Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/12/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Wrth i ni ddechrau ein Cyfarfod Llawn yn y Senedd heddiw, ac wrth i mi eistedd yma y tu ôl i'r byrllysg a roddwyd i ni gan Senedd De Cymru Newydd, rydym ni'n meddwl am aelodau ein chwaer senedd yn Ne Cymru Newydd, pobl Sydney, a chymunedau Awstraliaid ac Iddewon ledled y byd. Ar yr adeg hon o Hanukkah, wrth i ni agosáu at y Nadolig, rydym ni wedi cael ein hatgoffa unwaith eto nad yw ein gwaith dros heddwch ac ewyllys da ar draws crefyddau a chymunedau'r byd wedi ei gwblhau eto. Rwyf i wedi ysgrifennu at Lefarwyr Senedd De Cymru Newydd i fynegi cydymdeimlad ac undod ein Senedd.
Felly, awn ni ymlaen yn awr i'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Brynhawn yma, mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd mabwysiadol? OQ63597
Mae rhai plant yn cael dechrau anodd iawn mewn bywyd, a'n cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n camu i mewn i gynorthwyo'r plant hynny i ddod o hyd i deuluoedd cariadus a gofalgar iddyn nhw pan nad fydd eu teuluoedd eu hunain yn canfod nad ydyn nhw'n gallu ymdopi. Mae o fudd i bob un ohonom ni bod ein plant yn llwyddo, ac rydym ni'n falch o'r ffaith ein bod ni wedi buddsoddi symiau ychwanegol sylweddol o arian i ysgogi gwelliannau a moderneiddio arferion mabwysiadu, ac mae Cymru yn parhau i arwain o ran creu canlyniadau cadarnhaol i blant mabwysiedig.
Diolch am yr ateb.
Fel y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, mae mabwysiadu yn ffordd hollbwysig o roi sefydlogrwydd i blant sydd, mewn llawer o achosion, wedi bod trwy brofiadau trawmatig iawn yn eu blynyddoedd cynnar, sy'n golygu bod cymorth ôl-fabwysiadu yn hollbwysig. Mae teuluoedd yng Ngogledd Caerdydd wedi cysylltu â mi sy'n teimlo y dylai fod llawer mwy o ymwybyddiaeth a pharatoadau ar gyfer yr anawsterau y byddan nhw'n eu hwynebu, yn anochel, yn ystod yr arddegau fel rheol. Rwy'n cymeradwyo gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Beth arall ellir ei wneud i gydnabod y materion hyn ac i gynorthwyo rhieni a phlant wrth iddyn nhw fynd trwy flynyddoedd sy'n aml yn gythryblus iawn?
Diolch yn fawr, Julie. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am eich cyfraniad rhagorol at fater y gwn ei fod yn agos iawn at eich calon? Y tro cyntaf i mi gyfarfod â chi oedd pan oeddech chi'n gweithio yn Barnardo's yn Nhrelái. Mae hwn yn angerdd gydol oes i chi ac mae eich ymrwymiad yn sicr yn cael ei nodi. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi camu yn ôl o'ch swyddogaeth weinidogol, ond mae eich effaith ar fabwysiadu yng Nghymru yn parhau i gael ei deimlo bob un dydd. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi yn ôl pob tebyg bod achosion o darfu ar drefniadau mabwysiadu yng Nghymru yn parhau i fod yn isel iawn. Maen nhw tua 2 y cant ar hyn o bryd. Nawr, mae 2 y cant yn rhy uchel, ond rydym ni wedi rhoi llawer o fecanweithiau ar waith i geisio cynorthwyo pobl. Mae'r glasoed, fel yr ydych chi'n ei awgrymu, yn gyfnod o her arbennig. Mae'n newid sylweddol, ac yn ddatblygiad hunaniaeth, sy'n gallu bod yn arbennig o gymhleth i bobl ifanc sydd wedi'u mabwysiadu, wir yn dangos bod pobl wir angen y cymorth hwnnw ar yr adeg honno. Mae tystiolaeth yn dangos bod heriau yn aml yn dwysáu yn ystod yr arddegau, gan wneud cymorth amserol, wedi'i deilwra yn hanfodol. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw ymrwymo £13 miliwn i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a £2.3 miliwn bob blwyddyn i wella gwasanaethau i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth pryd bynnag y byddan nhw eu hangen. Mae gwaith sylweddol ar y gweill i gryfhau cymorth i bobl ifanc yn y glasoed ac oedolion ifanc mabwysiedig. Mae honno'n flaenoriaeth strategol newydd i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol bellach, ac rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ystyrlon sy'n parhau i deuluoedd.
Cyn i mi ofyn i James Evans ofyn ei gwestiwn atodol, gwelais luniau hyfryd ohonoch chi a'ch gwraig newydd ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos. Llongyfarchiadau i'r ddau ohonoch chi ar ran pob un ohonom ni. Chwarae teg i chi am dreulio wythnos eich mis mêl gyda ni yma yn ein Cyfarfod Llawn [Chwerthin.] James Evans.
Diolch, Llywydd. Pa amgylchedd iachusol arall fyddwn i eisiau bod ynddo ar gyfer fy mis mêl? Diolch. Diolch am hynna.
Prif Weinidog, mae llawer o rieni mabwysiadol yr wyf i'n siarad â nhw yn teimlo weithiau nad ydyn nhw'n cael eu cynorthwyo pan fyddan nhw wedi mabwysiadu plentyn. Nawr, mae gan rai o'r plant sydd ganddyn nhw weithiau anghenion cymhleth iawn, mae rhai wedi cael profiadau niweidiol trawmatig iawn yn ystod plentyndod hefyd. Rydych chi wedi dweud bod gennych chi £2.5 miliwn yr ydych chi wedi ei ddarparu bob blwyddyn ar gyfer cymorth i'r rhieni hynny. Mae gen i ddiddordeb ym mha waith pellach ar ben y cyllid hwnnw y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gynorthwyo'r rhieni hynny drwy eu taith fabwysiadu gyda'u plentyn newydd.
Diolch yn fawr, James. Llongyfarchiadau gennyf innau hefyd. Mae hynna'n newyddion gwych, ychydig cyn y Nadolig. Mae hynna wedi rhoi hwb i ni i gyd.
O ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn benodol, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr mai'r hyn sydd gennym ni yw dull rhagweithiol sy'n ymateb yn gynnar i anghenion sy'n dod i'r amlwg. Felly, mae ymyrraeth gynnar bob amser yn hanfodol o ran mabwysiadu, a chyn mabwysiadu. Dyna'r peth pwysig—felly, helpu i atal teuluoedd rhag chwalu a dad-ddwysáu heriau cyn iddyn nhw droi'n argyfwng. Dyna'r ymyrraeth bwysicaf, i fynd i mewn yna, rhoi'r cymorth, gan ei bod ni'n gwybod bod y cymorth wedyn, yn enwedig o ran maethu a mabwysiadu, yn llawer mwy dwys. Felly, mynd i mewn yna'n gynnar, rhoi'r cymorth i bobl. Rydym ni, mewn gwirionedd, wir wedi trawsnewid y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â phlant a phobl—plant yn arbennig—sydd ar drothwy gofal. Mae'n gwbl allweddol ein bod ni'n mynd i mewn yna'n gynnar. Mae hynny'n rhan o'r diwygiad radical, ac mae dull y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wir yn mynd law yn llaw â hynny.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r Bil Hawliau Cyflogaeth? OQ63621
Llafur yw plaid hawliau gweithwyr, felly rydym ni, wrth gwrs, wedi ymgysylltu'n helaeth â Llywodraeth y DU ar achos sy'n ganolog i bwy ydym ni fel plaid a'r hyn sy'n bwysig i weithwyr yng Nghymru. Nawr, mae'r Bil hwn yn addo bod yr hwb mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth. Mae'n werth nodi bod Reform a'r Torïaid yn gweithio'n galed i rwystro symudiadau a fydd yn rhoi hawliau ychwanegol helaeth i filoedd o weithwyr yng Nghymru.
Diolch. Ers amser rhy faith, mae gweithwyr yn y Rhondda wedi bod ofn: ofn cyrraedd shifft dim ond iddi gael ei chanslo ar y funud olaf; ofn y byddan nhw'n cael eu diswyddo a'u hailbenodi ar gyflog ac amodau is trwy ddiswyddo ac ail-gyflogi; ofn bod mynd yn sâl yn golygu colli tâl; ac ofn herio arferion annheg rhag ofn iddyn nhw gael eu gollwng o'r rota. Mae Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU, â thâl salwch o'r diwrnod cyntaf, rheolau llymach ar gontractau dim oriau, hawliau tecach i rieni ac o ran gweithio hyblyg, ac amddiffyniad rhag diswyddiad annheg ar ôl chwe mis, yn rhoi gobaith gwirioneddol iddyn nhw. Sut wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr hawliau hyn wir yn cyrraedd gweithwyr mewn cymunedau fel y Rhondda yn wirioneddol, yn enwedig yn sgil y cyhoeddiadau niferus o greu swyddi yn ne Cymru yn ddiweddar?
Diolch yn fawr, Buffy. Rydych chi yn llygad eich lle—ni ddylai unrhyw weithiwr yn y Rhondda nac yn unman arall yng Nghymru fod yn byw mewn ofn y bydd shifft yn diflannu, neu dactegau diswyddo ac ail-gyflogi, neu o golli cyflog pan fyddan nhw'n sâl. Dyna'n union pam mae'r Bil hwn yn bwysig. Mae'r hyn y mae Llafur yn ei wneud ar lefel y DU yn rhoi i weithwyr o'r diwedd yr amddiffyniadau a wrthodwyd iddyn nhw ers cyhyd: tâl salwch o'r diwrnod cyntaf, rheolau tecach ar gontractau dim oriau, a hawliau diswyddiad annheg ar ôl chwe mis. Dyma'r hawliau sydd wir yn mynd at galon yr hyn y mae'n ei olygu i fod ag urddas yn y gwaith. Ond dim ond os byddan nhw'n cael eu gorfodi y mae hawliau yn cael eu newid ac y maen nhw wir ar gael i ni. Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Gwaith Teg newydd i wneud yn siŵr bod yr amddiffyniadau hyn yn cyrraedd gweithwyr ar lawr gwlad, gan gynnwys yn y swyddi newydd a grëwyd drwy'r buddsoddiad diweddar y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Felly, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn pwyso am oriau pendant, y cyflog byw gwirioneddol, a mynediad cryf at undebau llafur, oherwydd dyna'r gwahaniaeth: nid ydym ni'n siarad am waith teg yn unig, rydym ni'n ei ymgorffori ym mhob rhan o economi Cymru.
Does neb eisiau gweld gweithwyr yn cael eu trin yn wael, ble bynnag maen nhw, ond, unwaith eto, rydym ni'n gweld polisi Llywodraeth Lafur y DU arall yn cael ei ddadlau fel un sy'n dda i Brydain. Bydd gweinidogion ar ben arall yr M4 yn dadlau bod y Bil Hawliau Cyflogaeth o blaid twf, ond mae wedi cael ei ystyried gan lawer fel hoelen arall yn arch busnesau. Nawr, bydd Llywodraeth Geidwadol yn diddymu pob mesur sy'n dinistrio swyddi, sy'n wrth-fusnes, sy'n wrth-dwf yn y Bil drwy ailgyflwyno synnwyr cyffredin, gan anfon neges eglur iawn bod Prydain yn agored i fusnes eto. Y cwbl—[Torri ar draws.] Y cwbl yw'r Bil yw prosiect gwleidyddol. Nid yw'n cynhyrchu unrhyw refeniw, nid yw'n creu unrhyw swyddi, ac nid yw'n ychwanegu unrhyw gynhyrchiant, sy'n swnio'n union fel polisïau economaidd Llafur yn gyffredinol. Dyna pam mae Tŷ'r Arglwyddi wedi gwrthod y ddeddfwriaeth, a hynny'n gwbl briodol. Prif Weinidog, rydych chi wedi dweud yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos sut rydych chi'n cefnogi ysgogi twf a chryfhau economi Cymru. Hoffwn wybod sut rydych chi'n credu y gall hyn gyflawni hynny mewn gwirionedd. Os ydych chi wir yn credu na all sicrhau twf economaidd, beth ydych chi'n ei wneud i argyhoeddi eich cydweithwyr yn San Steffan eu bod nhw'n mynd i'r afael â hyn yn y ffordd anghywir yn llwyr?
Rwy'n falch iawn o fod yn perthyn i blaid a sefydlwyd er mwyn sicrhau bod gan weithwyr yn y wlad hon hawliau. Mae'r rheini yn hawliau yr ydym ni wedi bod yn ymladd amdanyn nhw ers canrif. Bob tro y mae Llafur yn dod i rym, mae'r hawliau hynny yn cael eu tynhau ac yn cael mwy o amddiffyniad. Yna, mae eich plaid chi yn dod i mewn ac yn ei ddadwneud, fel y gwnaethoch chi yn y gorffennol gyda'r Bil undeb llafur. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wrthod, y mae gweithwyr yn y wlad hon, Cymru, yn ei wrthod. A gadewch i mi fod yn eglur, rwy'n credu bod cyflogwyr, fel y gwnaethom ni ei ddarganfod yn ein pwyllgor partneriaeth gymdeithasol, mewn sefyllfa mewn gwirionedd lle mai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw i bobl deimlo'n ddiogel. Maen nhw eisiau pobl a fydd â chyfran yn eu cwmnïau, sydd yno ar gyfer yr hirdymor, sy'n werth eu hyfforddi, gan y byddan nhw'n gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Dyna'r hyn na fyddwch chi'n ei gael gyda'r arferion diswyddo ac ail-gyflogi y gwnaeth cynifer o gwmnïau yn y wlad hon, o dan y Torïaid, gymryd rhan ynddo mewn gwirionedd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw? Cawsom ninnau, hefyd, ar feinciau'r Ceidwadwyr, ein dychryn gan y delweddau a oedd yn dod o draeth Bondi dros y penwythnos, ac rydym ni'n sefyll yn gadarn â'r gymuned Iddewig yma yng Nghymru a ledled y byd yn erbyn casineb a hiliaeth o'r fath. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi, Llywydd, y Prif Weinidog, a phawb arall yn y Siambr hon, yn gallu ymuno â mi gyda'r gymuned Iddewig heno ar risiau'r Senedd i nodi'r hyn a ddylai fod yn Hanukkah hapus y mae pobl yn gallu ei ddathlu eleni.
Prif Weinidog, dros y 27 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi cael ei beichio â Llywodraeth dan arweiniad Llafur. Mae'r Llywodraeth honno, wrth gwrs, wedi cael ei chefnogi ar adegau gan eich cyd-deithwyr asgell chwith ym Mhlaid Cymru. Mae eich pleidiau gyda'i gilydd wedi gorfodi polisïau treth uchel, twf isel a pholisïau 'woke', sydd wedi arwain i Gymru fod â'r rhestrau aros hiraf, y safonau addysgol isaf, y cyflogau isaf, a'r gyfradd ddiweithdra uchaf, sydd wedi codi eto heddiw, yn y Deyrnas Unedig gyfan. Dim ond yr wythnos diwethaf, gwelsom yr un hen glymblaid flinedig yn dod at ei gilydd unwaith eto, gyda'r newyddion rhagweladwy bod Plaid Cymru yn rhuthro unwaith eto i'ch achub chi a'r Llywodraeth Lafur hon sy'n methu trwy gefnogi eich cyllideb ofnadwy. Nid negodiad oedd eu trafodaethau cyllideb, ond ildiad. Dyna beth oedden nhw. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod cefnogaeth Plaid Cymru i'ch cyllideb yn atgoffa pawb yng Nghymru bod pleidlais dros Blaid Cymru, fis Mai nesaf, yn bleidlais dros y blaid Lafur a mwy o'r un polisïau sy'n methu sydd wedi gwneud cymaint o niwed i Gymru dros yr oddeutu 20 mlynedd hyn?
Edrychwch, tymor ewyllys da yw hwn i fod, ond rydych chi'n ymddwyn ychydig bach fel Grinch yn y fan yna. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni, mewn gwirionedd, edrych ar yr agweddau cadarnhaol ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni a'r hyn y bydd y gyllideb hon yn ei wneud i'w amddiffyn. Mae £1.5 biliwn ychwanegol yn y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd i wasanaethau cyhoeddus, a bydd mwy o ganlyniad i'r gyllideb hon. Nid oes gen i gywilydd o'r ffaith ein bod wedi llwyddo i ddod i gytundeb. Fe ddaethoch chi at y bwrdd, ac roeddem ni'n falch iawn eich bod chi wedi cynnig gwneud hynny. Ond, mae gennym ni gytundeb, ac rwy'n gobeithio nawr mai'r hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud yw lleihau'r rhestrau aros hynny ymhellach. Maen nhw wedi lleihau 80 y cant o'u brig eisoes. Rydym ni wedi sicrhau 65 o brosiectau mewnfuddsoddi dros y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o 30 y cant i swyddi o ganlyniad i hynny. Rydym ni wedi darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n gallu cael cyllideb drwodd. Rwy'n falch iawn ein bod ni, dros 26 mlynedd, er gwaethaf y ffaith na fu gennym ni fwyafrif erioed yn y lle hwn, wedi negodi cytundeb. Gwleidyddiaeth aeddfed yw hon. Dyma sut mae'n edrych. Mae'n wleidyddiaeth gyfrifol, oherwydd yr hyn y mae pobl yn edrych atom ni i'w sicrhau yw diogelwch. Mae'r byd yn teimlo'n ansefydlog iawn ar hyn o bryd, ac maen nhw eisiau gwybod y bydd y gwasanaethau hynny y maen nhw wedi dibynnu arnyn nhw ers cynifer o ddegawdau yn dal i fod yno. Gadewch i mi roi'r sicrwydd hwn i chi: o dan Lafur, bydd y gwasanaethau hynny yn dal yno. A allwch chi ddweud hynny? A allwch chi addo hynny? Oherwydd, o'r hyn yr wyf i'n ei glywed, rydych chi'n benderfynol o dorri'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac nid yw hwnnw'n addewid y gallwch chi ei wneud i bobl Cymru.
Prif Weinidog, fel yr ydych chi'n gwybod, fe wnes i gysylltu ag ewyllys da i gael trafodaethau gyda chi am eich cyllideb, ond rydych chi'n gwybod yn iawn y byddai cytundeb cyllideb gyda fy mhlaid i wedi edrych yn wahanol iawn i'r cytundeb cyllideb sydd gerbron y Senedd hon heddiw, gan ein bod ni eisiau torri trethi a lleihau gwastraff tra'n dal i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Byddem wedi cael gwared ar filiynau sy'n cael eu gwario ar fini-lysgenadaethau Cymru dramor yn y lleoliadau egsotig hynny. Byddem ni wedi diddymu'r prosiectau tramor hynny fel y plannu coed rhywedd-niwtral yn Uganda, y canŵau sy'n cael eu pweru gan yr haul ar gyfer llwyth y Wampis yn yr Amazon, a byddem ni wedi gwrthdroi'r cynnydd enfawr i'r gwariant ar eich gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru chwyddedig. Byddem wedi defnyddio'r arbedion a wnaed, a'r adnoddau heb eu dyrannu hynny a oedd yn y pot, i wneud yr arbedion treth hynny, i wneud y toriadau treth hynny, ac i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, dywedwch wrthym ni, Prif Weinidog, o gofio bod dewis arall yn hytrach na'r gyllideb hurt sydd o'n blaenau heddiw, sy'n mynd i gyflawni mwy o'r un peth, pam mae'n rhaid i bob cytundeb cyllideb Llafur-Plaid Cymru arwain at drethi uchel a mwy o wastraff?
Gadewch i ni fod yn eglur y bydd y £112 miliwn ychwanegol a fydd yn mynd i lywodraeth leol yn darparu gwasanaethau. Bydd yn darparu gwasanaethau yn ein hysgolion, bydd yn darparu'r math o gymorth gofal y mae eich etholwyr yn crefu amdano, bydd yn gwneud yn siŵr bod cynghorau yn gallu glanhau'r strydoedd—yr holl bethau hynny. Bydd yn ein helpu i lenwi tyllau yn y ffyrdd. Mae'r holl bethau hyn yn bethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Ac mae hynny cyn i ni ddechrau ar iechyd—cynnydd o 3.6 y cant. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, poblogaeth dlotach. A ydych chi'n awgrymu na ddylem ni fod wedi rhoi arian i faes iechyd? Ai dyna'r hyn yr ydych chi'n ei awgrymu mewn gwirionedd? Neu a oeddem ni i fod i ddilyn yr hyn yr oeddech chi'n ei awgrymu mewn gwirionedd, sef rhoi toriadau i aelodau cyfoethocach ein cymdeithas? Nid dyna'r math o Lywodraeth yr wyf i'n barod i'w harwain.
Prif Weinidog, mae'n chwerthinllyd. Roedd gennych chi'r hyfdra heddiw i wneud yr honiad hurt eich bod chi'n rhan o genhedlaeth newydd honedig o wleidyddion Llafur yng Nghymru, ac eto rydych chi wedi bod ar rengoedd blaen y Blaid Lafur yng Nghymru ers tri degawd. Yn ystod bron i 27 mlynedd o'r tri degawd hynny, rydych chi wedi bod yn cefnogi ac yn rhan o'r gynghrair sosialaidd asgell chwith hon sydd wedi bod yn rhedeg Cymru ac yn dal ein gwlad yn ôl. Y gwir yw hyn: mae Llafur a Phlaid Cymru, i bob pwrpas, yn ffurfio un blaid asgell chwith yma yng Nghymru. Efallai'n wir eich bod chi'n gwisgo rhosedi o wahanol liw, ond yn ymarferol rydych chi'n ymddwyn fel ceffyl pantomeim yn cerdded i'r un cyfeiriad—chwith, chwith, chwith. Rydych chi bob amser yn cerdded i'r chwith, ac rydych chi'n gadael llanast afreolus o drethi uwch, mwy o wastraff a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi torri ar eich ôl. Felly, onid yw'n wir, Prif Weinidog, bod cyfle newydd i bobl Cymru yn y flwyddyn newydd? Oherwydd, ym mis Mai, bydd pobl yn wynebu dewis: gallan nhw naill ai gael mwy o'r un peth trwy bleidleisio dros Lafur neu Blaid Cymru, neu gallan nhw gael newid cadarnhaol â thîm credadwy a chynllun credadwy y Ceidwadwyr Cymreig i drwsio Cymru.
Rydym ni'n mynd i gael Senedd ar ei newydd wedd a chenhedlaeth newydd o Aelodau o'r Senedd. Ni fydd pedwar ar ddeg o 29 o Aelodau Llafur yn sefyll eto. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad enfawr, llawer ohonyn nhw, rhai ohonyn nhw ers dechrau datganoli. Ond byddwn yn troi tudalen newydd, yn dechrau pennod newydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni edrych i'r dyfodol a'i ddathlu, oherwydd rydym ni wedi cael tri cham o ddatganoli. Sefydlu'r lle hwn oedd y cyntaf. Cofiwch sut y sefydlwyd y lle hwn gyda thrwch blewyn, ffracsiwn, o fwyafrif o bobl Cymru yn cytuno i'w sefydlu. Ni wnaeth sefydlu hynny. Llafur yw plaid datganoli. Gadewch i ni fyth anghofio hynny. Yna roedd yn rhaid i ni sefydlu hynny. Gwnaeth Rhodri Morgan waith anhygoel yn gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn cefnogi'r prosiect datganoli. Yna, daeth blynyddoedd o gyni cyllidol Torïaidd. A'r gwaith wedyn—y gwaith wedyn—o dan Carwyn Jones ac o dan Mark Drakeford, oedd amddiffyn, amddiffyn y setliad datganoli i wneud yn siŵr, tra eu bod nhw'n torri a thorri a thorri gwasanaethau lleol yn Lloegr, eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn yma yng Nghymru.
Ond nawr rydym ni'n troi tudalen newydd, pennod newydd, lle mae cyni cyllidol wedi dod i ben ac y gallwn ni edrych i'r dyfodol. Rwy'n benderfynol fel arweinydd y blaid yng Nghymru o wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych at ddyfodol lle gallwn weithio tuag at ddileu tlodi yn ein gwlad, oherwydd dyna pam ddaeth cynifer ohonom ni i mewn i'r mudiad hwn. Rydym ni eisiau gwneud hynny trwy wneud yn siŵr ein bod ni'n arfogi pobl gyda swyddi o ansawdd. Rydym ni eisoes yn eu harfogi nhw: darparwyd 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor Senedd hwn. Ddim wedi ei gyrraedd eto, ond rwy'n hyderus iawn y byddwn ni'n ei gyrraedd yn fuan iawn. Felly, mae gennym ni'r sgiliau ar gael bellach, ond nawr mae angen y buddsoddiad arnom ni fel y gallan nhw gael y swyddi ac aros yng Nghymru. Dyna sut rydym ni'n mynd i'r afael â'r broblem o dlodi yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae ein plaid wedi ei wneud dros y genedl hon dros 26 mlynedd, a byddaf yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i'n cefnogi ni.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, rhoddais sawl cyfle i'r Prif Weinidog ymuno ag aelodau ei meinciau cefn ei hun i feirniadu Llywodraeth Lafur y DU yn uniongyrchol am ei gweithredoedd o ddiystyru datganoli. Gwrthododd wneud hynny, ond, gan ei bod hi'n dymor ewyllys da, rwy'n teimlo'n hael, felly rwy'n mynd i roi cyfle arall iddi heddiw. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu y bydd ganddi reolaeth uniongyrchol ar sut mae cyllid Balchder Bro yn cael ei wario yng nghymunedau Cymru, ac eto yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfrifoldeb am wario'r arian, yn gwbl briodol, wedi cael ei ddatganoli i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i'w fuddsoddi fel y mae'n ei ystyried yn briodol. Nawr, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan Keir Starmer ddull dwy haen o ymdrin â datganoli, a hynny o reilffordd i blismona i Ystad y Goron, a nawr hyn, tra bod Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cael eu grymuso, mae'n ymddangos mor benderfynol ag yr oedd y Torïaid i atal Cymru rhag penderfynu ar ei dyfodol ei hun?
Edrychwch, rwy'n sylwi nad yw wedi croesawu o hyd buddsoddiad yn Wylfa a pharth twf deallusrwydd artiffisial yn ei etholaeth hefyd.
Edrychwch, rwyf i wedi ei gwneud yn eglur erioed, fel y mae pobl yn fy ngrŵp Senedd, y byddwn ni bob amser yn amddiffyn y setliad datganoli a byddwn bob amser yn gwneud y ddadl dros ddatganoli. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig tanlinellu'r ffaith, mewn gwirionedd, mai'r hyn yr ydym ni wedi ei gael yw £557 miliwn—hynny dros £0.5 biliwn—wedi'i ddychwelyd i Lywodraeth Cymru i allu penderfynu ble mae'r arian hwnnw yn cael ei wario. Mae hynny'n gwneud i setliad Gogledd Iwerddon edrych yn ddibwys, o'i gymharu â'r £0.5 biliwn hwnnw yr ydym ni wedi cytuno arno. Nid yw hynny'n rhywbeth a gynigiwyd i Ogledd Iwerddon. Nid yw'n rhywbeth a gynigiwyd i'r Alban. Ond a fyddwn ni'n parhau i wneud y ddadl? Wrth gwrs y byddwn ni, gan mai ni yw plaid datganoli.
Nid yw'r cwestiwn wedi cael ei ateb—neu ydyw? Mae wir yn rhaid i'r Prif Weinidog ddewis ochr yma. Os yw hi ar ochr pobl Cymru, mae'n rhaid iddi feirniadu hyn, ac os oes ganddi unrhyw reolaeth dros ei phlaid yng Nghymru, mae'n rhaid iddi feirniadu Ysgrifennydd Gwladol Cymru am eistedd o amgylch y bwrdd Cabinet hwnnw yn Downing Street, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru gael ei hosgoi gyda'r fath ddirmyg dro ar ôl tro.
Nawr, rwy'n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn cytuno â meinciau Plaid Cymru nad yw Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn addas i'r diben. Eto, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, gwrthododd ASau Llafur o Gymru gefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin a fyddai wedi atal y cyrch hwn ar bwerau datganoledig. Nawr, awgrymodd yr Ysgrifennydd cyllid ddydd Sul bod Llywodraeth y DU yn osgoi Cymru gan ei bod yn ffordd gyflymach o gyflawni pethau. Efallai'n wir nad yw Keir Starmer yn ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon i gyflawni pethau, ac, o ddifrif calon, mae angen newid Llywodraeth arnom ni ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ond onid y pryder sylfaenol yma yw bod y Brif Weinidog Llafur hon yn barod i danseilio datganoli ar bob cyfle, a bod y Brif Weinidog Llafur hon yn cynrychioli cenhedlaeth nad yw'n fodlon hyd yn oed ceisio ei atal?
Nid wyf i'n gwybod sawl gwaith y mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi y gwnaf i amddiffyn y setliad datganoli. Gallaf ei ddweud a gallaf ei ddweud a gallaf ei ddweud eto, ac rwy'n ei wneud bob tro y byddaf i'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU. Gadewch i ni fod yn gwbl eglur am hynny. Felly, gallwch chi geisio creu ac awgrymu nad wyf i yn y sefyllfa honno. Y gwir yw fy mod i. Rwyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro. Ond y gwir yw eich bod chi'n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr mai'r cwbl r ydym ni'n siarad amdano yw'r cyfansoddiad. A gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur fy mod i'n meddwl bod gan y bobl yng Nghymru—[Torri ar draws.] Rwy'n meddwl bod gan y bobl yng Nghymru lawer mwy o ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr bod y plant yn eu hysgolion yn cael prydau ysgol am ddim. Mae hynny yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gyflawni o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Y ffaith amdani yw ein bod ni wedi cefnogi 12,000 o swyddi yn uniongyrchol ers mis Medi 2024. Rydym ni wedi cyflwyno cynllun iechyd menywod newydd. Rydym ni mewn gwirionedd wedi sicrhau a chyflenwi 150,000 o dyllau yn y ffyrdd—rydym ni wedi eu trwsio. Dyna'r hyn y mae gan bobl y wlad hon ddiddordeb ynddo ac a dweud y gwir, os byddan nhw'n pleidleisio drosoch chi yn yr etholiadau, yr hyn y gallwn ni fod yn hollol sicr ohono yw mai'r unig beth y byddwn ni'n ei gael yw beirniadaeth gyson a chwyno ac, 'O, pam na allwn ni gael ychydig yn fwy?' Ni fyddwch chi'n canolbwyntio ar y pethau o ddydd i ddydd sy'n bwysig i bobl Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn sefyll yn gadarn dros gyfansoddiad y lle hwn, wrth gwrs y byddaf i'n ymladd dros ddatganoli, ond rwy'n credu bod gan bobl yng Nghymru, a dweud y gwir, fwy o ddiddordeb yn y materion bara menyn sy'n effeithio ar eu bywydau beunyddiol.
Beth, y materion bara menyn hynny yr oeddwn i'n cyfeirio atyn nhw? Nawr, wrth i 2025 ddirwyn i ben, rydym ni'n myfyrio ar flwyddyn o groesi cleddyfau cadarn rhyngom ni. Ond, yn fy nghwestiwn olaf o'r flwyddyn, hoffwn ganolbwyntio ar yr angen i bob un ohonom ni ddangos undod go iawn. Fe wnaeth yr ymosodiadau terfysgol erchyll ar draeth Bondi dros y penwythnos ein dychryn a'n tristau ni i gyd. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i bobl De Cymru Newydd, ac rydym ni'n sefyll mewn undod â'r gymuned Iddewig, ble bynnag y maen nhw. Heno, bydd aelodau cymuned Iddewig Caerdydd yn ymgynnull yn y Senedd i oleuo'r menorah. Yfory, bydd cyngerdd Nadolig yma. Mae grwpiau o bob ffydd a dim yn cael eu croesawu yma gan fod lluosogrwydd yn cyfoethogi ein cymdeithas, ac mae gwerthfawrogi pobl eraill, hyrwyddo dealltwriaeth a goddefgarwch, yn arfau grymus yn erbyn pydredd eithafiaeth. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ailddatgan ymrwymiad cyson y Senedd hon i fynd i'r afael â phla gwrthsemitiaeth, Islamoffobia a hiliaeth yn ei holl ffurfiau? Ac a wnaiff hi ymuno â mi hefyd i addo bod yn rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau cymdeithas fwy unedig, fwy goddefgar a mwy heddychlon i'w holl ddinasyddion?
Diolch yn fawr, Rhun, ac mae fy nghalon yn mynd allan i'r dioddefwyr a'u teuluoedd a'r gymuned Iddewig, nid yn unig yn Awstralia yn amlwg, ond y gwir ofn y mae llawer o'r cymunedau hynny yn ei deimlo yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw le o gwbl i wrth-semitiaeth yn ein cymunedau. Rwy'n credu bod hwn yn ymosodiad bwriadol ar ein gwerthoedd cyffredin a'n rhyddid, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio ar ba mor anodd y bu hi eleni o ran y mathau o raniadau yr ydym ni'n eu gweld yn ein cymunedau. Rydym ni wedi gweld ansefydlogrwydd byd-eang, â rhyfeloedd yn Wcráin a'r dwyrain canol. Rydym ni wedi gweld bygythiadau Rwsia i'n diogelwch. Rydym ni wedi gweld llawer o bobl yn ein cymunedau yn wynebu trafferthion gwirioneddol o ran talu eu biliau ac argyfwng costau byw, a achoswyd yn rhannol o ganlyniad i'r ymosodiad hwnnw ar Wcráin. Ac rwyf i yn cytuno â chi—rwy'n credu, wrth i ni gychwyn y flwyddyn newydd, wrth i ni gael y tymor hwn o ewyllys da, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd. Gallwn drwsio'r rhaniadau yn ein cymunedau. Rwy'n credu y dylem ni leihau rhethreg casineb, ac mae angen i ni gynnig gobaith, yn enwedig i'r rhai sydd mewn trafferthion ledled Cymru. Felly, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno i chi i gyd—
—Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda hefyd?
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A55 yn Nelyn? OQ63626
Rydym ni'n gwybod pa mor rhwystredig yw hi i yrwyr pan fydd achosion o gau heb eu cynllunio neu frys, ac rydym ni'n ymwybodol bod hyn wedi bod yn broblem ar yr A55, fel y mae ar ffyrdd eraill ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae gwella diogelwch ar y ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r heddlu a'n partneriaid i nodi a oes angen mesurau peirianneg diogelwch ar y ffyrdd i leihau nifer a difrifoldeb gwrthdrawiadau.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog.
Rydych chi'n gwybod fy mod i wedi codi'r angen am welliannau i'r A55 o'r blaen, gan gydnabod pwysigrwydd y llwybr hwn fel y porth i mewn i ogledd Cymru ac allan ohono. Hoffwn ganolbwyntio'n benodol heddiw ar gyffordd 32 yn fy etholaeth i. Yr wythnos diwethaf, ynghyd â'r Cynghorydd Simon Jones, cefais gyfarfod ag aelodau o Gyngor Cymuned Helygain yn sgil cyfres o ddigwyddiadau a damweiniau difrifol dros fisoedd yr haf ac i mewn i'r hydref. Yn gyntaf oll, rydym ni'n cydymdeimlo â'r rhai a gafodd eu hanafu ac sydd wedi cael eu heffeithio ganddyn nhw, ond mae'n cael sgil-effaith ar y gymuned leol, ond hefyd ar yr economi hefyd, boed hynny'n gerbydau cludo sy'n sownd mewn traffig. Ac rwy'n credu bod gan gyffordd 32 yn arbennig heriau o ran ei chynllun, gwelededd gwael, ac os yw eich offer llywio â lloeren yn eich anfon i lawr y llwybr hwnnw ac nad ydych chi'n gyfarwydd ag ef, yna mae hynny'n gwaethygu'r broblem honno. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn heddiw a allwch gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater hwn ac i gymryd y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblemau diogelwch parhaus, ac o bosibl gwneud gwelliannau, yn rhan o waith parhaus yr astudiaeth gwytnwch ar yr A55, i wneud y llwybr hwnnw yn addas ar gyfer y dyfodol? Diolch.
Diolch yn fawr. Mae swyddogion yn ymwybodol o'r problemau hyn yn y lleoliad hwn, a'r gyffordd hon yn arbennig, a bydd hynny'n rhan o astudiaeth anghenion trafnidiaeth a gwytnwch yr A55, yr A494 a'r A483, a chomisiynwyd honno yr wythnos diwethaf. Felly, disgwylir yr adroddiad interim yn y gwanwyn, a disgwylir yr adroddiad terfynol yn yr hydref, a bydd y Llywodraeth yn ystyried wedyn gwaith uwchraddio ac adnewyddu ar y ffyrdd prifwythiennol allweddol. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth dweud bod hwn yn mynd i fod yn adroddiad aml-ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddeall heriau a chyfleoedd trafnidiaeth ar hyd y coridor hwnnw, ynghyd ag argymell ymyriadau posibl i fynd i'r afael â nhw.
Mae teithio trawsffiniol ar gyfer traffig sy'n teithio trwy Delyn yn dibynnu ar y llwybr rhwng sir y Fflint a Swydd Gaer, lle mae'r A55 yn cydgyfeirio â'r A494 ychydig ar ôl Ewlo, sy'n adnabyddus am oediadau, ciwiau a damweiniau. Dim ond bore ddoe, achosodd damwain tri cherbyd ger Queensferry, Glannau Dyfrdwy, anhrefn ar yr A494 a'r A55. Adroddwyd bod traffig yn ymestyn yn ôl i gyffordd 33 ar yr A55, a Pinfold Lane ar yr A494. Gwelais ddiwedd hyn yn bersonol. Effeithiodd y tagfeydd dilynol ar lwybrau cyn belled â Helygain, Delyn, ar yr A55 hefyd. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers degawdau, gyda chynigion ar gyfer cynlluniau olynol a fethodd. Sut, felly, ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn o'r diwedd, gan sicrhau, y tro hwn, bod cymunedau lleol yn wir yn cael eu cynnwys yn gynnar yn y gwaith o gyd-gynhyrchu atebion, yn hytrach na dim ond ymgynghori â nhw ar ôl cynhyrchu dyluniadau?
Mae'r grŵp partneriaeth diogelwch ar y ffyrdd a'r bwrdd partneriaeth diogelwch ar y ffyrdd wedi cael eu sefydlu, ac mae'r cynllun partneriaeth diogelwch ar y ffyrdd wedi cael ei gymeradwyo gan y bwrdd partneriaeth diogelwch ar y ffyrdd, ac mae paratoadau yn cael eu gwneud i gyhoeddi hwnnw ddechrau 2026. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi hefyd, i sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosibl pan fyddwn ni'n cael damweiniau ac achosion o dorri i lawr, ein bod ni'n gweithredu gwasanaeth swyddog traffig Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar yr A55, am 365 diwrnod o'r flwyddyn, fel y gallwn ni symud cerbydau a rhwystrau yn gyflym o ochr y ffordd i wella llif traffig.
Ond un o'r problemau sy'n cael ei godi'n gyson gan ddefnyddwyr y ffyrdd yw'r ffaith eu bod nhw'n benderfynol o weld y tyllau hynny yn y ffyrdd yn cael eu llenwi, ac rwy'n falch iawn o ddweud y gwariwyd £2.5 miliwn yn sir y Fflint ar osod wyneb newydd ar y 4.6 milltir o ffyrdd yn sir y Fflint, ac mae hynny'n mynd i drwsio ac atal 2,200 o dyllau. Bydd y rheini, eto, yn gwneud cyfraniad at ddiogelwch ar y ffyrdd.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am sut y gall Swyddfa Cymru hyrwyddo statws y Gymraeg yng Nghaerdydd? OQ63623
Yn y 26 mlynedd ers i'r Blaid Lafur fod yn arwain yng Nghymru, mae'r gefnogaeth i'r iaith Gymraeg wedi gweddnewid. Mae hwn yn wir yng Nghaerdydd yn ogystal â gweddill y wlad. Y Blaid Lafur sydd wedi ei gwneud hi'n glir bod gyda ni nod o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac mae ein polisïau ni ar draws y Llywodraeth yn adlewyrchu hynny.
Dwi'n falch o adrodd mai fy mam, cynghorydd Llafur, oedd yn gyfrifol am sicrhau bod Caerdydd wedi penodi swyddog y Gymraeg pan oedd hi yn gynghorydd yn y ddinas, sawl degawd yn ôl.
Mae'n hyfryd clywed hynny am eich mam, a dwi'n cytuno gyda beth rydych chi'n ei ddweud am y Blaid Lafur fan hyn yng Nghaerdydd, ond dyw'r un peth ddim yn wir, bob amser, am y Blaid Lafur yn San Steffan. Welon ni hynny yn sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n browd iawn, fel fi, o fod yn Cardiffian sy'n siarad Cymraeg, a than yr 1840au, Cymraeg oedd iaith mwyafrif trigolion Caerdydd. Ac ar hyd y degawdau, mae hi wedi bod yn gartref i gymdeithas fyrlymus Gymraeg, ac rydyn ni wedi gweld twf aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, ac rydych chi'n rhan o hynny fel un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Glantaf.
Mae'r Gymraeg yng Nghaerdydd yn fwy na jest un o nifer o ieithoedd, ac mae dweud bod bron pawb yn siarad Saesneg yn hen ddadl sy'n perthyn i'r gorffennol. Dwi ddim yn mynd i'ch holi chi a ydych chi'n cytuno â'r Ysgrifennydd Gwladol achos dwi'n gwybod eich bod chi ddim, ond y Nadolig yma, Brif Weinidog, a wnewch chi bach o waith cenhadu gyda'r Ysgrifennydd Gwladol? A wnewch chi ei holi hi i wneud adduned blwyddyn newydd y bydd ei gohebiaeth o nawr ymlaen yn adlewyrchu'r ffaith mai dyma brif ddinas ein cenedl ni a bod yna ddwy iaith gyda statws cyfreithiol yn y wlad yma? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a ni'n browd iawn bod hynny yn wir yma. Yn ei gwaith fel swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dwi'n meddwl bod Swyddfa Cymru yn defnyddio'r Gymraeg, ond byddwn i bob amser yn cynghori pobl i ymateb yn Gymraeg os ydy pobl yn cyfathrebu yn Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall hynny a bod yna gyfrifoldeb arnom ni, yn arbennig fel arweinwyr, i wneud beth allwn ni i gyrraedd y nod yna o filiwn o siaradwyr.
Nid yw'n fater o swyddfeydd yn unig, yn amlwg, ond cefnogaeth cymdeithas yn ei chyfanrwydd sydd angen hyrwyddo'r iaith ac, yn benodol, y targed o filiwn a osodwyd gan y Prif Weinidog blaenorol, Carwyn Jones, yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Drwy'r system addysg, bu cynnydd yma yng Nghaerdydd ac, yn wir, ar draws Cymru gyfan, ond ceir rhwystr o ran nifer yr athrawon newydd sy'n dod ymlaen a'r gallu hwnnw i fod â'r athrawon o flaen dosbarthiadau gan ddefnyddio cyfrwng y Gymraeg. Hefyd, mae adroddiad Estyn yn nodi bod ansawdd yr addysgu pan fydd athrawon newydd yn dod i'r ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ymhell o fod yn foddhaol, gydag ysgolion yn gorfod hyfforddi athrawon i'w cael nhw i'r safon angenrheidiol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ynghyd ag Estyn a phartïon eraill â buddiant, i godi safonau addysgu'r Gymraeg fel y gellir cyrraedd y targed hwnnw o filiwn a osodwyd ar gyfer 2050 drwy'r system addysg?
Rydym ni wedi bod yn uchelgeisiol iawn o ran ble hoffem ni weld nifer y disgyblion yn cynyddu, o ran y rhai sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ond fel rydych chi wedi ei nodi yn gywir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o athrawon. Rwy'n falch iawn bod gennym ni gymhellion i gael mwy o fyfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd i ddod yn athrawon, a cheir cymhellion ariannol i'w helpu i wneud hynny.
Y peth arall yr wyf i'n meddwl sy'n newid yw bod niferoedd sylweddol o bobl ifanc bellach, tua 29,000 ohonyn nhw, sy'n gynorthwywyr addysgu mewn gwirionedd. Mae hynny hefyd yn cynnig llwybr i bobl gael blas a gobeithio, manteisio wedyn ar y cyfleoedd i fod yn athro neu athrawes llawn amser.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith cymunedau ffydd yng Nghymru? OQ63613
Fel merch ficer a gwraig offeiriad, rwyf i wedi gweld drosof fy hun gryfder, tosturi a gwytnwch ein cymunedau ffydd a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig i Gymru. Maen nhw'n yn cefnogi'r rhai agored i niwed, maen nhw'n cryfhau cydlyniant ac maen nhw'n dal cymunedau gyda'i gilydd. Ar ôl yr ymosodiad erchyll yn Bondi yn Awstralia dros y penwythnos, lle mae targedu ar sail ffydd wedi achosi trallod mor ddwfn, rydym ni'n cael ein hatgoffa, rwy'n credu, o ba mor hanfodol yw dangos parch, i sicrhau ein bod ni'n gweld goddefgarwch a dealltwriaeth i bawb.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda grwpiau ffydd drwy ein fforwm Ffydd mewn Cymunedau, ac fe wnaethom ni groesawu'r adroddiad diweddar 'Ffydd yng Nghymru 2025', yn tynnu sylw at eu cyfraniad cymdeithasol ac economaidd enfawr.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog, yn enwedig fel mab gweinidog fy hun. Rwyf innau hefyd yn cydnabod y gwaith da gan Lywodraeth Cymru ac yn cydnabod swyddogaeth bwysig cymunedau ffydd yng Nghymru, fel y dywedwch chi, nid yn unig o ran cefnogi bywydau ysbrydol pobl ond hefyd o ran meithrin y cydlyniant cymdeithasol pwysig hwnnw, gwirfoddoli a phrosiectau cymunedol.
Ledled Cymru, fel yr ydych chi'n gwybod yn iawn, mae pobl sy'n ymgynnull mewn capeli, eglwysi, mosgiau, synagogau a themlau yn gwneud gwaith anhygoel i gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf mewn angen, o fanciau bwyd a gwaith ieuenctid i ofalu am yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Fe wnaethoch chi dynnu sylw yn eich ymateb, Prif Weinidog, at lansiad y Gynghrair Efengylaidd o'u hadroddiad, 'Ffydd yng Nghymru', ac rwy'n ddiolchgar am eich ymgysylltiad â hynny. Mae'r adroddiad hwnnw yn tynnu sylw at gyfraniad enfawr y cymunedau ffydd hyn o ran allgymorth cymdeithasol, cymorth economaidd ac ymgysylltu dinesig. Wrth i ni agosáu at dymor yr ŵyl o'n blaenau, gadewch i mi yn gyntaf ddymuno Nadolig llawen i chi, ond hefyd tynnu sylw at swyddogaeth dathliadau Cristnogol, yn enwedig ar adeg y Nadolig, nid yn unig fel digwyddiad crefyddol, ond o ran dod â theuluoedd a chymunedau at ei gilydd, ac ysbrydoli gweithredoedd di-rif o haelioni a charedigrwydd. Felly, mae gen i ddiddordeb, Prif Weinidog, mewn darganfod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd y Nadolig eleni, ac yn cydnabod eto ei gyfraniad at gymunedau cryf, cysylltiedig ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Sam. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod pwysig i ni fyfyrio, i fyfyrio ar sut mae'n bwysig i ni ddod at ein gilydd i ofalu am ein cymdogion, i gydnabod, er bod gan lawer ohonom ni deuluoedd mawr, y gallai pobl eraill fod yn unig. Am gyfle i ni estyn allan at y bobl hynny, ac rwy'n gwybod bod cymunedau ffydd yn gwneud hynny, nid yn unig ar ddydd Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn. Roeddwn i'n meddwl bod yr adroddiad 'Ffydd yng Nghymru' yn arbennig o addysgiadol. Y gweithredu cymdeithasol helaeth y mae'n tynnu sylw ato: mae 97 y cant o gymunedau ffydd yn ymwneud â mentrau fel banciau bwyd, cymorth digartrefedd, grwpiau ieuenctid a gwasanaethau teuluol. Maen nhw wedi bod yn fforwm erioed lle, mewn gwirionedd, gall cymunedau ddod at ei gilydd, ac mae'r adeiladau ffydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod y Nadolig yn adeg i ddod at ein gilydd. Ceir cyfleoedd, nid yn unig i'r ffydd Gristnogol, ond, yn amlwg, ceir crefyddau eraill sydd hefyd eisiau cymryd rhan, i gydnabod ei fod yn gyfnod i bawb gydnabod mai'r hyn sy'n bwysig yw edrych i'r dyfodol gyda gobaith, a dyna beth mae'r Nadolig yn ei wneud i ni.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau cymhleth? OQ63603
Yng Nghymru, rydym ni'n helpu pobl ag anableddau cymhleth a'u teuluoedd i fyw'n dda ac yn annibynnol. Mae'r cymorth yn cynnwys cymorth gyda thasgau dyddiol, bywyd cartref, llesiant a diogelwch. Mae awdurdodau lleol yn teilwra gofal i anghenion a aseswyd, tra bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector yn cydweithio i gynllunio a darparu cymorth cydgysylltiedig ac sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn y gymuned, fel y nodir yn ein deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.
Diolch. Cyflogir tua 82,000 o bobl yn y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hanner cant y cant o'r gweithlu hwn yn swyddi gweithwyr gofal, mae gan 21.8 y cant o weithwyr NVQ lefel 3, ac mae gan 1.9 y cant NVQ lefel 5. I lawer o ofalwyr, maen nhw'n ymuno â'r proffesiwn hwn gan eu bod nhw'n credu y gallan nhw gynnig y cymorth sydd ei angen, mae ganddyn nhw'r empathi ac maen nhw wir yn dymuno helpu i ofalu am bobl. Mae hwn yn rhinwedd ardderchog, ac yn un y dylem ni i gyd ei hyrwyddo.
Fodd bynnag, yng Nghymru, rydym ni bellach mewn perygl o ofalwyr medrus sy'n darparu lefel ragorol o ofal yn ystyried gadael y proffesiwn hwn oherwydd y gofyniad newydd i ennill cymhwyster lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol, diploma, FfCCh neu NVQ, neu gymhwyster ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol lefel 2 neu 3 City and Guilds, i'w gwblhau o fewn tair blynedd. Mae'r gofyniad hwn bellach yn achosi i ofalwyr medrus ac angerddol ystyried gadael y proffesiwn oherwydd cyfyngiadau ariannol ac amser.
Codwyd hyn gyda mi gan etholwr sydd, ers 10 mlynedd, wedi bod yn derbyn tri gofalwr yn cynorthwyo eu plentyn anabl iawn—wel, mae'n 28 oed erbyn hyn, ond mae tri o'i ofalwyr allan o'r pedwar yn ystyried gadael bellach. Os bydd hynny'n digwydd, yna mae'n rhoi'r gŵr ifanc mewn sefyllfa gymhleth. Ond, hefyd, mae pobl eraill yn dweud wrthyf i bellach. Siawns ei bod hi'n bwysig gwneud ein gorau, Prif Weinidog, i geisio sicrhau y gall y rhai sydd eisiau gweithio yn y proffesiwn hwn gael llwybr hyfforddi haws efallai na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Diolch. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, Cymru yw un o'r unig rannau o'r Deyrnas Unedig lle'r ydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o falch ohono ac yn un o'r addewidion a wnaethom yn yr etholiad diwethaf. Addewid a gyflawnwyd.
Fe wnaethom ni, wrth gwrs, golli llawer o weithwyr gofal ar ôl Brexit. Aeth llawer ohonyn nhw adref, roedd llawer ohonyn nhw'n dod o ddwyrain Ewrop, ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y bobl a oedd yn weddill.
O ran cymwysterau, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn. Rydych chi'n gwbl gywir, ceir rhai pobl sy'n fwy cyfforddus mewn amgylchedd academaidd, ond, mewn gwirionedd, mae gan rai o'r bobl hyn flynyddoedd o brofiad ymarferol o ansawdd da, a gellir a dylid asesu hynny mewn ffordd wahanol iawn. Mae'r hyblygrwydd hwnnw yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod y mae ein swyddogion a'n Gweinidogion yn ymwybodol iawn ohono. Nid wyf i'n credu y dylem ni ymddiheuro am geisio proffesiynoleiddio'r gwasanaeth, i roi'r statws yr ydym ni'n awyddus iawn iddyn nhw ei gael iddyn nhw, ond mae'n rhaid i'r cydbwysedd hwnnw fod yn y lle iawn.
Fel rwy'n gobeithio y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae llawer o bobl anabl, gan gynnwys rhai ag anableddau cymhleth, yn dibynnu ar weithwyr cymorth i'w cynorthwyo yn eu bywydau bob dydd. Mae'r gweithwyr cymorth yn rhoi cymorth corfforol ac emosiynol, sy'n caniatáu i bobl anabl fyw bywydau boddhaus, trwy wasanaethau a ariennir yn aml gan yr awdurdodau lleol neu elusennau fel Mencap Cymru. Mae llawer o weithwyr cymorth yng Nghymru â fisâu gwaith noddedig, ac fe fydd hi'n rhaid i'r rhai y mae angen adnewyddu eu fisâu nhw brofi i Lywodraeth y DU y bydd eu cyflogau nhw'n eu gwneud nhw'n gymwys ar eu cyfer. Roeddech chi'n cyfeirio, yn eich ateb i Janet Finch-Saunders, at bwysigrwydd talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. A ydych chi'n ymwybodol, Prif Weinidog, y bydd llawer o weithwyr cymorth yng Nghymru ar fisâu gwaith noddedig yn aros am gadarnhad y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr cymorth sef, ar gyfer y flwyddyn nesaf, £13.45 i fod o gymorth wrth sicrhau eu bod nhw'n bodloni meini prawf cymhwysedd Llywodraeth y DU ar gyfer eu noddi? Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo yn ffurfiol i ariannu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y gweithwyr gofal cymdeithasol hanfodol hyn?
Fe wnaethom ni'r ymrwymiad hwnnw yn y maniffesto diwethaf, ac yn amlwg fe gafodd ei gyflawni. Fe gafodd ei gyflwyno yn llawer cynt nag yr oeddem wedi ei gynllunio, oherwydd roeddem ni'n sylweddoli pa mor bwysig oedd sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r bobl hynny, ar ôl y pandemig yn arbennig felly. Roedd y bobl hyn yn arwyr ac maen nhw'n arwyr o hyd ac maen nhw'n gwneud y gwaith arwrol anodd iawn hwnnw yn ein cymunedau ni.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi hefyd y cafodd y cynllun hawliau pobl anabl ei lansio ddoe. Fe hoffwn i ddiolch i Jane Hutt am ei holl waith anhygoel ynglŷn â hynny, nid yn unig yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond dros flynyddoedd lawer iawn mewn gwirionedd. Mae yna nifer enfawr o gamau gweithredu byrdymor a chanlyniadau hirdymor. Yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld yw newid cadarnhaol a pharhaol i bobl anabl, gan roi'r model cymdeithasol o anabledd wrth galon ein huchelgeisiau ni er eu mwyn nhw ac er mwyn Cymru. Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael yng Nghymru i bobl sydd â materion cymhleth.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Wrth i'r Nadolig agosáu, i lawer ohonom ni, fe fyddwn ni'n cael diwrnod i'r brenin ar Ddydd Nadolig, ac efallai ar Ddydd San Steffan, ac efallai am fwy o amser na hynny, ond os mai gofalwr ydych chi, sy'n cael ei dalu neu beidio, 'chewch chi ddim amser i gael seibiant o gwbl. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod yr angen am gefnogaeth i'n gofalwyr di-dâl yn arbennig felly sy'n gofalu am eu perthnasau a'u cyfeillion. Os buoch chi'n ofalwr erioed neu'n ofalwr nawr, neu os ydych chi'n gwybod am ofalwr, mae hynny'n golygu pwysau enfawr, yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae argyfwng ger ein bron, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y DU, o ran gofal cymdeithasol. Mae ein hawdurdodau lleol ni'n cyfrif bod angen tua £200 miliwn arnyn nhw yma yng Nghymru i gwrdd â'u hanghenion gofal cymdeithasol. Wrth i'r Nadolig agosáu, mae pobl yn cael eu dal mewn ysbytai yma am nad ydyn nhw'n gallu mynd adref a theuluoedd yn dyheu am weld y bobl hynny'n dod adref. Hefyd, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio am y cyfraniad gwirioneddol y mae ein gofalwyr ni'n ei wneud i'r gymuned yn ei chyfanrwydd yma yng Nghymru. A wnewch chi ymuno â mi i roi teyrnged i'r gofalwyr hynny, y rhai sy'n cael eu talu a'r rhai nad ydyn nhw'n cael eu talu? Gadewch i ni wella eu bywydau nhw yn 2026. Diolch yn fawr iawn.
Diolch iti, Jane. Rwyt ti'n gwbl gywir. Rwy'n credu bod rhaid i ni gydnabod y ddyled enfawr sydd gennym ni yn y gymdeithas, i'r gofalwyr di-dâl hynny'n arbennig felly. Maen nhw'n arbed symiau enfawr o arian i'n cymunedau ni, ond yr hyn maen nhw'n ei wneud yw cefnogi a rhoi'r math o gymorth y mae ei angen ar eu hanwyliaid nhw. Maen nhw'n ewyllysgar i wneud hynny ond mae'n rhaid i ni gydnabod y gost ychwanegol enfawr a fyddai i'n cymdeithas oni bai eu bod nhw'n gwneud hynny a dyna pam mae hi'n gwbl briodol ein bod ni'n cydsefyll â nhw a pham, er enghraifft, yr ydym ni'n rhoi swm sylweddol o arian i ddarparu gofal seibiant fel y gallan nhw gael seibiant o bryd i'w gilydd. Fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i Julie Morgan a Dawn am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud ynghylch gofalwyr di-dâl yn arbennig a'r gefnogaeth y mae'r rhain yn ei roi, oherwydd mae yna fyddinoedd o'r bobl hyn sydd yno o ddydd i ddydd, 24 awr, er mwyn y bobl y maen nhw'n eu caru. Mae'r gofyn yn enfawr arnyn nhw, ac mae'r gofyn yn enfawr oddi wrthym ninnau yn y gymdeithas, ac felly'r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n dangos y gwerthfawrogiad hwnnw iddyn nhw trwy gamu i'r adwy a rhoi cyfle iddyn nhw gamu allan o dro i dro, er mwyn gallu adfywio a chael ychydig o amser iddyn nhw eu hunain.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus? OQ63616
Mae agwedd tuag at y Gymraeg yn y gymdeithas wedi gweddnewid o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur dros y 26 mlynedd diwethaf. Y ffaith yw ein bod ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o ysgolion Cymraeg ar draws ein gwlad, a fydd yn bwydo i mewn i ddelifro ein strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae'r nod o greu 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2025, ynghyd â'r ymdrechion i gynyddu defnydd, yn creu newid go iawn.
Diolch yn fawr iawn. Brif Weinidog, rŷch chi'n gwybod, fel minnau, fod y Gymraeg yn iaith swyddogol gyfartal yma yng Nghymru. Mae'n rhan gwbl ganolog o'n hanes, o'n diwylliant a'n hunaniaeth ni ac yn rhywbeth gall pawb yng Nghymru ei pherchnogi ac ymfalchïo ynddi, yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Rŷn ni wedi gweld ymdrechion gwych yn y Siambr hon o bobl sydd yn dysgu'r iaith ac yn barod i'w defnyddio a'i pharchu hi.
Ond fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod gan Rhys ab Owen, mae'n anffodus, felly, nad yw Jo Stevens, Aelod Seneddol sy'n cynrychioli ein prifddinas yma yng Nghaerdydd, sydd hefyd, yn digwydd bod, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac sydd i fod, mewn theori, yn cynrychioli Cymru a gwerthoedd Cymru yng Nghabinet Llywodraeth Prydain, yn cyd-weld â hyn, gan wrthod yn blaen i ddefnyddio'r iaith mewn gohebiaeth gydag etholwyr.
Yn syml, mae hyn yn dangos diffyg parch rhyfeddol ac agwedd ddeinosoraidd at y Gymraeg rôn i'n meddwl fyddai wedi hen ddiflannu o dir Cymru erbyn hyn. Yn sgil yr agwedd negyddol hon tuag at y Gymraeg, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w hargyhoeddi hi o bwysigrwydd ein hiaith genedlaethol mewn bywyd cyhoeddus?
Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae'n dda i bobl allu defnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus ac aelodau etholedig. Yn sicr, dwi'n rhywun sydd yn awyddus iawn i sicrhau bod yr iaith yn cael ei gwthio ar bob cyfle, a dyma pam, yn uwchgynhadledd y British-Irish Council yn ddiweddar, roedd y Gymraeg yn ganolbwynt. Fe gawsom ni archdderwydd Cymru yn cyfarch pobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw glywed y Gymraeg, ac fe wnaeth hi rili gwneud impact ar y bobl oedd yno. Dwi'n rhywun, fel rŷch chi'n gwybod, sydd wastad eisiau annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, a dwi'n falch i weld bod mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cwestiwn 8, yn olaf, Laura Anne Jones.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu tafarndai ar hyn o bryd? OQ63628
Mae llawer ohonom ni wrth ein boddau yn mynd i dafarndai. Maen nhw wir wrth galon llawer o gymunedau, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond rydym ni'n ymwybodol hefyd fod llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd yn ariannol. Dyna pam rydym ni'n falch o ddarparu ystod eang o gymorth i'r sector. Mae bron i hanner y rhai sy'n talu ardrethi busnes, sy'n cynnwys llawer o dafarndai ledled Cymru, i gyd yn elwa ar ryddhad ardrethi busnes llawn. Mae cynrychiolwyr y sector yn amcangyfrif bod dwy ran o dair o bob eiddo lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach yn llawn, ac felly nid ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi lleol.
Prif Weinidog, mae tafarndai yn rhan o wead bywyd Cymru. Y nhw yw'r cyflogwyr, y nhw sy'n angori'r gymuned ac yn aml y rhain yw'r lleoliadau cymdeithasol olaf sydd ar ôl yn ein trefi ac ym mhentrefi cefn gwlad. Ond mae'r pwysau ariannol sydd arnyn nhw nawr yn llethol ac fe fydd hi ar ben i lawer o fusnesau ledled Cymru oherwydd hynny. Mae UKHospitality yn rhybuddio y bydd eithrio lletygarwch o'ch diwygiadau i ardrethi busnes yn llwytho £131 miliwn arall mewn costau ychwanegol ar y sector yn y tair blynedd nesaf. Ar gyfer tafarndai, mae hynny'n golygu y bydd cyfraddau yn codi 23 y cant y flwyddyn nesaf, 51 y cant y flwyddyn wedyn ac 80 y cant o 2028-29.
Fe fydd hyn, yn ogystal â chostau ynni cynyddol a biliau cyflog cynyddol, yn golygu y bydd busnesau yn methu a swyddi yn cael eu colli ac fe fydd ein strydoedd mawr ledled Cymru yn mynd yn wag. Nid rhywbeth damcaniaethol mo hyn, mae'n digwydd nawr, ac fe fydd yn ychwanegu at y ffigurau cyflogaeth ofnadwy a gafodd eu cyhoeddi heddiw. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw o leiaf i gynnal y cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol ar gyfer osgoi'r canlyniadau trychinebus y bydd peidio â gwneud felly yn eu cael ar ein tafarndai, sy'n cael eu taro eisoes gan Lywodraethau ar ddau ben yr M4?
Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl yn cael trafferthion gyda phroblemau costau byw, ac felly dydyn nhw ddim yn mynd allan mor aml ag y bydden nhw, ac mae hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar dafarndai. Y gwir amdani yw bod llawer o bobl yn hapus i eistedd gartref yn gwylio Netflix erbyn hyn yn hytrach na mynd i'w tafarnau lleol. Os ydych chi'n dymuno i'r tafarndai aros yn agored, mae'n rhaid i ni eu defnyddio nhw. Mae honno'n wers rwydd i ni. Rydym ni i gyd yn siarad am bwysigrwydd y siopau a'r pethau eraill ar ein strydoedd mawr, ac eto fe fydd pobl yn gwario eu harian ar-lein. Mae yna ganlyniadau i'n gweithredoedd ni, ac felly mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom ni. Os ydych chi'n awyddus i gadw'r safleoedd hyn yn agored, mae'n rhaid i ni eu mynychu nhw.
Ond gadewch i mi fod yn glir: rydym ni'n hynod hael ein cefnogaeth i fusnesau lleol. Mae cymorth ardrethi annomestig yng Nghymru yn werth £335 miliwn bob blwyddyn. Ni ddylem ni ddiystyru hynny. Dyna lawer iawn o arian. Mae'n cyfateb i tua 6,000 o nyrsys. Mae hwnnw'n swm enfawr o arian yr ydym ni'n ei roi i mewn eisoes, a dyna pam mae cyn lleied ohonyn nhw'n talu'r gyfradd lawn o dreth. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod hynny, ond gan gydnabod hefyd ein bod wedi dyrannu £1 biliwn o ryddhad ychwanegol i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Nid y bwriad erioed oedd i hynny barhau am gyfnod amhenodol. Mae yna lawer iawn o gefnogaeth ar waith eisoes. Ond os ydych chi'n wir awyddus i roi hwb i'ch tafarn leol, mae angen i chi fynd yno.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad yma i'w wneud gan y Trefnydd. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Mae'r Llywydd wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), felly mae hwn wedi cael ei dynnu nôl. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i fusnesau bach. Mae pryderon enfawr wedi eu codi gan fusnesau yn sir Benfro yn ddiweddar, a ledled Cymru rwy'n siŵr, ynglŷn â'r cynnydd yng ngwerth ardrethol rhai o'r busnesau hyn. Mae'r ailbrisiad diweddaraf o ardrethi busnes wedi golygu bod rhai busnesau bellach yn wynebu cynnydd o rai cannoedd y cant o gymharu ag asesiadau blaenorol. Dyma'r union fusnesau a gafodd eu taro eisoes gan rai o'r ardrethi busnes uchaf yn y DU. Er fy mod i'n deall y bydd cynllun rhyddhad trosiannol yn helpu rhai busnesau i reoli'r newidiadau hyn, y gwir amdani yw nad yw hynny'n ddigonol, ac fe fydd rhai busnesau yn cael eu gorfodi i sefyllfa lle bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio am y mesurau a gymerir i gefnogi busnesau bach ledled Cymru, er mwyn iddyn nhw ddal ati i greu swyddi, cefnogi cymunedau a rhoi hwb i'n cymunedau lleol.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi'n iawn: mae cefnogaeth i fusnes yn hanfodol, ac mae honno'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rydych chi newydd glywed gan y Prif Weinidog am lefel yr ardrethi annomestig. Mae hi'n bwysig bod cynllun rhyddhad trosiannol. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni'n bresennol—rwy'n credu mai dim ond yr wythnos diwethaf y cafodd hyn ei godi—ar ddydd Sadwrn Busnesau Bach, wrth gwrs, yn cydnabod bod hyn yn ymwneud hefyd â'n harferion ni, ein cwsmeriaeth: siopwch yn lleol, ac rwy'n sicr yn gwneud hynny yn fy nhref i fy hun sef y Barri. Ond mae hi'n amlwg iawn ein bod ni eisoes yn rhoi hwb i'n busnesau ni, ac yn wir nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â rhan yn hynny, ond mae gan lywodraeth leol ei rhan hithau hefyd.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad am y gofal sydd ar gael ar gyfer manau o'r gogledd sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl dwys yn sgil geni baban. Dwi'n deall bod yna ddau wely ar gael mewn uned mamau a babanod newydd yng Nghaer. Nid dyma'r model gorau ar gyfer gofalu am anghenion mamau, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae Caer yn bell iawn o Amlwch, Caergybi, Aberdaron a Tywyn. Ac yn ail, fydd yna ddim modd cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ystyrlon i famau mewn uned sydd y tu allan i Gymru. Mae polisi ‘Mwy na geiriau’ y Llywodraeth yma mewn grym yng Nghymru, ond does yna ddim polisi o’r fath yn Lloegr, wrth gwrs, a does yna ddim hawliau gan siaradwyr Cymraeg yn Lloegr chwaith.
Dwi wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd ym mis Medi eleni eto, efo nifer o gwestiynau am y pryder sydd gen i am y Gymraeg. Ches i ddim ateb. A dwi wedi gofyn am help Sarah Murphy, fel y Gweinidog perthnasol, i drio cael yr atebion, ond dwi dal heb gael ateb. Felly, dwi yn meddwl y byddai'n briodol i'r Llywodraeth yma sicrhau datganiad llawn am yr uned mam a’i phlentyn, fydd yn egluro sut, yn ymarferol, y bydd yr uned yma yn gallu gwasanaethu mamau yn fy etholaeth i, o gofio'r pellter ac o gofio'r problemau iaith. Diolch.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Ac mae hwnnw'n un pwysig. Fe wnaethoch chi godi hyn yn y Senedd heddiw, fe wnaethoch ei godi gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, ac fe wnaethoch ei godi gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn amlwg. Ac rwy'n gobeithio nawr y bydd hynny'n arwain at yr ymatebion y mae eu hangen nhw arnoch chi. Mater yw hwn, wrth gwrs, o ran y gefnogaeth briodol a chydnabyddaeth o'r ffaith y dylai'r cymorth fod ar gael mor agos i gartref â phosibl hefyd, ond o ran yr iaith Gymraeg, yn ogystal â hynny. Felly, rydych chi wedi codi hyn, ac rwy'n siŵr y bydd yr ymatebion yn dod nawr.
A gawn ni ddatganiad gan y Trefnydd yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r cynllun i blannu coed yn Uganda, y cyfeiriwyd ato gan arweinydd yr wrthblaid yn gynharach? Rwy'n deall bod hyn wedi bod ag effaith gadarnhaol iawn, nid yn unig o ran newid hinsawdd, ond mae wedi grymuso ac estyn cyfleoedd i fenywod hefyd. Felly, a gawn ni ddatganiad ganddi hi am y darn pwysig hwn o bolisi?
Yn ogystal â hynny, a gawn ni ddatganiad llafar gan y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant am yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, sef y gwerthusiad, wedi tair blynedd, o effeithiau diddymu amddiffyniad cosb resymol? Mae crynodeb terfynol yr adroddiad hwn yn dechrau trwy ddweud:
'Mae Cymru wedi gwneud symudiad clir, seiliedig ar hawliau, oddi wrth gosbi corfforol, wedi'i gefnogi gan ymwybyddiaeth uchel ymysg y cyhoedd, cymorth magu plant sydd ar gael yn eang, a hyder proffesiynol cynyddol.'
Fe wyddom ni hefyd fod Llywodraethau Gogledd Iwerddon a San Steffan yn aros am yr adroddiad hwn ar gyfer gwneud penderfyniad ynglŷn â'u cyfeiriad nhw. Ac mae'n rhaid i minnau ychwanegu hefyd, dim ond ar y diwedd, mae hi'n beth rhagorol fod Lindsay Whittle yma yn y Siambr gyda ni, a frwydrodd mor galed gyda mi i fynd â'r Bil hwn drwodd yn y lle cyntaf.
Diolch yn fawr, Julie Morgan. A diolch i chi am godi pwysigrwydd hyn, i mi allu siarad rhagor am effaith fuddiol prosiect plannu coed Mbale, yr ydym ni'n falch iawn ohono—yn falch iawn ohono—yn y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac rwy'n credu bod y balchder hwnnw'n gyffredin i lawer yn y Senedd hon. Fe fuom ni'n cefnogi plannu coed yn Uganda dros y 15 mlynedd diwethaf, ond fe ddeilliodd hyn o gysylltiad rhwng cymunedau, rhwng cymunedau yng Nghymru a chymunedau yn Uganda, ac fe gaiff ei gyflawni drwy gyfrwng partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, elusen Maint Cymru, a Menter Tyfu Coed Mynydd Elgon. Ac mae wedi creu rhwydwaith o feithrinfeydd coed sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned ac wedi dosbarthu 25 miliwn o goed i ffermwyr mewn ardaloedd gwledig ac i ysgolion, am ddim. Wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yw bod y coed hyn wedi atafaelu tua 1.4 miliwn tunnell o garbon deuocsid ers i'r prosiect dechrau.
Trwy gefnogi'r prosiect hwn dan arweiniad Uganda, mae Cymru yn cynorthwyo rhai o'r bobl dlotaf yn y byd. Ac onid yw hi'n bwysig bod y genadwri hon gennym ni heddiw, a'r wythnos hon? Rydym ni'n helpu rhai o'r bobl dlotaf yn y byd i addasu i newid hinsawdd, a gwella eu bywoliaethau, ac amddiffyn pobl leol yn rhanbarth Mynydd Elgon rhag effeithiau erydiad pridd, sy'n gallu achosi, ac sydd wedi achosi, tirlithriadau angheuol. Mae'r coed yn helpu i reoleiddio'r hinsawdd, yn cysgodi cymunedau lleol, yn rhoi cysgod i gnydau, yn helpu i gynhyrchu ffrwythau ffres, cnau a phorthiant anifeiliaid.
Ond hefyd, yn gryno iawn, Llywydd, rwy'n awyddus i ddweud bod Maint Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru. Mae miloedd o bobl ifanc yn ein hysgolion ni yng Nghymru, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn dysgu am newid hinsawdd ac yn dod yn ddinasyddion cyfrifol yn fyd-eang. Mae Maint Cymru yn cynnig sesiynau dwyieithog, am ddim, i ysgolion sydd â chyfradd prydau ysgol am ddim sy'n uwch na'r cyfartaledd. Mae'r gwaith hwn yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn gan ddisgyblion ac athrawon. Felly, rwy'n gresynu at yr ymosodiadau ar y rhaglen bwysig hon. Rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i ddweud unwaith eto mai buddion carbon, amgylcheddol a chymdeithasol yw'r rhain, ac sy'n ffurfio cysylltiadau parhaol a gwerthfawr rhwng Cymru ac Affrica a'n disgyblion ni.
A gawn ni ddiolch unwaith eto i Julie Morgan am ei harweinyddiaeth o ran diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol? Diolch i chi am godi hyn heddiw. Rwy'n gobeithio y cawn ni ddatganiad llafar ar hyn. Dim ond i ni gofio hyn: mae'r gyfraith a gyflwynwyd gennym ni'n darparu amddiffyniad cyfartal i bob plentyn yng Nghymru rhag ymosodiad—hawl sylfaenol na ddylai fyth fod yn ddibynnol ar oedran neb. Felly, fe gawsom ni'r adolygiad interim hwn, sy'n dangos bod y gyfraith yn ymwreiddio yn dda, fel bwriadwyd hi gan fwyaf, ac mae'n cefnogi hawliau plant hefyd, gan hyrwyddo'r dull ataliol hwnnw, sy'n osgoi erlyn rhieni. Diolch i bawb a fu â rhan yn y ddeddfwriaeth hon. Felly, diolch i chi am gydnabod Lindsay, ac eraill a fu â rhan ynddi. Oherwydd mae hwn yn fater y dylem ni fod yn falch iawn ohono. Ac rwy'n credu bod Gogledd Iwerddon yn awyddus i ddilyn Cymru oherwydd yr hyn—. Y chi a arweiniodd y ffordd, Julie, yn San Steffan, ymhell cyn i chi ddod i'r Senedd hon.
A gaf i ofyn am wybodaeth bellach oddi wrthych chi yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, os caf i, o ran y sefyllfa ynglŷn â gwrthsemitiaeth? Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn gresynu at y pethau ofnadwy sydd wedi digwydd yn Awstralia, ar draeth Bondi, dros y penwythnos. Rwy'n nodi, Gweinidog, eich bod wedi chi cyhoeddi datganiad ynglŷn â hynny, ac rwyf innau'n ei groesawu yn fawr iawn. Ond yr hyn na wnaethoch chi gyfeirio ato yn y datganiad yw unrhyw gamau pellach yr ydych chi am eu cymryd yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblem gwrthsemitiaeth, sydd, mae arna' i ofn, yn parhau mewn cyrrau o Gymru o hyd, yn arbennig yn ein prifysgolion ni.
Nid yw Prifysgol Caerdydd fyth wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth. Ac mae arna' i ofn fod hynny wedi cael ei ddwyn i'm sylw i, ac rwyf innau wedi codi hynny gyda'r brifysgol, bod yna unigolyn sy'n gysylltiedig â'r brifysgol—mae ef ar fwrdd rheoli'r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd—sydd wedi bod yn cyhoeddi pethau pleidiol i Hamas yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae hwnnw wedi bod yn dweud ei fod yn cefnogi Hamas o ran cymryd eu tir eu hunain yn ôl, o ran cymryd gwystlon a gwrthsafiad milwrol, a chan gymharu'r Iddewon â Natsïaid. Dyna'r holl fathau o bethau sy'n waharddedig ac yn dod o dan ddiffiniad yr IHRA o wrthsemitiaeth.
Nawr, mae hi'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru allu i roi gofynion cytundebol ar waith yn y brifysgol honno, yn gyfnewid am y cyllid y mae'n ei roi iddi, i fabwysiadu diffiniad yr IHRA. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod chi'n dweud wrthym ni yn y Siambr hon heddiw, ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd dros y penwythnos, a fyddwch chi'n cymryd y camau angenrheidiol i wneud hynny'n union. Hefyd, a wnewch chi ymuno â'ch cydweithwyr yn y Blaid Lafur mewn mannau eraill i gondemnio Dale Vince, cyfrannwr at y Blaid Lafur, am awgrymu mai Israel a oedd yn gyfrifol am gyflafan traeth Bondi? Mae honno'n enghraifft arall amlwg o'r fath ar wrthsemitiaeth na ddylem ni fod yn ei oddef.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi hynny unwaith eto, ac, yn wir, am ei godi yn gynharach gyda'r Prif Weinidog. Fe lwyddais i gyhoeddi datganiad, fel gwyddoch chi. Ond hefyd, fe fues i'n cyfarfod â'r gymuned Iddewig ddoe. Roedd hwnnw'n gyfle, unwaith eto, i ddweud wrthyn nhw fod ein calonnau ni—ac fe wn i y caiff hyn ei adlewyrchu ar draws y Senedd—yn gwaedu dros y dioddefwyr, y teuluoedd, y gymuned Iddewig, ar ôl yr ymosodiad terfysgol erchyll ar draeth Bondi yn ystod y dathliad Hanukkah yn Sydney. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod wedi dweud ddoe, wrth gyfarfod â'r gymuned Iddewig, ei fod yn ymosodiad bwriadol ar werthoedd a rhyddid ac yn weithred o derfysgaeth wrthsemitig a anelwyd ar gynulliad ar ŵyl gyhoeddus.
Roedd hi'n ddiddorol, oherwydd roeddwn wedi cwrdd â'r gymuned Iddewig eisoes yr wythnos diwethaf, ar ddydd Iau. Fe wnes i gyfarfod â'r gymuned Iddewig, ac fe ymunodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch â mi yn y cyfarfod hwnnw, am ein bod ni wedi cael cyfarfod cyn hynny wedi'r ymosodiad erchyll ar synagog Heaton Park. Gan glywed am addysg uwch yn arbennig, roedd yna fyfyrwyr yn y cyfarfod a ddaeth i'r synagog yng Nghyncoed, ac felly roedd hi'n bwysig iawn fod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi ymuno â mi yn y digwyddiad hwnnw'r wythnos diwethaf. Rydym ni wedi cymryd nifer o gamau gweithredu yn sgil hynny.
Nid oes amser gennyf i ymateb i bob un ohonyn nhw nac i'ch pwyntiau chi i gyd heddiw, ond fe hoffwn i wneud un sylw yr ydych chi'n ymwybodol ohono, wrth gwrs, sy'n deillio o'r adroddiad a gynhaliodd Arglwydd Mann ar ran Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Mae yna ystod eang o argymhellion—10, mewn gwirionedd—a gyfeirir at Lywodraeth Cymru, ac rydym ni wedi cytuno i fynd ar drywydd pob un ohonyn nhw. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar fywyd, o iechyd i addysg, addysg uwch ac addysg ysgol, ysgolion a hyfforddiant, a'r pwyntiau hynny i gyd.
Felly, diolch i chi am hynna, am eich pwyntiau a'ch datganiadau heddiw, yr wyf i'n gobeithio y caf i ymateb iddyn nhw'n llawnach pan ddown ni'n ein holau yn y flwyddyn newydd. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dangos cefnogaeth ac undod wrth i ni ddod at ein gilydd i gyfranogi yn yr ŵyl Hanukkah yn y Senedd yn ddiweddarach heno.
A wnaiff y Trefnydd ofyn i Weinidog yr economi wneud datganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu â Norsk Hydro, a gyhoeddodd dros y penwythnos fod posibilrwydd y bydd ei ffatri ym Medwas yn cau, gan beri colled o 125 o swyddi, ynghyd â phedwar safle arall ledled Ewrop? Ergyd ddinistriol yw hon i ddod cyn y Nadolig. Os mai'r penderfyniad yn dilyn y cyfnod ymgynghori fydd cau, yna fe fydd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru arnom ni i gymryd camau ar fyrder i sicrhau y bydd cyfleoedd i ailhyfforddi a chyfleoedd newydd o ran cyflogaeth gyda gobaith cyn gynted â phosibl i'r gweithwyr medrus iawn hyn. Fe ymwelais i fy hunan â'r ffatri ddoe. Fe fues i'n siarad ag un gweithiwr. Dyma'r chweched tro y cafodd ei ddiswyddo yn ystod ei fywyd gwaith. A minnau'n siarad fel cyn-weithiwr alwminiwm a gafodd ei ddiswyddo ei hunan yn yr 1980au, mae hi'n ergyd ddinistriol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i chi, Lindsay Whittle. Mae'r newyddion, wrth gwrs, yn ofidus iawn i weithlu Norsk Hydro, i'w teuluoedd a'r gymuned fel ei gilydd, ac rydym ni'n barod i gefnogi'r gweithlu yr effeithir arno gan y penderfyniad hwn.
Yn gyntaf oll, mae trychineb traeth Bondi yn tynnu sylw at yr angen i bob arweinydd ffydd ddod at ei gilydd i atal defnyddio digwyddiadau sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd i hau cynnen ac anghytgord yn ein cymunedau ni ein hunain. Mae'n rhaid i ni gryfhau ein hymdrechion yn y cyswllt hwnnw. Mae hi'n bwysig iawn y byddwn ni'n cynnau'r menora yn y Senedd heno.
Ar fater arall, yng ngoleuni cyflwr truenus y prif adeilad o'r 1960au yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, gyda charthion yn dod i mewn i ystafell aros a thoeau yn gollwng yn cyrraedd y penawdau ar achlysuron di-ri, a gawn ni ddatganiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch pa gyllideb gyfalaf a allai fod ar gael ar gyfer prosiectau brys fel y rhai yn yr ysbyty athrofaol, a sut y gellid ariannu'r rhain, boed hynny drwy fodel buddsoddi cydfuddiannol neu unrhyw ddull arall, fel nad oes rhaid i ragoriaeth glinigol unig ganolfan drydyddol Cymru barhau i gael ei chyflawni mewn adeilad mor sâl?
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone. Diolch i chi am eich cefnogaeth o ran cynnau'r menora heno. Fel rydych chi'n dweud, mae hwn yn gyfle i uno, nid ymrannu. Rydym ni'n ffodus yng Nghymru fod gennym ni, fel cafodd ei fynegi'r prynhawn yma eisoes, fforwm cymunedau ffydd cadarn, a chymunedau ffydd sy'n dod at ei gilydd, ac fe wn i y bydd yn cael ei gynrychioli, ac mae honno'n genadwri bwysig iawn.
O ran Ysbyty Athrofaol Cymru—ysbyty'r Mynydd Bychan, fel y'i gelwir—mae arolygon cynhwysfawr yn cael eu cynnal arno ar gyfer llywio buddsoddiad yn y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor yr ystad. Felly, mae yna gynllunio ar gyfer ailddatblygu'r safle yn y dyfodol, oherwydd mae hyn yn hanfodol o ran cyflwr, fel roeddech chi'n dweud, yr adeilad a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y cleifion a'r staff. Felly, rydym ni'n aros am wybodaeth oddi wrth y bwrdd iechyd ynglŷn â'r ffordd orau o allu rhoi'r gefnogaeth orau i'r blaenoriaethau clinigol o ran seilwaith sy'n fwy cydnerth. Fe fydd angen buddsoddiad parhaus ar draws safle Ysbyty Athrofaol Cymru i sicrhau ei fod yn ddiogel i'r cleifion, y staff a'r ymwelwyr.
Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch? Yr wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau i'r llefaryddion, fe godais i benderfyniad Prifysgol Caerdydd i agor campws yn Kazakhstan a'r driniaeth ofnadwy a brofwyd gan aelod o staff wrth weithio yno. Roedd staff a anfonwyd i Kazakhstan yn wynebu amodau gwaith gwael, diffyg trefn yn llwyr, llety sâl a gwrthod ad-dalu eu costau adleoli. Rwy'n gwneud yr hyn a allaf i helpu'r aelod o staff dan sylw, ond pan godais i'r mater gyda'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, fe ddywedodd hi wrthyf i, ac rwy'n dyfynnu o'r Cofnod,
'Nid yw'r pryderon a godwyd gennych yno wedi'u dwyn i fy sylw.'
Fodd bynnag, mae hi'n ymddangos nad yw hynny'n wir. Fe gysylltodd un o'r aelodau o'r staff a gafodd eu trin yn wael â'r Gweinidog yn uniongyrchol ar dri achlysur neilltuol. Anfonwyd dau e-bost yn amlinellu'r pryderon y gwnes i eu codi nhw a llawer mwy na hynny at y Gweinidog yn ddiweddar, ar 25 Tachwedd, ac fe anfonwyd un arall ar 11 Rhagfyr. Mae rhywbeth o'i le yma'n amlwg, Gweinidog. Felly, fe fyddai datganiad gan y Gweinidog yn egluro'r sefyllfa ac yn amlinellu pa gefnogaeth y gall hi ei chynnig i'r aelodau staff hyn i'w werthfawrogi yn fawr. Diolch i chi.
Diolch i chi, Natasha Asghar, a diolch i chi am godi hyn. Mae hi'n bwysig bod hyn bellach ar y cofnod a'ch bod chi wedi codi'r pryderon, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb i Brifysgol Caerdydd o ran effaith y safle a'r lleoliad newydd hwn yn Kazakhstan. Ond, diolch i chi am ei godi heddiw. Mae'n amlwg y bydd hyn yn cael mwy o sylw.
Prynhawn da, Trefnydd. Roeddwn i'n awyddus yn wir i godi mater bancio, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig, a'r gallu i gael gafael ar arian parod. Roeddwn i'n bresennol yn agoriad canolfan fancio Ystradgynlais ddydd Gwener diwethaf. Fe agorwyd y cyfleuster hwn o ganlyniad i ymgyrchu parhaus gan fusnesau, trigolion, yn ogystal â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau bod y gymuned yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau bancio. Fe wyddom ni fod banciau wedi cau ar draws ardaloedd cefn gwlad ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar banc wedi cau yn Aberhonddu, gan adael dim ond un gangen yn unig i wasanaethu'r dref a'i hardal wledig yn fwy eang. Mae tua 200,000 o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar arian parod, ac mae bron i 80 y cant o Gymry yn ei ddefnyddio o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Fe fyddwn i'n croesawu datganiad felly gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod arian parod a gwasanaethau bancio ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, a llongyfarchiadau i bawb a ymgyrchodd dros y ganolfan fancio newydd yn Ystradgynlais. Mewn gwirionedd, fel gwyddoch chi, mater a gedwir yn ei ôl yw hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi addo sefydlu o leiaf 350 o ganolfannau bancio ledled y DU. Datrysiadau wedi eu seilio ar gymunedau yw'r rhain i raddau helaeth iawn, datrysiadau cymunedol unigryw, ac mae nifer y canolfannau yn dal i gynyddu ledled Cymru. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag effaith cau banciau o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, a hefyd o ran pobl sydd wedi eu heithrio yn ddigidol, pobl nad ydyn nhw'n gallu bancio ar-lein. Rwy'n croesawu cyflwyno datrysiadau bancio lleol amgen ac, wrth gwrs, yn cefnogi ein hundebau credyd yn ogystal â mudiadau trydydd sector a gwirfoddol. Rwyf i wedi bod â rhan mewn digwyddiad bancio yng nghymunedau Cymru, ac fe fydd un arall yn cael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Rwy'n edrych ymlaen at ddod ag adborth o ganlyniadau'r digwyddiad hwnnw.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r ddau ohonyn nhw'n perthyn i'w gilydd—un ar ariannu meddygfeydd teulu a'r llall ar rannu arfer da yn y gwasanaeth iechyd. Mae'r cwestiynau yma'n deillio o ymweliad y gwnes i'n ddiweddar â meddygfa Llanfyllin sy'n gwasanaethau ardal o tua 450 o filltiroedd sgŵar a 12,000 o bobl yn rhan ohoni. Mae ganddyn nhw feddygfeydd yn Llanfyllin, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Four Crosses, ond oherwydd methiant i ariannu meddygfeydd teulu yn gywir, maen nhw bellach yn gorfod ystyried cau cangen Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a fydd yn hynod niweidiol i nifer fawr o bobl mewn ardal mor wledig. Mae'n enghraifft o'r heriau sydd yn wynebu meddygfeydd teulu, yn enwedig yng nghefn gwlad. Felly, a gawn ni ddatganiad ar ariannu meddygfeydd teulu?
Yn ail, yn perthyn i hynny, mae meddygfa Llanfyllin wedi datblygu prosiect llwyddiannus iawn—nifer ohonyn nhw, ac un ohonyn nhw'n edrych ar fodel bregusrwydd er mwyn atal pobl rhag mynd i ysbytai cyffredinol. Maen nhw wedi llwyddo i atal miloedd o bobl rhag gwneud hynny, ond mae'r projectau yma'n gorfod dirwyn i ben oherwydd methiant ariannu parhaol, sydd yn golygu bod project arfer da fel yna yn dirwyn i ben heb ei rannu. Felly, a gawn ni hefyd ddatganiad ar sut mae'n bosibl rhannu arferion da o'r math yna yn ehangach a'u cynnal nhw? Diolch.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod chi wedi gallu—er gwaethaf yr heriau i bractisau meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig—nodi model arfer da, onid ydych chi, o ran prosiect meddygfa Llanfyllin. Mae ystyried model bregusrwydd rwy'n siŵr yn rhywbeth a fyddai o gymorth gydag atal a chydnerthedd y gwasanaeth yn ogystal â hynny. Yn amlwg, mater yw hwn o ran gwasanaethau meddygon teulu, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol iawn o'r rhain o ran y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ein cymunedau.
Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddileu'r cynllun taliad sylfaenol yn raddol ar gyfer cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r CFfC, ond o ystyried y gwyddom ni y bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno nawr, mae hi'n bwysig bod y pontio yn llyfn i'r ffermwyr. Mae dileu'r cynllun taliad sylfaenol yn golygu ymyl dibyn i raddau mwy, gyda gostyngiad o 40 y cant o'r flwyddyn nesaf. Rwyf i wedi clywed gan ffermwyr sy'n dweud eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu bwlio gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r CFfC, ac mae hi'n annheg eu rhoi nhw yn y sefyllfa honno gyda gostyngiad mor sylweddol yn nhaliadau'r cynllun taliad sylfaenol. Mae cryn bryder hefyd o ystyried nad oes ymrwymiad cyllido eglur ar gyfer y CFfC ar ôl 2026, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw. Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai hi'n defnyddio tactegau ymyl dibyn i orfodi ffermwyr ymwneud â'r cynllun newydd, ond mae'r gostyngiad hwn o 40 y cant yn golygu hynny'n union. Felly, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar ddileu'r cynllun taliad sylfaenol yn raddol a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r sector amaethyddol ar effaith y toriad o 40 y cant?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Cafodd y cynllun ffermio cynaliadwy ei gefnogi gan y Senedd hon—ei gefnogi ar ôl ymgynghoriad eang, sy'n parhau yn sicr o ran y pontio i'r trefniadau newydd, a fydd yn fuddiol i ffermwyr, yn fuddiol i gymunedau ac yn fuddiol i Gymru.
Trefnydd, a gaf i ddatganiad gennych chi, os gwelwch chi'n dda, am y gwasanaethau prawf yng Nghymru a diogelwch cymunedol? Nid wyf i'n siŵr a welsoch chi erthygl yn The Guardian yn ddiweddar a ysgrifennwyd gan y prif arolygydd prawf, Martin Jones. Roedd ef yn rhybuddio ei bod hi'n anochel y bydd mwy o lofruddiaethau a threisiau oni bai y bydd gwelliannau yn y gwasanaethau prawf. Roedd ef yn dweud bod un rhan o dair o'r troseddwyr yn cael eu rhyddhau i'r gymuned heb gael eu hasesu yn briodol ac nad yw staff prawf yn deall digon am y perygl y maen nhw'n ei reoli. Mae hyn yn digwydd wedi degawd o ymgyrchu gan ein hetholwr, yr anhygoel Nadine Marshall. Mae yna fethiannau enfawr yn y system o hyd.
Ailadroddwyd ei sylwadau ef gan ei adroddiad diweddar ar droseddau pellach difrifol, a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr. Roedd hynny wythnos ar ôl adroddiad arolygu ar wasanaethau prawf Caerdydd a'r Fro. Graddiwyd y gwasanaethau fel rhai annigonol, gyda'r adroddiad yn disgrifio'r ddarpariaeth ar draws yr ardal fel un anghyson, gyda bylchau nodedig o ran menywod, a bod angen gweithredu ar frys ar ansawdd y gwaith i gadw pobl yn ddiogel, i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel. Fe ddywedir wrthym ni dro ar ôl tro gan Weinidogion San Steffan a chyd-Aelodau i'r chwith i mi, neu mewn gwirionedd i'r dde i mi, nad oes angen datganoli prawf a bod popeth yn iawn gyda system gyfiawnder Cymru a Lloegr. Ond, yn amlwg, nid yw hynny'n wir, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi fod methiannau enfawr yn bodoli ac mae angen mynd i'r afael â nhw. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Diolch i chi am dynnu sylw at yr adroddiad arolygu a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Hynny yw, yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon yn llwyr gefnogi datganoli gwasanaethau prawf, ac mae hwnnw'n fater yr ydym ni'n gweithio arno gyda'r undebau cyfiawnder ac, yn wir, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod a gadeiriwyd gan y Farwnes Ilora Finlay, gyda grŵp trawsbleidiol o arglwyddi, yn Nhŷ'r Arglwyddi, ar gyfer ystyried sut wedd a allai fod ar wasanaeth prawf enghreifftiol i Gymru, ac mae yna gryn dipyn i'w wneud yn dilyn y cyfarfod rhyngweithiol iawn hwnnw.
Trefnydd, fe glywsom ni alwadau eisoes heddiw yn y Siambr hon ynglŷn â chyflwr a diwylliant y gweithle yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Fe glywsom ni am ollyngiadau carthion parhaol, toriadau yng nghyflenwad y dŵr a chyfleusterau sy'n dirywio yn ofnadwy, gan gynnwys digwyddiadau pan aeth carthion i mewn i ardaloedd ar gyfer cleifion. Mae cleifion a staff fel ei gilydd wedi disgrifio plâu colomennod, nenfydau sy'n gollwng, llifogydd mewn twneli gwasanaeth, a wardiau heb wres mewn tywydd oer—amodau na ddylai fod yn dderbyniol mewn unrhyw system gofal iechyd fodern. Mae bron i 300 o uwch-feddygon ymgynghorol wedi ysgrifennu erbyn hyn i rybuddio am fethiannau cyfundrefnol dirfawr. Mae'r gweithwyr proffesiynol rheng flaen hyn yn disgrifio gorludded eang, prinder staffio, risgiau i ddiogelwch cleifion, a diwylliant sy'n canolbwyntio yn barhaus ar reoli'r argyfyngau yn hytrach nag ar gynllunio i'r hirdymor. Maen nhw'n codi pryderon difrifol hefyd ynglŷn â methiannau TG a chynaliadwyedd gwasanaethau allweddol i'r hirdymor. Mae adolygiad gwasanaeth mewnol wedi tynnu sylw pellach at doriadau yn yr arweinyddiaeth, diffygion o ran cadw at weithdrefnau, a diwylliant gweithio anniogel mewn theatrau llawdriniaeth. Fel gwyddoch chi, mae adroddiadau'r cyfryngau wedi ychwanegu at y pryderon hyn, gan ddatgelu digwyddiadau yn ymwneud â sylweddau anghyfreithlon mewn ardaloedd ar gyfer staff, lladrata dro ar ôl tro, a'r hyn a gafodd ei ddisgrifio fel awyrgylch o arswyd. Gyda hynny mewn golwg, a gaf ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad i'r Siambr hon o'r diwedd, yn nodi pa gamau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r amgylchiadau hyn, i gefnogi'r staff sy'n cadw'r ysbyty hwn i redeg, a sicrhau bod cleifion yn cael y gofal diogel, urddasol y maen nhw'n ei haeddu? Diolch i chi.
Diolch i chi am y cwestiwn yna, yn dilyn cwestiwn gan Jenny Rathbone. Fel pwynt ychwanegol yn unig, mae'r bwrdd iechyd wedi elwa ar gyfalaf dewisol o £17 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n cael cyllid ystadau wedi ei dargedu hefyd, sy'n cwmpasu ystod o weithgareddau sy'n berthnasol i'ch cwestiwn chi, gan gynnwys iechyd meddwl, rheoli heintiau, datgarboneiddio a diheintio.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd. Yn gyntaf, mae Prif Weinidog y DU wedi cyrraedd pwynt isaf newydd—pwy a wyddai fod hynny'n bosibl mewn gwirionedd? Gan gyfaddef ei fod yn gwbl ymwybodol bod ei bolisi treth etifeddiaeth yn gyrru pobl i gymryd eu bywydau eu hunain, fe ddywedodd Starmer, heb unrhyw deimlad dynol, mae'n ymddangos, y bydd ef yn dal ati serch hynny. Fe ellir dadlau nad yw'r dyn yn addas i lywodraethu. Mae hi'n ymddangos bod y ddwy Lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar ddinistrio ffermio yng Nghymru a'r DU. Mae Ail Ddarlleniad y Bil Cyllid yn digwydd heddiw yn San Steffan, ac rwy'n credu bod cymunedau ffermio Cymru yn haeddu datganiad ar lawr y Senedd hon, gan y Llywodraeth hon, yn amlinellu eich ymateb i hwnnw ac yn nodi unrhyw ymdrechion yr ydych chi'n eu gwneud i bwyso ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi'r polisi trychinebus hwn.
Hefyd, pan oedd y lle hwn yn Gynulliad, roedd bron pob ysgol gynradd yn hen ardal Gwent yn cynnig gwersi cerddoriaeth neu gyflwyniad i gerddoriaeth gydag offerynnau. Nid yw hynny'n wir mwyach, gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn methu â chynnig hynny oherwydd diffyg cyllid. Mae Cymru yn galw ei hun yn 'wlad y gân', ond mae cerddoriaeth yn diflannu o'n hystafelloedd dosbarth. A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros addysg, yn nodi faint o ysgolion yng Nghymru sy'n cynnig unrhyw fath o addysg gerddorol fyw erbyn hyn, gan nad yw llechen, wrth gwrs, yr un peth, a sut caiff ei hariannu? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru ar ei golled o ran y cyfle rhagorol hwn i ddatblygu? Diolch.
Wel, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr hon yn edrych ymlaen at glywed beth fydd eich barn chi ynglŷn â sut y byddwch chi'n pleidleisio dros gyllideb ddrafft, a fydd yn arwain at gynnydd o 4.5 y cant yn y cyllid i lywodraeth leol a chynnydd o 3.6 y cant i'r gwasanaeth iechyd. Fe fydd yr arian i lywodraeth leol, fel dywedodd y Prif Weinidog, ar gyfer ein hysgolion ni, ar gyfer gofal cymdeithasol. A phryd wnaethoch chi bleidleisio dros unrhyw gyllideb, Laura Anne Jones, i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus mewn gwirionedd? Rydym ni'n pryderu yn fawr sut agenda fydd gan Reform o ran pwysigrwydd y gyllideb hon, yr ydym ni'n gobeithio, wrth gwrs, y byddwch chi'n ei chefnogi. Ond nid ydym ni'n meiddio meddwl am yr hyn a fyddai eich barn chi o ran cyllideb gan Reform.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lefelau uwchgyfeirio sefydliadau'r NHS. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae wedi bod bron i chwe mis ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ddiwethaf i'r Senedd am statws uwchgyfeirio pob un o sefydliadau'r GIG yng Nghymru, ac yn y cyfnod hwnnw mae llawer wedi newid. Mae'r GIG wedi darparu 77,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol a 17,000 o lawdriniaethau cataract fel rhan o'r gwaith i leihau amseroedd aros hir ac i dorri'r rhestr aros gyffredinol. Mae niferoedd yr arosiadau hir yn disgyn. Mae'r rhestr aros gyffredinol yn dod i lawr. Mae mwy o apwyntiadau ar gael, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau. Mae mwy o brofion yn cael eu darparu a mwy o lawdriniaethau wedi'u cyflawni, a mwy o driniaethau wedi'u darparu hefyd.
Ers mis Gorffennaf, mae ein ffocws cytunedig a phenderfynol ar leihau oedi trosglwyddo o ambiwlans mewn adrannau argyfwng ysbytai wedi arwain at ostyngiad o 43 y cant mewn oriau ambiwlans a gollwyd ac amseroedd ymateb gwell ar gyfer galwadau 999. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno newidiadau i'r ffordd y mae'n ymateb i alwadau 999 i roi mwy o ffocws ar ganlyniadau cleifion. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld gwelliant cyson mewn canlyniadau i bobl sydd wedi profi ataliad y galon. Fel y nodais i yr wythnos diwethaf yn y Senedd, mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi gweithredu ail gam y gwaith hwn, gan gyflwyno'r categorïau newydd 'oren: nawr', 'melyn: yn fuan' a 'gwyrdd: wedi'i gynllunio'.
Dirprwy Lywydd, byddwn yn nodi pen-blwydd cyntaf cynllun iechyd menywod yr wythnos hon, a bydd canolfan iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth, yn union fel yr addawyd gennym.
Ni fyddai'r holl gynnydd hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac ymroddiad y degau o filoedd o staff y GIG sy'n cyflawni'r gwelliannau hyn a'r gofal gorau posibl i bobl ledled Cymru, a byddant yn parhau i wneud hynny trwy gydol y gaeaf. Mae yna, wrth gwrs, heriau. Mae yna feysydd lle nad yw byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cyflawni eu cynlluniau eu hunain a'r safonau a'r disgwyliadau uchel rydym ni'n eu gosod, ac mae gormod o amrywiaeth o fewn a rhwng byrddau iechyd. Ym mis Gorffennaf, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth ar gyfer pob sefydliad GIG. Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad pellach ar ôl i ansawdd, perfformiad a rheolaeth ariannol pob sefydliad y GIG yng Nghymru gael eu hasesu'n ofalus.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi'r lefelau uwchgyfeirio diwygiedig ar gyfer pob sefydliad y GIG. Dirprwy Lywydd, rwyf am gydnabod y cynnydd a wnaed gan rai byrddau iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ei lywodraethiant a'i arweinyddiaeth. Mae penodi cadeirydd, prif weithredwr a dirprwy brif weithredwr newydd wedi dod â sefydlogrwydd a chyfeiriad i'r bwrdd. Mae gweithredu strwythur grŵp gofal gweithredol sefydliadol newydd a'i lywodraethu cysylltiedig wedi gwella'r broses o wneud penderfyniadau a gafael a rheolaeth weithredol. Mae'r bwrdd iechyd wedi adolygu a gweithredu trefniadau llywodraethu bwrdd wedi'u hadnewyddu, wedi cwblhau adolygiad o'i drefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch, ac wedi gwneud cynnydd da wrth gwblhau argymhellion a wnaed gan archwilwyr, arolygaethau a rheoleiddwyr. Mae wedi bodloni'r meini prawf, sy'n fy ngalluogi i isgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i drefniadau arferol ar gyfer llywodraethiant ac arweinyddiaeth. Bydd pob maes arall yn aros ar yr un lefel o uwchgyfeirio, sef fel yr oedd ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn arwyddocaol fel cyflawniad i'r bwrdd iechyd, a oedd ar lefel 4 uwchgyfeirio ym mis Ionawr y llynedd.
Dirprwy Lywydd, yn y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar ddechrau'r mis, codais heriau sy'n ymwneud â chyllid, cynllunio a pherfformiad gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Y llynedd, roedd wedi gwneud gwelliannau sylweddol ac roedd ganddo gynllun tair blynedd cytbwys yn ariannol ac wedi'i gymeradwyo. Mae'n hynod siomedig nad yw'r cynnydd hwn wedi'i gynnal, ond mae sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wedi dirywio'n gyflym yn ystod y flwyddyn hon. Mae'n rhagweld diffyg o £18.3 miliwn erbyn diwedd mis Mawrth. Nid yw hyn yn dderbyniol. Rwy'n gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar lefel 4 uwchgyfeirio ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, ac rwy'n dirymu cymeradwyaeth ei gynllun tair blynedd.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi bod ar lefel 3 uwchgyfeirio ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ers mis Ionawr 2024. Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a staffio yn yr adran argyfwng, mae'r bwrdd iechyd wedi methu â chyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Rwyf hefyd yn codi'r lefel uwchgyfeirio i lefel 4 ar gyfer gofal brys ac argyfwng yn y bwrdd iechyd. Bydd hyn yn arwain at ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a pherfformiad a gwelliant y GIG i wella prydlondeb ac ansawdd gofal brys ac argyfwng i bobl sy'n byw yn rhanbarth Gwent.
Dirprwy Lywydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar lefel uchaf uwchgyfeirio, lefel 5 neu, i bob pwrpas, mae mewn mesurau arbennig. Bydd aelodau, wrth gwrs, erbyn hyn yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi dwy ymyrraeth sylweddol yn y bwrdd iechyd. Bydd tîm o arbenigwyr, dan arweiniad Jane Farrell, yn gweithio gyda'r uwch dîm arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd i wella gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio, canser, a brys ac argyfwng. Yr ail ymyrraeth yw adolygiad ar unwaith o reoli data amseroedd aros yn y bwrdd iechyd.
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei roi ar lefel 4 uwchgyfeirio ym mis Gorffennaf. Yn dilyn y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus ar 13 Tachwedd, rwy'n penodi uwch gyfarwyddwr gwelliannau i ddarparu cymorth uniongyrchol i'r sefydliad.
Nid oes unrhyw newidiadau i'r lefelau uwchgyfeirio ym myrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe a bwrdd iechyd addysgu Powys, nac yn yr ymddiriedolaethau GIG eraill ac awdurdodau iechyd arbennig.
Dirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i holl staff y GIG sy'n gweithio mor galed i wneud gwahaniaeth i iechyd pobl, yn aml o dan amgylchiadau anodd, bob dydd. Fel y bydd cyd-Aelodau yn gwybod, rydym yn wynebu ymchwydd ffliw cynnar, sy'n rhoi pwysau ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal. Gallwn ni i gyd gefnogi'r GIG y gaeaf hwn trwy wneud yn siŵr ein bod wedi cael ein brechiad ffliw a thrwy ddewis y gwasanaeth iechyd cywir ar gyfer ein hanghenion. Nid yw hyn bob amser yn golygu mynd i'r adran achosion brys neu alw'r meddyg teulu. Gall GIG 111 ddarparu'r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnom yn aml. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiadau llafar ac ysgrifenedig ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn y GIG y prynhawn yma. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i'r holl GIG sy'n gweithio ar draws ein holl wasanaethau rheng flaen ledled Cymru.
Ysgrifennydd Cabinet, er bod y datganiad hwn yn dweud wrthym ble mae byrddau iechyd yn eistedd o fewn y fframwaith uwchgyfeirio, mae'n dweud llawer rhy ychydig wrthym ynghylch pam eu bod yno, pa mor hir y disgwylir iddynt aros yno, ac a yw'r system hon yn darparu gwelliannau ystyrlon i gleifion a staff. Mae'n bryderus iawn, unwaith eto, ein bod yn gweld byrddau iechyd lluosog ar lefelau uwchgyfeirio 4 a 5, gyda Betsi Cadwaladr yn aros ar lefel 5, y lefel fwyaf difrifol o ymyrraeth. Mae'r bwrdd iechyd hwn bellach wedi treulio'r rhan fwyaf o'r degawd diwethaf yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig, sy'n codi cwestiwn difrifol, sylfaenol i'r Llywodraeth: os yw uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn gweithio fel y bwriadwyd, pam y mae rhai sefydliadau yn parhau i fod ar y lefelau uchaf, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Ni all uwchgyfeirio yn unig ddod yn batrwm dal neu label gweinyddol sy'n cymryd lle gwelliannau gwirioneddol ar draws y system.
Mae'r datganiad hefyd yn darparu rhywfaint o eglurder ar y mesurau a'r trothwyon penodol sy'n sbarduno heriau mewn statws uwchgyfeirio, a hoffwn wybod yn union pa ddangosyddion perfformiad yn union a oedd yn cyfiawnhau symud Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lefel 4 ar gyfer gofal brys ac argyfwng, a pha ddata sy'n dangos gwelliant i gyfiawnhau'n ddigonol isgyfeirio mewn gwasanaethau mewn mannau eraill.
Gofynnir i Aelodau dderbyn y penderfyniadau hyn ar ymddiriedaeth, ond nid yw'r data sylfaenol yn cael ei gyhoeddi, ac nid oes unrhyw ddilysiad annibynnol o asesiadau Llywodraeth Cymru. A wnaiff y Llywodraeth gyhoeddi'r metrigau perfformiad, yr asesiadau risg a'r dystiolaeth a ddefnyddir i neilltuo lefelau uwchgyfeirio fel y gall Aelodau a'r cyhoedd graffu'n briodol ar y penderfyniadau hyn?
Rhaid i uwchgyfeirio ynddo'i hun, Ysgrifennydd Cabinet, ddarparu canlyniadau gwell i gleifion. Eto, er gwaethaf blynyddoedd o ymyrraeth, mae perfformiad adrannau argyfwng yn parhau i fod yn is na'r targed ledled Cymru, mae arosiadau hir am ofal wedi'i gynllunio yn parhau ac nid yw targedau triniaeth canser yn cael eu cyflawni o hyd. Felly, hoffwn wybod: ble mae'r dystiolaeth bod uwchgyfeirio ac ymyraethau yn gwella canlyniadau cleifion ar gyflymder ac ar raddfa sylweddol? A yw'r Llywodraeth wedi cynnal unrhyw ddadansoddiad sy'n cymharu byrddau iechyd sy'n cael eu huwchgyfeirio â'r rhai nad ydynt yn cael eu huwchgyfeirio i benderfynu a yw'r fframwaith hwn yn gwella adferiad mewn gwirionedd? Ac os na ydyw, sut allwn ni fod yn hyderus fod uwchgyfeirio yn rhywbeth mwy na phroses adweithiol yn unig?
Mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau bod saith bwrdd iechyd yn parhau i fod ar lefel 4 ar gyfer cyllid, cynllunio a strategaeth. Mae hyn yn adlewyrchu system o dan straen parhaus, yn hytrach na methiant sefydliadol neilltuol. Mae Archwilio Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro am gydnerthedd ariannol gwan a rhagdybiaethau afrealistig mewn cynlluniau blynyddol a bwlch cynyddol rhwng y galw a'r adnoddau sydd ar gael. Ond mae'n ymddangos bod uwchgyfeirio yn canolbwyntio ar sefydliadau unigol yn hytrach na mynd i'r afael â'r pwysau enfawr ar draws y system a grëwyd gan benderfyniadau polisi a chyllid. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd Cabinet, faint o'r uwchgyfeiriadau ariannol a welwn heddiw sy'n ganlyniad i gamreoli lleol o fewn byrddau iechyd, a faint o hyn sy'n deillio o benderfyniadau polisi cenedlaethol a wnaed gan y Llywodraeth, a pha dargedau adferiad ariannol penodol sydd wedi'u gosod ar gyfer y byrddau iechyd hynny ar lefel 4. Pryd mae'r Llywodraeth yn disgwyl i'r targedau hynny gael eu cyflawni, ac a allwch chi sicrhau, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw'r gwasanaethau hynny'n cael eu torri ar y rheng flaen i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd yn gallu mantoli'r cyfrifon?
Rwy'n credu mai un o'r hepgoriadau mwyaf trawiadol o'r datganiad yw cyfeiriad ystyrlon at argyfwng y gweithlu. Mae swyddi gwag yn parhau i fod yn uchel, mae gwariant asiantaeth yn parhau i godi ar draws y system, ac mae morâl staff o dan bwysau cynyddol. Eto mae penderfyniadau uwchgyfeirio yn cael eu cyflwyno heb unrhyw ddata gweithlu cysylltiedig. Sut gall trefniadau uwchgyfeirio fod yn gredadwy os nad ydynt yn cyfrif yn benodol am brinder staffio, heriau cadw a gorludded gweithlu? Ac a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gyhoeddi dangosyddion gweithlu ochr yn ochr â'r statws uwchgyfeirio, fel bod gan yr Aelodau ddarlun llawn a gonest o'r hyn sy'n digwydd ar draws ein byrddau iechyd ledled Cymru?
Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid i uwchgyfeirio ac ymyrraeth ennyn hyder y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae'r broses yn teimlo'n anhryloyw ac yn bell o brofiadau bywyd cleifion sy'n aros am ofal. Mae pobl yn y gogledd wedi cael eu siomi ers blynyddoedd. Mae Hywel Dda a Phowys yn gwneud penderfyniadau enfawr ar y rheng flaen oherwydd camreoli ariannol. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth Cymru hon yn mynd i'w wneud i sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu dwyn o dan reolaeth, ac o'r diwedd gallwn fynd yn ôl i sefyllfa lle nad oes unrhyw fwrdd iechyd ledled Cymru o dan unrhyw lefel o ymyrraeth. Diolch.
Wel, rwy'n nodi nad yw dathliadau'r Aelod ar y penwythnos wedi lleihau ei awydd am feirniadaeth gynhwysfawr o'r GIG. Yn y nifer fawr o honiadau y mae wedi'u gwneud yn erbyn y GIG, fe geisiaf nodi rhai o'r cwestiynau mwyaf perthnasol, os gallaf.
Y peth allweddol i'w gofio yng nghyd-destun y drafodaeth hon yw nad yw uwchgyfeirio yn gosb. Mae'n fframwaith ar gyfer ymyrraeth a chefnogaeth. Felly, mae'n gydnabyddiaeth nad yw perfformiad ar gyfer gweithgaredd penodol mewn bwrdd iechyd penodol yn y lle rydym ni'n disgwyl iddo fod ac felly mae angen cymorth ychwanegol er mwyn cael y bwrdd iechyd i'r lle rydym ni eisiau iddo fod. Felly, mae'n iawn i ddweud ei bod yn bwysig, felly, bod y meini prawf sy'n cael eu defnyddio i uwchgyfeirio ac isgyfeirio yn cael eu deall, a bod natur y gefnogaeth sy'n mynd i'r bwrdd iechyd yn glir.
Mae'n gofyn i mi beth yw'r meini prawf. Ym mhob achos, maent yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan y bwrdd iechyd, fel bod ef ac eraill yn gallu gweld beth yw'r camau, beth yw'r gofynion ac a ydynt wedi'u bodloni. Felly, yn gyffredinol, mae lefel y gwelliant, yn dibynnu ar y mater dan sylw, yn gyffredinol yn cael ei meintioli ac mae angen ei bodloni dros nifer penodol o fisoedd cyn i'r bwrdd iechyd fod yn gymwys i'w ystyried ar gyfer isgyfeirio yn y maes hwnnw.
Fe wnes i'n glir yn y datganiad a wnes sawl wythnos yn ôl, ar ôl diwygio rhai agweddau ar y broses uwchgyfeirio, lle mae metrig yn fesuradwy ac mae'n cael ei gyflawni, yna byddem yn ystyried bod hynny'n arwain yn awtomatig at isgyfeirio yn y maes hwnnw. Felly, mae hynny wedi'i nodi yn gynharach eleni. Mae rhai dyfarniadau, wrth gwrs, yn fwy ansoddol, oherwydd eu bod yn ymwneud â gwahanol agweddau ar weithgareddau'r bwrdd iechyd. Felly, er enghraifft, mae gan isgyfeirio bwrdd iechyd Hywel Dda mewn perthynas ag arweinyddiaeth a llywodraethu gymeriad meintiol ac ansoddol, ac mae fy natganiad heddiw yn nodi pam rwy'n credu, yn seiliedig ar gyngor, ei bod yn briodol isgyfeirio ar gyfer y maes penodol hwnnw.
Gwnaeth y pwynt nad oes unrhyw dystiolaeth bod hyn yn helpu byrddau iechyd i wella. Yn fy natganiad, nodais fod bwrdd iechyd Hywel Dda ar lefel 4 uwchgyfeirio ar draws y bwrdd, ddechrau'r llynedd. Gwelwn ddarlun gwahanol iawn heddiw. Mae hynny'n dweud wrthyf mai'r hyn rydym ni'n ei weld yw bod gwelliant wedi bod yn y meysydd penodol hynny o ran isgyfeirio, a gallwn weld hynny'n troi'n weithgarwch ar lawr gwlad.
Gofynnodd i mi yn benodol pa dystiolaeth sy'n cael ei chyhoeddi sy'n cyfiawnhau uwchgyfeirio Aneurin Bevan mewn perthynas â gofal brys ac argyfwng. Byddwn yn dweud wrtho'n dawel, dyma un maes o'r GIG lle mae llawer iawn o ddata yn cael ei gyhoeddi ar sail bwrdd iechyd, yn rheolaidd, sawl gwaith y flwyddyn. Felly, bydd yn gallu dod o hyd i ddangosyddion mewn perthynas ag arosiadau pedair awr mewn adran argyfwng, arosiadau 12 awr mewn adran argyfwng, amseroedd trosglwyddo o ambiwlans ym mhob adran argyfwng, lefel y galw ym mhob adran argyfwng, nifer y derbyniadau. Mae hynny i gyd yn cael ei gyhoeddi ac mae hynny'n darparu'r dystiolaeth y gwneir y penderfyniad arni a'r data sy'n ei alluogi i graffu ar y penderfyniad hwnnw.
Gwnaeth bwynt sef bod y system uwchgyfeirio yn adweithiol, ac mewn un ystyr mae hynny'n gywir: mae'n ymateb i sefyllfa ar lawr gwlad. Fodd bynnag, nid dyma'r unig beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella perfformiad yn y GIG. Yn hanfodol, mae'r gwaith sy'n rhagweithiol yn amlwg yn bwysicach yn y tymor hwy, am reswm da. Bydd wedi gweld o'r fframwaith cynllunio y llynedd, mae'r fframwaith cynllunio newydd ar fin dod allan, dull gweithredu penodol iawn o ran ein disgwyliadau o'r gwasanaeth iechyd, camau gweithredu penodol y mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd eu cymryd. Rydym wedi cyhoeddi perfformiad yn erbyn y gweithredoedd hynny.
Gwnaeth y pwynt am gyllidebau, sydd unwaith eto yn bwynt pwysig, gan gydnabod bod newidiadau poblogaeth wedi effeithio ar y dyraniadau cyllideb i rai byrddau iechyd. Y llynedd, gwnaethom ailddyrannu i adlewyrchu newidiadau ym maint y boblogaeth i sicrhau bod y dyraniad sylfaenol ar draws byrddau iechyd yn deg ac yn adlewyrchu anghenion poblogaethau lleol. Mae'n rhaid i fyrddau iechyd benderfynu sut mae'r cyllidebau hynny'n cael eu gwario ac mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd reoli'r ddwy rwymedigaeth y mae'n rhaid i unrhyw un sy'n derbyn cyllid cyhoeddus gydymffurfio â nhw, sef yn gyntaf i ddarparu gwasanaethau rhagorol ac yn ail i gyflawni ei rwymedigaethau ariannol. Nid oes unrhyw ran o unrhyw wasanaeth cyhoeddus lle mae hyn yn sefyllfa naill ai/neu. Rhaid bodloni'r ddau amod hynny ac mae hynny'n wir am bob bwrdd iechyd hefyd.
Gobeithio mai dyna'r pwyntiau penodol y mae'r Aelod wedi gofyn amdanynt. Fe fyddwn yn dweud, yn olaf, bod rhai o'r newidiadau a wnaethom yn gynharach eleni wedi'u cynllunio'n benodol i ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol honno sydd ei hangen ar fyrddau iechyd, felly pan fydd ganddynt broblem sy'n dod i'r amlwg neu batrwm neu duedd y maent yn gallu ei gweld, ac nad yw eu perfformiad eu hunain lle maen nhw eisiau iddo fod ac nid lle rydym ni eisiau iddo fod, maen nhw'n gallu estyn allan am gymorth i wella'r meysydd hynny. Felly, rydym wedi symud o Weithrediaeth GIG Cymru, a gawsom ar ddechrau eleni, i Berfformiad a Gwelliant GIG Cymru. Rydym wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr newydd ac mae gwaith ar y gweill i ad-drefnu adnoddau'r sefydliad hwnnw fel y gall ddarparu'r gefnogaeth ragweithiol honno sydd ei hangen ar fyrddau iechyd, yn ogystal â chefnogi Gweinidogion i ddarparu'r gwaith craffu pwysig yr ydym yn ei wneud.
Ar ddechrau ei gyfraniad heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod llawer wedi newid ers ei ddiweddariad diwethaf ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn y GIG. Eto, er gwaethaf yr honiad hwnnw, mae rhywbeth cyfarwydd iawn am y sefyllfa yr ydym yn ei thrafod. Nid newid ystyrlon yw'r hyn rydym ni'n ei weld, ond normaleiddio parhaus methiant o fewn system iechyd Cymru.
Dechreuodd Cymru eleni gyda phob bwrdd iechyd mawr o dan ryw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu. Rydym yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn gyda'r sefyllfa honno wedi'i gwreiddio ymhellach. Mae mesurau a ddylai fod yn eithriadol, dros dro ac a ddefnyddir fel dewis olaf yn unig wedi dod yn arferol. Pobl Cymru sy'n talu'r pris am y methiant hwnnw. Yn 2024 yn unig, amcangyfrifodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng fod mwy na 900 o farwolaethau gormodol yng Nghymru yn gysylltiedig ag arosiadau o dros 12 awr mewn adrannau argyfwng.
Ar yr un pryd, mae arferion anniogel fel gofal coridor wedi dod yn gyffredin yn hytrach nag yn eithriad. Mae hyn yn dangos methiant dyfnach a mwy systemig yng ngallu'r GIG yng Nghymru i ddarparu gofal diogel ac amserol. Mae'r record hon yn dweud llawer am stiwardiaeth Llafur dros ein gwasanaeth iechyd. Ar hyn o bryd mae chwe unigolyn ar feinciau'r Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am y portffolio iechyd ar ryw adeg, gan gynnwys dau gyn-Brif Weinidog a'r Prif Weinidog presennol. Er gwaethaf y dyfnder hwnnw o brofiad, mae methiant yn parhau i fod yn nodwedd gyson o record y Llywodraeth hon.
Er bod gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael eu croesawu, dyma'r tro cyntaf i newyddion da ynysig gael eu gorbwyso gan ddirywiad mewn mannau eraill. Nid oes unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn gweithredu mewn sefyllfa o fusnes fel arfer. Mae hynny'n codi cwestiynau difrifol am effeithiolrwydd y fframwaith uwchgyfeirio presennol wrth sbarduno gwelliant cynaliadwy. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arbennig wedi dod i ymgorffori methiant Llywodraeth Cymru i ymgorffori gwelliant perfformiad parhaol.
Fis diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet gefnogaeth ychwanegol i Betsi, gan gynnwys recriwtio cyfarwyddwr gwelliant a thîm o arbenigwyr gweithredol i weithio ochr yn ochr â'r tîm gweithredol presennol. Ond mae'n hanfodol cofio bod Betsi eisoes mewn mesurau arbennig ac wedi bod am dros ddwy ran o dair o'i fodolaeth. Mae hyn yn anochel yn arwain at gwestiwn sylfaenol: a ydym bellach y tu hwnt i ymyrraeth lefel 5? A oes angen disgrifiad newydd o statws Betsi sy'n adlewyrchu difrifoldeb y tu hwnt i'r term 'mesurau arbennig'? Mae'r sefyllfa hon yn awgrymu un o ddau beth, naill ai nid yw'r system mesurau arbennig ei hun yn gweithio, neu nid oes terfyn i gamreoli'r gwasanaeth iechyd gan Lafur. Pa un ydyw? A allwn ni gael asesiad gonest pam mae Betsi yn methu?
Mae'r datganiad hefyd yn nodi y bydd y tîm newydd hwn mewn lle am gyfnod cychwynnol o chwe mis. Ai cyd-ddigwyddiad ydy o fod y chwe mis yna yn dirwyn i ben jest cyn yr etholiad nesaf? Allwch chi felly roi sicrwydd i ni nad oes yna ystyriaethau gwleidyddol i hyn?
Yn ehangach, mae sefyllfa Betsi Cadwaladr yn symptom o broblem llawer dyfnach: nid oes yr un bwrdd iechyd yng Nghymru heddiw mewn sefyllfa o fusnes fel arfer. Mae hynny'n codi cwestiynau sylfaenol ynghylch priodoldeb, eglurder ac effeithlonrwydd y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Llynedd, fe gyhoeddodd Plaid Cymru adroddiad manwl ar lywodraethiant y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys cyfres o argymhellion clir ar atebolrwydd, perfformiad ac arweinyddiaeth. Mae'n arwyddocaol bod nifer o'r arsylwadau hynny bellach wedi eu hadleisio gan adroddiad y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant y gwasanaeth iechyd. Un neges glir a ddaeth i'r amlwg o'r cyfweliadau gyda'r uwch arweinwyr a gyfrannodd at yr adroddiad oedd diffyg hyder a thryloywder yn y fframwaith presennol. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod y teimlad yma o ansicrwydd?
Yn ogystal, mae cwestiwn dilys ynghylch a oes gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr adnoddau, y capasiti a'r gallu gweithredol i ddarparu asesiadau perfformiad rheolaidd cadarn ac effeithiol yn erbyn safonau cenedlaethol. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn hynny?
I gloi, yn unol ag argymhellion y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant, mae angen eglurder ar sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi mireinio a chysoni'r cyfarfodydd y mae'n eu cynnal gyda'r byrddau iechyd mewn ffordd sy'n cryfhau eu hatebolrwydd am berfformiad. Heb newid sylfaenol yn y ffordd y caiff perfformiad ei fonitro, ei herio a'i wella, bydd y system yn parhau i gylchdroi drwy'r un problemau gyda chanlyniadau difrifol i gleifion a staff fel ei gilydd. Tybed ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn hynny. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y rhestr o gwestiynau.
Yn hanfodol i gyhuddiad yr Aelod yw bod sefyllfa unigryw o heriol yng Nghymru sydd wedi cael ei hosgoi gan Lywodraethau o wahanol liwiau mewn rhannau eraill o'r DU. Byddwn yn dweud wrtho'n dawel, o'r 134 ymddiriedolaeth acíwt yn Lloegr sydd wedi bod o dan Lywodraeth Geidwadol i raddau helaeth dros y 14 mlynedd diwethaf, mae 120 wedi'u huwchgyfeirio ac mae 48 o'r 61 ymddiriedolaeth nad ydynt yn acíwt yn y sefyllfa honno. Yn yr Alban, gwlad lle rwy'n siŵr ei fod yn meddwl bod y Llywodraeth yn adlewyrchu ei olwg o'r byd, mae 12 o'r 14 bwrdd iechyd wedi eu huwchgyfeirio hefyd. Felly, mae yna rai heriau yr wyf yn credu y byddai'n deg i'r Aelod fyfyrio arnynt mewn rhannau eraill o'r DU hefyd.
Fe wnaeth nifer o bwyntiau penodol nad ydyn nhw'n adlewyrchu'n deg y sefyllfa ar lawr gwlad yng Nghymru. Gofynnodd i mi a oeddwn i'n teimlo ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle roedd angen disgrifiad newydd ar gyfer y sefyllfa yn Betsi. Rwy'n onest yn dweud wrtho nad wyf yn credu y bydd disgrifiadau, os yw hynny'n rhan o'i ddatrysiad, yn mynd â ni yn bell iawn yn wir. Yr hyn yr ydym eisiau eu gweld yw camau gweithredu ac ymyraethau yn seiliedig ar anghenion byrddau iechyd unigol. Bydd symud i ffwrdd o rethreg i ddeall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad, rwy'n credu, yn ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau—[Torri ar draws.]—mynd i'r afael â'r heriau y mae'r GIG yn eu hwynebu ym mhob rhan o'r DU.
Gofynnodd i mi a oeddwn i'n meddwl bod diffyg tryloywder yn broblem mewn perthynas ag uwchgyfeirio ac isgyfeirio. Soniais yn fy ateb i James Evans, wrth gwrs, fod y meini prawf ar gyfer uwchgyfeirio ac isgyfeirio yn cael eu cyhoeddi ac mae'r dystiolaeth yr ydym yn gwneud y dyfarniadau arni wedi'i gwreiddio i raddau helaeth yn y data a gyhoeddir, ynghyd â'r dyfarniad ansoddol yr wyf wedi ceisio amlinellu yn fy natganiad heddiw. Rwy'n derbyn bod elfen o ansicrwydd wedi bod ynghylch rhai agweddau ar y fframwaith uwchgyfeirio, a dyna pam, bydd yn cofio, fe wnes i'r adolygiad yn gynharach eleni sydd wedi arwain at rai newidiadau yn hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gan bobl ddealltwriaeth glir o beth yw'r meini prawf pan fyddant yn cael eu bodloni, eu bod nhw, yn y bôn, yn sicr y byddant yn cael eu hisgyfeirio yn y meysydd hynny, a dyna'r trefniant sydd gennym ar waith ac rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.
Soniodd am waith y grŵp cynghori gweinidogol a'u hargymhellion ynghylch pwysigrwydd symleiddio atebolrwydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Mae'n un o'r rhesymau pam, yn y fframwaith cynllunio y llynedd, cyn yr argymhellion, fe wnaethom ganolbwyntio ar nifer llai o fesurau allweddol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac mae hynny wedi parhau i fod yn wir, a hefyd dull gweithredu penodol iawn o ran y camau penodol yr oeddem eisiau i'r gwasanaeth iechyd eu cymryd er mwyn gwella effeithiolrwydd darparu gwasanaethau, ac rwyf am fabwysiadu yr un dull yn y fframwaith cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn benodol iawn ynglŷn â'n disgwyliadau, ac yn ymwybodol, wrth gwrs, bod y gwasanaeth iechyd yn darparu ystod eang o wasanaethau, y mae terfyn i restru yn y mathau hynny o fframweithiau cynllunio ar eu cyfer.
Rwy'n gobeithio y bydd wedi gwerthfawrogi'r lefel o fynediad cyhoeddus yr ydym wedi ceisio ei gyflwyno i rai o'r trefniadau atebolrwydd. Rwy'n credu ei fod yn bwysig. Rwy'n gwybod bod ganddo ddiddordeb mewn tryloywder hefyd, fel sydd gennyf i. Ac mae rhoi cyfle i'r cyhoedd weld y craffu a'r herio y mae Gweinidogion yn gallu eu darparu i fyrddau iechyd mewn perthynas â heriau penodol—llawer ohonynt yr wyf wedi cyfeirio atynt yn y datganiad heddiw—yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw yr ydym yn ei wneud er mwyn gwella tryloywder a dealltwriaeth y cyhoedd o rai o'r heriau y mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdopi â nhw ar hyn o bryd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9084 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Symudaf y cynnig.
Mae Deddf Caffael 2023, a ddaeth i rym ar 24 Chwefror eleni, wedi creu newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â chaffael cyhoeddus ledled Cymru, gan ei symud o broses sy'n cael ei gyrru gan gost i broses sy'n cefnogi twf economaidd cynhwysol, gwaith teg a chyfrifoldeb amgylcheddol.
Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd heddiw yn diweddaru Atodlen 9 i'r Ddeddf Caffael, gan roi effaith i gytundebau rhyngwladol newydd y mae'r DU wedi'u llofnodi gydag Irac a Kazakhstan. Mae diwygio Atodlen 9 yn sicrhau bod cyflenwyr o Irac a Kazakhstan yn cael eu cydnabod yn ffurfiol fel cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael eu trin yn unol â'r rhwymedigaethau caffael a nodir yn y cytundebau newydd hyn. Bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio Cymru nawr gynnig i gyflenwyr o Irac a Kazakhstan yr un cyfleoedd â'r rhai a ddarperir i gyflenwyr y DU ar gyfer caffaeliadau a gwmpesir gan y cytundeb.
Mae'r rhwymedigaethau caffael hyn yn rhai cilyddol; bydd busnesau allforio Cymru yn cael mynediad haws i'r marchnadoedd hynny mewn mannau eraill. Mae'r newid yn cryfhau ein cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau rhyngwladol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiadau i gystadleuaeth deg ac agored mewn caffael cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth barhaus o'r rheoliadau hyn ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 1 Rhagfyr ac wedi hynny ystyriodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yr wythnos diwethaf.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol. Mae'r pwynt adrodd yn amlygu, er bod y term 'contract sydd o dan y trothwy' wedi'i ddiffinio yn y rhiant-ddeddf, nid yw'n cael ei ddiffinio yn y rheoliadau eu hunain. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru ei bod o'r farn nad oedd angen diffiniad oherwydd bod ystyr y term yn glir o'r rheoliadau yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, roedd yr ymateb hefyd yn cydnabod y gallai cyfeiriad uniongyrchol fod o gymorth i ddarllenwyr. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mewnosod y diffiniad mewn darpariaeth ddiwygio i'w chynnwys mewn set arall o reoliadau, sydd i fod i gael eu gosod ym mis Chwefror 2026.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Dim sylwadau pellach.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9085 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Dirprwy Lywydd, symudaf y cynnig i gymeradwyo'r rheoliadau ardrethu annomestig.
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu rhyddhad trosiannol i dalwyr ardrethi sydd â rhwymedigaethau uwch yn dilyn ailbrisio ardrethi annomestig 2026. Wrth ddarparu'r cynllun rhyddhad trosiannol hwn, rydym yn ailadrodd fwy neu lai y cynllun rhyddhad a ddarparwyd gennym yn dilyn ailbrisio 2023, gan gefnogi pob maes o'r sylfaen dreth mewn modd cyson a syml. Bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfanswm cost o £116 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny'n ychwanegol at ein rhyddhad parhaol, sydd ar hyn o bryd yn werth £250 miliwn bob blwyddyn. O ganlyniad, bydd talwyr ardrethi ar gyfer dwy ran o dair o eiddo naill ai ddim yn talu bil ardrethi o gwbl neu'n derbyn rhywfaint o ryddhad.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau drafft ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt adrodd rhinweddau craffu, ac nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar yr un ohonynt. Mae'r cyntaf yn tynnu sylw at gyflwyno'r cynnydd yn rhwymedigaeth ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru fesul cam o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd cost y cyflwyniad fesul cam yn £77 miliwn yn 2026-27 a £39 miliwn yn 2027-28.
Mae'r ail bwynt adrodd yn amlygu nad yw'r rheoliadau wedi bod yn destun unrhyw ymgynghoriad. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn nodi nad oedd y rheoliadau yn destun ymgynghoriad oherwydd y cyfyngiadau amseru sy'n deillio o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd. Mae'r memorandwm esboniadol yn ychwanegu bod y rheoliadau o fudd i dalwyr ardrethi ac maent yn seiliedig ar y rhyddhad trosiannol a ddarperir yn dilyn ailbrisio 2023. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn hyderus y bydd y rheoliadau yn cyflawni eu diben polisi.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am osod y rheoliadau hyn ger ein bron ni heddiw, a hefyd am yr ymgysylltiad cynnar â'r rheoliadau hyn. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rhain heddiw, gan ein bod yn cydnabod y bydd y rhyddhad trosiannol hwn yn rhoi cymorth gwirioneddol i dalwyr ardrethi sy'n wynebu cynnydd sydyn ar ôl ailbrisio 2026.
Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru o leiaf wedi cyflwyno cynllun a fydd yn lleddfu'r effaith uniongyrchol i filoedd o fusnesau yng Nghymru. Rydym hefyd yn deall, os nad yw'r rheoliadau hyn yn cael eu cymeradwyo neu eu cefnogi yma heddiw, ni fydd y cynllun rhyddhad hwn yn bodoli. Byddai llawer o fusnesau ledled Cymru yn wynebu cynnydd serth heb unrhyw amddiffyniad o gwbl, ac yn sicr nid yw hynny'n ganlyniad y byddem eisiau ei weld yma heddiw.
Mae ein cefnogaeth, fodd bynnag, hefyd yn cydnabod bod llawer o fusnesau ar draws Cymru yn poeni am y cynnydd yn y cyfraddau y maent yn atebol i'w talu. Rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan lawer o'r rhai yn y sector lletygarwch a hamdden, rhai ohonynt yn wynebu cynnydd o dros 100 y cant yn y cyfraddau treth y disgwylir iddynt eu talu. Mae gennym bryderon am rai o'r materion strwythurol hirdymor y mae ein system ardrethi annomestig yn eu hwynebu.
Rydym yn gwybod bod busnesau, nawr yn fwy nag erioed, angen sicrwydd a rhesymau i fod yn hyderus ynghylch eu dyfodol. Mae angen system arnom sy'n annog buddsoddiad, twf a hyder, nid ymyraethau tameidiog o bryd i'w gilydd. Fel rhan o unrhyw gynllun i gefnogi busnesau, credwn y byddai dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach yng Nghymru yn eu galluogi i fuddsoddi'n ôl yn y sefydliadau hynny ac yn helpu i dyfu swyddi, a fyddai o fudd i'r cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu.
Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i edrych i weld sut y gellir cefnogi busnesau i fyny ac i lawr ein strydoedd mawr, a busnesau bach yn ehangach, yn y dyfodol, a sut y gallant ddarparu system sy'n cefnogi asgwrn cefn ein heconomi, sef y busnesau hyn. Ond eto, Dirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod bod yr hyn sydd gennym ger ein bron yn ddefnyddiol i'r busnesau hynny sy'n mynd trwy'r trawsnewidiad hwnnw ar hyn o bryd. Diolch.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadolygiad cyflym o'r rheoliadau hyn. Mae Mike Hedges yn iawn i ddweud ein bod wedi cael cyfnod byr iawn er mwyn cyflwyno'r cynigion hyn gerbron y Senedd, oherwydd roedd yn rhaid i ni aros am gyllideb Llywodraeth y DU cyn i ni wybod ym mha sefyllfa y byddwn ni i ariannu cynllun pontio. Er nad oedd ymarfer ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau, bu ymarfer yn gynharach yn y flwyddyn lle gwnaethom gymryd barn gan y sector ar ddoethineb cynllun rhyddhad trosiannol a ffurf y cynllun hwnnw. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cynigion gerbron y Senedd y prynhawn yma.
Rwy'n clywed y pwyntiau ehangach y mae Sam Rowlands yn eu gwneud; mae'r Llywodraeth yn derbyn rhai ac ni fyddai'n cytuno ag eraill. Ond mae Mr Rowlands hefyd yn gywir, Dirprwy Lywydd, i ddweud na fyddai effaith pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn yn gwella cymorth ardrethi annomestig, ond byddai dileu'r pecyn rhyddhad trosiannol sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma. Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n ddiolchgar i Sam Rowlands am ei arwydd y bydd y rheoliadau yn cael eu cefnogi gan ei blaid.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18, i gytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd yn eu blaen fel Biliau cydgrynhoi, eu grwpio ar gyfer y ddadl hon, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud cynnig—Julie James.
Cynnig NDM9081 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:
Yn cytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.
Cynnig NDM9082 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:
Yn cytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan gyflwynais Fil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) ym mis Medi, tynnais sylw at fanteision deddfwriaeth hygyrch, fodern, ddwyieithog. Nid ein nod yw tacluso'r llyfr statud yn unig, ond creu fframwaith cydlynol, clir sy'n gweithio i bawb. Ers hynny, mae'r Biliau wedi symud ymlaen trwy broses graffu'r Senedd, gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cyhoeddi eu hadroddiad ar 28 Tachwedd. Rwyf eisiau cofnodi fy niolch diffuant i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor. Diolchaf hefyd i staff y pwyllgor a phawb a roddodd dystiolaeth am eu hamser a'u gwaith craffu trylwyr trwy gydol y broses hon.
Dirprwy Lywydd, rwy'n arbennig o ddiolchgar am gymeradwyaeth bendant a chadarnhaol y pwyllgor i'r Biliau hyn. Rwy'n falch iawn, yn argymhelliad 5 o'u hadroddiad, bod y pwyllgor wedi cytuno y dylai'r Biliau fynd ymlaen fel Biliau cydgrynhoi. Maent hefyd yn dod i'r casgliad bod cwmpas a chynnwys y cydgrynhoi yn briodol a bod y Biliau yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson. Maent wedi croesawu ein dull trefnus a diwyd, ac, yn bwysicaf oll, maent yn cydnabod manteision sylweddol y Biliau hyn i weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd.
Rwyf hefyd yn falch o nodi'r gefnogaeth gref gan randdeiliaid. Fe wnaethant ddisgrifio'r Biliau fel symleiddio enfawr. Fe wnaethant hefyd eu galw'n gam unigryw ymlaen ar gyfer deddfwriaeth gynllunio o'i gymharu â gweddill y DU. Mae'r consensws hwn yn dangos gwerth ein dull cydweithredol a phwysigrwydd gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch ac effeithiol i bawb. Hoffwn hefyd dynnu sylw at gadarnhad Comisiwn y Gyfraith fod y Biliau hyn wedi gweithredu eu hargymhellion yn gywir. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y dull cydweithredol a fabwysiadwyd rhwng y Llywodraeth a'r comisiwn a'r manteision y mae hyn yn eu rhoi i brosiect technegol o'r fath.
Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi saith argymhelliad a phedwar casgliad, gan ddarparu fframwaith defnyddiol ar gyfer y camau nesaf yn y broses hon. Rwyf wedi ysgrifennu at y Cadeirydd, gan roi ymateb i bob un o'r argymhellion cyn y ddadl heddiw.
Gan droi at argymhelliad 1, gallaf gadarnhau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi darparu'r cydsyniad angenrheidiol ar 20 Tachwedd i ddod â Bil Cynllunio (Cymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Yn amodol ar gytuno ar y cynigion heddiw, rwy'n bwriadu cyflwyno un gwelliant bach a thechnegol i'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), i adlewyrchu ffurf derfynol Bil Cynllunio a Seilwaith Llywodraeth y DU, sydd i fod i dderbyn Cydsyniad Brenhinol cyn bo hir.
Rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno gwelliant i Fil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) mewn ymateb i argymhelliad 4. Bydd hyn yn darparu'r eglurhad a geisir trwy fynd i'r afael â chymhwyso'r ddarpariaeth ynghylch dyddiad dod i ben cynlluniau datblygu lleol. Mewn ymateb i argymhelliad 3, cadarnheais yn fy llythyr at y pwyllgor nad yw adran 9 o'r Bil Cynllunio (Cymru) yn newid effaith y ddarpariaeth y mae'n ei chydgrynhoi. Mae'r newidiadau i'r geiriad yn adran 9 yn syml yn adlewyrchu arfer drafftio Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol.
Dirprwy Lywydd, gan symud ymlaen at weithredu'r Bil a chydgrynhoi is-ddeddfwriaeth cynllunio yn y dyfodol, nodaf fod y pwyllgor yn croesawu'r eglurder a'r sicrwydd ychwanegol i randdeiliaid a ddarparodd fy swyddogion a minnau. Yn argymhelliad 6, maent yn ceisio parhau'r ymgysylltiad cadarnhaol hwn, gyda map ffordd i lywio'r broses o wneud is-ddeddfwriaeth. Fel y mae'r pwyllgor yn nodi'n gywir, os bydd y Senedd yn pasio'r Biliau hyn, bydd y cyfrifoldeb am weithredu yn gorwedd ar y Llywodraeth nesaf. Rwy'n hyderus y bydd y Llywodraeth nesaf yn blaenoriaethu gweithredu ac yn ailddatgan is-ddeddfwriaeth, gan adeiladu ar gefnogaeth gref y pwyllgor a'i randdeiliaid. Ar ôl cyfarwyddyd gan y Llywodraeth sy'n dod i mewn, ac yn dilyn Cydsyniad Brenhinol y Biliau, bydd y rhaglen weithredu derfynol yn cael ei chyhoeddi.
Rwyf eisoes wedi nodi offerynnau statudol Cymru y rhagwelir y bydd angen eu gwneud yn ystod y cam gweithredu er mwyn cychwyn y Biliau. Mae'r wybodaeth hon i'w chael yn fanwl yn y memorandwm esboniadol, yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn fy ymateb ysgrifenedig i'r argymhelliad hwn. Mae'n cynnwys offeryn eithaf sylweddol a fydd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth bresennol. Bydd angen rheoliadau newydd hefyd yn ymwneud â diogelu coed.
Rwy'n gobeithio hefyd y gellir ailddatgan nifer fach o offerynnau presennol gyda chychwyn y Biliau, er enghraifft y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a'r Gorchymyn gweithdrefn rheoli datblygu. Byddai hyn yn gweld dechrau'r ail gam o waith, rhaglen raddol o atgyfnerthu ac ailadrodd prif gorff is-ddeddfwriaeth gynllunio. Disgwylir i hyn gael ei wneud ar ôl cychwyn y Biliau. Bydd ymgysylltu hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i ni fynd i mewn i'r ail gam hwn o waith. Bydd yn digwydd drwy gydol rhaglen waith y gyfarwyddiaeth gynllunio ehangach neu drafodaethau gweithredu Bil penodol.
Dirprwy Lywydd, rwy'n oedi ar y pwynt hwn ac yn gwahodd yr Aelodau i rannu unrhyw farn sydd ganddynt. Unwaith eto, hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar y Bil, sy'n nodi carreg filltir wirioneddol arwyddocaol i gyfraith gynllunio yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y nodwyd gan y rhai a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, disgwylir i'r Biliau hyn wneud deddfwriaeth sylfaenol ar gynllunio yng Nghymru yn sylweddol fwy cydlynol a hygyrch, a byddant yn galluogi pobl i gael mynediad i'r ddeddfwriaeth honno yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan ystod o randdeiliaid sy'n cynrychioli awdurdodau cynllunio ac ymarferwyr, a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i ni. Llywiodd eu tystiolaeth ein hystyriaeth p'un a ddylai'r Biliau fynd ymlaen fel Biliau cydgrynhoi, ac fe hoffwn ddiolch i bawb a roddodd amser ac ymdrech i helpu'r pwyllgor gyda'i waith.
Fel rhan o ystyriaeth y pwyllgor, gwnaethom ofyn tri chwestiwn allweddol i ni'n hunain: a yw cwmpas y cydgrynhoi yn briodol; a yw'r darnau perthnasol o ddeddfwriaeth wedi'u cynnwys yn y cydgrynhoad; ac a yw'r Biliau yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson?
Gall Biliau cydgrynhoi hefyd wneud mân newidiadau i'r gyfraith bresennol i gyflawni cydgrynhoi boddhaol, neu wneud newidiadau a argymhellir gan Gomisiwn y Gyfraith. Felly, mae'r pwyllgor wedi ystyried yn ofalus i ba raddau y mae'r Biliau'n gwneud newidiadau i'r gyfraith bresennol, ac a yw'r newidiadau hynny o fewn y terfynau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd ar Filiau cydgrynhoi.
Daeth sawl mater i sylw'r pwyllgor mewn perthynas â'r cwestiynau allweddol hyn, ac roedd safbwyntiau gwahanol wedi'u mynegi i ni mewn perthynas â rhai materion. Fodd bynnag, rydym yn fodlon â dull Llywodraeth Cymru o gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio drwy'r Biliau hyn, ac am y rheswm hwnnw rydym wedi argymell yn ein hadroddiad y dylai'r ddau Fil fynd ymlaen fel Biliau cydgrynhoi. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol, Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol a chyfarwyddiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru am eu tystiolaeth fanwl i'r pwyllgor, ac am gyhoeddi ymateb i'n hadroddiad yr wythnos diwethaf.
Rwyf am droi nawr, yn fyr, at rai o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor. Mae dau o'r argymhellion hynny yn ymwneud ag eglurder darpariaethau yn y Bil cynllunio ar rôl awdurdodau parciau cenedlaethol mewn perthynas â'u swyddogaethau cynllunio, ac mewn perthynas â statws cynlluniau datblygu lleol. Gwnaethom yr argymhellion hyn yn dilyn ystyried materion a ddaeth i'n sylw gan ddau awdurdod parc cenedlaethol. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am roi rhywfaint o eglurder ychwanegol ar y materion hyn, ac am ymrwymo i gyflwyno gwelliant i Fil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) i helpu i sicrhau nad oes ansicrwydd ar ôl.
Mae gweithrediad effeithiol y system gynllunio yn dibynnu ar gorff mawr o is-ddeddfwriaeth. Felly, diolchaf hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am nodi'r dull arfaethedig o wneud is-ddeddfwriaeth o dan y Bil cynllunio, os caiff ei ddeddfu. Bydd gweithredu'r Biliau yn fater i Lywodraeth nesaf Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu bwriad swyddogion y Llywodraeth i gynnal cyfranogiad rhanddeiliaid trwy'r cam hwn.
Roedd ein hadroddiad hefyd yn ystyried y ffaith bod disgwyl i'r Bil cynllunio, os caiff ei ddeddfu, fod yn rhan o god cyfraith Cymru ar gynllunio. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod y manteision y mae cod o'r fath yn debygol o'u cyflwyno i hygyrchedd cyfraith gynllunio yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu ei bod yn rhy gynnar i ystyried unrhyw newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd mewn perthynas â chodau cyfraith Cymru, er mwyn sicrhau nad yw newidiadau i'r gyfraith yn y dyfodol yn tanseilio'n ddiangen benderfyniadau blaenorol a wnaed gan y Senedd i greu codau o'r fath. Fodd bynnag, credwn fod angen brys i strwythurau gael eu rhoi ar waith gan y Senedd i gefnogi codau cyfraith Cymru ar ôl iddynt gael eu creu, er mwyn diogelu eu huniondeb, ac i sicrhau nad yw eu statws yn cael ei leihau mewn unrhyw ffordd. Gellid gwneud y trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r codau hyn yn gliriach hefyd. Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn credu eu bod angen ystyriaeth bellach sy'n ehangach na'r hyn yr ydym wedi gallu eu hystyried yn ein hadroddiad.
Rwyf am gloi drwy dynnu sylw at y ffaith bod cynigion i gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio yng Nghymru yn dyddio'n ôl tua 15 mlynedd. Felly, roedd cyflwyno'r Biliau ynddo'i hun yn benllanw llawer iawn o waith gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Gyfraith a chan gyrff proffesiynol sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses o gydgrynhoi. Fel y clywsom yn ystod ein tystiolaeth, pe bai'r Bil cynllunio yn cael ei ddeddfu, byddai Cymru mewn sefyllfa unigryw yn y DU o ran cael yr holl ddeddfwriaeth sylfaenol ar gynllunio yn hygyrch mewn ffordd gydlynol mewn un lle. Bydd y cydgrynhoi hefyd yn sail gadarn ar gyfer unrhyw ddiwygiadau i gyfraith gynllunio yng Nghymru yn y dyfodol, y cododd nifer o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni yr angen amdanynt.
Dirprwy Lywydd, pe bai'r Senedd yn cytuno bod y Biliau hyn yn mynd ymlaen fel Biliau cydgrynhoi, edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith craffu ar y Biliau yn ystod ystyriaeth fanwl y pwyllgor.
Rwyf wedi darllen y llythyrau a gyflwynwyd gan wahanol randdeiliaid mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar Fil Cydgrynhoi Cynllunio a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Mae'n amlwg bod y Biliau hyn yn cael eu croesawu gan y gymuned a effeithir ganddynt ac mewn egwyddor, maent yn croesawu'r cydgrynhoi hwn o ddod â chyfraith gynllunio gymhleth a thameidiog i mewn i un Bil mwy hygyrch. Rydym i gyd yn cydnabod bod defnyddio iaith gliriach, terminoleg wedi'i diweddaru a bod yn hygyrch yn ddwyieithog yn gamau ymarferol, cadarnhaol ymlaen, ac mae manteision amlwg i ymarferwyr, gwneuthurwyr penderfyniadau, datblygwyr a chymunedau fel ei gilydd, ac felly rydym yn croesawu'r Bil hwn. Fodd bynnag hoffwn dynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos bod y memorandwm esboniadol i'r Bil yn brin o eglurder mewn rhai meysydd, yn enwedig o ran rhyngweithio â deddfwriaeth ledled y DU mewn perthynas â Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023.
Er bod y memorandwm esboniadol i'r Bil yn cyfeirio at eithrio darpariaethau sy'n ymwneud â'r adroddiad canlyniadau amgylcheddol, nid yw'n glir a yw rhannau eraill o'r Ddeddf sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr wedi'u hymgorffori, eu heithrio neu eu gohirio. Mae perygl y gall yr ansicrwydd hwn beri dryswch i ymarferwyr sy'n gweithredu ar draws awdurdodaethau ac yn tanseilio un o nodau craidd y cydgrynhoi, sef eglurder cyfreithiol, wrth gwrs. Hefyd, nid oes sylw o gwbl i Fil Cynllunio a Seilwaith y DU yn y memorandwm esboniadol. Mae hwn yn hepgoriad sylweddol, o ystyried bod y Bil yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac mae disgwyl iddo gael Cydsyniad Brenhinol yn fuan. Heb esboniad ynghylch a yw ei ddarpariaethau wedi'u hystyried neu sut y mae ei ddarpariaethau wedi'u hystyried, mae perygl gwirioneddol y gallai ymarfer cydgrynhoi Cymru ddod yn hen ffasiwn neu heb ei alinio'n gywir â'r fframwaith deddfwriaethol ehangach, a gallai hyn olygu bod y Bil mewn perygl o fod angen ei ddiwygio'n gynnar. Felly, byddai croeso mawr i unrhyw eglurder y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi. Fodd bynnag, fel y nodwyd eisoes, mae'r Bil yn gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun, sef cydgrynhoi deddfau cynllunio, felly nid oes gennym unrhyw reswm i beidio â'i gefnogi. Diolch.
Ar ran Plaid Cymru, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ystyriaeth gychwynnol y Bil cynllunio a'r Bil cynllunio (darpariaethau canlyniadol). Yn gyntaf, dwi jest eisiau dweud bod y broses wedi bod yn un cadarnhaol iawn. Er bod Biliau cydgrynhoi, yn eu hanfod, yn dechnegol, mae'r gwaith craffu wedi bod yn drylwyr, a'r gwaith o baratoi y Biliau yn adeiladol. Derbyniwyd tystiolaeth, fel dŷn ni wedi ei glywed, gan wahanol rhanddeiliaid, cafwyd trafodaeth agored am sut i sicrhau cysondeb ag eglurder, a bu cydweithio proffesiynol a phositif rhwng y pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol a swyddogion.
Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae cynllunio yn cyffwrdd ar bron pob agwedd o fywyd bob dydd, onid ydy, boed yn gartrefi neu fusnesau, tirweddau a hyder pobl a chymunedau yn y system. Felly, mae pwrpas Biliau cydgrynhoi, sef casglu'r gyfraith cynllunio mewn ffordd fwy hygyrch, cliriach a mwy cyson yn cryfhau ein system ddemocrataidd ni, ac mae hynny i'w groesawu. Dyw e ddim yn mynd i beri ar benawdau, efallai, ond mae'n waith hanfodol o ran ein seilwaith democrataidd. Pan fo'r gyfraith yn dameidiog neu'n anodd ei ddilyn, mae'n anoddach i bobl gyffredin gymryd rhan lawn ym mywyd y gymdeithas, ac mae'r system i gyd, wedyn, yn colli hyder. Felly, mae gwneud y gyfraith yn fwy darllenadwy a defnyddiol yn gam pendant a phwysig tuag at fwy o dryloywder a thegwch, ac mae'r Llywodraeth i'w llongyfarch, dwi'n credu, am ddod â'r Biliau yma ymlaen.
Ar sail gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wyf yn aelod ohono, rŷn ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gallu derbyn casgliadau'r pwyllgor fel rhai cadarn—hynny yw, mae cwmpas y cydgrynhoi yn briodol, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i chynnwys ac mae'r cydgrynhoi ei hunan yn glir ac yn gyson o fewn y terfynau ar gyfer y Biliau hyn. Felly, o ran egwyddor, mae'n briodol, felly, fod y Biliau yma'n symud ymlaen i'r cam nesaf.
Mae e hefyd yn iawn, wrth gwrs, fod y pwyllgor wedi codi rhai mannau, a rhanddeiliaid, lle'r oedd angen sicrwydd pellach, neu eglurhad, ac rwy'n croesawu'n fawr ymateb y Llywodraeth i'r pwyntiau hynny, fel dŷn ni wedi'i glywed, ac yn eu hymateb i adroddiad y pwyllgor ar gymhwysedd a chydsyniad. Yn gyntaf, mae, wrth gwrs, yn bwysig bod y Senedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac rwy'n croesawu'r cadarnhad bod y cydsyniad angenrheidiol hynny wedi'i sicrhau. Yn ail, fel dŷn ni wedi clywed y cwestiwn yma o ran rhyngweithiad y Biliau hyn â Bil Cynllunio a Seilwaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n croesawu'r ymrwymiad roedd y Llywodraeth wedi'i roi a hefyd y diweddariad dŷn ni newydd ei glywed gan y Cwnsler Cyffredinol. Yn drydydd, rŷn ni'n croesawu'r eglurhad ynghylch adran 9 ar resymeg drafftio, fel bod rhanddeiliaid yn deall nad yw hyn yn newid effaith y gyfraith ond yn adlewyrchu arfer drafftio modern. Yn bedwerydd, o ran adran 19(ix), rwy'n croesawu'r dull pragmataidd i glirio'r niwl, os caf i ei roi e fel yna.
Wrth edrych ymlaen, mae dau beth yn bwysig, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyffwrdd ar hyn: y map trywydd ar gyfer is-ddeddfwriaeth a gweithredu. Mae e'n bwysig iawn fod y Llywodraeth nesaf yn sicrhau bod y map trywydd yna yn dod yn gynnar ac mewn fformat sydd yn wirioneddol ddefnyddiol i ymarferwyr. Yr ail beth yw codeiddio cyfraith Cymru yn gyffredinol. Mae'r Bil yma yn gam pwysig tuag at god cynllunio, ond rŷn ni angen proses ehangach a mwy systemataidd ar draws holl gyfraith Cymru, ac mae eisiau hefyd sicrhau bod yna drefn cynnal a chadw, fel nad yw'r cod yn mynd yn hen yn rhy gyflym a bod trefniadau ac adnoddau mewn lle i sicrhau bod y cod yn aros yn hygyrch, yn ddwyieithog ac yn gyfredol.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu cyfraniadau i'r ddadl. Rwyf am geisio ymdrin â chwpl o'r pwyntiau a wnaed.
O ran y gwelliannau canlyniadol a'r memorandwm esboniadol, dywedais yn fy sylwadau agoriadol ein bod yn parhau i adolygu'r ail Fil yr wyf yn anghofio'i enw bob tro, Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), i wneud yn siŵr bod gennym yr holl ddarpariaethau yn hwnnw. Dywedais y byddwn yn cyflwyno rhai gwelliannau i wneud yn siŵr ein bod yn cadw hwnnw'n gyfredol. Byddwn yn parhau i wneud hynny drwy gydol y broses fel bod gennym y sefyllfa fwyaf diweddar o ran darpariaethau canlyniadol sy'n angenrheidiol ar gyfer unrhyw faterion a godir, megis y materion a godwyd gan Joel, neu rai o'r pethau rydych newydd eu codi, Adam, ac yna mewn gwirionedd, hefyd, oherwydd ein bod ni'n monitro deddfwriaeth y DU, i wneud yn siŵr nad yw honno'n gwneud unrhyw beth sy'n effeithio arnom ni. Felly, byddwn yn gwneud hynny. Soniodd cwpl o Aelodau am bethau fel y Bil seilwaith. Rydym ni newydd gyflwyno'r offerynnau statudol ar hwnnw, ac felly byddant yn cael eu cynnwys yn y darpariaethau canlyniadol hynny hefyd.
Felly, rwy'n credu, erbyn i ni gyrraedd diwedd y broses hon, rwy'n hyderus iawn mai dyma ein cyfle i droi cymhlethdod yn eglurder a magu hyder yn y system gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae Adam Price yn hollol iawn: mae cynllunio yn sylfaenol i bron popeth yr ydym yn ei wneud yn yr amgylchedd adeiledig ac yn yr amgylchedd cenedlaethol, felly mewn gwirionedd mae cael datganiad clir, cryno o'r gyfraith yn hanfodol. Cytunaf yn llwyr â chynnig Adam Price y dylem barhau i gydgrynhoi a chodio meysydd eraill o gyfraith Cymru. Credaf fod Mike Hedges, fel Cadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, wedi gwneud pwynt tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd gan y Llywodraeth nesaf broses ehangach, systematig ar gyfer gwneud hyn. Dyma'r ail Fil cydgrynhoi i fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, felly rwy'n credu bod yr egwyddor bellach wedi'i gosod. Felly, nawr nid oes unrhyw reswm gwirioneddol pam na ddylem barhau i wneud hynny, ac mae nifer o Aelodau wedi sôn am sawl maes cyfraith a fyddai'n elwa ar gydgrynhoi—cyfraith amaethyddol yw un o'r rhai sy'n dod i'r meddwl, ond cyfraith amgylcheddol hefyd.
Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn bod pawb yn cytuno y gall y rhain fynd ymlaen gyda'i gilydd fel Biliau cydgrynhoi, ac rwy'n amlwg yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynigion. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 heddiw yw egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9086 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Llywydd, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu manwl ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, a’r gwaith o fewn amserlen dynn i lunio adroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol iawn.
Rwyf hefyd yn cydnabod y dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig werthfawr a roddwyd gan sefydliadau ac unigolion yn ystod y gwaith craffu. Roedd y cyfraniadau hyn yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y mater emosiynol hwn. Fodd bynnag, wrth wraidd yr holl drafodaethau roedd dealltwriaeth gyffredin bod yn rhaid i les milgwn barhau i fod yn flaenoriaeth, er gwaethaf y safbwyntiau gwahanol ar y Bil.
Cyn i ni symud ymlaen ymhellach heddiw, hoffwn fyfyrio'n fyr ar ddiben canolog y Bil hwn. Mae'n ymwneud â diogelu bywydau a lles milgwn yng Nghymru. Nawr, mae rasio milgwn o amgylch trac yn peri risg gynhenid o wrthdrawiadau ar gyflymder uchel, cwympiadau ac anafiadau. Bydd dod â hyn i ben yng Nghymru yn cadw anifeiliaid yn fwy diogel. Mae'r Bil hwn yn dangos ein bod ni'n genedl flaengar sydd wedi ymrwymo i safonau moesegol, lles anifeiliaid a deddfwriaeth flaengar. Mae'n cryfhau enw da Cymru fel arweinydd ym maes safonau lles anifeiliaid. Mae'r pwnc hwn wedi bod yn ffocws ymgyrchu i lawer o Aelodau'r Senedd hon ar draws pob plaid ers blynyddoedd lawer, a hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r achos hwn dros amser. Rwy'n gobeithio heddiw y gallwn ni barhau i adeiladu ar y gefnogaeth drawsbleidiol gydweithredol honno.
Ac rwy'n gobeithio y bydd adroddiadau'r pwyllgorau yn helpu Aelodau i ddod i benderfyniad gwybodus ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Fe fyddaf i'n mynd â'r Aelodau drwy'r rheini yn ystod y ddadl hon ac fe fyddaf i hefyd yn ysgrifennu at bob Cadeirydd gyda fy ymateb llawn. Gallaf gadarnhau y bydd y mwyafrif o'r argymhellion yn cael eu derbyn naill ai'n llawn, mewn egwyddor neu'n rhannol.
Heddiw rwyf eisiau canolbwyntio ar y meysydd allweddol y gwnaeth y pwyllgorau dynnu sylw atyn nhw, ac ymdrin â'r casgliadau y daethon nhw iddynt. Os gallaf droi yn gyntaf at adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, rwy'n croesawu boddhad y pwyllgor â'r darpariaethau allweddol yn y Bil. Maen nhw'n cytuno bod y cyfnod arweiniol arfaethedig yn synhwyrol, gan ganiatáu amser ar gyfer y paratoadau angenrheidiol ac ar gyfer rheoli'r effeithiau ar ddiwydiant, cymunedau ac elusennau lles anifeiliaid. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi eu cydnabyddiaeth y dylid dod â'r Bil i rym ar y cyfle ymarferol cyntaf posibl o fewn yr amserlen benodedig honno. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor wedi tynnu sylw at sefydlu'r grŵp gweithredu fel cam cadarnhaol, gan fod ei rôl yn hanfodol. Bydd ei rôl wrth gynghori ar gapasiti ailgartrefu, effeithiau economaidd ac arferion gorau ar gyfer pontio yn hanfodol i sicrhau gweithrediad cwbl wybodus ac ystyriol, ac fe ddes i â'r grŵp hwnnw at ei gilydd i gefnogi yr union beth hynny.
Nodaf fod y pwyllgor yn hapus bod y diffiniadau yn y Bil yn glir a bod cwmpas troseddau a phwerau gorfodi yn gymesur, yn addas i'r diben yn gyffredinol ac yn gyson â'r dull gweithredu a fabwysiadwyd mewn deddfwriaeth debyg. Cytunodd y pwyllgor hefyd fod dirwyon diderfyn yn cynnig digon o ataliaeth. Nawr, mae hyn yn galonogol, ac mae'n atgyfnerthu hyder bod y Bil yn orfodadwy ac yn ymarferol.
Rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 1, 2, 4 a 7 yn llawn ac i dderbyn argymhellion 3 a 6 mewn egwyddor. Mae argymhelliad 5 ar ddiwygio'r Bil i ganiatáu canllawiau yn cael ei wrthod am resymau y byddaf yn eu hamlinellu'n fuan iawn, a bydd ymatebion manwl i'r pwyllgorau ar yr holl argymhellion yn dilyn.
Felly, gan droi at yr argymhelliad cyntaf sy'n ymwneud â phryderon am yr effaith gymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys yr effaith ar Valley Greyhound Stadium a'i weithwyr, rwy'n falch o dderbyn yr argymhelliad hwnnw yn llawn. Rydyn ni wedi cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol yn unol â Rheolau Sefydlog, ac asesiad effaith integredig. Mae'r asesiadau hyn yn archwilio'r costau, y manteision a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r effeithiau hyn trwy'r grŵp gweithredu a chyda'r diwydiant, gan sicrhau bod ein dull yn parhau i fod yn gymesur ac yn ymatebol. Byddwn ni'n adolygu unrhyw wybodaeth newydd a roddir i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy'r grŵp gweithredu a'n hymgysylltu parhaus â'r diwydiant rasio, gan sicrhau bod y broses weithredu'n mynd rhagddi o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
O ran argymhelliad 2 sy'n ymwneud â chymorth i weithwyr, mae camau eisoes ar y gweill i nodi anghenion y rhai y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw ac i sicrhau cymorth wedi'i dargedu cyn i'r Bil ddod i rym. Yn wir, yn ystod fy ymweliad â stadiwm Valley fis diwethaf, fe wnes i achub ar y cyfle i wrando ar bryderon hyfforddwyr a rheolwyr y trac a chynrychiolwyr eraill y diwydiant. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ymateb cydgysylltiedig, amlasiantaethol, gan ddefnyddio mentrau sy'n bodoli eisoes, fel ReAct a Chymunedau am Waith, i gefnogi gweithwyr stadiwm Valley ac eraill sy'n gysylltiedig ag ef. Byddwn ni'n gweithio gyda'r diwydiant a'r grŵp gweithredu i sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu.
Rwy'n nodi pryderon ynghylch canlyniadau anfwriadol, ac rwy'n croesawu cytundeb y pwyllgor bod y tebygolrwydd y bydd rasio milgwn yn cael ei yrru i'r cysgodion yn isel. Wedi dweud hynny, rwy'n cydnabod y gallai problemau lles ddeillio o ddadleoli gweithgarwch rasio ar draws ffiniau, ac rwy'n falch felly o dderbyn argymhelliad 3 mewn egwyddor. Rydyn ni eisoes yn monitro a byddwn ni'n parhau i fonitro unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg trwy'r grŵp gweithredu a rhanddeiliaid ehangach, gan sicrhau ein bod ni'n parhau i fod yn effro ac yn barod i ymateb lle bo angen.
Rwy'n derbyn argymhelliad 4, sy'n ymwneud ag ymgysylltu â'r Cyngor Dedfrydu, yn llawn. Cyn i ddarpariaethau'r Bil ddechrau, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu atyn nhw i dynnu sylw at y ddeddfwriaeth newydd fel y gallan nhw ystyried a oes angen canllawiau dedfrydu mewn gwirionedd.
Gan droi at argymhelliad 5, rwy'n gwrthod yr argymhelliad i gyflwyno gwelliant i'r Bil sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau statudol i arolygwyr o ran gorfodi troseddau, ond fe wnaff i esbonio pam. Nodaf fod y pwyllgor wedi croesawu'r farn bod pwerau gorfodi yn gymesur ac yn addas i'r diben yn gyffredinol. Felly, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r grŵp gweithredu a rhanddeiliaid i ystyried a oes angen canllawiau penodol ac, os oes eu hangen, mae pwerau eisoes yn bodoli a fyddai'n galluogi canllawiau o'r fath i gael eu rhoi heb orfod gwneud gwelliant i'r Bil. Felly, rwy'n parhau i fod yn agored i argymhellion ar safonau gofynnol neu arfer gorau. Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n fodlon ein bod ni wedi cyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn y gellir ei nodi mewn canllawiau. Ni fydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr roi sylw i ganllawiau sy'n cael eu rhoi gan Weinidogion Cymru. Rydyn ni wedi trafod hyn gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol, ac mae'r dull gweithredu hwn yn cynnig hyblygrwydd ac yn osgoi baich ychwanegol ar yr un pryd.
O ran argymhelliad 6, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am dynnu sylw at faes pwysig lle mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd yn llwyddiannus ledled Cymru ar ymchwiliadau a gwaith gorfodi. Nawr, rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor oherwydd, yn syml, mae'r rhwydweithiau hynny eisoes ar waith. Byddwn ni'n defnyddio'r cytundebau presennol hynny, sy'n darparu arweinyddiaeth a chydlynu rhwng asiantaethau gorfodi a'r heddlu o ran lles anifeiliaid, i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd gennym eisoes.
Ac rwy'n derbyn argymhelliad 7 ar asesu'r gallu gorfodi yn llawn. Rydyn ni'n rhagweld mai nifer bach o gamau gorfodi fydd angen eu cymryd. Lle mae angen dull amlasiantaethol, byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i ymwreiddio darpariaethau'r Bil mewn systemau presennol, gan osgoi dyblygu, cryfhau gorfodi a sicrhau ein bod ni'n mabwysiadu dull gweithredu costeffeithiol. Rydyn ni'n ffodus iawn bod Trwyddedu Anifeiliaid Cymru eisoes yn darparu hyfforddiant o safon uchel i swyddogion awdurdodau lleol, a byddwn ni'n ymgysylltu'n gynnar i nodi unrhyw anghenion ychwanegol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol drwy'r grŵp gweithredu i asesu a oes angen cyllid neu ganllawiau pellach.
Os symudaf ymlaen at adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rwyf wedi ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus iawn, a nodaf eu bod yn cyd-fynd yn agos iawn â'n dull gweithredu ni. Rwyf wedi derbyn argymhelliad 2 yn rhannol, wedi derbyn 3 a 4 yn llawn, ac rwy'n gwrthod 1 a 5, ac fe wnaf i esbonio pam.
O ran argymhelliad 1, dydw i ddim wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae darpariaethau bil bob amser yn destun asesiad trylwyr o gymhwysedd deddfwriaethol, gan gynnwys cydweddoldeb â hawliau'r confensiwn, cyn eu cyflwyno. Mae canlyniad yr asesiad hwnnw wedi'i gynnwys eisoes yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil. Fel y nodais yn fy llythyr dyddiedig 4 Tachwedd at y pwyllgor, rwyf wedi ymrwymo i ddiweddaru'r asesiad cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau dynol, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr asesiad a fydd yn cael ei baratoi cyn Cyfnod 3.
O ran derbyn argymhelliad 2 yn rhannol, byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion pwyllgorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd yr asesiadau effaith yn cael eu diwygio, gan gadarnhau a yw unrhyw newidiadau yn effeithio ar ddarpariaethau'r Bil, yn hytrach na chyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Bydd asesiadau effaith yn parhau i gael eu diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael.
Gan droi at argymhelliad 3, o ran y personau hynny sy'n atebol, rwy'n ei dderbyn yn llawn, a byddaf yn diweddaru'r memorandwm esboniadol cyn Cyfnod 3.
Mae argymhelliad 4 yn gofyn am ddiwygio term yn Atodlen 2, yr wyf yn ei dderbyn. Byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i gywiro'r cyfeiriad.
Yn olaf, o ran argymhelliad 5, rwyf o'r farn nad yw'r Bil yn cyflwyno systemau na dyletswyddau adrodd newydd a fyddai'n gofyn am adolygiad statudol ar ôl gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i arfer da wrth werthuso polisïau, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol. Ac fel yr wyf wedi'i nodi yn fy ymateb i'r pwyllgor, bydd adolygiad yn cael ei gynnal o fewn pum mlynedd i'w gychwyn. Bydd yr adolygiad ôl-weithredu hwn yn asesu effeithiau'r gwaharddiad, gan ganolbwyntio ar effeithiolrwydd gorfodi ac effaith ehangach y ddeddfwriaeth.
Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei geisiadau am wybodaeth am y costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Amlinellodd fy ymateb sut mae'r costau disgwyliedig ar gyfer gorfodi a chymorth i randdeiliaid yn cael eu hystyried yn gymedrol ond yn gymesur, gyda'r angen am weithredu effeithiol heb faich gormodol.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Dirprwy Lywydd, am yr argymhellion sydd wedi'u hystyried yn ofalus ac, fel y dywedais, fe wnaf i ysgrifennu at Gadeirydd pob pwyllgor i roi eglurhad pellach ar ein ffordd arfaethedig ymlaen. Rwy'n edrych ymlaen nawr at glywed unrhyw farn a allai fod gan Aelodau'r Senedd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad fel Cadeirydd pwyllgor i ddechrau, wedyn gwnaf i rannu fy marn bersonol.
Mae'r Bil hwn yn ceisio gwahardd trefnu rasio milgwn yng Nghymru ac i'w gwneud yn drosedd i weithredwyr lleoliadau ganiatáu rasio, ac, yn wir, i unigolion ei drefnu. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaeth ein pwyllgor gydnabod bod gan sefydliadau lles, y rhai yn y gamp a'r cyhoedd safbwyntiau cryf ar y mater hwn. Er gwaethaf amserlen gywasgedig, fe wnaethon ni bwyso a mesur y dystiolaeth y mae dadlau yn ei chylch yn ofalus, gan gadw lles milgwn wrth wraidd ein gwaith.
Nawr, mae'n rhaid i ni gydnabod ein pryderon am yr amserlen ddeddfwriaethol. Er ein bod ni'n cydnabod penderfyniad y Llywodraeth i flaenoriaethu'r Bil hwn, mae'r amserlen wedi'i chyflymu wedi cyflwyno heriau i ni, nid lleiaf oherwydd cwestiynau sy'n ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth. Fel pwyllgor, rydyn ni'n gobeithio na fydd yr amserlen fyrrach a ddilynwyd ar gyfer y Bil hwn yn gosod cynsail ar gyfer y dyfodol.
Ar draws tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, fe glywson ni ddau bersbectif eang. Fe wnaeth y rhai sy'n gwrthwynebu gwaharddiad dderbyn bod anafiadau i filgwn yn digwydd, ond fe wnaethon nhw ddadlau bod lles wedi gwella o dan reoleiddio, gan rybuddio am ganlyniadau anfwriadol, fel rasio'n symud i'r cysgodion neu ar draws ffiniau. Nawr, fe ddadleuodd y rhai sy'n cefnogi'r Bil na all y mesurau hyn ymdrin â pheryglon cynhenid rasio cŵn o amgylch trac hirgrwn, lle mae gwrthdrawiadau cyflym ac anafiadau trychinebus yn anochel ar adegau. Fe ddadleuon nhw na all unrhyw reoleiddio wneud y gweithgaredd yn ddigon diogel i amddiffyn milgwn rhag niwed rhagweladwy.
Rydyn ni'n pwysleisio bod llawer o ddadlau ynghylch y data sydd ar gael ar fesurau lles ac adrodd am anafiadau. Ar ben hynny, mae'r ansicrwydd hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r trac rasio. Mae tystiolaeth ar les gydol oes, o arferion bridio a chymdeithasu cynnar i letya cŵn, ymddeol ac ailgartrefu yn dameidiog, yn anecdotaidd yn aml. Mae'r diffygion hyn yn tanlinellu'r angen am ddulliau cynhwysfawr a arweinir gan dystiolaeth o ddatblygu polisi. Yng ngoleuni'r ansicrwydd hwn, ni chymerodd y pwyllgor safbwynt pendant ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Nid yw hynny oherwydd bod pryderon lles yn brin o sylwedd. Yn wir, roedden nhw'n ganolog i'n trafodaethau. Ond roedd gormod o ddadlau ynghylch y sylfaen dystiolaeth ac roedd yn rhy anghyflawn i gefnogi casgliad ar y cyd. Yn hytrach na chynnig un farn, rydyn ni wedi nodi adrannau manwl 'ein barn' drwy gydol yr adroddiad, i gynorthwyo Aelodau i ddod i benderfyniad gwybodus.
Rydyn ni eisiau cofnodi sawl canfyddiad allweddol. Yn gyntaf, mae niwed i les yn ddilys ac yn ddifrifol. Fe glywson ni dystiolaeth gymhellol gan filfeddygon am anafiadau. Mae'r rhain yn amrywio o fân grafiadau i dorri esgyrn yn gatastroffig a phoen cronig, yn ogystal â materion ymddygiad ac iechyd sy'n gysylltiedig â lletya cŵn a deiet. Mae union raddfa'r niwed, a'r graddau y gallai rheoleiddio ei liniaru, yn parhau i fod yn aneglur oherwydd bod data yn anghyflawn ac yn cael ei herio.
Yn ail, mae'r mater o reoleiddio yn erbyn gwahardd yn parhau i fod heb ei ddatrys i rai Aelodau. Gwnaeth rhai ddadlau na all unrhyw reoleiddio wneud rasio'n ddiogel; cynigiodd eraill drwyddedu tynnach ac ailgynllunio traciau. Ond, heb ddata cadarn a throthwyon y cytunir arnynt ar gyfer cyfraddau anafiadau neu farwolaethau 'derbyniol', ni allem benderfynu ar y cyd a allai rheoleiddio byth fodloni safon amddiffynadwy.
Yn drydydd, ychydig iawn o ymgysylltu oedd wedi bod gyda'r cyhoedd. Dibynnodd Llywodraeth Cymru yn rhannol ar gwestiwn yn ei hymgynghoriad yn 2023 ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid. Cafodd hyn ei feirniadu am fod yn seiliedig ar ymatebion hunanddewisol.
Yn bedwerydd, mae effeithiau economaidd a chymdeithasol yn ansicr. Cawson ni wybodaeth yn ymwneud â buddsoddiad, refeniw a chyflogaeth ar unig drac masnachol Cymru, ond fe welson ni fod bylchau ac anghysondebau yn y data. Heb wybodaeth fanwl wedi'i gwirio, mae'n amhosibl asesu gwir raddfa'r effaith neu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer gweithwyr a chymunedau.
Yn bumed, bydd gweithredu yn allweddol. Mae'r cyfnod arweiniol yn synhwyrol, felly hefyd y grŵp gweithredu. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar gynllunio manwl i sicrhau bod digon o gapasiti i ailgartrefu, parodrwydd i orfodi a chymorth wedi'i dargedu i'r gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae'n rhaid i'r gwaith paratoi hwnnw ddechrau nawr.
Felly, rydyn ni'n argymell y dylid cynnal asesiad llawn o effeithiau economaidd a chymdeithasol cyn cychwyn—rwy'n croesawu'r ffaith bod hynny wedi'i dderbyn—cymorth wedi'i dargedu i weithwyr y mae hyn yn effeithio arnyn nhw—unwaith eto, rwy'n croesawu bod hynny'n cael ei dderbyn—a monitro effeithiau lles a rasio trawsffiniol, yr wyf i'n deall gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor; ac ymgysylltu â'r Cyngor Dedfrydu am ganllawiau clir ar ddirwyon diderfyn, sydd eto, wedi'i dderbyn. Fe wnaethon ni argymell gwelliant i sicrhau bod yna ganllawiau statudol ar gyfer arolygwyr—rwy'n nodi rhesymau'r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch pam nad yw'n credu y bydd angen hynny—cytundebau cenedlaethol ar gyfer cydweithredu gan yr heddlu a gorfodi dan arweiniad gwybodaeth—unwaith eto, mae hynny wedi'i dderbyn mewn egwyddor, rydyn ni newydd glywed—ac asesiad o gapasiti gorfodi a chyllid ar gyfer awdurdodau lleol, sydd, unwaith eto, wedi cael ei dderbyn gan y Llywodraeth, ac rwy'n croesawu ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.
Nawr, mae'n anochel y bydd gwahaniaethau rhyngom ni fel Aelodau o ran faint o bwysau i'w roi i ddadleuon moesegol yn erbyn data y ceir dadlau yn ei gylch a chanlyniadau lles. Rôl y pwyllgor oedd profi'r dystiolaeth a thynnu sylw at fylchau. Wrth bleidleisio ar yr egwyddorion cyffredinol, rhaid i Aelodau arfer barn sy'n seiliedig ar les cŵn ac ar gymesuredd ac effeithiolrwydd y gyfraith.
Dirprwy Lywydd, ar ôl gwrando ar bob tyst a darllen pob cyflwyniad, rwyf eisiau gorffen drwy rannu fy marn bersonol, sef y dylai'r Bil basio yng Nghyfnod 1. Do, fe wnaethon ni, fel pwyllgor, nodi diffygion yn y broses a'r ffordd y mae rhywfaint o'r dystiolaeth wedi'i chyflwyno ac, yn wir, mae angen trin y gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnyn nhw'n deg, ond ni wnaeth neb, wrth roi tystiolaeth, herio'r ffaith y bydd niwed rhagweladwy ac anorfod bob amser yn rhan gynhenid o rasio milgwn. Cafodd nifer yr anafiadau i gŵn a nifer y marwolaethau ymhlith cŵn ei herio, ond ni heriwyd y ffaith eu bod yn digwydd. Mae hynny'n ddigon o reswm i mi fel unigolyn gredu bod gwaharddiad yn gyfiawn. Efallai y byddai rheoleiddio yn lleihau'r niwed, ond ni allai byth ei ddileu. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod modd cyfiawnhau'r risg o niwed rhagweladwy i unrhyw anifail yn enw chwaraeon. Rwy'n credu, i'r rhai ohonon ni sy'n byw mewn cymdeithas sifil, bod dyletswydd arnom nid i reoli'r niwed hwnnw ar yr ymylon, ond ei atal yn gyfan gwbl. Dylai tosturi fod yn gwmpawd i ni, a dylai'r gyfraith adlewyrchu hynny.
Mae'r cyfnod arweiniol arfaethedig ac argymhellion fy mhwyllgor yn rhoi llwybr teg ac ymarferol i bontio a fyddai'n cefnogi gweithwyr, yn cryfhau gorfodi, ac yn sicrhau bod capasiti ailgartrefu yn barod. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu eu barn i'n cynorthwyo ni yn y gwaith pwysig hwn. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn yr ymateb ffurfiol i'n hargymhellion. Ac ar lefel bersonol, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei basio. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil i ddau gasgliad a gwnaeth bum argymhelliad. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod rhesymeg yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyflwyno'r Bil hwn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal ar Bapur Gwyn na Bil drafft ac nid yw'r holl asesiadau effaith perthnasol wedi'u cwblhau chwaith.
Mae'r pwyllgor yn cydnabod y bydd achlysuron lle y gall fod yn briodol cyflwyno deddfwriaeth nad oedd wedi'i chynllunio'n wreiddiol ar ddechrau Senedd, neu fel mater brys. Fodd bynnag, er budd tryloywder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd, dylai esboniad llawn o'r rhesymau dros gyflwyno Bil gael ei roi yn y memorandwm esboniadol.
Mae rhai o'r camau paratoadol y byddai'r Senedd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymgymryd â nhw fel arfer cyn cyflwyno Bil naill ai heb eu cwblhau ymlaen llaw neu wedi'u cyflawni ochr yn ochr â chyflwyno'r Bil. Ym marn y pwyllgor, mae hyn yn wyriad oddi wrth arfer da ac yn cynyddu'r risg y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi oherwydd bod llai o gyfle i fabwysiadu dull trylwyr a dilyniannol o ddatblygu polisi a chraffu arno.
O ran yr asesiadau effaith, cafodd y pwyllgor wybod y byddai Llywodraeth Cymru yn dal i ofyn bod yr wybodaeth yn cael ei chasglu, ac felly bydd angen adolygu'r asesiadau effaith a'u diweddaru. Felly, mae'r pwyllgor wedi argymell, os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi datganiadau mewn da bryd cyn y dyddiadau cau cyflwyno ar gyfer trafodion Cyfnod 2 a Chyfnod 3, gan fanylu ar unrhyw ddiweddariadau i asesiadau effaith a nodi'n glir unrhyw effaith ar y darpariaethau yn y Bil.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi tynnu sylw at anghysondeb posibl rhwng y Bil a'r memorandwm esboniadol ynghylch pwy fydd yn atebol am droseddau o dan y Bil. Yn y memorandwm esboniadol, dywed yr Ysgrifennydd Cabinet:
'Dim ond gweithredwyr a threfnwyr fydd yn atebol am droseddau o dan y Bil.'
Mae'r pwyllgor yn credu y dylai'r datganiad hwn nodi mai dim ond gweithredwyr a threfnwyr fydd yn atebol am droseddau o dan adran 1 y Bil, oherwydd mae'n ymddangos i ni y gallai unrhyw un fod yn euog o drosedd o dan baragraff 12 o Atodlen 2. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa bersonau sy'n atebol am droseddau a gyflawnir o dan adran 1 o'r Bil a pharagraff 12 o Atodlen 2 i'r Bil, ac, os yw'n briodol, diweddaru'r memorandwm esboniadol yn unol â hynny.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at bumed argymhelliad y pwyllgor. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym y bydd adolygiad yn cael ei gynnal o fewn pum mlynedd i'w ddechrau, gyda gweithgarwch gwerthuso yn dechrau o 12 mis ar ôl i'r Bil ddod i rym. Nododd y pwyllgor sylw'r Ysgrifennydd Cabinet y bydd adolygiad ôl-weithredu yn chwarae rhan allweddol wrth fonitro effeithiau'r gwaharddiad. Fodd bynnag, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod nad yw'r Bil yn cynnwys gofyniad statudol ar gyfer adolygiad ôl-weithredu. Felly, nid oes unrhyw warant y byddai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cynnal adolygiad o'r fath. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno gwelliant i'r Bil i ddarparu ar gyfer adolygiad ôl-weithredu o'r ddeddfwriaeth. Diolch.
Cyn i mi alw Aelodau eraill, mae gennyf lawer o bobl sydd wedi gofyn am gael siarad. Mae'n annhebygol y byddaf yn gallu galw pawb o fewn yr amser rydym wedi'i neilltuo ar gyfer y ddadl. Fe wnaf fy ngorau, ond byddwch yn amyneddgar â mi o ran hynny, os gwelwch yn dda. Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy wneud rhywbeth yn glir iawn, sef fy mod i'n gefnogwr cryf o ddeddfu da, ac rwy'n credu mewn deddfwriaeth sy'n glir, yn hygyrch, yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Pan fydd deddfau wedi mynd yn dameidiog dros ddegawdau, mae cydgrynhoi a symleiddio yn synhwyrol ac yn angenrheidiol, a dyna pam rwy'n cefnogi cydgrynhoi'r Bil hwn.
Rwyf hefyd eisiau cydnabod o'r cychwyn cyntaf bod pryderon gwirioneddol a diffuant ynglŷn â lles milgwn, ac rwy'n credu bod pawb yn eu rhannu. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi glywed y dystiolaeth honno ar bwyllgor diwylliant y Senedd. Mae'r pryderon hyn wedi cael eu codi gan ymgyrchwyr, gan aelodau o'r cyhoedd, a chan gyd-Aelodau yn y Senedd, gan weithredu yn ddidwyll, ac fe ddylen nhw gael eu cymryd o ddifrif.
Ar ôl craffu ar y Bil, nid yw'n ofynnol i ni dderbyn yn awtomatig mai gwaharddiad yw'r ymateb mwyaf cymesur, ac ar y pwynt hwnnw rwy'n bwriadu pleidleisio yn erbyn y Bil hwn. Er fy mod i'n cydnabod y pryderon am les, nid wyf yn gwrthwynebu gwahardd y gamp mewn egwyddor os mai dyna lle mae'r dystiolaeth yn arwain, ond byddwn i wedi hoffi treulio mwy o amser yn archwilio'r dystiolaeth yn llawn, ac rwy'n teimlo'n anhapus gydag ansawdd y Bil sydd wedi'i roi o'n blaenau ni.
Yr wythnos diwethaf, fe ymwelais i â'r unig drac rasio milgwn yng Nghymru yn Ystrad Mynach yng Nghaerffili, ac fe welais i drosof fi fy hun y cytiau yr oedd y cŵn yn cael eu cadw ynddyn nhw, a oedd o ansawdd uchel iawn, ac roeddwn i'n fodlon bod y diwydiant yn fwy na pharod i gydymffurfio â safonau uchel iawn rheoleiddio lles anifeiliaid. Mae gennyf bryderon hefyd a gafodd eu codi gan y pwyllgor diwylliant a'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, sef bod diffyg ymagwedd a arweinir gan dystiolaeth tuag at y ddeddfwriaeth hon. Nododd y pwyllgor diwylliant hefyd fod y Bil yn blaenoriaethu'r amserlen ddeddfwriaethol fel rhan o gytundeb Llywodraeth Cymru ar gyllideb 2025-26.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, siŵr iawn.
Hoffwn ddweud ei bod hi'n hawdd iawn gwneud ymweliad wedi'i drefnu, wedi'i reoli, ond ydych chi wedi siarad â'r rhai
'sy'n llawn bwriadau da...sy'n ymgiprys...i fod ar ochr gywir hanes'—
dyna ddyfyniad o'ch tudalen Facebook—y mae llawer ohonyn nhw'n wirfoddolwyr, sy'n camu i mewn i achub yr anifeiliaid diamddiffyn hyn sydd wedi bod yn dioddef anafiadau sy'n newid bywyd neu sy'n dod â bywyd i ben, yn enw gamblo ac adloniant? Yn wir, fe ymwelodd y cyngor—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, fe wnaf i orffen yn y fan yna. Diolch.
Rwy'n falch o glywed, Carolyn, eich bod chi'n dilyn fy mhostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymfalchïo yn hynny, ond, ie—
Mae wedi cael ei rannu gan ganolfannau achub.
Ydy. Na, rwy'n falch iawn. Fy myfyrdodau personol yw'r rheini, ond doeddwn i ddim yn credu y byddai'r sylwadau hynny'n addas ar gyfer llawr y Senedd, a dyna pam rwy'n rhannu'r sylwadau personol hynny mewn ffordd wahanol. Ond, fel yr wyf yn ei ddweud, mae hi wir yn fraint, Carolyn, eich bod chi'n cymryd cymaint o ddiddordeb yn fy ngwaith.
Cyflymu'r broses a pheryglu ansawdd datblygu deddfwriaethol—mewn geiriau eraill, cafodd ei ruthro. Does dim ymgynghori wedi bod ar Fil drafft, does dim asesiadau effaith wedi'u cyhoeddi, a does dim digon o amser wedi'i neilltuo ar gyfer ymgynghori ystyrlon. Byddai llawer, fel fi, wedi hoffi dadansoddiad mwy manwl o'r effaith economaidd a diwylliannol y byddai gwahardd y gamp yn ei chael.
Fel aelodau o'r pwyllgor diwylliant, fe wnaethon ni gymryd tystiolaeth nid yn unig gan ymgyrchwyr, ond gan reoleiddwyr, gan y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant a chan gymunedau y mae hyn yn cael effaith uniongyrchol arnyn nhw. Yr hyn a ddaeth yn fwyfwy amlwg i mi yw bod llawer o'r achos dros y Bil hwn yn seiliedig ar ragdybiaethau sydd wedi dyddio, tystiolaeth ddetholus a methiant i ymgysylltu'n briodol â'r realiti rheoleiddio presennol yng Nghymru.
Rydyn ni wedi clywed honiadau dro ar ôl tro bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn galw am waharddiad, ond pan edrychwn ni'n fanwl ar y data, nid yw'r honiad hwnnw'n dal dŵr. Yn wir, dim ond ychydig dros hanner y llofnodion ar y ddeiseb oedd gan bobl sy'n byw yng Nghymru, a chafodd y ddeiseb ei hun ei lunio cyn i stadiwm Valley gael ei drwyddedu a'i reoleiddio. Ni ellir ei ddisgrifio'n gredadwy fel dyfarniad ar y gamp reoledig sydd ohoni.
Nodir hefyd fod y dystiolaeth ymgynghori yn dangos cefnogaeth enfawr ymhlith y cyhoedd o blaid gwaharddiad, ond roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys tua 1,100 o ymatebion, sy'n gyfran fach iawn o boblogaeth Cymru, ac roedd dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod bod cyfran sylweddol o'r ymatebion oedd yn cefnogi gwaharddiad yn gopïau dyblyg o destun yr ymgyrch. Ar ôl i'r rheini gael eu hepgor, roedd y farn yn llawer mwy cyfartal.
Rwy'n pryderu hefyd am y ffordd y mae data lles wedi'i gyflwyno i gefnogi'r Bil hwn. Mae honiadau o wastraff eang a chyfraddau anafiadau uchel yn parhau i gael eu hailadrodd, er gwaetha'r ffaith bod yr holl filgwn sydd wedi'u magu ym Mhrydain yn cael eu cofrestru a'u tracio erbyn hyn, ac er gwaethaf tystiolaeth glir bod cyfraddau anafiadau wedi gostwng i'r lefelau isaf erioed o dan y fframwaith rheoleiddio presennol.
Mae data'r rheoleiddiwr yn dangos cyfradd anafiadau o ychydig dros 1 y cant o gyfanswm y rasys, gyda'r mwyafrif helaeth yn fân anafiadau lle mae cŵn yn dychwelyd i rasio o fewn wythnosau. Dydy hynny ddim yn golygu bod pryderon lles yn diflannu, ond mae'n golygu bod y darlun yn llawer mwy cymhleth na'r hyn sydd wedi'i awgrymu. Yn hanfodol, mae llawer o'r enghreifftiau lles mwyaf difrifol a nodwyd yn ymwneud â chyfnod cyn i drwyddedu a rheoleiddio gael eu cyflwyno yng Nghymru. Ers hynny, mae safonau, arolygiadau, goruchwyliaeth filfeddygol a thryloywder i gyd wedi gwella'n sylweddol. Cyflawni'r gwelliant hwnnw yw union fwriad rheoleiddio, ac mae cydymffurfiaeth wedi bod yn uchel iawn.
Eto, yn hytrach na chydnabod y cynnydd a gofyn sut y byddai'n bosibl cryfhau'r rheoleiddio ymhellach, mae'r Bil hwn yn neidio i'r offeryn deddfwriaethol mwyaf eithafol sydd ar gael i ni: gwaharddiad. Rwy'n sylweddoli fy mod i'n rhedeg allan o amser; dydw i ddim eisiau trethu eich amynedd—
Byddwn i'n croesawu un frawddeg olaf.
Gwych. Felly, i grynhoi, er fy mod i'n parchu'r bwriadau y tu ôl i'r Bil hwn, ac er fy mod i'n cydnabod cryfder y teimlad ar bob ochr, allaf i ddim cefnogi deddfwriaeth sy'n dibynnu ar dystiolaeth ymgynghori annibynadwy; sy'n methu â rhoi cyfrif priodol am well rheoleiddio; sydd heb archwilio'r effaith economaidd a diwylliannol; ac sy'n dewis gwaharddiad dros reoleiddio mwy cymesur. Am y rhesymau hynny, Dirprwy Lywydd, rwy'n gwrthwynebu'r Bil hwn.
Fel rhai o'r pleidiau eraill yn y Siambr hon, bydd aelodau Plaid Cymru yn cael pleidlais rydd ar y mater hwn heddiw, ac er y bydd y mwyafrif helaeth o'm cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, rwy'n gwybod, yn cefnogi'r Bil, rwyf eisiau egluro pam na allaf ei gefnogi.
Gadewch i mi ddechrau, yn gyntaf oll, trwy gydnabod pwysigrwydd lles anifeiliaid. Mae pob Aelod yma yn poeni'n fawr am les anifeiliaid. Does dim dwywaith am hynny. Ond dydy sylfaen foesegol gref ar ei phen ei hun ddim o reidrwydd yn gwneud cyfraith dda. Rhaid i ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac yn effeithiol. Ar yr achlysur hwn, fel y mae'r pwyllgor wedi'i amlinellu, mae'r sylfaen dystiolaeth honno ar gyfer y Bil hwn yn destun cryn dipyn o ddadlau ac nid yw'n ddigon cadarn. Mae'r ansicrwydd hwnnw'n tanseilio hyder yn y rhesymeg dros y cynnig hwn.
O ran y data, derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth helaeth sy'n gwrthdaro ar safonau lles yn y diwydiant rasio milgwn. Fe wnaeth cynrychiolwyr y diwydiant ar y naill law, ac elusennau lles anifeiliaid ar y llaw arall, herio ffigurau ei gilydd dro ar ôl tro, a chafodd Llywodraeth Cymru ei dal rhywfaint yn y canol.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Na, wnaf i ddim, oherwydd mae angen yr amser arnaf, mewn gwirionedd; efallai ar y diwedd, Carolyn.
Cyfaddefodd y Llywodraeth y dylai fod wedi gwneud mwy ar hyn, ac y byddai mwy o waith yn cael ei wneud, ond fe ddylai'r Llywodraeth fod wedi cynnal gwerthusiad trylwyr o'r data cyn penderfynu deddfu. Yn hytrach, wrth gwrs, cafodd y Bil ei gyflwyno heb y sylfaen dystiolaeth gadarn honno, ac nid dyna sut mae cyfraith dda yn cael ei gwneud.
Roedd ymgynghoriad 2023, a ddefnyddir i gyfiawnhau'r Bil hwn, yn gwbl annigonol. Doedd yr ymgynghoriad ei hun ddim yn canolbwyntio ar waharddiad; ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gwarchodfeydd cathod ac ati ydoedd. Roedd yn dibynnu ar un cwestiwn am wahardd rasio milgwn o fewn yr ymarfer ehangach hwnnw, ac fe ddefnyddiodd yr ymgynghoriad cyfan fethodoleg hunanddewisol, sydd, fel y mae'r pwyllgor yn ei ddweud, yn agored i duedd. Roedd prif ffigurau'r broses honno yn awgrymu bod yna gefnogaeth gref o blaid gwaharddiad ymhlith y cyhoedd, ond fe wnaeth y pwyllgor, fel rhan o'n gwaith craffu, ymgymryd â'n gwaith ymgysylltu ac arolygu ein hunain, gan ddefnyddio methodoleg hunanddewisol unwaith eto, ond fe wnaeth yr ymarfer hwnnw, gyda niferoedd tebyg o gyfranogwyr hefyd, ddangos rhaniad o bron i 50:50 mewn safbwyntiau, sydd wrth gwrs yn tynnu sylw at natur amrywiol a chymhleth yr ymarferion hyn.
Mae arfer da yn mynnu y dylai tystiolaeth gref ac ymgynghoriad trwyadl ragflaenu deddfwriaeth, ond cafodd y Bil hwn—yn ôl y pwyllgor—ei gyflwyno heb sylfaen dystiolaeth y cytunwyd arni, heb ymgysylltiad cyhoeddus cynhwysfawr a heb asesiadau effaith cyflawn. Nawr, rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn pryderu am y diffyg asesiadau effaith allweddol. Doedd dim Papur Gwyn, doedd dim Bil drafft, a fyddai wedi helpu gyda'r broses ymgynghori honno, ac mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn cynyddu'r risg y bydd canlyniadau anfwriadol, on'd yw e? Ac fel y gwnaethon ni ei glywed gan y Cadeirydd, dim ond wyth wythnos gafodd y pwyllgor i graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 yn hytrach na'r 13 wythnos arferol, felly, unwaith eto, ni chafodd y materion hyn eu profi'n llawn cyn dod i gasgliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw.
Wrth siarad am ganlyniadau anfwriadol, fel rydyn ni wedi'i glywed, dydy'r gwaharddiad ddim yn atal bridio milgwn, dydy e ddim yn atal hyfforddi milgwn yng Nghymru ar gyfer rasio. Gallai cŵn gael eu cadw yng Nghymru a'u rasio yn Lloegr o hyd, gan gynyddu pellteroedd teithio a risgiau lles, os meddyliwch chi am hynny. Rhybuddiodd rhanddeiliaid, gan gynnwys rhai o'r sefydliadau lles anifeiliaid, y gallai hynny danseilio rhai o amcanion y Bil ac fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, mewn tystiolaeth, gydnabod bod hynny'n risg. Os bydd cŵn yn teithio ymhellach, yna mae'n amlwg y gallai lles ddioddef, nid gwella, ac mae hynny'n bryder difrifol ac mae hynny'n ein hatgoffa mai dim ond rhan o'r darlun lles y mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â hi.
Mae'r pryderon yma yn rhychwantu bywyd cyfan milgi, o fridio hyd at ymddeol, ac ni fydd gwaharddiad ar rasio ar ei ben ei hun yn datrys rhai o'r materion systemig hynny. Fy newis personol i yw y dylai rheoleiddio neu drwyddedu uwch fod wedi cael ei gyflwyno'n gyntaf, fel y maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr. Dyna oedd barn Trwyddedu Anifeiliaid Cymru; mynegwyd barn debyg gan y Kennel Club a nifer o randdeiliaid eraill hefyd. Gallai'r dull graddol hwnnw fod wedi profi cydymffurfiaeth ac wedi gwella lles heb y risgiau y mae'r Bil hwn yn eu creu. Ac ie, pe baen ni'n gweld dros amser nad oedd hynny'n gweithio, yna byddai'r opsiwn o waharddiad llwyr yn dal i fod yno, ac mae'n debyg y byddai mwy o gyfiawnhad drosto ar yr adeg honno.
Felly, i gloi, rydyn ni i gyd yn rhannu'r nod o wella lles anifeiliaid, ond dydy bwriadau da ddim yn cyflawni deddfwriaeth dda bob amser. Mae angen i ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac yn effeithiol, ac mae'r Bil hwn yn methu o ran hynny. Does dim sylfaen dystiolaeth gadarn, ymgynghoriad priodol nac asesiadau effaith cynhwysfawr. Mae yna risg y bydd yn arwain at ganlyniadau anfwriadol a niwed economaidd a chymdeithasol hefyd i'r gweithwyr a'r cymunedau hynny y byddai'r gwaharddiad hwn yn effeithio arnyn nhw. Ond yn bwysig hefyd, dydy e ddim yn mynd i'r afael â'r heriau lles ehangach sy'n bodoli trwy gydol bywyd milgi. Nawr, am y rhesymau hynny, allaf i ddim cefnogi'r Bil hwn ac rwy'n annog Aelodau i bleidleisio yn ei erbyn, nid oherwydd ein bod ni'n gwrthwynebu lles anifeiliaid, ond oherwydd ein bod ni'n credu mewn deddfu yn y ffordd iawn, yn y ffordd effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ymgynghori a pholisi cadarn.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr ac rwy'n falch o gyfrannu. Mae gan Gymru hanes hirsefydlog o ddeddfwriaeth, strategaethau a pholisïau iechyd a lles anifeiliaid cryf a blaengar. Os caiff y Bil hwn ei basio'n gyfraith, bydd cannoedd o filgwn yn cael eu hamddiffyn rhag anafiadau a marwolaeth. Hefyd, ar hyn o bryd mae nifer sylweddol o filgwn yn cael eu gadael pan na allan nhw rasio mwyach, yn aml oherwydd yr anafiadau maen nhw wedi'u cael ar y trac rasio. Rydyn ni'n ddyledus iawn i'r elusennau a'r unigolion sy'n darparu cartrefi i'r cŵn hyn pan nad ydyn nhw'n ddefnyddiol i'w perchnogion rasio mwyach.
Mae rasio milgwn yn ymarfer hen ffasiwn nad oes lle iddo yng Nghymru yn 2025. Dylen ni ddim goddef dioddefaint anifeiliaid yn enw adloniant. Fel Aelodau o'r Senedd, rydyn ni'n cael nifer fawr o sylwadau o ran lles anifeiliaid, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Bil hwn yn dilyn cefnogaeth gref gan y cyhoedd yn galw am y gwaharddiad hwn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgymryd â llawer iawn o waith polisi dros y blynyddoedd diwethaf mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, sefydliadau'r trydydd sector a'r diwydiant rasio milgwn ei hun. Cafodd ymgynghoriad ar drwyddedu gweithgareddau a sefydliadau anifeiliaid ei gynnal, ac mae'r ymatebion i hyn wedi cryfhau'r dystiolaeth sydd ei hangen arnon ni pan fydd deddfau newydd yn cael eu cyflwyno.
Fe ddarllenais i fod Bwrdd Milgwn Prydain Fawr o'r farn bod ansawdd datblygiad deddfwriaethol wedi'i gyfaddawdu. Rwy'n anghytuno'n fawr â hyn, am y rhesymau rydw i newydd eu nodi. Fel Aelodau, rydyn ni ond eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfau da, ac rwy'n croesawu'n fawr y gwaith craffu o amgylch y Bil hwn er mwyn iddi fod y ddeddfwriaeth orau bosibl, oherwydd mae gwaith craffu da yn gwella deddfu.
Fel sy'n digwydd yn aml, mae amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y pwnc hwn, ac, wrth gwrs, mae'n fater emosiynol iawn. Rwyf wedi gwrando ar ddwy ochr y ddadl. Does dim pwysau wedi cael ei roi arnaf gan y mudiad hawliau anifeiliaid eithafol, fel y nodwyd gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr mewn dyfyniad, ond rwy'n credu'n angerddol y dylai rasio milgwn gael ei wahardd yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod hefyd ei bod yn hanfodol, er mai dim ond un trac rasio milgwn sydd yma, fod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn cael eu harchwilio a'u hystyried. Bydd yna effaith economaidd, ac mae hyn yn cael ei gydnabod yn yr amser y bydd yn ei gymryd i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, erbyn Ebrill 2030 ar hyn o bryd. Dyma lle bydd y grŵp gweithredu yn eich helpu chi, Ysgrifennydd Cabinet, i sicrhau bod pob agwedd ar y ddeddfwriaeth yn cael ei hasesu o ran ei heffaith. Rwy'n eich annog i chi i edrych ar y dyddiad cychwyn hwnnw eto i weld a yw'n bosibl ei ddwyn ymlaen i achub cymaint mwy o gŵn rhag niwed.
Mae data cadarn, o'r diwydiant ei hun yn bennaf, ynghylch nifer y cŵn sydd wedi cael eu hanafu neu sydd wedi marw wrth rasio, ac mae'r data hwnnw'n drawiadol iawn. Byddwn i'n annog Gareth Davies i edrych arno eto, oherwydd dydw i ddim yn adnabod y data rydych chi wedi'i ddyfynnu. Erbyn hyn, dim ond ychydig o wledydd yn y byd sy'n caniatáu rasio milgwn. Ydyn ni yng Nghymru wir eisiau bod yn un ohonyn nhw? Rydyn ni'n well na hynny o ran y gofal rydyn ni'n ei roi i'n hanifeiliaid, ac rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr hon i gefnogi'r egwyddorion hyn.
Rwyf eisiau diolch i'r pwyllgorau yn gyntaf. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau sydd arnoch chi a'r myfyrdodau y gwnaethoch chi eu rhoi, felly diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn.
Rydych chi wedi fy nghlywed yn siarad am y pwnc hwn o'r blaen, felly dydw i ddim yn mynd i siarad yn hir iawn. Rwy'n credu mai fi yw unig berchennog milgi achub yn y Siambr hwn, boed nawr neu yn y gorffennol. Dyma pam, i mi, mae'n ymwneud â lles cŵn—nid dim ond y milgwn rwy'n berchen arnyn nhw ac rwyf wedi bod yn berchen arnyn nhw, ond pob ci, oherwydd cafodd fy nghŵn i ddim mo'r dechrau ac y cafodd llawer o'ch cŵn chi mewn bywyd. Roedden nhw wedi'u niweidio'n fawr pan ddaethon nhw ataf i. Ar ei diwrnod cyntaf gyda ni, fe wnaeth fy ail gi, Wanda, sydd gen i nawr, gysgu ar lawr y gegin oherwydd ei bod hi'n meddwl mai dyna lle dylai hi gysgu. Mae'r rhain yn anifeiliaid sydd wedi cael eu rasio. Maen nhw wedi cael eu trin yn greulon, a dydw i ddim yn mynd i odro'r gair hwnnw. Mae'r hyn sy'n digwydd i'n milgwn yn greulon.
Rwy'n falch, yma yng Nghymru, mai ni fydd y genedl gyntaf yn y DU, rwy'n gobeithio, i gyflwyno'r gwaharddiad hwn, ac rydyn ni'n gwybod bod cenhedloedd eraill yn dilyn ein hesiampl. Felly, gobeithio y bydd y dadleuon am gŵn yn mynd i Loegr neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon i rasio efallai yn stopio, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod lobïo yn digwydd yn y gwledydd hynny hefyd i atal rasio milgwn.
Rwyf am orffen trwy ein hatgoffa bod y gynghrair Cut the Chase yn cynnwys sefydliadau lles anifeiliaid ag enw da. Rwyf am orffen drwy ddiolch i'r sefydliadau hynny, oherwydd nhw yw'r rhai sydd wedi dod â ni i lle rydyn ni heddiw: yr RSPCA, Blue Cross, Greyhound Rescue Wales, Dogs Trust, Hope Rescue, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Joan Whittaker o Almost Home yng ngogledd Cymru, sy'n angerddol am ei chanolfan achub cŵn. Mae hi'n hollol llawn o ran anifeiliaid sydd angen eu hachub, ac, ar ben hynny, mae pobl yn dod â milgwn ati wythnos ar ôl wythnos, a dylai hynny ddim bod yn digwydd. Felly, hoffwn dalu teyrnged i'r sefydliadau hynny. Rwy'n gorffen trwy ofyn i chi bleidleisio dros y Bil hwn oherwydd rwyf eisiau i Gymru fod y genedl gyntaf i fod yn glir ein bod ni'n rhoi anifeiliaid yn gyntaf. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser mawr gennyf gefnogi'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Fel llawer o gyd-Aelodau, rwyf wedi ymladd yn gyson dros wahardd rasio milgwn, er gwaethaf lobïo dwys a chamwybodaeth sydd wedi'i lledaenu gan y rhai sydd â buddiannau breintiedig mewn cynnal yr arfer creulon, annynol hwn. Gadewch i ni fod yn glir bod cŵn yn dioddef anafiadau ofnadwy ac yn marw er mwyn gwneud yr elw mwyaf posibl i'r diwydiant betio sy'n werth biliynau o bunnoedd. Mae cŵn yn cael eu gorfodi i rasio ar draciau sydd dan dŵr i fodloni chwant gamblo ar-lein. Mae cŵn yn marw fel bod cyfarwyddwyr a chyfranddalwyr cwmnïau yn gallu elwa. Digon yw digon. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod safbwynt Bwrdd Milgwn Prydain Fawr a chefnogi'r Bil. Ydy'r ddeddfwriaeth yn berffaith? Na, dyw hi ddim. Ond dydy hynny ddim yn rheswm i adael milgwn i ddioddef yn nwylo diwydiant barus. Diolch yn fawr.
Efallai bod yna anghydweld am yr union ddata a'r union ffigyrau, ond mae anafiadau yn niferus, mae codymau yn digwydd yn gyson ar y trac, ac mae esgeulustod a diffyg ôl-ofal yn hollol amlwg. A dyna sydd wedi fy mherswadio fi i bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil yma sydd ger bron, er gwaetha'r materion proses sydd wedi cael eu codi heddiw.
O fy mhrofiad i o filgwn, maen nhw’n gŵn eithriadol o addfwyn, tawel a thriw. Ydyn, maen nhw'n hoff o redeg, a dyna pam maen nhw'n cael eu defnyddio i rasio, a thrwy hynny, maen nhw’n cael eu hecsbloetio er budd y diwydiant gamblo. Dyna’r broblem waelodol yn fy meddwl i. Mae’r cŵn arbennig yma yn wynebu camdriniaeth er mwyn creu adloniant. Mae’r cŵn arbennig yma yn cael eu hecsbloetio am resymau masnachol. Sut fedrwn ni gyfiawnhau fod hynny'n parhau a bod hynny yn iawn? Yr unig ffordd i sicrhau gwell dyfodol i filgwn ydy drwy wahardd rasio milgwn unwaith ac am byth.
Dwi'n mynd i ddyfynnu dau o fy etholwyr i sydd wedi cysylltu efo fi heddiw. Mae'r cyntaf yn dweud:
'Mae gan Sion, fy mab, filgi ers rhai blynyddoedd, wedi cael ei achub gan Greyhound Rescue Wales. Cyn hynny, roedd o'n cael ei ddefnyddio fel ci rasio. Mae o'n anifail dof a diniwed iawn, mewn gwirionedd, ac mae eu defnyddio nhw fel cŵn rasio yn ffordd gwbl anwaraidd o'u trin nhw'.
Mae'r ail etholwr yn dweud hyn:
'Allaf i ddim gweld bod unrhyw achos cyfiawn i beri poen i unrhyw greadur arall yn ddiangen. Does gan y creaduriaid urddasol yma ddim llais, a dyna pam y dylem ni fod yn llais drostyn nhw. Dwi yn gobeithio y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth yn y Senedd i ddileu'r arferiad creulon o rasio milgwn'.
Diolch.
Fel gyda llawer o Aelodau eraill yma, rwy'n aml yn cael fy nharo gan gryfder teimlad y cyhoedd am les anifeiliaid a'u hawydd i weld y Senedd a Llywodraeth Cymru yn deddfu'n effeithiol i amddiffyn ein hanifeiliaid a lles yr anifeiliaid hynny yma yng Nghymru. Mae'n un o'r materion sy'n cael eu codi amlaf gyda fi mewn pob math o fforymau, boed yn fy mewnflwch e-bost neu wrth daro i mewn i bobl yn yr etholaeth neu fel arall. A phan fyddaf i'n cerdded yn y parciau lleol, rwy'n cael fy nharo'n fawr gan y nifer o filgwn a pherchnogion milgwn sydd wedi cymryd y cŵn hynny fel cŵn achub, fel y clywsom gan Jane Dodds yn gynharach. Mae'n wirioneddol drawiadol faint o gŵn achub sy'n filgwn ac yn cael gofal gan unigolion a theuluoedd ymroddedig a gofalgar yma yng Nghymru.
Pan gawson ni'r gynghrair Cut the Chase honno—eto, y cyfeiriodd Jane Dodds ati'n gynharach—yn dod yma i'r Senedd ac yn gosod y 300 o goleri hynny ar risiau'r Senedd, yn cynrychioli cŵn a laddwyd mewn un flwyddyn yn rasio ar draciau trwyddedig yng Nghymru a Lloegr, roeddwn i'n meddwl bod hynny'n ddatganiad ac yn dystiolaeth bwerus iawn o'r niwed y mae milgwn rasio yn ei ddioddef.
Rwy'n credu ei bod yn glir iawn, fel yr ydym wedi clywed gan lawer o Aelodau, bod y milgwn hyn yn cael eu niweidio. Maen nhw'n cael eu lladd, maen nhw'n cael eu hanafu. Mae yna wrthdrawiadau, mae yna gwympiadau ar y traciau trwyddedig hynny trwy gydol y flwyddyn, ac mae llawer o dystiolaeth i fanylu ar hynny. Dyna pam rwy'n credu bod y teimlad cryf hwnnw ymhlith y cyhoedd, yr wyf yn sicr yn ei weld yn y cysylltiadau rwyf wedi'u cael gan etholwyr, i gefnogi gwahardd rasio milgwn yng Nghymru, fel y cynigir yn y ddeddfwriaeth hon.
Rwyf yn credu, Dirprwy Lywydd, fod gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd record dda iawn o ran lles anifeiliaid a hawliau anifeiliaid. Rwy'n credu y dylem fod yn falch o hynny, ac mae'n cael ei gydnabod yn eang nid yn unig yn y DU, ond, mewn gwirionedd, ledled y byd. Rwy'n credu ei bod yn realiti da iawn ac yn ddelwedd dda iawn i'r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ei chael, bod mor flaengar a chael cydnabyddiaeth ei bod mor flaengar ar y materion hyn, sydd mor bwysig i anifeiliaid, ond hefyd i bobl sydd mor ymroddedig ac sy'n deall y ffaith bod anifeiliaid twp, fel rydyn ni'n ei ddweud yn aml, yn gofyn i fodau dynol beidio â bod yn dwp, i ddeall y materion ac i weithredu arnyn nhw, oherwydd, yn amlwg, does gan anifeiliaid ddim y pŵer eu hunain i gyflawni'r hyn sydd angen ei gyflawni.
Rwy'n credu y bydd y ddeddfwriaeth hon, er gwaethaf yr hyn rydyn ni wedi'i glywed o ran rhai o'r safbwyntiau ynghylch ei chynnydd drwy'r Senedd a diffygion honedig, yn cyflawni'r hyn sydd angen ei gyflawni. Dyna'r prawf asid, rwy'n meddwl, Dirprwy Lywydd, on'd ife: a fydd y Bil hwn, os caiff ei ddeddfu fel y cynigir, yn lleihau'r niwed hwnnw, yn lleihau'r marwolaethau hynny i filgwn yng Nghymru a Lloegr o ran y trac sydd gennym yma yn ein gwlad ni. Felly, rwy'n falch iawn o'i gefnogi, ac i gefnogi'r egwyddorion cyffredinol heddiw. Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed rhai cyfraniadau pwerus iawn. Gwnaeth Altaf Hussain, er enghraifft, osod y cyd-destun ar gyfer realiti rasio milgwn trwyddedig yn ei agweddau ehangach, ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r egwyddorion cyffredinol yma heddiw.
Rwy'n siŵr na fydd yn synnu neb yn y Siambr hon heddiw y byddaf yn siarad yn erbyn egwyddorion cyffredinol y Bil gwahardd rasio milgwn. Gadewch i mi ddechrau trwy ddweud hyn: nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â ph'un a yw Aelodau'r Siambr hon yn poeni am les anifeiliaid—wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn poeni am hynny, ac rwy'n berchen ar gi fy hun. Y cwestiwn go iawn yw a yw'r Bil hwn yn cynrychioli cyfraith dda, a yw'n seiliedig ar dystiolaeth ac a yw wedi'i ddatblygu trwy broses sy'n deilwng o'r Senedd hon. Ar bob un o'r profion hynny, mae'n methu â'u cyflawni.
Dydy'r pryderon sydd wedi'u codi ddim yn ddamcaniaethol, dydyn nhw ddim yn bleidiol, maen nhw'n dod yn uniongyrchol o'n pwyllgorau craffu ein hunain. Mae'r pwyllgor diwylliant a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y mae'r ddau yn gyrff trawsbleidiol, wedi bod yn gyson iawn yn eu beirniadaeth o'r ffordd y mae'r Bil hwn wedi'i gyflwyno. Roedd y pwyllgor diwylliant yn glir bod yr amserlen gyflym, wedi'i ysgogi gan y cytundeb ar gyllideb 2025-26 gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi peryglu ansawdd datblygiad deddfwriaethol y Bil hwn. Rhybuddiodd yn benodol fod cwestiynau pwysig heb eu datrys o hyd, nad oedd digon o wybodaeth ar gael i'r Aelodau asesu effaith y Bil hwn yng Nghyfnod 1, ac nad oedd ymgynghoriad ystyrlon wedi digwydd. Aeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ymhellach, gan godi pryderon sylfaenol ynghylch a yw'r Bil hwn, mewn gwirionedd, yn eistedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ei sylfaen dystiolaeth, ac absenoldeb asesiad effaith. Mae'r pwyllgor hwnnw'n bodoli i ddiogelu ansawdd, eglurder ac uniondeb cyfansoddiadol y deddfau a wneir gennym yma yng Nghymru. Pan fydd yn codi baneri coch, fe ddylen ni i gyd dalu sylw a chymryd eu pryderon o ddifrif.
Byddwn i'n awgrymu'n garedig na ddylai neb yn y Siambr hon fod yn fwy pryderus am gyflwr y ddeddfwriaeth hon na'r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, o ystyried ei fod wedi cadeirio'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn flaenorol, gan fod yn gyfrifol ar un adeg am ddwyn eraill i gyfrif ar safonau deddfwriaethol. Gallaf ddychmygu ei fod wedi bod yn edrych ar y Bil hwn ac yn meddwl, 'Byddwn i wedi bod yn eithaf cadarn gyda fi fy hun ar yr un yma.' Efallai mai'r peth cyntaf y byddai wedi ei weld fel cyn-Gadeirydd y pwyllgor yw ei amser yn nodi ei waith cartref ei hun. A byddwn i'n dweud wrth y Dirprwy Brif Weinidog heddiw gyda'm tafod yn fy moch: o'r sylwadau gan ei gyn-Aelodau o'r pwyllgor, byddwn i'n awgrymu na fyddai ei ddeddfwriaeth yn cael adroddiad disglair.
Dirprwy Lywydd, mae'r methiannau gweithdrefnol yma yn ddifrifol. Doedd dim Papur Gwyn, doedd dim Bil drafft, cafodd asesiad effaith mo'i gyhoeddi cyn ei gyflwyno, doedd dim ymgynghoriad priodol â rhanddeiliaid cyn i benderfyniadau gael eu gwneud, i bob pwrpas, ar gyfer deddfwriaeth a oedd yn cynnig gwaharddiad llwyr ar weithgarwch cyfreithlon, rheoleiddiedig. Dydy hynny ddim yn ddigon da, ac fe ddylai'r Dirprwy Brif Weinidog fod wedi gwybod yn well.
Mae yna risg y bydd y diffyg trefn briodol hwn yn tanseilio hyder y cyhoedd yn ein gwaith yma yn y Siambr hwn. Mae hefyd yn rhoi Aelodau mewn sefyllfa amhosibl. Gofynnir iddyn nhw gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil heb y dystiolaeth sydd ei hangen i graffu'n briodol arno, a gweithredu cyfraith ar ddata sy'n gwrth-ddweud ei gilydd a honiadau anecdotaidd gan y rhai sydd eisiau'r gwaharddiad, ac fe wnaeth y rhan fwyaf o'r rheini droi allan i fod yn gelwyddau.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi bod yn glir am absenoldeb asesiad effaith cynhwysfawr a chymdeithasol. Mae'r pwyllgor diwylliant wedi argymell yn benodol y dylai asesiad o'r fath gael ei gynnal cyn i'r Bil symud ymlaen ymhellach. Nid manylyn bach mohono ac mae'n ganolog i ddeall canlyniadau'r hyn sy'n cael ei gynnig. Rwy'n falch eich bod chi wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ond mae'n drueni na chafodd ei gyflwyno yn y lle cyntaf.
Rydyn ni hefyd yn siarad am swyddi, am fusnesau a chymunedau, y mae llawer ohonyn nhw mewn ardaloedd lle nad yw cyflogaeth ar gael yn rhwydd. Eto, gofynnir i ni ddeddfu yn gyntaf ac asesu'r difrod yn ddiweddarach. Mae hynny'n troi'r broses ddeddfwriaethol gyfan ar ei phen.
Mae gwrthgyferbyniad amlwg hefyd ym mhwrpas datganedig y Bil. Sonnir wrthym am les anifeiliaid, ond does dim tystiolaeth gymhellol i ddangos y bydd gwaharddiad llawn yn gwella canlyniadau lles. I'r gwrthwyneb, mae rasio milgwn trwyddedig yn gweithredu ar hyn o bryd o fewn fframwaith rheoleiddiedig gyda goruchwyliaeth ac arolygu, atebolrwydd a milfeddyg ar y trac. Pe bai gan Lywodraeth Cymru bryderon gwirioneddol am les anifeiliaid, byddai rhywun wedi disgwyl i adolygiad difrifol o orfodi'r rheoleiddio hynny fod yn fan cychwyn. Mae'n ymddangos bod yr opsiwn hwnnw wedi'i wrthod heb archwiliad priodol o blaid y mesur mwyaf eithafol sydd ar gael: gwaharddiad llwyr.
Mae ein pwyllgorau wedi gwneud eu gwaith, maen nhw wedi craffu, wedi cwestiynu ac wedi rhybuddio. Fel Aelodau'r Senedd, ein cyfrifoldeb ni nawr yw gwrando arnyn nhw.
A wnewch chi ildio?
Na, fe wnaf i ddim ildio. Rydw i bron allan o amser, Lee. Rwyf wedi gwrando, a byddaf yn annog Aelodau eraill o'r Senedd i wneud yr un peth.
Pan ymwelais i â thrac Valley yn gymharol ddiweddar, fe ofynnodd un person a oedd yno i mi ddarllen hwn allan, ac fe wnaf i hynny: 'Mae'n ymddangos nad yw llawer o'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn poeni amdana i, fy mywyd na fy swydd. Rwy'n caru fy milgi, mae'n cysgu ar fy ngwely bob nos, ac rwy'n ei garu'n fawr. Mae'n ymddangos bod y gwleidyddion hynny ym Mae Caerdydd wedi colli gafael ar realiti. Maen nhw wedi anghofio am bobl sy'n gweithio sy'n cynrychioli fy nghymuned. Cywilydd arnyn nhw, a chywilydd ar unrhyw un gyda'r gwaharddiad hwn. Ni all Mai ddod yn ddigon buan gan eich bod chi i gyd wedi colli pob gafael ar realiti.'
Am y rhesymau hynny, Dirprwy Lywydd, ni allaf gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ac rwy'n awgrymu bod pob Aelod yn ei wrthod er budd ein huniondeb seneddol.
Pe bai un set o fridiau y byddwn i'n argymell i unrhyw un fod yn berchen arni, sighthounds, sy'n cynnwys milgwn, fyddai honno. Maen nhw fel y dylai ci fod, un o'r ychydig fridiau sy'n cael eu crybwyll yn y Beibl, brîd nad yw pobl wedi ymyrryd ag ef. Ac, ie, roedd Siân Gwenllian yn iawn, maen nhw'n hoffi rhedeg, maen nhw'n caru rhedeg, ond nid dyna oedd pwrpas gwreiddiol y brîd. Pwrpas y brîd, fel llawer o fridiau eraill, oedd hela a bod yn anifail cydymaith.
Rwy'n credu ei fod yn eithaf trawiadol, mewn gwirionedd, mai dim ond nifer fach o wledydd yn y byd sy'n dal i ganiatáu rasio milgwn masnachol. Nawr, mae'r DU, ac o ganlyniad i hynny, Cymru, yn un ohonyn nhw. Nawr, mae'r Aelodau eisoes yn gwybod fy marn arno. Rwyf wedi siarad sawl gwaith ar y pwnc penodol hwn. Soniodd Delyth, yn ei chyfraniad, am y ffaith bod pob tyst yn derbyn y byddai milgwn yn cael eu hanafu ac yn marw pe bai rasio yn parhau ar ei ffurf bresennol, hyd yn oed pe bai'n cael ei reoleiddio hefyd. Felly, rwy'n credu mai'r cwestiwn y mae angen i'r Aelodau ofyn iddyn nhw eu hunain yw faint o anafiadau neu farwolaethau sy'n dderbyniol? Nawr, rwy'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw o'm safbwynt i. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw anafiadau neu farwolaethau yn dderbyniol. A gadewch i ni fod yn glir yma: byddai'r anafiadau a'r marwolaethau hynny yn dderbyniol yn enw elw ac adloniant, hyd yn oed mewn gofod rheoleiddiedig. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n hynod anghyfforddus ag ef ac yn un o'r rhesymau pam y byddaf yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Ond rwyf yn credu ei bod yn bwysig cydnabod rhai o'r pryderon hynny.
Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod argymhellion 1 a 2 yn adroddiad y pwyllgor diwylliant ar gyfer yr asesiad hwnnw o'r effaith economaidd, a chefnogaeth i'r bobl hynny sy'n gweithio ar y trac i sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i waith yn rhywle arall, wedi'u derbyn, oherwydd rydyn ni'n sôn am fywydau pobl yma. Rydyn ni'n sôn am bobl sydd, er gwaethaf y safbwyntiau gwahanol hynny, yn caru eu cŵn yn fawr iawn, yn mwynhau ac yn caru'r gwaith maen nhw'n ei wneud, a bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.
Y pryder arall sydd gennyf, ac mae wedi cael ei godi gan nifer o Aelodau, yw amserlen gyflym y Bil hwn ac rwy'n credu bod nifer o bobl wedi tynnu sylw at y rheswm pam mae hynny wedi achosi problemau. Dydw i ddim yn credu bod pwynt anwybyddu'r ffaith bod y llys gweinyddol wedi caniatáu her gyfreithiol i'r Bil hwn. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddeall gan yr Ysgrifennydd Cabinet yw, pe bai'r her gyfreithiol honno yn mynd rhagddi, sut y byddai hynny'n effeithio ar hynt y Bil hwn. Bydd unrhyw oedi pellach, wrth gwrs, yn arwain at fwy o'r anafiadau a'r marwolaethau hynny yn y diwydiant. Felly, byddai rhywfaint o eglurder ar hynny yn cael ei groesawu'n fawr, rwy'n credu, nid yn unig o safbwynt yr Aelodau sy'n cefnogi'r Bil hwn, ond hefyd yr elusennau a'r sefydliadau lles anifeiliaid hynny, yn ogystal â'r rhai yn y diwydiant y mae ganddyn nhw fudd yn y Bil hwn.
Felly, i gloi yn gyflym iawn, Dirprwy Lywydd, fe fyddaf i'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond mae yna nifer o bryderon y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu mynd i'r afael â'r rheini yn ei atebion i ni heddiw.
Cyn i mi alw'r siaradwr olaf, gan ei fod wedi cael ei grybwyll gan Luke Fletcher, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y mater hwn yn destun adolygiad barnwrol gweithredol, ac felly mae Rheol Sefydlog 13.15 yn berthnasol. Nid yw'n briodol gwneud unrhyw sylwadau sy'n dyfalu ynghylch beth fydd canlyniad yr achos, neu beth ddylai'r canlyniad fod. Mater i'r llys yw penderfynu ar y materion hynny. Felly, ni chaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi atebion penodol, ond caiff edrych ar ddarlun cyffredinol os dymuna. Ond byddwch yn ofalus wrth ymateb, Ysgrifennydd Cabinet. Y siaradwr olaf yw Carolyn Thomas.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dechreuwyd y daith hon gan Vanessa o Hope Rescue pan gyflwynodd ei deiseb yn galw am wahardd rasio milgwn ar ddechrau tymor y Senedd hon. Derbyniodd y ddeiseb swm anhygoel o 35,000 o lofnodion, gan sicrhau ymchwiliad tystiolaeth gan y Pwyllgor Deisebau ac, yn dilyn hynny, dadl yn y Siambr a dderbyniodd gefnogaeth gan Aelodau pob plaid ar draws y Siambr hon. Mae gan Vanessa a'i thîm brofiad uniongyrchol o'r creulondeb erchyll sydd wedi digwydd ar drac Valley yn ne Cymru, gyda chŵn yn colli eu bywydau ac yn dioddef anafiadau sy'n newid bywyd ar y trac hwnnw yn rheolaidd, ac felly hefyd y mae elusennau achub eraill.
Mae'n naïf iawn meddwl y bydd mynychu ymweliad sydd wedi'i drefnu a'i reoli i dynnu llun yn rhoi dealltwriaeth wirioneddol i chi o'r amodau y mae cŵn yn cael eu cadw ynddyn nhw. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi archwilio'r safle ar ddau achlysur gwahanol ers iddo gael ei drwyddedu. Nodwyd pryderon ynglŷn â glendid ar eu hymweliad cyntaf â chytiau hyfforddi a rasio'r trac yn 2024, a chanfuwyd bod safonau hyfforddwyr yn ddiffygiol iawn.
Yn ystod ail ymweliad y cyngor yn gynharach eleni, a ddaeth ar ôl i'w swyddogion naill ai gael eu gofyn i adael neu ar ôl i fynediad gael ei wrthod ar ddau achlysur blaenorol, fe gododd y cyngor bryderon difrifol am gynnal a chadw a glendid y blociau cynelau a hwsmonaeth y cŵn, gyda rhai cynelau yn arogli'n gryf o wrin ac ysgarthion. Nododd y cyngor bryderon hefyd am faint y cynelau ac a ydyn nhw'n ddigonol ac yn addas i ddiwallu anghenion y cŵn pan fyddan nhw'n cael eu lletya am gyfnodau hir.
Mae'r RSPCA wedi adrodd bod y cŵn hyn yn treulio cymaint â 95 y cant o'u hamser yn yr amodau annerbyniol hyn. Creulondeb yw e', yn syml, ac mae'n rhaid ei stopio. Mae'r niferoedd yn siarad drostyn nhw eu hunain. Mae data GBGB o 2024 yn dangos bod 346 o gŵn a fu'n ymwneud â rasio wedi marw o achosion nad oedden nhw'n rhai naturiol. O'r rhain, cafodd 123 eu difa'n drugarog ar y trac rasio, gan nodi cynnydd am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn y cyfamser, cafodd 51 o gŵn eu difa'n drugarog am nad oedden nhw'n addas ar gyfer eu hailgartrefu.
Hoffwn adrodd stori Last Hope wrthych chi, milgi rasio a rasiodd ym mhob un o'r tri thrac rasio annibynnol a oedd yn gweithredu yng Nghymru ar y pryd. Cafodd ei adael yn farw ar ochr mynydd, gyda thwll yn ei dalcen a'r ddwy glust wedi'u torri i guddio pwy ydoedd. Mae cŵn a ddefnyddir ar gyfer rasio yn cael eu clustiau wedi'u tatŵio. Roedd yn dal yn fyw. Roedd ei gynffon yn chwifio, ond doedd e ddim yn gallu symud. Roedd e wedi cael ei adael am ddau ddiwrnod ar ochr y mynydd. Roedd y sawl a'i laddodd wedi cael £10 i'w waredu. Mae bywyd rasio ci yn dod i ben rhwng tair a phum mlwydd oed, dyna i gyd. Ond dim ond os ydyn nhw'n cyrraedd y safon. Mae yna lawer o wastraff yn y diwydiant. Mae rhai cŵn achub yn nerfus iawn hefyd. Mae'n cymryd amser hir i'w cefnogi yn eu cartref am byth, fel y gŵyr Jane Dodds. Weithiau, mae eu bwyd nhw wedi cael ei wasgaru neu maen nhw'n yfed o gafn, ac maen nhw'n nerfus iawn am fynd i mewn i gartref.
Rydym wedi cael llawer o ddadleuon ar y pwnc hwn ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod lles milgwn yn parhau i fod wrth wraidd y ddadl hon. Mae gwaharddiad ar y gamp greulon hon wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol drwyddi draw, ac rwy'n erfyn ar yr Aelodau i beidio â throi eu cefnau ar yr anifeiliaid diniwed hyn yn y cyfnod tyngedfennol hwn. Ac rwyf i'n un sy'n ymfalchïo mewn bod ar ochr iawn hanes o ran hyn. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn hefyd i'r Aelodau.
Diolch i'r Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw, gyda safbwyntiau gwahanol—rwy'n croesawu hynny—ond hoffwn hefyd ddiolch i'r pwyllgor eto, ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, fe ysgrifennaf yn fanwl ar y pwyntiau.
Rwyf eisiau cymryd ychydig funudau, Dirprwy Lywydd, i ymateb i rai o'r pwyntiau, ac fe wnaf i geisio peidio ailadrodd pwyntiau a wnes yn fy sylwadau agoriadol. Yn gyntaf, i fod yn glir, mae'r penderfyniad i weithredu gwaharddiad yn dilyn sawl blwyddyn o ymgyrchu parhaus gan randdeiliaid, deiseb yn 2022, casglu tystiolaeth, gan gynnwys yr ymgynghoriad ar weithgareddau anifeiliaid ac, yn wir, dadl yn y Senedd. Mae'n ymateb i gefnogaeth glir gan y cyhoedd a'r pleidiau o blaid newid cadarnhaol wedi'i ysgogi gan bryderon am les anifeiliaid, ystyriaethau moesegol a chydnabyddiaeth gynyddol bod defnyddio anifeiliaid ar gyfer adloniant yn cael ei ystyried mwyfwy fel rhywbeth sy'n annerbyniol. Yn unol â'r dull sy'n canolbwyntio ar atal a amlinellir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru, mae gwaharddiad ar rasio milgwn yn cyflwyno mesur rhagweithiol i amddiffyn milgwn rhag niwed posibl, gan fynd i'r afael â phryderon lles cyn iddyn nhw godi, yn hytrach na dibynnu ar orfodi adweithiol.
Os gallaf droi at y mater o les oes. Er bod y Bil yn canolbwyntio ar rasio a hyfforddiant, i fod yn glir, nid yw hyn yn atal camau pellach y tu allan i'r Bil. Rydym yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor Deisebau bod yn rhaid i wella lles ystyried bywyd cyfan y ci. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r uchelgais ehangach honno. Yn wir, fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ym mis Mehefin 2025, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull graddol o ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella lles trwy gydol oes anifeiliaid a byddwn ni'n parhau i fonitro a chasglu tystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol o dan y fframwaith ehangach hwn. Dim ond i ddweud, mae'r symudiad tuag at waharddiad yn cyd-fynd â'n strategaeth ehangach i gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio gweithgareddau a sefydliadau lles anifeiliaid, gan sicrhau safonau cyson, cymesur a gorfodadwy ledled Cymru.
O ran amseroldeb symud y ddeddfwriaeth hon yn ei blaen, gadewch i mi ddweud: mae'r penderfyniad i wahardd rasio milgwn, sydd o flaen y Senedd hon nawr, wedi'i gymryd fel mesur i atal niwed pellach. Mae'n cael ei ysgogi gan y pryderon cryf hynny am les a moeseg, ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu lles anifeiliaid.
Gadewch i mi droi at y mater ynghylch gwaith craffu'r pwyllgor a'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar ddeddfwriaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr, i gyflwyno deddfwriaeth sy'n bodloni'r safon uchaf o ymarfer. Rwyf am fod yn glir, cafodd yr holl asesiadau effaith perthnasol eu cwblhau a chafodd y canfyddiadau allweddol eu cynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Cynigir i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2030. Mae'r ffenestr hon yn rhoi amser i ystyried sut y bydd y diwydiant yng Nghymru yn dod â'i weithgareddau i ben, ac yn caniatáu i'r grŵp gweithredu gynghori ynghylch a oes angen mynd i'r afael ag unrhyw feysydd allweddol yn ystod y cyfnod hwnnw, yn barod ar gyfer y gwaharddiad. Bydd y grŵp gweithredu yn allweddol wrth gynghori a rhoi arweiniad ymarferol, fel bod y gwaharddiad yn gallu cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n lleihau'r effaith ar filgwn a'r gymuned leol a'r economi leol hefyd.
Dirprwy Lywydd, ni allaf ymdrin â phob pwynt yn y munudau sydd gennyf, ac, fel y dywedais i, fe fyddaf i'n ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau hefyd. Ond roeddwn i eisiau delio ag un mater arall a godwyd gan Luke yn y fan yna. Dim ond i fod yn glir, barn Llywodraeth Cymru yw nad yw'r caniatâd a roddwyd gan yr Uchel Lys yn rhwystr i amserlen y Bil. Bydd y Bil yn parhau i fynd yn ei flaen trwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau felly i gefnogi'r cynnig: pleidleisiwch o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, rwyf wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), felly mae eitem 9 wedi'i thynnu'n ôl.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Eitem 10 sydd nesaf, dadl ar gyllideb ddrafft 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9083 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 14 Hydref 2025 a 3 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pleser yw e i agor y ddadl flynyddol bwysig hon. Mae'n benllanw'r broses graffu. Hoffwn ddiolch i'r holl bwyllgorau, lle mae cymaint o waith gwerthfawr yn mynd ymlaen, ac yn enwedig i'r Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi arwain y broses. Diolch hefyd i gydweithwyr gweinidogol am y rhan hanfodol maent yn ei chwarae yn y broses.
Roeddwn yn falch iawn yn y flwyddyn hon o fod wedi gallu dychwelyd i'r broses dau gam am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd ar gyfer craffu, fel y cytunwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gan y Senedd nesaf gyllidebau tair a phedair blynedd o'u blaenau yn hytrach na chyllidebau blynyddol, sef y patrwm sydd wedi'i ddilyn y tymor Senedd hwn am wahanol resymau. Er gwaethaf hyn, rydym ni wedi llwyddo i basio cyllideb drwy'r Senedd blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod erbyn hyn, mae'r patrwm hwnnw wedi'i gynnal i'r flwyddyn nesaf, gyda llwybr i'r gyllideb derfynol wedi'i gytuno ar gyfer 2026-27. Llywydd, credaf fod hyn yn newyddion da iawn: yn newyddion da i'r Senedd hon wrth ddangos ein gallu i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd gennym ni; yn newyddion da i'n gwasanaethau cyhoeddus a phawb sy'n gweithio ynddyn nhw; ac yn bennaf oll, wrth gwrs, yn newyddion da i ddinasyddion Cymru, oherwydd mae'r trychineb o gyllideb fethedig bellach wedi'i osgoi ac mae gan y rhai yn y gwasanaeth iechyd a'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio a buddsoddi mewn gwasanaethau y flwyddyn nesaf. Rwy'n gwybod o'm sgyrsiau gyda'r rhai sy'n arwain y gwasanaethau hynny pa mor falch ydyn nhw ein bod wedi gallu dod i'r cytundeb hwnnw cyn y Nadolig, gan roi'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio ymlaen llaw yn hytrach na'r pryder a fyddai fel arall wedi nodweddu ein cyfnod o seibiant.
Mae hyn i gyd yn golygu, Llywydd, ein bod wedi sicrhau'r gyfres fwy uchelgeisiol honno o ganlyniadau, yr wyf yn cofio eirioli drosti ar lawr y Senedd o ddechrau'r broses gyllidebol: £180 miliwn yn fwy ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; cynnydd o 4.5 y cant yn y grant cynnal refeniw fel y gall cynghorau fuddsoddi mewn addysg, mewn gwasanaethau cymdeithasol a'r holl wahaniaethau hanfodol hynny y mae ein hawdurdodau lleol yn eu gwneud ym mywydau pobl. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r cyd-Aelodau hynny ym Mhlaid Cymru am y trafodaethau y bu modd inni eu cynnal ryw wythnos yn ôl ac sydd wedi arwain at y canlyniad hwnnw. Y canlyniad, yn anochel, yw bod rhai o'r pwyntiau allweddol a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, fel y'u cyhoeddwyd dros y penwythnos, bellach i'w gweld yn y cyd-destun newydd hwnnw.
Wrth gwrs, cyhoeddwyd adroddiadau'r pwyllgorau pwnc ddoe. Rwyf wedi cael y cyfle i ddarllen crynodeb o bob un a'r argymhellion, ac, wrth gwrs, edrychaf ymlaen at elwa o wrando ar Gadeiryddion y pwyllgorau hynny y prynhawn yma ac i allu darllen yr adroddiadau'n llawn ar ôl y ddadl heddiw.
Llywydd, cyn i ni glywed gan y rhai sy'n rhan o'r broses graffu, fe hoffwn i ddim ond rhoi trafodaethau heddiw yn eu cyd-destun ehangach. Cyllideb y flwyddyn nesaf fydd y mwyaf sydd ar gael erioed i'r Senedd o ran refeniw a chyfalaf. Nid yn unig y mae'n darparu mwy na £1 biliwn o gyllid newydd, ond mae'n gwneud hynny yn ychwanegol at y cynnydd o £1.6 biliwn sydd wedi'i ymgorffori yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol, ac sy'n dyst i effaith barhaol y cytundeb y daethpwyd iddo yr adeg hon y llynedd gyda Jane Dodds. Mae'r cynnydd hynny yn bennaf o ganlyniad i Lywodraeth Lafur yn San Steffan. Nawr, mae'n gyfleus, rwy'n gwybod, i rai yma awgrymu nad yw ethol y Llywodraeth honno wedi gwneud unrhyw wahaniaeth. Wel, Llywydd, rydw i wedi bod yn Weinidog Cyllid y Senedd hon o dan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, yn ymroddedig fel yr oedd hi i economeg cyni a chwtogi gwasanaethau cyhoeddus. Ac rwy'n Weinidog Cyllid eto nawr o dan Lywodraeth Lafur, gyda'i hymrwymiad i dwf economaidd a buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r gwahaniaeth yn wirioneddol, ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru.
Ond nid yw'r gyllideb ddrafft, wrth gwrs, yn llawn yn gyfan gwbl o ganlyniadau penderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill. Yn gynyddol, mae'r penderfyniadau a wneir yma ar lawr y Senedd hefyd yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno yn 2016 wedi cynhyrchu mwy na £1 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y Senedd hon, a dros £500 miliwn i gyllideb y flwyddyn nesaf. Dyma sut rydym ni wedi gallu cynnal gwariant y pen ar addysg 7 y cant yn uwch na Lloegr a 13 y cant yn uwch ar iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae gwariant yng Nghymru hefyd yn uwch y pen nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, tra bod y cynnydd mewn gwariant iechyd rhwng 2023-24 a 2024-25 yng Nghymru, ar 8 y cant, yn uwch nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig.
Ac mae'r ffordd rydym ni wedi rheoli ein cyfrifoldebau cyllidol yma wedi ychwanegu'n sylweddol at y cyllid sydd ar gael yng nghyllideb y flwyddyn nesaf: effaith gadarnhaol cyfraddau treth incwm Cymru o £484 miliwn; £42 miliwn yn ychwanegol o dreth trafodiadau tir; a £20 miliwn o'r dreth gwarediadau tirlenwi—dros £500 miliwn yn fwy i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru oherwydd y penderfyniadau rydym ni wedi'u gwneud yn y Senedd hon.
A nawr, y flwyddyn nesaf, gyda mynediad di-rwystr unwaith eto i gronfa wrth gefn Cymru a ffigurau wedi'u diweddaru ar gyfer y fframwaith cyllidol, bydd effaith gadarnhaol bellach ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Dyma'r gwahanol ffrydiau sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio'r cyfanswm sydd ar gael ar gyfer 2026-27. Mae hyn i gyd yn ein galluogi i ymateb i'r galwadau niferus am gyllid y gwyddom ni sydd yng Nghymru. Mae'n golygu y gallwn ni barhau i fuddsoddi yn y cartrefi sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol, i ymateb i newid hinsawdd trwy ein rhaglen o atal llifogydd ar yr arfordir a'r tir. A, Llywydd, nodaf y croeso a roddwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i'r adolygiad o'r rhaglen rheoli risg arfordirol a'r cynnydd o 11.7 y cant yn y cyfalaf a ddyranwyd i fynd i'r afael â pherygl llifogydd. Ac ar yr un pryd, a thu hwnt i hynny i gyd, byddwn yn bwrw ymlaen â llwyddiant eithriadol ein rhaglen ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain.
Llywydd, mae cymaint mwy o rannau o'r gyllideb ddrafft y gallwn i eu cymeradwyo i'r Senedd y prynhawn yma. Rydw i'n mynd i derfynnu fy sylwadau agoriadol yn y fan yna, fodd bynnag, Llywydd, oherwydd rwy'n gobeithio rhoi amser i ymateb ar ddiwedd y ddadl i'r materion y gwn i y bydd yr Aelodau yn eu codi o ganlyniad i'w cyfranogiad yn y broses graffu.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sydd nesaf—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a dwi'n falch o allu cyfrannu yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid heddiw. Dwi am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau, rhanddeiliaid a'r cyhoedd am ymgysylltiad helaeth a luniodd ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yma, i'r rhai a gyflwynodd ymatebion i'n hymgynghoriad ac, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltu yn ystod y craffu.
Cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, cynhaliwyd digwyddiadau i randdeiliaid, gweithdai gyda phobl ifanc, sesiynau cyhoeddus a grwpiau ffocws ledled Cymru, gan ddod ynghyd yn y ddadl ar flaenoriaethau'r gyllideb ym mis Gorffennaf. Ymunodd Aelodau Senedd Ieuenctid gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r Ysgrifennydd Cabinet yn ein cyfarfod ar 16 Hydref. Cafwyd trafodaeth ddiddorol a bywiog iawn efo nhw, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eu cyfraniad i'n gwaith ni hefyd.
Am y tro cyntaf mewn saith mlynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gyllideb ddrafft hon yn gynharach ac yn unol â phroses dau-gam protocol y gyllideb. Mae gweld y darlun cyffredinol yn gynharach wedi ein galluogi i ystyried materion yn fanylach ac i gynnal gwaith craffu ar draws nifer o feysydd strategol—datblygiad rydym yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae cyhoeddi cyllideb cyn cyllideb yr hydref y Deyrnas Unedig wedi peri heriau. Er bod y gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru sy'n deillio o benderfyniad y Canghellor i'w groesawu, mae'r pwyllgor yn gresynu at y cyfle cyfyngedig i graffu ar sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu. Mae amseriad cytundeb y gyllideb yr wythnos diwethaf hefyd yn golygu nad ydym wedi gallu ystyried y newidiadau hyn fel rhan o'r gwaith. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddwyn y penderfyniadau hyn i gyfrif, rydym wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i fynychu'r pwyllgor unwaith y bydd y gyllideb derfynol wedi ei gosod, ac yn gofyn hefyd i'r ddadl ar y gyllideb derfynol gael ei ymestyn am yr un rheswm.
Rydym yn cydnabod dull pragmatig yr Ysgrifennydd Cabinet o ailadrodd cyllideb y flwyddyn gyfredol ar gyfer 2026-27 a'r cyfle y mae hyn wedi'i ddarparu ar gyfer trafodaeth wleidyddol i gytuno ar gyllideb. Er bod hyn yn ddealladwy, mae disgrifio cyllideb fel un niwtral yn peryglu cuddio'r dewisiadau gwirioneddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Credwn fod angen mwy o eglurder ar randdeiliaid ynghylch sut mae dyraniadau adrannol yn cael eu pennu, a galwn ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y dewisiadau hynny'n glir yn y naratif sy'n cefnogi'r gyllideb derfynol.
Mae'r pwyllgor yn pryderu am y rhagdybiaethau chwyddiant sy'n sail i'r gyllideb. Er bod iechyd a llywodraeth leol yn gweld cynnydd, mae'r rhain yn seiliedig ar ragolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o fis Mawrth ac eisoes wedi dyddio, sy'n golygu bod rhai meysydd yn wynebu toriadau yn nhermau real oni bai bod cyllid yn cynyddu. Rydym yn galw ar i'r Ysgrifennydd Cabinet gynnal asesiad o bwysau chwyddiant ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac effaith cynnydd cyflogau uwch na'r rhagolwg, ac i gyhoeddi dewisiadau lliniaru ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol.
Gan droi nawr at y meysydd thematig a gwmpesir yn rhan o'n gwaith, cynhyrchiant yw sail twf economaidd, ac fe glywsom ni ei fod yn hanfodol i wella safonau byw a chynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod Cymru yn wynebu diffyg parhaus mewn cynhyrchiant, o'i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Rydym yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnwys ymrwymiad sylweddol i gynyddu cynhyrchiant ac i ddatblygu cynllun cynhyrchiant cenedlaethol i sbarduno gwelliant hirdymor, wedi'i ategu gan sgiliau, seilwaith ac ymrwymiad i effeithlonrwydd y sector cyhoeddus. Dylai'r cynllun hwn dynnu ar y chwe argymhelliad craidd o bapur dirnadaeth y Sefydliad Cynhyrchiant, yr ydym ni wedi'i gyhoeddi yn ein hadroddiad ac sy'n gosod targedau a mecanweithiau gwerthuso clir. Mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod rôl bosibl technolegau newydd i wella cynhyrchiant. Fodd bynnag, mae bwlch rhwng y manteision posibl a'r realiti ymarferol, yn enwedig cyfyngiadau seilwaith TG mewn rhannau o'r sector cyhoeddus. Dyma pam rydym ni'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i nodi sut mae'r gyllideb yn cefnogi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio gan y sector cyhoeddus i wella cynhyrchiant.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch yn dod i ben ym mis Mawrth 2026. Er ein bod yn croesawu pwerau i gymhwyso lluosydd ardrethi annomestig gwahaniaethol a chynigion ar gyfer lluosydd is i gefnogi manwerthu ar y stryd fawr, mae ansicrwydd yn parhau ynglŷn â'i effaith, yn enwedig gan ei fod yn eithrio busnesau lletygarwch a hamdden. O ystyried cryfder y teimlad a fynegwyd i ni, rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu manylion mesurau yn y gyllideb ddrafft i gefnogi'r sectorau hyn. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru asesu effeithiolrwydd y cynigion diweddaraf hyn ac a ellid eu hymestyn i'r sectorau hamdden a lletygarwch hefyd.
Clywodd y pwyllgor hefyd fod pwysau costau byw yn parhau, ac mae'n croesawu mesurau yn y gyllideb ddrafft i gefnogi'r rhai sydd wedi'u taro waethaf, sy'n cynnwys y cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg. Ond mae ein tystiolaeth yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu eglurder pellach ar eu gweithredu a'u hygyrchedd, ac rydym yn galw am fynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym ni hefyd yn rhannu pryderon am brinder tai cymdeithasol ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o'r holl ffynonellau cyfalaf sydd ar gael i hybu'r cyflenwad tai.
Y tu hwnt i'r meysydd hyn, gwnaeth y pwyllgor ragor o argymhellion i wella canlyniadau cyllidol a pholisi. O ran gwella gweithrediad fformiwla Barnett, rydym yn canmol y gwaith parhaus rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau datganoledig. Rydym hefyd yn croesawu'r cynnydd i derfynau benthyca a chronfa wrth gefn Cymru o 2026–27 ymlaen, a fydd yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant wedyn. Mae'r newidiadau hyn wedi bod yn hir ddisgwyliedig. Fodd bynnag, ymddengys bod y cynnydd yn brin o ran adlewyrchu chwyddiant ers 2018–19 ac yn cael ei osod heb ymgysylltiad llawn Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn gofyn am ddiweddariad am y cynnydd yn y maes hwn.
Clywsom hefyd fod data cadarn, penodol i Gymru, yn hanfodol er mwyn deall twf a gwariant ar lefel ddatganoledig. Rydym yn pryderu ynghylch cynlluniau i leihau cwmpas y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran ystadegau datganoledig, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau bod y data hwn yn parhau i fod ar gael trwy ddulliau eraill.
Yn olaf, canolbwyntiodd ein gwaith ar wariant ataliol a chanfuwyd bod angen strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i fapio, meincnodi a gwerthuso hyn ar draws meysydd portffolio.
I gloi, hoffwn nodi mai hwn yw adroddiad olaf y pwyllgor ar gyllideb ddrafft yn ystod y Senedd hon. Hoffwn ddiolch o galon i dim clercio y Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r tîm ymchwil. Mae eu gwaith diflino dros gyfnod y gyllideb ddrafft hon, ac yn wir pob cyllideb arall ers cychwyn y chweched Senedd, wedi bod yn arbennig ac wedi fy ngalluogi i fel Cadeirydd, a hefyd aelodau'r pwyllgor, i wneud y gwaith craffu angenrheidiol yma.
Rydym wastad yn cael ein harwain gan farn y rhai sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni, ac nid yw'r flwyddyn hon yn eithriad. Gyda'n gilydd, mae ein barn a'n hargymhellion wedi eu hanelu at wella canlyniadau i'r cyhoedd, ac edrychwn ymlaen at graffu ar y gyllideb derfynol yn fanylach yn y flwyddyn newydd. Diolch yn fawr.
Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rydyn ni i gyd yma yn y Senedd yn dymuno'n dda i ti wrth i ti barhau i wella yn dilyn dy ddamwain anffodus. Felly, pob dymuniad da i ti, a diolch am y cyfraniad y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Sam Rowlands nawr i gynnig y gwelliant.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd, a gaf i adleisio eich geiriau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, pwyllgor yr wyf yn eistedd arno, a dymuno'r gorau i Peredur Owen Griffiths? Rwy'n diolch hefyd i Lywodraeth Lafur Cymru a'u cyfeillion ym Mhlaid Cymru am gyflwyno'r gyllideb ddrafft heddiw fel dadl ac rwy'n cynnig ein gwelliant hefyd.
Fe hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad trwy amlinellu, ar y meinciau hyn, fel Ceidwadwyr, na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb fel y'i drafftiwyd o'n blaenau. Mae'n methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru, nid yw'n cyflawni mynd i'r afael â gwastraff nac yn darparu'r toriadau treth sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru. Yn syml, mae arnom ni eisiau cael ein heconomi ar ei thraed. Mater mwyaf dybryd y dydd yw ein heconomi, a'r ffaith nad yw mwy a mwy o bobl yn gweithio o dan Lafur, wedi'i symbylu gan benderfyniadau'r Llywodraeth Lafur hon a chan y Llywodraeth Lafur ym mhen arall yr M4. Mae ein heconomi yn methu, ac nid yw'r gyllideb hon yn gwneud dim i fynd i'r afael ag angen mor ddybryd.
Mae'r ystadegau ar y farchnad lafur a ryddhawyd heddiw yn tynnu sylw unwaith eto at y ffaith bod argyfwng diweithdra Llafur a'r Blaid yn dyfnhau. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn. Mae diweithdra yn cynyddu. Mae'n parhau i fod yr uchaf o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, ac anweithgarwch economaidd yw'r uchaf ym Mhrydain hefyd. Dyna pam, fel gwrthblaid gyfrifol, y bu inni estyn allan at y Prif Weinidog i amlinellu ein bod yn barod i wneud rhywbeth i weld a allwn ni helpu.
Roedd arnom ni eisiau cyflawni ein nodau Ceidwadol, cefnogi ein heconomi a blaenoriaethau pobl Cymru. Oherwydd ein bod ni'n gwybod, gyda'n gilydd, bod tua £600 miliwn o arian heb ei ddyrannu ar ôl ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, a dyna pam, i ddechrau, roedd arnom ni eisiau gweld a ellid defnyddio rhywfaint o hynny i gael gwared ar y dreth stamp yma yng Nghymru ar brif breswylfeydd. Mae angen cael gwared ar y dreth ddiangen hon. Byddai'n sbarduno ein heconomi ac yn cyflawni newid cadarnhaol i bobl yng Nghymru, gan eu cefnogi i gael rhywle y gallan nhw ei alw'n gartref.
Ond, wrth gwrs, nid dyma'r unig beth sydd ei angen arnom ni. Boed yn Llywodraeth Lafur Cymru ym Mae Caerdydd neu Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn San Steffan, mae gweithwyr, pensiynwyr, cynilwyr, busnesau a buddsoddwyr i gyd yn cael eu heffeithio, ac mae arnom ni eisiau cyllideb sy'n gweld toriadau treth i gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol i roi cyfle gwych iddyn nhw barhau. Mae arnom ni eisiau cyllideb sy'n gwneud i'n heconomi dyfu, fel bod gan deuluoedd fwy o arian yn eu pocedi, oherwydd ar y meinciau hyn rydym ni'n ymddiried mewn pobl i wario a rheoli eu harian eu hunain. Nid oes unrhyw beth newydd yn y gyllideb hon sy'n mynd i'r afael o ddifrif â'r pwysau costau byw y mae teuluoedd yn eu hwynebu.
Mae arnom ni eisiau cyllideb sy'n cefnogi ein ffermwyr sy'n gweithio'n ddiflino i fwydo'r genedl gan wynebu costau cynyddol ac ansicrwydd cynyddol, ac rydym yn sicr yn siomedig o weld nad yw Plaid Cymru wedi negodi yn benodol ar gyfer ffermwyr yn y cytundeb cyllideb hwn. Mae arnom ni eisiau cyllideb sy'n rhoi hwb i'n strydoedd mawr, yn diogelu swyddi lleol ac yn sicrhau bod canol ein trefi yn gallu ffynnu unwaith eto yn hytrach na dim ond goroesi. Mae llawer gormod o rwystrau i fusnesau dyfu yng Nghymru oherwydd agenda gwrth-fusnes, gwrth-dwf sy'n cael ei dilyn gan y ddwy Lywodraeth Lafur, ac fe welsom ni hyn yng nghyllideb hydref Llafur y Deyrnas Unedig ac rydym yn ei weld nawr yng nghyllideb ddrafft Llafur a Phlaid yma yng Nghymru. Mae'n amlwg nad yw busnesau yn ymddiried yn y pleidiau hyn gyda'r economi.
Nid yw Llafur a Phlaid yn deall anghenion busnes ac yn methu â sylweddoli bod ffyniant cynaliadwy, hirdymor yn dod o fusnesau, busnesau sy'n buddsoddi, ehangu a chyflogi pobl. [Torri ar draws.] Dydyn nhw ddim yn hoffi ei glywed. Dydyn nhw ddim yn hoffi clywed pwysigrwydd busnesau yma yng Nghymru. Dydyn nhw ddim yn credu bod cymdeithas gref wedi'i hadeiladu ar economi gref. Yr ysgolion rydym ni'n eu gwerthfawrogi, y ffyrdd rydym ni'n gyrru arnyn nhw, ac wrth gwrs ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ni ellir ariannu unrhyw un o'r rhain gan fwriadau da yn unig. Maen nhw'n cael eu hariannu gan y derbyniadau treth a gynhyrchir gan fentrau preifat proffidiol, ffyniannus ac nid yw'r gyllideb hon yn gwneud unrhyw beth newydd i sicrhau eu dyfodol.
Fel plaid, wrth gwrs, rydym ni wedi ymrwymo i gyfrifoldeb ariannol. Ni allwn ni anwybyddu'r symiau enfawr—[Torri ar draws.]—ni allwn ni anwybyddu'r symiau enfawr o arian y mae'r Llywodraeth hon ochr yn ochr â'u cyfeillion ym Mhlaid Cymru yn parhau i fod yn fodlon eu gwastraffu. Credwn y dylid gwario arian trethdalwyr Cymru ar faterion datganoledig, pethau sy'n gyfrifoldeb clir i'r Senedd hon. Nid ydym yn credu y dylid gwario arian trethdalwyr Cymru ar bethau nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â chyfrifoldebau'r lle hwn, fel llysgenadaethau tramor, plannu'r coed hynny yn Uganda neu ganŵs efo paneli solar yn Ne America. Yn hytrach, dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ei hadnoddau ar flaenoriaethau pobl Cymru.
Mae ar bobl Cymru eisiau ac maen nhw'n haeddu cyllideb gan Lywodraeth Cymru sy'n gwneud i'n heconomi weithio—[Torri ar draws.]—un sy'n sbarduno twf, yn cefnogi creu swyddi, ac yn rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl, oherwydd heb economi sy'n tyfu, ni all fod unrhyw wasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, dim safonau byw cynyddol, a dim cyfleoedd go iawn i deuluoedd wella eu hunain.
Hefyd, mae pobl yng Nghymru eisiau cyllideb sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â'r sefyllfa warthus Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru: y rhestrau aros Gwasanaeth Iechyd Gwladol hiraf yn y Deyrnas Unedig. Rydych chi bron i 500 gwaith yn fwy tebygol o aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth yng Nghymru nag os ydych chi'n byw dros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n gywilydd cenedlaethol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau mynd i'r afael â'r problemau systemig o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae angen targedu buddsoddiad yn briodol oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw arian sy'n cael ei roi i fyrddau iechyd heb y gefnogaeth neu oruchwyliaeth gywir yn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar gleifion.
Ond wrth gwrs, nid ydym yn mynd i weld y gwelliant hwn os byddwn yn parhau gyda mwy o'r un peth. Unwaith eto, fel rydym ni wedi gweld sawl gwaith dros y 26 mlynedd diwethaf, mae Plaid Cymru a Llafur yn dod at ei gilydd ac yn parhau i siomi pobl Cymru. Mae chwe mlynedd ar hugain o bolisïau sosialaidd o dan Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi arwain at Gymru sydd â'r diweithdra uchaf, y rhestrau aros hiraf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol—[Torri ar draws.]—ydych chi'n mynd i wadu hyn?—y diweithdra uchaf, y rhestrau aros hiraf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n gwbl warthus.
Y broblem yn y fan yma yw y gallai Plaid Cymru fod wedi negodi am newid go iawn sydd o fudd i bobl Cymru, ond yn hytrach na thrafod, maen nhw wedi ildio'n llwyr. Ond fel y gwyddom ni, mae Plaid a Llafur fel dau ben ceffyl pantomeim, gan adael pobl Cymru i benderfynu pa un yw'r pen ôl. Mae methiannau Llafur yn fethiannau Plaid Cymru, a phleidlais i Lafur yn bleidlais i Blaid Cymru, ac mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais i Lafur.
Ond mae gobaith—mae gobaith. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod bod y gyllideb hon yn methu â chyflawni'r toriadau treth hynny, yn methu â lleihau gwastraff ac yn methu â sbarduno ein heconomi. Mae gan bobl Cymru gyfle i gael gwared ar sosialaeth fethedig Llafur a Phlaid Cymru a chefnogi ein cynllun ni, Y Ceidwadwyr Cymreig, i dorri treth, torri gwastraff a sbarduno ein heconomi. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chyllideb sy'n gallu codi Cymru, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein gwelliant yma heddiw.
Mae'n edrych fel bod rhywun yn paratoi i chwarae'r dihiryn mewn pantomeim yn y fan yna. Mae hon i fod yn ddadl ddifrifol, a byddaf yn trafod y pwnc o ddifrif, oherwydd pan gyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet y gyllideb hon gyntaf ym mis Gorffennaf eleni, honnodd y byddai'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'n hetholwyr. Fodd bynnag, fel y mae'r broses graffu wedi amlygu, nid yw hyn wedi bod yn wir.
Fel y nodwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o fewn ychydig ddyddiau i'w gyhoeddi, roedd cynlluniau gwariant cychwynnol yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynrychioli sefyllfa o gryn risg i lywodraeth leol, gan fygwth miloedd o golledion swyddi, codiadau syfrdanol o dros 22 y cant yn y dreth gyngor, a'r posibilrwydd real iawn o fethdaliad i rai o'n cynghorau. Byddai hefyd wedi cynrychioli cynnydd termau real hanesyddol isel i'r gyllideb iechyd, ar adeg pan mae'r system iechyd yn diffygio o dan bwysau galw cynyddol a chamreoli parhaol y blaid Lafur.
Yn fyr, felly, roedd hon yn gyllideb a fyddai, pe cai ei gadael heb ei diwygio, wedi bod yn drychinebus i Gymru. Mae hefyd yn anffodus iawn, fel y cyfeiriodd sefydliadau fel Canolfan Llywodraethiant Cymru, bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi portreadu'r arian heb ei ddyrannu i ddechrau fel rhyw fath o gronfa gychwyn i'r Llywodraeth nesaf ei wario fel y gwelai'n dda. Y gwir yw, fel rwy'n amau ei fod yn gwybod trwy'r amser, o ystyried y straen ar ein gwasanaethau cyhoeddus, roedd yn rhaid dyrannu'r cyllid refeniw sy'n weddill. Byddai peidio â gwneud hynny wedi creu niwed gwirioneddol.
Ond roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn iawn am un peth, mai cyfrifoldeb y Senedd gyfan yw sicrhau bod cyllideb yn cael ei phasio'n llwyddiannus. Rydym ni i gyd wedi cytuno dros y misoedd diwethaf bod angen i ni ganfod ffordd i basio'r gyllideb, a dyna'n union beth rydym ni wedi'i wneud. Gadewch i ni fod yn glir yma: ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r gyllideb; byddwn yn ymatal i ganiatáu iddi basio.
Gwrandawais yn ofalus iawn ar sylwadau Sam Rowlands ar hyn o bryd a'i gamddehongliad, bwriadol, o'r cytundeb y daethpwyd iddo er mwyn pasio'r gyllideb, yn union fel y gwrandawais ar sylwadau Darren Millar yn gynharach, a oedd hefyd yn gamddehongliad. Mewn modd nodweddiadol, mae'r Torïaid unwaith eto wedi datgelu eu hunain fel chwaraewyr hollol di-brofiad. Yn hytrach na chyflwyno cynlluniau credadwy, fe glywsom ni am yr holl bethau y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi eu gweld yn y gyllideb, ond nid oedden nhw ar eich rhestr. Rydych chi wedi troi at eich hoff arfer o ymddiddori mewn economeg ffantasi, o doriadau gwariant heb eu costio wedi'u codi'n syth o lyfr chwarae Liz Truss. Nid yw'n syndod bod pleidleiswyr Torïaidd yng Nghymru yn frîd prin y dyddiau hyn a pham mae cymaint o'ch cyn-Aelodau bellach yn ceisio ail-frandio eu hunain fel bod ganddyn nhw swydd ar ôl mis Mai nesaf fel Aelodau Reform.
Felly, gadewch i mi fod yn glir. Mae'r gyllideb ddrafft, hyd yn oed ar ôl cytundeb gyda Phlaid Cymru ar yr arian heb ei ddyrannu o'r blaen, yn parhau i fod yn gyllideb Lafur, ac nid dyma'r gyllideb y byddai Llywodraeth Plaid Cymru wedi'i chyflwyno. Nid ydym yn cytuno â sut yr aethpwyd ati, ac rydym ni wedi sylwi yn fwy na dim ar y diffyg uchelgais a gweledigaeth a ddangoswyd gan y Llywodraeth Lafur wrth gynnig dim mwy na chyllideb busnes fel arfer cyn mynd at yr etholwyr mewn ychydig fisoedd yn unig. Mae'r sefyllfa y cawsom ni ein rhoi ynddi fel Senedd, a'r ansefydlogrwydd a grëwyd gan y gyllideb ddrafft, mewn gwirionedd yn rhoi'r argraff bod Llafur, ar ôl 26 mlynedd yn y llyw, yn hesb o syniadau ac wedi blino ar lywodraethu. Mewn gwirionedd, mae gan y gyllideb nodweddion gwaddol Llafur o ddirywiad wedi'i reoli, atebion cyflym arwynebol wedi'u blaenoriaethu dros atebion hirdymor cynaliadwy, pwyslais annigonol ar ymagwedd ataliol at wariant cyhoeddus, a diffyg radicaliaeth amlwg i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn sy'n effeithio ar ein system iechyd, ein heconomi a'n hysgolion.
Pe na bai cytundeb wedi bod, pwy fyddai wedi dioddef? Y bobl sydd wedi ein hethol i'w cynrychioli a'r gwasanaethau y maen nhw'n poeni amdanyn nhw, a dyna pam y penderfynodd Plaid Cymru dderbyn y cynnig i drafod y gyllideb. Felly, beth wnaethom ni sicrhau trwy'r trafodaethau hynny yn gyfnewid am ymatal ar y gyllideb? Cynnydd o 4.5 y cant ar gyfartaledd i awdurdodau lleol, gyda neb yn derbyn llai na 4.1 y cant, a fydd yn gwarchod miloedd o swyddi, yn ogystal â sicrhau bod aelwyd gyfartalog yng Nghymru o leiaf £260 yn well ei byd y flwyddyn nesaf. Mae ein system iechyd werthfawr hefyd wedi cael hwb gan £180 miliwn ychwanegol, gan roi cymorth mawr ei angen cyn yr hyn sy'n debygol o fod yn flwyddyn heriol arall. A £120 miliwn o gyllid cyfalaf heb ei ddyrannu ac yn barod ar gyfer y Llywodraeth nesaf, sydd, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y bydd yn Llywodraeth Plaid Cymru, i'w wario ar ei blaenoriaethau, fel yr amlinellwyd i etholwyr Cymru dros y misoedd nesaf.
Nid Plaid Cymru yn cefnogi Llafur yw hyn. Dyma Blaid Cymru yn paratoi i lywodraethu a gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael y sefydlogrwydd sydd ei angen arnyn nhw yn y cyfnod cyn yr etholiad. Mae'n ymwneud â rhoi lle blaenllaw i bobl a'n cymunedau yn ein gwaith yma yn y Senedd a bod yn aeddfed ac yn gyfrifol yn ein gwleidyddiaeth. Os cawn ni'r fraint o arwain y Llywodraeth nesaf, rwy'n addo hyn heddiw: byddwn yn cyflwyno cyllideb llawer mwy uchelgeisiol o fewn 100 diwrnod cyntaf tymor nesaf y Senedd, gan lunio dyfodol beiddgar, newydd i'n cenedl. Byddwn hefyd bob amser yn sefyll dros y Senedd hon i gael yr adnoddau a'r rheolaeth dros yr adnoddau sydd eu hangen i wasanaethu pobl Cymru yn well ym mhob cornel o Gymru. Yn wahanol i'r Prif Weinidog, ni fyddwn yn fodlon cael hyd yn oed ceiniog yn llai nag y mae'n ddyledus i bobl Cymru o San Steffan, ac mae hynny, hefyd, yn addewid rwy'n ei wneud i bobl Cymru heddiw.
Rwy'n falch bod y cyllid a gafodd ei ddal yn ôl ar gyfer trafod yn y gyllideb interim wedi mynd at wasanaethau cyhoeddus, a ddarperir drwy awdurdodau lleol ac iechyd, sy'n cynrychioli £290 miliwn ychwanegol o gyllid. Ni allwn i fod wedi pleidleisio dros gyllideb o gyni a gweld y gwasanaethau beunyddiol sy'n bwysig i bawb yn diffygio, neu i fod wedi gweld diswyddiadau torfol.
Rwy'n credu mai oherwydd y toriadau hynny dros y blynyddoedd rydym ni wedi gweld cynnydd mewn anfodlonrwydd o fewn ein cymunedau a'n pleidleisiau dros Reform, sydd, ynghyd â'r Ceidwadwyr, eisiau gweld mwy o doriadau i les a gwasanaethau cyhoeddus, felly rydym ni'n parhau â'r cylch o amddifadedd ac anfodlonrwydd. Mewn llawer o ardaloedd, gwasanaethau cyhoeddus yw'r cyflogwr mwyaf, boed hynny trwy'r cynghorau neu drwy iechyd. Mae Betsi Cadwaladr yn cyflogi tua 19,000 o bobl yng ngogledd Cymru ac mae cynghorau'n cyflogi rhwng 5,500 ac 8,000 o bobl, yn dibynnu ar faint y boblogaeth. Mae angen i ni hefyd fuddsoddi yn yr economi sylfaenol. Os oes arnom ni eisiau gofal plant, mae angen i ni fuddsoddi mewn swyddi gweddus, â chyflog da ym maes gofal, gyda llwybrau gyrfa. Er mwyn adeiladu cartrefi, mae angen i ni sicrhau bod gennym ni gynllunwyr, mae angen arbenigwyr draenio. Mae llawer o'r rhain eisoes wedi'u colli i gwmnïau preifat sy'n gallu talu mwy, ond mae angen i ni eu cadw yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Dechreuodd fy nhaith i wleidyddiaeth oherwydd roedd arnaf i eisiau gwella'r gymuned leol roeddwn i'n byw ynddi. Roedd arnaf i eisiau gwella'r ardal chwarae—rwy'n edrych at Rhys, oherwydd mae ganddo ddadl ar hyn yfory. Roedd arnom ni eisiau hysbysfwrdd pentref, croesfan i gerddwyr, bws a therfyn cyflymder o 40 milltir yr awr i lawr y ffordd. Ond mae'r rhain i gyd yn gofyn am botiau bach o gyllid; maen nhw'n wirioneddol bwysig i gymunedau, i gymunedau cryf. Ddwy flynedd ar ôl dod yn gynghorydd sir, dechreuodd cyni. Yna fe gawsom ni flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn—14 gwaith 'ar ôl blwyddyn'—o gyni. Roedd ailstrwythuro, ad-drefnu, swyddi yn cael eu dileu pan ddaethon nhw'n wag— aeth nid yn unig gwasanaethau rheng flaen, ond aeth cyfarwyddwyr ac fe'u disodlwyd gan ychydig o brif swyddogion. Fe wnaethon ni golli arbenigedd wrth i bobl gymryd diswyddiad cynnar neu fynd i gyflogaeth fwy proffidiol.
Roeddem yn falch mai ni oedd y cyngor cyntaf mewn cenhedlaeth i adeiladu tai cyngor, ond i wneud hynny, oedd, roedd yn rhaid i ni werthu asedau'r cyngor, fel ffermydd tenantiaid a thyddynod. Roedd yn ofnadwy. Roedd yn ddinistriol. Roeddwn i'n arfer brwydro am arian i atgyweirio ffyrdd, ond roedd y gyllideb honno yn dynn. Felly, ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwy'n parhau i lobïo am gyllid ar gyfer priffyrdd. Rwy'n falch bod y rhwydwaith ffyrdd lleol—. Ac rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi gallu parhau â'r refeniw i dalu cost benthyca yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, fel y gallwn ni barhau i drwsio tyllau, y mae'r Prif Weinidog yn parhau i grybwyll, a gwneud atgyweiriadau priodol a gwelliannau isadeiledd.
Ymunais â'r Blaid Lafur i ymladd yn erbyn cyni. Rwy'n falch bod fy mhlaid unwaith eto wedi canfod partner i basio cyllideb sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Y llynedd, Jane Dodds oedd hi, ac rwy'n falch bod yr holl geisiadau ardderchog a wnaeth y llynedd, megis y cyllid ar gyfer chwarae, y tocyn bws o £1 ac arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill, eisoes yn y gyllideb hon a byddant yn parhau y flwyddyn nesaf. Mae eich gwaddol yn parhau, Jane.
Rydym ni newydd basio'r Bil bysiau, ac mae £800 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn trenau newydd, a welodd gynnydd o 25 y cant mewn teithwyr, ond mae angen i ni weld buddsoddiad mewn bysiau yn y dyfodol. Mae angen yr arian cyhoeddus hwnnw arnom ni i wneud hynny.
Mae'r Ceidwadwyr a Reform yn anghywir i gredu bod mwy o arbedion i'w gwneud. Mae wedi cael ei wneud dros y 14 mlynedd hynny o gyni. Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf yn aml wedi cael fy syfrdanu gan y cwestiynau a'r rhagrith sy'n galw am fwy o arian i fynd i'r afael â materion iechyd, tai, addysg a thlodi, ond maen nhw eisiau torri cyllid lles a gwasanaethau cyhoeddus ymhellach. Nid yw'n gwneud synnwyr. Allwch chi ddim gwneud y ddau. Bydd y cytundeb cyllideb hwn o fudd i bawb sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, a'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n gweithio ynddyn nhw hefyd. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr. Peter Fox.
Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ddechrau trwy ddweud bod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gyllideb ddrafft yn ymwneud â'r dogfennau cyllideb a gyhoeddwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd eleni. Fel rhan o'r setliad drafft, roedd y gwasanaeth iechyd yn wynebu cynnydd o oddeutu dim ond 2 y cant ar gyfer chwyddiant a chyflogau'r sector cyhoeddus. Byddai hyn wedi bod yn gyfystyr â chynnydd termau real o tua 0.5 y cant yn unig, unwaith y byddai chwyddiant yn cael ei gyfrif, a fyddai wedi bod yn hanesyddol isel o ran cyllid i'r Gwasanaeth Iechyd.
Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd y sefyllfa hon fel un 'eithriadol o heriol' ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a dywedodd wrthym ni y byddai'n hanfodol i'r prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau cyllid pellach fel rhan o'r gyllideb derfynol er mwyn i'r gwasanaeth iechyd gyflawni ei swyddogaethau—sefyllfa dorcalonus, roedden ni'n teimlo. Dyma'r rheswm roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n angenrheidiol gwneud argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant iechyd a gofal cymdeithasol yn y gyllideb derfynol.
Fodd bynnag, fel y soniwyd eisoes, ar 9 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru i ddarparu'r cyllid ychwanegol o £180 miliwn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a £112.8 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Er nad ydym ni wedi cael y cyfle fel pwyllgor i ystyried y cyhoeddiad, rwy'n siŵr y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gynnydd i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol y bydd croeso mawr iddo.
Yn y gyllideb hon, fel gyda blynyddoedd blaenorol, mae'r pwyllgor wedi bod yn awyddus i ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn dangos newid sylweddol yng ngwariant yn y dyfodol tuag at atal fel modd o hyrwyddo iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. Rydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig mewn perthynas ag amseroedd aros, pwysau'r gweithlu ac ystad sy'n heneiddio. Ond mae'n hanfodol cydbwyso'r gofynion tymor byr hyn â thrawsnewid tymor hwy, ac i wneud yn siŵr na chollir buddsoddiad tymor hwy mewn atal wrth wneud penderfyniadau tymor byr. Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ynghylch gwariant ataliol, yn enwedig ynghylch atebolrwydd a mesur effaith, ac edrychwn ymlaen at ystyried ei ymateb.
Mewn perthynas ag iechyd meddwl, mae hwn yn faes y mae'r pwyllgor wedi'i ystyried o'r blaen, ac felly roeddem yn falch o groesawu'r amddiffyniad parhaus o gyllid wedi ei glustnodi, yn ogystal â thystiolaeth y Gweinidog ei bod yn disgwyl i'r dyraniad o £840 miliwn gynyddu. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo y dylai'r cyllid a glustnodwyd yn y maes hwn gynnwys cyfres o ganlyniadau mesuradwy wedi'u diffinio'n glir, yn enwedig yng ngoleuni pwyslais Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar i leihau dibyniaeth ar wasanaethau acíwt ac argyfwng. Mae argymhelliad 7 yn ein hadroddiad yn ymwneud â hyn.
Mae'r gost o redeg ystad a seilwaith Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n heneiddio yn parhau i gynyddu, ac mae sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu penderfyniadau anodd o ran cydbwyso costau cynnal a chadw a gwaith atgyweirio parhaus gyda'r angen i fuddsoddi mewn cyfleusterau gwell a darpariaeth ddigidol. Rydym ni wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ganfyddiadau'r arolwg gwytnwch i ystad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd i'w gyhoeddi cyn bo hir, a darparu manylion am unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd o ganlyniad i'r canfyddiadau hynny. Yn fwy eang, mae graddfa'r gwaith cynnal a chadw ystadau sydd wedi pentyrru yn gofyn am raglen glir, strategaeth gyfalaf hirdymor, ond o ystyried yr agosrwydd at etholiad nesaf y Senedd, bydd hyn yn fater i Lywodraeth Cymru y dyfodol.
Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll yn fyr dau faes pwysig iawn arall yn ein hadroddiad: cymorth ariannol i ofalwyr di-dâl a chyllid ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes a gofal lliniarol. Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol wrth ofalu am a chefnogi cyfeillion a theulu. Maen nhw'n gweithredu o gariad at y rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Fel y gwyddom ni i gyd, heb eu hymroddiad, byddai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu llethu. Mae mor bwysig, felly, bod gofalwyr eu hunain yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i barhau â'u gwaith gofalu. Fel rhan o'n hymchwiliad cyfredol, rydym ni wedi bod yn clywed yn uniongyrchol gan ofalwyr di-dâl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau. Maen nhw'n erfyn am fwy o gefnogaeth, ac rydym ni eisoes yn gwybod bod y galw am y ddau gynllun sydd ar waith i gefnogi gofalwyr di-dâl—y gronfa cymorth i ofalwyr a'r cynllun seibiant byr—yn parhau i fod yn fwy na'r cyflenwad. Credwn fod achos cryf dros fwy o fuddsoddiad cynaliadwy mewn gofal seibiant, ac rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ceisio cyllid ychwanegol ar gyfer hyn yn y gyllideb derfynol.
Mae pryderon real a pharhaus iawn gan y sector hosbis a gofal lliniarol am bwysau ariannol a chynaliadwyedd hirdymor. Rydym yn gwybod bod gwaith ar y gweill ar ddull comisiynu newydd i ddarparu amgylchedd cyllido mwy sefydlog ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes, ond mae cryn waith cyn cwblhau hyn. Credwn fod achos cryf dros gyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn, ac rydym yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i ddadlau dros hyn yn ei drafodaethau ar y gyllideb derfynol. Diolch, Llywydd.
Delyth Jewell nawr, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Diolch, Llywydd. Mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder ers blynyddoedd ynghylch sefyllfa diwylliant a chwaraeon o ran ariannu. Cyn craffu ar y gyllideb ddrafft eleni, fe wnaethom ni gynnal sesiynau tystiolaeth gyda'r prif sefydliadau diwylliant a chwaraeon sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Y dystiolaeth a glywsom oedd bod diwylliant a chwaraeon yn ei chael hi'n anodd yn dilyn degawd o doriadau mewn termau real, yn ystod cyfnod pan maen nhw wedi gwrthsefyll siociau allanol yn barod fel y pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw.
Ac eto, yn y gyllideb ddrafft eleni, yn gyffredinol, mae cyllid refeniw ar gyfer y meysydd wedi cynyddu 1.9 y cant. Mae mwyafrif y cynnydd hwn yn ganlyniad i gynnydd o 20 y cant mewn refeniw i Cymru Greadigol. Felly, mae'r cynnydd ar gyfer y meysydd eraill sy'n cael eu hystyried i gyd yn is na'r cynnydd refeniw cyfartalog ar draws cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn wynebu toriadau mewn termau real. Nid yw'r cynnydd bychan hwn mewn refeniw, gyda rhai’n is na’r rhagolygon chwyddiant, yn gwneud fawr ddim i wneud yn iawn am y tanariannu hirdymor ym maes diwylliant a chwaraeon gan un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru. Cyflwynir y gyllideb eleni fel cyllideb ‘busnes fel arfer’, ond mae busnes fel arfer ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn gyfystyr â rhagor o’r un peth.
Ym mis Mehefin eleni, daeth Cymru y genedl Marmot gyntaf, gan fabwysiadu wyth egwyddor yr arbenigwr iechyd cyhoeddus Syr Michael Marmot, sydd â'r nod o geisio dileu gwahaniaethau annheg y gellid eu hosgoi ym maes iechyd. Mae ein pwyllgor wedi gofyn ers tro i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'r nod o atal gwariant yn y dyfodol wedi dylanwadu ar ei phenderfyniadau cyllidebol. Rydyn ni wedi croesawu hyn am Marmot, ond nid ydym ni eto wedi cael ateb eglur sy'n ein sicrhau bod gan y Llywodraeth ddull strategol o ymdrin â'r mater hwn.
Mae gostyngiad mewn termau real yng nghyllid refeniw Chwaraeon Cymru yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynyddu buddsoddiad mewn chwaraeon i gydnabod ei rôl wrth atal afiechyd. Er mwyn bod yn ystyrlon, dylai penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod yn genedl Marmot, sydd yn beth rydyn ni wedi’i groesawu, gael ei adlewyrchu ar ffurf y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau'n wahanol. Rydym ni wedi croesawu bod y Gweinidog wedi dweud bod cyfle i newid y sefyllfa rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, yn ogystal â dyheadau’r Llywodraeth i gynyddu cyllid yn y meysydd hyn. O ystyried y diffyg hirdymor yng nghyllido’r meysydd hyn, mae’n rhaid sicrhau bod newid yn dechrau heddiw.
O ran cysylltiadau rhyngwladol, rydym ni wedi cael ein siomi bod y Prif Weinidog, unwaith eto, wedi gwrthod ein gwahoddiad i roi tystiolaeth ar lafar. Mae'r Prif Weinidog wedi dilyn dull ei rhagflaenwyr o beidio ag ymddangos yn bersonol, er inni fel pwyllgor nodi fwy nag unwaith yn ein hadroddiadau blaenorol ar y gyllideb ddrafft fod gennym bryderon difrifol ynglŷn â hynny. Mae'r Prif Weinidog yn atebol i'r Senedd am gysylltiadau rhyngwladol Cymru. Ein safbwynt o hyd yw mai mater i'r Senedd, nid Llywodraeth Cymru, yw penderfynu sut y dylid gwneud gwaith craffu o'r fath.
O ran y Gymraeg, tynnodd ein sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Cabinet sylw at benderfyniad i ddefnyddio cyllid ychwanegol i flaenoriaethu gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae hynny'n golygu, er gwaethaf y cynnydd yn BEL y Gymraeg, y bydd sefydliadau partner sy'n cael eu hariannu drwy'r grant yn debygol o gael cynnydd o lai na 2 y cant. Mae gwaith yr athrofa yn amlwg yn bwysig. Dŷn ni'n cytuno y dylai gweithredu'r Ddeddf fod yn flaenoriaeth hefyd. Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu nad yw'r penderfyniad hwn i flaenoriaethu cyllid i un elfen o'r Ddeddf yn adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol gwaith a gweithgareddau partneriaid eraill, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cefnogi amcanion y Ddeddf.
Yn ein barn ni, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu'r cynnydd sylfaenol o 2 y cant i sefydliadau partner, gyda gofynion cyllido i weithredu'r Ddeddf yn cael eu bodloni drwy ddulliau eraill. Mae'n siŵr bod yr holl sefydliadau partner yn gwbl gefnogol o nodau'r Ddeddf, ond yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod ar draul eu gwaith nhw a’u cynaliadwyedd nhw yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Buffy Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd nesaf. Buffy Williams.
Diolch, Llywydd. Gorffennodd waith craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel pob pwyllgor arall yn y Senedd, cyn cyhoeddi cytundeb y gyllideb yr wythnos diwethaf. Felly, mae ein sylwadau a'n harsylwadau wedi'u cyfyngu i'r gyllideb ddrafft, fel y'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Yn yr hyn sydd, yn anffodus, wedi dod yn draddodiad yn y ddadl hon, byddaf yn dechrau trwy dynnu sylw at y ffaith bod mwyafrif y pwyllgor yn parhau i fod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu asesiad effaith ar hawliau plant fel rhan o broses y gyllideb. Dyma'r ddeuddegfed flwyddyn yn olynol nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn. Ond mae cynllun hawliau plant Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud mai asesiad o'r fath yw'r ffordd y maen nhw'n dangos cydymffurfiaeth â'u dyletswydd ddeddfwriaethol i roi sylw priodol i hawliau plant.
Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr offeryn asesu effaith integredig strategol. Ni allwn ni wneud sylwadau ar effeithiolrwydd ehangach yr offeryn hwn, ond fe wyddom ni nad yw'n dangos i ni ar ba sail y penderfynwyd ar wariant ar blant. Eleni, mae'r offeryn asesu effaith integredig strategol yn addo targedu rhai meysydd ymhellach, gan gynnwys hawliau plant. Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd y canfyddiadau hyn yn cael eu rhannu gyda'r Senedd ehangach. Ac yn hollbwysig, mae'n dod yn rhy hwyr ar gyfer ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft. Felly, rydym ni wedi argymell bod y canlyniadau yn cael eu rhannu â'r Senedd cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na chyn cyhoeddi'r gyllideb derfynol.
Rydym ni hefyd yn argymell bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cynhyrchu a chyhoeddi asesiad effaith ar hawliau plant ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf. Rwy'n gobeithio na fydd unrhyw bwyllgor olynol yn gwneud yr un argymhellion ag yr ydym ni a'n pwyllgor rhagflaenol wedi bod yn eu gwneud ers dros ddegawd. Rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i dorri'r cylch hwn.
Mae'r heriau rydym ni'n eu hwynebu wrth graffu ar agweddau iechyd a gofal cymdeithasol y gyllideb yn cael eu gwaethygu oherwydd nad oes gennym ni asesiad effaith ar hawliau plant. Gan nad yw'r rhan fwyaf o'r gwariant yn y prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i ddadansoddi, rydym ni'n cael trafferth deall beth sy'n cael ei wario ar blant a phobl ifanc. Ni allwn ni olrhain cynnydd, canlyniadau na gwerth am arian. Ni allwn ni ddeall sut mae penderfyniadau cyllidebol yn blaenoriaethu hawliau plant a phobl ifanc i fwynhau iechyd da a gofal cymdeithasol.
Gan droi nawr at addysg, fe glywsom ni'n glir gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg y dylid blaenoriaethu cyllid craidd ychwanegol ar gyfer ysgolion. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r materion sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydym ni'n gobeithio bod y gyllideb derfynol yn ystyried y pwysau hyn ar gyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae angen ariannu ysgolion fel y gallan nhw barhau i ddatgloi potensial pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru.
Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw at bryderon am gyllid ôl-16. Rhaid sicrhau buddsoddiad i gyfateb i'r nifer cynyddol o ddysgwyr sy'n mynd i'r coleg. Does arnom ni ddim eisiau i bobl ifanc gael eu gwrthod neu eu rhoi ar restrau aros ar gyfer cyrsiau a allai newid bywydau oherwydd diffyg capasiti. Rydym ni wedi ysgrifennu at Medr ar wahân ar y mater pwysig hwn, a byddwn yn parhau i gadw golwg arno yn nhymor olaf y Senedd. Diolch.
Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn eithaf byr a bachog. Ysgrifennydd Cabinet, fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy sylwadau byr y prynhawn yma ar yr heriau o fewn addysg uwch yma yng Nghymru. Mae diffyg cyfunol ein sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru yn swm o £77 miliwn. Fe hoffwn i wybod pam nad yw hyn wedi'i adlewyrchu yn y trafodaethau cyllidebol, oherwydd, yn fy marn i, trwy beidio ag ymdrin â'r her ddifrifol nawr, onid ydych chi'n gohirio penderfyniadau anoddach ar gyfer y Llywodraeth nesaf sy'n ffurfio yn 2026? Diolch.
Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am gael cyfrannu yn fy rôl i fel Cadeirydd. Mae'r pwyllgor wedi gwneud 38 o argymhellion, ac fe wnaf i ganolbwyntio ar gwpwl o'r materion yna y prynhawn yma, gan gychwyn gyda newid hinsawdd.
Nawr, rŷn ni yn falch, fel pwyllgor, fod y Llywodraeth wedi cydnabod yr angen am fwy o gyllid ar gyfer gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Er hyn, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrthym ni na fyddai cyllid cyhoeddus yn unig yn ddigon, a bod angen denu mwy o fuddsoddiad preifat—rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor yn ei gydnabod, wrth gwrs. Ond fel pwyllgor, wedyn, rŷn ni yn awyddus i wybod pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer sicrhau mwy o gyllid i gynyddu’r gwaith o addasu i’r hinsawdd, yn enwedig drwy y buddsoddiadau preifat yma, a sut mae'r cynlluniau hynny yn cyd-fynd, wedyn, â'r egwyddorion buddsoddi cynaliadwy y mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio arnyn nhw.
Mae hefyd angen cynnydd mewn buddsoddiad mewn natur, wrth gwrs. Mae ein hadroddiad diweddar ni ar atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 yn gwneud nifer o argymhellion ar fuddsoddi mewn natur, ac mae’r gyllideb nesaf yma yn gyfle perffaith i fwrw ymlaen â’r gwaith yn y maes yma cyn y flwyddyn darged 2030. Mae’n siomedig, felly, fod y dyraniad adnoddau ar gyfer bioamrywiaeth a thystiolaeth wedi gostwng 3.9 y cant, o £11.53 miliwn i £11.07 miliwn, tra bod y dyraniad cyfalaf wedi gostwng 8 y cant, o £12.5 miliwn i £11.5 miliwn. Nawr, o ystyried ei fod yn debygol na fydd y targed 30x30 yn cael ei gyrraedd, ac o ystyried hefyd ein bod ni mewn argyfwng natur, mi ddylai’r Llywodraeth fod yn trio, beth bynnag, cynyddu dyraniadau ar gyfer bioamrywiaeth, nid eu lleihau. Yng ngeiriau’r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, mae angen inni wneud mwy i gynyddu buddsoddiad mewn adfer natur.
Mae’r gronfa Rhwydweithiau Natur wedi ei gordanysgrifio, sydd wrth gwrs yn dystiolaeth bod angen cynyddu cyllid. Mae yna fylchau capasiti a sgiliau yn y sector ecoleg hefyd. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn honni bod buddsoddiad helaeth yn y maes yma, ond rŷn ni fel pwyllgor yn pryderu bod hwn yn dameidiog a bod angen i’r Llywodraeth ddatblygu dull mwy strategol o ddatblygu sgiliau ecolegol. Mae'r Senedd, fel rŷn ni'n gwybod, wedi datgan argyfwng natur, ac mae'n rhaid inni fynd ati, felly, o ddifri, onid oes e, i daclo yr argyfwng hwnnw.
Nawr, gan symud ymlaen at drafnidiaeth, sydd yn elfen arall, wrth gwrs, o waith craffu y pwyllgor, pan ofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet a oes ymrwymiadau mewn perygl yn ystod 2026-27, fe ddywedodd bod bygythiad i wasanaethau bysiau, fel TrawsCymru a Fflecsi. Fe nododd hefyd gyllid llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau bysiau fel pryder arbennig. Ac wrth drafod blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth yn y dyfodol, fe ddywedodd y bydd yn rhaid cael cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i foderneiddio fflyd fysiau Cymru. Yng ngeiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, 'y fflyd fysiau hynaf yn y Deyrnas Unedig', fel y mae hi ar hyn o bryd.
Nawr, mae’r sylwadau yma yn achosi pryder i ni, yn arbennig o ystyried y dystiolaeth a dderbynion ni yn ystod Cyfnod 1 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a barn rhanddeiliaid bod lefelau cyllido yn risg i gyflawni masnachfreinio. Nawr, rŷn ni'n gweld tebygrwydd fan hyn i'r twf sylweddol mewn gwariant refeniw ar reilffyrdd sydd wedi bod yn ofynnol ers i Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ddechrau gweithredu gwasanaethau. Yn naturiol, felly, rŷn ni yn cwestiynu a fydd buddsoddiad tebyg mewn masnachfreinio bysiau ar y gweill. Mae dros £400 miliwn o gyllid refeniw wedi ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd, a buon ni'n trafod y lefel uchel o gymhorthdal ar gyfer rheilffyrdd, yn arbennig y bwlch yna sy'n bodoli rhwng refeniw prisiau a chostau gweithredu.
Fel rŷn ni'n gwybod, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddar wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau trenau rheoledig yn Lloegr yn cael eu rhewi yn y flwyddyn sydd i ddod. Nawr, dyw’r Cabinet ddim wedi penderfynu a ydyn nhw am wneud yr un peth yma yng Nghymru eto, ond unwaith mae penderfyniad wedi ei wneud, rŷn ni yn awyddus i wybod, wrth gwrs, beth fyddai goblygiadau refeniw hynny o safbwynt y gyllideb. Rŷn ni hefyd yn awyddus i wybod, yn arbennig wrth inni baratoi at ddiwygio bysiau, sut y mae goblygiadau refeniw hirdymor a fforddiadwyedd lefelau gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu hasesu wrth gynllunio cynnydd mewn lefel gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol hefyd. Dwi'n edrych ymlaen, felly, at glywed ymateb y Llywodraeth i argymhellion y pwyllgor. Ac mi wnaf i ddiweddu gyda hynny. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yn gyntaf oll, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ysgrifennom at y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni yn dilyn y gwaith craffu ar y gyllideb. Daeth y pwyllgor i'r casgliad yn ei lythyr fod angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar ei dull o ddadansoddi'r gwariant ar gyfiawnder, ac nad oes digon o wybodaeth ar gael i gefnogi craffu ystyrlon ar y maes pwysig hwn.
Gan droi at y gyllideb yn ei chyfanrwydd, byddai'r dadleuon hyn yn elwa pe bai Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a Reform yn cynhyrchu cyllidebau amgen. Nid yw'n anodd. Cynhyrchais awgrym o'r blaen sef rhoi cap o £50,000 ar gymorthdaliadau fferm a defnyddio'r arian i gefnogi mesurau gwrth-dlodi. A all Plaid Cymru gynhyrchu cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol? Mae David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif bod Cymru yn derbyn rhwng £12 biliwn a £15 biliwn drwy fod yn fuddiolwr net o'r undeb. Beth mae Plaid Cymru yn bwriadu ei dorri, fel yr awgrymwyd yn flaenorol, i ariannu pensiwn y wladwriaeth? Ai dyna farn Plaid Cymru o hyd?
Rhaid i gyllideb dreigl ystyried y pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol ac nid yw iechyd yn ymarfer mathemategol syml. Nid oes gan fynegai prisiau defnyddwyr unrhyw berthynas ag angen neu wariant iechyd a llywodraeth leol. Bwriad y fasged o nwyddau a gwasanaethau a ddewiswyd yw adlewyrchu newidiadau yn arferion prynu cymdeithas, nid costau'r sector cyhoeddus. Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi derbyn tystiolaeth gan dystion am gyfraddau gwahaniaethol effaith chwyddiant ar gyllidebau. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gyflwyno cyllideb ddrafft, ei fod yn arbennig o effro i amgylchiadau arbennig llywodraeth leol oherwydd y cyfyngiadau deddfwriaethol wrth iddynt osod eu cyllidebau eu hunain, neu'n fwy penodol y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae angen iddo fod yn bwysau chwyddiant ar lywodraeth leol ac iechyd, nid mynegai prisiau defnyddwyr, sy'n creu'r cynnydd. Mae gan lywodraeth leol yng Nghymru lawer o bwysau ariannol y tu allan i'w rheolaeth. Mae addysg yn faes enfawr o ran gwariant ac mae angen bodloni codiadau cyflog athrawon yn llawn. Addysg yw'r allwedd i symud plant allan o dlodi. Amcangyfrifir bod y pwysau ar draws gwasanaethau llywodraeth leol yn 2025-26 yn £559 miliwn.
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn unig yn cyfrif am 45 y cant o'r pwysau disgwyliedig hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy'n cyfateb i £106 miliwn o orwariant ychwanegol. Mae'r weledigaeth o ofal cymdeithasol yn hanfodol i'r system iechyd a gofal, gan weithredu'n effeithiol, ac mae'n chwarae rhan allweddol wrth gyflawni canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain yn uniongyrchol at leihau'r pwysau ar y GIG, o ran cadw pobl allan o'r ysbyty a helpu pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg briodol, gan leihau oedi wrth drosglwyddo gofal.
Mae cynghorau yng Nghymru yn parhau i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae'r galw a'r costau cynyddol yn ei gwneud hi'n anoddach i'w cynnal. Mae ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dangos bod disgwyl i'r gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol a chymorth blynyddoedd cynnar gynyddu tua 6 y cant yn 2026-27, sef £46 miliwn arall.
Mae'r nifer uchaf erioed o deuluoedd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, gan fod y galw cynyddol am gymorth digartrefedd wedi gwthio gwariant cynghorau ar ddigartrefedd dros 600 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae'r swm o arian y mae cynghorau yn ei wario ar ymdrin â digartrefedd wedi cynyddu'n enfawr, ac mae'r cynnydd hwn yn llawer mwy na chyllid llywodraeth leol ac wedi gorfodi cynghorau i ddargyfeirio arian o wasanaethau hanfodol eraill.
Mae yna feysydd lle mae llywodraeth leol yn ei chael hi'n anodd iawn i leihau'r galw. Rwy'n amcangyfrif bod y gyllideb ddigyfnewid dreigl ar gyfer llywodraeth leol yn arwain at gynnydd o 5 y cant. Byddai gen i ddiddordeb pe bai rhywun yn rhoi ffigur gwahanol i mi.
Mae'r GIG yn mynd i'r afael â her ddemograffig ac iechyd economaidd. Yr her ariannol sylfaenol mewn iechyd yw'r cynnydd di-baid yn y galw. Mae poblogaeth y DU sy'n heneiddio, yr achosion cynyddol o glefydau cronig a'r disgwyliad mawr o ofal amserol ac uwch yn parhau i roi pwysau ar y GIG. Mae cyfran y boblogaeth sydd dros 65 oed yn cynyddu, gydag oedolion hŷn yn cyfrif am y gyfran uchaf o dderbyniadau i'r ysbyty a chostau gofal iechyd. Er enghraifft, mae'r twf mewn achosion o ddementia yn bwysau sy'n codi'n sylweddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal, gydag amcanestyniadau yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n byw gyda'r cyflwr. Mae bron i 1 filiwn o bobl yn byw gyda dementia heddiw yn y DU, gyda rhagolygon o gynnydd o 40 y cant erbyn 2040.
Yn olaf, mae'n rhaid i gynhyrchiant gynyddu. I gyflawni hynny mewn iechyd, mae angen gwariant cyfalaf. Nid yw'n ymwneud â defnyddio AI yn unig, ond cynhyrchu negeseuon e-bost yn hytrach na llythyrau pan fydd y claf yn cofrestru ar gyfer gwasanaeth e-bost ar gyfer gwahoddiad i apwyntiadau ysbyty. Mae rhai practisau meddygon teulu eisoes yn darparu hynny. Nid yw rhai eraill yn gwneud hynny. Byddai hefyd yn golygu na fydd pobl yn cael llythyrau yn eu gwahodd i apwyntiad ar ôl dyddiad ac amser yr apwyntiad, ac rwy'n gwybod bod pob Aelod yma yn gyfarwydd iawn â hynny.
Er ein bod yng nghamau cynnar datblygiad AI, gwyddom y gellir defnyddio algorithmau AI i ddadansoddi delweddau meddygol fel pelydr-x, delweddu cyseiniant magnetig a sganiau tomograffeg gyfrifiadurol, gyda chyflymder a chywirdeb gwell nag arbenigwyr dynol. Gellir defnyddio AI ar gyfer triniaethau wedi'u teilwra i'r unigolyn yn seiliedig ar wybodaeth feddygol, gan gynnwys gwybodaeth enetig, gan gynhyrchu canlyniadau gwell i gleifion, yn enwedig gyda chlefydau cymhleth, fel canser. Ond mae angen buddsoddiad cyfalaf arnom. Mae angen i ni wella cynhyrchiant a defnyddio technoleg er budd iechyd y genedl.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Dylai cyllideb ddrafft fod yn ymwneud â thryloywder, craffu a rhoi cyfle i'r Senedd ddylanwadu ar benderfyniadau cyn iddynt gael eu cwblhau ym mis Ionawr. Yn hytrach, yr hyn yr ydym wedi'i weld yw proses wleidyddol sy'n cael ei sbarduno nid gan ddidwylledd, ond gan gytundebau munud olaf, trafodaethau hwyr y nos a chyhoeddiadau wedi'u hamseru i weddu i rifyddeg wleidyddol yn hytrach na dealltwriaeth gyhoeddus neu les y cyhoedd. Unwaith eto, gwelwn drefniant clyd rhwng Llafur a'u cynorthwywyr bychain, Plaid Cymru. Yn gyhoeddus, mae Plaid Cymru yn ymdrechu i ymddangos ei bod yn gwrthwynebu'r Llywodraeth hon a'i bod yn rhywbeth ffres a newydd, ond, y tu ôl i ddrysau caeedig, maen nhw'n dychwelyd i gydgerdded gyda'u cydgysgwyr gwleidyddol. Roedd buddugoliaethau penawdau Plaid Cymru eisoes yn bolisi Llafur, felly mae'n rhaid bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn curo'i gefn ei hun. Maen nhw'n eu harddangos fel buddugoliaethau, gan wrthod hyd yn oed bleidleisio dros y canlyniadau y maent yn honni eu bod nhw wedi'u sicrhau, gan ddweud, ychydig yn gynharach, sut mae'r gyllideb yn methu â gwneud yr hyn sydd ei angen ar Gymru, ond eto maen nhw'n mynd i bleidleisio i'w phasio beth bynnag. Mae bellach yn glir, yn glir iawn, fel y dywedwyd dro ar ôl tro, bod pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais i Lafur.
Ac o ran y Ceidwadwyr, roedden nhw'n ysu i fod yn rhan o'r broses, dim ond i gael eu camarwain ac, yn anffodus, i ymddangos yn amherthnasol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y broses yn bwysig. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yr arian sy'n cael ei ddal yn ôl ar gyfer cytundebau, y £350 miliwn, wedi ymddangos yn sydyn ar gyfer cynghorau a'r GIG. Cyllid gwerthfawr, ie, ond mae'r ffaith iddo gyrraedd yn hwyr yn codi pryderon difrifol am dryloywder, ymddiriedaeth, a hynny heb ystyried y cynghorau a'r sefydliadau sy'n ceisio paratoi ar gyfer y dyfodol.
Mae'r rhai yr effeithir arnynt yn fwy gonest. Mae cynghorau yn dweud bod y setliad dal yn annigonol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio am fwlch o £312 miliwn. Mae ysgolion yn wynebu diffyg o £137 miliwn, tra bod Cymru ar waelod pob tabl canlyniadau addysgol. Mae byrddau iechyd yn parhau i fod o dan bwysau anghynaladwy. Mae Cymru wledig wedi cael ei thagu gan Lywodraethau ar ddau ben yr M4. Ble mae'r gefnogaeth i ffermwyr yn y gyllideb hon? Mae angen gwneud mwy i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd. Mae elusennau rheng flaen sy'n amddiffyn y rhai agored i niwed hefyd yn cael eu gwasgu. Mae ein busnesau ledled Cymru yn cael eu cau bob dydd. Ac mae rhestrau tai yn tyfu byth a hefyd, gan gynnwys ar gyfer ein cyn-filwyr Cymreig sydd bellach yn brwydro am ddrws sych. Nid yw ffyrdd hanfodol yn cael eu hadeiladu, ac nid oes unrhyw beth ar gyfer creu swyddi.
A ble mae'r ffocws ar atal a addawyd yn yr etholiad? Rydym ni newydd glywed, gan Blaid Cymru mewn gwirionedd, gan Delyth Jewell, am bwysigrwydd diwylliant. Ond rydym ni'n gweld dro ar ôl tro y Llywodraeth hon yn esgus cefnogi diwylliant, ac rydym ni'n gweld toriadau unwaith eto. Felly, beth yw ffocws y gyllideb hon? Beth yw'r thema? Beth yw'r weledigaeth? Beth yw'r newid y mae hi i fod i'w gyflawni? Sut mae'n mynd i gyflawni i bobl Cymru? Mae hon yn gyllideb ddrafft, gan gynnwys ychwanegiadau Plaid Cymru, sy'n adflas o Lywodraeth sydd wedi rhedeg allan o syniadau. Heb weledigaeth, heb eglurder a heb gynllun ar gyfer gwella, mae hwn yn fwy o ymarfer i leihau niwed, yn hytrach na chynllun difrifol ar gyfer diwygio a llywodraethu Cymru.
Ar y cyfan, ar ôl 26 mlynedd o fethiant, gyda chefnogaeth dro ar ôl tro gan gerdyn teyrngarwch Llafur, Plaid Cymru, mae'n debyg ei bod yn rhy obeithiol i ni gredu y gallem ddechrau gweld y Llywodraeth hon yn gwario arian yn y lleoedd iawn. Mae hon yn gyllideb ddrafft sy'n methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru yn y pen draw, ac ni fydd Reform yn ei chefnogi. Diolch.
Mae'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol yn un o'r cyllidebau lleiaf o unrhyw adran, a phan ystyrir toriadau i'r llinell sylfaen o £3.9 miliwn, bydd y prif grŵp gwariant cyfiawnder cymdeithasol yn derbyn un o'r setliadau lleiaf hael o unrhyw faes gwariant. Mae atal bob amser yn fwy costeffeithiol na chaniatáu i broblemau dyfu a dod, yn anochel, yn ddrytach. Felly, nid yw dyraniadau cyllideb yn cydnabod bod y rhan fwyaf o feysydd gwariant cyfiawnder cymdeithasol yn cael effaith ataliol uniongyrchol neu botensial. Felly, mae'r pwyllgor wedi'i siomi gan y diffyg cynnydd yn y newid tuag at atal a ragwelwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn wir, canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru, er bod cyrff cyhoeddus yn cydnabod yr angen i weithio'n ataliol, bod y mwyafrif yn cael trafferth gwneud newid mwy systematig tuag at atal.
Yn fy marn i, bydd cyrff cyhoeddus yn parhau i ymdrechu i wneud mwy gyda llai nes ac oni bai eu bod yn mynd i'r afael â hyn. Roedd rhaglen llywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gyllidebu ar sail rhywedd er mwyn deall yn well sut y gall gwariant a phenderfyniadau polisi fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhywedd. Rydym yn croesawu canfyddiadau tri chynllun treialu cyllidebu ar sail rhywedd, ond maent yn gymharol gyfyngedig yn eu cwmpas ac yn canolbwyntio ar dri pholisi penodol yn unig. Felly, rydym yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio ag adeiladu ar fomentwm y cynlluniau treialu hyn drwy gynyddu'r dull hwn, a hoffem weld tystiolaeth bendant o sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgorffori a normaleiddio cyllidebu ar sail rhywedd o fewn cymdeithas mewn ffordd systematig a hirdymor.
Trof yn awr at lefelau tlodi plant hynod o niweidiol. Mae'r pwyllgor yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu'r cap dau blentyn ar y budd-dal plant fel cam cyntaf tuag at liniaru cyfraddau annerbyniol o uchel o dlodi plant. Yn ôl y Trysorlys, bydd o fudd i 69,000 o blant yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond rydym yn argymell bod hwn yn gyfle hanfodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o effaith y newidiadau hyn gan Lywodraeth y DU i gyflymu'r gwaith o liniaru tlodi plant sy'n effeithio ar un o bob tri o blant yng Nghymru.
O ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd, credwn fod cynnydd wedi bod yn boenus o araf. Y llynedd, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru fod 25 y cant o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd a 5 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Dyma un o brif sbardunau'r argyfwng costau byw. Roedd y pwyllgor yn pryderu bod dyraniad adnoddau y flwyddyn nesaf ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd yn parhau i fod yn ddigyfnewid ar £3.73 miliwn, ac mae'r dyraniad cyfalaf wedi cynyddu dim ond 2 y cant. I atgoffa'r Aelodau, yn 2021, gosododd strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru darged na fyddai mwy na 5 y cant o aelwydydd Cymru mewn tlodi erbyn 2035, ac na fyddai unrhyw aelwyd mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus. Mae gennym ffordd bell iawn i fynd yn y 10 mlynedd nesaf, ac rydym yn credu nad yw'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud y flwyddyn nesaf yn ddigonol, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi diwedd yr ardoll ECO4 ar filiau gwresogi, y mae rhai aelwydydd wedi llwyddo i'w ddefnyddio i wella inswleiddio yn eu cartrefi. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn mesurau i wella effeithlonrwydd tanwydd cartrefi a mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac rydym yn awgrymu bod angen i hyn fod yn flaenoriaeth i ni ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru ar gyfer y £120 miliwn o gyllid cyfalaf a fydd ar gael ar ôl etholiad mis Mai nesaf.
Rydym yn cefnogi'n llawn waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar siarter budd-daliadau Cymru, ac, hyd yn hyn, mae wedi cynhyrchu £209 miliwn mewn budd-daliadau nas hawliwyd o'r blaen, yn ogystal â £66 miliwn i ddileu dyled. Felly, rydym yn croesawu'n gryf y buddsoddiad ataliol ychwanegol a gynigir ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dangosir yn glir bod hyn yn gosteffeithiol. Nawr, dylai lliniaru tlodi fod y brif flaenoriaeth i bob awdurdod lleol, ac rydym yn ceisio mwy o dryloywder o ran y ffordd y mae awdurdodau lleol yn rhoi'r trwyn ar y maen i wneud yn siŵr bod pawb sy'n gymwys ar gyfer y cynllun lleihau'r dreth gyngor, y prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol erbyn mis Ebrill nesaf yn eu cael mewn gwirionedd. Rydym yn pryderu y gallai loteri cod post fod yn datblygu, gan nad yw rhai awdurdodau lleol yn symud ymlaen fel y gobeithiwyd. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion am y cynnydd a wnaed gan bob awdurdod lleol wrth weithredu'r garreg filltir hon sef cam 1 erbyn mis Chwefror 2026, ac yn amlinellu sut mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol sy'n cael trafferth cyflawni hyn erbyn mis Ebrill nesaf i sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn gwirionedd.
Yn olaf, roeddwn i eisiau amlygu ymyl garw'r system cyfiawnder ieuenctid yn y system cyfiawnder troseddol, lle nad ydym yn gwybod o hyd a all pobl ifanc gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, gyda 60 y cant i 80 y cant o bobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Rydym yn argymell bod angen i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion gyda phartneriaid eraill, Llywodraeth y DU, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen arnynt i'w hatal rhag dod i mewn i'r system gyfiawnder, sy'n costio llawer mwy. Mae hwnnw yn sicr yn faes lle mae angen gwario'n ddoethach o lawer yn y dyfodol.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn ffeithiol anghywir, yn fy marn i. Mae'r honiad bod y gyllideb ddrafft wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru yn anghywir, oherwydd y gwir yw bod y gyllideb yn well na'r rhagosodiad cyfreithiol o 75 y cant o derfyn y flwyddyn flaenorol. Y gwir yw bod trafodaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar y gyllideb yn un o safbwynt lle roeddech chi'n gwybod ei bod yn mynd i fethu.
Serch hynny, nid yw hon yn gyllideb berffaith, ac rwy'n credu y byddai pawb yma yn cytuno ar hynny. Y gyfradd chwyddiant bresennol yn y 12 mis sy'n dod i ben ym mis Hydref 2025 yw 3.6 y cant. Er bod cynnydd ym mhob dyraniad cyllideb, mae sawl un yn is na chwyddiant, a'r isaf yw cynnydd o 1.98 y cant ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, 1.99 y cant ar gyfer yr economi, ynni a chynllunio a 2 y cant ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig. Yn amlwg, dylai Llywodraeth Cymru droedio'n ofalus wrth honni bod y gyllideb wedi cynyddu gyda chwyddiant.
Gallai a dylai'r cyllid sydd ar gael o refeniw treth ddatganoledig a grant bloc y DU fod yn fwy. Ym mis Mawrth 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gais ffurfiol i Lywodraeth y DU i ddatganoli cymhwysedd treth ychwanegol ar gyfer treth ar dir gwag, bron i chwe blynedd yn ôl. Chwe blynedd yn ôl, ac rydym ni'n dal i aros. Yn yr un modd, mae Rhif 10 yn anwybyddu galwadau ffôn Llywodraeth Cymru sy'n ceisio datganoli Ystad y Goron, fformiwla ariannu cyfiawn a chanlyniadau rheilffyrdd teg.
Bythefnos yn ôl, codais gyfle arall yn y Siambr i gydweithredu â Llywodraeth y DU i sefydlu a all Cymru a'r DU greu ardoll ar ynni a allforir o Gymru er budd y tlotaf yn ein cymunedau. Efallai bod hynny'n werth un o'r galwadau ffôn enwog gan y Prif Weinidog i Downing Street. Rwy'n glir y gellid codi mwy o arian i gefnogi ein gwasanaethau rheng flaen, ac mae angen i'r Senedd hon fod yn arloesol wrth ystyried trethiant.
Ond gadewch i ni edrych ar yr hyn sydd gennym ni. Mae'r gyllideb ddrafft yn buddsoddi mwy na £11.7 biliwn i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG. Serch hynny, mae'r gyllideb fanwl yn nodi y bydd angen i sefydliadau'r GIG barhau i gyflawni arbedion ac effeithlonrwydd yn 2026-27. Nawr, rydym eisoes wedi clywed heddiw, a phob dydd yn y Cyfarfod Llawn, am y trafferthion y mae'r GIG yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o dan ymyrraeth wedi'i dargedu lefel 4 oherwydd materion difrifol gan gynnwys problemau ariannol mawr. Mae angen eglurder arnom hefyd ynghylch effaith y gofyniad arbedion ac effeithlonrwydd ar heriau ymyrraeth wedi'u targedu ein byrddau iechyd lleol. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Yn yr un modd, yng ngoleuni'r argyfwng amser aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a fydd cyllid yn cael ei ddyrannu i alluogi byrddau iechyd i ymestyn oriau agor a gwasanaethau fel yr unedau mân anafiadau anhygoel fel Ysbyty'r Barri, Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda?
Rwy'n falch iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r cynnig gofal plant. Ond, fel y pwysleisiodd Oxfam Cymru yn gynharach eleni, ac rwy'n gwybod fy hun fel tad, mae teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cosbi gan filiau gofal plant ar gyfer plant dan ddwy oed sy'n fwy na dwbl y cyfartaledd yn Lloegr. Mae'r biliau enfawr hyn yn cadw rhieni allan o'r gweithle. Rhaid gwneud mwy i gefnogi rhieni gyda'r plant ieuengaf.
Mae angen i ni hefyd feddwl eto am oedolion ifanc. Er fy mod yn croesawu y bydd £58.1 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, a yw'n deg, Ysgrifennydd Cabinet, bod y rheolau yn eithrio eiddo nad ydynt yn adeiladau newydd? Rydych yn ymrwymo i'ch rhaglen brentisiaeth flaenllaw gyda mwy o fuddsoddiad, gyda'r gyllideb bellach yn £146 miliwn. Mae gan Met Caerdydd bedair prentisiaeth gradd, Prifysgol Abertawe tair, a Phrifysgol Caerdydd un. Byddai croeso i eglurder ynghylch sut y bydd y gyllideb yn cael ei defnyddio, os o gwbl, i gynyddu nifer y prentisiaethau gradd mewn prifysgolion.
Yn olaf, 'Cymraeg 2050'. Mae'r gyllideb adnoddau yn derbyn cynnydd chwyddiant o £0.8 miliwn, sy'n sylweddol llai na'r cynnydd o £4.6 miliwn y flwyddyn ariannol hon ac felly'n achosi pryder pellach i mi ynghylch hyfywedd cyrraedd y filiwn. Dirprwy Lywydd, gallwn fynd ymlaen ac ymlaen, ond mae'r amser wedi fy nhrechu. Rwy'n gobeithio fy mod wedi tynnu sylw at neges allweddol bod angen gwneud gwaith nid yn unig ar y llinellau cyllideb, ond ar sut mae'r arian yn cael ei godi mewn gwirionedd. Diolch yn fawr.
Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a hoffwn ddechrau trwy nodi rhywfaint o'r cyd-destun ar gyfer gwaith craffu'r pwyllgor ar yr agwedd lywodraeth leol ar y gyllideb ddrafft.
Yn gyntaf, roeddem yn siomedig bod ein sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gorfod cael ei gynnal cyn i'r setliad llywodraeth leol dros dro gael ei gyhoeddi, a oedd yn cyfyngu ar ein gallu i graffu'n briodol arno. Yn ail, ar ôl cwblhau ein sesiynau craffu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chytundeb cyllideb â Phlaid Cymru, a ddyrannodd £112.8 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru, ac nid yw manylion ar gael eto. Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i lywodraeth leol o'r cytundeb cyllideb, sy'n sicrhau isafswm cynnydd o 4 y cant. Dyma'r cynnydd lleiaf y byddem wedi ei argymell fel pwyllgor i leddfu rhai o'r pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol. Gwyddom, fodd bynnag, bod cynnydd o 4 y cant dim ond yn mynd i'r afael â thua hanner y pwysau cyllidebol a nodwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym yn parhau i bryderu bod awdurdodau lleol yn dal i fod mewn sefyllfa fregus ac yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o godiadau yn y dreth gyngor, toriadau gwasanaethau a cholli swyddi. Rydym hefyd yn pryderu nad yw'r setliad diwygiedig a'r ffigurau dangosol wedi'u cyhoeddi. Dylai'r rhain fod ar gael i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl i roi sicrwydd i awdurdodau lleol a'u galluogi i gynllunio eu cyllidebau yn unol â hynny.
Ar y fformiwla ariannu a ddefnyddir i bennu dosbarthiad awdurdodau lleol, mae'n amlwg bod rhwystredigaethau yn parhau i fodoli. Roeddem yn arbennig o bryderus am y defnydd o ddata a dangosyddion sydd wedi dyddio, gydag 20 y cant o'r data yn sail i'r fformiwla yn gysylltiedig â ffynonellau mor hen â chyfrifiad 1991. Er ei bod yn galonogol bod adolygiad o'r data ar y gweill, mae hyn yn hir ddisgwyliedig.
Dirprwy Lywydd, o ran atal, rydym wedi tynnu sylw eto eleni at yr angen am newid sylfaenol tuag at wasanaethau ataliol. Gwyddom fod gwaith ataliol yn cael ei dorri pan fydd pwysau ar gyllidebau. Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid, hamdden ac ysgolion yn hanfodol i wella iechyd a lleihau'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ehangach. Er gwaethaf ymrwymiad datganedig Llywodraeth Cymru i wasanaethau ataliol, nid ydym yn credu bod y gyllideb ddrafft a'r setliad presennol yn adlewyrchu hyn yn ddigonol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori atal yn y broses o osod cyllideb, fel arall bydd gwasanaethau yn parhau i fod yn adweithiol a bydd cyfleoedd ar gyfer arloesi yn cael eu colli. Yn ogystal, rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn gosod llwybr clir ar gyfer mabwysiadu arferion da ac arloesi ar draws awdurdodau lleol.
O ran tai, mae tai hefyd, wrth gwrs, yn wasanaeth ataliol. Rydym yn deall y pwysau a'r gofynion cystadleuol ar y gyllideb gyffredinol, ond, fel yr wyf eisoes wedi dweud, dylai atal gael ei ymgorffori yn y broses honno o osod cyllideb, nid yn unig i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol ond hefyd i wireddu'r manteision ataliol i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'n siomedig, felly, bod y dyraniad ar gyfer tai ac adfywio yn ddim ond 4.85 y cant o gyfanswm y gyllideb, gostyngiad bach ers y llynedd.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried manteision ataliol ehangach buddsoddi mewn tai ac i flaenoriaethu'r Prif Grŵp Gwariant hwn ar gyfer cyllid ychwanegol wrth benderfynu ar ei dyraniadau cyllideb derfynol. Yn benodol, mae'r grant cymorth tai yn fesur ataliol allweddol. Rydym yn parhau i bryderu am nifer y bobl sy'n byw mewn llety dros dro a'r pwysau sy'n cael ei greu ar awdurdodau lleol ac yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn fwy rhagweithiol wrth wthio Llywodraeth y DU i godi cyfraddau lwfans tai lleol i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar awdurdodau lleol.
O ran diogelwch adeiladau, Dirprwy Lywydd, rydym yn bryderus iawn am y gwaith adfer araf ar adeiladau uchel, a'r tanwariant cynyddol yn y gyllideb gyfalaf diogelwch adeiladau. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu eglurder ynghylch sut y cafodd y tanwariant o 2024-25 ei ailbroffilio a faint o danwariant a ddisgwylir ar gyfer 2025-26.
I gloi, rydym hefyd yn nodi'r angen i fwy o dir cyhoeddus fod ar gael ar gyfer tai cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn cyflawni ei hymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai fforddiadwy. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n croesawu'n fawr y dull gweithredu a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r gyllideb hon i ni a'r sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cael ers cyflwyno'r gyllideb ddrafft hon. Dyma, wrth gwrs, y tro olaf i Mark Drakeford gyflwyno cyllideb i'r Senedd hon, ac rwy'n credu y dylem fod yn ddiolchgar iawn iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd, a hefyd y dull y mae wedi'i fabwysiadu i geisio cytundeb ar draws llawr y Siambr hon.
Yn yr ysbryd hwnnw, rwyf hefyd yn croesawu'r cytundeb sydd wedi'i gyrraedd â Phlaid Cymru. Mae'n hollol glir i mi, ac rwy'n credu'n glir i unrhyw un sy'n edrych ar y cytundeb cyllideb hwn, pe na bai'r cytundeb hwn wedi'i gyrraedd yna byddai'r canlyniadau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn gwbl drychinebus. Nid yw'n ddigon da i'r Ceidwadwyr Cymreig esgus bod ganddynt ddiddordeb mewn cytundeb, ac nid yw'n ddigon da i'r Ceidwadwyr Cymreig gymryd rhan mewn sgyrsiau lle maen nhw'n ceisio torri cyllideb ac yna peidio â dwyn y gyllideb honno ymlaen.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, rwy'n gwrando ar y Ceidwadwyr yma—mae'r lle hwn mewn gwirionedd wedi cael ei fendithio gyda'r wrthblaid wleidyddol waethaf yn y byd. Clywsom lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll i fyny ar ddechrau'r ddadl y prynhawn yma ac yn rhestru'r holl doriadau treth yr oedd am eu gwneud, rhestru'r holl ffyrdd yr oedd am leihau cyllideb Cymru. Yna fe wnaethom wrando ar bob siaradwr Ceidwadol ers hynny yn dweud wrthym ble maen nhw eisiau gwario mwy o arian, ac fe wnaethom wrando ar Geidwadwr ar ôl Ceidwadwr yn galaru am brinder y gyllideb a dweud bod angen gwario mwy o arian mewn pob math o wahanol feysydd. Wel, dywedaf hyn wrth y Ceidwadwyr Cymreig: mae fy mab yn yr oriel heno ac mae'n—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod. Ac mae newydd gwblhau ei ffug arholiad mathemateg TGAU. Efallai y gallwn, Dirprwy Lywydd, ofyn iddo gynghori'r Ceidwadwyr Cymreig ar eu cyllideb? Oherwydd mae'n amlwg i mi y byddai ganddo fwy o syniad o sut i redeg cyllideb nag unrhyw un sy'n eistedd ar feinciau'r wrthblaid. Rwy'n ildio.
Mae cyllid cadarn yn golygu bod un yn arwain at y llall, ond pwy fyddwch chi'n beio pan fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrthod gwrando ar rybuddion y sector tai sy'n gwaethygu digartrefedd a'r argyfwng tai, gwrthod gwrando ar rybuddion y sector hosbis a gofal lliniarol sy'n cynyddu poen, dioddefaint a'r pwysau costau ar ein hysbytai? Gwrthod gwrando ar rybudd darparwyr allweddol y trydydd sector am—
Mark, Mark—ymyriad yw e, Mark. Rhowch gyfle i mi.
—bydd canser, parlys yr ymennydd, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn gwaethygu cyfleoedd bywyd. Pwy fyddwch chi'n ei feio felly?
Mark, mae ymyriad i fod yn ymyriad, nid yn araith. Gadewch i mi ddweud hyn wrthych. Gadewch i mi ddweud hyn wrthych. Gadewch i mi ddweud hyn wrthych. Rydych chi wedi bod yn gyson dros y blynyddoedd, ac rydych chi wedi hyrwyddo llawer o achosion da a chywir, ond rydych chi wedi pleidleisio i dorri trethi, rydych chi wedi pleidleisio i dorri gwariant, ac rydych chi wedi dadlau dros fwy o wariant ar yr un pryd. Mae naill ai'n un peth neu'r llall. Ni all fod y ddau. Ac mae angen i chi ddysgu'r wers honno. Ac rwy'n meddwl, ar ôl eistedd yn dawel tra bod Liz Truss yn taflu £30 biliwn i ffwrdd mewn awr mewn prynhawn, gadewch i mi ddweud wrthych nad wyf yn siŵr bod unrhyw un ohonoch mewn sefyllfa i roi darlith i unrhyw un yn y lle hwn ar natur cyllideb.
Ond y peth arall yr wyf am ei groesawu y prynhawn yma—[Torri ar draws.] Mae'r meicroffon gennyf fi, felly rwyf am barhau. Y peth arall yr wyf am ei groesawu y prynhawn yma yw gwaith rheoli trethi Cymru gan y Llywodraeth hon, gan yr Ysgrifennydd ariannol presennol, ond hefyd Ysgrifenyddion ariannol eraill. Oherwydd dyma'r prawf go iawn, mewn sawl ffordd, o gymhwysedd Llywodraeth a chymhwysedd cyllideb. Yn rhy aml mae ein dadleuon yn ymwneud â gwario arian. Nid ydym yn trafod sut rydym ni'n codi arian, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn wendid mawr yn ein dadleuon cyllideb dros nifer o flynyddoedd. Ond yr hyn rydym ni wedi'i weld yn y ddogfennaeth sydd wedi'i chyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb hon yw dadansoddiad clir iawn, iawn o reoli trethi Cymru, a'r hyn sydd wedi'i ddangos yw y gall y Llywodraeth hon a'r Senedd hon reoli trethi a dylent allu rheoli trethi ychwanegol, ac rwy'n croesawu'n fawr y pwynt a wnaed gan Rhys ab Owen yn ei gyfraniad ynglŷn â datganoli cymwyseddau pellach dros dreth.
Ond yr hyn rydw i eisiau ei ddweud yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma yw bod gennym gyllideb ar gyfer blwyddyn, ac mae'n iawn ac yn briodol, pan fyddwn yn wynebu etholiad, ein bod ni'n ei wneud fel hyn. Ond rydym ni'n mynd i wynebu heriau difrifol iawn yn y Senedd nesaf. Gwyddom fod proffil gwariant cyhoeddus yn dangos y bydd llai o gyllid ar gael yn y Senedd nesaf nag y bu ym mlynyddoedd olaf y Senedd hon. Ac mae'r Ysgrifennydd cyllid yn hollol gywir yn yr hyn a ddywedodd am sut rydym yn sefydlu sylfaen ar gyfer cynnal gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny yn y modd hwn. Rwy'n derbyn y ddadl yn llwyr. Ond—ond—nid yw'n gredadwy dadlau y gallwn barhau i roi arian mewn gwasanaethau cyhoeddus heb ar yr un pryd fod â'r dewrder i drafod diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydym yn mynd i allu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ac y mae pobl Cymru yn eu haeddu, ac roeddwn i'n meddwl bod pwyntiau Jenny Rathbone am gyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig iawn yn ei haraith yn y cyd-destun hwnnw. Ond nid ydym yn mynd i allu gwneud yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone oni bai ein bod yn barod i wynebu cwestiynau anoddach. Ac nid yw hynny wedyn—. A dywedaf hyn yn uniongyrchol wrth Blaid Cymru hefyd—
Allwch chi ddod i ben gyda hyn, Alun, os gwelwch yn dda?
Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cael ymyriadau. Fe ddywedaf hyn—
Rydw i wedi cymryd yr amser.
—mae pleidleisio dros y gyllideb yn bwysicach nag ennill brwydrau ar y cyfryngau cymdeithasol. A dywedaf hynny'n glir iawn, oherwydd bydd yn rhaid i ni wynebu penderfyniadau difrifol iawn yn y Senedd nesaf, ac, os ydych chi o ddifrif am arwain, yna mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniadau hynny. Ac mae hynny'n golygu nid gwneud yr areithiau yn unig; mae'n golygu pwyso'r botwm a phleidleisio yn y ffordd honno hefyd.
Diolch, Alun.
Dyna pam rwy'n gobeithio y byddwn yn pasio cyllideb ar yr achlysur hwn, ond byddwn yn gwneud hynny gan wybod bod gennym rai cwestiynau difrifol ac anodd iawn i'w hateb. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dylwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig heddiw ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Mae'n debyg y dylwn ddechrau trwy fod yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Blaid Geidwadol. Rydych wedi clywed y rhesymau niferus y mae Alun Davies eisoes wedi'u cyflwyno, ond gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelodau Ceidwadol yma. Mae yna lawer o bethau y gall pleidiau gwleidyddol geisio eu gwneud i wella eu perthynas â'r etholwyr, o'r pethau arwynebol, wrth newid logos a sloganau, i'r pethau mwy dwys, pan ddatblygir polisïau gwahanol. Ond yr hyn na allwch chi byth ei newid yw eich hanes. A phan fo Sam Rowlands yn dweud wrthym fod ei blaid ef yn blaid torri trethi, yr hyn y mae pobl yn ei gofio yw hanes y Llywodraeth Geidwadol a gododd drethi i'r lefel uchaf ers 70 mlynedd ar boblogaeth y DU. A phan fo'n sôn am ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, yna mae pobl yn cofio dyddiau Liz Truss. A sut y mae'n gallu meddwl ei fod yn hawlio ymddiriedaeth pan fo'n gwadu ei hanes ei hun mor fyw?
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Wrth gwrs, nid oes angen i bobl edrych yn bell iawn yn ôl o gwbl, wrth sôn am ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, i weld Canghellor Llafur yn addo peidio â chodi trethi hyd yn oed ymhellach yma yn y DU, ac yn dod yn ôl eto ac yn addo peidio â threthu pobl sy'n gweithio. Dim ond dros ychydig wythnosau y mae'n rhaid iddyn nhw edrych yn ôl i weld perfformiad Llywodraeth Lafur yma yn y DU. Felly, ydych chi'n myfyrio ar hynny hefyd?
Wel, roeddwn i'n cyfeirio at y cyfraniad a wnaethoch yn gynharach, Sam, pan geisioch ein perswadio y byddai cyllideb Geidwadol yn seiliedig ar dorri trethi a chynyddu ymddiriedaeth. A'r hyn rwy'n ei ddweud wrthych yw bod hwnnw'n rhywbeth sydd heb seiliau dibynadwy na sylwedd gwirioneddol.
Edrychwch, mae'n anochel mewn dadl o'r math hwn bod cyd-Aelodau sy'n Gadeiryddion pwyllgorau yn codi i ddweud bod angen gwneud mwy yn y maes y maent yn gyfrifol amdano. Mae'n dangos yr ymrwymiad sydd gan Aelodau'r Senedd i'r meysydd y maent yn buddsoddi cymaint o amser a diddordeb ynddynt. Mae llawer o'r pwyntiau a wnaed yma y prynhawn yma wedi'u cyfeirio, wrth gwrs, at fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn y meysydd arbenigol hynny, a bydd hynny i gyd yn gwneud gwahaniaeth wrth i ni ddod at y gyllideb derfynol, fel y byddaf yn dychwelyd ato mewn eiliad, Dirprwy Lywydd.
Yr hyn yr oeddwn i'n meddwl y dylwn geisio ei wneud yw ymateb i rai o'r pwyntiau mwy cyffredinol sydd wedi eu codi yn y ddadl. Nodwyd llawer o'r rheini ar ddechrau'r drafodaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac mae'n dda iawn ei weld yn cyfrannu y prynhawn yma. Rwy'n talu teyrnged i gyfoeth y broses ymgysylltu a ymgymerodd y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft. Fe wnes i fwynhau ein sesiwn gyda'r Senedd Ieuenctid yn fawr, a oedd yn llawn diddordeb a syniadau newydd.
Rwy'n rhoi sicrwydd i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid y bydd tystiolaeth ddogfennol bellach yn cael ei chynhyrchu ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol, gan gynnwys asesiad effaith integredig strategol wedi'i diweddaru. Dyna lle rydym ni'n tynnu at ei gilydd yr holl ddylanwadau gwahanol sy'n dod o'r penderfyniadau a wneir ar draws y Llywodraeth. Rwy'n deall pam mae pwyllgorau pwnc eisiau asesiadau effaith penodol ar gyfer eu meysydd eu hunain, ond barn Llywodraeth Cymru yw nad yw pobl yn byw eu bywydau yn gweithio heb ymwneud ag eraill mewn pwyllgorau pwnc. Mae plant yn byw eu bywydau mewn cymunedau. Maen nhw'n byw eu bywydau mewn teuluoedd. Mae'r holl bethau hynny'n bwysig i'r cyfleoedd sydd ganddynt mewn bywyd, a dyna pam mai'r asesiad effaith integredig strategol yw'r ffordd yr ydym yn asesu'r gyllideb yn ei chyfanrwydd ym mywydau pobl yma yng Nghymru.
O ran chwyddiant, unwaith eto gallaf ddweud wrth Gadeirydd y pwyllgor fy mod yn gobeithio y byddwn yn defnyddio rhagolygon y swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol wedi'u diweddaru fel rhan o'r gyllideb derfynol.
Rwyf eisiau, Dirprwy Lywydd, os oes gennyf amser, ymateb i ddwy thema gyffredinol y prynhawn yma. Y rheini oedd y ffocws ar gynhyrchiant a'r ffocws ar atal. Mae cynhyrchiant yn her ddifrifol iawn, nid yn unig i Gymru ond i'r DU gyfan. Wrth gwrs, mae Cymru wedi bod yn cau'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Rhwng 2009 a 2023, y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, tyfodd cynhyrchiant Cymru 14.1 y cant, tra bod cynhyrchiant ledled y DU wedi tyfu 10.5 y cant.
Ac mae mwy y gallwn ei wneud. Mae cynnydd cynhyrchiant yn dod, yn y bôn, yn y Llywodraeth o fuddsoddiad mewn sgiliau, seilwaith ac arloesi, ac mae'r gyllideb ddrafft yn dangos yr holl nodweddion hynny. Rydym yn buddsoddi mewn sgiliau, mewn gofal cymdeithasol, oherwydd pan fydd gennych weithlu mwy medrus, gweithlu sy'n cael ei gadw, gall pobl wneud mwy, gallant wneud yn well ac mae eu cynhyrchiant yn cynyddu o ganlyniad. Edrychwch ar effaith y buddsoddiad enfawr yr ydym wedi'i wneud mewn rheilffyrdd yng Nghymru, yn llinellau craidd y Cymoedd: gwerth dros £1 biliwn o fuddsoddiad, sydd heddiw yn gweld y nifer uchaf erioed o deithwyr yn cael eu cludo, y nifer uchaf erioed o deithiau sy'n cael eu cwblhau ar amser, a derbyniadau tocynnau sydd wedi codi ymhell dros yr hyn a gyflawnwyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r rhain i gyd yn enillion cynhyrchiant.
O ran arloesi, rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial, a byddwn yn defnyddio llawer mwy nawr, gyda pharthau yn y gogledd a'r de. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r defnydd o Magic Notes yn arbed 7.5 awr yr wythnos i weithiwr cymdeithasol unigol y gallant eu defnyddio mewn gwaith wyneb yn wyneb gyda'u defnyddwyr, yn hytrach na gorfod trawsgrifio cyfweliadau yn ôl yn eu canolfannau.
O ran atal, Dirprwy Lywydd, rydym yn dilyn y deipoleg bedwar cam a ddatblygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'r gyllideb hon yn dangos ein bod yn buddsoddi mewn atal ar bob un o'r pedair lefel. Atal sylfaenol: beth yw'r twf cyflym hwnnw yn nifer y plant dwy oed sy'n derbyn gofal plant Dechrau'n Deg yng Nghymru, ac a gynigiwyd i 13,400 o blant yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, os nad yw'n fuddsoddiad mewn atal sylfaenol, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'r plant hynny? Mewn atal eilaidd, rydym yn gweld y symudiad i optometreg y stryd fawr, lle mae miloedd o apwyntiadau bellach yn digwydd ar y stryd fawr yn hytrach nag mewn ysbytai, gan atal yr angen i bobl wneud y teithiau hynny a gwneud yn siŵr bod y canlyniadau iddynt yn well hefyd. Ym maes atal trydyddol, ar ddiogelwch tomenni glo, mae bron i £200 miliwn o fuddsoddiad nawr, gan sicrhau y gellir atal anawsterau sydd eisoes wedi digwydd rhag gwaethygu yn y dyfodol. Ar bob lefel o'r deipoleg, mae'r gyllideb hon yn dangos bod y Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn ag atal—nid fel slogan, ond fel set o gamau gweithredu ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Dirprwy Lywydd, a gaf i amlinellu'n fyr beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol? Oherwydd, wrth gwrs, yn dilyn y cytundeb â Phlaid Cymru, mae yna swm bach o refeniw a chyfalaf i'w hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol honno. Byddaf yn parhau i weithio gyda swyddogion i gwblhau'r symiau sydd ar gael, ac yna byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet i ddod i benderfyniadau terfynol. Dyna lle mae'r broses graffu hon mor bwysig, oherwydd trwy brism adroddiadau'r pwyllgor y bydd y trafodaethau hynny'n digwydd. Rwy'n falch o fod wedi gallu cytuno i fynychu sesiwn ychwanegol gyda'r Pwyllgor Cyllid ym mis Ionawr, rhwng gosod y gyllideb derfynol a'r bleidlais yma ar lawr y Senedd ar 27 Ionawr.
Diolch eto i'r Aelodau yma ac i bawb sy'n gweithio mor galed yn y pwyllgorau am gyfoeth y broses graffu. Edrychaf ymlaen at ddod â'r gyllideb i ben yn llwyddiannus fis nesaf, a'r sicrwydd y bydd hynny'n ei roi i bawb sy'n dibynnu ar y penderfyniadau a wneir ar eu rhan yma yn Senedd Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 8, egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 3 yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 11, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 10, cyllideb ddrafft 2026-27. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2026-27. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 13 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2026-27. Cynnig: O blaid: 24, Yn erbyn: 13, Ymatal: 13
Derbyniwyd y cynnig
Mae hynny'n dod â diwedd i'r pleidleisio heno. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.