Y Cyfarfod Llawn
Plenary
24/09/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Cyn i ni gychwyn, fe gododd mater yn ystod y cyfnod pleidleisio neithiwr lle bwriodd Aelod bleidlais tra oedd mewn cerbyd, sy'n groes i'r canllawiau sydd wedi eu rhoi i Aelodau. Mae'r Aelod wedi ymddiheuro i fi, a dwi wedi penderfynu y bydd y bleidlais yn sefyll ar yr achlysur yma.
Dwi eisiau manteisio, felly, ar y cyfle i ailadrodd y canllawiau sy'n ymwneud â chyfranogiad mewn pleidleisio yn nhrafodion y Senedd. I fod yn glir, ni ddylai Aelod bleidleisio tra'i fod mewn cerbyd neu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wrth deithio. Felly, hynny fydd yn cael ei weithredu o hyn ymlaen.
Eitem 1, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Vaughan Gething.
1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Network Rail ynghylch ailalinio traciau i helpu i ddarparu gorsaf reilffordd parcffordd Caerdydd? OQ63108

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Network Rail a Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn ariannu'r gwelliannau sy'n angenrheidiol yn ne Cymru i allu cyflawni gorsafoedd Burns a pharcffordd Caerdydd.
Diolch. Fel y gwyddoch ac fel rydych chi wedi sôn, mae parcffordd Caerdydd yn gyfle datblygu economaidd arwyddocaol sy'n cael ei alluogi gan orsaf reilffordd newydd. Dyma'r prosiect twf economaidd newydd mwyaf yng Nghymru heddiw. Mae'r orsaf newydd, fel rydych chi hefyd wedi'i ddweud, yn rhan o gynllun cyflawni Burns, ac mae ganddi'r fantais o gymeradwyaeth gynllunio, nad oes gan y gorsafoedd Burns newydd eraill ar hyn o bryd. Mae'r trac ei hun yn parhau i fod yn ased sy'n eiddo i'r DU, a bydd angen gwaith arno i sicrhau bod yr orsaf yn gweithio ac yn galluogi'r datblygiad ehangach hwnnw. A allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i ariannu'r gwaith penodol hwnnw ar y trac, ac os yw wedi cytuno, pa bryd y mae'r gwaith yn debygol o ddechrau?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud 'do'? Do, gallaf gadarnhau hynny. Mae parcffordd Caerdydd, yn amlwg, yn orsaf hanfodol bwysig fel rhan o gynigion cyffredinol Burns ar gyfer de-ddwyrain Cymru—cynigion sydd â'r nod o leddfu tagfeydd ar yr M4. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar gyflawni uwchraddiadau i brif linell reilffordd de Cymru er mwyn gallu cael y gorsafoedd a'r gwasanaethau newydd hynny. Ysgrifennais at arweinydd Cyngor Caerdydd yn ddiweddar, a chroesawais ei gefnogaeth barhaus i ddatblygiad Parcffordd Caerdydd a'r manteision economaidd a chysylltedd sylweddol y gallai eu darparu i'r rhanbarth.
Mae Network Rail yn gweithio i gwblhau'r achos busnes terfynol a'r cynllun terfynol ar gyfer uwchraddio llinellau lliniaru de Cymru, ac mae'r cynllun hwn wedi'i ariannu'n llawn yn yr adolygiad o wariant ac mae'n hanfodol er mwyn gallu cyflawni gorsafoedd newydd Burns a pharcffordd Caerdydd. Bydd yn dechrau a bydd yn cael ei gwblhau yn y cyfnod gwariant hwn. Credaf mai'r peth hollbwysig yw y bydd yn golygu y gall mwy o wasanaethau cludo teithwyr a nwyddau weithredu ar y llinell a galw yn y gorsafoedd newydd hynny, a bydd yn helpu i gynnig opsiynau amgen yn lle gorfod gyrru ar yr M4. Ffaith bwysig arall yw y bydd yr arian hwnnw, y £445 miliwn hwnnw, yn helpu i ddatgloi buddsoddiad pellach mewn cylchoedd gwario yn y dyfodol i ddarparu gorsafoedd ychwanegol a gwelliannau ychwanegol ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd gorsaf reilffordd parcffordd Caerdydd, heb os, yn ased mawr i'r ddinas ac i ddwyrain Caerdydd. Bydd yn rhoi mynediad mawr ei angen i drigolion at wasanaethau rheilffordd ac yn rhoi hwb sylweddol i fusnesau lleol. Fodd bynnag, pryder allweddol a godwyd gyda mi yw parcio ceir. Bydd llawer o gymudwyr sy'n bwriadu defnyddio'r orsaf yn gyrru yno. Os yw parcio pwrpasol yn gyfyngedig neu'n rhy ddrud, efallai y byddant yn parcio ar strydoedd preswyl cyfagos. Mae hyn eisoes yn broblem gyffredin mewn llawer o ddinasoedd, a heb gynllunio priodol, mae perygl y gallai ddod yn broblem ddifrifol i gymunedau lleol. A allwch chi amlinellu pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod parcffordd Caerdydd yn cynnig digon o le parcio fforddiadwy i ddefnyddwyr dyddiol? A pha drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Caerdydd i atal ystadau cyfagos rhag cael eu gorlethu gan broblemau parcio sy'n gysylltiedig â'r orsaf? Diolch.
Diolch. Fel y dywedais, ysgrifennais at arweinydd Cyngor Caerdydd yn ddiweddar a chroesawais ei gefnogaeth i'r prosiect, ei ddiddordeb yn y prosiect—yn wir, diddordeb prifddinas-ranbarth Caerdydd yn y prosiect hwn. Gwn fod parcio'n rhywbeth y mae'r partneriaid sydd ynghlwm wrth y rhaglen waith benodol hon yn ei ystyried o ddifrif. Maent eisiau sicrhau y gallant roi cymhelliant i gynifer o bobl â phosib ddefnyddio'r orsaf honno, i gynyddu defnydd o'r rheilffordd, ac i sicrhau ein bod yn cynhyrchu cymaint o fudd economaidd â phosib i'r ardal drwy gyfleoedd datblygu busnes newydd yno. Rwy'n croesawu'r trafodaethau cadarnhaol a chydweithredol sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i drafod opsiynau datblygu posib ar gyfer gorsaf parcffordd Caerdydd. Fel y dywedaf, mae parcio'n bryder allweddol ac yn ystyriaeth allweddol yn y trafodaethau hynny.
2. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu coridor rheilffordd Caerfyrddin-Aberystwyth rhag datblygiadau a allai danseilio’r posibilrwydd o’i hailagor yn y dyfodol? OQ63121
Rydym wedi ymrwymo i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, gan gynnwys drwy ein llwybrau bysiau TrawsCymru. Mae ailagor llinell reilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth yn dal i fod yn opsiwn, ond byddai'r defnydd o amddiffyniadau cynllunio ar y coridor yn arwain at gostau posib sylweddol iawn i berchnogion tir a chymunedau.
Wel, bedair blynedd yn ôl, ymrwymodd Llywodraeth Cymru, yn y cytundeb cydweithio, i edrych ar ddiogelu coridorau teithio posib ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru, yn eu dau gynllun blynyddol diwethaf, wedi sôn am barhau i ymchwilio i fesurau ac i weithio i nodi gofynion i ddiogelu'r aliniad rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Weinidog, pam na wnewch chi ddefnyddio'r grym, y grym nad yw gan neb ond chi mewn gwirionedd, i gyflwyno amddiffyniad caled, drwy Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, neu drwy gyfarwyddyd diogelu Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990? Oni bai fod hynny'n digwydd, rydych chi'n dileu unrhyw bosibilrwydd realistig o ailgyflwyno'r cysylltiad rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol? Credaf ei bod yn bwysig myfyrio ar y rheswm pam ein bod yn cael y ddadl hon. Yn gyffredinol, mae pobl yn dyheu am gael gwasanaethau rheilffordd yn hytrach na gwasanaethau bysiau am eu bod yn ystyried gwasanaethau rheilffordd yn rhywbeth ar gyfer y tymor hir, ond yn yr amgylchedd dadreoleiddiedig aflwyddiannus yr ydym yn byw ynddo mewn perthynas â'r rhwydwaith bysiau, rydym yn gweld gwasanaethau bysiau yn mynd a dod ar sail pryd y mae gweithredwyr masnachol yn penderfynu nad ydynt yn werth eu cynnal am nad ydynt yn cynhyrchu digon o elw. Drwy ein Bil bysiau, a thrwy rwydwaith TrawsCymru, rydym yn mynd i'r afael â'r her ddiwylliannol a hanesyddol honno i'r rhwydwaith bysiau yng nghanfyddiad y cyhoedd ohono. Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn datblygu mwy o wasanaethau fel gwasanaethau TrawsCymru, sy'n hynod boblogaidd. Rydym yn mynd ati'n frwd i archwilio'r posibilrwydd o wasanaethau cyflym hefyd, rhwng trefi allweddol fel Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Ond gallai rhoi amddiffyniadau tir ar waith ar gyfer ailagor rhannau o linellau rheilffordd greu risg o gryn drafferth i berchnogion tir, a gall arwain at gost economaidd bosib i gymunedau, yn ogystal â'r gost barhaus amlwg o gynnal yr amddiffyniadau. Nid wyf yn argyhoeddedig y byddai'n ddefnydd cyfrifol o arian trethdalwyr tra ydym yn dal i archwilio'r opsiwn o ailagor y llinell reilffordd yn y dyfodol. Ond yn y cyfamser, rwy'n mynd ati'n frwd i ystyried dewisiadau eraill, yn seiliedig ar drafnidiaeth fysiau, sy'n hynod boblogaidd yn fy marn i. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn y defnydd o rwydwaith TrawsCymru. Mae'n rhwydwaith dibynadwy, mae yno am y tymor hir, a thrwy ein gwaith ar ddiwygio bysiau, rwy'n hyderus y byddwn yn gweld llwybrau bysiau eraill, fel rhan o'r rhwydwaith sylfaenol hwnnw ledled Cymru, yn cael eu diogelu ar gyfer y tymor hir.
Gwrandewais ar eich ateb gyda chryn ddiddordeb, gan fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi'n cynnal, neu wedi bod yn cynnal, ymgynghoriad ar ganoli rhai o'i wasanaethau hanfodol ar draws ardal bwrdd Hywel Dda, gan gynnwys symud rhai gwasanaethau o ysbyty Bronglais yn Aberystwyth i ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, heb gysylltiad rheilffordd uniongyrchol. Felly, o ystyried bod gwasanaeth T1 yn cymryd awr a 39 munud ar hyn o bryd i fynd—. Fe sonioch chi am y posibilrwydd o gyswllt cyflym. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chi a'ch rhagflaenydd o'r blaen ynglŷn â'r angen am gyswllt cyflym, yn cysylltu'r ddwy dref. A allwch chi roi mwy o fanylion i ni am hynny? Pa mor bell ar hyd y daith—maddeuwch y mwyseirio—ydym ni o ran cyflwyno gwasanaeth cyflym, gan fod angen cysylltu'r ddwy dref? Yn absenoldeb gwasanaeth rheilffordd, bysiau yw'r dewis gorau.
Mewn gwirionedd, mae Sam Kurtz yn gwneud pwynt pwysig iawn—fod rhwydweithiau TrawsCymru yn gwasanaethu'r cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan rwydwaith rheilffordd presennol, llwybr rheilffordd presennol. O ran y gwasanaethau cyflym yr wyf eisoes wedi sôn amdanynt, rydym yn archwilio sut y gallwn eu defnyddio fel rhan o'r camau gweithredu i ddiwygio gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Pan gawn Gydsyniad Brenhinol i'r Bil bysiau, bydd yn ein galluogi i gael rheolaeth lwyr dros y rhwydwaith bysiau ac i allu integreiddio rhwydwaith TrawsCymru yn llawn i lwybrau presennol. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Ni fydd ateb cyflym i'r broblem, oherwydd yn gyntaf oll, mae'n rhaid inni gael y pwerau, drwy'r Bil bysiau, i allu rheoli'r rhwydwaith. Yn y cyfamser, rydym yn edrych ar gosteffeithiolrwydd gwasanaeth cyflym posib, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y byddwn yn gwneud cynnydd pellach.
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad diweddaraf yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn dangos bod trais yn erbyn menywod a merched ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn cynyddu, gyda mwy nag 11,000 o droseddau wedi eu cofnodi y llynedd. Yng Nghymru, mae troseddau rhywiol ar drenau ac mewn gorsafoedd wedi cynyddu 29 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Felly, pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i wneud teithio ar y rheilffordd yn fwy diogel i fenywod a merched ledled Cymru?
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Mae'n fater hynod bwysig. Mae'n rhywbeth yr ydym o ddifrif yn ei gylch—felly hefyd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol fy mod, yn ddiweddar, wedi cyhoeddi strategaeth 'Teithio i bawb', sy'n anelu at sicrhau bod pob math o drafnidiaeth a theithio llesol yn ddiogel ac yn ddibynadwy, a bod gwasanaethau cyhoeddus yn brydlon ac y gellir dibynnu arnynt.
Yr hyn a ganfuom, yn enwedig i fenywod a phobl sy'n wynebu rhwystrau sy’n eu hanablu, yw bod diffyg seilwaith diogel, cyfleus sy'n cael ei gynnal yn dda yn ffactor pwysig wrth benderfynu a ydynt yn symud o gwmpas ai peidio. A dyna pam ein bod wedi mynnu, ar gyfer y flwyddyn hon, fod cymaint o gyllid teithio llesol â phosib yn cael ei wario ar uwchraddio ar strydoedd, ar lawr gwlad, yn hytrach na'i wario ar fiwrocratiaeth a gweinyddu. Mae hynny'n golygu gwella cyrbiau a chael palmentydd botymog, ac mae'n golygu cyrbiau isel, mae'n golygu gwella palmentydd, gosod seddi, ac yn hollbwysig, sicrhau bod gennym safleoedd bysiau diogel wedi'u goleuo'n dda a llwybrau diogel at drafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n sicr yn ddiolchgar am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd yn y cyswllt hwn, gan mai'r gwir amdani yw bod gormod o orsafoedd ledled Cymru yn dal i fod yn brin o'r goleuadau a'r teledu cylch cyfyng a'r presenoldeb ar y safle sydd eu hangen i wneud i bobl, a menywod yn benodol, deimlo'n ddiogel ac i atal unrhyw ymddygiad niweidiol.
Mae adroddiad diweddaraf yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hefyd yn tynnu sylw at fater difrifol arall—a hoffwn ddatgan buddiant gan fod aelod o fy nheulu'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru—sef y lefelau parhaus o drais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae staff rheilffyrdd yn ei wynebu. Yn anffodus, mae cam-drin geiriol, ymosodiadau corfforol ac aflonyddu wedi dod yn rhan o'r swydd i ormod lawer o weithwyr, yn enwedig ar wasanaethau hwyr y nos ac mewn gorsafoedd prysur. Nid problem diogelwch yn y gweithle yn unig yw hon; mae'n creu awyrgylch ehangach o ofn ac anhrefn sy'n effeithio ar bawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith. Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac undebau llafur wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch y risgiau y mae staff yn eu hwynebu, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ar eu pen eu hunain neu heb gefnogaeth weladwy. Felly, pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu gweithredwyr rheilffyrdd a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i fynd i'r afael ag ymosodiadau ar staff a gwella'r ymateb i ddigwyddiadau treisgar mewn gorsafoedd risg uchel ledled Cymru?
Cwestiwn rhagorol arall, Lywydd. Mae camerâu corff yn amlwg yn rhan o'r ateb, ond mae llawer o staff yn dewis peidio â'u gwisgo am wahanol resymau. Mae problemau diwylliannol yn y wlad hefyd, a phroblemau ymddygiad sy'n eithaf clir. Mae trais yn aml yn gysylltiedig â digwyddiadau penodol hefyd. Gwyddom fod cam-drin domestig, er enghraifft, yn cynyddu pan fydd gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu chwarae, ac mae'r un peth yn wir am drais tuag at weithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus—mai o gwmpas digwyddiadau mawr, yn aml, y gwelwn rwystredigaethau'n berwi drosodd. Ond mae yno, bob dydd, ac mae hwn yn fater sydd wedi'i godi gan yr undebau llafur, ac o ganlyniad i arweinwyr yr undebau'n codi'r mater, fe wnaethom benderfynu cynnull uwchgynhadledd diogelwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yr hydref hwn. Bydd yn cael ei chynnal ym Mhontypridd. O ystyried diddordeb brwd yr Aelod yn y maes gwaith hwn, byddaf yn estyn gwahoddiad i Sam Rowlands fynychu, ac yn wir, i lefarydd Plaid Cymru.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at y gwahoddiad i weld pa gamau y gellir eu cymryd fel y gellir mynd i'r afael â'r materion hyn. A chan lynu wrth thema troseddu ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, mae nifer y troseddau a gofnodwyd wedi cynyddu, fel yr eglurais eisoes, ond mae problem fawr o hyd gyda thangofnodi, yn enwedig o ran yr hyn y gellir ei ddisgrifio fel ymosodiadau lefel isel. Hyd yn oed pan fydd digwyddiadau'n cael eu cofnodi, mae cyfraddau erlyn yn parhau i fod yn isel, ac mae adroddiad yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a data cyhoeddus ehangach yn dangos nad yw cyfran fawr o drais a throseddau rhywiol ar drenau neu'r rhwydwaith rheilffyrdd yn arwain at unrhyw gyhuddiadau. Wrth gwrs, fe fyddwch yn deall pa mor bwysig yw hi fod dioddefwyr yn gallu ymddiried yn y system y maent yn adrodd troseddau wrthi. Ac mae angen dull cydgysylltiedig arnom, i sicrhau bod pobl yn gwybod sut i adrodd, fod dioddefwyr yn cael y gefnogaeth wirioneddol sydd ei hangen arnynt, a bod cymunedau'n cael gwybod am y camau sy'n cael eu cymryd. Felly, a wnewch chi fel Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, darparwyr trafnidiaeth ac awdurdodau lleol i wella tryloywder adrodd a chanlyniadau ar gyfer troseddau treisgar ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru?
Yn sicr. Rydym yn clywed yn rheolaidd, ar drenau ac ar wasanaethau metro ledled y DU, yr apêl 'ei weld a'i sortio' os bydd unrhyw un yn gweld trosedd yn cael ei chyflawni, ac mae'n hanfodol bwysig fod pob un ohonom yn chwarae ein rhan i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith trafnidiaeth, gan gynnwys ar drenau. Yn amlwg, mae plismona a chyfiawnder y tu hwnt i fy nghyfrifoldebau portffolio, ac mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gwneud gwaith rhagorol. Gwn eu bod o dan bwysau aruthrol. Rwyf wedi cyfarfod â nhw i drafod y pwysau, ac mae'n cynyddu hefyd. A dyna pam, yn rhannol, ein bod yn cynnal yr uwchgynhadledd diogelwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ond byddwn hefyd, yn yr uwchgynhadledd honno, yn trafod materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais ar fysiau hefyd, gan fod hyn yn rhywbeth y mae gyrwyr bysiau, drwy'r undebau llafur, wedi'i godi gyda ni yn ogystal. Felly, fel y dywedaf, byddaf yn gwahodd llefarwyr y gwrthbleidiau i'r digwyddiad penodol hwnnw.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch am y gwahoddiad, ac os gallaf, fe fyddaf yno. Felly, diolch yn fawr iawn.
Un o fethiannau diffiniol Llywodraeth Lafur Cymru yw parhad ystyfnig tlodi yng Nghymru. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, prin fod y ffigur wedi newid, gydag un o bob pump o bobl yn parhau i fod yn dlawd, a bron i hanner y rheini yn y mathau dyfnaf o dlodi. Rhan o'r darlun hwn yw trafnidiaeth, ond mae'n rhan annatod, ac mae'r dystiolaeth yn ddamniol. Mae'r adroddiad diweddaraf gan Sefydliad Bevan yn dangos nad oes gan 30 y cant o gartrefi sydd ar lai na £20,000 y flwyddyn fynediad at gar. Cânt eu gorfodi i ddibynnu ar fysiau, sydd, er mai dyna'r dull trafnidiaeth y mae teuluoedd incwm isel yn dibynnu arno fwyaf, wedi dioddef degawdau o ddiffyg buddsoddiad. Yn y cyfamser, mae pobl ar incwm isel sy'n berchen ar geir yn sownd mewn cylch dieflig. Mae eu hanner yn dweud ei bod hi'n anodd ymdopi â'r costau, ond ni allant gael gwared ar eu ceir am nad oes opsiynau eraill i'w cael. Dyna pam y dywedodd dros un o bob 10 oedolyn eu bod wedi gorfod canslo taith hanfodol yn y tri mis diwethaf am na allent ei fforddio. Nid yw system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gorfodi pobl i ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fynychu apwyntiad ysbyty yn wasanaeth cyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r dystiolaeth, sut y gallwch chi roi sicrwydd i bobl Cymru na fydd mynediad at drafnidiaeth yn dyfnhau'r anghydraddoldebau presennol? A sut y byddwch chi'n sicrhau bod teithio'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bobl ar incwm is?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Credaf ei fod yn codi pwynt hanfodol bwysig a drafodais gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yr wythnos diwethaf mewn gwirionedd, sef sut y gall trafnidiaeth gyfrannu at godi pobl allan o dlodi, a sut i osgoi tlodi trafnidiaeth, boed yn ddiffyg gwasanaethau fforddiadwy neu'n ddiffyg unrhyw wasanaethau mewn cymuned.
Mae nifer o gynlluniau a nifer o ffrydiau gwaith sy'n cyfrannu at fy mhortffolio mewn perthynas â threchu tlodi. Yn amlwg, mae gennym y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), lle rydym yn anelu at adennill rheolaeth dros y rhwydwaith bysiau a gwneud gwell defnydd o'n buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau bysiau. Yn nhymor y Senedd hon, Lywydd, byddwn wedi gwario £600 miliwn ar gefnogi'r rhwydwaith bysiau ledled Cymru. Mae'n swm enfawr o arian, ond nid oes gennym y rheolaeth lawn sydd ei hangen arnom i gael y budd mwyaf ohono eto, felly bydd y Bil bysiau'n hanfodol bwysig i hybu cyfiawnder cymdeithasol. Felly hefyd y cap prisiau o £1 i bobl ifanc ar wasanaethau bysiau. Mae hyn eisoes yn hynod boblogaidd. Hyd yma, mae mwy na 24,000 o bobl ifanc ychwanegol wedi cofrestru ar gyfer FyNgherdynTeithio, ac ym mis Tachwedd, pan fydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys plant pump i 15 oed, bydd oddeutu 230,000 o bobl ifanc ledled Cymru, ym mhob cymuned, yn elwa o'r cynllun penodol hwnnw. Ac fel y dywedais, mae'n boblogaidd tu hwnt.
Ac o ran teithio llesol, i bobl sy'n cerdded ac yn olwyno ac yn beicio, fel y dywedais mewn ymateb i Sam Rowlands, rydym yn buddsoddi'n helaeth i wella diogelwch ein strydoedd, ac mae'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn cyfrannu at hynny hefyd. Sut bynnag y byddwch chi'n symud o gwmpas rhwng cymunedau ac o fewn eich cymuned, rydym eisiau sicrhau ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny, ac fel y nodwch, fod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ac yn fforddiadwy. Rydym yn gwneud camau breision yn y maes hwnnw lle mae gennym reolaeth lawn, er enghraifft, drwy Trafnidiaeth Cymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol iawn yn nifer y gwasanaethau a weithredir gennym gyda threnau newydd sbon, o ganlyniad i'r £800 miliwn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wario ar drenau newydd sbon ledled Cymru.
Diolch am eich ateb ynglŷn â rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno. Mae'r cynllun £1 ar gyfer pobl ifanc yn wych os oes gennych fws yn rhedeg lle mae ei angen arnoch pan fo'i angen arnoch, ond mae honno'n agwedd arall y mae angen inni edrych arni. Ond wrth edrych ar fysiau, dyna'r math o drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir fwyaf gan y bobl ar incwm is yr oeddem yn sôn amdanynt, ond ar ôl blynyddoedd o ddirywiad, mae lefelau defnydd bysiau yn dal i fod yn llai nag 80 y cant o'r lefelau cyn y pandemig. Fel rydych chi wedi sôn, mae'r Bil bysiau'n cynnwys cynigion sydd, ar yr olwg gyntaf, i'w croesawu'n fawr, ac fe wnaethom basio'r egwyddorion cyffredinol y diwrnod o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r agweddau uchelgeisiol fel prynu fflyd bysiau yn creu goblygiadau ariannol sylweddol. Heb fuddsoddiad digonol ar waith, mae perygl mai ychydig iawn o newid y bydd diwygio strwythurol yn ei greu i'r rhai sy'n dibynnu fwyaf ar y gwasanaethau hynny.
Mae hefyd yn wir na ellir ystyried bysiau ar wahân i bopeth arall, fel y dywedwch. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhwystrau fel palmentydd gwael, llwybrau cerdded anniogel at safleoedd bysiau a diffyg systemau tocynnau integredig oll yn cyfrannu at lefelau isel o ddefnydd. Oni wneir buddsoddiad ar yr un pryd yn y seilwaith a mesurau fforddiadwyedd, ni fydd potensial y Bil yn cael ei wireddu. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro felly sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ariannu'r ymrwymiadau sylweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil bysiau, ac a ydych chi'n derbyn, heb adnoddau digonol, fod perygl mai diwygiad gweinyddol yn unig fydd y ddeddfwriaeth yn hytrach na gwelliant ystyrlon i deithwyr?
Wel, yn gyntaf oll, bydd y Bil bysiau, fel y dywedais, yn rhoi rheolaeth i ni dros y rhwydwaith. Bydd gennym gynllun rhwydwaith bysiau, a fydd yn cael ei gyflwyno ger bron y Senedd hon ac a fydd ar gael i'r Aelodau graffu'n llawn arno, sy'n diwallu anghenion teithwyr, sy'n gwasanaethu teithwyr yn hytrach na chymhelliad elw, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cynorthwyo cwmnïau bysiau i gaffael bysiau newydd, modern, di-allyriadau. Rydym yn trafod gyda Trafnidiaeth Cymru sut y gallent brynu fflyd ac yna ei lesio i weithredwyr na allant fforddio uwchraddio i gerbydau di-allyriadau. Mae hynny'n arbennig o bwysig i fentrau bach a chanolig eu maint, sydd mor hanfodol bwysig, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru. Mae cost cyfalaf prynu bysiau trydan yn rhwystr i lawer o'r busnesau hynny ar hyn o bryd, felly rydym yn trafod gyda'r sector y rôl y gallai Trafnidiaeth Cymru ei chwarae yn hynny o beth. Wrth gwrs, Llywodraethau'r dyfodol fydd yn pennu lefel yr adnoddau a fuddsoddir mewn trafnidiaeth fysiau. Hoffwn ddweud wrth unrhyw Weinidog trafnidiaeth yn y dyfodol, os ydych chi'n benderfynol o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, os ydych chi'n benderfynol o ddefnyddio trafnidiaeth fel galluogwr, yna buddsoddwch yn helaeth mewn gwasanaethau bysiau, nid yn unig yn y llwybrau, ond hefyd yn y seilwaith sy'n cefnogi symudiad bysiau heb dagfeydd, i'w wneud yn ddibynadwy. Yn y pen draw, ein nod yw creu un rhwydwaith, un tocyn ac un amserlen ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyflawni'r integreiddiad llawn yr ydych chi newydd fod yn siarad amdano.
Ac un rhan o anghenion teithwyr yw'r anghenion a'r heriau arbennig i bobl ag anableddau. Mae chwarter yr aelwydydd lle mae rhywun yn anabl eisoes yn byw mewn tlodi, ac mae trafnidiaeth, unwaith eto, yn ffactor allweddol yn yr anfantais honno. Mae oedolion anabl yn gwneud 29 y cant yn llai o deithiau nag oedolion nad ydynt yn anabl. Mae hi bron ddwywaith yn fwy tebygol na fydd ganddynt fynediad at gar, ac i'r rhai sydd â char, mae cyfran lawer uwch yn nodi ei bod yn anodd iawn fforddio'r costau. Ac eto, maent hefyd yn llawer llai abl i gael gwared ar eu cerbydau, oherwydd yn aml, nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch nac yn ddibynadwy. Y risg nawr yw y gallai'r newid i gerbydau trydan waethygu'r anghydraddoldeb hwnnw. Gallai pobl anabl na allant fforddio newid orfod dibynnu ar geir petrol a diesel hŷn, drytach, a chael eu cosbi, i bob pwrpas, gan drawsnewidiad sydd i fod o fudd i bawb. Oni roddir mesurau penodol ar waith, mae perygl y bydd y bwlch hygyrchedd hwn yn dod yn fwy fyth. Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau penodol y bydd eich Llywodraeth yn eu cyflwyno i sicrhau nad yw pobl anabl o dan anfantais bellach wrth bontio i sero net?
Wel, yn bennaf, bydd hynny'n digwydd drwy fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith sy'n cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych chi eisiau enghraifft gliriach o sut y gwnawn hynny, gallwch ymweld ag ardal metro Cymru a gweld ar linellau craidd y Cymoedd sut y mae gan y trenau sy'n gweithredu yno, y trenau 756 newydd, rampiau sy'n dod i lawr i'r un lefel â phlatfformau gorsafoedd, gan sicrhau mynediad di-risiau, mynediad gwastad, i bob teithiwr. Dyma'r math o fuddsoddiad sy'n sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw un ar ôl.
Cyfarfûm â chadeirydd newydd y bwrdd teithio llesol yr wythnos hon mewn gwirionedd, a chawsom drafodaeth hir ac adeiladol iawn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ac yn addas i bawb, beth bynnag fo'u lefelau symudedd corfforol neu ddiffyg symudedd. Ac mae gennym y panel mynediad a chynhwysiant, sydd wedi'i sefydlu o fewn Trafnidiaeth Cymru. Maent yn darparu cyngor amhrisiadwy ar ddarparu gwasanaethau, ar fuddsoddi mewn seilwaith, ar sut i wella'r olygfa gyhoeddus hefyd, y strydlun, i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl gan drafnidiaeth gyhoeddus.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol? OQ63113
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion sy'n byw ymhellach na phellteroedd penodol o'r ysgol gael cludiant am ddim. Drwy'r grant cynnal refeniw, rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn teithio gan ddysgwyr. Awdurdodau lleol sydd i benderfynu a ydynt am fynd ymhellach na'u rhwymedigaethau statudol.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, o dan arweiniad y Blaid Lafur, wedi cael gwared ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol i blant sy'n byw o fewn tair milltir i'w hysgol. Mae'r penderfyniad hwn, a wnaed dan gochl arbed costau, wedi bod yn ergyd fawr i nifer sylweddol o deuluoedd, yn enwedig pan fo gan y cyngor swm syfrdanol o £250 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Mae'r canlyniadau eisoes i'w gweld. Mae ffyrdd o amgylch ysgolion bellach yn llawn tagfeydd wrth i rieni ruthro i lenwi'r bwlch a adawyd gan fysiau ysgol, mae ansawdd aer yn dirywio, ac mae rhieni sy'n gweithio o dan fwy o bwysau nag erioed. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw bod plant bellach yn cerdded ar hyd ffyrdd prysur a pheryglus, a dim ond mater o amser yw hi cyn bod damwain ddifrifol yn digwydd. Mae'n fethiant o ran rhesymeg, ac mae'n fethiant moesol. Rydym yn gofyn i deuluoedd ddewis rhwng diogelwch a fforddiadwyedd. Rydym yn rhoi plant mewn perygl er mwyn arbed arian pan nad oes angen. Felly, gofynnaf i chi'n uniongyrchol: a ydych chi'n cefnogi ailgyflwyno cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn Rhondda Cynon Taf? Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cyngor yn ailystyried y penderfyniad hynod niweidiol hwn? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Edrychwch, mater i awdurdodau lleol yw hwn. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw. Ond rwy'n nodi, ym mis Mai, eich bod chi wedi gwneud datganiad ar eich gwefan lle gwnaethoch chi sylwadau ar gostau cynyddol cludiant cyhoeddus, bysiau yn benodol, ac i bobl ifanc. Felly, ni allaf ddeall pam na wnaethoch chi gefnogi cyllideb Llafur Cymru a oedd yn gwneud darpariaeth ar gyfer y cap o £1 ar brisiau tocynnau. Rwy'n dychmygu y byddai hynny wedi bod o gymorth sylweddol. Ac rwy'n credu mai yn 2022 y gwnaethoch chi bostio fideo ar YouTube mewn ymateb i'r Prif Weinidog lle codoch chi bryderon ynghylch teithio a chostau ôl-16. Nid wyf yn deall—[Torri ar draws.] Rwy'n credu mai fi oedd yr unig un i'w weld, rydych chi'n llygad eich lle. Ond ni allaf ddeall, felly, pam y gwnaethoch chi wrthwynebu cyllideb Llafur Cymru a oedd yn darparu cynllun a fyddai ond yn costio £1 ar y mwyaf i unigolyn ifanc deithio ar fws. Dylech gefnogi'r cynllun hwnnw gan ei fod yn gynllun sy'n galluogi; mae'n rhan o'r ateb o ran teithio gan ddysgwyr.
Ond nid oes un ateb syml i deithio gan ddysgwyr. Nid un ateb sydd gennym i'r her gymhleth hon. Ar sail cyfweliad a roddwyd gan Nigel Farage yr wythnos hon, fe wyddom ei fod yn credu mai'r ateb i broblem teithio gan ddysgwyr yw gofyn i rieni, lle bynnag y bônt, yrru eu plant i'r ysgol. Credaf ei fod wedi dweud rhywbeth fel, yn y gorffennol, fod gennym y pethau hyn o'r enw rhieni a fyddai'n gyrru eu plant i'r ysgol. Felly, mae'n argymell bod Cyngor Sir Caint yn lleihau eu buddsoddiad mewn cludiant i'r ysgol yn sylweddol.
Yma yng Nghymru, rydym wedi cael yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo o ganlyniad i'r uwchgynhadledd honno, ac roedd yn ddigwyddiad rhagorol. Fe daflodd oleuni ar yr heriau niferus a wynebwn gyda chludiant i'r ysgol. Bydd diwygio bysiau yn rhan o'r ateb hefyd, sydd unwaith eto'n codi'r cwestiwn pam nad ydych chi'n cefnogi egwyddorion cyffredinol rheoli bysiau, a fydd yn ein galluogi i gynllunio'r rhwydwaith yn well er mwyn diwallu anghenion dysgwyr. Felly, rydym yn gwneud camau breision ar fynd i'r afael â'r heriau niferus sy'n gysylltiedig â theithio gan ddysgwyr, ond nid oes un ateb syml i'r her hon.
Wel, nid oes un ateb syml i'r her hon, fel y dywedwch, ond ers llawer gormod o amser, mae trefniadau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yng Nghymru wedi gwneud cam â gormod lawer o bobl ifanc. Yn fy rhanbarth i, er enghraifft, mae un awdurdod lleol wedi dweud wrth ddisgybl blwyddyn 12, ar ôl pum mlynedd o fynychu ysgol benodol a chael ei chludo ar draws ffiniau sirol am y pum mlynedd i fynychu'r ysgol honno, na all barhau yno mwyach. Yn hytrach, oherwydd y rheolau'n unig, rhaid iddi deithio bron i 20 milltir i ysgol wahanol.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi eich clywed chi a Gweinidogion eraill yn dweud eich bod yn mynd i ddatrys hyn. Awgrymwyd y Bil bysiau'n wreiddiol fel un ffordd o wneud hynny'n uniongyrchol, ond mae eich Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud hynny gyda'r Bil sydd ger ein bron. Gwn eich bod yn ymgynghori hefyd ar y canllawiau gweithredol ar gyfer teithio gan ddysgwyr, ac mae'n dda fod yr ymgynghoriad hwnnw'n mynd rhagddo, ond unwaith eto, nid yw hwnnw'n dod i ben tan yn nes ymlaen eleni. Mae'n teimlo fel pe baech yn dweud wrthym eich bod yn mynd i ddatrys hyn, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn newid. Felly, a allwch chi egluro i mi sut y gellir cyfiawnhau system sy'n gorfodi disgybl i adael eu hysgol hanner ffordd drwy eu haddysg, a phryd y byddwch chi'n mynd i'r afael o'r diwedd â system sy'n amlwg yn gwneud cam â gormod lawer o bobl ifanc?
Mae gennych wyneb yn gofyn y math hwnnw o gwestiwn ar ôl gwrthod cefnogi cyllideb Llafur Cymru a gyflwynodd gap o £1 ar bris tocynnau bysiau—
Nid yw'n ymwneud â'r gyllideb. Rydych chi'n deddfu ar fysiau ac rydych chi'n gwneud dim am drafnidiaeth ysgol.
Fe ddywedais mewn ymateb i'r Aelod arall yr wyf newydd ateb ei gwestiwn fod cynllun y cap o £1 ar bris tocynnau yn rhan o'r ateb, ynghyd â diwygio bysiau drwy'r Bil bysiau. Gobeithio y gwnewch chi gefnogi'r mesurau hynny. Ond nid oes un ateb syml i'r mater cymhleth hwn. Rwy'n eich gwahodd i'r uwchgynhadledd nesaf a gawn ar deithio gan ddysgwyr fel y gallwch ddeall y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hyn. Nid yw symud y trothwy, sef yr hyn y mae'r Aelod yn dymuno i ni ei wneud ar y meini prawf pellter, yn gwneud dim byd mwy na symud y broblem; nid yw'n datrys y broblem. Os oes gan yr Aelod ateb syml, yna rhannwch ef gyda ni a dywedwch wrthym o ble y byddai'r bysiau ychwanegol yn dod, o ble y byddai'r tir ychwanegol ar gyfer cilfannau bysiau mewn ysgolion yn dod, o ble y byddai'r arian ychwanegol yn dod.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith sy'n digwydd ar deithio gan ddysgwyr a chwilio am atebion, ac mae hyn yn wirioneddol gymhleth. Rwy'n gwybod yn fy etholaeth i, fod y gost dros y flwyddyn ddiwethaf i Rondda Cynon Taf wedi codi o £8 miliwn i £15 miliwn, felly mae'n amlwg fod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o'r gost sylweddol a'r goblygiadau i gyllidebau yn gyffredinol.
Mae yna heriau wrth gwrs, ac rydych chi wedi cydnabod rhai ohonynt, mewn perthynas â'r ffordd y mae pobl yn gweithio nawr, y gwahanol shifftiau, mynd a dod o'r gwaith, yn enwedig lle mae'r ddau riant yn gweithio. Mae'r Bil bysiau wedi'i nodi fel un opsiwn, ac yn amlwg, yr angen i integreiddio bysiau'n llawer gwell o ran angen y cyhoedd, ac rwy'n credu bod hynny'n cynnwys cludiant ysgol.
Tybed a allech chi egluro ychydig mwy sut y mae'r Bil bysiau'n mynd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, a'r ymgysylltiad a allai fod. Ac wrth gwrs, rwy'n sicr yn hapus iawn i gymryd rhan yn unrhyw un o'r ymgynghoriadau sy'n debygol o ddigwydd, neu'r ymgysylltu yn y dyfodol, oherwydd mae hon yn broblem gymhleth y mae angen mynd i'r afael â hi. Rwy'n sicr yn gobeithio bod y Bil bysiau'n un o'r ffyrdd o ddarparu ymbarél ar gyfer atebion i alluogi hynny i ddigwydd.
Mae Mick Antoniw yn hollol iawn. Yr hyn y bydd y Bil bysiau'n ein galluogi i wneud yw sicrhau bod gwasanaethau rheolaidd wedi'u halinio'n agosach â symudiadau o'r cartref i'r ysgol, fel y bydd pobl ifanc yn gallu defnyddio gwasanaethau mwy rheolaidd. Mae'r dirwedd y gweithredwn ynddi ar hyn o bryd yn rhy gymhleth. Nid oes gennym ddigon o reolaeth, ac o ganlyniad i hynny, mae costau i gynghorau mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr yn cynyddu. Mae'n ffaith syfrdanol y byddwn yn gwario £204 miliwn drwy ein hawdurdodau lleol ar drafnidiaeth ysgol yn y flwyddyn ariannol hon, a hynny o grant cynnal refeniw o tua £6 biliwn. Felly, mae'n gost anhygoel, ac mae'n cynyddu, ac mae hynny'n aml yn golygu na ellir buddsoddi cymaint o arian mewn addysg. Bydd y Bil bysiau'n elfen bwysig a fydd yn ein helpu i ddatrys y broblem hon.
Mae hwn yn amlwg yn fater byw iawn. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried y Bil bysiau. Rydych chi'n cyfuno mater y tocynnau £1 gyda thrafnidiaeth ysgol nawr. Yn amlwg iawn, yn y gyllideb a gyflwynoch chi i ni, nid oedd teithio gan ddysgwyr yn rhan o hynny. I deuluoedd yn fy rhanbarth i, efallai ei fod yn swnio'n rhesymol iawn, £1 y daith, ond rydym yn gwneud i blant dalu i fynd i'r ysgol. Mae addysg i fod yn rhad ac am ddim yn y wlad hon, ac mae rhieni'n gorfod dewis a ydynt yn gallu anfon eu plentyn i'r ysgol bob dydd ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fwy nag un plentyn, o ble y daw'r arian ychwanegol hwn, lle roedd cludiant ysgol yn rhad ac am ddim o'r blaen?
Rhaid inni ddod o hyd i ateb. Y Bil bysiau yw'r cyfle perffaith. A wnewch chi ailystyried ac a wnewch chi sicrhau bod cynghorau'n defnyddio elfen ddewisol y canllawiau? Oherwydd maent yn cadw at y rheol 3 milltir heb edrych ar y plentyn, ar yr unigolyn. Rydym yn gorfod treulio cymaint o amser yn apelio ar ran y plant nad yw trafnidiaeth ysgol yn hygyrch iddynt a chael y penderfyniadau hynny wedi'u gwyrdroi'n llwyddiannus fel bod trafnidiaeth yn hygyrch iddynt. Rhaid inni gofio bod lefel uchel o'r gost honno ar dacsis, nid ar fysiau. Mae angen inni ddod o hyd i atebion fel bod mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ond yn sicr, mae cael Bil bysiau nad yw'n mynd i'r afael â hyn yn gam â'r rhai nad yw addysg yn hygyrch iddynt am fod cost yn rhwystr ar hyn o bryd.
Mae mater teithio gan dysgwyr oddi allan i gwmpas y Bil, ond bydd y Bil yn cyfrannu, fel y dywedais dro ar ôl tro, at ddatrys yr her hon. Bydd yn cyfrannu drwy gael mwy o reolaeth ar y rhwydwaith bysiau yn nwylo Gweinidogion, a byddwn yn gallu datblygu'r rhwydwaith a'r amserlenni i sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael i bobl ifanc. Mae'r cynllun tocynnau £1 wedi gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd: bydd 230,000 o bobl ifanc yn cael mynediad at y cynllun penodol hwnnw ym mis Tachwedd. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth nid yn unig i'r bobl ifanc hynny, ond i'w rhieni a'u brodyr a chwiorydd hefyd. Ac rwy'n cytuno y gall £1, os oes gennych lawer iawn o blant, fod yn ystyriaeth fawr o ran gwariant, ond mae'n llawer llai costus na'r hyn y mae pobl wedi arfer ei dalu tan yn ddiweddar. Os ydych chi'n poeni am wasanaethau bws i bobl ifanc a'u fforddiadwyedd, dathlwch y ffaith ein bod wedi cyflwyno cap o £1 ar bris tocynnau i bobl ifanc ledled Cymru. Cefnogwch hynny.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar brosiectau ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63097
Ym Mhreseli Sir Benfro, byddwn yn cyflawni prosiectau drwy ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym yn cefnogi arweinyddiaeth leol trwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gan alluogi cymunedau i lunio blaenoriaethau sy'n adlewyrchu eu hanghenion.
Ysgrifennydd y Cabinet, un prosiect ffordd yn fy etholaeth sy'n parhau i fod yn destun dadl yw Niwgwl. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn cefnogi'r grŵp ymgyrchu lleol Sefyll dros Niwgwl (STUN), sydd wedi datblygu cynllun amgen ar gyfer y gymuned sy'n sylweddol ratach na chynllun adlinio ffyrdd yr awdurdod lleol gwerth £40 miliwn a mwy. Mae hefyd yn fwy sensitif i'r amgylchedd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i Gyngor Sir Penfro fwrw ymlaen â'i gynlluniau pan fydd opsiwn mwy fforddiadwy ac amgylcheddol sensitif ar gael iddynt. Felly, o ystyried y bydd yr awdurdod lleol yn troi at Lywodraeth Cymru am gyllid, a allwch chi gadarnhau na fyddwch yn darparu unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdod lleol ar gyfer eu cynllun hyd nes y rhoddir ystyriaeth briodol i'r cynllun amgen a arweinir gan y gymuned? Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn aml y byddwch chi'n cael Aelodau'n gofyn i chi beidio ag ariannu prosiect, felly rwy'n gobeithio y caf ymateb ffafriol.
Diolch i Paul Davies am ei gwestiwn a'r cyfle i siarad am hyn ar nifer o achlysuron, ynghyd ag aelodau o'r grŵp ymgyrchu lleol STUN. Rwyf i wedi cael trafodaethau gyda'r awdurdod lleol hefyd, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r dewis arall sydd wedi'i awgrymu gan aelodau o'r gymuned, ac yn wir, gan Paul Davies ei hun. Rydym wedi gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ystyried yn briodol.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn debygol y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei ystyried ac y bydd angen un ar gyfer y cynllun penodol, a fyddai, yn ei dro, yn denu lefelau pellach o graffu, nid yn unig ar y cynllun a gaiff ei gynnig yn y pen draw ond ar yr holl ddewisiadau amgen. Cafwyd nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus ac ymgynghoriad cyn gwneud cais cynllunio hefyd.
Gallaf gadarnhau mai rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r prosiect hwn yw ariannu'r gwaith hyd yma i ystyried yr atebion hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y flwyddyn ariannol hon, ond dim ond at y pwynt pan fydd rhaid gwneud penderfyniad ar ariannu adeiladu'r ateb a ffafrir. Bydd yn symud wedyn at y cyd-bwyllgor corfforedig i'w benderfynu, gan fod hon yn ffordd leol, a bydd yn rhan o flaenoriaethau'r cyd-bwyllgor corfforedig ochr yn ochr â phrosiectau pwysig eraill y bydd yn cystadlu yn eu herbyn yn y rhanbarth.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant bysiau i ganfod prif achosion tagfeydd? OQ63123
Rydym yn cydnabod bod tagfeydd traffig yn effeithio ar ddibynadwyedd gwasanaethau bysiau, ac rydym wedi sicrhau bod cyllid grant cyfalaf ar gael i awdurdodau lleol dros nifer o flynyddoedd i gyflwyno mwy o gynlluniau blaenoriaeth bysiau. Wrth baratoi ar gyfer masnachfreinio bysiau, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru nodi lleoliadau â blaenoriaeth ar gyfer cyllid.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gallwn ddeall bod dibynadwyedd yn allweddol i berswadio teithwyr i ddychwelyd at ddefnyddio bysiau ar gyfer teithiau rhagweladwy i'r ysgol a'r gwaith. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r mannau cyfyng mwyaf aflonyddgar ar y rhwydwaith? A allwn ni gyflymu unrhyw weithredu fel ein bod yn achub y blaen ar bethau wrth aros am fanteision hirdymor y Bil bysiau?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno'n llwyr. Dibynadwyedd yw'r prif ffactor sy'n ysgogi pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n ystyriaeth bwysicach na phrisiau tocynnau hyd yn oed. Mae cadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru, Vernon Everitt, yn fy atgoffa'n rheolaidd mai amcan Trafnidiaeth Cymru yw sicrhau bod gennym drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, rheolaidd a diogel.
Rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith rhagorol ar ddefnyddio data manwl ar amseroedd teithio bysiau i fodelu a nodi'n gywir unrhyw leoliadau allweddol sy'n dueddol o weld tagfeydd traffig trwm ac sydd angen buddsoddiad cyfalaf. Bydd y gwaith hwnnw yn ei dro yn llywio penderfyniadau ynglŷn â ble i flaenoriaethu buddsoddiad ar gyfer datrys tagfeydd i fysiau. Felly, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod. Rwy'n gwybod bod gan yr Aelod ddiddordeb mawr yn y maes gwaith hwn, felly byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am y cynlluniau wrth iddynt ddod i'r amlwg.
Wrth gwrs, prif achos tagfeydd yn fy etholaeth i lwybrau bysiau yw cyflwyno'r terfyn diofyn o 20 mya yn Nyffryn Clwyd. Yn sir Ddinbych, dim ond 0.6 y cant o'r ffyrdd sydd wedi'u heithrio o'r rheol. Cafodd llawer o safleoedd bysiau eu datgomisiynu gan fysiau Arriva ar hyd llwybr 51, yn cynnwys Tweedmill, a fuddsoddodd filiynau gwta 15 mlynedd yn ôl wrth dynnu'r safle bws oddi ar lwybr yr A525, a hefyd Llandegla, a gafodd ei dynnu oddi ar y llwybr i wneud iawn am yr amser a gollwyd o ganlyniad i'r cynllun 20 mya. A wnewch chi dderbyn bod hynny'n rhan o'r rheswm dros dagfeydd bysiau yn fy etholaeth? A wnewch chi ymrwymo i edrych ymhellach ar hyn i weld sut y gallwn leddfu'r broblem o fewn y gymuned fel bod modd i bobl sy'n mynd o'r Rhyl i Ddinbych ac yn ôl deithio'n fwy hwylus i sicrhau nad yw'r rheol 20 mya yn effeithio ar amserlenni bysiau?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i sicrhau ein bod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn? Rydym yn cyfarfod â gweithredwyr bysiau, gyda Trafnidiaeth Cymru, i ddeall unrhyw effeithiau andwyol yn sgil mesurau polisi ar wasanaethau bysiau. Pan gyfarfu'r Aelod a minnau ag arweinwyr awdurdod lleol sir Ddinbych i drafod y mater, fe wnaethant ein sicrhau eu bod yn ystyried y data a oedd ar gael gan weithredwyr bysiau. Byddwn yn gallu darparu sicrwydd drwy werthusiad cwbl annibynnol sy'n cael ei gomisiynu o'r cynllun. Bydd yn edrych ar bob agwedd ar y polisi, sut y caiff ei weithredu, sut y mae'n cyflawni a'r manteision a wireddir ohono. Ond yn y pen draw, os edrychwn ar y cynllun penodol hwnnw, efallai ei fod wedi achosi peth aflonyddwch, ond mae hefyd wedi arwain at oddeutu 800 o fywydau nad effeithiwyd yn andwyol arnynt, fel y byddem wedi'i weld pe bai'r anafiadau hynny wedi digwydd.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63114
Mae 'Llwybr Newydd' yn nodi ein gweledigaeth i wella trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro drwy'r prosiectau a nodir yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym hefyd yn grymuso arweinwyr lleol trwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol i lunio blaenoriaethau trafnidiaeth sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i ofyn i chi drosglwyddo fy niolch a diolch Cyngor Cymuned Eglwys Gymyn i'ch swyddogion, y cyfarfuom â nhw dros doriad yr haf i drafod y gyffordd yn Rhos-goch ar yr A477? Mae buddsoddiad yn dod i geisio gwneud y gyffordd honno'n fwy diogel, ond mae'n rhan o gynllun ehangach y bûm yn ei arwain yn lleol i wella diogelwch ar yr A477 gyfan o Ddoc Penfro i Sanclêr. Rydym wedi gweld y buddsoddiad yng nghyffordd Mynegbost Nash, sydd wedi cael ei groesawu'n fawr gan y gymuned leol, ond mae goryrru yn Milton yn parhau i fod yn broblem, fel y mae'r gyffordd sy'n mynd i Cosheston—pentref bach gydag ysgol wych. Felly, mae angen adolygiad trylwyr o ddiogelwch yr A477, fel rwyf bob amser wedi galw amdano. Dyna y gelwais amdano. A wnewch chi ymrwymo i hynny?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig? Byddaf yn sicr yn trosglwyddo ei ddiolch i fy swyddogion. Mae swyddogion wedi cadarnhau bod arolwg cyflymder yn Milton ar yr A477 wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a chafodd cyllid ei sicrhau er mwyn iddo ddigwydd. Ar ôl cwblhau'r arolwg hwnnw, fe gaiff ei ddefnyddio i asesu'r safle, a byddwn yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a GoSafe ar gamau gorfodi posib yn yr ardal. Rwyf wedi dweud ar achlysuron blaenorol ein bod yn cynnal astudiaeth ar wydnwch y rhwydwaith cefnffyrdd, a bydd hynny'n cynnwys materion fel gwrthdrawiadau ffyrdd a dibynadwyedd llwybrau mewn tywydd garw. Felly, bydd yn cwmpasu pob math o bethau. Bydd yn dechrau gyda'r M4 a'r A55, ond wedyn fe fydd yn archwilio cefnffyrdd eraill ledled Cymru.
7. Beth yw gwerthusiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y polisi terfyn cyflymder diofyn o 20 mya? OQ63130
Nod y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yw achub bywydau a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel. Mae tystiolaeth gynnar yn dangos bod nifer y gwrthdrawiadau wedi gostwng. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol i ddarparu canfyddiadau diduedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar sut y mae'r polisi'n cael ei gyflawni, ei effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd, gwerth y polisi penodol a'i fanteision ehangach.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliais gynhadledd diogelwch ar y ffyrdd yn y Senedd, gyda Dr Julian Smith, cyn gwyliau'r haf. Lladdwyd merch Dr Smith mewn gwrthdrawiad traffig, ac ers hynny mae wedi creu elusen i ymgyrchu dros well diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru a thu hwnt. Yn ystod y gynhadledd honno, cawsom dystiolaeth gref iawn o fudd y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, fel y nodoch chi eisoes y prynhawn yma, yn atal marwolaethau, damweiniau a gwrthdrawiadau.
Rwyf hefyd wedi clywed llawer o deuluoedd a phlant yn dweud wrthyf eu bod bellach yn teimlo'n fwy diogel wrth gerdded i'r ysgol oherwydd y polisi 20 mya diofyn, ac yn wir, rwy'n credu bod bywyd cymunedol yn gyffredinol yn cael ei annog drwy'r cymdogaethau tawelach a mwy cyfeillgar hynny. Felly, yng ngoleuni'r dystiolaeth glir o fanteision y polisi, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r polisi blaenllaw hwn a chytuno â mi fod gwrthwynebiad y Torïaid Cymreig i'r polisi hwn yn gwbl anghyfrifol, yn gwbl groes i'r dystiolaeth glir ei fod yn achub bywydau, yn atal anafiadau ac yn arwain at lai o wrthdrawiadau?
John Griffiths, nid wyf yn siŵr fod y Torïaid bob amser yn gwrthwynebu'r polisi, oherwydd ar adegau, maent wedi pleidleisio drosto. Felly, nid wyf yn glir o hyd ble maent yn sefyll ar hyn mewn gwirionedd. Fe wyddom ble mae Reform yn sefyll, ond mae'n wythnos Cwpan Ryder yr wythnos hon, a chan nad yw Rwsia'n cystadlu, rwy'n tybio y bydd Reform yn cefnogi'r Unol Daleithiau yn hytrach nag Ewrop, o gofio cyn lleied y maent yn malio am ein cyfandir, ein gwlad a'n cymunedau.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig gyda'r polisi 20 mya yw ei fod yn ymwneud â mwy na gwneud pobl yn fwy diogel, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn teimlo'n fwy diogel yn eu cymuned, ac o'm rhan i, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned rwy'n byw ynddi. Ond bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal. Mae'r gwerthusiad annibynnol hwnnw wedi'i gomisiynu. Fe fydd yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe fydd yn gwbl ddiduedd. Fe fydd yn cwmpasu'r modd y cyflawnir y polisïau, yr effeithiau ar ddiogelwch ar y ffyrdd, gwerth am arian, effeithiau economaidd, manteision ehangach i iechyd a chymunedau. Bydd ganddo hefyd fwrdd llywio, sy'n annibynnol, i sicrhau bod y gwerthusiad yn cael ei gyflawni'n llawn ac yn briodol. Rwy'n rhoi ystyriaeth i aelodaeth y bwrdd llywio hwnnw. Hoffwn i bobl neu sefydliadau a fu'n gwrthwynebu'r terfyn 20 mya yn y gorffennol gael rôl ar y bwrdd llywio hwnnw, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hanfodol ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn y pen draw, fod gan bobl hyder yn ei ganfyddiadau. Mae'n mynd i fod yn waith pwysig a chynhwysol iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyn imi ddechrau gyda fy nghwestiwn, hoffwn ddweud a chofnodi—fel y gwyddoch, roeddwn yn Ysgrifennydd y Cabinet yr wrthblaid dros drafnidiaeth yn y gorffennol—nad wyf i na neb o fy holl gyd-Aelodau Ceidwadol, erioed wedi cefnogi'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya sydd wedi bod ar waith. Yr wythnos diwethaf roedd hi'n ddwy flynedd ers i bolisi terfyn cyflymder 20 mya dadleuol Llywodraeth Cymru gael ei gyflwyno ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cofio ei fod wedi wynebu gwrthwynebiad cyhoeddus ac wedi sbarduno protestiadau dirifedi a deiseb Senedd fwy na'r un erioed o'r blaen a ddenodd bron i 500,000 o lofnodion o blaid ei ddiddymu. Yn fy marn i, mae rhan o'r gwrthwynebiad yn deillio o'r ffaith ei fod wedi costio £33 miliwn i'w weithredu ar adeg pan fo ein gwasanaeth iechyd ar ei liniau ac yn crefu am fuddsoddiad pellach, ac wrth gwrs, y diffyg o £9 biliwn y mae'n mynd i'w greu i'n heconomi yma yng Nghymru.
Dros yr haf, bûm allan yn siarad â gwahanol drigolion ar garreg y drws ac yn cynnal arolygon amrywiol yn fy rhanbarth, gan ganolbwyntio ar 20 mya, ac mae'r dyfarniad yn amlwg. Er bod y cyn-Weinidog trafnidiaeth yn datgan y byddai pobl yn 'dod i arfer ag ef', nid ydynt wedi gwneud hynny, ac mae'r lefelau o ddicter a rhwystredigaeth yn dal i fod yno. I fod yn deg, Ysgrifennydd y Cabinet, nid chi'n unig sydd ar fai am y polisi gwarthus hwn. Rwy'n mynd i orfod rhoi clod i Blaid Cymru a Llafur, a'ch helpodd i wthio hyn drwodd. Ysgrifennydd y Cabinet, tra bo rhai awdurdodau lleol yn camu'n ôl ac yn ymbellhau oddi wrth bolisi eich Llywodraeth, nid yw'n ddigon o hyd, yn anffodus. Felly, a wnewch chi wneud y peth iawn a diddymu'r polisi niweidiol hwn yn llawn o leoedd lle nad oes ei angen? Neu a yw'n wir mai'r unig ffordd i gael gwared ar y polisi 20 mya yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Mai 2026?
A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiwn? Dywedais fy mod yn rhagdybio bod y Torïaid wedi ei gefnogi ar rai pwyntiau oherwydd y lluniau a oedd i'w gweld mor aml ar-lein—
Nid fi. Ni welwch unrhyw lun gyda mi ynddo.
—yn mynegi '20's plenty'. Wel, fel y dywedodd Ronald Reagan unwaith, os oes rhaid i chi esbonio, rydych chi wedi colli.
Yn ddiweddar, roeddwn ym Mwlch-gwyn yn fy nghymuned—ddydd Gwener diwethaf, mewn gwirionedd—gyda'r heddlu ac aelodau etholedig, cynghorwyr lleol. Roeddem yno'n trafod marwolaeth dau feiciwr modur yn y gymuned, mewn damweiniau erchyll, ac amlinellodd prif swyddog yr heddlu sut y mae ei swydd yn ymdrin ag anafiadau, yn ymdrin â marwolaethau, wedi cael ei gwella rywfaint o ran y trawma o ganlyniad i 20 mya. Ond wrth gwrs mae'n dal i fod gormod o bobl yn marw ar ein ffyrdd, a bydd llawer o waith yn digwydd ar ddatblygiadau technolegol a fydd yn cynyddu diogelwch ac yn lleihau nifer y rhai a anafir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fod yr arswyd a ddioddefir gan bobl pan fydd colled yn digwydd yn llawer gwaeth na'r rhwystredigaeth i bobl wrth orfod gyrru ychydig bach yn arafach.
Wedi dweud hynny, wrth gwrs—wrth gwrs—mae yna achosion lle nad yw 20 mya yn briodol, ac rwy'n canmol cyngor Wrecsam, er enghraifft, lle maent yn mynd drwy broses o newidiadau synhwyrol a diogel ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu ac yn gobeithio ein bod yn cyrraedd pwynt lle mae gennym gonsensws cyffredinol fod 20 mya yn y cymunedau cywir ac yn yr ardaloedd cywir. Lle nad yw, mae newidiadau'n cael eu gwneud, ac rydym yn gweld gwaith go sylweddol yn digwydd, er enghraifft mewn ardaloedd lle roedd y gyfradd eithrio gychwynnol yn isel iawn. Ond i fod yn onest, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn tynnu hyn allan o'r rhyfeloedd diwylliant, a gallu cael dadl ar y dystiolaeth, a dyna beth y gallwn ei wneud o ganlyniad i'r grŵp annibynnol diduedd a ddaw at ei gilydd i astudio a phrofi'r dystiolaeth.
Yn olaf, cwestiwn 8, Delyth Jewell.
8. Sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau na fydd gwasanaethau cludiant i ysgolion yn cael eu torri? OQ63106
Y flwyddyn ariannol hon, bydd awdurdodau lleol yn derbyn dros £6 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, sy'n cynnwys cludiant i ysgolion. Mae gan gynghorau rwymedigaethau statudol i ddarparu cludiant i ysgolion, a'r disgresiwn i gynnig gwell darpariaeth os dymunant. Fel y dywedais, y flwyddyn hon mae cost cludiant i ysgolion i gynghorau a'r trethdalwr ar hyn o bryd yn fwy na £204 miliwn.
Diolch am hynny. Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth inni ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd, mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu cludiant o'r cartref i'r ysgol. Mae disgyblion sy'n byw ym Merthyr Tudful ac sy'n astudio yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu heffeithio gan newidiadau i drafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, a dim ond yn ddiweddar y cafodd cyngor Caerffili wared ar eu newidiadau arfaethedig. Nawr, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i blant ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu ymhellach mewn pellter cerdded o'u hysgol berthnasol, ac i blant ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'u hysgol berthnasol, ond nid oes unrhyw ddyletswydd i sicrhau bod y pellter cerdded hwnnw'n ddiogel. Yn yr un modd, nid yw'r rheolau'n ystyried y pellteroedd teithio hirach y byddai angen i rai plant eu teithio i'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, er enghraifft. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ai eich nod chi yw helpu i sicrhau na fydd gwasanaethau cludiant i ysgolion presennol yn cael eu torri, ac y dylai pob plentyn gael ffordd ddiogel a fforddiadwy o gyrraedd eu hysgol? Nawr, rwy'n derbyn bod hyn eisoes wedi codi y prynhawn yma. Mae hwn yn fater anodd, ond bydd croeso i unrhyw obaith y gallwch ei roi i unrhyw bobl ifanc neu eu rhieni sy'n gwylio.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei diddordeb brwd yn y pwnc penodol hwn? Mae mapiau integredig teithio llesol yn chwarae rhan o rôl i sicrhau bod symud diogel rhwng y cartref a'r ysgol. Hefyd, mae llwybrau mwy diogel i ysgolion eu hunain yn chwarae rhan enfawr yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg yn ddiogel. Fel y dywedais ar sawl achlysur y prynhawn yma, nid oes un ateb syml i her trafnidiaeth ysgol gyda chostau cynyddol. Mae symud y trothwy pellter yn symud y broblem, nid yw'n ei datrys. Pe baem yn lleihau'r trothwy yn sylweddol, pe bai'r arian ar gael i roi mwy o wasanaethau i fwy o bobl ifanc, byddai angen i chi ddod o hyd i yrwyr ychwanegol, bysiau ychwanegol, cilfannau bysiau ychwanegol. Felly, trwy ymyriadau fel diwygio bysiau y mae datrys y broblem benodol hon mewn gwirionedd, ond fe fydd yna uwchgynhadledd arall. Bydd cyfle ychwanegol i Aelodau fynychu i drafod a dadlau pa atebion posib y gallai nid yn unig y Llywodraeth hon, ond Llywodraethau'r dyfodol eu cyflwyno. Ac fe fyddaf yn sicrhau bod Aelodau'r wrthblaid yn cael eu gwahodd, fel y tro diwethaf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru? OQ63133

Diolch yn fawr, Peredur Owen Griffiths. Mae ein rhaglen cydlyniant cymunedol yn ariannu timau rhanbarthol dwyrain Gwent a gorllewin Gwent i adeiladu a denu partneriaethau effeithiol sy'n hyrwyddo cydlyniant ac yn lliniaru tensiynau yn Nwyrain De Cymru. Yn ddiweddar, fe wneuthum ymestyn y cyllid er mwyn i'r rhaglen allu parhau ein dull hirdymor o weithredu er mwyn cefnogi cymunedau mwy cydlynus.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Weinidog, roeddem ein dau'n bresennol mewn digwyddiad anhygoel yr wythnos diwethaf a gynhaliwyd gan yr Wcreiniaid Cymreig sydd wedi dod i'n gwlad i ffoi rhag gwrthdaro yn eu mamwlad. Cynhaliwyd y digwyddiad ym mhencadlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i nodi agoriad arddangosfa gelf, ac roedd hefyd yn ffordd o ddiolch i bobl Cymru am agor eu breichiau a'u calonnau i bobl sydd angen tosturi a chymorth. Fel y dywedodd un o'r Wcreiniaid Cymreig yn ystod y digwyddiad, nid gwendid yw cynnig noddfa, mae'n un o gryfderau mwyaf Cymru.
Pan fydd rhai gwleidyddion yn ymosod ar y genedl noddfa, maent yn ymosod ar y gefnogaeth a roddir i ffoaduriaid Wcráin, oherwydd dyma lle mae'r mwyafrif helaeth o'r arian wedi mynd—tua 83 y cant, mewn gwirionedd. Ar ôl siarad â llawer o Wcreiniaid yn y digwyddiad a fynychwyd gennym, rwy'n gwybod eu bod yn flin ac yn siomedig ynghylch y sylwadau a wneir gan rai yn y Senedd hon. A wnewch chi ymuno â mi i gydnabod y ffyrdd y mae ein diwylliant a'n cymunedau wedi cael eu cyfoethogi gan bobl Wcráin a ffoaduriaid eraill sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt? A wnewch chi hefyd gondemnio lledaeniad gwenwynig yr anwireddau a ddywedir gan rai gwleidyddion i hyrwyddo eu gyrfaoedd eu hunain?
Diolch am y cwestiwn atodol, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi a chyd-Aelodau o'r Siambr hon yn y gymuned Wcreinaidd yng Nghaerffili—dyna beth roeddent yn ei galw, y gymuned Wcreinaidd yng Nghaerffili—a gallem ddweud hynny ym mhob etholaeth ledled Cymru; mae gennym gymuned Wcreinaidd yn ein holl gymunedau. Ac yn wir, fe wnaethant fynd i'r afael â hyn fel dathliad o ddiolchgarwch cymunedol Wcreinaidd, diolchgarwch i bobl Cymru am—. Ac yn wir, cawsom arddangosfa wych, canu a dod ynghyd, ac roedd yn rhywbeth a oedd yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth ein cenedl noddfa.
Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ar gyfer Cymru fel cenedl noddfa. Rydym yn ceisio sicrhau bod pawb sy'n dod i Gymru yn gallu cyfrannu'n llawn at fywyd cymunedol Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i'r weledigaeth hon, wedi ymrwymo i harneisio'r cyfleoedd y mae mudo yn eu cynnig i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu. Ac os caf atgoffa'r Senedd fod Cymru wedi croesawu tua 8,000 o Wcreiniaid i'n gwlad ers y goresgyniad llawn ym mis Chwefror 2022. Mae hyn yn cynnwys dros 3,300 o dan ein llwybr uwch-noddwyr, a dros 4,600 i noddwyr aelwydydd Cartrefi i Wcráin. Felly, ar draws ein cymuned, ledled Cymru, rydym yn cefnogi, ac rydym wedi bod—mae ein haelwydydd, ein pobl, wedi bod—yn croesawu ac yn cefnogi Wcreiniaid. Felly, rwy'n gresynu'n fawr iawn at y datganiadau a wnaed, dros y ddau ddiwrnod diwethaf yn wir, y ffaith bod un blaid amlwg yn y Siambr hon—dwy blaid yn y Siambr hon—wedi dweud nad ydynt yn cefnogi'r genedl noddfa, cenedl noddfa, sydd—. Fel y dywedwch, dros chwe blynedd, mae 83 y cant o'r cyllid sydd wedi mynd i'r genedl noddfa wedi bod yno i groesawu Wcreiniaid ac i sicrhau bod gennym y cydlyniant gwych a welwn a'r diolchgarwch a welsom pan wnaethom gyfarfod ag Wcreiniaid yng Nghaerffili yr wythnos diwethaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn gallu gweld y bwriad y tu ôl iddi, ac rwy'n derbyn ei bod wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau dros y 24 awr ddiwethaf, ni allwn wadu bod menter cenedl noddfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gynhennus iawn, a byddai rhai'n dadlau nad yw'n gwneud fawr iawn i gydlyniant cymunedol. [Torri ar draws.] Arhoswch funud.
Mae'r cynllun cenedl noddfa yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ffoaduriaid yn gallu dod o hyd i lety newydd o ansawdd da; cefnogi ffoaduriaid i gael mynediad at gyflogaeth neu sefydlu eu busnes eu hunain; helpu'r rhai sy'n chwilio am noddfa i osgoi tlodi; eu helpu i gael dechrau iach mewn bywyd; lleihau cyflyrau iechyd meddwl a brofir gan geiswyr noddfa; darparu addysg dda; a darparu mynediad cyfartal at y rhyngrwyd.
Mae rhai o'r pethau rwyf newydd eu rhestru yn llawer o'r pethau y mae pobl ledled Cymru yn breuddwydio amdanynt. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi weld pam y mae'r cynllun hwn wedi helpu i sbarduno rhaniadau cymunedol? Er na fydd gennyf i, na fy nghyd-Aelodau, unrhyw wrthwynebiad i ddarparu cymorth i ffoaduriaid Wcráin, a ydych chi'n derbyn ei fod yn gweithredu fel ffactor tynnu i'r rheini nad ydynt yn ffoaduriaid go iawn? Diolch.
Wel, rwy'n gwrthod yr holl bwyntiau hynny. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi croesawu ffoaduriaid Wcráin. [Torri ar draws.] Ie, wel pam nad ydych yn croesawu'r genedl noddfa? Mae 82 y cant o'r bobl sydd wedi dod i Gymru wedi dod o dan gynllun croeso Wcráin. Ar y gwaith a wnaethom gyda'r Wcreiniaid, mae ein Wcreiniaid nawr yn cyfrannu at ein heconomi, maent yn gweithio, maent yn ein hysgolion, maent yn dod â'u holl sgiliau? Yn wir, dyna yw hanes Cymru wedi bod fel gwlad groesawgar, a gwlad sy'n ymfalchïo mewn tegwch a thosturi. A yw hynny'n cael ei rannu ar yr ochr honno i'r Siambr?
Ein gweledigaeth i Gymru yw cenedl noddfa, ac mae'n ymwneud yn syml â chefnogi'r rhai sy'n cyrraedd i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu'n llawn at fywyd Cymru? Nid ydym yn gyfrifol am benderfyniadau ynghylch faint o bobl sy'n dod i Gymru, ond ein nod yw harneisio'r sgiliau pan fydd pobl yn dod, i gefnogi ein cymunedau a'r economi. Ein nod yw cefnogi cyfran gymesur o'r ceiswyr noddfa i'r DU, tua 5 y cant. Mae hynny'n gyfran gymesur. Eich Llywodraeth flaenorol—rydym bob amser wedi derbyn gyda'n gilydd, yn rhynglywodraethol, fod honno'n gyfran gymesur. Felly, nid yw ein polisi yn ymwneud â faint o bobl sy'n dod i Gymru—penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU—mae'r genedl noddfa'n ymwneud â rhoi'r cyfle gorau i unrhyw un sy'n cyrraedd integreiddio'n llwyddiannus a bod o fudd i'r cymunedau sy'n eu croesawu.
Yn eich rhanbarth chi, mae gan Gymru hanes mor hir o'r math hwn o beth. Ym 1937, cyrhaeddodd 56 o blant ifanc o Wlad y Basg Gasnewydd, gan ffoi o Sbaen o dan gyfundrefn Franco, a sylweddolodd y gymuned leol yn fuan y byddai angen adloniant ar y plant, felly ffurfiwyd Clwb Pêl-droed Bechgyn y Basg, ac mae hynny wedi'i anfarwoli gan Glwb Pêl-droed Casnewydd. Stori cenedl noddfa yw hon. Ar y rôl y gall pêl-droed ei chwarae, fe wnaeth clwb pêl-droed Llanilltud Fawr yn fy etholaeth i sefyll i fyny dros Wcreiniaid yn 2023 a dod â chymunedau at ei gilydd. Gan weithio gyda'i gilydd, dan arweiniad y clwb pêl-droed, dangosodd y gymuned leol wir ysbryd y dref.
A'r dwyllwybodaeth a'r gamwybodaeth sy'n ysgogi'r rhaniadau. Wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth lle mae'n rhaid inni ddysgu gwersi. Mae gennym ardal 'cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb i ddarparu adnoddau i bobl ifanc ddeall casineb ar-lein. Rydym wedi datblygu blog gwirio ffeithiau, 'Cofnod Cywir'. Darllenwch hwnnw, ac fe welwch y gwir, nid y gamwybodaeth neu'r dwyllwybodaeth, am ein cenedl noddfa.
2. Pa ofynion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar awdurdodau lleol ynghylch darparu a chydgysylltu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr? OQ63104
Diolch, Russell George. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu a diwallu anghenion llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n byw yn yr ardal neu'n pasio drwy'r ardal.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae sawl safle awdurdodedig i Sipsiwn a Theithwyr ym Mhowys. Rwy'n sylwi bod yna siroedd eraill ledled Cymru sydd ar hyn o bryd heb safleoedd awdurdodedig o gwbl. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn ystyried cynigion ar gyfer safle ychwanegol yng ngogledd Powys, yn ardal y Trallwng a'r cyffiniau. Mae sawl safle dan ystyriaeth. Nawr, mae Powys wedi nodi eu bod yn dilyn rhwymedigaethau statudol. Maent yn dweud nad oes dewis arall ond nodi'r safleoedd hyn yn yr ardal benodol hon. Mae cymunedau lleol yn pryderu, ac wedi mynegi pryder ynghylch y safleoedd a awgrymir, o ran eu haddasrwydd a'u priodoldeb hefyd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn unigryw, fel rwy'n ei ddeall, yn gosod rhwymedigaethau statudol ar awdurdodau lleol, yn wahanol i'r dulliau mwy hyblyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: a fyddech chi'n cytuno â mi y byddai dull mwy hyblyg yn well yng Nghymru, fel bod gan awdurdodau lleol fwy o allu i ystyried pryderon a sefyllfaoedd lleol, ac yn wir, i benderfynu drostynt eu hunain a ddylid adeiladu safle ai peidio, neu a ydych chi'n credu bod gan awdurdodau lleol y gallu hwnnw eisoes?
Wel, wrth gwrs, fel y dywedais, mae gennym ddyletswydd, gyda Deddf Tai (Cymru) 2014, a gefnogodd y Senedd hon, sy'n gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu a diwallu'r anghenion llety hynny. Mewn gwirionedd, mae holl awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, wedi cynhyrchu eu hasesiadau llety Sipsiwn, Teithwyr. Maent wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi hysbysu Powys. Yn amlwg, yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod yr asesiad yn cael ei gynnal gyda'r rhai sydd angen y llety hwnnw—ein pobl Sipsiwn, Roma, Teithwyr—a bod ymgysylltiad llawn â'r rhai sydd angen y llety hwnnw, ond hefyd gydag aelodau etholedig, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen yn gadarnhaol, fel y gwelsom mewn llawer o achosion, ym Mhowys a rhannau eraill o Gymru.
Felly, rwy'n ymwybodol fod Powys yn paratoi cynllun datblygu lleol newydd, a fydd yn llywio—. Mae'n ymwneud â llywio penderfyniadau cynllunio a thwf ym Mhowys. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Powys yn bwriadu adeiladu safle newydd i Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Powys hefyd wedi mynychu cyfarfod rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a gynhaliwyd yng nghanolbarth Cymru ym mis Chwefror. Felly, mae'n bwysig iawn fod lleisiau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ganolbarth Cymru yn rhannu eu profiadau bywyd a'u hanghenion, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr, a dweud hefyd, wrth gwrs, fod Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi profi ac yn dal i brofi hiliaeth a gwahaniaethu a rhagfarn. Dyna pam y mae angen dyletswydd statudol, fel sydd gennym yn ein deddfwriaeth yma yng Nghymru, i ddiwallu eu hanghenion llety.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Age Cymru newydd ryddhau eu hadroddiad ymchwil diweddaraf ar yr hyn sy'n bwysig i bobl hŷn yng Nghymru. Mae eu canfyddiadau'n eithaf syfrdanol. Er bod y mwyafrif o brif bryderon pobl dros 50 oed yn ymwneud ag iechyd a mynediad at ofal iechyd, mae materion eraill yn perthyn i'ch portffolio chi'n unig. Costau byw yw'r pryder mwyaf nesaf sy'n wynebu pobl hŷn. Roedd 46 y cant yn teimlo bod costau byw yn her yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda llawer yn dewis defnyddio llai o ynni, a dros draean yn dewis gwario llai ar fwyd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi ymhlith poblogaeth hŷn Cymru?
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg, mae hyn yn —. Ac yn wir, mae ein strategaeth pobl hŷn a'r cymorth yr ydym wedi'i roi i'n comisiynydd pobl hŷn, i'r fforymau dros 50 yn ein holl awdurdodau lleol, yn hanfodol i ni allu dysgu sut y gallwn ddiwallu anghenion pobl hŷn yng Nghymru. Ac mae hyn yn rhywbeth lle—. Heddiw ddiwethaf, yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, roeddem yn siarad ynglŷn â sut y gallwn wneud yn siŵr fod pawb, a phobl hŷn yn arbennig, yn gallu manteisio ar yr holl hawliau sydd ganddynt, sut y gallant hefyd gael mynediad, er enghraifft, at ein cronfa cymorth dewisol ar gyfer treuliau aelwydydd ac argyfyngau ariannol annisgwyl, a chydnabod hefyd, yn ystod misoedd y gaeaf, sy'n ein hwynebu wrth gwrs, y gall hynny fod yn bwysig o ran mynediad at gyllid ar gyfer ceisiadau olew a nwy oddi ar y grid.
Ond rwy'n falch hefyd o nodi, o ganlyniad i benderfyniadau gan Lywodraeth y DU, penderfyniadau a gymeradwyaf ac a gefnogaf, y bydd llawer mwy o bobl yn gallu sicrhau taliad tanwydd y gaeaf—ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig iawn ymlaen—a gostyngiad cartrefi clyd hefyd, ac elwa o'r cyllid a roddwn tuag at ganolfannau clyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, bydd Rachel Reeves yn sedd y gyrrwr o ran mynd i'r afael â thlodi pensiynwyr ac mae eisoes wedi dweud yn glir y bydd pobl hŷn yn ysgwyddo pwysau toriadau lles. Mae un o bob pedwar o bobl hŷn yng Nghymru yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth yn ychwanegol at bensiwn y wladwriaeth. Canfu Age Cymru fod pobl hŷn sy'n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth yn fwy tebygol o adrodd am heriau eraill na'r rhai nad ydynt yn derbyn budd-daliadau, gan gynnwys eu hiechyd corfforol, costau byw, iechyd meddwl ac emosiynol a phroblemau gydag unigrwydd ac ynysigrwydd. Ac mae pobl hŷn yn dal i boeni am y penderfyniad i ofyn am brawf modd ar gyfer eu taliad tanwydd y gaeaf, hyd yn oed ar ôl y tro pedol rhannol a orfodwyd ar y Trysorlys gan wrthwynebiad oddi ar eu meinciau eu hunain. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cymheiriaid yn San Steffan ynglŷn â'r effaith y mae penderfyniadau'n ei chael ar bobl hŷn ledled Cymru, ac a fyddwch yn annog y Trysorlys i fynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn yng nghyllideb yr hydref?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Altaf, ac wrth gwrs, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, fel y nodais eisoes, y bydd pensiynwyr yng Nghymru a Lloegr gydag incwm blynyddol o £35,000 neu lai bellach yn gymwys i gael taliad tanwydd y gaeaf. Ac mae hynny'n golygu y bydd dros dri chwarter y pensiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn derbyn y taliad eleni; bydd 110,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn yr ad-daliad bil trydan o £150 am y tro cyntaf. Yn amlwg, mae'r rheini mewn perthynas â budd-daliadau prawf modd o ran y gostyngiad cartrefi clyd. Penderfyniadau Llywodraeth y DU yw'r rheini. Ac rwyf wedi sôn am y fenter canolfannau clyd, sy'n fenter Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi buddsoddi £4 miliwn yn y fenter canolfannau clyd ers 2022. Ac mae'r rhain yn lleoedd pwysig, ar agor yn y gymuned, lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, cyngor, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu ddim ond cael paned gynnes a chwmni.
Yn ddiweddar, ymwelais â chynllun cynhwysiant digidol dychmygus iawn mewn tai cymdeithasol yn sir Fynwy, lle gallwn weld nid yn unig canolfan glyd, ond ymgysylltiad a hyfforddiant a dysgu hefyd i bobl hŷn o ran cynhwysiant digidol, sy'n hanfodol ar gyfer cael mynediad at wasanaethau i bobl hŷn yn yr oes ddigidol hon.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac i ddod at gynhwysiant digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, oni bai bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â chwyddiant, sydd, yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn waeth nag unman arall yn y G7, bydd pob un ohonom yn dlotach. Mae pobl hŷn wedi dweud wrth Age Cymru fod mynediad at arian parod a bancio wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn her enfawr. Mae llythrennedd digidol ac allgáu digidol yn parhau i fod yn rhwystr i fancio i bobl hŷn. Dywedodd un ymatebydd i arolwg Age Cymru,
'Mynd i’r banc lleol a phawb yn dweud wrthyf am fynd ar-lein. Dim syniad sut!'
A hyd yn oed pe gallem chwifio ffon hud i roi mynediad ar unwaith i bobl hŷn at y rhyngrwyd, y dyfeisiau a'r sgiliau i'w defnyddio, nid yw bancio ar-lein bob amser yn addas. Siaradodd ymchwilwyr 'Beth sy'n bwysig i chi?' ag un unigolyn a ddywedodd,
'Nid yw fy llygaid yn dda, felly dydw i ddim yn hoffi bancio ar-lein. Nid yw fy nghlyw yn dda, felly nid wyf yn clywed popeth ar y ffôn. Mae angen cyfathrebu wyneb yn wyneb arnaf ar gyfer popeth.'
Nid yw hwn yn brofiad neilltuol, Ysgrifennydd y Cabinet. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad at fancio wyneb yn wyneb ac arian parod ledled Cymru?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu fy mod wedi achub y blaen arno braidd yn fy ateb i'ch ail gwestiwn, oherwydd roeddwn yn falch iawn o ymweld â'r cyfadeilad tai cymdeithasol gyda'r comisiynydd pobl hŷn i weld gwerth ein buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynhwysiant digidol i bobl hŷn. Rydych yn gwneud pwyntiau pwysig nid yn unig ar gynhwysiant digidol, ond hefyd y rhwystrau i bobl hŷn o ran mynediad at fanciau, arian parod a chyllid. Ddoe, mewn gwirionedd, fe gytunais ag un o'ch cyd-Aelodau y byddwn yn rhoi datganiad ar hyn mewn perthynas â'n gwaith gyda'r banciau mawr, ond hefyd y gwaith yr ydym yn ei ddatblygu ar fynediad at gyllid fforddiadwy drwy ein hundebau credyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddatgan fy mod i'n ymddiriedolwr banc bwyd ym Mhontardawe. Mae Trussell newydd gyhoeddi ymchwil 'Hunger in Wales', sy'n dangos bod yna arwyddion clir o galedi ar draws ein cymunedau a bod y sefyllfa yn gwaethygu. Roedd chwarter oedolion Cymru—660,000 o bobl—yn profi ansicrwydd bwyd yn 2024, un o bob pedwar o'n pobl yn poeni am ble y byddai eu pryd nesaf yn dod. Defnyddiodd 7 y cant o gartrefi o leiaf un math o ddarpariaeth bwyd elusennol y llynedd. Ac efallai mai'r ffigur mwyaf syfrdanol yw bod 81 y cant o'r bobl oedd yn cael eu cyfeirio at fanciau bwyd Trussell yng Nghymru yn anabl—pobl sydd eisoes yn wynebu rhwystrau a chostau byw uwch, y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Dewis gwleidyddol yw tlodi a phwysau ar bobl o'r fath. Ac eto, Llywydd, beth yw'r ymateb gwleidyddol? Mae budd-daliadau miloedd o bobl anabl yn dal i fod yn y fantol. Mae plant yn parhau i ddioddef o dan y cap budd-daliadau a'r cap dau blentyn. Felly, rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw eich ymateb i’r adroddiad hwn? A sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod banciau bwyd yn dod yn fesur dros dro yn hytrach na nodwedd barhaol o gymunedau Cymru?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Byddem yn sicr yn rhannu'r uchelgais honno na ddylai banciau bwyd fod fel y maent nawr yn lle hanfodol i gael mynediad at fwyd yn ein cymunedau i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Un o'r pwyntiau yr hoffwn ei wneud mewn ymateb i'ch cwestiwn yw fy mod yn credu ei bod mor bwysig ein bod gyda'n gilydd—Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru—wedi cynnig prydau ysgol am ddim i'n holl ddysgwyr cynradd. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi golygu bod bron i 174,500 o blant ysgol gynradd newydd ddod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae dros 52 miliwn o brydau ychwanegol wedi'u gweini ers y lansiad yn 2022. Nid wyf yn meddwl ein bod yn dweud hynny ddigon. Dylai gael ei gofnodi'n gliriach i ddangos beth y ceisiwn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant yn arbennig.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod hyn yn rhywbeth lle rydym, fel y gwyddoch, yn mynd i gynhyrchu adroddiad cynnydd ar ein strategaeth tlodi plant ar gyfer Cymru. Byddaf yn gallu gwneud hynny yn ddiweddarach eleni. Rydym wedi cael ymatebion arloesol iawn gan awdurdodau lleol, o'r trydydd sector, ar fynd i'r afael â thlodi plant gyda'r grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau. Ond rwy'n credu hefyd fod yn rhaid imi ei gwneud yn glir iawn eto ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi fel blaenoriaeth ddiamod, ond mae'n rhaid inni wneud hyn gyda'r holl bartneriaid sydd â chyfrifoldebau, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys Llywodraeth y DU. Yn gyson, rydym wedi codi'r effaith ar lefelau tlodi y gall polisïau nawdd cymdeithasol, fel y trothwy dau blentyn ar fudd-daliadau, ei chael. Ac rydym wedi galw'n gyson am y newid hwnnw i nawdd cymdeithasol ac yn ceisio ymrwymiad i roi diwedd ar y rheol dau blentyn ar gyfer budd-daliadau.
Diolch. Peth arall sydd wedi cael ei normaleiddio, wrth gwrs, yw tlodi tanwydd. Mae'r corff gwarchod ynni Ofgem wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn dileu cynlluniau i ddileu taliadau sefydlog, sy'n ffurfio rhan fawr o filiau ynni pobl. Yn hytrach, maent wedi cyhoeddi cynigion fod rhaid i bob cyflenwr gynnig o leiaf un tariff lle mae taliadau sefydlog yn is, ond wedyn bydd cwsmeriaid yn talu mwy am bob uned o ynni a ddefnyddir. Mae National Energy Action Cymru wedi dweud nad yw hyn yn mynd i wneud biliau pobl yn is, yn enwedig pobl fregus a phobl sydd ag anghenion ynni uchel, fel pobl hŷn, teuluoedd â phlant, a phobl anabl. Nid yw'n mynd i ddatrys yr amrywio rhanbarthol enfawr yn y prisiau chwaith, sy'n taro Cymru galetaf. Os ydych chi'n byw yn Llundain, eich tâl sefydlog am nwy a thrydan, o 1 Hydref, yw £294; yn ne Cymru, mae'n £314; yng ngogledd Cymru, £381. Roedd hyd yn oed cynrychiolydd o Energy UK, y corff sy'n cynrychioli'r cyflenwyr, yn dweud wrthym yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd fore heddiw nad yw'r cynnig hwn o fudd i'r defnyddiwr. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Ofgem? Roeddech chi'n dweud wrthym yn y cyfarfod hwnnw eich bod wedi cyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf, felly beth a godwyd gennych a pha ymateb a gawsoch? Wrth gwrs, nid nhw yw'r llunwyr polisi, felly pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ar weithredu deddfwriaethol, er mwyn sicrhau cymorth wedi'i dargedu i bobl yng Nghymru sy'n wynebu gaeaf oer arall?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, gan eich bod chi'n codi llawer o faterion a gododd yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw heddiw. Wrth gwrs, rydych chi'n codi'r pwynt pwysig iawn am y loteri cod post ynghylch y symiau a godir a'r ffaith bod costau'n cael eu cymhwyso hyd yn oed—. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol, i atgoffa pawb: pan na fydd pobl wedi defnyddio fawr iawn o drydan neu ddim o gwbl, byddant yn wynebu'r costau hynny. Mae aelwydydd yng ngogledd Cymru—y rhanbarth drytaf ym Mhrydain—yn arbennig yn cael cam, ac yn byw'n agos at ffynonellau adnewyddadwy o drydan, a allforir o'r rhanbarth drwy'r grid cenedlaethol. Felly, rwy'n annog Ofgem a Llywodraeth y DU i weithredu ar draws y dirwedd bolisi i ddiwygio taliadau sefydlog, drwy fesurau fel y tariff cymdeithasol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth lle mae pob plaid ar draws y Siambr hon yn y gorffennol wedi cytuno—y dylem bwyso am y tariff cymdeithasol hwnnw, gan wneud taliadau sefydlog yn gyfartal ar draws rhanbarthau Prydain.
Diolch. Mae teuluoedd â phlant, wrth gwrs, ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddiffyg diogeledd bwyd a thlodi tanwydd. Mae tlodi plant yng Nghymru, fel y gwyddom, yn effeithio ar draean o'n plant a bydd ond yn gwaethygu os na weithredir ar frys. Eto, fel y nodwyd gennych, mae Llywodraeth Lafur San Steffan yn parhau i orfodi'r cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau, gan wthio teuluoedd yng Nghymru yn ddyfnach i dlodi, a niweidio rhagolygon miloedd o blant ledled ein cenedl. Ac eto, mewn dadl ddiweddar yn Nhŷ'r Cyffredin dan arweiniad yr SNP, dim ond saith AS Llafur a bleidleisiodd dros ddileu'r cap—nid oes yr un ohonynt yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru. Felly, mae difaterwch San Steffan ac ASau Llafur Cymru ynghylch y brwydrau sy'n wynebu teuluoedd yma yng Nghymru yn amlwg i bawb ei weld. Felly, a ydych chi'n cytuno bod ASau Llafur Cymru yn gwneud cam â phlant Cymru gyda'r mesur hwn? A hoffech iddynt gefnogi galwadau Llywodraeth Cymru ar hyn? A chyda chyllideb yr hydref rownd y gornel, pa alwadau newydd penodol a wnaethoch ar y Canghellor i liniaru tlodi plant?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y ffaith ein bod wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi diwedd ar y rheol dau blentyn ar gyfer budd-daliadau—mae'r Prif Weinidog wedi, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n gyson. Rwy'n credu bod gennym well gobaith o fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, gan ddarparu'r dystiolaeth. Ceisiais wneud hyn fel Aelod o dasglu'r pedair gwlad, gan gyfarfod â chymheiriaid o'r Alban, cymheiriaid o Ogledd Iwerddon, Llywodraeth y DU, a ninnau, ac roeddem yn gallu rhannu tystiolaeth o'r hyn a oedd yn gweithio yn ein gwledydd i fynd i'r afael â thlodi plant. Felly, mae'n bwysig ein bod yn dylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r camau nesaf i fynd i'r afael â thlodi plant. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei strategaeth tlodi plant. Rwy'n gwybod—a'r cyfarfodydd hynny a rennir ar draws y pedair gwlad—fod cydnabyddiaeth fod polisïau nawdd cymdeithasol yn allweddol—yn allweddol—i fynd i'r afael â thlodi plant, ac mae'n hanfodol ein bod yn ceisio rhoi diwedd ar y rheol dau blentyn ar gyfer budd-daliadau.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr? OQ63129
Diolch yn fawr, John Griffiths. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf safleoedd i awdurdodau lleol wella eu darpariaeth bresennol o safleoedd a datblygu safleoedd newydd i Sipsiwn a Theithwyr. Hyd yma yn 2025-26, rydym wedi cytuno ar gyllid o hyd at £2.4 miliwn i saith safle, i gefnogi amrywiaeth eang o waith, ac mae ceisiadau pellach yn cael eu hystyried.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddom, mae llawer o waith i'w wneud i sefydlu safleoedd newydd, yn ogystal â gwella'r rhai presennol. Un ffordd bwysig ymlaen yn fy marn i fyddai mwy o safleoedd bach sy'n eiddo i Sipsiwn a Theithwyr eu hunain, rhywbeth y gwn fod y gymuned honno'n ei weld fel ffordd dda ymlaen. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a gadeirir gennyf, yn credu'n gryf iawn fod angen blaenoriaeth â ffocws mwy ar gyfer y rhan hon o'n cymdeithas a ymyleiddiwyd sy'n dal i wynebu llawer iawn o ragfarn a gwahaniaethu, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi ystyried hynny a dangos ymrwymiad ac egni newydd i sicrhau ein bod yn cael y camau gweithredu sydd eu hangen.
Wrth barhau i gysylltu â chymuned y Sipsiwn a Theithwyr a'r rhai sy'n eu cynrychioli, Ysgrifennydd y Cabinet, un maes y maent wedi'i nodi yw'r diffyg atebolrwydd clir o fewn awdurdodau lleol, er mwyn i'r gymuned a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw wybod pwy sy'n gyfrifol am ddarparu safleoedd Sipsiwn a gwella safleoedd. Byddai'r eglurder hwnnw'n gam pwysig ymlaen. Ac yn y gwaith cyffredinol a wnewch i wella'r sefyllfa, tybed a yw honno'n un agwedd y gallech feddwl amdani, oherwydd mae'n bwysig o ran yr ymgysylltiad rhwng y gymuned a'r awdurdodau lleol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch, John Griffiths, a diolch eto i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am eu gwaith, ac yn wir, i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. A byddaf yn ysgrifennu atoch, at yr holl Aelodau, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawniad yr argymhellion gan eich pwyllgor.
Mae gennym 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae gan 16 safle Sipsiwn a Theithwyr. Yr hyn a gyflwynwn yw rhaglen dreigl o gyfarfodydd monitro gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru i drafod anghenion llety a nodwyd yn eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae angen heb ei ddiwallu yng Nghymru, ac mae gennym y cyllid cyfalaf grant safleoedd. Mae'n £3.44 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rydym wedi ehangu cwmpas y grant i gynnwys caffael safleoedd. Mae hynny wedi cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni eu dyletswydd statudol.
Ond mae a wnelo hyn â mwy na seilwaith yn unig; mae'n ymwneud ag urddas, diogelwch, cynhwysiant. Ac rwy'n falch ein bod bellach wedi lansio menter newydd i edrych ar gynllun peilot cyngor cynllunio preifat. Nawr, mae hynny'n rhywbeth a ddaeth gan y pwyllgor, ac mae'n cael ei ddatblygu. Mae'n cynnig cyngor cynllunio wedi'i deilwra cyn i dir gael ei brynu gan deuluoedd, gan helpu teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus o'r cychwyn cyntaf. Felly, mae hyn yn deillio o wrando ar deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, fel y gwnaethoch chi yn eich pwyllgor. Dylai'r cynllun peilot hwnnw ein galluogi, er enghraifft, fel un pwynt yn yr hyn a ddywedoch chi heddiw, i helpu teuluoedd i ddeall beth sy'n briodol cyn iddynt ymrwymo i brynu tir.
A gaf i ddweud, yn olaf, ein bod wedi comisiynu sefydliad i gyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar gyfer pob un o'r 22 awdurdod lleol i wella cymhwysedd diwylliannol mewn perthynas â ffyrdd o fyw Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac mae hyn yn cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ac yn sicr yn cael ei groesawu gan bobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yr ydym yn cyfarfod â nhw trwy ein gwaith ymgysylltu yn y fforwm.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru? OQ63100
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Ledled Cymru, mae Wcreiniaid wedi adeiladu bywydau annibynnol, gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn cynnig cymorth integreiddio pan fo angen. Er bod llai o newydd-ddyfodiaid, mae ein hymrwymiad i noddfa yn parhau. Mae darpariaeth llety a chroeso yn parhau i fod ar gael, tra bod awdurdodau lleol yn darparu cymorth parhaus i sicrhau tai sefydlog a threfniadau byw'n annibynnol.
Diolch. Wel, i fod yn glir, mae fy mhlaid yn cydnabod y bydd holl wledydd y DU bob amser yn chwarae eu rhan yn cynnig cartref i ffoaduriaid go iawn, ar ôl profi y byddent mewn perygl pe baent yn dychwelyd i'w gwlad enedigol, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Hyd yma, mae 220,000 wedi cyrraedd diogelwch yn y DU trwy gynlluniau fel Cartrefi i Wcráin a'r cynllun i deuluoedd. Mae ymchwil y Groes Goch Brydeinig wedi canfod bod Wcreiniaid wedi'u dadleoli yn parhau i fod fwy na dwywaith yn fwy tebygol o brofi digartrefedd na phoblogaeth y DU yn gyffredinol, ac maent wedi tynnu sylw at argyfwng digartrefedd cudd ymhlith Wcreiniaid wedi'u dadleoli a wnaeth ffoi rhag y gwrthdaro yn 2022, ac a ddaeth yma o dan gynlluniau fel Cartrefi i Wcráin, gan ddweud,
'Nid oedd cynlluniau Wcráin wedi'u llunio i fod yn rhai hirdymor. Weithiau, roedd y trefniadau lletya wedi arafu ar ôl chwe mis. Roedd rhwystrau—gan gynnwys cyflogaeth a gofal plant—yn ei gwneud yn anodd i lawer o Wcreiniaid ddod yn annibynnol yn ariannol.'
Felly, pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o hyn yng Nghymru? Beth oedd ei ganfyddiadau? A pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi, neu y bydd yn ei rhoi, i'r argymhellion a wnaed gan y Groes Goch, yn seiliedig ar yr arferion gorau a ddangoswyd gan eu hymchwil?
Diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am y cyfraniad adeiladol hwnnw at y trafodaethau a'r cwestiynau y prynhawn yma.
Mae sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol i ddarparu cymorth i'r rhai sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng yn Wcráin, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth letya, y sector rhentu preifat, a mathau eraill o lety pontio o ansawdd da. Rwyf eisoes wedi crybwyll faint o Wcreiniaid rydym wedi'u croesawu i Gymru. Mae angen inni ddiolch hefyd i'r aelwydydd hynny sy'n parhau i gynnig llety i Wcreiniaid yng Nghymru. O ran llety yn unig, mae gennym niferoedd is o newydd-ddyfodiaid, ond pan fyddant yn cyrraedd, os na allwn eu dyrannu'n uniongyrchol i letywr, rydym yn darparu 75 diwrnod o lety, ac yn ystod yr amser hwn, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r aelwyd i gefnogi gwesteion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor.
Yn olaf, credaf ei bod yn bwysig dweud mai ein blaenoriaeth yw cefnogi Wcreiniaid i gael llety mwy hirdymor, lle gallant gael mwy o annibyniaeth, ymgartrefu mewn cymunedau, ac ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn darparu £1.5 miliwn eleni i'n hawdurdodau lleol i gefnogi costau parhaus sy'n gysylltiedig â'r ymateb i'r sefyllfa yn Wcráin. A gaf i ddweud pa mor falch yr oeddwn fod yr Ysgrifennydd Tramor newydd, Yvette Cooper, wedi penderfynu gwneud ei hymweliad cyntaf ag Wcráin i ddangos cefnogaeth Llywodraeth y DU i Wcráin fel Llywodraeth, rhywbeth rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi'i gymeradwyo'n llwyr, wrth gwrs?
Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf i, Alun Davies a'r grŵp trawsbleidiol, y Senedd dros Wcráin, yn gyrru i Wcráin, i ddanfon rhagor o gymorth a cherbydau i gefnogi amddiffynwyr Wcráin. Rwy’n croesawu'r holl gefnogaeth y mae'r Aelodau wedi'i rhoi i hynny. A wnewch chi ymuno â mi, serch hynny, i gondemnio'r gamwybodaeth fwriadol a'r sylwadau 'chwiban y ci' a wnaed gan gyn-arweinydd plaid yn y Senedd hon, sydd wedi mynd ar ei liwt ei hun yn ôl pob golwg, gan ymosod ar ein polisi cenedl noddfa, sydd wedi cefnogi oddeutu 8,000 o Wcreiniaid, 4,000 ohonynt yn blant, i ffoi rhag bomiau a thaflegrau Rwsia—polisi yr arferai ei gefnogi? Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'r ymgais hon i gystadlu â'r pryfocio hiliol a'r anogaeth i gyflawni trais gan Farage a Reform yn adlewyrchu'n dda arno.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cynllun fisâu dros dro—a chynllun dros dro ydyw—wedi'i ymestyn. Bydd bellach yn galluogi Wcreiniaid i gael contractau cyflogaeth, i ymestyn cytundebau rhentu, ac mae i'w groesawu'n fawr. A allwch chi amlinellu'r sylwadau a wnaethoch ynghylch y cynllun hwn, a sut y bydd y cynllun yn gweithredu nawr i'r Wcreiniaid sydd yng Nghymru o dan y cynllun fisâu?
Diolch yn fawr, Mick Antoniw. Rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, ein bod yn parhau i ddiolch i chi, i Alun Davies ac i'r grŵp trawsbleidiol, sydd wedi gwneud cymaint o deithiau i Wcráin, gyda'r offer a roddir gan bobl a sefydliadau ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n amddiffyn Wcráin rhag y gormes erchyll a pharhaus dan ddwylo Putin a Rwsia.
Hoffwn groesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn cynllun estyn caniatâd Wcráin am 24 mis arall. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i westeion o Wcráin ac i'n hawdurdodau lleol a'n rhanddeiliaid. Byddwn yn cael mwy o fanylion am hynny gan Lywodraeth y DU, ond unwaith eto, gadewch inni nodi hyn yn glir iawn, mae'r fisâu wedi eu hymestyn am 24 mis arall.
Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi dyfarnu £53,100 i Settled i gefnogi darpariaeth gwasanaeth cynghori mewnfudo i Wcreiniaid yng Nghymru, o fis Medi eleni i fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf. Dyma hanfod y genedl noddfa, ac rwy'n condemnio'r gamwybodaeth sy'n cael ei lledaenu.
Mae ffoaduriaid sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Maent yn Wcreiniaid Cymreig, ac mae croeso iddynt yma. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o gael mynychu digwyddiad diolchgarwch Wcreinaidd yn Nhŷ Penallta gyda chi, a chlywsom ganeuon a barddoniaeth Wcreinaidd, gwelsom gelf hardd gan Olesia Miftahova, ac wrth gwrs, fe wnaethom flasu bwyd Wcreinaidd hyfryd. Mae gwaith celf Olesia yn dathlu ei threftadaeth yn ogystal â mynyddoedd Cymru, ac mae un o'i phaentiadau yn arbennig o wefreiddiol, gan ei fod yn ddarlun o unigolyn yn sefyll yng nghanol storm, yn ymladd drwyddi. Mae wedi dweud wrthyf ei hun mai dyma ei ffefryn o'i phaentiadau, gan ei fod yn disgrifio'r profiad y mae hi a chynifer o Wcreiniaid wedi gorfod ei wynebu, yr erchyllterau y maent wedi'u dioddef, ac maent yn dal i ymladd.
A wnewch chi ymuno â mi i ddatgan eto ein croeso i'r Wcreiniaid Cymreig hyn yn ein cymunedau, ac i annog unrhyw un sy'n ceisio camfanteisio ar eu sefyllfa anodd i hybu eu hymgyrch etholiadol mai bodau dynol yw'r rhain, a'u bod wedi mynd drwy bethau na fyddai'n rhaid i'r rhan fwyaf ohonom eu dychmygu hyd yn oed, diolch byth?
Diolch yn fawr. Rwy'n cymeradwyo'r holl bwyntiau a wnaethoch yn llwyr, ac roeddwn yn falch o fod yno gyda chi, ysgwydd yn ysgwydd.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd elusennau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63099
Diolch yn fawr, Paul Davies. Bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn derbyn cyllid craidd o £8.6 miliwn yn 2025-26 i ddarparu seilwaith o gymorth i'r trydydd sector ledled Cymru. O'r cyllid hwn, bydd £218,000 yn mynd i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i helpu sefydliadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Fel y gwyddoch, mae sir Benfro yn gartref i lawer o elusennau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, ac mae hefyd yn gartref i sawl elusen genedlaethol sy'n cefnogi pobl ledled y sir. Mae hyn yn cynnwys y Samariaid, ac yn anffodus, cafodd ei ddwyn i fy sylw fod cynlluniau ar y gweill i gau rhai swyddfeydd yma yng Nghymru, gan gynnwys swyddfa Hwlffordd, sydd wedi bod yn helpu pobl ers 1976. Pe bai'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith, gallai fod canlyniadau sylweddol i'r GIG, i wirfoddolwyr, ac yn bwysicach fyth, i bobl agored i niwed sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn. O ystyried pwysigrwydd y cyfleusterau hyn, pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sefydliadau fel y Samariaid i'w helpu i ddiogelu'r swyddfeydd hyn, ac i ddiogelu'r gwasanaethau hyn, yn wir, yn y dyfodol?
Diolch, a diolch am dynnu sylw at hyn. Mae'r Samariaid yn chwarae rhan anhygoel ac wedi gwneud hynny ers degawdau lawer. Rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hyn ac i edrych ar beth y gallwn ei wneud i helpu mewn perthynas â'r newyddion a roesoch i ni heddiw am eu swyddfeydd yn sir Benfro.
6. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi teuluoedd a phlant sy'n byw mewn tlodi yn y Rhondda dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf? OQ63117
Diolch yn fawr, Buffy Williams. Rydym yn parhau i gefnogi teuluoedd a phlant ledled Cymru, yn cynnwys yn y Rhondda, gan hyrwyddo siarter budd-daliadau Cymru i'w helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm a rhoi arian yn eu pocedi. Mae hyn yn cynnwys symleiddio'r broses o gael mynediad at brydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol, a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Diolch. Yn ystod y gaeafau diweddar, mae rhai o drigolion y Rhondda wedi derbyn hyd at £300 drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru, ac wedi cael cymorth gan ganolfannau cymunedol lleol fel y Ffatri Gelf, Caffi Croeso, y Sied Fach a Cyn-filwyr y Cymoedd, diolch i gyllid gan y Llywodraeth. Wrth i'r misoedd oerach agosáu, a fydd y cynlluniau hanfodol hyn yn parhau?
Ac a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y canllawiau gweithredol teithio gan ddysgwyr hyd yma? Gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, taliadau lwfans cynhaliaeth addysg uwch, a phris tocynnau bws o £1 i bobl ifanc eisoes wedi'u cyflwyno i sicrhau tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn adolygu pellteroedd cerdded statudol ac yn darparu'r cyllid dilynol angenrheidiol i awdurdodau lleol fel y gall mwy o ddysgwyr gyrraedd yr ysgol heb dalu ceiniog.
Diolch, Buffy Williams. Atebwyd rhai o'r pwyntiau hynny mewn cwestiynau blaenorol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran y canllawiau gweithredol teithio gan ddysgwyr, felly nid wyf am wneud sylwadau ar y materion hynny eto. Ond credaf ei bod yn bwysig fod ein strategaeth tlodi plant yn nodi'r uchelgeisiau hirdymor i drechu tlodi plant. A soniais yn gynharach y prynhawn yma fod gennym y grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau, ac mae pedwar o'r prosiectau'n cwmpasu ardal Rhondda Cynon Taf. Os caf roi rhai enghreifftiau i chi: Mind Cwm Taf Morgannwg, sy'n archwilio achosion emosiynol ac ymddygiadol tlodi drwy grwpiau ffocws ac ymgysylltu arall, a ffyrdd y gall addysg a chyngor dorri'r cylch o dlodi plant a thlodi teuluoedd; Cwmpas, sy'n grymuso pobl ifanc i lunio mentrau busnes cymdeithasol newydd; Plant yng Nghymru; GemauStryd, sy'n cynnwys pobl ifanc mewn gweithgarwch chwaraeon lleol. Mae'r rhain oll yn ffyrdd allweddol a ddefnyddiwn i gefnogi plant a phobl ifanc. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig ein bod yn cefnogi partneriaeth bwyd Rhondda Cynon Taf, sydd nid yn unig yn galluogi pobl i gael mynediad at fwyd, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd bwyta cymdeithasol i fynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, ac yn darparu ar gyfer pantrïau bwyd—sydd hefyd yn blaenoriaethu urddas—a chydnabod bod hyn yn rhywbeth lle bydd ein canolfannau clyd a diogel ar gyfer pob cenhedlaeth yn parhau i gael eu hariannu.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru o ran cydgysylltu ffoaduriaid, ymfudo a chydlyniant cymunedol? OQ63124
Diolch, Tom Giffard. Er nad yw polisi mudo wedi'i ddatganoli, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn cael effaith glir ar integreiddio a chydlyniant cymunedol yng Nghymru. Nod ein polisïau cydlyniant ac integreiddio mudwyr datganoledig yw harneisio sgiliau'r bobl sy'n cyrraedd yma, i gefnogi'r gymuned a'r economi gyfan.
Rydych chi'n dweud nad yw'n un o'ch cyfrifoldebau. Awgrymaf eich bod yn edrych ar wefan Llywodraeth Cymru, lle mae mudo, ffoaduriaid a chydlyniant cymunedol wedi'u rhestru fel un o'ch cyfrifoldebau, Ysgrifennydd y Cabinet. Awgrymaf eich bod yn ymgyfarwyddo â hynny.
Dros yr haf, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni gyfweliad i WalesOnline, lle dywedodd hyn,
'Mae'r peth mewnfudo yn fy ngwylltio. Nid wyf yn deall pam y mae unrhyw un yng Nghymru yn poeni o gwbl am fewnfudo.'
Aeth ymlaen i ddweud,
'Dylai Cymru fod â'i breichiau'n llydan agored ac yn dweud, "Dewch, dewch, dewch, dewch, dewch yn llu".'
Dywedodd 'dewch' bum gwaith. Ai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru ar fewnfudo yng Nghymru? Oherwydd nid yw'n hiliol i bobl gyffredin yng Nghymru fod â phryderon ynghylch lefelau mewnfudo i'r wlad hon. Ac os nad dyna safbwynt Llywodraeth Cymru, pam y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dal yn ei swydd yn gwneud yr honiadau hynny?
Mae'n anodd dod o hyd i bwynt difrifol yn eich cwestiwn i mi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Dywedaf eto, ac rwyf wedi'i ailadrodd y prynhawn yma a byddaf yn parhau i'w ailadrodd, fod Cymru'n wlad groesawgar sy'n ymfalchïo mewn tegwch a thrugaredd. Mae ein gweledigaeth fel cenedl noddfa yn ymwneud yn syml â chefnogi'r rhai sy'n cyrraedd, fel yr holl Wcreiniaid rydym newydd fod yn siarad amdanynt, fel yr Affganiaid sydd yma mewn gwirionedd am eu bod yn cefnogi lluoedd arfog Prydain—lluoedd arfog Prydain—ac yn colli eu bywydau. A gwn fod pobl wedi cyrraedd fy etholaeth y cafodd aelodau o'u teulu eu saethu gan y Taliban o flaen eu teuluoedd. Onid ydych chi'n cydnabod mai dyna bwysigrwydd cenedl noddfa? Mae a wnelo â chefnogi'r rhai sy'n cyrraedd i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu'n llawn at fywyd Cymru.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad am gyfraddau trais rhywiol yng Nghymru? OQ63125
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys cyfraddau trais rhywiol, sy'n uchel ledled Cymru ac yn annerbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i bob rhanbarth i gomisiynu gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol, gan gynnwys gwaith atal.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r ffigurau a gafodd eu rhyddhau—. Fe wnaf i aros i'r cyfieithu, os caf i.
Diolch yn fawr.
Dyna fo. Mae'r ffigurau a gafodd eu rhyddhau dros yr haf yn dangos bod troseddau rhywiol sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu wedi cynyddu yn aruthrol, gydag un mewn pob wyth merch dros 16 oed ac un o bob 12 dyn wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn y flwyddyn ddiwethaf, neu drais domestig neu stelcio. Gellid dadlau, wrth gwrs, fod mwy yn adrodd eu profiadau neu fod yr heddlu'n gwneud eu gwaith yn well, ond erys y pwynt bod y niferoedd yma yn debygol o fod yn is na'r gwir oherwydd nad ydyn nhw'n cynnwys trais yn erbyn plant neu aflonyddu rhywiol, a, serch hynny, eu bod nhw'n llawer rhy uchel. Ydych chi felly'n hyderus bod strategaeth trais yn erbyn menywod a merched Cymru yn addas i bwrpas, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd rŵan wrth feddwl am y strategaeth newydd, sydd i fod i ddod i rym y flwyddyn nesaf?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae'n peri cryn bryder fod yr ystadegau a ddyfynnwch yn cynyddu—ystadegau ar drais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, cam-drin domestig. Credaf mai dyna ble mae'n rhaid ein dwyn i gyfrif am y camau y gallwn eu cymryd o fewn ein pwerau, o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yfory, rwy'n falch o ddweud y byddaf yn cyd-gadeirio digwyddiad gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu Emma Wools o dde Cymru i nodi deng mlynedd o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Bydd yn gyfle i gryfhau arweinyddiaeth, i ailymrwymo i fynd i'r afael â phla trais yn erbyn menywod ar draws y sector cyhoeddus ac i ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd ledled Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac adeg pan allwn uno yn y Siambr hon unwaith eto o bosib. Ar draws y Senedd, gwn y bydd pob plaid yn cymryd rhan yn ymgyrch y Rhuban Gwyn fis nesaf. Gwn y bydd hynny'n digwydd, ac mae hwnnw'n bwynt o undod, ond rhaid inni ddangos arweinyddiaeth, y rhai sydd mewn grym, i fynd i'r afael â'r pla hwn wrth inni nodi deng mlynedd ers cyflwyno'r Ddeddf honno.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd y rhain yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, James Evans.
1. A wnaiff y Comisiwn nodi costau Siambr newydd y Senedd a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau'r gwaith? OQ63128
Mae'r gwaith ar y Siambr yn parhau, a’r amcangyfrif mwyaf diweddar ar gost lawn y gwaith yw £4.22 miliwn. Bydd y gost yma'n cael ei hariannu'n llawn o gyllideb diwygio seneddol y flwyddyn gyfredol yma. O ran yr amserlen, rydym yn dal i fod yn hyderus y byddwn yn dychwelyd i'r Senedd ar ôl toriad mis Chwefror.
Diolch yn fawr am eich ateb, Lywydd. Er fy mod yn llwyr yn erbyn ehangu'r Senedd a gwario'r £4.22 miliwn hwnnw, fel rydych wedi'i amlinellu, credaf ei bod yn bwysig, os ydym yn gwario'r arian hwnnw, ein bod yn sicrhau bod busnesau Cymru'n elwa o'r gwaith sy'n cael ei wneud a'n bod yn defnyddio deunyddiau o Gymru fel bod yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi yn ein heconomi yma. Felly, hoffwn wybod gennych faint o fusnesau Cymru sydd wedi bod cyfrannu at y gwaith yn y Siambr, a pha ddeunyddiau Cymreig, pren a deunyddiau eraill, sy'n cael eu defnyddio i sicrhau bod y Siambr yn adlewyrchu'r gorau o Gymru.
Roedd yr holl waith tendro cyhoeddus a wnaethom yn glir y byddem yn ffafrio cwmnïau o Gymru a deunyddiau Cymreig. Contractwr Cymreig yw'r prif gontractwr ar gyfer y gwaith, ac rwy'n falch fod hynny wedi digwydd. Mae'r cynnydd o ran ein dychweliad i'r Siambr yn dibynnu ar eu gwaith da a'u hewyllys da yn ein cefnogi gyda'u gwaith. Nid oes gennyf y manylion o'm blaen ar hyn o bryd, ond rwy'n fwy na pharod i rannu dadansoddiad gyda'r holl Aelodau o ble rydym arni gydag unrhyw is-gontractio a wnaed gyda chwmnïau Cymreig eraill neu fel arall, ynghyd â'r deunyddiau a ddefnyddiwyd.
2. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar y defnydd o AI o ran rheoli busnes y Senedd? OQ63132
Mae'r Senedd yn mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn raddol, gan gydbwyso cyfle â risg. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal peilot strwythuredig, wedi'i reoli o ran risg, o Microsoft Copilot ar gyfer Microsoft 365 a Teams Premium, gan ddefnyddio rheolaethau cadarn o ran llywodraethiant a phreifatrwydd. Mae Aelodau o’r Senedd a’u staff cymorth wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y peilot yma, ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol.
Diolch am eich ateb.
Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi ynglŷn â mynd ati'n ofalus i fonitro'r achos. Gwyddom fod seneddau ledled y byd yn defnyddio offer a gwasanaethau digidol. Yn Senedd Albania, rwy'n credu bod ganddynt Weinidog deallusrwydd artiffisial hyd yn oed, er nad wyf i'n dadlau dros gael Llywydd deallusrwydd artiffisial yma, Lywydd. Ond o ddifrif, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn manteisio ar y dechnoleg hon i gefnogi'r hyn a wnawn, ond fod gennym egwyddorion moesegol wrth wraidd hynny, llywodraethu a goruchwylio, a'n bod yn edrych ar y cynllun a'r gweithrediad i sicrhau nad oes tueddiadau yn y ffordd y caiff hynny ei wneud, a phreifatrwydd a diogelwch wrth gwrs. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod gennym y camau diogelu hynny ar waith, a'n bod yn cefnogi, nid yn disodli, ein democratiaeth, gan gofio bod hwn hefyd yn weithle pobl, a sicrhau bod unrhyw ddull yn gydweithredol â'r rheini sy'n gweithio o fewn ein democratiaeth yma yng Nghymru. Diolch.
Rwy'n credu eich bod wedi amlinellu ethos y ffordd y ceisiwn ddatblygu ein defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ein democratiaeth ac yn ein Senedd yn berffaith. Mae yno i'n cynorthwyo i gamu tua'r dyfodol, nid i'n disodli, boed hynny'n cynnwys fy nisodli i fel Llywydd—os pinsiaf fy hun, nid wyf yn artiffisial; mae'n fy mrifo. Felly, mae angen inni sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddatblygu yn ein gwaith mewn ffordd lle rydym yn croesawu'r posibiliadau a'r heriau y mae technoleg newydd yn eu rhoi i ni. Nid ydym eisiau bod ar ei hôl hi ar hyn, ond rydym eisiau ei wneud mewn ffordd gydweithredol ac mewn ffordd sydd â moeseg a llywodraethiant cywir yn sail iddi.
Diolch i'r Llywydd.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi eu derbyn heddiw.
Felly, byddwn yn symud ymlaen i'r eitem nesaf, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd y prynhawn yma, a dwi'n galw ar Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Naw cant tri deg dau o bleidleisiau ychwanegol, a byddai Phil Richards wedi dod yn Aelod yn y siambr yma yn 1999, fel yr Aelod cyntaf dros Gwm Cynon. Colled gwleidyddiaeth Cymru oedd ennill i system gyfiawnder ein gwlad. Fel nifer o genedlaetholwyr amlwg y cyfnod, cafodd Phil ddim ei eni yng Nghymru, ond nid man geni sy’n pennu cenedligrwydd, ac roedd Phil ar dân dros Gymru a'r Gymraeg.
Roedd fy nhad a Phil yn unigryw yn y blaid yng Nghaerdydd ar ddechrau'r 1960au. Doedden nhw ddim yn gapelwyr iaith Gymraeg, ac roedd rhai yn eithaf drwgdybus o'r ddau rebel yma, ond mi wnaeth y ddau daflu eu hunain i ymgyrchu yng Nghaerdydd, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd, ac yna fe aeth Phil i Gwm Cynon flynyddoedd cyn yr etholiad cyffredinol yn 1979 i sefyll dros y blaid yn yr etholiad anodd yna. Nid ymgeisydd parasiwt oedd Phil Richards.
Fe ddefnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i gynorthwyo’r blaid yn y 1970au a'r 1990au, cyfnodau allweddol yn hanes datganoli. Fe ymdaflodd Phil i normaleiddio'r Gymraeg yn y llys. Byddai’n cymell tystion i roi eu tystiolaeth yn eu hiaith gyntaf. Fe wnes i lawer o achosion drwy’r Gymraeg o flaen Phil. Fe ddaeth y dysgwr Cymraeg yn farnwr cyswllt y Gymraeg yng Nghymru, gan hyrwyddo'r iaith ar bob achlysur.
Penllanw hynny oedd i Phil ddod yn aelod o'r Orsedd fel Phil Pennar. Bu Dad a Phil yn yr un cartref am gyfnod, ac er nad oedd y ddau hen gyfaill yn adnabod ei gilydd oherwydd yr afiechyd creulon, roedd yn dod â rhyw deimlad braf inni bod y ddau gyda’i gilydd, a bob tro rôn i'n gweld Phil, roedd ei wên yn para o hyd. Mae Cymru wedi colli cawr o ddyn. Cawr ar goesau bach efallai, ond cawr heb os. Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys.
Eitem 6 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1494, 'Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig. Carolyn Thomas.
Cynnig NDM8982 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1494 'Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol’ a gasglodd 11,040 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i drafod y ddadl hon. Fe wnaethom ystyried y ddeiseb hon gyntaf ym mis Ionawr, ond fe wnaethom ohirio gofyn am ddadl cyn y ddadl ar y gyllideb ym mis Chwefror. Rhannwyd sylwadau'r deisebydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y broses graffu ar y gyllideb. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Catherine Drews, a chaeodd ar 7 Awst 2024 gydag 11,040 o lofnodion. Mae'n nodi:
'Mae Diwygio ADY Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae nifer o adroddiadau am awdurdodau lleol yn cyhoeddi ymgynghoriadau neu gyllidebau gwirioneddol gyda thoriadau enfawr i gyllideb addysg. Mae Jeremy Miles wedi addo buddsoddi mewn addysg. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd i aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod safonau addysg Cymru wedi gostwng. Addysg ein plant yw’r buddsoddiad gorau mewn cyfiawnder cymdeithasol ac economi iach.'
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o nifer o ddeisebau ar ddiwygio ADY yn ystod tymor y Senedd hon, a chynhaliwyd dadl ar y ddeiseb 'Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021' ym mis Mai. Tynnais sylw hefyd at ddeisebau ADY yn ystod y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 'A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?' fis Tachwedd diwethaf.
Mae gohebiaeth Ysgrifennydd y Cabinet gyda ni wedi nodi'r pwysau a'r heriau ariannol, ac wedi tynnu sylw at ei ffocws ar godi safonau addysgol. Mae'r deisebwyr wedi galw am glustnodi arian, ac yn pwysleisio amlder cynyddol apeliadau rhieni am gymorth, gan ddweud:
'Nid yw'n glir a yw hyn yn digwydd o ganlyniad i'r toriadau cyllidebol neu fod y cyllid yn mynd i'r lleoedd anghywir.'
Ar glustnodi arian, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion lleol ac ariannu ysgolion yn unol â hynny ac mae'n nodi'r sail statudol ar gyfer ymgysylltu ar gyllid drwy fforymau ysgolion. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn tynnu sylw at gyllid grant neilltuedig ychwanegol ar ben y setliad llywodraeth leol.
Pwysleisiodd y deisebwyr hefyd yr amseroedd aros cynyddol am ddiagnosis. Wrth ymateb i ffocws Ysgrifennydd y Cabinet ar fynd i'r afael ag absenoliaeth, mae'r deisebwyr yn tynnu sylw at sut y gall oedi cyn cael diagnosis o niwrowahaniaeth a diffyg cymorth cywir arwain at 'drallod ysgol' a thrawma sy'n gysylltiedig â'r ysgol, gan arwain at absenoldeb. Maent yn tynnu sylw at y ffaith nad yw athrawon yn seicolegwyr hyfforddedig, a bod plant yn 'goroesi nid yn ffynnu'.
Mae'r deisebydd hefyd wedi codi pryderon ynghylch problemau gyda sut y caiff y cod ADY ei roi ar waith, a'r defnydd o arian cyhoeddus ar gyfer tribiwnlysoedd addysg:
'mae teuluoedd yn cael eu gwthio i mewn i brosesau cyfreithiol hirfaith a dirdynnol er mwyn sicrhau hawliau addysgol sylfaenol i'w plant. Mae'r costau tribiwnlys hyn nid yn unig yn adlewyrchu aneffeithlonrwydd ariannol, ond hefyd system lle mae'r gyfraith a'r canllawiau'n cael eu camddeall—neu'n waeth, eu hanwybyddu.'
Yn ei adroddiad ar gyllideb ddrafft 2025-26, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi £14.3 miliwn i gefnogi'r ddarpariaeth o anghenion dysgu ychwanegol, a bod Gweinidogion Cymru wedi parhau i flaenoriaethu cyllid llywodraeth leol, lle mae ysgolion, ynghyd â gofal cymdeithasol, yn brif dderbynyddion,
'er mwyn diogelu cyllid craidd i ysgolion cymaint â phosib'.
Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Ysgrifennydd y Cabinet pa mor hyderus oedd hi fod gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau i ariannu ysgolion yn ddigonol, a phwysleisiodd hi fod y setliad uwch i lywodraeth leol yn gydnabyddiaeth o'r pwysau ar ysgolion a gofal cymdeithasol.
Mae adolygiad o fformiwlâu ariannu ysgolion ledled Cymru hefyd wedi argymell y dylai cyllid ADY ffurfio ei ffrwd ariannu ei hun o fewn y gyllideb ddirprwyedig. Dywedodd y byddai hyn
'yn ei wneud yn fwy amlwg ac yn llywio trafodaeth ar y lefelau a’r defnydd priodol o gyllid ADY er budd y garfan fregus hon o ddysgwyr.'
Mae pwysau ar wasanaethau addysg wedi’i amlygu yn adroddiad cryno’r Pwyllgor Cyllid ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2026-27. Ym mis Gorffennaf, dywedodd y pwyllgor:
'Mae ysgolion yn wynebu diffygion a mwy o alw, yn enwedig o ran anghenion ychwanegol. Mae angen diwygiadau a gwell cymorth i ddysgwyr a theuluoedd sy'n agored i niwed.'
Er nad prif gylch gwaith y Pwyllgor Deisebau yw goruchwylio strategol a chraffu ar gyllid addysg, mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod pryderon y cyhoedd. Mae rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a allai fod wedi wynebu brwydrau mawr i sicrhau'r cymorth sydd ei angen ar eu plentyn i gyflawni eu potensial, wedi mynd ati'n ddygn i ddeisebu a dadlau dros eu hawliau. Rydym am gydnabod eu hymdrechion. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw, ac at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch.
Ers datganoli, mae Llafur Cymru wedi defnyddio'r system addysg yng Nghymru fel cyfrwng i weithredu a symud ymlaen â'i pholisïau sosialaidd hurt. Maent wedi mynd ati i newid ethos addysgol a oedd unwaith ymhlith y goreuon yn y Deyrnas Unedig i fod yn un sydd bellach ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. Maent wedi cael gwared ar addysg genedlaethol sy'n canolbwyntio ar arholiadau o blaid cyflwyno addysg gyfannol a ddatblygir yn lleol, gan flaenoriaethu llesiant a chynhwysiant dros safonau rhagoriaeth ac atebolrwydd. Y gwir amdani yw bod yr arbrawf sosialaidd hwn wedi methu. Mae Cymru'n destun gwawd yn y DU o ran darpariaeth addysgol. Mae safonau addysg wedi dirywio ers i Lafur Cymru gael rheolaeth dros y maes ym 1999, a phobl Cymru sy'n dioddef am hyn yn y pen draw: maent yn llai abl i gystadlu am y prifysgolion gorau, yn llai abl i gystadlu am swyddi, ac mae llai o sgiliau a chymwysterau yn golygu bod ganddynt lai o ragolygon, ac yn y pen draw, llai o gyfleoedd mewn bywyd. Ni all tlodi esbonio pam y mae safonau addysg mor wael. Mae disgyblion difreintiedig yn Lloegr yn perfformio'n well na dysgwr cyffredin yng Nghymru, hyd yn oed mewn dinasoedd â lefelau cymaradwy o dlodi. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi hyrwyddo diwygiadau blaengar fel y Cwricwlwm i Gymru, ond nid ydynt wedi trafferthu darparu digon o gyllid ar gyfer hyfforddiant, gweithredu na hyd yn oed seilwaith i gyd-fynd â'r diwygiadau hyn.
Fodd bynnag, yr hyn sy'n fwyaf anghredadwy i mi am hyn oll yw bod Llywodraeth Lafur Cymru o ddifrif yn credu eu bod yn gwneud yn dda. Mae'n siŵr y byddwn yn eu clywed ar ddiwedd y ddadl hon yn dweud sut nad yw'n fai arnynt hwy, ac mai 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol sydd ar fai. Ond gadewch imi atgoffa'r Aelodau yma, pe bai gwariant y pen ar swyddogaethau datganoledig yn gwbl gyfartal ym mhedair gwlad y DU, byddai gwariant yn gostwng 16 y cant yng Nghymru. Yn y pen draw, mae difidend ein hundeb yn talu ar ei ganfed.
Ni ddylem byth anghofio mai Llafur Cymru a negododd gyllid gwaelodol Barnett gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael o leiaf 115 y cant o wariant cyfatebol y pen yn Lloegr. Nawr, fe wyddom nad yw'r cyllid gwaelodol hwn erioed wedi gorfod dod i rym, gan fod y setliad presennol yn rhoi 120 y cant i ni. Rydym yn cael mwy na'n cymheiriaid yn Lloegr. Felly, rhaid imi ofyn o ddifrif, os yw Llywodraeth Cymru yn credu bod angen mwy fyth o arian, pam nad ydynt erioed wedi cyflwyno'r dystiolaeth a negodi am hyn pan gawsant gyfle i wneud hynny? Maent yn cwyno am ddiffyg cyllid, ond ni allant feio neb ond nhw'u hunain mewn gwirionedd.
Mae safonau addysg yng Nghymru ar eu hisaf erioed. Y gwir amdani, fel y dengys yr arolygon barn, yw na all pobl Cymru ddioddef cacistocratiaeth barhaus Llafur Cymru mwyach. O gymharu â holl genhedloedd y DU, rydym wedi cofnodi'r mynediad gwaethaf at adnoddau sylfaenol, fel llyfrau a chyfleusterau TG, a pheth o'r cynnydd mwyaf mewn straen athrawon a niferoedd yn gadael y sector. Ein penaethiaid sydd o dan y pwysau mwyaf a gofnodwyd i dorri staff, lleihau gwasanaethau cymorth a gohirio gwaith cynnal a chadw er mwyn aros o fewn y gyllideb, o gymharu â'u penaethiaid cyfatebol yn y DU. Gan fod methiant Llywodraeth Lafur Cymru nid yn unig yn y swm o gyllid y mae wedi'i ddyrannu, ond hefyd yn ei hanallu i ddiogelu ysgolion rhag costau cynyddol, i gefnogi cynghorau'n ddigonol ac i sicrhau bod diwygiadau'n cael eu hariannu'n briodol, y canlyniad yw system dan straen gyda myfyrwyr a staff agored i niwed yn ysgwyddo'r baich mwyaf.
Mae'r ddeiseb hon, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg yn deillio o bryder cynyddol mai disgyblion agored i niwed, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, fydd yn ysgwyddo'r baich a'r gost honno'n anghymesur. Rwy'n cefnogi Diwygio ADY Cymru yn llwyr gyda'u galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ysgolion. Bydd toriadau i gyllid yn y maes yn ddinistriol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae eu meddylfryd cibddall yn gwbl amlwg. Heb safon dda o addysg a chymorth, ble mae hynny'n gadael pobl? Mae'n eu gadael mewn sefyllfa ble maent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith, yn ei chael hi'n anodd bod yn rhan o gymdeithas ac yn ei chael hi'n anodd aros allan o dlodi. Hoffwn annog yr Aelodau yma i gefnogi'r ddeiseb hon, a hoffwn annog Llywodraeth Lafur Cymru i ymyrryd ac i sicrhau bod ein cyllid addysg wedi'i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r deisebwr am gasglu dros 11,000 o lofnodion ac am godi'r mater pwysig hwn. Dwi'n bwriadu ymateb i ofynion y ddeiseb, yn hytrach na phregethu am faterion eraill.
Does dim dwywaith fod cyllidebau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg o dan bwysau mawr. Ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid i addysg gael blaenoriaeth. Mae'n rhaid inni roi y cyfleoedd gorau mewn bywyd i blant drwy'r system addysg, a rhaid i honno fod yn system gadarn—rhywbeth, dwi'n siŵr, y byddem ni i gyd yn gallu cytuno arno fe.
Ond dwi yn gofidio am effaith y pwysau ar arian cyhoeddus a'r effaith y mae hynny'n mynd i'w gael ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac, fel y mae'r ddeiseb yn nodi, y pwysau sydd ar rieni hefyd yn wyneb yr heriau y maen nhw'n gorfod eu hwynebu oherwydd y diffyg darpariaeth sydd ar gael i'w plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Felly, dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn, iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei datganiad hi ar ALN yn yr hydref, yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau hyn. Mae hynny'n golygu, yn ein barn ni fel plaid, ar y lefel minimwm, fod cyllid digonol yn cael ei roi i gefnogi gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol, fod cynllun cenedlaethol clir yn cael ei gyflwyno ar gyfer gweithredu newidiadau, a bod hyfforddiant gorfodol yn cael ei roi i staff sy'n ymwneud â darparu cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol.
Nawr, rwy'n credu bod y rhain yn welliannau angenrheidiol i sicrhau tegwch ac urddas i bob dysgwr sydd ag anghenion. Rŷn ni wrth gwrs yn cydnabod yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru'n eu hwynebu, ac awdurdodau lleol yn arbennig, i gael y balans yna’n iawn rhwng gwariant ar wasanaethau eraill ac ar addysg yn benodol. Ac fel cyn aelod o gabinet ar awdurdod lleol, rwy'n gwybod yn bersonol pa mor anodd yw hi i wneud dewisiadau anodd rhwng gwario ar addysg a gwario ar faterion eraill. Dyna pam dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi mai rhoi amddiffynfa, neu warchod, neu 'ring-fence-o' arian ar gyfer addysg yw'r ffordd orau ymlaen.
Yr hyn y mae'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol yn y pwysau croestynnol ar gyllidebau yn ei ddangos yn eithaf clir ac yn ei atgyfnerthu, yw'r angen, yn fy marn i, i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem, ac nad yw Cymru'n cael cyllid teg gan San Steffan. Nawr, rydym wedi galw ers amser maith am fodel cyllido sy'n seiliedig ar anghenion yn lle fformiwla Barnett, ac am wrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n effeithio'n anghymesur ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Nawr, fe wyddom fod y Canghellor yn mynd i gyhoeddi ei datganiad hydref cyn hir. Rwy'n credu bod rhaid iddo gynnwys newidiadau i fformiwla ariannu newydd i Gymru. Bydd unrhyw beth llai yn gam â phlant, teuluoedd a chymunedau Cymru. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno mai addysg yw'r buddsoddiad gorau y gallwn ei wneud yn nyfodol ein cenedl. Mae gennym anghenion yng Nghymru sy'n wahanol. Mae gennym anghenion yng Nghymru sy'n fwy. Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro am y cyllid a'r diwygiadau sydd eu hangen i wireddu'r buddsoddiad hwnnw. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Diolch, Cefin. Wrth gwrs, mae cyllid yn hanfodol bwysig, ond mae yna ffactorau logistaidd eraill a allai fod yr un mor ddefnyddiol i hynny, sef rhywbeth fel mynediad at feysydd pwnc neu feysydd llafur penodol. Yng Nghymru, wrth gwrs, caiff ei rwymo gan un bwrdd arholi, y CBAC, er enghraifft, lle gall awdurdodau addysg lleol Lloegr gael mynediad at ddeunydd CBAC mewn gwirionedd, ond nid yw hynny'n wir y ffordd arall. Felly, a fyddech chi'n derbyn y gallai lefel fwy o ymreolaeth ymhlith ysgolion fod o gymorth yn hynny o beth? Os yw prifathro—neu bennaeth, dylwn ddweud—neu athro yn gweld maes llafur penodol y byddent yn hoffi ei ddysgu i'w plant, y byddant yn ei ystyried yn berthnasol i'r hyn yr hoffent ei wneud, y byddai hynny'n rhywbeth y gallent ei archwilio gyda mwy o ryddid.
Nid wyf yn hollol siŵr sut y mae hynny'n cysylltu â'r ddeiseb sydd o'n blaenau heddiw, ond fy nealltwriaeth i, i ateb eich cwestiwn, yw fy mod yn credu mai mater i bob ysgol yw dewis pa fwrdd arholi y maent am wneud cais amdano o ran arholiadau. Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio CBAC, ond nid wyf yn credu, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod unrhyw beth yn eu gwahardd rhag gwneud rhywbeth arall.
Ond fe ddychwelaf at ADY, os caf. Rwyf am orffen drwy ddweud bod angen y cyllid hwnnw arnom er mwyn diwallu anghenion Cymru, fel nad oes rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y dyfodol wynebu'r dewisiadau amhosib bron y mae'n rhaid iddynt eu gwneud ynglŷn â sut y maent yn gwario eu harian. Diolch.
Mae'r deisebydd yma yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn tynnu sylw at yr ôl-groniad o apwyntiadau ar gyfer asesiadau awtistiaeth ac ADHD. Mae nifer llofnodwyr y ddeiseb yn dangos bod yna deimlad cryf allan yno a bod addysg yn flaenoriaeth i bobl Cymru, ac wrth gwrs, mae'n flaenoriaeth i ni yma yn y Senedd.
Ond mae plant Cymru hefyd yn elwa o wasanaethau a gwariant arall gan awdurdodau lleol, fel llyfrgelloedd, parciau, pyllau nofio, clybiau chwaraeon lleol. Mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau anodd ac yn aml yn adnabod yr ardal leol yn llawer gwell na ni yma ym Mae Caerdydd. Rwy'n cytuno â'r egwyddor na ddylem osod mandad ar yr hyn y mae cynghorau a etholir yn ddemocrataidd yn ei wneud gyda'u cyllidebau eu hunain, ac nid ydym yn gwneud hynny fel arfer. Hoffwn nodi hefyd fod diagnosis yn aml yn deillio o fethiant yn y system iechyd yn hytrach nag o fethiant yng nghyllid addysg.
Fe wnaethom ddarllen yn ddiweddar hefyd mewn erthygl yn Nation.Cymru fod rhai ysgolion yn wynebu craffu gan awdurdodau lleol yn sgil cyllid heb ei wario. Fodd bynnag, nid yw hynny'n celu'r ffaith mai'r gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o ysgolion yn adrodd eu bod wedi wynebu toriadau graddol sydd bellach wedi cyrraedd yr asgwrn. Adroddodd School Cuts Cymru fod gan 69 y cant o ysgolion yng Nghymru lai o gyllid nawr mewn termau real na'r hyn a oedd ganddynt yn 2010.
I'r mwyafrif, mae cyni ariannol Cameron-Clegg wedi parhau, er ein bod wedi cael pum Prif Weinidog yn y DU ers hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n siŵr fod pawb, yn fyfyrwyr, rhieni, athrawon, cynghorwyr a ninnau yma yn y Senedd, yn pryderu am gyflwr cyllid addysg. Fodd bynnag, o dan y model cyllido presennol o San Steffan, os ydym yn clustnodi cyllid addysg, rhaid inni fod yn realistig y bydd meysydd eraill yn dioddef. Felly, fel Cefin Campbell, nid wyf yn argyhoeddedig y gallwn glustnodi cyllid addysg ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod Diwygio ADY Cymru, sydd wedi cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Senedd. Rwy'n gwybod ei fod yn cael ei arwain gan rieni plant a phobl ifanc ag ADY, ac rwy'n cydnabod bod y pryderon a godir gennych wedi'u gwreiddio yn eich profiad bywyd. Rwyf am i chi wybod fy mod i'n gwrando. Fel y gŵyr yr Aelodau, comisiynais adolygiad o'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'r adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau. Byddaf yn gwneud datganiad ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw ac ymateb ein Llywodraeth iddo ar 14 Hydref. Yna byddaf yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos ganlynol i gael fy ngwaith ar ein diwygiadau wedi'i graffu, yn cynnwys Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Felly, rwy'n bwriadu defnyddio'r amser byr sydd gennyf heddiw i fynd i'r afael â'r materion ariannol a godwyd gan y deisebwyr.
Yn yr amseroedd heriol hyn yn ariannol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dewis clir ac egwyddorol, eleni a'r llynedd, i flaenoriaethu cyllid addysg. Rydym yn parhau i gynyddu ein buddsoddiad mewn addysg, gyda £262.5 miliwn ychwanegol eleni a'r llynedd, gan godi ein cyllideb addysg i £1.8 biliwn y flwyddyn, sy'n helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled Cymru. Rwyf hefyd wedi blaenoriaethu cyllid sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Yn 2025-26 mae dros £402 miliwn yn cael ei ddarparu drwy grant addysg awdurdodau lleol i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i gefnogi ein dysgwyr, ac nid yw hyn yn cynnwys cyllid a ddarparwn ar gyfer ein cynlluniau sy'n seiliedig ar alw, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i blant cynradd a'r grant hanfodion ysgol, a fydd yn darparu £126 miliwn pellach. Ac mae ein hymrwymiad i barhau i flaenoriaethu cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddiwyro. Ers 2020, rydym wedi cynyddu'r buddsoddiad mewn ADY yn sylweddol, gyda dros £150 miliwn o gyllid refeniw i ysgolion a lleoliadau awdurdodau lleol i gefnogi gweithrediad, cynyddu adnoddau mewn ysgolion ac arwain strategaethau ysgol gyfan i wreiddio addysg gynhwysol. Cynhaliodd cyllideb 2025-26 y cynnydd o £10 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i ddarparu darpariaeth i ddysgwyr ag ADY, gan gynyddu cyllid ADY a ddarperir drwy grant addysg awdurdodau lleol i £32 miliwn.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy na £170 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau i ddysgwyr ADY drwy ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal â'r cyfalaf o £80 miliwn a ddyrannwyd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol i wella cyfleusterau a chefnogi amgylcheddau dysgu cynhwysol. Mae partneriaid y rhaglen wedi nodi'r angen am fuddsoddiad pellach o £750 miliwn dros y naw mlynedd nesaf i ehangu a chreu darpariaeth arbenigol. Er gwaethaf y pwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu buddsoddi mewn awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion ac ADY. Rydym wedi parhau i fuddsoddi drwy ddarparu cynnydd o £262 miliwn i'r setliad llywodraeth leol eleni, cynnydd o 4.5 y cant. Yn y llythyr a gyhoeddwyd gyda'r cyllid, roeddem yn glir fel Llywodraeth fod y cyllid ychwanegol i fynd tuag at leddfu pwysau mewn addysg, gan gynnwys ADY, yn ogystal â gofal cymdeithasol.
Rwy'n falch iawn ein bod wedi cytuno ar uchelgais ar y cyd ar gyfer addysg fel rhan o'r cytundeb partneriaeth strategol gyda llywodraeth leol. Rwy'n gwybod bod pryderon ynglŷn ag i ba raddau y mae'r cyllid hwnnw'n cyrraedd ein hysgolion. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r anghysondeb yn y ffordd y mae ysgolion yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol, fe wnaethom gynnal adolygiad manwl i edrych ar hyn. O ganlyniad, rwy'n gwneud gwelliannau i sicrhau gwell tryloywder, cymharedd a chysondeb. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i'r ffordd yr adroddir ar wariant ADY. Mae'r ymgynghoriad ar y newidiadau hyn newydd ddod i ben a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law. Y llynedd, fel y dywedais, fe wnaethom newidiadau i'n cyllid grant i wneud yn siŵr fod cymaint o arian â phosib yn mynd i gyllidebau ysgolion.
Ond Ddirprwy Lywydd, nid mater o niferoedd yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â chanlyniadau. Mae gwella safonau addysgol yng Nghymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi, ac rwy'n ymrwymedig i gyflawni hyn i'n holl ddysgwyr. Er mwyn cefnogi gwelliant mewn safonau addysgol, rwy'n glir fod angen inni wella presenoldeb a chyflawni gwelliant parhaus i gyrhaeddiad mewn llythrennedd a rhifedd—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet.
—fel y gall pob dysgwr gyflawni ei botensial.
Lywydd, nid wyf yn awgrymu am eiliad fod yr arian ychwanegol y cyfeiriais ato'n mynd i ddatrys yr holl bwysau ariannu yn ein hysgolion. Rwy'n gwybod bod y pwysau hyn yn real, a byddaf yn parhau i drafod hynny gydag ysgolion ac awdurdodau lleol. Ac fe wnaf bopeth a allaf i ddiogelu cyllid addysg, i ddiogelu mynediad plant a phobl ifanc at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu yn eu haddysg. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ein cynlluniau pellach ar gyfer ADY fis nesaf. Diolch.
Galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau'n cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn y dyfodol, cyllideb a fydd yn darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys addysg.
Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn ymwybodol o'r ddeiseb hon wrth fynd drwy'r broses o osod y gyllideb. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am ei hymateb a dynnodd sylw at y cyllid a roddwyd, ac am yr eglurder a'r ymrwymiad i ADY ac addysg a deimlais yn eich ymateb. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am neilltuo amser ar gyfer y ddadl bwysig hon. Diolch i'r holl ddeisebwyr ac ymgyrchwyr sy'n dadlau dros y canlyniad gorau posib i'w plant a'u pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae wedi bod yn bwysig iawn cyflwyno'r ddeiseb hon a thynnu sylw at yr angen am gefnogaeth iddynt drwy addysg, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM8983 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd yn nodi:
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Medi 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gwneud y cynnig yn fy enw i ar y papur trefn y prynhawn yma. Os oes unrhyw un eisiau ymyrryd, codwch eich llais, oherwydd mae fy ffrind y piler yn blocio hanner y Siambr. [Torri ar draws.] Da iawn. [Chwerthin.]
Dylwn nodi wrth agor y ddadl hon mai dyma'r ymchwiliad olaf dan oruchwyliaeth fy rhagflaenydd, Paul Davies, a diolch iddo am ymgymryd â rôl y Cadeirydd wrth lunio'r adroddiad hwn. Penderfynodd Paul a'r pwyllgor eu bod am gynnal ymchwiliad undydd i ddeallusrwydd artiffisial ac economi Cymru oherwydd, er gwaethaf y drafodaeth eang ar ddeallusrwydd artiffisial sy'n digwydd ar draws y byd, ychydig iawn o archwilio a fu ar y mater o bersbectif Cymru.
Ddirprwy Lywydd, gan fod hon yn ddadl fer ac nad oeddwn yn bresennol yn y sesiynau tystiolaeth, nid wyf am dreulio gormod o amser heddiw ar fy sylwadau agoriadol. [Torri ar draws.] Braf cael cymeradwyaeth. [Chwerthin.] Fe roddaf drosolwg cyflym o'r materion sy'n codi yn yr adroddiad felly, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau.
Yn dibynnu ar bwy y byddwch chi'n siarad â nhw, gallai oes deallusrwydd artiffisial arwain at chwyldro diwydiannol arall, gan wella popeth o gynhyrchiant economaidd i ddiagnosis meddygol, neu gallai fod yn drychineb a fydd yn dinistrio ein hadnoddau naturiol ac yn cael gwared ar bob un ohonom. Mae yna drydydd opsiwn wrth gwrs—na fydd deallusrwydd artiffisial yn arwain at y newidiadau chwyldroadol y mae rhai ohonom yn eu rhagfynegi, neu y gallem weld newid graddol oddi wrtho'n llwyr. Fodd bynnag, ble bynnag y credwch y gallai deallusrwydd artiffisial fynd â ni, mae'n hanfodol fod yna sgwrs gyhoeddus gref am y dechnoleg, fod y polisi'n sicrhau dealltwriaeth o'r newidiadau a ddaw yn ei sgil ac y byddwn ni, yn bwysig, yn deall beth y gallai fod angen ei wneud o ganlyniad i'r newidiadau hyn.
Clywodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth ddiddorol ynglŷn â deallusrwydd artiffisial. Ar yr ochr gadarnhaol, clywodd yr Aelodau sawl gweledigaeth o fodelau deallusrwydd artiffisial cynaliadwy Cymreig yn cael eu pweru gan ein gwynt a'u hoeri gan ein môr. Ar yr ochr fwy gofidus, clywodd y pwyllgor am yr effaith bosib y gallai deallusrwydd artiffisial ei chael ar y farchnad lafur. Mae'r adroddiad hwn yn gwneud wyth argymhelliad, yn seiliedig ar sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer y newidiadau posib y gallai deallusrwydd artiffisial eu cyflwyno.
Mae'r ddadl hon hefyd yn amserol iawn, gan ein bod wedi clywed llawer am fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial yr wythnos diwethaf yn ystod yr ymweliad gwladwriaethol arlywyddol. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn elwa o fanteision y dechnoleg hon a photensial buddsoddiadau yma yng Nghymru. Gallwn wneud hyn i gyd drwy gynllun gweithredu cryf ar gyfer deallusrwydd artiffisial gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod gennym y sgiliau cywir ar waith.
Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu parthau twf deallusrwydd artiffisial, ac rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud sut y byddant yn cefnogi'r rhain. Rwy'n falch o weld o'r ymateb fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno cais bargen twf ar gyfer deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, ac ers i'n hymchwiliad gael ei gynnal, cadarnhawyd y bydd parth twf deallusrwydd artiffisial yng Nghymru. Rwy'n nodi bod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddent yn cyhoeddi'r parth cyntaf yn yr haf, a'r wythnos diwethaf, cafwyd cyhoeddiad y caiff un ei sefydlu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Felly, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet rannu unrhyw fanylion pellach heddiw am y trafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU ynghylch parthau twf deallusrwydd artiffisial, ac yn fwyaf arbennig, a gafodd hi unrhyw arwydd o ba bryd y cawn glywed am y cais o Gymru.
Bydd cefnogi busnesau i ddeall a mabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial yn hanfodol i wneud y mwyaf o fanteision posib deallusrwydd artiffisial. Hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod busnesau'n gallu cael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt, a sut y bydd yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r bylchau yn y cymorth hwnnw.
Clywsom hefyd am anfanteision posib y dechnoleg, ac fe wnaethom argymell fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o ba swyddi sydd mewn perygl. Mae angen i'r gweithlu fod â'r sgiliau cywir i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o ddeallusrwydd artiffisial a bydd angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gwaith i sicrhau bod hyn yn digwydd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae'n bleser gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein holl argymhellion, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.
Cyn i mi ildio ac agor y ddadl, roeddwn eisiau talu teyrnged fer i Hefin David, gan ei fod wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymchwiliad hwn, ac mae'n drist ofnadwy na chawn glywed ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau eraill. Diolch.
Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bawb a fu'n rhan o waith y pwyllgor.
Deallusrwydd artiffisial yw pwnc mawr ein hoes. Gellid maddau i ni am deimlo fel pe bai pawb yn siarad amdano, o wleidyddion i bynditiaid y rhaglenni sgwrsio ac wrth gwrs, y bobl hynny sydd ar y trywydd iawn i wneud miliynau a miliynau o bunnoedd o gynnydd deallusrwydd artiffisial. Ond fel y nodir yn adroddiad y pwyllgor, mae 'deallusrwydd artiffisial' yn derm a ddefnyddir yn eang sy'n golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Gall fod iddo ffurfiau amrywiol hefyd. Mewn ymgais gloff i'w grynhoi braidd yn or-syml, yr hyn yw deallusrwydd artiffisial yn y bôn yw ffurf newydd, neu ffurf arall, ar awtomeiddio. Ac fel sydd wedi digwydd ar hyd yr oesoedd, mae esblygiad awtomeiddio'n creu cyfleoedd a heriau, buddion a risgiau, siarad gwag a gobaith. Felly, rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw ar ymchwiliad y pwyllgor i ddeallusrwydd artiffisial yn economi Cymru.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at dystiolaeth y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus. Mae'n dweud
'mai swyddi gweinyddol, sydd â gweithlu benywaidd yn bennaf, fydd fwyaf agored i niwed yng nghyfnod cyntaf datblygu deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, tra bod disgwyl i fwy o swyddi â chyflog uchel gael eu heffeithio mewn cyfnodau yn y dyfodol.'
Yn yr un modd, nododd Cyngres Undebau Llafur Cymru sut y gallai deallusrwydd artiffisial effeithio ar ansawdd gwaith mewn ffordd negyddol hefyd, a darparodd enghreifftiau o weithwyr yn cael eu monitro a'u rheoli gan systemau deallusrwydd artiffisial a all osod targedau afrealistig y bydd gweithwyr yn ei chael hi'n anodd eu cyflawni. Yn ogystal, mae gweithwyr creadigol yn teimlo y bydd eu gwaith yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwaith newydd honedig trwy ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol heb eu caniatâd. Felly, beth y gallwn ni ei wneud? Cefais fy nhemtio'n fawr i ofyn i ChatGPT, ond mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion ar gyfer sgiliau a dadansoddiadau sector, a ddylai gynnig llinell sylfaen, ochr yn ochr ag adeiladu ar y canllawiau sydd eisoes wedi'u datblygu gan gyngor partneriaeth y gweithlu. Mae hefyd yn nodi'r cyfle a gyflwynir gan ddeddfwriaeth a chanllawiau caffael newydd ar gyfer siapio gwerth cymdeithasol y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus.
Ond yma yng Nghymru, gallai fod potensial pellach drwy bŵer y pwrs cyhoeddus a'r gefnogaeth a ddarperir gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae angen inni ddatblygu disgwyliadau clir y gellid eu cysylltu â chyllid neu eu cynnwys gyda llythyrau cylch gorchwyl. Ac o ran y sector creadigol, gallai fod rôl i Cymru Greadigol a chyrff eraill a Llywodraeth Cymru ar y defnydd o offer a chynnwys deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, a diogelu gweithwyr y tu ôl i'r llenni, gweithwyr technegol a gweithwyr cymorth yr effeithir ar eu sgiliau, eu llafur neu eu rolau gan ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Ac wrth gwrs—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Rhywbeth a nodwyd yn Senedd y DU, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, oedd ymdreiddiad tueddiadau Americanaidd yn cael eu cyflwyno i Senedd y DU. Rwy'n credu mai Tom Tugendhat a grybwyllodd hynny, fod ASau yn defnyddio ChatGPT, efallai, neu apiau tebyg i'w helpu gyda'u cyfraniadau. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny yma yn y Senedd. Ond o ran dilysrwydd cyfraniadau ac areithiau, a pheidio â chynnwys gormod o eiriau na fyddai'n cael eu defnyddio'n aml, a fyddai hynny'n rhywbeth y byddech chi'n hapus i'w nodi?
Ni nodais y ddadl honno, ond rwy'n credu ei fod yn mynd yn ôl i'r gwraidd: gwneud yn siŵr fod pethau'n cael eu siapio'n gydweithredol a bod y tueddiadau hynny'n cael eu trin ar gam datblygu hefyd. Wrth gwrs, dylid gwneud unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar arferion yn y gweithle ac ati mewn partneriaethau cymdeithasol ystyrlon, fel y byddai pawb yn disgwyl i mi ei ddweud, a'u gwneud gyda'r gweithlu a'r sefydliadau, nid iddynt.
Ond fel y clywsom, mae'n mynd y tu hwnt i Gymru, a thu hwnt i'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, ac mae angen monitro a chanllawiau yn y gyfraith ar lefel y DU, a gweithredu ar y cyd a dulliau gweithredu ar raddfa fyd-eang. Nid oes rhaid i gynhyrchiant ar gyfer yr economi ac amddiffyniadau i weithwyr, asgwrn cefn ein heconomi, gau ei gilydd allan. Rydym yn cydnabod nad yw Cymru eisiau cael ei dal ar y droed ôl. Mae technoleg deallusrwydd artiffisial yma eisoes. Mae wedi bod ers peth amser. Yn wir, mae'n debyg mai'r testun rhagfynegol yr ydym wedi arfer ag ef ar ein ffonau ers nifer o flynyddoedd bellach oedd rhagflaenydd cynnar peth o'r dechnoleg deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol honno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac nad yw algorithmau ac awtomeiddio'n cael eu galluogi i chwyddo anghydraddoldebau, boed hynny yn y gweithle neu'r gymdeithas ehangach. Rwy'n credu, yn y pen draw, fod angen i ni harneisio'r pŵer a allai fod yno gyda deallusrwydd artiffisial i ddileu, nid gwaethygu, anghydraddoldebau.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o'r amser yn y ddadl hon, rwy'n credu mai Mark Zuckerberg a ddywedodd, pan sefydlodd Facebook—. Ei arwyddair oedd 'Symud yn gyflym a thorri pethau' er mwyn annog arloesedd ac arbrofi cyflym, heb fawr o bryder am y canlyniadau negyddol posib. Newidodd yr arwyddair yn 2014 i, 'Symud yn gyflym gyda seilwaith sefydlog'. Ond i gloi, yng Nghymru, gydag unrhyw ddull o weithredu a fabwysiadwn, rwy'n credu y dylai symud yn deg a defnyddio deallusrwydd artiffisial er gwell i wneud iddo weithio i Gymru, ac i waith yng Nghymru, ac i greu'r gweithleoedd a'r wlad yr ydym am eu gweld. Diolch.
Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn. Credaf ei fod yn amserol iawn ac yn gyfraniad difrifol mewn dadl angenrheidiol. Fel y dywedodd Hannah Blythyn, serch hynny, rwy'n credu bod y byd i gyd yn siarad am un pwnc ar hyn o bryd ac yn gofyn yr un cwestiwn iddynt eu hunain, ynglŷn â'r hyn y gall deallusrwydd artiffisial ei olygu i'w dyfodol economaidd a'u dyfodol ehangach. Y dasg yw sut y mae gwahanu'r signal oddi wrth y sŵn, mewn gwirionedd, a deall beth y mae'n ei olygu i ni'n benodol, a ble mae'r cyfleoedd. Ac i mi, mae'n ddefnyddiol ystyried y cwestiwn hwn drwy lens tri meddyliwr economaidd cyfoes, dau o Venezuela ac un o'r Eidal.
Ricardo Hausmann o Brifysgol Harvard: ei bwynt canolog ef, wrth feddwl am eich dyfodol economaidd, yw bod rhaid ichi feddwl am fanylion penodol yn hytrach nag yn gyffredinol. Felly, rhaid ichi ofyn i chi'ch hun: beth rydym yn ei gynhyrchu a beth y gallem ei gynhyrchu? Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cyffwrdd â hynny mewn gwirionedd yn un o'i argymhellion, gan ofyn inni ymchwilio'n fanwl i ddeall beth yw ein mantais gystadleuol. Beth rydym yn ei gynhyrchu'n dda neu beth rydym yn agos at ei gynhyrchu'n dda, a sut y gall deallusrwydd artiffisial ein helpu i wireddu'r potensial hwnnw? Mewn un ystyr, mae angen i bob economi nodi ei rhinweddau ei hun, ei galluoedd ei hun, ei rhwydweithiau ei hun a'i sgiliau a'i gwybodaeth ddealledig, a hynny ar ochr y galw a'r ochr gyflenwi. Beth rwy'n ei olygu wrth hynny? Wel, mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg a all helpu pob sector yn yr economi i gynhyrchu'n fwy effeithiol, i gynyddu cynhyrchiant, i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, ond mae hefyd yn ochr gyflenwi. Felly, rhaid inni fapio economi Cymru o ran y sectorau eang a phenodol ar lefel fanwl lle mae gennym y fantais gymharol honno, ac yna mae'n rhaid inni ddeall ein hecosystem deallusrwydd artiffisial hefyd. Nid ydym yn dechrau o ddim: mae gennym bethau fel Amplyfi, ac ati. Mae gennym gryfderau sy'n dod i'r amlwg yn yr ecosystem ddeallusrwydd artiffisial honno, ond mae angen inni fapio'r gofod hwnnw i ddeall ble y gallwn sicrhau llwyddiant.
Mae Carlota Perez yn economegydd sy'n arbenigo ar y chwyldro technolegol, felly mae hi'n hollbwysig i ddeall y foment yr ydym yn byw drwyddi ar hyn o bryd. Ac mae rhywfaint o newyddion da iawn yma, Ddirprwy Lywydd, gan mai un o'i negeseuon canolog yw bod chwyldro technolegol yn agor ffenest fach o amser y gall hwyrddyfodiaid lamu drwyddi, fel y byddai hi'n ei ddweud. Felly, yn sefyllfa bresennol Cymru, lle rydym yn gymharol isel o ran incwm y pen ac ati, mae'r chwyldro technolegol yn creu newid, ac yn y foment honno, gallwch fanteisio ar y cyfle. Ond os na wnewch chi hynny, mae'n rhybuddio, os collwch y cyfle, yna bydd rhaid ichi fewnforio model rhywun arall. Felly, mae cyfle hollbwysig yma, ond mae'n rhaid inni achub arno.
Ac yna, yn olaf, mae Mariana Mazzucato yn enw a fydd yn fwy cyfarwydd o bosib. Mae hi'n sôn am bwysigrwydd cenadaethau, a pha mor bwysig yw'r llywodraeth a'r wladwriaeth i greu arloesedd a datblygiad economaidd. Gall y wladwriaeth, drwy ei phŵer i reoleiddio, drwy ei phŵer i gaffael a thrwy greu seilwaith cyhoeddus, siapio marchnadoedd a chreu sectorau cyfan o'r newydd. Felly, dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliad hollbwysig yma.
Nawr, o ystyried hyn oll, beth y dylem ei wneud? Mae'n cyd-fynd mewn rhai ffyrdd â'r argymhellion. Wel, yn gyntaf, rhaid inni fapio ein gofod cynnyrch. Rhaid inni ddeall economi Cymru mewn ffordd fwy manwl nag ar hyn o bryd, er mwyn deall ble y gallwn ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dod yn arweinwyr yn hytrach na llusgo traed. Fel y dywedodd Amplyfi yn eu tystiolaeth, un o'r meysydd allweddol yw bod arnom angen mynediad at gyfalaf, felly mae arnom angen cronfa arloesi deallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio—gan gysylltu'n ôl â'r gofod cynnyrch unwaith eto—ar ble mae ein potensial, ond hefyd ar ble mae ein cenadaethau.
Gan gysylltu'n ôl â gwaith Mariana Mazzucato, rhaid inni edrych ar ddeallusrwydd artiffisial cyhoeddus. Felly, yn hytrach na chael canolfannau data sy'n eiddo i'r sector preifat yn unig, a setiau hyfforddi yn wir, y modelau y mae deallusrwydd artiffisial yn seiliedig arnynt, mae angen inni edrych ar gyfleoedd sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd. Mae angen inni ddefnyddio offer caffael, gan greu, er enghraifft, Cymru sy'n arweinydd ym maes deallusrwydd artiffisial moesegol. Mae hwnnw'n sector sy'n tyfu. Mae Cymru yn lle da i dyfu'r is-sector hwnnw ym maes deallusrwydd artiffisial. A chredaf fod angen inni gynghreirio ag eraill ledled y byd sy'n gofyn yr un cwestiynau. Mae yna genhedloedd, dinasoedd a rhanbarthau bychain eraill, ac ati, sy'n mynd ati i wneud hyn mewn ffordd wahanol. Gallwn ddysgu gan y gorau a phartneru â nhw, a gobeithio y gallwn ddal y ffenest honno y mae Carlota Perez wedi dweud sydd ar agor i ni ar hyn o bryd.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Andrew R.T. Davies, am agor y ddadl; i'r Cadeirydd blaenorol, Paul Davies, am arwain ein hymchwiliad undydd; a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar. Gadewch inni fod yn onest. Mae pawb yma yn y Siambr hon, yn yr adeilad hwn, yn defnyddio deallusrwydd artiffisial pa un a ydynt yn gwybod hynny ai peidio, boed hynny drwy'r isdeitlau ar fideos a ddefnyddiwn ar ein cyfryngau cymdeithasol, neu'n ChatGPT sy'n ein helpu i ysgrifennu areithiau, ac mae llawer o bethau sy'n datgelu hynny hefyd i'r rhai sy'n gwybod beth i edrych amdano, Ddirprwy Lywydd, gan ddangos a yw rhywun yn defnyddio ChatGPT. Gormod o gysylltnodau; un o'r pethau y mae ChatGPT yn tueddu i'w gwneud yw defnyddio llawer o gysylltnodau yn ei destun, felly rhywbeth i'w gadw mewn cof i'r rhai ohonoch sy'n copïo a gludo heb wirio.
Ond rwy'n gweld cyfle enfawr mewn deallusrwydd artiffisial, a chan ddilyn ymlaen o'r hyn y mae Adam Price wedi'i ddweud am integreiddio deallusrwydd artiffisial yn ein heconomi a'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yn dda yng Nghymru, ond sut rydym yn integreiddio deallusrwydd artiffisial yn hynny er mwyn gwneud y mwyaf o'r manteision i'n heconomi. Gadewch inni edrych ar amaethyddiaeth a'r parthau perygl nitradau a'r rheoliadau llygredd dŵr. Y gallu i integreiddio deallusrwydd artiffisial yn y gwaith o fonitro lefelau maethynnau mewn dyfrffyrdd, pryd y dylid gwasgaru slyri neu nitradau, sy'n ein cynorthwyo i gefnu ar ddull o ffermio yn ôl y calendr. Dyna ateb technolegol i'r hyn sydd ar hyn o bryd yn system a set o reoliadau cyfyng iawn. Dyna lle credaf fod gan ddeallusrwydd artiffisial ddefnydd gwirioneddol, i ddeall cymhlethdodau'r byd go iawn, a rhoi'r hyblygrwydd hwnnw iddo.
Rwyf bob amser wedi credu bod yn rhaid i ddeallusrwydd artiffisial gael rhyngweithiad dynol ar y dechrau ac ar y diwedd. Ni ellir ei adael i fynd ar ei liwt ei hun. Rwy'n credu hynny'n gryf. Fel rhywun sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn fy swyddfa, rwyf bob amser yn sicrhau fy mod i ar ddechrau'r broses ac ar ddiwedd y broses, a bod bodau dynol yn rhan o hynny. Rwy'n credu y byddai hynny'n datrys llawer o'r problemau.
Ac o ran y gweithlu a sut y bydd y gweithlu'n newid oherwydd deallusrwydd artiffisial, credaf mai un o'r pethau allweddol yw sut y mae aelodau'r gweithlu wedyn yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial eu hunain. Felly, ailsgilio ac uwchsgilio'r gweithlu fel nad yw'n dileu swyddi, mae'n newid y swyddi eu hunain i set sgiliau uwch. Mae'r promptiau sydd eu hangen i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn bwysig iawn. Os ydych chi'n rhoi promptiau penodol i ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, y mwyaf disgrifiadol, y mwyaf rhagnodol y gallwch fod wrth benderfynu beth rydych chi eisiau i ddeallusrwydd artiffisial edrych arno, y gorau fydd y canlyniad. Po fwyaf generig fyddwch chi, po leiaf eich set sgiliau wrth bromptio deallusrwydd artiffisial, y gwannaf fydd yr atebion. Felly, credaf mai dyna ble mae llawer o gryfder i'w ennill, o ran sut yr awn ati i uwchsgilio ein gweithlu i allu integreiddio deallusrwydd artiffisial, defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth inni symud ymlaen.
Yr hyn a hoffais yn fawr hefyd yw—. Pob clod i'r Llywodraeth am dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor wyth argymhelliad y pwyllgor. Rwy'n credu bod hynny'n dda. Rwy'n gobeithio nad yw hynny'n nifer rhy uchel o argymhellion pwyllgor ar ôl yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach yr wythnos hon; credaf ei fod oddeutu'r lefel gywir. Mae angen inni wneud y mwyaf o'r cyfle yma, gan fod cymaint o wledydd ar flaen y gad yn hyn o beth. Mae pawb yn rhuthro i geisio bod ar flaen y gad. Roedd Adam yn llygad ei le pan ddywedodd mai dyma ein cyfle i edrych ar hyn, a bydd gwledydd eraill yn gwneud pethau sy'n benodol iddynt hwy. Beth fydd yn benodol i ni yng Nghymru gyda deallusrwydd artiffisial? Dyna lle credaf fod cyfle i Lywodraeth Cymru, cyfle i gael corff. Rwy'n credu ei bod yn iawn mai Llywodraeth Cymru a ddylai arwain yn y cyswllt hwnnw, gan weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Rwy'n credu bod cyfle enfawr inni gryfhau ein heconomi yng Nghymru drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
Rwy'n falch fod ein pwyllgor wedi rhoi amser i edrych ar yr adroddiad hwn, ac nid wyf wedi defnyddio unrhyw nodiadau ar gyfer hyn, fel teyrnged i Hefin David, y gwelwn ei golli'n fawr. Byddwn wedi hoffi clywed ei gyfraniad ar hyn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, ac rwy'n diolch i Andrew a'i bwyllgor, a Paul Davies o'i flaen, am lunio'r adroddiad hwn. Mae deallusrwydd artiffisial yn ein hwynebu ym mhobman. Rydym yn ei weld drwy'r dydd. Nid ydym bob amser yn gwybod ein bod yn ei ddefnyddio, ond mae'n ein cynghori bob tro yr edrychwn ar Google; mae'n rhoi dewisiadau eraill i ni ac yn y blaen. Ond rydym wedi gweld pa mor beryglus y gall fod hefyd, neu'n hytrach, y bygythiadau sy'n gysylltiedig â'r ochr seiber i bethau. Edrychwch ar Jaguar Land Rover a sut y gall pethau ddigwydd. Yn eironig, deallusrwydd artiffisial ei hun fydd yn ein herio yn y dyfodol ac yn cyflwyno'r pryderon seiber sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial ei hun. Felly, mae hynny'n peri cryn bryder.
Gwn fod y pwyllgor wedi cyfeirio at beth o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo yn Llywodraeth y DU, yn adran 9 eich adroddiad, ac wedi sôn am eu cydnabyddiaeth a rhai o'r problemau. Ond nodais yn yr ymateb gan y Llywodraeth i'ch argymhellion nad oedd y Llywodraeth wedi myfyrio ar faes pwysig diogelwch a sut y maent yn mynd i roi sylw i'r trefniadau diogelwch yn y dyfodol o ran rheoli deallusrwydd artiffisial yn ein hamgylchedd yn y dyfodol, a chredaf y gallai hynny fod braidd yn esgeulus. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried hynny a meddwl sut y maent yn mynd i wneud datganiad, efallai, ynghylch sut y gallant roi sylw i hynny yn y dyfodol. Diolch, Ddirprwy Llywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ei adroddiad a hefyd am yr holl argymhellion ar bwnc deallusrwydd artiffisial a'r economi. Oherwydd gellid dadlau mai deallusrwydd artiffisial yw'r newid technolegol mwyaf y mae ein byd wedi'i weld ers dyfodiad y rhyngrwyd, ac rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i'w cael, ac mae'r Prif Weinidog yn sicr yn ymwybodol o'r rheini. Mae'n dangos diddordeb personol cryf iawn yn y mater hwn.
Mae archbwerau economaidd a chwmnïau digidol a thechnoleg byd-eang ar hyn o bryd yn buddsoddi biliynau o bunnoedd o gwmpas y byd i fynd ar drywydd datblygiadau a defnyddio'r dechnoleg, ac mae Cymru eisoes yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny, gan fod gennym fuddsoddiadau gwerth biliynau o bunnoedd ar y gweill yma yng Nghymru gan Vantage Data Centers a Microsoft, ac maent yn dod â champysau canolfannau data ar raddfa anferth yma i dde Cymru. Llywodraeth Cymru sydd wedi galluogi'r buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw mewn gwirionedd, a gwnaethom hynny drwy ein datblygiad tir strategol a hefyd drwy weithio'n agos iawn gyda'r sector, i sicrhau bod y cyflenwad ynni cadarn sydd ei angen arnynt ar gael.
Felly, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor i gefnogi datblygiadau parthau twf deallusrwydd artiffisial, ac i fynd i'r afael â chanlyniadau posib yn ymwneud ag adnoddau, byddwn yn parhau i weithio gyda datblygwyr canolfannau data allweddol i sicrhau y ceir buddsoddiad sensitif a synhwyrol ledled Cymru, gan baru'r datblygiad â ffynonellau ynni carbon isel lle bynnag y bo modd, yn ogystal â chynlluniau canolfannau data sy'n lliniaru effeithiau ar ddefnydd dŵr. Mae'r cyfleoedd i gwmnïau newydd ddatblygu a manteisio ar offer a gwasanaethau deallusrwydd artiffisial yn wirioneddol arwyddocaol, ac rydym yn creu ecosystem gefnogol i ddarparu amodau i alluogi'r twf hwnnw.
Mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gyfer agenda sgiliau'r gweithlu, byddwn yn parhau i weithio gyda'n prifysgolion a'n partneriaid datblygu sgiliau i sicrhau bod y wybodaeth sydd ganddynt yn trosi'n gyfleoedd llwybrau sgiliau'r dyfodol, sydd ar gael i entrepreneuriaid, ond hefyd i'n gweithluoedd presennol a rhai'r dyfodol. Gwyddom o'n cwmnïau deallusrwydd artiffisial presennol fod y dalent sy'n cael ei chynhyrchu o'n sefydliadau yn werthfawr iawn, ac mae Banc Datblygu Cymru eisoes yn buddsoddi mewn busnesau deallusrwydd artiffisial. Gyda hyn oll, credaf yn gryf fod gennym yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnom i dyfu'r sector.
Dylwn ddweud, serch hynny, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i gydnabod, fod rhai risgiau'n gysylltiedig â'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, gan gynnwys y potensial am duedd yn y data a ddefnyddir i ddarparu'r gwasanaethau deallusrwydd artiffisial hynny, tarfu, effaith ar y farchnad lafur, a phryderon ynghylch camwybodaeth. Dyna pam ei bod mor hanfodol sicrhau bod technolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd cyfrifol, moesegol, cynhwysol a diogel.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen am newid a'r angen i gefnogi diwydiannau sy'n wynebu heriau real, gan fod deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar fodel busnes cwmnïau, a'r gofynion ar y bobl y maent yn eu cyflogi. Ac mae hynny'n ymestyn i'r canllawiau sydd eu hangen i sicrhau ansawdd swyddi a materion cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Bydd ein grŵp cynghori strategol ar ddeallusrwydd artiffisial, a gyfarfu eto heddiw, sy'n dod ag arbenigedd pwysig y diwydiant i Lywodraeth Cymru, a hefyd ein dull partneriaeth gymdeithasol, yn gwbl allweddol wrth arwain ein gwaith yn y maes penodol hwn, gan gynnwys ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar ystyried sut y caiff caffael deallusrwydd artiffisial ei ymgorffori mewn canllawiau.
Ar ôl cydnabod y risgiau hynny, mae'n amlwg fod yna gyfleoedd enfawr y mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i fanteisio arnynt, gyda manteision i'n heconomi ac i'n cymdeithas ehangach. Rwy'n benderfynol iawn ein bod yn gwneud hynny. Mae defnydd arloesol ac effeithiol o ddata, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, yn elfen graidd o'n strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru, ac mae'n helpu i wella ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â thyfu economi Cymru. Eisoes, mae gennym enghreifftiau gwych o sut y mae defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddinasyddion Cymru, gyda threialon llwyddiannus a gefnogir gan Lywodraeth Cymru o blatfform deallusrwydd artiffisial Ibex i gynyddu cyfraddau canfod canser y fron a'r defnydd o Beam Magic Notes i wella effeithlonrwydd a gwella tasgau gweinyddol, gwneud penderfyniadau a gwasanaethau ar gyfer timau gofal cymdeithasol oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rydym eisiau ysbrydoli busnesau i fabwysiadu a chroesawu arloesedd digidol ac arloesi sy'n seiliedig ar ddata i ysgogi cynhyrchiant, gwydnwch a chynaliadwyedd—gan ddiogelu eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chreu swyddi â chyflogau da a fydd yn para. Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, rydym eisoes yn adeiladu ar ein cynnig o gymorth gyda phartneriaid i ddarparu darpariaethau effeithiol i fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn mabwysiadu ac yn elwa o ddeallusrwydd artiffisial, a byddwn yn targedu cymorth wedi'i deilwra lle bo'i angen. Mae'r Llywodraeth hon, wrth gyflawni ein strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru, yn gweithio mewn cydweithrediad agos iawn â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, cwmnïau technoleg y sector preifat a sefydliadau academaidd i harneisio'r gorau y gall pob sector ei gynnig.
Mewn ymateb uniongyrchol i argymhelliad cyntaf y pwyllgor—cyflawni ein cynllun gweithredu ar ddeallusrwydd artiffisial a'r parth twf deallusrwydd artiffisial—bydd ymdrech gydweithredol yn cael ei gwneud ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llywodraeth leol gyda'n partneriaid ehangach yn yr economi, gan gynnwys yr undebau llafur. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu ar y buddsoddiadau sylweddol a wnaed eisoes a'r rhai a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol. Mae seilwaith deallusrwydd artiffisial yn rhagofyniad angenrheidiol ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet.
—ac fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei argymell, rydym yn benderfynol o adeiladu ar yr ecosystem o'i gwmpas er mwyn elwa o'r manteision. Byddwn yn manteisio ar y cryfderau a'r meysydd o fantais gystadleuol sydd gennym yma yng Nghymru.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch hefyd i dîm clercio'r pwyllgor am ddod â'r tystion ynghyd a dod â'r adroddiad terfynol rydym newydd ei drafod at ei gilydd.
Canolbwyntiodd llawer o'r Aelodau a gyfrannodd heddiw ar y cyfleoedd cyflogaeth posib sy'n bodoli, ond hefyd yr anfanteision sy'n gysylltiedig â rhai o'r swyddi y gallai TG a deallusrwydd artiffisial eu disodli. Tynnaf sylw'r Aelodau at sioe Nicky Campbell fore Llun. Fe wnaethant dynnu sylw at ddatblygiad deallusrwydd artiffisial a sut y mae rhai swyddi graddedigion yn diflannu'n araf. Mewn gwirionedd, mae pobl yn cael eu cyfeirio'n ôl at y crefftau traddodiadol, gan fod angen plymwr arnoch o hyd, mae angen trydanwr arnoch o hyd i drwsio rhai o'r bolltau a'r nytiau ac ati na fydd deallusrwydd artiffisial yn gwneud unrhyw wahaniaeth iddynt. Dyna oedd un o eiliadau dadlennol yr wythnos i mi, lle roeddech chi'n clywed y ddwy ochr i'r ddadl, lle mae manteision a lle mae anfanteision amlwg. Cafodd hynny sylw ym mhob cyfraniad y prynhawn yma.
Dywedodd Adam Price fod yn rhaid ichi ddilyn y signal yn hytrach na dilyn y sŵn. Mae hynny'n ofyniad allweddol i unrhyw Lywodraeth sy'n gweithio gyda'n cymheiriaid ar lefel y DU ar ben arall yr M4, gan fod yr amgylchedd rheoleiddiol yn cael ei osod yno, ond mae'r potensial o ran datblygu economaidd ac ymgorffori hyn mewn gwasanaethau cyhoeddus yn amlwg yn rhywbeth a gaiff ei gomisiynu yma, gan Lywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y cyfleoedd diagnostig sydd ar gael i'r GIG, er enghraifft, drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Mewn llawer o ddarpariaethau'r GIG ar hyn o bryd, mae mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial nag y gallai unrhyw un fod wedi'i ddychmygu gwta ddwy neu dair blynedd yn ôl, a bydd hynny'n parhau i gynyddu'n gyflym. Mae hynny'n creu cyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â chyfleoedd hyrwyddo i bobl sydd eisiau mabwysiadu'r dechnoleg newydd hon—neu ddim mor newydd bellach.
I mi, cafodd y mater ei grynhoi yr wythnos hon, pan wnaeth fy merch ieuengaf, sydd allan yn Seland Newydd ar hyn o bryd, am 10.30 p.m. nos Fawrth, rwy'n credu, alwad FaceTime o ben mynydd yno. Roedd hi ger Ashburton yn Seland Newydd, ac roeddem ninnau yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg. Fel pe baech chi yn yr un ystafell â'ch gilydd, roedd y dechnoleg honno'n galluogi sgwrs rhwng rhiant a phlentyn. Fe wnaeth hynny bwysleisio'n gryf fod y byd yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd yn mynd yn llai, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond hefyd, ni ddylem anghofio peryglon y dechnoleg hon yn y dwylo anghywir, ac yn fwyaf arbennig, y camddefnydd o'r dechnoleg gan rymoedd tywyllach sydd eisiau gwneud niwed i'r wlad hon a niwed i'r gwasanaethau y mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt.
Gyda hynny, edrychaf ymlaen at weld argymhellion adroddiad y pwyllgor yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd fel y pwysleisiodd Sam Kurtz, mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, naill ai yn eu cyfanrwydd neu mewn egwyddor, ac mae'r adroddiad yn debygol o fod yn adroddiad adeiladol, i weithio gyda'r Llywodraeth. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor, cyn diwedd tymor y Senedd, yn ailedrych i weld sut y mae'r argymhellion hynny'n cael eu rhoi ar waith a pha wahaniaeth y maent yn ei wneud. Ond unwaith eto, diolch i bawb am gyfrannu at yr adroddiad hwn, ac yn enwedig yr agwedd gadarnhaol mewn perthynas ag agenda'r pwyllgor. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig y unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Gwaith craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8986 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024, a osodwyd ar 24 Ebrill 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i arwain y ddadl yma heddiw ar adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae ein hadroddiad ni'n ystyried gwaith y comisiwn yn y flwyddyn 2023-24 a'r cynnydd tuag at ei raglen waith ehangach. Mae hefyd yn ystyried dyfodol y comisiwn yng nghyd-destun archwiliad diweddar Llywodraeth Cymru o'r gwaith y mae'r comisiwn yn ei wneud.
Fe wnaethom ni 10 o argymhellion. Mae dau o'r rhain ar gyfer y comisiwn ei hun, sydd wedi ymateb yn gadarnhaol, os caf i ddweud, ac mae wyth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn pump o'n hargymhellion ni, ac wedi derbyn tri mewn egwyddor.
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gorff, wrth gwrs, sydd wedi cael ei greu, ei ariannu a'i benodi gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y cadeirydd a'r comisiynwyr eu penodi am dymor o dair blynedd rhwng 2021-22 a 2024-25. Ers hynny, mae tymor y comisiwn wedi cael ei ymestyn, yn gyntaf i fis Rhagfyr 2025 ac wedyn ei ymestyn ymhellach—mewn ymateb i adroddiad gan ein pwyllgor ni, fel mae'n digwydd—i fis Medi 2026. Mae'r estyniadau tymor byr hyn yn dangos peth o'r ansicrwydd, wrth gwrs, rŷn ni'n teimlo sy'n llesteirio gwaith y comisiwn. Fe wnaf i ddychwelyd at hyn yn benodol mewn munud.
Cafodd y comisiwn ei sefydlu yn gorff annibynnol, yn gorff anstatudol, yn gorff cynghorol i Weinidogion Cymru. Prif ddiben y comisiwn yw gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor ein gwlad ni. Yn y Senedd hon, mae wedi cyhoeddi dau adroddiad pwysig: un ar ynni adnewyddadwy, ac un arall ar liniaru llifogydd. Ar hyn o bryd, mae'n bwrw ymlaen â gwaith ar gyfathrebu hinsawdd, a hefyd mae'n bwriadu darparu asesiad seilwaith Cymru y flwyddyn nesaf.
Y llynedd, wrth gyflwyno adroddiad y pwyllgor, fe wnes i dynnu sylw at yr anawsterau wrth asesu effaith y comisiwn ar y Llywodraeth, oherwydd methiant y Llywodraeth i ddarparu ymatebion amserol a chlir i argymhellion y comisiwn. Yn ei adroddiad ar ynni adnewyddadwy, fe argymhellodd y comisiwn y dylai'r Llywodraeth ddarparu amserlen ar gyfer cynhyrchu cynllun ynni cenedlaethol i Gymru. Ymatebodd y Llywodraeth drwy ymrwymo
'i ddatblygu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru erbyn diwedd 2024.'
Mae argymhelliad 7 yn ein hadroddiad yn cymeradwyo'r nod hwnnw, wrth gwrs. Mae wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth y tro hwn. Ond, yn ei hymateb, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud, a dwi'n dyfynnu:
'Ers i ni ymrwymo i gyflawni Cynllun Ynni Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, mae'r sefyllfa ledled y DU wedi newid yn sylweddol. Mae cydnabyddiaeth gynyddol wedi bod mai dim ond drwy ddull wedi'i gynllunio y byddwn yn cyflawni system ynni carbon isel a fydd yn golygu cyn lleied o gost ac effaith â phosib.'
Da iawn hyd yma. Ond yna, mewn tudalen gyfan, mae'r Gweinidog yn mynd ati i nodi pam nad oes unrhyw weithgarwch yn digwydd i gefnogi'r nod hwn, ac nad yw bellach wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun o gwbl. Oni fyddai'n symlach cyfaddef bod y Llywodraeth, mewn gwirionedd, yn ogystal â gwrthod argymhelliad 7 yn adroddiad y pwyllgor, hefyd yn gwrthod argymhelliad y comisiwn seilwaith cenedlaethol?
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r comisiwn
'asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith ledled y wlad erbyn 2050.'
Fe gyhoeddodd ei adroddiad, gan gynnwys 17 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ym mis Hydref 2024. Ar adeg ein hymchwiliad ni, roedd y Llywodraeth dal heb ymateb i'r adroddiad hwnnw, ac fe ddaeth ymateb o'r diwedd ym mis Ebrill.
Mae hyn yn fy arwain at argymhelliad 3 y pwyllgor:
'Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar derfyn amser benodol i ymateb i adroddiadau'r Comisiwn.'
Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae bellach wedi rhoi amserlen ar waith, ond yn chwe mis o hyd, ac mae hyn ddwywaith mor hir â'r hyn awgrymodd y pwyllgor. Rŷn ni'n parhau i fod o'r farn y dylid ymateb i argymhellion y comisiwn o fewn terfynau amser penodol, ond terfynau amser penodol sy'n debyg i rai pwyllgorau'r Senedd, er enghraifft, neu hefyd rhai asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru.
Y llynedd, argymhellodd y pwyllgor fod
'Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o statws, rôl/cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn erbyn diwedd 2024.'
Ymddengys bod adroddiad y gwasanaeth archwilio mewnol a ddeilliodd o hyn wedi'i gynnal yn ddiwyd. Mae'n gwneud awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwella, ac mae llawer ohonynt eisoes yn cael eu rhoi ar waith gan y comisiwn. Ond nid yw'r adroddiad wedi arwain at unrhyw gasgliadau cadarn ynghylch ei statws, ei gylch gwaith, ei amcanion, nac yn wir ei gyllid fel comisiwn. Ym marn y pwyllgor, ni ellir ystyried adolygiad sy'n methu dod i gasgliadau ar y materion strategol mawr hyn yn adolygiad cynhwysfawr.
Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad 2, ac wedi ymestyn tymor y cadeirydd a'r comisiynwyr y tu hwnt i'r etholiad nesaf. Fodd bynnag, ar ôl etholiadau'r Senedd, bydd angen gwneud penderfyniad arall. Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried a yw'r comisiwn wedi'i gryfhau, a oes ganddo ddigon o adnoddau a phwerau i gyflawni ei rôl, ac a ddylai hyn gynnwys asesiad cenedlaethol o anghenion seilwaith Cymru ar gyfer y degawdau i ddod.
Prif nod y comisiwn yw darparu cyngor a chanllawiau radical a heriol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth Cymru a fydd yn llywio ac yn diogelu penderfyniadau ar osod seilwaith o 2030 hyd at 2100. Mae'r comisiwn wedi cyflawni'r cyntaf o'r rheini, ond nid ydym wedi gweld tystiolaeth fod ei gyngor yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Heb hyn, ni fydd y comisiwn yn cael yr effaith y dylai pob un ohonom ei disgwyl.
Y llynedd, awgrymodd y pwyllgor y byddai'n fuddiol i'r comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol, yn debyg i'r asesiadau pum mlynedd a gynhelir gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU. Ac er nad yw'r comisiwn wedi cael adnoddau i gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol sy'n gymesur â'r hyn a gynhelir gan ei gorff cyfatebol ar lefel y DU, mae wedi ceisio datblygu dull o wneud y gwaith hwn a allai fod yn ddechrau rhaglen waith ar gyfer y comisiwn nesaf.
Felly, a dweud y gwir, yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod gan ein pwyllgor, ein hadroddiad, un thema drosfwaol mewn gwirionedd: ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru drin Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o ddifrif. Os yw Cymru am fod yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol, rhaid i'r Llywodraeth gefnogi Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal asesiad seilwaith yng Nghymru, a rhoi sylw dyledus i'w hargymhellion a'u hadroddiadau.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwau pawb mewn ymateb i'r adroddiad.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor a thîm y pwyllgor am eu gwaith. Diolch hefyd, wrth gwrs, i'r comisiwn am eu gwaith nhw. Hoffwn i ganolbwyntio fy sylwadau ar lifogydd yn bennaf. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, wrth gwrs, at y risgiau real sy'n wynebu mwy a mwy o gymunedau. Mae'r adroddiadau mae ein pwyllgor ni wedi eu cyhoeddi ers blynyddoedd wedi gwneud hynny. Mae'r oedi rŷn ni'n dal i'w weld cyn cael ymateb y Llywodraeth i adroddiad y comisiwn ar lifogydd o llynedd yn dal i atal ein cymunedau rhag gwneud y gwaith angenrheidiol i ymbweru eu hunain yn wyneb yr heriau sy'n gysylltiedig gyda mwy o dywydd garw.
Wrth gwrs, rŷn ni'n trafod isadeiledd yma, ond nid rhywbeth technegol yn unig ydy isadeiledd. Mae'n gorfod cysylltu gyda phobl. Bydd yr hyn mae'r Cadeirydd wedi bod yn ei ddweud fan hyn am yr angen i'r comisiwn gael mwy o adnoddau, yr adnoddau angenrheidiol, yn gwella safon bywyd pobl, oherwydd mae sgileffeithiau llifogydd yn waeth ar bobl nag ar adeiladau. Anodd yw mesur effaith pryder a phoeni am lifogydd. Anodd yw mesur hefyd effaith ofn a thrawma. Ond mae'n rhaid inni gyfrif y costau hynny rywsut. Dyna sydd yn y fantol.
Hoffwn i wthio'r Llywodraeth am fwy o ymateb i'r argymhellion hyn. Rhaid inni gadw llifogydd ar flaen ein meddyliau. Mewn unrhyw drafodaethau am wytnwch cymunedau, rhaid cael ffocws ar ein gwytnwch pan mae'n dod i heriau llifogydd, tirlithriad, tomenni glo a'u diogelwch nhw. Ac yn yr un ffordd, mae gwytnwch llifogydd nid yn fater yn unig sydd yn ymwneud â rhwystrau a draeniad, er pa mor ddifrifol bwysig ydy'r rheini—mae e hefyd am amhariad ar fywyd, am ansicrwydd. Rhaid cyfrif cost ddynol y digwyddiadau hyn.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio bydd ein hadroddiad yn atgoffa pobl o'r angen am hyn. Mae'n rhaid inni gadw cymunedau wrth galon ein trafodaethau, boed hynny ar beth dŷn ni'n sôn amdano, am waith y comisiwn, neu am isadeiledd yn gyffredinol. Mae'n rhaid inni gadw eu pryder a'u poen nhw wrth galon ein trafodaethau. Mae'n rhaid inni wastad gofio'r elfen ddynol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dwi'n falch i gyfrannu at y ddadl hon, ac mi hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gwneud gwaith eithriadol o bwysig, ac roeddwn i'n falch i glywed sylwadau'r Cadeirydd o ran rhoi'r sicrwydd hirdymor yna, a hefyd pwysleisio bod hwn yn waith eithriadol o bwysig os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Fel Delyth, mi oeddwn i'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar lifogydd a'r adroddiad a wnaethon nhw o ran lliniaru llifogydd. Mi wnaeth aelodau o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ddod i ddigwyddiad gwnes i ei drefnu ym Mhontypridd, lle'r oedd hi'n bum mlynedd yn dilyn storm Dennis, ac aelodau o'r cymunedau o gwmpas Pontypridd oedd wedi dioddef llifogydd oedd yn bresennol.
Beth oedd yn galonogol ei weld, o gael y comisiynwyr yna yn siarad efo dioddefwyr llifogydd, oedd gweld eu bod nhw wedi rhoi argymhellion i'r Llywodraeth fyddai yn gwneud gwahaniaeth—nid dim ond rhoi cyngor i gymunedau o ran lle i roi eu plygiau yn uwch ac ati, ond awgrymiadau a fyddai yn golygu bod cymunedau fel yr un dwi'n byw ynddi hi, a chymunedau megis rhai yn Ynys-y-bwl ac ati, yn rhan o ddatblygu cynlluniau.
Dwi eisiau ein gweld ni'n mynd rhagddo efo cael rhyw fath o fforwm llifogydd i Gymru. Mi oedd hwnna'n ganolog i'r adroddiad hwn. A dwi innau hefyd yn rhannu'r rhwystredigaeth a fynegwyd gan y pwyllgor eu bod hi'n cymryd cyhyd i gael ymateb gan y Llywodraeth, heb sôn am weithredu wedyn ar yr argymhellion. Mi fyddwn i'n hoffi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut mae'r gwaith wedyn yn mynd rhagddo i roi pethau ar waith.
Dwi'n ofni—. Os ydych chi'n ystyried storm Dennis yn 2020—mi ddaeth yr adroddiad yma allan gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn 2024. Dŷn ni'n dal ddim yn gweld symud ar hyn. Ac erbyn hyn, mae rhai o'r bobl yn y cymunedau hyn wedi dioddef llifogydd efallai tair neu bedair gwaith, ac wedi gweld dim byd yn newid. Felly, mae'n hen bryd inni weld yr argymhellion yma yn mynd rhagddynt.
Mi fuaswn i'n hoffi gweld sicrwydd hirdymor o ran y comisiwn. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd, gobeithio, yn croesawu bod yna estyniad wedi bod. Ond ni ddylai'r ffaith fod yna etholiad yn digwydd olygu ein bod ni ddim yn symud yn gynt o ran mynd i'r afael efo'r argyfwng hinsawdd. Mi fyddwn i'n gofyn, felly, am ddiweddariad gan y Llywodraeth. Sut ydych chi'n mynd ati i roi yr argymhellion yma ar waith, a phryd bydd cymunedau fel rhai Pontypridd yn gweld y rhain yn eu cymunedau nhw yn gwneud gwahaniaeth?
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i gyfrannu i'r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n hapus iawn i allu ymateb i'r ddadl heddiw a thynnu sylw at y gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethant, yr adroddiad ar y comisiwn, a hefyd eu craffu parhaus ar ei waith.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rôl y comisiwn yn cynghori ar ein hanghenion seilwaith hirdymor, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau'r comisiwn, o'i adroddiad treiddgar ar ynni adnewyddadwy i'w waith diweddar ar wydnwch rhag llifogydd.
Gwn y bydd fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn arbennig o awyddus i ddarllen yr adroddiad sydd ar y ffordd gan y comisiwn ar addasu i'r hinsawdd ac ymgysylltu â'r gymuned, ac rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn cael cyfarfodydd gyda'r comisiwn yn dilyn yr argymhellion llifogydd.
Mae adroddiad y pwyllgor yn galw arnom i roi mwy o flaenoriaeth i anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol, ac rydym yn cytuno'n llwyr. Mae cynllunio hirdymor effeithiol yn hanfodol, a dyma'r gofod y mae'r comisiwn yn gweithredu ynddo. Tynnodd y pwyllgor sylw at enghreifftiau o fannau eraill lle mae asesiadau seilwaith cenedlaethol cynhwysfawr wedi helpu i lywio buddsoddiad, ac yng Nghymru rydym am i'r comisiwn chwarae rhan ganolog yn hyn. Felly, i'r perwyl hwn, fel rhan o'i waith yn 2025-26, mae'r comisiwn wedi cael ei ariannu i gynnal asesiad seilwaith fersiwn fer, a fydd yn edrych ar y sectorau ynni, digidol, dŵr, economi gylchol a thrafnidiaeth.
Nid wyf wedi paratoi unrhyw beth ar gyfer y ddadl hon, ond roeddwn i eisiau siarad am y comisiwn seilwaith cenedlaethol. Siaradais â nhw am gyngor ynglŷn ag ynni cymunedol a sut y gallai cymunedau fod yn berchen ar beilon i helpu i ddod â'u hynni i lawr, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'r gwaith y maent wedi'i wneud, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi wedi cael sgyrsiau gyda nhw ynglŷn â'u hadroddiad ar ynni adnewyddadwy a sut y gall helpu i wella cymunedau fel y gallant gael biliau ynni rhatach.
Diolch. Do, rwyf wedi cyfarfod â'r comisiwn, ac un o'r argraffiadau mawr a wnaeth y comisiwn arnaf yw'r arbenigedd o'i fewn a hefyd y mynediad sydd ganddynt at y rhwydweithiau ehangach o arbenigedd hefyd. Felly, os nad yw'r aelodau'n gwybod yr ateb, byddant yn sicr yn adnabod rhywun sy'n gwybod, ac rwy'n credu mai dyna un o'u gwir gryfderau, yr arbenigedd eang y gallant gael mynediad ato ar draws ystod gyfan o feysydd, megis digidol, dŵr, yr economi gylchol ac yn y blaen. Felly, bydd adroddiad ar y gwaith y cyfeiriais ato yn cael ei gyflwyno cyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf fel y gall Llywodraeth Cymru ystyried beth yw'r anghenion seilwaith pwysicaf i Gymru wrth inni edrych tuag at dymor nesaf y Senedd.
O ran rôl a strwythur y comisiwn yn y dyfodol, rwyf wedi dweud o'r blaen mai mater i Lywodraeth newydd Cymru ei ystyried fydd hyn, ac mae hynny'n parhau yn fy marn i. Ac mae yna faterion pwysig eraill wedi'u nodi gan y pwyllgor hefyd, fel yr amser a gymerwyd i ymateb i'r adroddiadau. Mae hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n derbyn sylwadau'r Cadeirydd y prynhawn yma. Yn hytrach na defnyddio mesur mympwyol o amser, mae angen i ni ystyried ansawdd yr ymatebion hefyd, ac rydym yn ceisio ymateb yn y ffordd orau a allwn. Ond yn amlwg rwy'n ystyried y pwyntiau hynny sy'n cyfeirio at amser.
Ym mis Ionawr fe wnaethom gwblhau adolygiad mewnol cyntaf y comisiwn, ac mae ei ganfyddiadau cadarnhaol yn cadarnhau bod y comisiwn yn parhau i fod yn ychwanegiad gwerthfawr yn nhirwedd llunio polisi Cymru, ac mae'n gwneud argymhellion i gryfhau'r comisiwn ymhellach. Rwyf eisoes wedi rhoi sylw i un o'r materion uniongyrchol hynny, sef fy mod, pan gyfarfûm â'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd ym mis Gorffennaf, wedi cynnig ymestyn eu rolau presennol tan fis Medi 2026, ac maent wedi derbyn, ac ar hyn o bryd rydym yn mynd trwy'r broses o gadarnhau hyn gyda'r comisiynwyr eraill. Bydd hynny, felly, yn sicrhau bod peth parhad fel y gall y comisiwn barhau â'i waith tra bo Llywodraeth newydd yn ystyried y camau nesaf ar gyfer y sefydliad. Bydd gan weinyddiaeth yn y dyfodol ei safbwyntiau ei hun, ond rwy'n gobeithio y bydd y consensws trawsbleidiol yn parhau ar yr angen am gynlluniau seilwaith strategol.
Felly, i gloi, rwyf am ailadrodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol. Mae'r comisiwn eisoes wedi profi ei werth drwy gyhoeddi adroddiadau a darnau barn o ansawdd uchel ac wrth gwrs, drwy barhau â'r her i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru ar weithrediad eu hargymhellion. Mae heriau seilwaith mawr Cymru yn galw am weledigaeth hirdymor a gweithredu pendant, ac mae'r comisiwn yn darparu'r lens hirdymor hwnnw. A'n gwaith ni yn y Llywodraeth, felly, yw gweithredu arno. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'r comisiwn a'r pwyllgor i ddarparu'r seilwaith gwydn, cynaliadwy sydd ei angen ar ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
Diolch. Llyr Gruffydd, nawr, sydd yn ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae amser yn gyfyngedig, dwi'n gwybod, ond er gwaethaf natur tymor byr ei ariannu a'r ansicrwydd o ran dyfodol rolau'r cadeirydd a'r comisiynwyr yn yr hirdymor—ac mae yna eironi, dwi'n meddwl, yn y ffaith fod corff sydd i fod i edrych i'r hirdymor ddim yn gwybod os byddan nhw yma mewn blwyddyn neu beidio—er gwaethaf hynny i gyd, maen nhw fel unigolion wedi parhau i gynhyrchu adroddiadau gwerthfawr a heriol a gwneud cyfraniad ystyrlon i drafodaethau polisi ehangach ar seilwaith y dyfodol. Er gwaetha'r adnoddau cyfyngedig yna, mae eu hegni a'u hymrwymiad nhw fel comisiynwyr dwi'n meddwl wedi bod yn ddiwyro, ac rwy'n credu bod yna ddiolch yn ddyledus iddyn nhw am eu gwaith.
Nawr, fel y dywedais i gynnau, un thema sydd gan adroddiad y pwyllgor yma, i bob pwrpas: mae'n bryd i Lywodraeth Cymru drin Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o ddifrif. Dwi yn siomedig yn nifer yr Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma. Dwi'n meddwl ei fod e'n symptom ehangach, efallai, na dim ond y Llywodraeth yn hynny o beth. Os yw Cymru am fod yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol, yna mae'n rhaid i'r Llywodraeth a'r Senedd yma gefnogi comisiwn o'r fath a rhoi adnoddau digonol i gomisiwn o'r fath i wneud eu gwaith a chynnal asesiad seilwaith yng Nghymru a rhoi'r sylw dyledus, wedyn, i'r argymhellion sy'n dod o'u hadroddiadau nhw. Dyw hynny ddim wedi digwydd yn ddigonol hyd yma. Gobeithio bydd yr adroddiad yma a'r ddadl yma, gobeithio, o leiaf yn rhoi proc i'r Llywodraeth ac i bob un ohonon ni fel Aelodau o'r Senedd yma i roi sylw mwy dyledus i'r comisiwn a'i waith o hyn ymlaen. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 9 fydd nesaf. Dadl y Ceidwadwyr yw'r ddadl yma ar y gwasanaeth iechyd, ac mae James Evans yn gwneud y cynnig.
Cynnig NDM8984 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant.
2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru:
a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros am driniaeth y GIG; a
b) bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua traean.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o farwolaethau diangen drwy:
a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a chyfarpar Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG;
b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am driniaethau;
c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am apwyntiad meddyg teulu;
d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar gyfer GIG Cymru;
e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac ehangu canolfannau diagnostig cyflym;
f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad at ofal iechyd; a
g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Rwyf am ddechrau gydag egwyddor y mae'n rhaid ein bod i gyd yn y Siambr hon yn sefyll yn gadarn drosti: y dylai'r GIG yng Nghymru barhau i fod am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu, ac wedi'i ariannu'n gyhoeddus. Nid yw hynny'n agored i drafodaeth i ni ar y meinciau hyn, nac i fwyafrif pleidiau yn y Senedd hon, rwy'n siŵr. Ni fyddwn byth yn caniatáu i system sy'n seiliedig ar yswiriant gymryd ei le yma yng Nghymru, hyd yn oed pan fydd rhai yn y byd gwleidyddol nawr eisiau rhwygo ein GIG yn ddarnau. Ond os ydym o ddifrif yn credu yn yr egwyddor honno, ni allwn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd heddiw. Ers etholiad diwethaf y Senedd, mae bron i 40,000 o bobl wedi marw wrth aros am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu bron i draean, gyda dros 600,000 o bobl, un o bob pump o'n poblogaeth, ar restr aros ar hyn o bryd. Nid rhifau'n unig yw'r rhain, ond teuluoedd, cymdogion a ffrindiau sy'n haeddu gofal amserol ond sy'n cael eu gadael i aros. Dyma gost ddynol system iechyd o dan straen annioddefol.
Nawr, gadewch i mi droi at y gwelliant Llafur sy'n gofyn i ni groesawu mwy o gyllid ac i ddathlu'r amseroedd aros hiraf sy'n is nag oeddent ar eu hanterth. Ond rwyf am fod yn glir: ni allwn ddathlu pan fo gennym 8,000 o bobl yng Nghymru yn dal i aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, o'i gymharu â dim ond 244 yn Lloegr. Ni allwn ddathlu pan fo'r amseroedd aros cyfartalog o 21 wythnos yn cuddio poen y realiti fod cleifion yn dioddef misoedd, blynyddoedd weithiau, o oedi. Ac er bod rhaglenni sgrinio wedi'u targedu ar gyfer canser yr ysgyfaint a'r coluddyn yn bethau cadarnhaol, a'n bod yn cefnogi'r rheini ar y meinciau hyn, rhaid inni fod yn glir fod angen cynllun gweithredu cynhwysfawr arnom ar gyfer canser yng Nghymru. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig heb un, ac mae angen un yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Mae gwelliant Plaid Cymru, yn ôl y disgwyl, yn ceisio rhoi'r bai'n gyfan gwbl ar San Steffan. Wel, nid oes dim yn newydd yn hynny. Mae penderfyniadau yn Llundain yn effeithio ar Gymru wrth gwrs, ac ni all neb amau hynny, ond am chwarter canrif o ddatganoli, rhaid i Weinidogion Cymru fod yn atebol am eu haddewidion eu hunain. Yma ym Mae Caerdydd y gwnaed addewidion i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd, ac yn y Siambr hon y cawsant eu torri. Yma y mae rhestrau aros wedi tyfu 30 y cant ers 2021. Ni ellir dweud wrth gleifion am chwilio am atebion yn rhywle arall pan mai'r realiti yw mai'r penderfyniadau a wneir yma yng Nghymru sy'n effeithio ar eu bywydau, nid y rhai a wneir yn San Steffan.
A gadewch inni fod yn onest, nid yw Llafur wedi bod yn llywodraethu ar eu pennau eu hunain. Mae eu methiannau wedi cael eu galluogi gan eu partneriaid ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi dewis cynnal Llywodraeth sydd wedi gadael i restrau aros gynyddu allan o reolaeth, wedi torri addewid ar ôl addewid—[Torri ar draws.] Ie, iawn, dwy eiliad, Heledd. Ac yn hytrach na sefyll dros gleifion, maent wedi sefyll yn gadarn gyda Llafur ac wedi gwneud cam â chleifion Cymru, a chleifion ledled Cymru sy'n talu'r pris.
Mae eich olion bysedd chi drosto i gyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, fe wnaf i dderbyn ymyriad.
A allwch chi ddweud wrthyf pryd oedd gan Blaid Cymru Weinidog iechyd a beth oedd eu henw, a phryd oedd gan Blaid Cymru Brif Weinidog Cymru dros y 26 mlynedd diwethaf?
Pam na wnaethoch chi gefnogi eu cyllidebau, felly? Pam cefnogi eu cyllidebau?
Felly, Heledd Fychan, efallai nad oedd gennych chi rywun yn Llywodraeth Cymru—. Roedd gennych chi rywun rai blynyddoedd yn ôl; rwy'n credu bod y Llywydd yn y Llywodraeth ar un adeg—
Na, Gweinidog iechyd a Phrif Weinidog.
Ond gadewch imi fod yn glir iawn gyda Phlaid Cymru—
Gallaf ddweud wrthych fod y Llywydd yn falch iawn o wasanaethu yn y Llywodraeth honno.
Rwy'n siŵr eich bod chi, Lywydd. Mae Plaid Cymru wedi bod mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, ac roedd ganddynt gytundeb cydweithio gyda Llafur, ac fe wnaethoch chi gefnogi eu cyllidebau hyd nes ei bod yn wleidyddol gyfleus i chi wneud rhywbeth arall. Nid yw wyneb yr ymwahanwr yn newid yma.
Olion bysedd ar hyd-ddo. Olion bysedd ar hyd-ddo. Am Lafur, gweler Plaid Cymru.
Ni allwch guddio oddi wrth yr hyn a wnaethoch yn y gorffennol. Dyna pam y mae pobl Cymru angen rhywbeth gwahanol. Maent wedi blino ar y sefydliad yma a dyna pam y mae angen y Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth yng Nghymru, i alw am ddull gwahanol o weithredu, oherwydd pan fyddaf yn Weinidog iechyd, byddwn yn datgan argyfwng iechyd ledled Cymru—ei ddatgan a gweithredu arno, nid fel slogan, fel y mae Llywodraeth Cymru yn hoffi ei wyntyllu o bryd i'w gilydd, byddwn yn cynnull adnoddau, yn cyfarwyddo pob haen o'r Llywodraeth i dorri amseroedd aros, i dorri gwastraff, a byddwn yn achub bywydau. A beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu adolygiad trylwyr o strwythurau'r GIG ledled Cymru, oherwydd mae pob plaid arall yn rhy ofnus i wneud hynny. Uchafswm o flwyddyn i aros am driniaeth, fel sydd ganddynt yn Lloegr. Ni ddylem fod yn ddinasyddion eilradd yma yng Nghymru. A bydd gennym warant o apwyntiad gyda meddyg teulu o fewn saith diwrnod, oherwydd mae angen i bobl weld eu meddygon teulu os ydym am achub elfennau eraill o'n gwasanaeth iechyd. Ond i wneud hyn, bydd angen y cynllun recriwtio a chadw mwyaf y mae GIG Cymru wedi'i weld erioed, oherwydd byddwn yn buddsoddi yn ein gweithlu, rhywbeth nad yw Llafur a Phlaid Cymru erioed wedi'i wneud. A byddwn yn gwneud rhywbeth nad yw sosialaeth yn ei hoffi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnawn ni adfer dewis i gleifion, dewis i benderfynu ble y gallant gael eu gweld, pa glinigwyr y maent eisiau mynd atynt, ac os ydynt am fynd dros y ffin i Loegr i gael gofal, dylid caniatáu iddynt wneud hynny, heb eu rhwystro gan sosialaeth.
Iawn, fe dderbyniaf ymyriad, Carolyn.
Diolch. Ynghylch buddsoddi yn y gweithlu: a ydych chi'n credu mewn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, felly, a pheidio â'u torri?
Fel cyn-aelod o gabinet llywodraeth leol, rwy'n cytuno â buddsoddi mewn gwasanaethau lleol. Y broblem yw eu bod wedi parhau i gael eu torri gan Lafur, a oedd eisiau gwastraffu arian ar brosiectau porthi balchder.
Felly, a fyddech chi'n cefnogi'r gyllideb?
Rwyf eisoes wedi derbyn ymyriad, Carolyn. Os ydych chi eisiau dod yn ôl, fe dderbyniaf un arall os ydych chi am godi eto, ond nid wyf yn credu mai dyna'r math o ddadl yw hi.
Ond Lywydd, yr hyn y mae angen inni fynd i'r afael ag ef go iawn, yn fy marn i, yw un o'n problemau mwyaf sydd gennym, sef rhestrau aros. Mae'n rhaid eu lleihau, ac un o'r ffyrdd cliriaf o fynd i'r afael â rhestrau aros yw trwy hybiau llawfeddygol, safleoedd pwrpasol wedi'u cynllunio ar gyfer llawdriniaethau, gan eu cadw ar wahân i bwysau gwasanaethau brys. Mae'r hybiau hyn yn clustnodi adnoddau ac yn sicrhau bod triniaethau a gynlluniwyd yn digwydd heb gael eu canslo, heb ymchwydd yn y galw am ofal brys ac ymchwydd yn yr ystafell lawfeddygol. Mae angen i ofal clinigol fod yn flaenoriaeth yn yr hybiau llawfeddygol hyn.
Yn Lloegr—. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud fy mod i'n hoffi sôn am Loegr drwy'r amser, ac mae'n debyg fy mod, oherwydd mae'n gwneud yn well na Chymru. Yn Lloegr, mae hybiau llawfeddygol wedi trawsnewid adferiad. Mae dros 100 o hybiau llawfeddygol bellach yn weithredol, gyda gwerthusiad annibynnol yn dangos eu bod wedi cyflawni degau o filoedd yn fwy o driniaethau nag a fyddai wedi bod yn bosib fel arall. Mewn gwirionedd, canfu'r Sefydliad Iechyd fod ymddiriedolaethau'r GIG gyda hybiau llawfeddygol wedi cyflawni 11 y cant yn fwy o lawdriniaethau a gynlluniwyd nag y byddent wedi'i wneud hebddynt. Dyna 50,000 o driniaethau ychwanegol mewn blwyddyn yn unig. A allech chi ddychmygu pe bai gennym hanner hynny yng Nghymru—y gwahaniaeth y byddai'n ei wneud i'r bobl sy'n aros, i ysbryd staff a boddhad cleifion? Maent wedi gwella yn Lloegr, a phe bai hynny gennym yma yng Nghymru, byddent yn gwella yma hefyd.
Ond beth sydd gennym ni yma yng Nghymru? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi addo hybiau llawfeddygol i ni, ond dim ond un sy'n weithredol ar y funud, ac mae'r lleill wedi'u canslo neu eu gohirio a heb eu haddo tan 2026 neu 2027. Felly, bydd mwy a mwy o bobl yn gorfod aros mewn poen tra bo Llywodraeth Lafur Cymru yn llusgo'i thraed ac yn oedi. Y gwir amdani yw na fydd y tri hyb llawfeddygol hynny ar eu pennau eu hunain yn ddigon. Mae dros 793,000 o lwybrau ar ein rhestrau aros erbyn hyn. Mae Archwilio Cymru eisoes wedi rhybuddio nad yw'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i mewn ond wedi arafu twf rhestrau aros; nid yw wedi ei leihau. Felly, oni bai ein bod yn gosod hybiau llawfeddygol wrth wraidd ein strategaeth iechyd, bydd hanes yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro.
Dyna pam ein bod ni, yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn glir. Byddwn yn rhoi ehangu hybiau llawfeddygol yng nghanol ein cynllun adfer. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth glir, yn gosod amserlenni llym ac yn defnyddio capasiti presennol lle bynnag y bo modd i gyflymu cyflawniad. Mater o ewyllys wleidyddol yw hyn, ac ni all cleifion aros mwyach.
Ond mae hefyd yn golygu torri gwastraff. Mae Llafur wedi arllwys arian i mewn i'r system, ond heb fawr ddim i'w ddangos amdano. Yr hyn nad oes ei angen arnom yn ein GIG yw mwy o reolwyr a mwy o gyfarwyddwyr. Mae angen mwy o nyrsys, meddygon a staff rheng flaen arnom, ac rydym yn cefnogi galwad y Coleg Nyrsio Brenhinol i roi diwedd ar ofal mewn coridorau, testun cywilydd mawr i'n gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwrando ar Gymdeithas Feddygol Prydain, sydd wedi rhybuddio am argyfwng dwfn, amseroedd aros wedi'u mesur mewn blynyddoedd, cleifion yn cael eu trin mewn coridorau, meddygon yn gadael y proffesiwn neu'r wlad hon am nad ydynt yn gweld dyfodol yma yn y GIG. Nid dyma'r GIG y mae ein rhieni a'n neiniau a'n teidiau yn ei gofio, ac nid dyma'r GIG y mae ein pobl yng Nghymru yn talu amdano ac yn ei haeddu.
Felly, fe fyddwn yn glir: ar y diwrnod cyntaf yn yr argyfwng iechyd hwnnw, byddwn yn adfer atebolrwydd, yn torri amseroedd aros, yn ehangu hybiau llawfeddygol, yn buddsoddi mewn staff ac yn rhoi cleifion nid gwleidyddiaeth yn ôl wrth galon ein GIG. Oherwydd mae pob ystadegyn a drafodwn yma heddiw yn fywyd, yn deulu. Gormod o'r straeon hynny, yn ddiddiwedd, am rai sydd wedi colli eu bywydau am nad ydym wedi mynd i'r afael â'r broblem. Ni allwn adael i hyn barhau. Mae'n bryd gweithredu. Mae'n bryd rhoi diwedd ar ddirywiad ein GIG. Ni all ddod yn ddigon buan. Gadewch inni gael Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru a gadewch i ni drwsio Cymru.
Dwi wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y coluddyn.
Yn nodi:
a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac
b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog am driniaeth.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.
Mabon ap Gwynfor sy'n cynnig gwelliant 2, felly.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at:
a) polisïau llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi agor y drws i breifateiddio yn y GIG, gan gynnwys y fenter cyllid preifat;
b) methiant Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU i ddarparu setliad ariannu teg i Gymru sy'n adlewyrchu ei hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol;
c) polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, a gyfrannodd yn uniongyrchol at farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a chanlyniadau iechyd sy’n gwaethygu; a
d) y safonau dwbl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU o ran cydymffurfio â rheoliadau COVID a erydodd ymddiriedaeth mewn mesurau iechyd y cyhoedd.
Yn gresynu ymhellach bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua thraean ers etholiad y Senedd yn 2021.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal mwy o farwolaethau diangen drwy:
a) datgan argyfwng iechyd; a
b) gweithredu cynllun Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, gan ei fod yn gwneud tri phwynt pwysig iawn. Yn gyntaf, er iddynt gael eu trechu mewn modd cywilyddus yn y blwch pleidleisio fis Gorffennaf diwethaf, a welodd bob un o'u Haelodau Seneddol yn cael eu troi allan o Gymru a nifer eu cefnogwyr yn plymio i ddyfnderoedd newydd, mae'r cynnig gwreiddiol yn tanlinellu'n bendant nad yw'r Torïaid wedi dysgu unrhyw beth o gwbl o brofiadau'r blynyddoedd diwethaf. Ni cheir hyd yn oed y briwsionyn lleiaf o ostyngeiddrwydd am ddegawd a hanner o gyni Torïaidd, a achosodd dros 330,000 o farwolaethau ychwanegol ar draws yr ynys hon, ac sy'n parhau i gael effeithiau anghymesur o andwyol ar ganlyniadau iechyd yma yng Nghymru. Wedyn, ceir methiant i gydnabod sut y gwnaeth Llywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU fawr ddim i guddio eu brwdfrydedd dros agor y GIG i breifateiddio, megis ehangu rôl menter cyllid preifat, nac yn wir eu rhan ym mhrosiect porthi balchder Brexit, sydd wedi chwyddo cost cyffuriau i'r GIG yn sylweddol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw, Mabon?
Hoffwn wneud mwy o gynnydd yn gyntaf, Gareth.
Ac mae nodweddu camarweiniol y cytundeb cydweithio, nad oedd yn berthnasol mewn unrhyw fodd i gyflawniad y Llywodraeth hon ar iechyd mewn gwirionedd, fel y gwyddant yn iawn, yn nodwedd o'u dirmyg tuag at ddeallusrwydd yr etholwyr. Mae hon yn blaid heb unrhyw gywilydd, heb unrhyw gyfrifoldeb, ac yn gynyddol, o ganlyniad, heb unrhyw ddyfodol. Ond mae'r modd y bytheiriant yn wyneb eu cwymp pendant i ebargofiant etholiadol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—yn cyflawni pwrpas defnyddiol i'r graddau ei fod yn canolbwyntio ein sylw ar yr hyn a ddaw yn eu lle.
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
Mewn munud.
Oherwydd mae'r giwed asgell dde eithafol y gwnaethant helpu i'w meithrin ac sydd bellach yn eu bwyta'n fyw nid yn unig yn rafft i gyn-Dorïaid aflwyddiannus sydd eisoes wedi achosi niwed enfawr i'n gwlad, mae hefyd yn gyfrwng i fuddiannau corfforaethol amheus a'r mega gyfoethog anatebol wireddu uchelgeisiau hirdymor i werthu ein hasedau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr i'r sawl sy'n gwneud y cynnig uchaf. James.
Mabon, rydych chi'n dweud nad yw Plaid Cymru wedi cael unrhyw beth i'w wneud â pholisi iechyd yma yng Nghymru, ond rydych chi wedi cadw'r Llywodraeth Lafur hon mewn grym drwy bleidleisio dros eu cyllideb ers 2021, pan lofnododd eich arweinydd blaenorol, Adam Price, y cytundeb cydweithio gyda Llafur. Felly, mae'n rhaid i chi ddeall bod bai arnoch chi yn yr holl fethiannau yn ein GIG. Os nad oeddech—[Torri ar draws.] Os nad oeddech chi'n hoffi'r canlyniad a'r ffordd yr oedd Llafur Cymru yn rhedeg y GIG, ni ddylech fod wedi cefnogi eu cyllidebau.
James, gyda phob parch, nid wyf yn credu eich bod chi, na'ch cyd-Aelodau yn deall beth yw cydweithio. Roedd tua 46 o feysydd polisi penodol, ac nid oedd iechyd yno am na allem gytuno ar y polisïau iechyd. Felly, wyddoch chi, dyna beth yw gwleidyddiaeth oedolion; efallai yr hoffech chi ddysgu amdani a rhoi cynnig arni rywbryd.
Ar ben hynny, byddai cynlluniau ffasgaidd y dde eithafol ar gyfer alltudio torfol miloedd o bobl sy'n byw ac yn gweithio yma yn gyfreithlon yn arwain at oblygiadau arbennig o ddinistriol i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n werth ailadrodd unwaith eto na fyddai'r GIG yn bodoli heb ymroddiad diflino a gwasanaeth ymroddedig ei weithlu mudol. Dylent gael eu canmol fel arwyr, nid eu diawlio fel rhan o'r broblem. I ddyfynnu'r Coleg Nyrsio Brenhinol, mae'n gynllun 'ffiaidd y tu hwnt i eiriau' sy'n mynd yn groes i bopeth y mae'r GIG yn sefyll drosto. Felly, peidiwch â chamgymryd: mae dyfodol y GIG yn y fantol yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Felly, y cwestiwn i ni i gyd sy'n gweld gwerth GIG am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen yw: beth yw'r ffordd orau o wrthsefyll y bygythiad hwn o'r dde eithafol? Gwyddom eisoes fod Llafur wedi cael dros 26 mlynedd i brofi eu cymhwysedd fel stiwardiaid ein GIG, heb fawr ddim i'w ddangos am hynny o ran ysgogi safonau gwell. Dros dymor presennol y Senedd yn unig, mae'r Llywodraeth hon wedi gwario dros £1.5 biliwn ar fesurau i fynd i'r afael â rhestrau aros ddim ond i weld cynnydd i'r ôl-groniad o bron i 200,000 o bobl yn y cyfnod hwnnw. Ni chyrhaeddwyd hyd yn oed y bar isel iawn a osododd y Prif Weinidog iddi ei hun i leihau amseroedd aros dwy flynedd o dan 8,000 erbyn y gwanwyn hwn, a oedd ynddo'i hun yn gwanhau'n sylweddol y targed gwreiddiol i ddileu amseroedd aros o'r fath yn gyfan gwbl erbyn mis Mawrth 2023.
Bydd y broses o godi'r GIG yn ôl ar ei draed, yn addas i wynebu heriau'r degawdau i ddod, o reidrwydd yn galw am broses hirdymor o adnewyddu, gan gynnwys y diwygiadau i saernïaeth llywodraethiant a osodwyd gennym ni y llynedd. Ond mae mynd i'r afael â rhestrau aros hir Llafur yn hanfodol er mwyn rhoi lle i'r GIG anadlu fel y gall y diwygiadau hyn wreiddio.
Daw hyn â ni at y pwynt olaf y mae'r cynnig hwn yn ei wneud, mai dim ond Plaid Cymru sydd â'r atebion a chynllun i fynd i'r afael â niwed Llafur yn uniongyrchol. Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd mor bell yn ôl â mis Chwefror 2024, felly mae'n wych gweld pleidiau eraill yn dilyn ein harweiniad. Ac o ran sefydlu hybiau gofal a gynlluniwyd ac ehangu mynediad at glinigau diagnosis cyflym i ddelio â chyflawniad truenus Cymru ar gyfraddau goroesi canser, yn ogystal â mesurau eraill, megis rhoi gwasanaethau brysbennu gweithredol ar waith i symleiddio atgyfeiriadau a gwella rôl telefeddygaeth mewn lleoliadau gofal sylfaenol, maent i gyd yn ymddangos yn y cynllun rhestrau aros a lansiwyd gennym yn ôl ym mis Ionawr, cynllun a gymeradwywyd yn gryf gan ystod o uwch weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Felly, os yw'r Torïaid o ddifrif ynglŷn â gwneud cynnydd yn y maes hwn, dylent fod yn hapus i gefnogi ein gwelliant i alw ar y Llywodraeth i weithredu cynllun Plaid Cymru yn ddi-oed. Ac fel rydym wedi profi dro ar ôl tro, pan ddaw'n fater o ddiogelu ei natur sylfaenol fel sefydliad cyhoeddus am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen, ni allai'r GIG fod mewn dwylo mwy diogel na dwylo Llywodraeth Plaid Cymru.
Mae'n anffodus ein bod, unwaith eto, yn gorfod trafod cyflwr enbyd y GIG, a dadlau sut y mae camreoli gwleidyddol dros y 26 mlynedd diwethaf wedi rhoi clinigwyr o dan bwysau aruthrol ac wedi gadael cleifion i ddioddef a marw'n ddiangen. Mae tebygolrwydd o 50:50 y bydd ambiwlans yn eich cyrraedd ar amser, ac ni allwch fod yn sicr bob amser y bydd un yn cyrraedd ar yr un diwrnod. Mae llai na dwy ran o dair o gleifion canser yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn y targed o 62 diwrnod—hynny yw, os gallant weld meddyg teulu er mwyn rhoi'r cloc i dician yn y lle cyntaf.
Fodd bynnag, diolch i waith caled ac ymdrechion clinigwyr unigol, rydym yn dal i weld gwelliannau mewn llwybrau gofal, ac rwyf am dynnu sylw at un achos o'r fath. Roedd un o fy nadleuon byrion cynharaf yn y Senedd hon yn sôn am bwysigrwydd rhagsefydlu, yn enwedig mewn triniaeth ganser. Bryd hynny, cefais y pleser o siarad â Dr Rhidian Jones, a oedd wedi sefydlu rhaglen ym Mhen-y-bont ar Ogwr i sicrhau canlyniadau llawfeddygol gwell. Gweithiodd Rhidian gyda chydweithwyr yng Nghaerdydd a'r Fro a oedd yn datblygu rhaglen beilot Prehab2Rehab ar gyfer cleifion canser. Wel, bron i dair blynedd ar ôl y ddadl, mae Prehab2Rehab wedi cael ei chanmol fel llwyddiant ysgubol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I'r rhai sydd angen cael eu hatgoffa, mae rhagsefydlu'n cynnwys cynlluniau ymarfer corff wedi'u teilwra, canllawiau deietegol a mynediad at wasanaethau, gan gynnwys fferyllfeydd arbenigol, clinigau cardioleg ac asesiadau cyn llawdriniaeth. Mae astudiaethau ledled y byd wedi dangos bod canlyniadau cleifion yn gwella'n fawr o gyfuno hyn â rhaglenni adsefydlu ar ôl llawdriniaeth.
Fodd bynnag, bellach mae gennym dystiolaeth yn nes at adref o werth rhagsefydlu. Dangosodd gwerthusiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o raglen Prehab2Rehab Caerdydd a'r Fro fanteision clir i gleifion a'r GIG yn ehangach. Dywedodd y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun wrth y tîm gwerthuso eu bod yn teimlo'n fwy gwybodus, wedi'u hysgogi'n well i fabwysiadu arferion iach ac yn dawelach eu meddwl yn sgil rhwydweithiau cymorth cymheiriaid cryf a ffurfiwyd gyda chleifion eraill. Dywedodd Dr Esther Mugweni, is-bennaeth gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gallai'r dull leddfu'r pwysau ar adnoddau'r GIG. Dywedodd fod y rhaglen, drwy leihau'r amser a dreulir yn yr ysbyty, nid yn unig yn cefnogi cleifion, ond bod iddi fudd ehangach posib o ran adnoddau'r GIG. Mae'n wych gweld sut y mae cleifion yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw ac i ddod o hyd i gryfder gan eraill sy'n mynd trwy brofiadau tebyg. Dyma rwyf i, Dr Rhidian Jones ac eraill wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd. Mae gwaith rhagsefydlu yn achub cleifion ac mae'n arbed arian yn y tymor hir. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â diogelu'r GIG, yn ogystal â gwella canlyniadau cleifion, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno rhaglenni adsefydlu yn gyflym ar draws pob rhan o'r GIG, gan ddechrau gyda llwybrau canser ac ehangu'n gyflym i gynnwys yr holl ofal llawfeddygol a gynllunnir. Os caniateir i glinigwyr arloesi, dengys Prehab2Rehab y gallant wella gofal cleifion ac arbed arian i'r GIG ar yr un pryd yn ôl pob tebyg. Y cyfan sydd angen i wleidyddion ei wneud yw cael gwared ar unrhyw rwystrau artiffisial. Diolch yn fawr.
Yn aml iawn, mae llywodraethau a gwleidyddion yn siarad am dyfu'r economi a chreu swyddi drwy fuddsoddi mewn diwydiant ac adeiladu, ond ychydig iawn a ddywedir am dyfu'r economi drwy wasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd, drwy'r economi sylfaenol, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a phobl; talu cyflogau gweddus i ofalwyr, rhoi arian ym mhocedi pobl, sy'n byw ac yn gwario yn ein cymunedau. Mae annog pobl i ddod yn weithwyr iechyd proffesiynol yn helpu i lenwi swyddi gwag. Yn hytrach, rydym yn parhau i glywed sylwadau negyddol am wasanaeth sydd, i lawer o bobl, yn un da, a sôn am argyfwng iechyd.
Rwy'n falch fod gennym y ganolfan hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, o dan Lafur Cymru, cyfleuster newydd i ddarparu hyfforddiant nyrsio a phroffesiynau perthynol i iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam, yn ogystal â lleoedd hyfforddi gofal iechyd yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl. Mae angen i ni gadw staff a chynnig cyflogau ac oriau gwaith gweddus sy'n hyblyg, ond ni allwn wneud hynny heb gyllid ychwanegol yn unol â'r angen cynyddol a phoblogaeth hŷn. Bellach, gan fod gennym Lywodraeth y DU sy'n credu mewn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r GIG, rydym yn dechrau gweld gwahaniaeth.
Rwy'n gwybod bod yna lawer o bobl ar restrau aros hir, ond mae angen inni roi gobaith iddynt eu bod yn lleihau ac efallai y byddant yn cael llythyr gydag apwyntiad cyflymach—fel John, a ddywedodd wrthyf fod ei apwyntiad pen-glin ddau fis yn gynt na'r trefniant gwreiddiol. Nid yn unig hynny, cafodd ffisiotherapi ar ddydd Sadwrn wrth wella yn yr ysbyty. Dywedodd mai'r rheswm am hynny oedd yr arian ychwanegol sy'n mynd i'r GIG. Menyw ifanc y mae ei hapwyntiad orthodontig ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i drefnu'n gynt, ym mis Rhagfyr. Rhoddodd Chris wybod i mi ei fod wedi cael llawdriniaeth cataract o fewn chwe wythnos, ar ôl clywed yn wreiddiol fod yna restr aros o dair blynedd. Mae'n dod â gobaith i bobl fod cynnydd yn cael ei wneud ac i beidio â phoeni gormod. Fe ddaw llythyr yn fuan, gobeithio.
Mae buddsoddi mewn atal gyda mynediad at chwaraeon llawr gwlad, canolfannau hamdden, trafnidiaeth gyhoeddus, mannau gwyrdd, parciau a rhaglenni addysg yn bwysig iawn. Mae'r rhain i gyd wedi cael eu torri a'u herydu gan 14 mlynedd o gyni. Ac mae Reform yn camarwain y cyhoedd drwy ddweud y gellir gwneud toriadau enfawr pellach. [Torri ar draws.] Rwy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau os na fydd y buddsoddiad yn parhau.
Diolch. Fe wnaethoch chi fy nal ar y droed ôl. Yn amlwg, rydym yn cynrychioli ardaloedd tebyg. Rydym yn rhannu'r un etholwyr. Ai dyma'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrth etholwyr pan fyddant yn dod atoch gyda phroblemau sy'n debyg i'r rhai rwy'n eu cael, gydag amseroedd aros hir yn adran ddamweiniau ac achosion brys Glan Clwyd, er enghraifft? Rwy'n cael llawer o etholwyr yn cysylltu ynglŷn â hynny, fel rwy'n dychmygu eich bod chi. Felly, beth yw eich ymateb iddynt hwy, pan fydd pobl yn cysylltu â chi am y materion hynny, o ran chwilfrydedd?
Rwyf bob amser yn mynd ar drywydd gwaith achos ar ran y bobl a ddaw ataf a fyddai'n hoffi hynny. Dyna rydym yn ei wneud, onid e? Rwyf bob amser yn mynd ar drywydd gwaith achos, ond rwyf i hefyd yn hoffi helpu pobl a rhoi gobaith iddynt. Rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda buddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra gan fod y cyllid cyfalaf hwnnw ar gael bellach. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth wedyn i adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd, a hefyd y buddsoddiad arall sy'n digwydd—rwy'n credu bod cyfleuster newydd gael ei adeiladu yn Ninbych hefyd, sy'n wych i'w glywed.
Yn dilyn pandemig COVID, roedd rhestrau aros ar y lefel uchaf ers saith mlynedd. Mae'r GIG wedi gorfod cael staff, prosesau a gweithdrefnau yn ôl i'w lle ac yn gweithio'n effeithlon eto, yn ogystal â gorfod delio ag ôl-groniad o apwyntiadau. Gwyliais raglen a ddangoswyd ar ITV Cymru nos Sul o'r enw The Covid Contracts. Roedd yn newyddiaduraeth ardderchog a ddatgelodd raddau ffrindgarwch Torïaidd a'r biliynau a wastraffwyd ar gontractau i'w ffrindiau drwy'r llwybr VIP. Yn ddiweddarach, cafodd 60 y cant o'r cyfarpar diogelu personol a gyflenwyd gan gwmnïau'r llwybr VIP eu categoreiddio fel rhai nad oeddent yn addas i'w defnyddio gan y GIG. Roedd yn ddigon i dalu cyflogau 20,000 o feddygon preswyl. Mewn ymdrech i roi arian i rai â chysylltiau gwleidyddol â'r Blaid Geidwadol, cafodd llawer iawn gormod o gyfarpar diogelu personol ei brynu, ac erbyn diwedd y pandemig, roedd gan y DU 300 o ddarnau o gyfarpar diogelu personol heb eu defnyddio ar gyfer pob unigolyn yn y wlad. Dyna dros 1 filiwn o baledi o gyfarpar diogelu personol—dros 1 filiwn o baledi o gyfarpar diogelu personol—y bu'n rhaid eu dinistrio. Mae gennym argyfwng hinsawdd, a chafodd biliynau o bunnoedd ei wastraffu. Mewn gwirionedd roedd yn werth £8.6 biliwn—biliwn, nid miliwn—o gyfarpar diogelu personol. Roedd yn ddigon i gyflogi dros 200,000 o nyrsys. Rwy'n siarad am gyni bron bob wythnos, ond pe bai gennym yr arian hwnnw i fynd tuag at y GIG nawr, byddai'n gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae'n anghredadwy.
Diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gallu buddsoddi £120 miliwn ychwanegol i leihau rhestrau aros, a hybiau llawfeddygol, fel y buddsoddiad o £29.5 miliwn yn y cartref orthopedig yn Llandudno, y bydd y Torïaid rywsut yn ceisio hawlio'r clod amdano drwy gysylltu eu hunain â llwyddiant Llafur—tacteg newydd. Gwelais y llun o Darren Millar a Janet Finch-Saunders yn y North Wales Pioneer, lle mae Janet yn cydnabod:
'Mae pawb sy'n gysylltiedig â chreu'r hyb newydd wedi gweithio'n anhygoel o galed ac rwy'n diolch i bob un ohonynt am eu hymrwymiad i ddarparu'r cyfleuster hanfodol hwn.'
Felly, hoffwn orffen drwy ofyn a fyddai hi'n hoffi ailadrodd y geiriau hynny o ddiolch yn y Siambr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei holl waith caled yn darparu'r hyb. Diolch.
Wel, Aelodau, mae'n amlwg iawn fod Cymru yng nghanol argyfwng iechyd—gofynnwch i'ch etholwyr—er nad yw'r Llywodraeth Lafur yma yn gallu ei weld. Fel y clywsom eisoes, rhwng mis Mai 2021 a mis Gorffennaf 2025, mae nifer cyffredinol y llwybrau agored sy'n aros i ddechrau triniaeth wedi cynyddu 30 y cant i ychydig o dan 800,000, ac ar hyn o bryd mae yna dros 600,000, fel y clywsom hefyd. Dyna un o bob pump o bobl ar restr aros. Mae hynny'n hollol syfrdanol.
Ymrwymodd y Prif Weinidog i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd am driniaeth ym mis Mawrth 2023 a 2024, ond mae wedi methu dro ar ôl tro. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn fy etholaeth i wedi gweld cynnydd o 29 y cant yn nifer y bobl sydd ar restrau aros ers dwy flynedd.
Mae gwasanaeth iechyd Cymru yn werthfawr i ni i gyd ac ni ddylai fod yn destun camreoli parhaus, yn enwedig gan y Llywodraeth Lafur hon gyda'i phartneriaid ym Mhlaid Cymru dros nifer o flynyddoedd. Mae Gweinidogion iechyd Llafur olynol wedi gwneud addewid ar ôl addewid i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hyn, ond nid yw pethau'n gwella. Maent yn gwaethygu. Ers 2021, pan ymrwymodd Llafur a Phlaid Cymru i'w cytundeb cydweithio, mae cyfanswm y llwybrau cleifion wedi cynyddu tua thraean.
Fe gawn ni'r Ceidwadwyr ein cyhuddo o fod eisiau gwerthu'r GIG. Mae hyn yn nonsens llwyr. Nid yw'n wir. Os edrychwch ar danariannu deintyddiaeth dros ddegawdau a'r gostyngiad yn y ddarpariaeth GIG, Llafur sy'n gwthio gwasanaethau deintyddiaeth i fynd ar drywydd mwy o fusnes preifat. Byddem ni'n ariannu ein GIG yn briodol, a byddem yn cydnabod ei bwysigrwydd. [Torri ar draws.] Ie, Mabon.
Rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi sôn am y cytundeb cydweithio sawl gwaith. A allwch chi gyfeirio'n benodol at beth yn y 46 polisi oedd yn ymwneud ag iechyd?
Roeddech chi'n gweithio y tu ôl i ddrysau caeedig—. Roeddech chi'n gweithio y tu ôl i ddrysau caeedig—.
Peter, a wnewch chi ildio? Fe ddywedaf wrthych beth oedd yn y cytundeb cydweithio, a'r hyn a roddodd Plaid Cymru uwchlaw iechyd y genedl, oedd mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd. Dim mwy o feddygon, dim mwy o nyrsys, mwy o wleidyddion.
Ac nid ydym yn gwybod beth oeddech chi'n siarad amdano y tu ôl i ddrysau caeedig, ond roeddech chi'n gweithio gyda'ch gilydd fel uned. Roeddech chi'n gweithio gyda'ch gilydd, ac ni allwch dynnu eich hunain ar wahân nawr. [Torri ar draws.] Ie, Jenny.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ar gyfer y cofnod, cafodd ei eithrio'n benodol o'r cytundeb partneriaeth. Cytunwyd nad oedd iechyd—[Torri ar draws.]
Nid yw'r bobl allan yno'n credu hynny. [Torri ar draws.]
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod heb i'w gyd-Aelodau yn ei blaid weiddi mor uchel fel na allaf wneud hynny.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ond yr hyn sy'n wir yw bod Llafur wedi goruchwylio toriadau mewn termau real i'n cyllidebau GIG tra oeddent mewn grym. Nid wyf yn beirniadu ein staff GIG—nid oes yr un ohonom wedi gwneud hynny. Maent yn wych. Ond mae'n rhaid iddynt weithio mewn gwasanaeth iechyd sy'n methu'n systemig, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny.
Er bod Llafur a Phlaid Cymru'n cael eu herio'n briodol am y modd y gwnaethant drin y gwasanaeth iechyd, nid wyf yn credu bod unrhyw un yng Nghymru a fyddai eisiau ymddiried yn Reform gyda'n GIG. Yn eu cynhadledd genedlaethol yn ddiweddar, fe wnaethant groesawu meddyg a awgrymodd fod brechlynnau COVID yn gysylltiedig â diagnosis o ganser yn y teulu brenhinol, fod y brechlynnau yn debygol o achosi mwy o niwed na'r feirws COVID ei hun, a bod Sefydliad Iechyd y Byd dan reolaeth Bill Gates a bod rhaid ei ddisodli. A heddiw, fe wyddom fod Mr Farage wedi methu gwrthsefyll y ddamcaniaeth gynllwyn ddiweddaraf fod cysylltiad rhwng parasetamol ag awtistiaeth. Nid yw Cymru angen rhai sy'n arddel damcaniaethau cynllwyn di-sail yn rhedeg ein gwasanaeth iechyd. Mae angen arweinyddiaeth briodol a dim ond y Ceidwadwyr sy'n mynd i gyflawni hynny. Mae Reform yn blaid heb sylwedd, heb atebion, a dim ond rhethreg wag gan un dyn sy'n dweud wrth bawb beth y maent eisiau ei glywed.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd, fel y gwyddom, cynnig a gyflwynwyd gennym yma ym mis Gorffennaf ond a wrthodwyd gan Lafur. Rydym wedi cefnogi'r wyth argymhelliad gan y Coleg Nyrsio Brenhinol i fynd i'r afael â gofal mewn coridorau, ac mae gennym lu o bolisïau a fyddai'n gwella canlyniadau iechyd pobl Cymru yn helaeth, fel y mae James eisoes wedi'i amlinellu. Rhaid targedu cyllid a'i wario'n gywir. Rhaid rhoi diwedd ar wariant gwastraffus a biwrocratiaeth yn ein GIG, ac rwy'n credu hefyd fod angen adolygiad trylwyr o'n GIG. Wedyn, gallwn nodi gwariant gwastraffus ac ailflaenoriaethu adnoddau i ble y mae fwyaf o'u hangen. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i drwsio Cymru a thrwsio ein GIG. Yn wahanol i'r Blaid Lafur, sydd wedi goruchwylio dros 25 mlynedd o ddirywiad yn ein GIG, byddem yn dechrau ar ddiwrnod 1, gan ddatrys llanast Llafur a darparu'r gwasanaeth iechyd y mae ein trigolion yn ei haeddu.
Ddirprwy Lywydd, rydym wedi clywed digon o addewidion gwag gan Lafur a Phlaid Cymru, a'r rhethreg gynllwyniol fas a wyntyllir gan Reform. Byddem yn cyflawni camau gweithredu go iawn drwy bolisïau ag iddynt ganlyniadau diriaethol a fyddai'n helpu pobl Cymru. I'r rhai ohonom yma sydd eisiau gweld GIG cynaliadwy, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Nid yn unig y mae'n rhoi cyfle i ni i gyd siarad am faes cyfrifoldeb pwysicaf Llywodraeth Cymru, mae hefyd yn rhoi cyfle i mi gywiro'r camargraffiadau am Reform a'r GIG. Os caf ddatgan y gwir, gan fod hyn yn rhywbeth y mae'r Senedd yn honni ei bod—a dylai fod—yn ei gynnal ac yn gweld ei werth, er ei bod yn ymddangos nad yw ond yn credu hynny pan fydd yn gweddu i'w hagenda eu hunain, gadewch imi fod yn hollol glir, gan fod pobl Cymru yn haeddu'r gwir, nid camwybodaeth, hyd yn oed os yw'n golygu y bydd yn rhaid i rai ohonoch chi ddiweddaru eich taflenni is-etholiad Caerffili nawr.
Pan fydd Reform yn ffurfio Llywodraeth fis Mai nesaf, bydd y GIG yn parhau i fod am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu, a bydd presgripsiynau am ddim yn parhau. [Torri ar draws.] Mae unrhyw un sy'n awgrymu fel arall yn codi bwganod. Mae'r ffaith bod pob plaid yn y Siambr hon yn gwthio hyn—
A wnewch chi ymddiheuro i Darren?
—gan wybod yn iawn nad polisi Reform yw diddymu'r GIG, yn dangos pa mor fain yw hi arnoch chi i gyd bellach, ac ar y gair, iawn, ewch amdani.
Dyma ddyfyniad gan Nigel Farage: 'Nid wyf am i'r GIG gael ei ariannu drwy drethiant cyffredinol.' Sut arall y byddech chi'n ei ariannu yma yng Nghymru?
Ddim ond am fod gan Nigel Farage farn arbennig arno—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod ymateb i'r ymyriad.
Mae bod â diddordeb yn y ffordd y mae gwledydd eraill yn rheoli eu gwasanaethau iechyd, ac edrych i weld a oes unrhyw rannau o hynny y gallwn eu cymryd a'u defnyddio yn ein GIG, yn wahanol iawn i ymrwymo i ddiddymu'r GIG neu ei breifateiddio, neu beth bynnag. Yr hyn sy'n glir, a'r hyn sydd yn y dyfyniad y gwnaethoch chi ei golli, cyn iddo ddweud hynny, yw ei fod yn agored i glywed beth y mae gwasanaethau iechyd eraill yn ei wneud. Yr hyn rydych chi'n ei golli yw ei fod bob amser wedi dweud—ac mae'n hollol glir, fel y gallwch chi ddeall, a gall pobl ddeall allan yno—y bydd y GIG bob amser am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae bod yn agored i'r ffordd y caiff pethau eu hariannu yn hollol wahanol. Pan fydd Reform yn ffurfio Llywodraeth fis Mai nesaf, rydych chi'n gwybod y bydd y GIG yn parhau, er eglurder, am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rwy'n mynd i barhau nawr. Rwyf newydd dderbyn un gan eich plaid.
Mae'r ffaith bod pob plaid yn y Siambr hon yn gwthio hyn, gan wybod yn iawn nad polisi Reform yw diddymu'r GIG, yn dangos pa mor fain yw hi arnoch chi i gyd. Gan fy mod i wedi gwneud hyn yn glir, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn meddwl ddwywaith cyn gwneud cyhuddiadau celwyddog yn y Siambr ac yn hytrach, yn ymateb, y tro nesaf, i gwestiynau difrifol mewn dadleuon difrifol. Mae pobl Cymru a fy etholwyr fy hun yn haeddu mwy na hynny. Mae'r Gweinidog iechyd yn gwbl ymwybodol mai polisi Reform yw y bydd y GIG yn parhau i fod am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu. Nid safbwynt Reform yw'r sgandal go iawn, ond cyflwr y GIG, 26 mlynedd ar ôl yr holl Lywodraethau Llafur hyn, gyda chefnogaeth Plaid Cymru bob gafael.
Fel y mae'r cynnig Ceidwadol yn ei nodi i ni heddiw, ers etholiad y Senedd, mae dros 38,000 o bobl wedi marw wrth aros am driniaeth. Mae amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn parhau i fod yn ofnadwy o hir, ac mae amseroedd ymateb ambiwlans yn dal i fod yn beryglus o hir. O ran y GIG, Cymru sy'n gwneud waethaf yn y DU. Mae staff y GIG yn wych, ond mae pob ystadegyn yn dangos pa mor wael y mae Llafur wedi camreoli'r GIG yma yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr yn pwyntio bys at Fae Caerdydd, ond roedd gan y GIG o dan eu rheolaeth hwythau broblemau mawr. Felly, nid oes record lân gan yr un o'r hen bleidiau. [Torri ar draws.] Mae pobl Cymru bellach yn troi at Reform fel yr unig—[Torri ar draws.]

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'n wych cael cyfle i siarad â chi, y tro cyntaf i ni wneud hynny ers i chi benderfynu symud at Reform. A ydych chi'n cefnogi arweinydd eich plaid a bod eich plaid yn blaid sy'n bwrw amheuon ar effeithiolrwydd a diogelwch parasetamol ac sy'n cefnogi damcaniaethau cynllwyn COVID am effeithiolrwydd a diogelwch brechlynnau COVID? Oherwydd rwy'n credu bod y cyhoedd yng Nghymru yn haeddu gwybod a yw hynny'n wir. Beth yw eich barn chi?
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yma yw ein bod yn trafod record Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Rwyf wrth fy modd eich bod wedi dangos cymaint o ddiddordeb yng nghynhadledd Reform, ac efallai yr hoffech chi ddod un diwrnod, nid wyf yn gwybod. Ond y sgandal go iawn yma yw—
Ond nid oes yr un ohonoch chi'n siarad ag ef. Dywedwch wrtho ei bod yn ddrwg gennych.
Mae Reform wedi ymrwymo, os caf ddweud, i recriwtio a chadw staff. Bydd Reform yn rhoi diwedd ar absenoldeb amhenodol—[Torri ar draws.] A hoffech chi wneud ymyriad? Na.
Byddwn yn torri biwrocratiaeth wastraffus a rheolaeth ddiangen, gan adfer cyfrifoldeb i glinigwyr. Mae hyn ynddo'i hun yn rhyddhau miliynau i'w fuddsoddi mewn gofal rheng flaen heb drethi ychwanegol, gan sicrhau bod presgripsiynau'n parhau i fod am ddim. Rydym wedi clywed y Llywodraeth hon yn siarad am atal dro ar ôl tro, ond maent wedi methu cyflawni. Mae atal yn hanfodol. Drwy ddal problemau fel pydredd dannedd neu ganserau'n gynnar, fel y trafodwyd ddoe, atal gordewdra ac afiechydon plentyndod, a mynd i'r afael ag iechyd meddwl yn rhagweithiol, byddwn yn lleihau'r pwysau ar ein hysbytai.
Byddai Reform yn dod â'r metron yn ôl, rhywun sy'n weladwy ac yn cael parch ac sy'n atebol am safonau gofal. Byddem hefyd yn sicrhau diogelwch ac urddas cleifion drwy sicrhau bod ganddynt wardiau ar sail rhyw a'u bod yn defnyddio iaith ar sail rhyw, unwaith eto, yn ein GIG—[Torri ar draws.]
Na. Mae amser yr Aelod eisoes ar ben, ac rwy'n mynd i ofyn iddi gloi.
Mae Reform yn cytuno'n llwyr â'r ddau gynnig sy'n galw am gynllun gweithredu ar gyfer canser. Rydym yn croesawu'r hyn a ddywedodd y Llywodraeth yn eu cynnig ar hyn, ond byddai Reform yn mynd ymhellach ac yn sicrhau bod gofal canser digonol yn hygyrch i bob person ledled Cymru. Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol—
Mae angen i chi ddod i ben nawr. Rwyf wedi rhoi'r amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau. [Torri ar draws.] Na.
Mae'n ddrwg gennyf, beth—? Ni allaf glywed uwchlaw pawb arall.
Mae angen i chi ddod i ben, oherwydd rwyf wedi rhoi'r amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau.
Diolch yn fawr. Un peth arall, yr hepgoriad amlwg o hyn i gyd, yw bod ein cyn-filwyr wedi cael eu hanwybyddu, ac rydym wedi cydnabod bod menywod angen mentoriaid cymheiriaid o fewn y GIG, ac nid yw hynny wedi cael sylw, a nawr nid oes cyllid. Ers degawdau, mae Llafur wedi camreoli'r GIG yng Nghymru, wedi'u galluogi gan Blaid Cymru. Mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno syniadau da heddiw, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn swnio ychydig yn debyg i daflen Reform—[Torri ar draws.]—ond mae gan Reform atebion wedi'u gwneud yng Nghymru. Byddwn yn gwneud y GIG yn rhywbeth—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo unwaith eto. Diolch.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Gobeithio y gallwn ni i gyd gydnabod bod GIG Cymru mewn argyfwng ac mae cleifion ledled ein cenedl yn talu'r pris gyda'u bywydau. Ers etholiadau diwethaf y Senedd yn 2021, mae bron i 40,000 o bobl wedi marw yng Nghymru wrth aros am driniaeth y GIG, fel y nodwyd sawl gwaith yn ystod y ddadl hyd yma. Dyna gost ddynol system sy'n chwalu o dan reolaeth Llafur, gyda chydweithrediad Plaid Cymru.
Tra bo Gweinidogion yn canolbwyntio ar dincran cyfansoddiadol, mwy o wleidyddion, 20 mya, roedd cleifion yn cael eu gadael ar restrau aros cynyddol. Mae'r methiant hwn i'w deimlo fwyaf yng ngogledd Cymru, lle mae rhestrau aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynyddu mwy na 55 y cant ers 2021—y cynnydd mwyaf yng Nghymru gyfan. Mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi dirywio'n ddramatig, gyda llai na 56 y cant o gleifion wedi'u gweld o fewn pedair awr, sydd ymhlith y ffigurau gwaethaf yn y wlad. Ac er bod Lloegr bron â bod wedi dileu amseroedd aros o ddwy flynedd am driniaeth, yng ngogledd Cymru, mae dros 5,000 o bobl yn dal i aros mor hir â hynny.
Efallai mai'r symbol mwyaf o addewidion wedi'u torri yn ein gwasanaeth iechyd yw saga ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl—neu ddiffyg ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl. Dros ddegawd yn ôl, addawyd cyfleuster i fy etholwyr a fyddai'n dod â gwasanaethau iechyd a chymunedol hanfodol at ei gilydd, yna aeth pethau'n dawel. Nawr, ar ôl degawd o oedi ac ychydig cyn etholiad, mae cynlluniau newydd wedi'u cyhoeddi. Ond yr hyn y mae fy etholwyr yn ei gael yw fersiwn wedi'i chrebachu a'i glastwreiddio'n helaeth o'r hyn a addawyd iddynt yn wreiddiol. [Torri ar draws.] Iawn, rwy'n barod iawn i dderbyn ymyriad.
Onid ydych chi'n cytuno mai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod arian ar gael yn sydyn yn sgil newid Llywodraeth y DU i fuddsoddi cyllid cyfalaf ynddo?
Ddim o gwbl, Carolyn, na. Oherwydd pe bai wedi cael ei gyflwyno ar amser, byddai wedi bod am ran fach o'r pris y mae'n ei gostio nawr. Mae deunyddiau adeiladu, fel un enghraifft yn unig, wedi codi i'r entrychion ers y pandemig. Pe bai wedi cael ei adeiladu a'i gyflawni yn 2014-15, pan gafodd ei addo gyntaf, gellid bod wedi ei adeiladu am oddeutu £22 miliwn, lle mae'r ffigur hwnnw nawr, ar gyfer fersiwn wedi'i glastwreiddio'n sylweddol, bellach yn llawer mwy costus na'r hyn a fyddai yr holl amser yn ôl. Mae sir Ddinbych a'r ardal ehangach yn haeddu gweld y cynlluniau gwreiddiol yn cael eu hanrhydeddu. Ni fydd unrhyw beth llai yn ddigon i leddfu'r baich ar Ysbyty Glan Clwyd.
Pan oedd y Prif Weinidog yn Weinidog iechyd, addawodd dro ar ôl tro y byddai'n dileu amseroedd aros o ddwy flynedd—yn gyntaf erbyn mis Mawrth 2023, ac yna eto erbyn mis Mawrth 2024. Mae'r ddau addewid wedi'u torri. Mae targedau wedi cael eu methu a chleifion wedi cael cam. A pho hiraf y bydd pobl yn aros, y mwyaf y mae eu cyflyrau'n gwaethygu, gan arwain at driniaethau mwy cymhleth a chostus. Mae hyn yn enghraifft o ba mor gibddall yw Llywodraeth Cymru, nad yw wedi buddsoddi digon mewn iechyd ataliol, gan arwain at wneud Cymru'n un o'r gwledydd lleiaf iach yn y DU, ac mae hefyd wedi cyfrannu at lwybrau cleifion yn cynyddu draean ers 2021.
Ond Ddirprwy Lywydd, nid ymwneud â rhestrau aros yn unig y mae'r argyfwng hwn, mae'n ymwneud â methiant gofal brys. Mae grŵp o feddygon a nyrsys wedi ymddeol wedi ysgrifennu at holl Aelodau gogledd Cymru yn rhybuddio mai Betsi Cadwaladr sydd â'r amseroedd aros mewn coridorau gwaethaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru gyfan, gyda bron i hanner y cleifion yn aros dros 24 awr am wely—rhywbeth y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud yn gywir ddigon na ddylai ddigwydd byth. Mae gormod o bobl yn cael eu gadael ar drolïau heb urddas, heb fynediad at gyfleusterau priodol ac mewn mwy o berygl o farw. Gwraidd y broblem hon yw colli gwelyau cymunedol, sydd wedi'u torri o un am bob 233 o bobl i ddim ond un am bob 315, gyda mwy o doriadau eto i ddod. Mae eu hymgyrch syml o dan yr acronym 'BEDS', (Bring back community beds; End corridor tragedies; Decrease in patient mortality; Senior medics at the front door) yn galw am adfer gwelyau cymunedol, rhoi diwedd ar drasiedi gofal mewn coridorau, gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n marw, ac uwch feddygon wrth y drws blaen. Mae'n haeddu gweithredu ar frys.
Mae'n amlwg hefyd, ar ôl chwarter canrif mewn grym, fod Llywodraeth Cymru heb unrhyw syniadau ar ôl. A chyda Phlaid Cymru wedi gweithredu fel eu llawforynion yn y swydd, prin eu bod nhw'n cynnig newid o'r status quo. Ni chlywsom unrhyw beth gan Reform UK ar bolisi iechyd, heblaw chwarae gyda'r syniad o breifateiddio a damcaniaethau cynllwyn, fel y mae'r Siambr hon eisoes wedi clywed. Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir ynglŷn â'r hyn y byddem yn ei wneud, sy'n cynnwys datgan argyfwng iechyd ar y diwrnod cyntaf, lansio'r cynllun recriwtio a chadw mwyaf y mae'r GIG yng Nghymru wedi'i weld erioed, a gosod hybiau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig ar lwybr cyflym i glirio'r ôl-groniad.
Mae yna newidiadau ystyrlon y gall Llywodraeth Cymru eu cyflawni i bobl Cymru o hyd, a byddai anrhydeddu'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl yn ddechrau da. Ddirprwy Lywydd, mae pobl Cymru yn haeddu gwell, ac mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwell. Maent yn haeddu Llywodraeth sy'n rhoi cleifion uwchlaw gwleidyddiaeth, un sy'n cyflawni ei haddewidion, ac sy'n trin iechyd yng Nghymru, yn briodol ddigon, fel argyfwng. Diolch yn fawr.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw. Mae ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi bod mewn argyfwng ers blynyddoedd lawer. Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi heddiw, mae dros 38,000 o bobl wedi marw tra bônt ar restr aros y GIG. Mae gennym filoedd a miloedd o bobl yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth yng Nghymru. Flynyddoedd yn ôl, cafodd y targed hwnnw ei ddileu yn Lloegr. Nid oes neb bron yn aros dros ddwy flynedd yn Lloegr.
Pe bai'r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn â thorri rhestrau aros yng Nghymru, byddent yn gwneud defnydd o'r capasiti dros ben sydd yn Lloegr. Mae capasiti dros ben yn yr ysbytai yng Nghroesoswallt, Amwythig a Telford. Rwy'n mynd i ddarllen rhan o lythyr a anfonwyd at fy etholwr yr wythnos diwethaf gan Brif Swyddog Gweithredol Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. Mae fy etholwr yn aros am apwyntiad cleifion allanol cychwynnol ar gyfer ei phroblem clun. Dyma a ddywedodd y prif swyddog gweithredol wrth fy etholwr:
'Mae'r ymddiriedolaeth wedi cael ei chynghori gan gomisiynwyr Cymru i beidio â chynnig apwyntiad cleifion allanol cyntaf i gleifion hyd nes eu bod yn agosáu at y pwynt 52 wythnos. Os oes gennych bryderon am y polisi hwn, rydym yn argymell y dylech godi'r mater gyda'ch cynrychiolydd lleol neu eich bwrdd iechyd am eglurhad pellach.'
Wel, mae'r etholwr hwn wedi'i godi gyda mi, a nawr rwy'n ei godi yn y Senedd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd heddiw. Fy nghwestiwn i'r Ysgrifennydd Iechyd yw: beth yw eich ymateb i fy etholwr ac eraill—y nifer o rai eraill—sydd yn yr un sefyllfa? Mae fy etholwr, yn y llythyr hwn, wedi cael gwybod bod gan yr ysbyty orthopedig yng Nghroesoswallt gapasiti i'w gweld yn llawer iawn cynt, ond caiff gyfarwyddyd i beidio â gwneud hynny gan gomisiynwyr iechyd Cymru, sy'n gofyn i'r ysbyty arafu gweithgarwch i gyd-fynd â'r hyn y gallant ei fforddio.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Russ?
Gwnaf.
Rwy'n credu bod hyn yn wirioneddol siomedig, o ystyried ein bod wedi cael y Prif Weinidog yn y Siambr yma'n dweud nad oedd hon yn ffordd briodol o ddelio â chleifion yn ardal Powys, yr ydych chi a minnau'n ei chynrychioli. Hefyd, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud sylwadau tebyg na ddylai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys oedi triniaeth yn Lloegr. Felly, rwy'n credu ei bod yn drueni mawr ein bod ni wedi dod i'r sefyllfa hon, pan fo capasiti ar gael yn Lloegr na allwn gael mynediad ato ar gyfer cleifion o Gymru ym Mhowys.
Mae James Evans yn iawn. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod y sefyllfa hon lle mae cleifion Powys yn aros am fwy o amser na chleifion o Loegr yn yr un ysbyty yn annerbyniol, ond dim ond geiriau yw hynny, oherwydd nid yw Llywodraeth Cymru yn fodlon ymyrryd i fynd i'r afael â'r mater. O'r hyn a welaf i, pe bai'r etholwr hwn yn byw yn Lloegr, byddent yn cael eu hapwyntiad cleifion allanol yn llawer cynt, a thriniaeth yn llawer cynt. Mae'n debygol y bydd fy etholwr yn gorfod aros am 104 wythnos cyn cael triniaeth.
Mae sawl person wedi mynegi rhwystredigaeth wrthyf ynghylch byrddau iechyd yn Lloegr, ac rwy'n dweud wrth fy etholwyr, 'Nid eu bai nhw yw hyn, ond bai Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr Cymru'. Mewn gwirionedd, mae darparwyr yn Lloegr yr un mor rhwystredig. Nid ydynt eisiau system ddwy haen. Nid ydynt eisiau cael dwy restr aros ar wahân, un gyflymach i gleifion Lloegr ac un lawer hirach i gleifion Cymru. Nid dyna maent ei eisiau. Mewn gwirionedd, nid yw bwrdd iechyd Amwythig a Telford wedi cytuno â gofynion bwrdd iechyd Powys, ac maent yn dal i fod mewn trafodaethau. Dyma lle dylai'r Gweinidog iechyd gamu i mewn i'r trafodaethau hynny er mwyn mynd i'r afael â'r mater.
Yng ngwelliant Llywodraeth Cymru i'r ddadl hon heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi sôn bod £120 miliwn ar gael i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd. Wel, a yw hyn yn newyddion da? Wel, nid i gleifion Powys, oherwydd nid oes ceiniog ohono'n mynd i gael ei wario ar gynorthwyo cleifion ym Mhowys i gael eu gweld yn ysbytai Lloegr yn gyflymach. Dim ceiniog. Ac os wyf i'n anghywir, gall yr Ysgrifennydd iechyd fy nghywiro pan ddaw i gau'r cyfraniad heddiw.
Beth sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud? Fe ddywedaf wrthych: mae angen iddynt ariannu byrddau iechyd Cymru i'r pwynt lle gallant brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr yn seiliedig ar amseroedd aros Lloegr. A dim ond drwy wneud hynny y byddwch chi'n atal y system ddwy haen sy'n digwydd nawr rhwng cleifion o Gymru a Lloegr, a dim ond gwneud hynny fydd yn atal yr anghydraddoldeb y mae'n rhaid i gleifion Powys ei wynebu. Ni ddylai cleifion Powys gael eu trin fel dinasyddion eilradd, na chleifion ledled Cymru, a dyna'n union sy'n digwydd.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr wedi rhoi'r cyfle inni heddiw, unwaith eto, i nodi ar goedd fod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio'n llwyr ar leihau amseroedd aros. Yn ei araith agoriadol, nid oedd y nesaf peth i ddim a ddywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn adlewyrchu gwirionedd profiad y GIG yng Nghymru heddiw. Fawr o afael ar realiti, fawr o afael ar yr heriau, fawr iawn yn wir y gallai'r rhan fwyaf ohonom gytuno ag ef. Er, fe sylwais fod llefarydd y Ceidwadwyr wedi dweud wrthym, ar ei ddiwrnod cyntaf fel ysgrifennydd iechyd mewn Llywodraeth Geidwadol, y byddai'n argyfwng iechyd. Rwy'n credu y gallai'r rhan fwyaf ohonom gytuno â hynny.
Ddirprwy Lywydd, y llynedd, dywedodd y cyhoedd wrth y Prif Weinidog eu bod eisiau mynediad cyflymach at ofal a thriniaeth, ac rydym yn gwneud yn union hynny: mewn cymunedau lleol, heb apwyntiadau, heb bresgripsiwn, gwasanaethau i drin dolur gwddf a haint y llwybr wrinol ar gael mewn 99 y cant o'r holl fferyllfeydd cymunedol; ac mewn ysbytai, drwy leihau amseroedd aros, gwella cyfraddau trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau adref pan fyddant yn iach ac yn barod i adael. Rydym wedi cyflawni hyn diolch i waith caled y degau o filoedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym mhob rhan o'r GIG. Ni ddiolchodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr i'r un ohonynt wrth agor y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad i wella ansawdd a mynediad at ofal cleifion.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y cynnydd a wnaethom ar leihau arosiadau hir. Nid yw'n ddarlun llawn anobaith, fel y mae rhai Aelodau wedi honni. Mae amseroedd aros hir yn lleihau. Mae'r rhestr aros yn lleihau. Rydym wedi gwneud hyn yn erbyn cefndir o alw di-baid am ofal y GIG. Mae atgyfeiriadau newydd ar eu lefelau uchaf erioed. Yn ystod y 12 mis diwethaf, gwelsom fwy nag 1.6 miliwn o atgyfeiriadau newydd, sy'n cyfateb i bron i hanner y boblogaeth yn cael eu hatgyfeirio i ysbyty, 22 y cant yn uwch na chyn y pandemig, a darparwyd 3.8 miliwn o apwyntiadau cleifion allanol, mwy nag un yr un ar gyfer pob oedolyn a phlentyn sy'n byw yng Nghymru.
Byddwn yn gweld mwy o arwyddion o welliant eleni wrth i'n cynllun uchelgeisiol gwerth £120 miliwn gyflymu mynediad ymhellach fyth. Rydym wedi lleihau nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd fwy nag 88 y cant ers mis Mawrth 2022. Gostyngodd amseroedd aros hir i ychydig dros 8,000 ym mis Gorffennaf. Dyma oedd y lefel isaf ond un ers mis Ebrill 2021. Mae perfformiad canser wedi bod yn uwch na 60 y cant am chwe mis yn olynol, y cyfnod hiraf o sefydlogrwydd ers inni ddechrau adrodd. Ond wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Y mis hwn, byddwn yn darparu 15,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol ar ben gweithgarwch arferol y GIG. Bydd 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth. Mae hyn yn mwy na dyblu'r 17,000 y mae'r GIG fel arfer yn eu darparu. A bydd degau o filoedd yn rhagor o brofion diagnostig. Mae hyn oll yn rhan o'r cynllun £120 miliwn. Bydd hyn yn cael gwared ar amseroedd aros hir ac yn helpu i leihau'r rhestr aros gyffredinol. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Hoffwn i chi wneud sylwadau ar ran o fy nghyfraniad, a oedd yn ymwneud â'r £120 miliwn. A fydd rhywfaint o'r £120 miliwn hwnnw'n cael ei wario ar helpu cleifion ym Mhowys sy'n aros am driniaeth yn Lloegr?
Mae Russell yn codi'r pwynt hwn yn gyson yn y Siambr, ac rwyf wedi ceisio egluro bob tro fod bwrdd iechyd Powys wedi cael dyraniad o'r rhaglen yr ydym yn ei darparu ar gyfer gofal wedi'i gynllunio. Ond fel pob bwrdd iechyd arall, mae'n rhaid i fwrdd iechyd Powys gyflawni ei waith yn unol â'r gyllideb a osodwyd. Dyna'r realiti, ac ni fyddai'r Aelod yn herio hynny ar gyfer unrhyw ran arall o'r gwasanaethau cyhoeddus ar wahân i'r maes penodol hwn. Credaf mai'r hyn y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl yw i fyrddau iechyd Cymru ddarparu'r safon i bob claf yng Nghymru y mae gan bob claf arall yng Nghymru hawl iddi. Dyna'r hyn y mae Powys yn cael eu hariannu i'w gyflawni, ac rwy'n hyderus y byddant yn gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn creu GIG cynaliadwy. I wneud hyn, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Felly, rwyf wedi gosod mesurau cynhyrchiant uchelgeisiol i fyrddau iechyd y disgwyliaf i bob un ohonynt eu cyflawni. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i ymweld â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a gweld â fy llygaid fy hun sut y mae'r bwrdd iechyd wedi ymgymryd â'r her nid yn unig o gyflawni'r targedau offthalmoleg, ond i ragori arnynt mewn gwirionedd. Mae wedi cydgrynhoi ei wasanaethau cataract yn ysbyty Llandochau, wedi ailgynllunio llwybrau, wedi rhoi cymorth ychwanegol i gleifion ac wedi ymrwymo i ddarparu mwy o driniaethau ar bob rhestr driniaethau. Y targed yw saith triniaeth ar bob rhestr. Mae tîm Llandochau yn llwyddo i wneud wyth ac yn chwilio am ffyrdd diogel o wneud mwy. Mae llawer iawn o enghreifftiau eraill o arferion da ledled Cymru y dylem fod yn tynnu sylw atynt ac yn eu rhannu, ac mae arwyddion hefyd fod yr amrywio rhwng ac o fewn byrddau iechyd yn lleihau. Mae amseroedd aros hir am wasanaethau offthalmoleg wedi gostwng ym mhob bwrdd iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mewn tri bwrdd iechyd— Cwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe a Phowys—nid oes unrhyw un bellach yn aros mwy na dwy flynedd am wasanaethau offthalmoleg.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi at ganser. Yn 2021, cyflwynwyd llwybr canser sengl yng Nghymru a gynlluniwyd gan glinigwyr. Mae cyrraedd y targed o 75 y cant yn heriol—mae perfformiad wedi sefydlogi; dros y chwe mis diwethaf, mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan wedi bod uwchlaw 60 y cant yn gyson—ond nid yw canrannau'n adrodd y stori gyfan. Roedd nifer y bobl a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Gorffennaf ar ei uchaf erioed. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dechreuodd mwy na 14,000 o bobl driniaeth canser mewn 62 diwrnod—hefyd y nifer uchaf erioed. Mae atgyfeiriadau canser ar eu lefelau uchaf erioed, ac ym mis Gorffennaf, cafodd mwy na 15,700 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser—y nifer uchaf ond un erioed. Rydym wedi buddsoddi mewn offer diagnostig newydd. Rydym yn sicrhau bod triniaethau newydd ar gael. Rydym yn cefnogi ymchwil, yn helpu pobl i gael mynediad at dreialon clinigol ac rydym yn gwneud mwy i ganfod canser yn gynharach drwy sgrinio.
Cyhoeddais ym mis Mehefin y bydd Cymru'n cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer yr ysgyfaint, wedi'i thargedu at bobl sydd â'r risg fwyaf o ddatblygu'r clefyd. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau a bydd y bobl gyntaf yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio yn 2027. Rydym wedi ehangu ein rhaglen sgrinio coluddion, fel bod pawb rhwng 50 a 74 oed yn cael prawf sgrinio coluddion gartref. Rydym hefyd wedi cynyddu sensitifrwydd y prawf. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd bellach yn edrych ar sut y gallwn gyflwyno mesurau hunansgrinio ar gyfer canser ceg y groth yng Nghymru, wedi'u targedu at y grwpiau sydd leiaf tebygol o fynychu apwyntiadau.
Ddirprwy Lywydd, ym mis Mai, gwneuthum ymrwymiad y byddem yn cyflawni ar ran pobl Cymru. Heddiw, rwyf wedi dangos ein bod wedi gwneud cynnydd yn erbyn yr addewid hwnnw. Dros y ddau fis diwethaf, mae maint y rhestr aros wedi gostwng yn wyneb galw di-baid. Mae rhestrau aros ac amseroedd aros hir mewn offthalmoleg yn lleihau. Bydd 15,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu y mis hwn, yn ychwanegol at weithgarwch arferol y GIG. Mae'r llwyddiannau hyn wedi'u cyflawni drwy weithio gyda gweithlu GIG angerddol ac ymroddedig, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt. Mae mwy i'w wneud, a chyda'n gilydd, fe'i gwnawn.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i James am ddadlau'r achos unwaith eto ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â pha mor angerddol y teimlwn am ein gwasanaeth iechyd, yn ein hetholaethau unigol. Yn wir, mae gennyf bryderon gwirioneddol am y bobl yng Nghymru. Mae methiannau enfawr wedi bod gan Lywodraeth Lafur Cymru, a phan siaradwn am y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, o’r holl bethau a ddylai fod wedi bod ar y brig yn eich cytundeb cydweithio, dylai fod wedi cynnwys cynyddu cyllid ac ati, fel na fyddai'n rhaid inni gael y ddadl hon nawr. Ewch amdani, Mabon.
Fe geisiaf eto. Pa ran nad ydych chi'n ei ddeall? Nid oeddem yn gallu cytuno ar bolisi iechyd, felly nid oedd yn rhan o'r pecyn. Byddem wedi bod wrth ein boddau pe bai'r Llywodraeth wedi cytuno â ni, byddent hwythau wedi bod wrth eu boddau pe baem wedi cytuno â nhw ar bethau, ond ni wnaethom. Felly, nid oedd yno. Felly, a allwch nodi pa ran o'r cytundeb cydweithio a oedd yn cyfeirio at iechyd?
Fe ddywedaf wrthych pa ran o'r cytundeb cydweithio na fyddwn yn cytuno ag ef, y 36 gwleidydd ychwanegol. Yr ymagwedd dijeridŵ, amheus tuag at y system bleidleisio nesaf. Cenedl noddfa. Rydych chi'n cefnogi hynny oll. [Torri ar draws.] Gwnaf, Alun, gwnaf.
Teithiais i Wcráin gydag arweinydd eich plaid rai misoedd yn ôl, ac rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y mae ef wedi'i wneud gyda phobl Wcráin. Os ydych chi eisiau dod â'r genedl noddfa i ben, cofiwch eich bod chi hefyd yn dod â chymorth i bob ffoadur Wcreinaidd yn y wlad hon i ben.
Gadewch inni fod yn onest yma, ar ddechrau'r argyfwng, roedd gennyf—ac fe'u croesewais—y 60 a ddaeth i Landudno, a darparwyd gwestai iddynt. Rhaid imi ddweud wrthych, serch hynny, fod llawer o'r bobl hynny wedi dod i fy ngweld ers hynny i ddweud nad ydynt yn deall eu fisâu eu hunain bellach, maent eisiau mynd yn ôl. Mae pobl wedi dweud nad yw'r amodau y maent wedi bod yn byw ynddynt wedi bod yn wych. Ond nawr, rydym wedi siarad am Affganiaid. A gaf i ofyn a ydych chi'n cefnogi gweld y Syriaid yn dod i mewn? Felly, yn y bôn, rydych chi'n cefnogi caniatáu i unrhyw un ddod i mewn i Gymru—yn anghyfreithlon neu fel arall. [Torri ar draws.]
Arhoswch, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Alun—Alun. Nid eich lle chi yw dechrau gofyn cwestiynau i Aelodau eraill, oherwydd fe gewch chi'r atebion rydych chi'n eu cael. A wnewch chi ganolbwyntio ar gloi, os gwelwch yn dda?
Wel, maent yn dweud un peth ac yn gwneud peth arall. Ond yn y pen draw, mae plannu miloedd o goed yn Uganda, a'ch cytundeb cydweithio wedi bod yn drychineb llwyr, nid yn unig i'r gwasanaeth iechyd, ond i bobl Cymru mewn gwirionedd. Ond pan fydd gennych bobl yn dod i'ch swyddfa—ac nid wyf yn credu am funud mai fi'n unig sy'n ei gael—pobl sydd wedi bod yn aros am flynyddoedd am driniaeth fasgwlaidd, pobl sy'n aros yn hir am apwyntiadau canser, pobl sydd wedi aros tair blynedd am lawdriniaethau clun a phen-glin—. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd. A dweud y gwir, rwyf wedi galw cyfarfod brys o'r bwrdd iechyd oherwydd nifer yr achosion ffiaidd a brawychus. Ac mae'r bobl hyn yn fodau dynol, ac maent yn haeddu gwell na'r hyn y mae Llafur Cymru neu Blaid Cymru yn ei wneud. Cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth i ofyn faint o bobl a oedd wedi marw ym mwrdd Betsi tra oeddent ar restr aros am driniaeth, a dychrynais wrth ddarllen ei fod yn 8,500, a darganfod wedyn fod 38,500—bron i 40,000—o bobl wedi marw. Nid yw'r bobl hynny gyda ni mwyach, wrth aros am driniaeth iechyd. Ffiaidd.
Gareth Davies, fe dynnoch chi sylw at y ffaith eich bod yn cynrychioli etholaeth debyg i Carolyn Thomas, ond rywsut, nid yw'n ymddangos bod y cleifion hynny, ei hetholwyr, yn ymweld â hi. [Torri ar draws.] Na, na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriadau pellach.
Fe ymatebais i Gareth Davies—[Anghlywadwy.]
Na, na—
Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad.
Siaradodd Peter Fox yn dda, felly hefyd Altaf. Mae pob un ohonom yn dweud yr un peth. Nawr, pan siaradodd Laura Anne Jones, mae'n rhaid imi ddweud, Laura, a bod yn onest gyda chi, rwyf wedi colli hyder ynoch chi fel gwleidydd. Yn sicr, nid wyf erioed wedi bod ag unrhyw hyder yn Reform, felly byddwch yn ofalus gyda hynny, wrth siarad mewn dadl iechyd, gan y gwyddom beth yw barn Mr Farage ynglŷn â hynny.
Mae'r addewidion ynghylch arosiadau dwy flynedd wedi'u torri ers 2021, fel y soniodd James Evans. Nid oherwydd methiant ein meddygon, ein nyrsys, ein glanhawyr yn y gwasanaeth iechyd—mae ein holl weithwyr rheng flaen yn gwbl wych, ac rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, eisiau eu cefnogi. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gyfrifol am y rhestrau aros hir hyn. Mewn gwirionedd, yn y misoedd diwethaf, chi sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn, Jeremy. Byddem yn ehangu hybiau llawfeddygol. Byddem yn rhoi cleifion yn gyntaf. Yn sicr, ni fyddem hyd yn oed yn breuddwydio nac yn siarad am restrau aros dwy flynedd.
Nawr, cefais rywun yn fy swyddfa y bore yma sy'n gofalu am beth o'r arian yr ydych chi'n ei ddarparu ar gyfer optometreg, Jeremy, ac maent hwy hyd yn oed wedi dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod pa mor hir yw eu—. Mae mewn blociau o dri mis. Nid ydynt yn gwybod pryd fydd y bloc tri mis nesaf lle gallant helpu i leihau'r rhestrau aros hynny. Mae gennyf gleifion sydd wedi cael un cataract wedi'i wneud—ac rwy'n datgan buddiant gan fod fy rhieni-yng-nghyfraith yn optegwyr; maent wedi bod yn y diwydiant hwnnw ers blynyddoedd—ac mae gennyf bobl sydd wedi cael un cataract ond sy'n aros misoedd a misoedd heb ddyddiad ar gyfer yr ail gataract. A ydych chi'n gwybod bod hynny'n beryglus mewn gwirionedd, y gall pobl syrthio? Gallant golli eu cydbwysedd—
Janet, mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda. Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi.
—pan na allant weld. Y peth yw, nid oes gwadu bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi torri, a dywedaf wrthych nawr: ar 7 Mai y flwyddyn nesaf, os bydd y trigolion a'r pleidleiswyr yn rhoi eu hymddiriedaeth ynom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddwn yn cynnal dadl fel hon dri mis ar ôl inni fod mewn grym. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Llyr Gruffydd, a ydych chi'n dymuno codi pwynt o drefn?
Hoffwn godi pwynt o drefn, gan fod Janet Finch-Saunders, yr oeddwn yn arfer ei hystyried yn ffrind, ac rwy'n gobeithio y byddaf ar ôl hyn, wedi camarwain y Senedd drwy awgrymu fy mod i a fy mhlaid yn gwneud popeth yn ein gallu i annog mewnfudwyr anghyfreithlon i ddod i'r wlad hon. Rwyf am ofyn iddi dynnu'r datganiad hwnnw'n ôl, oherwydd os nad yw hi—
Na, na. Roeddwn yn siarad am y genedl noddfa. Llyr, os caf—.
Fe wnawn adolygu—
Os na wnaiff hi, yna mae'n amlwg wedi llyncu—un arall sydd wedi llyncu—pilsen ffantasi Farage, ac ni chredaf fod hynny'n weddus ohoni.
O, na, ddim o gwbl.
Yn amlwg, fe wnawn adolygu'r trawsgrifiad, ac fe wnawn benderfyniad yn seiliedig ar hynny.
Rwy'n fwy na pharod i'w adolygu, ond ni chredaf imi ddweud y fath beth. Roeddem yn siarad am y genedl noddfa.
Iawn. O'r gorau.
Wel, na, roeddech—. Mae hynny'n anghywir.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Byddwn yn pleidleisio ar eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr NHS, a galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais.
A yw'r Aelod yn pleidleisio ar drên?
Na, nid yw Ken ar drên, rwy'n eithaf siŵr o hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydych chi'n teithio, ydych chi?
Nac ydw.
Diolch yn fawr.
Nac ydw.
Cau'r bleidlais. [Anghlywadwy.]
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
[Anghlywadwy.]—caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - y GIG. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8984 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant.
2. Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
3. Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y coluddyn.
Yn nodi:
a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac
b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog am driniaeth.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod.
Felly, er eglurder, ni dderbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - y GIG. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Mark Isherwood i siarad.
Os yw'r Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel, os gwelwch yn dda. Mark. Mae croeso i chi ddod at y podiwm.
Diolch i fy nghynorthwyydd hyfryd, ac rwy'n symud ymlaen. Rwyf wedi cytuno i Peter Fox, Mabon ap Gwynfor, Julie Morgan ac Andrew R.T. Davies siarad am funud, os bydd amser yn caniatáu.
Ni ellir tanamcangyfrif gwerth gofal hosbis yng Nghymru. Ledled Cymru, mae'r 15 hosbis elusennol yn gweithredu gydag ymroddiad a gofal. Bob blwyddyn, maent yn cefnogi dros 20,000 o oedolion a phlant sy'n byw gyda salwch terfynol. Nid yw eu gwaith yn gyfyngedig i driniaeth glinigol. Mae a wnelo â helpu pobl i fyw'n dda, hyd yn oed wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae a wnelo â galluogi unigolion i greu atgofion parhaol gyda'u hanwyliaid, i fynegi eu dymuniadau a chael heddwch ac urddas yn eu dyddiau olaf.
Mae hosbisau hefyd yn darparu cymorth hanfodol i ofalwyr a theuluoedd, gan eu helpu i ddelio â'r straen emosiynol, yr ansicrwydd a'r galar sy'n anochel yn cyd-fynd â theithiau o'r fath. Mae'r cymorth hwn yn holistaidd, yn dosturiol ac wedi'i deilwra i anghenion pob unigolyn a theulu. Nid yw gwasanaethau hosbisau wedi'u cyfyngu i leoliadau sefydliadol; maent yn caniatáu i bobl sy'n marw aros yn eu cartrefi eu hunain, mewn amgylchedd cyfarwydd a chariadus. Maent hefyd yn cynnig mynediad at welyau cleifion mewnol mewn cymunedau lleol, gan sicrhau bod gofal diwedd oes ar gael yn agos at adref. Wrth wneud hynny, mae hosbisau yn lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, yn cefnogi rhyddhau cleifion yn amserol ac yn effeithlon, ac yn lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu, nyrsys ardal a thimau gofal cymdeithasol—mewn geiriau eraill, yn arbed arian i'r GIG, gan wella bywydau ar yr un pryd.
Mae eu heffaith yn bellgyrhaeddol, ac nid yn unig yn gwella bywydau unigolion, ond yn cryfhau'r system gofal iechyd gyfan, ac eto, er gwaethaf maint ac arwyddocâd eu cyfraniad, mae hosbisau'n parhau i ddibynnu'n ormodol ar roddion elusennol. Ar gyfartaledd, mae bron i 70 y cant o gost darparu gwasanaethau hosbis yng Nghymru yn cael ei thalu drwy godi arian. Gyda'i gilydd, mae hosbisau'n buddsoddi oddeutu £30 miliwn o arian elusennol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae hosbisau'n cynnig model gofal holistaidd, un sy'n cynnwys rheoli symptomau, cymorth emosiynol a gofal mewn profedigaeth. Maent yn mynd i'r afael ag anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol a lles cleifion a'u teuluoedd. Mae'r dull integredig hwn nid yn unig yn gwella profiad y claf, mae hefyd yn sicrhau defnydd mwy costeffeithiol o adnoddau'r GIG.
Fodd bynnag, mae'r galw am ofal hosbis a gofal lliniarol yn tyfu'n gyflym. Dros y 25 mlynedd nesaf, rhagwelir y bydd yr angen am ofal lliniarol yn cynyddu oddeutu 25 y cant. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei achosi gan boblogaeth sy'n heneiddio, cymhlethdod cynyddol cyflyrau meddygol, ac anghydraddoldebau iechyd sy'n dyfnhau. Ymhellach, er gwaethaf yr addewid o gyfran o'r £3 miliwn a ddyrannwyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, nid yw'r ddwy hosbis plant yng Nghymru, Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan, wedi cael gwybod beth fydd y dyraniad hwnnw na pha bryd y maent yn debygol o'i gael. Er mwyn diwallu anghenion y nifer cynyddol o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywydau neu sy'n byrhau eu bywydau, maent yn galw am setliad cyllid cynaliadwy wedi'i glustnodi, gan ddechrau ar 25 y cant o'u costau gofal yn 2025 ac yn codi 1 y cant yn flynyddol i 30 y cant yn 2030—sy'n dal i fod islaw'r cyfartaledd presennol ar gyfer hosbisau oedolion yng Nghymru.
Erbyn y 2040au, amcangyfrifir y bydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, ac yn hollbwysig, disgwylir i'r galw am ofal cartref neu mewn cartrefi gofal godi'n sylweddol. Eisoes, mae hosbisau'n nodi cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau cleifion, weithiau o fewn un flwyddyn. Mae cynnydd sydyn wedi bod mewn gofal mewn argyfwng, yn y galw am ofal seibiant ac o ran anghenion cymorth teuluoedd. Mae'r system o dan bwysau ac mae hosbisau'n gwneud popeth yn eu gallu i ymateb, ond nid oes gan chwarter Cymru fynediad at welyau hosbis, a'r unig ddewis yw gofal cartref drwy dimau cymunedol sydd o dan bwysau, neu ofal yn yr ysbyty. Mae’n ddrwg gennyf, dylwn ddweud mai'r dewis yw gofal yn y cartref drwy dimau cymunedol sydd o dan bwysau, neu ofal yn yr ysbyty.
Er gwaethaf pecynnau cymorth untro gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd i'w croesawu, mae hosbisau'n parhau i wynebu heriau difrifol o ran cynaliadwyedd. Nid yw'r rhain yn heriau haniaethol; maent yn real, yn uniongyrchol ac yn peri cryn bryder. Maent yn ymrafael ag effaith ariannol cynnydd blynyddol yr 'Agenda ar gyfer Newid', a fydd yn arwain at gynnydd o 3.6 y cant mewn costau staffio ar gyfer 2025-26, a'r cynnydd i yswiriant gwladol, gydag effaith amcangyfrifedig o £1.3 miliwn ar gyfer yr un cyfnod. Ac mae hyn oll yn cael ei waethygu gan y cynnydd mewn costau byw, sy'n effeithio ar staff, cleifion a'r gallu i godi arian. O ganlyniad, mae hosbisau'n rhagweld cyllidebau diffyg ar gyfer 2025-26. Mae llawer yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â diffyg arian, lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol, lleihau gwasanaethau cymorth hosbis ehangach, gohirio recriwtio ac ôl-lenwi swyddi gwag, a gohirio cynlluniau i gyflwyno neu ehangu gwasanaethau.
Wrth edrych ymlaen, mae mwyafrif helaeth yr hosbisau yng Nghymru yn dweud bod pwysau staffio a chostau yn debygol iawn o arwain at ostyngiad mewn rhai gwasanaethau. Amlygwyd hynny ym mis Gorffennaf pan gyhoeddwyd y byddai pedwar gwely cleifion mewnol yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi yn cau dros dro o fis Hydref 2025. Cyn y cyhoeddiad, cysylltodd hosbis Dewi Sant â mi yn gyfrinachol, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol, i rannu eu bod wedi cael eu gorfodi i oedi gweithgarwch yn eu hosbis cleifion mewnol pedwar gwely yng Nghaergybi gan ei bod wedi dod yn gynyddol heriol i barhau i gynnig eu holl wasanaethau oherwydd costau cynyddol ac incwm is. Roeddent eisoes wedi gwneud gostyngiadau sylweddol mewn costau ac wedi gwneud toriadau, ond eto roeddent wedi cyrraedd sefyllfa anghynaliadwy. Maent wedi dweud wrthyf wedi hynny nad oes ganddynt gytundeb lefel gwasanaeth ar waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Nghaergybi mwyach.
Er bod Llywodraeth Cymru yn datgan mai eu bwriad yw cael fframwaith comisiynu newydd ar waith ar gyfer gwasanaethau hosbis erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, byddai'n unfed awr ar ddeg yn nhymor y Senedd hon, ychydig wythnosau cyn etholiad cyffredinol Cymru. Ac fel y mae Marie Curie yn ei ddatgan, er y dylai hyn gefnogi mwy o gysondeb yn y ddarpariaeth, mae gennym fwlch gweithredu sylweddol ar hyn o bryd. Mae Hospice UK a Hosbisau Cymru wedi ailadrodd canfyddiadau eu harolwg yn 2024, a ddatgelodd fod 14 o'r 15 hosbis yng Nghymru yn disgwyl i bwysau costau byw orfodi toriadau i wasanaethau, gyda dros 90 y cant yn rhagweld llai o gymorth i ysbytai a chartrefi gofal a bron i dri chwarter y rheini ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl cau gwelyau. Fel y dywedodd Hosbis Dewi Sant wrthyf, yn absenoldeb fframwaith comisiynu a manyleb gwasanaeth, 'Rydym bellach yn dod i sefyllfa anghynaliadwy, sy'n peryglu'r elusen gyfan.' Mae Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam yn wynebu pwysau ariannol cynyddol. Fel y maent yn ei ddatgan, nid yw'r model ariannu presennol yn gynaliadwy ac nid yw'n diogelu gofal hosbis ar gyfer y dyfodol. Maent hefyd yn profi heriau parhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cyllid ar gyfer meddygon ymgynghorol gofal lliniarol, sy'n ychwanegu at eu heriau ariannol, ac yn pwysleisio'r pwynt nad yw hosbisau'n cael eu cydnabod am y gwaith a wnânt o fewn gofal lliniarol arbenigol. Serch hynny, canfu ymchwil gan Brifysgol Bangor y llynedd fod y gost gymedrig i glaf hosbis sy'n aros am 14 diwrnod yn £5,708, o gymharu â £6,860 ar gyfer yr opsiwn rhataf mewn ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod modd cyflawni arbedion sylweddol o ran gwariant cyhoeddus drwy gynyddu'r defnydd o ofal hosbis, lle mai dim ond 30 y cant oedd lefel y cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbis ledled Cymru, ac mae Hosbis Dewi Sant yn datgan mai dim ond 24 y cant y maent hwy'n ei gael.
Mae Marie Curie yn tynnu sylw at yr angen brys i gryfhau system ofal lliniarol a diwedd oes Cymru y dywedant ei bod o dan straen ddifrifol. Fel y dywedant, mae llawer o bobl yn marw mewn poen, wedi'u hynysu a heb y gefnogaeth briodol. Maent yn argymell y dylai pob clwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru gael nyrs gofal lliniarol a diwedd oes ymarfer uwch; fod yn rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsys ardal saith diwrnod ar gael ym mhob rhan o Gymru; y dylai GIG 111 ddod yn un pwynt mynediad 24/7 ar gyfer cyngor a gwybodaeth am ofal lliniarol, wedi'i staffio gan weithwyr proffesiynol gofal lliniarol a diwedd oes wedi'u hyfforddi'n glinigol; fod angen inni integreiddio parafeddygon ymarfer uwch mewn timau gofal lliniarol ledled Cymru; fod yn rhaid comisiynu fferyllfeydd cymunedol i ddarparu set safonol o feddyginiaethau gofal lliniarol sydd ar gael ddydd a nos; a bod yn rhaid adolygu'r system ar gyfer comisiynu a phresgripsiynu meddyginiaeth y rhagwelir y bydd ei angen—y 'pecynnau rhag ofn' fel y'u gelwir—gan nodi a mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Maent yn amcangyfrif mai oddeutu £1 filiwn fyddai'r buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen i hyfforddi'r nyrsys ymarfer uwch a'r parafeddygon ac i staffio'r llinell gyngor 24/7, a gallai arbed miliynau i'r gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
Er bod Llywodraeth Cymru yn ariannu oddeutu 32 y cant o wariant hosbisau oedolion, mae amrywiad sylweddol o ran lefelau ariannu. Nid yw rhai'n derbyn unrhyw gyllid gan y Llywodraeth; mae eraill yn derbyn hyd at 45 y cant. Gyda'i gilydd, mae hosbisau yng Nghymru yn dal i gael llai o gyllid gan y Llywodraeth fel cyfran o wariant na'r rheini yn Lloegr a'r Alban. Rhaid mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn. Mae hosbisau'n parhau i fod yn ymrwymedig i godi arian er mwyn arloesi, cyfoethogi ac ehangu eu gwasanaethau yn unol ag anghenion cymunedau lleol. Wrth wraidd yr hyn y maent yn ei ddarparu, ni ddylai'r gofal clinigol hanfodol sy'n sicrhau urddas ar ddiwedd oes fod yn ddibynnol mwyach ar ansicrwydd codi arian elusennol.
Er bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol a setliad ariannu cynaliadwy ar gyfer hosbisau i'w groesawu, mae'r cynnydd wedi bod yn araf, ac mae brys y sefyllfa'n galw am weithredu. Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar frys i sicrhau cydraddoldeb cyflog â'r GIG i staff hosbis perthnasol, sy'n hanfodol er mwyn cynnal gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel, ac i sicrhau y gall hosbisau barhau i recriwtio a chadw gweithwyr proffesiynol medrus; yn datblygu model ariannu sy'n cydnabod ac yn gweld gwerth y gofal arbenigol, cyffredinol a holistaidd unigryw a gynigir gan hosbisau, y mae'n rhaid iddo adlewyrchu gwir gost gofal ac ehangder y gwasanaethau a ddarperir; yn rhoi trefniadau contractio cyson a chynaliadwy ar waith ledled Cymru i ddarparu sefydlogrwydd, eglurder a thegwch i hosbisau sy'n gweithredu mewn gwahanol ranbarthau; ac yn ymrwymo i bartneriaeth, wedi'i chydgynllunio a'i chydgyflawni gyda'r sector hosbisau, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal lliniarol, ysgogi arloesedd a diwallu'r galw cynyddol sydd i ddod am wasanaethau.
Nid moethusrwydd yw gofal hosbis, ond anghenraid. Gadewch inni sicrhau y gall pob unigolyn yng Nghymru gael mynediad at y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, gyda pharch, tosturi a'r sicrwydd y byddant hwy, a'u teuluoedd, yn cael eu trin â gofal ac urddas yn eu dyddiau olaf.
Gan nad yw'r Aelod wedi gadael amser i'r pedwar gael eu galw, rwy'n bwriadu bod yn hael y prynhawn yma, ond gofynnaf i'r pedwar gadw at eu munud, os gwelwch yn dda. Julie Morgan.
Diolch. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon, ac i ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn a thalu teyrnged i'w ymrwymiad hir i'r mudiad hosbis dros y blynyddoedd. Rwy'n credu bod hosbisau yng Nghymru yn gwneud gwaith hollol wych. Am flynyddoedd lawer, roeddwn yn is-lywydd Hosbis y Ddinas, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, yng Ngogledd Caerdydd. Mae Hosbis y Ddinas yn un o'r hosbisau yng Nghymru sy'n darparu gofal lliniarol yn y cartref i bobl ag ystod eang o afiechydon, megis canser, dementia, clefyd niwronau motor, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a mathau eraill o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae hefyd yn cynnig cymorth mewn profedigaeth hanfodol i unrhyw un sydd wedi colli anwylyd.
Rwy'n credu y dylai gofal lliniarol barhau i fod wedi'i wreiddio yn y sector elusennol oherwydd ei hanes hir o ddatblygu'r gwasanaeth hwn, ond credaf y dylai'r Llywodraeth roi cymaint o gefnogaeth â phosib, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan y Llywodraeth i ddatblygiadau yn y dyfodol.
Y pwynt pwysig arall am rai hosbisau yw eu bod yn dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr, a dywedwyd wrthyf, ers COVID, fod anhawster mawr i ddod o hyd i wirfoddolwyr. Felly, hoffwn wybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwnnw.
Rwyf wedi gofyn i'r Aelodau gadw at eu munud.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod ein hosbisau yn hanfodol yn ein cymunedau, ac rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon yma heddiw.
Diolch am roi munud o'ch amser i mi, Mark. Fel y dywedoch chi, mae hosbisau'n chwarae rhan hanfodol yn gofalu am rai o'n haelodau mwyaf bregus mewn cymdeithas, yn enwedig y rhai sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes, ac mae eu gwaith nid yn unig yn dosturiol ac yn fedrus, ond hefyd yn hynod ddynol. Mae'n cynnig urddas, cysur a chefnogaeth ar adeg pan fo fwyaf o'i angen, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonoch yma wedi profi hynny. Rwyf i'n sicr wedi'i brofi, gyda'r hosbisau a fu'n gofalu am fy rhieni yn eu dyddiau olaf, a rhieni fy ngwraig.
Fel y gwyddom i gyd, bydd y trafodaethau parhaus ynghylch deddfwriaeth ar farw â chymorth yn cael effaith ddofn ar sut rydym ni fel cymdeithas yn gweld ein dewisiadau ar ddiwedd oes. Gyda hyn mewn golwg, nid yw rôl hosbisau erioed wedi bod yn bwysicach. Yn rhy aml, rwy'n teimlo bod y gwasanaeth a ddarperir ganddynt yn un sy'n cael ei esgeuluso braidd, ac ni ddylai fod, felly mae taflu goleuni arno heddiw yn allweddol. Rhaid inni sicrhau bod hosbisau'n cael eu cefnogi'n briodol, yn ariannol ac yn strwythurol, fel y gallant barhau i gynnig gofal o ansawdd uchel i'r rhai sy'n wynebu'r camau olaf mewn bywyd. Mae pobl yn haeddu opsiynau sydd wedi'u gwreiddio mewn gofal, cysur ac urddas, nid penderfyniadau a wnaed mewn anobaith neu ddiffyg mynediad at gymorth.
Diolch, Mark. Mae hosbisau'n rhan hanfodol o'n gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dychmygwch sut y byddai arnom heb yr hosbisau elusennol a'r gwaith a wnânt. Byddai'n rhaid i ysbytai lenwi'r bwlch hwnnw ar gost uwch. Mae eu pwysigrwydd wedi cael mwy o sylw yn ddiweddar oherwydd y drafodaeth ynghylch marw â chymorth, a beth bynnag fydd canlyniad y Bil hwnnw, un peth a amlygwyd yn fwy nag erioed o'r blaen yw pwysigrwydd gofal lliniarol a hosbisau a'r ffordd nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol.
Fe fyddwch yn cofio fy mod wedi cyflwyno cynnig yn ôl ym mis Ionawr 2024 ar gyllid hosbisau elusennol, yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu datrysiad cyllido cynaliadwy hirdymor, mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun ar gyfer y gweithlu a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes. Pasiwyd y cynnig, ond 20 mis yn ddiweddarach, nid wyf yn ymwybodol ein bod wedi gweld llawer o symud ar hyn, felly edrychaf ymlaen at wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet a gweld a all fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny yn ei ymateb.
Diolch am roi munud i mi, Mark Isherwood. Gan mai dim ond munud sydd gennyf, fe nodaf rai pwyntiau penodol wrth Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yn fy rhanbarth i mae gennym Tŷ Hafan, sy'n brofiad dyrchafol a chadarnhaol yn ysbrydol, ac yn delio â rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol y gallai teuluoedd eu hwynebu gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywydau plant, ac mae'r gwaith a wnânt yn ddiguro.
Cyfeiriodd Mark Isherwood at yr union bwynt hwn, am y £3 miliwn a ddyrannodd y Llywodraeth i'r mudiad hosbis. Nid yw'r arian hwnnw wedi'i ddynodi eto, felly gan ein bod hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol erbyn hyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i'r sector hosbis pa bryd y bydd yr arian hwnnw'n dod drwodd, yn enwedig i'r ddwy hosbis i blant sydd gennym yma yng Nghymru? Ac yn ail, a yw'n cytuno â'r cynnydd o 1 y cant yn y cyllid craidd, a mynd o 25 y cant i 30 y cant o gyllid craidd erbyn 2030, o ystyried y bydd cynnydd o 25 y cant yn nifer y plant y dynodir bod ganddynt glefydau neu gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a allai fod angen y gwasanaethau hynny? Mae hefyd yn bwysig cofio, yn y sector hosbisau, er eu bod yn gofalu am rai mewn sefyllfaoedd diwedd oes, eu bod hefyd yn darparu gwasanaeth cwnsela gwerthfawr i rieni mewn profedigaeth sydd wedi colli plant ifanc ac anwyliaid, ac sydd ar eu pwynt mwyaf bregus hefyd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl—Jeremy Miles

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl fer hon y prynhawn yma? Mae'n gyfle i ystyried gwerth aruthrol hosbisau yng Nghymru, ond hefyd i dynnu sylw at y camau rŷn ni'n eu cymryd i ddiogelu eu dyfodol. Mae hosbisau'n fannau sy'n cynnig tosturi, cynnig urddas a gobaith. Bob blwyddyn, maen nhw'n darparu gofal arbenigol i filoedd o bobl gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Maen nhw hefyd yn rhoi cymorth hanfodol i deuluoedd a gofalwyr sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf anodd a phoenus. Maen nhw'n aml yn cael eu hystyried yn llefydd trist, ond maen nhw hefyd yn llefydd urddasol, cysurus ac, yn aml iawn, yn llefydd hapus. Maen nhw’n helpu pobl i fyw bywydau llawn ac ystyrlon am gymaint o amser â phosibl drwy reoli poen, cynnig cwnsela i anwyliaid a chreu’r amodau i deuluoedd rannu amser gwerthfawr gyda’i gilydd. Mae hosbisau yn sicrhau bod pobl yn cael eu trin gyda sensitifrwydd a pharch hyd yn oed ar ddiwedd oes. Maen nhw’n rhan annatod o’r system iechyd a gofal yng Nghymru. Maen nhw’n helpu, fel clywsom ni, i leihau’r pwysau ar y NHS yn ehangach. Maen nhw’n helpu i osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, yn darparu gofal arbenigol sydd ddim bob amser ar gael mewn ysbytai, ac yn cefnogi teuluoedd mewn ffyrdd sy’n lleihau costau gofal cymdeithasol yn y tymor hir.
Mae buddsoddi mewn hosbisau yn beth cywir i’w wneud yn foesol, ond hefyd wrth gwrs yn ddoeth yn economaidd. Mae gofal hosbis yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy fodel partneriaeth. Mae hosbisau yn cael peth o’u cyllid, fel clywsom ni, drwy ffynonellau statudol, gan gynnwys byrddau iechyd, ond maen nhw hefyd yn dibynnu'n helaeth ar gyfraniadau elusennol, gweithgareddau codi arian cymunedol, ac ymroddiad miloedd o wirfoddolwyr. Mae’r haelioni hwnnw yn rhywbeth i ni ymfalchïo ynddo. Rŷn ni i gyd yn gwybod am foreau coffi, teithiau cerdded noddedig, cyngherddau lleol a gweithgareddau codi arian cymunedol sy’n codi arian hanfodol ar gyfer hosbisau lleol. Mae’r digwyddiadau hyn yn ein hatgoffa ni o’r ysbryd cymunedol rhyfeddol sy’n bodoli ar hyd a lled Cymru. Ond mae dibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol yn unig yn creu sefyllfa ariannol fregus. Dyw hi ddim yn gynaliadwy disgwyl i ran mor hanfodol o’n system gofal iechyd ddibynnu i’r fath raddau ar allu cymunedau i godi arian.
Dyna pam y mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda hosbisau, y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a darparwyr lleol i adolygu modelau cyllido a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor gofal hosbis yn ystod tymor y Senedd hon. O ganlyniad i'r gwaith hwnnw, rydym wedi sicrhau cynnydd o £5.2 miliwn y flwyddyn i gyllid uniongyrchol y Llywodraeth ar gyfer hosbisau ac wedi darparu mwy na £9 miliwn mewn grant untro i helpu gyda'r costau ychwanegol y mae hosbisau'n eu hwynebu ac i gefnogi'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Mae'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn y ddadl eisoes gan Hosbis Dewi Sant i gau ei safle yng Nghaergybi dros dro yn destun pryder i bawb sy'n dibynnu ar ei gwasanaethau, i'w staff, ac i'r gymuned ehangach. Rydym yn gweithio'n agos gydag arweinyddiaeth yr hosbis a chyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddiogelu gofal cleifion ac i sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Ein blaenoriaeth yw bod pobl yn parhau i dderbyn gofal lliniarol diogel o ansawdd uchel, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo'r hosbis i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu hwynebu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol o sicrhau bod hosbisau a gofal lliniarol yn cael eu gosod ar sail gadarn a chynaliadwy. Rydym wedi rhoi camau sylweddol ar waith i gryfhau sylfeini gofal drwy ddatblygu manyleb gwasanaeth genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes sy'n darparu fframwaith cyson ar gyfer yr hyn y dylai pobl ei ddisgwyl gan ofal lliniarol ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Mater o gydraddoldeb, ansawdd a thegwch yw hyn, a gwreiddio gofal hosbis yn rhan o system integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Yn ail, rydym yn buddsoddi mewn pobl. Bydd fframwaith cymhwysedd Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu gofal lliniarol a diwedd oes yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae'n sicrhau safonau cyson, yn meithrin hyder ac yn lledaenu arbenigedd y tu hwnt i waliau hosbisau fel bod gofal lliniarol ar gael ym mhob lleoliad—mewn hosbisau, cartrefi gofal neu'n wir, fel y clywsom, yng nghartrefi pobl eu hunain. Ac fel y disgrifiais yn gynharach yn fy nghyfraniad, rydym yn diwygio'r ffordd y mae hosbisau'n cael eu hariannu a'u cefnogi drwy gryfhau ein trefniadau comisiynu ar gyfer hosbisau yng Nghymru.
Am ormod o amser, fel sydd wedi'i gydnabod eisoes yn y ddadl, mae hosbisau wedi gorfod dibynnu ar drefniadau lleol anwastad ac ar haelioni eithriadol eu cymunedau i gynnal gwasanaethau sydd, i bob pwrpas, yn wasanaethau hanfodol. Er y bydd codi arian yn y gymuned bob amser yn parhau i fod yn bwysig, ni all fod yn iawn fod rhan mor hanfodol o'n system iechyd yn cael ei gadael yn agored i ansicrwydd ariannol. Bydd y gwaith hwn yn creu sylfaen fwy tryloyw a chyson ar gyfer cyllido, wedi'i chysylltu ag anghenion y boblogaeth a chanlyniadau y cytunir arnynt. Bydd yn cryfhau atebolrwydd gan roi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar hosbisau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae Cam 1 y gwaith hwn wedi gweld datblygiad set gyffredin o ddangosyddion perfformiad ar gyfer hosbisau oedolion a phlant y GIG ledled Cymru yn rhan o'r £3 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd drwy'r gyllideb eleni, y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl. Ac rwy'n hapus i roi eglurhad i'r Aelodau sydd wedi gofyn amdano ynglŷn â dyraniad y cyllid hwnnw. Bydd Cam 2 yn ceisio sicrhau cysondeb a thegwch yn y ffordd y caiff gwasanaethau hosbis eu comisiynu drwy ddatblygu a mabwysiadu trefniadau comisiynu newydd yn ffurfiol. A bydd Cam 3 yn canolbwyntio ar gomisiynu gofal lliniarol arbenigol. Mae'r tri datblygiad gyda'i gilydd yn newid sylfaenol yn y ffordd y caiff gofal hosbis a gofal lliniarol eu cynllunio, eu darparu a'u cefnogi yng Nghymru. Rwy'n credu eu bod yn darparu'r strwythurau sydd eu hangen arnom er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol, heriau y mae Mark Isherwood ac eraill wedi'u nodi yn y ddadl hon ac yr wyf i'n eu cydnabod, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, a galw cynyddol am ofal diwedd oes.
Ni fyddai dim o hyn yn bosib heb y gweithlu a'r staff anhygoel, nac yn wir, fel y gwnaeth Julie Morgan ein hatgoffa, heb y gwirfoddolwyr sy'n datblygu'r gofal hwn o ddydd i ddydd. Mae eu gwaith yn heriol yn gorfforol, yn broffesiynol ac yn emosiynol, ond maent yn parhau i wasanaethu gyda thosturi a thrugaredd. Ac ar ran Llywodraeth Cymru, a phob un ohonom rwy'n siŵr, hoffwn gofnodi fy niolch am bopeth y maent yn ei wneud.
Rwyf am gloi fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, drwy ddychwelyd at ochr ddynol y ddadl hon. Y tu ôl i bob polisi, pob fframwaith, pob model ariannu mae pobl go iawn—mamau, tadau, plant, partneriaid, ffrindiau. Mae gwir werth hosbisau i'w weld yn y modd y lleddfir dioddefaint, yn yr urddas a roddir i gleifion ac yn y cysur a roddir i deuluoedd. A chaiff gwir werth cymdeithas ei fesur yn ôl y ffordd y mae'n trin ei haelodau mwyaf bregus, ac yng Nghymru rydym yn benderfynol o sicrhau bod pob unigolyn, ble bynnag y bo'n byw, yn cael y gofal, yr urddas a'r tosturi y mae'n ei haeddu ar ddiwedd ei oes.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a diolch i Mark Isherwood, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.