Y Cyfarfod Llawn
Plenary
05/02/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnydd metro gogledd Cymru, a sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â nodau trafnidiaeth a datblygu economaidd ehangach ar gyfer y rhanbarth? OQ62248

Wrth gwrs. Bydd metro gogledd Cymru yn trawsnewid lein y gororau, gyda gwasanaethau bws integredig a’r nod yn y pen draw o gael cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl. A bydd hyn yn ategu darpariaeth gynyddol o 50 y cant yn rhagor o wasanaethau trên ar hyd prif lein y gogledd o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Diolch. Aeth aelodau o fy mhwyllgor draw i ymweld â metro de Cymru, ac mae'n deg dweud ei fod yn hynod drawiadol, ac roeddwn braidd yn genfigennus ac eisiau yr un peth, er efallai ar raddfa lai, i fyny yn y gogledd. Mae’n rhaid inni gofio bod prosiect metro de Cymru wedi cynyddu o £734 miliwn i dros £1 biliwn, ac mae gwahaniaeth mewn buddsoddiad ar hyn o bryd rhwng y de a'r gogledd. Nid yn unig fod yr anghydbwysedd hwn yn annheg, mae'n niweidiol i economi a chysylltedd y rhanbarth. Mae gwell cysylltiadau rheilffordd yn hanfodol ar gyfer hybu twristiaeth, busnes a’n cymunedau lleol, ac eto mae gogledd Cymru yn dal i orfod ymdopi â thraciau sydd wedi dyddio. Rwyf bob amser wedi dweud, ers dod yma, fod yn rhaid inni weiddi cymaint yn uwch ar y meinciau hyn am gymorth i ogledd Cymru. Yr wythnos diwethaf, tynnodd etholwyr fy sylw, unwaith eto, at yr annhegwch llwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r anghyfartaledd rhanbarthol hwn nawr, ymrwymo i ddull gweithredu teg a mwy cytbwys mewn perthynas â’r rheilffyrdd, a rhoi rhyw fath o amserlen i ni, os gwelwch yn dda, o ran pryd y bydd gennym fetro yng ngogledd Cymru?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cyfle i dynnu sylw at ddarlun sy'n gymhleth iawn, i'r graddau fod seilwaith rheilffyrdd y tu allan i linell graidd y Cymoedd—ardal metro de-ddwyrain Cymru—yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU? Ers llawer gormod o amser, mae wedi cael ei hesgeuluso gan Lywodraeth Dorïaidd na chyflawnodd unrhyw beth, mae arnaf ofn, ar gyfer prif lein gogledd Cymru na lein y gororau. Nawr, wrth fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi y tynnwch chi sylw ato, a hynny'n gwbl briodol, rydym wedi cytuno â Llywodraeth y DU ar welliannau arfaethedig i seilwaith rheilffyrdd Cymru, ac ar frig y rhestr honno, mae prosiectau metro gogledd Cymru—cyfres o ymyriadau a fydd yn gwneud yn union fel y dymunwch: darparu metro yn y gogledd gyda'r math o dechnoleg tapio i mewn ac allan a welwn yn datblygu yn ne Cymru a phedwar trên yr awr yn darparu cysylltiad uniongyrchol rhwng mannau ar lein Wrecsam-Bidston drwodd i Lerpwl. Ochr yn ochr â hynny, ar sail lorweddol, byddwn yn gweld cynnydd o 50 y cant mewn gwasanaethau rheilffyrdd ar hyd prif linell reilffordd y gogledd o’r flwyddyn nesaf ymlaen, a hynny oherwydd penderfyniad cynnar iawn gan Lywodraeth y DU i ddechrau mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad a buddsoddi yn y brif linell reilffordd fel y gallwn roi mwy o drenau ar y llwybr hwnnw drwy Trafnidiaeth Cymru.
O ran yr amserlen, fy mwriad yw cyflwyno datganiad ar fetro gogledd Cymru, gan y credaf ein bod wedi gwneud cynnydd gwych ers etholiad cyffredinol y DU, o ran ymgysylltu, nid yn unig â Gweinidogion y DU, ond hefyd â chymheiriaid dros y ffin a fydd yn cefnogi ein cais am gyllid er mwyn darparu gwasanaeth metro pedwar trên yr awr yng ngogledd Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am gyfarfod yn gynharach yr wythnos hon â chynrychiolwyr Cyngor Tref Treffynnon ynghylch gorsaf newydd ym Maes Glas? Gwn eich bod wedi cefnogi’r grŵp hwn yn y gorffennol, ac edrychaf ymlaen at weithio i roi'r cynlluniau yn ôl ar y trywydd iawn. Ond yn amlwg, mae hyn yn cyd-fynd â chynlluniau ehangach ar gyfer system drafnidiaeth sy'n gwasanaethu pobl y gogledd yn briodol. Credaf fod sôn am fetro yn aml yn gwneud i bobl feddwl am bethau fel tanlwybrau a thrafnidiaeth gyflym, ond i lawer o bobl yn y cymunedau rwy'n eu gwasanaethu, a chithau hefyd, mae’n ymwneud â bysiau gwell hefyd, a sut y maent yn cysylltu â'i gilydd, a cheisio dod o hyd i atebion mwy craff a chosteffeithiol i’r problemau sy'n bodoli eisoes ar ein ffyrdd.
Gwn eich bod mor gyfarwydd â minnau â'r A55, ac er nad ydym am weld hen gynigion yn ôl ar y bwrdd, na gweld atebion analog i broblemau digidol—rwy'n ymwybodol fod cefnogaeth gan fusnesau a dinasyddion i ymyriadau fel lôn araf ger Helygain—mae pethau eraill a allai ddiogelu'r porth i ogledd Cymru at y dyfodol hefyd yn rhan o welliannau trafnidiaeth ehangach. Felly, a gaf i ofyn a yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n siarad â phartneriaid yn ei gylch? Ac a ydych chi'n cytuno bod angen atebion integredig ac arloesol i seilwaith yn y gogledd er mwyn datgloi ein potensial? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno’n llwyr nad buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn unig a fydd yn arwain at gyflawni’r metro, mae hefyd yn golygu buddsoddi mewn bysiau a chyflwyno masnachfreinio. O ran yr A55, deallaf fod y lôn araf wedi’i gohirio fel rhan o waith yr adolygiad ffyrdd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi'r rhyddid a'r hyblygrwydd mwyaf i awdurdodau lleol, drwy'r cyd-bwyllgor corfforedig yng ngogledd Cymru, i allu nodi blaenoriaethau. Mae’r lôn araf wedi’i hybu ers tro fel ateb i broblemau trafnidiaeth ar draws y gogledd, gan eu bod yn creu cymaint o dagfa. Felly, rwy'n awyddus iawn inni gefnogi'r cyd-bwyllgor corfforedig yn eu gwaith ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Rwy'n annog pob Aelod sydd â diddordeb mewn trafnidiaeth yn y gogledd i roi adborth ar y gwaith hwn, sy'n rhagorol fy marn i.
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru ynghylch digonolrwydd gwasanaethau bysiau? OQ62262
Wel, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gydag awdurdodau lleol am wasanaethau bysiau, gan gynnwys yng Ngorllewin De Cymru, lle byddwn yn dechrau'r gwaith o gyflwyno masnachfreinio bysiau. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod cadarnhaol iawn gydag arweinwyr pob awdurdod lleol i drafod ein cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau.
Mae hynny’n newyddion i’w groesawu, wrth gwrs. Mae gwasanaethau bysiau mewn sefyllfa enbyd ar hyn o bryd. Mewn sawl rhan o fy rhanbarth i, mae rhai cymunedau'n cael eu torri i ffwrdd yn gyfan gwbl ar ôl 6 p.m. oherwydd diffyg gwasanaethau bysiau i'w trefi. Yng Nghefn Cribwr, maent yn gorffen toc ar ôl saith o’r gloch, a hyd yn oed ym Mhencoed, mae rhai gwasanaethau’n gorffen ychydig ar ôl saith neu wyth o’r gloch. Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n wirioneddol anodd ariannu gwasanaethau, a dyna pam fod y Bil bysiau hirddisgwyliedig mor bwysig i’n cymunedau ac i lawer o randdeiliaid. Ond mae podlediad o'r enw Y Pumed Llawr—nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi clywed y podlediad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—yn mynegi llawer o bryder, yn taflu llawer o oleuni ac yn mynegi llawer o bryder, am y broses o fewn y Llywodraeth ynghylch cyflwyno'r Bil bysiau hwn. Rydym wedi bod yn aros ers 2021, ac mae wedi dod yn amlwg, drwy rai o’r cyfweliadau hynny, pam ein bod wedi bod yn aros cyhyd. Felly, yr hyn rwy'n ei geisio heddiw yw gwarant gan Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn gweld y Bil hwn yn cael ei gyflawni cyn toriad yr haf—a phan fyddaf yn dweud 'cyflawni', rwy'n golygu ei gyflwyno—fel y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig o ddiwygio ein gwasanaethau bysiau.
A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am ei gwestiwn, ac am y pwyntiau pwysig iawn y mae wedi’u codi heddiw, sy’n dangos, rwy’n credu, sut y mae'r model presennol o wasanaethau bysiau wedi’u dadreoleiddio wedi methu ar ran pobl Cymru, a bod angen mynd i’r afael ag ef? Pan ddychwelais i’r Llywodraeth, datganais mai dyma fyddai fy mhrif flaenoriaeth. Rwy’n falch o ddweud y byddaf yn ei gyflwyno ym mis Mawrth, a’n gobaith yw y byddwn yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, yn barod i'r broses fasnachfreinio ddechrau o ddifrif.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein hetholwyr yn dibynnu ar wasanaethau bysiau nid yn unig i gyrraedd y gwaith, apwyntiadau iechyd pwysig a phrynu bwyd, ond maent hefyd yn darparu cyswllt hanfodol â chyrchfannau hamdden pwysig. Yn anffodus, mae diffyg unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus i Don Cynffig a Mawdlam wedi atal pobl rhag cael mynediad i warchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i. Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall pawb gael mynediad cyfleus a fforddiadwy i warchodfeydd natur cenedlaethol fel gwarchodfa natur ardderchog Cynffig yn ein rhanbarth?
A gaf i ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau nad yw pobl yn cael eu hynysu, ac felly, mae'n cyfrannu'n fawr at lesiant hefyd. Fe nodoch chi un enghraifft benodol o le y mae pobl yn ei fynychu’n aml er mwyn teimlo’n well am fywyd. Felly, drwy fasnachfreinio, yr hyn y gallwn ei wneud yw nodi llwybrau, fel y rhai rydych chi wedi'u hamlinellu heddiw, ac amserlenni sy'n diwallu anghenion teithwyr, gan fod y model presennol yn golygu y bydd gweithrediadau masnachol yn digwydd ar sail penderfyniadau cwmnïau bysiau, ond mae'n rhaid sybsideiddio pob llwybr arall wedyn. Ac mewn oes o gyni, mae hynny'n hynod anodd i awdurdodau lleol. Felly, bydd y broses fasnachfreinio'n sicrhau bod gennym amserlenni a llwybrau sy'n diwallu anghenion teithwyr, ac sydd, yn bwysig, wedi'u hintegreiddio hefyd â gwasanaethau rheilffyrdd. Ein dyhead yw cael tocyn integredig rhwng rheilffyrdd a bysiau, o fewn pum mlynedd o bosibl, drwy fasnachfreinio, a thrwy'r dechnoleg sy'n datblygu ledled Cymru gyfan.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn godi gwerth am arian ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd ac oedi cyn cyflwyno cerbydau newydd. Er gwaethaf y gwelliannau mewn prydlondeb a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru y llynedd, maent yn dal ymhell ar ôl yr hyn y dylent fod. Yn y gogledd, mae prydlondeb yn wael, mae trenau gorlawn yn gyffredin, ac mae bodlonrwydd cwsmeriaid yn isel. Mae pob gorsaf drenau yn sir y Fflint ymhlith y 500 gorsaf waethaf yn y DU o ran dibynadwyedd a phrydlondeb gwasanaethau, gydag un eithriad ym Mhen-y-ffordd. Mewn data a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, roedd gorsaf Penarlâg yn safle 2,445 yn y DU, gydag 83 y cant o wasanaethau yn cyrraedd yn hwyr, ac yn y tri mis diwethaf, dim ond 2 y cant o wasanaethau i Benarlâg a oedd ar amser. Felly, mae’n amlwg fod angen codi’r bar, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'r gwaith o gyflwyno cerbydau newydd wedi bod yn araf ar lawer o linellau rheilffyrdd ar draws y rhwydwaith, ac mae hyn wedi bod yn broblem ers blynyddoedd. O ran y trenau dosbarth 756, er enghraifft, cawsant eu harchebu yn ôl yn 2019 gan Keolis Amey, cyn i Lywodraeth Cymru wladoli gwasanaethau, ond ni chawsant eu cyflwyno ar y llinell reilffordd tan fis Tachwedd 2024. Dywedwyd wrth fy nghyd-Aelod Russell George hefyd fod y cerbydau newydd ar reilffordd y Cambrian wedi’u gohirio eto hyd at ddiwedd y flwyddyn hon, er iddynt gael eu haddo yn ôl yn 2023. Felly, a all Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y mae'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i'w dwyn i gyfrif am brydlondeb ar wasanaethau gogledd Cymru, ac a all roi rhagor o eglurder ynghylch y rhesymau dros yr oedi parhaus cyn cyflwyno cerbydau newydd, a beth yw canlyniadau ariannol hyn? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, mae oddeutu 44 y cant o’r oedi a’r munudau a gollwyd oherwydd problemau Network Rail—problemau'n ymwneud â’r seilwaith—ac mae hynny oherwydd diffyg buddsoddiad ers llawer rhy hir. Nawr, rwy'n cytuno nad oedd y perfformiad, yn 2023, cystal ag y byddem yn dymuno iddo fod. Yn 2024, gwelsom welliant rhyfeddol. Gwelsom fodlonrwydd cwsmeriaid yn gwella oddeutu 16 y cant. Gwelwn yn y cyfnod diweddaraf, fod prydlondeb ar 79 y cant—mae 79 y cant o drenau ar amser. Ac rydym wedi gweld cynnydd o 12 y cant mewn teithiau gan deithwyr. Felly, mae'n mynd i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n cytuno bod lle i wella bob amser. A dyna pam fy mod yn cynnal sesiynau craffu rheolaidd iawn gyda chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl am arian o’n buddsoddiad.
Nawr, dylwn ddweud, hefyd, yn ôl yn 2018, pan wnaethom etifeddu stoc drenau Trenau Arriva Cymru, ein bod wedi etifeddu un o’r stociau hynaf ym Mhrydain, a dim ond 270 o drenau. Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd gennym un o'r fflydoedd mwyaf newydd o drenau, dros 480. Mae hynny'n gynnydd anhygoel a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy o gapasiti ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd.
Nawr, mae un pwynt pwysig arall yr hoffwn ei godi mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf y mae'r Aelod wedi'i ofyn heddiw, sef bod y newid i'r amserlen ym mis Rhagfyr eisoes wedi arwain at welliant go sylweddol o ran prydlondeb a dibynadwyedd. Ac rydym wedi gallu sicrhau, drwy'r newid i'r amserlen, fod gennym fwy o drenau lle mae'r galw mwyaf. Gwn fod hynny wedi arwain at rai penderfyniadau anodd iawn mewn ardaloedd eraill, ond mae wedi golygu, er enghraifft, ar lein boblogaidd y gororau, ac ar y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de yn ei gyfanrwydd, ein bod yn gweld mwy o drenau pum cerbyd yn cael eu cyflwyno. Ac fe welwn fwy o hynny wrth i ragor o drenau gael eu darparu. Oes, mae oedi wedi bod, ac mae hynny'n anffodus, ond rydym yn sicrhau bod pwysau'n cael ei roi ar y gweithgynhyrchwyr i'w darparu cyn gynted â phosibl.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Sylwaf ichi sôn, yn gynharach yn eich ymateb, am ddiffyg buddsoddiad gan Network Rail, ond nid yw hyn yn ddim byd newydd. Mae hyn yn mynd yn ôl i 1966—mae pobl y gogledd wedi bod yn aros i'r rheilffordd gael ei thrydaneiddio, ac rydym wedi gweld buddsoddiad—buddsoddiad sylweddol—yn ein rheilffyrdd ledled y DU, o ran y TransPennine Express, HS2, a’r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, a rhai o’r rheini sy’n cael eu cyhoeddi gan Rachel Reeves. A chyn yr etholiad cyffredinol, roedd Rishi Sunak wedi addo gwario £1 biliwn ar drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru. Felly, a allwch chi amlinellu sut rydych chi'n blaenoriaethu seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd ac egluro pa sylwadau rydych chi'n eu gwneud i Lywodraeth y DU, gyda chyd-aelodau o'ch plaid nawr, o ran seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd, sydd ar ei hôl hi'n sylweddol o gymharu ag ardaloedd eraill sydd wedi bod yn flaenoriaeth i Ganghellor y Trysorlys yn eithaf diweddar?
Wel, roedd y cyhoeddiad gan Rishi Sunak yn fuan iawn cyn etholiad cyffredinol y DU yn dipyn o syndod nid yn unig i ni, gan nad oeddem wedi bod yn rhan o’r broses o bennu’r cyhoeddiad penodol hwnnw a’r ffigurau o’i gwmpas, ond hefyd i’r Adran Drafnidiaeth ei hun ac i Network Rail, na ofynnwyd iddynt ddechrau unrhyw waith arno. Rwy'n ofni efallai fod yr addewid hwnnw wedi’i wneud fel ymateb byrbwyll i’r arolygon barn a oedd yn cael eu cyhoeddi ar y pryd yn dangos y byddent yn cael eu trechu'n llwyr, sef yr hyn a ddigwyddodd yn y pen draw. Ar sail ei gyhoeddiad, rwy'n credu y byddech chi'n fwy tebygol o allu glanio ar y lleuad mewn bath nag o weld y Torïaid, gyda'u haddewidion ffug, yn trydaneiddio'r rheilffyrdd.
Yn hytrach, yr hyn sydd gennym yw rhestr arfaethedig y cytunwyd arni, drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru, o welliannau i ogledd Cymru. Mae ar frig y rhestr o welliannau. Ac mae hynny'n cynnwys gwelliannau i brif linell reilffordd y gogledd, sy'n dechrau eleni—maent yn dechrau eleni; mae’n cynnwys lein y gororau i ddarparu’r gwasanaethau metro y mae Janet Finch-Saunders wedi gofyn yn garedig amdanynt ac y byddwn yn eu darparu; mae hefyd yn cynnwys uwchraddio gorsafoedd a gorsafoedd newydd; ac yn hollbwysig, mae'n cynnwys datrys yr heriau capasiti yng Nghaer, gan fod hynny'n ein hatal rhag darparu mwy o wasanaethau i mewn ac allan o ogledd Cymru. Dyna'r rhestr; mae wedi'i chytuno gan yr Adran Drafnidiaeth, a nawr, rydym yn mynd i'w chyflawni.
Rydych chi'n dweud bod cyhoeddiad Rishi Sunak am y buddsoddiad o £1 biliwn yn y gwaith trydaneiddio wedi bod yn syndod, ond roedd yn Brif Weinidog y DU ar y pryd. Mae Network Rail a chwmnïau cysylltiedig eraill yn gweithio dan gyfarwyddiaeth Llywodraeth y DU, a Phrif Weinidog y DU yn wir. Felly, mae'n syndod i mi ac yn syndod i lawer o bobl y byddai hynny'n syndod i'r rheini yn y sector, gan y dylent fod yn ymateb i'r cyhoeddiadau hynny ac yn gwneud y gorau o'r rheini i sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu cyflawni a'u cwblhau.
Ond yn olaf, hoffwn godi mater cyllid ar gyfer addasiadau diogelwch ar ffyrdd gwledig y gogledd. Lluniodd y cwmni cyfreithiol JMW restr o'r ffyrdd mwyaf peryglus ym Mhrydain, ac roedd yr A496, llwybr mynyddig Eryri, yn ail. Er bod gennym rai o'r priffyrdd mwyaf golygfaol yn y DU, mae gennym hefyd lawer o ffyrdd gwledig gwyntog a pheryglus. Gyda chymaint o bwyslais gan Lywodraeth Cymru ar ffyrdd trefol, credaf fod diogelwch ffyrdd gwledig wedi’i esgeuluso braidd.
Mae'r rhan o’r B5119 rhwng y Rhyl a Dyserth, a elwir yn ‘dizzy bends’, hefyd yn hynod beryglus, gyda gwrthdrawiadau traffig yn digwydd yn aml, ond yn anffodus, clywn gan ymgyrchwyr, er gwaethaf y nifer uchel o wrthdrawiadau a damweiniau a fu bron â digwydd ar ffyrdd gwledig, nad oes unrhyw beth yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater tan fod rhywun yn marw, fel y gwelsom yn drasig yr wythnos hon ar yr A534 ger yr Holt Lodge yn Wrecsam.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol well mynediad at gyllid i gyflwyno gwelliannau diogelwch ar briffyrdd peryglus er mwyn atal gwrthdrawiadau angheuol? Diolch.
A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn hwnnw? Mae'n hynod bwysig ein bod yn blaenoriaethu diogelwch pan fyddwn yn ystyried buddsoddi yn ein ffyrdd. O flwyddyn ariannol 2026-27 ymlaen, byddwn yn datganoli cyfrifoldeb a phenderfyniadau ynglŷn â sut i wario cyllid trafnidiaeth leol i awdurdodau lleol drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig, fel y gallant flaenoriaethu gwariant ar ddiogelwch ffyrdd yn y ffordd a nodwyd gennych. Credaf y dylid croesawu hynny. Mae awdurdodau lleol wedi gofyn am hyn ers tro at y diben a nodwyd gennych, ac rydym yn mynd i'w wneud.
O ran trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, roeddwn wedi synnu bod cyn lleied wedi'i gyhoeddi, ac mor hwyr, ac roedd yn gyhoeddiad nad oedd hyd yn oed yr Adran Drafnidiaeth, yn ôl pob golwg, yn ymwybodol ohono. Felly, mae arnaf ofn nad oedd yn addewid gonest mewn gwirionedd.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2022, canfu adroddiad gan Sustrans nad oedd hanner yr holl orsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn gwbl hygyrch i bobl anabl, gyda 34 y cant heb fynediad o gwbl i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Dair blynedd yn ddiweddarach, teimlaf nad oes digon wedi newid. Ledled Cymru, mae gormod o bobl anabl yn parhau i wynebu rhwystrau annerbyniol i symudedd ac annibyniaeth. Gwyddom fod hwn yn fater real ac yn fater brys. Yn ddiweddar, dywedodd etholwr wrthyf am y profiad trallodus o fynd â’u tad anabl i orsaf Casnewydd am daith undydd i Gaerdydd, a gorfod canslo eu cynlluniau am fod anhygyrchedd yr orsaf yn gwneud y daith yn rhy anodd. Ymhellach, cwblhawyd yr estyniad i orsaf drenau Pont-y-pŵl a New Inn dros flwyddyn yn ôl bellach, ond mae'n dal i fod ar gau, sy'n golygu nad oes mynediad i'r platfform i bobl â phroblemau symudedd, a dim lleoedd parcio ychwanegol. Nid anghyfleustra yn unig yw hyn, ond allgáu. Mae hygyrchedd gwael mewn gorsafoedd yn rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gyfyngu ar eu mynediad at waith, addysg, gofal iechyd a chyfleoedd cymdeithasol. Mae'n gwaethygu ynysigrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldeb, ac yn groes i'n hymrwymiadau cyfreithiol a moesegol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r mater hwn hefyd yn effeithio ar bobl hŷn, rhieni â phramiau ac eraill â heriau symudedd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro’r materion hyn, a beth y mae’r data yn ei ddweud wrthych am gamau gweithredu i’w lleddfu?
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ac am ei ffocws heddiw ar yr angen am fwy o drafnidiaeth gynhwysol yng Nghymru, a symud cynhwysol? Bydd rhai Aelodau'n ymwybodol fod hyn bellach yn ffocws penodol i Lywodraeth Cymru, a rhoddais dystiolaeth i bwyllgor eich cyd-Aelod Llyr Huws Gruffydd yn ddiweddar, lle dywedais ein bod yn newid y ffocws i symud cynhwysol. Mae hynny'n golygu ein bod yn mynd i fod yn rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio cyllid teithio llesol ar gyfer gwelliannau real ar lawr gwlad, yn hytrach nag at ddibenion biwrocrataidd a dibenion gweinyddol. Felly, rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, yn y flwyddyn i ddod, ddefnyddio o leiaf 60 y cant o'u cyllid i gyflawni ar lawr gwlad er mwyn ysgogi symud cynhwysol—i sicrhau bod palmentydd yn cael eu hatgyweirio, i sicrhau bod cyrbiau isel mor llydan â phosibl yn cael eu gosod, i sicrhau bod palmentydd botymog yn cael eu defnyddio, i sicrhau bod seddi hygyrch ar gael i bobl.
Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phanel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru, a gwahoddais y pwyllgor i gyfarfod â’r panel. Mae'r panel eisoes wedi manteisio ar y cyfle hwnnw, felly rwy'n gobeithio y bydd aelodau'r pwyllgor yn ymuno â'r panel yn fuan iawn. Ac nid wyf yn bwriadu rhoi'r gorau i fynd ar drywydd yr agenda benodol hon. Mae'n hanfodol—yn hanfodol—fod trafnidiaeth yn hygyrch i bawb a bod gennym y seilwaith yn ein trefi, yn ein pentrefi, yn ein hardaloedd gwledig, i alluogi pobl, ni waeth beth y bo'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ac i allu symud o gwmpas yn ddiogel ac yn rhydd.
Diolch am eich ateb. Byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw ddata y gallech ei rannu, gan y byddai'n ddiddorol deall hynny. Ond hyd yn oed pan fo'r orsaf yn gwbl hygyrch, nid yw hynny'n gwarantu y bydd unigolyn anabl yn gallu teithio. Cefais wybod yn ddiweddar am brofiad hynod rwystredig a gafodd teithiwr anabl yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Roedd hi'n aros i fynd ar drên i Gaerffili pan ddywedodd y casglwr tocynnau wrthi na allai ddod ar y trên am fod defnyddiwr cadair olwyn ar y trên yn barod. I wneud pethau’n waeth, cafodd wybod wedyn y gallai fod defnyddiwr cadair olwyn ar y trên nesaf hefyd, gan olygu y byddai’n rhaid iddi aros am y trydydd trên, a oedd â dau le dynodedig ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae hyn yn annerbyniol. Digwyddodd hyn ym mis Ionawr, gan adael menyw gyda'i merch ifanc yn sefyll yn yr oerfel am 30 munud am nad oedd y gwasanaeth trên wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn ar y tro. Felly, beth fyddech chi'n disgwyl y dylai fod wedi digwydd yn y sefyllfa honno, Ysgrifennydd y Cabinet? Sawl trên yn fflyd newydd sbon Trafnidiaeth Cymru sy'n gallu cludo mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn? Nid yw gwneud y gorsafoedd yn hygyrch yn ddigon, mae angen i'r trenau fod yn hygyrch hefyd.
Mae hwnnw'n gwestiwn amserol iawn, gan fy mod wedi gofyn i'r hyrwyddwr pobl anabl yn Llywodraeth Cymru—neu'r unigolyn a oedd yn hyrwyddwr pobl anabl yn Llywodraeth Cymru—i gynorthwyo yn yr union faes hwn. Mae ef ei hun wedi amlinellu i mi yn ddiweddar yr heriau a wynebir gan bobl sy’n olwyno lle mae diffyg capasiti, felly rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddarparu’r data y cyfeiriwch ato. Fy marn i yw na ddylai hynny ddigwydd. Ni ddylai hynny ddigwydd yn unrhyw le nac ar unrhyw adeg. Dylai pawb allu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, a’n trenau yn arbennig, pan fyddant yn dymuno.
Nawr, rydych chi'n gwneud pwynt da iawn ynglŷn â'r diffyg mynediad i bawb yn ein gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru. Rydym yn gwneud cais i Lywodraeth y DU am gyllid Mynediad i Bawb, ond mae llawer gormod o orsafoedd o hyd nad ydynt yn gwbl hygyrch i bobl sy’n wynebu rhwystrau. Dyna pam ein bod yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru asesu a allwn wneud gwelliannau i orsafoedd yng Nghymru, ar y cyd â Network Rail—neu Great British Railways, fel y bydd yn cael ei alw cyn bo hir o bosib—gan fod hyn wedi bod yn digwydd ers llawer rhy hir, a dylai pobl allu disgwyl mynediad rhwydd i drenau.
Nawr, yn y maes seilwaith y mae gennym gyfrifoldeb llawn amdano—llinellau craidd y Cymoedd—mae gwelliannau enfawr wedi'u gwneud gyda mynediad heb risiau ar y trenau, ac rydym wedi defnyddio arbenigedd a phrofiad bywyd y panel mynediad a chynhwysiant i ddylunio gorsafoedd gwell, i ddylunio'r seilwaith sy'n galluogi pobl i deithio. Ond o ran yr enghraifft benodol a nodwyd gennych, byddwn yn croesawu mwy o fanylion yn ei chylch, a byddaf yn ei chodi'n bersonol gyda Trafnidiaeth Cymru, gan na ddylai hynny ddigwydd. Mae aelodau penodol o staff a ddylai allu cynorthwyo pobl â gofynion fel y rhai a nodwyd gennych, a dylent allu gwarantu y gall pobl symud mor gyflym â phosibl ac nad ydynt yn gorfod aros am drenau eraill.
Diolch, a diolch am eich ymrwymiad i ymchwilio i'r mater ymhellach. Mae hynny'n arbennig o galonogol.
Yn olaf, roeddwn am sôn ychydig yn fwy cyffredinol am hygyrchedd teithio. Mae cyflwyno teithiau talu wrth fynd ar draws sawl gorsaf yn ne Cymru yn gam i’w groesawu. Mae talu wrth fynd yn gwella hygyrchedd drwy symleiddio tocynnau, lleihau rhwystrau ffisegol, galluogi teithio hyblyg, capio prisiau i gefnogi fforddiadwyedd a sicrhau profiad teithio di-dor, cynhwysol. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â hynny i gyd. Fodd bynnag, rwyf wedi cael gwybod am fater sy’n codi dro ar ôl tro: fod llawer o deithwyr yn ansicr a yw gorsaf eu cyrchfan yn cefnogi talu wrth fynd. Mae'r dryswch wedi arwain at bobl yn gorfod talu ddwywaith am eu taith pan na allant dapio allan yn eu cyrchfan, a gorfod mynd drwy'r drafferth o ofyn am ad-daliad. Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch cyflwyno’r cynllun hwn yn raddol. A all byth weithio fel rhywbeth sy'n cael ei gyflwyno'n raddol, neu a ddylai fod wedi cael ei gyflwyno fel cynllun cenedlaethol o'r diwrnod cyntaf, neu bopeth ar unwaith? Pryd y gallwn ddisgwyl i’r gwasanaeth talu wrth fynd fod ar gael ar draws y rhwydwaith cyfan? Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno y dylai system drafnidiaeth hygyrch fodern fod yn ddi-dor ac yn hawdd i bawb ei defnyddio.
A gaf i ddiolch am eich cwestiynau olaf y prynhawn yma? Mae'r dechnoleg a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth penodol hwn yn eithaf datblygedig, ond mae arnaf ofn fod y math o her a wynebir ar sail yr hyn a nodwyd gennych heddiw yn ymwneud â chyfathrebu—sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gorsafoedd sydd â chyfleusterau tapio i mewn ac allan a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau hynny. Byddaf yn codi'r union bwynt hwnnw gyda Trafnidiaeth Cymru.
O ran ein hamcan hirdymor, rydym yn dymuno gweld technoleg tapio i mewn ac allan yn cael ei defnyddio nid yn unig ym mhob un o’n gorsafoedd rheilffordd, ond hefyd ar y rhwydwaith bysiau. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn roi hyn ar waith mewn ffordd sy'n cydredeg â'r broses fasnachfreinio. Yn ddelfrydol o fewn y pum mlynedd nesaf, byddem yn dymuno gweld technoleg tapio i mewn ac allan yn cael ei defnyddio ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cyfan gyda’r tocyn integredig sengl hwnnw ochr yn ochr â’r rhwydwaith integredig sengl.
Cwestiwn 3, Sam Rowlands.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd tuag at wella rheilffordd Wrecsam i Bidston? OQ62246
Yn sicr. Mae Llywodraeth newydd y DU wedi cydnabod bod y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi’i danariannu ers gormod o amser. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â hwy ar restr o flaenoriaethau a nodwyd gan fwrdd rheilffyrdd Cymru ar gyfer gwelliannau arfaethedig i'r rheilffyrdd. Yn ffodus, mae hyn yn cynnwys gwelliannau i reilffordd Wrecsam-Bidston.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb. Fe fyddwch yn gwybod, ar gyfer gogledd Cymru, fod cysylltiadau â gogledd-orllewin Lloegr yn hanfodol ac yn ddwfn ac yn wirioneddol bwysig i economi gogledd-ddwyrain Cymru yn arbennig. Roeddwn yn falch o allu codi pwysigrwydd y cyfleoedd parhaus hynny gyda gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn y Siambr ddoe gyda’r Prif Weinidog, ac roeddwn yn falch o’i hymateb, lle dywedodd y dylem fanteisio ar y cysylltiadau economaidd rhwng Cymru a Lloegr, ac yn wir, y nifer o gysylltiadau eraill sy’n ein clymu at ein gilydd. Tybed a allech chi ymhelaethu ar eich sylwadau agoriadol i ddisgrifio rhai o'r sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Merseyrail yn benodol i ddeall y cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau y tu hwnt i Bidston i ardal Mersi, ac unrhyw gyfleoedd eraill a welwch y gellir manteisio arnynt i sicrhau bod pobl yn cael mynediad rhwydd i ogledd-ddwyrain Cymru.
A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn a’i ddiddordeb brwd yn y datblygiad penodol hwn? Bu Vaughan Roderick o’r BBC yn cyfweld â phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price, dros y penwythnos, a buont yn trafod yr union brosiect hwn a’r angen i greu cysylltiadau uniongyrchol, pedwar trên yr awr rhwng Wrecsam, dinas fwyaf newydd Cymru, a Lerpwl, un o ddinasoedd mwyaf gwych Lloegr. Mae cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol cryf rhwng gogledd Cymru a Lerpwl, ac mae gan Lerpwl un o’r ddau faes awyr yng ngogledd-orllewin Lloegr a ddefnyddir yn aml gan ddinasyddion sy’n teithio dramor, ac felly mae creu gwasanaethau gwell, mwy uniongyrchol yn hanfodol bwysig. Cydnabyddir hynny yn ardal Mersi, nid yn unig gan gyngor y ddinas a’r gwahanol aelodau yno a’r arweinydd, sydd wedi bod yn gynghreiriaid rhyfeddol, mae’n rhaid imi ddweud, wrth ddadlau o blaid gwelliannau i’r rheilffordd benodol honno, ond hefyd gan faer y dinas-ranbarth hefyd.
Rwy'n credu ein bod bellach yn ei galw'n llinell reilffordd Wrecsam i Lerpwl yn hytrach na Wrecsam i Bidston. Yr adborth yw bod amserlennu tair taith yr awr yn ychwanegol wedi'i groesawu’n fawr, a hoffwn ofyn i chi—roedd problemau gyda'r cerbydau cludo nwyddau ar y rheilffordd yn Padeswood, felly, fel rhan o’r adolygiad o wariant sydd ar y ffordd, rydym yn gobeithio cael gwared ar y cerbydau cludo nwyddau hynny fel y gallwn gynyddu nifer y teithiau i deithwyr i bedair taith yr awr. A hefyd, unwaith eto, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Steve Rotheram, maer Lerpwl, fel y gallwch wneud ymdrech gyfunol i gael arian yn yr adolygiad o wariant ar gyfer y lein rhwng Lerpwl a Wrecsam? Diolch.
A gaf i ddiolch i chi am eich cwestiwn? Mae'n gwestiwn gwych am mai'r gwaith sydd ei angen yn Padeswood mewn gwirionedd yw elfen gyntaf y rhaglen uwchraddio Wrecsam i Lerpwl, ac rydym yn obeithiol y gallwn weld gwaith go iawn ar y gweill yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn y safle penodol hwnnw, a fydd, fel y dywedwch, yn ein galluogi wedyn i gynyddu amlder yn eithaf sylweddol ar y lein wrth inni symud tuag at bedwar trên yr awr. Ac mae Steve Rotheram, maer metro Lerpwl, yn gefnogwr brwd i'r prosiect. Mae wedi cynnig cefnogi ein galwad am gyllid drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae'n un o gefnogwyr brwd clwb pêl-droed Lerpwl; fel un o gefnogwyr Everton fe wnaf faddau iddo, oherwydd mae'n gyfaill rhagorol—rhagorol—i ni.
Cwestiwn 4, Peredur Owen Griffiths.
Helo eto, Ysgrifennydd y Cabinet.
4. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo teithio llesol yn Nwyrain De Cymru? OQ62270

Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid yn Nwyrain De Cymru i ddarparu seilwaith a chynlluniau teithio llesol. Drwy Trafnidiaeth Cymru, rydym yn darparu cymorth ac adnoddau i helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo cerdded, olwyno a beicio diogel.
Diolch am yr ateb yna.
Rydych chi wedi cyffwrdd â rhywfaint o hyn y prynhawn yma eisoes, ond mae dros ddegawd wedi bod ers i Gymru gael Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Un o brif agweddau'r ddeddfwriaeth yw'r ddyletswydd ar y Llywodraeth a chynghorau i wella'r ddarpariaeth teithio llesol yn barhaus trwy sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a gwell a chyfleusterau cysylltiedig. Er i'r Dirprwy Weinidog ar y pryd ddweud, ychydig llai na dwy flynedd yn ôl, fod y Llywodraeth yn bwriadu cynyddu gwariant yn y blynyddoedd i ddod, mae pobl sy'n gweithio i hyrwyddo beicio yn poeni'n ddifrifol am uno trafnidiaeth ranbarthol gyda theithio llesol yn llinell y gyllideb. Dywedodd Gwenda Owen, arweinydd eiriolaeth a datblygu Cymru Cycling UK:
'Heb ymrwymiad clir gan y llywodraeth, mae perygl i Gymru danseilio ei chyflawniadau arloesol mewn cerdded a beicio.'
Weinidog, beth yw'r rhesymeg dros uno'r cyllidebau hyn, ac a allwch chi hefyd ddarparu'r eglurder a'r ymrwymiad i ariannu teithio llesol y mae grwpiau fel Cycling UK a Sustrans wedi bod yn galw amdano ers cyhoeddi'r gyllideb?
A gaf i ddiolch i chi am eich cwestiwn a'r cyfle i ymateb i orbryder di-sail, yn fy marn i? Rwyf eisoes wedi amlinellu sut rydym yn symud ein ffocws at symud cynhwysol, teithio cynhwysol. Mae hynny'n golygu ein bod yn gosod, yn gyntaf oll, cerdded ac olwyno sy'n hygyrch i bawb ar y blaen yn ein hystyriaethau, ond hefyd y rôl barhaus sydd i hyrwyddo beicio, nid yn unig er mwyn newid dulliau teithio i leihau allyriadau carbon, ond hefyd ar gyfer ein hiechyd a'n lles.
Nawr, ar gyllid, rydym yn cynnal ein cyllid ar gyfer teithio llesol eleni, ond y rheswm ein bod yn datganoli cyfrifoldeb a phenderfyniadau i'r rhanbarthau o 2026-27 yw oherwydd ein bod yn credu'n gryf mai awdurdodau lleol sy'n gwybod orau beth sydd ei angen ar eu cymunedau o ran seilwaith ac o ran gwasanaethau. Ac wrth inni ofyn i awdurdodau lleol weithio ar lefel ranbarthol, mae'n gwbl gywir ein bod yn cynnig y gefnogaeth iddynt ac yn eu grymuso i wneud y penderfyniadau hynny ar lefel ranbarthol. Mae hynny'n cynnwys cael yr adnoddau ariannol heb amodau ynghlwm wrthynt.
Ar y llaw arall, gallai rhai ddadlau efallai na ddylem ddatganoli'r holl benderfyniadau, dim ond datganoli'r cyllid. Nid wyf yn credu bod hynny'n iawn o gwbl. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n deg. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n briodol. Mae'n rhaid inni sicrhau y gall awdurdodau lleol gyflawni yn erbyn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y maent wedi gweithio mor galed arnynt. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft sydd eisoes wedi'i gyhoeddi yng ngogledd Cymru yn rhagorol; mae'n nodi'r blaenoriaethau y credaf y byddai'r mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn eu cefnogi. Ac yn wir, gall y cyhoedd ddweud eu barn nawr. Mae gan y cyhoedd lais hyd at ganol mis Ebrill ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, a byddant yn gallu dewis pa flaenoriaethau y buddsoddir ynddynt, ac rwy'n credu bod hynny'n iawn. Efallai fy mod i'n swnio fel Citizen Smith, ond grym y bobl ydyw; dyna'r rheswm.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o gynlluniau i ddatblygu llwybr teithio llesol newydd sy'n ymestyn o Frynbuga i Bont-y-pŵl, ac rwyf wedi ei godi gyda chi ar sawl achlysur yma yn y Siambr. Yn wir, mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r prosiect ac mae'n cael ei gefnogi gan y gymuned, byddai'n darparu llwybr cerdded a beicio diogel, gan gysylltu pobl â chyfleusterau pwysig ar hyd y ffordd, fel ysgolion a safleoedd cyflogaeth. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar y prosiect, ac mae yna rai heriau y mae angen mynd i'r afael â hwy, ond rwy'n hyderus y cânt eu goresgyn. Rwyf hefyd yn hyderus y gellir cyflwyno'r cynnig hwn a dod â buddion go iawn i'r ardal gyfan. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu fy swyddfa â'r tîm y tu ôl i'r prosiect, ochr yn ochr â swyddogion etholedig eraill, i dderbyn diweddariad a siarad am y camau nesaf. Rydym yn awyddus iawn i'ch cael chi yno, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch gael golwg uniongyrchol ar y cynllun. Ac Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi edrych ar eich dyddiadur, pan fyddwch chi'n gadael y Siambr, a threfnu dyddiad ar gyfer yr ymweliad hwn? A Lywydd, rwyf am gofnodi y gwnaf i, nid y trethdalwr, dalu am bicen ar y maen a phaned o de. Felly, diolch, Lywydd.
Diolch. Byddai'n bleser cael ymuno â chi. Mewn gwirionedd, byddaf yn dod â fy meic fel y gallaf feicio rhan ohono. Nid oes lle iddo mewn car gweinidogol, felly mae'n debyg y bydd yn rhaid imi feicio i lawr neu ddefnyddio'r trên i ddod â'r beic, ond fe wnaf ymuno â chi. Fy nealltwriaeth i yw y gallai'r prosiect penodol hwnnw fod yn werthfawr iawn i ysgogi twristiaeth yn yr ardal hefyd, ac nid dim ond cymudo ac annog pobl allan o'u ceir pan allant gymudo ar feic. Felly, mae'n swnio'n brosiect addawol iawn. Mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych arno; rwy'n ymwybodol o hynny. Ond na, rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod am reid ar un rhan ohono.
5. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amserlen newydd lein y Cambrian ar drigolion lleol? OQ62241
Roedd gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn fwy dibynadwy na phob gweithredwr arall yng Nghymru y llynedd. Mae perfformiad y gwasanaeth wedi gwella ymhellach gyda chyflwyno'r amserlen newydd ym mis Rhagfyr, gan gynnwys ar lein y Cambrian.
Diolch am yr ymateb. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy mhryderon am y newidiadau i amserlen lein y Cambrian yn dilyn cwestiynau ac ymrwymiadau blaenorol ar y mater. Roedd yn wych clywed atebion cynharach ar welliannau i reilffyrdd y de a'r gogledd, ond nid yw hynny'n fawr o gysur i'r bobl ar hyd lein y Cambrian. Mae'r newidiadau sydd wedi dod i rym yn niweidiol iawn i fy etholwyr, pobl na allant deithio i'r gwaith, na allant fynd i siopa neu i weld eu teulu a'u ffrindiau, ac yn y bôn, mae'n annog pobl i ddefnyddio ceir sy'n ddrutach ac yn niweidiol yn amgylcheddol. Cafodd y newidiadau eu cyfiawnhau ar y pryd ar sail defnydd isel gan deithwyr, rhywbeth a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn ateb blaenorol i mi. Ond rhaid bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, am y rhan fwyaf o'r 10 mlynedd diwethaf, fod y lein wedi dioddef tarfu, yn sgil ailadeiladu Pont Briwet 10 mlynedd yn ôl, ei chau am bum mis oherwydd y tywydd, ei chau dros y gaeaf oherwydd ailddatblygu pont Abermo, COVID ac effeithiau eraill. Felly, fe fyddwch chi'n deall pam fy mod i a fy etholwyr yn amau'r achos a gyflwynwyd. Mae angen inni weld lein sy'n ateb anghenion y trigolion. Felly, a ydych chi'n derbyn bod y newidiadau wedi bod yn niweidiol, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaeth trên mwy rheolaidd yn cael ei adfer ar lein y Cambrian?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gwnaed penderfyniadau anodd, fel y soniais yn gynharach, ynghylch defnyddio cerbydau ledled Cymru. Roeddwn i'n falch, fodd bynnag, fod Trafnidiaeth Cymru wedi ymgysylltu â theithwyr, ac fe wnaethant ddiwygio rhai o'u cynigion o ganlyniad i'r adborth a gawsant. Mae newid amserlen mis Rhagfyr wedi arwain at wella amlder—mae'n ddrwg gennyf, gwella prydlondeb—a pherfformiad, a fy ngobaith i, o ganlyniad i hynny, yw y byddwn hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r lein honno. Os gallwn gynyddu nifer y teithwyr, mae hynny'n sicr yn helpu'r ddadl dros gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau, ac felly byddwn yn asesu'r effaith y mae wedi'i chael ar gymunedau ac effaith newidiadau pellach i'r amserlen. Pan gawn fwy o drenau a phan welwn y cynnydd enfawr i 483 o drenau, gobeithio y gallwn adfer mwy o wasanaethau. Ond mae'r adnoddau sydd ar gael i ni yn gyfyngedig. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael tasg anodd iawn yn ddiweddar, mae arnaf ofn, o ran penderfynu pa wasanaethau y gellir eu cynnal yn erbyn rhagolwg ariannol llwm iawn. Yn amlwg, rydym wedi cael setliad llawer gwell gan Lywodraeth y DU nawr, felly rwy'n gobeithio, yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni weld mwy o fuddsoddiad, ond hefyd wrth inni weld nifer y teithwyr yn cynyddu, y gwelwn fwy o wasanaethau ledled Cymru.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet.
A diolch hefyd i Mabon am y cwestiwn yma.
Ydy, mae'n peri pryder gwirioneddol, onid yw, ein bod wedi cael y toriadau hyn i lein y Cambrian. Er enghraifft, mae'r gwasanaeth rhwng Machynlleth ac Abermo yn gynnar yn y bore wedi cael ei dorri. Pan oeddwn yn byw yn y Trallwng, cefais yr un profiad o fethu cyrraedd y gwaith. Euthum am fy nhrên arferol am 6.30 a.m., ond roedd wedi ei ganslo, ac ni fyddai'r nesaf yn dod tan 9.00 a.m. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn addo gwasanaeth bob awr ar lein y Cambrian ers dros 10 mlynedd bellach, ac mae llawer o drigolion ar hyd y lein honno'n ei defnyddio ar gyfer y gwaith ac ar gyfer pethau fel siopa a mynychu apwyntiadau. Felly, tybed a gawn ni bwyso arnoch chi, neu o leiaf bwyso arnoch chi am ddyddiad pryd y ceir cadarnhad o pryd y caiff y gwasanaeth newydd bob awr ei gyflwyno. Oherwydd rwy'n credu mai gwybodaeth i breswylwyr yw'r hyn sydd ei angen arnom yma, a gorau po gynharaf y byddant yn gwybod pryd fydd y lein honno'n gweithredu ar y lefel o wasanaeth sy'n ddisgwyliedig. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chwestiwn? Fel y dywedais eisoes, roedd yn benderfyniad anodd iawn i Trafnidiaeth Cymru ei wneud, ond fe wnaethant ymgynghori â grwpiau defnyddwyr a theithwyr. Ac er i'r gwasanaeth 05:07 rhwng Machynlleth ac Abermo gael ei dorri, a gwasanaeth 06:45 Abermo i Fachynlleth, fe wnaethant gadw'r gwasanaeth 08:52 rhwng Machynlleth a Phwllheli a gwasanaeth 11:37 Pwllheli i Fachynlleth. Felly fe wnaethant wrando, ac fe wnaethant weithredu ar yr hyn a glywsant.
Bydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno eleni. Byddant yn fwy cyfforddus, byddant yn fwy dibynadwy, ac o fis Mai eleni, bydd gwasanaeth 16:30 drwy gydol y flwyddyn yn cael ei gyflwyno rhwng Aberystwyth ac Amwythig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn anelu at gyflwyno gwasanaeth bob awr ar y llwybr hwn yn ystod misoedd yr haf o fis Mai y flwyddyn nesaf.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brosiectau cynnal a chadw ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62233
Gwnaf. Mae trwsio ein ffyrdd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac rwyf wedi sefydlu cronfa bwrpasol gwerth £25 miliwn yn 2025-26 yn unswydd ar gyfer atgyweirio'r rhwydwaith ffyrdd strategol i sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu cysylltu'n ddiogel.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch o fy ngohebiaeth atoch fod cau'r A487 yng Nghasnewydd yn fy etholaeth yn cael effaith wirioneddol ar fusnesau lleol yn yr ardal. Mae un busnes wedi dweud bod cau'r ffordd yn costio cannoedd o bunnoedd yr wythnos iddynt ac mae busnes arall wedi mynegi pryderon eu bod yn credu y gallai'r cau gael ei ymestyn, ac y byddai hynny'n niweidio busnesau hyd yn oed yn fwy. O ystyried y cyfnod helaeth o amser y mae'r A487 ar gau, a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol i'r busnesau sy'n dioddef yn sgil cau'r ffordd?
Mae rhai achosion lle gellir cynnig iawndal i fusnesau, ond yn achos tarfu, yswiriant busnes ar gyfer tarfu sydd fel arfer yn gymwys. Os nad oes gan fusnesau yswiriant ar gyfer tarfu, mae hynny'n rhywbeth y dylent ymgysylltu â Busnes Cymru yn ei gylch. Gall Busnes Cymru gynnig cyngor cynhwysfawr ar sut i ddiogelu busnesau yn ystod argyfyngau a digwyddiadau sy'n codi megis cau ffyrdd. Gallaf ddweud, fodd bynnag, mewn perthynas â'r A487, fod cynnydd da wedi'i wneud. Roedd i fod i ddod i ben ar 5 Mawrth, ond rwy'n falch o ddweud y bydd yn dod i ben ar 28 Chwefror. O 28 Chwefror ymlaen, defnyddir goleuadau dwy ffordd a chau dros nos er mwyn cwblhau'r gwaith. Felly, rydym wedi gallu cyflymu'r broses o ailagor y ffordd a gweithio dros nos a thraffig dwy ffordd yn lle hynny.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adfer rheilffordd Dyffryn Aman fel llinell i deithwyr? OQ62255
Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i adfer gwasanaethau teithwyr ar reilffordd Dyffryn Aman, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn system drafnidiaeth integredig newydd yn etholaeth yr Aelod fel rhan o fetro bae Abertawe a gorllewin Cymru.
Mae cymoedd Canol De Cymru wedi gweld buddsoddiad o dros £1 biliwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Cwm Ebwy yn y dwyrain wedi gweld buddsoddiad o dros £160 miliwn wrth ailagor y rheilffordd yn fanna. Pan ydyn ni'n edrych ar gymoedd y gorllewin—sydd yn cynnwys Dyffryn Aman, wrth gwrs—sy'n ymestyn o Gwm Llynfi i Gwm Gwendraeth, sy'n cynnwys bron 300,000 o bobl, dŷn ni ddim wedi gweld dim byd—dim byd. Onid yw hi'n bryd nawr, Ysgrifennydd Cabinet, i weld y buddsoddiad hwnnw? Rydych chi'n mynd i gael £400 miliwn, bron, o arian cyfatebol Barnett oherwydd y buddsoddiad nawr sy'n mynd i fod yn y llinell newydd rhwng Caergrawnt a Rhydychen; byddai'r buddsoddiad yna yn gweddnewid y sefyllfa o ran rheilffyrdd y gorllewin. Felly, allwn ni gael cyfarfod i drafod ein cynllun ni ar gyfer rheilffyrdd y gorllewin, fel ein bod ni'n cael chwarae teg i'r cymoedd yn y gorllewin sydd ddim wedi gweld hynny hyd yma?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Yn sicr. Byddwn yn falch iawn o gael cyfarfod i drafod beth fydd ei ddyheadau tymor canolig i dymor hir ef a'r bobl y daw â hwy gydag ef yn rhan o ddirprwyaeth. Y rheswm pam fod prosiectau a gytunwyd gan fwrdd rheilffyrdd Cymru wedi cael blaenoriaeth yn y ffordd y cawsant yw oherwydd y gwaith a wnaed ar y prosiectau penodol hyn.
Mae llawer iawn o amser dros nifer o flynyddoedd wedi mynd i mewn i'r prosiectau sy'n gysylltiedig â metro gogledd Cymru, a hefyd argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru. Dyna pam eu bod ar frig y rhestr flaenoriaeth. Ond nid yw hynny wedi atal Trafnidiaeth Cymru a'r rhanbarth, drwy'r cyd-bwyllgor corfforedig, rhag cynllunio ymyriadau mwy hirdymor.
Rwy'n credu y bydd y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ei gylch ymhen ychydig ddyddiau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn gallu argyhoeddi'r bobl a gynlluniodd y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol pa mor bwysig yw hi fod y math o brosiect blaenoriaeth a nodwyd gennych wedi'i ymgorffori ynddo. Felly, wrth ymgynghori, rwy'n eich annog chi a'ch etholwyr i gyflwyno sylwadau.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Llyr Gruffydd.
8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â chyflwr presennol darpariaeth ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ62263
Cyfarfûm ag Ysgrifennydd y Cabinet cyn y Nadolig i drafod yr heriau gyda deintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru. Cefais sicrwydd fod y bwrdd yn canolbwyntio ar y mater hwn a'i fod yn gwneud cynnydd ar gynyddu darpariaeth gwasanaethau ar draws y rhanbarth.
Fis Hydref diwethaf, clywsom fod deintyddfa Dant y Coed yng Nghoed-poeth ger Wrecsam yn trosglwyddo ei chytundeb GIG yn ôl, gan orfodi 12,000 o gleifion i ddibynnu ar ofal deintyddol preifat. Nawr, pan wneuthum eich herio ar hyn ar y pryd, yma yn y Siambr, fe ddywedoch chi y gallech sicrhau pobl ym mwrdeistref sirol Wrecsam fod 11 practis yn cynnig darpariaeth GIG. Wrth gwrs, yr hyn y methoch chi ei nodi oedd nad oes yr un o'r rheini'n derbyn cleifion newydd—dim un. Mae pob un ohonynt wedi rhewi'r holl gleifion GIG newydd allan. Ers hynny, wrth gwrs, mae tri practis deintyddol arall wedi trosglwyddo eu contractau GIG yn ôl yng ngogledd Cymru yn ystod mis cyntaf y flwyddyn hon yn unig.
Felly, a allech chi egluro i'r 12,000 o gleifion yn Wrecsam, a'r 3,000 o gleifion ychwanegol mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru, sydd wedi colli eu darpariaeth GIG yn ddiweddar—? Dyna 15,000 o gleifion yn ymdrechu i ddod o hyd i ddarpariaeth GIG yng ngogledd Cymru. A allwch chi ddweud wrthynt lle'n union y dylent edrych?
Wel, ar ôl cwestiwn olaf yr Aelod, roedd rhywfaint o ddiawlineb yn y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan ei swyddfa. Yn gyntaf oll, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio contract deintyddol y GIG o amgylch egwyddorion atal, risg, angen a mynediad.
Dros gyfnod o 13 mis, mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau dwys i ddarparu model newydd o ddeintyddiaeth sy'n ddeniadol i ddeintyddion a hefyd yn deg i gleifion. Gyda thrafodaethau ar gyfer y contract newydd bellach wedi dod i ben, rydym yn symud i gyfnod ymgynghori, lle bydd manylion y trefniadau newydd arfaethedig yn cael eu nodi gan y Gweinidog y gwanwyn hwn.
Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod practisau yn y cyfamser wedi cael amrywiad i'w contract uned o weithgaredd deintyddol ar sail risg ac angen. Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys gofyniad i dderbyn cleifion newydd. Gyda dros 430,000 eisoes wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers mis Ebrill 2022, fy nealltwriaeth i yw ei fod yn 82,000 yng ngogledd Cymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar effeithiolrwydd y prosiect Sbectrwm wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? OQ62242

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Hyd yma, mae dros 30,000 o ddisgyblion wedi ymgysylltu â’r prosiect ers 2023. O fis Ebrill 2025, bydd Sbectrwm yn darparu sesiwn ar berthynas iach i holl blant blynyddoedd 2, 6 a 10 yng Nghymru. Bydd hefyd yn datblygu cynllun cyd-fentora i ddisgyblion hŷn.
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Mae Sbectrwm, wrth gwrs, yn gynllun andros o bwysig gan ei fod yn darparu gwersi am drais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol i blant a phobl ifanc, ac mae'n dda bod ysgolion yn cael bod yn rhan, felly, o'r cynllun, a dysgu. Yn anffodus, dwi'n cael ar ddeall bod niferoedd ysgolion Gwynedd a Môn sy'n rhan o'r cynllun yn isel iawn, ac er nad oes dadansoddiad trylwyr wedi cael ei wneud o pam fod hynny, y gred ydy ei fod yn ymwneud â'r ffaith mai dim ond un swyddog sydd yn gweithio ar y prosiect yng ngogledd Cymru sy'n medru siarad Cymraeg. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg wrth weithio efo ysgolion sy'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngwynedd a Môn. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet edrych i mewn i'r mater yma, a sicrhau bod y prosiect yn medru cydweithio'n llawn gyda phob ysgol yn y gogledd?
Diolch yn fawr, Mabon. Mae'n bwysig iawn i Sbectrwm drafod gwersi yn y Gymraeg.
Ar y Prosiect Sbectrwm, ceir adborth cadarnhaol iawn o'r ysgolion a'r lleoliadau addysgol sydd wedi cynnal sesiynau, ond mewn gwirionedd, rydym yn gweithio'n agos gyda Sbectrwm i adolygu eu model cyflawni, er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, y gall pob plentyn yng Nghymru mewn addysg gynradd ac uwchradd dderbyn o leiaf un sesiwn o waith ar berthynas iach trwy eu cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas. Ond fe wnaf fwrw ymlaen â hyn, a phwysigrwydd sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn darparu Sbectrwm yn ein hysgolion yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i godi malltod trais rhywiol yng ngogledd Cymru yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, ac rwy'n awyddus i ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu llwyddiant rhaglenni addysgol i gyfyngu ar y troseddau hyn. Cynyddodd nifer y troseddau ymosodiadau rhywiol a adroddwyd yng ngogledd Cymru o 2,446 yn 2023 i 2,558 o droseddau yn 2024. Felly, ym maes troseddau rhywiol, mae'r niferoedd yn cynyddu mewn gwirionedd ac yn eithaf brawychus, ac ar draws ardal plismona Heddlu Gogledd Cymru, dim ond 4 y cant o gwynion am ymosodiadau rhywiol a arweiniodd at gyhuddiad neu wŷs.
Felly, er bod addysg gynnar ar berthynas iach yn hanfodol, bydd troseddau rhywiol, fel pob trosedd, yn cynyddu os yw'r troseddwyr yn gweld bod tebygolrwydd isel iawn o gael eu harestio a'u cyhuddo am y drosedd. Hyd yn oed mewn ysgolion, dywedodd bron i draean o ferched 16 i 18 oed yn y DU eu bod wedi dioddef cyffwrdd digroeso yn yr ysgol, sy'n dangos bod y broblem yn endemig, er gwaethaf addysg ar y pwnc. Ac er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, mae gan Lywodraeth Cymru rôl o hyd i addysgu dioddefwyr ynglŷn â sut i adrodd am droseddau rhywiol a darparu cefnogaeth i ddioddefwyr er mwyn sicrhau cyfradd uwch o euogfarnau.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i ganlyniadau siomedig addysg gwrth-drais rhywiol a pherthynas iach, a sut y maent yn ystyried newid addysg mewn ffordd sy'n rhoi grym i ddioddefwyr allu sicrhau euogfarnau? Diolch.
Diolch yn fawr. Diolch hefyd am dynnu sylw at y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol yr wythnos hon, a diolch am eich cefnogaeth barhaus i hynny, ac am roi'r ystadegau hyn heddiw, sy'n peri pryder mawr o ran y materion trosedd a chyfiawnder y tynnwch sylw atynt yng ngogledd Cymru. Ar drosedd a chyfiawnder yn y mater hwn, mae gennym berthynas waith gref iawn gyda phlismona yng Nghymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru yn wir, gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs mae gennych brif gwnstabl, Amanda Blakeman, sy'n bwerus iawn wrth arwain ar y materion hyn.
Ond rydych chi'n iawn i gysylltu hyn ag addysg, ac addysg ar bob lefel. Rydym newydd siarad am Sbectrwm. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod Sbectrwm yn gwneud mwy na'u gwaith gyda disgyblion yn unig, a'u bod hefyd yn darparu hyfforddiant ychwanegol i athrawon, ar ddiwrnodau hyfforddi athrawon, mewn cyfarfodydd rhieni a llywodraethwyr, a bod ganddynt berthynas waith agos gyda lleoliadau addysg hefyd. Fel y dywedais, rydym yn edrych yn arbennig ar sut y gallwn wella'r ddarpariaeth, ymestyn Sbectrwm ond hefyd, yn bwysig, y gwaith a wnawn gyda'r ymgyrch Iawn, sy'n helpu i ddarparu modelau rôl cadarnhaol i ddynion a bechgyn ifanc, ymgyrch y gwn eich bod wedi ei chydnabod, a chynyddu ein cyllid ar gyfer pob prosiect trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2025-26, ond mae'n amlwg fod yn rhaid i hyn gael ei ategu gan ein gwaith ar annog a datblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb fel gofyniad statudol yn ein hysgolion, a'i fod yn orfodol i bob dysgwr. Wrth gwrs, mae hynny'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd mewn cymdeithas.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y negeseuon cadarnhaol y mae disgyblion wedi'u cael o ddysgu am berthynas iach yn yr ysgol. Ac ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweithio gydag ysgolion, gan wahodd y bobl ifanc, y disgyblion, i feddwl am eu syniadau eu hunain ynglŷn â beth sy'n berthynas gadarnhaol, o dan yr agenda parch. Ac mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym lle mae pobl ifanc yn cyrchu deunydd mewn llawer o wahanol fformatau, rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach nag erioed nawr ein bod yn eu helpu i ddeall sut beth yw perthynas dda, a hefyd sut i ddiogelu eu hunain rhag dylanwadau allanol y tu hwnt i'w rheolaeth. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi fod prosiectau fel Prosiect Sbectrwm ac eraill, yn hanfodol nawr ac yn allweddol i helpu i feithrin y perthnasoedd cadarnhaol y byddwn ni'n gweld pobl ifanc yn eu cario gyda hwy drwy gydol eu bywydau?
Wel, diolch, Joyce Watson, a diolch am barhau i arwain—hyrwyddwr nid yn unig y Rhuban Gwyn, sy'n ymgyrch drwy gydol y flwyddyn, ond hefyd y gwaith a wnewch yn eich etholaeth a chydag ysgolion a phobl ifanc. Ac rydym yn gwybod bod mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn galw am newid cymdeithasol, lle mae'n rhaid inni ddechrau gyda chanolbwyntio ar bobl ifanc ac addysg ac ymyrraeth gynnar.
Rydym yn ariannu Stori Cymru i gyflawni'r Prosiect Sbectrwm mewn ysgolion, ac mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i bob plentyn yng Nghymru ar berthynas iach. Un pwynt ychwanegol yr hoffwn ei wneud am Sbectrwm mewn ymateb i'ch cwestiwn yw eu bod yn gweithio heddiw i ddatblygu cynllun mentora cymheiriaid, ac mae hynny'n bwysig iawn, o ran gallu disgyblion hŷn i gefnogi disgyblion a myfyrwyr iau mewn trafodaethau ynghylch perthynas iach, gan greu amgylcheddau diogel ar gyfer sgyrsiau anodd yn aml, a modelu ymddygiad cadarnhaol.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yn Nelyn yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt? OQ62259
Diolch yn fawr, Hannah Blythyn. Mae ein buddsoddiad mewn amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', hyfforddiant am ddim i rymuso gweithwyr rheng flaen a gwasanaethau pwyslais ar incwm a ddarperir trwy'r gronfa gynghori sengl, yn helpu pobl yn Nelyn, ac ar draws Cymru, i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi.
Diolch am eich ymateb ac eich gwaith hefyd.
Rwy'n falch fod fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Sir y Fflint, ymhlith y rhai sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wneud budd-daliadau, grantiau a thaliadau eraill, megis prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol, a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor mor syml i'w hawlio ag y gallant fod.
Rwy'n credu bod angen inni fod yn glir pan fyddwn yn siarad am hyn ei fod yn ymwneud â thegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Dyma'r hyn y mae pobl yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddo fel rhan o gymdeithas wâr. Hefyd, rwy'n cydnabod safbwynt blaengar Llywodraeth Cymru ar hyn, a'r hyn a wnaed i ddarparu cymorth ariannol o fewn y cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu ac yn eu hwynebu. Wedi dweud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi codi ymgyrch undeb Unite i gael cymorth ariannol pellach i bensiynwyr yng Nghymru yn y gorffennol, a hoffwn ofyn eto i chi roi ystyriaeth ddyledus i hynny. Yn anffodus, gwyddom fod gormod o bobl nad ydynt yn estyn allan am gymorth, a gallant ddioddef o ganlyniad i hynny. Diolch.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rwy'n credu y dylid llongyfarch Cyngor Sir y Fflint am eu hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn manteisio ar—. Hawliau yw'r rhain. Mae'n ymwneud â ni'n datblygu ein system budd-daliadau Cymreig yma yng Nghymru, ac mae sir y Fflint yn cymryd rhan weithredol yn siarter budd-daliadau Cymru, y cynllun cam 1 a fydd yn sicrhau mai dim ond unwaith y bydd angen i bobl gyflwyno eu tystiolaeth i hawlio gostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gyda sir y Fflint yn cymryd rhan weithredol yn hynny. A hefyd maent wedi cymryd rhan yn Policy in Practice—. Mae sir y Fflint wedi ymgysylltu, fel y mae awdurdodau eraill yng ngogledd Cymru ac awdurdodau eraill yng Nghymru, gyda Policy in Practice, i sicrhau eu bod yn gallu targedu preswylwyr nad ydynt yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, y tu hwnt i'r tri budd-dal yr ydym yn canolbwyntio'n benodol arnynt. Mae hynny'n ymwneud â defnyddio offeryn dadansoddi data gan Policy in Practice. Gallant nodi a thargedu preswylwyr nad ydynt yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo yn ystod y flwyddyn. Felly, unwaith eto, rwy'n falch fod sir y Fflint wedi manteisio ar hyn. Mae'n ddiddorol, yn sir y Fflint, fod dros 10,000 o aelwydydd incwm isel yn cael cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Nid yw dros 8,000 o aelwydydd yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl yn sir y Fflint.
Pwynt arall sy'n berthnasol yn fy marn i yw ein bod yn parhau i gynnal hawliau drwy sicrhau bod cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn cael ei uwchraddio'n flynyddol i ystyried cynnydd yng nghostau byw. Ond yn dilyn eich cwestiynau i mi yn gynharach, rwy'n cyfarfod â Peter Hughes, ysgrifennydd undeb Unite yng Nghymru, yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn cyfarfod â phensiynwyr Unite i siarad am ffyrdd y gallwn ymateb i'w hymgyrch taliad tanwydd, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny. Mae gennyf y dyddiad yn y dyddiadur, ac os ydych chi ar gael, hoffwn i chi ymuno â ni.
Er gwaethaf y ffigurau a ddefnyddiwch, mae sir y Fflint yn dal i fod yn safle 19 allan o 22 ar gyfer cyllid y pen yn y fformiwla gyllido llywodraeth leol.
Roedd newyddion Cyngor ar Bopeth sir y Fflint ym mis Tachwedd yn canolbwyntio ar gyngor ar ynni a'r dyddiad cau i hawlio taliad tanwydd y gaeaf sydd heb ei ddatganoli. Roedd newyddion Cyngor ar Bopeth sir y Fflint ym mis Rhagfyr yn canolbwyntio ar ddisgowntiau a gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd wedi'u datganoli.
Wrth eich holi yma flwyddyn yn ôl ynghylch siarter budd-daliadau Cymru, nodais fod y sector wedi bod yn galw am system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, fel y gwneuthum innau, am bron i ddegawd.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi trywydd symleiddio budd-daliadau Cymru er mwyn sicrhau y gall pobl hawlio eu hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn mis Ebrill 2026. Mae hyn yn cynnwys:
'Ystyried sut mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cyfeirio at fudd-daliadau Cymru.'
Sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau y gweithredir ar alwad tystion i ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2019 i fudd-daliadau yng Nghymru ac opsiynau ar gyfer cyflawni'n well, yr oeddwn i'n rhan ohono, ar swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith i weithredu fel un pwynt mynediad trwy ymgorffori gwasanaeth budd-daliadau Cymreig i awdurdodau lleol?
Diolch, Mark Isherwood. Rwy'n falch eich bod wedi ailadrodd yr ateb a roddais i Hannah Blythyn: pwysigrwydd siarter budd-daliadau Cymru a'r hyn y mae bellach yn ei gyflawni. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i'r trafodaethau pwysig iawn a gawsoch pan oeddech chi'n ymwneud â hyn yn ôl yn 2019, ac yn ymwneud â Chyngor ar Bopeth a'r holl ddarparwyr hynny trwy'r gronfa gynghori sengl.
Yn bwysig, cyfarfûm â Fran Targett, cadeirydd grŵp llywio budd-daliadau Cymru—mae gennym grŵp llywio budd-daliadau Cymreig yng Nghymru—gyda Matthew Evans, pennaeth refeniw a budd-daliadau cyngor Wrecsam a chadeirydd grŵp uwch swyddogion cyfrifol awdurdodau lleol. Cyfarfûm â hwy yn Wrecsam ychydig wythnosau'n ôl, a buom yn siarad am y camau y maent yn eu cymryd. Maent yn gyrru ac yn galluogi awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu hawl a mynediad at fudd-daliadau. Roedd yn galonogol iawn gweld y partneriaid, gan gynnwys canolfannau gwaith, yn y ffordd y mae hyn wedi'i wneud.
A gaf i roi enghraifft arall i chi yn sir y Fflint? Mae dyraniad y grant hanfodion ysgol i awdurdod lleol sir y Fflint ar gyfer blwyddyn grant 2025 dros £400,000, ac yn chwarter cyntaf y flwyddyn grant, dyfarnwyd dros £570,000, gan gyflawni tua 125 y cant o'r gyllideb a ddyrannwyd a chefnogi dros 4,000 o blant a phobl ifanc yn sir y Fflint. Felly, fe allwch weld eisoes fod cam 1 yn darparu ar gyfer plant mewn angen a theuluoedd yn sir y Fflint a ledled Cymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, undebau credyd yw conglfaen strategaethau cynhwysiant ariannol eich Llywodraeth, a chyda mwy a mwy o fanciau'r stryd fawr yn cau, ni fu rôl undebau credyd erioed mor bwysig. Cefais fy siomi felly yr wythnos diwethaf pan roddodd un o fy undebau credyd lleol wybod i mi eu bod yn gorfod cau canghennau oherwydd y gost gynyddol o gyflogi staff oherwydd cyllideb yr hydref y Canghellor. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Thrysorlys y DU am yr effaith y mae cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn ei chael ar undebau credyd? Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad oes mwy o ganghennau'n cael eu gorfodi i gau, gan arwain at golli mynediad at gyllid cost isel i'n dinasyddion tlotaf?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Altaf Hussain.
Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am undebau credyd, yn enwedig Undeb Credyd Celtic yn eich etholaeth; yn wir, codwyd hyn ar draws y Siambr. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig adrodd ar sefyllfa Undeb Credyd Celtic. Mewn gwirionedd, fe wnaeth nifer o ffactorau ysgogi cau'r swyddfa ym Mhort Talbot. Mae'n ymwneud â sut roedd nifer cwsmeriaid y gangen wedi lleihau'n sylweddol, pryderon nad oedd pobl a oedd yn defnyddio'r gangen yn ymgysylltu. Ond maent wedi cadw eu swyddfa yng Nghastell-nedd ar agor. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod Undeb Credyd Celtic wedi gwneud y penderfyniadau hyn i brynu a chyflenwi cerbyd bancio symudol fel rhan o newid i fodel gweithredu gwahanol. Rydym wedi gallu darparu cynnydd cyllidebol o 3 y cant ar gyfer holl dderbynwyr grantiau yn y trydydd sector. Dyna sut rydym yn eu helpu, ein holl sector gwirfoddol, yn y cyfnod anodd hwn—3 y cant i bob derbynnydd grant. Ar gyfer undebau credyd, mae hyn yn cyfateb i £13,000 ychwanegol, wedi'i ddosbarthu ar draws y prosiectau a ariannwn, oherwydd rydym yn rhoi £500,000 y flwyddyn iddynt. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn helpu undebau credyd am eu bod mor bwysig, fel rydych chi'n dweud. Wrth i fanciau gau, undebau credyd yw'r ffordd foesegol y gall pobl gynilo a benthyg.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, nid ar undebau credyd yn unig y mae'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn effeithio, mae hefyd yn pwyso'n drwm ar y sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael â thlodi bwyd a thanwydd. Er ei bod yn wir dweud bod llawer o'r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr, y staff cyflogedig sy'n trefnu'r gwirfoddolwyr ac yn rheoli'r gwasanaethau a ddarperir i'n dinasyddion mwyaf bregus. Bydd costau cyflogaeth cynyddol, yn ogystal â'r cynnydd anochel mewn costau bwyd a thanwydd diolch i benderfyniadau Llywodraeth y DU, yn effeithio ar y gwasanaethau hynny a'u gallu i helpu i liniaru tlodi tanwydd a bwyd. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw gwasanaethau fel banciau bwyd a chanolfannau clyd yn cau o ganlyniad i bwysau ariannol a roddir arnynt o ganlyniad i benderfyniadau'r Trysorlys?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae'n bwysig ein bod wedi rhoi hwb i'r trydydd sector—mae'n bwysig iawn cyfleu'r neges honno a rhannu hynny gyda'ch etholwyr. Mae gennym 40,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, ac fe'u cefnogir gan ein 19 cyngor gwirfoddol sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roeddwn am nodi hefyd ein bod nid yn unig yn darparu cynnydd o 3 y cant yn y trydydd sector, mae sefydliadau hefyd yn elwa o gytundebau cyllido tair blynedd—dyna sydd ei angen arnynt ar gyfer sefydlogrwydd a chynaliadwyedd.
Mae yna gyllid tair blynedd ar gyfer cyngor partneriaeth y trydydd sector, y 19 cyngor gwirfoddol sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru—dyma'r rhai sy'n helpu'r sefydliadau lleol o ran cyllid, mynediad at gyllid, trefniadau llywodraethu. Ac rwy'n eich annog i gyd, os oes gennych sefydliadau lleol: o ran anghenion, materion a heriau cyllid, trowch at eich cyngor gwirfoddol sirol lleol. Ond hefyd, ar draws y portffolio, rwy'n cefnogi'r cynnydd o 3 y cant i grantiau'r trydydd sector yn unol â'r cynnydd o 3 y cant hefyd i gomisiynwyr a chyrff noddedig. Felly, mewn gwirionedd, bydd seilwaith y trydydd sector yn derbyn cyllid o £25.8 miliwn, cynnydd o 7 y cant ar y blynyddoedd blaenorol.
Rwyf hefyd yn falch eich bod wedi sôn am ganolfannau clyd a gwirfoddolwyr—cyhoeddais £1.5 miliwn ar gyfer canolfannau clyd eleni, ac mae yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Rwyf wedi bod yn ymweld â chanolfannau clyd, lle mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr yn cefnogi pobl fregus i gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad, a lleihau ynysigrwydd yn ogystal. Yn neuadd bentref Llanddewi Felffre, ar ôl storm Dennis, daethant â phobl at ei gilydd pan gollodd pobl eu cyflenwadau trydan. Felly, mae'r sector gwirfoddol yn cael y cynnydd hwn yn y gyllideb ddrafft, a hefyd y trefniadau cyllido tair blynedd mwy hirdymor hynny.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda chyflogwyr a sectorau allweddol yn rhybuddio y bydd penderfyniad y Canghellor yn effeithio ar swyddi a thwf, yn ogystal â gwthio prisiau manwerthu i fyny, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dwysáu ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Mae asesiadau annibynnol yn dangos y bydd cyllideb Rachel Reeves yn taro gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru yn galetach nag unman arall. Mae'r un cartrefi'n gweld eu biliau tanwydd yn codi, eu biliau dŵr yn codi, ac maent yn ofni gweld biliau'r dreth gyngor yn cyrraedd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y camau y gall eich Llywodraeth eu cymryd i warchod gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru rhag y caledi sydd i ddod o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU? Diolch.
Diolch. Rwyf wedi rhoi rhywfaint o adborth i chi ar y ffyrdd rydym yn cefnogi'r trydydd sector yn arbennig. Hoffwn ddweud hefyd, o ran y cymorth a roddwn, mae'n rhaid inni gofio hefyd—ac mae hyn yn berthnasol i sefydliadau a chyflogwyr llai—fod y lwfans cyflogaeth—sef menter y Llywodraeth sy'n lleihau atebolrwydd yswiriant gwladol cymwys—yn cael ei gynyddu o fis Ebrill y flwyddyn nesaf i £10,500 ar gyfer blwyddyn dreth 2025-26. Mae hynny ar gyfer elusennau a chyflogwyr llai. Mae'n bwysig dweud y gall elusennau a busnesau cymwys hawlio'r lwfans i leihau eu cyfraniadau yswiriant gwladol dosbarth 1 uwchradd. Ac mae hefyd yn helpu pobl ifanc. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod y wybodaeth honno'n cael ei chyfleu.
Ond wrth gwrs, yr hyn a wnawn i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n symud yn ei flaen gennym, yw nid yn unig sicrhau bod pawb yn manteisio ar yr hawliau—rydym wedi bod yn siarad am hynny yn y cwestiynau cynharach—ond hefyd cydnabod y ffyrdd eraill y cefnogwn bobl a allai gael eu heffeithio. Yr wythnos diwethaf, bydd y ffaith ein bod wedi cyhoeddi y bydd miloedd yn fwy o ddysgwyr ôl-16 mewn colegau ac yn y chweched dosbarth yn derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg, yn dilyn y penderfyniad i godi trothwyon incwm aelwydydd, yn arwain at alluogi cymaint yn fwy o bobl ifanc, yn ogystal â theuluoedd a phobl mewn gwaith, i wneud cais am y lwfans cynhaliaeth addysg.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad diweddaraf ar dlodi, ac mae'r canfyddiadau'n ddamniol. Mae tlodi plant yn cynyddu ar draws y DU, ac mae disgwyl i Gymru fod â'r gyfradd uchaf. Erbyn 2029, bydd dros 34 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi—mwy nag yn Lloegr, mwy nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae disgwyl i un rhan o'r DU wneud yn well—yr Alban. Yno, mae disgwyl i dlodi plant ostwng. Pam? Wel, mae'r adroddiad yn dweud ei fod yn bennaf oherwydd taliad plant yr Alban—polisi y gall yr Alban ei gyflawni, wrth gwrs, oherwydd bod ganddynt fwy o bwerau dros les na sydd gennym ni. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod cymryd camau hanfodol hyd yma i atgyweirio'r system nawdd cymdeithasol, megis cael gwared ar y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau yr oeddech chi eich hunain yn arfer galw amdanynt wrth gwrs.
Pan ofynnaf i'r Prif Weinidog am weithredu ar dlodi plant, mae hi bob amser yn ymateb trwy ddweud mai twf economaidd yw'r ateb. Ond mae'r adroddiad hwn yn dadlau y byddwn yn methu gwneud newid mawr ar dlodi plant os ydym yn dibynnu ar dwf economaidd cynyddol yn unig i hybu cyllidebau teuluoedd incwm isel. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw eich ymateb i'r adroddiad hwn, a'r ffaith bod Cymru ar y trywydd i gael y cyfraddau tlodi plant gwaethaf yn y DU, er bod gennym Lywodraeth newydd yn San Steffan? A ydych chi'n cytuno bod gallu'r Alban i reoli nawdd cymdeithasol wedi eu galluogi i gymryd camau ystyrlon ar dlodi plant? A fyddwch chi'n gwneud achos cryfach i Gymru gael y pwerau hyn?
Diolch, Sioned Williams. Wrth gwrs, mae adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yn rhoi darlun llwm iawn ar gyfer y DU o bobl yn byw mewn tlodi, ac rwyf wedi ymrwymo, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd wedi gwneud, i weithredu. Mae'n ymwneud â chydweithio yn y Llywodraeth a chyda phobl ledled Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn, gyda'n hawdurdodau lleol, ein GIG, ein trydydd sector. Rydym yn gwneud popeth a allwn, o fewn ein pwerau, i gefnogi pobl a chael arian i bocedi pobl, fel y disgrifiais, ac mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi uchelgeisiau tymor hir ar gyfer mynd i'r afael â thlodi.
Rwy'n falch fy mod bellach yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill drwy grŵp gweinidogol y pedair gwlad ar strategaeth tlodi plant y DU. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn am fy mod yn rhan o grŵp gweinidogol y pedair gwlad gyda chymheiriaid o Lywodraeth yr Alban, fel y gallant rannu eu profiad o'r hyn y mae'n ei olygu i gael y pwerau hynny, gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gyda mi fel Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, a dan arweiniad Gweinidogion Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn edrych ar beth y mae'n ei olygu i gael y pwerau hynny, ac edrych hefyd, rhaid imi ddweud, yn bwysig iawn, ar ein system nawdd cymdeithasol, sydd, wrth gwrs, o ran—. Rydym yn defnyddio'r dulliau sydd gennym. Ond mae hyn i gyd yn cael ei godi yn y grŵp gweinidogol hwnnw.
Mae hynny'n dda i'w glywed, felly hoffwn ofyn a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn sydd ym meddwl Llywodraeth y DU mewn perthynas â datganoli'r pwerau hynny a'r adnodd hwnnw i Gymru allu gwneud y gwahaniaeth a'r newid hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae angen gweithredu. Mae Plaid Cymru, y comisiynydd plant a Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi bod yn galw ers amser maith am dargedau yn y strategaeth tlodi plant oherwydd, heb dargedau clir a gorfodol, sut y gwyddom ein bod yn gwneud y gwahaniaeth y mae angen inni ei wneud, o ystyried y pwerau sydd gennym?
Mae adroddiad Joseph Rowntree yn cyfeirio at yr Alban. Maent wedi cyflwyno targedau cyfreithiol i fynd i'r afael â thlodi plant, a hwy yw'r unig wlad yn y DU y rhagwelir y byddant yn gweld tlodi plant yn gostwng. Nid wyf yn credu bod hynny'n gyd-ddigwyddiad; mae'n ganlyniad gweithredu, gwneud ymrwymiadau, a chael eich dal yn atebol. Mae'n rhaid inni gofio nad ag ystadegau'n unig y mae hyn yn ymwneud; mae'n ymwneud â theuluoedd, mae'n ymwneud â phlant, mae'n ymwneud â dyfodol ein cenedl. Bydd pob plentyn yn cael ei effeithio pan fyddant yn tyfu i fyny mewn tlodi—eu haddysg, eu cyfleoedd mewn bywyd, eu hiechyd. Felly, hoffwn wybod, yng ngoleuni'r adroddiad hwn gan Sefydliad Joseph Rowntree, pam y credwch y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â thlodi plant heb y targedau statudol hynny i helpu i ysgogi a mesur cynnydd?
Diolch am y cwestiwn atodol. Mae'n bwysig eich bod eisoes wedi cael, neu y byddwch yn cael, yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sesiwn friffio gan yr Athro Rod Hick am ffyrdd y gallwn asesu effaith ein strategaeth tlodi plant, o ystyried y pwerau sydd gennym. Wrth gwrs, mewn treth a budd-daliadau y mae'r pwerau a'r ysgogiadau allweddol. Dyna pam ei bod mor bwysig fy mod yn rhan o grŵp gweinidogol y pedair gwlad. Hefyd, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gwneud cynnydd ac rydym bellach yn gwneud mwy o ymchwil ynghylch sut y gallem gyrchu a mynd ar drywydd ein hymrwymiadau i edrych ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru. Mae hynny'n dal i fod yn ein rhaglen lywodraethu, a dyna beth a wnawn. Ond hoffwn ddweud hefyd ei bod yn bwysig ein bod yn defnyddio ein pwerau, a chyda'n hawdurdodau lleol, siarter budd-daliadau Cymru, ond hefyd y pethau a wnawn gyda Policy in Practice, ac ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i helpu pobl mewn argyfwng tanwydd. Rwyf wedi bod yn codi hyn yng nghyfarfod y pedair gwlad, y dylai mynd i'r afael â thlodi bwyd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chael system nawdd cymdeithasol weddus fod yn uchelgais ledled y DU.
Yn sicr, dylai fod yn uchelgais ledled y DU, ond nid ydym wedi gweld gweithredu arno hyd yma gan Lywodraeth Lafur y DU. Mae llawer o adroddiadau wedi dangos bod menywod, yn enwedig menywod o gefndiroedd a ymyleiddiwyd, yn ysgwyddo baich caledi economaidd, naill ai drwy'r bwlch cyflog rhywedd, y bwlch pensiwn, diffyg mynediad at ofal plant fforddiadwy neu swyddi ansicr ar gyflogau isel. Mae Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cyfeirio at ddiffyg blaenoriaeth i faterion cydraddoldeb yn y gyllideb ddiwethaf, gan dynnu sylw at yr angen brys, felly, ar gyfer cyllidebu ar sail rhywedd yng Nghymru, a bod menywod yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anfanteision croestoriadol penodol, yn cael eu gwthio ymhellach i ddyled a thlodi. Felly, mae'n hanfodol atal penderfyniadau sy'n dyfnhau'r anghydraddoldeb hwnnw. Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond rydym yn dal i aros i weld gwerthusiadau o'r tri chynllun peilot cyllidebu ar sail rhywedd sy'n weddill gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi, cynlluniau y bwriadwyd iddynt ddod i ben erbyn 2023. Mae'r cynlluniau peilot hyn, fel y dywedais, yn hanfodol ar gyfer llunio polisïau'r dyfodol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gwelwn ganlyniadau'r cynlluniau peilot hynny? Pa waith a wneir gennych i fwrw ymlaen â chyflwyno cyllidebu ar sail rhywedd ymhellach, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld y gwerthusiad o'r cynlluniau peilot hynny'n cael ei gyhoeddi?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Mae'r cynlluniau peilot hynny'n hanfodol bwysig, y cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd. Ac a gaf i ddweud cymaint rwy'n croesawu a bob amser wedi croesawu gwaith Grŵp Cyllideb Menywod Cymru, i sicrhau ein bod yn cael ein cynghori nid yn unig gan bobl, ond menywod â phrofiad bywyd, yn cynrychioli pobl â phrofiad bywyd, ac yn enwedig y rhai sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf? Fel y dywedwch, mae hyn yn groestoriadol iawn ac mae'n cael ei adlewyrchu'n fawr yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a bydd yn cael ei adlewyrchu yn ein cynllun gweithredu hawliau anabledd, yn ogystal ag edrych ar hyn yn benodol o safbwynt rhywedd. Felly, byddwn yn ymateb ar y pwyntiau hynny i egluro effaith y cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62239
Diolch yn fawr, Paul Davies. Bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cael cyllid craidd o £5.677 miliwn yn 2024-25, ac mae £221,121 o'r arian hwn yn mynd i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, i helpu sefydliadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hanfodol fod yna gymorth i'r sector, o ystyried y gwasanaethau hanfodol y mae elusennau'n eu darparu i gynifer o bobl yn ein cymunedau. Nawr, yn fy etholaeth fy hun, mae Adam's Bucketful of Hope yn enghraifft o elusen leol sydd wedi codi symiau enfawr o arian ar gyfer gwasanaethau canser, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'r rhai sydd â chanser a'u teuluoedd o'i chanolfan gymunedol. Mewn gwirionedd, mae ei chanolfan gymunedol mor boblogaidd fel bod angen i'r elusen symud i safle mwy er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau i fwy o ddefnyddwyr. Nawr, mae adeilad hanesyddol Tŷ Foley yn Hwlffordd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd, a phe bai Adam's Bucketful of Hope yn gallu cael digon o arian i brynu'r adeilad, byddai'n dod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd ac yn helpu'r elusen i ddarparu therapïau a chymorth mawr eu hangen yn y gymuned. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod y rôl y mae elusennau fel Adam's Bucketful of Hope yn ei chwarae yn ein cymunedau lleol, ac a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth sydd ar gael i helpu elusennau fel hyn, sy'n gobeithio caffael safleoedd mwy fel y gallant barhau i gefnogi cymaint o bobl â phosib?
Diolch, Paul Davies, a diolch am roi cyfle imi ganmol Adam's Bucketful of Hope, eich elusen yn sir Benfro, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu canmol y gwirfoddolwyr, oherwydd rwy'n siŵr ei fod yn cael ei arwain yn helaeth gan wirfoddolwyr. Pan oeddwn yn sir Benfro yn ddiweddar, yn ymweld â neuadd bentref Llanddewi Felffre—rwyf wedi sôn am hyn eisoes—yn dilyn storm Bert, roedd mor dda cyfarfod â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, yn ogystal â llawer o'r grwpiau gwirfoddol yr ydych yn eu cynrychioli yn eich etholaeth. Nawr, byddwn yn awgrymu eu bod yn mynd at Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i gael cyngor ar lwybrau ariannu, ond mae'n ymddangos i mi fod cyfle yma i gael benthyciad asedau cymunedol neu'n wir, y rhaglen cyfleusterau cymunedol, a ariennir gennym ac sydd â grantiau cyfalaf o hyd at £300,000 i alluogi prosiectau a arweinir gan y gymuned i brynu neu wella cyfleusterau cymunedol, ac mae'r rhaglen, ers 2015, wedi ariannu 23 o brosiectau yn sir Benfro, gan ddyfarnu gwerth dros £2.5 miliwn o grantiau.
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ62266
Diolch, Natasha Asghar. Rydym yn parhau i weithredu ledled Cymru, gan gynnwys yn Nwyrain De Cymru, i fynd i'r afael â thlodi. Rydym wedi buddsoddi bron i £5 biliwn rhwng 2022 a 2025 mewn cynlluniau sy'n helpu pobl i fanteisio ar eu hawliau a helpu i gadw arian ym mhocedi pobl a thargedu cymorth i'r bobl sydd fwyaf o'i angen.
Diolch am eich ymateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2018, roedd 26,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru yn unig. Lansiwyd cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem hon, er ein bod yn gwybod bod y cynnydd wedi bod yn boenus o araf, gyda rhybuddion y bydd yn cymryd mwy na 100 mlynedd i ôl-osod pob cartref sydd mewn perygl o dlodi tanwydd. Yn amlwg, mae yna waith mawr sydd angen ei wneud yma os yw'r Llywodraeth yn mynd i gyrraedd ei tharged a bod dim mwy na 5 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035. Mae angen inni godi mwy o bobl allan o dlodi tanwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n ymddangos nad yw pawb yn ei weld felly, gyda'r Canghellor Llafur yn greulon yn tynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl o ddwylo ein pensiynwyr. Yn ôl eich cyfaddefiad eich hun, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r weithred ddidostur ac anfaddeuol hon yn creu risg o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth hon greu cronfa taliadau tanwydd y gaeaf yng Nghymru i gefnogi ein pensiynwyr sydd wedi cael eu cosbi gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet? Ac os na, beth a ddywedwch wrth y pensiynwyr hynny sy'n wynebu'r penderfyniad anodd rhwng gwresogi a bwyta? Diolch.
Wel, rwy'n gobeithio eich bod wedi darllen y datganiad ysgrifenedig a luniais yr wythnos diwethaf ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd—ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru. Ac fel y dywedais fwy nag unwaith y prynhawn yma, ffordd bwysig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd yw cael mwy o arian i bocedi pobl. Yn amlwg, dyna'n union sydd angen inni ei wneud o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, a'r ymgyrch gref, sy'n cynnwys yr ymgyrch credyd pensiwn ar y nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, a fyddai'n arwain at gymhwysedd i gael taliad tanwydd y gaeaf. Ac rwy'n tynnu sylw at ein hysbysrwydd diweddaraf yn y cyfryngau i'n hymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'. Dechreuodd ym mis Ionawr a bydd yn rhedeg hyd at ddiwedd mis Mawrth, ac mae'n alwad i gyfeirio pobl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt.
Fe sonioch chi am y rhaglen Cartrefi Clyd hefyd, ac mae'n bwysig ein bod yn cynyddu cyrhaeddiad Nyth Cartrefi Clyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr awdurdodau lleol, a sicrhau ein bod yn ysgogi cyllid o San Steffan drwy gynlluniau fel y cynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni.
Roeddwn am ganolbwyntio ar fater tebyg. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r lwfans tanwydd y gaeaf i filoedd o bensiynwyr yn tarfu'n greulon ar fywydau pobl. A'r hyn sy'n ei wneud yn waeth yw mai penderfyniad bwriadol gan San Steffan yw hwn, penderfyniad a allai gael ei wrthdroi. Mae ganddynt bŵer i newid hyn ac maent yn dewis peidio. Mae arolwg a gynhaliwyd gan Unite yng Nghymru wedi canfod bod nifer pryderus o bobl wedi gorfod newid sut y maent yn byw oherwydd y toriad hwn. Mae llawer wedi dweud eu bod wedi teimlo'n llwglyd yn amlach neu'n mynd yn sâl o ganlyniad i beidio â chael y gwres ymlaen. Dywedodd un person wrth Unite fod yn rhaid i'w gwraig a hwythau fyw mewn un ystafell a dogni eu hunain i un pryd poeth y dydd. Mae hyn yn digwydd yn yr unfed ganrif ar hugain yn rhywle sydd i fod yn un o'r lleoedd cyfoethocaf yn y byd, ac mae'n digwydd dan oruchwyliaeth San Steffan. Nawr, rwy'n eich canmol am y gwaith a wnewch, fel y dywedwch, i gael mwy o arian i bocedi pobl, ond a wnaiff eich Llywodraeth chi bopeth yn ei gallu i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i newid a gwrthdroi'r polisi ofnadwy hwn, sy'n gwneud bywydau pobl yn ddiflas?
Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Fel y dywedais, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod ag Unite—bydd Hannah Blythyn yn ymuno â mi—a'r pensiynwyr hefyd, nid yn unig i glywed ganddynt ond hefyd i allu dweud wrthynt a gweithio gyda hwy ar ffyrdd o alluogi pensiynwyr, yn enwedig pobl hŷn, i fanteisio ar yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ac mae hynny hefyd yn cynnwys nid yn unig y taleb tanwydd ond cynlluniau cymorth dewisol yn ogystal â'r rhaglen Cartrefi Clyd. Ond mae angen imi ddweud, wrth gwrs, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr, fod taliad tanwydd y gaeaf wedi'i ddatganoli i Ogledd Iwerddon ac fe fydd wedi'i ddatganoli i'r Alban o 2025 ymlaen. Nid yw wedi'i ddatganoli i Gymru, felly nid ydym yn gallu deddfu ar gyfer cynllun taliad tanwydd y gaeaf cyfatebol. Ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn galluogi pobl i fanteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt yng Nghymru.

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o gamerâu CCTV er mwyn gwella diogelwch cymunedol yn ardaloedd gwledig Ynys Môn? OQ62271
Diolch, Rhun ap Iorwerth. Mae cyfiawnder troseddol wedi'i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym yn cydweithio â phartneriaid plismona i ddiogelu cymunedau ledled Cymru, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch eu dull cadarn o gefnogi cymunedau ar Ynys Môn.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae camerâu cylch cyfyng yn un o'r arfau yna sydd gennym ni er mwyn taclo tor-cyfraith, ond ardaloedd trefol sydd yn fwy tebygol o gael camerâu CCTV, tra bod llawer o'r bobl dwi'n eu cynrychioli yn byw, wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig. Rŵan, mae grŵp cynghorwyr Plaid Cymru Ynys Môn wedi bod yn arwain ar alwadau am adnodd CCTV symudol fyddai'n gallu cael ei gyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag achosion o ddwyn amaethyddol, o bosib, neu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddifrod troseddol mewn ardaloedd mwy gwledig. Wrth gwrs, mi fyddai angen gweithio ar draws gwahanol haenau i ddarparu hyn—Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cynghorau sir a chymuned, ac, wrth gwrs, yr heddlu eu hunain a chomisiynwyr heddlu a throsedd. Ond a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i fod yn barod i weithio efo'r rhanddeiliaid hynny er mwyn gallu cyflwyno adnoddau a allai sicrhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig yn cael teimlo bod gwaith yn cael ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel?
Diolch, Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig eich bod yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â throseddu a throseddau gwledig, ac er nad yw wedi’i ddatganoli’n uniongyrchol, ac yn wir, mae’r defnydd o deledu cylch cyfyng yn cael ei lywodraethu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth—dull gweithredu hynod bwysig ar gyfer diogelu mannau cyhoeddus a helpu i atal troseddu a gwella diogelwch cenedlaethol. Hoffwn ddweud hefyd fod y bartneriaeth gyda’r heddlu yn y gogledd, ac yn enwedig yn eich etholaeth chi—. Mae’r heddlu ar Ynys Môn wedi sôn wrthym am fentrau fel Dangos y Drws i Drosedd—rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohoni—a rhybuddion cymunedol. Ond byddaf yn ymgysylltu â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a phenaethiaid heddluoedd i edrych ar yr union faterion a godwyd gennych heddiw.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar safleoedd sipsiwn a theithwyr? OQ62258
Diolch, Sam Rowlands. Bydd fy swyddogion yn ymgynghori ar bedwar arweiniad ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn yr wythnosau nesaf gyda rhanddeiliaid allweddol, gyda’r nod o gyhoeddi arweiniad terfynol yn ystod haf 2025. Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, byddant yn ymgysylltu'n uniongyrchol ar y dogfennau arweiniad drafft hefyd gydag aelodau’r gymuned.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymunais â chyfarfod yn ddiweddar gyda Carolyn Thomas a Jack Sargeant gyda Chyngor Sir y Fflint, arweinwyr gwleidyddol a swyddogion, ac roeddwn yn falch iawn o weld eu darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn sir y Fflint, gan eu bod yn darparu mwy na digon o safleoedd a neilltuwyd, yn ôl yr angen a aseswyd. Ond fe rannodd y cyngor rai o’r heriau y maent yn eu hwynebu gyda safleoedd anghyfreithlon yn ardal y cyngor ar hyn o bryd, gyda 10 safle anghyfreithlon newydd wedi eu sefydlu yn y sir o fewn y 12 mis diwethaf, sy’n golygu bod 15 o safleoedd anghyfreithlon mewn un ardal sirol ar hyn o bryd. Ac fe wnaethant rannu ei bod yn cymryd hyd at bum mlynedd i ymdrin â'r safleoedd anghyfreithlon hyn, a bod hynny'n rhoi pwysau mawr ar adnoddau'r cyngor, o ran personél ac yn ariannol; mae'n peri pryder enfawr yn y cymunedau, ond yn bwysicaf oll, nid yw'n helpu achos ac anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd nad ydynt o reidrwydd yn addas ar eu cyfer. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r ymgynghoriad, tybed a fyddech chi'n fodlon cyfarfod gyda mi a chyd-Aelodau eraill yn yr ystafell, a hefyd gyda Chyngor Sir y Fflint i ddeall y problemau penodol sy'n eu hwynebu, i helpu i lywio rhywfaint o'ch gwaith. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Sam Rowlands. Roeddwn yn ymwybodol o’r cyfarfod a gynhalioch chi gyda Chyngor Sir y Fflint, a swyddogion cynllunio hefyd, rwy'n credu, a chyda chynghorwyr yn ogystal ag Aelodau o’r Senedd. Credaf y bydd yn ddefnyddiol iawn ein bod yn ymgynghori ar y canllawiau hyn, sy’n cynnwys rheoli gwersylloedd heb eu hawdurdodi, sut i reoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a chynnal asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, ac fe gymeradwyais asesiad sir y Fflint, ond rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â chi ar y mater hwn.
Credaf ei bod yn bwysig hefyd—ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod hyn—ein bod yn deall anghenion pobl sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr o ran beth yw eu hanghenion tai, gan gynnwys defnydd heb ei awdurdodi, ond hefyd y ffaith bod nifer bellach yn ceisio cael lleiniau preifat yn ogystal â lleiniau tramwy. Felly, byddwn yn falch o ymgysylltu â chi a'n cyd-Aelodau o'r Senedd, a oedd yn y cyfarfod hwnnw, a Chyngor Sir y Fflint.
7. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gyfiawnder ynghylch cyflwyno carchar i fenywod yng Nghymru? OQ62254
Diolch am eich cwestiwn, Laura Anne. Rwy'n croesawu'r ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn Abertawe fel dewis amgen yn lle carchar. Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â’r Arglwydd Timpson, y Gweinidog carchardai, parôl, y gwasanaeth prawf a lleihau aildroseddu ar y mater hwn.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, ac mae taer angen un arnom. Mae menywod sy'n cael eu harestio yng Nghymru yn cael eu cludo i garchar yn Lloegr. Golyga hyn fod teithiau hir ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn ceir o ble roedd y carcharorion yn arfer byw i ble y cânt eu carcharu. Mae carcharorion sy’n cael ymweliadau 39 y cant yn llai tebygol o ddychwelyd i’r carchar, ac eto mae gennym system garchardai yma yng Nghymru lle mae menywod yn cael eu lleoli filltiroedd lawer oddi wrth eu teulu a'u ffrindiau dros y ffin yn Lloegr. Mae'n amlwg nad yw hon yn ffordd effeithiol o adsefydlu troseddwyr, ac mae hynny'n amlwg yn y cyfraddau aildroseddu uchel ymhlith menywod yng Nghymru o gymharu â dynion. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymchwilio i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu carchar i fenywod yma yng Nghymru, gan ei bod yn hen bryd cael un? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn atodol, Laura Anne. Gwn y byddwch yn deall bod ein safbwynt polisi yn gwbl glir o hyd na ddylid cael unrhyw leoedd carchar ychwanegol yng Nghymru, gan gynnwys i fenywod. Y rheswm am hyn yw bod ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder yn ddull ataliol, ystyriol o drawma sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac yn atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydnabod y ffaith bod angen—credaf fod yr achos yr ydych yn ei ddadlau, a'r dadleuon a'r dystiolaeth a roddwch yn ein cyfeirio at bwysigrwydd cael canolfan breswyl i fenywod yn hytrach na charchar. Mae'n flaenoriaeth allweddol yn y glasbrint cyfiawnder i fenywod, mae'n flaenoriaeth, yn wir, i Lywodraeth newydd y DU, a phwysleisiais hyn wrth yr Arglwydd Timpson pan gyfarfuom ar 18 Medi.
Julie Morgan.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am fy ngalw ar gyfer y cwestiwn atodol hwn, ac rwy’n cydnabod yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud mewn ymateb. Rwyf wedi ymgyrchu dros beidio â chael carchar i fenywod yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ynghyd ag eraill yn yr ystafell hon, am y rhesymau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u nodi. Credaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod dros hanner y menywod yng ngharchar yn famau, sy’n effeithio ar 17,000 o blant y flwyddyn yn y DU, ac mae’n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn drwy ddarparu canolfannau preswyl. Rwy’n wirioneddol awyddus i wybod pa gynnydd a wneir ar y ganolfan breswyl arfaethedig yng Nghymru a gweld a yw’r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn gynhyrchiol, gan ein bod wedi bod yn aros yn hir iawn i’r ganolfan breswyl i fenywod ddigwydd.
Diolch am eich cwestiwn atodol. Mae'n rhywbeth y dylem uno yn ei gylch yn y Siambr hon, oni ddylem, i sicrhau ein bod yn cael y ganolfan breswyl i fenywod, gan y dylwn fod wedi dweud wrth ymateb i Laura Anne yn gynharach, mai Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU mewn gwirionedd a gyhoeddodd y dylem gael canolfan breswyl beilot i fenywod yng Nghymru, yn ôl ym mis Mai 2022. Rwyf mor ddiamynedd â chi, a fu'n ymgyrchu dros y ganolfan breswyl i fenywod, y dylai ddod i fodolaeth nawr. Mae gennym safle bellach; cawsom anhawster i sicrhau’r safle hwnnw.
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod Laura Anne wedi sôn am y pellteroedd y mae’n rhaid i bobl eu teithio. Wel, yn y cyfamser, rydym yn ariannu mentrau Ymweld â Mam, yn cefnogi menywod sydd mewn carchardai, hyd y gallwn, ac yn wir, mae llawer ohonom wedi ymweld â charchardai menywod fel Eastwood Park y tu allan i Gymru a Styal y tu allan i ogledd Cymru. Mae’n rhaid inni sicrhau bod y ganolfan breswyl i fenywod yn agor, ac rwy'n credu bod yr Arglwydd Ganghellor wedi gwneud cyhoeddiad clir iawn ym mis Hydref ynghylch sefydlu'r Bwrdd Cyfiawnder Menywod. Rydym eisoes wedi mynychu un cyfarfod, ac mae hi o blaid canolfannau preswyl i fenywod. Felly, diolch am y cwestiynau heddiw, sy’n cryfhau’r achos hwnnw.
Cwestiwn 8 yn olaf. James Evans.
8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith perchnogion cartrefi mewn parciau? OQ62257
Diolch, James Evans. Gall pawb sydd mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys preswylwyr cartrefi mewn parciau, gael cyngor a chymorth ynni am ddim drwy ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i gynhesu eu cartrefi mewn ffordd fwy effeithlon. Nododd fy natganiad ysgrifenedig diweddar gymorth arall, megis talebau tanwydd, canolfannau clyd a’r gronfa cymorth dewisol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Codir gormod o arian ar lawer o berchnogion cartrefi mewn parciau ledled Cymru am filiau dŵr, gan na chaniateir iddynt osod mesuryddion dŵr y tu allan i'w heiddo am nad yw perchnogion y parciau eu hunain yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae hynny’n gwthio llawer o bobl i dlodi tanwydd. A wnewch chi a Llywodraeth Cymru ymrwymo i roi gallu i breswylwyr cartrefi symudol mewn parciau osod mesurydd dŵr ar eu heiddo i atal perchnogion parciau cartrefi yn gyffredinol rhag gwneud elw gormodol ar filiau dŵr pobl? Rwy'n credu ei bod yn gywilyddus nad ydym yn caniatáu i bobl wneud hyn, ac mae’n rhywbeth y credaf fod angen mynd i'r afael ag ef cyn gynted â phosibl.
Diolch am dynnu sylw at y pwynt hwn, James Evans. Gall perchnogion cartrefi mewn parciau gael mynediad at y gronfa cymorth dewisol tuag at gostau tanwydd ac ynni, a gobeithio y gallwn gyfeirio eich etholwyr at hynny, yn ogystal â'r Sefydliad Banc Tanwydd o ran costau ynni. Ond rydych chi wedi codi mater ynghylch dŵr, y gost a mynediad at fesuryddion dŵr i reoli cost dŵr, a byddaf yn sicr yn mynd i'r afael â hyn er mwyn rhoi ateb i chi ar y pwynt hwnnw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a'r cwestiwn heddiw i'w ateb gan Joyce Watson yw cwestiwn gan James Evans.
1. Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Senedd wedi'i rhoi i fod yn llofnodwr Cyfamod y Lluoedd Arfog? OQ62256

Diolch am y cwestiwn. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn addewid sy’n sicrhau bod y rheini sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael eu trin yn deg. Er nad yw’r Comisiwn wedi llofnodi’r cyfamod ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn falch o gefnogi gweithwyr sy’n gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn neu'n gadetiaid. Mae'r Comisiwn yn cynnig hyd at bum niwrnod o absenoldeb arbennig â thâl bob blwyddyn i fynychu'r gwersyll hyfforddi blynyddol, gyda hyblygrwydd pellach os oes angen amser ychwanegol ar gyfer hyfforddi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr yn gallu cyflawni eu gofynion hyfforddi heb gael eu heffeithio'n ariannol. Os caiff gweithiwr eu galw i wasanaethu gyda’r lluoedd wrth gefn, mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddiogelu eu cyflogaeth yn unol â Deddf Lluoedd Wrth Gefn (Diogelu Cyflogaeth) 1985. Byddwn yn sicrhau y gall gweithwyr ddychwelyd i’r un rôl, gyda thelerau ac amodau'r un mor ffafriol â phe na baent wedi’u galw i'r fyddin. Mae ein hymrwymiad yn adlewyrchu’r gwerth a roddwn ar y rheini sy’n gwasanaethu, gan sicrhau y gallant gydbwyso eu cyfrifoldebau milwrol a sifil yn hyderus a diogel.
Hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd am ei hateb. Mae’n siomedig na fydd Comisiwn y Senedd yn llofnodi cyfamod y lluoedd arfog. Byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed gennych pam nad yw Comisiwn y Senedd yn fodlon llofnodi cyfamod y lluoedd arfog. A oedd unrhyw resymau polisi penodol pam y gwnaethoch chi ddewis peidio â gwneud hynny, neu a yw’n rhywbeth, efallai, y byddai’r Comisiwn yn ceisio ei wneud yn y dyfodol? Oherwydd mae cyfamod y lluoedd arfog yn cynnig llawer o gyfleoedd, gan annog cyn-filwyr a’r rheini sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog i weithio i’r Senedd, i wella ein hamrywiaeth ymhlith ein staff yma hefyd. Oherwydd mae gan rai o’r cyn-filwyr hynny sgiliau helaeth y gallent eu cyfrannu i Gomisiwn y Senedd ac i’n sylfaen staff yma. Felly, hoffwn wybod pam nad yw Comisiwn y Senedd wedi llofnodi cyfamod y lluoedd arfog a pha waith a wnewch i gynyddu nifer y cyn-filwyr sy'n cael cyfleoedd i ddod i weithio i Gomisiwn y Senedd yma a defnyddio'r sgiliau y maent wedi'u dysgu yn ein lluoedd arfog er budd ein Senedd.
Rydym yn cydnabod yr heriau unigryw y gall cyn-filwyr a gyflogwn eu hwynebu wrth bontio i fywyd sifil, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer eu llesiant. Mae rhaglen cymorth i weithwyr y Comisiwn yn cynnig gwasanaeth cymorth cyfrinachol, 24/7 sydd wedi’i gynllunio i helpu cyn-filwyr a’u rheolwyr llinell i ymdopi â heriau personol a phroffesiynol, ac mae’r gwasanaeth hwnnw’n mynd y tu hwnt i gwnsela, gan ddarparu arweiniad arbenigol ar reoli dyledion, cyngor cyfreithiol, cwnsela i gyplau, hyfforddi rheolwyr a sicrhau y caiff cymorth ei deilwra i anghenion unigolion. Mae’r Comisiwn hefyd yn archwilio'r syniad o weithredu cynllun gwarantu cyfweliad i gyn-filwyr—un o egwyddorion craidd y cyfamod—a’r nod yw rhoi cyfle i gyn-filwyr ddangos eu gallu y tu hwnt i’r cam ymgeisio cychwynnol wrth wneud cais am swydd gyda’r Comisiwn. Nawr, mae'r rheini'n bethau yr ydym eisoes yn eu gwneud, ac wrth gwrs, rydym eisoes yn cyflogi rhai o'r bobl hynny.
Fe ofynnoch chi pam nad ydym wedi’i lofnodi, ac nid yw’n fater o ddiffyg awydd i wneud hynny—rwyf am wneud hynny’n berffaith glir—ond bydd llofnodi’r cyfamod yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gadw at yr ymrwymiadau, ac efallai y byddai angen newidiadau i'r polisi adnoddau dynol, hyfforddiant neu fesurau cymorth ychwanegol er mwyn gwneud hynny. Mae’n bosibl y bydd angen i gyflogwyr sy’n cefnogi milwyr wrth gefn ddarparu ar gyfer cyfnodau o absenoldeb—ac rydym eisoes yn gwneud hynny—neu gael eu galw i'r fyddin, a allai effeithio ar drefniadau cynllunio’r gweithlu. Ond mae manteision cyfyngedig i rai sefydliadau, os nad oes gan sefydliad lawer o ryngweithiad.
Gwn fod Tŷ’r Cyffredin wedi llofnodi’r cyfamod, ond gwn hefyd nad oes unrhyw un arall o ddeddfwrfeydd y DU wedi’i lofnodi. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud yma mewn gwirionedd yw, os mai ewyllys y Senedd yw archwilio'r cyfle i lofnodi'r cyfamod, byddem yn sicr yn cefnogi'r awydd hwnnw. Dyna roeddwn am ei ddweud, mewn gwirionedd. Nid ydym wedi cael cais hyd yma, gan weithwyr unigol nac undebau llafur i'w lofnodi. Pe byddem yn derbyn unrhyw gais o’r fath, wrth gwrs, byddem yn ei ystyried, ynghyd â gweddill y Senedd.
Eitem 4 sydd nesaf, y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf o'r rhain i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Adam Price sy'n gofyn y cwestiwn.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar newidiadau i bolisi diogelwch ysgolion wedi i'r achos ddod i ben ynglŷn â'r ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman? TQ1297

Mae trais yn erbyn staff a disgyblion mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol, ac mae digwyddiadau fel yr un yn Ysgol Dyffryn Aman yn brin iawn. Mae ein canllawiau'n glir ar y pwerau sydd gan ysgolion ynghylch defnyddio grym rhesymol, chwilio am arfau a'r hyn a allai fod yn sail dros wahardd.
Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet bellach wedi cadarnhau y bydd uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar ymddygiad yn yr ysgol—ym mis Mawrth, rwy'n credu. Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau oedd yr undeb a alwodd am hyn gyntaf. Maent yn disgrifio'r sefyllfa bresennol fel argyfwng ymddygiad. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gynnal yr uwchgynhadledd, bellach yn rhannu’r asesiad hwnnw? A all ddweud ychydig yn rhagor am yr hyn sy'n mynd i gael ei drafod yn yr uwchgynhadledd? A yw rhai o’r syniadau polisi, er enghraifft, a drafodwyd dros y dyddiau diwethaf—y defnydd o swyddogion diogelwch, y defnydd o sganwyr mewn ysgolion, ymestyn pwerau athrawon i chwilio disgyblion heb ganiatâd, cynnwys polisïau rheoli ymddygiad, y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion a'u cyllido—a yw’r holl syniadau hyn yn cael eu hystyried, ac a ydym yn edrych ar bob rhan o'r byd, mewn gwirionedd, i weld beth sy’n gweithio, er mwyn rhoi'r gwersi hynny ar waith yng Nghymru?
A sôn am wersi, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhannu gyda ni heddiw—neu a fydd yn cael ei rannu yn yr uwchgynhadledd—beth yn eich barn chi yw'r gwersi a ddysgwyd hyd yma o'r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman? Fel cefndir i’r uwchgynhadledd, a fydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno ynglŷn â beth yw hyd a lled y broblem o ran trais, cam-drin corfforol a geiriol yn ein hysgolion? Ac a ydych chi'n ymrwymo, Ysgrifennydd y Cabinet— ? Y tu hwnt i’r uwchgynhadledd ei hun fel digwyddiad, a ydych chi'n ymrwymo i broses a fydd yn arwain at gynllun gweithredu o ymrwymiadau mewn perthynas ag adnoddau polisi a’r holl faterion pwysig eraill, fel y gallwn weld y syniadau hynny’n cael eu rhoi ar waith mewn gwirionedd?
Diolch am eich cwestiynau, Adam. Fe ddechreuoch chi drwy ddweud fy mod bellach wedi ymrwymo i uwchgynhadledd ymddygiad. Gwneuthum yr ymrwymiad hwnnw beth amser yn ôl bellach, ac fe'i gwnaed ar sail y sgyrsiau a gawn wrth fynd o amgylch Cymru yn siarad ag addysgwyr yn ogystal â’n partneriaid yn yr undebau llafur.
Rwy’n pryderu am ymddygiad mewn ysgolion. Rwy'n credu mai’r hyn a welwn mewn ysgolion yw mwy a mwy o blant a phobl ifanc â chymhlethdod cynyddol, ag anghenion dysgu ychwanegol, â phroblemau iechyd meddwl. Ac rydym hefyd, o ganlyniad, yn gweld mwy o heriau gydag ymddygiad. Credaf fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers y pandemig. Felly, dyna pam, ar ôl trafodaethau gyda’n cymheiriaid yn yr undebau llafur, y cytunais i gynnal yr uwchgynhadledd.
Nawr, fe ofynnoch chi am yr uwchgynhadledd, a hoffwn ddweud yn glir nad yr uwchgynhadledd yw'r unig beth a wnawn. Roeddem eisoes yn gweithio ar becyn cymorth ymddygiad i gefnogi penaethiaid ac uwch arweinwyr mewn ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus am bolisïau ymddygiad, a hefyd i helpu gyda strategaethau i atal problemau ymddygiad ac i ymdrin â materion pan fyddant yn codi ac atal problemau rhag gwaethygu.
Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd gomisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o ymddygiad mewn ysgolion, a disgwylir i’r gwaith hwnnw gael ei gyhoeddi ym mis Mai. Ac yn ogystal â hynny, fe wnaethom gomisiynu Prifysgol Bangor i ymchwilio i ymddygiad sy'n tarfu ar eraill yn yr ystafell ddosbarth a mesurau lliniaru effeithiol, ac roeddem am ddeall natur a hyd a lled ymddygiad heriol ac ymddygiad sy'n tarfu ar eraill yn yr ysgol. Bydd yr ymchwil honno’n archwilio ystod ac effeithiolrwydd y mesurau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn ysgolion a lleoliadau i fynd i’r afael ag ymddygiad heriol. Felly, mae amrywiaeth o waith yn mynd rhagddo, ac rydym yn cynnal yr uwchgynhadledd ar ôl i Estyn adrodd—maent yn adrodd ym mis Mai—gan fy mod yn awyddus iawn inni gael cymaint â phosibl o wybodaeth, a bydd Estyn yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd.
Fe gyfeirioch chi at beth y byddem yn ei drafod yn yr uwchgynhadledd. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gydag undebau llafur a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer yr uwchgynhadledd. Mae’n mynd i edrych ar ystod o faterion, ac rwy’n awyddus iawn, yn rhan o hynny, i edrych ar faterion fel yr hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw drwy'r uwchgynhadledd, ond rwy'n awyddus iawn iddo ganolbwyntio ar weithredu, a bod gennym gyfle i edrych ar yr holl faterion sy'n achosi problemau ac i lunio cynllun gweithredu clir iawn.
Nawr, fe sonioch chi am bethau fel gallu ysgolion i chwilio disgyblion heb ganiatâd. Gallant eisoes chwilio disgyblion heb ganiatâd am arf, fel cyllell, felly mae hynny eisoes ar waith. Ac yna, o ran y gwersi o Ysgol Dyffryn Aman, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod—ac fe fyddwch yn cofio imi dalu teyrnged i'r ffordd y gwnaeth yr ysgol a'r awdurdod lleol ymdrin â'r digwyddiad ar y pryd. Ond yn dilyn hynny, fe wnaethom gysylltu â phob awdurdod lleol i sicrhau y gallent roi sicrwydd i ni fod eu polisïau argyfyngau yn gyfredol, ac fe wnaethom adolygu ein canllawiau cynllunio ac ymateb i argyfyngau yng ngoleuni'r hyn a ddysgwyd o'r digwyddiad. Gan fod yr achos llys wedi bod bellach, fel y gallwch ddeall, rwy'n siŵr, bydd proses wedi'i dilyn i ddysgu’r gwersi ehangach o’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod cyn y diwrnod ofnadwy hwnnw yn Ysgol Dyffryn Aman, ac rydym yn siarad â’r awdurdod lleol am y ffordd orau o ddeall a dysgu o’r hyn a ddigwyddodd. Ac rwy'n awyddus iawn inni sicrhau bod unrhyw wersi wedyn, yn amlwg, yn cael eu rhannu ledled Cymru, boed hynny gan yr uwchgynhadledd ymddygiad, os daw gwersi i'r amlwg erbyn hynny, neu fel arall, byddwn yn dilyn llwybrau eraill.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg fod trais mewn ysgolion yn digwydd yn amlach ac yn amlach, ac mae'n broblem y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys. Rydym wedi sôn am y digwyddiad erchyll yn Rhydaman, ond mae hwn yn fater llawer ehangach sydd â’i wreiddiau’n llawer dyfnach. Yn yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld ysgolion yn sir Benfro, gogledd Port Talbot, Caerffili a fy ardal fy hun yng Nghasnewydd yn gorfod defnyddio trefniadau cloi a diogelu, a dim ond heddiw, cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddatganiad am gyllell y dywedir iddi gael ei chanfod ym mag myfyriwr mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ni ddylai unrhyw un—ac rwy'n golygu unrhyw un—fod yn mynd i'r gwaith yn ofni ymosodiad, a dylai ysgolion fod yn lle diogel i bob disgybl, myfyriwr a phawb arall.
Wrth gwrs, fel y gwelsom yn y newyddion yn ddiweddar, nid problem yng Nghymru'n unig yw hi. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r camau y maent yn eu cymryd, ac a oes unrhyw arferion y gallwn eu mabwysiadu yma yng Nghymru? Yn arolwg diweddar y Cwestiwn Mawr gan NASUWT, dywedodd 23 y cant o weithwyr proffesiynol mai ymosodiad corfforol ar athrawon a oedd wedi achosi’r pryder mwyaf iddynt pan oeddent yn yr ystafell ddosbarth, gyda 32 y cant yn nodi ymddygiad bygythiol, a 41 y cant yn nodi trais rhwng disgyblion. O’r hyn a ddeallaf, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw bod ag arf yn eich meddiant yn sail dros wahardd mwyach. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud a yw hyn yn dal yn wir heddiw, ac a wnewch chi ymrwymo i gynnal adolygiad trylwyr o'r holl bolisïau diogelwch ysgolion i sicrhau ein bod yn diogelu ein cymunedau ysgol yn y dyfodol? Diolch.
Diolch, Natasha, ac roedd cryn dipyn o gwestiynau yno. A gaf i ddweud yn gwbl glir fod ein canllawiau ar wahardd o'r ysgol yn dweud y gall ysgolion wahardd disgybl yn barhaol am fod ag arf yn eu meddiant? Mae hynny’n wir ar hyn o bryd, ac fel y dywedais wrth Adam Price, mae ganddynt bŵer hefyd i chwilio disgyblion heb ganiatâd, ac mae ganddynt bwerau pellach i chwilio gyda chaniatâd am eitemau eraill. Ond mae'r pŵer heb ganiatâd yn ymwneud ag arfau.
Fel y dywedais wrth Adam Price, rwy’n bryderus iawn am yr hyn a welwn mewn ysgolion o ran ymddygiad, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r cymhlethdod. Rydym yn gweld mwy a mwy o bobl ifanc nad ydynt yn gallu hunanreoli mewn ysgolion. Dyna pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar iechyd meddwl. Ond trwy ddod â phawb ynghyd nawr yn yr uwchgynhadledd, rwy'n gobeithio y gallwn archwilio’r materion hyn yn fanwl. Y bore yma, bûm yn siarad â Bridget Phillipson ynglŷn â'r mater, a chlywsom hefyd am farwolaeth drasig yr unigolyn ifanc yn Sheffield ddydd Llun.
O ran dysgu o arferion da—ac ni atebais bwynt Adam ar hynny—rydym bob amser yn awyddus i edrych ar arferion da lle bynnag y'u ceir. Rydym yn cymryd rhan weithgar iawn yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn ymwneud yn rhagweithiol â'r sefydliad hwnnw, a phan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar, roedd ymddygiad yn un o'r materion y buom yn eu trafod. Buom yn siarad ynglŷn â'r ffordd nad oes ymdeimlad o berthyn mewn rhai ysgolion mwyach, a bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei feithrin. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dod i Gymru yn y gwanwyn, ac rydym yn cynnal digwyddiad dysgu rhwng cymheiriaid gyda hwy. Ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu o ble bynnag y ceir arferion da, a byddaf yn parhau i drafod y materion hyn gyda Llywodraeth y DU.
Diolch i Adam Price am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Yn amlwg, roedd y digwyddiad a welsom yn Rhydaman yn wirioneddol syfrdanol, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i’r staff dan sylw, yn enwedig y staff a siaradodd yn ddewr ar ddiwedd yr achos ac a rannodd eu profiad o'r hyn roeddent wedi bod drwyddo. Yn anffodus, mae hwn yn fater sy'n dod yn fwyfwy cyffredin. Gwelsom ddoe ddiwethaf yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod cyllell gan ddisgybl yn eu meddiant, a’r digwyddiad gwirioneddol drasig a welsom ddydd Llun yn Sheffield, lle collodd unigolyn ifanc eu bywyd.
Soniodd Adam am gyfres o gamau gweithredu y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, boed hynny’n swyddogion diogelwch a sgrinio, pwerau gwell i staff addysgu, ac er fy mod yn sicr o'r farn fod angen ystyried y rheini, rwy'n credu eich bod yn anwybyddu gwraidd y broblem yma, sef bod pobl ifanc a’u dynameg a’u hymdeimlad o berthyn mewn ysgol wedi newid, ac mae wedi newid ers y pandemig. Felly, tybed pa wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu o ran sut y mae rhyngweithiad pobl ifanc â'r ysgol, os mynnwch, wedi newid o ganlyniad i'r pandemig, o ganlyniad i beidio â mynychu'r ysgol yn rheolaidd, a pha wersi y gallwn eu dysgu wedyn ar gyfer y genhedlaeth honno ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel bod effeithiau'r pandemig yn cael eu teimlo, eu nodi a'u deall?
Diolch, Tom. Rwy’n ymwybodol o’r digwyddiad yn ysgol Bryntirion, sy’n destun ymchwiliad ar hyn o bryd, felly nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylw ar hynny. Yn sicr, nid wyf yn diystyru gwraidd y problemau. Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio'n benodol iawn at rai o'r heriau a welwn yn ein hysgolion. Rydym yn gweld mwy a mwy o blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol, sy'n ei chael hi'n anodd hunanreoli, mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn ymgyflwyno ag ADY cymhleth, a chyfathrebu yw ymddygiad, onid e? Mae’n rhaid inni gofio hynny. Felly, rwy’n ymwybodol iawn o wraidd y problemau, a dyna pam ein bod ni fel Llywodraeth yn rhoi cymaint o bwyslais ar iechyd meddwl a lles ein dysgwyr.
Mae gennym ddull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl yng Nghymru, mae gennym wasanaethau cwnsela ar gael i bob dysgwr chwech oed a hŷn, ac mae hynny wedi bod yn wir ers blynyddoedd yng Nghymru, yn wahanol i dros y ffin. Mae gennym wasanaethau mewngymorth iechyd meddwl plant a'r glasoed mewn ysgolion ac mae iechyd meddwl yn rhan statudol o'n cwricwlwm. Felly, rydym yn canolbwyntio’n fawr ar fynd i’r afael â gwraidd y broblem, ond un o’r pethau y bûm yn sôn amdanynt yw mai’r hyn a welwn yw llwyth o broblemau cymdeithasol yn glanio mewn ysgolion. Maent bob amser yn agored, maent yno, ac rydym hefyd wedi gweld rhyw fath o ddatgysylltiad, neu chwalfa o bosibl, yn y contract rhwng ysgolion a theuluoedd ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Felly, fel rhan o'r gwaith a wnawn ar ymddygiad, byddwn hefyd yn ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd. Credaf fod y broblem yn bodoli cyn y pandemig. Yn sicr, pan oeddwn yn Gadeirydd y pwyllgor, roeddwn yn bryderus iawn am iechyd meddwl bryd hynny, ac nid oedd yn ymwneud â salwch meddwl, roedd yn ymwneud â phobl ifanc a oedd yn ofidus ynghylch yr hyn a oedd yn digwydd yn eu bywydau. Ond rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hynny, felly bydd yr uwchgynhadledd ymddygiad yn helpu.
Fel y dywedaf, rydym am ymgysylltu â phlant a phobl ifanc hefyd, ond rwyf hefyd yn awyddus i weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, gan fod hon yn broblem drawslywodraethol—mae a wnelo â'r blynyddoedd cynnar, yn ôl i'r berthynas rhwng rhieni a babanod; mae a wnelo ag ymyrraeth gynnar gan bethau fel gofal cymdeithasol; mae a wnelo â chyfleoedd gwaith. Felly, mae rôl i bawb yn y Llywodraeth ei chwarae yn creu dyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc, a gobeithio, i atal y llif o drallod yr ydym yn ei weld.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan Heledd Fychan.
2. A wnaiff yr Ysgrifennyd Cabinet ddatganiad o ran y sefyllfa sydd wedi arwain at gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heb rybudd? TQ1296

Diolch. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau dros dro am ychydig ddyddiau i ymdopi â mater mecanyddol mewn un rhan o'r adeilad. Mae'r gwaith atgyweirio ar y gweill ac rwy'n edrych ymlaen at weld y drysau ar agor i'r cyhoedd eto yn fuan iawn.
Diolch, Weinidog. Rwy'n gobeithio y gallwch ddeall pam fod hyn yn peri pryder mawr, nid yn unig i ni fel Aelodau'r Senedd, ond i'r cyhoedd. Rydym wedi clywed rhybuddion gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers nifer o flynyddoedd fod cyflwr yr adeiladau, oherwydd tanfuddsoddi cronig gan Lywodraeth Lafur Cymru a rhai blaenorol, yn peryglu'r casgliadau cenedlaethol. Cawsom rybudd gan Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, pan ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar 6 Rhagfyr 2023, y byddai ein sefydliadau'n ei chael hi'n anodd gweithredu heb atgyweiriadau brys i'r systemau mecanyddol, trydanol a phlymio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Rydym wedi gweld lluniau o ddŵr yn llifo i mewn i orielau. Mae bwcedi i ymdopi â dŵr yn gollwng o'r to wedi dod yn rhan mor normal o'r casgliadau cenedlaethol â'r gweithiau eu hunain. Ac eto, nid ydych chi, fel Gweinidog, yn credu bod yna argyfwng. Rydych chi wedi cadarnhau bod yna fethiannau mecanyddol, ac rydym wedi gweld canlyniadau'r anwybodaeth hon mewn mannau eraill, fel y soniais droeon o'r blaen, yn Brasil, lle anwybyddwyd rhybuddion dro ar ôl tro am flynyddoedd gyda chanlyniadau trychinebus: tân a ddinistriodd 92.5 y cant o'u casgliadau cenedlaethol—20 miliwn o wrthrychau.
Ac yma yng Nghymru, rydym eisoes wedi cael damwain y bu ond y dim iddi ddigwydd, gyda thân yn y llyfrgell genedlaethol ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly, gobeithio y gallwch ddeall pam ein bod yn pryderu y gallai hyn ddigwydd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi fod ein casgliadau cenedlaethol yn ddiogel? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r ôl-groniad llawn o waith cynnal a chadw ar draws holl safleoedd Amgueddfa Cymru ac yn ein llyfrgell genedlaethol, nid yn unig yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ond y tu hwnt i gyllideb y flwyddyn nesaf?
Pobl Cymru sydd berchen y casgliadau hyn, nid yr amgueddfa, nid y llyfrgell, nid y Llywodraeth. Ar ran pobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol, dwi'n gofyn ichi ddangos eich bod yn deall pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa yma a bod gennych chi gynllun i fynd i'r afael â hyn.
Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol, Heledd, a'r cyfle i drafod y mater heddiw. Lywydd, mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwysigrwydd y casgliadau i bobl Cymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Dyna pam rwy'n credu, pan fyddwn yn siarad am yr amgueddfa genedlaethol, ein bod yn sôn am sefydliad sy'n hynod o agos at galonnau llawer ohonom ledled y wlad. Ac o ran hynny, rwyf bob amser wedi credu ei bod yn hynod o bwysig, Lywydd, i wneud popeth a allwn i wybod y ffeithiau, cyn inni baentio darlun ehangach i'r cyhoedd.
Roedd yn anffodus na allodd yr Aelod ymuno â'r briff i'r llefarwyr a drefnais o'r amgueddfa ddoe, cyn dod i lawr y Senedd—[Torri ar draws.]—cyn dod i lawr y Senedd, i siarad am faterion strwythurol sy'n peryglu ein casgliadau. Rwy'n falch eich bod bellach wedi cael cyfle i gael y briff i'r llefarwyr a drefnais eto heddiw, i ddeall y sefyllfa honno.
Gadewch imi fod yn glir, Lywydd, mae'r amgueddfa ar gau oherwydd mater mecanyddol, nid mater strwythurol. Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â'r amgueddfa. Gofynnodd yr Aelod am sicrwydd ynghylch y casgliadau cenedlaethol. Mae cadeirydd a phrif weithredwr Amgueddfa Cymru wedi fy sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn eu gofal yn ddiogel. Mae'r tîm atgyweirio yn Amgueddfa Cymru yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am hynny.
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn adeilad sydd bron yn 100 oed, ac o ganlyniad, mae'n adeilad cymhleth. Penderfynodd yr amgueddfa gau'r adeilad er mwyn sicrhau bod modd gwneud y gwaith atgyweirio cyn gynted â phosib, gyda llai o bobl ar y safle. Mae'r Aelod yn gwybod, yn 2024-25, ein bod wedi dyfarnu £1.3 miliwn ychwanegol i Amgueddfa Cymru ar gyfer gwaith brys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae'n mynd rhagddo fel y cynlluniwyd. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at faterion ehangach yr wyf eisoes yn ymwybodol ohonynt ar ystad Amgueddfa Cymru a chynnal yr ystad. Dyna pam ein bod wedi gweithredu i helpu i fynd i'r afael â hyn, Lywydd, gyda'r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i wneud y gwelliannau hynny ar draws y safleoedd, gan gynnwys yn y gyllideb ddrafft y pleidleisiodd yr Aelod yn ei herbyn ddoe. Efallai y bydd yr Aelod a'i phlaid am ystyried y safbwynt hwnnw cyn y gyllideb derfynol, o ran cefnogi sector y celfyddydau.
Roedd sefydlu'r amgueddfa genedlaethol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn garreg filltir bwysig yn hanes Cymru fel cenedl. Roedd yr amgueddfa a Phrifysgol Cymru yng Nghaerdydd ymhlith nifer o sefydliadau a sicrhaodd statws Cymru fel cenedl. Wrth gwrs, yn anffodus, mae'r adeilad yn fwy nag amgueddfa genedlaethol yn unig, mae hefyd yn oriel genedlaethol i Gymru. Felly, nid oes gan Gymru fynediad ar hyn o bryd at ein hamgueddfa genedlaethol na'n horiel genedlaethol.
Rwy'n siŵr y gwelwch chi'n ddigon buan, os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, Weinidog, gyda Noah bach, pa mor boblogaidd yw'r amgueddfa ymysg plant. Y dydd Sul cyn y cau, roedd fy mhlant yno am y trydydd tro i ymweld â'r deinosoriaid—mae'r deinosoriaid yn boblogaidd iawn yn yr amgueddfa. I lawer o blant yng Nghymru, yr amgueddfa genedlaethol yw'r profiad cyntaf o hanes, celf, a diwylliant.
Nawr, gyda phopeth sy'n digwydd ym maes diwylliant, mae'n anodd peidio â theimlo bod yna ddirywio. Y cwestiwn syml yw—. Ac mae'r amgueddfa genedlaethol yn bwysig iawn ar sawl lefel. Mae disgwyl i wasanaeth coffa'r Farwnes Randerson gael ei gynnal yno ddydd Llun. Nawr, fy nghwestiwn syml, neu ddau gwestiwn syml, yw: pam ei chau mor sydyn heb unrhyw rybudd, a beth yw ystyr 'agor yn fuan iawn'? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny. Mae'n gywir i dynnu sylw at bwysigrwydd y sefydliad i lawer iawn o bobl. Cefais innau hefyd y pleser o fwynhau'r deinosoriaid ddechrau'r flwyddyn hon, ond nid y deinosoriaid yn unig, Lywydd. Treuliais beth amser gyda fy nheulu yno, a phenderfynodd fy mab godi arwydd cefnogi'r glowyr yn arddangosfa'r streic—yn union fel ei dad, rwy'n tybio. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r pwyntiau hynny a'r pwysigrwydd i'w etholwyr a phobl Cymru a thu hwnt.
Tynnodd yr Aelod sylw at ddau gwestiwn yno. Yn gyntaf, pam y caewyd yr amgueddfa mor sydyn? Wel, mae problemau mecanyddol yn digwydd, ac maent yn digwydd yn sydyn weithiau—dylwn wybod, Lywydd, gan imi geisio unioni llawer o'r mathau hyn o broblemau mewn diwydiant, ac mae'n digwydd trwy'r amser.
Lywydd, rwy'n clywed llawer o sylwadau oddi ar feinciau Plaid Cymru, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig parchu a gwrando ar ateb pan fo mor bwysig â hyn. Mae Rhys ab Owen yn holi am ystyr 'agor yn fuan iawn'. Wel, rwy'n gobeithio, yn fuan iawn, y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agor ei drysau i'r cyhoedd, fel y bydd ef, ei etholwyr a'i deulu heb os, yn gallu mwynhau'r deinosoriaid a'r holl bethau eraill y mae'r amgueddfa'n eu cynnig yn fuan iawn.
Rwy'n hapus i siarad ar y pwnc hwn y prynhawn yma. Mae'n siom enfawr fod yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd wedi cael ei gorfodi i gau, ac rwy'n gobeithio y byddant yn gallu ailagor eu drysau cyn gynted â phosibl.
Ac mae'n rhaid imi ochri gyda chi, Weinidog, a dweud ei bod hi'n bechod nad oedd llefarydd Plaid Cymru wedi gallu sicrhau ei bod ar gael ar gyfer yr alwad honno ddoe, oherwydd mae gwybodaeth yn allweddol yn y materion hyn. A phe bai wedi mynychu'r cyfarfodydd briffio hynny, efallai na fyddai'r ddadl hon yn y Senedd wedi digwydd, oherwydd cefais sicrwydd gan brif weithredwr amgueddfa Caerdydd fy hun fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ailagor.
Mae'n gwestiwn amserol, felly dyma'r cwestiwn rydych chi am ganolbwyntio arno.
Yn hollol. Un o'r cwestiynau a godais yn y cyfarfod briffio i'r prif weithredwr yn wir oedd y cyllid, ac a ellid bod wedi dileu rhai o'r problemau drwy gael cyllid gwell gan Lywodraeth Cymru, neu ffrydiau refeniw eraill a allai fod ar gael i'r amgueddfa, o ran eu gallu i wneud arian trwy werthu pethau fel nwyddau, cyfleusterau caffi, y math hwnnw o beth, i wella profiadau pobl, ond i gynhyrchu llif arall o incwm hefyd.
Felly, rwy'n awyddus i gael ateb gennych chi, Weinidog, ynglŷn â sut rydych chi'n mynd i weithio gyda'r amgueddfa i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ailagor eu drysau cyn gynted â phosibl, a pha waith cydweithredol a wnewch gyda hwy i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac y gall yr arteffactau a'r casgliadau fod yn ddiogel i bobl nawr ac i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru eu mwynhau.
Wel, Gareth, rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau ac am y sylwadau'n cefnogi'r amgueddfa ac ystad Amgueddfa Cymru yn ehangach. Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ddod o hyd i amser ddoe i ddod i'r cyfarfod briffio, ac fel y nodais yn gynharach, rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am roi amser heddiw i allu deall y sefyllfa honno.
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at nifer o bethau. Mae'n cyfeirio at gyllid a gweithio mewn cydweithrediad. Wel, byddwn yn parhau i gydweithio ag Amgueddfa Cymru a'r arweinyddiaeth yno. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac rwy'n cael diweddariadau rheolaidd ar y mater hwn. Byddaf yn parhau i weithio mewn cydweithrediad â hwy yn y dyfodol.
O ran cyllid ar gyfer Amgueddfa Cymru, soniais yn gynharach am y £1.3 miliwn yng nghyllideb 2024-25 ar gyfer gwaith brys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae mwy o arian buddsoddiad cyfalaf yn y gyllideb ddrafft, y mae pob Aelod yn cael cyfle i'w chefnogi, Lywydd. Wedyn, mae Gareth yn tynnu sylw at gyfleoedd amgen i ddod ag arian i mewn i'r amgueddfa a'r sefydliad. Rwy'n credu ei fod wedi cyfeirio at nwyddau. Wel, Lywydd, manteisiais ar y cyfle i fynd i siop Amgueddfa Cymru ar y ffordd allan ar ôl fy ymweliad gyda'r teulu ychydig wythnosau yn ôl, a phrynais fagned ar gyfer yr oergell a oedd yn cefnogi'r glowyr. Efallai y caf un iddo ef y tro nesaf.
Wel, mae Amgueddfa Cymru yn fwy nag adeilad wrth gwrs, ond mae'r adeilad yn fregus. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd llawer o aelodau'r cyhoedd yn ei groesawu, y ffaith ein bod wedi gallu cael y drafodaeth hon a'r eglurhad ar lawr y Senedd. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn werth cael y cwestiwn hwn heddiw.
A gaf i ofyn dau beth i'r Gweinidog? O ran eglurder y cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf, yn enwedig o ystyried nad oes eglurder ar hyn o bryd gyda sefyllfa cyfraniadau yswiriant gwladol, byddai unrhyw wybodaeth bellach y gallai ei rhoi i ni nawr yn ddefnyddiol iawn. Ac ar ben hynny, oherwydd ei fod yn lle sydd mor werthfawr i gymaint ohonom, mae'r pwyllgor diwylliant wedi argymell yn y gorffennol, ar ôl cael tystiolaeth gref ar hyn, y dylid cael cenhadaeth drawslywodraethol i sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn cael eu diogelu. Rwy'n falch o glywed nad oedd y casgliadau cenedlaethol mewn perygl yn yr achos hwn, ond efallai y gallem ddefnyddio hwn fel cyfle arall i sicrhau, ar gyfer y dyfodol, fod y cyfrifoldeb yn cael ei ysgwyddo ar draws y Llywodraeth o ran ariannu ar gyfer hynny, oherwydd eu bod mor werthfawr i'r genedl. Diolch yn fawr.
Diolch am y pwyntiau hynny, Delyth. Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn ar lawr y Siambr heddiw yn y ffordd yr ydym newydd ei wneud. Tynnodd yr Aelod sylw at bwysigrwydd y sefydliad, ac rwy'n cytuno'n llwyr.
Rwyf eisoes wedi nodi'r ddau fater penodol yn y cwestiwn hwnnw, Lywydd. Ar yswiriant cenedlaethol, rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi ymateb i'r pwyntiau hynny'n eithaf manwl ddoe yn ystod y ddadl ar y gyllideb. Nid oes gennyf unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedodd ar y llawr brynhawn ddoe, heblaw dweud, unwaith eto, pan fyddwn yn gwybod mwy, y bydd Amgueddfa Cymru a phob corff hyd braich yn gwybod cyn gynted ag y byddwn ni'n gwybod.
Ar yr ymrwymiad trawslywodraethol i'r ystad ac ystadau fel Amgueddfa Cymru, mae'r buddsoddiad yn dangos yr ymrwymiad hwnnw yn y sector: y £1.3 miliwn ar gyfer gwaith brys, sy'n benderfyniad Cabinet, a'r arian ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, a oedd yn benderfyniad Cabinet.
Diolch i Delyth Jewell unwaith eto am dynnu sylw at y ffaith bod y casgliad yng ngofal Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ystad Amgueddfa Cymru yn ddiogel. Rwyf am ailadrodd hynny oherwydd pwysigrwydd y casgliad i bobl Cymru. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i allu cadarnhau hynny y prynhawn yma.
Diolch i'r Gweinidog. Cyn symud ymlaen at y cwestiwn amserol olaf—
—rwyf wedi derbyn cais am bwynt o drefn. Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gan imi gael fy enwi gan y Gweinidog a Gareth Davies, hoffwn egluro fy mod wedi derbyn cais am 10:15 fore ddoe. Roedd y briff technegol am hanner dydd, roeddwn yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd—grŵp trawsbleidiol y byddai croeso mawr i'r ddau ohonoch ei fynychu yn y dyfodol, mae'n berthnasol iawn i'ch portffolios—ac fe wneuthum fynychu briff technegol yn gynharach. Byddwn yn dal i fod wedi cyflwyno cwestiwn amserol am fy mod yn credu ei fod yn berthnasol. Dywedwyd wrthyf hefyd fod y briff technegol hwnnw'n gyfrinachol, a dyna pam na wneuthum gyfeirio ato ar ddechrau fy nghyfraniad. Rwy'n ddiolchgar am y briff technegol, ond o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, hoffwn pe gallem ymatal rhag sgorio mân bwyntiau gwleidyddol ar fater sydd mor allweddol. Hoffwn egluro hynny ar gyfer y cofnod, fy mod o ddifrif ynglŷn â fy rôl fel llefarydd dros ddiwylliant.
Diolch, ac mae wedi ei gofnodi nawr.
Bydd y cwestiwn amserol olaf gan Peredur Owen Griffiths.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn cyhoeddi adolygiadau diwylliannol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru? TQ1299

Diolch, Peredur. Rwyf wedi cyfarfod â chadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub a'r ddau brif swyddog tân. Rwyf wedi nodi fy nisgwyliad y dylid cymryd camau clir a phendant ar unwaith i ddileu'r diwylliannau niweidiol hyn a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel ac wedi eu gwerthfawrogi yn eu gweithle.
Diolch am yr ateb yna.
Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn gynharach ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddamniol. Fel y gwnaethoch gydnabod yn eich datganiad, canfu'r adroddiadau dystiolaeth o fwlio, aflonyddu, casineb at fenywod, gwahaniaethu, dulliau rheoli amhriodol a dyrchafiadau'n seiliedig ar ffafriaeth. Mae'n hollol frawychus fod 10 y cant o fenywod yng ngwasanaeth canolbarth a gorllewin Cymru wedi adrodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol. Yng ngwasanaeth tân gogledd Cymru, dywedodd 42 y cant o ymatebwyr yr arolwg eu bod wedi cael profiadau personol o fwlio neu aflonyddu ers mis Mehefin 2021. Roedd y ffigur cyfatebol ar gyfer y canolbarth a'r gorllewin hyd yn oed yn uwch, sef 47 y cant. Mae'r amgylchedd gwaith hwn, a ddisgrifir gan Undeb y Brigadau Tân fel un o ofn a drwgdybiaeth, yn ffordd wael iawn o wobrwyo dynion a menywod dewr sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol er diogelwch y cyhoedd.
Rwyf am wybod beth yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud tra bod y diwylliannau hyn wedi datblygu o fewn y brigadau tân. Er enghraifft, cyhoeddodd brigâd dân gogledd Cymru eu hamcanion yn eu cynllun gweithredu cydraddoldeb strategol ar gyfer 2020-24, lle dywedant y byddant yn datblygu diwylliant cynhwysol lle mae arweinwyr a staff yn dangos eu hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogaeth i weithlu teg a chynhwysol. Yn amlwg, ni ddigwyddodd hynny. Mae'n ymddangos nad yw Gweinidogion Llafur olynol sydd â chyfrifoldeb am y gwasanaeth tân yng Nghymru wedi llwyddo i ddwyn brigadau tân i gyfrif a gwirio cyflawniad yr amcanion hynny. Pe bai'r Llywodraeth wedi llwyddo i wneud hynny, byddai amgylchedd gwaith mwy diogel a hapusach wedi datblygu i'r dynion a'r menywod ymroddedig sy'n gweithio yn y brigadau tân. A allwch chi roi cyfrif am y diffyg monitro dros y blynyddoedd a beth a wnewch i sicrhau nad yw'r un camgymeriadau yn cael eu gwneud o dan eich goruchwyliaeth chi?
Diolch, Peredur. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi unwaith eto fy niolch i'r bobl a gamodd ymlaen, y bobl ddewr a gamodd ymlaen ac sydd wedi siarad. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod y bobl sydd wedi codi llais. Fel y dywed Peredur, ac fel y dywedais innau yn y sylwadau agoriadol a'r datganiad a gyhoeddais, rydym am i holl staff y gwasanaeth tân deimlo'n ddiogel yn eu gweithle. Nid oes lle i ddiwylliannau gwenwynig yn y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru nac yn unrhyw weithle arall.
Rwyf wedi siarad â chadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub a'r ddau brif swyddog tân i drafod sut y bwriadant fynd i'r afael â'r adroddiadau a'r canfyddiadau. Yn ystod y cyfarfodydd hynny, rwyf wedi nodi fy nisgwyliad clir iawn ynghylch gweithredu pendant, a bod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth er mwyn gweithredu newid diwylliannol. Byddwn yn parhau i ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion i benderfynu sut i fwrw ymlaen â'r gwelliannau sydd angen eu gwneud, mewn trafodaeth gydag arweinwyr y ddau wasanaeth. Mae'r ddau brif swyddog tân wedi cydnabod a derbyn y materion a godwyd yn eu hadroddiadau ac wedi ymddiheuro i'w staff.
Rydym yn datblygu cynlluniau i ddiwygio trefniadau llywodraethu awdurdodau tân ac achub gan ddefnyddio deddfwriaeth gyfredol cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac rydym hefyd yn bwriadu defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i wneud newidiadau mwy sylweddol i drefniadau llywodraethu awdurdodau tân ac achub. Rwyf eisoes wedi bod mewn trafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid allweddol drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer tân ac achub, a byddaf yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar y materion hyn.
Er bod llygedyn o obaith—er enghraifft, mae prif swyddog benywaidd gwasanaeth tân ac achub gogledd Cymru wedi cael effaith ar nifer y menywod mewn rolau gweithredol yno, a nododd uwch reolwyr ac arweinwyr undebau yng ngogledd Cymru fod y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol sy'n codi o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi cael effaith gadarnhaol—mae'n mynd i gymryd mwy na dim ond annog yr arweinyddiaeth bresennol i wneud yn well. Bellach, mae gennym dri adolygiad gyda phob un yn tynnu sylw at broblemau tebyg iawn nad ydynt yn unigryw i Gymru; maent hefyd yn bresennol mewn llawer, os nad y rhan fwyaf, o'r awdurdodau tân ac achub yn Lloegr hefyd.
Mae'n dda gwybod eich bod yn cynllunio newidiadau o fewn y rheoliadau cyfredol, yn ogystal â deddfwriaeth sylfaenol, ond rwy'n teimlo bod gwir angen diwygio radical arnom yn unol â'n hargymhellion 5 a 6. Mewn ymateb i argymhelliad 6 ein bod eisiau cael Papur Gwyn a allai ein galluogi wedyn i edrych ar ffurf diwygio radical er mwyn ei adlewyrchu ym maniffestos y pleidiau cyn 2026, roedd y Gweinidog ar y pryd yn siarad am ddatganiad. Rwy'n credu bod angen mwy na hynny, ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi, naill ai nawr neu rywbryd yn y dyfodol, yn y dyfodol agos, ddarparu llawer mwy o wybodaeth am yr amserlen yr ydym yn edrych arni.
Diolch, Jenny. Hoffwn ddiolch i chi unwaith eto, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a holl aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd wedi edrych ar hyn dros nifer o flynyddoedd. Unwaith eto, rwy'n cofnodi fy niolch i'r pwyllgor am hynny.
Fe wnaethoch chi dynnu sylw yn eich cwestiwn agoriadol at rywfaint o'r gwaith sydd eisoes wedi digwydd. Fe wnaethoch chi gyffwrdd â gwasanaeth tân gogledd Cymru ac fel y sonioch chi, mae'r prif swyddog tân, mewn ymateb i'r adroddiad hwn, wedi cadarnhau y bydd hi a'i huwch dîm arweinyddiaeth yn adolygu'r adroddiad yn fanwl ac yn troi argymhellion yn gamau mesuradwy, sy'n cynnwys sefydlu llinell gymorth gyfrinachol a chyflwyno arbenigwr allanol ar ddatblygu arweinyddiaeth.
Unwaith eto, fel y sonioch chi, yn anffodus nid yw hyn yn rhywbeth sy'n unigryw i un gwasanaeth tân nac i Gymru. Rwy'n credu bod hyn wedi helpu i dynnu sylw at rai o'r problemau sy'n digwydd mewn gwasanaethau mewn rhannau eraill o'r wlad. Ond mae'n sicr wedi taflu goleuni ar hynny.
Ar eich pwynt am y gwaith a wnawn nawr, fel y dywedais, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddiwygio trefniadau llywodraethu a'r hyn y mae angen inni ei weld. Mae hynny wedi'i ddechrau yn y fforwm partneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth gymdeithasol. Cyn gynted ag y gallaf wneud hynny, rwy'n hapus iawn i sicrhau bod y Senedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau a'r amserlen ar gyfer y diwygio arfaethedig.
Mae'r adroddiadau a welwn heddiw yn wirioneddol frawychus. Maent yn ddinistriol ac yn gwbl annerbyniol, ond nid ydynt yn syndod mewn gwirionedd. Mae yna broblem atebolrwydd yma hefyd, gan fod staff sy'n gwneud rolau mor anodd a pheryglus i'n cadw ni'n ddiogel wedi dioddef yn ofnadwy. Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar yr angen i ddiwygio trefniadau llywodraethu'r gwasanaethau tân ac achub—a ysgogwyd, wrth gwrs, gan adroddiad Fenella Morris, a'r canfyddiadau ysgytwol ar ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru—yn dangos yn glir mai'r broblem sylfaenol yma yw diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddiwygio trefniadau llywodraethu gwasanaethau tân ac achub Cymru. Yr hyn a welwn yn yr adolygiadau o ddiwylliant yw canlyniadau'r methiant i gyflawni diwygiadau. Y methiant i fynd i'r afael â'r mater yn gynharach sydd wedi cael yr effaith niweidiol hon ar staff, ac ar hyder y cyhoedd.
Mae'n warthus ei bod wedi cymryd ymdrechion newyddiadurwyr newyddion ITV Wales i gasglu tystiolaeth gan chwythwyr chwiban, a phwysau gan Undeb y Brigadau Tân a Phlaid Cymru ac eraill, i gael y Llywodraeth i gymryd y camau a gymerodd yn y diwedd. Mae angen inni sicrhau llywodraethu gwell a mwy effeithiol, gan wahanu'r rôl weithredol oddi wrth y rôl graffu ar yr awdurdodau. Mae hyn wedi bod yn amlwg ers degawdau. A ydych chi'n cymeradwyo'r dull hwnnw yn y trafodaethau yr ydych yn dechrau eu cael? Fe wnaethoch chi fethu cyflawni eich Papur Gwyn blaenorol yn 2018, a nawr gwelwn y canlyniadau gwirioneddol gywilyddus hyn. Felly, dim mwy o esgusodion. Rydych chi'n dweud bod y gwaith o ddiwygio ar y gweill o'r diwedd. Felly, pa mor radical fydd y gwaith hwnnw, a sut y caiff rheolwyr yn y ddau wasanaeth tân eu dwyn i gyfrif?
Diolch, Sioned. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gwn fod hyn yn rhywbeth—unwaith eto, gyda'r Cadeirydd—y buoch chi'n ei ddilyn ers nifer o flynyddoedd, fel y gwnaeth Aelodau eraill yma hefyd. Mae'r hyn a ganfu'r adroddiadau hynny'n gwbl annerbyniol. Fel y dywedais, rydym am i holl staff y gwasanaeth tân deimlo'n ddiogel yn y gweithle; dylent allu disgwyl hynny. Nid oes unrhyw le i ddiwylliant gwenwynig o'r fath mewn unrhyw wasanaeth tân ac achub yng Nghymru nac mewn unrhyw weithle arall, fel y dywedais.
Rwyf wedi cael y trafodaethau hynny, ac rwyf wedi nodi'n glir iawn fy mod eisiau gweld a bod yn ymwybodol o gamau gweithredu pendant. Rydym wedi cael yr adroddiadau hyn, mae'r adroddiadau wedi'u cyhoeddi heddiw. Eu hadroddiadau hwy sydd wedi'u cyhoeddi, ac mae angen inni weld gweithredu nawr, felly byddaf yn dilyn y gwaith a wnânt yn agos iawn. Ac fel y dywedais, rwyf wedi siarad â hwy ac maent wedi ymddiheuro, ac maent yn glir iawn fod ganddynt gamau gweithredu i ddod allan o hyn hefyd. Ond fel y dywedwch, rhywbeth ar gyfer y tymor byr yw hynny. Mae angen diwygio'r trefniadau llywodraethu hefyd, diwygiadau yr ydym yn glir iawn—. Y pwynt allweddol yw bod yn rhaid inni gael hyn yn hollol iawn. Yn amlwg, mae adroddiad y pwyllgor yn bwydo i mewn i hynny, ond hefyd y bartneriaeth gymdeithasol a'r drafodaeth a gawn yn y cyfarfodydd. Mae hyn yn flaenllaw iawn yn fy meddwl, yr hyn y gallwn ei wneud yn nhymor y Senedd hon, fel y dywedaf, a beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Ond mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn, ac rwy'n credu bod yr adroddiadau hyn yn dorcalonnus a dweud y lleiaf, ac yn destun pryder mawr. Ond mae'n ymwneud â chael hyn yn hollol iawn, ac yn anffodus, nid adlewyrchiad ar Gymru yn unig mohono, mae'n rhywbeth a welsom ac y gwyddom ei fod yn digwydd ledled y DU ac nid mewn un lle'n unig.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Hannah Blythyn.
Mae mis Chwefror yn Fis Hanes LHDT+, cyfle i fyfyrio ar ba mor bell y daethom ar hawliau LHDTC+ ac i ddathlu bywydau pobl LHDTC+ sydd, yn rhy hir ac yn rhy aml, wedi cael eu cuddio o'n hanes. Y thema ar gyfer 2025 yw gweithredu a newid cymdeithasol, ffocws addas i dynnu sylw at yr ymgyrchwyr a fu'n ganolog yn y broses o newid bywydau a deddfwriaeth. Efallai nad ydynt bob amser wedi cyrraedd y penawdau, ond byddant bron bob amser wedi bod yn achubiaeth. Yn unol â’r thema eleni, edrychaf ymlaen at gynnal digwyddiad yn y Senedd yr wythnos nesaf gydag Unite Cymru, i gofio ac i gydnabod y rhan y mae ymgyrchwyr wedi’i chwarae yn cyflawni newid cymdeithasol, gan fod diffyg ymwybyddiaeth o'n hanes yn peryglu ein dyfodol. Ni allwn fod yn hunanfodlon, gan nad yw cynnydd yn anochel.
Mae'r larwm yn canu ledled y byd fod hanes mewn perygl o gael ei ailadrodd ac y bydd hawliau'n cael eu diddymu. Ond ar yr un pryd, mae’n briodol ein bod, y mis hwn, yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaethom, gan fod llawer o’r cynnydd hwnnw’n rhan o’n hanes rhy ddiweddar o lawer. Yn ystod fy oes i'n unig, gallem golli ein swyddi, ni ellid sôn amdanom mewn ystafelloedd dosbarth, gellid gwrthod gwasanaeth i ni ac ni allem briodi'r unigolyn roeddem yn ei garu. Felly, y Mis Hanes LHDT+ hwn, rydym yn talu teyrnged i’r ymgyrchwyr a’r cynghreiriaid, yr arloeswyr a’r bobl sy'n creu hanes. Diolch am weithredu. Diolch am fod yn rhan o newid a chreu hanes.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y ffaith mai’r wythnos hon, 3 Chwefror i 9 Chwefror, yw Wythnos Iechyd Meddwl Plant, a’r thema eleni yw ‘adnabod dy hun, gwella dy hun’, gyda’r nod o arfogi a grymuso plant a phobl ifanc ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig i gofleidio hunanymwybyddiaeth ac archwilio beth y mae’n ei olygu iddynt. Mae'n bwysig nawr yn fwy nag erioed, yn y byd hwn sy'n newid yn gyflym, fod pobl ifanc yn dod i adnabod eu hunain, gan y gall hynny eu helpu i adeiladu gwytnwch, i dyfu ac i ddatblygu.
Yn anffodus, mae data newydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn dangos mai gorbryder yw’r prif bryder iechyd meddwl ymhlith plant yng Nghymru, ac fel cenedl sydd wedi ymgorffori iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i atgoffa plant a phobl ifanc nad ydynt ar eu pen eu hunain.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch o galon i bawb sy’n gweithio’n ddiflino yn y proffesiwn iechyd meddwl ac mewn sefydliadau fel yr NSPCC, Place2Be, Childline a Byddin yr Iachawdwriaeth am ddarparu eu cymorth parhaus a hanfodol i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Diolch.
Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Y Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM8815 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Y Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i'r Chweched Senedd', a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Ionawr 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor adroddiad y comisiynydd safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Andrew R.T. Davies AS ynghylch ei fethiant i ddatgan buddiant perthnasol wrth ofyn cwestiwn llafar yn y Cyfarfod Llawn. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor, er ein bod o'r farn fod yr Aelod wedi methu cydymffurfio â Rheol Sefydlog 13.8A, nad ydym yn ystyried bod angen unrhyw gamau pellach. Mae’r ffeithiau sy'n gysylltiedig â’r gŵyn a rheswm y pwyllgor dros ei argymhelliad wedi’u nodi’n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa’r Aelodau o bwysigrwydd datgan buddiannau perthnasol cyn siarad, boed hynny mewn Cyfarfod Llawn neu drafodion pwyllgorau. Mae cyngor ar ddatganiadau ar gael gan y Swyddfa Gyflwyno, ac os oes unrhyw amheuaeth, mae’n ddyletswydd ar yr Aelodau i ofyn am gyngor o’r fath cyn gwneud cyfraniadau. Yn fwyaf arbennig, dylai Aelodau ystyried a yw eu buddiant yn rhywbeth y gallai unrhyw un sy’n gwylio ystyried yn rhesymol ei fod yn berthnasol, yn hytrach na thybio bod pobl y tu allan i’r Senedd yn ymwybodol o’u buddiant. Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i sicrhau tryloywder parhaus ynghylch cyfraniadau'r Aelodau.
Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau hefyd at waith parhaus y pwyllgor ar gofrestru a datgan buddiannau. Bydd rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys gwella manylion y canllawiau sydd ar gael ynghylch datgan buddiant, ac anogir Aelodau i ddod atom gydag unrhyw awgrymiadau pellach. Mae’r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, yn ôl confensiwn, rwy'n gwybod nad yw Aelodau’n tueddu i siarad am yr adroddiadau hyn yn gyffredinol, ond credaf ei bod yn warthus fod meinciau’r Ceidwadwyr yn gwbl wag y prynhawn yma. Mae'r broses safonau yn y lle hwn yn rhagdybio rhywfaint o gywilydd ymhlith y cyd-Aelodau pan gânt eu ceryddu gan yr Aelod safonau ymddygiad, y bydd yn rhywbeth y bydd yr Aelodau'n myfyrio yn ei gylch ac y bydd yn gwneud iddynt feddwl ddwywaith am eu hymddygiad yn y dyfodol. Mae Andrew R.T. Davies wedi bod yn destun cyfres o adroddiadau gan y pwyllgor safonau. Bob tro, nid yw’n mynychu’r Siambr i wynebu barn ei gymheiriaid. Heddiw, mae pob un o'i gyd-Aelodau wedi ymuno ag ef i foicotio’r ddadl hon, a chredaf fod hynny'n codi amheuaeth ynghylch effeithiolrwydd y broses safonau ymddygiad yn y Siambr hon os yw’r cywilyddio a’r broses fyfyrio yn cael eu hanwybyddu a’u gwatwar mor fwriadol gan yr wrthblaid yn y Senedd hon.
Galwaf ar Hannah Blythyn i ymateb.
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Hoffwn atgoffa’r Aelodau fod y pwyllgor wrthi'n rhoi pecyn o ddiwygiadau ar waith lle byddwn yn ystyried newidiadau i’r safonau ymddygiad yn ogystal â'r mesurau sy’n sail iddynt, a byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn y lle hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig, yn unol—
Gwrthynebu.
A ydych chi am wrthwynebu?
Ydw.
Ocê. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 heddiw yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8724 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o ddata gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; a
d) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pam fod angen inni ddeddfu er mwyn sicrhau gwell cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl? Wel, mae'r ateb yn syml, mewn gwirionedd, achos mae dros 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, a dŷn nhw ddim yn derbyn y gydnabyddiaeth a chefnogaeth y maen nhw eu hangen ac yn eu haeddu. Ac mae'r gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth hynny’n gwbl hanfodol, achos heb sôn am werth dynol anfesuradwy y gofal sy'n cael ei ddarparu, mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr di-dâl yn arbed mwy na £10 biliwn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Byddai'n dwll cyllidol anodd iawn i'w lenwi ac yn rhoi pwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes heb y cyllid digonol i ddarparu'r hyn sydd ei angen ar ein dinasyddion.
Oes, mae yna gymorth ar gael i ofalwyr di-dâl gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd, ac mae hynny, fel mae fy nghynnig yn nodi, yn seiliedig ar yr hawliau sydd wedi eu nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ond fel dwi wedi sôn fwy nag unwaith yn y lle hwn, fel yn y ddadl gyflwynais i i'r Senedd ar yr angen i wella cefnogaeth i ofalwyr nôl ar ddiwedd 2023, ac fel y mae ymchwil sydd wedi ei nodi mewn nifer o adroddiadau diweddar gan Gofalwyr Cymru, a hefyd yng nghanfyddiadau'r ombwdsmon yn ei adroddiad 'Ydyn ni'n gofalu am ein gofalwyr?' y llynedd, does dim modd gwadu bod yna fethiannau sylweddol o ran cefnogaeth i ofalwyr di-dâl ledled Cymru dros nifer o flynyddoedd, er yr hawliau hyn. Achos er bod gan bob gofalwr yng Nghymru hawl gyfreithiol i asesiad anghenion gofalwr, dangosodd adroddiad 'Dilyn y Ddeddf' Gofalwyr Cymru mai dim ond rhwng 0.3 y cant ac 8 y cant o ofalwyr sydd angen asesiad sy'n derbyn un.
Dangosodd adroddiad yr ombwdsmon mai dim ond 2.8 y cant o ofalwyr a oedd yn byw yn yr awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt ganddo fe oedd â'u hanghenion wedi'u hasesu, a dim ond 1.5 y cant o ofalwyr oedd â chynllun cymorth. Mae'r diffygion hyn yn dôn gyfarwydd, yn anffodus. Cyn belled yn ôl â 2019, dywedodd adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ar hawliau gofalwyr o dan Ddeddf 2014, a dwi'n dyfynnu:
'O ystyried diffyg effaith y ddeddfwriaeth hyd yma a maint yr her yn y dyfodol, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth genedlaethol gryfach wrth gefnogi gofalwyr.'
Fe wnaeth y pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn paratoi cynllun gweithredu clir ar gyfer mynd i'r afael â methiannau gweithredu a amlygwyd yn yr ymchwiliad. Yn anffodus, mae canfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o'r Ddeddf, ac a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, ynghyd ag ymchwiliad ombwdsmon Cymru ac adroddiad 'Dilyn y Ddeddf' Gofalwyr Cymru, yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau sydd eu hangen yn y pum mlynedd a mwy ers ymchwiliad 2019.
Gallwn ni ddim parhau i fethu â chynnal breichiau gofalwyr di-dâl fel hyn. Rhaid gwneud mwy i gau y bwlch—y bwlch amlwg—rhwng rhethreg y Ddeddf a'r realiti ar lawr gwlad. Felly, dyna ichi'r 'pam'. Dwi nawr am sôn am y 'sut'.
Rhoddodd Deddf 2014 hawliau i ofalwyr di-dâl, i'w darparu gan awdurdodau lleol, sy'n cwmpasu mynediad at wybodaeth, cyngor, cymorth, cael asesiad o anghenion a diwallu anghenion trwy becyn cymorth. O gofio'r pwysau sydd ar ein hawdurdodau lleol, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad drwy fonitro a sicrhau ansawdd, i sicrhau bod yr hawliau a roddwyd i ofalwyr yng nghyfraith Cymru yn cael eu darparu'n gyson. Ac fe allai deddfwriaeth warantu hyn, ynghyd â nodi'r camau angenrheidiol sydd eu hangen i gyrraedd y nod.
Gwendid sylfaenol sy'n cael ei amlygu yn adroddiad 'Dilyn y Ddeddf' yw'r diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o sefyllfa gofalwyr di-dâl o fewn awdurdodau lleol, a'r amrywiaeth ar draws Cymru. Roedd y math o wybodaeth oedd yn cael ei chasglu gan awdurdodau lleol am sut roedden nhw yn cyflawni eu gofynion statudol yn codi cwestiynau mawr am gysondeb y data yma—rhywbeth, wrth gwrs, wedyn, sy'n arwain at oedi a diffygion o ran cefnogaeth.
Amlygwyd yr un anghysondebau rhwng awdurdodau lleol yn adroddiad yr ombwdsmon, ac fe alwodd am gasglu data gwell, cyson a chymaradwy er mwyn galluogi dadansoddi gwell ac i yrru gwelliant. Byddai gosod dyletswydd statudol i gasglu a monitro data mewn modd cyson yn fodd o arwain awdurdodau lleol i sicrhau bod hawliau gofalwyr yn cael eu cyflawni'n gyson a rhwymedigaethau statudol yn cael eu cyflawni'n effeithiol ymhob rhan o Gymru, gan roi diwedd ar y loteri cod post presennol.
Byddai hefyd yn cysoni terminoleg a phrosesau, sy'n gwneud y system, wedyn, yn haws i ofalwyr ei llywio, gan y gall gofalu, wrth gwrs, groesi ffiniau sirol, a byddai Deddf sy'n gosod a gorfodi disgwyliadau cenedlaethol i sicrhau bod yr hawliau sydd gan bob gofalwr di-dâl yn cael eu darparu'n gyson yn annog trefniadau rhannu data o fewn rhanbarthau. Ni fyddai cost fawr i hyn chwaith, ond mae angen fframwaith cadarnach ac arweiniad gwell gan Lywodraeth Cymru.
Yn olaf, hoffwn droi at y rhan o'r cynnig sy'n sôn am osod dyletswydd i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol. Mae darparu gofal yn aml yn effeithio ar iechyd y gofalwr ei hun. Mae gofalwyr yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau iechyd hirdymor, yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, ac mae cannoedd o ofalwyr yn cael eu gorfodi bob dydd i adael y gweithle yn sgil pwysau gofalu. Trwy gydnabod, felly, eu gwerth anhepgor a'r pwysau neilltuol sydd arnyn nhw, wrth eu trin fel grŵp blaenoriaeth ar bob lefel o benderfyniadau polisi, byddai gwell ymyrraeth i liniaru ar y pwysau sy'n bygwth eu gallu i ofalu, a'r gost, wrth gwrs, economaidd a chymdeithasol o ddiweithdra, afiechyd a thlodi.
Mae ar Gymru ddyled sylweddol i ofalwyr di-dâl, a dyletswydd foesol i roi mwy o gydnabyddiaeth a chymorth iddynt. Mae methu â gwneud hynny ond yn creu costau a phwysau ychwanegol ar wasanaethau ar bob lefel. Felly, os ydych chi'n cytuno bod y ddyled honno yn un mae'n rhaid ei hanrhydeddu, gallai'r gwaith yna ddechrau drwy Ddeddf sy'n sicrhau hynny, a'r cam cyntaf fyddai cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn.
Diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi'n cytuno'n llwyr fod yr amser wedi dod ar gyfer deddfwriaeth i sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Er bod cymorth ar gael, a hawliau penodol, mae'r dystiolaeth yn glir nad ydy'r mwyafrif mawr o ofalwyr yn ymwybodol o hyn, ac mae perig i garfan gynyddol o’r boblogaeth gael ei hanghofio. Mae yna risgiau mawr i hynny—risgiau cymdeithasol, llesiant, iechyd ac yn y blaen. Mae prinder data yn broblem, a’r diffyg sylweddoliad o gyfraniad enfawr, allweddol a gwerthfawr gofalwyr anffurfiol i’n cymdeithas gyfoes ni.
Mae gofalu am eraill yn rhan annatod o gymdeithas wâr, ac yn weithred reddfol yr ydym yn ei gwneud fel rhieni, fel plant, fel cymdogion, fel teuluoedd, fel cyfeillion. Mae gofalu yn rhan naturiol o’n bywydau ni, ond mae amgylchiadau’r gofalu hwnnw weithiau yn newid, gan olygu bod angen cefnogaeth arnom ni. Mae’r gefnogaeth yn gallu dod gan weithwyr cyflogedig gofal yn y cartref ar hyd a lled y wlad—gofalwyr sydd mor werthfawr ond eto ddim yn cael y statws, y cyflog na’r parch y maen nhw eu hangen. Mi hoffwn i dalu teyrnged iddyn nhw i gyd. Rydym ni, fel teulu, yn ddiolchgar iawn am y cymorth y mae fy mam yn ei gael ers ychydig wythnosau bellach gan dîm o ofalwyr cartref lleol. Mae’r rhain yn bobl broffesiynol, a'u sgiliau pobl yn amhrisiadwy, heb sôn am y cymorth ymarferol y maen nhw’n ei roi.
O dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, mae asesiad anghenion gofalwr di-dâl yn hawl gyfreithiol ar gyfer pob gofalwr sy’n gofalu am rywun sy’n anabl, yn sâl, sydd â chyflwr iechyd meddwl, neu sy’n oedrannus. Ers tua dwy flynedd, dwi wedi bod yn rhannu’r gofal o fy mam oedrannus, ond doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r asesiad anghenion gofalwr tan yn ddiweddar iawn.
Fel y soniais i, rhyw fis yn ôl, fe ddechreuodd gofalwyr proffesiynol y cyngor sir ymweld â Mam, a dim ond wrth ymchwilio i sut orau i ddiwallu anghenion fy mam mi wnes i ddod ar draws yr hawl yma i gael asesiad gofalwr. Yn amlwg, felly, mae angen hyrwyddo hyn llawer iawn mwy, oherwydd mae’r asesiad yn gallu agor y drws at ffynonellau cefnogaeth pwysig ar gyfer gofalwyr anffurfiol. Wedi’r cyfan, mae gofalu am y gofalwyr teuluol yn hollbwysig i gynnal y gofal o’r unigolyn anghenus. Ond, fel rydym ni wedi'i glywed, dim ond hyd at 10 y cant—neu efallai llai erbyn hyn—o ofalwyr di-dâl sydd wedi cael asesiad, a llai fyth efo cynllun cymorth.
Felly, dwi’n hollol gefnogol i’r bwriad sydd yn y cynnig yma, ac yn credu yn wir y gall o arwain at y newid sydd ei angen. Gall o hefyd hyrwyddo cydweithio rhwng gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol, ac dwi’n meddwl bod hynny hefyd yn hollbwysig ac yn rhywbeth sy’n cael ei anghofio. Felly, diolch yn fawr iawn.
Rwy’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch fod Sioned Williams wedi'i chyflwyno. Oherwydd, er bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd eisoes i ofalwyr di-dâl o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, credaf fod y cynnig hwn yn bwysig, gan ei fod yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at y cyfraniad anhygoel y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud a’r angen inni roi cymaint o gymorth â phosibl iddynt. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o grwpiau o ofalwyr di-dâl, yn unigol ac mewn grwpiau. Rwyf hefyd wedi cael profiad personol o ofalu, yn debyg iawn i’r profiad y mae Siân Gwenllian wedi’i ddisgrifio, ac rwy'n credu iddi wneud pwyntiau pwysig iawn yn ei chyfraniad.
Felly, rwy’n cefnogi ysbryd y ddeddfwriaeth hon, ond rwy’n teimlo ein bod eisoes wedi gwneud cynnydd gyda chydnabod gofalwyr di-dâl, a bod y Llywodraeth wedi cymryd camau sydd wedi gwella sefyllfa gofalwyr di-dâl. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog, yn ei chyfraniad, yn gallu tynnu sylw at beth yw’r camau hynny. Ond rwy'n teimlo o ddifrif fod datblygiad y cynllun seibiant byr, a weinyddir gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac a ddathlodd ei hanner canmlwyddiant yma ddoe yn y Senedd, ar y trywydd iawn i ddarparu 30,000 o gyfleoedd ychwanegol am seibiant byr erbyn diwedd mis Mawrth eleni, a chredaf mai dyna y mae gofalwyr wedi’i ddweud wrthym o'r cychwyn, fod arnynt eisiau seibiannau. Ac felly credaf fod y cynllun seibiant byr wedi bod yn gam gwych ymlaen, yn ogystal â’r gronfa gymorth i ofalwyr, y dywedir wrthym ei bod wedi bod yn achubiaeth lwyr i ofalwyr allu cael arian mewn cyfnod o argyfwng ariannol. A chofiaf rywun yn dweud wrthyf eu bod wedi cael grant o'r gronfa gymorth i ofalwyr a'u bod yn ei ddefnyddio i dalu am ginio Nadolig, oherwydd fel arall, ni fyddent wedi gallu cael unrhyw ginio Nadolig. Ac rwy’n falch iawn fod y Gweinidog yn ymestyn yr arian hwnnw ar gyfer y prosiectau penodol hynny.
Rwyf hefyd yn gefnogol iawn i'r Ŵyl Gofalwyr Ifanc, sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn. Credaf fod yr ŵyl hon mor bwysig, gan ei bod yn cydnabod y gwaith aruthrol y mae gofalwyr ifanc—gofalwyr ifanc di-dâl—yn ei wneud. Mae cannoedd o ofalwyr ifanc o bob rhan o Gymru yn ymgynnull yn Llanfair-ym-Muallt, lle maent yn cael tridiau o hwyl ac yn gallu rhannu eu profiadau. Ac mae'n rhoi cyfle gwirioneddol i ddangos gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth o'r hyn y maent yn ei wneud. Felly, credaf fod cyflwyno’r cynnig hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ac anghenion gofalwyr.
Ac rydym yn gwneud llawer yng Nghymru, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni wneud mwy. Mae Sioned a Siân Gwenllian wedi tynnu sylw at yr anghenion. Roeddwn yn arbennig o awyddus i wneud un pwynt ynghylch cyflwyno cerdyn adnabod gofalwyr ifanc. Fe'i cyflwynwyd gydag arian y Llywodraeth i alluogi gofalwyr ifanc i gael cerdyn adnabod a oedd yn eu galluogi i beidio â gorfod dweud eu stori dro ar ôl tro—ym mhob man, mae’n rhaid iddynt egluro’r anawsterau sydd ganddynt, pwy y mae’n rhaid iddynt ofalu amdanynt, pam eu bod yn hwyr i’r ysgol weithiau, pam y mae'n rhaid iddynt gasglu'r feddyginiaeth—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Julie.
—ac mae cerdyn adnabod yn hollol wych ar gyfer hynny. Ond wrth gwrs, mae'n bwysig fod yr awdurdodau lleol yn cyhoeddi'r cardiau adnabod hynny, ac rydym wedi clywed bod llawer o ofalwyr ifanc yn methu cael cardiau adnabod. Felly, rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon ac rwy’n falch o gael cyfle i ddweud ychydig eiriau amdani.
Os oes yna un garfan o bobl mewn cymdeithas sydd yn cael eu hanwybyddu, eu tanbrisio a’u diystyru, yna gofalwyr di-dâl ydy’r rheini. Fel Cristion, dwi’n meddwl yn aml am sut y gallwn i ddangos cariad at gyd-ddyn yn well, am sut mae dangos y neges Gristnogol yna ar waith i bobl, a does dim byd yn dangos nerth grym cariad yn fwy na’r hyn y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud. Dyna ydy cariad. Nid gweithio er budd ariannol, nid er mantais bersonol, neu weithio allan o unrhyw fudd personol fel yna, ond gweithio allan o gariad, yn aml ar draul eu lles eu hunain—ar draul eu gyrfa, eu hiechyd, eu haddysg, eu lles, a llawer iawn mwy yn dioddef oherwydd eu bod nhw'n caru rhywun neu rywrai gymaint fel eu bod nhw’n rhoi llawer o'r pethau yma i fyny er lles eu hanwyliaid.
Rŵan, yr un peth sy'n gwbl angenrheidiol ar ofalwyr ydy'r gallu am ysbaid. Mae hanes llwyddiannau undebau gwaith yn glir i bawb, o sicrhau deuddydd cyflogedig yn yr wythnos heb waith, cyfyngiadau ar oriau gwaith, tâl sylfaenol a llawer mwy—oll yn gamau pwysig, ond yn gwbl amherthnasol i’r gweithlu gwirfoddol yma sydd yn gofalu am eu hanwyliaid. Nid wythnos waith pum niwrnod, saith awr y diwrnod, gyda 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn ydy eu telerau nhw. Does yna ddim rheol yn dweud nad oes hawl i bobl ifanc 16 oed i weithio mwy nag wyth awr yr wythnos i ofalwyr. Ond eto mae yna dros 20,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru yn gweithio'n ddiwyd am eu hanwyliaid, heb y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol, ar ben eu dyletswyddau eraill a'u haddysg—plant a phobl ifanc sydd yn aberthu eu plentyndod ac yn gorfod tyfu ymhell o flaen eu hamser. Ble mae eu hysbaid nhw? Does dim undeb ar eu cyfer nhw. Ond diolch byth am gyrff a sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru am eu gwaith eirioli ar eu rhan.
Rwy’n deall bod yna ddyletswydd i ddarparu ysbaid i’r gofalwyr hynny sydd wedi cael asesiad, ond ychydig iawn o ofalwyr sydd wedi derbyn asesiad. Fel yr ydym ni eisoes wedi clywed, mae'r niferoedd yn fychan iawn, hyd at 8 y cant yn unig. Felly, heb asesiad, does yna ddim dyletswydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael ysbaid, a heb ysbaid yna mae’r gofalwyr yma'n llosgi allan, yn blino ac yn mynd yn sâl eu hunain; mae eu hiechyd meddwl nhw'n dioddef, mae iechyd meddwl eu hanwyliaid nhw'n dioddef, ac mae mwy a mwy o bwysau yn disgyn ar y gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd. Ac yn sgil hynny, mae pawb yn dioddef. Dydy'r drefn ddim yn gynaliadwy.
Fe wnes i gyfeirio at y ffaith bod yna amcangyfrif o faint o ofalwyr sydd yn derbyn asesiad. Ac mae hyn yn fy arwain i at fy mhwynt olaf, sef methiant llwyr y Llywodraeth, ar draws pob maes polisi mewn gwirionedd, i gasglu data clir. Sut mae posib neilltuo adnoddau a datblygu polisi effeithiol heb y data cywir i fod yn sail i’r gweithredu? Ac mae cynnig Sioned yn mynd i wraidd hyn. Mae parchu ein gofalwyr di-dâl yn golygu ateb eu gofynion a’u hanghenion, a’r unig ffordd i wneud hynny yw trwy gasglu’r data a’r wybodaeth graidd er mwyn gwybod beth sydd yn digwydd. Mae’n rhyfeddol bod yn rhaid gofyn am ddeddfwriaeth i orfodi y camau sylfaenol yna, ond dyna lle’r ydym ni yng Nghymru ar hyn o bryd.
Felly cefnogwch y cynnig, a dangoswch yn glir i ofalwyr di-dâl Cymru ein bod ni’n cymryd eu lles nhw o ddifri.
Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno’r cynnig hwn, a’r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl ofalwyr di-dâl am y cyfraniadau a'r aberth enfawr y gwyddom eu bod yn eu gwneud wrth ofalu am aelodau o'u teulu a'u ffrindiau, yr union bwynt y mae eraill wedi'i wneud yn y ddadl heddiw, a hoffwn ddweud hefyd cymaint rwyf wedi gwerthfawrogi'r cyfleoedd a gefais i gyfarfod a siarad â llawer o ofalwyr di-dâl am eu hamgylchiadau a'u hanghenion cymorth, ac rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i nodi beth yw ein cymorth i ofalwyr di-dâl a sut y mae'n parhau ac yn datblygu.
Mae’r cynnig heddiw'n galw am Fil i sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl a gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Nawr, mae’r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau, ac rwyf am nodi’r gwaith sydd eisoes ar y gweill. Mae llawer o gyfranwyr yn y ddadl y prynhawn yma wedi cyfeirio at y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a hynny’n gwbl briodol, felly mae’n bwysig dweud bod y Ddeddf eisoes yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i hyrwyddo llesiant gofalwyr. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a chyngor, i gynnal asesiadau o anghenion cymorth, ac i ddiwallu’r anghenion cymorth hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy’n derbyn y pwynt hwnnw, ac mae disgwyl iddynt ddarparu asesiad, ond fel y clywsom, dim ond cyfran fach sy’n cael asesiad, felly nid yw dros 90 y cant yn cael yr asesiad hwnnw, ac felly ni allant gael y pethau sy’n ddyledus iddynt. Felly, sut y gallwch chi sicrhau bod gweddill y gofalwyr yn cael yr asesiad hwnnw?
Iawn. Dim ond munud i mewn i fy nghyfraniad rwyf wedi'i gyrraedd, Mabon; rwy'n credu y daw'n amlwg wrth inni fynd drwyddo.
Rwy'n edrych ymlaen.
Felly, fel y dywedaf, mae hyn yn cynnwys darparu seibiant i'r gofalwr gael toriad o'u cyfrifoldebau gofalu. Mae’r Ddeddf yn glir ar ddyletswyddau awdurdodau lleol, felly mae'n rhaid i’n gwaith ganolbwyntio ar sicrhau bod hyn yn cael ei wreiddio a’i gyflawni’n gyson, fel y nodwyd gan lawer o bobl eraill. Mae'r gofalwyr di-dâl y siaradais â hwy wedi sôn wrthyf hefyd sut y maent yn teimlo na allant gael gwybodaeth neu gyngor amserol ac nad ydynt wedi gallu cael asesiad o’u hanghenion cymorth yn hawdd, a dylai hynny fod yn destun cryn bryder i bob un ohonom.
Nodwyd y rhain fel meysydd i'w gwella yn yr adolygiad cyflym o hawliau gofalwyr a gomisiynwyd gennym ni fel Llywodraeth yn 2022, ac rydym yn gweithio ar hyn o bryd gydag arweinwyr awdurdodau lleol, gyda byrddau iechyd, gyda sefydliadau gofal cenedlaethol a gofalwyr di-dâl drwy fy ngrŵp cynghori gweinidogol i ysgogi arferion gorau cenedlaethol cyson. Rydym bellach wedi gofyn i bob awdurdod lleol gwblhau hunanasesiadau o'u gwasanaethau i ofalwyr, ac—i fod yn glir—nid yn unig ein bod wedi gofyn i arweinwyr gwblhau'r asesiadau hyn, rydym wedi gofyn i weithwyr rheng flaen hefyd, fel y gallwn glywed yn uniongyrchol am yr heriau a'r arferion da yn eu hardaloedd.
Rydym wedi cyfarfod â gofalwyr di-dâl i ddeall mwy am eu profiadau, ac i ddysgu ganddynt beth y mae 'da' yn ei olygu iddynt hwy. Ac rydym yn cyfarfod â phenaethiaid gwasanaethau i oedolion y mis hwn i gytuno ar y camau nesaf ar gyfer symud ymlaen ar welliannau y mae angen eu gwneud, ond gan ddefnyddio hyn fel cyfle hefyd i rannu'r arferion da y soniais amdanynt yn gynharach. Mae’r cynnig hefyd yn galw am gasglu data am ofalwyr di-dâl ar draws y gwasanaethau statudol a rhannu rhagor o ddata am ofalwyr di-dâl rhwng gwasanaethau statudol.
Gallaf hysbysu’r Senedd ein bod, unwaith eto, drwy’r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr di-dâl, wedi comisiynu cyfrifiad newydd o ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth, a bydd y cyfrifiad hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl ynglŷn â gofalwyr sy’n cael cymorth gan awdurdodau lleol. Ac—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn.
Ar y pwynt hwnnw: felly, a yw'r gwaith ar hyrwyddo arferion gorau a gwelliant yn dod gyda chapasiti ac adnoddau ychwanegol i ganiatáu i awdurdodau lleol fuddsoddi mewn darparu mwy o wybodaeth, er enghraifft, a chyngor a chymorth yn ogystal ag asesiadau?
Rwy'n credu bod angen inni weld beth y mae'r adolygiad yn ei ddweud wrthym mewn gwirionedd, ond mae hon yn drafodaeth ar gyllideb gyfan, ac nid wyf yn credu ein bod am gael trafodaethau cyllidebol ar hyn o bryd. Rydym yn nodi egwyddorion yr hyn y ceisiwn ei gyflawni, ac rydym wedi gweld bod cyllidebau awdurdodau lleol wedi cynyddu'n sylweddol yn y gyllideb hon. Os ydych chi'n pleidleisio drosti, mae'n ddigon posibl y gall helpu i gefnogi peth o'r gwaith y ceisiwn ei wneud yma.
Nawr, rydym hefyd yn gweithio gydag iechyd i ddatblygu cofnod rhannu'r gofal a storfa ddata genedlaethol, a bydd hynny'n helpu i ddarparu un cofnod i bobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cynnig yn galw am gydnabod gofalwyr di-dâl ymhellach fel grŵp blaenoriaeth wrth gynllunio a chyflawni bwriadau polisi. Gallaf ddweud wrthych ein bod eisoes yn gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried yn weithredol mewn ystod o strategaethau a pholisïau, gan gynnwys ein strategaeth iechyd meddwl newydd, y strategaeth tlodi plant, y strategaeth atal hunanladdiad, a'n strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Mae gofalwyr di-dâl yn faes blaenoriaeth hefyd ar gyfer y fforwm cydraddoldeb rhywiol ac ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad arsylwadau terfynol 2023 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydym yn parhau i ddatblygu ein cynllun cyflawni ar gyfer 2025-26, sy'n rhan o'n strategaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr a gaiff ei gydgynhyrchu gyda sefydliadau gofal cenedlaethol, gofalwyr di-dâl, awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae cydgynhyrchu, wrth gwrs, yn egwyddor allweddol yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ac rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol sicrhau cyfranogiad gweithredol gofalwyr di-dâl pan fyddant yn datblygu neu'n comisiynu gwasanaethau sy'n effeithio arnynt.
Fel y nododd Julie Morgan yn ei chyfraniad, datblygwyd ein cynllun seibiant byr a'n cronfa gymorth i ofalwyr mewn ymateb uniongyrchol i'r hyn y dywedodd gofalwyr sydd ei angen arnynt mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chyda'r trydydd sector. Mae adborth gan ofalwyr di-dâl wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rydym wedi cynyddu'r cyfleoedd am seibiant o rolau gofalu pobl, ac rydym yn eu helpu i gael cefnogaeth a chymorth ariannol brys, gan sicrhau budd uniongyrchol i'w lles. Roeddwn yn falch o gyhoeddi, yr wythnos diwethaf, ein bod wedi sicrhau cynnydd pellach o £5.2 miliwn i'r gronfa honno. Fel y nododd Julie yn ei chyfraniad hefyd, mae'r cynllun sydd gennym i gefnogi ein gofalwyr ifanc drwy'r cardiau adnabod hefyd yn eithaf arloesol.
Lywydd, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Sioned Williams am gyflwyno'r cynnig, gan roi cyfle i'r Senedd daflu goleuni ar yr angen i gefnogi gofalwyr di-dâl, ond nid wyf yn gweld bod angen uniongyrchol i gael deddfwriaeth bellach ar hyn o bryd. Yn hytrach, dylem gyfeirio ein hegni at sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym yn cael ei gweithredu'n effeithiol, ac rwy'n credu mai dyna a nodais heddiw. Felly, rwy'n eich sicrhau y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl ac yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol mewn cydweithrediad â gofalwyr di-dâl a'n partneriaid gofal cymdeithasol. Diolch yn fawr.
A galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddweud 'helo' wrth y gofalwyr di-dâl y gwn eu bod yn ein gwylio ar Senedd.tv heddiw. Wrth gwrs, ni allent fod yma oherwydd eu dyletswyddau gofalu.
Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl, yn arbennig i Siân Gwenllian, sydd wedi rhannu o’i phrofiad ei hun o ofalu am ei mam, a dŷn ni wedi cael llawer o sgyrsiau am hynny, a dwi’n meddwl bod y profiad byw yna yn werthfawr iawn yn cyfrannu i’r ddadl yma.
Hoffwn ymateb i ambell bwynt, ac rwy'n gwybod nad oes gennyf ormod o amser. Ar y pwynt a nododd Julie Morgan a'r Gweinidog ynghylch ymestyn y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, y gronfa seibiant byr a'r gronfa cymorth i ofalwyr, mae croeso iddynt wrth gwrs, ond maent eto i fod yn drawsnewidiol o ran eu heffaith, ac nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau dwfn sy'n wynebu gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Maent wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd, ac eto fe wyddom o adroddiad Gofalwyr Cymru y llynedd fod 100,000 o ofalwyr di-dâl yn byw mewn tlodi. Gwyddom y bydd tua 30,000 o seibiannau byr wedi'u darparu i ofalwyr erbyn eleni, ac eto mae cyfrifiad 2021 yn dangos bod dros 300,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Felly, beth am y 90 y cant arall o ofalwyr a fyddai'n elwa o seibiant o'u rôl?
Wrth gwrs, gall y Llywodraeth gynhyrchu cymaint o siarteri, cynlluniau cyflawni a strategaethau ag y mae'n dewis, a gallwn gael geiriau cynnes yn y Senedd a datganiadau yn ystod Wythnos y Gofalwyr ac ymweliadau â chanolfannau gofalwyr i fynd gyda'r rheini, ond mae angen iddi gael rheolaeth ar ei deddfwriaeth ei hun, a'i gweithredu'n effeithiol, neu fel arall byddwn yn dychwelyd yma bob blwyddyn, yn clywed mwy am ofalwyr di-dâl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, sy'n aros misoedd neu flynyddoedd i'w hanghenion gael eu hasesu, ac sydd wedi rhoi'r gorau i'w swyddi am nad oedd unrhyw gefnogaeth ar gael iddynt. Felly, os nad yw'r Llywodraeth yn credu bod angen deddfwriaeth newydd arnom i ddatrys y llanast, mae angen iddi ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad, mwy nag y mae'n bwriadu ei wneud ar hyn o bryd, yn cynnwys digon o adnoddau, i ddechrau gwneud cynnydd ar yr anghyfiawnder sy'n wynebu cannoedd o filoedd o bobl sydd ond eisiau ychydig bach o gymorth i ddarparu gofal i'r bobl y maent yn eu caru ac i fyw bywyd boddhaus ochr yn ochr â hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na—
Ie? [Gwrthwynebiad.]
Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Y cyflenwad o dai cymdeithasol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
Cynnig NDM8817 John Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Y cyflenwad o dai cymdeithasol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y cyflenwad o dai cymdeithasol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai a rannodd eu profiadau personol gyda ni drwy ein gweithgareddau ymgysylltu. Mae ein hadroddiad ar dai cymdeithasol yn rhan o gyfres o ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â'n blaenoriaeth drosfwaol i ddarpariaeth ac argaeledd tai priodol yng Nghymru. Fe wnaeth ein hadroddiad 17 o argymhellion, ac rwy'n falch fod 14 o'r rheini wedi'u derbyn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydym yng nghanol argyfwng tai ac yn gynyddol, mae cyflenwad cyflym o dai cymdeithasol yn allweddol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, ym mis Mawrth 2024, fod Llywodraeth Cymru lai na hanner ffordd tuag at ei tharged o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd y Senedd hon. Rydym yn cydnabod bod cynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol wedi bod yn arbennig o heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn wyneb sawl sialens, yn cynnwys cost gynyddol deunyddiau a llafur, ond mae cyfleoedd i wneud mwy. Yn ein hadroddiad, galwn ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth dai hirdymor sy'n edrych y tu hwnt i dymhorau Senedd unigol, ac mae llawer o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn trafod beth y dylai strategaeth o'r fath ei gynnwys.
Clywsom fod angen i fàs critigol o 20 y cant fan lleiaf o stoc dai gwlad fod yn dai cymdeithasol er mwyn creu opsiynau i bobl a chydbwyso prisiau yn y farchnad breifat. Mae canran y tai cymdeithasol yn amrywio ar draws Ewrop, gyda'r cyfrannau uchaf yn yr Iseldiroedd, 29 y cant; Denmarc, 20 y cant; Awstria, 24 y cant. Yn yr Alban, y ffigur yw 23 y cant. Yma yng Nghymru ar y llaw arall, dim ond tua 16 y cant o'r stoc dai sy'n dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Pe byddem yn cyrraedd y ffigur o 20 y cant, byddai gennym oddeutu 60,000 yn fwy o gartrefi, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad mewn egwyddor y dylai tai cymdeithasol ffurfio canran fwy o'r stoc dai yng Nghymru. Nodwn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad i ddeall y camau sydd eu hangen i sicrhau canran uwch ac i lywio amserlenni. Byddwn yn ddiolchgar heddiw pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi amserlen i ni ar gyfer y gwaith hwn.
Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ynghylch mynd i'r afael â'r angen am fwy o gartrefi un ystafell wely. Clywsom fod galw sylweddol am gartrefi o'r fath, ond dywedodd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai y gallai hyn wrthdaro â sefydlu cymunedau cymysg. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r cartrefi cywir yn y mannau cywir, ac mae angen i gartrefi cymdeithasol adlewyrchu anghenion y boblogaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol. O'r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ein hymchwiliad, credwn fod potensial i gipio gwerth tir i'w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fecanweithiau ffurfiol i gipio cynnydd yng ngwerth tir y tu hwnt i adran 106, ac rydym yn pryderu bod hwn yn gyfle a gollwyd. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall gipio mwy o werth tir er budd y cyhoedd, ac fel rhan o hyn, dylai ddyblu ymdrechion i geisio datganoli pwerau i gyflwyno treth ar dir gwag. Argymhellwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatgloi potensial safleoedd llai o fewn cymunedau sy'n bodoli'n barod, a galwyd am fwy o dryloywder mewn perthynas â pherchnogaeth tir. Rydym yn falch fod yr argymhellion hyn wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.
Mae tai a arweinir gan y gymuned yn elfen bwysig arall o'r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod y manteision y gall y dull hwn eu cynnig, gan gynnwys ei botensial i ddiwallu anghenion tai penodol yn ogystal â buddion ehangach. Fodd bynnag, yn ein hymchwiliad i asedau cymunedol, clywsom fod anhawster i gael gafael ar gyllid yn rhwystr rhag datblygu'r sector hwn. Yn flaenorol, gwrthododd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad y dylid sefydlu cronfa benodol yng Nghymru ar gyfer prosiectau tai cymunedol, felly rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i edrych o'r newydd ar y cynnig hwn, o gofio bod diffyg cyllid wedi'i brisio a'i strwythuro'n briodol yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sylweddol i ddatblygu tai a arweinir gan y gymuned. Rydym hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i ystyried ariannu swyddogion galluogi tai cymunedol ar draws pob awdurdod lleol. Mae ymgysylltu cynnar ac effeithiol yn rhan annatod o nodi anghenion a chyfleoedd ar gyfer datblygu tai cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau cefnogaeth y gymuned.
Ddirprwy Lywydd, Rwyf am droi nawr at yr argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethom argymell y dylid creu corfforaeth ddatblygu hyd braich i arwain ar ddarparu safleoedd ar raddfa fawr. Mae yna enghreifftiau o gyrff o'r fath mewn gwledydd eraill ar draws y byd, ac yn wir yng ngorffennol diweddar Cymru ei hun. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud y gall yr is-adran lle sicrhau'r un canlyniadau am gost is. O ystyried ein pryderon ynghylch y targed o 20,000, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ddatblygiadau preswyl ar raddfa fawr, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet dawelu meddyliau'r pwyllgor fod gan yr is-adran lle yr hyn sydd ei angen arni i wneud hyn.
Awgrymodd tystion y gallai caffaeliadau fod yn rhan fwy o'r ateb cyflenwi pe ceid hyblygrwydd pellach o ran cyflawni safonau, oherwydd y gost sydd ynghlwm wrth wella safon eiddo. Ar hyn o bryd, rhaid gwerthu cartrefi a gaffaelwyd na allant gyrraedd safon lawn o fewn 10 mlynedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond llety dros dro y gall cartrefi o'r fath ei ddarparu, nid cartrefi cymdeithasol sefydlog. I fod yn glir, nid ydym am weld safonau'n gwanhau yn gyffredinol, ond argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru yn datblygu safon ar wahân ar gyfer caffael cartrefi cymdeithasol parhaol nad ydynt byth o bosibl yn mynd i gyrraedd safon ansawdd tai Cymru yn llawn, ond sy'n dal i allu cyflawni ansawdd. Rydym yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. O ystyried nifer y bobl mewn llety dros dro yng Nghymru, mae angen mwy na datrysiadau tymor byr arnom os ydym am weld diwedd ar yr argyfwng tai presennol. Felly, unwaith eto, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa opsiynau eraill y mae'n eu harchwilio i gynyddu nifer y tai cymdeithasol parhaol.
Mae capasiti adeiladu yn her arall sy'n wynebu landlordiaid cymdeithasol. Mae'r capasiti hwnnw wedi cael ei effeithio gan chwyddiant costau deunyddiau a chyfraddau llog uchel, ac mae'r pwysau presennol, yn ei dro, yn effeithio ar fuddsoddiad mewn sgiliau. Dywedwyd wrthym y bydd angen 12,000 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yng Nghymru erbyn 2028 i allu cyflawni nodau datgarboneiddio. Galwasom ar Ysgrifennydd y Cabinet i gydweithio â'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ddatblygu strategaeth ar gyfer denu mwy o bobl i'r diwydiant adeiladu, gan gynnwys trwy gynlluniau prentisiaethau. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud bod camau sylweddol eisoes yn cael eu cymryd. Hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ba asesiad a wnaeth o effeithiolrwydd y camau hyn i gynyddu capasiti yn y maes adeiladu a darparu mwy o gartrefi.
Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae angen i Lywodraeth Cymru archwilio pob cyfle i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol os ydym am weld diwedd ar yr argyfwng tai. Hoffwn ddiolch eto i bawb a chwaraeodd ran yn yr adroddiad hwn a—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr, Carolyn Thomas.
Diolch. Rydych chi newydd sôn am brinder trydanwyr a phlymwyr, ac yn flaenorol rydych chi wedi sôn eu bod yn aml iawn yn gwneud y ddwy flynedd gyntaf ond yna'n cael trafferth dod o hyd i leoliad, oherwydd iechyd a diogelwch neu beth bynnag, gydag adeiladwyr a phlymwyr ac ati. Felly, efallai ei fod yn rhywbeth y gallem fynd ar ei drywydd gyda'r Gweinidog sgiliau hefyd. Gallai hynny fod yn ddefnyddiol wrth symud ymlaen.
Yn sicr. Rwyf wedi ei drafod gyda Gweinidogion a'i godi yma yn y Siambr, fel y gwyddoch, Carolyn. Rwy'n credu y caiff ei ystyried. Yn sicr, ymwelais â fy ngholeg lleol a chlywais yn glir iawn fod dysgwyr yn aml iawn yn gwneud y ddwy flynedd, fel y dywedwch, ac yna ni allant gael prentisiaeth ac maent yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl, sy'n drueni go iawn, onid yw? Felly, rwy'n gobeithio y gellir mynd i'r afael â hynny'n effeithiol.
Fel y dywedais, diolch yn fawr i bawb a chwaraeodd ran yn yr adroddiad. Rwy'n edrych ymlaen nawr at gyfraniadau'r Aelodau.
Yn gyntaf, diolch gan y Ceidwadwyr Cymreig i'r Cadeirydd gwych, John Griffiths, a phawb ar y pwyllgor a gymerodd ran yn y gwaith o gynhyrchu'r adroddiad hwn cyn fy nghyfnod i ar y pwyllgor. Diolch i bawb, gan gynnwys fy Aelod fy hun.
Fel y mae'r Cadeirydd newydd nodi, mae yna argyfwng tai cymdeithasol yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eto mae Llywodraeth Cymru fwy neu lai wedi rhoi'r gorau i adeiladu tai. Er i Lywodraeth Cymru osod targed cychwynnol o adeiladu 20,000 o gartrefi newydd i'w gosod ar rent cymdeithasol erbyn 2026, maent wedi penderfynu troi cefn ar y syniad o adeiladu tai cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ddarparu tai yn lle.
Hyd yn oed wedyn, maent wedi methu'n llwyr â chyrraedd y targedau cyflawni ar gyfer tai cymdeithasol, gan ddarparu llai na 9,000 o gartrefi, sy'n llai na hanner eu targed, fel y nododd y Cadeirydd. O'r cartrefi hynny, mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif mai tua 7,400 o'r rhain a fyddai'n cael eu gosod ar rent cymdeithasol mewn gwirionedd, lefel wael o gyflawniad unwaith eto gan y Llywodraeth Lafur.
Dywed arbenigwyr y dylai'r stoc tai cymdeithasol fod yn 20 y cant o'r farchnad dai, ond yng Nghymru dim ond 16 y cant o'r stoc dai sy'n dai cymdeithasol. Mae hyn ymhell islaw rhannau eraill o'r DU fel yr Alban, y mae eu stoc dai cymdeithasol yn 23 y cant. O ganlyniad, mae 140,000 o bobl yn aros ac yn ysu am gael to uwch eu pen yng Nghymru. Yn ôl Archwilio Cymru, byddai angen £740 miliwn ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed tai cymdeithasol, ac eto nid yw'r gyllideb ddrafft ond wedi dyrannu £81 miliwn ychwanegol.
A sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu adeiladu'r tai pan fo ganddynt brinder enfawr o sgiliau a swyddi yn y diwydiant adeiladu, fel y dywedwyd? Yn frawychus, mae Cymru yn colli 300 o weithwyr adeiladu bob blwyddyn ar hyn o bryd ac mae angen 12,000 o adeiladwyr erbyn 2028 i ateb y galw presennol yn y diwydiant adeiladu. Eto i gyd, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 10—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru fwy neu lai wedi rhoi'r gorau i adeiladu tai cymdeithasol newydd, ond rwyf newydd glywed y bydd 52 yn rhagor o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu ar draws gogledd Cymru mewn tri awdurdod eleni yn unig, sy'n wych, ac rwy'n cael fy ngwahodd i lawer o ddatblygiadau o'r fath o dai cymdeithasol newydd, cynnes ar draws gogledd Cymru. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n gywir, Laura. Rydym yn dal i adeiladu.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, os mai dyna sy'n digwydd yng ngogledd Cymru, ond mae'r darlun ar gyfer Cymru gyfan yn eithaf brawychus, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny fel Aelod sydd nid yn unig yn cynrychioli gogledd Cymru ond sy'n eistedd yma ar ran Cymru gyfan.
Fel roeddwn i'n dweud am y gweithwyr adeiladu bob blwyddyn, mae angen 12,000 o adeiladwyr erbyn 2028 i ateb y galw presennol yn y diwydiant adeiladu, ac eto gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 10, fel y dywedais, y dylai Ysgrifennydd y Cabinet dros dai weithio gyda'r Gweinidog diwylliant a sgiliau i ddenu mwy o bobl i'r diwydiant, sy'n drueni mawr yn fy marn i, yn enwedig o gofio eich rôl yn y gorffennol, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, hoffwn glywed beth sydd gennych i'w ddweud am hynny.
Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gwtogi cyllid i brentisiaethau 14 y cant, ac er iddynt adfer y cyllid hwnnw yn y gyllideb ddrafft hon, mae'r niwed eisoes wedi'i wneud. Er mwyn adennill y cannoedd o weithwyr adeiladu sy'n gadael y diwydiant a chael Cymru i adeiladu, rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi cwmnïau adeiladu a buddsoddi mewn hyfforddiant i'r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu cynllun cymorth i alluogi mentrau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a darparu cyllid prentisiaeth priodol, gan greu gyrfaoedd disglair a'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd.
Roedd hefyd yn siomedig gweld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 9 yn yr adroddiad hwn, gan roi safonau afrealistig o flaen darparu tai i'r digartref. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y safonau ansawdd tai presennol yn creu gwrthdaro posibl rhwng ansawdd a nifer y tai cymdeithasol. Dywedodd cyfrannwr arall i'r adroddiad hefyd y bydd yn rhaid i landlordiaid tai cymdeithasol ddargyfeirio cyfalaf oddi wrth ddatblygiadau i gyrraedd y safonau, gan arwain yn y pen draw at ddarparu llai o gartrefi cymdeithasol oherwydd y costau uwch. Mae 13,000 o bobl ddigartref yng Nghymru yn byw rhwng darpariaethau llety dros dro, gan symud o wely a brecwast i wely a brecwast. Os byddai datblygu safon ar wahân ar gyfer tai cymdeithasol, mewn cydweithrediad â TPAS Cymru, yn caniatáu i ni gartrefu teuluoedd a phlant, dylai hynny fod yn flaenoriaeth.
Nid yn unig hynny, ond nid yw'r system bresennol yn gwneud y gorau o'r hyn sydd gan landlordiaid i'w gynnig. Y llynedd, roedd y rhaglen gaffael bresennol ar gyfer tai cymdeithasol wedi'i gordanysgrifio ddwywaith cymaint â'i chapasiti, ac eiddo sydd eisoes yn cydymffurfio â safonau. Roedd hwn yn gyfle buddsoddi gwerth £200 miliwn i Lywodraeth Cymru, cyfle i ddarparu man cychwyn i bobl heb gartref, ond eto mae oedi yn system gynllunio Llafur yn gwneud i landlordiaid droi eu cefnau ar ddarparu tai cymdeithasol, yn hytrach na'u denu.
Ar y llaw arall, mae gan Blaid Geidwadol Cymru weledigaeth glir ar gyfer landlordiaid. Byddem yn creu tasglu i gynllunwyr fynd i'r afael â'r awdurdodau lleol arafaf, gan greu mwy o dai cymdeithasol. Nid yw'r sector cynllunio yn addas i'r diben. Yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, mae system gynllunio Cymru yn gostus, yn hir ac yn gymhleth. Mae'n rhaid i bethau newid.
Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried argymhelliad 5 a sefydlu corfforaeth ddatblygu genedlaethol i arwain ar safleoedd ar raddfa fawr. Bydd hyn yn cyflymu datblygiad, gan sicrhau bod cymunedau'n gallu cael mewnbwn go iawn o gam cynnar. Os ydym am roi diwedd ar deuluoedd yn byw mewn llety gwely a brecwast, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried y blaenoriaethau hyn, buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, a blaenoriaethu cymunedau sy'n gweithio i adeiladu cartrefi. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud mewn ymateb i'r adroddiad hwn.
Dwi am ganolbwyntio ar ddau argymhelliad pwysig sydd yn yr adroddiad ond sydd wedi cael eu gwrthod gan y Llywodraeth, yn anffodus, sef un am sefydlu Unnos fel corff lled braich o'r Llywodraeth, er mwyn cyflymu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, a'r ail un yn ymwneud â hyblygrwydd o ran safonau wrth addasu tai presennol yn gartrefi ar gyfer y sector cymdeithasol.
Dwi'n troi yn gyntaf at argymhelliad 5 yr adroddiad, argymhelliad sydd wedi ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. Ond fe gafwyd tystiolaeth helaeth gan randdeiliaid sydd yn cefnogi'n gryf sefydlu corff datblygu cenedlaethol i arwain ar ddatblygu tai mewn ffordd strategol. Mae sefydlu Unnos fel endid hyd braich i yrru'r gwaith o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn bolisi Plaid Cymru ers blynyddoedd, ac er yn croesawu cynnwys rhaglen Unnos y Llywodraeth bresennol, ddaeth i fod drwy'r cytundeb cydweithio, mae angen datblygu Unnos fel endid ar wahân efo pwerau penodol. Gwych oedd gweld cefnogaeth gan randdeiliaid, a chymeradwyaeth y pwyllgor i hyn. Galwodd arbenigwyr, gan gynnwys Shelter, y Chartered Institute of Housing, Community Housing Cymru, ac eraill, am gorff annibynnol i ymyrryd yn y farchnad dir a'r system gynllunio.
Ddoe yn y Senedd, fe wnes i gynnal cyfarfod bord gron i drafod argyfwng tai Cymru efo cynrychiolwyr o'r sector tai, ac unwaith eto, fe gafwyd arwyddion clir o gefnogaeth ar gyfer y weledigaeth o Unnos sydd yn cael ei hamlinellu yn adroddiad y pwyllgor, ac roedd hynny'n wych o beth i weld yn digwydd. Mae'r pwyllgor, yn yr adroddiad, yn cydnabod sefydlu is-adran tir o fewn Llywodraeth Cymru—neu is-adran lle, rwy'n meddwl maen nhw'n ei alw fe erbyn hyn—a'r gwaith mae hwnnw yn ei wneud efo datblygwyr a buddsoddwyr i gyflawni safleoedd enghreifftiol ar dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth, ond mae llawer o'r rhanddeiliad yn credu y gellir gwneud llawer iawn mwy pe bai'r dull yma yn cael ei ehangu.
Rwy’n nodi nad ydy’r Llywodraeth ar hyn o bryd ddim yn gweld yr angen am gorff o’r math oherwydd sefydlu’r is-adran arbennig yma, ac mae hynny yn siomedig. I fod yn effeithiol, byddai angen i gorff hyd-braich gael pwerau cywir, arbenigaeth broffesiynol a gweledigaeth hirdymor sy’n cyd-fynd â Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Er bod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad yma, rwy’n siŵr y bydd y drafodaeth am Unnos yn parhau dros y misoedd nesaf.
Yn ail, rwyf am drafod argymhelliad 9. Mi wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth helaeth am y prif heriau sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol a'r galw am fwy o hyblygrwydd mewn safonau ansawdd er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol, ac felly mae'n anffodus fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i weithio efo TPAS Cymru a chymdeithasau tenantiaid i ddatblygu safon ar wahân ar gyfer caffael cartrefi cymdeithasol parhaol. Roedd TPAS yn dadlau er bod rhaid cyrraedd safonau iechyd a diogelwch, mai’r flaenoriaeth ydy symud pobl allan o lety dros dro ac i gartrefi parhaol. Ac efo 11,000 o bobl, gan gynnwys 3,000 o blant, mewn llety dros dro, mae'n rhwystredig iawn i lawer ohonom ni nad ydy’r Llywodraeth am fod yn bragmataidd efo’r mater yma.
Mae adeiladau a chartrefi y gellid eu defnyddio fel tai cymdeithasol yn cael eu gadael yn wag oherwydd diffyg hyblygrwydd o gwmpas safonau. Mae cydymffurfio â chyrraedd EPC A yn ychwanegu £15,000 fesul cartref, ac mae cymdeithasau tai wedi dadlau y gallai llacio’r gofyniad i EPC B alluogi darparu 1,000 o gartrefi ychwanegol efo’r un un lefel o gyllid. Mi oedd rhai tystion yn nodi y gallai caffael eiddo presennol—acquisitions—helpu cyflenwi mwy o gartrefi cymdeithasol a helpu gwella cyflwr y stryd fawr, er enghraifft, ond mae'n rhaid i gartrefi sydd wedi cael eu prynu yn y modd yma ac sydd ddim yn cyrraedd y safonau gael eu gwerthu ar ôl 10 mlynedd. Mae angen osgoi hyn drwy gael mwy o hyblygrwydd, tra hefyd, wrth gwrs, yn gweithio efo tenantiaid i ddatblygu safon newydd ar gyfer acquisitions a allai fod yn gartrefi cymdeithasol parhaol ond efallai fyddan nhw byth yn cyrraedd y safon ansawdd yn llawn.
Efo’r sylwadau yna, gaf i ddiolch am gael cyfrannu at waith y pwyllgor ar yr adroddiad pwysig yma? Diolch yn fawr.
Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwn ond ni chymerais ran yn yr adroddiad terfynol gan fy mod newydd gael fy mhenodi gan y Gweinidog i gadeirio'r tasglu cartrefi fforddiadwy. Er mwyn osgoi gwrthdaro, dylwn ddatgan buddiant yn y trafodion heddiw fel bod pobl yn gwybod am y rolau deuol hynny.
Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith y mae'r tasglu'n ei wneud, sut y mae'n ymwneud â'r ymchwiliad a gyflawnodd y pwyllgor, a sut y mae'n bwrw ymlaen â llawer o'r themâu sydd eisoes wedi'u trafod yma y prynhawn yma. Gofynnwyd iddo yn ei gylch gorchwyl i edrych ar ddau beth—rhwystrau tymor byr i dai fforddiadwy, ac yn ail, i edrych ar unrhyw newidiadau y gallai fod eu hangen i'r system. Rydym yn edrych ar ddadflocio safleoedd sydd eisoes yn rhaglen Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol, y rheini sy'n wynebu risg o oedi, a chwilio am yr hyn a elwir yn 'ddefnydd yn y cyfamser'—tai dros dro ar dir cyhoeddus—a gofynnwyd inni edrych hefyd ar symleiddio'r ddarpariaeth o gartrefi newydd.
Mae'n eithaf amlwg o'r gwaith a wnaed eisoes nad oes bwled hud, ond mae yna gyfres o ymyriadau a all wneud gwahaniaeth yn fy marn i. Yn y grŵp, mae gennym bobl sydd â phrofiad o lywodraeth leol—aelod cabinet ac uwch swyddog o ogledd Cymru a de Cymru—cynrychiolydd o gymdeithas dai—un o ogledd Cymru, un o dde Cymru—cynrychiolydd o'r comisiwn dylunio ac o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, ac rydym wedi cael academyddion ac eraill sydd wedi mynychu trafodaethau unigol i gefnogi hynny. Ddoe, cyfarfûm â datblygwyr tai ac yfory rwy'n cyfarfod â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Felly, mae'n waith cyflym. Rydym yn bwriadu adrodd erbyn diwedd mis Mawrth a mis Ebrill, mewn dau gam, ac rydym yn edrych ar atebion ymarferol; nid adroddiad i lunio dadansoddiadau pellach o'r broblem yw hwn, ond i edrych ar bethau a allai fod o gymorth.
Mae'n eithaf clir o'r sylwadau a gyflwynwyd i ni fod datblygwyr yn teimlo bod y broses yn rhy hir. Mae'n cymryd gormod o amser i geisio adeiladu cartrefi a chael cynigion drwy'r system, a chan fod argyfwng tai, mae cefnogaeth gref i weld awdurdodau cynllunio'n rhoi blaenoriaeth i geisiadau tai cymdeithasol. Mae arfer da yn Abertawe ac yng nghyngor Conwy lle mae ganddynt dimau datblygu, felly pan ddaw cais ger eu bron, maent i bob pwrpas yn cloi pawb mewn ystafell ac yn gwneud iddynt weithio ar y cais hwnnw. Felly, cynllunio, priffyrdd, draenio, bioamrywiaeth—yr holl adrannau gwahanol y mae angen iddynt roi sêl bendith ar brosiect gyda'i gilydd i allu goresgyn rhwystrau a chyflymu ceisiadau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A oes ots gennych os na wnaf, gan fod llawer gennyf i fynd drwyddo, ac rwyf am sicrhau fy mod yn rhoi cymaint â phosibl o'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd?
Rydym yn awyddus i nodi arferion da pellach. Y cwestiwn felly yw sut y mae sicrhau y cânt eu mabwysiadu'n gyson—sut y mae eu lledaenu a'u hefelychu ar raddfa fwy? Ac rwy'n credu mai cydgynhyrchu yw'r ffordd o wneud hynny.
Mae datblygwyr hefyd wedi dweud wrthym y gall swyddogion cynllunio benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn rhai siroedd o dan bwerau dirprwyedig, ond mewn siroedd eraill, mae’n rhaid iddo fynd i’r pwyllgor cynllunio, sy’n ychwanegu amser ac ansicrwydd. Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod y pwysau sydd ar adrannau cynllunio. Wedi’r cyfan, ers 2010 a dechrau cyni, mae cynghorau lleol Cymru wedi colli 40 y cant o’u staff, ac un o’r rhwystredigaethau y mae datblygwyr yn sôn wrthym yn gyson amdanynt yw nad yw bellach yn hawdd cael gafael ar swyddogion cynllunio i drafod ceisiadau wyneb yn wyneb, i gael sgyrsiau ymarferol i helpu i ddatrys materion. Mae hynny’n amlwg yn broblem.
Mae yna broblemau hefyd gyda dehongliadau gwahanol gan wahanol swyddogion tirwedd, er enghraifft, mewn rhai cynghorau, gan ddyblygu'r hyn a elwir yn amodau cyn-gychwyn. Felly, gall amodau sydd eisoes wedi’u bodloni mewn ceisiadau cynllunio gael eu hailgyflwyno, ac mae'n rhaid iddynt gael eu gosod a’u cymeradwyo ar wahân, a chael eu diwygio ymhellach gan swyddogion o bosibl, sy’n ychwanegu at oedi a rhwystredigaeth. Gellir mynd i'r afael â pheth o hyn drwy hyfforddiant, a pheth ohono drwy ddull mwy safonol. Credaf mai’r cwestiwn mawr y mae angen inni edrych arno a mynd i’r afael ag ef yw a ddylai tir a nodir mewn cynllun datblygu lleol ddod gyda rhagdybiaeth ar gyfer datblygu pan gytunir ar y CDLl ai peidio. Bydd hyn yn creu mwy o sicrwydd o gyflenwad tir ac yn lleihau amser a chost datblygiadau. Felly, ar ôl ichi gael caniatâd mewn egwyddor, a ddylech hefyd gael rhai hawliau datblygu a ganiateir, cyhyd â'u bod yn unol â mesurau diogelu polisi, i symleiddio'r broses gynllunio? Mae manteision ac anfanteision i hynny, ac rydym yn gweithio drwy hyn, a byddwn yn ffurfio barn gyfunol ar hynny.
Hefyd, beth y gellir ei wneud yn y tymor byr i fynd i’r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl mewn llety dros dro? Yng Nghaerdydd, yn Llanilltud Fawr, maent wedi defnyddio tai dros dro ar dir cyhoeddus i adeiladu cartrefi dros dro. A allwn ni wneud mwy o hynny? Mae yna safbwyntiau cymysg. Sut y gallwn gyflymu’r broses o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd? Tai sy'n cael eu hystyried yn 'eiddo gwag' gan landlordiaid cymdeithasol—sut y gellir dod â hwy yn ôl i ddefnydd? Fflatiau uwchben siopau yng nghanol trefi neu estyniadau i'r atig ar gyfer teuluoedd sy’n wynebu gorlenwi—mae’r rhain oll yn bethau a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, a dyna’r materion rydym yn gweithio drwyddynt, Ddirprwy Lywydd, a byddwn yn adrodd ar hynny i Ysgrifennydd y Cabinet erbyn diwedd mis Ebrill. Diolch.
Diolch am y cyfle i siarad yn y drafodaeth yma. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor, roeddwn i'n dadlau am yr angen i gynnal ymchwiliad i'r maes, a dwi'n falch iawn gweld bod y pwyllgor wedi cyflawni darn o waith mor drylwyr, ac mae'n flin gen i fy mod i wedi gadael y pwyllgor cyn gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad.
Roeddwn i eisiau pigo i fyny ar un pwynt yn unig, os caf i, sef yr argymhelliad gan y pwyllgor i gynyddu'r stoc dai gyhoeddus i 20 y cant. Dwi am ddadlau nad ydy hyn, mewn gwirionedd, yn ddigonol, ac mae fy safbwynt i felly'n seiliedig ar dystiolaeth—tystiolaeth, dwi'n credu, ddaru chi glywed gan Housing Europe.
Yn gyntaf, os caf i gau lawr unrhyw gyhuddiad mai fy unig uchelgais i ydy i weld pawb yn byw mewn tŷ cymdeithasol—ddim o gwbl. Ystyriwch fathemateg elfennol y sector. Os ydy rhywun yn prynu tŷ ar y farchnad agored, yna mae’n debygol y byddan nhw’n gorfod cael morgais. Ar dŷ gwerth £250,000, gall rhywun fod yn talu morgais yn ôl dros chwarter canrif neu ragor, ac ar gyfraddau heddiw, yn ddibynnol ar wahanol amodau, mi fyddan nhw’n talu dros £1,300 y mis, gan ddiweddu i fyny yn talu allan tua £400,000 am y tŷ yna. A pheidiwch ag anghofio, mae’r taliadau morgais yma bron yn gyfan gwbl, 99.9 y cant, yn mynd allan o Gymru, ac mae yna hyd at £40 biliwn o forgeisi yn fyw yng Nghymru ar hyn o bryd—pres sy'n llifo allan o Gymru. Mae hynny’n lot o bres.
Mewn tŷ cymdeithasol, mi fyddai rhywun, yn lle talu £1,300 mewn morgais sy'n mynd allan o Gymru, mi fyddai rhywun yn talu £500 y mis. Mi fuasai hynny yn rhyddhau £800 yn fisol i'r teulu neu’r unigolyn yna i'w wario ar bethau eraill—diddordebau, cynilo ar gyfer taliad ar gyfer tŷ preifat eu hunain—a'r pres yna i gyd yn cael ei droi a’i gylchdroi yn yr economi leol. Mae’n gwneud synnwyr ariannol, felly, i gael tai cymdeithasol. A dyna pam fod pobl yn Awstria, yr Almaen, y Swistir, yn y gwledydd Sgandinafia ac eraill yn rhentu tai. Ond yn fwy na hyn, o rentu tŷ cymdeithasol, mae'r pres nid yn unig aros yn lleol, mae'n mynd nôl i'r stoc dai ac yn galluogi pobl i adeiladu mwy.
Ond ta waeth am hynny, at fy mhrif bwynt: dwi yn awyddus i weld uchelgais o o leiaf 30 y cant o’r stoc dai yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus. Dyma ydy’r ffigur, fel ddaru ni glywed, yn yr Iseldiroedd, ac mae’r Iseldiroedd yn wlad debyg iawn i ni mewn sawl ffordd. Yn wir, dyma oedd y ffigur yng Nghymru nôl yn y 1970au, cyn i Thatcher benderfynu gwerthu’r stoc dai gyhoeddus a chreu yr argyfwng tai presennol.
Dwi wedi cyfeirio sawl gwaith mewn trafodaethau blaenorol at Fienna fel arfer da yn y maes yma, ac mae stoc dai gyhoeddus Fienna yn 60 y cant. Ac mae'r tai yn agored i bawb—yn lawfeddygon, yn benaethiaid diwydiant, yn lanhawyr, yn yrwyr bysus. Ond nid yn unig hyn, maen nhw’n dai o’r ansawdd uchaf, yn amgylcheddol, yn economaidd, ac yn sicrhau mynediad at bethau fel trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, iechyd, hamdden a llawer iawn mwy o hanfodion bywyd.
Rŵan, rwy’n derbyn na fyddwn ni’n cyrraedd lefelau Fienna yma yng Nghymru, ddim am gyfnod beth bynnag, ond mae 30 y cant o dai o dan berchnogaeth gyhoeddus yn gyraeddadwy. O gael y lefel yma, byddwn ni’n gweld newid trawsnewidiol go iawn yn y farchnad dai, gyda lefelau digartrefedd yn disgyn a neb yn gorfod byw mewn llety dros dro. Wrth gwrs, mi fyddai’n rhaid i’r datblygiadau yma fod yn sympathetig i anghenion cymunedol ac ateb galw lleol er mwyn sicrhau fod cymunedau yn hyfyw.
Felly, dwi’n edrych ymlaen at glywed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld rhinwedd yn yr uchelgais yma, a pha gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd er mwyn cynyddu’r stoc dai gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.
Ychydig wythnosau yn ôl, mynychais agoriad 18 o fflatiau carbon niwtral ar faes parcio bach iawn y tu ôl i hostel YMCA yn The Walk. Roeddent yn hyfryd, wedi'u dylunio'n hardd, yn olau iawn, gyda phob fflat yn cael ei chynhesu gan bympiau gwres o'r aer, fel y gallai tenantiaid reoli'r gwres i gyd-fynd â'u hanghenion penodol, gyda'u drws ffrynt eu hunain a gardd gymunedol braf. Rwy'n credu bod pensaer CFW Architects—Jeff Murray yw ei enw—a’r adeiladwyr a gydweithiodd yn wych ar wasgu’r manylion dylunio cain olaf o siâp a oedd yn eithaf cymhleth—maent llwyr haeddu gwobr gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a dweud y gwir. A gall unrhyw un fynd i edrych arno, gan fod caffi gan yr YMCA sy'n edrych allan ar yr adeilad newydd gwych hwn.
Dyma’r cartrefi cyntaf a adeiladwyd gan yr YMCA yng Nghaerdydd ers 1981. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn rhaid mai dyna un o’r rhesymau pam ein bod mewn sefyllfa mor anodd. A’u her fwyaf nawr yw sut ar y ddaear y maent yn mynd i annog y tenantiaid newydd hyn, yn eu llety dros dro dynodedig ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed, i symud ymlaen. Oherwydd nid oes unman yng Nghaerdydd i symud ymlaen iddo, a bod yn onest.
Sut y gallwn drethu mannau parcio ceir sy'n gysylltiedig â busnesau mewn ardaloedd fel Caerdydd lle ceir cysylltiadau trafnidiaeth da? Ni allwn fforddio caniatáu i’r lleiniau bychain hyn o dir, y gellid eu defnyddio i gartrefu pobl mewn ardal drefol fel yr un rwy'n ei chynrychioli, beidio â chael eu defnyddio ar gyfer tai, o ystyried lefel yr angen.
Felly, nid yw'r uchelgais presennol i adeiladu 20,000 o gartrefi yn y Senedd hon yn ddim ond diferyn o law yn y môr o gymharu â’r angen, ac rwy’n sylweddoli ein bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni hynny hyd yn oed. Mae Cyngor Caerdydd wedi adeiladu dros 1,600 o dai cyngor ers 2017 ac mae hwnnw’n gyflawniad da mewn ardal lle mae tir yn eithaf drud, ac mae cymdeithasau tai wedi adeiladu 500 ychwanegol o gartrefi, a’u huchelgais yw adeiladu 4,000 arall mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Ond mae'r angen yn aruthrol, ac mae'r cyngor wedi gwneud ymrwymiad enfawr i barhau â'i bolisi tai yn gyntaf. Er mwyn atal pobl rhag byw ar y stryd, maent wedi gorfod trosi’r rhan fwyaf o’r tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd, yn fy amser i fel y cynrychiolydd, yn dai dros dro, ac wrth gwrs, mae canlyniadau enfawr i’r penderfyniad hwnnw, ond rwy’n deall pam eu bod yn gwneud hynny, gan fod cost llety dros dro, mewn hosteli neu westai, y maent hefyd yn eu defnyddio, yn ddrud iawn.
Felly, rwy’n llwyr gefnogi eich cynigion ar gyfer treth ar dir gwag. Rydym am weld ‘ie’ i drethi cyngor llawer uwch ar dai sy'n wag ar ôl chwe mis, ‘ie’ i weld Banc Datblygu Cymru yn ariannu datblygiadau tai cymdeithasol yn uniongyrchol, a llawer mwy o waith yn mynd rhagddo i drosi adeiladau presennol yn gartrefi, yn enwedig uwchben siopau, fel y crybwyllwyd eisoes, ac i drosi eiddo manwerthu gwag y gellir ei drawsnewid yn ymarferol i ddarparu llety preswyl yng nghanol trefi.
Mae’r sefyllfa i bobl sy’n byw mewn llety yn y sector rhentu preifat yn gwbl enbyd, ac mae un etholwr sy’n oedolyn sengl yn ei 50au newydd gael codiad rhent o 28 y cant wedi’i orfodi arni. Nid oes unrhyw ffordd y gall fforddio prynu eiddo, ac mae'n amheus gennyf a fyddai'n bodloni’r gofynion ar gyfer bod ar y gofrestr tai. Felly, mae'n newyddion da iawn clywed bod Lee Waters yn cynnal archwiliad dwfn o sut y gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn o'r sefyllfa hon, ond mae gwir angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith, oherwydd fel arall, mae'n bwydo llawer o'r datrysiadau poblyddol a gor-syml y mae'n rhaid inni eu gwrthsefyll er lles y gymuned.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl heddiw, a hoffwn ddechrau drwy groesawu a diolch am y gwaith helaeth y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn ei ymchwiliad i dai cymdeithasol, a’r diddordeb y mae Aelodau, yn y gorffennol a’r presennol, wedi’i ddangos yn hyn ac yn y ddadl, gan gynnwys Mabon ap Gwynfor a minnau, yr oeddem ein dau yn gyn-aelodau o’r pwyllgor. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau o’r pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd, a’r holl bobl a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad.
Un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth yw cyfle i bob teulu. Gwyddom fod cyfle yn dechrau yn y cartref, ac o’r herwydd, mae sicrhau cyflenwad iach o dai cymdeithasol yn hynod bwysig, ac rwy'n croesawu'r cyfle i nodi’r hyn a wnawn i gefnogi hyn.
Yma yn y Senedd, rwy'n credu bod pob un ohonom yn cydnabod pwysigrwydd tai o ansawdd da yng Nghymru. Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd, ac yn helpu i ysgogi twf economaidd. Gall tai fforddiadwy o ansawdd da gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl hefyd a gwella canlyniadau addysgol, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiysgog ei chymorth i’r tai mwyaf fforddiadwy—tai rhent cymdeithasol.
Mae’r dystiolaeth fod angen mwy o gartrefi fforddiadwy arnom yn ddiymwad. Mae gormod o bobl yn byw mewn llety dros dro o hyd, ac mae un unigolyn sy’n cysgu allan, neu un teulu heb le i’w alw’n gartref, yn un yn ormod. A dyna pam ein bod yn canolbwyntio fel Llywodraeth ar ddarparu mwy o gartrefi ochr yn ochr â chymorth atal, gyda'r nod o wireddu ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth.
Mae ein lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yn dwyn ffrwyth. Mae tai cymdeithasol wedi derbyn dros £1.4 biliwn yn nhymor y Llywodraeth hon, ac er gwaethaf y digwyddiadau byd-eang heriol sy’n wynebu’r sector tai, mae’r sector yn parhau i ymateb i’r her. Mae’r ddarpariaeth yn parhau i fod ar y lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2007-08, gan gynnwys darparu bron i 9,000 yn rhagor o gartrefi rhent yn y sector cymdeithasol hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon. Mae ein hamcanestyniadau ar gyfer y sector yn dal i ddweud wrthym fod llif cadarn o gynlluniau i ddarparu mwy o gartrefi yn ystod tymor y Llywodraeth hon a'r nesaf, ond rwy’n ddiamynedd.
Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r sector am eu hymrwymiad parhaus. Dywedais wrth yr Aelodau yn ôl ym mis Hydref fy mod wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn nodi’r uchelgais clir i wneud popeth yn ein gallu ar y cyd i ddarparu pob cartref ychwanegol sy'n bosibl. Helpodd yr ymatebion i lywio gwaith y tasglu cartrefi fforddiadwy, a hoffwn ddiolch i Lee Waters am ei rôl yn hyn o beth ac am gadeirio'r tasglu, yn ogystal â’r Aelodau yma sydd wedi bod yn cymryd rhan. Fel y dywedodd Lee, maent wedi bod yn canolbwyntio ar ddatgloi rhwystrau a chefnogi cynlluniau sy’n wynebu risgiau posibl i’w hamserlenni cyflawni.
Nododd y gwaith hwn hefyd gynlluniau a all ddechrau nawr a chyflawni erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon. Rydym yn darparu £10 miliwn ychwanegol ar gyfer y cynlluniau hyn yn 2024-25. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi 16 o gynlluniau ledled Cymru, gan alluogi'r ddarpariaeth o 238 o gartrefi na fyddent fel arall wedi cael eu darparu yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Ac rwy’n falch fod Lee wedi gallu rhoi blas o rywfaint o’r gwaith sydd wedi mynd rhagddo, ac rwy’n awyddus i weld canlyniadau’r gwaith hwnnw.
Mae’r pwyllgor, yn gywir ddigon, yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol i gyllid hirdymor. Bydd rhoi sicrwydd mwy hirdymor i'r sector yn helpu i gryfhau'r llif datblygu. Dyna pam fy mod wedi derbyn eu hargymhelliad i archwilio sut y gallwn gydymgeisio ag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru i ddarparu sefydlogrwydd ariannol mwy hirdymor. Drwy’r gyllideb ddrafft ddiweddar, rydym wedi sicrhau £81 miliwn ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb ar gyfer tai cymdeithasol i’r lefel uchaf erioed ar gyfer blwyddyn unigol: £411 miliwn ar gyfer 2025-26. Mae hon yn gyllideb gadarnhaol gyda ffocws clir ar gyflenwi tai a gwasanaethau atal.
Ond, er hynny, dim ond 4.9 y cant o'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf sydd yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai ac adfywio, o dan 5 y cant o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddigon?
Diolch, Siân. Fel y dywedais, mae hwn yn ffocws gwirioneddol i ni ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu o fewn y cyllid sydd ar gael i ni. A gwyddom ein bod wedi cael arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn hon na fyddem wedi'i gael fel arall, ac rwyf wedi ceisio amlinellu sut rydym yn buddsoddi'r £10 miliwn ychwanegol y gallasom ddod o hyd iddo eleni.
Mae adeiladu cartrefi'n cymryd amser, ac mae angen y gallu ar bob landlord cymdeithasol i ddiwallu’r angen uniongyrchol am dai drwy gaffael, lle y bo’n briodol. Dyna pam y bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar draws y grant tai cymdeithasol a’r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Bydd y cyllid yn cefnogi ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent ychwanegol yn y sector cymdeithasol, yn ogystal â chwblhau cartrefi a ddechreuwyd yn 2025-26 yn nhymor nesaf y Senedd.
Hoffwn droi yn fyr at argymhelliad 4, sydd wedi’i grybwyll ac a dderbyniais mewn egwyddor. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylem anelu at ganran uwch o dai cymdeithasol yn y stoc dai. Fodd bynnag, er ein bod yn darparu’r lefelau uchaf erioed o dai fforddiadwy, bydd cynnydd pellach i gyflymder a graddfa’r ddarpariaeth yn cymryd amser ac yn galw am ymrwymiad dros sawl tymor Llywodraeth. Ond rwyf wedi ymrwymo i gynnal dadansoddiad i ddeall y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau canran uwch ac i lywio amserlenni.
Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll argymhellion, ac efallai’n ddealladwy, wedi canolbwyntio ar y rhai sydd heb eu derbyn. Fel y dywedais, o'r 17 argymhelliad a gyflwynwyd, dim ond tri a wrthodais. Ond er fy mod wedi'u gwrthod, nid wyf yn anghytuno â rhai o’r egwyddorion a nodwyd yn yr argymhellion, gan fod yn rhaid inni wneud mwy ym mhob un o’r tri maes, ond efallai nad y dull a awgrymwyd gan y pwyllgor yw’r dull gweithredu cywir i'r Llywodraeth hon bob amser. Ond hoffwn roi sicrwydd i aelodau'r pwyllgor nad yw gwrthod yr argymhellion yn golygu ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau yn y meysydd hyn, ac rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i mi i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl i bobl Cymru.
Er fy mod yn anghytuno ag argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r angen am safon ar wahân ar gyfer caffael, rydym eisoes wedi cyflwyno hyblygrwydd sylweddol yn ein prosiectau a ariennir gan y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Byddwn yn parhau i adolygu ein safonau, gan weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn darparu'r bragmatiaeth sydd ei hangen, a bydd y cyhoeddiad cynnar ynglŷn â pharhad y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro yn cefnogi ein partneriaid i barhau â'r prosiectau o ansawdd sydd ar y gweill yn y maes hwn.
Un arall o’r argymhellion y canolbwyntiwyd arnynt oedd argymhelliad 5 a’r is-adran lle, a nodaf unwaith eto fod pethau o fewn hynny y gwelsom ein bod yn gwneud yn dda ynddynt. Mae ein cronfa datblygu tir ac adeiladau yn parhau i fod ar agor, ac rwy'n erfyn ar y sector cyhoeddus i fanteisio ar y cynllun, sydd wed'i lunio i ddefnyddio safleoedd segur ar gyfer darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy, a hyd yma, mae’r gronfa wedi gwario £37 miliwn ar 51 o brosiectau.
Mae’n bryd dirwyn i ben, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. Dros weddill tymor y Llywodraeth hon, byddaf yn canolbwyntio fy ymdrechion ac ymdrechion fy swyddogion ar gyflawni. Mae hynny’n cynnwys darparu cartrefi a chyflawni yn erbyn yr ymrwymiadau a wnaed mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor ac Archwilio Cymru. Ac yn olaf, hoffwn ailadrodd wrth Aelodau'r Senedd fy mod wedi bod ac y byddaf yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu cartrefi sydd eu hangen yn daer yng Nghymru. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw, Ddirprwy Lywydd, ac mae yna rai themâu cyffredin. Soniodd Laura Anne Jones, er enghraifft, am faterion sy'n codi gydag adrannau cynllunio ein hawdurdodau lleol, ac adleisiwyd hynny gan eraill, a chredaf ein bod yn gwybod bod angen cynyddu’r capasiti, ac mae hynny'n rhan sylweddol o'r gwaith o gynhyrchu’r nifer llawer mwy o dai sydd eu hangen arnom, gan gynnwys cartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu, a gwn fod camau'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y materion hynny ac i gynyddu capasiti, ac rwy'n credu bod pob un ohonom yn gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n dwyn ffrwyth cyn gynted â phosibl.
Soniodd Siân Gwenllian am y cartrefi ychwanegol y gallem eu cael, er enghraifft, ar ein strydoedd mawr, ac unwaith eto, mae honno’n thema a grybwyllwyd gan fwy nag un Aelod, ac wrth gwrs, byddai llawer o fanteision i hynny. Byddai’n helpu i adfywio canol ein trefi a’n dinasoedd, lle gwyddom fod nifer ychwanegol o ymwelwyr yn werthfawr iawn i gefnogi’r sector manwerthu, ac wrth gwrs, byddai hynny hefyd yn galw am gynyddu nifer yr eiddo un ystafell wely, sydd unwaith eto yn angen pwysig nas diwallwyd a nodir gennym yn ein hadroddiad.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Lee Waters, Ddirprwy Lywydd, am ddarparu diweddariad gwerthfawr iawn i’r Aelodau ar ei waith i Ysgrifennydd y Cabinet ar edrych ar ble mae’r rhwystrau, ble mae’r mannau cyfyng, sut y gellid eu goresgyn. Fel y dywedodd Lee, mae i'r gwaith hwnnw ffrâm amser eithaf cyfyng o ran adrodd ddiwedd mis Mawrth neu ym mis Ebrill, felly edrychaf ymlaen yn fawr, fel yr Aelodau eraill rwy'n siŵr, at weld y casgliadau a’r cyfraniad y gall ei wneud i gynnydd angenrheidiol.
Gwn fod cryn ddiddordeb gan Mabon mewn tai, ac roedd hynny’n amlwg iawn pan oedd yn aelod o’r pwyllgor, ac mae’n dda gweld Mabon yn parhau â’r diddordeb hwnnw ac yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Byddai’r Pwyllgor, Mabon, yn cytuno’n fawr â chi nad 20 y cant yw’r nod terfynol i'n huchelgeisiau ar gyfer y ganran o’n stoc dai gyffredinol a ddylai fod yn gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu; credaf fod 30 y cant yn strategaeth fwy hirdymor ond un y gellir ei chyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd y ffigur o 20 y cant yn cael ei gyflawni dros dymor y Senedd nesaf, felly rydym yn sôn am oddeutu pum mlynedd arall, ac os gallwn adeiladu 60,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy ychwanegol i'w rhentu dros y cyfnod hwnnw, byddai hynny’n gyfraniad mawr i'r gwaith o ddiwallu’r angen sydd gennym.
Jenny, mae bob amser yn dda pan fydd aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, fel Mabon, yn cymryd rhan mewn dadleuon ar adroddiadau pwyllgorau, felly diolch yn fawr iawn eto am eich diddordeb a'r enghraifft a roesoch o adeilad YMCA, yr wyth fflat carbon niwtral—
Deunaw.
Deunaw, mae'n ddrwg gennyf, o fflatiau carbon niwtral. Ni allaf ddarllen fy llawysgrifen fy hun, mae arnaf ofn. Llety dros dro, ond pwysig iawn, a gwyddom am y mater sy'n codi gyda llety dros dro’n arwain o bosibl at dai parhaol wrth inni edrych ar rai o’r safonau sy’n berthnasol.
Unwaith eto, fe sonioch chi am eiddo uwchben siopau, ac unwaith eto, mae hynny'n bwysig iawn, a hefyd, wrth gwrs, y problemau gyda'r sector rhentu preifat a'r cynnydd yn y rhent a wynebodd eich etholwr, oherwydd yr hyn a wyddom—. I ddod at gyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, rwy’n croesawu eich ymrwymiad cryf, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymgysylltu â’r pwyllgor, gan dderbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion, ac i edrych hefyd ar y rhai a wrthodwyd o ran sut i wneud cynnydd, hyd yn oed os nad yw yn y ffordd y mae’r pwyllgor yn ei awgrymu. Rydym yn croesawu hynny’n fawr.
Rwy'n credu bod ymdrech ar y cyd, onid oes, ar draws y Senedd a chyda Llywodraeth Cymru i weld cartrefi cymdeithasol fforddiadwy ychwanegol yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Yr hyn sydd wrth wraidd y cyfan, gan ddychwelyd at yr hyn y soniodd Jenny amdano a'r enghraifft a roddodd o’r sector rhentu preifat, yw y gall y cartrefi cymdeithasol fforddiadwy hyn i'w rhentu ddarparu llawer mwy o’r cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy y gwyddom fod eu hangen yn daer ar bobl yng Nghymru. Felly, byddwn yn dweud bod hwn yn adroddiad pwysig iawn gan y pwyllgor, ac yn un y gobeithiaf y bydd yn arwain at y math o gamau gweithredu y mae pob un ohonom yn dymuno eu gweld. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 9 heddiw yw dadl Plaid Cymru, addysg uwch, a galwaf ar Cefin Campbell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8818 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan gynnwys hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a chrefydd a diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad ar staff a myfyrwyr, ar yr economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol cynyddol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a newidiadau i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i gyfrifoldeb datganoledig, strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a gosod y sector ar sail ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad effaith o'r cynlluniau i gau'r ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad o'r pwysau ariannol sy'n wynebu Prifysgolion Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mewn undod â’r cannoedd o staff a myfyrwyr a fu'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn y gwynt a’r glaw ddoe ar risiau’r Senedd yn rali'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, rwy'n gwneud y cynnig hwn yn enw Heledd Fychan.
Yr wythnos diwethaf, roedd y cyhoeddiad syfrdanol gan Brifysgol Caerdydd fod 400 o swyddi mewn perygl, gyda sawl cwrs gradd yn wynebu cael eu torri, yn ergyd chwerw arall eto i’r sector addysg uwch yng Nghymru. Nawr, drwy gydol y ddadl hon, bydd fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru a minnau’n amlinellu pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa y mae ein sector addysg uwch yn ei hwynebu, yn enwedig o ran rhoi’r sector ar sylfaen ariannol gynaliadwy a sicrhau bod digon o nyrsys yn cael eu hyfforddi yng Nghymru i staffio ein GIG yn briodol.
Er bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn llenwi ein meddyliau ac yng nghyd-destun y ddadl hon, mae’n rhaid inni gofio wrth gwrs nad Prifysgol Caerdydd yw'r unig sefydliad sy'n troedio'r dyfroedd cythryblus hyn. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym, yn seiliedig ar ddatganiadau ariannol prifysgolion ar gyfer 2023-24, yn dangos bod y sector yn nodi diffyg o oddeutu £70 miliwn. Fodd bynnag, nid yw’r ffigurau hyn yn adlewyrchu pwysau mwy diweddar, megis y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd oddeutu £20 miliwn, neu’r diffyg sylweddol mewn recriwtio rhyngwladol a gafwyd yn y flwyddyn academaidd hon, sef £70 miliwn i £80 miliwn posibl mewn incwm a gollwyd, sy’n awgrymu sefyllfa fwy heriol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, er enghraifft, mae eu hadroddiad ariannol diweddaraf yn nodi'r
'defnydd cynyddol o gyfleuster credyd cylchol'.
Mae'n anhygoel fod Llywodraeth Cymru wedi gadael i’r sefyllfa gyrraedd y pwynt lle mae un o’n sefydliadau addysg uwch, i bob pwrpas, yn defnyddio dull tebyg i gerdyn credyd i helpu i fantoli’r cyfrifon. Ymhellach, oherwydd pwysau cyllidebol, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y bydd campws hanesyddol Llanbedr Pont Steffan yn cau ar gyfer graddau israddedig. Ni allwn adael i fan geni addysg uwch yng Nghymru fod yn ddechrau'r diwedd i’n sector prifysgolion.
Y llynedd, collwyd oddeutu 2,500 o swyddi wrth i'r fflamau ddiffodd yn Tata ym Mhort Talbot. Gyda 1,000 o swyddi eisoes wedi’u torri o’r sector addysg uwch yn y blynyddoedd diwethaf, a mwy i ddod o bosibl, gallem weld nifer tebyg o swyddi mewn perygl yn ein prifysgolion. Nid oedd rhaid i bethau ddod i ben yn y ffordd honno ym Mhort Talbot, ac nid oes rhaid i bethau ddod i ben yn y ffordd hon gyda’n prifysgolion. Fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Fodd bynnag, i ddatrys problem, rhaid yn gyntaf cydnabod bod yna broblem a rhaid cydnabod graddfa'r broblem honno, er mwyn cymryd cyfrifoldeb, dangos arweinyddiaeth a gweithredu. Ar bob cyfrif, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn methu'n llwyr ar y seiliau hynny. Mae Gweinidog gennym ni sydd ddim yn cynnig unrhyw gymorth ychwanegol, sydd yn golchi ei dwylo o gyfrifoldeb, ac yn cuddio y tu ôl i adolygiad gan Lywodraeth San Steffan, adolygiad rŷn ni'n gwybod dim llawer o fanylion amdano, adolygiad efallai fydd ddim yn digwydd o gwbl.
Ym 1966, dywedodd un o brif lenorion Cymru, D.J. Williams, fe ddywedodd e hyn:
'Ni piau Prifysgol Cymru; ein tadau ni a freuddwydiodd amdani yn rhodd i'w gwerin; eu ceiniogau hwy a'u cododd hi. Nid oes hawl gan y bobl yna, na ddeallasant erioed ei hystyr hi i'n cenedl, i'w bylchu a'i chwalu, yn ôl eu mympwy hwy eu hunain; nac i ymyrryd ag un o'r sefydliadau hynny sy'n dwyn ei henw hi. Na orffwysed neb ohonom, na dydd, na nos, hyd nes y bo tynged ein cenedl ni yn nwylo Senedd a Llywodraeth o'r eiddom ni ein hunain, yn ddiogel gadarn ar ddaear Cymru ei hun.'
Sut felly, bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach, a dros 25 mlynedd ers i ni greu'r Senedd a'r Llywodraeth honno yn ein dwylo ein hunain, rŷn ni wedi cyrraedd y sefyllfa hon lle mae Llywodraeth ein gwlad yn gadael i'n sefydliadau addysg uwch wywo ar y pren? Beth oedd pwrpas sefydlu'r lle hwn, os nad i sicrhau, pe bai'r amser yn dod, y gallai ein Llywodraeth ni ein hunain, y Llywodraeth hon, gamu i'r adwy a chefnogi ein sefydliadau addysg uwch yn awr eu hangen? Yn hytrach na dangos arweiniad, ac ymladd cornel y sector o amgylch bwrdd y Cabinet, mae'r Gweinidog yn chwifio'r faner wen yn wyneb cannoedd o ddiswyddiadau.
Mae'r ffaith bod y Gweinidog wedi codi gobaith ffug yr hydref diwethaf, drwy ddatgelu'r gronfa drawsnewid nad yw'n bodoli bellach, wedi gwneud pethau'n waeth. A'r wythnos diwethaf yn unig, cawsom gadarnhad gan y Gweinidog, mewn ymateb i gwestiynau gennyf i, fod Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad,
'nad oes angen cronfa drawsnewid ar gyfer y sector ar hyn o bryd.'
Mawredd, Weinidog, os nad nawr, pryd? Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai gan Medr ei arian ei hun i gefnogi ein sefydliadau. Lle mae'r cronfeydd hynny? Ac o ran hynny, lle mae Medr? Y cyfan a welsom neu a glywsom gan y sefydliad newydd dros yr wythnos ddiwethaf yw datganiad pedwar paragraff pitw, a'i hanner yn ailadrodd ffeithiau a oedd yn hysbys i'r cyhoedd eisoes. Mae i'r sefydliad a sefydlwyd i ariannu a chefnogi prifysgolion a myfyrwyr, sefydliad sy'n ail yn unig i GIG Cymru o ran maint a graddfa'r gyllideb y mae'n ei chael gan Lywodraeth Cymru, fethu cynnig unrhyw arweiniad, na sicrwydd nac atebion, yn enghraifft arall eto o'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi methu diogelu nac amddiffyn y sector yn iawn. Ni all Medr guddio y tu ôl i Lywodraeth Cymru, ac ni all Llywodraeth Cymru guddio y tu ôl i San Steffan.
Bydd pawb ohonom wedi clywed y Prif Weinidog, yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn dweud na all ateb dros faterion sy'n codi o bwerau a gedwir gan San Steffan, ac y dylem ganolbwyntio ein holl graffu ar yr hyn y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth drosto. Wel, ni allaf ond dychmygu na chafodd y Gweinidog addysg uwch y memo, o gofio bod Aelodau ar draws y Siambr wedi ei holi am y materion hyn yr wythnos diwethaf, a'i bod wedi dweud dro ar ôl tro nad oedd unrhyw beth arall y gallai ei wneud, a'i fod yn fater i adolygiad gan Lywodraeth y DU ei ddatrys. Yn y tymor hir, mae'n ddigon posibl fod hynny'n wir, ond nid yw'n golygu y dylai'r Gweinidog eistedd yn segur a gwneud dim. A sut y gallwn fod â ffydd y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn sefyll yn briodol dros brifysgolion Cymru yn y trafodaethau hynny? Sut y gallwn ni fod â ffydd y bydd Llywodraeth y DU hyd yn oed yn gwrando ar Gymru?
Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried y gall Plaid Cymru ddatgelu trwy ymatebion rhyddid gwybodaeth nad oedd unrhyw ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yr hydref diwethaf ynghylch cronfeydd brys a chodi ffioedd dysgu yn Lloegr, er gwaethaf y bartneriaeth mewn grym honedig rhwng Llafur yng Nghymru a San Steffan. Dim gohebiaeth, er y byddai'r penderfyniadau polisi hynny'n arwain at ganlyniadau difrifol i'r sector addysg uwch yng Nghymru. Diffyg parch syfrdanol. Nid yw partneriaeth mewn grym yn golygu dim os nad yw Llywodraeth y DU yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o newidiadau i bolisïau a fydd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar sefydliadau addysg uwch Cymru.
Y gwanwyn diwethaf, ysgrifennodd fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, yn galw am adolygiad brys o gyflwr addysg uwch yng Nghymru. Methodd Llywodraeth Cymru weithredu bryd hynny, a dyna pam ein bod bellach yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth Cymru, yn unol â'i chyfrifoldeb datganoledig, i ddatblygu strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a gosod y sector ar sylfaen ariannol gynaliadwy.
Efallai y gallai adolygiad o'r fath ystyried newidiadau yn y ffordd y caiff cymorth i fyfyrwyr ei ddyrannu, i adfer tua £34 miliwn o grantiau cynhaliaeth sydd ar hyn o bryd yn mynd i'r 40 y cant o fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio y tu allan i Gymru, ac i ddefnyddio hwn i ailfuddsoddi yn ein prifysgolion, heb gael effaith niweidiol ar y rheini o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig, fel y mae ymchwil a gomisiynwyd gan Blaid Cymru wedi awgrymu. Gallem ailedrych ar gynllun Seren hefyd, sydd ar hyn o bryd yn annog rhai o'n disgyblion gorau a mwyaf disglair i fynd i brifysgolion y tu allan i Gymru, a hynny ar gost o filiynau. Nid atal unrhyw un rhag mynd i astudio yn Lloegr yw hyn, ond ailflaenoriaethu'r ffordd y gwariwn arian ar addysg uwch a chefnogi ein prifysgolion yn well ar adeg o argyfwng—ar adeg o argyfwng.
Nawr efallai y bydd eraill—rwy'n clywed yr udo oddi ar y meinciau gyferbyn yma—yn anghytuno ynglŷn â hynny, ond does bosibl na allwn i gyd gytuno ei bod yn hanfodol cael adolygiad a strategaeth sy'n benodol i Gymru os ydym am weld ein prifysgolion yn goroesi ac yn ffynnu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw, felly, ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i gynnig yn ffurfiol—formally—gwelliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a) sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig.
Ydy, mae'n cael ei gynnig yn ffurfiol. Felly, dwi'n galw nesaf ar Natasha Asghar i gynnig gwelliant 2. Natasha Asghar.
Gwelliant 2—Paul Davies
Yn is-bwynt 2(c), dileu popeth ar ôl 'cyflogwyr'.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Roedd y newyddion am Brifysgol Caerdydd yr wythnos diwethaf yn peri pryder mawr, gyda 400 o swyddi yn y fantol ac ystod o gyrsiau, gan gynnwys nyrsio, i gael eu torri. Er mai cynigion yw'r rhain wrth gwrs, a bod disgwyl i benderfyniad terfynol gael ei wneud ym mis Mehefin, os bydd hyn yn digwydd, bydd yr effaith yn drychinebus. Bydd yn drychinebus i staff, bydd yn drychinebus i fyfyrwyr, i genedlaethau'r dyfodol, i'n heconomi ac i'n gwlad gyfan. Mae adrannau pwysig iawn Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys nyrsio, dan ystyriaeth nawr i'w torri.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod cwrs nyrsio Prifysgol Caerdydd wedi cael ei raddio'n Rhif 1 yng Nghymru ac yn bumed yn y DU yn y gorffennol. Rwy'n ystyried ei bod hi'n hurt fod y cwrs nyrsio dan fygythiad, cwrs sydd â thua 800 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru ar hyn o bryd, yn enwedig a ninnau'n wynebu prinder yn y diwydiant ei hun, cymaint felly fel bod Llywodraeth Cymru yn cynnig bwrsariaethau i ddenu myfyrwyr i'r proffesiwn nyrsio ar hyn o bryd. Hoffwn wybod pa drafodaethau sydd wedi digwydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar unioni'r diffyg yn y gweithlu. Mae'n hanfodol cael asesiad trylwyr i edrych ar effaith y cynigion i gau'r ysgol nyrsio ar ein gwlad yn ei chyfanrwydd.
Trafferthion ariannol sydd wedi cael y bai am y cynigion creulon hyn, ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol. Yn fy marn i, mae rhywbeth wedi mynd o'i le'n ddifrifol ym mhrifysgol ein prifddinas. Mae'r ffaith bod yr adran hon mor ddibynnol ar fyfyrwyr rhyngwladol yn bryder gwirioneddol. Rwy'n chwilfrydig i wybod a yw Prifysgol Caerdydd yn mynd i barhau i fwrw ymlaen ag agor campws newydd yn Kazakhstan yng ngoleuni'r heriau newydd hyn. Byddai'n warth cenedlaethol pe bai'r cau a'r colli swyddi yn digwydd tra bo'r brifysgol yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer campws tramor.
Rwy'n credu bod cytundeb swyddogol i'w lofnodi y mis yma, gyda disgwyl i'w garfan gyntaf gyrraedd ym mis Medi. Bydd y saga gyfan yn bilsen hyd yn oed yn fwy chwerw i'w llyncu os yw Prifysgol Caerdydd yn mynd i fod yn blaenoriaethu Kazakhstan dros Gaerdydd. Byddaf yn gofyn i'r is-ganghellor yn bersonol am hyn yn sgil tawelwch y brifysgol ar y mater, gan ei fod yn achosi i glychau larwm ganu i mi'n bersonol, ond rwy'n awyddus iawn i wybod pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda'r brifysgol ar y mater.
Hoffwn wybod hefyd a yw'r Gweinidog wedi gofyn am sicrwydd gan Brifysgol Caerdydd na fydd mwy o doriadau i ddod yn nes ymlaen. Rwy'n ofni mai dim ond crib y rhewfryn yw hyn. Mae prifysgolion ar draws Cymru mewn sefyllfa debyg, ond Prifysgol Caerdydd oedd y domino mawr cyntaf i gwympo. Yr wythnos diwethaf, gofynnais gwestiwn ynghylch rhoi'r gorau i addysgu yn Llanbedr Pont Steffan, ein prifysgol hynaf, a bellach mae ein prifysgol fwyaf mewn trafferth. Gwelsom dros y penwythnos fod Prifysgol Abertawe yn ymestyn ei chynllun torri costau £30 miliwn, gyda'r posibilrwydd y bydd mwy o staff yn gadael ar ben y 342 sydd eisoes wedi gadael. Mae rhywbeth yn amlwg yn mynd o'i le.
Fel y gwyddom, penderfynodd Llywodraeth Lafur y DU wneud newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sydd, heb amheuaeth, wedi cael effeithiau mawr ar bob agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys ein prifysgolion. Mae amcangyfrifon cychwynnol yn dangos y bydd yn arwain at £8.4 miliwn ychwanegol o gostau i brifysgolion Cymru o ganlyniad i'r cynnydd o 1.2 y cant, a chostau ychwanegol o rhwng £9 miliwn a £13 miliwn yn sgil y newidiadau i'r trothwy. Rhydd hyn amcangyfrif amodol o gyfanswm cost cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i brifysgolion Cymru yn unig o oddeutu £20 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill 2025.
Yn ystod Politics Wales y penwythnos diwethaf gwn fod y Gweinidog unwaith eto wedi ceisio ymwrthod â chyfrifoldeb trwy fynnu na fyddai arian ychwanegol ar gael, ond gadewch inni fod yn onest, pe bai'n fater o ymestyn Maes Awyr Caerdydd neu'r Senedd, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu tynnu ei llyfr sieciau allan yn ddigon cyflym. Mae'n ymddangos bod Gweinidogion bob amser yn dod o hyd i arian pan fydd yn gweddu i'w hagenda, ac mae'n warthus eu bod yn barod i droi eu cefnau ar ein sector addysg uwch.
Mae ymchwil gan Ysgol Economeg Llundain yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi ym mhrifysgolion Cymru, ac mae'n amcangyfrif bod cyfanswm effaith economaidd flynyddol prifysgolion Cymru ar y DU yn 2021-22 yn unig oddeutu £10.97 biliwn. Nid yn unig hynny, ond am bob £1 filiwn o fuddsoddiad cyhoeddus mewn prifysgolion, mae'r budd i'r economi'n £13.1 miliwn. Nid yw'n swm bach.
Fel y dywedais, cafwyd rhybuddion fod y pwysau ariannol mawr hwn yn wynebu ein prifysgolion ers tro bellach, ac mae'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion Llafur yn y lle hwn wedi bod yn cysgu wrth eu desgiau. Gofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog yn ystod y cwestiynau amserol yr wythnos diwethaf ac rwy'n ei ofyn eto, am fy mod yn teimlo ei bod wedi methu ei ateb: o gofio bod unrhyw fudd o godi ffioedd dysgu wedi'i ganslo gan y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau y bydd mwy o gefnogaeth i'n prifysgolion yn y gyllideb sydd i ddod?
A phan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl hon, hoffwn gael diweddariad ar ba drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU yng ngoleuni unrhyw newyddion yn ymwneud â Phrifysgol Caerdydd. Y cyfan y mae Gweinidogion Llafur wedi'i wneud yw torri cyllid i Brifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae'n £3.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig, ac yn ddi-os mae'r toriad yn y gyllideb o £11 miliwn a wnaeth Llywodraeth Cymru i addysg uwch yn 2024-25 wedi ei gwneud hi'n anos i brifysgolion gyflawni eu gweithgareddau craidd.
Wrth droi eu cefnau ar brifysgolion Cymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi peryglu'r cyfleoedd addysgol i'r rhai sy'n dymuno astudio a gweithio yma yng Nghymru yn y pen draw. Ni all Llywodraeth Cymru gefnu ar ein prifysgolion, sy'n rhannau annatod o'n gwlad, yn eu hawr o angen. Rhaid cymryd camau—yn y tymor byr, o leiaf—i fynd i'r afael â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu, a thrafod gyda phenaethiaid prifysgolion i ddyfeisio strategaeth sy'n gadarn ar gyfer dyfodol ein prifysgolion yng Nghymru, a chynnwys Medr yn rhan o hynny, fel soniodd fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell. Mae Gweinidogion Llafur wedi bod wrth y llyw yma ers 26 mlynedd bellach. Mae'n bryd ysgwyddo rhywfaint o atebolrwydd am eich gweithredoedd eich hun, neu'n hytrach, eich diffyg gweithredu. Diolch, Lywydd.
Hoffwn ddatgan buddiant, gan fod fy mab-yng-nghyfraith yn gweithio yn y brifysgol, ac fe wneuthum ddiploma gwaith cymdeithasol yno.
Rwy'n falch iawn o'r cyfle i drafod y mater hwn heddiw. Ers imi gael cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf ar Brifysgol Caerdydd, rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau a chynrychiolwyr undebau llafur eraill. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r academyddion a'r myfyrwyr o nifer o'r gwahanol ysgolion a gaiff eu heffeithio gan y bygythiad i swyddi ac uno ysgolion. Roeddwn hefyd yn falch o siarad â staff ar risiau'r Senedd ddoe. Rwy'n credu bod lefel y trawma sy'n cael ei deimlo gan bawb sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd—ac fel y dangosir yn yr ymateb gan bob plaid yma yn y Siambr—yn dangos pa mor ddwfn y teimlwn am y prifysgolion a pha mor bwysig yw dyfodol Caerdydd i bob un ohonom.
Rwyf am ystyried rhai o'r sylwadau a'r wybodaeth a roddwyd i mi gan y bobl rwyf wedi'u cyfarfod. Fel y gwyddom i gyd, mae pob aelod o staff academaidd yng Nghaerdydd wedi cael rhybudd fod eu swydd dan fygythiad, sydd wedi achosi ansicrwydd mawr ledled y brifysgol gyfan. Maent yn dweud nad ymgynghorwyd â'r uwch dîm arweinyddiaeth ym mhob ysgol ar y cynigion cyn eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf. Clywodd llawer o fyfyrwyr am y toriadau swyddi a chau ysgolion ar y newyddion, ac roedd y myfyrwyr y siaradais â hwy'n bryderus iawn am eu cyrsiau ac yn ansicr beth oedd yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Nid oes gwybodaeth a data allweddol wedi'i ryddhau eto i bobl allu ymateb yn llawn i'r ymgynghoriad, ond mae'r cloc 90 diwrnod eisoes wedi dechrau tician. Dywedwyd wrthyf ei bod yn ymddangos bod y data a ddefnyddiwyd i wneud rhai o'r penderfyniadau hyn wedi dyddio neu'n fympwyol. Wrth gwrs, caiff rhai swyddi ymchwil yn y brifysgol eu hariannu ar y cyd rhwng y GIG a'r brifysgol, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i hyn.
Ddydd Llun, cyfarfûm â thri etholwr sy'n staff academaidd yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ac mae eu hysgol yn wynebu cael ei huno ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Dyma'r unig ysgol gynllunio achrededig yng Nghymru, ac maent yn bryderus iawn am ganran y staff a gaiff eu colli o'r adran honno. Mae llawer o'r gwaith a wnânt yn bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ac mae'n cyd-fynd yn agos â'n gwerthoedd. Hefyd, mae nifer sylweddol o staff academaidd a phroffesiynol ar fisâu gwaith, ac mae'n rhaid iddynt fod mewn cyflogaeth amser llawn. Oherwydd hyn, ni chânt leihau eu horiau heb iddo effeithio ar eu fisâu, ac os collant eu swyddi yn gyfan gwbl, mae'n debygol y bydd rhaid iddynt adael Cymru.
Cefais wybod hefyd fod y brifysgol wedi cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl i staff sydd mewn perygl o gael eu diswyddo i helpu wrth iddynt gael y llythyrau sy'n dweud eu bod yn wynebu risg o gael eu diswyddo. Fodd bynnag, pan fydd aelodau o staff yn cysylltu â'r gwasanaethau hyn, cânt wybod nad oes lle iddynt tan fis Mawrth, sy'n bilsen chwerw i'w llyncu pan fo cymorth yn cael ei gynnig, ac nad yw yno pan fyddant yn gofyn amdano. Mae mater y campws yn Kazakhstan hefyd wedi codi yn y trafodaethau, ac unwaith eto, dywedwyd wrthyf fod rhai aelodau o staff wedi cael cyfarwyddyd i baratoi i addysgu yno o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Felly, mae'n ddarlun trist iawn yn y brifysgol. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod yn rhaid gwneud rhywbeth, fod yna argyfwng cyllid, a bod argyfwng cyllid ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n credu bod rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â hyn ddefnyddio'r cyfnod ymgynghori i wneud popeth yn ein gallu i ddod o hyd i ateb gwell na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Oherwydd mae'r holl bobl y siaradais â hwy wedi dweud eu bod yn credu bod rhaid gwneud rhywbeth am y cyllid ym Mhrifysgol Caerdydd, ond teimlant eu bod wedi'u cau allan o'r broses, na fu unrhyw ymgais i gydgynhyrchu, a bod goblygiadau'r hyn sy'n cael ei gynnig mor niweidiol i Gaerdydd ac i Gymru.
Mae'r ddadl hon wedi gwneud inni sylweddoli pa mor hanfodol yw ein prifysgolion i'n datblygiad economaidd, er lles ein dinas, a phopeth a ddaw yn sgil prifysgolion, yn ogystal ag i'r myfyrwyr a'r athrawon, a'r cyfoeth a'r creadigrwydd y maent yn eu cynnig i ddinas Caerdydd. Mae'r pethau hyn yn werthfawr, ac rwy'n gobeithio y bydd y cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i well ateb fel nad ydym yn colli cymaint o bethau sydd mor hanfodol bwysig.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd yr RCN eu hadroddiad diweddaraf ar ofal yn y coridor, arfer hynod beryglus a chwbl annerbyniol sy'n dod yn fwyfwy amlwg yn ein system iechyd. Tra bod yna amryw o ffactorau wedi arwain at y sefyllfa hynod bryderus yma, yn ddi-os, prinder nyrsys ydy un o'r ffactorau mwyaf amlwg. Rydyn ni'n gwybod yn barod bod Cymru'n brin o tua 2,000 o nyrsys ar hyn o bryd. Yn ddi-os, felly, bydd cau ysgol nyrsio Prifysgol Caerdydd, un o ysgolion nyrsio gorau'r Deyrnas Gyfunol, yn gwneud pethau'n waeth. A beth ydy ymateb y Llywodraeth? I olchi eu dwylo o'r cyfan, gan edrych i ffwrdd a dweud nad oes a wnelo nhw ddim byd â'r peth.
Rwy'n derbyn bod y brifysgol yn endid annibynnol o'r Llywodraeth, ond mae gan y Llywodraeth yma strategaethau, targedau, ac, yn wir, deddfwriaeth mewn lle sy'n ddibynnol ar gael niferoedd digonol o nyrsys. Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner craidd, felly, wrth ddelifro ar yr addewidion yma. Ddoe, fe wnaethon ni drafod nyrsys o Kerala. Allwch chi ddim dibynnu ar ddenu nyrsys o dramor mewn niferoedd cynyddol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal Cymru. Mae hyfforddi nyrsys yma yn fwy effeithiol ac yn rhatach yn yr hirdymor, felly mae dyletswydd ar y Llywodraeth i sicrhau bod gennym ni'r gallu i wneud hynny.
Ac yn fwy na hynny, mae hi'n ysgol ragorol. Fel y dywedodd Helen Whyley, pennaeth yr RCN yng Nghymru, mae gan yr ysgol enw da iawn ymysg y proffesiwn, ac wedi datblygu record lwyddiannus o sicrhau bod y sawl sy'n astudio yno yn aros i weithio yng Nghymru. Hon, wedi'r cyfan, ydy un o'r ysgolion nyrsio gorau yn y Deyrnas Gyfunol. Gall y Llywodraeth yma na Chymru ddim fforddio ei cholli hi.
Yr hyn sy'n synnu rhywun ydy dim ond y flwyddyn ddiwethaf fe fuddsoddodd y brifysgol dros £20 miliwn er mwyn agor campws newydd Heath Park West ar gyfer nyrsio. Felly, os nad ydy'r Llywodraeth yn medru sicrhau dyfodol beth ddylai fod yn un o'r asedau mwyaf gwerthfawr i ymateb i argyfwng yn ein gweithlu iechyd, pam ddylen ni gael unrhyw ffydd yn eu harweinyddiaeth a'u stiwardiaeth o'r NHS?
Mae'n gwbl angenrheidiol, felly, ein bod ni'n derbyn asesiad y Llywodraeth am sut maen nhw'n bwriadu cynnal lefelau hyfforddi nyrsio yng Nghymru heb ddefnydd ysgol nyrsio orau Cymru a'r pumed orau yn y Deyrnas Gyfunol cyn gynted â phosib, oherwydd mae'n rhaid dweud bod eich record dros y ddegawd ddiwethaf, hyd yn oed gyda'r manteision amlwg y mae'r ysgol yng Nghaerdydd yn eu cyfleu, ddim yn ysbrydoli llawer o hyder.
Mae yna gwestiynau mawr i'w gofyn hefyd ynglŷn â'r modd y cafodd y newyddion hyn ei gyhoeddi. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cwrs nyrsio'r Brifysgol yn cael ei ddarparu drwy gontract sydd gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd i fod i redeg tan 2027. Fe ddylai unrhyw newidiadau sylweddol i delerau'r cytundeb yma, gan gynnwys y lleoliad a'r goblygiadau o ran adnoddau i staff a myfyrwyr, felly gydymffurfio â chyfraith caffael cyhoeddus a Deddf Cystadleuaeth 1998.
Mae dyletswydd ar brifysgolion Cymru hefyd i ystyried diogelu dysgwyr a lles staff yng nghyd-destun unrhyw drafodaethau ar newidiadau i drefniadau cwrs. Ond wrth glywed rhai o'r sylwadau sydd wedi dod allan dros y diwrnodau diwethaf gan staff a myfyrwyr, heb sôn am yr undebau perthnasol, mae'n amlwg na wnaeth y brifysgol ymgysylltu ac ymgynghori yn ddigonol gyda'r grwpiau yma ynglŷn â'r newidiadau.
Mae'n hanfodol edrych mewn i hyn, ac mae angen i'r Llywodraeth fod yn gwbl dryloyw ynghylch faint roedden nhw'n ei wybod, a phryd. Rydym ni wedi derbyn adroddiadau credadwy iawn bod y brifysgol wedi bod yn sôn yn breifat am roi'r gorau i'w contract i ddarparu cyrsiau nyrsio ers peth amser—yn groes i'r rheolau caffael y soniais i amdanynt yn gynharach. Felly, unai doedd y Llywodraeth wirioneddol ddim yn ymwybodol o'r ystyriaethau yma tan y funud olaf—sy'n awgrymu bod eu perthynas gyda'r brifysgol yn hollol ddiffygiol—neu roedd gan y Llywodraeth syniad bod symudiadau ar droed yn gynharach nag y maen nhw wedi cyfaddef, ond heb wneud dim. Os felly, beth mae hyn yn ei ddweud am ymrwymiad y Llywodraeth yma i nyrsio yng Nghymru? Felly, pa un ydy o? Diolch.
Os caf ymdrin yn gyntaf â phwynt a wnaed yn gynharach, oherwydd roedd yn un pwysig. Pan edrychwn ar y problemau ariannol sy'n wynebu ein prifysgolion, nid wyf yn meddwl bod unrhyw ffordd y byddwn i eisiau mynd ar drywydd cyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i'n myfyrwyr o ran eu dyheadau ac yn y blaen. Rwy'n credu mai ceisio cyfyngu ar eu cyfleoedd yw'r ffordd hollol anghywir o'i wneud.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Newydd ddechrau rwyf i. Rhowch—
Dim ond ar y pwynt hwnnw. Fe glywn yn aml oddi ar y meinciau Llafur, 'Beth y byddech chi'n ei dorri? Sut y byddech chi'n ailflaenoriaethu?' Dyma un o'r adegau hynny. Rydym yn credu y dylem gynyddu cyfranogiad yng Nghymru i wella sefydliadau Cymru. Ac yna os oes gennym arian i wneud y gweddill, yna iawn.
Wel, os mai eich neges chi i'r holl fyfyrwyr uchelgeisiol yng Nghymru yw, 'Rydym yn mynd i gyfyngu ar eich dewis a chyfyngu ar ble y gallwch fynd', rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n hollol anghywir ac nid yw'n cyfrannu at broblem lawer dyfnach.
Fe wyddom fod yna broblem hirdymor. Rydym wedi cael 14 mlynedd o gyni, ac rydym yn gwybod am yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar addysg uwch ar draws y DU. Fe wyddom fod problemau gyda'r model cyllido ac mae angen mynd i'r afael â hwy. Cafwyd problemau yn sgil y polisi mewnfudo hefyd, sydd wedi cael effaith amlwg ar brifysgolion, ac mae mater cyllid yr UE, sydd wedi'i golli, wedi cael effaith hefyd, a'r anawsterau o ran ymchwil.
Rwy'n cofio yn ôl yn y 1970au, ac efallai y bydd eraill yn cofio hefyd, fod mater myfyrwyr tramor yn un lle teimlem, hyd yn oed ar y pwynt hwnnw wrth iddo ddechrau, fod defnyddio myfyrwyr tramor fel rhyw fath o ariannwr i'r system addysg yn gyffredinol yn rhywbeth a oedd yn hollol anghywir. Ac rwy'n credu ei bod yn anffodus ei bod yn nodwedd mor sylweddol, ac mae'n siŵr mai cynrychioli heriau cyni dros y 14 mlynedd diwethaf yn benodol a wna, ond rwy'n derbyn ei fod yn mynd yn ôl yn llawer pellach na hynny. Ac nid oes amheuaeth fod angen adolygiad ar gyfer Cymru gyfan, ac adolygiad sy'n effeithiol o ran ein rhyng-gysylltedd â system gyfan y DU. Felly, rwy'n croesawu dewisiadau sy'n cael eu gwneud nawr, neu drafodaethau sy'n digwydd nawr i geisio mynd i'r afael â'r rheini. Adolygiad trylwyr cyffredinol, ac mae hynny'n rhywbeth, unwaith eto, y gall Llywodraeth Cymru arwain arno o ran yr is-gangellorion a'r prifysgolion yng Nghymru fel rhan o'r broses honno.
Ond roeddwn eisiau gwneud un pwynt: fe wyddom fod yna her, ac fe wyddom ei bod hi'n her y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Ond mae'r ffordd y mae'r brifysgol wedi mynd ati, drwy ddull 'sioc sydyn'—mae'n ymddangos i mi fel rhywbeth sy'n chwalu'r holl broses partneriaeth gymdeithasol yr ydym wedi ceisio ei datblygu yng Nghymru, lle rydym yn gweithio gyda'n gilydd, rydym yn gweithio gyda'n gilydd gyda'r brifysgol, y rhai sy'n gweithio ynddi, a'r myfyrwyr yn ogystal. Mae'n eithaf trasig fod hynny'n rhywbeth sydd bron wedi cael ei anwybyddu gan aelod o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen ei gymryd o ddifrif, a pham fy mod yn credu bod awgrym TUC Cymru o gyfarfod brys o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn sicr yn rhywbeth a oedd yn werth ei ystyried.
Rwyf wedi cael llawer o negeseuon gan etholwyr i mi y mae hyn yn effeithio arnynt ac sy'n ofidus iawn. Dyma un neges a gefais gan unigolyn a oedd eisiau bod yn ddienw: 'Mae'r llanast technocrataidd canoledig hwn wedi cael ei yrru gan fiwrocratiaid yn y canol. Yn sicr, nid yw wedi ei gyd-greu, fel y mae'r is-ganghellor yn honni. Mae'n rhoi'r holl bŵer i dri choleg canolog y brifysgol ac yn tanseilio penaethiaid ysgolion sydd, rwy'n awgrymu, yn agosach at heriau arwain a recriwtio.'
Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n crynhoi problem sylfaenol—fod yna ymgais i ad-drefnu'n weddol radical gyda chanlyniadau dinistriol iawn, nad yw'n gynnyrch ymgysylltu na strategaethau hirdymor sy'n cynnwys naill ai'r holl gyfranogwyr mawr, ond Llywodraeth Cymru hefyd. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna sydd angen mynd i'r afael ag ef, a dyna'r cyfraniad mawr y credaf fod yn rhaid i ni ei wneud nawr o ran datblygu ac achub y blaen ar sefydlu'r strategaeth honno, i edrych ar ein haddysg uwch yn fwy hirdymor, ei chynaliadwyedd, yr hyn rydym am iddi ei wneud, sut y dylai wneud hynny, yng Nghymru, ond hefyd yn rhan o system addysg uwch ehangach ledled y DU. Diolch, Lywydd.
Nid oes dianc rhag y ffaith bod y newyddion a ddaw o'r sector addysg uwch yn peri pryder, a'i fod yn ddifrifol. Nid prifysgol fwyaf Cymru yn unig yw Prifysgol Caerdydd ond sefydliad cenedlaethol sydd bellach yn wynebu dyfodol ansicr. Cyn y Senedd, sefydliadau fel prifysgolion, fel yr amgueddfa genedlaethol a sefydliadau diwylliannol eraill, oedd yn rhoi inni ein hymdeimlad o genedligrwydd. Y rhain oedd conglfeini ein balchder yn ein hunaniaeth Gymreig ar adeg pan oedd y syniad o Gymru dan ymosodiad. Roedd ein sefydliadau diwylliannol ac addysgol yn diffinio Cymru ac roeddent i gyd yn chwarae rhan ganolog yn dod â ni at y pwynt hwn nawr, lle mae'r syniad o genedligrwydd Cymreig yn ffaith. Ac eto, dyma ni'n eu gwylio'n erydu.
Yn achos Prifysgol Caerdydd, mae'n arbennig o ddolurus, nid yn unig oherwydd mai hi oedd fy mhrifysgol i, ond fel llawer o brifysgolion yng Nghymru, ni chafodd ei sefydlu gan elît cyfoethog na'r dosbarth gwleidyddol, fe'i sefydlwyd gan weithwyr a oedd eisiau bywyd gwell i'w plant. Talwyd amdani gan y bobl, ar gyfer y bobl. Dyna pam y gwelwch furluniau o weithwyr wedi'u hysgythru i'r garreg ar y prif adeilad. Nawr, ni allaf gael gwared ar y teimlad, gyda phob trychineb sy'n digwydd, o Tata i'r hyn sy'n digwydd yn ein prifysgolion nawr, ein bod yn cael ein gwanhau fel cenedl, gan ein gwneud yn agored i'r rhai sy'n gwrthwynebu'r syniad o Gymru allu ein llorio.
Nawr, mae gennyf barch mawr at y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud ar y lwfans cynhaliaeth addysg yn dangos i mi ei bod yn deall pa mor bwysig yw sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at addysg, ond rydym mewn sefyllfa erbyn hyn, onid ydym—ac mae hwn yn deimlad sydd gan bobl allan yno—lle mae safbwynt y Llywodraeth bron yn union yr un fath â'i hymateb i Tata: 'Dim byd i'w wneud â ni, rheoli'r canlyniadau'n unig a wnawn ni'. Y teimlad sy'n cael ei gyfleu i mi gan etholwyr yw bod Llywodraeth Cymru, yn hytrach na chamu i mewn i ddiogelu sefydliadau hanfodol, yn fodlon goruchwylio dros eu dirywiad yn unig, a thawelwch a gawsom o du Llywodraeth y DU. Mae pobl eisiau gweld gweithredu, oherwydd gallai'r argyfwng economaidd fod yn enfawr. Am bob £1 o incwm ymchwil a ariennir yn gyhoeddus, mae gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth prifysgolion Cymru yn cynhyrchu tua £7.60 o effaith economaidd. Am bob £1 o gyllid cyhoeddus i'w gweithgareddau addysgu, mae prifysgolion Cymru'n cynhyrchu tua £13.60 o effaith economaidd. Felly, mae'n allweddol ein bod yn dod o hyd i atebion. Ac mae yna atebion. Mae Cefin wedi nodi rhai ohonynt. Mae eraill i'w cael ym maes ymchwil ac arloesi. Nawr, fe ddywedodd Richard Wyn Jones—ac rwy'n datgan buddiant; ef oedd fy narlithydd a fy nhiwtor ar gyfer fy ngradd Meistr—
'Er ei bod yn llawn dyhead—ac yn llwythog o ystrydebau',
mae strategaeth arloesi bresennol Llywodraeth Cymru,
'yn cilio rhag cydnabod... y ffactorau sy'n cyfrannu at danberfformiad cronig'
sector addysg uwch Cymru,
'ac yn methu'n llwyr â rhoi syniad o'r hyn y cred y llywodraeth y dylai llwyddiant ei olygu na sut i'w gyflawni.'
Dadleuodd hefyd fod strategaeth arloesi Cymru yn cymharu'n wael yn erbyn enghreifftiau rhyngwladol eraill, yn enwedig un Iwerddon. Felly, mae yna ateb ymhlyg yma, onid oes? Mae angen strategaeth arloesi well, un gynhwysfawr a chlir arnom, wedi'i chydgynhyrchu gyda'r sector addysg uwch.
Hefyd, mae angen inni fynd i'r afael â sector arall o economi Cymru sydd heb ei ariannu'n ddigonol. Mae Cymru'n ennill tua 3.1 y cant o gyfanswm cyllid ymchwil ac arloesi y DU bob blwyddyn, tra bo ganddi 5.9 y cant o boblogaeth y DU—bwlch o tua £153 miliwn y flwyddyn. Nawr, rydym wedi galw am ddatganoli cyfran Cymru o gyllid ymchwil i helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, ond yn y cyfamser, mae angen inni gefnogi ein sefydliadau addysg uwch i gystadlu'n well am eu cyfran deg. Mae cyllid ymchwil o ansawdd da yn rhoi sylfaen i brifysgolion i sicrhau'r cyllid allanol hwnnw. Felly, am y rheswm hwn, roedd adroddiadau Reid a Diamond yn argymell cynnal ymchwil o ansawdd da ar £71 miliwn y flwyddyn mewn termau real. Fodd bynnag—ac mae'n bwysig ystyried hyn—er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad, dim ond mewn un flwyddyn ariannol yn unig y cafwyd cyllid cyfatebol ymchwil o ansawdd da o £71 miliwn mewn termau real ers 2016. Felly, fan lleiaf, dylid adfer cyllid ymchwil o ansawdd da yng Nghymru i'r £71 miliwn y flwyddyn mewn termau real a argymhellir gan Reid a Diamond. Lywydd, mae'r sefyllfa'n enbyd ond nid yw'n anochel, ac mae angen gweithredu.
Rwy'n credu y gallai pobl ar feinciau Plaid Cymru ddysgu llawer gan Luke Fletcher, oherwydd er nad oeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd, roedd yn llawer llai culfrydig na'r cyfraniad gan Cefin Campbell, ac rwy'n teimlo y gallech ddysgu llawer gan Luke yn y ffordd y mae'n gwneud ei gyfraniadau. Mae angen imi wneud datganiad o fuddiant o dan Reol Sefydlog 13.8A—[Torri ar draws.] Fe fyddwch chi eisiau gwrando ar hyn. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn bartner i mi, ac yn bwysicach efallai, fel aelod o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ers 25 mlynedd, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant hefyd fy mod yn parhau i fod yn aelod, ac rwy'n gyn-ddarlithydd ac uwch ddarlithydd mewn dau sefydliad dros 16 mlynedd. Felly, nid ar safbwynt y Gweinidog y mae fy nadansoddiad yn seiliedig ond ar fy nghyfraniadau a fy mhrofiad yn y sector a thrafodaethau manwl a gefais dros yr wythnosau diwethaf gydag academyddion yn y sector, yn enwedig ym Mhrifysgol Caerdydd a'r pethau y maent wedi'u dweud wrthyf am y llwybr trychinebus a ddewiswyd gan arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Fel rydym eisoes wedi clywed, mae'n amlwg fod y sector addysg uwch yn wynebu heriau digynsail y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, barhau i fynd i'r afael â hwy, ac rwy'n credu eu bod yn gwneud hynny. Ond mae teimlad ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ym Mhrifysgol Caerdydd gan y penderfyniadau hyn fod Prifysgol Caerdydd yn canolbwyntio'n llwyr ar fynd ar drywydd statws lefel elitaidd trwy gynyddu cystadleuaeth am leoedd a rhoi diwedd ar gyrsiau fel nyrsio sy'n ehangu cyfranogiad mewn gwirionedd, ac yn gwbl groes i'r egwyddor y'i sefydlwyd arni fel y soniodd Luke Fletcher.
Fe wyddom o ymchwil fod sefydliadau elît yn debygol o ddyfnhau grym, cyfoeth ac anghydraddoldeb presennol, ac fe ddywedodd yr holl academyddion y siaradais â hwy—pob un ohonynt—fod y cyd-destun addysg uwch heriol ehangach yn berthnasol i'r cynlluniau y mae Caerdydd wedi'u datgelu, ond bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei defnyddio i guddio eu hagenda strategol elitaidd. Mae mwy yn digwydd yma na'r hyn a welir yng nghynnig Plaid Cymru. Ac maent yn gwneud hynny drwy dorri ac uno cyrsiau. Mae'r strategaeth hon yn anfaddeuol. Mae prifysgol lai yn fwy tebygol o ddod yn brifysgol elitaidd. Ddoe, clywais fod yr is-ganghellor wedi dweud wrth staff fod cyngor y brifysgol wedi bod yn pwyso arni ers peth amser i adfer arian. Pe bai hynny wedi digwydd trwy ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn anghyfyngedig o £0.5 biliwn a gadwent, gellid bod wedi osgoi llawer o'r boen. Mae arbedion yn cronni dros amser. Pam na wnaeth yr is-ganghellor weithredu'n llawer cynt ac yn fwy graddol, gan ddod â staff gyda hi? Pam na wnaeth cyngor y brifysgol bwyso'n galetach arni? Beth y mae hyn yn ei ddweud am ein systemau llywodraethu prifysgolion? Ac os ydym yn mynd i edrych ar unrhyw beth yn y tymor byr, dylid edrych ar y system lywodraethu prifysgolion sy'n caniatáu i'r sefyllfaoedd hyn godi. Heddiw, clywn fod Undeb Prifysgolion a Cholegau Caerdydd yn bwriadu symud ymlaen â phleidlais o ddiffyg hyder yn yr is-ganghellor a bwrdd gweithredol y brifysgol. Mae'n debyg mai dyna sy'n peri leiaf o syndod o'r holl bethau sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf.
Rwyf hefyd wedi cael etholwyr yn gohebu â mi. Dywedodd un aelod o staff, etholwr, sy'n cael ei gyflogi yn yr ysgol gwyddorau gofal iechyd, yn ei geiriau hi:
'Fel proffesiwn, er ein bod yn falch o ddarparu hanfodion sylfaenol gofal, roeddem hefyd yn rhedeg ein clinigau ein hunain, yn presgripsiynu i gleifion, yn cyflawni triniaethau llawfeddygol, asesiadau uwch a thriniaethau ac yn tynnu pwysau oddi ar feddygon oherwydd y prinder meddygon. Rydym yn gweithio ar y cyd ar draws nifer o feysydd iechyd a gofal cymdeithasol.'
Ac mae hi'n cyflawni hynny.
Cysylltodd etholwr arall â mi ynglŷn â'i phryderon am yr effaith ar fyfyrwyr nyrsio sy'n siarad Cymraeg, sydd bellach â llai o allu i hyfforddi.
Yn y cyd-destun gwleidyddol yn unig, rwy'n credu bod Plaid Cymru yn chwarae i mewn i strategaeth arweinyddiaeth Caerdydd trwy ganolbwyntio eu cynnig ar y problemau ehangach mewn addysg uwch, ac er bod rhaid inni eu trafod, ni ddylid gwneud hynny yng nghyd-destun penodol Caerdydd. Ac i fod yn deg, fe wnaeth Natasha Asghar ganolbwyntio ar y mater penodol hwnnw, ond nid yw wedi'i gynnwys yn ddigon manwl yn y cynnig. Mae yna amser yn sicr i drafod y problemau ehangach sy'n wynebu addysg uwch, ond os yw'r ddadl hon yn ymwneud â Chaerdydd, mae dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd yno'n brin iawn yn y Siambr heddiw. Nid yw staff a myfyrwyr yng Nghaerdydd ar yr adeg anodd hon eisiau i wleidyddion droi ar ei gilydd. Maent eisiau undod a chefnogaeth i ddatgelu'r penderfyniadau dideimlad hyn gan arweinyddiaeth Caerdydd am yr hyn ydynt a nodi atebion polisi neu ddeddfwriaethol i fynd i'r afael â gwendid trefniadau llywodraethu prifysgolion. Maent eisiau gwybod pam na welodd y brifysgol yr argyfwng hwn yn dod. Er y bydd sefydliadau addysg uwch eraill yn gwylio'n ofalus, y newyddion gwell hyd y gwn i yw nad oes cynlluniau cyfredol yn y lleoedd hynny—ac rwy'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion—i efelychu'r trywydd ofnadwy hwn.
Mae llawer yn cael ei wneud yng ngwelliant y Llywodraeth o bartneriaeth gymdeithasol, ac mae hynny'n hollol gywir. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau eisoes wedi galw anghydfod diwydiannol oherwydd gweithredoedd arweinyddiaeth Caerdydd, ac felly mae hi ychydig yn hwyr i siarad am bartneriaeth gymdeithasol. Rydym ar y trywydd tuag at weithredu diwydiannol a fydd yn boenus i staff a myfyrwyr, a heb os, bydd yn niweidio enw da Prifysgol Caerdydd, ond rwy'n sefyll gyda fy nghyd-aelodau o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau os mai dyna sydd ei angen i gael arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd i ddileu'r cynlluniau creulon hyn.
Wel, os ydym yn chwilio am rywfaint o gonsensws, gadewch inni weld Llywodraeth Cymru yn galw ar Brifysgol Caerdydd nawr fel y gwnaethoch chi, ac fe gewch chi gefnogaeth o'r meinciau hyn. Ond yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol yw pa mor wan yw ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod—[Torri ar draws.] Gall Llywodraeth Cymru ddiwygio cynigion hefyd, ac mae hynny ar goll yn y gwelliant. Felly, os ydym am weithio gyda'n gilydd, gadewch inni ofyn y cwestiynau anodd a chlywed y safbwyntiau'n glir gan Lywodraeth Cymru, oherwydd y cyfan a glywsom yw, 'Dim byd i'w wneud â ni'. Felly, rydym eisiau gweld heddiw—[Torri ar draws.] Na, rwyf am barhau â fy ateb. Rydym eisiau gweld cydweithio heddiw, ond hefyd rydym eisiau gweld ymateb gan Lywodraeth Cymru fel y mae etholwyr wedi bod yn galw amdano, oherwydd maent wedi bod yn cysylltu â mi, yn dweud, 'Rydym eisiau clywed mwy gan Lywodraeth Cymru.' Nid yw'n fater o, 'Gadewch inni weithio mewn partneriaeth gymdeithasol', heb ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd. Felly, rwy'n gobeithio y cawn weld ymateb cryf heddiw.
Rwy'n falch fod Luke Fletcher wedi ein hatgoffa pam y mae'r sefydliadau cenedlaethol hyn mor bwysig i'n hunaniaeth, ond mae'n ymwneud â mwy na'r gorffennol yn unig, onid yw? Mae'n ymwneud â'n presennol a'n dyfodol, a'r bylchau sgiliau sy'n dod o beidio â chael prifysgol, ac mae rhwydwaith Seren yn rhan o hyn. Dyma'r unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru. Os oes llai o gyrsiau, lle mae ein myfyrwyr sydd eisiau aros yng Nghymru yn mynd i fynd? Felly, os edrychwn ar y ffeithiau yma—[Torri ar draws.] Wel, ni fyddant yn cael eu cynnig yno, Mike. Rydych chi'n sôn am Fangor, ond nid yw honno'n brifysgol Grŵp Russell, O edrych ar rai o'r cynigion—
—dwi'n hynod o bryderus o ran y Gymraeg. Mi fyddwch chi'n gwybod bod rhai o’r cynigion hyn yn cadarnhau bod ysgol y Gymraeg yn wynebu toriadau i nifer y staff amser llawn a fydd yn gweithio yn yr adran, a bod lleihad mewn staff mewn adrannau eraill am beryglu’r gallu i gynnig cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynnig i uno Ysgol y Gymraeg gydag ysgolion eraill, gan gynnwys yr adran Saesneg, hefyd yn ergyd i statws yr iaith o fewn y brifysgol. Mewn ymateb i’r newyddion, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi datgan ei bod hi'n hollbwysig bod Prifysgol Caerdydd yn gwneud popeth yn ei gallu i warchod y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog helaeth sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd gyda chefnogaeth y coleg. Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb y camau y mae hi'n eu cymryd o ran hyn, gan bod y ddarpariaeth yn allweddol, wrth gwrs, o ran cyflawni strategaeth 'Cymraeg 2050'. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod yna ddyletswydd statudol ar Medr o ran y Gymraeg, felly mi fuaswn i'n hoffi gwybod pa drafodaethau sydd wedi bod gyda Medr i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu eu dyletswyddau statudol o ran yr iaith.
Os edrychwn ar yr hyn a gynigir ym maes ieithoedd modern a chyfieithu, mae Prifysgol Caerdydd yn darparu 62 y cant o'r holl raddau iaith yng Nghymru. Dyma enghraifft arall eto o pam ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddeall difrifoldeb y sefyllfa a'r effaith ehangach y bydd y toriadau hyn yn ei chael ar nodau Llywodraeth Cymru mewn meysydd eraill. Yn 2021-22, dim ond 30 o athrawon ieithoedd tramor modern a gafodd eu recriwtio yng Nghymru, 50 y cant yn brin o darged Llywodraeth Cymru. Felly, o ble y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r genhedlaeth nesaf o athrawon ieithoedd tramor modern ddod os nad yw Caerdydd yn cynnig cyrsiau iaith mwyach? Yn ogystal, o fewn yr adran hon yn y brifysgol mae tîm y prosiect mentora ieithoedd tramor modern, sydd wedi gweithio gyda dros 80 y cant o ysgolion uwchradd Cymru, yn ogystal â'r prosiect Caru Darllen—dau brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o newid agweddau myfyrwyr ysgol at ieithoedd modern, yn ogystal â hybu cyfraddau llythrennedd.
Felly, byddai'r cau yn chwalu ecosystem iaith sydd eisoes yn fregus a'r cyflenwad o athrawon iaith a chyfieithwyr yng Nghymru, gan arwain at ddiffyg sylweddol yn y ddarpariaeth iaith lefel gradd yn ne a de-ddwyrain Cymru, ac o ystyried bod sgiliau iaith yn ofyniad allweddol ar gyfer llwyddiant economi Cymru, dylai'r ffaith bod ein hunig brifysgol Grŵp Russell a'n prifysgol fwyaf yn methu hyfforddi a datblygu anghenion cyfieithu, dehongli a chyfathrebu gweithlu Cymreig cynyddol fyd-eang beri pryder i bawb ohonom. Ni ellir caniatáu iddo ddigwydd.
A phan fyddwn ni'n edrych ar gerddoriaeth—
—nid pwnc academaidd yn unig yw cerddoriaeth; mae'n sylfaen i'n hunaniaeth genedlaethol. Fel y dywedodd Ianto Williams:
'Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn hanes Cymru a diwylliant Cymru. Mae'n drac sain i'n bywydau.'
Dywedodd y cerddor a'r cyfansoddwr Syr Karl Jenkins, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd:
'Nid hyfforddi myfyrwyr trwy gerddoriaeth yn unig mohono, mae'n fuddsoddiad yn nyfodol diwylliannol ein gwlad.'
Mae yna fwy y gall y Llywodraeth hon ei wneud, mae yna fwy y dylai'r Llywodraeth hon ei wneud. Y cwestiwn mawr ydy: oes gan y Llywodraeth hon y gallu a’r dyhead i wireddu hyn?
Dechreuodd Cefin Campbell y ddadl drwy ddweud y gallai ac y dylai'r Llywodraeth wneud mwy, ond fel bob amser gyda Phlaid Cymru, mae arnaf ofn, maent yn galw am fwy o arian i un adran heb fod yn barod i wynebu cyfaddawdu mewn adrannau eraill, ac nid yw ymosod ar y Gweinidog, Vikki Howells, yn deg. Nid hi sydd ar fai am system addysg uwch sy'n frith o ddiffygion. Ac ni fyddai'n iawn mynd ag arian o rannau eraill o addysg ychwaith i lenwi bwlch mewn addysg uwch, a chofier mai buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yw'r un peth pwysicaf y gallwn ei wneud i wella cyfleoedd bywyd pobl Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen inni gamu'n ôl ychydig yma a gofyn y cwestiwn: beth yw pwrpas prifysgolion? Pa rôl sydd ganddynt i'w chwarae yn cyfrannu at y Gymru gryfach, decach a gwyrddach yr ydym am ei gweld?
Nawr, roeddwn yn rhan o'r genhedlaeth olaf i dderbyn grant cynhaliaeth. Roedd yn isel, ond roedd yn talu'r rhent, ac yn caniatáu i mi fod y cyntaf yn fy nheulu i fynd i brifysgol. Ers hynny a chyflwyno ffioedd dysgu, rydym wedi caniatáu i'r sector prifysgolion gael ei yrru gan rymoedd y farchnad, a chafodd rheolwyr prifysgolion, a gâi gyflogau gwirion o uchel yn aml, eu cymell i ddilyn yr arian. Mae addysgu ac ymchwil am Gymru, nad oedd erioed yn uchel ar yr agenda, wedi lleihau'n ddirfawr yn sgil y dull o ariannu addysg uwch sydd wedi'i yrru, ac rydym wedi gweld ymdrechion mwy a mwy dwys i gael ôl troed rhyngwladol, yn hytrach na meddwl am y rôl sydd ganddynt yn ein cymdeithas a'n heconomi.
Nawr, mae'n amlwg fod arweinyddiaeth bresennol Prifysgol Caerdydd wedi ymdrin â'r argyfwng diffyg arian yn wael iawn—
Cyn iddo barhau ar hynny, rwy'n ei ddilyn yn agos, rwy'n meddwl tybed a fyddai'n derbyn, serch hynny—rwy'n derbyn yn llwyr y feirniadaeth y mae newydd ei gwneud o gorfforaetholi, o farchnadoli a'r problemau llywodraethu y cyfeiriodd Hefin David atynt hefyd. Ond onid yw'n derbyn mai ein cyfrifoldeb ni fel deddfwyr yw hynny? Ni sy'n creu'r fframwaith polisi, ac felly er bod problemau penodol sy'n galw am sylw nawr o ran yr argyfwng, mae angen inni ddychwelyd at y problemau llywodraethu hyn, y fframwaith deddfwriaethol, ac mae angen inni wneud hynny'n gymharol gyflym.
Rwy'n cytuno â hynny, ac fe ddeuaf at hynny, ac mae gennym ni fel Senedd a'r Llywodraeth hon rôl yn y sector prifysgolion yng Nghymru yn sicr. Ond gadewch imi ddweud am y modd y mae Prifysgol Caerdydd yn ymdrin â'r mater ar hyn o bryd a'r hyn y darllenais fod cyfarwyddwr nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi'i ddweud heddiw, er gwaethaf yr holl rethreg nad oes unrhyw benderfyniadau yn derfynol a bod hyn yn destun ymgynghoriad. Maent eisoes wedi cael e-bost gan Brifysgol Caerdydd i ddweud na fydd mwy o gyrsiau nyrsio israddedig nac ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd. Nawr, mae hynny'n wael ac mae'n gibddall.
Ond roedd modd rhagweld y diffyg cyllid ac fe gafodd ei ragweld, ac nid Caerdydd yn unig—mae pob sefydliad addysg uwch arall yng Nghymru wedi bod yn gwneud diswyddiadau gwirfoddol yn dawel, ac rwy'n deall mai cam cyntaf yn unig yw'r 400 o swyddi yng Nghaerdydd, oherwydd mae model busnes sydd wedi'i adeiladu ar gynnal eu hadeiladau trwy recriwtio cymaint o fyfyrwyr rhyngwladol â phosibl yn swigen sy'n siŵr o fyrstio. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi ein prifysgolion a'n cymunedau, ond pan fydd y cyrsiau MBA ym mhrif ysgol fusnes Cymru yn llawn o fyfyrwyr Tsieineaidd ac Indiaidd, rhaid inni ofyn a yw rôl ddinesig ein system addysg yn cael ei gwasanaethu. Maent wedi colli eu ffordd fel lle sy'n meithrin ein myfyrwyr gorau a mwyaf disglair a dyfodol ein cymdeithas a'n heconomi. Mae dysgu'r elît Tsieineaidd yn ymddangos yn strategaeth gibddall iawn i mi.
Nawr, mae'n wir mai sefydliadau annibynnol yw'r rhain, ac mae'r rhan fwyaf o'r dulliau gweithredu yn nwylo Llywodraeth y DU, ond ein system addysg uwch ni yw hi, system yr ydym yn ei chynnal. Rydym yn gwario £1.2 biliwn bob blwyddyn o gyllidebau datganoledig ar ariannu myfyrwyr. Nawr, cost cyfle yw honno, gyda llawer ohoni'n llifo allan o Gymru. Roedd modd amddiffyn hynny mewn amseroedd gwell, ond ai dyma'r ffordd orau inni ddefnyddio adnoddau cyfyngedig pan fydd ein seilwaith prifysgolion sylfaenol yn cael ei ganibaleiddio? Nid ni sy'n rheoli'r holl ddulliau gweithredu, ond rydym yn rheoli rhai ohonynt, ac mae gennym ddewisiadau i'w gwneud.
Dwi'n datgan budd, Llywydd, gan fod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe ac yn aelod o UCU, ac roeddwn i’n arfer bod ar bwyllgor UCU ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn i’n gweithio yno.
Fel gwraig i athro prifysgol, gallaf ddweud wrthych nad wyf erioed wedi gweld cymaint o straen, rhwystredigaeth, dicter a phryder ynddo ef a'i gydweithwyr dros y 25 mlynedd y bu'n darlithio, ynglŷn â'r diffyg ffocws gan y Llywodraeth yma ac yn San Steffan, ynghylch y ffordd y mae'r gweithlu addysg uwch yng Nghymru yn cael ei fygwth, ei danseilio a'i danbrisio'n gyson.
Yr wythnos cyn i ni glywed y cyhoeddiad, y cyhoeddiad ysgytwol fod 400 o swyddi academaidd mewn perygl yng Nghaerdydd, mewn cwestiwn i'r Gweinidog fe'i hatgoffais fod y gweithlu addysg uwch wedi bod yn wynebu amodau difrifol ers blynyddoedd lawer o ganlyniad i ddiffyg gweithredu i gefnogi a diogelu'r cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud drwy ein prifysgolion. Siaradais am effaith ddinistriol cynlluniau diswyddo gwirfoddol flwyddyn ar ôl blwyddyn, cynlluniau a oedd yn amddifadu adrannau o arbenigedd a phrofiad, a'r rhewi cyflogau a achosai galedi a digalondid mawr. A nawr yr ergyd drom yn sgil y bygythiad o ddiswyddiadau gorfodol, a phob un ohonynt, wrth gwrs, fel y clywsom, yn effeithio ar ein myfyrwyr, ein henw da byd-eang a'n hamrywiaeth—amen i chi, Lee Waters—ein gallu i ddadansoddi a deall a gwybod pwy ydym a beth ydym ni a sut y gallwn symud ymlaen fel cenedl. Sawl gwaith y cyfeiriwyd at ymchwil ac arloesedd prifysgolion yn ein cyfraniadau yma? Ym mhob maes polisi, byddai'n anodd eu cyfrif i gyd pe baech chi'n chwilio drwy'r Cofnod. A'r hyn sy'n rhaid inni ei ddeall yw mai'r academyddion sydd wedi bod o dan y fath bwysau yw'r rhai sy'n gwneud y gwaith hanfodol hwnnw, sy'n dysgu cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn gwneud y gwaith hwnnw—gwaith sy'n galw am lawer iawn o ymroddiad a sgìl arbenigol a mewnwelediad. A'r hyn a welsom yr wythnos diwethaf, mewn cyferbyniad llwyr, yw'r modd y mae'r gweithlu'n dioddef baich methiant i sicrhau bod cyfraniad y gweithlu addysg uwch yn cael ei werthfawrogi a'i ariannu'n gynaliadwy.
Ond bob tro y nodais nad yw ffioedd myfyrwyr a chyllid cyfredol y Llywodraeth yn talu costau addysgu israddedigion, heb sôn am fynd yn agos at gefnogi ymchwil ac arloesi, fel y clywsom gan Luke Fletcher, cefais syndod o glywed Gweinidogion yn dweud mai rôl fach yn unig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae. Mae hwn yn sector mor hanfodol bwysig i ni yng Nghymru. Ac fe gollwyd cannoedd o ymchwilwyr talentog pan darodd effaith colli'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Oherwydd diffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth, rydym bellach yn colli cannoedd yn fwy o staff academaidd, a'r rhai sy'n cael eu gorfodi i adael—a gorfodir llawer o bobl i adael eu swyddi a derbyn y cynllun ymadael gwirfoddol; mae llawer o bwysau'n cael ei roi arnynt—pan fyddant yn gadael, byddant yn ei chael hi bron yn amhosibl dod o hyd i swydd debyg a fydd yn caniatáu iddynt barhau i gyfrannu eu harbenigedd, a bod o fudd i Gymru yn yr holl ffyrdd a nodwyd gennym.
Ac ni allwn anghofio'r effaith y bydd y toriadau hyn yn ei chael ar fyfyrwyr eu hunain ychwaith. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi dweud bod y toriadau'n peryglu ansawdd addysg, mynediad at wasanaethau a lles myfyrwyr. Ac mae'r diswyddiadau a'r toriadau i gyrsiau sydd wedi bod yn digwydd eisoes dros y blynyddoedd ar draws Cymru yn peryglu'r pethau hynny'n barod; mae'r opsiynau eisoes yn gyfyngedig.
Unwaith eto, codais yr angen yn flaenorol i fynd i'r afael ag un o'r ffactorau sy'n chwarae rhan yn yr argyfwng presennol: y dirywiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr. Gwelwyd gostyngiad o tua 50 y cant yn nifer y myfyrwyr tramor, diolch i bolisïau adweithiol annoeth Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ar amodau fisa, a barhawyd gan Lywodraeth Lafur y DU. Ond mae cyfran y ceisiadau gan ddysgwyr o Gymru i brifysgolion ar lefel hynod o isel; traean yn unig o'n dysgwyr sy'n sefyll arholiadau Safon Uwch erbyn hyn, o'i gymharu â 50 y cant yn Lloegr. Dim ond 11 y cant yw'r ffigur ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Felly, yn lle gwario £11 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf ar raglen sy'n annog myfyrwyr o Gymru i adael Cymru i astudio, credwn y byddai'n well gwario arian i ganolbwyntio'n llwyr ar gynyddu cyfranogiad dysgwyr Cymru a'r cyrsiau rhagorol a gynigir gan sefydliadau Cymru. Ac rydym am i Lywodraeth Cymru annog Llywodraeth Lafur San Steffan i wyrdroi'r newidiadau niweidiol a wnaed i fisâu ar gyfer myfyrwyr tramor.
Mae ymgais y Torïaid i ddileu'r rhan honno o'r cynnig yn adlewyrchu'n wael arnynt hwy a'u dealltwriaeth o bwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol, cyn inni weld y diwygio allweddol hwnnw i'r lefel gyllido, i'r sector yng Nghymru. Nid yw'r sefyllfa ariannol bresennol i brifysgolion yng Nghymru yn gynaliadwy, fel y mae Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru wedi nodi'n gyson. Y gweithlu a'r myfyrwyr sy'n ysgwyddo'r baich ac yn y pen draw, credwn mai Cymru a'i phobl sy'n talu'r pris. Diolch.
Nid rhywbeth sydd newydd godi yw'r anhawster yn ein system addysg uwch, fel y mae llawer o'r siaradwyr eisoes wedi'i ddweud. Er bod ehangder a dyfnder y toriadau creulon posibl yn frawychus, nid oedd y cyhoeddiad yn syndod. Mae Cefin Campbell a Natasha Asghar eisoes wedi tynnu sylw at enghreifftiau o doriadau a diffygion mewn prifysgolion eraill yng Nghymru, ac mae Sioned Williams wedi rhoi cyfrif personol o'r effaith ar ei gŵr a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Er bod cynnwys nyrsio—roedd yn peri dryswch i mi, oni bai, wrth gwrs, fod yr hyn y mae Hefin wedi ei ddweud wrthym yn gywir—. Ni allwn anghofio'r pynciau eraill, fel y gwnaeth Heledd ein hatgoffa. Ni allwn anghofio'r pynciau eraill am fod un pwnc yn peri'r fath ddryswch i ni.
Mae cael cymdeithas gytbwys, sy'n cynnwys arbenigwyr â gwybodaeth ddofn ar draws ystod eang o bynciau, yn hanfodol i wlad sy'n ffynnu. A gadewch inni gofio, fe wnaeth y pynciau a'r adrannau sydd mewn perygl yma ym Mhrifysgol Caerdydd greu pobl fel Martin Lewis a Karl Jenkins i Gymru, i'r Deyrnas Unedig ac i'r byd, yn ogystal â Bernice Reubens, y fenyw gyntaf i ennill gwobr Booker. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch am ildio. Wrth edrych ar y cyrsiau a fydd naill ai'n cael eu torri neu eu huno os yw'r cynigion hyn yn mynd rhagddynt yng Nghaerdydd, a ydych chi'n rhannu fy ngofid fod cymaint ohonynt yn bynciau yn y dyniaethau? Ac o ran pynciau yn y dyniaethau, os meddyliwn am gerddoriaeth, llenyddiaeth, ieithoedd, hanes, dyna'r union bynciau sy'n ein galluogi i ddeall o ble y daethom, maent yn caniatáu inni ddeall ein hunain a phobl eraill a sicrhau ein bod yn cael ein gwerthfawrogi. Maent yn cyfoethogi'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau, ein bywydau bregus. Onid yw hynny'n rhywbeth y dylem wneud popeth yn ein gallu i'w gadw?
Wel, rhoddodd Sioned Williams 'amen' i Lee Waters, ac fe eiliaf yr 'amen' i chi, Delyth Jewell. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Fe'n hatgoffwyd gan Sioned, wrth iddi sôn am ei gŵr, fod y toriadau hyn yn effeithio ar gymaint o bobl a'u teuluoedd. Cefais e-bost ddoe gan academydd a ddaeth i Gaerdydd o Aberdeen y llynedd, i gael swydd yn un o'r adrannau sydd bellach dan fygythiad. Fe symudodd i Gaerdydd, fe fuddsoddodd yng Nghymru, mae'r plant mewn addysg Gymraeg, maent yn dysgu Cymraeg a dyma sut rydym yn talu'n ôl iddynt. Fel y dywedodd Lee Waters mewn ffordd lawer mwy huawdl nag y gallaf i ei wneud, nid yw'r model presennol yn gynaliadwy. Rydym yn gofyn i'n myfyrwyr dalu mwy a mwy o arian a mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i ddyled, mae ein hacademyddion yn cael llai o dâl nag academyddion cyfatebol mewn gwledydd eraill Saesneg eu hiaith, ac er gwaethaf hyn i gyd mae ein prifysgolion yn dal i wynebu tyllau cyllidebol o filiynau o bunnoedd.
Roedd Cymru'n hwyr yn cael prifysgolion. Lywydd, babi yw Llanbedr Pont Steffan o'i chymharu â St Andrews a Bologna. Ni wireddwyd breuddwyd Owain Glyndŵr. Nid brenhiniaeth a roddodd brifysgolion i ni. Ond fel y dywedodd Cefin a Luke eisoes, i raddau helaeth, arian gweithwyr a'u teuluoedd a'u cafodd i ni, pobl a oedd eisiau bywyd gwell i'w plant a'u hwyrion, pobl a welai brifysgol fel parhad o'r ysgol. Nid oeddent yn gweld prifysgolion fel busnes nac fel ffordd o fynd i ddyled fawr.
Nawr, rwy'n derbyn bod storm berffaith wedi taro addysg uwch yng Nghymru. Clywsom am lawer ohonynt: Brexit, deddfau mewnfudo llym, cyni, COVID, argyfwng costau byw, y rhyfel yn Wcráin—mae'r rhain i gyd yn gweithio yn erbyn ein prifysgolion. A hefyd, fel y soniodd Lee Waters eisoes, mae angen i'r prifysgolion eu hunain ysgwyddo peth cyfrifoldeb am benderfyniadau ariannol gwael, am gostau rheoli chwyddedig. Nawr, nid wyf yn credu bod unrhyw un yma yn rhoi'r bai'n gyfan gwbl wrth ddrws Llywodraeth Cymru. Gallwn i gyd ddeall nad yw'r sefyllfa'n unigryw i Gymru. Ond rwy'n meddwl mai Sioned Williams a ddywedodd ddoe, o'i sedd, nad yw hyn yn unigryw i Gymru, ond mae'r sefydliadau hyn yn unigryw i ni yng Nghymru. Mae ein cymunedau'n dibynnu ar ein prifysgolion mewn ffordd nad yw'n wir am ddinasoedd prifysgol Lloegr. Er enghraifft, mae Abertawe yn llawer mwy dibynnol ar ei phrifysgolion na Birmingham neu Fanceinion er enghraifft. Chwaraeodd ein prifysgolion ran hanfodol yn y broses o ddatblygu Cymru fel cenedl, fel y dywedodd Luke eisoes, a nawr mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o'u cefnogi ar frys. Ni allwn ganiatáu i'r dirywiad barhau, gan mai dim ond un peth a fyddai'n digwydd o wneud hynny: bydd y sefyllfa'n gwaethygu, byddwn yn colli pobl dalentog, ac ni fydd gennym yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i wella. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl—Vikki Howells.

Lywydd, rwyf am ddechrau drwy fynegi fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant â'r staff yr effeithiwyd arnynt gan y cyhoeddiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n cydnabod y pryder y bydd y cynigion hyn yn ei achosi i staff a myfyrwyr. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cyfarfod â phob is-ganghellor, cynrychiolwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn y protestiadau ddoe ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, er mwyn deall ymhellach y pwysau sy'n wynebu'r sector ac archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth trwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae'r trafodaethau hyn, Lywydd, yn sgyrsiau sy'n adeiladu ar y ddeialog barhaus a gefais gyda'r sector ers imi gael fy mhenodi ym mis Medi. Rwyf wedi bod yn glir yn fy nghyfathrebiadau ag is-gangellorion fy mod yn disgwyl i sefydliadau lynu wrth egwyddorion partneriaeth gymdeithasol a gweithio mewn ysbryd o gydweithio gonest â'r undebau llafur a'r gweithlu yr effeithir arnynt ar unrhyw ailstrwythuro arfaethedig. Rwyf eisiau dweud wrth fyfyrwyr ac ymgeiswyr hefyd fod prifysgolion Cymru'n parhau i fod yn llefydd ardderchog i astudio ynddynt.
Lywydd, mae angen inni fod yn glir ynghylch yr heriau sy'n wynebu ein sector addysg uwch, ond rwyf hefyd am chwalu sawl camsyniad ynghylch cyflwr ariannol ein prifysgolion a chefnogaeth Llywodraeth Cymru iddynt. Nid yw ein prifysgolion yng Nghymru yn cael eu tanariannu. Mae data'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn awgrymu bod prifysgolion y DU ymhlith y rhai sy'n cael eu hariannu orau yn y byd. Ac o ran Cymru, mae dadansoddiad gan London Economics a gyhoeddwyd y llynedd wedi canfod nad yw'r incwm i brifysgolion fesul myfyriwr cartref amser llawn yn 2023-24 ond ychydig llai nag yn Lloegr. Yn allweddol, cynhaliwyd y dadansoddiad hwn cyn y cynnydd i'r cap ffioedd dysgu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ar ben hynny, wrth gynnwys grantiau cynhaliaeth myfyrwyr, dangosodd y dadansoddiad fod Llywodraeth Cymru yn darparu dwbl y cyfraniad at gost gyffredinol prifysgol o'i gymharu â Llywodraeth y DU, a hefyd yn darparu 20 y cant yn fwy o incwm i brifysgolion o'i gymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym wedi goruchwylio dros ddegawd o dwf sylweddol yn y sector prifysgolion yng Nghymru, a oedd, yn 2024, yn cyflogi 2,000 yn fwy o weithwyr amser llawn nag yn 2014, ac yn 2022-23, roedd dros 22,000 yn fwy o fyfyrwyr wedi'u cofrestru ynddynt nag yn 2014-15.
Ond mae angen inni fod yn onest hefyd: hyd yn oed pe baem yn torri grantiau i fyfyrwyr neu'n dargyfeirio cyllid oddi wrth y GIG, ysgolion neu lywodraeth leol i gynyddu cyllid i'n prifysgolion, fel y byddai rhai o'r Aelodau gyferbyn am inni ei wneud, byddai'n dal i fod angen i brifysgolion newid mewn ymateb i heriau allanol, yn enwedig y gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol, a cholli miliynau o bunnoedd o gyllid strwythurol yr UE, ac mae'r rhain yn heriau sy'n wynebu prifysgolion ledled y DU.
Mae'n hanfodol ailadrodd neges yr Athro Paul Boyle, is-ganghellor Prifysgol Abertawe a chadeirydd Prifysgolion Cymru, nad yw ein prifysgolion ar drothwy chwalfa ariannol, er gwaethaf yr heriau sy'n eu hwynebu. Yn wir, mae'n anghyfrifol fod rhai o'r Aelodau gyferbyn wedi awgrymu hyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Yn gyflym.
Rhywbeth arall a ddywedodd Paul Boyle ar Politics Wales, yr ymddangosoch chi arni hefyd mewn cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, oedd nad oedd erioed wedi gweld argyfwng ariannol o'r fath yn ei holl yrfa hir ym maes addysg uwch. Felly, roeddwn eisiau gwybod a oeddech chi'n mynd i gydnabod hynny. Ni allwch anwybyddu hynny.
Ydw. Rwy'n cydnabod hynny, Sioned, ac rwyf ar fin mynd ymlaen i siarad am hynny, gallaf eich sicrhau.
Felly, fel Llywodraeth, nid ydym yn cilio rhag yr heriau y mae ein prifysgolion yn eu hwynebu nawr, ac rydym wedi cymryd camau priodol a byddwn yn parhau i gymryd camau priodol yn ein meysydd cyfrifoldeb datganoledig. Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i godi ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd nesaf. Ynghyd â chynnydd mewn ffioedd yn y flwyddyn academaidd bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd hyn wedi darparu £36 miliwn ychwanegol mewn incwm ffioedd i'r sector. Ar ben hynny, rydym wedi gallu darparu cyllid grant ychwanegol o £10 miliwn yn ystod y flwyddyn i'r sector yn dilyn datganiad yr hydref. Rwy'n sicr fod Medr yn cyflawni ei ddyletswyddau'n ddiwyd fel rheoleiddiwr y sector ac yn darparu her briodol ac adeiladol o ran goruchwylio a monitro i sefydliadau ar gyflwr eu cyllid. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a darparwyr addysg uwch eraill sy'n darparu addysg nyrsio i ddiogelu hyfforddiant parhaus nyrsys yn ardal Caerdydd, ac rydym yn hyderus, drwy'r opsiynau sy'n cael eu harchwilio, y byddwn yn cynnal yr un nifer o leoedd nyrsio yn gyffredinol yn y rhanbarth.
Wrth edrych ymlaen, mae mwy y gallwn ac y byddwn yn ei wneud i sicrhau dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i addysg uwch yng Nghymru, un sy'n parhau cyfraniadau sylweddol ein prifysgolion i ddiwylliant, gwasanaethau cyhoeddus ac economïau lleol a chenedlaethol. Fel y dywedais eisoes, mae hwn yn uchelgais yr ydym yn ei rannu â Llywodraeth y DU. Dyna pam y cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau â Gweinidog sgiliau'r DU ddydd Llun i drafod sut y gall Llywodraethau Cymru a'r DU gydweithio ar ddiwygio addysg uwch.
Ond rydym hefyd yn cymryd y camau angenrheidiol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau presennol. Er gwaethaf ei rhinweddau niferus, mae'n dal yn iawn ac yn briodol ein bod yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau i Gymru o'n system ariannu myfyrwyr. Dyna pam ein bod wedi dechrau gwerthusiad o ddiwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr a bydd yn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol yn yr hydref. Byddaf hefyd yn gofyn i Medr ddechrau trosolwg o'r galw, y ddarpariaeth a dosbarthiad meysydd pwnc mewn addysg uwch yng Nghymru, ac i ystyried yr hyn y gallai fod ei angen i sicrhau y gall meysydd pwnc strategol bwysig barhau.
Yn olaf, rwyf am inni barhau i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio, ar gyfer ein myfyrwyr ein hunain a'r rhai o dramor, a dyna pam y gallaf gadarnhau heddiw y byddwn yn parhau i ariannu rhaglen Cymru Fyd-eang y tu hwnt i fis Gorffennaf am flwyddyn bontio arall. Bydd hyn yn parhau i gefnogi recriwtio rhyngwladol sydd mor hanfodol.
Mae Academi Seren wedi bod yn gweithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru ers blynyddoedd lawer, a byddaf yn gwahodd y prifysgolion hynny i ystyried eto pa rai o'u cyrsiau y credant y dylem fod yn canolbwyntio arnynt yng nghyd-destun y rhaglen hon. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cysylltiad cryf rhwng pob prifysgol yng Nghymru ac Academi Seren.
Hoffwn droi at ein prifysgolion eraill yng Nghymru yng nghyd-destun y cyrsiau y mae Caerdydd yn argymell eu cau. Cynigir nyrsio ym Mangor, Abertawe, Prifysgol De Cymru, Wrecsam a'r Brifysgol Agored. Cynigir cerddoriaeth gan Fangor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y Brifysgol Agored, ac yn bwysicaf oll wrth gwrs, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cynigir hanes yr hen fyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ieithoedd tramor modern gan Aberystwyth, Bangor, Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Brifysgol Agored, a chrefydd a diwinyddiaeth gan Fangor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Brifysgol Agored. Mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth o gyrsiau ar draws ein sefydliadau yng Nghymru.
Lywydd, yn groes i'r cynnig, mae ein system ariannu addysg uwch wedi gweld buddsoddiad a thwf sylweddol yn ein prifysgolion, diolch i system ariannu flaengar a gafodd ei chymeradwyo ar un adeg gan gynrychiolwyr yr holl brif bleidiau yn y Siambr hon. Mae ein prifysgolion bellach yn wynebu heriau ariannol oherwydd amrywiaeth o ffactorau allanol. Rydym eisoes wedi gweithredu sawl mesur i fynd i'r afael â'r heriau hyn, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phrifysgolion, Medr a Llywodraeth y DU i sicrhau llwyddiant parhaus ein sector prifysgolion. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol a chefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Cefin Campbell nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch o galon i bawb am eu cyfraniadau yma. Mae hon wedi bod yn ddadl bwysig iawn ac yn un yn sicr sydd yn ddylanwadol o ran mesur tymheredd y Siambr o ran ein cefnogaeth ni i’r sector.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau; ni allaf ymateb i bob un ohonynt, yn amlwg, gyda'r amser sydd gennyf. Ond hoffwn nodi ychydig o bwyntiau sydd wedi'u gwneud. Rwy'n credu bod angen trafodaeth onest a sgwrs am ddyfodol ein prifysgolion yng Nghymru. Mae angen trafodaeth onest am fodel ariannu sy'n gwbl anghynaladwy ar hyn o bryd. Gofynnodd Lee Waters gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â ble mae ein prifysgolion yn mynd yn y dyfodol, beth yw eu rôl ac a ddylai prifysgolion gydweithio mwy gyda'i gilydd. Mae'r rheini'n drafodaethau gwirioneddol aeddfed y dylem eu cael yn y lle hwn, ond oherwydd cyfyngiadau amser—. A chyda llaw, Lywydd, dylwn fod wedi datgan buddiant ar y dechrau un; mae fy merch yn fyfyrwraig yn y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, felly rwyf am gofnodi hynny. Ond hoffwn ganolbwyntio ar rai o'r ymatebion a glywsom gan y Gweinidog, ac rwy'n cyfeirio ati nid ar lefel bersonol, ond fel y llefarydd drwy gydol y cyfnod anffodus hwn i brifysgolion, llefarydd y Llywodraeth, a dyna'r cyd-destun y cyflwynaf fy sylwadau terfynol ynddo.
Yr hyn a welais, a'r hyn a welodd fy nghyd-Aelodau yma yn enwedig, yw nad yw realiti dadl Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'u rhethreg, a gadewch imi esbonio. Yn gyntaf, mae honiad wedi'i wneud heddiw fod y sector eleni wedi derbyn cyfanswm o £200 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Do, ond pan gaiff ei rannu ar draws wyth sefydliad, prin fod hynny'n cyffwrdd â'r ochrau o ran y diffyg sydd ganddynt ar hyn o bryd ac a fydd ganddynt yn y dyfodol. Felly mae angen inni fuddsoddi oherwydd ei bod yn adeg o argyfwng. [Torri ar draws.] Rydym yn deall ei fod ar draws y DU, ond rwy'n poeni am ein prifysgolion nawr. Mae angen buddsoddiad arnynt i'w cael allan o'r twll y maent ynddo nawr, fel y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Wedyn, yr honiad ein bod wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol iddynt yn sgil datganiad yr hydref. Nid yw hwn, yn ei hanfod, ond yn gwrthdroi'r toriad cychwynnol o £11 miliwn a wnaethoch i gyllideb y sector ar ddechrau blwyddyn ariannol 2024-25, felly dim elw yno. Yn drydydd, yr honiad a wnaed ar Politics Wales ddydd Sul fod y Llywodraeth, ac rwy'n dyfynnu, yn blaenoriaethu'r gyllideb addysg yn lle hynny. Nid wyf yn hollol siŵr beth y mae hynny'n ei olygu, oherwydd beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei feddwl yw'r 'A' yn AU? Os yw addysg yn cael blaenoriaeth, pam dod i stop yn 18 oed? Oni ddylai'r Llywodraeth flaenoriaethu addysg yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys addysg uwch?
Ac yna'r honiad fod prifysgolion yn sefydliadau ymreolaethol sydd ond yn derbyn 10 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Dyma gamddarlleniad o ddata'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae tua 50 y cant o incwm y brifysgol yn deillio o ffioedd dysgu. Nawr, onid yw'r Gweinidog yn ystyried mai arian cyhoeddus yw'r swm enfawr hwn gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sydd ei hun yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ei hun? Oni ellid defnyddio'r cronfeydd hynny—
Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'ch amser, Cefin Campbell.
Iawn, o'r gorau. Diolch, Lywydd.
Bydd angen i chi ddod i ben.
Rwyf am orffen drwy ddweud hyn. Felly, mae'r £22 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddileu gan gyfraniadau yswiriant gwladol.
Lywydd, fe wnaf orffen trwy ddweud hyn. Mae addysg yn ein DNA fel gwlad. Mae gan Gymru hanes balch o ddysgu, fel cenedl sy'n dysgu, ac er y gall prifysgolion ailfeddwl eu cynlluniau, rhaid i ni gefnogi swyddi wrth symud ymlaen, a'r myfyrwyr, wrth gwrs. Ni allwn adael i genedlaethau'r dyfodol gael eu hamddifadu o addewid y rhai a gyfrannodd—y glowyr, y gweithwyr fferm a'r chwarelwyr. Dyna sydd yn y fantol yma, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando. Nid yw gwneud dim yn opsiwn. Er mwyn parchu ein gorffennol—
Rwyf wedi bod hyd yn oed yn fwy hael.
—a gwarchod ein dyfodol, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros y cynnig. Diolch.
Iawn, fe ddown at hynny felly.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch fe wnawn ni symud i'r bleidlais gyntaf. Ac mae'r bleidlais gyntaf prynhawn yma ar eitem 6. Y bleidlais honno yw'r bleidlais ar ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Y Pedwerydd Adroddiad ar Bymtheg i'r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Hannah Blythyn. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, un yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais ar eitem 7 sydd nesaf. Y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Sioned Williams yw hon, ar y Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, 22 yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna yn cael ei gymeradwyo.
Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl: O blaid: 31, Yn erbyn: 2, Ymatal: 22
Derbyniwyd y cynnig
Y pleidleisiau ar eitem 9 sydd nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar addysg uwch. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais felly ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Mae'r cynnig yn cael ei wrthod.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 1 yn cael ei gymeradwyo ac mae gwelliant 2 felly yn cwympo.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Ac mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8818 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a) sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 14 yn ymatal, 12 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 12, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio.
Ac mae'r ddadl fer nesaf. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Hefin David, ac fe gaiff Hefin David gychwyn pan fydd yr Aelodau wedi tawelu.
Hoffwn ddiolch i bawb a ddywedodd, 'Mae'n ddrwg gennyf am adael.'
Agorwyd fy llygaid i'r pwnc hwn, technolegau hedfan y dyfodol, pan gymerais le Ken Skates ar 11 Medi fel cadeirydd bord gron Senedd Cymru ar dechnoleg hedfan y dyfodol. Roeddwn yn hanner disgwyl i Ken fod yn ymateb heddiw, ond Rebecca sydd wedi tynnu'r gwelltyn hir. Y drafodaeth ford gron hon oedd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU ac fe'i cynhaliwyd mewn partneriaeth â rhaglen ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ar hedfan yn y dyfodol ym Mhrifysgol Birmingham, ac euthum yno'n meddwl o ddifrif y byddent yn dechrau siarad am geir hedfan, fel Back to the Future, ond nid oedd yn ddim byd felly.
Soniodd yr Athro Fern Elsdon-Baker sy'n cyfarwyddo'r rhaglen—heb ei chymorth hi, gyda llaw, ni fyddai'r ddadl fer hon yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl—am y tair technoleg hedfan a allai fod yn drawsnewidiol, sef dronau nad ydynt yn cludo teithwyr—rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi'n mynd i ddweud, 'Rwy'n gwybod popeth am y rhain, roeddwn i'n gwybod hyn yn barod'; cerbydau trydan sy'n codi a glanio'n fertigol, y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel cerbydau eVTOL—gobeithio bod hynny'n gywir; a symudedd aer rhanbarthol trydan-hydrogen, a elwir yn RAM.
Nododd y cynllun gweithredu ar ddyfodol hedfan yn y DU gan yr Adran Drafnidiaeth yn 2024 nifer o resymau dros ddefnyddio'r mathau hyn o dechnolegau hedfan yn y dyfodol, ac yn fwyaf arbennig, roeddent yn cynnwys budd economaidd, symudedd rhanbarthol a gwasanaethau post a meddygol. Felly, roeddem yn awyddus iawn i archwilio—. Roedd defnydd amaethyddol yn un hefyd. Roeddem yn awyddus iawn i archwilio, 'Wel, os byddech yn cymhwyso hyn i Gymru, sut olwg fyddai arno?' Wel, dyma rai enghreifftiau Cymreig a rhai enghreifftiau o lefydd eraill yn y DU hefyd.
Cymru yw un o'r prif ardaloedd yn y DU lle mae technolegau hedfan y dyfodol yn cael eu cynllunio a'u mabwysiadu, gan gynnwys chwe phrosiect sy'n derbyn cyllid hedfan y dyfodol gan UKRI. Felly, efallai ei bod hi lawn cystal fod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yma i glywed hynny. Mae nifer o'r rhain yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymru felly'n arwain y ffordd ar ddatblygu polisi ar dechnolegau hedfan, a diben y ddadl hon heddiw yw archwilio'r hyn y gallwn adeiladu arno a beth a wnawn eisoes, beth arall y gallwn ei wneud, a sut y gall Llywodraeth Cymru fod yn gefnogol. Rwy'n gobeithio mynychu bord gron yn San Steffan yn ddiweddarach eleni—yn y gwanwyn efallai—lle gallaf gyflwyno i'r ford gron beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
I roi enghraifft i chi, mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn arwain partneriaeth arloesi dronau iechyd Cymru ac yn gweithio gyda Snowdonia Aerospace a'r datblygwr dronau SLiNK-TECH, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer rhwydwaith cyflenwi dronau meddygol ar draws Cymru. Felly, rydych chi'n cludo gwaed—fe allech chi fod yn cludo organau hyd yn oed, rhyw ddydd—heb fod angen bod ar y ffordd, i ysbytai cyffredinol dosbarth ym myrddau iechyd lleol Betsi Cadwaladr, Hywel Dda, a Phowys. Mae hwn yn ateb real iawn. Yn Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, mae'r prosiect amgylchedd cynaliadwy ar gyfer profion hedfan wedi bod yn treialu'r defnydd o dronau ar gyfer gweithgareddau'r GIG hefyd. Ac mae'r cwmni dronau Windracers wedi bod yn treialu darparu gwasanaethau post y Post Brenhinol i Ynysoedd Orkney.
Buom hefyd yn trafod y defnydd posibl o'r math hwn o dechnoleg ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Felly, gallech ddefnyddio'r dechnoleg dronau ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar y rheilffyrdd heb orfod cyflwyno gwasanaethau bysiau yn lle trenau, a fyddai'n gyfle diddorol iawn. Gallem ddefnyddio'r un dull ar gyfer difrod a achoswyd gan stormydd a llifogydd diweddar, gyda dronau'n cael eu defnyddio i atgyweirio llinellau pŵer y Grid Cenedlaethol, gan ryddhau gweithwyr llinell medrus i ganolbwyntio ar sgiliau arbenigol yn hytrach na chasglu data er enghraifft. Ac efallai fod pryderon diweddar am garthffosiaeth yn ein dyfroedd aberoedd ac arfordirol a'i effeithiau ar dwristiaeth yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, gyda chwmnïau fel Makutu a Skyports yn gweithio gyda Northumbrian Water ar y defnydd o ddronau i fonitro ansawdd dŵr mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, gan helpu cwmnïau dŵr i ymateb yn rhagweithiol i broblemau a gwella diogelwch gweithwyr.
Mae cerbydau esgyn a glanio fertigol di-allyriadau, y cerbydau eVTOL, a gynlluniwyd i gario hyd at bedwar teithiwr, yn cael eu hadeiladu a'u treialu gan gwmni o Fryste, Vertical Aerospace. Felly, er nad ydynt yn geir sy'n hedfan yn hollol, maent yn ddigon tebyg. Ymhell o fod yn perthyn i ffuglen wyddonol yn unig, mae'r cerbydau awyr hyn yn gweithio. Rwy'n gwahodd y Gweinidog i roi cynnig ar un. [Chwerthin.] Fe gawn un oddi ar Temu. Nid syniad sy'n bell i ffwrdd yn y dyfodol pell mohono; mae'r cerbydau hyn rownd y gornel, ac mewn gwirionedd, roedd rhai o'r cwmnïau y siaradais â hwy yn dweud y byddai rhai o'r cynhyrchion y cyfeiriais atynt yma ar gael i'w marchnata mor gynnar â 2027.
Dywedodd Airbus wrthyf hefyd y bydd y genhedlaeth nesaf o awyrennau, ym Mrychdyn a Chasnewydd, yn cael eu cynhyrchu, ac yn cael eu pweru gan hydrogen gwyrdd. Roeddent eisiau cyflwyno'r achos dros hynny fel rhan o'r broses hon. Mae hydrogen ym maes hedfan yn rhoi cyfle i ddatblygu cyfleoedd i ddod ag awyrennau hydrogen i'r farchnad erbyn 2035. A hefyd, fe wnaethant sôn wrthyf am CityAirbus, cludwr awyr trydanol, a rhan o brosiect symudedd trefol Airbus. Fe'i cynlluniwyd i wneud dinasoedd a chymunedau'n llai, a deilliodd yn wreiddiol o'r gred y gellir symud symudedd trefol ac uwch i'r awyr a bydd yn darparu ffyrdd ychwanegol i gymunedau gyrraedd eu cyrchfan. Mae Airbus yn gweithio ar hyn hefyd.
Agweddau'r cyhoedd: dyma ble gallai'r anhawster fod. Agweddau'r cyhoedd at bryderon moesegol ynghylch technoleg dronau, y byddwn yn edrych arnynt mewn eiliad, ond hefyd pryderon ynghylch niwsans technoleg dronau. Mae technolegau hedfan trydan y dyfodol yn mynd trwy gyfnod tyngedfennol, a nawr yw'r cyfle i ennill y ddadl drostynt. Ar hyn o bryd mae'r DU ar flaen y gad o ran arloesedd technolegol, diolch yn rhannol i gronfa her hedfan y dyfodol UKRI. Ond os ydym am fwrw ymlaen ag ef, bydd rhaid inni ddod â'r cyhoedd gyda ni. Ceir ymwybyddiaeth gynyddol o'r cyfleoedd cynyddol a'r manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd posibl a gynigir gan dechnolegau o'r fath. Fodd bynnag, mae yna bryderon cyhoeddus dilys a disgwyliadau y bydd angen rhoi sylw iddynt, er mwyn sicrhau bod y technolegau hyn o fudd i'n holl gymunedau.
Felly, gan ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid gan UKRI, comisiynodd Prifysgol Birmingham YouGov i gynnal arolwg gwyddorau cymdeithasol, sydd wedi dangos bod pobl yng Nghymru, sy'n byw yng Nghymru, wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i fuddion posibl dronau a cherbydau eVTOL. Roedd mwyafrif y cyhoedd yng Nghymru—saith o bob 10 o bobl—yn teimlo y byddai defnyddio dronau i ddarparu cyflenwadau meddygol a samplau gwaed, neu ar gyfer arolygu a chynnal seilwaith fel ein llinellau pŵer, o fudd yng nghymunedau Cymru, mewn cymunedau gwledig neu anghysbell, er y gallai fod sŵn a niwsans ychwanegol yn gysylltiedig â hwy. Unwaith eto, roedd yr un nifer, saith o bob 10 o bobl, yn teimlo y byddai defnyddio dronau yn fuddiol i gefnogi cadwraeth a monitro amgylcheddol yn y DU. Roedd dros hanner pobl Cymru—a dyma'r un diddorol, oherwydd dyma'r peth cyntaf y bydd pobl yn meddwl amdano wrth feddwl am dechnoleg dronau—yn teimlo y byddai defnyddio dronau i ddanfon post, parseli neu becynnau i aelwydydd unigol o fudd i gymunedau mewn ardaloedd gwledig, anghysbell neu ynysig.
Ar ddefnyddio cerbydau eVTOL, dywedodd dros hanner y bobl y byddai eu defnyddio i gludo pobl rhwng dinasoedd a threfi nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd gan wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fuddiol, wrth i'r dechnoleg honno ddatblygu. Yn amlwg, roedd yna bryderon, yn naturiol, am dechnoleg newydd a phryderon ynglŷn â diogelwch. Yn y cyfamser, roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr, saith o bob 10 o bobl y gofynnwyd iddynt, yn teimlo y byddai'r dulliau teithio hynny rhwng trefi a phentrefi yn fuddiol, ac roedd wyth o bob 10 o bobl yn teimlo y byddai dronau a cherbydau eVTOL o fudd wrth ddarparu mynediad mwy cyfleus at ardaloedd ynysig yn y DU.
Roedd y cyhoedd yng Nghymru yn gweld yr anfanteision, ac roedd yr anfanteision hynny'n cynnwys pryderon ynghylch bygythiadau seiberddiogelwch, y gellid eu camdrin yn hawdd iawn; diogelwch, fel rwyf newydd ei grybwyll; mynediad teg, oherwydd y gost; a'r effaith ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid; preifatrwydd; a sŵn. Ond roedd 65 y cant o'r bobl a holwyd yn teimlo bod manteision posibl defnyddio dronau yn gorbwyso'r anfanteision posibl, ac roedd 50 y cant o'r bobl a holwyd yn teimlo bod manteision posibl defnyddio cerbydau eVTOL yn gorbwyso'r anfanteision posibl. Felly, mae yna gyfle go iawn, ac rwy'n gobeithio na fyddaf yn dod yn hyrwyddwr digwestiwn i'r technolegau hyn, am imi gadeirio hyn a chlywed y dadleuon, ond rwy'n sicr yn credu bod cyfle nawr i Lywodraeth Cymru archwilio'r cyfleoedd y gallent eu darparu, yn enwedig y gwasanaethau cyhoeddus hynny, megis yn y GIG a Trafnidiaeth Cymru, a grybwyllais eisoes. Mewn gwirionedd, roedd Trafnidiaeth Cymru yn y cyfarfod bord gron, fel roedd y GIG, ac roedd y ddau'n awyddus iawn i weld y dechnoleg honno'n cael ei datblygu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os caf wneud hynny.
Na, dim ond ar y Gweinidog y cewch chi wneud ymyriad mewn dadl fer. Mae'n ddrwg gennyf, Andrew.
Dyna ni. Bydd yn rhaid i chi aros. Bydd angen i chi ofyn eich cwestiwn i Rebecca Evans. Rwy'n dysgu wrth imi fynd ymlaen, i fod yn onest gyda chi.
Yng Nghymru, rydym yn darparu ardal dreialu unigryw, o ystyried maint ein poblogaeth. Felly, y ddaearyddiaeth, y tir, natur ein hamgylchedd, mae gennym gyfle go iawn i fod yn arweinydd y farchnad gyda'r dechnoleg, wrth iddi gael ei datblygu. Ac mae'n fwy na chyfle i dreialu'r ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwell gwasanaethau a nodais ym maes trafnidiaeth ac argyfwng; mae'n gyfle i ddarparu gwell cysylltedd ar draws y cymunedau ynysig y soniais amdanynt hefyd. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n arwain at swyddi a chyfleoedd busnes yn ogystal, gan gysylltu cymunedau ynysig mewn ffordd nad ydym wedi gallu ei wneud o'r blaen.
Mae hefyd yn gyfle diwydiannol, oherwydd rwy'n credu bod gennym sector yma y gallwn ei ddatblygu yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod â chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n gwneud y pethau hyn. Mae Airbus yn awyddus i weld rhai o'r pethau hyn yn datblygu. Mae cyfle gwirioneddol i weld sut y gallwn greu'r farchnad newydd hon yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae cynnal a chadw ac atgyweirio yn faes arall, nid arloesi a datblygu'r dechnoleg yn unig; daw'r gwaith cynnal a chadw i mewn iddo hefyd.
Felly, rwy'n mynd i ofyn cwestiynau i chi, Weinidog. A ydych chi am i mi arafu, fel y gallwch eu hysgrifennu wrth i mi fynd? Beth rydym ei eisiau gan Lywodraeth Cymru? Sut rydym ni'n cyflawni'r newid hwn i ddarpariaeth sero net newydd sylfaenol ac arloesol o gysylltedd, nwyddau a gwasanaethau, mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfiawn? Sut y mae cyflawni hyn mewn ffordd sy'n dod â phobl gyda ni? Yr hyn yr hoffem ei weld mewn gwirionedd—ac mae'n ofyniad go iawn, ac efallai y gallech siarad am hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth—yw sefydlu gweithgor pwrpasol, i ystyried yn fanwl sut y gallwn integreiddio'r technolegau hyn sy'n datblygu yn y nodau economaidd a thrafnidiaeth ehangach gan gynnwys y gymdeithas ehangach. Felly, byddem wrth ein bodd yn gweld grŵp cynghori Llywodraeth Cymru efallai, rhywbeth wedi'i sefydlu i'n galluogi i gasglu'r wybodaeth honno gan y sector.
Credwn fod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru rôl yma hefyd. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn cael eu hintegreiddio mewn penderfyniadau datganoledig, ac rydym yn credu y byddai swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn lle naturiol i fod yn storfa ar gyfer tystiolaeth rhanddeiliaid, gwybodaeth, a hyd yn oed ar gyfer cadeirio'r gweithgor o bosib. Mae'n dod i Gaerffili yn fuan iawn—nid wyf yn siŵr ai'r dydd Gwener hwn—ac rwy'n gobeithio cael trafodaeth gyda Derek Walker bryd hynny.
Ac ymgysylltu gwell â San Steffan, felly rwy'n mynd i San Steffan. Rwy'n mynd i San Steffan ar 26 Mawrth, rwy'n meddwl—cyhyd â bod y Prif Chwip yn barod i wrando arnaf—ac rwy'n gobeithio cyfarfod â'r ford gron yno ac adrodd yr hyn a ddywedwch heddiw a thrafodaethau pellach y gallem eu cael yn nes ymlaen efallai. Oherwydd rwyf am fynd yno a dweud bod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol iawn ynglŷn â hyn, felly rwy'n gobeithio mynd yn ôl. Felly, rydym yn gofyn i chi lobïo Llywodraeth y DU, felly, os ydych chi'n cytuno, i gynnwys y Llywodraethau datganoledig yn nhrafodaethau'r gymdeithas sifil ehangach ar hedfan y dyfodol. Mae Prifysgol Birmingham yn awyddus iawn; maent wedi cyfarfod â'r meiri metro, maent wedi cyfarfod â Senedd yr Alban, maent yn cyfarfod yn San Steffan nawr ac maent yn ein gwahodd ni i gyd yn ôl i gael y drafodaeth honno.
Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r cymunedau ledled Cymru a bod yr hyn rydym yn bwrw ymlaen ag ef yn seiliedig ar dystiolaeth a'n bod yn ystyried y goblygiadau'n iawn, fel y dywedais. Felly, mae rhai gofynion i chi yno, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rwy'n edrych ymlaen—yn ôl fy nodiadau, byddaf yn mynd i Dŷ'r Cyffredin ar 26 Mawrth; mae'n ddigwyddiad a noddir gan Liam Conlon AS—i gael y drafodaeth honno, i arddangos nid yn unig yr hyn sy'n digwydd gyda'r meiri metro a Senedd yr Alban, ond hefyd yr hyn sy'n digwydd yma. Gallwn fod yn brif symudwr yn y seilwaith hwn, ond os na fyddwn yn gweithredu nawr, byddwn yn colli'r cyfle. Mae'r rhain yn dechnolegau cyffrous; mae yna gwmnïau'n adeiladu arnynt, mae technoleg yn cael ei datblygu ac yn cael ei rhoi allan yno. Gadewch inni fod yn rhan ohono. Gadewch inni ymwneud ag ef. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn glywed sut rydych chi'n ymateb i hynny a beth yw eich cynlluniau chi.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.

Gwych. Diolch yn fawr. Roeddwn yn ysgrifennu araith wahanol ar frys oherwydd roedd fy un wreiddiol yn ymwneud â cheir sy'n hedfan, ond efallai y cawn gadw honno ar gyfer dadl fer arall. Mae'r diwydiant hedfan bob amser wedi, a bydd bob amser yn cael ei yrru gan dechnoleg a chan arloesedd, ac fel y clywsom nawr, mae'r sector yn agor posibiliadau niferus ac amrywiol ar gyfer technolegau hedfan y dyfodol a all drawsnewid y ffordd rydym yn cysylltu â phobl, sut rydym yn cludo nwyddau a sut rydym yn darparu gwasanaethau mewn ffordd gynaliadwy sy'n darparu buddion economaidd-gymdeithasol. Ac i fanteisio ar y cyfleoedd hyn, dylem ddechrau drwy gydnabod pa gynigion sydd gennym yma yng Nghymru heddiw.
Felly, o ran busnesau, mae gennym bresenoldeb awyrofod sylweddol gydag Airbus a GE Aerospace â gweithfeydd sylweddol eu maint. Ac mae cwmnïau eraill sydd â phresenoldeb yng Nghymru hefyd yn cynnwys BAE Systems, British Airways Engineering, Conetic a Babcock. Mae asedau ymchwil yn cynnwys Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, sydd wedi'i lleoli ar safle Airbus ym Mrychdyn, a rhan o Gatapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uwch y DU, y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a hefyd Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch TWI. Felly, mae gennym eisoes ecosystem dda iawn i'n rhoi ar y blaen gyda'r agenda benodol hon.
Mae asedau eraill yn cynnwys ein safleoedd ar gyfer hedfan heb griw oddi ar arfordir gorllewin Cymru. Ac yn Llanbedr yng Ngwynedd ac Aberporth yng Ngheredigion, mae gennym ardal o fwy na 7,000 cilomedr sgwâr o ofod awyr neilltuedig o uchder diderfyn dros dir a môr. Ac mae'r rhain yn ardaloedd dynodedig penodol ar gyfer treialu ac ardystio awyrennau sifil ac amddiffyn a'r systemau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio'n ddiogel i ofod awyr masnachol.
Mae ffocws diweddar Llanbedr wedi bod ar ddatblygu canolfan dreialu y gofod, ond mae'n parhau i ddenu'r rhaglenni treialon hedfan mawr ar gyfer cerbydau neu dronau awyr heb griw ar sail prosiectau unigol. Mae Aberporth hefyd wedi llwyddo i ddenu cwmnïau newydd i'r parc busnes wrth ymyl y rhedfa, ac enghraifft ddiweddar yw TEKEVER, a ddenwyd gan allu Aberporth i ddarparu gofod awyr diogel a neulltiedig, gan ei gwneud hi'n bosibl treialu a gwerthuso meddalwedd a chaledwedd dronau. Rhwng 2023 a 2026, mae TEKEVER yn bwriadu creu 200 o swyddi ychwanegol rhwng ei safleoedd yn Southampton ac Aberporth.
Rydym hefyd wedi gweld llwyddiant gyda chystadleuaeth her hedfan y dyfodol Ymchwil ac Arloesi y DU, y clywsom amdani heno, lle mae consortiwm dan arweiniad Snowdonia Aerospace, mewn cydweithrediad â chwmni SLiNK-TECH ym Mryste a phartneriaeth arloesi dronau iechyd Cymru yn croesawu technoleg dronau ar gyfer cludo cynhyrchion gwaed. Ac roedd Maes Awyr Caerdydd hefyd yn bartner ym mhrosiect SafeZone, a gynhaliwyd i wella diogelwch ac effeithiolrwydd cerbydau awyr heb griw mewn amgylchedd trefol, gyda threialon hedfan yn digwydd o amgylch y maes awyr.
Mae cyfleoedd newydd yn gysylltiedig â thechnolegau hedfan y dyfodol bellach yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru, ein prifysgolion a'n busnesau gydweithio i sicrhau bod arloesi'n darparu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn y sector hwn sy'n datblygu. Rydym eisoes yn hyrwyddo ein cryfderau a'n galluoedd, a'r sector awyrofod yng Nghymru yn fwy cyffredinol, mewn digwyddiadau byd-eang allweddol, fel sioeau awyr Farnborough a Pharis, ac edrychaf ymlaen at ymuno â'n dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru i Baris eleni ym mis Gorffennaf, a byddaf yn cyfarfod â'r cwmnïau sy'n allweddol i ddatblygiad strategol y sector yng Nghymru.
[Anghlywadwy.]
Bydd rhaid inni edrych ar hynny, Hefin, a gweld beth yw celfyddyd yr hyn a ganiateir ar hynny. [Chwerthin.] Wrth gwrs, roedd Hefin yn llygad ei le i fframio'r ddadl hon o gwmpas datblygu'r cynigion, gan gadw cefnogaeth y cyhoedd ar yr un pryd, oherwydd mae hynny, yn amlwg, yn wirioneddol allweddol. Ac wrth gwrs, yn gyffredinol gall y sector hedfan ennyn safbwyntiau cryf iawn. Gwelsom hynny gyda chynlluniau i ehangu Heathrow, er enghraifft, ac mae technolegau hedfan y dyfodol yn sicr yn mynd i ennyn yr un safbwyntiau cryfion. Ac fel deallusrwydd artiffisial, mae potensial enfawr yma i wneud llawer o les, ond hefyd mae pobl yn cydnabod bod perygl o niwed.
Felly, mae manteision a chyfleoedd technolegau hedfan y dyfodol yn ddiymwad. Mae dronau cario cargo yn cynyddu cysylltedd â chymunedau gwledig ac ynysig anghysbell ac fel y dywedais i ac fel y dywedodd Hefin, mae dronau sy'n cludo triniaeth feddygol, yn ogystal ag awyrennau sy'n cael eu pweru gan yr haul a lleihau tanwydd ffosil oll yn fanteision y gallwn eu gweld yn y maes. Ond ochr yn ochr â'r manteision, bydd cyfleoedd enfawr i greu swyddi sgiliau gwyrdd newydd mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, peilotiaid dronau a rheoli gofod awyr.
Fodd bynnag, mae rhywfaint o wrthwynebiad i dechnoleg awyr ddi-griw, gan fod rhai pobl yn gwneud y cysylltiad â phlatfformau milwrol, gyda'r defnydd o ddronau ar gyfer cuddwylio, rhagchwilio a rhyfela ac ati, a nododd Hefin amryw o bryderon eraill a godwyd yn y maes. Byddwn i'n dweud mai un arall fyddai datblygiadau mewn tanwydd hedfan cynaliadwy—gallant fod yn ddadleuol. Nid yw'r byd yn cynhyrchu digon i ateb gofynion presennol y diwydiant ac mae nifer o ffyrdd o'i gynhyrchu, gan gynnwys o gnydau penodol a stociau porthiant, ond wrth gwrs, byddai angen trosi ardaloedd helaeth o dir fferm i ateb y galw byd-eang yno. Ac mae gan lawer o bobl farn am awyrennau sy'n cael eu pweru gan drydan a hydrogen. Er enghraifft, byddant yn ymwybodol o ôl troed carbon cynhyrchu'r batris angenrheidiol, gan gynnwys mwyngloddio deunyddiau crai o'r ddaear, mwynau ac ôl troed carbon cynhyrchu hydrogen.
A siaradodd Hefin am y cyfarfod a gadeiriodd yn y Senedd ym mis Rhagfyr lle trafodwyd effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach technolegau hedfan y dyfodol, ac wrth gydnabod yr holl fanteision, rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r heriau posib. Ac rwy'n gwybod, yn y cyfarfod, fod rhaglen Future Flights Social Insight ym Mhrifysgol Birmingham wedi adrodd ar eu harolwg cyhoeddus, a chlywsom rai o'i ganfyddiadau allweddol heno. Ac fel sy'n wir am ddeallusrwydd artiffisial, roedd pryder cyhoeddus clir ynghylch yr angen am strwythurau llywodraethu tryloyw ac atebol ar gyfer y technolegau newydd hyn, y credaf y byddem i gyd yn cefnogi'r angen amdanynt. Bydd seilwaith diogel ar y ddaear, rheoliadau a systemau rheoli'n ffactorau hanfodol ar gyfer trafod y pethau hyn, ac mae angen deall pryderon ynghylch diogelwch, seiberddiogelwch, sŵn, preifatrwydd ac effaith amgylcheddol a rhoi sylw iddynt.
Felly, er mwyn mabwysiadu technoleg hedfan y dyfodol, rhaid i'r technolegau hyn allu cryfhau ein cynaliadwyedd, darparu hygyrchedd a fforddiadwyedd, a sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ymwybodol o'r manteision a'r cyfleoedd yr ydym yn gweithio i'w gwireddu.
Diolch i'r ddau ohonoch. Ac er gwybodaeth, rwy'n cefnogi digwyddiad yn y Farchnad ymhen pythefnos ar danwydd hedfan cynaliadwy, felly galwch draw.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:10.