Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/12/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sydd gyntaf prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone. 

Y Rhagen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio? OQ63579

Diolch, Jenny. Yn y flwyddyn ariannol hon, bydd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn darparu dros £107 miliwn i 45 o landlordiaid tai cymdeithasol, gan alluogi 11,500 o osodiadau mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae hyn yn cynnwys y £14 miliwn ychwanegol a gyhoeddais yn ddiweddar, a dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed hyd yn hyn, gan danlinellu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddatgarboneiddio, lleihau biliau a chynyddu safon byw tenantiaid.

Wel, mae'r £14 miliwn ychwanegol i'w groesawu'n fawr, ond mae'r anghenion yn enfawr, gan fod gennym un o bob pedair aelwyd yn byw mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd, a'r targed ar gyfer 2035 yw dim mwy na 5 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, a neb mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus. Yn amlwg, mae llawer mwy y mae angen i bob un ohonom ei wneud. Sylwais mai'r ddau brif faen prawf a nodwyd ar gyfer y gronfa twf lleol yw cynyddu cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau. Felly, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i ddefnyddio'r cyllid hwn i ehangu'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ymhellach. Beth yw eich targed uchelgeisiol ar gyfer nifer yr aelwydydd oer a fydd yn elwa o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio i fod yn byw mewn cartrefi wedi'u hinswleiddio'n iawn cyn y gaeaf nesaf, oherwydd yn amlwg, mae'n rhy hwyr bellach i wneud unrhyw beth am y cartrefi hynny y gaeaf hwn?

Rwy'n sylwi bod hwn yn swm sylweddol o arian—£0.5 biliwn a mwy. Ond yn fwyaf arbennig, nid tai cymdeithasol, yr ydym yn amlwg yn gwneud llawer o waith gwych arnynt, yw'r cartrefi oeraf yn fy etholaeth, ond tai yn y sector rhentu preifat. Ac mae'r data a ddarparwyd gan FRESH—sy'n deillio o'r gwaith hollbwysig sy'n arwain y sector gan Brifysgol Caerdydd ar gartrefi sero net—yn nodi ble yn union y mae'r cartrefi hyn, yn bennaf yn Cathays, a rhywfaint yn Adamsdown. Tybed beth y gallwn ei gynnig fel cymhelliad i landlordiaid preifat wneud y peth iawn i'w tenantiaid.

Diolch am eich cwestiwn pwysig, Jenny. Roeddwn yn falch iawn o allu cytuno ar y £14 miliwn ychwanegol hwnnw ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio eleni, fel y dywedais, gan ddod â'r cyfanswm i dros £100 miliwn. Mae cyllid y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wedi ariannu dros £355 miliwn ers dechrau'r rhaglen yn 2020, ac wedi darparu oddeutu 31,000 o osodiadau effeithlonrwydd ynni i gartrefi cymdeithasol ledled Cymru. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i gyllideb y flwyddyn nesaf, byddwn yn ymrwymo £92 miliwn pellach i'r rhaglen, a bydd hynny'n darparu oddeutu 8,000 o osodiadau effeithlonrwydd ynni eraill yn 2026-27. Bydd hynny'n dod â chyfanswm y buddsoddiad drwy'r rhaglen i dros £447 miliwn, gan ddarparu bron i 40,000 o osodiadau effeithlonrwydd ynni. A chredaf fod hynny'n dangos ein hymrwymiad i gynyddu safon byw tenantiaid tai cymdeithasol. Ond rydych chi'n llygad eich lle—bydd yr allbynnau a'r gwersi a ddysgwn o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn parhau i lywio ein syniadau ynglŷn â'r ffordd orau o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol gan leihau biliau ar yr un pryd.

Ochr yn ochr â'r rhaglen honno, mae ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd yn darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer pob aelwyd breifat gymwys yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys rhentwyr preifat sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Eleni, rydym wedi buddsoddi dros £13 miliwn yn Nyth. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, fe wnaethom fuddsoddi mwy na £479 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi a mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy Nyth.

Mae gennym ein cynllun benthyciadau datblygu ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae hynny wedi parhau i gyflawni'n gyflym. Ac rydym yn edrych o bob cyfeiriad ar y ffordd orau o ddatgarboneiddio ein cartrefi yng Nghymru, gan flaenoriaethu tlodi tanwydd wrth inni wneud hynny. A bydd hynny'n parhau wrth inni ddatblygu dulliau ar gyfer y dyfodol, gan geisio manteisio i'r eithaf ar bob cyfle buddsoddi posib, oherwydd fel y dywedwch yn gywir ddigon, mae hyn yn hollbwysig. Rhaid inni edrych ar hyn yn ein cartrefi cymdeithasol, ond hefyd ar sut y gallwn fynd i'r afael â hynny mewn rhaglenni ehangach hefyd ar gyfer trigolion eraill ar draws ein cymunedau.

13:35
Tai Fforddiadwy

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu tai fforddiadwy? OQ63562

Diolch, Mark. Mae'r Llywodraeth hon wedi gosod y targed tai cymdeithasol mwyaf uchelgeisiol ers datganoli a'i gefnogi gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed o dros £2 biliwn. Mae'r uchelgais hwnnw wedi sbarduno newid trawsnewidiol. Yn 2024–25, cwblhawyd 3,643 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, cynnydd o 12 y cant ar y flwyddyn flaenorol, a'r cyfanswm uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2007.

Wel, fe wnaethoch chi chwyddo'r nifer honedig o gartrefi rhent cymdeithasol carbon isel newydd yn erbyn eich targed drwy ychwanegu cartrefi nad ydynt yn adeiladau newydd, cartrefi nad ydynt yn dai carbon isel a chartrefi nad ydynt yn gartrefi rhent cymdeithasol. Yng nghyfarfod diweddar y grŵp trawsbleidiol ar dai, dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru fod landlordiaid cymdeithasol yn adeiladu cartrefi ar y gyfradd uchaf ers 2008, sy'n swnio'n wych, ond nid pan ystyriwch fod adolygiad y DU o dai yn 2012 wedi nodi, erbyn 2009-10, fod gan Lywodraeth Cymru y lefel gyfrannol isaf o wariant ar dai o bell ffordd o unrhyw un o bedair gwlad y DU. Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru hefyd na fydd y cynnydd o 2 y cant i'r grant tai cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru’n arwain at newid sylweddol o ran cyfradd neu raddfa darparu mwy o gartrefi gyda chyllideb sefydlog. Sut, felly, rydych yn ymateb i'w cwestiwn, 'O ystyried maint yr argyfwng tai ledled Cymru, sut rydym yn gwneud y newid sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru?', ac i'w datganiad, 'Mae angen cynllun 10 mlynedd arnom i greu 60,000 o gartrefi ychwanegol sy'n cynyddu capasiti flwyddyn ar ôl blwyddyn'?

Diolch, Mark. Mae'r targed a osodwyd gennym yn gwneud ei waith. Mae'n sicrhau'r ddarpariaeth uchaf a welwyd gennym mewn bron i 20 mlynedd. Yn 2024-25, fel y dywedais, cwblhawyd 3,643 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, ac mae hynny'n gynnydd o 12 y cant ar y flwyddyn flaenorol, a'r cyfanswm uchaf ers dechrau cadw cofnodion, fel y dywedais. Erbyn mis Mai 2026, rhagwelir y byddwn yn darparu dros 18,600, a rhagwelir y byddwn yn cyrraedd y targed erbyn mis Tachwedd 2026 ac yn cyflawni dros 20,300 erbyn diwedd 2026. Mae hynny'n gyflawniad rhyfeddol. Fel y dywedais yn y cwestiwn diwethaf, mae hyn yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom atgoffa ein hunain ei fod yn ymdrech tîm Cymru go iawn. Mae cymaint o ymdrech gan sefydliadau, adeiladwyr tai a chymaint o bobl eraill wedi creu'r lefel ddigynsail a nodedig hon o gyflawniad. Roeddem yn glir iawn o'r cychwyn cyntaf, mewn datganiad ysgrifenedig yn ôl ym mis Mehefin 2021 a datganiadau ystadegol dilynol, fod ein targed o 20,000 yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar dai sy'n cael eu gosod ar rent gan landlordiaid cymdeithasol. Fe wnaethom ddiffinio ein targed o fewn diffiniad cydnabyddedig tai fforddiadwy TAN2, gan gynnwys tai cymdeithasol i'w rhentu, tai canolraddol i'w rhentu a chynlluniau rhanberchnogaeth.

Mae rhenti preifat yn parhau i godi'n gyflymach na chyflogau mewn sawl ardal ledled Cymru, gan greu'r hyn y mae Sefydliad Resolution wedi'i alw'n 'lletem fforddiadwyedd'. Nawr, yn ôl eu hasesiad, un o'r lleoedd gwaethaf yng Nghymru yw Torfaen, lle mae rhenti wedi cynyddu 40 y cant ers mis Mai 2022, tra bo enillion ond wedi cynyddu 21 y cant. Pe bai rhenti wedi codi yn unol ag enillion, byddai rhentwyr preifat yn Nhorfaen yn talu £1,300 yn llai y flwyddyn mewn rhent. Gwelir tuedd debyg yn y sir nesaf, Rhondda Cynon Taf, ac yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â fy rhanbarth fy hun. Mae hyn yn endemig ledled Cymru. Nawr, mae hyn yn profi bod angen system reoli rhenti sydd wedi'i chynllunio'n dda yng Nghymru, ond mae'r Llywodraeth wedi diystyru hynny sawl gwaith, gan ddewis tincera ar yr ymylon ac amddiffyn landlordiaid ar draul tenantiaid. Mae osgoi gwneud hyn yn siomedig iawn. Nid yw'r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth deg i fesurau rheoli rhenti. Nid yw eu diystyru ar sail profiad yr Alban yn gynrychiolaeth deg o sut y gallai mesurau rheoli rhenti edrych yng Nghymru. Nawr, rydych chi wedi dweud fod angen i'r Llywodraeth wella data ar renti cyn y gallwch ystyried y syniad o fesurau rheoli rhenti. Felly, ble rydym arni gyda'r gwaith hwn, ac a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i fap gofodol cyhoeddus o renti'r farchnad yng Nghymru?

Diolch, Luke. Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn pwysig, oherwydd fel y dywedwch, mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i lawer o'n trigolion ledled Cymru a ledled gwahanol rannau o Gymru hefyd. Fel y gwyddoch, cyhoeddwyd ein Papur Gwyn ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd ym mis Hydref y llynedd, ac mae hynny'n cadarnhau nad ydym yn bwriadu cyflwyno mesurau rheoli rhenti ar hyn o bryd, ond rydym yn chwilio am ffyrdd o gael data gwell, data lleol gwell ar renti. Ac mae crynodeb yr ymatebion—ein camau nesaf yn dilyn y Papur Gwyn, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni—yn nodi ein bwriad i wella'r gwaith o gasglu data ar y sector rhentu preifat. Felly, gwyddom fod hwn yn fater pwysig, ac yn rhywbeth lle, yn ogystal â'r cymorth costau byw o £380 miliwn, rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer y gronfa atal digartrefedd. A gellir defnyddio hwnnw ar gyfer tenantiaid cymdeithasol a phreifat i atal digartrefedd, gan gynnwys talu biliau, ôl-ddyledion rhent, darparu gwarant rhent, neu gymorth gyda biliau'r cartref.

13:40

Yn dilyn gwerthu tai cyngor o dan Thatcher, a phrinder tai i'w rhentu, mae wedi bod yn wych gweld dychweliad at adeiladu tai cyngor newydd a datblygiadau tai cymdeithasol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru. Ac rwyf wedi bod yn falch iawn o ymweld â rhai sydd â biliau ynni isel bellach oherwydd inswleiddio da, ynni solar, storio ynni batri, ailgylchu dŵr llwyd. Hoffwn weld hynny'n cael ei ailadrodd ym mhob cartref newydd—byddai'n wych gweld hynny. Ac rwyf newydd ddod o gyfarfod gyda phwyllgor addasu i newid hinsawdd y DU, sydd wedi siarad am yr angen i ddiogelu adeiladau rhag newid hinsawdd yn y dyfodol. Ond mae angen inni ystyried yr argyfwng natur hefyd. Felly, a fyddech yn ystyried elfennau bioamrywiaeth, fel blychau gwenoliaid duon a mannau gwyrdd, ar yr holl ddatblygiadau hyn? Ac a yw'r seilwaith goleuo, priffyrdd a draenio yn bodloni safonau priffyrdd, safonau mabwysiadwy, gan awdurdodau lleol? Diolch.

Diolch, Carolyn. Rwy'n croesawu eich cydnabyddiaeth o'r ddarpariaeth hyd yn hyn, ac unwaith eto, y ffaith ein bod yn rhagweld y byddwn wedi darparu dros 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu ledled Cymru ers dechrau tymor y Senedd hon erbyn mis Tachwedd 2026. Ac unwaith eto, mae hwn yn bendant yn gyflawniad syfrdanol.

Mae'n ofynnol i bob cartref cymdeithasol fodloni safonau ansawdd uchel, gan gynnwys safonau carbon isel, sydd, yn hollbwysig, yn arwain at ganlyniadau cynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, fel rydych chi wedi'i amlinellu. Mae'n ofynnol i gartrefi newydd ac adeiladau presennol sy'n cael eu haddasu ac sy'n derbyn grantiau fodloni safonau perthnasol ar gyfer eu hamser—ar hyn o bryd, gofynion ansawdd datblygu Cymru 2021—ac mae'r rheini'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol fodloni safon tystysgrif perfformiad ynni A, i beidio â defnyddio boeleri tanwydd ffosil i ddarparu dŵr poeth domestig a gwresogi. Felly, mae llawer o bethau yr ydym yn eu gwneud i sicrhau ein bod yn cydnabod carbon isel.

Mae 'Cymru’r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi ein dull o wneud budd net i fioamrywiaeth yn ofynnol, ac mae'r dull hwnnw wedi'i wreiddio mewn creu lleoedd ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwell ar gyfer bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau, sy'n adlewyrchu cyd-destun lleoedd.

Gellir sicrhau bod briciau gwenoliaid duon, y gwn eich bod yn hoff iawn ohonynt, coridorau draenogod a mannau gwyrdd yn cael eu darparu'n rhan o'r broses o ddangos bod budd net i fioamrywiaeth wedi'i gyflawni wrth gynnig datblygiad.

Felly, mae llawer yn digwydd yn hynny o beth, llawer o enghreifftiau da hefyd, yn enwedig lle mae awdurdodau cynllunio lleol eisoes yn cynhyrchu canllawiau ar gyfer cynlluniau ar raddfa fach, sy'n cynnwys blychau adar, blychau ystlumod a briciau gwenoliaid duon, ar gyfer gosodiadau ar raddfa deiliaid tai. Ac rydym wedi gweld yr enghreifftiau hynny ledled Cymru, o sir Fynwy i sir Gaerfyrddin, ac i Gonwy yn eich rhanbarth eich hun.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'r etholiadau ar y gorwel, fel y gwyddoch heb os, mae gan nifer o ymgeiswyr sydd eisoes wedi'u dewis swyddi mewn llywodraeth leol, ac mewn rhai achosion, mae ganddynt bortffolios cabinet. Yn wir, mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, ar frig y rhestr ar gyfer sedd Caerdydd Penarth. Fel y gwyddoch, mae llawer iawn o waith a wneir yma yn y Senedd yn cynnwys dwyn ein hawdurdodau lleol i gyfrif am y gwasanaethau y maent yn eu darparu, ac rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno yma fod hynny'n creu gwrthdaro buddiannau eithaf clir i'r cynghorwyr hyn. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni nad oes unrhyw ragfarn wleidyddol pan fydd Aelodau'r Senedd yn craffu, yn herio ac yn delio ag awdurdodau lleol yn eu rhanbarth?

Diolch am eich cwestiwn, Joel. Ydw, rwyf i, fel pob Aelod yma, yn ymwybodol iawn fod yr etholiad yn prysur agosáu. Efallai fod rhai ohonom hyd yn oed wedi cynnal hustyngau yr wythnos hon yn barod, cyn yr etholiadau hynny. Felly, rwy'n deall hynny'n iawn, a hoffwn longyfarch y darpar Aelodau sydd wedi cael eu dewis yn yr ardaloedd hynny. Byddant yn dod â llawer o brofiad, rwy'n siŵr, os cânt eu hethol, a byddwn yn edrych i weld a fydd gennym fwy o gynrychiolwyr yma, o bob cwr o Gymru, sydd â phrofiad o lywodraeth leol, a fydd, yn fy marn i, yn helpu i ddod â mwy o werth yma i'r lle hwn.

13:45

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn democratiaeth iach, mae pob un ohonom yn chwarae yn ôl yr un rheolau, ond mae wedi dod yn gwbl amlwg fod gan lawer o'r ymgeiswyr a ddewiswyd ar gyfer etholiadau y flwyddyn nesaf fantais annheg amlwg. Mae nifer fawr ohonynt yn cefnogi Aelodau presennol o'r Senedd ac mae ganddynt fynediad at yr ystad seneddol yn rhinwedd swydd allanol. Nid yn unig eu bod yn gyfarwydd â gwaith y Senedd, maent yn gyfarwydd â'r materion sy'n codi, ac maent yn cyfarfod â llu o sefydliadau a all helpu i godi eu proffil cyhoeddus, yma yn yr adeilad hwn. Nid wyf am eu henwi yma, ond mae llu o luniau wedi'u postio ar y cyfryngau cymdeithasol o ymgeiswyr sy'n sefyll y flwyddyn nesaf ac sydd wedi cael tynnu eu lluniau ar gyfer eu hymgyrch er mwyn hybu eu rhinweddau eu hunain mewn rhannau o'r adeilad hwn nad ydynt ar agor i'r cyhoedd. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn ei gefnogi, a pha sgyrsiau a gawsoch i sicrhau nad yw'r ymgeiswyr hyn sy'n gweithio i Aelodau, neu sydd ag unrhyw swydd gyda'r Senedd, yn defnyddio'r trywydd mewnol hwnnw i ennill mantais at ddibenion ymgyrchu?

Credaf mai'r peth pwysicaf y gallwch ofyn i bob ymgeisydd ei wneud yw siarad â'u hetholwyr. Dyna ble cânt eu gwasanaethu orau, a chredaf mai dyna ble gwelant a fyddant yn cael eu hethol ai peidio, drwy dreulio amser yn yr etholaeth y maent yn gobeithio ei chynrychioli. Felly, dyna'r cyngor gorau y gallaf ei roi i ddarpar ymgeiswyr lle maent yn sefyll. Credaf mai dyna ble maent yn cael y gwerth ychwanegol hwnnw, yn hytrach na'r awgrym rydych chi'n ei wneud, o bosib.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ymwybodol y bydd ymgeiswyr yn treulio amser yn eu hetholaethau, ond y broblem sydd gennyf, felly, yw pan fyddant yn treulio amser yma yn y Senedd, yn cynnal ymgyrchoedd gwleidyddol pan nad ydym ni ein hunain yn cael cynnal ymgyrchoedd gwleidyddol o fewn yr adeiladau hyn.

Ond yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ni allaf siarad am eich profiad chi, ond pan wyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol fel Aelod o'r Senedd, rwy'n aml wedi aros misoedd—ac rwy'n golygu misoedd—am ymatebion un frawddeg, weithiau. Mae gorfod mynd ar drywydd ymateb gan yr awdurdod lleol byth a hefyd nid yn unig yn gwneud i mi deimlo'n rhwystredig, mae'n gwneud hynny hefyd i'r etholwyr sydd wedi cysylltu â mi. Ond mae'n rhaid imi gyfaddef mai'r hyn sy'n fy nghythruddo fwyaf yw'r dirmyg y mae hyn yn ei ddangos at y materion a godwyd a'r trigolion sydd wedi'u codi. Beth bynnag yw eich lliw gwleidyddol, rwy'n credu y gall pob un ohonom gydnabod nad yw hyn yn iawn. Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn arwydd arall o ragfarn wleidyddol gan ein hawdurdodau lleol. Mae'r bobl a wasanaethwn yn haeddu cael eu trin yn gyfartal. Ni ddylent fod o dan anfantais am fod ganddynt farn wleidyddol wahanol neu am eu bod wedi ceisio cymorth gan gynrychiolydd nad yw'n cytuno â gwleidyddiaeth yr awdurdod lleol. Nid dyna sut y mae gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, yn y pen draw, mai'r trigolion a gynrychiolwn sydd o dan anfantais oherwydd rhagfarn wleidyddol amlwg awdurdodau lleol, a pha sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol i atgyfnerthu'r neges hon? Diolch.

Diolch, Joel. Dylwn ddweud y bydd rheolau, a fydd yn amlwg yn cael eu sefydlu gan y Llywydd, ac eraill, o ran ymgyrchu gwleidyddol ar yr ystad—rheolau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni eu dilyn hefyd. Felly, rwy'n siŵr y gellir trafod hynny mewn fforwm arall.

Rydych chi'n llygad eich lle, ni ddylai unrhyw un fod o dan anfantais, pwy bynnag y gofynnir iddynt helpu etholwr. Nid oes yr un ohonom yn gofyn pa blaid wleidyddol y mae unrhyw un yn pleidleisio drosti. Byddwn bob amser yn ceisio cynrychioli pobl yn y ffordd gywir, rwy'n siŵr. Felly, rwy'n credu mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ymateb yn y ffordd honno. Rwy'n siŵr eu bod o ddifrif ynglŷn â'u hymrwymiad i ymateb i aelodau etholedig hefyd pan fyddant yn cynrychioli eu hetholwyr, beth bynnag am bleidiau gwleidyddol.

I ddilyn y pwynt a wnaed gan y Gweinidog, rwyf wedi bod yn ceisio darllen rhwng llinellau eich cwestiynau, Joel. I atgyfnerthu hynny, os oes unrhyw gwynion ynghylch y defnydd amhriodol o adnoddau'r Senedd, gan unrhyw blaid wleidyddol neu unigolyn, nodwch hynny i'r man priodol. Ac fe fyddwch chi'n gwybod ble, ac nid y Gweinidog ydyw yn ôl pob tebyg.

Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.

Diolch, Lywydd. Prif fecanwaith Llywodraeth Cymru i drechu tlodi yw rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n rhan o'ch briff. Ar gyfer 2026-27, mae'r dyraniad adnoddau ar gyfer y rhaglen yn parhau yr un fath ar £3.73 miliwn ac mae'r dyraniad cyfalaf yn cynyddu 2 y cant i £38.25 miliwn. Pan ofynnodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi dod i'r casgliad mewn mwy nag un adroddiad nad yw lefel buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn rhaglen Cartrefi Clyd yn agos at y lefel sydd ei hangen, ynglŷn ag ymrwymiadau yn y gyllideb ddrafft, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y dylai'r pwyllgor,

'feddwl am y rhaglen Cartrefi Clyd o ran y ffaith nad dyma'r unig gyllid grant sydd ar gael i aelwydydd... mae'r cynlluniau ar lefel Prydain Fawr, er enghraifft ECO Flex, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru.'

Fodd bynnag, cyhoeddwyd yng nghyllideb y Canghellor y byddai cynllun ECO yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth. Er bod y cynllun wedi cael ei broblemau, mae wedi darparu cyllid gwerth £150 miliwn bob blwyddyn i Gymru drwy awdurdodau lleol. Felly, a gynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ar effaith cael gwared â chynllun ECO ar raglen Cartrefi Clyd? A sut y credwch y bydd hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd y rhaglen hon i sicrhau bod tai pobl yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon?

13:50

Diolch, Sioned. Cwestiwn hollbwysig, a rhywbeth yr ydym eisoes wedi'i glywed yn cael ei godi y prynhawn yma. Fel rydych chi'n ei ddweud yn gywir ddigon, yn y gyllideb, cyhoeddodd Llywodraeth y DU doriad mewn biliau ynni, felly, i ddefnyddwyr, cael gwared ar yr ardoll honno a gasglwyd i ariannu rhwymedigaethau cwmnïau ynni ledled Prydain, y cynllun ECO hwnnw, a rhai ardollau gwyrdd hanesyddol. Mae cynllun ECO yn darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer cwsmeriaid cymwys ar incwm is i leihau lefel y carbon a ddefnyddir ar gyfer gwresogi a lleihau biliau ynni. Er y bydd y toriad hwn yn yr ardoll yn lleihau'r bil cyfartalog £150 y flwyddyn, mae'n gadael y bwlch hwnnw ar hyn o bryd. Cefais drafodaeth yn dilyn y gyllideb gyda'r Gweinidog, y Gweinidog McCluskey. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae wedi ymrwymo i gadw mewn cysylltiad â mi mewn perthynas â hynny. Rydym yn dal i drafod yn dilyn y sgwrs honno, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos cyn cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU hefyd, y maent i fod i'w gyhoeddi cyn bo hir, rwy'n credu.

Diolch am eich ateb. Mae rhaglen Cartrefi Clyd, wrth gwrs, yn hollbwysig i gynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2021. Nododd y cynllun 10 cam gweithredu i'w cyflawni gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Mae rhaglen Cartrefi Clyd yn gam gweithredu parhaus yn y cynllun, fel y byddwch yn gwybod. Cyhoeddwyd y diweddariad ar gynnydd y cynllun gan eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ym mis Mehefin. O dan gamau gweithredu newydd, rhestrodd yr angen i ddatblygu a chyflwyno targedau effeithlonrwydd ynni dros dro, gan nodi y byddai'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Hydref wrth gwrs, yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r targedau hyn. Felly, pa ddiweddariadau y gallwch eu darparu o sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ynghylch pryd y gallwn ddisgwyl y targedau hynny, sydd mor hanfodol i hybu cyflawniad y rhaglen Cartrefi Clyd?

Diolch, Sioned. Hoffwn ddweud bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £13.2 biliwn i gyflawni eu cynllun Cartrefi Cynnes, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn amlwg yn awyddus iawn i weld cynnwys y cynllun hwnnw, ac i ddeall ei effaith ledled Cymru, ac unrhyw gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig ag ef. Wrth ymgysylltu â'r Gweinidog McCluskey, rwyf wedi pwysleisio pwysigrwydd nid yn unig y mentrau a ariennir, ond hefyd y penderfyniadau polisi ehangach o fewn cymhwysedd Llywodraeth y DU, a fydd yn berthnasol yma yng Nghymru.

Ar ein rhaglen Cartrefi Clyd, dywedais ein bod wedi buddsoddi mwy na £30 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon drwy gynllun Nyth Cartrefi Clyd. Mae hefyd, fel y gwyddoch, yn ddull gweithredu deublyg drwy'r gwasanaeth cynghori a thrwy wneud gwelliannau i gartrefi pobl sy'n dlawd o ran tanwydd. Fel y dywedaf, mae'r trafodaethau hynny gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn parhau. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ymhellach yn dilyn mwy o drafodaethau cyn i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi.

Diolch. Targedau ar gynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru oedd y rhain, ac mae rhaglen Cartrefi Clyd yn rhan mor hanfodol o'r cynllun hwnnw, onid yw? Roeddem wedi disgwyl y targedau hynny erbyn hyn. Ym mis Mehefin, dywedwyd ein bod yn aros am yr amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig. Wel, maent wedi cael eu cyhoeddi ym mis Hydref. Felly, roeddwn eisiau rhywfaint o eglurder ar hynny.

Y peth arall yr hoffwn ei godi, mewn perthynas â phopeth rwyf wedi'i drafod y prynhawn yma, yw mai un o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a fu'n edrych ar effeithiolrwydd a chyflawniad rhaglen Cartrefi Clyd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu maint rhaglen Nyth fel bod cymaint o gartrefi â phosib yn cael eu cefnogi, ac i wneud hyn drwy sicrhau cynnydd mewn capasiti a sgiliau yn y sector. Cydnabuwyd y bydd dod â chynllun ECO i ben yn arwain at sioc i'r sector hwnnw a cholli miloedd o swyddi, felly pa waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith dod â'r cynllun i ben ar y gadwyn gyflenwi, sydd mor hanfodol i ddarparu rhaglen Cartrefi Clyd?

13:55

Diolch, Sioned. Yn sicr, dyma'r trafodaethau y mae swyddogion yn eu cael ar hyn o bryd gyda swyddogion Llywodraeth y DU yn dilyn y penderfyniad i ddod â'r cynllun i ben. Ond unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon am y materion hynny a fydd yn cael eu trafod, fel y bwlch sgiliau, fel y dywedwch, y mae angen inni sicrhau, yn gywir ddigon, ein bod yn ei lenwi. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny.

Datblygiadau Tai mewn Cymunedau sy'n Tyfu

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i uwchraddio'r seilwaith allweddol sydd ei angen i ddarparu ar gyfer datblygiadau tai mewn cymunedau sy'n tyfu? OQ63572

Diolch, Sam. Mae 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' yn nodi y dylid cydgysylltu a chynllunio tai, twf economaidd a seilwaith cysylltedd trafnidiaeth a digidol ar sail y rhanbarth cyfan. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi allweddol yn cefnogi lleoedd yn yr ardaloedd twf cenedlaethol a nodwyd yn 'Cymru’r Dyfodol'.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe dynnoch chi sylw at elfen bwysig o'r ystyriaeth honno, sef seilwaith trafnidiaeth. Nawr, yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae problem arbennig gyda pharcio yn yr ysbyty, sydd wedi gwaethygu oherwydd twf y boblogaeth, sydd i'w groesawu, ond mae angen i'r seilwaith allu dilyn y twf hwnnw hefyd.

Mae etholwyr, cleifion, ymwelwyr a staff yn nodi anawsterau dyddiol ar y safle. Mae pobl sy'n cyrraedd am apwyntiadau yn cyrraedd o dan straen, yn bryderus ac yn aml yn hwyr am na allant ddod o hyd i leoedd parcio diogel a hygyrch. Mae staff sy'n gweithio sifftiau hir a heriol yn wynebu'r un heriau. Ac nid anghyfleuster bach yn unig mohono, wrth gwrs, mae'n rhwystr i ofal, yn peryglu llesiant cleifion ac yn rhoi straen ar weithlu sydd eisoes o dan bwysau. Yn fy marn i, mae cynghorau mewn sefyllfa dda i gefnogi byrddau iechyd gyda hyn, nid yn unig o ran datblygu'r seilwaith i gefnogi'r safleoedd hyn, ond hefyd efallai o ran rheoli ac efallai gorfodi yn y safleoedd hyn hefyd, gan fod cynghorau'n wynebu'r sefyllfa hon o ddydd i ddydd gyda'u meysydd parcio eu hunain.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno â mi y dylai cynghorau a byrddau iechyd gydweithio i weld sut y gellir datrys problemau fel hyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o ystyried yr arbenigedd sydd i'w gael mewn awdurdodau lleol?

Yn sicr. Diolch, Sam. Wel, fel yr amlinellwyd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', mae seilwaith digonol ac effeithlon, gan gynnwys mewn gwasanaethau fel addysg ac iechyd, yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. A dylai awdurdodau cynllunio, ar y cyd â darparwyr allweddol, fabwysiadu'r dull gweithredu strategol a hirdymor hwnnw o ddarparu seilwaith fel rhan o'r broses o lunio cynlluniau.

Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddull sy'n dilyn cynllun ar gyfer ei datblygiadau ledled Cymru, ac mae cynnal y cynlluniau datblygu lleol cyfredol hynny'n hanfodol. Ar y pwynt a godwch ynghylch Ysbyty Maelor Wrecsam, mae croeso ichi ysgrifennu ataf ymhellach ar y mater hwnnw. Ond fe fyddwch yn gwybod bod gennym gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru hefyd, sy'n cynnwys dyheadau i fynd i'r afael â chapasiti ar gyffordd 4 a 5 ar yr A483, ac mae llawer o bethau eraill y bydd cynllun trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru yn eu cynnwys. Ond hoffwn pe baech yn ysgrifennu ataf ar y mater penodol hwnnw.

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar lywodraethiant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? OQ63575

Diolch, Andrew. Mae'r comisiynwyr a benodwyd i oruchwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Chwefror 2024 wedi gwneud cynnydd sylweddol. Byddwn yn gweithio gyda nhw yn y misoedd nesaf i drefnu'r newid yn ôl i drefniadau llywodraethiant lleol yn ystod 2026.

Rwy'n falch o glywed bod trefniadau llywodraethiant lleol ar y gweill, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n tynnu eich sylw at adroddiad yr arolygiaeth ym mis Mai eleni, a fu'n edrych, yn amlwg, ar drefniadau gwaith a dogfennau polisi o fewn y gwasanaeth yma yn ne Cymru. Tynnodd sylw'n benodol at ddiffyg dull ar sail risg yng ngwaith y gwasanaeth tân, wrth asesu risg, asesu pa fesurau atal y gellid eu rhoi ar waith, ac yn amlwg, gweithio ar draws yr ardal i wneud hynny'n ddull gweithredu effeithiol i atal tân, ac yn amlwg, anafiadau a marwolaethau o fewn y gwasanaeth ei hun, ond hefyd o fewn y gymuned y mae'n ceisio ei diogelu.

A allech chi roi blas i mi o'r hyn y mae eich swyddogion wedi bod yn eich cynghori ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud gyda'r comisiynwyr i sicrhau bod y ddogfen hon yn cael ei diweddaru ar frys, fel y gall y gwasanaeth tân yn ne Cymru fod mewn sefyllfa well o ran asesu risg ac asesu mesurau atal, oherwydd mewn gwirionedd, mae risgiau ac atal yn dod law yn llaw, ac os gallwch atal tân, rhaid bod hynny'n well na gorfod rheoli tân sydd â chanlyniadau mor ddinistriol?

14:00

Yn hollol. Diolch am y cwestiwn hwnnw. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn fod yr ymyrraeth yng ngwasanaeth tân ac achub de Cymru yn dod i ben cyn gynted â phosib fel y gellir trosglwyddo'r gwasanaeth yn ôl i reolaeth leol. Mae hynny ar flaen fy meddwl. Mae'r comisiynwyr yn parhau i asesu eu cynnydd i sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol ar waith cyn i'r gwasanaeth ddychwelyd i drefniadau llywodraethiant lleol. Ac fel y sonioch chi, mae risg ac atal yn mynd law yn llaw.

Mae'r comisiynydd wedi asesu bod y gwasanaeth wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ei ddiwylliant a'i berfformiad ehangach, a bod y sylfeini yn eu lle i hynny barhau. Ac fel y dywedais, rwy'n disgwyl i'r newid yn ôl i drefniadau llywodraethiant lleol ddechrau yn 2026. Felly, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda nhw ar gamau i drawsnewid yn llyfn. Bydd trawsnewid o gomisiynwyr yn dechrau pan fydd newidiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad a gawsom yn ddiweddar ar drefniadau llywodraethiant yr awdurdod tân ac achub wedi'u cyflwyno yn 2026. Felly, rydym wedi cael yr ymgynghoriad, ac unwaith eto, yn y Senedd fis Hydref diwethaf ac eto ym mis Mawrth, fe ymrwymais i gyflwyno newidiadau i drefniadau llywodraethiant yr awdurdod tân ac achub yn nhymor y Senedd hon. Dyna yw fy mwriad o hyd, a bydd yn rhan o'r broses o drawsnewid o gomisiynwyr i'r awdurdod tân ac achub diwygiedig. Fel y dywedais, rwy'n bwriadu gwneud datganiad i'r Senedd cyn y Nadolig ar y camau nesaf, ac i wneud yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol ym mis Mawrth 2026.

Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ymchwilio i'r problemau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac rydym wedi ysgrifennu—. Fel rhan o'r ymgynghoriad, fe wnaethom ysgrifennu atoch i ddweud ein bod yn argymell diwygio strwythurol radical. Felly, ni fydd ei drosglwyddo'n ôl i lywodraethiant lleol ynddo'i hun yn newid unrhyw beth. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich bod chi'n bwriadu lleihau'r aelodaeth a rhoi cyfarwyddiadau cadarn iddynt ynghylch faint o hyfforddiant sydd angen iddynt ei wneud os ydynt yn mynd i gymryd y swyddi hyn, ond nid wyf yn siŵr fy mod yn argyhoeddedig fod hyn yn mynd i gyflawni'r lefelau o newid diwylliannol a'r angen i sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel. Felly, ble rydych chi arni ar fynd i'r afael â hyn, newid y diwylliant, a'r diwygiad strwythurol hirdymor yr oeddem yn ei argymell, ac nad wyf yn ei weld yma?

Diolch, Jenny. Ar yr agwedd ddiwylliannol, rwy'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau cynnydd, unwaith eto, yn erbyn y materion pryderus iawn a amlygwyd yn yr adolygiadau annibynnol o ddiwylliant yn ddiweddar. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r cadeiryddion, comisiynwyr de Cymru, prif swyddogion tân, undebau llafur a'n fforwm partneriaeth gymdeithasol i drafod yr holl faterion hynny. Mae gennym—. Wel, bob tro y byddwn yn cyfarfod, mae newid diwylliant ar yr agenda. Rwyf wedi ymrwymo cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gwelliannau i ddiwylliant ym mhob un o'r tri gwasanaeth tân ac achub. Mae Academi Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r tri gwasanaeth ar eu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth, ac mae'r gwasanaethau eu hunain wedi datblygu ac yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth a newid diwylliannol i'w staff. Rwyf hefyd wedi ariannu hyfforddiant i wella'r ffordd yr ymdrinnir ag achosion disgyblu a chwynion ac mae pecyn hyfforddi a datblygu newydd ar gyfer aelodau'r awdurdod yn cael ei ddatblygu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Fel y dywedais, cefais fy nharo gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym wedi rhoi amser i ddadansoddi'r ymatebion hynny. Rwyf wedi dweud y bydd datganiad yn cael ei wneud am y canlyniadau cyn bo hir iawn, a bydd diwygio llywodraethiant gwasanaethau tân ac achub yn cael ei ategu gan fframwaith cenedlaethol newydd, i gryfhau perfformiad a threfniadau monitro ac adrodd gan wasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Ac fel y dywedais, bydd hyfforddiant i aelodau, i wneud yn siŵr fod pobl yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau. Gwyddom y byddwn hefyd yn gwneud hyn cyn diwedd tymor y Senedd hon, fel yr ymrwymais. Nid yw hynny'n golygu na fydd angen defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio llywodraethiant yn fwy radical, ond mater i'r Senedd nesaf fydd hynny.

14:05

Mae cwestiwn 5 [OQ63582] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6—Rhianon Passmore.

Anghenion Tai yn Islwyn

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i ddiwallu anghenion tai yn Islwyn? OQ63578

Diolch, Rhianon. Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unig, roedd cyfanswm y grant tai cymdeithasol ar gyfer 2024-25 dros £60 miliwn, a bydd yn darparu bron i 500 o gartrefi newydd. Yr wythnos diwethaf, cadarnheais hefyd y bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y grant cartrefi gwag yn aros ar agor tan fis Medi 2026. Ar ben hynny, byddwn yn treialu dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol ddarparu cyfraniad o 10 y cant i gymryd rhan yn y cynllun y flwyddyn nesaf. Mae mynd i'r afael â chartrefi gwag yn hanfodol i ddiwallu anghenion tai a lleihau dibyniaeth ar lety dros dro.

Diolch. Ym mis Chwefror 2025, adroddodd y Caerphilly Observer fod 6,420 o bobl ar restr aros Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am dai ar ddiwedd 2024, gyda 3 y cant o eiddo'r awdurdod lleol yn wag, 346 o dai cyngor yn wag ar hyn o bryd, ac eiddo gwag yn wag ers 218 diwrnod ar gyfartaledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl cyrraedd 93 y cant o'i hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol mawr ei angen hwn erbyn mis Mawrth 2026. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu cwblhau'r cartrefi newydd hyn gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU bellach sy'n blaenoriaethu'r angen i adeiladu tai? Ac yn benodol yn Islwyn, pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod tai cyngor gwag yn cael eu troi o gwmpas yn gyflymach a'u rhoi'n ôl i gartrefu pobl? A chanllawiau—. Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi i awdurdodau lleol ynglŷn â'r amser a argymhellir ar gyfer troi eiddo gwag yn gartrefi i fyw ynddynt?

Diolch, Rhianon. Yn gyntaf oll, mae'n bwysig nodi nad yw ffigurau rhestrau aros am dai cymdeithasol yn fesur o angen tai. Gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol mewn sawl ardal, gan gynnwys pobl sy'n byw mewn tai sicr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym wedi cyflawni'r cyflenwad parhaus uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd, ac rwy'n croesawu uchelgais Llywodraeth y DU i roi hwb i adeiladu tai cymdeithasol yn Lloegr hefyd, fel bod gan bartneriaid cyflenwi hyder ym muddsoddiad a pholisïau cynaliadwy y Llywodraeth ar draws y sector yn ei wahanol fathau o ddeiliadaeth.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisoes yn cymryd rhan yn y cynllun grant cartrefi gwag, a bydd yn elwa o gael gwared ar y cyfraniad o 10 y cant y soniais amdano. Roedd mynd i'r afael â chartrefi gwag yn rhan o'r drafodaeth ddiweddar ym mord gron fy awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru yn ddiweddar, ac roedd hynny'n cynnwys Caerffili. Rwy'n croesawu gwaith tîm eiddo gwag y cyngor, ac roeddwn yn falch o ddarllen bod dros 400 o gartrefi preifat gwag yn hirdymor wedi eu haddasu i'w hailddefnyddio ers 2021. A hoffwn gofnodi fy niolch i'r awdurdod lleol ac i'r holl swyddogion sy'n gweithio mor galed yn y tîm eiddo gwag i gyflawni hynny.

Setliad Llywodraeth Leol

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar setliad arfaethedig Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol? OQ63576

Diolch, Natasha. Cyhoeddais y setliad dros dro i lywodraeth leol ar 24 Tachwedd. Ddoe, fe wnaethom gyhoeddi cytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru, gan ddyrannu £112.8 miliwn arall i awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl cyhoeddi'r setliad terfynol i lywodraeth leol ar 20 Ionawr.

14:10

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae disgwyl i Gyngor Dinas Casnewydd dderbyn mwy o gynnydd i'w gyllid nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru o dan setliad drafft y Llywodraeth. Bydd y cynnydd arfaethedig o 4.3 y cant mewn cyllid yn rhoi £14.3 miliwn ychwanegol i gyngor y ddinas, gan godi cyfanswm y pecyn ariannol i oddeutu £350 miliwn i gyd—er bod disgwyl i'r swm hwnnw fod hyd yn oed yn uwch nawr, gyda Phlaid Cymru unwaith eto'n neidio i'r gwely gyda Llafur i helpu i basio'r gyllideb. Rydym wedi gweld cynnydd tebyg mewn cyllid i Gasnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae fy etholwyr yn dal i gael eu taro gan gynnydd gormodol yn y dreth gyngor. Cododd y biliau 6.7 y cant y llynedd ac 8.5 y cant y flwyddyn cyn hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ar yr un pryd crebachodd y gwasanaethau a gynigir i drigolion. Nawr, gwyddom fod gan wleidyddion Llafur, yn y Senedd, neu yn yr awdurdodau lleol, duedd i wastraffu arian trethdalwyr. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei bwmpio i mewn i'r meysydd lle mae ei angen fwyaf, fel buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen, ac nid cael ei wastraffu neu ei gelcio yng nghronfeydd wrth gefn y cyngor ar gyfer diwrnod glawog? Ac a ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cytuno â mi a'r Ceidwadwyr Cymreig, os bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio cynyddu'r dreth gyngor yn sylweddol unwaith eto, y dylai'r awdurdod gynnal refferendwm lleol i adael i'r cyhoedd benderfynu, unwaith ac am byth, beth ddylai ddigwydd mewn gwirionedd? Diolch.

Diolch, Natasha. Na, nid wyf yn credu bod refferenda lleol o'r math hwnnw'n briodol. Pan fyddwn yn siarad am gytundeb y gyllideb a wnaed gyda Phlaid Cymru ac a gyhoeddwyd ddoe, mae'n ymwneud â dod o hyd i dir cyffredin ar flaenoriaethau a rennir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Dyna oedd y neges a roddodd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Rydym yn gwybod beth oedd yn y fantol a bod y drws ar agor ar gyfer trafodaethau, ac rwy'n credu bod dod o hyd i'r seiliau cyffredin hynny i flaenoriaethau a rennir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn hollbwysig, a dyna a gyflawnwyd drwy'r cytundeb hwn. A gadewch inni fod yn glir mai'r enillwyr yma yw'r gwasanaethau cyhoeddus a'r dinasyddion sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus ac yn eu defnyddio. Mae'r cytundeb hwn yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus a ffordd ymlaen i gyllideb. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen ei gydnabod. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4 y cant, ac mae hwnnw'n gynnydd sylweddol mewn termau real, a fydd yn helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. A hoffwn ddweud hefyd fod yna bethau o fewn y gyllideb a oedd yn fuddiol o gyllideb y llynedd yn ein cytundeb ag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds—pethau sy'n ymrwymiadau parhaus, fel £30 miliwn i ymestyn gofal plant i blant dwy oed. Felly, mae hynny'n bwysig iawn hefyd.

O ran y dyraniad cyllid, fe fyddwch chi'n gwybod ei fod yn cael ei wneud yn ôl fformiwla ariannu. Dyna sut y mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol. Yr hyn sy'n gyrru hynny'n bennaf yw teneurwydd poblogaeth, amddifadedd a phoblogaeth, ac mae yna nifer o ffigurau sy'n mynd i mewn i hynny. Rwy'n credu bod awdurdodau lleol yn gweithio'n anhygoel o galed i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus a welwn ac y dibynnwn arnynt, ac mae yna wasanaethau weithiau nad ydym yn eu gweld sydd o dan bwysau enfawr, fel gofal cymdeithasol ac addysg, ac rwy'n gwybod, o gytundeb y gyllideb, y bydd hynny'n helpu i ddarparu sicrwydd i awdurdodau lleol. Ac rwy'n siŵr y byddech chi hefyd eisiau llongyfarch Cyngor Dinas Casnewydd ar y gwaith a wnânt, ac maent yn gweithio mor galed. Rydym yn gweld cymaint o dyllau'n cael eu llenwi a llawer o ffyrdd yn cael eu trwsio nawr, am mai dyna beth y mae pobl eisiau ei weld. Ac rwy'n credu bod yr awdurdod lleol a'r arweinyddiaeth yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn gwneud gwaith anhygoel.

Cymorth Ariannol i Gyngor Sir Powys

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Sir Powys? OQ63574

Diolch, Russell. Y setliad llywodraeth leol i Gyngor Sir Powys ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw £251 miliwn. Mae'n cynyddu i £268 miliwn yn setliad dros dro 2026-27 ar gyfer 2026-27, ar sail cytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru ddoe— cynnydd o 4.2 y cant ar sail gyfatebol.

14:15

Diolch am gadarnhau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau deall a yw'r cyllid ychwanegol hwn o ganlyniad i gytundeb y gyllideb y sonioch chi amdano yn gyllid gwaelodol, oherwydd rwyf i hefyd wedi sylwi yn y geiriad a ddefnyddir fod y cyllid ychwanegol yn cael ei ddisgrifio fel cyllid ychwanegol heb ei neilltuo yn hytrach na chyllid gwaelodol, sy'n iaith a fyddai wedi cael ei defnyddio yn y gorffennol. A allwch chi esbonio'r gwahaniaeth ac os oes newid yn yr iaith, beth yw'r gwahaniaethau os gwelwch yn dda?

Diolch, Russell. Unwaith eto, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi ymrwymo i gytundeb a fydd yn caniatáu i'r gyllideb ar gyfer 2026-27 basio, un sy'n sicrhau bron i £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru, sy'n rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig ac yn fwyaf arbennig, yn lleddfu pryderon llawer o bobl cyn y Nadolig. Felly, o ran y dosbarthiad yr effeithir arno ar draws Cymru a'r cyllid gwaelodol, mae'r cynnydd cyffredinol i setliadau bellach yn 4.5 y cant, gydag ystod o 4.1 y cant i 6.1 y cant, a'r gwahaniaeth rhwng cyfartaledd Cymru a'r cynnydd isaf yn 0.4 pwynt canran. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu gyda rhagor o wybodaeth os hoffech i mi wneud hynny, Russell. 

Adeiladu Tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63568

Mae gennym gynlluniau amrywiol i gefnogi adeiladu tai, gan gynnwys cronfa eiddo preswyl Cymru, y disgwylir iddi fuddsoddi dros £0.75 biliwn yn ystod ei hoes. Mae'r cynllun hwn eisoes wedi cefnogi bron i 200 o ddatblygiadau, sy'n cyfateb i dros 2,100 o gartrefi ers ei sefydlu. Mae hyn yn cynnwys £42.1 miliwn ar gyfer 285 o gartrefi yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y broblem yw, dros y chwe mis diwethaf, nid oes unrhyw gartrefi wedi'u hadeiladu yn y rhan fwyaf o sir Benfro oherwydd canllawiau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi moratoriwm ar adeiladu tai oherwydd yr ardal cadwraeth arbennig forol yn y môr o amgylch sir Benfro. Rwy'n gwybod am fusnesau, cwmnïau adeiladu tai, sy'n diswyddo staff, penseiri sy'n diswyddo staff, am na chânt adeiladu eiddo yn y rhan fwyaf o sir Benfro. Beth ar y ddaear sy'n digwydd? Mae gennym brinder tai yn y wlad hon, ond mae'r Llywodraeth hon, drwy ei hasiantaeth hyd braich, CNC, yn dweud na chewch chi adeiladu unrhyw dai yn y rhan fwyaf o sir Benfro. Sut ar y ddaear y mae hynny'n mynd i helpu'r argyfwng tai? 

Diolch, Sam. Mae cyd-aelodau Cabinet a minnau yn rhoi ein sylw mwyaf i'r mater hwn, y mater sy'n ymwneud â nitradau. Rydym yn archwilio'r holl atebion gyda'r brys mwyaf. Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i'r ardaloedd yr effeithir arnynt, gan gynnwys dros £500,000 i fwrdd rheoli maethynnau gorllewin Cymru, a chyllid o hyd at £1.5 miliwn dros dair blynedd i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phroblemau gyda maethynnau. Rydym hefyd wedi cyflymu'r broses o ddarparu offer a chanllawiau hanfodol, gan gynnwys yr adnodd cyfrifo maethynnau, canllawiau dan arweiniad arbenigwyr a llawlyfr ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol. Ac er enghraifft, mae gwaith ar y gweill i asesu'r llwyth maethynnau ar gyfer Maes Slade, yn ogystal ag opsiynau lliniaru posib ar y safle ac oddi ar y safle, i sicrhau bod gwaith datblygu'n gallu bodloni'r gofynion niwtraliaeth maethynnau.

Mae gennym dasglu a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, ac mae hwnnw'n parhau i gyfarfod. Mae gennym hefyd gyfarfod yr wyf yn ei gadeirio gyda chyd-aelodau Cabinet ac awdurdodau lleol sydd oll yn rhan o'r drafodaeth ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â materion penodol cyn gynted â phosib. Rwy'n sylweddoli bod hyn ar flaen eich meddwl, ac mae ar flaen fy meddwl innau hefyd. Rwyf am weld mwy o dai'n cael eu hadeiladu, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar y mater hwn, gan weithio gyda'n partneriaid i ddatrys rhai o'r problemau hyn. Nid yw'r ateb yn syml, ond rydym yn parhau i ganolbwyntio arno. 

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mike Hedges.

Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n aros iddi gyrraedd yno. 

14:20
Athrawon Cyflenwi

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth athrawon cyflenwi? OQ63551

Mae athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o'r gweithlu. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer ymdopi ag absenoldeb athrawon a byddwn yn amlinellu ein camau nesaf fel rhan o'r cynllun gweithlu addysg strategol i sicrhau dull ystyriol a chydgysylltiedig o weithredu ar draws materion y gweithlu.

Diolch i chi am eich ateb. Rwy'n credu y dylai cyrff cyhoeddus fel cynghorau ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol. Mae'r rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael eu cyflogi drwy asiantaethau. Mae athrawon cyflenwi yn darparu parhad allweddol pan fydd athro'n absennol a dylid eu gwobrwyo mewn telerau ac amodau, gan gynnwys y cynllun pensiwn i athrawon. Maent yn gweithio'n galed i addysgu plant, yn aml ar fyr rybudd a heb fawr o amser i baratoi, ac yn aml yn defnyddio nodiadau sydd wedi'u creu gan athro arall.

Roeddwn i'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i waith ar y gronfa gyflenwi genedlaethol i Gymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried trafod, gyda llywodraeth leol, darpariaeth o wasanaethau cyflenwi athrawon wedi'i rhedeg gan gynghorau yn hytrach na'r model asiantaeth? Efallai fod y model asiantaeth yn gweithio i gynghorau, efallai ei fod yn gweithio i asiantaethau cyflenwi, ond gallaf ddweud wrthych nawr nad yw'n gweithio i athrawon cyflenwi.

Diolch yn fawr, Mike, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod â diddordeb ers amser maith mewn cefnogi athrawon cyflenwi. Fel y nodoch chi, fe wnaethom geisio creu cronfa gyflenwi genedlaethol fel dull amgen i ymgysylltu â staff, ond yn anffodus roedd y gwahanol ddulliau o ddod o hyd i staff cyflenwi ar draws y gwahanol awdurdodau lleol yn creu heriau sylweddol i allu mabwysiadu dull cenedlaethol, ac yn amlwg mae rhyddid iddynt ddod o hyd i staff fel y gwelant yn dda, a daeth yn amlwg na fyddai'r gronfa gyflenwi yn darparu'r manteision a fwriadwyd ar sail genedlaethol.

Mae costau gweinyddol ychwanegol i sefydlu a rhedeg cronfeydd cyflenwi lleol, ac mae llawer o awdurdodau lleol wedi dweud wrthym na allant eu fforddio. Fodd bynnag, gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn gwario tua £160 miliwn ar staff cyflenwi i dalu am absenoldeb athrawon, credaf y dylai fod cyfleoedd i archwilio modelau amgen. Felly, rydym wedi bod yn parhau i ddatblygu set o gamau gweithredu ar gyflenwi fel rhan o'n cynllun ar gyfer y gweithlu. Rwy'n credu ei bod yn annhebygol y bydd un ateb yn gweithio ym mhobman, ond rwyf am wneud yn siŵr ei bod yn haws i ysgolion ac awdurdodau lleol wneud yr hyn sy'n iawn iddynt hwy.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi awdurdodau lleol i dreialu model clwstwr ar gyfer cyflenwi a'r dystiolaeth oedd bod hyn yn llwyddiannus i raddau helaeth. Fodd bynnag, unwaith eto, nid oedd yn rhywbeth y parhaodd awdurdodau lleol i'w wneud y tu hwnt i'r cynllun peilot. Rydym yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu ar gynllun peilot y clwstwr cyflenwi, ac rydym hefyd yn rhoi ystod o gamau eraill ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn, i ystyried y pethau sy'n codi mewn gwahanol rannau o Gymru.

Fe gyrhaeddaf yno. Rwyf wedi rhoi fy sylw ar ddiwedd y cyfarfod ac wedi colli golwg ar y rhan bresennol o'r cyfarfod. Sam Rowlands.

Diolch, Lywydd. Mae Mike Hedges yn gwbl gywir i godi'r mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y nodoch chi, y gost i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yw tua £160 miliwn y flwyddyn i dalu am athrawon cyflenwi a chynorthwywyr addysgu sy'n cyflenwi. Fy nealltwriaeth i yw bod yr elfen asiantaeth o hynny dros £100 miliwn, yn uniongyrchol i'r asiantaethau hynny, ond rwy'n deall hefyd nad oes gan Lywodraeth Cymru fecanwaith olrhain clir ar gyfer y gost honno a'r gwariant hwnnw. Felly, hoffwn wybod, gyda'ch dymuniad chi, yn briodol ddigon, i anelu am werth am arian yn y maes hwn, sut rydych chi'n mynd i olrhain y gwelliant mewn gwerth am arian os nad oes gan Lywodraeth Cymru batrwm adrodd rheolaidd ar gyfer gwariant ar athrawon cyflenwi o asiantaethau.

Diolch, Sam. Yn amlwg, mae gwerth am arian yn bwysig iawn. Nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r ffigur hwnnw, tua £100 miliwn o'r £160 miliwn i asiantaethau. Fy ngwybodaeth i yw ei fod o gwmpas—ac yn amlwg mae'n amrywio gyda gwahanol asiantaethau—mae 16 y cant yn mynd i'r asiantaethau, felly mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd i dalu am bobl sy'n addysgu ein plant. Yn amlwg, mae gan yr asiantaethau hefyd gostau y mae'n rhaid iddynt eu talu yn rhan o'r gwaith a wnânt—gwiriadau a chyflogres a phethau felly.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym fframwaith gwaith cyflenwi yng Nghymru sy'n cyd-fynd â'n harferion gwaith da, a deuir o hyd i 98 y cant o'r staff cyflenwi yng Nghymru drwy'r fframwaith hwnnw. Mae'n wir nad oes gennym ddigon o wybodaeth olrhain fanwl, ac un o'r pethau a wnawn yn rhan o'n gwaith ar recriwtio a chadw—. Oherwydd, yn amlwg, yn ddelfrydol, rydym eisiau gwneud yn siŵr fod mwy o'n hathrawon parhaol mewn ystafelloedd dosbarth, ond un o'r pethau a wnawn yw gweithio gydag awdurdodau lleol i gael gwybodaeth fwy gronynnog. Rydym yn edrych ar bethau fel cyfweliadau ymadael a phethau o'r fath, felly'n sicr, mae angen inni gael data gwell. Mae hwn yn faes blaenoriaeth yng nghynllun y gweithlu, rwy'n ymwybodol ei fod hefyd yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn edrych arno, ac rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith yn rhan o'n fforwm partneriaeth cyflogau arno hefyd.

Mae'n gymhleth, ac roeddwn i'n siomedig iawn na allwn gael y gronfa gyflenwi genedlaethol i weithio. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Ynys Môn am y gwaith a wnaethant arni, ond o ystyried y gall awdurdodau lleol arfer dewis o dan reolaeth leol ysgolion o ran y ffordd y dônt o hyd i athrawon cyflenwi, ni allem sicrhau y byddai gan bob un ddiddordeb mewn cronfa o'r fath. Felly, rydym yn rhoi cynnig ar wahanol ddulliau nawr, ac mae gennym set o gamau gweithredu yr ydym yn eu datblygu.

14:25
Ieithoedd Modern

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r ffordd o addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion? OQ63559

Rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn arall mewn ieithoedd rhyngwladol, ac mae ein rhaglen Dyfodol Byd-eang yn parhau i gefnogi ysgolion i gyflwyno ieithoedd.

Diolch. Mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch wedi tynnu sylw at ostyngiad mawr mewn dysgu ieithoedd ffurfiol. Mae hyn yn bryder mawr, ond un ffordd y gellir gwrthdroi'r dirywiad yw addysgu ieithoedd modern sy'n apelio at y genhedlaeth iau, fel Sbaeneg a Mandarin. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Gynradd yr Holl Saint yng Ngresffordd yn fy etholaeth i, sy'n hynod falch o'u cynnig rhyngwladol. Nod dull eangfrydig yr ysgol o weithredu yw arfogi disgyblion a staff gyda'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymwybyddiaeth ddiwylliannol angenrheidiol i ffynnu mewn byd rhyng-gysylltiedig, a thrwy gydweithio, mae rhai o fyfyrwyr yr ysgol yn dysgu Mandarin. Fe wnaethant gysylltu â ffrindiau llythyru ac ar ôl sicrhau rhywfaint o gyllid Taith, roedd grŵp o ddisgyblion blwyddyn 6 yn ddigon ffodus i deithio i Singapore, lle gallent ymarfer eu sgiliau Mandarin newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich gwahodd i ymweld â'r ysgol, rwy'n siŵr y byddai ymdrechion pawb yno'n creu argraff arnoch, ond yn y cyfamser, tybed beth y gellid ei wneud i sicrhau bod yr arfer gorau hwn yn cael ei rannu ledled Cymru.

Diolch yn fawr, Lesley. Mae'n wych ein bod ni'n gweld y gwaith cadarnhaol hwn mewn ysgolion cynradd, gan gynnwys yr Holl Saint, a dyna pam y gwnaethom ddod ag ieithoedd rhyngwladol i mewn i ysgolion cynradd, ac rydym yn dechrau gweld y manteision. Rwy'n canmol ymagwedd eangfrydig yr Holl Saint ac am gyflwyno Mandarin. Fe gyfarfûm â'r pennaeth ychydig cyn iddo fynd i Singapore gyda'i ddisgyblion blwyddyn 6, ac roeddwn i'n meddwl, 'Am gyfle ardderchog', gan nad oeddwn i erioed wedi bod dramor cyn i mi fynd i'r brifysgol, ac roedd y plant hyn yn mynd i Singapore, felly cyfle anhygoel.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi rôl lawer mwy canolog i ieithoedd yn yr ysgol gynradd, sy'n bwysig iawn, ac rydym wedi ychwanegu at hynny gyda'n buddsoddiad ychwanegol o £1.6 miliwn, fel y dywedais, gan gynnwys dysgu proffesiynol ychwanegol drwy Ymddiriedolaeth Stephen Spender. Ond byddaf yn gofyn i swyddogion edrych ar sut y gall yr Holl Saint helpu i lywio ac ysbrydoli ysgolion eraill, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn rhannu'r arfer da hwnnw. Buaswn yn hapus iawn i ymweld â'r ysgol i glywed peth o'u Mandarin, a hefyd i glywed sut aeth eu taith i Singapore.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar fe wnaethoch chi roi datganiad i ni ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, a chlywais lawer o eiriau cynnes am gyflawniadau Llywodraeth Cymru, ond ychydig llai am weithredu ar unwaith. Yn hytrach, rydych chi wedi sefydlu grŵp cynghori'r Gweinidog, felly mae'n peri ychydig o benbleth i mi pa benderfyniadau y mae'r grŵp hwn yn mynd i'w gwneud mewn gwirionedd, a pha rai fydd yn troi'n benderfyniadau pendant, a phryd. Hefyd, Weinidog, fe glywsom yr wythnos diwethaf mewn tystiolaeth i bwyllgor addysg Senedd y DU fod 50 o ddarparwyr addysg uwch mewn perygl o adael y farchnad yn Lloegr o fewn y ddwy i dair blynedd nesaf. Mae hyn yn awgrymu bod y sefyllfa wedi cyrraedd pwynt o argyfwng. 

Felly, Weinidog, a nodwyd bod unrhyw sefydliadau yma yng Nghymru mewn sefyllfa debyg, neu a oes unrhyw sefydliadau wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at unrhyw bryderon hyd yma? A allwn ni hefyd gael diweddariad ar ganlyniad cyfarfod cyntaf grŵp cynghori'r Gweinidog ar sefydliadau addysg uwch, yn benodol ynghylch eu sefydlogrwydd ariannol? Byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch.

14:30

Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau. Rwy'n fwy na pharod i roi rhagor o wybodaeth am grŵp cynghori'r Gweinidog. Fel y dywedoch chi, cawsom ein cyfarfod cyntaf yn ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol iawn. Roedd y grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector trydyddol: addysg uwch, addysg bellach, undebau prifysgolion—sawl undeb llafur, undeb y myfyrwyr hefyd, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Amcan y grŵp hwnnw yw edrych yn fanwl iawn ar yr heriau amrywiol sy'n wynebu'r sector, a llunio cynlluniau y gallwn eu rhoi ar waith yn y tymor canolig a'r tymor hir.

Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi agor galwad am dystiolaeth, a bydd honno'n fyw cyn bo hir. Bydd hynny'n llywio'r gwaith a wnaf am weddill tymor y Llywodraeth hon. Ond hefyd, yn hollbwysig, rwy'n teimlo bod dyletswydd ar unrhyw Weinidog ar y pwynt hwn mewn tymor Llywodraeth i adael glasbrint ar gyfer sut y gellid bwrw ymlaen â'r portffolio hwnnw yn y dyfodol. Gwyddom fod newidiadau enfawr yn wynebu'r sector trydyddol, ac mae'n rhywbeth y buaswn yn falch o'i wneud—gadael y glasbrint hwnnw i bwy bynnag yw'r Llywodraeth newydd.

Fe ofynnoch chi hefyd ynglŷn â sefydlogrwydd y sector addysg uwch yma yng Nghymru. Rydych chi'n llygad eich lle ei bod yn gyfnod heriol i brifysgolion ledled y DU. Maent yn wynebu amrywiaeth o bethau, fel effaith Brexit ar ein cyllidebau ymchwil, yr her o recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a phwysau chwyddiant hefyd. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag is-gangellorion sefydliadau. Rwyf hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Medr, sy'n gyfrifol am fonitro risgiau ariannol yn ein prifysgolion a'n colegau. Maent yn adrodd i Lywodraeth Cymru yn rheolaidd fel rhan o'u proses adolygu risg reolaidd a'u gwaith monitro sefydliadau. Er ein bod yn gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu'r sector, nid ydym yn credu bod unrhyw sefydliad yng Nghymru mewn perygl uniongyrchol o fethu. Ac fel y byddwch yn gwybod, llwyddais i ddyrannu £28.5 miliwn ychwanegol i'r sector dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Rydym hefyd wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynyddu ffioedd dysgu, a rhagwelir y bydd hyn yn dod â £20 miliwn ychwanegol i'r sector addysg uwch yma yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Felly, bydd hynny oll o gymorth, ond mae'n bwysig hefyd, i fynd yn ôl at eich cwestiwn gwreiddiol, ein bod yn parhau i edrych ar gynaliadwyedd ariannol yn y tymor canolig a'r tymor hir drwy waith grŵp cynghori'r  Gweinidog.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll Medr, gan fy mod yn dod atynt nawr. Yr wythnos diwethaf, fe gyfeirioch chi at y ffaith y bydd Medr yn ymgymryd â meysydd llywodraethiant a rheoli risg, ond mae arnaf ofn nad yw hyn yn ddim mwy na gohirio penderfyniadau buddsoddi sydd eisoes yn cael eu gwneud gan brifysgolion Cymru.

Ar sawl achlysur yma yn y Siambr, rwyf wedi sôn am benderfyniad Prifysgol Caerdydd i fuddsoddi mewn campws yn Kazakhstan. Er budd pawb, dyma'r sefyllfa fel y mae ar lawr gwlad: i staff a aeth allan yno i addysgu, roedd perygl o ddiffyg trefniadaeth ofnadwy rhwng Prifysgol Caerdydd a champws Astana, gyda staff yn nodi amodau gwaith gwael a diffyg taliadau am dreuliau adleoli. Mae rhai hyd yn oed wedi mynd adref ar ôl bod yno am lai na mis.

Mae pryderon cyhoeddus ynghylch buddsoddiad Prifysgol Caerdydd yng nghampws Kazakhstan wedi parhau ers dros flwyddyn. Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi a Medr wedi'u cael yn benodol gyda Phrifysgol Caerdydd ynghylch eu sefydlogrwydd ariannol a'u harweinyddiaeth?

Diolch, Natasha. Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol: rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob is-ganghellor ar sail un i un. Mae cyllid yn amlwg yn bwnc allweddol yn ein sgyrsiau, ac mae Medr mynd ati'n gyson i ymgymryd â'r gwaith craffu ariannol y cyfeiriais ato.

Gan droi at y pwyntiau a godwyd gennych am Brifysgol Caerdydd a'u rhaglenni addysg drawswladol, a Kazakhstan yn benodol, credaf mai'r pwynt allweddol cyntaf i'w wneud yw bod prifysgolion yn sefydliadau ymreolaethol, felly maent yn gyfrifol am eu busnes eu hunain, gan gynnwys addysg drawswladol. Fodd bynnag, fel Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl iddynt ystyried pob agwedd ar ddarpariaeth addysg wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae'n bwysig cydnabod, yn yr hinsawdd bresennol, fod cyflwyno rhaglenni addysg uwch dramor yn cael ei ystyried yn rhan allweddol o ddull prifysgolion o ryngwladoli ac ymgysylltu'n fyd-eang. Mae'n chwarae rhan bwysig hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd ac uchelgeisiau cymell tawel Llywodraeth Cymru.

Mae prifysgolion ledled Cymru a ledled y DU yn darparu'r addysg drawswladol hon am amryw o resymau. Mae cynhyrchu incwm ac arallgyfeirio yn un ohonynt, ond hefyd hyrwyddo brand, meithrin capasiti, rhannu gwybodaeth, ac ehangu mynediad rhyngwladol at addysg drydyddol o ansawdd uchel. Credaf y dylai fod yn nod gennym i wneud defnydd strategol o enw da byd-eang ein prifysgolion i hwyluso ein huchelgeisiau rhyngwladol, ac i annog y rôl y gall addysg drawswladol a ddarperir yn ofalus ei chwarae yn cefnogi datblygiad byd-eang. Nid yw'r pryderon a godwyd gennych yno wedi'u dwyn i fy sylw. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r ddau undeb llafur sy'n gwasanaethu'r sector addysg uwch, ond maent yn gwybod bod fy nrws bob amser ar agor os oes unrhyw bryderon penodol yr hoffent eu codi gyda mi.

14:35

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch. Rwy'n gwerthfawrogi bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol. Fodd bynnag, mae pob un ohonom yn ymwybodol fod Prifysgol Caerdydd wedi wynebu llawer o drafferthion yn ddiweddar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio eu helpu a'u cefnogi cymaint ag y gallant. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall, gyda sôn am ddileu swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â bygythiadau i gau ei hadran nyrsio yn ogystal ag adrannau eraill hefyd, fod yr arweinyddiaeth ar yr un pryd yn gwario miloedd ar hedfan ac ar lety yn Kazakhstan. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn deall pam y mae staff a myfyrwyr fel ei gilydd yn teimlo'n rhwystredig ynghylch buddsoddiadau fel hyn. Er enghraifft, gwariodd is-ganghellor Prifysgol Caerdydd fwy na £8,500 ar hedfan i Kazakhstan yn unig, a mwy na £1,750 ar lety yn Kazakhstan rhwng 2024 a 2025. A ydych chi'n credu bod y costau hyn yn dderbyniol, Weinidog, ar adeg pan oedd ein hunig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru i fod i dorri 400 o swyddi? Hoffwn wybod hefyd pa ymyriadau penodol y byddwch chi a Medr yn eu gwneud nawr yng ngoleuni sefyllfaoedd ansicr ein prifysgolion ein hunain yma yng Nghymru. Diolch.

Diolch i Natasha am ei chwestiynau atodol. Credaf mai'r hyn sydd wrth wraidd yr hyn y soniwch chi amdano yw'r pryderon sydd gan staff ein holl brifysgolion ynghylch diogelwch eu swyddi. Gwyddom y bydd rhai prifysgolion yng Nghymru yn parhau i wneud arbedion yn y flwyddyn academaidd hon drwy ailstrwythuro arfaethedig. Hoffwn ddweud, fel y dywedais yma o'r blaen, fy mod yn llwyr gydnabod y pryder parhaus y bydd hyn yn ei achosi i lawer o staff a myfyrwyr yr effeithir arnynt gan y cynigion hynny. Fel y dywedais yn gynharach, gwyddom fod prifysgolion yng Nghymru a ledled y DU yn wynebu cyfnod heriol ac yn gorfod gwneud dewisiadau anodd. Mae'n rhoi penderfyniadau eraill y gallai'r brifysgol honno fod wedi'u gwneud o dan y chwyddwydr ac yn destun craffu dwysach. O ganlyniad, rydym yn disgwyl i bob sefydliad weithio gyda'r undebau llafur, staff a myfyrwyr i sicrhau bod unrhyw un yr effeithir arnynt gan unrhyw gynigion ailstrwythuro yn cael cefnogaeth lawn. I roi sicrwydd i chi hefyd, o ran llywodraethiant, mae hynny'n rhywbeth y mae gan Medr oruchwyliaeth lawn drosto, ac maent yn adrodd i mi arno'n rheolaidd hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol y llynedd, addawodd Llafur fwy o athrawon i Gymru, ond mae targedau recriwtio athrawon yn parhau i gael eu methu. Addawodd Llafur hefyd mwy o fuddsoddiad mewn addysg, ond yn y gyllideb ddrafft wreiddiol ar gyfer 2026-27, roedd ysgolion yn wynebu toriadau wrth i gynghorau ddioddef gwasgfa ariannol ddwys. Fel mae Aelodau ar draws y Siambr bellach yn gwybod, fe gafodd Plaid Cymru drafodaethau adeiladol gyda'r Llywodraeth er mwyn sicrhau bod Cymru'n osgoi'r anhrefn o beidio â phasio cyllideb, gan sicrhau bron i £300 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol, iechyd a gwasanaethau rheng flaen eraill. A allwch chi ddweud, felly, sut ydych chi'n bwriadu defnyddio'r cyllid ychwanegol a gafwyd drwy'r cytundeb i helpu cynghorau sir i gefnogi ysgolion yn uniongyrchol, i'w helpu nhw i wneud eu cyllidebau'n fwy sefydlog, a sichrau bod ymrwymiadau Llafur o safbwynt recriwtio mwy o athrawon a buddsoddi mewn addysg yn cael eu cyflawni?

14:40

Diolch yn fawr, Cefin. Rydych chi'n llygad eich lle, fe wnaethom addewid i recriwtio mwy o athrawon. Addawodd Llywodraeth Lafur y DU gynyddu cyllid ar gyfer addysg hefyd, ac maent wedi gwneud hynny. Fel y gwyddoch yn iawn, cawsom oddeutu £329 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ein cyllideb fel cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Felly, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cyflawni'r addewid hwnnw.

Rwy'n falch fod cytundeb wedi'i wneud gyda Phlaid Cymru, a bod y cytundeb hwnnw'n darparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol. Fe wnaethoch fy nghlywed yn dweud yn y pwyllgor pa mor aml roedd llywodraeth leol yn codi pryderon ynghylch pwysau mewn addysg, yn enwedig o ran anghenion dysgu ychwanegol. Felly, rwy'n falch iawn y bydd rhywfaint o arian ychwanegol, ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal ardrethi. Bydd rhyddid i lywodraeth leol ddyrannu'r arian hwnnw. Rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a byddaf yn cyfarfod ag ef i drafod sut y gallwn sicrhau bod cymaint â phosib o'r arian hwnnw'n mynd tuag at ddiwallu'r pwysau mewn addysg, rhywbeth rwyf wedi'i ddweud yn glir iawn wrth y pwyllgor.

Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y cyllid canlyniadol o £329 miliwn, gan fy mod yn dod at hynny yn fy ail gwestiwn. Ond rwyf am sôn am gytundeb y gyllideb yn gyntaf. Fe wnaethom sicrhau cynnydd i bob awdurdod lleol. Rydych chi'n llygad eich lle—eu penderfyniad nhw yw faint o'r arian hwnnw sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Ond mae'n welliant sylweddol ar y gyllideb ddrafft, gan gydnabod, gobeithio, y pwysau cynyddol sy'n wynebu cyllidebau ysgolion.

Ond hyd yn oed gyda'r setliad gwell hwn, rwy'n cydnabod bod ysgolion yn dal i wynebu heriau difrifol ar ôl blynyddoedd o danariannu. Mae ysgolion yn parhau i fod yn bryderus iawn am y pwysau chwyddiant y maent yn ei wynebu a'r gyfran gyfyngedig o gyllid canlyniadol addysg sydd wedi cyrraedd ystafelloedd dosbarth yn y gorffennol. Yn y cyfamser, mae'r data diweddaraf yn dangos bod nifer yr ysgolion mewn diffyg wedi codi o 309 i 393 mewn blwyddyn, gyda chyfanswm y diffygion yn tyfu o £40 miliwn i £72 miliwn, gan effeithio ar oddeutu 25 y cant o ysgolion.

A allwch chi gadarnhau, felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd y cyllid canlyniadol yn cyrraedd ystafelloedd dosbarth? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i argyhoeddi awdurdodau lleol i fuddsoddi'r arian ychwanegol a gânt mewn ysgolion?

Diolch, Cefin. Rwyf eisoes wedi croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol. Credaf y bydd hynny'n helpu gyda'r pwysau, ond ni fydd yn mynd i'r afael â'r holl bwysau a wynebwn ym maes addysg. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i ofyn a allwn gymryd camau i ddweud yn glir wrth lywodraeth leol ei bod yn hanfodol fod y pwysau o fewn addysg yn cael eu diwallu.

Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch chi am ddiffyg ariannol ysgolion. Mae hynny'n destun cryn bryder i mi. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu hunain wedi rhagweld pwysau o £137 miliwn mewn ysgolion. Nid oes gennyf y ffigur o'm blaen ar gyfer y cytundeb, ond credaf ei fod oddeutu £112 miliwn ar gyfer y setliad llywodraeth leol. O'm rhan i, mae'n bwysig iawn ein bod yn dweud mor glir â phosib wrth lywodraeth leol mai'r disgwyliad yw y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gefnogi ysgolion. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, o fewn y cynnydd o 2.2 y cant a gefais ar gyfer y prif grŵp gwariant, rwyf wedi gwneud yr hyn a allaf i flaenoriaethu ysgolion, gyda chynnydd ar gyfer y grant addysg awdurdod lleol, sef yr arian gwella ysgolion. Mae'n arian sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion.

Ond gwn y bydd ysgolion yn dal i wynebu pwysau sylweddol. Rydym wedi trafod hyn yn y pwyllgor, onid ydym? Rwy'n clywed hyn drwy'r amser gan ysgolion—y pwysau ariannol sydd arnynt. Un o o fy mhryderon, pan fydd ysgolion dan bwysau, yw mai'r math cyntaf o staff i fynd yw'r math o staff sy'n cefnogi gyda gwaith bugeiliol, gyda chymorth, gydag ymddygiad. Rwy'n nodi'n glir iawn yn y Llywodraeth fod ysgolion yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ddelio â llawer o broblemau cymdeithasol bellach—boed hynny'n iechyd meddwl, boed yn ADY, boed yn ymddygiad heriol. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cyfraniad y mae ysgolion yn ei wneud yn cael ei gydnabod a'i ariannu.

14:45

Diolch yn fawr iawn. Wel, o safbwynt gwella adeiladau ysgolion, mae hyn yn parhau i fod yn bryder, ac mae e'n rhan o'r un sgwrs, mewn gwirionedd. Fe ddatgelodd ymchwil gan Blaid Cymru fod yr ôl-groniad, y backlog, mewn gwirionedd, o ran y gost o gynnal a chadw mewn ysgolion yn fwy na £0.5 biliwn, a dyw'r ffigur hwnnw ddim yn cynnwys nifer o gynghorau oedd ddim wedi ymateb i'r ymchwil hwnnw. Er gwaethaf codi hyn dro ar ôl tro dros y flwyddyn ddiwethaf yn y Siambr hon, mae'ch papur tystiolaeth chi ar y gyllideb i'r pwyllgor addysg yn dweud hyn:

'Nid oes unrhyw ddyraniadau refeniw ar gyfer gwaith adnewyddu a chynnal a chadw wedi'u gwneud ar gyfer 2025-26 nac wedi'u cynllunio ar gyfer 2026-27.'

A does dim cyfalaf wedi ei gadarnhau eto ar gyfer 2026-27. Felly, er bod tua £50 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer eleni, dyw'r cyfan, yn ôl beth rŷn ni'n ei ddeall, ddim wedi cael ei wario. Felly, mae arian yn parhau i fod heb ei ddefnyddio eleni, does dim unrhyw swm wedi ei ddyrannu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae'r ôl-groniad yn £0.5 biliwn, a hwnnw'n tyfu. Felly, mae'n amlwg i fi na fydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael, ac sydd wedi cael ei gyhoeddi, yn dod yn agos at fynd i'r afael â'r angen. Felly, os ydych chi'n bwriadu cyhoeddi buddsoddiad newydd, os na wnewch chi wneud hyn, o leiaf a wnewch chi ymrwymo i arolwg cenedlaethol manwl fel ein bod ni'n deall hyd a lled y broblem? Diolch.

Diolch, Cefin. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn cynnal refeniw. Rydym wedi buddsoddi £114 miliwn i gynnal refeniw drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ac fel y gwyddoch, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, dyrannwyd £50 miliwn i gefnogi ysgolion a cholegau gydag atgyweiriadau cyfalaf. Dim ond £24 miliwn o hynny y bu modd i ni ei ryddhau i ysgolion, a £6 miliwn i golegau, yn gynnar yn y flwyddyn ariannol. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, y gobaith yw y bydd y £16 miliwn sy'n weddill ar gyfer ysgolion a'r £4 miliwn ar gyfer colegau yn cael ei ddyrannu yn nes ymlaen eleni. Fel y dywedais wrth y pwyllgor, roeddwn yn ddigon ffodus i sicrhau £20 miliwn ychwanegol ar gyfer cyfalaf, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw. Bydd y rhan fwyaf ohono'n mynd i ysgolion, a bydd rhywfaint ohono'n mynd i golegau. Nid yw'n wir nad oes dyraniad cyfalaf wedi bod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedais wrth y pwyllgor fy mod wedi cael cynnydd o 2.2 y cant mewn cyfalaf. Fe wnaeth hynny fy ngalluogi i neilltuo £7.1 miliwn ar gyfer rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Ni allwch wario'r hyn nad oes gennych, Cefin. Rhan o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru yw £120 miliwn ar gyfer cyfalaf. Byddaf yn parhau i ddadlau'r achos dros addysg yn fy nhrafodaethau gyda'r Llywodraeth, cyn yr etholiad.

Cyllid ar gyfer Ysgolion

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion? OQ63569

Mae lefelau cyllid ysgolion yn cael eu pennu gan bob awdurdod lleol wrth iddynt osod eu cyllidebau. Mae'r cynnydd dros dro o 4.5 y cant i'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2026-27 yn adeiladu ar gynnydd blaenorol o 9.4 y cant yn 2022-23, 7.9 y cant yn 2023-24, 3.3 y cant yn 2024-25, a 4.5 y cant yn 2025-26.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Addysg, fel y gwyddom, yw 40 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd disgwyl i 32 y cant o ysgolion yng Nghymru gyflwyno cyllidebau diffyg ym mis Mawrth eleni. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yng Nghymru wedi datgan, o'r £339 miliwn o gyllid canlyniadol addysg ar gyfer addysg yng Nghymru, mai dim ond £39 miliwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer cyllid craidd mewn ysgolion. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi rhybuddio bod y cynnydd o £169 miliwn mewn arian parod yn llai na'r diffyg o £560 miliwn y disgwylir i rai cynghorau ei wynebu nawr. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y 14 mlynedd y bûm yma, rwyf wedi bod yn bryderus iawn pan fydd setliadau llywodraeth leol yn cael eu gwneud. Rydym yn cael ein cosbi yn y gogledd, ac yn sicr, rydym yn cael ein cosbi o ran y setliad a gawn. Mae gennyf athrawon ac mae gennyf benaethiaid sydd wedi hen flino ar geisio darparu addysg o ansawdd da i'n plant heb yr adnoddau digonol i wneud hynny. Gwn am athrawon nad ydynt yn gwybod, wrth symud ymlaen, a ydynt yn mynd i allu cadw'r gweithlu staff sydd ganddynt ar hyn o bryd. A wnewch chi fod o ddifrif ynglŷn â hyn os gwelwch yn dda, a sicrhau bod ysgolion, nid yn unig yn Aberconwy, ond ledled Cymru, yn cael y cyllid y maent hwy a'r athrawon ei angen i wneud eu gwaith? Diolch.

14:50

Diolch, Janet. Wel, rwy'n gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Dyna pam, drwy gydol proses y gyllideb hon, fy mod wedi bod yn dadlau'r achos cryfaf posib dros addysg. Fel y dywedais wrth Cefin, bydd yr arian ychwanegol a sicrhawyd yn rhan o'r cytundeb â Phlaid Cymru yn helpu awdurdodau lleol gyda rhywfaint o'r pwysau hwnnw, ond rwyf hefyd wedi cydnabod bod y pwysau'n mynd y tu hwnt i'r cyllid hwnnw.

O ran y dyraniad i fy mhrif grŵp gwariant, cefais ddyraniad o £37.4 miliwn yn ychwanegol ar gyfer refeniw a £7.5 miliwn ar gyfer cyfalaf gogyfer â'r flwyddyn nesaf. Mae hynny'n rhan o'r gyllideb dreigl, sy'n rhoi 2 y cant ychwanegol i mi. O fewn hynny, bu'n rhaid imi wneud penderfyniadau anodd, ond rwyf wedi ceisio blaenoriaethu ysgolion bob amser, lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i blant a phobl ifanc. Yn amlwg, rhaid inni gyflawni ein hymrwymiadau statudol gyda phethau fel cyflogau, ond yn rhan o hynny, rwyf wedi gallu dyrannu £9.1 miliwn ychwanegol i ADY a £16.4 miliwn ychwanegol i grant addysg awdurdod lleol. Ond rwyf wedi dweud yn glir iawn yn fy atebion heddiw fy mod yn gwybod na fydd y rhain yn diwallu'r holl bwysau y mae ysgolion yn ei wynebu, a byddaf yn parhau i wneud y dadleuon hynny. Hoffwn wneud y pwynt hefyd, fel y gwneuthum i'r pwyllgor, ein bod yn bryderus iawn am nifer y bobl ifanc—. Wel, mae'n wych fod mwy o bobl ifanc yn dod i mewn i addysg bellach, ond gwyddom fod pwysau ariannu sylweddol iawn yno hefyd.

Cyllideb Adrannol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ei chyllideb adrannol? OQ63565

Derbyniodd y prif grŵp gwariant addysg gynnydd o £37.4 miliwn mewn refeniw a chynnydd o £7.5 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn rhan o gyllideb ddrafft 2026-27. Mae hyn wedi cynyddu'r gyllideb adnoddau a chyfalaf addysg gyffredinol i £2.5 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rwy'n ddiolchgar am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond rwyf innau hefyd yn rhannu pryderon undeb y penaethiaid, a phawb arall sy'n gysylltiedig â'r sector addysg yn wir ynghylch y setliad gwael iawn a sicrhawyd ar gyfer cyllidebau ysgolion gogyfer â'r flwyddyn nesaf. Rydym eisoes yn gwybod bod yn rhaid i bobl ifanc yn ein gwlad ymdopi â'r canlyniadau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mai Cymru yw'r unig wlad sydd yn hanner isaf y tablau cynghrair rhyngwladol a gynhyrchir ac a gyhoeddir gan y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Mae'n warthus fod gennym bobl ifanc a staff yn gorfod gweithio mewn ystafelloedd dosbarth gwael, ac mae'r gweithlu addysgu, wrth gwrs, yn brin o forâl am ei fod o dan ormod o bwysau a heb ddigon o adnoddau. Mae angen inni sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, dyfodol ein gwlad, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd yr ysgolion ar y rheng flaen. Rwyf wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw. Nid yw'n rhoi unrhyw hyder i mi y bydd ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i ddarparu'r addysg o ansawdd uchel y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu. Rwyf wedi bod yno, fel cadeirydd y pwyllgor cyllid mewn ysgol uwchradd, ac wedi gweld pa mor anodd yw ceisio rheoli cyllideb ysgol gyda'r adnoddau y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn eu darparu. Mae angen i ni flaenoriaethu'r rhain. Rydym yn dibynnu arnoch chi a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle.

14:55

Diolch, Darren. Os caf sôn am eich pwynt ynglŷn â phlant yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth gwael a dweud bod gennym hanes di-fai o fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion—yr hanes gorau erioed, hyd yn oed. Nid oes dim byd yn debyg wedi digwydd dros y ffin, ac rwy'n falch iawn o'n cyflawniad o ran buddsoddiad cyfalaf.

Roeddwn yn agored iawn pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor fy mod wedi dadlau'n gyson dros fwy o adnoddau ar gyfer addysg. Rwy'n falch fod cyllid ychwanegol wedi mynd i lywodraeth leol, a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod cymaint o hynny â phosib yn cyrraedd ysgolion. O fewn y setliad a gefais o fewn y prif grŵp gwariant, sef cynnydd o 2 y cant, mae'n rhaid imi wneud penderfyniadau anodd. Rwyf wedi ceisio blaenoriaethu ysgolion, fel y dywedais—felly, cyllid ychwanegol ar gyfer y grant addysg awdurdod lleol, y mae llawer ohono'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion, a chyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Ond rwy'n cydnabod nad yw hyn yn mynd i ddiwallu'r holl bwysau. Rwy'n clywed amdano drwy'r amser gan arweinwyr ysgolion a byddaf yn parhau i ddadlau, mor uchel ag y gallaf, dros fwy o fuddsoddiad ar gyfer ein hysgolion a'n colegau.

Lefelau Staffio Hirdymor Ysgolion yng Ngogledd Cymru

5. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi lefelau staffio hirdymor ysgolion yng Ngogledd Cymru? OQ63581

Bydd ein cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg yn nodi ein blaenoriaethau yn y dyfodol ar gyfer cefnogi'r gweithlu mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd yn cynnwys camau gweithredu i wella recriwtio a chadw athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu a staff arbenigol a bugeiliol. Byddaf yn cyhoeddi'r cynllun yn y gwanwyn.

Diolch. Ond wrth gwrs, gwyddom fod y sefyllfa mewn ysgolion yn go ddifrifol, fel y clywsom y prynhawn yma, ac ni allai'r rhybuddion fod yn gliriach, oni allent? Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dweud bod ysgolion yng Nghymru wedi cael, 'eu torri i'r asgwrn', a bod diswyddiadau bellach yn anochel oni bai fod cyllidebau'n gwella. Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn rhybuddio bod pwysau ariannu, 'yn gwthio ysgolion i ymyl y dibyn', gan arwain at doriadau staffio digynsail. Ac mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod blynyddoedd o ostyngiadau mewn termau real 'wedi diberfeddu darpariaeth rolau cymorth hanfodol' cynorthwywyr dosbarth, staff cymorth ADY a'r union bobl sy'n cynnal llawer o'r ystafelloedd dosbarth hyn, gan adael ysgolion heb le ar ôl i dorri, ac eithrio, wrth gwrs, y swyddi addysgu eu hunain. Nawr, yn y gogledd, rydym yn gweld diswyddiadau gorfodol yn dod yn realiti llwm. Felly, o ystyried bod blynyddoedd o doriadau cronnol eisoes wedi cael gwared ar lawer o'r gweithlu cymorth hanfodol yn ysgolion y gogledd, pa warantau y gallwch eu rhoi na fydd colli rhagor o staff, yn cynnwys athrawon, yn tanseilio cymorth i ddisgyblion, darpariaeth ADY a llesiant ysgolion hyd yn oed ymhellach?

Diolch yn fawr, Llyr. Rwy'n croesawu cefnogaeth Plaid Cymru i gyllid i'n hysgolion yn fawr iawn. Mae hynny'n dda iawn i'w glywed.

Credaf ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi darparu llawer o arian ychwanegol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yn y ddwy flynedd gyda'i gilydd, darparwyd £262 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sector addysg, yn ogystal â swm tebyg ychwanegol i lywodraeth leol. A dywedasom yn glir wrth lywodraeth leol eleni ein bod yn cyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwnnw er mwyn cydnabod y pwysau mewn addysg, ac ADY yn enwedig.

Nid wyf eisiau clywed am staff yn cael eu diswyddo. Yr hyn a welwch wedyn yw cynnydd yn y llwyth gwaith i aelodau eraill o staff, ac rydych chi'n gweld mwy o straen a llai o lesiant, ac mae'n dod yn rhywbeth cylchol. Mae hefyd yn fwy heriol pan fyddwch yn ceisio cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ymddygiad ac anghenion cymhleth. Felly, byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod cymaint â phosib o'r arian i lywodraeth leol yn cyrraedd addysg. Rwyf wedi blaenoriaethu ysgolion yn rhan o'r gwaith a wnaf, a byddaf yn parhau i ddadlau'r achos dros fwy o gyllid ar gyfer addysg.

15:00
Hygyrchedd Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yn Ne Caerdydd

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar hygyrchedd addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd? OQ63560

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflawni ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg i sicrhau digon o addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ym mhob ardal o Gaerdydd. Rwy'n deall bod y cyngor wrthi'n trafod opsiynau ynghylch pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd.

Dwi'n falch iawn i glywed hynny, oherwydd mae'n rhaid i addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb. Dyw hynny ddim yn wir ar hyn o bryd. Dwi wedi codi gyda chi o'r blaen y ffigurau syfrdanol o blant lle nad y Gymraeg neu'r Saesneg yw'r iaith gyntaf yn y cartref, a chyn lleied o'r rheini sy'n mynd i addysg Gymraeg—2.5 y cant ledled Cymru. Ac mae'r ffigur yna'n mynd lawr i 1 y cant pan mae'n dod i Gaerdydd. Mae hynny'n golygu bod 99 y cant neu 12,150 o blant yn cael addysg cyfrwng Saesneg yn y brifddinas ac yn cael eu heithrio o addysg Gymraeg. Mewn gwirionedd, rŷn ni'n eithrio cymunedau cyfan o addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a dyw hynny ddim yn syndod.

Mae'n rhaid gosod yr ysgolion yma yng nghanol cymunedau, a does dim ysgol yng nghanol cymuned amlethnig yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i deuluoedd deithio o dde Caerdydd i ogledd y ddinas i dderbyn addysg uwchradd Gymraeg. Dyw hynny ddim yn ddigon da. A wnewch chi barhau i gydweithio gyda Chyngor Caerdydd i sicrhau y bydd yna ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd sy'n hygyrch i bawb? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gyda Chaerdydd. Maent wedi cyflwyno eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Rwy'n gwybod bod cyfarfod ar y gweill i drafod eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, ac rwy'n deall hefyd y pryderon a fynegwyd gan rieni yn ne'r ddinas yn enwedig. Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol yn wynebu dau fater ar wahân. Mae'r gostyngiad yn y gyfradd enedigaethau'n her, a bod gan un o'r tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg nifer o leoedd dros ben, er y twf llwyddiannus iawn mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Felly, mae hwnnw'n gyd-destun eithaf heriol.

Ond rwy'n gwybod bod y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi ymrwymo'n gyhoeddus ar Pawb a'i Farn fod y cyngor yn edrych ar hyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y gwaith da sy'n digwydd yng Nghaerdydd mewn perthynas â'u darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â'u darpariaeth trochi hwyr yn y ganolfan iaith yn Ysgol Gynradd Groes-wen beth amser yn ôl, a'r hyn a oedd yn arbennig o gyffrous oedd y ffordd yr oeddent yn datblygu partneriaethau, megis gydag Oasis Caerdydd, i annog y cysylltiadau hynny a'r mynediad at ddysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Felly, mae gwaith da yn mynd rhagddo. Rwy'n cydnabod bod mater yr ysgol yn y de yn her, a byddwn yn cael trafodaethau pellach gyda Chaerdydd.

Iechyd Meddwl a Llesiant Athrawon

7. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddarad ar y camau y mae'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant athrawon? OQ63566

Bydd llesiant wrth wraidd ein cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg sydd ar y ffordd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod staff addysg yn cael mynediad at gymorth i wella eu llesiant eu hunain a'u gallu i gefnogi dysgwyr. Mae hyn yn rhan annatod o'n dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a llesiant meddyliol.

Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch inni ystyried beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn athro heddiw. Nid addysgwyr yn unig yw athrawon mwyach, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at hyn yn gynharach. Maent yn gwneud llawer iawn o lafur anweledig, yn cefnogi iechyd meddwl disgyblion, yn rheoli materion cymdeithasol cymhleth, yn delio ag ymddygiad gwael, yn diogelu a darparu sefydlogrwydd i blant sy'n dioddef tlodi, trawma ac ansefydlogrwydd. 

Mae'r baich ychwanegol a roddir ar athrawon yn cael ei amlygu gan y cynnydd sylweddol mewn achosion o drais mewn ysgolion. Fe roddaf un ystadegyn i chi—rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd â hyn: gwelodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau fod 35 y cant o athrawon wedi dioddef cam-drin corfforol neu drais dan law dysgwyr, ac mae 92 y cant wedi dioddef cam-drin geiriol. Ni ddylai'r cyfrifoldeb am ddelio â'r heriau ychwanegol hyn syrthio ar athrawon yn unig. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu ein dymuniad hirsefydlog i wella cymorth cofleidiol mewn ysgolion gyda dull newydd sy'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl a chwnsela ar y safle.

Felly, o ystyried pa mor ddifrifol yr sefyllfa, pa gamau pendant y byddwch chi'n eu cymryd i ddiogelu lles athrawon, ac nid uwchgynhadledd ymddygiad a datganiad i'r wasg, ond cefnogaeth go iawn?

15:05

Wel, rydym yn darparu cefnogaeth go iawn, Cefin, ac rwy'n cytuno â'r pwynt rydych chi wedi'i wneud am yr hyn y mae athrawon yn delio ag ef. Rwyf wedi cael un athro yn dweud wrthyf, 'Rwy'n swyddog heddlu, seicolegydd, gweithiwr cymdeithasol ac rwy'n addysgwr.'  Felly, maent yn delio ag ystod eang o bethau, a lle maent yn delio â phlant ag anghenion cymhleth iawn a allai fod wedi dioddef trawma enfawr, rwy'n ymwybodol iawn fod athrawon yn amsugno hynny eu hunain, ac mae hynny'n anhygoel o anodd iddynt.

Rydym yn darparu cymorth llesiant i staff ysgolion. Rydym yn ariannu cymorth addysg i ddarparu cymorth llesiant pwrpasol i staff addysg ledled Cymru, a chymorth addysg hefyd i ddarparu goruchwyliaeth broffesiynol i arweinwyr ledled Cymru, ond rwy'n edrych ar beth arall y gallwn ei wneud yn hyn o beth. Cyfarfûm â gwasanaeth cwnsela ysgol Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar, ac maent yn darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth i'w holl staff bugeiliol. Fel rhywun sydd wedi gwneud rhywfaint o hyfforddiant cwnsela fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi, os ydych chi'n cefnogi eraill, fod gennych rywun i'ch cefnogi chi hefyd. Ni allwch arllwys o gwpan gwag.

Ond os caf ddweud hefyd ein bod eisoes yn darparu cymorth lles cryf iawn i blant a phobl ifanc hefyd. Pan fyddwch chi'n siarad am ddarpariaeth ar y safle, mae gennym ddarpariaeth gwnsela ysgol ar gyfer blwyddyn 6 ac uwch. Mae hynny wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, nad yw'n digwydd yn unman arall yn y DU. Rwy'n credu mai'r hyn a welwch yw nad yw rhai plant eisiau cael mynediad at hynny ar y safle oherwydd y stigma sy'n dal i fodoli. Rydym hefyd wedi buddsoddi £5 miliwn y flwyddyn i gyflwyno gwasanaethau mewngymorth iechyd meddwl plant a'r glasoed ledled Cymru.

Mae yna bob amser fwy y gallwn ei wneud yn hyn o beth, a dyna pam fy mod i wedi dweud wrth swyddogion fod yn rhaid i lesiant fod yn sail i'r holl gamau gweithredu yn y cynllun ar gyfer y gweithlu. Rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud o safbwynt goruchwyliaeth a chefnogaeth, nid yn unig i arweinwyr ysgolion, ond i bobl eraill yn y gweithlu ysgol, ac mae hynny'n cynnwys cynorthwywyr addysgu.

Mae cwestiwn 8 [OQ63571] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 9 yn olaf—Joel James. 

Cyllidebau Ysgolion

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27? OQ63567

Mae penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod lleol yn rhan o'u gwaith ar osod cyllideb gyffredinol. Mae'r setliad dros dro i lywodraeth leol yn 2026-27 yn darparu £6.5 biliwn o grant cynnal refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig i awdurdodau lleol ei wario ar ddarparu gwasanaethau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae cyllidebau ysgolion o dan straen enfawr. Adroddwyd y rhagwelir y bydd dros draean yr ysgolion yng Nghaerdydd yn gwario £4.4 miliwn yn fwy na'u cyllideb addysg ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, sy'n gynnydd ers y llynedd, pan ddechreuodd 37 o ysgolion yn unig eu blwyddyn mewn diffyg. Bydd yn bryderus iawn i athrawon a staff yn yr ysgolion hyn, sy'n debygol o deimlo cleddyf Damocles uwch eu pennau, lle gallent naill ai golli eu swyddi drwy ddiswyddiadau neu weld rolau addysgu'n mynd heb eu cyflawni, gan ychwanegu at eu llwyth gwaith eu hunain a'r pwysau arnynt.

Mae ysgolion mewn diffyg cyllidebol yn fwy agored i wasgfa ar y cwricwlwm, toriadau i raglenni sy'n cefnogi'r disgyblion tlotaf a llai o wariant ar gynnal a chadw ysgolion, sydd, fel y gwyddom, yn economi ffug, oherwydd mae'n arwain at filiau hyd yn oed yn fwy yn nes ymlaen. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod safonau addysg ysgolion mewn diffyg yn cael eu cynnal ac nad yw athrawon yn byw mewn ofn cyson y byddant yn colli eu swyddi? Diolch. 

Diolch, Joel. Rydym wedi gweld patrwm yn y blynyddoedd diwethaf o fwy o ysgolion yn syrthio i ddiffyg ariannol. Cawsom gyfnod yn ystod y pandemig pan oedd ganddynt lefelau uwch nag erioed o gronfeydd wrth gefn. Mae'r rheini wedi lleihau'n sylweddol, ac ar hyn o bryd mae 27 y cant o'n hysgolion mewn diffyg ariannol. Yn amlwg, rydym yn trafod y materion hyn gyda llywodraeth leol yn barhaus. Rwyf hefyd yn cael trafodaethau gydag arweinwyr ysgolion ac eraill, a'n partneriaid undebau llafur. Rwy'n ymrwymedig i wneud yn siŵr fod cymaint o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael i'r setliad llywodraeth leol yn cyrraedd ein hysgolion, a hefyd i barhau i flaenoriaethu ysgolion yn rhan o'r dyraniadau a wnaf.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, y cwestiwn amserol. Y cwestiwn i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru heddiw, ac i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.  

Porthladd Caergybi

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gau Terminws 5 ym Mhorthladd Caergybi? TQ1414

Ddydd Gwener diwethaf, fe ddaeth llong i gysylltiad ag angorfa yn nherfynfa 5. Cynhaliwyd archwiliad o'r rhan uchaf ac ni chofnodwyd unrhyw ddifrod. Nawr, dywedir wrthym fod amodau tywydd wedi'u hatal rhag gwneud asesiad tanddwr, felly fel rhagofal, mae terfynfa 5 ar gau nes bod y strwythur wedi'i archwilio'n drylwyr. Mae porthladd Caergybi yn parhau i gyflawni'r amserlen hwylio lawn trwy derfynfa 3.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Diolch hefyd am y datganiad byr gafodd ei gyhoeddi ddoe, a'r cyswllt sydd wedi bod gan adran yr Ysgrifennydd Cabinet ers y digwyddiad hwnnw dros y penwythnos. Mi oedd yna, wrth gwrs, gryn deimlad o déjà vu yn Ynys Môn dros y penwythnos wrth i'r newyddion yna ddod drwodd bod y derfynell wedi gorfod cael ei chau, a hynny bron iawn union flwyddyn ers i'r porthladd gau dros Nadolig y llynedd, a hynny am gyfnod o wythnosau, ac mi achoswyd cryn broblemau yn sgil hynny.

Dwi'n falch bod y Llywodraeth a pherchnogion y porthladd yn hyderus nad oes yna ddifrod sylweddol y tro yma, ond dwi'n siŵr y gallai'r Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi a'r bobl dwi'n eu cynrychioli am fod yn wyliadwrus yn fan hyn, yn enwedig ar ôl yr holl darfu a fu y llynedd. A'r cwestiwn y mae pobl yn eu gofyn yn lleol yn fan hyn, p'un ai a ydyn nhw'n ymwneud â'r porthladd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ydy: a oes yna broblem ddyfnach yma? Dwi'n falch hefyd fod gwasanaethau wedi gallu cael eu cynnal drwy ddefnyddio adnoddau eraill o fewn y porthladd dros y dyddiad diwethaf, ond allwn ni ddim parhau, dwi ddim yn meddwl, i fynd o gyfnod i gyfnod yn dibynnu ar allu rhoi trefniadau dros dro mewn lle.

Felly, ambell gwestiwn. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw ddiweddariad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â pha bryd yn union fydd y porthladd yn ailagor yn llawn. Rŵan, dwi'n sylweddoli bod y storm yr wythnos yma wrth gwrs wedi gwaethygu'r sefyllfa ac wedi gwneud pethau'n fwy cymhleth. Ond mi fyddai'n dda hefyd ar y pwynt yma ddeall pa sicrwydd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn chwilio amdano fo o ran gwydnwch y porthladd, er mwyn sicrhau bod swyddogion y Llywodraeth yn deall yn union yr asesiadau sydd yn mynd ymlaen yn barhaus o fewn y porthladd yna, ac i wneud yn siŵr ei fod o mor wydn ag y gall o fod i ddelio efo stormydd sydd yn teimlo fel eu bod nhw'n digwydd yn fwy a mwy aml.

Un cwestiwn olaf. Mae hwn yn borthladd sydd yn bwysig i ni. Mae o hefyd yn borthladd sydd yn bwysig i Weriniaeth Iwerddon, a Gogledd Iwerddon o ran hynny. Mi fyddai'n dda clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet pa gyswllt sydd wedi bod efo Llywodraeth y weriniaeth dros y dyddiau diwethaf, a beth ydy'r teimlad sydd wedi datblygu yn ddiweddar o ran y gydberchnogaeth sydd angen ei gael, mewn ffordd, dros sicrhau bod y porthladd yma yn wydn oherwydd ei bwysigrwydd o.

Diolch. A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau pellach hynny ac am nodi'n gywir pa mor bwysig yw'r cyfleuster hwn, nid yn unig i Gymru a'r Deyrnas Unedig, ond hefyd i Iwerddon? Yn dilyn digwyddiad y llynedd, rhennais yr un ofn y gallai hwn fod wedi bod yn ddigwyddiad trychinebus, ond rwy'n falch iawn fod y ddwy wers wedi'u dysgu a bod camau cyflym wedi'u cymryd i gynnal gweithrediad y porthladd gyda chapasiti llawn, o ran yr hwylio sy'n digwydd. Rwy'n falch o ddweud hefyd, o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd y llynedd, ein bod wedi sefydlu tasglu môr Iwerddon. Cafodd y tasglu wybod am y digwyddiad ddydd Gwener a hefyd am y rhybuddion tywydd a arweiniodd at storm Bram.

Nawr, rwyf wedi siarad â gweithredwyr y porthladd ar sawl achlysur ers y digwyddiad ddydd Gwener, gan gynnwys y prynhawn yma. Bydd y porthladd yn cyhoeddi diweddariad cyn bo hir a fydd yn cadarnhau na fydd unrhyw ostyngiad mewn capasiti a dim gostyngiad yn nifer y cychod sy'n hwylio. Tra bod deifwyr yn archwilio angorfa 5, bydd y ddau gwmni fferi yn rhannu'r defnydd o angorfa 3, ac fel y dywedaf, bydd tair fferi'n hwylio bob dydd.

Gan ddysgu eto o'r llynedd, rwy'n falch o ddweud bod gweithredwr y porthladd wedi darparu cwch tynnu wrth gefn, rhag ofn y bydd ei angen, a phan fydd yr arolygiadau llawn wedi'u cynnal—yr arolygiadau tanddwr—bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu gan weithredwyr y porthladd. O ganlyniad i dasglu môr Iwerddon a'r gwaith sydd wedi digwydd dros yr 11 mis diwethaf, rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa i allu sicrhau, pe bai digwyddiadau trychinebus yn digwydd, nid yn unig yng Nghaergybi, ond mewn mannau eraill, y gallwn adleoli cymorth a gwneud yn siŵr y gellir delio â'r ôl-groniad a welsom yng Nghaergybi mewn modd amserol. Gwyddom nawr fod yr ôl-groniad yn y porthladd wedi'i glirio, ac felly mae sylw'n cael ei roi i unrhyw lorïau sy'n weddill sydd wedi'u parcio mewn mannau eraill. Ond rydym mewn cysylltiad rheolaidd iawn â gweithredwr y porthladd, ac fel y dywedaf, bydd rhanddeiliaid yn cael diweddariad y prynhawn yma mewn amser byr iawn.

15:15

Gallwn deimlo, yn ogystal â chlywed, y rhwystredigaeth yn llais yr Aelod, Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, mae perygl y bydd unrhyw beth sy'n digwydd ar Ynys Môn yn effeithio ar ogledd Cymru gyfan, gan gynnwys fy etholaeth i yn Aberconwy. Ond rwy'n meddwl bod rhaid i'r bobl ar Ynys Môn gael amynedd hefyd, oherwydd rydym wedi cael yr holl sôn am drydedd bont Menai, ac eto dyma'r ail ddigwyddiad wedi'i achosi gan dywydd garw sydd wedi arwain at gau terfynfa 5 ym mhorthladd Caergybi ar Ynys Môn.

Er ei bod yn galonogol clywed y bydd asesiad llawn yn cael ei gynnal ac y bydd yr angorfa'n aros ar gau nes bod yr arolygiadau wedi'u cwblhau, ac y ceir adroddiad peirianneg strwythurol manwl—mae hynny i gyd yn dda iawn—oherwydd amlder y stormydd hyn nawr, rwy'n credu bod angen sicrwydd ar bob Aelod yma sy'n gwasanaethu yng ngogledd Cymru fod digon o gydnabyddiaeth i'r ffaith bod y stormydd hyn yn mynd i ddigwydd yn amlach ac y gallem weld mwy o broblemau yno.

Effaith economaidd y cau blaenorol oedd £500 miliwn mewn masnach a gollwyd. Mae dros 1.5 miliwn o bobl yn pasio drwy'r porthladd hwn bob blwyddyn. Rydych chi newydd sôn, Ysgrifennydd y Cabinet, Ken—. Mae'n dda gweld eich bod chi ar hyn o bryd mewn cysylltiad ag Irish Ferries a Stena Line ynglŷn â'r cau. Mae angen gofyn cwestiynau, fodd bynnag, am effaith ehangach y digwyddiad hwn, a'r angen i alw am gynllun parodrwydd ar gyfer digwyddiadau fel damweiniau angori a difrod stormydd. Mae hyn yn hanfodol i liniaru'r effeithiau ar ein teithio hanfodol i ac o Iwerddon.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi diweddariad—datganiad, efallai—ar y gwersi a ddysgwyd o'r digwyddiad blaenorol, ac amlinellu sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda Stena Line ac Irish Ferries i ddatblygu cynllun gweithredu cadarn ar gyfer digwyddiadau o'r fath? A diolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cwestiwn amserol. Diolch.

Diolch, Janet. Rwy'n cytuno'n llwyr, pan fydd digwyddiadau o'r fath yn digwydd yng Nghaergybi, fod goblygiadau i ogledd Cymru gyfan, oherwydd mae'r A55 yn goridor mor allweddol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gwaith wedi dechrau ar wydnwch yr A55, gan gynnwys edrych ar ei phontydd a'r twneli yng Nghonwy hefyd. Rydym newydd gymeradwyo cyllid hefyd i arolygu cyfleusterau i lorïau fel camau blaenoriaethol i gefnogi cynllun integredig porthladdoedd morwrol, cludo nwyddau a logisteg. Ac mae'n amlwg fod angen gwneud gwaith ar fapio'r cyfleusterau presennol ar ochr ffyrdd a lleoliadau parcio cerbydau nwyddau trwm a ddefnyddir yn aml yng Nghymru. Dyna beth y mae'r sector wedi gofyn amdano, ac rwy'n falch ein bod yn dechrau gweithio ar hynny.

O ran cynllun parodrwydd, rydym wedi bod yn gweithio nid yn unig gyda'r cwmnïau fferi, ond fel rhan o dasglu môr Iwerddon, rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda Llywodraeth Iwerddon, gyda Llywodraeth y DU, gyda gweithredwyr porthladdoedd mewn mannau eraill, gyda'r sector cludo nwyddau a logisteg a llawer o randdeiliaid eraill, ar lunio cynllun parodrwydd cynhwysfawr. Ac mae hwnnw'n seiliedig ar yr argymhellion a ddaeth i'r amlwg o waith y tasglu. Byddaf yn falch iawn o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr argymhellion hynny a'r amserlen ar gyfer gweithredu'r hyn y credaf ei fod wedi'i gyflwyno'n dda iawn yn rhan o waith y tasglu hwnnw.

15:20

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei atebion hyd yn hyn? Rwyf am ei herio ychydig mwy ar y gair 'gwydnwch' mewn perthynas â chroesiadau môr Iwerddon. Fel y bydd yn gwybod, pan gaeodd Caergybi eu terfynfeydd yn gynharach eleni, nodais yn flaenorol pa mor bwysig yw'r porthladdoedd yn sir Benfro—Doc Penfro, yn fy etholaeth i, ac Abergwaun, yn etholaeth Paul Davies. Nawr, yn anffodus, mae'r croesiadau wedi'u canslo y penwythnos hwn o'r ddau borthladd hynny, gan adael llai o gapasiti cludo nwyddau o Weriniaeth Iwerddon i Gymru, a'r ffordd arall, yng nghyfnod prysur y Nadolig.

Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae tasglu môr Iwerddon, y soniodd amdano, yn helpu i gefnogi'r gwydnwch nid yn unig yn Ynys Môn a Chaergybi, ond hefyd ym mhorthladdoedd y coridor deheuol strategol allweddol yn sir Benfro ac yn cefnogi'r rheini yno hefyd? Oherwydd mae cludwyr nwyddau'n dal i fethu cael nwyddau o Rosslare yn ôl i mewn i Gymru.

Wrth gwrs, rwy'n hapus i ymateb i gwestiynau Sam Kurtz. Ac mewn gwirionedd, fe gyfeiriaf yn ôl at y pwynt pwysig a wnaeth Janet Finch-Saunders, sef bod digwyddiadau hinsoddol difrifol a  chynyddol yn dod yn normal newydd. Rydym yn eu gweld yn fwy aml ac mae arnaf ofn eu bod hefyd yn dod yn fwyfwy difrifol eu natur. Ac felly mae gwaith y tasglu wedi edrych ar wydnwch môr Iwerddon yn ei gyfanrwydd. Yn amlwg, oherwydd yr hyn a ddigwyddodd fis Rhagfyr diwethaf, mae'r ffocws wedi bod ar Gaergybi, ac yn briodol felly, ond rydym wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr porthladdoedd a chwmnïau fferi i edrych ar sut y gallwn wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer gwydnwch ar draws môr Iwerddon ac i ac o bob porthladd. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod yr her yn mynd i fod yn eithaf sylweddol, o ystyried bod y digwyddiadau hinsoddol hyn yn digwydd yn amlach.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich ymateb heddiw yn brin o hygrededd. Oherwydd nid oedd gan y digwyddiad y Nadolig diwethaf unrhyw beth i'w wneud â'r tywydd, fel y profodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ei adroddiad, ac fe wnaethoch chi gyflwyno tystiolaeth iddo a chael eich cyfrif yn dyst yn adroddiad y pwyllgor hwnnw. Roedd yn ymwneud mwy â morwriaeth wael. Ac felly mae'n anghywir beio'r tywydd.

Ac mae'r pwynt a wnewch yn eich ymateb i'r Aelodau y prynhawn yma ynglŷn â mannau aros i lorïau—mae'r strategaeth cludo nwyddau y mae eich Llywodraeth i fod wedi'i chyflwyno ddwy flynedd ar ei hôl hi. Ac roedd y strategaeth i fod i gael ei chyflwyno fel y gellid gweithredu'r arosfannau hyn i lorïau a chludwyr nwyddau.

Felly, yn hytrach nag addo jam yfory, dywedwch wrth eich adran am fyw yn y byd go iawn, mynd i'r afael â'r ffeithiau a dechrau adeiladu'r arosfannau cludo nwyddau hynny fel y gall gyrwyr lorïau gael cyfle i orffwys fel y maent yn ei haeddu mewn amgylchedd diogel, ond gan gydnabod hefyd nad y tywydd, ond morwriaeth wael a achosodd y problemau y Nadolig diwethaf ac mae'n bwysig ein bod yn deall beth a achosodd y problemau y tro hwn.

Mae hwnnw'n gyhuddiad eithaf difrifol i'w wneud, ac rwy'n credu bod y cwestiwn a ofynnwyd yn ymwneud mwy â'r ffordd y mae'r Aelod yn gwadu newid hinsawdd nag â gwydnwch a'r angen am fwy o wydnwch ar draws môr Iwerddon. Y gwir amdani yw mai storm Bram sy'n gyfrifol am gau'r porthladdoedd dros y dyddiau diwethaf; mae hynny'n ffaith. Ac mae'n mynd i ddod yn broblem gynyddol, oherwydd mae stormydd o'r fath yn digwydd yn amlach. Mae hynny'n rhywbeth y mae pawb yn y sector—ar draws y sector cludo nwyddau a logisteg— yn cydnabod ei fod yn digwydd oherwydd newid hinsawdd. Ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw, fel y dywedaf, ar ddatblygu'r cynllun porthladdoedd morwrol, cludo nwyddau a logisteg, ac rwyf wedi sicrhau bod swm sylweddol o arian ar gael i archwilio lle mae angen y cyfleusterau aros i lorïau ar draws gogledd Cymru, ac ar draws Cymru gyfan yn wir.

4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad, y cyntaf gan Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Mae ymchwil gan y Gymdeithas Strôc yn datgelu'r heriau emosiynol ac ymarferol y mae goroeswyr strôc yn eu hwynebu dros gyfnod y Nadolig. Mae bron i hanner yn teimlo'n negyddol am dymor yr ŵyl a 30 y cant yn teimlo fel baich i anwyliaid. Ymhlith y rhai sydd wedi profi Nadolig ar ôl strôc, mae 66 y cant yn adrodd eu bod yn teimlo'n rhwystredig am na allant wneud yr hyn yr arferent allu ei wneud.

Mae dros 85,000 o bobl yn goroesi strôc bob blwyddyn yn y DU, ond mae'r adferiad yn hir ac yn anodd. Mamau, tadau, neiniau a theidiau, pobl ifanc, plant hyd yn oed—gall unrhyw un gael strôc, ac mae ei effaith yn drawmatig. Gall niwed i'r ymennydd a achosir gan strôc adael goroeswyr yn methu symud, gweld, siarad neu hyd yn oed lyncu. Mae arolwg o 1,000 o oroeswyr strôc yn tynnu sylw at yr effaith ar draddodiadau Nadoligaidd: ni allai 28 y cant goginio cinio Nadolig; ni allai 26 y cant ymweld â ffrindiau na gadael y tŷ; ni allai 23 y cant addurno'r goeden; ni allai 19 y cant chwarae gyda phlant neu wyrion.

Mae Ruth o Gonwy yn disgrifio sioc ei strôc yn 36 oed, y diffyg cefnogaeth wedyn, a phwysau emosiynol ac ariannol ei Nadolig cyntaf ar ôl y strôc. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi'n teimlo'n fwy abl i gofleidio'r dathliadau gyda phersbectif newydd. Y dydd Nadolig hwn, bydd tua 240 o bobl yn y DU yn deffro i effaith strôc sy'n newid bywydau, a all achosi parlys, problemau gyda'r golwg a lleferydd, anhawster llyncu, newidiadau i'w personoliaeth ac iselder. Felly, gadewch inni roi eiliad i feddwl amdanynt hwy a'r holl oroeswyr strôc y dydd Nadolig hwn.

15:25

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gollodd Cymru un o leisiau mwyaf adnabyddus a hoffus darlledu yn y Gymraeg ers dros hanner canrif. Crwt o Gaerfyrddin oedd Sulwyn Thomas. Cychwynnodd ei yrfa gyda'r Evening Post yn Abertawe cyn ymuno wedyn â chwmni teledu TWW fel gohebydd ar raglen Y Dydd. Aeth ymlaen i gael gyrfa ddisglair mewn teledu a radio, o Y Dydd i Heddiw, Y Sioe Fach a Ffermio, ond mi fyddai'r rhan fwyaf ohonom ni, wrth gwrs, yn ei gofio fe am ei raglen Stondin Sulwyn ar Radio Cymru. Cyn bod sôn am y cyfryngau cymdeithasol, Stondin Sulwyn oedd Facebook ei oes: lle i gael gwybod pob dim ac i rannu pob dim; llwyfan i bobl gyffredin leisio barn, gael ambell ffrae gofiadwy, ond helpu ei gilydd hefyd, yn arbennig, wrth gwrs, yn ystod yr eira mawr yn 1982, pan oedd y rhaglen yn achubiaeth i lawer iawn, dwi'n gwybod.

Ond mi oedd Sulwyn hefyd yn un o sylfaenwyr Radio Glangwili, a hefyd Papur Llafar y Deillion. Mi fuodd ef a Glenys yn rhedeg aelwyd yr Urdd yng Nghaerfyrddin am flynyddoedd, ac mi fuodd e'n un o hoelion wyth Capel y Priordy ers yn ifanc iawn. Ac fel un o blant y Priordy fy hun, mae fy nyled i'n fawr iddo fe am arwain yr ysgol Sul yno am flynyddoedd lawer.

Nawr, cryfder mawr Sulwyn oedd ei fod e'n deall ei bobl, ac yn rhoi pobl wrth galon ei newyddiaduraeth, a hynny'n amlach na pheidio gyda chynhesrwydd, gyda hiwmor, a gyda chwerthin heintus. Mi fydd yna fwlch mawr, a dwi'n siŵr rhyw dawelwch chwithig, ar ei ôl ef. Ond, ar ran Senedd Cymru, diolch i ti, Sulwyn, am fywyd o wasanaeth i dy gymuned a dy genedl, a phob cariad a chydymdeimlad at Glenys a'r teulu oll.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf bydd y cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM9088 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Enseffalomyelitis Myalgig (ME)

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Adam Price.

Eitem 5 bydd nesaf, felly—y ddadl Aelodau yw hon. Y ddadl heddiw gan Adam Price, ar ME. Felly, Adam Price i gynnig.

Cynnig NDM8884 Adam Price

Cefnogwyd gan Altaf Hussain, Cefin Campbell, Heledd Fychan, Jane Dodds, Joel James, John Griffiths, Julie Morgan, Llyr Gruffydd, Luke Fletcher, Mabon ap Gwynfor, Mark Isherwood, Mike Hedges, Rhun ap Iorwerth, Rhys ab Owen, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.

2. Yn nodi bod 25 y cant o’r rhai sy'n dioddef o ME yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.

3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;

b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;

c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;

d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus—gan gynnwys ME a Covid hir—yn flaenoriaeth;

e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac

f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Gwelliant 1—Adam Price

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

datblygu dull strategol o ymchwil drwy gefnogi Cymru i gynnal un o'r pum canolfan arfaethedig yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol gydweithredol i fecanweithiau patholegol sy'n achosi ME, COVID hir a chyflyrau heintiau ôl-acíwt cysylltiedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a'r gwelliant yn fy enw i, ond hefyd yn enw miloedd o bobl yng Nghymru nad ydym byth yn eu gweld, nid am fod eu salwch yn ysgafn, ond am fod yn rhaid iddynt fyw yn y tywyllwch: y tu ôl i fleindiau blacowt, rhag unrhyw sŵn, yn methu dioddef golau, sŵn na chyffyrddiad hyd yn oed. Mae'r bobl hyn yn dioddef o enseffalomyelitis myalgig, ME, difrifol a difrifol iawn, ac mae'r ddadl hon amdanynt hwy.

Un ohonynt yw fy etholwr, Cerith. Cafodd ddiagnosis o ME yn 11 oed. Yn 33 oed erbyn hyn, mae wedi bod angen ei fwydo drwy diwb, a chael gofal lliniarol, ac nid yw'n gallu siarad na throi ei gorff. Ers pedair blynedd, mae wedi byw mewn gwely ysbyty mewn ystafell dywyll yn sir Gaerfyrddin. Ni all fod yma heddiw, ond mae'n rhan o'r tîm a wnaeth y ddadl hon yn bosib.

Mae tua 63,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda ME neu salwch tebyg i ME. Mae eu chwarter—tua 15,000—wedi'u heffeithio'n ddifrifol neu'n ddifrifol iawn: yn gaeth i'r tŷ neu i'r gwely, yn dibynnu ar eraill ar gyfer y gweithredoedd symlaf mewn bywyd bob dydd. Nid ymwneud â blinder y mae hyn. Prif nodwedd ME yw anghysur ôl-ymdrech—y cwymp wedi'i ohirio wedi'r ymdrech leiaf. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal yn cydnabod bod angen ystyriaeth arbennig ar y rhai sydd ag ME difrifol oherwydd bod eu symptomau'n cael eu hesgeuluso neu eu camddeall mor aml. Mae e-ddysgu y GIG yn cymharu ME difrifol â sglerosis ymledol cam diweddar neu ganser datblygedig, ond dim ond rhan fach iawn o'r cyllid ymchwil y mae'n ei ddenu. Mae hyd yn oed astudiaethau ceidwadol yn rhoi cost ME i'r DU yn y biliynau bob blwyddyn. Mae cyfran Cymru yn y cannoedd o filiynau. Y tu ôl i'r niferoedd hynny, mae bywydau ar stop, swyddi wedi'u gadael, graddau heb eu gorffen, rhieni wedi troi'n ofalwyr llawn amser.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:30

Yn Lloegr, datgelodd trychineb Maeve Boothby O'Neill, a fu farw yn 27 oed, y gwaethaf a all ddigwydd pan fydd systemau'n methu: dim gwasanaethau arbenigol, hyfforddiant gwael ar faethiad a bwydo drwy diwbiau, a gwasanaeth iechyd yn ansicr sut i ymateb. Roedd yr adroddiad hwnnw'n berthnasol i Loegr, ond gallai pob pryder a godwyd ganddo fod yn berthnasol yng Nghymru. Os bydd claf yma'n dirywio i'r pwynt hwnnw, nid oes protocol o hyd sy'n gwarantu ymateb diogel a chyson. Rhaid inni sicrhau nad yw'r hyn a ddigwyddodd i Maeve byth yn digwydd yma.

A bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau pwysig ar waith. Yn 2021, creodd raglen Adferiad ar gyfer COVID hir. Yn 2023, cododd y cyllid hwnnw i dros £8 miliwn y flwyddyn a chafodd ei ehangu i gynnwys pobl ag ME, ffibromyalgia a chlefydau ôl-heintus cysylltiedig. Cymru oedd y rhan gyntaf o'r DU i ehangu gwasanaethau COVID hir yn y ffordd hon, ac mae hynny'n haeddu cydnabyddiaeth.

Ond nid yw'r cyllid wedi'i glustnodi, ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae dros £1.1 miliwn, a fwriadwyd ar gyfer salwch ôl-haint, wedi'i amsugno i feysydd eraill, gan adael cleifion â dim ond gwefan i raddau helaeth. Mae gan Gymru arian, ond gallech ddweud nad oes ganddi gynllun cyson ar hyn o bryd. Mae gan Loegr gynllun—y cynllun cyflawni newydd ar gyfer ME—ond ychydig iawn o arian. Mae gennym gyllid heb gynllun, heb safonau cenedlaethol, a heb fframwaith ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol.

Mae pob bwrdd iechyd yn gwneud pethau'n wahanol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae gwasanaeth Byw'n Dda yn cydnabod anghysur ôl-ymdrech, ac yn wasanaeth sydd wedi'i gydgynhyrchu yng ngwir ystyr y term, sy'n gallu gwneud diagnosis o ME, rhoi presgripsiwn ar gyfer symptomau cydafiachedd, a gwneud ymweliadau cartref. Mewn mannau eraill, mae cymorth wedi'i amsugno i gyrsiau rheoli symptomau generig—defnyddiol i rai, ond yn anhygyrch neu'n niweidiol ar gyfer ME difrifol. Dyna'r diffiniad o loteri cod post—yr ymadrodd a ddefnyddiwn yn aml—a'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf a fydd fwyaf ar eu colled yn yr amgylchiadau hynny.

Felly, gan adeiladu ar yr hyn y mae'r Llywodraeth eisoes wedi'i wneud, a chan gydnabod hynny, gofynnaf heddiw am bum ymrwymiad pendant—rhaglen gydlynol, fforddiadwy a allai drawsnewid bywydau. Yn gyntaf, cynllun cyflawni yng Nghymru ar gyfer ME a salwch ôl-haint o fewn Adferiad. Rydym eisoes yn disgwyl cydymffurfiaeth yng Nghymru â chanllaw cenedlaethol 206 NICE ar ME; nawr, mae angen cynllun arnom sy'n cyflawni'r disgwyliadau hynny. Dylai gael ei gydgynhyrchu gyda chleifion a gofalwyr a dylai nodi sut y bydd gwasanaethau: yn nodi anghysur ôl-ymdrech ac osgoi dulliau adsefydlu niweidiol a hen ffasiwn; cefnogi plant a phobl ifanc; darparu ar gyfer y rhai sydd ag ME difrifol a difrifol iawn gartref ac yn yr ysbyty; a sicrhau y gall meddygon teulu a chlinigwyr ar y rheng flaen nodi, gwneud diagnosis o ME, a'i godio'n gywir, fel bod data dibynadwy'n llywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau. Dylai hefyd gynnwys ymateb Cymreig i adroddiad y crwner ar Maeve Boothby O'Neill, gan sicrhau nad yw'r un methiannau byth yn digwydd yma.

Yn ail, sefydlu gweithgor arbenigol cenedlaethol, gan ddod â chlinigwyr a phobl â phrofiad bywyd ynghyd i hybu cysondeb ledled Cymru. Mae arweinwyr Adferiad eisoes yn cyfarfod yn anffurfiol fel cymuned ymarfer ond heb fandad clir i bob pwrpas. Gallai grŵp cenedlaethol ffurfiol, gan uno gofal sylfaenol ac eilaidd, timau Adferiad, ymchwilwyr, cleifion a gofalwyr, lunio'r fframwaith cenedlaethol, siapio hyfforddiant a data, rhannu arferion da, a goruchwylio cynnydd dros amser.

Yn drydydd, penodi arweinydd clinigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-haint, gan gynnwys ME a COVID hir. Ar hyn o bryd, nid oes cartref, os mynnwch, i arbenigedd ar ME. Yn aml, nid oes gan feddygon teulu unman i gyfeirio ato, ac mae teuluoedd yn gorfod addysgu gweithwyr proffesiynol eu hunain. Eisoes, mae gan gyflyrau cymhleth eraill wasanaethau cenedlaethol dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Gyda degau o filoedd wedi'u heffeithio, nid yw ewyllys da yn unig yn ddigon. Gallai arweinydd clinigol gefnogi achosion cymhleth, cynghori timau Adferiad, arwain hyfforddiant, a chadw Cymru ar y trywydd iawn gydag ymchwil fiofeddygol, gydag uchelgais glir i esblygu'r rôl hon yn swydd lawn i feddyg ymgynghorol wrth i arbenigedd dyfu.

Yn bedwerydd, dylai Cymru chwarae rhan strategol mewn ymchwil. Mae astudiaeth DecodeME wedi nodi signalau genetig sy'n gysylltiedig â chamweithrediad y system imiwnedd a'r system nerfol, ac mae'r DU yn datblygu rhwydwaith o ganolfannau ymchwil drosiadol, gan gysylltu clinigau, cleifion a labordai. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i agor un. Mae gennym ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd ar COVID hir, timau Adferiad sy'n cysylltu â grwpiau ymchwil Ewropeaidd, a chymuned o gleifion brwdfrydig sy'n awyddus i bartneru mewn astudiaethau. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet weithio gyda'r Athro David Price, Severe ME Difrifol Cymru, WAMES, Action for ME, y Gymdeithas ME, grwpiau cymorth COVID hir ac eraill i ddatblygu cais i agor un o'r canolfannau hyn yng Nghymru a gwneud ein gwasanaethau'n barod ar gyfer ymchwil, fel y gall pobl yng Nghymru fod ymhlith y cyntaf i elwa o driniaethau newydd.

Yn olaf, mae arnom angen gwarant ddiogelwch a thegwch i bobl ag ME difrifol a difrifol iawn. Mae NICE yn neilltuo adran gyfan i'r grŵp hwn ac yn cyfarwyddo clinigwyr i gynnal asesiad risg o bob rhyngweithiad i atal niwed. Mae GIG Lloegr bellach yn darparu modiwl e-ddysgu pwrpasol. Mae Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Gofal Iechyd Prifysgol Royal Devon, gan ddysgu o achos Maeve, wedi datblygu canllawiau ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty lleol a chymorth maethol ar gyfer achosion o ME difrifol iawn. Felly, gofynnaf dri pheth penodol i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn hyn o beth, a wnaiff y Llywodraeth ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol a datgan beth fydd yn newid yng Nghymru? A fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth a ariennir gan Adferiad ddangos sut y mae'n cefnogi pobl ag ME difrifol a difrifol iawn, drwy ofal cartref, offer, seibiant a llwybrau ysbyty diogel? Ac a fydd yn archwilio'r syniad o addasu canllawiau Royal Devon fel protocol Cymru gyfan ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty, gan efelychu arferion gorau ledled y byd?

Ni fydd yr un o'r galwadau hyn, ar eu pen eu hunain, yn gwella ME. Ond gyda'i gilydd, byddent yn sicrhau nad yw'r rhai y mae eu bywydau wedi'u heffeithio fwyaf gan y salwch hwn yn cael eu gadael i ymdopi ag ef ar eu pen eu hunain mwyach; ein bod yn dod â'r loteri cod post i ben cyn iddi waethygu ymhellach; a bod Cymru'n chwarae ei rhan lawn yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall a thrin y cyflyrau ôl-heintus dinistriol hyn. Drwy Adferiad, rydym eisoes wedi derbyn bod salwch ôl-haint yn haeddu gwasanaethau pwrpasol, wedi'u hariannu. Y cwestiwn nawr yw a ydym yn barod i gamu ymlaen o eiriau cadarnhaol a gweithredoedd i safonau a gwarantau clir, yn enwedig i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf.

Ni all y bobl sydd ag ME difrifol fod yma i ofyn am hynny eu hunain. Bydd llawer yn dilyn y ddadl hon ar sgrin ffôn, cyhyd ag y bydd eu symptomau'n caniatáu, o wely neu soffa. Ni ddylent orfod aros yn hirach i'r system eu gweld, eu deall, a'u diogelu. Er eu mwyn nhw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n gofyn i'r Llywodraeth ymateb iddo gyda'r ymrwymiadau pendant a nodais heddiw. Diolch.

15:35

Fel y clywsom, mae enseffalomyelitis myalgig neu syndrom lludded cronig, yn salwch cronig cyffredin, hynod wanychol sy'n effeithio ar sawl system o fewn y corff. Mae Action for ME yn amcangyfrif bod 1.35 miliwn o bobl yn y DU, gan gynnwys dros 62,000 yng Nghymru, yn byw gydag ME neu symptomau tebyg i ME. Un o nodweddion craidd y cyflwr yw anghysur ôl-ymdrech, symptom nodweddiadol sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar weithrediad o ddydd i ddydd. Mae'n effeithio ar fwy o fenywod na dynion, ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n dechrau ar ôl haint.

Er gwaethaf ei gyffredinolrwydd, mae ME yn parhau i gael ei dangydnabod. Mae data anghyson, lefelau isel o ddiagnosis a diffyg ymchwil gynhwysfawr i'w effeithiau cymdeithasol ac economaidd yn golygu nad yw graddfa lawn y salwch wedi'i deall yn dda o hyd. Mae hynny wedi cyfrannu ers tro at ddiffyg cymorth cydgysylltiedig a gwasanaethau annigonol i'r rhai yr effeithir arnynt.

O ystyried perthnasedd cynyddol ME o fewn polisi iechyd cyhoeddus ehangach a salwch ôl-feirysol, mae heddiw'n gyfle i godi ymwybyddiaeth, craffu ar y ddarpariaeth bresennol, ac ystyried sut y gall Cymru arwain y ffordd o ran gwella canlyniadau i bobl ag ME. Mae Action for ME yn ymgyrchu dros—ac mae Adam wedi cyfeirio at lawer o hyn—ymagwedd strategol at ymchwil, penodi arweinydd clinigol Cymru gyfan ar gyfer ME, sicrhau bod canllawiau NICE ar gyfer ME yn cael eu dilyn yng Nghymru a chynllun cyflawni penodol i Gymru ar gyfer ME.

Yn dilyn rhyddhau canllawiau newydd NICE yn 2022, dylai Cymru fod wedi symud ymlaen gyda llwybr gofal clir i bobl sy'n byw gydag ME. Bryd hynny, dywedodd ymgyrchwyr yng Nghymru wrthyf y gallai fod gwasanaeth ar gyfer ME mewn rhai byrddau iechyd, ond os oedd, nid oeddent yn gwybod ble roedd y gwasanaethau hyn, pwy oedd yn eu rhedeg, a pha driniaethau a ddefnyddient. Fodd bynnag, cawsant gymorth y cynghorydd meddygol ar gyfer y Gymdeithas ME, a oedd yn fodlon gweithio gyda nhw i alluogi pobl ag ME ledled Cymru i gael y ddealltwriaeth a'r cymorth meddygol cywir ar gyfer eu cyflwr, ac roeddent yn fodlon mynychu cyfarfod â Llywodraeth Cymru. Fe wnaethant ychwanegu ei bod yn aneglur iawn ar hyn o bryd ble neu sut y gallai pobl ag ME gael triniaeth ar gyfer ME yng Nghymru, ac mai mater o lwc oedd dod o hyd i feddyg teulu a oedd â dealltwriaeth dda ac wedi cael hyfforddiant ar y cyflwr, ac nad oedd ganddynt unman i anfon cleifion ymlaen iddo. Codais hyn gyda Llywodraeth Cymru bryd hynny.

Gan symud ymlaen, cysylltodd etholwr o ogledd Cymru â mi cyn y ddadl heddiw i ddweud eu stori wrthyf. Ar un adeg, roeddent yn byw bywyd egnïol ac annibynnol, yn gweithio fel peiriannydd systemau corfforedig, ac yn mwynhau chwaraeon a gwyliau. Chwe blynedd yn ôl, newidiodd feirws bopeth. Fe wnaethant ddatblygu ME, sydd bellach yn ddifrifol ers tair blynedd. Mae eu bywyd bellach wedi newid yn llwyr. Maent yn gaeth i'w cartref, yn ddibynnol ar eu teulu, yn methu gweithio na chynnal perthynas, gyda'u holl ofal wedi'i ariannu'n breifat. Mae ME wedi mynd â'u hannibyniaeth a'u gobaith, ond mae cyllid, ymchwil a chymorth yn parhau i fod yn brin iawn.

Mae 18 mis wedi bod bellach ers i fy nghwestiwn ysgrifenedig i'r Gweinidog iechyd ar y pryd ddangos diffyg darpariaeth hyfforddiant ynghylch ME a syndrom lludded cronig ers y newid yng nghanllawiau NICE yn 2022. Felly, gofynnodd grŵp Severe ME Difrifol Cymru—grŵp anffurfiol o bobl ag ME difrifol a difrifol iawn, a'u gofalwyr—pa hyfforddiant a ariennir gan y GIG ar ME difrifol a difrifol iawn, yn benodol, hyfforddiant sy'n cynnwys mewnbwn gan gleifion a gofalwyr, y mae gweithwyr proffesiynol yng ngwasanaethau Adferiad, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn gofal sylfaenol, wedi'i gael, a pha fesurau pellach y mae'r Gweinidog yn eu cynnig i sicrhau ymwybyddiaeth ddigonol o'r cyflwr ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Efallai y gallwch ateb hyn.

Mae'r cynnig heddiw'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd yn mynd ati o ddifrif i gydgynhyrchu eu gwasanaethau ME ac Adferiad COVID hir, gan ystyried profiad bywyd y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Ym mis Awst, cyfarfûm â chynrychiolydd Severe ME Difrifol Cymru ar gyfer gogledd Cymru. Dywedwyd wrthyf nad oes unrhyw wasanaethau GIG dynodedig ar hyn o bryd ar gyfer ME difrifol a difrifol iawn, i bobl sy'n gaeth i'r tŷ ac yn gaeth i'r gwely, ac nad yw'r rhan fwyaf o ddarpariaeth y GIG yn defnyddio canllawiau newydd NICE. Ychydig a wyddys am y mecanweithiau biolegol sy'n achosi ME a syndrom lludded cronig, er gwaethaf llawer o ymdrechion i'w canfod, ac ni cheir triniaethau effeithiol ar gyfer y cyflwr.

Fodd bynnag, eleni, gwelwyd rhywfaint o ddatblygiadau hirddisgwyliedig mewn ymchwil i ME. Datgelodd astudiaeth DecodeME, dan arweiniad Prifysgol Caeredin, wahaniaethau genetig arwyddocaol mewn pobl ag ME, gan ddarparu dilysiad pwerus ac agor y drws i ddarganfyddiadau arloesol. Fel y mae'r cynnig yn ei nodi heddiw, yn aml, y rhai sydd â'r lefelau mwyaf difrifol o ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol—

15:40

—felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynnig hwn.

Ddirprwy Lywydd, mae un o fy etholwyr yn ymgyrchydd anabledd ac yn eiriolwr sy'n byw gydag ME, ac mae'n rhannu ei phrofiadau gyda mi yn rheolaidd: y rhwystrau cyson sy'n deillio o gamddealltwriaeth eang a chanfyddiadau hen ffasiwn o ME, ar lefelau cymdeithasol a meddygol; y ffordd y caiff ei gamddiffinio'n aml fel lludded cronig, term sy'n bychanu effaith y cyflwr ac nad yw'n adlewyrchu ei gymhlethdod; lludded gwanychol, problemau cysgu a chamweithrediad gwybyddol—symptom sy'n aml yn cael ei fychanu wrth ei alw'n feddwl pŵl; a'r ffordd y mae'n effeithio ar y gallu i weithio, mwynhau hobïau, gwneud gweithgareddau, ac yn wir, i fyw'n annibynnol gydag urddas.

Mae fy etholwr wedi profi rhagdybiaethau niweidiol am ei gallu corfforol a meddyliol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, nad ydynt yn ymwybodol yn aml o natur amrywiol y cyflwr—y gall symptomau ME amrywio o ran ffurf a dwyster, o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos. Mae hefyd wedi profi'r hyn y mae'n ei alw'n fisogynedd meddygol, sydd yn ei barn hi'n arwain rhai gweithwyr proffesiynol meddygol i ystyried ME, cyflwr sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, fel cyflwr sy'n haws ei ddiystyru. Yn aml iawn, mae hynny'n arwain at gamddiagnosis, ac mae hynny, yn ei dro, yn arwain at oedi gofal neu lwybrau gofal amhriodol, a syndrom y drysau troi, lle mae pobl sy'n dioddef o ME yn gweld amrywiol weithwyr proffesiynol meddygol cyn y gwneir diagnosis o'r cyflwr a chyn iddo gael ei drin.

Pryder dybryd arall y mae'n credu y dylid ei amlygu yw gwrthod pigiadau atgyfnerthu COVID i bobl ag ME. Mae'n rhoi'r enghraifft iddi ddal annwyd yn 2021 nad yw hi erioed wedi gwella'n llwyr ohono. Fel y soniodd Mark Isherwood, mae'n credu'n gryf y dylai meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol meddygol ystyried a chydnabod astudiaeth DecodeME ym Mhrifysgol Caeredin yn ofalus iawn—y dylent ystyried yr astudiaeth a'i chanfyddiadau. Yn y ffordd honno, efallai y gwelwn y newid y mae'n credu bod ei angen yn y ffordd y caiff ME ei ddeall, ei ddiagnosio a'i drin, mewn polisi ac yn ymarfer.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae fy etholwr yn tynnu sylw, yn gywir ddigon yn fy marn i, at y model cymdeithasol o anabledd fel rhywbeth sy'n berthnasol iawn i ME, fel y mae i lawer o gyflyrau eraill sy'n anablu—ei bod yn wynebu rhwystrau nid yn unig oherwydd ei chyflwr ond oherwydd y ffordd y mae cymdeithas a systemau'n methu diwallu ei hanghenion. O ofal iechyd anhygyrch i strwythurau cymorth anhyblyg, nid yw'r dull gweithredu presennol yn adlewyrchu egwyddorion urddas, annibyniaeth a chynhwysiant y mae'r model cymdeithasol yn eu hyrwyddo. Diolch yn fawr.

15:45

Mae ME yn un o'r cyflyrau yma sydd yn cario stigma. Fe gofiwch chi bobl yn cyfeirio ato fel 'yuppie flu' nôl yn y 1990au. Dwi'n cofio mam i un o'm ffrindiau pennaf yn yr ysgol yn dioddef ohono, a hithau'n cael ei dilorni a'i bychanu oherwydd cyflwr nad oedd ganddi hi reolaeth arno. Mae'r stigma yma yn brifo'r dioddefwyr a'r anwyliaid, mae'n bychanu'r cyflwr, mae'n bychanu eu dioddefaint nhw, ac yn gwbl anystyriol o effaith go iawn cyflwr sydd yn llethu llawer iawn gormod o bobl. Yn anffodus, mae'r stigma yna yn parhau heddiw. Diolch, felly, i Adam am sicrhau'r ddadl yma heddiw. Gadewch i'r ddadl yma fod yn gam cadarnhaol tuag at ddiosg y stigma, gwella dealltwriaeth, a gweld mwy o weithredu.

Dwi'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi derbyn gohebiaeth gan nifer fawr o etholwyr yn arwain at y ddadl yma. Fe ges i un etholwraig yn dod i fy nghymhorthfa yng Nghorris, ac yn esbonio sut y mae'r cyflwr yma wedi llethu ei chymar yn llwyr. Roedd ei chymar hi'n arfer bod yn bêl-droedwraig nodedig, yn berson heini, a oedd yn byw ei bywyd yn yr awyr iach, yn weithwraig gydwybodol, ac yn cyfrannu'n werthfawr at ei chymdeithas. Bellach, mae hi'n gaeth i'w hystafell wely, ac wedi bod ers sawl blwyddyn, gyda hyd yn oed golau yn sugno ei hegni.

Er bod y Llywodraeth wedi cynyddu cyllid i'r rhaglen Adferiad i £8.3 miliwn ers 2023, ac wedi ymestyn gwasanaethau i gynnwys cyflyrau hirdymor eraill, mae diffyg strategaeth genedlaethol glir yn parhau i rwystro mynediad dioddefwyr at ofal priodol. Heb strategaeth, mi rydyn ni'n wynebu perygl go iawn o ofal anghyson a loteri cod post. Mae hyn felly yn dangos diffyg ymrwymiad gan y Llywodraeth i sicrhau cysondeb a safonau teg ledled Cymru.

Ddwy flynedd yn ôl, fe ddywedodd y Gweinidog iechyd bryd hynny, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gen i, fod disgwyl i fyrddau iechyd gydgynhyrchu modelau gwasanaeth gyda phobl â phrofiad byw, gan gynnwys WAMES. Ond, yn un peth, nid ydy'r disgwyliad yma yn ddigonol. Heb atebolrwydd a chynllun cyflawni wedi ei seilio ar ganllawiau NICE, ni fydd y system yn gweithio. Ond, yn ail, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n ymddangos nad oes yna unrhyw gynnydd go iawn wedi bod yn hyn o beth. Mae WAMES wedi cyflwyno cynnig clir, ond ymddengys fod y Llywodraeth heb weithredu o hyd ar y cynnig hwnnw, o leiaf hyd yma. 

Mae'r blaenoriaethau'n glir ac yn amlwg: mae angen hyfforddiant gwell i weithwyr iechyd proffesiynol ar ddiagnosis a rheoli ME; llwybrau gofal safonol ar gyfer pob oedran a phob difrifoldeb, yn unol â chanllawiau NICE; cofnodi diagnosis yn gyson er mwyn sicrhau data cywir; cydgynhyrchu gwirioneddol gyda chleifion, gofalwyr a'r trydydd sector; a diogelu cleifion wrth iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau nad ydynt yn benodol yn ymwneud ag ME. Heb y camau yma, mi fydd gwasanaethau yn parhau i fod yn anghyson ac yn annigonol. Mae pobl sydd yn dioddef o ME wedi bod yn aros yn llawer rhy hir. Mae angen cynllun clir, strategaeth gadarn a chydgynhyrchu ystyrlon. Dim ond wedyn y gallwn ni sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru yn deg, yn gyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

15:50

A gaf i ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cynnig hwn? Rwy'n falch iawn o allu bod yn un o'r cydgyflwynwyr.

Rwyf am godi'r materion a godwyd gyda mi ynghylch effaith ME ar un o fy etholwyr. Mae fy etholwr yn dweud wrthyf fod canllawiau NICE ar bobl ag ME yn nodi y dylid atgyfeirio cleifion at dîm ME a syndrom lludded cronig arbenigol. Diffinnir tîm arbenigol fel ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant a phrofiad o fynediad at, diagnosio, trin a rheoli ME a syndrom lludded cronig. Credaf fod hynny'n rhywbeth y byddai pob un ohonom yn hoffi ei weld. Fodd bynnag, canfu fy etholwr nad yw'r tîm arbenigol hwn ar gael yn ne Cymru—nid yn unig yn yr ardal lle rwy'n byw a lle mae yntau'n byw, ond nid yw ar gael yn unman yn ne Cymru.

I'w fab, cymerodd dair blynedd, yn bennaf gan ddefnyddio adnoddau yn y sector preifat, i gael diagnosis o ME. Roedd yn lwcus ei fod yn gallu fforddio hyn. Mae llawer o bobl yn methu ei fforddio. Mae'n warthus fod pobl sydd ei angen yn gorfod talu er mwyn cael rhywbeth a ddylai fod ar gael yn rhwydd. Yn y pen draw, cafodd ei atgyfeirio at dîm arbenigol ym Mryste gan yr awdurdod iechyd. Erbyn i hyn ddigwydd, roedd ei gyflwr wedi dirywio'n sylweddol i fod yn ddifrifol iawn, ac roedd mynediad o bell at y cyfleusterau hyn yn gwbl aneffeithiol.

Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddilyn canllawiau NICE, yn benodol y canllawiau ar ME difrifol a difrifol iawn yn adran 117 o'r canllawiau. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau iechyd yn datblygu neu'n cael mynediad at y timau arbenigol sy'n ofynnol yn ôl y canllawiau? Mae'n rhy hwyr i fy etholwr bellach, ond buaswn eisiau iddo fod ar gael i unrhyw un arall.

Hoffwn i ddiolch i Adam Price am ddod a'r ddadl bwysig yma ger bron ac i'r holl ymgyrchwyr a theuluoedd sydd wedi bod yn pwyso am weithredu. 

Mae ME difrifol a difrifol iawn yn cael effaith ddinistriol ar unigolion a theuluoedd. Ychydig dros bum mlynedd yn ôl, roedd un o fy etholwyr yn iach, yn egnïol, yn astudio yn y brifysgol, yn mwynhau chwaraeon a cherddoriaeth. Mewn ychydig flynyddoedd, mae eu bywyd wedi'i drawsnewid yn llwyr. Maent wedi mynd o annibyniaeth a bywyd cymdeithasol bywiog i fod yn gaeth i'r gwely, yn methu rhyngweithio â ffrindiau a theulu, ac yn ddibynnol ar ofal ar gyfer pob agwedd ar eu bywyd bob dydd.

Cymerodd sawl blwyddyn i gael diagnosis. Dychmygwch y straen, y pwysau ar yr unigolion a'u teuluoedd pan fydd yn rhaid iddynt aros blynyddoedd i gael diagnosis. Nid oes ryfedd fod llawer o deuluoedd yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiymadferth, gan wylio eu hanwyliaid yn dirywio wrth frwydro i gael cydnabyddiaeth, heb sôn am gymorth. Yn achos fy etholwr, pan gawsant eu hatgyfeirio at grŵp arbenigol ym Mryste, roeddent yn rhy sâl i allu manteisio arno.

Mae'r salwch, sy'n anweledig i lawer, yn effeithio ar bobl yn gorfforol, yn feddyliol, yn economaidd, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Ni all pobl sy'n byw gydag ME difrifol neu ddifrifol iawn siarad drostynt eu hunain. Fel y clywsom, mae oddeutu 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag ME, a chredir bod gan oddeutu 15,000 ohonynt ME difrifol neu ddifrifol iawn. Mae hwn yn grŵp mawr o bobl. Gall anablu i'r un graddau â chamau hwyr sglerosis ymledol neu ganser datblygedig, ond fel y clywsom, nid yw'n cael ffracsiwn o'r gydnabyddiaeth, y ddealltwriaeth na'r cyllid.

Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd drwy wasanaethau Adferiad a chynlluniau ar gyfer llwybr iechyd cymunedol, y dylid eu croesawu, gwyddom nad yw'r gwasanaethau hyn yn cyrraedd llawer o'r rhai sydd eu hangen fwyaf o hyd. Mae llawer o resymau dros hynny, ac un o'r rhain yw y gall pobl ag ME fod yn rhy sâl weithiau i ymweld â'r feddygfa neu fynychu apwyntiadau cleifion allanol. Ni allwn ganiatáu i'r bobl hyn, fel fy etholwr a'r miloedd lawer ledled Cymru, barhau i fod yn anweledig.

Nid oes grŵp arbenigol pwrpasol yng Nghymru ar gyfer ME o hyd. Mae angen inni ddod â gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl â phrofiad bywyd ynghyd ar lefel genedlaethol i gydgynhyrchu canllawiau, safonau ansawdd a chynllun cyflawni ar gyfer Cymru gyfan sy'n cwmpasu pob lefel o ddifrifoldeb, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol. Credaf fod y galwadau a nodir yn y cynnig hwn yn glir, ac yn allweddol. Nawr yw'r amser i bobl ag ME, fel fy etholwr, gael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi. Diolch.

15:55

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, a diolch i Adam am ei chyflwyno. Rwy'n gefnogol iawn i'r materion y mae wedi'u codi ac rwy'n cefnogi'r cynigion y mae wedi'u cyflwyno.

Ers imi fod yn gynrychiolydd Gogledd Caerdydd, ers blynyddoedd lawer bellach, mae ME wedi codi'n gyson fel mater gydag etholwyr. Hoffwn dalu teyrnged i’r etholwyr hynny ac i bawb sy’n ymgyrchu ac sydd wedi ceisio gwneud ME yn llawer mwy gweladwy i bobl, gan y credaf ei fod yn salwch nad yw, mewn llawer o achosion, yn cael ei gydnabod. Mae stigma yn ei gylch. Dywedwyd eisoes fod yna lawer o bobl nad ydynt yn ei gydnabod fel salwch, ac mae hynny’n broblem gyson.

Roeddwn eisiau sôn yn benodol am yr effaith nid yn unig ar y dioddefwr ME, ond ar y teulu a’r gofalwyr di-dâl. Rydym yn aml yn talu teyrnged iddynt, ac mae llawer o ofalwyr sy’n treulio eu bywydau'n cefnogi pobl sy’n dioddef o ME. Mae problemau hefyd gyda mynediad at fudd-daliadau, mynediad at feddyginiaeth, a diffyg gwybodaeth feddygol arbenigol. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn arwain at fwy o wybodaeth a gwasanaeth gwell i ddioddefwyr ME.

Gwn fod ymdrechion mawr eisoes wedi'u gwneud i dynnu sylw at y materion hyn, fel sefyll ar risiau'r Senedd gyda rhesi o esgidiau gwag—rwy'n siŵr fod llawer ohonom yma wedi gwneud hynny—i gydnabod y miliynau coll, y bobl hynny sydd â'r salwch ond sydd ar goll. Maent ar goll o'u swyddi, maent ar goll o allu mynd allan gyda'u teuluoedd, maent ar goll o wyliau, ac yn colli ysgol yn achos pobl ifanc. Mae hyn oll oherwydd effaith wirioneddol wanychol ME.

Rwy'n falch iawn fod aelodau MESiG yma heddiw—dioddefwyr ME ym Morgannwg. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r grŵp hwn ers amser ac rwyf wedi mynychu eu cyfarfodydd cefnogaeth. Dim ond drwy waith ymgyrchu grwpiau fel hyn y gwyddom pa mor anodd y gall byw ag ME fod. Ac wrth gwrs, mae Action for ME yn dwyn hyn oll i'n sylw.

Dyma rai o'r symptomau y mae un o fy etholwyr wedi'u profi: poen a gwendid difrifol cyson yn y cyhyrau a'r cymalau, sy'n effeithio ar y coesau, y traed a'r asgwrn cefn yn ogystal â'r gwar, yr ysgwyddau a'r breichiau; lludded meddyliol; tueddiad i gwympo a llewygu gydag unrhyw straen; cydbwysedd gwael; cwympo ar arwynebau anwastad; trwsgleiddiwch; diffyg anadl; ymladd am anadl; anoddefiad i straen; golwg aneglur; clust nofiwr; treuliad gwael; chwysu gyda'r nos; twymynau a hunllefau—ac mae'r rhestr yn parhau. Mae fy etholwr wedi dioddef yr holl symptomau hynny.

Mae un o fy etholwyr, sydd ond yn gallu cerdded pellter byr iawn ac sy'n gorfod gorffwys a mynd mewn cadair olwyn sy'n cael ei gwthio gan ei mam ar y troeon anfynych y mae'n gadael y tŷ, wedi'i chael hi'n anodd iawn cael y budd-daliadau y mae hi'n teimlo bod ganddi hawl iddynt. Unwaith eto, mae hon yn thema gyson: anhawster cael budd-daliadau oherwydd diffyg cydnabyddiaeth i'r afiechyd. Ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi mewn perthynas â'r anhawster i gael budd-daliadau. Ac yna, cyfeiriwyd eisoes at hyn—y ffaith nad oes, mewn llawer o achosion, unrhyw wasanaeth yng Nghymru.

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn llythyr at etholwr arall, ddiwedd mis Hydref, gwta fis yn ôl, y gwrthodwyd cyffur iddi y bu'n ei gymryd ers sawl blwyddyn—. Roedd y llythyr yn dweud, 'Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaethau ME ar gael o fewn y bwrdd iechyd hwn'. Ac mae'r bwrdd hwnnw, wrth gwrs, yn gwasanaethu Caerdydd a'r Fro, sydd mor ddigalon i'r etholwr ei ddarllen. Nid yw'n cael y cyffur y mae hi ei eisiau ac y mae'n teimlo bod ei angen arni, ac yna dywedir wrthi nad oes gwasanaeth ar gael yn y bwrdd iechyd. Ac yna wrth edrych yn ôl ar yr holl ohebiaeth a gefais dros y blynyddoedd, yn 2021, ysgrifennodd etholwr arall ataf bryd hynny, gan ddweud nad oes gwasanaeth ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, a gwn fod hyn yn cael ei ailadrodd ledled Cymru. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch, ac mae heddiw'n codi'r materion hynny. Rwy'n cymeradwyo'r cynnydd a wnaed gydag Adferiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i wneud cynnydd. Diolch.

16:00

Diolch o galon i Adam. Mae'n fraint i fod yn gefnogwr i'r ddadl bwysig yma. Mae'n amlwg o'r gefnogaeth yn y Siambr, ac o'r gefnogaeth yn y galeri, pa mor bwysig yw'r mater yma i bobl.

Soniodd Adam am adroddiad y crwner ar atal marwolaethau yn y dyfodol. Roedd yn dorcalonnus ac yn siomedig darllen yr adroddiad am Maeve Boothby O'Neill—yn dorcalonnus am fod bywyd ifanc wedi'i golli, ac yn siomedig am ein bod yn gwybod mai dyma brofiad bywyd llawer o'r teuluoedd y tu ôl i ni yma heddiw, sydd eisiau help, triniaeth a chefnogaeth gydag ond ychydig iawn o wasanaethau ar gael. Mae 404,000 o bobl yn byw gyda ME, neu syndrom lludded cronig, yn y DU. Rwy'n mynd i siarad am dri heddiw.

Yn gyntaf, etholwr 41 oed a gafodd ddiagnosis yn 1994 pan oedd hi'n 10 oed. Roedd hi wedi bod yn ei chael hi'n anodd ers dwy flynedd cyn hynny. Ni chafodd addysg ffurfiol ar ôl y diagnosis, ond oherwydd ei natur benderfynol, llwyddodd i basio ychydig o arholiadau TGAU gyda graddau A a B. Cafodd rywfaint o driniaeth gan bediatregydd cymunedol, ond pan wnaethant ofyn am ail farn, a'r meddyg hwnnw'n awgrymu dull gwahanol o weithredu, fe wnaeth hynny sbarduno atgyfeiriad amddiffyn plant, a bu'n rhaid i'r teulu hwnnw, a oedd eisoes yn dioddef, frwydro yn erbyn y pryder a'r straen hwnnw am flynyddoedd lawer. Fel oedolyn, nid yw wedi cael meddyg ymgynghorol i ofalu amdani. Mae hi wedi bod yn gaeth i'r tŷ ers 1999, ac ers 2009, yn gaeth i'w gwely am 95 y cant o'r amser. Ei mam yw ei hunig ofalwr. Mae ganddi gymdogion nad ydynt yn ymwybodol o'i bodolaeth hyd yn oed. Mae hi'n un o'r miliynau coll y soniodd Julie Morgan amdanynt. Os caf ddyfynnu mam y wraig hon, 'Mae hi wedi cael 30 mlynedd a mwy o'i hesgeuluso, ei cham-drin a'i hanwybyddu, a hynny'n unig am na wnaiff gweithwyr proffesiynol adael eu credoau personol wrth y drws ffrynt', fel y crybwyllodd Mabon ap Gwynfor yn gynharach. Nid ydynt yn ei gweld fel unigolyn ag anghenion sydd angen help, gofal a chefnogaeth.

Nawr, rwyf wedi bod yn ymwybodol o effaith ofnadwy ME ers blynyddoedd lawer. Mae wedi taro'r teulu Messenger, y tu ôl i mi, yn greulon iawn. Cyn iddynt fod mor ffodus â bod yn etholwyr i Adam Price, roeddent yn byw i lawr y ffordd oddi wrthyf i yng Nghaerdydd. Rwy'n cofio Cerith ac Eleri fel brawd a chwaer iau i fy ffrind annwyl iawn, un o fy ffrindiau cynharaf. Arferwn ymweld â'r tŷ. Fe wnaethom chwarae gyda'n gilydd. Aeth Cerith o fod yn blentyn disglair, bywiog, hoff o chwaraeon i gael diagnosis o ME yn 11 oed. Yn 18 oed, cafodd ei roi mewn gofal lliniarol ac wedi hynny câi ei fwydo â thiwb gartref, fel y dywedodd Adam. Mae bellach yn 33 oed, wedi'i gaethiwo i'r gwely mewn ystafell dywyll a distaw, ac angen help gyda gofal personol ac yn cael trafferth cyfathrebu. Ond yn llygad fy meddwl, rwy'n dal i weld y bachgen ifanc a oedd yn hoff o chwaraeon. Cafodd Eleri, sydd yma gyda ni yn y Senedd heddiw, ddiagnosis yn ddiweddarach yn 15 oed, pan na allai gynnal pwysau, siarad, bwydo ei hun ac yn byw mewn poen. Diolch byth, mae Eleri wedi gwneud cynnydd anhygoel. Mae hi'n briod, mae'n rhedeg busnes gwych o'i chartref ac yn gwerthu ei chynnyrch ledled Cymru a thu hwnt. Nawr, rydym newydd ddathlu Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, onid ydym? Felly, rwy'n eich annog i chwilio am Eleri Haf Designs, ond wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, mae dylunwyr eraill ar gael hefyd. 

Soniodd fy etholwr fod y salwch wedi gwneud ei theulu yn anweledig. Mae'r effaith ar y teulu Messenger, wedi bod yn anhygoel. Bu'n rhaid i Menna ddod yn ofalwr llawn amser, cymerodd Rob ddiswyddiad, newidiodd ei swydd i weithio llai o oriau, er mwyn gallu ymdopi, dal i fynd. I'r teulu Messenger ac eraill, mae hwn yn salwch sy'n newid bywyd. Yng ngeiriau Rob, mae ME yn golygu bod yn rhaid i chi ailwerthuso popeth yn eich bywyd. Mae eich dyfodol yn wahanol iawn i'r hyn yr oeddech chi'n meddwl y byddai. Ysgrifennydd y Cabinet, ni all fod yn iawn fod teuluoedd yn dioddef pwysau gofal amser llawn am rywun â salwch meddygol cymhleth heb unrhyw gymorth arbenigol.

Nawr, ym mis Awst 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu grŵp gorchwyl a gorffen eu hunain ar ME a ffibromyalgia. Gwnaeth y grŵp 11 argymhelliad. Mae llawer o'r argymhellion hynny wedi'u cynnwys yn y cynnig heddiw. Pam ein bod ni wedi oedi cyn gweithredu'r argymhellion hynny, Ysgrifennydd y Cabinet? Oherwydd mae'r oedi hwnnw wedi golygu ein bod ni'n gwneud cam â theuluoedd fel y teulu Messenger. Diolch yn fawr.

16:05

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Adam. Yn ddiarwybod i mi, roedd ffrindiau i fy nheulu wedi cael profiad o ME. Rydym wedi clywed gan sawl Aelod—Sioned, Rhys—sut y mae hwn yn gyflwr sy'n gallu effeithio ar rywun sy'n anhygoel o heini, egnïol, a llawn bywyd, ac o fewn cyfnod byr o amser, yn eu gwneud yn gaeth i'r gwely. Mae hynny'n anhygoel o boenus, nid yn unig i'r bobl sy'n byw gyda'r cyflwr, ond i'w teuluoedd, eu ffrindiau. Ond mae'n dal i fod yn gyflwr nad oes llawer yn hysbys amdano. Rwy'n cyfaddef yn agored, cyn i'r cynnig hwn gael ei gyflwyno, nid oedd gennyf unrhyw syniad am ME, er y cysylltiad teuluol hwnnw, ac er bod gennyf nifer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi dros y misoedd diwethaf i siarad am y cyflwr.

Nawr, roeddwn eisiau canolbwyntio'n fyr ar ymchwil ac adleisio'r pumed peth y gofynnodd Adam amdano, sef i Gymru arwain gydag ymchwil, oherwydd mae man dall enfawr yma yn y frwydr yn erbyn ME. Tynnodd Adam sylw at hyn. Er bod NICE yn ei gydnabod, mae ymchwil yn cael ei danariannu'n enfawr. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n briodol ar wyddorau bywyd fel sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yn ystod tymor y Senedd hon, ond gydag ymchwil ME yn benodol, rydym wedi colli cyfle, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gwario ychydig dros £8 miliwn ar ymchwil. Nawr, cymharwch hynny â'r swm y maent yn ei wario ar y cyfandir. Er enghraifft, yn yr Almaen, €500 miliwn. Mae gennym lawer o waith dal i fyny.

Nawr, yng Nghymru, gallwn chwarae ein rhan yn gwneud iawn am y tanwariant hwnnw. Nid yn unig y bydd hynny'n arwain at gyflawni ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru, lle mae hanes o gyflawniad eisoes, fel y nododd Adam, ond bydd hefyd yn arwain wedyn at y manteision y byddai ymchwil yn eu cynnig i'r rhai sy'n byw gyda ME, i deuluoedd a ffrindiau'r bobl hynny. Byddai o fudd i bob un ohonom wedyn wrth gwrs. Byddai'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gyrraedd rhai o'i thargedau, nid yn unig o fewn y portffolio iechyd ond ar draws portffolios eraill, fel yr economi, o gynyddu gwariant ar ei hymchwil. Felly, hoffwn ddeall a yw'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o sut y gallai wella gwariant ymchwil ar ME, sut y gall fwrw ati i wneud hynny, beth fyddai'r amserlenni ar hynny.

Fel sy'n digwydd mewn nifer o feysydd eraill sy'n peri pryder, nid yw geiriau cynnes yn mynd i fynd â ni'n bell iawn. Tynnodd Rhys sylw at y grŵp gorchwyl a gorffen. Nid yw'r argymhellion hynny wedi'u gweithredu eto. Yn achos y rhai sy'n byw gyda ME, nid ydynt eisiau ei glywed mwyach. Maent eisiau mwy na geiriau cynnes yn unig. Maent eisiau gweld gweithredu'n digwydd. Maent eisiau i'r Llywodraeth fwrw ymlaen i wneud y gwaith

Diolch yn fawr am y ddadl hon, Adam. Mae gennyf aelod o'r teulu sydd wedi bod yn dioddef o ME ers tua 40 mlynedd. Felly, rwy'n gwybod amdano ers amser hir iawn, ond yn ffodus nid yw mor ddifrifol â'r hyn y mae rhai o'r bobl y clywsom amdanynt heddiw wedi'i gael. Ond fe olygodd ei bod wedi gorfod rhoi'r gorau i swydd amser llawn, gyrfa seneddol addawol, ac mae wedi gallu byw bywyd cymdeithasol digon normal, ond yn sicr ni allodd gyflawni'r dyheadau a oedd ganddi ar ddechrau ei bywyd. Mae gan rai cyflyrau meddygol lobïau pwerus wedi'u hariannu'n dda y tu ôl iddynt, ac yn anffodus, nid yw ME yn un ohonynt, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r proffesiwn meddygol wedi dal i fyny â chymaint o achosion o'r cyflwr sydd i'w cael. 

Roeddwn i'n synnu clywed bod gennym ychydig o dan tua 1,800 o bobl wedi cael diagnosis o ME cyn y pandemig, ac ar ôl y pandemig, mae'r nifer wedi mwy na dyblu. Felly, mae'n amlwg fod cysylltiad yma rhwng haint feirysol COVID a'r haint feirysol penodol hwn, ac ni allwn barhau i weld proffesiynau meddygol yn ceisio gwadu bod pobl wedi'i gael, ddim ond am nad ydynt yn ei ddeall. Rhaid inni gael dilyniant mewn gofal fel nad oes rhaid i bobl ailadrodd eu stori ac ychydig mwy o ddychymyg y tu hwnt i feddyginiaeth yn unig.

Felly, er enghraifft, dywedodd un etholwr wrthyf fod cyngor diet ac ymarfer corff a ffordd o fyw wedi eu helpu i'w reoli. Rwyf wedi cyflogi rhywun gyda ME, a oedd yn hollol iawn, cyn belled â'ch bod chi'n gwneud addasiadau rhesymol, gan ddeall nad yw'r unigolyn dan sylw'n mynd i allu gweithio o bryd i'w gilydd. Am y gweddill o'r amser, roeddent yn gallu bwrw ymlaen â'u gwaith ac ymdopi'n berffaith ddigonol i safon uchel iawn.

Ac fe wyddom fod hyn yn broblem mewn perthynas ag agweddau eraill ar ein trafodaethau, ac mae angen inni fod yn effro i hyn wrth inni wrando ar y ddadl am gyfyngu ar fudd-daliadau rhai pobl nad ydynt yn ffitio i focsys. Rwy'n credu bod hwn yn llwybr peryglus iawn, ac mae angen inni roi posibilrwydd o urddas gwaith i bawb—efallai na fydd yn waith amser llawn ac efallai na fyddant yn gallu ymrwymo iddo bob dydd. Ond mae gwir angen inni newid y ffordd yr ydym yn trin y bobl hyn, a chael gwasanaeth meddygol mwy ymatebol a meddylgar, oherwydd mae gwadu bod gan bobl broblem—. Rhaid i chi wrando ar bobl. Os ydynt yn dweud, 'Mae gennym broblem', fe wyddom ei fod yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, fel y clywsom heddiw, ac mae angen inni sicrhau bod eu gofalwyr hefyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

16:10

Diolch i Adam am gynnal y ddadl eithriadol o bwysig hon.

Rwyf am godi nifer yr achosion o ME ymhlith pobl sy'n dioddef o COVID hir, ac mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod yn cael eu dibwyllo neu eu hanwybyddu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a chan rai clinigwyr hefyd, mae arnaf ofn. Cysylltodd etholwr â mi i ofyn i mi godi'r materion hyn, ac rwyf wedi siarad ag etholwyr eraill sydd â symptomau ME neu symptomau tebyg i ME naill ai wedi datblygu trwy COVID hir, neu anafiadau a ddioddefwyd yn sgil COVID, neu, maent yn amau, o frechlynnau COVID. Maent yn haeddu cael eu clywed.

Nawr, nid ydym yn gwybod pa mor gyffredin yw COVID hir, oherwydd gwahanol symptomau, hunan-adrodd. Mae'n ymddangos yn fwyaf cyffredin—neu o leiaf, caiff ei gofnodi'n fwy cyffredin, mewn fenywod, a rhai rhwng 50 a 70 oed. Mae'n ymddangos bod tebygrwydd rhwng COVID hir a ME, syndrom lludded cronig, ffibromyalgia a syndromau lludded ôl-feirysol eraill, yn enwedig lludded na chaiff ei leddfu gan orffwys, anghysur, camweithrediad gwybyddol, cur pen, rheoleiddio tymheredd gwael a pharesthesia, sef teimladau tebyg i binnau bach neu wayw. Nawr, yn sicr dylid darparu'r un gefnogaeth i bob claf sy'n dioddef y mathau hyn o symptomau. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir bob amser, oherwydd er bod ME a syndrom lludded cronig wedi cael eu cydnabod ers amser maith fel syndrom lludded ôl-feirysol a chyflyrau niwrolegol gan Sefydliad Iechyd y Byd a'r GIG, mae COVID hir yn dal i fod heb ei gydnabod. Felly, nid oes unrhyw fodel safonol o ofal ar gyfer COVID hir, ac yn wir nid oes cyllid sicr ym mhob bwrdd iechyd ar gyfer gwasanaethau i'w drin yn yr un modd. Mae llawer o gleifion yn dihoeni heb ofal arbenigol.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, rwyf am dalu teyrnged i'r etholwyr sydd wedi dwyn hyn i fy sylw. Mae mwy nag un ohonynt wedi esbonio i mi sut y byddent yn dioddef—roeddent yn gwybod sut y byddent yn dioddef ar ôl ein cyfarfodydd, ac y byddai'n rhaid iddynt orffwys hyd yn oed ar ôl cael galwad fer ar Teams neu Zoom. Dyna'r pris y maent yn gorfod ei dalu am eirioli drostynt eu hunain. Dylai eraill fod yn siarad, nid ar eu rhan, ond gyda nhw, ac felly diolch yn fawr iawn i Adam am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma.

Mae gwir angen cefnogaeth ar y rhai sy'n dioddef gyda'r cyflyrau hyn. Dylen ni gredu pobl pan fo hi'n dod i'w cyrff nhw, a chlywed eu lleisiau. Maen nhw yn haeddu gwell.

16:15

A nawr galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Adam Price a'r holl Aelodau ar draws y Senedd sydd wedi cefnogi'r cynnig, am gyflwyno'r ddadl hon ac am dynnu sylw at gyflwr sy'n aml yn cael ei ddiystyru ac weithiau'n cael ei anwybyddu. Mae ME yn glefyd cymhleth, aml-system a all anablu'n fawr, ac fel y mae llawer o Aelodau eisoes wedi nodi yn y ddadl, mae pobl y mae'n effeithio arnynt wedi teimlo'n anweledig ers blynyddoedd. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn cydnabod hyn yma heddiw, gan helpu i chwalu mythau a chamddealltwriaeth am y cyflwr hwn.

Mae cyhoeddi ymchwil DecodeME y cyfeiriwyd ato, dan arweiniad Prifysgol Caeredin, wedi dod â chadarnhad mawr ei angen i'r rhai sy'n byw gyda ME. Mae ME yn rhannu llawer o nodweddion tebyg sy'n gorgyffwrdd â chyflyrau a salwch ôl-haint eraill, gan gynnwys COVID hir, fel y clywsom. Rydym wedi datblygu gwasanaeth sy'n cefnogi pobl sy'n profi'r symptomau hyn, sef ein gwasanaeth Adferiad, y mae llawer o Aelodau wedi cyfeirio ato yn y ddadl. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol i gefnogi pobl â COVID hir, ond i gydnabod ei debygrwydd i ME, rydym wedi arwain y ffordd drwy ehangu mynediad at wasanaethau Adferiad i bobl â chyflyrau cronig eraill sy'n gysylltiedig ag ôl-haint. Rydym wedi gwneud hyn drwy gynyddu cyllid ar gyfer Adferiad i £8 miliwn bob blwyddyn.

Nid oedd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau a ariennir gan Adferiad yn bodoli cyn y pandemig. Felly, mae gennym rywbeth yng Nghymru i adeiladu arno, ac rydym wedi dod yn bell mewn amser byr, ond mae ffordd bellach i fynd. Mae rhai o'n gwasanaethau wedi ennill gwobrau, ac yn wir, cyfeiriwyd at rai yn y ddadl—y gwasanaeth a ddarperir yng ngogledd Cymru, y gwasanaeth cyflyrau cymhleth yn y gymuned. Enillodd hwn wobr darparu gofal amlbroffesiynol yng ngwobrau UK Advancing Healthcare yn gynharach eleni, ac mae'n dangos sut y gall buddsoddiad wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd wedi cael anhawster i gael cymorth o'r blaen.

Ond rwyf am gydnabod bod mwy i'w wneud i gefnogi pobl â salwch sy'n gysylltiedig ag ôl-haint, yn enwedig i'r rhai sydd â'r symptomau a'r mathau mwyaf difrifol o salwch, y rhai sydd â ME difrifol a difrifol iawn. Rydym wedi gwneud ymrwymiad a rhoi buddsoddiad i gefnogi parhad ac ehangu gwasanaethau, rhywbeth a gydnabuwyd gan y Gymdeithas ME a chan yr Aelodau heddiw. Rydym yn gwybod bod ein gwasanaethau Adferiad yn diwallu anghenion pobl sy'n eu defnyddio, ond mae mwy y gellir ei wneud i sicrhau cefnogaeth gyfartal, ac rydym wedi clywed am bwysigrwydd hynny yn y ddadl heddiw. Mae angen inni ddeall y rôl bellach y gall gwasanaethau a ariennir gan Adferiad ei chwarae yn cefnogi pobl sydd ag ME difrifol a difrifol iawn a'r gofal amlddisgyblaethol sydd ei angen arnynt.

Rhaid inni hefyd sicrhau bod y rôl bwysig y maent eisoes yn ei chwarae yn cadw pobl â lefel ysgafn neu gymedrol o salwch yn iach neu'n gwella. Mae'r math hwn o ymyrraeth a chefnogaeth gynnar yn hanfodol i atal dirywiad, ac fe glywsom am hynny yn y ddadl heddiw hefyd. Rhaid inni sicrhau yn ogystal fod gwasanaethau a ariennir gan Adferiad yn parhau i ganolbwyntio ar yr ystod o bobl sydd â chyflyrau o dan derm ymbarél cyflyrau cronig sy'n gysylltiedig ag ôl-haint, yn cynnwys ME wrth gwrs.

Cyfeiriodd Adam Price ac eraill at arwyddocâd ymchwil, sy'n bwysig, ac rwy'n cytuno ag ef ac eraill a gyfeiriodd at hynny. Gofynnais i fy swyddogion gysylltu â'n partneriaid ymchwil yn y DU i ddeall yn well beth yw'r cynigion penodol ar gyfer ariannu a sefydlu'r hybiau y cyfeiriwyd atynt yn y DU. Bydd hyn yn ein galluogi i ymgysylltu â'n cymuned ymchwil i archwilio a manteisio ar y cyfleoedd posib hynny, ac mae cyfarfod rhwng fy swyddogion a'r Athro David Price wedi'i drefnu yn yr wythnosau nesaf. Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod â rhai o'r cynrychiolwyr eraill y cyfeiriodd Adam atynt yn ei ddadl.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi clywed yn glir y galwadau a wnaed heddiw am arbenigwr Cymru gyfan, sefydlu grŵp arbenigol, a datblygu safonau a dulliau gweithredu cenedlaethol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Rwy'n credu bod y cynigion hyn yn bendant yn werth eu hystyried yn briodol ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion roi cyngor pellach i mi mewn perthynas â'r camau hynny. Byddaf yn ystyried hynny'n ofalus a byddwn yn adolygu goblygiadau'r adroddiad marwolaethau yn y dyfodol i Gymru ac yn archwilio pa rannau o ganllawiau'r Royal Devon a allai fod yn ddefnyddiol i ni yng Nghymru, a byddaf yn cyflwyno datganiad pellach yn ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r camau hynny. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan dystiolaeth, i wrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd ac i sicrhau nad oes unrhyw un sy'n byw gyda ME neu fathau eraill o salwch sy'n gysylltiedig ag ôl-haint yn cael ei adael ar ôl.

Ddirprwy Lywydd, gan mai dadl Aelod yw hon, bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai confensiwn y Llywodraeth ar gyfer Gweinidogion yw ymatal ar y cynnig ei hun, ond gobeithio y bydd y rhai sy'n gwneud y cynnig wedi clywed yr ymrwymiadau penodol a wnaed yn y ddadl heddiw.

16:20

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon a phawb sy'n gwylio gartref, ac yn wir, i'r ymgyrchwyr sydd wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus yma heddiw, pobl y mae eu dewrder a'u dyfalbarhad wedi dod â ni i'r pwynt hwn?

Heddiw, yn y Senedd, rydym wedi gwneud rhywbeth pwysig; rydym wedi dod â mater a grŵp o ddinasyddion sydd wedi bod yn anhysbys ac yn anweledig ers gormod o amser i'r golau. Fe glywsom dystiolaeth bwerus ar ran llawer o'n hetholwyr. Clywsom am bobl sydd wedi colli gwaith, wedi colli addysg, cyfeillgarwch, eu hannibyniaeth, am fywydau yn cael eu byw mewn un ystafell. Rydym wedi clywed gan Julie Morgan a Rhys ab Owen am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd a gofalwyr—rhieni'n dod yn nyrsys amser llawn i bob pwrpas; partneriaid yn rhoi'r gorau i waith; plant yn dod yn ofalwyr ifanc yn llawer rhy gynnar mewn bywyd, mewn llawer o achosion.

Clywsom am y ffordd y mae ME yn torri ar draws popeth ym mywydau pobl. Fel y dywedodd Sioned, mae'n gorfforol, mae'n feddyliol, mae'n gymdeithasol, mae'n economaidd. Mae'n wrthwyneb llwyr i fater 'niche', os caf ddefnyddio'r term hwnnw. Mae'n fater prif ffrwd o gyfiawnder iechyd i gymaint o'n dinasyddion. Clywsom—. Dyna bwynt a wnaeth John Griffiths ar ran ei etholwr. Clywsom gan Mark Isherwood am bwysigrwydd diwylliant a hyfforddiant, a chyfeiriodd Delyth Jewell ac eraill at bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ymhlith ymarferwyr, lle mae ME, ers gormod o amser, wedi cael ei ddiystyru neu ei gamddeall yn y gorffennol, a'r gwahaniaeth, felly, y mae'n ei wneud pan fo meddygon teulu a chlinigwyr rheng flaen yn cydnabod ME difrifol a difrifol iawn am yr hyn ydyw, ac yna rydym yn symud o—. Cyfeiriodd llawer o Aelodau at y loteri cod post; y gwrthwyneb i hynny yw sefyllfa lle mae timau'n deall anghysur ôl-ymdrech, pan fydd clinigwyr yn barod i ddysgu, pan fydd teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu credu, ac yna mae'r awyrgylch cyfan yn symud o un o anwybyddu i un o gydymdrech. A dywedodd Luke Fletcher yr un peth. Dyna'r cyfle i ni yng Nghymru, onid e? Cafwyd camau pwysig a chadarnhaol, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ysbryd y cawsant eu gwneud ynddo hefyd.

Gallwn adeiladu, nawr, ar rywfaint o gynnydd sydd wedi'i wneud. Ond rwy'n meddwl mai neges y ddadl yw nad yw'r status quo yn ddigon da. Mae'r dinasyddion hyn a'u teuluoedd yn haeddu gwell. Felly, rwy'n croesawu'r ymrwymiadau a wnaed i archwilio'r gweithgor arbenigol a chreu meddyg ymgynghorol ar gyfer Cymru gyfan, a'r ymrwymiad i wneud datganiad mewn ymateb i'r adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol ac archwilio mabwysiadu ac addasu canllawiau'r Royal Devon. A gaf i annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn siŵr fod y camau hynny'n cael eu gwneud cyn gynted â phosib, a chroesawu'r ffaith bod cyfarfod eisoes wedi'i drefnu gyda'r Athro David Price i archwilio'r cyfle i Gymru ddod yn ganolfan ymchwil? 

Os yw ein gwleidyddiaeth i olygu unrhyw beth, os yw'r lle hwn i olygu unrhyw beth, rhaid inni gydnabod y rheini sydd â'r lleiaf o bŵer, a hynny ar adegau yn eu bywydau pan fydd ganddynt leiaf o egni, a'r gallu lleiaf i siarad drostynt eu hunain weithiau, rhaid inni eu cydnabod nhw a'u hanghenion, a'u hangen i ni ofalu amdanynt yn gyfunol fel cymdeithas. Rwy'n credu bod hynny wedi'i fynegi gan yr holl bleidiau a gynrychiolir yma. Mae'n uchelgais y teimlaf ein bod yn ei rannu ar draws y Siambr. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am drin y mater heddiw yn ddifrifol ac yn ddidwyll, a gofyn am beidio â gadael iddo ddod i ben yma, ei fod yn dechrau yma, a bod ymrwymiad a rennir yn cael ei gyflawni mewn ymdrech drawsbleidiol barhaus, fel ein bod yn adeiladu'r cynllun y gwnaethom siarad amdano, ein bod yn dangos yr arweinyddiaeth a'r capasiti ymchwil y mae pobl â ME yn ei haeddu? Ac yn anad dim wedyn, pan fydd Cerith a'r holl deuluoedd eraill, a phawb sy'n dilyn y ddadl hon o ystafelloedd tywyll, yn edrych nôl ar heddiw, rwy'n gobeithio y byddant yn gallu dweud, 'Dyna pryd y dechreuodd Cymru ein gweld, ein deall, a gweithredu.' Diolch.

16:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni ohirio'r holl bleidleisiau ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1534, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'

Y ddadl ar y ddeiseb sydd nesaf, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'. Dwi'n gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau wneud y cynnig—Carolyn Thomas.

Cynnig NDM9076 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1534, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru', a gasglodd 10,536 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru Wales, ar ôl casglu cyfanswm o 10,536 o lofnodion. Mae'n rhan o ymgyrch ehangach i godi ymwybyddiaeth o realiti a pheryglon triniaeth sy'n digwydd mewn lleoliadau anaddas—mewn coridorau, mewn meysydd parcio ac mewn mannau eraill—lle maent yn dadlau nad yw gofal diogel yn bosib. Mae testun y ddeiseb yn dweud:

'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru.

'Yng Nghymru, mae cleifion ar hyn o bryd yn cael gofal ar drolïau neu mewn cadeiriau am oriau maith, yn aml am ddyddiau, mewn poen a dioddefaint. Mae meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd yn cael eu gorfodi i drin a gofalu am gleifion mewn coridorau, meysydd parcio, a mannau eraill lle nad yw gofal diogel ac urddasol yn bosibl a lle nad oes ganddynt offer achub bywyd wrth law. 

'Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru ar y cyd yn canu larwm am ddiogelwch cleifion er mwyn i Lywodraeth Cymru roi diwedd ar ofal mewn coridorau.'

Mae'r ddeiseb yn gwneud pedair galwad i weithredu. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru ac ymddiriedolaethau'r GIG i:

'1. Dechrau cofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru, gan ddechrau drwy ei wneud yn 'ddigwyddiad byth' i gleifion gael gofal mewn cadeiriau am fwy na 24 awr.

'2. Rhoi saib ar leihau nifer y gwelyau yn ysbytai GIG Cymru. Adolygu capasiti yn genedlaethol a darparu cynllun gweithlu clir, wedi’i gostio, i sicrhau bod ysbytai a lleoliadau gofal ehangach yn gallu bodloni’r galw yn y dyfodol.

'3. Buddsoddi mewn gofal yn y gymuned drwy:

'gynyddu nifer y nyrsys ardal (a nyrsys â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol) yn ôl i lefelau 2010, a’r tu hwnt i’r rheini, i fodloni'r galw.

'adfer cyfran cyllid GIG Cymru mewn practisau cyffredinol i lefelau hanesyddol, gydag uchelgais i’w chynyddu, fel ein bod yn hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o feddygon teulu fesul 1000 o bobl.

'4. Rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal afiechyd. Mae angen i ofal brys ofal brys cynaliadwy gael ffocws cryf ar iechyd y boblogaeth a diagnosis cynnar er mwyn lleihau argyfyngau y gellir eu hosgoi.'

Dywedodd y deisebydd wrthym nad yw cynnydd yn niferoedd nyrsys ardal yn adlewyrchu graddfa'r buddsoddiad sydd ei angen ac amlygodd broblemau gyda thangyflogaeth, diffygiad staff a llwythi gwaith anghynaladwy. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) a'r BMA yn dweud eu bod wedi cael eu calonogi gan gadarnhad Ysgrifennydd y Cabinet fod prosesau uwchgyfeirio cenedlaethol wrthi'n cael eu hadolygu, a galwodd am y ddadl heddiw fel cyfle i glywed am y cynnydd ar weithredu chwe nod Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Bydd y ddadl yn rhoi cyfle i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr siarad am yr ymgyrch.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn glir iawn yn ei ymateb cychwynnol i'r ddeiseb nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo darparu gofal rheolaidd mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas. Mae wedi nodi rhai o'r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella llif cleifion a sicrhau bod y problemau sy'n arwain at ofal mewn coridorau yn cael eu datrys yn y ffynhonnell. Mae'r deisebwyr yn dadlau, yn groes i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn honni, nad yw'n wir fod gofal mewn coridorau ond yn digwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Mae aelodau'r RCN a'r BMA yn glir fod gofal mewn coridorau'n ddigwyddiad dyddiol, drwy gydol y flwyddyn, ac yn argyfwng cenedlaethol systemig sydd wedi cael ei normaleiddio ledled Cymru.

Ysgrifennodd y pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet eto cyn y ddadl heddiw i ofyn am eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn diffinio 'gofal mewn coridorau', ac i ofyn am y data sydd ar gael. Mae wedi nodi y gellir nodi gwybodaeth o'r fath yn lleol i lywio gweithredu ar unwaith, ond ni chedwir unrhyw wybodaeth yn genedlaethol.

Yn y pwyllgor, fe wnaethom drafod a fyddem yn aros tan ar ôl i'r manylion llawn ddod i law ar bwysau'r gaeaf ar y GIG dros gyfnod y Nadolig cyn cynnal y ddadl hon. Fodd bynnag, rhoddwyd dewis i'r deisebwyr ac fe wnaethant benderfynu eu bod am i'w deiseb gael ei thrafod cyn y Nadolig os yn bosib. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i'r ddadl heddiw cyn y toriad, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw.

16:30

Bedair mlynedd ar bymtheg yn ôl, lansiais CHANT Cymru ar gais ymgyrchwyr ledled Cymru a oedd yn brwydro dros welyau lleol mewn ysbytai cymunedol lleol. Yn nodweddiadol, fe wrthododd Llywodraeth Cymru rybuddion yr ymgyrch, hyd yn oed pe bai cyfran y bobl a oedd angen gwelyau ysbyty yn gostwng, fod oedran a chymhlethdod yn golygu na fyddai'r nifer absoliwt yn gostwng. Wrth fy ateb dair wythnos yn ôl, ailgylchodd y Prif Weinidog presennol eu dadl eto

'Byddai'n well gan bobl yn gyffredinol...dderbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain...dyna'r newid yr hoffem ni ei weld. Felly, mae cynorthwyo pobl yn eu cymunedau eu hunain, yn eu cartrefi eu hunain, yn ddull bwriadol iawn gan y Llywodraeth hon mewn gwirionedd.'

Roedd ei rhagflaenwyr yn dweud yr un peth ddau ddegawd yn ôl, ond dyma ni nawr, yn byw gyda'r canlyniadau y gellid bod wedi eu hosgoi.

Rhwng 2009 a 2019, gostyngodd nifer y gwelyau ysbyty cymunedol o un gwely i bob 233 o bobl i un i bob 315, gyda gostyngiadau pellach ers hynny. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r ffigurau oedi wrth ryddhau uchaf yng Nghymru—cleifion sy'n ffit yn feddygol i adael yr ysbyty ond na allant wneud hynny am nad yw'r cymorth angenrheidiol ar gael. Mae hyn yn blocio gwelyau ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael, gan adael ambiwlansys yn ciwio y tu allan a chleifion yn aros mewn coridorau, weithiau am fwy na 24 awr. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, dylai hyn fod yn ddigwyddiad 'byth'.

Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sydd wedi cael y nifer uchaf yng Nghymru o adroddiadau crwner am farwolaethau y gellir bod wedi eu hatal. Mae'r ystadegau hyn yn cynrychioli bywydau a theuluoedd go iawn. Mae'r bwrdd iechyd yn nodi mai gwella gofal brys a gofal mewn argyfwng yw ei brif flaenoriaeth weithredol. Er bod yr Ysgrifennydd Iechyd wedi defnyddio tîm rheoli perfformiad yn ddiweddar, bydd unrhyw hyblygrwydd mewn perthynas â derbyniadau yn gyfyngedig iawn heb fod gwelyau ar gael.

Fel y gwelsom eisoes, bydd y polisi ambiwlans 'gollwng a mynd' newydd yn gwaethygu effaith tagfeydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae grŵp o glinigwyr wedi ymddeol yng ngogledd Cymru bellach wedi rhybuddio am argyfwng y gaeaf yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Mae eu hymgyrch gwelyau costeffeithiol ymarferol yn argymell dod â gwelyau cymunedol yn ôl, rhoi diwedd ar drasiedïau mewn coridorau, lleihau marwolaethau a lleoli uwch feddygon wrth y drws blaen. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru eto i gyfarfod â nhw.

Mae'r ddeiseb hefyd yn galw am adfer y gyfran o gyllid GIG Cymru mewn ymarfer cyffredinol i lefelau hanesyddol. Fel y mae staff y GIG a meddygon teulu wedi dweud wrthyf, byddai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymunedol lleol a gwelyau GIG cymunedol yn tynnu pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn ychwanegu at nifer y pethau y gall meddygon teulu eu gwneud, yn helpu i fynd i'r afael ag argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys, ac yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddefnyddio ei adnoddau yn fwy effeithlon. Felly, mae'r ddeiseb hon yn galw'n briodol ar Lywodraeth Cymru i oedi gostyngiadau i niferoedd gwelyau ysbyty GIG Cymru ar unwaith, i adolygu capasiti yn genedlaethol a chyflwyno cynllun clir wedi ei gostio ar gyfer y gweithlu, i sicrhau bod ysbytai a lleoliadau gofal ehangach yn gallu bodloni'r galw yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

16:35

Onid yw'n dweud llawer fod y cyrff proffesiynol yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddrafftio deiseb gyhoeddus sy'n galw am ddiwedd ar arfer sydd nid yn unig yn ddiraddiol, ond hefyd yn beryglus? Ac eto, yn anffodus, mae gofal mewn coridorau wedi dod yn rhan bron yn anorfod o ofal ysbyty. Mae'r hyn a ddylai fod yn eithriad bellach wedi'i normaleiddio, gyda phobl yn cael triniaeth mewn cadeiriau, mewn ystafelloedd staff neu hyd yn oed ar y llawr. Mae rhai byrddau iechyd hyd yn oed yn hysbysebu am nyrsys gofal coridorau. Os nad yw'n ddim byd arall, mae hyn yn symbol damniol o gamreolaeth Lafur dros chwarter canrif, ac mae hefyd yn adlewyrchu methiant systemig ehangach i sicrhau cydgysylltu priodol ac integreiddio ystyrlon rhwng gwahanol rannau o'r system iechyd. 

Mae gofal mewn coridorau yn symptom o fethiant polisi ehangach. Cymerwch Tywyn yn fy etholaeth i. Mae ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn, gyda'i 16 gwely, wedi bod ar gau ers tair blynedd. Y canlyniad yw bod yn rhaid i gleifion o ddyffryn Dysynni deithio i Ysbyty Bronglais, ond rwyf wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi treulio dyddiau bwy'i gilydd ar wely neu gadair yn y coridor ym Mronglais, am nad oedd gwelyau eraill ar gael. Nid yw'r gwelyau hynny ar gael am nad oes modd rhyddhau cleifion ym Mronglais oherwydd diffyg pecynnau gofal cymunedol, tra bod 16 o welyau yn wag yn Nhywyn.

Mae tanariannu cronig mewn gofal cymdeithasol, ynghyd â diffyg buddsoddiad mewn gofal sylfaenol, wedi arwain at sefyllfa lle mae gofal eilaidd yn gwegian a nyrsys a meddygon yn digalonni fwy a mwy.

Nid mater o ddiweddu gofal coridor trwy symud adnoddau o amgylch yr ysbyty yn unig ydy hyn. Mae'n rhaid ailedrych ar y gwasanaeth iechyd a gofal yn ei gyfanrwydd, gan edrych ar sut mae cryfhau'r sector cynradd a'r sector gofal, er mwyn rhyddhau'r pwysau yn yr ysbytai ac atal gofal yn y coridor. Mae'n rhaid, felly, cael strategaeth hirdymor. Felly, dyma'r camau y byddem ni ym Mhlaid Cymru yn eu cymryd pe bai gennym ni y fraint o arwain y Llywodraeth nesaf.

Yn gyntaf, mi fyddwn ni'n edrych i ddatblygu cynllun gweithlu cynhwysfawr newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Bydd y cynllun hwn yn sicrhau dosbarthiad llawer mwy effeithiol o adnoddau a chapasiti ledled Cymru, ac yn gwella tryloywder ynghylch bylchau yn y gweithlu. Rhan annatod o hyn fydd sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol i gryfhau cydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, ynghyd ag apwyntio cyfarwyddydd cenedlaethol ar gyfer gofal y tu hwnt i'r ysbyty er mwyn rhyddhau capasiti eilaidd yn gyflymach. Byddwn hefyd yn sicrhau bod arferion da mewn adrannau brys, fel y trefniadau brys arbennig ym mae Abertawe, yn cael eu hymgorffori'n gyson ar draws Cymru.

Yn ail, fel rhan o'r gwaith ehangach ar ddiwygio llywodraethiant, mi fyddwn yn cynnal adolygiad o dargedau'r system iechyd. Ein nod fydd symleiddio'r targedau hyn, eu halinio'n well â chapasiti ac, yn bwysicach na dim, sicrhau mai canlyniadau clinigol yw'r prif fesur o lwyddiant. Fel y soniais yn y datganiad ddoe, dwi'n croesawu'n fawr y symudiad o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru tuag at fesur perfformiad trwy ganlyniadau clinigol yn hytrach nag amserlenni unffurf, ond mae angen gweld newidiadau tebyg ar draws gweddill y system.

Yn drydydd, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r dirywiad aruthrol yng nghapasiti gwelyau dros y ddegawd ddiwethaf, fel y nodir gan y ddeiseb. Bydd ein cynllun i ddileu rhestrau aros Llafur yn cynnwys elfen glir o fuddsoddi i ehangu capasiti gwelyau, gan alluogi llif cleifion mwy effeithiol drwy'r gwasanaeth eilaidd.

Ac yn olaf, ac efallai'n bwysicach na dim, mae'n rhaid cydnabod na fydd datrys y broblem hon yn barhaol ond trwy fabwysiadu dull system gyfan. Mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â phrinder capasiti ac adnoddau mewn gofal cynradd a gofal cymunedol. Dyna pam fod gan Blaid Cymru gynlluniau pendant i ailgychwyn ac ehangu'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, rhaglen a lansiwyd drwy'r cytundeb cydweithio, ond sydd wedi'i harafu'n sylweddol oherwydd diffyg gallu Llywodraeth Lafur i flaenoriaethu'n strategol. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn bencampwr mwyaf o ofal cynradd yn hanes datganoli. Rydyn ni'n benderfynol o gynyddu cyfran y gyllideb iechyd sy'n cefnogi meddygaeth gyffredinol, gyda'r nod hirdymor o gynyddu nifer y meddygon teulu i gyrraedd cyfartaledd yr OECD.

Trwy'r camau clir a blaengar hyn, ein huchelgais yw sicrhau bod y gwarth o orfod darparu gofal mewn coridorau yn perthyn yn ddiwrthdro i dudalennau hanes. Diolch.

16:40

Mae'r hyn a welwn yng Nghymru heddiw yn rhywbeth y mae angen i bawb ohonom boeni amdano. Mae argyfwng sy'n amlwg i bawb yn ein coridorau ysbyty yn fwy na straen ar ein system yn unig, mae'n rhybudd i bawb ohonom. Mae'r hyn a arferai gael ei gyflawni mewn argyfwng yn unig, adeg brin o bwysau eithriadol, wedi dod yn realiti bob dydd. Y llynedd yn unig, fe wnaeth bron i 119,000 o bobl yng Nghymru aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, 10,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Mae miloedd o gleifion bellach yn cael eu trin ar drolïau mewn coridorau, mewn ambiwlansys, mewn cypyrddau storio ac mewn mannau nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer gofal, ac mae hyn yn peryglu bywydau. Maent yn cael eu trin heb gyfleusterau priodol.

Ym mis Chwefror eleni, daeth bron i 58,000 o bobl trwy ddrysau ein prif adrannau damweiniau ac achosion brys. Dim ond eu hanner a welwyd o fewn pedair awr, arhosodd bron i 9,000 am dros 12 awr, ac erbyn mis Hydref, fe wnaethom gyrraedd lefelau uwch nag erioed: mwy na 10,000 o gleifion yn aros mwy na 12 awr mewn un mis. Nid cynnydd yw hyn, ond system sy'n methu. Lywydd, dyma rywbeth syfrdanol: nid yw GIG Cymru yn casglu data am bwy sy'n cael ei drin mewn coridor. A dweud y gwir, ni ddylai hynny synnu neb, gan mai athroniaeth Llafur Cymru erioed yw, os nad ydych chi'n ei fesur, nid oes tystiolaeth i'ch dwyn i gyfrif yn ei gylch.

Dangosodd ciplun o fis Mawrth 2025, a gymerwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, fod mwy nag un o bob 10 claf yn gorwedd ar drolïau mewn coridorau, ac roedd un arall o bob 10 yn cael gofal mewn mannau nad oeddent erioed wedi'u bwriadu i fod yn ardaloedd triniaeth. Roedd bron i hanner yr holl achosion o oedi yn deillio o un ffaith syml: nid oedd gwelyau ar gael. Cafodd ciwbiclau brys eu llenwi i lefel o 176 y cant o ddefnydd, ffigur amhosib sy'n dweud popeth am y straen sydd ar ysbytai a staff.

Ac mae'r canlyniadau'n ddifrifol. Fe wyddom fod aros mwy na 12 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys yn dyblu'r perygl y bydd claf yn marw o fewn 30 diwrnod. Dylai hynny beri gofid i bob un ohonom. Ond nid ymwneud â rhifau'n unig y mae hyn, mae'n ymwneud ag urddas. Mae'n ymwneud â chleifion, sy'n aml yn oedrannus, a chael diagnosis, hyd yn oed gofal personol, yng ngolwg pawb. Mae nyrsys yn adrodd am bobl yn cael eu trin, eu bwydo, eu golchi, a hyd yn oed yn marw heb breifatrwydd. Gadewch inni beidio ag anghofio'r straen ar staff: mae anaf moesol, diffygiad, ac iselder i gyd yn bethau sy'n cael eu cofnodi'n eang. Maent yn cario baich na ddylai neb orfod ei ysgwyddo.

Nid yw gofal mewn coridorau yn weithred naturiol, mae'n ganlyniad i ddewisiadau: dewisiadau i beidio â darparu digon o welyau, peidio ag atgyweirio ein system gofal cymdeithasol, a pheidio â chryfhau gofal cymunedol. Nid yw cleifion sy'n barod i fynd adref yn gallu gadael am nad oes cymorth ar gael. Mae apwyntiadau meddygon teulu mor anodd eu cael erbyn hyn fel bod pobl yn troi at adrannau damweiniau ac achosion brys fel eu hunig opsiwn. Dyna pam rwy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn llawn. Mae angen inni weithredu. Mae angen GIG arnom nad yw'n gweld triniaeth mewn coridorau fel y norm. Mae angen inni ddechrau cofnodi'r achosion o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau, fel y gellir creu capasiti a chyflogi gweithlu i reoli niferoedd cleifion. Nid oes a wnelo hyn â gwleidyddiaeth, mae a wnelo â phobl. Diolch.

Yr RCN yw'r corff proffesiynol a'r undeb llafur mwyaf ar gyfer nyrsys yng Nghymru, ac mae'n cynrychioli dros 29,500 o aelodau, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr nyrsio. Yn yr un modd, mae BMA Cymru yn cynrychioli dros 7,500 o aelodau o bob cangen o'r proffesiwn meddygol. Fel y nododd Mabon ap Gwynfor, pan fo'r ddau gorff uchel eu parch hyn wedi dewis seinio'r larwm ar y cyd am ddiogelwch cleifion a gofal mewn coridorau, dylai hynny wneud i Lywodraeth Cymru wrando a gweithredu.

Ystyriwch am eiliad beth y mae gofal mewn coridorau yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n golygu cleifion yn aros am driniaeth, asesiad neu ofal, neu sy'n cael eu trin, eu hasesu neu'n cael gofal, mewn mannau amhriodol fel coridorau, ond hefyd mewn meysydd parcio, ystafelloedd egwyl a hyd yn oed mewn toiledau. Yng Nghaerdydd a'r Fro, soniodd nyrs am fachgen 18 oed yn treulio dwy noson yn y bae cleifion allanol ar droli. Yn Betsi Cadwaladr, adroddodd aelod o'r cyhoedd fel hyn:

'Roedd ysbytai cymunedol yn Betsi yn defnyddio...ardal fwyta ar gyfer gofal cleifion—nid oes gan y mannau hyn unrhyw gyflenwad ocsigen nac offer sugnedd.'

A gwrandewch ar brofiad y preswylydd canlynol o Gwm Taf Morgannwg:

'Ar ôl cael trawiad ar y galon, roeddwn mewn adran damweiniau ac achosion brys, lle sydd i fod yn hafan o ofal ac adferiad ond sy'n cyflym ddod yn brawf ar wydnwch. Am dri diwrnod hir, eisteddais mewn cadair, wedi fy nghysylltu wrth fonitor calon, yn gaeth mewn coridor heb breifatrwydd na gofod priodol.'

Tridiau. Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw gofal o'r fath yn anniogel, gwrandewch ar yr RCN, sydd wedi canfod, er enghraifft, fod

'offer achub bywyd yn gallu bod yn anhygyrch neu heb fod ar gael.'

Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, fel y clywsom eraill yn dweud eisoes—Joel, er enghraifft. Cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng ddata ym mis Mawrth eleni yn datgelu bod gan bob un o'r 12 adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru gleifion yn cael eu trin mewn coridorau. [Torri ar draws.] Altaf, wrth gwrs.

16:45

Rhys, diolch yn fawr. Gan wybod am eich cefndir, onid ydych chi'n meddwl ei fod yn esgeulustod? Ac os yw'n esgeulustod, dylid mynd i gyfraith. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o gleifion sydd wedi mynd ag ef i gyfraith hyd yn hyn?

Efallai ei fod yn fater y gall Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael ag ef, ond rwy'n cytuno, gallai fod yn esgeulustod. 

Roedd pob ciwbicl damweiniau ac achosion brys yn llawn yn yr adroddiad hwn, gyda defnydd ciwbiclau ar gyfartaledd yn 176 y cant. Yr uchaf oedd 278 y cant. Mae nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau ysbyty yng Nghymru sydd ar gael ar gyfer cleifion acíwt llawfeddygol wedi gostwng 12.3 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Dim ond 59.2 y cant o gleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd a welwyd gan Ysbyty Athrofaol Cymru o fewn y targed o bedair awr ym mis Awst—i lawr o dros 80 y cant ym mis Awst 2015. Mae'r patrwm yr un fath ledled Cymru. Rhaid i hyn ddod i ben.

Yn rhan o'r elfen ddi-dâl o ddyfarniad cyflogau nyrsio 2022-23, addawodd Llywodraeth Cymru

'ni fydd gofal mewn coridorau ond yn digwydd mewn amgylchiadau eithriadol drwy'r swyddog gweithredol cyfrifol a enwir.'

Nid yw hynny'n digwydd. Nid yw'n amgylchiadau eithriadol ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw'r ymrwymiad hwnnw wedi'i wireddu eto ac mae gofal mewn coridorau'n parhau i fod yn norm ar draws GIG Cymru, gan beryglu diogelwch cleifion.

Felly, beth a wnawn yn ei gylch? Beth yw'r atebion? Diolch byth, mae dros 10,500 o ddeisebwyr wedi cyflwyno cynllun gweithredu, ac rwy'n cytuno â'u galwadau. Rwy'n credu y gallem ychwanegu galwad arall er mwyn lleihau'r pwysau ar ein prif adrannau damweiniau ac achosion brys a'r risg o ofal mewn coridorau, sef gwneud defnydd llawn o unedau mân anafiadau ein gwlad. Fel y soniodd Mabon, nid ydynt yn cael eu defnyddio cymaint ag y gallent fod ar hyn o bryd. Maent yn cofnodi ystadegau anhygoel, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod. Mae cymaint â 100 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed pedair awr.

Ond mae un diffyg mawr gyda'r unedau hyn. Er gwaethaf yr ystadegau gwych, mae'r uned yn y Barri, i lawr y ffordd, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig, 9 a.m. i 3 p.m. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar yr oriau agor eto a gweld a ellir ymestyn y cyfrifoldebau yn rhan o gynllun mwy i fynd i'r afael â'r broblem enfawr hon, sy'n israddio cyflawniad mwyaf erioed y genedl hon, y GIG?

Fel y dywedodd is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yng Nghymru, Dr Rob Perry, rhaid mynd i'r afael â gofal mewn coridorau a'i achosion fel blaenoriaeth wleidyddol a rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr. Diolch yn fawr.

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu pobl yn yr oriel gyhoeddus. Hefyd, roedd yn dda eu croesawu o'r ymgyrch—ymgyrch BEDS—heddiw, y tu allan. Fel y soniwyd, cyflwynwyd deiseb gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain a gasglodd dros 10,536 o lofnodion. Hoffwn ddiolch iddynt am ddod â'r ddeiseb bwysig hon gerbron y Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i Jonathan Osborne, y meddyg ymgynghorol wedi ymddeol sy'n arwain ymgyrch BEDS i roi diwedd ar ofal mewn coridorau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, am godi mwy o ymwybyddiaeth o effeithiau'r gofal brawychus y caniateir iddo ddigwydd o un dydd i'r llall.

Rwyf wedi codi fy mhryderon yn barhaus am effeithiau amseroedd aros hir am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn ogystal â'r nifer brawychus a diflas o farwolaethau sy'n digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wrth aros am driniaeth. Fel y mae'r ddeiseb yn nodi'n gywir, mae gweld cleifion yn aros ac yn cael gofal—neu ddim yn cael gofal—ar drolïau, cadeiriau, weithiau mewn cwpwrdd, cefn ambiwlansys, yn dod yn ddigwyddiadau rhy gyfarwydd yng Nghymru yn hytrach na digwyddiadau 'byth'.

Rwy'n gwybod am sefyllfaoedd hyd yn oed lle bydd parafeddyg yn gadael claf mewn ambiwlans gyda pharafeddyg newydd yn dod ar ddyletswydd. Pan fydd y parafeddyg hwnnw'n dychwelyd ar y shifft nesaf, mae'r un claf yn dal i fod yn yr ambiwlans hwnnw. Sut y gall hynny fod yn foesol gywir? Mewn gwirionedd, mae'n annynol, mae'n greulon, ac mae'n sicr yn annerbyniol. Dylai ein hysbytai fod yn lleoedd lle mae pobl yn gwybod eu bod yn mynd i gael diagnosis, triniaeth a gofal ar eu pwynt mynediad cyntaf, i lawer. Ni ddylent fod yn llefydd o aros, ofn a phoen.

Gwyddom fod prinder enfawr o welyau. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol yn gwadu hynny, a dywedodd y Prif Weinidog blaenorol fod angen llai o welyau arnom. Felly, mae'n bryderus iawn. Maent yn dweud, 'O enau plant bychain y daw gwirionedd.' Wel, gallaf ddweud wrthych, yn rhan o'r ymgyrch honno heddiw roedd dau blentyn bach, bachgen bach a merch fach, ac roedd y bachgen wedi dweud wrth ei rieni, 'Pam mae angen y ddadl hon? Dylai fod yn syml.' Wel, mae'n llygad ei le: fe ddylai fod yn syml, ac ni ddylai ddigwydd.

Nid yw meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd, pobl yr ydym i gyd yn eu gwerthfawrogi'n fawr, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi pan fyddant yn gweithio, yn gorfod gwasgu heibio i welyau mewn coridorau neu bobl mewn cadeiriau. Nid yw gofal diogel ac urddasol yn bosib yn y lleoedd hyn heblaw mewn gwely ar ward damweiniau ac achosion brys.

Mae'r ddeiseb yn alwad ar y cyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain ar Lywodraeth Cymru. Fel y dywedwyd eisoes, mae angen cofnodi niferoedd. Cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth y diwrnod o'r blaen ar faint o bobl dros y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi marw tra'u bod mewn adran damweiniau ac achosion brys, a rhwng Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, mae'r ffigur yn 1,027. Mae hynny'n sgandal. Mae'n falltod ar eich enw chi fel Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae angen inni oedi gostyngiadau i nifer gwelyau ysbyty GIG Cymru. Roeddwn i'n hoffi'r hyn a ddywedodd Rhys ab Owen. Rwy'n brawf byw fod yr uned mân anafiadau yn ysbyty cyffredinol dosbarth Llandudno yn hollol wych. Ond roedd hi'n bryderus iawn clywed, Ysgrifennydd y Cabinet—ac fe'i codais gyda chi yn ddiweddar—am nad oes gofal dan arweiniad meddyg a phethau felly, eu bod yn gwrthod trin pobl sy'n meddwl y gallant fynd i uned mân anafiadau am fân anaf, ac yn eu hanfon i'r ysbytai mwy. Gwallgofrwydd pur yw hynny.

Rwy'n cytuno â blaenoriaethu atal ac ymyrraeth gynnar, ond mae mynd i'r afael â'r prinder gwelyau yn hanfodol. Rwy'n ymuno ag ymgyrch BEDS i alw am ailagor mwy o welyau cymunedol fel y gall pobl gael eu symud allan o adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ward. Mae angen inni flaenoriaethu trosglwyddo rhwydd ar ôl triniaeth. Mae uwch nyrs wedi dweud wrth ymgyrch BEDS fod uwch gyfarwyddwr meddygol yn adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd wedi canfod bod 90 o gleifion yng Nglan Clwyd ar y pryd na ddylent fod wedi bod yno hyd yn oed. Dylent fod wedi bod gartref neu mewn ysbytai bwthyn, neu gallent fod wedi mynd i uned mân anafiadau.

Mabon, roedd yr hyn a ddywedoch chi wedi ei roi at ei gilydd yn dda, a'r profiadau rydych chi'n eu cael, ond rhaid imi eich atgoffa, pan sonioch chi am chwarter canrif o fethiant gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, fod eich plaid chi'ch hun, Plaid Cymru, yn rhan o'r Llywodraeth am flynyddoedd lawer. Rydych chi wedi cael cytundebau cydweithio, clymbleidiau—llawer o bethau—ond nid ydych chi erioed wedi blaenoriaethu hynny. Felly, gadewch inni gofio hyn: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo'n llwyr i roi diwedd ar ofal mewn coridorau. Ac rwy'n dweud wrthych nawr, os ceir Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru ar ôl yr etholiad nesaf, ni fydd unrhyw ofal mewn coridorau. Byddwn yn sicrhau bod ein cleifion, ein trigolion, ein hetholwyr yn cael y gofal llwyr sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Diolch.

16:50

Mae gofal mewn coridorau yn amlwg yn un o'r arwyddion cliriaf o wasanaeth iechyd sydd wedi cael ei adael i syrthio i argyfwng. Cleifion wedi'u gadael am oriau ar drolïau a chadeiriau, fel y clywsom; staff wedi'u gorfodi i ddarparu gofal mewn lleoedd sy'n anniogel ac anurddasol. Nid bai ein nyrsys na'n meddygon yw hyn. Mae'n ganlyniad uniongyrchol, fel y dywedwyd, i 26 mlynedd o Lafur yn camreoli'r GIG.

Ni ddylai hyn byth ddigwydd. Rhaid gofyn cwestiynau: sut y gwnaeth ein GIG gyrraedd y pwynt hwn? A gadewch inni fod yn hollol glir, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain sy'n seinio’r larwm ar y cyd. Nhw yw lleisiau ein nyrsys rheng flaen a'n meddygon rheng flaen. Pan fyddant hwy'n dweud bod diogelwch cleifion mewn perygl a bod yn rhaid dileu gofal mewn coridorau, dylai pob un ohonom wrando a gweithredu.

Mae'r hyn y maent yn galw amdano yn gwbl rhesymol: cofnodi gofal mewn coridorau, rhoi diwedd ar dorri gwelyau, cynllun gweithlu go iawn wedi'i gostio, a buddsoddi mewn gofal cymunedol fel bod gennym ddigon o nyrsys ardal a digon o feddygon teulu i ateb y galw. Sylfeini sylfaenol i system iechyd ddiogel yw'r rhain, nid ychwanegiadau dewisol—

16:55

A ydych chi'n derbyn ymyriad o'r Siambr, gan Gareth Davies, Laura Anne?

Na wnaf, os yw hynny'n iawn.

Hoffwn rannu fy mhrofiad fy hun gyda'r Siambr. Cefais fy rhoi ar wely wedi torri mewn coridor am ddwy noson cyn i ystafell ddod ar gael. Roeddwn mewn gormod o boen i falio ar y pryd, ond dywedodd y rhai a oedd yn gofalu amdanaf pa mor gwbl amhriodol oedd hynny ac roeddent yn dal ati i ymddiheuro yn ei gylch. Yn amlwg, dywedais wrthynt nad eu bai nhw ydoedd ac nid nhw ddylai fod yn ymddiheuro, ond roedd y gwely wedi torri ar ongl wallgof. Yn fwy pryderus, gallwn glywed sgyrsiau preifat rhwng meddygon ymgynghorol, meddygon a nyrsys am gleifion eraill. Ac roeddwn i'n erbyn ffenestr ddi-len. Ac nid oeddwn ar fy mhen fy hun yn y profiad hwn. Gwelais eraill yn yr un sefyllfa mewn coridorau o amgylch yr ysbyty. Roeddwn i'n iawn, ond i'r rhai a oedd yn hŷn yn enwedig, nid oedd unrhyw urddas, dim preifatrwydd, ac nid yw hynny'n iawn o gwbl.

Roedd y staff yn anhygoel a byddaf yn ddiolchgar iddynt am byth, ond rhaid inni ofyn sut y mae Cymru wedi cyrraedd pwynt lle mae hyn yn cael ei ystyried yn normal. Nid yw gofal mewn coridorau'n iawn. Nid yw'n ddiogel, nid yw'n dderbyniol, ac mae'r ddeiseb hon sydd ger ein bron yn rhybudd: ni all Cymru barhau gyda chapasiti sy'n crebachu, cynllun gweithlu sydd wedi torri, a dim gafael go iawn gan y Llywodraeth hon ar lif cleifion. Rhaid i ofal mewn coridorau ddod i ben a rhaid iddo ddod i ben nawr. Mae'n dod yn norm ac nid yw hynny'n iawn. Mae Cymru'n haeddu system iechyd sy'n ddiogel, yn rhoi gofal gydag urddas ac sy'n deilwng o'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Ni ddylai fod angen Llywodraeth newydd, Llywodraeth Reform, i fynd i'r afael â hyn, ond rwy'n credu nawr mai dyna beth y mae'n mynd i'w gymryd.

Diolch i'r undebau am sefydlu'r ddeiseb hon, wedi'i llofnodi gan fwy na 10,000 o bobl, ac rwy'n falch ei bod wedi cyrraedd y Senedd i'w thrafod. Mae hon yn sefyllfa warthus. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ei annog i weithredu ar unwaith, oherwydd mae'r cleifion sy'n gorfod dioddef fel hyn mewn ffyrdd annynol rhwng nawr a newid Llywodraeth, yn bwysig. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon. Maent wedi siarad yn gwbl glir. Nid yw gofal mewn coridorau'n ddiogel, nid yw'n ofal gydag urddas, ac ni ddylai barhau. Mae cleifion yng Nghymru yn cael eu trin ar drolïau, mewn cadeiriau ac mewn coridorau am oriau, a dyddiau weithiau, ar y tro.

Mae nyrsys a meddygon yn cael eu gorfodi i ddarparu gofal brys heb le digonol, preifatrwydd nac offer. Nid gofal o'r radd flaenaf yw hwn, nid yw hyd yn oed yn ofal derbyniol, ac yn sicr nid dyma'r gofal y mae pobl yng Nghymru yn talu eu trethi amdano ac yn ei haeddu. Mae'r BMA a'r RCN yn hollol gywir i alw am gofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau, ac i ofal mewn cadair sy'n para mwy na 24 awr gael ei drin fel digwyddiad 'byth'.

Ond dim ond dechrau yw hynny. Rydym i gyd yn gwybod mai rhan o'r broblem yw oedi wrth ryddhau a system gofal cymdeithasol o dan straen enfawr. Mae angen cydnabyddiaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru fod erydu'r ddarpariaeth o welyau cymunedol yn cael effaith enfawr, ac mae wedi bod yn drychinebus mewn gwirionedd. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae gogledd Cymru yn unig wedi colli tua 20 y cant o'u gwelyau ysbyty, y rhan fwyaf ohonynt yn welyau cymunedol, er bod y galw am y gwasanaethau GIG hynny wedi cynyddu dros y 25 mlynedd. Y gwelyau hynny yw falf gwasgedd y system fel y gall pobl nad oes angen gofal acíwt arnynt mwyach adael yr ysbyty yn ddiogel, gan ryddhau lle yn ein prif ysbytai. Mae'r bont honno rhwng yr ysbyty a'r cartref wedi'i dymchwel yn rhannol, ac rydym yn byw gyda'r canlyniadau heddiw.

Dyna pam rwy'n cefnogi gwaith BEDS. Mae eu neges yn syml ond yn allweddol: dod â gwelyau cymunedol yn ôl, rhoi diwedd ar drasiedïau yng nghoridorau adrannau damweiniau ac achosion brys, lleihau niferoedd marwolaethau cleifion drwy leihau hyd arosiadau mewn ambiwlansys a choridorau, ac uwch feddygon wrth ddrws adrannau damweiniau ac achosion brys.

Fel y nodais sawl gwaith o'r blaen, mae gogledd Cymru a fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd angen i ysbyty cymunedol newydd y Royal Alexandra yn y Rhyl gael ei adeiladu heb oedi pellach a chyda'r nifer llawn o welyau a addawyd yn wreiddiol yn ôl yn 2013. Bydd unrhyw beth llai na hynny'n fethiant i fynd i'r afael â graddfa'r angen a grëwyd gan flynyddoedd o gapasiti a gollwyd, a hoffwn glywed diweddariad penodol ar ei adeiladu gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i'r ddadl.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed i ddileu gofal mewn coridorau yn Lloegr erbyn 2029. Cawn weld a fyddant yn llwyddo, ond o leiaf mae yna uchelgais clir, dyddiad ar gyfer cyflawni hynny a chynllun ar y bwrdd. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol: a wnewch chi ymrwymo i darged i roi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru, gosod targed a nodi'n union sut y bwriadwch gyflawni hynny?

Lywydd, nid yw gofal mewn coridorau'n anochel. Mae'n ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol, a gellir rhoi diwedd arno drwy ewyllys gwleidyddol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r ddeiseb hon. Gadewch inni weithio tuag at sicrhau na fydd cleifion byth eto'n cael eu gadael i ddihoeni mewn cadair neu mewn coridor. Ac fel troednodyn i'r ddadl, rhaid imi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu gan ragrith Reform UK, yn enwedig pan fo Nigel Farage wedi dweud yn flaenorol y byddai eisiau preifateiddio'r GIG, oherwydd pe bai'n fater i lywodraeth Reform, ni fyddai gennym system iechyd a allai gyflwyno uchelgeisiau'r ddeiseb hon mewn ffordd a fyddai'n dreuliadwy i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

17:00

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gyfrannu—Jeremy Miles.

Diolch, Lywydd. Rwyf am ddechrau trwy gydnabod yr holl bobl a lofnododd y ddeiseb hon a diolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain am godi mater pwysig. Nid yw gofal mewn amgylcheddau heb eu dynodi neu anghlinigol yn dderbyniol. Mae'n peryglu urddas cleifion, diogelwch a lles staff, ac rwy'n rhannu'r penderfyniad yn y ddeiseb hon i'w ddileu.

Pan fydd pobl yn cael eu trin mewn mannau aros, mewn coridorau, neu mewn mannau dros dro mewn ysbytai, fe wyddom ei fod yn symptom o bwysau ehangach ar draws y system iechyd a gofal. Rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda'r GIG, gyda llywodraeth leol a'r sector gofal cymdeithasol i leddfu pwysau o'r fath ac i ddatblygu gwasanaethau amgen, fel nad yw pobl nad oes angen gofal ysbyty arnynt yn cael eu derbyn na'u cludo i'r ysbyty.

Lywydd, bydd angen bob amser i rai pobl fynd i'r ysbyty i gael diagnosteg uwch, triniaethau arbenigol a goruchwyliaeth uniongyrchol gan dimau clinigol. Pan fydd hyn yn digwydd, dylent ddisgwyl cael taith ddi-dor o ffonio 999 i'r pwynt lle byddant yn cael eu rhyddhau adref. Dylai asesiadau fod yn gadarn ac yn amserol. Ni ddylai fod unrhyw oedi gan ambiwlansys y tu allan i ysbytai, a dylid rheoli gofal mewn ffordd gydgysylltiedig. Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod llif cyson ac effeithlon drwy ac allan o ysbytai. Cyflawnir hyn trwy arweinyddiaeth glinigol gref, prosesau ysbyty symlach, rheolaeth weithredol well a newid ffocws yn sylfaenol tuag at ddychwelyd pobl i'w cartrefi eu hunain ac i'w gwelyau eu hunain cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.

Rwy'n troi nawr at rai o'r atebion a gynigiwyd gan yr RCN a'r BMA, a chwestiynau a godwyd gan gyd-Aelodau heddiw. Clywais y galwadau am gategoreiddio gofal a ddarperir mewn cadeiriau am fwy na 24 awr fel digwyddiad 'byth'. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fod yn glir, Lywydd, fod diffiniad llym iawn o ddigwyddiadau 'byth' yn y GIG. Nid yw'n golygu yr un peth â rhywbeth na ddylai byth ddigwydd. Maent yn cael eu dosbarthu fel camgymeriadau meddygol difrifol gyda'r gallu i achosi niwed difrifol neu farwolaeth ac y gellir eu hatal yn llwyr. Mae hyn yn dibynnu ar ddeall achosion y digwyddiad yn dda, gyda ffyrdd o fynd i'r afael â nhw ar waith. Nid yw darparu gofal mewn amgylcheddau anghlinigol neu heb eu dynodi yn bodloni'r meini prawf oherwydd cymhlethdod yr achosion sylfaenol, ac adlewyrchwyd hynny yn y ddadl heddiw. Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, nad wyf o ddifrif ynghylch darparu gofal yn y modd hwn.

Mae deall pa mor gyffredin yw'r broblem yn gyfrifoldeb gweithredol i fwrdd iechyd, fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi yn y ddadl. Rydym yn cefnogi'r GIG i wella cadernid a chysondeb adrodd dyddiol gan fyrddau iechyd, yn cynnwys treialu dulliau newydd o gasglu ac adrodd data dros yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn galluogi byrddau iechyd i ddeall yn well pryd a ble mae gofal yn digwydd mewn mannau anghlinigol, ac i roi camau ar waith ar unwaith, i gyd-fynd â fframweithiau uwchgyfeirio lleol a chenedlaethol fel bod y risg o niwed yn cael ei leihau.

Lywydd, mae nifer y staff sy'n gweithio yn GIG Cymru ar y lefel uchaf erioed. Mae bron i 115,000 o unigolion ymroddedig yn darparu gofal a chymorth. Mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn gofal cymunedol. Er enghraifft, rydym wedi cryfhau'r ddarpariaeth o nyrsys ardal yn y gymdogaeth ac wedi ehangu'r gweithlu i ddarparu gwasanaeth saith diwrnod cadarn. Mae nifer y nyrsys ardal wedi cynyddu 20 y cant ers inni ddechrau casglu'r data hwn yn 2018. Rydym wedi cryfhau gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru, gan newid y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i flaenoriaethu dilyniant mewn gofal a chefnogi practisau i reoli pwysau. Ein ffocws nawr yw blaenoriaethu atal ac ymyrraeth gynnar, fel y nododd yr Aelodau heddiw. Mae gwaith eisoes yn digwydd. Er enghraifft, mae'r rhaglen atal diabetes yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i bobl sydd â mwy o risg o ddiabetes math 2, gyda'r nod o atal datblygiad y cyflwr hwn. Rhaid i'r ffordd hon o weithio ddod yn norm i ni ac o'r herwydd, rwyf wedi gofyn i'n prif swyddog meddygol arwain—[Torri ar draws.]

Gwnaf. 

17:05

Roeddech chi'n cyfeirio fanna at nyrsys cymunedol a'r angen i sifftio adnoddau i'r gymuned, ac wrth gwrs mae hwnna i'w groesawu, a dyna sydd eisiau ei weld. Roeddem ni'n clywed neithiwr o'r cohort o nyrsys sy'n ymarfer yng Nghymru ar hyn o bryd, o'r 1,000 o fyfyrwyr sydd gennym ni yn nyrsio, dim ond tua 60 ohonyn nhw sydd yn hyfforddi i fod yn nyrsys cymunedol. Ydych chi'n meddwl bod hwnna'n ddigonol i ateb y galw, a beth ydych chi felly yn mynd i'w wneud er mwyn sicrhau bod mwy o nyrsys yn ymarfer i fod yn nyrsys cymunedol er mwyn byw i fyny i'ch uchelgais chi?

Wel, fel rwyf wedi sôn, mae nifer y nyrsys cymunedol wedi cynyddu dros 20 y cant yn y blynyddoedd diwethaf, sydd yn gynnydd sylweddol iawn. Rŷn ni eisiau gweld mwy yn gwneud hynny, wrth gwrs, ac rŷn ni'n comisiynu, felly, trwy HEIW, fel bydd yr Aelod yn deall.

Mae ymyriad arall o'r cefn gan Altaf Hussain. A ydych chi'n ei dderbyn?

Diolch, Lywydd. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae briw pwyso sy'n datblygu o fewn 24 awr o fod mewn cadair yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad 'byth'. Diolch.

Rhaid i'r ffordd hon o weithio ddod yn norm i ni ac o'r herwydd, rwyf wedi gofyn i'n prif swyddog meddygol arwain rhaglen gymunedol drawsnewidiol, a fydd yn canolbwyntio ar atal ac iechyd y boblogaeth a symud gofal o ysbytai i mewn i'n cymunedau.

Lywydd, rwyf am gloi drwy ailadrodd nad ydym yn cymeradwyo gofal rheolaidd mewn amgylcheddau anghlinigol. Ein nod yw dileu'r arfer hwn trwy ddiwygio system gyfan. Ni fydd ateb cyflym syml i ddileu gofal mewn amgylcheddau anghlinigol neu heb eu dynodi. Mae'n galw am weithredu cydgysylltiedig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Mae yna bob amser lawer o sôn am welyau, a ddylid ailagor ysbytai cymunedol, gwelyau yn y lle iawn ac ati, ond rydym yn clywed yn aml iawn fod pobl yn hoffi cael gofal yn eu cartrefi eu hunain hefyd. Buddsoddwyd mewn cyfleusterau ailalluogi. Rwy'n gwybod bod gennym gyfleuster gofal newydd yn cael ei adeiladu yn y Fflint, ond mae gennym ysbyty yn Nhywyn, a oedd hefyd yn destun deiseb yn ddiweddar, sydd â gwelyau gwag, ond nid oes gennym y staff. Yr ymateb yw nad oes gennym y staff i ofalu am y cleifion yn y gwelyau hynny, sy'n fy arwain at y cwestiwn am ostyngiadau arfaethedig i niferoedd gwelyau ysbyty'r GIG, ond adolygiad cenedlaethol o gapasiti a chyflwyno cynllun gweithlu clir wedi'i gostio. Felly, mae angen inni edrych ar y capasiti yn ei gyfanrwydd a gwneud yn siŵr fod yna gynllun gweithlu ar gyfer gofalu am y cleifion yn y gwelyau hynny hefyd, mewn gwelyau ysbyty neu gartref.

Ar nifer y nyrsys ardal a nyrsys sydd â gradd Meistr mewn nyrsio cymunedol, mae angen inni eu codi yn ôl i lefelau 2010 ac uwchlaw hynny. A hoffwn ddweud wrth Laura Anne ac wrth rai o'r Ceidwadwyr mai dyna pryd y dechreuodd cyni, ac mae angen inni barhau i ariannu'r GIG yn ôl yr angen, ledled y DU—gofynnwn am hynny ledled y DU.

Tynnodd Rhys sylw at y defnydd o unedau mân anafiadau, ac rwy'n ymwybodol fod hynny wedi digwydd yn y gorffennol pan oedd angen i hynny ddigwydd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n ddefnyddiol iawn i'w ddatblygu.

Hoffwn—[Torri ar draws.] Gwnaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

17:10

Hoffwn wneud sylw am ddyddiadau. Dechreuodd yr ymgyrch y cyfeiriais ati, y gofynnwyd i mi fwrw ymlaen â hi gan ymgyrchwyr ledled gogledd Cymru a Chymru gyfan, yn 2005 pan argymhellwyd am y tro cyntaf y dylid cau'r gwelyau. Cafodd hynny ei ohirio pan oedd Plaid Cymru mewn clymblaid gyda Llafur ac fe gawsant eu cau pan ffurfiodd Llafur Lywodraeth newydd yn 2011 heb Blaid Cymru.

Fe wneuthum ymgyrchu ynglŷn ag israddio ein hysbyty yn yr Wyddgrug mewn gwirionedd, ac mae hwnnw wedi'i gadw a'r oriau agor wedi ymestyn. Fe gaeodd Ysbyty Cymunedol y Fflint, ond cafwyd cyfleuster tri llawr yn ei le, cyfleuster 56 gwely modern o'r radd flaenaf. Felly, dyna fy ymateb i chi.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb llawn a hoffwn ddiolch i'r ymgyrchwyr am eu hymdrechion i dynnu sylw at y mater hwn. Mae'r ddadl wedi tynnu sylw at yr angerdd ym mhob rhan o Gymru i sicrhau nad yw gofal mewn coridorau'n rhan reolaidd o'n gwasanaeth iechyd ac na fydd byth yn dod yn rhan reolaidd o'n gwasanaeth iechyd.

Rwyf wedi bod yn delio'n bersonol â gwaith achos rhywun a gafodd driniaeth mewn coridorau, ac roedd i mewn ac allan o goridor ac yn ôl i ystafell aros adran damweiniau ac achosion brys, lle treuliodd amser ar y llawr gyda'i gwilt a'i obennydd ei hun, a oedd yn ofnadwy. Felly, rwy'n gwybod fy hun ei bod yn broblem.

Mae'r ymgyrch hefyd wedi tanlinellu pa mor bwysig i bob un ohonom yw'r gwaith a wneir gan nyrsys, meddygon a phawb yn y gymuned gofal iechyd sy'n delio â'r materion hyn, a hoffwn ddiolch i chi i gyd, a diolch i chi am ddod draw heddiw.

A cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: busnesau bach. A galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9078 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr 2025.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae wrth greu swyddi, cefnogi cymunedau a rhoi hwb i economïau lleol ledled Cymru.

3. Yn credu y bydd cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU yn arwain at gostau ychwanegol i fusnesau a cholli swyddi.

4. Yn gresynu bod busnesau o dan Lywodraeth Lafur Cymru, yn cael eu taro gan y cyfraddau busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, diweithdra yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyflog isaf.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach;

b) gwrthdroi newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant mewn perthynas â rhyddhad eiddo busnes;

c) darparu rhagor o barcio am ddim yng nghanol trefi;

d) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym; ac

e) galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y rhain hyd yma.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon heddiw yn yr wythnos ar ôl Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, moment flynyddol lle rydym yn cydnabod ac yn dathlu'r bron i 5.5 miliwn o fentrau bach ledled y Deyrnas Unedig.

Y tu ôl i bob ffenest siop a chownter caffi mae rhywun sy'n cymryd risg, yn creu swyddi ac yn cynnal ein strydoedd mawr. Nhw, yn syml iawn, yw sylfaen ein cymunedau. Fel llawer o Aelodau rwy'n siŵr, roeddwn allan y penwythnos diwethaf yn hyrwyddo'r busnesau bach hynny. Eleni ym Mhenfro, cinio gwych yn Cafe Rose, ychydig o siopa Nadolig yn Pattina's That's Nice Home Accessory and Gift Boutique, ac yn John's Wood and Crafts at 36, cyn mynd i siop delicatessen arbenigol Wisebuys, lle prynais botel o win gwyn pefriog gorau Velfrey Vineyard sydd wedi ennill gwobrau—mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod ei fod yn dda iawn, ac fe'i cynhyrchwyd yn fy etholaeth i. A gair sydyn am John yn Wisebuys—mae'n un o'r tri dyn doeth a sefydlodd y Pembrokeshire Cider Company, gwerthwyr rhai o'r seidrau gorau oll.

Eto i gyd, er ein bod yn dathlu'r busnesau hyn, maent yn haeddu mwy na chydnabyddiaeth yn unig. Rhaid inni hefyd fynd i'r afael â'r realiti y maent yn ei hwynebu; heriau sy'n dyfnhau yn hytrach na lleddfu i lawer o bobl. Yn chwarter cyntaf 2025, caeodd 2,718 o fusnesau ledled y Deyrnas Unedig, y cyfanswm chwarter cyntaf uchaf ers y pandemig. Ac o ystyried penderfyniadau diweddar yma ac yn San Steffan, rwy'n gofyn a yw'r canlyniad hwn yn syndod mewn gwirionedd? Mae pecyn £40 biliwn Llywodraeth Lafur y DU o godiadau treth y llynedd, gan gynnwys cynnydd o £25 biliwn mewn yswiriant gwladol cyflogwyr, wedi rhoi straen sylweddol ar gwmnïau teuluol ac wedi gwanhau hyder busnesau.

Mae'r ymateb gan y gymuned fusnes wedi bod yn ddiamwys. Disgrifiodd y Ffederasiwn Busnesau Bach gyllideb yr hydref fel, 'cyllideb codi trethi' sy'n atgyfnerthu 'cylch dieflig economaidd'.

Yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ymatebodd 80 y cant—80 y cant—o arweinwyr busnes yn negyddol. Cafodd ei galw gan Enterprise Nation, sy'n cynrychioli mwy na 150,000 o entrepreneuriaid, yn

'Gyllideb treth uchel, twf isel i gwmnïau bach.'

Cafodd ei chyflwyno er bod y Canghellor, Rachel Reeves, yn mynnu mai twf yw ei blaenoriaeth gyntaf. Mae'n anodd cysoni'r honiad hwnnw ag effaith y gyllideb yn y byd go iawn. 

Nid beirniadaethau ynysig yw'r rhain; gyda'i gilydd maent yn canu larymau i'r rhai sy'n creu swyddi a ffyniant. Ac mae busnesau bach a chanolig, asgwrn cefn ein heconomi, bellach yn wynebu her sylweddol arall, y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol i £12.71 yr awr fis Ebrill nesaf. Rydym eisiau cyflog teg, ond rhaid inni wynebu realiti economaidd hefyd. Yn y sector lletygarwch yn unig, mae 11 busnes yn cau bob dydd ledled y Deyrnas Unedig. I gwmnïau sydd eisoes ar ymyl y dibyn, gall y cynnydd hwn, yn ogystal â rhewi trothwyon, trethi uwch ar ddifidendau a chynnydd i yswiriant gwladol y llynedd fod yn sioc ariannol anghynaladwy.

Ond tra bod busnesau bach yn cael eu gwasgu gan benderfyniadau a wnaed yn San Steffan, cânt eu gwasgu ymhellach gan bolisïau sy'n tarddu yma yng Nghymru. O dan y Llywodraeth Lafur, Cymru sy'n dioddef yr ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, y diweithdra uchaf yn unrhyw un o wledydd y DU a'r cyflogau isaf. Nid dyna'r fframwaith i economi ffyniannus.

Mae busnesau lletygarwch yng Nghymru, sydd dan anfantais ers amser maith oherwydd system ardrethi annheg, yn galw am gydraddoldeb â Lloegr. Mae UKHospitality Cymru wedi bod yn glir: heb ddiwygio dyfnach a lluosydd is yn barhaol, bydd miloedd o fusnesau Cymru yn parhau i wynebu costau anghynaladwy, gan arwain at strydoedd mawr gwag a chymunedau tlotach. Ac yn wyneb y pwysau hwn, mae treth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn dreth arall ar sector sy'n ei chael hi'n anodd.

Fel pe na bai hynny'n ddigon, mae ailbrisio gwerth ardrethol yn ddiweddar wedi bod yn ergyd olaf i lawer o fusnesau. Yn hytrach na chael cefnogaeth, mae cwmnïau bach dirifedi wedi gweld eu prisiadau'n dyblu, yn treblu neu'n cynyddu bedair gwaith drosodd hyd yn oed. Dywedodd un perchennog busnes wrthyf yn ddiweddar y bydd ei bil misol yn codi £8,000—wyth mil. I fusnes bach, mae'n gwbl anghynaliadwy.

Ddirprwy Lywydd, rydym ni ar y meinciau hyn yn credu mewn cefnogi'r busnesau bach sy'n cynnal ein trefi a'n pentrefi. Dyna pam y mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ystyrlon, ymarferol. Yn gyntaf, diddymwch ardrethi busnes ar gyfer y busnesau lleiaf, gan roi'r lle i anadlu y maent ei angen i allu goroesi, buddsoddi a thyfu. Yn ail, galwn am ddileu'r newidiadau i dreth etifeddiant, y dreth ar gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol. Yn drydydd, ehangwch barcio am ddim yng nghanol trefi i roi hwb i nifer yr ymwelwyr a chefnogi ein strydoedd mawr. Yn bedwerydd, rhowch y gorau i'r dreth dwristiaeth, ac yn bumed, pwyswch ar Lywodraeth y DU, eich partneriaid mewn grym, i wrthdroi'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr, cynnydd sy'n costio mewn swyddi ac sy'n rhaid ei ddad-wneud.

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ddathliad, ac yn briodol felly. Mae gwydnwch ac ysbryd entrepreneuraidd busnesau bach Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth bob wythnos o'r flwyddyn, nid yn y cyfnod cyn y Nadolig yn unig. Ond mae dathlu heb weithredu'n wag. Nid geiriau cynnes sydd eu hangen ar deuluoedd sy'n arllwys eu calonnau a'u heneidiau i mewn i siopau, caffis, ffermydd, gweithdai a busnesau newydd; maent angen Llywodraeth sy'n dileu rhwystrau yn hytrach nag ychwanegu atynt o hyd. Dyna pam, y tu hwnt i'r cynnig heddiw, y bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn torri 1 geiniog oddi ar gyfradd sylfaenol y dreth incwm, yn gweithredu system gynllunio sy'n cefnogi, nid yn rhwystro, ein strydoedd mawr, ac yn darparu arian cymorth pwrpasol i drefi glan môr a threfi marchnad, gan eu galluogi i adfywio a ffynnu.

Mae heddiw'n gyfle i'r Senedd hon anfon neges glir ein bod yn eich gwerthfawrogi chi, fusnesau bach, ein bod yn deall y pwysau sy'n eich wynebu, a'n bod yn barod i weithredu'n bendant o'ch plaid. Rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau yma heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghymru trwy:

a) Busnes Cymru, sydd wedi cefnogi dros 33,200 o fusnesau ac entrepreneuriaid ers dechrau tymor y Senedd hon;

b) Micro-fenthyciadau a phecynnau cyllid twf gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi cefnogi dros 950 o fusnesau gyda £21.7 miliwn o fenthyciadau yn nhymor y Senedd hon; ac

c) £140 miliwn ar ffurf rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i dros 70,000 eiddo yn 2025-26.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd.

A galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y lluosydd cyfradd is ar gyfer safle manwerthu bach a chanolig i gynnwys busnesau lletygarwch a hamdden, gan nodi bod amcangyfrif y byddai peidio gwneud hynny yn gadael y dafarn stryd fawr gyffredin gyda £6,800 yn ychwanegol o drethi busnes y flwyddyn;

b) sicrhau na fydd unrhyw gymorth i fusnesau a ddaw o uwchgynhadledd fuddsoddi ddiweddar Llywodraeth Cymru yn digwydd ar draul ymdrechion i feithrin sylfaen gystadleuol a gwydn busnesau domestig;

c) darparu pecyn cymorth busnes cryfach ac wedi’i gydgysylltu'n fwy effeithiol, gan gynnwys cynorthwyo cynlluniau olyniaeth i fusnesau bach a chanolig Cymru; a

d) hyrwyddo ehangiad mentrau cydweithredol a chyd-fuddiannol o fewn economi Cymru drwy roi’r modelau hyn ar sail deg gyda ffurfiau mwy traddodiadol o fenter a busnes.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Rwy'n mynd i ddefnyddio fy 'niolch' unwaith y flwyddyn ar y Ceidwadwyr Cymreig—mwynhewch—am gyflwyno'r cynnig hwn, cyfle inni drafod pwysigrwydd busnesau bach sy'n aml yn ffurfio ffabrig ein cymunedau, cyflogwyr pwysig, fel y nododd Sam Kurtz yn gywir. Buaswn ar fai yn peidio â sôn am rai yn fy ardal fy hun. Rydych chi i gyd yn gwybod am The Sandwich Co—rwy'n siarad amdano bob blwyddyn; mae'n cyfrannu at y cynnydd ym maint fy mola. Rydych chi i gyd yn gwybod am bopty Beat—bydd Tom yn gwybod—sydd wedi'i leoli lle'r arferai swyddfa Suzy Davies fod; mae'r coffi wedi gwella llawer yno, gallaf ddweud hynny wrthych. Ac ychwanegiad newydd, Forage, yn eich ardal chi, Andrew; mae siop fferm Forage wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, fel tad newydd, yn gyntaf oherwydd y prydau parod bendigedig y maent yn eu gwneud ac yn eu gwerthu ar y safle, a hefyd am ei fod yn bellter perffaith rhwng Pencoed a'r Bont-faen i gael y babi i gysgu. Felly, rwy'n lladd dau aderyn ar yr un pryd—cael y babi i gysgu a bwyd maethlon.

Ond mae Sam yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn gyfnod anodd i fusnesau bach yn ein cymunedau. Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth cadarnhaol, sef y lluosydd, ac mae'r defnydd o'r lluosydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru yn rhywbeth yr wyf i, yn ogystal ag Aelodau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr a Llafur Cymru, wedi galw am ei ddefnyddio i helpu busnesau llai yn ein cymunedau. Hoffwn wneud yr achos dros letygarwch. Mae Sam eisoes wedi tynnu sylw at nifer y busnesau sy'n cau yn y sector hwnnw ar hyn o bryd. Roedd peidio â chynnwys lletygarwch yn y defnydd diweddar o'r lluosydd yn gamgymeriad enfawr ar ran y Llywodraeth yn fy marn i. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod awdurdodau lleol yn defnyddio'r diwydiant lletygarwch i adfywio ein strydoedd mawr—mae'n rhoi rheswm i bobl droi'n ôl at y stryd fawr—a phan fyddwn yn gweld nifer y busnesau sy'n cau yn y sector lletygarwch, os na wnawn fwy i'w cefnogi, os na ddefnyddiwn y lluosydd i'w cefnogi, rwy'n credu y byddwn yn cymryd cam enfawr yn ôl.

Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd yn iawn. Os ydym am gefnogi ein busnesau llai, byddai'r lluosydd yn caniatáu inni symud y baich ychydig, ei symud i'r archfarchnadoedd, ei symud i'r canolfannau siopa y tu allan i'r dref, y gallwch chi eu cysylltu â dirywiad y stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond hefyd i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y siopau brics a morter a'r platfformau digidol ar-lein sy'n tanseilio ein busnesau llai yma yng Nghymru yn enfawr. Wrth gwrs, dim ond un ffordd yw'r system dreth, un offeryn y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer busnesau llai.

Mae'r Ceidwadwyr wedi nodi nifer o bethau y byddent yn eu dileu. Rwy'n credu bod angen inni feddwl hefyd am y pethau y byddem yn eu gwneud yn well i gefnogi busnesau llai. Mae cymorth busnes yn gymhleth. Rydym yn ei glywed dro ar ôl tro; mae busnesau'n ansicr at bwy y dylent fynd i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, boed hwnnw'n gymorth ariannol, yn ganllawiau ar gyfer mynd drwy'r system gynllunio, neu'n fynediad at addysg. Felly, mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwneud yr adolygiad mewnol i gymorth busnes i'w groesawu'n fawr mewn gwirionedd. Yr hyn y buaswn i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:20

Rwy'n falch eich bod wedi siarad am gyllid i fusnesau bach, oherwydd yr hyn a welsom yw bod llawer o'r banciau mawr ar y stryd fawr yn diflannu o'r stryd fawr a'u penderfyniadau benthyca'n cael eu gwneud ymhellach o ble mae busnesau wedi'u lleoli, ac mae'n llawer anos i fusnesau ddenu'r cyllid hwnnw. Felly, onid yw'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector gwasanaethau ariannol i wneud mwy o benderfyniadau yma yng Nghymru fel bod mynediad at gyllid ar gael yn hawdd i fusnesau bach?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt hwnnw, ac rwy'n credu mai dyna pam y mae angen inni weld y camau gweithredu a nodir yn yr adolygiad busnes mewnol yn cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth. Mae mynediad at gyllid yn bwynt hynod bwysig ac ar hyn o bryd, mae'r dirwedd honno ar ein strydoedd mawr lleol yn cael ei dinistrio. Mae angen inni ddychwelyd at system lle mae pobl yn gwybod at bwy i fynd, a lle maent yn adnabod eu rheolwr banc lleol, er enghraifft, a chael y berthynas honno i gael dealltwriaeth o'r busnes i allu darparu cymorth ariannol, system yr ydym wedi symud yn bell oddi wrthi.

Mae hynny hefyd yn ymwneud â'r elfen stryd fawr, cynllunio canol trefi'n well. Rydym yn gwybod bod angen inni ddod â gwasanaethau yn ôl i ganol trefi. Mae lletygarwch yn un ffordd o annog pobl i mewn i ganol y dref. Wel, mae cynnwys y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn mynd i fod yn ffordd arall o wneud hynny. A thrwy ddod â'r niferoedd i mewn, rydym yn cefnogi ein busnesau llai. Mae stryd fawr lwyddiannus yn anhygoel o allweddol. Rwyf wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i newid yr eiddo masnachol sy'n wag, yn enwedig y mannau uwchben siopau, yn eiddo preswyl, a chynyddu'r niferoedd. Gan ddefnyddio Friends fel enghraifft unwaith eto—. Rwy'n siŵr fod llawer ohonoch yn mynd i fod wedi cael llond bol arnaf yn defnyddio'r gymhariaeth honno, ond y gwir amdani yw bod y grŵp hwnnw'n byw uwchben y siop goffi y maent yn ei defnyddio, a thrwy hynny'n darparu cwsmeriaid parod iddynt, yn ogystal â'r bobl sy'n mynd heibio, gan wneud y siop goffi honno'n gynaliadwy. Felly, os gallwn wneud hynny i'n strydoedd mawr, rydym yn cefnogi ein busnesau llai gyda phethau sy'n gymharol syml i'r Llywodraeth eu gwneud.

Fe ddof i ben, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod yna gyfle enfawr wedi'i golli i annog entrepreneuriaeth yn ein cymunedau. Nid oes gan bawb hyder a gallu i sefydlu eu busnesau eu hunain, a dyna pam ein bod wedi cynnwys yn ein gwelliant yr angen i gefnogi modelau busnes amgen eraill, fel cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Os gallwch chi droi at bobl a dweud, 'Beth am i chi ystyried sefydlu busnes gyda'ch ffrindiau?', mae honno'n ffordd o annog mwy o entrepreneuriaeth yn ein cymunedau.

Felly, ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, gadewch inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau glas i gefnogi ein busnesau bach, ond gadewch inni beidio ag anghofio ei bod yn amser anhygoel o anodd i'r busnesau bach hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i weld sut y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi ymhellach.

17:25

Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno yma menter mor wych yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae'n un yr ydym i gyd yn ei chefnogi'n llwyr. Mae'n annog pobl i feddwl ble maent yn gwario'u harian, mae'n annog pobl i'w wario'n lleol, yn aml gyda busnesau teuluol bach, ac mae'n annog pawb i ddychwelyd i'n strydoedd mawr, yn hytrach na dim ond prynu ar-lein.

Mae'r ddadl hon yn amserol iawn ychydig cyn y Nadolig, a gobeithio ei bod hi'n atgoffa pobl o'r hyn a gollir pan nad yw'r busnesau bach hyn yn ein cymuned yn gallu cadw eu drysau ar agor. Eleni, fodd bynnag, mae'n ymwneud â mwy na dathlu siopau ac entrepreneuriaid lleol yn unig; rydym yn cydnabod eu brwydr i oroesi. O dan Lywodraeth Lafur Cymru, mae busnesau yng Nghymru yn cael eu taro â'r ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain, ynghyd â'r lefelau uchaf o ddiweithdra a'r cyflogau isaf. Busnesau yma sydd â'r hinsawdd anoddaf i weithredu ynddi. Mae'r Blaid Lafur wedi gweithredu yn ôl ei harfer, wrth gwrs. Ers dod yn Llywodraeth yn San Steffan, maent wedi cosbi dyhead drwy godi trethi, wedi cosbi busnesau drwy godi trethi, wedi cosbi aelwydydd gweithgar drwy godi trethi, ac maent wedi gwneud hynny i sicrhau bod unrhyw ysbryd entrepreneuraidd sy'n weddill yn cael ei ddileu'n araf o'r wlad hon.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig yn un sy'n cefnogi busnesau. Rydym yn cefnogi dileu ardrethi busnes i bob busnes bach. Fel un o'r costau sefydlog mwyaf i fusnes bach, byddai dileu'r ardrethi yn torri gorbenion ar unwaith ac yn helpu i wella llif arian. Nid yn unig y bydd yn rhyddhau arian ar gyfer buddsoddi, bydd yn dod â hyder i fusnesau allu llogi staff, uwchraddio offer a sicrhau eu bod yn gallu cystadlu'n gyfartal â busnesau sydd ond yn gweithredu ar-lein, ac sy'n aml yn talu llai mewn trethi eiddo.

Rydym hefyd yn cefnogi gwrthdroi'r newidiadau arfaethedig i dreth etifeddiant ar ryddhad eiddo busnes. Rydym i gyd yn gwybod cymaint y mae Llafur Cymru yn casáu ffermio, y gymuned ffermio a ffermwyr eu hunain. Gallwn weld hyn ym mhob polisi gwledig a gynhyrchant. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o ffermydd yn fusnesau bach ac ni fyddant yn goroesi'r biliau treth y mae disgwyl iddynt eu talu.

Ddirprwy Lywydd, mae ein strydoedd mawr hefyd mewn cyflwr peryglus, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod bod angen inni helpu busnesau drwy gefnogi cwsmeriaid. Golyga hyn fod angen inni gynyddu'r ddarpariaeth parcio am ddim, nid ei gyfyngu, fel y gwelsom yn ddiweddar, er enghraifft, gyda pholisïau gwrth-fodurwyr Cyngor Caerdydd. Mae angen inni fynd i'r afael â'n polisïau cynllunio ar gyfer y stryd fawr, polisïau sydd wedi dyddio, ac mae angen inni ddarparu mwy o doiledau cyhoeddus. Yn wir, rwyf wedi siarad ar y mater hwnnw yn y Siambr ar sawl achlysur. Mae'n ymddangos ei fod yn syrthio ar glustiau byddar, ond y gwir amdani yw: sut y gallwch chi ddisgwyl i bobl dreulio sawl awr oddi cartref heb y cyfleusterau hyn? Mae angen mwy na siopau barbwr a siopau fêps ar ein strydoedd mawr. Mae angen amrywiaeth fawr o wahanol fusnesau arnynt i'w gwneud yn apelgar i gwsmeriaid, a dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu i wneud ymweld â'n strydoedd mawr yn opsiwn deniadol a phleserus.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn credu bod y dreth dwristiaeth yn mynd i atal pobl rhag ymweld â Chymru, yn hytrach na'u hannog. Mae'n wir mai swm bach ydyw yn y darlun mawr, ond y gwir amdani yw ei fod yn parhau i roi'r argraff mai'r cyfan y gall y Llywodraeth hon ei wneud i ddatrys ein problemau yw trethu a mynnu arian gennym yn barhaus. Mae busnesau bach, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn dibynnu'n fawr ar fusnes yr haf ac yn aml yn gweithredu ar elw main. Nid oes croeso i unrhyw beth sy'n atal ymwelwyr. Dylem fod yn cryfhau cystadleurwydd diwydiant twristiaeth Cymru yn hytrach na'i lesteirio â threth arall eto fyth.

Yn olaf, hoffwn roi sylw i gynnydd Llywodraeth Lafur y DU i yswiriant gwladol cyflogwyr. Yn hollol onest, mae hyn yn lladd busnesau. Mae'n eu datgymell rhag cyflogi pobl, yn enwedig y bobl sydd fwyaf o angen swyddi: pobl sy'n gadael ysgol, graddedigion sydd angen profiad a phobl ag anableddau. Mae'n ffordd arall y mae busnesau bach yn colli eu gwydnwch. Mae hefyd yn golygu, os ydynt yn cael cyfnod masnachu yn yr haf neu dros y Nadolig sy'n is na'r disgwyl, y cyfnodau hynny lle mae disgwyl y gwerthiannau mwyaf, nid oes ganddynt unrhyw hyblygrwydd i amsugno'r elw is. Mae'r cynnydd i yswiriant gwladol yn gost sefydlog iddynt ac felly'n arwain at lai o weithwyr, sy'n wael i bawb.

Rwy'n credu bod dyletswydd o ofal arnom i'n busnesau bach. Maent wedi cael eu cosbi gan Lafur Cymru yng Nghaerdydd ac maent yn cael eu cosbi gan Lafur yn San Steffan. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod eu gwerth, a dyma pam ei bod hi'n bwysig cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

17:30

Diolch yn fawr i'r Ceidwadwyr Cymreig am y ddadl yma. Dwi’n cytuno â Samuel Kurtz heno yma, dwi'n cytuno ag e. Busnesau bach yw asgwrn cefn ein gwlad ni. Mae'r ffigurau'n dangos hynny, onid ydyn nhw? Naw deg naw y cant o fusnesau Cymru â llai na 50 o weithwyr.

Ar ôl y ddadl yma, gyfeillion, ewch allan, ewch i'r bae, ewch i ganol y ddinas a phrofi rhai o'r busnesau bach, annibynnol yma sydd o gwmpas ein prifddinas. Bwytai Giovanni’s—mae Giovanni’s wedi bod yng Nghaerdydd ers dros 40 o flynyddoedd, a beth dyw llawer o bobl ddim yn gwybod yw, bob prynhawn dydd Mercher, heddiw, a bob dydd Sul, mae Giovanni’s yn rhoi pryd cynnes o fwyd i bron i 50 o bobl ddigartref yn ein dinas ni. Cefnogwch fusnesau fel yna.

Cefnogwch Canna Deli, sydd wedi bod trwy lawer yn ddiweddar, gyda phobl yn difrodi'r adeilad yn y nos. Cefnogwch bobl fel Canna Deli, sydd yn gweithredu bron a bod yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gwerthu cynnyrch Cymreig arbennig. Ewch i brynu llyfrau a cherddoriaeth Cymraeg: Caban, siop llyfrau Cymraeg ym Mhontcanna a enillodd wobr siop llyfrau annibynnol gorau Cymru y llynedd; ac yna Spillers Records, wedi’i lleoli'n ddwfn yn un o arcêds arbennig ein prif ddinas. Dyna yw record shop hynaf y byd, a gafodd ei sefydlu yn ôl yn 1894.

Neu dewch gyda fi yn nes ymlaen heddiw i Cowbridge Road. Mae modd profi'r byd i gyd ar y Cowbridge Road. Roedd Luke Fletcher yn sôn am ei waistline gynnau; wel, mae'r Cowbridge Road yn profi'n demtasiwn i’ch waistline chi. Sawl Indian, Japanese, Thai, Greek, Korean, French, Turkish—mae popeth ar Cowbridge Road. Mae gennym ni hefyd y Canton Cobbler, mae gennym ni ddau greengrocer ac, oes, mae gennym ni'n candlestick maker hefyd ar Cowbridge Road. Mae popeth yno.

Ac os ydych chi eisiau caffeine fix a ddim eisiau mynd i Ben-y-bont gyda Luke Fletcher, dewch gyda fi i Hard Lines neu Ffloc neu Bloc ar Cowbridge Road. Ac wrth gwrs, mae gennym ni dafarndai o fri, y Canton Cross Vaults, tafarn teuluol sydd yn gwneud pub lunch arbennig o resymol mewn awyrgylch cyfeillgar. Ac yna'r Queens Vaults, gyfeillion, sydd newydd ennill gwobr arbennig gyda Guinness. Nhw sy'n syrfo'r aur du gorau yng Nghymru, yn ôl Guinness.

Ond er y llwyddiannau—ac mae modd cael hwyl mewn dadleuon fel hyn, onid oes—er y llwyddiannau, mae'r problemau yn amlwg iawn. Tra bod nifer y busnesau preifat yn cynyddu yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, gostwng maen nhw fan hyn yng Nghymru. Lleihad o 26,000 yng Nghymru. Yn waeth fyth, dyw'r lleihad y llynedd ddim yn eithriad. Ers 2020, y wlad sydd â’r canran mwyaf o fusnesau bach yn cau ydy Cymru. Ac wrth gwrs, tu ôl i'r ffigurau mae pobl a theuluoedd sydd wedi gweld breuddwydion yn chwalu, dyledion yn cynyddu, a bywoliaeth yn diflannu.

Yn amlwg, roedd y Prif Weinidog yn iawn pan ddywedodd hi yn yr uwchgynhadledd fod angen twf gyda phwrpas. Ond y gwir yw, does dim twf o gwbl gyda ni ar hyn o bryd. Dyna mor ddigalon, wedi chwarter canrif o'r lle yma, ein bod ni'n gallu dweud rhywbeth felly. Mae angen i ni edrych eto ar yswiriant cenedlaethol. Mae angen i ni edrych unwaith eto ar dreth etifeddiaeth. Ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni edrych eto ar dreth ar werth. Mae'r Ceidwadwyr yn mynd ymlaen ac ymlaen am dreth twristiaeth, ond treth ar werth sy'n bygwth ac sy'n effeithio cwmnïau bach. Prif ofyn UKHospitality yw cael lleihad yn y dreth ar werth. Byddai hwnna'n anrheg Nadolig arbennig i fusnesau Cymru.

Rŷn ni i gyd, onid ŷn ni, yn ymwybodol iawn o botensial busnesau Cymru a chynnyrch Cymreig, ond dyw’r potensial yna ddim yn cael ei wireddu. Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru hybu ein busnesau bach, a thrwy hybu ein busnesau bach ni, rŷn ni'n tyfu ein heconomi, a thrwy dyfu ein heconomi gan ddefnyddio ein busnesau bach, byddem ni'n lleddfu cymaint o’r problemau sydd yn llethu'r lle hwn o wythnos i wythnos, a phobl ein gwlad ni. Diolch yn fawr.

17:35

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac roedd yn bleser dathlu Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yr wythnos diwethaf. I ddathlu, ymwelais â smorgasbord o fusnesau bach ledled gogledd Cymru, gan drafod sut y mae busnes gyda pherchnogion ac annog pobl i siopa'n lleol a chefnogi eu cymuned leol. Mae'n ymgyrch wych, sy'n cyrraedd miliynau o bobl, ac wedi annog gwerth biliynau o wariant ar draws 5.5 miliwn o fusnesau bach Prydain.

Ond yn anffodus, ymhlith yr amrywiaeth o fusnesau yr ymwelais â nhw, ni ddisgrifiodd yr un ohonynt amgylchedd economaidd yr oeddent yn teimlo'n gadarnhaol yn ei gylch. Bu cynnydd dramatig yn nifer y busnesau a gaeodd ledled y DU yn chwarter cyntaf 2025, gyda dros 2,700 o gwmnïau'n dod i ben rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Dilynodd hyn gynnydd treth o £40 biliwn gan y Llywodraeth Lafur, yn cynnwys y cynnydd o £35 biliwn yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Yn ogystal, rydym wedi gweld cyllideb yr hydref yn codi £26 biliwn arall o drethi, gan dorri addewidion maniffesto yn seiliedig ar yr hyn sy'n ymddangos fel twyll, neu gelwydd noeth am dwll du y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwadu ei fod hyd yn oed yn bodoli. Mae'r codiadau treth hyn yn niweidio pobl sy'n gweithio er mwyn ariannu cynnydd enfawr mewn gwariant ar les, gan gadw pobl mewn cylch o ddibyniaeth yn hytrach na buddsoddi yn economi leol pobl.

A hoffwn ofyn sut y bydd yr economi leol yn elwa ar ôl y gyllideb hon. Fel y saif pethau, ar ôl chwarter canrif o weinyddiaeth ddatganoledig Llafur, Cymru sydd â'r lefel ddiweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyflog net isaf. Ymatebodd cadeirydd polisi'r Ffederasiwn Busnesau Bach i gyllideb yr hydref, gan ei disgrifio fel cyllideb codi trethi sy'n dangos perygl cylch dieflig economaidd parhaus, gan ychwanegu mai'r baich treth, sydd ar ei lefel uchaf erioed, yw cost methiant i sicrhau twf a thorri gwariant, gydag 80 y cant o arweinwyr busnes, fel y mae Samuel Kurtz eisoes wedi nodi, yn teimlo'n negyddol am y gyllideb yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yr wythnos hon fod trethi’r DU ar incwm personol ac enillion cyfalaf yn cyfateb i fwy na 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros, sy’n golygu bod Prydeinwyr yn talu mwy o dreth incwm na’r Ffrancwyr, yr Almaenwyr neu’r Americanwyr. Mae’r baich treth yn cael effaith ar bawb, ac mae llawer o bobl Cymru’n dibynnu ar fusnesau bach am eu hincwm.

Un sector rwy'n pryderu'n fawr amdano yw'r sector lletygarwch, gyda chyfradd uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU o fusnesau'n cau rhwng y cyfyngiadau symud COVID cyntaf a heddiw. Mae UKHospitality wedi datgelu, o gymharu â'r hyn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd, y bydd ardrethi busnes y sector yn codi 23 y cant yn 2026-27, 51 y cant yn y flwyddyn ganlynol, ac 80 y cant yn y flwyddyn ar ôl hynny. Rydym eisoes yn gweld tafarn yn cau bob dydd, er mawr siom i mi, ac ar y gyfradd hon, yr hyn rwy'n poeni amdano yw y bydd y sector lletygarwch y dibynnwn gymaint arno yng ngogledd Cymru yn cael ei ddinistrio'n llwyr. Dywedodd cadeirydd UKHospitality fod y Llywodraeth yn mantoli'r cyfrifon yn anghymesur ar draul y stryd fawr, ac mai'r unig ffordd i dorri costau byw yw lleihau cost gwneud busnes.

Mae busnesau bach yn cael eu mygu yng Nghymru gan bolisïau llym ar ddau ben yr M4. Mae polisïau ideolegol wedi dal Cymru’n ôl, ond mae Llywodraeth y DU hefyd bellach wedi dangos ei pharodrwydd i flaenoriaethu ideoleg dros bragmatiaeth, gan godi trethi heb unrhyw ddiben heblaw ailddosbarthu symiau sylweddol o arian ymhellach o gyfranwyr net i dderbynwyr net. Ac yng Nghymru, mae nifer y cyfranwyr net yn cael ei wasgu. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, cynyddodd lefel ddiweithdra Cymru 1.4 y cant o gymharu â'r chwarter blaenorol, felly gallwn weld y wasgfa'n arwain at golli mwy o swyddi a mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth.

Polisi arall sydd wedi achosi cryn bryder a niwed i fusnesau yw'r dreth dwristiaeth, fel y'i gelwir. Mae'r sector yn gwrthwynebu'r dreth hon yn llwyr, gyda thwristiaeth yn un o asedau economaidd mwyaf Cymru, yn enwedig yn y gogledd, lle mae gwariant ymwelwyr yn cynnal miloedd o swyddi ac yn sail i gymunedau cyfan. Serch hynny, yn hytrach na meithrin y diwydiant hanfodol hwn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ei gosbi. Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi rhybuddio'n ddiamwys fod yr ardoll ymwelwyr yn fygythiad uniongyrchol i hyfywedd busnesau twristiaeth Cymru, gan nodi bod y sector eisoes yn dioddef o feichiau rheoleiddiol uwch.

Ddirprwy Lywydd, rhaid inni gael gwared ar y dreth wenwynig hon cyn iddi ddinistrio enw da Cymru a'i busnesau bach ymhellach yn yr economi ymwelwyr. Dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach, gan roi'r rhaff achub y maent ei hangen yn daer iddynt. Dylid cael gwared ar y dreth dwristiaeth. Yn olaf, galwn ar Lywodraeth Cymru i sefyll dros Gymru a mynnu bod Llywodraeth y DU yn gwrthdroi'r codiadau yswiriant gwladol dinistriol.

I gloi, mae busnesau bach Cymru’n wydn, yn arloesol ac yn llawn potensial, ond po fwyaf o fusnesau y siaradaf â nhw yn fy etholaeth, y mwyaf tyngedfennol y mae'n teimlo. Os na fydd yr amgylchedd cywir iddynt ffynnu'n cael ei greu'n fuan, byddwn yn colli nid yn unig y busnesau, ond y cymunedau a'r fywoliaeth y mae'r busnesau hynny'n ei chynnig i bobl.

17:40

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle i ddathlu ein busnesau bach, ond wrth gwrs, rydym am ddathlu eu cyfraniadau a'u cefnogi drwy gydol y flwyddyn. Drwy greu swyddi, cefnogi cymunedau a hybu datblygiad economaidd ar lefel leol ledled Cymru, mae ein busnesau bach yn chwarae rhan hanfodol yng ngwead cymdeithasol ac economaidd ein gwlad. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fwy na dyddiad ar y calendr; mae'n atgof pwerus o'r gwydnwch, y penderfynoldeb a'r dyfeisgarwch y mae perchnogion busnesau bach yn eu dangos bob dydd.

Ledled Cymru, mae busnesau micro, bach ac annibynnol yn creu cyfleoedd, yn meithrin arloesedd ac yn cefnogi cymunedau lleol. Yn 2023, roedd dros 244,000 o fentrau micro a bach yng Nghymru, sef 98.4 y cant o'r holl fusnesau. Gyda'i gilydd, roedd y busnesau hyn yn cyflogi mwy na 0.5 miliwn o bobl—bron i hanner ein gweithlu cyfan—gan gynhyrchu bron i £36 biliwn mewn trosiant. Ac mae'r ffigurau hyn yn adrodd hanes miloedd o entrepreneuriaid sy'n buddsoddi, yn creu ac yn adeiladu dyfodol yma yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod wedi ymrwymo i helpu busnesau bach i ffynnu. Rydym yn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, o addasu i amodau economaidd sy'n newid a'r newidiadau mewn masnach fyd-eang, i ddal i fyny â thechnolegau newydd a disgwyliadau defnyddwyr. A dyna pam ein bod yn buddsoddi mewn cyfres gynhwysfawr o fesurau cymorth a gynlluniwyd i'w helpu i lwyddo.

Rydym yn cefnogi busnesau bach drwy Busnes Cymru, ein gwasanaeth cymorth i fusnesau blaenllaw, gan ddarparu cyngor arbenigol, mentora ac arweiniad ymarferol. Ers dechrau tymor y Senedd hon, mae Busnes Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn cefnogi ein busnesau bach a'n hentrepreneuriaid. Mae'r gwasanaeth wedi darparu cymorth uniongyrchol i dros 33,200 o fusnesau ac entrepreneuriaid, ac wedi cyfrannu at greu mwy na 4,500 o fusnesau newydd. Mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 21,200 o swyddi, gyda 26 y cant o'r rolau hynny'n cael eu llenwi gan bobl a oedd yn ddi-waith cyn hynny, gan ddangos ein hymrwymiad i dwf economaidd cynhwysol a chyfle i bawb. I dynnu sylw at ei bwysigrwydd fel adnodd i gymuned fusnes Cymru, mae ein gwefan Busnes Cymru hefyd wedi cael bron i 13 miliwn o ymweliadau â'i thudalennau a 3.6 miliwn o ymwelwyr gwahanol. Yn nodedig, mae cyfraddau goroesi dros bedair blynedd busnesau a gefnogir gan Busnes Cymru yn fwy na dwbl cyfraddau goroesi busnesau nad ydynt yn cael eu cefnogi, gan danlinellu effeithiolrwydd ein cymorth a'r gwydnwch y mae'n ei feithrin mewn busnesau bach.

Drwy Croeso Cymru, rydym yn gweithio i arddangos y gorau o fentergarwch Cymru i'r byd, gan hybu twristiaeth a denu ymwelwyr i fusnesau lleol, o siopau a chaffis i westai ac atyniadau. Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn cefnogi twf busnesau, gan gynnig benthyciadau ac ecwiti i helpu busnesau bach i fuddsoddi, creu swyddi a hybu mentrau gwyrdd. Dros dymor y Senedd hon, mae microfenthyciadau wedi'u teilwra gan y banc datblygu a phecynnau cyllid twf wedi cefnogi dros 950 o fusnesau, gyda gwerth £21.7 miliwn o fenthyciadau, gyda chyllid micro eleni ar y trywydd iawn i gyrraedd £2 filiwn gan y banc. Ac mae hyn wedi helpu busnesau ym mhob rhanbarth o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd twf newydd.

Yn hollbwysig, rydym yn cydnabod pwysigrwydd lleihau'r beichiau ar gymuned ein busnesau bach. Mae ein pecyn rhyddhad ardrethi annomestig parhaus yn darparu cymorth hanfodol i filoedd o fentrau bach. Mae ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn darparu dros £140 miliwn o ryddhad bob blwyddyn i oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru, gyda dros 50,000 o'r rhain yn derbyn rhyddhad o 100 y cant a heb fod yn talu unrhyw beth o gwbl.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae economi Cymru wedi wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys Brexit a COVID, ond er hynny, mae'r amgylchedd economaidd cyffredinol yn parhau i wella. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi uwchraddio ei rhagolygon twf ar gyfer eleni ac mae chwyddiant yn is na'r disgwyl ar gyfer y flwyddyn nesaf, oherwydd polisïau'r Llywodraeth. Bydd y rhain yn helpu i wella'r amgylchedd economaidd y mae busnesau bach yn gweithredu ynddo yng Nghymru. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:45

A fyddech chi'n cydnabod bod chwyddiant wedi codi mewn gwirionedd—bron â dyblu—ers i Lafur ennill etholiad cyffredinol y DU?

Yn amlwg, mae chwyddiant wedi bod yn her ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi gweld yr argyfwng costau byw, ac mae busnesau eu hunain wedi gweld yr argyfwng costau gwneud busnes fel rhan o hynny. Mae chwyddiant wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd bellach yn dilyn y pandemig. Ond rwy'n croesawu'r ffigurau newydd hyn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn fawr iawn, gan eu bod, yn fy marn i, yn rhoi darlun mwy disglair ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae entrepreneuriaeth, arloesedd a chynhyrchiant yn genadaethau hollbwysig i Gymru. Bydd busnesau bach yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru, a byddant ar flaen y gad o ran datblygu a manteisio ar dechnolegau newydd gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo fel Llywodraeth i barhau i wrando, buddsoddi a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau bach ffynnu. Wrth inni ddathlu cyflawniadau ein hentrepreneuriaid, edrychwn ymlaen at ddyfodol lle mae mentrau Cymru’n parhau i fynd o nerth i nerth. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu ar ein llwyddiannau cyffredin a sicrhau bod busnesau bach yn parhau i fod wrth wraidd ein heconomi a'n cymunedau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Wrth gwrs, daw hyn yn sgil Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, sydd, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn fwy na dim ond un diwrnod mewn blwyddyn, mae'n fudiad cenedlaethol sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn i ddathlu'r 5.5 miliwn o fusnesau bach ledled y DU, ac fel y gwnaeth Joel James ein hannog ni i'w wneud, mae'n annog miliynau o bobl i siopa'n fach a buddsoddi yn ein heconomïau lleol.

Mae gennyf rywfaint o brofiad o hyn, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, a gweld â fy llygaid fy hun y rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae yn cynnal ein heconomïau lleol, yn creu swyddi ac yn cefnogi ein cymunedau. Ac ar bwynt lletygarwch, roedd yn ddiddorol clywed llawer o gyfraniadau gan Aelodau yn canolbwyntio ar fwyd fel rhan hanfodol o fusnes yma yng Nghymru—a bod diod hefyd yn ffactor pwysig i Aelodau'r lle hwn.

Yn fwyaf arbennig, tynnodd Luke Fletcher sylw at y rôl bwysig y mae lletygarwch yn ei chwarae ar ein stryd fawr, gan ddenu pobl i ddod i'r stryd fawr, ond hefyd y cyfle i safleoedd gwag, a geir uwchben y siopau'n aml, alluogi ein stryd fawr i ffynnu.

Fe wnaeth Rhys ab Owen ein difyrru gyda'i brofiad o goginio yma yn Wrecsam, ac roedd pob un ohonynt yn—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, nid ydym yn Wrecsam eto. Wrecsam fydd y brifddinas un diwrnod, rwy'n siŵr. Fe wnaeth ein difyrru am ei brofiadau yma yng Nghaerdydd, a oedd yn hynod ddiddorol.

Yr hyn a glywsom gan Aelodau ar draws y Siambr oedd, er gwaethaf egni, creadigrwydd ac ymroddiad y busnesau hyn, eu bod yn parhau i wynebu heriau sy'n peryglu eu dyfodol. Mae pob Aelod wedi cydnabod bod gormod o rwystrau i dwf busnesau yng Nghymru oherwydd agenda wrth-fusnes, wrth-dwf y ddwy Lywodraeth Lafur, gan gynnwys cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU yn ddiweddar, sy'n cyflwyno costau ychwanegol i fusnesau—ac mae'n sicr yn creu risg o golli swyddi.

Tynnodd Sam Kurtz sylw at y ffaith bod y sefyllfa yma yng Nghymru wedi'i gwaethygu gan Lywodraeth Lafur Cymru. Er gwaethaf ymdrechion gorau Ysgrifennydd y Cabinet i dawelu'r ofnau hynny, Cymru sydd â'r ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain o hyd. Yma y mae'r lefel uchaf o ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig, a chawsom ein hatgoffa eto gan yr Aelodau mai yma y mae'r cyflogau net isaf.

Mae busnesau lletygarwch, fel y clywn dro ar ôl tro, yn wynebu heriau arbennig o lwm, gyda chynnydd mewn gwerth ardrethol o 76 y cant ar gyfer darpariaethau llety, 30 y cant ar gyfer tafarndai a 14 y cant ar gyfer bwytai a chaffis, sy'n peryglu swyddi, buddsoddiad ac economïau lleol.

Clywsom gan Gareth Davies am yr amser a dreuliodd gyda busnesau yn ddiweddar. Nid yw'r busnesau hynny'n ymddiried yn Llafur a Phlaid Cymru gyda'r economi. Maent wedi gweld yr hyn y mae Llafur a Phlaid Cymru wedi'i wneud am y 26 mlynedd diwethaf yma yng Nghymru. Mae'r busnesau hynny'n dweud wrthym nad yw'r pleidiau hynny'n deall anghenion busnes na'r economi ac nad ydynt yn sylweddoli o gwbl fod ffyniant cynaliadwy, hirdymor yn dod o fusnesau sy'n buddsoddi, yn ehangu ac yn darparu cyflogaeth.

Dyma ble mae gennym rai gwahaniaethau athronyddol a gwleidyddol sylfaenol ynghylch pam fod busnes yn bodoli. Rydym yn clywed yn rhy aml yn y lle hwn gan ein ffrindiau ar y chwith eu bod yn ystyried busnesau'n bethau a fydd yn gyfleustodau cyhoeddus maes o law. Mae'r chwith yn defnyddio ieithwedd fel 'pobl, nid elw' fel pe bai'r ddau beth yn annibynnol ar ei gilydd. Maent yn dadlau dros 'gynhyrchu ar gyfer defnyddio'—ieithwedd sy'n swnio'n uchelfrydig, ond yn ymarferol, mae'n cynnig marweidd-dra biwrocratiaeth yn lle natur ddynamig yr entrepreneur. Maent yn ddrwgdybus o elw, fel pe bai'n tynnu oddi wrth les y cyhoedd.

Rydym wedi gweld i ble mae'r ffordd honno'n arwain wrth gwrs, a bydd rhai Aelodau yn y lle hwn yn cofio'r gaeaf o anniddigrwydd yn iawn. Pan fydd y wladwriaeth yn ceisio llywio diwydiant, fe wyddom mai'r hyn a gawn yw aneffeithlonrwydd, prinder a diflastod llwyd dirywiad. Mae ein barn ni yn gwbl wahanol. Credwn fod busnes yn gyfrwng ar gyfer rhyddid a dyhead. Pan fydd siopwr yn agor ei siop ar y stryd fawr, neu pan fydd cwmni technoleg bach yn lansio, maent yn gweithredu ar eu menter eu hunain i greu gwerth.

Yn ein hiaith ni, nid yw 'elw' yn air budr. Mae'n arwydd; dyma'r metrig gonest sy'n dweud wrth fusnes ei fod wedi gwasanaethu ei gymydog yn llwyddiannus. Ni allwch orfodi defnyddwyr i wario eu punnoedd a enillwyd drwy waith caled; rhaid i chi eu perswadio gyda gwell gwasanaeth, gwell cynhyrchion a gwell prisiau. Y llaw anweledig hon sy'n sicrhau, drwy fynd ar drywydd eu buddiannau eu hunain, fod perchennog busnes yn hyrwyddo buddiannau cymdeithas yn fwy effeithiol nag y byddai pe bai wedi bwriadu ei hyrwyddo mewn gwirionedd.

Gadewch inni ddweud yn glir: ni allwn gael cymdeithas gref heb economi gref gyda busnesau bach ffyniannus yn ganolog iddi. Yr ysgolion a drysorwn, y ffyrdd rydym yn gyrru arnynt, ac wrth gwrs, ein gwasanaeth iechyd gwladol—ni ellir ariannu'r un o'r rhain drwy fwriadau da yn unig; cânt eu hariannu gan y derbyniadau treth a gynhyrchir gan fentrau preifat proffidiol, ffyniannus.

Gadewch inni beidio ag ymddiheuro yn y lle hwn am yr elw y mae busnesau bach yn ei wneud. Gadewch i ni ei ddathlu, oherwydd pan fydd y busnesau Cymreig hyn yn llwyddo, mae Cymru'n llwyddo. Rydym yn genedl falch o siopwyr, arloeswyr a chrewyr cyfoeth, a dylem barhau i fod felly. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn deall busnes. Rydym yn deall y camau sydd angen eu cymryd i wneud i'n heconomi symud a thyfu. Rydym wedi nodi rhywfaint ohonynt yn ein cynnig yma heddiw. Gyda Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru, o'r diwedd byddai gan fusnesau ledled Cymru y cymorth a'r gefnogaeth y maent eu hangen i ffynnu. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig yma heddiw.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adam Price MS - Enseffalomyelitis Myalgig (ME). Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Adam Price.: O blaid: 32, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

17:55

Cynnig NDM8884 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.

2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.

3.Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;

b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;

c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;

d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth;

e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac

f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.

g) datblygu dull strategol o ymchwil drwy gefnogi Cymru i gynnal un o'r pum canolfan arfaethedig yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol gydweithredol i fecanweithiau patholegol sy'n achosi ME, COVID hir a chyflyrau heintiau ôl-acíwt cysylltiedig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adam Price MS - Enseffalomyelitis Myalgig (ME). Cynnig (wedi'i ddiwygio).: O blaid: 32, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 1 yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael yn ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

18:00

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, mae gwelliannau a'r cynnig wedi cwympo, a dim byd wedi ei dderbyn. A dyna ddiwedd y pleidleisio.

9. Dadl Fer: Meddiannu corfforaethol o ran practisau milfeddygol er mwyn gwneud elw, ar draul anifeiliaid anwes a'u perchnogion

Felly, yr eitem nesaf o fusnes yw'r ddadl fer, a galwaf ar Carolyn Thomas i siarad.

Diolch. Hoffwn ddechrau'r ddadl hon drwy ddiolch i Dr Linda Joyce-Jones, sy'n parhau i weithio'n ddiflino i godi mater meddiannu practisau milfeddygol yn gorfforaethol yma yn y Senedd drwy ei deiseb, ac ar draws y DU. Mae Linda yn yr oriel heddiw i wylio'r ddadl fer hon.

Ers 1999, caniateir perchnogaeth nad yw'n filfeddygol ar bractisau milfeddygol. Mae hyn wedi arwain at dros 1,000 o gaffaeliadau corfforaethol ar bractisau yn y DU gan chwe chwmni mawr—dim ond chwe chwmni mawr—sydd bellach yn berchen ar 60 y cant o'r sector milfeddygol. Ddegawd yn ôl, dim ond 10 y cant oedd y ffigur hwnnw. Mae rhai o'r rhain eu hunain yn eiddo i ecwiti preifat, sy'n prynu cwmnïau, yn gwthio costau i lawr, gan gynnwys cyflogau, yn codi ffioedd, ac yn ysgogi dyled i ehangu drwy gaffaeliadau, cyn gwerthu'r cwmnïau ymlaen am elw enfawr. Mae'r cwmnïau hyn yn monopoleiddio'r diwydiant, er anfantais i anifeiliaid anwes a'u perchnogion.

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi bod yn edrych ar y farchnad gwasanaethau milfeddygol ers 2023. Cyhoeddwyd adroddiad interim ym mis Hydref a nodai broblemau allweddol yn y diwydiant sy'n tanseilio dewis perchnogion ac yn rhoi anifeiliaid mewn perygl. Mae'r rhain yn cynnwys y ffaith mai anaml y caiff prisiau eu cyhoeddi ac na roddir amcangyfrifon cyn i gwrs triniaeth ddechrau. Maent yn aml yn codi gormod, ymhell uwchlaw cyfradd y farchnad ar gyfer meddyginiaethau ar bresgripsiwn, ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd effeithiol o gwyno pan fydd pethau'n mynd o'i le.

Un o'r cwmnïau yr edrychir arno yw IVC Evidensia, y darparwr gwasanaethau milfeddygol mwyaf yn y DU, sy'n berchen ar dros 1,000 o bractisau. Mae'n eiddo i Nestlé, sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes. Sut y gall perchnogion fod yn hyderus o ansawdd y bwyd neu'r cyngor maeth gan eu milfeddyg pan geir gwrthdaro buddiannau o'r fath? Ar yr un pryd, mae biliau i berchnogion anifeiliaid anwes wedi cynyddu mwy na 60 y cant—dwbl y gyfradd chwyddiant a'r cynnydd i gyflogau milfeddygon. Mae'r newid hwn wedi cydredeg â rhoi blaenoriaeth i elw uwchlaw lles anifeiliaid anwes, eu perchnogion a staff milfeddygol. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gwmnïau cyfranddalwyr ecwiti preifat wneud elw i'w buddsoddwyr, yn wahanol iawn i bractisau milfeddygol annibynnol.

Mae'r argyfwng costau byw wedi rhoi baich ariannol sylweddol ar berchnogion anifeiliaid anwes. Mae llawer wedi cael eu prisio allan o yswiriant anifeiliaid anwes, gyda phremiymau'n seiliedig ar god post. Os oes gan ardal bresenoldeb corfforaethol mawr, mae premiymau'n uwch, ond heb yswiriant, gall biliau milfeddygol enfawr sydyn fod yn amhosib eu talu. Ac wrth ymchwilio ar gyfer y ddadl hon, darllenais am berchnogion anifeiliaid anwes yn mynd heb brydau bwyd i dalu costau, yn gorfod rhoi eu hanifeiliaid anwes i ganolfannau achub, neu mewn rhai achosion, yn cael eu gorfodi i ewthaneiddio eu hanifeiliaid anwes.

Gwyddom fod hyn wedi arwain at bwysau cynyddol ar ganolfannau achub, gyda'r RSPCA yn adrodd cynnydd o 25 y cant yn nifer yr anifeiliaid anwes a gafodd eu gadael yng Nghymru a Lloegr eleni, gyda saith o bob 10 perchennog anifail anwes yn poeni am y gost o ofalu am eu hanifeiliaid. Mae anifeiliaid anwes yn rhan annwyl iawn o'r teulu, ac mae'n gallu bod yn hynod ofidus i berchnogion ac effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd meddwl pan fydd eu hanifail yn mynd yn sâl. Mae hyd yn oed yn fwy o straen ac yn ddrytach pan fydd hyn yn digwydd y tu allan i oriau arferol y practis, ac mae llawer o'r cwmnïau mawr sy'n berchen ar bractisau lleol heb fod yn cynnig gofal brys y tu allan i oriau. Mae hyn wedi arwain at y sefyllfa enbyd lle nad oes gwasanaethau milfeddygol y tu allan i oriau ar Ynys Môn erbyn hyn, ac mae'n destun pryder cyson i berchnogion anifeiliaid anwes lleol. Mae meddiannu corfforaethol yn cael effaith negyddol ddifrifol ar y rhai sy'n gweithio yn y sector hefyd, sector lle mae gormod o staff cymorth yn cael tâl tlodi, tâl i staff clinigol sy'n gostwng mewn termau real, tâl salwch a thâl mamolaeth gwael, a bylchau cyflog mawr rhwng y rhywiau.

Dyma'r problemau wrth wraidd yr anghydfod masnach rhwng Valley Vets ac Undeb Milfeddygol Prydain yn undeb Unite. Aeth staff ar streic pan na wnaeth y partneriaid milfeddygol ymgysylltu'n ddidwyll, ac mewn perfformiad bargeinio ffug, fe gyflwynodd gynnig terfynol i'r undeb. Nid oedd yn cynnig unrhyw welliant i amodau, roedd yn parhau â thâl tlodi i staff cymorth a blwyddyn arall o doriad i gyflogau mewn termau real i filfeddygon a nyrsys. Dadleuai'r partneriaid milfeddygol fod tueddiadau gostyngol trafodiadau ac ansicrwydd y farchnad yn golygu na allent symud y tu hwnt i'r cynnig hwn. Fodd bynnag, datgelodd cyfrifyddu fforensig Unite fod trosiant y partneriaid milfeddygol wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan arwain at gynnydd o 176 y cant yn y cyfnod o bum mlynedd ers 2019. Yn 2019, trosiant y grŵp oedd £261 miliwn, ac roedd wedi codi i dros £723 miliwn. Ni chafwyd unrhyw ddatrysiad, gyda'r cawr corfforaethol yn dewis cau practisau a diswyddo staff yn hytrach na darparu cyflogau teg ac amodau gwaith gweddus.

Wrth i'r chwe chwmni mawr fynd ar drywydd elw yn ddiddiwedd, mae staff yn wynebu terfynau amser a thargedau llym. Dangosodd arolwg o 275 o staff milfeddygol a gynhaliwyd gan Undeb Milfeddygol Prydain yn undeb Unite ar gyfer yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y llynedd fod monitro a thargedau wedi cael effaith ar benderfyniadau bron i 40 y cant o nyrsys ac ychydig dros 17 y cant o filfeddygon. Esboniodd un milfeddyg ei fod yn teimlo dan bwysau i uwchwerthu i berchnogion anifeiliaid anwes, gyda'r cwmni'n mynnu gwybod pam nad oedd wedi gwerthu digon o'r triniaethau drutaf. Dywedodd ei fod yn teimlo nad yw eich gwerth yn ddim mwy na faint o incwm a gynhyrchwch. Dywedodd milfeddyg arall sy'n gweithio i'r gwasanaeth y tu allan i oriau wrth y BBC fod ei ganolfan alwadau yn trefnu apwyntiadau brys gyda hi'n rheolaidd ar gyfer anifeiliaid heb symptomau a oedd yn galw am sylw ar frys, gan gostio mwy na £300 i berchnogion yr anifeiliaid anwes hynny. 'Buaswn i'n dweud y gallai 30-50 y cant o achosion aros i gael eu gweld yn y bore', meddai. Ar yr un pryd, mae cymalau 'dim cystadlu' yn cael eu defnyddio i atal milfeddygon rhag gadael practis a feddiannwyd gan gorfforaeth fawr, gan eu gwahardd rhag gweithio i bractis arall am flwyddyn ar ôl gadael.

Mae'r sefyllfa'n amlwg yn anghynaladwy. Mae'n costio bywydau anifeiliaid anwes, mae'n drawmatig ac yn anfforddiadwy i berchnogion anifeiliaid anwes, ac mae wedi creu amgylchedd gwaith annerbyniol i filfeddygon a staff cymorth. Mae Ffrainc wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith yn erbyn perchnogaeth gorfforaethol ar glinigau, ac mae Iwerddon yn ystyried gwneud yr un peth. Rwy'n credu bod angen i'r DU weithredu nawr, cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Diolch.

18:05

Rwy'n datgan fy mod yn aelod cyswllt anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain sy'n cynrychioli tua 19,000 o filfeddygon unigol ledled y DU, ac sy'n gweithio ym mhob maes o'r proffesiwn, gan gynnwys practisau corfforaethol a phractisau annibynnol bach. Mae eich llythyr fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y mater hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn nodi bod Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn brif barti yn ymchwiliad marchnad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i wasanaethau milfeddygol ar gyfer anifeiliaid anwes yn y DU. Hefyd, fe wnaethant groesawu argymhellion yr awdurdod ynghylch mwy o wybodaeth am berchnogaeth practisau, rhestrau prisiau safonedig, amcangyfrifon ysgrifenedig a biliau wedi'u heitemeiddio. Fe wnaethant hefyd groesawu cefnogaeth yr awdurdod i ddiwygio Deddf Milfeddygon 1966 a'r angen i reoleiddio practisau, rhywbeth y maent wedi bod yn ymgyrchu drosto ers amser maith. Fodd bynnag, mae rhai o gynigion yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sy'n ymwneud â meddyginiaethau milfeddygol wedi achosi pryder oherwydd y perygl y gallent fod yn wrth-gystadleuol, yn annhebygol o leihau biliau milfeddygol i ddefnyddwyr, ac yn effeithio mwy, yn baradocsaidd, ar hyfywedd parhaus practisau bach.

18:10

Diolch i Carolyn am roi munud i mi yn y ddadl hon. A gaf i ddweud fy mod yn cytuno â phopeth rydych chi newydd ei ddweud? Mae strwythur y sector milfeddygol wedi newid dros y 50 mlynedd diwethaf. Mewn ardaloedd trefol, arferai fod nifer fawr o bractisau milfeddygol cymharol fach, gyda'r milfeddygon yn aml yn byw yn y gymuned leol ac yn darparu cyngor di-dâl i berchnogion anifeiliaid, gyda'r mwyafrif helaeth o'r anifeiliaid a gâi eu trin yn anifeiliaid domestig fel cŵn, cathod a chwningod. Roedd llawer ohonynt yn gwmnïau bach, gyda'r milfeddygon yn berchen ar y practis, bron fel cwmni cydweithredol. Yna dilynodd cyfres o uniadau, gan gynhyrchu practisau milfeddygol mwy o faint, gydag ychydig yn cyflogi milfeddygon a nifer uwch o filfeddygon cyflogedig. Dilynwyd hyn gan bractisau milfeddygol mwy o faint yn cael eu perchnogi gan gwmni mawr. Nid yw hyn yn gweithio i filfeddygon nac i berchnogion anifeiliaid anwes.

A gaf i ddiolch i Carolyn am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r llawr heno? Fel rhywun o'r gymuned amaethyddol—ac rwy'n datgan diddordeb—sy'n amlwg yn dibynnu ar y frawdoliaeth filfeddygol i ddarparu cynhyrchion iechyd anifeiliaid a gwasanaethau iechyd anifeiliaid i anifeiliaid mawr, mae gwahaniaeth llwyr rhwng y ddau— anifeiliaid mawr ac anifeiliaid anwes bach—ac yn y pen draw, yr ochr anifeiliaid anwes bach yw lle mae'r cyfalafwyr menter yn awyddus i fynd i mewn i'r farchnad. Ac mae'n frawychus clywed y dystiolaeth y mae Carolyn wedi'i rhoi ger ein bron, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, pan fydd y Gweinidog yn ymateb heno, ei fod yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn yn uniongyrchol.

Mae clywed bod ardal o Gymru fel Ynys Môn heb ddarpariaeth y tu allan i oriau o gwbl—. Mae anifeiliaid anwes yn rhan annatod o'r teulu i lawer o bobl, a rhaid bod cael eu gadael yn y sefyllfa fregus honno'n drychineb i lawer o bobl. Mae yna waith i'w wneud yma. Rwy'n deall bod pwysau amser ar y Senedd nawr, gyda'r etholiad ym mis Mai, ond yn sicr bydd fy mhwyllgor, sydd â chyfrifoldeb am iechyd anifeiliaid, yn gwneud popeth yn ei allu i edrych ar y mater hwn a cheisio llunio casgliadau tuag at ddiwedd y tymor nesaf.

A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 18:12:59
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi i gyd, a diolch i Carolyn am gyflwyno'r ddadl hon hefyd—dadl bwysig iawn. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sy'n atseinio'n ddwfn gyda pherchnogion anifeiliaid anwes, gweithwyr proffesiynol milfeddygol, ac, yn wir, bawb sy'n gofalu am iechyd a lles anifeiliaid yn ein cymunedau.

Dylwn innau hefyd ddatgan buddiant, fel y mae Mark wedi'i wneud, fel aelod anrhydeddus hirsefydlog o Gymdeithas Milfeddygon Prydain, a fy niolch hefyd i'r cyfranwyr eraill yn y ddadl hon hefyd, i Mike ac Andrew. Diolch i Carolyn am gyflwyno'r ddadl hon, ac yn eich sylwadau agoriadol, am godi pa mor bwysig i berchnogion anifeiliaid anwes yw mynediad at ofal milfeddygol lleol a fforddiadwy o safon uchel i'w hanifeiliaid anwes. Dyna'r peth pwysig am y ffocws sydd gennym ar y ddadl hon heddiw.

O'n safbwynt ni, fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod gan Gymru safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel, ac mae sector milfeddygol ffyniannus yn hanfodol i gyflawni'r nodau hynny, ac mae'r proffesiwn milfeddygol yn hollbwysig wrth ddarparu'r arbenigedd a'r bartneriaeth sydd eu hangen i ddiogelu iechyd anifeiliaid, cynnal lles a darparu safonau gofal uchel iawn ledled Cymru. Ond fel y nodoch chi, mae tirwedd practisau milfeddygol preifat wedi bod yn newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r duedd gynyddol i gydgrynhoi practisau milfeddygol gan gorfforaethau wedi codi cwestiynau allweddol iawn, a rhaid dweud, mae perchnogion anifeiliaid anwes eu hunain wedi lleisio'u pryderon y glir iawn yn uniongyrchol i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ac mae peth o hynny wedi'i adlewyrchu yn y sylwadau a wnaethoch chi am gostau cynyddol, prisiau aneglur, dewis cyfyngedig, diffyg dewis ac argaeledd lleol. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn, ac maent yn destun ystyriaeth nawr ar draws y proffesiwn milfeddygol a sefydliadau eraill ar hyn o bryd.

Nawr, fe ddilynais yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i wasanaethau milfeddygol ar gyfer anifeiliaid anwes a hefyd, ar wahân, ond yn gysylltiedig â'r mater hwn, yr alwad gan y proffesiwn milfeddygol i foderneiddio Deddf Milfeddygon 1966. Felly, mae cyhoeddi penderfyniad amodol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar 15 Hydref, fel y dywedoch chi, wedi nodi rhai argymhellion craidd, ac maent yn ddiddorol ac yn berthnasol. Maent yn cynnwys tryloywder prisio a chostau i sicrhau bod gennym brisio teg a bod gofal hanfodol yn parhau i fod yn fforddiadwy. Maent hefyd yn delio â mater tryloywder perchnogaeth i berchnogion anifeiliaid anwes wybod pwy sy'n berchen ar eu practis milfeddygol, a hefyd mesurau diogelu sy'n gwarchod uniondeb proffesiynol fel bod penderfyniadau clinigol yn seiliedig ar les anifeiliaid ac nid targedau elw.

Nawr, mae hwn yn faes cymhleth iawn, mae'n mynd i fod yn bwysig sicrhau bod argymhellion ar y ffordd ymlaen yn cael eu hystyried yn gytbwys a phriodol a'u heffeithiau'n cael eu deall yn iawn, oherwydd gallai'r argymhellion fod yn arwydd o ddechrau'r hyn a allai fod yn newid arwyddocaol. Felly, rhaid inni ystyried y gweithrediad posib yn ofalus, ac mae hyn hefyd, gyda llaw, yn bwysig iawn i'r practisau milfeddygol annibynnol llai a allai gael eu heffeithio hefyd, felly mae angen inni ystyried yn briodol sut yr awn ati i ddatblygu argymhellion.

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar benderfyniad amodol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ben ar 14 Tachwedd. Rydym yn disgwyl penderfyniad terfynol tua mis Mawrth 2026, ac rydym yn aros am y canlyniad terfynol gyda diddordeb mawr—byddwn yn ei astudio ac yn edrych ymlaen at weithredu'r argymhellion yn ôl yr angen. Ond yn y cyfamser, rwyf eisiau tynnu sylw hefyd at bwynt pwysig iawn ynglŷn â rheoleiddio. Mae rheoleiddio milfeddygon yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, felly mae'n golygu mai mater i Lywodraeth y DU yw bwrw ymlaen ag unrhyw ddiwygiadau i'r Ddeddf Milfeddygon.

Ond rwyf am roi diweddariad i'r Aelodau ar ble rydym ni arni gyda hyn. Yn natganiad y gyllideb, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys fwriad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ymgynghoriad ar ddiwygiadau posib i'r Ddeddf Milfeddygon. Nawr, yn unol â hynny, mae Gweinidogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig eisoes wedi ysgrifennu ataf ac at fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i geisio cytundeb gennym i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus dan arweiniad DEFRA ar ran pob un o'r pedair gweinyddiaeth yn y DU. Rwyf wedi ymateb i groesawu'r cyfle hwn, oherwydd rwy'n credu bod diwygio'r Ddeddf Milfeddygon yn amserol iawn, nid yn unig i ategu safonau uchel ym maes iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd, rhaid dweud, i gefnogi economi ffyniannus ac amrywiol, i chwalu rhwystrau i gyfleoedd ac i gydnabod cyfraniadau'r tîm milfeddygol cyfan.

Yn ei dro, gall hyn hefyd fynd i'r afael â materion cysylltiedig sydd wedi'u codi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Felly, mae ein hymgysylltiad parhaus fel Llywodraeth Cymru yn y broses ymgynghori hon yn allweddol fel y gallwn sicrhau bod y gwahanol anghenion, a safbwyntiau gwahanol yn cael eu hystyried yn llawn. Er enghraifft, mae'r pwynt a godwyd gan Andrew am gymunedau gwledig yn bwysig iawn. Gallai hyn fod yn ffordd o geisio mynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny.

Hefyd, mae darparu gwasanaeth dwyieithog yn bwysig iawn yma yng Nghymru. Andrew, rwy'n gwybod y byddwch chi'n deall hyn hefyd. Mae'r angen i filfeddygon gyfathrebu â phobl yn eu dewis iaith yn hynod bwysig, yn enwedig pan fo penderfyniadau sensitif ac anodd yn cael eu gwneud am eu hanifeiliaid anwes a'u hanifeiliaid.

Felly, rwyf wedi gofyn i'r adborth ar yr ymgynghoriad ar y cyd dan arweiniad DEFRA gael ei rannu â Llywodraeth Cymru mewn modd amserol iawn fel y gallwn ymgysylltu'n effeithiol. Bydd hyn wedyn yn galluogi ein timau i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol iawn trwy gamau nesaf y diwygiadau pwysig hyn. Felly, rwy'n edrych ymlaen nawr at barhau i weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill ar y maes pwysig hwn.

Ond Carolyn, rydych chi ac eraill wedi codi pwysigrwydd mynediad at ddewis lleol, fforddiadwy o fewn y ddarpariaeth hefyd. Mae'n fater allweddol, a chyda'r safonau lles anifeiliaid uchaf a safonau milfeddygol hefyd.

Felly, i gloi, mae ein hymrwymiad yn parhau'n gadarn i Gymru gael safonau enghreifftiol o ran iechyd a lles anifeiliaid, ac rwy'n cydnabod rôl hanfodol perchnogion a cheidwaid anifeiliaid ar y naill law, a milfeddygon a thimau ymarfer milfeddygol ar y llaw arall wrth chwarae eu rhan hanfodol o ddydd i ddydd i wneud hyn. Diolch yn fawr iawn, Carolyn, ac eraill hefyd.

18:15

Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.