Y Cyfarfod Llawn
Plenary
19/11/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni heddiw yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Cefin Campbell.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y rheol dreth 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau? OQ63434
Llywydd, diolch yn fawr. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar gynigion penodol i fireinio'r ffordd y mae'r meini prawf gosod yn cael eu cymhwyso wrth ddosbarthu llety gwyliau hunanarlwyo ar gyfer trethi lleol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 20 Tachwedd. Byddaf yn cadarnhau'r canlyniad ar ôl ystyried yr ymatebion.
Diolch yn fawr iawn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi a lletyau gwyliau yn allweddol er mwyn cadw'r cydbwysedd yna rhwng hybu'r economi wledig, yn arbennig, a sicrhau bod tai ar gael i bobl leol. Dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru gefnogi'r mesurau hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio a chefnogi'r egwyddor o'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llogi llety gwyliau. Er hynny, mae sawl etholwr wedi cysylltu â fi yn nodi'r heriau sydd ynghlwm â'r system, yn bennaf y diffyg hyblygrwydd ar gyfer eiddo llety gwyliau sydd yn anaddas i'w gwerthu ar y farchnad agored. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladau amaethyddol. Nawr, fe es i i weld lle fel hyn ychydig wythnosau yn ôl, yng ngorllewin sir Gaerfyrddin, lle roedd yr adeilad llety gwyliau yn rhan o glos y ffarm ac, felly, yn amhosibl iddo fe gael ei droi, am nifer o resymau, yn eiddo preifat. Felly, mae perchnogion adeiladau fel hyn yn cael eu dal mewn trap—yn methu gwerthu ac eto yn gorfod talu premiwm uchel. Felly, gan ystyried hyn, oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i ddatblygu fframwaith ar gyfer esemptiadau a fyddai'n diffinio pa fath o eiddo fyddai'n cael eu heithrio, a darparu polisi esemptiadau statudol i sicrhau bod yr eiddo yma'n cael eu trin yn deg?
Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol, Llywydd. Mae hyblygrwydd yn y system sydd gyda ni yn barod. Yn yr ymgynghoriad, rŷn ni'n gofyn cwestiynau am fwy o hyblygrwydd—hyblygrwydd i'r bobl sy'n rhoi llety i bobl i ddod at gyfanswm y 182 diwrnod nid dros un flwyddyn, ond dros ddwy neu dair blynedd. Mae nifer o bethau eraill rŷn ni wedi eu rhoi yn y ddogfen i bobl ddod nôl atom ni. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dwi'n aros, pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—mae e ar agor tan yr ugeinfed—i fynd ar ôl beth mae pobl wedi ei ddweud wrthym ni. Dwi wedi clywed nifer o weithiau pobl yn gofyn am esemptiadau ac, yn fy marn i, bydd hi'n bwysig i bobl wneud yr achos dros hynny mewn ffordd benodol. Mae'r 182 diwrnod yna am reswm, ac mae e yna ledled Cymru ac mewn ffordd sy'n dal i fod yna ym mhob agwedd o'r cynllun, achos dyna'r egwyddor roeddem ni'n cytuno arno o ran y cynllun o'r dechrau. So, wrth gwrs dwi'n barod i ystyried y pwynt y mae Cefin Campbell wedi'i wneud, a dwi'n edrych ymlaen at wneud hynny pan fydd yr ymgynghoriad yn cloi.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn teimlo bod gan feinciau Plaid Cymru wyneb braidd yn gresynu at y ddeddfwriaeth hon nawr, nid yn unig o ystyried mai nhw a'i hyrwyddodd, ond hefyd am mai nhw a hyrwyddodd y rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau. Rydym ni, dro ar ôl tro, wedi mynegi ein pryder ynghylch effaith y rheolau 182 diwrnod ar fusnesau teuluol ledled Cymru ar y ffermydd teuluol y cyfeiria Cefin Campbell atynt. Fe wnaethom fynegi ein pryder dwfn ynghylch yr hyn y byddai'n ei wneud i'n sector twristiaeth yma yng Nghymru, ac mae clywed meinciau Plaid Cymru yn gresynu yn dipyn o syndod a dweud y lleiaf. Ond mae'n iawn fod y pryder yn cael ei godi, gan ei fod yn cael effaith sylweddol ar fusnesau twristiaeth yma yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru’n ei gynnal ar hyn a gobeithio y byddwch o ddifrif ynghylch yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw.
Tybed hefyd a wnewch chi ymrwymo i adolygiad o effaith economaidd a chymdeithasol y rheol 182 diwrnod a rhoi sicrwydd y bydd busnesau sydd eisoes wedi'u heffeithio gan daliadau ôl-weithredol yn cael eu trin yn deg hefyd, gan fod gormod o daliadau ôl-weithredol, sy'n dyddio'n ôl nifer o flynyddoedd, yn cael effaith ar gynaliadwyedd y busnesau hynny. Diolch yn fawr.
Wel, Lywydd, ni chlywais Mr Campbell yn camu'n ôl ar egwyddor y 182 diwrnod. Roeddwn yn credu ei fod yn gofyn cwestiwn mwy manwl i mi ynglŷn â sut y mae'r egwyddor yn cael ei rhoi ar waith, ac fel y dywedais wrtho, rwy'n fwy na pharod i ystyried y pwyntiau hynny pan gânt eu gwneud yn yr ymgynghoriad. Mae'r 182 diwrnod yno am reswm, Lywydd—mae yno i sicrhau bod pobl sy'n gallu manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach yn rhedeg busnesau bach. Ac os na allwch ddangos eich bod yn gallu rhentu eiddo am hanner y flwyddyn yn unig, yna yn bersonol, credaf fod hynny'n arwydd ei bod yn anodd ichi ddangos eich bod yn gallu manteisio ar y cymhorthdal y mae'r cyhoedd yn ei ddarparu i chi fel busnes bach.
A bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cefndir i hyn: y cynnydd cyflym iawn yn nifer yr eiddo a ddosbarthwyd fel eiddo hunanddarpar. Fe wnaeth y nifer ddyblu bron iawn yn y cyfnod rhwng 2013 a 2019, a bu cynnydd o 60 y cant rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2023. Ni chredaf fy hun fod hwnnw'n dwf cynaliadwy i'r sector hwn. Roedd yn golygu bod gormod o ddarparwyr yn mynd ar ôl rhy ychydig o gwsmeriaid. A'r hyn rydym wedi'i wneud yw sicrhau bod y busnesau hynny sy'n gweithredu fel busnes yn gallu gwneud hynny gan fanteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach. Mae dros 60 y cant o eiddo yng Nghymru wedi dangos eu bod yn gallu gwneud hynny. Roedd hynny'n fwy nag y dywedodd y diwydiant wrthym y byddai'n gyraeddadwy. Roedd yn fwy nag y dywedodd yr asesiad effaith rheoleiddiol wrthym ei fod yn cael ei gyflawni, cyn y newid yn y trothwy. Felly, mewn gwirionedd, mae'r diwydiant wedi perfformio'n well na'r disgwyl.
Fel y dywedais yn yr ymarfer ymgynghori, rydym wedi bod o ddifrif ynghylch y pwyntiau a wnaed gan y diwydiant ei bod yn well mewn diwydiant tymhorol gallu dangos eich gallu i wneud hynny dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd yn hytrach nag ym mhob blwyddyn, ac rwy'n cydymdeimlo â hynny. Nid wyf yn siŵr a ddeallais y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r pwynt ôl-weithredol. Daeth y newid i rym ar 1 Ebrill 2023, felly mae'n llai na thair blynedd oed. Felly, nid wyf yn siŵr, ond rwy'n hapus, wrth gwrs, os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf, i drafod y pwynt hwnnw ymhellach, oherwydd efallai nad oeddwn wedi'i ddeall yn iawn pan ofynnodd i mi y prynhawn yma.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi'i chael ar gaffael yn Llywodraeth Cymru a gwasanaeth cyhoeddus Cymru? OQ63445
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, Lywydd. Bydd dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol y Ddeddf yn dod i rym ddechrau 2026. Mae'r dyletswyddau'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i sicrhau bod ein prosesau caffael yn cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned ehangach ac yn helpu i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer y dyfodol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet.
Mae gan y ddeddfwriaeth botensial sylweddol ac enfawr, fel y dywedwch, ar gyfer y ffordd rydym yn ymdrin â chaffael yng Nghymru, hyd yn oed os dywedaf hynny fy hun, ond mae'n ein symud oddi wrth y ffocws pennaf hwnnw ar arian yn unig i werth cymdeithasol ehangach a'r cyfle i gryfhau contractau a chadwyni cyflenwi hefyd. Mewn gwirionedd, bûm yn chwifio'r faner dros ein ffordd Gymreig o weithio yr wythnos hon yn Llundain yng Nghynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE mewn sesiwn ar fasnach, cadwyn gyflenwi a hawliau gweithwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi ynglŷn â photensial lledaenu'r neges am y ffordd Gymreig hon o weithio, ond hefyd, yn bwysicach fyth, y gwahaniaeth y gall ei wneud yn ymarferol i gael y gwerth hwnnw a phŵer pwrs y wlad i gyflawni'r gwahaniaeth hwnnw? A ydych chi hefyd yn cytuno bod digwyddiadau fel Procurex Cymru yn cynnig llwyfan gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf ac i hyrwyddo ein hymdrech i sicrhau partneriaeth gymdeithasol? Diolch.
Lywydd, hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn nid yn unig am y cwestiynau hynny, ond am y rhan a chwaraeodd yn sicrhau bod Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cael ei phasio yma yn y Senedd. Nid oes unrhyw un sy'n fwy cymwys i chwifio'r faner dros yr hyn a gyflawnwn yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn iddi am y gwaith y mae'n ei wneud.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o bwysig ar gyfer gweithredu nifer o agweddau arwyddocaol y Ddeddf honno. Mae ymgynghoriad newydd ddod i ben ar un set o reoliadau. Dyna'r rhai a fydd yn dod â dyletswyddau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol y Ddeddf i rym. Rydym yng nghanol ymgynghoriad ar ail set o reoliadau, sef y rheini sy'n ymdrin ag allanoli gwasanaethau cyhoeddus a chod y gweithlu, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Rhagfyr. Yn yr ychydig ddyddiau nesaf, byddwn yn lansio'r ymgynghoriad ar gymalau gwaith cyhoeddus y Ddeddf. Rwy'n benderfynol iawn, Lywydd, y bydd y Llywodraeth, cyn diwedd tymor y Senedd hon, yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod yr ymgynghoriadau hynny'n cael eu cwblhau a bod y rheoliadau'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd fel y gellir gwneud penderfyniadau yn eu cylch.
Cyfeiriodd yr Aelod at gynhadledd Procurex, sef y gynhadledd flynyddol sy'n dod ynghyd â phobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sy'n eu caffael. Roedd dros 1,000 o bobl yno yng Nghaerdydd, ac fe ganiataodd inni roi sylw i nifer o faterion pwysig iawn o ran caffael cyhoeddus, yn deillio o'r Ddeddf ei hun a phethau eraill sy'n bwysig yn y cyd-destun presennol. Cafwyd sesiwn ar werth cymdeithasol, lle gwnaethom ganolbwyntio ar y bwndeli babanod. Mae'n dda gweld Julie Morgan yma, a wnaeth gymaint i wireddu hynny, sy'n enghraifft dda iawn o'r ffordd rydym wedi gallu defnyddio cyflenwr o Gymru gyda chenadaethau cymdeithasol penodol iawn i'n helpu i wireddu'r datblygiad pwysig hwnnw. Cafwyd sesiynau ar y cyd-destun gwleidyddol byd-eang, o ystyried cyd-destun anodd masnach a chaffael, a hefyd ar gyfrifon banc prosiectau, sydd unwaith eto'n deillio o'r Ddeddf. Felly, ar y gwaith y mae'r Aelod yn ei wneud i dynnu sylw at ddatblygiadau yma yng Nghymru yn ehangach, mae llawer iawn yn mynd rhagddo y mae angen i ni ei ddathlu a sicrhau ein bod yn ei hysbysebu i weddill y byd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Dwi'n gwybod y gwnaethom ni gael dadl ddoe ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, ond rydw i'n moyn pigo lan ar bwynt dwi ddim yn credu y gwnaethoch chi ymateb iddo yn y ddadl. Roedd hwn o ran y sector cyhoeddus a'r sector preifat, a'r ffaith bod llawer o waith y comisiynydd i wneud â'r sector cyhoeddus. Roeddwn i'n moyn pigo lan pwynt o ran peidio â chael dau drac, os ydych chi'n moyn, lle rydyn ni'n gweld y sector cyhoeddus yn datblygu'r iaith Gymraeg ac yn meddwl ei fod yn rhywbeth pwysig, a'r sector preifat, efallai, ddim yn yr un ffordd. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r comisiynydd i sicrhau bod y sector preifat yn prynu i mewn i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, Llywydd. Fel roedd Tom Giffard yn dweud, o ran y pwerau sydd gyda'r comisiynydd, mae'r pwerau gyda hi i reoleiddio sectorau sy'n dod o dan do y safonau. Ar y cyfan—nid yn unig, ond ar y cyfan—gwasanaethau cyhoeddus sy'n dod o dan y safonau. Rydyn ni wedi ymestyn y safonau yn ystod y tymor hwn, ac mae mwy i'w wneud. Bydd pethau'n dod o flaen y Senedd cyn diwedd y tymor i ddelio gydag asiantaethau tai. Rydyn ni eisiau gwneud mwy yn y maes hwnnw.
Gyda chwmnïau preifat, mae'r comisiynydd wedi canolbwyntio ar y pethau y mae hi'n gallu gwneud i helpu'r sector, i roi fwy o wybodaeth iddyn nhw, i ddangos y pethau maen nhw'n gallu gwneud. Ar hyn o bryd, rydyn ni yn dibynnu ar bwerau fel hynny.
Dwi jest eisiau dweud, pan fydd rhai sectorau preifat ddim yn gwneud pethau sy'n rhesymol, ac rydyn ni wedi gweld un neu ddau o enghreifftiau ym maes banciau, er enghraifft, lle maen nhw wedi tynnu nôl y gwasanaethau roedden nhw yn eu rhoi i bobl yng Nghymru, mae hwnna yn cryfhau dwylo'r bobl sydd eisiau ein gweld ni'n cymryd mwy o bwerau i orfodi'r sector preifat. Nawr, ar hyn o bryd, dŷn ni ddim wedi ei wneud e ar y cyfan fel yna, ac mae lot fawr o gwmnïau sy'n gwneud lot fawr ym maes y Gymraeg heb fod pwerau gan y comisiynydd. Ond os oes mwy o dystiolaeth mas yna lle dyw cwmnïau preifat ddim yn gwneud pethau yn y ffordd iawn, wel, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni fel Llywodraeth, a'r comisiynydd hefyd, feddwl os oes digon o bwerau gyda hi.
Diolch yn fawr am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet, a dwi'n cytuno ei bod hi'n bwysig bod y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn prynu i mewn i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Mae'n rhywbeth da i'r cwmnïau hefyd, dyw hi ddim yn rhyw fath o burden, dyna yw'r gair.
Rwy'n moyn symud ymlaen at rywbeth arall o ran prynu i mewn i'r iaith Gymraeg, sef y niferoedd o fyfyrwyr sydd yn gwneud lefel A Cymraeg yn ein hysgolion ni a'n colegau ni ar draws Cymru. Nôl yn 2008-09, gwnaethon ni weld tua 300 o fyfyrwyr pob blwyddyn yn astudio'r iaith Gymraeg a thua 500 yn gwneud yr iaith Gymraeg fel ail iaith. Flwyddyn diwethaf, roedden ni'n gweld 200 yn gwneud lefel A iaith Gymraeg a thua 100 yn gwneud yr iaith Gymraeg fel ail iaith. Mae hwnna yn drop eithaf enfawr. Felly, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o hynny a pha fesurau mae'r Llywodraeth eisiau eu gwneud i sicrhau ein bod ni'n adeiladu hynny a ddim yn gweld y drop-off hyn dŷn ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf?
Dwi'n gwybod bod y swyddogion sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, ond hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi bod yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i feddwl am sut gallwn ni ddiwygio'r lefel A, achos dyna'r broblem, dwi'n meddwl. Dyw pobl ifanc ddim yn meddwl ar hyn o bryd bod y pethau maen nhw'n astudio a'r sgiliau maen nhw'n eu datblygu wrth wneud lefel A yn ddigon perthnasol i'r bywyd maen nhw eisiau ei gael ar ôl addysg. So, y ffordd orau, dwi'n meddwl, yw jest gwneud y gwaith i ailwampio'r sylabws a beth rydym ni'n ei ofyn gan bobl ifanc pan fyddan nhw'n astudio'r Gymraeg ar y lefel uwch yna. Trwy wneud hynny, byddwn ni'n gallu gwneud mwy i ddangos i bobl ifanc, fel mae'r Ddeddf yn treial ei wneud, ei bod hi'n bwrpasol i astudio'r iaith Gymraeg yma yng Nghymru, nid jest am fod y pwnc yn ddiddorol a bod lot o bethau i'w mwynhau trwy ei wneud e, ond am ei fod yn mynd i roi rhywbeth gwerth chweil i chi yn eich bywyd economaidd hefyd. Bydd sgiliau a phethau gyda chi ar ôl astudio ar y lefel yna y byddwch chi'n gallu eu dangos i gyflogwyr a dweud, 'Dyna'r sgiliau gallaf i eu defnyddio os dwi'n mynd i weithio yn y maes'—wel, pa bynnag faes maen nhw eisiau.
Diolch. Gwnaethon ni gwrdd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol tua dwy wythnos yn ôl, ac un o'r problemau wnaethon nhw eu huwcholeuo i ni oedd y critical mass yma mae ysgolion a cholegau yn ei weld, lle does dim digon, yn eu barn nhw, o bobl yn moyn gwneud yr iaith Gymraeg fel ail iaith neu lefel A iaith gyntaf ac felly dyw'r cwrs ddim yn mynd ymlaen o gwbl. Mae hwnna'n meddwl, y flwyddyn nesaf, dyw e ddim yn digwydd ac yn y blaen. Mae hwnna'n llawer o'r rheswm mae hyn yn digwydd. Mae cwestiwn ariannol o ran hynny, a dwi'n gwybod bod rôl yma i Medr hefyd i sicrhau bod y cyrsiau hyn yn mynd ymlaen. Felly, ydych chi'n meddwl am roi blaenoriaeth strategol i Medr i amddiffyn Cymraeg ar bob lefel, fel bod hwnna ddim yn meddwl yn y dyfodol bod y cyrsiau ddim yn mynd ymlaen yn y lle cyntaf oherwydd bod dim digon o fyfyrwyr yn moyn eu gwneud nhw?
Rwy'n deall y pwynt yma, a phwynt pwysig yw e, Llywydd. Cyfrifoldeb Medr yw e i weithio gyda'r maes i hybu'r iaith Gymraeg, ac mae'r coleg cenedlaethol yn ymgynghori â Medr ac maen nhw'n gwneud hwnna ar lefel statudol. So, dwi eisiau cadw llygad ar sut mae Medr yn mynd ati, ac ar hyn o bryd, o bopeth dwi wedi'i weld, mae Medr yn frwdfrydig i wneud popeth maen nhw'n gallu i helpu hybu cyrsiau i bobl sydd eisiau astudio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dwi yn meddwl bod datblygiadau yn y maes technoleg yn ein helpu ni fan hyn. Os nad oes digon o fyfyrwyr sydd eisiau astudio mewn un ysgol, rŷn ni'n gallu gwneud pethau nawr mewn ffyrdd lot mwy hyblyg nag yr oeddem ni, gyda rhai o'r datblygiadau rŷn ni'n eithaf cyfarwydd â nhw yma yn y Senedd—mae ffyrdd newydd i gael pobl at ei gilydd. So, dwi eisiau gweld Medr nid jest yn gweithio'n galed, ond yn gweithio mewn ffyrdd sy'n arloesol hefyd, i dreial gwneud popeth y gallwn ni i helpu pobl sydd eisiau astudio lefel uwch yn y Gymraeg, ac i wneud mwy, fel y dywedais i mewn ymateb i gwestiwn cyntaf Tom Giffard, mewn ffordd sy'n dangos i bobl ifanc y pwysigrwydd a'r defnydd maen nhw'n gallu cael mas o astudio fel yna.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Os caf i ddechrau efo'r pwynt olaf yna a jest ategu cefnogaeth Plaid Cymru ein bod ni'n edrych yn drawsbleidiol i drio canfod datrysiadau ar hyn. Dwi'n gwybod o un ysgol yn fy rhanbarth i'n unig lle'r oedd yna 12 o bobl ifanc eisiau astudio'r Gymraeg fel ail iaith ac wedi cael 'na' gan yr ysgol. Deuddeg o bobl. Faint o bobl ifanc ydy hynny ledled Cymru? Felly, os cawn ni edrych yn drawsbleidiol, dwi'n meddwl bod yn rhaid mynd i'r afael efo hyn.
Ond, os caf i droi, tua’r un pryd ag y derbyniodd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 Gydsyniad Brenhinol, mi gyhoeddwyd bod yna tua 7,000 o blant yng Nghymru bellach yn derbyn addysg yn y cartref yn ddewisol, sef y ffigwr uchaf erioed. Gyda'r Bil efo'r nod o sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd o leiaf lefel B2 o ran sgiliau llafar Cymraeg, pa gamau sy’n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn cael mynediad at y Gymraeg fel rhan o’r targed miliwn o siaradwyr Cymraeg?
Wel, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y pwynt yna. Mae lot o waith yn mynd ymlaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i feddwl yn ehangach am sut y gallwn ni wneud mwy i fod yn siŵr y bydd pobl ifanc sy'n cael eu haddysg gartref yn cael cyfleon i wneud pethau a chael profiadau y mae pobl ifanc sydd yn ein hysgolion yn eu cael. Dwi ddim wedi cael y cyfle eto i siarad yn benodol â hi am sut gallwn ni wneud mwy am yr iaith Gymraeg, ond dwi'n hollol hapus i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb cadarnhaol hwnnw. Yn sicr, un o'r pethau sydd wedi dod drosodd yn gryf iawn drwy waith achos a rhieni'n cysylltu yw bod hwn yn arbennig o bwysig ar oedran TGAU, sef yr oedran pan mae mwy o ddysgwyr yn debygol o fod yn cael addysg gartref. Un o'r pethau sydd wedi cael ei nodi efo fi, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi, drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, rhai sydd yn 16 oed neu'n hŷn i gael gwersi Cymraeg. A oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod efo'r ganolfan ei hun er mwyn gweld sut y byddem ni'n gallu sicrhau mynediad i rai iau nag 16?
Wel, beth rŷn ni wedi'i wneud, Llywydd, yw trio bod yn glir gyda'r awdurdodau lleol, ac mae hynny'n bwysig i'r Athrofa hefyd, i roi cynnig rhagweithiol i'r rhieni sy'n rhoi addysg gartref, iddyn nhw gael y wybodaeth glir gan yr asiantaethau am yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.
Rydym am sicrhau bod rhieni sy'n addysgu eu plant gartref yn cael gwybod am yr adnoddau sydd ar gael, sydd yr un mor hygyrch i'r bobl ifanc hynny hefyd. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod awdurdodau lleol yn bwrw iddi i estyn allan at y teuluoedd hynny ac yn mynd ati'n weithredol i'w gwahodd i wneud defnydd o'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Ac fel y dywedais, credaf y gallai'r un dull fod yn berthnasol i'r rhai sy'n gyfrifol am y cyrsiau llwyddiannus iawn a gynhelir yng Nghymru, i sicrhau bod pobl y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol hefyd yn gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt i barhau i ddysgu'r iaith neu i ddatblygu dysgu'r iaith.
Diolch am yr ateb hwnnw. Os caf i, tra eich bod chi'n cael y trafodaethau yna gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y funud, dim ond nodi un lle arall lle y gallem ni fod yn cefnogi rhieni a dysgwyr o'r fath. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, o ran anghenion dysgu ychwanegol, fod pob awdurdod lleol yng Nghymru ddim ar y funud yn gallu cefnogi dysgwyr yn y modd yna, a bod nifer yn gorfod addysgu gartref oherwydd bod y gefnogaeth ddim ar gael yn benodol o ran y Gymraeg. Mae'n amrywio'n arw mewn gwahanol awdurdodau lleol, a ydy'r plant a'r rhieni hynny yn cadw mynediad at Hwb ac felly'r holl adnoddau gwerthfawr hynny. Yn amlwg, yn Saesneg mae gennych chi lu o ffyrdd gwahanol o gael mynediad at y math o gefnogaeth sydd ar Hwb, ond ar Hwb mae nifer o'r adnoddau yn Gymraeg sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol. Felly, a gaf i ofyn, fel rhan o'ch trafodaethau chi, a fedrwn ni edrych ar sut rydyn ni'n sicrhau cysondeb o ran mynediad at Hwb, fel bod pawb yn gallu cael mynediad, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref, oherwydd rydyn ni eisiau gweld y Gymraeg yn perthyn i bawb? Mae'r adnoddau yna; onid ydy hi'n rheidrwydd ein bod ni, felly, yn galluogi pawb i gael mynediad atyn nhw?
Wel, wrth gwrs, Llywydd, dwi'n barod i godi'r pwyntiau yna pan dwi'n cael y cyfle i ystyried pethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'n rhan o beth roeddwn i'n treial ei ddweud yn fy ymateb i'r ail gwestiwn gan Heledd Fychan: mae lot o'r adnoddau ar gael yna, ac mae'r bobl sy'n cael eu haddysg gartref, mae hawl iddyn nhw ddefnyddio'r adnoddau yna, jest fel y bobl ifanc sydd yn ein hysgolion ni. Mae Hwb yn rhywbeth pwysig yng nghyd-destun addysg yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi buddsoddi, fel roedd Heledd Fychan yn ei ddweud, lot o arian i greu adnoddau, ac adnoddau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dwi eisiau gweld a allwn ni wneud mwy i fod yn glir gyda'r rhieni sy'n rhoi addysg gartref fod hynny ar gael iddyn nhw hefyd.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r system ardrethu annomestig? OQ63440
Rwy'n diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, Lywydd. Rydym yn parhau ar y trywydd iawn i gyflawni'r diwygiadau a gyhoeddwyd ar gyfer tymor y Senedd hon, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau sy'n cyflawni eu rhwymedigaethau. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn gwneud gwelliannau sylweddol, gan gynnwys ailbrisio'n amlach, fframwaith newydd i fynd i'r afael ag osgoi trethi a'r pŵer i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fydd yn syndod i chi fod busnesau'r stryd fawr yn parhau i'w chael hi'n anodd. Mae rhenti, ardrethi a phrisiau nwyddau a gwasanaethau wedi parhau i godi, ac mae busnesau sy'n trosglwyddo'r costau cynyddol hyn i'w cwsmeriaid yn colli busnes. Ni all manwerthwyr bach, annibynnol a busnesau lletygarwch gystadlu â chwmnïau cadwyn rhyngwladol. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithredu system ardrethi busnes sy'n seiliedig ar drosiant busnesau, yn hytrach na maint eu safleoedd a'r rhent y maent yn ei dalu?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt diddorol, Lywydd. Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Senedd hon wedi'u cynllunio i wneud i'r system sydd gennym ar hyn o bryd weithio'n fwy effeithiol. Mae eisoes yn gweithio'n effeithiol iawn i'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae'r cynllun yn darparu rhyddhad i oddeutu 70,000 eiddo, ac nid yw dros 50,000 o'r rheini'n talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.
Roeddwn yn ddiolchgar yr wythnos diwethaf, Lywydd, fod y Senedd wedi pasio'r rheoliadau a fydd yn caniatáu inni gyflwyno lluosydd gwahaniaethol y flwyddyn nesaf. Bydd yr Aelod yn gwybod mai ein cynllun yw cyflwyno lluosydd is ar gyfer siopau'r stryd fawr—y rhai sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai. Ddoe, fe gyfarfûm â nifer fawr o gynrychiolwyr y sector manwerthu, ac yn gyffredinol roeddent yn croesawu hynny. Dylai arwain at filiau is i siopau ar y stryd fawr y gwyddom eu bod yn asgwrn cefn i lawer o'n trefi ledled Cymru.
Mae Altaf Hussain yn awgrymu diwygio'r system yn fwy sylfaenol. Er nad oes gennyf farn ar y diwygiad penodol y mae wedi'i awgrymu'r prynhawn yma, rwy'n cytuno ag ef y byddai diwygiad mwy sylfaenol i ryddhad ardrethi busnes yn faes gwerth chweil i'w ymchwilio yn nhymor y Senedd nesaf. Dywedais eiliad yn ôl nad yw 50,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Maent yn cael rhyddhad ardrethi busnes pa un a oes ei angen arnynt ai peidio. Mae'n system gwbl anwahaniaethol. Ac mae dadl gref, yr ymchwiliwyd iddi yn yr Alban heb fod mor bell yn ôl â hynny, dros ddiwygio'r system mewn ffordd sy'n rhoi mwy o gymorth i'r busnesau hynny yn eu camau cynnar, pan fyddant yn dechrau, pan fydd ganddynt gostau sydd, dros amser, yn dod yn rhan o'u busnes, a diddymu rhyddhad i fusnesau sydd wedi hen sefydlu a lle na ddylai cymhorthdal parhaol gan y cyhoedd fod yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w gallu i barhau i fod yn fusnesau ai peidio.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli'r gronfa ardoll agregau i Gymru? OQ63425
Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal trafodaethau ynglŷn â'r ardoll agregau, yn enwedig yng nghyd-destun ei datganoli i'r Alban. Mae hyn yn creu cyd-destun newydd i ystyried y peirianwaith y byddai ei angen ar gyfer datganoli'r ardoll i Gymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar arweiniais ddadl yn y Senedd yn galw am barth clustogi 1,000m oherwydd yr effaith sylweddol y mae chwareli yn ei chael ar gymunedau lleol, gan effeithio ar iechyd pobl a difrodi eiddo. Roedd y gronfa ardoll agregau yn fecanwaith pwysig i gymunedau yr effeithir arnynt gael buddion iawndal o chwarela—ar gyfer cyfleusterau cymunedol fel ardaloedd chwarae a neuaddau pentref. Mae lorïau chwarel wedi mynd yn llawer mwy o faint dros y blynyddoedd diwethaf. Mae eu heffaith yn fwy hefyd, gan greu sŵn ofnadwy pan fyddant yn mynd heibio mewn confois. Maent yn achosi dirgryniad ofnadwy i eiddo pobl. Yn y llythyr a anfonoch chi ataf y llynedd, roeddech chi'n dweud eich bod yn edrych ymlaen at sgyrsiau pellach gyda Llywodraeth y DU am y posibilrwydd o ddatganoli'r ardoll. Cefais yr ymateb gennych yn gynharach, ond roeddwn i'n meddwl tybed pa gynnydd arall sydd wedi'i wneud yn y trafodaethau hynny. Hoffem weld datganoli'r ardoll yma yn y dyfodol agos. A ydych chi'n disgwyl i hynny ddigwydd?
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiynau hynny ac am ei dyfalbarhad yn dadlau dros ddatganoli'r ardoll yma yng Nghymru? Rwy'n credu bod tri phwynt yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i gwestiynau pellach yr Aelod.
Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ein hymlyniad i'r egwyddor y dylai'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan weithgarwch penodol gael rhyw fath o iawndal am yr aflonyddwch y maent yn ei wynebu. Mewn perthynas â'r dreth dirlenwi sydd gennym yma yng Nghymru, o'r cychwyn cyntaf, o'r adeg y gwnaethom sefydlu treth gwarediadau tirlenwi, fe wnaethom gynnwys sefydlu cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi. Ei ddiben oedd cydnabod bod pobl sy'n byw drws nesaf i safleoedd gwarediadau tirlenwi hefyd yn profi'r un math o anfanteision â'r rhai a nododd Carolyn Thomas mewn perthynas â chwareli.
Mae'r gronfa honno'n dal i fodoli. Mae yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae wedi cefnogi dros 300 o gymunedau ers ei sefydlu, gan gynnwys cymunedau yn rhanbarth yr Aelod ei hun. Bu defnydd diweddar o'r gronfa i greu gardd gymunedol yn yr Wyddgrug, ac ym Menter Môn, ar Ynys Môn ac yng ngogledd Gwynedd, mae'r gronfa yn helpu i ddiogelu llygod y dŵr, y mamal y mae ei niferoedd yn lleihau gyflymaf yn y DU. Felly rwy'n credu bod gennym dystiolaeth dda iawn yng Nghymru o wneud yn union yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu.
Er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni dynnu'r pŵer i lawr gan Lywodraeth y DU. Nid oes gennym y pŵer sydd gan Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban. Cefais sgyrsiau calonogol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fis diwethaf am ein cais i dynnu pwerau i lawr i greu treth ar dir gwag yma yng Nghymru. Dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio'r peirianwaith hwnnw. Rwyf i fod i drafod hynny gydag Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos nesaf. Os ydym yn llwyddo i wneud hynny, byddwn wedi defnyddio'r peirianwaith y gallwn ei ddefnyddio wedyn i geisio mynd ar drywydd datganoli'r ardoll agregau yma yng Nghymru.
Ni allaf addo i'r Aelod ei bod yn broses gyflym. Mae chwe blynedd ers i mi ysgrifennu gyntaf at y Trysorlys i ofyn am bwerau i greu treth ar dir gwag yma yng Nghymru. Ond pan fyddwn wedi cwblhau'r daith honno unwaith, dylai fod yn haws gwneud hynny yn y dyfodol. Mae gennyf y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yn gadarn yn fy meddwl pan fyddaf yn cynnal y trafodaethau hynny.
Roedd y gronfa ardoll agregau yn ffordd wych o wrthbwyso effaith amgylcheddol gweithgaredd echdynnu chwareli yng Nghymru drwy ddefnyddio refeniw a gynhyrchir o'r ardoll i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol. Daeth Llywodraeth Cymru â'r gronfa honno i ben yn ôl yn 2017, a beirniadwyd hynny gan y Gymdeithas Cynhyrchion Mwynau, a ddywedodd:
'Gan fod y sector mwynau yn un o'r diwydiannau trwm olaf sydd ar ôl yng Nghymru, mae diwedd y Gronfa yn dileu mecanwaith cadarnhaol a adeiladai ddeialog a gweithio ar y cyd rhwng diwydiant a phobl leol'.
Yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd efallai y byddwn yn gweld estyniad chwarel Dinbych, yn dibynnu ar ganlyniad yr apêl gynllunio, ac rwyf wedi gwneud fy ngwrthwynebiad i'r estyniad hwnnw'n glir iawn. Ond os ydym am weld mwy o echdynnu mwynau ac agregau yng Nghymru, yn enwedig yn agos at eiddo preswyl, mae angen mwy o gydweithio â phobl leol, a rhaid sefydlu cronfa debyg i wrthbwyso'r effaith amgylcheddol a chymunedol.
Ond ni fuaswn yn hoffi gweld ailymddangosiad ardoll debyg yn arwain at chwareli'n ymddangos ledled Cymru er mwyn eu defnyddio fel coeden arian i Lywodraeth Cymru. Felly a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod refeniw a gynhyrchir o'r diwydiant agregau yn cael ei roi'n ôl i mewn i gymunedau lleol ac na fydd unrhyw gronfa ardoll bosib yn arwain at ehangu chwareli ymhellach er mwyn cael mwy o arian i goffrau'r Llywodraeth?
Nid oes cynlluniau o'r fath oherwydd nad oes pwerau o'r fath. Fel yr esboniais yn fy ateb i Carolyn Thomas, byddai angen i ni dynnu pwerau i lawr o Whitehall er mwyn creu cronfa ardoll agregau yma yng Nghymru. Rwy'n nodi'r pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â diwedd y trefniant blaenorol yn 2017. Heb os, bydd wedi nodi bod hynny union hanner ffordd drwy'r cyfnod 14 mlynedd o gyni. Os yw eisiau esboniad pam nad oedd yn bosib parhau gyda'r holl bethau y byddem wedi bod eisiau eu gwneud, dyna'r esboniad iddo'n hawdd.
5. Pa gynigion ar gyfer diwygio Fformiwla Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i Lywodraeth y DU yn y cyfarfod ar y mater ym mis Chwefror 2026? OQ63435
Diolch yn fawr i Adam Price. Nid mater dwy ochr rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw diwygio fformiwla Barnett. Dim ond trwy drafodaeth a chytundeb rhwng y pedair gwlad y gellir mynd ati. Y fforwm ar gyfer gwneud hynny, felly, yw'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid. Bydd papur ar ddiwygio Barnett yn cael ei gyflwyno i'w gyfarfod nesaf, sydd i fod i gael ei gynnal yn Belfast ym mis Chwefror.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad fframwaith cyllidol newydd Prifysgol Caerdydd yn gwneud pum argymhelliad ar gyfer diwygio Barnett a'r fframwaith ariannol ehangach: amcangyfrif wedi'i ddiweddaru o angen cyllidol cymharol Cymru; datganoli cyfraddau treth incwm, trothwyon a threth ar gynilion a difidendau yn llawn; uwchraddio neu ddiddymu'r terfynau ar gronfa wrth gefn Cymru; codi'r rheol mai dim ond ar gyfer gwallau rhagolygon treth y mae benthyca adnoddau, fel y gall gefnogi gwariant o ddydd i ddydd wedi'i gynllunio; a chodi a chysylltu'r cap benthyca cyfalaf â chyfran o'r gyllideb adnoddau, er enghraifft terfyn o £3.3 biliwn pe bai gwasanaeth dyled yn cael ei gapio ar 1 y cant. Pa un o'r argymhellion hyn y mae'r Llywodraeth yn cytuno â nhw yn gyffredinol, ac a fyddant yn rhan o'r trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd?
Diolch i Adam Price am hynny. Roedd yn adroddiad diddorol iawn. Wrth gwrs, rwy'n gweld bod yr awduron yn dod i'r casgliad fod—. Ymhell o gymryd lle Barnett, eu casgliad yw gorau po fwyaf o Barnett a geir, sydd, yn fy marn i, yn taflu goleuni go wahanol ar rai o'r sgyrsiau a gawsom yma ar lawr y Senedd. Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw y dylem gael fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion sy'n adlewyrchu anghenion pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn lle fformiwla Barnett. Ond mae hynny'n anodd iawn i'w wneud pan fydd cenhedloedd eraill yn y Deyrnas Unedig yn gwneud yn eithaf da allan o Barnett. Ond mae'r adroddiad yn awgrymu bod Cymru wedi gwneud yn dda o Barnett hefyd o ran cyfrifoldebau datganoledig, ond nid mor dda o ran cyfrifoldebau nad ydynt wedi'u datganoli, sy'n egluro'r slogan fod 'mwy o Barnett yn well' y mae'r adroddiad yn ei ddefnyddio.
Ymhlith y pum pwynt y mae'r adroddiad yn eu gwneud, mae rhai o'r rheini eisoes yn bolisi'r Llywodraeth ac yn rhan o'r sgwrs y byddwn yn ei chael yn Belfast yn y flwyddyn newydd, sef uwchraddio'r trefniadau presennol o fewn y fframwaith cyllidol fel eu bod yn cyd-fynd â chostau heddiw, yn hytrach na rhai 2016. Mae eraill, rwy'n credu, yn fwy o fater ar gyfer dadl barhaus. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y pumed argymhelliad, yr un olaf, sef yn hytrach na bod terfyn benthyca cyfalaf yr ydym yn ei gytuno ac sydd wedyn yn cael ei uwchraddio gyda chwyddiant, eich bod chi'n ei glymu yn lle hynny wrth y gallu i dalu'r ddyled y byddech chi'n anochel yn mynd iddi ar 1 y cant o'r refeniw. Byddai hynny, fel y dywedodd yr Aelod, yn rhoi capasiti benthyca cyfalaf i ni yng Nghymru o dros £3 biliwn, sef y terfyn, drwy gyd-ddigwyddiad, sydd eisoes ar gael i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac yn wahanol iawn i'r terfyn o £1 biliwn yr ydym yn gweithredu o'i fewn ar hyn o bryd.
Un o'r cynigion eraill yw datganoli treth incwm yn llawn. Roedd gennyf ddiddordeb mawr—rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mawr hefyd—mewn dilyn peth o'r ddadl yn yr Alban a ddigwyddodd pan oedd hi'n ymddangos bod y Canghellor ar fin codi treth incwm 2c yn y £1 yn y gyllideb a welwn yr wythnos nesaf. Byddai hynny wedi creu cwestiynau anodd iawn i Lywodraeth yr Alban, a chafodd lawer o sylw yn y wasg Albanaidd. Felly, ar ddatganoli treth incwm yn llawn, mae'r adroddiad yn gwneud achos drosto. Mae yna rai anawsterau posib yn ei gylch hefyd, fodd bynnag, a fyddai'n haeddu trafodaeth gyhoeddus briodol bellach.
Rydym wedi gweld Llywodraeth Lafur ar y naill ochr a'r llall i'r M4 nawr am y 18 mis diwethaf, ac nid wyf i'n argyhoeddedig eto fod y Llywodraeth Lafur newydd hon yn deall beth sydd ei angen ar Gymru. Er ein bod wedi gweld arian ychwanegol yn y gyllideb ddiwethaf, arian a groesawyd, bydd llawer nawr yn gofyn am ba gost, a byddwn yn gweld mwy o hynny, rwy'n credu, yr wythnos nesaf yn y gyllideb.
Fodd bynnag, rwy'n gwybod eich bod chi a minnau'n cytuno bod angen diwygio fformiwla Barnett. Rwy'n gobeithio y byddai eich cymheiriaid yn San Steffan yn cytuno a bod Ysgrifennydd Cymru a Keir Starmer yn deall yr heriau unigryw y mae Cymru yn eu hwynebu, fel y gellir gwneud diwygiadau i'r fframwaith cyllidol, fel y gwnaethoch chi yn 2016, a oedd i'w groesawu'n fawr.
A oes cyfle i ychwanegu elfennau eraill yn seiliedig ar angen at y fformiwla, fel y gwnaethoch chi bryd hynny? A ydych chi'n argyhoeddedig fod eich cymheiriaid ar ben arall y draffordd yn deall yr achos dros y newid hwn? Er fy mod yn clywed yr hyn a ddywedwch am ddiwygio fformiwla Barnett yn ehangach, a oes cyfle i ni wneud addasiadau i'r fframwaith cyllidol o safbwynt Cymru, gan gydnabod yr holl heriau sy'n ein hwynebu, a gwneud yr elfen honno cyn y drafodaeth ehangach ynglŷn â Barnett?
Dyna'n union yw'r trywydd yr hoffwn ei ddilyn. Rwyf am berswadio ein cymheiriaid yn Llundain i wneud y pethau cymedrol yn gyntaf, uwchraddio'r ffigurau yn y fframwaith cyllidol yn unol â chwyddiant fel bod eu gwerth gwirioneddol yn 2026 yr un fath â'r hyn ydoedd yn 2016, a gwelliannau ehangach wedyn i Barnett i'w trafod fel ail gam. Felly, yn sicr, y strategaeth y mae'r Aelod yn ei hamlinellu yw'r strategaeth y credaf y byddai'n ein diogelu orau yma yng Nghymru. Ac fel erioed, yn y ffordd yr oeddwn yn ceisio awgrymu yn fy ateb i Adam Price, mae angen i chi bob amser fod yn effro i'r risgiau mewn ffyrdd o weithredu yn ogystal â'r gwobrau. Arweiniodd adolygiad ar raddfa lawn o'r fframwaith cyllidol, fel sydd eisoes wedi'i gynnal yn yr Alban, at newidiadau i'r fframwaith cyllidol nad oeddent o fantais i Lywodraeth yr Alban. Felly, rwyf am ganolbwyntio ar y pethau y credaf y byddant yn gweithio orau i Gymru yn y lle cyntaf, a gweld wedyn ble mae hynny'n mynd â ni yn y patrwm ehangach o ddiwygio.
Un o'r pwyntiau y mae adroddiad Prifysgol Caerdydd yn ei wneud yw'r ffaith bod y trefniadau cyllido ledled y DU, ar draws y gwahanol wledydd, yn dod yn fwyfwy anghymesur, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at hynny yn ei atebion. A yw'n credu y dylai fod system fwy rhesymegol sy'n seiliedig ar egwyddorion ledled y DU?
Wel, rwy'n siŵr o hyn, Lywydd, mai dim ond os caiff ei wneud ar sail pedair cenedl y gallwch chi gael y newidiadau hynny. Dyma un o'r meysydd hynny lle mae gan weithredwyr eraill gardiau feto eithaf cryf, ac os nad ydynt yn barod i drafod materion penodol, ni allwch eu cael ar yr agenda. Roedd fy swyddog cyfatebol dros gyllid yn yr Alban, y mae gennyf barch mawr ati, yn hollol glir yn fy nhrafodaeth ddiwethaf gyda hi na fydd Llywodraeth bresennol yr Alban yn cytuno i drafodaethau ar fformiwla i gymryd lle Barnett. Bydd unrhyw un sy'n gweld y manteision sy'n llifo i'r Alban o'r fformiwla bresennol yn deall pam y byddai'n annhebygol o wneud hynny. Fodd bynnag, mae cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban fel ei gilydd wedi ymrwymo i'r trafodaethau a gawn ym mis Chwefror, na fyddant yn trafod cael fformiwla yn lle Barnett, ond yn hytrach, yn ymwneud â gwneud i'r system Barnett bresennol weithio'n well. Rwy'n credu y byddai hynny'n lleihau peth ar yr anghymesuredd sydd wedi cynyddu'n ddiweddar, a byddai hynny o fantais i Gymru.
6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith polisïau treth Llywodraeth y DU ar bobl Sir Benfro? OQ63410
Diolch yn fawr i Paul Davies, Llywydd.
Mater i Lywodraeth y DU yw trethi a gedwir yn ôl ac asesiadau effaith o ddewisiadau polisi treth a gedwir yn ôl. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â chyd-Weinidogion ar lefel y DU i sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed ac i ddadlau dros system dreth sy'n deg, yn syml ac yn dryloyw i drethdalwyr.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf galwodd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig ar Lywodraeth y DU i oedi newidiadau i reolau treth etifeddiant hyd nes y bydd yr effaith benodol ar ffermwyr Cymru wedi'i harchwilio. Mae'r pwyllgor wedi dweud yn glir y gallai'r newidiadau i'r dreth etifeddiant gael effaith anghymesur ar ffermwyr Cymru, oherwydd natur unigryw y diwydiant yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi bod y mwyafrif o ffermydd yng Nghymru yn fusnesau da byw teuluol bach gydag incwm cyfartalog o tua £22,000.
Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllideb yr wythnos nesaf yn gyfle i'r Canghellor gefnogi ffermwyr Cymru, a ffermwyr sir Benfro yn wir, drwy ddileu'r newid i'r dreth etifeddiant. Felly, cyn cyhoeddiad y gyllideb, a allwch chi ddweud wrthym pa asesiad ariannol sydd wedi'i wneud o effaith newid Llywodraeth y DU i'r dreth ar y diwydiant ffermio yma yng Nghymru? A allwch chi hefyd ddweud wrthym pa sylwadau a wnaethoch i'r Canghellor ynglŷn â'r polisi treth penodol hwn?
Wel, Lywydd, ar y mater hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei harwain gan y Dirprwy Brif Weinidog, ac mae wedi cael cyfres o gysylltiadau uniongyrchol â Gweinidogion y DU i sicrhau bod pryderon ffermwyr Cymru yn hysbys i'r rhai a fydd, yn y diwedd, yn gyfrifol am wneud penderfyniadau. Yn ogystal â chael trafodaethau wyneb yn wyneb mor ddiweddar â diwedd mis Hydref, rwy'n credu, gydag Angela Eagle, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y materion hyn nawr, fe gyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog y pryderon hynny yn ysgrifenedig i Lywodraeth y DU ym mis Mawrth, ac eto ym mis Medi, gan sicrhau bod yna ymgysylltiad ystyrlon ag undebau ffermio Cymru ynghylch eu pryderon, ac i ofyn i Lywodraeth y DU ystyried unrhyw gynigion amgen ymarferol a allai liniaru unrhyw effeithiau andwyol penodol, yn enwedig yr effeithiau ar ffermydd teuluol llai.
Felly, Lywydd, credaf y gallaf ddweud heb unrhyw oedi bod Llywodraeth Cymru, drwy waith y Dirprwy Brif Weinidog, wedi sicrhau bod y pryderon y mae Paul Davies wedi'u codi a'r rhai a godwyd gan y rhai yn y diwydiant wedi cael eu cyfleu'n glir, eu cyfathrebu'n uniongyrchol, i'r rhai a fydd, yn y pen draw, yn gwneud y penderfyniadau hyn.
7. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod darparu prydau ysgol am ddim yn cael ei gefnogi wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63424
Lywydd, diolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig hwn. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys £93.5 miliwn i sicrhau parhad llawn ein polisi o brydau ysgol am ddim i bawb yn ysgolion cynradd Cymru. A hynny ar ben yr arian a ddarperir i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw i'r rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim y tu hwnt i'n hysgolion cynradd yn seiliedig ar feini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd yn llwyddiant gwirioneddol i blant yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Mae ffigurau a ryddhawyd yn gynharach eleni yn dangos bod 2,284,000 o brydau bwyd wedi'u gweini yn sir Benfro rhwng mis Medi 2022 a mis Mehefin 2025. Mae'r polisi a'r buddsoddiad sy'n cael ei ddiogelu yn dangos pa mor bwysig yw ei hymrwymiad i Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol. Ac fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, mae'r gyllideb ddrafft yn dangos yr ymrwymiad hwnnw, drwy neilltuo £93.5 miliwn o gyllid, yn y gobaith y bydd eraill yn ei gefnogi hefyd.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet fanteisio ar y cyfle i ailadrodd y bydd cyllideb ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru bob amser yn diogelu anghenion ein holl blant er mwyn iddynt gael y dechrau gorau yn eu bywydau?
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Rwy'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw iddi'n llwyr. Roedd y ffigurau a ddarparodd yn rhyfeddol, o'r miliynau o brydau bwyd sydd wedi'u gweini yn sir Benfro yn unig. Ac wrth gwrs, ar y diwrnod y gwnaethom lansio'r cynllun, roeddwn gyda Siân Gwenllian, yr Aelod dynodedig ar y pryd, gyda'n gilydd, mewn ysgol yn sir Benfro, lle roedd y prydau cyntaf yn cael eu gweini, ac mae'n rhyfeddol meddwl bod dros 2 filiwn o brydau wedi cael eu gweini yn y cyfamser. Mae'r polisi'n llwyddiant eithriadol. Mae'r gyllideb yn cefnogi ei barhad yn llawn.
Nid dyma'r unig beth a ddarparwn yn ein hysgolion. Weithiau rwyf wedi teimlo ychydig yn rhwystredig, Lywydd, wrth wrando ar gyfryngau'r DU yn adrodd am gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion ar draws y ffin fel pe bai'n fenter newydd ryfedd, er ein bod wedi eu cael yma yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd. Cawsant eu cyflwyno am yr union resymau y mae Joyce Watson yn eu nodi, sef i wneud yn siŵr nad yw plant sy'n dod i ysgolion Cymru yn cyrraedd yn llwglyd ac yn methu dysgu. Ac mae'r buddsoddiad hwnnw a'r buddsoddiad a wnawn yn ein prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd yn bendant yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod y bobl ifanc hynny'n cael y cyfle gorau a'r dechrau gorau sy'n bosib mewn bywyd.
8. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau y gall awdurdodau lleol ariannu gofal cymdeithasol yn briodol wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63427
Lywydd, mae'r gyllideb ddrafft yn darparu twf cyfartalog o 2.5 y cant yn y setliad i awdurdodau lleol. Mae hefyd yn parhau â'r £30 miliwn ychwanegol a ddarperir yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gofal cymdeithasol drwy gytundeb y gyllideb gydag arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae cyllideb fwy uchelgeisiol yn bosib ar gyfer y flwyddyn nesaf, cyn belled â bod pleidiau eraill yn barod i gytuno arni.
Diolch. Mae'r cyflog byw gwirioneddol, wrth gwrs, wedi cynyddu 6.7 y cant, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio'r Llywodraeth fod awdurdodau lleol yn profi pwysau cyllidebol o 7.2 y cant oherwydd costau a galw cynyddol ac i osgoi peryglu cymorth hanfodol, ac mae angen mynd i'r afael â hyn. Mae sefydliadau, yn enwedig yn y trydydd sector, sydd wedi cael eu comisiynu gan awdurdodau lleol, yn cael trafferth parhau i fod yn gynaliadwy o fewn gofal cymdeithasol. Fe wnaeth un sefydliad yn fy rhanbarth amsugno colled o £1.5 miliwn eleni gyda phwysau yswiriant gwladol a chyflog byw, ond gyda'r cynnydd yn y gyllideb ddrafft, maent yn wynebu diffyg ychwanegol o £1 filiwn eto y flwyddyn nesaf. Maent yn pryderu'n wirioneddol am yr hyn y gallai ei olygu, ac nid ydynt ar eu pennau eu hunain yn ofni am eu dyfodol a chynaliadwyedd, sy'n hollbwysig, y gofal a ddarparant. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn bodloni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol pan nad oes gan lywodraeth leol adnoddau i dalu ar y lefel honno?
Wel, Lywydd, rwyf o ddifrif ynghylch y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu 98.6 y cant o'r holl adnoddau sydd ar gael i ni yma fel Senedd. Mae hynny'n golygu bod 1.4 y cant, sef ymhell dros £300 miliwn, y gellir ei ddyrannu eto yn y gyllideb derfynol. Rwy'n siŵr y bydd hi'n annog aelodau o'i phlaid i ddod drwy'r drws a chael sgyrsiau ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r arian hwnnw, ac un o'r ffyrdd y gellid ei ddefnyddio yn bendant yw darparu mwy i awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Ni fydd hynny ond yn bosib os yw pleidiau eraill yma yn fodlon cael y sgyrsiau hynny. Fel y gwneuthum ers mis Gorffennaf eleni, Lywydd, rwy'n annog y pleidiau i wneud hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn llygredd afonydd o safleoedd ôl-ddiwydiannol halogedig a achosir gan fwy o law a stormydd? OQ63438
Diolch, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â llygredd posib sy'n gysylltiedig â safleoedd ôl-ddiwydiannol. Ein prif ysgogiadau yw diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu'r fframwaith rheoleiddio i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â safleoedd yr amheuir eu bod yn achosi llygredd, yn cynnwys cyrsiau dŵr.
Diolch am hynna.
Mae hwn yn fater a godwyd gennyf ar sawl achlysur. Mae'n rhywbeth o bwys mawr, oherwydd mae tir halogedig yn wenwyn cudd ar ein tirweddau. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn amcangyfrif y gallai o leiaf 45,000 o safleoedd ledled Cymru fod wedi'u halogi, ond ni allwn wybod y ffigur go iawn am nad yw'r rhan fwyaf erioed wedi cael eu harolygu'n iawn. Un o'r safleoedd hyn yw hen chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu, lle mae hylif brown ag iddo arogl ffiaidd yn llifo i goetir ac afon Sirhywi ar ôl glaw trwm, fel a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.
Gwyddom fod gwastraff cemegol wedi'i ollwng gan gwmni Monsanto yno ddegawdau yn ôl, ac mae eu heffaith yn parhau. Mae llygredd yn Nhŷ Llwyd wedi bod yn destun ymchwiliad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ers blynyddoedd, ac mae adroddiad a oedd i fod i gael ei ryddhau ym mis Hydref 2024 yn dal i fod heb ei gyhoeddi eto. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent yn dal heb gael trwydded gan CNC ar gyfer y siambr gollwng trwytholch, ac mae'r cyngor bellach yn cydnabod nad yw'r cap dros y chwarel yn gorchuddio'r holl wastraff. A ydych chi'n cytuno â mi fod trigolion yn cael cam mawr, a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r trigolion hyn ac i wneud eu cymuned yn ddiogel?
Diolch, Delyth. Rwy'n cydnabod eich ymrwymiad hir i godi'r mater hwn a cheisio sicrwydd i'r gymuned leol ar y gwaith a wneir mewn perthynas â Tŷ Llwyd.
Fel diweddariad byr, fel y gwyddoch mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi asesu'r safle i bennu ei statws rheoleiddio. Wrth gwrs, ei gasgliad rhagarweiniol ar y pryd oedd nad oedd y safle'n bodloni'r diffiniad o 'dir halogedig' o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ond mae CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu'r adroddiad drafft diwygiedig yn dilyn samplu pellach ar y safle, a bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol wedyn ar statws rheoleiddiol y safle.
Nawr, mae contractwyr y cyngor wedi cynhyrchu arfarniad o opsiynau adfer ar gyfer y safleoedd, ac yn seiliedig ar ei argymhellion, mae'r cyngor wedi gwneud gwelliannau, a drafodwyd gennym yn flaenorol yn y Siambr, gwelliannau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i'r system ddraenio er enghraifft, i wneud yn siŵr y gallwn leihau'r trwytholch sy'n gollwng yn ystod tywydd gwlyb. Mae CNC hefyd yn datblygu trwydded amgylcheddol yn ymwneud â'r gollyngiadau trwytholch, a fydd yn cael ei rhoi i'r cyngor i wella ei reolaeth yn y dyfodol ac i leihau unrhyw effeithiau oddi ar y safle. Felly, yn y cyfamser, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno hysbysiad statudol i'r cyngor yn nodi nifer o gamau gweithredu tymor byr sydd eu hangen i leihau'r risg o ddigwyddiadau llygredd yn ystod tywydd gwlyb, ac mae cynigion mwy hirdymor yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan y cyngor i fodloni gofynion trwydded CNC wrth iddi gael ei datblygu.
Hefyd, wrth gwrs, ceir mater ehangach y tu hwnt i faterion lleol fel Tŷ Llwyd, a'r llygredd ehangach ledled Cymru a grybwyllwyd gennych, a phethau fel yr hyn a adawyd ar ôl gan ein diwydiant mwyngloddio metelau hefyd, sy'n mynd yn ôl dros ganrifoedd. Mae angen buddsoddiad a sylw ar bob un ohonynt.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg? OQ63442
Diolch, John. Mae buddsoddi, rheoleiddio ac arloesedd yn sbarduno gwelliannau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn nalgylch afon Wysg. Rydym wedi ymrwymo dros £4 miliwn i brosiect Pedair Afon LIFE a Phartneriaeth Dalgylch Afon Wysg, i adfer ansawdd dŵr a diogelu afon Wysg ac ardaloedd cadwraeth arbennig eraill ledled Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ddirprwy Brif Weinidog, mae ein hafon Wysg werthfawr yn ased naturiol rhyfeddol i Gasnewydd a'r holl gymunedau y mae'n llifo drwyddynt. Yn ddealladwy, mae'r cymunedau hynny eisiau ei gweld yn cael ei diogelu a'i gwella. Ond yn anffodus, mae afon Wysg yn parhau i ddioddef digwyddiadau llygredd parhaus, o amaethyddiaeth a ffynonellau eraill, a allai beryglu ei statws fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae'r grŵp ymgyrchu Achub Afon Wysg yn pryderu nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i ymateb yn briodol a bod yr ymateb hwnnw'n gwaethygu, gyda rhai adroddiadau o ddigwyddiadau llygredd nad ymatebwyd iddynt o gwbl. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda CNC i sicrhau bod afon Wysg yn cael ei glanhau er lles byd natur a'n cymunedau?
John, gallaf roi sicrwydd llwyr i chi fod Llywodraeth Cymru, a thrwy ei hasiantaethau hefyd, wedi ymrwymo i lanhau a sicrhau'r iechyd dihalog hwnnw yr ydym am ei weld yn afon Wysg ac mewn afonydd eraill. Mae afon Wysg yn un o afonydd mwyaf gwerthfawr Cymru. Ond mae'n wynebu pwysau digynsail nawr oherwydd llygredd maethynnau ac oherwydd gollyngiadau carthion, ac yn wir, arferion rheoli tir, ac mae angen inni fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gydgysylltiedig. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar unwaith i ddiogelu ei hiechyd ecolegol, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Nid problem un ffynhonnell mohoni, fel rydych chi wedi'i gydnabod. Mae a wnelo ag amaethyddiaeth, mae a wnelo â gollyngiadau dŵr gwastraff, mae a wnelo hefyd â gorlifoedd storm, felly mae angen dull amlsector unedig. Mae gennym lefelau ffosfforws nawr yn afon Wysg sydd ymhlith yr uchaf a gofnodwyd yng Nghymru. Mae'n bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd a'r statws ardal cadwraeth arbennig, fel y dywedwch.
Nawr, mae dros ddwy ran o dair o'r llygredd ffosfforws yn afon Wysg yn dod o amaethyddiaeth; mae gwaith trin dŵr gwastraff a gorlifoedd storm yn ychwanegu mwy o bwysau. Felly, rydym wedi ymrwymo'n llwyr, John, i fynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd, drwy'r Llywodraeth, rheoleiddwyr, ffermwyr yn chwarae eu rhan, cwmnïau dŵr a chymunedau yn cydweithio, i adfer afon Wysg. Felly, mae angen y buddsoddiad hwnnw arnom—yn sicr. Mae angen rheoleiddio cryfach arnom. Mae angen atebion sy'n seiliedig ar natur arnom hefyd, i wrthdroi degawdau o ddirywiad, ac mae angen inni adeiladu gwydnwch ar gyfer y dyfodol yn erbyn newid hinsawdd. Felly, yn sicr, mae gennych ein hymrwymiad ar hynny, John, y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adfer afon Wysg i'r iechyd yr ydym am ei weld.
Mae'n drueni gweld Aelodau Llafur unwaith eto'n beio amaethyddiaeth am yr holl broblemau yn ein hafonydd. Credaf mai'r hyn sydd angen i ni ei weld mewn gwirionedd, Ddirprwy Brif Weinidog, yw Dŵr Cymru yn cael trefn ar bethau mewn perthynas â'n dyfroedd ac yn delio â'u gorlifoedd storm, yn hytrach na thalu bron i £0.5 miliwn y flwyddyn i'w prif swyddog gweithredol. Felly, hoffwn wybod, Ddirprwy Brif Weinidog: beth y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cael trefn ar bethau ac yn sicrhau ein bod yn glanhau ein hafonydd, fel eu bod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Mae'n drueni, o ystyried cywair y cwestiwn gan John Griffiths a agorodd hyn, a oedd yn chwilio am ddull cydgysylltiedig o ddelio ag afon Wysg, sef yr hyn sydd ei angen arni, fod yr Aelod yn dewis, yn annoeth mewn gwirionedd, gosod un sector yn erbyn y llall, neu un blaid yn erbyn y llall. Nid dyna'r ffordd i wella iechyd afon Wysg.
Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud, James, mewn ymateb i chi, yw, o ran Dŵr Cymru, bydd buddsoddiad cyfnod rheoli asedau 8, sy'n sylweddol, yn cyflawni newid sylweddol i ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg—felly, er enghraifft, gyda chynlluniau tynnu ffosffadau yn y Fenni ac Aberhonddu yn dechrau gweithredu yn 2025, a gwelliannau hefyd i reoli lefelau amonia a gorlifoedd storm, ac mae angen iddynt gyflawni hynny hefyd. Ond gadewch imi ddweud yn glir fod nifer o ffactorau yma sy'n cyfrannu at y llygredd, a bydd nifer o bobl a phartneriaid y bydd angen iddynt wneud ymdrech—amaethyddiaeth, Dŵr Cymru a rheolwyr tir eraill—i unioni'r sefyllfa hon mewn gwirionedd. Felly, rydym wedi rhoi—. Mae dros £3.4 miliwn bellach wedi'i ddyrannu gennym i brosiect Pedair Afon LIFE; mae hynny eisoes yn cyflawni gwelliannau sylweddol i ansawdd afon Wysg ac afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig eraill. Mae dros £600,000 wedi mynd i Bartneriaeth Dalgylch Afon Wysg ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau a chamau gweithredu lleol, ochr yn ochr, rhaid imi ddweud, â phrosiect arloesi gwerth £7.1 miliwn Catchment Systems Thinking Cooperative, sy'n treialu technoleg monitro afonydd arloesol yn afon Wysg hefyd.
Ac o ran y dull gweithredu cydgysylltiedig o ymdrin â hyn, yn hytrach na phlaid yn erbyn plaid neu sector yn erbyn sector—. Ar lawr gwlad, mae gennym gynnydd gwirioneddol, a byddai'n hyfryd eich clywed yn adrodd ar hynny hefyd. Mae gennym 350 o ffermydd bellach yn gysylltiedig, 50,000 o goed wedi'u plannu, 100 km o ffensys wedi'u gosod, gorlifdiroedd wedi'u hailgysylltu, rhwystrau i eogiaid ymfudol wedi'u tynnu a rhywogaethau goresgynnol dan reolaeth. Felly, rwy'n dweud hyn wrth James ac eraill: mae pob un ohonom yn rhan o hyn gyda'n gilydd, rydym yn gweithio ar hyn gyda'n gilydd, i adfer iechyd yr afon, yn hytrach na sgorio pwyntiau gwleidyddol hawdd.
Llefarydd y Ceidwadwyr nesaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Dim ond wythnos sydd i fynd tan gyllideb ddiflas arall gan y Blaid Lafur, ac un a fydd, heb os, yn sicrhau y byddwn yn llawer gwaeth ein byd. Gwyddom nad yw arian yn tyfu ar goed, Ddirprwy Brif Weinidog, ond yn sicr, rydych chi'n hoffi gwario arnynt. Mae adroddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru’n dyrannu £7.5 miliwn o arian trethdalwyr i goedwig genedlaethol Cymru. Mae hyn yn cefnogi oddeutu 70 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyllid ar gyfer gweminarau ar-lein, arwyddion, byrddau gwybodaeth, ffotograffiaeth a fideos proffesiynol, nid ar gyfer plannu coed. Mae'n cynnal tîm o chwe swyddog cyswllt coetiroedd y goedwig genedlaethol i helpu tirfeddianwyr i ennill statws coedwig genedlaethol Cymru. Nawr, fe wyddom fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn enwog am ei phrosesau biwrocrataidd o'r brig i lawr sy'n feichus ac yn gostus. Ddirprwy Brif Weinidog, a ydych chi o ddifrif yn credu bod angen chwe swyddog cyswllt coetiroedd ar Gymru, a sut rydych chi'n edrych ar y rolau hyn, y costau, a'u canlyniadau o ran cyflawniad?
Wel, Janet, a chithau'n eiriolwr cryf dros yr amgylchedd, sut yr awn ati i reoli'r llwybrau cenedlaethol yng Nghymru. Sut yr awn ati i reoli llwybr arfordir Cymru. Mae gennym bobl sy'n ei reoli ac yn gosod arwyddion, ac yn gweithio ar ei agweddau addysgol hefyd—rydym eisoes yn gwneud hynny. Llwybr arfordir Cymru, er enghraifft, yw un o'r mentrau a'r cymelliadau a'r atyniadau twristiaeth mwyaf sydd gennym. Ni oedd y cyntaf i'w ddatblygu. Nawr, mae'n drueni eich bod yn ôl pob golwg yn gwrthwynebu coedwig genedlaethol Cymru, oherwydd roeddwn yn credu o ddifrif eich bod yn mynd i ymosod ar ein buddsoddiad tramor. Oherwydd, yn y dyddiau diwethaf—
O, mae hynny'n dod.
Oherwydd, yn y dyddiau diwethaf, rwyf wedi clywed yr her gan y Ceidwadwyr sy'n dweud, 'Pam ein bod yn gwastraffu arian ar bethau fel buddsoddi gyda, er enghraifft, yr ailgoedwigo yn Mbale yn Uganda, gyda Jenipher's Coffi, gyda menter gydweithredol y menywod?' Felly, roeddwn yn credu eich bod yn mynd i fynd ar drywydd hynny a dweud wrthym am wario arian yng Nghymru, ond yn hytrach, Lywydd, dywedwyd wrthyf: peidiwch â gwario arian yng Nghymru, peidiwch â phlannu coed, peidiwch â buddsoddi mewn denu pobl allan i'r awyr agored. Nid ydych yn credu yng Nghymru. Nid ydych yn credu mewn buddsoddi dramor. Beth ydych chi'n credu ynddo? Beth ydych chi'n credu ynddo?
Mae arnaf ofn, Lywydd, nad wyf yn credu ei fod wedi deall y cwestiwn yn iawn.
Mae'n siŵr na wneuthum.
Nid Robin Hood ydych chi, na Dafydd ap Siencyn chwaith, ond rydych chi'n fy atgoffa o Uchel Siryf Nottingham neu Ustus Coch Conwy. Mae Llafur yn pwyso ar ein holl gymunedau a'n cartrefi am gynnydd mewn trethi i ariannu'r hyn na ellir ond eu disgrifio fel cynlluniau penchwiban neu brosiectau porthi balchder. Yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gynllun statws y goedwig genedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2023, mae Llywodraeth Cymru’n cynhyrchu set o ddangosyddion i helpu i fesur datblygiad coedwig genedlaethol Cymru ac i weld a yw'n cyflawni ei hamcanion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw ddangosyddion, ond rydych chi wedi gwario miliynau o bunnoedd yn plannu coed yn Uganda.
A, dyna ni—roedd yn dod.
Mewn gwirionedd, daw'r dangosyddion 'Coetiroedd i Gymru' diwethaf a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018. Rydych chi wedi methu unwaith eto.
Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y cynllun hwn wedi'i lansio ym mis Mawrth 2020, pam nad oes unrhyw ddangosyddion cyhoeddus ar gael, bum mlynedd ac wyth mis yn ddiweddarach? Ac felly, pam y byddech yn buddsoddi £7.5 miliwn y flwyddyn nesaf pan nad oes gennym unrhyw syniad a yw'r targedau go iawn yn cael eu cyflawni?
Wel, tybed, Janet, beth sydd gennych yn erbyn coed, naill ai yma yng Nghymru neu dramor? Beth sydd gennych yn erbyn coed? Gadewch imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar goedwig genedlaethol Cymru. Cyfanswm nifer safleoedd y goedwig genedlaethol nad ydynt yn rhan o ystad goed Lywodraeth Cymru yw 72. Daeth cyfanswm o 4,080 hectar o safleoedd i mewn drwy rownd ddiweddaraf y cynllun statws. Yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym: mae trydedd gyfran o ystad goed Llywodraeth Cymru wedi ymuno â rhwydwaith y goedwig cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys 12 bloc o goetir, sy'n 21,228 hectar. Mae'n dod â chyfanswm nifer y blociau o ystad goed Llywodraeth Cymru sy'n rhan o'r goedwig genedlaethol i 38, sy'n 86,295 hectar. Beth sydd gennych yn erbyn coed, Janet? Mae cyfanswm maint coedwig genedlaethol Cymru bellach yn fwy na 90,000 hectar, sydd, i'r rhai sy'n ei ddeall mewn metrigau eraill, yn cyfateb i 90,000 o gaeau rygbi. Mae caeau pêl-droed ar gael hefyd. Felly, Janet, gofynnaf i chi: beth sydd gennych yn erbyn coed?
Ar gyfer y cofnod, Ddirprwy Brif Weinidog, rwy'n caru coed yn fawr iawn, ac rwy'n caru'r effaith y maent yn ei chael ar gael gwared ar garbon. Ond wrth wraidd y cynllun hwn—a gwn nad ydych yn hoffi beirniadaeth, ac nid yn aml y byddaf yn beirniadu, ond rwy'n gwneud hynny yn yr achos hwn—y nod yw cynyddu gweithgarwch creu coetir, i gyrraedd eich targed eich hun o 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050. Mae hynny'n cyfateb i blannu o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn. Nawr, yn ôl Forest Research, dim ond 960 hectar o'r 5,000 y llwyddoch chi i'w plannu yn 2025. Mae hynny'n llai nag yn 2023 a thros 4,000 hectar yn brin o'r hyn sy'n ofynnol yn flynyddol. Nid yw hyn yn ddim ond methiant arall eto fyth gennych chi a'ch Llywodraeth Lafur.
Rwyf wrth fy modd â choed, ac rwyf eisiau gweld mwy o goed yn cael eu plannu yng Nghymru, ond nid wyf yn hoffi'r nonsens biwrocrataidd yr wyf newydd ei nodi. Nid yw'n helpu llwybr yr arfordir, nid yw'n helpu'r llwybrau coetir, mae'n fiwrocrataidd. Ond ni allech fy ateb ar hynny. Ond sut y gallwch roi sicrwydd i mi nawr, ac i'n Haelodau o'r Senedd, ac i bobl Cymru yn wir, nad ydych chi'n gwastraffu arian trethdalwyr, arian trethdalwyr Cymru, ar wneud rhywbeth er mwyn tynnu sylw yn hytrach na rhywbeth o sylwedd? Diolch.
Janet, fe'ch cyfeiriaf at fy ateb blaenorol gyda rhywfaint o'r hyn rydym eisoes wedi'i blannu a'r hyn rydym eisoes wedi'i gyflawni. Rwy'n falch o glywed eich bod yn hoffi coed, gan fy mod o dan y camargraff digalon yno nad oeddech yn eu hoffi, naill ai yma neu pan gânt eu plannu dramor—nad oeddech chi'n hoffi coed. Ond rydych ch'n eu hoffi, felly da iawn. Felly, fe fyddwch yn croesawu'r ffaith, yn yr wythnos goed, sydd ar y ffordd, y byddwn yn cyhoeddi 23 o safleoedd coetiroedd bach ychwanegol. Bydd y ddwy goedlan goffa yn cael eu cyhoeddi hefyd, sydd wedi ymuno'n ffurfiol â rhwydwaith coedwig genedlaethol Cymru.
Y llynedd, fe wnaethom fwrw ymlaen â dull newydd ar lefel y dirwedd ar gyfer coedwig genedlaethol Cymru, a brofwyd gennym drwy'r gronfa her partneriaeth natur leol. Dyfarnwyd dros £0.5 miliwn i 12 cynllun peilot cydweithredol ar lefel y dirwedd sy'n bodloni pob un o chwe chanlyniad y goedwig genedlaethol.
Mae'r fiwrocratiaeth a grybwyllwyd gennych, gyda llaw, yn deillio o'r angen inni fesur a monitro'r hyn a wnawn. Felly, yr hyn rydych chi'n ei alw'n fiwrocratiaeth, rydym ni'n ei alw'n fesur y canlyniadau y ceisiwn eu cyflawni. Pan fyddech chi'n cael gwared ar fiwrocratiaeth, nid wyf yn gwybod beth fyddai eich dull gweithredu amgen chi—taflu arian at bobl i wneud beth bynnag y maent eisiau ei wneud?
Mae cyllid hefyd wedi'i ddarparu drwy'r grant buddsoddi mewn coetir i greu a gwella coetiroedd er mwyn cyflawni canlyniadau'r goedwig genedlaethol. Dechreuodd y rownd ddiweddaraf ar 6 Mai. Fe gaeodd i ceisiadau ym mis Awst. Daeth ceisiadau cryf iawn i law. Rydym wedi dyfarnu cyllid i 23 o safleoedd, a byddwn yn cyhoeddi'r manylion cyn bo hir. Mae cyfres gyfan o safleoedd i ymuno â choedwig genedlaethol Cymru bellach. Mae hwn yn llwyddiant mawr, felly byddai'n wych clywed eich cefnogaeth, yn hytrach na'ch beirniadaeth.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Roedd y llifogydd yn sir Fynwy yn ein hatgoffa o'r angen argyfyngus ond hefyd parhaus i fuddsoddi yn ein hisadeiledd, ein gwytnwch a'n cymunedau. Dwi eisiau gofyn am yr effaith y mae stormydd fel hyn yn ei chael ar brisiau yswiriant.
Mae cynllun Flood Re Llywodraeth y DU yn darparu rhwyd ddiogelwch o fath, ond mae'r cynllun i fod i ddod i ben yn 2039, a bryd hynny, bydd cwmnïau yswiriant yn gallu
'dychwelyd yn llawn i brisiau sy'n adlewyrchu risg ar gyfer yswiriant llifogydd.'
Mae hwnnw'n ymyl clogwyn sy'n bygwth bodolaeth rhai cymunedau. Bydd pobl yn cael eu prisio allan o'r ardaloedd hynny. Mae rhai benthycwyr morgeisi eisoes yn ystyried a ddylent wrthod benthyciadau'n awtomatig i fenthycwyr mewn ardaloedd risg uchel. A allech chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, faint o aelwydydd Cymru sy'n elwa o gynllun Flood Re ar hyn o bryd? A sut ydych chi'n dadlau'r achos i Lywodraeth y DU dos ymestyn y cynllun hwnnw y tu hwnt i 2039?
Diolch. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Felly, mae Flood Re wedi helpu nifer sylweddol o gartrefi ledled Cymru drwy sicrhau bod y cynnig yswiriant hwnnw ar gael. Roedd bron i 19,000 o bolisïau wedi'u hildio ers lansio Flood Re, ac mae 15,564 o bolisïau mewn grym ar hyn o bryd. Felly, rydym yn parhau i weithio, gyda Llywodraeth y DU, yn agos gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain, a CNC, i wella a hyrwyddo ymwybyddiaeth o yswiriant yno.
Rydym hefyd, fel y gwyddoch, yn cefnogi cynllun Ailgodi'n Gryfach Flood Re. A dylwn ddweud mai fy nealltwriaeth i yw y gallai fod gennym, o ddiddordeb i'r rheini sydd wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar, arddangosiad symudol o Ailgodi'n Gryfach yn glanio ar strydoedd Trefynwy fel y gall pobl gael golwg arno. Ac os bydd hynny'n digwydd, diolch i Lywodraeth y DU am ei gynnig. Mae'n un sy'n mynd o gwmpas ardaloedd y DU, felly rydym yn gobeithio dod â hynny yno. A byddwn yn parhau i weithio, i roi'r sicrwydd hwnnw i chi, gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym rywbeth a all fynd y tu hwnt i'r pontio yn 2026.
Diolch, ac os daw'r arddangosiad hwnnw i Drefynwy, rwy'n credu y byddai'n cael croeso mawr.
Gan droi at rymuso cymunedau yn y cyd-destun hwn, mae diffyg data cyson a phenodol i Gymru’n broblem, ac mae hynny'n gwaethygu diffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch cael mynediad at yswiriant wedi'i deilwra yn ogystal â chymorth gyda gwydnwch eiddo rhag llifogydd, rhywbeth sydd, yn anffodus, yn cael mwy o effaith ymhlith aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd yn economaidd ac a allai fod yn fwy agored i niwed. Mae hyn yn tanlinellu'r angen am ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth i wella yswiriant mewn gorlifdiroedd, yn hytrach na dadlwytho'r cyfrifoldeb yn llwyr ar berchnogion tai. A allwch chi egluro, os gwelwch yn dda, pa ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud â chwmnïau yswiriant i gael mynediad uniongyrchol at eu data er mwyn cael gwybod pa gyfran o aelwydydd Cymru sydd heb yswiriant llifogydd cartref, busnes a chynnwys? Ac os caf ofyn, i gloi, a ydych chi'n credu, yn ogystal â chanllawiau presennol Cyfoeth Naturiol Cymru, fod angen ymgyrch allgymorth wedi'i thargedu ar ran Llywodraeth Cymru gydag aelwydydd a busnesau i wella eu hymwybyddiaeth o yswirio yn erbyn risgiau llifogydd?
Byddwn yn sicr yn gwneud popeth yn ein gallu, yn ogystal â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru y cyfeiriais bobl atynt yn rheolaidd yn y Siambr hon, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo y tu hwnt i hynny hefyd, i godi ymwybyddiaeth o hynny. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo hynny, heb unrhyw amheuaeth.
Fe ofynnoch chi a ddylai'r Llywodraeth wneud mwy, gan gamu i'r adwy mewn perthynas â Flood Re neu i gefnogi perchnogion tai sydd mewn ardaloedd llifogydd. Yr her yma yw bod y Llywodraeth yn sicr ddim yn y busnes yswiriant—nid yw wedi bod, ac nid yw erioed wedi bod. Mae hynny ar gyfer y diwydiant yswiriant. Fodd bynnag, yr hyn y gallwn ei wneud, mewn trafodaethau gyda'r diwydiant yswiriant, y diwydiant sector preifat hwnnw, yw trafod cynlluniau lle mae'r cymorth yno i ddeiliaid tai, ond hefyd lle mae gofyniad wedyn i'r Llywodraeth fuddsoddi hefyd. A dyna fu sail Flood Re erioed.
Nid yw mynd ymhellach na hynny—a gyda llaw, fel rwy'n ei ddweud yn rheolaidd, gyda chefnogaeth y Siambr, rydym wedi buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o arian mewn atal llifogydd a lliniaru llifogydd—yn rhywbeth y mae unrhyw Lywodraeth wedi ystyried ei wneud, camu i rôl yswirwyr. Rwy'n cofio, pan gyflwynwyd Flood Re, fod llawer o drafodaethau wedi bod ar wahanol opsiynau, ond cafodd hynny ei ddiystyru ar y pryd am resymau da iawn, oherwydd fel arall, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydbwyso pa mor yswiriadwy yw anghenion gwahanol berchnogion tai ledled y wlad. Nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud fel arfer. Efallai fod gennych syniad neu gynnig.
Nac oes. Ar hynny, rwy'n derbyn hynny, ond yn amlwg, nid yw'r farchnad yn gweithio i lawer o aelwydydd, a bydd yn rhaid inni feddwl y tu allan i'r bocs. Efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem ei ystyried y tu allan. Rwy'n sylweddoli y byddai risgiau ynghlwm wrth hynny.
Wrth edrych ar hyn yn gyffredinol, yn amlwg, nid gwadu realiti'r argyfwng hinsawdd yw'r ateb, rhywbeth y byddai rhai pleidiau a rhai lleisiau uchel iawn am i ni ei wneud; yn hytrach, yr ateb fyddai ymgorffori lliniaru a gwydnwch hinsawdd ym mhob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth. Nawr, pryder arall yn y cyd-destun hwn yw patrymau adeiladu tai newydd. Nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu anwadalrwydd cynyddol yr hinsawdd. I ddyfynnu'r Athro Jess Neumann, arbenigwr ar wydnwch rhag llifogydd ym Mhrifysgol Reading, mae cynllunio yn y sector tai yn canolbwyntio'n ormodol ar fodloni safonau sy'n addas ar gyfer heddiw, yn hytrach nag ar gyfer 2070 neu 2089, pan fydd gennym dywydd llawer mwy eithafol. Nawr, mae'r pryderon hyn wedi cael eu hadleisio gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, sydd wedi nodi'n ddiweddar nad oes unrhyw fecanweithiau polisi clir wedi'u cynllunio i gyflymu'r defnydd o fesurau gwydnwch rhag llifogydd mewn eiddo yng Nghymru neu i reoleiddio cynllun adeiladau. Felly, sut ydych chi wedi ymateb i'r pryderon hynny, os gwelwch yn dda, a pha gamau penodol a roddwyd ar waith gennych i sicrhau bod rhaglenni adeiladu tai yn fwy ymatebol i'r heriau yn y blynyddoedd i ddod?
Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros dai a llywodraeth leol ar y mater hwn, yn enwedig o ran datblygiadau newydd a thai newydd sy'n cael eu datblygu, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch, Delyth, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â ble rydym arni gyda hynny. Ond mae hefyd yn gwestiwn o'r hyn a wnawn gydag eiddo presennol hefyd, ac rydym yn sicrhau, wrth gwrs, fod cyllid ar gael i awdurdodau lleol, sef yr awdurdodau rheoli risg yn eu hardaloedd, i weithio gyda'r cymunedau lleol yr effeithir arnynt ac i edrych yn fanwl ar wydnwch aelwydydd unigol, yn ogystal â gwydnwch cymunedol a gwydnwch ar lefel strydoedd hefyd. Mae rhywbeth yn y gofod hwn sy'n ymwneud â chynllun cymunedau a lefelau strydoedd, fel y gall dŵr, pan ddaw i mewn, lifo i ffwrdd o gartrefi ac i mewn i brosesau naturiol. Ond ar gyfer eiddo newydd, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â'r trafodaethau a gawsom.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r effaith amgylcheddol a achosir gan feddyginiaethau a gaiff eu gwaredu? OQ63437
Diolch, Julie. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau effaith gwastraff fferyllol ar yr amgylchedd. Mae cynllun cyflenwi strategol ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru, a gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar, yn cynnwys cam gweithredu ar ymgorffori egwyddorion rhaglen Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd wrth leihau gwastraff meddyginiaethau a gwella cydymffurfiaeth.
Diolch am yr ateb.
Yn ôl y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, amcangyfrifir bod gwerth £21.6 miliwn o feddyginiaethau presgripsiwn yn cael eu gwastraffu'n flynyddol. Ac er bod data ar gyfer GIG Cymru yn gyfyngedig, awgryma amcangyfrifon gan GIG Lloegr mai meddyginiaethau sy'n gyfrifol am oddeutu 25 y cant o gyfanswm ôl troed carbon y GIG. Felly, yn ogystal ag allyriadau carbon, pan gymerir meddyginiaeth, mae rhwng 30 y cant a 100 y cant ohoni'n cael ei hysgarthu gan y corff i'r system garthffosiaeth, a chaiff cynhyrchion croen eu golchi i mewn i ddŵr gwastraff. Ni ellir cael gwared â phob meddyginiaeth yn llwyr mewn gweithfeydd trin dŵr, a gall hynny arwain, felly, at lygredd dŵr, a gall hyd yn oed ychydig bach beri risgiau sylweddol i iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. Gall deunydd pecynnu meddyginiaethau hefyd fod yn anodd iawn ei ailgylchu, ac mae'n cyfrannu at wastraff tirlenwi mewn llawer o achosion. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith gwastraff meddyginiaethau? A beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod cwmnïau fferyllol yng Nghymru yn chwarae eu rhan o ran osgoi effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd?
Diolch, Julie. Ar y pwynt cyntaf, ar ymwybyddiaeth y cyhoedd, mae llawer y gallwn ei wneud ac yr ydym yn ei wneud, felly mae'n un o amcanion allweddol yr ymgyrch y soniais amdani—ymgyrch Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd. Yn dilyn adnewyddu cynllun strategol GIG Cymru ar gyfer datgarboneiddio, mae disgwyl bellach y bydd egwyddorion yr ymgyrch hon yn cael eu hymgorffori ar draws y GIG yng Nghymru. Fe wnaethom dreialu hyn yn wreiddiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae bellach wedi dod yn rhaglen waith ar gyfer Cymru gyfan, sy'n cael ei harwain gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan. Rydym hefyd yn ymgymryd â gwaith pellach nawr ar ddatblygu'r rhaglen honno, gyda chymorth a chyngor gan bobl fel arbenigwyr ymddygiad, i ddeall beth fydd yn ysgogi pobl nid yn unig i fod yn ymwybodol o hyn, ond i weithredu wedyn wrth ddefnyddio a chael gwared ar feddyginiaeth, fel ein bod yn cael yr ymgysylltiad cyhoeddus go iawn hwnnw.
Rydych chi'n tynnu sylw'n gywir ddigon hefyd at y ffaith bod gan gwmnïau dŵr rôl i'w chwarae yma hefyd, yn gwella triniaethau a lleihau llygredd, yn ogystal â'r sector meddygol ei hun. Felly, gall y meddyginiaethau a'r cynhyrchion gofal croen bob dydd hynny, fel y dywedwch, fynd i weithfeydd trin dŵr gwastraff, a gall elfennau barhau wedyn mewn bywyd gwyllt ac yn ein hafonydd. Felly, nid her system yn unig mohoni; mae'n un a rennir. Mae beth bynnag y byddwn yn ei fflysio, ei arllwys, ei olchi i ffwrdd fel unigolion yn wirioneddol bwysig, gan y gall hyd yn oed ychydig o'r cynhyrchion fferyllol a'r cemegau hynny gronni yn yr amgylchedd. Mae angen i gwmnïau dŵr fuddsoddi a moderneiddio yn sicr, ond mae angen cymorth y cyhoedd arnom hefyd. Mae angen i feddyginiaethau nas defnyddir gael eu dychwelyd i fferyllfeydd, nid eu golchi i ffwrdd, a dylem osgoi arllwys cemegau diangen i lawr y draen. Er enghraifft, mae rhai cemegau cyffredin, fel ocsybenson, yn golchi oddi ar y croen. Cemegau eli haul ydynt. Maent yn golchi oddi ar y croen, yn mynd i lawr i'r dyfrffyrdd, maent yn barhaol, a hyd yn oed ar lefelau isel iawn, gallant amharu ar ecosystemau dyfrol, fel cwrel a bywyd dŵr croyw. Felly, mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae, ac rydym yn gwneud llawer yn uniongyrchol gyda'r byrddau iechyd hefyd, fel y soniais. Felly, mae angen dull cydgysylltiedig iawn arnom, unwaith eto, mewn perthynas â hyn: cyfrifoldeb personol, cwmnïau dŵr a byrddau iechyd hefyd.
4. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar y gwaith i ddiogelu dyfodol camlas sir Fynwy a Brycheiniog? OQ63429
Diolch, Peter. Fel y gwyddoch, rwyf wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb cynaliadwy i broblemau adnoddau dŵr camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Cadeiriais gyfarfod â Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Glandŵr Cymru a Swyddfa Cymru ar 17 Tachwedd, lle buom yn trafod cynnydd ac opsiynau ar gyfer diwygio yn y tymor byr a'r tymor hwy.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw camlas Sir Fynwy a Brycheiniog i sir Fynwy yn ogystal ag i Dorfaen, Powys, ac yn wir, i Gymru gyfan. Mae'n drysor, yn ased economaidd ac amgylcheddol y mae'n rhaid ei ddiogelu. Diolch am roi adborth gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Byddai'n braf deall pa negeseuon cadarnhaol a allai fod wedi dod ohono. Mae pob un ohonom yn gobeithio y bydd ateb cynaliadwy, un y gellir cytuno arno'n fuan, i roi sicrwydd a hyder i fusnesau. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddai pawb yn cytuno y bydd yn rhaid dod o hyd i ateb hirdymor. Mae hyn o fudd i bawb, gan gydnabod ei bwysigrwydd. Tybed a oes dull cydweithredol yn cael ei ystyried? Fodd bynnag, os na fydd modd dod o hyd i ffordd ymlaen mewn pryd, a ydych chi'n siarad ag Ysgrifenyddion y Cabinet dros gyllid a'r economi i sicrhau bod cynllun B ar waith ar gyfer y tymor byr, neu hyd nes y daw'r grŵp gorchwyl a gorffen o hyd i ateb?
Diolch, Peter. Os caf eich atgoffa chi, a'r holl gyd-Aelodau hefyd, ein bod wedi camu i'r adwy eleni, fel Llywodraeth Cymru, gydag ateb tymor byr. Mae'n ateb tymor byr drud, ond rydym wedi darparu £5 miliwn i uwchraddio gwaith gorsaf bwmpio Manorafon fel ein bod, drwy gydol yr haf, wedi gallu cynnal y cyflenwad oherwydd y risgiau i'r gamlas. Nawr, nid yw hynny'n ateb rhad, ond mae'n rhan o'r ateb yr ydym eisoes wedi'i nodi. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw dod â'r bobl gywir ynghyd—y dull cydweithredol hwnnw y sonioch chi amdano—ar lefel swyddogol, a darparu cymorth technegol hefyd i lunio opsiynau ynghylch pa beirianwaith neu atebion eraill y gallai fod eu hangen ar y gamlas i gynnal, nawr ac yn y dyfodol, y cyflenwad dŵr i'r gamlas. Mae'r gamlas yn unigryw; nid yw fel camlas Maldwyn neu gamlesi eraill. Fe sylwch, gyda llaw, fod pum neu chwe chamlas yn Lloegr yn yr haf a oedd â darnau sych. Nawr, fe lwyddasom, ryw ffordd neu'i gilydd, i osgoi'r sefyllfa honno ar gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog eleni.
Yr hyn y mae'r dull cydweithredol hwnnw'n ei wneud yw cyflwyno atebion, ac yna mae angen i ni ddefnyddio'r dull cydweithredol i fynd ati i ariannu'r atebion hynny, gan na fydd yr un ohonynt yn rhad. Credaf fod rôl yma i'r holl bartneriaid sy'n gysylltiedig. Rydym yn sicr yn gweld rôl i Lywodraeth Cymru, ac rydym eisoes wedi nodi hynny. Mae'n dda fod gennym Lywodraeth y DU wrth y ford gron sydd o dan gadeiryddiaeth weinidogol, ond mae gennym hefyd Glandŵr Cymru eu hunain, sy'n cydnabod bod ganddynt ddiddordeb clir a chymhellol yn hyn a buddiant mewn dod o hyd i'r atebion hyn. Mae Dŵr Cymru yn cyfrannu at yr atebion peirianegol a'r cyngor technegol, ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, mae'n dda dweud ein bod yn gweithio'n galed ar hyn. Rydym eisoes wedi nodi—ni allaf roi'r manylion llawn i chi heddiw—rhai opsiynau o ran atebion, ond mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i fireinio'r rheini nawr, ond hefyd i weithio gyda'n gilydd mewn ffordd gydweithredol i ddweud, 'Wel, sut y mae bwrw ymlaen â'r rhain ar y cyd?' pan nad ydynt yn mynd i fod yn rhad, o ran cyfalaf na refeniw parhaus. Ond rydym yn gweithio arno, Peter.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar weithredu Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025? OQ63441
Rydym yn parhau i wneud cynnydd da ar sefydlu'r awdurdod tomenni nas defnyddir erbyn 1 Ebrill 2027. Bydd yr awdurdod yn cyflogi hyd at 77 aelod o staff, bydd ei bencadlys ym Merthyr Tudful a bydd yn chwarae rhan allweddol yn diogelu cymunedau a rheoli tomenni nas defnyddir Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am yr ateb hwnnw, a bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymwybodol ei bod hi bron yn flwyddyn ers storm Bert a'r difrod a'r dinistr a welsom yng Nghwmtyleri wrth i'r domen yno lithro. Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am ymweld ar y pryd, flwyddyn yn ôl, ac rwy'n ymwybodol ei fod hefyd yn ymweld eto ddydd Gwener i siarad â thrigolion yr effeithiwyd arnynt gan hynny.
Ond mae'n bwysig cynnal hyder pobl fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch eu diogelwch yn eu cartrefi ac yn symud yn gyflym i roi'r holl gamau sydd eu hangen ar waith i'w cadw nhw a'u teuluoedd yn ddiogel. Bydd pobl eisiau gwybod bod Llywodraeth Cymru nid yn unig wedi rhoi'r ddeddfwriaeth ar y llyfr statud, ond yn sicrhau hefyd bod cyllid ar gael; fod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau o ran cyllid yn ogystal; a'n bod yn dod â'r arbenigwyr ynghyd i wneud y tomenni hyn yn ddiogel ac i roi system rybuddio ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu cysgu'n dawel yn eu gwelyau gan wybod eu bod yn ddiogel.
Diolch, Alun. Rydych chi'n hollol iawn, mae angen i ni gyflawni ein hymrwymiad ac rydym wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol nawr, gan gynnwys yn eich ardal chi. Fe wnaethant gyflwyno cais ychwanegol yn syth ar ôl y tirlithriad a welsom yng Nghwmtyleri, ac roeddem yn falch, fel y gwyddoch—a diolch am eich gwaith ar hyn hefyd—o gyhoeddi bod rownd ychwanegol o gyllid wedi'i dyrannu i'r awdurdod ar gyfer y domen honno. Ond rhaid imi ddweud ei fod yn rhan o rywbeth mwy ar draws Cymru.
Felly, yn 2025-26 nawr, rydym yn darparu £34 miliwn i 10 awdurdod lleol ac i CNC i wneud gwaith ar 130 o domenni glo ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys pethau fel mân waith cynnal a chadw i wneud yn siŵr fod sefydlogrwydd yno, i gynigion cyfalaf mawr, yn cynnwys ychydig o dan £6 miliwn ar gyfer un domen nas defnyddir. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym sicrwydd ychwanegol nawr fod gennym Lywodraeth y DU sydd hefyd wedi cydnabod ei chyfrifoldeb. Fe wnaethom ofyn iddynt roi arian cyfatebol i gyd-fynd â'n buddsoddiad yn niogelwch tomenni glo, ac fe wnaethant ddarparu £118 miliwn ychwanegol dros dair blynedd, a dyna'n union beth y gwnaethom ofyn amdano i wneud y gwaith y gwyddem ei fod ar y ffordd. A bydd angen i ni fynd yn ôl a gofyn am fwy wedyn hefyd. Felly, mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm ein gwariant dros £220 miliwn yn y cyfnod presennol.
Ond mae hefyd yn ymwneud â'r arbenigedd, sefydlu'r awdurdod, datblygu arbenigedd sy'n arwain y byd, fel bod pobl o ddifrif yn gallu cysgu'n ddiogel yn eu gwelyau yn y nos, a gwybod, gyda llaw, y byddwn yn arwain ar hyn. Mae yna bobl mewn gwledydd eraill yn edrych ar yr hyn a wnawn. Byddwn yn arwain y ffordd i'w helpu nhw hefyd i gysgu'n ddiogel yn eu gwelyau.
Hoffwn ddiolch i Alun Davies am ofyn y cwestiwn hwn. Ddirprwy Brif Weinidog, mae llawer o bobl sy'n byw yn Ynys-ddu yn bryderus iawn am chwarel Tŷ Llwyd ynghanol yr ofnau ynghylch halogiad. Mae wedi cael ei godi yn y Siambr gennyf i a chyd-Aelodau eisoes. Mae'r safle wedi bod yn destun dympio gwastraff gwenwynig hanesyddol, gyda thrwytholch yn gollwng ac yn llygru'r ardal. Mae cynghorwyr lleol—maent yn annibynnol—sef Jan Jones a Janine Reed wedi bod yn allweddol yn arwain ymdrechion i ddod â'r sefyllfa bryderus hon i ben. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw ar y mater pwysig hwn.
Hyd yma, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwrthod condemnio'r safle sydd wedi'i halogi, ac mae dros flwyddyn wedi bod ers i'r awdurdod lleol gomisiynu adroddiad i edrych ar y chwarel fel un sydd wedi'i halogi. Roedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi'n wreiddiol ym mis Hydref 2024, ond nid ydym wedi clywed unrhyw beth, ac mae'r awdurdod lleol wedi gwrthod ceisiadau gan gynghorwyr i weld copi drafft o'r adroddiad. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog cyngor Caerffili i ryddhau'r adroddiad, ac a wnewch chi gyfarfod â'r Cynghorwyr Jones a Reed i drafod y mater hwn yn y dyfodol? Oherwydd fel y dywedoch chi, mae pawb eisiau gallu cysgu'n dawel. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Cododd chwarel Tŷ Llwyd mewn ymateb cynharach, ac nid wyf am ailadrodd y cyfan a ddywedais, ond mae gennym sefyllfa eisoes lle mae CNC wedi cyflwyno rhybudd statudol i'r cyngor sy'n nodi camau tymor byr go iawn sydd eu hangen i leihau'r risg o lygredd, yn enwedig yn ystod y tywydd gwlyb, oherwydd dyna pryd y cawn y broblem gyda'r trwytholch.
Mae'r cynigion mwy hirdymor yn cael eu datblygu gan y cyngor i fodloni gofynion trwydded CNC wrth iddi gael ei datblygu. Felly, rwy'n ategu'r hyn a ddywedwch wrth yr awdurdod lleol a CNC, fod angen i hyn ddigwydd yn gyflym nawr, fel y gallwn roi tawelwch meddwl i'r trigolion lleol, ond mae'r gwaith yn parhau.
6. Beth yw asesiad diweddaraf yr Ysgrifennydd Cabinet o berfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru? OQ63436
Diolch, Adam. Roeddwn yn siomedig ag asesiad diweddar perfformiad Dŵr Cymru, ond rwy’n croesawu eu hymrwymiad i wella canlyniadau amgylcheddol. Er bod heriau’n parhau, rwy’n falch o weld eu cynlluniau ar gyfer buddsoddi a chydweithio gyda rheoleiddwyr. Gyda’n gilydd, gallwn warchod afonydd a chymunedau Cymru drwy dryloywder, atebolrwydd a chanolbwyntio gyda’n gilydd ar gynaliadwyedd hirdymor.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad diweddaraf CNC yn dangos bod Dŵr Cymru yn gyfrifol am 155 o ddigwyddiadau llygredd yn 2024, yn cynnwys chwe achos difrifol, y cyfanswm uchaf ers 10 mlynedd, a chynnydd o 60 y cant mewn digwyddiadau carthion ers 2021, gan adael y cwmni ar sgôr ddwy seren 'angen gwella' am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac wrth gwrs, cafwyd sawl erlyniad gan CNC, oni chafwyd. Yn y cyd-destun hwnnw ac o gofio ein bod bellach yn symud i system reoleiddio dŵr annibynnol wedi'i harwain yng Nghymru, a wnewch chi gomisiynu adolygiad annibynnol o lywodraethiant ac arweinyddiaeth Dŵr Cymru, oherwydd mae'n amlwg, onid yw, fod model a addawai gymaint bellach wedi torri y tu hwnt i'r gallu i'w adfer?
Yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf cyfarfûm â'r cadeirydd newydd a'r prif weithredwr newydd, Adam, a mynegais fy siom, a siom Llywodraeth Cymru, ynghylch y perfformiad, a'n disgwyliad ein bod am weld Dŵr Cymru yn rhagori ar ran y bobl yma yng Nghymru ar bob dangosydd, yn cynnwys yn ei pherfformiad amgylcheddol. Mae angen iddynt gyflawni ar gyfer cwsmeriaid ac ar gyfer yr amgylchedd. Nid wyf yn siŵr fod angen adolygiad eang arnom i wybod beth yw'r broblem, oherwydd mae'r dangosyddion yn glir iawn ynglŷn â ble mae'r methiannau. Dylai fod cyfle yma os ydym yn symud ymlaen gyda'r hyn sydd wedi'i ddatgelu gan adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol, ein bod yn symud i'r gofod rheoleiddiol hwnnw ein hunain yng Nghymru, oherwydd gallwn ei addasu i'n pwrpas ni wedyn, felly nid rheoleiddiwr economaidd yn unig yn arddull y 1970au ydyw, ond rheoleiddiwr sy'n cael ei yrru gan foeseg ac ethos amgylcheddol hefyd.
Nawr, mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol, ond yma, nawr, dylem fynnu bod Dŵr Cymru yn gwella'r perfformiad. Maent wedi methu cyrraedd sawl targed allweddol ers sawl blwyddyn yn olynol. Rydym eisiau gweld y cynnydd hwnnw, yn enwedig o ystyried eu bod bellach yn cynyddu swm y buddsoddiad, ac mae'r biliau wedi glanio ar garreg y drws i bobl—chi, fi, ein holl etholwyr. Rydym eisiau gweld y cynnydd hwnnw'n dechrau nawr, ac o nawr tan 2030 a'r cyfnod sydd i ddod.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r rheoleiddwyr, gyda llaw, i sicrhau bod atebolrwydd a chanlyniadau gwell hefyd. Felly, rwy'n credu bod gennym gyfle i ailosod ar sail adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol, ond bydd yn cymryd amser i fwrw drwodd â hynny. Bydd angen deddfwriaeth hefyd, ond yma, nawr, dylem fynnu bod Dŵr Cymru yn gwella eu perfformiad lle maent yn methu.
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, Adam. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd fy etholwyr yn synnu bod Dŵr Cymru unwaith eto wedi cael ei frandio fel un o'r cwmnïau dŵr gwaethaf yn y DU. Mae CNC unwaith eto wedi dyfarnu dwy seren i Dŵr Cymru, fel y nododd Adam. Mae gollwng carthion i afonydd Ogwr Fach ac Ogwr yn parhau heb ei reoli, gan brofi'n fygythiad i fflora a ffawna ar hyd eu glannau ac ar draethau cyfagos. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda CNC a Dŵr Cymru am y camau uniongyrchol y gallant eu cymryd i atal gollyngiadau o'r fath yn y dyfodol?
Diolch am y cwestiwn dilynol hwnnw. Gallaf ddweud eto'n glir iawn fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd, gyda'r rheoleiddiwr a Dŵr Cymru a'n cwmni arall, Hafren Dyfrdwy, hefyd, a gyda CNC ar y mater hwn. Yn y cyfarfodydd hynny ac mewn gohebiaeth arall, rydym yn glir ynghylch ein disgwyliad fod angen i'r cwmni dŵr mawr hwn yng Nghymru, Dŵr Cymru, wella ei berfformiad. Rydym hefyd yn dweud yn glir yn ein holl drafodaethau, gyda llaw, oherwydd fe gaiff ei godi'n aml yn y Siambr hon, na ddylid talu tâl perfformiad i arweinwyr Dŵr Cymru oni bai ei fod yn gwella'i berfformiad. Maent yn mynd law yn llaw gyda'i gilydd. Felly, byddwn yn parhau i bwyso arnynt. Maent wedi rhoi sicrwydd eu bod hefyd yn cydnabod bod yn rhaid iddynt wella eu perfformiad, ac fel y dywedais, dylai'r llwybr buddsoddi y maent arno olygu y dylent allu gwella eu perfformiad. Ac rwy'n credu y byddai eich etholwyr a fy etholwyr innau eisiau ei weld yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau yn ninas-ranbarth Bae Abertawe rhag llifogydd? OQ63418
Diolch, Mike. Eleni, rydym wedi ymrwymo dros £77 miliwn i gryfhau gwydnwch rhag llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys £6.9 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau yn rhanbarth bae Abertawe. Rydym yn amcangyfrif y bydd y buddsoddiad hwn mewn 38 o gynlluniau ar draws y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth o fudd i 8,232 eiddo.
Diolch am yr ateb hwnnw. Rydym yn dioddef effaith cynhesu byd-eang a newid yn y tywydd, gyda chyfnodau hir, sych wedi'u dilyn gan law trwm iawn, sy'n arwain at lifogydd, yn cynnwys mewn ardaloedd nad ydynt yn draddodiadol wedi dioddef llifogydd. Nid adeiladu waliau uwch ac uwch yw'r ateb. Un llwyddiant yn Abertawe oedd darparu ardal yn Ynysforgan, ger lle rwy'n byw, y caniateir iddi orlifo ac yna pan fydd lefel yr afon yn gostwng, mae'r dŵr yn dychwelyd i'r afon. A wnaiff Llywodraeth Cymru hyrwyddo plannu coed ar dir uchel yn ninas-ranbarth bae Abertawe er mwyn cyfyngu ar faint o ddŵr glaw sy'n mynd i mewn i'r afonydd a'r nentydd?
Mike, diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'n dangos pa mor bwysig yw mynd i darddiad y problemau hyn a rheoli'r dŵr ar y tir, arafu ei gynnydd i lawr y dyffrynnoedd, ac adfer prosesau naturiol hefyd. Felly, rydym wedi sicrhau bod £2 filiwn ar gael i gefnogi prosiectau pellach ledled Cymru yn 2025-26. Rydym yn frwd iawn ynghylch y rhain. Y gronfa rhwydweithiau natur yw'r mecanwaith allweddol nawr ar gyfer adfer atebion ar sail natur, ac rydym hefyd yn frwd, fel y gwyddoch, ynghylch dulliau cydweithredol yn yr ucheldiroedd i blannu'r goeden iawn yn y lle iawn, gan gynnwys ar hyd glannau afonydd, gan helpu gyda bioamrywiaeth yn ogystal ag arafu llif dŵr i mewn i'r afonydd. Felly, rydym yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer hynny drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac rydym yn awyddus iawn i annog ffermwyr—a gwyddom fod yna awydd am hynny—i weithio gyda'n gilydd i wneud gwelliannau ar eu tir, rhoi'r goeden iawn yn y lle iawn, a helpu'r cymunedau ymhellach i lawr yr afon hefyd. Felly, nid wyf eisiau microreoli unrhyw gynlluniau yn ardal Abertawe, Mike, fel y byddwch yn deall, ond rydym yn sicr yn rhoi'r cymhellion ar waith i hynny ddigwydd.
8. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymunedau y bydd llifogydd yn effeithio arnynt y gaeaf hwn? OQ63423
Diolch, Carolyn. Mae'r stormydd diweddar a gawsom wedi dangos pwysigrwydd ymateb brys cadarn a gwydnwch. Felly, i gydnabod bygythiad stormydd o'r fath, eleni buddsoddodd Llywodraeth Cymru £77 miliwn mewn gweithgareddau gwydnwch rhag llifogydd ledled Cymru. Mae'n ddyraniad uwch nag erioed ar gyfer un flwyddyn ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad di-ildio i ddiogelu pobl Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da i rymuso cymunedau i ddiogelu eu hunain rhag llifogydd, gan gynnwys edrych am broblemau'n gynnar. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ddryswch yn dal i fodoli o ran cyfrifoldeb am ffosydd, cwlfertau a draeniau wedi'u blocio ar dir preifat. Mae llawer o gartrefi yn cael llifogydd o ddŵr ffo oddi ar briffyrdd. O dan gyfraith dorlannol, tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am reoli'r rhain, gan gynnwys ar ochr priffyrdd, felly mae swyddogion draenio a phriffyrdd mewn cynghorau wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth i hysbysu tirfeddianwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, nid cyfrifoldeb y cyngor yn unig. Gellid cyflawni hyn drwy wefan bwrpasol, dosbarthu taflenni gwybodaeth i dirfeddianwyr, a chydweithio rhwng cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru, undebau ffermio a chyrff cynrychioliadol eraill. Mae hyn yn rhywbeth a godais lawer o weithiau gyda chi a hoffwn wybod a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud. Fe wneuthum sôn amdano yn ddiweddar wrth swyddog CNC a ddywedodd, 'Wel, ni sy'n gyfrifol am afonydd; awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddraeniau a ffosydd lleol.' Felly, rwy'n dal i glywed ymatebion nad ydynt yn gadarnhaol.
Mae yna eglurder gwirioneddol ar hyn, ond mae'n ddefnyddiol ei ddweud yma ar lawr y Senedd eto, fod gan dirfeddianwyr unigol sydd â chyrsiau dŵr ar eu tir gyfrifoldeb, ac mae hynny'n cynnwys eu cadw'n glir, cadw strwythurau fel cwlfertau neu sgriniau brigau a goredau a gatiau melin yn glir o falurion. Mae angen iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau ac mae gwybodaeth ar gael i bobl ar wefan CNC. Mae ganddynt ganllawiau cyfredol ar eu gwefan; maent yn hawdd eu deall ac yn glir iawn. Fe wnaethant gynhyrchu dogfen ganllawiau yn flaenorol i esbonio i berchnogion glannau afonydd sut y mae perchnogaeth yn gweithio a sut y gallai effeithio arnynt hwy. Y cam eithaf, wrth gwrs, yw bod camau cyfreithiol y gellir eu dwyn os na chaiff y rhain eu cynnal yn iawn. Ond nid ydym eisiau cyrraedd y fan honno. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw gweithio gyda phobl, helpu i hysbysu ac addysgu, ond wedyn mae angen iddynt hwy ysgwyddo eu cyfrifoldebau.
Rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Rydych chi'n codi hyn yn rheolaidd, ac mae'n un allweddol, oherwydd fel arall, mae awdurdodau lleol ac eraill yn talu'r gost am hyn ymhellach ymlaen, neu'n wir, bydd perchnogion tai neu fusnesau yn talu'r gost pan fydd llifogydd a achosir gan ddiffyg gwaith cynnal a chadw yn difrodi asedau rhywun ar eu tir. Felly, mae'n bwysig ei godi. Byddwn yn parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Rydym yn sicr wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn uniongyrchol wedi i chi godi hyn hefyd, a byddwn yn parhau i wneud hynny, ac yna mae angen i ni barhau i geisio hysbyu tirfeddianwyr unigol fod ganddynt gyfrifoldeb. Mae cyfrifoldebau ynghlwm wrth gwrs dŵr neu nant sy'n rhedeg drwy eu tir.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llifogydd yng ngogledd Cymru? OQ63428
Diolch, Darren. Eleni, rydym wedi sicrhau bod £7.9 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i'r awdurdodau rheoli risg sy'n gweithredu yng ngogledd Cymru. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ac adeiladu 70 o wahanol gynlluniau ar draws y rhanbarth. Ar ôl ei gwblhau, rydym yn amcangyfrif y bydd y gwaith hwn o fudd i 4,622 eiddo.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Brif Weinidog, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar am y buddsoddiad a welais yn fy etholaeth fy hun i geisio lliniaru a lleihau'r risg o lifogydd i eiddo, gan gynnwys cartrefi a busnesau mewn llefydd fel Bae Cinmel a Bae Colwyn. Dros y penwythnos, gwelsom effaith ddinistriol y glaw trwm a ddaeth yn sgil storm Claudia. Roedd llawer o'r effaith i'w deimlo mewn llefydd fel sir Fynwy, ond effeithiwyd ar rannau eraill o Gymru hefyd, er mewn ffordd lai ac i raddau llai, gyda llifogydd lleol mewn llefydd fel y Rhyl, Prestatyn a rhannau eraill o ogledd Cymru, mewn ardaloedd sy'n agos at fy nghalon. A allwch chi ddweud wrthym pa adnoddau rydych chi'n eu darparu i'r bobl hynny, y cartrefi a'r perchnogion busnes yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd yn yr ardaloedd hynny hefyd? Oherwydd mae angen llawn cymaint o gefnogaeth arnynt hwy, ac mae wedi bod yr un mor ddinistriol iddynt hwy â'r llifogydd mwy eang mewn rhannau eraill o Gymru.
Diolch, Darren. Rydych chi'n gwybod ein bod ni yn llythrennol wrth i ni siarad, ac ers y datganiad a wneuthum ddoe, yn gweithio drwy fanylion y cymorth y gallwn ei ddarparu. Mae rhywfaint o hyn yn gysylltiedig â chyllid y cynllun cymorth ariannol brys, sy'n cael ei sbarduno ar drothwy penodol. Felly, gobeithio, yn fuan iawn, y gallwn—. Gyda llaw, rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol mewn trafodaethau uniongyrchol ar hyn o bryd gyda'r holl awdurdodau lleol, a hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Rydym yn siarad â'r holl awdurdodau lleol lle gwelwyd effaith, nid yn unig y rhai yn Nhrefynwy a sir Gaerfyrddin, ond ledled Cymru. Mae rhai o'r effeithiau'n llai mewn rhai mannau na mewn mannau eraill, ond nid ydynt yn llai dinistriol i fusnes neu aelwyd unigol.
Pan fyddwn wedi gwneud yr asesiad hwnnw, fe allwn—. Rwyf wedi dweud y byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod nid yn unig yn gadael i arweinwyr awdurdodau lleol wybod ac yn y blaen, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i Aelodau unigol o'r Senedd beth a gyflwynir gennym. Yn flaenorol, rydym wedi ceisio defnyddio pob cyfle o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda chyllid y cynllun cymorth ariannol brys, a gweld hefyd a oes ffyrdd eraill y gallwn gynorthwyo. Felly, os gallwch fod yn amyneddgar am ychydig bach iawn, dylem allu cyflwyno'r hyn a wnawn i gefnogi, nid yn unig yn sir Fynwy a sir Gaerfyrddin, ond ledled Cymru gyfan, gan gydnabod bod effeithiau gwahanol wedi bod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 sydd nesaf—cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar blismona yng Nghymru? TQ1403
Diolch yn fawr, Mick Antoniw. Hoffwn ddiolch, yn gyntaf oll, i'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru am y rôl allweddol y maent yn ei chwarae. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi cyfle i ystyried y trefniadau gorau i Gymru, gan gynnwys y cyfle i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatganoli plismona i Gymru.
Diolch am yr ateb hwnnw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r comisiynwyr heddlu a throseddu etholedig yng Nghymru, a'u holl staff, am yr ymrwymiad a'r gwaith y maent wedi'i wneud i gefnogi'r heddlu a'n cymunedau. Maent wedi gweithio'n galed a heb amheuaeth, byddant yn parhau i wneud hynny tan 2028. Rwy'n credu bod creu comisiynwyr heddlu a throseddu bob amser wedi'i dynghedu i fethu yn y pen draw. Roedd yn gysyniad na chafodd ei ystyried yn drylwyr a luniwyd ar gefn pecyn sigaréts i dynnu sylw oddi ar y toriadau enfawr a welwyd ym maes plismona, a arweiniodd at doriad o oddeutu 20,000 o swyddogion o heddluoedd ledled y Deyrnas Unedig dan law'r Llywodraeth ddiwethaf.
Nid y comisiynwyr heddlu a throseddu etholedig yng Nghymru, megis Alun Michael, Jeff Cuthbert, Andy Dunbobbin a llawer o rai eraill oedd yn gyfrifol am lunio'r cynllun, ond fe wnaethant bopeth a allent i wneud iddo weithio, ac mewn rhai ardaloedd, cawsant lwyddiannau rhagorol. Fodd bynnag, rwy'n cytuno â chi: mae gennym gyfle nawr i ddiwygio a datganoli plismona, gyda chefnogaeth eang ac rydym wedi bod yn galw am hynny ers blynyddoedd lawer. Yn aml, mae ein cymunedau'n synnu pan fyddwn yn mynychu cyfarfodydd llawn ac yn eu hysbysu nad yw plismona wedi'i ddatganoli, er ei fod wedi ei integreiddio'n sylfaenol â chymaint o swyddogaethau datganoledig eraill: iechyd meddwl, diogelwch cymunedol, ymladd ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig ac yn y blaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Ysgrifennydd y Swyddfa Gartref y bydd y diwygiadau'n gwneud plismona yn atebol i feiri a chynghorau lleol. Yr unig ffordd y gall hyn weithio'n effeithiol yng Nghymru yw drwy ddatganoli plismona. Darllenais y datganiad gan Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sy'n dweud:
'Byddant yn gyfrifol am ddwyn yr heddlu i gyfrif, gosod cynlluniau a chyllidebau heddlu a throseddu ac yn dod yn llais etholedig y cyhoedd mewn plismona.'
Roedd y methiant i ddatganoli plismona yn flaenorol yn weithred o anhyblygrwydd gwleidyddol gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na pholisi ymarferol, ond mae gennym gyfle nawr i gywiro'r anghysondeb hwnnw. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymryd rhan mewn trafodaethau brys gyda'r Ysgrifennydd Cartref i sicrhau bod plismona'n cael ei ddatganoli ar frys i Gymru, fel y bwriedir ei wneud yn Lloegr ac fel sydd eisoes wedi digwydd mewn rhannau o Loegr?
Diolch yn fawr, Mick Antoniw. Yn gyntaf oll, a gaf i, fel y dywedais yn fy ymateb agoriadol, ddiolch eto i'n comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn dwyn ein heddluoedd i gyfrif, yn ogystal â llunio blaenoriaethau lleol a chynrychioli lleisiau ein cymunedau? Rydych chi wedi sôn am y comisiynwyr heddlu a throseddu Alun Michael, Jeff Cuthbert ac Andy Dunbobbin. A gaf i hefyd gydnabod gwaith y comisiynwyr heddlu a throseddu presennol, Dafydd Llywelyn, Emma Wools a Jane Mudd, yn ogystal ag Andy Dunbobbin?
Rwyf eisoes wedi siarad â'r Gweinidog plismona, ac wedi ysgrifennu ati. Mae'n dda fod y Swyddfa Gartref wedi cydnabod y gwahanol drefniadau llywodraethu rhwng Cymru a Lloegr ac wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru. Ein barn ni yw y gallwn adeiladu ar strwythurau sefydledig uchel eu parch ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, megis bwrdd partneriaeth plismona presennol Cymru. Hefyd, wrth inni weithio ar y ffordd ymlaen, mae'n gweithio mewn partneriaeth â'n comisiynwyr heddlu a throseddu yn bennaf, ein bwrdd partneriaeth, llywodraeth leol, rhanddeiliaid allweddol eraill, i ddatblygu'r trefniadau llywodraethu a'r prosesau craffu mwyaf addas ar gyfer plismona lleol yng Nghymru.
Fel y soniais, mae'r bwrdd partneriaeth plismona eisoes yn darparu rhyw raddau o atebolrwydd i'r Senedd, felly mae'n rhywbeth y gallem adeiladu arno mewn Senedd yn y dyfodol, yn hytrach nag adeiladu strwythurau cwbl newydd. Y prif beth yw bod yn rhaid i swyddogaethau allweddol sy'n cael eu gweithredu gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru ar hyn o bryd barhau i gael eu gweithredu yng Nghymru. Mae'r sgwrs a ddechreuwyd gennym gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â sut y mae hynny'n digwydd, nid ynglŷn ag a yw'n digwydd ai peidio.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch yn iawn, mae diddymu comisiynwyr heddlu a throseddu yn golygu y bydd eu pwerau'n cael eu trosglwyddo i gynghorau lleol, a bydd yn rhaid iddynt greu byrddau plismona a throseddu newydd, dan arweiniad naill ai arweinydd y cyngor neu, lle bo'n bosib, dan arweiniad meiri. O gofio bod 22 o gynghorau sir a phedwar awdurdod heddlu yng Nghymru, fe fydd yn golygu y bydd pob awdurdod heddlu'n cael ei oruchwylio gan sawl cyngor, sy'n debygol o fod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ynghylch blaenoriaethau plismona yn eu hardal.
O ystyried yr ystod o faterion pwysig y mae angen i arweinwyr cynghorau ganolbwyntio arnynt, nid wyf yn siŵr sut y gallant neilltuo digon o amser i graffu'n iawn ar blismona ar ei ffurf bresennol, ac felly gallaf weld senario lle bydd yn rhaid iddynt gyflogi bron yr un tîm ag y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu eisoes yn ei wneud. Gyda hyn mewn golwg, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Swyddfa Gartref ynglŷn â sut y bydd y byrddau plismona a throseddu hyn yn gweithio, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd eu gwaith yn hygyrch ac yn weladwy i'r cyhoedd yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais, rydym yn croesawu'r ffaith bod y Swyddfa Gartref wedi cydnabod y gwahanol drefniadau llywodraethu rhwng Cymru a Lloegr ac wedi ymrwymo i weithio gyda ni. Yr wythnos diwethaf y gwnaed y cyhoeddiad, ac wrth gwrs yr ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru yw'r ffordd rydym yn ymateb. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn heddiw gan Mick Antoniw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar—. Fel y dywedoch chi, mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr, bydd swyddogaethau comisiynwyr heddlu a throseddu yn trosglwyddo i feiri. Wel, nid oes dim sy'n cyfateb i feiri yn strwythurau democrataidd Cymru, felly mae angen dull gwahanol o ymdrin ag atebolrwydd yr heddlu. Fel y dywedais yn fy ymateb, dyna pam fod hyn yn rhoi cyfle i ni symud ymlaen â'r broses o ddatganoli plismona i Gymru, a nawr y mae'r trafodaethau hynny'n dechrau.
Rydym yn falch o'r partneriaethau rydym wedi'u hadeiladu gyda'r heddlu a rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol eraill yng Nghymru, ac rydym yn gweithio'n gydweithredol. Prif bwrpas hyn i gyd, y pwrpas unedig, yw cadw Cymru'n ddiogel a gwasanaethu ein cymunedau. Mae ein perthynas â phartneriaid mewn llywodraeth leol a phlismona yng Nghymru yn gryf, ac wrth gwrs, wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i ddod o hyd i ffordd ymlaen ac yn ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref i'r perwyl hwnnw.
Pam y mae Llywodraeth y DU, gyda diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu, eisoes wedi nodi ei bod yn mynd i drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i feiri a etholir yn uniongyrchol lle maent yn bodoli yn Lloegr, ond pan ddaw'n fater o drosglwyddo cyfrifoldeb i'r Senedd a etholir yn uniongyrchol yng Nghymru, gallwch glywed grwn y traed yn llusgo yn San Steffan? Pam y mae Llywodraeth Lafur y DU mor amharod i ymddiried yn nemocratiaeth Cymru?
A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn glir ynglŷn â hyn? Oherwydd mae dau fodel yn cael eu cynnig yn Lloegr, un lle ceir meiri, lle mae cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r maer, a lle nad oes meiri, ceir byrddau heddlu a throseddu gydag awdurdodau lleol ac arweinydd plismona cyflogedig, dirprwy arweinydd ar y cyngor ac ati. Ai dyna'r model y mae'n ei gynnig ar gyfer Cymru, neu a yw'n gyfrifoldeb a roddir i fwrdd plismona cenedlaethol ar gyfer Cymru, sydd eisoes yn bodoli, a Gweinidog plismona a chyfiawnder ar gyfer Cymru?
O ystyried bod gan y comisiynwyr heddlu a throseddu, er enghraifft, rôl allweddol yn y gwaith o atal troseddu, a yw'n gweld cyfle i Gymru, o ystyried y gwaith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn ar fodel lleihau trais Caerdydd gan Heddlu De Cymru a'r comisiynydd heddlu a throseddu? A oes cyfle i Lywodraeth Cymru greu asiantaeth atal troseddu genedlaethol, fel y gallwn ddechrau cyflawni canlyniadau gwell i'n cymunedau yn ein ffordd ni yma?
Diolch yn fawr, Adam Price. Trefniadau ar gyfer Lloegr yw'r trefniadau sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth y DU, ac maent yn seiliedig ar strategaethau sy'n bodoli'n barod. Fel y dywedais, nid oes gennym unrhyw beth sy'n cyfateb i'r meiri yn ein strwythurau democrataidd yng Nghymru, felly, fel y dywedais—ac rwyf wedi'i ddweud yn glir—mae angen dull gwahanol o weithredu ar atebolrwydd yr heddlu yng Nghymru. Dyna pam y mae cyfle gwirioneddol yma, fel y dywedwch. Dyna pam rwy'n dweud y dylem fachu ar y cyfle. Bydd y cyfle hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys cyfle i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatganoli plismona yng Nghymru. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod bod yna gyfleoedd, fel y dywedais eisoes.
Eisoes, mae gennym fwrdd partneriaeth plismona ar gyfer Cymru. Mae'n ddiddorol—rwy'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth hwnnw. Mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu'n aelodau ohono, ochr yn ochr â'r prif gwnstabliaid, ynghyd â chynrychiolaeth o lywodraeth leol hefyd, felly mae gennym bartneriaid allweddol. Yn wir, mae'r Swyddfa Gartref hefyd yn mynychu'r bwrdd partneriaeth, fel y mae Swyddfa Cymru. Mae eisoes yn strwythur gweithredol cryf iawn y gallwn adeiladu arno. Roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod wedi cyfarfod â'n comisiynwyr heddlu a throseddu yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Rwyf am ddweud unwaith eto fy mod yn werthfawrogol iawn o'u gwaith caled a'r hyn a gyflawnant dros Gymru.
Ond ar eich pwynt chi am eu rôl yn diogelu cymunedau ac atal troseddu, mae gennym uned atal trais. Rydym yn arwain y ffordd mewn sawl ffordd beth bynnag, oherwydd y gwaith cydweithredol a wnawn. Mae ein comisiynwyr heddlu a throseddu'n chwarae rhan allweddol yn dwyn ein heddluoedd i gyfrif. Ond maent yn helpu i lunio blaenoriaethau lleol ac yn cynrychioli lleisiau ein cymunedau. Yn ddiweddar, er enghraifft, mynychais ddigwyddiad ysbrydoledig iawn dan arweiniad y comisiynydd heddlu a throseddu Emma Wools, sef cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc yn ardal Heddlu De Cymru. Wrth gwrs, roedd plant a phobl ifanc hefyd yn bresennol, oherwydd ei bod wedi ymgysylltu â nhw. Mae hi hefyd yn cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth strategol ar gyfer trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig gyda mi, ac mae ganddi ran fawr yn y gwaith ar y strategaeth cyfiawnder troseddol ar wrth-hiliaeth a ddatblygwyd yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod gennym gyfle go iawn. Gallwn ddangos y cynnydd, gallwn ddangos y cyfrifoldebau a ysgwyddir gennym. Yr hyn sy'n hanfodol yw ein bod yn sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny o ran atebolrwydd, tryloywder a'r gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn ganolog yn ein model newydd.
Credaf ei bod yn gwbl amlwg nad oedd y Swyddfa Gartref wedi rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i sefyllfa Cymru pan wnaethpwyd a phan gyhoeddwyd y penderfyniad hwn, ac ymddengys eu bod wedi synnu braidd fod gennym ein trefniadau a'n democratiaeth ein hunain yma. Mae'n bwysig, felly, fod y ddemocratiaeth honno'n cael ei chwblhau gyda datganoli plismona, fel y gallwn, ynghyd â llywodraeth leol, ddarparu atebolrwydd uniongyrchol am weithredoedd heddluoedd ledled Cymru. Mae'n bwysig fod llywodraeth leol yn ymgysylltu, ac yn dod i ymgysylltu mwy, ag atebolrwydd am blismona lleol, sydd wedyn yn gorfod gweithio yng nghyd-destun darparu'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnull grŵp o bobl nawr i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatganoli plismona, fel y gall hyn ddigwydd cyn gynted â phosib.
Diolch yn fawr, Alun Davies. Nid wyf eisiau ailadrodd fy hun eto, ond mae'n bwysig cydnabod hefyd a rhoi sicrwydd i chi fy mod wedi ailadrodd wrth Weinidogion Llywodraeth y DU ein bod yn cymryd camau yng Nghymru i sicrhau nad yw trefniadau ar gyfer y dyfodol—gan nad oes gennym y maeryddiaethau yng Nghymru; nid yw'n bosib gwneud hynny yng Nghymru—yn effeithio'n annheg ar ein tirlun plismona, gan gynnwys, rhywbeth nad yw wedi'i grybwyll, dyrannu cyllid a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Dylwn ddweud, yn fy llythyr at y Gweinidog plismona, rwy'n dweud, ac rwyf am ei ailadrodd i chi: 'Fel y gwyddoch, mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd ymrwymiad hirsefydlog i ddatganoli plismona yng Nghymru. Rydym yn fwy na pharod i rannu ein syniadau gyda chi o ran y camau y gellid eu cymryd i ddatganoli pwerau a chyfrifoldebau pellach i Gymru.' Wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys ymgysylltu â llywodraeth leol, comisiynwyr heddlu a throseddu a rhanddeiliaid eraill.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel llawer o bobl eraill, rwy'n falch o'r penderfyniad hwn, ond hoffwn gofnodi pa mor falch wyf i o fod wedi gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, sydd, ar sawl achlysur, wedi gweithio gyda mi wrth ymgysylltu â'r gymuned. Rydym am weld unrhyw arbedion yn cael eu buddsoddi'n uniongyrchol mewn plismona rheng flaen, yn enwedig yn y gymuned a'n timau troseddau cefn gwlad. Ond y prif bwynt roeddwn am ei godi heddiw, pwynt rydych wedi'i glywed dro ar ôl tro, yw ei fod yn teimlo ar goll braidd, yr amserlen a'r targed ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i ni yma yng Nghymru. Gwyddom fod nifer o drafodaethau a chyfarfodydd wedi bod, ond tybed a gaf ofyn i chi—a allem gael datganiad yma i'r Senedd ar yr amserlen a'r terfyn amser ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder troseddol? A wnewch chi nodi hynny'n glir iawn i ni? Oherwydd mae'n teimlo fel pe baem yn colli'r ysgogiad yma, a gwyddom pa mor hir y gall y pethau hyn ei gymryd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwyf wedi rhoi cydnabyddiaeth i'r holl gomisiynwyr heddlu a throseddu, y rhai presennol a'r rhai mwyaf diweddar, am y gwaith a wnânt. Wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, maent wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio blaenoriaethau lleol, gan gynrychioli lleisiau ein cymunedau, ac yn wir, ymgysylltu â ni fel cynrychiolwyr etholedig. Hoffwn roi sicrwydd i chi hefyd, gan imi eu cyfarfod yr wythnos diwethaf pan wnaed y cyhoeddiad hwn, eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau â'r gwaith pwysig hwnnw drwy gydol y cyfnod pontio hwn.
Yn amlwg, mae'r cyhoeddiad hwn, er y gall godi pryderon, hefyd yn cynnig cyfleoedd, onid yw? Dyna pam fy mod yn falch o ddweud ei fod yn rhoi cyfle inni barhau i weithio ac i ddadlau'r achos eto, fel rydym wedi galw amdano ac yr ydym wedi ymrwymo iddo, dros fwrw ymlaen â datganoli plismona yng Nghymru. Credaf y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â'r cynnydd, a byddem yn sicr yn fwy na pharod i wneud hynny, ac wrth gwrs, ochr yn ochr â'r Dirprwy Brif Weinidog, sydd hefyd yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol. Gwn y bydd yn awyddus i roi rhagor o'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf fel rhan o'r ymrwymiad sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru.
Rwyf innau'n croesawu'r cyhoeddiad hwn. Ni phleidleisiais dros y comisiynwyr heddlu a throseddu yn yr etholiad cyntaf, gan fy mod yn poeni, gyda nifer fach o bobl yn pleidleisio, y gallai poblyddwr â slogan deniadol chwarae rhan ddylanwadol iawn yn wir, a gwelsom gomisiynwyr heddlu a throseddu camu dros ffiniau eu rôl ddylanwadol. Pan ystyriwch y nifer anhygoel o isel a bleidleisiodd, llai nag 20 y cant, mae'n deg dweud nad yw'r cyhoedd wedi croesawu'r arbrawf gwleidyddol drud hwn. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, fel rydych chi eisoes wedi dweud, Drefnydd, rhaid inni gydnabod yr ymgysylltu cymunedol y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi'i wneud a'r gwaith a wnânt gyda phobl agored i niwed. Bydd angen llenwi'r bwlch hwnnw.
Wrth gwrs, fel rydych chi eisoes wedi sôn, gyda'r praesept a chyfraniad Llywodraeth Cymru, mae bron i 73 y cant o gyllid yr heddlu eisoes yn dod o Gymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Drefnydd—byddai ateb 'do' neu 'naddo' yn ddigon—a ymgynghorwyd â chi? Oherwydd eich rôl ddylanwadol iawn, a ymgynghorwyd â chi cyn y cyhoeddiad hwn? Oherwydd nid yw'n ymddangos bod sefyllfa unigryw Cymru wedi cael ei hystyried o gwbl. Mae hwn yn gyfle perffaith i edrych ar blismona yn ei gyfanrwydd yng Nghymru: un heddlu, efallai, sy'n atebol i Weinidog cyfiawnder yma yn y Senedd. Diolch yn fawr.
Wrth gwrs, rwyf newydd wneud sylwadau ar ein huchelgais ar gyfer datganoli cyfiawnder yn ei ystyr lawn i Gymru. Fe wnaeth comisiwn Thomas ei nodi mor glir i ni, oni wnaeth? Ond mae hefyd yn ddiddorol, o ran datganoli plismona, fod hynny wedi'i gefnogi gan gomisiwn trawsbleidiol Silk, a oedd mewn gwirionedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bleidiau ar draws y Senedd hon. Ac yn wir, mae hyn yn rhywbeth y mae ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi'i nodi fel ymrwymiad maniffesto.
Felly, naddo, nid ymgynghorwyd â mi ynglŷn â'r penderfyniad hwn; dywedwyd wrthyf am y penderfyniad. Ond rhaid imi ddweud, unwaith eto, mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn, o ran y strwythurau democrataidd a'r trefniadau atebolrwydd plismona y gallent fod eisiau eu datblygu yn Lloegr. Ond i ni yng Nghymru nawr, fy ymateb uniongyrchol oedd cyfarfod â'n comisiynwyr heddlu a throseddu i roi sicrwydd iddynt, gan fod angen inni edrych ar eu rôl, a rôl eu timau hefyd—mae ganddynt gyllideb y maent wedi bod yn ei hariannu ac maent yn chwarae rhan allweddol o ran rolau a chyfrifoldebau, gan gynnwys cynlluniau heddlu a throseddu ar gyfer y flwyddyn ariannol, yn ogystal â'r blaenoriaethau hynny. Felly, rwy'n gweithio gyda nhw i sicrhau y gallwn symud ymlaen mewn partneriaeth ac ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddadlau'r achos yn glir iawn dros ddatganoli plismona i Gymru.
Rwy'n llwyr yn erbyn datganoli plismona yma i'r Senedd, ond Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod faint y byddai hyn yn ei gostio i Lywodraeth Cymru, pe byddem yn datganoli plismona yma i Gymru. Faint y byddai'n ei gostio i drethdalwyr Cymru, ac o ran costau gwasanaethau canolog i Lywodraeth Cymru? A ydych chi'n credu y byddai cyllid canlyniadol Barnett, gan mai dyna sut y byddai'n cael ei ariannu mae'n debyg, yn talu cost lawn plismona yma ledled Cymru? Oherwydd ni chredaf y byddai, ac rwy'n credu, yn y pen draw, y byddai gennym wasanaeth gwaeth na'r hyn sydd gennym nawr.
Rwy'n cofio cael dadl dda iawn yma yn y Senedd ynglŷn â datganoli plismona, a basiwyd gan y Senedd hon. Credaf fod mwyafrif blaengar y Senedd hon wedi pleidleisio o blaid datganoli plismona. Ac wrth gwrs, mae Rhys ab Owen wedi gwneud y pwynt am y cyllid. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod y Llywodraeth hon, ynghyd â'r Swyddfa Gartref, wedi ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Dros y blynyddoedd, bu cannoedd o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd, yn ein cymunedau, yn gweithredu fel wyneb plismona, ac maent mor bwysig i ni. Ac fe wnaethom ddiogelu a darparu'r cymorth ataliol hwnnw yn y cymunedau yn y cyfnod pan dorrodd eich Llywodraeth chi, fel y dywedodd Mick Antoniw, 20,000 o swyddogion o heddluoedd ledled y DU.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd yr ail gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad gorsaf bŵer niwclear adweithydd modiwlar bach gyntaf y DU yn Wylfa? TQ1406
Rydym wedi bod yn dadlau'n ddiflino dros fuddsoddiad yn ynni niwclear y genhedlaeth nesaf yn Wylfa. Dylai'r cyhoeddiad hwn roi hyder gwirioneddol i bobl ifanc, gweithlu'r dyfodol, pobl Ynys Môn a chwmnïau ein cadwyn gyflenwi.
Diolch am yr ymateb yna. Mae'r newyddion am fuddsoddiad newydd yn safle Wylfa wrth gwrs yn un arwyddocaol iawn i bobl ar Ynys Môn, ond hefyd ar draws Cymru. Nid penderfyniad sydd wedi cael ei wneud dros dro ydy o. Mae'r cyhoeddiad yn adlewyrchu blynyddoedd lawer o waith, a dwi'n cynnwys Llywodraeth Cymru yn hynny, ond yn lleol hefyd fusnesau a chymunedau Ynys Môn, cynrychiolwyr etholedig o bob plaid dros y blynyddoedd a rôl allweddol Cyngor Sir Ynys Môn yn hynny.
Mi fydd yna rai, heb os, yn ein hatgoffa ni ein bod ni wedi bod yn y fan hyn o'r blaen. Felly, does prin angen imi ddweud bod pobl yn gofyn am sicrwydd rŵan y bydd y cynlluniau yma yn cael eu gwireddu. Felly, (1), gaf i holi yr Ysgrifennydd Cabinet am y lefel o sicrwydd sydd wedi cael ei roi, i osgoi y math o un cam ymlaen, un cam yn ôl dŷn ni wedi ei wynebu yn y gorffennol?
Dwi, mewn dros ddegawd o gynrychioli Ynys Môn, wedi bod yn rhan o waith trylwyr iawn yn y gorffennol i drio sicrhau bod y cynllun blaenorol yn un a fyddai'n gweithio i ni fel ynys. Felly, mae gennym ni gryn brofiad, wrth gwrs, o ddatblygu cynllun fel hyn, ac adeiladu ar hynny sydd yn bwysig rŵan yng nghyd-destun y cynllun newydd yma.
I grynhoi, (1), mae angen gwneud y mwyaf o'r cyfleon—swyddi lleol, buddsoddiad yn y cadwyni cyflenwi, cryfhau isadeiledd, gan gynnwys croesiad y Fenai. A (2), mae angen lliniaru a rhoi cymorth lle mae yna heriau—pwysau ar y farchnad dai yn lleol, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, pwysau ar y gwasanaethau brys, pwysau ar isadeiledd.
Byddwn i'n gwneud y pwynt, yn hynny o beth, fod eisiau tynnu'r pwysau oddi ar y rhwydwaith dosbarthu ynni yn lleol drwy beidio â chaniatáu cynlluniau solar mawr a symud tuag at gynlluniau llai a mwy cymunedol eu naws. Ond efo'r materion yma i gyd, dwi eisiau gwneud y pwynt fy mod i'n credu bod gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae, ochr yn ochr â phartneriaid eraill.
Mae'n wirioneddol bwysig, o'r cychwyn cyntaf, fod y gymuned leol yn teimlo eu bod yn bartneriaid go iawn yn hyn, nad yw'n rhywbeth sy'n digwydd iddynt. Felly, gan wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfeirio at nifer o faterion—sicrhau cymaint o swyddi lleol â phosib, uwchsgilio a datblygu'r gadwyn gyflenwi a sicrhau mesurau lliniaru a chymorth tai, gwasanaethau cyhoeddus a phwysau o'r fath—a gaf i ofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan yn llawn, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a phartneriaid lleol, i sicrhau bod y prosiect hwn yn un sydd o ddifrif yn gweithio er budd y gymuned y bydd wedi'i leoli ynddi?
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn y prynhawn yma. Hoffwn gydnabod hefyd fod hyn yn ganlyniad i flynyddoedd mawr o waith caled gan Lywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr lleol, a'r cyngor lleol hefyd. Felly, rwyf eisiau cydnabod hynny. Rwy'n cofio, mewn rôl flaenorol amser maith yn ôl, pan oeddwn yn Weinidog Tai ac Adfywio, fe wnaethom dreulio peth amser ar y pryd yn ceisio deall sut olwg a fyddai ar yr heriau ym maes tai. Mewn gwirionedd, mae'r ffaith ein bod wedi wynebu'r heriau hyn o'r blaen yn ddefnyddiol, mewn ffordd, yn yr ystyr ein bod wedi gwneud llawer o'r gwaith, llawer o'r meddwl, ynglŷn â’r hyn y byddai'n ei gymryd i wireddu prosiect fel hwn. Mae gennym lawer y gallwn edrych arno eisoes o ran gwaith a wnaed yn y gorffennol. Rwy'n credu bod hynny oll yn gadarnhaol iawn.
O ran lefelau sicrwydd, credaf fod Prif Weinidog y DU, wrth wneud y cyhoeddiad, yn awyddus iawn i ddarparu'r lefel honno o sicrwydd. Siaradodd am amseriad y prosiect gyda Rolls-Royce yn parhau nawr gyda'r gymeradwyaeth reoleiddiol. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yn 2026, gan ddechrau, mwy na thebyg, gydag ymchwiliadau safle pellach. Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer y gwaith o glirio'r safle, ond yr uchelgais yw i Wylfa fod yn cyflenwi pŵer i'r grid erbyn canol y 2030au.
Mae trafodaethau ynglŷn â'r contract terfynol yn dal i fynd rhagddynt. Disgwylir iddynt gael eu cwblhau cyn diwedd eleni, pan fyddwn yn gwybod am fanylion y cytundebau rhwng Great British Energy Nuclear a Rolls-Royce SMR. Yna, gall y paratoadau manwl ddechrau gyda'r holl randdeiliaid.
Ond rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu imi nodi mewn ymateb i'r cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf, fod gweithio mewn partneriaeth yn wirioneddol allweddol yn y maes hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys partneriaeth â'r gymuned leol.
Ynni niwclear newydd yw'r dechnoleg fwyaf dibynadwy sydd ar gael ar hyn o bryd o ran cynhyrchu ynni carbon isel glân, ac rydym yn croesawu diwrnod hanesyddol Rolls-Royce SMR a'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Geidwadol y DU—eich Llywodraeth chi, dylwn ddweud—mai ymrwymiad a etifeddwyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU yw hwn i raddau helaeth. Mae'n eithaf rhagrithiol, yn fy marn i, fod pleidiau eraill yn hawlio clod, pan fo'n rhaid inni ddiolch i Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.
Gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan y bydd yn darparu hwb unwaith mewn cenhedlaeth i swyddi, cadwyni cyflenwi a seilwaith rhanbarthol, rwy'n falch fod Llywodraeth y DU wedi bod â'r synnwyr i roi'r golau gwyrdd i hyn. Mae'r porthladd rhydd ar Ynys Môn yn dyst anhygoel arall i Lywodraeth Geidwadol y DU a'i hymrwymiad i ddod â chyfoeth economaidd i Ynys Môn. Yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at yr angen am gydweithredu agos rhwng Coleg Menai, Coleg Llandrillo, eich Llywodraeth chi a Phrifysgol Bangor i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr hyd at 3,000 o swyddi a fydd yn cael eu creu.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n chwilio am ddiweddariad, mewn gwirionedd, ar ba strategaethau sydd gennych ar waith i ddatblygu'r swyddi mawr eu hangen hyn, faint o gymelliadau ar gyfer datblygu sgiliau gwyrdd sydd ar waith, a faint yn union o swyddi a fydd yn cael eu creu? Efallai y bydd yn anodd ichi nodi ffigur, ond efallai y gallech roi gwybod i ni mewn datganiad rywbryd sut y bwriadwch fwrw ymlaen â'r gwaith i sicrhau ein bod yn cael y swyddi crefftus gwyrdd hynny.
Nawr, un peth sy'n peri pryder i mi, ac sydd wedi'i godi gyda mi, yw sut y bydd swyddi crefftus yn cael eu creu rhwng nawr a dechrau'r prosiect, a hefyd sut y bydd gweithwyr—. Fel y mae Rhun wedi'i nodi'n gywir ddigon, mae'n rhaid i hyn fod o fudd i bobl Ynys Môn a gogledd Cymru. Nawr, mae'r orsaf agosaf at Wylfa 11 milltir i ffwrdd, yn y Fali. Mae angen i staff allu teithio'n hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hynny'n anodd ar hyn o bryd. Mae angen inni weld gwasanaethau trenau a bysiau wedi'u halinio. Mae angen inni sicrhau y gall gweithwyr ar Ynys Môn fynd i'r gwaith. Mae angen inni ystyried y rhai a fydd yn gorfod gyrru o'r tir mawr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y cynnydd sylweddol a welwn yn y defnydd o ffyrdd ar yr ynys, i mewn ac allan, a wnewch chi roi camau brys ar waith? A wnewch chi ddatganiad ar drydedd bont y Fenai, a gweithio gyda Chyngor Ynys Môn a Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus fanwl ar waith gyda mynediad i Wylfa yn sail iddi, ac un sy'n darparu'n wirioneddol ar gyfer y bobl sy'n byw yn y pentrefi hynny ar Ynys Môn? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac yn enwedig y pryder fod yn rhaid i bobl leol elwa o'r swyddi a fydd yn cael eu creu. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi'n glir fod y prosiect hwn yn rhan gwbl allweddol o'i strategaeth ddiwydiannol, a dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yn y wlad. Yn y cyfnod adeiladu, disgwylir iddo greu hyd at—dros, esgusodwch fi—3,000 o swyddi adeiladu yn y gymuned. Ond pan ddaw'n weithredol, byddai pob adweithydd—a'r bwriad yn y lle cyntaf yw y bydd tri adweithydd, ond gallai'r nifer hwnnw gynyddu i hyd at wyth yn y dyfodol—byddai angen oddeutu 300 o staff cymwys iawn ar bob adweithydd i weithredu am y 60 mlynedd ddilynol. Felly, caiff nifer sylweddol o swyddi eu creu'n lleol, a hynny o ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol iawn.
Y buddsoddiad cychwynnol yw £2.5 biliwn ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, gyda buddsoddiad pellach i ddilyn wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt rhwng Great British Energy—Nuclear a Rolls-Royce SMR. Credaf fod hynny oll yn hynod gadarnhaol. Disgwylir i'r gwaith o gydosod modiwlau ar y safle gymryd tair i bedair blynedd, ac mae hynny o gymharu â 10 mlynedd ar gyfer gorsafoedd ar raddfa fawr. Felly, unwaith eto, credaf fod hyn yn dangos y gellir teimlo'r manteision yn gyflym iawn, gyda gwaith ar y safle, fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf, yn dechrau yn y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n credu y gwelwn bethau'n digwydd yn eithaf cyflym ar hyn, sy'n wych.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn awyddus iawn inni fod mewn sefyllfa, unwaith eto, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn elwa o'r manteision. Mae wedi sefydlu bwrdd prosiect o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn dwyn ynghyd yr holl dimau angenrheidiol y bydd angen iddynt weithio gyda'i gilydd i sicrhau'r llwyddiant gorau. Felly, mae hynny'n golygu gweithio ar draws sgiliau, tai, seilwaith ac yn y blaen. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud yn y gorffennol, mewn perthynas â thrydedd bont y Fenai, pe bai datblygiadau'n mynd rhagddynt ar Wylfa, y byddai hynny'n gwneud yr achos dros bont arall yn fwy cymhellol. Felly, bydd llawer iawn i ni ei ystyried nawr o ran sut yr awn ati i wneud y gorau o'r cyfle enfawr hwn i Gymru, a llawer o ystyriaethau ar draws gwahanol adrannau. Ond rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog eisoes, bron ar yr un diwrnod, wedi ffurfio tîm i sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig o weithredu, sy'n gwneud popeth sy'n bosib i sicrhau ein bod yn elwa o'r holl fanteision.
A Gareth Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch Wylfa yn fawr iawn, a hoffwn ganmol yr Aelod Seneddol blaenorol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, a wnaeth y gwaith sylfaenol ar hyn, gan sicrhau bod y safle'n cael ei brynu, a gwneud y prosiect hwn yn bosib heddiw. Ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Lafur y DU yn adeiladu ar ei gwaith ac yn dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â buddsoddi mewn ynni niwclear, yn wahanol i Blaid Cymru, y mae eu safbwynt ar ynni niwclear yn newid o wythnos i wythnos, yn ôl pob golwg.
Mae nifer o fanteision i'r prosiect hwn. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod y cyhoeddiad wedi crebachu gryn dipyn—mae'n brosiect llai o lawer na'r hyn a gynlluniwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Roeddem wedi cynllunio ar gyfer safle niwclear ar raddfa gigawat, sydd bellach wedi'i leihau i dri adweithydd modiwlar bach, ac er fy mod yn croesawu'r adweithyddion modiwlar bach, nid yw tri adweithydd modiwlar bach yn unig yn dod yn agos at gapasiti cynhyrchu ynni safle niwclear ar raddfa gigawat. Er gwaethaf y geiriau o sicrwydd y gellid gosod mwy o adweithyddion modiwlar bach yn y dyfodol, byddai'n cymryd dros ddegawd cyn y byddent ar waith. Gyda'r cyhoeddiad am barth twf deallusrwydd artiffisial yng ngogledd Cymru—a oedd yn brin iawn o fanylion, dylwn ychwanegu—byddai hyn yn ychwanegu straen sylweddol ar y grid ynni, ac mae llawer o bobl, gan gynnwys llysgennad yr Unol Daleithiau, wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddadlau nad yw adweithyddion modiwlar bach ar eu pen eu hunain yn ddigon. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pam fod y prosiect wedi'i leihau'n safle i adweithyddion modiwlar bach yn unig, a pha sicrwydd y gellir ei roi y byddant yn darparu digon o ynni i'r grid, yn enwedig i gefnogi parth twf deallusrwydd artiffisial arfaethedig gogledd Cymru? Diolch.
O ystyried y cwestiwn penodol ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad mewn perthynas â'r adweithyddion modiwlar bach, wel, wrth gwrs, dyna oedd dewis Llywodraeth y DU. Ond y pwynt pwysig i'w gydnabod yma yw y gellir adeiladu'r rhain yn llawer cyflymach na'r datblygiadau seilwaith mwy o faint ar raddfa gigawat. Felly, rwy'n credu y bydd y manteision i'w teimlo'n gyflym iawn mewn perthynas â'r cynllun penodol hwn, sy'n rhywbeth y dylai pob un ohonom ei groesawu a bod yn gyffrous iawn yn ei gylch.
Wrth gwrs, dim ond un rhan o'n dull o greu ynni glân ar gyfer y dyfodol yw hyn. Fe fyddwch wedi cyffroi lawn cymaint â minnau, rwy'n siŵr, gyda'r cyhoeddiad heddiw gan Ystad y Goron ynghylch y trydydd cyfle yn y môr Celtaidd. Maent bellach wedi cyhoeddi'r datblygwr y byddant yn gweithio gydag ef i gyflawni'r prosiect penodol hwnnw—unwaith eto, buddsoddiad mawr a manteision mawr yn bosib i Gymru o ran swyddi. Felly, credaf fod llawer iawn yn mynd rhagddo yn y maes hwn, ac mae'r buddsoddiad o £2.5 biliwn ar gyfer gogledd Cymru yn gyffrous iawn. Mae gennym ddarlun eithaf cymhleth nawr o ddyfodol ynni yng Nghymru, ond credaf ei fod yn dangos y pwyslais a roddwn ar wydnwch ynni, a'r ffocws y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi ar wydnwch ynni, gan gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill, i gyflwyno cymaint o brosiectau mawr â phosib, gan gofio hefyd pa mor bwysig yw ein gwaith ynni cymunedol, yr ydym yn dal i fod yn angerddol iawn yn ei gylch ac yn ymrwymedig iddo. Rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau diweddar ynghylch Ynni Cymru, er enghraifft. Felly, mae gennym ystod eang iawn o ffynonellau ynni nawr a llawer i fod yn gyffrous yn ei gylch.
Ond credaf mai'r her fawr i ni fel Llywodraeth fydd sicrhau bod gennym y gadwyn gyflenwi yn barod i gyflenwi—rydym eisoes yn gwneud gwaith yn y maes hwnnw—a sicrhau bod gennym bobl ifanc yn barod ac wedi'u hyfforddi i fanteisio ar y swyddi anhygoel a gaiff eu creu. Roedd yn bleser mawr gweld y cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud gan y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU, wedi'u hamgylchynu gan bobl ifanc a gafodd, mewn eiliad, mewn un cyhoeddiad, fyd cyfan o gyfleoedd yn agor iddynt. Roedd yn gyffrous iawn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Byddwn nawr yn symud ymlaen i eitem 4, datganiadau 90 eiliad, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Ynys Môn a'r byd pêl-droed yng Nghymru yn cofio'n annwyl yr wythnos yma am Trefor Lloyd Hughes, fu farw yn 77 oed. Mi oedd hi'n anrhydedd i fod yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr i gymryd rhan mewn munud o gymeradwyaeth i ddangos gwerthfawrogiad am fywyd a chyfraniad Trefor, ynghyd â'r cyn chwaraewr dros Gymru Rod Thomas.
Mi oedd Trefor yn llywydd ar Gymdeithas Pêl-droed Cymru rhwng 2012 a 2019, cyfnod oedd yn cynnwys, wrth gwrs, yr Ewros byth cofiadwy, a, do, mi wnaeth o gyfraniad allweddol i ddod â'r amseroedd da yn ôl i bel-droed Cymru. Tra bod Trefor wedi llwyddo i gyrraedd uchelfannau gweinyddu'r gêm broffesiynol yng Nghymru a thu hwnt, mi wnaeth o byth anghofio ei wreiddiau. Er bod ei yrfa chwarae wedi dod i ben yn llawer rhy ifanc oherwydd anaf yn 25 oed, mi adawodd o farc sylweddol ar ei filltir sgwâr, nid dim ond fel y bachgen 15 oed a oedd yn gwerthu tocynnau drws i ddrws i godi arian i'w clwb lleol ym Modedern, ond fel ysgrifennydd Cynghrair Bêl-droed Ynys Môn a Chymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru am flynyddoedd, yn sicrhau bod clybiau lleol efo'r adnoddau a'r arbenigedd i ehangu eu gorwelion.
Oddi ar y cae pêl-droed, buodd o'n fecaneg, wedyn yn swyddog gwasanaeth ambiwlans, ac mi oedd yn gynghorydd teyrngar i Blaid Cymru ac mor falch o allu gwasanaethu ei fro yng Nghaergybi cyhyd.
Doedd neb cweit fel Trefor. Mi gollwn ni ei ddireidi, ei gefnogaeth a'i gyngor, ei gwmni ffraeth. A byddai, mi fyddai Trefor yn fwy na neb wedi mwynhau'r sgôr 7-1 neithiwr. Buodd hwnna i chi, Trefor. Heddwch.
Dydd Llun yr wythnos hon oedd Diwrnod Cynamseroldeb y Byd, dathliad byd-eang i godi ymwybyddiaeth am enedigaeth gynamserol a'r effaith ar y plant a'u teuluoedd. Fe ges i a fy mrawd ein geni saith wythnos yn gynamserol, gan dreulio wythnosau mewn 'bubble o grud', fel roedd fy mamgu yn galw'r incubator.
Ar yr un uned gynamserol yn y Mynydd Bychan, 37 o flynyddoedd yn ddiweddarach, fe dderbyniodd fy nai bach dewr Emrys hefyd y gofal mwyaf arbennig. Bu farw Emrys yn wyth niwrnod oed. Er ei fywyd byr, roedd yn fywyd llawn o gariad a gofal ac mae'n ein hysbrydoli o hyd. I ddiolch am fywyd Emrys ac am y gefnogaeth a dderbyniwyd, mae ei rhieni, Gwenno a Luke, yn cerdded pellter Cricieth i Dŷ Hafan i godi arian i'r ysbyty yna. Mae modd i bawb gyfrannu yn y dull arferol, wrth gwrs.
Mae babanod cynamserol fel Emrys yn fach o ran maint ond yn enfawr o ran dewrder a dycnwch. Mae Emrys ac eraill yn ein hatgoffa o wir gryfder, fod gwir gryfder ddim yn cael ei fesur mewn pwysau, ond yn cael ei fesur mewn ysbryd a chariad. Diolch yn fawr.
Eitem 5 yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27. A galwaf ar aelod o Gomisiwn y Senedd i wneud y cynnig—y Llywydd.
Cynnig NDM9052 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cyflwyno'r cynnig ar gyllideb y Senedd heddiw, er, wrth gwrs, taw ein cyfaill annwyl ni, Hefin David, gychwynodd y broses gyllidol yn ei rôl fel Comisiynydd gyda chyfrifoldeb dros gyllid y Senedd. Hefin fyddai'r cyntaf i fod eisiau pwysleisio'r heriau sy'n gysylltiedig â chyflwyno cais cyllideb uwch yn ystod hinsawdd economaidd mor anodd, tra hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gofyn am yr adnoddau sydd eu hangen ar y Senedd i barhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a rhoi'r gynrychiolaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Yn yr ysbryd hwnnw, dwi'n gwneud cynnig cyllideb y Senedd ar gyfer 2026-27 ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Bydd yr Aelodau wedi gweld y manylion sydd wedi'u hamlinellu yn nogfen y gyllideb. Mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm dyraniad o £102 miliwn, gyda £672 miliwn—. Na, mae eisiau i fi wneud hwnna unwaith eto: £102.672 miliwn ar gyfer 2026-27. Y gofyniad cyllideb craidd yw £98 miliwn, gyda £4.5 miliwn ychwanegol one-off ar gyfer etholiadau—elfen sydd ond yn ymddangos bob blwyddyn etholiad yn unig. Ariannu costau sy'n codi'n benodol o ganlyniad i'r etholiad yw'r swm £4.5 miliwn yma—yn bennaf, y taliadau a fydd yn ddyledus i Aelodau sydd ddim yn cael eu hailethol a'u staff. Rydyn ni wedi cyflwyno cyllideb sy'n dynn, ac wedi cyfyngu'r twf yn ein cyllideb 'busnes fel arfer' i 3.07 y cant, sy'n llawer is na'r datchwyddydd GDP, sy'n 4.07 y cant ar hyn o bryd.
Mae'r cynnig yma heddiw yn gynnydd cyffredinol o 21.34 y cant, neu £18 miliwn, o'i gymharu â chyllideb 2025-26. Er bod hwn yn gynnydd sylweddol, mae'n ganlyniad uniongyrchol a disgwyliedig i benderfyniad y Senedd i ehangu nifer yr Aelodau gyda 36 Aelod ychwanegol.
Mae'r Comisiwn wedi bod yn ymwybodol iawn o gyd-destun ehangach y sector cyhoeddus drwy gydol paratoi'r gyllideb hon. Rydyn ni wedi bod yn benderfynol o sicrhau tryloywder yn ein holl dybiaethau ac i ddarparu eglurder ar y rhesymeg sylfaenol. Ein hymrwymiad ni o hyd yw parhau i ddarparu cyllidebau sy'n gadarn, yn dryloyw, ac sy'n galluogi Aelodau i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Llynedd, mi wnaeth y Pwyllgor Cyllid argymell ein bod ni'n ffurfioli'r ffordd mae Aelodau yn cymryd rhan yn y broses gyllidebol ar gyfer 2026-27, gan sicrhau bod yna ddigon o amser i'r canlyniadau ddylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Felly, mi gafodd grwpiau'r pleidiau eu gwahodd i sesiynau briffio ar y gyllideb cyn yr haf. Mi wnaeth dau grŵp dderbyn y gwahoddiad, ac fel canlyniad i'r drafodaeth honno, fe addaswyd elfennau o'r gyllideb ddrafft dros yr haf, am i lawr, ac felly mae cyfraniadau'r grwpiau a'r Comisiynwyr wedi llunio'r cyflwyniad terfynol sydd ger eich bron chi heddiw.
Un o'r prif heriau wrth osod y gyllideb hon oedd sicrhau ein bod ni ddim yn cyfyngu'n ormodol ar y Comisiwn a'r Senedd newydd ar ôl mis Mai gyda'n rhagdybiaethau presennol, gan gydnabod mai dim ond ar ôl yr etholiad fydd eu blaenoriaethau a'u bwriadau nhw yn dod yn glir. Am y rheswm yma, rŷn ni wedi creu cyllideb wedi'i chlustnodi, yn seiliedig ar yr asesiad effaith rheoleiddiol, gydag elfen o hyblygrwydd. Mae'r dull yma yn caniatáu newidiadau i'r amserlen fusnes os bydd y Senedd newydd am wneud hynny. Mae'r rhagdybiaethau, er enghraifft, yn cynnwys un Plenary ychwanegol a thri phwyllgor ychwanegol. Bydd unrhyw arian sydd ddim yn cael ei wario ar y busnes yma yn cael ei ddychwelyd i gronfa gyfunol Cymru, fel sy'n briodol, drwy broses y gyllideb atodol y flwyddyn nesaf.
O'r cynnydd £18.1 miliwn eleni, felly, y prif yriant o bell ffordd yw'r £13 miliwn i dalu costau'r Aelodau newydd a'u staff cymorth. Mae yna £3.5 miliwn arall i fodloni rhwymedigaethau penderfyniad y bwrdd taliadau ar gyfer Aelodau sydd ddim yn cael eu hailethol a staff cymorth sydd wedi colli eu swyddi. Mae'r elfen 'busnes fel arfer' yn codi £1.4 miliwn, gyda £1.2 miliwn o hyn ar gyfer y cynnydd yng nghyflogau staff, sy'n adlewyrchu dyfarniad cyflog taprog i staff gyda'r codiadau mwy wedi'u targedu at y graddfeydd cyflog is.
Rydyn ni'n parhau i neilltuo arian ar gyfer cyllidebau lle mae rhywfaint o ansicrwydd neu lle mae'r cyllid ar gyfer diben penodol. Bydd angen £547,000 ychwanegol ar y gyllideb Ffyrdd o Weithio, sydd bellach yn canolbwyntio'n unig ar brosiect Bae 32. Bydd hyn yn ein galluogi i gyrraedd y pwynt lle gallwn gyfnewid contractau am lety y tu hwnt i 2032, pan fydd y brydles bresennol ar Dŷ Hywel yn dod i ben.
Mae'r Comisiwn yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Cyllid i gario ymlaen i roi gwybodaeth iddyn nhw am wariant prosiectau yn ystod y flwyddyn. Cyfanswm y gronfa prosiect ar gyfer 2026-27 yw £2 miliwn, a fydd £500,000 yn llai nag yn 2025-26.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith craffu trylwyr a'r ymrwymiad parhaus i degwch a thryloywder. Mi wnaeth y pwyllgor 12 argymhelliad, ac rydyn ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw a rhoi sylw iddyn nhw yn ein hymateb ffurfiol. Diolch yn arbennig am yr argymhelliad cyntaf i gefnogi'r gyllideb hon, drwy fwyafrif, ac rwyf yn deall yn iawn y gwahaniaeth barn wleidyddol ar egwyddor ehangu'r Senedd sydd wedi arwain at sefyllfa o gefnogaeth drwy fwyafrif yn hytrach nag unfrydol.
I gloi, felly, rydyn ni, fel bob amser, yn agored i awgrymiadau ar sut gallwn ni wella ein prosesau cyllidebu ymhellach a darparu hyd yn oed mwy o werth i bwrs cyhoeddus Cymru. Bydd Comisiynwyr a Llywydd newydd yn arwain y broses gyllidol nesaf. Am nawr, dwi'n falch i gyflwyno cyllideb derfynol y flwyddyn ariannol 2026-27, blwyddyn a welith ymbweru ein Senedd o'r newydd, a'i rhoi ar waith ar gyfer gweddill yr unfed ganrif ar hugain, tra'n cadw llygad parhaus i ddarparu'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru. Diolch.
Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Cyllid, Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau heddiw drwy gydnabod cyfraniad sylweddol Hefin David wrth baratoi'r gyllideb hon. Roedd ei arweinyddiaeth fel Comisiynydd yn allweddol wrth ddatblygu'r cynigion hyn, ac mae'r Pwyllgor Cyllid yn dymuno cofnodi ein gwerthfawrogiad o'i waith.
Diolch hefyd i'r Llywydd a'i swyddogion am fynychu'r pwyllgor ar 1 Hydref, ac i'r Comisiwn am ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl hon. Er bod mwyafrif y pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cefnogi'r cais cyffredinol hwn, ceir nifer o feysydd lle mae angen mwy o eglurder.
Mae'r cynnydd o 21 y cant yng nghyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei yrru i raddau helaeth gan y penderfyniad a wnaed gan y Senedd i ehangu nifer yr Aelodau. Ar y cyfan, roeddem yn falch o'r modd y cyflwynwyd y gyllideb. Rydym yn croesawu dull y Comisiwn o wahanu costau o fewn y gyllideb a chyllid wedi'i glustnodi ar gyfer diwygio'r Senedd, gydag arian nas defnyddir yn dychwelyd i gronfa gyfunol Cymru. Rydym hefyd yn nodi cydymffurfiaeth â'n datganiad o egwyddorion yn ogystal ag ymdrech i reoli gwariant, a helpodd i nodi a lliniaru pwysau costau. Mae hyn wedi arwain at gyfyngu'r cynnydd yn y gyllideb weithredol i 3 y cant, sy'n arddangos rheolaeth ariannol.
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, fe wnaethom ofyn am fwy o fanylion am broses gynllunio effeithlonrwydd newydd y Comisiwn, ac rydym yn falch ei fod wedi ymrwymo i reoli pwysau costau sy'n codi o fewn yr amlen ariannol bresennol. Rydym hefyd yn croesawu gwell ymgysylltiad cynnar â'r grwpiau gwleidyddol wrth baratoi'r gyllideb ddrafft, sy'n dilyn argymhelliad a wnaethom y llynedd.
O ystyried y cynnydd sydd ei angen i dalu am gost Senedd estynedig, mae'r pwyllgor yn pryderu am yr effaith ar y Comisiwn os na chaiff cynnig yn y gyllideb flynyddol ei gytuno, gan mai dim ond cyfran o gyllideb y flwyddyn gyfredol a fyddai ar gael mewn senario o'r fath. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Comisiwn yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau gwydnwch sefydliadol mewn amgylchiadau o'r fath, ac mae'n galonogol clywed bod gwaith eisoes wedi dechrau.
I droi nawr at faterion penodol yn ein hadroddiad, mae'r gyllideb ddrafft yn caniatáu hyblygrwydd i'r Senedd newydd drefnu ei busnes, ond rydym yn cydnabod y gallai blaenoriaethau ar ôl etholiad y flwyddyn nesaf fod yn wahanol, gan arwain at gostau annisgwyl, ac arbedion o bosib. Er mwyn sicrhau tryloywder a gwell dealltwriaeth o oblygiadau ariannol penderfyniadau'n ymwneud â chefnogi busnes seneddol, rydym wedi galw ar y Comisiwn i ymgysylltu â'r Pwyllgor Busnes i amcangyfrif costau cyn i benderfyniadau o'r fath gael eu gwneud. Rydym yn falch y bydd y Comisiwn yn gwneud hyn yn eglur mewn ymateb i'n safbwyntiau, yn enwedig lle gall y galw am adnoddau fod yn fwy na'r dyraniad a nodir yn y gyllideb hon.
Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, rhoddodd y Comisiwn ragor o fanylion ynglŷn â'i gynllun ar gyfer datblygu ystad y Senedd ym Mae Caerdydd. Er ein bod yn croesawu ymgysylltiad parhaus y Comisiwn ar y materion hyn, hoffem gael eglurder ychwanegol ar oblygiadau ariannol y prosiect. Rydym hefyd yn argymell diweddariadau parhaus ar y prosiect, yn enwedig o ystyried ei raddfa a'i broffil, ac rydym hefyd wedi gofyn am eglurhad o oblygiadau ariannol newidiadau i les Tŷ Hywel, ac rydym yn falch fod y Comisiwn wedi ymateb yn gadarnhaol i'n ceisiadau.
Ddirprwy Lywydd, mae'n hanfodol cynnal morâl staff a gwydnwch sefydliadol yn ystod y broses o ehangu. Er na allwn wneud sylwadau ar faterion gweithredol fel cyflogau, fe wnaethom ofyn i'r Comisiwn ddarparu diweddariad pan ddaw negodiadau cyflog ar gyfer 2026-27 i ben. Er ein bod yn nodi ymateb y Comisiwn nad oes disgwyl unrhyw negodiadau cyflog pellach, byddem yn dal i ddisgwyl i'r Comisiwn gadarnhau pryd y cytunir ar ddyfarniadau cyflog gan y gallai effeithio ar y gyllideb.
I orffen, fe drof at y meysydd craffu eraill. Mae'r pwyllgor yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn seiberddiogelwch ac yn argymell cynlluniau wrth gefn cadarn ar gyfer trefniadau technoleg gwybodaeth. Nodwn hefyd archwiliad gofalus y Comisiwn o ddeallusrwydd artiffisial ac rydym yn annog gwaith parhaus wedi'i ategu gan lywodraethiant cryf. Yn ogystal, edrychwn ymlaen at glywed mwy am brosiect adolygu'r Pierhead, a gofynnwn am ragor o wybodaeth am ddichonoldeb mewnoli rhai gwasanaethau, gan nodi cymeradwyaeth ddiweddar y Comisiwn i strategaeth amlinellol yn y maes hwn.
Yn olaf, rydym yn croesawu'r cynllun peilot ar gyfer monitro cyfryngau cymdeithasol a ddatblygwyd gan y cawcws menywod mewn ymateb i'r pryderon am gam-drin ar-lein a chynnwys niweidiol, a galwn ar y Comisiwn i werthuso ei effeithiolrwydd ac ystyried prif ffrydio ei gefnogaeth i Aelodau a staff. Mae'n gam cadarnhaol tuag at wella diogelwch a llesiant digidol, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am y datblygiad hwn pan fydd y cynllun peilot wedi dod i ben.
Ddirprwy Lywydd, caf fy nghalonogi gan ymateb y Comisiwn i'r argymhellion. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach ar y materion hyn rhwng nawr a diddymu'r Senedd.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i bob aelod o staff sy'n gweithio i'n Comisiwn? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, bu'n rhaid i mi ddod yn Gomisiynydd i'r Ceidwadwyr Cymreig sylweddoli'n union beth bynnag a wnawn—pan ydym yma, pan ydym yn ein swyddfeydd etholaethol, pan ydym ar bwyllgorau—fod yna bob amser aelod o'n staff ar ôl, yn gwneud yn siŵr fod popeth yn gweithio er mwyn i ni allu gwneud ein gwaith.
Nawr, hoffwn innau hefyd gymeradwyo'r sylwadau a wnaed am ein diweddar gyd-Aelod Hefin David. Roedd Hefin yn Gomisiynydd, ac fe wasanaethodd y Comisiwn gyda rhagoriaeth a balchder, ac roedd yn dda iawn ar gyllid, mae'n rhaid i mi ddweud. Yn ogystal â Peredur Owen Griffiths a gweddill y Pwyllgor Cyllid, diolch i chi am y craffu aruthrol, a diolch, Mike, am gyflwyno hynny yma heddiw.
Ni fydd yn syndod, rwy'n siŵr, i gyd-Gomisiynwyr, nac yn wir i'n Haelodau, na allaf i na grŵp y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi hyn heddiw. Yn ein rôl fel Comisiynwyr, mae gennym ddyletswydd bendant i sicrhau bod y gyllideb a'r dull o weithredu'n cyflawni mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, llai o risg, ac amcanion cynaliadwyedd strategol y Comisiwn. Rhaid eich bod yn gwybod, bob un o'r Aelodau yma, nad ydym yn cytuno ag ychwanegu 36 o Aelodau, a'n bod yn gwrthwynebu hynny'n llwyr, a dull newydd gwahanol o bleidleisio sy'n gostus. Mae'n amlwg fod rhywfaint o'r dyraniad o £102 miliwn ar gyfer 2026-27 o'i gymharu â £84 miliwn yn y gyllideb atodol ar gyfer 2025-26, yn deillio o ehangu'r Senedd. Rhagwelir y bydd diwygio'r Senedd yn costio £4.3 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd ariannol i'r Comisiwn Etholiadol, ac rwyf eisoes wedi mynegi pryderon am eu cyllideb a sut y mae'n effeithio arnom ni fel Comisiwn. Dylech i gyd nodi bod ehangu'r Senedd yn costio hyd yn oed yn fwy nag y rhagwelem ar y cychwyn, ac mae'n gwneud i mi gwestiynu eto a yw Llywodraeth Cymru a'r partneriaid cydweithio ym Mhlaid Cymru wedi costio'r newid cyfansoddiadol mawr hwn yn gywir cyn ac wrth ei wthio drwy'r Senedd.
Pwynt arall sy'n peri pryder i mi yw'r cynnydd o 5 y cant i'r cyflog sylfaenol i Aelodau i £80,000 yn 2026-27. Gydag Aelodau ychwanegol yn dod i'r Senedd gyda'r ehangu, bydd hon yn gost enfawr i'n trethdalwyr yng Nghymru, a byddai'n well gan y rhai y siaradais â nhw weld yr arian hwnnw'n mynd i'n gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol aflwyddiannus. Ac wrth gwrs, bydd costau ychwanegol yn sgil y cynnydd yn nifer y staff ar gyfer yr Aelodau ychwanegol a etholir o'r newydd.
Cafwyd cynnydd o £696,000 ar gyfer Bae 32, gan roi cyllideb wedi'i chlustnodi o £3 miliwn iddo—llawer o arian. Ac fel y nododd y Pwyllgor Cyllid yn gywir, mae angen sicrhau tryloywder ar y prosiect hwn yn y dyfodol. Mae achosion busnes ar y gweill nawr, fel y gwyddom. Rwy'n ymwybodol yn bersonol o'r nifer o broblemau a diffygion a welwn yn yr adeilad hwn. Un ffordd y gallai ein Comisiwn arbed arian yw lleihau unrhyw wariant gwastraffus, fel yr hyn y sylwais arno'n ddiweddar fel Comisiynydd ac y gofynnais gwestiynau yn ei gylch, sef bod gennym bethau mawr fel setiau teledu newydd wrth i chi ddod i mewn drwy Dŷ Hywel. Pan ofynnais beth oeddent, fe wnaethant ddweud, 'O, maent yn ffordd dda iawn o wresogi'r adeilad.' Rwyf wedi edrych arno ymhellach ac mae'n ffordd ddrud iawn o wresogi ein hadeilad. Dylem wneud cyn lleied â phosib nawr i eiddo lesddaliadol. Byddai hynny'n arbed arian yn y tymor byr.
Rwy'n falch o ddweud bod adborth o arolwg llesiant diweddar y Comisiwn yn dangos bod 86 y cant o staff yn hapus â'u pecyn cyflog, ac rydym angen i'n staff fod yn hapus. Ond o ystyried y canfyddiadau cadarnhaol, credaf y gallai'r Comisiwn fod ychydig yn gryfach yn y ffordd y mae'n delio ag ochr yr undebau llafur. Ni ddylent fod yn dweud wrthym ni, oherwydd rydym ychydig y tu allan i'r ddarpariaeth gwasanaeth sifil arferol.
Ar y gronfa brosiectau sy'n werth £2 filiwn, mae hon yn ariannu prosiectau seilwaith i gynnal yr ystad bresennol a systemau TG, yn ogystal â phrosiectau didoledig eraill na ellir talu amdanynt o gyllidebau gwasanaeth, megis adnewyddu meddalwedd arbenigol. Mae cronfa'r prosiect wedi lleihau £0.5 miliwn, ac roedd hynny'n newyddion da i ni fel Comisiwn.
Dyrannwyd £312,000 i hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Hoffwn weithio gyda'r Comisiynwyr yn y dyfodol ar sut y gallwn wneud y gyllideb hyfforddi yn llawer mwy effeithiol. Yr un swm a geir ar gyfer fetio; nid ydym wedi codi honno ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, er y bydd cynnydd sylweddol yn eu llwyth gwaith, felly tybed sut y mae'r llinell gyllidebol honno'n aros yr un fath.
Janet, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Iawn, o'r gorau. A gaf i ddweud, fodd bynnag, mai un agwedd—ac rwy'n dweud hyn fel menyw fusnes—yw y dylem fod yn cynhyrchu mwy o refeniw, o'r adeiladau sydd gennym a hefyd ein siop, sy'n ofnadwy, rhaid i mi ddweud, o'i gymharu â phan euthum i Senedd yr Alban? Rydym yn gwneud refeniw o £15,000 o'r siop yma. Rwy'n credu eu bod nhw'n gwerthu gwin Albanaidd, wisgi Albanaidd, dillad Albanaidd a phethau brand seneddol. Rwy'n credu, fel menyw fusnes, y dylem edrych ar hynny a cheisio cael mwy o refeniw o'r siop. Yn y pen draw, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwario cyn lleied ag y bo modd o arian trethdalwyr. Diolch.
Rwy'n hollol gefnogol i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, a dylai hynny gynnwys y Senedd, ond rwy'n credu bod eich agwedd na allwn ysgwyddo mwy o refeniw o ganlyniad i 36 Aelod ychwanegol yn hurt, oherwydd fe fydd yna 36 Aelod newydd ychwanegol. Rwy'n arbennig o awyddus i ddeall pam y mae Janet, yn ei rôl fel Comisiynydd, yn meddwl y bydd y system wresogi yr ydym yn ei gosod nawr, sef y rhwydwaith gwres sy'n dod o'r hen safle Celsa, a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu i'r atmosffer, yn fwy drud. Mae'n fater pwysig, sy'n rhy fanwl i allu ymateb iddo heddiw yn ôl pob tebyg.
Roeddwn eisiau gofyn i'r Llywydd yn fwyaf arbennig, neu'n wir i'r Comisiynydd cydraddoldeb—. Rwyf am ymchwilio ychydig ymhellach i sut rydym yn paratoi ar gyfer dehongli iaith arwyddion Prydain, gan ein bod yn bwriadu pasio'r Bil hwn yn y Senedd. Dywedodd Joyce Watson wrthym yn y Cyfarfod Llawn ddiwethaf cyn toriad yr hydref eich bod ar hyn o bryd yn gofyn am ddyfynbrisiau ar gyfer uwchraddio'r stiwdio lle byddai'r dehonglwyr yn gweithredu ac y byddent yn gallu gweithredu'n ddi-dor. Mae'n ymddangos yn awgrym synhwyrol. Ond tybed a gaf i holi ymhellach a oes gennych unrhyw gynlluniau i helpu i gynyddu nifer y dehonglwyr, oherwydd fel arall, os ydym yn dal i gystadlu â gwasanaethau cyhoeddus eraill am ddehonglwyr iaith arwyddion Prydain, mae'n amlwg fod proses farchnad yma, ac mae'r gost yn mynd i godi, neu ni fyddwn yn gallu cyflawni'r disgwyliadau a fydd yn codi yn y Bil hwn. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Llywydd neu Joyce Watson egluro hynny ymhellach.
Galwaf ar y Llywydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr am y cyfraniadau yna a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid, yn gyntaf, am y sgrwtini ar ein cyllideb ni ac am gyfrannu i'r broses iterative yma rhwng y pwyllgor a'r Comisiwn ar ddatblygu'r gyllideb. Os caf i ddweud, mae'r gwaith roedd Hefin David wedi cychwyn a'r Pwyllgor Cyllid wedi ei annog, sef bod y broses o drafod y gyllideb ar gychwyn creu y gyllideb yn un lle mae'r broses yna'n cynnwys mwy o Aelodau, yn cynnwys y pwyllgor—. Dwi'n meddwl ein bod ni'n elwa ar y broses yna drwy gyrraedd pwynt tuag at ddiwedd y broses gyllidol o fod wedi creu gwell consensws ac wedi gallu dysgu ac amrywio, fel y dywedais i, y gyllideb dros gyfnod yr haf i addasu i rai o'r gofynion oedd wedi dod allan o'r trafodaethau gyda'r grwpiau. Felly, diolch i'r Pwyllgor Cyllid am ein hannog ni i lawr y trywydd yna, a gobeithio y bydd hwnna'n drywydd y bydd y Comisiwn nesaf yn parhau gydag ef.
Janet Finch-Saunders, rydych chi mewn sefyllfa freintiedig iawn, oherwydd rydych chi, fel fi, yn Gomisiynydd. Mae llawer iawn o'r pwyntiau a godwyd gennych yma'n gyhoeddus yn bwyntiau yr ydym yn eu trafod yn aml iawn yn y Comisiwn. Gobeithio y byddwch yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau hynny yn y Comisiwn ar feysydd fel codi refeniw, fel rydym wedi ei drafod sawl gwaith, ac ar y system wresogi yr ydym bellach wedi ymrwymo iddi, fel y dywedodd Jenny Rathbone, y system wresogi ardal a fydd yn sicrhau bod gennym ffynhonnell wresogi gynaliadwy yn y tymor hwy ar gyfer y Senedd hon, fel rhan o'r gymdogaeth ym Mae Caerdydd, ac rydym yn sicr wedi ymrwymo i hynny.
Ar ddehongli iaith arwyddion Prydain, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i barhau i weithio arno a dod o hyd i ffordd gynaliadwy o fodloni'r gofynion a fydd arnom i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Rydych chi'n codi pwynt diddorol, wrth gwrs, ac mae'n her i ni fel Comisiwn y mae'n rhaid i ni ddelio â hi'n aml, sef a ydym yn hyfforddi ac yn cyflogi'n uniongyrchol neu'n comisiynu darparwyr gwasanaethau allanol. Ar ryw adeg, bydd angen i'r Comisiwn asesu sut y gwnawn hynny o ran y gallu i ddarparu gwasanaethau dehongli iaith arwyddion Prydain.
Felly, byddwn yn parhau â'r sgwrs honno, a diolch i chi am ei chodi eto yng nghyd-destun y gyllideb, oherwydd mae pob penderfyniad gan Aelodau, drwy ddeddfwriaeth neu benderfyniadau'r Comisiwn neu'r Pwyllgor Busnes yn cael effaith ar y gyllideb, ac felly mae angen i ni bob amser wneud y penderfyniadau hynny yng ngoleuni'r costau sy'n gysylltiedig â nhw. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid i sicrhau, wrth i'r Senedd nesaf ddechrau ar ei gwaith ar ddatblygu busnes y Senedd a'r pwyllgorau, fod angen iddi gael gwybod yn llawn am oblygiadau cost yr holl waith hwnnw yn y dyfodol.
Diolch i bawb am y cyfryniadau hyd yn hyn ar y broses gyllidol. Dwi'n gobeithio ac yn annog pawb i gyfnogi'r gyllideb er mwyn sicrhau bod gwaith y Senedd nesaf yn cael ei gyflawni yn llawn ar ran pobl Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 sydd nesaf, cynnig i atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu mwy nag unwaith yn ystod eitem 7. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Paul Davies.
Cynnig NDM9051 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM9046 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, dadl agored, 'A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru?' Galwaf ar Julie Morgan i agor y ddadl.
A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru? Diolch am y cyfle i drafod hyn heddiw. Caiff y ddadl hon ei chyd-gyflwyno gennyf i, John Griffiths a Jane Dodds, a'i chefnogi gan Mick Antoniw. Pam y mae angen i ni drafod treth gyfoeth, a pham y mae cymaint o sôn am dreth gyfoeth ar hyn o bryd? A oes angen treth gyfoeth arnom yng Nghymru ac yn y DU? Beth y gallwn ei wneud yng Nghymru a beth y gallwn ei wneud ar lefel y DU? Dyma rai o'r cwestiynau y credaf fod angen i ni eu hystyried heddiw.
Yn y DU, mae tlodi ar gynnydd. Yng Nghymru, mae cyfraddau tlodi oddeutu 22 y cant, yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree. Mae hynny'n un o bob pump—200,000 o unigolion. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae plant wedi dioddef y cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae gan yr 1 y cant cyfoethocaf o Brydeinwyr fwy o gyfoeth na 70 y cant o'r holl Brydeinwyr eraill, ac mae'r anghydraddoldeb hwn yn gwaethygu. Cynyddodd cyfoeth biliwnyddion dair gwaith yn gyflymach yn 2024 na'r flwyddyn flaenorol, ac fel y rhan fwyaf o'r byd datblygedig, mae cyfoeth y cyfoethog iawn wedi cynyddu'n ddramatig, tra bod gweithwyr cyffredin wedi dioddef cyni ariannol hir, gyda'r nifer uchaf erioed o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi. Yn aml, pan fydd yn rhaid gwneud dewisiadau anodd, y bobl dlotaf sy'n dioddef fwyaf.
Yn syfrdanol, mae gan y 40 teulu cyfoethocaf yn y DU yr un faint o gyfoeth â'r 50 y cant isaf o boblogaeth gyfan y DU, sef tua 34 miliwn o bobl. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd, tra bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach. Bob wythnos yn y Siambr hon, clywn am systemau iechyd a gofal cymdeithasol a system addysg dan bwysau, bygythiadau i ganolfannau hamdden, bygythiadau i lyfrgelloedd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid bod rhyw ffordd, fel gwleidyddion, inni fynd i'r afael â'r broblem hon a chymryd cam tuag at weld mwy o gydraddoldeb.
Rwy'n derbyn yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud, mai'r peth pwysicaf ar ei agenda yw twf, ac rwy'n credu bod twf yn dod â chydraddoldeb yn ei sgil ac yn gallu gwneud cymdeithas yn llawer mwy cyfartal, ond fe wyddom y bydd hynny'n cymryd amser, ac rwy'n credu y dylid ei wneud ar y cyd â threth gyfoeth wedi ei llywio gan degwch a chyfiawnder. Mae cymdeithas anghyfartal yn gymdeithas anhapus, a hefyd yn gymdeithas anghynhyrchiol.
Mae ystyried treth gyfoeth yn ystyriaeth ynglŷn â sut i wneud cymdeithas yn decach. Mae angen mwy o arian i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ac sy'n dibynnu cymaint ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n ymddangos yn hollol deg y dylai'r rhai sydd â mwy nag eraill roi mwy o help i'r rhai sydd â llai. Felly, beth yw treth gyfoeth? Ardoll yw treth gyfoeth ar gyfanswm asedau net unigolyn uwchlaw swm penodol a bennir gan y Llywodraeth. Mae hynny'n golygu yr holl asedau: eiddo, buddsoddiadau, arian parod, pethau gwerthfawr. Y nod yw targedu cyfoeth cronedig, nid incwm yn unig.
Mae yna rai trethi ar gyfoeth eisoes, megis treth etifeddiant, a drafodwyd gennym yma heddiw, treth enillion cyfalaf, y dreth gyngor, ond nid oes gan y DU dreth gyfoeth gynhwysfawr. Mae'r dreth gyngor, wrth gwrs, wedi ei datganoli i Gymru, ac mae Cymru eisoes wedi camu ymlaen i ddiwygio'r dreth gyngor. Cymru, mewn gwirionedd, yw'r unig genedl yn y DU sydd wedi ailbrisio'r dreth gyngor. Fodd bynnag, fe ddigwyddodd yr ailbrisio hwnnw dros 20 mlynedd yn ôl bellach, ym mis Ebrill 2003. Yn Lloegr a'r Alban, nid oes ailbrisio wedi bod ers 1991. Ond mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn ein hymrwymo i ailbrisio bob pum mlynedd o 2028 ymlaen, felly bydd hynny'n rhyw fath o fesur i symud tuag at degwch, a gallwn wneud hynny yma yng Nghymru. Wrth gwrs, bydd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn sicrhau bod y bobl dlotaf yn cael eu helpu.
Ar dreth gyfoeth ehangach, gall treth gyfoeth fod yn dreth untro neu'n dreth flynyddol. Pan gefais fy ethol yn AS ym 1997, cyflwynodd y Llywodraeth Lafur dreth ffawdelw untro ar elw dros ben cwmnïau cyfleustodau. Daeth hynny â £5 biliwn i mewn, ac fe ariannodd y fargen newydd, y rhaglen o fudd-dal i waith a geisiai fynd i'r afael â diweithdra hirdymor, yn ogystal â darparu buddsoddiad cyfalaf i ysgolion. Mae Patriotic Millionaires UK a Tax Justice UK yn galw am ardoll flynyddol o 2 y cant ar gyfoeth dros £10 miliwn. Gallai hyn godi £24 biliwn y flwyddyn a byddai'n effeithio ar oddeutu 20,000 o bobl yn y DU. Wrth gwrs, gallai hyn ddenu arian i Gymru drwy gyllid canlyniadol Barnett, sydd, unwaith eto, yn fater a drafodwyd gennym yma heddiw. Ond byddai treth gyfoeth y DU yn datgloi cyllid i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n wynebu Cymru.
Mae arolygon barn yn awgrymu y byddai treth gyfoeth fel hon yn boblogaidd. Awgrymodd arolwg YouGov ym mis Gorffennaf 2025 y byddai 49 y cant o bleidleiswyr yn cefnogi treth gyfoeth fel hon yn gryf, a byddai 26 y cant pellach yn ei chefnogi. Cynhaliodd Patriotic Millionaires UK arolwg Survation a ganfu fod 80 y cant o filiwnyddion yn y DU yn cefnogi treth o 2 y cant ar gyfoeth dros £10 miliwn, gyda dim ond 8 y cant yn ei herbyn. O'r miliwnyddion a holwyd a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyfoeth arfaethedig—hynny yw, pobl sydd â chyfoeth o £10 miliwn a mwy—roedd 85 y cant ohonynt yn ei chefnogi. Felly, rwy'n credu bod tystiolaeth y byddai cefnogaeth o blith y cyhoedd i dreth gyfoeth.
Rwy'n credu mai'r unig ffordd y gall treth gyfoeth o'r fath fod yn effeithiol yw os caiff ei gweithredu ar sail y DU gyfan. Pe bai'n cael ei chyflwyno gan un genedl, fel Cymru, nid wyf yn credu y byddai mor effeithiol, oherwydd, yn amlwg, gallai unigolion sydd ag asedau sylweddol symud neu adleoli'n hawdd neu ailstrwythuro eu daliadau er mwyn osgoi talu. Byddai dull ar gyfer y DU yn sicrhau cysondeb, yn cau bylchau ac yn atal pobl rhag osgoi talu'r dreth. Hefyd, yn hollbwysig, mae gan Gymru gyfran lawer is o unigolion cyfoethog a sylfaen dreth isel. Rwy'n credu bod hyn yn cyfyngu ar botensial refeniw treth gyfoeth i Gymru'n unig. Gallai'r arian ychwanegol a ddeuai i mewn gan dreth ledled y DU olygu buddsoddiad trawsnewidiol mewn iechyd, tai, addysg ac ymdrechion i ddileu tlodi.
Felly, beth yw anfanteision treth gyfoeth? Yr anfantais a nodir amlaf yw ofnau y byddai'r cyfoethocaf yn gadael y wlad. Ni chanfu ymchwil gan y Tax Justice Network yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o drethi cyfoeth unrhyw dystiolaeth fod y cyfoethog iawn yn gadael mewn ymateb i ddiwygio trethiant. Yn Norwy, Sweden a Denmarc, dim ond 0.01 y cant o'r aelwydydd cyfoethocaf a adleolodd ar ôl diwygio trethiant. A dywedodd dadansoddiad gan Tax Justice UK fod 30 o eitemau newyddion y dydd ar gyfartaledd y llynedd wedi codi'r posibilrwydd o ecsodus o gyfoeth yn ystod 2024, pan oedd sôn mawr am dreth gyfoeth. Felly, roedd hyn yn y wasg yn gyson. Fodd bynnag, enghraifft ddiddorol iawn yw Massachusetts, lle bu cynnydd yn nifer y bobl a enillai lawer iawn o arian ers i'r dreth ar filiwnyddion gael ei chyflwyno yn 2022, fel y nododd Boston.com. Pasiwyd Deddf Fair SHARE 2025 drwy'r blwch pleidleisio ym mis Tachwedd 2022 gan bleidleiswyr y dalaith a oedd o blaid gordreth o 4 y cant ar incwm dros $1 filiwn, ac roedd yr arian i fynd yn uniongyrchol tuag at addysg a thrafnidiaeth. A dywedodd llefarydd ar ran Raise Up Massachusetts, a hyrwyddodd Fair Share yn 2022, na ellir gorbwysleisio effaith gadarnhaol trethi atchwel ar gyfoeth. Yn y DU, datgelodd yr arolwg a grybwyllwyd yn gynharach gan Survation fod bron i 60 y cant o filiwnyddion y DU yn meddwl ei bod yn anwlatgarol gadael y wlad pan ofynnir iddynt gyfrannu mwy.
Felly, rwyf am wneud yr achos dros dreth gyfoeth ledled y DU yma heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn gwneud ei gyfraniad i'r ddadl, yn gallu dweud wrthym y bydd yn annog Llywodraeth y DU i gyflwyno treth o'r fath, oherwydd yn sicr, yr unig ddiben i ni fod yma yw er mwyn gwneud bywyd yn well i'n pobl yng Nghymru, a'r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw sicrhau ein bod yn gallu ariannu'r holl wasanaethau sydd eu hangen arnom. Rwy'n credu y bydd y nifer fach o bobl y byddai'n ofynnol iddynt gyfrannu fwyaf, o'r dystiolaeth a welsom—mae llawer ohonynt yn barod iawn i wneud hynny. Ac rwy'n credu y dylem gymryd y cam yma heddiw a siarad o blaid treth gyfoeth. Diolch.
A gaf i ddiolch, yn gyntaf oll, i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hon ac am ofyn y cwestiwn: a fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru? Roeddwn yn synnu braidd fod y Pwyllgor Busnes yn teimlo bod dwy awr i siarad am rywbeth sy'n fater a gadwyd yn ôl yn ddefnydd priodol o amser y Senedd, pan fo llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon yn credu mai'r rheswm dros ehangu yw nad oes digon o amser ar ein hagendâu i graffu'n briodol ar y Llywodraeth. Felly, mae defnyddio dwy awr i drafod rhywbeth nad yw'n unrhyw beth i'w wneud â'r lle hwn—nid oes bai ar yr Aelod, ond roeddwn i'n synnu bod y Pwyllgor Busnes wedi dewis rhoi'r amser. Ond bid a fo am hynny.
Mae'r Aelod wedi cyflwyno amddiffyniad cynhwysfawr ond diffygiol yn y pen draw o bolisi sydd wedi ei brofi ac wedi methu ledled y byd. Mae'r ddadl dros gyflwyno treth gyfoeth yn honni, fel y clywsom, mai dyma'r ffordd decaf o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, trechu tlodi a chodi refeniw. Rwy'n dadlau bod y cynnig hwn nid yn unig yn anymarferol i'w weithredu, byddai hefyd yn niweidiol yn economaidd ac o ran egwyddor, mae'n dreth ar lwyddiant ac ar gynilo.
Un o'r problemau craidd gyda threth gyfoeth yw ei bod yn cosbi'r union ymddygiad yr ydym am ei annog: cynilo a buddsoddi cynhyrchiol. Nid treth ar incwm neu ddefnydd mohoni, fel y gwyddom, ond treth ar gyfanswm stoc cyfalaf. Un enghraifft syml: rydych chi'n rhoi £10,000 i mewn i fusnes sy'n cynhyrchu enillion o 5 y cant, rydych chi ar hyn o bryd yn talu treth incwm ar elw o £500. O dan dreth gyfoeth, wrth gwrs, byddech chi'n talu treth ar y prifswm o £10,000 bob blwyddyn, beth bynnag y bo'r incwm a gynhyrchir. Mae'n ddatgymhelliad sylfaenol.
Yn ail, mae'r dreth hon yn atal entrepreneuriaeth. Mae cyfoeth entrepreneuriaid fel arfer ynghlwm wrth ecwiti anhylifol eu cwmnïau sy'n tyfu. Byddai treth gyfoeth yn eu gorfodi i werthu rhannau o'u busnes, peiriannau cynhyrchu ein heconomi, i dalu bil treth blynyddol ar gyfoeth papur. Mae hon yn dreth ar botensial twf.
Yn drydydd, nododd yr Aelod beth o'r pryder ynghylch cyfalaf yn gadael y wlad—pobl sy'n gadael y wlad—oherwydd bod cyfoeth yn hynod symudol. Rwy'n anghytuno â'r Aelod ac yn dweud na fydd gweithredu'r dreth hon yn cadw cyfalaf yn y wlad, bydd yn cyflymu adleoliad unigolion cyfoethog a'u hasedau i awdurdodaethau heb ardoll o'r fath. Mae hyn yn golygu—
Tybed a wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad byr, os yw hynny'n iawn.
Yn sicr.
Diolch yn fawr. Ie, mae'n dda cael y ddadl, onid yw? Rwy'n falch iawn o weld ein bod yn edrych ar yr egwyddor o dreth gyfoeth. Mae yna ychydig o bwyntiau yno yr oeddwn i'n meddwl tybed a gawn i glywed ychydig mwy o wybodaeth gennych chi amdanynt. Yn gyntaf: rydych chi'n sôn am bobl sy'n gadael y wlad, ond rydych chi hefyd wedi clywed y dystiolaeth fod 80 y cant o filiwnyddion yn cefnogi treth gyfoeth ar ei ffurf symlaf, ac y byddent yn aros yn y DU ac y byddent yn ei thalu.
Yr ail bwynt yr hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth gennych yn ei gylch oedd eich bod chi'n siarad am y diffyg twf economaidd—y gallai hyn fygu hynny, mewn gwirionedd, lle mae—nid wyf yn gwybod a fyddech chi'n derbyn yr egwyddor hon—anghydraddoldeb yn effeithio arnom i gyd, ac nid y tlotaf yn unig, fel y soniodd Julie, ac mae'n effeithio ar ein miliwnyddion mewn gwirionedd. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gan rai o'r miliwnyddion hynny, a'r ffaith eu bod am i'r dreth gyfoeth hon arwain at well gwasanaethau cyhoeddus am eu bod yn cyflogi pobl. Maent eisiau i'w plant gael gwell gwasanaeth iechyd, gwell awdurdod lleol, gwell gwasanaeth addysg.
Felly, y ddau bwynt hynny, os caf, Sam. Ble mae eich tystiolaeth, oherwydd mae gennym dystiolaeth glir o arolygon barn, a ble rydych chi'n dod o hyd i'r wybodaeth sy'n dweud y bydd hyn yn mygu twf economaidd? Diolch yn fawr.
Diolch am yr ymyriad. Rhan o'r dystiolaeth, wrth gwrs, yw'r ffaith bod yna 12 gwlad yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym 1990 yn codi'r dreth ar gyfoeth net unigolion. Erbyn 2020 dim ond tair gwlad oedd y nifer a oedd wedi dewis cael y dreth honno ar waith. Ac fe esboniaf rai o'r rhesymau y maent wedi'u rhoi dros ei diddymu. Ar fater penodol cyfalaf yn gadael y wlad, un o'r rhesymau pam y tynnodd Ffrainc yn ôl o'r drethiant hon yn 2018 oedd eu bod yn amcangyfrif bod 40,000 o'u miliwnyddion wedi gadael Ffrainc yn gysylltiedig â'r gyfundrefn dreth gyfoeth. Roedd cysylltiad uniongyrchol felly—colled fesuradwy, fel y disgrifiwyd, o'r sylfaen dreth a chyfalaf buddsoddi.
Rhan o'r ddadl a glywsom hyd yma y prynhawn yma yw mai'r cyfoethocaf a ddylai gyfrannu fwyaf, a byddem i gyd yn cytuno â hynny. Dyna pam, ar hyn o bryd, fod yr 1 y cant cyfoethocaf yn y DU yn talu 29 y cant o'r trethi sy'n dod i'r Trysorlys bob blwyddyn. Maent eisoes, a hynny'n hollol gywir, yn talu lefel anghymesur o—. A ydych chi eisiau dod yn ôl ar y pwynt hwn? Gallaf weld eich bod chi'n ysu i ddod yn ôl. Rwy'n hapus i—.
Mae'n ddrwg gennyf, a gaf i ddod i mewn gyda rhywbeth mewn perthynas â gwledydd eraill, ac unwaith eto, mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth? Gadewch inni fod yn glir, fe osododd Ffrainc y trothwy mor isel fel ei fod wedi effeithio ar lawer gormod o bobl, ac maent wedi cydnabod hynny. Os edrychwch ar y Swistir a Sbaen, fe wnaethant golli refeniw oherwydd bod y cantonau a'r rhanbarthau wedi ei gymhwyso'n wahanol. Ac mae gennym Gatalwnia, sy'n enghraifft gref. Felly, yno, mae gennym enghraifft ryngwladol, sy'n gwbl groes i'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, gan i'r dreth gynhyrchu refeniw ychwanegol mewn gwirionedd, ac fe welsom yr un peth yn Denmarc. Felly, mewn gwirionedd—
[Anghlywadwy.]
Ie, mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n bwynt dadl mewn gwirionedd, onid yw, oherwydd rwy'n awyddus iawn i herio'r hyn a ddywedodd yr Aelod am enghreifftiau rhyngwladol. Diolch.
Diolch am yr enghreifftiau hynny, ac rwy'n hapus i rannu rhai enghreifftiau yn ôl hefyd, oherwydd fe wnaeth rhai o'r gwledydd hynny dynnu'n ôl rhag gweithredu'r dreth gyfoeth—llefydd fel Awstria, yr Almaen, yr Iseldiroedd, hyd yn oed un o wledydd Sgandinafia, credwch neu beidio, fel Sweden—a chydnabod eu bod wedi gwneud camgymeriad gyda'r dreth gyfoeth. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y Swistir. Wrth gwrs, nid oes gan y Swistir bethau ar waith fel treth etifeddiant yn nifer o'u cantonau, ac nid oes ganddynt bethau fel treth enillion cyfalaf chwaith. Felly, nid yw'n deg o gwbl dewis y dreth ar ei phen ei hun o gyfundrefn dreth ehangach.
Ddirprwy Lywydd, rhai rhesymau eraill pam y mae gwledydd wedi gwrthdroi'r polisi hwn—. Nododd yr Aelod yn gywir y byddai cyfoeth yn cael ei asesu ar ystod eang o asedau, gan gynnwys casgliadau celf, efallai, neu eiddo tirol cymhleth, neu brisiad cwmni preifat. Byddai'n rhaid gwneud y prisiad hwnnw ar draws yr asedau hynny yn rheolaidd—yn flynyddol efallai, byddech chi'n disgwyl. Mae hyn yn galw am fiwrocratiaeth enfawr gostus a fyddai'n dueddol o arwain at ymgyfreitha. Mae cost cydymffurfio a gweinyddu yn aml yn llyncu canran annerbyniol o uchel o'r refeniw a gesglir, gan wneud y dreth yn aneffeithiol. Edrychodd Iwerddon ar hyn yn ddiweddar. Fe wnaethant amcangyfrif y gallai cost cydymffurfiaeth a gweinyddiaeth lyncu hyd at 50 y cant o gyfanswm y refeniw treth a gesglid, gan ei gwneud yn ffordd anhygoel o aneffeithlon o ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel refeniw treth.
Rheswm arall pam y mae'r gwledydd hyn wedi gwrthod yr arbrawf yw annhegwch trethiant ddwbl, fel y nodwyd. Drwy ddiffiniad, yr hyn yw cyfoeth yw incwm sydd eisoes wedi'i drethu drwy dreth incwm, drwy dreth gorfforaeth, drwy dreth enillion cyfalaf. Yn fy marn i, mae ei drethu eto bob blwyddyn yn rheolaidd yn gosb ddi-alw-amdani am gynilo a buddsoddi. Mae'n gorfodi pobl i ddewis rhwng gwerthu asedau cynhyrchiol neu weld eu cynilion a enillwyd drwy waith caled ac a drethwyd yn flaenorol yn cael eu herydu'n raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
A gaf i ofyn, Ddirprwy Lywydd, faint mwy o amser sydd gennyf? Rwy'n gwybod bod y cloc wedi troi'n goch.
Rwyi'n mynd i roi dwy funud ychwanegol i chi, oherwydd yr ymyriadau.
Diolch yn fawr. Mater arall sy'n cael ei amlygu gan y wlad hon yw'r hyn a ddisgrifir fel y trap hylifedd. Gwyddom nad arian parod yw cyfoeth. Felly, gallai ffermwr neu berchennog busnes bach y mae ei gyfoeth wedi'i glymu mewn tir neu beiriannau anhylifol fod â gwerth net uchel ond heb lif arian. Mae treth gyfoeth, wrth gwrs, yn eu gorfodi i ddatgymalu ffynhonnell eu bywoliaeth er mwyn talu'r dreth.
Rwy'n dod i ben nawr, Ddirprwy Lywydd. Mae treth gyfoeth yn gynnig poblogaidd sy'n drychinebus yn ymarferol. Mae'n cosbi cynilo, yn atal buddsoddiad, yn ei gwneud hi'n ofynnol i werthu asedau cynhyrchiol ac yn gyrru cyfalaf symudol dramor. Os mai'r nod yw codi refeniw a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, dylem ganolbwyntio ar ddatrys y problemau yn ein system dreth bresennol, megis cau bylchau yn y gyfraith, nid gweithredu polisi diffygiol iawn sydd wedi'i wrthod yn rhyngwladol. Mae treth gyfoeth yn ymosodiad ar egwyddorion sylfaenol economi gadarn. Rhaid i ni ei gwrthod. Mae ein heconomi eisoes dan straen sylweddol. Byddai cyflwyno treth gyfoeth yn gwneud pethau'n waeth nid yn well. Byddai'n economaidd niweidiol ac yn annheg yn ymarferol. Ymhell o fod yn ateb i anghydraddoldeb, mae'n creu risg o danseilio sylfeini ein heconomi fregus, gan fygwth swyddi, buddsoddiad a'n cymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hon heddiw a dechrau drwy gyflwyno'r achos. Mae o'n fater o drafod anghydraddoldebau, onid ydy, a beth wnes i ddim clywed gan y Torïaid oedd unrhyw gynnig o ran sut dŷn ni'n mynd i'r afael â hynny. Os nad hyn, beth ydy'r opsiynau amgen? Oherwydd dŷn ni'n gwybod bod lot o'r pethau mae'r Torïaid wedi sôn amdanyn nhw ddim yn mynd i fynd i'r afael efo anghydraddoldebau. Mae'n gwestiwn, onid ydy: ydych chi'n credu ei bod hi'n anfoesol bod mwyafrif cyfoeth y byd yn nwylo canran mor fach o'r boblogaeth? Dyna ydy'r cwestiwn sylfaenol fan hyn. Ac yn fy marn i, na, dydy hynny ddim yn iawn, oherwydd mae o'n fater o lwc, i nifer, os ydych chi'n cael eich geni efo'r cyfoeth yma hefyd.
Mae yna gymaint o bobl yn ein cymunedau ni dŷn ni'n eu cynrychioli sy'n gweithio mor, mor galed, a dydyn nhw methu â fforddio hanfodion bywyd, ac mae hynny'n fater o anlwc o ran lle maen nhw wedi cael eu geni, y cyfleoedd maen nhw wedi'u cael. Ydyn nhw wedi bod yn ofalwyr ifanc a methu cael mynediad at addysg? Beth ydy'r amgylchiadau sy'n golygu eu bod nhw ddim yn gallu cael y cyfoeth hwnnw? Ac felly y cwestiwn i fi ydy: os nad hwn, yna beth ydy'r datrysiad? Oherwydd, yn sicr, dydy'r system drethiant, dydy'r economi fel y mae hi rŵan, ddim yn gweithio i fwyafrif o bobl. Dyna pam mae Plaid Cymru o'r farn bod angen mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas a sicrhau bod cyfoeth yn cael ei rannu er budd pawb.
Wrth i anfodlonrwydd, yn ddealladwy, gynyddu—ac mae hynny'n ddealladwy—mae o'n ddifyr dros ben nodi sut mae’r cyfryngau asgell dde yn ceisio brwydro yn erbyn unrhyw syniad o gyflwyno treth cyfoeth. Ysgwn i bwy sy'n rheoli'r wasg honno? O ran y dadleuon dŷn ni'n eu clywed dro ar ôl tro gan y dde, y byddai cyflwyno treth ar gyfoeth sydd y tu hwnt i amgyffred, heb sôn am fod yn cyrraedd 99.9 y cant o'r boblogaeth, nid yn unig yn anymarferol, ond hefyd yn sbarduno llu o filiwnyddion i allfudo. Dydy’r data ddim yn cefnogi hynny. Mi wnaeth Julie Morgan sôn am yr esiamplau hynna—0.01 y cant. Wel, buaswn i’n gallu byw efo hynny, wyddoch chi, oherwydd mi fyddai yna gyfraniad.
Felly, os ydyn ni’n edrych ar y dystiolaeth, mae’n ddifyr gweld sut gyfraniad cadarnhaol mae trethi cyfoeth wedi’u cael ar refeniw treth sawl gwlad ledled y byd. Ac o ran Sam Rowlands, dwi yn derbyn bod y cyd-destun yn wahanol ym mhob gwlad. Mae'n anodd gwneud y gymhariaeth, ond mae yna elfennau gallwn ni edrych arnyn nhw a gweld byddai fo’n gallu bod yn wahanol.
Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n gyd-digwyddiad bod nifer o'r gwledydd sydd gyda threth cyfoeth hefyd ymhlith y rhai lle mae yna lai o anghydraddoldeb, a hefyd mwy o hapusrwydd. Rydym ni'n gweld hynny'n gyson, felly mae o'n rhywbeth mae'n rhaid i ni edrych arno fo. Os ydyn ni'n edrych yn benodol o ran treth cyfoeth Norwy, Sweden a Denmarc, mae'r esiamplau hynny yn bendant gwerth chweil oherwydd, wedi'r cyfan, yn Norwy, er enghraifft, mae o mewn grym yno ers 1892. Ydy o'n werth i ni gael y sgwrs? Nid cysyniad newydd, trendi yw hwn; mae hwn yn gysyniad sylfaenol o ran beth ydy tegwch a beth ydy democratiaeth.
Rydym ni hefyd wedi clywed dadleuon yn cael eu gwneud yn erbyn yr achos dros gydraddoli treth ar enillion cyfalaf gyda threth incwm, a fyddai unwaith eto'n effeithio ar ganran bach iawn o'r boblogaeth. Yn wir, ymhell o ysgogi entrepreneuriaeth, o ran y rhesymeg dros gyfraddau enillion cyfalaf is, mae'r dystiolaeth yn dangos bod y system bresennol yn offeryn aneffeithiol ar gyfer ysgogi buddsoddiad. Pam felly does yna neb o bleidiau Llundain sydd wedi bod wrth y llyw yn San Steffan wedi mynd i'r afael â hyn hyd yma? Ac oes yna obaith gwirioneddol o newid, neu ydy o'n hen bryd i ni gael y pwerau perthnasol yma yng Nghymru a sefydlu system trethiant sy'n gweithio i'n gwlad a’n pobl?
Dwi’n meddwl ei fod o’n gyfan gwbl glir erbyn hyn fod Llywodraethau San Steffan o bob lliw yn blaenoriaethu, ac wedi blaenoriaethu, bodloni'r cyfoethog yn hytrach na mynd i'r afael ag anghyfartaledd. Dyna pam, felly, mae Plaid Cymru yn glir: mae yna achos moesol ac economaidd cryf dros gyflwyno trethi ar gyfoeth, ac, o ystyried cyflwr difrifol cyllid cyhoeddus, byddai unrhyw Lywodraeth sydd o ddifri ynglŷn â mynd i'r afael â’r heriau hyn yn archwilio ymarferoldeb cynigion o'r fath ar brys, ac yn edrych ar beth y gallwn ni ei gyflwyno.
Fel dywedais i, dydy’r system drethiant ddim yn gweithio ar y funud. Dydy’r economi ddim yn gweithio i bawb. Mae'n rhaid i ni gael datrysiadau. Dydy cario ymlaen fel ydyn ni ddim yn mynd i ddod â’r datrysiadau hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r rhai a gyflwynodd y pwnc hwn i'w drafod y prynhawn yma. Rwy'n cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Busnes yn llwyr. Dyma'r union fath o bwnc y lluniwyd y dadleuon agored ar ei gyfer. Ac mae Sam Rowlands yn hollol anghywir pan fo'n awgrymu nad oes a wnelo hyn â'r Senedd. Fe esboniaf iddo cyn i mi orffen pam y mae pwerau yn nwylo'r lle y cawsom ein hethol iddo a all fod yn effeithiol yn y gwaith o wneud yn siŵr fod y rhai sydd â mwy o gyfoeth nag y byddant byth yn gwybod beth i'w wneud ag ef yn gwneud mwy o gyfraniad i iechyd y gymdeithas y maent yn perthyn iddi ac y mae eraill yn dibynnu arni, system ddilys gyda'r nod o sicrhau cyfiawnder economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol hefyd.
Y rheswm pam y credaf fod y dadleuon hyn mor werthfawr, ac rwyf wedi mwynhau gwrando ar y cyfraniadau hyd yma, yw oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i dyrchu o dan y penawdau. Mae mwy nag un math o gyfoeth, Ddirprwy Lywydd, ac mae mwy nag un math o drethiant. Mae dewisiadau polisi go iawn i'w gwneud ym maes trethiant cyfoeth, ac mae'r prynhawn yma yn gyfle i'w trafod ac i gydnabod yr heriau, yr heriau cynllunio, sydd yno i greu trethiant effeithiol ar gyfoeth. Dylem fod o ddifrif, hyd yn oed y rhai ohonom sy'n credu mewn treth gyfoeth, ynghylch y sylw, pe bai'n syml, yna mae'n debyg y byddai wedi cael ei wneud yn gynt ac mewn mwy o leoedd nag a welwyd hyd yma.
Mae'r achos dros drethu cyfoeth yn glir, fodd bynnag. Lefelau uchel o anghydraddoldeb cyfoeth yw un o brif heriau ein hoes. Mae yna lawer o ffyrdd y gellir defnyddio trethi i gasglu mwy oddi wrth unigolion cyfoethog. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, Ddirprwy Lywydd, ond geiriau'r band chwyldroadol hwnnw, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, yn ei chyngor i Lywodraethau ynglŷn â sut y gellir trethu cyfoeth yn fwy effeithiol.
Ac fel y dywedodd eraill—fel y dechreuodd Heledd Fychan drwy ddweud—anghydraddoldeb sydd wrth wraidd y ddadl hon. Daeth yr un adroddiad gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol i'r casgliad fod y 25 unigolyn cyfoethocaf yn yr Unol Daleithiau yn wynebu cyfradd dreth gyfartalog weithredol o 3.25 y cant, ac yn y Deyrnas Unedig, fod tua chwarter y rhai sydd ag incwm blynyddol o dros £3 miliwn wedi talu treth o tua 12 y cant. Mae hynny 32 y cant yn is na'r hyn y byddech chi neu fi neu bobl eraill sy'n ennill ein bywoliaeth o waith a'n hincwm o waith yn ei wynebu ar yr un lefel o incwm.
Mae'r crynodiadau eithafol hyn o gyfoeth yn cyrydu ein gwead cymdeithasol a'n gwead democrataidd. Rhybuddiodd hyd yn oed Hayek, hoff economegydd Mrs Thatcher, am y canlyniadau cymdeithasol i gymdeithas lle mae mwy a mwy yn crynhoi yn nwylo'r rhai nad oes arnynt ei angen, a lle nad oes gan eraill unrhyw gynilion o gwbl i ddelio â hyd yn oed yr argyfwng domestig lleiaf.
Mae yna gymunedau yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, lle mae 40 y cant o'r holl aelwydydd yn dweud nad oes ganddynt gynilion o gwbl—dim iot o gyfoeth y gallant ddibynnu arno. Pan fydd y tegell yn torri, pan fydd y peiriant golchi yn torri, nid oes ganddynt unrhyw le o gwbl i fynd, tra bod eraill, yn aml yn byw heb fod mor bell â hynny oddi wrthynt, mewn sefyllfa wahanol iawn. Ac mae honno'n sefyllfa sydd wedi gwaethygu yn ddiweddar. Y rhai sy'n meddu ar leiaf yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y blynyddoedd hir o gyni. Oherwydd, tra bod anghydraddoldeb cyfoeth wedi cynyddu, mae'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n gwau ein cymdeithas gymhleth gyda'i gilydd wedi cael eu llwgu.
Nid wyf yn credu bod dyfodol cyllidol—. O ystyried demograffeg ein gwlad, lle bydd llai a llai o bobl o oedran gweithio yn y dyfodol, nid oes unrhyw ddyfodol cyllidol sy'n dibynnu'n unig ar gymryd canran gynyddol o'r incymau hynny gan nifer sy'n crebachu o bobl y mae eu harian yn deillio o waith. Yn hytrach, rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi rhan o'r cyfoeth sydd wedi'i grynhoi yn nwylo cyn lleied o bobl, rhoi hwnnw ar waith i wella llesiant y gymdeithas ehangach.
Gall effaith y cynnydd hwn fod yn sylweddol. Fel y clywsoch eisoes, cynigiodd comisiwn cyfoeth y DU 2020 dreth untro ar ddaliannau cyfoeth, a allai godi rhwng £80 biliwn a £260 biliwn, yn dibynnu ar ble mae'r trothwy ar gyfer codi treth o'r fath. Rydych chi wedi clywed am gynnig Tax Justice UK a Patriotic Millionaires UK ar gyfer treth gyfoeth barhaus o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn, a fyddai'n codi £24 miliwn bob blwyddyn.
Yr un pwynt lle roeddwn i'n anghytuno â Heledd Fychan, Lywydd, ac yn cytuno llawer mwy â Julie Morgan yw bod i drethiant cyfoeth y fantais ddemocrataidd hefyd o atgyfnerthu'n ddiamwys yr achos dros y Deyrnas Unedig fel peiriant gwych ar gyfer ailddosbarthu. Os yw'r cwestiwn yn y ddadl hon yn gofyn, 'A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru?', fy ateb fyddai, 'Na fyddai, pe baech chi'n ceisio ei wneud ar sail Cymru yn unig.' Efallai'n wir fod nifer fach o bobl sy'n gyfoethog o ran asedau yn byw yng Nghymru, ac er nad oes llawer ohonynt, mae'n galonogol fod nifer anghymesur ohonynt yn perthyn i rengoedd Patriotic Millionaires UK. Ond ni ellir sicrhau'r ffigurau rwyf newydd eu nodi a'r biliynau o bunnoedd a fyddai'n cael eu codi heb drethu cyfoeth lle mae i'w gael yng nghrynoadau Llundain a'r de-ddwyrain, a'i ddosbarthu wedyn i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau lle mae fwyaf o'i angen. Gall treth gyfoeth weithio i Gymru, cyn belled â'n bod yn dewis aros o fewn y Deyrnas Unedig.
Rwyf am oedi am eiliad, fodd bynnag, i ddeall y rhwystrau i drethu cyfoeth a'r ymdrechion sydd wedi'u gwneud yn y gorffennol. Mae'n wir fod gan drethdalwyr cyfoethog fynediad at gyngor arbenigol sy'n caniatáu iddynt leihau, yn sylweddol yn aml, y dreth y maent yn ei thalu drwy fanteisio ar fylchau yn y gyfraith a thriniaeth ffafriol i incwm cyfalaf penodol. Mae cyfoeth yn symudol, hyd yn oed os yw unigolion yn llai symudol. Gellir symud cyfoeth rhwng gwahanol fathau o asedau, gellir ei symud ar draws ffiniau o fewn a rhwng gwledydd, gellir ei guddio mewn strwythurau cyfreithiol cymhleth, ac ymhlith rhai llai egwyddorol, gellir ei guddio mewn trefniadau alltraeth sydd wedi'u cynllunio i osgoi rhwymedigaethau dinasyddiaeth. Dyna pam y mae'r rhai sy'n cefnogi mathau o dreth gyfoeth, ac mae hynny'n cynnwys y Patriotic Millionaires UK, yn cydnabod y byddai llunio cynllun o'r math y maent yn ei hyrwyddo yn dasg dros sawl blwyddyn. Nid yw'n bolisi sy'n mynd i gynhyrchu symiau mawr o arian yn y tymor byr, oherwydd mae'n rhaid gwneud treth gyfoeth yn ofalus a sicrhau na chewch ganlyniadau anfwriadol.
Os caf droi at y cwestiwn mwyaf difrifol: beth yn union sydd i'w gynnwys o fewn y diffiniad o gyfoeth? Gellir dadlau ynghylch asedau hylifol hyd yn oed os, er enghraifft, y cânt eu hystyried yn gynilion gohiriedig ar ffurf pensiynau. A yw pensiynau i'w cynnwys yn y £10 miliwn y mae'r Patriotic Millionaires UK yn ei awgrymu? Ac o ran asedau anhylifol, a yw cyfoeth yn cynnwys prif breswylfa rhywun? Ni allaf feddwl am unrhyw enghreifftiau o dreth gyfoeth lwyddiannus y gwn amdanynt lle mae hynny'n digwydd. Beth am y rhai sy'n gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian parod—nid dim ond y weddw oedrannus y sonnir amdani sy'n byw ar ei phen ei hun ar incwm sefydlog mewn plasty, ond pobl sy'n berchen ar fusnesau, a allai fod yn meddu ar lawer o asedau, ond lle mae'r asedau hynny'n gyfalaf cynhyrchiol yn bennaf, offer a pheiriannau y gellir eu troi'n arian drwy werthu neu gau? A beth am roddion? A oes unrhyw wahaniaeth i'w wneud rhwng cyfoeth sydd wedi'i greu drwy fenter a gwaith caled—cyfalaf teilyngdod, fel y'i gelwir weithiau—a chyfoeth, sydd, fel y dywedodd Heledd Fychan, yn fater o lwc yn unig, rhywbeth sydd wedi syrthio i goel rhywun drwy etifeddiant neu oherwydd bod ased wedi cynyddu yn ei werth oherwydd gweithredoedd pobl eraill?
Y pwynt rwy'n ceisio ei wneud, Ddirprwy Lywydd, yw bod hwn yn fater cymhleth, hyd yn oed i'r rhai ohonom sy'n credu yn yr egwyddor. Ceir sawl ffurf ar gyfoeth: stociau cyfoeth, incwm sy'n deillio o gyfoeth, cyfoeth a etifeddwyd. Os ydym eisiau treth gyfoeth, fodd bynnag, dylid dechrau paratoi ar ei chyfer nawr. Fel arall, bydd cymhlethdod bob amser yn elyn i gynnydd.
Rwyf am ganolbwyntio, yn rhan olaf yr hyn sydd gennyf i'w ddweud, Ddirprwy Lywydd, ar ddau fath o dreth gyfoeth y credaf y gallant—
Cyn belled â'ch bod chi'n gyflym, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'n ddrwg gennyf. Faint o amser sydd gennyf?
Rydych chi wedi defnyddio eich amser i gyd.
O, wel, dyna ni. Gallaf ddod yn ôl yn nes ymlaen yn y ddadl.
Gallwch ddod yn ôl yn nes ymlaen.
Gallaf gadw fy hun at nes ymlaen. [Chwerthin.]
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac ni fyddaf yn hir iawn, felly buaswn yn croesawu unrhyw gyfraniadau pellach. Ond rwy'n mynd i ddefnyddio llawer o fy nadl ar gyfer torri ar draws fy nghyd-Aelodau ar fy llaw chwith—er mai ar y dde y maent—yn sicr.
Ddydd Llun, cyfarfu John Griffiths a minnau â bws, ac ar ochr y bws, roedd yn dweud, 'Tax us, the super-rich. Proud to pay. Here to stay.' Dyna'r neges a gawn gan filiwnyddion. Mae'n amlwg iawn eu bod am i hyn ddigwydd. Fel y dywedais yn gynharach, nid ydynt yn hollol anhunanol. Mae'n ymwneud â'u bod nhw hefyd eisiau gweld gwasanaethau gwell ledled y DU sy'n caniatáu iddynt weld cymdeithas iachach a chyfoethocach iddynt eu hunain, i'w gweithwyr, ac i'w plant a'r genhedlaeth nesaf. Fel y clywsom, mae oddeutu 22,000 o bobl yn ennill £10 miliwn neu fwy. Mae ein cynnig ar gyfer treth gyfoeth yn syml iawn: trethu uwchlaw'r £10 miliwn ar 2 y cant. Maent yn cael cadw £10 miliwn bob blwyddyn. Nawr, mae hynny'n sicr yn ddigon i fyw arno. Buaswn yn dadlau dros lai na hynny hyd yn oed. Ond dyna'r cynnig a glywn gan y miliwnyddion.
Y llynedd—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Ewch amdani.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, nid oes unrhyw beth yn atal unrhyw un rhag talu mwy o dreth heddiw os ydynt eisiau gwneud hynny. Felly, pam y credwch chi nad yw'r miliwnyddion yr ydych chi'n siarad â nhw yn talu mwy o dreth yn wirfoddol? Pan fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu a dweud, 'Rydych chi wedi gordalu', gallant wrthod yr ad-daliad hwnnw. Mae perffaith hawl ganddynt i dalu mwy o dreth nag y mae'n rhaid iddynt ei wneud. Felly, pam nad ydynt yn gwneud hynny?
Nid oes gennyf unrhyw syniad pa roddion dyngarol y mae'r miliwnyddion hynny'n eu gwneud. Ac yn wir, am system ryfedd fyddai'n dweud, 'Talwch beth bynnag a fynnwch pryd bynnag y mynnwch.' Nid dyna a olygir wrth gymdeithas gyfartal, gyfiawn.
Tyfodd cyfoeth biliwnyddion y DU yn y wlad hon £11 biliwn y llynedd. Os oes gennych arian, rydych chi'n cael mwy o arian. Os nad oes gennych arian, nid oes gennych unrhyw obaith o gael unrhyw arian. Os caf gyfeirio at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yno ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd, rwy'n cofio siarad â theulu a oedd newydd gael babi arall. Roedd y gŵr ar ei ben ei hun, yn gofalu am eu plentyn tair oed. Roedd ei wraig wedi gorfod mynd i uned gofal arbennig ar gyfer babanod, ac mewn cymuned wledig, roedd honno oddeutu 60 milltir i ffwrdd. Nid oedd ganddynt gar. Dim ond beic modur oedd ganddo. Nid oedd unrhyw ffordd ganddo o fynd i weld ei wraig a'i fabi newydd-anedig. Roedd yn rhaid iddo aros gartref gyda'i blentyn tair oed wrth gwrs. Dyna'r canlyniadau bywyd go iawn, ac rwy'n siŵr fod yna lawer iawn o enghreifftiau eraill y gallwn glywed amdanynt.
Yn fy marn i, dyma rywbeth a allai sicrhau bod pawb ar eu hennill. Mae'n syml. Mae'n rhywbeth y mae angen inni ddechrau ag ef. Ac rwy'n siŵr y bydd heriau ar hyd y ffordd, ond gadewch inni ddechrau drwy ddweud, 'Cewch gadw eich £10 miliwn, ond mae 2 y cant ar ben hynny', yn ogystal â'r trethi y maent eisoes yn eu talu. A gwrandewch, bob dydd, cawn ein trethu ddwywaith. Rydym yn talu ein trethi; rydym yn talu treth ar werth, rydym yn talu pob math o drethi eraill. Felly, mae honno'n ddadl gyfeiliornus, os caf fod mor feiddgar ag awgrymu.
Gallwn weld, mewn gwirionedd, y byddai £22 biliwn yn dod i mewn i Lywodraeth y DU yn ariannu gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru. Byddai'n ariannu gofal plant i bawb, gofal cymdeithasol; byddai'n gwneud yn siŵr fod ein helusennau'n fwy sefydlog. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod yr arian hwnnw'n dod i mewn i Gymru, ond rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod angen inni fod yn rhan o'r tîm mwy hwn er mwyn sicrhau bod y dreth honno'n dod yma. Oherwydd rwyf eisiau gweld Llywodraeth y DU hefyd yn cynyddu'r—[Torri ar draws.] Fe wnaf orffen yr un pwynt hwn. Rwyf am weld Llywodraeth y DU yn cynyddu'r gyllideb cymorth rhyngwladol i'w chodi'n ôl i 7 y cant. Rwy'n teimlo ei bod yn gywilyddus ein bod yn torri cymorth i bobl dlotaf y byd, sy'n golygu nid yn unig ein bod yn creu sefyllfaoedd ansefydlog, nid ydym yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd chwaith, y gallwn ei weld dramor, drwy bobl heb obaith yn gwneud pethau enbyd.
Cyn i chi dderbyn ymyriad—ac fe roddaf amser ar gyfer yr ymyriad—rwy'n eich atgoffa mai chi sy'n cloi'r ddadl ac felly, yn dechnegol, dyma eich ail ymyriad, sy'n amser cyfyngedig. Chi sy'n cloi'r ddadl, Jane.
Rwy'n sylweddoli hynny.
Ac felly, y dyraniad amser i chi gloi, dyma eich—. Yn dechnegol, rwyf wedi rhoi'r amser i chi fel ail ymyriad, nid fel ymyriad llawn yma. Oherwydd dywedwyd wrthyf y byddai gennych gyfraniad personol i gloi. O'r gorau? Gallwch dderbyn yr ymyriad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn eisiau ymateb i'r pwynt a wnaethoch fod trethi uwch yn golygu gwasanaethau cyhoeddus gwell; dyna'r ddadl yr ydych chi'n ei gwneud. Ond rwyf am ddefnyddio awdurdodau lleol fel enghraifft, lle mae'r dreth gyngor yn gyffredinol yn codi bob blwyddyn, ond mae'r gwasanaethau'n cael eu torri ac yn gyffredinol mae'r ddarpariaeth o wasanaethau'n gwaethygu. Felly, ar y sail honno'n unig, sut y gallech chi sicrhau y byddai gwasanaethau cyhoeddus o reidrwydd yn gwella o ganlyniad i drethi uwch, o ystyried yr enghraifft a roddais?
Nid wyf yn glir iawn pa mor hir sydd gennyf yma, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i ymateb i'r pwynt hwnnw—
Rhoddwyd amser i chi gloi'r ddadl, a oedd 10 munud drosodd. Fe ofynnoch chi am amser ychwanegol, sy'n normal—byddai gan Aelodau eraill dri munud fel amser ychwanegol. Dyna reolau'r ddadl agored, a dyna a roddwn i chi. Rydych chi wedi cael pum munud yn eich ail sesiwn, yn dechnegol, oherwydd cefais wybod y byddech chi'n gwneud cyfraniad personol a chyfraniad i gloi. Felly, i wneud yn siŵr fod pawb yn cael eu trin yn deg, yn y bôn rydych chi wedi defnyddio eich ail gyfraniad.
Felly, ni chaf wneud unrhyw ymyriadau pellach.
Gallwch wneud ymyriadau—
Gwych. Diolch. Fe wnaf barhau.
—ond ni chewch barhau â'r araith hon ar y cam hwn.
Na. Iawn. Fe wnaf ymateb i'r pwynt hwnnw, os caf, Ddirprwy Lywydd. Fy ymateb i, ac rwy'n credu eich bod wedi ei glywed yn cael ei adleisio o amgylch y Siambr: mae angen yr arian sy'n dod i Gymru ac sy'n mynd allan i'n hawdurdodau lleol ar gyfer y gwasanaethau sydd ei angen yn ddirfawr. Gwyddom fod ein cynghorau yn crefu am arian, ac felly byddai trethi cyngor yn gostwng. Diolch.
Fe fyddwch yn gwybod nad wyf yn berson crefyddol, ond mae yna un dyfyniad o'r Beibl yr wyf bob amser wedi teimlo ei fod yn gymwys:
'Haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.'
I'r rhai sy'n amau hynny, mae i'w weld yn Luc 18:25, Marc 10:25, a Mathew 19:25, a hefyd yn y Qur'an. Mae hwn yn ddyfyniad a ddylai ein haflonyddu, nid oherwydd fy mod yn credu mewn rhyfeddodau nefol, neu ofn fflamau uffern dragwyddol, ond oherwydd yn y byd global, cyfalafol yr ydym yn byw ynddo, rydym yn dystion i'r globaleiddio cynyddol a chronni cyfoeth enfawr mewn llai a llai o ddwylo, tra bod y tlodion yn mynd yn dlotach.
Yn y DU, un o ddyheadau ac amcanion sylfaenol sosialwyr a'r mudiad llafur yw creu cymdeithas deg a chyfiawn, grymuso gweithwyr a chymunedau â chyfran deg o'r cyfoeth sy'n cael ei greu yn ein cymdeithas. Hyd at y 1980au, roedd y bwlch anghydraddoldeb cyfoeth ac incwm yn cau. Yn yr 1980au, dechreuodd ehangu, ac i'r fath raddau fel bod y DU bellach yn un o'r cymdeithasau mwyaf canoledig ac anghyfartal yn y byd datblygedig. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae anghydraddoldeb, yn ogystal â bod yn foesegol anghywir ac anfoesol, yn wleidyddol anghynaladwy. Mae'n magu tlodi eithafol. Mae'n meithrin ansefydlogrwydd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae'n berygl i ddemocratiaeth ac i reolaeth y gyfraith. Rydym yn gweld mewn amser real ein system wleidyddol a'n prosesau democrataidd yn cael eu prynu gan y dosbarth newydd o bobl hynod gyfoethog, yr oligarchiaid. Mae Trump, Putin, Xi Jinping, Reform, Le Pen ac Elon Musk i gyd yn rhan o'r bygythiad hwn i ddemocratiaeth.
Ymosodiadau ar annibyniaeth barnwyr, erledigaeth mewnfudwyr a ffoaduriaid, demoneiddio'r tlawd, rhannu a rheoli, buddiannau miliwnyddion sy'n berchen ar y wasg a'r cyfryngau, rheoli a manipiwleiddio'r cyfryngau cymdeithasol, a difenwi hawliau dynol sylfaenol. Gallai'r hyn sy'n digwydd yn America ddigwydd yn y wlad hon pe bai plaid wleidyddol fel Reform neu blaid Dorïaidd asgell dde yn dod i rym. Ac fel yr arferai baner Undeb Cenedlaethol y Glowyr Pwll Glo'r Tower yn ei gyhoeddi, 'The price of freedom is eternal vigilance', a mawredd, mae angen y wyliadwriaeth honno nawr yn fwy nag erioed.
Yn y DU, mae 20 y cant o'r wlad yn berchen ar ddwy ran o dair o'r cyfoeth. Dim ond 5 y cant y mae'r 20 y cant isaf yn berchen arno. Mae'r 50 y cant tlotaf yn ein cymdeithas yn berchen ar 9 y cant o'r cyfoeth. Mae'r gyfradd o 1 y cant uchaf o gyfoeth wedi dyblu yn y degawd diwethaf ac yn berchen ar 11 y cant o'r cyfoeth. Mae'r 50 teulu cyfoethocaf yn y DU yn berchen ar £466 biliwn, sy'n cyfateb i gyfoeth cyfunol 50 y cant o'r DU, sydd hefyd yn berchen ar £466 biliwn.
Ym 1990, roedd gan y DU 15 biliwnydd. Mae gennym 156 erbyn hyn, gyda chyfoeth cyfunol o £681 biliwn. Nid cyfoeth a enillwyd yw 25 y cant o'r cyfoeth, ond cyfoeth a etifeddwyd. Mae 25 y cant o'r cyfoeth yn deillio o ddiwydiannau echdynnol—olew, nwy, a hefyd o gamblo. Mae cyfoeth o eiddo ac etifeddiant wedi cynyddu i'r entrychion, gan gynyddu rhenti a phrisiau eiddo. Ac mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn fyd-eang, lle mae 10 y cant o'r byd bellach yn berchen ar 60 i 80 y cant o holl gyfoeth y byd.
Yn y DU, mae'r bwlch cyfoeth wedi tyfu 50 y cant dros yr wyth mlynedd diwethaf. Fel y dywed Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain a'r Fairness Foundation, ym Mhrydain,
'mae cyfoeth wedi ei grynhoi fwyfwy yn nwylo ychydig bobl... mae maint y bwlch cyfoeth yn creu risgiau mawr i'n heconomi, ein cymdeithas, ein democratiaeth a'n hamgylchedd'.
Felly, i grynhoi, mae anghydraddoldeb cyfoeth yn gwaethygu tlodi. Mae hefyd yn ystumio democratiaeth. Mae'r cyfoethog a'r corfforaethau, drwy eu dylanwad yn y system ddemocrataidd, yn parhau â'r fytholeg ynghylch cyfoeth diferu i lawr a dibyniaeth ffug ar esgusodi pobl gyfoethog rhag unrhyw gyfrifoldeb am drethiant a lles cymdeithas.
Dywedodd Aneurin Bevan ein bod yn gwybod, heb ymdrech gyfunol a gweithredu ystyrlon, y bydd anghydraddoldeb yn parhau i ehangu. Felly, gadewch i ni weithredu. Mae angen system drethu deg ac ailgydbwyso treth incwm o blaid y tlotaf mewn cymdeithas. Mae angen i ni fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyfoeth ac anghydbwysedd ar draws gwledydd a rhanbarthau'r DU. Rhaid i hyn olygu system drethi etifeddiant sy'n decach. Nid yw gweithwyr cyffredin yn talu treth etifeddiant am nad ydynt yn berchen ar ddigon o gyfoeth. Mae angen system dreth enillion cyfalaf decach. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Rwy'n meddwl tybed sut rydych chi'n ymateb i ffigurau diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n dangos pa mor ddibynnol yw system dreth y DU ar nifer fach o unigolion—yr 1 y cant uchaf sy'n cyfrannu bron i 30 y cant o'r dreth incwm; y 5 y cant uchaf, 50 y cant; a'r 50 y cant isaf, dim ond 10 y cant, felly mae rhywfaint o gymesuredd—ac i ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos bod ystadegau mewnfudo y DU wedi dangos cynnydd sylweddol yn nifer y dinasyddion Prydeinig sy'n gadael y DU yn dilyn codiadau treth Canghellor y DU, yn enwedig ymhlith y cyfoethog iawn. Ac mae hyn eisoes yn brifo cyllid y DU. Ac yn olaf, sut rydych chi'n ymateb—gwn y byddwch chi'n gyfarwydd â hyn—i ymchwil yn 2016 gan Ysgol Fusnes Caerdydd, a ganfu y byddai torri'r dreth ar y gyfradd uwch yng Nghymru yn arwain at refeniw ychwanegol o £500 miliwn y flwyddyn ar ôl degawd?
Wel, gan eich bod wedi canolbwyntio ar incwm i bob pwrpas, un agwedd yn unig ar gyfoeth yw incwm, ac nid yw'r ganran y cyfeiriwch ati yn golygu bod y ganran yn deg mewn gwirionedd. Mae'n golygu bod gennym system incwm wyrdröedig ac anghytbwys iawn, dyna i gyd. Craidd yr hyn rwy'n ei drafod mewn gwirionedd yw cyfoeth y genedl, a'r graddau y mae croniad y cyfoeth hwnnw wedi tyfu'n esbonyddol, yn anghymesur, a bellach yn fygythiad i sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol.
Felly, fe wnaf barhau. Gadewch inni weithredu. Mae angen system dreth enillion cyfalaf sy'n decach. Mae angen system dreth trosglwyddo cyfalaf sy'n decach, a chau'r bylchau yn y gyfraith, a luniwyd gan y cyfoethog i osgoi trethiant. Mae angen creu cronfeydd cyfoeth sofran. Mae angen rhaglen adeiladu enfawr ar gyfer tai cymdeithasol, ac mae angen inni flaenoriaethu twf economaidd, ac i fod yn onest, ailymuno â'r farchnad sengl Ewropeaidd.
Rwy'n cefnogi treth gyfoeth o 2 y cant. Mae'n gymhleth. Nid yw'n hawdd ei llunio. Mae yna lawer o gymhlethdodau, ond fe ellir ei llunio. Gellir gohirio taliad i werth ecwiti cyfoeth ac eiddo pan gaiff ei waredu. Gellir ei wneud heb greu annhegwch i'r rhai sydd â llawer o gyfoeth ond heb lawer o incwm. Byddai'n codi biliynau o bunnoedd, a byddai'n dechrau adfer mwy o gydraddoldeb cyfoeth yn ein cymdeithas. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na chodi arian mawr ei angen i gefnogi buddsoddiad, twf economaidd ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, mae'n ymwneud â gwrthdroi effaith niweidiol cronni cyfoeth yn synergaidd. Dywedodd un economegydd yn ddiweddar,
'Os nad oes gennych asedau nawr, mae hi ar ben arnoch. Ni fyddwch chi byth yn gallu eu fforddio.'
Bydd £5.5 triliwn o gyfoeth yn cael ei drosglwyddo dros y degawdau nesaf. Bydd rhai yn etifeddu miliynau; bydd eraill yn etifeddu biliau gofal. Rhaid defnyddio cydraddoldeb fel conglfaen i'n gwerthoedd dynol cyffredin, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac efallai wedyn y caiff pawb ohonom—hyd yn oed Sam Rowlands—fynd i mewn i deyrnas nefoedd.
Mae'n bleser mawr cael cymryd rhan yn y ddadl agored hon y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Julie Morgan, ar fater sy'n dod yn fwyfwy ffasiynol ar y funud, mater y mae'r cyhoedd yn dod yn fwyfwy ymwybodol ohono, sef y dreth gyfoeth a drafodir gennym heddiw. Mae'r term 'treth gyfoeth', ynddo'i hun, yn eithaf niwlog a gall olygu llawer iawn o wahanol bethau, ond gallwn weld o arolygon, heb esboniad o'r hyn y byddai'n ei olygu, fod y syniad yn ymddangos yn eithaf poblogaidd ymhlith y cyhoedd, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa economaidd enbyd yr ydym ynddi a'r anobaith y mae llawer o bobl yn ei deimlo. Y diffiniad o dreth gyfoeth sy'n cael ei dderbyn yn gyffredinol yw treth a osodir ar gyfoeth net unigolyn neu werth marchnad cyfanswm yr asedau sy'n eiddo iddynt. Felly, dyna'r math o dreth gyfoeth y byddaf yn siarad amdani yn y ddadl hon.
Bellach hefyd, gwelsom y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yn galw'n swyddogol am dreth gyfoeth ar asedau dros £10 miliwn, yn ogystal â rhai Aelodau Llafur o'r Senedd sy'n galw ar y Canghellor i'w chynnwys yn y gyllideb. Rwy'n dadlau bod hwn yn bolisi a fyddai'n hynod niweidiol i'n heconomi ac ni fydd yn arwain at yr effaith a ddymunir. Mewn gwirionedd, byddai'n arwain at y gwrthwyneb yn llwyr, ac mae llawer o arbenigwyr yn cytuno â hynny. Rhybuddiodd hyd yn oed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod y DU yn fwyfwy dibynnol ar nifer cymharol fach o drethdalwyr am gyfran fawr o'r refeniw, a bod yr unigolion hyn yn fwy symudol yn rhyngwladol ac yn fwy ymatebol i newidiadau treth.
Mae gwledydd eraill sydd wedi rhoi cynnig ar drethi tebyg wedi difaru gwneud hynny. Cyflwynodd Ffrainc dreth gyfoeth gyda chyfradd yn cael ei chodi ar unigolion yn amrywio o 0.5 y cant i 1.5 y cant ar asedau dros €10 miliwn. Nid hwb i refeniw oedd y canlyniad, ond ecsodus torfol yr union drethdalwyr yr oedd yn eu targedu. Rhwng y flwyddyn 2000 a 2016, cododd 60,000 o filiwnyddion eu pac, gyda'r dreth yn cyfrannu at ddim ond 2 y cant o'r derbyniadau treth yn ystod ei hoes. Gyda'r economegydd Ffrengig Éric Pichet yn amcangyfrif bod y dreth wedi costio dwywaith cymaint i Ffrainc—[Torri ar draws.] Fe wnaf orffen y pwynt ac fe ildiaf wedyn. Costiodd ddwywaith cymaint o arian i Ffrainc â'r refeniw a gynhyrchodd, ac yn 2017, cafodd yr Arlywydd Macron wared arni er mwyn adfywio twf. Jane.
Diolch. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn eisiau adleisio'r pwynt a wnaed am Ffrainc. Mae'n amlwg, o'r dystiolaeth, eu bod wedi gosod y bar yn rhy isel, sydd felly, fel rydych chi'n ei ddweud yn gywir ddigon—. Rwy'n meddwl bod Heledd wedi dweud bod cymharu pethau tebyg yn anodd iawn. Felly, tybed a wnewch chi ystyried hynny.
Mae'r ail bwynt, a grybwyllwyd yma eisoes, yn ymwneud â'r ddadl am bobl sy'n gadael y wlad. Mae Patriotic Millionaires yn glir iawn: ni fyddant yn gadael. Maent eisiau aros a chyfrannu. Yn sicr, dyna'r math o bobl yr ydym am iddynt aros yn y DU, i gyfrannu, ond hefyd i dalu eu cyfran deg. Diolch yn fawr iawn.
Ar yr ail bwynt a wnaethoch, yn ffodus nid oeddwn o gwmpas ar y pryd, ond rwyf bob amser yn cofio darllen llawer am yr enwogion niferus a adawodd y DU yn y 1970au pan oedd y gyfradd dreth yn 98c yn y bunt—wyddoch chi, pobl fel Sean Connery, John Cleese, y Rolling Stones, a llawer o bobl eraill. Fe wnaethant godi pac am fod hynny wedi digwydd. Rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o hynny'n digwydd nawr, nid mor enwog â'r sêr hynny ar hyn o bryd, ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â tharo cydbwysedd yn yr ystyr honno a gwneud yn siŵr fod—. Ac mewn gwirionedd, mae'r Trysorlys yn colli mwy mewn refeniw treth o wneud hynny, oherwydd bod pawb yn codi pac a symud i ffwrdd. Felly, gall y polisïau hynny fod yn eithaf niweidiol a gwrthgynhyrchiol o ran hynny. Julie.
Tybed a oedd yr Aelod yn ymwybodol o'r arolwg a gynhaliwyd o bobl a oedd yn ymfudo o'r DU, a ddangosai mai'r rhesymau a roddwyd oedd diffyg tai a chyflogau isel. Dyna oedd y prif resymau. Nid pobl gyfoethog, y rhai a oedd yn talu treth uchel, oedd yn gadael, ond pobl a oedd yn ei chael hi'n anodd yma ac a oedd yn mynd i weld a fyddai'n haws yn rhywle arall. Felly, tybed a yw'n ymwybodol o'r arolwg hwn, yr arolwg diweddaraf.
Rwy'n ofni nad wyf yn ymwybodol o'r arolwg hwnnw, Julie, ond diolch am ei grybwyll. Fe symudaf ymlaen.
Mae'r rhai ar y chwith yn aml yn gwawdio'r syniad y bydd unigolion cyfoethog yn symud eu cyfoeth dramor, ond dyna'n union sy'n digwydd. Ers i Lafur ddod i rym, mae miliwnydd wedi gadael y DU bob 45 munud, ac mae'n hawdd ailstrwythuro asedau neu eu hadleoli er mwyn osgoi trethi. Mae rhagor o drethi, fel y gallwn ei ddisgwyl yng nghyllideb y Canghellor, yn mynd i gyflymu'r dirywiad, a byddai treth gyfoeth yn ddinistriol. Yng nghanol y llif cyson o ddatgeliadau am y gyllideb gan Lywodraeth Lafur y DU, datgelodd banc buddsoddi Rathbones mewn arolwg fod arweinwyr 12 y cant o fentrau bach a chanolig y DU, sy'n cyfateb i 680,000 o fusnesau—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf, Mark.
A ydych chi'n rhannu fy mhryder fod 10,800 o filiwnyddion wedi gadael y DU y llynedd, ac y rhagwelir y bydd y nifer yn codi i 16,800 eleni?
Ie, mae hwnnw'n ffigur llwm iawn, Mark, ac ydy, mae'n bryderus iawn, ac mae'n ategu'r pwynt fod syniadau fel treth gyfoeth yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol ac yn methu cyflawni'r uchelgeisiau y mae'r chwith yn ceisio eu gosod ar ei chyfer.
Mae'r 680,000 o fusnesau hynny'n bwriadu adleoli eu hunain a/neu eu busnesau oherwydd y baich treth presennol. A hyd yn oed os nad ydych chi'n cynnwys cyfalaf sy'n gadael y wlad fel ffactor a'r ffordd y byddai casglu'r dreth yn hunllef weinyddol gostus, mae'r swm o arian y rhagwelir y bydd treth gyfoeth yn ei godi yn fach. Mae'r Blaid Werdd yn honni—[Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn cryn dipyn nawr, Jane, mae angen i mi symud ymlaen. Mae'r Blaid Werdd yn honni y byddai'r dreth gyfoeth yn codi rhwng £15 biliwn a £25 biliwn y flwyddyn, sy'n golygu cynnydd o ddim ond 2 y cant i refeniw Llywodraeth y DU, a dyna'r senario gorau. Mae'r cyfuniad o yrru'r cyfoethog dramor, costau enfawr a rhwystrau gweinyddol mawr yn esbonio pam y mae'r rhan fwyaf o wledydd a gyflwynodd dreth gyfoeth wedi ei diddymu erbyn hyn. Dim ond pedair gwlad yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, grŵp o 38 o economïau cyfoethog yn bennaf, sy'n codi treth o'r fath.
Anfantais bwysig arall sy'n gysylltiedig â threth gyfoeth yw'r anhawster i werthuso'r holl gyfoeth yn gywir, yn enwedig asedau anhylifol, fel cwmnïau neu eiddo preifat, fel y nododd Simon Harrington o'r Gymdeithas Rheoli Buddsoddiadau Personol a Chyngor Ariannol. Felly, mae'r dreth gyfoeth yn chwalu o dan y mesur lleiaf o graffu. Byddai'n anghyfrifol cyflwyno un, ac yn anfoesol, ac yn adlewyrchu gwleidyddiaeth eiddigedd. Efallai mai'r rhan fwyaf anfoesol o dreth gyfoeth fyddai'r dreth ar gartrefi, ond dylem gofio bod gennym hyn eisoes, neu o leiaf dreth ar gaffael cartrefi. Mewn gwirionedd, mae'r DU eisoes yn codi mwy o drethi eiddo nag unrhyw wlad arall yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae treth stamp eisoes yn gweithredu lawn cymaint fel math o dreth gyfoeth ag y mae fel treth sy'n atal symudedd cymdeithasol, a dyna pam y mae'r Ceidwadwyr wedi addo ei dileu. Ac ar fater eiddo, i'r rhai sy'n pryderu am anghydraddoldeb cyfoeth, mae adeiladu mwy o dai yn ffordd lawer symlach o fynd i'r afael â rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi methu ei gyflawni.
Ddirprwy Lywydd, nid yw treth gyfoeth yn ateb difrifol i'r heriau sy'n wynebu Cymru neu'r DU. Dywedodd Jean-Baptiste Colbert, Gweinidog gwladol Louis XIV, unwaith fod y grefft o drethu fel pluo'r ŵydd i gael cymaint â phosib o blu gyda chyn lleied â phosib o hisian. Mae treth gyfoeth yn debyg i ladd yr ŵydd yn llwyr. Byddai'n gwanhau ein sylfaen economaidd, yn datgymell buddsoddiad ac yn y pen draw yn arwain at lai o refeniw i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd mor bwysig i bawb ohonom. Os yw'r Blaid Lafur yn pryderu o ddifrif ynghylch twf economaidd, fel y maent yn ei honni'n gyson, ac fel y maent yn amlwg yn methu ei gyflawni, dylent ddiystyru'r syniad gwirion o dreth gyfoeth. Mae'n bryd cydnabod bod mynd ar drywydd twf yn golygu annog creu cyfoeth, nid ei gosbi. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu bod y galwadau am dreth gyfoeth yn ganolog i geisio sicrhau cydraddoldeb mewn system economaidd gynhenid anghyfartal, ac mae'r rhain yn alwadau y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn eu cefnogi, oherwydd mae strwythur a natur cyfalafiaeth yn magu anghydraddoldeb, am nad yw gwobrau twf yn lledaenu'n gyfartal. Maent yn crynhoi mewn llai a llai o ddwylo, a heb ymyrraeth, gall y rheini ddod yn rhaniadau enfawr. Rydym wedi gweld yr ychydig, dros y canrifoedd, yn gwneud ffortiwn ar gefnau'r niferus, sydd wedyn yn gwaethygu dros genedlaethau, yn dyfnhau ac yn gwreiddio'r anghydraddoldeb hwnnw hyd yn oed ymhellach dros amser. Mae treth gyfoeth wedi'i thargedu ar ein dinasyddion cyfoethocaf yn un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hyn yn y tymor byr, er bod mynd i'r afael â sut y mae elw'n cael ei rannu â gweithwyr a sicrhau bod costau bob dydd fel rhenti yn fforddiadwy hefyd yn hanfodol i leihau'r anghydraddoldeb hwnnw.
Cydnabyddir bod trethu cyfoeth eithafol, statig i raddau helaeth, ymhlith y mathau lleiaf niweidiol yn economaidd o drethiant, oherwydd ei fod yn codi refeniw heb gyfyngu ar gyflogau neu ddatgymell buddsoddiad cynhyrchiol. Byddai mesur o'r fath yn creu manteision pendant a phenodol i Gymru, lle mae mwy o'n poblogaeth yn teimlo effaith anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, wedi'i waethygu gan anghydraddoldeb ariannol ein cenedl, a'i danariannu gan undeb anghyfartal a Llywodraethau olynol nad ydynt yn fodlon mynd i'r afael â chanlyniadau bywyd go iawn yr anghydraddoldeb hwnnw.
Mae cyfoeth yn y DU yn grynodedig iawn; rydym wedi clywed y canrannau eisoes heddiw. Mae'r patrymau hyn yn dangos yn glir mai asedau cronedig yw prif sbardun anghydraddoldeb heddiw. Mae cyfoeth y cyfoethog iawn yn y DU wedi cynyddu'n sylweddol iawn yn y degawdau diwethaf, tra bod safonau byw wedi gostwng i'r rhai ar incwm isel i ganolig. Yn ôl rhestr y Sunday Times o bobl gyfoethocaf y DU, roedd 171 biliwnydd yn y DU yn 2023, cynnydd o 15 ym 1990, felly o 15 i 171. Rwy'n cofio bod fy rhieni yn arfer darllen y Sunday Times oherwydd eu bod yn hoffi'r adran lyfrau, ac roedd fy nhad yn arfer dweud ei bod hi'n dda gwybod beth y mae'r gelyn yn ei feddwl. Rwy'n cofio gallu edrych ar y cylchgrawn hwnnw pan oeddwn yn fy arddegau, a dim ond un neu ddwy dudalen oedd iddo. Nawr, ni fyddech chi'n gallu ei ffitio yn y cylchgrawn. Ac nid miliwnyddion yw'r rhain ond biliwnyddion—pobl sydd â mwy o arian nag y gallent fod ei angen neu ei eisiau byth neu y gallent ei wario yn ystod eu bywydau neu hyd yn oed ym mywydau eu plant. Wrth gwrs, ar yr un pryd, fe wyddom fod y niferoedd uchaf erioed o blant yn byw mewn tlodi.
Tybed beth y credwch chi yw'r swm mwyaf o arian y dylai person ei gael. Os yw cael £1 biliwn yn ormod, tybed a allech chi amlinellu faint yw'r mwyaf y dylai person ei gael yn eich barn chi.
Rydym yn sôn am drothwy o £10 miliwn, onid ydym? Dyna beth rydym yn ei drafod heddiw. Hyd yn oed ar y trothwy hwnnw—. Ac rwy'n derbyn yn llwyr y byddai'n rhaid i ni lunio hynny'n ofalus. Yn Ffrainc, fe wnaethant osod y trothwy hwnnw'n rhy isel. Ond rydym yn siarad am y fan hon heddiw, ac mae hynny wedi cael ei gytuno gyda phobl fel y Patriotic Millionaires, y byddai £10 miliwn yn dderbyniol, a byddai 2 y cant ar hynny yn codi swm mawr o arian a fyddai'n help i ni yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Dywedodd Nelson Mandela fod tlodi enfawr ac anghydraddoldeb anllad yn falltod mor ofnadwy yn ein hoes fel bod yn rhaid eu bod lawn cyn waethed â chaethwasiaeth ac apartheid fel camweddau cymdeithasol. Maer rheini'n eiriau cryf, ond rwy'n credu mai dyna sut y mae'n rhaid i ni weld treth gyfoeth flaengar wedi'i llunio'n ofalus—fel ymateb i gamwedd cymdeithasol anghydraddoldeb anllad. Gallai treth wedi'i thargedu ar ffortiwn mawr iawn, fel ein galwad am y dreth gyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn, fel y clywsom, godi £24 biliwn y flwyddyn. Mae'n ddechrau.
Buaswn yn mynd ymhellach, fel y dywedais wrth agor, ond rwy'n gofyn i'r rhai sydd â'r gallu ariannol mwyaf i wneud cyfraniad teg tuag at y lles cyffredin. Ac rwy'n credu mai tegwch yw'r gair allweddol yma. Mae llawer o bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn talu symiau sylweddol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy dreth incwm, yswiriant gwladol, TAW a threth gyngor, ond gall y cyfraddau treth effeithiol ar ffortiwn mawr, fel y clywsom Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, fod yn isel. Mae incwm o asedau ac enillion cyfalaf yn aml yn cael eu trethu'n ysgafnach nag enillion o waith, a byddai treth flynyddol fach ar asedau mawr iawn yn helpu i gau'r bwlch hwnnw.
Rwy'n credu bod hwn yn gam ymarferol. Mae ymchwil ac adroddiadau polisi diweddar gan economegwyr a sefydliadau annibynnol yn dangos ystod o gynlluniau ymarferol ar gyfer trethu cyfoeth ac amcangyfrif refeniw perthnasol. Er enghraifft, mae'r prosiect Taxing Wealth ac adroddiadau cysylltiedig wedi amcangyfrif y gallai diwygiadau a dargedir at gyfoeth godi degau o biliynau y flwyddyn pe caent eu cyflwyno ar drothwy a chyfraddau ystyrlon. Gallai'r refeniw hwnnw gael ei sianelu tuag at iechyd, tai, addysg a'r trawsnewid gwyrdd a chynhyrchu'r twf hirdymor a'r sefydlogrwydd cymdeithasol sydd ei angen arnom.
Rydym i gyd yn gwybod po gyfoethocaf ydych chi, y mwyaf o fynediad sydd gennych at yr offer sy'n eich helpu i gadw mwy o'ch cyfoeth—cyfrifwyr a chynghorwyr—y symudedd sy'n dod o gyfoeth ac wrth gwrs, y gallu i fuddsoddi, gallu sydd y tu hwnt i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, sydd ond yn ceisio cadw eu plant wedi eu bwydo ac yn gynnes a tho uwch eu pennau. Eto cafwyd rhybuddion sy'n tynnu sylw at yr angen i gynllunio a gweithredu'n ofalus fel nad ydym yn crebachu'r sylfaen dreth honno yn y pen draw, ond mae llawer o economegwyr blaenllaw yn dadlau bod trethu cyfoeth eithafol, ac anghynhyrchiol i raddau helaeth, yn ddichonadwy ac yn gyfiawn. Ni ddylem adael i'r perffaith fod yn elyn i'r da—
A gaf i ymyrryd yn gyflym iawn? Roedd pwynt roeddwn eisiau ei wneud ynglŷn â gweinyddu. Felly, mae CThEF eisoes yn casglu trethi, ac maent yn gwneud hynny drwy hunanasesiad, ond hefyd drwy gydymffurfiaeth. Yr hyn a wyddom am dreth gyfoeth bosib yw y byddai honno'n union yr un system, felly tybed beth rydych chi'n ei feddwl am y ddadl y byddai'r baich gweinyddol, o bosib, yn llawer mwy na'r manteision. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr, Jane. Dyna'r pwynt, onid e? Fe wyddom ble mae'r asedau hyn, ac er enghraifft, ar bethau fel gwaith celf, rhaid ei gofrestru drwy gwmnïau yswiriant. Credaf y byddai'r data ar gael yn eithaf hawdd.
Felly, beth yw'r broblem? Pam dŷn ni ddim yn gweld gweithredu ar hyn? Wel, rŷn ni wedi clywed rhybudd gwleidyddion, o’r Blaid Geidwadol yn bennaf, wrth gwrs, ond hefyd nawr o'r Blaid Lafur yn San Steffan, yn dadlau y byddai cyfoethogion, yn syml, yn gadael. Ac mae hyn, fel ŷn ni wedi clywed, wedi cael eu uchel-seinio yn y wasg asgell dde.
Felly, beth am edrych am y dystiolaeth y tu ôl i’r honiadau yma? Mae Tax Justice UK wedi tynnu sylw at dystiolaeth o ddiwygiadau 2017 i reolau non-dom y Deyrnas Gyfunol, a ddangosodd bod codi trethi ar y mwyaf cyfoethog a thynhau mynediad i'r weithdrefn wedi arwain at ryw 2 y cant yn unig o unigolion a oedd wedi bod yn y Deyrnas Gyfunol am lai na thair blynedd yn dewis gadael. Roedd y gyfran hyd yn oed yn llai ymhlith y rhai oedd â chysylltiadau cryfach â’r Deyrnas Gyfunol.
Mae ymchwil bellach gan yr LSE, oedd yn edrych ar y rhai sydd yn yr 1 y cant uchaf, wedi dangos nad oedd yr un o'r rhai a gyfrannodd at yr ymchwil wnaethon nhw yn bwriadu symud dramor am resymau treth, a'r mwyafrif llethol yn dweud na fydden nhw fyth yn ystyried adleoli oherwydd trethiant. Rŷn ni wedi clywed hefyd gymariaethau rhyngwladol. Hyd yn oed pe bai cyfran fach iawn o gyfoethogion yn gadael, mae yna le i gredu hefyd y byddai'r mwyafrif helaeth yn aros, a byddai’r hyn y byddent yn medru cyfrannu drwy dreth gyfoeth lawer yn fwy nag unrhyw golledion posib i’r pot treth. Ac, wrth gwrs, mae modd cyflwyno mesurau hefyd a fyddai’n annog pobl i beidio â gadael a mesurau i lenwi’r twll posib, fel trethi ymadael—rhywbeth sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn sawl gwlad arall yn Ewrop a dros y byd.
Mae’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ddigon parod i fabwysiadu modelau o dramor pan mae’n dod i’r rhai yn ein cymdeithas sydd â’r lleiaf: ffoaduriaid—
Sioned, mae'n rhaid i ti orffen, os gweli di'n dda.
Sori?
Rhaid i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Ie, iawn. Fe dderbyniais ymyriad, a mesurais yr amser—
Ac rwyf wedi rhoi amser i chi am hynny.
Iawn. A gaf i ddechrau'r pwynt hwn eto, felly?
Brawddeg olaf, felly.
Iawn, fe wnaf yr un pwynt hwn yn unig.
Mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ddigon parod i fabwysiadu modelau o dramor pan mae’n dod i’r rhai yn ein cymdeithas sydd â’r lleiaf—ffoaduriaid a cheiswyr lloches—felly pam nad yw’n barod i wneud yn yr un modd o ran y rhai sydd â lefelau anferthol o gyfoeth? Mae Norwy a Sbaen wedi cyflwyno treth ar gyfoeth ac maen nhw'n dal mewn lle. Gallai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddysgu’r gwersi o systemau llai llwyddiannus, fel yn Ffrainc. Dylen ni ddim casglu o’r enghreifftiau hyn fod treth ar gyfoeth ddim yn gweithio, ond bod y systemau penodol yma ddim yn gweithio. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, mae bod yn Aelod o'r Senedd hon yn fraint fawr mewn sawl ffordd, onid yw? Ymhlith y breintiau hynny mae ymweld ag ysgolion lleol, ac yn wir, cael ysgolion lleol i ddod yma i'r Senedd. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'n llawn werthfawrogi pa mor wych yw hynny mewn cymaint o ffyrdd, y cysylltiad hwnnw â'n pobl ifanc. Ac yn fy mhrofiad i, un peth y maent yn aml yn ei ofyn yw, 'Beth a wnaeth i chi fynd i faes gwleidyddiaeth?' Maent yn gofyn pob math o gwestiynau diddorol, onid ydynt, a gallant fod yn blwmp ac yn blaen. Ond yn aml, mae hynny ar eu rhestr, a hynny'n gywir ddigon, mae'n gwestiwn da iawn i'w ofyn i wleidydd yn fy marn i—'Beth sy'n eich cymell?', 'Beth sy'n eich gyrru?', 'Pam roeddech chi eisiau mynd i faes gwleidyddiaeth gynrychiadol?', 'Beth rydych chi eisiau ei wneud gyda'r rôl?' I mi, mae bob amser wedi ymwneud â thegwch, ac rwy'n dweud wrth y bobl ifanc hynny o ysgolion Casnewydd, pan oeddwn i'n tyfu i fyny—cefais fy ngeni a fy magu ym Mhilgwenlli, ardal dociau Casnewydd; euthum i'r ysgol gynradd yno—deallais yn gyflym iawn, wrth dyfu i fyny yn y gymuned honno a cherdded i rannau eraill o Gasnewydd, pa mor fawr oedd yr anghydraddoldebau mewn cyfoeth a safonau byw rhwng Pilgwenlli a rhannau eraill o Gasnewydd. Wrth gwrs, mae hynny'n wir am Gaerdydd, mae'n wir, mae'n debyg, am bob rhan o Gymru a ledled y DU ac ar lefel fyd-eang. Fel plentyn ifanc, roeddwn i'n meddwl am yr annhegwch hwnnw: a oedd yn rhaid i bethau fod felly? A oes yn rhaid i bethau fod felly, neu a yw o fewn gallu cymdeithasau a phobl i newid pethau a newid pethau er gwell? Deuthum i'r casgliad ei bod yn gwbl bosib creu cymdeithas lawer gwell, lawer tecach, lawer mwy cyfartal a fyddai o fudd i bawb. A dyna wnaeth fy nghymell yn ddiweddarach i feddwl am fynd i faes gwleidyddiaeth, yn gyntaf ar lefel leol ac yna yn y Cynulliad bryd hynny, a'r Senedd bellach. A dyna sy'n dal i fy nghymell heddiw, a dyna pam fy mod yn croesawu'r ddadl hon a gawn yma yn fawr iawn.
Annhegwch, onid e, sy'n parlysu'r byd i gyd, yn fy marn i—annhegwch ar lefel fyd-eang. Ac mae hynny'n cynyddu'r anobaith y mae pobl yn ei deimlo, sy'n achosi iddynt symud o un rhan o'r byd i'r llall, gan greu anawsterau enfawr iddynt eu hunain a'u teuluoedd, yn aml, a rhoi eu hunain mewn perygl mawr. Ac mae'n creu teimlad o ansefydlogrwydd, pryder a gofid yn y gwledydd y maent yn symud iddynt, yn aml, ac mae hynny'n rhywbeth y ceisiwn fynd i'r afael ag ef mewn amryw o ffyrdd. Ond anghydraddoldeb ar lefel fyd-eang sy'n creu'r math hwnnw o ansefydlogrwydd ac anhawster i wledydd ledled y byd. Ac yna rydym yn gweld anghydraddoldeb mawr o fewn y DU, ac mae Cymru’n amlwg yn dioddef yn sylweddol o hynny—yr anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol hwnnw. Bydd unrhyw beth sy'n cynhyrchu mwy o dderbyniadau treth ar lefel y DU ac sydd wedyn yn cael ei ailddosbarthu o fudd mawr i Gymru, felly gallai treth gyfoeth sydd wedyn yn galluogi'r arian hwnnw i gael ei ailddosbarthu ar raddfa fwy o fudd mawr i ni.
Fel y dywedaf, hyd yn oed yng Nghymru ei hun, wrth gwrs, mae anghydraddoldebau sylweddol rhwng un rhan o Gymru a'r llall ac o fewn ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau. Credaf fod hynny oll yn gwbl amlwg i bobl, a phan fyddaf yn curo ar ddrysau, mae pobl yn sôn am chwarae teg, am degwch, am y DU fel y chweched economi fwyaf yn y byd, ond bod y cyfoeth sydd gan y DU wedi ei ddosbarthu mor anwastad ac mor annheg, ac maent yn gweld canlyniadau hynny yn eu cymunedau: pobl yn cysgu ar y stryd, pobl yn gofyn am arian ar y stryd, banciau bwyd, lefelau troseddu, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar bawb. Pwy, yn gyfoethog neu'n dlawd, fyddai eisiau byw mewn cymdeithas o'r fath? A fyddai pobl, yn gyfoethog neu'n dlawd, yn dawel eu meddwl yn byw mewn cymdeithas o'r fath? Credaf mai'r ateb, gan amlaf, yw 'na fyddent'. A chredaf fod y llyfr hwnnw, The Spirit Level, wedi darparu llawer o ymchwil ynghylch hynny a llawer o ffeithiau, llawer o dystiolaeth fod pawb yn elwa o gymdeithas fwy cyfartal, ar y lefelau uchaf o incwm neu gyfoeth, neu ar y gwaelod. Mae'r dadleuon hynny'n atseinio gyda phobl, maent yn hawdd eu deall a'u cefnogi, a dyna pam y clywsom yn gynharach fod oddeutu tri chwarter ein poblogaeth yn cefnogi treth gyfoeth.
Nid yw treth gyfoeth yn syniad hurt, gwamal, mae wedi cael ei brofi mewn gwahanol rannau o'r byd ac mae'n darparu incwm ychwanegol i'w ddefnyddio ar wasanaethau cyhoeddus mewn rhannau eraill o'r byd. Wrth gwrs, mae dadl fywiog ynglŷn â sut rydych chi'n ei llunio, sut rydych chi'n ei gweithredu'n iawn, sut rydych chi'n osgoi rhai o'r peryglon y mae'r Aelodau Ceidwadol wedi'u crybwyll yma heddiw, ac mae honno'n ddadl y dylid ei chael. Fel y dywedodd Mark Drakeford, ydy, mae'n gymhleth, ond rydym yn cael dadl. Rydym yn dechrau dadl mewn rhai ffyrdd yma heddiw, onid ydym? Credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Soniodd Jane Dodds am y Patriotic Millionaires, a chyfarfuom â nhw yng Nghasnewydd ddechrau'r wythnos. Siaradais ag un ohonynt, menyw â chysylltiadau teuluol yng Nghymru, yng Nghymoedd de Cymru. Roedd yn wych clywed rhywun sydd wedi gwneud yn dda iawn mewn bywyd ac eisiau rhoi yn ôl, eisiau rhoi mwy yn ôl, yn deall y cyfrifoldeb y mae'n ei roi i chi, os ydych chi wedi gallu cronni cyfoeth sylweddol, a gwybod mai cymdeithas yn gyffredinol sydd wedi eich galluogi i gael y llwyddiant hwnnw, ac yna eisiau cyfrannu hynny'n ôl i'n gwasanaethau cyhoeddus. Esboniodd i mi'r ymrwymiad y mae'n ei deimlo, nid yn unig ar lefel bersonol, ond i fod eisiau bod yn rhan o ymgyrch, ymgyrch sy'n tyfu, yn y DU, a fydd yn darparu treth gyfoeth er budd pawb a'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Soniodd am ddechrau gyda'r syniad o 2 y cant ar asedau gwerth dros £10 miliwn y flwyddyn, am ei bod yn credu y byddai hynny'n ddealladwy i bobl, a'i fod yn fan cychwyn da. Ni fyddai ond yn effeithio ar 0.04 y cant o'r boblogaeth, ac ar y sail honno, byddai llawer o bobl yn gweld ei bod yn gwneud synnwyr, ei bod yn gyfiawn, a byddent yn ei chefnogi. Ac yna, pan fyddai ar waith, ein bod yn ystyried sut i symud ymlaen o'r pwynt hwnnw.
Credaf fod hon yn ddadl hynod bwysig heddiw, os ydym eisiau byw mewn byd tecach, Teyrnas Unedig decach a Chymru decach. Rwy'n credu bod y mwyafrif helaeth o'r cyfraniadau a glywsom, yr ystadegau a glywsom, y ffeithiau a glywsom, yr anghenraid moesol y mae pobl wedi'i nodi yn dangos pa mor bwysig yw'r ddadl hon, faint y mae'n ei olygu i bob un ohonom a faint y byddai'n ei gyflawni, fel man cychwyn, ar gyfer y math o Gymru, Teyrnas Unedig a byd yr hoffai pob un ohonom eu gweld, ac y dylai pob un ohonom fod eisiau eu gweld, yn sicr.
Diolch yn fawr i Julie Morgan am godi'r cwestiwn diddorol iawn yma i ni heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Busnes am gynnwys hwn fel dadl agored.
A yw treth gyfoeth yn gweithio? Clywsom Gareth yn galw treth gyfoeth, yn eithaf pryfoclyd, yn 'syniad gwirion'. Wel, mae Heledd Fychan eisoes wedi nodi bod y 'syniad gwirion' hwn wedi bod ar waith yn Norwy ers 133 mlynedd. Mae hynny'n eithaf da am 'syniad gwirion'. Ac wrth gwrs, gallwn fod yn ddetholgar, oni allwn? Gall pob un ohonom fod yn euog o hyn. Gallwn fod yn ddetholgar wrth edrych ar y dystiolaeth sy'n cefnogi ein safbwyntiau gwleidyddol, ond fe all weithio. Mae tystiolaeth yn dangos y gall weithio. Gall fethu os na chaiff ei wneud yn iawn, ond yn gyffredinol, mewn egwyddor, fe all weithio. Edrychwch ar Sbaen. Sbaen yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Yn ddiweddar, disgrifiodd y Financial Times Sbaen fel 'economi fwyaf nodedig Ewrop'. Mae ganddynt dreth gyfoeth.
Nawr, a fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru? Dyna gwestiwn Julie i ni y prynhawn yma. Wel, yn amlwg, yr ateb yw 'byddai'. Byddai treth gyfoeth, fel y mae John eisoes wedi'i nodi, yn caniatáu inni ailddosbarthu cyfoeth i'r rhannau o'r DU sy'n cael eu hesgeuluso a'u tanariannu fwyaf. Byddai hynny, wrth gwrs, o fudd i Gymru.
Mae llawer ohonom eisoes, o'r golofn draw ar fy dde, neu dylwn ddweud, ar fy chwith, wedi ysgwyd ein pennau wrth glywed nifer o ystadegau'n cael eu crybwyll y prynhawn yma ynghylch crynodiadau eithafol o gyfoeth, fel y'u galwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, dyma ystadegyn arall a'm syfrdanodd: os yw cyfoeth y bobl gyfoethog iawn yn parhau i dyfu ar y gyfradd y mae wedi bod yn gwneud, erbyn 2035—nid yw mor bell i ffwrdd â hynny—byddai cyfoeth y 200 o deuluoedd cyfoethocaf yn y DU yn fwy na chyfanswm cynnyrch domestig gros y DU. Nawr, mae hynny'n syfrdanol. Mae bron yn anghredadwy. Does bosib fod hynny'n iawn. Ni allwn ddweud bod hynny'n iawn. Gallant fforddio i weddill y DU deimlo—. Cawsom ein hatgoffa gan John mai'r DU yw'r chweched economi fwyaf yn y byd. Wel, nid yw pobl yn teimlo felly. Nid yw pobl mewn cymunedau yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd a'r Cymoedd yn teimlo eu bod yn byw yn y chweched economi gyfoethocaf yn y byd. Yr hyn y maent yn ei deimlo yw bod gofyn iddynt ysgwyddo'r beichiau bob amser. Gofynnir iddynt ymdopi â chostau cynyddol dro ar ôl tro, ymdopi â chyflogau nad ydynt yn codi, ymdopi â gwasanaeth iechyd dan bwysau, a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus.
Yn gynharach yr wythnos hon, cefais e-bost gan etholwr a oedd heb arian i dalu biliau cartref gofal eu mam, ac yna ni allai'r awdurdod lleol ysgwyddo'r bil hwnnw. Nawr, yn 86 oed, rhaid i'r fenyw honno symud o'r cartref gofal lle mae wedi bod ers 2001. Nid ydynt yn teimlo fel pe baent yn byw yn y chweched economi gyfoethocaf yn y byd. Mark, roeddech chi eisiau dweud rhywbeth.
Sut rydych chi'n ymateb i ymchwil gan Sefydliad Adam Smith, a gyhoeddwyd yn The Independent, sy'n dangos y byddai pob un o'r 10,800 o filiwnyddion a adawodd y llynedd wedi talu £394,000 mewn treth incwm y llynedd pe byddent wedi aros? Dyna rai biliynau'n llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Ie, wel, fe'i gadwn ni hi yn y fan yna, rwy'n credu. Mae hynny'n dweud—. Rwy'n credu bod lle cawsoch chi'r dystiolaeth ohono'n dweud y cyfan. Mae'r syniad fod llu o filiwnyddion a biliwnyddion yn gadael y wlad yn gwbl—. Pwy yw'r biliwnyddion hyn sy'n llifo o'r wlad? Enwch nhw, Mark. Rhowch enwau'r bobl hyn i ni. Nid ydynt yn bodoli. Mae Andrew R.T. Davies yn dal yma gyda ni heddiw yn y Siambr.
Nawr, dylai'r rhai sy'n gwrthwynebu newid o'r fath draw acw, y gwrthwynebwyr draw acw, ystyried hyn, nad yw treth gyfoeth mewn gwirionedd yn ymyrryd â'r farchnad rydd. Yn wahanol i drethi eraill, trethi wedi'u targedu a rhyddhad treth ar rai mathau o eiddo a buddsoddiad, nid yw'n cymell un math o ymddygiad gwario nac un math o fuddsoddiad dros y llall. O ran dylanwadu ar y farchnad rydd, mae'n un o'r pethau lleiaf ymwthiol y gallem eu gwneud i godi cyfalaf. Felly, chi gefnogwyr mawr y farchnad rydd, rwy'n disgwyl i chi gefnogi dadl Julie heddiw.
Nawr, rwy'n credu y dylech edrych ar hanes hefyd. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio Disraeli. Ym 1842, pan gyflwynwyd treth incwm gan y Llywodraeth Geidwadol, bu llawer o gynnwrf gyda phobl yn gwrthwynebu treth incwm. Mewn gwirionedd, roedd yr hen Ryddfrydwr da Gladstone yn ei gwrthwynebu, Jane. Ac am ddegawdau, roedd pobl yn cwyno am dreth incwm. Roedd pobl yn rhoi'r un dadleuon ag y mae Mark Isherwood wedi'u rhoi heddiw yn ôl pob tebyg am y llif o gyfoeth yn gadael ein glannau. [Torri ar draws.] Ie, yn union, maent yn ffeithiau, Mark—hollol gywir. Nawr, am ddegawdau, roeddent eisiau cael gwared ar y dreth incwm, ond pe byddem wedi cael gwared ar y dreth incwm, meddyliwch am eiliad am yr hyn na fyddai gennym heddiw: ein system addysg, ein system iechyd, ein seilwaith, pob un yn seiliedig i raddau helaeth ar bobl yn cyfrannu drwy drethi incwm. Ystyriwch, pe byddem wedi cael gwared ar dreth incwm i ganiatáu i rai Fictoriaid fod fymryn yn gyfoethocach. Dyma'r un ddadl gennych chi heddiw, dros 150 mlynedd yn ddiweddarach.
Fel y mae Julie wedi'i ddweud, ac fel y mae arolygon barn wedi'i ddangos dro ar ôl tro, mae pobl y DU eisiau i'r cyfoethocaf dalu eu cyfran deg. Mae treth gyfoeth yn seiliedig ar ewyllys y bobl, ac rydych chi'n aml yn cyfeirio at ewyllys y bobl draw acw, onid ydych? Mae treth gyfoeth yn seiliedig ar ewyllys y bobl. Fe fydd yn gwella lles ein cymdeithas. Mae sylw John mor wir, nad oes unrhyw un eisiau byw mewn cymuned lle mae pobl yn ddigartref, lle mae pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt dorri'r gyfraith i fwydo eu hunain a'u teuluoedd. Nid yw pobl eisiau byw mewn cymdeithas anghyfartal. Nid yw'n helpu unrhyw un, o'r cyfoethog iawn i'r tlotaf yn ein cymunedau.
Gallai treth gyfoeth, o'i gweithredu'n iawn, wella bywydau pawb yn ein cymdeithas. Ac i ateb cwestiwn pwysig Julie, fe fydd yn gweithio i Gymru. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi derbyn dau gais am gyfraniadau ychwanegol. Julie Morgan.
Diolch. Yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn roedd John yn ei ddweud ynglŷn â beth y mae plant ysgol yn ei ofyn iddo pan fydd yn ymweld ag ysgolion a phan fyddant yn dod i'r Senedd, sef un o uchafbwyntiau'r swydd, rwy'n cytuno'n llwyr. A'r hyn rwy'n ei weld yw bod plant yn aml yn dweud wrthyf, 'Faint rydych chi'n ei ennill?' Nid wyf yn gwybod a yw eraill yn profi hynny. Rwy'n credu bod hynny'n eithaf arwyddocaol, mewn gwirionedd, eu bod eisoes—a phlant ysgol gynradd yw'r rhain—yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw faint o arian rydych chi'n ei ennill.
Gwyddom y bydd rhai o'r plant hynny'n delio â phroblemau fel methu mynd ar y trip ysgol, neu'n ceisio cuddio, efallai, rhag eu ffrindiau nad oes ganddynt gymaint o arian ag sydd gan eraill ac na allant brynu'r esgidiau diweddaraf a'r holl bethau hynny. Rwyf bob amser yn meddwl, pan fyddant yn gofyn y cwestiwn hwnnw, mai dyna'r rheswm pam. Felly, dyna pam y credaf ei bod mor bwysig ein bod yn ystyried yr hyn nad yw'n fesur arbennig o radical yn fy marn i, ond pethau y dylem eu gwneud i wella pethau.
Yr hyn sy'n fy mhoeni fwyaf am y ddadl, mewn gwirionedd, yw fy mod yn credu ei fod yn fater byd-eang, ac rwy'n credu bod digon o arian yn y byd i ddelio â'r prif bethau y mae'n rhaid inni ddelio â hwy—newid hinsawdd, tlodi—ac mae'r arian hwnnw yno, ac mae'n rhaid inni geisio cymryd y camau hynny a fydd yn symud y cyfoeth hwnnw, a dim ond un cam bach tuag at hynny yw hyn.
Felly, rwyf mor falch ein bod wedi trafod y syniad hwn yma yn y Senedd heddiw, ac nid wyf yn teimlo bod y dadleuon a glywais yn ei erbyn yn ddilys iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid ei wneud yn ofalus, ac fe fydd yn cymryd amser i'w gyflwyno, ond mae'n dda iawn ein bod yn ei drafod, a'i fod yn un ffordd y gallem geisio lleihau'r anghydraddoldebau mawr sy'n bodoli. Diolch.
A ydych chi am dderbyn ymyriad? Iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn fy nghyfraniad cyntaf, roeddwn eisiau cydnabod rhai o gymhlethdodau trethu cyfoeth. Yn y cyfraniad hwn, hoffwn dynnu sylw at ddau beth y credaf eu bod yn ymarferol ac y gellir eu gwneud yn gyflym iawn, yn sicr yn yr achos cyntaf. Cynnig yw hwnnw sydd wedi'i lunio'n fanwl iawn gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, ac mae'n cyflwyno cynnig syml y dylid trethu incwm o gyfoeth yr un fath ag incwm o waith. Mae'n gynnig syml i gydraddoli treth enillion cyfalaf a threth incwm yma yn y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd, mae treth enillion cyfalaf yn sylweddol is. Mae pobl sy'n ennill incwm o'u cyfalaf yn talu llawer llai o dreth na phobl sy'n gorfod talu treth drwy waith. Byddai hynny'n creu biliynau o bunnoedd i goffrau'r Trysorlys, ac felly ar gyfer buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae rhai o gyfraniadau ein cyd-Aelodau Ceidwadol wedi peri ychydig o benbleth i mi o bryd i'w gilydd ynglŷn ag a ydynt yn erbyn yr egwyddor o dreth gyfoeth ai peidio—mae rhai ohonynt fel pe baent yn credu ei bod yn anghywir mewn egwyddor—neu ai mater o ymarferoldeb yn unig ydyw, ei bod yn rhy anodd ei chyflwyno. Wel, mae cydraddoli treth enillion cyfalaf a threth incwm wedi digwydd yn ystod oes nifer ohonom yma, gan mai dyna'n union a wnaeth Nigel Lawson yn ei gyllideb ym 1988. Yn sicr, ar anterth Thatcheriaeth, os oedd yn dderbyniol i'r Ceidwadwyr yn y cyfnod hwnnw, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld pa wrthwynebiadau a allai fod gan y Ceidwadwyr i hynny heddiw. Mae'n rhywbeth y gellid ei wneud yn gyflym iawn yn wir.
Dywedodd Sam Rowlands ar ddechrau’r ddadl ardderchog hon na allai weld pam ein bod yn siarad am y pethau hyn, gan nad oes ganddynt unrhyw beth i’w wneud â’r Senedd. Mewn gwirionedd, mae 60 y cant o gyfoeth y wlad hon wedi’i fuddsoddi mewn tir ac eiddo. Dyna dreth sydd yma yn y Senedd hon. Dyna sydd gennym—treth gyngor. Dyna sail y dreth gyngor. Rwy’n falch iawn o’r pethau a wnaethom fel Llywodraeth ac fel Senedd yn ddiweddar i geisio gwneud y dreth gyngor mor deg â phosib. Ond mae’r dreth gyngor yn dreth annheg yn ei hanfod. Mae cyfyngiadau ar faint y gallwch ei gwella, ac mae opsiwn arall. Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn ymchwil—ac yn parhau i wneud hynny—mewn opsiwn arall yn lle'r dreth gyngor, treth gyfoeth a elwir yn dreth gwerth tir.
Yr ateb i'r cwestiwn, 'A fyddai'n gweithio i Gymru?', yw, y tro cyntaf erioed i dreth gyfoeth gael ei rhoi ar y llyfr statud, fe'i rhoddwyd yno gan Gymro, David Lloyd George, yng Nghyllideb y Bobl ym 1908. Siaradodd am bedair awr a 50 munud, Ddirprwy Lywydd.
Nid oes pedair awr gennych chi.
Roeddwn am i chi wybod hynny, a chithau'n edrych arnaf. Pedair awr a 50 munud, gydag un egwyl am baned o drwyth eidion, neu dyna a adroddwyd. Yng Nghyllideb y Bobl ym 1908, rhoddodd Lloyd George drethiant gwerth tir ar y llyfr statud. Byddai treth gwerth tir yn deg, gan fod pobl gyfoethog yn berchen ar fwy o dir na phobl dlawd. Bydd yn ymarferol, gan na allwch symud tir. Rydym wedi clywed llawer am symudedd cyfoeth; ni allwch symud tir. Mae tir yn hawdd i'w drethu am ei fod yno o'ch blaen. Byddai'n denu buddsoddiad i ardaloedd difreintiedig, lle mae gwerthoedd tir yn is, a byddai'n gwahaniaethu'n briodol rhwng tir y mae pobl yn berchen arno er mwyn creu cyfoeth, sef yr hyn rydych chi am ei gefnogi, a thir y mae pobl yn berchen arno er mwyn echdynnu cyfoeth, sef yr hyn rydych am i system ei ddatgymell. 'Prynwch dir', meddai Mark Twain, 'nid ydynt yn ei greu mwyach', a chredaf y byddai treth ar werthoedd tir yma yng Nghymru yn ffurf ymarferol a mwy dymunol ar drethiant a fyddai'n mynd at wraidd trethiant cyfoeth mewn ffordd na all y dreth gyngor ei wneud byth.
Felly, dyna fy ateb i, Ddirprwy Lywydd, i'r cynnig y mae Julie Morgan wedi'i gyflwyno. Gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm—ar hyn o bryd, mae pobl yng Nghymru'n sybsideiddio—rydym ni'n sybsideiddio—cyfraddau enillion cyfalaf i bobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, gan nad oes gennym bobl sy'n elwa o dreth enillion cyfalaf yma yng Nghymru. Ac mae gennym system y gallwn arbrofi â hi yma yng Nghymru a fyddai'n mynd at wraidd y ddadl hon, dadl yr wyf wedi'i mwynhau'n fawr y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Jane Dodds i ymateb i'r ddadl.
Rwyf eisiau myfyrio ar y ddadl hon a sut—. Rwyf innau wedi ei mwynhau hefyd, ac mae wedi bod yn ddadl barchus iawn, un lle rwy'n gobeithio bod pobl yn teimlo ein bod wedi gwrando ar ein gilydd ac wedi gallu ymateb i rai o'r pwyntiau. Nid wyf am fod yn rhy hir heno, oherwydd rwy'n credu bod llawer o'r pwyntiau wedi'u trafod. Ond roeddwn eisiau dechrau a gorffen gyda'r hyn sydd yn y fantol i ni yma yng Nghymru.
Ar ôl degawdau o danfuddsoddi, nid yw'r bwlch rhwng cyfoeth a chaledi yng Nghymru erioed wedi bod yn fwy amlwg, gydag un o bob pump o bobl yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru, ac i blant, mae'n un o bob tri. Mae'n ystadegyn gwarthus sydd wedi aros yn ystyfnig o ddisymud. Pa un a yw cyd-Aelodau'n cytuno â phob rhan o'r cynnig hwn ai peidio, rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom gydnabod, pan fo gan 50 o deuluoedd ym Mhrydain fwy o gyfoeth na'r 34 miliwn o bobl dlotaf gyda'i gilydd, fod rhywbeth yn ein system nad yw'n gweithio.
Gwyddom y bydd y cynnig o dreth gyfoeth yn dod i Gymru, ac mae angen i hynny fod yn llawer cliriach, gobeithio, a bod angen i ni ddadlau drosti, ond gallwn weld y byddai'n helpu ein gwasanaethau lleol. Mae gennym system ofal cymdeithasol sydd mewn argyfwng. Mae taer angen arian ar ein gwasanaethau iechyd. Mae hosbisau ledled Cymru ar fin mynd i'r wal. Mae'r rhain yn wasanaethau sydd—[Torri ar draws.] Mae'r rhain yn wasanaethau y mae teuluoedd yn dibynnu arnynt ar yr adegau anoddaf yn eu bywydau, ond mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o hosbisau godi oddeutu 70 y cant o'u cyllid drwy roddion. Nid dyma drefn naturiol pethau, ac ni ddylem byth dderbyn mai dyna ydyw. Rwy'n credu mewn Cymru lle mae'n rhaid inni ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni i adeiladu dyfodol tecach a mwy diogel i'n cymunedau. Ond ar hyn o bryd, fodd bynnag, pa bynnag ffordd yr edrychwn ar y system dreth hon, nid yw'n gweithio. Rhaid i hynny newid.
Rwy'n ddiolchgar i'r nifer o Aelodau a siaradodd mor bwerus am hyn. Gobeithio y gall pob un ohonom gytuno nad yw'r ddadl hon yn ymwneud â'r haniaethol. Nid yw'n ymwneud â chosbi unrhyw un. Mae a wnelo â phobl, gan gynnwys pobl gyfoethog iawn, sydd am i'n cymunedau gael eu parchu. Maent yn poeni am ein cymunedau lawn cymaint ag unrhyw un ohonom. Rydym yn poeni am y gofalwr sy'n gweithio drwy'r nos am gyflog tlodi ac sy'n dal i fethu fforddio gwresogi eu cartref. Rydym yn poeni am y plentyn y mae eu potensial wedi'i gyfyngu gan eu cod post, ac sy'n mynd i'r ysgol yn llwglyd. Rydym yn poeni am deuluoedd sydd â sawl swydd, sy'n gweithio mor galed ag y gallant, sy'n gwneud popeth yn iawn ac sy'n dal i orfod defnyddio banciau bwyd. Dylai ein system dreth gefnogi'r bobl hyn, ond ar hyn o bryd, mae'n trethu gwaith yn llymach na chyfoeth. Mae rhywun sy'n ennill £10 miliwn yn talu cyfradd dreth o 21 y cant i bob pwrpas, ymhell islaw'r dreth o 45 y cant ar incwm o waith. Mae'r degfed ran dlotaf o gymdeithas yn talu 48 y cant o'u hincwm mewn treth, tra bo'r cyfoethocaf ond yn talu 21 y cant. Nid yw hynny'n deg o gwbl.
Mae gennym adnoddau i newid hyn. Ni yw'r bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, ac mae ymchwil gan Goleg y Brenin yn dangos y gallai treth gyfoeth gymedrol o 2 y cant ar y rhai ar restr o gyfoethogion The Sunday Times—ac roeddwn yn falch o glywed bod teulu Sioned yn darllen y papur hwnnw—fod wedi codi £160 biliwn ers 1994. Rydym eisoes wedi colli ein cyfleoedd, felly gadewch inni beidio â cholli cyfle nawr. Ni allwn gyfiawnhau system lle mae cyfoeth a etifeddwyd yn denu treth is na chyflogau drwy ofal, ymdrech ac ymroddiad. Rhaid inni newid nawr. Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi nodi, mae system dreth deg, fodern yn allweddol i economi ffyniannus ac arloesol. Ac mae tystiolaeth gan y Fairness Foundation a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod anghydraddoldeb cyfoeth cynyddol yn niweidio twf economaidd, oherwydd pan nad yw pobl yn gallu cyflawni eu potensial, mae cymdeithas a'n heconomi ar eu colled. A rhaid inni gofio nad daioni moesol yn unig yw gwasanaethau cyhoeddus cryf, maent yn allweddol i fusnesau llwyddiannus. Canfu arolwg barn gan Gyngres yr Undebau Llafur fod 94 y cant o arweinwyr busnes yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i lwyddiant economi'r DU a bod dros 80 y cant yn dweud eu bod yn hanfodol i lwyddiant eu busnesau.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, mae'r dystiolaeth yn glir. Rydym wedi clywed bod rhan helaeth o'r cyhoedd o blaid y syniad hwn. Mae hyd yn oed y cyfoethogion eu hunain yn galw am ddiwygio. Mae'r ddadl foesol yn ddiymwad. Nid yw'n ymwneud â threthu mwy, mae a wnelo â threthu'n well—trethu'n deg, gwobrwyo gwaith, buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, oherwydd yn y bôn, mae'n rhaid i ni, fel y Senedd, ystyried ieuenctid yfory a'r hyn a drosglwyddwn i'r genhedlaeth nesaf. A fydd hi'n Gymru lle mae talent yn gyfyngedig, lle nad yw gwaith caled yn cael ei wobrwyo, lle mae cyfoeth a etifeddwyd yn cael ei ddiogelu, neu'n Gymru lle mae gan bob plentyn gyfle go iawn, lle mae menter yn cael ei hannog, lle mae tegwch wedi'i wreiddio a lle gall pobl ifanc fforddio cartrefi ac adeiladu bywydau mewn urddas? Hoffwn grynhoi gyda dyfyniad gan Adam Smith:
'Ni ellir byth ystyried yr hyn sy'n gwella amgylchiadau'r mwyafrif yn anhwylustod i'r gymdeithas gyfan. Ni all unrhyw gymdeithas ffynnu a bod yn hapus pan fo'r rhan fwyaf o'i haelodau'n byw mewn tlodi a diflastod.'
Mae treth gyfoeth yn addewid o Gymru decach a mwy ffyniannus, Cymru sy'n gweithio i bawb, nid yr ychydig rai ffodus yn unig, Cymru sy'n cefnogi uchelgais ac sy'n cefnogi cymuned i'r un graddau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i bawb. Daw hynny â dadl agored heddiw i ben. Galwaf yn awr am egwyl fer. Bydd y Cyfarfod Llawn yn ailddechrau am 6.10 p.m.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:04.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:10, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Mi wnawn ni gychwyn yn ôl gydag eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar gyllideb y Deyrnas Unedig a datganoli, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM9054 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd.
2. Yn gresynu bod digwyddiadau cyllidol blaenorol gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU wedi methu â chyflawni addewidion hirdymor a wnaed i bobl Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros fuddiannau pobl Cymru drwy wneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU, a chyhoeddi'r ohebiaeth berthnasol, i:
a) datblygu cynllun clir, gydag amserlenni penodol, i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar angen, ac wedi'i gosod ar sail statudol;
b) gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd teuluol, ac ad-dalu'n llawn i sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
c) galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun;
d) uwchraddio pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr y Senedd ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Cymru yn unol â chwyddiant fel cam cyntaf tuag at foderneiddio ei phensaernïaeth gyllidol;
e) darparu cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru o'r prosiect HS2;
f) datganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa'n deg o'i hadnoddau naturiol ei hun;
g) dileu'r cap budd-dal dau blentyn;
h) datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; ac
i) cyflwyno treth cyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn a gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm i symud ailddosbarthu ymlaen a darparu cymorth costau byw mwy cadarn i aelwydydd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Wythnos i heddiw, bydd Canghellor y Trysorlys Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllideb yr hydref. Felly, y ddadl heddiw yw ein cyfle olaf fel Senedd i drafod yr hyn yr hoffem weld y gyllideb yn ei gyflawni i Gymru, a dylai ein llais fel Senedd gyfrif. Wedi'r cyfan, mae'r arian sydd ar gael i'r Senedd yn rhoi siâp i'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yng Nghymru a'r ffordd y tyfwn ein heconomi. Mae'n penderfynu a allwn ymateb i heriau newid hinsawdd, mynd i'r afael â thlodi, a hyd yn oed clirio'r tomenni glo sydd wedi bygwth cymaint o'n cymunedau am lawer gormod o amser, a pha un a allwn fuddsoddi mewn diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon, neu eu gadael i ddihoeni. Mewn gwirionedd, ni cheir unrhyw agwedd ar ein bywydau nad effeithir arno gan benderfyniadau a wneir yn Llundain gan gymheiriaid y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Dyna pam y mae disgwyliadau Plaid Cymru wedi'u nodi'n glir yn y cynnig heddiw, lle rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Senedd os bydd y cynnig heddiw'n pasio, i bwyso am y canlynol: cynllun i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar angen ac wedi'i gosod ar sail statudol; gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd teuluol, ac ad-dalu'n llawn i sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun; cynyddu pwerau benthyca'r Senedd a therfynau tynnu i lawr ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru yn unol â chwyddiant; cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru o brosiect HS2; datganoli Ystad y Goron, fel y gallwn elwa o'n hadnoddau naturiol ein hunain; dileu'r cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau; datganoli cyfiawnder a phlismona'n llawn; ac fel rydym newydd ei drafod yn helaeth, treth gyfoeth ar asedau dros £10 miliwn a chydraddoli treth enillion cyfalaf i hybu ailddosbarthu a darparu mwy o gymorth costau byw i aelwydydd Cymru.
Mae dau welliant i'n cynnig. Mae'r cyntaf, gan y Ceidwadwyr, yn gosod eu galwadau eu hunain yn lle ein rhai ni, gan ddangos rhai meysydd lle gallwn gytuno arnynt, ac eraill lle rydym yn bendant yn arddel safbwyntiau gwahanol. Ni fyddwn yn ei gefnogi, ond diolch i chi am roi ystyriaeth ddifrifol i'r ddadl a chynnig blaenoriaethau amgen.
Mae'r ail, gan Lafur, ychydig yn wahanol, yn dileu'r holl alwadau. Felly, gadewch i ni fod yn glir, os bydd y cynnig yn pasio, wedi'i ddiwygio gan Lafur, y cyfan y bydd y cynnig yn ei ddweud yw hyn: 'Cynnig bod y Senedd yn nodi cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd'—nodi'r gyllideb. Felly, y cwestiwn sydd gennyf i holl Aelodau Llafur y Senedd, ac nid wyf yn synnu nad oes llawer yma, o ystyried y cynnig gan y Llywodraeth, a gaf i ofyn pam 'dileu popeth' a pheidio â chyflwyno un alwad hyd yn oed? Onid oes unrhyw beth y dymunwch weld Canghellor y DU yn ei gyhoeddi yr wythnos nesaf a fydd o fudd i Gymru? Neu a ydych chi'n gwybod nad oes pwynt gofyn am nad ydynt yn gwrando? A oes derbyniad mai'r cyfan y gallwn ei wneud yw nodi bod y gyllideb yn digwydd, ac y dylem fod yn ddiolchgar am beth bynnag y mae'n ei ddarparu i Gymru, yn hytrach na cheisio ei siapio? Mae pobl Cymru, a ninnau fel Senedd, yn haeddu gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y gyllideb sydd ar y ffordd a beth y gobeithiwch ei gweld yn ei gyflawni i Gymru. Rydym yn haeddu gwybod sut y mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Drwy ddileu popeth, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â'r Senedd hon a phobl Cymru. Felly, hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud yn ei ymateb i'r ddadl pam y penderfynwyd dileu popeth, ac yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru cyn yr wythnos nesaf. Ac o ystyried bod y Canghellor i'w gweld yn newid ei meddwl ynghylch yr hyn a fydd yn y gyllideb bob dydd ar hyn o bryd, os nad bob awr, gyda sylwebwyr yn disgrifio'r sefyllfa fel un 'gaotig', mae'n ymddangos yn amlwg mai nawr yw'r amser i ddylanwadu. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed?
Mae gennyf ymyriad ar-lein, os hoffech chi benderfynu a ydych chi am ei dderbyn ai peidio, Heledd Fychan, gan Lee Waters.
Rwy'n hapus i wneud hynny.
Diolch. Gan i chi gyfeirio cwestiwn at feinciau cefn Llafur i'w ateb, roeddwn i'n meddwl y byddai'n anghwrtais peidio â gwneud hynny. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r nodau a nodwyd gennych yn eich cynnig, ond nid cymdeithas ddadlau yw hon, a phe byddem yn pasio eich cynnig, ni fyddem yn gallu cyflawni dim ohono, oherwydd dim ond galw ar Lywodraeth y DU a wnawn. Yn y cyfamser, rydym yn ymdrechu i basio cyllideb ac ymddengys bod Plaid Cymru yn gwrthod ymgysylltu â realiti ymarferol ymrwymo i'r cyfaddawdau hynny; yn hytrach, mae'n ffafrio gwleidyddiaeth creu cyhoeddusrwydd yn unig lle rydym ni'n mynnu pethau gan San Steffan. Efallai mai dyna pam ein bod wedi dileu popeth.
Gallwch edrych ar welliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru pan oedd plaid wahanol mewn grym yn Llundain. Ac i fod yn glir, rydym wedi gweld nifer o gynigion Llywodraeth Cymru—yn gywir ddigon—yn galw ar Lywodraeth y DU â llais unedig fel Senedd. Mae yna rym mewn galw ar y cyd am yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, a dyna'n union beth rydym ni'n galw amdano heddiw.
Felly, gadewch inni fod yn glir. Clywsom fod y bartneriaeth mewn grym yn bodoli. Onid yw'n bryd iddi ddechrau cyflawni, ac i Lafur mewn grym wireddu addewidion a wnaethpwyd pan oeddent yn wrthblaid? Oherwydd, gadewch i ni fod yn glir, dyma realiti'r hyn a welsom hyd yma: adolygiad o wariant a fydd yn cyflawni'r twf isaf mewn termau real i gyllideb Cymru ac eithrio'r blynyddoedd cyni ar eu gwaethaf, a chyllideb gyfalaf sy'n crebachu—yn fyr, bargen i Gymru sydd hyd yn oed yn llai hael na'r hyn a gawsom gan weinyddiaeth Rishi Sunak; anghyfiawnder sylfaenol—nid fy ngeiriau i, ond geiriau Ysgrifennydd y Cabinet ei hun—treth benodol i Gymru yn cael ei chodi gan Drysorlys y DU, o ganlyniad i'r ffordd y maent wedi manipiwleiddio fformiwla Barnett, ar ein traul ni, ar newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; cyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf sy'n bygwth gwthio awdurdodau lleol at ymyl y dibyn, gyda chynnydd posib yn y dreth gyngor o dros 20 y cant a degau o filoedd o swyddi mewn perygl; yn ogystal â setliad hanesyddol o isel i'r GIG. Ychwanegwch at hyn yr un geiniog o gyllid canlyniadol o'r biliynau sy'n ddyledus i ni o brosiect HS2, er gwaethaf yr addewid o newid a glywsom yn ystod yr etholiad cyffredinol; a chynnydd ar ddatganoli pellach yng Nghymru nid yn unig nad yw'n bodoli o dan Lywodraeth bresennol y DU, ond sy'n mynd tuag yn ôl mewn sawl maes allweddol fel Ystad y Goron a chyfiawnder a phlismona—dyfarniad damniol a hollol gywir yr Aelod Llafur dros Bontypridd. Datganoli wedi'i ddiystyru fel anghyfleustra gan y blaid a arferai ymfalchïo mai hi oedd plaid datganoli.
Ni all pobl Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fforddio gweld cyllideb arall yn y DU sy'n anwybyddu Cymru. Felly, galwaf ar y Senedd heddiw i wrthod y gwelliannau heddiw a chefnogi'r cynnig gwreiddiol, ac yn fwy na dim, fod Llywodraeth Cymru yn dweud yn glir beth y maent am weld cyllideb y DU yn ei gyflawni i Gymru. Edrychaf ymlaen at y ddadl.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae gwelliant 1 wedi ei gynnig, felly mae gwelliant 2 yn cael ei gynnig gan Sam Rowlands.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau a) i i) a rhoi yn eu lle:
a) adolygu'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru, gan gynnwys pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr;
b) gwrthdroi'r newidiadau treth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol a chwmnïau teuluol;
c) gwrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y rhain hyd yma;
d) diystyru unrhyw godiadau treth newydd;
e) diogelu'r clo triphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth;
f) darparu cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd Rhydychen a Chaergrawnt;
g) adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru;
h) cynyddu buddsoddiad i ddiogelu ffiniau'r DU ym mhorthladdoedd Cymru i atal mewnfudo anghyfreithlon; ac
i) darparu adnoddau ychwanegol i ddarparu ffordd liniaru'r M4 ac uwchraddio cefnffordd yr A55, o ystyried eu pwysigrwydd fel llwybrau strategol ar gyfer cysylltedd y DU.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Hoffwn gynnig ein gwelliant yn ffurfiol yn enw Paul Davies.
Wrth inni edrych ymlaen at gyllideb yr hydref, mae safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn glir: mae partneriaeth Llafur mewn grym yn gwneud cam â phobl Cymru. Yn anffodus, mae llawer o'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw wedi'i adeiladu ar ffantasi a fyddai hefyd yn beryglus i'n heconomi yng Nghymru. Ond gadewch imi ddechrau gyda lle gallwn gytuno: mae Cymru yn haeddu ei chyfran deg o fuddsoddiad a chefnogaeth, ac rydym ninnau hefyd yn mynegi rhwystredigaeth nad yw digwyddiadau cyllidol blaenorol wedi cyflawni addewidion hirsefydlog i bobl Cymru. Fodd bynnag, mae cynigion Plaid Cymru'n ddiffygiol iawn yn eu hagwedd at ddatganoli, ailddosbarthu cyfoeth ac ehangu lles.
Rydym yn gwrthwynebu datganoli Ystad y Goron—cam y profwyd mewn mannau eraill ei fod yn ychwanegu biwrocratiaeth heb unrhyw fudd. Rydym yn gwrthod cynigion i osod mwy o drethi ar deuluoedd a busnesau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Ac rydym yn gwrthwynebu'n gryf yr awgrym byrbwyll a heb ei ariannu i ddiddymu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, polisi y mae Plaid Cymru yn ei rannu gyda'u cymheiriaid poblyddol yn Reform—cynghrair o anghyfrifoldeb economaidd.
Rydym yn gwrthwynebu datganoli mwy o bwerau pan fo Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael â'r pwerau sydd ganddynt yn barod. Byddai datganoli cyfiawnder a galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun nid yn unig yn gostus, byddai hefyd yn creu risg economaidd sylweddol. Rydym yn erbyn cynnig Plaid o dreth gyfoeth, fel rydym newydd fod yn dadlau. Nid yw treth gyfoeth yn ateb, mae'n fygythiad i ffyniant teuluoedd Cymru a dyfodol ein heconomi. Byddai treth o'r fath yn cosbi llwyddiant, yn datgymell buddsoddiad, ac yn creu perygl o yrru busnesau a thalent allan o Gymru.
Ac yn eu hymdrechion i symud Cymru allan o'r DU a phrofi pwynt gwleidyddol, maent yn creu perygl o niweidio'r union deuluoedd a chymunedau y maent yn honni eu bod yn eu cynrychioli. Mae obsesiwn Plaid ag annibyniaeth yn fyrbwyll, a byddai hefyd yn chwalu'r Deyrnas Unedig ac yn gadael Cymru hyd yn oed yn dlotach. Ond ni ddylem synnu. Am lawer o'r cyfnod ers datganoli, mae Plaid Cymru wedi cynnal Llafur, ac edrychwch ble mae hynny wedi mynd â ni: y canlyniadau addysg gwaethaf yn y DU, gwasanaeth iechyd toredig ac economi farwaidd. Mae hyn i gyd wedi digwydd o dan oruchwyliaeth Plaid Cymru. Yn onest, dylent fod â gormod o embaras i fynnu mwy o bwerau, a hwythau wedi methu helpu Llafur i ddefnyddio'r pwerau sydd gan Gymru eisoes.
Yn lle hynny, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym ni'n canolbwyntio ar gamau ymarferol a fydd yn creu ffyniant go iawn yng Nghymru. Mae ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i adolygu'r fframwaith cyllidol, yn cynnwys pwerau benthyca; gwrthdroi newidiadau treth etifeddiant sy'n cosbi busnesau a ffermydd teuluol; ac ad-dalu costau i Gymru na chafodd eu hariannu y cynnydd i yswiriant gwladol. Rydym am iddynt ddiystyru unrhyw godiadau treth newydd, diogelu'r clo triphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth, a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith allweddol, fel ffordd liniaru'r M4, yr A55 a thrydaneiddio prif linell gogledd Cymru. Mae'r rhain yn fesurau cyraeddadwy, cyfrifol sy'n cefnogi teuluoedd, yn diogelu swyddi ac yn creu amgylchedd i'n heconomi ffynnu, yn wahanol i ffantasïau Plaid Cymru, a fyddai'n niweidio aelwydydd Cymru â chostau uwch a mwy o risg.
Yn olaf, mae cynnig Plaid Cymru yn methu cydnabod realiti ymarferol llywodraethu. Mae pris i annibyniaeth radical neu ddatganoli ymosodol, a'r trethdalwyr sy'n talu'r pris hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch am ildio. Tybed a allech chi dynnu sylw at yr hyn y credwch chi sy'n gwneud Cymru'n unigryw analluog i fod yn annibynnol, pan fo gan bob cenedl yn y byd ei hannibyniaeth ei hun. Nid ydym yn awgrymu am eiliad, fel y dywedwch chi, y dylem chwalu'r berthynas rhwng gwledydd ar yr ynysoedd hyn, dim ond sefyll ar ein dwy droed ein hunain. A oes rhywbeth am Gymru sydd yn eich barn chi'n ein gwneud ni'n unigryw analluog i wneud hynny?
Wel, un o'r cwestiynau y mae Plaid Cymru yn parhau i fethu ei ateb yw sut y byddent yn ariannu'r ffaith y byddai trethdalwyr yn talu £11,000 y flwyddyn yn fwy mewn codiadau treth a thoriadau cyni. Byddai pobl sy'n gweithio yn talu £11,000 y flwyddyn yn fwy yn y codiadau treth a'r toriadau cyni. Mae yna broblem sylfaenol yn yr economeg gan Blaid Cymru.
I fod yn glir, Lywydd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn ymladd dros Gymru o fewn yr undeb, gan sefyll dros ein cymunedau, ein heconomi, a thros ein dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs, fe glywsom lawer o ymrwymiadau gwariant yng nghyfraniad y Ceidwadwyr, ond dim syniad o sut y byddem yn codi'r arian mewn gwirionedd. Fe ddywedaf wrthych beth fyddai'n codi'r arian—[Torri ar draws.] Wel, mae treth gyfoeth yn bendant yn un ohonynt, Rhys, ond un peth y credaf fod nifer ohonom yn y Siambr hon—nid ar y meinciau hyn, ond yn y pleidiau eraill—wedi anghofio amdano, a barnu yn ôl y gwelliant a gyflwynwyd gan y Llywodraeth heddiw, rhywbeth y cytunai Llafur yn San Steffan â ni yn ei gylch ar un adeg, rhywbeth y cytunai Llywodraeth Cymru â ni yn ei gylch ar un adeg, yw arian canlyniadol HS2. Pe bai angen i chi nodi unrhyw symbol sy'n ymgorffori'r annhegwch wrth wraidd ein setliad ariannol, dyna fe. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd, a hynny er gwaethaf cydnabyddiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, er gwaethaf cydnabyddiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan oedd hi'n Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid. Yn hytrach na chywiro'r anghyfiawnder hwnnw, yr hyn a gawsom yw £445 miliwn wedi'i ymrwymo dros y degawd nesaf. Mae croeso iddo wrth gwrs, ond nid yw'n cyffwrdd â'r ochrau hyd yn oed. Gadewch inni fod yn glir: dylai Cymru gael y £4 biliwn sy'n ddyledus—ffigur a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dyna'r llinell sylfaen. Ond mae hefyd yn bwysig cofio mai dim ond un rhan yw HS2, un symptom o annhegwch ehangach Barnett yr ydym wedi'i brofi'n hanesyddol.
Nawr, beth a olygaf wrth hynny? Wel, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddiweddar wedi darparu llai na £300 miliwn o gyllid newydd ar gyfer gwelliannau i rwydwaith Network Rail yng Nghymru hyd at 2029-30. Cofiwch, wrth gwrs, fod gan Gymru werth dros £3 biliwn o gynlluniau gwella rheilffyrdd ar hyn o bryd yn cael eu datblygu'n achosion busnes gweithredol. Yn y cyfamser, mae'r un adolygiad cynhwysfawr o wariant yn amlinellu dros £34 biliwn mewn gwelliannau rheilffyrdd ar gyfer Lloegr hyd at 2030, gan gynnwys £25 biliwn ar gyfer HS2, ac mae'n cynnwys £500 miliwn a mwy ar gyfer croesfan is dros y Tafwys, y disgwylir iddi gostio tua £10 biliwn—prosiect ffordd a ariannir o'r un gyllideb Adran Drafnidiaeth sy'n cynnwys seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, ni all neb edrych yn rhesymol ar y ffigurau hynny a'u hamddiffyn. Rwy'n siŵr y gallai Llywodraeth Cymru geisio gwneud hynny ar sail y gwelliant a gawsom ganddi, ond ni ellir amddiffyn yr annhegwch hwnnw. Mae Cymru'n cael £300 miliwn; yn y cyfamser, mae Lloegr yn cael dros 100 gwaith yn fwy—heb fod yn agos at ddyraniad ar sail poblogaeth. Byddai dyraniad o'r fath yn awgrymu y dylai Cymru gael o leiaf un rhan o ugain o gyllid Lloegr. Os nad yw hynny'n cythruddo'r Blaid Lafur yng Nghymru, mae'n dweud popeth sydd angen inni ei wybod am yr hyn a elwir yn 'ffordd goch Cymru', ac mae'n datgelu'r rhan lai pwysig sydd i Lywodraeth Cymru yn y bartneriaeth mewn grym, a'r ffaith eu bod yn gwbl gyfforddus â hynny. Yn union fel pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym, ôl-ystyriaeth yw Cymru yn Whitehall.
Pe bai rheilffyrdd wedi eu datganoli'n llawn i Gymru, y realiti yw y byddai'n rhesymol tybio y byddai gan Lywodraeth Cymru hawl i addasiad grant bloc o oddeutu £1.1 biliwn y flwyddyn, yn seiliedig ar wariant cyfredol yr Adran Drafnidiaeth, gan adfer ffactor cymharedd Barnett i dros 90 y cant. Byddai peidio â gweld symud i'r cyfeiriad hwnnw'n gyfystyr â bradychu'r Senedd yn llwyr, bradychu datganoli'n llwyr, a bradychu ein hetholwyr yn llwyr.
Nawr, fel rydym wedi nodi'n gywir yn y ddadl hon, fel y nododd Heledd Fychan ar ddechrau'r ddadl hefyd, dyma'r cyfle olaf i Lafur ddangos beth y mae'r newid a addawyd yn ystod yr etholiad cyffredinol yn ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd o ran trafnidiaeth, yn realistig, ychydig iawn o newid a welsom.
Fel fy nghyd-Aelod Lee Waters, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r cynnig hefyd, er fy mod yn tybio bod Lee a minnau'n dod ato o gyfeiriadau ychydig yn wahanol, ac rwy'n gresynu at welliant y Llywodraeth, oherwydd os yw'r dadleuon hyn yn mynd i fod yn werth eu cael, rwy'n credu bod angen iddynt fod yn ddadleuon lle mae ymgysylltiad rhwng y Llywodraeth a phleidiau eraill yma. Rwy'n credu ei bod yn rhan briodol o'n democratiaeth ein bod ni'n cymryd rhan mewn dadleuon gyda'n gilydd, pa un a ydym yn cytuno neu efallai'n anghytuno. [Torri ar draws.] Nid wyf yn Weinidog mwyach. [Chwerthin.] Ond dywedais wrthych hefyd pam fy mod yn anghytuno â chi; nid oedd y rheswm pam y gwneuthum arddel safbwyntiau penodol yn destun unrhyw ddirgelwch i chi.
Rwy'n dod at hyn o safbwynt, 'Beth yw gwerthoedd Llafur a ble mae gwerthoedd Llafur yn mynd â ni?' Un o'r rhannau pwysicaf a mwyaf unedig o hanes Llafur yw'r ymrwymiad i gydraddoldeb. Roedd yno pan wnaethom sefyll etholiad am y tro cyntaf ychydig dros ganrif yn ôl, ac mae wedi bod yn elfen sydd wedi rhedeg drwy Lywodraethau Llafur olynol. Ac rydym wedi gweld cydraddoldeb ym mhob math o wahanol rannau o'r agenda wleidyddol. Fe wnaethom basio deddfwriaeth cysylltiadau hiliol ym 1968, a'r Ddeddf Cyflog Cyfartal ym 1970, gan sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o fywyd cymdeithasol y Deyrnas Unedig, a bywyd economaidd y Deyrnas Unedig hefyd, a bod cydraddoldeb yn gydraddoldeb rhwng pobloedd, cydraddoldeb rhwng unigolion, cydraddoldeb rhwng cymunedau, ac rwy'n credu bod angen i ni ailbwysleisio hynny weithiau erbyn hyn.
Mae gennyf bryderon gwirioneddol am y dreth etifeddiant a fynnir gan y gymuned ffermio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llafur yn sefyll dros y cymunedau hynny hefyd, ac mae'n bwysig fod y Blaid Lafur bob amser yn siarad ar ran y gymuned Gymreig gyfan. Ond pan fyddwn yn siarad am gydraddoldeb, dylem hefyd siarad am gydraddoldeb cenedlaethol o fewn y Deyrnas Unedig.
Trafododd Gordon Brown hyn yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ychydig cyn yr etholiad cyffredinol—y dylai fod cydraddoldeb rhwng cenhedloedd ynysoedd Prydain, y dylai Cymru gael yr un hawliau â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hynny, unwaith eto, yn rhan o hanes Llafur. Mae'n rhan o bwy ydym ni. Fe wnaethom sefyll ar blatfform ganrif yn ôl o ymreolaeth i bawb. Mae'n rhan o'r traddodiad Llafur, ac mae hynny'n golygu, yn fy marn i, y dylai Llafur mewn grym geisio cyflawni cydraddoldeb i Gymru yn ogystal â chydraddoldeb rhwng pobl a rhwng cymunedau.
Ac mae hynny'n golygu, o ran y seilwaith rheilffyrdd, fod Cymru'n cael ei thrin yr un peth â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hynny'n hollol gywir. Dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Mae wedi'i ddatganoli i'r Alban. Os yw'n ddigon da i'r Alban, dylai fod yn ddigon da i Gymru. A dylai cyfiawnder a phlismona gael eu datganoli hefyd. Os yw'n ddigon da i Loegr, yn ddigon da i'r Alban, yn ddigon da i Ogledd Iwerddon, dylai fod yn ddigon da i Gymru.
Os yw pobl yn dweud na ddylai Cymru, fel rhan o'r Deyrnas Unedig hon, gael yr un cydraddoldeb â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid ydych chi fawr o unoliaethwyr, ydych chi? Nid ydych chi fawr o unoliaethwyr pan fyddwch chi'n dweud nad yw eich gwlad yn werth yr un gwerth cynhenid â rhan arall o'r DU. Mae hynny'n golygu y dylid diwygio'r fframweithiau ariannol a Barnett hefyd. Oherwydd fe wyddom, ac mae pob un ohonom yn gwybod hyn, na fyddai Llywodraeth y DU yn trin yr Alban na Gogledd Iwerddon yn y ffordd y mae Cymru'n cael ei thrin mewn perthynas â Barnett. Pe bai'n peri problem ddifrifol i'r Alban, fel y mae i Gymru, byddai wedi cael sylw. Mae wedi cael sylw yng Ngogledd Iwerddon.
Unwaith eto, os ydym yn credu mewn cydraddoldeb, cydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig, dylem ddadlau dros y pethau hyn i Gymru hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd cyllideb y DU yr wythnos nesaf yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hyn. Gobeithio hefyd, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn dechrau mynd i'r afael â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â'r pethau hyn, oherwydd nid wyf yn credu mai enghreifftiau ynysig yw'r rhain neu broblemau y dylid eu hystyried ar eu pen eu hunain.
Maent yn faterion sy'n effeithio ar Flaenau Gwent, maent yn faterion sy'n effeithio ar ein holl etholaethau. Maent yn faterion sy'n effeithio ar ein holl etholwyr, ein gallu i adeiladu seilwaith, ein gallu i ddarparu gwasanaethau, ein gallu i ofalu am rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein gwlad. Mae cyfiawnder cymdeithasol yn mynnu cydraddoldeb, ac os yw'n ddigon da i weddill y DU, dylai hefyd fod yn ddigon da i Gymru.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â phob gair y mae Alun Davies newydd ei ddweud, ac os yw Alun Davies yn cytuno â phob gair y mae Alun Davies newydd ei ddweud, nid oes unrhyw ffordd o gwbl y byddai'n pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw.
Mae'r gyllideb hon gan Lywodraeth y DU wedi dod yn saga go iawn, onid yw? Mae'n annibendod llwyr hyd yn oed cyn i'r gyllideb gael ei chyflwyno. Mae'n prysur ddod yn gyllideb tro pedol. Roedd dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau allan, nawr mae i mewn. Roedd codi treth incwm i mewn, ond nawr mae allan. Mae'n gyllideb hoci-coci braidd, onid yw, gan Lywodraeth sy'n amlwg mewn grym, ond allan o reolaeth yn llwyr.
Mae yna un polisi arall y buaswn yn croesawu tro pedol pellach arno wrth gwrs, sef y dreth etifeddiant i ffermydd. Rwyf wedi sefyll yn y Senedd hon yn flaenorol ar achlysuron dirifedi i dynnu sylw at ffolineb y newidiadau arfaethedig a'r effaith andwyol a gânt. Mae'n bolisi a fydd yn gwneud niwed parhaol i lawer o'n ffermydd teuluol bach yng Nghymru. Mae'n bolisi hynod o annheg sy'n targedu'r union bobl sy'n ein bwydo, sy'n gofalu am ein tir, sydd ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a gwrthdroi dirywiad byd natur. Maent yn cynnal ein heconomi wledig, ac wrth gwrs, maent yn sail i wead cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau gwledig.
Fe wyddom fod y rhan fwyaf o'n ffermydd teuluol yn dlawd o ran arian parod. Mae llawer ohonynt yn byw bodolaeth o'r llaw i'r genau. Nid oes ganddynt gyfalaf i ysgwyddo'r baich treth enfawr hwn. Bydd yn gorfodi pobl i werthu tir i dalu dyledion treth, gan wneud eu ffermydd yn llai hyfyw ac yn llai cynaliadwy wrth iddynt drosglwyddo'r fferm i'r genhedlaeth nesaf.
Felly, dyma fy neges i i Rachel Reeves: os gallwch chi wneud tro pedol ar dreth incwm, fe allwch wneud tro pedol ar y dreth ar ffermydd teuluol hefyd. Mae angen ei dileu, ac mae cyllideb y DU yr wythnos nesaf yn gyfle perffaith i wneud hynny—
A gaf i ofyn i Llyr Gruffydd a yw'n derbyn ymyriad?
Fe wnaf, iawn. Gan bwy?
Ken Skates. Ken Skates, a ydych chi'n gwneud ymyriad? Fe oedaf eiliad i aros i feicroffon Ken Skates gael ei agor. Rydym yn cael trafferth eich clywed, hyd yn oed ar ôl agor eich meicroffon, Ken, felly bydd yn rhaid inni symud ymlaen. A ydych chi'n derbyn ymyriad Sam Rowlands?
Yn fyr iawn.
Chi sydd i ddewis, Llyr Gruffydd.
Ie, ewch amdani. Nid wyf eisiau bod yn un o'r bobl hynny nad ydynt yn derbyn ymyriadau—[Torri ar draws.] Efallai y byddaf yn newid fy meddwl wedyn.
Mae llawer o'r pwyntiau a wnaethoch yn y ddadl yn erbyn y dreth ar ffermydd teuluol yn amlwg yr un fath â'r dadleuon a fyddai'n berthnasol i dreth gyfoeth, a—
O, dewch wir. Nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau pellach gennych os mai dyna—
Byddai llawer o'ch dadleuon yn dod o fewn yr un diffiniad â threth gyfoeth—
Na, na.
A wnewch chi wrthwynebu treth gyfoeth hefyd?
Os ydych chi'n rhoi ein ffermydd teuluol yn yr un grŵp â'r bobl gyfoethog iawn, y 40 o bobl sydd â chyfoeth hanner poblogaeth y wlad hon, mae hynny'n dweud mwy wrthym am y Torïaid nag y mae'n ei ddweud am unrhyw un arall. Ar ochr pwy ydych chi? Rwy'n credu eich bod chi wedi gollwng y gath o'r cwd yno, Sam. Rwy'n credu eich bod chi wedi gollwng y gath o'r cwd.
Iawn, ble roeddwn i? Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi cyflwyno cynnig i'r Senedd ar yr un llinellau'n union â'r hyn y mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi'i ddweud yn ddiweddar. Roeddem am oedi'r dreth ar ffermydd teuluol tra bod asesiad priodol yn cael ei wneud o'r sefyllfa yma yng Nghymru a chryfhau'r data sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU. Yn anffodus, pleidleisiodd Aelodau Llafur yma yn erbyn, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor Materion Cymreig trawsbleidiol, sy'n cynnwys ASau Llafur, bellach wedi ailadrodd ein galwad ni i bob pwrpas.
Roeddent yn dweud nad yw Llywodraeth y DU wedi gallu darparu unrhyw eglurder ar effaith benodol ei diwygiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant yng Nghymru, na darparu unrhyw ddata penodol i Gymru, ac y gallai'r newid polisi gael effaith anghymesur ar ffermwyr oedrannus neu ffermwyr â salwch terfynol sydd wedi trefnu eu materion ar y sail na fyddai eu hystadau'n ddarostyngedig i dreth etifeddiant. Maent yn dweud bod y Llywodraeth yn hunanfodlon yn y ffordd y cyflwynodd newid mor fawr ac mae absenoldeb unrhyw asesiadau effaith penodol i Gymru yn golygu y dylid oedi nes y bydd Llywodraeth y DU wedi gwneud ei gwaith cartref, a dyna'n union y galwai cynnig Plaid Cymru amdano yn ôl ym mis Mawrth.
Mae'n ddull annheg ac anflaengar o weithredu. Rydym wedi bod yn glir y gallai treth ar gyfoeth eithafol, treth o 2 y cant ar asedau gwerth dros £10 miliwn, godi dros £20 biliwn y flwyddyn. Dyna'r ffordd deg a blaengar o ariannu gwasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, nid drwy dargedu ffermydd teuluol bach Cymru, y gŵyr pawb ohonom eu bod yn asgwrn cefn cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy'n annog y Senedd i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Mae'n teimlo fel pe baem yn cael dadleuon fel hyn drosodd a throsodd. Rydym wedi bod yma o'r blaen. Rwy'n teimlo, weithiau, y gallwn ysgrifennu cyfraniadau rhai o'r Aelodau ymlaen llaw. Ac nid beirniadaeth o unrhyw Aelod yma yw hynny; San Steffan sydd ar fai, am nad ydynt yn gwrando. Ni wnaethant wrando y tro diwethaf inni ddweud hyn i gyd, na chyn hynny na'r tro cyn hynny chwaith. Pa un a yw Aelodau Llafur yn ei ddweud yn uchel ai peidio a pha un a ydynt yn cuddio y tu ôl i'w gwelliannau 'dileu popeth' ai peidio, rwy'n siŵr eu bod yn dymuno lawn cymaint â ni, os nad yn fwy na ni, i San Steffan wrando arnynt y tro hwn.
Yn y dadleuon hyn, mae gennym alwadau'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy ac mai hwn yw eu cyfle olaf unwaith eto—rwy'n credu fy mod wedi clywed y 'cyfle olaf' hwnnw cyn heddiw. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb drwy ddweud eu bod wedi sefyll dros Gymru gyda'u cymheiriaid yn San Steffan, eu bod wedi cyflwyno'r ddadl yn rymus iddynt, ond am ba reswm bynnag, fod Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu eu hanwybyddu.
Beth bynnag fydd lliw Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad nesaf, mae arnaf ofn y bydd dadleuon tebyg yn y lle hwn o hyd, gyda phethau tebyg yn cael eu dweud a San Steffan yn dal i anwybyddu ewyllys y lle hwn. A dyna yw craidd y mater. Oherwydd mae Llywodraeth San Steffan, hyd yn hyn, wedi anwybyddu cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru gyda llawer o bethau yn y cynnig hwn, ac rwy'n credu ei bod hi'n drueni mawr ein bod yn gweld 'dileu popeth' heb ymdrech go iawn i gymryd rhan iawn yn y ddadl hon. Mae Llywodraeth San Steffan yn anwybyddu'r mwyafrif clir yn y lle hwn sy'n galw am fodel cyllido teg, sy'n galw am fwy o bwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru. Maent yn anwybyddu galwadau am gyllid canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2 a datganoli Ystad y Goron. Mae mwyafrif clir o blaid pob un o'r rhain yn y lle hwn.
Soniodd Alun yn gynharach yn ei araith wych, yn ôl Llyr, am werthoedd Llafur. Rwy'n credu y gallwn gytuno—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n dda, Alun, oeddwn. Rwy'n credu y gallwn gytuno bod gwerthoedd Llafur yn seiliedig ar rannu cyfoeth. Mae gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi bod yn ailddosbarthu arian o'r cyfoethocaf i'r tlotaf. Y broblem yw nad ydym yn gweld hynny yng Nghymru. Maent wedi ystyried ad-drefnu'r dreth gyngor yn Lloegr fel bod ardaloedd tlotach yn Lloegr yn cael mwy o arian, ond maent yn parhau i gyfrifo'r arian a roddir i Gymru fel cyfartaledd yr hyn a geir yn Lloegr. Mae'r ffaith bod gennym fwy o ardaloedd tlotach yng Nghymru na fydd yn cael eu hariannu fel ardaloedd tlotach Lloegr yn rhywbeth y mae'n rhaid eu bod wedi ei anghofio yn Whitehall. Maent wedi addo i gynghorau Lloegr y bydd cyllid yn seiliedig ar angen.
Maent wedi mabwysiadu agwedd debyg tuag at y GIG yn Lloegr, gan ailddyrannu £2.2 biliwn i'r mannau lle mae'r angen mwyaf. Ond o dan y fformiwla ariannu bresennol ar gyfer Cymru, ni fyddwn yn cael unrhyw fudd. Gall Llywodraeth Lafur San Steffan ddweud eu bod yn gweithredu ar yr egwyddor o gael gwared ar y bwlch adnoddau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, ond rhaid iddynt fod yn onest fod hynny ond yn berthnasol i Loegr yn unig. Nid yw'n berthnasol i Gymru cyn belled â'u bod yn ein trin fel cyfartaledd o Loegr yn hytrach nag edrych ar angen ac amddifadedd gwirioneddol. Nid yw'n berthnasol i Gymru cyn belled â'u bod yn anwybyddu'r ffaith bod ein poblogaeth, ar gyfartaledd, yn hŷn ac yn salach a bod llawer o'n pobl ifanc yn gadael i ddod o hyd i swyddi mewn mannau eraill. Bydd yn ymddangos i bleidleiswyr Cymru fod Llywodraeth Lafur San Steffan yn hapus i Gymru barhau i fod yn dlotach, yn anffodus.
Mae dewis Llywodraeth Lafur y DU i dalu'r cynnydd i daliadau yswiriant gwladol gweithwyr y sector cyhoeddus yn llawn yn Lloegr, ond nid i Gymru, yn enghraifft arall o hyn. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd i bobl Cymru eu bod yn cael eu hanwybyddu, nad yw democratiaeth yn gweithio'n iawn yng Nghymru. Mae'r mandad democrataidd ar gyfer newid yng Nghymru wedi cael ei anwybyddu gan Lywodraeth y DU a chawn ein gadael mewn sefyllfa amhosib. Ar y naill law, nid yw egwyddorion ailddosbarthu cyfoeth a buddsoddiad i'r tlotaf yn berthnasol i Gymru hyd yma, ac ar y llaw arall maent yn anwybyddu ein galwadau am i'r pŵer a'r arian ddod yma i Gymru a chaniatáu inni ddatrys y problemau ein hunain.
Rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb hon yn symud pethau yn eu blaenau, oherwydd ni fydd galwad Cymru am driniaeth deg yn diflannu. Yr unig gwestiwn yw pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ewyllys democrataidd pobl Cymru gael ei wireddu. Oherwydd os na roddir ystyriaeth ddifrifol i'r ceisiadau hyn—ac rydym yn gwneud y ceisiadau hyn er mwyn gwella bywydau pobl Cymru—os yw pobl Cymru'n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu a'u cymryd yn ganiataol, gallai'r dewis arall fod yn llawer gwaeth nag y gallwn ei ddychmygu. Diolch yn fawr.
Os yw'r sibrydion i'w credu, mae Rachel Reeves o'r diwedd yn ystyried beth ddylai fod wedi bod yn flaenoriaeth ar ei diwrnod cyntaf yn y Llywodraeth, sef codi'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau nad oes modd ei gyfiawnhau. Dylai hefyd fod wedi bod ar frig rhestr siopa chwedlonol Prif Weinidog Cymru o alwadau ar ei phartneriaid yn San Steffan. A dyma syniad: gallai'r rhestr siopa honno fod wedi bod yn sail i gynnig y Llywodraeth. Dangoswch i ni ei bod yn bodoli.
Gwelsom y dirmyg tuag at y galwadau am degwch—y galwadau y mae Rhys ab Owen wedi'u hamlinellu—nes i ni weld y gwres oddi ar feinciau cefn San Steffan, heb lawer o'r ASau Cymreig yn eu plith, cymdeithas sifil a grwpiau ymgyrchu diflino ar lawr gwlad yn mynnu troeon pedol a chefnu ar bolisïau fel torri taliadau tanwydd i bensiynwyr a chymorth lles i bobl anabl.
Er y byddem, wrth gwrs, yn sicr yn croesawu cam o'r fath ar y cap dau blentyn a'r terfyn budd-daliadau—fel rydym wedi galw amdano'n gyson ac yn ddi-baid o'r cychwyn cyntaf—mae'n gywilyddus ei bod wedi cymryd cymaint o amser i Lywodraeth Lafur weithredu ar wrthdroi'r polisi hynod anghyfiawn hwn, sy'n cosbi plant am faint eu teuluoedd. Clywsom Aelodau, fel Alun, yn siarad yn delynegol iawn am werthoedd Llafur. Nid yw gwerthoedd yn golygu dim os na weithredwn arnynt, os na allwch eu dangos yn eich gweithredoedd.
Fe glywsom, oni wnaethom—cawsom ein sicrhau, mewn gwirionedd, gan Lywodraeth Cymru—y byddai Llywodraeth Starmer newydd yn gwneud dileu tlodi yn genhadaeth hollbwysig. Ond ymhell o fod yn genhadaeth hollbwysig ar frig ei hagenda, mae Llywodraeth Starmer wedi gorfod cael ei llusgo, gyda'i harweinyddiaeth dan fygythiad i'r pwynt hwn, lle mae gweithredu ystyrlon ar dlodi plant dan ystyriaeth erbyn hyn. A gadewch inni beidio ag anghofio, mae hon hefyd yn Llywodraeth Lafur a oedd yn barod i wthio miloedd yn fwy o blant yng Nghymru i dlodi drwy ei newidiadau arfaethedig i'r system les.
Ac rwy'n meddwl tybed faint o amser eto y bydd yn ei gymryd i Lywodraeth y DU ddadrewi lwfans tai lleol? Ym mis Mawrth gofynnodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol iddi ei godi i'r hanner canfed canradd. Eto, o fewn wythnosau, mae San Steffan nid yn unig wedi anwybyddu'r galwadau hynny, mae wedi dewis rhewi'r lwfans yn gyfan gwbl. Mae'r penderfyniad hwn yn ergyd greulon arall, gan yrru aelwydydd Cymru yn ddyfnach i dlodi. Gyda Chymru'n wynebu'r rhenti preifat sy'n codi gyflymaf yn y DU, mae teuluoedd bellach yn waeth eu byd o £1,900 y flwyddyn ar gyfartaledd. Felly, nid yw'r bartneriaeth mewn grym a addawyd i Gymru wedi cyflawni dim heblaw safonau byw sy'n dirywio. Felly, beth a ddigwyddodd i addewid y Canghellor y byddai pobl £500 y flwyddyn yn well eu byd ar gyfartaledd?
Nid yw'r Canghellor yn dangos unrhyw awgrym chwaith ei bod am drwsio ein system dreth doredig a dilyn llwybr beiddgar o ailddosbarthu drwy fesurau fel trethi cyfoeth. Yn hytrach, mae'n parhau i sgrafangu am fylchau yng nghyfyngiadau mympwyol ei rheolau cyllidol ei hun, nad oes yr un ohonynt wedi gwneud fawr ddim i symud y nodwydd ar dwf, gan droi'r cloc yn ôl yn bendant iawn ar anghydraddoldeb economaidd. Ac fel y clywsom yn cael ei ailadrodd sawl gwaith yn y ddadl a gawsom ar dreth gyfoeth y prynhawn yma, nid yw twf ynddo'i hun yn golygu tegwch economaidd, oherwydd nid yw canlyniadau economaidd twf yn lledaenu'n gyfartal heb yr ymyrraeth gywir. A byddai mesur o'r fath yn dod â manteision pendant a phenodol i Gymru, lle mae mwy o'n poblogaeth yn teimlo effaith niweidiol anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, wedi'i waethygu gan anghydraddoldeb ariannol ein cenedl, a'i danariannu mewn undeb anghyfartal a Llywodraethau olynol o bob lliw yn San Steffan nad ydynt yn fodlon rhoi sylw i ganlyniadau bywyd go iawn yr anghydraddoldeb hwnnw.
Yn groes i'r drafodaeth a glywn ar bethau fel trethi cyfoeth fel ffactor sy'n gwthio'r cyfoethog i symud dramor, mae cryn dipyn o awydd ymhlith pobl sy'n ennill arian mawr i ysgwyddo cyfran decach o drethiant. Ac awgrymodd arolwg diweddar gan Patriotic Millionaires y byddai 65 y cant o filiwnyddion y DU yn croesawu treth ar gyfoeth i wella gwariant cyhoeddus. Clywsom ddadleuon tebyg hefyd yn erbyn yr achos dros wneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm, a fyddai unwaith eto ond yn effeithio ar gyfran fach iawn o'r boblogaeth.
Mae'n feirniadaeth ddamniol o ddiflaniad agweddau blaengar Llafur fod hyd yn oed ystyriaeth o gynigion o'r math hwn wedi cael ei gwrthod ar ei phen. Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn datgan yn ddiamwys y prynhawn yma fod achos moesol ac achos economaidd dros gyflwyno trethi ar gyfoeth. Ac mae Plaid Cymru yn cytuno y dylai unrhyw Lywodraeth ddifrifol archwilio ymarferoldeb cynigion o'r fath fel mater o frys.
Felly, a fydd y baldordd yn troi'n alwad? Ac a fydd yr alwad honno'n troi'n bleidlais dros gynnig, fel y gallwn ni fel Senedd, gydag un llais, ddweud, 'Rydym eisiau gwell i'n gwlad'? Mae'n siomedig gweld nad yw'r Aelod Democrataidd Rhyddfrydol hefyd, a ymyrrodd ac a siaradodd gymaint am funudau lawer, bron i awr, rwy'n meddwl, yn y ddadl y prynhawn yma, yma chwaith i leisio ei chefnogaeth i dreth gyfoeth drwy bleidleisio dros ein cynnig. Felly, mae angen inni roi ein harian ar ein gair, yn llythrennol, a gwneud yn well dros Gymru. Diolch.
Yr wythnos nesaf rwy'n siŵr y byddwn yn cael yr iaith gyfarwydd gan y Canghellor am 'ddewisiadau anodd'. Ond i bobl yng Nghymru, bydd y dewisiadau hynny'n ymddangos yn rhywle arall yn gyfan gwbl. Byddant yn ymddangos gyda dioddefwyr sy'n aros am flynyddoedd am gyfiawnder, gyda menywod o Gymru yng ngharchardai Lloegr, gyda'r cannoedd o filoedd o'n dinasyddion sydd heb fynediad at gymorth cyfreithiol na chyngor o gwbl. Cyn belled â bod cyfiawnder wedi ei gadw'n ôl i San Steffan, bydd cyllidebau'r DU yn parhau i danseilio cyfiawnder yng Nghymru. Ganddynt hwy y mae'r holl bŵer; ni sy'n gorfod byw gyda'r canlyniadau.
Y dewis arall, fel y clywsom yn gynharach heddiw, yw system gyfiawnder Gymreig gyda phwerau Cymreig a chyllid teg wedi'i adeiladu o gwmpas atal yn hytrach nag argyfwng parhaol. Ac mae'r gyllideb yn cael ei hysgrifennu, onid yw, yn erbyn cefndir yr argyfwng hwnnw. Ledled Cymru, mae ôl-groniadau Llys y Goron ar y lefel uchaf erioed neu'n agos at hynny, gydag achosion a ddylai gymryd misoedd yn cymryd blynyddoedd. Mae Cymru'n carcharu mwy o bobl nag unrhyw le arall yng ngorllewin Ewrop ac eto mae cyfraddau aildroseddu'n parhau i fod yn uchel iawn. Mae system orlawn, aneffeithiol, doredig, ar ei hôl hi nid yn unig yn gwneud cam â phawb o'i mewn—diffynyddion, dioddefwyr—mae'n gwneud cam â'n cymunedau hefyd.
Ac o ran cyfiawnder, bydd y gyllideb yn datgelu unwaith eto yr anghysondeb rhwng pŵer a chyfrifoldeb yng Nghymru. Mae gwariant ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi codi ar ôl degawd o doriadau, ond mae gwariant o ddydd i ddydd yn dal i fod ymhell islaw ei uchafbwynt cyn y cyni ac yn llawer is na'r hyn y byddem yn ei wario pe byddem yn trin cyfiawnder fel gwasanaeth cyhoeddus hanfodol fel iechyd neu addysg. Nid yw penderfyniadau a wneir ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynhyrchu unrhyw ganlyniadau Barnett i Gymru, er bod ein hanghenion ni'n fwy, o ddiffyg cymorth cyfreithiol i seilwaith sy'n dadfeilio neu nad yw'n bodoli o gwbl. Pan fydd Llywodraeth y DU yn cynyddu gwariant ar garchardai neu lysoedd, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gweld eu grantiau bloc yn cynyddu. Nid yw Cymru'n gweld hynny, er bod ein gwasanaethau datganoledig yn dioddef canlyniadau methiannau'r system gyfiawnder. Mae penderfyniadau fel y cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr wedi agor bwlch ariannu i'n gwasanaethau datganoledig. Mae hynny'n golygu llai o arian ar gyfer tai, iechyd meddwl, gwaith ieuenctid, canolfannau menywod—yr union wasanaethau sy'n cadw pobl allan o'r system gyfiawnder ac yn eu helpu i ailadeiladu eu bywydau.
Felly, San Steffan sy'n dal y liferi cyfiawnder tra bod y Senedd hon a'n pobl yn talu'r bil cymdeithasol. Anllythrennedd cyfansoddiadol yw hynny, nid llywodraethu cydlynol. Mae ffordd well ymlaen i gyfiawnder yng Nghymru nid yn unig yn bosib, rhaid ei wneud ar frys. Roedd comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn hollol glir, onid oeddent? Mae angen datganoli cyfiawnder a phlismona yng Nghymru yn llawn, gyda'r cyllid i gyd-fynd â hynny. Dylai system gyfiawnder yng Nghymru gael ei llunio o amgylch ein gwerthoedd a'n cyfreithiau, ei hintegreiddio â'n systemau iechyd, addysg a thai, a'i dwyn i gyfrif yn y Siambr hon. Mae'r daith honno'n dechrau, efallai, gyda chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, a phlismona wedyn yn sgil diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Gall ymestyn i gynnwys cyfiawnder menywod, llysoedd datrys problemau, newid buddsoddiad o goncrit a weiren bigog i ddiogelwch cymdogaethau, ymyrraeth gynnar ac adsefydlu. Dylai system gyfiawnder yng Nghymru fod yn rhywbeth a wnawn gyda chymunedau, nid iddynt.
Felly, pan fydd y Canghellor yn cyflwyno'r gyllideb y mis hwn, byddwn ni ym Mhlaid Cymru, o safbwynt cyfiawnder, yn gosod tri phrawf. A yw'n buddsoddi o ddifrif mewn clirio'r ôl-groniad yn ein system gyfiawnder a chefnogi dioddefwyr? A yw'n trin Cymru'n deg o ran cyllid, gan gydnabod y costau i wasanaethau datganoledig? Ac a yw'n gosod llwybr credadwy tuag at ddatganoli cyfiawnder yn hytrach na gohirio rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw'n barhaus?
Os ydych chi eisiau cyfiawnder yng Nghymru, mae angen cyfiawnder i Gymru, pŵer i gyd-fynd â chyfrifoldebau, cyllidebau i gyd-fynd ag angen a system wedi'i hadeiladu nid ar reoli argyfwng, ond ar ofal, cymuned ac atal. Mae angen sylfaen ariannol gadarn i bob un o'r pileri hynny nawr, nid atebion tymor byr, ond buddsoddiad parhaol go iawn. Mae'n bryd i San Steffan gyflawni'r gofynion cymedrol hyn—nid yw hyn yn radical—ac ni ellir caniatáu iddynt osgoi eu cyfrifoldebau mwyach.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i gyfrannu—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddechrau gyda phwynt amlwg, oherwydd mae'n adleisio'r hyn a ddywedodd Lee Waters yn gynharach yn y ddadl hon, sef—. Clywais leisiau yma yn y Senedd yn diystyru'r pwynt a wnâi. Ond y pwynt amlwg yw hyn: fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sydd â'r cyfrifoldebau a ddatganolwyd i'r Senedd hon, y pethau y gallwn wneud gwahaniaeth iddynt, y penderfyniadau a wnawn sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Nid oes unrhyw beth pwysicach yn hynny na'r cyfrifoldeb clir ac uniongyrchol sydd gan y Senedd hon i basio ein cyllideb ein hunain.
Dyna sy'n poeni ein gwasanaethau cyhoeddus a'n sefydliadau trydydd sector, fel y dangosodd Sioned Williams yn fyw iawn yn gynharach y prynhawn yma. Ond rydym newydd dreulio awr heb siarad o gwbl am y cyfrifoldebau hynny. Fe wnaethon dreulio awr yn siarad am benderfyniadau nad ydynt erioed wedi'u datganoli i'r Senedd hon, ac na all un bleidlais yma eu penderfynu.
Rwyf am ateb y pwynt a wnaed gan Heledd Fychan yn ei sylwadau agoriadol hefyd. Gadewch imi ddweud wrthi: mae'r syniad y byddai Llywodraeth yn dewis dadl gwrthblaid fel cyfrwng i gyfathrebu ein blaenoriaethau i Lywodraeth y DU yn ffansïol, a byddai hefyd yn cefnu ar ein cyfrifoldeb i ddefnyddio'r holl ffyrdd sydd gennym fel Llywodraeth o wneud yn siŵr fod ein blaenoriaethau'n cael eu cyfathrebu'n glir. [Torri ar draws.] Gadewch imi ddweud wrthych—. Fe wnaethoch chi ofyn yn y cyfraniad hwnnw beth fyddai'r blaenoriaethau hynny. Wel, rydych chi wedi eu clywed sawl gwaith, oherwydd rydych chi'n gofyn i mi, rydych chi'n gofyn i'r Prif Weinidog, rydych chi'n ein clywed yn nodi ein blaenoriaethau, ond os ydych chi eisiau gwybod beth ydynt, dyma nifer fach ohonynt. Rwy'n disgwyl i'r gyllideb yr wythnos nesaf gadarnhau y bydd yr hyn a ddywedwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn dal i fod yn bolisi Llywodraeth y DU, oherwydd dyna'r polisi a fyddai'n darparu £5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol i Gymru. Dyna beth rwy'n awyddus i'w glywed yn y gyllideb, fod y £5 biliwn yn fwy nag y byddem wedi ei gael pe bai Mr Hunt yn dal i fod yn Ganghellor y Trysorlys—fod yr arian hwnnw'n dod i Gymru. Rwyf am weld cynnydd yn cael ei wneud ar y fframwaith cyllidol. Dyna un o'r elfennau yn y cynnig y deuaf ato mewn eiliad, Lywydd. Rwyf am weld cyllideb sy'n caniatáu i'r gwaith ar ddiwygio Barnett fynd rhagddo, ac rwyf am weld y cap dau blentyn ar fudd-daliadau'n cael ei ddiddymu yn y gyllideb honno hefyd. Ond nid wyf angen gwelliant i ddadl gwrthblaid i gyfleu'r blaenoriaethau hynny i'r Llywodraeth.
Yn wir, mae hwn yn gynnig—sinc y gegin o gynnig—sydd, os nad yw wedi'i lunio i greu rhaniadau, yn anochel o gael yr effaith honno. Rwyf wedi clywed cyfres o gyfraniadau gan Blaid Cymru, yn aml iawn wedi'u fframio yn yr agwedd foesol uwchraddol y mae Aelodau Plaid Cymru yn gallu ei chyfleu yn ddiymdrech yn ein dadleuon. Dylai hon fod wedi bod yn ddadl lle byddem yn dod ynghyd i gyflwyno ein hachos i Lywodraeth y DU, ond mae'n gynnig sydd wedi'i lunio'n llwyr i wneud yn siŵr na all hynny ddigwydd, oherwydd i'r lobsgows, maent wedi arllwys rhai pethau yr ydym yn cytuno â nhw a phethau eraill na allwn gytuno â nhw. Felly, mae wedi'i lunio i gael yr effaith groes i'r hyn y maent yn honni oedd eu bwriad.
Nawr, gadewch imi ddweud yn glir fod yna lawer o bethau yn y cynnig yr ydym yn cytuno â nhw. Uwchraddio'r fframwaith cyllidol—rydym wedi clywed hynny'n cael ei gymeradwyo eto gan y Ceidwadwyr, yn ogystal â phleidiau eraill yma y prynhawn yma. Dywedais yn gynharach fod diddymu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn sicr yn bolisi tair plaid yma, ond ni all uno'r Senedd am y gwyddom fod yna un blaid sy'n gwrthwynebu hynny'n llwyr. Ond yn bendant dyma bolisi'r Llywodraeth Lafur hon, polisi a hyrwyddwyd gan y Prif Weinidog pan wnaeth hyn yn ganolbwynt ei hymweliad ag Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai eleni. Roedd yn brif bennawd newyddion ledled Cymru y diwrnod hwnnw. Dyna sut rydych chi'n tynnu sylw at y pethau sy'n bwysig i chi, drwy wneud yn siŵr eich bod chi'n bachu'r cyfleoedd sydd gennych i gyhoeddi'r pethau y dymunwch eu gweld, i ddadlau dros y pethau y dymunwch eu gweld, a dyna ni. [Torri ar draws.] Ie, Eisteddfod yr Urdd—Eisteddfod yr Urdd. Clywaf arweinydd yr wrthblaid yn ymddangos fel pe bai'n lladd ar un o'r prif—[Torri ar draws.] Ie, os gwelwch yn dda—ewch amdani.
Yr hyn rwy'n lladd arno, yn onest, yw'r awgrym hurt nad yw'r Senedd hon yn lle priodol i drafod y pethau hyn a chael negeseuon i Lywodraeth y DU. Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu ei bod yn fwy priodol i'r Prif Weinidog fynd i Eisteddfod yr Urdd i ddweud rhywbeth, yn hytrach nag ar lawr y Senedd hon. Rwy'n gweld honno'n sefyllfa warthus i fod ynddi, ac mae'n hurt a bod yn onest eich bod chi'n sôn am sinc y gegin o gynnig pan na all eich Llywodraeth chi redeg bath.
Wel, gadewch i mi ddweud—[Torri ar draws.] Rhagor? Wel, hoffwn fwy ohono, oherwydd, credwch fi, pan fo'n fater o fod yn hurt, mae arweinydd yr wrthblaid wedi cornelu'r farchnad ar hynny ers amser hir iawn yn ei gyfraniadau ar lawr y Senedd. Wrth gwrs, mae'n iawn fod y Prif Weinidog yn mynd i'r cynulliad mwyaf o bobl ifanc yma yng Nghymru i siarad am bolisi sy'n cael effaith uniongyrchol ar bobl ifanc. Nid oes dim o'i le ar hynny, credwch fi.
Nawr, mae yna syniadau eraill yn y cynnig, a allai fod yn rhai cywir, ond sy'n cymryd llawer mwy na phasio cynnig i'w gwneud yn y ffordd iawn. Fel y dywedodd yr Aelodau, fe wnaethom drafod treth gyfoeth o 2 y cant yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod yn bendant wedi dysgu bod mwy i hynny na'i roi mewn cynnig. Mae'n galw am waith caled, ac yn sicr ni fyddai'n digwydd am nifer o flynyddoedd fan lleiaf. Mae'r cynnig yn dweud y dylai'r Senedd gael ei galluogi i osod ei bandiau treth incwm ei hun. Tybed pam y cafodd yr un syniad ei dynnu allan o'r ddadl lawer ehangach am y pwerau y dylai'r Senedd eu cael mewn perthynas â'r cyfrifoldebau cyllidol sydd gennym? Mae'r Llywodraeth hon wedi dechrau gwaith i'w arwain gan Brifysgol Bangor a'r brifysgol yng Nghaeredin a fydd yn rhoi ffordd i ni wybod beth yw'r pwerau cywir i Gymru. Mae tynnu un elfen allan o hynny a'i luchio i'r cynnig, fel pe bai honno'n ffordd gywir o wneud i hynny ddigwydd—mae'r syniad hwnnw'n creu penbleth i mi.
Ceir syniadau eraill yn y cynnig. Unwaith eto, efallai mai dyna'r rhai iawn, ond ni ellir eu gwneud yn y termau a nodir yn y cynnig. Mae'r rhan gyntaf yn y cynnig yn galw am fformiwla ariannu newydd i Gymru. Roeddwn i'n esbonio yn gynharach y prynhawn yma sut y caiff hynny ei rwystro gan chwaer blaid Plaid Cymru yn yr Alban. [Torri ar draws.] Rwtsh yw hyn. Mae'r syniad y gallwch chi osod fformiwla ariannu ar sail ddwyochrog rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, pan fydd y penderfyniad hwnnw'n effeithio cymaint ar y ddwy genedl arall yn y Deyrnas Unedig—ni all ddigwydd byth. [Torri ar draws.] Rhaid i chi wneud y ddadl. Rhaid i chi ennill y ddadl. Nid ydych chi'n ennill dadl drwy roi rhywbeth na allwch ei gyflawni mewn cynnig a meddwl bod hynny'n golygu bod y gwaith eisoes wedi'i wneud.
Lywydd, rwyf am ddychwelyd at y pwynt y dechreuais gydag ef. Mae arweinydd Plaid Cymru wedi bod yn teithio o amgylch y stiwdios teledu a radio, yn hysbysebu ei uchelgais i fod yn David Steel yr unfed ganrif ar hugain, yn paratoi ei filwyr ar gyfer dod yn Llywodraeth—ac edrychwch sut y daeth y rhyfyg hwnnw i ben. Os bydd hynny'n digwydd byth, yr hyn y bydd ef a'i gyd-Aelodau'n ei ddarganfod yw bod bod yn y Llywodraeth yn llawer anos nag ysgrifennu cynigion prynhawn Mercher. Pan oeddwn yn cadeirio ymgyrch Senedd i Gymru yn Ne Morgannwg dros 30 mlynedd yn ôl bellach, roeddwn eisiau Senedd er mwyn i gynrychiolwyr pobl Cymru allu mynd i'r afael â'r materion y mae datganoli, prosiect gwych Llafur, wedi'u rhoi yn eu dwylo nhw eu hunain. Nid yw'r rhai sy'n treulio eu hamser yma yn pwyntio bysedd at eraill o hyd, gan fethu wynebu'r penderfyniadau yr ydym i gyd yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, wedi dechrau'r daith tuag at yr her o wneud penderfyniadau yn hytrach na datganiadau, dewisiadau yn hytrach na chondemniadau, cyllidebau yr ydym yn gyfrifol amdanynt, yn hytrach nag areithiau am yr hyn y gallai eraill ei wneud.
Rhun ap Iorwerth nawr yn ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb am yr holl gyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'r hyn rydym ni wedi'i glywed heddiw—a gadewch i ni atgoffa'n hunain beth sydd gennym ni ar bapur o'n blaenau ni yn y cynnig a'r gwelliannau heddiw—yn adrodd cyfrolau: cynigion gofalus gan Blaid Cymru, gofynion fyddai'n rhoi Cymru ar sylfeini cadarnach ar gyfer y dyfodol, a gwelliant gan y Llywodraeth Lafur yma sy'n dileu y cyfan. Mae o'n siarad cyfrolau am y gwahaniaeth mewn uchelgais rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, a pharodrwydd Plaid Cymru o'i gymharu â Llafur i sefyll dros Gymru. A thra bod Plaid Cymru yn gwneud yr achos am degwch efo gwledydd datganoledig eraill, boed yn degwch ariannol neu yn degwch ar bwerau, mae'r Blaid Lafur yn dileu y cyfan. Ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, mi oedden nhw yn arfer cytuno efo Plaid Cymru ar rai o'n galwadau ni heddiw, tan ddaeth o yn rhy anghyfleus i'r bartneriaeth mewn grym rhwng Llafur yn fan hyn a Llafur yn San Steffan.
Credaf ei bod yn werth myfyrio unwaith eto ar yr elfennau yng nghynnig Plaid Cymru, y mae Llafur yn eu gwrthwynebu drwy eu dileu: cynllun clir i ddatblygu fformiwla ariannu newydd i Gymru; tro pedol ar dreth etifeddiant, sy'n bygwth hyfywedd ffermydd teuluol, ie, ond hyfywedd llawer o fusnesau teuluol ar hyd a lled Cymru—gadewch inni gofio hynny hefyd; iawndal llawn i'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; cael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau; swm canlyniadol llawn ar gyfer HS2; a datganoli pwerau dros Ystad y Goron, cyfiawnder a phlismona.
Nawr, mae'n sicr mai dim ond dau reswm credadwy sydd yna pam y mae Llafur wedi ymateb fel hyn i'r ddadl heddiw. Naill ai am nad yw'n credu yng nghynnwys y cynnig, gan ddangos methiant difrifol i sefyll dros yr hyn sydd er budd pobl Cymru, neu am nad yw am ymateb yn rhy gadarn rhag achosi problem i Keir Starmer. Beth bynnag yw'r rheswm, mae diffyg asgwrn cefn gwleidyddol yma. Os na wnaiff y Llywodraeth Lafur hon achos clir dros Gymru a buddiannau pobl Cymru mewn cynnig i'w drafod yn y Senedd, yn Senedd ein gwlad, pam y dylai pobl Cymru fod ag unrhyw ffydd yn y Llywodraeth Lafur hon mwyach? Ac fe'ch atgoffwn fod y rhain yn faterion a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru: y gallu i fuddsoddi mewn seilwaith, y gallu i gymryd rheolaeth ar gyfiawnder, i wneud yn siŵr fod gennym yr holl offer ar gael i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Mae'r rhain yn fesurau eang a ddylai adlewyrchu gwerthoedd y Blaid Lafur hon, ond mae'n amlwg nad ydynt.
Rwy'n croesawu'r sylwadau gan yr Aelod dros Flaenau Gwent wrth iddo sefyll dros y gwerthoedd hynny. Ac fel Llyr Gruffydd, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi ei fotwm pleidleisio ar ei air ac yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ond y cyfan a wnaiff yr holl sylwadau hynny, sy'n rhoi trwydded i ystlyswr Llafur ddweud y pethau iawn, yw tynnu sylw at ofnusrwydd y Llywodraeth Lafur hon. Ac mae i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid gyhuddo Plaid Cymru o ddangos agwedd foesol uwchraddol rywsut—rwy'n addo i chi, ni fuaswn yn breuddwydio esgus y gallem hyd yn oed feiddio dangos yr agwedd foesol uwchraddol y mae Llafur yn credu ei bod yn meddu arni yn y Senedd hon. Ni fuaswn yn breuddwydio gwneud hynny. Ac mae gwrthod y cynnig hwn heddiw yn gyfystyr â diystyru dilysrwydd y Senedd lle cyflwynwyd y cynnig hwn heddiw. Mae'n dweud mai sinc y gegin o gynnig yw hwn. Mae angen Llywodraeth sy'n taflu sinc y gegin at yr holl heriau a wynebwn fel cenedl, nid Llywodraeth sydd wedi rhoi'r gorau iddi. Ac mae'n cymharu ein gweithredoedd yn y misoedd hyn yn arwain at etholiad tyngedfennol y Senedd fis Mai nesaf fel fi'n arwain tîm sy'n paratoi ar gyfer bod yn Llywodraeth, a rywsut yn dweud hynny fel sarhad. Wel, mae hon yn Llywodraeth Lafur sy'n amlwg â rheswm dros roi'r gorau i baratoi ar gyfer bod yn Llywodraeth fis Mai nesaf, oherwydd gall weld yr ysgrifen ar y mur.
Mae'n dod yn fwy amlwg nag erioed nad yw pobl Cymru yn fodlon cael eu gwthio o'r neilltu mwyach gan ddifaterwch Llywodraethau'r DU, boed yn Llywodraethau Llafur neu Lywodraethau Ceidwadol. Ac mae'n gliriach nag erioed nad ydynt yn fodlon cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi methu eu cefnogi nhw dro ar ôl tro. Cawsom addewid o bartneriaeth mewn grym, oni chawsom? Ond mewn sawl ffordd, mae pobl wedi dod yn fwy, nid llai, rhwystredig ers ethol y Llywodraeth Lafur honno yn yr haf.
Oherwydd bod addewid a gobaith wedi'u chwalu, mae angen Llywodraeth Cymru sy'n barod i gynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru, Llywodraeth Cymru a fydd yn ddigyfaddawd wrth sefyll dros Gymru ar faterion sy'n ein gadael dan anfantais neu ar ein colled ar hyn o bryd. Plaid Cymru sy'n cynnig yr arweinyddiaeth newydd honno. Ac rydym eisiau cael perthynas adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth gwrs, ond gan weithio gyda Llywodraeth y DU heb unrhyw gwestiwn o gwbl ynglŷn â ble mae ein teyrngarwch. Daw'r wlad o flaen y blaid bob amser.
Nawr mae cyllideb yr hydref yr wythnos nesaf yn agosáu'n gyflym, gyda'r cynnig i Gymru'n parhau i'w weld yn hynod o annigonol, fel sydd wedi bod yn wir o dan Lywodraeth Lafur y DU hyd yma. Bydd pobl Cymru'n iawn i deimlo'n rhwystredig fod cyfle arall yn mynd i gael ei golli i roi'r camau sydd eu hangen yn daer i wella eu bywydau ar waith, a bydd y rhwystredigaeth honno'n cael ei hadlewyrchu. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu—yr arolygon barn a Chaerffili, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu—y bydd y rhwystredigaeth honno'n cael ei hadlewyrchu yn y blwch pleidleisio y flwyddyn nesaf. Y dewis, wrth gwrs, yw pa ddyfodol y mae pobl Cymru yn ei ddewis. Ac mae Plaid Cymru yn cynnig dyfodol cadarnhaol yn hytrach na'r dewis arall, sef ymraniad. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn gyfle i nodi'r math o Lywodraeth dros Gymru, sy'n canolbwyntio ar Gymru, y gallwn ei chael. Ac mae'n codi'r bar ar yr hyn y mae Cymru'n ei ddisgwyl gan San Steffan, os yn wir fod unrhyw gred ar ôl fod San Steffan yn gweithio dros Gymru. Felly, cefnogwch y cynnig hwn heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Y pedwerydd adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Cadeirydd y pwyllgor safonau sy'n gwneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM9053 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Y pedwerydd adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri.
3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 14 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 3 Rhagfyr 2025.
4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys ar eu cyfer, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor adroddiad y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Laura Anne Jones AS ynglŷn â'r diwylliant a ganiataodd yn ei swyddfa. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi penderfyniad y pwyllgor ar ganfyddiadau a barn y comisiynydd ar achosion o dorri'r cod, ac yn gwneud argymhelliad ynghylch y sancsiwn sy'n briodol yn yr achos hwn. Rydym yn argymell sancsiwn o 14 diwrnod yn seiliedig ar y gŵyn a ddaeth i law'r comisiynydd ym mis Ebrill 2024. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Mae'r pwyllgor o'r farn fod torri'r cod ymddygiad gan unrhyw Aelod o'r Senedd yn fater difrifol, ac rydym yn glir nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd na'n cymdeithas yn ehangach. Roedd yr ymddygiad a ganfuwyd yn adroddiad y comisiynydd ymhell islaw'r safonau a ddisgwylir, ac mae'n dynodi diwylliant swyddfa lle nad oedd fawr o barch tuag at eraill, nac unrhyw ystyriaeth o'r hyn y gellid ei ystyried yn sarhaus. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod yr Aelod a'i staff wedi cael hyfforddiant amrywiaeth ers gwneud y sylwadau hyn.
Mae'n anffodus, fodd bynnag, Lywydd, fod gwybodaeth am y gŵyn hon wedi cael ei rhyddhau i'r cyfryngau ar adegau yn ystod yr ymchwiliad. Hefyd, cafodd cwmnïau cyfryngau adroddiad llawn y comisiynydd yn haf 2025, cyn i'r pwyllgor gael cyfle i'w weld. Mae rhyddhau gwybodaeth heb awdurdod mewn ffyrdd o'r fath yn tanseilio'r broses gwyno, a hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i atgoffa pob Aelod a phawb fod cynnal cyfrinachedd yn mynd law yn llaw â hyder yn y system gyfan.
Lywydd, mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy mod yn derbyn canfyddiadau'r comisiynydd safonau yn yr adroddiad hwn yn llawn, a diolch iddo am ymchwiliad llawn, teg a thrwyadl. Rwy'n croesawu casgliad clir a defnyddiol yr heddlu a'r comisiynydd safonau, sy'n fy nghlirio o unrhyw weithgaredd twyllodrus, gyda'r heddlu'n datgan nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw gamymddwyn.
O ran yr iaith a ddefnyddiais yn y negeseuon WhatsApp preifat, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ymddiheuro unwaith eto am hynny yn y Siambr. Ni wneuthum erioed fwriadu achosi unrhyw dramgwydd ac ni fuaswn byth wedi bwriadu gwneud hynny. Mae'n anffodus iawn fod y neges, ac eraill, lle gwneuthum wyntyllu fy rhwystredigaeth yn breifat—yr ymddiheurais yn ei gylch, ac rwy'n gwneud hynny eto—wedi'u rhyddhau i'r wasg a'u gwneud yn gyhoeddus, lle roedd perygl iddynt gael eu camddehongli a brifo rhywun yn ddiangen.
Mae fy staff a minnau, fel y dywedoch chi, wedi cwblhau hyfforddiant parch ac ymddygiad y Senedd, ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad gweithredol ac wedi helpu'r gymuned y cyfeirir ati. Rwyf wedi myfyrio'n ddwys ar hyn, ac rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i mi fod yn fwy gofalus gyda fy iaith bob amser.
Rwyf hefyd eisiau dweud pa mor ddirdynnol yw'r ymchwiliad bron i ddwy flynedd o hyd wedi bod. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf.
Cymerwch eich amser.
Mae'n ddrwg gennyf. Nid oes arnaf ofn cofnodi bod y broses hon, a datgeliadau answyddogol parhaus i'r wasg, i geisio fy fframio am drosedd ddifrifol, ac sy'n deillio o'r ymgais amlwg faleisus hon i ddwyn anfri arnaf, wedi cael effaith negyddol ar fy nheulu, yn enwedig fy mhlant, yn ogystal ag effaith hynod niweidiol ar fy iechyd a fy iechyd meddwl fy hun. Mae'r pwysau o gael fy mhortreadu mewn ffordd mor ddifrifol a gofidus, er gwaethaf y canfyddiadau clir na fu unrhyw gamymddwyn, wedi bod yn faich sylweddol arnaf, gan fy arwain i geisio cau'r sŵn hwnnw allan a bron â rhoi diwedd arnaf fy hun sawl gwaith. Rwy'n brysio i ddweud na fuaswn yn dymuno'r hyn a brofais ar fy ngelyn gwaethaf, ac rwy'n gobeithio, er eich mwyn chi, na fydd hyn yn digwydd i unrhyw un ohonoch chi.
Felly, nawr fe geisiaf droi'r profiad ofnadwy hwn yn un cadarnhaol, a byddaf yn ymgyrchu'n galed i geisio gwneud newidiadau cadarnhaol i'r system, i ddiogelu Aelodau yn well, gan ganolbwyntio ar fod Aelodau'n ddieuog hyd nes y profir eu bod yn euog—y sylfaen y seiliwyd ein gwlad arni—ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, a helpu i wella'r broses.
Mae'n peri pryder i mi fod y pwyllgor, sy'n cynnwys Aelodau Llafur, Plaid Cymru a Thorïaid, wedi cael caniatâd i ychwanegu pethau nad oeddent yn ffeithiau, dyfaliadau a sïon at ddiwedd ymchwiliad ffeithiol a thrylwyr a gymerodd bron i ddwy flynedd i'w gwblhau. Gellir dadlau bod hyn yn dangos, efallai, fel y mae Aelodau eraill wedi dadlau, nad yw'r rhan hon o'r broses yn ddelfrydol, a gallai godi cwestiynau ynghylch didueddrwydd, sydd efallai'n ddadl gref dros broses wirioneddol annibynnol wrth symud ymlaen at y Senedd nesaf. Hoffwn ofyn i'r Aelodau fyfyrio ar ffeithiau'r adroddiad heddiw.
Beth bynnag, rwyf wedi gadael i'r hunllef hon lenwi bywydau fy nheulu a minnau am lawer gormod o amser. Mae wedi bod yn faich enfawr arnaf, a sut bynnag y byddwch chi'n pleidleisio, byddaf bob amser yn ymddiheuro am ddefnyddio'r iaith honno ac yn ddiolchgar am gael tynnu llinell oddi tano. Byddaf yn gallu rhoi fy ffocws llawn nawr ar gynrychioli fy etholwyr hyd eithaf fy ngallu, a byddaf yn gwneud hynny yn y Siambr hon dros y pythefnos nesaf a thu hwnt, a hefyd yn rhoi fy holl egni i fy mhlant, sydd wedi dioddef digon. Diolch.
Ydy'r Cadeirydd eisiau ymateb? Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod presenoldeb yr Aelod yma heddiw a'i hymddiheuriad yn y Siambr, ac ailadrodd—ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth wedi'i darparu—fod y gefnogaeth yno, ac mae cefnogaeth ar gael yn y lle hwn i ddelio â'r sefyllfa hon. Mae llawer ohonom yn gwybod sut beth yw bod yn llygad y cyfryngau a chael ein craffu yn y ffordd honno, ac mae'n gyfnod anhygoel o heriol.
Ond hoffwn bwysleisio, Lywydd, a phawb yma, nad yw gwaith y pwyllgor byth yn bersonol ac nad yw byth yn wleidyddol; rydym yn dilyn proses hyd eithaf ein gallu, a hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyma ni nawr, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais gyntaf.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, sef y cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 5. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 8 yw'r pleidleisiau nesaf. Ar ddadl Plaid Cymru ar gyllideb y Deyrnas Unedig a datganoli mae'r pleidleisiau yma. Yn gyntaf, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru—Cyllideb y DU a Datganoli. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 24, 24 yn erbyn. Felly, rydw i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly mae'r gwelliant yn cwympo o 24 pleidlais i 25 pleidlais.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru—Cyllideb y DU a Datganoli. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais ar welliant 2 fydd nesaf, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru—Cyllideb y DU a Datganoli. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, mae'r gwelliannau a'r cynnig wedi eu gwrthod a does dim byd wedi cael ei gymeradwyo. Felly, dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio a dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:23.