Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/02/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.

Cefnogi'r Lluoedd Arfog

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon i gefnogi'r lluoedd arfog? OQ62279

Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol barhaus i gefnogi ein lluoedd arfog ym mhob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Mae ein llythyr cylch gwaith at Chwaraeon Cymru yn nodi'n glir ein bod yn disgwyl gweld gwell mynediad at gyfleoedd chwaraeon i bawb, gan gynnwys aelodau’r lluoedd arfog.

Diolch, ac mae'n gadarnhaol iawn fod Chwaraeon Cymru wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog, ond hoffwn inni fynd ychydig ymhellach. A hoffwn wybod a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried sefydlu cynllun clwb chwaraeon ar gyfer Cymru gyfan sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog i gefnogi personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn well. Credaf y gellid gwneud hyn, gan weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chyrff eraill ledled y wlad. A chredaf y gallai cynllun o’r fath wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu i wella llesiant meddyliol a chorfforol ein cyn-filwyr a’r rhai sydd yn y broses o adael y lluoedd arfog a phontio i fywyd sifil, ac i gryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng ein lluoedd arfog a’n cyrff chwaraeon ledled Cymru. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth a allai weithio, Weinidog, a byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed a fyddech chi'n rhoi eich cefnogaeth i sefydlu cynllun o’r fath ar gyfer Cymru gyfan.

A gaf i ddiolch i James Evans am ei gwestiwn ac am ei gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog, Lywydd? Gwn ei fod yn aelod o grŵp trawsbleidiol y lluoedd arfog, a mwynheais fy amser ar y grŵp trawsbleidiol hwnnw. Credaf ei fod yn grŵp trawsbleidiol amhrisiadwy yn y Senedd hon.

Roeddwn innau hefyd yn falch fod Chwaraeon Cymru, ym mis Rhagfyr, wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog, gan ymrwymo i drin y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn deg, ac fe wnaethant hynny oherwydd gwaith y grŵp trawsbleidiol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae hyrwyddo cynlluniau i gyflogwyr gydnabod amddiffyn yn ffordd arall y gall clybiau chwaraeon a chyrff llywodraethu ddangos cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog. Nid Chwaraeon Cymru yw'r unig gorff sydd wedi llofnodi’r cyfamod, Lywydd. Bydd yr Aelod yn falch o glywed bod clybiau elît, megis y Scarlets, Clwb Criced Sir Forgannwg, a CPD Wrecsam hefyd wedi ymrwymo i lofnodi’r cyfamod.

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn penodol. Rwy’n fwy na pharod i ystyried ei gais a gweld beth y gallai hynny ei olygu, ac i gael y sgwrs â Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid allweddol, megis URC a'r FAW, i weld lle gallwn gryfhau ein cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ymhellach.

Lywydd, mae hyn hefyd yn rhoi’r cyfle imi ddweud, mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, gan y gwn fod yr Aelod wedi ymuno â mi mewn digwyddiad yn y Senedd y mis diwethaf gyda’r rhai a gymerodd ran yng Ngemau Invictus, ein bod yn aml yn sôn am y rôl y gall chwaraeon ei chwarae yn helpu pobl sy’n mynd drwy drawma i brosesu trawma neu addasu i newid. Mae Gemau Invictus yn enghraifft wych o hynny, ac rwy'n dymuno pob hwyl iddynt oll yng Nghanada—rwy'n credu eu bod yn digwydd nawr, Lywydd.

Rwy’n aelod arall o’r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a dyma hysbyseb gyflym: carwn annog Aelodau eraill i ymuno. Yr un peth y mae'r lluoedd arfog yn ei ddarparu yw ymarfer corff er mwyn cadw aelodau’r lluoedd arfog yn heini. Pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog, mae angen iddynt gynnal eu ffitrwydd. Gall fod yn anodd gwneud hynny. Mae gennyf fwy o brofiad gydag athletwyr proffesiynol, ac fel y gŵyr pob un ohonom, pan fyddant yn ymddeol, maent yn gallu colli ffitrwydd a magu pwysau'n gyflym. A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun nofio i gyn-filwyr?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn? Lywydd, efallai mai Mike Hedges yw'r Aelod mwyaf brwdfrydig dros chwaraeon sydd gennym yn y Senedd hon. Bydd yn falch iawn o wybod, fod y clybiau lefel elît y soniais amdanynt wrth James Evans yn cynnwys y Gweilch, fel un clwb sydd wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog.

Mae’n gwestiwn da i’w ofyn ynghylch y cynllun nofio am ddim i’r lluoedd arfog, Lywydd. Lansiwyd ein cynllun nofio am ddim i’r lluoedd arfog ym mis Chwefror 2016, yn cynnig nofio am ddim i gyn-filwyr ac aelodau presennol o’r lluoedd arfog. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar ein bod wedi gallu cynyddu’r gyllideb yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y cynllun nofio am ddim i’r lluoedd arfog i £80,000, a hynny mewn ymateb i gynnydd yn y galw, gan sicrhau y gall y rheini sydd wedi gwasanaethu barhau i elwa ar y cynllun pwysig hwn am y rhesymau y mae Mike Hedges wedi’u hamlinellu y prynhawn yma.

Datblygiad Economaidd ym Mlaenau Gwent

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddatblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ62318

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a busnesau ar y seilwaith a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau twf economaidd a ffyniant i bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent.

13:35

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Fe fydd yn ymwybodol y bydd prosiect y Cymoedd Technoleg, a lansiwyd yn 2017, yn dirwyn i ben ymhen ychydig o flynyddoedd. Mae'n amlwg yn ymwybodol y bydd gwaith o ddeuoli'r A465 hefyd yn cael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni. Golyga hyn fod gennym gyfle i edrych eto ar sut rydym yn sicrhau datblygiad economaidd a swyddi yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, gan gynnwys Blaenau Gwent. Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: sut a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni i sicrhau'r swyddi a’r ffyniant hwn? Rydym wedi bod drwy raglenni buddsoddi, ac rydym wedi bod drwy raglenni seilwaith. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw dilyn hynny gyda buddsoddiad yn yr amgylchedd busnes ym mwrdeistref Blaenau Gwent. Gwelsom fuddsoddiad newydd i'r gogledd o Lynebwy cyn y Nadolig, rydym wedi gweld buddsoddiadau newydd mewn mannau eraill, rydym wedi gweld y math o ddiddordeb sydd i'w gael mewn buddsoddi yn y fwrdeistref nawr. Yr hyn sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru yw’r ffocws parhaus a’r adnoddau i gyflawni rhaglen swyddi ym Mlaenau’r Cymoedd sy’n sicrhau bod y buddsoddiadau sydd eisoes wedi’u gwneud yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Alun Davies am ei gwestiynau, a hefyd am y cyfarfod a gawsom yn ddiweddar, a oedd yn ddefnyddiol iawn i nodi pwysigrwydd dull strategol o'r fath o greu swyddi yn yr ardal, a phwysigrwydd sicrhau bod yr eiddo masnachol sydd ei angen ar fusnesau ar gael iddynt allu adleoli neu symud i'r ardal, neu ehangu. Felly, yn dilyn y cyfarfod a gefais gydag Alun Davies, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion baratoi opsiynau a fyddai’n caniatáu cydweithredu agosach rhwng Llywodraeth Cymru, drwy’r Cymoedd Technoleg, neu fenter y cymoedd gogleddol, er enghraifft, i gydweithio â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, i fanteisio ar y cyd ar y buddsoddiad sylweddol a wnaethom i wella cysylltedd, yn enwedig gyda'r buddsoddiad yn yr A465. Felly, rwy’n ddiolchgar am y cyfarfod, a hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod hynny bellach wedi arwain at waith pellach sy'n mynd i fod yn bwysig.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Ganolfan Beirianneg Gwerth Uchel ym Mlaenau Gwent ar flaen y gad yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Bydd y ganolfan, a fydd yn agor yn nes ymlaen eleni, yn darparu hyfforddiant ac addysg ymarferol mewn roboteg, awyrofod, chwaraeon moduro a gweithgynhyrchu. Yn syml, mae’r ganolfan hon yn rhoi sgiliau i bobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn niwydiannau’r dyfodol, a bydd hynny, yn ei dro, gobeithio, yn arwain at swyddi sy’n talu’n dda. Mae HiVE yn bwysig nid yn unig oherwydd y bydd yn adnodd hollbwysig i'r sector yng nghanol Blaenau Gwent, ond hefyd am ei fod yn estyn allan at ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws de-ddwyrain Cymru, gan ymgysylltu â phobl ifanc yn y cwricwlwm STEM o oedran ifanc iawn. Bydd y ganolfan hon yng Ngholeg Gwent yn ategu rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o ddenu busnesau o ddiwydiannau blaengar, megis 5G, technoleg batri a cherbydau awtonomaidd yn yr ardal. Mae'n hollbwysig felly fod prosiect y Cymoedd Technoleg o ddifrif yn cyflawni ei amcanion os ydym am hybu datblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwn, gan gynnwys unrhyw lwyddiannau diweddar? Diolch.

Yn sicr. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu buddsoddi yn sgiliau pobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent, a gwneud hynny gyda Choleg Gwent, drwy'r cymorth a roesom i'r cyfleuster peirianneg gwerth uchel yng Nglynebwy. Fel y clywsom, mae hwnnw o ddifrif yn cynnig cyfle i fyfyrwyr addysg bellach a defnyddwyr masnachol eraill ledled Cymru ennill sgiliau mewn gweithgynhyrchu uwch, a hefyd mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, credaf fod honno’n enghraifft wirioneddol dda o’r llwyddiant y gallasom ei ddwyn i’r ardal. Ers y dyraniad cyllid cyntaf yn 2018, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg bellach wedi buddsoddi dros £42 miliwn mewn amrywiaeth o brosiectau seiliedig ar leoedd sy’n canolbwyntio ar Flaenau Gwent, gyda'r buddion yn ymestyn allan wedyn ar draws ardal y Cymoedd gogleddol. Hyd yma, mae buddsoddiad yn y mentrau hyn wedi helpu i greu dros 300,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr newydd ac wedi’i adnewyddu, gan alluogi 750 o swyddi posibl. Felly, un enghraifft yn unig yw honno o beth o'r llwyddiant a gafwyd drwy raglen y Cymoedd Technoleg.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies.

Diolch, Lywydd. Hoffwn holi yn gyntaf am y cyllid yn y sector diwylliant yng Nghymru. Mae’r dyraniad uwch yng nghyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond oherwydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, mae llawer o’r cynnydd wedi’i ddileu, ac roedd cau’r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf yn ein hatgoffa sut y mae sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru wedi cael ei adael ar ôl. Roedd angen £25 miliwn ar gyfer y gwaith atgyweirio brys, ac eto £3 miliwn oedd y mwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig y llynedd, ac roedd yn rhaid rhannu hwnnw ar draws safle cyfan Amgueddfa Cymru.

Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y sector diwylliant yn rhywbeth moethus i’w fwynhau ar adegau o ffyniant, ac rwy’n pryderu nad yw pwysigrwydd y sector hwn yn cael ei gydnabod. Felly, a wnaiff y Gweinidog gydnabod y pwysau ar y sector diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru, cydnabod nad yw’r cynnydd yn y gyllideb ddrafft bresennol yn ddigon, a dilyn argymhellion adroddiad y pwyllgor diwylliant drwy ymrwymo i gynyddu cyllid, gwariant ataliol, a strategaeth ddiwylliant a chwaraeon?

13:40

Lywydd, a gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei gwestiynau agoriadol y prynhawn yma? Rwy'n credu mai dyma’r cyfle cyntaf a gawsom yng nghwestiynau'r llefarwyr i ymgysylltu fel hyn.

Rwy’n falch iawn, Lywydd, fod yr Aelod wedi cydnabod, yn y gyllideb—yn y gyllideb ddrafft—fod y cynnydd o 3.6 y cant yn gam i’r cyfeiriad cywir. Gallwn wneud hynny, Lywydd, oherwydd y gyllideb a gawsom gan San Steffan. Rydym wedi treulio 14 mlynedd hir gyda chyni, lle cafodd cyllidebau eu torri, a phan gafodd yr economi ei chamreoli yn sgil mini-gyllideb a ddinistriodd yr economi—[Torri ar draws.] Yn y cwestiynau diwylliant y mae’n gofyn amdanynt, mae angen iddo sylweddoli bod y cyllidebau ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dod gan Lywodraeth y DU, a’r gyllideb benodol hon, Lywydd, yw’r cyfle cyntaf a gawsom, gyda’n cymheiriaid Llafur yn Senedd y DU—. Mae'n gynnydd o 3.6 y cant yn y gyllideb ddrafft, sy’n gam i’r cyfeiriad cywir, fel y mae’r Aelod wedi’i gydnabod. Mae’n anffodus iddo bleidleisio yn ei erbyn, fel y gwnaeth ei gyd-Aelodau yn y blaid Geidwadol, yn y gyllideb ddrafft. Bydd ganddo gyfle i wneud iawn am hynny gyda'r gyllideb derfynol, Lywydd.

Byddaf yn dadlau'r achos bob dydd dros fwy o arian ar gyfer y celfyddydau. Rwy’n cydnabod yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu. Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â phob maes o’r sector diwylliant a chelfyddydau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hwy drwy’r heriau hyn wrth inni symud ymlaen.

Gyda phob parch, Weinidog, rwy'n credu ei fod yn cyfuno materion gwahanol, gan fod fy nghwestiwn yn ymwneud â’r amgueddfa yng Nghaerdydd, ac yn wir, yr arian y maent wedi bod yn gofyn amdano. Ac maent wedi bod yn brin o'r arian hwn ers amser hir o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, i ychwanegu elfen wleidyddol at rywbeth y treuliwyd llawer o amser yn ei drafod yn y cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf—ac yn wir, fe fynychais sesiwn friffio Llywodraeth Cymru ar y mater hwn—gyda phob parch, nid yw eich ateb yn ateb fy nghwestiwn yn uniongyrchol.

Ond fel ail gwestiwn, hoffwn godi pryderon ynghylch atebolrwydd cyrff hyd braich i’r trethdalwr, a phwy sy’n darparu arian iddynt. Ar hyn o bryd yn yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd a grybwyllwyd eisoes, mae yna arddangosfeydd gwleidyddol sy’n ymosod yn uniongyrchol ar y Blaid Geidwadol. O ystyried bod yr amgueddfa genedlaethol yn cael yr—. Rwyf wedi gweld yr arddangosfeydd fy hun, ac mae'n llawn o 'Torïaid allan' ac yn y blaen. Wel, nid dyna farn pawb am Gymru. Mae'n rhaid i'n hamgueddfeydd a'n sefydliadau cenedlaethol gynrychioli Cymru gyfan, nid un ysgol o feddwl yn unig, fel y gwelwn yma. Felly, pa drosolwg sydd gan y Gweinidog o wariant ar ddiwylliant a’r celfyddydau, i sicrhau bod cyrff hyd braich fel Amgueddfa Cymru yn gwario arian trethdalwyr yn effeithiol ac yn cyfrannu at sector celfyddydau a diwylliant sy'n adlewyrchiad cywir o Gymru gyfan, ac nid un ysgol o feddwl yn unig?

Diolch am eich cwestiynau atodol, Gareth Davies. Mae’r Aelod yn llygad ei le—cododd amgueddfa Caerdydd yn ei gwestiwn agoriadol, a maddeuwch i mi am beidio ag ymateb i hynny’n uniongyrchol, Gareth. Rwy'n credu inni drafod sefyllfa amgueddfa Caerdydd yn y cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethom gyfeirio yn y cwestiwn hwnnw at yr arian sydd wedi’i ddyrannu i’r amgueddfa ar hyn o bryd ac yn y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen, y gall yr Aelod, a chyd-Aelodau Plaid Cymru ei gefnogi os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Roeddwn yn ddiolchgar i’r Aelod am ymuno â’r cyfarfod briffio yr wythnos diwethaf, ac am dreulio ei amser yno.

Wedyn, mae’r Aelod yn fy holi ynghylch cyrff hyd braich a fy rôl i ynddynt. Wel, maent yn gyrff hyd braich am reswm, Lywydd, ac ni chredaf mai mater i’r Gweinidog yw pennu beth sydd mewn amgueddfeydd ac yn cael ei arddangos. Rwy'n credu mai cyfrifoldeb y gweithwyr proffesiynol yn yr amgueddfeydd eu hunain yw hynny. Nodaf gynnig yr Aelod i guradu arddangosfeydd yn y dyfodol, o bosibl. Ni fyddaf yn gwneud y cynnig hwnnw i’r amgueddfa; gall ef wneud hynny os yw'n dymuno.

Yn yr un gwynt, Lywydd, mae’n gofyn am ymgysylltu gwleidyddol ac yna’n galw am gadw gwleidyddiaeth allan o'r amgueddfa. Felly, yn amlwg, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun ar gyfer y sector. Mae hynny'n amlwg y prynhawn yma. Lywydd, fe ddywedodd yr Aelod, ‘Ni allwn gael arwyddion yn dweud “Torïaid allan”, gan nad yw hynny’n adlewyrchiad o'r hyn a ddywedodd Cymru.’ Wel, fe wnaethant ddweud hynny yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, Lywydd. Efallai fod yr Aelod yn dymuno ehangu ei orwelion o fewn y portffolio hwn. Rwy’n siŵr y byddai’r amgueddfa’n falch iawn o’i groesawu yn rhinwedd ei swydd fel gweinidog yr wrthblaid. Awgrymaf ei fod yn ymgysylltu ac yn mynd i’r arddangosfa ar streic y glowyr, Lywydd. Mae llawer i’w gofio yno—hanes Cymreig pwysig na ddylem ei anghofio.

13:45

A ydych chi o ddifrif yn ceisio dweud nad oes gan gyrff hyd braich unrhyw atebolrwydd i Lywodraeth Cymru? Onid oes cyfrifon i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru? Onid oes prosesau archwilio? Rwy’n siŵr y byddai’n rhaid bod hynny'n wir. Mae unrhyw Lywodraeth ddarbodus sy'n gwario arian trethdalwyr ar yr eitemau hyn—. Felly, onid oes unrhyw atebolrwydd gan gyrff hyd braich? Credaf fod llinell o gyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru yn y mater hwn. Ac roedd yr arwyddion 'Torïaid allan' yn adlewyrchiad o ganol yr 1980au pan oedd gennym 15 o Aelodau Seneddol Torïaidd ar y pryd, felly nid yw'n adlewyrchiad o'r sefyllfa wleidyddol bresennol gan ei fod yn rhoi hanes cyffredinol.

Nid wyf am wrando ar bregethu a fy nhrin yn nawddoglyd mewn modd nad yw'n adlewyrchu fy ngwybodaeth fy hun. Felly, a all y Gweinidog roi mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, am y prosesau archwilio y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cynnal yn hyn o beth, a pha ddulliau atebolrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru?

Diolch i Gareth Davies. Lywydd, ni chredaf imi ddweud y pethau y mae Gareth yn cyfeirio atynt ynghylch atebolrwydd. Rwy'n credu imi dynnu sylw at y ffaith bod y cyrff hyd braich yn gyrff hyd braich am y rhesymau y mae pob un ohonom yn eu deall. Rwy'n fwy na pharod i ddarparu briff technegol i'r Aelod gan swyddogion er mwyn deall yr egwyddor hyd braich. Bydd yn ddefnyddiol iddo gyda'i gyfrifoldebau am hyn. Mae ganddynt atebolrwydd, Lywydd. Credaf y byddai'r briff technegol yn ddefnyddiol i'r Aelod yn y rôl hon, a'i rôl ar y pwyllgor diwylliant yn craffu ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n fwy na pharod i drefnu hynny iddo yn y dyfodol agos.

Diolch, Lywydd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o grŵp cynghori Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar dwf economaidd Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yn union yw rôl Llywodraeth Cymru yn y grŵp hwn? A yw'n fater o strategaeth twf economaidd Cymru yn cael ei hallanoli i Whitehall?

Mae grŵp yr Ysgrifennydd Gwladol yno fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol glywed yn uniongyrchol gan ddiwydiant a’r rhai sy’n ymwneud â’r economi yng Nghymru. Fel Gweinidog, nid wyf yn aelod o'r grŵp hwnnw’n uniongyrchol, ond yn anochel, drwy fy swyddogion, rydym yn gallu rhannu’r wybodaeth a gawn drwy ein trafodaethau â chyrff cynrychioliadol busnes a busnesau eu hunain wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol fynd ati i wneud y gwaith hwnnw, gan wrando ar bobl sy’n ymwneud â’r economi yng Nghymru.

A gaf i ddweud fy mod yn ei chael hi'n anodd clywed Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n credu bod dau Aelod o’i phlaid ei hun yn trafod naill ai’r pêl-droed neu’r rygbi ddydd Sul. Clywais gymaint â hynny ganddynt. Roeddwn yn ei chael hi'n anodd clywed Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a wnaiff pob Aelod, yn enwedig rhai ei phlaid ei hun, wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet a’i hymateb? Diolch.

Diolch, Lywydd. Felly, o'r hyn a ddeallaf, mae gennym sefyllfa, mewn gwirionedd, lle nad yw'r Llywodraeth, yn gyntaf, yn cael ei chynrychioli gennych fel Ysgrifennydd y Cabinet yn y grŵp hwn. O gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynais, mae gennym sefyllfa lle na all y Llywodraeth ddylanwadu’n uniongyrchol ar flaenoriaethau na strategaeth y grŵp hwnnw. Felly, gallwch weld sut y mae hyn yn edrych, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi cael cyn-Aelodau o'r Llywodraeth yn dweud yn gyhoeddus nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi. Mae Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran dangosyddion economaidd. Nawr, credaf y byddai'n rhesymol dehongli cam o'r fath fel penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i fynd i'r afael â'r mater ei hun. Mae’r ddau ohonom yn gwybod beth fyddai’r ymateb pe bai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol wedi gwneud hynny, felly pam fod hyn yn dderbyniol nawr?

13:50

Ni allai barn y grŵp fod ymhellach o'r gwir. Y ffaith amdani yw nad yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn aelodau o grwpiau cynghori Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rydym yn gweithio fel cymheiriaid, mae gennym barch cydradd yn y trafodaethau a gawn gyda Gweinidogion, felly ni chredaf y byddai’n briodol i un o Weinidogion Llywodraeth Cymru fod yn aelod o grŵp cynghori un o Weinidogion y DU. Rydym yn cael y trafodaethau hynny rhwng un Gweinidog a'r llall, rhwng un Llywodraeth a'r llall.

Nid yw hynny'n golygu nad oes gennym ddiddordeb gweithredol yn y grŵp hwnnw. Y fforymau rwy'n eistedd arnynt yw’r grwpiau rhyngweinidogol, y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant, y grŵp rhyngweinidogol sy’n edrych ar gysylltiadau ôl-UE â gwledydd eraill a’r cytundebau masnach a wnawn drwy’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach. Felly, y lle priodol i Weinidogion gael trafodaethau yw drwy'r grwpiau rhyngweinidogol hynny, er ei bod yn gwbl briodol, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cyngor a gwybodaeth am yr economi gan grŵp cynghori hefyd.

Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu’r cyfarfodydd hynny er mwyn gallu rhannu gwybodaeth Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, yn y gofod hwnnw. Ond o ran y ffordd y mae Llywodraethau’n cydweithio â’i gilydd, rwy'n credu ei bod yn briodol cael y trafodaethau hynny rhwng un Gweinidog a'r llall, yn hytrach na bod yn un o nifer o leisiau mewn grŵp cynghori.

Wrth wrando ar yr ymateb hwnnw, rydych chi'n nodi'n gywir ddigon mai'r grwpiau rhyngweinidogol yw'r ffordd i Weinidogion ymgysylltu â'i gilydd, felly mae'n codi'r cwestiwn, 'Wel, pam oedd angen sefydlu'r grŵp cynghori economaidd hwn, felly?' Pam na ellid gwneud hynny drwy grŵp rhyngweinidogol, lle roeddech chi'n gallu bod yno â statws cydradd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Ar hyn o bryd, mae gennym grŵp ar waith y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn aelod ohono, ac yna’n mae'n gallu cyfeirio strategaeth y grŵp hwnnw a’r cyfeiriad y mae’r grŵp hwnnw am fynd iddo o ran datblygu economaidd yma yng Nghymru. Nawr, nid yw hyn yn edrych yn dda. Ai dyma a ddychmygem pan glywsom gan y Llywodraeth am y bartneriaeth mewn grym? Nid yw'n edrych yn dda i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn cymryd cyfrifoldeb am dwf economaidd yng Nghymru gan anwybyddu galwadau gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli Ystad y Goron.

Mae’r union ffaith bod Aelodau Seneddol Llafur yn Llundain wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant sy’n cyd-fynd â pholisi Llafur Cymru yn dangos, mewn gwirionedd, y diffyg parch sydd gan Lafur yn Llundain at y Senedd a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi clywed dro ar ôl tro ers 2021 y byddai Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 yn arwain at Gymru gryfach. Wel, o ran polisi economaidd, hyd yn hyn, y cyfan y mae wedi'i olygu yw gwrthod datganoli pwerau hanfodol a'r Ysgrifennydd Gwladol yn mynd dros ben Llywodraeth Cymru i gyfeirio polisi economaidd. Nawr, a yw hynny o ddifrif yn rhywbeth yr ydych chi'n awyddus i'w amddiffyn?

Mae arnaf ofn nad ydym yn mynd i weld llygad yn llygad ar y mater penodol hwn a bod gennym safbwynt gwahanol ar y ffyrdd y gall Llywodraethau ddangos parch cydradd at ei gilydd. Felly, fel y dywedaf, y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn yw drwy’r trafodaethau uniongyrchol a gawn rhwng un Gweinidog a'r llall, ac rydym yn cael y trafodaethau hynny drwy’r amser.

Roeddwn yn siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng nghyfarfod y bwrdd pontio, a fynychwyd gennych yn ddiweddar, a gallech weld ein bod o ddifrif yn gweithio mewn partneriaeth. Roeddwn yn siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU am y strategaeth ddiwydiannol. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn weithredol ag ef. Rydym wedi bod yn nodi'r sectorau penodol sy'n bwysig i ni, y meysydd lle gwelwn botensial ar gyfer twf uchel, ac yna'n archwilio sut y gweithiwn gyda Llywodraeth y DU yn y maes hwnnw. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni, yn trafod y potensial ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yma yng Nghymru, yr hyn sydd ei angen arnom gan y Llywodraeth o ran penderfyniadau ynghylch y cynllun buddsoddi mewn gweithgynhyrchu ynni gwynt ar y môr, a beth yw’r cyfleoedd i Gymru drwy’r gronfa gyfoeth wladol. Felly, mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt, ond maent yn mynd rhagddynt ar y lefel briodol. Ac fel y dywedaf, mae'n gwbl briodol fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael cyngor gan bobl ar lawr gwlad sy'n gweithio ym myd busnes yng Nghymru. Ond rwy'n credu y dylai trafodaethau rhwng Llywodraethau fod yn mynd rhagddynt mewn man gwahanol, a bydd yn rhaid inni gytuno i anghytuno, mae arnaf ofn, ar y pwynt penodol hwnnw.

Cymunedau yr Effeithiwyd arnynt gan Lifogydd

3. Sut y mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt? OQ62289

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio fabwysiadu dull rhagofalus i osgoi datblygu mewn ardaloedd sy'n wynebu llifogydd o'r môr neu o afonydd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n pryderu bod Cyngor Sir Powys yn gwneud penderfyniadau amhriodol ar geisiadau cynllunio, gan eu bod yn seilio penderfyniadau ar strategaeth leol ar gyfer rheoli risg llifogydd sydd wedi hen ddyddio. Maent yn dweud na allant ddiweddaru'r polisi hwnnw, gan eu bod yn aros am eich nodyn cyngor technegol 15 diwygiedig. Nawr, mewn perthynas â hynny, y TAN 15 gwreiddiol, dywedodd eich rhagflaenydd y byddai'n cael ei gyhoeddi yn 2023, yna erbyn diwedd 2023. Ym mis Hydref, fe ddywedoch chi y byddai'n cael ei gyhoeddi y gaeaf hwn. Felly, a gaf i ofyn pryd rydych chi bellach yn disgwyl cyhoeddi eich TAN 15 diwygiedig? Ac yn ail, a ydych chi'n credu ei bod yn dderbyniol fod awdurdod cynllunio lleol yn datgan na allant ddiweddaru eu polisïau am eu bod yn aros am eich canllawiau TAN 15 diwygiedig?

13:55

Wel, rwy’n deall pryderon awdurdodau lleol a’u hawydd i gael eglurder ar y mater penodol hwn. Mae'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb personol arbennig ynddo, gan fod yn rhaid inni gael hyn yn iawn, ar ôl gwrando ar bryderon awdurdodau lleol mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 15.

Rwy’n disgwyl cyhoeddi’r TAN yn y gwanwyn, a bydd y TAN diwygiedig yn darparu canllawiau mewn perthynas â datblygiadau newydd, ond wrth gwrs, ni all gael gwared ar y bygythiad o lifogydd y mae cymunedau presennol yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ond bydd yn ceisio sicrhau bod amddiffynfeydd rhag llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu i gefnogi datblygiadau newydd. Yn amlwg, mae goblygiadau cost enfawr; ni fydd yn bosibl diogelu pob cymuned. Ond bydd y TAN hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar alinio cynigion datblygu ac ystyriaethau risg llifogydd drwy'r cynllun datblygu lleol, a gwn fod hynny'n rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i gymheiriaid mewn llywodraeth leol yn y maes penodol hwn. Ond fel y dywedaf, y bwriad yw cyhoeddi’r TAN yn y gwanwyn, ac rydym bron yno.

A gaf i ddiolch i Russell George am godi’r mater pwysig hwn? Fe fyddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pum mlynedd wedi mynd heibio y penwythnos hwn ers i storm Dennis ddinistrio cymunedau ledled Cymru. Un o’r pryderon a godwyd bryd hynny oedd diffyg adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru i allu cefnogi cymunedau, cefnogi awdurdodau lleol, o ran pennu risg llifogydd. Gwyddom bellach fod stormydd yn digwydd yn llawer amlach, a'u bod yn llawer mwy eithafol, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Felly, a gaf i ofyn, gyda'r diwygiadau i TAN 15, sut rydych chi'n sicrhau eu bod yn gallu edrych ar amlder y llifogydd a welwn, y tywydd mwy eithafol, i fynd i'r afael â'r hyn a arferai fod yn ddigwyddiad unwaith mewn 100 mlynedd, unwaith mewn 200 mlynedd, ac sydd bellach yn dod yn ddigwyddiadau blynyddol mewn rhai achosion?

Diolch am eich cwestiwn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn hyn. I gydnabod hynny, a’u rôl yn y system gynllunio yn ehangach, rydym wedi darparu £5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, i’w cynorthwyo yn eu rôl yn hyn o beth.

Euthum i gymhorthfa gynghori yn Llanhiledd ddydd Gwener diwethaf gyda’r Cynghorydd Helen Cunningham, cynghorydd y ward, a buom yn siarad â nifer o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd y llynedd. Un o'r materion sy'n codi o hyd, wrth gwrs, yw mynediad at yswiriant. Credaf i Flood Re gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU oddeutu degawd yn ôl, ond ymddengys nad yw pobl yn ymwybodol o’i fodolaeth a'u bod hefyd yn ansicr sut i gael mynediad ato, ac nid wyf yn argyhoeddedig ei fod yn cwmpasu’r holl ardaloedd y mae arnom angen iddo eu cwmpasu, i sicrhau bod gan bobl fynediad at yswiriant fforddiadwy pan fyddant yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd. A fyddai’n bosibl i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar y materion hyn, ac ysgrifennu at yr Aelodau, i sicrhau bod gan bawb fynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a sicrhau bod Flood Re yn addas i’r diben, ac os nad yw, i siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddeddfwriaeth a fydd yn cryfhau Flood Re, ac yn cryfhau’r cynaliadwyedd a’r dull gweithredu cadarn sydd ei angen ar bobl er mwyn yswirio eu cartrefi?

Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau i dynnu sylw at fodolaeth ac argaeledd Flood Re, a’r ffyrdd y gall gefnogi eu hetholwyr i gael mynediad at yswiriant. A byddaf hefyd yn cael rhywfaint o gyngor gan swyddogion mewn perthynas â'r cwestiynau pellach i weld a allai fod angen cryfhau Flood Re, ac os felly, i gyflwyno'r sylwadau hynny i Lywodraeth y DU.

Cronfa Ffyniant Gyffredin

4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith bosibl y gronfa ffyniant gyffredin yn 2025-26 ar Gymru? OQ62295

Nod blwyddyn bontio Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin yw darparu parhad a sicrwydd i awdurdodau lleol a buddiolwyr cyn y ceir dull gweithredu newydd o fis Ebrill 2026 nad yw’n osgoi Llywodraeth Cymru a’r Senedd.

14:00

Diolch am yr ateb.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, mae'r grŵp wedi derbyn adroddiadau rheolaidd gan ein cymheiriaid yn y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol ynghylch dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin. Nawr, er i'r cyhoeddiad cyn y Nadolig am yr estyniad o flwyddyn gael ei groesawu gan awdurdodau lleol, nid oes sicrwydd o hyd ynghylch cyllid hirdymor. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi pwysleisio'r rôl y gall cyllid twf lleol ei chwarae i gefnogi strategaeth ddiwydiannol a thwf economaidd cenedlaethol. Felly, pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin a chynllun olynol?

Wel, cawsom drafodaethau eithaf manwl gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, blwyddyn drosiannol olaf y gronfa ffyniant gyffredin, ac roeddem o'r farn—ac rwy'n credu ei bod yn cael ei rhannu gan awdurdodau lleol—ei bod yn well i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau i gyflawni'r cynllun yn y flwyddyn olaf hon, gan gydnabod y dadleuon cryf a wnaed gan gymheiriaid llywodraeth leol ynghylch yr angen am sicrwydd a pharhad wrth i'r rhaglen, yn yr iteriad hwn, ddirwyn i ben. Serch hynny, rwyf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael sicrwydd ynghylch yr hyn a ddaw nesaf, ar ôl 2026. Felly, rydym yn gweithio ar hyn o bryd i ddatblygu ein dull gweithredu mwy hirdymor yn seiliedig ar waith a wnaed gan Huw Irranca-Davies pan oedd yn arwain grŵp a oedd yn edrych ar ddyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru, ond gan ystyried y gwaith a gomisiynwyd gennym gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sydd, unwaith eto, wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y maes hwn. Ond ar bob cam, rydym eisiau cynnwys yr holl bartneriaid perthnasol—llywodraeth leol yn arbennig, ond hefyd, wrth gwrs, y byd academaidd, y trydydd sector ac eraill—sydd â diddordeb cryf a phriodol yn yr hyn sy'n dod ar ôl 2026. Y bwriad yw symud ymlaen yn gyflym nawr gyda'r gwaith hwnnw i geisio rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl cyn gynted â phosibl, gan gofio, wrth gwrs, ein bod yn aml yn siarad am swyddi pobl yn hyn o beth, ac rydym bob amser yn ymwybodol iawn o hynny.

Hoffwn ganmol Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae wedi sicrhau canlyniadau go iawn yn Aberconwy a ledled Cymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Blaid Geidwadol i godi'r gwastad drwy fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cymunedau—yn rhydd o fiwrocratiaeth, llusgo traed ac oedi yng Nghymru. Roedd y dull symlach yn galluogi prosiectau allweddol i symud ymlaen yn gyflym, gan wella sgiliau, twristiaeth, arloesi digidol a menter leol. Mae mentrau fel Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory yn ysbrydoli pobl ifanc ym meysydd peirianneg a'r diwydiannau creadigol. Yn y cyfamser, mae M-SParc, prosiect digidol a chreadigol yng Nghonwy yr ymwelais ag ef yn ddiweddar, yn meithrin twf busnes, a bydd gwella promenâd bae Llandudno yn adfywio ein glan môr eiconig, gan gadarnhau Llandudno fel brenhines cyrchfannau Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod y miliynau lawer o bunnoedd sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth Geidwadol y DU?

Wel, mae'n ofidus clywed Aelod o'r Senedd yn dathlu cynllun a sathrodd ar ddatganoli ac a sathrodd ar hawliau'r Senedd hon. Felly, mae hynny'n siomedig. Ond nid yw dweud bod y gronfa ffyniant gyffredin yn hynod fuddiol mewn termau ariannol yn gywir, oherwydd pan ystyriwch hynny a hefyd yr effaith ar y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr, mae Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd o ganlyniad mewn gwirionedd. Felly, gellid bod wedi cyflawni cymaint mwy pe bai'r addewid gwreiddiol i sicrhau nad oeddem geiniog yn waeth ein byd neu na fyddai ein pwerau'n cael eu lleihau o ganlyniad i Brexit wedi'i gadw.

Bil Hawliau Cyflogaeth

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ62311

Bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth yn moderneiddio ein hawliau cyflogaeth, yn cryfhau'r modd y'u gorfodir ac yn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin ag urddas a pharch. Rydym yn falch o gefnogi'r Bil a'r agenda ehangach Gwneud i Waith Dalu.

Diolch. Lywydd, dylwn ddweud fy mod yn aelod balch o undeb llafur a threuliais y rhan orau o fy mywyd gwaith yn dadlau dros fargen well yn y gwaith, felly rwy'n croesawu'n fawr y gwelliannau i hawliau gweithwyr sydd yn y Bil Hawliau Cyflogaeth, a'r hyn a ddaw yn sgil hynny. Ers llawer gormod o amser, mae gweithwyr wedi wynebu amodau gwaith ansicr, arferion annheg a system sy'n gogwyddo o blaid penaethiaid gwael. O dan Lywodraeth ddiwethaf y DU, ni chafwyd dim i wrthsefyll ecsbloetio, ond nawr mae gennym gyfle i newid hynny. Ond a ydych chi'n cytuno â mi a llawer yn y mudiad undebau llafur mai dechrau'n unig yw'r ddeddfwriaeth hon er ei bod yn gam sylweddol ymlaen sydd i'w groesawu, a heb unrhyw amheuaeth, fod angen gweithredu'r fargen newydd i weithwyr yn llawn? Ac yn ystod Wythnos CaruUndebau, fel pob wythnos, rydym am ddweud bod undebau llafur yno i ni ar adegau heriol, ac yn aml yn unioni anghydbwysedd pŵer yn y gweithle. Felly, wrth ystyried penaethiaid gwael, diswyddo annheg a bwlio, ar ba ochr rydych chi?

14:05

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Hannah Blythyn. Lywydd, rwy'n credu ei bod yn werth cofnodi ymrwymiad Hannah i hyrwyddo hawliau gweithwyr, nid yn unig yma yn y Senedd ac yn y Llywodraeth, ond ymhell cyn hynny, trwy ei holl yrfa, a chyn hynny hefyd, yn ddiamau. Rwy'n ddiolchgar i Hannah am godi'r ddeddfwriaeth arloesol, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a arweiniodd drwy ei chamau deddfwriaethol yma yn y Senedd. Rwy'n gweld y Bil Hawliau Cyflogaeth fel rhan ategol i'n Ddeddf ni. Yn wir, rydym wedi llwyddo i sicrhau gwelliannau defnyddiol gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chontractio allanol a fydd yn sicrhau y bydd yn gweithredu'n llyfn gyda'n Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Fel aelod balch o undeb llafur fy hun, Lywydd, fel aelod o undeb Unite ac undeb Community, byddaf yn ymuno â Hannah i ddathlu Wythnos CaruUndebau yr wythnos hon yn benodol, ond bob wythnos hefyd, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y gefnogaeth honno heddiw.

Ar bwynt ehangach yr Aelod gyda'r frwydr dros hawliau gweithwyr, rwy'n gweld hon fel taith. Rwy'n gweld y Bil Hawliau Cyflogaeth yn adeiladu ar ein Deddf partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus arloesol, ond ar daith tuag at gryfhau hawliau gweithwyr, ac nid yw'r daith yn dod i ben. Y garreg filltir hon, Lywydd, sef y Bil Hawliau Cyflogaeth, yw'r gwelliant unigol mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ond fel Hannah, byddaf bob amser yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r mudiad undebau llafur ar y daith hon wrth inni geisio cryfhau hawliau gweithwyr bob amser.

Wel, mae cyfres o arolygon wedi dangos bod hyder corfforaethol wedi plymio yn sgil cyllideb Rachel Reeves, ac mae'r dirywiad o ran recriwtio bellach yn waeth nag yn sgil yr argyfwng ariannol byd-eang. Mae ffigurau diweddaraf StatsCymru yn dangos bod gan Gymru eisoes gyfraddau cyflogaeth is a chyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd uwch na'r DU gyfan. Yn erbyn y cefndir hwn, sut y gall Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU helpu yn hytrach na llesteirio cyflogaeth yng Nghymru ymhellach, pan fo cwmnïau'r sector preifat yn disgwyl cwymp sylweddol arall mewn gweithgaredd yn ôl dangosydd twf diweddaraf Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a phan ganfu arolwg Sefydliad y Cyfarwyddwyr o'i aelodau fod 57 y cant o fusnesau yn llai tebygol o gyflogi gweithwyr newydd oherwydd y Bil Hawliau Cyflogaeth, a phan fo'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi rhybuddio bod 92 y cant o fusnesau bach yn poeni am y Bil Hawliau Cyflogaeth, 62 y cant yn mynd i recriwtio llai o staff, 56 y cant yn mynd i ganslo neu leihau cynlluniau ar gyfer buddsoddi a 32 y cant yn mynd i leihau nifer eu gweithwyr?

Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Lywydd, nid yw'n syndod nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi cryfhau hawliau gweithwyr—nid ydynt wedi newid eu barn ar hynny ers amser hir iawn. Mae'r Aelod yn nodi cyfres o arolygon barn. Yn ei ymchwil, mae wedi methu darllen yr arolwg barn mawr diweddaraf gan y TUC, a gyhoeddwyd ddydd Llun, felly gadewch imi ddarllen y ffigurau hynny i'r Aelod: 72 y cant o bobl, gan gynnwys perchnogion busnes, yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau; 74 y cant yn cefnogi tâl salwch statudol o'r diwrnod cyntaf; 73 y cant eisiau amddiffyniad rhag diswyddo annheg o'r diwrnod cyntaf; a 74 y cant yn cefnogi gweithio hyblyg haws, Lywydd. Ni ddylai'r Bil Hawliau Cyflogaeth, sy'n cryfhau hawliau gweithwyr, fod yn fater ymrannol yn y Siambr hon nac yn San Steffan. Dylai fod yn fater y dylem i gyd ddod at ein gilydd yn ei gylch. Rwy'n annog yr Aelod i ddarllen yr arolwg barn arwyddocaol hwnnw: mae dros 21,000 o bobl yn dangos cefnogaeth ysgubol i'r Bil Hawliau Cyflogaeth.

Bydd amddiffyniadau gwaith cryfach yn creu gweithle ac amgylchedd busnes mwy cynhyrchiol. Mae arnaf ofn fod y Torïaid ar yr ochr anghywir i hanes ar hyn, fel y mae Nigel Farage a Reform. Dyma'r un ddadl a ddefnyddiwyd ganddynt ynghylch yr isafswm cyflog, dyma'r un ddadl a ddefnyddiwyd ganddynt ar gyfer y GIG. Mae eisiau iddynt wneud mwy o ymchwil, edrych ar y ffigurau hynny a newid y cywair o ran cryfhau hawliau gweithwyr.

14:10
Busnesau Canol Tref

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau canol tref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62287

Rydym wedi sicrhau bod £125 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi ar gael i sicrhau cadernid economaidd a chymdeithasol canol trefi, gan alluogi creu swyddi, datblygu seilwaith gwyrdd, gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau, a chefnogi busnesau lleol.

Diolch yn fawr i chi am yr ateb. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, mae'r amgylchiadau yma y mae llawer iawn o'n cwmnïau bychain ni yn eu hwynebu yn dal i fod yn rhai niferus iawn. Mae cost ynni yn parhau i fod yn uchel, chwyddiant ac yn y blaen, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen pob cefnogaeth arnyn nhw. Ond dwi'n pryderu bod nifer o gwmnïau canol tref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn talu crocbris mewn cyfraddau busnes. Nawr, ddiwedd y llynedd, ysgrifennais i ac Elin Jones at Asiantaeth y Swyddfa Brisio i fynegi pryderon ar lefel y cyfraddau busnes sy'n cael eu codi ar gwmnïau yn Aberystwyth yn benodol.

Nawr, o ran Aberystwyth, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ardrethi busnes sy'n cael eu codi ar beth eiddo masnachol yno yn uwch nag yng nghanol Caerdydd. Nawr, mewn rhai achosion, mae prisiau safleoedd fesul metr sgwâr bron i deirgwaith yn uwch ar Stryd Fawr Aberystwyth nag ar Ffordd y Brenin Abertawe. Nawr, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn ymddangos yn hollol hurt? Nawr, ymhellach, mae busnesau sy'n eiddo i bobl leol yng nghanol tref Aberystwyth yn talu hyd at 10 gwaith cymaint mewn ardrethi busnes na siopau cadwyn y tu allan i'r dref. Felly, mae fy nghwestiwn yn syml: beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn?

O ran pennu gwerthoedd ardrethol eiddo, maent yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn cael eu gosod yn annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ond os gallai Cefin Campbell ysgrifennu ataf ar y mater penodol hwn, o ystyried yr enghreifftiau hynny, byddwn yn hapus i fynd ar eu trywydd gyda'r Gweinidog cyllid, sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, i'w harchwilio'n fwy manwl.

Un o'r prif resymau pam fod pobl yn dal i fynd i ganol trefi yw er mwyn defnyddio gwasanaethau bancio. Ond yn anffodus, yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, daeth y newyddion yn ddiweddar fod Banc Lloyds yn Noc Penfro a Halifax yng Nghaerfyrddin yn mynd i gau. Nawr, yn ddiweddar cefais y pleser o gyfarfod â Vince Malone, sef yr is-bostfeistr yn Ninbych-y-pysgod, a Peter Robinson, is-bostfeistr yn Noc Penfro, a nododd fod swyddfeydd post yn parhau i gynnig rhai o'r gwasanaethau bancio allweddol hyn, gan sicrhau nad yw'r stryd fawr wedi'i hamddifadu'n llwyr o wasanaethau bancio. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith rydych chi'n ei wneud gydag is-bostfeistri, gyda Swyddfa'r Post, i geisio sicrhau bod mwy o wasanaethau, gwasanaethau bancio yn benodol, ar gael drwy Swyddfa'r Post, gan sicrhau bod etholwyr yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny ar ein strydoedd mawr?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwyf innau hefyd yn rhannu'r pryder sydd gan bob cyd-Aelod ar draws y Siambr, i fod yn deg, mewn perthynas â chau banciau ledled Cymru. Rydym wedi gweld 380 ohonynt yn cau ers mis Ionawr 2015, ac mae disgwyl na fydd ond 179 o fanciau a chymdeithasau adeiladu ar agor erbyn diwedd 2025 yng Nghymru. Felly, yn amlwg, mae rôl swyddfa'r post yn gwbl hanfodol i ganiatáu i bobl gael cyfleusterau bancio o ddydd i ddydd. Mae llawer o hyn heb ei ddatganoli, ond rwy'n fwy na pharod i gael unrhyw sgyrsiau y gallaf eu cael am gefnogi a hyrwyddo swyddfeydd post fel rhywle y gall pobl wneud eu bancio, ac archwilio sut y mae swyddfeydd post yn ceisio ehangu lefel ac ystod y cymorth y gallant ei gynnig yn y gymuned.

Mae banciau'n ceisio addasu mewn amrywiaeth o ffyrdd eraill. Felly, mae gennym faniau bancio symudol, er enghraifft. Mae yna ystod o gymorth technoleg nawr sydd ar gael trwy fanciau. Ac mae bancwyr cymunedol hefyd ar gael bellach mewn amryw o gymunedau ledled Cymru. Felly, mae banciau'n ceisio darparu rhyw fath o wasanaeth o leiaf yn yr ardal leol ar ôl i fanciau gau.

Hoffwn hysbysu'r cyd-Aelodau hefyd fod Link yn arwain ar asesu'r angen am wasanaethau bancio newydd, felly peiriannau ATM, hybiau bancio a rennir, er enghraifft. Maent yn gwneud hynny ar ôl pob cyhoeddiad fod banc yn mynd i gau, yn enwedig pan fydd y banc olaf yn cau mewn unrhyw dref, ac er mwyn iddynt allu comisiynu gwasanaethau newydd lle bo angen. Felly, os hoffai cyd-Aelodau ofyn i Link gynnal asesiad o wasanaethau bancio banciau, gallant wneud hynny hefyd.

14:15
Effaith Brexit ar Economi Cymru

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith Brexit ar economi Cymru? OQ62286

Yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf. Mae'r ffigurau'n amrywio, ond fe wyddom fod Brexit wedi cael effaith negyddol a niweidiol ar Gymru. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn llywodraethu ein perthynas â'r UE, ond ni all gymryd lle mynediad i'r farchnad fel a oedd gennym o'r blaen, ac mae'n creu rhwystrau i fusnesau Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae 60 y cant o fasnach Cymru gyda'r UE, felly tybed, Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y byddai bod yn rhan o'r farchnad sengl o fudd i fusnesau Cymru, ac mae'n debyg mai dyma fyddai'r ffactor unigol mwyaf yn y tymor byr a fyddai'n cynhyrchu twf economaidd yng Nghymru ac yn y DU.

Wel, mae'n hollol wir fod yr economi wedi cael ergyd fawr o ganlyniad i Brexit. Dangosodd rhagolwg economaidd a chyllidol diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i gynhyrchiant hirdymor y DU fod 4 y cant yn is o'i gymharu ag aros yn yr UE, gyda'r disgwyl y bydd nifer yr allforion a'r mewnforion tua 15 y cant yn is yn y tymor hir. Felly, rwy'n credu bod neges glir yno ynghylch yr effaith y mae Brexit wedi'i chael. Nid af ymhellach na hynny, er bod y gwahoddiad i wneud hynny'n apelio, ond rwy'n credu fy mod wedi gallu nodi canlyniadau negyddol Brexit i'r economi.

Cwmnïau Buddiannau Cymunedol

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu cwmnïau buddiannau cymunedol? OQ62308

Mae ein gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru wrth law i ddarparu cymorth arbenigol, i gynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fentrau cymdeithasol sy'n dymuno sefydlu fel cwmni buddiannau cymunedol yng Nghymru.

Dwi'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw. Yn ogystal â'r gwasanaeth sydd ar gael drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, tybed a oes yna fodd ehangu hynny i gynnwys profiad y rhwydwaith Cymunedoli, er enghraifft, sydd wedi dechrau yn y gogledd-orllewin ond sydd wedi ymledu trwy Gymru ar sail llwyddiant cwmnïau er budd cymunedol.

Yn ehangach na hynny, dwi yn ddiweddar wedi bod ynghlwm wrth sgwrs yn Rhydaman i greu cwmni o'r fath yna er mwyn adfywio'r dref a'r ardal gyfagos. Un o'r pethau sydd yn fy nharo i yw efallai fod yna rywbeth ar goll ar hyn o bryd wrth gael gwared ar Gymunedau'n Gyntaf—. Wrth gwrs, roedd yna gyfeiriad gynnau at y rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae honno yn dueddol o ffocysu ar y ffisegol, ar adfywio ffisegol. Mae yna fwlch o ran cefnogi entrepreneuriaeth gymdeithasol. Grêt bod y rhwydwaith yn bodoli. Mae eisiau ehangu fe. Efallai fod yna gyfle drwy'r rhaglen Arfor. Tybed a allen ni gael sgwrs, Weinidog, ynglŷn â'r cwestiwn yma, ynglŷn â'r elfen diwylliannol-gymdeithasol entrepreneuraidd mewn datblygu cymunedol a sut rŷn ni'n hyrwyddo hwnna dros Gymru gyfan.

Byddwn yn falch iawn o gael y sgwrs honno ynglŷn â sut y gallwn gefnogi cwmnïau buddiannau cymunedol yn well y tu hwnt i'r gefnogaeth gyfalaf a ddarparwn, felly byddwn yn hapus iawn i archwilio hynny, a hefyd i'w archwilio drwy gonsortiwm Busnes Cymdeithasol Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnwys Cwmpas, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu. Rhyngddynt, rwy'n gwybod yn sicr y bydd ganddynt safbwyntiau ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'n well yn y ffordd a ddisgrifiwyd.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf bydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a heddiw bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ateb y cwestiynau ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn cyntaf, felly, o Gareth Davies.

Amseroedd Aros

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar amseroedd aros cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd? OQ62297

Nid yw perfformiad yn Ysbyty Glan Clwyd lle rwyf i, y cyhoedd, na'r staff yn disgwyl iddo fod, ond mae gwelliannau'n cael eu gwneud. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ac wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer gwella.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyhoeddodd y corff annibynnol, Llais, ymchwil yr wythnos hon lle gwnaeth 42 ymweliad ag ysbytai, unedau mân anafiadau ac asesiadau meddygol, gan siarad â mwy na 700 o bobl, a'u casgliad oedd bod gofal brys a gofal mewn argyfwng yng Nghymru yn gwneud cam â gormod o bobl ac mae newid yn rhy araf. Maent wedi dweud yn union yr hyn y bûm i'n ei ddweud yn gyson yn y Senedd hon, sef nad yw pobl yn gweld gwelliannau go iawn er gwaethaf strategaethau, cynlluniau, ymrwymiadau a phrosiectau. Dywedodd Alyson Thomas, prif swyddog gweithredol Llais,

'Rhaid i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru weithredu nawr i droi strategaethau a chynlluniau yn newid ystyrlon. Mae gwelliannau ar unwaith yn hanfodol i leddfu’r argyfwng presennol, ond mae angen rhaglen weithredu glir arnom hefyd i sicrhau bod gofal brys yn addas ar gyfer y dyfodol.'

A dywedodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd Llais:

'Mae gofal brys yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt argyfwng',

gyda phobl yn cael eu gadael mewn coridorau am hyd at 24 awr. Ac o'r data diweddaraf sydd ar gael, yr adran damweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf yn erbyn y targed 12 awr yw Ysbyty Glan Clwyd, gyda dim ond 69 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed 12 awr. Nid dyma rydym yn ei ddisgwyl mewn cenedl ddatblygedig, a gwyddom o'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn fod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hamddifadu o'u hurddas pan fyddant yn ymweld ag adran frys sy'n cael ei rhedeg dan gyfarwyddyd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddilyn argymhellion yr adroddiad, dileu'r cynlluniau a'r strategaethau diwerth a dangos arweinyddiaeth a chyflawniad clir, gan unioni hanes Llywodraeth Cymru o amseroedd aros damweiniau ac achosion brys cywilyddus, yn enwedig yn Ysbyty Glan Clwyd, ac ymrwymo i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych—

14:20

Rwy'n mynd i—. Rwyf wedi bod yn hynod o hael gyda chi y prynhawn yma, yn y sesiwn flaenorol a nawr yn y sesiwn hon hefyd. Felly, atebwch y cwestiwn sydd newydd gael ei ofyn. 

Roedd sawl cwestiwn yno, Lywydd, ond fe ganolbwyntiaf ar y cwestiwn cyntaf a gyflwynodd Gareth Davies, sef ar yr ymateb i, neu'r adroddiad gan Llais. Rwy'n deall bod Llais wedi cynnal ymarfer ymgysylltu sylweddol ac wedi gwrando ar farn y cyhoedd ar ofal brys a gofal mewn argyfwng yng Nghymru, ac rydym bob amser yn gwerthfawrogi'r cyfraniad gwerthfawr y mae Llais yn ei ddarparu yn ein GIG. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod angen gwneud gwelliannau o ran ansawdd adrannau gofal brys, ac mae angen dull system gyfan i gefnogi'r gwelliant hwn drwy ein rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Rwy'n falch fod gennym gamau eisoes ar waith i gyflawni'r argymhellion gan Llais drwy ein rhaglen chwe nod, sy'n canolbwyntio ar ddarparu'r gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf. Ac mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau gofal cymunedol gwell, wardiau rhithwir ac ymateb cymunedol brys a llwybrau gofal integredig i leihau derbyniadau i'r ysbyty a gwella llif cleifion. Rydym wedi buddsoddi £200 miliwn eleni i helpu i reoli mwy o bobl yn y gymuned yn ddiogel er mwyn osgoi gorfod eu cludo mewn ambiwlans a'u derbyn i'r ysbyty, a rhyddhau'n amserol. Ac rydym hefyd wedi buddsoddi £5.4 miliwn ym mannau aros adrannau brys ers 2022-23, sydd wedi gweld gwelliannau i fannau eistedd, gyda gwell arddangosiadau gwybodaeth a mwy o ddiodydd er enghraifft; mae'n brofiad gwell i gleifion tra byddant yno.

Nawr, byrddau iechyd sy'n gyfrifol am sicrhau digon o gapasiti, yn weithlu a gofod ffisegol, a chaiff ei ddarparu i roi gofal diogel o ansawdd i bobl sydd angen cael gofal mewn adrannau brys. Ond rydym yn cydnabod—wrth gwrs ein bod—fod mwy i'w wneud i wella profiad a chanlyniadau cleifion, a byddwn yn parhau i gydweithio gyda'n cymheiriaid yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod y gwelliant hwnnw'n cael ei gyflawni.

Mewn cyfarfod gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fe wnaethant sôn bod tua 1,000 o welyau mewn ysbytai yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd angen symud i ofal cymdeithasol. Mae pwysau arbennig yng Nglan Clwyd, ac angen enfawr am fuddsoddiad yn Ysbyty Brenhinol Alexandra i gynnig darpariaeth cam-i-fyny, cam-i-lawr. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud cais am gyllid y gronfa gofal integredig fel arian cyfatebol ar gyfer hynny, ac mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru'n darparu'r cyllid hwnnw hefyd ar gyfer gofal cam-i-fyny, cam-i-lawr yn cael ei groesawu'n fawr. Rwyf hefyd yn deall bod cost y prosiect wedi treblu tra bod dwylo Llywodraeth Cymru wedi eu clymu yn ystod cyni Llywodraeth y DU dros y 14 mlynedd; nid oedd unrhyw arian ar gyfer y buddsoddiad hwnnw. Ond nawr mae gennym Lywodraeth newydd yn y DU, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ac mae cyllid cyfalaf ar gael o'r diwedd. A fyddech chi'n cytuno y gallai Ysbyty Brenhinol Alexandra fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon nawr wrth symud ymlaen?

Diolch am y cwestiwn, Carolyn Thomas. Rwy'n gwybod yn dda iawn pa mor bwysig yw Ysbyty Brenhinol Alexandra neu ysbyty cymunedol sir Ddinbych, sut bynnag y dymunwn gyfeirio ato, i bobl yn yr ardal honno, a gwn fod y bwrdd iechyd yn adolygu cynigion ar gyfer safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, mewn partneriaeth â'i randdeiliaid lleol. Ac rwy'n deall bod y cynigion hynny'n cynnwys uned mân anafiadau a gwelyau gofal canolraddol, sef y cyfleuster cam-i-lawr, cam-i-fyny roeddech chi'n sôn amdano. A phan fydd yr achos busnes diwygiedig wedi cael ei gyflwyno, bydd yn cael ei ystyried a'i flaenoriaethu yn erbyn yr ystod eang o geisiadau cyllid eraill a ddaw i law ledled GIG Cymru.

14:25
Mynediad at Wasanaethau Erthylu

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau mynediad at wasanaethau erthylu? OQ62298

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau erthylu sy'n cyd-fynd â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ac sy'n diwallu anghenion eu poblogaeth. Rydym wedi nodi'n glir ein disgwyliad fod byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau sy'n sicrhau mynediad at gymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dewisiadau atgenhedlu, gan gynnwys erthylu.

Diolch. Bydd un o bob tair menyw yn cael erthyliad yn ystod eu bywydau. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, nid oes unman sy'n darparu erthyliadau llawfeddygol y tu hwnt i 16 wythnos nac unman sy'n darparu unrhyw fath o erthyliad o gwbl y tu hwnt i 20 wythnos. Os oes angen i fenyw gael gwasanaethau erthylu y tu hwnt i hyn, hyd at y terfyn cyfreithiol o 24 wythnos, rhaid iddynt deithio allan o Gymru i gael triniaeth, fel arfer i Lerpwl neu Lundain. Er mai dim ond 2 y cant o'r holl erthyliadau sy'n erthyliadau yn ddiweddarach mewn beichiogrwydd, mae'r menywod sydd eu hangen ymhlith rhai o'r menywod mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Yn aml mae cefndir y menywod hyn yn gymhleth, mae ganddynt broblemau camddefnyddio sylweddau, maent yn ddioddefwyr trais, neu maent o dan 16 oed, ymhlith pethau eraill. Maent yn aml yn talu am drafnidiaeth a llety i gael y driniaeth ddeuddydd o'u poced eu hunain neu ag arian gan yr elusen sy'n darparu gofal iddynt, oherwydd bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn aml yn gwrthod rhoi arian ymlaen llaw. Mewn llawer o achosion lle mae menywod eisiau erthyliadau, golyga hyn na allant eu fforddio ac fe'u gorfodir i barhau â beichiogrwydd nad ydynt ei eisiau.

Mae'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod rwyf i'n aelod ohono wedi bod yn gofyn am weithredu ar hyn gan Lywodraeth Cymru ers 2018, ac rydym eto i glywed am gynllun ar gyfer darparu gwasanaethau llawfeddygol a diweddarach yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddi meddygon i ddarparu'r gofal arbenigol hwn. Gan fod gennym gynllun iechyd menywod ar gyfer Cymru o'r diwedd, pryd y gwelwn weithredu pendant ar hyn?

Diolch am ofyn y cwestiwn, Sioned Williams. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â menywod sydd wedi gorfod teithio y tu allan i Gymru yn sgil anawsterau a brofwyd ganddynt i gael y gofal sydd ei angen arnynt. Dylai pobl yng Nghymru allu cael gofal iechyd yn lleol lle bo hynny'n bosibl, ac yn achos gwasanaethau erthylu, mater i'r byrddau iechyd yw ystyried hyn fel rhan o gynnig gwasanaeth sy'n cyd-fynd â chanllawiau NICE, ac un sy'n diwallu anghenion eu poblogaeth. Wedi dweud hynny, fel y gwyddoch, roeddwn yn y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod, y mae Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer, ac roedd yn dda iawn gallu bod yno a thrafod rhai o'r materion hyn hefyd.

Felly, fe wnaethoch chi sôn yno am y cynllun iechyd menywod. Fel y gwyddoch, mae'n gynllun 10 mlynedd uchelgeisiol. Mae ganddo dros 60 o gamau gweithredu. Mae atal cenhedlu, atal cenhedlu ôl-enedigol a gofal erthylu yn faes blaenoriaeth yn y cynllun ac mae'r camau gweithredu yn cynnwys cynyddu argaeledd gwybodaeth ddibynadwy ar-lein ar ddewisiadau atal cenhedlu a gofal erthylu a sut i gael mynediad yn lleol, ac adolygu hyfforddiant a'r gweithlu i sicrhau staff priodol, darparu dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor a gofal erthylu. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych heddiw, serch hynny, gan i chi ofyn y cwestiwn hwn, yw fy mod wedi gofyn pa mor gyflym y gellir gwneud hyn ac a ellir ei symud yn uwch ar yr agenda. Felly, roeddwn i eisiau dweud bod y gwaith o sefydlu'r gwasanaeth arbenigol yn y maes wedi dechrau.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r rhwydwaith iechyd menywod a'r cyd-bwyllgor comisiynu. Ar hyn o bryd, mae'r camau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer gofal erthylu cymhleth ac ar ganol beichiogrwydd yn gam gweithredu hirdymor yn y cynllun, ond hoffwn sicrhau'r Aelodau fod gwaith ar y cam gweithredu hwn eisoes wedi dechrau ac os gallwn ei gyflawni'n gynt na'r hyn a amlinellwyd ar hyn o bryd, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Diolch yn fawr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans, i'w ateb gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, thema fy nghwestiynau heddiw yw fy mod am siarad am driniaeth ffrwythlondeb ledled Cymru, a Weinidog, fe nodais fod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer triniaethau ffrwythlondeb a ariennir gan y GIG yng Nghymru yn amrywio'n sylweddol ar draws gwahanol fyrddau iechyd, gan arwain at loteri cod post i'r cyplau sydd eisiau triniaethau ffrwythlondeb. Felly, Weinidog, a allwch chi roi esboniad cynhwysfawr am yr anghysondebau ac amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i safoni'r meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod pawb ledled Cymru yn gallu cael mynediad teg at ofal?

Diolch am godi'r pwnc hwn heddiw, James Evans. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad am y peth. Mae llawer o bobl allan yno'n cael trafferth gyda hyn. Yng Nghymru, fe wyddom y bydd un o bob chwe chwpl yn cael trafferth gydag anffrwythlondeb. Rydym yn gwybod mai problemau gyda sberm sydd i gyfrif am oddeutu 30 y cant, felly credaf ei bod yn bwysig iawn inni sicrhau ein bod yn siarad am hyn; mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i lawer o bobl. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, serch hynny, o ran y rheoliadau, yw mai'r Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol sy'n rheoleiddio. Maent yn rheoleiddio'r GIG a'r sector preifat ar hyn. Yr awdurdod fydd yn nodi wedyn pa driniaethau a llawdriniaethau sydd ar gael ac ar ben hynny, maent yn nodi'r pedwar maes allweddol, sef bod cyllid y GIG ar gyfer triniaeth ffrwythlondeb yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw; bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys; efallai na fyddwch yn gallu dewis eich clinig os ydych chi'n cael arian gan y GIG; ac mae gwahaniaeth mawr yng nghost triniaethau preifat, felly edrychwch o gwmpas cyn dewis. Felly, dyna'r cyngor cyffredinol a gawn gan yr Awdurdod Ffrwythlondeb a Embryoleg Dynol, a dyna mae'r cyd-bwyllgor comisiynu yng Nghymru yn ei ddefnyddio i nodi'r ddarpariaeth sydd gennym ar draws Cymru.

14:30

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe wnaethoch chi siarad yno am nifer yr opsiynau triniaeth sydd ar gael, ac mae gwahaniaethau amlwg rhwng y triniaethau ffrwythlondeb a gynigir ar draws y gwahanol fyrddau iechyd ledled Cymru. Ac yn aml nid oes gan gleifion ymreolaeth i ddewis y ganolfan driniaeth a ffafrir yr hoffent fynd iddi, yn enwedig y bobl  sydd am gael y driniaeth honno y tu allan i'r bwrdd iechyd dynodedig. Felly, nid yw chwistrelliad sberm mewnsytoplasmig, er enghraifft, yn cael ei gynnig ym mhob canolfan trin ffrwythlondeb ledled Cymru. Ond fel y dywedais, i'r bobl sydd â chyfrif sberm isel, dyna'r unig ffordd y gallant gael gafael ar driniaethau ffrwythlondeb mewn gwirionedd, ond nid yw rhai canolfannau yn gwneud hynny. Felly, hoffwn wybod gennych pa bolisïau sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru i gysoni'r triniaethau sy'n cael eu cynnig i bobl ledled Cymru? Ac a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd inni roi ymreolaeth i bobl ddewis lle gallant fynd i gael eu triniaeth, oherwydd, weithiau, gall pobl gael mynediad at y driniaeth honno yn y bwrdd iechyd a chael gwybod wedyn nad yw ar gael yno, a gorfod mynd drwy'r broses gyfan eto mewn ardal iechyd arall a rhan arall o'r wlad, sydd weithiau'n rhoi llawer o bwysau ar bartneriaid sy'n ceisio cael y driniaeth hanfodol hon?

Diolch am y cwestiwn dilynol hwnnw, James Evans. Felly, fel y gwyddoch mae'n debyg, mae popeth sydd gennym yng Nghymru a'r polisi sydd gennym wedi'i nodi yn y polisi comisiynu gwasanaethau arbenigol ar gyfer gwasanaethau ffrwythlondeb arbenigol. Felly, mae popeth y gofynnoch chi amdano—mae'n 29 tudalen—yno. Mae'n drylwyr iawn ac mae'n gosod meini prawf penodol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio, serch hynny, fod hwn yn wasanaeth arbenigol. Nid yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n cael ei ddarparu ar draws pob bwrdd iechyd. Ar hyn o bryd, fel y dywedoch chi, mae gennym y ddau glinig: mae un yng Nghaerdydd ac mae un yn Abertawe. Os ydych chi am fynd i'r gwasanaeth hwnnw i wirio eich cyfrif sberm ac ati, yna gallwch fynd ar-lein. Mae pedwar opsiwn ar gyfer gallu trefnu i allu gwneud hynny. Felly, rwy'n deall yn llwyr y bydd pobl allan yno lle nad yw hyn yn ddelfrydol—rwy'n deall. Ac mae hyn yn rhywbeth y credaf ei bod hi'n werth ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd mae'n rhan o'i bortffolio, o ran yr hyn y gallwn ei wneud wrth symud ymlaen, ond byddai'n rhaid iddo ddilyn y llwybr gwasanaeth arbenigol.

Un maes sy'n aml yn cael ei anwybyddu mewn triniaethau ffrwythlondeb yw materion anffrwythlondeb dynion. Er gwaethaf astudiaethau sylweddol sy'n dangos bod ffactorau gwrywaidd yn cyfrannu at 30 i 50 y cant o achosion anffrwythlondeb yng Nghymru, mae'n ymddangos bod diffyg mentrau penodol i fynd i'r afael â ffrwythlondeb dynion yng Nghymru. Ac un peth yr hoffwn gyffwrdd ag ef yn eich portffolio chi yw mai'r hyn y tueddwn i'w ddarganfod yw pan fydd dynion yn cael diagnosis o broblemau anffrwythlondeb, eu bod yn aml yn cael eu gadael yn y tywyllwch, heb unrhyw gymorth yn cael ei gynnig iddynt oherwydd bod y rhan fwyaf o'r triniaethau ffrwythlondeb yn canolbwyntio ar y fenyw. Ond mewn gwirionedd, mae llawer o ddynion yn teimlo'n rhwystredig, maent yn teimlo cywilydd, maent yn teimlo dicter, oherwydd, fel y dywedais, nid ydynt yn teimlo eu bod yn cael y cymorth meddyliol sydd ei angen i'w helpu drwy'r amser hwnnw yn eu bywyd. Felly, hoffwn wybod, efallai, fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, pa gymorth y gall eich adran ei gynnig i'r dynion hynny sy'n dioddef problemau anffrwythlondeb, oherwydd, fel y dywedais, mae hwn yn faes sy'n cael ei anwybyddu'n aruthrol gan y sector iechyd, ac rwy'n credu bod angen i'r Senedd a'r cyrff iechyd wneud mwy i gefnogi dynion sy'n cael problemau, oherwydd, fel y dywedais, dyna yw dros hanner yr achosion ac maent yn tueddu i fod y rhai sy'n cael eu hanghofio o fewn y daith driniaeth.

Yn sicr. Diolch. Unwaith eto, mae'r ffaith ein bod yn siarad amdano heddiw ac yn codi hyn yn gam enfawr bob amser, ac rydym wedi gweld hyn ar draws rhannau eraill o fy mhortffolio gydag iechyd meddwl hefyd.

Mae gwefan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yn wych o ran nodi'n union beth yw'r broses, ac mae ganddynt opsiwn o allu siarad â chwnselydd, a gallwch hefyd ffonio ar y llinell ffôn, fel y dywedais. Gallwch hefyd drefnu ar-lein. Felly, ni ddylai fod unrhyw gywilydd na stigma o gwbl ynghylch hyn—nid yw mor anghyffredin ag y mae pobl yn ei feddwl o bosibl.

Hoffwn ddweud hefyd, serch hynny, ein bod bob amser yn annog pobl i siarad ac mae hyn yn rhywbeth y dylai pobl siarad amdano. Ac rwy'n credu bod gennym lawer o lwybrau nawr ar gyfer iechyd meddwl gwrywaidd yn benodol, a byddent yn sicr yn dod o dan hynny—o dan iechyd meddwl. Diolch am godi hyn heddiw, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y gallaf ei ystyried nawr hefyd a thrafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd rydych yn codi rhywbeth nad wyf yn siŵr ei fod erioed wedi'i godi yn y Siambr mewn gwirionedd, neu ers i mi gael fy ethol, yn sicr. Mae'n llawer mwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli, ac mae'n chwarae rhan mewn sawl peth, fel hunaniaeth pobl a'r cywilydd a'r teimlad—. Ac mewn gwirionedd, yng Nghymru, byddwn yn dweud bod gennym gynnig eithaf da o ran cymorth ffrwythlondeb a mynediad at IVF ac ati. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dechrau'r daith honno. Ond byddai'n wych cael sgwrs arall gyda chi am hyn hefyd, James. Diolch yn fawr.

14:35

Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Y cwestiynau i'w hateb gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gofalwyr di-dâl yw arwyr tawel ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae eu gwaith yn werth mwy na £2 biliwn bob blwyddyn mewn termau economaidd yn unig, a hynny cyn inni ystyried eu cyfraniad ehangach i lesiant y genedl. Ond yn rhy aml o lawer, nid yw'r gwerth aruthrol y maent yn ei gynnig i'n cymdeithas yn cael ei ad-dalu'n ddigonol, fel sy'n cael ei adlewyrchu gan y ffaith bod digartrefedd, ansicrwydd ariannol a phroblemau iechyd meddwl yn arbennig o gyffredin ymhlith gofalwyr di-dâl. Mae'r hawl i asesiad o anghenion personol, yn unol â thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i fod yn amddiffyniad cyfreithiol i ofalwyr yn hyn o beth. Ond o ystyried mai dim ond 6 y cant o ofalwyr Cymru a allodd gael asesiadau o'r fath yn ystod 2024, a yw'r Gweinidog yn cytuno nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni nodau bwriadedig y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, ac a wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu diwygiedig i wella ei heffeithiolrwydd ymarferol yn sylweddol?

A gaf i ddiolch i Mabon am y cwestiwn pwysig hwn? Rwy'n credu i hyn gael ei grybwyll yr wythnos diwethaf, Sioned, yn y ddadl a gyflwynoch chi. Mae hyn yn rhywbeth a glywaf yn gyson gan ofalwyr di-dâl, wrth siarad â gofalwyr di-dâl, a sefydliadau gofalwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad 'Dilyn y Ddeddf' yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a oedd yn targedu maes penodol asesiadau gofalwyr. Mae'n un o'r pethau, pan ymgymerais â'r rôl benodol hon, yr oeddwn yn awyddus iawn i gael rhagor o wybodaeth amdano. Yn fy etholaeth fy hun, trwy waith achos, rwy'n siarad â gofalwyr di-dâl ac yn clywed nad ydynt yn cael cynnig asesiadau gofalwyr fel mater o drefn, ac yn y blaen. Ac yna maent yn synnu pan fyddwch yn cael y sgwrs gyda hwy yn dweud wrthynt fod ganddynt hawl gyfreithiol mewn gwirionedd.

Nawr, yr hyn a wnaethom eisoes yw comisiynu'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal adroddiad i ni, yn seiliedig ar ddarganfod beth yw effaith asesiadau gofalwyr—neu ddiffyg asesiadau gofalwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn mynd drwy'r adroddiad ac yn edrych ar yr argymhellion, ond mae'n waith sy'n mynd rhagddo. Mae'n faes gwella sylweddol yr wyf yn benderfynol y byddwn yn gweld canlyniadau'n deillio ohono. Roeddwn yng nghynulliad y gofalwyr yn gynharach yr wythnos hon, ac fe'i codwyd yno, ac fel y dywedais, ym mhob arena yr wyf ynddi, ac ym mhob sgwrs a gaf gyda gofalwyr, mae hyn yn codi.

Felly, o fy safbwynt i, rwyf am weithio ar ganlyniadau'r adroddiad y mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi'i gynhyrchu, 'Dilyn y Ddeddf'. Rwyf am weithio ar y wybodaeth sydd gennym o adolygiad y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol am asesiadau gofalwyr, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cael lefel o gysondeb ar draws Cymru—nad ydym yn gweld unrhyw fath o loteri cod post lle mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig hyn mewn yn fwy arferol nag eraill. Ac rwyf wedi gofyn nifer o gwestiynau i fy swyddogion ynglŷn â hyn fel y gallwn gael gwybodaeth ronynnog o'r fath ynglŷn â sut y mae awdurdod lleol yn nodi pwy yw eu gofalwyr di-dâl—oherwydd mae'n rhaid inni gydnabod nad ydynt i gyd yn hysbys i'r awdurdod lleol—ac yna beth a wnânt pan fyddant yn gwybod bod ganddynt ofalwr di-dâl yn eu hardal, a beth yw'r broses ar gyfer cynnig asesiad gofalwr, a sut y maent yn gweithio gyda'r gofalwr i gydgynhyrchu cynllun gweithredu gofalwr sy'n darparu'r math o gymorth sydd ei angen arnynt. Gallai hynny fod yn amrywiaeth eang o gymorth. Gallai fod yn ofal seibiant iddynt hwy a/neu i'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt.

Felly, rwyf am eich sicrhau, Mabon, fy mod yn gwybod nad ydym yn agos at ble y mae angen inni fod gyda hyn, ac mae hwn yn waith â blaenoriaeth yr wyf am weld gwelliannau sylweddol ynddo.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac wrth gwrs, wrth wraidd y broblem hon mae diffyg capasiti cronig ar ran awdurdodau lleol i gynnal asesiadau o anghenion. Mae'n cael ei effeithio, wrth gwrs, gan gyni, ond mae hefyd yn gysylltiedig â phwysau gwariant o £559 miliwn ar awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yn unig, gan eu gorfodi i bwyso a mesur penderfyniadau poenus ynghylch codiadau annifyr i'r dreth gyngor a thoriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn doredig. Un ffordd o'i ddatrys, wrth gwrs, yw darparu setliad cyllido teg i Gymru, yn seiliedig ar anghenion ein poblogaeth. Ond yn y cyfamser, mae angen mwy o arweinyddiaeth strategol ar ran Llywodraeth Cymru i wneud i gyllid llywodraeth leol fynd ymhellach ar gyfer gofal cymdeithasol, gan fod esgeuluso'r sector dros gyfnod estynedig wedi creu cylch dieflig o alw sy'n dwysáu ar y rheng flaen, fel y dangoswyd yn adroddiad diweddar Llais ar gyflwr truenus gofal brys. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried safoni'r fframweithiau ar gyfer asesiadau o anghenion gofalwyr, a chyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol newydd i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal asesiadau, gyda chyllid wedi'i glustnodi o fewn y grant cynnal refeniw i gyd-fynd â hynny?

14:40

Wel, diolch unwaith eto, am y cwestiwn pwysig hwnnw, a chredaf eich bod yn gwneud pwyntiau diddorol a gwerthfawr ynglŷn â sut y gall awdurdodau lleol wneud i'w harian fynd ymhellach. Nawr, gallwn sefyll yma a siarad â chi am y codiad a gynigir yn y gyllideb, os y gwnewch chi bleidleisio drosto wrth gwrs, oherwydd, os na chaiff ei derbyn, ni fyddant yn cael eu cyllid ychwanegol. Ond mae'n bwynt difrifol. Disgwylir i awdurdodau lleol, o fewn y gyllideb ddrafft, dderbyn codiad sylweddol yn eu grant cynnal ardrethi gan Lywodraeth Cymru eleni, sy'n llawer mwy na'r hyn roeddent wedi bod yn ei ddisgwyl. A bydd disgwyl iddynt wneud llawer iawn o bethau gyda hwnnw, ac mae gofal cymdeithasol yn rhan enfawr o wariant awdurdod lleol, fel y gwyddoch. Rwy'n credu bod oddeutu 40 y cant o'u gwariant ar ofal cymdeithasol.

Felly, mae yna waith y mae'n rhaid inni ei wneud ynglŷn â lleihau'r costau diangen i lywodraeth leol, boed hynny'n ymwneud â gofal cymdeithasol neu unrhyw faes cyllido arall. Ac un o'r pethau a wnawn, ac y gweithiwn gydag awdurdodau lleol arno—a gall Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ddweud mwy am hyn—yw ceisio lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. A dyna'n rhannol yw'r fframwaith gofal a chomisiynu cenedlaethol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym gysondeb wrth gomisiynu gofal ac yn y blaen. Ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai hynny fod yn berthnasol hefyd i sicrhau dull cyson o gynnal asesiad gofalwr, fel bod pawb yn gwneud yr un peth ac yn gweithio yn yr un ffordd, ac yn datblygu'r un math o ymateb sydd ei angen arnynt ar gyfer gofalwr.

Yn amlwg, bydd y canlyniadau'n wahanol, ond mae'r fframwaith y gellir gwneud hynny o'i fewn yn rhywbeth y dylid ac y gellid edrych arno. Boed yn ofal cymdeithasol neu'n ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar fy mhortffolio, rwy'n awyddus iawn i edrych ar feysydd o arfer da i'w cyflwyno ar raddfa fwy. Ac os gallwn wneud hynny a dod o hyd i awdurdodau lleol sy'n gwneud hyn mewn ffordd sy'n dderbyniol ac sy'n cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom, ac nad yw awdurdod arall yn gwneud hynny, byddwn am ofyn y cwestiwn pam nad yw hynny'n digwydd. Felly, rwy'n sicr yn credu bod gwaith y gallem ei wneud gyda chymheiriaid awdurdodau lleol i ysgogi'r math hwnnw o ddull cyson yr ydych ch'n siarad amdano.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ond mae'r pwysau ariannol dwys a fydd yn wynebu darparwyr gwasanaethau yn fuan o ganlyniad i'r cynnydd sydd ar y ffordd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cymhlethu'r mater hwn. Nid yn unig y mae'r gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol drwy awdurdodau lleol yn gorfod ymdopi â diffyg tebygol oherwydd Barnetteiddio ad-daliadau Trysorlys y DU i wasanaethau cyhoeddus craidd—annhegwch sylfaenol i Gymru, trwy garedigrwydd partneriaid mewn grym Llywodraeth Cymru—mae darparwyr trydydd sector a darparwyr annibynnol yn wynebu costau ychwanegol sy'n wirioneddol ddirfodol eu natur. Mewn un enghraifft o lawer, bydd angen i gartref gofal Glan Rhos ar Ynys Môn ymgodymu â £127,500 ychwanegol mewn costau blynyddol o fis Ebrill ymlaen, ond mae apeliadau i eithrio gofal cymdeithasol i'r un graddau â gwasanaethau rheng flaen y GIG wedi'u hanwybyddu hyd yma. Weinidog, pam y credwch nad yw eich cymheiriaid Llafur yn San Steffan wedi ystyried bod y sector gofal cymdeithasol yr un mor deilwng o ddiogelwch rhag eu penderfyniadau cyllidebol, ac a wnewch chi ysgrifennu at eich Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU i amlinellu effaith lawn codiadau yswiriant gwladol ar ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn cynnwys capasiti staffio yn enwedig?

Unwaith eto, diolch am y cwestiwn hwnnw. Ac wrth ateb unrhyw gwestiynau ar gyfraniadau yswiriant gwladol, y gofynnwyd i mi yn eu cylch sawl gwaith, byddaf bob amser yn dechrau drwy ddweud, wrth gwrs, nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli. Felly, mae'n rhaid inni ymdrin â chanlyniadau penderfyniad a wneir gan Lywodraeth wahanol. Felly, mae'n fater a gedwir yn ôl ac nid yw'n fater i ni. Pan gawsom y ddadl ar y gyllideb, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ateb yn fanwl y cwestiynau ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol a pham ei fod yn teimlo y gallem wneud yr hyn y gallwn ei wneud, a'r hyn na allwn ei wneud. Mae'n cyfathrebu'n rheolaidd â Llywodraeth y DU am effaith y cynnydd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i bartneriaid yng Nghymru, boed yn ddarparwyr trydydd sector, annibynnol, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen.

O fewn ein cyllideb, yr hyn a wnaethom yw ceisio gwella sefyllfa'r darparwyr trydydd sector. Rydym wedi gweld cytundeb cyllido i'r trydydd sector dros dair blynedd, sydd wedi'i nodi yn y gyllideb ddrafft, sy'n cynnwys £25.5 miliwn, ac mae hynny'n gynnydd o 7 y cant. Ac wrth gwrs, er bod nifer o sefydliadau a busnesau'r trydydd sector yn cael eu heffeithio gan gyfraniadau yswiriant gwladol, bydd llawer yn cael hwnnw wedi'i wrthbwyso'n llawn neu'n rhannol gan y lwfans cyflogwr cynyddol. Ond fe wyddom y bydd y pwysau oddeutu £253 miliwn ar y sefydliadau hynny a fydd yn gweld cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.

14:45

Nid fy lle i yw ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch y mater hwn, oherwydd mater i'r Trysorlys ydyw, a dyna pam mai fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, sy'n cael yr ohebiaeth honno a'r sgyrsiau parhaus hynny ynglŷn â sut y gallwn leihau effaith hynny yn y meysydd yr effeithiwyd arnynt fwyaf.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar adran achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ62299

Rydym yn croesawu adroddiad AGIC ac yn falch o nodi gwelliannau a wnaed gan yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ers ei arolwg blaenorol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu am effeithiau llif gwael yn yr ysbyty ac rydym wedi bod yn glir gyda'r bwrdd iechyd ein bod yn disgwyl gweld gwelliant pellach.

Diolch, Weinidog. Mae problemau damweiniau ac achosion brys yn y Faenor wedi bod yn un o'r nifer o bethau y bu'n rhaid imi eu cael ers imi ddod yn Aelod yma, ac mae'n parhau i ddod. Rwy'n credu bod adroddiad Llais, a ddarllenasom ac y clywsom fwy amdano heddiw, yn taflu goleuni pellach ar y problemau sydd gennym. Mae'n amlwg iawn o'r adroddiad fod y staff yn gwneud eu gorau glas, gan drin cleifion mewn modd cwrtais, proffesiynol ac urddasol, ond caiff eu gwaith ei lesteirio'n sylweddol gan nifer fawr y cleifion yn yr adran. Siaradodd un claf am y ffaith y bu'n rhaid iddynt aros 12 awr, er gwaethaf amheuaeth o drawiad ar y galon, cyn iddynt benderfynu gadael a gyrru i ysbyty gwahanol. Ni chafodd dynes arall, yr amheuwyd ei bod wedi cael trawiad ar y galon, unrhyw arsylwadau yn ystod ei harhosiad 12 awr ac ni welodd unrhyw aelod o staff yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac ni fydd yr un ystrydebau y tueddwn i'w cael gan y Llywodraeth yn gweithio mwyach gyda'n cyhoedd. Weinidog, pa gamau rydych chi'n eu cymryd gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau nad yw pethau'n parhau ar y gyfradd annerbyniol hon ac nad yw'r straeon hyn, fel y rhai y soniais amdanynt, yn cael eu hailadrodd?

A gaf i ddiolch i Peter Fox am y cwestiwn atodol? A gaf i ddweud ar y dechrau, yn sicr, nad yw rhai o'r pethau y soniwch amdanynt yn dderbyniol, ac mae'n amlwg fod gennym fwy o waith i'w wneud? Nid oes neb yn gorffwys ar eu rhwyfau yma ac yn esgus fod hon yn broblem na allwn ei datrys. Rydym yn credu bod hon yn broblem y gallwn ei datrys, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser. Rwy'n credu eich bod yn cydnabod gwaith caled y staff ar y rheng flaen. Ac er gwaethaf holl bwysau'r system a'r diffyg llif cleifion yn yr ysbyty, byddwn yn dweud bod pobl yn dal i gael safon dda o wasanaeth pan fyddant yn ei gael, ac mae hynny'n dyst i waith caled ac ymrwymiad y staff sy'n gweithio yn ein gweithlu gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Nawr, mae'r bwrdd iechyd wedi darparu set gynhwysfawr o gamau gweithredu a chynlluniau i barhau i ysgogi gwelliannau, camau gweithredu sydd wedi'u derbyn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac mae'r rheini'n cynnwys penodi chwe meddyg ymgynghorol adran frys newydd i weithredu asesiadau cyflym cynnar ar gyfer cleifion a chefnogi ffrydio i lwybrau amgen lle bo hynny'n briodol. Yn anffodus, nid yw nifer o heriau systemig y cyfeirir atynt yn yr adroddiad arolygu yn unigryw i Aneurin Bevan, nac i Gymru, mewn gwirionedd. Ac er ein bod yn siarad amdano yn yr ystyr ehangach, mae'r rheini'n cael effaith wirioneddol a dyma'r mathau o bethau yr oeddech chi'n sôn amdanynt yn eich cwestiwn. Fodd bynnag, rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol yng nghyllid y rhaglen chwe nod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, i ysgogi rhai o'r gwelliannau hyn mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng yng Ngwent, a bydd y bwrdd iechyd yn derbyn £2.7 miliwn pellach eleni. Ac yn dilyn her 50 diwrnod y gaeaf, pan ydym bob amser yn gweld y pwysau mwyaf ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn disgwyl ffocws wedi'i gyfeirio'n well o ranbarth Gwent ar alluogi llif cleifion, fel y gallwn lacio'r dagfa yn adran frys ysbyty'r Faenor a rhyddhau capasiti ambiwlansys. Ond byddwn yn parhau i fonitro hynny drwy drefniadau ein rhaglen uwchgyfeirio ac ymyrraeth.

14:50

Wrth gwrs, fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfod bod gorlenwi mewn ystafelloedd aros yn parhau i beryglu preifatrwydd ac urddas cleifion, ond mae rhai materion yn codi cyn hynny hefyd. Mae'r diffyg ambiwlansys sydd gennym i fynd â chleifion i'r adran damweiniau ac achosion brys yn y Faenor yn niweidiol i ofal cleifion. Dywedwyd wrth un o fy etholwyr y byddai'n rhaid iddi aros cyhyd am ambiwlans nes eu bod wedi cynnig anfon tacsi yn lle hynny. Nawr, roedd hi'n ddynes ar ei phen ei hun ac nid oedd hi'n teimlo'n ddiogel yn mynd i mewn i dacsi ynghanol y nos pan oedd hi'n agored i niwed. Ac yn ddiweddarach, pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty, dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi wneud ei ffordd ei hun adref mewn gŵn nos a chardigan. Roedd hi'n rhewi ac nid oedd unman i gysgodi heblaw safle bws rhewllyd. Nawr, does bosibl y byddech yn cytuno nad yw hon yn ffordd gynaliadwy o drin cleifion? Mae'r adran damweiniau ac achosion brys hon mor bell o gynifer o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, ac fe wyddoch ei bod hi bron yn amhosibl i bobl gyrraedd yno neu gyrraedd adref pan fydd angen help arnynt. Felly, beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw hwn yn ddigwyddiad sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro?

Unwaith eto, rwy'n deall ac yn cytuno â'r pryderon hynny. Rydym yn gweld hyn yn rhy aml, ac nid yw'n ddigon da ac mae angen iddo wella. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud, cyn imi ddweud unrhyw beth yn rhagor am yr ambiwlansys, yw siarad am yr ystafell aros yn y Faenor, oherwydd rydym wedi darparu £14 miliwn ychwanegol i'r Faenor ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i wella eu mannau aros ac ehangu'r man aros yn yr adran frys. Rydym yn disgwyl cwblhau cam cyntaf y gwelliannau hynny erbyn mis Mai eleni, a'r ail gam ym mis Awst y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n mynd i ddyblu'r capasiti aros cyfredol yn yr ystafell o 38 i 75, ac mae hynny hefyd yn cefnogi man penodol ar gyfer cynnal e-frysbennu hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n achosi gwelliant ym mhrofiad cleifion o aros yn yr adran damweiniau ac achosion brys.

Ond rydym yn parhau i bryderu am lefel ymateb ambiwlansys a throsglwyddo cleifion, oherwydd dyma lle mae'r oedi'n digwydd. Felly, pan fydd eich etholwr yn aros am ambiwlans i ddod, mae hynny oherwydd bod yr ambiwlans yn dal i aros yn yr ysbyty i drosglwyddo'r claf. Felly, rydym yn parhau i bryderu am hynny a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar adnoddau, sy'n amlwg yn annerbyniol. Felly, rydym wedi bod yn glir gyda'r byrddau iechyd am ein disgwyliad ar gyfer gwella amseroldeb trosglwyddo cleifion ambiwlans, er mwyn sicrhau bod criwiau'n cael eu rhyddhau i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned. Ac mae Gweithrediaeth GIG Cymru bellach yn cyflawni rhaglen o archwiliadau o gydymffurfiaeth sefydliadau â'r canllawiau ar drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gweddill 2024-25, gyda'r ffocws cychwynnol ar y safleoedd mwyaf heriol. Byddwn yn cael adroddiad yn ôl ar hynny cyn bo hir, a byddwn yn dychwelyd i'r Senedd gyda chanlyniad yr adolygiad hwnnw.

Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol? OQ62291

Y bartneriaeth yw'r gyntaf o'i bath yn y DU. Mae'n dwyn ynghyd y Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau yn gydweithredol, gan ddatblygu modelau o arfer gorau i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol annibynnol. Yr uchelgais mwy hirdymor yw i gyflogwyr fabwysiadu'r rhain a chreu telerau ac amodau mwy cyson ar draws y sector.

14:55

Diolch am y diweddariad, Weinidog. Rwy'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei hymrwymiad parhaus i bartneriaeth gymdeithasol ystyrlon drwy sefydlu partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol. Fel y dywedoch chi, dyma'r gyntaf o'i bath yn y DU, gan ddod â'r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd, ac wrth gwrs mae'n adeiladu ar gyflwyno ein haddewid maniffesto o gyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal, ac yn dangos ymrwymiad Llafur Cymru i ofalu am weithwyr sy'n gofalu am ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, a llawer o'n hanwyliaid hefyd.

Yr wythnos hon yw Wythnos CaruUndebau, felly mae'n teimlo'n briodol i mi ganolbwyntio ar un o dair blaenoriaeth y bartneriaeth ar gyfer ei blwyddyn gyntaf: cytundebau cydnabod ochr yn ochr â mynediad at undebau llafur. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod mynediad at undebau llafur yn rhywbeth yr ydym am ei weld yn lledaenu'n eang yn y sector, a bod cytundebau cydnabod yn allweddol nid yn unig i gefnogi'r gweithlu, ond cynaliadwyedd y sector cyfan.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod wrth gwrs, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni yn gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid undebau llafur i gyrraedd y pwynt hwn. Ac o'r gwaith a wnaethoch chi a minnau cyn dod i'r lle hwn, fe wyddom fod yr holl dystiolaeth yn dangos, onid yw, fod gweithleoedd sy'n cydnabod undebau llafur yn weithleoedd gwell o ran cyflogau, amodau, iechyd, diogelwch a chydraddoldeb. Rydym eisiau hynny i bob gweithiwr yn y sector gofal cymdeithasol.

Rwy'n falch iawn o'r ffaith, pan edrychwn yn benodol ar waith partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol, mai'r uchelgais mwy hirdymor yw i'r modelau y cytunwyd arnynt gael eu mabwysiadu ar gyfer yr holl staff o fewn y cwmpas, ac i greu telerau ac amodau mwy cyson ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel y dywedwch, ar y meysydd gwaith blaenoriaeth ar gytundebau cydnabod, gweithdrefnau disgyblu a chwynion, ac iechyd a diogelwch, gan gynnwys trais yn y gweithle, mae'r gwaith yn y ffrydiau gwaith yn cael ei arwain gan gynrychiolwyr undebau llafur. Felly, rwy'n credu y bydd gennym lais y gweithlu yno, yn sbarduno'r newidiadau hyn.

Rhaid imi fod yn onest, er, yn amlwg, fod i'r cynllun fwriad da, mae gennyf sawl pryder. Nid wyf erioed wedi gweld fy mherchnogion cartrefi gofal a'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol mor ddigalon ag y maent ar hyn o bryd. Maent yn gweld hyn fel siop siarad arall. Yn gyntaf, nid oes gan natur wirfoddol y cytundeb gymhelliant gwirioneddol i gyflogwyr annibynnol, gan ei gwneud yn aneglur pa mor eang y bydd y model arfaethedig o arfer gorau yn cael ei fabwysiadu.

Trwy ymgorffori undebau llafur yn y broses o wneud penderfyniadau, mae'r fenter hon mewn perygl o gynyddu biwrocratiaeth a chyfyngu hyblygrwydd cyflogwyr, a fydd ond yn anghymell buddsoddiad preifat i sector sydd eisoes yn ddigalon iawn. Er bod mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu yn bwysig, bydd pwyslais y polisi ar ymyrraeth Llywodraeth a dull cyfunolaidd unwaith eto'n mygu arloesedd ac effeithlonrwydd. Nid oes unrhyw gymorth ariannol ar gael, sy'n golygu y bydd unrhyw gostau ychwanegol yn debygol o ddisgyn ar ein darparwyr sydd eisoes dan bwysau, a gallai hyn arwain at gostau gofal uwch neu gyfyngu ar wasanaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, ar ryw adeg, pryd y gwnewch chi ymgysylltu â'r rhai yn ein gweithlu gofal cymdeithasol, y rhai sy'n rhedeg ein nyrsio, ein henoed bregus yn feddyliol a'n cartrefi gofal? Maent eisiau cymorth gwirioneddol gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru; nid ydynt eisiau mwy o siopau siarad. Mae angen mwy o gyllid arnynt. Rydym wedi colli mwy o welyau yn y sector gofal dros y tair blynedd diwethaf nag a wnaethom erioed yng Nghymru. Rydych chi'n gwneud cam â'r sector gofal cymdeithasol, ac mae'n bryd i chi newid eich agwedd a'ch dull o weithredu. Diolch.

Nid yw'r cwestiwn hwnnw'n fy synnu, na'r agwedd honno tuag at geisio gweithio mewn partneriaeth â'r gweithlu a chyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol, ac nid wyf yn mynd i sefyll yma am un eiliad ac ymddiheuro am y gwaith a wnawn— 

—gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ac undebau llafur, i weithio mewn partneriaeth i sicrhau gwelliannau o ran telerau ac amodau ac arferion y gweithle i rai o'r bobl ar y cyflogau isaf sydd gennym yn ein gweithlu, sy'n gofalu am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A Janet, os ydych chi'n meddwl bod dadreoleiddio yn y maes hwnnw i leihau costau—

—er mwyn lleihau costau ar draul cyflogau gweithwyr a chydnabyddiaeth i undebau llafur, fe atebais y cwestiwn gan Hannah Blythyn ynglŷn â'r hyn y mae gweithleoedd undebau llafur yn ei ddarparu. Maent yn darparu gwell gweithleoedd, maent yn darparu gwell telerau ac amodau, maent yn darparu gwell iechyd a diogelwch ac maent yn darparu gwell gweithluoedd. Ac mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr sy'n ymgysylltu â ni—. Ac nid ydym wedi gwneud hyn ar ein pen ein hunain; mae hyn wedi'i wneud gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol. Pan fyddwn yn gweithio gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol mewn partneriaeth, fe welwch fod y cyflogwr a'r gweithle'n dod yn lle gwell i fod ynddo, i'r cyflogwr a'r gweithiwr.

15:00

Mae cwestiwn 5 [OQ62313] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 6, Joyce Watson.

Cefnogi Gofalwyr

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr? OQ62296

Diolch. Mae cydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Ers 2022, rydym wedi dyrannu £42 miliwn ar gyfer cymorth uniongyrchol i ofalwyr di-dâl. Fis diwethaf, cyhoeddais £5.25 miliwn i barhau â’r cynllun seibiant byr a’r gronfa gymorth i ofalwyr am 12 mis arall.

Hoffwn groesawu, yn arbennig, y buddsoddiad hwnnw o £5.25 miliwn ar gyfer y 12 mis nesaf i gefnogi’r cynllun seibiant, oherwydd pan fydd pobl yn gofalu am eraill 24/7, yr un peth nad oes arnom ei eisiau yw i’r bobl hynny fod o dan gymaint o bwysau fel eu bod yn mynd yn sâl eu hunain, ac yna mae’r system gyfan yn chwalu. Felly, mae’n gymorth hanfodol sydd ei angen i roi seibiant i’r unigolion hynny ac felly i gynnal y teulu ehangach. Felly, beth rydych chi'n ei wneud i hyrwyddo'r cyllid uwch hwnnw i sicrhau bod y rhai sydd ei angen, yn gyntaf oll, yn ymwybodol ohono, ac yn ail, yn elwa ohono?

Diolch, Joyce. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. A gaf i ddechrau drwy ddweud—a dylwn fod wedi dweud hyn mewn ymateb i gwestiynau Mabon yn gynharach mewn gwirionedd—faint rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud—gwerth y gwaith a wnânt i’r economi, ond yn bwysicach fyth, i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt? Ac fel y dywedwch, rydym yn ehangu’r cynllun seibiant byr. Mae’r cynllun seibiant byr, ynddo’i hun, yn rhywbeth y tu hwnt i’r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu drwy’r asesiadau gofal a’r trefniadau gofal seibiant sydd ganddynt. Felly, mae hyn yn rhywbeth ychwanegol y gellir ei deilwra a'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n benodol iawn i anghenion y gofalwr penodol hwnnw. Felly, rydym yn gweithio gyda hwy i ddatblygu seibiant byr ar eu cyfer sy’n bodloni’r hyn y maent ei eisiau, yn hytrach na cheisio cael un ateb sy'n addas i bawb.

Felly, yr hyn a wnawn mewn gwirionedd yw ariannu hyfforddiant staff iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o anghenion gofalwyr a'u cymorth a'u bod yn codi ymwybyddiaeth, yn unigol, gyda gofalwyr, o'r cymorth y gallant ei gael gan awdurdodau lleol, ond hefyd y cymorth ychwanegol y gallant ei gael gennym ni drwy'r cynllun seibiant byr, a hefyd drwy'r gronfa gymorth i ofalwyr, sy'n gronfa gymorth ychwanegol bwysig iawn, ac sy'n darparu taliadau brys i helpu gofalwyr gyda biliau'r cartref a phethau fel atgyweirio—efallai y bydd angen peiriant golchi newydd neu rywbeth felly arnynt. Felly, mae'n waith a wnawn ar y cyd ag awdurdodau lleol a'r sector gofal cymdeithasol i sicrhau bod proffil yr hyn sydd ar gael yn dod yn bwynt cyswllt cyntaf—fod rhywun yn gwybod beth sydd ar gael a'u bod yn ei gynnig i'r unigolyn y maent yn gweithio gyda hwy.

Cefnogi Menywod ag Endometriosis

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis? OQ62304

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nyrsys endometriosis penodol ym mhob bwrdd iechyd ar draws GIG Cymru sy’n mynd ati'n weithredol i dreulio amser gyda chleifion mewn clinigau. Rydym hefyd wedi ariannu gwefan bwrpasol, Endometriosis Cymru, gyda'r nod o wella dealltwriaeth o'r cyflwr a sut y gall effeithio ar fywydau'r rhai yr effeithir arnynt.

Diolch, Weinidog. Mae Jennifer Hughes-Cooke, sy’n etholwr i mi, yn rhedeg grŵp cymorth i fenywod sy’n dioddef o endometriosis. Mae gan y grŵp dros 100 o aelodau ac mae'n parhau i dyfu. Ar ôl cyfarfod â hi a chlywed am y diffygion yn y driniaeth yng ngorllewin Cymru—mae’r nyrs arbenigol bresennol ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd—addewais godi’r mater ar lawr y Senedd, ysgrifennu at brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a threfnu cyfarfod iddi gyda’r bwrdd iechyd, ac rwy’n falch o gadarnhau fy mod wedi gwneud hynny.

O ystyried ei bod yn cymryd chwe mis i hyfforddi nyrs arbenigol, a chyda 10 y cant o fenywod o oedran atgenhedlu yn dioddef o’r cyflwr, sut rydych chi'n gweithio i sicrhau bod digon o nyrsys arbenigol yn cael eu hyfforddi, a sut rydych chi'n cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau triniaeth o fewn y 36 wythnos gyntaf, pan fo achosion wedi’u cofnodi ymhell dros y cyfnod hwnnw o amser?

15:05

Diolch yn fawr am godi hyn, Sam Kurtz. Rwyf bob amser yn ddiolchgar ac yn croesawu unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud ag iechyd menywod, yn enwedig endometriosis. Fel roeddwn yn ei ddweud wrth Sioned Williams, siaradais yn y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod yr wythnos diwethaf—rwy'n credu mai'r wythnos diwethaf oedd hi—a dyma oedd y prif bwnc. O'r holl bethau y gallwn eu trafod, endometriosis oedd yr un peth yr oedd y menywod am siarad amdano, gan ei fod yn gyflwr mor—. Mae'n gyflwr cronig a gall fod yn gwbl arteithiol. Felly, diolch am godi’r cwestiwn hwn.

I roi ateb uniongyrchol am y trefniadau wrth gefn sy’n cael eu rhoi ar waith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, cefais sicrwydd eu bod wedi’u rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod o absenoldeb mamolaeth drwy’r tîm gynaecolegol. Ond rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y nyrsys arbenigol hynny. Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau gynaecolegol ansawdd uchel hynny, ac mae'n hanfodol eu bod yn darparu llwybr cadarn ac effeithiol.

Rydym yn cydnabod y problemau y mae rhai menywod a merched yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Dyna pam fod endometriosis yn un o'r wyth maes blaenoriaeth yn y cynllun iechyd menywod a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr. Mae saith cam gweithredu clir a fydd yn arwain at welliannau ym mhrofiad menywod o ran cael mynediad at wybodaeth, triniaeth a chymorth ar gyfer endometriosis ledled Cymru.

Gwn imi sôn ar y dechrau am y wefan endometriosis, ond mae'n wirioneddol wych, yn fy marn i. Mae bob amser yn dod yn ôl at addysg, fel y gall pobl deimlo eu bod wedi'u grymuso, fel y gallant eirioli drostynt eu hunain ac eraill. Yna, gallant ddwyn pobl i gyfrif hefyd. Wrth inni lunio’r wefan genedlaethol ar gyfer iechyd menywod, rwy'n gobeithio y byddwn yn ei seilio ar un Endometriosis Cymru, gan ei bod yn nodi'n glir iawn beth yw’r llwybr. Hefyd, mae'n rhoi rhestr wirio i chi a dyddiadur y gallwch ei gadw o'ch symptomau, fel y gallwch fynegi'n union beth rydych chi'n mynd drwyddo, pan fyddwch yn mynd at y meddyg teulu.

Ond ar y nyrsys endometriosis, yr hyn y mae menywod yn ei ddweud wrthyf yw ei fod yn gwneud byd o wahaniaeth pan fyddwch yn cyfarfod ag un ac yn dechrau gweithio gyda hwy a derbyn eu cymorth a'u gofal. Yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud nawr—ac mae'n un o'r pwyntiau gweithredu allweddol yn y cynllun iechyd menywod—yw edrych arno fel gwasanaeth arbenigol, fel y soniais yn fy atebion i James Evans yn gynharach. Mae'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor comisiynu'n edrych ar ddarparu hwn fel gwasanaeth arbenigol, fel ei fod yn rhywbeth y gallwn sicrhau bod menywod ledled Cymru yn gallu cael mynediad ato, a'n bod yn ei ystyried ar sail Cymru gyfan. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bob un o'r menywod allan yno ein bod yn sicr yn edrych ar hyn. Diolch yn fawr.

Heriau Recriwtio yn y GIG

8. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio yn y GIG yng Nghymru? OQ62293

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i fuddsoddi yng nghynaliadwyedd gweithlu’r GIG. Drwy gymorth parhaus i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd, recriwtio rhyngwladol moesegol a gwell strategaethau recriwtio, mae gweithlu’r GIG wedi cynyddu 10 y cant dros y tair blynedd diwethaf.

Diolch am yr ateb. Mae gennyf bobl sydd newydd gwblhau eu graddau nyrsio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd ac sy’n dweud wrthyf na allant gael swydd. Ni allant gael swydd, er bod cannoedd o nyrsys yn dod yma o dramor, yn bennaf o India, ar hyn o bryd. Ac eto, ymddengys bod gan y GIG filoedd lawer o swyddi nyrsio gwag y mae'n parhau i'w hysbysebu, ac mae'n dibynnu'n fawr ar nyrsys asiantaeth hefyd. Mae honno'n sefyllfa ryfedd yn fy marn i, ac yn un y mae angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio iddi ar frys i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian i'r trethdalwyr, o gofio y bydd y cyrsiau hyn wedi'u hariannu gan drethdalwyr. Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon ynglŷn â chau ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd a'r effaith y gallai hynny ei chael ar y proffesiwn nyrsio yn ehangach, ar ddiogelwch cleifion, ac yn wir, ar bwrs y wlad yn y dyfodol?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Darren Millar. I ddechrau, mae gan y GIG yng Nghymru bellach fwy o staff nag ar unrhyw adeg yn ei hanes. Heddiw, mae'r GIG yn cyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac mae hynny'n gynnydd o 21 y cant ers cyn y pandemig. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod gan y GIG weithlu cynaliadwy sydd â'r gallu i ymdopi â gofynion y presennol, ond hefyd i ddiwallu anghenion y dyfodol. Mae hyn oherwydd ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi yng ngweithlu presennol y GIG ac i hyfforddi gweithlu'r dyfodol, ac mae'n darparu oddeutu £294 miliwn ar gyfer hyfforddi aelodau newydd o'r gweithlu.

Ar y materion y mae eich trigolion yn eu hwynebu yn y gogledd, rwy'n awgrymu y dylech ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn benodol ynglŷn â hynny. Ond nid wyf am ei gyfuno â'r mater arall a godwyd gennych, nad wyf yn credu ei fod yn broblem; credaf ei fod yn newyddion da iawn, mewn gwirionedd: mae rhaglen recriwtio ryngwladol Cymru gyfan wedi llwyddo i recriwtio mwy na 1,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a addysgwyd yn rhyngwladol i weithlu GIG Cymru. [Torri ar draws.] Na, hoffwn wthio'n ôl ar hynny. Mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Mae'r gwledydd yr ydym yn recriwtio ohonynt yn gorhyfforddi'n bwrpasol. Mae hyn yn gwbl foesegol. Nid nyrsys yn unig sy'n cael eu recriwtio gennym, ond seiciatryddion hefyd, sy'n dymuno dod yma i weithio. Nid yw'n newyddion drwg. Yn sicr, nid dyna fel y’i gwelir yn y GIG.

Ar gyfer 2024 a 2025, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i gadw’r £5 miliwn yn ganolog yn y prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y rhaglenni cenedlaethol, i gefnogi’r broses recriwtio ryngwladol foesegol, a’r nod oedd parhau i ddefnyddio’r dull moesegol unwaith i Gymru i fodloni gofynion cynllunio’r gweithlu yn y dyfodol ar draws y GIG.

O ran y posibilrwydd o ddod â chyrsiau nyrsio i ben ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i’r sefydliadau addysg uwch wneud penderfyniadau anodd ynghylch y dyfodol, ac mae’n siomedig o ystyried pwysigrwydd sicrhau gweithlu cynaliadwy i GIG Cymru fod nyrsio'n rhan o’r ymgynghoriad. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac rydym yn hyderus, yn dilyn yr ymgynghoriad, os gwneir penderfyniad i fwrw ymlaen â'r penderfyniad i ddod â'r ddarpariaeth nyrsio i ben, y gellir rhoi cynlluniau amgen ar waith i sicrhau parhad darpariaeth ar yr un lefel drwy ddarparwyr amgen yn yr un rhanbarth. Mae'r penderfyniad terfynol, wrth gwrs, yn nwylo Prifysgol Caerdydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn gwrando mewn dull partneriaeth gymdeithasol wrth iddynt ymgynghori ar hyn. A hoffwn ddweud y bydd swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ac AaGIC dros yr wythnosau nesaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny, ac yn briffio Ysgrifennydd y Cabinet yn sgil hynny.

Hoffwn nodi hefyd fod gennym raglen gadw staff genedlaethol hefyd. Rydym yn buddsoddi mewn iechyd meddwl, rydym yn cefnogi’r nyrsys rhyngwladol ac yn cael sgyrsiau ynglŷn â llesiant. Rydym yn ceisio cefnogi a chadw'r staff sydd gennym yn barod drwy bolisi gweithio hyblyg. Mae gennym safon cydraddoldeb hil y gweithlu. Rydym hefyd yn cefnogi pobl drwy iechyd galwedigaethol, diogelwch y gweithlu a chodi llais heb ofn. Felly, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo yng ngweithlu'r GIG, ond ni fyddwn yn priodoli recriwtio 1,000 o bobl yn foesegol yn rhyngwladol i unrhyw un o'r materion y gallech fod wedi'u codi.

15:10
Gofal mewn Coridorau Ysbytai

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael gwared ar ofal mewn coridorau yn ysbytai Cymru? OQ62301

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo triniaeth neu ofal rheolaidd unigolion mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas. Fodd bynnag, mae adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all weithiau arwain at oedi estynedig cyn derbyn cleifion i welyau ysbyty, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, mae'r ymadrodd gofal mewn coridorau yn gamarweiniol. Nid yw bob amser yn digwydd mewn coridorau ac nid yw bob amser yn cynnwys gofal. Mae rhai digwyddiadau gwirioneddol arswydus wedi'u nodi yn yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys toiled i bobl anabl mewn adran ddamweiniau ac achosion brys fawr yn cael ei ddefnyddio i gymryd samplau gwaed gan glaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y weithred anhylan hon yr un mor annerbyniol â gadael claf ar droli mewn unrhyw ofod sydd ar gael. Pan oeddwn yn cwblhau fy nghyfnod hyfforddi, roedd gennym faeau aros i gleifion ym mhob adran achosion brys, yn ogystal â'r baeau triniaeth. Nawr, mae baeau aros yn wardiau arsylwi lle byddai'r claf yn cael eu cadw ar gyfer canlyniadau profion, triniaeth ddilynol, a byddent hyd yn oed yn mynd oddi yno i'r theatr. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried gosod baeau aros ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys fawr, hyd yn oed ar sail dros dro, tan y bydd gennych reolaeth ar lif cleifion drwy ein hysbytai?

Diolch yn fawr am ofyn y cwestiwn pwysig hwnnw, Altaf Hussain. Hoffwn ailadrodd eto nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo triniaeth neu ofal rheolaidd unigolion mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas. Byddai hynny'n sicr yn cynnwys rhoi profion gwaed i bobl mewn toiled i bobl anabl, ac os yw hynny'n wir, byddwn yn eich annog i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel y gellir ymchwilio i hynny.

Hoffwn ddweud hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet—a phob un ohonom mewn gwirionedd—yn cyfarfod yma â chlinigwyr yn rheolaidd i ddeall profiadau uniongyrchol o ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng, gan gynnwys y materion yn ymwneud â chleifion yn derbyn gofal mewn mannau nad ydynt yn briodol i'w hanghenion. Mae’r blaenoriaethau a nodir yn fframwaith cynllunio GIG Cymru yn cynnwys gweithredu'r camau a ddisgrifir yn y fframwaith optimeiddio llif cleifion mewn ysbytai, a ddatblygwyd gan raglen genedlaethol y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Dawn Bowden heddiw, i sicrhau bod pobl sydd ag angen clinigol i gael eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu rhyddhau i fynd adref pan fyddant yn barod yn glinigol, gyda’r cymorth cywir a heb oedi. Gwyddom fod hyn oll yn gysylltiedig. Mae angen ymdrech system gyfan i optimeiddio llif cleifion mewn ysbytai, a fydd yn ei dro yn cael gwared ar y tagfeydd yn ein hadrannau achosion brys ac yn rhyddhau capasiti ambiwlansys.

Hoffwn ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £200 miliwn o gyllid ychwanegol eleni i gefnogi'r byrddau iechyd a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i reoli mwy o bobl yn y gymuned yn ddiogel, ac osgoi cludiant mewn ambiwlansys a derbyniadau i’r ysbyty. Mae’r cyllid ychwanegol a’n rhaglenni gwella cenedlaethol hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar yr adrannau achosion brys, fel roeddech chi'n gofyn. Felly, diolch yn fawr iawn. Ond rwy'n eich annog yn gryf i fynd ar drywydd yr achos pryderus a ddisgrifiwyd gennych gydag Ysgrifennydd y Cabinet.

15:15

Diolch yn fawr i'r ddau Weinidog am yr atebion a'r sesiwn yna.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 sydd nesaf, felly, y datganiadau 90 eiliad. Y cyntaf prynhawn yma gan Alun Davies.

Diolch, Lywydd. Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth yr Arglwydd Keith Brookman yn ddiweddar. Roedd Keith wedi bod yn sâl ers amser, ond caiff ei gofio fel cyn-ysgrifennydd cyffredinol ac ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol undeb llafur y Cydffederasiwn Crefftau Haearn a Dur.

Gweithiwr dur ydoedd. Roedd yn weithiwr dur yn ei enaid. Cafodd ei eni a'i fagu yng Nglynebwy a dechreuodd ei yrfa hir yn y diwydiant ym 1953. Wedi cyfnod o wasanaeth cenedlaethol yn yr Awyrlu Brenhinol, dychwelodd i'r diwydiant dur. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb am wyth mlynedd, o 1985 i 1993, ac yna fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd cyffredinol, a pharhaodd yn y swydd tan 1999.

Nid oedd yn syndod i unrhyw un, pan ddaeth Keith yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, iddo gymryd y teitl Arglwydd Brookman o Lynebwy. Yn ystod ei gyfnod yn Senedd y DU, parhaodd i ddangos diddordeb gweithredol mewn materion Cymreig, yn enwedig y diwydiant dur. Dros y degawdau, chwaraeodd ran weithredol yn aelod o ystod o gyrff, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ddur, ar lefel ddomestig a rhyngwladol. Roedd yn rhan o bwyllgor glo a dur Ewrop, y Ffederasiwn Gweithwyr Metel Rhyngwladol a Ffederasiwn Gweithwyr Metel Ewrop. Y tu hwnt i'r diwydiant dur, roedd hefyd yn llywodraethwr Coleg Addysg Uwch Gwent ac yn aelod o bwyllgor cynghori addysgol Cymru yng Nghyngres yr Undebau Llafur.

Efallai mai Neil Kinnock a dalodd y deyrnged orau iddo. Dywedodd Neil,

'Roedd Keith yn un go iawn—undebwr llafur llwyr a sosialydd democrataidd ymroddedig. Roedd ei wreiddiau'n ddwfn a'i uchelgeisiau ar ran pobl y dosbarth gweithiol yn ddiderfyn. Roedd yn ddyn hael iawn… roedd yn onest iawn… Roedd hefyd yn llawn direidi, roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych ac roedd yn deyrngar iawn i'w gymrodyr.'

Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae cwmni'r Dref Werdd yn ardal Ffestiniog yn gwmni trydydd sector ac yn adnodd pwysig i’r ardal a’r gymuned gyfan. Wedi’i sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl, yn ymwneud â gwaith llesiant ac amgylcheddol, maent yn hwb i roi cymorth i drigolion yr ardal gyda phob math o agweddau, o brosiectau yn helpu plant a phobl ifanc i dyfu llysiau, i sicrhau cyngor a chymorth i bobl fregus, a gwneud yn siŵr bod pobl mewn oed yn byw bywyd llawn gyda chwmni cyfeillion.

Mae’r Dref Werdd newydd gael arian nawdd gan y Loteri Gymunedol er mwyn creu prosiectau newydd yn yr ardal: £480,340 dros dair blynedd. Mae’r prosiectau newydd yma yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc yn yr ardal ym Mhenrhyndeudraeth a Bro Ffestiniog, ymgysylltu â phobl hŷn a chreu sesiynau pontio’r cenedlaethau gyda’r ysgol leol. Bydd y Dref Werdd yn creu cynlluniau ar gyfer dygymod â galar, iechyd meddwl dynion, celfyddydau cymunedol a grymuso pobl i wneud mwy drostynt eu hunain.

Mae cael y buddsoddiad yn y gymuned leol yn gwarantu bod y gymuned yn arwain ar beth sydd ei angen yn y gymuned honno, ac yn rhoi gwytnwch pellach i'r gymuned ôl-ddiwydiannol. Pob lwc i’r Dref Werdd yn eu gwaith.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Bwyd

Eitem 5 yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), bwyd. Galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8814 Jenny Rathbone, Llyr Gruffydd, Peter Fox

Cefnogwyd gan James Evans, Julie Morgan, Lee Waters, Mike Hedges, Samuel Kurtz

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;

b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;

c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;

d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac

e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;

b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;

c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;

d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac

e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais ag ysgol gynradd sydd â’r holl gynhwysion ar gyfer strategaeth fwyd gymunedol: clwb garddio, clwb coginio a phennaeth newydd sy’n awyddus i ymgorffori bwyd ym mhob agwedd ar y cwricwlwm newydd, ac mae ganddi bedwar o welyau wedi'u codi a thwnnel polythen fel prosiect arddangos nid yn unig ar gyfer y disgyblion, ond ar gyfer y teuluoedd sy’n ymweld bob dydd o’r wythnos. Mae gan y cyfuniad hwn botensial i lywio strategaeth gymunedol leol i wella ein deietau y gellid ei chymhwyso nid yn unig ar gyfer yr ardal cynnyrch ehangach honno o amddifadedd, ond i bob ysgol gynradd, gan mai hwy yw calon y gymuned y mae’r gymdeithas rhieni ac athrawon, y banc bwyd a’r panto Nadolig oll yn deillio ohoni.

Mae'r diwydiant bwyd yn gwario biliynau ar hyrwyddo ein deietau trychinebus, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio grym cymuned i ymladd yn ôl. Ar lawr gwlad, mae gennym eisoes sail i strategaeth drwy ein hysgolion bro. Mae angen inni ychwanegu un cynhwysyn arall, sef yr achrediad Bwyd am Oes y dylai pob ysgol a phob awdurdod lleol anelu ato ac sydd gan ein harlwywyr ein hunain, ynghyd â dros 1.5 miliwn o ysgolion ym Mhrydain—yn anffodus, dim un yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae angen inni adeiladu ar yr hyn a oedd yno'n barod am amser byr yn sir y Fflint ac Ynys Môn.

Nid oes amser i'w golli. Mae'r epidemig diabetes sy'n cynyddu'n barhaus eisoes yn llyncu 17 y cant o gyllideb y GIG. Mae lefelau camfaethiad ymhlith cleifion ysbyty yn ymestyn arosiadau cleifion, a phrif achos marwolaethau cyn pryd a salwch cronig yw ein deietau gordewogenig, nid ysmygu.

Felly, beth sydd angen i ni ei wneud i helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir? Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 filiwn drwy 'Pwysau Iach: Cymru Iach' bob blwyddyn i gefnogi rhaglen atal diabetes, ond pa gyfran sy'n cael ei gwario ar ymyrraeth sylfaenol? Nid wyf yn gwybod. Rwy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i un nyrs diabetes sy'n gweithredu o bractis meddyg teulu, er bod diabetes math 2 bellach ar ei lefel uchaf erioed ac yn dominyddu bywydau a marwolaethau un o bob pum oedolyn.

Pwy sy'n arwain y frwydr i atal pobl sydd â hypoglycemia nad yw'n ddiabetig, a elwir hefyd yn gyflwr cyn-ddiabetes, rhag datblygu diabetes math 2? Pwy sy'n gweithio gyda chartref cyfan unrhyw un sydd wedi cael diagnosis diweddar o ddiabetes math 2 i newid eu deiet yn llwyr a rhoi cyfle iddynt wrthdroi'r clefyd erchyll hwn, gyda'r holl ganlyniadau a ddaw yn ei sgil? Mae deietegwyr yn dweud wrthyf eu bod yn gweithio gyda meddygon teulu, ond nid mewn meddygfeydd, felly mae hyn yn destun cryn bryder ac mae angen inni ymchwilio ymhellach.

Gan symud ymlaen, credaf y dylem groesawu’r buddsoddiad mewn partneriaethau bwyd lleol a wnaed gan y Llywodraeth, a rhoddodd Llywodraeth Cymru £1.7 miliwn arall tuag at fynd i’r afael â thlodi bwyd ar ben y £2.8 miliwn a ddosbarthwyd gan awdurdodau lleol yn gynharach eleni. Hyd yn hyn, rydym wedi gwario £22 miliwn ers 2019 ar fynd i'r afael â thlodi bwyd. Mae llawer iawn o bobl gefnogol yn cymryd camau bach tuag at gael gwared ar y tlodi bwyd gwarthus sy'n fwrn ar chweched economi fwyaf y byd.

Dylid canmol yr holl weithgarwch gwirfoddol a chymunedol sy’n mynd rhagddo o dan faner y 22 o bartneriaethau bwyd lleol, ymdrech gymunedol sy’n atal pobl rhag llwgu ac sy’n brwydro yn erbyn unigrwydd, ond nid yw’n strategaeth genedlaethol ar gyfer gwella gwytnwch bwyd ledled Cymru gyfan. Dyna sydd ei angen arnom ar frys cyn i’r GIG chwalu o dan bwysau clefydau sy’n gysylltiedig â deietau.

Gadewch inni gynyddu nifer y bobl sy'n barod i dyfu llysiau, yn enwedig yng ngoleuni adroddiad diweddar yr Athro Tim Lang ar gyfer y Comisiwn Parodrwydd Cenedlaethol rhag trychineb arall fel COVID. Mae’n argymell bod angen i adrannau cynllunio awdurdodau lleol gael mandad i greu tir tyfu bwyd ar gyfer bwyd cymunedol, ac y dylid rhoi cefnogaeth ddeddfwriaethol i'r hawl i dyfu. Ond rwy'n derbyn nad yw tyfu eich bwyd eich hun yn addas i bawb. Mae angen i bob cartref allu cael mynediad at fwyd maethlon o ffynonellau lleol i leihau ein dibyniaeth ar lond llaw o fanwerthwyr mawr iawn sydd yn rhy aml o lawer yn agor siop y tu allan i'r dref ac yn achosi i’r holl siopau bwyd lleol gau ar unwaith, fel nad oes unrhyw beth ar gael i unrhyw un sydd angen cerdded i gael eu bwyd. Felly, mae'n rhaid i’r strategaeth fwyd gymunedol fapio’r diffeithdiroedd bwyd hyn, ynghyd â chynllun i ysgogi argaeledd bwyd ffres i bawb. Bydd yr atebion yn amrywio yn ôl daearyddiaeth, ond pa wasanaeth a allai fod yn bwysicach nag argaeledd bwyd o fewn pellter gwthio pram?

Felly, i gloi, hoffwn sôn am bŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn gofal. Mae llyfr diweddaraf Kevin Morgan, Serving the Public, yn amlygu astudiaeth bwysig o sut y gall maeth digonol leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yn arbrawf plasebo dwbl ddall dan reolaeth ar 231 o garcharorion ifanc mewn sefydliad troseddwyr ifanc yn Aylesbury. Rhoddwyd ychwanegion bwyd maethlon i hanner y bobl ifanc tra bod yr hanner arall yn cael plasebo. Cyflawnodd y rhai a oedd yn bwyta’r bwyd maethlon chwarter yn llai o droseddau na’r grŵp rheoli plasebo, ac ymhlith y troseddwyr mwyaf treisgar, roedd yn 37 y cant. Mae hynny'n ganlyniad anhygoel. Ac er i Syr David Ramsbotham, arolygydd carchardai arolygiaeth EF pwysicaf fy ngyrfa, gyd-ysgrifennu erthygl, ‘Crime and Nourishment’, yn y Prison Service Journal yn 2009, anwybyddwyd y datguddiad gan y carchardai a phob un arall a oedd yn caffael bwyd i wasanaethau cyhoeddus. Mae’n parhau i fod yn neges bwysig, nid yn unig i CEF y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gweddill y gwasanaeth carchardai—nad yw wedi'i ddatganoli—ond i unrhyw arweinydd ysgol uwchradd sy’n gyfrifol am bobl ifanc y mae eu hormonau’n rhuo. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cymryd yr her ymddygiad o ddifrif, a’i bod, yn gwbl briodol, wedi gwrthsefyll unrhyw her i droi ysgolion yn gaerau, ac rwy'n gobeithio y bydd gwaith ymchwil Aylesbury yn cael ei archwilio a'i rannu yn yr uwchgynhadledd ag arweinwyr ysgolion ym mis Mai, ac y bydd Estyn a Phrifysgol Bangor yn ystyried maeth bwyd yn eu gwaith. Mae pethau pwysig i feddwl amdanynt o ran ein dull iechyd y cyhoedd o fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd hefyd.

Ond ar wahân i ddisgyblion a charcharorion, beth am gleifion a phensiynwyr, sydd hefyd yn berthnasol iawn i’r hyn sy’n digwydd mewn ysbyty? Bu sawl ymgais i wella bwyd ysbytai, a’r brif ddadl dros wrthsefyll newid yw mai safleoedd triniaeth glinigol yw ysbytai yn eu hanfod, yn hytrach na safleoedd hybu iechyd. Mae'r statws isel sydd ynghlwm wrth faeth bwyd gan reolwyr ysbytai a'r proffesiwn clinigol yn golygu bod cleifion sy’n dioddef o ddiffyg maeth yn aros yn hwy yn yr ysbyty a bod ganddynt gyfraddau gwella gwaeth. Mae Age Concern wedi tynnu sylw at hyn mewn perthynas â diffyg maeth a bod y cleifion sy’n dioddef o ddiffyg maeth deirgwaith yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau yn ystod llawdriniaethau, a bod ganddynt gyfradd marwolaethau uwch na chleifion sy'n bwyta'n dda. Beth y mae GIG Cymru yn ei wneud i ofalu am ei staff ei hun hyd yn oed—[Torri ar draws.]—yn enwedig—

15:25

Rydych yn llygad eich lle am yr ysbytai a’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. O'r blaen, roedd gennym ddeietegydd, a byddai'r deietegydd yn mynd at bob claf yn y bore, a byddent yn rhoi manylion iddynt am eu deiet, a byddent yn gweld pa ddeiet sy'n addas ar gyfer beth. Cefais lawdriniaeth ar fy abdomen, a rhoddwyd corbys i mi—plât llawn. Mawredd, roedd yn ofnadwy. Felly, rwy’n cytuno â chi.

Rwy'n credu bod deietegwyr yn bodoli mewn ysbytai; nid wyf yn credu eu bod mor amlwg ag y dylent fod mewn gofal sylfaenol.

Ar y llaw arall, roeddwn yn falch o glywed bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn treialu dydd Mercher llesiant, gan godi £3.50 ar eu staff am bryd o fwyd wedi’i goginio’n ffres ynghyd â darn o ffrwyth. Mae'n ymyrraeth bwysig iawn, gan y bydd yn lleihau absenoldeb. Ond nid yw'n digwydd bob dydd, ac nid yw'n digwydd ym mhob bwrdd iechyd. Mae dau fwrdd iechyd nad oes ganddynt unrhyw ffocws deietegol ar eu staff yn yr ysbyty o gwbl.

Rhaid mai'r safon aur yw'r prydau wedi'u cynhyrchu'n ffres mewn loceri oergell, a welodd Jack Sargeant a minnau ym mis Tachwedd yn lansiad Well-Fed yn Shotton. Mae hon yn enghraifft wirioneddol dda o arfer gorau, sy'n herio byrddau iechyd i sicrhau bod y fydwraig sy'n geni babi am 2 o'r gloch y bore yn gallu cael—. Yn yr egwyl o 20 munud cyn iddi orfod geni'r babi, mae'n gallu mynd i estyn y bwyd o'r locer, ei roi yn y microdon, a bwyta pryd maethlon cyn iddi orfod cwblhau cyfnod heriol arall. Felly, dyna gloi fy nadl am y tro; hoffwn glywed beth sydd gan bawb arall i'w ddweud.

Rwy’n falch iawn o gyd-gyflwyno’r ddadl hon, gan y gellir dadlau nad oes unrhyw beth yn bwysicach nag iechyd ein cenedl yn y dyfodol a'r cenedlaethau sydd i ddod, a bydd y bwyd rydym yn ei fwyta a’r deietau a ddilynwn yn hollbwysig i iechyd cyffredinol ein gwlad. Mae’n siomedig nad oes mwy o Aelodau yn y Siambr heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae'n rhaid i'r ymdrech i wella iechyd a lles ein cenedl fynd y tu hwnt i wahaniaethau gwleidyddol a thymhorau seneddol. Mae’n rhywbeth mor bwysig fel bod yn rhaid iddo fod wedi'i angori yn rhaglen waith unrhyw lywodraeth yn y dyfodol gan y bydd hon yn daith hir o newid.

Nid oes angen data arnom i ddangos bod pethau'n gwaethygu. Mae'n amlwg ym mhobman o'n cwmpas. Rydym yn gweld lefelau cynyddol o ordewdra ar draws ein poblogaeth, a chynnydd sylweddol mewn gordewdra ymhlith plant sy’n arwain at broblemau iechyd difrifol, fel diabetes plant, sy'n destun cryn bryder. Beth fydd y dyfodol i lawer o’n pobl ifanc os na cheisiwn newid y cyfeiriad cymdeithasol? Yn anffodus, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu a bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein deiet wedi araf gynyddu ac rydym bellach yn gweld yr effaith ddwys ar iechyd a lles ein pobl. Mae wedi dod yn rhan annatod o fywyd dydd i ddydd llawer o deuluoedd, gan ei fod yn aml yn rhad, yn gyfleus, ac mewn llawer o achosion, yn gaethiwus. Y broblem, felly, yw sut y mae dechrau annog teuluoedd i newid eu harferion bwyta? Gwyddom mai’r tlotaf yn ein cymunedau sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan salwch sy’n gysylltiedig â deiet, ac yn sicr, mae’n rhaid inni geisio eu helpu lle gallwn.

Mae gwledydd dros y byd yn cymryd y mater hwn o ddifrif, ond mae arnaf ofn fod Cymru’n cael ei gadael ar ôl, o bosibl, oherwydd diffyg brys a phendantrwydd. Wedi dweud hynny, mae enghreifftiau gwych o arferion a mentrau arloesol i'w cael, sydd â'r nod o wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, ni all y pethau hyn ar eu pen eu hunain, hyd yn oed y cynlluniau mawr, fel cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb, ddatrys y broblem. Mae'n rhaid cael rhywbeth llawer mwy. Rwy'n credu'n wirioneddol fod yn rhaid i’r Llywodraeth fabwysiadu dull trosfwaol, cyfannol a strategol o ymdrin â’r system fwyd yma yng Nghymru—rhywbeth y mae pob polisi bwyd yn cyd-fynd ag ef. Gallwn weld y math hwn o ddull gweithredu yn yr Alban gyda’u cynllun cenedl bwyd da, yn Lloegr, gallwn weld y strategaeth fwyd genedlaethol, ac yng Ngogledd Iwerddon, mae ganddynt eu fframwaith strategaeth fwyd. Mae pob un o’r cyfarwyddiadau hyn yn anelu at ddechrau mynd i’r afael â’r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer systemau bwyd da a pholisi a all ddechrau mynd i’r afael â’r pwyntiau allweddol y mae’r ddadl hon yn eu codi.

Mae bron i ddwy flynedd wedi bod ers inni drafod y Bil bwyd, rhywbeth roeddwn i, a llawer o bobl ledled Cymru, yn teimlo y gallai roi Cymru ar flaen y gad. Gallwn wneud pwyntiau gwleidyddol ynghylch pam y methodd y Bil, ond fel y dywedais, mae'n rhaid i’r pwnc hwn fynd y tu hwnt i wleidyddiaeth, gan ei fod yn rhy bwysig. Yr hyn roeddwn yn dadlau drosto yn y Bil bwyd oedd fframwaith nad oedd yn annhebyg i’r rhai rwyf newydd gyfeirio atynt—fframwaith a fyddai’n cynnig dull system gyfan i Gymru, ac un sy'n eirioli dros gynhyrchu bwyd cynaliadwy, yr angen am ddiogeledd bwyd a’r defnydd o fwyd lleol o safon i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol fel rydym yn ei drafod heddiw. Methodd fy Mil, ond mae ei gynnwys yn parhau i fod yn gwbl allweddol a pherthnasol os ydym am fynd i’r afael ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Roedd rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, gan gynnwys academyddion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, undebau ffermio, amgylcheddwyr a llawer mwy yn unfryd ynghylch yr angen am ddull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer y system fwyd yng Nghymru. Roedd yr unfrydedd hwnnw’n dangos pa mor bwysig yw mater polisi bwyd yma yng Nghymru.

Aelodau, rwy'n eich annog, fel y nododd Jenny, i ddarllen y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr academydd enwog o Gymru, yr Athro Kevin Morgan—arbenigwr ar bolisi bwyd. Fel y gwelsom, mae ei lyfr, Serving the Public: The good food revolution in schools, hospitals and prisons, yn rhoi arweiniad inni ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer chwyldro bwyd da yn ein hysgolion, ein hysbytai a’n carchardai. Mae’r achos y mae’n ei ddadlau dros system fwyd gydgysylltiedig a chanddi bolisïau cydgysylltiedig yn gymhellol, ac mae'n rhaid i’n Llywodraeth dalu sylw. Mae angen strategaeth fwyd Cymru gyfan sydd wedi’i hangori mewn deddfwriaeth neu reoliadau ac sy’n adlewyrchu dull system gyfan—un sy’n cysylltu’r gwahanol feysydd polisi, gan gynnwys iechyd, llesiant, amaethyddiaeth, cynaliadwyedd a thwf economaidd. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym o ddifrif am wella iechyd ein plant ac iechyd cenedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid inni weithredu ar unwaith a gosod y sylfeini ar gyfer newid. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi ein hargymhellion.

15:30

Rŷn ni yma, wrth gwrs, nid dim ond i drafod pwysigrwydd diogelwch bwyd, ond i drafod yr angen i fynd y tu hwnt i hynny, i adeiladu cydnerthedd bwyd go iawn yma yng Nghymru. Dyw hon ddim yn ddadl abstract—mae bwyd yn fater sylfaenol sy'n effeithio ar bob un ohonom ni bob dydd. Mae'n effeithio ar ein hiechyd ni, mae'n effeithio ar ein cymunedau ni, ar ein heconomi ni, ac ar yr amgylchedd rŷn ni'n byw ynddo fe. Ond eto, er bod gennym ni dreftadaeth cynhyrchu bwyd balch iawn yng Nghymru, mae gormod o bobl yn y wlad yma'n stryglo i gael mynediad i fwyd ffres, i fwyd iach ac i fwyd fforddiadwy. Ac mae'r ddadl yma ynglŷn â sicrhau bod y system fwyd yng Nghymru yn gweithio i bawb, nid dim ond y corfforaethau mawr neu'r rhai sy'n gallu fforddio prynu bwyd o ansawdd arbennig, ond i bob teulu, i bob cymuned, a hefyd i bob ffarmwr a chynhyrchwr bwyd yn y wlad yma.

Nawr, mae yna chwedl fod Cymru yn rhyw fath o genedl sy'n ddiogel o ran bwyd. Wel, rydym yn cynhyrchu llawer o fwyd, onid ydym, ond y gwir amdani yw bod ein system fwyd yn anghytbwys iawn. Mae cyfeiriad at ffrwythau a llysiau yn y cynnig ger ein bron, lle gwyddom mai dim ond chwarter cyfran y person y dydd a gynhyrchir gennym ar hyn o bryd, sy'n druenus o annigonol. Mae'n amlwg fod angen inni roi camau ar waith i gau'r bwlch cynhyrchu hwn. Mae angen inni dyfu mwy o'n bwyd ein hunain, mewn ffordd sy'n cryfhau ein heconomi wledig ac yn ein gwneud yn fwy gwydn i allu gwrthsefyll siociau allanol. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella gwytnwch bwyd Cymru yw drwy gefnogi cynhyrchiant bwyd lleol. Os ydym yn byrhau ein cadwyni cyflenwi, rydym hefyd yn lleihau allyriadau, rydym yn creu swyddi ac felly'n cefnogi ein cymunedau gwledig.

Mae gennym gyfle yma i wneud mwy o ddefnydd o gaffael cyhoeddus fel arf i gryfhau ein system fwyd—a mawredd, rydym wedi bod yn sôn am hyn ers imi ddod yma yn 2011, a chyn hynny, rwy'n siŵr. Ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud o hyd—dylai ein hysgolion, ein hysbytai, ein cartrefi gofal a sefydliadau'r sector cyhoeddus fod yn blaenoriaethu cynnyrch Cymreig. Dylai arian cyhoeddus fod yn cefnogi ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru. Mae gan fentrau bwyd cymunedol rôl bwysig i'w chwarae hefyd, o bartneriaethau bwyd lleol i gynlluniau amaethyddol a gefnogir gan y gymuned. Mae enghreifftiau ar gael, ond mae angen iddynt ddod yn fwy cyffredin ac nid yn brosiectau yr ydym yn hoffi tynnu sylw atynt fel rhywbeth a fydd efallai, ryw ddydd, yn dod yn fwy o norm.

Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd symud y tu hwnt i ffocws cul ar ddiogeledd bwyd a dechrau siarad o ddifrif am wytnwch bwyd, oherwydd mae diogelwch bwyd yn ymwneud â sicrhau bod bwyd ar gael, wrth gwrs, ond nid yw'n mynd i'r afael â gwendidau dyfnach. Fel y gwyddom, rydym yn byw mewn byd cynyddol ansefydlog, onid ydym—newid hinsawdd, gwrthdaro, pandemigau, ansicrwydd economaidd. Mae'r rhain i gyd yn effeithio ar ein gallu i gael gafael ar fwyd. Felly, mae gwytnwch bwyd yn golygu sicrhau y gall Cymru wrthsefyll y siociau hyn. Mae'n golygu sicrhau nad yw ein system fwyd ond yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi hir, bregus yn unig. Nawr, mae'r Athro Tim Lang, athro emeritws polisi bwyd ym Mhrifysgol Llundain, wedi ysgrifennu'n helaeth am hyn. Nododd wrthyf yn ddiweddar fod tua 20 man problemus yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Mae rhyfel mewn pedwar neu bump o'r rhain ar hyn o bryd. Nawr, ychwanegwch ddigwyddiadau hinsawdd ac yn sydyn iawn, byddwn yn sicr yn teimlo'r gwahaniaeth yn y cyflenwad bwyd.

Felly, mae angen cynllun strategol arnom sy'n gweithredu dull system gyfan, sy'n cynnwys ffermwyr, pysgotwyr, busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau. Dyna pam y mae Plaid Cymru yn galw am greu pwyllgorau gwytnwch bwyd sifil, sy'n cyd-fynd â phedwar fforwm lleol Cymru gydnerth. Byddai'r pwyllgorau hyn yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwytnwch bwyd lleol a rhanbarthol, gan sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa well i wrthsefyll siociau bwyd. Mae angen inni sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus, ein banciau bwyd hefyd, ein rhwydweithiau bwyd lleol, yn barod i ymdopi ag amhariadau ar y cyflenwad. Mae angen inni gefnogi ffermwyr i addasu i newid hinsawdd gan gynnal cynhyrchiant bwyd ar yr un pryd. Fel y mae pawb ohonom yn cydnabod, rwy'n siŵr, mae angen inni gynyddu buddsoddiad mewn garddwriaeth yng Nghymru ac yn lleol—[Torri ar draws.] Mae gennyf 30 eiliad ar ôl, felly—

15:35

Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad 100 y cant, ond ni allaf help meddwl, os mai'r ateb yw mwy o bwyllgorau, efallai ein bod ni'n gofyn y cwestiwn anghywir.

Efallai nad 'pwyllgor' yw'r gair cywir, oherwydd mae hynny'n awgrymu bod pobl yn eistedd mewn ystafell, yn eistedd o gwmpas bwrdd, ac rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â'r math hwnnw o weithredu. Ond rydym—[Torri ar draws.] Na na; beth a ddywedodd rhywun unwaith: 'Nid tro pedol mohono, rydym yn dal i symud ymlaen, ond i gyfeiriad arall'? [Chwerthin.]

Mae'n ymwneud â dod â—. Mae gan fanciau bwyd ran i'w chwarae, rwy'n credu. Nawr, mae banciau bwyd yn chwarae rhan bwysig iawn at ddiben penodol, ond beth sy'n digwydd os yw'r silffoedd yn wag yn eich archfarchnad leol? A allwch chi ddefnyddio'r seilwaith hwnnw mewn ffordd wahanol sy'n rhoi'r gwytnwch sydd ei angen arnom efallai? Rwy'n clywed eich pwynt, ac rwy'n cytuno, ac efallai y dylwn fod wedi ei fynegi mewn ffordd wahanol.

Felly, mae angen inni gynyddu'r gefnogaeth i arddwriaeth, fel y mae pawb ohonom yn cydnabod, a seilwaith prosesu bwyd lleol hefyd. Mae angen i'r cynllun ffermio cynaliadwy chwarae ei ran i gefnogi newid o ran defnydd tir, ond mewn ffordd nad yw'n tanseilio ein gallu i gynhyrchu bwyd. A dyna pam rwy'n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol, oherwydd mae ymateb pan fydd argyfyngau'n taro yn aml yn rhy hwyr, onid yw? Felly, mae angen inni roi'r strwythurau ar waith nawr i sicrhau y gall Cymru oroesi unrhyw heriau bwyd yn y dyfodol. Wel, rwy'n dweud 'unrhyw' heriau bwyd yn y dyfodol—yr heriau bwyd yn y dyfodol y gwyddom eu bod yn dod.

15:40

Rwy'n credu bod y Senedd ar ei gorau pan ddaw at ei gilydd i drafod materion fel hyn, ar sail drawsbleidiol, a dod i gytundeb, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, wrth fyfyrio ar y ddadl heddiw, yn cydnabod mai diagram Venn o gytundeb sydd gennym ni heddiw. Ac mae heddiw yn foment hanesyddol arall, am reswm pwysig iawn. Mae'n rhaid mai dyma'r tro cyntaf i dri Aelod sy'n siarad mewn dadl fod â'u pen-blwydd ar yr un diwrnod, ac rwy'n credu bod hynny'n werth ei nodi.

Hoffwn siarad ychydig ynglŷn â sut y defnyddiwn y system fwyd i ysgogi cyfleoedd ehangach i Gymru oherwydd rwy'n credu bod ein system fwyd a'i datblygiad yn rhan allweddol o feddylfryd yr economi sylfaenol—sut rydym yn harneisio ein gwariant ar lesiant, nwyddau hanfodol a gwasanaethau, a bod o fudd hefyd i gwmnïau sydd wedi sefydlu'n lleol. Dim ond tua 6 y cant o'r ffrwythau a'r llysiau a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n cynnwys cynhyrchion a dyfir yng Nghymru. Rydym yn prynu ac yn cludo bwyd o wledydd eraill, ac mae plant ysgol a chleifion ysbyty yn bwyta afalau o Ffrainc, tomatos o Sbaen a chourgettes o Chile fel mater o drefn. Nawr, beth sy'n ein hatal rhag cefnogi ffermwyr Cymru a phrynu'n lleol? Wel, nid ydym yn tyfu digon o lysiau yn un peth, felly mae cyfle i ffermwyr gofleidio garddwriaeth i greu ffynonellau incwm newydd. Fe glywn lawer am gig oen, dim digon am lysiau.

Mae her hefyd yn yr hyn a elwir yn 'alw cyfanredol'. Dangosodd yr astudiaeth ddichonoldeb ar gynnyrch lleol ffres i ysgolion, a gomisiynwyd gan Gyngor Bro Morgannwg, fod prynwyr yn ei chael hi'n anodd ymdrin yn uniongyrchol â thyfwyr cynnyrch garddwriaethol, ac mae cydlynu â nifer o gynhyrchwyr gwahanol, golchi a phlicio'r llysiau, ei becynnu, trefnu i'w ddosbarthu i geginau ysgolion yn rhy anodd. A nododd gost a budd posibl buddsoddi mewn cyfleuster canolog i olchi, plicio a dosbarthu'r llysiau i'r safonau sy'n ofynnol gan gwsmeriaid, a gallai buddsoddiad mewn technoleg ac awtomeiddio ganiatáu i gyflenwyr lleol gystadlu â'r cwmnïau rhyngwladol mawr sy'n dominyddu ar hyn o bryd. Mae gwaith da yn cael ei wneud gan yr elusen Synnwyr Bwyd Cymru i edrych ar sut i gynyddu cyflenwadau lleol. Hefyd, mae prosiect Llysiau i Ysgolion Cymru, a elwodd, rwy'n falch o ddweud, o gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda thyfwyr ar draws tair ardal awdurdod lleol, ac yn cael ei gefnogi gan gydlynwyr o'r partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin a sir Fynwy, ac maent bellach ar y cam nesaf ac yn gweithio gyda thyfwyr, gan gynnwys y cyfanwerthwr, Castell Howell, i geisio mynd i'r afael â'r datgysylltiad rhwng y cyflenwad a'r galw am gynnyrch garddwriaeth a dyfir yn lleol.

Nawr, dylem ddefnyddio'r sector cyhoeddus fel cleient angori ar gyfer y datblygiad pwysig hwn, ond dylem gofio hefyd, pan fyddwch yn adio gwerth yr holl fwyd cyhoeddus a gaffaelir at ei gilydd, ei fod ond yn gyfwerth â throsiant blynyddol un siop archfarchnad fawr yn unig. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw dylanwadu ar y sector preifat. Ac mae enghraifft addawol iawn yn Hirwaun, lle mae Authentic Curries and World Foods yn datblygu cynhyrchion masnachol gan ddefnyddio bwyd lleol, ac maent yn brif ddarparwyr prydau parod ar gyfer manwerthwyr ac arlwywyr.

Nawr, efallai na fydd ysgallddail a chêl ar frig eich rhestr siopa chi—efallai eu bod ar restr siopa Jenny Rathbone; rwy'n siŵr eu bod, ond nid ydynt ar fy un i—ond maent yn ffynonellau maeth ardderchog a gellir eu tyfu'n llwyddiannus iawn yng Nghymru. Ond sut y gallwn eu cael ar fwydlenni ac i mewn i gynhyrchion y bydd pobl yn eu prynu i greu lefelau hyfyw o alw? Wel, mae'r rhaglen ddatblygu cynnyrch newydd yn Authentic Curry Company yn dangos y gellir gwneud hyn ar gyfer marchnadoedd manwerthu yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Maent wedi dangos y gallwch ychwanegu gwerth a chynyddu oes silff llysiau trwy brosesu a choginio pellach ar gyfer prydau amlgyfran. Mae gwaelodion pizza saws tomato o Gymru, caws blodfresych, a Bolognese cig eidion Cymreig eisoes wedi'u datblygu'n llwyddiannus, ac mae'n tynnu sylw at lwybr i'r farchnad lle gall cynnyrch o Gymru fod yn sail i fwydlenni sy'n iach, yn gosteffeithiol ac yn ecogyfeillgar.

Felly, sut y mae gwneud hyn ar raddfa fwy? Wel, mae angen cynhyrchion y mae cwsmeriaid eisiau eu bwyta. Mae angen seilwaith rhanbarthol arnom sy'n datblygu'r gadwyn gyflenwi—cyfleusterau ar gyfer casglu, dosbarthu a storio. Mae angen technoleg ac arloesedd arnom ar gyfer arbedion maint. Mae angen inni gyfuno'r galw ac mae angen dull caffael cyhoeddus arnom sy'n cydnabod gwerth cymdeithasol cefnogi system fwyd gynaliadwy. Mae hynny'n golygu buddsoddi mewn gweithlu proffesiynol a meithrin hyder.

Gadewch imi orffen ar nodyn optimistaidd, Ddirprwy Lywydd. Mae yna bobl dda yn gwneud pethau da. Mae pobl fel yr Athro Kevin Morgan—rwy'n ategu canmoliaeth Jenny Rathbone i'w lyfr newydd, ac roeddwn yn falch o weld nifer ohonom yn bresennol yn lansiad y llyfr hwnnw—ac eraill fel Katie Palmer, Simon Wright, Edward Morgan, a llawer o rai eraill yn y mudiad bwyd da yng Nghymru, yn gwneud gwaith rhagorol.

Mae ein polisi prydau ysgol am ddim i bawb yn garreg sylfaen anhygoel, ac mae angen inni ei ddefnyddio. Felly, gadewch inni wneud hynny. Gadewch inni roi hwb go iawn i'n strategaeth fwyd gymunedol, gadewch inni edrych ar Ddeddf Cenedl Bwyd Da (Yr Alban) 2022, gadewch inni annog y gymuned ffermio i fanteisio ar y cyfle hwn, a gadewch inni harneisio'r rhwydweithiau o bobl dda sy'n gwneud pethau da yn y mudiad bwyd da. Dyma feddylfryd llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith, ac mae cefnogaeth drawsbleidiol iddo, felly gadewch inni ei gefnogi a gwneud rhywbeth yn ei gylch.

15:45

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig hwn. Pan oeddwn yn iau, rwy'n cofio ein bod ni'n bwyta beth oedd ar gael ac yn ei dymor, wedi'i brynu'n lleol o'r farchnad neu beth a gâi ei dyfu yng ngardd fy nhad-cu. Roedd gan dai cyngor ar ôl y rhyfel erddi mawr fel y gallent dyfu eu llysiau eu hunain ynddynt. Rwy'n gwybod bod rhaglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer creu 800 o safleoedd sy'n tyfu bwyd a 700 o berllannau cymunedol, sydd wedi helpu'n fawr gydag iechyd meddwl a llesiant hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd yr arian hwnnw'n parhau.

Menter gymdeithasol gymunedol yw FlintShare, wedi'i lleoli yn sir y Fflint, sy'n rhoi cyfle i aelodau helpu i gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Mae'n ffordd dda o dyfu a rhannu cynnyrch cartref ac fel y dywedais, mae'n helpu gyda chreu cysylltiadau cymunedol a llesiant cymunedol.

Dylai dysgu coginio bwyd fod yn rhan o addysg. Mae'n cymryd amser. Mae gallu sylfaenol i blicio a pharatoi llysiau yn sgìl y mae angen ei dysgu. Nid yw'n hawdd. Ond gall ddod yn ail natur a gallwch ei wneud yn gyflym ar ôl i chi ddod i arfer. Rwy'n credu bod datblygu blas a goresgyn rhwystrau bwyd hefyd yn broblem i lawer o bobl. Mae llawer o blant yn casáu llysiau gwyrdd, er enghraifft, llysiau fel cêl, fel y dywedoch chi. Mae'n rhaid i chi ddatblygu'r blasbwyntiau.

Rwy'n cofio pan oedd y plant yn fach, ymunais â chwmni cydweithredol lleol lle byddech chi'n cael cwdyn o lysiau tymhorol am £3 bob wythnos, fel roedd bryd hynny, heb wybod beth fyddech chi'n ei gael. Roedd yn debyg i Ready Steady Cook. Fe wnaeth imi ddysgu am baratoi llysiau nad oeddwn erioed wedi breuddwydio eu defnyddio o'r blaen. Ond yn ffodus, erbyn hyn, roedd fy mhlant wedi tyfu'n ddigon hen i beidio â bod yn ffyslyd diolch i siart sêr a gyflwynais i'r gegin. Yn y pen draw, fe wnaethant ddatblygu eu harchwaeth, a llwyddo i fwyta'r llysiau nad oedd pob un ohonynt yn eu hoffi. Ac fe weithiodd yn dda. Ni wnaeth fy ngŵr newid, ond dyna ni.

Yn ddiweddar, ymwelais â Well-Fed yn sir y Fflint, menter gymdeithasol, fel y soniodd Jenny Rathbone, a sefydlwyd gan Gyngor Sir y Fflint, ClwydAlyn a Can Cook yn 2019. Maent yn darparu prydau iachach cytbwys, wedi'u coginio ymlaen llaw, yn barod i'w coginio'n araf—mae coginiwr araf yn ddyfais wych, onid yw? Maent yn rhad. Fe allwch roi unrhyw beth i mewn. Mae gennych chi fwyd ffres. Syml. Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth. Eu nod yw sicrhau bod bwyd ffres ac iach yn fforddiadwy i bawb, yn enwedig wrth i'r argyfwng costau byw barhau. Eu cenhadaeth yw sicrhau, er gwaethaf yr heriau, y gall pobl barhau i fwynhau prydau ffres i roi cryfder a chynhaliaeth iddynt.

Maent wedi prynu dwy fan siop symudol, sy'n fenter dda iawn yn fy marn i. Maent yn mynd ar draws gogledd Cymru ac yn darparu cyflenwad digonol o ffrwythau a llysiau ffres, sy'n cael eu gwerthu'n unigol i bobl sydd eisiau prynu cyfrannau bach. Yn gyffredinol, nid yw pobl yn hoffi gwastraffu bwyd ac maent yn poeni am brynu pecynnau o lysiau a'u gwastraffu os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain. Fel hyn, gallant brynu un neu ddau afal, gellyg, bananas, a gallant weld y llysiau a brynant. Maent hefyd yn cael bwydlenni a ryseitiau i ddangos sut i'w defnyddio, sy'n wych.

Euthum i weld cynhyrchiad yn Theatr Clwyd o'r enw How to Feed a Town, a oedd yn waith ar y cyd rhwng Well-Fed, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r cynhyrchiad yn cyflwyno portread personol o ysbryd cymunedol, newid, undod a'r frwydr yn erbyn tlodi bwyd yn sir y Fflint a gogledd Cymru. Roedd yn anhygoel sut y cafodd yr holl sgyrsiau a sylwadau am gefnogi pobl â lles, a glywaf mor aml, eu cyfleu yn y straeon. Hefyd, pwysigrwydd cymuned a helpu ein gilydd drwy weithredoedd bach, megis rhannu bwyd a gwersi coginio. Clywais am un fenyw ifanc â phlentyn nad oedd yn siŵr sut i goginio, ond roedd ei chymydog a oedd yn unig yn helpu i'w dysgu, ac roedd mor obeithiol oherwydd bod un i un o'r fath a goresgyn eich amheuon yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac yn helpu gyda gofal plant hefyd. Felly, mae ymyriadau cynnar yn torri'r cylch hwnnw.

Rwy'n credu bod angen dull gweithredu Llywodraeth gyfan wrth symud ymlaen, edrych ar yr hyn sydd ei angen, cyflenwad gan gynhyrchwyr bwyd gydag amrywiaeth o gynnyrch ungnwd, tyfu mwy o lysiau a ffrwythau, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, ac mae angen addysg i bawb. Diolch.

15:50

Nid wyf yn credu fy mod yn gor-ddweud pan ddywedaf fod gordewdra'n argyfwng cenedlaethol mawr ac nid argyfwng cenedlaethol wedi'i greu gan Dduw mohono; cyfalafiaeth a'i creodd. Mae'n rhywbeth sydd bron â bod wedi cael ei orfodi ar genhedlaeth wedi'r rhyfel neu'n sicr yn ystod y 30 neu 40 mlynedd diwethaf. Pan edrychaf yn ôl ar luniau plentyndod o wyliau yng Nghernyw neu Paignton neu hyd yn oed Prestatyn a'r Rhyl, ni welaf draethau llawn o bobl ordew yn y 1970au; nid dyna a welaf. A phan fyddwch chi'n teithio mewn gwahanol rannau o'r byd, pan fyddwch chi'n ymweld â chymunedau mwy cyfoethog, ni welwch draethau llawn o bobl sy'n dioddef o ordewdra. Mae gordewdra'n glefyd, sy'n gyffredin mewn cymunedau tlawd ac sy'n deillio, nid o ddewisiadau unigol, ond o gyfyngu ar ddewisiadau gan ddiwydiant sydd ond yn awyddus i wneud elw, ac nid er daioni a lles y bobl y mae i fod i'w gwasanaethu.

Ac fel Llywodraeth ac fel Senedd—. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters yn gynharach, fod cytundeb eang ar hyn ar bob ochr i'r Siambr. Rwy'n credu y gallwn gytuno ar y broblem, felly sut y mae dod o hyd i ateb? Ac i mi, pan edrychaf ar y diwydiant bwyd, bwyd yng Nghymru, rwy'n gweld nifer o elfennau gwahanol. Nid wyf yn argyhoeddedig fod unrhyw elfen unigol yn gweithio ac nid wyf yn argyhoeddedig fod y cyfan yn gweithio o gwbl. Os ydym yn gwrando ac yn meddwl am y dadleuon a gawsom yn y Siambr hon, nid yn unig ar fwyd ei hun, ond ar agweddau eraill ar y gadwyn fwyd, mae pob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd wedi derbyn bod methiant ar bob lefel ym mhob elfen.

Rwyf wedi clywed Peter Fox yn gwneud areithiau angerddol am y materion sy'n wynebu'r gymuned ffermio, ac mae'n llygad ei le. Ond os na all y gymuned ffermio gynhyrchu'r bwyd, beth felly yw pwrpas a phwynt y Llywodraeth ac ymyriadau cyhoeddus? Beth y ceisiwn ei gyflawni? Oherwydd trwy'r cyfnod hwn, pan fo'r gymuned sy'n cynhyrchu ein bwyd yn mynd yn dlotach a lle mae ffermydd yn mynd yn llai cynaliadwy, rydym hefyd wedi gweld nad yw'r amgylchedd yn cael ei warchod ychwaith. Felly, nid yn unig nad ydym yn cynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom, nid yn unig nad ydym yn cynnal y gymuned nad yw'n cynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom, ond drwy beidio â chynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom nid ydym yn gofalu am yr amgylchedd ychwaith. Nid yw'n system sy'n gweithio mewn unrhyw ffordd.

Ac yna, pan edrychwn ar ddosbarthiad a defnydd o fwyd, ac mae'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud wedi cael eu gwneud yn dda gan bob Aelod ar bob ochr, ond beth a welwn yn ein trefi a beth a welwn yn ein dinasoedd? Ni welwn siopau llysiau a ffrwythau a manwerthwyr a chigyddion annibynnol, na hyd yn oed gwerthwyr pysgod annibynnol, fel yr arferem eu gweld; yr hyn a welwn yw diffeithdir bwyd gydag amgylchedd manwerthu sy'n cael ei ddominyddu'n llwyr gan archfarchnadoedd mawr. Ac rydym i gyd yn gwybod mai prif gymhelliad archfarchnadoedd yw gwasgu elw ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi. Ac nid ydynt yn poeni dim am ganlyniadau hynny, boed i'r diwydiant pysgota y soniodd Llŷr amdano, y diwydiant ffermio y mae Peter wedi siarad amdano, na'r defnyddwyr y mae eraill wedi siarad amdanynt.

Felly, beth a wnawn? Rwyf wedi gweld un enghraifft o Lywodraeth yn mynd i'r afael â hyn gydag Origin Green ar draws y dŵr yn Iwerddon. Ac rwy'n credu bod cnewyllyn o syniad a chysyniad a photensial i newid yno, trwy uno cynhyrchiant drwodd i ddosbarthu, i fanwerthu, i'w ddefnydd, a deall y gwahanol elfennau ohono, buddsoddi mewn gwahanol rannau ohono, ond ei weld yn ei gyfanrwydd ac nid fel rhannau unigol. Rwy'n credu bod cyfle yno. Rwy'n credu hynny, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn dysgu mwy o wersi o hynny ac yn ceisio cymhwyso'r gwersi yma. Oherwydd fy mhryder i yw y bydd mwy o genedlaethau'n cael eu geni i dyfu i fyny'n ordew, ac mae eraill wedi disgrifio'r problemau y mae hynny'n eu hachosi i ni.

Ond fel Senedd ac fel Llywodraeth, mae'n rhaid inni roi bwyd yn y canol. Pan gefais fy nethol i sefyll etholiad yn ôl yn 2009 ym Mlaenau Gwent, siaradais bryd hynny am yr argyfwng economaidd sy'n wynebu'r gymuned, yn wynebu'r fwrdeistref; ac roedd hynny'n wir, wrth gwrs. Ond pe bawn i'n sefyll am y tro cyntaf eto heddiw, byddwn hefyd yn siarad am yr argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n wynebu'r fwrdeistref. Oherwydd rwy'n credu nawr fod yr argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu ym Mlaenau Gwent yn fwy, o bosibl, na'r argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu. Ac mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i weithredu, i fynd i'r afael â hynny, ac mae gan bob un ohonom, ble bynnag yr eisteddwn yn y Siambr hon, gyfrifoldeb i gyfrannu tuag at hynny.

15:55

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 15:57:15
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fe dderbyniaf yr her honno, y cyfle hwnnw, i ymateb i'r angen i fynd i'r afael â'r heriau bwyd eang y clywsom amdanynt heddiw, ac y mae pob Aelod wedi siarad amdanynt yn angerddol iawn a chydag arbenigedd a gwybodaeth leol wych hefyd. Clywsom am yr angen cyffredinol am fwyd da, maethlon ac iachus ym mhob rhan o Gymru, ym mhob cymdeithas, ac yn fwy na dim mewn ardaloedd difreintiedig oherwydd cyfiawnder cymdeithasol a sut y gwnawn i hynny ddigwydd. Rydym wedi sôn am yr angen am ddull strategol, fe glywsom am yr angen am wytnwch a byddaf yn troi at hynny hefyd—yr holl faterion hyn. Clywsom am y potensial enfawr i gynhyrchu mwy yng Nghymru ac i weithredu'r rhestr o bethau i'w gwneud, ac fe af i'r afael â rhai o'r materion hyn.

Rydym wedi siarad am botensial anhygoel tyfu cymunedol a hefyd yr addysg yn ei gylch hefyd. A chyda llaw, mae ochr Irranca fy nheulu yn hapus i gyfrannu un o'n hoff ryseitiau gyda chêl a phasta lemwn. Mae'n flasus iawn. Mae ymhlith fy nhri neu bedwar uchaf; go iawn. A chyda llaw, mae'r cêl a gawn yn dod o hyb bwyd lleol—yn debyg iawn i'r rhai roeddech chi'n eu disgrifio—sy'n gwerthu bwyd dros ben gan fanwerthwyr. Mae'n dod yno ac mae gennych gynnyrch rhad—nid am ddim, ond rhad—mewn bagiau. Mae'n rhad iawn, ac mae'n ei atal rhag cael ei wastraffu. Felly, mae'n wirioneddol wych.

Clywsom hefyd am fethiant y farchnad a rôl cwmnïau corfforaethol yn hyn—pwyntiau da iawn—a'r effaith ar ein deiet a'n hiechyd. Ond gadewch imi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw, ac rwy'n credu ein bod ni ar genhadaeth gydgysylltiedig yma i geisio trawsnewid y ffordd yr edrychwn ar fwyd a'r ffordd y mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau.

Fe geisiaf ymateb i gynifer o'r pwyntiau â phosibl yma. Un o'r elfennau yn y cynnig yw'r angen i gyflwyno strategaeth fwyd gymunedol. Rwy'n falch iawn o ddweud bod gwaith ar y strategaeth wedi bod yn mynd rhagddo'n dda, ac mae llawer iawn wedi cael ei wneud. Byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth cyn gynted â phosibl, a chredaf y bydd yn dod â llawer o dawelwch meddwl ac yn mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau sydd wedi'u codi heddiw—ac fe grybwyllaf rai o'r rheini mewn eiliad.

Rydym yn ymwybodol iawn yn y Llywodraeth fod bwyd a deiet yn hanfodol i wella lles pobl ac i gyflawni'r Gymru iachach hon. A dyna pam ein bod wedi gwneud llawer o waith yn y strategaeth fwyd gymunedol. Mae ymchwil helaeth wedi'i wneud ar ei chyfer eisoes, ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, ymarferion mapio systemau hefyd, ymgysylltiad wedi'i dargedu â rhanddeiliaid a grŵp ffocws arbenigol, unwaith eto. Ac fe'i lluniwyd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â diffyg diogeledd bwyd ac iechyd, a chaffael a materion eraill sydd wedi'u codi heddiw. Ac roeddwn i ac Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyfiawnder cymdeithasol—gan fod hwn yn fater trawsbynciol ar draws y Llywodraeth—yn falch iawn o fod wedi sicrhau ymrwymiad cyllido trawslywodraethol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i hybu ymhellach y rhwydwaith o bartneriaethau bwyd lleol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i'r awdurdodau lleol hynny gyflawni'r camau a ddisgrifiwyd gan lawer o Aelodau heddiw, i gefnogi meysydd fel tyfu cymunedol, hybiau bwyd cymunedol, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a'u helpu i ddatblygu a ffynnu hefyd. Ac mae'r buddsoddiad yn y partneriaethau bwyd lleol hyn—

16:00

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at weld sut beth fydd y strategaeth fwyd gymunedol. Mae gennyf amheuon y gallai fod yn symbolaidd yn unig yn y darlun ehangach hwn—

A allwch chi roi sicrwydd i ni—a fydd yn defnyddio'r un math o ddull gweithredu cyfannol â'r hyn a welwn gyda 'Cynllun Cenedl Bwyd Da Cenedlaethol' yr Alban, neu a fydd ond yn tynnu darnau penodol ynghyd, yn hytrach nag edrych ar y darlun cyfan?

Peter, diolch am eich ymyriad. Rwy'n parchu'r gwaith a wnaethoch ar geisio rhoi eich Bil Aelod preifat at ei gilydd, a hynny sydd wedi llywio peth o'n gwaith ar ddatblygu'r strategaeth fwyd gymunedol, ac elfennau ehangach yr ydym yn eu gwneud hefyd. Rwy'n cytuno â chi mai'r hyn sydd ei angen arnom yw dull cyfannol o ymdrin â bwyd sy’n mynd i'r afael â’r amrywiaeth fawr o faterion a godwyd heddiw, oherwydd pwysigrwydd bwyd. Credaf y byddwch yn falch o’r hyn sydd i ddod gyda'r strategaeth fwyd gymunedol. Nid ydym yn ceisio ailadrodd yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, neu Iwerddon, neu Loegr, neu ble bynnag, gan fod gennym ffrydiau gwaith sylweddol eisoes ar waith, ond mae angen inni ddod â hwy ynghyd o fewn y dull strategol hwnnw.

Bydd y buddsoddiad yn y partneriaethau bwyd lleol hefyd yn ysbrydoli cyfleoedd newydd i ffermwyr lleol a busnesau lleol mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi. Mae hyn eisoes yn cael ei ddangos drwy fentrau megis y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd a ddarperir gan Bwyd Sir Gâr, sy'n cefnogi cymunedau i ddatblygu busnesau garddwriaethol a chael mynediad at farchnadoedd allweddol y sector cyhoeddus. Byddwn yn parhau i weithio gyda hybiau ailddosbarthu cymunedol fel FareShare ac eraill i sicrhau bod bwyd dros ben yn cyrraedd y rheini sydd ei angen yn hytrach na'i fod yn cael ei wastraffu, a byddwn yn cydweithio’n agos â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, gan gefnogi cyrff cyhoeddus a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ymgorffori bwyd fel maes ffocws wrth gynllunio a darparu ar lefel leol. Rwy'n croesawu ffocws strategaeth saith mlynedd y comisiynydd, 'Cymru Can’, ar weithgareddau bwyd a ffrydiau gwaith sydd eisoes ar y gweill i annog cyrff cyhoeddus ledled Cymru i gynnwys bwyd yn eu cynlluniau llesiant. Y pwynt a godwyd: mae angen inni weld hyn yn digwydd nid yn unig ar gyfer cleifion, ond ar gyfer staff hefyd. Mae angen inni weld hyn yn digwydd ym mhob agwedd ar ein cyrff cyhoeddus. Bydd ein gwaith yn ategu ac yn atgyfnerthu hyn.

Mae caffael bwyd y sector cyhoeddus yn ysgogiad cryf iawn i gyflawni nodau ehangach o ran gwerth a llesiant. Felly, rydym yn gweithio i ddatblygu'r cadwyni cyflenwi lleol hynny, datblygu cadwyni cyflenwi Cymreig. Mae hyn, gyda llaw, eisoes wedi arwain at gynnydd mewn cynhyrchion Cymreig fel iogwrt—nid yn unig cig eidion, cig oen ac yn y blaen—ond iogwrt, llaeth a chynhyrchion eraill sy'n cael eu cyflenwi i'n hysgolion, i'r GIG yng Nghymru drwy ein rhwydweithiau cyfanwerthu ehangach. Crybwyllwyd Castell Howell; mae eraill yn gweithio gyda ni ar y genhadaeth honno erbyn hyn hefyd. Mae'n wych ei weld.

Hoffwn roi ymdeimlad o wytnwch a sefydlogrwydd i dyfwyr cymunedol i'w gwneud hi'n bosibl ehangu garddwriaeth—y pwynt a wnaed gan yr Aelodau. Gallwn wneud cymaint mwy. Felly, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gael gwared ar y rhwystrau i ddatblygu garddwriaethol ar raddfa fach yng Nghymru. Felly, rydym yn cefnogi tyfwyr drwy ddwy ffrwd gyllido bwrpasol: y cynllun datblygu garddwriaeth a'r cynllun grantiau bach dechrau busnes garddwriaeth, ac mae'r prosiectau hynny'n cynnwys—ac mae hyn yn cyffwrdd, gyda llaw, â rhaglen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd, gan ein bod yn ceisio gwneud fersiwn o hyn yng Nghymru. Felly, os edrychwch ar Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, y gwn fod Jenny ac eraill wedi'i weld ar waith, cynllun a ariennir gan y gronfa cefnogi cwmnïau lleol, yn ogystal â'r prosiect perllannau cymunedol, maent yn ceisio efelychu'r dull Bwyd am Oes yma yng Nghymru.

Nawr, rwy'n ailadrodd bod y strategaeth fwyd gymunedol bron â chael ei chwblhau. Bydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl. Gallai roi hwb gwirioneddol i syniadau, gyda llaw, gan ei bod yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y rhwydweithiau lleol hynny ac yn llywio'r cadwyni bwyd lleol at bethau fel paratoi a golchi'r bwyd hefyd, gan ei bod yn rhoi'r drwydded honno, os mynnwch, i feddwl yn wahanol, i wneud pethau'n wahanol, yn ogystal, gyda llaw, â phethau fel yr elfen 'milltir olaf' honno hefyd—sut y mae bwyd yn cyrraedd y bobl.

Nawr, yn ôl ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ein dogfen 'Bwyd o Bwys: Cymru', a oedd yn dwyn ynghyd yr holl gamau gweithredu a strategaethau'n ymwneud â pholisi bwyd ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dod ynghyd ag iechyd, addysg, caffael a'r economi wledig. Gyda llaw, i roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau yma yn y Siambr heddiw, rydym wedi sefydlu fforwm bwyd uwch-swyddogion mewnol sy’n dwyn ynghyd yr holl bolisïau sy'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth, caffael, cyflawni’r strategaeth fwyd gymunedol a sicrhau bod yr holl elfennau wedi'u cydgysylltu a’u halinio â llesiant pobl Cymru. A chyda llaw, rydym hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ddeall sut y mae ein polisïau ein hunain yn cael eu cyflawni o fewn unrhyw strategaeth fwyd ar gyfer y DU yn y dyfodol. Nawr, mae hyn yn bwysig, Llyr, wrth fynd i'r afael â rhai o'ch pwyntiau chi, gan y gallwn wneud rhai o'r pethau yng Nghymru, ond hefyd, o fewn y strategaeth honno, maent yn edrych ar bethau fel yr agweddau hynny ar gadwyni cyflenwi bwyd y DU, cadwyni cyflenwi bwyd lleol, gwytnwch cadwyni cyflenwi bwyd, a gwytnwch aelwydydd hefyd. Felly, yr agweddau hynny—rydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â hynny, gan fod pethau y gallwn eu gwneud yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae fy amser ar ben. Ond mae pethau y gallwn eu gwneud ar lefel y DU hefyd, gan gydnabod nad yng Nghymru'n unig y mae peth o'r gwytnwch, ond ar lefel y DU, ac yn rhyngwladol hefyd.

Mae fy amser ar ben, ond fe dderbyniais ymyriad. A fyddech chi—? Rhywfaint o hyblygrwydd, oherwydd fel arall byddaf yn colli pwyntiau pwysig iawn. Felly, ochr yn ochr â hyn, wrth gwrs, mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi ac annog pobl i fwyta deietau iach a chytbwys, yn unol â'r Canllaw Bwyta'n Dda. Bydd y strategaeth fwyd gymunedol yn atgyfnerthu hyn. Mae cysylltiad rhwng deietau sy’n cynnwys llawer o fwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth a’r holl gyflyrau y mae'r Aelodau wedi sôn amdanynt, ac mae angen inni newid hyn. Mae gennym dystiolaeth gref o'u heffaith ar iechyd. Felly, mae ein cyngor deietegol yng Nghymru yn parhau i ganolbwyntio ar gyfyngu ar y maethynnau hyn, fel calorïau, braster dirlawn, halen, siwgr ac ati mewn bwyd sydd wedi’i brosesu’n helaeth, ac yn wir, mewn bwyd sydd heb ei brosesu. Ac wrth gwrs, mae gennym raglen Cychwyn Iach hefyd, sy’n canolbwyntio ar anghydraddoldeb mewn maeth plant, y sgiliau maeth am oes ac yn y blaen.

Ac i gloi, hoffwn ddweud un peth sydd wedi cael ei grybwyll—mewn gwirionedd, mae ein sector bwyd yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn 2022, roedd y gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r sector manwerthu a gwasanaeth bwyd yn cyflogi 228,500 o unigolion yng Nghymru; mae 17 y cant o weithlu Cymru yn y sector hwn, a llawer ohonynt yn y Gymru wledig yn ogystal â chymunedau trefol. Cynyddodd trosiant y sector sylfaen bwyd 15 y cant rhwng 2022 a 2023, gan ragori ar y targed a osodwyd gennym o £8.5 biliwn.

Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw. Mae’n ddadl bwysig iawn. Mae bwyd yn effeithio ar bob rhan o'n bywydau. Rwy'n gobeithio fy mod wedi amlinellu bod y camau a gymerwn, ynghyd â chyflwyno’r strategaeth fwyd gymunedol, yn darparu fframwaith strategol cyfannol fel y gallwn ddatblygu’r system fwyd gynaliadwy, wydn honno yng Nghymru, ac rwy’n awyddus i weithio gyda’r holl Aelodau i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, nawr ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Diolch yn fawr am yr holl gyfraniadau gwirioneddol wych o bob rhan o'r tŷ. Roedd yn wych clywed yr Aelod Ceidwadol yn sôn am y chwyldro bwyd da, sef yr hyn sydd ei angen arnom. Mae gennym argyfwng iechyd y cyhoedd, heb os nac oni bai. Ac rwy’n llwyr gydnabod gwaith arloesol Peter Fox ar fframwaith ar gyfer dull system gyfan, ac arhoswn i weld—. Ni fydd y strategaeth fwyd gymunedol yn ddigonol ar gyfer hynny, Ddirprwy Brif Weinidog, gan ein bod yn sôn am y system gyfan, nid yn y gymuned yn unig. Mae angen i hyn, fel y dywedodd Peter, fod wedi'i angori mewn deddfwriaeth neu reoliadau, gan fod y dirwedd yn frith o sefydliadau sy'n dechrau'n dda, ac yna mae'r personél yn newid ac mae'r cyfan yn mynd yn ôl i'r hyn yr arferai fod. Felly, mae'n rhaid inni ddefnyddio rhai o'r ysgogiadau hynny i drawsnewid pethau o ddifrif.

Mae Llyr yn sôn am ein system fwyd anghytbwys. Yn amlwg, dylem dynnu sylw at y ffaith bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn caniatáu newydd-ddyfodiaid i ffermio, nid ar sail faint o dir y maent yn berchen arno, ond faint o oriau y maent yn gweithio, ac mae hyn yn newid gwirioneddol bwysig i alluogi mwy o arddwriaethwyr i—. Ond mae angen iddynt gael y marchnadoedd i'w galluogi i sicrhau bod eu nwyddau'n mynd i gael eu gwerthu. Felly, mae angen inni edrych ar rai o'r syniadau sydd wedi dod o Iwerddon, lle mae ganddynt y rhwydweithiau dosbarthu hyn, gan fod faint o fwyd sy'n mynd i ysgolion ar hyn o bryd yn hynod o fach. Mae'n fenter fach wych, ond mae angen ei hehangu oddeutu 1,000 y cant.

Rwy’n falch o weld bod llawer o Aelodau wedi dweud bod angen cyfleuster golchi arnom. Mae’n bosibl fod angen mwy nag un cyfleuster golchi arnom mewn awdurdod lleol, yn dibynnu ar eu daearyddiaeth, ond yn bendant, mae angen hynny arnom os ydym am ei ymgorffori o fewn bwyd y sector cyhoeddus.

Mae’n rhaid inni fynd y tu hwnt i wytnwch bwyd, a dweud y gwir. Mae’n rhaid inni gyfeirio’n ôl at adroddiad Tim Lang ar gyfer y Comisiwn Parodrwydd Cenedlaethol. Nid unrhyw hen gomisiwn yw hwn. Dyma’r un a baratôdd ar gyfer rhyfel niwclear pan oedd pobl yn credu bod hynny ar fin digwydd. Dyma'r un a baratôdd, neu na wnaeth ein paratoi, ar gyfer COVID. Ac mae bellach yn gwneud y gwaith y mae angen i bawb ei wneud i sicrhau, yn yr argyfwng nesaf—nid ydym yn gwybod ar ba ffurf—y byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn llwgu.

Lee, go brin fod cael courgettes o Chile yn mynd i’r afael â’r targedau sero net rydym yn eu gosod i ni’n hunain, ac nid yw’n angenrheidiol o gwbl. Mae courgettes yn hawdd i'w tyfu. Y drafferth yw eu bod i gyd yn cyrraedd yn ystod gwyliau'r ysgol. Ond mae systemau i'w cael ar gyfer eu hymgorffori yn ein hysgolion pan fyddant yn dod yn ôl, a'r un fath yn ein hysbytai, fel y dywedodd Altaf. Ac nid wyf wedi ymweld â'r Authentic Curry Company yn Hirwaun eto, ond mae'n bendant ar fy rhestr. Ac mae honno'n fenter dda iawn gan un cwmni—cyhyd â'u bod yn cadw rhag ychwanegu llwyth o halen at beth bynnag y maent yn ei wneud.

A Carolyn, roeddech chi'n llygad eich lle yn dweud bod tai cyngor yn arfer bod â gerddi mawr, ac mae rhannau o fy etholaeth sydd â gerddi o faint digonol o hyd. Mae gan bron pawb le i dyfu, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych, prin fod unrhyw un yn tyfu. Ac felly mae ymgyrch addysg gymunedol wleidyddol enfawr, a dyna pam fy mod yn cyfeirio'r Llywodraeth yn ôl at rôl yr ysgol gynradd, gan fod iddi le canolog yn y gymuned, o anghenraid.

Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn wych clywed Alun Davies yn sôn am yr argyfwng cenedlaethol sy’n sgil-gynnyrch i gyfalafiaeth. Mae hynny'n gwbl gywir. Mae archfarchnadoedd yn canolbwyntio ar wneud yr elw mwyaf posibl, a dyna pam eu bod yn llwytho eu holl fwyd â halen, siwgr a braster gordewogenig, ac mae hynny'n gwaethygu'r argyfwng gordewdra nad oedd i'w weld yn y 1970au, fel y dywedwch.

A hoffwn gyfeirio at waith Henry Dimbleby. Dair blynedd yn ôl, neu ddwy flynedd yn ôl, fe gynhyrchodd adroddiad—Ceidwadwr ar gyfer y Llywodraeth Geidwadol. A beth a wnaethant? Fe wnaethant ei roi yn y bin. Mae'n drasig. Ond mae'n dweud yn yr adroddiad fod

'sawl pennaeth cwmni wedi dweud wrthym y byddent yn croesawu deddfwriaeth gan y Llywodraeth'

sydd wedi'i chynllunio i leihau gwerthiant bwyd sothach. Maent yn gwybod bod y bwyd y maent yn ei werthu yn ofnadwy i'w defnyddwyr, ac maent yn dymuno gwneud y peth iawn, ond mae angen 'cae chwarae gwastad' arnynt. Maent yn ofni, os ydynt yn ei wneud, y bydd y lleill wedyn yn manteisio ar eu marchnad. Ac mae'n rhaid inni fynnu gyda Llywodraeth y DU, gan mai hwy'n unig all wneud hyn, eu bod yn gweithredu ar unwaith. Nid oes angen iddynt ailysgrifennu adroddiad Henry Dimbleby. Mae angen iddynt weithredu ar unwaith a rhoi bwyd sydd wedi'i brosesu'n helaeth lle mae Private Eye yn awgrymu y dylem ei roi, sef yn y bin.

Ac felly, i gloi, hoffwn ddweud, Huw, eich bod wrth ymateb yn sôn am bartneriaethau bwyd lleol, ond mae gwir angen inni ddeall nad oes rhaid iddo efelychu'r genedl bwyd da yn yr Alban, ond mae'n rhaid iddo fod yr un mor dda. Ac rydym wedi cael cefnogaeth comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae gennym gefnogaeth drawsbleidiol yma. Ond hoffwn ddyfynnu rhywbeth a ddywedodd rhywun yn 2015, sef bod

'cefnogaeth drawsbleidiol a strategaeth gan Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i wneud Cymru'n arweinydd, ond heb gamau gweithredu cadarn a chyflawni trwyadl, yn golygu nad ydym yn ddim mwy na dynwarediad gwan iawn o'r Alban.'

Mae angen inni fod yn arweinwyr. Mae angen inni wneud y pethau sydd—. Ni fyddai Ffrainc na’r Eidal byth wedi caniatáu i’w plant gael y bwyd eilradd sy’n cael ei weini yn ein hysgolion heddiw, a hoffwn weld yr ymrwymiad i wahardd bwyd wedi’i brosesu’n helaeth o bob trefniant caffael cyhoeddus. Dyna y mae angen inni weithio tuag ato. Ni allwn ei gyflawni dros nos, ond mae angen inni osod dyddiad a'i gyflawni.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell, i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8822 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y llynedd, datgelodd ymchwiliad fy mhwyllgor i ddiwylliant a’r berthynas newydd â’r UE faint o effaith y mae Brexit yn ei chael ar y sector hwn. Aeth yr ymchwiliad at wraidd ein hanes Ewropeaidd cyffredin—hanes lle mae artistiaid wedi croesi ffiniau, wedi cyfnewid syniadau ac ysbrydoliaeth, ac wedi plethu tapestri diwylliannol cyffredin gyda'i gilydd. Nawr, mae edafedd y tapestri hwnnw wedi rhaflio, heb os nac oni bai, ac mae ein hadroddiad, 'Sioc ddiwylliannol', yn rhoi disgrifiad sobreiddiol o sut y mae hyn wedi digwydd.

Er enghraifft, dywedodd Opera Cenedlaethol Cymru wrthym fod eu carnet—math o basbort ar gyfer nwyddau—yn costio £5,000 ynghyd â chost dau ddiwrnod o weinyddu. Maent yn wynebu £5,000 ychwanegol ar gyfer cludo setiau, gwisgoedd ac offer arall. Cymerodd gwiriadau ychwanegol ar eu hofferynnau 30 diwrnod. Maent wedi talu gordaliadau GIG a fisa ychwanegol ac wedi dweud wrthym fod eu cangen fasnachol, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, wedi colli gwaith a oedd yn werth £500,000. Dywedodd NoFit State Circus wrthym eu bod yn rhoi cymalau yng nghontractau artistiaid i'w hatal rhag mynd ar wyliau fel eu bod yn aros o fewn rheol 90 diwrnod allan o 180 ardal Schengen. Mae eu carnet yn costio oddeutu £28,000. Mae Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain yn wynebu costau ychwanegol o £16,000 y dydd i gadw at reolau trafnidiaeth a elwir yn fasnach arforol, lle cyfyngir ar nifer y teithiau y gellir eu gwneud cyn bod yn rhaid i daith ddychwelyd i'r DU. Mae eu carnet yn costio £10,000. Ac mae trosiant y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Hyfforddiant a Chydweithredu Rhanbarthol wedi mynd o £1 filiwn i ddim, gan arwain at gwymp llwyr yn ei busnes. Nawr, dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o’r dystiolaeth fesuradwy a welsom yn ein hadroddiad. Ond roedd yn dorcalonnus clywed am golli uchelgais, creadigrwydd, hyder a natur ddigymell agweddau ar y sectorau hyn, y pethau hynny sy’n anadl einioes y celfyddydau, a bod cymaint o nerfusrwydd yn bodoli ynghylch gwaith y DU-UE er gwaethaf y parodrwydd i barhau. Dywedodd cyfarwyddwr creadigol theatr yng ngŵyl Other Voices nad yw bellach yn ystyried teithio Ewrop o gwbl, fod y dyhead hwn wedi diflannu'n llwyr.

Ac yn ogystal â chyfyngu ar orwelion a chau llwybrau, clywsom am yr holl bethau na ellir eu cyfleu mewn taenlenni. Siaradodd y Farwnes Bull â ni am y pethau anfesuradwy, y dalent heb ei gwireddu a'r perfformiadau heb eu gweld na ellir eu mesur ac na fyddant yn cael eu hadfer. Dywedodd,

'rydym wedi colli cyfran sylweddol o dalent na fyddwn byth yn gwybod amdani'.

Fel pwyllgor, mae'r neges lom a glywsom yn aros gyda ni. Gwn y gallaf siarad ar ran Aelodau eraill pan ddywedaf hynny, oherwydd y trafodaethau a gawsom. Bydd gan yr artistiaid a’r grwpiau teithio mwy sefydledig gysylltiadau a byddant yn fwy tebygol o fod â chyllideb i dalu rhywun i lywio cymhlethdodau carnets a masnach arforol; ni fydd hynny'n wir i artistiaid newydd. Hynny yw, nid yn y graffiau y gwelir yr hyn sy’n cael ei golli, ond yn y bylchau, y cysylltiadau na fyddant byth yn cael eu gwneud, y cyfleoedd a gollir a’r gost a ddaw yn sgil hynny, oherwydd bob wythnos, mae artistiaid yn dewis peidio â mynd ar drywydd mentrau newydd, peidio â gwneud cysylltiadau sy’n newid bywydau, oherwydd y rhwystrau a roddir o'u blaenau.

Nawr, dro ar ôl tro, rydym wedi clywed am bwysigrwydd sicrhau y gall artistiaid fod yn rhydd i ffynnu ar draws ffiniau heb orfod llywio’r cymhlethdodau diddiwedd sy’n eu hwynebu. Ni ellir cyfrifo gwir werth hyn, ac ni ellir ei fychanu. Nawr, fel pwyllgor, fe wnaethom ninnau hefyd brofi hyn i ryw raddau. Mae gan wahanol Lywodraethau wahanol gyfrifoldebau am wahanol elfennau o'r mater, ac felly cawsom ein hunain mewn drysfa o gymhlethdodau masnach, mewnfudo a chyfansoddiadol. Dyma y mae ein hartistiaid yn ei wynebu, a hynny er mwyn gwneud yr hyn y maent wedi'i wneud erioed. Clywsom gan bedwar o Weinidogion y DU, chwech o Weinidogion Cymru, gan gynnwys dau gyn Brif Weinidog, ac adran o Lywodraeth Iwerddon. Cawsom dystiolaeth hefyd gan Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi, Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE a Senedd Ewrop. Nid oedd gennym unrhyw ddewis ond cyhoeddi argymhellion a luniwyd i wella’r sefyllfa gan ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraethau Cymru a’r DU.

Rydym yn nodi y bydd—. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a ymatebodd i’n hadroddiad, ac er ein bod yn sicr yn ddiolchgar am hynny, nid yw cyfranogiad Gweinidogion eraill sy’n gyfrifol am y materion hyn bob amser yn gwbl glir. Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn gyfrifol am lawer o’r materion a godwyd yn ein hadroddiad; mae'r Prif Weinidog yn gyfrifol am eraill—cysylltiadau rhyngwladol a Chymru ac Ewrop, er enghraifft. Wrth ymateb i'r ddadl, hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y gwnaethant hwy gyfrannu at yr ymateb hefyd a sut y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn gweithio gyda’i gilydd ar draws y Llywodraeth ar y materion hyn, os gwelwch yn dda.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, gan gynnwys cefnogi'r ateb a gyflwynwyd gan y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, y gobeithiwn y bydd y DU a'r UE yn ei roi ar waith. Derbyniodd ein hargymhellion i nodi'r cymorth y mae’n ei ddarparu a sut y mae wedi ymgysylltu â’r sector ynghylch effeithiau Brexit ers iddo nodi’r mater gyntaf ym mis Chwefror 2021.

Nawr, roeddem yn arbennig o bryderus wrth weld tystiolaeth rhai tystion a ddywedodd wrthym mai ni oedd y corff penderfynu cyntaf yr oeddent wedi gallu rhannu eu profiadau â hwy. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru pa ddata a thystiolaeth y mae’n eu defnyddio i lywio penderfyniadau, a pha asesiadau y mae wedi'u gwneud o effaith Brexit ar y sector, a dywedodd nad yw wedi cynnal ymchwil benodol ar hyn. Fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd y mater hwn pan fydd yn cyfarfod â Llywodraethau eraill y DU, ac i adrodd yn ôl i ni unwaith y tymor. Derbyniwyd hyn yn rhannol yn unig, gan nad oedd y Llywodraeth am gytuno i wneud hynny mor aml â hynny.

Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio’r camau y mae wedi’u cymryd i liniaru effaith hyn oll. Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw at rai mentrau, ond mae wedi dweud nad yw’r rhain yn benodol ar gyfer lliniaru effeithiau Brexit, ac un o’r enghreifftiau a roddwyd oedd gweithgarwch sy’n cael ei ariannu yn yr Unol Daleithiau.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad y dylai’r DU a’r UE flaenoriaethu’r mater hwn yn yr adolygiad sydd ar y ffordd o'r modd y caiff y cytundeb masnach a chydweithredu ei roi ar waith, ond gwrthododd alwad ein pwyllgor i nodi ei huchelgeisiau ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru a'r UE a rhwng y DU a'r UE mewn strategaeth benodol. Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae ein pwyllgor ni a thri phwyllgor arall yn ystyried tystiolaeth cyn yr adolygiad sydd ar y ffordd o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu. Rydym yn dal i glywed am effeithiau Brexit ar y sector drwy’r gwaith hwn.

A'r argymhelliad olaf yr hoffwn dynnu sylw ato yw y dylid ymgorffori canfyddiadau 'Sioc ddiwylliannol', yr adroddiad hwn, mewn strategaethau diwylliant a chysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol. Derbyniwyd hyn gan y Llywodraeth, ond dim ond lle mae’r canfyddiadau hynny’n cyd-fynd â’i blaenoriaethau ei hun. Nawr, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cwestiynu a yw ymateb penodol y Llywodraeth yn rhoi digon o sicrwydd i'r pwyllgor, ac yn wir, i'r sector. Mae ymateb Llywodraeth y DU yn rhoi trosolwg o’r camau rhagweithiol sy’n cael eu cymryd gyda’r sector, yr UE ac aelod-wladwriaethau’r UE. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth ein sector i gynnig rhyngwladol y DU yn ei hymateb. Mae’n cydnabod pwysigrwydd cynnal ein henw da byd-eang drwy’r celfyddydau, a bod angen i artistiaid allu perfformio a hyrwyddo eu hunain ledled y byd.

Mae'n amlwg, Ddirprwy Lywydd, fod y rhwystrau hyn wedi arafu creadigrwydd, syniadau a photensial rhag gallu symud yn rhydd. Rydym yn ailadrodd ein hapêl ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i helpu. Edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symud y materion hyn yn eu blaen, i roi'r sicrwydd yr ydym yn ei geisio'n daer ac i ddangos ei bod yn sefyll gyda'r sector.

Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau’r Aelodau yn y ddadl. Diolch yn fawr.

16:20

Mae’n bleser siarad ar y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddechrau drwy ddweud ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn edrych yn bennaf ar y system rynglywodraethol ôl-Brexit, sydd i bob golwg, fel y dywed y pwyllgor, wedi gwneud cam â'r sector diwylliant. Nid yw'n ddadl ar Brexit fel y cyfryw, ond ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi llywio Brexit, ac rydym yn trafod hynny mewn perthynas â’r sector diwylliannol a’r celfyddydau.

Fy nadl i yw bod y llen haearn ddiwylliannol honedig yn un hunanosodedig. Hoffwn ychwanegu hefyd, er bod gennyf y parch mwyaf at waith y pwyllgor, fy mod yn anghytuno â chywair cyffredinol adroddiad y pwyllgor a rhai o’i argymhellion. Nid oeddwn yn aelod o’r pwyllgor pan gynhyrchwyd yr adroddiad, ond byddaf yn amlinellu fy safbwynt ar yr adroddiad a’r argymhellion y credaf eu bod yn haeddu ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhai o’r argymhellion allweddol yn yr adroddiad a fyddai o fudd i’r sector yn fy marn i, megis darparu asesiad o effaith Brexit ar y sector diwylliant a’r celfyddydau. Yn fy marn i, mae safbwynt ac agwedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn un o’r rhwystrau mwyaf i Gymru lwyddiannus ar ôl Brexit. Mae obsesiwn parhaus Llywodraeth Cymru â phesimistiaeth ynghylch Brexit yn gwneud anghymwynas â phobl Cymru—

16:25

A fyddech chi'n dweud, felly, fod Brexit, yn eich barn chi, wedi bod yn dda ar gyfer ymgysylltiad diwylliannol â’r Undeb Ewropeaidd?

Rwy'n mynd i ddod at hynny, a byddaf yn ymhelaethu ychydig yn fy sylwadau pellach.

Mae’r adroddiad hwn a rhai o’i argymhellion yn adlewyrchu agwedd wangalon sy’n blaenoriaethu aliniad â’r UE dros sofraniaeth Cymru a’r DU. Mae llawer o’r pryderon a amlinellir yn yr adroddiad yn deillio o fethiannau yng nghydweithrediad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill. Yn aml, mae’r drafodaeth ynghylch Brexit yn arwain yr etholwyr i gredu eu bod wedi pleidleisio dros un setliad cyfansoddiadol ac un set o bolisïau, ond nid felly y bu. Mae wedi caniatáu i Lywodraethau cenedlaethol a datganoledig greu cymaint neu gyn lleied o gyfleoedd ohono ag y dymunent. Rhaid cyfaddef bod Llywodraethau blaenorol y DU wedi gwastraffu rhai o’r cyfleoedd, ac nid oedd rhai o’r penderfyniadau a wnaed yn gywir, ond penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraethau etholedig ar y pryd oedd y rhain. Nid oeddent yn ganlyniadau anochel i Brexit, a dylem gydnabod bod Cymru wedi pleidleisio’n helaeth o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.]—a dylem gadw mewn cof, pan glywn gan wleidyddion cenedlaetholgar Cymreig sy’n cefnogi ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, sefydliad goruwchgenedlaethol, ond sy’n cefnogi gadael yr unig wir undeb sy’n bwysig, y Deyrnas Unedig—.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu dod o hyd i ddyfodol ôl-Brexit i Gymru gan eu bod wedi edrych ar Brexit fel problem i’w goresgyn—

Byddwn yn dweud yn garedig iawn wrth lefarydd y Ceidwadwyr mai dadl yw hon i fod; nid yw'n araith lle rydych chi'n dod yma ac yn darllen rhywbeth a ysgrifennwyd ar eich cyfer. Mae'n gyfle i drafod y materion hyn, ac mae hynny'n golygu deall a deall y materion y tu ôl i'r materion a drafodwn. A wnewch chi ymgysylltu ag unrhyw un yn y Siambr ar y materion hyn neu a ydych chi am barhau i ddarllen eich araith?

Wel, dyma'r ail ymyriad imi ei dderbyn, felly rwy'n credu fy mod yn ymgysylltu'n dda iawn â'r ddadl, diolch yn fawr iawn.

Un o fanteision mwyaf Brexit yw bod y penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl Cymru yn cael eu gwneud yn nes at adref, a gellir dwyn gwleidyddion yn atebol am eu penderfyniadau. Mae rhagair y Cadeirydd yn datgan bod y

'rhwystrau yn sgil Brexit wedi arafu symudiad rhydd creadigrwydd, syniadau, a photensial gyda llawer o artistiaid yn dewis peidio â mynd ar daith'

ac mae hon yn broblem sy'n peri pryder. Mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn casglu’r data hwn, gan nad yw data ar artistiaid o’r UE sy’n teithio i Gymru yn cael ei gofnodi ar hyn o bryd, ac nid yw hynny’n dderbyniol, ac mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn casglu’r data hwn fel y mae'n ymwneud â Chymru a bod hyn yn dryloyw ac yn dylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol.

I gloi fy sylwadau, hoffwn ailadrodd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i lynu wrth y gorffennol a dechrau gweithio tuag at ddyfodol sy’n gwneud y mwyaf o botensial Cymru gyda'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Hoffwn wybod beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod gan y diwydiannau creadigol well mynediad at gynulleidfaoedd ledled y byd, ac nid yr Undeb Ewropeaidd yn unig. Hoffwn i’r Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella’r broses o gasglu data ar symudiadau artistiaid sy'n teithio rhwng Cymru, yr UE a gweddill y byd, a nodi a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau ar gyfer y diwydiannau creadigol a darparu amserlen ar gyfer hyn. Diolch.

Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno’r adroddiad hwn ac yn ddiolchgar i’r ysgrifenyddiaeth, sydd wedi cefnogi’r pwyllgor yn ei waith. Roedd yn fraint ymweld â Brwsel gyda’r pwyllgor. Roedd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Ewrop, yn enwedig mewn perthynas â'r sector diwylliant. Hwy yw ein cymdogion agosaf, Ewrop, ac mae teithio drwy Ewrop yn cyfoethogi ein bywydau'n fawr.

Clywsom dystiolaeth gan y sector creadigol, ac ni fu unrhyw enillion ers gadael yr UE, dim ond costau a biwrocratiaeth sydd wedi ein rhoi o dan anfantais o gymharu â gwledydd eraill. Mae absenoldeb darpariaethau penodol yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn ei gwneud yn ofynnol i berfformwyr y DU gadw at reoliadau ym mhob un o 27 o aelod-wladwriaethau’r UE, sy’n aml yn amrywio ac yn wirioneddol gymhleth. Mae angen mwy o arweiniad a chysondeb, nid yn unig ar gyfer y rheini sy'n teithio, ond hefyd ar gyfer y rheini sy'n gweithio ym maes rheoli ffiniau. Heb un carnet ar gyfer yr UE, mae cwmnïau theatr teithiol, ensembles cerddorol a chynyrchiadau teledu a ffilm yn wynebu oedi a chostau sylweddol ar bob ffin fewnol, wrth ddod â setiau, offerynnau, offer a’r holl bethau eraill hynny i mewn i’r UE.

Canfu arolwg UK Music yn 2023 fod 82 y cant o gerddorion Prydain wedi dweud bod eu henillion wedi gostwng oherwydd Brexit, a bod 43 y cant o’r cerddorion a holwyd wedi dweud nad yw bellach yn ymarferol iddynt deithio o amgylch gwledydd yr UE—ein cymdogion. Maent bellach yn wynebu tirweddau cymhleth carnets, ansicrwydd ynghylch atebolrwydd treth, costau yswiriant iechyd, terfynau fisa 90 diwrnod ac oedi ar ffiniau ac wrth brosesu ffurflenni A1. Maent hefyd yn ysgwyddo'r costau ychwanegol o orfod cyflogi staff i lywio a rheoli'r lefel newydd hon o weinyddiaeth. Ac fel y crybwyllwyd, esboniodd NoFit State Circus, oherwydd y rheol 90 diwrnod, eu bod wedi gorfod gwrthod archebion ar gyfer haf 2023, gan golli oddeutu o £120,000 o incwm.

Mae colli mynediad at gronfeydd hefyd wedi bod yn sylweddol. Roeddwn yn eiddigeddus iawn pan glywsom am Ewrop Greadigol, a gafodd chwistrelliad enfawr o arian na allwn gael mynediad ato mwyach. Yn flaenorol, pan oeddem yn aelodau o’r UE, roedd y cyllid a oedd gennym yng Nghymru ar gyfer mentrau cymunedol ac ar gyfer pob math o gelfyddydau a diwylliant yn anhygoel, ac nid oes unrhyw arian wedi'i ddarparu yn ei le. Mae colled fawr ar ei ôl.

Ceir teimlad nad yw Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd na gwerth y diwydiannau creadigol, yn wahanol i Ewrop. Mae ymdriniaeth Llywodraeth flaenorol y DU o Brexit wedi bod yn gwbl anfoddhaol, a dweud y lleiaf. A thrwy'r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae angen inni ailadeiladu cydweithrediad ac ymddiriedaeth gyda'n cymdogion Ewropeaidd—a dyna a glywsom pan oeddem ym Mrwsel, hefyd—yn enwedig mewn perthynas â cysylltiadau economaidd a diwylliannol.

Er bod y ffigurau ar gyfer canlyniadau economaidd niweidiol Brexit yn llwm, mae’n rhaid inni beidio ag anghofio’r effaith anfesuradwy ar fywydau pobl: y cyfleoedd, y profiadau a’r cysylltiadau coll y gellid bod wedi’u creu, yr adrodd straeon a’r dysgu o ddiwylliannau gwahanol, sy’n cyfoethogi ein cerddoriaeth, ein diwylliant. Dyna hanfod Cymru i mi—y diwylliant a'r gerddoriaeth. Fel y dywed yr adroddiad, bob wythnos, mae artistiaid yn dewis peidio â mynd ar drywydd mentrau newydd, a pheidio â gwneud cysylltiadau sy'n newid bywydau. Mae Brexit eisoes wedi costio cymaint i ni. Rhaid inni geisio ailadeiladu’r hyn a allwn, wrth symud ymlaen, rhwng Cymru ac Ewrop a thrwy Lywodraeth y DU. Diolch.

16:30

Diolch i'r pwyllgor am y gwaith y bues i'n rhan ohono ar y diwedd, ond nid o'r dechrau. Mae'n rhaid imi ddweud, un o'r pethau roeddwn i'n ei deimlo fwyaf o ran bod yn rhan o'r ymchwiliad hwn, a phan fuon ni'n lansio'r adroddiad ym Mrwsel, oedd y teimlad yma o dristwch. Tristwch nid yn unig ar ein rhan ni a'r colledion i Gymru, ond tristwch yn Ewrop o ran y cyfyngiadau sydd wedi dod yn sgil hyn. Y ffaith bod gennym ni Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Wales Arts International, a'u bod nhw wedi bod yn arwain gymaint o'r prosiectau hyn; nid ein bod ni'n rhan ohonyn nhw ac yn elwa, ond yn arwain, yn ysbrydoli gwledydd eraill, ac maen nhw'n gweld ein colli ni yn Ewrop, oherwydd yr hyn yr oedd Cymru'n dod mewn i'r peth.

Felly, ydyn, rydyn ni'n gallu edrych ar y ffeithiau o ran yr arian rydyn ni'n ei golli, mae hynny'n sicr. Ac mae'r ffaith bod cyllideb Ewrop Greadigol wedi cynyddu 66 y cant ar ôl Brexit yn golygu bod Ewrop wedi cydnabod eu bod nhw ddim wedi bod yn buddsoddi digon mewn diwylliant—rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei drafod fan hyn—a'u bod nhw'n gweld grym, gwerth a gwerth economaidd diwylliant. Ac ar adeg pan fod yna gymaint o gweryla ledled y byd, gymaint o ansicrwydd, ac ati, eu bod nhw'n gweld gwerth buddsoddi o ran creu cynghreiriau, o ran sicrhau ein bod ni'n taclo anghydraddoldebau hefyd, a'u bod nhw'n gweld bod angen iddyn nhw fuddsoddi mwy oherwydd pwysigrwydd diwylliant.

Os ydych chi wedyn yn ystyried eu bod nhw'n gweld bod Cymru yn gallu cyfrannu gymaint, bod ein sefydliadau cenedlaethol ni yn mynd ati i edrych ar eu rôl o ran yr ochr ataliol, eu bod nhw'n edrych o ran tlodi plant, a beth ydy rôl diwylliant o ran hynny, a'u bod nhw hefyd yn ystyried o ran gwrth-hiliaeth, bod yna rôl iddyn nhw, dyna'r math o beth y mae Ewrop Greadigol yn mynd i'r afael efo fo, a bydden nhw'n hoffi ein bod ni'n gallu cyfrannu. Felly, beth ydy'r rhwystr i hynny? Does dim byd yn ein rhwystro ni. Nid bai Brexit yw'r ffaith nad ydyn ni'n rhan o Ewrop Greadigol. Dewis gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig flaenorol oedd hynny.

Yr hyn y byddwn i'n hoffi ei glywed heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet ydy beth sy'n mynd i newid, oherwydd mae'r cloc yn tician. Mae yna deadline rŵan o ran y Deyrnas Unedig yn gallu ailymuno efo Ewrop Greadigol. Felly, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod hyn yn digwydd, a’n bod ni'n ailymuno efo Ewrop Greadigol? Mae o’n dal Cymru yn ôl. Mae o’n golygu y byddwn ni’n mynd yn is o ran y tablau. Byddwn ni reit ar y gwaelod, nid jest tua’r gwaelod, o ran gwariant ar ddiwylliant, os nad ydyn ni’n ailymuno efo Ewrop Greadigol. Mi fuaswn i’n gobeithio ein bod ni i gyd yn gallu bod yn gytûn ar hynny. Byddai hynny’n golygu miliynau o bunnoedd yma yng Nghymru o ran y sector pwysig hwn. Os na ddown ni, nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i fod yn buddsoddi yn union yr un faint. Felly, mae hyn yn mynd i niweidio’r sectorau hyn sydd mor bwysig.

Beth sy’n fy nhristáu i hefyd yw faint o bobl sy’n dewis peidio â bod yng Nghymru, sydd yn gweithio yn y diwydiant hwn rŵan. Dydyn nhw ddim yn gweld dyfodol iddyn nhw yng Nghymru. Felly, dydy o ddim yn fater o dristwch yn unig fan hyn. Mae’n fater ein bod ni angen uno mewn galwad bod yna bethau y gallwn ni eu newid. Nid jest tristáu bod Brexit wedi digwydd, ond pam nad ydyn ni’n gwneud iawn am rai o’r camgymeriadau gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf?

Felly, os cawn ni’r sicrwydd yna, byddai hwnnw’n gam mawr o ran yr adroddiad, i fod yn sicrhau bod Cymru, o fewn Ewrop, yn dal yn gallu cyfrannu ac arwain yn y maes hwn. Nid dim ond bod yna i gael miliynau o bunnoedd, ond i arwain a bod yn falch, fel cenedl ryngwladol, ein bod ni’n gallu parhau i wneud hynny.

16:35

A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad? Rwyf bellach ar y pwyllgor, ond wrth gwrs, nid oeddwn yn rhan o'r sesiynau cynnar hynny arno. A gaf i hefyd ddatgan buddiant, fel aelod o Undeb y Cerddorion, un o'r cyrff sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor?

A gaf i ymdrin â rhan olaf yr adroddiad yn gyntaf, sef Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE. Pan ddigwyddodd Brexit, fe wnaethom wthio'n galed iawn o Gymru, ar y lefel honno a hefyd ar lefel Pwyllgor y Rhanbarthau, a oedd yn creu corff cyfochrog hefyd, y dylai Cymru fod â statws llawn yn hynny. Mae gennym swyddogaethau datganoledig penodol yr ydym wedi gallu mynd ar eu trywydd fel corff is-genedlaethol o fewn yr UE. Ac a bod yn onest, mae'r statws arsylwr sydd gennym nawr, a orfodwyd gan y Llywodraeth flaenorol, am nad oeddent eisiau i Gymru gael llais—. Nid oeddent yn cydnabod llais Cymru na'r Alban na hyd yn oed Gogledd Iwerddon yn y cyrff penodol hynny. Mae'n drueni mawr nad yw hynny wedi ei newid, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei newid.

A gaf i ddweud fy mod hefyd yn croesawu'r ffaith bod llawer mwy o gydweithrediad yn digwydd? Mae'n amlwg fod ymgysylltu'n digwydd. Efallai ei fod yn sensitif, o ran trafodaethau ac yn y blaen, ond mae'n dda gweld hynny'n digwydd. Gobeithio y bydd hynny'n darparu mecanwaith o leiaf ar gyfer sgwrs aeddfed, nad oedd yn digwydd o'r blaen.

Wrth gwrs, y mater mwyaf sy'n effeithio ar y sector diwylliannol—. Mae'n rhaid inni ddweud bod Brexit wedi bod yn drychineb cymdeithasol a diwylliannol i Gymru, ac i'r DU yn wir. Mae'r dystiolaeth yn dangos hynny. Roeddwn yn credu bod datganiad Gareth Davies yn siomedig iawn. Darllenodd ddatganiad, ond nid aeth i'r afael â dim o'r dystiolaeth go iawn a roddwyd gerbron y pwyllgor, tystiolaeth yr oeddwn yn falch iawn o'i darllen.

Felly, dyma grynodeb Undeb y Cerddorion o'r dystiolaeth, a chredaf ei fod wedi ei grynhoi—

Fe godais y materion hynny am fy mod yn sôn am artistiaid ar daith a'r berthynas y gall Cymru ei chwarae gyda hynny yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu ei bod braidd yn anonest dweud na chodais rai o'r pwyntiau penodol hynny, yn ogystal â'r rhai gwleidyddol, yr ydych chi eich hun yn eu gwneud nawr. 

Fe wnaethoch chi gydnabod eu bod yn bodoli, ac yna fe wnaethoch chi anwybyddu eu canlyniadau'n llwyr. Pan ofynnais ichi ddweud wrthyf beth oedd yn dda am Brexit, o ran diwylliant, ni wnaethoch ateb hynny o gwbl.

Ond dyma'r canfyddiadau allweddol ac maent yn berthnasol ym mhob ffordd. Dywedodd 75 y cant o'r ymatebwyr a arferai weithio yn yr UE cyn ymadawiad y DU â'r UE fod archebion wedi gostwng, fod gwaith wedi gostwng. Dywedodd 59 y cant—mae hynny'n agos at ddwy ran o dair—nad oedd teithio'r UE bellach yn ymarferol yn ariannol. Dywedodd llawer ohonynt na allent fforddio gweithio'n ddiwylliannol yn yr UE mwyach, na gwneud yr holl bethau yr oedd angen eu gwneud. Ni allant wneud y gwaith pwysig sy'n gysylltiedig â chyfnewid diwylliannol, wyddoch chi, y cynhyrchion sy'n mynd gyda hynny, y cynnyrch, yr hyn a alwant ar lafar yn 'swag'. Roedd 13 y cant wedi cael rhan o'u ffioedd wedi'u dal yn ôl oherwydd cymhlethdodau'n gysylltiedig â threth ac yswiriant gwladol. Ar bron bob lefel bellach, ceir cymhlethdodau, biwrocratiaeth a rhwystrau nad oeddent yn bodoli o'r blaen pan oedd gennym ryddid i symud, pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

A gaf i ddweud, i grynhoi, yn amlwg, mae angen statws cryfach i Gymru o ran ei hymgysylltiad â'r UE? Rwy'n credu bod angen inni godi ein proffil yn yr UE a swyddfa Cymru sydd ym Mrwsel. Mae angen inni bwyso'n llawer caletach ar Lywodraeth y DU am statws llawn i ni yn y cyrff sy'n cael eu sefydlu. Ond rwy'n credu bod angen inni wneud yn glir hefyd na chaiff y cysylltiadau diwylliannol hyn byth mo'u datrys yn iawn. Yr unig ffordd o'u datrys yw dileu'r cyfyngiadau a'r rhwystrau a ddigwyddodd o ganlyniad i Brexit, ac sydd bellach yn amharu ar ein gallu i gyfranogi'n briodol gyda gwledydd eraill yn y maes diwylliannol. Diolch.

16:40

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am y ffordd y cyflwynodd y ddadl hon y prynhawn yma, a hefyd, i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar lunio'r adroddiad hwn a hwyluso'r ymchwiliad a gynhaliwyd gennym. 

Rwy'n credu ei fod yn cael ei dderbyn yn eithaf clir nawr fod Brexit wedi bod yn warth cenedlaethol i'r Deyrnas Unedig, ond rwy'n credu mai'r hyn na ddeellir yn llawn yw'r ffordd y mae wedi bod yn drychineb diwylliannol i ni yng Nghymru hefyd. Un o'r pethau roeddwn yn meddwl amdanynt ddoe wrth inni dalu teyrnged i Dafydd Elis-Thomas oedd y ffordd yr oedd ef yn cydnabod bod Cymru'n genedl Ewropeaidd, a'r ffordd yr aeth ar drywydd hynny drwy gydol ei oes. Ac wrth gwrs, mae diwylliant Cymreig yn ddiwylliant cynhenid Ewropeaidd. Dyma pwy ydym ni. Mae'n rhan o bwy ydym ni. Mae'n rhan o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol fel Ewropeaid. A pha bynnag rwystrau gweinyddol sy'n cael eu gosod rhyngom ni a thir mawr Ewrop, yr hyn na allwch ddianc rhagddo yw'r dreftadaeth ddiwylliannol a'n hanes sy'n ein gwneud yr hyn ydym. Ni all hynny gael ei ddileu gan Ddeddf Seneddol na'i roi o'r neilltu gan gytundeb rhyngwladol. Rydym mor Ewropeaidd heddiw ag yr oeddem 10 mlynedd yn ôl. Yr hyn rydym yn ei golli yw ein gallu i fwynhau a chael y profiadau diwylliannol yr arferem allu eu mwynhau.

Un o'r pethau pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â hwy yma fel Senedd yw pwysigrwydd craffu seneddol. Cafodd y cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu ei yrru drwy'r Senedd hon, drwy Senedd San Steffan, heb unrhyw gyfle inni ystyried canlyniadau'r cytundeb hwnnw. Ni chafwyd unrhyw gyfle yma; ni chafwyd unrhyw gyfle yn San Steffan. Ni chafwyd cyfle o gwbl inni ddeall canlyniadau'r hyn a gafodd ei orfodi drwy'r cytundeb hwnnw. Yr unig le lle roedd cyfle i gael y ddadl a'r drafodaeth honno oedd Brwsel wrth gwrs, oherwydd mynnodd Senedd Ewrop, Senedd fwy tryloyw, gael cyfle i ystyried y cytundeb yn llawn, ac o ganlyniad, roeddent yn deall beth oedd yn digwydd yn y cytundeb hwn, ond nid oeddem ni, a nawr rydym yn talu'r pris am hynny. Ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y bydd y Senedd hon yn sicrhau y gallwn ystyried yr holl faterion hyn maes o law. 

Oherwydd pan fyddwch chi'n siarad am ryddid pobl, rhyddid i symud, rhyddid i symud nwyddau, pobl a gwasanaethau, yr hyn rydych chi'n sôn amdano yw'r rhyddid i un bod dynol siarad ag un arall. Un o ganlyniadau Brexit a drafodwyd gennym oedd nid yn unig colli aelodaeth o Ewrop Greadigol, yn y ffordd y disgrifiodd Heledd, a'r arian sy'n dod gydag ef, a'r strwythurau a'r rhwydweithiau sy'n dod gydag ef, ond yn bwysicach na hynny, ac yn fwy sylfaenol na hynny, gallu un bod dynol i siarad â bod dynol arall a rhannu'r etifeddiaeth gyffredin honno, i bobl fwynhau'r gallu, boed i greu cerddoriaeth neu i wrando ar gerddoriaeth neu i fwynhau'r hyn sy'n dod â ni at ein gilydd. Ni ellir diddymu'r etifeddiaeth ddiwylliannol honno, ond yr hyn sydd wedi digwydd yw na allwn ei mwynhau mor llawn ag yr arferem allu gwneud, ac mae hynny'n drasiedi. Ond nid yw'n drasiedi gyfartal. Mae'n fwy o drasiedi i fy merch a fy mab nag i mi. Mae'n golli cyfle, mae'n golli talent, mae'n golli creadigrwydd, mae'n golled i'n heconomi ac mae'n golled i'n diwylliant.

Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd wynebu ei chyfrifoldebau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl hon. Nawr, rwy'n digwydd gwybod ei bod hi'n Ewropead hyd fer ei hesgyrn, ac y bydd hi wedi bod yn eistedd yma'n cytuno'n dawel â phopeth a ddywedwyd gan bob Aelod a siaradodd yn y ddadl hon—heblaw Gareth Davies. Felly rwy'n gwybod ei bod hi'n Ewropead hyd fer ei hesgyrn, a gwn ei bod hi'n cytuno â'r hyn a wnawn, ac rwyf eisiau iddi ddweud hynny yn ei chyfraniad, ac rwyf am weld strategaeth ymgysylltu â'r UE gan Lywodraeth Cymru. Rwyf am weld dadl gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, ac rwyf am weld gweledigaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u strategaeth ryngwladol ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r pethau hyn.

Rydym yn cydnabod trychineb Brexit. Rydym yn cydnabod y niwed—

16:45

—a wnaed i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw mapio ffordd ymlaen, llwybr ymlaen, a fydd yn helpu i unioni'r niwed hyd nes y gallwn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd eto.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad yn archwilio effaith ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ar ein tirwedd ddiwylliannol, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod yr anawsterau y mae ein llysgenhadon diwylliannol yn llywio drwyddynt ar hyn o bryd. Mae diwylliant yn rhan hanfodol o'r ffordd y mae Cymru'n sefydlu ac yn datblygu ein perthynas â'r byd i gyd, ac mae'r ddadl hon yn digwydd bum mlynedd ers i'r DU adael yr UE, felly mae'n gyfle amserol i ystyried y rhwystrau sy'n deillio o hynny, sydd bellach yn effeithio mor sylweddol ar ein sector diwylliannol. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r pwyllgor fod effaith ymadawiad y DU â'r UE wedi'i theimlo ar draws y sector diwylliannol, ac enghraifft nodedig iawn yw'r cyfyngu ar y rhyddid i symud i artistiaid a gweithwyr creadigol o Gymru sy'n gweithio yng ngwledydd yr UE, ac artistiaid o'r UE sydd am ddod i berfformio yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i artistiaid o Gymru ddeall y rheoliadau ar gyfer pa bynnag aelod-wladwriaeth o'r UE y maent yn teithio iddi. Mae hynny o ran teithio dros ffiniau neu fisâu neu unrhyw reoliadau trwyddedau gwaith sy'n berthnasol i'w gweithgareddau a hyd eu harhosiad, a gwneir hyn hyd yn oed yn fwy cymhleth a chostus pan fydd artistiaid neu gwmnïau ar daith, gan fod yn rhaid iddynt ddilyn y rheolau gwahanol ar gyfer pob un o'r gwahanol wledydd, a gall rheolau ymweld ag ardal Schengen fod yn wirioneddol waharddol i gwmnïau sy'n teithio a gweithwyr creadigol unigol. Clywsom enghreifftiau pwerus iawn yn y ddadl, ond hefyd yn y dystiolaeth a glywodd y pwyllgor gan bobl sy'n gweithio yn y sector creadigol, yn enwedig cwmnïau ac artistiaid ar daith.

Hoffwn sicrhau'r pwyllgor y bydd ei ganfyddiadau'n cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu ein strategaethau yn y dyfodol i fynd i'r afael â'r sefyllfa y mae'r sector yn ei hwynebu. Mae ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant yn cydnabod pwysigrwydd diwylliant yn y ffordd y mae Cymru'n sefydlu ac yn datblygu ein cysylltiadau rhyngwladol, ac wrth gwrs yn y modd yr awn ati i hyrwyddo Cymru i weddill y byd. Ond rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol a glywais yn ystod y ddadl y prynhawn yma oedd sylwadau agoriadol Cadeirydd y pwyllgor yn sôn am dristwch colli natur ddigymell y pethau hyn, yr holl gyfleoedd i eiliadau annisgwyl gyrraedd, a'r cysylltiadau sy'n newid bywydau y mae pobl yn eu gwneud gyda dieithriaid. Yn aml, dyma'r math o bethau sy'n datblygu celf a chreadigrwydd ynddynt eu hunain hefyd. Felly, roedd hynny'n bwerus iawn y prynhawn yma. 

Felly, lle mae canfyddiadau adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau cyflawni, byddant yn cael eu hymgorffori i'n galluogi i gyflawni a datblygu ein cysylltiadau rhyngwladol yn effeithiol yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, os yw canfyddiadau'r adroddiad yn cefnogi ein blaenoriaethau datblygu economaidd ar gyfer y diwydiannau creadigol, byddwn yn ystyried y rhain ochr yn ochr â datblygiad canllawiau cyfredol, rhaglenni a gweithgareddau newydd. Rwy'n gweld cyfleoedd gobeithiol yn y dyfodol hefyd drwy strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a'u ffocws a'u dealltwriaeth glir o bwysigrwydd diwydiannau creadigol. Rwy'n credu y gallwn gael rhywfaint o obaith o hynny. 

Fel y nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad, yn lle bod pobl yn gallu symud yn ddirwystr a marchnad sengl mewn gwasanaethau a nwyddau i gefnogi'r sector diwylliant yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, cafwyd cytundeb cyfyngedig y DU-UE, y cytundeb masnach a chydweithredu. Felly, mewn ymateb i'r cwestiwn ynglŷn â pham mai fi yw'r Gweinidog sy'n ymateb i'r ddadl ac adroddiad y pwyllgor y prynhawn yma, y rheswm am hynny yn y bôn yw oherwydd mai mater masnach ydyw yn yr achos hwn, a fi sy'n gyfrifol am hynny. Ond gallaf sicrhau fy mod i'n gweithio'n agos iawn gyda Jack Sargeant fel fy nirprwy, sydd â'r cyfrifoldeb ehangach dros y sector creadigol a'r celfyddydau. Ond yn amlwg, mae gan y Prif Weinidog ddiddordeb ac yn y ddadl roeddwn yn myfyrio ar yr holl Weinidogion eraill sydd â diddordeb yn hyn, gan gynnwys, er enghraifft, y Gweinidog iechyd, i gydnabod rôl bwysig y celfyddydau ym maes iechyd hefyd. Felly, gallaf roi sicrwydd fod gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at hyn.

Er bod y cytundeb masnach a chydweithredu yn hanfodol i economi Cymru fel sail i Gymru a gweddill y DU allu masnachu mewn nwyddau gyda'r UE, mae'n amlwg nad yw mewn unrhyw fodd yn cymryd lle ar sail debyg am debyg y mynediad i'r farchnad a oedd gennym fel aelodau o'r UE, ac mae wedi creu rhwystrau newydd i fusnesau Cymru. Fodd bynnag, mae'n creu strwythur llywodraethu cynhwysfawr ar gyfer ymgysylltiad rhwng yr UE a'r DU, ac rydym yn defnyddio hynny nawr i ymgysylltu â'r UE trwy Lywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio nawr y gallwn ddatrys rhai o'r rhwystrau i fasnach. 

Bydd gweithredu'r cytundeb masnach a chydweithredu'n cael ei adolygu a gallai hynny arwain at rai newidiadau bach, ond gyda'r ailosod ehangach y mae Llywodraeth y DU yn ei geisio gyda'r UE, gallwn weld cyfleoedd mwy sylweddol i wneud cynnydd, ac i ddileu rhai o ganlyniadau mwyaf negyddol Brexit. Mae'r meysydd y credwn y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio arnynt yn cynnwys busnes a gallu pobl ifanc i symud, a byddai hyn yn cynnwys y materion y buom yn siarad amdanynt y prynhawn yma, yn ogystal â rhwystrau i fasnach a mynediad at raglenni fel Ewrop Greadigol. Felly, unwaith eto, rwy'n sicrhau fy nghyd-Aelodau fod y rhain ar frig y trafodaethau a gawn gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Rwyf wedi bod yn cael rhai o'r trafodaethau hynny trwy'r grŵp rhyngweinidogol ar fasnach yn ddiweddar iawn, a byddwn yn mynd ar drywydd pob cyfle a llwybr i sicrhau bod y pwyntiau hyn ar ran gweithwyr creadigol yn cael eu deall a'u cynrychioli'n dda.

Rwyf am nodi rhai o'r ffyrdd y ceisiwn fynd i'r fael yn gadarnhaol â'r heriau a chefnogi'r busnesau gyda rhai o'r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Felly, drwy wefan Busnes Cymru, rydym yn darparu gwybodaeth i fusnesau am allforio nwyddau a gwasanaethau o Gymru i farchnadoedd tramor, gan gynnwys yr UE. Mae'r wefan honno hefyd yn cynnwys dolenni uniongyrchol at wybodaeth Llywodraeth y DU am weithdrefnau allforio a'r cytundeb masnach a chydweithredu yn ehangach. Ac rwy'n credu bod yr ymateb a'r adborth a gawsom o'r gefnogaeth a ddarparwn trwy Busnes Cymru wedi bod yn dda iawn.

Mae ein tîm Cymru Greadigol hefyd yn darparu gwybodaeth, gan gynnwys canllaw teithio wedi'i gomisiynu gan Arts Council England. Mae hwnnw'n adnodd defnyddiol i artistiaid teithiol ar lywio'r rheoliadau newydd, y gofynion fisa, y goblygiadau treth ac yn y blaen. Ac mae gennym ein rhaglenni cymorth allforio, gan gynnwys ein rhaglen digwyddiadau masnach a thramor, ac wrth gwrs, mae ein swyddfeydd dramor yn chwarae rhan bwysig iawn yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu eu hallforion. Ar ben hynny, mae Cymru Greadigol hefyd yn cynnig cymorth arbenigol i fusnesau yn y diwydiannau creadigol, er enghraifft y—

16:50

Rydych chi'n amlinellu rhai o'r materion uniongyrchol y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â hwy, ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, ond mae rhywbeth mwy sylfaenol yma nad ydych chi'n mynd i'r afael ag ef, onid oes, a hoffwn bwyso arnoch i fynd i'r afael ag ef? Oherwydd yr hyn sydd wrth wraidd yr adroddiad pwyllgor hwn yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i ymateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd, ac o ran ei berthynas ag Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd. Ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir ei hymagwedd tuag at yr adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, fel rhan o'i strategaeth ryngwladol. Dyna'r materion polisi sylfaenol y mae gwir angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, ac i fynd i'r afael â hwy gyda mwy o frys nag a wnaeth yn y gorffennol.

16:55

Rwy'n derbyn y pwyntiau hynny'n llwyr, ac awydd y Senedd i gael rhagor o wybodaeth am ein dull gweithredu a'n blaenoriaethau mewn perthynas â'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu. Rwyf wedi nodi rhai o'r blaenoriaethau ehangach sydd gennym o ran gallu pobl i symud, ac yn enwedig pobl ifanc, i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd, a hefyd ein hawydd i barhau i gyflwyno'r achos dros fynediad at raglenni fel Ewrop Greadigol. Felly, fy mwriad heddiw yw canolbwyntio'n benodol ar y sector creadigol yn fy ymateb, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i'r ffordd y cawn sgwrs ehangach yn y Senedd ar y pwyntiau mwy cyffredinol.

Serch hynny, roeddwn eisiau sôn am y gronfa cynnwys ieuenctid. Mae honno'n helpu i fynd i'r afael â cholli mynediad at gyllid cynhyrchu yr UE trwy Ewrop Greadigol. Rwyf hefyd am dynnu sylw at Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cangen ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd unwaith eto'n darparu cefnogaeth ragorol ac yn arwain ar Arts Infopoint UK, sy'n darparu cymorth ymarferol er mwyn i artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau ddeall y rheolau a'r gofynion ar gyfer ymweliadau creadigol â'r DU.

Felly, rwy'n achub ar y cyfle—yn amlwg, mae fy amser ar ben—i ddiolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu hadroddiad defnyddiol iawn, ac i fyfyrio ar y pwyntiau pellach ac ehangach y mae cyd-Aelodau wedi'u codi, a'r awydd i gael trafodaeth ehangach.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Gwnaf i ddechrau gyda Gareth.

Mae'n ddrwg gennyf glywed eich bod yn anghytuno â chywair yr adroddiad. Roedd yn adroddiad unfrydol a enynnodd gytundeb holl aelodau'r pwyllgor, ond rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud eich bod yn parchu'r gwaith a wnaethom. Nawr, byddwn yn parhau i gymryd tystiolaeth ar y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â'r gwaith y cyfeiriais ato ac sydd wedi codi ynglŷn â gweithredu'r cytundeb masnach a chydweithredu. Rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn derbyn y dystiolaeth honno—wel, rwy'n credu ei bod yn bosibl y gallech newid eich meddwl ar rai o'r materion hynny, wrth glywed y dystiolaeth honno'n uniongyrchol. Ond diolch am eich cyfraniad. Felly, diolch, ac mae croeso mawr i chi i'r pwyllgor.

Soniodd Carolyn, a oedd yn aelod o'r pwyllgor tan yn ddiweddar, fod materion diwylliant wedi eu gadael allan o'r cytundeb masnach a chydweithredu a bod hynny wedi bod yn destun gofid. Fe gododd hynny sawl gwaith yn ystod y dystiolaeth hon, Ddirprwy Lywydd, mai pwrpas cytundeb masnach fel arfer yw gwneud pethau'n haws, chwalu rhwystrau. Un o'r pethau mwyaf gwrthnysig am y cytundeb masnach a chydweithredu a phopeth sydd wedi digwydd yn sgil Brexit, yn hyn o beth, yw mai'r gwrthwyneb sy'n wir, ac rwy'n credu mai goresgyn rhywfaint o'r gwrthnysigrwydd hwnnw yw'r her. Fe nododd Carolyn rai o'r cymhlethdodau hefyd, yr haenau dryslyd o gymhlethdod a dogfennaeth. A phwysigrwydd adrodd straeon, yn hollol.

Felly, diolch yn fawr iawn ichi am hynna, Carolyn.

Soniodd Heledd am, ie, y tristwch roeddem ni'n ei glywed, pan aethon ni i Frwsel, am y cyfyngiadau. Ac fel yr oeddem ni fel Cymry yn arfer arwain cymaint o brosiectau, roedd hwnna wedi dod drosodd inni, yn sicr—y pethau coll sy'n mynd tu hwnt i ddata. Ac, ydy, mae diwylliant yn fwy nag arf, fel roeddech chi'n cyfeirio ato. Mae e'n gallu creu cysylltiadau, atal cymaint o wrthdaro ar adeg pan fo cymaint o ryfeloedd dros y byd. Ac ie, dewis oedd ein cadw ni mas o Ewrop Greadigol. Dyna beth sy'n gwneud y peth mor rhwystredig. Dewis oedd e; doedd e ddim yn rhywbeth inevitable oedd yn dod mas o Brexit. Gofynnodd Heledd pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda San Steffan i newid hynna gydag Ewrop Greadigol, ac roeddwn i'n ddiolchgar i glywed ychydig, ac fe wnaf i ddod nôl at hwnna pan rwy'n ymateb i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, fe wnaeth Mick—croeso mawr i chi i'n pwyllgor hefyd—groesawu'r cynnydd yn y cydweithredu sydd wedi digwydd rhwng y DU a'r UE. Rydym yn byw mewn gobaith y bydd hynny'n dwyn mwy o ffrwyth, wrth gwrs. Soniodd Mick am y dystiolaeth gan Undeb y Cerddorion ynglŷn â gostyngiad yn nifer yr archebion: dywedodd 59 y cant nad yw teithio yn yr UE bellach yn ymarferol yn ariannol. Unwaith eto, mae'r ffaith bod dewis wedi'i wneud i hepgor hyn o gytundebau yn ei wneud yn fwy chwerw i gynifer o'r bobl a roddodd dystiolaeth i ni.

Alun, mae diwylliant Cymreig yn ddiwylliant Ewropeaidd cynhenid. Rwy'n meddwl am y map a ganfuwyd mewn eglwys anghysbell yn yr Eidal oddeutu 200 mlynedd yn ôl, rwy'n credu, a'r unig ddau le a nodwyd ar y map ar yr ynysoedd hyn oedd Llundain a Merthyr Tudful. A phan feddyliwn am lenyddiaeth Gymraeg, barddoniaeth Aneurin, Taliesin—cânt eu dathlu ledled Ewrop fel y llenyddiaeth hynaf sydd wedi goroesi yn Ewrop gyfan. Mae ein diwylliant yn gynhenid Ewropeaidd.

Roedden ni'n sôn ddoe, fel roedd Alun yn sôn am Dafydd El yn y Siambr, am ba mor bwysig oedd hwnna, ac os caf i ddweud yn bersonol cymaint byddai cymaint o hyn, rwy'n siŵr, yn torri ei galon e, a dwi'n siŵr yr oedd e wedi yn y blynyddoedd mwy diweddar.

Gorffennodd Alun drwy ddweud bod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â phobl yn siarad, yn rhannu etifeddiaeth gyffredin, y pethau yr ydym i gyd yn eu rhannu, a sut y mae pawb ohonom ar ein colled o ganlyniad.

Nawr, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu artistiaid. Rwy'n credu bod pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon wedi cydnabod yr anawsterau hynny. Mae'n braf clywed y bydd ein gwaith yn helpu i lunio gwaith gan y Llywodraeth yn y dyfodol, rwy'n croesawu hynny, ac rwyf hefyd yn croesawu clywed yr hyn a ddywedoch chi am Ewrop Greadigol, oherwydd fe siaradoch chi am gyfleoedd i obeithio. Nawr, byddai hynny'n dod â chymaint o obaith i gymaint o bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae'n dda clywed bod hynny ar frig y trafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'ch cymheiriaid yn San Steffan. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am hynny, a diolch hefyd am dawelu ein meddyliau ynglŷn â'r gwaith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth ar hyn. Wrth gwrs, mae cyfleoedd i obeithio—rwy'n siarad am hynny eto. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu—rwy'n credu, fel pwyllgor, y byddem ni, o ystyried y dystiolaeth, eisiau gweld y cytundeb masnach a chydweithredu'n cael ei ddiwygio, nid mewn ffyrdd bach yn unig, ond y gallai newid sylfaenol ddigwydd. Roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a ddywedoch chi am hynny'n ennyn chwilfrydedd. Gobeithio y bydd yna newid. Gadewch inni obeithio. Rhaid i ni fyw; rhaid inni ddal i obeithio gyda rhywbeth fel hyn. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, y bydd y Llywodraeth yma yn parhau i godi llais ynghylch y pwyntiau hyn yn y trafodaethau gyda San Steffan.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd dod o hyd i ddatrysiadau—. Llywydd; mae'n flin gen i. Rŷn ni fel pwyllgor yn clodfori'r rhai sy'n gweithio i ffeindio datrysiadau. Rŷn ni wedi croesawu'r gwellhad sydd wedi'i weld rhwng cysylltiadau rhwng y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd ers cwblhau'r fframwaith Windsor. [Torri ar draws.] Bendith. Mae'r cyfleoedd posib y mae hyn yn eu hagor yn rhoi gobaith i ni y gall datrysiadau fod o fewn cyrraedd os oes digon o ewyllys a phenderfyniad.

Nawr, wrth gwrs, materion strategol i'r Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd ydy'r rhain yn y fan cyntaf. Ein cred ni yw y byddai'r datrysiadau hyn ar gyfer gweithwyr creadigol i'w ffeindio wrth symlhau prosesau, eu eglurhau nhw'n well. Fel pob amser gyda sgil-effeithiau Brexit, rhaid inni edrych y tu hwnt i'r data i weld yr effaith real ar fywydau pobl. Dyna oedd yn dod mas o'r dystiolaeth. Rŷn ni oll yn elwa o'r gelfyddyd sy'n cael ei greu gan yr artistiaid hyn, ac mae gennym ni oll rôl bwysig i'w chwarae i helpu'r sector.

Gwnaf i ddweud wrth gloi, Llywydd, wrth y sector, fod yr adroddiad hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad ni fel pwyllgor i chi. Allwn ni ddim fforddio rhoi lan, a wnawn ni ddim. Rŷn ni'n ddiolchgar iawn i chi unwaith eto am eich dyfalbarhad, eich ymrwymiad chi i'ch gwaith. Rhaid inni sicrhau dyfodol gwell a haws i'n hartistiaid, lle gall golau dreiddio unwaith eto i oleuo'r ffordd.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant. I'r ddadl yma, galwaf ar Altaf Hussain i wneud y cynnig—Altaf Hussain.

Cynnig NDM8821 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Cafodd fy nghyd-Aelodau a minnau ein cyffwrdd yn fawr gan stori Emily Vaughn. Cawsom ein hysbrydoli i gyflwyno'r cynnig hwn heddiw gan ei dewrder yn galw am ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol. Disgrifiodd Emily, er nad dyna yw ei henw go iawn, yn ddirdynnol o fanwl y driniaeth a gafodd gan gang meithrin perthynas amhriodol. Yn 11 oed, cafodd ei gorfodi i fasnachu cyffuriau i gang yn gweithredu llinellau cyffuriau. Mae'n dorcalonnus. Gorfodwyd y ferch ifanc hon i guddio cyffuriau yn ei bandiau gwallt neu yn ei dillad i gario cyffuriau i ddefnyddwyr. Yna fe wnaethant symud ymlaen o'i gorfodi i gludo cyffuriau i orfodi eu hunain arni, gan ei darostwng i gam-drin rhywiol. Yna, cafodd y plentyn ei masnachu o'i chartref yn ne Cymru i Telford, lle dioddefodd ymosodiadau rhywiol cyson. Yn dilyn digwyddiad pan gafodd ei bygwth â chyllell, ffoniodd Emily 999, ond pan glywodd gweithredwr yr alwad ei bod yn dod o Gymru, dywedodd wrthi am gysylltu â'i heddlu lleol, a'i gadael heb gymorth.

Wrth siarad am ei blynyddoedd o gamdriniaeth ac artaith, dywedodd Emily:

'Pan ddywedais wrth yr heddlu gyntaf beth oedd wedi digwydd i mi, ni wnaethant fy helpu. Nid oeddent yn gwybod beth oedd hyn hyd yn oed, nac yn deall beth oeddent yn ei wneud.'

Ac yn anffodus, fe wyddom o ymchwiliad annibynnol y DU fod stori Emily ymhell o fod yn unigryw—merched a bechgyn yn cael eu masnachu a'u cam-drin, a'u hanwybyddu gan y rhai sydd i fod i'w diogelu.

Mae stori Emily yn gorffen yn eithaf da. Os gall unrhyw beth da ddod o'i dioddefaint erchyll, mae hi'n dadlau dros ddioddefwyr eraill, ac yn ymgyrchu'n frwd i sicrhau nad oes neb arall yn dioddef y gamdriniaeth a ddioddefodd hi. Mae hi wedi condemnio'r rhai sy'n ceisio mygu dadleuon am gamfanteisio'n rhywiol ar blant a gangiau meithrin perthynas amhriodol. Unwaith eto, yn ei geiriau ei hun,

'po fwyaf y byddwch chi'n siarad amdano, y mwyaf o blant sydd mewn perygl o ddioddef yn sgil meithrin perthynas amhriodol y gellir eu hachub.'

Mae Emily wedi lansio deiseb yn galw am ymchwiliad ledled Cymru am ei bod yn credu bod Llywodraeth Cymru yn anghywir pan fo'n dweud nad oes problemau eang ar hyn o bryd gyda gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru. Rwy'n ei dyfynnu eto:

'Edrychwch ar fap y DU—a yw gwleidyddion yn credu bod gangiau meithrin perthynas amhriodol yn rhoi'r gorau iddi yng Nghymru? Nid yw pobl sy'n camfanteisio ar blant yn poeni am ffiniau.

'Nid ydynt yn symud o lefydd fel Lerpwl, Newcastle, Rhydychen neu Telford, ac yna'n sydyn yn dweud "o na, ni allwn fynd i Gymru".'

17:05

Diolch, ac rwy'n cytuno ag ef, mae'r rhain yn straeon arswydus, ac mae'n hollol iawn na ddylai neb fygu trafodaeth ar hyn, a dylem wynebu pa mor erchyll ydyw, ble bynnag y mae'n arwain. Rwyf am ofyn iddo: mae ei gyd-Aelod, Andrew R.T. Davies, wedi canolbwyntio'n benodol yn ei gwestiynau ar rôl yr hyn y mae'n ei alw'n 'ddynion Pacistanaidd' mewn gangiau meithrin perthynas amhriodol. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffocws cywir. A yw'n cytuno?

Wel, rydym yma, ni waeth beth fo'n lliw, hil, crefydd. Rydym i gyd gyda'n gilydd yma fel cymuned, fel cenedl. Dylem i gyd fod gyda'n gilydd yn sicrhau nad yw'n digwydd, beth bynnag am—. Ni allwch feio'ch gilydd, na; rydym i gyd gyda'n gilydd yn hyn. Diolch.

Rydym yn cytuno bod—[Anghlywadwy.]—mae meithrin perthnasoedd amhriodol yn digwydd ar draws ein cenedl ac mae angen ymchwiliad ledled Cymru i fynd i'r afael â'r problemau yma gartref. Fel Cymro balch, nid drwy enedigaeth, fel y mae llawer ohonom yn ei honni, ond drwy argyhoeddiad, rwyf am i fy Nghymru i fod yn ddiogel, yn ddiogel i'n teuluoedd, i'n plant a phlant ein plant. Fel y dywedais o'r blaen, nid yw gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gyfyngedig i unrhyw grŵp unigol. Maent yn dod o bob cefndir, o bob hil a chrefydd. Amcangyfrifodd yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, a elwir yn ymchwiliad Jay, fod un o bob chwech o ferched ac un o bob 20 bachgen yn profi cam-drin rhywiol cyn eu bod yn 16 oed. Mae'n gywilyddus. Canfuwyd tystiolaeth o gam-drin a chamfanteisio rhywiol ar blant ar lefel gyfundrefnol gan gangiau troseddol ar draws fy rhanbarth, ond roeddent yn credu bod yr heddlu ac awdurdodau eraill yn gwneud llai o beth ohono oherwydd pryderon ynghylch cyhoeddusrwydd negyddol. Mewn tystiolaeth i ymchwiliad Jay, derbyniodd y ditectif brif uwch-arolygydd Daniel Richards ei bod hi'n bosibl fod yna rwydweithiau troseddol cyfundrefnol sydd eto i'w darganfod a bod mwy o weithgarwch llinellau cyffuriau yn golygu bod mwy o debygolrwydd o gamfanteisio rhywiol. Yn anffodus, daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad problem sy'n perthyn i'r gorffennol yw cam-drin plant, ac mae'r ffrwydrad mewn cam-drin plant yn rhywiol a hwylusir ar-lein yn tanlinellu'r graddau y mae'r broblem yn epidemig yng Nghymru a Lloegr.

Caiff ei gyflawni gan ddynion a menywod o bob math o gefndir, nid rhai sy'n aelodau o gangiau troseddol yn unig. Mae euogfarnau proffil uchel diweddar yn cynnwys offeiriaid, athrawon a hyd yn oed swyddogion yr heddlu. Pan gyfarfu'r sefydliad hwn am y tro cyntaf, cafodd ei groesawu gan 'Ar Goll Mewn Gofal', yr adroddiad ar gam-drin plant systemig yng nghartrefi gofal gogledd Cymru. A dros y blynyddoedd, gwelsom euogfarnau proffil uchel i gamdrinwyr plant, gan gynnwys aelod o'r sefydliad hwn, yn ogystal â'n harchwiliwr cyffredinol. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cafwyd cwnstabl heddlu o Ben-y-bont ar Ogwr yn euog o feithrin perthynas amhriodol â 210 o ferched ifanc a blacmelio llawer ohonynt i gyflawni gweithredoedd rhywiol. Fe wnaeth fygwth lladd rhieni merch 12 oed os na fyddai'n anfon fideos rhywiol ato. Y llynedd, o'r diwedd fe welsom Neil Foden, pennaeth, yn cael ei ddedfrydu'n euog o feithrin perthynas amhriodol ac o gam-drin pedair o'i ddisgyblion yn rhywiol. Ychydig wythnosau yn ôl, llwyddodd offeiriad i osgoi carchar er bod ganddo ddelweddau anweddus o blant mor ifanc â thair oed yn ei feddiant, ac yn y dyddiau diwethaf, mae cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu wedi cyfaddef sawl cyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol. 

Ni allwn anwybyddu bygythiad camfanteisio rhywiol a cham-drin rhywiol i'n plant. Ni allwn honni, oherwydd nad ydym wedi cael sgandal fel un Rotherham neu Rochdale, nad yw gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu ar yr ochr hon i Glawdd Offa. Fe wyddom eu bod, os ydym yn gwrando ar y dioddefwyr ac yn anwybyddu'r awdurdodau sy'n ceisio gwneud llai o'r bygythiad oherwydd cyhoeddusrwydd negyddol. Edrychodd ymchwiliad Jay ar un rhan fach o Gymru. Felly, nid ydym yn gwybod yn swyddogol beth yw maint y broblem ar draws ein gwlad, ond mae hyd yn oed un dioddefwr cam-drin plant yn rhywiol yn un yn ormod. Gall Llywodraeth Cymru ddadlau bod ymchwiliad Jay yn ddigon, ond mae dioddefwyr fel Emily yn gwybod nad yw hynny'n wir. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn yr holl argymhellion a wnaed gan yr ymchwiliad annibynnol i'r cam-drin hwn. Yr unig ffordd y gallwn drin dioddefwyr â thosturi yw sicrhau cyfiawnder iddynt a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef yn dawel, ein bod yn gwrando ar ddioddefwyr. Ac mae dioddefwyr fel Emily yn crefu am ymchwiliad ledled Cymru i ecsbloetio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol. Rwy'n annog yr Aelodau i wrando ac i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

17:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 1. Sioned Williams. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a'i ddisodli gyda'r canlynol:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.

2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.

3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;

b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;

c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a

d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae hon yn ddadl bwysig a rhaid inni ddysgu o fethiannau’r gorffennol a rhaid inni wrando ar ddioddefwyr a goroeswyr, rhaid inni ddiogelu plant rhag camfanteisio, a rhaid inni ymrwymo i newid gwirioneddol, parhaol. Ac rwy’n siŵr fod pob Aelod yma’n cytuno â hynny. Dyma pam y mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n mabwysiadu dull o fynd i’r afael â chamfanteisio ar blant sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr ac sy’n cael ei arwain gan y dystiolaeth, oherwydd rhaid inni beidio â gwneud hwn yn fater gwleidyddol o gwbl, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd ar drywydd y ffordd orau o sicrhau gweithredu ac atebolrwydd er mwyn dioddefwyr a goroeswyr. Ni ddylem byth anghofio’r ffordd frawychus y maent wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol. Ac os bydd rhai dioddefwyr a goroeswyr yn teimlo bod llai wedi’i wneud o hyn, os ydynt yn teimlo bod unrhyw un ohonom mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru wedi rhoi’r argraff ein bod yn teimlo nad yw hon yn broblem i ni, nad yw’n rhywbeth sy’n digwydd yma, y ​​ddadl hon yw ein cyfle ni i dawelu eu meddyliau, i roi ein hymrwymiad iddynt y bydd camau’n cael eu cymryd, ac yn cael eu cymryd nawr. O ystyried natur wirioneddol erchyll y troseddau hyn yn erbyn rhai o’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, mae’n ddealladwy fod pobl wedi gwylltio. Mae pob un ohonom eisiau gweld gweithredu ac atebolrwydd, a chael ein sicrhau y caiff hyn ei atal ac y caiff ei rwystro rhag digwydd eto. Credwn mai’r galwadau a wnawn yn ein gwelliannau ar Lywodraeth Cymru yw’r ffordd orau o gyflawni hyn. Rhaid inni weld argymhellion adroddiad Jay yn cael eu rhoi ar waith heb unrhyw oedi pellach.

Cafodd y chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol dan arweiniad yr Athro Jay eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, ond mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch arafwch eu gweithredu ac rwyf am fanylu ar rai o’r pryderon a godwyd ynglŷn â hyn a thynnu sylw at pam y mae angen eu gweithredu’n llawn ac ar fyrder fel yr amlinellwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Wrth ymateb i’r ddadl, rwy’n siŵr y cawn glywed diweddariad llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae angen asesiad gonest, dim sbin, o ble y mae’n rhaid canolbwyntio camau gweithredu, pa adnoddau a gaiff eu dyrannu, ac amserlenni pendant sy’n adlewyrchu’r brys am y gwaith hwn. Er mai un o’r argymhellion yng nghynllun blynyddol swyddfa'r comisiynydd plant ar gyfer 2022-23 oedd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cynllun gweithredu cenedlaethol diwygiedig ar atal cam-drin plant yn rhywiol yn ymateb yn effeithiol i argymhelliad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ac ymgorffori safbwyntiau plant a phobl ifanc yn sensitif, mae’n destun pryder nad oes unrhyw gynllun newydd wedi'i gyflwyno ers hynny. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sylw i hynny yn ei hymateb.

Mae pryderon wedi’u lleisio hefyd gan y comisiynydd plant ynghylch agweddau eraill ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r argymhellion a’r adnoddau sydd eu hangen, gan gynnwys sefydlu awdurdod diogelu plant i Gymru ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio’r cyfle i gyflwyno mecanwaith goruchwylio mwy cynhwysfawr ar gyfer materion diogelu plant ledled Cymru. Nid yw’r unig Weinidog sydd â ‘plant’ yn ei theitl a diogelu yn ei chyfrifoldebau yn swydd uwch ar lefel y Cabinet. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i adolygu a yw ei hymateb gwan i argymhelliad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylid cael Gweinidog Cabinet ar gyfer plant fod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a bod gan y Cabinet gyfrifoldeb ar y cyd yn ddigonol. Mae hefyd yn amlwg fod yn rhaid inni weld mwy o fanylion am y camau sy’n cael eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd adrodd orfodol yr amlygwyd yr angen amdani gan achos Foden wrth gwrs.

Ac ar yr argymhelliad am gymorth therapiwtig arbenigol i blant sy’n ddioddefwyr cam-drin rhywiol, mae gwir angen inni weld gweithredu brys ar hyn. Mae gwasanaethau cymorth arbenigol yn nodi nad yw’r cymorth sydd ar gael yn gyson ym mhob rhan o Gymru, gyda llawer o rannau o Gymru heb wasanaeth o gwbl a lle mae gwasanaethau, mae rhestrau aros yn hir. Maent yn dweud bod angen comisiynu cydweithredol rhwng awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd, wedi ei fandadu'n genedlaethol gan Lywodraeth Cymru nawr, gan y bydd gwasanaethau'n cymryd amser i ddatblygu. Bydd angen adnoddau priodol ar gyfer gweithredu hyn a'r holl argymhellion, a rhaid ei wneud yn flaenoriaeth ariannu.

Mae’r grŵp ymgyrchu Gweithredu ar Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol  yn pwyso am linell amser glir ar gyfer mabwysiadu’r argymhellion hanfodol hyn, ac mae Ymddiriedolaeth y Goroeswyr yn galw’r argymhellion yn fap ffordd i weithredu arno nawr. Mae’r Athro Jay wedi rhybuddio y byddai ymchwiliad arall yn gohirio cyfiawnder i oroeswyr, a rhaid mai dyna’r flaenoriaeth. Mae angen inni sefydlu maint a natur y broblem ac nad yw ein gwelliannau yn gwadu’r angen am ymchwiliad os yw’r dystiolaeth a gesglir gan y camau yn dynodi bod angen un. Yn hyn o beth, bydd data’r heddlu yn hanfodol, ond ni fydd yn ddigon ar ei ben ei hun; bydd angen mewnbwn sefydliadau trydydd sector, gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau iechyd ac yn bwysicaf oll, goroeswyr. Trwy weithredu holl argymhellion adroddiad Jay yn ddi-oed, trwy ymgysylltu â’r holl sefydliadau ar y rheng flaen sy’n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr, trwy weithio gyda heddluoedd Cymru ac eraill i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda throsolwg priodol a thrwy sicrhau cydweithrediad â’r archwiliad ar gyfer y DU gyfan a arweinir gan y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau, mae’n bosibl inni sefydlu natur a maint y broblem hon a mynd i’r afael â hi. Mae llawer o oroeswyr a dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u siomi, ac nid yw gwrando arnynt yn unig yn ddigon. Rhaid inni weld gweithredu, a rhoi’r flaenoriaeth i weithredu nawr. Dyma'r hyn y gellir ac y mae'n rhaid ei gyflawni er mwyn y rhai sydd wedi dioddef yn annioddefol ac sydd wedi cael cam mewn modd sy'n annerbyniol.

17:20

Yn gyntaf ac yn bennaf, hoffwn dalu teyrnged i bob un o'r dioddefwyr ledled Cymru sydd wedi siarad a rhannu eu straeon. Lywydd, y dioddefwyr sydd wrth wraidd ein cynnig yma heddiw. Nid yw hyn mewn unrhyw ddull na modd yn ymwneud â sgorio pwyntiau gwleidyddol; mae a wnelo hyn yn unig â chefnogi dioddefwyr y troseddau erchyll hyn trwy gael darlun cliriach o raddfa’r sefyllfa a chymryd camau yn sgil hynny i atal camfanteisio rhywiol yn y dyfodol. Rwy’n credu mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy gomisiynu ymchwiliad Cymru gyfan i gamfanteisio rhywiol gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Mae pawb ohonom yn gwybod bod gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yma yng Nghymru, yn targedu plant, ond nid yw maint y broblem yn ei chyfanrwydd yn hysbys o hyd. Mae Emily Vaughn, nid ei henw iawn, y gwn y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau’n cyfeirio ati heddiw o bosibl, yn un o’r dioddefwyr y gwyddom eu bod wedi dioddef camdriniaeth erchyll gan gang meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru. Mae Emily wedi siarad am y gamdriniaeth ddieflig a ddioddefodd ac mae wedi cefnogi galwadau am ymchwiliad i Gymru. Cafodd ei masnachu o dde Cymru i Telford pan oedd hi’n blentyn, a dechreuodd y gamdriniaeth ddirdynnol pan oedd hi ond yn 11 oed. Golygodd ei bod wedi ei meithrin yn amhriodol i ddod yn fasnachwr cyffuriau yn ddiweddarach, ac yna, yn anffodus, gwaethygodd y gamdriniaeth erchyll. Cyn ei bod yn 20 oed, roedd hi wedi cael ei threisio dros 1,000 o weithiau.

Lywydd, mae bywyd y fenyw ifanc hon wedi’i ddifetha gan y bodau anynnol hyn, ac efallai mai’r hyn sy’n fwy torcalonnus byth yw fy mod yn ofni bod cyfleoedd wedi bod i atal y gamdriniaeth hon, ond fe’u methwyd. Methodd yr heddlu ei helpu. Ar un achlysur, fe ffoniodd yr heddlu pan gafodd ei bygwth gan gyllell yn Telford, ac ar ôl clywed ei bod yn dod o Gymru, dywedodd yr unigolyn a dderbyniodd yr alwad wrth Emily am ffonio ei heddlu lleol. Rydym i gyd yn ymwybodol nad yw’r mecanwaith presennol sydd ar waith yn gweithio, gydag ymchwiliad annibynnol saith mlynedd o hyd i gam-drin plant yn rhywiol yn disgrifio’r mecanwaith fel un sylfaenol ddiffygiol ac na all ddiogelu plant agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu meithrin yn amhriodol, a’u gorfodi a’u bygwth.

Cymerodd ymchwiliad yr Athro Alexis Jay dystiolaeth gan 6,000 o ddioddefwyr dros gannoedd o ddyddiau, gan edrych ar gamdriniaeth mewn amrywiaeth o leoedd, yn cynnwys ysgolion, cartrefi plant ac eglwysi. Canfu’r ymchwiliad fod plant wedi cael eu niweidio yma a thramor gan unigolion a rhwydweithiau pedoffiliaid, gan gynnwys gangiau meithrin perthynas amhriodol, ar strydoedd Prydain. Roedd casgliad yr Athro Jay yn ddamniol. Dywedodd fod y genedl wedi cael ei chreithio gan epidemig a adawodd filoedd o ddioddefwyr yn ei sgil.

Lywydd, yr unig le yng Nghymru yr edrychodd yr ymchwiliad arno oedd Abertawe, a dyna pam y mae angen inni gael ymchwiliad trylwyr yn edrych ar ardaloedd eraill ym mhob cwr o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol nad oes problem eang ar hyn o bryd gyda gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru, ond sut y gall y Llywodraeth fod mor sicr? Gwyddom o ffigurau StatsCymru fod yna 2,400 o achosion o gamfanteisio ar blant rhwng 2022 a 2023. Roedd hyn yn cynnwys achosion yr adroddwyd amdanynt o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, camfanteisio troseddol ar blant a masnachu plant.

Lywydd, mae Emily bellach yn gweithio’n ddiflino gyda phobl sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, ac mae’n hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod dioddefwyr posibl masnachu mewn pobl. Hoffwn rannu yma heddiw yn y Siambr rai o'r geiriau a ysgrifennodd Emily ar gyfer yr elusen Causeway, sy’n cefnogi goroeswyr caethwasiaeth fodern.

‘Pan oeddwn i’n tyfu i fyny nid oeddwn erioed wedi clywed am fasnachu mewn pobl, ecsbloetio, na meithrin perthynas amhriodol, felly pan ddigwyddodd i mi a fy ffrindiau, nid oedd gennym eiriau i geisio esbonio neu ddisgrifio beth oedd yn digwydd i ni.

'Fel pobl ifanc yn ein harddegau, cawsom ein cyflwyno i gyffuriau gan ddynion hŷn, a byddent yn prynu alcohol i ni, a thra oeddem dan ei ddylanwad, fe wnaethant ein treisio. Cawsom ein harwain i gredu nad oedd yn beth mawr; mai ‘dim ond rhyw' ydoedd, ond roedd yn drawmatig.

'Aethom yn gaeth i gyffuriau, ac roedd y dynion hyn yn mynd â ni o amgylch y wlad i dai lle roedd dynion eraill yn aros. Roedd arnom ofn, ac roeddem yn teimlo nad oedd gennym unrhyw ddewis. Dros gyfnod o bum mlynedd, cefais fy ngorfodi i gysgu gydag oddeutu 1,500 o ddynion.

'Dim ond pan oeddwn i'n hŷn y gallwn edrych yn ôl ar yr hyn roeddwn i a fy ffrindiau wedi bod drwyddo, a gwybod bod yr hyn a ddigwyddodd i mi yn drosedd. Gwneuthum fy ymchwil a dechrau dysgu'r geiriau, a chwilio am help. Cefais fy nghyfeirio am gymorth caethwasiaeth fodern, a nawr rwy’n helpu pobl ifanc eraill i adnabod camfanteisio pan fo'n digwydd iddynt, a ble i gael help.

'Yn y DU mae miloedd o bobl ifanc yn cael eu targedu gan gangiau meithrin perthynas amhriodol neu'n cael eu gorfodi drwy gamfanteisio troseddol neu rywiol. Gall fod yn hynod o unig a dryslyd i’r bobl yr effeithir arnynt, ac yn aml nid ydynt yn sylweddoli bod cymorth ar gael iddynt, neu fod yr hyn y mae’r camdriniwr yn ei wneud iddynt yn anghywir.’

Lywydd, mae’r hanes dirdynnol hwn yn tynnu sylw at yr angen am ymchwiliad fel y gallwn i gyd wneud yr hyn a allwn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn arall yn dioddef yr erchyllterau a’r trawma y bu’n rhaid i Emily fynd drwyddynt. Mae angen inni gael gwell dealltwriaeth o raddfa’r drosedd warthus hon, a rhaid inni ddod at ein gilydd a gwneud popeth yn ein gallu i atal y camfanteisio rhywiol echrydus sy’n digwydd yma yng Nghymru. Fel y dywedodd fy nghyfaill a'r AS Ceidwadol, Mims Davies, mae angen diogelu ein merched a’n hwyresau. Ni ddylem adael i unrhyw beth ein rhwystro rhag cyflawni hyn, ac rwy’n mawr obeithio y bydd yr holl Aelodau yma yn y Siambr heddiw yn cefnogi ein cynnig. Diolch.

17:25

Rwy'n sefyll yma fel rhywun sydd wedi gweithio yn y maes diogelu plant ers dros 25 mlynedd, fel y bydd sawl un ohonoch chi'n gwybod; ac mae fy mhriod yn dal i weithio yn y maes hwnnw. Rwy'n sefyll yma hefyd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant yn ein gofal.

Mae pawb ohonom yn gwybod bod hwn yn fater cwbl warthus, ac mae’n fater echrydus sy’n digwydd nawr yn ein trefi, yn ein cymunedau, yn ein pentrefi, ac mae’n iawn ein bod yn siarad amdano. Mae’n bwysig inni barhau i ddadlau a thrafod y mater hwn. Pan oeddwn yn gweithio yn y maes, byddem yn siarad ynglŷn â'r ffordd roedd cam-drin plant yn rhywiol yn rhywbeth a oedd weithiau dan glo yn y cwpwrdd yn y tywyllwch. A'r peth anodd oedd troi'r golau ymlaen, oherwydd cyn gynted ag y byddwch chi'n troi'r golau ymlaen, roedd y tywyllwch hwnnw'n dechrau cilio. A dyna'n union y dylem ei wneud yma heddiw, a dyna rydym yn ei wneud yma heddiw.

Ni fyddaf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr; rwy’n cefnogi cynnig Plaid Cymru oherwydd y manylder sydd ynddo. Nid wyf yn credu y dylid cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi cael ymchwiliad manwl iawn, ac rydym wedi cael chwe argymhelliad gan Alexis Jay, ac rwyf am glywed gan y Gweinidog sut y caiff y rheini eu gweithredu, a byddaf yn ymyrryd ar y Gweinidog os na chlywn hynny.

Rydym i gyd wedi sôn am ddewrder y plant a’r bobl ifanc, ac yn wir, rwyf wedi gweithio gyda llawer ohonynt, ac mae’n dorcalonnus. Dyma'r peth anoddaf un i blentyn siarad amdano. Rwyf am dalu teyrnged i’r asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y maes hwn nawr, ac mae hynny’n cynnwys yr asiantaethau statudol. Weithiau, mae’n hawdd inni eu beirniadu, ond mewn gwirionedd, mae’r gwaith a wnânt dan bwysau aruthrol yn rhyfeddol ac maent yn cerdded y filltir ychwanegol.

Rwyf am siarad ychydig am y grŵp trawsbleidiol, oherwydd mae hwnnw’n cynnwys asiantaethau statudol ac asiantaethau gwirfoddol. Cefais y fraint o weithio yn y ddau fath o asiantaeth, a gallaf ddweud wrthych beth yw'r gwahaniaeth rhyngddynt: os yw plentyn am ddweud wrth rywun am rywbeth ofnadwy sydd wedi digwydd iddynt, fel rheol ni fyddant yn dweud wrth yr asiantaeth statudol, byddant yn dweud wrth yr asiantaeth wirfoddol. Mae angen inni weld mwy o gyllid yn mynd tuag at ein hasiantaethau gwirfoddol a’n hasiantaethau trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu cyflawni’r rôl wirioneddol bwysig hon, a hoffwn glywed gan yr aelod o'r Cabinet am ei hymrwymiad i hynny.

Mae'r iaith yn y maes hwn mor bwysig. Rydym yn talu teyrnged i’r plant a’r bobl ifanc hynny, ond rwy'n rhybuddio rhag defnyddio’r geiriau 'gangiau meithrin perthynas amhriodol’. Ni ddefnyddir yr ymadrodd hwnnw yn unman yn adroddiad Jay; mae hi’n sôn am rwydweithiau cyfundrefnol. A'r rheswm rwy'n dweud hynny yw oherwydd bod 'gangiau meithrin perthynas amhriodol' wedi'i ddefnyddio ac yn anffodus, bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio gan y dde i gymell ymdeimlad o ddicter a chynddaredd, mae arnaf ofn, fel y dylai fod, wrth gwrs. Ond dylid rhoi hwnnw ar waith yn ymarferol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi’r cynnig am y rheswm hwnnw hefyd. Rhaid i'r iaith fod yn sensitif iawn a chael ei defnyddio'n ofalus. Rydym am ddod â phlant a phobl ifanc gyda ni; rydym am wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn cael gofal.

Mae angen inni wneud yn siŵr, yn ein rolau yma, ein bod yn symud y ddadl hon yn ei blaen, ac felly, rwy’n ddiolchgar i’r Ceidwadwyr am ei chyflwyno. Ond ym mhob dim, rhaid iddo ganolbwyntio ar y plentyn, rhaid iddo ymwneud â gwrando ar y plant a'r bobl ifanc hynny, ac rwyf wedi gwrando ar lawer ohonynt dros flynyddoedd lawer. Mae mor bwysig fod ein hiaith a’n hymddygiad yma yn barchus tuag atynt, a gwn fod hynny’n wir, ond hefyd ein bod yn defnyddio’r iaith gywir, sy’n dod â phawb draw i fan lle’r ydym yn diogelu'r plant a’r bobl ifanc hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol a gwerth chweil. Dyna y credaf y bydd y ddadl hon y prynhawn yma yn ei wneud. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Rwy’n falch iawn fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, yn dilyn y ddeiseb annibynnol gan Emily, y dioddefwr dewr o dde Cymru. Mae cymaint o blant wedi cael eu siomi gan sefydliadau ledled Prydain drwy gydol y sgandal hon, ac mae’n hollbwysig ein bod yn atal rhagor rhag dioddef yn yr un modd.

Nid wyf am ailadrodd yr hyn sydd eisoes wedi'i ddweud mor huawdl gan fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr. Rydych chi wedi siarad mor dda. Ond mae’n hollbwysig fod sefydliadau fel y lle hwn yn rhoi llais i’r di-lais, ac mae cynnal y ddadl hon yn gam i’r cyfeiriad cywir. Rydych yn llygad eich lle.

Mae'r hyn rydym wedi'i glywed heddiw eisoes am stori Emily, a'r hyn a wyddom am straeon eraill, yn ddirdynnol, yn annifyr ac yn anodd ei glywed. Mae'r mater yn llawer mwy na gwleidyddiaeth, ac yn sicr, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod ar y meinciau gyferbyn ar ddechrau ei haraith, nid yw'n ymwneud â gwleidyddiaeth plaid mewn unrhyw ffordd. Rwy'n gwrthod yn llwyr yr honiad a wnaed gan Aelod Seneddol Mynwy, Catherine Fookes, mai stỳnt wleidyddol oedd pleidleisio o blaid ymchwiliad.

Credaf fod Llywodraeth Lafur y DU wedi camgymryd y cywair yn llwyr pan ofynnodd y Ceidwadwyr yn San Steffan am ymchwiliad cenedlaethol. I’r ASau Llafur y bydd ganddynt rieni pryderus a phlant agored i niwed ymhlith eu hetholwyr, credaf fod defnyddio iaith o'r fath, fel y dywedwyd eisoes, yn destun cryn ofid. A chan fod peth amser wedi pasio nawr, rwy'n gobeithio bod ein cyd-wleidyddion Llafur wedi cael cyfle i fyfyrio.

Yn y bôn, mae’n rhaid inni gael ymchwiliad yma yng Nghymru, er mwyn inni allu deall graddau llawn y broblem yma yng Nghymru. Dylai’r posibilrwydd, hyd yn oed os yw’n fychan, y gallai’r sgandal hon ymestyn i blant yng Nghasnewydd, yn Nhrefynwy, yn Nhorfaen, yn unrhyw le yng Nghymru, ein cadw'n effro yn y nos. Mae'n ddyletswydd arnom i'r dioddefwyr ac i'r plant i beidio â gadael unrhyw garreg heb ei throi a bod yn gwbl sicr nad yw hyn yn digwydd. Nid yw'n werth mentro. Nid yw hyd yn oed yn ddigon gobeithio nad yw'n digwydd. Mae’n rhaid inni fod yn siŵr, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw.

Ysgrifennais adroddiad yn 2009 o'r enw 'Knowing No Boundaries’. Roedd yn ymwneud â masnachu pobl, ac roedd yn ymwneud â masnachu pobl er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol. Ac o ganlyniad i hynny, rydym wedi cael cydgysylltydd atal masnachu pobl yng Nghymru. Diben y rôl honno yw cydgysylltu’r holl gamau gweithredu y byddai eu hangen i sicrhau bod cyflawnwyr yn mynd o flaen eu gwell, ac y gallai dioddefwyr neu oroeswyr weld ffordd ymlaen.

Felly, roedd hynny ymhell yn ôl, ac roeddwn i ac eraill yn cydnabod bod angen gweithredu yma yng Nghymru. Ond yr hyn rwy’n ei weld weithiau yw newid sydd wedi digwydd yn ddiweddar iawn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ymhell ar ôl yr adroddiad hwnnw, ac mae'n ymwneud â rhannu delweddau rhywioledig o blant ar y rhyngrwyd. A’r hyn a glywaf yn aml iawn yn y llysoedd yw categoreiddio'r delweddau hynny, a'r camau dilynol gan y rhai sy’n cyflawni’r drosedd honno ar yr unigolion.

Nawr, yn fy marn i, nid yw'n fater o faint o ddelweddau sydd gan unigolyn ac y mae grwpiau cyfundrefnol yn eu rhannu, fel rydych chi newydd ei ddweud. Mae a wnelo â'r niwed a wneir i'r plentyn ac i'w deulu. A chredaf ei bod yn bryd inni ddeffro yma a rhoi'r gorau i gategoreiddio'r delweddau hynny. Maent yn niweidiol, ni waeth i ba raddau. Dro ar ôl tro, pan welaf y farnwriaeth yn gadael i ddynion gerdded allan o’r llys am fod eu troseddau wedi'u categoreiddio’n is nag y gallent fod, mae hynny’n gwneud anghymwynas â’r plentyn a'r teulu yn fy marn i, ac mae’n bryd rhoi diwedd ar hynny. Felly, dyna fy mhle: ein bod o leiaf yn edrych ar hynny. Nid oes gennym awdurdodaeth dros y llysoedd, ond gallwn ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny.

Mae angen inni wneud gwaith cydgysylltiedig hefyd, oherwydd dro ar ôl tro, rydym yn gweld y methiannau sy’n digwydd pan wyddom y gallai camau gweithredu fod wedi’u cymryd yn gynt, gan nad yw’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymgysylltu’n ddigon da mewn perthynas â’r unigolyn dan sylw. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd—ac rydym wedi cydnabod yma yn y ddadl heddiw—fod llawer o'r plant hyn yn ddioddefwyr masnachu. Mae’n rhaid ichi gydnabod y bydd llawer ohonynt yn blant digwmni, a bod yn rhaid inni roi’r cymorth iddynt hwythau hefyd. Felly, mae angen inni newid peth o’r rhethreg honno hefyd, oherwydd os ydynt yn blant digwmni o wledydd eraill, sy'n wir weithiau, mae arnynt angen y cymorth yma yn unol â hynny, oherwydd pan wneuthum fy ymchwil, canfûm fod hynny’n digwydd. Yn aml iawn, roedd y plant digwmni a oedd wedi'u dwyn i'r wlad hon yn cael eu gadael ar y strydoedd, ac yna'n cael eu codi gan y bobl a'u masnachodd yn y lle cyntaf.

Felly, yr hyn rwy'n gofyn amdano heddiw gan bawb, pan fyddwn yn ceisio helpu'r bobl sydd yn y system ofal, ac yna'n gorfod gadael y system ofal honno, a'n bod yn rhoi rhywfaint o gyllid iddynt, rhywfaint o gymorth, fel y gallant barhau â'u bywydau, yw inni beidio â thrafod hynny mewn ffordd negyddol nad yw'n deall y realiti. Felly, yr hyn rwy'n gobeithio amdano, os nad oes unrhyw beth arall yn digwydd yma heddiw, yw'r ddealltwriaeth a'r goddefgarwch llawer ehangach, dyfnach, dwysach y mae pob un ohonoch yn galw amdani. Diolch.

17:35

 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 17:37:23
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd Jane Dodds, rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn parhau i ddadlau a thrafod y mater hwn, a chredaf fod goleuni wedi'i daflu ar y mater hwn heddiw ar draws y Siambr. Ond y camau gweithredu—y camau gweithredu—sydd angen inni roi cyfrif amdanynt, a byddaf yn nodi hynny yn fy ymateb mewn perthynas â Llywodraeth Cymru a'n partneriaid.

Mae unrhyw achos o feithrin perthynas amhriodol neu gamfanteisio, yn enwedig gyda phlant, yn drasiedi, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod mor ddewr wrth rannu profiadau mor ddinistriol. Mae’r straeon a glywsom, yn cynnwys y rhai a rannwyd yn ystod yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, gan ddioddefwyr a goroeswyr dewr, yn peri cryn ofid ac maent yn ysgytwol. Mae’n rhaid inni sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt, a’n bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda’n partneriaid i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn ddiogel rhag niwed, ac mae hynny wedi’i fynegi ar draws y Siambr heddiw.

Yn y cyd-destun hwnnw, ac yn unol â’r gwelliannau y byddwn yn eu cefnogi heddiw, rwyf am atgyfnerthu pwysigrwydd dysgu, dysgu o argymhellion a chyflawni argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru a Lloegr, dan arweiniad yr Athro Alexis Jay. Yng Nghymru, fe wnaethom gefnogi gwaith yr ymchwiliad yn helaeth, gan ddarparu dros 30,000 o ddogfennau, cymryd rhan mewn naw gwrandawiad, gan gynnwys tystiolaeth uniongyrchol i’r ymchwiliad gan brif swyddog gofal cymdeithasol Cymru, a chynhaliwyd dros 300 o sesiynau gwirionedd yng Nghymru. Ac er na all unrhyw ymchwiliad cenedlaethol gyfleu profiad unigryw pob unigolyn, mae'r ymchwiliad wedi darparu ystod eang a chynhwysfawr o safbwyntiau a phrofiadau ar gyfer y camau y mae angen eu cymryd i ddiogelu plant a phobl ifanc yn well.

Gwnaeth yr ymchwiliad chwe argymhelliad penodol i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn eu rhoi ar waith. Rydym eisoes wedi datblygu deddfwriaeth i gryfhau'r gofynion diogelu, llywodraethu a hyfforddi ar ysgolion annibynnol i gofrestru eu staff addysgu a staff cymorth dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ac i reoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig mewn modd tebyg i gartrefi plant. Ac yn bwysig, yng Nghymru, mae gennym eisoes ddyletswydd orfodol sefydliadol i adrodd am blant ac oedolion sy’n wynebu risg, ac mae’r mandad hwnnw o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ymestyn i staff awdurdodau lleol, iechyd a phlismona. Ac wrth gwrs, fel y mae Joyce Watson wedi’i ddweud, mae’n hollbwysig ein bod yn cyflawni'r her o weithio'n gydgysylltiedig er mwyn brwydro yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant.

Rydym yn datblygu strategaeth 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, a byddwn yn ymgynghori arni cyn bo hir. Mae pedair elfen i'r strategaeth: atal; diogelu; cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd; a chefnogi goroeswyr sy'n oedolion. Caiff y camau gweithredu eu llywio’n uniongyrchol gan argymhellion yr ymchwiliad, ac yn bwysicaf oll, mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu gyda dylanwad gan ddioddefwyr a goroeswyr.

Yn ogystal â Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, yn gweithredu mewn nifer o ffyrdd. Ar 16 Ionawr, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref amrywiaeth o waith i adeiladu ar yr ymchwiliad ar draws Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys ymestyn cylch gorchwyl y panel adolygu annibynnol ar gam-drin plant yn rhywiol, ac mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Felly, mae’n ymdrin nid yn unig ag achosion hanesyddol cyn 2013, ond pob achos ers hynny, a golyga hyn y bydd gan unrhyw ddioddefwr cam-drin hawl i ofyn am adolygiad annibynnol heb orfod mynd yn ôl at y sefydliadau lleol a benderfynodd beidio â bwrw ymlaen â’u hachos. Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol.

Mae hefyd yn cynnwys comisiynu’r Farwnes Louise Casey i oruchwylio archwiliad cyflym o raddfa a natur bresennol rhwydweithiau cyfundrefnol ledled Cymru a Lloegr, gan ddefnyddio gwybodaeth nad oedd ar gael ynghynt i’r ymchwiliad presennol. Bydd yr archwiliad yn gwneud argymhellion ynghylch dadansoddiadau, ymchwiliadau a chamau gweithredu pellach sydd eu hangen i fynd i’r afael â methiannau presennol a hanesyddol, gan gynnwys yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gofyn i bob heddlu, gan gynnwys ein heddluoedd yng Nghymru, adolygu achosion hanesyddol o gamfanteisio troseddol ar blant lle na chymerwyd camau pellach. Mae hynny'n ddatblygiad pwysig iawn. Mae pob heddlu yn gweithredu'r argymhellion a wnaed yn 2023 gan arolygiaeth Ei Fawrhydi ar gamfanteisio gan gangiau, gan gynnwys cynhyrchu proffiliau problemau ar natur gweithgarwch yn eu hardal, a disgwylir diweddariad ar y cynnydd eleni. A chyda'i gilydd, gan gynnwys cyfraniad heddluoedd Cymru fel y mae'r gwelliant yn galw amdano, mae hwn yn archwiliad cenedlaethol cadarn o achosion hanesyddol a chyfredol.

Cyfarfûm â'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu i drafod y mater hwn ar 20 Ionawr, a chyfarfûm eto â phrif gomisiynydd heddlu a throseddu Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, ar 6 Chwefror. Ac yn y cyfarfodydd hyn, mae arweinwyr plismona yn pwysleisio eu hymrwymiad i wneud popeth yn eu gallu i ddysgu o achosion hanesyddol ac atal niwed yn y dyfodol, ac ymateb i anghenion a materion cyfredol.

17:40

Diolch yn fawr iawn, a diolch am sôn am ein hasiantaethau statudol. Rwy’n siŵr efallai eich bod yn dod at asiantaethau gwirfoddol, ond mae NSPCC Cymru, er enghraifft, wedi dweud yn gwbl glir nad yw'r sefyllfa o ran cam-drin plant yn rhywiol ledled Cymru wedi newid mewn gwirionedd, er y gwyddom fod pryderon difrifol ynghylch y cynnydd mewn cam-drin plant yn rhywiol. Felly, fe sonioch chi lawer am asiantaethau statudol, ond tybed a allech wneud sylwadau ar yr asiantaethau gwirfoddol sy'n gwneud gwaith mor arloesol, a gwaith caled, wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl? I mi, hwy yw'r asiantaethau pwysicaf yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Jane Dodds am ei hymyriad, gan fod hyn wedi bod yn hollbwysig yn wir wrth gefnogi’r gwelliant hwn, sicrhau ein bod yn cael ein clywed a chydnabod rôl hollbwysig y sefydliadau sydd ar y rheng flaen. Ac felly, yn y dyddiau diwethaf, rydym wedi ysgrifennu nid yn unig at bob bwrdd diogelu rhanbarthol, ond rydym wedi ysgrifennu at ein holl bartneriaid yn y trydydd sector, yr NSPCC a phawb ar y rheng flaen sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, ac wedi gofyn iddynt, unwaith eto, i sôn wrthym am eu pryderon ac unrhyw bryderon sy'n cael eu codi gyda hwy, a hefyd i bwysleisio pwysigrwydd eu gwaith. Wrth gwrs, mae ariannu’r sefydliadau hyn yn hollbwysig, ynghyd â'r rôl a’r parch y mae’n rhaid eu rhoi iddynt mewn diogelu amlasiantaethol hefyd. Felly, rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith y grŵp trawsbleidiol y sonioch chi amdano, Jane, ar gyfer plant a phobl ifanc, ac rwyf hefyd yn cydnabod bod gennym adroddiad a dadl wirioneddol bwysig yn y dyfodol agos ar ymchwiliad trawsbleidiol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i blant sydd ar yr ymylon. Credaf y bydd y ddadl honno'n ddilyniant o’n dadl heddiw.

Ar y trydydd sector a’r rheini ar y rheng flaen gyda sefydliadau plant, cyfarfûm â Gweithredu dros Blant yr wythnos diwethaf, gyda Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ac mae Alun Michael bellach yn llysgennad iddynt hefyd. Buom yn trafod y gwaith rydym yn bwrw ymlaen ag ef ar gamfanteisio’n droseddol ar blant.

Mae llawer o bwyntiau eraill yr hoffwn ymateb iddynt, ond credaf y gwelwch ein bod eisoes wedi cyhoeddi’r ymateb gan y Llywodraeth i’r adroddiad hwnnw. Ond rwy'n gobeithio y gwelwch y bydd yr ymateb yn darparu llawer o’r ymatebion i’r pwyntiau a godwyd heddiw, ac yn arbennig, pwyntiau Sioned Williams ar bwysigrwydd timau arbenigol a’r rôl y mae Barnardo’s yn ei chwarae ledled Cymru, a’r gwaith rhagorol iawn, er enghraifft, gan y tîm diogelu’r glasoed rhag camfanteisio ac awdurdodau. Gwnaeth Natasha bwynt pwysig iawn hefyd am gaethwasiaeth fodern, a masnachu pobl gan Joyce Watson, a’r ffaith ein bod wedi datblygu adnoddau dysgu ar-lein ar gaethwasiaeth fodern. Ac mae'r byrddau diogelu rhanbarthol a thimau'r gweithlu gofal cymdeithasol yn comisiynu ac yn datblygu hyfforddiant amlasiantaethol.

Felly, rwy'n gobeithio bod y gwaith a amlinellais i gyflawni argymhellion yr ymchwiliad presennol a’r archwiliad annibynnol newydd sy’n cael ei arwain gan y Farwnes Casey yn ymateb cynhwysfawr i’r mater hwn. Parhau â’r dull hwn yn hytrach na’i ddyblygu neu dynnu sylw oddi wrtho yw’r ffordd orau o sicrhau y gellir cyflawni a gweithredu’n gyflym fel y gallwn fynd ati'n well i ddiogelu plant rhag niwed. Ar draws yr holl weithgarwch hwn, rwy'n ailadrodd: rydym yn benderfynol o glywed lleisiau dioddefwyr a goroeswyr, ond nid yn unig i wrando, fel y dywed Sioned Williams, ond i weithredu. Credaf fod y gwelliant yn cyfleu'r nod hwn a'r amcanion yr ydym wedi ymrwymo iddynt ac a nodwyd gennyf.

I gloi, rwyf am ddweud bod y gwaith parhaus gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ein partneriaid ym maes plismona, sefydliadau plant a'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod dealltwriaeth gynhwysfawr o'r materion yn y ddadl hon—nid oes unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar wrando ar ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin. Ac ar ran Llywodraeth Cymru, dywedaf eto: byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn ddiogel rhag troseddau erchyll camfanteisio a cham-drin rhywiol.

17:45

Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r holl Aelodau ar bob ochr i’r Siambr heddiw am y ffordd sensitif iawn y gallasom ddadlau a thrafod y mater pwysig hwn? Credaf fod pob un o'r areithiau wedi tynnu sylw at ddifrifoldeb y mater, ac yn wir, yr undod rhyngom yn ein dyhead i fynd i'r afael â'r heriau hyn a'u datrys.

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn un o’r troseddau mwyaf erchyll y gellir eu dychmygu. Nid yn unig ei fod yn amddifadu plant o'u diniweidrwydd, mae'n achosi oes o drawma i ddioddefwyr, yn enwedig pan fydd troseddwyr yn mynd heb eu cosbi. Am y rheswm hwnnw, mae dyletswydd foesol ar bob un ohonom i sicrhau bod y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn yn mynd o flaen eu gwell, a bod goroeswyr y troseddau hynny'n cael eu clywed.

Dair wythnos yn ôl, cysylltodd Emily Vaughn, yr unigolyn dewr a oroesodd gamfanteisio rhywiol gan gang meithrin perthynas amhriodol, i sôn am yr erchyllterau a ddioddefodd. Fe glywsoch rywfaint amdanynt y prynhawn yma. Ac fe wnaeth ei phrofiadau fy argyhoeddi—fy argyhoeddi'n llwyr—fod hon yn broblem yng Nghymru nad yw'n mynd i ddiflannu gyda'r gyfres bresennol o gamau gweithredu sydd wedi'u cymryd, a chyda'r camau gweithredu arfaethedig sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Dyna pam y credaf mai’r ffordd orau ymlaen, er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn unwaith ac am byth, yw sicrhau ein bod yn cael ymchwiliad annibynnol Cymru gyfan i’r mater hwn. Cafodd ei hecsbloetio gan gangiau, gangiau troseddol. Nid yw’r derminoleg mor bwysig â hynny i mi—gangiau meithrin perthynas amhriodol, gangiau troseddu cyfundrefnol, beth bynnag y dymunwn eu galw—ond cafodd ei hecsbloetio gan bobl nad oeddent yn poeni, fel y dywedodd Altaf Hussain yn gwbl briodol, am y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fe'i symudwyd o un lle i’r llall am ryw, a chafodd ei cham-drin gan gannoedd ar gannoedd o ddynion drwg a fanteisiodd arni hi a’i chorff. Yn drasig, dywedodd wrthyf fod yna ddioddefwyr eraill nad ydynt wedi siarad am eu profiadau.

Nawr, fe wyddom o’r gwaith a wnaed gan yr Athro Jay, mai’r unig le yr edrychodd arno yng Nghymru oedd Abertawe, a daeth o hyd i dystiolaeth o gangiau troseddol yn camfanteisio ar blant am ryw yn Abertawe. Beth fyddai wedi digwydd pe bai wedi edrych yng Nghaerdydd neu Gasnewydd neu Fangor neu Fae Colwyn neu Wrecsam? Rwy'n tybio y byddai wedi dod o hyd i bethau yno hefyd. Ond ni edrychwyd arnynt, ac yn anffodus, dyna pam nad ydym yn ymwybodol o raddfa'r problemau hyn ledled ein gwlad. A hoffwn gael y sicrwydd sydd wedi'i addo gan heddluoedd Cymru, ac rwyf am allu eu cymryd ar eu gair. Ond gwyddom fod y sicrwydd hwnnw wedi’i roi gan yr awdurdodau yn y gorffennol, gan Heddlu De Cymru, yn y sefyllfa yn Abertawe, a chan Gyngor Abertawe, ac yn anffodus, nid oedd yn werth y papur y'i hysgrifennwyd arno, a dyna pam y credaf fod yn rhaid inni fwrw ymlaen ag ymchwiliad.

Ac nid y sefyllfa yn Abertawe yn unig sydd dan sylw yma. Wyddoch chi, y llynedd, ym mis Ionawr y llynedd, dechreuodd Crimestoppers ymgyrch, gan eu bod wedi sylwi bod plant ifanc yn cael eu hecsbloetio ar gyfer rhyw, a’u hudo i gael rhyw, gan gangiau yma yng Nghymru, gan berchnogion siopau fêps. Fe wnaethant ddyfynnu enghraifft o sut y câi fêps eu defnyddio i feithrin perthynas amhriodol â merch 14 oed am ryw. Ac fe ddyfynnaf o'u gwefan:

'Roedd perchennog siop gyfleustra yng Nghymru a oedd yn gwerthu ystod eang o gynhyrchion, gan gynnwys fêps, yn rhoi fêps am ddim i'r plentyn'—

plentyn 14 oed—

'ac yn achlysurol, alcohol yn gyfnewid am gymwynasau rhywiol i'w hun a'i ffrindiau.'

Cynigiwyd cyffuriau ac arian i'r unigolyn ifanc, ac roedd yr un siop yn aml yn gwerthu neu'n rhoi fêps i blant mor ifanc ag 11 oed. Pobl ifanc yw'r rhain. Dyma ein dyfodol. Dyma’r plant y mae pob un ohonom yn ein calonnau am eu diogelu cystal ag y gallwn, ond nid yw’r trefniadau presennol yn gweithio.

Gwrandewais yn ofalus ar ymateb y Gweinidog. Cyfeiriodd at y newid yn y gyfraith o ran cofrestru unigolion sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol. Roedd hynny'n rhywbeth y gelwais amdano yn 2020, Weinidog, mae arnaf ofn, ac ni chafodd ei roi ar waith nes i adroddiad Jay wneud argymhelliad yn ei gylch. Gwyddom nad yw’r dull adrodd mandadol, a oedd yn ofynnol o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, wedi gweithio. Ers hynny, rydym wedi gweld cam-drin mewn sefydliadau, fel ysgolion, yng ngogledd Cymru, gydag achos Foden.

Fe wn fod amser yn fy erbyn yma, Lywydd, ond rwyf am ddweud hyn: pe byddem o ddifrif yn gallu ymddiried yn y sicrwydd a gawsom, ni fyddwn yn galw am ymchwiliad. Mae angen trosolwg annibynnol arnom i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phob un o'r materion hyn. Nawr, rydym yn dadlau'r achos dros ymchwiliad Cymru gyfan, ac rwy'n dal i gredu mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Ond os na fydd y bleidlais ar ymchwiliad Cymru gyfan yn cael ei derbyn gan y Senedd heddiw, byddwn yn cefnogi’r gwelliant i’n cynnig, ar y sail ei fod yn ein symud ymlaen o ran darparu ar gyfer ymchwiliad pellach, er mwyn inni allu ceisio nodi maint y broblem. Ond hoffwn roi sicrwydd i bob un ohonoch yn y Siambr hon y prynhawn yma, os na fyddwn yn gwneud cynnydd digonol, byddwn yn cyflwyno'r ddadl hon dro ar ôl tro, gan ein bod yn credu bod galwadau Emily Vaughn am ymchwiliad Cymru gyfan, ar sail y dystiolaeth y gwyddom ei bod eisoes allan yno—dyna'r ffordd gywir ymlaen. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ystyried hynny pan fyddant yn pleidleisio, ac y byddant yn cefnogi ein cynnig heddiw.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gynnal y bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:55
8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar yr eitem rŷn ni newydd ei chlywed, sef dadl y Ceidwadwyr ar ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig hen ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n dod ymlaen at bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8821 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.

2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.

3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;

b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;

c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a

d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.

Agor y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cau'r trap am byth: Yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru

Byddwn ni'n mynd ymlaen nawr i'r ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Carolyn Thomas. Carolyn.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud o fy amser i Jane Dodds, Luke Fletcher, Altaf Hussain, Joyce Watson a Mick Antoniw.

Hoffwn ddiolch i’r broses ddeisebau, ymgyrchu gan randdeiliaid allweddol a chydweithio trawsbleidiol. Mae dyfodol rasio milgwn yng Nghymru wedi bod yn uchel ar yr agenda yn y Senedd ers 2022 bellach. Dechreuwyd y daith hon gan Vanessa o Hope Rescue pan gyflwynodd ei deiseb yn galw am waharddiad ar rasio milgwn ar ddechrau tymor y Senedd hon. Denodd 35,000 o lofnodion, sy'n nifer anhygoel, gan sicrhau ymchwiliad tystiolaeth gan y Pwyllgor Deisebau, ac wedi hynny, dadl yn y Siambr a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol gan yr Aelodau. Mae gan Vanessa a’i thîm brofiad uniongyrchol o’r creulondeb erchyll ar drac Valley yn ne Cymru, gyda chŵn yn colli eu bywydau ac yn dioddef anafiadau sy’n newid eu bywydau ar y trac hwnnw yn rheolaidd.

Dechreuodd Hope Rescue pan ddaeth Vanessa o hyd i Last Hope yn ôl yn 2004, milgi o drac Valley y daethpwyd o hyd iddo wedi’i saethu â bollt-ddryll a’i glustiau wedi’u torri i ffwrdd. Roedd hyn fel na ellid ei adnabod drwy ei datŵs. Ar y pryd, roedd ei gynffon yn dal i siglo. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar les anifeiliaid, hoffwn ddiolch i bob sefydliad sy’n ymwneud a chynghrair Cut the Chase. Mae Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue, yr RSPCA, Dogs Trust a Blue Cross wedi gweithio’n ddiflino i ymgysylltu ag Aelodau a dadlau'r achos dros wahardd y gweithgaredd creulon a diangen hwn yn llwyr, yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn weithiau.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

18:00

Rwyf wedi cyflwyno'r ddadl heddiw yn dilyn cyhoeddi'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. Roedd dwy ran o dair o'r ymatebwyr o blaid gwaharddiad graddol neu ar unwaith ar rasio milgwn yng Nghymru. Mae'n darparu tystiolaeth newydd ac anwadadwy o gryfder y gefnogaeth i roi diwedd ar y gweithgaredd hwn, gyda mwy o bobl o blaid gwaharddiad nag a oedd o blaid trwyddedu hyfforddwyr, perchnogion a cheidwaid milgwn, fel y cynigiwyd mewn man arall yn yr ymgynghoriad. Rhaid inni beidio ag anwybyddu'r mwyafrif sylweddol o bobl sy'n cydnabod bod yn rhaid i les cŵn rasio gael blaenoriaeth dros adloniant. 

Ysgrifennydd y Cabinet, ysgrifennais atoch gyda'r ystadegau diweddaraf gan Fwrdd Milgwn Prydain a Stadiwm Milgwn Valley. Yn fwyaf arbennig, mae'n destun pryder gwirioneddol fod amlder cyfarfodydd rasio wedi cynyddu o un i dair gwaith yr wythnos rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Hydref 2024. Bydd hyn, heb os, yn cynyddu nifer y cŵn a anafir ar y trac hwnnw'n sylweddol. Mae 604 o gŵn wedi rasio ar y trac yn ystod y cyfnod hwn. O'r rheini, mae 140 wedi cael damweiniau ac anafiadau. Mae hynny bron yn chwarter eu nifer. Mae ystadegau Bwrdd Milgwn Prydain ei hun yn dangos nad yw eu goruchwyliaeth yn atal neu hyd yn oed yn lleihau'r perygl y bydd cŵn yn cael eu hanafu neu'n marw ar y traciau rasio.

Er bod Bwrdd Milgwn Prydain wedi gweithredu strategaeth les, bu farw 389 o gŵn a gymerai ran mewn rasys ar eu traciau yn 2023—cynnydd o 47 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod 180 o gŵn wedi gorffen eu gyrfa rasio yn Valley yn ystod y cyfnod hwnnw—nifer sylweddol i ddod o hyd i gartrefi iddynt, gan roi straen ar ganolfannau achub ledled de Cymru, gyda 55 y cant o gŵn yn cael eu trosglwyddo i elusennau ar ddiwedd eu gyrfa, gyda dim ond 10 y cant yn cael cartref gan berchennog neu hyfforddwr.

Fis diwethaf, ymwelais â'r Dogs Trust yng Nghaerdydd a chyfarfod â Hiccup, cyn-filgi rasio hyfryd yn chwilio am gartref parhaol. Ond oherwydd nifer y cŵn sy'n gorffen rasio, mae canolfannau achub yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cartrefi sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyn-filgwn rasio fel Hiccup. Yn ôl cofnodion cyhoeddedig cyfarfod a gynhaliwyd gan y Greyhound Forum ym mis Gorffennaf 2024, roedd 2,500 o gŵn a oedd wedi gorffen rasio yn byw yng nghytiau hyfforddwyr wrth aros i gael eu hailgartrefu. Mae hynny'n llawer iawn o gŵn, ac mae'n dangos yr ôl-groniad pryderus o gŵn sydd angen mannau achub, gan ddangos, fel y mae pethau, nad yw'r diwydiant yn gynaliadwy.

Yn drist iawn, i lawer o gŵn, nid oes diweddglo hapus i'w gyrfa rasio. Roedd Last Hope yn enghraifft o fyd tywyll a chyfrinachol gwaredu cŵn rasio diangen, a elwir yn 'wastraff' yn y diwydiant. Ddwy flynedd yn unig ar ôl darganfod Last Hope, torrodd y wasg genedlaethol y newyddion am David Smith, masnachwr deunydd adeiladu yn swydd Durham, a ddefnyddiodd ddulliau tebyg i waredu dros 10,000 o filgwn nad oedd neb eu heisiau. Ar ôl bod yn dyst i greulondeb mor aruthrol â'u llygaid eu hunain, roedd y bobl yn Achub Milgwn Cymru ar y pryd yn benderfynol o ddod â rhywfaint o ddaioni parhaol er cof am Last Hope. Sefydlwyd cronfa Last Hope i dalu am gostau gofal milgwn a chŵn potsiwr sâl ac wedi'u hanafu y gellid bod wedi gorfod eu rhoi i gysgu fel arall, yn enwedig y rhai a oedd yn wynebu cymhlethdodau gofal drud neu gydol oes, a hyd yma, mae'r gronfa wedi talu ymhell dros £100,000 mewn costau milfeddygol a gofal i roi ail gyfle i filgwn rasio mewn bywyd.

Nid oes gan y diwydiant rasio milgwn arian i dalu'r costau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cadw at hyd yn oed y lefel sylfaenol o safonau lles. Yn hytrach, mae'r elusennau yng nghynghrair Cut the Chase yn cael eu gadael i wynebu'r canlyniadau a thalu'r biliau, a'r costau ailgartrefu hefyd. Mae rasio milgwn yn ddiwydiant creulon, anghynaliadwy, hen ffasiwn y mae'n rhaid inni droi ein cefnau arno. Mae Cymru bob amser wedi arwain y ffordd gyda deddfwriaeth lles anifeiliaid. Ni oedd y wlad gyntaf i gyflwyno gwaharddiadau llawn ar goleri sy'n rhoi sioc drydanol, maglau a thrapiau glud ar gyfer cŵn. Dyma gyfle go iawn nawr i ychwanegu rasio milgwn at y rhestr o gyflawniadau cyn etholiad 2026, cyn y flwyddyn nesaf, a dangos bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth Cymru, gan greu gwaddol parhaol i Lafur Cymru fod yn falch ohoni.

Pleidleisiodd Seland Newydd dros wahardd rasio milgwn, ac mae'r Llywodraeth yno'n bwriadu dod â'r arfer i ben erbyn 1 Awst y flwyddyn nesaf, gan roi cyfle pwysig i Gymru ymuno â mudiad sydd â momentwm byd-eang, ac adeiladu ar ein henw da fel cenedl dosturiol a moesegol ar raddfa fyd-eang. I Seland Newydd, er bod y diwydiant yn werth NZ$159 miliwn—£73 miliwn—y flwyddyn iddi ac yn cyflogi dros 1,000 o bobl, roedd anafiadau a marwolaethau'r cŵn yn ddigon i gyfiawnhau gwaharddiad.

Po hiraf yr arhoswn cyn gweithredu, y mwyaf o gŵn a gaiff eu hanafu neu eu lladd ar drac Valley. Ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet beidio â cholli'r cyfle hwn i weithredu nawr, ac i weithio gyda chanolfannau achub a'r elusennau, oherwydd fe wnânt eich helpu. Diolch.

18:05

Diolch i Carolyn am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf am dalu teyrnged i bawb ohonom yn y Siambr, ar draws y pleidiau, oherwydd mae hyn yn wirioneddol—. Rydym yn sefyll dros rywbeth y mae pawb ohonom yn credu ynddo, sef peidio â pharhau â rasio milgwn. Rwyf am dalu teyrnged yn ogystal i'r sefydliadau lles anifeiliaid am y gwaith a wnânt. Mae'n waith na allwn i byth mo'i wneud. Mae'n waith sy'n golygu gweld anifeiliaid yn y trallod mwyaf, eu gweld yn cael eu hanafu a'u trawmateiddio, a gwneud penderfyniadau anodd am yr anifeiliaid hynny. Ond rwyf hefyd eisiau talu teyrnged iddynt am fy mod yn gwybod eu bod hwythau'n cael eu cam-drin hefyd. Cânt eu cam-drin oherwydd eu safiad. Ac maent wedi cael eu cam-drin yn sgil eu galwad, y gynghrair Cut the Chase, am wahardd rasio milgwn. Buom yn trafod deiseb y Senedd, ac fe brofais gamdriniaeth fy hun wedi'r ddadl honno—cam-drin sylweddol—ar-lein ac yn uniongyrchol i mi a fy nheulu. Ond wyddoch chi beth? Nid oes ots gennyf. Nid oes ots gennyf oherwydd rwy'n sefyll yma heddiw dros anifeiliaid sydd heb lais.

Ac rydych wedi fy nghlywed yn siarad am Arthur. Arthur oedd ein milgi cyntaf, fe wnaethom ei gasglu o Wimbledon, ac roedd wedi bod ar y trac rasio yn Wimbledon. Roedd 65 o filgwn eraill yno angen cartref parhaol. Dim ond am dair blynedd y bu gyda ni oherwydd yr anafiadau a'r trawma a brofodd. Ond mae gennym ni Wanda nawr. Daeth Wanda o gartref achub Rhydaman. Mae 20 o gŵn yno. A dywedais wrth Achub Milgwn Cymru pan euthum â Wanda, 'O, mae hyn yn wych, fe fyddwch chi'n gallu cael ychydig o orffwys yma.' A'u hymateb oedd, 'Na, mae gennym restr aros o filgwn yn barod i gymryd lle Wanda.' Rwyf wedi dysgu llawer gan Wanda, dysgais lawer gan Arthur, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt. Rwy'n gobeithio y cawn y gwaharddiad hwn, oherwydd yn fy mhen, cyfraith Arthur fydd hi. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n rhannu'r diolch i Carolyn am gyflwyno'r ddadl fer hon. Ac mae Jane yn iawn: mae nifer ohonom sydd wedi codi yn y Siambr i ddadlau dros waharddiad neu ofyn cwestiynau ynghylch gwaharddiad wedi wynebu llawer o gamdriniaeth, yn yr un modd ag y mae'r rhai yn y sector lles anifeiliaid wedi wynebu hynny hefyd. Ac rwy'n credu mai'r rhwystredigaeth y mae nifer o bobl yn y sector lles anifeiliaid bellach yn ei deimlo yw ein bod wedi mynd drwy'r broses ymgynghori, cymerodd hynny gryn dipyn o amser, ac eto rydym yn dal yn aneglur a yw'r Llywodraeth yn mynd i symud ymlaen gyda hyn neu i ble mae'r Llywodraeth am fynd â hyn. Felly, hoffwn gael gwybod gan Ysgrifennydd y Cabinet heno beth y mae'n bwriadu ei wneud nawr—gan fod y broses ymgynghori wedi ei chwblhau a'n bod wedi gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad, beth y mae'n bwriadu ei wneud a lle mae'n bwriadu mynd â hyn nesaf, a hefyd, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried y dystiolaeth lle mae gwaharddiadau wedi digwydd mewn mannau eraill. Fe wyddom, er enghraifft, fod Florida wedi mynd drwy'r broses honno yn ôl yn 2018. Cawn y newyddion nawr o Seland Newydd hefyd. Felly, mae enghreifftiau yn y byd o ble mae hyn wedi digwydd fesul cam, mewn ffordd y gellir ei wneud mewn partneriaeth â'r sector. Felly, hoffwn glywed ei farn ar hynny a sut y mae'r peth wedi symud ymlaen mewn rhannau eraill o'r byd.

Hoffwn ddiolch i Carolyn am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am gytuno i roi munud o'i hamser i mi. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ddod â chreulondeb rasio milgwn i ben, ac mae angen inni wneud hynny heddiw. Nododd Carolyn yr achos dros waharddiad. Mae'r arfer creulon, annynol hwn—nid wyf am ei alw'n gamp—mae angen iddo ddod i ben. Mae llawer gormod o gŵn—creaduriaid addfwyn, annwyl—yn marw neu'n cael eu hanafu'n wael er mwyn creu elw i gwmnïau betio. Ni allwn eistedd yn segur a chaniatáu iddo barhau. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i wrando ar alwadau'r rhai ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon a phobl o bob cwr o Gymru: rhowch y gorau i'r helfa, a dowch â rasio milgwn i ben nawr. Diolch yn fawr.

18:10

Rydym yn galw ein hunain yn genedl sy'n caru cŵn ac rydym yn aml iawn yn cyfeirio at gŵn fel ffrind gorau pobl, ac eto, dyma ni, un o ddim ond pedair gwlad ar ôl yn y byd sy'n gwrthod gwahardd milgwn rasio, mae'n ymddangos i mi. Nid wyf yn deall pam. Rwy'n credu bod angen inni wneud hynny, ac rwy'n credu bod angen inni ddefnyddio'r flwyddyn ddiwethaf sydd gennym i sicrhau bod hyn yn dod i ben. Mae gennym amser ac mae gennym amserlen ar gyfer pryd y gallwn weithredu, ac yn fy marn i, mae angen inni weithredu nawr.

Cyfarfûm ag Arthur y tro cyntaf i mi eich cyfarfod chi, Jane, pan ddaethoch i mewn ac fe wnaethom gyfarfod a chael coffi y tu allan, ac fe eisteddodd wrth ein hymyl, y cawr addfwyn ag ydoedd. A'r hyn sy'n anhygoel am gŵn yw eu bod yn ymddiried mewn pobl hyd yn oed ar ôl yr holl boen a dioddefaint yr aethant drwyddo. Nid oes angen inni ofyn iddynt ymddiried ynom ar ôl iddynt gael eu cam-drin; mae angen inni atal y cam-drin hwnnw rhag digwydd, ac fe allwn wneud hynny. Diolch i Carolyn am gyflwyno hyn, ond mae'r nifer sydd yma ar gyfer y ddadl fer hon heno yn dyst i gryfder y teimlad. Felly, drosodd atoch chi, Weinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cyflawni. Rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid inni neidio trwy unrhyw gylchoedd pellach, ac rwy'n credu y byddai pawb yma yn eich cefnogi i wneud y peth iawn.

Pam, yn 2025, fod rasio milgwn yn dal i fodoli pan fo cymaint o'r caeau rasio wedi cau? Rwy'n credu ei fod yn arbennig o glir. Mae'n bodoli am un rheswm mewn gwirionedd, sef i fwydo gamblo rhyngwladol ar-lein. Heb hynny, ni fyddai unrhyw rasio milgwn. A'r hyn a wyddom yw bod llai na 25 y cant o'r cŵn gorau o'r holl gŵn a gaiff eu gor-fridio i geisio dod o hyd i'r goreuon—llai na 25 y cant—yn cael eu bridio yn y DU; mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn cael eu mewnforio o dramor. Ac rwy'n credu bod hynny'n cyfleu'r neges honno. 

Oddeutu tair oed, pan fydd eu perfformiad rasio'n dirywio, mae eu dyddiau rasio drosodd, ac efallai y bydd lleiafrif yn dod o hyd i gartrefi cariadus trwy garedigrwydd elusennau lles anifeiliaid. Fodd bynnag, bob blwyddyn, dim ond 3,000 o'r 13,500 o filgwn dros ben sy'n cael cartref mewn gwirionedd. Caiff llawer eu hewthaneiddio, a phob blwyddyn, mae 4,000 o filgwn yng Nghymru a Lloegr yn disgyn oddi ar y radar. Ni wyddom beth yw eu tynged. Realiti rasio milgwn yw na all y diwydiant fodoli heb greulondeb systematig i anifeiliaid, felly dylai Cymru ymuno â'r mwyafrif llethol o wledydd, arwain y ffordd yn y DU, a chau'r drws ar y gamp greulon hon am byth, yn ogystal â rhoi diwedd ar y cynnydd mewn gamblo rhyngwladol sy'n bwydo oddi ar y creulondeb hwn i anifeiliaid. Diolch.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies. 

Member
Huw Irranca-Davies 18:14:08
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Thank you very much, Dirprwy Lywydd, and thank you very much to Carolyn for presenting this short debate. And thank you also to the other Members who have contributed to the debate. 

Rwy'n cydnabod ac yn deall eich bod chi i gyd, ar draws y pleidiau, wedi bod yn dadlau ers peth amser dros les milgwn rasio—ers cryn dipyn o amser nawr—a gwn eich bod chi i gyd yn aros yn eiddgar am ein camau nesaf. Rwyf hefyd yn cydnabod cryfder y teimlad yn y Siambr ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac rwy'n nodi, fel y mae cyd-Aelodau wedi nodi hefyd, y newid polisi diweddar yn Seland Newydd.

Nawr, derbyniodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid dros 1,000 o ymatebion. Ac fel y ddeiseb a'i rhagflaenodd, mae hefyd yn dangos cryfder y teimlad y tu allan i'r Siambr ynghylch y mater hwn. Nawr, fel y nodir yn yr ymgynghoriad, dyma ran o'r cam cyntaf yn y broses o ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, adolygu deddfwriaeth gyfredol ac asesu lle gellir gwneud gwelliannau. Hefyd, fe wnaethom gynnwys cwestiynau penodol mewn perthynas â dyfodol rasio milgwn yng Nghymru. Hoffwn ddiolch eto i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ac am y wybodaeth werthfawr a ddarparwyd.

Nawr, rwy’n cydnabod bod hwn yn fater cymhleth ac emosiynol. Rwyf am sicrhau gwelliannau lles parhaus, a dyna pam yr ystyriwyd cwestiynau ynghylch trwyddedu a gwaharddiad yn ein hymgynghoriad. Er bod teimlad cryf ynglŷn â gwaharddiad graddol yn yr ymgynghoriad, a lefel uchel o gefnogaeth i'w ystyried, gwnaethom hefyd ofyn am dystiolaeth i gadarnhau barn o’r fath. Rydym wedi cymryd amser i adolygu’r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen, a rhaid inni sicrhau bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu hysbysu'n dda.

Nawr, er bod teimladau cryfion ynghylch gwaharddiad graddol yn yr ymgynghoriad a lefel uchel o gefnogaeth i'w hystyried, fe wnaethom ofyn am dystiolaeth hefyd i gadarnhau barn o'r fath, felly rydym wedi cymryd amser i adolygu'r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen er mwyn inni allu sicrhau bod y penderfyniadau'n seiliedig ar wybodaeth dda. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Mae'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni ymrwymiadau lles anifeiliaid ein rhaglen lywodraethu a blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill.

I fod yn glir, fy nod yw i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau lles anifeiliaid rhagorol, ac mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn ymdrechu i wneud cynnydd yn hyn o beth, ac yn darparu diwygiadau ar gyfer anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill a gedwir hefyd. Ac ystyriaeth sylfaenol yn ein cynllun yw hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth ymhlith pawb sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid. Bydd hyn nid yn unig yn helpu i ddarparu ansawdd bywyd da i anifeiliaid yng Nghymru, ond hefyd yn gwneud llawer i sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol o geidwaid anifeiliaid yn deall sut y mae cymhwyso arferion gorau'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gan ymestyn ar draws tymor y Llywodraeth, mae'n canolbwyntio ar safonau uchel, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, trefniadau gorfodi effeithiol, a hyrwyddo addysg a pherchnogaeth gyfrifol. Ac yn wir, un o'r ymrwymiadau hyn yw datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno rheoleiddio ar gyfer sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r gwaith hwn, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru.

A datblygiad arwyddocaol arall yn ddiweddar ym maes lles anifeiliaid yw'r gwaith anhygoel sy'n cael ei gyflawni ar wella bridio cyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Cynhaliwyd yr ail o'n huwchgynadleddau blynyddol amlasiantaethol ym mis Hydref lle clywodd prif swyddog milfeddygol Cymru a minnau y diweddaraf gan randdeiliaid am y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn ogystal â dulliau o fynd i'r afael â materion cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg. Ac mae'r uwchgynadleddau hyn nid yn unig yn tynnu sylw at y cyflawniadau, maent hefyd yn cynnig cyfle i ni rannu gwybodaeth a dangos sut y mae'r dull cydweithredol amlasiantaethol hwn yn helpu i hyrwyddo a datblygu bridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

Ar fater penodol rasio milgwn yng Nghymru, ochr yn ochr â datblygu'r model cenedlaethol ehangach ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid ac adeiladu ar y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennym ar 18 Rhagfyr, rwy'n edrych ymlaen at rannu ein camau nesaf yn y gwanwyn. Felly, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau—Carolyn a'r holl Aelodau—am ddod â'r mater hwn i'r amlwg, gan gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol a ddangoswyd yma heddiw, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno ein camau nesaf yn y gwanwyn, a diolch i bawb unwaith eto—fel o'r blaen, pan gyflwynwyd y ddeiseb—am rannu eu syniadau ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch i Carolyn a’r siaradwyr eraill. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:19.