Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/07/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sydd gyntaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.
1. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Rhentu Doeth Cymru? OQ63029

Diolch. Comisiynais werthusiad annibynnol o Rhentu Doeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Nododd y gwerthusiad nifer o argymhellion ar gyfer Rhentu Doeth Cymru. Maent yn ystyried y rhain ar hyn o bryd a byddant yn darparu cynllun gweithredu ar eu camau nesaf cyn bo hir.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae etholwyr a landlordiaid yn dweud wrthyf nad yw Rhentu Doeth Cymru yn cynnig llawer o gymorth iddynt er bod y cynllun yn cael miliynau o bunnoedd mewn ffioedd heb ddarparu unrhyw beth yn gyfnewid. Cynhyrchodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl adroddiad ar Rhentu Doeth Cymru, gan gwestiynu eu tryloywder a'u hatebolrwydd. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, beth oedd y gwarged y llynedd ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, ac ar beth y mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, gan yr ymddengys i lawer nad yw Rhentu Doeth Cymru yn ddim mwy na sefydliad hunanlesol nad yw'n cefnogi'r bobl sy'n talu'r arian sy'n ei gynnal?
Diolch, James. Fel y dywedais, cawsom y gwerthusiad annibynnol hwn o Rhentu Doeth Cymru. Credaf fod hwnnw wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae wedi cyfrannu at y gwaith o wella proffesiynoldeb yn y sector rhentu preifat a chynyddu ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau landlordiaid ac asiantiaid. Fel y gwyddoch, nododd y gwerthusiad nifer o'r argymhellion hynny i fynd i'r afael â rhai o'r cyfyngiadau a nodwyd. Mae'r rhain yn cael eu hystyried gan Rhentu Doeth Cymru a byddant yn nodi eu hymateb i'r gwerthusiad. Fe fyddwch yn gwybod o'r gwerthusiad, fe fyddwch yn gwybod o'r gwaith, am yr argymhellion a wnaed, fod rhywfaint o'r rhai sydd ynddo, sy'n ymwneud â gwerthuso Rhentu Doeth Cymru, yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, yr asesiad o'r effaith ar y sector rhentu preifat, cydymffurfiaeth ac aliniad deddfwriaethol, a llunio argymhellion yn y dyfodol. Felly, edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwnnw'n parhau. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Rhentu Doeth Cymru wrth iddynt fwrw ati i weithio mewn ymateb i'r argymhellion hynny, ac rydym yn disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei nodi dros yr haf.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen adeiladu tai y Llywodraeth ar gyfer tymor y Senedd hon? OQ63035
Mae gennym y targed tai cymdeithasol mwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl, targed rydym yn ei gefnogi gyda'r lefel uchaf erioed o gyllid, sef bron i £2 biliwn dros dymor y Senedd hon. Mae'n gwneud ei waith, yn ysgogi'r lefel orau erioed o gyflawniad. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £57 miliwn ychwanegol i ymestyn cynllun adeiladu newydd Cymorth i Brynu—Cymru am 18 mis arall.
Mae'n rhaid imi ddweud, er bod yr uchelgais i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod y tymor hwn i'w groesawu'n fawr wrth gwrs, mae'n amlwg bellach, onid yw, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw'n debygol y bydd y targed yn cael ei gyrraedd. Felly, o ystyried diffyg cyflymder y ddarpariaeth hyd yn hyn a'r pwysau sylweddol ar y sector tai, a wnewch chi fod yn onest ac yn dryloyw gyda'r Senedd a chyda'r cyhoedd nawr ynghylch gwir nifer y cartrefi a fydd wedi cael eu hadeiladu erbyn 2026? Ac a allwch chi gadarnhau heddiw a yw'r Llywodraeth yn bwriadu adolygu neu leihau eich targed swyddogol, neu a ydych chi'n fodlon parhau â ffigur y gwyddoch nad yw'n gyraeddadwy mwyach?
Diolch, Llyr. Fel y nodais, nid oes arnom ofn bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol mewn perthynas â hyn. Mae gennym darged i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol, ac rydym yn cefnogi hynny gyda'r cyllid uchaf erioed, gan gynnwys £411 miliwn arall yn 2025-26 yn unig. Golyga hyn y bydd gan fwy o bobl ledled Cymru fynediad at y cartrefi sydd eu hangen arnynt. Yn y tair blynedd gyntaf, rydym wedi darparu bron i 9,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol, a gadewch inni fod yn glir, dyna rai o'n cyfraddau cyflawni blynyddol uchaf ers 2008. Mae hyn er gwaethaf yr heriau—heriau sylweddol—a wynebwyd gennym, boed hynny'n gyllideb drychinebus Liz Truss, Brexit, a rhywfaint o'r prinder sgiliau yn y cyswllt hwn. Felly, rydym yn gyfarwydd â rhai o'r heriau hyn. Ond gallaf roi sicrwydd i chi na fyddaf yn gadael unrhyw garreg heb ei throi wrth fynd ar drywydd y targed hwn ac yn mynd ar drywydd popeth a allwn.
Rwy'n falch iawn o bwysigrwydd yr hyn sydd gennym ar y gweill. Rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd y tu hwnt i hynny, gwyddom fod angen inni barhau i adeiladu mwy o gartrefi, gwyddom fod angen inni ddarparu mwy o gartrefi, a dyna pam fod hynny mor bwysig. Mae'r targed yn gwneud ei waith ac yn gosod y cyflymder ar gyfer y sector. Unwaith eto, ni fyddaf yn gadael unrhyw garreg heb ei throi, ac roeddwn yn falch iawn o allu rhannu'r grŵp gweithredu cyntaf yn dilyn y tasglu tai fforddiadwy yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu y bydd hynny'n helpu i hybu'r agenda hon, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor canolig hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llyr Gruffydd yn llygad ei le yn herio Llywodraeth Cymru ar ei chynnydd ar adeiladu tai, oherwydd a dweud y gwir, mae llawer rhy ychydig o gartrefi yn cael eu codi i gefnogi anghenion pobl ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru eisiau anelu at allu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ac rydym yn credu'n gryf y dylem gefnogi'r bobl hynny i'w helpu i allu cael sicrwydd o gartref eu hunain, sy'n bwysig i bobl ledled Cymru.
Fe rannoch chi gyhoeddiadau pellach ynghylch cynllun Cymorth i Brynu, ac rydym yn croesawu hynny ar y meinciau hyn. Ond a allech chi ddisgrifio unrhyw raglenni neu gynlluniau yr hoffech iddynt fod ar waith i alluogi'r bobl hynny yng Nghymru, y mae'r mwyafrif helaeth ohonynt eisiau bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, i allu cael eu troed ar yr ysgol eiddo, fel bod ganddynt y sicrwydd hwnnw o le yma yng Nghymru yn y dyfodol hefyd?
Diolch, Sam. Rwy'n deall yn iawn awydd llawer o drigolion i fod eisiau prynu eu cartrefi eu hunain, a dyna pam fy mod yn falch iawn o fod wedi ymestyn cynllun Cymorth i Brynu—Cymru. A gadewch inni beidio ag anghofio bod y cynllun hwnnw'n helpu pobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio cartref i ddod yn berchnogion tai. Ac mae'r cynllun hwnnw'n rhywbeth rydym ni fel Llafur Cymru wedi gallu ei gyflawni. Roedd yn rhywbeth a gafodd ei atal gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU—y cynllun yn Lloegr. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu parhau i wneud hynny yma yng Nghymru a chynorthwyo dros 14,500 o bobl ers 2014. Ac yna, hefyd, rwy'n falch iawn fod dros 80 y cant yn brynwyr tro cyntaf, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn.
Ond fel y dywedwch, mae angen cyfres o bethau arnom, ar draws pob deiliadaeth, yma yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y mae angen inni ei wneud gyda chartrefi, gyda pherchentyaeth, a sicrhau bod gennym gartrefi fforddiadwy hefyd. Ac unwaith eto, cyfarfûm ag adeiladwyr tai yn fwy diweddar i drafod eu cynnydd yng Nghymru, beth yw eu cynlluniau, ac i ailadrodd fy awydd i weithio gyda hwy ar gynlluniau. Ac rwy'n falch iawn o fod wedi cael y cyfarfodydd hynny, a bydd hynny'n parhau, a chredaf fod hynny'n agwedd bwysig iawn, y ddeialog honno, i weld beth arall y gallwn ei wneud gyda'n gilydd ar hyn.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'r hawl i brynu, lle cafodd nifer sylweddol o dai rhent cymdeithasol eu gwerthu. Ac mae'n wirioneddol gadarnhaol clywed am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu mwy o dai cymdeithasol ledled Cymru. Rwyf wedi ymweld â nifer o ddatblygiadau yn y gogledd lle mae trigolion wedi bod mor falch o'u cartrefi carbon isel wedi'u hinswleiddio'n dda, sydd wedi golygu bod eu biliau ynni'n isel hefyd.
Roeddwn eisiau gofyn i chi hefyd am gynllun Cymorth i Brynu, sy'n gwneud gwaith hynod werthfawr yn cefnogi pobl, gan gynnwys prynwyr tro cyntaf, i wireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar gartref pan fyddant am symud ymlaen o rentu. Ond gan fod y cwestiwn hwnnw eisoes wedi'i ofyn gan fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, hoffwn ofyn i chi: gwn fod ymrwymo i barhau i gynhyrchu cartrefi carbon isel yn y dyfodol yn benderfyniad anodd, gan fod y gost o'u hadeiladu wedi cynyddu'n sylweddol, felly a ydych chi'n falch o'r penderfyniad hwnnw i barhau i'w hadeiladu i safon mor uchel am oes yn y dyfodol?
Diolch, Carolyn, ac yn bendant, hoffwn ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddarparu'r cyllid hwnnw i gynllun Cymorth i Brynu yma yng Nghymru. Mae'n un o gynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru, ac mae'n bwysig iawn i bobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu cartref. Ac rwyf wedi siarad â phobl sydd wedi defnyddio'r cynllun, ac maent wedi ei ganmol i'r cymylau, a chredaf fod hynny'n wirioneddol braf ei weld. Ac fel y dywedais, mae'r cynllun wedi helpu 14,700 o aelwydydd ers ei lansio yn 2014. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, rwy'n credu bod 85 y cant o bryniannau ledled Cymru wedi bod yn brynwyr tro cyntaf, ac yn ystod y flwyddyn 2024-25, prynwyd 603 eiddo gan ddefnyddio Cymorth i Brynu, sy'n gynnydd o 15 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Felly, rwy'n falch iawn fod y cynlluniau hyn yn helpu. Ond yn bendant, pan fyddwch yn sôn am rai o'r eiddo yr ydym yn eu creu nawr, a'n buddsoddiad yn y cartrefi fforddiadwy hynny, sydd wedi'u hadeiladu i safon uchel, mae hynny'n gwbl hanfodol, onid yw? A phan ewch i weld yr eiddo hyn, rydych yn sylweddoli pa mor uchel yw eu hansawdd, a'u bod yn dai sy'n cael eu hadeiladu nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan sicrhau eu bod yn addasadwy i bobl yn y dyfodol hefyd. Felly, rwy'n falch iawn o'r cynlluniau hynny, ac rwy'n annog pob Aelod o amgylch y Siambr i fynd i ymweld â chynlluniau o'r fath ledled Cymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi eto am eich datganiad yr wythnos diwethaf ar y Bil diogelwch adeiladau. Mae hon yn ddeddfwriaeth y mae pobl ledled Cymru wedi bod yn aros amdani ers amser, ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae a wnelo'r ddeddfwriaeth hon â rheoliadau diogelwch, a bydd llawer o'r cyfrifoldeb am reoleiddio bellach yn mynd i'n hawdurdodau lleol. Yr hyn yr hoffwn ei ddeall yn benodol yw pam y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud awdurdodau lleol yn rheoleiddiwr, yn hytrach na chadw'r cyfrifoldebau pwysig iawn hyn yn ganolog. Diolch.
Diolch, Laura, a diolch, unwaith eto, am groesawu'r Bil hwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflwyno Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yr wythnos diwethaf. Bydd y Bil yn creu trefn ddiogelwch adeiladau newydd, drwy asesu rheolaidd a rheoli risgiau diogelwch adeiladau yn briodol, gan ddiogelu preswylwyr ac eraill. Rwy'n credu'n wirioneddol fod hwn yn Fil pwysig a fydd yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru.
Fel y gwyddoch, mae hyn wedi bod yn yr arfaeth ers tro, ac mae wedi golygu cryn dipyn o ymgysylltu gyda llawer o gyrff ar draws y sector, gan gynnwys awdurdodau lleol. Credaf mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ymgymryd â'r rôl honno. Rwy'n awyddus iawn i weld nad yw'n rôl i awdurdodau lleol unigol yn unig. Gwn y bydd gennych amser i ofyn cwestiynau pellach i mi heddiw, a bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd yn craffu arnaf mewn perthynas â hyn yfory.
Diolch. I fod yn glir, Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn dadlau, wrth gwrs, na fyddai awdurdodau lleol yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hyn, ond yn hytrach y bydd angen adnoddau ychwanegol, fel rydych chi wedi'i gydnabod o'r blaen, ac ymgyrch gyflogi a hyfforddi, mae'n debyg, ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod yr arbenigedd a'r capasiti yno fel bod y safonau priodol yn cael eu cyrraedd. Bydd cost ymlaen llaw i ddod o hyd i'r staff hyn, ac yna'r gost barhaus. Yn amlwg, bydd angen capasiti gwahanol ar wahanol ardaloedd cyngor. Ond yr hyn y mae angen i bobl ei wybod yw sut y bydd yn cael ei ddyrannu. A fydd arian yn cael ei ddyrannu yn ôl nifer yr adeiladau sy'n dod o dan y rheoliadau hyn? A fydd adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu yn ôl cymhlethdod gwahanol drefniadau perchnogaeth? Hoffwn wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrifo faint o gyllid sydd ei angen ar gynghorau i gyflawni'r dyletswyddau newydd hyn, ac yn hollbwysig, a fydd hynny'n cael ei adolygu bob blwyddyn. Diolch.
Diolch, Laura. Yn sicr, rydych hi wedi cydnabod y bydd angen adnoddau—bydd angen adnoddau ar awdurdodau lleol o ran hyfforddiant a thrawsnewid y gwasanaeth. Dyna pam fy mod i'n falch iawn, ochr yn ochr â'r Bil, o allu cyhoeddi cyllid cychwynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru i'w cefnogi yn ystod yr amser hwn. Rydym yn sylweddoli y bydd y gwaith hwnnw'n cronni, a bydd hynny'n cymryd amser, felly rydym yn sicr yn deall yr adnoddau sydd eu hangen. Yn amlwg, mae gennym asesiad effaith rheoleiddiol ochr yn ochr â'r Bil, ac rwy'n awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall cymhlethdodau'r tirlun ariannu mwy hirdymor hefyd.
Diolch. Rhan arall o'r pos, wrth gwrs, o ran ariannu, yw bod ein cynghorau, fel y gwyddoch, yn ei chael hi'n anodd yn ariannol. Yn sir Fynwy, er enghraifft, rydym wedi gweld toriadau i gludiant i'r ysgol. Mae pob un ohonom wedi gweld cynnydd yn y dreth gyngor—mewn rhai achosion, cynnydd sylweddol iawn ledled Cymru. Rydym wedi gweld canolfannau hamdden yn cau, llyfrgelloedd yn cau, mwy o wythnosau rhwng casgliadau biniau, gwasanaethau pwysig yn cael eu torri. Bob blwyddyn, mae trigolion yn teimlo eu bod yn talu mwy ond yn cael llai yn gyfnewid.
O ran dyletswyddau statudol, yn aml mae rhywfaint o hyblygrwydd dros gyflawni—er enghraifft, gyda chasgliadau biniau—ond o ran y rheoliadau diogelwch rydym newydd fod yn eu trafod, bydd llawer o bobl yn poeni y byddant yn rhan o'r ystyriaethau cyllidebol cyffredinol ac y gallent fod yn destun toriadau. Sut y byddwch chi'n sicrhau, pan fydd toriadau i linellau gwariant y cyngor, na fydd diogelwch pobl yn yr adeiladau hyn, boed yn eiddo preifat neu'n eiddo i'r cyngor, yn cael ei beryglu? A pha bwerau a fydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd os yw cynghorau'n ei chael hi'n anodd ysgwyddo'r cyfrifoldebau diogelwch hyn? Pa wiriadau a fydd ar waith? Diolch.
Diolch, Laura. Unwaith eto, diolch am eich cwestiynau. O ran Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), fe fyddwch hefyd yn gwybod ein bod yn bwriadu cyflwyno hyn fesul cam, gan ddechrau'n fwyaf arbennig gydag adeiladau categori 1, sef yr adeiladau mwyaf cymhleth bob amser, yr adeiladau uwch. Felly, dyna lle byddwn yn ceisio cyflwyno a gwneud hyn fesul cam. Ond fel y dywedais, gwn y bydd cyfleoedd yfory i drafod hynny'n fanylach.
O ran y ffordd y bydd awdurdodau lleol yn gallu rheoli hyn, unwaith eto, byddwn yn trafod gydag awdurdodau lleol yn y cyfnod cyn rhoi'r Bil hwn ar waith. Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ran y materion sy'n gysylltiedig ag adnoddau awdurdodau lleol, gwyddom fod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd iawn o hyd. Nid yw hynny'n ymwneud â diogelwch adeiladau, ond mae'n ymwneud â'r datganiad ar hyn o bryd o ran y cyllid sydd ar gael. Mae'n dod ar ôl cynifer o flynyddoedd o gyni, a chredaf fod awdurdodau lleol—. Rydym yn gweithio drwy hyn gyda'n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i barhau i ymgysylltu â hwy drwy gydol cyfnod y Bil hwn.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Siân Gwenllian.
Prynhawn da. Mae fy nghwestiwn cyntaf i am safon ansawdd tai Cymru. Mae cyngor Abertawe wedi dweud y byddai’n costio tua £65,000 fesul eiddo i gyrraedd y safon yma, sy’n creu cyfanswm anferth o gannoedd o filiynau o bunnoedd, a hynny i un cyngor yn unig. Maen nhw’n dweud, heb arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y byddai’n anodd os nad yn amhosibl cyflawni’r safonau fel y'u gosodir ar hyn o bryd. Byddai costau cyflawni’r safonau fel y maen nhw yn gweld llawer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael trafferthion ariannol mawr. Felly, ydy Llywodraeth Cymru yn mynd i lenwi’r bwlch ariannol anferth yma, neu ydy hi’n bryd i chi gyfaddef nad oes modd cyflawni, ac felly nad ydy’r polisi yn un credadwy?
Diolch, Siân. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy ac rydym yn gwneud hynny ar y lefelau uchaf erioed heb dorri unrhyw gorneli ar safonau, gan nad yw hynny o fudd i unrhyw un yn y tymor hir, a gwyddom y gall adael tenantiaid i wynebu baich costau ynni uwch a llety o ansawdd is. Mae safon ansawdd tai Cymru yn safon feiddgar a blaengar sy'n gosod targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â datgarboneiddio yn ein stoc dai cymdeithasol, ond mae hefyd yn gwneud mwy na hynny. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywydau pobl drwy sicrhau bod eu cartrefi'n iach, yn gyfforddus ac yn fforddiadwy i'w gwresogi.
Felly, bydd yr hyn rydym yn ei ddysgu o uwchraddio'r 230,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn llywio ein dull o weithredu mewn perthynas â'r 1.2 miliwn o gartrefi preifat, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector i archwilio atebion ariannu hyfyw.
Ond, Ysgrifennydd Cabinet, mae Cymru yn wynebu argyfwng costau byw, argyfwng tai, argyfwng yn ein gwasanaeth iechyd ac argyfwng hinsawdd. Gallai tai helpu i fynd i’r afael â phob un o’r rhain, ond eto mae’r Llywodraeth, rydych chi newydd gadarnhau, yn parhau i ofyn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol dreulio amser, egni ac adnoddau ariannol sylweddol ar ddatblygu cynlluniau busnes i fodloni safon ansawdd tai Cymru, ac rydych chi’n gwybod yn iawn nad ydy hynny yn mynd i fod yn hyfyw yn ariannol. Mae defnyddio’r amser yma ar gyfer creu cynlluniau sydd ddim yn hyfyw yn arafu’r gallu wedyn i gyflenwi cartrefi cymdeithasol newydd ac i wella cartrefi presennol. Felly, dwi’n gofyn eto: ydych chi ddim yn meddwl ei bod hi’n bryd derbyn nad ydy’r polisi yma yn gweithio, ac yn lle hynny, dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y sector tai i ganolbwyntio eu hadnoddau ar gyflawni’r newid sydd ei angen ar Gymru?
Diolch, Siân. Yn sicr, mae cysylltiad annatod rhwng tai ac iechyd. Rydym yn ymwybodol o bryderon ymhlith landlordiaid cymdeithasol ynghylch costau ymlaen llaw gosod systemau gwresogi effeithlon o ran ynni a charbon isel, ac rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth o'r sector fel cam cyntaf tuag at benderfynu ar raddfa'r gweithgarwch sydd ei angen. Ar hyn o bryd, rydym yn dadansoddi'r wybodaeth honno, ac mae fy swyddogion yn sefydlu gweithgor ar gyllid arloesol i drafod yr opsiynau ar gyfer cyflwyno ffynonellau cyllid amgen.
Diolch yn fawr am y wybodaeth yna. Mae'r adroddiad diweddar gan y tasglu tai fforddiadwy yn tynnu sylw at y rhwystrau a'r cyfyngiadau ar y sector tai wrth geisio cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae o'n adroddiad pwysig. Mae o wedi gwneud yn glir y gellir gwneud llawer o bethau yn y tymor byr a chanolig i wella cyflenwad y tai, ac i symud rhai o'r rhwystrau yma. Mae hi'n bosibl datgloi'r system, ond dwi'n credu bod angen arweinyddiaeth a chydlynu cryf arni hi, ac mae angen i'r sector tai gael hyder dros y tymor canolig a'r tymor hir.
Gallai Unnos ddarparu'r cydlynu, yr eglurder a'r gallu yma i ddod â phobl ynghyd a gyrru arloesedd. A wnewch chi felly ailystyried eich safbwynt presennol chi, sef safbwynt sydd yn erbyn creu endid ar wahân fel Unnos, er gwaethaf y consensws sy'n tyfu mai dyma sydd ei angen er mwyn gyrru'r newid, ac adeiladu a meddu ar gyflenwad o dai cymdeithasol newydd yng Nghymru?
Diolch, Siân. Ar eich pwynt cyntaf ynglŷn â'r gwaith pwysig a wnaeth y tasglu tai fforddiadwy, diolch unwaith eto i Lee Waters ac i grŵp y tasglu tai fforddiadwy, a wnaeth ymchwiliad trylwyr a gwneud 41 o argymhellion, nid yn unig i fy mhortffolio i, ond ar draws y Llywodraeth. Mae pob un o'r rheini wedi'u rhoi ar waith, a dyna pam fy mod yn falch iawn o allu cadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp gweithredu ar dai fforddiadwy. Rwy'n credu y gallai wneud ag enw byrrach. Ond daethom at ein gilydd cyn—. Ac roeddwn yn awyddus inni wneud hyn cyn toriad yr haf.
Roeddwn yn falch iawn o weld bod pob partner yno yn edrych i weld sut y gallent chwarae eu rôl, sut y gallent gymryd perchnogaeth ar rai o'r argymhellion hyn hefyd. Yn amlwg, mae gennyf fy rôl i, mae gan fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet eu rôl hwythau, ond yn sicr, mae angen dull tîm Cymru yn hyn o beth. Yn dilyn y tasglu tai fforddiadwy, rwyf hefyd wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn gydag awdurdodau lleol ar arweinyddiaeth systemau, a hefyd gyda byrddau iechyd ar argaeledd tir. Mae pob un o'r rheini wedi bod yn bethau a ddaeth o'r tasglu tai fforddiadwy. Rwy'n awyddus iawn inni gael y lefel honno o ddarpariaeth, a gwn yn iawn fod yn rhaid inni gael yr uchelgais honno yno hefyd.
O ran y gwaith, mae'r rhaglen waith ar dai fforddiadwy, a elwid gynt yn Unnos, wedi bod yn alluogydd pwysig ar gyfer cynyddu graddfa a chyflymder y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Mae'r gwaith wedi cynnwys cyflwyno pethau fel llyfr patrwm Tai ar y Cyd, mewn cydweithrediad â 25 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllaw gweithredu drafft ar dai gwledig, sy'n adnodd i bawb i fynd i'r afael â heriau penodol darparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. Bydd hwnnw ar gael yn yr haf.
Mae arfarniad o opsiynau hefyd wedi'i gwblhau ar raglen hyfforddi i arfogi dysgwyr â'r wybodaeth angenrheidiol i ymgymryd â rôl swyddog datblygu tai cymdeithasol. Mae llawer yn digwydd yn y cyswllt hwnnw, ac rwy'n sicr yn deall bod y rhaglen honno, a elwid gynt yn Unnos, wedi bod yn alluogydd pwysig. Roeddwn eisiau nodi hynny, ond rwy'n teimlo ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, a bod gwir angen dull tîm Cymru o weithredu ar hyn.
Cwestiwn 3, Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fy mhapurau. Sori. Mae'n ddrwg calon gen i; roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gwestiwn 4. Mae'n ddrwg gen i.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i wella diogelwch cynghorwyr?
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i wella diogelwch cynghorwyr? OQ63019
Diolch yn fawr iawn ac ymddiheuriadau, Llywydd.
Mae'n ddiwrnod olaf. Dwi'n generous.
Diolch. Mae diogelwch cynghorwyr yn hollbwysig. Rydym yn cymryd camau gweithredol ochr yn ochr â'n partneriaid llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol, gan ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio'n agosach gyda'r heddlu a phartneriaid eraill. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod cynghorwyr yn gwybod ble i gael cymorth.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mi fuaswn i'n hoffi cyfeirio at fy nghofrestr o fuddiannau a'r ffaith fy mod i'n gynghorydd tref.
Dwi'n gwybod bod ffocws nifer ohonom ni fel Aelodau'r Senedd ar y funud ar etholiadau 2026, ond buan, wrth gwrs, y daw etholiadau cyngor 2027, ac mae gwaith mawr i'w wneud, onid oes, o ran annog mwy o bobl o grwpiau wedi'u tangynrychioli i fod yn gynghorwyr. Ond, dro at ôl tro, rydyn ni'n clywed bod pryderon o ran y risg i ddiogelwch personol yn rhywbeth sy'n atal pobl rhag sefyll neu sy'n arwain at gynghorwyr yn peidio ailsefyll mewn etholiad. Ac mae'n broblem, onid ydy? Dim ond yn ddiweddar, mi welsom ni achos llys lle bu rhywun yn euog am fygwth arweinydd cyngor a chynghorydd yn fy rhanbarth i. Faint o bryder ydy hyn i chi fel Llywodraeth, a pha gamau y medrwn ni eu cymryd i roi sicrwydd i unrhyw un sy'n meddwl sefyll yn 2027 y bydd yna gefnogaeth i sicrhau eu diogelwch fel ymgeiswyr cyn ac wedi eu hethol?
Diolch, Heledd, a hoffwn ddiolch i gynghorwyr a swyddogion am eu holl waith yn darparu gwasanaethau y mae pobl leol eu hangen ac yn dibynnu arnynt o un diwrnod i'r llall. Gwn fod yr Aelodau'n rhannu fy mhryder ynghylch cam-drin, bygwth ac aflonyddu ar gynghorwyr, ac mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn rhoi camau ar waith i wella eu diogelwch. Mae'r cynnydd mewn cam-drin a bygythiadau'n fygythiad gwirioneddol i'n proses ddemocrataidd. Credaf fod hyn yn glir: rhaid i bob un ohonom dynnu sylw at ymddygiad annerbyniol a mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio ac aflonyddu ar bob ffurf. Dylai aelodau etholedig allu camu ymlaen a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd heb ofni y cânt eu cam-drin.
Felly, credaf fod tair agwedd ar y mater o ran yr hyn y gallwn ei wneud: yn gyntaf, mae'n ymwneud ag atal cam-drin; yn ail, delio â'r rhai sy'n cam-drin ac yn bygwth; ac yn drydydd, cefnogi unigolion pan fyddant hwy, eu teulu a'u ffrindiau'n cael eu cam-drin, ac rydym yn canolbwyntio ar y tair agwedd.
Ym mis Mawrth, cynhaliais ddigwyddiad democratiaeth llywodraeth leol, ac yna fe wneuthum barhau i weithio gyda phartneriaid i archwilio pa gamau y gallwn eu cymryd. Mae hyn yn galw am ddull system gyfan, gan adeiladu ar syniadau presennol wrth fynd ati i ddatblygu dulliau gweithredu newydd. Byddwn yn cael digwyddiad dilynol ym mis Hydref, gyda'r nod o flaenoriaethu camau gweithredu allweddol yn seiliedig ar brofiadau bywyd. Ac mewn gwirionedd, yn y cyntaf, roeddwn yn eithaf—. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn ymwybodol o lefel y cam-drin y mae pobl yn ei hwynebu mewn gwleidyddiaeth ac mewn llywodraeth leol hefyd, ond cefais fy syfrdanu hefyd gan lefel y cam-drin mewn perthynas â swyddogion awdurdodau lleol, ac roedd rhywfaint o hynny'n heriol tu hwnt ac yn anodd iawn i bob un ohonom ei glywed. Dyna pam ei bod hi'n glir iawn, boed yn aelodau etholedig, boed yn swyddogion, nad oes unrhyw le yn ein system i hynny.
Rwyf hefyd yn fwy na pharod i gynnal digwyddiad galw heibio ar gyfer Aelodau etholedig yma, y gwn eu bod yn rhannu fy ymrwymiad i hyn, ond pe baem yn cael digwyddiad galw heibio, i ddangos beth rydym yn ei wneud yma, ac unrhyw syniadau ynglŷn â hynny—rwyf bob amser yn awyddus i glywed gan eraill. Ond drwy ein canllawiau statudol, rydym yn cefnogi cynghorwyr i sicrhau eu bod yn gwybod ble i gael cymorth os ydynt yn wynebu cam-drin ac aflonyddu. Rydym hefyd yn hyrwyddo hyfforddiant ar wytnwch personol. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda Sefydliad Jo Cox. Mae cyfarfod wedi'i drefnu yn nes ymlaen y mis hwn i nodi camau gweithredu allweddol y gellir eu cymryd. A dylai'r Aelodau nodi hefyd fy mod wedi gofyn i swyddogion weld pa gamau pellach y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn cyn etholiadau'r Senedd, ychydig cyn inni gael etholiadau'r awdurdodau lleol.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, yn union fel Heledd, roeddwn yn gynghorydd, ac er tryloywder, rwy'n dal i fod yn gynghorydd cymuned. Mae'n peri pryder i mi, y twf mewn trais a bygythiadau tuag at ein cynrychiolwyr etholedig, ac mae hyn yn ddi-os yn atal llawer o bobl rhag sefyll. Mae'n rhaid inni gofio hefyd fod gennym ni fel swyddogion etholedig, ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr ran i'w chwarae yn y ffordd y rhyngweithiwn â'n gilydd, rhywbeth nad wyf yn credu bod rhai o'n cyd-Aelodau yma yn ei sylweddoli. Fel y gŵyr llawer ohonoch, am amser maith, fi oedd yr unig aelod Ceidwadol ar fy nghyngor, a gallwch ddychmygu'r cam-drin, a'r bygythiadau weithiau, a ddioddefais. Yn dilyn un ymosodiad geiriol y bu'n rhaid i mi ei ddioddef yn y siambr, gwneuthum gŵyn ffurfiol yn erbyn y cynghorydd o dan sylw i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan ddweud sut y mae ein codau ymddygiad yn nodi bod yn rhaid inni fod yn barchus tuag at ein gilydd, sut na ddylem ddefnyddio iaith fygythiol na difrïol, ac ati, dim ond i gael ymateb—ac mae'n dal gennyf hyd heddiw yn rhywle—y dylwn i, fel gwleidydd, ddysgu sut i dderbyn hyn, ac y dylwn 'fod yn fwy croendew'. A ydych chi'n credu bod yr ymateb hwn yn dderbyniol, a pha hyder sydd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw'r meddylfryd hwn bellach yn cael ei rannu gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru presennol? Diolch.
Diolch am rannu eich profiad personol, Joel. Nid bod yn fwy croendew yw'r ateb ac nid yw honno'n neges yr ydym am ei hanfon at bobl sy'n ceisio am swydd etholedig yma yng Nghymru.
O ran mynd i'r afael â cham-drin mewn gwleidyddiaeth, rwy'n credu bod yn rhaid inni fynd i'r afael â cham-drin cynghorwyr ac achosion o gamymddwyn gan gynghorwyr tuag at gynghorwyr eraill hefyd; nid oes lle i'r naill na'r llall yn ein cymdeithas na'n siambrau'r cyngor, ac mae'n rhaid inni arfogi unigolion â'r sgiliau a'r cymorth i reoli hynny hefyd.
Mae eich pwynt ynglŷn â chynghorau tref a chymuned yn bwysig iawn. Rydym wedi cefnogi hyfforddiant mewn meysydd blaenoriaeth fel cod ymddygiad, ac ar gyfer cynghorau llai rydym yn darparu cymorth ar gyfer hyfforddiant cyffredinol, gan roi cyfraniad o 50 y cant tuag at gost anghenion hyfforddi eraill. Rwy'n pryderu bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y cwynion.
Yn dilyn yr adroddiad ar iechyd democrataidd, rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio ffyrdd gorau o wneud hyfforddiant cod ymddygiad yn orfodol i gynghorau cymuned hefyd. Rhaid inni fod yn glir: yn anffodus, mae hyn yn rhywbeth sy'n wynebu pob lefel o wleidyddion yng Nghymru, a rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddileu cam-drin o'r fath a chael polisi dim goddefgarwch tuag at gam-drin ym mhob un o'n meysydd gwleidyddol.

4. Faint o bobl sydd wedi elwa ar y cynllun Cymorth i Aros yng Nghymru ers iddo gael ei sefydlu? OQ63046
Cyflwynwyd ein rhaglen Cymorth i Aros yng nghyd-destun argyfwng costau byw niweidiol a chyllideb fach drychinebus y Ceidwadwyr, a oedd yn bygwth diogelwch ariannol aelwydydd dirifedi ledled Cymru. Rwy'n falch ein bod wedi camu i mewn i helpu a chefnogi'r rhai sydd mewn perygl o fethu talu morgais. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ar y cynllun Cymorth i Aros, gan nad yw ond wedi bod yn weithredol ers llai na dwy flynedd. Fodd bynnag, derbyniwyd 75 o geisiadau yn ystod 16 mis cyntaf y cynllun, gyda bron i 30 o aelwydydd bellach yn elwa o'r rhaglen.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi dewis ei wneud yn ymateb gwleidyddiaeth plaid gan ein bod yn cefnogi'r cynllun Cymorth i Aros mewn gwirionedd; rydym eisiau annog pobl i wneud cais. Ond wrth gwrs, mae'r niferoedd sydd wedi ymgeisio'n fach iawn o'i gymharu â'r gyllideb go sylweddol sydd ar gael i bobl allu elwa arni. O ystyried bod nifer y bobl sy'n llwyddo ar ôl gwneud cais yn nifer mor fach, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu'r meini prawf cymhwysedd i wneud yn siŵr ei fod yn fwy addas i'r diben?
Rydym i gyd yn gwybod bod pob math o bobl yn wynebu amseroedd caled am bob math o resymau—iechyd, profedigaeth, colli swydd, amgylchiadau'n newid am ba bynnag reswm—ac mae'n bwysig ein bod yn helpu'r bobl hynny i gadw to dros eu pennau. Mae'n sicr yn aml yn llawer rhatach i wneud hynny ar sail y cynllun Cymorth i Aros nag yw hi i'w rhoi mewn llety dros dro, a allai fod yn gwbl anaddas iddynt hwy a'u teuluoedd. Felly, a wnewch chi edrych ar y meini prawf cymhwysedd? Oherwydd mae arbenigwyr tai yn dweud wrthyf ei bod yn broses mor sylweddol ac anodd i'w llywio fel ei bod yn atal pobl rhag gwneud cais ac yn atal pobl rhag cael yr help sydd ei angen arnynt.
Diolch, Darren, a diolch am y croeso i'r rhaglen Cymorth i Aros. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ac mae'n broses ddau gam. Cyn gwneud cais, cyfarwyddir ymgeiswyr i gael cyngor ar ddyled a thrwy'r gwasanaeth cyngor ar ddyledion sy'n rhad ac am ddim, ystyrir nifer o atebion a llwybrau, gan gynnwys benthyciad ecwiti. Mae'n ymwneud â dewis beth sy'n iawn i bob cartref.
Rwyf wedi ei weld yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwyf wedi siarad ag Alice, y cyfarfûm â hi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chlywais sut y mae'r cynllun Cymorth i Aros wedi ei helpu hi. Daeth ei thaliadau morgais yn anfforddiadwy pan ddaeth ei chytundeb cyfradd sefydlog i ben, ac yn dilyn cyngor ariannol, cafodd gynnig benthyciad ecwiti Cymorth i Aros Cymru ac mae wedi gallu aros yn ei chartref. Dyna deulu arall sydd wedi gallu aros yn eu cartref. Byddai hi wedi bod mewn perygl gwirioneddol o fynd i lety dros dro ar ôl methu talu. Cafodd hi a'i theulu eu helpu'n fawr. Felly, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol sut y mae hyn yn helpu.
Rydych chi'n iawn ynglŷn â bod angen inni asesu'r cynllun. Rwy'n awyddus iawn i bobl wybod amdano. Rwyf wedi ceisio annog pob Aelod i wneud yn siŵr eu bod yn gallu rhoi gwybod i drigolion. Rwyf wedi siarad â phob awdurdod lleol yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r cynllun, a'u bod yn rhoi hysbysrwydd iddo drwy eu dulliau, oherwydd rwy'n ymwybodol bob amser o sut y daw pobl i wybod am y cynlluniau hyn. Os ydynt yn cael trafferth, mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol ohono. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda Cyngor ar Bopeth i dynnu eu sylw at y cynllun ac i wneud yn siŵr eu bod yn cyfeirio pobl ato.
Cawsom adolygiad o'r cynllun, ac fe wnaethom ehangu'r cymhwysedd ar gyfer Cymorth i Aros. Roedd hynny'n cynnwys ystyried ymgeiswyr gydag ail daliad heb ei dalu ar sail achosion unigol, lle ystyrir bod y risg yn fach. Rydym hefyd wedi bwrw iddi gydag ymgyrch gyfathrebu bellach yn ddiweddar i geisio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl a allai fod angen y gefnogaeth honno.
Rwyf hefyd yn mynd ati'n rhagweithiol i gyfarfod â benthycwyr i annog eu cyfranogiad yn y cynllun. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Skipton, ac rydym hefyd wedi hyrwyddo Cymorth i Aros trwy hysbysebion radio, digidol a phrint. Byddwn yn parhau i chwilio am fwy o gyfleoedd i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Ond rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau ynghylch yr elfen cymhwysedd, ac unwaith eto, rydym yn awyddus i nodi mai rhan yn unig o'n rhaglen i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi yw hyn.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63049
Y llynedd yn unig, fe wnaethom gymeradwyo 10 cynllun a ariennir gan y grant tai cymdeithasol ledled Caerfyrddin a sir Benfro. Bydd hynny'n cefnogi adeiladu bron i 400 o gartrefi newydd. Ar hyn o bryd rydym yn asesu'r capasiti cyflawni ar gyfer eleni ac wedi neilltuo £30 miliwn o gyllid grant tai cymdeithasol ar draws y ddau awdurdod lleol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ffigurau hynny mewn perygl, oherwydd mae llythyr dyddiedig 25 Mehefin gan bennaeth rheoli adnoddau naturiol CNC wedi atal pob un o'r ceisiadau dros dro, ac eithrio'r rhai symlaf, lle mae unrhyw lwybr damcaniaethol i lifoedd budr allu cyrraedd ardal cadwraeth arbennig morol y Cleddau, hyd yn oed pan na fyddai cynigion yn cynyddu deiliadaeth neu ollyngiadau. Mae hyn wedi achosi pryder gwirioneddol yn lleol. Mae penseiri, datblygwyr cynllunio a busnesau eraill yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod bellach yn cael gwybod nad yw tai newydd, a hyd yn oed mân welliannau, yn gallu symud ymlaen nes bod CNC yn cyhoeddi canllawiau technegol pellach ar faethynnau, gan beryglu gwaith adeiladu tai ar adeg o brinder tai. Mae rhai hyd yn oed yn awgrymu bod ein sir yn cael ei defnyddio fel arbrawf. Chi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, ac mae hyn yn mynd i atal adeiladu tai, gan ei gwneud hi'n anos cyrraedd eich targed adeiladu tai eich hun. Felly, a ydych chi'n cytuno â dictad CNC, ac os na, sut y llwyddwch chi i gael tai wedi'u hadeiladu yn sir Benfro?
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, Sam. Bydd CNC yn mabwysiadu ymagwedd fesul cam at brosiect maethynnau'r ardal cadwraeth arbennig forol. Nid ydynt ar hyn o bryd yn cynghori y gellid cymhwyso niwtraliaeth maethynnau fel gofyniad cyffredinol ar gyfer ardaloedd cadwraeth arbennig morol. Rwy'n deall bod CNC wedi cyfarfod â'r awdurdodau cynllunio lleol i amlinellu'r dull hwn ac wedi dilyn hynny gyda llythyr at y prif gynllunwyr, ac mae CNC yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol i barhau i gymhwyso canllawiau presennol CNC wrth sgrinio ac asesu cynlluniau a phrosiectau o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £420,000 i CNC i fwrw ymlaen â rhaglen waith i ddatblygu cyngor i awdurdodau cynllunio lleol a chanllawiau ar asesu datblygiadau newydd ac ardaloedd yr effeithir arnynt. Yn amlwg, fel rydych chi'n dweud yn gywir ddigon, mae gennyf ddiddordeb cryf yn y maes hwn, ond mae ymgysylltu'n digwydd ar draws y Cabinet. Rwyf wedi cyfarfod â'r Dirprwy Brif Weinidog ar y mater yn ei rôl sydd â chyfrifoldeb am CNC, a hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a'r Gweinidog cyflawni ar sut i leihau tarfu ac oedi i ddatblygiadau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer 2025-26? OQ63018
Cytunodd awdurdodau lleol ar eu cyllidebau ar gyfer eleni ar ôl cymeradwyo setliad llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, a ddarparodd gynnydd o 4.5 y cant ar gyfartaledd.
Diolch am yr ateb yna. Dwi am droi at y flwyddyn ariannol nesaf, os caf i, oherwydd mae'r gwaith cynllunio ar gyfer 2026-27 eisoes wedi dechrau. Yn dilyn cyhoeddi adolygiad gwariant tair blynedd y Canghellor yn Llundain, pa air o gysur allwch chi ei gynnig i arweinyddion awdurdodau lleol na fyddan nhw, unwaith eto, yn wynebu gorfod cyflawni toriadau llym i wasanaethau wrth osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf? Pa gyngor ffurfiol sydd wedi cael ei roi iddyn nhw o ran lefel setliad tebygol, er mwyn iddyn nhw allu mynd ati i wneud penderfyniadau fydd yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen? Ydych chi'n gallu cadarnhau y bydd cynghorau, fel Cyngor Gwynedd, o'r diwedd yn gweld rhyw fymryn o obaith ar y gorwel, ac y bydd cyllideb ar gael i lywodraeth leol fydd yn ddigonol i gynnal gwasanaethau o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen?
Diolch, Siân. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ei ddatganiad, rydym yn cynyddu cyllidebau yn unol â chwyddiant, a'n blaenoriaeth yw darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus mewn blwyddyn etholiad. Yn amlwg, rydym ar hyn o bryd yn trafod yr amserlen ar gyfer y setliad llywodraeth leol, ac rydym yn dibynnu ar nifer o ddarnau o ddata wrth redeg fformiwla'r setliad, yn cynnwys y rhagolwg ardrethi annomestig ac amcangyfrifon poblogaeth wedi'u diweddaru. Hyd nes y cawn ragor o wybodaeth i redeg y setliad gyda'r data wedi'i ddiweddaru, a'r amcangyfrifon poblogaeth yw'r data mwyaf arwyddocaol, ni allwn ystyried yr effaith ar ddosbarthiad y setliad. Ond yn amlwg, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinwyr a phrif weithredwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru. Erbyn diwedd yr haf, byddaf yn mynd o gwmpas pob awdurdod lleol yng Nghymru am yr eilwaith. Byddaf yn dechrau mynd o gwmpas eto ym mis Medi. Felly, byddaf yn cael trafodaethau wyneb yn wyneb ag arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i effaith pwysau ariannol ar wasanaethau llywodraeth leol? OQ63044
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol a gwerthfawr, er gwaethaf pwysau ariannol, drwy reoli cyllidebau'n gadarn, newid gwasanaethau a chanolbwyntio gwariant ar feysydd allweddol o alw cynyddol.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n thema debyg i'ch cwestiwn diwethaf, mewn gwirionedd. Fel y gwyddoch, o ganlyniad uniongyrchol i gynnydd Llafur i yswiriant gwladol, mae awdurdodau lleol yn wynebu cyfran sylweddol o ddiffyg o £72 miliwn, a dim ond ei hanner y bydd y Llywodraeth Lafur yn ei dalu. Mae hyn yn amlwg yn straen enfawr ar gyllidebau cynghorau ac yn ei dro, fe fydd yn effeithio'n sylweddol ar wasanaethau lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Sir Fynwy yn dileu cludiant am ddim i ysgolion i dros 300 o blant o fis Medi o ganlyniad i'r hyn y maent yn ei alw'n 'gyfnod parhaus o danariannu gwasanaethau cyhoeddus', cyfrifoldeb—fy ngeiriau i—sy'n gyfan gwbl o dan gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu bod llywodraeth leol yn cael ei thanariannu? Ac os felly, pa sgyrsiau a gawsoch chi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i unioni hyn, ac o ganlyniad, i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth, h.y. y cyhoedd?
Diolch, Peter. Rwy'n credu ein bod ni'n anghofio'r 14 mlynedd o gyni Torïaidd—roedd hynny ar goll o'r pwynt hwnnw. Ond fel y gwyddoch, trwy hyn, a thrwy fy nhrafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, gwyddom eu bod wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei ddeall yn iawn. Maent ar flaen y gad o ran gwneud y penderfyniadau hynny. Mae wedi bod yn anodd iawn. Y llynedd, yn dilyn y cynnydd i'r gyllideb, mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono, ond fe wyddom na all awdurdodau lleol newid hynny i gyd mewn un gyllideb. Felly, er fy mod yn gwybod bod hynny wedi'i groesawu gan lawer o awdurdodau lleol, maent yn dal i fod o dan bwysau. Unwaith eto, gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol yw'r ffordd rydym ni'n gwneud pethau yng Nghymru. Rwy'n gwrando ac yn clywed llywodraeth leol, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dai cydweithredol yng Nghymru? OQ63016
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o ddatblygu tai cydweithredol a chymunedol yng Nghymru. Mae ein rhaglen gymorth, a ddarperir gan Cwmpas, yn helpu cymunedau ledled Cymru i nodi ac ateb anghenion tai sy'n benodol i leoedd. Mae Cwmpas yn cefnogi 49 o grwpiau gweithredol i ddarparu 316 o gartrefi.
Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n datgan fy mod yn aelod o'r Blaid Gydweithredol ac wedi cefnogi tai cydweithredol ers amser maith. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yng Nghymru, rydym yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd America. Mae yna sectorau tai cydweithredol cryf mewn gwledydd mor amrywiol â Sweden, Norwy, Canada, Awstralia ac Efrog Newydd. Yn Sweden, er enghraifft, mae dau sefydliad cydweithredol mawr yn darparu dros 750,000 o gartrefi, sy'n golygu bod oddeutu 18 y cant o gyfanswm poblogaeth y wlad yn byw mewn tai cydweithredol. Yng Nghanada, a ddechreuodd ddatblygu cydweithrediaethau yn gynnar yn y 1970au, mae dros 400,000 bellach yn byw mewn cartrefi cydweithredol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad o blaid tai cydweithredol ac ymrwymo i gynhyrchu cynllun i ehangu tai cydweithredol yng Nghymru?
Diolch, Mike. Fel chithau, rwy'n datgan buddiant Aelod—fy mod i'n aelod o'r Blaid Gydweithredol hefyd. Yn hollol, rhaid i gartrefi cymdeithasol fod yn brif flaenoriaeth i ni yng Nghymru, ond rydym hefyd wedi bod yn glir y dylid cefnogi cartrefi cydweithredol fforddiadwy a dan arweiniad y gymuned. Dyna pam y mae gennym ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Rydym yn gwybod mai un o'r ffyrdd gorau o gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy a chydweithredol yw darparu cymorth i gymunedau sydd eisiau eu creu. Eleni rydym wedi cynyddu'r cyllid i Cwmpas gyflawni, ac mae bellach yn fwy na £200,000. Fe fyddwch yn gwybod hefyd ein bod wedi derbyn ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i argymhellion tai cymdeithasol i edrych eto ar y gronfa benthyciadau cylchol ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned, ac i ystyried ariannu swyddogion galluogi tai cymunedol ar draws yr holl awdurdodau lleol. Mae gwaith fy swyddogion gyda rhanddeiliaid yn mynd rhagddo yn y ddau faes.
Cefais y pleser o roi'r prif anerchiad yn lansiad adroddiad Cwmpas, 'Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal', yn ôl ym mis Mai. Yn y digwyddiad hwnnw, gwelais yn uniongyrchol yr angerdd a'r ymrwymiad sy'n gyrru cymunedau, a'r budd ychwanegol y gall gweithio gyda'n gilydd fel cymuned i ddarparu mwy o gartrefi ei gynnig. Roedd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys pum argymhelliad, a bydd y rhain yn llywio trafodaethau ar sut rydym yn parhau i weithio gyda'r sector ac yn ei gefnogi yn y dyfodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 2 sydd nesaf, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ym Mhreseli Sir Benfro ar gyfer y deuddeg mis nesaf? OQ63013

Fy mlaenoriaeth i ysgolion yn sir Benfro a ledled Cymru yw gweld gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol. Rhaid i'n dysgwyr gael y profiadau addysgol gorau posibl, ac mae hynny'n dechrau trwy sicrhau eu bod yn yr ysgol gydag athrawon profiadol o ansawdd uchel sydd â'r disgwyliadau uchaf ar eu cyfer.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, dylai cyfraddau absenoldeb o'r ysgol fod yn un o'r blaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ym Mhreseli Sir Benfro. Mae ffigurau gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai nifer y disgyblion a gollodd ysgol yn 2018-19 oedd 34,177, ac mae hynny bellach wedi codi'n eithaf sylweddol i 66,810 yn 2023-2024. Nawr, rwy'n gwybod bod tasglu presenoldeb cenedlaethol wedi'i sefydlu hanner ffordd trwy'r Senedd hon a'i fod yn canolbwyntio ar ymgysylltu ag ieuenctid, data ac ymchwil, a dysgu rhwng cymheiriaid, ond yn amlwg yn achos sir Benfro mae'r ffigurau'n dal i fod yn rhy uchel. Nawr, rwy'n derbyn nad yw hwn yn fater hawdd i'w ddatrys, ond ar yr un pryd mae angen mynd i'r afael ag ef, fel y gall plant a phobl ifanc yn sir Benfro gyrraedd eu potensial llawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau diweddaraf i fynd i'r afael â chyfraddau absenoldeb o'r ysgol yn sir Benfro? A allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau sy'n digwydd gyda Chyngor Sir Penfro ar y mater hwn?
A gaf i ddiolch i Paul Davies am y cwestiwn pwysig hwn? Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, yn amlwg, os nad yw plant yn yr ysgol, ni fyddant yn cyrraedd y cam cyntaf. Dyna pam ein bod ni wedi dweud fel Llywodraeth fod gwella presenoldeb yn brif flaenoriaeth i ni a pham ein bod wedi ymrwymo i adfer cyfraddau presenoldeb i'r lefelau cyn y pandemig. Ac mae pob un o'n hysgolion yn cymryd camau i gefnogi presenoldeb ac i herio absenoldebau parhaus.
Fe wnaethoch chi dynnu sylw at waith y tasglu. Cwblhaodd y tasglu hwnnw ei waith a chyfrannu cyfres o gamau gweithredu, ac ar yr un pryd, rydym hefyd wedi cynnull grŵp bach o arbenigwyr yr wyf yn gweithio gyda hwy'n rheolaidd ar bresenoldeb. Mae'r rhesymau dros absenoldeb yn amrywiol ac yn gymhleth, ac fe fyddwch yn ymwybodol mai un o'r pethau y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt trwy ein buddsoddiad o bron i £9.5 miliwn eleni yw gwaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ledled Cymru. Nawr, rwyf wedi cyfarfod â'r rhwydwaith o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Maent yn gwneud gwaith ardderchog iawn i fynd o dan groen y rhesymau pam nad yw plant a phobl ifanc yn mynychu'r ysgol. Gall fod llawer o wahanol rwystrau. Gallai gynnwys problemau iechyd, tlodi, ymddieithriad rhieni, ac maent yn gweithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael â hynny.
Nawr, fe wnaethoch chi godi mater yr awdurdod lleol. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Estyn wedi gwneud adroddiad dilynol yn ddiweddar yn sgil ei adroddiad ar bresenoldeb, ac roedd un o'r argymhellion a wnaethant yn yr adroddiad hwnnw'n ymwneud â gosod targedau ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gennym rai amheuon ynglŷn â gosod targedau, oherwydd weithiau gall y rhain yrru canlyniadau anfwriadol, a cheir effeithiau ar lwyth gwaith hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod gwelliant bach mewn presenoldeb yn gyflawniad mawr i rai plant. Felly, wrth dderbyn yr argymhelliad ynghylch targedau, rydym yn mynd i wneud gwaith manwl gydag awdurdodau lleol i geisio sefydlu llwybrau ar gyfer gwella, ond rydym am wneud hynny mewn ffordd a fydd, gobeithio, yn osgoi'r canlyniadau anfwriadol hynny.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Gorllewin De Cymru? OQ63032
Mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn cefnogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Gorllewin De Cymru drwy gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a chyllid i awdurdodau lleol. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys ysgolion newydd, ehangu a gwella darpariaeth gofal plant i gynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r newyddion fod y gwaith o ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn cael ei ohirio am o leiaf ddwy flynedd yn newyddion drwg iawn i rieni ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n dymuno i'w plant ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Ysgol Bro Ogwr sy'n fwy o faint yn cynnig 525 o leoedd i ddisgyblion a 90 o slotiau meithrin amser llawn—sydd eu hangen yn fawr yn yr ardal leol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall mai cyfrifoldeb i'r awdurdod lleol yw adeiladu ysgolion newydd, ond mae'r oedi i'r prosiect hwn yn codi pryderon. Roedd yr ysgol i fod i agor ym mis Medi, ond mae bellach o leiaf ddwy flynedd i ffwrdd o gael ei chwblhau. Sut y bydd y galw ychwanegol am addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddiwallu yn y cyfamser, a pha ddarpariaethau sydd ar waith os yw'r oedi yn ymestyn y tu hwnt i ddwy flynedd?
Diolch yn fawr, Altaf. Yn amlwg, rydym am gefnogi unrhyw deulu sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plentyn, a dyna pam ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o ddarparu eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg a datblygiadau cyfalaf ysgolion. Nawr, rwy'n deall bod prosiect Ysgol Bro Ogwr wedi cael ei ohirio oherwydd materion ecolegol sy'n effeithio ar safle Ffordd Cadfan, ac mae hynny wedi arwain at oedi gydag archwilio'r safle. Sefydlwyd mesurau lliniaru gyda'r ecolegydd i fwrw ymlaen â'r gwaith archwilio safle, a gallaf gadarnhau bod achos busnes amlinellol wedi'i dderbyn a'i gymeradwyo a disgwylir adolygiad o'r achos busnes llawn. Ond hoffwn roi gwybod i chi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o bron i £500,000 i alluogi ehangu Ysgol Bro Ogwr dros dro, ac mae swyddogion o'r cyngor wedi cadarnhau y bydd dau adeilad ystafell ddosbarth dros dro ar gael erbyn mis Medi 2025.
Hoffwn roi gwybod i'r Aelod fod Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu adeilad newydd i gymryd lle ysgol cyfrwng Cymraeg presennol Ysgol y Ferch o'r Sgêr, fel y nodir yn y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, gyda dyddiad cwblhau arfaethedig ym mis Medi 2026, a bod cynllun egin ysgol cyfrwng Cymraeg Porthcawl a darpariaeth gofal plant bellach yn cael ei ddatblygu, a'r dyddiad cwblhau arfaethedig ar gyfer honno hefyd yw mis Medi 2026. Felly, yn amlwg, er bod yr oedi'n anffodus, rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i liniaru effaith hynny ar bobl ifanc.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddechrau gyda chwestiwn byr a syml iawn i ddechrau. A allwch chi ddweud wrthyf faint o ddiwrnodau ysgol a gollodd plant oherwydd absenoldebau anawdurdodedig yn ystod blynyddoedd 2023 i 2024 ledled Cymru?
Wel, Natasha, rwy'n siŵr na fyddech chi'n disgwyl i mi fod â'r data hwnnw wrth law. Mae'r data presenoldeb yn gymhleth; mae'n cael ei adrodd wrthyf yn rheolaidd. Rydym yn olrhain y canrannau. Rydym hefyd yn edrych ar godio data presenoldeb ar hyn o bryd, oherwydd rydym wedi nodi heriau gyda pheth o hynny ac nid ydym am i hynny gael canlyniadau anfwriadol ychwaith.
O'r gorau. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gadewch imi ddweud wrthych, fe gollwyd mwy na 2 filiwn o ddiwrnodau ysgol rhwng 2023 a 2024 oherwydd absenoldebau anawdurdodedig ledled Cymru, ac i mi, mae hwnnw'n ffigur syfrdanol. Gall effaith absenoldeb o'r ystafell ddosbarth gael canlyniadau difrifol ar addysg plentyn—rwy'n siŵr y gallwn i gyd ddeall hynny—ond gallant gael trafferth mawr dal i fyny, a syrthio ar ôl yn y dosbarth, a gall rwystro eu rhagolygon gyrfaol ac addysgol yn y dyfodol.
Yng Nghasnewydd mae nifer y diwrnodau ysgol a gollwyd wedi cynyddu i'r entrychion o ychydig dros 74,000 yn 2018-19 i 161,420 rhwng 2023 a 2024. Llamodd ffigur Caerdydd o bron i 157,000 i ychydig o dan 290,000 yn yr un cyfnod o amser. Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich etholaeth eich hun, sef Torfaen, wedi gweld nifer yr absenoldebau'n cynyddu o 23,000 i ychydig o dan 50,000. Gallwn barhau a rhestru ffigurau pob awdurdod lleol, ond nid oes gennyf amser ac rwy'n gwybod bod gennych lawer o gwestiynau i fynd drwyddynt. Ond y prif neges yma yw bod y ffigurau'n ddamniol.
Rwy'n derbyn eich ymateb i fy nghyd-Aelod Paul Davies ynglŷn â'r tasglu a sefydlwyd gennych, ond hoffwn wybod beth arall, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r absenoldebau anawdurdodedig yn ysgolion Cymru? Oherwydd mae'r ffigurau presennol yn dangos llwybr peryglus iawn ar i fyny. A hoffwn wybod hefyd, mewn ymateb i gwestiynau Paul Davies, a oes gennych unrhyw amserlenni penodol ar gyfer y tasglu yn ogystal â'r grŵp y sonioch chi amdano yn eich ateb cynharach? Diolch.
Wel, diolch, Natasha. Nid wyf yn siŵr eich bod wedi gwrando ar fy ateb i Paul Davies mewn gwirionedd, oherwydd fe fyddech wedi fy nghlywed yn dweud bod mynd i'r afael â materion presenoldeb yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac yn un yr ydym yn ei chefnogi gyda buddsoddiad sylweddol iawn. Gobeithio eich bod wedi fy nghlywed yn nodi faint o arian rydym yn ei wario ar swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn gwneud gwaith i hyrwyddo gweithgareddau cyfoethogi yn yr ysgol a hefyd yn ystod gwyliau ysgol.
Mae'n amlwg nad ydych chi wedi bod yn talu sylw i'r hyn a ddywedais am y tasglu, oherwydd fe ddywedais wrth Paul, ac rwyf wedi dweud mewn atebion ysgrifenedig at eich plaid, fod y tasglu bellach wedi cwblhau ei waith. Mae'r tasglu wedi edrych yn fanwl ar y rhesymau dros heriau gyda phresenoldeb, felly rydym bellach mewn cyfnod cyflawni, ac er gwaethaf y ffigurau rydych chi newydd eu dyfynnu yno, mae cyfraddau presenoldeb yn gwella mewn gwirionedd. Maent yn gwella ychydig o ran y gyfradd bresenoldeb gyffredinol ond hefyd y gyfradd bresenoldeb ymhlith plant a phobl ifanc sy'n cael prydau ysgol am ddim, maes sydd wedi bod yn arbennig o heriol.
Nawr, mae'n welliant bach—tua chanran—yn y gyfradd bresenoldeb gyffredinol. Rydym eisiau mynd yn llawer iawn pellach na hynny. Dyna pam ein bod ni'n buddsoddi'r holl arian i fynd i'r afael â'r materion hyn, sy'n gymhleth iawn. Ac os caf ddweud wrth yr Aelod, nid ni yw'r unig wlad sy'n cael trafferth gyda phroblemau presenoldeb; mae hwn yn batrwm a welir yng ngweddill y DU, ac mewn gwledydd eraill ledled y byd. Mae wedi'i waethygu gan bandemig COVID ac mae'n fater cymhleth yr ydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu arno.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n credu bod fy nghwestiwn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r amserlen. Soniais am y tasglu, soniais am bob agwedd a ddyfynnwyd gennych yn eich ymateb i Paul Davies—yn amlwg, fe wneuthum ei grynhoi—ond roedd fy nghwestiwn yn cyfeirio at yr amserlen, na chafodd ei ateb eto yn eich ymateb chi nawr.
Ond i ddod yn ôl at fy nhrydydd cwestiwn, nid absenoldeb yw'r unig beth sydd ar gynnydd o dan wyliadwriaeth y Llywodraeth. Mae llwythi gwaith athrawon ar gynnydd, mae trais mewn ysgolion ar gynnydd. Mewn gwirionedd, yr unig beth nad yw ar gynnydd yw canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr a chanlyniadau addysgol. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod bod athrawon yn gweithio fwyfwy mewn amgylcheddau heriol, ac o dan bwysau cynyddol anodd, ond rwyf am gyffwrdd â chyflogau gyda chi y prynhawn yma.
Mae'r ffigurau'n dangos bod athrawon ysgol gynradd gwrywaidd yn ennill, ar gyfartaledd, £3,613 yn fwy na'u cymheiriaid benywaidd yn 2023-24, ac roedd athrawon ysgol uwchradd gwrywaidd yn ennill, ar gyfartaledd, £2,373 yn fwy nag athrawon ysgol uwchradd benywaidd yn ystod yr un cyfnod hefyd. Mae'r ystadegau'n dangos bod yr amrywio mewn enillion cyfartalog yn hanesyddol, Ysgrifennydd y Cabinet, felly nid yw'n rhywbeth y gallaf ddweud mai eich bai chi ydyw, ond byddwn yn dadlau bod cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gam pwysig iawn wrth fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw athrawon presennol sy'n digwydd yn ein hysgolion yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw rhai o'r rhesymau y tu ôl i'r bylchau sylweddol hyn, a pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol?
Diolch. Os caf fynd yn ôl at eich cwestiwn blaenorol, oherwydd, fe sonioch chi am y tasglu, ond fel y dywedais wrthych, mae'r tasglu wedi cwblhau ei waith erbyn hyn, ac nid oeddech yn cydnabod hynny yn eich cwestiwn. Rhoddais amserlen hefyd, sef mai'r targed rydym yn gweithio tuag ato yw cyrraedd y lefelau presenoldeb cyn y pandemig erbyn yr etholiad nesaf. Dyna'r targed a'r amserlen yr ydym yn gweithio tuag atynt.
Nawr, mewn perthynas â'ch ymholiad am y gweithlu, yn amlwg, llofnodais yr atebion ysgrifenedig ar y cyfraddau cyflog, ac fe holais pam fod y gwahaniaeth hwnnw'n bodoli. Rwy'n deall mai'r rheswm yw bod athrawon gwrywaidd yn fwy tebygol o gael taliadau ychwanegol am gyfrifoldebau ychwanegol. Felly, mae esboniad am hynny. I mi, mae hynny'n dweud bod gennym fwy o waith i'w wneud fel Llywodraeth, i sicrhau bod mwy o athrawon benywaidd yn gallu camu'n gyflymach i fyny'r ysgol honno. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn paratoi cynllun gweithlu addysg strategol, a dyma'r mathau o faterion rydym am eu hystyried yn hynny o beth, ond hefyd hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith bod ein hathrawon yng Nghymru yn cael eu talu'n well nag athrawon dros y ffin.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd ystadegau oedd yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg ar ei lefel isaf ers bron i 12 mlynedd. Roedd yr amseru hyn yn cyd-fynd â Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol. Wrth gwrs, i wireddu’r Bil, a chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n rhaid i ni sicrhau gweithlu addysg digonol sydd â sgiliau yn y Gymraeg, rhywbeth y bu Plaid Cymru'n ei godi'n gyson wrth graffu ar y Bil. Fel byddwch chi'n gwybod, mae dogfen strategaeth 'Cymraeg 2050' yn amlinellu nifer o dargedau o ran cynyddu nifer yr athrawon sy'n dysgu'r Gymraeg a thrwy'r Gymraeg erbyn 2031 a 2050, gan gynnwys, yn benodol, cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i 3,200 erbyn 2031, ac i 4,200 erbyn 2050. Ydych chi'n sicr bod y Llywodraeth am gyflawni'r targedau yma?
Diolch, Heledd. Rwy'n credu eich bod yn hollol iawn i dynnu sylw at yr heriau gydag addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae ein heriau mwyaf o ran recriwtio a chadw yn yr ysgol uwchradd, ac yna'n cael eu dwysáu mewn addysg gyfrwng Cymraeg, ac rwy'n bryderus iawn am hynny. Ac yn amlwg, rhaid inni fynd i'r afael â hynny, neu ni fyddwn yn gallu cyflawni dyheadau'r Bil newydd.
Rydym yn cymryd camau ar hyn eisoes. Felly, mae gennym eisoes gynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn cynnig cymhelliant ychwanegol o £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym gyfleoedd trwy bethau fel y cynllun pontio i athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn i ddychwelyd at addysgu, i athrawon cynradd groesi i'r sector uwchradd, ac i athrawon o'r sector cyfrwng Saesneg groesi i'r sector cyfrwng Cymraeg. Ac rydym yn cefnogi ysgolion hefyd i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'u heriau recriwtio, drwy'r grant datblygu capasiti gweithlu cyfrwng Cymraeg.
Hefyd, fel y dywedais, mae gennym y fwrsariaeth i athrawon Cymraeg mewn addysg. Mae hynny'n golygu bod £5,000 ar gael i athrawon sydd wedi cyflawni eu statws athro cymwysedig ers mis Awst 2020 ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o addysgu Cymraeg, neu dair blynedd o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn y cyfnod uwchradd.
Felly, rydym yn rhoi llawer o gamau ar waith yn y maes hwn. Ond fel y dywedais wrth ymateb i Natasha, rydym yn datblygu cynllun gweithlu addysg strategol cyffredinol, ac rwy'n awyddus iawn, fel rhan o hynny, i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwn mewn ffordd strategol.
Diolch yn fawr iawn. Dwi yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth yna o’r heriau mawr rydym ni’n eu hwynebu, oherwydd, yn amlwg, i gyrraedd targed 2031 hyd yn oed, mae angen 1,580 yn fwy o athrawon ar Lywodraeth Cymru dros saith mlynedd. I gyrraedd targed 2050, mae angen 2,580 yn fwy o athrawon dros 27 mlynedd. Felly, mae’n her fawr, yn enwedig os ydych chi’n edrych, ar y funud, ar y lleihad o bron i 50 sydd wedi bod ers 2017. Felly, rydych chi wedi amlinellu nifer o bethau sy’n digwydd, ond, yn amlwg, dydyn nhw ddim yn cael yr effaith angenrheidiol, a dydyn ni ddim yn cyrraedd y targedau hynny. Felly, os ydym ni’n parhau fel hyn, mi fyddwn ni efo nifer bron i 50 y cant yn llai na tharged 2031. Felly, mae yna bryder os nad ydyn ni’n cael newid.
Dwi’n falch o’ch clywed chi’n sôn am y cynllun gweithlu strategol newydd. Fyddwch chi, felly, yn sicrhau bod yna fwy o ymyrraeth fwy radical, ac ar frys, i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn benodol, o weld ein bod ni mor bell o gyrraedd targed 2031 hyd yn oed?
Diolch, Heledd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod rhai o'r mentrau hyn yn dal i fod yn gymharol newydd, ac rydym yn adeiladu arnynt drwy'r amser. Felly, rydym wedi gwneud newidiadau eraill i addysg gychwynnol athrawon i'w gwneud yn haws i bobl hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dilyn llwybr seiliedig ar waith, ac rydym yn edrych ar unrhyw arfer da y gallwn ei ddefnyddio yn y maes hwn.
Fel rhan o'r cynllun gweithlu, rwy'n awyddus iawn inni edrych ar unrhyw bethau arloesol y gallwn eu gwneud. Rydym wedi cael trafodaethau gyda gwledydd eraill ynglŷn â sut y maent yn llwyddo i recriwtio a chymell athrawon, ac rwy'n gweld y cynllun fel ffordd o edrych ar hynny'n fanwl, a gosod llwybr strategol, ond gan gydnabod yr heriau hefyd.
Diolch. Dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig ein bod ni’n cael sgwrs onest am yr heriau hyn, a dwi’n falch o glywed y gydnabyddiaeth honno. Yn amlwg, gwnaethoch chi sôn am y grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, ond rydych chi wedi cyfaddef o’r blaen dydych chi ddim yn siŵr faint o’r rheini sydd wedi derbyn y grant sy’n dal i ddysgu yma yng Nghymru. Felly, mae data yn mynd i fod yn bwysig i weld effeithiolrwydd.
Hefyd, o ran edrych ar nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, mae’n rhaid i ni, wrth gwrs, gynyddu’r nifer o ddarpar athrawon sydd yn cwblhau eu haddysg gychwynnol i athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg, ac, eto, rydym ni’n methu’r targed yn fan yno hefyd; mae gennych chi darged o 30 y cant o ymgeiswyr yn cwblhau eu cwrs hyfforddi trwy’r Gymraeg, ond, ers bron i ddegawd, dim ond o gwmpas tua 20 y cant sy’n gwneud hynny bob blwyddyn. Felly, mae’n glir, onid ydy, dydy’r targedau yma ddim yn cael eu cyrraedd, ac mae’n rhaid i rywbeth newid.
Felly, fel cam cyntaf, a gaf i ofyn: a wnewch chi ymrwymo i weithredu galwad Comisiynydd y Gymraeg i sicrhau sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg fel rhan orfodol o hyfforddi a chymhwyso fel athro yng Nghymru?
Diolch, Heledd. Ac rydych chi, gobeithio, yn cydnabod nad ydym yn osgoi'r heriau hyn, a bod y cynllun gweithlu yn rhan o'n datrysiad i hynny. Nid wyf wedi gweld yr argymhelliad hwnnw gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n hapus iawn i edrych arno. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r coleg cenedlaethol. Felly, rydym o ddifrif yn ymdrechu i gynyddu'r niferoedd ar draws y system. Yn amlwg, mae'n dechrau gyda phlant a phobl ifanc yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydych wedi fy nghlywed yn dweud wrth Altaf am y mathau o gamau rydym yn eu cymryd i hybu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd yn ymwneud â'r blynyddoedd cynnar.
Ond rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau, ac rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw syniadau sydd gan bobl i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Rwy'n meddwl hefyd ei bod yn bwysig peidio â darogan gwae ynghylch y pethau hyn, gan nad yw'r heriau yn unigryw i'r Gymraeg—maent yr un peth ar gyfer ffiseg, cemeg, ond maent yn waeth o ran recriwtio cyfrwng Cymraeg. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn derbyn bod yna heriau, ond yna'n mynd i'r afael â hwy o ddifrif. Fel arall, rwy'n credu y byddwn yn methu, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â hyn gydag ymagwedd bositif. Mae'r ddeddfwriaeth newydd, gyda'r fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd hefyd, yn rhoi cyfle da inni wneud hynny, rwy'n credu. Oherwydd mae yna lawer o bobl—a gwelsom hynny drwy'r cyfrifiad, oni wnaethom—a fyddai wedi dweud nad oeddent yn siarad Cymraeg pan oedd ganddynt rywfaint o Gymraeg, ac mae'n ymwneud ag annog pobl i adeiladu ar y wybodaeth sydd ganddynt, ac i rai ohonynt groesi drosodd ac ailhyfforddi.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad disgyblion? OQ63047
Rwy'n ymrwymedig i ddarparu system addysg deg a rhagorol, lle gall pob dysgwr gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn buddsoddi dros £20 miliwn dros dair blynedd i wella cyrhaeddiad mewn llythrennedd a rhifedd, ac rydym yn darparu £128 miliwn eleni i ysgolion i fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad tlodi.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, rydym i gyd yn y Siambr hon yn cytuno ein bod am i'r system addysg yng Nghymru ddarparu canlyniadau gwell. Ond un o'r heriau sydd eisoes wedi'i drafod gan gyd-Aelodau yw'r gyfradd absenoldeb barhaus sydd gennym yng Nghymru, sy'n ystyfnig o uchel. Dau o'r pethau y credaf eu bod yn ddiddorol o'r ffigurau yn adroddiad Estyn a'r ffigurau sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd, ac addysgwyr proffesiynol yn wir, yw'r ffaith nad oes gennym gyfres fyw o ddata ar gael. Rhaid inni gael y data hwn ar ôl pob blwyddyn, felly ni allwn weld y cynnydd sy'n cael ei wneud trwy gydol y flwyddyn i weld a yw pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n sylwi, dros y ffin yn Lloegr, fod dangosfwrdd sy'n cyhoeddi data byw ar ôl ychydig wythnosau'n unig, fel y gall pobl, gan gynnwys ysgolion eu hunain, gymharu eu hunain â'u cymheiriaid.
Un set ddata nad yw'n cael ei chasglu yn Lloegr, ond sy'n cael ei gasglu yng Nghymru—yn hollol briodol, yn fy marn i—yw'r gyfradd absenoldeb ar gyfer plant sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac mae'n llawer uwch na'r cyfraddau absenoldeb gwael sydd gennym eisoes. Mae'n 20 y cant ar hyn o bryd, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Estyn. Nid yw hynny'n dderbyniol.
Felly, a gaf i ofyn i chi: beth ydych chi'n ei wneud i gael mwy o ddata byw ar gael yn gyhoeddus fel y gall pobl weld y cynnydd byw sy'n cael ei wneud? A pha waith penodol rydych chi'n ei wneud i ddatrys y bwlch presenoldeb ymhlith plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yng Nghymru?
Diolch, Darren. Mae data'n hynod o bwysig, onid yw? Oherwydd dyna sut y mae gwella pethau. Rydym yn cael peth data'n gyflym iawn. Felly, bob wythnos neu ddwy, rwy'n cael y ffigurau presenoldeb cyffredinol, ac mae hynny'n cynnwys ffigurau ar gyfer absenoldeb parhaus, prydau ysgol am ddim ac ati, ond yr hyn nad oes gennym yw data byw ar ysgolion unigol. Fel Llywodraeth, mae gennym ddata ar awdurdodau lleol. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n cael ei gyhoeddi. Ond rhaid inni hefyd fod yn ymwybodol y byddai gofyn i ysgolion am fwy o ddata byw yn cael effaith ar lwythi gwaith. Yn amlwg, mae gennym ymrwymiad fel Llywodraeth—[Torri ar draws.] Wel, ydy, mae'n cael ei gofnodi beth bynnag, ond os ydych yn gofyn iddynt ei adrodd, gallai hynny effeithio ar lwythi gwaith, ac fel Llywodraeth, rydym yn gwneud asesiadau effaith ar lwythi gwaith pan fyddwn yn gofyn i ysgolion wneud pethau newydd.
O ran disgyblion prydau ysgol am ddim, nid wyf am ailadrodd y pwynt am swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ond maent yn hynod bwysig, a byddwn yn annog Aelodau i gyfarfod â'u swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn lleol, oherwydd maent yn gwneud gwaith gwych iawn, gan fod y rhwystrau mor wahanol i wahanol bobl ifanc, ac yn gymhleth iawn. Maent yn meithrin perthynas â'r teuluoedd, maent yn ennyn ymddiriedaeth y teuluoedd ac yn gallu goresgyn y rhwystrau hynny wedyn.
Rwy'n credu mai'r peth arall i'w gydnabod gyda phlant sy'n cael prydau ysgol am ddim yw bod tlodi ei hun yn gallu bod yn rhwystr i fynychu'r ysgol. Dyna pam ein bod, fel Llywodraeth, wedi buddsoddi mewn prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, pam y mae gennym bethau fel y grant hanfodion ysgol, fel nad yw cael gwisg briodol yn dod yn rhwystr i fynd i'r ysgol, a pham y mae gennym bethau fel cynllun peilot diogelu rhag tlodi yr ydym yn ei gyflwyno mewn gwahanol rannau o Gymru, a pham y gwnaethom ariannu Plant yng Nghymru i gynhyrchu deunydd darllen ar gost y diwrnod ysgol. Y pethau hynny sy'n creu stigma a rhwystr, onid e, fel teithiau, diwrnodau gwisg ffansi a phethau felly. Dyna'r math o bethau a allai wneud i deulu feddwl, 'Wel, nid wyf am fynd â hi i mewn yfory am nad oes ganddi'r wisg briodol.' Felly, mae'n gymhleth ac mae angen y dull manwl hwnnw o weithredu, a dyna pam y gall y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd fynd i'r afael â'r gwahanol faterion hynny. Mae ysgolion yn gwneud gwaith anhygoel yn y maes hwn—maent yn darparu gwisgoedd, mae gan rai ohonynt beiriannau golchi ac maent yn golchi dillad i blant sydd heb beiriant golchi gartref. Nid yw'n fater syml o gwbl, ond fe ystyriaf yr hyn a ddywedoch chi am ddata byw, ond mae data ynddo'i hun—. Mae'n ymwneud â'r hyn a wnewch gydag ef, a sut y'i gwnawn mewn ffordd nad yw'n feichus i ysgolion.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau y Llywodraeth i adeiladu ysgolion Cymraeg newydd yn Nwyrain De Cymru? OQ63041
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £30 miliwn o gyllid grant cyfalaf hyd yma ar draws 12 prosiect yn Nwyrain De Cymru drwy ein grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg. Mae rhaglenni amlinellol strategol presennol awdurdodau lleol yn nodi 13 o brosiectau addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth, gan ddangos ymrwymiad cryf i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg.
Diolch am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd deiseb gyda channoedd o lofnodion i gyngor Merthyr Tudful yn galw am sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg o fewn y bwrdeistref. Ar hyn o bryd, mae'r awdurdod lleol yn anfon bron i 500 o ddisgyblion bod dydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yng nghwm Cynon er mwyn cael mynediad at addysg gyfrwng Gymraeg. Nid beirniadaeth o ysgol Rhydywaun ydy hyn, ond rhaid gofyn faint o rieni eraill yn ardal Merthyr fyddai'n dewis addysg gyfrwng Gymraeg i'w plant pe bai ysgol uwchradd yn nes at adref.
Dim ond dau awdurdod lleol arall sydd yng Nghymru heb ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg, ac mae'r ddau yna yn fy rhanbarth i—sir Fynwy a Blaenau Gwent. Mae absenoldeb ysgolion o'r fath yn rhwystr sylweddol i gynyddu'r Gymraeg yn y rhannau hyn, yn enwedig yn wyneb y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Fel mae'n dweud yn y ddeiseb, rydym yn ymwybodol fod hyd y daith i'r ysgol a phellter yn rhwystr i nifer o rieni sy'n anobeithio ynghylch anfon eu plant i ysgolion Cymraeg o'r cychwyn cyntaf. Ydych chi'n cytuno â'r datganiad hwn o'r ddeiseb, a sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu mynd i'r afael â'r diffeithwch hwn o ran addysg uwchradd gyfrwng Gymraeg ac yn cefnogi'r ymgyrchwyr diflino sy'n gweithio'n galed i gywiro'r anghysondebau hyn?
Diolch, Peredur. Rwy'n meddwl eich bod yn iawn i ddefnyddio'r gair 'rhwystr', onid ydych? Mae angen inni gael gwared ar y rhwystrau hynny, fel arall bydd pobl yn dewis mynd am eu hail ddewis efallai, a allai fod yn addysg Saesneg i rai o'r teuluoedd hynny. Rydym am i deuluoedd sydd am addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg allu gwneud hynny. Rwy'n ymwybodol iawn, yn amlwg, nad oes gan Ferthyr, Blaenau Gwent a sir Fynwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn wir, mae llawer o'r bobl ifanc o Flaenau Gwent a sir Fynwy yn dod i fy etholaeth i, i Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ac mae hynny wedi bod yn wir trwy gydol yr amser y bûm yn AS.
Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb a hoffwn roi gwybod i chi ein bod bellach wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ar draws de-ddwyrain Cymru, ac mae'r grŵp hwnnw'n cael ei gefnogi gan swyddogion 'Cymraeg 2050' a hefyd gan fy swyddogion i o ran derbyniadau. Mae'r grŵp yn cynnwys y tri awdurdod lleol nad oes ganddynt ysgol, ond hefyd yr awdurdodau lleol—Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, a Phowys—y gallai hynny effeithio arnynt hefyd. Mae'r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith ac mae'n edrych ar y sefyllfa ym mhob awdurdod lleol, gan nodi opsiynau posibl yn gynnar a'u goblygiadau a'u heffaith, ac rwy'n hapus iawn i roi diweddariad pellach i chi maes o law.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu'r camau nesaf yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch corff cenedlaethol a fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid? OQ63036
Nod ein cynigion ar gyfer fframwaith statudol a chorff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yw cryfhau gwaith ieuenctid a sicrhau bod ei effaith yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chynrychiolwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid i helpu i siapio a chyflawni'r datblygiadau pwysig hyn.
Yn dilyn gohebiaeth a gefais gan drigolion y Rhondda gyda cheisiadau i ailagor canolfannau ieuenctid ac am ragor o fannau awyr agored diogel i'n pobl ifanc, gwn fod y cyhoeddiad diweddar am waith ieuenctid gan Ysgrifennydd y Cabinet yn newyddion i'w groesawu. Ers degawdau, mae'r ardal hon wedi cael ei hesgeuluso a'i thanariannu gan Lywodraethau Ceidwadol San Steffan. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ieuenctid yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae gwaith ieuenctid yn achubiaeth i gymaint o'n pobl ifanc, gan gynnig cymorth hanfodol a chyfleoedd datblygu, yn aml wedi'u sbarduno gan wirfoddolwyr angerddol a sefydliadau llawr gwlad. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y fframwaith statudol newydd yn gweithio tuag at fynediad cyfartal at waith ieuenctid i bob person ifanc yng Nghymru, waeth beth fo'u cod post, eu cefndir neu eu hangen? A allwch chi gadarnhau y bydd cynghorau'n gweithio'n ystyrlon gyda'r sector gwirfoddol i ddarparu gwaith ieuenctid a mannau diogel i blant a phobl ifanc sy'n chwarae ac yn cymdeithasu y tu allan i'r ysgol?
Diolch, Buffy. Yn bersonol, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i waith ieuenctid. Rwy'n angerddol iawn ynghylch y rôl y gall ei chwarae. Yr ymchwiliad i waith ieuenctid oedd yr un cyntaf a wnaethom pan oeddwn yn Gadeirydd y pwyllgor. Felly, rwy'n ymrwymedig iawn i'r maes gwaith hwn, ac rwy'n awyddus iawn i weld cynnig sy'n gyson o dda ar gael i bobl ifanc ym mhobman. Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod yr hyn sydd ar gael yn y sector gwaith ieuenctid yn ddarniog ac yn amrywio'n fawr.
Felly, rydym yn mabwysiadu agwedd ddeublyg at hyn. Ar y fframwaith statudol y byddwn yn ei ddatblygu—mae'r ymgynghoriad wedi'i gau ar hwnnw ac rydym yn ystyried barn pobl—rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ddull mwy strategol ledled Cymru, gydag awdurdodau lleol yn cydweithio â'r trydydd sector. Ac mae honno'n neges bwysig iawn, oherwydd, weithiau, mae'r trydydd sector yn cael ei hepgor braidd o'r trafodaethau hyn ac rwyf am weld awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Ond rwy'n credu y bydd y corff cenedlaethol yn ddefnyddiol iawn hefyd, er mwyn codi statws gwaith ieuenctid a'r hyn y gall ei gyflawni i bobl ifanc, gan chwalu'r rhwystrau rhwng y trydydd sector ac awdurdodau lleol a hybu dull strategol o weithredu lle gallwn dyfu gwaith ieuenctid ledled Cymru a sicrhau bod gennym cynnig cyson o dda gobeithio, i bobl ifanc ym mhobman. Nid yw'n mynd i edrych yr un fath ym mhobman, oherwydd rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud fydd gweithio gyda phobl ifanc i gael gwybod beth y maent ei eisiau, ond dylai fod yn gynnig cyson o dda, yn dibynnu ar anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau lleol.
6. Pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru o gydymffurfiaeth ysgolion, gan gynnwys ysgolion ffydd, o ran meini prawf derbyn sy'n rhoi blaenoriaeth i leoedd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? OQ63033
Rhaid i awdurdodau derbyn gydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a'r cod derbyn i ysgolion, gan gynnwys blaenoriaethu lleoli plant sy'n derbyn gofal. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â'r gyfraith dderbyn i sicrhau tegwch a thryloywder wrth dderbyn i ysgolion.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgogwyd y cwestiwn hwn gan erthygl a ddarllenais gan Will Hayward yr wythnos diwethaf, yn nodi nad oedd rhai ysgolion ffydd yn parchu'r ymrwymiad pwysig i gyfiawnder cymdeithasol. Fel llywodraethwr yn un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, gallaf eich sicrhau bod y brif flaenoriaeth yn cael ei neilltuo i blant sy'n derbyn gofal ar gyfer y lleoedd sylfaen a'r lleoedd agored. Yn wir, mae'r ysgol yn falch iawn o'r ffaith bod ganddi nifer mor fawr o blant sy'n derbyn gofal, sy'n dewis ysgol Sant Teilo oherwydd ei pholisïau bugeiliol yn ogystal â'i gwaith yn addysgu a dysgu'r cwricwlwm.
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghaerdydd yn rhan o broses awdurdod lleol a weinyddir yn ganolog fel bod pawb sy'n ymgeisio am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer blwyddyn 7 ond yn cael eu dewis uchaf sydd ar gael yn hytrach nag eistedd ar sawl cynnig, fel oedd yn arfer digwydd, ond nid yw'n ddyletswydd ar bob ysgol, ac nid wyf yn gwybod beth yw'r broses mewn awdurdodau lleol eraill. Felly, rwyf am gloddio ychydig yn ddyfnach i sut y mae'r Llywodraeth, trwy Estyn, a'r 22 awdurdod lleol, yn monitro a oes gan bob ysgol yr un ymrwymiad i blant sy'n derbyn gofal.
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, Jenny, ac mae'n dda clywed am yr ymrwymiad sydd gan ysgol Sant Teilo i gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Dylwn ddweud nad ydym yn ymwybodol, neu o leiaf nad oes gennym unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau a wnaed yn y cylchlythyr gan Will Hayward fod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu trin yn annheg. Os oes unrhyw bryderon y mae unrhyw un yn gwybod amdanynt, rwy'n awyddus iawn i glywed y rheini a mynd ar eu trywydd.
Fel y dywedais, mae gofynion yn y cod derbyn i ysgolion, y mae'n rhaid i awdurdodau derbyn lynu atynt wrth ystyried ceisiadau plant sy'n derbyn gofal. Gallai methiant gan awdurdod neu gorff i gydymffurfio â'r darpariaethau gorfodol yn y cod arwain at wneud cwyn gwrthwynebiad statudol i Weinidogion Cymru. Rwy'n cael fy nghynghori bod pob awdurdod lleol yn adrodd i ni, fel Llywodraeth, ar eu gweithredoedd o dan y cod, felly byddwn yn gobeithio y byddai cyfle i godi unrhyw broblemau.
O ran ysgolion ffydd, rhaid i bob awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth uchaf yn eu meini prawf pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys mewn ysgolion â chymeriad crefyddol dynodedig, pa un a yw'r plant hynny o'r un ffydd neu beidio. Rhoddir y flaenoriaeth gyntaf i blant sy'n derbyn gofal o'r un ffydd dros blant eraill o'r un ffydd mewn ysgolion eglwysig. Felly, dylai pob awdurdod lleol flaenoriaethu plant sy'n derbyn gofal.
Mae hwn yn faes yr wyf yn angerddol iawn yn ei gylch yn bersonol. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom gyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws y sector cyhoeddus. Ein plant ni ydynt, ein cyfrifoldeb ni. Felly, os oes unrhyw Aelodau'n ymwybodol, neu'n wir, Will Hayward ei hun, o unrhyw enghreifftiau penodol, rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd y rheini.
7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon? OQ63030
Ar 13 Ionawr, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi fy mwriad i weithio gyda'r sector i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol i fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o faterion a gwella recriwtio a chadw yn y gweithlu addysg.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae mynd i'r afael ag argyfwng parhaus recriwtio a chadw athrawon yn waith cymhleth ac mae llawer o wahanol elfennau'n perthyn iddo. Os gallwn fynd i'r afael â rhai o heriau mawr y sector, yn sicr gallwn wneud y proffesiwn yn fwy deniadol i lawer o bobl. Ond rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r diwydiant yn ei gyfanrwydd er mwyn cael mwy o bobl i mewn i'r byd addysg. Mae Llywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU wedi gwneud llawer mwy i farchnata'r proffesiwn yn y gorffennol, gyda llawer o wahanol ymgyrchoedd a strategaethau marchnata. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd yma yn y Siambr gofio'r hysbysebion teledu Get Into Teaching a'r fenter Your Future, Their Future. Cywirwch fi os wyf yn anghywir, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf wedi gweld unrhyw ymgyrchoedd recriwtio proffil uchel, eang gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Yn bersonol, rwy'n teimlo bod angen inni hysbysebu'r proffesiwn yn well a hyrwyddo addysgu fel llwybr gyrfa i blant tra'u bod yn dal yn yr ysgol. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn marchnata addysgu fel gyrfa yn y dyfodol mewn ymgais i hybu'r niferoedd sy'n addysgu? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn atodol, Natasha, a diolch am eich cydnabyddiaeth fod y materion hyn yn gymhleth, gan eu bod yn gymhleth. Mae gennym ymgyrchoedd recriwtio. Mae gennym wasanaeth eiriolaeth a chymorth recriwtio Addysgwyr Cymru, sy'n cael ei arwain gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Fe'i lansiwyd ym mis Medi 2021 ac mae wedi ymgysylltu â dros 27,000 o unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd addysg. Ac rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu helaeth i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag ysgol addysg Prifysgol Abertawe i drafod eu darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn gwneud llawer o recriwtio yn y brifysgol. Felly, mae eu tîm yn mynd i mewn i ddosbarthiadau blwyddyn olaf ac yn trafod manteision bod yn athro. Rwy'n siŵr fod hynny'n digwydd mewn prifysgolion eraill mewn partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon hefyd. Credaf fod arnom angen dull gweithredu amlweddog, ond yn bendant, mae gennym ymgyrchoedd cyfathrebu a gwaith gwefan Addysgwyr Cymru.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd? OQ63048
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn addysg yng Nghasnewydd drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Yn ogystal, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn cynnydd o 5.6 y cant mewn cyllid eleni ar gyfer gwasanaethau lleol, gan gynnwys ysgolion, a £24.1 miliwn ychwanegol mewn cyllid grant uniongyrchol ar gyfer ysgolion.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae Coleg Gwent wedi bod yn gweithio ers peth amser tuag at adleoli eu campws yng Nghasnewydd i ganol y ddinas, a allai, yn fy marn i, fod yn gwbl drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach ac addysg yn gyffredinol yn y ddinas. Mae'r prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser. Mae newydd gwblhau cam 1 a bydd yn dechrau cam 2 tua diwedd y flwyddyn, pan fydd y gwaith cynllunio manwl yn dechrau. Cafwyd anawsterau yn ddiweddar gyda'r tâl gwasanaeth blynyddol, a chredaf fod y bwrdd wedi canfod nad yw'n fforddiadwy fel y saif pethau. Credaf mai'r pryder gwirioneddol, er mwyn ei wneud yn fforddiadwy, oni cheir rhagor o gymorth gyda'r gost gyfalaf neu'r tâl gwasanaeth blynyddol, yw y gallai gael ei leihau i'r graddau na fydd yn cyflawni'n llawn y potensial mawr sydd ganddo i fod yn wirioneddol drawsnewidiol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a allech chi a'ch swyddogion weithio'n ofalus iawn gyda'r coleg, fel y gwn eich bod yn gwneud, i sicrhau bod yr anawsterau hynny'n cael eu goresgyn.
Diolch, John. Mae'n wych fod hwn yn mynd i fod yn ddatblygiad yng nghanol y dref. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddor 'canol y dref yn gyntaf', felly mae hynny'n gadarnhaol iawn. Mae buddsoddiad Coleg Gwent yn rhan o'r gwerth £500 miliwn o brosiectau sydd gennym ar y gweill drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, a bydd datblygiad Coleg Gwent yn adeiladu ar lwyddiant tair ysgol gynradd a ddarparwyd yn Rhondda Cynon Taf, campws dysgu Mynydd Isa yn sir y Fflint, a phrosiect campws deuol Coleg Caerdydd a'r Fro, lle mae gwaith adeiladu'n mynd rhagddo. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd prosiect Coleg Gwent yn darparu campws ardal wybodaeth Casnewydd 15,000 metr sgwâr yng nghanol y ddinas, gyda buddsoddiad cyfalaf cyfatebol dangosol o oddeutu £100 miliwn.
Nid wyf yn ymwybodol o'r mater tâl gwasanaeth a godwyd gennych, ac rwy'n fwy na pharod, John, i wneud yr ymrwymiad y bydd swyddogion a minnau'n mynd i'r afael â hynny gyda'r coleg. Rwy'n awyddus iawn i weld y datblygiadau hyn yn mynd rhagddynt. Mae datblygiadau canol y dref yn bwysig iawn, ac mae hefyd yn hanfodol y gall ein darpariaeth addysg bellach elwa o bethau fel y model buddsoddi cydfuddiannol hefyd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Mike Hedges, i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg bellach yn Abertawe? OQ63014

Mae'r ddarpariaeth yn ardal Abertawe yn helaeth ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddyheadau, arddulliau dysgu ac anghenion cymorth. Coleg Gŵyr Abertawe yw'r prif ddarparwr addysg bellach, ac maent yn cynnig detholiad cynhwysfawr o gymwysterau Safon Uwch ac ystod o gymwysterau galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd sy'n rhychwantu nifer o feysydd pwnc.
Diolch. Roeddwn yn arfer bod yn ddarlithydd mewn addysg bellach ac yn un o lywodraethwyr Coleg Abertawe, un o'r colegau rhagflaenol. Wrth siarad ag etholwyr, clywais am ansawdd yr addysg a ddarperir gan Goleg Gŵyr Abertawe a Choleg Castell-nedd Port Talbot. Mynychais noson wobrwyo Coleg Gŵyr Abertawe ym mis Mehefin a chefais fy synnu gan yr amrywiaeth o gyrsiau ac ail gyfle a roddir gan y coleg i'r rhai sydd wedi tangyflawni yn yr ysgol, gan gynnwys y rheini a adawodd yr ysgol i fynd i weithio'n llawn amser ac sy'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd.
Hoffwn sôn am bwysigrwydd prentisiaethau hyfforddi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prentisiaethau fel cyflwyniad i lwybr gyrfa gwerth chweil ac i helpu i ddatrys y prinder sgiliau yng Nghymru?
Diolch am eich cwestiwn atodol, Mike. Rwy'n cytuno â chi ynglŷn ag ansawdd, dyfnder ac amrywiaeth yr addysg a ddarperir gan Goleg Gŵyr a Choleg Castell-nedd Port Talbot yn ardal Abertawe. Ar hyn o bryd, mae rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cefnogi dau brosiect mawr gyda Choleg Gŵyr. Mae buddsoddiad o £20.6 miliwn yng nghampws Gorseinon a buddsoddiad o £8 miliwn yng nghampws Tŷ Coch, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y ddau fuddsoddiad yn gwella'r cynnig dysgu i'ch etholwyr ymhellach.
Fel y dywedwch, un o gryfderau allweddol addysg bellach yw y gall gynnig cyfle dysgu gydol oes y gall pobl ddychwelyd ato ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Credaf fod Abertawe fel dinas yn dangos hynny hefyd, gan mai hi oedd y ddinas gyntaf yn y DU i ymuno â rhwydwaith byd-eang UNESCO o ddinasoedd dysg. Mae wedi treulio'r degawd diwethaf, onid yw, yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu sy'n cyrraedd pob cwr o'r gymuned. Mae'n briodol hefyd, felly, y bydd gwobrau blynyddol Ysbrydoli! Addysg Oedolion, nodwedd allweddol o'r Wythnos Addysg Oedolion, yn cael eu cynnal eleni yn Neuadd y Brangwyn yn Abertawe ar 18 Medi, a byddant yn dathlu cyflawniadau unigolion a phrosiectau cymunedol eithriadol yno.
Gan droi at brentisiaethau, sy'n elfen allweddol o'n cynnig addysg bellach, rydym yn cynnal ymgyrchoedd hyrwyddo cenedlaethol drwy gydol y flwyddyn i gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau. Mae gennym hefyd wasanaeth lleoedd prentisiaeth gwag i fusnesau allu hysbysebu lleoedd gwag, gan ei gwneud yn haws iddynt recriwtio prentisiaid. Mae gennym yr Wythnos Brentisiaethau ym mis Chwefror ac wythnos canlyniadau TGAU, a ddefnyddir hefyd fel cyfle i hyrwyddo prentisiaethau fel cynnig i bobl sy'n gadael yr ysgol. Rwy'n eich sicrhau y byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth ac i hyrwyddo manteision prentisiaethau i gyflogwyr a dysgwyr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog.
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Y cwestiwn cyntaf heddiw i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac i'w ofyn gan Heledd Fychan.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad wedi i Drafnidiaeth Cymru orfod canslo trenau ar linellau craidd y Cymoedd oherwydd difrod a achoswyd yn sgil y tywydd poeth dros y penwythnos? TQ1363

Wrth gwrs. Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymddiheuro am y tarfu a achoswyd i deithwyr oherwydd y diffygion ar y trac dros y penwythnos. Roedd y gwres eithafol yn golygu bod yr hyn a fyddai wedi bod yn waith atgyweirio syml wedi dod yn fwy cymhleth, gan arwain at ganslo trenau i ac o Aberdâr a Merthyr Tudful.
Diolch am eich ymateb. Yn amlwg, roedd yn benwythnos prysur iawn yn yr ardal, gyda Stereophonics yng Nghaerdydd, ond fe effeithiodd hefyd ar bobl a oedd yn ceisio cyrraedd y gwaith, apwyntiadau pwysig ac i ofalu am aelodau o'r teulu. Cafwyd buddsoddiad sylweddol yn y llinellau rheilffordd hyn yn y metro. Rwy'n deall nad oedd hynny o reidrwydd yn y trac, ond yn amlwg, gyda'r tywydd mwy eithafol a welwn—rydym yn gweld gwres eithafol yn llawer amlach, ac yn amlwg, mae llifogydd yn effeithio ar y llinellau rheilffordd yn y gaeaf—pa gamau rydych chi'n eu cymryd fel Llywodraeth i ddiogelu'r llinellau rheilffordd hyn ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau fod yn ddibynadwy, hyd yn oed pan welwn wres eithafol? Oherwydd yn amlwg, mae'n cael effaith economaidd hefyd, ac rydym eisiau normaleiddio'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hyn yn anfon neges wych am ddibynadwyedd yn dilyn y buddsoddiad sylweddol hwnnw.
A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn atodol? Rwy'n credu bod nifer o bwyntiau dilys wedi'u codi, ond hoffwn ddweud yn gyntaf oll fod yn rhaid i ddiogelwch teithwyr a staff fod o'r pwys mwyaf, ac nid yw'r hyn a ddigwyddodd yn y de dros y penwythnos yn eithriad. Mae hyn yn digwydd yn rheolaidd ledled y DU a thu hwnt pan fydd gwres eithafol.
Nawr, mae'n ddiddorol nodi y gall traciau trên fod 20 gradd Celsius yn boethach na thymheredd yr aer pan fydd gwres eithafol, a dim ond ar ôl iddynt gyrraedd tymheredd o 24 gradd Celsius y gallwch atgyweirio traciau trên. Felly, mae'n cymryd amser i'r traciau hynny ostwng mewn tymheredd er mwyn gallu gwneud gwaith cyweirio. Dyna pam y cymerodd yn hirach nag y byddai fel arfer yn ei gymryd dros y penwythnos. Nid oedd gennym unrhyw reolaeth dros amseriad yr her benodol hon. Fe'i hachoswyd gan dymereddau tywydd eithafol, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn digwydd yn amlach. Rydym wedi gweld tair ton wres hyd yn hyn eleni. Ac rydych chi'n llygad eich lle fod yn rhaid i wytnwch hinsawdd fod yn ystyriaeth hollbwysig yn ein holl gynlluniau.
Rydym wedi buddsoddi'n helaeth iawn ym metro de Cymru—dros £1 biliwn o fuddsoddiad—ac mae'r buddsoddiad hwnnw'n unol â safonau'r diwydiant o ran sut y caiff y trac ei reoli a'i asesu, ac ansawdd y dur sy'n cael ei osod hefyd. Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu ei strategaethau gwytnwch ac addasu i'r hinsawdd i ymateb i effaith tywydd eithafol ar ei seilwaith a'i wasanaethau, ac mae ganddynt gynlluniau gweithredol pwrpasol ar gyfer digwyddiadau o'r fath.
Wrth edrych ymlaen, credaf fod hyn hefyd yn dangos yr angen hanfodol inni symud gyda'r arloesedd a'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant rheilffyrdd. A dyna pam y credaf fod hyn, unwaith eto, yn ein hatgoffa'n amserol o werth datblygu'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n gyffredin i linellau rheilffyrdd anffurfio pan fydd tymheredd y ddaear yn uwch na 30 gradd Celsius. Ac ar gyfandir Ewrop a gwledydd eraill ledled y byd, caiff hyn ei liniaru drwy gynyddu gwytnwch trawstiau ochrol drwy ddefnyddio trawstiau concrit trymach, gydag ochrau wedi'u proffilio fel sgolpiau a thrawstiau padio, neu drwy ddefnyddio trawstiau angori. Mae mesurau posibl eraill yn cynnwys lleihau'r bylchau rhwng y trawstiau, defnyddio balast o ansawdd uchel, bondio'r balast neu ledu ysgwydd y balast, neu drwy gynyddu stiffrwydd y trac drwy ddefnyddio sgriwiau gwydn iawn, neu drwy osod cynllun trawstiau penodol iawn, fel trawstiau dur siâp Y neu drawstiau ZSX.
O ystyried y miliynau o bunnoedd y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwario ar wella'r llinellau rheilffordd hyn a'r tebygolrwydd cynyddol o donnau gwres amlach a dwysach yn y blynyddoedd i ddod, fel y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ragweld dro ar ôl tro ac fel rydych chi newydd ei ddweud eich hun, hoffwn ymuno â fy nghyd-Aelod i ofyn pam na chafodd y traciau hyn eu diogelu ar gyfer y dyfodol gyda'r amodau tywydd hyn pan gafwyd cyfle i wneud hynny. Diolch.
A gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn? Hoffwn atgoffa'r Aelodau unwaith eto mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi buddsoddi dros £1 biliwn yn natblygiad metro de Cymru, ac mae hynny wedi'i ddatblygu yn unol â safonau'r diwydiant ledled y DU. Mae'r diwydiant yn gweithio ar y cyd. Mae cwmnïau gweithredu trenau a chwmnïau gweithredu rheilffyrdd yn cydweithio i asesu sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y DU yn y blynyddoedd i ddod.
Ac mae'n ymwneud â mwy na thymheredd yn unig. Mae a wnelo hefyd â'r risg o lifogydd, fel y nododd Heledd Fychan eisoes. Bydd y gwaith y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud ar wytnwch hinsawdd yn rhan o ddatblygiadau diwydiannol blaenllaw ledled y byd. Ond mae angen inni symud ymlaen ar y cyd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yn y DU, fel y gellir gwella'r safonau cyffredin hynny a'u haddasu ar gyfer newid hinsawdd ledled y wlad.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig nodi bod gwasanaethau amgen wedi bod ar waith i deithwyr. Gwn y bu'n gyfnod prysur iawn i deithwyr dros y penwythnos, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro am y tarfu, ond roedd hwn yn ddigwyddiad tywydd eithafol. Byddwn yn buddsoddi mewn mesurau addasu i'r hinsawdd, ond roedd hwn yn ddigwyddiad unigryw dros y penwythnos. Byddwn yn dysgu gwersi ohono, byddwn yn gwella'r seilwaith, fel rydym eisoes wedi'i wneud, ac mae Trafnidiaeth Cymru, fel y dywedais, yn barod i ddysgu o'r arloesedd gorau a welir ledled y byd.
Fel y dywedwyd eisoes, mae angen paratoi'n well ar gyfer tywydd poethach. Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym yn eithaf clir y dylem ddisgwyl patrymau tywydd mwy eithafol, yn enwedig os na fydd y gymuned ryngwladol yn rhoi mesurau llym ar waith. Ond hoffwn ganolbwyntio mwy ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau mawr, y math o bethau y byddech yn disgwyl iddynt fod ar waith. Rwy'n deall mai ychydig iawn o fysiau wrth gefn, os o gwbl, a oedd ar gael pe bai anhawster gyda'r trenau neu'r seilwaith dros y penwythnos. Pam felly, o ystyried nifer y bobl y disgwylid iddynt ddod i'r brifddinas dros y penwythnos? A oes unrhyw waith wedi'i wneud i wella cynlluniau wrth gefn pe bai digwyddiad mawr ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus?
A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiwn hefyd? Diolch i'r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth Lafur Cymru o dros £1 biliwn mewn seilwaith, ac £800 miliwn mewn cerbydau rheilffyrdd, rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwelliannau enfawr i'w gweithrediadau digwyddiadau mawr. Rydym wedi gweld nifer y trenau'n cynyddu o 270 i dros 400, ac mae nifer y seddi sydd ar gael ar y rhwydwaith bellach wedi codi o oddeutu 14,000 i 24,000. Mae hynny'n gynnydd enfawr yng nghapasiti'r rhwydwaith. Fodd bynnag, ni allwch baratoi eich system drafnidiaeth gyhoeddus—ac nid oes unrhyw wlad wedi gwneud hynny—ar gyfer digwyddiadau mawr fel y lefel y dylai safonau gwasanaeth weithredu iddi bob dydd. Mae digwyddiadau mawr yn ddigwyddiadau mawr. Maent yn fawr ac maent yn unigryw, ac nid ydynt yn rheolaidd.
Rwy'n credu mai'r hyn rydym wedi'i ddatblygu gyda Trafnidiaeth Cymru yw patrwm gweithredu cryf iawn, sydd wedi'i ddangos dros nifer o ddigwyddiadau mawr, nifer o achlysuron, nifer o gyfnodau. Rydym wedi llwyddo i reoli'r nifer uchaf erioed o deithwyr drwy orsaf Caerdydd Canolog, yn dilyn cyngherddau diweddar Oasis yn y ddinas. Ond roedd hwn yn ddigwyddiad tywydd eithafol. Bydd gwersi'n cael eu dysgu, ond yn briodol, rhoddodd Trafnidiaeth Cymru deithwyr a staff wrth wraidd eu penderfyniadau ac ni allent weithredu yn unol â'r safonau diwydiant sydd ar waith ledled y DU oherwydd y gwres a gawsom dros y penwythnos.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.

2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal gyda Hosbis Dewi Sant am eu penderfyniad i gau eu hosbis yng Nghaergybi? TQ1366

Rŷn ni'n cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector hosbis yn cefnogi teuluoedd yn wynebu diwedd oes, ac wedi bod yn gweithio gyda Hosbis Dewis Sant, ac yn parhau i weithio gyda nhw, i liniaru effaith y cau dros dro o'r pedwar gwely yng Nghaergybi ar staff, cleifion a theuluoedd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Yn wir, gobeithio mai cau dros dro fydd hyn. Mae'r newyddion bod yr hosbis yma yn cau wedi dod fel ergyd drom a siom i gymaint o bobl dwi yn eu cynrychioli. Does yna ddim llawer ers i'r hosbis yma agor ei ddrysau, ac yn y cyfnod hwnnw'n barod, mae yna lawer o deuluoedd wedi profi y gofal a'r cariad drostyn nhw eu hunain yno. Mae eraill yn edrych tuag ato fo fel rhywle sydd yn rhoi sicrwydd iddyn nhw, o bosib, ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n meddwl hefyd, wrth gwrs, am y staff sydd yno rŵan. Maen nhw sydd yn gweithio yno ac wedi cynnal gofal mor arbennig—dwi wedi eu cyfarfod nhw fy hun—yn poeni am eu ffawd nhw rŵan a disgwyliadau y bydd yna ddiswyddiadau gorfodol.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet, fel yr awgrymodd o, wedi bod yn ymwybodol o'r heriau mae Hosbis Dewis Sant wedi bod yn eu hwynebu ers tro. Dwi'n ddiolchgar iddo fo am fod yn barod i drafod y rheini efo fi o fewn y misoedd diwethaf. Dwi'n gwybod bod hynny wedi arwain at drafodaethau roedden ni'n gobeithio fyddai wedi gallu bod yn fwy adeiladol. Yn anffodus, doedd dim modd osgoi, meddai'r hosbis, y pwynt rydym ni wedi cyrraedd ato fo rŵan. Mae costau cynyddol wedi bod yn broblem, y cynnydd mewn yswiriant gwladol, ydy, wedi bod yn rhan o'r broblem. A chanlyniad y pwysau ar y gallu i godi arian yn yr hinsawdd bresennol oedd bod yr hosbis yn wynebu y posibilrwydd o ddiffyg ariannol o bron i £1 filiwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, mae'n amlwg yn sefyllfa ddifrifol tu hwnt ac wedi golygu pen—fel dwi'n dweud, gobeithio am y tro yn unig—ar y gwasanaeth pwysig yma. Gaf i ofyn, felly, yn y byrdymor, pa opsiynau a phosibiliadau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn barod i'w hystyried ar y cyd efo'r hosbis a'r bwrdd iechyd, o bosib, er mwyn ceisio sicrhau dyfodol i'r hosbis yma, sydd wedi dod mor annwyl inni mewn cyfnod byr yng Nghaergybi?
Ac yn ail, gadewch inni edrych ychydig bach yn ehangach ar sefyllfa hosbisau'n gyffredinol yng Nghymru. Nid argyfwng sydd wedi datblygu dros nos ydy'r argyfwng sydd wedi wynebu Hosbis Dewi Sant. Dwi'n gwybod bod llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru yn y Siambr yn Ionawr 2024. Rydw innau wedi bod, fel llefarydd iechyd dros y blynyddoedd, yn weithgar efo'r grwp trawsbleidiol ar hosbisau yn gweithio efo'r sector er mwyn tynnu sylw at y pwysau ariannol sydd arnyn nhw. Felly, tra ydym ni, ar y meinciau yma, wedi siarad am yr angen i osod llawr cyllido—a dyna byddwn ni'n dymuno ei wneud er mwyn rhoi ychydig mwy o sicrwydd i'r hosbisau ac i ddangos gwerthfawrogiad o'r hyn maen nhw'n ei gynnig—ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn barod i edrych ar hynny rŵan, ac ydy e'n cytuno efo fi, yn ogystal â'r angen i atal colli gwasanaethau fel hosbis Caergybi yn y byrdymor, bod rhaid inni fod yn edrych ar sut i roi mwy o sicrwydd i'r sector cyfan yn yr hirdymor?
O ran cleifion a'u teuluoedd sydd eisoes yn yr uned, mae pob un ohonyn nhw wedi cael gwybodaeth oddi wrth yr hosbis ac yn cael mynediad at wasanaethau eraill yr hosbis, sydd yn golygu y byddan nhw'n gallu parhau i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r hosbis wedi cadarnhau bod pob un claf yn cael asesiad unigol gan y tîm clinigol, yn cydweithio gyda'r meddygon teulu a'r bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth ychwanegol oddi wrth staff yr hosbis wrth fynd trwy'r cyfnod sydd o'u blaenau nhw.
Mae'n amlwg wedi bod yn benderfyniad strategol anodd, fel mae'r Aelod yn dweud, ac mae llawer o bethau ynghlwm â hynny. Mae'r sector ar draws y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau ers cyfnod. Mae'r cyfuniad o gostau uchel a llai o incwm wedi gwneud penderfyniadau economaidd anodd yn anochel, yn cynnwys parhau, o ran yr hosbis, i redeg y tri safle sydd gyda nhw, er gwaetha'r camau maen nhw wedi'u cymryd i geisio lliniaru ar y ffactorau yma.
Rŷn ni fel Llywodraeth wedi cynyddu ein buddsoddiad yn sylweddol dros dymor y Senedd hon mewn gwasanaethau hosbis, yn cynnwys £5.3 miliwn a £9.5 miliwn o ran grantiau costau byw i helpu'r sector hosbis i barhau i ddarparu'r gwasanaethau pwysig maen nhw'n eu gwneud—a symiau sylweddol yn hynny o beth wedi'u rhannu gyda'r hosbis hon. Felly, mae fy swyddogion yn parhau i drafod gyda'r hosbis beth mwy gellid ei wneud.
O ran dyfodol strategol y sector, mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i ddatblygu ffordd newydd o gomisiynu gwasanaethau oddi wrth y sector hosbis drwy fframwaith comisynu newydd i Gymru i sicrhau bod model gynaliadwy ar gael i'r sector i barhau i ddarparu'r gwasanaethau mae cymaint yn dibynnu arnyn nhw.
Diolch, Lywydd. [Anghlywadwy.]—ac mae gennym hefyd loteri cod post rhwng byrddau iechyd yng Nghymru. Ddydd Gwener, cyn y cyhoeddiad cyhoeddus, cysylltodd hosbis Dewi Sant yn gyfrinachol â mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol: 'Ysgrifennaf atoch i rannu datganiad allweddol. Gyda chalon drom, rydym wedi ein gorfodi i oedi gweithrediadau yn ein hosbis cleifion mewnol pedwar gwely yng Nghaergybi, a byddwn yn dechrau proses ymgynghori gyda'r staff yr effeithir arnynt fore Llun. Fel elusen, mae wedi dod yn gynyddol heriol i barhau i redeg ein holl wasanaethau oherwydd costau cynyddol ac incwm is, a daw hyn ar ôl gwneud toriadau enfawr mewn costau dros y blynyddoedd diwethaf a dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd lle bo modd.' Ac maent yn parhau. Ond roeddent yn dweud hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r datganiad arfaethedig, felly fe gawsoch eich hysbysu ymlaen llaw.
Mae Hospice UK a Hosbisau Cymru wedi tynnu fy sylw unwaith eto at yr arolwg o agweddau a'r sefyllfa ariannol a gynhaliodd Hospice UK rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2024 gyda 15 o hosbisau elusennol yng Nghymru. Nid wyf am roi'r holl ganfyddiadau i chi, ond cytunodd 14 allan o 15 fod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at orfod lleihau nifer y gwasanaethau a ddarperir. Cytunodd dros 90 y cant fod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at lai o gefnogaeth i'r system ehangach, fel ysbytai a chartrefi gofal. Cytunodd bron i dri chwarter y rhai ag unedau cleifion mewnol fod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at sefyllfa lle mae un neu fwy o welyau cleifion heb fod ar gael dros dro neu'n barhaol. Gwnaed y pwyntiau hyn adeg y gyllideb ddrafft a'r gyllideb, ac er bod y £5.5 miliwn tuag at ddiwedd y llynedd a'r £3 miliwn eleni wedi'i groesawu, nid oedd yn agos digon i dalu am y costau ychwanegol yn dilyn datganiad yr hydref.
Ar ôl mwy na dau ddegawd o ofyn cwestiynau fel hyn, sut, os o gwbl, y bydd Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn croesawu'r cynnig gan y sector i helpu pob bwrdd iechyd i gyflawni mwy, ac yn enwedig bwrdd Betsi Cadwaladr, i ymgysylltu'n agos â'r hosbisau hyn a hwyluso gwasanaethau gwell i'r teuluoedd, i'r unigolion, ac i'r GIG yn y modd y gellid ei gyflawni, ac a oedd yn cael ei gyflawni, yn y gweithgarwch hwn, a oedd, wrth gwrs, mewn ward GIG, a gafodd ei fenthyg, i bob pwrpas, i hosbis Dewi Sant gan fwrdd Betsi Cadwaladr?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Gwn fod tîm gofal lliniarol arbenigol bwrdd Betsi Cadwaladr yn gweithio gyda thîm Hosbis Dewi Sant ar y sefyllfa sydd wedi codi a'r trefniadau y bydd angen eu gwneud o ganlyniad i hynny. Fel y nododd Rhun ap Iorwerth yn glir yn ei gwestiwn, fe wnaeth ef a minnau drafod rhywfaint o'r pwysau yr oedd yr hosbis yn ei wynebu ychydig fisoedd yn ôl. Mewn gwirionedd, fel y nodais yn fy ateb cynharach, fe wnaethom ddarparu cyllid i'r hosbis yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'r flwyddyn ariannol flaenorol fel rhan o'n hymrwymiad cyffredinol i'r sector mewn perthynas â mynd i'r afael â rhywfaint o'r pwysau costau byw ychwanegol y mae'r sector wedi gorfod eu hwynebu, gwaetha'r modd, yn yr un ffordd â sectorau eraill.
Ar y pwyntiau a wnaeth yr Aelod ynglŷn â sicrhau cysondeb y gwasanaeth a model gwydn ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y dyfodol, rwy'n derbyn bod angen dull gwahanol o weithredu, ac rydym wedi bod yn cael trafodaethau da iawn gyda'r sector ynglŷn â sut olwg a allai fod ar hynny. Ein bwriad yw cael fframwaith comisiynu newydd ar gyfer gwasanaethau hosbis ar waith erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill mewn ffordd gydweithredol iawn, ac mae'n cefnogi'r uchelgeisiau sydd gennym yn ein datganiad ansawdd a'r gwaith sydd ar y gweill ochr yn ochr â hynny mewn perthynas â manyleb sy'n mynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi yn ei gwestiwn.
Diolch i Rhun am y cwestiwn yma. Wrth gwrs, yn anffodus, mi fydd y penderfyniad yma i gau'r hosbis, neu'r adain yma o'r hosbis, dros dro, yn effeithio ar Ddwyfor Meirionnydd, ac yn wir gweddill gogledd Cymru. Mae yna angen dybryd am welyau hosbis arnom ni yn Nwyfor Meirionnydd, felly wrth fod hwn yn cau, mae'n mynd i roi pwysau ychwanegol ar Fangor a Llandudno, ac yn wir yn rhoi pwysau ar y bwrdd iechyd. Rydyn ni'n gwybod bod darparu'r gwasanaeth diwedd oes a hosbis yna yn y bwrdd iechyd yn costio mwy, ar ddiwedd y dydd.
Mi ddaru'r Llywodraeth ryddhau datganiad ansawdd nôl yn yr hydref oedd yn sôn am wneud gwasanaethau diogel, amserol, effeithiol, person-ganolog a chydradd. Sut mae'r penderfyniad yma, ydych chi'n meddwl, yn mynd i helpu i ddiwallu'r amcanion yna?
Ac yn olaf, ddaru imi roi cynnig ymlaen nôl yn Ionawr 2024 ynghylch datblygu ateb ariannu cynaliadwy—nid fframwaith newydd, o reidrwydd, ond ariannu cynaliadwy ar gyfer hosbisys yn yr hirdymor. Mae yna 18 mis wedi mynd heibio ar ôl i'r Senedd basio'r cynnig yna. Pryd ydyn ni'n mynd i weld y fformiwla newydd a'r system ariannu newydd i hosbisys Cymru?
O ran y pwysau ar wasanaethau eraill, mae hynny, yn anffodus, yn anochel yn sgil beth rŷn ni i gyd yn gobeithio fydd yn benderfyniad dros dro ynghylch y pedwar gwely yn yr uned yng Nghaergybi. Fel y gwnaeth yr Aelod gydnabod, bydd pobl sy'n defnyddio'r hosbis ar hyn o bryd yn cael eu harallgyfeirio i adnoddau eraill gan yr hosbis, ym Mangor ac yn Llandudno. Wrth gwrs, mae impact yn dod yn sgil hynny hefyd.
Dyw colli capasiti dros dro yn y ffordd yma ddim yn gyfraniad tuag at gyrraedd nod y datganiad ansawdd. Ein rôl ni fel Llywodraeth yw sicrhau, fel rŷn ni wedi bod, ein bod ni'n glir o ran ein disgwyliadau, ond hefyd yn darparu adnoddau i'r sector, sydd yn caniatáu iddyn nhw gyrraedd y disgwyliadau rheini. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod angen model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae cydweithio da yn digwydd ymhlith y sector. Mwy a mwy o hynny sydd, wrth gwrs, eisiau cael ei weld—cydweithio, arloesi, efallai, yn y ffordd rŷn ni'n darparu rhai o'r gwasanaethau yma. Ond hefyd—. Ac mae cysylltiad rhwng ffynhonnell hirdymor, ddibynadwy ar gyfer y sector ar un llaw, a'r dull o gomisiynu ar y llaw arall. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y datblygiadau rheini yn dwyn ffrwyth.
Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i hefyd yn drist, ac wedi fy syfrdanu braidd, pan glywais yn hwyr ddydd Gwener am y cau. Mae'n deg dweud ei fod yn cael effaith ar Aberconwy, ond mae fy meddyliau nawr gyda'r staff, y cleifion sy'n defnyddio'r hosbis, ac yn wir, mae pobl sy'n cyfrannu at yr hosbis wedi cysylltu â mi, ac mae gwirfoddolwyr wedi cysylltu â mi. Mae gennym sefyllfa eisoes yn Aberconwy, yn Llandudno. Mae'r sector hosbis yng Nghymru yn cael ei danariannu'n wael gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Nawr, mae cleifion â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u hanwyliaid—. Mae'r gofal a geir gan Ysbyty Penrhos Stanley yn ddiguro, fel y mae'r holl ofal a ddarperir gan deulu Hosbis Dewi Sant ar draws gogledd Cymru. Mae pob gwely wedi'i gyfarparu'n llawn ar gyfer cysur, urddas a phreifatrwydd, gan edrych dros dirwedd arfordirol ddigynnwrf Penrhos neu erddi'r cowt. Nawr, mae'r tîm hynod broffesiynol sy'n cael ei gyflogi gan y sefydliad hosbis yn—. Os siaradwch ag unrhyw un, y teuluoedd yn arbennig, ar ôl i bobl gael triniaeth gan Hosbis Dewi Sant, neu unrhyw hosbis yng ngogledd Cymru yn wir, maent yn dweud bod y gofal yn ddiguro, ac na all dim gymryd ei le. Nid oes gennym allu yn ein hysbytai i ddarparu'r lefel honno o ofal. Mae hynny'n ffaith. Nid beirniadaeth o unrhyw ofal yw hynny. Nid oes gennym y gofal cofleidiol y mae ein darpariaeth hosbisau'n gallu ei ddarparu. Nawr—
Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Janet.
Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi clywed eich ymateb i'n cyd-Aelodau Mark Isherwood, Mabon, a Rhun wrth gwrs, a ofynnodd y cwestiwn. Pam yr holl sôn am strwythur fframwaith? Cyllid sydd ei angen ar yr hosbis, a hynny nawr. Dros y blynyddoedd, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi mynd i ddyled o tua £43 miliwn, £50 miliwn, a gafodd ei ddileu heb hyd yn oed—. Ei ddiystyru ar amrantiad. O ystyried y sefyllfa argyfyngus sy'n wynebu'r hosbis hon nawr, pam na allwch chi ddarparu rhywfaint o arian argyfwng nawr i atal yr hosbis rhag cau? Diolch.
Rwy'n siŵr y bydd staff Hosbis Dewi Sant wedi gwerthfawrogi'r deyrnged gynnes a roddodd Janet Finch-Saunders i'r gwaith gwych y maent yn ei wneud, sy'n adlewyrchu'n fawr fy mhrofiad i o staff sy'n darparu gwasanaethau hosbis ym mhob rhan o Gymru. Mae'n wasanaeth hollol hanfodol, a ddarperir gyda thosturi a gofal ar yr adeg anoddaf. Felly, mae'n siomedig gweld yr hyn y gobeithiwn na fydd ond yn gau dros dro yn y ddarpariaeth yng Nghaergybi.
Gobeithio y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud yn glir ar ddechrau fy atebion cynharach fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei buddsoddiad mewn gwasanaethau hosbis yn sylweddol yn ystod tymor y Senedd hon yn cynnwys mewn perthynas â'r cyllid ychwanegol y mae'r sector wedi dadlau'r achos drosto, a hynny'n briodol ddigon, o ganlyniad i bwysau costau byw. Ac yn wir, mae'r hosbis benodol hon wedi cael budd o hynny, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'r flwyddyn ariannol cyn honno. A gobeithio ei bod wedi clywed fy ymrwymiad y bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Hosbis Dewi Sant ar eu cynlluniau, ac i ni wneud yn siŵr, os gallwn, mai cau dros dro yn unig yw hwn, ac y bydd y gwasanaethau anhygoel y mae staff yr hosbis yn gallu eu darparu ar gael unwaith eto i drigolion Caergybi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad heddiw.
Felly, eitem 5—dadl y Pwyllgor Cyllid: blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8961 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor;
b) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion; ac
c) digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl Ifanc, gan gynnwys gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, a dwi'n gwneud y cynnig.
Dwi'n falch iawn o agor y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27—y bedwaredd ddadl, a’r ddadl olaf o'r fath yn y Senedd hon.
Mae'r ddadl hon wedi dod yn rhan annatod o gylch cyllideb y Senedd. Mae amseriad y ddadl yn gyfle i rannu'r dystiolaeth rydym wedi ei chlywed cyn i’r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi, er mwyn sicrhau ei bod yn rhan flaenllaw ym mhenderfyniadau Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o unigolion i lywio ein hadroddiad. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i siarad â ni ynglŷn â sut mae'r gyllideb bresennol yn effeithio arnyn nhw, a pha welliannau yr hoffent eu gweld.
Roedd ein gwaith ymgysylltu eleni yn cynnwys yr elfennau canlynol: digwyddiad rhanddeiliaid yn y ganolfan reolaeth ym Mhrifysgol Bangor; nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru; a digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys gweithdy gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a sesiwn galw heibio yn Eisteddfod yr Urdd. Mae'r digwyddiadau hyn yn hanfodol i'n dealltwriaeth o faterion cyllidebol, a hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i bwysleisio pwysigrwydd gwaith allgymorth i'n pwyllgor.
Yn ystod tymor y Senedd, rydym wedi teithio i bob cwr o Gymru ar gyfer ein digwyddiadau rhanddeiliaid, ac rydym yn credu bod hyn yn hanfodol, ac yn annog y defnydd o ddull tebyg o weithredu yn Seneddau'r dyfodol.
Roedd hefyd yn braf eleni cael bwrdd cyfrwng Cymraeg yn y sesiwn ym Mangor, efo'r rhanddeiliaid yn gallu cyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg i gyd efo'i gilydd. Roedd hwnna yn beth da iawn.
Cyn trafod y safbwyntiau a glywsom, rwyf am sôn yn fyr am amserlen y gyllideb. Yr wythnos diwethaf cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fwriad i ddychwelyd at broses gyllidebol ddau gam. Fel y soniais mewn ymateb i'w ddatganiad, mae'r pwyllgor yn croesawu cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn gynnar, ac mae hyn yn darparu cyswllt cryfach rhwng y safbwyntiau a fynegir yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu a gwaith craffu'r pwyllgor.
Er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth a glywsom hyd yma, ac i lywio ein sesiwn dystiolaeth yn nhymor yr hydref, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyn toriad yr haf i lywio ein gwaith craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle hefyd i ni drafod yr ymgynghoriad hwn gydag aelodau o'r cyhoedd yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Mae digon o gyfleoedd i bobl fynegi barn o hyd, ac rydym yn awyddus i weld cymaint o safbwyntiau â phosibl yn cael eu mynegi.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi nawr at y materion a glywsom yn ystod ein gwaith ymgysylltu. Fe ddechreuaf trwy ddarparu trosolwg o rai o'r themâu trosfwaol cyn troi at flaenoriaethau penodol. Fel y clywsom yn y blynyddoedd blaenorol, mae rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru symud oddi wrth benderfyniadau gwariant adweithiol a mabwysiadu dull mwy strategol a hirdymor wrth wneud ei phenderfyniadau cyllidebol. Yng ngoleuni'r rhagolygon cyllido tynn yn dilyn adolygiad o wariant y DU, dywedwyd wrthym y byddai ffocws ar ddiwygio'r sector cyhoeddus a gwell cynhyrchiant hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i gael mwy o lai.
Clywsom hefyd sut y mae uchelgeisiau polisi Llywodraeth Cymru yn aml heb fod wedi'u halinio â blaenoriaethau cyllidebol, gyda rhanddeiliaid yn awgrymu bod angen cyllid ychwanegol os yw'r canlyniadau polisi a ddymunir yn mynd i gael eu cyflawni. Roeddent hefyd y pwysleisio, er bod cyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru wedi cynyddu, fod llawer o sectorau'n parhau i wynebu ansicrwydd ariannol. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn rhannu safbwyntiau sy'n gyfarwydd i bob un ohonom, fod angen diwygio fformiwla Barnett i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfran deg o gyllid gan Lywodraeth y DU. Yn ddiddorol, mynegwyd hyn yn gryf ymhlith pobl ifanc, gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn awgrymu bod cyllid wedi'i 'ddwyn' oddi wrth Gymru yng ngoleuni'r penderfyniadau ar gyfer HS2.
Nododd rhanddeiliaid yn ein digwyddiad ym Mangor hefyd effaith y diffygion cyllido sy'n deillio o'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Fodd bynnag, nid oedd yr holl dystiolaeth a glywsom yn ymwneud â lefelau cyllid. Galwodd pobl am welliannau i brosesau gweinyddol Llywodraeth Cymru a fyddai'n gwella effeithlonrwydd, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn gyflymach a bod cyllid yn cael ei ddarparu i sectorau'n fwy effeithiol. Un awgrym ar gyfer cyflawni hyn oedd ysgogi mwy o gydweithrediad rhwng adrannau'r Llywodraeth, rhywbeth y gellid ei unioni heb wario symiau mawr o arian.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi nawr at rai o'r blaenoriaethau penodol a godwyd. Y blaenoriaethau pennaf o bell ffordd i bobl ledled Cymru o hyd yw iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Codwyd pryderon yn y grwpiau ffocws, er mai'r sector iechyd sy'n cael y gyfran fwyaf o'r gyllideb, fod amseroedd aros hir a blocio gwelyau yn parhau i fod yn broblem. Y gobaith oedd y byddai buddsoddiad mewn gwasanaethau yn arwain at system fwy effeithlon a allai fynd i'r afael â'r pryderon parhaus hyn. Clywsom hefyd am yr angen i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gydag un grŵp ffocws yn enwedig yn nodi eu bod yn gweithio'n gwbl annibynnol ar ei gilydd. Roedd sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddyrannu ar gyfer cymorth iechyd meddwl hefyd yn fater a glywsom yn aml. Yn anffodus, rydym yn clywed sylwadau tebyg bob blwyddyn, ac mae hwn yn parhau i fod yn faes lle mae pobl yn disgwyl gweld gweithredu sylweddol a chanlyniadau cadarnhaol.
Yn ail, clywsom fod y pwysau ar wasanaethau addysgiadol ar draws pob sector yn cyrraedd pwynt argyfwng. Mynegodd pobl ifanc farn gref y dylai cyllid ar gyfer ysgolion fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru, gan y byddai'n arwain at fwy o fuddion yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i well sgiliau i bobl ifanc.
Cafodd addysg ei flaenoriaethu hefyd mewn bron pob sesiwn grŵp ffocws, gyda phryderon ynghylch y galw cynyddol o ran gweithlu, cynnydd mewn meintiau dosbarthiadau a'r heriau y mae plant niwroamrywiol yn eu hwynebu. Clywsom hefyd sut mae ysgolion yn ymgymryd â rolau ychwanegol wrth i wasanaethau eraill ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau, fel darparu gofal meddygol a chymorth iechyd meddwl. O ganlyniad, roedd llawer yn teimlo bod angen dull amlasiantaeth i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu o'r gyllideb briodol, yn hytrach na chael ei dynnu o’r gyllideb addysg yn unig. Clywsom hefyd fod nifer o brifysgolion yn wynebu pwysau aruthrol, gydag un cyfranogwr yn galw am weithredu ar frys i amddiffyn ein prifysgolion ac annog pobol ifanc Cymru i fanteisio ar yr addysg uwch sydd ar gael yma yng Nghymru.
Yn drydydd, roedd yn amlwg fod effaith hirdymor yr argyfwng costau byw'n dal i'w teimlo ar draws y gymdeithas, gan nad yw cyflogau'n dal i fyny â chost gynyddol nwyddau, cyfleustodau a threthi. Awgrymwyd y byddai mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi'n cynhyrchu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol. Clywsom sut oedd angen gwell cynllunio a buddsoddi mewn gwasanaethau tai a digartrefedd gan fod tai o ansawdd gwael yn arwain at effeithiau negyddol lluosog. Y cyd-destun anodd hwn hefyd oedd y rheswm pam yr awgrymodd llawer o bobl nad nawr yw'r adeg i gynyddu trethi, yn enwedig pan fo costau eraill yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel.
Y bedwaredd flaenoriaeth a nodwyd gennym oedd y lefel uchel o gyd-ddibyniaeth ymhlith sectorau wrth gyflawni nodau polisi allweddol a'r angen i ddarparu cyllid yn unol â hynny. Clywsom nifer o enghreifftiau, ac rydym wedi amlinellu'r rhain yn ein hadroddiad, lle roedd diffyg cysondeb yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n nodi ac yn cymhwyso ei blaenoriaethau strategol.
Mae ein pumed maes blaenoriaeth yn ymwneud â'r angen am ymagwedd Cymru gyfan at seilwaith a gweledigaeth glir a chydlynol ar gyfer datblygu economaidd, yng ngoleuni pryderon fod rhai ardaloedd yng Nghymru wedi gweld tanfuddsoddiad mewn seilwaith dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf. Roedd diffyg dull Cymru gyfan o weithredu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn bryder arbennig i grwpiau ffocws. Pwysleisiodd cyfranogwyr yr angen i ganolbwyntio ar brosiectau a fyddai'n cysylltu gwahanol rannau o'r wlad i hybu twf economaidd ar draws Cymru gyfan. Mynegodd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru bryderon hefyd y byddai plant iau'n cael eu heithrio o'r cynllun tocynnau bws £1, ac rwy'n siŵr y byddant yn falch o glywed am gyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd hyn nawr yn cael ei ymestyn i gynnwys plant pump i 15 oed, yn unol â'u hawgrym.
Yn olaf, rydym am glywed beth sydd gan y gyllideb i'w gynnig i fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch tai a newid hinsawdd, a fynegwyd yn gryf yn yr holl wahanol grwpiau ond a oedd yn bryder arbennig i bobl ifanc. Mynegodd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru eu hofnau fod pobl ifanc yn cael trafferth mynd ar yr ysgol dai oherwydd prisiau tai cynyddol. Fe wnaethant annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arian ar gael i sicrhau bod tai fforddiadwy'n cael eu hadeiladu ledled Cymru gyfan. Wrth drafod y gyllideb werdd, awgrymodd Aelodau o'r Senedd Ieuenctid y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu mynd i'r afael â newid hinsawdd, oherwydd y manteision amlweddog a fyddai'n deillio o Gymru wyrddach.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi'n fyr at ymwybyddiaeth cyfranogwyr o sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau trethiant a benthyca i effeithio ar ei chyllid. Gan barhau â'r duedd a welsom dros y blynyddoedd blaenorol, roedd cyfranogwyr unwaith eto'n ffafrio gwario arian yn fwy effeithlon cyn ystyried codi arian trwy drethiant neu fenthyca. Fel y soniwyd ar ddechrau fy nghyfraniad, awgrymodd eraill y byddai adolygiad o fformiwla Barnett yn cynyddu'r gyllideb gyffredinol heb fod angen codi trethi oherwydd y cyfyngiadau cyfreithiol ar ein pwerau codi trethi a benthyca.
Ac yn olaf, hoffwn droi at rai o'r atebion a glywsom i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Clywsom nifer sylweddol o syniadau, 16 i gyd, gan y grwpiau ffocws ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn arloesol yn y ffordd y mae'n ariannu pob sector er mwyn delio â heriau yn y dyfodol ar draws ystod o bortffolios, gan gynnwys ardoll ar allyriadau carbon corfforaethol, sybsideiddio cynhyrchiant bwyd iach, a darparu mwy o dai modiwlaidd. Roeddent hefyd yn awgrymu bod angen gwerthuso cynlluniau presennol yn well a mynd i'r afael â defnydd aneffeithlon o arian cyn archwilio syniadau newydd, sy'n adlewyrchu'r hyn a glywsom yn ein digwyddiad ym Mangor a chan Aelodau o'r Senedd Ieuenctid. Y llynedd, un o'r syniadau oedd darparu trafnidiaeth gyhoeddus ar gost isel i bobl ifanc, syniad a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dangos y gall ein gwaith ymgysylltu gael effaith ddiriaethol ar benderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth, ac rydym yn gobeithio y bydd y meysydd blaenoriaeth a nodwyd heddiw yn cynnig syniadau eraill i Ysgrifennydd y Cabinet eu hystyried.
Dirprwy Lywydd, fel bob amser, mae cyfranogwyr yn ein holl ddigwyddiadau wedi bod yn onest ac yn agored wrth ddweud wrthym sut mae'r gyllideb yn effeithio arnyn nhw a pha newidiadau yr hoffan nhw eu gweld yn y dyfodol. Mae'r trafodaethau hyn yn hanfodol i lywio ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn y dyfodol. Er ein bod wedi nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi defnyddio dull gwahanol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, ac na fydd yn cynnwys blaenoriaethau na pholisïau newydd, byddem yn ei annog i ystyried ein hatebion ac awgrymiadau gan randdeiliaid a gweithredu ar gymaint ag y gall i leddfu pwysau ariannol wrth fynd ymlaen. Dwi’n edrych ymlaen rŵan at glywed cyfraniadau Aelodau eraill, a byddaf i’n gobeithio bod y ddadl yma yn dwyn ffrwyth ac yn un adeiladol. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ddarparu trosolwg mor gynhwysfawr o'r adroddiad a gynhyrchwyd gennym fel pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi'r adroddiad hwnnw. Mae'n gyllideb ychydig yn rhyfedd i fod yn siarad amdani, wrth gwrs, oherwydd bod y gyllideb 2026-27 a amlinellodd yr Ysgrifennydd cyllid yn ddiweddar yn dangos ei bod yn gyllideb unigryw yn yr ystyr ei bod yn 'fusnes fel arfer'—cyllideb dreigl, gyda chwyddiant, o un flwyddyn ariannol i'r llall. Felly, er ein bod wedi clywed ac wedi nodi'n briodol rai o'r blaenoriaethau y mae rhanddeiliaid wedi'u rhannu gyda ni fel pwyllgor, mae'n werth nodi, wrth gwrs, fod proses y gyllideb sy'n mynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf, er bod rhai pethau positif o ran rhywfaint o'r ymgysylltiad cynnar â hi, fod rhai pryderon ynglŷn â'r diffyg newid yn y gyllideb honno—yn ddealladwy, oherwydd mae gennym etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf, a bydd angen i'r Llywodraeth nesaf, beth bynnag ei lliw, allu cyflwyno cyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf honno a chael ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaethol ei hun. Ond rwy'n credu ei bod yn amlwg o'r sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid na all 'busnes fel arfer' barhau, fod angen newid yn y ffordd y mae cyllidebu ac ariannu gwasanaethau'n digwydd yma yng Nghymru.
Un o'r safbwyntiau a ddaeth yn glir mi yn ystod y sesiynau ymgysylltu oedd y ffaith bod rhanddeiliaid yn rhannu gyda mi eu bod yn credu bod Llywodraeth Cymru'n llawer rhy aml yn gweld ei hun fel corff darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn hytrach na Llywodraeth sy'n ceisio galluogi a chreu amgylchedd i'n cymunedau ffynnu trwy eu gweithgareddau eu hunain, boed hynny trwy dwf busnes neu o feddwl o'r gwaelod i fyny yn rhai o'n cymunedau. Hoffwn wybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sut y gall cyllideb ymwneud nid yn unig â darparu gwasanaethau cyhoeddus, ond yn fwy â chreu amgylchedd i genedl ffynnu ym mhob agwedd, yn enwedig o ran swyddi, busnes a'n heconomi. Mae'r sesiynau ymgysylltu, fel y mae'r adroddiad yn dangos, wedi bod yn fuddiol, ac yn enwedig y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Roeddwn i'n ddiolchgar i'r rhanddeiliaid a fynychodd y digwyddiad hwnnw. Rwy'n credu hefyd ei bod yn gadarnhaol iawn symud allan o Fae Caerdydd a chlywed gan bobl yng ngogledd Cymru. Fe fyddwn i'n dweud hynny wrth gwrs, oherwydd, fel y gwyddom, gogledd Cymru yw'r rhanbarth gorau yng Nghymru, a chan bobl i fyny yno y mae rhai o'r meddyliau gorau a doethaf. Ond roedd yn wirioneddol ddefnyddiol clywed gan randdeiliaid, ac nid yn unig gan y 'bobl arferol', fel sy'n digwydd weithiau, ym Mae Caerdydd.
Ond rhai o'r pethau arbennig yr hoffwn eu hychwanegu at yr hyn a grybwyllodd y Cadeirydd, rhai o'r blaenoriaethau penodol—. Mewn gwirionedd, un o fanteision y sesiynau rhanddeiliaid oedd cael sefydliadau traws-sector o amgylch y bwrdd yn gwrando ar ei gilydd a chlywed am beth o'r pwysau sydd ar bob un ohonynt, fel y gallent gael gwell golwg ar rai o'r heriau sy'n wynebu gwahanol sectorau ledled Cymru. Un a wnaeth fy nharo, yn gysylltiedig ag iechyd, oedd y gydnabyddiaeth i'r gwaith y mae iechyd yn ei wneud ar effaith ein heconomi, a'r cysylltiadau rhyngddynt; mae iechyd yn ymwneud â mwy na gwneud i bobl deimlo'n well a bod yn well ac yn iachach, mae'n ymwneud hefyd â'r effaith y mae hynny'n ei chael wedyn ar swyddi a phobl yn dychwelyd i'r gwaith a gallu dychwelyd at addysg, neu beth bynnag sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu rôl yn ein cymdeithas. Rwy'n credu bod angen cydnabod rôl iechyd yn hynny yng nghyllidebau'r dyfodol, i ddeall y meysydd penodol sydd angen y mewnbwn hwnnw i alluogi i'n heconomi ffynnu, lle gall iechyd wneud y gwahaniaeth mwyaf. Yr eitemau eraill sy'n ymwneud ag iechyd a wnaeth fy nharo o'r hyn a rannodd y rhanddeiliaid oedd yr angen i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf yn ein gwasanaeth iechyd, er mwyn galluogi'r gwasanaeth iechyd i weithredu cystal â phosibl, ac yn enwedig buddsoddiad mewn seilwaith digidol, fel y gall ein gwasanaeth iechyd weithio'n llawer mwy effeithlon. Nid wyf yn sôn am algorithmau cymhleth neu ddeallusrwydd artiffisial o reidrwydd, dim ond rhywfaint o fuddsoddiad digidol sylfaenol i wneud gwahaniaeth o ran e-byst a systemau archebu digidol a'r math hwnnw o beth.
Mynegodd ysgolion a darparwyr addysg bryderon penodol am y diffygion enfawr y mae ysgolion yn gweithredu o'u mewn a chynaliadwyedd hynny, felly rwy'n awyddus i glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gellid rheoli hynny'n well. A chodwyd pryderon hefyd am y diffyg cyfleoedd prentisiaeth, gan fynd yn ôl at y syniad o alluogi ein cymunedau i ffynnu trwy'r economi, ac mae angen inni weld—
Rydych chi'n dod i ben nawr.
Nid oeddwn yn ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymddiheuro; fe fyddaf yn gyflym.
Sicrhau bod buddsoddiad yn digwydd mewn prentisiaethau, fel y gallwn weld y cyfleoedd hynny cystal â phosibl. Mae yna bynciau eraill yr wyf yn siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu nodi yn yr adroddiad. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Byddaf yn gwneud cyfraniad byr heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, rwyf wedi bod yn meddwl am yr holl waith a wnaethom fel un o bwyllgorau'r Senedd hon, oherwydd, heddiw, i nodi dadl olaf y chweched Senedd ar flaenoriaethau gwariant, rwyf am ddod â'n holl waith at ei gilydd cystal ag y gallaf i mewn i un flaenoriaeth wariant. Mae'n dasg amhosibl. Mae cymaint o flaenoriaethau gwariant i'r Llywodraeth, ond os ydym yn trin popeth fel blaenoriaeth, ni fydd unrhyw beth yn flaenoriaeth yn y pen draw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod yna un maes y dylech ei flaenoriaethu ar gyfer eich cyllideb derfynol: cyllid ar gyfer ysgolion.
Mae ein profiadau fel plant yn diffinio ein bywydau. Y cariad a gawn fel plant gan ein teulu a'n ffrindiau, y gefnogaeth a gawn gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd ac addysg, y cyfleoedd a roddir i ni chwarae, i gymdeithasu ac i ddysgu—hyn i gyd sy'n rhoi'r offer a'r sylfaen sydd eu hangen arnom i fod yn iach ac yn hapus fel plant ac fel oedolion. Ond pan na chaiff ein hanghenion eu diwallu fel plant, pan na chawn yr hyn sydd ei angen arnom i ddatblygu, pan na chawn ein cefnogi, pan fyddwn yn profi trawma, pan gawn ein bwlio neu ein heithrio neu ein cam-drin neu ein hecsbloetio, dyma'r pethau sy'n gallu ein creithio. Dyma'r pethau sy'n ei gwneud hi'n llawer anos i ni fod yn hapus ac yn iach fel plant. Maent yn ei gwneud hi'n llawer anos i ni fod yn hapus ac yn iach trwy gydol ein bywydau. O'r holl ysgogiadau sydd gan y Senedd at ei defnydd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, rwy'n credu'n angerddol mai system addysg ofalgar, feithringar, uchelgeisiol yw'r mwyaf pwerus. Felly, nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod holl ddarnau olaf y pwyllgor o waith yn canolbwyntio ar ysgolion.
Yn ystod misoedd olaf y Senedd hon, byddwn yn edrych ar y system anghenion dysgu ychwanegol, y cwricwlwm newydd, sut y mae plant yn cael eu cefnogi i symud at addysg a hyfforddiant ôl-16, safonau addysgu a dysgu mewn ysgolion, recriwtio a chadw athrawon, bwlio ac ymddygiad mewn ysgolion a llawer mwy. Rydym eisoes yn gwybod bod ysgolion yn wynebu heriau sylweddol, heriau digynsail hyd yn oed: lefelau presenoldeb ysgolion ystyfnig o isel sy'n effeithio ar gyrhaeddiad a lles disgyblion, ac i rai, yn eu rhoi mewn perygl o ecsbloetio; system anghenion dysgu ychwanegol newydd sy'n wynebu lefelau cynyddol o angen ymhlith plant ifanc y mae ysgolion yn ei chael hi'n amhosibl eu cyrraedd gyda'r adnoddau sydd ar gael iddynt; cwricwlwm cenedlaethol newydd sydd â'r dasg o roi ymreolaeth greadigol i ysgolion ac sydd, ar yr un pryd, yn codi safonau addysgol ledled Cymru gyfan; pryderon am iechyd meddwl dysgwyr; heriau'r gweithlu; y TGAU newydd o fis Medi 2025 a chymwysterau galwedigaethol newydd o fis Medi 2027; a mwy o ddiwygiadau i ddod.
Ni all ysgolion wneud popeth i bob plentyn. Ni allant wneud gwyrthiau. Ni allant ddileu effeithiau tlodi ac ni allant ymyrryd yn y 1,000 diwrnod cyntaf allweddol ym mywyd plentyn, ond pan gânt y gefnogaeth, yr adnoddau a'r cyllid sydd eu hangen arnynt, ysgolion yw ein cyfle gorau i greu'r Gymru well a thecach y gwyddom fod pob Aelod yn y Siambr hon eisiau ei gweld.
Ddirprwy Lywydd, dros y Senedd hon, rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau sy'n tynnu sylw at y pryderon hyn. Rydym wedi annog Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i dalu sylw i'n canfyddiadau. Bydd fy nghyd-aelodau pwyllgor a minnau'n parhau i wneud hynny ar sail drawsbleidiol hyd nes y diddymir y Senedd. Ond am y tro, mae ein blaenoriaeth gwariant ar gyfer 2026-27 i'w gweld yn amlwg: ysgolion.
Byddaf yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor. Fel dwi wedi ei ddweud sawl tro yn y Senedd hon, nid moethau ar gyfer cyfnodau llewyrchus yn unig yw diwylliant a chwaraeon, maent yn edafedd hanfodol yng ngwead yr hyn sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw. Ond maent wedi’u hesgeuluso gan Lywodraethau Cymru dro ar ôl tro. O ganlyniad mae’r sectorau diwylliant a chwaraeon wedi bod yn fregus a heb ddigon o adnoddau. Yn wir, mae ein rhanddeiliaid yn disgrifio’r sefyllfa fel argyfwng. Mae gan y Llywodraeth gyfle yn y gyllideb nesaf i ddangos eu bod nhw hefyd yn gwerthfawrogi faint o bwysau sydd ar y sector. Mae croeso wedi bod i'r cynnydd rhannol sydd wedi ei weld yn barod, ond mae angen cynyddu'r cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn fwy, a hynny nes ei fod yn gymaradwy o ran gwariant y pen â chyllid gwledydd tebyg yn Ewrop.
Nid oedd dyraniadau cyllideb 2025-26 yn ddigonol i wella’r sefyllfa’n sylweddol i’r sector, yn enwedig yng nghyd-destun pwysau chwyddiant a chynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae angen trobwynt yn null Llywodraeth Cymru o gyllido diwylliant a chwaraeon. Nid un mater yn unig ydy hwn, nid un gyllideb yn unig, ond trobwynt rydyn ni ei angen. Fel rhan o hyn, mae angen buddsoddi mewn mesurau ataliol.
Mae Aelodau'n deall mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddiwethaf oedd gwasanaeth iechyd Cymru, ac rydym yn deall y pwysau sydd ar wasanaethau rheng flaen. Ond pwrpas cyllido meysydd ataliol fel chwaraeon a diwylliant yw lleihau’r pwysau hynny. Rwy’n gofyn felly i’r Llywodraeth, yn y gyllideb nesaf, ystyried cyflwyno, ar draws ei holl adrannau, gategori ataliol o wariant. Byddai gwneud hynny yn help i gydnabod a chyllido diwylliant a chwaraeon yn briodol am y gwerth sydd ganddynt y tu hwnt i’w gwerth cynhenid.
O ran y Gymraeg, yn y gyllideb nesaf, mae angen sicrhau cyllid digonol i annog defnydd o’r Gymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn arbennig o ystyried effaith bosibl y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol ar bartneriaid trydydd sector sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, fel y mentrau iaith, yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ariannu cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn allweddol er mwyn cyrraedd y targed miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Ac yn olaf, i droi at gysylltiadau rhyngwladol. Roedd amharodrwydd y Prif Weinidog i fynychu sesiwn dystiolaeth lafar, ynghyd â diffyg gwybodaeth angenrheidiol yn ei thystiolaeth ysgrifenedig, yn golygu unwaith eto nad oeddem fel pwyllgor mewn sefyllfa i graffu gydag unrhyw hyder ar wariant arfaethedig Llywodraeth Cymru ar weithgarwch rhyngwladol. Mae'r gyllideb yma yn gymharol fach o gymharu â lefel yr uchelgais a nodir yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru a'r cynlluniau gweithredu sy'n cyd-fynd â hi. Mae angen sicrwydd ar y Senedd fod y gwariant arfaethedig yn cael ei ddyrannu mewn meysydd a fydd yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir. Dim ond o ddarparu digon o fanylion y gallwn wneud hynny. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae'n hanfodol os yw Prif Weinidog yn dewis ymgymryd â chyfrifoldebau polisi fod yn rhaid iddyn nhw fod ar gael i gael eu dwyn i gyfrif am y cyfrifoldebau hynny.
Mae un cyfle olaf ar ôl yn y Senedd hon i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n effeithiol â'n gwaith craffu ar gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol. Rwyf wir yn gobeithio y bydd newid yn cael ei weld y tro hwn. Diolch yn fawr.
Rwyf am godi rhai materion a glywais wrth y bwrdd yr eisteddais wrtho yn sesiwn y rhanddeiliaid ym Mangor. Codwyd pryderon ynghylch pa mor ystyfnig o uchel yw prisiau ynni, sy'n golygu bod llawer o bobl, yn enwedig y rhai mewn aelwydydd incwm isel, yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r lefelau uchaf erioed o ddyled ynni yn golygu bod llawer o bobl yn byw mewn cartrefi oer sy'n gollwng gwres ac yn gorfod dogni gwresogi ar draul hanfodion eraill, er anfantais i'w hiechyd a'u lles.
Gydag ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu £13.2 biliwn ar gyfer ei chynllun Cartrefi Cynnes, y gobaith oedd y byddai'r holl gyllid canlyniadol amcangyfrifedig o £660 miliwn i Gymru yn cael ei ddefnyddio at yr un diben. Byddai hyn yn sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn cynlluniau tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, gan arwain at leoedd cynhesach, gwyrddach ac iachach i fyw ynddynt ac at filiau ynni isel yn barhaol.
Ystyriwyd bod mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni gartref yn faterion a oedd yn effeithio ar gyfiawnder cymdeithasol, hinsawdd, tai a'r sector iechyd, ac y byddai mesur ataliol yn creu manteision sylweddol. Er bod manteision i'r dechnoleg effeithlon o ran ynni newydd o ran arbedion cost posibl, os nad oes gan ddefnyddwyr sgiliau a gwybodaeth i'w gweithredu'n effeithiol, nodwyd y gallent fod yn talu mwy yn y pen draw o bosibl, ac yn gorfod agor ffenestri am na allant reoli'r gwres sy'n dod i mewn.
Codwyd pryderon ynghylch y pwysau ariannol a wynebir gan fusnesau bach yn enwedig. Nodwyd bod lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn wynebu anawsterau ariannol, gyda llawer o leoliadau dan fygythiad o orfod cau. Nodwyd bod buddsoddiad parhaus yn seilwaith Cymru yn allweddol i lwyddiant ei heconomi. Mae angen i'r buddsoddiad hwn gyd-fynd â buddsoddiad yn y sgiliau priodol, gyda buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prentisiaethau, yn enwedig gradd-brentisiaethau, yn cael ei ystyried yn bwysig iawn. Mae cydweithrediad Llywodraeth Cymru â sefydliadau addysg bellach ac uwch yn hanfodol i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael yn y dyfodol mewn gwaith llaw a swyddi rheoli annhechnegol.
Nodwyd bod elfen ddiwylliannol mewn perthynas â darparu dulliau trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, dibynadwy a hygyrch. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn methu mynychu digwyddiadau fel cerddoriaeth fyw llawr gwlad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, am nad yw llawer o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gwasanaeth digon hwyr i bobl allu dychwelyd adref ar ôl digwyddiad. O ganlyniad, rhaid i leoliadau drefnu perfformiadau cerddorol yn gynnar yn y nos, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol. Er enghraifft, yn Abertawe, pan newidiwyd y trên olaf ar gyfer rhai llwybrau o 9.30 p.m. i 11.00 p.m., gwnaeth wahaniaeth enfawr i leoliadau cerddoriaeth yn y ddinas. Heb fuddsoddiad mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac integredig, cwestiynwyd sut y gellid cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o deithiau'n cael eu gwneud drwy drafnidiaeth gyhoeddus.
Roedd cred hefyd fod prifysgolion yn allweddol i ddatblygu'r economi. Rydym eisiau economi sgiliau uchel, cyflogau uchel, ac os ydym eisiau hynny, mae prifysgolion yn chwarae rhan bwysig iawn, oherwydd nid yn unig eu bod yn cynhyrchu graddedigion, maent hefyd yn cynhyrchu sgil-effeithiau drwy'r ymchwil a wneir yn y prifysgolion, a all, ac a fydd, gobeithio, yn cynhyrchu cyflogaeth gwerth uchel. Felly, mae prifysgolion yn bwysig iawn, a chredaf fod hwnnw'n bwynt allweddol a wnaed yn glir, eu bod yn bwysig iawn i'n heconomi.
Ar yr amgylchedd, codwyd pryderon ynghylch newid hinsawdd a diffyg buddsoddi mewn seilwaith. Gyda rhannau o Gymru'n wynebu sychderau posibl yn y dyfodol, mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i adeiladu cronfeydd dŵr newydd. Codwyd materion a phryderon hefyd mewn perthynas â phroblem barhaus llygredd afonydd a'r môr. Er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, nodwn y bydd angen buddsoddiad pellach mewn seilwaith ar gyfer prosiectau i gryfhau amddiffynfeydd môr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Nodwyd bod prinder pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn effeithio ar benderfyniadau unigolion i newid o ddefnyddio cerbydau petrol i gerbydau trydan. Roedd angen mwy o bwyntiau gwefru i wneud y newid i gerbydau trydan yn fwy deniadol.
Ar drafnidiaeth gymunedol, nodwyd bod llawer o weithredwyr yn ceisio datgarboneiddio a newid i fflyd o gerbydau trydan. Nodwyd hefyd pa mor bwysig yw darparwyr trafnidiaeth gymunedol i lawer iawn o bobl lle mae gwasanaethau bysiau lleol yn gymharol brin. Nodwyd bod y sector trafnidiaeth gymunedol yn wynebu tirlun ariannu heriol, gyda galw cynyddol am ei wasanaethau. Croesawyd gwasanaeth bysiau fflecsi Trafnidiaeth Cymru. Nodwyd nad yw'n darparu gwasanaeth o ddrws i ddrws ac felly na fydd yn addas i rai defnyddwyr. O ganlyniad, roedd pryder fod rhai rhannau o gymdeithas yn cael eu gadael ar ôl.
Nodwyd bod y trydydd sector wedi gweld dirywiad mewn gwirfoddoli ers COVID, gyda'r tebygolrwydd fod nifer o bobl heb ddychwelyd i'w rolau gwirfoddoli. Nodwyd bod angen mwy o fentrau i annog a chefnogi pobl i ymgymryd â gwaith gwirfoddol.
Ac yn olaf, roedd yn ddefnyddiol ymweld â rhannau eraill o Gymru a chael barn pobl o'r tu allan i Gaerdydd. Ym Mangor, nid pobl o Gaerdydd a ddaeth ar daith i'n gweld ym Mangor, ond pobl o ogledd-orllewin Cymru.
Gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eich gwaith ymgysylltu? Dwi yn meddwl ei fod o'n enghraifft wych o sut ddylai pwyllgorau fod yn gweithredu, y dylen ni fod yn gofyn barn pobl, a'i fod o'n adroddiad difyr tu hwnt hefyd, sydd yn dangos beth ydy'r realiti yn ein cymunedau ni. Y ffaith eich bod chi'n ymgysylltu efo'r Senedd Ieuenctid ac yn rhoi rôl flaenllaw iddyn nhw, dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth y byddai nifer o bwyllgorau yn gallu ei wneud yn well, a dwi'n falch o weld hyn.
Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni yn gwrando fel Senedd yn eithriadol o bwysig, oherwydd ar faterion cyllidol, yn amlwg, fel pleidiau gwleidyddol, mae gennym ni etholiad yn dod flwyddyn nesaf ac mae'n hawdd i ni fod yn beirniadu’n gilydd, yn herio ac ati, ond hefyd mae hi'n bwysig ein bod ni'n gweld beth ydy'r heriau parhaus sydd yna. Felly, tu hwnt i'r sbin rydyn ni'n ei gweld, efallai, o ran faint o arian sy'n dod i Gymru erbyn hyn, ein bod ni'n gweld bod yr argyfwng costau byw yn bryder mawr i gymaint o bobl yn ein cymunedau ni, a hefyd fod penderfyniadau sy'n cael eu cymryd yn San Steffan yn bryder mawr. Mi gawsoch chi lot fawr o dystiolaeth yn dod drwyddo o ran y newidiadau a'r diwygiadau o ran y system lles a'r pryder sydd yna.
Beth dwi'n meddwl sydd yn ddifyr o'ch adroddiad chi hefyd ydy'r ffaith bod pobl yn edrych at Lywodraeth Cymru i fod yn mynd tuag at y bylchau maen nhw'n eu gweld sydd yn dod oherwydd rhai penderfyniadau creulon yn San Steffan. Rydyn ni wedi gweld yn ystod y blynyddoedd pan oedd y Torïaid mewn grym yn San Steffan, Llywodraeth Cymru yn gorfod camu i'r adwy drwy roi lot mwy o gymorth i bobl er mwyn gallu fforddio'r hanfodion. Rydyn ni'n gweld y pwysau cynyddol, felly, ar y trydydd sector ac elusennau yn sgil rhai penderfyniadau sydd wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Lafur, yn sgil y newidiadau fel yswiriant gwladol ac ati. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn bwynt pwysig i ni fod yn ei adlewyrchu o ran faint o adnodd go iawn fydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb nesaf. Faint o arian gwirioneddol sydd yna? Oherwydd mae'r heriau sy'n cael eu crybwyll gan gynifer o grwpiau ac unigolion yn sylweddol, onid ydyn nhw?
Dwi'n falch o fod wedi gweld y pwyslais o ran yr ochr ataliol. Dydy hyn ddim yn newydd, nac ydy? Dwi'n gwybod o ran adroddiadau'r pwyllgor diwylliant roeddet ti'n cyfeirio atyn nhw, Delyth, rydyn ni wedi gweld, blwyddyn ar ôl blwyddyn, fod adroddiadau'n dweud—a chydnabyddiaeth gan y Llywodraeth—rhaid inni wneud mwy o ran yr agenda ataliol. Ond dydy hynna ddim yn newid. Mae gennyn ni Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ond eto mae i'w weld, o'r adroddiad y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi ei gynhyrchu a'r holl sylwadau rydyn ni wedi'u clywed ar hynny, a gwaith craffu'r Senedd, fod cyllidebau'n dal i fod yn ormodol mewn silos, a'n bod ni'n pitsio cyllidebau yn erbyn ei gilydd yn hytrach na gweld sut rydyn ni'n gwneud yr hyn anodd yma o'u hasio nhw at ei gilydd.
Oherwydd hyd yn oed yn adroddiad y pwyllgor, y pethau roedd rhai pobl yn sôn y gellid gwario llai arnyn nhw oedd diwylliant a’r argyfwng hinsawdd, ond eto rydyn ni’n gweld bod y rheini’n heriau. Ac roeddem ni’n trafod yn gynharach, onid oeddem, yr hyn rydyn ni’n ei weld o ran y traciau trên yn fy rhanbarth i, er enghraifft, oherwydd tywydd eithafol. Fedrwn ni ddim peidio â bod yn paratoi ar gyfer y newidiadau efo’r argyfwng hinsawdd.
O ran rhai o'r pethau yr hoffai Plaid Cymru eu gweld yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllideb 2026, credaf fod angen inni barhau i ddadlau'r achos yn eithaf clir o ran beth yw diffygion yr adolygiad o wariant a'r gyllideb a osodwyd gan San Steffan hyd yn hyn. Cyllid teg i Gymru: rydym wedi ailadrodd y ddadl honno sawl gwaith—mae llawer ohonom yn unedig, yn ôl pob golwg, ond nid oes unrhyw beth yn newid. Cyllid canlyniadol yn sgil HS2. Datganoli Ystad y Goron. Rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol. Mae gormod o bethau'n dal i gael eu gwrthod, sy'n golygu bod yr ysgogiadau sydd gennym fel Senedd, ac sydd gan Lywodraeth Cymru, yn dal i fod yn gyfyngedig.
Roeddwn yn falch o weld y cyfeiriad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at yr ysgogiadau ychwanegol a ddylai fod gennym. Mae hynny'n sicr. A'r hyn yr hoffwn ei wybod yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yw: a oes amserlen wedi'i nodi ar gyfer rhai o'r newidiadau hyn? Oherwydd rydym yn clywed dro ar ôl tro, 'Partneriaeth mewn grym; mae pethau'n newid.' Wel, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ddiweddar nad oedd yn ymwybodol o'r diffyg a achoswyd gan y cyfraniadau yswiriant gwladol. Felly, yn sicr, mae angen inni weld symud, ac mae angen inni weld Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sefyll dros Gymru go iawn, ac yn deall rhai o'r pethau sy'n heriol iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
A gaf i ddechrau, fel y mae eraill wedi'i wneud, drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid am eu gwaith? Fe siaradaf yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn achub ar y cyfle i ailadrodd rhai o gasgliadau allweddol y pwyllgor yn dilyn ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni. Mae'r rhain yn dal i fod yn faterion perthnasol a phwysig yr hoffem eu gweld yn cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fe wnaethom groesawu’r ffocws ar atal ym maes tai, ond dim ond 4.9 y cant o’r gyllideb ddrafft gyffredinol oedd cyfanswm y gyllideb ar gyfer tai ac adfywio, ac o ystyried pwysigrwydd tai da i lesiant pobl a lleihau’r pwysau ar wasanaethau eraill, rydym yn credu y dylid dyrannu cyfran uwch ar gyfer tai yn y dyfodol.
Mae'r grant cymorth tai yn offeryn allweddol ar gyfer atal a lliniaru digartrefedd, a phrofwyd ei fod yn darparu £1.40 mewn arbedion am bob £1 a werir. Rydym wedi nodi'r gronfa hon yn gyson fel blaenoriaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Fe wnaethom groesawu'r cynnydd yn y grant cymorth tai yng nghyllideb y llynedd, ond yng ngoleuni'r pryderon sylweddol a godwyd gan y sector ynghylch ei allu i ysgwyddo costau'r cynnydd i yswiriant gwladol, roeddem yn ansicr a fyddai'r cynnydd yn ddigonol i gynnal gwasanaethau a thalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff. Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynglŷn â hyn ac yn annog Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r sector i ddeall y pwysau a blaenoriaethu cyllid ar gyfer y grant cymorth tai yn y gyllideb ddrafft sydd ar y ffordd.
Mae nifer uchel y bobl sy'n byw mewn llety dros dro a phwysigrwydd blaenoriaethu cyllid i leddfu'r pwysau yn sgil hyn yn parhau i fod yn bryder. Rydym wrthi'n craffu ar Fil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Os caiff y Bil hwn ei basio, rhaid i sicrhau digon o adnoddau i gyflawni'r darpariaethau atal, ynghyd â chyllid ar gyfer adeiladu a chaffael mwy o gartrefi cymdeithasol, fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.
Rydym hefyd yn craffu ar Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru), ac fel rydym wedi'i fynegi mewn blynyddoedd blaenorol, dylai sicrhau digon o gyllid i gyflawni gwaith cyweirio ar adeiladau preswyl uchel fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ynghyd ag adnoddau ar gyfer gweithredu'r Bil, os caiff ei basio.
Gan droi at lywodraeth leol, roedd y cynnydd yn y setliad y llynedd i'w groesawu, ond mae’n rhaid inni barhau i fod yn ymwybodol o'r pwysau cyllidebol y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu. Unwaith eto, rydym yn parhau i bryderu ynghylch effaith newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol ar refeniw awdurdodau lleol. Bydd cadarnhad na fydd Llywodraeth y DU yn darparu'r lefel o gymorth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn amdani yn cynyddu'r pwysau ar adnoddau llywodraeth leol sydd eisoes dan bwysau. Rydym yn annog y Llywodraeth i fod yn ystyriol o'r amodau heriol hyn wrth bennu'r setliad llywodraeth leol. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, ac ymdrechion y pwyllgor i ymgysylltu â'r cyhoedd i gael barn y tu hwnt i'r Senedd hon. Diolch yn fawr i Gadeirydd y pwyllgor, ac i Mike Hedges, hefyd. Roedden nhw wedi setio mas yn fanwl popeth oedd wedi dod i'r wyneb yn y trafodaethau y mae'r pwyllgor wedi'u cael ledled Cymru. Mae'n bwysig iawn deall beth yw blaenoriaethau pobl ledled Cymru, yn enwedig y rhai sydd ddim fel arfer yn rhoi eu barn i ni.
Mae'r ddadl flynyddol hon yn parhau'n eitem bwysig yng nghalendr y Senedd, ac yn paratoi'r tir ar gyfer y gwaith y bydd angen i ni ei wneud dros yr haf ac yn yr hydref i osod ein cynlluniau ar gyfer y gyllideb. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at nifer o faterion, gan gynnwys pwysigrwydd buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus craidd—mewn iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, addysg a thrafnidiaeth. Mae'r pynciau yma yn cael eu hadlewyrchu ym mlaenoriaethau ein cyllideb ar gyfer 2025-26, lle gwnaethom ni ddarparu £1.5 biliwn yn ychwanegol i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein blaenoriaethau allweddol, a rhoi Cymru yn ôl ar y llwybr tuag at dwf. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 4.5 y cant i lywodraeth leol; mwy na £400 miliwn yn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau a chyflogau yn y gwasanaeth iechyd; £175 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd i fuddsoddi mewn adeiladau, seilwaith, offer a thechnoleg ddigidol; a dros £100 miliwn yn fwy ar gyfer addysg.
Ddirprwy Lywydd, fel y clywsoch mewn cyfraniadau cynharach, rydym hefyd yn cyflwyno un pris tocyn bws o £1 i bobl ifanc, gan dorri cost teithio a darparu gwell trafnidiaeth i bawb. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau mewn sawl rhan o Gymru, a bydd yn helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden, yn ogystal ag annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a threchu tlodi.
Yn y pen draw, mae pob cyllideb yn cydbwyso'r anghenion niferus y gwyddom eu bod yn bodoli ar gyfer buddsoddiad ledled Cymru. Roeddwn yn awyddus, wrth gwrs, i glywed cyfraniadau Cadeiryddion pwyllgorau'r Senedd, ac maent yn siarad, yn gywir ddigon, o blaid y meysydd lle mae ganddynt ddylanwad penodol. Mae Cadeirydd y pwyllgor addysg yn gofyn am fwy o arian ar gyfer addysg; mae Cadeirydd y pwyllgor celfyddydau a chwaraeon yn gofyn am fwy o arian ar gyfer celfyddydau a chwaraeon; mae Cadeirydd y pwyllgor llywodraeth leol a thai yn gofyn am fwy o arian ar gyfer llywodraeth leol ac ar gyfer tai. Dyna fel y dylai fod—dyna fyddech chi'n disgwyl i Gadeiryddion pwyllgorau ei wneud. Ond yn y pen draw, yr unig ffordd y gall Llywodraeth lunio cyllideb yw drwy gydbwyso'r holl anghenion hynny a dod i'r casgliad gorau y gallwn. Mae adroddiad y pwyllgor, a'r gwaith y mae wedi'i wneud yn siarad â phobl ledled Cymru, yn ddefnyddiol iawn i ni yn y ffordd honno.
Diolch i Sam Rowlands am grynodeb teg iawn yn fy marn i o'r hyn a ddywedais ar 1 Gorffennaf a fy mwriad i gario'r cyllid ychwanegol sydd gennym ar gyfer y gyllideb yn 2026-27 ymlaen i'r flwyddyn ganlynol er mwyn i Lywodraeth newydd wneud y penderfyniadau hynny ynghylch eu blaenoriaethau. Bydd y gyllideb ddrafft y byddaf yn ei chyflwyno ym mis Hydref yn gyllideb ailddatganedig o'r flwyddyn hon, wedi'i haddasu ar gyfer chwyddiant, fel y clywsoch Sam Rowlands yn ei ddweud. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid dros yr haf ar y dull gweithredu hwnnw, gan gydnabod yn llawn yr heriau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, ac mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yr un mor ddefnyddiol i ni yn y ffordd honno. Y rheswm pam y nodais y strategaeth a wneuthum ar 1 Gorffennaf yw oherwydd fy nghred i, cred y Llywodraeth, mai ein cyfrifoldeb pennaf, ac yn wir, cyfrifoldeb a rennir yn y Senedd hon, yw osgoi'r niwed a gâi ei achosi pe na baem yn pasio cyllideb o gwbl. Roedd yr ymagwedd wleidyddol niwtral a nodais ar 1 Gorffennaf yn ymgais i sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'n hetholwyr.
Wrth gwrs, os yw'r pleidiau eraill yn fodlon dod at y bwrdd a siarad am flaenoriaethau, a gwneud mwy yn y gyllideb ddrafft yn yr hydref, i ddefnyddio'r arian fydd ar gael am y gyllideb, fel y dywedais i'r tro diwethaf, dwi'n hollol agored i eistedd i lawr gyda phobl eraill ac i drefnu, os oes llwybr yna, cael cyllideb sy'n fwy uchelgeisiol, ac fe allwn ni gytuno ar hynny rhwng y pleidiau.
Rwy'n parhau i fod yn gwbl agored, fel y dywedais ar 1 Gorffennaf, Ddirprwy Lywydd, i weithio gyda phleidiau eraill a fyddai'n dymuno gweld cyllideb fwy uchelgeisiol, ond yr unig ffordd o wneud hynny yw drwy weithio gyda'n gilydd i gytuno ar beth fyddai'r blaenoriaethau hynny. Rwyf wedi clywed cyfraniadau yn y ddadl hon a oedd yn cyflwyno syniadau o'r fath. Os oes pleidiau'n awyddus i ddod at y bwrdd, mae'r drws ar agor i wneud hynny. Yn y cyfamser, bydd y gyllideb y byddaf yn ei chyflwyno yn yr hydref yn ystyried safbwyntiau'r Pwyllgor Cyllid, a'r gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud yn siarad â phobl ym mhob rhan o Gymru, fel y bydd yn ystyried y cyfraniadau pwysig a glywsom yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw ar Peredur Owen Griffiths i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Soniodd Sam am y newid i'r broses gyllidebol yng ngoleuni'r etholiad sy'n dod y flwyddyn nesaf, a sut y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gyllideb sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ond ar sut y gall gefnogi Cymru i ffynnu. Soniodd Buffy am ei blaenoriaeth fel Cadeirydd pwyllgor ac fe'n hatgoffodd, os yw popeth yn flaenoriaeth, nad oes unrhyw beth yn flaenoriaeth. Ond ysgolion oedd ei blaenoriaeth hi. Mae hynny wedi'i adleisio yn rhywfaint o'n gwaith ymgysylltu.
Nododd Delyth yr angen i gynyddu cyllid mewn diwylliant a chwaraeon yng ngoleuni pwysau chwyddiant, yn enwedig y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol sy'n cael effaith, a hefyd yr angen i edrych ar gategori ataliol ac i edrych ar sut y mae hynny'n gweithio a sut y mae diwylliant a chwaraeon yn gweithio o fewn hynny. Mae hynny hefyd yn codi yn y gwaith ymgysylltu a wnawn gyda'r cyhoedd yng Nghymru.
Mike, fe gyfeirioch chi at dystiolaeth a glywsom ym Mangor. Roedd yn ddigwyddiad pwysig, ac roedd yn dda iawn bod yn rhan o hynny. Fe ddywedoch chi nad pobl o lawr yma'n unig a'i mynychodd. Soniodd Sam am ogledd Cymru fel y rhanbarth gorau. Rwyf wedi fy rhwygo braidd gan fy mod yn byw yn y de-ddwyrain ac rwy'n dod o ranbarth y gogledd, felly mae tensiwn yno bob amser. Fe sonioch chi hefyd am gartrefi o ansawdd, fe sonioch chi am leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, fe sonioch chi am drafnidiaeth gymunedol, ac mae'r holl bethau hyn i'w gweld yn y gwaith ymgysylltu a wnaethom.
Croesawodd Heledd y gwaith ymgysylltu a wnawn.
Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd allan ac yn gwrando ar beth sydd gan bobl Cymru i'w ddweud wrthym ni pan fydden ni'n sôn am y gyllideb a sut mae'r gyllideb yn gonglfaen i bob dim mae'r Llywodraeth yn ei wneud.
A sut y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r gyllideb i gefnogi pobl Cymru, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng costau byw yn ein cymunedau. Yna, clywsom gan John ynglŷn â phwysigrwydd yr agenda ataliol a'r angen i gynyddu cyllid ar gyfer tai oherwydd yr agweddau amlweddog sy'n gysylltiedig â hynny.
Fe wnaethon ni glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a dwi'n diolch iddo fo am ei ymgysylltiad efo'r pwyllgor. Fe wnaeth o siarad am yr angen i falansio'r priorities, ac fe wnaeth o siarad am beth mae'r Llywodraeth wedi'i wneud yn barod, ond hefyd wedyn siarad am y broses sydd yn dod yn ei blaen. Fe wnaf i ddod i ben rŵan, Dirprwy Lywydd—rydych chi wedi bod yn amyneddgar iawn.
Buaswn i jest yn licio nodi fy niolchiadau eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgysylltu, yn y gwaith. Dwi'n gwybod bod y broses yn mynd i fod ychydig yn wahanol, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud ei fod o'n mynd i fod yn rholio'r gyllideb yn ei blaen. Mae'n rhaid i ni edrych ar beth mae hynny'n ei olygu, a bydd gwaith y pwyllgor yn dal ati i edrych ar beth mae'r Llywodraeth yn ei roi gerbron ym mis Medi. Felly, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth, a diolch am eich amynedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw, datganiad gan Mark Isherwood, cyflwyno Bil arfaethedig Aelod, y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood.
Helo. Prynhawn da, bawb. Mae Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) wedi dilyn llwybr hir ac anwastad i gyrraedd y pwynt hwn heddiw. Ym mis Hydref 2018, gwnaed galwadau yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2021, pleidleisiodd y Senedd o blaid nodi fy nghynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL, gan gadarnhau bod yna awydd amlwg am y ddeddfwriaeth hon ar draws y Siambr. Yn hwyr yn 2022, yn ystod tymor y Senedd hon, pleidleisiodd y Senedd eto o blaid Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) arfaethedig. Ym mis Mehefin y llynedd, pleidleisiodd y Senedd o blaid caniatáu imi gyflwyno'r Bil hwn, a heddiw, mae'n fraint cyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn ffurfiol.
Mae BSL yn chwarae rhan hanfodol yn galluogi cyfathrebu a hyrwyddo cynhwysiant mewn bywyd bob dydd. I lawer o unigolion byddar, BSL yw eu prif iaith, sy'n hanfodol ar gyfer mynegi eu hunain, ymgysylltu ag eraill a chael mynediad at wasanaethau sy'n eu cefnogi. Mae hefyd yn gwasanaethu fel pont rhwng pobl fyddar a phobl sy'n clywed, gan chwalu rhwystrau a meithrin dealltwriaeth ar draws cymunedau. Ac eto, yn rhy aml, nid yw pobl fyddar yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol am na allant gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf. Mae hyn yn eu hamddifadu o'u hawliau ac yn eu rhoi dan anfantais sylweddol, boed mewn gofal iechyd, addysg, cyflogaeth, trafnidiaeth neu fel arall.
Nod y Bil hwn yw mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno gofyniad cyfreithiol i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau yn ystyried anghenion iaith arwyddwyr BSL byddar a'r rhwystrau a wynebant wrth lunio a darparu gwasanaethau.
Datgelodd y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu gefnogaeth gref i'r Bil. Cytunai unigolion, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau y byddai'n helpu i gael gwared ar y rhwystrau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu. Heb Fil Iaith Arwyddion Prydain ein hunain, mae Cymru mewn perygl o syrthio ar ôl gweddill y DU. Pasiodd yr Alban ei Deddf Iaith Arwyddion Prydain yn 2015, dilynodd y DU yn 2022 ar gyfer Lloegr, ac mae Gogledd Iwerddon yn bwrw ymlaen â'i Bil ei hun. Os na fyddwn yn gweithredu nawr, Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb ddeddfwriaeth gyfatebol. Bydd y Bil hwn hefyd yn mynd i'r afael â'r anomaledd presennol a grëwyd gan Ddeddf y DU, sy'n gosod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL i ddisgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL, ond mae'n benodol yn eithrio adrodd ar faterion sydd wedi'u datganoli i'r Alban a Chymru.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag triniaeth annheg, ac yn galw am addasiadau rhesymol i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau i bobl anabl. Mae'r ddyletswydd ragflaenorol hon yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus fynd ati'n rhagweithiol i ddiwallu anghenion mynediad a chyfathrebu. Fodd bynnag, dadleuodd llawer o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad nad yw'r dyletswyddau hyn yn cael eu cyflawni. Nododd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar fod y diffiniad o 'addasiad rhesymol' yn aml yn amwys, gan arwain at ei gymhwyso'n anghyson, ac mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi nodi bod y rhwystrau i bobl fyddar yng Nghymru yn parhau, er bod dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi bod angen dull newydd o weithredu.
Bil iaith yw hwn. Fel y cyfryw, mae'n cydnabod bod BSL yn iaith ynddi ei hun, ac nid angen cymorth cyfathrebu. Siaradodd cyfranogwyr mewn digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer y Bil gyda balchder am eu hiaith hardd, sy'n cynnig nid yn unig dull o gyfathrebu ond ymdeimlad o hunaniaeth, cymuned a hunan-dderbyniad.
Mae'r Bil hwn yn mynd y tu hwnt i fynd i'r afael â gwahaniaethu. Mae'n gosod dyletswyddau ar y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i fynd ati i hyrwyddo a hwyluso BSL yn weithredol, cam arwyddocaol ymlaen i grŵp diwylliannol ac ieithyddol sydd ar hyn o bryd yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith gyntaf.
Rhaid i'r strategaeth BSL genedlaethol gyntaf gael ei chyhoeddi gan Weinidogion Cymru o fewn 18 mis, yn dechrau gyda'r diwrnod ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, gan amlinellu sut y byddant yn hyrwyddo a hwyluso BSL ac yn annog cyrff cyhoeddus rhestredig i wneud yr un peth. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad cynnydd o leiaf unwaith bob tair blynedd, a fydd yn cael ei osod gerbron y Senedd, gan alluogi tryloywder ac atebolrwydd dros gyflawni'r strategaeth. Rhaid adolygu'r strategaeth BSL o leiaf unwaith bob chwe blynedd o'r dyddiad y cafodd ei chyhoeddi gyntaf, er y gellir ei hadolygu ar unrhyw adeg yn y cyfnod hwnnw. Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno adolygu'r strategaeth yn dilyn unrhyw adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig hefyd.
O dan y Bil, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth BSL genedlaethol, gyda mewnbwn gan gynghorydd BSL a phanel cynorthwyol, a fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu cynlluniau BSL lleol gan y cyrff cyhoeddus rhestredig. Yn yr un modd, rhaid i gyrff cyhoeddus rhestredig gyhoeddi cynllun BSL sy'n amlinellu sut y byddant yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL. Rhaid iddo gael ei gyhoeddi o fewn 12 mis i'r diwrnod y cyhoeddir y strategaeth BSL genedlaethol, wedi'i ddilyn gan adroddiad a gyhoeddir o fewn 12 mis i'w cynllun sy'n disgrifio'r hyn y maent wedi'i wneud i weithredu'r cynllun ac yn esbonio unrhyw gamau gweithredu heb eu cyflawni, gan helpu eto i sicrhau atebolrwydd cyhoeddus.
Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru gan ganiatáu hyblygrwydd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus rhestredig ar hyrwyddo a hwyluso BSL. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i alinio cynlluniau lleol, gan alluogi cyrff i fynd i'r afael â heriau penodol, megis prinder dehonglwyr mewn gwasanaethau iechyd, mater pwysig a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Rhaid i'r cyrff cyhoeddus rhestredig adolygu eu cynllun hefyd os cânt eu cyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, neu os yw Gweinidogion Cymru'n adolygu'r strategaeth BSL genedlaethol. Mae'r Bil hefyd yn caniatáu cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus, fel y gwelir yn yr Alban, lle mae cynlluniau BSL a rennir wedi'u datblygu ar draws rhanbarthau. Er bod y Bil yn cyfyngu ar nifer y cyrff cyhoeddus rhestredig i'r rhai mwyaf perthnasol i iechyd ac addysg, yn seiliedig ar adborth ymgynghoriad, gall Gweinidogion Cymru ehangu'r rhestr hon drwy reoliadau. Ac efallai y gwnaiff y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gymryd tystiolaeth ar hyn ac ystyried a ydynt yn dymuno gwneud argymhellion yn unol â hynny, er enghraifft i gynnwys cyrff trafnidiaeth.
Mae ymgorffori darpariaethau'r Bil yn y gyfraith hefyd yn sicrhau bod Llywodraethau'r dyfodol wedi'u rhwymo ganddynt. Mae'r neges gyson o'r ymgynghoriad yn glir: ni all arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith gyntaf, ac mae hyn yn annerbyniol. Fel y rhannodd un unigolyn sy'n cael llawdriniaeth fawr, 'Drwy gydol yr amser, ni allwn ddeall unrhyw beth.'
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith dros 20 mlynedd yn ôl. Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar hynny trwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn mynd ati'n weithredol i ystyried anghenion arwyddwyr BSL byddar wrth lunio a darparu gwasanaethau. Nid yw'r status quo yn ymarferol mwyach. Dim ond 18 y cant o bobl fyddar a oedd yn cytuno bod eu hanghenion gwybodaeth a chyfathrebu'n cael eu diwallu'n amlach nawr na chyn cyflwyno safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch yn 2013. Mae'r angen am fwy o ymwybyddiaeth o BSL a darpariaeth BSL wedi'i gyfiawnhau felly.
Mae'r Bil hwn nid yn unig yn sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer BSL yng Nghymru yn dal i fyny â datblygiadau mewn rhannau eraill o'r DU, mae hefyd yn mynd ymhellach. Er enghraifft, mae'r Bil yn cynnwys penodi cynghorydd BSL statudol, rhywbeth nad yw i'w weld yn Lloegr na'r Alban. Bydd y cynghorydd hwn yn rhugl mewn BSL ac yn dod â phrofiad bywyd i'r rôl. Er bod Seneddau'r Alban a'r DU wedi penodi paneli cynghori, mae'r Bil hwn yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i benodi panel cynorthwyol. Os caiff ei phasio, felly, hon fydd y ddeddf BSL fwyaf blaengar yn y DU.
Ym mis Mai 2025 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun drafft ar hawliau pobl anabl, sy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu arwyddwyr BSL ac yn ymrwymo i hyrwyddo defnydd, gwybodaeth ac arbenigedd yn yr iaith yng Nghymru. Er bod y cynllun yn ategu diben y Bil, mae'n eang ac nid yw'n mynd i'r afael â materion penodol ynghylch hyrwyddo a hwyluso BSL. Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn ag i ba raddau y trafodwyd BSL yn ystod cyfarfodydd y tasglu hawliau pobl anabl. Er bod y tasglu a'r cynllun gweithredu i'w croesawu, maent yn canolbwyntio ar faterion anabledd cyffredinol, ac mae pobl fyddar angen camau gweithredu wedi'u targedu i fynd i'r afael â rhwystrau penodol. Er bod cefnogaeth i'r cynnig cychwynnol arfaethedig ar gyfer comisiynydd BSL, arweiniodd pryderon am gost a dichonoldeb at benderfyniad i benodi cynghorydd BSL yn lle hynny. Rhybuddiodd sefydliadau fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw a'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar y gallai cynnwys comisiynydd beryglu cynnydd y Bil. Fe wnaeth Anabledd Cymru dynnu sylw at yr angen i ystyried cymunedau anabl ehangach yn ogystal.
Er ei fod wedi'i fodelu ar rolau fel y cynghorydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, bydd y cynghorydd BSL yn darparu cyngor ac eiriolaeth arbenigol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi newid diwylliannol. Disgwylir i'r Bil wella mynediad at ddehonglwyr BSL trwy gynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddiant, fel y gwelsom yng nghynlluniau lleol yr Alban.
Er y bydd y gost amcangyfrifedig o weithredu'r Bil dros 10 mlynedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, dim ond £7,500 yw'r gost flynyddol gyfartalog fesul corff cyhoeddus, ac ystyrir bod hynny'n rhesymol, o gofio'r manteision a ragwelir i'r gymuned fyddar. Ymhellach, os caiff y Bil hwn ei weithredu'n briodol, bydd yn cynhyrchu arbedion i'r pwrs cyhoeddus yn y tymor hir.
Yn y pen draw, deddfwriaeth fframwaith yw hon, gyda llawer o'r manylion yn cael eu gadael i'r strategaeth genedlaethol, yr adroddiad cynnydd, y cynlluniau a'r adolygiadau y bydd eu hangen. Os daw'r Bil yn gyfraith, byddwn yn disgwyl i'r rhai a ddychwelir ar ôl yr etholiad nesaf i sicrhau bod y defnydd o BSL yng Nghymru yn cael ei hyrwyddo a'i hwyluso, a bod BSL yn dod yn rhan fwy o fywyd bob dydd ledled Cymru wrth i'r defnydd ohoni dyfu. Diolch yn fawr.
Cyn i mi ofyn am gyfraniadau gan yr Aelodau, rwyf am i bawb gofio mai datganiad yw hwn, nid dadl, ac felly bydd yr amseru'n seiliedig ar y drefn ar gyfer datganiadau, nid dadleuon.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw'n gwneud datganiad ar lafar am Fil Iaith Arwyddion Prydain i Gymru. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch yn ddiffuant i chi, Mark Isherwood. Diolch am eich ymrwymiad i hyrwyddo BSL ac am eich cyfraniad i'r gymuned arwyddo BSL byddar yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu ac yn cefnogi eich Bil, y Bil BSL (Cymru), ac rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda chi yn ystod ei ddatblygiad i gynhyrchu'r Bil drafft a gyflwynwyd heddiw.
Rwy'n gwybod bod cefnogaeth eang wedi bod i'r Bil hwn, gyda'r ymgynghoriad, fel y gwnaethoch chi amlinellu, yn dangos cytundeb â'i nodau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL. Mae'n adlewyrchiad pwerus o ymgyrch hirsefydlog y gymuned arwyddo BSL byddar dros gydnabyddiaeth gyfreithiol i BSL yng Nghymru, wedi'i siapio gan brofiad bywyd, gwytnwch a balchder dwfn yn eu hiaith. Ers blynyddoedd, mae arwyddwyr BSL byddar ledled Cymru wedi gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth, i herio rhwystrau a sicrhau bod eu hiaith yn cael ei pharchu fel rhan hanfodol o gymdeithas Cymru. Mae eu hymdrechion parhaus i hyrwyddo BSL ac i'w chydnabod wedi dod â ni i'r foment bwysig hon. Nod y Bil hwn yw hyrwyddo diwylliant pobl fyddar a BSL, ac i annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd a chynhwysiant yn y gymdeithas. Yn bwysicaf oll, mae'n ceisio sicrhau bod arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru yn gallu cyfathrebu a bod modd cyfathrebu â hwy yn eu hiaith eu hunain. Mae nodau deddfwriaethol y Bil yn anelu at rymuso ein cymuned arwyddo BSL byddar. Mae BSL yn iaith ag iddi wreiddiau ac arwyddocâd diwylliannol dwfn, ac mae'r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma yn cydnabod lle BSL yn nhreftadaeth ieithyddol Cymru a'n hymrwymiad i'w dyfodol.
Mae gan bob unigolyn hawl i driniaeth deg, a dyma sy'n sail i'n hymrwymiad i feithrin Cymru decach, un sy'n sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i wrthsefyll anghydraddoldeb. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn yn adlewyrchu ein nod ehangach o genedl sydd wedi'i hadeiladu ar urddas, tegwch a chynhwysiant. Rwyf wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i wrando ar leisiau'r gymuned BSL fyddar: sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen rhanddeiliaid BSL, cynghori ar y camau cychwynnol sydd eu hangen cyn y Bil hwn i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a gwella canlyniadau i'r gymuned BSL yng Nghymru. Rwy'n falch iawn fod BSL wedi bod yn brif iaith y grŵp rhanddeiliaid. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i'n galluogi i gyfleu'r heriau a'r rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar yn effeithiol ac i ddeall ble mae'r meysydd blaenoriaeth.
Cafodd y grŵp ei gadeirio ar y cyd gan swyddog arwyddo BSL i bobl fyddar yn Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd arwyddo BSL i bobl fyddar o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r ddau gyd-gadeirydd, ynghyd â holl aelodau'r grŵp, am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Roeddwn yn falch hefyd o fynychu cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, dan gadeiryddiaeth Mark, lle trafodais effaith bosibl y Bil hwn a chasglu sylwadau gan y gymuned BSL. Mae'r trafodaethau hyn wedi atgyfnerthu pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a sut y byddai cyflwyno gofyniad cyfreithiol penodol i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau iaith, gan sicrhau mwy o degwch i arwyddwyr BSL byddar. Rwy'n hyderus y bydd y Bil hwn yn dylanwadu'n gadarnhaol ar bolisi cenedlaethol a darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus yn lleol ac y bydd yn darparu'r fframwaith sydd ei angen i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL ledled y wlad.
Diolch am rannu eich asesiad effaith rheoleiddiol, lle rydych chi'n nodi'r costau ar gyfer gweithredu eich Bil BSL (Cymru), Mark. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r costau'n llawn, fel yr amlinellwyd gennych, ar gyfer y flwyddyn gyntaf, £214,300 ar gyfer 2026-27. Mae'r Bil hwn yn gam tuag at newid parhaol. Edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi cynnydd y Bil. Diolch yn fawr.
Mark, nid wyf yn meddwl bod cwestiwn yno. Nid wyf yn gwybod a ydych chi eisiau ymateb i hynny, neu symud ymlaen at y cyfrannwr nesaf.
Mae'n ddrwg gennyf?
Nid wyf yn meddwl bod cwestiwn yno, felly a ydych chi eisiau ymateb i hynny, neu symud ymlaen at y cyfrannwr nesaf?
Wel, nid oedd cwestiwn yno, ond rwy'n hapus i ymateb a diolch i chi am eich sylwadau ac am y cyfarfodydd a gawsom gyda'n gilydd, a Julie James fel y Cwnsler Cyffredinol, i gyrraedd y pwynt hwn. Felly, ar ôl rhywfaint o bryder cychwynnol y llynedd pan wnaethom drafod hyn am y tro cyntaf, a phan ddywedodd Llywodraeth Cymru nad oeddent yn gweld yr angen, rydym wedi dod yn bell iawn. Felly, diolch am hynny.
Yn gyntaf, diolch i Mark Isherwood am gyflwyno hyn, ac am y gwaith caled, yr amser a'r ymrwymiad rydych chi wedi'i roi i hyn. Mae wedi bod yn anhygoel, ac mae mor dda ein bod bellach yn gweld y Llywodraeth yn cefnogi'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Mae gennych fy nghefnogaeth lawn i a'r Ceidwadwyr Cymreig ar hyn, Mark, ym mhob agwedd yr ydych chi wedi'i gynnig yn y Bil fframwaith hwn. Mae'n amlwg fod hen alw am y ddeddfwriaeth nodedig ac angenrheidiol hon. Ni all Cymru fod yr unig ran o'r Deyrnas Unedig nad yw'n gweithredu ac nad yw o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau yn hyn o beth.
Roeddwn i eisiau siarad yn benodol am BSL mewn lleoliadau addysgol. Y llynedd, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan wthiais am adolygiad o fynediad cyfartal at addysg i bawb, gyda ffocws penodol, fel y gwyddoch, ar rwystrau sy'n wynebu'r rhai ag ADY, anableddau corfforol, a'r rhai sy'n fyddar a thrwm eu clyw. Canfu ein pwyllgor fod dysgwyr yn wynebu gwahanol rwystrau, ac yn benodol, heriau unigryw sy'n wynebu plant byddar a thrwm eu clyw ledled Cymru.
Yn y dystiolaeth a ddarparwyd, clywsom fod plant byddar a thrwm eu clyw yn aml wedi cael eu gosod mewn lleoliadau prif ffrwd yng Nghymru oherwydd prinder lleoedd mewn ysgolion arbenigol, a hefyd, wrth gwrs, ni cheir unrhyw ysgolion i blant byddar yng Nghymru. Heb gefnogaeth ddigonol ar gyfer cyfathrebu, a darpariaeth BSL sy'n dameidiog ac yn anghyson, mae'n amlwg fod angen dull mwy rhagweithiol yng Nghymru nawr, yn hytrach na'r ffordd adweithiol y buom yn delio â hyn mewn addysg brif ffrwd yn y gorffennol.
Y frawddeg allweddol i ni yn yr adroddiad oedd bod cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag amhariad ar y synhwyrau, yn cynnwys byddardod, yn rhy aml yn annigonol ac yn ddibynnol ar ble maent yn byw. Oherwydd, fel y gwnaeth yr adroddiad yn glir, pan nad yw plant byddar yn cael y gefnogaeth gywir yn gynnar a heb iddynt allu defnyddio'u hiaith, iaith BSL, gall y canlyniadau ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae methu cael y ddarpariaeth honno, neu ddarpariaeth sy'n loteri cod post, yn eu tynghedu i fethu cyn iddynt hyd yn oed ddechrau ar eu taith addysgol.
Ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth yn darparu'r addasiadau i gefnogi plant byddar mewn ysgolion ac wrth gwrs, y dechrau teg a chyfartal i'w taith addysgol y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl sylfaenol iddo. Daeth BSL ar yr agenda mewn ysgolion, a phob clod i'r Llywodraeth am hynny, ond mae hynny wedi lleihau, ac yn golygu bod angen dod o hyd i ateb mwy parhaol. Ni cheir ysgolion arbenigol i blant byddar, felly mae angen mwy o hyfforddiant i athrawon, fel y gwnaethoch chi amlinellu. Mae angen cymorth arbenigol fel hawl benodol i'r plant hynny. Ac mae angen cynghorydd yng Nghymru.
Ond ar y cyfan, rwy'n credu bod egwyddorion yr holl beth wedi ffurfio sail i ddeddfwriaeth a allai ac a ddylai ennyn cefnogaeth y mwyafrif yn y Senedd hon. Rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn sylweddoli bod rhaid inni wneud llawer iawn mwy i sicrhau bod y gymuned fyddar yn cael cyfle cyfartal mewn addysg, cyflogaeth a bywyd cyffredinol o ddydd i ddydd.
Mae hwn yn gam cyntaf gwych, Mark Isherwood, ac rwy'n falch o siarad, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig, i gefnogi'r Bil hwn heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn pleidleisio ar draws y Siambr dros ei ddatblygu, gan fy mod yn llawn cyffro i weld i ble yr aiff nesaf, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn ei gefnogi nawr. Rwy'n gobeithio y bydd yn newid bywydau er gwell i'r rhai sy'n fyddar ac yn drwm eu clyw yng Nghymru, ac rwy'n gofyn i bawb gefnogi hyn heddiw. Diolch.
Diolch. Rwy'n deall na fydd pleidlais heddiw, am mai datganiad yw hwn, felly mae'n gyfle i ofyn cwestiynau. Felly, yr hyn rwy'n ei ddarllen o hynny yw bod eich prif gwestiwn yn ymwneud ag addysg, os wyf i'n gywir, ac rydych chi'n hollol iawn i dynnu sylw at hynny. Rydym i gyd yn gwybod bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn enwedig, ond eraill hefyd, wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith nad yw byddardod a cholled clyw yn anabledd dysgu, ac eto mae canlyniadau addysgol plant byddar ymhell ar ôl rhai'r boblogaeth ehangach o ddisgyblion, ac mae hynny'n effeithio ar eu bywydau cyfan yn y dyfodol. Nid yw hynny'n dderbyniol.
Yn yr un modd, mae anallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ehangach oherwydd anallu i gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf yn achosi anfantais enfawr, boed hynny o ran gyrhaeddiad addysgol, mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, cyfleoedd cyflogaeth, neu hyd yn oed gael mynediad at, a defnydd o drafnidiaeth. Bydd y Bil yn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn drwy gyflwyno gofyniad cyfreithiol penodol, fel y dywedais o'r blaen, i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru, gan sicrhau mwy o degwch i arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru. Bydd y Bil yn sicrhau bod llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau'n ystyried anghenion iaith arwyddwyr BSL byddar a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth lunio a darparu gwasanaethau, a rhaid i addysg fod yn ganolog i hynny.
Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil hwn ac am yr holl waith sydd wedi'i wneud inni allu cyrraedd y pwynt hwn, a chydnabod y ffaith eich bod wedi bod yn hyrwyddwr dros bobl fyddar ers blynyddoedd lawer yma yn y Senedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cydnabyddiaeth gynyddol a hirddisgwyliedig i'r lle pwysig sydd i Iaith Arwyddion Prydain yn ein cymdeithas, yn ogystal ag ymdrechion mwy ymwybodol i hyrwyddo ei gwelededd ym mywyd cyhoeddus Cymru. Roedd y ffaith bod arwyddwyr BSL yn sesiynau briffio COVID dyddiol Llywodraeth Cymru bob amser, yn gam cadarnhaol ymlaen yn hyn o beth, ac fel plaid, rydym wedi sicrhau bod ein holl brif weithgareddau, gan gynnwys cynadleddau a chyhoeddiadau maniffesto, yn darparu ar gyfer anghenion defnyddwyr BSL yn briodol. Ond ni allwn ddibynnu ar ewyllys da sefydliadau yn unig yn hyn o beth, ac mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil arfaethedig hwn yn nodi'n gywir y diffyg safonau BSL statudol fel diffyg amlwg yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn fwy eang, dyma enghraifft o'r rhwystrau cymdeithasol helaeth sy'n wynebu'r gymuned fyddar yng Nghymru, rhwystrau sy'n aml yn dechrau o oedran cynnar iawn.
Ceir consensws trawsbleidiol clir ar draws y Senedd hon y gellir gwneud llawer mwy i ddiwallu anghenion defnyddwyr BSL ac i gryfhau'r fframweithiau cyfreithiol o gwmpas darpariaethau perthnasol mewn bywyd cyhoeddus. Fel y cyfryw, mae Plaid Cymru yn hapus i gefnogi egwyddorion y Bil hwn, ac rydym yn barod i ymgysylltu'n adeiladol ar sail drawsbleidiol i'w ddatblygu. Wedi dweud hynny, mae yna rai meysydd yr hoffem eu gweld yn cael eu cryfhau neu eu hegluro wrth i'r Bil fynd rhagddo. Er enghraifft, er bod y Bil yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus, nid yw'n glir ble mae Estyn yn ffitio i'r darpariaethau hyn. O ystyried ei rôl hanfodol mewn safonau addysg, credwn fod yn rhaid i Estyn ei hun gael ei gynnwys yn benodol yng nghwmpas y Bil.
Hoffem wybod hefyd sut y mae'r Bil yn cyfeirio at ddarpariaeth BSL drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel cenedl ddwyieithog, mae'n hanfodol fod pobl fyddar yn cael mynediad cyfartal at gymorth BSL yn y Gymraeg a'r Saesneg ar draws pob maes o fywyd cyhoeddus, nid mewn addysg yn unig, yn ogystal â'r ffaith bod BSL yn cynnwys tafodieithoedd ac amrywiadau.
Byddem hefyd yn croesawu eglurhad ar sut y gallai datblygiadau diweddar gyda'r TGAU BSL arfaethedig, yn enwedig y saib yn ei ddatblygiad y tu hwnt i fis Hydref, effeithio ar weithrediad neu uchelgais y Bil. Er ein bod yn deall yn iawn fod y penderfyniadau hyn yn faterion i Lywodraeth Cymru ac nid yr Aelod sy'n cynnig y Bil, byddai deall sut y mae'r elfennau hyn yn alinio yn ddefnyddiol ar gyfer craffu yn y dyfodol.
I grynhoi, rydym yn hapus ynghylch lefel y craffu y mae'r Bil yn ei argymell, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i'w gryfhau. Rydym yn gobeithio sicrhau bod hawliau BSL a mynediad yng Nghymru wedi'u hymgorffori ar draws ein dwy iaith genedlaethol, a bod y ddeddfwriaeth hon yn cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol i gymunedau byddar ledled y wlad.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar fod eich plaid, o ddechrau'r broses hon, wedi cefnogi'r cynigion ar bob un o'r pleidleisiau a nodais. Rydych chi'n codi nifer o bwyntiau perthnasol. Yn amlwg, o'r pwynt hwn ymlaen, mae'r Bil yn mynd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer craffu Cyfnod 1, a bydd ymgynghori pellach yn digwydd. Byddaf yn rhoi tystiolaeth iddynt ar 15 Medi, rwy'n meddwl, diwrnod cyntaf y tymor nesaf, ond heb amheuaeth, bydd y dystiolaeth a ddaw i law a'r materion a godir gyda hwy yn amrywiol ac yn niferus, a bydd yn arwain at argymhellion pellach posibl, gan gynnwys yn y meysydd a awgrymwch. Fel y dywedais, bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i gynyddu nifer y cyrff penodedig, hyd yn oed pan fydd y Bil yn dod yn Ddeddf. Ond os yw'r Aelodau'n teimlo y dylid ychwanegu cyrff eraill, boed yn gyrff addysgol neu fel arall, mater i'w ystyried yn ystod Cyfnod 1, ac yna yng Nghyfnod 2, y ddeddfwriaeth fydd hynny.
Fe wnaethoch chi sôn am y TGAU. Yn dechnegol, mae'n fater i Cymwysterau Cymru, fel y rheoleiddiwr annibynnol, fel y gwyddoch. Roeddent yn symud ymlaen gyda hyn. Fe wnaethant ddweud wrthyf mai'r prif reswm eu bod wedi ei atal dros dro, fel y dywedasant, oedd am nad oedd digon o athrawon y byddar, nid oedd digon o arwyddwyr BSL mewn ysgolion, nid oedd digon o ddehonglwyr ar gael i alluogi TGAU BSL Cymraeg i gael ei gyflwyno ar y raddfa angenrheidiol. Ond mae hynny'n tynnu sylw at y diffygion y mae angen i'r Bil hwn fynd i'r afael â hwy, neu'r iâr a'r wy. Rhaid mai hwn yw'r iâr sy'n dodwy'r wy, sy'n cyflawni'r anghenion a nodwch, fel darn fframwaith o ddeddfwriaeth. Felly, mae popeth a ddywedoch chi'n werth ei ystyried yn fy marn i, ond ar y pwynt hwn, ar ôl rhoi llawer o amser a meddwl iddo, ac ymgysylltu â'r Llywodraeth hefyd, mater i'r broses ddeddfwriaethol ei benderfynu fydd a yw'n werth bwrw ymlaen â'r awgrymiadau ehangach hynny. Diolch.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at graffu ar y Bil ac at sicrhau ei fod yn dod yn gyfraith cyn diwedd y Senedd hon. Rydym wedi clirio'r byrddau, gan atal busnes arall, er mwyn canolbwyntio ar Gyfnod 1 y Bil hwn, y byddwn wedi'i gwblhau erbyn mis Tachwedd.
Felly, rwyf am ofyn dau beth pwysig i chi. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn rhagweithiol, nid yn adweithiol, fel y dywedodd Laura Anne Jones, ac rwy'n credu bod dau fater y mae angen i ni ddechrau meddwl amdanynt o ddifrif nawr. Un yw nifer y darparwyr blynyddoedd cynnar sy'n defnyddio BSL trwy'r dosbarth cyfan o ddisgyblion sydd ganddynt, boed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg neu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae BSL yn offeryn defnyddiol iawn sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr blynyddoedd cynnar sy'n arwain yn y sector, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa sgwrs a gawsoch chi gyda Llywodraeth Cymru ar sut y gwnawn ymestyn hynny i fod yn ddisgwyliad, oherwydd yn amlwg, nid yw plant ifanc iawn yn siarad Saesneg, Cymraeg nac unrhyw iaith arall yn arbennig o dda.
Yr ail beth y credaf fod angen inni ddechrau meddwl yn gynnar amdano—. Nid wyf yn meddwl y dylem boeni'n ormodol am y TGAU am y tro. Mae gwir angen i ni feddwl am y strategaethau y mae angen i ni eu cael ar waith i gynyddu nifer yr arwyddwyr, yn enwedig y rhai ar lefel dehonglwyr, fel y person sy'n ein cynorthwyo ni heddiw—
Jenny, mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda.
—ac felly sut y gwnawn ni hynny, o ystyried mai fy nealltwriaeth i yw y gall gymryd hyd at wyth neu naw mlynedd i ddod yn ddehonglwr proffesiynol?
Diolch yn fawr. Fe wnaethoch chi bwyntiau perthnasol iawn, ac yn sicr fe fyddwch yn eu hystyried ymhellach yn eich trafodaethau, ac edrychaf ymlaen at fod gyda chi ar 15 Medi fel tyst.
Fel y nodwyd, Bil fframwaith ydyw. Mae'n ceisio hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL, ond mater i'r strategaeth, y cynlluniau a'r adolygiadau fydd y manylion, a phenderfynu pa lefel o fanylder rydych chi ei eisiau, ar lefel y strategaeth genedlaethol, ond hefyd gyda'r cynlluniau lleol y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cynhyrchu, gan weithio naill ai'n unigol neu gyda'u partneriaid rhanbarthol, a byrddau iechyd ac eraill. Ond dyma'r union fathau o faterion y byddwn yn gobeithio eu gweld, ac rwy'n siŵr y byddai Gweinidogion Cymru yn gobeithio eu gweld, yn y cynlluniau, ac rwy'n tybio ac yn gobeithio y bydd yn ganolog i'r canllawiau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i'r cyrff cyhoeddus ar lunio'r cynlluniau hynny, ond cofiwch mai Bil fframwaith ydyw. Nid yw'r Bil ei hun yn darparu'r newidiadau hynny; y bwriad yw iddynt yrru'r newidiadau yn y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i chi. Ond yn amlwg, os yw eich tystiolaeth yn cynhyrchu syniadau, ystyriaethau neu gynigion diddorol yn y meysydd hyn, fe fyddwch yn rhannu'r rheini gyda ni i gyd yn eich adroddiad a'ch argymhellion Cyfnod 1.
Prynhawn da, bawb. Diolch, Mark. [Arwyddo yn BSL.]
Dylai'r Ddeddf BSL fod yn debyg i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rydym wedi brwydro dros addysg cyfrwng Cymraeg, dylem frwydro dros addysg BSL hefyd. A chofiwch fod BSL hefyd yn iaith orthrymedig ar un adeg. Yng Nghymru fe allwn, yn hollol briodol, gael gwersi Cymraeg lefel mynediad am ddim, ond nid yw hynny'n wir am BSL. Gall gostio hyd at £600 ac nid yw ar gael ym mhobman. Mae nifer yr athrawon plant byddar yng Nghymru yn gostwng, ac nid oes unman yng Nghymru lle gallwch hyfforddi i fod yn athro plant byddar. Rydym mewn perygl o golli tafodiaith Gymraeg BSL. Mae angen inni gefnogi plant byddar yng Nghymru i fod yn falch o'u hunaniaeth, i weld BSL fel iaith ac i fod yn falch o'i defnyddio. Mae Cymru'n gwybod sut i gefnogi ieithoedd lleiafrifol; rydym wedi'i wneud o'r blaen, fe allwn ac fe ddylem ei wneud eto. Diolch. [Arwyddo yn BSL.]
Unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Fe wnaethoch chi godi nifer o bwyntiau penodol ac unwaith eto, rydym yn gobeithio ac yn hyderus y bydd y ddeddfwriaeth, fel y bwriadwyd, yn hyrwyddo, yn hwyluso ac yna'n bwrw ymlaen trwy strategaethau ac adolygiadau, cynlluniau i gyflawni'r pethau allweddol hynny. Rydych chi a minnau'n gwybod bod y broblem gyda niferoedd sy'n gostwng o athrawon plant byddar wedi cael ei godi dro ar ôl tro, nid yn unig yn y Siambr ond yn sicr yn y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar yr wyf yn ei gadeirio. Pan euthum ar ei drywydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet, daeth yn amlwg fod cyllid wedi'i roi, ond y cyfan a wnaeth hynny oedd sefydlogi'r niferoedd ar y lefelau gostyngedig, a'r broblem oedd fod oedran cyfartalog athrawon plant byddar yn golygu y byddai'r niferoedd yn gostwng yn awtomatig beth bynnag heb ymgyrch i ddenu pobl iau. Felly, mae hynny'n allweddol. Nid oes diben cael yr holl ddeddfwriaeth os nad oes gennych y bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn i gyflwyno'r gwersi, yr addysg, y dehongli a'r arbenigedd sydd ei angen.
Mae'r dafodiaith Gymraeg yn hanfodol. Rwy'n noddwr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain yng ngogledd Cymru, ac rwy'n credu mai y llynedd yr euthum i sgwrs ddiddorol iawn gan ddefnyddiwr BSL iaith gyntaf, a esboniodd y gwahaniaethau rhwng BSL safonol a thafodieithoedd Cymraeg, oherwydd mae mwy nag un dafodiaith Gymraeg. Yn gyffredinol, cânt eu cyfuno gyda'i gilydd yn iaith ogleddol ac iaith ddeheuol, ond hyd yn oed wedyn, fel ym mhob iaith arall, mae yna amrywiadau. Felly, y bwriad yw i'r ddeddfwriaeth ddal popeth, oherwydd maent i gyd yn dechnegol yn dod o dan faner BSL, fel y mae'r holl dafodieithoedd o dan y Gymraeg neu bob un o'r tafodieithoedd o dan y Saesneg yn disgyn o dan faner Saesneg neu Gymraeg, ond mae yna—. Wel, rwy'n cydnabod y tafodieithoedd, a gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd wrth lunio eu cynlluniau hefyd yn cydnabod y tafodieithoedd hynny.
Mae cefnogaeth i blant byddar fod yn falch o'u hunaniaeth yn gwbl hanfodol. Unwaith eto, soniais am gynhadledd Clust i Wrando ym Mangor, yng ngogledd Cymru. Euthum i honno am flynyddoedd lawer—fe'i cynhelid yn flynyddol ym Mhrifysgol Bangor—lle cyfarfûm â llawer o bobl fyddar sydd bellach yn oedolion, a phobl ifanc hefyd, a oedd yn wych am roi darlithoedd ac areithiau eu hunain, ynghyd â llawer o oedolion a oedd wedi mynd drwy'r system 20, 30, 40 mlynedd ynghynt ac a oedd wedi cael eu trin fel niwsans, eu cludo ymaith, a'u hanfon i ysgolion lle caent eu cosbi os byddent yn defnyddio BSL yn yr ystafell ddosbarth. Wel, diolch byth, mae'r dyddiau hynny wedi dod i ben, ond mae angen inni gael rhywbeth llawer iawn gwell yn eu lle, ac rydym yn dal i fod ar y daith honno.
Ac yn olaf, Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddai'n well imi ddatgan bod fy chwaer yn ddwys-fyddar, ac rwy'n cefnogi grwpiau pobl fyddar a thrwm eu clyw yn Abertawe.
Mark, mae BSL yn bwnc yr ydych chi a minnau wedi bod yn siarad amdano ers sawl blwyddyn. Fel y gwyddoch, mae gennych fy nghefnogaeth lawn i'r Bil hwn ac rydych chi wedi cael fy nghefnogaeth lawn o'r cychwyn cyntaf. I lawer o bobl fyddar, BSL yw eu prif iaith ar gyfer cyfathrebu. Yn bwysicaf oll, dyma'r modd y gallant dderbyn gwybodaeth fwy cymhleth a gofyn am eglurhad ynghylch yr hyn a ddywedwyd wrthynt. Mark, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cael Deddf Iaith Arwyddion Prydain ar y llyfr statud?
Ni chawn bopeth y mae pawb ei eisiau, ond bydd sicrhau Deddf BSL o fudd i'r gymuned fyddar. Pan fydd gennym y Ddeddf, gallwn ychwanegu ati a'i diwygio yn y dyfodol. Y peth pwysicaf yw pasio'r Ddeddf. Mae'r gymuned fyddar yn Abertawe, y byddaf yn siarad â hwy'n rheolaidd, yn awyddus iawn i hyn ddod yn gyfraith, ac unwaith eto fe wnaf orffen trwy ddweud fy mod yn eich cefnogi i'r carn.
Unwaith eto, diolch i chi, nid yn unig fel fy rhagflaenydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, ond am y gefnogaeth rydych chi wedi'i rhoi i hyn drwy gydol yr amser. Felly, diolch yn fawr am hynny.
Rydych chi'n hollol iawn, rhaid i hyn fod yn ddechrau rhywbeth i fynd i'r afael â llawer o'r materion eraill a godwyd. Fel y nodwyd, prif swyddogaeth y Bil yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio ac yn credu y bydd felly'n galluogi newid cadarnhaol ym mywydau arwyddwyr BSL. Ond ni fyddai'n bosibl i'r Bil ei hun fynd i'r afael â'r materion penodol niferus sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar, ond fe fydd yn darparu llwyfan, fel y nodwch, ar gyfer newid cadarnhaol trwy wneud strategaeth genedlaethol, cynlluniau BSL lleol a phethau eraill yn ofynnol.
Gyda'n gilydd, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl fyddar, ac er nad yw'r Bil yn mynd i'r afael â'r holl rwystrau hynny'n unigol, mae'n darparu fframwaith lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus a restrwyd—a rhagor o bosibl, Mabon—ystyried anghenion arwyddwyr BSL byddar ochr yn ochr â'u dyletswydd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL.
Diolch, Mark. Ac i aelodau'r cyhoedd yn yr oriel, i'ch atgoffa, nid oes pleidlais heddiw, oherwydd mae'r bleidlais i symud ymlaen at y cyfnod nesaf eisoes wedi'i chynnal yn y Senedd. Fe fydd yn symud ymlaen nawr i gael ei graffu yn yr hydref.
Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ar fodiwl 1 yr ymchwiliad. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes.
Cynnig NDM8962 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, sef ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Braidd yn anarferol, fi sy'n symud y cynnig o dan yr eitem yma.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru yr adroddiad y byddwn yn ei drafod yn y man ym mis Mawrth 2025. Yn unol â'r cynnig a basiwyd gan y Senedd pan sefydlwyd y pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal dadl ar yr adroddiad ar 2 Ebrill. Ond ar 26 Mawrth, ymddiswyddodd Cyd-gadeirydd y Ceidwadwyr a'r Aelod Ceidwadol o'r pwyllgor gan arwain at oedi i allu'r Senedd i drafod yr adroddiad. Oherwydd i'r drefn o'r model Cyd-gadeiryddion fethu, nid yw wedi bod yn bosib ers hynny i'r pwyllgor symud ymlaen â'i waith.
Mae wedi bod yn amlwg drwy drafodaethau o fewn y Pwyllgor Busnes fod angen model arall i symud ymlaen er mwyn hwyluso'r gwaith allweddol o graffu. O ganlyniad, yr wyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am gytuno i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan y pwyllgor diben arbennig, ac i barhau i graffu ar y bylchau a nodwyd yn ei adroddiad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am yr ystyriaeth y mae'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi nodi y bydd yn ei rhoi i'r adroddiad ar fodiwl 2 ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol pan fydd hynny'n cael ei gyhoeddi. O ganlyniad i hyn oll, mae'r Pwyllgor Busnes yn bwriadu cyflwyno cynnig bod y Senedd yn cytuno i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru yn nhymor yr Hydref.
Mae'n bwysig bod gan y Senedd yma'r strwythurau a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod y gwersi angenrheidiol o bandemig COVID-19 yn cael eu hadnabod a'u gweithredu. Mawr obeithiaf y bydd y ddadl y prynhawn yma'n gam pwysig i'r cyfeiriad yna.
A galwaf ar Gyd-gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Effeithiodd y pandemig yn ddwfn ar fywydau pawb yng Nghymru, gyda llawer yn profi poen a thrawma a cholli anwyliaid. Sefydlwyd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ym mis Mai 2023 gyda chylch gwaith penodol i edrych ar yr adroddiadau ar bob cam o ymchwiliad COVID-19 y DU a chynnig i'r Senedd unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Fe wnaethom ddechrau ein gwaith o ddifrif ar ôl cyhoeddi adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU fis Gorffennaf diwethaf ar wytnwch a pharodrwydd y DU. Daeth adroddiad modiwl 1 i'r casgliad nad oedd y DU yn barod iawn ar gyfer pandemig coronafeirws oherwydd sawl ffactor allweddol. Gwelwyd ffocws ar barodrwydd ar gyfer y ffliw, strwythurau cynllunio at argyfyngau a oedd yn gymhleth, asesiadau risg annigonol, strategaeth pandemig a oedd wedi dyddio ac esgeuluso anghydraddoldebau iechyd.
Er mwyn sicrhau sylfaen dystiolaeth gadarn i nodi unrhyw fylchau, cynhaliwyd digwyddiad i randdeiliaid, ymgynghoriad cyhoeddus, a chomisiynwyd adroddiad dadansoddi bylchau gan arbenigwyr ym maes argyfyngau sifil o Brifysgol Nottingham Trent. Rydym yn hynod ddiolchgar am y casgliadau a'r profiad a rannwyd gan bawb a'n cynorthwyodd gyda'n gwaith.
Ym mis Ionawr 2025, cawsom ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad modiwl 1. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod canfyddiadau adroddiad modiwl 1 ac ailddatganodd ei hymrwymiad i ddysgu gwersi o'r pandemig, gan nodi bod camau eisoes wedi'u cymryd i wella mecanweithiau parodrwydd ac ymateb yn seiliedig ar adolygiadau mewnol.
Fe wnaethom ystyried yr holl wybodaeth hon wrth gyrraedd y naw bwlch a nodwyd yn ein hadroddiad, sydd wedi'u nodi yn y cynnig. Dywedodd cyfranogwyr yn ein digwyddiad rhanddeiliaid wrthym fod argymhellion adroddiad modiwl 1 yn gynhwysfawr ac yn briodol, ond roedd diffyg eglurder a phenodolrwydd i Gymru. At ddibenion ein gwaith, diffiniwyd bylchau fel meysydd yng nghanfyddiadau'r adroddiad modiwl 1 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych yn fwy manwl arnynt yng nghyd-destun Cymru.
Gan droi nawr at y naw bwlch a nodwyd gennym, mae'r rhain yn cynnwys adolygu'r model gwytnwch a pharodrwydd mwyaf effeithiol ar gyfer Cymru, atebolrwydd y Llywodraeth, rhannu data yn ystod argyfyngau ac eglurder negeseuon cyhoeddus. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn tynnu sylw at nifer o fylchau yn effeithiolrwydd y strwythurau gwytnwch yng Nghymru, gan awgrymu nad oedd ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r hyn y mae strwythurau gwytnwch Cymru yn ei gwmpasu. Roedd y dadansoddiad o'r bylchau gan Brifysgol Nottingham Trent hefyd yn pwysleisio'r angen i edrych yn fwy manwl ar y cyd-destun Cymreig. Felly, hoffai'r pwyllgor adolygu'r model gwytnwch a pharodrwydd mwyaf effeithiol i Gymru, a dyna fwlch (a).
Mae'r pwyllgor yn credu y dylid rhoi ystyriaeth bellach i atebolrwydd Llywodraeth Cymru wrth reoli'r pandemig ac effeithiolrwydd strwythurau gwneud penderfyniadau. Cawsom dystiolaeth a oedd yn argymell adolygu maint a modd o gofnodi prosesau gwneud penderfyniadau i ddeall sut y gellir olrhain dysgu ac atebolrwydd trwy reoli risgiau system gyfan yn y dyfodol. Roedd mwyafrif yr argymhellion a wnaed yn adroddiad modiwl 1 wedi'u cyfeirio at Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig. Felly, hoffem geisio eglurder ynghylch pwy sy'n atebol am fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, bwlch (b).
Roedd rhannu data a chyfathrebu yn fater arall i'r pwyllgor, ac roedd angen mynd i'r afael â'r bylchau wrth rannu a chyfathrebu data a phrofiad ymhlith sefydliadau gwytnwch, yng Nghymru ac ar draws y DU. Dangosodd sawl ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus y gellid gwella tryloywder, a bod awdurdodau lleol a'r cyhoedd wedi wynebu heriau i gael mynediad at wybodaeth amserol. Nododd y dadansoddiad o'r bylchau hefyd nad oedd digon o drafodaeth yn yr adroddiad modiwl 1 ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ynghylch sut y cafodd data ei rannu y tu hwnt i'r lefel weinidogol ac i lefelau is a mwy lleol, gan gynnwys fforymau gwytnwch lleol. Felly, mae angen inni adolygu'r ffyrdd y digwyddodd mynediad at ddata a rhannu data yng Nghymru, yn fertigol ac yn llorweddol, yn ystod argyfyngau, a dyna yw bwlch (c).
Yn ystod y pandemig, ac yn wir, ar gyfer unrhyw argyfwng cenedlaethol arall, mae darparu gwybodaeth i'r cyhoedd o'r pwys mwyaf. Mae'r pwyllgor yn credu y dylid adolygu'r modd y cyfathrebwyd y polisi a'r canllawiau a oedd yn ymwneud â'r negeseuon cyhoeddus am y pandemig, gyda ffocws ar nodi gwelliannau ar gyfer y dyfodol. Mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori gwybodaeth ac arbenigedd lleol mewn cynlluniau parodrwydd a gwytnwch. Credwn fod angen cyfranogiad lleol gan broffesiynau perthnasol er mwyn gweithredu argymhellion modiwl 1. Roedd tystiolaeth hefyd yn nodi pwysigrwydd adolygu anghydraddoldebau cymdeithasol a sicrhau bod y rhain yn cael eu hymgorffori'n fwy llawn mewn prosesau a strwythurau parodrwydd a gwytnwch yn y dyfodol, a chaiff hyn sylw ym mylchau (d) i (g).
Yn olaf, fe wnaethom ystyried yr heriau mewn perthynas ag adnoddau ac eglurder gweithredu argymhellion modiwl 1. Clywsom fod fforymau gwytnwch lleol yn Lloegr yn cael adnoddau gwell na'r rhai yng Nghymru, sy'n gwneud gweithredu ymarferion ymateb rheolaidd i'r pandemig ledled y DU yn heriol ar y lefel leol. Mynegodd y pwyllgor bryder hefyd, yn seiliedig ar y dadansoddiad o'r bylchau, am y prinder gweithwyr gwytnwch proffesiynol a oedd yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i lenwi'r rolau o fewn y strwythur gwytnwch. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylid ystyried ymhellach a yw lefel yr adnoddau a chyllid a ddyrannwyd i weithredu'r argymhelliad o adroddiad modiwl 1 wedi cael sylw digonol, a dyna yw bylchau (h) i (i).
I gloi, roedd ein hadroddiad yn manylu ar bob maes y credwn fod angen ei archwilio ymhellach, fel y nodir yn ein cynnig heddiw. Rydym yn gobeithio y gall y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus archwilio'r materion hyn yn fwy manwl. Diolch.
Diolch am ganiatáu i mi gyfrannu heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Dilynais waith y pwyllgor diben arbennig gyda diddordeb, o ystyried y dasg bwysig a roddwyd iddo i ystyried adroddiadau ymchwiliad COVID y DU ac i nodi bylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig. Nid wyf yma heddiw i siarad am y dull a ddilynwyd yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig yn benodol ar gyfer Cymru. Yn hytrach, rwy'n siarad, fel y dywedais, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y gofynnwyd iddo ystyried a fyddai ganddo'r capasiti i arwain y gwaith o graffu ar fylchau a nodwyd gan y pwyllgor COVID mewn perthynas ag adroddiad modiwl 1 ymchwiliad y DU ac i arwain y gwaith o graffu ar adroddiad modiwl 2, i gynnwys is-adran 2B mewn perthynas â Chymru.
Fel pwyllgor, fe wnaethom ystyried y cais hwn yn ofalus, gan gydnabod, yn y tymor byr, o ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar ôl yn nhymor y Senedd, na fyddwn yn debygol o allu ystyried mwy na modiwl 1 yn unig, o gofio nad yw adroddiad modiwl 2 wedi'i gyhoeddi eto. Fodd bynnag, pe bai adroddiad modiwl 2 yn cael ei gyhoeddi mewn pryd, rydym yn rhagweld mai nifer cyfyngedig iawn o sesiynau y gallem eu cael ar hyn yn 2026, cyn diddymu'r Senedd, i gyfeirio atynt yn ein hadroddiad etifeddiaeth. Roeddem hefyd yn pryderu am ein capasiti i ymgymryd â'r gwaith hwn, gan ein bod yn dymuno bwrw ymlaen â'n gwaith arferol a phwysig ar y cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, rydym wedi cytuno i ymgymryd â'r dasg y gofynnwyd i ni ei hysgwyddo er mwyn sicrhau bod rhywfaint o graffu ar y materion pwysig hyn yn cael ei gyflawni o fewn y Senedd hon, yn hytrach na bod dim ohono'n digwydd.
Er bod lle yng nghynllun gwaith y pwyllgor i ddarparu ar gyfer rhywfaint o waith ar fodiwl 1 yn ystod tymor yr hydref, bydd y gwaith hwn yn gyfyngedig a bydd angen ffocws pendant i gwmpas ein gwaith. Bydd ein gwaith ar fodiwl 2 yn dibynnu ar pryd y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ac fe fydd yn gyfyngedig beth bynnag, gyda materion yn codi o bosibl, fel y nodwyd, ar gyfer ein hadroddiad etifeddiaeth. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd Llywodraeth Cymru yn cael amser i ymateb yn ffurfiol i adroddiad modiwl 2, ond yn hytrach nag aros am yr ymateb hwnnw, na ddaw cyn diwedd tymor y Senedd o bosibl, fe fyddwn yn ymdrechu i dynnu sylw at faterion sy'n peri pryder i'r Senedd nesaf eu hystyried. Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chymaint o randdeiliaid â phosibl, ac yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan y pwyllgor COVID a'r materion a nodwyd yn eu hadroddiad. Byddem hefyd yn dymuno cymryd tystiolaeth gan y Prif Weinidog mewn sesiwn dystiolaeth ffurfiol, o ystyried ei chyfrifoldeb hi am faterion yn ymwneud ag argyfyngau sifil.
Efallai na fyddwn yn y sefyllfa orau i fynd ar drywydd y gwaith hwn ac ni allwn fod yn sicr y bydd unrhyw ganlyniad yn ddigon cynhwysfawr i fynd i'r afael yn foddhaol â'r materion sy'n codi o adroddiad modiwl 1, yn hytrach na thrwy ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru. Ymhellach, gallwn fod yn sicr na fydd unrhyw ganlyniad yn ddigon cynhwysfawr i fynd i'r afael yn foddhaol â'r materion sy'n codi o adroddiad modiwl 2. Fodd bynnag, fe wnawn ein gorau glas i gyflawni'r gwaith mor effeithiol ag y gallwn o fewn y cyfyngiadau hyn. Diolch yn fawr.
Y pandemig oedd her iechyd cyhoeddus fwyaf dybryd ein hoes. Fe effeithiodd ar bob un ohonom ni, yn y modd mwyaf ofnadwy mewn llawer gormod o achosion, ac fe newidiodd ein cymdeithas yn barhaol ar sawl lefel. O safbwynt Cymru, fe ddaeth â datganoli—ei gryfderau a'i wendidau—i'r amlwg yn fwy nag erioed o'r blaen. Hwn, yn fwy nag unrhyw fater arall, yw'r achos amlycaf lle mae angen dysgu gwersi, a hynny ar frys, oherwydd mae'n debygol y byddwn ni, fel cymdeithas, yn wynebu heriau tebyg iawn rywbryd eto yn y dyfodol. Yn anffodus, y brif wers yr ydym ni wedi'i dysgu dros y blynyddoedd diwethaf ydy bod gan Lywodraeth Cymru atgasedd parhaus o atebolrwydd, ac mae hanes cywilyddus y pwyllgor yma yn dyst i hynny.
Mae'n werth atgoffa ein hunain sut y daethom ni at y pwynt hwn. O'r cychwyn cyntaf, roeddem ni ar y meinciau yma yn gadarn fod maint amlwg y pandemig, ynghyd â dylanwad penderfyniadau Llywodraeth Cymru wrth ymdrin a'i effaith, yn haeddu ymchwiliad cyhoeddus llawn i Gymru, gan ddilyn yr enghraifft a osodwyd gan yr Alban. Dwi am dalu teyrnged ar y cam yma i'r COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru am eu hymgyrchu diflino ar y mater hwn. Yn anffodus, roedd y Llywodraeth yn gwrthwynebu hyn, gan honni y byddai ymchwiliad y Deyrnas Gyfunol yn darparu'r atebion yr oedd eu hangen arnom ni.
Gadewch i ni roi o'r neilltu y safonau dwbl amlwg gan Lywodraeth a arferodd ei hawl i wneud pethau'n wahanol gyda'r ysgogiadau datganoledig a oedd ar gael iddi, gan fynnu wedyn fod craffu ar y defnydd o'r ysgogiadau hynny ar lefel y DU gyfan yn briodol. Roedd y ddadl y byddai ymchwiliad y DU yn canolbwyntio digon ar faterion penodol i Gymru yn amlwg yn anghynaliadwy o'r cychwyn cyntaf; fe wnaeth Lady Hallett ei hun gydnabod cymaint â hynny cyn y gwrandawiadau cyntaf. Ond hyd yn oed pan ildiodd y Llywodraeth o'r diwedd a derbyn y realiti fod bylchau amlwg yn gysylltiedig ag ymateb Cymru'n cael eu gadael ar ôl gan ymchwiliad y DU, roedd eu datrysiad ymhell iawn o fod yr hyn a ddylai fod yn atebolrwydd priodol.
Yr hyn a gawsom oedd cytundeb ystafell gefn rhwng y ddwy blaid y mae eu holion bysedd dros yr ymateb i'r pandemig. Nid yw'n syndod fod yr hyn a ddigwyddodd o hynny ymlaen yn ddim llai nag anhrefn llwyr. Gwastraffwyd misoedd yn trafod gwir ddiben y pwyllgor diben arbennig, er gwaethaf ymdrechion dewr y clercod i gynnal rhywfaint o gydlyniant yn y flaenraglen waith. Drwy'r adeg, tyfai'r bwlch rhyngddo a chyflymder ymchwiliad y DU yn fwyfwy amlwg.
Wrth gwrs, nid yw'r Torïaid yn ddi-fai yn hyn ychwaith. Ar ôl tynnu'r plwg i bob pwrpas ar bwyllgor yr oeddent â rhan yn ei sefydlu ar y sail nad oedd ganddo'r awdurdod i orfodi i dystion dyngu llw, maent bellach yn cynnig dychwelyd i fod yn rhan o'r drafodaeth yn hwyr yn y dydd drwy gadeirio pwyllgor ar wahân nad oes ganddo unrhyw awdurdod i orfodi neb i dyngu llw. Nid am y tro cyntaf, mae eu natur hynod annifrifol fel plaid yn amlwg i bawb ei gweld.
Felly, dyma ni, dros ddwy flynedd ers sefydlu'r pwyllgor diben arbennig, a dim ond nawr y cawn ei ganfyddiadau ar fodiwl a ddylai fod, ar bapur, y mwyaf didrafferth i'w gyflawni. Yn hytrach na defnyddio hyn fel sbardun i wneud iawn am yr amser a wastraffwyd, rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd o roi'r awenau i bwyllgor ar wahân, yn union fel oedd y gwaith craffu'n dechrau o ddifrif o'r diwedd. Yn onest, dyma weithred wleidyddol gwbl ddi-fudd.
Nid oes unrhyw Lywodraeth yn berffaith. Mae camgymeriadau'n digwydd, ac yn ystod pandemig unwaith mewn canrif, gyda'r holl straen eithafol a ddaeth gyda hynny, rydym yn derbyn yn llwyr fod camgymeriadau dynol yn anochel. Ond yr hyn na allwn ei dderbyn yw'r modd y mae unrhyw Lywodraeth yn ymwrthod â'i chyfrifoldeb moesol sylfaenol i wneud ei hun yn atebol am ei phenderfyniadau. Hyd nes yr etholiad nesaf, felly, byddwn yn gweithio'n bragmataidd yn yr amgylchiadau llai na ffafriol hyn, fel y gwnaethom trwy gydol oes y pwyllgor diben arbennig, i sicrhau y gall y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fwrw ymlaen â hyn mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. Ond rydym yn parhau i fod yn gadarn ein barn y gallwn ac y dylem wneud cymaint mwy, a gosod y safonau uchaf un mewn perthynas ag atebolrwydd ein democratiaeth.
Dyna pam y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu ymchwiliad COVID i Gymru yn y flwyddyn gyntaf o dymor nesaf y Senedd, gyda ffocws penodol ar faterion fel gofynion i gynnal profion mewn cartrefi gofal. Nid mater o bwyntio bys neu o weld bai yw hyn, ond wynebu gwaddol y bennod ofnadwy hon yn hanes ein cenedl yn onest, yn aeddfed ac yn dryloyw, gan ddarparu rhyw fath o ben draw y mae hen alw amdano, gan ddysgu gwersi a pharatoi ar gyfer y dyfodol gyda phenderfyniadau gwybodus. Diolch.
Mae bob amser yn beryglus dechrau mesur y llenni cyn i chi hyd yn oed brynu'r tŷ.
I ddod at yr adroddiad pwysig hwn gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, mae'n grefftus, ond yn betrus iawn. Mae yna lawer o awgrymiadau ynddo, sy'n dangos bod llawer mwy o waith i'w wneud. Mae'n anffodus iawn na allodd fwrw yn ei flaen i'w wneud, ar ôl ymgyfarwyddo â bwndel enfawr o wybodaeth. Rhaid inni atgoffa ein hunain, ar ddechrau'r pandemig COVID, nad oedd yr un ohonom yn gwybod pa mor fawr oedd y risg. Dim ond ar ôl i frechlyn gael ei greu a'i gyflwyno mor effeithiol yn y wlad hon, gan flaenoriaethu'r grwpiau mwyaf agored i niwed, y gallem hyd yn oed ddechrau ystyried y dyfodol.
Mae gan y Senedd ddyletswydd i graffu ar effeithiolrwydd a thrylwyredd cynlluniau gwytnwch Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i baratoi ar gyfer digwyddiadau na ellir eu rhagweld. Yn gyntaf, rhaid inni ddysgu'r gwersi o'r pandemig. Yn ffodus, ychydig ohonom a gafodd unrhyw brofiad blaenorol o argyfwng o'r fath, oni bai eu bod yn ddigon ifanc i fod wedi byw trwy fygythiad y Natsïaid yn yr ail ryfel byd. Rwy'n cofio ffrindiau i mi sydd bellach wedi marw yn disgrifio'r trawma roeddent wedi’i ddioddef yn blant wrth gael eu danfon yn faciwîs o Lerpwl. Roedd cael eu hanfon i gefn gwlad i gael gofal gan ddieithriaid yn brofiad trawmatig, ond o leiaf roeddent yn siarad yr un iaith. Dychmygwch sut beth oedd hi i deithwyr y Kindertransport, a gyrhaeddodd Brydain yn siarad dim ond Almaeneg, Tsieceg, Pwyleg neu ryw iaith arall, a dim ond cês gyda'u henw arno, ar ôl ffarwelio â'u teuluoedd, na fyddent, yn y rhan fwyaf o achosion, byth yn eu gweld eto. Mae'n rhyfeddol fod llawer ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i chwarae rolau mor amlwg ym mywyd ein cenedl fel oedolion.
Ceir tystiolaeth gynyddol fod plant wedi dioddef yn fawr dan gyfyngiadau symud COVID, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cartrefi gorlawn heb allu mynd allan i chwarae yn yr awyr agored. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Lloegr ar blant a anwyd yn 2020 yn dangos bod unrhyw blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol 20 mis y tu ôl i'w cyfoedion erbyn hyn ac yn annhebygol o ddal i fyny byth. Mae'n ystyriaeth sobreiddiol. Rwy'n cofio llawer o sgyrsiau a gefais gyda'r Gweinidog addysg ar y pryd, Kirsty Williams, nad oedd clystyru'r ddarpariaeth ar gyfer plant bregus mewn ysgolion y tu allan i'w cymuned, lle nad oeddent yn adnabod neb o'r staff yr oeddent yn ymddiried ynddynt o'u hysgol eu hunain, yn mynd i, ac ni wnaeth, ddiwallu eu hanghenion. Nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn mynychu'r clystyrau hyn. Mewn unrhyw argyfwng, mae plant yn fwy na neb yn dibynnu ar bobl gyfarwydd a sefydliadau y maent yn ymddiried ynddynt i wneud synnwyr o ba bynnag argyfwng y maent yn byw drwyddo, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn ymgorffori'r gwersi hynny mewn cynlluniau gwytnwch yn y dyfodol. Mae sawl cyfeiriad at grwpiau agored i niwed yn fframwaith gwytnwch Llywodraeth Cymru, ond ni cheir unrhyw sôn penodol am anghenion plant.
Rydym eisoes wedi trafod gwytnwch hinsawdd heddiw mewn trafodaethau am effaith tymereddau uchel ar linellau rheilffyrdd y penwythnos diwethaf. Mae digwyddiadau tywydd eithafol fel storm Darragh fis Rhagfyr diwethaf yn debygol o ddod yn ddigwyddiadau mwy cyffredin, wrth inni fethu'n lân â lleihau ein hallyriadau carbon mor gyflym ag y mae'r arbenigwyr yn ein hannog i'w wneud. Mae ardaloedd arfordirol, yn cynnwys y rhan fwyaf o fy etholaeth fy hun, yn mynd i gael eu gadael ar drugaredd y tywydd yn llwyr wrth i lefelau'r môr godi. Mae llifogydd eang ar ein tir arfordirol, oherwydd ein bod yn gwrthod lleihau ein defnydd o adnoddau'r byd, yn amlwg yn gwbl groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ond nid dyma'r unig risgiau a wynebwn. Mae'r DU yn gasgen bowdwr o densiynau cymdeithasol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon i gyd-fynd â therfysgoedd Southport. Sut y gwnawn ni ddiogelu ein pobl ifanc rhag cael eu recriwtio trwy'r cyfryngau cymdeithasol fel asiantau i bwerau tramor? Mae rhywbeth yn y papur heddiw sy'n dweud bod yr heddlu wedi gwneud cyhoeddiad bod hyn yn sicr yn risg. Mae gan sawl Llywodraeth dramor, boed yn Rwsia, Israel neu Iran, hanes o ddienyddio pobl sy'n gwrthwynebu eu Llywodraeth yn hytrach na'u harestio i wynebu achos llys am unrhyw droseddau y gallent fod wedi'u cyflawni. Ac wrth i erydiad rheolaeth y gyfraith gynyddu yn rhyngwladol, mae hynny'n cynyddu'r posibilrwydd y bydd pobl sydd wedi cael lloches yn y wlad hon yn dod yn dargedau i'w llofruddio.
Mae angen talu llawer mwy o sylw i wytnwch bwyd, sydd hefyd heb ei grybwyll yn nogfen Llywodraeth Cymru—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Jenny.
—ac rwy'n gobeithio y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried gwaith yr Athro Tim Lang. Yn olaf, rwy'n sylweddoli bod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ddigon o waith i'w wneud yn eu dyletswyddau arferol, fel y dywedodd Mark Isherwood, ond hoffwn ofyn iddynt a ydynt wedi ystyried sefydlu is-bwyllgor i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y gwaith pwysig hwn yn gwneud cynnydd da yn ystod yr hyn sy'n weddill o dymor y Senedd hon.
Roedd diweddariad Llywodraeth Cymru yn dilyn yr ymateb i adroddiad modiwl 1 yr ymchwiliad COVID-19 a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn siomedig a bod yn onest. Nid oedd yn mynd yn ddigon pell nac yn mynd i'r afael â graddau llawn y pryderon a godwyd gan y pwyllgor diben arbennig. Roedd canfyddiadau'r pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn seiliedig ar ymchwil gynhwysfawr, a chanfuwyd naw maes y mae gwir angen craffu arnynt o hyd yng Nghymru. Yn dilyn y canfyddiadau hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo eto i unrhyw fecanweithiau newydd i fynd i'r afael â'r bylchau hyn, ac mae wedi ceisio rhwystro craffu effeithiol ym mhob ffordd.
Gyda hynny oll mewn golwg, a oes unrhyw syndod pam y gwnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, golli ffydd yn gyfan gwbl yn y pwyllgor diben arbennig? Fe wnaethom ei adael ym mis Mawrth gan ein bod yn gwybod, unwaith y rhwystrodd Llywodraeth Cymru ymdrechion i graffu'n fwy manwl, na fyddai'r gwir byth yn dod i'r amlwg cyn belled â'n bod oll yn gweithio ar delerau Llafur, gan ganiatáu iddynt farcio eu gwaith cartref eu hunain a rhwystro unrhyw ymgais wirioneddol i graffu. Fe wnaethom gymryd rhan yn y broses honno gyda phob ewyllys da, gan geisio gwneud y gorau o'r hyn y gallai'r pwyllgor ei gynnig, ond mae'n amlwg nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw fwriad i adael i'w hunain gael eu beirniadu na'u dwyn i gyfrif mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
Fel y gŵyr y Siambr hon yn iawn, mae fy mhlaid a minnau'n gadarn yn ein safbwynt mai ymchwiliad COVID penodol i Gymru yw'r unig ffordd y bydd Cymru'n cael y ffocws a'r atebion sydd eu hangen arni i symud ymlaen o'r pandemig gyda'r hyder na fydd yr un camgymeriadau'n cael eu gwneud eto.
Heddiw, rhoddodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru sesiwn friffio i Aelodau'r Senedd ar eu safbwynt presennol ar ymchwiliad COVID y DU, llais pwysig, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, o ystyried mai hwy oedd yr unig dystion a chyfranwyr cyson penodol i Gymru. Yn eu barn hwy, mae'r strwythurau sydd ar waith yma yng Nghymru ar gyfer ymatebion brys yn ddiffygiol iawn, safbwynt rwyf i a fy mhlaid yn cydymdeimlo ag ef, a dyna pam ein bod wedi galw am adolygiad o strwythur y GIG yng Nghymru, ac maent hefyd yn credu bod Llywodraeth Cymru, yn eu geiriau hwy, yn osgoi atebolrwydd ar bob lefel.
Nid dyna ei diwedd hi, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaethant dynnu sylw at feysydd pellach o bryder difrifol na fu digon o graffu arnynt yn ymchwiliad y DU. Pam mai Cymru oedd â'r stoc waethaf o ran ansawdd o gyfarpar diogelu anadlol, a pham nad oedd y cyfarpar nad oedd wedi pasio ei ddyddiad dod i ben yn ffitio wynebau benywod sy'n gweithio yn ein GIG? Mae dwy ran o dair o staff ein GIG yn fenywod, ac nid oedd dim o'r cyfarpar hwnnw'n ffitio'r bobl hynny. Hefyd, pam na ddysgwyd gwersi o'r don gyntaf o COVID i'r ail, gan arwain at broblemau trychinebus gyda storio a dosbarthu brechlynnau i gartrefi gofal? A thra bôm wrthi, pam oedd gan Aelodau o Lywodraeth Cymru arfer o ddinistrio eu negeseuon WhatsApp i osgoi craffu?
Yr hyn sy'n gwneud popeth yn waeth yw nad ydym hyd yn oed yn gwybod beth yw maint y niwed a achoswyd gan y camgymeriadau hyn am nad ydym wedi cael craffu arno gan fod ymchwiliad y DU heb roi sylw manwl iddo. Felly, mae'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth wedi dadlau ei bod bellach yn bwysicach nag erioed cynnal ymchwiliad penodol i Gymru, gan nodi'r diffyg ffocws gwarthus ar Gymru yn ymchwiliad y DU, gyda llawer o fylchau gwag yn yr asesiad o'r sefyllfa yma yng Nghymru, a'r diffyg data perthnasol, sy'n peri pryder. Gadewch inni beidio ag anghofio bod modiwl 1 yr ymchwiliad, a barhaodd am bum wythnos ac a oedd yn canolbwyntio ar barodrwydd a gwytnwch, ond yn cynnwys wyth awr yn unig—wyth awr yn unig—o dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hynny'n ddigon, ac mae angen inni gael mwy o ffocws yma ar yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru. Eu dymuniad hwy oedd gwneud pethau'n wahanol, a dylent fod yn atebol am hynny.
Byddai ymchwiliad penodol i Gymru'n gallu canolbwyntio ar y bylchau amlwg yn y wybodaeth benodol i Gymru, ac yn sicrhau y cedwir at dargedau cyraeddadwy a mesuradwy, yn ogystal â rhoi'r ffocws ar y dioddefwyr, y rhai sydd wedi dioddef a marw yn ystod y cyfnod erchyll hwn, fel y gallwn ddysgu o'u profiadau ac atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd eto. Gadewch inni fod yn glir na fyddai angen i ymchwiliad Cymru ddyblygu'r gwaith a wnaed eisoes gan ymchwiliad y DU. Mae cyfoeth o ddata penodol i Gymru eisoes wedi'i gasglu, y gallai Llywodraeth Cymru gael mynediad ato ar eu cais. Byddai cyflymu amserlen ymchwiliad Cymru hyd at dair blynedd yn golygu y gellid cwblhau ein hymchwiliad mewn cyn lleied â dwy flynedd, ar yr amod fod amserlenni a therfynau ariannol priodol yn cael eu gosod ar y rhai a fyddai'n ei gynnal.
Meddyliwch, ymhen hanner tymor y Senedd nesaf, gallai'r holl deuluoedd hynny, y mae rhai ohonynt gyda ni heddiw, yr holl bobl sydd wedi ymgyrchu, gael yr atebion yr oeddent eu heisiau, yr atebion sydd eu hangen arnynt, gyda chamau ar waith i sicrhau nad oes rhaid i hyn fyth ddigwydd eto. Byddai'n sicrhau y ceir craffu priodol ar swyddogion, byddai'n sicrhau y ceir craffu priodol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, a gallem sicrhau ein bod yn barod ar gyfer yr argyfwng nesaf yng Nghymru. Credaf ei bod yn bryd i ni ei gael, yn hytrach na pheidio â'i wneud er mwyn arbed hunanfalchder rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu adroddiad modiwl 1? O fod wedi cyd-gadeirio'r pwyllgor hwn yn y gorffennol, rwy'n gwybod am yr ymdrech aruthrol a gymerodd i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith i gyrraedd y pwynt hwn. Felly, gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i'r tîm clercio am eu gwaith, gan y gwn eu bod wedi gweithio'n ddiflino ar yr adroddiad hwn, ac am eu gwaith ar y pwyllgor cyfan. Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i'r academyddion y buom yn gweithio gyda hwy, o Brifysgol Nottingham Trent ac o Brifysgol Abertawe, am eu gwaith yn ein cynorthwyo i nodi'r bylchau yn adroddiad modiwl 1 ymchwiliad y DU. Rwy'n credu bod eu cyfranogiad yn rhoi digon o drylwyredd deallusol ac academaidd i'r adroddiad hwn, yn wahanol i lawer o adroddiadau pwyllgor eraill.
Yn olaf, roeddwn hefyd eisiau diolch i'r sefydliadau a'r unigolion hynny a gymerodd ran yn yr ymarferion ymgynghori a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn. Roeddwn bob amser yn benderfynol nad pwyllgor academaidd pur oedd y pwyllgor hwn, ond un sy'n adlewyrchu realiti gwirioneddol y pandemig i lawer o bobl, gan ei bod yn amlwg fod COVID wedi cael effaith ar ein bywydau ni oll, ond i rai ohonom, roedd yr effaith honno'n fwy nag i eraill. Amser cinio, cyfarfûm â grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, ochr yn ochr ag Aelodau eraill o'r Senedd, i drafod hynny. Nid yw'r rhain yn bobl wleidyddol. Nid y bobl arferol y byddech yn disgwyl eu gweld yma yn y Senedd yw'r rhain. Maent yn bobl gyffredin, halen y ddaear o bob cwr o Gymru, wedi'u dwyn ynghyd gan un peth—y ffaith eu bod wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig ac eisiau'r atebion y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig, yn enwedig y rhai a allai fod wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at golli'r anwyliaid hynny.
Rydym bob amser wedi ymladd dros y bobl hynny, a dyna pam ein bod bob amser wedi galw am ymchwiliad COVID annibynnol i Gymru. Ond rwy'n gresynu bod Llywodraeth Lafur wedi bachu ar bob cyfle posibl i rwystro un. Dyna pam y chwaraeodd y Ceidwadwyr Cymreig ein rhan yn dod o hyd i ateb ymarferol drwy sefydlu pwyllgor COVID-19, gan gydnabod yn llwyr na fyddai ac na allai gymryd lle ymchwiliad annibynnol fel rydym yn ei weld yng nghyd-destun y DU, ond yn hytrach, y gallai ychwanegu ei werth drwy fynd at wraidd o leiaf rai o'r atebion y mae'r teuluoedd a gollodd anwyliaid yn eu haeddu. Ac felly, fe wnaethom gymryd rhan gyda phob ewyllys da, yn y gobaith o weithio ar draws llinellau pleidiol i gyflawni hynny, oherwydd pan fo'n fater o fywydau pobl, ni ddylai gwleidyddiaeth fod yn bwysig. A gallaf roi fy llaw ar fy nghalon a dweud fy mod i, ynghyd â'r aelodau Ceidwadol eraill, ac er tegwch, aelodau Plaid Cymru ar y pwyllgor hwnnw, wedi gwneud ein gorau i gyflawni hynny. Ond fe wnaed hynny'n amhosibl gan y cymylu parhaus gan yr Aelodau Llafur ar y pwyllgor a Llywodraeth Cymru ei hun.
Roedd yn amlwg, i rai, nad oedd y nod o weithio ar draws llinellau pleidiol i gyrraedd y gwir yr oedd y teuluoedd a oedd wedi dioddef profedigaeth yn ei haeddu yn nod a rennir, ond yn hytrach yn anghyfleustra i fynd ati'n weithredol i'w rwystro. Dro ar ôl tro, byddem yn gwastraffu amser yn trafod yr un materion drosodd a throsodd, fel rhyw ymarfer oedi hirfaith, a byddai rhai'n cyrraedd y pwyllgor fel pe baent wedi cael y dasg o feddwl am resymau dros beidio â gwneud rhywbeth, neu resymau dros beidio â thaflu goleuni ar y gwir. Os oedd y pwyllgor hwn byth yn mynd i weithio, roedd hi'n amlwg y byddai angen dau beth arno: ymrwymiad ar y cyd i ddod o hyd i'r gwir—ac yn anffodus, nid oedd hynny byth yno i rai—ac yn ail, roedd angen dannedd arno. Roedd angen pwerau arno i orfodi tystion i roi tystiolaeth, i allu gorfodi'r Llywodraeth a sefydliadau eraill i rannu dogfennau a gwybodaeth allweddol, yn enwedig gwybodaeth nad oeddent eisiau i'r cyhoedd ei gweld o bosibl. A chanlyniad hynny oedd pleidlais yn y Senedd lle pleidleisiodd yr Aelodau Llafur i gyd i atal hynny rhag digwydd. Felly, teimlwn nad oedd gennyf unrhyw ddewis arall ond gadael y pwyllgor.
Gadewch imi fod yn glir, byddai'n well gennyf fod wedi peidio ag ymddiswyddo fel cyd-gadeirydd y pwyllgor, ond gallaf ddweud yn hyderus iawn fod hynny'n well na’r dewis arall: llywyddu dros lys cangarŵ na fyddai byth wedi mynd at wraidd y materion fel roedd y teuluoedd yn ei haeddu. A chan fod rhywfaint o waith y pwyllgor—
Hoffwn ofyn i'r Aelod feddwl yn ofalus beth y mae'n ei alw'n llys cangarŵ yn y lle hwn.
Rwyf wedi'i ystyried, ac rwy'n glynu wrtho, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.]
A chan fod rhywfaint o waith y pwyllgor yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr wyf hefyd yn aelod ohono, rhaid imi fod yn onest a dweud bod gennyf nifer o'r un pryderon am ei bwyllgor i wneud cyfiawnder â'i bwnc.
Ni allai unrhyw adroddiad a gynhyrchir gan unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd hon fyth efelychu gwaith ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Dyna pam fy mod yn teimlo'n gryfach nag erioed fod angen un ar Gymru. Nid ein pleidiau sy'n ein hanfon yma, ond ein hetholwyr. Mae'n ddyletswydd arnom i sefyll o'u plaid, i ddod o hyd i'r gwirionedd, hyd yn oed pan fyddant yn anghyfleus neu'n gwrthdaro â'n byd-olwg neu'n lletchwith i'n pleidiau gwleidyddol. [Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, maent wedi bod â mwy i'w ddweud y prynhawn yma nag a oedd ganddynt i'w ddweud ar y pwyllgor cyfan, rhaid imi ddweud. Ac mae arnom y ddyled hon i'r rhai sydd wedi bod drwy'r profiadau mwyaf annirnadwy, fel colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Dyna pam, boed yn Gadeirydd y pwyllgor ai peidio, boed yn Aelod o'r Senedd ai peidio, y byddaf bob amser yn sefyll o blaid y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. A dyna pam y byddwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am ymchwiliad COVID annibynnol i Gymru.
Dwi'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Joyce Watson a'r rhan fwyaf o aelodau Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru am y gwaith y maent wedi'i wneud ar gynhyrchu'r adroddiad. Rydym yn cydnabod maint y dasg ac yn gwerthfawrogi eu difrifoldeb a'u gofal wrth ymgymryd â'u rôl. Nid oeddwn yn disgwyl gorfod dweud hyn heddiw, ond roeddwn yn credu bod sylwadau'r siaradwr diwethaf yn gwbl warthus, a dylai fyfyrio o ddifrif ar y math hwnnw o sylw am bwyllgor a ffurfiwyd gan y Senedd hon, yn enwedig pan wnaethant roi'r gorau i'w gwaith hanner ffordd drwodd. Hoffwn ddatgan yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i nodi'r adroddiad heddiw.
Yn y flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ddysgu'r gwersi, o'r pandemig ac o argyfyngau eraill. Mae hyn wedi cynnwys profi ein trefniadau rheoli risg ac ymateb cryfach mewn argyfyngau byd go iawn, gan gynnwys yn ystod stormydd Darragh a Bert yn yr hydref, ac yn ystod y toriad yn y cyflenwad dŵr yng ngogledd Cymru ym mis Ionawr. Ddydd Llun, cyhoeddodd ein Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd diweddaraf a wnaethom mewn perthynas ag argymhellion adroddiad modiwl 1 a'r gwaith parhaus i gryfhau gwytnwch Cymru, mewn partneriaeth â chymunedau ymatebwyr.
Ym mis Mai, lansiwyd fframwaith a chynllun cyflawni gwytnwch Cymru, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwytnwch a pharodrwydd, ac sy'n darparu strategaeth gyffredinol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, i leihau risg ac effaith argyfyngau. Dyma ganlyniad dwy flynedd o gydweithio agos â phartneriaid o bob rhan o'n cymunedau ymateb i argyfwng, gan gynnwys ar draws llywodraeth leol, y gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wrth gwrs, y sector gwirfoddol. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad a rennir i gryfhau ein parodrwydd cyfunol i ymateb a'n galluoedd i adfer yn wyneb bygythiadau cynyddol gymhleth ac esblygol.
Mae partneriaeth yn nodwedd allweddol o'r ffordd y gwnawn bethau yng Nghymru, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor diben arbennig am dynnu sylw at y rôl allweddol y mae fforymau gwytnwch lleol yn ei chwarae yn y strwythur gwytnwch. Mae ein fframwaith a'n cynllun cyflawni wedi'u datblygu ochr yn ochr â'n partneriaid allweddol, ond byddwn yn parhau i ymateb i'r holl adborth, gan gynnwys yr hyn sydd yn adroddiad y pwyllgor, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar wneud gwelliannau parhaus yn ein holl ymdrechion.
Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at feysydd ar gyfer cryfhau perfformiad fforymau gwytnwch lleol. Rydym yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i lywio'r cynlluniau manwl ar gyfer cyflawni'r gwaith a nodir yn y fframwaith gwytnwch a'r cynllun cyflawni. Mae ein strwythurau gwytnwch cryfach a'n cymorth cyllidol newydd i'r fforymau gwytnwch lleol yn ein galluogi i fabwysiadu ymagwedd lawer mwy strwythuredig a blaenoriaethol tuag at reoli risg yn well, cynllunio'n well a'n galluoedd i ymateb. Yn y pen draw, bydd hyn yn golygu ymateb mwy cadarn ac ystwyth i heriau aflonyddgar sy'n effeithio ar ein cymunedau.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi gwaith ymchwiliad COVID-19 y DU. Yr wythnos hon, yn ogystal â chyhoeddi ein diweddariad ar adroddiad modiwl 1, rhoddodd dau dyst o Lywodraeth Cymru dystiolaeth lafar i wrandawiadau modiwl 6 yr ymchwiliad, sy'n archwilio effaith y pandemig ar y sector gofal. Mae hyn yn dilyn y dystiolaeth gan brif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, a fynychodd y gwrandawiadau yr wythnos diwethaf. Rydym wedi datgelu degau o filoedd o ddogfennau, wedi cyflwyno mwy na 150 o ddatganiadau tystion, ac wedi darparu tystiolaeth lafar ar gyfer pob modiwl hyd yn hyn—modiwlau sy'n ymdrin â pharodrwydd, llywodraethu a gwneud penderfyniadau craidd, gofal iechyd, brechlynnau, caffael a chyfarpar diogelu personol a phrofion. Rydym yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad ar gyfer y modiwlau sy'n weddill yn ymwneud â phlant a phobl ifanc a'r ymateb economaidd, ac rydym yn barod, fel bob amser, i roi tystiolaeth lafar os gofynnir inni wneud hynny. Rydym hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i ymateb i adroddiadau ac argymhellion yr ymchwiliad. Disgwylir adroddiad modiwl 2, a archwiliodd y broses o wneud penderfyniadau a llywodraethiant, yn yr hydref, gyda mwy i ddod yn 2026.
Drwy gydol y broses hon, rydym wedi ceisio gweithio'n adeiladol gydag ymchwiliad y DU i sicrhau y gall y cadeirydd a'r cyfranogwyr craidd graffu ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn ac yn ystod y pandemig. Rydym yn dal i gredu mai dyma'r ffordd orau inni ddysgu'r gwersi o'r digwyddiad ofnadwy hwn ac i sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol, ac i bawb a gollodd anwyliaid gael atebion i'w cwestiynau.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn deall, yn enwedig o'r cyfraniadau heddiw, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i fwrw ymlaen â pheth o waith y pwyllgor diben arbennig. Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, byddem yn disgwyl i'r pwyllgor ystyried y diweddariadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu ers cyhoeddi adroddiad modiwl 1, yn enwedig cyhoeddi'r fframwaith gwytnwch a'r cynllun cyflawni, a bydd yn ystyried yr adroddiadau modiwl y mae'r ymchwiliad eto i'w cyhoeddi a'r meysydd y byddant yn eu trafod, er mwyn osgoi dyblygu ac i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth at y gwaith mawr sydd eisoes wedi'i wneud. Edrychwn ymlaen at weld blaenraglen waith y pwyllgor a ffocws ei graffu.
Ond yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni ddylem fyth golli golwg ar y ffaith bod yr ymdrechion hyn yn ymwneud â phobl yn y pen draw. Maent yn ymwneud â'r cymunedau a ddioddefodd galedi mawr, y gwasanaethau cyhoeddus a ymatebodd gydag ymroddiad yn yr amgylchiadau mwyaf heriol, ond yn fwy na dim, Ddirprwy Lywydd, maent yn ymwneud â'r teuluoedd ledled y wlad a gollodd anwyliaid ac sy'n parhau i fyw gyda'r golled honno. Rydym yn cydnabod eu profiad drwy gymryd rhan yn y broses hon gyda'r gofal, y didwylledd a'r parch mwyaf. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8960 Paul Davies
Cefnogwyd gan Heledd Fychan, Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i economi, diwylliant, iaith, amgylchedd a chymunedau gwledig Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal pleidlais derfynol, rwymol yn y Senedd ar ei chynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, cyn ei weithredu, er mwyn sicrhau ei gyfreithlondeb democrataidd, a hyder y sector amaethyddol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon a gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. Mae'r 24 awr ddiwethaf wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Ar ôl misoedd o ddisgwyl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ddiweddaru o'r diwedd, diweddariad y bu'n rhaid ei gyflawni yn dilyn protest eang ledled Cymru yn gynharach y llynedd. Yn wir, mae rhai o'r bobl a drefnodd y protestiadau hynny yma yn yr oriel gyhoeddus heddiw.
Daeth newid: Gweinidog materion gwledig newydd, a nawr, fersiwn newydd o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond mae a wnelo'r ddadl heddiw â llawer mwy na'r cynllun ei hun yn unig. Mae a wnelo â Chymru—ein tir, ein pobl, ein diwylliant. Mae a wnelo â phob fferm a phob ffermwr. Mae a wnelo â ffordd o fyw sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn ein hunaniaeth, ein hiaith a'n tirwedd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod cyfraniad y sector ffermio i economi Cymru yn llai nag 1 y cant. Mae'n gwybod y gost, ond nid y gwerth. Ychydig wythnosau ynghynt, gwrthododd y Dirprwy Brif Weinidog ddiystyru lleihau niferoedd da byw er mwyn cyflawni targedau hinsawdd, gan ddangos methiant unwaith eto i ddeall gwerth ffermio i Gymru.
Heddiw, rydym yn gofyn yn syml am y cyfle i'r Senedd hon bleidleisio—pleidlais rwymol derfynol ar y cynllun ffermio cynaliadwy cyn iddo gael ei roi ar waith. Mae pob un ohonom yn cofio'r protestiadau y llynedd. Rydym yn ymwybodol o gryfder y teimladau ledled y wlad. Rhaid i gynllun o'r maint hwn, sy'n effeithio ar dros 80 y cant o dir Cymru, sicrhau cyfreithlondeb democrataidd. Gadewch inni bleidleisio. Gadewch i Aelodau etholedig y Siambr hon, o bob cwr o Gymru, ac o bob plaid, gael dweud eu dweud.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid rhywbeth sy'n berthnasol i nifer fach o bobl yn unig na rhywbeth ymylol yw'r sector amaethyddol; dyma asgwrn cefn Cymru. Mae dros 50,000 o bobl yn gweithio'n uniongyrchol ar ffermydd. Mae 230,000 arall yn cael eu cyflogi drwy'r gadwyn gyflenwi. Am bob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir, mae £9 yn cael ei ddychwelyd i economi ehangach Cymru. Nid diwydiant creiriol yw hwn, sy'n cuddio mewn pocedi gwledig. Mae'n ddiwydiant deinamig, modern, sy'n edrych tua'r dyfodol, a grym hanfodol ar draws ein cenedl.
Mae'r alwad hon am bleidlais rwymol wedi'i chefnogi gan y sector. Dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
'Cynigiwyd y cynllun ffermio cynaliadwy fel y brif ffurf o gymorth i ffermwyr ar gyfer y genhedlaeth i ddod...mae'n bwysig…fod y Senedd yn craffu ar y cynllun ac yn dweud ei dweud ar y newid unwaith mewn cenhedlaeth hwn.'
Ychwanegodd llywydd yr FUW, Ian Rickman:
'Felly, rydym yn croesawu'r ddadl hon ac yn falch fod llawr y Senedd yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i graffu ar newidiadau o bwys gwirioneddol i ffermwyr Cymru.'
A phwy a allai anghytuno â hynny, yn enwedig pan erys llawer o'r pryderon o ddrafftiau cynharach? Mae pob un ohonom yn cofio'r 5,500 pâr o welintons a osodwyd ar risiau'r Senedd—brawychus, oherwydd beth oeddent yn ei gynrychioli? Roeddent yn cynrychioli'r swyddi a gollir, y bobl y mae eu bywoliaeth dan fygythiad. Ond faint o swyddi sy'n cael eu colli oherwydd yr iteriad newydd hwn? Wel, nid ydym yn gwybod. Nid yw'r asesiad effaith wedi'i gyhoeddi. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod.
Un o'r materion mwyaf sydd heb eu datrys yw plannu coed. Efallai fod y targed o 10 y cant wedi'i ollwng mewn enw, ond nid mewn ysbryd. Bydd disgwyl i ffermwyr blannu coed o hyd, ac os na wneir digon o gynnydd, bydd y Llywodraeth yn ailasesu'r rheolau. Mewn geiriau eraill: plannwch goed, neu mentrwch golli eich taliadau.
Ond gadewch inni fod yn glir, nid amgueddfa yw cefn gwlad, mae'n dirwedd fyw, weithredol, yn fusnes teuluol, yn guriad calon diwylliannol. Os yw'r cymhellion yn anghywir gan y Llywodraeth, mae'n newid mwy na mapiau defnydd tir, mae'n erydu hyder mewn ffordd o fyw. Canfu arolwg barn diweddar gan Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru mai dim ond 3 y cant o ffermwyr sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru. Gadewch i hynny suddo i mewn: 3 y cant. Nid amheuaeth yw hynny, mae'n hyder a chwalwyd. A ddoe ddiwethaf, datgelodd arolwg barn gan y Farmers Guardian nad yw 84 y cant o'r ymatebwyr yn bwriadu ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy ar ei newydd wedd. Pan fydd pedwar o bob pum ffermwr yn dweud, 'Na, dim diolch', nid mater ymylol yw hynny, mae'n rhybudd i'r sector cyfan.
Os yw Gweinidogion am i ffermwyr ymuno, mae angen iddynt ailadeiladu ymddiriedaeth. Mae hynny'n dechrau gyda thryloywder. A'r ffordd o sicrhau cydsyniad yw cynnal pleidlais rwymol lawn ar y cynllun yn y Siambr hon, fel y mae ein cynnig yn gofyn. Mae pleidlais yn caniatáu inni ddweud ein dweud yn ddemocrataidd wrth inni graffu ar y model talu, yr eithriadau defnydd tir, y fiwrocratiaeth, y newid o'r cymorth presennol, a gobeithio, ar ryw adeg, yr asesiad o'r effaith economaidd. Mae'n rhoi cyfle i'r Aelodau siarad o blaid eu cymunedau, ac mae'n rhoi sicrwydd i ffermwyr fod eu pryderon wedi cael eu clywed.
A sôn am newid, gadewch inni siarad am gynllun y taliad sylfaenol. Cafodd ffermwyr eu harwain i gredu y byddai'r newid yn raddol. Yn hytrach, rydym yn wynebu gostyngiad o 100 y cant eleni i 60 y cant y flwyddyn nesaf, yna 40 y cant, yna 20 y cant—ymyl dibyn o 40 y cant, pan ddywedwyd wrthym na fyddai ymyl dibyn. Mae llawer o ffermydd teuluol wedi cynllunio o gwmpas cael 80 y cant am o leiaf flwyddyn arall tra byddant yn asesu a yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn gwneud synnwyr iddynt hwy. Nawr, gyda gostyngiad mor serth, maent naill ai'n cael eu gorfodi i mewn i gynllun nad ydynt yn credu'n llawn ynddo o bosibl, neu'n cael eu gorfodi i beidio â derbyn cymorthdaliadau fferm yn gyfan gwbl—cymorthdaliadau sy'n cadw ffermydd Cymru'n hyfyw a phrisiau bwyd i lawr. Ac os nad ydych yn ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy, byddwch yn fforffedu cynllun y taliad sylfaenol—. Os ydych chi'n ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy, rydych chi'n fforffedu eich hawl i gynllun y taliad sylfaenol. Nid oes troi'n ôl os nad yw'r ffigurau'n gweithio i chi a'ch busnes. A yw'n syndod fod lefelau gorbryder yn yr entrychion ar draws y sector? A yw'n syndod fod iechyd meddwl ein ffermwyr yn dirywio? Oherwydd pan fydd incwm ffermydd yn gostwng, mae'r effeithiau'n eang.
Nid yw ffermwyr yn eistedd ar arian; maent yn ei wario gyda'r milfeddygon neu gyflenwyr porthiant lleol, gyda chludwyr neu werthwyr peiriannau, gyda chyfrifwyr gwledig lleol neu mewn lladd-dai neu arwerthiannau. Mae'n effeithio ar ein hysgolion gwledig, ein capeli, ein clybiau ffermwyr ifanc, a'r cymunedau lle caiff y Gymraeg ei siarad bob dydd. Pan fydd ffermio'n dioddef, mae Cymru'n dioddef. Os cawn y newid hwn yn anghywir, nid tanseilio ffermio'n unig a wnawn, rydym yn bygwth gwead cefn gwlad Cymru. Dyna raddfa'r hyn sydd yn y fantol.
Lywydd, rwy'n credu fy mod yn wleidydd pragmatig, synhwyrol, canol y ffordd, ond yr hyn sydd wedi fy synnu yw hyn: os crafwch drwy arwyneb Llafur, gallwch weld bod eu difaterwch tuag at y diwydiant amaethyddol yn real. O ddweud wrthyf yn ysmala am 'fynd yn ôl at y ffermwyr ifanc'—[Torri ar draws.] Nid wyf am ildio i'r unigolyn sydd wedi dweud un o'r sylwadau hyn yn y gorffennol. O ddweud wrthyf yn ysmala am 'fynd yn ôl at y ffermwyr ifanc' fel pe bai'n arwydd o gywilydd, i honni 'mae pob un ohonoch yn filiwnyddion' am na allant ddeall y gwahaniaeth rhwng arian parod ac asedau, neu ddiystyru'r ffermwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda TB buchol fel pobl a ddylai ddod o hyd i swydd arall, nid yw barn Llafur ar ffermio erioed wedi bod yn gliriach. O'r methiant i ddileu TB buchol, i dorri addewidion ar barthau perygl nitradau, i'r dreth ar y fferm deuluol a fyddai'n chwalu ein ffermydd teuluol, a nawr, cynllun nad oes gan y diwydiant unrhyw hyder ynddo—mae perthynas Llafur â chefn gwlad Cymru wedi torri. Ond mae'r cam cyntaf tuag at atgyweirio'r berthynas honno yn syml. Gadewch i'r Senedd gael pleidlais, pleidlais rwymol derfynol, ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyna mae tryloywder yn ei fynnu, dyna mae cyfreithlondeb democrataidd yn ei fynnu, a dyna mae ffermwyr ledled Cymru yn ei haeddu.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a’r Ysgrifennydd Cabinet nawr i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r cynnig i gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy; ac
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru’n dod ag Offeryn Statudol gerbron sy’n cynnwys y prif ddarpariaethau fydd yn sail i’r Cynllun.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Ffurfiol.
Mae'r gwelliant wedi'i gynnig, felly, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma. A'r hyn dwi eisiau ei wneud efallai—. Hynny yw, gallwn ni fynd i fanylder y cynllun, ond dwi'n gwybod bod yna gyfleon wedi bod. Mae llawer o'r hyn dwi wedi'i glywed dwi'n cytuno gydag ef, ac mi fydd yna gyfle bore yfory hefyd, wrth gwrs, yn y pwyllgor materion gwledig, i graffu'r Dirprwy Brif Weinidog ar rai o'r manylion. Ond gadewch i ni atgoffa’n gilydd fan hyn sail gyfreithiol y cynllun ffermio cynaliadwy, wrth gwrs, yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. O hwnnw mae grym y Gweinidogion yn deillio i gyflwyno cynllun; o hwnnw mae'r hyn y mae angen i'r cynllun ffermio cynaliadwy ei gyflawni yn deillio hefyd. Yn y Ddeddf honno, wrth gwrs, mi oedd yna restr o'r hyn y gall Gweinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth ar ei gyfer e, yn cynnwys cynhyrchu bwyd, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella resilience busnesau amaethyddol, cynnal yr iaith Gymraeg, helpu i gloi carbon, atal newid hinsawdd ac yn y blaen. Nawr, mi basiwyd y Ddeddf honno yn unfrydol yn y Senedd hon yma, gyda chefnogaeth pob un plaid.
Ond y cwestiwn nawr, wrth gwrs, yw: a yw'r cynllun ffermio cynaliadwy yn gwireddu yr hyn oedd yn y Ddeddf amaeth? Ydy e'n gwneud yr hyn y mae e'n ei ddweud ar y tun cyfreithiol, os liciwch chi? A'r man cychwyn, wrth gwrs, pan ŷch chi'n darllen y Ddeddf—rhyw fath o gynsail neu sylfaen i'r cyfan—yw Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n gosod allan y pedwar piler yna o ddatblygu cynaliadwy yma yng Nghymru. A phan ŷch chi'n edrych ar y rheini, wrth gwrs, mae rhywun yn sylweddoli pa mor allweddol yw y sector amaethyddol i'r holl elfennau hynny. Rŷch chi'n meddwl am yr economaidd, yr amgylcheddol, y cymdeithasol, yr ieithyddol a'r diwylliannol.
Rŷn ni'n gwybod, yn economaidd, fod y sector yn cynnal swyddi yn rhai o'n cymunedau mwyaf ymylol ni. Ydy, wrth gwrs ei fod e. Mae'n gwbl greiddiol ac yn allweddol yn hynny o beth. Ond y tu hwnt i'r giât fferm, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod hefyd ei fod e'n sylfaen ar gyfer bron i chwarter miliwn o swyddi yn y sector bwyd a diod ehangach. Ac nid dim ond swyddi yng nghefn gwlad yw'r rheini. Os ŷch chi'n meddwl am rai o'r proseswyr mawr sydd gyda ni, Kepak ym Merthyr—bron i 1,000 o swyddi mewn ardal dineseg, neu ardal drefol, dylwn i ddweud, fel yna. Ac rŷn ni'n gwybod hefyd, wrth gwrs, am bob £1, fel rŷn ni wedi clywed sawl gwaith fan hyn, sydd yn mynd i mewn i'r diwydiant, mae hi'n creu £9 ychwanegol oddi mewn i'r economi leol. Ond fel dwi wedi atgoffa Aelodau yn y Senedd yma o'r blaen, tynnwch chi £1 allan, ac rŷch chi'n tynnu £9 arall allan gyda honno hefyd, wrth gwrs. Ac mae erydiad y gyllideb amaethyddol rŷn ni wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, yn erydu'r economi ehangach, ac mae'r setliad fflat ar gyfer blwyddyn nesaf a'r diffyg ariannu tymor hir, o safbwynt yr hyn glywon ni ddoe gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, wrth gwrs, yn mynd i gael impact ehangach yn y pen draw.
Yn gymdeithasol, y sector amaethyddol sy'n cynnal glud cymdeithasau gwledig, wrth gwrs, ac mae'n rhaid inni ddathlu a chydnabod hynny—o Ffermwyr Ifanc i ysgolion gwledig, i dafarndai lleol, yr holl gyrff a mudiadau sy'n cwrdd mewn neuaddau pentref ar hyd a lled Cymru. A wedyn yr iaith a diwylliant. Rŷn ni'n gwybod bod 43 y cant o weithlu'r sector amaethyddol yn siaradwyr Cymraeg, sydd yn fwy na dwbl cyfran y boblogaeth ehangach sy'n siarad Cymraeg. Ac yn amgylcheddol hefyd, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod, drwy gynlluniau agri-amgylcheddol yn y gorffennol a nawr wrth symud ymlaen drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, fod y sector yn chwarae rôl allweddol. Ond y cwestiwn, felly, ydy: i ba raddau ydy'r egwyddorion yma, sydd ymhlyg yn y Ddeddf amaeth, yn treiddio i mewn i'r cynllun a gyflwynwyd i'r wlad ddoe?
Nawr, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi bod, yn ganolog, yn datblygu y cynllun hwnnw. Mae'r sector amaeth, y sector amgylcheddol, a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn rhan o grwpiau sydd wedi bod yn gweithio dydd a nos i gael y maen i'r wal ar hyn, ac rŷn ni'n ddiolchgar, wrth gwrs, i bob un ohonyn nhw, am y gwaith maen nhw wedi ei wneud ac yn parhau i fod yn mynd i'w wneud dros y cyfnod nesaf. Ond mae hi ddim ond yn iawn hefyd, wrth gwrs, gan mai Deddf yn deillio o'r Senedd yma yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, fod y Senedd yma hefyd yn cael cyfle i ddweud ei dweud ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Y Senedd yma sydd yn perchnogi'r Ddeddf, ac mi ddylai'r Senedd yma gael perchnogi'r cynllun hefyd a chael bwrw ein barn ni arno fe. Dyna pam y byddaf i yn cefnogi'r cynnig yma, a dyma pam fydd Plaid Cymru yn rhoi cefnogaeth i'r cynnig hefyd.
Fel llawer ohonom yn y Siambr hon, nid oeddwn eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond fe wneuthum ei weld fel cyfle i gael deddfwriaeth amaethyddol yng Nghymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, a rhoddodd y gallu i Lywodraeth Cymru lunio cynllun cymorth pwrpasol i ffermwyr Cymru. Yn wyneb newid hinsawdd, argyfwng natur a cholli bioamrywiaeth ar raddfa sylweddol, mae angen i'r sector amaethyddol fod yn llawer mwy gwydn. Rhaid i'r cynllun ffermio cynaliadwy gynorthwyo ffermwyr i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy, pan fo'n ymddangos ein bod yn wynebu gwres eithafol neu lifogydd bob blwyddyn, a thywydd annhymhorol yn sicr. Mae'n hanfodol fod unrhyw daliadau cymhorthdal newydd i'n ffermwyr yn gweithio nid yn unig i'r sector amaethyddol, ond i'r trethdalwr yng Nghymru hefyd. Nwyddau cyhoeddus am arian cyhoeddus a thaliad am bethau na allwch eu prynu mewn mannau eraill: rheolaeth well ar gynefinoedd, rheolaeth well ar goetiroedd, iechyd pridd gwell—y cyfan ochr yn ochr ag amcanion rheoli tir cynaliadwy. Fel pob sector arall, ni all ffermwyr barhau i wneud yr un pethau neu'r un pethau'n wahanol. Mae angen iddynt wneud pethau gwahanol.
Mae pobl yn dod i Gymru i fwynhau ein cefn gwlad a'n tirweddau hardd, gyda ffermwyr yn gofalu am bron i 90 y cant o dir Cymru. Mae tair haen i'r cynllun ffermio cynaliadwy fel y caiff ei gynnig: cyffredinol, opsiynol a chydweithredol. I mi, y ddwy haen olaf yw lle bydd y gwaith trawsnewidiol go iawn yn cael ei wneud, a rhaid darparu rhan sylweddol o'r gyllideb ar gyfer gweithredoedd yn y ddwy haen hynny.
Fel y nodais yn natganiad y Llywodraeth ddoe, mae'n hynod siomedig gweld polisi Llywodraeth Cymru ei hun o 43,000 hectar o goetir newydd yn cael ei dorri dros 60 y cant, a'r gofyniad am orchudd coed o 10 y cant ar bob fferm yn cael ei ddileu. Nid ydym yn plannu digon o goed yng Nghymru. Ffermwyr sydd yn y sefyllfa orau i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau plannu coed, a byddent yn cael eu gwobrwyo'n ariannol am wneud hynny. Byddai hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgais sero net erbyn 2050, ac rwy'n dal yn aneglur sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwneud hynny bellach gyda'r cynigion hyn wedi'u glastwreiddio. Yng Nghymru, mae angen i'n ffermwyr helpu yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, a dyna yw'r bygythiad mwyaf i gynhyrchiant bwyd cynaliadwy. Mae'n dda gweld bod y cynllun yn hyblyg a bod pob math o ffermydd a ffermwyr, gan gynnwys ffermwyr tenant yn enwedig, yn gallu bod yn rhan ohono. Fodd bynnag, rwy'n credu ein bod wedi cefnu ar darged a menter a fyddai wedi helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ac wedi ein helpu tuag at bontio teg i garbon isel, a hynny am fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y rhai a waeddodd uchaf. Fel y dywedodd Syr David Attenborough, mae coed yn elfen hanfodol ar gyfer adfer ein planed. Dyma'r dechnoleg orau sydd gan natur ar gyfer storio carbon, ac maent yn ganolfannau bioamrywiaeth. Diolch.
Mae'n bleser siarad heno yn y ddadl hon fel cynrychiolydd o Ddyffryn Clwyd, sydd â chymuned ffermio sylweddol ac un sy'n teimlo nad yw'n cael ei chynrychioli gan y Llywodraeth Lafur hon. Collwyd yr ymddiriedaeth y tro diwethaf gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac nid wyf yn credu y caiff ei adfer yn dilyn yr iteriad diweddaraf hwn. Disgwylir i'r cynllun ffermio cynaliadwy, diwygiad unwaith mewn cenhedlaeth, ail-siapio amaethyddiaeth Cymru am ddegawdau i ddod. Eto, yn rhyfeddol, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi pleidlais rwymol derfynol i'r Senedd. Mae hynny nid yn unig yn annemocrataidd, mae'n sarhad ar bob ffermwr, gweithiwr gwledig a dinesydd sy'n gwerthfawrogi ein cefn gwlad a'i gyfraniad i'n cenedl. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw heddiw am beth rhesymol: pleidlais rwymol yn y Siambr hon ar gynigion terfynol y cynllun ffermio cynaliadwy cyn iddynt gael eu cyflwyno.
Hefyd, rydym eisiau gweld asesiad effaith ar y cynlluniau hyn. Nid galwedigaeth yn unig yw ffermio, ond curiad calon y dreftadaeth Gymreig, cyswllt byw â'r hynafiaid a fu'n amaethu'r tir hwn. Mae ffermio'n sail i wead economaidd a diwylliannol Cymru. Ystyriwch, yn 2023, fod amaethyddiaeth wedi cyfrannu dros £1.2 biliwn i economi Cymru, gan gynnal cymunedau gwledig lle mae'r iaith ac arferion Cymreig yn ffynnu. Mae llawer yn teimlo bod y Blaid Lafur, yng Nghymru a Lloegr, wedi mynd i ryfel yn erbyn y cymunedau gwledig. Er nad oes ganddynt asesiad effaith, rwy'n credu y gallwn gymryd y bydd y cynllun hwn yn arwain at golli swyddi a cholli da byw, gan beryglu ein diogeledd bwyd o hyd. Pe bai bywoliaeth pobl yn cael ei beryglu mewn unrhyw ddiwydiant arall, ni fyddai'r Blaid Lafur yn ymddwyn fel hyn. Mae'r fersiwn ddiweddaraf hon o'r cynllun yn dal i fynnu 10 y cant ar gyfer rheoli cynefinoedd ac er bod y gofynion gorchudd coed o 10 y cant wedi cael eu gollwng, sydd i'w groesawu, mae gofyniad o hyd i ildio tir fferm ar gyfer plannu 250 o goed erbyn 2050, ac mae hynny ar gyfer y pethau sylfaenol yn unig. Yn eironig, mae ymgyrch Llywodraeth Cymru dros gynaliadwyedd wedi gwneud y diwydiant yn llai cynaliadwy nag erioed. Mae incwm ffermydd eisoes ar bwynt argyfwng. Gostyngodd yr incwm cyfartalog ar draws pob math o fferm yng Nghymru 34 y cant yn 2023-24, i lawr i ddim ond £30,700, yr ail isaf yn y DU. Cyferbynnwch hynny â Lloegr ar £45,300, a hyn ar adeg pan fo costau wedi codi 4 y cant, wedi'u gyrru gan brisiau mewnbwn cynyddol.
Ond y tu hwnt i'r ffigurau, mae yna fater dyfnach, sef ymddiriedaeth. Canfu arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru mai dim ond 3 y cant o ffermwyr sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru. Ac yna, yr wythnos diwethaf, diystyrodd y Prif Weinidog bryderon y sector, gan ddweud bod ffermwyr yn cael eu cefnogi'n dda, fel pe bai cefnogaeth ariannol rywsut yn eu gwahardd rhag lleisio unrhyw ofnau dilys. Daeth hyn wedi iddi ddiystyru protestiadau, a sylwadau gan ei chyd-Aelodau yn gynharach yn awgrymu y dylem roi'r gorau i sybsideiddio amaethyddiaeth yn gyfan gwbl, yn ogystal â'r pethau eraill y mae'r Blaid Lafur wedi'u dweud ar y mater yn ystod tymor y Senedd hon, fel y clywsom eisoes. Mae eraill wedi galw ffermwyr sy'n protestio yn eithafwyr ac wedi cwestiynu a ddylai ffermydd sydd wedi'u taro gan TB fodoli o gwbl. Yn onest, mae'r iaith honno o ddirmyg tuag at ein ffermwyr gan rai yn y Blaid Lafur wedi bod yn ofnadwy ac mae angen i Lywodraeth Cymru anfon neges gref o gefnogaeth i'r sector. Ond mae'r gefnogaeth sy'n cael ei chynnig yn gwbl annigonol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £238 miliwn ar gyfer y taliad cyffredinol, sydd yr un fath â chynllun y taliad sylfaenol presennol. Pan fydd y Blaid Lafur wedi rhoi codiadau cyflog sy'n chwalu chwyddiant, mae'r arian a gynigir i gefnogi'r sector amaethyddol yn aros yr un fath. Mae hyn yn dweud llawer am y ffordd y mae'r Blaid Lafur yn teimlo am ein ffermwyr. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet.
A allwch chi glywed yr hyn rwy'n ei ddweud?
Mae'n gallu clywed, ond nid yw pobl Cymru'n gallu clywed. Felly, os ydych chi am eu hannerch hwy—
Lywydd, rydych chi'n hollol iawn—gadewch i bobl Cymru glywed. Ble mae'r difidend Brexit? Pan oeddech chi'n sefyll, ochr yn ochr â chyd-Aelodau Ceidwadol y tu allan, yn dweud y byddai gennym wlad sy'n llifeirio o laeth a mêl, ac y byddai'r arian yn llifo i'r byd amaeth, ble mae e? Ble mae e?
Beth am yr holl arian a anfonoch chi'n ôl i'r Trysorlys ychydig flynyddoedd yn ôl? Yr arian na wnaethoch chi ei wario. Byddai hwnnw o fudd mawr i ffermwyr nawr. Byddai o fudd i ffermwyr ddeg gwaith drosodd, ac rydych chi'n gwybod y byddai, Ysgrifennydd y Cabinet. Anfonwyd yr holl arian hwnnw yn ôl i'r Trysorlys, a'ch Llywodraeth chi oedd ar fai am hynny. [Torri ar draws.]
Mae eich amser bron ar ben, Gareth Davies, os ydych chi am orffen eich cyfraniad.
Fe wnaf. Fe dderbyniais ymyriad go sylweddol. Am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi mewn ffermio, caiff £9 ei dychwelyd i economi Cymru. Dyna beth yw gwerth am arian, ac mae'n werth ei ddiogelu. Felly, rwy'n dweud, dewch â'r cynllun terfynol yn ôl yma a gadewch inni bleidleisio arno fel Aelodau o'r Senedd, oherwydd nid oes gan unrhyw Lywodraeth hawl i weithredu polisi mor drawsnewidiol heb gyfreithlondeb democrataidd priodol o bob rhan o Gymru. Mae ffermwyr yn haeddu llais, ac mae'r Siambr hon yn haeddu llais.
Mae ffermwyr yn dda am drefnu gweithgarwch cymunedol a ralïau, am eu bod wedi tyfu i fyny trwy'r ffermwyr ifanc, a bod ganddynt gynrychiolaeth undebol gref, ac yn rhannu gwybodaeth ac offer. Maent yn gymuned anhygoel a chanddynt lais cryf. Mae'r sloganau wedi bod yn effeithiol hefyd, gan ddal dychymyg y cyhoedd yn gyffredinol: 'Dim ffermwyr, dim bwyd', a threth ar y fferm deuluol. Ac yna, yn anffodus, mae eraill yn aml yn cysylltu eu hunain â hynny, ac rwy'n eu galw'n wrth-brotestwyr. Felly, mae'n gallu bod yn anodd gwahaniaethu rhwng beth sy'n bwynt protestio gwerthfawr a dim ond sŵn pan fyddwch chi'n cael eich dal yn ei ganol, fel y cefais i yn y Rhyl wrth y coleg. Ond roedd gweld y welintons ar risiau'r Senedd yn gynnar yn y bore ar y ffordd i bwyllgor yn ingol, yn ogystal â chael sgwrs weddus, dawel gyda'r cynrychiolwyr yno a oedd wedi'u gosod ar risiau'r Senedd.
Mae angen inni wrando hefyd ar y sefydliadau amgylcheddol sy'n rhoi llais i fyd natur. Nid yn unig y mae gan natur hawl i ffynnu, mae hefyd yn darparu'r aer a anadlwn, y dŵr a yfwn, a'n bwyd hefyd. Nid adeiladu a datblygu tai ar lefel dorfol yn unig sy'n arwain at golli natur, fel y dadleuodd rhywun—oherwydd bod llawer o Gymru'n wledig, mae bron i 90 y cant o'r tir yng Nghymru'n cael ei reoli ar gyfer amaethyddiaeth. Dros y blynyddoedd, cafwyd ffermio mwy a mwy dwys er mwyn parhau i wneud elw. Monognydau o silwair yn lle gweirgloddiau cyfoethog a bioamrywiol, draenio pyllau, dadwreiddio gwrychoedd, a bwyta i mewn i ymylon caeau i gynyddu tir cynhyrchiol, peidio â gorffwys y tir, peidio â rheoli ffosydd, torri gwrychoedd, a gorddefnydd o gemegau fel gwrtaith ac i ladd pryfed. [Torri ar draws.] Do, mae wedi bod yn bolisi, ac mae angen iddo newid.
Mae poblogaeth y DU o bryfed hedfan wedi gostwng 60 y cant mewn 20 mlynedd. Maent yn darparu swyddogaethau sy'n allweddol i ddiogeledd bwyd y DU, yn cynnwys peillio a rheoli plâu neu chwyn. Mae ein hafonydd yn dirywio. Drwy blannu coed ar hyd ymylon afonydd, gallwn wella ansawdd dŵr. Gall plannu strategol hefyd gynhyrchu cysgod i dda byw yn y tymereddau sy'n codi o hyd, gan wella iechyd a chynhyrchiant. Drwy edrych ar ôl ein gwrychoedd ac ymylon caeau, rydym yn diogelu cynefinoedd a bwyd ar gyfer byd natur. Rydym wedi gweld dirywiad enfawr yn ein poblogaethau adar. Gall iechyd y pridd wella eto, ac rwy'n falch fod profion yn rhan o'r cynllun hwn. A gallai 10 y cant ar gyfer bioamrywiaeth weld adfer gweirgloddiau, sy'n gyfoethog mewn bioamrywiaeth, a allai gael ei bori neu ei fyrnu ar ddiwedd yr haf.
Mae yna lawer o ffermwyr sydd eisoes yn ffermio mewn modd sy'n gyfeillgar i natur wrth gwrs, ac sy'n parchu eu hamgylchedd gwerthfawr. Rwy'n ymwybodol y gall newid fod yn anodd, ac mae angen inni sicrhau bod cyngor ac arbenigedd wrth law i helpu'r rhai sydd eisiau ymuno â'r cynllun, gan weithio gyda sefydliadau amgylcheddol o bosibl. Yn aml, mae cyllid ychwanegol yn ogystal â'r cynllun ffermion cynaliadwy ar gael i ffermwyr mewn tirweddau cenedlaethol, megis ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy a pharc cenedlaethol Eryri ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, gan weithio gyda cheidwaid y parc.
Mae amaethyddiaeth yn bwysig i economi, diwylliant, iaith, amgylchedd ac economïau gwledig Cymru, ond mae amgylchedd naturiol ffyniannus hefyd yn bwysig iddynt, ac mae angen inni barchu'r ddau. Ac mae'n rhaid imi ddweud, oni bai am Brexit, y gwnaeth llawer ohonoch chi bleidleisio a lobïo drosto, ni fyddem yn y sefyllfa hon o orfod sefydlu ein cynllun ein hunain. Roedd mwy o gyllid ar gael hefyd ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a oedd yn arian wedi'i glustnodi, gyda Chymru'n fuddiolwr net o gyllid Ewropeaidd. Ac rwy'n cofio bod cyllid ar gyfer arloesedd hefyd, i helpu ffermwyr i arallgyfeirio.
Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cyfle unigryw i Gymru sefydlu cynllun teg sy'n buddsoddi arian cyhoeddus mewn ffermio a rheoli tir yn gynaliadwy i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Am y rheswm hwn, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad parhaus o effeithiolrwydd pob agwedd a gwneud newidiadau i ofynion y cynllun a chymhellion ariannol fel y bo angen ac fel sy'n bosibl, er mwyn sicrhau gwerth am arian a chanlyniadau ac amcanion y cynllun.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod gweithgor wedi'i sefydlu gyda rhanddeiliaid a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi treulio amser yn gweithio gyda ffermwyr, undebau a sefydliadau amgylcheddol yn y cynllun hwn a luniwyd ar y cyd. Efallai y bydd angen i bob ochr gyfaddawdu, ac rwy'n gwybod bod pobl wedi bod yn mynegi pryderon, ond rwy'n gobeithio y gallwn ei dderbyn a symud ymlaen â hyn nawr cyn gynted â phosibl. Diolch.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau fel ffermwr, er fy mod yn cynllunio i ymddeol, gan fy mod bron â chael digon. Roedd y cyhoeddiad ddoe ar y cynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig yn ddigwyddiad pwysig arall i'r diwydiant ffermio. Mae'r holl ffermwyr ledled Cymru wedi bod yn aros am y cyhoeddiad gyda pheth anesmwythyd. Rwy'n dweud 'anesmwythyd' am fod yr iteriad diwethaf o'r cynllun ffermio cynaliadwy yn drychineb, fel y gwyddom i gyd, ac fe arweiniodd at filoedd o ffermwyr yn protestio ar risiau'r Senedd. Rwy'n falch fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ailedrych ar y cynllun ac wedi ailagor y cyfle i randdeiliaid roi mewnbwn gyda'r bwriad o gydgynhyrchu rhywbeth gwell. Rhaid inni ddiolch i randdeiliaid allweddol, yn cynnwys yr undebau ffermio ac eraill, am eu hymdrechion i geisio gwneud y cynllun hwn yn dderbyniol; tasg anodd, o gydnabod y diffygion niferus a oedd yn perthyn i'r cynllun gwreiddiol—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
O ystyried y sylwadau a glywsom, a ydych chi'n croesawu'r ffaith fy mod wedi cyfarfod â dau ffermwr ifanc o ogledd Cymru pan euthum i weld y welintons y tu allan i'r Senedd, dau yr oeddwn yn eu hadnabod yn bersonol, ac un ohonynt â gradd mewn ffermio cynaliadwy a'r llall yn aelod o'r Rhwydwaith Ffermio Cynaliadwy, ond eto, roeddent yn dal i deimlo'r angen i ddod yma gyda'r welintons?
Yn hollol. Mae hyn yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Dyma gyfle unwaith mewn oes i siapio amaethyddiaeth a chymorth amaethyddol, ac mae'n bwysig eu bod yn ei wneud yn iawn. Nid oedd y bobl ifanc hynny a llawer o bobl eraill yn teimlo eu bod yn ei wneud yn iawn, ac roeddent yn poeni am eu dyfodol eu hunain.
Ond diolch i'r bobl sydd wedi bod yn ceisio gwneud y gorau o hyn. Rwy'n amau'n fawr a yw'r cynllun ffermio cynaliadwy terfynol hwn yr hyn roedd pawb ei eisiau; mae'n debyg ei fod yn fwy o gyfaddawd, i gydnabod pwysau amser a mathau eraill o bwysau arno mae'n debyg. Tybed sut y bydd y ffermwr cyffredin yn ei weld. Rwy'n amau y byddant yn ei weld fel ateb i bob dim, fel y byddai'r Dirprwy Brif Weinidog eisiau i ni ei gredu. Efallai y bydd y cynllun diwygiedig hwn yn symlach na'r olaf, ond mae'n dal i fod yn llawn biwrocratiaeth.
Llonydd i ffermio y mae'r rhan fwyaf o ffermwyr ei eisiau. Maent eisiau cynhyrchu bwyd ac maent eisiau gofalu am eu fferm—pethau y maent eisoes yn dda am eu gwneud. Ond mae'n amlwg nad cynhyrchu bwyd yw'r flaenoriaeth yn y cynllun ffermio cynaliadwy hwn mwyach, er bod llawer o eiriau braf yn cael eu siarad yma ac o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy am gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel a lles anifeiliaid. Fe fyddech chi'n meddwl nad yw ffermwyr Cymru eisoes yn cyflawni'r pethau hyn, er eu bod. Mae gennym beth o'r bwyd gorau a'r safonau lles gorau yn y byd. Mae awgrymu'n sydyn iawn y gall ambell haen ychwanegol wella hynny yn drahaus.
Ond rwy'n dal i bryderu bod y cydbwysedd yn y cynllun ffermio cynaliadwy rhwng cynhyrchu bwyd, diogeledd bwyd a chadw ffermwyr actif cynhyrchiol, a dyheadau amgylcheddol y Llywodraeth yn anghywir, gyda'r ffocws wedi symud oddi wrth fwyd. I'r ffermwyr cyffredin, gadewch inni beidio â thanamcangyfrif pa mor feichus fydd fframwaith y gweithredoedd cyffredinol. Ydy, mae nifer y gweithredoedd wedi gostwng, ond nid yw'r hyn sydd yno'n hawdd. Rwy'n ofni y bydd llawer o ffermwyr yn amharod i ymuno â'r cynllun, ac y byddai'n well ganddynt aros ar gynllun y taliad sylfaenol hyd nes y daw i ben, a dwysáu eu modelau ffermio presennol wedyn, ac efallai y bydd llawer o ffermwyr oedrannus yn rhoi'r gorau iddi.
Ond wedi dweud hynny, rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynllun diwygiedig wedi'i symleiddio mewn llawer o feysydd a bod rhai o'r disgwyliadau hurt blaenorol wedi'u dileu. Rwy'n falch hefyd fod yr haen opsiynol yn rhoi dewislen o 14 thema yr ymddengys y bydd pob un ohonynt yn ennyn taliad. Nawr, mae hwn yn newid da gan ei fod yn rhoi dewis i ffermwyr, ac nid yw'n orfodol. Mae'n gweithio gyda hwy, yn hytrach na dweud wrthynt beth i wneud.
Yn ei ddatganiad ddoe, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd y cynllun hwn yn helpu ffermwyr i gynhyrchu safonau bwyd a lles o'r radd flaenaf, ac fel y dywedais yn gynharach, mae ffermwyr Cymru eisoes yn cyflawni rhai o'r safonau gorau yn y byd. O'r hyn y gallaf ei weld, ac o'r datganiad ddoe, mae'r cynllun hwn yn dal i ymwneud â choed. Er ei bod yn dda fod y gorchudd coed cyffredinol o 10 y cant wedi'i dynnu allan, y gwir amdani yw bod ymgyrch i sicrhau'r 17,500 hectar fan lleiaf, ac os nad yw'r targedau'n cael eu cyrraedd erbyn 2028, byddwn yn sicr yn gweld targedau gorfodol newydd ar gyfer plannu coed fel gofyniad yn y gweithredoedd cyffredinol. Dyna rwy'n ei deimlo. Rwy'n cydnabod bod angen newid, a bod rhaid cyfeirio arian cyhoeddus tuag at nwyddau cyhoeddus, ond rwy'n dal i gredu bod sicrhau ein diogeledd bwyd yn nwydd cyhoeddus, felly gadewch inni gael y cydbwysedd yn iawn.
Lywydd, mae'r cynllun hwn yn welliant ar yr un diwethaf, ond mae ei gyhoeddiad wedi'i ddifetha gan y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymwrthod â'r trefniadau tapro ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol, gan adael llawer o ffermwyr nad ydynt yn fodlon ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy i wynebu ymyl dibyn, lle bydd cynllun y taliad sylfaenol yn gweld toriad o 40 y cant y flwyddyn nesaf, yn hytrach na'r 20 y cant a addawyd. Clywsom resymeg y Dirprwy Brif Weinidog dros hyn, ond nid yw'n dal dŵr. Nid bai'r ffermwyr oedd bod y cynllun gwreiddiol yn drychineb; pam y mae angen iddynt dalu am fod y Llywodraeth wedi cael pethau mor anghywir? Rwy'n tybio mai gwirionedd anghyfleus yn unig yw'r rhai nad ydynt eisiau ymuno i'r Llywodraeth, ac nad yw'n arbennig o bryderus yn eu cylch.
Yn ogystal, yr hyn na fydd yn helpu derbyniad yw'r ffaith nad ydym wedi gweld yr asesiad effaith. Sut y gall y diwydiant, neu ni yma, gefnogi'r cynllun ffermio cynaliadwy, os nad ydym yn gwybod sut y bydd pethau'n effeithio ar y diwydiant a'n cymunedau mewn gwirionedd? Lywydd—
Rwyf wedi bod yn hael iawn—yn fwy hael nag y bûm i'ch cymydog, a gallaf ei weld yn edrych arnaf—felly os gallwch chi ddod i ben.
Rwy'n gorffen, mae'n ddrwg gennyf. Diolch am eich haelioni.
Lywydd, mae yna lawer o gwestiynau sylfaenol yn codi am y cynllun. Yn gyntaf, mae angen eglurder ynghylch cynaliadwyedd ariannol y cynllun a gwarant na chaiff cyllid ei ostwng o dan y £238 miliwn presennol ar gyfer yr haen gyffredinol, wrth i ffermwyr gael eu gyrru tuag at elfennau o'r haen opsiynol. Lywydd, mae angen inni symud ymlaen, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth barhau i wrando—
Yn eich geiriau eich hun, mae angen inni symud ymlaen. [Chwerthin.]
Fel gyda'r holl bethau hyn, y manylion sy'n bwysig. Cefnogwch ein cynnig.
Gadewch imi ddechrau gyda'r hyn sy'n amlwg: mae ffermio'n anodd. Rwy'n dod o deulu o ffermwyr ac rwy'n deall y rôl hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae. Mae eu hangen arnom, ac rydym yn gweld eu gwerth fel gweithwyr allweddol. Nid yn unig y maent yn ein bwydo, maent yn rhan bwysig o'n mosäig diwylliannol ac ar eu gorau, maent yn stiwardiaid ein hamgylchedd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ailddatgan hyn, oherwydd mae'r ddadl ynghylch ffermio mewn lle gwael; mae wedi cael ei llusgo i mewn i'r rhyfeloedd diwylliant, ac mae'r rhaniadau hynny'n cael eu chwyddo trwy ein dadleuon gwleidyddol. Clywais fy nghyd-Aelodau'n gwneud y pwynt fod ffermio'n cyfrannu llai nag 1 y cant o gynnyrch domestig gros y wlad, ond mae hynny'n debyg i ddweud bod wasier yn cyfrannu llai nag 1 y cant o weithrediad tap. Efallai ei fod yn wir, ond mae'n methu'r pwynt.
Ar y llaw arall, mae'n teimlo fel pe bai'r prif undebau ffermio yn benderfynol o wthio naratif o gwyno. Ac mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd hon yn cystadlu â'i gilydd i roi llais iddo. Maent wedi dod yn adain wleidyddol yr undebau ffermio. Ddoe, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru £238 miliwn o arian cyhoeddus i gefnogi ffermio. Disgrifiodd yr NFU hynny fel ergyd. Dywedodd y Torïaid nad oedd iddo gyfreithlondeb democrataidd. Maent yn chwilio am bob cyfle i ddweud bod ffermwyr yn cael eu bradychu. Maent wedi galw newidiadau i dreth etifeddiant yn 'frad'; rheolau i leihau llygredd afonydd yn 'gosbol a didrugaredd'; ac rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y 'ergydion chwerw' a ddisgrifiwyd ganddynt. Nid yw hon yn ddadl iach.
Lywydd, rwyf wedi rhoi'r gorau i fynychu cyfarfodydd undeb ar ffermydd. Yr undebau ffermio yw'r unig grwpiau y deuthum ar eu traws sy'n credu bod ymgysylltu effeithiol yn cynnwys gwahodd cynrychiolydd lleol i gyfarfod â grŵp o ddynion sy'n gweiddi arnynt. I fod yn deg, roedd y tactegau'n amrywio rhywfaint; weithiau, byddent yn gweiddi arnaf ar fuarth oer, mwdlyd, ac weithiau, byddent yn gweiddi arnaf mewn cynhesrwydd, dros de a phice bach hyfryd. Ond nid yw'n gynnig difrifol i ddadlau, fel y mae sawl ffermwr wedi'i wneud wrthyf i, y dylent gael mwy o arian cyhoeddus, bod yn destun llai o fesurau diogelu amgylcheddol ac y dylai'r Llywodraeth gyfyngu ar fewnforion i leihau cystadleuaeth. Ni ellir bod o ddifrif ynglŷn â hynny. Ond os ewch chi heibio i'r porthorion, mae bron bob ffermwr yn cydnabod bod yn rhaid i'w sector newid, fel pob sector arall.
Ar ôl inni wneud y penderfyniad i adael yr UE, roedd newid yn anochel. Roedd y polisi amaethyddol cyffredin, a fu'n fwgan defnyddiol am flynyddoedd, yn gwarantu isafswm incwm i ffermwyr—mae hwnnw wedi mynd. Cyn inni adael yr UE, byddai cyllid ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol yn dod i gyllideb Llywodraeth Cymru o Frwsel a byddai'n cael ei drosglwyddo ar unwaith i ffermwyr. Ni châi ei graffu, nid oedd yn rhan o'r ddadl flynyddol ar sut i flaenoriaethu cyllid; fe gâi ei ddiogelu. Roedd gadael yr UE yn golygu nad yw'r arian hwnnw'n dod i mewn mwyach. Mae'r un peth yn wir am y grantiau yr arferem eu cael ar gyfer ardaloedd trefol difreintiedig—daethant hwy i ben hefyd. Mae Cymru bellach yn cael llai o arian—£1 biliwn yn llai. Dyna beth y mae Brexit wedi'i olygu.
Nawr, nid wyf yn siŵr sut y mae pobl a bleidleisiodd dros weld Cymru'n cael llai o arian yn dadlau bellach y dylem wario mwy fyth ar gymorth ffermio. Mae'n hurt. Mae angen i'r byd ffermio wneud ei achos nawr o fewn cyllideb Cymru, ochr yn ochr ag iechyd ac addysg. Nid yw honno'n sefyllfa yr oeddem am ei gweld, ond ni allwn drosglwyddo taliad sylfaenol gan fod y cyllid hwnnw bellach wedi mynd. Rhaid inni ddangos nwyddau cyhoeddus ychwanegol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Ac er inni golli £1 biliwn o gyllid yr UE, rydym yn dal yn mynd i wario £238 miliwn y flwyddyn ar gefnogi ffermwyr. Mae hwnnw'n swm mawr. Mae'n cydnabod gwerth yr hyn a wnânt i ni, ac mae'n fuddugoliaeth fawr i'r lobi ffermio. Gan fod gennym gynllun ffermio cynaliadwy erbyn hyn, mae angen inni ailosod y ddadl.
Rwyf am weld mwy o'r bwyd ardderchog a gynhyrchwn yng Nghymru yn cael ei fwyta yng Nghymru. Cymru yw un o'r rhannau tlotaf a salaf o Ewrop, ac eto byddwn yn neilltuo £238 miliwn y flwyddyn i sybsideiddio bwyd sy'n cael ei anfon yn bennaf i wledydd eraill. Nid yw ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd o safon i'n plant ysgol ein hunain na'n cleifion ysbyty. Na, rydym yn gweini bwyd rhad, wedi'i fewnforio iddynt hwy. Nid ydym yn gofyn i'n ffermwyr dyfu ffrwythau a llysiau; rydym yn mewnforio'r pethau hynny hefyd. Nid ydym ychwaith yn defnyddio'r ucheldir i dyfu pren fel cnwd proffidiol i'n helpu i adeiladu cartrefi. Na, rydym yn mewnforio 80 y cant o'n pren. Yr hyn a wnawn yw defnyddio arian cyhoeddus gwerthfawr Cymru i dalu ein ffermwyr i fagu gwartheg a defaid yn bennaf, gydag effaith amgylcheddol sylweddol yma yng Nghymru, i sybsideiddio bwyd mewn gwledydd eraill.
Ac a yw ein ffermwyr yn elwa? Mae dros 20 y cant o ffermydd Cymru'n colli arian. Mae'r fferm gyfartalog yn gwneud ychydig dros £30,000 y flwyddyn. Dim ond £22,000 y flwyddyn y mae'r fferm wartheg a defaid gyfartalog yn ei wneud yn ein 'hardaloedd llai ffafriol' fel y'u gelwir. I lawer o bobl, nid yw'r system hon yn gweithio, ac eto pryd bynnag y ceisiwn ddiwygio'r system honno, mae'r undebau ffermio a'r gwrthbleidiau yma'n ein cyhuddo o frad. Mae angen ailosod y sgwrs hon, ac mae angen i hynny ddechrau yma.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o gadarnhau y byddaf yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd. Wrth gwrs, ers i'r cynnig hwnnw gael ei gyflwyno, mae gennym bellach fanylion cynllun cymorth ffermio Llywodraeth Cymru. Mae sawl agwedd ar y cynllun y byddaf yn eu croesawu'n ofalus, ond bydd y penderfyniad i dorri cymorth cynllun y taliad sylfaenol i 60 y cant o'r lefelau presennol, pan fo disgwyl gostyngiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod, yn rhoi pwysau enfawr ar y diwydiant sydd eisoes mewn sector sy'n ei chael hi'n anodd.
Rwyf am wneud rhai sylwadau ar yr ymateb a roddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf i Sam Kurtz, pan ofynnodd gwestiwn am y diffyg cymorth y mae'r diwydiant yn teimlo eu bod yn ei gael gan Lywodraeth Cymru, y diffyg hyder sydd ganddynt yn Llywodraeth bresennol Cymru. Ymatebodd y Prif Weinidog yn rhannol trwy ddweud hyn:
'Oes, mae angen cefnogi'r gymuned amaethyddol, ac maen nhw wir yn cael eu cefnogi—gwerth dros £250 miliwn o gefnogaeth bob blwyddyn. Mae hynny'n gryn dipyn o gefnogaeth i sector sy'n cyfrannu llai nag 1 y cant at gynnyrch domestig gros y wlad.'
Wel, gadewch imi ddweud hyn: nid dim ond mynd i boced ôl ein ffermwyr y bydd y £250 miliwn o gymorth. Mae pob un ohonom yn yr ystafell hon yn elwa o'r cymhorthdal hwnnw, o ystyried ein bod ni i gyd yn bwyta bwyd. Ac mae'r cymhorthdal hwnnw'n cadw'r prisiau yn ein siopau ac yn ein harchfarchnadoedd yn isel. Dyna beth y mae'r cymhorthdal hwnnw'n ei wneud. [Torri ar draws.] Dyna mae'n ei wneud. [Torri ar draws.] Ie, dyna mae'n ei wneud, Lee.
Chi sy'n siarad, Russell George, felly fe gewch chi anwybyddu cyfraniadau o'r ddwy ochr.
Fe wnaf. Fe wnaf anwybyddu'r cyfraniadau hynny, Lywydd. Ac wrth gwrs, yr agwedd arall ar hyn yw diogeledd bwyd. Yn ystod COVID, gwelsom silffoedd gwag mewn rhai ardaloedd. Fe welsom, ac rydym wedi gweld mewn achosion o wrthdaro ym mhob rhan o'r byd, fod y rheini'n effeithio ar brisiau bwyd ac yn effeithio ar y cyflenwad bwyd. Mae angen inni gael ein cynnyrch ein hunain wedi ei gynhyrchu yn ein gwlad ein hunain i sicrhau na chawn yr amrywiadau hynny. Os na allwn warantu ein cyflenwad bwyd ar gyfer ein gwlad ein hunain, a gwneud yn siŵr fod gennym ein cadwyni cyflenwi yn ein gwlad mewn trefn, rydym mewn trwbl mawr.
Yr agwedd arall, wrth gwrs, yw'r effaith economaidd, ac rwyf am gyffwrdd â hynny. Dywedodd llywydd yr NFU, Aled Jones, mewn ymateb i'r sylwadau:
'Mae ffermio yng Nghymru'n cyflogi bron i 50,000 o bobl ar ein ffermydd gyda thua 230,000 yn cael eu cyflogi ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod gyfan...mae allbwn fferm yn werth dros £2.2 biliwn bob blwyddyn ac rydym yn sail i sector bwyd yng Nghymru sy'n werth £9.3 biliwn i economi Cymru.'
Ac fe awn ymhellach na hynny, oherwydd mae llawer o'r 50,000 a grybwyllwyd yn ffermydd yn fy etholaeth i. Mae yna bobl yn fy etholaeth nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio, ond byddant yn dioddef os yw'r diwydiant ffermio'n dirywio neu'n diflannu. Bydd ysgolion gwledig yn diflannu. Bydd cannoedd o fusnesau'n mynd i'r wal. Bydd gwasanaethau lleol yn diflannu. Mae canlyniadau a sgil-effeithiau diwydiant ffermio sy'n dirywio yn sylweddol ac ni ellir eu bychanu.
Lywydd, wrth imi ddod i ben, er mwyn cefnogi ein busnesau ffermio a'n cymunedau gwledig, rhaid i Lywodraeth y DU ddileu'r dreth ar y fferm deuluol. Bydd hynny'n arwyddocaol iawn, nid ar unwaith, ond yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid i Lywodraeth bresennol a nesaf Cymru sicrhau bod cynllun ffermio a bwyd Cymru wedi'i ariannu'n briodol gyda diogeledd bwyd wrth ei wraidd, a hefyd mae angen inni newid rheolau caffael cyhoeddus i hyrwyddo cynnyrch Cymreig a hyrwyddo'r gyllideb amaethyddol.
Rwy'n falch fod y sector ffermio'n cael ei gefnogi gan y cyhoedd, er bod nifer ohonynt heb gysylltiad â'r diwydiant. Mae angen inni gael polisïau sy'n gweithio i gefn gwlad Cymru, nid dim ond rhai sydd ond yn swnio'n dda ar bapur ym Mae Caerdydd.
Y Dirprwy Brif Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad eto yn y Siambr yr wythnos hon am y cynllun ffermio cynaliadwy. Fel y gŵyr yr Aelodau i gyd, cyhoeddwyd y cynllun hwn ddoe. Bydd ein cynllun yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sydd o’r radd flaenaf wrth ofalu am yr amgylchedd gan addasu a mynd i’r afael â newid hinsawdd ac adeiladu gwytnwch i’r rhai a fydd yn trin ac yn gofalu am y tir gwerthfawr yma.
Lywydd, nid wyf yn meddwl y bydd gennyf amser i ymateb i bob pwynt a wnaed heddiw, ond rwyf am ymateb i rai o'r rhai pwysig. Rwyf am ddiolch am gyfraniadau gwirioneddol feddylgar a chraff heddiw. Roedd rhai'n cynnig mewnwelediad go iawn ac mae'n amlwg fod pobl wedi darllen y manylion. Roedd eraill, gyda pharch, ychydig yn debyg i lestri gweigion. Ond fe geisiaf ganolbwyntio ar y pwyntiau amlwg.
A gaf i nodi, fel y gwneuthum sibrwd draw at Darren Millar eiliad yn ôl, ar ôl cael cerydd ddoe am beidio â phwysleisio diogeledd bwyd, ei bod hi'n syndod braidd nad yw'r cynnig Ceidwadol yn sôn am ddiogeledd bwyd? A wyf i wedi methu rhywbeth yma? Ond beth bynnag, dim ond pwynt bach.
A gaf i ddweud, fodd bynnag, ein bod yn wirioneddol gefnogol i bwynt 1 y cynnig a gyflwynwyd? Rydym yn cefnogi ffermio, fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro. Ond rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant, ac os caiff ei basio, i gefnogi'r cynnig diwygiedig.
Gadewch imi droi at rai pethau penodol. Yn gyntaf oll, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn gynnyrch cydweithredu digynsail. Ydym, rydym wedi gwrando ar safbwyntiau eang, nid yn unig y safbwyntiau mwyaf swnllyd, ond yr holl safbwyntiau, ac rwyf wedi gwneud dyfarniad wedyn ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym wedi gweithio'n ddwys gyda'r undebau ffermio, gyda chyrff anllywodraethol amgylcheddol a llawer o sefydliadau eraill: Cymdeithas y Pridd, Coed Cymru ac eraill. Ac fe ddywedaf eto, diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni. Rwyf hefyd wedi treulio llawer o amser yn llythrennol allan yn y maes yn siarad â phobl, amgylcheddwyr a ffermwyr o bob math gwahanol yn eu hamrywiaeth fawr.
Mae hyn wedi arwain at gynllun sy'n gweithio i ffermwyr ac i gynaliadwyedd hirdymor y bwyd a'r nwyddau a gynhyrchant. Bydd yn ateb disgwyliadau pobl Cymru hefyd. Mae'n gytundeb newydd, nid dim ond cynllun i ffermwyr. Mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n ddull fferm gyfan, cenedl gyfan o weithredu. Wrth ystyried rhai o'r sylwadau gan y rhanddeiliaid hynny yn y dyddiau diwethaf, y byddaf yn rhoi sylw iddynt yn yr ychydig funudau sydd gennyf, Lywydd, dywedodd Cymdeithas y Pridd:
'Ar ôl blynyddoedd o ddadlau a chynllunio, mae'r amser ar gyfer oedi wedi mynd heibio. Mae'r bygythiadau i'r amgylchedd a gwytnwch bwyd a wynebwn yn fwy dwys nawr nag erioed, ac mae'r pwysau ar gyllid cyhoeddus yn cynyddu. Fel dull "fferm gyfan" o gynhyrchu bwyd cynaliadwy, mae'r haen gyffredinol yn uchelgeisiol ac yn arloesol, i Gymru a'r DU—mae hwn yn ddechrau addawol.'
Gadewch imi droi at fater pleidlais rwymol, a dweud yn gyntaf oll ein bod wedi gwrando'n helaeth. Rydym wedi ymgynghori'n helaeth. Yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr nawr mewn gwirionedd, a'r hyn sydd ei angen ar bobl Cymru nawr, yw sicrwydd. Maent angen gweld gweithredu'n digwydd. Dyna maent ei angen. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgysylltu mor helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, mae hi bellach yn bryd i ffermwyr asesu'n unigol a ydynt am ymuno â'r cynllun ar yr haen gyffredinol.
Mae'r symiau sydd eisoes wedi'u rhoi tuag at yr haen gyffredinol wedi cael sylw y prynhawn yma. Nid ydynt yn fach. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn, gan gynnwys drwy'r canllaw cyflym. Os ydych chi eisiau annog pobl i edrych ar beth y mae hyn yn ei olygu iddynt hwy, edrychwch ar y canllaw cyflym a fydd ar gael o'r Sioe Frenhinol ymlaen drwy'r haf. Bydd gallu yno i weld beth y mae'r cynllun yn ei olygu i'r ffermydd unigol hynny. Ac oes, mae mwy o waith i'w wneud, eto mewn cydweithrediad, ar fanylion yr haen opsiynol a'r haen gydweithredol, ac rwyf eisiau dod at hynny oherwydd dyna yw'r thema wedi bod dros y 24 awr ddiwethaf o drafod.
Y peth olaf sydd ei angen ar ffermwyr nawr yw oedi pellach, a dyna beth rwy'n tybio—nid yn gyfan gwbl, rhaid imi ddweud—y mae rhai Aelodau o'r gwrthbleidiau'n dadlau drosto erbyn hyn. Ar ôl dadlau dros oedi unwaith, 'Gadewch inni oedi eto ac oedi wedyn a gadewch inni gadw cynllun y taliad sylfaenol i fynd'. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny erioed wedi bod ar y bwrdd. Y cynllun nawr yw'r cynllun, ar gyfer nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen sicrwydd ar ffermwyr a phobl Cymru fod hwn yn cyflawni, nid y petruso a'r oedi y tybiaf fod rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr yn gofyn amdano unwaith eto.
Ond ar fater pleidlais rwymol, Lywydd, fe fydd pleidlais yn yr hydref ar y cyfraddau talu manwl yr ydym yn gweithio arnynt nawr drwy'r haf i ddod â Gorchymyn rheoleiddio yn ôl i'r Senedd. Gallwch ddweud eich barn bryd hynny. Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y mae'r cynllun wedi'i osod, os ydych chi am orfodi mwy o oedi, os ydych chi am orfodi mwy o ansicrwydd ar y gymuned ffermio, pob lwc i chi, oherwydd ni wnânt ddiolch i chi. Na wnânt wir.
Gadewch imi droi at y cynllun busnes a'r dadansoddiad o effaith. Yn gyntaf oll, gadewch imi ddweud yn glir ei bod yn ymddangos bod rhai pobl ar feinciau'r wrthblaid yn meddwl mai modelu economaidd yw'r unig beth sy'n bwysig. Senarios yw'r modelau economaidd, nid rhagfynegiadau. Mae modelu economaidd yn cynhyrchu gwahanol fewnwelediadau i'r hyn a allai ddigwydd. Nid yw'n cynhyrchu beth fydd yn digwydd i unrhyw ffermwr unigol. Dyna sydd angen iddynt fanylu arno, gyda'r canllaw cyflym. Dyna pam ei bod hi'n bwysig i ffermwyr edrych ar beth y mae'r cynllun yn ei olygu iddynt hwy.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi ffermwyr i ddeall gofynion y cynllun a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy, fel rwy'n siŵr y bydd holl randdeiliaid y ford gron. Fodd bynnag, rydym wedi cynnal dadansoddiad helaeth i archwilio canlyniadau posibl y cynllun, gan ddefnyddio'r offer dadansoddol gorau sydd ar gael a'r data diweddaraf. Ond nid yw'r canlyniadau'n ddiffiniol. Nid ydynt yn absoliwt. Nid ydynt yn rhagfynegi'r dyfodol. Modelau a senarios ydynt, nid rhagfynegiadau. Maent yn darparu mewnwelediad defnyddiol ar lefel y cynllun, sydd ynghyd â thystiolaeth arall wedi llywio datblygiad yr achos busnes, ac yn y pen draw y penderfyniadau a wnaed gennyf i a'r Llywodraeth hon.
Gadewch imi droi at rai manylion pwysig a godwyd. Fe nododd Undeb Amaethwyr Cymru ddoe:
'cyfanswm cyllideb ar gyfer y Taliad Sylfaenol Cyffredinol a thapr cynllun y taliad sylfaenol gyda'i gilydd o £238 miliwn, sy'n darparu cyfraddau talu ymarferol a sefydlogrwydd mawr ei angen ar gyfer y sector. Mae hyn yn cynnwys darparu taliadau cyffredinol i ddeiliaid hawliau tir comin.'
Ond gadewch imi droi'n fwyaf arbennig at yr opsiynol a'r cydweithredol. A oes digon ynddo? Wel, mae £102.2 miliwn ar gael yn 2026 o'r diwrnod cyntaf ar gyfer y gweithredoedd opsiynol a chydweithredol. Rwyf wedi bod yn glir mai isafswm yw hwn, gan y byddwn yn ychwanegu ato y gyllideb o dapr cynllun y taliad sylfaenol i fod ar gael i ffermwyr trwy weithredoedd opsiynol a chydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy. Gadewch imi fod yn glir: rwy'n rhagweld y bydd ffermwyr eisiau tynnu hwn i lawr. Felly, rwy'n disgwyl y bydd y gyllideb ar gyfer y gweithredoedd opsiynol a chydweithredol yn 2026 yn fwy na'r hyn a ddarparwyd i gefnogi'r cynlluniau paratoadol presennol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025. Felly, mwy o fuddsoddiad yng nghynaliadwyedd ein ffermydd, ym myd natur ac yn yr amgylchedd hefyd.
Dywedodd y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur:
'At ei gilydd rydym yn croesawu diweddariad diweddaraf y cynllun ffermio cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig cadw'r gofyniad cynefinoedd o 10 y cant—buddugoliaeth i fyd natur ac i ffermio gwydn. Fodd bynnag: bydd cyllid digonol ar gyfer yr haenau Opsiynol a Chydweithredol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod arloeswyr ffermio sy'n gyfeillgar i natur yn cael eu cydnabod am ein gwaith. Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn nyfodol ein bwyd, natur a chymunedau cefn gwlad.'
Cymdeithas y Pridd:
'Rhaid lansio'r cynllun newydd ym mis Ionawr 2026, ond mae'r ffordd y mae'n llwyddo yn dibynnu ar ei allu i gynnal a chryfhau ffermio sy'n gyfeillgar i natur yng Nghymru. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i'r gyllideb ar gyfer haenau Opsiynol a Chydweithredol y cynllun, ac ymrwymiad i helpu ffermwyr i gael mynediad at y cymorth hwn.'
Mae fy amser wedi dod i ben. Rwy'n ymddiheuro, Lywydd.
Nid oeddwn wedi sylwi. Diolch am dynnu fy sylw at hynny. [Chwerthin.] Ie, os gallwch ddod â'ch sylwadau i ben.
Mae'n ymddangos mai dim ond ddoe yr oeddwn i yma'n dadlau'r pwyntiau hyn. Ond rwy'n annog yr Aelodau, mewn ysbryd o fewnwelediad a goleuni yn hytrach na gwres mewn dadl mor bwysig â hon ac o'r natur hon, sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â dyfodol hyfyw ffermio yng Nghymru, natur hanfodol bwysig y ffermio hwnnw i Gymru, y Gymru wledig a threfol—. Oherwydd, yn wir, mae llawer o bethau'n cydredeg yma; weithiau rydym yn edrych ar y naill neu'r llall. Mae'n ymwneud â'r ffordd Gymreig o fyw mewn cymunedau gwledig. Mae'n ymwneud â'r Gymraeg. Ac mae hefyd yn ymwneud ag adfer bioamrywiaeth, afonydd glân, gwytnwch hinsawdd sy'n dda i ffermwyr, nid yn unig ar bapur, mae'n dda i'w da byw, ac yn y blaen.
Felly, rwyf am ddweud wrth yr Aelodau: cefnogwch y gwelliant. Yna, os caiff y gwelliant hwnnw ei dderbyn, cefnogwch y bleidlais yn ei chyfanrwydd, a chefnogwch y cynllun hwn. I'r holl Aelodau sydd wedi nodi pwyntiau dilys heddiw, i'r holl randdeiliaid allan yno a ffermwyr unigol: cefnogwch y cynllun hwn, oherwydd dyma'r ffordd ymlaen i'r byd ffermio, i gynhyrchiant bwyd cynhyrchiol, i ddiogeledd bwyd, ond hefyd i natur a'r hinsawdd. Diolch.
James Evans nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am agor y ddadl y prynhawn yma. Aeth â ni ar daith i ddechrau, ynghylch y brotest gan ein ffermwyr pan gafodd y cynllun ffermio cynaliadwy ei ryddhau gyntaf, ac iteriad cyntaf y cynllun, a pham oedd pobl ar y strydoedd, yn anhapus iawn ynglŷn â'r cynllun, y ffordd y cafodd ei lunio a'i anymarferoldeb o ran sut y byddai'n gweithio ar lawr gwlad.
Cododd y pwynt hefyd am y Dirprwy Brif Weinidog: fe wnaeth wrando, fe wnaeth oedi, ac aeth yn ôl at y bwrdd. Ond mae angen inni wneud yn siŵr fod unrhyw gynlluniau a gaiff eu cyflwyno yn rhai priodol. Ni ellir eu rhuthro. Ac os nad yw'r diwydiant yn eu cefnogi, rhaid inni wneud popeth fel Aelodau'r Senedd hon i wneud yn siŵr ei fod yn iawn. Dyna pam y gwnaeth Sam Kurtz nodi'n huawdl iawn pam y mae angen y bleidlais rwymol honno yma yn y Senedd, i ganiatáu'r craffu ac i ganiatáu i'r Aelodau yma gael pleidlais ar ddyfodol rhywbeth sy'n hynod bwysig i'r economi yma yng Nghymru. Tynnodd sylw hefyd at y gefnogaeth i hyn, gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sydd eisiau'r bleidlais rwymol, ac Undeb Amaethwyr Cymru hefyd.
Soniodd hefyd am blannu coed, sy'n dal i fod yn broblem. Rwy'n gwybod bod Aelodau eraill wedi codi hyn hefyd, ac fe ddof ato. Ond un o'r pwyntiau a gododd Sam yn bwysig iawn oedd na fydd 84 y cant o bobl yn y pôl piniwn gan Farmers Guardian, fel y mae'r cynllun hwn wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Rwy'n credu bod hynny'n risg go iawn. Rydym eisiau gweld ein ffermwyr yn cael eu cefnogi. Mae angen inni weld symud tuag at wahanol fodelau, ond mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad â'r diwydiant a bod pob ffermwr yn hapus i fynd ar y daith honno gyda'r Llywodraeth.
Llyr Gruffydd—roeddwn yn falch iawn o glywed y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ein galwad am bleidlais rwymol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn gweithio'n gydweithredol arno yn y Siambr hon ar faterion ffermio, er mwyn cefnogi ein cymunedau gwledig. Nododd Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, a chael cynllun sy'n cyflawni'r hyn a nodwyd yn y Ddeddf honno mewn gwirionedd. Fe wnaeth yr holl Aelodau yn y Siambr gefnogi'r Ddeddf amaethyddiaeth honno, oherwydd roedd angen inni osod rhywbeth ar waith ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae angen inni wneud yn siŵr fod y cynllun hwn yn ffitio i mewn i hynny, ac ar ei ffurf bresennol, nid wyf yn hollol siŵr ein bod ni'n meddwl ei fod.
Fe wnaethoch chi godi'r swyddi ehangach y mae'r sector yn eu cefnogi. Codwyd hyn gan Aelodau eraill hefyd. Mae hynny'n rhywbeth y credaf ei fod bob amser yn cael ei anghofio. Mae rhai Aelodau yn y Siambr bob amser i'w gweld yn meddwl bod yr arian a roddir i ffermwyr yn mynd yn syth i'w poced ôl, a dim pellach. Gallaf ddweud wrthych o brofiad personol nad cael ei amsugno'n gyfan gwbl i mewn i'r fferm y mae'r arian hwnnw. Mae'n mynd i gefnogi ein marchnadoedd da byw, mae'n mynd i gefnogi ein hadeiladwyr, mae'n mynd i gefnogi'r bobl sy'n gofalu am ein tractorau a'n beiciau cwad, a phopeth arall, milfeddygon a'r diwydiant ehangach. Mae'r arian hwnnw'n cael ei fuddsoddi. Mae cymorth o £1 yn sicrhau bod £9 yn cael ei fuddsoddi yn yr economi. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei anghofio o hyd.
Ac yna symudwn ymlaen at Lesley Griffiths. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at yr awydd i beidio â gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dyna oedd dymuniad pobl Prydain, a rhaid parchu hynny. Fe wnaethoch chi godi mater yr hafau sychach a'r gaeafau gwlyb, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i'r gymuned amaethyddol ei wynebu nawr. Dyna'r realiti a wynebwn gyda newid hinsawdd. Fe wnaethoch chi godi nwyddau cyhoeddus a gwerth i'r trethdalwr. Hoffwn feddwl bod yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r diwydiant ffermio ar hyn o bryd yn darparu gwerth da iawn i'r trethdalwr yn fy marn i.
Ond fe wnaethoch chi nodi'r siom fod gorchudd coed o 10 y cant wedi'i ddiddymu, a chyda phob parch i'r Aelod, dyna oedd un o'r problemau mwyaf, a'r rheswm pam y daw pobl yma i brotestio y tu allan i'r Senedd. Roedd llawer o bobl yn anhapus iawn am y gorchudd coed o 10 y cant. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth wedi ildio i'r bobl hynny sy'n gweiddi uchaf, ac roeddent yn gweiddi uchaf am eu bod yn poeni am eu diwydiant, maent yn poeni am eu teuluoedd, maent yn poeni am eu busnesau ac maent yn poeni am eu dyfodol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni— [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad.
A fyddech chi'n cytuno, fodd bynnag, mai ffermwyr yw'r rhai sydd â'r gallu i blannu'r coed? Dylent yn sicr gael eu gwobrwyo'n ariannol am hynny, ond maent yno i'n helpu gyda'r targedau hynny, a gallent fod wedi ein helpu i gyrraedd y targed o 43,000, am mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny?
Wrth gwrs, rwy'n cytuno: ffermwyr yw'r bobl sydd yn y sefyllfa orau i'n helpu i fynd i'r afael â materion newid hinsawdd, ond mae'n ymwneud â rhoi'r goeden iawn yn y lle iawn. Ac nid wyf yn credu bod targedau mympwyol yn helpu i gyflawni unrhyw beth; maent yn atal pobl rhag ymuno â chynlluniau, yn fy marn i.
Yna fe symudwyd ymlaen at—[Torri ar draws.] Fe ddof atoch chi mewn munud, Lee. Gadewch imi symud ymlaen at Gareth Davies, ac fe wnaethoch chi'r achos yn angerddol dros bleidlais rwymol i'r sector amaethyddol, a'r £1.2 biliwn y mae amaethyddiaeth yn ei gyfrannu at ein heconomi. Fe wnaethoch chi hefyd godi 10 y cant cynefinoedd, rhywbeth nad yw'n debygol o fod mor amlwg â'r gorchudd coed, am y gall y rhan fwyaf o ffermwyr gyrraedd y 10 y cant cynefinoedd—llawer o bobl, mewn gwirionedd—ac mae rhai pobl eisiau gwneud hynny hefyd, oherwydd y ffordd y gall fod o fudd i rai o'u busnesau fferm. Mae ffermwyr eisiau helpu i gynyddu bioamrywiaeth hefyd, am fod bioamrywiaeth yn helpu ar y fferm, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n dda i chi ei godi.
Yna Carolyn Thomas—roedd yn braf clywed Aelod Llafur yn tynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiant amaethyddol, am y bobl sy'n gweithio ynddo a phopeth sy'n digwydd. Ac fe wnaethoch chi fynychu digwyddiad NFU Cymru ar y grisiau hefyd; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi wedi codi hynny. Nawr, fe wnaethoch chi sôn am gronfeydd yr UE, a hoffwn atgoffa'r Aelod fod yr Undeb Ewropeaidd wedi ceisio gorfodi rhywbeth o'r enw y fargen newydd werdd, ac roedd ffermwyr ledled Ewrop allan ar y strydoedd yn protestio yn erbyn y fargen honno am nad oedd yn gweithio i ffermwyr. Bu bron i hynny chwalu'r Comisiwn Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd fe wnaeth iddynt wneud tro pedol mawr ar hynny, ac rwy'n siŵr fod y Dirprwy Brif Weinidog yn gwybod am hynny, oherwydd mae'n rhywbeth y gwnaethom ei drafod pan oeddem ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyda'n gilydd allan ym Mrwsel. Ond wyddoch chi, nid Ewrop yw'r ateb i bob dim, ac fel y dywedodd Lesley Griffiths mewn gwirionedd, yr hyn sy'n gadarnhaol am adael yr Undeb Ewropeaidd oedd y gallwn lunio cynllun amaethyddol sy'n iawn i ffermwyr Cymru, ac nid yn unig yn iawn i ffermwyr Cymru, ond yn iawn i'r diwydiant cyfan.
Peter Fox, mae eich profiad personol o'r byd amaeth bob amser yn cael derbyniad da iawn yn y Siambr hon, am ddiffygion y cynllun blaenorol. Fe wnaethoch chi gydnabod, fodd bynnag, fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi gwrando pan ddaeth i'w swydd. Nid wyf yn credu ei fod yn Ddirprwy Brif Weinidog ar y pryd, pan gymerodd y swydd honno—pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig. [Torri ar draws.] Ie, ychydig o newid, ac mewn gwirionedd, y ffordd y gwrandawodd ar y diwydiant ac oedi a mynd yn ôl i feddwl. Ond fe wnaethoch chi dynnu sylw at un peth eto: y safonau lles anifeiliaid uchel y mae ein diwydiant—rwy'n dweud 'ein diwydiant' oherwydd fy mod i'n rhan ohono—yn glynu wrthynt, a gwerthu hynny ledled y byd. Ac mae'n un o'r pethau mawr y mae Prydain a Chymru yn falch iawn ohono, ein safonau lles anifeiliaid, ac ni ellir tanseilio hynny.
Yna fe wnaethom symud ymlaen at y Dirprwy Weinidog blaenorol, Lee Waters. Hoffwn ddiolch i chi am gydnabod gwaith ffermwyr, ond nid wyf yn credu ei fod wedi mynd gam ymhellach na hynny. Rydych chi'n dweud ein bod ni'n siarad o hyd am ffermwyr yn cael eu bradychu, a'r rheswm am hynny yw eu bod wedi cael eu bradychu, Lee. Dywedwyd wrth ffermwyr na fyddai Llywodraeth Lafur y DU yn gosod treth ar y fferm deuluol. Fe wnaethant hynny. Dywedwyd llawer o wahanol bethau wrthynt nad oedd yn mynd i ddigwydd iddynt, ac fe wnaethant ddigwydd. Rydym yn cefnogi ein cymunedau gwledig, oherwydd fe wyddom yn union beth yw'r effaith y maent yn ei chael ar ein heconomi a'n busnesau gwledig. Ac fe wnaethoch chi ddweud am y £238 miliwn a roddwn i ffermwyr, ac nad yw ffermwyr yn cefnogi plant ysgol gyda phrydau iach. Wel, dewis caffael yw hynny, sy'n ddifidend Brexit mewn gwirionedd, felly os ydym am gael bwyd iachach i mewn i'n hysgolion, gallwn wneud hynny trwy ymarferion caffael, a dylai'r Llywodraeth edrych arnynt.
Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben eisoes, ond fe geisiaf symud yn gyflym. Ac yna cawsom Russell George—a diolch, Russell. Nid wyf am ailadrodd, ond diolch am eich holl sylwadau, ac rydych chi'n eiriolwr cryf iawn dros y ffermwyr yn sir Drefaldwyn, ac yn dadlau'n ffyddlon iawn drostynt. Fe wnaethoch chi siarad am ddiogeledd bwyd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth eithriadol o bwysig.
Yna rwy'n symud ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet. Yr un araith eto ers ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet. [Torri ar draws.] A ydych chi'n meddwl ei bod yn well? Nid wyf mor siŵr, ond cawn weld. [Torri ar draws.]
Rwy'n mynd i orfod gofyn i chi ddod i ben.
Fe ddof i ben. Fe ddywedaf wrth y Dirprwy Brif Weinidog: fe wnaethoch chi dynnu sylw at yr un materion eto. Ond mae rhai o'r pethau y siaradwch amdanynt yn dangos rhywfaint o haerllugrwydd, weithiau, gan Lywodraeth Cymru, 'Ni sy'n iawn', a 'Rydym wedi dod at y diwedd nawr, ac mae angen inni symud ymlaen.' A'r rheswm pam y mae angen y bleidlais rwymol hon arnom yw bod angen inni gael cynllun sy'n gweithio, nid unrhyw gynllun, ond cynllun sy'n iawn, sy'n diogelu ein ffermydd teuluol, sy'n cadw ein ffermwyr i ffermio ac sy'n sicrhau diwydiant cryf i'r bobl ifanc a ddaw yn y dyfodol. Rwy'n credu y dylech ganiatáu'r bleidlais rwymol honno i ni. Dylai'r Llywodraeth gefnogi ein cynnig heddiw, oherwydd os nad ydych chi'n gwneud hynny, rwy'n credu eich bod chi'n gwneud camgymeriad mawr ac mae'n dangos haerllugrwydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac os nad oes tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r pleidleisiau y prynhawn yma ar yr eitem rŷn ni newydd ei chlywed, dadl y Ceidwadwyr ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 21 o blaid, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae'r gwelliant felly wedi cwympo.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 21, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r gwelliant wedi cwympo a'r cynnig wedi cwympo, felly does dim byd wedi ei dderbyn. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw. Does dim dadl fer. Gaf i ddymuno haf hir, hapus a heulog ichi i gyd? I'r rhai ohonoch chi sy'n mynd i'r Royal Welsh, mwynhewch, i'r rhai ohonoch chi sy'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol, mwynhewch, a mwynhewch eich cyfnod yn eich etholaethau ac ychydig o amser bant hefyd. Hwyl fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.