ar waith os na all rhanbarthau symud prosiectau cyfalaf ar y cyflymder angenrheidiol?
Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet hyblygrwydd rhanbarthol a phartneriaeth â llywodraeth leol, sydd wrth gwrs yn cael ei groesawu. Ond mae hyblygrwydd yn gyfyngedig os yw'r bensaernïaeth ariannu gyffredinol yn rhy anhyblyg o'r cychwyn cyntaf. O leiaf, mae angen i ni fod yn adfer y rhaniad i rywbeth tebycach i'r gymhareb flaenorol. Os na allwn sicrhau hyn, yna bydd cymunedau ledled Cymru yn dod i'w casgliadau eu hunain ynghylch faint o ddylanwad sydd gan y Llywodraeth dros eu cydweithwyr yn San Steffan.
Rwyf wedi bod yn glir iawn o'r dechrau, mae Llywodraeth Cymru yn anhapus iawn gyda'r rhaniad cyfalaf-refeniw. Gofynnwyd y cwestiwn pa drafodaethau a gefais ers i mi roi tystiolaeth i'r pwyllgor. Fe wnes i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a gwneud y pwyntiau hyn eto. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir iawn eu bod yn gweld bod y gronfa ffyniant gyffredin yn dod i ben, mae hon yn rhaglen hollol newydd, sy'n cyd-fynd â strategaeth fuddsoddi Llywodraeth y DU, ac ati. Nid wyf yma i amddiffyn y rhaniad cyfalaf-refeniw. Rwyf yma i esbonio beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r cyllid a sut y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael yr effaith fwyaf ar y blaenoriaethau allweddol hynny, yr wyf yn credu ein bod ni i gyd wedi cytuno mai nhw yw'r rhai cywir—ynghylch cynhyrchiant ac anghydraddoldebau economaidd yma yng Nghymru.
Mae'n wir fod ein rhaniad cyfalaf-refeniw yr un fath â rhai'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r sefyllfa yn Lloegr yn fwy cymhleth, ond, pan fydd yn cael ei herio, bydd Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi rhoi dyraniad yn uniongyrchol i ddetholiad o awdurdodau strategol maerol, ac, hefyd, mae yna gronfa fuddsoddi ailgylchadwy cyfalaf yn unig o £500 miliwn a fydd hefyd â dyraniadau rhanbarthol. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn golygu bod gan y cyllid sydd ar gael ar gyfer awdurdodau strategol maerol Lloegr hefyd y buddsoddiad cyfalaf cryf hwnnw sydd â thua'r un rhaniad ag sydd gennym ni—70 y cant i 30 y cant. Rwy'n rhannu'r ffeithiau ynghylch ble rydyn ni o ran y cyllid sydd ar gael i ni, a'r ffaith nad dyma'r dewis a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gwneud y mwyaf o'r effaith y mae'r hwn, sy'n dal i fod yn swm sylweddol o arian—£0.5 biliwn—yn mynd i'w wneud i ni yma yng Nghymru.
O ran y gorwel cyllido tair blynedd, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei herio. Byddai'n well gennym weld gorwel cyllido hirach. Rydym wedi gweld hwnnw fel un o lwyddiannau'r cyllid blaenorol o'r UE. Ond mae yna feysydd cyllid yr ydym yn gwybod y bydd angen llai o amser arweiniol arnyn nhw. Er enghraifft, mae buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yn cyfrif fel gwariant cyfalaf, gan annog buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau. Dyna faes arall lle gallwch wario symiau sylweddol o gyllid yn gyflym. Ac yna, hefyd, byddem yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn trafnidiaeth, ynni neu safleoedd strategol. Mae gan gyd-bwyllgorau corfforedig eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol eisoes ar waith. Mae ganddynt eisoes eu meysydd blaenoriaeth o ran y cynlluniau ynni rhanbarthol a'r cynlluniau datblygu strategol. Mae pob un ohonynt yn debygol o allu helpu gyda llif o weithgarwch, y gellir eu cynnal yn gyflym. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol o ran yr hyn y gallwn ei wneud o fewn tair blynedd.
Rwyf eisoes wedi nodi rhai o'r camau rydyn ni'n eu gwneud i geisio sicrhau ein bod yn rhoi llywodraeth leol yn y lle gorau posibl i osgoi colli swyddi lle bynnag y bo modd. Darn arall o waith a wnaethom mewn partneriaeth â llywodraeth leol oedd gweithio gyda nhw i nodi'r swyddi hynny sy'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd a'r ffrydiau cyllido a'r gweithgareddau hynny sy'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, gan eu mapio yn erbyn ein blaenoriaethau ar gyfer y gronfa yn y dyfodol hefyd, i geisio sicrhau y bydd cyfleoedd i barhau i weithio lle bynnag y bo'n bosibl a lle mae cydweithwyr llywodraeth leol yn meddwl mai dyna yw eu maes blaenoriaeth.
Rydym hefyd wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod llywodraeth leol yn gallu cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Cyn y Nadolig, ysgrifennais at yr holl gydweithwyr llywodraeth leol i roi ffigurau dangosol iddynt ar gyfer sut fyddai'r gwariant yn y dyfodol yn edrych—unwaith eto, er mwyn osgoi colli swyddi diangen yn y cyfnod cyn y Nadolig. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud popeth y gallwn. Rydym yn sicr wedi gwneud, rwy'n credu, popeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn i ni ei wneud i geisio sicrhau bod pontio mor llyfn â phosibl. Rydyn ni'n symud i gynllun gwahanol, felly ni fydd yn hollol ddi-dor. Dylwn hefyd ychwanegu bod Llywodraeth y DU wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin am chwe mis arall. Nid yw'n cynnwys unrhyw arian newydd, ond mae'n darparu rhai rhanbarthau gyda rhywfaint mwy o hyblygrwydd i reoli pontio mwy effeithiol.
Rydyn ni lle rydyn ni, ac mae gennym nawr gronfa sy'n 70 y cant o gyfalaf. Meddwl oeddwn i tybed pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i sut rydyn ni'n mynd i wario'r cyfalaf hwn, o ystyried mai un o'ch tri maes yw gwella trafnidiaeth, ynni ac effeithlonrwydd ynni.
Heddiw, cawsom RenewableUK a Solar Energy UK yn gwneud cyflwyniadau i Aelodau'r Senedd yn y Senedd. Un o'r pethau yr oeddent yn ei amlygu oedd eu bod yn dal ar ei hôl hi, yn enwedig o gymharu â'r Alban, o ran cynhyrchu'r pŵer glân sydd ei angen arnom, yn hytrach na'r ynni nwy a glo sy'n dal i gael ei gynhyrchu.
Meddwl oeddwn i tybed a allech chi ddweud wrthym sut rydyn ni'n mynd i sicrhau bod Jones Bros yn gwneud 90 y cant o'i fusnes yng Nghymru, yn hytrach na 90 y cant o'i fusnes yn yr Alban. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod Jones Bros yn un o'n cwmnïau adeiladu mwyaf llwyddiannus.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad yna a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, ein bod yn y sefyllfa lle rydym yn cwblhau a chyhoeddi, neu ar y ffordd i gyhoeddi, ein cynllun buddsoddi a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU. Yn y bôn, o ran y gwahanol rolau a lle bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud, mae Llywodraeth y DU yn gosod y fframwaith lefel uchel hwnnw, ac mae hynny, fel y soniais i, yn cyd-fynd â'r genhadaeth twf a strategaeth ddiwydiannol y DU.
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud nawr a'r hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw yw strategaeth Cymru, felly dyna ein cynllun buddsoddi tair blynedd. Mae hynny'n adlewyrchu'r blaenoriaethau economaidd allweddol hynny ynghylch cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Ond yna, lle bydd y penderfyniadau go iawn yn cael eu gwneud o ran buddsoddiad fydd trwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Byddant yn gweithio i ddatblygu a chydlynu'r cynlluniau rhanbarthol. Bydd y rhain yn cael eu halinio â'r blaenoriaethau hynny ynghylch cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Ond ar gyfer y penderfyniadau buddsoddi, ar wahân i'r rhaglenni ledled Cymru, yr ydym hefyd yn eu hystyried, bydd y rheini yn cael eu cymryd drwy'r cynlluniau rhanbarthol.
Yn bwysig hefyd, bydd y dull Cymru gyfan yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'n partneriaid mewn llywodraeth leol i sicrhau ei fod yn gydategol. Gallai fod pethau sydd, trwy arbedion maint—. Pan fyddwn yn meddwl am bethau fel prosiectau seilwaith mwy, yn aml maent yn cael eu cyflawni'n well ar draws rhanbarthau, er enghraifft. Dyna'r pethau a ddaw nesaf.
Mae'n debyg nad allaf ateb y cwestiwn rydych chi'n ei ofyn heddiw, yn yr ystyr nad yw'r prosiectau penodol hynny wedi'u nodi eto o ran a fydd y cyllid yn cael ei wario, oherwydd yr hyn rydyn ni'n ei osod heddiw yw'r paramedrau a'r blaenoriaethau. Bydd y gwaith nesaf yn cael ei wneud ar y lefel leol a rhanbarthol honno i nodi'r dulliau gorau ar gyfer cyllid yn y maes hwnnw.
Ond, yn hollol, rydyn ni eisiau gweld y buddsoddiad hwn, yn enwedig oherwydd ei fod yn seiliedig ar gyfalaf mawr, yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru ac sy'n gallu ymgymryd â'r gwaith hwnnw yng Nghymru. Mae cymaint mwy y gallwn ei ddweud am ynni ac ynni adnewyddadwy, a'r ffaith y byddaf yn cyhoeddi'r cytundeb sector cyn diwedd tymor y Senedd ac ati, ond mae'n debyg y byddaf yn cadw at y cynllun buddsoddi heddiw.
Rydw i'n nodi nad yw'r Gweinidog ddim wedi ateb pwynt Luke Fletcher ynglŷn â'r cannoedd ar gannoedd o swyddi sydd mewn perygl oherwydd y sefyllfa efo'r gronfa twf lleol newydd.
Dwi am siarad yn benodol yn sydyn iawn am Môn CF, elusen a chwmni sy'n eiddo i bobl Ynys Môn, sy'n helpu miloedd o bobl yn flynyddol ac yn cael cannoedd o bobl i mewn i waith. Mae dros 50 o staff ganddyn nhw rŵan sydd yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi. Mae rhai wedi gadael yn barod. Dydy llythyr o gymorth i awdurdod lleol ddim yn help o gwbl. Y broblem ydy'r oedi tan eu bod yn gallu cael arian, ond yn bennaf eto y dyraniad yma, y 70 y cant cyfalaf a 30 y cant refeniw, sydd i'r gwrthwyneb o'r sefyllfa yn Lloegr.
Dwi eisiau gwybod gan y Gweinidog sut y mae hi'n mynd â'r frwydr ymlaen at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nodi yn y fan hyn yn glir bod yna effaith andwyol ar swyddi ac ar ein gallu ni i ddelifro ar ffyniant economaidd yng Nghymru. Gaf i ofyn yn benodol pa gamau y mae hi'n barod i'w cymryd i helpu Môn CF yn y sefyllfa y maen nhw ynddi rŵan a'r nifer sy'n colli eu swyddi yno?
Gyda pharch, rydw i eisoes wedi ateb un o'r cwestiynau hyn o leiaf ddwywaith, ond fe wnaf ailadrodd fy hun. Roeddwn i'n glir iawn o ran y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu drwy'r awdurdodau strategol maerol a'r gronfa fuddsoddi ailgylchadwy £500 miliwn cyfalaf yn unig a fydd â dyraniadau rhanbarthol yn Lloegr. Mae hynny'n dod â'r rhaniad yno i 70:30, sy'n union yr un fath â'r hyn rydyn ni'n ei wynebu yma yng Nghymru a hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod sut y gallaf fod yn fwy clir am hynny. A dwywaith y prynhawn yma rwyf eisoes wedi nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd i wneud ein gorau glas i helpu awdurdodau lleol i reoli'r amgylchiadau anodd hyn.
Y pwynt felly yw bod awdurdodau lleol yn gallu cefnogi, cymaint â phosibl, y sefydliadau a'r unigolion sy'n dibynnu arnynt ar gyfer y swyddi hynny. Fel y dywedais, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir bod y gronfa ffyniant gyffredin wedi dod i ben. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i fapio ble mae'r swyddi hynny a sut orau y gallwn wneud yn siŵr bod y swyddi hynny'n cael eu mapio yn erbyn ein blaenoriaethau newydd. Felly, mae hynny wedi bod yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ymwybodol iawn ohono, ond, wrth gwrs, mae'r rhaniad cyfalaf-refeniw yn cael effaith fawr ar hynny.
Hefyd, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Phlaid Cymru i wneud yn siŵr bod llywodraeth leol yn cael y setliad gorau posibl. Roeddem yn gallu dod i'r cytundeb hwnnw yn y gyllideb i fuddsoddi £112 miliwn o refeniw pellach, felly, unwaith eto, ceisio rhoi llywodraeth leol yn y lle gorau posibl i gynnal gwasanaethau yn lleol. A hefyd, rwyf wedi sôn am y gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin am chwe mis arall, i geisio rhoi rhywfaint o le i reoli pontio mwy effeithiol trwy hynny. Nid wyf yn credu y gallwn danseilio pwysigrwydd rhoi llythyrau cysur i lywodraeth leol pan fydd eu swyddogion cyllid yn gofyn amdano er mwyn osgoi colli swyddi.
Rwy'n fwy na hapus i edrych ar achosion penodol ac i gael sgyrsiau penodol gyda chyd-Aelodau. Yn onest, os oes mwy y gallwn ei wneud o fewn y pwerau sydd ar gael i ni a'r cyllid sydd ar gael i ni gyda'r rhaniad fel y mae, rwy'n fwy na hapus i ystyried hynny, oherwydd, rwy'n credu, ein bod ni wedi gwneud popeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn i ni ei wneud i geisio cefnogi'r pontio. Popeth y gallwn feddwl amdano i'w wneud i geisio rheoli'r newid hwnnw yn y rhaniad, rydym wedi ei wneud, ac rydym wedi gwneud popeth y gallwn i geisio osgoi colli swyddi a'u lliniaru lle bynnag y bo modd, gan gydnabod bod y gronfa ffyniant gyffredin yn dod i ben a bod cynllun newydd sy'n cyd-fynd â gwahanol flaenoriaethau, trwy strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac ati.
Rwyf hefyd yn ei chael hi'n ddryslyd, os nad yn rhyfeddol, ein bod yn credu ei bod yn dderbyniol i ni wynebu ymyl clogwyn, nid yn unig wrth golli swyddi ond yn yr uchelgais honno i greu mwy o swyddi. Mae cyflogwyr yn dweud wrthym drwy'r amser bod angen sefydlogrwydd arnynt, ac nid yw hyn yn rhoi sefydlogrwydd i'n cyflogwyr, nid yw'n rhoi sefydlogrwydd i bobl, nid yw'n rhoi sefydlogrwydd i'r rhai sy'n chwilio am swydd, Ac nid yw'n rhoi cyfle i ni greu'r swyddi sydd eu hangen arnom er mwyn buddsoddi yn ein diwydiannau yn y dyfodol. Mae gennym ynni gwyrdd. Mae gennym wynt ar y môr arnofiol yn sir Benfro sydd angen i bobl gael eu hyfforddi a chael ymgodiad. Mae gennym brinder o 27,000 o weldwyr yn y DU. Nid oes unrhyw gyfle yma, y gallaf ei weld, bod gennym y sefydlogrwydd a'r sicrwydd hwnnw o'n blaenau i ganiatáu i bobl fuddsoddi yn ein pobl ifanc ac i hyfforddi pobl yn y sgiliau sydd eu hangen arnom, ond hefyd rhai sy'n gallu cyflawni adfywiad economaidd uchelgeisiol sydd ei angen arnom yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn i chi, beth ydych chi'n ei wneud, fel y dywedwch yn eich datganiad, i greu'r swyddi hynny ac i sicrhau bod ein diwydiannau yn cael y cyfle hwnnw? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod nad y gronfa twf lleol yw dechrau a diwedd ein cefnogaeth i lywodraeth leol, i fusnesau, i'r byd academaidd, i'r trydydd sector a phartneriaid eraill, i geisio eu cefnogi o ran mynd i'r afael â heriau cynhyrchiant ac anghydraddoldebau economaidd, a thrwy hynny, wrth gwrs, prif flaenoriaeth y Prif Weinidog yw creu swyddi da ym mhob rhan o Gymru. Mae'r gronfa twf lleol wedi gweithredu mewn partneriaeth ac ochr yn ochr â ffrydiau cyllido eraill. Mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr â'r parthau twf AI, mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr â'r buddsoddiadau newydd a gyhoeddwyd yn Wylfa, mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr â phorthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi, y bargeinion dinesig a thwf. Mae'n rhaid i'r holl bethau hynny weithio mewn partneriaeth, a dyna, unwaith eto, pam ei bod yn bwysig bod y cyllid yn cael ei gyfeirio trwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig i gael yr ôl troed hwnnw, sy'n gydlynol ac yn gwneud synnwyr.
Ac yna rydyn ni wedi siarad llawer am y cyllid a'r gefnogaeth rydyn ni'n eu darparu o ran yr agenda sgiliau yn ehangach—y cymorth prentisiaethau, y gwaith rydyn ni'n ei wneud ar ein rhaglenni cyflogadwyedd i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i'r swyddi hynny yn y dyfodol, y swyddi hynny sy'n dod mewn ynni glân. Rydyn ni wedi cael cyhoeddiadau anhygoel yn ystod yr wythnosau diwethaf o ran ffermydd gwynt ar y môr, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, y cyhoeddiadau niwclear ac eraill, gan sicrhau bod gwneud y mwyaf o'r holl gyfleoedd hynny ar gyfer swyddi medrus yn amlwg yn flaenoriaeth i sicrhau ein bod yn cadw'r gwerth cyn belled ag y gallwn yma yng Nghymru. Bydd gan y gronfa twf lleol rywbeth i'w chyfrannu yn y maes hwnnw, yn bendant, yn enwedig o amgylch ymchwil a datblygu ac arloesi, er enghraifft, ond ni fydd yn gwneud hynny ar ei phen ei hun. Bydd yn rhaid iddi wneud hynny ochr yn ochr â'n holl raglenni cyflogadwyedd eraill ac addysg a chymorth arall i fusnes drwy Fusnes Cymru a Banc Datblygu Cymru ac ati.
Mae'n amlwg iawn o'ch datganiad y prynhawn yma, yr wyf yn ei groesawu'n fawr, fod Cymru ar ei cholled o gannoedd o filiynau o bunnau o ganlyniad i Brexit. Rydym hefyd ar ein colled o ran ein gallu i lunio sut y cafodd y cronfeydd hyn eu creu, eu strwythuro a'u cyflwyno. Rydych chi wedi siarad ar sawl achlysur ac wrth ateb cwestiynau y prynhawn yma amdanoch yn ceisio perswadio a lobïo Llywodraeth y DU dros wahanol benderfyniadau. Y gwir yw, pan oeddem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, roedden ni'n rhan o'r penderfyniadau hynny ac nid dim ond derbynwyr penderfyniadau a orfodwyd arnom. Felly, mae gwahaniaeth sylweddol o ran lle rydyn ni heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, trwy strwythuro'r gronfa yn y ffordd y mae wedi'i gwneud a thrwy strwythuro gwneud penderfyniadau yn y ffordd y mae wedi'i wneud, nad yw Llywodraeth y DU yn ceisio gweithredu rheolaeth drwy'r drws cefn.
Fy mhryder y prynhawn yma yw y gallwn gyflawni'r uchelgeisiau rydych chi wedi'u hamlinellu. Nid oes gennyf unrhyw hyder bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrwng cyflawni hyfyw. Dyna fy mhrofiad i fel Aelod dros Flaenau Gwent drwy'r Senedd hon. Nid ydym wedi gweld cyflawni polisi sylweddol drwy'r system gyd-bwyllgorau corfforaethol ac nid wyf yn argyhoeddedig ei fod yn strwythur hyfyw i gyflawni polisi yn y Senedd nesaf. Felly, fy nghwestiwn yw hyn: sut y byddwch chi'n sicrhau bod mecanwaith i ddwyn cyd-bwyllgorau corfforedig i gyfrif am gyflawni polisi? Mae'r A465 wedi bod yn fuddugoliaeth fawr wrth gyflawni polisi i'r Llywodraeth hon, ac rwy'n parhau i synnu nad yw'r Llywodraeth hon wedi cynllunio ar gyfer cwblhau'r prosiect hwnnw trwy gyflwyno rhaglen datblygu economaidd a rhaglen swyddi ar gyfer Blaenau'r Cymoedd o ganlyniad i hynny. Felly, sut y byddwch yn sicrhau bod Blaenau'r Cymoedd, un o'r ardaloedd a fydd yn cael eu diffinio gan y maes hwn—
Alun, mae angen i chi—
Rwy'n dod at fy mhwynt. Yn ôl y mecanweithiau rydych chi wedi'u disgrifio, sut y byddwch chi'n sicrhau bod modd i ni fel Aelodau gael rhywfaint o hyder y bydd hyn yn gallu cyflawni i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau, ac rwy'n rhannu'r pryder hwnnw y byddem mewn lle gwahanol pe na baem wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae'n rhaid i'n blaenoriaeth yma fod ynglŷn â gwneud y gorau o'r hyn sy'n £0.5 biliwn o gyllid sy'n dod i Gymru. Rwy'n cymryd rhywfaint o gysur o'r ddadl y prynhawn yma nad wyf yn gweld cyd-Aelodau'n anghytuno â'r ffaith ein bod yn targedu cyllid o ran mynd i'r afael â heriau cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Rwy'n credu bod y pwynt hwnnw am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd yn hanfodol o ran sicrhau ein bod yn targedu'r cyllid lle mae ei angen fwyaf. Felly, fel y dywedais, bydd mynegai amddifadedd lluosog Cymru—bydd hynny'n cymryd 60 y cant o'r cyllid y byddwn yn ei ddarparu drwy'r fformiwla anghenion, ac yna bydd cynhyrchiant yno i adlewyrchu bylchau a gwahaniaethau yng Nghymru, ac yna mae elfen wledigrwydd hefyd, a fydd yn bwysig. Felly, rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod y cyllid wedi'i dargedu at feysydd lle bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn llenwi bwlch hefyd. Felly, rydw i wedi gallu siarad am y gwaith sy'n digwydd trwy'r parthau buddsoddi, y parthau twf ac ati. Mae'n bwysig bod y pethau hynny'n cael eu hategu yn hytrach na cheisio cael unrhyw fath o ddyblygu ac ati. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y darlun cyfan fel un. Unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod y penderfyniadau nawr yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru a bydd craffu drwy'r Senedd. Byddwn yn cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU i ffurfioli trefniadau ar gyfer dychwelyd y cyllid ôl UE i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn cyhoeddi hynny, ac rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau yn y Senedd eisiau craffu ar hynny.
Rôl y swyddog cyfrifyddu: ni, yma, fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer y gronfa twf lleol yng Nghymru, a bydd yr arian yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU drwy drosglwyddiadau cyllideb blynyddol. Unwaith eto, byddwn yn atebol i'r Senedd am berfformiad y gronfa twf lleol yng Nghymru, ac roeddwn yn gallu ateb un o'n cyd-Aelodau eraill am rôl dangosyddion perfformiad allweddol, a byddwn yn datblygu a chyhoeddi fframwaith monitro a gwerthuso gyda phartneriaid; bydd hynny'n nodi mwy o fanylion. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n fwy na hapus i'w gyhoeddi, oherwydd rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau yn dymuno ei weld.
[Anghlywadwy.]—Aelodau, efallai ein bod wedi newid y Siambr, ond nid yw'r cyfyngiadau amser a'r terfynau amser tra hysbys ar gyfraniadau wedi newid. James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno â'r Aelod dros Flaenau Gwent: nid wyf yn credu bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn fecanwaith da i ddarparu rhywfaint o'r cyllid hwn. Un maes yr wyf am ei grybwyll, o ran y gronfa twf lleol, yw mai un lle gallem gael twf enfawr mewn swyddi sgiliau uchel a chyflogau uchel yw yn y diwydiannau amddiffyn, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod lefel gynyddol o fuddsoddiad yn y maes hwnnw. Felly, mae gen i ddiddordeb, Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r gronfa twf lleol hon—sut allwch chi wneud yn siŵr bod rhywfaint o'r arian hwnnw'n mynd i'n sector amddiffyn i wneud yn siŵr ein bod yn creu'r swyddi sgiliau uchel hynny a chyflog uchel yma yng Nghymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwy'n clywed beth mae cyd-Aelodau yn ei ddweud ynglŷn â chyd-bwyllgorau corfforedig. Rwy'n credu, fodd bynnag, mai un peth y byddwn yn cael y cyfle i'w wneud nawr, trwy'r flwyddyn bontio ychwanegol hon, yw gweithio gyda llywodraeth leol a'n cydweithwyr cyd-bwyllgorau corfforedig i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon penodol sydd wedi'u codi—mae'r manylion yn adroddiad y pwyllgor—a gallwn dreulio'r cyfnod o amser sydd gennym ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen dair blynedd newydd yn mynd i'r afael â rhai o'r rheini, fel bod gennym y strwythurau cywir yn eu lle fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig mewn sefyllfa dda i fod yn gorff cyflenwi yn y dyfodol.
Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf i fod ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Amddiffyn i lansio'r fargen twf amddiffyn i Gymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle pwysig iawn. Roedd yn wych gweld cymaint o'n busnesau bach a chanolig yno, ochr yn ochr â llawer o'r prif grwpiau sydd ag ôl troed yma yng Nghymru hefyd. Roedd hynny'n foment wirioneddol o optimistiaeth o ran y swyddi a allai ddod trwy'r pwyslais cryf sydd ar amddiffyn. Unwaith eto, rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o ffyrdd y mae angen i wahanol raglenni weithio gyda'i gilydd ac ategu ei gilydd, oherwydd, yn sicr, bydd y cyllid ychwanegol a ddaw trwy amddiffyn yn rhoi cyfleoedd i ni wella cynhyrchiant a hefyd i fynd i'r afael â rhywfaint o'r anghydraddoldeb economaidd hwnnw hefyd, Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cyllid yn mynd i'r lle iawn. Rwy'n credu y gall Cymru gyfan elwa ar ganlyniad i'r fargen twf amddiffyn, yn rhannol oherwydd bod rhai o'r safleoedd gwirioneddol strategol bwysig sydd gennym yn ein hardaloedd mwy gwledig, ac rwy'n credu y bydd hynny'n dod â chyfleoedd buddsoddi sylweddol i'r ardaloedd gwledig hynny.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ddryslyd ynglŷn â sut mae'r pontio yn mynd i weithio heb unrhyw gyllid, ac rwy'n meddwl tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu hynny. Rydw i hefyd yn ddryslyd ynghylch pam mae'n ymddangos eich bod wedi rhoi'r gorau i geisio newid y rhaniad 70:30, pan fo'n ymddangos bod gennych holl gefnogaeth y Senedd i newid hwnnw, oherwydd mae'n amlwg bod miloedd o swyddi yn cael eu colli a gwasanaethau hanfodol yn cael eu colli.
Roeddwn mewn ffair cyllidwyr yn ddiweddar, ac roedd y cyllidwyr a'r sefydliadau yn bryderus iawn—sefydliadau mewn dagrau, heb wybod beth oedd yn mynd i ddigwydd. Felly, rydych chi'n dweud bod yna bontio, does dim cyllid—mae'n ymddangos nad ydych chi'n poeni bod y swyddi hyn yn mynd i ddiflannu neu fod sefydliadau'n mynd i gael eu colli. Pam nad ydych chi'n ymladd? Mae gennych ein cefnogaeth i ymladd. Ymladdwch os gwelwch yn dda.
I fod yn glir â chyd-Aelodau, rwy'n codi hyn drwy'r amser gyda Llywodraeth y DU, ond os ydw i'n eistedd ac yn plethu fy mreichiau a pheidio ag ymgysylltu â Llywodraeth y DU a pheidio â gwneud y cynlluniau hyn ar gyfer sut rydyn ni'n gwario'r arian, yna nid dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae angen i mi barhau i wneud yr achos hwnnw i Lywodraeth y DU, ac rydyn ni'n ei wneud drwy'r amser. Mae cydweithwyr yn yr Alban hefyd yn gwneud yr achos yn gryf hefyd. Gwyddom fod cydweithwyr mewn rhannau eraill yn gwneud yr achosion hynny. Mae gennym gydweithwyr yn y trydydd sector, mae gennym gydweithwyr yn y sector preifat, mae gennym gydweithwyr mewn llywodraeth leol, i gyd yn gwneud yr achos hwn yn gryf iawn. Byddaf yn parhau i wneud yr achos, ond hefyd byddaf yn parhau i fynd ymlaen â'm swydd, sef darparu cynllun buddsoddi sy'n gadarn ac sy'n ystyried y blaenoriaethau allweddol rydyn ni wedi'u nodi ac nid wyf yn credu bod unrhyw bryderon yn eu cylch. Felly, rwy'n gwneud yr achosion hynny drwy'r amser.
Mae gan y flwyddyn gyntaf gyllid—dyma'r flwyddyn gyntaf o dair blynedd o gyllid. Felly, un o'r pethau a nodais yn y llythyr hwnnw at lywodraeth leol, er mwyn iddynt allu rhannu gyda'u swyddogion cyllido, oedd beth oedd eu dyraniadau dangosol yn mynd i fod er mwyn iddynt allu cynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, rydyn ni wedi gwneud popeth y gallwn i osgoi ymyl y clogwyn. Rydyn ni wedi ceisio rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl. Nid wyf yn siŵr a ydw i—. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am y llythyr, a oedd yn caniatáu iddynt gyfalafu rhai costau. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth sy'n offeryn defnyddiol i lywodraeth leol.
Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu, rydyn ni'n parhau i wneud yr achos, ond rydyn ni hefyd yn bwrw ymlaen â'n gwaith, sy'n nodi cynllun hyfyw ar gyfer y dyfodol, a fydd yn cael effaith ar gynhyrchiant, a fydd yn cael effaith ar anghydraddoldeb economaidd ledled Cymru, ac a fydd yn gweld £0.5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, mae cefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth barhaus i'r Llywodraeth hon. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol wrth wraidd ein cymunedau, gan ddarparu urddas, tosturi a chefnogaeth fedrus i'n rhai mwyaf agored i niwed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi wynebu pwysau digynsail, ond maen nhw'n parhau i gyflawni gyda phroffesiynoldeb a chydnerthedd. Felly, heddiw, rwyf i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi'i gyflawni, y camau yr ydyn ni'n eu cymryd a'r camau nesaf i gryfhau a chynnal ein gweithlu gofal cymdeithasol ymhellach.
Ym mis Ebrill diwethaf, fe wnaethon ni gyflwyno system sgorio arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau gofal, gan helpu i sicrhau bod pobl yn cael y gofal gorau posibl. Cyflawnodd dros 92 y cant o wasanaethau gofal safonau uchel yn ystod y saith mis cyntaf, ac mae'r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad eithriadol staff gofal ledled Cymru. Rydyn ni'n parhau i ddarparu cyllid blynyddol o tua £29 miliwn i Ofal Cymdeithasol Cymru, a £45 miliwn yn uniongyrchol i awdurdodau lleol drwy grant gweithlu ochr yn ochr â setliad yr awdurdod lleol. Ac roedd yn galonogol nodi, yn arolwg y gweithlu eleni, ein bod ni wedi gweld cynnydd yn aelodau ein gweithlu sy'n teimlo bod morâl staff yn dda, cynnydd ym moddhad aelodau'n gweithlu â bywyd, a chynnydd yn nifer yr aelodau o staff sy'n teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw'n eu cefnogi. Ond rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi camau allweddol ymlaen yn ein taith i wella cynaliadwyedd y gweithlu hwn. Fe wnaethon ni sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, gan ddod ag undebau llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr, Llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd, i arwain mewn partneriaeth gymdeithasol i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol. Ei flaenoriaeth gychwynnol oedd cynghori a chefnogi gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol, ymrwymiad yr ydyn ni wedi'i gynnal ers 2022. Gwnaeth gwerthusiad diweddar ddarganfod bod y polisi wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru, gan wella tegwch cyflog yn ystod cyfnod eithriadol o heriol i'r sector. Er bod llawer o ganfyddiadau'n gadarnhaol, tynnodd y gwerthusiad sylw at rai gweithwyr nad oeddynt yn cael y codiad cyflog, a byddwn ni'n ymdrin â hyn ar gyfer 2026-27 trwy fonitro llymach i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei drosglwyddo ymlaen.
Trwy'r fforwm a'i grwpiau gorchwyl a gorffen rydyn ni wedi datblygu blaenoriaethau ehangach sy'n canolbwyntio ar wella cyflog a thelerau ac amodau, ac mae hyn yn cynnwys cwblhau fframwaith cyflog a dilyniant gwirfoddol ar gyfer y sector sydd wedi'i gynllunio i gefnogi cyflog, telerau a llwybrau gyrfa cyson. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau bod y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol erbyn hyn wedi cwblhau'r gwaith hwn, a bydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau gwe'r fforwm, ac edrychaf ymlaen at drafod hyn gyda'r fforwm pan fyddaf i'n cyfarfod â nhw'r wythnos nesaf.
Nawr, fis Ionawr diwethaf, cyhoeddais i sefydlu'r bartneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol, y cyntaf o'i math yn y DU. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bartneriaeth wedi datblygu polisïau adnoddau dynol enghreifftiol ar gyfer y gweithlu, yn enwedig y sector annibynnol. Mae hwn yn gam pwysig i gefnogi dulliau polisi mwy cyson a gwell amodau gwaith ar draws y sector. Felly, heddiw, gallaf i hefyd gadarnhau ein bod ni'n dechrau cyhoeddi'r cyntaf o'r polisïau hyn—hynny yw cytundebau cydnabyddiaeth a disgyblu a chwyno.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod ni wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr haf diwethaf sy'n galluogi ymestyn cytundebau cyflog teg o fewn Deddf Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU 2025 i Gymru. Yn gadarnhaol, gwnaethon ni drafod y bydd gwasanaethau plant hefyd yn cael eu cynnwys ar gyfer Cymru, nad yw'n wir am Loegr. Bydd sefydlu corff negodi gofal cymdeithasol i ddatblygu'r cytundebau hyn yn garreg filltir arwyddocaol, gan alluogi lefelau cyflog gorfodadwy i weithwyr gofal cymdeithasol am y tro cyntaf. Gan weithio gyda'n rhanddeiliaid drwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, rydyn ni wedi datblygu ymgynghoriad ar strwythur a gweithrediad arfaethedig y corff negodi. Heddiw, bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n mynd yn fyw, a byddwn i'n annog unrhyw un yn y sector hwn i ymateb i sicrhau bod canfyddiadau'n llunio'n camau nesaf.
Creodd newidiadau mewnfudo Llywodraeth y DU'r llynedd ansicrwydd i weithwyr gofal tramor yng Nghymru ac, mewn ymateb, rydyn ni wedi gweithio'n gyflym i sefydlu rôl i'r gwasanaeth cynghori cenedlaethol helpu gweithwyr tramor sydd wedi'u dadleoli neu sy'n chwilio am gyflogaeth arall. Mae'r gwasanaeth cynghori cenedlaethol yn cysylltu gweithwyr â darparwyr gofal yng Nghymru sydd â swyddi gwag ac sydd â thrwydded nawdd. Maen nhw hefyd yn cyfeirio gweithwyr at wasanaethau cymorth perthnasol, gan gynnwys curriculum vitae, paratoi cyfweliadau a chymorth llesiant.
Mae'r gwasanaeth yr ydyn ni wedi'i weithredu eisoes yn gwneud gwahaniaeth, ac nid yw ond yn cefnogi gweithwyr; mae'n helpu darparwyr a oedd wedi cynllunio recriwtio tramor cyn i'r newidiadau i atal gweithwyr tramor rhag mynd mewn i ofal cymdeithasol gael eu gweithredu. Drwy gysylltu darparwyr â gweithwyr medrus sydd eisoes yng Nghymru, ein nod ni yw lleddfu'r pwysau recriwtio a pharhau i gryfhau ein gweithlu.
Ac yn olaf, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag awdurdodau lleol i ddeall eu dulliau arloesol o recriwtio a chadw. Mae sawl awdurdod lleol wedi sefydlu cynlluniau sy'n dangos cyfraddau cadw staff rhagorol ac yn gwella'r canfyddiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig trwy eu hacademïau gofal. Mae cyfleoedd dilyniant yn allweddol i academïau gofal, gan helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn yrfa am oes. Maen nhw'n cynnig cyfleoedd i hyfforddi, ennill cymwysterau wrth ennill arian ac archwilio gwahanol rolau ar draws y sector. Felly, heddiw, rwy'n falch iawn o gadarnhau ein bod ni'n ymrwymo £1.5 miliwn o gyllid newydd i gefnogi cam cyntaf academi gofal cymdeithasol genedlaethol i Gymru.
Bydd Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi awdurdodau lleol i ymestyn y manteision sydd eisoes yn cael effaith mewn rhai ardaloedd ledled Cymru. I'r rhai sydd ag academïau presennol, byddwn ni'n gweithio i ddatblygu ar eu sylfeini cadarn, gan helpu i gryfhau, ehangu a manteisio i'r eithaf ar effaith y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill. Ein gweledigaeth yw datblygu academi gofal cymdeithasol sydd wedi'i chydnabod yn genedlaethol ond wedi'i darparu'n lleol sy'n grymuso unigolion i ddilyn gyrfaoedd gydol oes yn y sector hwn, cryfhau cydnerthedd y gweithlu a gwella canfyddiad ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sector.
Gwyddon ni o arolwg diweddar gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru bod gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ysgogiad allweddol dros weithio ym maes gofal cymdeithasol—ac maen nhw'n gwneud hynny. Mae ein gweithlu yn haeddu cael eu gwobrwyo gyda llwybrau dilyniant gwirioneddol, hyfforddiant arbenigol a'r hyder bod gofal cymdeithasol nid yn unig yn swydd, mae'n yrfa gydol oes. Felly, rwyf i eisiau cloi drwy ddiolch i'n gweithlu gofal cymdeithasol am bopeth maen nhw'n ei wneud. Nhw yw conglfeini ein cymuned, ac rwy'n credu'n gryf y bydd y camau yr ydyn ni'n eu cymryd nawr, a'r rhai sydd i ddod, yn parhau i ysgogi'r newid sydd ei angen ar y gweithlu hwn ac y mae'n wir ei haeddu. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad? Wrth gwrs, rydyn ni'n croesawu'r newidiadau, ac rwy'n falch o weld rhai camau yn cael eu cymryd i ymdrin â'r pwysau recriwtio hynny ar ein gweithlu. Mae'r sector hwn yn chwarae, fel y gwyddon ni i gyd, ran hollol hanfodol yn ein system iechyd ehangach, ac rydyn ni'n diolch iddyn nhw i gyd am bopeth maen nhw'n ei wneud. Ond mae angen i ni ymdrin â graddfa'r argyfwng staffio yn ein sector gofal cymdeithasol, a bydd y newidiadau hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i ymdrin â'r rheini, ond ni ddylai pethau fod wedi cymryd mor hir â hyn.
Ond byddai'n esgeulus i mi beidio â defnyddio'r cyfle hwn i sôn am ran allweddol arall o'n gweithlu gofal cymdeithasol, ac un yr ydych chi'n ei hadnabod yn dda iawn, a hynny yw ein gofalwyr di-dâl, oherwydd nid yw'n ymddangos o fewn hyn. Nawr, rwy'n gwybod na fyddai'n sôn yn uniongyrchol—y datganiad —yn sôn amdanyn nhw, ond maen nhw'n rhan enfawr o'n system gofal cymdeithasol, a, pan fyddwn ni'n cydnabod un rhan o'r system, dylen ni fod yn cydnabod pob rhan ohoni. Oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae'r rhan honno o'n system gofal cymdeithasol yn teimlo'n hynod siomedig, gyda llawer o ofalwyr di-dâl yn methu cael mynediad at asesiadau gofalwyr neu seibiant. Gyda'r etholiad ar y gorwel, mae'n amlwg bod yr amser i'ch Llywodraeth ymdrin â'r mater hwn wedi dod i ben. Felly, tybed pam, Gweinidog, mae eich Llywodraeth wedi methu ag ymdrin â'r pryderon sydd gan lawer o'n gofalwyr di-dâl, ac a ydych chi'n credu bod hwn yn gyfle arall i'w cefnogi sydd wedi'i golli? Mae awdurdodau lleol yn mynnu'u bod yn cyflawni'u dyletswyddau statudol. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth gan ofalwyr di-dâl yn dangos bod hyn ymhell o'r gwir. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cysylltu â chynghorau, ac edrychwn ni ymlaen at adborth o hynny.
Felly, pan fyddwn ni'n sôn am y cyllid ychwanegol i'n hawdurdodau lleol trwy grant y gweithlu, rydyn ni'n croesawu hynny, ond y gwir yw, bod ein hawdurdodau lleol yn gorfod gwneud mwy a mwy gyda llai a llai. Felly, Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r toriadau i awdurdodau lleol ar eu gallu i ddarparu gofal cymdeithasol, y gofal cymdeithasol y mae pobl Cymru yn ei haeddu? Rydyn ni i gyd yn gwybod bod argyfwng staffio yn y sector, sy'n gysylltiedig â chyflog ac amodau gwaith gwael. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng tâl iechyd a gofal cymdeithasol o ran telerau ac amodau a dilyniant. A bydd yr hyn yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw yn mynd rhywle'n agos at greu'r cydraddoldeb hwnnw sydd angen i ni ei weld rhwng y system gofal cymdeithasol ac iechyd. Edrychaf ymlaen at weld sut olwg fydd ar ganlyniadau'r academi gofal cymdeithasol genedlaethol newydd.
Rwy'n cytuno â'ch datganiad pan ydych chi'n dweud bod ein gweithlu yn haeddu cael ei wobrwyo gyda llwybrau dilyniant gwirioneddol, hyfforddiant arbenigol a'r ffaith bod hon yn yrfa ac nid yn swydd tymor byr. Ond nid yw hynny wedi bod yn wir yma yng Nghymru. Felly, Gweinidog, pam mae wedi cymryd hyd at ddiwedd Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddechrau cymryd y system gofal cymdeithasol o ddifrif? A phryd y bydd y gofalwyr di-dâl, rhan o'n gweithlu, yn cael eu cydnabod yn yr un modd â gweddill y system?
Wel, a gaf i ddiolch i Peter Fox am y sylwadau hynny ac am groesawu'r hyn rydw i wedi'i ddweud heddiw i raddau helaeth? Byddwch chi'n gwerthfawrogi fy mod i wedi gwneud datganiadau ar wahân am ofalwyr di-dâl, a rhoddais i dystiolaeth i'r pwyllgor ar ofalwyr di-dâl, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi ysgrifennu ataf i am ragor o wybodaeth am ofalwyr di-dâl, ar ôl i mi ymddangos yn y pwyllgor. Fel y dywedais i yn y pwyllgor, rydyn ni erbyn hyn yn ymgynghori ar y strategaeth ddi-dâl ddiwygiedig, ac rwy'n credu y bydd yn ymdrin â llawer o'r materion a gafodd eu codi gyda mi, gennych chi a gweddill y pwyllgor, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn mynd ar drywydd y mater hwn yn gyson gydag awdurdodau lleol ac rwyf i wedi ymrwymo i ysgrifennu at y pwyllgor gyda chanfyddiadau fy ngohebiaeth ddiweddaraf ag awdurdodau lleol ar hynny. Rwy'n parhau i fod yn gwbl benderfynol yn fy safbwynt a'm barn, sef barn Llywodraeth Cymru, y dylai gofalwyr di-dâl fod yn cael mynediad at asesiadau gofalwyr di-dâl a dylen nhw fod yn cael mynediad at ofal seibiant pan fydd ei angen arnyn nhw, ac rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw.
Dim ond i fynd yn ôl, felly, at hanfod fy natganiad, sy'n ymwneud â'n gweithlu gofal cymdeithasol, yn hytrach na gofalwyr di-dâl, nid wyf i'n derbyn cynsail eich sylw ein bod ni wedi aros tan ddiwedd y tymor hwn. Yr hyn yr ydw i wedi'i nodi yn fy natganiad, mewn gwirionedd, yw'r rhestr o bethau yr ydyn ni wedi bod yn eu gwneud dros y pum mlynedd diwethaf, gan arwain at y cyhoeddiad terfynol yr ochr hon i etholiad y Senedd, sef cyllid ar gyfer dechrau sefydlu academi gofal genedlaethol. Rydyn ni wedi bod yn ariannu'r gweithlu gofal cymdeithasol, fel y dywedais i yn fy natganiad, drwy, bob blwyddyn, grant gweithlu o £45 miliwn, £7 miliwn o gyllid cyfatebol drwy'r rhaglen datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol, ymrwymiad o £1.4 miliwn i'r cymorth ar gyfer bwrsariaeth gwaith cymdeithasol myfyrwyr, £29 miliwn i Ofal Cymdeithasol Cymru. Rydyn ni wedi sefydlu'r fforwm gwaith gofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Mae gennym ni fframwaith cyflog a dilyniant, sydd o'r diwedd wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi heddiw. Fe wnaethon ni sefydlu'r bartneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol. Rydyn ni wedi sefydlu'r gwasanaeth cynghori cenedlaethol, ac, fel y dywedais i, rydyn ni hefyd wedi llwyddo i negodi gyda Llywodraeth y DU y gallwn ni gynnwys ein gwasanaethau plant, yn ogystal â gwasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol, mewn cytundebau cyflog teg, a fydd yn rhoi tâl gofal cymdeithasol ar sail gyfreithiol am y tro cyntaf. A nawr rydw i newydd gyhoeddi'r academi gofal cymdeithasol.
Felly, nid wyf i'n derbyn cynsail y pwyntiau a wnaethoch chi, Peter, sef nad ydyn ni wedi gwneud dim dros bum mlynedd. Rydyn ni wedi gweld y gweithlu yn cynyddu, rydyn ni wedi gweld swyddi gwag yn sefydlogi, rydyn ni wedi gweld newydd-ddyfodiaid i'r system trwy gynlluniau tyfu staff eich hun awdurdodau lleol, a dyna'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu'i ddatblygu trwy'r academïau. Rydyn ni wedi gweld mwy o ddynion yn dod i'r gwasanaeth hwn o ganlyniad i rai o'r cynlluniau awdurdodau lleol, sy'n bwysig iawn. Ac rydyn ni wedi gweld—. Mae cofrestru ein gweithlu yn ysgogydd allweddol wrth broffesiynoli'r yrfa.
Ond nid ydyn ni'n gorffwys ar ein rhwyfau. Rydyn ni'n gwybod bod llawer i'w wneud, a dyna oedd fy natganiad yn ceisio'i roi ar y cofnod heddiw: yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud hyd yma a ble'r ydyn ni'n mynd oddi yma.
Mae gofal cymdeithasol yn sylfaen i’n gwasanaeth iechyd ac yn asgwrn cefn i’n cymdeithas. Rywbryd yn ystod ein bywydau, bydd pob un ohonom yn dibynnu arno i ofalu am riant sy’n heneiddio, partner sy’n sâl, neu hyd yn oed amdanom ni ein hunain. Pan ddaw’r amser hwnnw, mi fyddwn ni'n disgwyl gofal o safon. Felly, mae’r gweithlu sy’n darparu’r gofal hwnnw yn haeddu tâl ac amodau sy’n adlewyrchu gwerth eu gwaith a’u cyfrifoldeb enfawr.
Er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi gosod gweledigaeth glir ar gyfer hawliau a llesiant, y gweithlu sy’n troi’r egwyddorion hynny’n realiti o ddydd i ddydd. Nhw sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng polisi ar bapur a phrofiad gwirioneddol i deuluoedd ledled Cymru. Ac yma yng Nghymru, mae tua 80,000 o bobl yn gweithio yn y sector yma. Mae’n cyfrannu £4.6 biliwn i’n heconomi. Nid sector ymylol mohono; mae’n rhan ganolog o’n seilwaith cenedlaethol ni.
Ond fe ddengys arolwg gan Gofal Cymdeithasol Cymru mai dim ond 38 y cant sy’n hapus gyda’u tâl, gyda bron i chwarter yn ei chael hi’n anodd byw ar eu hincwm. Mae lefelau straen uchel a phroblemau iechyd meddwl yn amlwg. Nid yw hynny’n gynaliadwy yn y tymor hir. Mae cadw staff yr un mor bwysig â'u recriwtio, ac os na allwn ni gadw’r bobl fedrus sydd gennym ni eisoes, ni fydd unrhyw ymgyrch recriwtio yn ddigon.
Mi ydw i'n croesawu nifer o'r llwyddiannau yr ydych chi, Weinidog, wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. O ran y cyflog byw go iawn, serch hynny, mae’r fframwaith sydd gennym ni yn un gwirfoddol ac yn berthnasol i weithwyr gofal uniongyrchol a’u rheolwyr yn unig ar hyn o bryd. Os mai’r uchelgais ydy bod y sector yn un gydlynol a theg, a oes yna fwriad clir i ymestyn y trefniant hwn i gynnwys pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? Mi ydych chi'n dweud y byddwch chi'n tynhau'r rheolau ar gyfer dyrannu'r arian yma. Wel, beth sydd yn eich atal chi rhag gorfodi hyn i ddigwydd? Hefyd, pa gyfran o’r gweithlu sy’n derbyn y cyflog byw go iawn ar hyn o bryd, ac erbyn pryd y caiff unrhyw fylchau yn y system eu cau?
Mae uchelgais y Llywodraeth i ddarparu gofal mor agos i adref â phosibl, fel sy'n cael ei nodi yn 'A Healthier Wales', yn un y mae pawb yma yn ei rannu. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, mae’r realiti yn un sy'n heriol. Mae mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty ac yn aros yno’n hwy, ac mae’r galw am wasanaethau yn y gymuned yn cynyddu. Mi wyddom ni fod angen tua 400 o ofalwyr ychwanegol ledled Cymru er mwyn gallu rhyddhau cleifion sydd ar hyn o bryd yn sownd mewn ysbyty, a darparu’r gofal cymunedol sydd ei angen arnyn nhw. Pa gamau pendant felly sy’n cael eu cymryd i recriwtio a chadw’r gweithlu hwnnw? Pa fuddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei neilltuo tu hwnt i'r £1.5 miliwn rydych chi wedi ei gyhoeddi ar gyfer yr academi, sydd i'w groesawu? Mae honno yn un dwi'n ei chroesawu'n arw iawn, a gobeithio bydd yr academi yma yn ffynhonell fywiog ar gyfer gweithlu i'r dyfodol. Ond pa fuddsoddiad ychwanegol yr ydych chi wedi ei adnabod sy'n cael ei neilltuo, a pha amserlen sydd ar waith er mwyn sicrhau y bydd y capasiti gennym ni o fewn y ddwy flynedd nesaf i ateb y galw?
Yn y pen draw, pa sicrwydd tymor hir all y Llywodraeth yma ei roi bod gofal yn yrfa y mae pobl eisiau ymuno â hi, a pharhau ynddi hi? Oherwydd oni bai bod y tâl yn un cystadleuol, bod llwybrau datblygu clir, fel y clywsom ni, yn bodoli, a bod hyfforddiant yn gynaliadwy’n ariannol, fydd y system ddim yn sefydlogi.
Yn olaf, a gaf i ofyn a ydych chi'n cytuno bod rheolau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i atal teuluoedd gweithwyr tramor i ddod yma i fyw gyda'u hanwyliaid wrth eu bod nhw'n gweithio yn rhwystr i gyflogi o leiaf rhai o'r gofalwyr sydd eu hangen arnom ni, a bod y rhethreg gwrth-fewnfudwyr tramor yn niweidiol, gan ein bod ni mor ddibynnol ar ofalwyr tramor mewn sawl ardal i ddarparu'r gofal angenrheidiol i'n hanwyliaid? Pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi'u cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'r perwyl yma? Diolch.
Diolch, Mabon, am y pwyntiau yna, ac eto, diolch am eich sylwadau croesawgar, ar y cyfan, ar y datganiad. Yr hyn y gwnes i ei ddweud yn fy natganiad oedd bod yr arolwg gweithlu gofal cymdeithasol eleni wedi dangos bod mwy o foddhad. Rwy'n nodi'r pwynt yr ydych chi wedi'i godi, ond roeddech chi'n ddetholus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydych chi wedi dewis siarad amdano yn eich cwestiynau heddiw. Ond edrychais i ar hyn yn gyffredinol, a gwelais fod yr hyn a oedd yn yr arolwg yn galonogol iawn o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Felly, rwy'n cymryd y cadarnhaol o hynny, ac rydyn ni'n datblygu. Rydyn ni'n datblygu ar hynny.
Rydych chi'n hollol gywir: mae cadw'n gweithlu yr un mor bwysig â recriwtio'r gweithlu, a dyna'r prif ysgogydd y tu ôl i'r academi gofal genedlaethol. Mae'n seiliedig ar y pethau yr ydyn ni'n eu gweld yn digwydd mewn nifer o awdurdodau lleol nawr, ond nid yw'n gyson ledled y wlad, ac mae'n rhaid i ni gael y dull cyson hwnnw. Yr hyn y bydd yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol hon yn ei wneud, yw y bydd yn gosod fframwaith cenedlaethol i'w gyflawni'n lleol gan bob awdurdod lleol. Felly, bydd pob awdurdod lleol yn cael ei gefnogi gan yr academi genedlaethol. Byddwn ni'n gwneud rhyw fath o fapio o'r hyn sydd yno nawr, ac yna beth sydd angen ei wneud, ac yn llenwi'r bylchau yn y meysydd hynny.
Wrth gwrs, bydd parhad yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol, a sut mae hynny'n mynd rhagddi, yn fater ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Rydyn ni'n nodi heddiw beth yr ydyn ni'n ei weld fel y ffordd ymlaen, ac rydyn ni'n rhoi'r cyllid cychwynnol i mewn, ond bydd y parhad o hynny, wrth gwrs, yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud o ran y cyflog byw gwirioneddol a'r gorfodi y gwnaethoch chi sôn amdano yn eich cwestiwn, dyna pam mae hi'n bwysig ein bod yn rhan o'r cytundeb cyflog teg yn neddfwriaeth y DU ar hawliau cyflogaeth, a byddwch chi'n cofio bod gennym ni'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a oedd yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â hynny. Heb i ni fod yn rhan o'r cytundeb cyflog teg hwnnw, ni fydden ni'n gallu gorfodi rhywbeth nad yw'n ddarpariaeth gyfreithiol, hynny yw, y cyflog byw gwirioneddol. Mae'r cyflog byw cenedlaethol yn ddarpariaeth gyfreithiol, mae'r isafswm cyflog cenedlaethol yn ddarpariaeth gyfreithiol, ond nid ydyn ni wedi gallu gorfodi cytundebau wedi'u negodi. Felly, mae'r cyflog byw gwirioneddol yr ydyn ni'n ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol yma, sy'n berthnasol i weithwyr gofal cymdeithasol a chynorthwywyr personol, gyda llaw, wedi'i negodi trwy ein partneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol a thrwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae hynny wedi'i wneud mewn partneriaeth. Mae wedi bod yn gytundeb wedi'i negodi gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur. Ond nid yw hynny'n gyfreithiol orfodadwy. Bydd y cytundeb cyflog teg yn sicrhau y bydd unrhyw beth yr ydyn ni'n yn ei negodi'n cael ei orfodi'n gyfreithiol, a dyna pam yr oedden ni mor awyddus i sicrhau ein bod ni'n rhan o hynny, ac nad oedden ni dan anfantais yng Nghymru o'i gymharu â'n cydweithwyr yn Lloegr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n digwydd. Bydd hynny'n cael ei weithredu yn 2028, ac erbyn hyn, rydyn ni yn y broses o ddatblygu'r strwythur a'r dulliau a fydd yn caniatáu i ni gael fforwm negodi i wneud hynny.
Fe wnaethoch chi siarad am ofal cymunedol yn ei ystyr ehangaf, gofal cymdeithasol mewn gofal cymunedol, a'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud i gefnogi hynny. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a minnau wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf sawl gwaith i'r Senedd o ran yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn hyn o beth. Rydyn ni wedi rhoi adroddiadau o'r blaen am y gronfa integreiddio rhanbarthol a sut mae hynny'n cefnogi, o ran cyfalaf a refeniw, ddatblygiad gofal cymunedol integredig. Rydyn ni'n datblygu'r system gofal cymunedol integredig honno ac rydyn ni'n gweld manteision a chanlyniadau hynny. Rydyn ni'n gweld gwelliannau o fis i fis yn yr oedi yn achos ein llwybrau gofal, er enghraifft.
Mae gennym ni fuddsoddiad parhaus o £30 miliwn i ddatblygu'r gallu cymunedol hwnnw, ac mae datblygu'r gallu cymunedol hwnnw yn ymwneud â datblygu'r gweithlu i gyflawni'r pecynnau cymunedol hynny. Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni ddod o hyd i weithlu i ddechrau, ac rydyn ni'n gwybod bod hynny'n her, ac mae'r holl bethau yr ydyn ni wedi'u rhoi ar waith hyd yma wedi arwain at welliannau yn y meysydd hynny, ond nid gwelliannau sydd wedi bod yn ddigon cyflym ac sydd wedi gallu cyflawni'r sefydlogrwydd yr ydyn ni eisiau'i weld yn y gweithlu gofal cymdeithasol, dyna pam yr ydyn ni nawr yn cymryd y cam pellach hwn.
O ran gweithwyr tramor, Mabon, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rwy'n credu fy mod i wedi dweud hynny yn fy natganiad. Wrth gwrs, ydyn, rydyn ni wedi cael, fel y mae fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU i liniaru rhai o'r pethau sy'n cael eu cynnig. Rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni hynny i ryw raddau, ond nid ydyn ni wedi llwyddo i'w hatal rhag cyflwyno'r rheolau hynny. Ac mae hynny wedi cael effaith, oherwydd mae wedi golygu na allwn ni erbyn hyn gyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol oni bai eu bod yn bodloni trothwy cyflog penodol, a dyna pam mae gwaith y gwasanaeth cynghori cenedlaethol mor bwysig, fel y gallwn ni weithio gyda darparwyr sydd eisoes â thrwyddedau nawdd—gallwn ni eu paru â gweithwyr sy'n colli'u cyflogaeth gan gyflogwyr neu ddarparwyr sy'n colli'u nawdd. Dyna'r broblem fwyaf yma. Tra bo pobl yn dal i weithio, mae hynny'n iawn, ond nid pan fyddant yn colli eu swyddi. A dyna'r hyn mae'r gwasanaeth cynghori cenedlaethol yn ei wneud. Ond rydyn ni'n sylweddoli'r her y mae'n ei gyflwyno i ddarparwyr, oherwydd ni all llawer ohonyn nhw ddarparu'r lefelau o gyflog ar hyn o bryd a fyddai'n bodloni gofynion y fisa. Felly, mwy o waith i'w wneud yn y maes hwnnw, ond rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu, i sicrhau bod y bobl hynny'n cael y gofal a'r gefnogaeth cystal ag y gallwn ni.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw ynglŷn â sut yr ydyn ni'n cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol. Ni allwn ni danbrisio'r ymrwymiad, yr ymroddiad a hefyd y gofal anhygoel y mae pobl sy'n gweithio mewn cartrefi preswyl, nyrsio, seibiant plant a gofal ledled Cymru yn ei ddarparu bob diwrnod o'r flwyddyn. Maen nhw'n gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac rydyn ni'n ffodus iawn i gael unigolion mor ymroddedig sydd eisiau helpu i ofalu am ein hanwyliaid.
Fodd bynnag, oni bai bod camau yn cael eu cymryd nawr, ymhen 10 mlynedd, ni fydd gennym ni'r gweithlu gofal cymdeithasol y bydd ei angen arnon ni i ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd, fel y cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor ato, mae'r mwyafrif o'r gweithlu yn dibynnu ar weithwyr o dramor, ac mewn trafodaethau yr ydw i wedi'u cael gyda Fforwm Gofal Cymru, sy'n sefydliad sydd wedi gwneud cymaint dros y blynyddoedd i broffesiynoli'r sector, mae'n amlwg iawn nad ydyn ni'n hyfforddi digon o bobl yma i wneud y gwaith hanfodol hwn. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y bydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn gynaliadwy yng Nghymru am ddegawdau i ddod? Ac wrth ofyn y cwestiwn hwn, rwy'n croesawu'n fawr, Gweinidog, eich cyhoeddiad ynghylch cyllid ar gyfer cam cyntaf yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol yng Nghymru, ac rwy'n credu y bydd hynny'n cryfhau'r cydnerthedd, ond efallai y gallwch chi ehangu ychydig mwy ar hynny.
Yn hollol. Diolch, Lesley, am y sylwadau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth yr ydych chi wedi'i ddweud am y gweithlu a phwysigrwydd y gweithlu. Rydyn ni wedi siarad sawl gwaith, onid ydyn ni, yn y Siambr hon am y ffaith na allwch chi siarad am y GIG heb siarad am ofal cymdeithasol. Mae'r ddau beth wedi'u cysylltu'n gynhenid, a chyn gynted ag y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw o baredd—a pharedd nid yn unig ar gyflog, ond ar barch cydradd, fel bod pobl yn dechrau gweld gofal cymdeithasol fel dewis gyrfa yn yr un modd ag y maen nhw'n gweld y GIG fel dewis gyrfa.
Roeddwn i mewn gwirionedd i fyny yn eich milltir sgwâr chi ddoe. Ymwelais i â Choleg Cambria. Mae ganddyn nhw academi gofal cymdeithasol yno yng Ngholeg Cambria. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdod lleol Wrecsam, ac maen nhw'n lleoli eu myfyrwyr gyda'r awdurdod lleol, fel eu bod yn cael y profiad ymarferol o weithio ar draws pob agwedd ar ofal cymdeithasol wrth iddyn nhw barhau â'u hyfforddiant a'u cymwysterau. Oherwydd un o'r pethau y cafodd ei ddweud wrthyf i oedd—ac rydw i wedi nodi hyn o'r coleg yn fy etholaeth i fy hun, yng ngholeg Merthyr hefyd—mae'r cymwysterau a phecynnau hyfforddi iechyd a gofal cymdeithasol y mae ein colegau addysg bellach yn eu darparu yn ardderchog, ac maen nhw'n paratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf i'r brifysgol ac ati, ond roedden nhw'n dweud mai'r broblem sydd ganddyn nhw yw bod nifer o'r myfyrwyr hynny'n gadael ac yn mynd i gymryd y llwybr iechyd ac yn gadael y llwybr gofal cymdeithasol, ac mae hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gweld bod gan ofal cymdeithasol y cyfleoedd gyrfa yr ydyn ni i gyd yn gwybod amdanyn nhw yn y gwasanaeth iechyd. Felly, roeddwn i wrth fy modd yn eu gweld nhw, y coleg hwnnw ac awdurdod lleol Wrecsam, yn siarad â mi am eu cynlluniau tyfu eu staff eu hunain, sydd erbyn hyn nid yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol yn unig yn yr ystyr absoliwt yr ydyn ni'n ei ddeall—gweithwyr cymdeithasol, staff gofal cymdeithasol, gweithwyr cymorth—ond therapyddion galwedigaethol hefyd. Maen nhw nawr yn bwriadu tyfu eu therapyddion galwedigaethol eu hunain, oherwydd maen nhw'n gwybod bod hynny'n fwlch mawr. Heb therapyddion galwedigaethol, ni allwn ni gael y gwasanaethau ailalluogi hynny yn y gymuned. Felly, rwy'n credu bod yna lawer o bethau da yn digwydd allan yna.
I ateb eich cwestiwn yn benodol, dyna'r hyn yr ydyn ni eisiau i'r academi gofal genedlaethol ei wneud: nodi'r arfer da yr ydyn ni'n gwybod ei fod yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol a datblygu hynny, fel y gallwn ni gyflawni hynny'n gyson, ar draws yr holl wlad, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ei hun, cyflawni gweithlu a fydd yn gallu llenwi'r bylchau hynny ym mhob agwedd ar ofal cymdeithasol a rhoi'r gweithlu cynaliadwy hwnnw i ni ar gyfer y dyfodol.
Ni fydd sefyll yn llonydd a pharhau i wneud yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud nawr yn ddigon. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth newydd. Rwy'n gobeithio mai'r academi gofal cymdeithasol fydd yr ysgogiad sydd ei angen arnon ni i ddatblygu'r dull newydd hwnnw o gyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud. Bydd angen gofal cymdeithasol arnon ni—pob un ohonon ni yn y Siambr hon—ar ryw adeg yn ein bywydau. Felly, mae hwn yn fath hunanol iawn o ymagwedd, onid yw? Rydyn ni eisiau gweld gwell gofal cymdeithasol, nid yn unig ar gyfer pobl nawr, ond yn y dyfodol.
Rwy'n bryderus iawn am ofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, a darparu gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae gennym her sylweddol i'r gweithlu. Ar gyfartaledd, mae tua 3,500 o rolau gofal cymdeithasol yn cael eu hysbysebu bob mis yma yng Nghymru, ac mae un o bob pedwar gofalwr yn dweud eu bod yn bwriadu gadael eu rolau o fewn y flwyddyn nesaf.
Fel rydyn ni wedi clywed, mae'n swydd anodd iawn—gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed a'n pobl fwyaf gwerthfawr yn ein cymdeithas. Felly, hoffwn i wybod gennych chi, os gaf i, yn fyr: beth mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu i sicrhau bod gennym ni ofalwyr cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru?
Diolch, Jane. Mae'n gwestiwn dilys iawn. Rwy'n credu mai diben yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol yw, fel yr oeddwn i'n ceisio ei ddweud yn fy natganiad, y byddwn ni'n gosod fframwaith cenedlaethol ar gyfer cyflawni lleol, oherwydd ni allwch chi gael 'un ateb sy'n addas i bawb'. Ni allwch chi gael yr un cynlluniau'n union sy'n berthnasol mewn ardaloedd trefol ag y byddech chi'n eu cael mewn ardaloedd gwledig, am yr holl resymau yr ydych chi'n eu nodi.
Mae gennyf i heriau teuluol fy hun yn hynny o beth. Mae gennyf i fam oedrannus a mam-yng-nghyfraith oedrannus, ac ar ryw adeg, bydd angen gofal cymdeithasol ar y ddwy ohonyn nhw. Mae un yn byw mewn dinas. Mae un yn byw yng nghefn gwlad gogledd Cymru. Bydd ganddyn nhw brofiadau gwahanol iawn, o bosibl, o'r gofal y bydd ei angen arnyn nhw. Rwyf i eisiau sicrhau, ble bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru, pan fydd angen y pecyn gofal hwnnw arnoch chi, y byddwch chi'n cael y cymorth sydd ei hangen arnoch chi ar yr adeg y mae ei angen arnoch chi, mewn modd amserol. Ni allwn ni wneud hynny oni bai bod gennym ni weithlu cynaliadwy.
Pe bai'n hawdd, Jane, bydden ni wedi gwneud hyn amser maith yn ôl, a byddai hyn wedi digwydd dros nos. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn her. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn anodd. Rydyn ni'n gwybod bod cyflog yn rhan fawr ohono, ond nid dyma'r unig ran. Dyna pam mae'r academi a'r cynlluniau tyfu eich staff eich hun mor bwysig, oherwydd byddan nhw'n caniatáu i bobl hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol—i newid gyrfaoedd eu hunain.
Mewn rhai o'r academïau tyfu eich staff eich hun gydag awdurdodau lleol, rydyn ni'n gweld pobl yn newid gyrfaoedd—symud o dai ac addysg i fynd i ofal cymdeithasol—ac yn dilyn y gyrfaoedd hynny yno. Mae un o'r awdurdodau lleol sy'n cynnal cynllun tyfu eich staff eich hun wedi adrodd wrthym ni fod y bobl sydd wedi gwneud hynny, ac sydd wedi trosglwyddo i yrfaoedd newydd trwy'r cynlluniau hyn—maen nhw'n cadw 100 y cant o'r aelodau o staff hynny.
Felly, rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen. Nid yw'n ddatrysiad perffaith. Nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos. Ond rwy'n credu bod hon yn ffordd newydd ac arloesol i ni ysgogi datblygiad ein gweithlu gofal cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y canlyniadau yr ydyn ni eu heisiau.
Ac yn olaf, Julie Morgan.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y datganiad hwn, sy'n gadarnhaol iawn. Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn enwedig i sicrhau mwy o broffesiynoldeb yn y gweithlu, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod ni'n gwneud hynny ym mhob maes. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, ac fel y dywedodd eraill, mae'r swyddi y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu gwneud mor hollol hanfodol. Mae pobl agored i niwed yn eu dwylo, ac nid yw erioed wedi cael ei gydnabod fel y gweithlu gwirioneddol bwysig yw e'. Felly, rwy'n croesawu'n arbennig, fel y mae eraill wedi gwneud, y £1.5 miliwn fel y cyllid newydd ar gyfer yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol. Mae'r Gweinidog wedi dweud ychydig wrthym ni am sut y bydd yr academi honno yn gweithio mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae gofal cymdeithasol preswyl yng Nghymru yn cynnwys nifer fawr o gartrefi preswyl gofal cymdeithasol bach, yn ogystal ag, wrth gwrs, y maint enfawr o ofal sy'n cael ei wneud yn y gymuned. Roeddwn i'n tybio sut fyddai'n bosibl cyrraedd yr holl wahanol gartrefi hynny. Soniodd fy nghyd-Aelod Lesley am y ffaith bod y fforwm gofal cymdeithasol yn darparu rhwydwaith ac yn ceisio ymgysylltu, ond a oes ganddi hi unrhyw syniad o ran sut y bydd yr academi hon a'r holl gynigion eraill yn gallu ymgysylltu â'r grwpiau bach amrywiol iawn sy'n ffurfio'r gweithlu gofal cymdeithasol preswyl?
Diolch, Julie, am y cwestiwn yna. A gaf i ddweud a rhoi ar gofnod, mae'n debyg am y tro olaf y byddaf i'n siarad ar y materion hyn yn y Siambr—? Mae gennyf i gwpl o reoliadau a phethau eraill ar y gweill, ond rwy'n credu mai dyma'r tro olaf i mi roi datganiad fel hyn ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Rwyf i ond eisiau cofnodi fy niolch am y pethau a wnaethoch chi pan oeddech chi yn y portffolio hwn fel Gweinidog. Mae llawer o'r gwaith yr ydw i wedi gallu'i ddatblygu a bwrw ymlaen ag ef wedi bod o ganlyniad i'r sylfeini y gwnaethoch chi eu gosod. Felly, diolchaf yn fawr iawn i chi am hynny.
Ar y pwynt yr oeddech chi'n ei wneud am gartrefi preswyl bach, mewn gwirionedd, ymwelais i ag un ychydig wythnosau yn ôl yn Abertawe, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i—. Roedd yn gartref plant bach gyda phedwar o bobl ifanc a gweithlu sylweddol, oherwydd roedd y rhain yn blant ag anghenion cymhleth a oedd angen llawer o gefnogaeth arnyn nhw. Roedd ganddyn nhw weithlu eithaf sylweddol, ond roedd yn gartref preswyl bach. Roedd gan y darparwr penodol hwnnw gynllun prentisiaeth ac roedd ganddyn nhw eu cynllun bach tyfu eich staff eich hun eu hunain. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel y gallen ni ei fabwysiadu a'i addasu ar gyfer darparwyr bach eraill ar draws y sector gofal cymdeithasol.
Dyna pam y bydd cam cyntaf yr academi gofal cymdeithasol genedlaethol yn ymwneud â mapio'r hyn sydd eisoes ar gael a chynyddu'r arfer da. Rwy'n dweud hynny gyda rhywfaint o ofn, oherwydd un o'r pethau sydd wedi bod, rwy'n credu, y rhan fwyaf rhwystredig yn y rôl hon ers i mi ymgymryd â hi, yw nodi ar draws gofal cymdeithasol yr arfer da iawn mewn llawer o bocedi o ofal cymdeithasol a'i chael hi'n anodd iawn cynyddu hynny a'i gyflwyno'n ehangach. Ond rwy'n credu bod hynny'n her y mae'n rhaid i ni ei hwynebu. Rwy'n credu ei bod yn her yr ydyn ni'n barod amdani, oherwydd rydyn ni'n gwybod mai dyna'r unig ffordd yr ydym ni'n mynd i ymdrin â'r hyn sydd wedi bod yn argyfwng yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Rwy'n cydnabod yn llwyr nad ydym ni'n agos, o hyd, at le'r ydym ni eisiau bod, ond rydym ni wedi gweld gwelliannau cynyddol ac rwy'n credu mai dyma'r bloc adeiladu tuag at wella hynny ar gyfer y tymor hwy.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gymunedau Cymraeg. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'n perthyn i holl Weinidogion a holl gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn y meysydd iechyd, addysg, cynllunio, yr economi a phob maes arall hefyd. Heddiw, gallaf ond crybwyll ychydig o benawdau byr o'r tymor hwn cyn canolbwyntio ar waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae’r camau unigol yr ydym ni wedi eu cyflwyno gyda’n gilydd wedi arwain at newidiadau deddfwriaethol a pholisïau pellgyrhaeddol a fydd yn gosod seiliau cadarn ar gyfer ffyniant ein hiaith. Roedd y cytundeb trawsbleidiol a gafwyd i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn garreg filltir bwysig. Un o’r camau mwyaf radical rydyn ni wedi ei gymryd yw mynd i'r afael â'r effaith y gall nifer uchel o ail gartrefi ei gael ar ein cymunedau. Mae ein cynllun tai cymunedau Cymraeg wedi cefnogi dros 80 o brojectau cymunedol drwy'r project Perthyn, ac mae 49 o gartrefi fforddiadwy ar y gweill.
Rydym wedi ymestyn darpariaeth gofal plant dwyieithog Dechrau'n Deg, datblygu 'Mwy na geiriau', creu cyfleoedd newydd i bobl fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol, a chynnig buddsoddiad newydd i’r Urdd. Mae hynny i gyd a mwy yn bethau rydym wedi eu cyflawni yn ystod y tymor Senedd hwn.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i, rwyf am ganolbwyntio gweddill y datganiad hwn ar waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu i wneud argymhellion annibynnol i Lywodraeth Cymru. Cam cyntaf y comisiwn oedd edrych ar sefyllfa ein cymunedau Cymraeg dwysedd uwch. Cyhoeddodd y comisiwn eu hadroddiad cyntaf ym mis Awst 2024. O'r 57 o argymhellion, roedd 40 ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni gyhoeddi ein hymateb fis Mai y llynedd.
Ers hynny, rydyn ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i weithredu'r 40 argymhelliad, ac rydyn ni eisoes wedi cyflawni 11 ohonyn nhw. Er enghraifft, rydyn ni'n symud i gylch ariannu tair blynedd ar gyfer ein derbynwyr grant 'Cymraeg 2050'. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i sefydliadau sy'n gweithio ym maes cynllunio ieithyddol cymunedol, er enghraifft £500,000 yn ychwanegol i’r mentrau iaith ar draws Cymru eleni. Trwy'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol, mae benthycwyr sydd wedi derbyn achrediad y Cynnig Cymraeg yn gallu derbyn gostyngiad o 0.5 y cant i'w cyfradd benthyciad.
Erbyn diwedd y tymor hwn, rydyn ni’n anelu i gyflawni 17 o'r argymhellion, tra bod gwaith yn parhau gyda’r 23 sy’n weddill. Y bore yma, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gyhoeddi ein hymateb i adroddiad cynllunio gwlad a thref y comisiwn, sy’n rhoi ymateb cadarnhaol i argymhellion yr adroddiad. Mae datganiadau heddiw yn berthnasol i argymhelliad canolog y comisiwn, sef bod cymunedau ble mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fwyaf fel iaith pob dydd yn cael eu dynodi fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
O ystyried pwysigrwydd yr argymhelliad hwn, byddaf yn canolbwyntio yn fy natganiad ar yr argymhelliad. Mae dynodi o'r fath yn cydnabod y pwysau unigryw a brofwyd yn yr ardaloedd hyn. Mae'r heriau hyn yn rhai hanesyddol sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn, fel prinder tai fforddiadwy, yr angen i greu cyfleoedd gwaith ac allfudo pobl ifanc. Ond mae'r ardaloedd hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd. Maen nhw’n llefydd gydag ymdeimlad cryf o’r gymuned ac o berthyn, ac, wrth gwrs, maen nhw'n llefydd ble mae’n bosib i bobl fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg.
Roeddwn yn falch o allu derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ym mis Mai y llynedd. Ar y pryd dywedais fy mod eisiau gallu craffu ar y materion allweddol fyddai heb os yn rhan ganolog o’r bwriad polisi. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi barn, cymryd rhan mewn sgyrsiau ac awgrymu atebion ar hyd y daith. Pe bawn i'n crynhoi'r drafodaeth bwysig honno, fodd bynnag, byddwn yn dweud bod y ffocws mwyaf wedi bod ar gymhlethdod troi egwyddorion yn gamau gweithredu ymarferol, a hefyd natur ddadleuol y maes gwaith.
Mae cytuno ar yr argymhelliad sylfaenol yn gymharol hawdd i'r mwyafrif. Ond, o grafu’r wyneb, mae yna safbwyntiau sy’n gwrthdaro yn dod i'r amlwg. Mae cwestiynau yn codi pob tro rydych chi'n cael sgwrs. Er enghraifft, ble ddylai cyfrifoldeb am ddynodi gael ei osod? Pa feini prawf ddylai fod mewn lle i wneud y penderfyniad hwnnw? Pa brosesau y dylid eu dilyn i gyrraedd y penderfyniadau yna? Pa leisiau y dylid eu cynnwys yn y broses honno? Ac yn bwysicaf oll, pa wahaniaeth ddylai hyn i gyd ei wneud i fywydau pobol sy'n byw o fewn neu’n gyfagos i ardaloedd a ddynodir? Beth mae hyn i gyd yn ei ddweud wrthyf i, Dirprwy Lywydd, yw bod yn rhaid gweithredu'r argymhelliad yn ofalus, a bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn ymwneud cymaint â gwrando ac y mae'n ymwneud â gwneud penderfyniadau, yn enwedig yn y camau cynnar. Dyna pam, y prynhawn yma, dwi'n gosod llwybr graddol i weithredu, llwybr sy'n rhan o'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gyda ni eleni, ond sydd hefyd yn caniatáu amser a chyfle i barhau i sgwrsio a chreu consensws.
Y pwynt allweddol a gafodd ei godi oedd yr angen am hyblygrwydd yn y broses ddynodi. Rydw i’n cytuno â hyn. Os ydyn ni'n dibynnu gormod ar un trothwy, mae yna berygl y bydd yn tynnu llinellau ar y map nad ydyn nhw'n adlewyrchu ffactorau a materion cymhleth sy'n nodweddiadol o sefyllfa ieithyddol cymunedau. Yn dilyn y trafodaethau hyn, ac wrth inni roi ystyriaeth bellach, rydw i'n cynnig llwybr sydd â thri cham tuag at ddynodi ardaloedd dwysedd uwch. Gellid bwrw ymlaen â’r gwaith ar gam 1 a cham 2 gyda'n gilydd, tra gellid paratoi'r tir ar gyfer cam 3, fel bod modd cychwyn yn fuan.
Byddai'r cam gyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth o ardaloedd dwysedd uwch o fewn strategaeth ddiwygiedig ‘Cymraeg 2050’. Byddai'r ail gam yn gweithredu ymrwymiad yn y strategaeth ar draws holl fframweithiau polisi a Llywodraeth. Mae cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg yn dibynnu ar weithredu cydlynus ar draws meysydd polisïau amrywiol. Wrth edrych ymlaen, dwi’n credu, fel trydydd cam, fod gwerth archwilio posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth gynradd i sefydlu system ddynodi statudol. Gallai deddfwriaeth osod meini prawf cenedlaethol, diffinio cyfrifoldebau ar gyfer Gweinidogion ac awdurdodau lleol, ac egluro sut y gallai dynodi ddylanwadu ar bolisïau. Bydd hyn yn cynnig yr amddiffyniad cryfaf a'r mwyaf cydlynol. Yn bwysicach oll, bydd yn caniatáu mwy o amser i gyrraedd consensws mor eang â phosibl ar y cwestiynau a nodwyd yn gynharach yn y datganiad hwn, ac i baratoi ar gyfer datblygu polisi manwl a chraffu cyfreithiol.
Dirprwy Lywydd, rydw i'n deall y bydd y comisiwn yn cyhoeddi ei ail adroddiad ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd eraill o Gymru yn fuan iawn. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn, a gafodd eu comisiynu a’u cynhyrchu yn ystod tymor y Senedd yma, yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o'r ymyraethau sydd eu hangen i gefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyfan. Bydd eu gwaith yn sail i ystod eang o ddatblygiadau polisi pwysig. Beth bynnag fydd eu hargymhellion yn yr ail adroddiad, byddant yn ein helpu i osod ardaloedd dwysedd uwch mewn continwwm lle ystyrir bod pob ardal o Gymru yn rhai o arwyddocâd ieithyddol.
Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd, rydym ni wedi ac yn gallu parhau i gyflwyno'r rhaglen fwyaf cynhwysfawr erioed i ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg, ac i sicrhau ei bod yn ffynnu fel iaith fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad chi heddiw. Dŷn ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu llawer o'r hyn y dywedoch chi heddiw, oherwydd dŷn ni wastad yn gwybod am bwysigrwydd tyfu'r iaith ar draws Cymru. Gwnaethoch chi sôn cwpl o weithiau am bwysigrwydd consensws, a dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n gweld consensws cymunedol ar draws Cymru, a hefyd consensws gwleidyddol o ran tyfu'r iaith yng Nghymru a'r targed 2050 hynny. Dyna pam—a dŷn ni wedi sôn am hyn o'r blaen gyda chi—dwi'n credu ei fod e mor siomedig bod un blaid nawr yn y Siambr, plaid Reform, sydd ddim yn credu yn nharged 2050 o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr yng Nghymru. Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn colli'r consensws hynny a phwysigrwydd hynny, a bod hyn yn gallu cael ei droi mewn i bêl-droed wleidyddol. Dyna beth dŷn ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, ddim yn moyn gweld ein hiaith Gymraeg yn mynd trwyddo.
Mae'n bwysig hefyd y gwnaethoch chi sôn, a dwi'n croesawu'r ffaith y gwnaethoch chi sôn am y Ddeddf addysg Gymraeg, a gwnaethoch chi sôn am gonsensws. Dwi'n croesawu'r gwaith wnaethon ni gyda'n gilydd i ddatblygu'r Bil hynny. Er ei fod e'n anodd mesur effaith y Ddeddf honno hyd yma, mae'n bwysig ein bod ni'n gallu mesur llwyddiannau, neu beidio, y polisïau dŷn ni'n eu gweld o Lywodraeth Cymru hyd yma o ran tyfu'r iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn, oherwydd dŷn ni'n cofio'r sensws diwethaf, er enghraifft, sydd yn dangos nad ydy nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn y cymunedau hyn ddim yn tyfu o gwbl. Felly, dyw hynny ddim wastad yn rhoi llun eithaf optimistig am effaith polisïau Llywodraeth Cymru dŷn ni wedi'u gweld hyd yma. Felly, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fesur effaith y polisïau maen nhw wedi'u cael hyd yma i weld beth sydd yn gweithio, beth sydd ddim a beth rŷn ni'n gallu gweithio arno yn y dyfodol?
Gwnaethoch chi sôn am yr argymhellion, a bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau 11 mas o 40 ohonyn nhw hyd yma, ac yn gobeithio cyrraedd 17 erbyn yr etholiad. Y cwestiwn naturiol, felly, yw am y 23 arall. Gwnaethoch chi sôn am y gwaith yn parhau tuag at eu cwblhau nhw, ond pryd fydd hynny'n digwydd? Dwi'n gobeithio y bydd ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet am hynny.
Ond y peth mwyaf pwysig roeddwn i'n moyn sôn amdano—y rhesymau mwyaf pam y mae pobl yn gadael cymunedau fel hyn, cymunedau cefn gwlad, cymunedau sydd yn siarad yr iaith Gymraeg, yw rhesymau economaidd a'r economi lleol. Nid wyf yn credu ein bod ni wedi clywed digon yn eich datganiad chi heddiw am bwysigrwydd tyfu'r economi mewn cymunedau fel hyn, oherwydd dŷn ni'n gwybod, os yw pobl yn gallu cael gwaith yn eu cymunedau lleol, yn agos i ble gwnaethon nhw dyfu lan, maen nhw'n moyn aros yn y gymuned honno. Dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs—. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud amdanoch chi nad eich blaenoriaeth chi yw tyfu'r economi yng Nghymru. Felly, dwi'n gobeithio y byddwch chi'n gallu dweud rhywbeth am hynny yn eich ateb chi heddiw am bwysigrwydd tyfu'r economi yn y cymunedau hyn, i sicrhau bod pobl nid dim ond yn aros—y rhai sydd yn gallu siarad Cymraeg—yn y cymunedau hyn, ond efallai fod pobl eraill sydd gyda sgiliau iaith Gymraeg yn gallu symud, naill ai am y tro cyntaf neu wrth symud yn ôl i fyw yn y cymunedau maen nhw wedi tyfu lan ynddyn nhw. Diolch.
Diolch yn fawr i Tom Giffard am y cwestiynau. Dwi'n cytuno gyda fe, wrth gwrs—mae'r iaith yn bwysig ledled Cymru, ble bynnag rŷch chi'n byw yng Nghymru, a dyna pam dwi'n edrych ymlaen at ail adroddiad y comisiwn. Dwi'n cytuno gyda fe hefyd am bwysigrwydd creu consensws. Rŷn ni wedi llwyddo, fwy neu lai, i greu consensws ar lefel y Senedd, a'r un blaid sydd ddim yn cytuno gyda ni ar hynny—does neb yn y Siambr i glywed y ddadl a'r datganiad y prynhawn yma. Ond mae'n bwysig hefyd—a dyna beth roeddwn i'n treial dweud yn y datganiad—i greu consensws ar lefel y gymuned hefyd. Os ydyn ni'n mynd i greu ardaloedd arbennig o ran dwysedd yr iaith, mae'n bwysig tynnu cymunedau i mewn i'r penderfyniadau yna.
Cododd yr Aelod gwestiwn am sut yr ydyn ni'n mesur y polisïau rŷn ni'n eu datblygu yn y maes yma, ac mae'n dibynnu ar y maes, a dweud y gwir. So, cyfeiriais yn y datganiad at gynllun Dechrau'n Deg, ble rŷn ni wedi mwy na llwyddo—rŷn ni wedi tynnu mwy o blant bach i mewn i ofal plant dan y cynllun Dechrau'n Deg, ac rŷn ni'n gallu dechrau dangos y ffigurau, achos maen nhw'n casglu'r ffigurau bob mis. Rŷn ni'n gwybod bod mwy o blant wedi dod i mewn i'r system ddwyieithog nag oeddem ni'n disgwyl ar y cychwyn. A phan ŷn ni'n siarad am bolisïau yn y maes ail gartrefi, er enghraifft, gallwn ni ddangos y ffigurau am faint o dai newydd sydd wedi dod ar y farchnad, faint o dai newydd mae pobl leol yn gallu prynu ac yn y blaen. So, mae'n dibynnu ar y maes, ond dwi'n cytuno ar y pwynt ei bod hi'n bwysig i gael ffordd o fesur beth rŷn ni'n gwneud.
I ddod yn olaf, Dirprwy Lywydd, at y pwynt ar yr economi, wel, wrth gwrs, dwi'n cytuno am bwysigrwydd yr economi yn y cadarnleoedd i greu cyfleon economaidd, ac i bobl ifanc yn enwedig sydd eisiau aros yn y cymunedau yna. Dyna pam mae popeth rŷn ni'n gwneud fel Llywodraeth, ac yn cydweithio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, i fuddsoddi mewn egni cynaliadwy, mor bwysig i ni, achos bydd y swyddi newydd yna nid yn y de-ddwyrain, ond yn y gorllewin, ble mae'r iaith yn gryfach. So, fel Llywodraeth, ar draws y Llywodraeth, rŷn ni'n canolbwyntio ar gyfleon economaidd fel rhan o bopeth rŷn ni'n gwneud i dreial cefnogi'r iaith yn y cadarnleoedd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Yn amlwg, dwi'n meddwl bod rhaid inni hefyd atgoffa ein hunain pam y sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a rhai o'r pethau a ddywedwyd bryd hynny gan eich rhagflaenydd chi, Jeremy Miles. Mi roedd o'n sôn am yr heriau oedd yn mynd i ddod gan y comisiwn, a'r angen inni fod yn ddewr a gweithredu ar yr argymhellion hynny. Mi lansiwyd y comisiwn yn Awst 2022, mi gyhoeddodd o yn Awst 2024, ond eto, o ran y prif argymhelliad, dim ond heddiw dŷn ni'n clywed dechrau gweithredu ar hynny, er ein bod ni'n gwybod bod hwn yn rhywbeth oedd yn debygol o ddod pan gyhoeddwyd y comisiwn yn 2022.
Felly, o ran y llwybr graddol yma dŷch chi'n sôn amdano fo, beth ydy'r amserlen bendant o ran hynny? Oherwydd mae'n rhaid bod yna amserlen. Yr un peth dŷn ni wedi clywed dro ar ôl tro—a dŷn ni i gyd yn cytuno efo fo—fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae'r Gymraeg yn colli tir, er gwaethaf 'Cymraeg 2050'. Dŷn ni wedi gweld y cyfrifiad, onid do, yn dangos bod yna ostyngiad wedi bod, ac arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos gostyngiad. Felly, mae angen gweithredu ar frys, a dyna pam roeddwn i'n credu bod y Llywodraeth hon wedi comisiynu'r comisiwn cymunedau, i ddod i fyny efo pethau a oedd yn mynd i fod yn herio, ac roeddem ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i fod yn heriol, ond ein bod ni angen hefyd sicrhau gweithredu. Felly, os gallwch chi ddarparu'r wybodaeth o ran yr amserlen, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi hynny.
Yn debyg iawn i Tom Giffard—mae yna bethau eraill sydd heb gael eu gweithredu. Dwi'n meddwl ein bod ni angen eglurder o ran beth ydy'r amserlen efo hynny. Er enghraifft, dŷn ni'n gwybod bod y coleg Cymraeg wedi bod yn galw am fuddsoddi mewn prentisiaethau ac addysg ôl-16 mewn ardaloedd dwysedd uwch er mwyn sicrhau llwybrau di-dor o fewn addysg ac i'r gweithle. Maen nhw'n dadlau bod sicrhau llwybrau addysg Gymraeg di-dor yn hanfodol, a bod hyn yn eithriadol o bwysig o ran cryfhau addysg Gymraeg statudol, neu mae hynny'n cael ei danseilio. Mae hynny'n rhywbeth dŷn ni wedi'i godi amryw o weithiau.
Mi fyddwch chi hefyd yn gwybod bod Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn i bob plaid ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn gynted â phosib yn ystod y Senedd nesaf, yn arbennig, felly, o ran gweithredu prif argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Felly, yr hyn roeddwn i eisiau ei ofyn ydy: sut mae'r hyn rydych chi wedi ei ddatgan heddiw yn cyd-fynd efo hynny? Pa drafodaethau sydd wedi bod efo Comisiynydd y Gymraeg?
Yn sicr, mae nifer o bethau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn bethau y gwnaethom ni weithio arnyn nhw drwy'r cytundeb cydweithio. Rydym ni'n falch iawn o allu cydweithio yma, ac mae yna bethau pwysig wedi digwydd, ond dwi'n meddwl rŵan mae yna bethau lle mae angen gweithredu ar frys. Felly, mwy na unrhyw beth, yr amserlen i gyd-fynd efo'r hyn rydych chi wedi'i amlinellu, beth sy'n digwydd efo'r argymhellion sydd heb gael unrhyw fath o weithredu arnyn nhw eto. A beth ydy'ch gobeithion chi o ran y Senedd nesaf? Beth a welwn ni'n digwydd o ran 'Cymraeg 2050'? Mae'n rhaid i'r frawddeg honno fod 'y Gymraeg yn perthyn i bawb' olygu rhywbeth. Fedrith o ddim dod yn mantra sydd yn lle gweithredu, a dyna pam dwi'n credu—. Dwi yn cytuno efo Tom Giffard hefyd: mae yn dda bod gennym ni gonsensws wedi bod yma; dwi yn mawr obeithio y bydd y consensws hwnnw'n parhau. Mae'n siomedig dros ben fod y ddau Aelod Reform yn dewis peidio â bod yma, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn glir bod y consensws hwnnw efallai wedi diflannu o'r Siambr hon, yn anffodus. Mae yna risg mawr mai cryfhau bydd y diffyg yna o gefnogaeth i'r iaith. Mae angen gweithredu ar frys. Mae gennych chi gefnogaeth y mwyafrif ar y funud, felly dyna pam dwi'n credu bod amserlen yn eithriadol o bwysig, a dyna pam dwi eisiau gweld gweithredu rŵan.
Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd. Wel, roedd y comisiwn wedi cael ei sefydlu i roi cyngor annibynnol i ni fel Llywodraeth, a dyna beth mae gwaith y comisiwn wedi ei wneud.
Ar yr amserlen, wel, mae gwaith eisoes wedi cychwyn. Rydyn ni wedi dechrau'r gwaith o adolygu 'Cymraeg 2050'. Bydd y gwaith yna yn mynd yn ei flaen yn ystod y flwyddyn hon. Bydd dogfen i'r cyhoedd i'w gweld yn yr hydref, a bydd y newidiadau i 'Cymraeg 2050' yn cael eu cyflawni yn 2027. Mae hwnna'n rhoi cydnabyddiaeth strategol i'r ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch ac felly'n ymgorffori'r cydsyniad o ardaloedd fel roedd y comisiwn yn ei awgrymu. Rydym hefyd wedi dechrau gwaith ar gam 2. Gwnaeth y comisiwn nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywio polisïau mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, ac rydyn ni wedi gweithio ar hyn yn barod. Fel y dywedais i yn y datganiad, mae cam 1 a cham 2 yn gallu mynd ymlaen gyda'i gilydd.
Bydd cam 3 yn cwympo i'r Senedd nesaf ac i Lywodraeth y Senedd nesaf, os bydd y Llywodraeth yna eisiau dod ymlaen gyda'r Bil i roi yr ardaloedd yna a'r ffyrdd i'w dynodi nhw ar lefel statudol. Dwi wedi dweud yn y datganiad y gallaf i weld achos i wneud hynny, ond bydd hwnna'n cwympo i'r Senedd nesaf.
Mae'r Gymraeg yn colli tir yn y cadarnleoedd, ond mae'n ennill tir yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Dyna pam mae ail adroddiad y comisiwn yn bwysig, achos mae'n dangos, ym mhob cwr o Gymru, fod yr iaith yn bwysig i ni. Beth rydyn ni eisiau ei weld yw twf yn y Gymraeg ble bynnag mae pobl yn byw. Dwi'n cytuno, fel roeddwn i'n cytuno gyda Tom Giffard, am bwysigrwydd cyfleon economaidd i bobl sydd eisiau aros yn y cadarnleoedd a ffeindio ffordd i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein bywydau ni.
Yn gynharach heddiw, gwnes i a'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gwrdd gyda'r awdurdodau lleol yn ardal Arfor i glywed oddi wrthyn nhw beth maen nhw'n meddwl sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Arfor, fel y cynllun peilot 'Llwyddo'n Lleol', achos rŷm ni eisiau cynllunio beth sy'n mynd i ddod ar ôl Arfor 2 i greu mwy o bosibiliadau economaidd mewn ardaloedd lle mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.
Dwi'n croesawu datganiad y Gweinidog y prynhawn yma. Dwi'n credu ei bod yn hollbwysig ein bod ni'n trafod y pethau yma. Pan wnes i lansio'r cynllun 'Cymraeg 2050' bron 10 mlynedd yn ôl nawr, dwi'n credu, roeddwn i'n glir yn fy meddwl i fod angen newid ac y byddai'r creu'r newid yn cymryd blynyddoedd. Ac mae'r gwaith dŷch chi wedi ei wneud yn ystod eich amser chi fel Gweinidog yn dangos ein bod ni wedi creu'r math o raglen fydd yn delifro ar amcanion 'Cymraeg 2050'.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn beth dŷch chi newydd ei ddisgrifio o ran Arfor, a liciwn i glywed tipyn bach mwy am hynny. Ond hefyd a gaf i ddweud hyn ynglŷn â'r pwynt ehangach dŷch chi wedi ei wneud? Roeddwn i'n falch o gael y cyfle cwpwl o wythnosau nôl, gyda Lynne Neagle, i ymweld ag Ysgol Gymraeg Tredegar. Roedd o'n ffantastig i fi, fel rhywun o Dredegar, i weld plant Tredegar yn cael y cyfle i siarad a dysgu Cymraeg am y tro cyntaf erioed, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n hollbwysig i ni pan ŷn ni'n edrych ar yr amcanion ehangach.
Ond, i fynd nôl at y pwynt mae Heledd newydd ddweud amboutu'r Gymraeg efallai yn colli tipyn bach o dir yn y cadarnleoedd, beth sy'n bwysig hefyd yw ein bod ni'n creu'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Liciwn i glywed tipyn bach mwy gennych chi, Gweinidog—Ysgrifennydd Cabinet, mae'n flin gen i—am sut ydym ni yn gallu creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn y cadarnleoedd.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Alun Davies, a diolch yn fawr iddo fe am yr uchelgais tu ôl i 'Cymraeg 2050'. Yn y trafodaethau am Arfor 2 y bore yma, roedd pobl yn canolbwyntio ar yr egni sydd tu ôl i bethau a'r cyfleon mae pobl wedi eu creu trwy 'Perthyn' a phethau eraill o dan do Arfor, ond yn tynnu sylw at y ffaith, fel rŷm ni wedi bod yn trafod y prynhawn yma, fod Arfor yn llinell ar y map, mae rhai cymunedau Cymraeg tu fas i Arfor—dyw gogledd sir Benfro, er enghraifft, ddim o dan do Arfor—ac a oes posibiliadau yn y dyfodol i wneud mwy gyda chymunedau sy'n agos i ble mae Arfor yn digwydd ar hyn o bryd.
Ond roedd lot o drafodaethau hefyd am ddefnyddio'r Gymraeg. So, rŷn ni'n canolbwyntio fel arfer ar greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond yr ail beth yn y strategaeth oedd dyblu'r defnydd o'r iaith. I mi, mae hynny mor bwysig. So, rŷn ni wedi bod yn gwneud ymchwil gyda'r comisiynydd, gyda'r Urdd, er enghraifft, i weld ble mae'r posibiliadau yn codi i greu mwy o gyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn yr ysgol—fel yn Ysgol Gymraeg Tredegar nawr—i ddefnyddio'r iaith maen nhw'n ei dysgu tu fas i'r ysgol yn y maes chwaraeon, yn y celfyddydau ac yn y blaen.
Mae lot o'r gwaith manwl sydd tu ôl i'r datganiad heddiw yn canolbwyntio ar bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud i helpu pobl—yn enwedig pobl sy'n dysgu Cymraeg sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg—ffeindio cyfleon naturiol iddyn nhw i ddefnyddio'r iaith maen nhw wedi ei dysgu.
Diolch hefyd am y datganiad, ond mae yna bryderon, onid oes, am y dull yma. Fel rydych chi wedi dweud, mae yna heriau yn ein cymunedau ar draws Gymru, ac un o’r mwyaf yw faint o bobl ifanc sy’n gadael Cymru sy’n siarad Cymraeg. Dwi’n falch o weld bod yna gonsensws ar draws y Siambr, ac, os yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl ym mis Mai, byddwn ni’n cario ymlaen efo’r dull yma ac yn sicrhau ein bod ni’n uchelgeisiol o ran cael mwy o bobl ar draws Gymru yn siarad Cymraeg.
Un o’r pethau dwi jest eisiau tynnu sylw ato fo yw, yng nghanolbarth Cymru, mae gennym ni ym Mhowys mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg nag yng Ngheredigion, ond, er hynny, dyw Powys ddim yn y cynlluniau yma. Felly, allech chi jest esbonio tipyn bach mwy am hynny? Hefyd, sut gallech chi sicrhau bod yna fwy o bobl ar draws canolbarth Cymru yn cael y cyfle i siarad a dysgu Cymraeg? Fel rydyn ni’n gwybod, pan fo iaith yn diflannu o gymunedau, bydd hi byth, fel arfer, yn dod yn ôl, felly mae hynny’n bwysig, bwysig iawn ar gyfer y cymunedau dwi’n eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i Jane Dodds, Dirprwy Lywydd. Pan mae pobl ifanc yn gadael Cymru i astudio ac yn y blaen, mae mwy rŷn ni’n gallu ei wneud i’w helpu nhw i gario ymlaen gyda’r iaith Gymraeg. Dwi wedi bod yn siarad gyda’r coleg cenedlaethol, gyda Vikki Howells, i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud i greu rhwydwaith o bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg sydd nawr yn astudio mewn prifysgolion dros y ffin i greu cyfleon iddyn nhw gymdeithasu gyda’i gilydd. Mae lot o bosibiliadau newydd gyda ni nawr, lle mae pobl yn gallu dod at ei gilydd ar y sgrin ac yn y blaen i ddefnyddio’r Gymraeg. Rŷn ni’n gwybod bod lot mawr o bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac eisiau bwrw ymlaen, ac rŷn ni’n gallu creu mwy o gyfleon iddyn nhw wneud hynny.
Mae Jane yn gwneud pwynt pwysig am nifer y bobl ym Mhowys sy’n siarad Cymraeg. Maen nhw tu fas i ardal Arfor, ond dydyn nhw ddim tu fas i beth mae’r comisiynydd yn ei ddweud am ddynodi ardaloedd lle mae’r iaith yn gryf, achos mae hynny yn gallu digwydd unrhyw le yng Nghymru os ŷn ni’n cael system o ddynodi hynny yn y lle gorau. Mae nifer mawr o gymunedau ym Mhowys ble gallaf i weld achos i'w dynodi nhw fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol. So, mae’n dibynnu ar sut rŷn ni’n mynd ati, ond mae’r pwynt mae Jane Dodds wedi’i godi’r prynhawn yma yn un pwysig, Dirprwy Lywydd.
Ac yn olaf, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, ni waeth a ydyn nhw'n ei siarad ai peidio. Ond mae yna ormod o bobl sydd ddim â'r hyder i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Does gan bobl sy'n gallu deall llawer ddim yr hyder i gymryd y cam hwnnw ac i siarad Cymraeg. Mae rhwymedigaeth ar bob un ohonom, onid oes e, fel siaradwyr mwy hyderus i beidio â bod yn rhy feirniadol os bydd rhywun yn gwneud camgymeriadau. Nid treigladau yw'r peth pwysicaf. Mae yna werth ynghlwm wrth y gwahanol fathau o Gymraeg rydym i gyd yn eu siarad.
Ac dŷn ni i gyd yn ddysgwyr.
Rydym i gyd yn ddysgwyr. Yn ddiweddar, cyhoeddodd fy mhwyllgor adroddiad a oedd yn galw am fwy o gymorth mewn ardaloedd fel y Cymoedd, lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad mor eang mewn siopau, caffis, clybiau chwaraeon, i gychwyn y sgyrsiau hynny, i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn iaith rydym nid yn unig yn ei dysgu, ond rydym yn ei byw.
Ydy hynna'n weledigaeth rydych chi'n ei rhannu?
Wel, dwi yn, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, a diolch i Delyth Jewell am y gwaith mae ei phwyllgor hi'n ei wneud. Dwi'n edrych ymlaen i fod o flaen y pwyllgor unwaith eto wythnos nesaf.
Mae'r hyn y mae Delyth Jewell yn ei ddweud, Dirprwy Lywydd, mor wir am y Gymraeg. Mae pobl sy'n siarad Saesneg sy'n gwneud camgymeriadau byth a hefyd yn y ffordd maen nhw'n siarad, dydyn nhw byth yn ystyried y byddai hyn yn rheswm dros beidio â pharhau i siarad Saesneg, ond mae pobl sy'n gwneud camgymeriadau yn Gymraeg wastad yn poeni bod hynny'n golygu, rhywsut, na ddylen nhw fod yn defnyddio'r iaith, ond yr unig ffordd i siarad iaith yn well yw ei defnyddio. Ac mae yna wahanol rwymedigaethau ar bobl sy'n siarad yr iaith yn rhugl: yn gyntaf oll, i beidio â rhoi gormod o help, i beidio â throi yn syth at y Saesneg os gwelwch chi fod rhywun yn cael ychydig o drafferth, ond yn sicr i beidio â bod yn feirniadol, i ganiatáu i bobl sy'n dysgu'r iaith ac sy'n rhoi cynnig arni ac sy'n ceisio bod yn fwy rhugl wrth ei defnyddio gael y sgyrsiau hynny a theimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi i wneud hynny. Dyna'r ffordd, yn fy marn i, y gallwn ni barhau i adeiladu ar gryfder pennaf yr iaith Gymraeg, sef yr ewyllys da tuag ati, sydd mor amlwg yng Nghymru, ac ym mhob rhan o Gymru, ni waeth faint o'r iaith sy'n cael ei siarad bob dydd. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n perswadio mwy o bobl i ddysgu, ac yna, yn bwysig iawn, i ddefnyddio'r iaith.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg gefnogol a chynhwysol ar gyfer dyfodol mwy disglair. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Maen nhw'n dweud bod amser yn hedfan pan ydych chi'n cael hwyl. Ac er bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynnwys heriau, maen nhw'n sicr wedi hedfan heibio. Pan ddechreuais i yn y rôl hon, fe osodais i uchelgais glir: i wella safonau, i godi cyrhaeddiad ac i arwain system addysg sy'n rhoi dysgwyr yn gyntaf. Fe ddywedais i bryd hynny mai buddiannau gorau ein plant a'n pobl ifanc fyddai fy man cychwyn bob amser, a bod yn rhaid i'n system addysg gael ei hadeiladu ar iechyd meddwl da. Mae'r egwyddorion hynny yn fy nhywys i'r un graddau heddiw ag y gwnaethon nhw ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd. A thra bod y byd o amgylch ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i newid, wedi'i siapio gan newid technolegol cyflym, pwysau costau byw a newidiadau o ran disgwyliadau cymdeithas a rhieni, mae fy ymrwymiad i gefnogi eu llesiant a sicrhau eu bod yn ymgysylltu â dysgu wedi cryfhau.
Mae'r heriau sy'n wynebu'r genhedlaeth hon o ddysgwyr yn wahanol i'r rhai a wynebwyd gan eu rhagflaenwyr. Mae nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn mynd i'r afael â gorbryder, pwysau cymdeithasol, niwed ar-lein ac effaith emosiynol barhaus y pandemig. Mae ysgolion a cholegau wedi bod yn cefnogi dysgwyr mewn ffyrdd sydd ymhell y tu hwnt i gylch gwaith traddodiadol addysg, gan ddod yn fannau diogel ar gyfer cymorth emosiynol, cysylltiad cymdeithasol a sefydlogrwydd. Am y rheswm hwnnw, mae llesiant dysgwyr wedi bod yn gonglfaen i bopeth rydw i wedi'i wneud. Mae'r dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant yn parhau i fod yn ganolog i'n gweledigaeth—ethos nad yw'n canolbwyntio ar grŵp bach o ddysgwyr, ond un sy'n ymdreiddio i ddiwylliant a bywyd beunyddiol pob lleoliad addysg. Heddiw, mae gan 95 y cant o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys pob ysgol uwchradd, gynlluniau gweithredu ar waith, sy'n dangos ymrwymiad y sector i sicrhau bod llesiant yn gyfrifoldeb ar y cyd ac yn arfer a weithredir.
Ochr yn ochr â'r ymrwymiad hwnnw, rydym yn darparu buddsoddiad parhaus cryf: dros £14 miliwn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys mwy na £3 miliwn sydd wedi'i neilltuo i gwnsela mewn ysgolion. Y llynedd yn unig, gwnaeth bron i 14,000 o bobl ifanc ddefnyddio gwasanaethau cwnsela—tystiolaeth bod dysgwyr yn ceisio ac yn derbyn cymorth yn gynharach. Ac mae cwnsela mewn ysgolion yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau arbenigol. Does dim angen atgyfeiriad ymlaen ar y rhan fwyaf o ddysgwyr a dim ond 1.7 y cant o ddysgwyr sydd angen atgyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae gwasanaeth mewngymorth ysgolion CAMHS, sy'n gosod 119 o ymarferwyr yn uniongyrchol mewn ysgolion, yn cryfhau'r gwaith o adnabod dysgwyr yn gynnar ac yn pontio'r bwlch rhwng addysg ac iechyd. Mae mwy na 6,400 o staff ysgolion eisoes wedi elwa ar hyfforddiant wedi'i dargedu.
Ond dydy ein gwaith ddim yn gorffen pan geir mynediad. Mae angen i ni wneud arfer da yn arfer bob dydd. Ni ellir gwahanu llesiant oddi wrth ymdeimlad o berthyn. Mae dysgwyr yn ffynnu pan fyddan nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hadnabod a'u gwerthfawrogi yn eu cymuned ysgol. Weithiau mae hyn yn dechrau gyda'r arwydd lleiaf: athro yn cyfarch plentyn wrth ei enw wrth y giât, eiliad o anogaeth, yr ymdeimlad o fod yn rhan o rywbeth mwy na chi'ch hun. Mae'r rhyngweithiadau dyddiol hyn yn meithrin diwylliant lle gall dysgu ffynnu.
Rydym eisoes wedi gweld sut y gall cryfhau perthnasoedd ac ymgysylltiad cymunedol arwain at well presenoldeb ac ymddygiad. Mae presenoldeb yn parhau i fod yn is na lle rydym eisiau iddo fod, ond mae'n parhau i wella yn unol â'n dulliau, yn enwedig ein buddsoddiad mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned a swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Mae cyllid ychwanegol eleni a'r flwyddyn nesaf, mwy na £15 miliwn i gyd, yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i ailymgysylltu â dysgwyr, deall yr hyn sydd wrth wraidd absenoldeb parhaus, a chreu amgylcheddau cynhwysol. A bydd ein hymgynghoriad ar godau presenoldeb diwygiedig yn ein helpu i adeiladu darlun cliriach, mwy manwl o'r hyn sy'n cadw plant i ffwrdd oddi wrth yr ystafell ddosbarth.
Ond nid yw ymgysylltu yn ymwneud â phresenoldeb yn unig; mae hefyd yn ymwneud â theimlo'n ddiogel. Rydym wedi clywed pryderon ymarferwyr a rhieni am lefelau cynyddol o ymddygiad aflonyddgar a threisgar, weithiau. Mewn ymateb, gwnaethom nodi pum camau gweithredu uniongyrchol i roi'r offer ymarferol, yr arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar staff. Rydym wedi cyflawni mewn perthynas â phob un o'r rhain, gan gryfhau canllawiau ar arfau, partneru â heddluoedd ar ddiogelwch, datblygu rhaglenni cymorth cenedlaethol, a chreu disgwyliadau cliriach ynghylch ffonau symudol, gwaharddiadau a chadw. Y tu ôl i bob un o'r camau gweithredu hyn mae cred syml: bod gan bob dysgwr a phob aelod o staff yr hawl i deimlo'n ddiogel, i gael ei barchu ac i allu dysgu neu weithio heb ofn.
Mae ymgysylltu a llesiant hefyd yn dibynnu ar ddiwallu anghenion unigol dysgwyr. Un o'r diwygiadau mwyaf arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf yw'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol a roddwyd ar waith gennym. O ganlyniad i'r system ADY, mae gan fwy na 32,000 o ddysgwyr gynlluniau datblygu unigol statudol mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru, ac mae'r nifer hwn yn parhau i dyfu. Mae hyn yn diogelu hawliau plant a phobl ifanc ag ADY i gael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt. Erbyn hyn, mae gan bob ysgol gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol a fydd ar y raddfa arweinyddiaeth cyn bo hir, gan adlewyrchu pwysigrwydd strategol eu rôl wrth greu ysgolion cynhwysol.
Fodd bynnag, gwyddom fod pwysau ac anghysondebau wedi bod ar draws y system, ac rydym wedi gwrando'n ofalus ar bryderon rhieni, awdurdodau lleol ac ymarferwyr. Dyna pam y comisiynais adolygiad deddfwriaethol, ac rwyf eisoes wedi dechrau gweithredu ar ei ganfyddiadau, gan gryfhau goruchwyliaeth genedlaethol, gwella data, cynhyrchu canllawiau newydd, ac ymrwymo i integreiddio dyfnach ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai ein gwaith barhau nes bod pob plentyn ag ADY yn cael y gefnogaeth amserol, o ansawdd uchel y mae'n ei haeddu.
Mae cefnogi llesiant yn golygu cydnabod y pwysau y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Mae tlodi yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf i ymgysylltu, presenoldeb a chyrhaeddiad. Eleni, gwnaethom fuddsoddi £128 miliwn drwy'r grant datblygu disgyblion, a £13 miliwn ychwanegol i helpu teuluoedd i fforddio eitemau ysgol hanfodol, gan gefnogi dros 89,000 o blant.
Gwnaethom gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd. Mae hynny'n golygu dros 60 miliwn o brydau bwyd yn nhymor y Llywodraeth hon, oherwydd ni ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd, ac mae pob plentyn yn haeddu teimlo ei fod wedi'i gynnwys, ei fod yn cael gofal a'i fod yn gyfartal wrth y bwrdd. Mae'r buddsoddiadau hyn yn lleddfu'r pwysau ar deuluoedd ac yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd yr ysgol gydag urddas a hyder, ac yn barod i ddysgu. Rwyf wedi cyhoeddi adolygiad o'r grant datblygu disgyblion i sicrhau ei fod yn cael effaith wirioneddol ar ddysgwyr y mae tlodi yn effeithio arnynt.
Mae llesiant yn darparu'r sail i blant gymryd rhan mewn dysgu. Yn yr un modd, mae llythrennedd—yn enwedig darllen—yn caniatáu i blant gael mynediad i'r cwricwlwm ac yn cefnogi llesiant. Mae yna gysylltiad annatod rhwng y ddau. Rwy'n cydnabod yr heriau y gwnaeth Estyn dynnu sylw atynt yn eu hadroddiad blynyddol, yn enwedig o ran ansawdd addysgu a dysgu a'r heriau sydd ynghlwm wrth ddarllen a llythrennedd. Rwy'n croesawu'r ffordd maent yn cefnogi hyn trwy eu cyfundrefn arolygu.
Rwyf wedi cyhoeddi buddsoddiad mawr gwerth £20 miliwn mewn llythrennedd a rhifedd dros dair blynedd. Rwyf wedi sefydlu partner dysgu proffesiynol cenedlaethol, Dysgu, i sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn y meysydd hyn. Bydd Dysgu hefyd yn arwain cymorth cenedlaethol ar gyfer llesiant ar draws pob ysgol, ochr yn ochr â dysgu proffesiynol mewn ADY a chynhwysiant.
Rwyf hefyd wedi dechrau gweithio i sicrhau bod mwy o eglurder ynghylch ein disgwyliadau o ddysgu mewn llythrennedd a rhifedd trwy ddisgwyliadau mwy manwl sy'n gysylltiedig ag oedran, a fydd yn cael eu hymwreiddio yn ein hasesiadau personol. Tynnodd ein hadroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol sylw at welliannau mewn darllen a rhifedd Cymraeg a Saesneg y llynedd. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf yn yr haf ac, wrth gwrs, at rownd nesaf canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn yr hydref.
Mae'r gred sydd gennym mewn cefnogi ymgysylltu yn ymestyn i addysg drydyddol. Trwy Medr, rydym wedi creu system ôl-16 fwy cysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr ac sy'n anelu at gynnig llwybrau cydlynol a safonau uchel ar draws addysg bellach ac uwch. Yn ddiweddar, gwnaethom ddathlu deng mlynedd ers sefydlu rhaglen Seren, sydd wedi helpu 24,000 o ddysgwyr galluog i gael mynediad at rai o brifysgolion gorau'r byd. Ac rydym wedi cryfhau cymorth ariannol fel nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei ddal yn ôl gan gost.
Cymru yw'r darparwr mwyaf hael o ran cymorth costau byw yn y DU o hyd, gyda chynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg i £40 yr wythnos, a grantiau dysgu estynedig sy'n cefnogi dysgwyr sy'n oedolion ac astudiaethau rhan-amser. Heddiw, mae 37 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru yn astudio'n rhan-amser—llawer mwy nag yn Lloegr—gan adlewyrchu system sy'n addasu i fywydau dysgwyr. Ac rydym yn ehangu prentisiaethau iau. Ers 2024, rydym wedi dyblu'r cyllid i sicrhau mwy o bobl ifanc yn gallu manteisio ar lwybrau galwedigaethol diddorol sy'n eu hailgysylltu â dysgu a chyflogaeth yn y dyfodol.
Mae llesiant yn cael ei lunio nid yn unig gan gymorth, ond gan yr amgylcheddau y mae dysgwyr yn dysgu ac y mae staff yn gweithio ynddynt. Trwy ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, rydym wedi buddsoddi dros £1.5 biliwn mewn cyfleusterau modern, cynaliadwy ar gyfer ysgolion a cholegau. Mae pob adeilad newydd yn cynrychioli mwy na seilwaith; mae'n gwella profiad dyddiol dysgwyr a staff, gan gefnogi cynhwysiant, llesiant ac ymddygiad gwell. Mae ein gweithlu addysg yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn, a'u llesiant yw'r peth pwysicaf. Bydd ein cynllun gweithlu addysg strategol ar gyfer ysgolion yn nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i wella llesiant, gwella amodau gwaith a lleihau pwysau llwyth gwaith, ac i ehangu mynediad at ddysgu proffesiynol trwy Dysgu, gan sicrhau bod yr ymarferwyr yn ein hysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u parchu ac yn wydn.
Dirprwy Lywydd, mae ein cenhadaeth yn glir: creu system addysg gefnogol, gynhwysol ac uchelgeisiol y mae llesiant yn ganolog iddi ac sy'n galluogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni ei botensial. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gydnabod bod mwy i'w wneud, ac rwy'n benderfynol o fynd ymhellach, oherwydd mae pob dysgwr yng Nghymru yn haeddu system addysg sy'n ei gefnogi, yn ei herio ac yn credu ynddo. Diolch yn fawr.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad y prynhawn yma. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ymddangos braidd yn eironig eich bod chi newydd wneud datganiad ar addysg gefnogol a chynhwysol ar gyfer dyfodol mwy disglair, o ystyried mai dyna'n union beth mae'r Llywodraeth hon a gweinyddiaethau Llafur olynol dros y 27 mlynedd diwethaf wedi methu â gwneud. Rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond am gyfnod byr rydych chi wedi bod yn y swydd, ond fe allwch chi ddweud bod etholiad ar ddod, oherwydd rydym yn cael llawer o eiriau cynnes ac addewidion gwag gan Lafur ac, ar adegau, gan Blaid hefyd, i fod yn deg.
Mae Llafur wedi bod mewn grym yma ers dros chwarter canrif, ac yn hytrach na chreu dyfodol mwy disglair, mae'r blaid wedi achosi mwy o niwed i'n system addysg. Ysgrifennydd Cabinet, clod lle mae clod yn ddyledus, rydych chi'n dweud y pethau iawn, a dyna'n union yw'r broblem: mae'n ymddangos bod llawer o siarad ac ychydig iawn o weithredu.
Mae trais yn ein hystafelloedd dosbarth yn cynyddu. Ydy hynny'n swnio fel addysg gefnogol a chynhwysol i chi? Yn ddiweddar, adroddodd Estyn fod safonau llythrennedd yn wan yng Nghymru. Nid yw hynny'n syndod o ystyried diffyg gweithredu ac analluogrwydd y Llywodraeth, ond ydy hynny'n swnio fel system addysg gefnogol a chynhwysol i chi? Mae ansawdd addysgu anghyson yn ôl yr arolygiaeth ysgolion. Ydy hynny'n swnio fel addysg gefnogol a chynhwysol i chi? Mae gennym 20 y cant o blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn anllythrennog. Ydy hynny'n swnio fel system addysg gefnogol a chynhwysol i chi? Mae safonau mathemateg yng Nghymru yn rhy isel. Ydy hynny'n swnio fel addysg gefnogol a chynhwysol i chi? A sut allwch chi addo system addysg gefnogol a chynhwysol pan fo lefelau presenoldeb ysgolion yn dal i fod yn bryderus o isel o gymharu â lefelau cyn y pandemig? Ysgrifennydd Cabinet, gallaf sefyll yma a rhestru llawer o'r problemau o fewn ein system addysg a methiannau'r Llywodraeth hon, ond does gen i ddim digon o amser.
Allwn i ddim cytuno mwy â chi, Ysgrifennydd Cabinet, bod llesiant dysgwyr yn bwysig iawn. Mewn difrif, rydych chi'n sôn am y dull ysgol gyfan a'r Llywodraeth yn buddsoddi £14 miliwn, gyda £3 miliwn yn mynd i gwnsela pwrpasol mewn ysgolion; hoffwn i wybod ble mae'r £11 miliwn sy'n weddill yn mynd i gael ei wario, Ysgrifennydd Cabinet. Gyda 14,000 o bobl ifanc yn manteisio ar gwnsela y llynedd yn unig, mae'n dangos pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hyn mewn gwirionedd. Dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn cyflwyno cynghorwyr arweiniad ym mhob ysgol uwchradd ledled Cymru i roi cymorth cyson i fyfyrwyr, a'r bwriad yw cyflwyno hyn i ysgolion cynradd yn y dyfodol. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai polisi Ceidwadwyr Cymru yn drawsnewidiol ar gyfer llesiant ein myfyrwyr?
Mae presenoldeb ysgol, fel y soniais amdano'n gynharach, yn parhau i fod yn llawer rhy isel. Rydych wedi cadarnhau y bydd y Llywodraeth yn gwario £15 miliwn yn y maes hwn. Fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth hon, rydym yn gweld penawdau bachog a chyhoeddiadau ariannu, ond, yn anffodus, mae'r manylion yn aml yn brin. A wnewch chi amlinellu pa fath o fentrau y bydd y £15 miliwn yn cael ei wario arnynt i hybu presenoldeb? Oherwydd mae'r Llywodraeth yn dal i fethu'n druenus i ddatrys y broblem hon.
Ysgrifennydd Cabinet, tanddatganiad yw dweud bod diwygiadau ADY wedi cael eu plagio gan bwysau ac anghysondebau. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n gweithredu ar ganfyddiadau'r adolygiad deddfwriaethol, felly a allwch chi ymhelaethu ar hyn i bob un ohonom yn y Siambr heddiw? O ystyried ei fod yn faes mor bwysig, mae angen i ni wybod yn union pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddatrys y materion hyn.
Mae bron yn anghredadwy ein bod ni yma yn siarad eto am broblemau llythrennedd yng Nghymru. Yn sicr, mae angen mwy o eglurder ynghylch addysgu llythrennedd ledled y wlad, ac mae hynny'n cynnwys symud i ffwrdd oddi wrth yr hen ddull ciwiau i ddysgu plant sut i ddarllen. Mae angen i ni fod yn symud tuag at fwy o system ffoneg synthetig systematig, neu SSP fel rydw i'n hoffi ei galw, fel ffordd brofedig, effeithiol o ddysgu plant sut i ddarllen. Fy nghwestiwn yw: o ystyried y problemau sydd gennym o ran llythrennedd yng Nghymru, ac mae wedi bod yn hysbys ers cryn amser, ac rydym wedi cael cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad gan y Llywodraeth, ydych chi'n hyderus eich bod chi ar y trywydd iawn o ran hyn o'r diwedd? Hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, pryd ydych chi'n disgwyl gweld canlyniadau eich ymyriadau?
Fe wnaethoch chi siarad y prynhawn yma am brentisiaethau iau, ond beth am brentisiaethau gradd? Ydych chi a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn ag ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau gradd ledled Cymru?
Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith bod nifer cynyddol o blant yn mynd i'r afael â gorbryder, pwysau ysgol a niwed ar-lein. Yn wir, rydym yn gwybod bod ffonau symudol a'r cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at hyn. Felly, a yw hyn yn golygu eich bod chi'n mynd i gefnogi galwad y Ceidwadwyr i wahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth, ac i gyflwyno cyfyngiadau i gyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed?
Ysgrifennydd Cabinet, ar ddiwedd eich datganiad, fe wnaethoch chi ddatgan bod pob dysgwr yng Nghymru yn haeddu system addysg sy'n ei gefnogi, sy'n ei herio ac sy'n credu ynddo. Allwn i ddim cytuno mwy â chi, ond dydyn nhw ddim yn cael hynny ar hyn o bryd, a'r rheswm am hynny yw 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur. Does ganddo ddim byd i'w wneud â'r staff sy'n gweithio'n galed yn ein system addysg, y mae gen i'r parch mwyaf atynt—rwy'n gwybod bod gennych chithau hefyd—ac rydym yn eu hedmygu hefyd, ond yn anffodus mae'n ymwneud â'r ffaith mai Llafur sy'n rhedeg y sioe. Mae gwleidyddion Llafur wedi cael blynyddoedd i gyflwyno system addysg, yn union fel y disgrifioch, Ysgrifennydd Cabinet, ond maen nhw wedi methu ar bob cam o'r ffordd. Mewn cyferbyniad llwyr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn aros am y cyfle i fynd i'r afael â methiannau a phlastrau Llywodraethau Llafur a chyflawni i bobl Cymru. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch, Natasha. Mae'n debyg mai gobaith ofer ydoedd ar fy rhan i y gallai hwn fod yn ymgysylltiad adeiladol ynghylch yr hyn a nodais yn fy natganiad. Yn hytrach, fe wnaethoch chi ailadrodd llawer o bwyntiau ystrydebol, sy'n awgrymu i mi nad ydych, mewn gwirionedd, wedi gwrando ar lawer iawn o'r hyn yr wyf wedi'i ddweud dros gyfnod hir, gan gynnwys yn y pwyllgor rydych chi'n eistedd arno, lle treuliais ddwy awr yn craffu ar ADY, gan nodi'n union yr hyn yr oeddem yn ei wneud.
Dydw i ddim yn credu fy mod i'n berffaith, ond dydw i ddim yn credu y gallai unrhyw un fy nghyhuddo o fod y math o berson sy'n dda am siarad. Rydym yn cymryd camau ar bob un o'r meysydd rwyf wedi'u hamlinellu heddiw. Gallwn i dreulio awr jyst yn siarad am y gwaith rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion a cholegau.
Rydych chi'n parhau i ailadrodd ystadegau anghywir am lythrennedd—yr 20 y cant hwn o ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol gynradd yn methu darllen. Mae hynny'n seiliedig ar hen adroddiad sy'n 10 mlwydd oed o leiaf. Byddai'n beth da iawn, rwy'n credu, pe baech chi'n diweddaru eich ymagwedd ar y pethau hyn.
O ran presenoldeb, fe wnes i ddatganiad ar bresenoldeb. Rydym wedi gweld gwelliant mewn presenoldeb. Cynyddodd presenoldeb yn y flwyddyn academaidd lawn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer i 91.1 y cant, i fyny o 90.5 y cant y flwyddyn flaenorol. Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a gollir gan ddisgyblion yn yr ysgol gynradd ac uwchradd wedi gostwng i 8.9 y cant yn 2024-25, o 9.5 y cant y flwyddyn flaenorol. Gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn absennol yn barhaus o 30.4 y cant i 27.0 y cant. A hefyd, rydym wedi gweld nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a gollodd sesiynau hanner diwrnod yn gostwng hefyd. Ond rydw i wedi bod yn glir iawn bod gennym lawer mwy o waith i'w wneud. Rydym yn dal i weld effaith pandemig COVID. Mae ymagwedd teuluoedd at yr ysgol wedi newid, y contract hwnnw rhwng teuluoedd a'r ysgol, ac mae yna lawer o rwystrau ar waith.
Rydych chi wedi gofyn i mi beth rydym yn ei wneud gyda'r £15 miliwn; rwyf wedi nodi hynny'n glir iawn yn y gorffennol: rydym yn buddsoddi mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ledled Cymru fel y gallant weithio mewn ffordd ronynnog gyda theuluoedd i chwalu'r rhwystrau sy'n atal plant rhag dod i'r ysgol. Gallai hynny fod yn faterion trafnidiaeth, gallai fod yn dlodi plant, efallai nad oes ganddyn nhw gôt i'w gwisgo i'r ysgol, gallai fod yn broblemau ADY, gallai fod yn broblemau iechyd meddwl. Mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hynny yn meithrin perthnasoedd â theuluoedd ac rwy'n cael adborth da iawn ar y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael plant yn ôl i'r ysgol.
Does dim byd syml neu hawdd am y materion hyn. Mae problemau gyda phresenoldeb yn digwydd ledled y byd nawr, ond rydym yn gweithredu. Rydym hefyd wedi cyflwyno gweithgareddau cyfoethogi mewn ysgolion, pethau y gall plant ddod i mewn a'u mwynhau ar ôl ysgol, fel bod cymhelliant iddyn nhw ddod i'r ysgol. Rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad yn ein rhaglen gwella gwyliau'r haf, fel ein bod ni'n cadw gafael ar blant yn ystod gwyliau'r ysgol, oherwydd bydd hynny, yn ein barn ni, yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddan nhw'n parhau i fod yn bresennol. Ac rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein dull ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
O ran eich pwyntiau ynglŷn â'r dull ysgol gyfan, fel y dywedais i, rydym yn gwario bron i £14 miliwn y flwyddyn ar y dull ysgol gyfan ac mae'r £3 miliwn y cyfeiriais ato ar gyfer cwnsela mewn ysgolion yn arian sy'n mynd i mewn i grant addysg yr awdurdod lleol ar gyfer cwnsela mewn ysgolion. Mae yna hefyd arian a roddwyd rai blynyddoedd yn ôl yn y grant cynnal ardrethi ar gyfer cwnsela mewn ysgolion, felly mae'r swm y mae'r awdurdodau lleol yn ei wario ar gwnsela mewn ysgolion yn llawer mwy na hynny. Ac rydym newydd wneud ymarfer archwilio i nodi faint sy'n cael ei wario.
O ran gweddill yr arian, mae peth o'r arian hwnnw'n cael ei wario ar ategu'r gwaith o weithredu'r dull ysgol gyfan drwy'r cydlynwyr rydym yn eu hariannu drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru; mae £5.6 miliwn—oherwydd mae hyn yn ymdrech ar y cyd rhwng addysg ac iechyd—yn ariannu gweithlu mewngymorth CAMHS sydd yn ein hysgolion; ac rydym hefyd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant a mentrau eraill i gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion gyda'r gwaith maen nhw'n ei wneud i ymwreiddio dull ysgol gyfan.
Gwnaethoch ddweud eich bod wedi gwneud ymrwymiad maniffesto i gyflogi cwnselwyr arweiniad. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth yw'r diffiniad o gwnselydd arweiniad, ond mae gennym ymrwymiad eisoes sydd wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru i gynnig cwnsela mewn ysgolion i bob dysgwr chwech oed a hŷn. Dyna'r hyn sydd ar waith yng Nghymru: mae gan bob dysgwr fynediad at wasanaeth cwnsela ysgol. Mae'n wasanaeth annibynnol, sy'n bwysig iawn o safbwynt diogelu, oherwydd rydym wedi cael sefyllfaoedd mewn ysgolion lle mae rhai o'r staff—. Yn amlwg, rydym wedi cael ymchwiliad Foden a phopeth a gododd o hynny. Os yw eich cynghorwyr arweiniad yn bobl sy'n mynd i uwchsgilio'r gweithlu, yna rydym eisoes yn gwneud hynny; rwyf eisoes wedi dweud wrth Dysgu ein bod yn disgwyl i lesiant fod yn rhan greiddiol o'u gwaith. Felly, rydym yn uwchsgilio'r gweithlu ysgol eisoes. Dydy hyn ddim yn ymwneud ag unigolion mewn ysgolion, yn fy marn i; mae iechyd meddwl mewn ysgolion yn fusnes i bawb, boed yn ofalwr neu'n athro neu'n gynorthwyydd cymorth dysgu—mae'n fusnes i bawb mewn ysgol.
Fe wnaethoch chi ofyn am ADY hefyd. Yn amlwg, rwyf wedi nodi yn y pwyllgor y camau helaeth rydym yn eu cymryd ar ADY. Fel y gwyddoch chi, fe gomisiynais i'r adolygiad o ADY. Yn ôl yr adolygiad hwnnw, er bod cryfderau yn y system a bod cefnogaeth dda i'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r diwygiadau ADY—yn enwedig y ffocws ar gynhwysiant—roedd anghysondebau yn y system hefyd yn y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu.
Fe osodais i bum blaenoriaeth uniongyrchol ar gefn yr adolygiad deddfwriaethol hwnnw. Yn gyntaf oll, i egluro'r diffiniadau cyfreithiol, ac mae canllawiau yn cael eu cyhoeddi ar hynny erbyn diwedd mis Mawrth; i wella cysondeb ledled y wlad, a byddwn ni'n gosod rheoliadau newydd ar ddata fel bod gennym ni ddarlun llawer cliriach o'r hyn sy'n digwydd o ran ADY ledled Cymru. Ond mae gen i fwrdd cenedlaethol nawr hefyd, bwrdd cyflawni ar gyfer ADY. Fe wnes i ymrwymo i ddarparu mwy o wybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd. Fe wnaethon ni gyhoeddi pecyn cymorth ADY i rieni yn yr hydref. Rydym yng nghamau hwyr adolygiad o wasanaethau eiriolaeth nawr, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym ni gynnig eiriolaeth llawer cryfach. Fe wnes i ymrwymo i gryfhau cydweithredu rhwng asiantaethau, yn enwedig gydag iechyd, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac ymrwymiad tymor hwy, wedyn, i ymwreiddio ein gweledigaeth ar gyfer system addysg gynhwysol ddwyieithog. Dyna'r ffordd rydyn ni arni yng Nghymru. Dydyn ni ddim eisiau i ADY fod draw yn y fan yna; mae ADY yn rhan o fusnes pawb mewn ysgol. Rydym am i'n holl ddysgwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, teimlo eu bod yn perthyn, ac y gallan nhw symud ymlaen.
Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel mae erthyglau 28 a 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei wneud yn glir, mae gan bob plentyn yr hawl i addysg o ansawdd da, ond nid yw hawliau ar bapur bob amser yn cyfateb i realiti. Ac os ydyn ni o ddifrif ynglŷn ag addysg gefnogol a chynhwysol, mae'n rhaid i ni ofyn pwy sy'n dal i gael eu gadael ar ôl a pham, a sut y gallwn ni ddatrys hynny—sut y gallwn ni gyflawni ein hymrwymiadau i hawliau'r plentyn.
Dwi'n croesawi'r ffocws yn eich datganiad ar bwysigrwydd taclo tlodi plant yn hyn o beth, achos un o'r rhwystrau mwyaf amlwg i gyrhaeddiant addysgol yw tlodi. Mae gormod o blant yng Nghymru yn tyfu lan mewn cartrefi sydd dan bwysau ariannol sylweddol—un ymhob pedwar ohonynt yn byw mewn tlodi. Mae'n effeithio ar bresenoldeb, ar gyrhaeddiad a lles. Mae plentyn sy'n dod i'r ysgol yn llwglyd, fel y gwnaethoch chi sôn, yn poeni am arian gartref neu heb yr adnoddau sylfaenol sydd eu hangen, eisoes dan anfantais addysgol. Felly, bydd unrhyw fesurau—fel nifer o'r rhai rydych chi wedi eu rhestru—i sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yn cael eu tanseilio tra bod tlodi yn parhau i ddylanwadu yn y fath fodd ar brofiad addysgol plant.
Rydych chi wedi sôn am nifer o bethau sy'n cael eu gwneud eisoes, ond pa gamau pellach y byddwch chi'n eu cymryd o fewn eich grymoedd eich hunain a hefyd o ran sgyrsiau gyda'ch partneriaid yn San Steffan i sicrhau nad yw cefndir plentyn yn diffinio ei gyrhaeddiad addysgol na'i ragolygon yn y dyfodol? Gwnaethoch chi grybyll cyfraniad pwysig prydiau bwyd am ddim, er enghraifft, yn ein hysgolion cynradd—mesur a gyflawnwyd, wrth gwrs, yn sgil cytundeb gyda Phlaid Cymru. Ond o gydnabod effeithiolrwydd y fath fesur, hoffwn i ofyn pam fod yna bobl ifanc yn ein hysgolion cyfun sydd o deuluoedd sy'n gymwys am gredyd cynhwysol sydd ddim yn gymwys am brydiau bwyd am ddim. Mae'n gost gymharol fechan i newid hynny, ond dydych chi ddim wedi gweithredu ar hynny er y byddai'n cael effaith fawr ar les a chyrhaeddiant. Felly, efallai y gallwch chi esbonio pam dydych chi ddim wedi gwneud hynny.
O ran yr hyn sydd yn nwylo San Steffan, maen nhw, o'r diwedd, ac rydyn ni'n croesawu hynny, wedi codi'r terfyn dau blentyn, ond mae sefydliadau gwrthdlodi fel y Sefydliad Bevan, er enghraifft, wedi sôn mai gostyngiad o ryw 3 y cant i 4 y cant ar lefelau tlodi plant yng Nghymru fydd effaith hynny, ac maen nhw'n galw am newid y cap ar fudd-daliadau, polisi Torïaidd arall sy'n parhau ar waith. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch yr angen i adolygu'r cap ar fudd-daliadau? Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o sut y mae'r cap yn parhau i effeithio ar lefelau tlodi plant ac felly allbynnau addysgol yng Nghymru?
Hoffwn i hefyd godi pwynt a wnaethoch chi am fynediad at addysg uwch. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gamarweiniol i ddweud nad oes yr un person ifanc yn cael ei ddal yn ôl o ran mynediad at addysg uwch gan gostau. A ydych chi'n derbyn bod y system gwbl anfoesol sydd gyda ni o ran cyllid myfyrwyr yn gynyddol olygu bod addysg uwch yn rhywbeth y bydd teuluoedd cefnog yn unig yn y dyfodol yn medru cyrchu? Tra bod mwy o bwyslais, a dwi'n cydnabod hyn, ar gefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd mwyaf tlawd yng Nghymru, mae undeb myfyrwyr Cymru yn rhybuddio bod y system bresennol yn annheg ac yn anghynaladwy i'r rhelyw. Ydych chi'n cytuno? Ac os ydych chi, pa sgyrsiau ydych chi'n cael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn hynny o byth? Ac oes unrhyw addasiadau rydych chi eisiau eu gweld o ran y system a'r pwerau sydd gyda ni dros hynny yng Nghymru?
I blant eraill, nid yn unig y rhwystrau economaidd sy'n eu hatal nhw rhag cyrraedd eu potensial, ond mae yna rai strwythurol. Mae plant a phobl ifanc anabl yn dal i wynebu oedi cyn derbyn asesiadau, mae yna anghysondeb rhwng awdurdodau lleol ac anawsterau wrth sicrhau'r addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnyn nhw. Mae cynhwysiant gwirioneddol yn golygu sicrhau cyfranogiad, onid yw e, a chefnogaeth ac urddas. Felly, sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y gefnogaeth yna i blant a phobl ifanc anabl yn gyson ledled Cymru, a bod hynny ddim yn meddwl eu bod nhw jest yn gallu cyrraedd yr ysgol, ond eu bod nhw'n gallu ffynnu yn yr ysgol?
Hoffwn i ofyn, yn olaf—. Rŷch chi wedi sôn yn helaeth ynglŷn â'r system, y diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol sydd gyda ni yng Nghymru. Ond rŷn ni wedi gweld, onid ydyn ni, dros y diwrnodau diwethaf, gynigion gan y Llywodraeth yn Steffan i ddiwygio yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, gyda ffocws ar ymyrraeth gynharach a mwy o gysondeb. Gall y datblygiadau yno gael goblygiadau i Gymru, boed drwy gyllid canlyniadol, efallai, neu ddarpariaeth drawsffiniol. Felly, allaf i ofyn i chi ba asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith bosibl y cynlluniau hynny? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sioned, am y pwyntiau hynny, a diolch am agor eich sylwadau trwy gyfeirio at CCUHP. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bob amser ein bod ni'n gweld y pethau hyn yng nghyd-destun hawliau plant. Ac roeddwn i eisiau dweud wrthych hefyd, pan wy'n siarad am gynhwysiant, rwy'n siarad nid yn unig am blant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant sy'n anabl—rwy'n siarad am blant sy'n byw gyda thrawma, plant y mae eu bywydau y tu allan i'r ysgol yn effeithio ar eu hymddygiad, ac rwy'n siarad am blant sy'n profi rhwystrau i'w haddysg oherwydd y tlodi maen nhw'n byw ynddo. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni, fel adran, yn mabwysiadu dull eang o ymdrin â chynhwysiant, sy'n hollol hanfodol.
Fe wnes i nodi rhai o'r pethau rydym yn eu gwneud. Mae'r prydau ysgol gynradd am ddim i bawb—a oedd yn ymrwymiad a gyflawnwyd ar y cyd â Phlaid Cymru—wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn o ran rhoi arian ym mhocedi teuluoedd a gwneud yn siŵr nad yw plant yn llwglyd yn yr ysgol. Mae'r grant hanfodion ysgol wedi bod yn wirioneddol bwysig wrth helpu i chwalu'r rhwystrau hynny. Fe wnaethoch chi gyfeirio at estyniad i brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i fod wedi'i wneud, ond doedd dim digon o arian yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i'w wneud. Rwyf wedi bod yn glir gyda swyddogion ei fod yn rhywbeth rwyf yn awyddus iawn ein bod ni'n edrych arno, ac rydym wedi rhoi swm bach o arian i lywodraeth leol i ddechrau edrych ar yr hyn fyddai ei angen, oherwydd fe gofiwch chi, gyda'r prydau ysgol gynradd am ddim i bawb, roedd llawer o'r buddsoddiad yn ymwneud â phethau fel ceginau mwy o faint a phethau fel yna—cyfalaf hefyd.
[Anghlywadwy.]
Ie. Roeddwn i'n agored iawn gyda'r pwyllgor plant fy mod i'n awyddus i wneud hyn, ond doedd y gyllideb a basiwyd ddim yn caniatáu digon o gyllid i wneud hynny. Rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y gallwn ni barhau i edrych arno. Roeddwn i yn Ysgol Uwchradd Whitmore ychydig fisoedd yn ôl lle y gwnes i gyfarfod â rhai dysgwyr a oedd yn 16 a 17 oed, ac roedd yn anodd iawn gwrando arnyn nhw'n dweud wrthyf nad oedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta amser cinio. Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio'n arbennig ar y dysgwyr hynny sy'n mynd i fod yn gwneud eu harholiadau. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn parhau i'w drafod fel Llywodraeth.
Rydym yn gwneud pethau eraill. Rydym wedi cael cynllun peilot llwyddiannus iawn, sydd wedi bod yn gweithredu mewn gwahanol rannau o Gymru. Rwyf newydd gael y gwerthusiad ar gyfer hwnnw, ac rydym yn edrych i ymestyn y cynllun nawr i rannau eraill o Gymru. Fe gyfeiriais i hefyd at y grant datblygu disgyblion. Rydym yn buddsoddi swm enfawr o arian yn y grant hwnnw bob blwyddyn, ond yr hyn nad ydym yn ei weld yw'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw'n cau. Yn amlwg, mae'n rhaid i hynny fod yn sylfaenol i'r hyn rydym yn ei wneud. I ateb eich cwestiwn, rwyf yn trafod y materion hyn yn rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt, sef y person a fyddai'n arwain ar ran Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU. Rwy'n gwybod bod Jane yr un mor ymrwymedig i fynd i'r afael ag effaith tlodi mewn addysg ag yr wyf innau, ac mae'r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu tlodi plant yn cwmpasu addysg, ac rydym yn parhau i gael y ddeialog honno, ac yna rwy'n gwybod bod Jane yn bwydo'n ôl ar y materion hyn ac yn trafod y materion hyn gyda San Steffan.
O ran y system cyllid myfyrwyr, mae gennym y system cymorth ariannol i fyfyrwyr fwyaf hael yn y DU eisoes. Mae hynny o ganlyniad i'n diwygiadau Diamond, a oedd yn bwrpasol flaengar. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Vikki Howells yn aros am y gwerthusiad o ddiwygiadau Diamond ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod ei fod yn dal i fod yn anodd iawn i bobl ifanc, ac yn amlwg mae llawer o ffocws wedi bod ar y ffaith bod pobl ifanc yn wynebu mwy o ddyledion. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio nad yw cael gradd y dyddiau hyn yn docyn pryd i lawer o bobl ifanc erbyn hyn. Mae hynny'n rhywbeth sy'n fy mhoeni. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn cadarnhau yn y Siambr ein bod ni wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch eu cynllun i rewi, ac rydym wedi sôn wrth Lywodraeth y DU nad ydym yn gweithredu'r cynllun i rewi yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau, ond fel rhan o'r gwaith hwnnw, rwyf i a Vikki Howells yn canolbwyntio'n llwyr ar sut allwn ni ddiogelu buddiannau dysgwyr yng Nghymru.
O ran materion anabledd, byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau newydd, fel y dywedais, erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'r canllawiau hefyd yn glir ynghylch yr angen am addasiadau rhesymol i ddysgwyr anabl, yn ogystal â dysgwyr sy'n cael llawer mwy o anhawster i ddysgu. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ddoe, yr oedd gen i ddiddordeb mawr yn ei weld. Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwneud y rhan fwyaf o'r hyn sydd yn y Papur Gwyn. Rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant, wedi ymrwymo i gymorth amlasiantaethol i ysgolion, wedi ymrwymo i wella perthnasoedd a'r math hwnnw o bartneriaeth gymdeithasol gyda theuluoedd, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad—yr holl bethau hynny. Rydym ar y daith honno eisoes yng Nghymru. Fel y gwelsoch, roedd cyhoeddiad ariannu ynghlwm wrtho, felly rydym yn aros i glywed beth mae hynny'n ei olygu o ran symiau canlyniadol i Lywodraeth Cymru. Fel rwyf wedi'i wneud trwy gydol fy amser yn y swydd hon, byddaf yn gwneud yr achos cryfaf posibl o ran sicrhau bod y symiau canlyniadol hynny yn cyrraedd yr adran addysg er budd plant a phobl ifanc.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn wahanol i'r Aelod sy'n llefarydd y Ceidwadwyr dros addysg, rwy'n amlwg yn byw mewn byd gwahanol yn y fan yma. Felly, hoffwn eich llongyfarch ar y gwaith rydych chi wedi'i wneud. Yn fy marn i, rydych wedi bod yn arweinydd heb ei ail fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Dydych chi ddim wedi osgoi'r heriau, ac rwy'n credu eich bod wedi dod o hyd i atebion. Mae eich rhagflaenwyr hefyd wedi dod o hyd i atebion da. Rwy'n credu bod y ffaith bod gennym y cwricwlwm Cymreig, sy'n caniatáu i arweinwyr ysgolion siapio'r hyn maen nhw'n ei ddysgu i blant i weddu i realiti eu bywydau, yn fonws enfawr yr wyf yn gwybod nad yw fy merch yn Lloegr yn gallu manteisio arno. Rwy'n credu bod gennym ni gymaint i fod yn falch ohono yng Nghymru, a dyna pam roeddwn i mor siomedig gyda'r datganiad cynharach o ochr arall y Siambr.
Rwy'n credu ei bod yn stori lwyddiant go iawn bod gennym ni'r system hon o ddarparu mynediad at gwnsela i bob plentyn dros chwech oed, oherwydd mae'n golygu y gallwn ni fod yn sicr y gall plant adrodd os ydyn nhw'n teimlo'n sâl yn feddyliol, heb eu trin yn feddygol. Rwy'n credu ei bod yn llwyddiant ysgubol mai dim ond 1.7 y cant o ddysgwyr sy'n cael eu cyfeirio at CAMHS, oherwydd dydyn nhw ddim wedyn yn mynd â chofnod o salwch meddwl gyda nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed ddechrau eu bywydau ifanc, ac mae hynny'n hynod arwyddocaol. Felly, diolch yn fawr am bopeth rydych chi wedi'i wneud, ac rwy'n credu, gan adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud o'r blaen, mae cymaint y gallwn ni fod yn falch ohono yma.
Mae gen i ddau gwestiwn. Un yw—. Mae'r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei bennu yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Mewn ysgolion cynradd, gallwch chi gael pryd ysgol am ddim heb orfod cofrestru. Mae un o'm hysgolion wedi gweld gostyngiad o 14 y cant rhwng y llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ac nid yw'r plant wedi newid. Felly, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r mater arwyddocaol iawn hwnnw, fel bod yr ysgolion sydd â'r amddifadedd mwyaf yn gallu parhau i gael yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnyn nhw i gefnogi'r plant hynny a mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad, gobeithio?
Yn ail, yn anffodus, rydym yn byw mewn cymdeithas lle nad yw'r drafodaeth wleidyddol yn ddefnyddiol o gwbl ar hyn o bryd ac, yn ddi-os, mae rhywfaint o'r iaith hiliol sy'n cael ei defnyddio gan bobl a ddylai wybod yn well yn mynd i gael effaith ar lesiant pobl ifanc. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig wrthym am sut mae'r dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliol a'r rhwymedigaeth orfodol i addysgu hanes pobl ddu mewn ysgolion, yr wyf yn credu y dylem fod yn falch iawn ohoni, mae'r syniad ein bod ni i gyd yn wyn ac wastad wedi bod yn nonsens llwyr—. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym pa mor dda mae ysgolion yn ymdopi, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, lle mae'r drafodaeth honno'n dod yn llawer mwy heriol i athrawon ddelio â hi.
Diolch, Jenny, a diolch am eich geiriau caredig. Y rhai hynny ym mlwyddyn 6 ac uwch sy'n gallu cael mynediad i'r cwnsela, er bod gennym ni fentrau ar gyfer plant iau, ond mae'n llai o fath o—. Mae cwnsela yn fodel sy'n dibynnu ar alluogedd, felly mae'n debycach i therapi chwarae a phethau fel yna i blant iau.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn o ran y grant datblygu disgyblion, ac mae hynny'n rhywbeth rydym wedi bod yn bryderus iawn amdano ers cyflwyno prydau ysgol gynradd am ddim i bawb, oherwydd mae ysgolion yn poeni'n fawr eu bod nhw'n colli allan ar arian. Dyna pam rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn hyrwyddo'r angen i deuluoedd gofrestru fel rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim beth bynnag. Pe baen nhw wedi bod yn gymwys, rydym eisiau iddyn nhw gofrestru ar eu cyfer. Mae ysgolion eu hunain yn weithgar iawn, oherwydd yn amlwg maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n cael yr arian grant datblygu disgyblion. Mae'n caniatáu mynediad i'r grant hanfodion ysgolion. Ond rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar rywfaint o ddeddfwriaeth newydd. Rwyf wedi anghofio enw'r Bil sy'n mynd drwyddo, ond bydd yn sicrhau bod modd rhannu gwybodaeth yn ddigidol a fydd, gobeithio, yn ein galluogi i gofrestru teuluoedd yn awtomatig ar gyfer prydau ysgol am ddim, pe baen nhw wedi bod yn gymwys beth bynnag. Felly, gobeithio, bydd llai o deuluoedd yn syrthio trwy'r bylchau. Y peth arall, dim ond i dawelu eich meddyliau, yw ein bod ni'n ceisio gwneud iawn am y ffaith bod rhai ysgolion yn gweld gostyngiad, trwy rywbeth rydym yn ei alw'n 'ddyraniad llyfnhau' ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Felly, os ydyn nhw wedi gweld gostyngiad, yna rydym yn rhoi rhywfaint o arian ychwanegol iddyn nhw i wneud iawn am hynny, ond, yn amlwg, mae'n llawer gwell cael y data cyfredol.
Rydym hefyd, fel Llywodraeth, yn gwneud darn o waith yr ydym wedi'i alw'n 'Prydau ysgol am ddim a mwy', sy'n edrych ar ffyrdd eraill y gallwn ni fesur tlodi. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y Papur Gwyn ddoe. Un o'r materion y mae Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw ato yw'r math hwnnw o fesuriad yr ydym bob amser wedi dibynnu arno ers blynyddoedd, yr un iawn i fesur a yw teuluoedd wir angen yr help neu beidio.
Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am drafodaeth wleidyddol. Yn anffodus, rydym wedi gweld rhai sefyllfaoedd hyll iawn yng Nghymru, mewn cymunedau, ond hefyd mewn ysgolion fel Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View yn Abertawe, lle maen nhw wedi bod yn ffocws gweithgarwch asgell dde eithafol, a lle mae wedi bod yn frawychus iawn, iawn i blant ac i deuluoedd. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth ar gael i ysgolion sydd yn y sefyllfaoedd hynny, a hefyd i geisio helpu rhieni i ddeall pethau hefyd, oherwydd, mewn rhai o'r ardaloedd, mae'r anawsterau hynny wedi deillio o wersi crefydd, gwerthoedd a moeseg. Rwy'n credu y gall llawer ohono ddod o ddiffyg dealltwriaeth hefyd, felly rydym yn edrych ar well cyfathrebu gyda theuluoedd fel eu bod yn deall bod hyn yn ymwneud â dull plwralaidd i geisio osgoi gweld episodau fel yna eto.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'n cynllun gweithredu gwrth-hiliol a'r camau addysg yn y cynllun hwnnw. Mae Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol yn stori lwyddiant ysgubol, ac mae'n parhau i gael effaith enfawr ac yn cyflwyno eu hyfforddiant ledled Cymru. Rwyf wastad yn cael adborth cadarnhaol iawn gan bobl sy'n ymgymryd â hyfforddiant DARPL, a elwir yn DARPL-io. Maen nhw wedi dod ac, fel y gwyddoch chi, wedi gwneud rhywfaint o DARPL-io gyda ni fel grŵp Llafur a byddwn i'n annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfle i DARPL-io. Fe fydd e'n brofiad cyfoethog iawn.
Mae hefyd yn ymwneud â phethau fel y cwricwlwm hanes pobl dduon. Allwch chi ddim bod yr hyn allwch chi ddim ei weld, allwch chi? Ac mae'n ymwneud â phethau fel ein cymhellion i annog mwy o athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol hefyd, ond hefyd i ychwanegu ein bod ni hefyd yn cydnabod gwenwyndra bwlio hiliol hefyd. Rydym yn gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae'r comisiynydd plant wedi bod yn bryderus iawn amdano. Rydym ar fin cyhoeddi canllawiau newydd ar wrth-fwlio, a fydd yn cryfhau'r amddiffyniadau gwrth-hiliol. Ond rydym hefyd yn ceisio cael mwy o ddata ac mae'n gymhleth cael data o ysgolion, weithiau, ar ddigwyddiadau hiliol, oherwydd weithiau gall staff yr ysgol weld hiliaeth mewn ffyrdd penodol. Ond mae hwnnw'n ddarn o waith rydym yn ei wneud er mwyn i ni allu goruchwylio'r hyn sy'n digwydd yn y gofod hwnnw yn llawer dyfnach. Yn yr un modd ag y dywedais wrth Sioned, mae'n ymwneud â chynhwysiant yn yr ystyr ehangach. Mae hefyd yn ymwneud â chynnwys plant y mae hiliaeth yn effeithio arnyn nhw, plant sy'n profi gwahaniaethu LHDTC. Rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd diogel, cynhwysol i'n holl ddysgwyr ffynnu.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw eitem 7. Y Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM9161 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Ym mis Rhagfyr y llynedd, gwnaed rheoliadau a ddiwygiodd y ffordd y mae cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn cael ei chynnal yng Nghymru. Roedd angen y rhain i alluogi newid o ganlyniad i argymhellion y Fonesig Judith Hackitt i wella diogelwch ac atebolrwydd yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell. Mae'r newidiadau hyn wedi bod yn rhan o strategaeth barhaus i ddiwygio'r sector rheolaeth adeiladu, ac i wella diogelwch mewn adeiladau preswyl risg uwch, er eu bod hefyd yn effeithio ar y broses ehangach o reoli adeiladu.
Mae'r rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw yn ganlyniad i'r rhai a wnaed ym mis Rhagfyr. Maent yn diweddaru'r derminoleg ar draws deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd arall. Nid ydynt yn newid bwriad nac ystyr y ddeddfwriaeth y maent yn ei diwygio, ond byddant yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu fel y mae ar hyn o bryd unwaith y daw'r gyfres newydd o ddeddfwriaeth newydd i rym ar 1 Gorffennaf.
Mae deddfwriaeth mis Rhagfyr yn cyflwyno'r term 'cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu' i'r eirfa mewn perthynas â gwaith adeiladu, ac yn symud gweithdrefnau sy'n ymwneud â hyn o Ddeddf Adeiladu 1984 i Reoliadau Adeiladu 2010. Mae'r offeryn hwn yn sicrhau bod darnau eraill o ddeddfwriaeth, gan gynnwys amrywiol Ddeddfau lleol, yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newid hwn.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 9 Chwefror ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pedwar pwynt adrodd technegol. Mae'r cyntaf yn nodi cyfeiriad anghywir at y Ddeddf wreiddiol yn y penawdau italig. Roedd yr ail yn tynnu sylw at gamgymeriad teipograffyddol sy'n golygu nad yw'r diwygiad yn nodi'r testun presennol i'w amnewid yn gywir, ac mae'r trydydd pwynt adrodd yn nodi anghysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion a godwyd yn y pwyntiau craffu, ond nid yw'n bwriadu cymryd camau pellach. Gofynnodd y pedwerydd pwynt adrodd i Lywodraeth Cymru egluro a yw'r diffiniad newydd o 'awdurdod diogelwch adeiladu' a fewnosodwyd gan y rheoliadau mewn gwahanol Ddeddfau yn cael ei nodi'n ddigon manwl i wireddu bwriad y polisi. Yn ei hymateb, rhoddodd Llywodraeth Cymru sicrwydd i'r pwyllgor bod y cyfeiriad yn gywir, yn ei barn hi.
Ymyriad byr iawn, os gwelwch yn dda, dim ond i gofnodi'r pryderon sydd gennym fod angen i ni sicrhau bod gwaith cyweirio yn parhau i fod yn ganolog iawn o fewn y rheoliadau hyn. Rydym yn gwybod, i lawer o drigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni, nad rheoleiddio yn y dyfodol yw'r mater pwysig, ond y gwaith anghyflawn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi ymateb yr aelod Cabinet i hynny. Diolch yn fawr iawn.
Ydych chi eisiau ymateb, Ysgrifennydd Cabinet?
Ydw, dim ond i ddiolch yn arbennig i'r pwyllgor am ei waith. Bydd y rheoliadau rydym yn eu trafod heddiw yn sicrhau bod y newidiadau i'r gweithdrefnau rheolaeth adeiladu sy'n dod i rym yn ddiweddarach eleni yn cael eu gweithredu'n briodol, ac mae'r newidiadau hynny yn darparu sail ar gyfer mwy o drylwyredd a goruchwyliaeth o adeiladau preswyl cymhleth lle y gallai effaith tân neu fethiannau strwythurol fod yn ddinistriol, gyda nifer mawr o fywydau yn cael eu colli, fel y gwelsom yn Grenfell. Ond, fel y dywedaf, mae'r rheoliadau rydym yn eu trafod ac yn pleidleisio arnynt heddiw yn ymwneud â diweddaru'r derminoleg ar draws deddfwriaeth yn hytrach na chyflwyno polisi newydd.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan yr eitem yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 sydd nesaf. Y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yw'r rheoliadau yma. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig—Dawn Bowden.
Cynnig NDM9160 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae offeryn statudol Cymru sydd ger eich bron heddiw yn cyflwyno diwygiadau i reoliadau gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig 2019 a rheoliadau gwasanaethau cymorth mabwysiadu 2005. Mae'r diwygiadau hyn yn cynrychioli ffordd feddylgar, gymesur a blaengar o foderneiddio fframwaith mabwysiadu Cymru. Mae'r diwygiadau hyn, yn eu hanfod, yn ymwneud â sicrhau bod plant, oedolion a theuluoedd yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir, heb unrhyw rwystrau diangen, dyblygu neu oedi. Maent wedi cael eu llywio gan adborth uniongyrchol gan y sector mabwysiadu, gan gynnwys awdurdodau lleol, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, ymarferwyr a chyrff cynrychioliadol. Tynnodd gweithgarwch ymgysylltu sylw at feysydd lle roedd rheoliadau presennol yn creu ansicrwydd, lle nad oeddent yn adlewyrchu'r arfer cyfredol yn llawn, neu lle roeddent yn gyfyngol yn anfwriadol. Mae'r newidiadau o fewn yr offeryn statudol hwn yn ceisio ymateb i'r materion hynny, a thrwy ddileu'r gofyniad i rai darparwyr gwasanaethau mabwysiadu gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn enwedig y rhai sy'n cael eu contractio gan awdurdodau lleol, rydym yn rhagweld y bydd nifer uwch o weithwyr proffesiynol ar gael i ddarparu cymorth, ac y bydd teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth arbenigol a chymorth sy'n ystyriol o drawma yn gyflymach, rhywbeth sy'n hanfodol pan fo anghenion yn rhai brys ac yn bersonol iawn.
Mae cyflwyno eithriad i'r gofyniad i gofrestru ar gyfer darparwyr cwnsela oedolion sy'n ymwneud â mabwysiadu yn adlewyrchu gwirionedd syml: mae oedolion mabwysiedig yn berffaith abl i wneud penderfyniadau gwybodus am y cymorth y maent yn ei geisio. Bydd dileu haenau o reoleiddio sy'n ychwanegu fawr ddim gwerth yn sicrhau bod cwnsela mewn perthynas â mabwysiadu yn fwy hygyrch, yn fwy ymatebol ac yn cyd-fynd yn well â'r dirwedd therapiwtig ehangach. Yn hanfodol, bydd y safonau proffesiynol sy'n sail i ansawdd a diogelwch yn parhau i fod ar waith.
Ochr yn ochr â'r newidiadau hyn, mae'r rheoliadau'n moderneiddio terminoleg sydd wedi dyddio, yn egluro'r ystod o wasanaethau cymorth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu cynnig, ac yn alinio croesgyfeiriadau mewn darpariaethau i greu fframwaith cyfreithiol mwy cydlynol a chynhwysol. Er nad yw'r diwygiadau hyn yn newid sylwedd cymorth mabwysiadu, maent yn sicrhau bod y system yn gliriach, yn fwy cyson, ac yn adlewyrchu strwythurau teuluol modern a phrofiadau byw yn well.
Gyda'i gilydd, mae'r pecyn hwn o ddiwygiadau yn dileu dyblygu lle nad oes unrhyw bwrpas iddo, yn darparu mwy o eglurder lle mae ei angen fwyaf, ac yn canolbwyntio ar reoleiddio lle mae'n cael yr effaith fwyaf. Y canlyniad yw system cymorth mabwysiadu fwy hyblyg, cymesur ac effeithiol, un sy'n gwasanaethu plant, oedolion a theuluoedd ledled Cymru yn well. Diolch.
Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r rheoliadau hyn ac yn cydnabod y rhesymeg dros sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn gymesur ac yn osgoi dyblygu diangen, yn enwedig lle gall gweithwyr proffesiynol cymwys fod yn destun safonau proffesiynol a goruchwyliaeth eisoes. Fodd bynnag, hoffwn bwyso ymhellach ar y Gweinidog o ran ymestyn eithriadau rhag cofrestru mewn perthynas â rhai gwasanaethau cwnsela i oedolion sy'n gysylltiedig â mabwysiadu. Er fy mod i'n deall y ddadl dros hyblygrwydd, gall cymorth therapiwtig sy'n gysylltiedig â mabwysiadu gynnwys trawma cymhleth, materion hunaniaeth a sensitifrwydd diogelu. Yn anochel, mae dileu'r gofyniad i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn newid natur yr oruchwyliaeth sy'n berthnasol. Efallai y bydd gan rai rhanddeiliaid bryderon ynghylch a allai eithrio gwasanaethau o'r fath rhag cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru leihau lefel yr oruchwyliaeth ffurfiol sy'n berthnasol i'r hyn a all fod yn gymorth therapiwtig sensitif ac arbenigol iawn. Yn benodol, byddai'n ddefnyddiol cael ar gofnod sut mae'r Llywodraeth yn fodlon y bydd mesurau diogelu priodol, mecanweithiau atebolrwydd ac eglurder ynghylch ffiniau rheoleiddiol yn parhau i fod ar waith fel bod oedolion mabwysiedig sy'n cael mynediad at wasanaethau cwnsela yn parhau i dderbyn cymorth cyson o ansawdd uchel. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw i mi.
Y Gweinidog i ymateb—Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn i mi ymateb i'r pwyntiau y mae Mabon wedi'u codi, roeddwn i eisiau myfyrio ar yr hyn y mae'r gwelliannau yn ei gynrychioli ar gyfer cymorth mabwysiadu yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, y bobl sy'n dibynnu arno. Yn eu hanfod, mae'r diwygiadau hyn yn ymwneud â chreu system sy'n gweithio gyda phobl, nid un sy'n rhoi rhwystrau yn eu ffordd, ac rwy'n credu mai dyna'r hyn rydych chi'n ei gydnabod. Am rhy hir, mae ein gwasanaethau wedi gweithredu o fewn fframwaith nad yw wedi cadw i fyny ag arferion modern nac ag anghenion esblygol plant, oedolion a theuluoedd, ac felly mae'r newidiadau heddiw yn helpu i sicrhau bod y gyfraith yn cefnogi arfer da yn lle cyfyngu arno.
Mae'r diwygiadau yn cryfhau eglurder, yn lleihau cymhlethdod diangen ac yn dileu rhwystrau a all beri oedi cyn cael mynediad at gymorth hanfodol. Trwy symleiddio'r dirwedd reoleiddio, rydym yn galluogi ymarferwyr i ganolbwyntio eu hamser a'u harbenigedd lle mae eu hangen fwyaf, gan ddarparu cymorth amserol, tosturiol a therapiwtig i'r rhai y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt. Ac i ymateb yn benodol i gwestiwn Mabon, bwriad yr eithriad hwn yw cryfhau cymorth i oedolion mabwysiedig trwy gael gwared ar y rhwystrau gweinyddol a all arafu neu gymhlethu mynediad at gwnsela.
Weithiau mae'n anodd nodi a fydd cwnsela yn canolbwyntio ar fabwysiadu cyn i'r cyngor ddechrau. Felly, os yw materion sy'n gysylltiedig â mabwysiadu yn cael eu datgelu yn ystod sesiynau cwnsela, ac mai'r rhain yw'r prif bryderon y rhoddir ffocws iddynt, yna mae'r cwnselydd yn cael ei atal, o dan y fframwaith presennol, rhag parhau i weithio gyda'r cleient oni bai ei fod yn cofrestru gyda AGC, gan achosi aflonyddwch o bosibl yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd, gan arwain at ostyngiad yn nifer y gweithwyr proffesiynol sy'n cynnig y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â mabwysiadu, ac, yn bwysig, bydd y newid hwnnw'n cynyddu argaeledd cwnselwyr ar adeg pan ydym yn gwybod bod angen cynyddol am y cymorth therapiwtig mwy arbenigol hwnnw sy'n ymwybodol o fabwysiadu. Mae'n cydnabod y gall oedolion mabwysiedig geisio cwnsela ar adeg bwysig ac emosiynol yn aml yn eu bywydau, ac yn sicrhau y gallant dderbyn cymorth amserol, priodol pan fydd ei angen fwyaf. A thrwy sicrhau bod modd i ystod ehangach o weithwyr proffesiynol ddarparu'r cwnsela hwnnw, yna mae'r newid hwnnw'n cynyddu'r dewis a'r hyblygrwydd i oedolion mabwysiedig. Mae'n ehangu mynediad at ymarferwyr sydd â gwybodaeth a phrofiad arbenigol sy'n gysylltiedig â mabwysiadu, gan sicrhau bod oedolion yn gallu manteisio ar gymorth therapiwtig mwy gwybodus sydd wedi'i deilwra ac sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o'r materion sy'n ymwneud yn benodol â mabwysiadu. Ond mae'r holl fesurau diogelu sylfaenol rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn dal i fod yn rhan o'r broses honno, fel sy'n wir ar hyn o bryd.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn adlewyrchu newid ehangach a phwysig mewn ymagwedd, oherwydd mae'n cydnabod ymreolaeth a phrofiad bywyd pobl fabwysiedig, y gwahanol fathau o deulu sy'n cael eu creu trwy fabwysiadu a gwerth cymorth ymatebol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A thrwy fireinio'r fframwaith, rydym yn atgyfnerthu amgylchedd lle mae gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd hyblyg, gymesur a chan ddangos parch tuag at farn broffesiynol a dewis yr unigolyn. Yn allweddol, mae'r newidiadau yn cynnal y mesurau diogelu cryf—sef y pwynt roeddech chi'n ei wneud, dwi'n meddwl, Mabon—y safonau a'r cyfrifoldebau statudol sy'n sail i wasanaeth diogel o ansawdd uchel. Yr hyn maen nhw'n ei ddileu yw rheoleiddio nad yw'n ychwanegu gwerth mwyach. Felly, y canlyniad yw system lle mae ansawdd yn cael ei gryfhau trwy eglurder a chydlyniad, nid biwrocratiaeth ddiangen.
Gyda'i gilydd, mae'r diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn cynrychioli dull ystyriol a mesuredig o foderneiddio ein fframwaith cymorth mabwysiadu. Maen nhw'n sicrhau bod y system yn haws i'w llywio, yn gallu addasu'n well i arferion cyfredol, ac mewn sefyllfa well i esblygu gydag anghenion y bobl y mae'n eu gwasanaethu. Dydyn nhw ddim yn newid dyletswyddau sylfaenol ein hawdurdodau lleol na'n partneriaid, ond maen nhw yn rhoi'r eglurder a'r hyblygrwydd sydd eu hangen arnynt i ddarparu cymorth sy'n amserol, yn effeithiol ac yn seiliedig ar anghenion yr unigolion. Felly, mae'r diwygiadau hyn yn cryfhau'r system lle bo angen, yn ei symleiddio lle bo hynny'n bosibl, ac yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd lle maen nhw'n cael yr effaith fwyaf ar wella canlyniadau i blant, oedolion a theuluoedd ledled Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf. Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yw'r rhain. Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sy'n gwneud y cynnig—Sarah Murphy.
Cynnig NDM9162 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Y prynhawn yma, rwy'n gofyn i'r Senedd gymeradwyo Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026. Byddai'r rheoliadau hyn yn cymeradwyo'r defnydd o fagnesiwm L-threonad monohydrad i'w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd. Mae'r asesiad diogelwch cynhwysfawr o'r math hwn o fagnesiwm i'w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd wedi'i gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2024. Rwyf wedi cymryd camau yn flaenorol yn unol â fy nghydweithwyr ledled y DU i awdurdodi magnesiwm L-threonad fel bwyd newydd. Bydd y rheoliadau hyn yn galluogi'r bwyd newydd i gael ei gynhyrchu a'i werthu yng Nghymru yn arbennig i'w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd. Mae'r dyddiad effeithiol ar gyfer yr awdurdodiad bwyd newydd yn cyd-fynd â'r dyddiad cychwyn ar gyfer y rheoliadau hyn, os cânt eu cymeradwyo heddiw. Mae'r sylwedd eisoes wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio yn yr UE, fel bwyd newydd ac i'w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd. Mae gweinidogion yn yr Alban wedi gosod rheoliadau tebyg gerbron Senedd yr Alban, ac mae Llywodraeth y DU yn paratoi i ddiweddaru ei deddfwriaeth i ganiatáu defnyddio'r math hwn o fagnesiwm mewn atchwanegiadau bwyd yn Lloegr. Os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo gan y Senedd heddiw, byddant yn dod i rym ar 5 Mawrth. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn. Diolch.
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon. Hyderaf nad yw'r Gweinidog eisiau ymateb iddi hi ei hun. Felly, fe ofynnaf y cwestiwn.
A ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 9 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 sydd nesaf. Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch sy'n gwneud y cynnig—Vikki Howells.
Cynnig NDM9159 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn sefydlu cyfundrefn reoleiddio gynhwysfawr ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg uwch. Bydd y gofrestr, sydd ar y trywydd iawn i gael ei sefydlu gan Medr ym mis Gorffennaf, yn galluogi Medr i reoleiddio ein sector addysg uwch amrywiol mewn ffordd effeithiol, gymesur ac atebol, gan gynnwys mewn perthynas â therfynau ffioedd dysgu.
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026, yr ymgynghorais arnynt y llynedd, yn rhagnodi'r uchafswm ffioedd dysgu y gall sefydliadau eu codi ar bersonau cymwys sy'n dilyn cyrsiau cymwys. Mae'r terfynau ffioedd hyn, ynghyd â chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn sicrhau bod addysg uwch yn parhau i fod yn fforddiadwy. Mae'r rheoliadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol llawn ar waith, gan alluogi Medr i sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg uwch. Bydd y terfynau ffioedd a bennir yn y rheoliadau yn gymwys am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2027-28, ac ar hyn o bryd maent yn adlewyrchu'r terfynau ffioedd yr ydym wedi'u nodi'n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Mater i'r Llywodraeth newydd fydd penderfynu ar y terfynau ffioedd terfynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2027-28.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith wrth adolygu'r rheoliadau hyn. Fel y nodais yn fy ymateb i'r pwyllgor, gellir deall y rheoliadau hyn heb fod angen cyfeirio at y diffiniadau manwl o 'bersonau cymhwysol' a 'chyrsiau cymhwysol'. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 9 Chwefror ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd ar rinweddau, sy'n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi datgan, yn y memorandwm esboniadol, y byddai ail set o reoliadau yn darparu'r diffiniadau ar gyfer y termau 'cwrs cymhwysol' a 'pherson cymhwysol'. Nid yw'r ail set honno o reoliadau wedi'i gosod eto, felly ni allwn ystyried cwmpas y termau a nodir yn y rheoliadau hyn a sut y bydd y terfynau ffioedd uchaf yn berthnasol yn ymarferol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod y ddau offeryn yn gwasanaethu dibenion gwahanol. Bwriedir i'r rheoliadau hyn nodi'r terfynau ffioedd eu hunain, a bydd yr ail set o reoliadau sydd heb eu gosod eto yn pennu sut y caiff y terfynau hynny eu cymhwyso.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r rheoliadau hyn y prynhawn yma. Ni fydd fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau yn cefnogi'r rheoliadau a byddwn yn pleidleisio yn eu herbyn.
Rydym yn gwybod bod y sector addysg uwch o dan bwysau ariannol ac, yn fy marn i, ni ddylai'r baich hwnnw gael ei ddadlwytho ar fyfyrwyr drwy gynyddu ffioedd. Yn wir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir bod angen system sy'n gweithio i bawb, ac, ar hyn o bryd, nid yw hynny'n wir. Mae angen adolygiad cynhwysfawr o'r system ac mae angen i ni ddarparu sector addysg bellach ac uwch cynaliadwy i bawb. Yn wahanol i Blaid Cymru, sydd eisiau dileu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i sicrhau cynaliadwyedd o fewn y sector pe baem yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Mae gennym fyfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol, Llywydd, yn cronni symiau anweddus o ddyled, y byddan nhw'n eu talu am flynyddoedd i ddod, ac weithiau'n methu â chael swydd dda, sydd ddim yn deg.
Rydym am gydbwyso sefydlogrwydd ariannol darparwyr addysg drydyddol ag anghenion myfyrwyr, i fod yn faes ffocws y rhoddir sylw iddo ar frys o fewn Llywodraeth Cymru nesaf. Ond nid cynyddu ffioedd dysgu fel plastr glynu heb fesurau priodol, ehangach yw'r ateb, a dyna pam nad ydym yn mynd i gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Gweinidog am ddod â hwn gerbron heddiw.
Fel y mae pob un ohonom yn ei wybod, mae'r sector addysg uwch o dan bwysau ariannol difrifol, ac, yn amlwg, mae cynaliadwyedd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'n sefydliadau. Gyda'i gilydd, mae'r wyth prifysgol yn adrodd diffyg cyfanredol o tua £116 miliwn ar gyfer 2024-25. Felly, er bod y cap uwch arfaethedig hwnnw o £9,790 yn y rheoliadau hyn, rydym yn gwybod na fydd hyn, ar ei ben ei hun, yn datrys yr argyfwng cyllido sy'n wynebu ein prifysgolion yng Nghymru. Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn ymatal ar y rheoliadau hyn heddiw. Credwn fod angen ailfeddwl o ddifrif am y system yn ei chyfanrwydd, ac mae hynny'n ymrwymiad y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn mynd ati i'w gyflawni.
Mae angen i ni weld mwy o gynnydd o ran sicrhau bod ein prifysgolion yn gynaliadwy. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn darparu gwell gwerth i fyfyrwyr a phrifysgolion, o ran bod ein haddysg uwch yn ôl ar lwybr cynaliadwy. Ac rydym hefyd yn ymwybodol mai rhan arall o'r her sy'n wynebu'r sector yw cyfranogiad, rhywbeth nad yw cynnydd graddol mewn ffioedd yn mynd i'r afael ag ef. Rydym eisiau sicrhau bod hwn yn opsiwn i bawb, waeth beth fo'u cefndir, ac rydym yn gwybod bod gormod o fyfyrwyr yn gadael addysg bellach, gyda chyfraddau llog uchel—gan edrych ar hynny fel rhywbeth a fydd yn eu hatal rhag mynd i addysg uwch. Felly, mae yna rai camau ymarferol, uniongyrchol yr hoffem ddechrau gweithio arnyn nhw o'r diwrnod cyntaf yn y Llywodraeth. Rydym wedi cynnig gweithio'n drawsbleidiol ar nifer o'r pethau hyn, ond dyna pam y byddwn ni'n ymatal heddiw.
Y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Os ymatebaf, yn gyntaf oll, i sylwadau Mike Hedges yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dim ond i ailadrodd mai bwriad y rheoliadau hyn yw nodi'r terfynau ffioedd eu hunain, a bydd y rheoliadau ar wahân ar gyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol yn pennu sut y caiff y terfynau hynny eu cymhwyso. Fel y cyfryw, mae'r ddau offeryn yn gwasanaethu dibenion gwahanol. Nid yw'n hanfodol iddynt gael eu gosod ar yr un pryd, ond fe allaf, fodd bynnag, gadarnhau fy mod i'n bwriadu gwneud y rheoliadau cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol yfory.
I ymateb i bwyntiau Natasha Asghar, rwy'n credu, Natasha, eich bod chi, a phawb arall ar y pwyllgor addysg, yn gwybod mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd â phrinder graddedigion o hyd. Ac mae gan bob un ohonom yn y Siambr hon gyfrifoldeb i fod yn uniongyrchol iawn ac yn onest gyda myfyrwyr am werth cael gradd. A dydw i ddim yn credu bod eich ymgais i sgorio pwyntiau ar gyfer eich plaid yn ffitio i'r categori hwnnw. Ni fydd y cynnydd hwn mewn ffioedd yn lleihau'r arian sydd ar gael i fyfyrwyr wrth iddynt astudio; ni fydd graddedigion yn ad-dalu mwy bob mis ychwaith. Dim ond y graddedigion hynny fydd yn mynd ymlaen i ennill y cyflogau uchaf fydd yn debygol o dalu'r ffi uwch hon yn ôl, ac mae hwnnw'n bwynt ffeithiol pwysig iawn i'w nodi. Yn ogystal â hynny, gadewch i ni gofio y bydd y cap uwch hwn ar ffioedd dysgu yn darparu amcangyfrif o £19 miliwn o incwm ychwanegol i'n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Ac yna, gan droi at bwynt Heledd yn y fan yna, rydw i a fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn cytuno'n llwyr na fydd y cynnydd hwn mewn ffioedd dysgu yn datrys yr heriau ariannol sy'n wynebu ein sector addysg uwch ar ei ben ei hun. Dyna pam y sefydlais grŵp cynghori gweinidogol i edrych ar gyfranogiad a chynaliadwyedd y system drydyddol gyfan yn y dyfodol, gan gynnwys, wrth gwrs, ein prifysgolion. Mae'r alwad am gyflwyniadau ar gyfer hynny yn dal ar agor a bydd yn cau ddiwedd mis Mawrth, a bydd hwn wedyn yn ddarn mawr, cynhwysfawr iawn o waith, mwy cynhwysfawr nag unrhyw beth sydd wedi'i wneud yng ngweddill y DU hyd yma. Bydd hwnnw wedyn yn sail i'r cyngor a roddir i Lywodraeth newydd ynghylch sut i fynd i'r afael â'r materion ehangach hynny rydych chi'n cyfeirio atynt.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, mae gwrthwynebiad. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae eitem 11 wedi ei ohirio.
Eitem 12, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma—Jane Hutt.
Cynnig NDM9156 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Dioddefwyr a'r Llysoedd fel y'u nodir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn cyflwyno darpariaethau pwysig. Mae'n rhoi pwerau newydd i farnwyr orfodi troseddwyr i fynychu gwrandawiadau dedfrydu, gan sicrhau eu bod yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Gallai'r rhai sy'n gwrthod mynychu heb esgus rhesymol dderbyn cosbau ychwanegol, gan gynnwys hyd at ddwy flynedd o garchar. Mae hefyd yn cyfyngu cyfrifoldeb rhieni yn awtomatig ar gyfer unigolion a geir yn euog o drosedd ddifrifol o gam-drin plant yn rhywiol, mesur diogelwch hanfodol a fydd yn cryfhau amddiffyniadau i ddioddefwyr ac yn arbed mwy o drallod a thrawma i deuluoedd.
Mae'r Bil yn gwella rôl y comisiynydd dioddefwyr, gan ehangu'r gwaith o graffu ar sut mae dioddefwyr yn cael eu cefnogi a gwella atebolrwydd ar draws y system gyfiawnder. Mae'n sicrhau bod dioddefwyr yn glir ynghylch sut y gallant gael mynediad at wybodaeth sy'n ymwneud â rhyddhau troseddwr trwy ddiweddaru'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y cynllun cyswllt dioddefwyr, creu hawl statudol i wneud sylwadau ar amodau trwydded, a sefydlu llinell gymorth bwrpasol i ddioddefwyr.
Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn anfon neges glir bod yn rhaid i gyfiawnder fod yn weladwy ac yn ystyrlon a bod yn rhaid iddo ganolbwyntio ar brofiadau dioddefwyr, teuluoedd a chymunedau. Mae'r mesurau hyn yn cefnogi ein huchelgais yng Nghymru i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy gryfhau'r fframwaith cyfreithiol ynghylch profiadau ac amddiffyniadau dioddefwyr a goroeswyr.
Er bod y mwyafrif helaeth o'r Bil hwn wedi'i gadw yn ôl, mae yna ddarpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel yr amlinellir yn y memoranda. Y cymalau yr wyf yn cyfeirio atyn nhw heddiw yw'r rhifau cymalau fel y maent yn ymddangos yn y fersiwn ddiweddaraf o'r Bil, fel y'i cyhoeddwyd ar 28 Hydref 2025.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth y maent wedi'i rhoi i LCM Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a'r Llysoedd ac am yr adroddiadau y maent wedi'u cyhoeddi. Mae'r pwyllgor wedi cytuno â barn Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad ar gyfer cymalau 3, 4 a 9.
Mae cymal 3 yn creu cyfyngiad awtomatig ar arfer cyfrifoldeb rhiant ar gyfer troseddwyr sy'n cael eu dedfrydu i bedair blynedd neu fwy yn y carchar am drosedd ddifrifol sy'n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol. Mae cymal 4 yn gwneud darpariaeth debyg ar gyfer cyfyngu ar arfer cyfrifoldeb rhiant pan fo troseddwr yn ei gael yn euog o dreisio ac mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn a gafodd neu a allai fod wedi'i genhedlu o ganlyniad i'r achos hwnnw o dreisio. Mae cymal 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol, pan fyddant yn ymwneud â dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, gydweithredu â'r comisiynydd dioddefwyr lle y bo'n briodol ac yn rhesymol ymarferol.
Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i'r Bil fynd yn ei flaen trwy ei gamau seneddol olaf. Llywydd, gan gydnabod pwysigrwydd y Bil Dioddefwyr a'r Llysoedd a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ledled Cymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod dau adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn. Gosodwyd adroddiad cyntaf y pwyllgor fis Gorffennaf diwethaf. Roedd yr adroddiad hwn yn ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf. Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru yn y memorandwm bod cymal 7 o'r Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Nododd y pwyllgor hefyd yn yr adroddiad hwnnw fod gwaith rhynglywodraethol da wedi digwydd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r Bil.
Gwnaethom osod ein hail adroddiad, ar femorandwm Rhif 2, ym mis Ionawr. Ym memorandwm Rhif 2, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi bod gwelliant a wnaed i gymal 3 o'r Bil yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Cyffredin yn gofyn am gydsyniad. Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd, yn dilyn adolygiad o'r gwelliannau a gyflwynwyd, fod angen cydsyniad y Senedd ar ddarpariaethau eraill yng nghymal 3. Fel y dywed y pwyllgor yn ei adroddiad ar femorandwm Rhif 2, rydym yn cytuno â'r asesiad hwn.
Bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw, er ein bod ni yn parhau i gredu mai’r ffordd orau o gyflawni amcanion cyffredinol y Bil hwn yng Nghymru fyddai drwy ddatganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn, fel a gefnogir gan gyfoeth o dystiolaeth academaidd. Rydym yn gweld effaith y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, a fydd yn gwella cydweithio rhwng awdurdodau lleol a’r comisiynydd dioddefwyr ar achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn gam synhwyrol, rhesymol a chymesur, ac felly byddwn ni yn ei gefnogi.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb, os yw'n dymuno. Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 12 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 13 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynlluniau Pensiwn yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM9158 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Cynlluniau Pensiwn i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Cynlluniau Pensiwn, fel y nodir yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar y Bil hwn.
Fel rhan o ddiwygiadau ehangach i dirwedd pensiynau'r DU, bydd y Bil Cynlluniau Pensiwn yn galluogi diwygiadau i reoli buddsoddiadau yn y cynllun pensiwn llywodraeth leol. Y nod yw sicrhau buddiannau maint, gan gynnwys mwy o arbenigedd, gwell gwerth am arian a gwell gwydnwch. Dylai'r rhain fod o fudd i aelodau a chyflogwyr.
Mae'r cymalau y ceisir cydsyniad y Senedd ar eu cyfer drwy'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol yn darparu pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch sut mae'r wyth awdurdod gweinyddu pensiwn, sy'n awdurdodau datganoledig yng Nghymru, yn gweithredu mewn perthynas â'r cynllun pensiwn llywodraeth leol.
Mae'r diwygiad i gymal 4, a ystyrir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol pellach, yn rhoi swyddogaeth i Weinidogion Cymru fel awdurdod priodol o dan Ddeddf Caffael 2023. Diben y cymal yw sicrhau bod contractau rhwng yr awdurdodau sy'n gweinyddu'r cynllun pensiwn llywodraeth leol a chronfeydd asedau'r cynllun pensiwn llywodraeth leol i gynnal gweithgareddau rheoli buddsoddiadau yn cael eu trin fel rhai mewnol yn hytrach nag fel contractau cyhoeddus. Mae'n cynnwys pŵer i'r awdurdod priodol wneud rheoliadau ynghylch cyfrifo cyfran y gweithgarwch y dylid ei gyflawni ar gyfer, neu ar ran rheolwyr y cynllun pensiwn llywodraeth leol er mwyn i hyn fod yn berthnasol.
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am y gwaith craffu y maen nhw wedi'i wneud ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf. Yn anffodus, cafodd yr ail femorandwm ei osod yn rhy hwyr i wneud gwaith craffu tebyg ac ymddiheuraf i'r Aelodau am hynny. Rwy'n falch bod manteision un gronfa bensiwn i Gymru wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU wrth gadarnhau'r Bartneriaeth Pensiwn Cymru bresennol fel cronfa asedau pensiwn Cymru. Hoffwn ganmol y bartneriaeth, sydd wedi bod yn gweithio ers 2017 i ddod â'r manteision maint hynny i'r cynllun pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru.
Nod y Bil yw cryfhau buddsoddiad mewn pensiynau, gan sicrhau canlyniadau gwell a mwy o werth mewn cynlluniau pensiwn er budd Aelodau, a gofynnaf i'r Senedd gydsynio. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth nesaf, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn fis Tachwedd diwethaf. Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn cytuno â'r asesiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y memorandwm hwnnw o'r darpariaethau sy'n gofyn am gydsyniad.
Nododd ein hadroddiad hefyd y bydd y Bil yn galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU i uno dwy gronfa cynllun pensiwn llywodraeth leol neu fwy, gan gynnwys uno gorfodol. Gwnaethom dynnu sylw at y ffaith, pe bai cronfeydd yn cael eu huno yng Nghymru, y byddai hyn yn cael gwared ar swyddogaethau awdurdod Cymreig datganoledig.
Gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil hwn ddydd Iau, 12 Chwefror, ychydig cyn toriad hanner tymor y gwanwyn. Mae'r memorandwm hwn yn cwmpasu diwygiadau i'r Bil a gyflwynodd Llywodraeth y DU ar 1 Rhagfyr y llynedd. Felly, gosodwyd y memorandwm dros 10 wythnos ar ôl y dyddiad hwn. Ysgrifennydd Cabinet, byddwch yn gwybod bod Rheolau Sefydlog yn darparu cyfnod o bythefnos i femorandwm gael ei osod mewn achos fel yr un yma. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech esbonio pam fod cymaint o oedi wedi bod wrth osod y memorandwm atodol.
Oherwydd yr oedi hwn, nid oedd y pwyllgor yn gallu gwneud gwaith craffu ystyrlon ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol y tu hwnt i ystyriaeth fer yn ein cyfarfod ddoe. Fodd bynnag, wrth ei ystyried, cododd cwestiwn ynglŷn â chymal newydd a fewnosodwyd yn y Bil—cymal 3 o'r enw 'Pwerau ychwanegol ar gyfer rheolwyr cynlluniau penodol'. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn awgrymu ei fod yn cael ei grybwyll er gwybodaeth yn unig, ond nid oes cydsyniad wedi'i geisio amdano yn y memorandwm atodol hwn nac yn y memorandwm cychwynnol. O ganlyniad i hyn, a'r newidiadau i rifau'r cymalau, nid yw'n glir i'r pwyllgor pa gymalau o'r Bil sydd angen cydsyniad nawr, ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwn hefyd.
Mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gan y byddai’n rhoi gormod o reolaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol dros gronfeydd asedau pensiwn yng Nghymru.
Unwaith eto, mi welwn ni San Steffan yn mynd ati i ganoli grym, a’r Blaid Lafur yma yn barod i ganiatáu rhagor o ymyrryd yng ngrymoedd y Senedd hon. Ac er bod cronfeydd pensiwn galwedigaethol ar hyn o bryd yn fater a gedwir yn ôl, mae’r awdurdodau gweinyddu yng Nghymru—sef ein hawdurdodau lleol—yn gyrff datganoledig.
Mae’r memorandwm esboniadol yn nodi bod y Gweinidog dros Bensiynau wedi cadarnhau’n ysgrifenedig y bydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn parhau fel y pwll asedau ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, mae hyn i’w groesawu ac yn adlewyrchu’r hyn y buom ni yn galw amdano pan gyhoeddwyd bwriad polisi cychwynnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae’r Bil yn rhoi pwerau eang i Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig a’r rhai yn y dyfodol i wrthdroi’r drefn hon yn rhwydd.
Mae adran 1 yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddu dynnu allan o bwll asedau penodol, gan gynnwys Partneriaeth Pensiwn Cymru. Yn ogystal, mae adran 5 yn rhoi’r pŵer i orfodi uno cronfeydd pensiwn. Mae hyn yn codi pryderon sylweddol. Gallai Ysgrifennydd Gwladol yn y dyfodol, er enghraifft, uno cronfa bensiwn sir y Fflint â chynlluniau yn swydd Gaer neu Lerpwl, gan sianelu asedau pensiwn Cymru i fuddsoddiadau nad ydynt yn cynnig budd uniongyrchol i Gymru. Gallai cronfa bensiwn Caerdydd gael ei gorfodi i adael Partneriaeth Pensiwn Cymru ac ymuno â phwll asedau yn ne-orllewin Lloegr.
Er nad yw Partneriaeth Pensiwn Cymru yn berffaith—ac y byddai Plaid Cymru, pe baem ni'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, yn cyflwyno diwygiadau i gryfhau ei gallu i gefnogi buddsoddiadau cynaliadwy a chadw mwy o gyfoeth Cymru yn ein cymunedau—mae’r Bil hwn yn agor y drws i’w dymchwel. Nid oes unrhyw warantau y bydd asedau pensiwn Cymru, sef cyfoeth ein dinasyddion, yn parhau i gael eu rheoli yn unol â blaenoriaethau Cymru yn hytrach na blaenoriaethau San Steffan.
Mae agwedd ddiweddar Llywodraeth Lafur Cymru at gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn bryderus. Mae’n anodd credu y byddai’r Llywodraeth flaenorol yn San Steffan wedi cael cydsyniad mor hawdd i fesurau a fyddai’n rhoi cymaint o rym i Ysgrifennydd Gwladol dros gronfeydd pensiwn a weinyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i ni fod yn onest fan hyn: gyda’r posibilrwydd o Lywodraeth Reform UK yn 2029 ar lefel Brydeinig—plaid sy’n wrthwynebus i ddatganoli ac yn gwadu newid hinsawdd hyd yn oed—mae’r angen i warchod buddiannau Cymru yn hanfodol. Dyna pam y bydd Plaid Cymru felly’n gwrthwynebu. A dyna pam dwi hefyd yn annog pob Aelod arall yn y Senedd hon i wrthwynebu.
A gaf ddatgan buddiant, gan fod gennyf bensiwn bach gyda chronfa bensiwn Clwyd o'r adeg pan oeddwn i'n gynghorydd? Rwy'n bryderus iawn. Mae Richard Tice AS o Reform wedi cyhoeddi polisi a fydd yn cael effaith anghymesur a dinistriol yng Nghymru, gydag un o bob naw o weithwyr yng Nghymru yn cael eu heffeithio. Mae wedi datgelu cynlluniau i gael gwared ar bensiynau buddiannau diffiniedig ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol.
Mae tua 140,000 o bobl yn gweithio i gynghorau lleol, gan ddarparu gwasanaethau rheng flaen, hanfodol fel ysgolion, gofal cymdeithasol a chasglu sbwriel. Mae'n un o'n cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Nid yw'n weithlu chwyddedig, fel y mae Reform yn parhau i ddweud. Maen nhw wedi ad-drefnu, maen nhw wedi ailstrwythuro ac maen nhw dan bwysau ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau. Does dim braster ar ôl.
Rwy'n cofio, fel cynghorydd, pan oeddem yn cael trafferth llenwi swyddi gwag gweithredwyr gwastraff, byddai'n rhaid i ni ddefnyddio gweithwyr asiantaeth weithiau, nad oeddent bob amser yn ddibynadwy ac nad oedden nhw'n gwybod y ffordd, felly bydden nhw'n cymryd mwy o amser. Y peth mwyaf buddiol y gallen ni ei gynnig iddyn nhw, er mwyn annog cyflogaeth uniongyrchol, oedd y byddai gweithwyr yn cael pensiwn da. Felly, er nad yw'r cyflogau yn wych ac roedd yn rhaid iddynt gerdded 13 milltir ym mhob tywydd, gallent feddwl y byddent yn cael pensiwn eithaf da yn y tymor hir ac yn cael gwyliau eithaf da.
Yn ogystal â chael gwared ar bensiynau presennol gweithwyr cyngor, bydd Mr Tice hefyd yn amlinellu cynlluniau i ddileu cronfa bensiwn fwyaf erioed Cymru, sy'n hanfodol i yrru buddsoddiad lleol ledled Cymru. Mae Reform yn cynnig uno Partneriaeth Pensiwn Cymru a'i £25 biliwn o asedau i mewn i gronfa ledled y DU na fyddai'n canolbwyntio ar Gymru. Mae'r bartneriaeth eisoes yn cefnogi miloedd o swyddi a phrosiectau ledled Cymru, gan gynnwys tai ac ynni. Yn ddiweddar, cawsom ddeiseb i'n Pwyllgor Deisebau, yn gofyn am sicrwydd y bydd pensiynau Cymru yn parhau i gael eu buddsoddi mewn prosiectau moesegol yng Nghymru, a benderfynir gan Gymru. Cefais sicrwydd bryd hynny gan Weinidog pensiynau'r DU, Torsten Bell. Mae Cymru yn aelod o'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae angen mynediad arnom i'r cyfle buddsoddi gwerth £25 biliwn i adeiladu cartrefi boddhaol yng Nghymru. Dywedodd Torsten Bell, y Gweinidog pensiynau, y byddai'r cynlluniau hyn yn dod ag anhrefn i bensiynau dros 100,000 o weithwyr yng Nghymru. Byddai eu cynllun i ddiddymu'r gronfa bensiwn fwyaf yn hanes Cymru, a grëwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Lafur y DU, yn tanseilio buddsoddiad lleol ar draws ein hetholaethau yng Nghymru. Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi roi sylwadau ar hyn?
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb. Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn hefyd ddatgan buddiant fel cyn-weithiwr llywodraeth leol ac aelod o gynllun pensiwn llywodraeth leol.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau a'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Fel y dywedais i yn gynharach, rwyf yn difaru, oherwydd pwysau amser, nad oeddem yn gallu cael yr amser priodol ar gyfer y gwaith craffu priodol hwnnw trwy gydol y broses honno.
Ond nodaf fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi tynnu sylw yn ei adroddiad at y ffaith bod y Bil yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol uno cronfeydd pensiwn yn ddiweddarach pe bai am wneud hynny a, phe bai cronfeydd yn cael eu huno yng Nghymru, byddai hyn yn cael yr effaith o gael gwared ar swyddogaethau awdurdod datganoledig yng Nghymru.
Fel y dywedais i, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth cronfa bensiwn benodol i Gymru ac ysgrifennodd y Gweinidog dros ddatganoli Lloegr ar y pryd, cyn yr ymgynghoriad, i roi'r sicrwydd hwnnw. Nid oedd yn gweld bod angen i'r gronfa Gymreig uno â chronfeydd mwy yn Lloegr. Ac mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai unrhyw uno yn y dyfodol yn ymateb i ddiwygio llywodraeth leol yn Lloegr neu fethiannau llywodraethiant difrifol. Byddai angen cymeradwyo rheoliadau ac felly ymgynghori a chraffu.
Dywedodd y Gweinidog ar y pryd ei fod yn gweld y byddai un gronfa cynllun pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru yn un lle roedd gan y cronfeydd partner ddiddordeb cyffredin mewn buddsoddi yn economi Cymru, ac mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i sicrhau ei bod yn bodloni'r gofynion newydd mewn da bryd.
Dydw i ddim yn disgwyl i unrhyw gynnig uno cronfa Cymru â rhai eraill ac, yn yr achos annhebygol y bydd cynnig o'r fath, byddwn yn sicr yn ei wrthwynebu a byddwn yn disgwyl i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd hon wneud hynny. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi datblygu ac wedi dangos ei gwerth ers 2017, ac mae cronfa yng Nghymru yn golygu cronfa sydd â diddordeb cryf mewn optimeiddio buddsoddiad yn economi Cymru. Mae'n sicrhau bod modd canolbwyntio ar yr economi werdd ac ar brosiectau cynaliadwy lleol, gan gynnwys seilwaith. Dylai ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 nodedig fod yn sbarduno penderfyniadau cronfeydd pensiwn a chyrff cyhoeddus yn y modd hwn.
Yn dilyn pwyntiau Carolyn ynghylch pwysigrwydd y cynllun hwn, nodaf y byddai cynlluniau Reform yn atal newydd-ddyfodiaid i'r cynllun pensiwn ac yn uno cynllun pensiwn Cymru â chynllun pensiwn ledled y DU. Byddai hynny, fel y mae Carolyn wedi'i ddweud, yn tanseilio buddsoddiad lleol yn ein cymunedau. Mae'n dangos beth mae Reform yn ei feddwl am Gymru ac am weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chyn lleied y maen nhw'n eu gwerthfawrogi. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem—. [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.
Mewn union bryd.
Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 14 sydd nesaf. Y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yw'r cynnig yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n cyflwyno'r cynnig. Jeremy Miles.
Cynnig NDM9157 Jeremy Miles
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig:
a) Cymal 4(3A) (Voluntary Assisted Dying Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4, tudalen 2, llinell 29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b))
b) Cymal 40 (Guidance about operation of Act)
c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6) (Voluntary assisted dying services: Wales)
d) Cymal 47(3A) (Reporting on implementation of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784)
e) Cymal 49 (Monitoring by Commissioner) (i’w ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809)
f) Cymal 50(4) (Review of this Act) (i’w fewnosod gan Welliant 824)
g) Cymal 51(1), (2), (3), (5), (6) a (7) (Provision about the Welsh language)
h) Cymal 54(1), (2), (5), (6) (Regulations) (i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A)
i) Cymal 55(3) (Duty to consult before making regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A)
j) Cymal 58(5), (7), (8) (Commencement) (i’w ddiwygio gan Welliant 905A).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwyf am agor y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) drwy nodi’r hyn y gofynnir i Aelodau’r Senedd ei wneud heddiw.
Mewn ambell ffordd, dadl gonfensiynol am gynnig cydsyniad deddfwriaethol yw hon. Mae gofyn i ni ystyried a ydyn ni’n cydsynio i set o ddarpariaethau yn un o Filiau’r Deyrnas Unedig sy’n berthnasol i’n setliad datganoli ni. Yr hyn sydd yn wahanol, fodd bynnag, yw pwnc a natur y Bil. Bil Aelod preifat yw hwn, sydd wedi ei ddatblygu gan y noddwyr yn hytrach na chan y Llywodraeth. Ac mae’n ymwneud â phwnc eithriadol—marw â chymorth yn wirfoddol, pwnc y bydd gan bob un ohonom ni ein barn ein hunain amdano.
Ond dyw’r cynnig sydd ger ein bron ni heddiw ddim yn refferendwm ynglŷn â chyfreithloni marw gyda chymorth yng Nghymru. Dim ond Senedd y Deyrnas Unedig sy’n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw, gan ei fod yn ymwneud â newidiadau i ddeddfwriaeth lle mae cyfyngiad ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Mae’r ddadl a’r bleidlais hon yn ymwneud â'r darpariaethau penodol yn y Bil sy’n rhoi sylw i faterion datganoledig. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau sydd â’r bwriad o sicrhau bod y Senedd a Gweinidogion Cymru yn cael rôl ystyrlon wrth weithredu a chyflawni trefniadau marw â chymorth yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Bil hwn yn nodi eiliad gyfansoddiadol anarferol i Gymru. Mae'r darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer yn ystyried materion datganoledig. Nid yw hynny'n arwyddocaol ynddo'i hun. Ar yr un pryd, mae'n tynnu sylw at yr heriau gweithdrefnol unigryw sy'n codi pan fydd Bil Aelod preifat o'r maint hwn yn symud ymlaen heb reolaeth arferol y Llywodraeth dros ei amseru, ei gwmpas neu ei welliannau. Gall absenoldeb y cyfranogiad hwnnw greu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y trefniadau gweithredol, gan y gadewir llawer o hyn i is-ddeddfwriaeth, i'w gyflawni os caiff y Bil ei basio gan Senedd y Deyrnas Unedig. Nid cheir manylion yn y Bil hwn am sut y bydd marw â chymorth yn wirfoddol yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Mae'n heriol, felly, rhagweld yn union beth fydd perthynas trefniadau o'r fath â chyfraith a pholisi Cymru.
Mae pwnc y Bil hwn, y cyfrwng i'w gyflawni, a niwtraliaeth ddealladwy Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru gyda'i gilydd, yn llunio'r amgylchiadau eithriadol anarferol hyn. Er gwaethaf y materion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n adeiladol gyda'r noddwyr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth i'r Bil hwn symud ymlaen trwy Senedd y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, rydym ni wedi sicrhau diwygiadau pwysig sy'n cryfhau pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau, yn cryfhau dyletswyddau ymgynghori â Gweinidogion Cymru, yn diogelu hawliau'r Gymraeg, ac yn sicrhau bod canllawiau a threfniadau cychwyn yn adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig ac yn cefnogi craffu priodol yn y Senedd.
Mae noddwyr y Bil wedi bod yn gydweithredol iawn yn eu hagwedd at faterion datganoli, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Heb os, mae'r Bil wedi cael ei gryfhau'n sylweddol mewn perthynas â datganoli wrth iddo fynd rhagddo. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu craffu manwl ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae eu gwaith wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cynnig hwn.
Rydym ni wedi gallu adlewyrchu pryderon a godwyd gan bwyllgorau'r Senedd ac wedi sicrhau gwelliannau sy'n rhoi swyddogaeth ymgynghori ffurfiol i Weinidogion Cymru wrth benodi comisiynydd marw â chymorth yn wirfoddol ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud unrhyw reoliadau ar farw â chymorth yng Nghymru. Mae'n bwysig bod yn glir bod y gwelliannau hyn yn ymwneud â materion cyfansoddiadol a gweithrediad gwasanaethau marw â chymorth yng Nghymru. Nid ydyn nhw'n mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol ynghylch a ddylid cyfreithloni marw â chymorth.
Nid yw craffu seneddol ar y Bil hwn, fel y gwyddom ni, wedi'i gwblhau eto. Mae'n dal i gael ei ystyried ar Gyfnod y Pwyllgor gan Dŷ'r Arglwyddi. Hyd yn hyn, mae mwy na 1,000 o welliannau wedi'u cyflwyno. Mae cyfanswm o 14 diwrnod eistedd wedi'u trefnu, sy'n adlewyrchu manylder y craffu a'r ystyriaeth barhaus o welliannau, gan gynnwys y rhai sy'n ystyried materion datganoledig yng Nghymru ac sy'n destun yr LCM atodol diweddaraf, Rhif 4.
Felly, rydym ni mewn sefyllfa anarferol. Mae'n annhebygol y bydd ystyriaeth seneddol o'r Bil yn cael ei gwblhau cyn diddymu'r Senedd hon. Ein hasesiad gorau, o ystyried y cyflymder presennol o gynnydd yn y Senedd, yw bod gwelliannau sy'n gofyn am femoranda cydsyniad deddfwriaethol pellach yn annhebygol cyn diwedd y tymor hwn yn y Senedd. Os, er gwaethaf yr asesiad hwnnw, mae'r sefyllfa yn newid, yna, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r memoranda perthnasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd safbwynt niwtral tuag at farw â chymorth, a bydd pleidlais rydd heddiw i Aelodau Llafur ar y cynnig hwn ac ar y gwelliannau i'r cynnig a gynigiwyd gan Heledd Fychan. Rydym ni wedi bod yn gyson yn ein dull gweithredu drwy'r amser wrth geisio sicrhau bod gan Gymru bwerau, mesurau diogelu neu fecanweithiau goruchwylio priodol pe bai'r ddeddfwriaeth yn pasio. Bydd yr Aelodau, rwy'n gwybod, yn dymuno bod yn glir ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd pe bai'r Senedd yn gwrthod cydsyniad heddiw. Mae noddwyr y Bil wedi cadarnhau, o dan yr amgylchiadau hynny, y byddent yn ceisio tynnu cymal 42 o'r Bil. Byddai hynny'n golygu y byddai'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn newid i ganiatáu marw â chymorth, ond ni fyddai unrhyw bwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru weithredu gwasanaethau marw â chymorth yng Nghymru neu i oruchwylio neu reoleiddio gwasanaethau o'r fath.
Bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn gofyn a yw hyn yn rhywbeth y gallai'r Senedd geisio mynd i'r afael ag ef drwy ddeddfwriaeth Cymru yn unig. Wrth gwrs, mae gan Gymru gymhwysedd datganoledig mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd. O dan yr amgylchiadau hynny, byddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru a'r Senedd yn y dyfodol ystyried deddfu mewn rhyw ffurf drwy Fil Cymru yn unig. Fodd bynnag, nid yw'n siŵr a allai Bil Cymru yn unig, ar ei ben ei hun, ddarparu fframwaith deddfwriaethol cynhwysfawr a chydlynol ar gyfer gwasanaethau marw â chymorth. Mae hynny'n dibynnu ar ffurf derfynol y Bil fel y'i pasiwyd gan y Senedd ac ar fodelau gweithredol nad ydyn nhw wedi'u datblygu'n llawn eto.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth mewn meysydd sy'n ymwneud â materion a gedwir yn ôl. Am y rheswm hwnnw, byddai ceisio ailadrodd yn gydlynol yr union ddarpariaethau sy'n ddarostyngedig i'r LCM mewn Bil Cymru yn unig yn y dyfodol yn anodd. Er enghraifft, ni allai Bil Senedd yn unig yn y dyfodol wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau yng Nghymru mewn perthynas ag ymchwiliadau crwnerol. Byddai darpariaethau eraill yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron. Er na fyddai'n cyflawni darpariaethau'r LCM presennol, mae'n bosibl y gallai Bil y Senedd yn y dyfodol ddarparu darpariaethau gwahanol ac efallai mwy cyfyngedig i Gymru.
Llywydd, beth bynnag yw ein barn bersonol am yr egwyddor o farw â chymorth, mae'r ddadl ar yr LCM heddiw yn bleidlais ar y darpariaethau hynny yn y Bil sy'n ystyried materion datganoledig ac sy'n rhoi pwerau i Weinidogion wrth weithredu a chyflawni marw â chymorth yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at y ddadl.
Dwi wedi derbyn a dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Mae'r rhain i'w cyflwyno gan Mabon ap Gwynfor.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru gael pwerau llawn i ddewis deddfu neu beidio ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu gwasanaethau marw â chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, Senedd y DU a hyrwyddwyr y Bil i gynnwys darpariaeth yn y Bil i ddileu'r mater a gedwir yn ôl ynghylch y gyfraith droseddol ar hunanladdiad ym mharagraff 199 yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.
Diolch, Llywydd. Waeth beth yw fy marn bersonol i ar egwyddorion a moesoldeb y Bil sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy Senedd y Deyrnas Gyfunol, nid dyna ydy testun y bleidlais heddiw. Nid yw'n ymwneud â phenderfynu a yw cymorth i farw yn gywir neu'n anghywir. Mae'n ymwneud â sut y byddai'r polisi hwn, pe bai'n dod yn gyfraith, yn cael ei lunio yng Nghymru, a sut y byddai'n gweithredu o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig ni.
Mae'r gwahaniaeth hwnnw yn hanfodol. Nid pleidlais ar egwyddorion y Bil ydy hon, nac yn gymeradwyaeth na gwrthodiad ohonyn nhw. Ac eto, yn anffodus, y tu allan i'r Siambr yma, mae'n cael ei bortreadu fel pe baem ni'n penderfynu ar y cwestiwn moesol ei hun. Mae'n siomedig ein bod ni wedi cyrraedd sefyllfa lle gall cynnig cydsyniad deddfwriaethol hynod o gul gael ei ddehongli fel cydsyniad i'r Bil cyfan. Nid dyna ydy diben y bleidlais yma. Nid yw'n penderfynu a fydd cymorth i farw yn gyfreithlon. Yr hyn y mae'n ei wneud ydy ystyried sut y mae darpariaethau mewn Bil sy'n dal i esblygu yn rhyngweithio â phwerau datganoledig Cymru.
Ond hyd yn oed ar y cwestiwn cul hwnnw, fe ofynnir i ni symud ymlaen heb eglurder. Nid yw'r Bil wedi cwblhau ei daith drwy Dŷ'r Arglwyddi eto. Mae dros 1,000 o welliannau wedi'u cyflwyno, gyda chanran uchel dal heb gael eu trafod. Gallai nifer ohonyn nhw newid yn sylweddol y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth yn rhyngweithio â chyfrifoldebau datganoledig Cymru. Ac eto, dim ond nifer fechan iawn o'r gwelliannau hynny sy'n cael eu hadlewyrchu yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.
Yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd asesiad cynhwysfawr o effaith y mwyafrif o'r gwelliannau yma ar Gymru. Gallai hyd yn oed y gwelliannau a grybwyllir yn y cydsyniad yma eto newid cyn i'r Bil gael ei gwblhau. Felly, gofynnir i ni roi cydsyniad heb wybod beth fydd siâp terfynol y ddeddfwriaeth. Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn y tywyllwch.
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ill dau wedi tynnu sylw at y safbwynt cul y mae'r Bil wedi'i ystyried drwyddo. Nid mesur bychan mohono. Mae'n ymwneud â gofal iechyd yn ei ystyr ehangaf. Mae'n cyffwrdd â llywodraethu clinigol, trefniadau diogelu, goruchwyliaeth reoleiddiol, capasiti'r gweithlu, trefniadau comisiynu, pwysau ariannol a strwythur gwasanaethau gofal diwedd oes.
Mae ynysu dim ond llond llaw o gymalau yn hytrach nag archwilio'r Bil yn ei gyfanrwydd yn tanseilio ei effaith ar gyfrifoldebau datganoledig. Nid yw'r Senedd yn cael y cyfle i ystyried y goblygiadau hynny'n iawn. Nid dyna sut y dylai cydsyniad deddfwriaethol ystyrlon weithredu. Mae'n bryderus hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hasesiad cyfreithiol o sut mae'r Bil yn rhyngweithio â chymhwysedd datganoledig, gan nodi braint broffesiynol gyfreithiol. Gofynnir i aelodau ddod i ddyfarniad cyfansoddiadol heb olwg llawn ar y dadansoddiad hwnnw.
Ac mae yna, wrth gwrs, fater dyfnach. Mae'r Bil yn deddfu mewn maes hollol ddatganoledig—gofal iechyd. Bydd yn llywio sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a sut mae mesurau diogelu a rheoleiddio yn gweithredu o fewn ein system. Ond nid yw Cymru wedi cael ei thrin fel partner cyfartal wrth lunio'r fframwaith hwnnw. Mae'r goblygiadau i'n setliad wedi cael sylw yn gyffredinol ac yn hwyr. Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno ein gwelliannau a pham rydyn ni'n ceisio eich cefnogaeth iddyn nhw heno.
Os gall deddfwriaeth o'r maint hwn, sy'n delio ag un o'r meysydd mwyaf dwys o bolisi gofal iechyd y gellir ei ddychmygu, fynd ymlaen yn y modd hwn, mae'n datgelu gwendid yn ein setliad presennol. Dylai Cymru fod â'r un eglurder cymhwysedd â'r Alban a Gogledd Iwerddon yn y maes hwn. Pan fydd polisi yn ymwneud â maes hollol ddatganoledig, ni ddylai'r Senedd hon ymateb i benderfyniadau a wneir mewn mannau eraill, dylai fod â'r awdurdod i benderfynu ar ei dull ei hun yn unol ag ewyllys ddemocrataidd ei phobl.
I'r rhai sy'n cefnogi egwyddor y Bil, rwy'n dweud hyn: os ydych chi'n credu y dylai marw â chymorth fod yn gyfreithlon, rhaid deddfu'n briodol ar hynny. Mae hyn yn ymwneud ag un o'r penderfyniadau mwyaf pellgyrhaeddol y gall rhywun fyth ei wneud. Mae'n gofyn am ddiogelwch, eglurder a chyfreithlondeb democrataidd o'r radd flaenaf. Fel y mae pethau, nid ydym ni'n gwybod ffurf derfynol y Bil, ond gofynnir i ni gydsynio iddo. Nid yw hynny'n ymwneud â chodi rhwystrau er mwyn eu hunain, mae hynny oherwydd bod y mater mor ddyrys bod yn rhaid ei wneud yn ofalus ac yn dryloyw, gan ystyried cyfrifoldebau Cymru.
Yn olaf, beth bynnag yw tynged y Bil hwn yn San Steffan, mae un cyfrifoldeb yn amlwg yn gorwedd gyda ni yma yng Nghymru, ac mae angen brys i gryfhau gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae hynny o fewn ein cymhwysedd. Mae'n gofyn am gytundeb trawsbleidiol, ac ni ddylai'r ddadl hon daflu cysgod drosto. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peter Fox.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ystyried ac adrodd ar y tri memoranda cyntaf ar gyfer y Bil hwn. Yn yr amser sydd ar gael, nid ydym ni wedi gallu ystyried y pedwerydd. Gadewch i mi ddechrau trwy ddweud, er bod pwnc yr LCMs deddfwriaethol hyn yn emosiynol iawn, mae'r pwyllgor ei hun yn cymryd safbwynt niwtral ar y mater o farw â chymorth yn wirfoddol i oedolion terfynol wael. Ein gwaith ni yw ystyried y darpariaethau yn y gwahanol LCMs. Rydym ni wedi gwneud hyn ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Ymhlith yr argymhellion hyn mae galwad i'r Ysgrifennydd Cabinet nodi pam ei fod wedi dewis cymryd agwedd gul at y cwestiwn o gydsyniad gyda'r Bil hwn. Fel y gwyddom ni, mae'r Bil yn ceisio galluogi oedolion sy'n derfynol wael i gael cymorth cyfreithlon i roi terfyn ar eu bywyd eu hunain. Mae'r Bil yn cyflawni hyn drwy ddiwygio Deddf Hunanladdiad 1961, sy'n gyfyngedig o dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi datgan yn flaenorol, er bod iechyd yn faes datganoledig ar y cyfan, asesiad Llywodraeth Cymru yw mai dim ond nifer cyfyngedig o gymalau yn y Bil sy'n ystyried materion datganoledig ac felly mae angen cydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, bydd darpariaethau craidd y Bil yn cael eu cyflwyno mewn lleoliad meddygol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r nod penodol o leddfu poen a dioddefaint. Fel y cyfryw, credwn y gellid ystyried yn rhesymol eu bod yn ystyried y mater helaeth o iechyd. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull ehangach o gydsynio, credwn y gellid ystyried bod mwyafrif y cymalau yn y Bil wedi bod yn gofyn am gydsyniad y Senedd.
Mae penderfyniad yr Ysgrifennydd Cabinet i fabwysiadu dull cul o gydsynio, fodd bynnag, wedi golygu bod cyfranogiad y Senedd mewn penderfyniad o bwysigrwydd cyhoeddus sylweddol mewn maes datganoledig helaeth wedi bod yn fwy cyfyngedig nag y gallasai fod fel arall. O ystyried arwyddocâd y pwnc a chryfder y dadleuon o fudd y cyhoedd, credwn y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet roi mwy o wybodaeth i'r parth cyhoeddus am ei benderfyniad a pham y dewisodd beidio â chymryd agwedd ehangach at y cwestiwn o gydsyniad, a allai fod wedi galluogi'r Senedd i gael mwy o ran.
Yn ein hadroddiad ar y ddau memoranda cyntaf, fe wnaethom ni sylwadau ar nifer o faterion polisi, gan gynnwys goblygiadau gweithredu'r Bil yng Nghymru ar y gweithlu; yr angen am ddarparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg ac i bobl nad Saesneg na Chymraeg yw eu hiaith gyntaf; a threfniadau ar gyfer monitro'r Ddeddf gan y comisiynydd marw â chymorth yn wirfoddol. Ar y pwynt olaf hwn, nodaf y gwelliant a restrir ym memorandwm 4, a geisiwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhelliad gan y pwyllgor iechyd, y dylai'r Prif Weinidog ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penodi comisiynydd.
Tynnodd ein hadroddiad sylw hefyd at oblygiadau sylweddol dull trawsffiniol cymesur, pe bai gwasanaethau marw â chymorth ar gael yn y dyfodol drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, ond nid yng Nghymru, a'r ansicrwydd a'r annhegwch y byddai cleifion yn eu hwynebu mewn sefyllfa o'r fath, yn ogystal â'r heriau gweithredol i weithwyr iechyd proffesiynol. Fe wnaethom ni hefyd gyffwrdd yn fyr â gofal lliniarol a diwedd oes. Fel pwyllgor, roeddem ni'n pryderu am effaith hirdymor bosibl y Bil ar ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru. Rydym yn teimlo, pe bai darpariaethau'r Bil yn cael eu gweithredu yng Nghymru, bod yn rhaid gwahaniaethu'n glir a phendant rhwng marw â chymorth a gofal lliniarol diwedd oes. Yn hollbwysig, credwn na ddylai unrhyw weithrediad o wasanaethau marw â chymorth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn y dyfodol effeithio'n negyddol ar gyllid ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes.
Fe hoffwn i gloi fy nghyfraniad drwy atgoffa nad yw'r ddadl heddiw yn ymwneud â'r egwyddor o farw â chymorth i oedolion terfynol wael yng Nghymru. Mae'n ymwneud ag a yw'r Senedd yn cydsynio i Weinidogion Cymru gael y pwerau i ddarparu ar gyfer gwasanaethau marw â chymorth yn wirfoddol yng Nghymru drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fel ar ryw adeg yn y dyfodol. Ni fydd penderfyniad gan y Senedd heddiw i gydsynio i'r memoranda hyn o reidrwydd yn arwain at wasanaethau marw â chymorth fod ar gael drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Byddai hynny'n dibynnu ar y Bil ei hun yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ac ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dewis cyflwyno rheoliadau. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf—Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y ddau femorandwm cyntaf ym mis Hydref 2025 a chyflwynodd ei ail adroddiad ar femorandwm rhif 3 ddiwedd y mis diwethaf. Cyflwynwyd memorandwm rhif 4 yr wythnos diwethaf, yn ystod yr egwyl. Felly, nid ydym wedi cael amser i'w ystyried yn fanwl ac adrodd arno.
Ar y dechrau, mae'n bwysig cofio bod y ddadl heddiw yn ymwneud ag a yw'r Senedd yn cydsynio ai peidio â chymalau'r Bil sydd wedi'u rhestru yn y cynnig. Fel y mae ein hail adroddiad yn tynnu sylw ato, mae'r memorandwm yn ymdrin â materion cymhleth. O ganlyniad, gwnaeth ail adroddiad y pwyllgor 13 o argymhellion, gan gynnwys rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o egluro beth fydd canlyniad pleidlais ar y cynnig hwn yn ei olygu i'r potensial ar gyfer gwasanaethau marw â chymorth yng Nghymru, drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thrwy ddarparwyr nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb i'n hadroddiad yn brydlon, gan alluogi cyhoeddi'r ymateb hwnnw ymhell cyn y ddadl heddiw. Tynnaf sylw'r Senedd at yr ymateb hwnnw a'r wybodaeth sydd ynddo.
Fe hoffwn i dynnu sylw at ambell beth. Mae'r pwyllgor o'r farn bod y mwyafrif o'r cymalau yn y Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd ar y sail eu bod yn ystyried y mater datganoledig o iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno, ond, i gymhlethu pethau, mae wedi dweud wrthym ni na all esbonio pam mae hyn yn wir heb hepgor braint gyfreithiol a phroffesiynol. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y ddadl honno mewn perthynas â'r 185 memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol arall, sy'n cwmpasu 71 Bil Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'u hystyried yn y chwe Senedd. Yn ein hail adroddiad, fe wnaethom ni felly ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio rhesymeg Llywodraeth Cymru dros yr anghysondeb hwn yn y dull gweithredu. Yn anffodus, nid oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw; ar bwynt mor bwysig, mae hynny'n siomedig.
Fe ofynnon ni hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam mai dim ond pum gwelliant a ddewisodd Llywodraeth Cymru o'r 1,159 a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi i'w cynnwys ym memorandwm Rhif 3. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi mabwysiadu agwedd bragmatig at baratoi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. O ganlyniad, mae'n dweud nad yw wedi bod yn ymarferol nac yn gymesur i gynnal dadansoddiad llawn o'r holl welliannau a gyflwynwyd, ac felly mae wedi canolbwyntio ei asesiad manwl ar welliannau arfaethedig noddwr y Bil yn unig. Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet, pe bai Tŷ'r Arglwyddi yn cytuno ar unrhyw un o'r 1,154 o welliannau eraill, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach mewn perthynas â'r gwelliannau hynny, os yw Llywodraeth Cymru o'r farn eu bod yn ystyried materion datganoledig. Fodd bynnag, tynnodd yr Ysgrifennydd Cabinet sylw hefyd yn ei ymateb mai, yn y pen draw, mater i Senedd y Deyrnas Unedig yw penderfynu a ddylid deddfu, ni waeth i ba agweddau y cydsyniwyd.
I gloi, fe hoffwn i dynnu sylw at un pwynt arall, y crybwyllais ag ef yn gynharach. Drwy argymhellion 10, 11 a 12 o'n hail adroddiad, rydym yn ceisio deall dau fater penodol: yn gyntaf, beth fyddai'r goblygiadau ar gyfer marw â chymorth yng Nghymru pe bai'r Senedd yn cydsynio i'r cymalau a restrir yn y cynnig, ac, yn ail, beth fyddai'r goblygiadau pe bai'r Senedd yn gwrthod cydsynio i'r cymalau hynny. Yn benodol, roeddem ni'n ceisio deall beth fyddai'r goblygiadau yng nghyd-destun gwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd. Fel rhan o'i ymateb i oblygiadau'r Senedd yn gwrthod cydsynio, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y gallai darparwyr annibynnol gwasanaethau nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd gael eu sefydlu yng Nghymru o hyd oherwydd y newid yn y gyfraith droseddol yn dilyn dechrau darpariaethau eraill yn y Ddeddf. Byddai'n help pe bai 'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu egluro'r pwynt hwn, sef beth fyddai'n digwydd pe bai'r Senedd yn pleidleisio i beidio â chydsynio i'r cymalau yn y cynnig heddiw a'u bod yn cael eu tynnu o'r Bil o ganlyniad? Ai'r canlyniad ymarferol fyddai na fyddi gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer gwasanaethau marw â chymorth yn wirfoddol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond byddai gwasanaethau nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd ar gyfer marw â chymorth yn dal i gael eu darparu'n gyfreithlon yng Nghymru?
Rwy'n codi heddiw i siarad yn erbyn y cynnig hwn. Rwy'n gwybod bod rhai sylwadau wedi'u gwneud gyda bwriadau da iawn, yn ceisio datgysylltu trafodaethau ar egwyddor y Bil hwn gyda'r drafodaeth ar y cymalau penodol sydd o'n blaenau, ond rwy'n ofni ei bod hi'n amhosibl datgysylltu'r ddau yn llwyr, oherwydd nid dadl am y cymalau penodol hynny yn unig yw hon, mae'n ddadl mewn gwirionedd am werthoedd sylfaenol, rwy'n credu, ein cenedl ac ystyr tosturi.
Nawr, gadewch i ni fod yn onest am y dasg sydd o'n blaenau. Er bod y term 'marw â chymorth' yn cael ei ddefnyddio gan lawer i feddalu'r realiti, rydym ni mewn gwirionedd yn siarad am hunanladdiad â chymorth. Iaith yw'r lens a welwn ni foesoldeb drwyddo, a thrwy ddiheintio'r eirfa, rwy'n credu ein bod yn peryglu cuddio gwir ddifrifoldeb yr egwyddor y mae'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth yn ei chefnogi. A'r egwyddor honno yn ddarpariaeth gyda chefnogaeth y wladwriaeth o ddulliau marwol i ddinesydd ddod â'u bywyd i ben.
Nawr, fel y gŵyr llawer ohonoch chi, mae fy ngolwg ar y byd wedi'i wreiddio gan fy ffydd Gristnogol, ac rwy'n credu bod pob bywyd dynol yn rhodd sydd ag urddas cynhenid nad yw'n lleihau gyda salwch, anabledd neu oedran. Sancteiddrwydd bywyd yw conglfaen ein holl foesoldeb meddygol, ac felly y bu hi ers amser maith. Ac fel mater o gydwybod, felly, ni allaf gefnogi fframwaith sy'n trin rhai bywydau fel llai teilwng o amddiffyniad nag eraill. Nid wyf ar fy mhen fy hun yn yr argyhoeddiad hwn. Dim ond y mis hwn, cyhoeddwyd datganiad hanesyddol ar y cyd gan arweinwyr ffydd ledled Cymru sy'n cynrychioli'r cymunedau Cristnogol, Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵaidd a Sikh. Ac maen nhw wedi siarad gydag un llais i rybuddio am oblygiadau difrifol iawn posib y gyfraith hon ar bobl agored i niwed.
Ond nid y gymuned grefyddol a phobl ffydd yn unig sy'n codi pryderon. Rhaid i ni hefyd wrando ar yr union bobl y byddem yn gofyn iddyn nhw gyflawni'r weithred hon - ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r Gymdeithas Feddygaeth Liniarol, sy'n cynrychioli'r rhai sy'n gofalu am y rhai sy'n marw bob dydd, yn parhau i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon, fel ag y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Maen nhw wedi cynnal safbwynt o wrthwynebiad, gan nodi'r risg annerbyniol i'r berthynas rhwng y meddyg a'r claf. Ac yna mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Maen nhw wedi codi pryderon am ddiffyg mesurau diogelu i'r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael. Nawr, pan fydd yr arbenigwyr mewn iechyd a gofal diwedd oes yn dweud wrthym ni y bydd hyn yn niweidio'r ymddiriedaeth rhwng clinigydd a chlaf yn sylfaenol, mae'n ddyletswydd arnom ni i wrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
Ac mae yna, Llywydd, broblem gyfansoddiadol ddofn gyda'r cynnig hwn, fel y trafodwyd eisoes gan Mabon ap Gwynfor, oherwydd gofynnir i ni roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n dal i symud trwy Senedd y Deyrnas Unedig. Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi, mae dros 1,000 o welliannau sy'n dal i gael eu hystyried, ac ni allaf helpu ond teimlo bod gofyn i ni lofnodi siec wag i bob pwrpas. Sut gall y Senedd hon graffu'n iawn ar yr effaith ar ein holl wasanaethau a swyddogaethau iechyd datganoledig pan na wyddys yn iawn eto beth fydd fersiwn derfynol y mesurau diogelu, neu eu diffyg? Felly, rwy'n gryf o'r farn y byddai cydsynio nawr yn ymwrthod â'n cyfrifoldeb i bobl Cymru, sy'n disgwyl yn briodol y dylai'r Senedd hon allu trafod materion yn llawn wybod am eu goblygiadau i Gymru.
Nawr, gan droi at y mesurau diogelu yn y fersiwn gyfredol o'r Bil, addawyd i ddechrau amddiffyniad yr Uchel Lys, lle byddai'n ofynnol i farnwr lofnodi pob cais am farwolaeth â chymorth. Mae'r diogelwch hwnnw bellach wedi'i ddileu'n llwyr. Ac un mater na all unrhyw ddiogelwch fynd i'r afael ag ef yw rheolaeth orfodol. Un o'r prif fygythiadau sy'n gysylltiedig â chyfreithiau hunanladdiad â chymorth yw'r perygl y bydd pobl sy'n byw mewn sefyllfaoedd o gam-drin yn cael eu gorfodi i ddod â'u bywydau i ben. Ac rwy'n credu bod hynny'n ddiffyg peryglus iawn, iawn.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, byddaf yn hapus i ildio.
Rwy'n deall y feirniadaeth sydd gan yr Aelod o'r Bil, ond nid oes gan y bleidlais heno unrhyw beth i'w wneud â dim o hynny. Ac os yw'r Senedd hon yn gwrthod cydsynio, y cyfan a wnaiff hynny yw ei gwneud hi'n anoddach dylunio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd feddylgar. Felly, mae'n ceisio gwneud pwynt ehangach, ond byddai manylion yr hyn y bydd yn ei gyflawni trwy hynny yn achosi anhawster. Beth fyddai hynny'n ei gyflawni?
Rwy'n credu, os yw'r Senedd hon yn dymuno deddfu ar y materion hyn yn y dyfodol, yna mae angen iddi allu gwneud hynny gyda'r wybodaeth lawn o'i blaen, gan wybod yn llawn beth mae'r Bil yn ei gyfanrwydd yn ei ddweud mewn gwirionedd, yn fanwl, fel y gallwn ni graffu'n iawn arno. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Rydych chi newydd glywed Cadeiryddion dau bwyllgor yn dweud wrthym ni nad yw'r Bil hwn wedi bod yn destun craffu priodol, hyd yn oed y cymalau sydd o'n blaenau y prynhawn yma. Felly, gallai clinigwyr sy'n ymwneud â llofnodi ceisiadau am hunanladdiad â chymorth yn hawdd golli hanes o gam-drin domestig neu orfodaeth hirdymor, ac nid wyf yn credu bod hon yn gyfraith gadarn, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei hesgeuluso o ran ei drafftio.
Ac mae'n rhaid i ni hefyd fynd i'r afael â realiti economaidd-gymdeithasol iasol y Bil hwn. Yng Nghymru, rydym ni'n gyfarwydd iawn â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Mae'n rhywbeth rydym ni wedi'i thrafod ar sawl achlysur yn y Senedd hon, sef yr egwyddor bod y rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal iechyd yn aml y lleiaf tebygol o gael hynny. A phe cai hunanladdiad â chymorth ei gyfreithloni, yna mae yna beryg y gwelwn ni ailadrodd brawychus y ddeddf hon. Mae data o wledydd eraill yn dangos yn glir y ffaith bod y rhai mewn cymunedau tlotach, mwy ymylol sydd efallai heb fynediad at ofal lliniarol o ansawdd uchel yn fwy tebygol o geisio dod â'u bywydau i ben. A phan fo gofal o ansawdd uchel yn foethusrwydd ar ddiwedd oes, ond mae hunanladdiad wedi'i hwyluso gan y wladwriaeth yn rhad ac am ddim, nid yw'r dewis i berson mewn tlodi yn ddewis, mae'n bwysau cymdeithasol. Does arnaf i ddim eisiau i bobl gael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae'r dewis i farw mewn gwirionedd yn dod yn ddyletswydd i farw i'r rhai sy'n teimlo eu bod yn faich ariannol.
Felly, i gloi, blaenoriaeth y wladwriaeth, yn fy marn i, ddylai fod i gefnogi pobl ar ddiwedd eu hoes, i leddfu dioddefaint, nid eu helpu i gyflawni hunanladdiad. Rydym ni'n wynebu dewis yn y Senedd hon ynghylch sut rydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus. Mae hosbisau yng Nghymru yng nghanol argyfwng ariannu, ac rwy'n credu y dylem ni ddefnyddio arian trethdalwyr i sicrhau bod cymaint o bobl yng Nghymru â phosibl yn cael mynediad at y gofal lliniarol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu, gan gadarnhau eu hurddas, urddas pob person yn y wlad hon, hyd at eu hanadl naturiol olaf. Felly, er mwyn y bregus, er mwyn uniondeb ein proffesiwn meddygol, ac o barch at sancteiddrwydd bywyd dynol, rwy'n annog Aelodau i wrthod cydsynio i'r Bil diffygiol, peryglus ac anghyflawn hwn.
Mae hon yn ddadl lle rwy'n gwybod yr effeithir ar bawb gan dosturi. Mae'r awydd i beidio â gweld rhywun maen nhw'n ei garu yn dioddef yn rhywbeth na all neb anghytuno ag ef. Fy nadl i, fodd bynnag, yw bod yn rhaid i ni hefyd feddwl am y bobl hynny nad ydyn nhw wedi'u hamgylchynu gan gariad—pobl anabl, y rhai mewn sefyllfaoedd bregus, pobl sy'n dlawd neu'n unig neu'n cael eu cam-drin a allai deimlo eu bod o dan bwysau i roi terfyn ar eu bywyd, nid i fod yn faich. Nid codi bwganod mo hynny. Mae'n adlewyrchiad o'r realiti a welir ym mhob awdurdodaeth yn y byd lle mae marw â chymorth wedi'i gyfreithloni. Mae pobl sy'n agored i niwed wedi teimlo ac wedi dod yn llai diogel, gyda llai o sicrwydd iddyn nhw, a llai o werthfawrogiad.
Mae problemau penodol gyda'r Bil hwn. Nid yw wedi'i gynllunio ar gyfer Cymru. Fe gawn ni ein trin fel ychwanegiad i Fil Aelod preifat yn San Steffan. Rydym yn cael ein bygwth gyda'r senario os byddwn yn pleidleisio 'na', bydd pobl ond yn gallu cael mynediad at farw â chymorth yn breifat yng Nghymru. Nid yw hynny'n wir. Byddai pedair blynedd pan allai Gymru ddeddfu, pe bai'n dewis, a chreu system decach sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd. Cafodd ymdrechion i roi feto i Gymru yn y Bil hwn eu dileu gan Dŷ'r Cyffredin, gan ein gadael yn y sefyllfa hon lle gofynnir i ni gydsynio i rywbeth pan nad oes gennym ni syniad sut olwg fydd ar y Bil terfynol—fel deddfu gyda gorchudd dros ein llygaid a gefynnau ar ein dwylo. Nid yw hyn yn ffordd o drin Senedd. Nid yw hyn yn ffordd o drin cenedl.
Ac nid yw'r Bil hwn yn ffordd o drin pobl agored i niwed. Mae yna reswm pam mae cymaint o feddygon gofal lliniarol yn ei erbyn, pam mae'r colegau brenhinol meddygon a seiciatryddion wedi dweud na allan nhw ei gefnogi, pam mae Marie Curie a Hospice UK wedi mynegi pryder: oherwydd y baich y byddai'n ei roi ar feddygon a fyddai'n cael eu gorfodi—eu gorfodi—i gynnig marw â chymorth i unrhyw un pan fyddant yn cael diagnosis terfynol a allai fod yn derfynol. Hynny yw, pan fydd claf fwyaf agored i niwed, yn hytrach na chynnig gobaith, bydd meddygon yn cael eu gorfodi i gynnig hyn fel dewis. Mae'n greulon a bydd yn arwain at bobl yn teimlo y byddai'n hunanol parhau oherwydd costau uchel eu gofal. Mae meddygon gofal lliniarol wedi dweud wrtha i fod llawer o gleifion maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw wedi mynd trwy gyfnod bryd hynny yn y diagnosis o eisiau i bopeth ddod i ben, ond bod bron pob un o'u cleifion yn dod o hyd i bethau i fyw amdanyn nhw: wyrion a wyresau newydd, profiadau newydd—rhesymau i aros yn fyw. Dydw i ddim yn sôn am bobl sydd eisiau marw; rwy'n sôn am bobl a allai fod eisiau byw. Nid yw rhoi rhwymedigaeth mor amrwd a gorfodol ar feddygon yn amddiffyn cleifion na'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw. Rwy'n dweud eto, nid yw'n ffordd o drin bodau dynol.
Ac efallai y bydd yr hyn sy'n cael ei gyflwyno i ni yn gwaethygu. Yn Oregon, mae'r meini prawf cymhwysedd wedi'u hehangu fel y gall pobl nawr gael marwolaeth â chymorth ar gyfer diabetes, anorecsia, arthritis—diagnosisau y gall pobl wella ohonyn nhw; bywydau a fydd wedi dod i ben, a allai fod wedi gwella. Nid oes mesurau diogelu digonol i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig a rheolaeth orfodol, sydd wedi'i amlygu gan elusennau cam-drin domestig. Mae sefydliadau pobl anabl, heb sôn am y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi rhybuddio am sut mae bywydau pobl anabl wedi cael eu trin fel ôl-ystyriaeth gyda'r Bil hwn. Rwy'n deall cymhelliant y rhai sy'n cefnogi'r Bil hwn. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r syniad o beidio â bod eisiau gweld pobl yn dioddef. Ond yr ofn a'r arswyd sydd gen i yw pen draw hyn mewn sefyllfaoedd lle bydd pobl anabl, y rhai sy'n dlawd, yn unig neu'n cael eu cam-drin yn cael eu harwain i deimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond dod â'u bywyd i ben, lle mae buddsoddiad mewn gofal lliniarol yn cael ei leihau a bydd pobl anobeithiol yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gymryd cam na allant byth ei gymryd yn ôl—holl fywydau'r bobl na fyddwn byth yn cwrdd â nhw, ond a fydd yn cael eu heffeithio'n angheuol gan y penderfyniad hwn. Rwy'n derbyn ac yn cydnabod yn llawn mai pleidlais ar y sefyllfa ddeddfwriaethol yw hon. Ni ellir ei wahanu ym meddyliau llawer o bobl o'r mater mwy sylweddol, a dyna pam yr wyf yn gwneud y pwyntiau hyn. Am y rhesymau hyn y byddaf yn pleidleisio yn erbyn—[Torri ar draws.] Byddaf yn derbyn ymyriad Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyrraeth. Roedd arnaf i ond eisiau gwneud y pwynt bod pobl anabl wedi arwain y frwydr dros farw â chymorth. Os ydych chi'n meddwl am Debbie Purdy, Diane Pretty, Tony Nicholson, roedden nhw i gyd yn bobl a oedd yn anabl iawn ac a ymladdodd dros farw â chymorth. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi ar y cofnod fod pobl anabl wedi arwain y frwydr hon.
Diolch yn fawr iawn am wneud y pwynt hwnnw. Y rheswm yr wyf yn dweud bod sefydliadau anabl yn ofni y Bil hwn yw oherwydd y goblygiadau a'r canlyniadau anfwriadol a allai arwain—yr ofnaf a fydd yn arwain—at bobl anabl mewn gormod o amgylchiadau yn teimlo o dan faich i ddod â'u bywydau i ben oherwydd dyna sydd wedi digwydd mewn cymaint o ddeddfwrfeydd eraill. Diolch am wneud y pwynt hwnnw, ac rwy'n ei barchu'n llwyr.
Am y rhesymau rydw i wedi'u nodi, byddaf yn pleidleisio yn erbyn yr LCM hwn. Gobeithiaf yn ddiffuant y bydd y Senedd yn gwneud yr un peth. Byddaf yn gorffen trwy ddweud eto y credaf fod yn rhaid i ni gyd gydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae pawb yn ymateb iddo drwy dosturi, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gadw hynny mewn cof yn ystod y ddadl hon.
Yn gyntaf oll, roedd arnaf i eisiau dechrau trwy ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod y drafodaeth hon, y ddadl hon sydd wedi bod yn digwydd ers amser maith. Rwy'n meddwl am ein hetholwyr sydd wedi ysgrifennu atom ni, am y gwahanol grwpiau sydd wedi ein lobïo ni, sydd wedi dod yma, am y gweithlu sydd wedi gwneud eu barn yn hysbys i ni, ac, wrth gwrs, y teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y cynigion hyn. Ar sawl achlysur, rydym ni wedi cael teuluoedd yma, pobl â salwch terfynol sy'n chwilio amdanom ni i'w helpu yn y sefyllfa anodd iawn y maen nhw ynddi, a theuluoedd a gofalwyr sy'n gofalu am bobl â salwch terfynol. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yma heddiw, ac fe hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bob un o'r rheini, oherwydd rwy'n credu eu bod wedi gwneud ymdrech fawr i ddod yma i roi gwybod i'r Aelodau beth maen nhw'n teimlo.
Yr ail bwynt mae arnaf i eisiau ei wneud, ac mae hynny'n codi'r hyn sydd newydd gael ei ddweud, mewn gwirionedd, yw ei bod hi'n dda iawn, fel gwleidyddion sydd â safbwyntiau gwahanol iawn am egwyddorion pwysig iawn, ein bod yn gallu trafod hyn mewn democratiaeth. Rydym ni'n gallu ei drafod yn sifil. Rydym ni'n gwybod ein bod ni'n teimlo'n wahanol am y materion hyn, ond rydym ni'n gallu parchu barn ein gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w roi ar y cofnod hefyd.
Ond, fe hoffwn i fynd ymlaen i ailadrodd y pwynt nad yw'r ddadl, fel sydd eisoes wedi'i ddweud sawl gwaith, yn ymwneud ag egwyddor y Bil. Dywedodd Jeremy yn gryno iawn yn ei sylwadau agoriadol, ac rydym ni wedi clywed hynny wedi'i ailadrodd ers hynny: nid yw'r egwyddor o farw â chymorth o dan y setliad datganoli presennol, yr ydym ni'n trafod hyn heddiw oddi tano, yn benderfyniad datganoledig. Pasiodd Tŷ'r Cyffredin y Bil hwn y llynedd, a phleidleisiodd 75 y cant o Aelodau Seneddol Cymru drosto o bob plaid. Mae bellach yn Nhŷ'r Arglwyddi. Pan fydd yn cwblhau'r gweithdrefnau yn Senedd San Steffan, bydd yn dod yn gyfreithlon yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr. Felly, yr hyn rydym ni'n ei drafod heddiw yw gweithredu marw â chymorth, i roi'r pwerau i'r Senedd weithredu'r cymalau Cymreig, pe bai'n dod yn gyfraith. Mae angen i ni gael y pwerau hynny er mwyn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn y ffordd mae arnom ni eisiau gwneud hynny dros Gymru, yn y ffordd Gymreig.
Rwy'n credu mai Darren a siaradodd am ymwrthod â chyfrifoldeb. Rwy'n teimlo y byddai'n ymwrthod â chyfrifoldeb pe na baem yn cefnogi'r LCM hwn heddiw. Pe bai'r Senedd yn gwrthod yr LCM, ni fyddai'r pwerau hyn yn dod i'r Senedd, byddai confensiwn Sewel yn berthnasol, a byddai'r cymalau Cymreig yn cael eu tynnu o'r Bil. Mae Kim Leadbeater, y noddwr yn Nhŷ'r Cyffredin, a'r Arglwydd Charlie Falconer, y noddwr yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi gwneud hynny'n hollol glir, y byddent yn parchu barn y Senedd ac, os bydd y bleidlais yn mynd yn erbyn yr LCM, byddant yn dileu'r cymalau sy'n berthnasol i Gymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf wrth gwrs.
Fe ddywedoch chi fod noddwyr y Bil eisiau parchu'r Senedd a safbwyntiau'r Senedd, ond, wrth gwrs, pleidleisiodd y Senedd hon yn erbyn yr egwyddor o farw â chymorth mewn dadl flaenorol, ac eto, yn amlwg, mae'r Bil hwn yn dal i symud ymlaen gyda Chymru fel rhan ohono. Nid yw hynny'n ymddangos fel llawer o barch at y Senedd hon i mi.
Rwy'n credu eich bod chi'n camddeall y sefyllfa, Darren. Roedd y bleidlais flaenorol a gynhaliwyd yma ar farw â chymorth ar gysyniad llawer ehangach. Nid oedd ganddo unrhyw gyfnodau amser. Mae'r Bil hwn rydym yn ei drafod heddiw—rhaid i bobl fod yn derfynol wael, rhaid iddyn nhw gael o leiaf dim ond chwe mis i fyw—yn hollol wahanol i'r hyn a drafodwyd o'r blaen. Trafodwyd hynny fel cynnig Aelod, i allu gwyntyllu materion.
Byddwn wedi meddwl bod yr hyn rydym ni'n ei drafod heddiw yn rhywbeth llawer mwy tynn, sydd wedi cael llawer iawn o graffu, sy'n benodol iawn, felly nid wyf yn gweld unrhyw gymhariaeth. Ac, fel y dywedais i, maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n parchu safbwyntiau'r Senedd hon. Felly, os ydym ni'n ei wrthod heddiw, byddant yn tynnu'r cymalau hynny allan, a byddwn yn colli'r cyfle i wneud yr hyn y gallwn ni i ymdrin mor dosturiol ag y gallwn ni â diwedd bywyd pobl.
Yma yn y Senedd hon, a fyddai arnom ni eisiau gadael pobl Cymru heb unrhyw fynediad at wasanaethau pe bai'r Bil hwn yn dod yn gyfraith? Mae'n debygol iawn y bydd y Bil hwn yn dod yn gyfraith; mae ganddo fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin a etholwyd yn ddemocrataidd. Felly, mae'n mynd i ddod yn gyfraith. Byddai'n anghyfrifol peidio â gwneud, o fewn y pwerau sydd gennym ni, yr hyn y gallwn ni i sicrhau bod gennym ni'r pŵer yma i wneud y gwasanaethau mor dda ag y gallwn ni.
Fe wyddom ni fod y niferoedd yn fach iawn yng Nghymru o bwy fydd eisiau'r gwasanaeth hwn. Mae nifer y bobl sydd wedi cyrraedd y cam lle maen nhw eisiau cymorth i farw yn fach iawn, iawn. Rwy'n credu mai'r amcangyfrif yw, yn y chwe mis cyntaf, y byddai'n debygol y byddai tua 40 o bobl yng Nghymru a fyddai eisiau cymorth i farw. Felly, nid ydym ni'n siarad am ddatblygiad enfawr; rydym ni'n siarad am wasanaethau penodol ar gyfer grŵp penodol o bobl, y mae llawer ohonyn nhw eisoes wedi profi budd gofal lliniarol ac wedi elwa ar hynny. Rwy'n gefnogwr mawr o ofal lliniarol. Rwy'n credu y dylem ni fod yn rhoi llawer mwy o adnoddau i ofal lliniarol, ac rwy'n credu nad y naill neu'r llall yw gofal lliniarol a marw â chymorth. Mae angen gofal lliniarol arnom ni i'r mwyafrif helaeth o bobl sydd ei angen, ac i'r grŵp bach hwnnw o bobl, fel y dywedaf, y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi profi gofal lliniarol ac yn teimlo na allan nhw fynd ymlaen, bod angen cymorth i farw.
Ac yna, wrth gwrs, mae mater y Gymraeg, sy'n hollol hanfodol yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod am bobl sydd, pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes, eisiau siarad a thrafod pethau yn eu hiaith gyntaf eu hunain. Rwy'n cofio fy ewythr, a oedd yn byw yng Ngheredigion ac a oedd yn gorfod mynd i ysbyty Glangwili ar ddiwedd ei oes, a dim ond Cymraeg yr oedd yn gallu siarad, ni allai—. Fe gollodd ei Saesneg. Felly, rwy'n credu, eto, bod gennym ni'r cymalau hyn yma yn y Bil hwn i wneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn yr iaith Gymraeg, ac yn sicr ni allwn ni wrthod y cyfle i wneud hynny.
Felly, y mater arall sydd eisoes wedi'i godi yw beth am anghydraddoldeb unrhyw wasanaeth sy'n cael ei gynnig, os nad yw'n cael ei arwain gan y Senedd, gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fe wyddom ni fod nifer y bobl sy'n mynd i Dignitas yn y Swistir yn fach iawn, ond mae'n cynyddu; mae'n cynyddu'n gyflym iawn. Ond yr unig bobl sy'n gallu mynd yno yw pobl sy'n gallu ei fforddio, ac mae'n costio amcangyfrif o, rwy'n meddwl, £10,000 i £15,000 i fynd i Dignitas. Felly, rwy'n teimlo mewn gwirionedd y byddem yn cefnu ar ein dyletswydd pe na baem yn gwneud popeth y gallwn ni, o fewn pwerau'r Senedd, o fewn y setliad datganoledig rydym ni ynddo, i roi cyfle i'r bobl hynny sydd, ar ddiwedd eu hoes, yn penderfynu eu bod am ddewis cymorth i farw. Diolch.
Rydw i wedi bod yn hael iawn â siaradwyr cyntaf yr holl grwpiau gwleidyddol hyd yn hyn. Mae gennyf lawer o siaradwyr sy'n dymuno cymryd rhan y prynhawn yma. Mae'n anodd iawn i mi yma, gyda phleidleisiau rhydd, ddeall pwy sy'n mynd i siarad o blaid ac yn erbyn er mwyn sicrhau cydbwysedd yn y ddadl. Felly, rydw i'n mynd i fod yn eich dwylo chi nawr. Byddwch mor gryno â phosibl yn eich cyfraniad ac wrth wneud eich pwyntiau, a byddaf yn ceisio galw pob un ohonoch chi, fel Aelodau. Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Dim ond 16 mis yn ôl, pleidleisiodd y Senedd hon yn erbyn cefnogi egwyddorion marw â chymorth, ac yn erbyn cefnogi Senedd San Steffan i gyflwyno cyfraith marw â chymorth yng Nghymru a Lloegr. Dyna ddywedodd y cynnig. Wrth siarad yn y ddadl honno, nodais fod arolwg gan Goleg Brenhinol y Meddygon wedi canfod bod 80 y cant o feddygon gofal lliniarol, y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n marw, yn parhau i wrthwynebu cyfranogiad meddygaeth i ddiwedd bywydau cleifion, gyda dim ond 4 y cant o blaid.
Fel rydym ni wedi clywed, nid oes gofyn i Aelodau bleidleisio heddiw ynghylch a ddylai hunanladdiad â chymorth ddod yn gyfraith yng Nghymru mewn egwyddor. Yn hytrach, gofynnir i'r Senedd a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig sy'n effeithio ar ofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru. Mae hwn felly yn benderfyniad cyfansoddiadol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar awdurdod y Senedd, ac yn benderfyniad moesol a pholisi sy'n effeithio ar ddyfodol pobl Cymru.
Cadarnhaodd cyngor cyfreithiol i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ddoe nad yw'r ddeddfwriaeth y ceisir cydsyniad ar ei chyfer heddiw yn ei ffurf derfynol eto. Mae clinigwyr gofal lliniarol Cymru wedi rhybuddio bod gofyn i Gymru gydsynio i rywbeth cyn iddi wybod beth mae'n cydsynio iddo mewn gwirionedd, a thrwy hynny drosglwyddo pwerau i San Steffan, yn gosod cynsail peryglus iawn, a bod yr LCM hwn, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yn cael ei ddefnyddio fel offeryn i allu honni bod Cymru bellach yn cefnogi'r Bil. Felly, rhaid i'r Senedd wrthod yr LCM hwn os yw am sicrhau ei bod yn penderfynu pwy fyddai'n darparu unrhyw wasanaeth marw â chymorth posibl yn y dyfodol yng Nghymru yn y pen draw, ynghyd â sut, ac nad ydym ni'n gweithredu'n gynamserol cyn i lun terfynol y Bil fod yn glir.
Er bod polau piniwn yng Nghymru yn dangos cefnogaeth y cyhoedd i farw â chymorth, mae'r gefnogaeth yn gostwng pan fydd y derminoleg yn cael ei esbonio a phobl yn deall beth sy'n cael ei gynnig mewn gwirionedd. Datgelodd arolwg Byddin yr Iachawdwriaeth bryderon parhaus bod pobl agored i niwed mewn mwy o berygl o fod o dan bwysau i wneud cais i farw, gyda 60 y cant yn dweud bod pobl hŷn mewn mwy o berygl, 54 y cant yn dweud bod pobl â phroblemau iechyd meddwl, a bron i 52 y cant bod pobl ag anabledd dysgu mewn mwy o berygl. Maen nhw'n ychwanegu na fydd y penderfyniad i geisio cymorth gyda hunanladdiad yn edrych yr un fath i bobl sy'n profi tlodi neu anfantais systematig arall ag y bydd ar gyfer pobl fwy breintiedig.
Daeth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion i gonsensws na allai gefnogi'r Bil yn ei ffurf bresennol. Mae Cymdeithas Feddygaeth Liniarol Prydain Fawr ac Iwerddon yn nodi:
'Mewn materion bywyd a marwolaeth, mae'n rhaid i'r trothwy ar gyfer diogelwch fod yn gwbl gadarn. Mae'r cynigion presennol yn amlwg yn brin o'r safon hon, gan amlygu pobl agored i niwed i beryglon na allwn ni eu dadwneud—i gyd tra bod y gofal lliniarol maen nhw'n ei haeddu yn parhau i fod yn annheg ac yn aml ddim ar gael.'
Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos bod asesiadau meddygon o ba gleifion sy'n debygol o farw o fewn chwe neu 12 mis yn gywir lai na 50 y cant o'r amser, ac yn nodi bod tua hanner y bobl mewn awdurdodaethau eraill yn dewis marw â chymorth oherwydd teimlo'n faich ar deulu a ffrindiau.
Ysgrifennodd mwy na 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru ar y cyd yn galw arnom ni i wrthod yr LCM hwn, gan nodi, er enghraifft:
'Nid yw diffiniad y bil o salwch terfynol yn adnabod peryglon camwybodaeth neu wneud camddiagnosis. Mae gwneud prognosis cywir yn amhosibl.'
Maen nhw'n pwysleisio'r anghydraddoldeb wrth ddarparu gofal lliniarol arbenigol a gwelyau hosbis.
Mae Marie Curie yn nodi bod eu hymchwil ddiweddaraf yn darparu tystiolaeth bellach bod ein system gofal lliniarol a diwedd oes ar dorri, ac mae Hospice UK yn dweud bod yn rhaid i ni fynd i'r afael ar frys â chynaliadwyedd y sector hosbis. Fodd bynnag, mae profiad awdurdodaethau eraill wedi dangos bod cyfreithloni hunanladdiad â chymorth wedi arwain at ostyngiad mewn darpariaeth gofal lliniarol effeithiol, er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb.
Ymhellach, unwaith y bydd yr egwyddor yn cael ei derbyn, mae'n amhosibl ei chynnwys. Fel y clywsom ni yn Oregon, mae'r ddealltwriaeth o salwch terfynol wedi ehangu i gynnwys cyflyrau fel anorecsia neu diabetes. Yng Nghanada, cafodd y gyfraith ei hymestyn i unigolion nad ydyn nhw'n derfynol wael, ac, erbyn 2027, mae disgwyl iddi ehangu ymhellach i gynnwys salwch meddwl.
Wrth gyfeirio at Dignitas, sy'n darparu hunanladdiad â chymorth, dywedodd ymgynghorwyr gofal lliniarol yng Nghymru wrthyf nad oes unrhyw warant o farwolaeth urddasol i unrhyw un, hyd yn oed os mai dyna yw nod pa bynnag ofal y mae'r person yn ei dderbyn, a bod yna lawer o broblemau posibl ac agweddau annelwig gyda system y Swistir, gan nad oes unrhyw gyhoeddiad o ddata.
Rhoddaf y gair olaf i'r etholwr a ddywedodd wrthyf nad oes gan y ddeddfwriaeth arfaethedig amddiffyniadau digonol i atal rhoi pwysau ar bobl fregus, ei fod yn rhoi mwy o bwysau ar bobl anabl a'i fod yn gam yn ôl. O ran y pwynt—i gloi—y gwnaeth Julie Morgan ymyrryd arno yn gynharach, mae Anabledd Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, sy'n cynrychioli oedolion ag anableddau dysgu, wedi rhybuddio bod goblygiadau'r Bil hwn yn bellgyrhaeddol, gyda chanlyniadau posibl difrifol, gan ychwanegu mai dyna pam nad oes unrhyw sefydliadau pobl fyddar neu anabl yn y Deyrnas Unedig o blaid y ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.
Heddiw, hoffwn i sôn am welliannau Plaid Cymru, ond hoffwn i hefyd gydnabod nad yw mwyafrif y sylwadau yr ydw i wedi'u cael, yn sicr, wedi bod ar yr agwedd ddeddfwriaethol, ond ar y mater ei hun. Rwy'n difaru bod cyfeiriad wedi'i wneud at ddadl flaenorol ar gynnig deddfwriaethol Aelod, nad honno, fel y gwyddon ni, yw'r ffordd yr ydyn ni'n penderfynu sut mae'r Senedd yn pennu ei safbwyntiau. Roedd honno'n foment, ond nid y foment ar gyfer y ddadl hon, ac nid dyma'r foment chwaith ar gyfer y ddadl y mae pobl Cymru a'r rhai sydd wedi cysylltu â ni ar y ddwy ochr eisiau gweld y Senedd yn gallu'i chael, oherwydd mae hwn yn fater o arwyddocâd i Gymru. Mae'n cael effaith sylweddol ar bethau sydd o dan ein rheolaeth yma yng Nghymru, ac eto nid ydyn ni'n trafod y mater sylweddol hwn. Nid ydyn ni'n rhoi llais i bawb sy'n teimlo'n gryf y tu allan i'r Siambr hon. Mae rhai wedi cyfeirio at hynny, ond nid dyna'r hyn yr ydyn ni'n pleidleisio arno, ac rwy'n difaru mai dyna'r canfyddiad i bobl sy'n poeni am y mater hwn. Dyna pam yr wyf i'n annog pobl i gefnogi'n gwelliannau ni, sy'n nodi'n glir bod diffyg ystyriaeth drylwyr wedi bod o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn ar Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol, a'n bod ni'n credu y dylai Cymru gael pwerau llawn i ddewis deddfu, ai peidio, ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu gwasanaethau marw â chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban, ac mae'n ddrwg gennyf na fyddwn ni'n cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.
O ran y cyfraniadau hynny yr ydyn ni wedi'u clywed eisoes heddiw, mae'n fater hynod emosiynol—nid yr agwedd ddeddfwriaethol, ond yr agwedd y mae pobl eisiau i ni fod yn ei thrafod a phenderfynu arni yma yng Nghymru. Mae gwahaniaethau barn yn amlwg; rwyf i wedi mynegi fy marn bersonol i yn ystod y ddadl ar gynnig deddfwriaethol yr Aelod, a byddaf i'n ei hailddatgan heddiw. Rwy'n credu bod gan bawb sydd â salwch terfynol yr hawl i ddewis sut maen nhw'n marw, ac ar hyn o bryd nid yw hynny'n wir.
Yn ystod y broses hon, rydw i wedi clywed enghreifftiau erchyll o bobl yn marw mewn poen heb y gefnogaeth gywir a heb urddas. Rwyf hefyd wedi clywed gan aelodau teulu pobl sydd wedi dewis cyflawni hunanladdiad neu fynd i'r Swistir, heb i'w teulu wybod, i roi terfyn ar eu bywydau. Mae fy etholwyr wedi wynebu trawma, wedi cael eu harestio, gan eu bod o dan amheuaeth o fod wedi cynorthwyo hunanladdiad, er nad oedden nhw wedi gwneud hynny, ac mae'n amlwg i mi fod angen i ni ymdrin â'r mater hwn yn gywir yng Nghymru.
Fel y dywedwyd eisoes, mae llawer ohonon ni'n cydnabod nad yw cefnogi hyn yn nacáu'r gred bod angen i ni wella sut yr ydyn ni'n cefnogi pobl yn y sefyllfa ofnadwy honno a darparu gwell mynediad at ofal lliniarol. Mae pryder enfawr, er enghraifft, yn y rhanbarth rwyf i'n ei gynrychioli, bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bwriadu lleihau nifer y gwelyau lliniarol arbenigol a symud i fodel gofal gartref. Ond nid yw hwn yn fater hwn/neu'r llall; mae angen y ddau—gwelyau gofal lliniarol arbenigol mewn ysbytai cymunedol a hefyd mynediad at gymorth os yw pobl yn dewis marw gartref. Oherwydd nid oes modd gofalu am bawb gartref, ac nid oes gan bawb gartref le ar gyfer yr offer sydd ei angen ar rywun i sicrhau ei fod yn cael y gofal cywir, ac nid oes gan rai gefnogaeth y teulu gartref. Cymerwch, er enghraifft, rai o'r tai teras wrth ymyl afonydd yn fy rhanbarth i sydd wedi wynebu llifogydd sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pe bai rhywun yn cysgu i lawr y grisiau ac yn methu symud, yna rwy'n gwybod am gartrefi lle byddai'r person hwnnw wedi colli ei fywyd mwy na thebyg, trwy foddi yn ei wely.
Dyma wirionedd y cymunedau yr ydyn ni'n eu cynrychioli, ac mae'n rhaid edrych ar hyn i gyd yn ei gyfanrwydd, ond nid yw hynny'n digwydd, a dyna beth sydd ar goll yma. Dylen ni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd. Dylai Cymru allu penderfynu. A dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau, y rhai sydd â phleidlais rydd, gefnogi'r gwelliannau, oherwydd mae angen clywed llais Cymru. Mae'n rhaid cynnal y ddadl yn gywir yma yng Nghymru, a dylen ni fod yn edrych ar yr holl agweddau hyn. Nid yw fframio hyn fel agwedd ddeddfwriaethol yn unig—yr hyn ydyw, yn dechnegol—yn rhoi llais i'n hetholwyr. Nid yw'n ymdrin â'r angen bod yna bobl sy'n gwneud y penderfyniad hwn nawr. Yn bersonol, rwy'n credu bod gan bawb yr hawl i ddewis sut maen nhw'n marw. Maen nhw'n dewis hunanladdiad; maen nhw'n dewis mynd i'r Swistir. ni allwn gladdu ein pennau yn y tywod. Felly, dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym ni'r ddadl hon, ond dylen ni gael yr hawl i benderfynu sut mae'n cael ei wneud yma yng Nghymru, ac yn gywir.
Ceisiaf beidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud eisoes, ond rwy'n cytuno â'r siaradwr blaenorol mai'r hyn yr ydyn ni'n ei drafod heddiw yw hawl pob dinesydd, beth bynnag fo'i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, i gyflymu diwedd ei fywyd pan fydd eisoes wedi cael diagnosis o fod yn derfynol sâl. Gall pobl sydd ag adnoddau, ariannol a deallusol, ddewis troi at Dignitas, gyda, neu heb, newid yn y gyfraith yn Senedd y DU.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod yn well gan bobl farw gartref, gyda'i hanwyliaid a'u hoff eiddo o'u hamgylch. Nid yw bob amser yn bosibl, naill ai i'r unigolyn nac i'w anwyliaid, allu darparu ar gyfer hynny, ond mae'n rhaid i ni ddeall bod y rhan fwyaf o bobl, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf a gyhoeddwyd yn y Western Mail, o'r holl brif bleidiau, bod tua thri chwarter ohonynt yn cefnogi y dylai'r Bil hwn, os caiff ei basio yn Senedd y DU, fod yn berthnasol i Gymru a Lloegr.
Mae yna lawer o waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod yr holl fesurau diogelu yn eu lle i sicrhau mai dymuniad yr unigolyn yw hynny, ac i ymdrin â rhai o'r pwyntiau a wnaeth Delyth am y pryderon sydd ganddi am bobl anabl yn cael eu gorfodi i wneud rhywbeth nad ydyn nhw wedi dewis ei wneud mewn gwirionedd.
Ond, yn y Bil hwn, rydyn ni'n siarad am bobl sydd eisoes yn dioddef yn ofnadwy. Ac rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl—rhai o fy etholwyr—wedi dweud, 'Dydw i ddim eisiau byw rhagor, oherwydd mae gen i ddiabetes math 1, cam olaf methiant yr arennau, cam olaf methiant y galon ac osteoporosis difrifol.' A phan maen nhw wedi dweud hyn, ac maen nhw wedi cytuno â'u teulu eu bod nhw am roi'r gorau i gymryd eu meddyginiaeth, ymateb y meddyg teulu, yn hytrach na dweud, 'Wrth gwrs rwy'n cefnogi hawl yr unigolyn i roi'r gorau i gymryd ei feddyginiaeth', mae'r meddyg teulu wedi gwneud atgyfeiriad at y tîm hunanladdiad, ac yn hytrach na chael marwolaeth heddychlon gyda'i theulu o'i chwmpas, roedd y tîm iechyd meddwl, y seicolegwyr, yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i gyd yn gysylltiedig. Doedd hynny ddim yn briodol, ac mae'n amlwg bod angen i ni addysgu ein meddygon teulu, os mai dyna'r agwedd. Ac, yn wir, fe gymerodd hi'r tîm gofal lliniarol i ddweud, 'Stopiwch, nid dyma'r hyn y mae'r gyfraith bresennol yn ei ddweud.' Mae rhoi'r gorau i feddyginiaeth yn gyfan gwbl o fewn hawliau unigolyn ac ni ddylai hyn fod wedi digwydd.
Felly, rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod gan Gymru'r hawl i sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau yn y ffordd y mae pobl eu heisiau nhw, a bydd yn dibynnu'n fawr ar amgylchiadau'r unigolyn. Ond rwy'n credu ein bod ni'n osgoi ein cyfrifoldebau os nad ydyn ni'n dweud bod angen i ni sicrhau bod GIG Cymru yn gallu darparu ar gyfer y nifer bach o bobl sy'n dymuno gwneud y dewis hwn, yn hytrach na gadael hynny i'r rhai sydd wedi—. Yn hytrach na gorfod mynd i Dignitas, dim ond i Loegr y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd, ond mae hynny'n dal i adael llawer iawn o bobl na fyddan nhw'n gallu fforddio gwneud hynny ac na fydd ganddyn nhw'r adnoddau, na fydd ganddyn nhw'r cysylltiadau.
Rwy'n credu bod yna fater tegwch yma sy'n bwysig iawn, iawn i ni ei wneud, ac mae'n rhaid i ni gofio, beth bynnag y byddwn ni'n penderfynu heddiw, na fydd yn atal y Bil rhag cael ei basio y tro hwn nac yn y sesiwn seneddol nesaf, gan ein bod eisoes yn glir bod y rhai sy'n hyrwyddo'r Bil yn bwriadu defnyddio'r Ddeddf Seneddol i ddod ag ef yn ôl. Felly, yr hyn yr ydym yn ei drafod heddiw yw a yw'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu datblygu yng Nghymru i ddarparu ar gyfer newid yn y gyfraith o dan ein rheolaeth ni, neu o dan reolaeth rhywun yn Whitehall. Rwy'n gwybod pa un y byddwn i'n ei ddewis.
Rwy'n credu mai'r pwynt olaf yr wyf eisiau ei wneud yw, os byddwn ni'n penderfynu peidio â gwneud hyn, bydd yn golygu y bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn rhywle arall yn hytrach na gennym ni.
Rwyf wedi fy nharo gan y ffaith mai dyma'r tro cyntaf i mi sefyll yn y Siambr estynedig hon heddiw, fel y mae wedi bod i lawer o bobl sy'n cyfrannu heno—y Siambr hon, symbol ffisegol o ddemocratiaeth yng Nghymru. Ac er fy mod i wedi bod yn erbyn ehangu'r lle hwn, mae cefnogwyr y cynnydd hwn wedi bod yn eirioli dros y fath beth oherwydd, yn y bôn, maen nhw eisiau gweld democratiaeth yn cael ei chryfhau, gan ddangos bod Cymru erbyn hyn wedi profi ei bod yn gallu sefyll i fyny a gwneud llawer o'i phenderfyniadau ei hun drosto'i hun, gan ddangos Senedd aeddfed sy'n trafod yn briodol ac yn drylwyr y penderfyniadau mawr, y penderfyniadau anodd, gyda'r holl fanylion sy'n gysylltiedig â nhw i sicrhau bod modd craffu'n briodol ac yna gwneud penderfyniad terfynol. Mae'r cyd-destun hwnnw'n dod â ni at y ddadl hon yma nawr. Rydyn ni, fel Senedd, sy'n ceisio dangos lefel ein haeddfedrwydd, dyfnder ein craffu a difrifoldeb ein hystyriaeth wedi cael awr, gyda gwybodaeth gyfyngedig, i wneud penderfyniad ar un o'r cwestiynau mwyaf difrifol y gallwn ni ei ofyn o ddemocratiaeth—yn llythrennol, cwestiwn o fywyd a marwolaeth a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl yng Nghymru.
O ran safbwynt moesol y cwestiwn, rwy'n ddiwyro yn fy mhenderfyniad, sydd wedi'i seilio yn fy ffydd Gristnogol, nad yw'n iawn i'r Bil hwn fynd rhagddo, oherwydd ni waeth beth fo'i iechyd, ni waeth beth fo'i gyfnod bywyd, mae pob person yn werthfawr, mae pob bywyd o werth cyfartal, a dylai ein deddfau a'n system gofal iechyd adlewyrchu hynny bob amser. Y tu hwnt i fy nghredoau personol, mae gennyf bryderon difrifol am ddiogelwch cleifion, eglurder cyfreithiol, anghydraddoldeb ac atebolrwydd cyfansoddiadol. Y gwir amdani yw y byddai rhoi cydsyniad nawr yn ymwreiddio arfer sy'n dal i fod yn ddadleuol iawn mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Mae'r Bil yn dal i fod yn y Cyfnod Pwyllgorau ac, fel rydym wedi clywed gan eraill, mae dros 1,000 o welliannau eto i'w datrys. Mae rhai o'r materion sy'n destun gwelliannau yn faterion y bydden ni yng Nghymru o leiaf eisiau rhoi barn arnyn nhw ac sy'n gwbl sylfaenol i feysydd cymhwysedd datganoledig. Yn gyntaf ac yn sylfaenol, mae'r diffiniad o 'salwch terfynol' yn cyfeirio at salwch neu glefyd sy'n anochel gynyddol ac nad oes modd ei wrthdroi trwy driniaeth. Mae hynny'n ddiffiniad mor eang. Mae llawer o gyflyrau cronig yn anochel gynyddol a gallen nhw arwain at farwolaeth pe bai triniaeth sefydlogi'n cael ei gwrthod. Byddai hyn nid yn unig yn effeithio ar bobl hŷn, fel y bydden ni'n ei ddisgwyl, tua diwedd eu hoes, gallai effeithio ar bobl llawer iau sy'n byw gyda chyflyrau difrifol.
Yn ail, gadewch i ni fod yn glir, er bod y geiriau 'marw â chymorth' yn cael eu defnyddio yn nheitl y Bil hwn, mae'r Bil yn ceisio diwygio adran 2(1) o Ddeddf Hunanladdiad 1961 i ddileu atebolrwydd troseddol i'r rhai sy'n helpu person arall i roi terfyn ar ei fywyd ei hun. Mae'r LCM hwn yn gofyn i ni ymwreiddio hunanladdiad â chymorth o fewn gwasanaethau iechyd datganoledig yng Nghymru, tra bod manylion hanfodol yn parhau heb eu datrys. Ar adeg pan ydym yn buddsoddi mewn atal hunanladdiad, a hynny'n gwbl briodol, ac yn dweud wrth bobl agored i niwed bod eu bywydau'n bwysig, mae'n rhaid i ni wynebu'r gwrthgyferbyniad o hwyluso hunanladdiad fel gwasanaeth meddygol mewn rhai amgylchiadau. Mae meddygon, fel y gwyddom, yn cael eu harwain gan yr egwyddor o wneud dim niwed yn gyntaf. Byddai'r Bil hwn yn rhoi ein clinigwyr yng Nghymru mewn rolau sy'n gwrthdaro, gan atal hunanladdiad mewn rhai cleifion a'i ddilysu yn achos rhai eraill.
Yn drydydd, Llywydd, mae'r mesurau diogelu yn ansicr o hyd. Mae'r addewid wreiddiol o oruchwyliaeth gan yr Uchel Lys eisoes wedi'i disodli gan banel adolygu. Mae goruchwyliaeth yn ymddangos yn ôl-weithredol i raddau helaeth ac nid yw'n glir sut y bydd penderfyniadau anghywir yn cael eu nodi neu eu cywiro. Rydyn ni wedi clywed gan eraill heno bod y mesur prognosis chwe mis ynddo'i hun yn broblemus iawn. Mae rhagweld disgwyliad oes yn hynod o anodd, hyd yn oed i arbenigwyr. Amcangyfrif, nid gwarant yw prognosis.
Yn olaf, os ydym o ddifrif ynglŷn ag urddas ar ddiwedd oes, dylem fod yn blaenoriaethu mynediad cyffredinol at ofal lliniarol o ansawdd uchel, nid cyflwyno hunanladdiad â chymorth i ymarfer prif ffrwd. Cyn cyflwyno dewis di-droi'n-ôl, dylen ni allu dweud yn hyderus bod gofal diwedd oes rhagorol ar gael yn gyson. Felly, am resymau cydwybod, tosturi ac uniondeb cyfansoddiadol, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr i wneud yr un peth.
Rwy'n edifar—rwyf wir yn edifar—am y ffaith bod gofyn i ni benderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heb y cyfle ehangaf i graffu ar ei oblygiadau i Gymru. Fel yr ydyn ni wedi clywed, mae dros 1,000 o welliannau wedi'u cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan gynnwys newidiadau a fyddai'n effeithio'n sylweddol ar y cymalau o fewn cwmpas yr LCM hwn. Dydyn ni ddim wedi cael cyfle priodol fel deddfwrfa i nodi ble rydym yn sefyll. Nid hollti blew gweithdrefnol mohono. Mae'n bwysig oherwydd dydy marw â chymorth ddim yn eistedd o fewn un blwch cyfansoddiadol. Mae'n eistedd ar Grib Goch ein cyfansoddiad, os mynnwch chi: cyfraith droseddol sydd wedi'i neilltuo i San Steffan ar un ochr, darpariaeth gwasanaethau iechyd sydd wedi'i datganoli i'r Senedd hon ar yr ochr arall, a chrib gul agored rhyngddyn nhw.
Allwch chi ddim gwneud marw â chymorth yn gyfreithlon heb ei ymwreiddio yn y system iechyd sy'n darparu gofal diwedd oes. Ni fyddai neb yn Lloegr yn gwahanu cyfreithlondeb y gwasanaeth oddi wrth y ffordd y caiff y gwasanaeth ei hun ei lywodraethu, ond dyna'r risg pan fo'r gyfraith yn cael ei gwneud mewn un Senedd a'r gofal yn cael ei ddarparu o dan un arall. Ystyriwch yr Alban. Beth bynnag yw barn rhywun ar y polisi, mae Holyrood yn gallu bwrw ymlaen o fewn cyfres unedig o gymwyseddau ac, felly, mae'n gallu dylunio system yn ei chyfanrwydd. Ac mae wedi penderfynu, ar y sail honno, i gysylltu cymhwysedd, er enghraifft, nid â phrognosis chwe mis sefydlog, ond ei ddiffinio yn hytrach fel cyflwr datblygedig a chynyddol y disgwylir iddo achosi marwolaeth gynamserol. Mae wedi penderfynu, ar sail dosturiol debyg, mai'r salwch sylfaenol, nid y farwolaeth â chymorth, sy'n cael ei gofnodi fel achos y farwolaeth, ac mae wedi mabwysiadu model gweithlu ehangach, sy'n caniatáu i nyrsys cofrestredig, nid meddygon yn unig, fod â rôl yn y ddarpariaeth ar sail cydsyniad cydwybodol, optio i mewn.
Nawr, nid dewisiadau ymylol yw'r rheini; pensaernïaeth y system ydynt. Ac mae'r Alban yn gallu eu gwneud nhw oherwydd bod cymhwysedd a chyfrifoldeb yn eistedd yn yr un lle. Yng Nghymru, rydyn ni'n eistedd ar ymyl pŵer. Os ydyn ni eisiau datblygu strwythur goruchwylio penodol i gyfyngu darpariaeth i GIG Cymru, neu i roi pwysau statudol i ddigonolrwydd gofal lliniarol yn y cyd-destun hwn, allwn ni ddim bod yn hyderus, ar hyn o bryd, bod gennym ni'r pŵer cyfreithiol i wneud hynny. Dyna'r broblem. Ac am y rheswm hwnnw, byddaf i'n cefnogi'r gwelliannau sydd o'n blaenau ni. Maen nhw'n ceisio cryfhau llais Cymru o fewn fframwaith y Bil hwn.
Ond heno, mae'n rhaid i ni wynebu'r hyn fydd yn digwydd os byddwn ni'n dweud 'na'. Rydyn ni wedi cael gwybod yn benodol, os bydd y Senedd hon yn gwrthod cydsyniad, y bydd darpariaethau gwasanaeth Cymru yn cael eu dileu, ond y bydd y newid yn y gyfraith droseddol yn dal i fod yn berthnasol. Byddai marw â chymorth yn gyfreithlon yng Nghymru. Fodd bynnag, ni fyddai gan GIG Cymru unrhyw bŵer i ddarparu'r gwasanaethau marw â chymorth—llwybr preifat yn unig, felly, yng Nghymru, neu ddarpariaeth ar draws y ffin.
Nid yw cefnogwyr marw â chymorth yn dadlau dros fynediad a bennir gan gyfoeth. Nid yw gwrthwynebwyr yn dadlau dros system y tu allan i lywodraethiant y GIG mewn mater mor ddifrifol â hyn. Nid oes neb yn y Siambr hon yn dadlau dros hynny. Ac eto, dyna fyddai atal cydsyniad yn ei gyflawni: nid atal marw â chymorth yng Nghymru; fersiwn waeth ohono. Cyfreithlon, ond heb ei reoleiddio; ar gael i rai ond nid i eraill; wedi'i wahanu oddi wrth yr union strwythurau a gwasanaethau yr ydyn ni'n gofalu am bobl drwyddynt ar ddiwedd eu hoes.
Wnaf i ddim esgus bod hon yn bleidlais gyfforddus i mi, nac i unrhyw un arall. Fe wnes i ddod i fyd gwleidyddiaeth i ddod â phenderfyniadau adref i Gymru, nid i gydsynio i fframweithiau sy'n cael eu llunio mewn mannau eraill, ac yn sicr, nid ar faterion bywyd a marwolaeth. Mae pob greddf sydd gennyf am ddiben ac awdurdod moesol y Senedd hon yn tynnu yn erbyn yr hyn yr wyf yn mynd i'w wneud heno. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, hyd yn oed heb ei ddiwygio, oherwydd nid yw'r dewis arall, yn fy marn i, yn diogelu Cymru; mae'n gadael Cymru gyda system breifat yn unig na fyddai neb yma ym mhob cydwybod yn ei chynllunio.
Ni ddylai Senedd unrhyw wlad orfod sefyll o'r neilltu tra bod un arall yn penderfynu ar ba sail y mae ei dinasyddion ei hun yn byw ac yn marw. Rwy'n gobeithio mai'r bleidlais hon heno yn y Siambr newydd hon yw'r tro diwethaf i ni gael ein rhoi yn y sefyllfa anodd honno. Ond heno, mae'n rhaid i ni i gyd wneud y gorau y gallwn ni i'r bobl yr ydyn ni i gyd yn eu cynrychioli.
Diolch am ganiatáu i mi gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd fe wnes i ymatal pan gafodd y mater hwn ei drafod yn gyntaf nôl ym mis Hydref 2024, bron i 18 mis yn ôl. Ac rydw i wedi clywed rhai o'r cyfraniadau hyd yma heddiw gan Aelodau, rhai a oedd yn erbyn y cysyniad, yr egwyddor o farw â chymorth, a hynny am resymau moesol a chrefyddol, ac rwy'n deall ac yn parchu'r safbwyntiau hynny. Ond rwyf eisiau bod yn glir nad fy safbwyntiau i ydyn nhw. Does gen i ddim rheswm moesol na chrefyddol dros beidio â chefnogi marw â chymorth.
Rwy'n ddiolchgar i'r etholwyr hynny sydd wedi cysylltu i rannu gyda mi, yn eithaf onest, y boen a'r dioddefaint annychmygadwy y maen nhw wedi mynd drwyddo, neu y mae eu teuluoedd wedi mynd drwyddo, ac sydd wedi cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd anodd eu hunain, lle maen nhw wedi bod eisiau marw o ganlyniad i'r amodau maen nhw'n eu hwynebu. Ac ar ôl darllen y rheini a rhannu'r profiadau hynny, roeddwn i'n meddwl ac yn teimlo pa mor ffodus ydyn ni mai nid ni yw'r rhai sy'n cael ein rhoi yn y sefyllfa honno o orfod gwneud y penderfyniadau hynny ein hunain. Y rheswm y gwnes i ymatal 18 mis yn ôl oedd oherwydd fe wnes i wrando ar y straeon hynny ac roeddwn i'n agored i'r syniad o Fil a oedd yn gweithio ac a oedd yn cynnwys mesurau diogelu y byddai modd eu cyflawni. Roeddwn i'n gobeithio y byddai'r ffaith fy mod i wedi ymatal yn caniatáu ychydig o amser i'r Bil, fel yr oedd yn cael ei lunio yn San Steffan, gael ei wella i gynnig mwy o fesurau diogelu ac amddiffyniadau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ges i wahoddiad i fynd i ymweld â Tŷ Olwen, uned gofal lliniarol yn Ysbyty Treforys, a'r hyn a welais oedd rhai o'r staff mwyaf gweithgar a thosturiol y gallech chi erioed dychmygu eu cyfarfod. Roedden nhw wir yn credu mewn pwysigrwydd gofal lliniarol, pwysigrwydd yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud. Mae'r rhain yn bobl sy'n ymdrin â phobl yn y sefyllfaoedd hynny a ddisgrifiais bob dydd. Fe wnaethon ni siarad am y Bil fel yr oedd wedi'i ddrafftio bryd hynny. Fel yr ydyn ni eisoes wedi sôn, mae hwn yn Fil sy'n datblygu'n barhaus, gyda llawer o welliannau, ond fe wnaeth y Bil fel yr oedd wedi'i ddrafftio ar y pryd wneud i'r bobl hynny—sydd mor angerddol am ofal lliniarol, sy'n credu cymaint yn y gwahaniaeth y gall y gwaith maen nhw'n ei wneud ei wneud—wrthwynebu'r Bil fel yr oedd wedi'i ddrafftio bryd hynny yn chwyrn, oherwydd roedd yn newid, mewn ffordd sylfaenol, y berthynas rhwng gweithwyr meddygol proffesiynol a'r cleifion maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
Y llw hwnnw maen nhw'n ei gymryd i beidio ag achosi niwed i'w cleifion, yn sydyn roedden nhw'n cael eu gorfodi a'u cymell i'w gynnig fel dewis. Fe wnaeth hynny, i mi, newid fy marn yn eithaf sylfaenol o ran yr hyn yr oedd gofyn i ni ei ystyried, yr hyn yr oedd gofyn i ni ei drafod. Nid yw'n rhywbeth y gallaf barhau i'w gefnogi. Fe wnes i ymatal ar y cynnig a gyflwynwyd 18 mis yn ôl. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw am lawer o'r rhesymau yr ydym wedi'u trafod—y mesurau diogelu, yr oruchwyliaeth farnwrol, y gorfodaeth bosibl, y newid graddol mewn amcanion, y broses seneddol. Mae'r holl bwyntiau hyn yn sylfaenol ddilys. Ond allaf i ddim cefnogi Bil sy'n rhoi cleifion yn y sefyllfa sy'n cael ei chynnig, sy'n amherffaith trwy ei ddyluniad. Fe ddylen ni fod yn anelu at ddeddfwriaeth nad yw'n amherffaith, pan ddaw hi i faterion bywyd a marwolaeth.
Ond gadewch i mi orffen ar hyn. Rwyf wedi ymgodymu â hyn. Mae hwn wedi bod yn gynnig anodd iawn, iawn i mi, yr un anoddaf fwy na thebyg yn y pum mlynedd yr wyf wedi bod yn Aelod o'r Senedd. Rwy'n credu, Delyth, eich bod chi wedi'i ddweud yn gynharach, mae pob un ohonom yn cael ein hysgogi gan dosturi. Ni wnaeth ar ba ochr o'r ffens y byddwn ni'n sefyll heno, ni waeth ar ba ochr o'r ffens y byddwn ni'n sefyll wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo, mae pob un ohonom yn cael ein hysgogi gan eisiau gwneud y peth iawn. Mae pob un ohonom yn cael ein hysgogi gan y syniad ein bod ni eisiau helpu a chefnogi'r bobl sy'n wynebu'r boen, y dioddefaint a'r cyflyrau mwyaf annychmygadwy. Roeddwn i eisiau gallu cefnogi Bil a allai gynnig ffordd allan wirioneddol i bobl pe baen nhw'n dewis gwneud hynny. Dydy'r Bil hwn ddim yn gwneud hynny mewn unrhyw ffordd, a dyna pam na allaf ei gefnogi. Diolch.
Fel y mae eraill wedi dweud, mae llawer o'r ohebiaeth rydyn ni i gyd wedi'i chael gan ein hetholwyr, a rhai adroddiadau yn y cyfryngau hefyd, yn dangos yn glir nad oes dealltwriaeth dda o'r LCM hwn, na'r hyn y mae'n ei drafod. Nid yw'r LCM hwn yn ymwneud ag egwyddor y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Mater i Lywodraeth y DU yw hynny, a dydw i ddim yn mynd i wneud sylwadau ar yr egwyddor honno. Yr hyn y mae'r LCM hwn yn ymwneud ag ef yw, os a phan fydd y Bil hwn yn dod yn Ddeddf, a yw'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i Weinidogion Cymru gael y pŵer i sicrhau y gallai gwasanaethau marw â chymorth gwirfoddol gael eu darparu gan y GIG ledled Cymru pe bai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dymuno gwneud hynny.
Felly, os na roddir cydsyniad i'r LCM hwn heddiw a bod y Bil yn dod yn gyfraith, byddai yna fwlch, bwlch y gallai darparwr preifat ei lenwi. Bydden ni wedyn yn cael ein gadael mewn sefyllfa lle mai dim ond os gallech chi fforddio cael mynediad at wasanaethau marw â chymorth preifat y byddech chi'n gallu gwneud y dewis hwnnw. Mae'r LCM hwn yr un fath ag unrhyw LCM arall y mae gofyn i ni bleidleisio arno yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â rhywbeth yr ydyn ni eisiau i San Steffan ei wneud ar ein rhan ni, neu a ydyn ni eisiau ei wneud ein hunain. Fel rydyn ni wedi clywed, mae gan y Senedd hon y pwerau sylfaenol i wneud hynny, ond, fel yr wyf wedi'i amlinellu, os byddwn ni'n dewis gwneud yr olaf, bydd yna fwlch.
Roeddwn i'n falch, yn gynharach, o weld y llythyr y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan noddwyr y Bil, yn rhoi sicrwydd i Aelodau y bydd y setliad datganoli, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu, monitro ac adrodd ar wasanaethau marw â chymorth yng Nghymru, yn cael ei barchu, ac i glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn ailadrodd hynny yn ei sylwadau agoriadol hefyd. Fodd bynnag, fe fydd risg—risg sylweddol iawn—os na fyddwn ni'n pleidleisio dros yr LCM hwn sydd o'n blaenau ni heddiw, na fydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, o bosibl, yn gallu gwneud y penderfyniad i ddarparu gwasanaethau marw â chymorth cyhoeddus drwy GIG Cymru.
Rwy'n cynrychioli etholaeth ar y ffin, felly rwy'n ymwybodol iawn bod angen i fy etholwyr gael mynediad at yr un gwasanaethau GIG â'r rhai a gynigir yn Lloegr pan fydd y Bil yn dod yn gyfraith. Ar ôl ystyried a gwrando'n ofalus iawn ar ddwy ochr y ddadl ar yr LCM penodol hwn, rwy'n credu bod fy etholwyr yn haeddu gallu cael mynediad at wasanaethau marw â chymorth teg a ddarperir yn gyhoeddus gan y GIG os bydd San Steffan yn penderfynu cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, a fyddai, wrth gwrs, yn gymwys i Gymru a Lloegr. Byddwn i'n gwneud cam â fy etholwyr, y mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n dibynnu ar y GIG am eu gwasanaethau iechyd, pe na bawn i'n pleidleisio dros yr LCM hwn.
Nid yw hon yn ddadl hawdd. Nid yw trafod materion mor bwysig â hyn byth yn hawdd. Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi cael gohebiaeth gan etholwyr y mae eu profiadau ar naill ben y ddadl hon a'r llall. Mae rhai wedi ysgrifennu am eistedd wrth welyau anwyliaid sydd mewn poen annioddefol, yn teimlo'n ddiymadferth ac yn daer eisiau eu helpu ac yn gobeithio y bydd ganddyn nhw fwy o reolaeth ac urddas ar ddiwedd eu bywydau nhw. Mae eraill wedi cysylltu â mi yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn y gallai newid yn y gyfraith ei olygu i bobl agored i niwed, i'r rhai sy'n byw gydag anabledd neu i'r rhai a allai deimlo fel baich. Mae'r ddau safbwynt hynny'n ddiffuant, mae'r ddau wedi'u gwreiddio mewn gofal ac mae'r ddau yn haeddu cael eu trin â difrifoldeb a pharch.
I mi, mae hon yn ddadl bersonol sy'n treiddio'n ddwfn i fy ffydd Gristnogol. Mae fy ffydd yn fy nysgu am ba mor werthfawr yw bywyd, ond mae hefyd yn fy nysgu am dosturi, trugaredd a cherdded ochr yn ochr â'r rhai sy'n dioddef. Dydy hi ddim yn hawdd cysoni'r argyhoeddiadau hynny wrth drafod marw â chymorth. Maen nhw'n ychwanegu pwysau moesol gwirioneddol i'r mater hwn, ac nid wyf yn esgus fel arall, ac mae e' yn pwyso'n drwm iawn arnaf i. Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon yn flaenorol am fy mhrofiad teuluol fy hun, a luniodd fy marn ar y sefyllfa hon. Mae gwylio rhywun rydych chi'n ei garu yn dioddef am amser hir yn newid y ffordd rydych chi'n meddwl am ofal diwedd oes. Fe wnaeth etholwr gysylltu â mi'r diwrnod o'r blaen y gwnaeth ei bartner roi'r gorau i fwyta ac yfed ar gam hwyr ei ddiagnosis er mwyn iddo allu dod â'i fywyd i ben yn gyflymach ar ôl erfyn ar ei bartner i'w helpu am fisoedd a misoedd. Ond gyda'r ofn y bydden nhw'n cael eu herlyn, doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny. Gwnaeth y person hwnnw farw yn ddiweddarach o ddadhydradu.
Y profiad hwnnw yw'r rheswm pam rwy'n cefnogi egwyddorion marw â chymorth i oedolion terfynol sâl, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu llym iawn. Rwy'n gwneud hynny oherwydd rwyf o'r farn y gall fod achos tosturiol dros ddiwygio. Dydw i ddim wedi newid fy safbwynt ar hynny; honno yw fy marn sylfaenol o hyd. Fodd bynnag, nid yw cefnogi egwyddor yn dileu ein cyfrifoldeb i graffu ar y ddeddfwriaeth sy'n ceisio cyflawni'r nod hwnnw. Mae'r Bil gerbron y Senedd yn dal i fynd trwy Dŷ'r Arglwyddi. Fel y mae llawer o bobl eraill wedi'i ddweud, mae 1,000 o welliannau wedi'u cyflwyno, mae mesurau diogelu yn dal i gael eu harchwilio. Mae manylion pwysig am asesiadau capasiti, rôl clinigwyr, goruchwyliaeth reoleiddiol a gweithredu ymarferol heb eu cadarnhau eto. Mae'n parhau, at ei gilydd, i fod yn Fil o waith sydd ar y gweill.
Rhaid i ni hefyd fod yn onest ynglŷn â'r sefyllfa gyfansoddiadol ac ymarferol sy'n wynebu Cymru. Os na chaiff cydsyniad deddfwriaethol ei roi a bod y gyfraith yn mynd rhagddi ac yn dod yn gyfraith yn Lloegr, byddwn ni'n gweld gwahaniaeth rhwng ein dwy genedl. Yn Lloegr, byddai'r system yn cael ei darparu am ddim ar y GIG i etholwyr yno, ond yng Nghymru, dim ond drwy ddarparwyr preifat y byddai ar gael, ni fyddai ar gael trwy ein GIG. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y gallen ni ddeddfu yn y dyfodol, ond ni fyddai'n cyfateb â'r gwasanaeth y byddai ganddyn nhw yn Lloegr. Mae hynny'n creu anghydraddoldeb o ran tegwch a mynediad, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried o ddifrif. Ond yn yr un modd, byddai rhoi cydsyniad nawr, cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei chwblhau, yn rhwymo'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i fframwaith y mae ei wedd derfynol yn anhysbys i ni. Mae iechyd wedi'i ddatganoli ac fe fyddai'n cael ei weithredu yma. Byddai'n gweithredu o fewn ein systemau yng Nghymru o dan fyrddau iechyd Cymru ac fe fyddai yna ganlyniadau i'n GIG ni. Nid pwynt technegol gweithdrefnol mohono, mae'n fater o gyfrifoldeb rheoleiddio.
Ond mae yna egwyddor hefyd yr wyf yn credu y dylai fod yn sail i unrhyw ddiwygio yn y maes hwn, sef os yw marw â chymorth yn dod yn gyfreithlon, rhaid iddo eistedd ochr yn ochr â sector gofal lliniarol cryf, hygyrch y darperir adnoddau priodol ar ei gyfer, ac ni ddylai byth ei ddisodli. Oherwydd ni ddylai unrhyw berson deimlo mai marw â chymorth yw ei unig ddewis realistig oherwydd bod gwasanaethau hosbis dan bwysau ac nad yw ffyrdd o reoli poen yn ddigonol, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr bod dewis gwirioneddol ar ddiwedd oes yn dibynnu ar fuddsoddiad gwirioneddol mewn gofal lliniarol. Fel y mae llawer wedi'i ddweud, nid cwestiwn ynghylch a wyf yn cefnogi'r egwyddor sydd o'n blaenau ni heddiw—rwyf yn cefnogi'r egwyddorion o farw â chymorth—y cwestiwn yw a yw'n iawn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth sy'n dal i ddatblygu, sy'n dal i fod yn destun diwygiadau, ac sy'n dal i fod yn destun craffu hwyr mewn mannau eraill. Wrth fynd i'r afael â mater mor bwysig sy'n cyffwrdd â'r gwerth yr ydym yn ei roi ar fywyd, y ffordd y caiff y rhai sy'n agored i niwed eu diogelu, a'r ymddiriedaeth yr ydym yn ei rhoi yn y gyfraith, dylen ni fwrw ymlaen ar sail sicrwydd ac nid rhagdybiaeth. Os yw'r gyfraith yn mynd i newid, rhaid iddi newid mewn ffordd glir, bendant sy'n gallu ennyn hyder y cyhoedd ledled Cymru.
Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn credu ein bod ni yno, a dydw i ddim yn credu bod y Bil yno chwaith. Mae fy mhenderfyniad heddiw yn adlewyrchu'r farn honno. Mae'n adlewyrchu'r gred nad yw deddfu tosturiol a gofalus yn gyferbyniol; mae'n rhaid iddyn nhw fynd law yn llaw. Mae'n adlewyrchu'r farn bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio, os daw, fod yn briodol ac yn seiliedig ar ddeddfwriaeth derfynol y craffwyd arni'n llawn sy'n effeithio ar fywydau pobl. Am y rheswm hwnnw, gyda chalon drom iawn yr wyf yn dweud hyn wrth fy etholwyr, y bobl sydd wedi cysylltu â mi, a fy nghydwybod fy hun: byddaf yn ymatal ar y cynnig heddiw yn y gobaith y bydd y ddeddfwriaeth orffenedig yn rhoi hyder llwyr i mi, ac eraill, gefnogi'r Bil hwn yn y dyfodol. Oherwydd dylai pobl gael yr opsiwn i ddewis sut i ddod â'u bywyd eu hunain i ben. Diolch, Llywydd.
A gaf i dalu teyrnged i bob person sydd wedi siarad? Mae'r tosturi rydych wedi'i ddangos wrth siarad, a'r ffordd mae'r ddadl hon wedi'i chynnal, yn rhywbeth nad wyf i'n credu y byddaf byth yn ei anghofio. Pan ydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd fel hyn, pa bynnag gyfeiriad yr ydyn ni'n mynd iddo—. Y ffordd garedig a thosturiol y mae'r ddadl hon wedi'i chynnal heno. Rwy'n credu bod hynny'n deyrnged i chi i gyd.
I mi, yn bersonol, allaf i ddim cefnogi marw â chymorth. Fel un o Aelodau hŷn y Senedd, mae fy mhrofiadau bywyd fy hun wedi fy nysgu i—. Rwyf wedi bod yn dyst i achosion lle mae pobl nad oedden nhw eisiau marw wedi marw, a phan mae gorchymyn 'peidiwch â cheisio dadebru' wedi'i ddefnyddio. Yn sicr yn ystod COVID, rydyn ni'n gwybod am bobl a fu farw oherwydd defnydd gormodol o orchmynion peidiwch â cheisio dadebru. P'un a yw hyn yn gymwys i ni benderfynu arno heno—. Rwy'n poeni ychydig am sylw y gwnaethoch chi, Julie, rwy'n credu, sef bod hyn yn mynd i fynd trwy Senedd y DU. Mae'n fy nrysu i, pan ydyn ni yn y siambrau dadlau hyn, rhywbeth y mae angen 1,000 o welliannau arno eto i fynd drwyddo—nad oes amheuaeth y bydd y Bil hwn yn cael ei basio yn Lloegr.
I mi, hoffwn i droi'r ddadl ar ei phen, mewn gwirionedd. I mi, fel Aelod etholedig a rhywun sydd, rwy'n credu, yn ysbrydol, dydy fy ffydd ddim yn caniatáu i mi gefnogi hyn. Mae hyn yn cyfaddawdu ar fy ngwerthoedd moesol a phethau. Ond rydw i wedi cymryd yr amser a'r drafferth i wrando ar yr arbenigwyr sydd wedi camu ymlaen, y rhai sy'n cefnogi marw â chymorth, a'r rheini, fel y mae Darren Millar wedi nodi'n huawdl ac yn hollol briodol, sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd, arweinwyr ein heglwysi. I mi, rydw i wedi gwrando ar ganlyniadau marw â chymorth. Os ydych chi yno, ac mae marwolaeth â chymorth yn debygol o ddigwydd, rydw i wedi cael gwybod ein bod ni i gyd yn unigolion gwahanol ac y gall gymryd mwy o amser i rai pobl, mewn gwirionedd. Gall pobl gael ffitiau oherwydd nad yw'r feddyginiaeth sydd wedi'i rhoi iddyn nhw wedi gweithio, a gall gymryd dau i dri diwrnod i farwolaeth â chymorth ddigwydd.
Rwyf o blaid byw â chymorth. Rwy'n credu yn sylfaenol, fel y mae'r meddygon wedi gwneud—. Mae dau gant a hanner o feddygon ac uwch weithwyr iechyd proffesiynol wedi galw arnom i beidio â chefnogi hyn. Rydyn ni wedi gweld ein hosbisau, lle nad yw'r cyllid yn ddigonol—tri chwarter yr hosbisau yn ofni y byddan nhw'n cael eu gorfodi i dynnu'r cymorth maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai a chartrefi gofal yn ôl. Maen nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model cyllido cynaliadwy newydd ar gyfer hosbisau yng Nghymru, gan gynnwys £40 miliwn ychwanegol. Rydw i wir yn pryderu bod tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno sy'n nodi y gallai pobl fod yn dioddef rhai problemau iechyd meddwl, yn ogystal ag anableddau corfforol eraill, eu bod nhw'n cael diwrnod gwael, ac y gallen nhw ddweud, 'Iawn, rydw i eisiau marw â chymorth.' Mae yna dystiolaeth lle mae wedi cael ei brofi bod pobl wedi newid eu meddwl mewn achosion o'r fath.
'Mae diffiniad y Bil o salwch terfynol yn methu ag adnabod y risgiau'—
ac mae wedi cael ei godi ar y meinciau hyn—
'sy'n gysylltiedig â diagnosis anghywir neu gamwybodaeth. Mae gwneud prognosis cywir yn amhosibl.'
Dyma'r meddygon nawr.
'Rydyn ni'n annog y Senedd i wrthod cydsyniad deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â'r Bil hynod ddiffygiol hwn.'
Ac mae'r Bil yn ei gyflwr presennol yn
'hynod anniogel i boblogaeth Cymru'.
Felly, sut allwn ni ystyried gofal diwedd oes sydd wedi'i amlinellu yn y Bil hwn? Mae yna ddewis arall i'r Bil hwn ac i'r pwnc ynglŷn â gofal diwedd oes, yn fy marn i. I wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn gofal diwedd oes, dylai fod cyllid addas i gefnogi elusennau, hosbisau ac unedau gofal lliniarol, y mae angen help arnyn nhw'n daer i ddarparu gwasanaethau. Yn ogystal â hyn, ac rwy'n pwysleisio hyn, mae'r cyllid nid yn unig ar gyfer y bobl sydd angen gofal diwedd oes, ond hefyd ar gyfer y teuluoedd y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw yn ystod y cyfnodau hynod anodd ac emosiynol hynny.
Nawr, dywedodd Matthew Brindley, rheolwr polisi ac eiriolaeth Cymru yn Hospice UK:
'Heb weithredu brys, gallen ni fod yn edrych ar ddyfodol lle mae capasiti gwasanaethau oedolion yn cael ei leihau ymhellach, lle mae staff arbenigol yn cael eu colli ac—yn hollbwysig—lle mae pobl â chyflyrau sy'n byrhau bywyd a'u teuluoedd yn cael llai o fynediad i'r gofal tosturiol o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw.
'Rydw i mor ffodus yn Aberconwy, mae gennym ni Hosbis Dewi Sant a Tŷ Gobaith. Nawr, Tŷ Gobaith, yn arbennig, i blant—. Felly, lle mae gennych chi rieni nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond defnyddio'r gofal lliniarol hwn—. Rwy'n credu bod y Bil hwn—dylen ni ddim bod yn ei drafod yma heddiw. Mae'n Fil diffygiol, ac nid wyf yn petruso dweud, am y rhesymau y soniais amdanyn nhw'n gynharach, na fyddaf yn cefnogi'r Bil hwn ar unrhyw ffurf.
Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn trafod y Bil hwn, a dyna'r mater allweddol i ni heno yn y ddadl hon. Mae'n ddadl anodd i bob un ohonon ni, a bydd gan bob un ohonon ni safbwynt gwahanol arni, gyda'n profiadau a'n credoau personol ein hunain. Rwy'n credu bod pob un ohonon ni'n cydnabod yr anawsterau sydd gan lawer o Aelodau wrth ddod i gasgliad ar y mater hwn, ac, yn yr ystyr hwnnw, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am y ffordd y cyflwynodd y ddadl heno, mewn ffordd feddylgar a thrwyadl iawn.
Ond nid dyma sut y dylen ni fod yn deddfu ar y materion hyn. Rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau a wnaeth Adam Price, sef y dylai'r lle hwn gael y pwerau i wneud penderfyniad cyflawn ar y materion hyn. Nid yw'n gywir bod Cymru yn cael ei rhoi yn y sefyllfa hon. Dydy hi ddim yr un peth yn Lloegr, yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon. Dim ond yng Nghymru allwn ni ddim cael y ddadl yr ydym wedi ceisio ei chael, ac nid dyna'r ffordd o lywodraethu unrhyw wlad. Rwy'n gobeithio mai un o'r pethau y byddwn ni'n ei ddysgu o hyn yw bod angen diwygio sylfaenol arnon ni, i sicrhau nad ydyn ni'n cael ein rhoi yn y sefyllfa hon eto.
Ar yr un pryd, rwy'n cydnabod yn llwyr, ac rwyf wedi cael y sgwrs hon gyda'r Gweinidog, am amseriad yr LCM hwn—. Bydd yn gwybod y byddai wedi bod yn well gennyf pe bai wedi dod yn ddiweddarach yn y sesiwn hon er mwyn ein galluogi i gael y ddealltwriaeth ehangaf bosibl o safbwynt Tŷ'r Arglwyddi. Ond rydyn ni'n gwybod hefyd fod y 1,000 o welliannau sydd wedi'u gosod gerbron Tŷ'r Arglwyddi yn cael eu gosod yno nid yn unig i wella'r ddeddfwriaeth, ond i rwystro'r ddeddfwriaeth, a dydy hynny ddim yn enghraifft o lywodraethu da chwaith. Felly, oes, mae angen diwygio'r setliad, ond mae angen diwygio'r ffordd rydyn ni'n deddfu hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwersi hynny'n cael eu dysgu.
Dywedodd y Gweinidog wrthyf, yn eithaf cryf, ei fod eisiau bwrw ymlaen â'r ddadl heno, oherwydd doedd e ddim yn rhagweld unrhyw bosibilrwydd rhesymol y byddai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r ddeddfwriaeth pe baen ni'n aros un, dwy, tair neu hyd yn oed bedair wythnos, ac rwy'n credu ei fod, fwy na thebyg, yn gywir. Rwy'n credu bod y dadansoddiad hwnnw, fwy na thebyg, yn gywir. Mae'n annhebygol y bydd pensaernïaeth sylfaenol y ddeddfwriaeth yn newid dros yr wythnosau nesaf. Ond mae Mabon, yn yr achos y gwnaeth ef yn gynharach yn y ddadl hon, yn gwbl gywir nad dyma sut y dylen ni fod yn ymdrin â'r materion hyn. Ond felly mae hi, ac mae'n rhaid i ni ddod i gasgliad heno.
Does ganddon ni ddim llawer o ddewis, yn fy marn i, ond pasio'r LCM hwn heno. A'r rheswm rwy'n dweud hynny yw oherwydd os na fyddwn ni'n ei basio, beth fydd y sefyllfa bore fory? Beth fydd y sefyllfa sy'n wynebu rhai pobl agored iawn i niwed yng Nghymru yfory? Byddwch chi ddim wedi rhwystro’r Bil, fel y mae pobl wedi dadlau heno. Rwyf bob amser yn mwynhau gwrando ar fy ffrind da Darren Millar, ond heno fe wnaeth araith ardderchog, ond ar gyfer dadl wahanol mewn lle gwahanol. A dydw i ddim yn gwneud—. [Torri ar draws.] Fe wnaf i ildio. Rwy'n cydnabod yn llwyr dyfnder ei gredoau a'i angerdd ar y mater hwn. Ond trwy bleidleisio yn erbyn yr LCM hwn heno, fyddwch chi ddim yn atal y Bil rhag dod yn gyfraith.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyfeirio at fy nghyfraniad yn gynharach. Y pwynt roeddwn i'n ei wneud yw ei bod yn amhosibl datgysylltu dadl am yr egwyddor o'r cymalau rydym yn eu trafod heddiw. Dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud. A dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol i'r Senedd hon hyd yn oed ystyried cymalau nad ydym wedi gallu craffu'n briodol arnyn nhw fel Senedd. Nid yw awr o ddadl i graffu ar rai cymalau manwl yn ddigonol. Ac am y rheswm hwnnw, rwyf eisiau gweld pobl yn pleidleisio yn erbyn y cynnig penodol hwn sydd o'n blaenau ni.
Ond ni fydd pleidleisio yn ei erbyn yn cyflawni'r nod hwnnw. Rwyf wedi cefnogi ymestyn a dyfnhau'n democratiaeth yn y lle hwn. Fe wnes i gefnogi ehangu'r ddemocratiaeth hon. Rwyf wedi cefnogi, fel y gŵyr Aelodau eraill, treulio mwy o amser ar y materion hyn. Rwyf wedi gwneud hynny dros gyfnod o bron i 20 mlynedd, oherwydd rwy'n cytuno â hynny. Ond ni fydd pleidleisio yn erbyn yr LCM hwn heno yn cyflawni unrhyw rai o'r pethau hynny. Fydd e ddim yn cyflawni unrhyw rai o'r pethau hynny. Yr hyn y bydd yn ei wneud yw y bydd yn gwneud hyn: bydd yn amddifadu Gweinidogion Cymru o gael pwerau, a bydd yn amddifadu'r lle hwn o'r gallu i lunio'r ddeddfwriaeth, pe bai'n dod yn gyfraith. Dyna beth fydd yn ei wneud.
Bydd hefyd yn sicrhau bod yna gyfraith dwy haen yng Nghymru. Bydd y bobl hynny sy'n gallu ei fforddio yn gallu arfer dewis, ac mae hwn yn fater difrifol iawn pan ddaw i ddadl ar foesoldeb. Pa ddadl ar foesoldeb all ddigwydd pan ydyn ni'n dweud wrth bobl yng Nghymru, 'Gallwch chi arfer dewis ar y mater sylfaenol hwn, ond dim ond os oes gennych chi'r arian i dalu amdano'?
Ac yna rydyn ni'n siarad am dosturi. Rydyn ni'n siarad am dosturi. Os gwnawn ni bleidleisio yn y fath fodd fel mai dim ond pobl sy'n gallu fforddio ei wneud neu sy'n barod i symud i gael mynediad at wasanaethau sy'n gallu arfer y dewis sylfaenol hwnnw, ac yna rydyn ni'n siarad am dosturi—does dim tosturi na moesoldeb i'w gael yn y ddadl honno, mae gennyf ofn, dim o gwbl. A'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw dileu'r cyfle i'r lle hwn lunio'r pwerau hynny a llunio unrhyw reoliadau yn y dyfodol a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru y dyfodol i benderfynu sut y bydd y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu.
Ac yna rydyn ni'n mynd yn ôl at y dadleuon dros y Bil, a fydd yn dal yn dod yn gyfraith, pa bynnag ffordd y byddwch chi'n pleidleisio heno. Ond bydd yr hyn y byddwn ni wedi'i wneud wedi gwneud Cymru yn lle llawer, llawer gwaeth i fod. Yr hyn y byddwn ni wedi'i wneud yw dweud wrth bobl yng Nghymru, 'Mae'r gwasanaethau ar gael os gallwch chi dalu amdanyn nhw, neu os ydych chi'n fodlon symud, ond dydy'r gwasanaethau ddim ar gael i bobl—'. [Torri ar draws.] Fe wnaf i gymryd ymyriadau os bydd y Llywydd yn caniatáu i mi wneud hynny. Ond byddwn ni ddim yn caniatáu i bobl gael mynediad i'r un gwasanaethau hynny ar y gwasanaeth iechyd gwladol ag y mae pobl yn gallu eu cael dros y ffin. Fe ildiaf.
Diolch. Rwy'n dilyn rhesymeg dadl yr Aelod a llawer o'r safbwyntiau o wahanol leoedd ar draws y Siambr, ac rwy'n parchu'r gwahaniaeth mewn safbwyntiau, y gwahanol safbwyntiau, gan gynnwys y rhai sy'n mynd i bleidleisio ar egwyddor y Bil yn hytrach na'r LCM sydd o'n blaenau. Ond a gaf i gadarnhau? Oherwydd fy nealltwriaeth i o'r broses ddeddfwriaethol yw, os yw Tŷ'r Arglwyddi yn gwneud gwelliannau, yna mae'r Bil hwnnw'n dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin er mwyn i Aelodau Seneddol gael pleidlais derfynol. Felly, mae'n bosibl na fydd y Bil yn cael ei basio, nid yn unig os nad yw ei amser yn dod i ben oherwydd trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi—ac rwy'n cytuno, mae gwelliannau ewyllys da yn yr Arglwyddi, ac mae yna rai eraill sydd wedi bod yn agored am y ffaith eu bod nhw eisiau siarad fel bod ei amser yn dod i ben. Bydd gan Aelodau Seneddol bleidlais derfynol o hyd, a bydd hynny'n penderfynu a yw'r gyfraith yn newid ar farw â chymorth. Mae'r LCM hwn a chynllun y Bil mewn gwirionedd yn golygu y byddai meysydd datganoledig yn dychwelyd i Weinidogion Cymru, pwy bynnag yw'r Gweinidogion hynny, ac yna mae'n fater i'r Senedd yma, Senedd Cymru, y Senedd, gytuno, mewn gwirionedd, ar y rheoliadau hynny ai peidio. Ac mae yna, wrth gwrs, gyfle—byddech chi'n disgwyl iddo ddigwydd, beth bynnag sy'n digwydd ar ôl mis Mai—i'r lle hwn fod eisiau craffu ar y rheoliadau hynny mewn ffordd uwch. Felly, mae hyn yn ymwneud â p'un ai yw'r Senedd hon yn cael y cyfle i wneud hynny gyda Gweinidogion Cymru ar yr un pryd ag y byddai'r gyfraith yn newid yn Lloegr.
Diolch. Mae'n debyg, nid am y tro cyntaf, bod Vaughan Gething wedi gwneud fy mhwyntiau ar fy nghyfer i yn well o lawer nag yr oeddwn i wedi'u gwneud nhw fy hun. Rwy'n credu, os ydyn ni'n mynd i dderbyn yr LCM hwn heno, yna byddwn ni'n rhoi cyfle i Aelodau yma gael y dadleuon eraill hynny, a byddwn ni'n galluogi Aelodau i gael eu hethol ym mis Mai i wneud y penderfyniadau hynny. Os byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn yr LCM hwn heno, dydyn ni ddim yn rhoi'r un cyfle i Aelodau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod gennym ni ddyletswydd i wneud hynny.
Cyn i mi alw'r Ysgrifennydd Cabinet, dim ond ar gyfer y cofnod, nid wyf i wedi arfer unrhyw gyfyngiad ar yr amser sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y ddadl hon heno, ac mae'r holl Aelodau sydd wedi gwneud cais i siarad wedi cael eu caniatáu i siarad ac wedi cael eu galw i siarad.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am y cyfraniadau meddylgar ac yn aml manwl, sydd wedi cael eu gwneud yn ystod y ddadl heddiw. Mae wedi bod yn ddadl, fel y mae nifer o Aelodau wedi'i ddweud, ynglŷn â darpariaethau'r Bil sy'n ystyried materion datganoledig, sy'n rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru ac sy'n gofyn am gydsyniad a chyfranogiad y Senedd, ac nid am yr egwyddor gyffredinol o farw â chymorth.
Mae'r Aelodau wedi ymdrin â'r hyn rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ei hystyried yn dasg heriol, gyda gofal, gan gydnabod difrifoldeb ac yn aml cymhlethdod y materion y mae'r Bil yn eu codi a'i oblygiadau i Gymru. Mae cyd-Aelodau wedi gwneud pwyntiau o blaid ac yn erbyn y ddeddfwriaeth yn y Senedd ei hun, ac o blaid ac yn erbyn yr egwyddor, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn deall nad wyf i'n bwriadu ymdrin â'r pwyntiau hynny wrth ddirwyn i ben. Ond mae sawl pwynt heddiw wedi adlewyrchu'r pwysau ac, rwy'n credu, yr ymdeimlad o ddyletswydd y mae'r Aelodau wedi'i deimlo ac y mae'r Senedd ei hun wedi'i wynebu wrth graffu ar Fil Aelod preifat o'r raddfa a'r pwysigrwydd hwn, ac rwy'n bwriadu ymateb i'r rheini.
Cyfeiriodd nifer o Aelodau at amseriad y ddadl yr ydyn ni'n ei chael. Mae'r amseru, nifer y gwelliannau, yr angen i osod pedwerydd memorandwm atodol yn ystod y toriad, wedi creu heriau, i Aelodau ac i bwyllgorau, ac rwyf eisiau cydnabod hynny ac ailadrodd fy niolch i'r pwyllgorau y mae eu craffu wedi sicrhau ein bod ni wedi gallu ystyried buddiannau Cymru yn briodol er gwaethaf y cyfyngiadau hynny. Rwyf i eisiau dweud rhywbeth penodol ar yr amseru ac ar y pwyntiau sylweddol a godwyd gan Gadeiryddion y ddau bwyllgor.
Gwnaeth nifer o Aelodau'r pwynt eu bod eisiau bod mewn sefyllfa lle bydd y ddadl yn cael ei chynnal unwaith y cytunir ar ffurf derfynol y Bil, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cydymdeimlo â hynny. Mae'r broses LCM yn amherffaith ac mae'n cynnwys dyfarniadau cynhenid y mae'n rhaid i'r Senedd eu gwneud wrth i deddfwriaeth barhau i basio trwy'r Senedd. Yn achos y Bil hwn, o ystyried yr amserlen seneddol yn San Steffan, nid yw'n bosibl gwybod ffurf derfynol y Bil yn ystod tymor y Senedd, ac felly byddai defnyddio'r egwyddor honno yn golygu na fyddai'r Senedd hon yn cael cyfle i roi ei safbwynt, ac rwy'n gwybod o'r cyfraniadau y mae'r Aelodau wedi'u gwneud heddiw bod yr ohebiaeth yr ydyn ni i gyd wedi'i chael, a phresenoldeb ymgyrchwyr yn y Senedd dros gyfnod o wythnosau, o blaid ac yn erbyn yr egwyddor, y byddent yn disgwyl i ni allu ffurfio barn a datgan barn.
Yr ail bwynt bod—[Torri ar draws.] Cewch, wrth gwrs.
Fe wnaethoch chi gyfeirio yn y fan yna at y broses amherffaith, ac, wrth gwrs, mae proses amherffaith yn arwain at gyfraith amherffaith. A fyddech chi felly yn cytuno y byddai'n well datganoli'r broses i Gymru, fel y gallwn ni gael y broses graffu briodol honno ac y gallen ni ddatblygu ein deddfwriaeth ein hunain o amgylch anghenion Cymru?
Wel, clywais i'r pwyntiau pwysig y gwnaeth yr Aelod ac eraill ar ei feinciau o ran y pwynt hwnnw. Yng nghyd-destun y gwelliannau, rwy'n bwriadu dod at ddweud rhywbeth penodol am hynny.
Yr ail bwynt, Llywydd, yr wyf i eisiau ei wneud ar amseru yw tawelu meddwl y rhai sydd wedi dweud eu bod yn teimlo mai siec wag yw hon—rwy'n credu mai dyna oedd yr iaith a ddefnyddiwyd, ac i gadarnhau, os oes gwelliannau eraill y cytunwyd arnynt sy'n cyffwrdd â materion datganoledig, bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno LCM arall, ond, fel y dywedais i, ein hasesiad gorau yw ei bod yn annhebygol y bydd ei angen yn ystod gweddill tymor y Senedd.
Gwnaeth Peter Fox gyfres bwysig o bwyntiau o ran gweithredu gwasanaeth marw â chymorth posibl yng Nghymru yn y dyfodol, a chododd gwestiynau pwysig ynghylch sut y byddai'n bosibl cyflawni hynny. Ond maen nhw, wrth gwrs, yn gwestiynau ar gyfer Llywodraeth yn y dyfodol a Senedd yn y dyfodol, os bydd y ddeddfwriaeth yn pasio yn y Senedd. Gofynnodd Mike Hedges gwestiynau am reoleiddio darparwyr preifat. Mae cymal 42 o'r Bil presennol yn rhoi amrywiaeth o bwerau o ran hynny, ond mae darpariaethau deddfwriaethol presennol ar wahân ar gyfer y rheoliadau hynny sydd yn nwylo Gweinidogion.
Nododd nifer o Aelodau yr hyn a ddisgrifiwyd ganddyn nhw fel drafftio cul y Rheol Sefydlog. Llywydd, roeddwn i eisiau dweud rhywbeth penodol ar hynny. Mae ein hasesiad fel Llywodraeth o ba gymalau sy'n gofyn am gydsyniad yn seiliedig ar y prawf yn Rheol Sefydlog 29 ynghylch a yw darpariaethau'r Bil yn ymwneud â materion datganoledig. Mae ein dadansoddiad cyfreithiol yn dod i'r casgliad mai dim ond y cymalau sydd wedi'u nodi yn yr LCM sy'n gofyn am gydsyniad o dan y Rheol Sefydlog hwnnw.
Mae rhai Aelodau wedi gofyn, o ran gwelliannau, pam nad yw'n bosibl cymryd dull gweithredu ehangach. Unwaith eto, mae'r Rheol Sefydlog honno yn ei gwneud yn ofynnol i femoranda gael eu gosod lle mae gwelliannau yn ymwneud â materion datganoledig y cytunwyd arnynt nad ydyn nhw'n rhai'r Llywodraeth. Mae'r pwynt pragmatig y cyfeiriodd Mike Hedges ato'n briodol yn ei gyfraniad yn cydnabod graddfa enfawr defnyddio rheol wahanol yng nghyd-destun nifer y gwelliannau sydd wedi'u gosod yn Senedd y DU. Mae'r ffocws ar gyfer gwelliannau ym memoranda 3 a 4 wedi bod yn bennaf ar welliannau allweddol a gafodd eu cyflwyno gan y noddwr, a fyddai'n ychwanegu cymalau cwbl newydd neu'n diwygio darpariaethau y mae LCMs eisoes wedi'u gosod yn gysylltiedig â nhw, neu sy'n ymateb i geisiadau Llywodraeth Cymru i ymdrin ag argymhellion gan bwyllgorau'r Senedd neu geisiadau eraill gan Lywodraeth Cymru bod darpariaethau ymgynghori'n cael eu cynnwys. Mae'r rhain i gyd wedi'u nodi mewn memoranda dilynol.
O ran y pwynt am welliannau a godwyd yn y ddadl ac y gwnaeth Mabon ap Gwynfor ei godi yn ei ymyriad, rydyn ni wedi gweithio'n adeiladol drwy gydol y broses hon gyda'r noddwr a Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau i gryfhau swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Mae'r gwelliannau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw'n ymwneud â lle y byddai ef, ac, nid wyf i'n amau, y byddai llawer ohonon ni y Siambr yn hoffi i'r ffin gyfansoddiadol fod, ond nid dyna lle mae'r ffin gyfansoddiadol. Mae'r LCM o reidrwydd wedi'i greu ar y ffin gyfansoddiadol fel y mae, nid lle y byddwn ni'n dymuno iddo fod. Ble bynnag yr ydyn ni'n credu y dylai'r pwerau y cyfeiriodd atyn nhw fod, gallaf dawelu ei feddwl ef a meddyliau'i gyd-Aelodau nad yw'n gywir dweud nad yw'r setliad datganoli presennol wedi'i ystyried yn drylwyr wrth baratoi'r LCM hwn ac mewn trafodaethau gyda'r noddwr a Llywodraeth y DU. Bydd yr ymgysylltu hwnnw'n parhau wrth i'r Bil symud ymlaen. Os oes gwelliannau eraill sy'n gofyn am LCM, byddan nhw'n cael eu gosod, a byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i Aelodau wrth i'r Bil fynd rhagddo.
Yn olaf, Llywydd, os caf i ddweud, rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am ymdrin â'r cwestiynau gerbron yr Aelodau heddiw gyda'r difrifoldeb a'r eglurder priodol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni'n cynnal yr holl bledleisiau o dan yr eitem yma yn ystod y cyfnod pledleisio, sydd i ddilyn wedi dwy eitem arall.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cyntaf o'r rheini yw eitem 15, y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gwneud y cynnig yma.
Cynnig NDM9163 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adran 2;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 3 i 75;
d) Adran 1;
e) Adrannau 76 i 107;
f) Atodlen 2;
g) Adrannau 108 i 128;
h) Atodlen 3;
i) Atodlen 4;
j) Adrannau 129 i 130;
k) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Mae wedi ei wneud yn ffurfiol. Does gen i ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 15 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dadl ar Gyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) sydd nesaf. Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gwneud y cynnig yma—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9172 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'n fraint agor dadl Cyfnod 4 ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw, sy'n dod â'r darn nodedig hwn o ddeddfwriaeth hirddisgwyliedig yn agosach at gael ei roi ar waith.
Rydyn ni'n trafod y Bil hwn ar adeg, Llywydd, pan fo'r argyfyngau hinsawdd a natur yn dwysáu o'n cwmpas ni. Mae Cymru'n wynebu llifogydd amlach, erydiad arfordirol, colli bioamrywiaeth ac, yn wir, patrymau tywydd sy'n newid. Nid yw'r heriau hyn yn haniaethol. Nid ydyn nhw'n bell i ffwrdd. Maen nhw yma nawr, ac maen nhw'n bygwth ein cymunedau ni, ein heconomi ni a'r ecosystemau yr ydyn ni'n dibynnu arnyn nhw. Dyma pam mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn pasio heddiw. Mae'n gam pwysig ymlaen i Gymru sy'n cynrychioli moment arwyddocaol yn ein penderfyniad i ddiogelu a gwella amgylchedd Cymru ar gyfer hyn ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Bil hwn yn cyflawni hyn drwy sefydlu amcan amgylcheddol i lywio'n proses o wneud polisi a phenderfyniadau ledled Cymru, sy'n canolbwyntio ar lefel uchel o ddiogelu'r amgylchedd a gwella'r amgylchedd. Mae'n cyflwyno dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill i ddefnyddio pedair egwyddor amgylcheddol craidd ac integreiddio diogelu'r amgylchedd. Mae'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol gydag awdurdod, gydag arbenigedd a chyda phŵer gwirioneddol. Mae'n sefydlu fframwaith, sy'n grymuso ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau mewn is-ddeddfwriaeth sy'n cyfrannu at atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth. Yn y bôn, mae'n rhoi'r fframwaith statudol sydd ei angen arnom ni i ymateb i'r heriau hyn ar frys, gydag uchelgais a chydlyniant. Mae'n dangos ein harweinyddiaeth, ein penderfyniad a'n hymrwymiad cyffredinol ar draws y Senedd hon i ddiogelu'r byd naturiol sy'n ein cynnal.
Mae'r Bil hwn yn gynnyrch cydweithredu gwirioneddol a dwfn ac ymgysylltu eithriadol. Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi helpu i lunio'r ddeddfwriaeth bwysig hon—i Aelodau'r Senedd ar bob ochr, i bwyllgorau ac aelodau pwyllgorau, i randdeiliaid o bob cwr o Gymru, ac i bawb sydd wedi cyfrannu cymaint o amser, arbenigedd a chraffu. Rwyf hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn, Llywydd, i ddiolch i dîm bach ond ymroddedig iawn o swyddogion Llywodraeth Cymru, cyfreithwyr y Senedd, clercod pwyllgorau, a staff y Comisiwn am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb drwy gydol y broses hon. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwelliannau adeiladol sydd wedi'u gwneud drwy gydol proses graffu'r Senedd wedi gwella eglurder, uchelgais ac effeithiolrwydd y Bil hwn. Mae hwn yn ddiamheuol yn Fil cryfach oherwydd ehangder y lleisiau sydd wedi'i lunio.
Llywydd, mae'r Bil hwn yn cynrychioli'r gorau oll o ran deddfu cydweithredol yng Nghymru. Galwaf ar Aelodau ar draws y Siambr i roi eu cefnogaeth i'r Bil hwn ar y cam olaf hwn, fel y gallwn gymryd y cam pwysig hwn ymlaen gyda'n gilydd. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r clercod, tîm y pwyllgor a'r tîm cyfreithiol am eu gwaith a'u dyfalbarhad gyda'r Bil, ac i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei gymorth ac i'w dîm e. Yn arbennig, hefyd, hoffwn ddiolch i Niamh Salkeld a Lewis Owen o swyddfa'r Blaid am eu gwaith gyda'r gwelliannau. Hoffwn ddiolch hefyd i Gyfeillion y Ddaear Cymru a Wales Environment Link am eu cymorth gyda'n gwelliannau.
Nawr, Bil yw hwn, wrth gwrs, am bŵer, y pŵer i gywiro anghydbwysedd hanesyddol yn ein cymunedau ac i roi llais i ddinasyddion am stad ein hamgylchedd. Mae Plaid Cymru wedi gweithio i wella'r Bil drwy sicrhau bod gan y corff newydd bwrpas cliriach, i egluro bod gan bobl hawl i wneud cynrychioliadau i'r OEGW, ac i alluogi Gweinidogion i adnewyddu bioamrywiaeth i lefelau hygyrch. Mae'r gwelliannau yn ymarferol, ond byddant yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ffordd rŷm ni'n diogelu ein hamgylchedd. Ac mae'r Bil yn ymwneud â mwy na strwythurau a phrosesau yn unig; mae e am ymbweru ein cymunedau. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld fel y bydd y Bil, a'r Ddeddf nawr, yn cryfhau llais ein cymunedau ac yn helpu i sicrhau Cymru lanach a mwy iach i bawb.
Byddaf i'n gwrthwynebu'r Bil y prynhawn yma oherwydd yr hyn yr ydyn ni wedi'i weld ar draws y Senedd hon mewn nifer o wahanol feysydd yw targedau wedi'u gosod drwy'r amser, a beth ydyn ni'n ei wneud? Dydyn ni ddim yn eu cyrraedd nhw, oherwydd nid yw targedau mympwyol yn gwneud unrhyw wahaniaeth; newid sylweddol sy'n cyflawni hynny. Yr hyn yr ydyn ni'n ei weld hefyd gyda'r Bil hwn yw cwango newydd, costus, nad yw wedi'i ddiffinio'n dda, a'r peth olaf sydd ei angen ar Gymru yw cwango arall wedi'i sefydlu i geisio gwella pethau. Ac mae'r Bil hwn yn mynd i gostio £34 miliwn i'w gyflawni—arian a fyddai'n llawer gwell yn cael ei wario ar ein gwasanaethau rheng flaen. Ac rwy'n ofni mai'r cyfan y bydd yr arian hwn yn ei wneud yw gael ei ddargyfeirio i werthusiadau ac adroddiadau diddiwedd a mwy o fiwrocratiaeth.
Ni allaf i chwaith gefnogi deddfwriaeth sy'n hyrwyddo gwaith y pwyllgor newid hinsawdd sydd eisiau lleihau niferoedd da byw 27 y cant erbyn 2040—rhywbeth nad wyf i'n ei gefnogi. Felly, am y rhesymau hynny, ni fyddaf i'n cefnogi'r Bil hwn heddiw, a byddwn i'n annog eraill sy'n eistedd ar un ochr i mi sydd eisiau arbed arian a'u hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus i fy nghefnogi i yn y mater hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb—Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i, yn gyntaf oll, ailadrodd fy niolch i'r ddau aelod o'r pwyllgor sydd wedi cyfrannu at hyn, ond i randdeiliaid ehangach eraill sydd yn bendant wedi gwella'r Bil hwn? Fel y dywedodd Delyth yn gwbl briodol, un o ddibenion y Bil hwn yw cryfhau llais ein cymunedau a'n dinasyddion yng Nghymru i allu dal cyrff cyhoeddus i gyfrif, gan gynnwys Gweinidogion y Llywodraeth, o ran a ydyn ni'n cyflawni'r gwelliannau hynny i natur.
A James, dim ond i ddweud wrthych chi, yn eich gwrthwynebiad i'r ddeddfwriaeth hon, mae sefydlu corff pwerus i roi llais annibynnol i herio'r cyrff cyhoeddus hynny—yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio fel 'cwango'—mewn gwirionedd yn wadiad gan Reform ein bod yn clywed am yr argyfyngau natur a hinsawdd, ac, yn fwy na hynny, yn gwadu hawl dinasyddion Cymru hefyd i herio llunwyr polisi a'u dal i gyfrif. Os mai dyna lle'r ydych chi eisiau sefyll fel Reform, pob lwc i chi, ond rwy'n annog Aelodau'r Senedd i wir gefnogi'r ddeddfwriaeth hir-ddisgwyliedig hon. Mae'n gam pwysig ymlaen yng Nghymru, a byddwch chi'n gwneud cymwynas fawr â phobl Cymru drwy gefnogi hyn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mae'r bleidlais yma'n cael ei gohirio hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
That brings us to voting time. I'm almost sure that there aren't three Members who wish for the bell to be rung at this particular point, so we will move immediately to voting time.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 10, sef y Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, yn ymatal 14, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 13, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cynlluniau Pensiwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynlluniau Pensiwn. : O blaid: 42, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Y pleidleisiau nesaf fydd ar eitem 14, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal mae 16, yn erbyn mae 12. Felly, mae'r gwelliant cyntaf wedi ei gymeradwyo.
Eitem 14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 25, Yn erbyn: 12, Ymatal: 16
Derbyniwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 15 yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 25, Ymatal: 15
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 16 yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Eitem 14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 25, Ymatal: 16
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf ar yr eitem yma, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles.
Cynnig NDM9157 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6:
1. Yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig:
a) Cymal 4(3A) (Voluntary Assisted Dying Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4, tudalen 2, llinell 29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b))
b) Cymal 40 (Guidance about operation of Act)
c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6) (Voluntary assisted dying services: Wales)
d) Cymal 47(3A) (Reporting on implementation of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784)
e) Cymal 49 (Monitoring by Commissioner) (i’w ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809)
f) Cymal 50(4) (Review of this Act) (i’w fewnosod gan Welliant 824)
g) Cymal 51(1), (2), (3), (5), (6) a (7) (Provision about the Welsh language)
h) Cymal 54(1), (2), (5), (6) (Regulations) (i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A)
i) Cymal 55(3) (Duty to consult before making regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A)
j) Cymal 58(5), (7), (8) (Commencement) (i’w ddiwygio gan Welliant 905A).
2. Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, mae dau yn ymatal, mae 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes). Cynnig (wedi’i ddiwygio): O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Yr eitem nesaf i bleidleisio arno fydd eitem 16. Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yw hwn. Pleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 16. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). : O blaid: 51, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich cyfraniad, a nos da i chi.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:49.