Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/04/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher. 

Cyllid Teg i Gymru

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid teg i Gymru? OQ60924

Member
Rebecca Evans 13:30:17
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Rwyf wedi dadlau'r achos dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU dros gyllid teg i Gymru drwy gyfarfodydd rheolaidd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a thrwy ohebiaeth â Changhellor y Trysorlys.

Diolch am yr ateb. 

Rydym wrth gwrs yn gweld canlyniadau cyllid annigonol a chamalinio ag anghenion pobl yn y ffyrdd llymaf yma yng Nghymru. Mae’r achos dros gael gwared ar fformiwla Barnett a chyflwyno system sy’n seiliedig ar anghenion yn aruthrol o gryf ac wedi’i atgyfnerthu gan y ffaith bod consensws trawsbleidiol ynghylch yr angen i edrych yn fanwl iawn ar y dirwedd ariannol. Nawr, er bod pawb yma yn cydymdeimlo â’r ddadl, ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn arbennig o ddylanwadol o ran annog Llywodraeth Geidwadol y DU i newid y polisi. Pam felly, ym marn Ysgrifennydd y Cabinet? A chydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, pa warantau a geir y byddai Llywodraeth Lafur yn darparu cyllid teg?

Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn ac am y gydnabyddiaeth i’r gefnogaeth drawsbleidiol sydd yma yn y Senedd o ran yr annhegwch a gawn yng Nghymru mewn perthynas â chyllid, a’r ffaith bod gennym ddiddordeb cyffredin yn yr hyblygrwydd ariannol a fyddai’n ein helpu i reoli’r gyllideb mewn ffordd well.

Wrth edrych ymlaen, gwn fod rhai gwahaniaethau bach yn y gwahanol ffyrdd y mae ein pleidiau'n gweld Cymru'n cael ei chyllido yn y dyfodol, ond yn sicr, o ran Llywodraeth Cymru, fe wnaethom nodi ein gweledigaeth yn 'Diwygio ein Hundeb’, sef y dylai Llywodraeth y DU gyflwyno dull newydd sy'n seiliedig ar egwyddorion o ymdrin â chyllid a rhwydweithiau cyllidol y DU, gan ystyried angen cymharol, yn lle fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio. A dyna, yn sicr, yw'r ffordd y byddem yn gweld pethau'n symud ymlaen a'r ffordd y byddwn yn sicr yn pwyso ar Lywodraeth y DU i symud ymlaen.

Rwy'n credu efallai mai un o’r rhesymau pam nad ydym wedi gwneud y cynnydd y byddem wedi hoffi ei wneud gyda Llywodraeth y DU yw oherwydd bod y bobl yr ydym yn trafod gyda hwy'n newid yn gyson. Felly, erbyn i Weinidogion, yn enwedig Prif Ysgrifenyddion y Trysorlys, ymgyfarwyddo â’r materion hyn, mae un arall yn dod drwy’r drws i gymryd eu lle. Felly, credaf y byddai lefel o sefydlogrwydd yn ein helpu yn y trafodaethau hynny. Ac a dweud y gwir, efallai fod diffyg diddordeb ar ran Llywodraeth y DU hefyd mewn perthynas ag ymgysylltu o ddifrif â’r cwestiynau hyn ynglŷn â chyllid. Ond byddwn yn parhau i ddadlau'r achosion hynny. Credaf fod y consensws trawsbleidiol aeddfed iawn sydd gennym yma yn y Senedd yn bwysig, a bod y meysydd hynny o gytundeb sydd gennym â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth ddadlau'r achosion hynny.

Mae’n werth ailadrodd weithiau fod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr—difidend yr Undeb. Ac mae'n rhaid bod hyd yn oed Keir Starmer yn credu bod honno'n fargen dda, gan nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i'w newid ychwaith. Ond efallai fod angen inni siarad mwy am y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud gyda’i harian. Mae llywodraethu'n golygu dewis, ac rydych wedi dewis terfynau cyflymder o 20 mya yn hytrach nag addysg, meysydd awyr yn hytrach na phrentisiaethau, a 36 yn rhagor o wleidyddion yn hytrach na 650 yn rhagor o nyrsys. A wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru o dan arweinyddiaeth newydd ddewis ystyried ei chyflawniad ei hun mewn grym a’r dewisiadau y mae’n eu gwneud gyda’i gwariant, yn hytrach na gwneud esgusodion a thaflu bai ar eraill?

Y peth cyntaf yr hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau ohono yw’r ffaith bod y cyllid a roddir i ni yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith bod gennym lefel uwch o angen yn gyffredinol, a’r pwynt yn hynny o beth yw ei bod yn costio mwy inni gyflawni pethau yma yng Nghymru am fod gennym boblogaeth lawer teneuach ei gwasgariad, er enghraifft, a phoblogaeth lawer hŷn a salach yma yng Nghymru. Ac mae’r cyllid hwnnw’n adlewyrchu hynny, fel y mae'n ei wneud mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd. Felly, credaf fod y ffaith bod hynny wedi’i gydnabod yn y trafodaethau diweddar y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn eu cael â Gogledd Iwerddon yn beth cadarnhaol, ac mae’n dangos bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i hynny. Ond wedi dweud hynny, rydym newydd fod yn sôn ynglŷn â sut mae angen i fformiwla Barnett adlewyrchu gwir angen ar draws y Deyrnas Unedig yn well, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn parhau i alw amdano.

O ran y dewisiadau a wneir gan y Llywodraeth hon, rydym newydd gyflwyno ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gallwch weld ynddi ein bod yn blaenoriaethu’r pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru. Nawr, mae’r GIG dros y ffin yn Lloegr yn cael cynnydd o lai nag 1 y cant yn ei gyllid yn y flwyddyn ariannol hon. Yma yng Nghymru, mae’n o leiaf 4 y cant, a chredaf fod hynny’n dangos y flaenoriaeth gymharol a roddwn i’r GIG, gan y gwyddom mai dyna brif flaenoriaeth pobl Cymru. Ond ochr yn ochr â hynny, fe wnaethom hefyd ddiogelu’r cyllid yr oeddem wedi’i ddyrannu drwy’r adolygiad o wariant i lywodraeth leol. Bydd llywodraeth leol yn cael cynnydd o 3.3 y cant yn ei chyllid yn y flwyddyn ariannol hon, ac unwaith eto, mae hynny’n cydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau y mae pobl yn eu cael ar garreg eu drws, yn eu cymunedau, ledled Cymru. Byddem wedi hoffi mynd ymhellach, ond yn anffodus, nid oedd y setliad a gawsom gan Lywodraeth y DU yn caniatáu inni wneud hynny, ond roedd y blaenoriaethau a ddewiswyd gennym yn sicr yn ymwneud ag ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

13:35
Ardoll Ymwelwyr

2. Pa asesiad diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr ar fusnesau Cymru? OQ60918

Rydym yn bwrw ymlaen â chynigion deddfwriaethol ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth ddrafft yn yr hydref. Bydd yr asesiad effaith yn amlinellu costau a buddion amcangyfrifedig defnyddio ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Mae'r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth ac asesiadau effaith ategol yn mynd rhagddo.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n rhaid imi anghytuno. Yn anffodus, bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael effaith ddramatig ar y sector, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â biwrocratiaeth gynyddol, a sector sydd eisoes wedi cael dechrau ofnadwy i’r tymor twristiaeth diolch i’r stormydd diweddar. Gyda'r glaw di-baid dros y Pasg, mae llawer o fusnesau'n ei chael hi'n anodd, ar ôl colli un o benwythnosau mwyaf proffidiol y tymor, ac maent bellach yn wynebu cynnydd enfawr mewn ardrethi busnes. Mae llawer yn y sector yn rhybuddio am ragolygon digalon, gyda'r ardoll ymwelwyr sydd arfaethedig yn ychwanegu at y pwysau ar y sector. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r gorau i’r cynllun er mwyn rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru?

Er eglurder, nid yw’r ardoll ymwelwyr yn mynd i gael unrhyw effaith uniongyrchol ar ymwelwyr sy’n dod i Gymru nac ar y sector ymwelwyr. Y cynharaf y gallai unrhyw awdurdod lleol benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal fyddai 2027. Felly, nid oes unrhyw awgrym o gwbl y bydd unrhyw un o'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar unwaith gan yr awdurdodau lleol hynny, gan fod angen inni fynd drwy'r holl broses ddeddfwriaethol. Credaf ei bod yn bwysig inni ddeall yn iawn beth yw effeithiau posibl ardoll ymwelwyr, a dyna pam ein bod wedi comisiynu llawer iawn o ymchwil yn y maes, a byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am hynny ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth pan gaiff ei chyhoeddi maes o law. Ond rydym wedi cael gwaith ymchwil da iawn gan Brifysgol Bangor sy'n edrych ar y ffyrdd y mae ardollau ymwelwyr yn cael eu gweithredu mewn cyrchfannau tramor ac yn ystyried yr hyn a allai fod yn berthnasol i ni yma yng Nghymru i’n helpu i lywio ein ffordd o feddwl. Rydym hefyd wedi cael gwaith wedi'i wneud gan Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar sy'n edrych ar effeithiau posibl ardoll ymwelwyr ar yr economi ac ar yr amgylchedd yma yng Nghymru, ac unwaith eto, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth maes o law.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf, a gaf i eich llongyfarch ar gadw eich swydd neu eich portffolio o fewn y Llywodraeth. Gwn ei fod wedi newid ychydig, ond rwy'n dymuno'n dda i chi. Clywsom y Prif Weinidog yn sôn yn helaeth am ei flaenoriaethau ddoe: lleihau rhestrau aros y GIG, cymorth i blant a’r blynyddoedd cynnar, rhagoriaeth addysgol, swyddi gwyrddach a gwell, a gwell cysylltiadau trafnidiaeth. Ac unwaith eto, clywsom Lywodraeth Cymru yn honni nad oes ganddynt ddigon o arian, er iddynt gael y setliad mwyaf erioed eleni. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n bwriadu ariannu'r ffocws newydd ar y blaenoriaethau hyn? Pa feysydd, yn eich tyb chi, a fydd yn colli buddsoddiad er mwyn ailflaenoriaethu adnoddau i'r meysydd blaenoriaeth newydd? A fyddwn yn gweld cyllid canlyniadol newydd yn y dyfodol yn mynd tuag at y meysydd y rhagwelwyd y byddai'n mynd tuag atynt?

Mae’n debyg mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw diolch am eich sylwadau caredig, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn yn parhau yn ein rolau, gan fy mod yn mwynhau’r berthynas adeiladol sydd gennym.

Ar y cyllid canlyniadol a ddaw i Gymru, mae’n egwyddor wirioneddol sylfaenol mai mater i Lywodraeth Cymru yw sut i ddefnyddio’r cyllid canlyniadol hwnnw yn unol â’r blaenoriaethau a’r pwysau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru. A'r hyn a welsoch yn y gyllideb oedd ailffocysu cyllid eisoes ar brif flaenoriaethau allweddol pobl Cymru, ac yn enwedig felly mewn perthynas â'r GIG. Rwyf eisoes wedi cyfeirio y prynhawn yma at y ffaith y bydd y GIG yma yng Nghymru yn cael cynnydd o fwy na 4 y cant yn ei gyllideb, ond serch hynny, mae'r GIG yn mynd i orfod gwneud gwaith sylweddol i leihau ei ddiffygion rhagamcanol ac i barhau i wella cynhyrchiant ac yn y blaen o fewn y GIG. Ac mae'n rhaid inni ymdopi â'r holl bwysau hwnnw sydd ar lawer o wledydd ar hyn o bryd, yn enwedig y pwysau ar gyflogau. Felly, bydd y GIG a gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn flaenoriaethau i ni, ac edrychaf ymlaen yn fawr at symud ymlaen â'r rôl newydd y mae’r Prif Weinidog wedi gofyn imi arwain arni yn Swyddfa’r Cabinet, a bydd hynny’n golygu sicrhau ffocws manwl ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru o ran sicrhau darpariaeth.

13:40

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oeddwn yn disgwyl ichi ddatgelu ble y gallech ddadfuddsoddi, ond mae'n amlwg y bydd angen ichi wneud hynny. Felly, mae’n amlwg y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth ddefnyddio ei hadnoddau’n ddoeth. Fodd bynnag, hyd yn hyn, rydym yn aml yn gweld proses ddifeddwl o ddyrannu cyllid. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ganolbwyntio am funud ar y gwasanaeth iechyd, fel rydych eisoes wedi'i ddweud, mae bellach yn flaenoriaeth uwch, ac rwy'n siŵr y byddwch yn canolbwyntio ar reoli perfformiad ar gyfer eich Swyddfa Cabinet newydd. A allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn dangos i'r Senedd fod arian yn darparu'r gwerth gorau? Rydym wedi gweld £975 miliwn yn cael ei roi i'r gwasanaeth iechyd yn ddiweddar, sydd i'w groesawu, ond sut y gwyddom fod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n dda? A ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cytuno â mi fod angen adolygiad sylfaenol arnom o’n system iechyd i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau am y buddsoddiadau a wnawn ynddi?

Credaf fod amrywiaeth o bethau i’w dweud am hynny, ac yn fwy na dim fod gan bawb sy’n rhan o’r sector cyhoeddus gyfrifoldeb i reoli arian cyhoeddus Cymru yn effeithiol, boed yn Weinidogion unigol wrth reoli’r cyllid yn eu portffolios eu hunain, swyddogion sy'n darparu cyngor, pobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn ehangach, a hyd yn oed i'r graddau fod pobl yn rheoli eu hamser eu hunain—yn yr ystyr hwnnw, maent hefyd yn rheoli arian cyhoeddus Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn fod pawb yn teimlo eu bod yn rhanddeiliaid go iawn ac mai eu cyfrifoldeb hwy yw rheoli arian cyhoeddus Cymreig yn effeithiol. Credaf fod y ffordd yr awn ati i wneud rhywfaint o’r gwaith monitro a gwerthuso hwn yn gwbl hanfodol i ddeall a yw’r pethau hynny yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni yn y lle cyntaf wedi’u cyflawni, a pha wersi y gallwn eu dysgu ar y ffordd. Mae llawer o hynny'n digwydd ar draws pob math o raglenni gwahanol ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny. Unwaith eto, mae'r ymchwil a wnaethom, yr ymchwil a gomisiynir gennym, yn wirioneddol bwysig i ddangos gwerth yr hyn a wnawn, a dysgu gwneud pethau a allai fod yn wahanol ar gyfer y dyfodol. Mae pethau fel ein cerrig milltir cenedlaethol yn wirioneddol bwysig ar gyfer deall i ba raddau y cymerwn y camau hynny ar hyd y daith er mwyn cyflawni ar ran pobl Cymru. Unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth sy’n hollbwysig i waith y Llywodraeth.

Diolch eto am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—mae hynny'n galonogol. Credaf y byddwn ni yn y Senedd hon yn dymuno cael sicrwydd dyfnach ein bod, am bob £100 miliwn a roddwn tuag at rywbeth, yn cael £100 miliwn o werth am arian ac nid £90 miliwn o werth am arian. Dyna ble mae rheoli perfformiad mor hanfodol bwysig i unrhyw sefydliad, a gwn eich bod yn cytuno â hynny.

Ddoe, ni soniodd y Prif Weinidog am yr economi ehangach, ac eithrio’r economi werdd. Un o sylfeini allweddol ein heconomi yng Nghymru, fel y clywsom eisoes, yw’r sector twristiaeth, maes sy’n ei chael hi’n anodd iawn ac nad yw wedi cael ei gefnogi, mewn gwirionedd, gan eich Llywodraeth i'r un graddau â mannau eraill yn y DU. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth newydd wedi’i rhoi i newid ei chyfeiriad o ran effaith polisi trethiant ar fusnesau? A wnewch chi gynyddu'r cymorth i’r sector lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth, a rhoi'r gorau i'r dreth dwristiaeth niweidiol arfaethedig a drafodwyd gennym yn gynharach?

Nid wyf yn siŵr y byddwn yn cytuno â’r disgrifiad nad ydym yn Llywodraeth sy’n cefnogi’r sector twristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi miliynau lawer o gyllid i’r sector twristiaeth mewn amrywiaeth eang o ffyrdd a chynlluniau a arweinir yn aml drwy adran yr economi ei hun.

O ran y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn benodol, bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod y bydd y busnesau hynny’n elwa o ostyngiad o 40 y cant i’w rhwymedigaethau ardrethi yn y flwyddyn ariannol hon. Nid oedd ganddynt unrhyw gynlluniau, gan mai'r bwriad bob amser oedd y byddai'r gronfa COVID honno'n dod i ben ar ôl cyfnod penodol, ond rydym wedi gallu ei hymestyn eleni. Ond gadewch inni gofio mai oddeutu 20 y cant o fusnesau sydd mewn gwirionedd yn talu eu bil llawn; bydd y gweddill yn cael rhywfaint o gymorth. Nid yw oddeutu hanner ein busnesau bach unrhyw ardrethi, a hynny oherwydd ein bod yn buddsoddi oddeutu £0.3 biliwn yn ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau yn y flwyddyn ariannol hon, ac mae hwnnw'n swm sylweddol iawn o arian. Felly, credaf ein bod yn cydnabod y pwysigrwydd yn y ffordd honno.

Rwyf eisoes wedi ymateb mewn perthynas â chwestiwn eich cyd-Aelod ynglŷn â'n cynlluniau ar gyfer yr ardoll dwristiaeth. Rydym yn parhau â’r gwaith hwnnw, ac rwy'n gobeithio dweud mwy yn nhymor yr hydref.

13:45

Diolch, Lywydd. Hoffwn eich llongyfarch ar gael eich ailbenodi i’r portffolio cyllid. Efallai fod gennym ein gwahaniaethau gwleidyddol ar brydiau, ond mae’n galonogol gweld rhywfaint o barhad mawr ei angen yn y briff hwnnw, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd gyllidol heriol, heb sôn am y nifer syfrdanol o newidiadau i bersonél yn Llywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf, y cyfeirioch chi atynt yn gynharach.

Roedd toriad y Pasg yn cyd-daro â throad y flwyddyn ariannol, ac fel y cyfryw, mae’n gyfle delfrydol i bwyso a mesur sefyllfa Llywodraeth Cymru, ac i fyfyrio ar y sefyllfa a ddatblygodd dros y 12 mis blaenorol. Mae’n deg dweud bod y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi’i nodweddu gan lefel anffodus o ansicrwydd ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr ymarfer ailgyllidebu a gynhaliwyd ym mis Hydref, a achosodd lawer iawn o bryder i lywodraeth leol, cynghorwyr ac amryw randdeiliaid trydydd parti fel ei gilydd. Er ein bod yn cydnabod difrifoldeb yr erydu i bŵer gwario Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth, nid yw hyn yn esgusodi’r diffyg eglurder di-fudd a ddaeth gyda’r newid digynsail hwn i adnoddau yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â diffyg unrhyw graffter strategol cadarn, yn ôl pob golwg, i fynd i'r afael â phwysau ariannol.

Mae’n werth pwysleisio hefyd mai’r flwyddyn ariannol flaenorol oedd y bumed flwyddyn yn olynol i’r Llywodraeth fethu cadw at y protocol trawsbleidiol ar y broses o lunio’r gyllideb. Rwy’n mawr obeithio, felly, gyda llechen lân blwyddyn ariannol newydd, ein bod yn edrych ymlaen at ymgysylltiad llywodraethol mwy adeiladol a thryloyw gyda’r Senedd ar gynlluniau gwariant. Ar y sail hon felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a gafodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol gan Drysorlys y DU tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, ac os felly, pryd y cafodd wybod bod cyllid o’r fath ar gael?

Diolch am eich cwestiynau, a hefyd am y sylwadau caredig ar y dechrau. Unwaith eto, edrychaf ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda chi. Mae gennym berthynas waith adeiladol iawn, gyda'r lefel briodol o her, ond awydd hefyd i gydweithio lle mae gennym feysydd o ddiddordeb cyffredin. Felly, edrychaf ymlaen at barhau hynny.

Ar ansicrwydd, bu llawer iawn o ansicrwydd y llynedd, ond credaf fod yn rhaid inni gofio bod y cynlluniau gwariant hyn a gyflwynwyd wedi’u cyflwyno ar adeg pan nad oeddem yn gweld y lefelau hyn o chwyddiant. Ni allem fod wedi rhagweld yr hyn a ddigwyddodd mewn perthynas ag Wcráin a’r effaith a gafodd hynny ar y darlun economaidd ehangach ledled y byd. Felly, digwyddodd pethau nad wyf y credu y gallem yn rhesymol fod wedi'u gweld yn dod. Ond fe wnaethom weithredu cyn gynted ag y gallem yn y flwyddyn ariannol. Felly, cyn yr haf, roeddem yn cael y ffigurau cynnar ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol. Roeddem yn deall pa mor enfawr fyddai'r her, ac fe wnaethom weithio drwy’r haf, felly, i ymdrin â hynny, a gallais ddweud mwy yn nhymor yr hydref ynglŷn â beth fyddai’r newidiadau i’n cynlluniau gwariant. Felly, fe wnaethom weithredu’n gynnar, ac rydych wedi gweld Llywodraethau eraill yn y DU yn gorfod gweithredu hefyd o ganlyniad i effeithiau’r chwyddiant uchaf erioed hwnnw.

Ar amserlen y gyllideb, mae’n destun gofid i ni na fu modd i ni ddarparu manylion y gyllideb yn gynharach yn y flwyddyn ariannol cyn y gyllideb. Byddwn yn parhau i geisio gwella’r sefyllfa honno, ond rwy’n bryderus iawn am yr hyn y bydd eleni'n ei olygu yn yr ystyr y bydd gennym etholiad cyffredinol hwyr, o bosibl. Beth fydd hynny’n ei olygu i’n cyllideb a’r sicrwydd y gallwn ei roi i awdurdodau lleol a gweddill y sector cyhoeddus? Fy mwriad yw ymgysylltu mor agos ag y gallaf â’r Pwyllgor Cyllid a rhannu unrhyw wybodaeth a gawn am hynny gyda chi o ran pryd y gallwn gynllunio ar gyfer y gyllideb. Rydym yn cynllunio ystod eang o senarios ar hyn o bryd yn seiliedig ar ba bryd y gellid disgwyl etholiad cyffredinol, er mwyn sicrhau, pryd bynnag y daw pethau’n glir, y byddwn o leiaf yn barod i symud yn gyflym iawn. Rwy’n fwy na pharod i rannu ychydig rhagor o’r manylion hynny gyda chi.

Ac yna, ar gyllid diwedd blwyddyn, cawsom yr amcangyfrifon atodol, ac fel y gwnaethom ei drafod yn y Pwyllgor Cyllid, roedd anghysondeb mawr yn yr amcangyfrifon atodol hynny, a newidiodd yn sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Roedd hynny'n anffodus hefyd. Serch hynny, golygodd ein bod wedi cael swm eithaf sylweddol o gyllid ar ddiwedd y flwyddyn, a’r gwir amdani yw bod penderfyniadau y byddem efallai wedi’u gwneud yn wahanol pe byddem wedi gwybod ein bod yn mynd i gael y cyllid ychwanegol hwnnw yn hwyr yn y flwyddyn. Felly, efallai na fyddai peth o'r gweithgarwch a ddisgrifiwyd gennych, a wnaed gennym dros yr haf a'i gyhoeddi wedyn ym mis Hydref, wedi gorfod digwydd o reidrwydd pe byddem yn gwybod sut olwg fyddai ar y darlun ar ddiwedd y flwyddyn.

13:50

Diolch am yr ateb yna. 

Rwyf ychydig yn bryderus fod y Llywodraeth yn gwybod—. Roeddem yn gwybod am rywfaint o’r arian o dan sylw, ond nid y swm a oedd yn cael ei ddarparu. Efallai y byddai sinig yn credu bod rhywfaint o’r arian hwnnw’n wedi'i gelcio nes bod y Prif Weinidog newydd yn ei swydd cyn gwneud rhai penderfyniadau. Y rheswm pam fod y mater hwn mor bwysig yw oherwydd bod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi atal gweithredu diwydiannol arfaethedig yn ddiweddar dros gyflog meddygon iau. Yn ôl y Prif Weinidog ei hun, newidiodd sefyllfa negodi Llywodraeth Cymru yn sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o ganlyniad i ddiweddaru cyfrifiadau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gan Drysorlys y DU.

Rydym yn croesawu ailddechrau'r trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain wrth gwrs, ac yn gobeithio y byddant yn arwain at ddatrysiad boddhaol i weithlu meddygon iau nad ydynt yn cael y parch a haeddant, ond mae’n siomedig iawn ein bod yn gorfod dysgu am y newidiadau sylweddol hyn drwy’r cyfryngau, yn hytrach na chael y manylion perthnasol yn uniongyrchol gan y Llywodraeth mewn modd amserol. Rwy'n sylweddoli efallai nad yw'r Prif Weinidog newydd yn awyddus i ganolbwyntio ar rai materion ariannol, ond hoffwn annog y Cabinet newydd i addo bod yn agored gyda’r Senedd ynghylch ei allu i ddarparu adnoddau.

Hoffwn felly pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyfran o’r cynnig diwygiedig i feddygon iau a fydd yn arian ychwanegol gan Drysorlys y DU, ac a yw’n disgwyl unrhyw addasiadau i gynlluniau gwariant y Llywodraeth ar gyfer 2024-25 o ganlyniad i'r cynnig diwygiedig.

Er eglurder, ni fu unrhyw newid sylweddol i sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru ers yr amcangyfrifon atodol. Mae’n rhaid imi wrthod unrhyw awgrym ein bod yn celcio unrhyw gyllid er mwyn i’r Prif Weinidog allu cael y trafodaethau cadarnhaol hynny gyda chynrychiolwyr y meddygon. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem yn breuddwydio ei wneud o gwbl. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bobl ynglŷn â hynny. Ni fu unrhyw newid sylweddol o gwbl ers yr amcangyfrifon atodol, ond bydd y prif amcangyfrifon yn cael eu darparu cyn bo hir, felly dylem weld a fydd hynny'n darparu unrhyw swm bach o arian ychwanegol hefyd. Yn amlwg, ni allaf drafod manylion y trafodaethau hynny, ond yr hyn a ddywedaf yw eu bod yn ein rhoi yn ôl mewn lle anghyfforddus iawn wrth inni ddechrau'r flwyddyn ariannol, gan gofio'r pwysau arnom yn gyffredinol.

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

3. Pa effaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl y bydd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn ei chael ar y rhai sy'n talu'r dreth gyngor? OQ60929

Mae’r Bil yn ceisio gwella cynllun cyffredinol system y dreth gyngor i gynnwys ailbrisiadau rheolaidd, ac i sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer disgowntiau a gostyngiadau yn parhau i fod yn addas i'r diben. Mae asesiad effaith manwl wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r Bil.

Cydnabyddir bod yr adolygiad hirddisgwyliedig hwn o'r dreth gyngor yn angenrheidiol, ac mae llawer o bobl sydd wedi ysgrifennu ataf wedi cydnabod hynny, ond mae rhai etholwyr wedi ysgrifennu i fynegi pryderon hefyd. Un pryder a godwyd gyda mi yw’r effaith anfwriadol y gallai’r diwygiadau hyn ei chael ar y rheini sy’n byw mewn eiddo sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn ei werth oherwydd chwyddiant prisiau tai ond mae’r bobl sy’n byw ynddynt ar incwm sefydlog fel pensiynau—mewn geiriau eraill, y rheini sy'n gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian parod, ac a allai fod yn byw mewn tlodi tanwydd hyd yn oed oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn benodol, mae’r materion hynny wedi’u codi. Mae etholwr hefyd wedi gwneud awgrym y gallai diwygio’r dreth gyngor gynnwys terfyn uchaf ar y ganran o incwm aelwydydd a delir yn y dreth gyngor, ni waeth pa fand y gallai’r cartref hwnnw fod ynddo. Hoffai’r etholwr sydd wedi ysgrifennu ataf wybod a ydych yn ystyried hynny fel rhan o’ch ystyriaeth o'r ymatebion i’r ymgynghoriad, a hefyd mewn unrhyw ymgais a wnewch yn y dyfodol i wneud y dreth gyngor yn decach.

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn a hefyd am y diddordeb y mae Aelodau’r Senedd ac aelodau’r cyhoedd yn ei ddangos ym mater diwygio’r dreth gyngor. Mae'n effeithio ar bob cartref ledled Cymru, felly mae'n iawn fod pob cartref yn dangos diddordeb ac yn rhannu eu barn gyda ni. Credaf mai un peth pwysig i'w bwysleisio yw nad yw'r ffaith bod eiddo wedi cynyddu mewn gwerth dros yr 20 mlynedd diwethaf ynddo'i hun yn golygu y byddai eu biliau o reidrwydd yn cynyddu. Yr hyn sy’n bwysig yw ble mae eich eiddo mewn perthynas â phob eiddo domestig arall yng Nghymru ac a yw hynny wedi newid ai peidio. Felly, mae'n bwysig cydnabod hynny, yn ogystal â'r ffaith nad codi mwy o arian yn gyffredinol yw nod yr ymarfer; y nod yw codi'r un faint o arian, ond gwneud hynny mewn ffordd decach. Felly, mae'n bwysig cydnabod hynny.

Mae hi bob amser yn dda pan fydd pobl yn cyflwyno gwahanol syniadau ynglŷn â sut y gallem edrych ar bethau. Yn sicr, mae’r ffordd bosibl ymlaen a ddisgrifiwyd yn fy atgoffa o’r gwaith a wnaethom pan fuom yn edrych ar dreth incwm leol, i weld a yw hynny’n rhywbeth a allai ddisodli’r dreth gyngor wrth symud ymlaen. Yn y diwedd, fe wnaethom ddiystyru’r syniad penodol hwnnw, gan nad oes gan awdurdodau lleol fynediad, fel mater o drefn, at wybodaeth ynglŷn ag incwm pob cartref. Gallai fod yn arbennig o anodd cael mynediad at y wybodaeth honno. Mae incwm aelwydydd pobl yn newid drwy’r amser, ac un o fanteision y dreth gyngor, fel y mae ar hyn o bryd, yw ei bod yn dreth gymharol syml mewn sawl ffordd. Ond dim ond hanner eich treth gyngor yw eiddo; yr hanner arall, wrth gwrs, yw deiliaid yr eiddo.

Mae llawer o fesurau lliniaru eisoes wedi’u hymgorffori yn system y dreth gyngor i ystyried gallu pobl i dalu, megis cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n cefnogi mwy na 220,000 o aelwydydd ledled Cymru, a’r gostyngiad person sengl, sy'n cefnogi oddeutu 500,000 o aelwydydd yng Nghymru. Gyda’i gilydd, mae’r mathau hyn o fesurau yn golygu nad yw bron i hanner aelwydydd Cymru yn talu uchafswm y bil treth gyngor. Felly, mae'n bwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, fod y mesurau lliniaru hynny hefyd yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r gwaith a wnawn ar ddiwygio'r dreth gyngor, mewn perthynas â'r eiddo, i sicrhau ein bod yn darparu cymorth i'r bobl sydd fwyaf o'i angen.

13:55

Weinidog, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fodd bynnag, bydd y cynigion presennol yn arwain at gynnal ailbrisiadau o ardrethi annomestig yn amlach nag ailbrisiadau'r dreth gyngor, gan roi pwysau ychwanegol, felly, ar fusnesau. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir fod eu hymchwil yn dangos bod system bresennol y dreth gyngor wedi dyddio, felly pam eich bod yn oedi cyn ei diwygio? Mae’n amlwg fod angen diwygio’r system bresennol, a gorfodi cynghorau i gynnal refferendwm lleol, efallai, pan fyddant yn cynyddu’r dreth gyngor y tu hwnt i gap o 5 y cant, yn debyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr ers 2012-13 wrth gwrs. Felly, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn ei ystyried?

Diolch am eich cwestiwn. Mewn perthynas ag ardrethi annomestig a’r dreth gyngor, y bwriad yw ailbrisio ardrethi annomestig bob tair blynedd, ac yna bob pum mlynedd ar gyfer y dreth gyngor. Nid oes unrhyw reswm dilys pam y dylent fod ar yr un cylch, gan eu bod yn drethi gwahanol yn yr ystyr honno. Credaf fod y cylch tair blynedd yn ymateb i’r hyn roedd busnesau’n ei ddweud wrthym yr hoffent ei weld. Roeddent yn awyddus i gael ailbrisiadau aml er mwyn adlewyrchu’r economi leol a gwerth yr eiddo'n well, ond i gael rhywfaint o sefydlogrwydd hefyd. Mae’r cylch tair blynedd wedi’i groesawu gan gynrychiolwyr y gymuned fusnes ar gyfer yr ardrethi annomestig.

Nid ein bwriad yw cyflwyno refferenda lleol ar gyfer y dreth gyngor. Rydym yn credu y dylai lefel y dreth gyngor gael ei phennu gan gynghorau lleol. Mae'n rhan fawr iawn o ddemocratiaeth leol yn y ffordd y gall pobl fynegi eu barn i'r cyngor. Ond wedi dweud hynny, dim ond rhan o’r cyllid y mae Llywodraeth leol yn ei gael yw’r dreth gyngor. Byddem am fod mewn sefyllfa i roi’r setliad gorau posibl i lywodraeth leol bob amser, ac mae arnaf ofn fod hynny’n galw am gyllid pellach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth y DU.

Llinellau Cymorth

4. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch darparu llinellau cymorth hunanasesiadau, TAW a'r cynllun talu wrth ennill ar gyfer aelodau'r cyhoedd? OQ60928

Er mai mater gweithredol i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yw darparu llinellau cymorth treth ar gyfer y DU gyfan, mae fy swyddogion a minnau’n codi’n rheolaidd, gyda Thrysorlys EF a CThEF, pa mor bwysig yw hi i drethdalwyr yng Nghymru gael cymorth i ymdrin â materion treth cymhleth a’u galluogi i dalu’r dreth gywir ar yr adeg gywir.

Diolch am eich ymateb. A gaf innau hefyd eich croesawu i’ch rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet? Ond o fanciau'r stryd fawr yn cau i archfarchnadoedd enfawr yn blaenoriaethu peiriannau hunanwasanaeth yn hytrach na staffio tiliau, mae'n ffaith nad yw'r obsesiwn cyfalafol â thorri swyddi pobl go iawn yn enw elw yn dangos unrhyw arwydd o ddod i ben. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i staffio CThEF gyda phobl go iawn fel y gall ein dinasyddion ofyn am gyngor gan bobl go iawn hefyd?

14:00

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac roeddwn yn falch o weld y tro pedol cyflym gan CThEF mewn perthynas â'r penderfyniad i gau'r llinell gymorth hunanasesu. Roeddwn yn credu bod y brotest gyhoeddus yn un gref, ac rwy'n croesawu'r tro pedol hwnnw. O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod mai cyfrifoldeb CThEF yw darparu'r llinellau cymorth hyn, ond credaf fod gennym fodel da iawn yma yng Nghymru ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ar faterion treth, sef Awdurdod Cyllid Cymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru, wrth gwrs, yn gyfrifol am weinyddu ein treth trafodiadau tir a'n treth gwarediadau tirlenwi, ac rwy'n credu eu bod ill dwy'n perfformio'n dda iawn o ran gallu darparu gwasanaeth cadarn a hygyrch i aelodau'r cyhoedd. Rhan o'i lwyddiant, rwy'n credu, yw penderfyniad Awdurdod Cyllid Cymru i gefnogi pobl i dalu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf, yn hytrach na threulio amser yn mynd ar ôl y bobl nad ydynt wedi talu'r swm cywir o dreth, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fodel yr ydym yn awyddus i'w rannu ag eraill. Rwy'n gwybod bod gan Awdurdod Cyllid Cymru berthynas waith dda gyda CThEF a'u bod yn gallu rhannu arferion da.

Ar hyn o bryd, mae pobl yn aros am fwy o amser nag erioed i siarad â chynghorydd CThEF dros y ffôn, sydd ar hyn o bryd oddeutu 25 munud ar gyfartaledd, ac mae nifer y cwynion a gyflwynwyd i CThEF hefyd yn cynyddu. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw CThEF, ond mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau i osod trethi, ac mae'n rhaid i drethdalwyr Cymru gyfathrebu â CThEF, felly mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru'n gwneud y sylwadau angenrheidiol i Whitehall ynglŷn â sut y dylai'r gwasanaeth weithredu ar gyfer pobl Cymru. Mae pryderon ynghylch amseroedd aros a chwynion cynyddol wedi canolbwyntio ar y ffaith bod hanner y gweision sifil sy'n gweithio ym mhencadlys CThEF yn dal i weithio gartref, a chaiff hyn ei adlewyrchu gan y cynhyrchiant tlotach. Roedd Canghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves, hefyd yn dadlau yr wythnos diwethaf y dylai holl staff CThEF ddychwelyd i'r swyddfa i hybu gwasanaeth cwsmeriaid. Hefyd, fel mater o degwch, nid yw hyn yn opsiwn i'r mwyafrif helaeth o'r sector preifat, felly a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU i gynorthwyo ymdrechion i sicrhau bod gweision sifil o fewn CThEF yn dychwelyd at eu desgiau i ddarparu gwell gwasanaeth i drethdalwyr, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i osod esiampl dda drwy sicrhau bod gweision sifil yn dychwelyd at eu desgiau hefyd?

Wel, rydych yn disgrifio mater gweithredol i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd, ac nid ydym fel arfer yn gwneud sylwadau ar faterion gweithredol i adrannau Llywodraeth y DU. Ond gyda'r nod o geisio bod yn ddefnyddiol, mae gennym gytundeb lefel gwasanaeth gyda CThEF ar weithredu cyfraddau treth incwm Cymru, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rydym yn cyhoeddi hwnnw—rwy'n ei gyhoeddi gyda datganiad ysgrifenedig bob blwyddyn, ac mae'n cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn gyfredol, ac yna mae CThEF yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithrediad cyfraddau treth incwm Cymru. Mae hefyd yn ofynnol o dan y ddeddfwriaeth i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol gynnal archwiliad blynyddol o gasgliad CThEF o gyfraddau treth incwm Cymru hefyd, felly rwy'n credu, cyn belled â bod gan CThEF gyfrifoldebau mewn perthynas â chyfraddau treth incwm Cymru, mae gennym berthynas waith dda, ac rydym yn fodlon â'r gwasanaeth a gawn. 

Cyfleusterau Toiledau Cyhoeddus

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi awdurdodau lleol i gynnal cyfleusterau toiledau cyhoeddus? OQ60910

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ers iddi gael ei phenodi am gyllid ar gyfer toiledau cyhoeddus. Mae'r cynnydd cyfartalog i gyllid awdurdodau lleol ar gyfer 2024-25 yn 3.3 y cant, a bydd angen i bob un gydbwyso'r ddarpariaeth o wasanaethau yn erbyn y cyllid sydd ar gael. Er gwaethaf ein hymdrechion i roi'r setliad gorau posibl i awdurdodau, mae'n rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Rydym yn gwybod bod cymunedau ledled Cymru yn cael eu gorfodi i gamu i'r adwy ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb o weithredu a chynnal ein cyfleusterau toiledau cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddarparu cyllid cyfyngedig, ond fel y dywedwch, maent wedi'u cyfyngu'n ddifrifol gan gyllidebau sy'n tynhau'n barhaus. Mae'r diffyg toiledau cyhoeddus a'r ffaith nad ydynt ar agor ar oriau penodol yn golygu bod hyn yn cael effaith, nid yn unig ar ein trigolion ein hunain, ond ar ymwelwyr hefyd. Gallaf roi enghraifft i chi. Yn Rhaeadr, ysgwyddodd cyngor y dref gyfrifoldeb am weithredu toiledau cyhoeddus yn 2015, ond cafodd yr holl gymorth ariannol ei dynnu'n ôl yn y blynyddoedd dilynol. A chyda phoblogaeth o ddim ond 2,000, ni all y gymuned fach hon barhau i ariannu'r cyfleusterau hyn, sydd ar gael ar y prif ffyrdd—yr A44 a'r A470. Felly, y gwir amdani yw bod toiledau cyhoeddus yn seilwaith hanfodol, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ar hynny, yn enwedig i bobl hŷn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried amlinellu pa gymorth penodol a allai fod ar gael, a beth y gallech ei wneud, gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i gynorthwyo grwpiau cymunedol a chynghorau lleol i weithredu a chynnal y cyfleusterau cyhoeddus hanfodol hyn. Diolch yn fawr iawn.

14:05

Diolch, a hoffwn innau ymuno â Jane Dodds i gydnabod pwysigrwydd argaeledd toiledau cyhoeddus, yn enwedig i bobl anabl, pobl hŷn, yn ogystal â'r bobl sy'n teithio drwy ein hardaloedd gwledig yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun hwnnw, mae'n bwysig cydnabod, drwy ein Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ein bod wedi ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu i gynhyrchu'r strategaethau hynny ar gyfer toiledau cyhoeddus ledled Cymru. Rhan o'r nod hwnnw, mewn gwirionedd, oedd cydnabod bod cyllid cyhoeddus bob amser yn gyfyngedig, ar rai adegau yn fwy nag eraill, ond i wneud gwell defnydd o'r math o fannau cyhoeddus a mannau preifat sydd ar gael i ni, felly sicrhau bod adeiladau cyhoeddus yn agored ac yn groesawgar, fod pobl yn teimlo y gallant ddod i mewn, gan ymgysylltu â chynlluniau lleol, efallai, lle mae'r busnesau hynny'n sicrhau bod eu toiledau ar gael i'r cyhoedd, yn y gobaith, efallai, y bydd yn annog y bobl hynny i siopa yn y llefydd hynny ac yn y blaen.

Felly, rwy'n credu bod yna bethau creadigol yn digwydd ledled Cymru, ond rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â gwledigrwydd yn bwysig iawn. Rwy'n gwybod ein bod yn siarad yn aml am y fformiwla gyllido yma yn y Siambr. Mae hynny bellach wedi'i drosglwyddo i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog tai a llywodraeth leol, ond mae gennyf ddiddordeb brwd ynddo o hyd, fel sydd gan gyd-Aelodau eraill, ac rwy'n ymwybodol fod peth o'r data hynaf o fewn hynny'n ymwneud â dangosyddion sy'n gysylltiedig â theneurwydd y boblogaeth. Felly, roeddwn eisiau rhoi gwybod i gyd-Aelodau fod swyddogion yn gweithio gyda'r is-grŵp dosbarthu a chyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar hyn o bryd i ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol i ddiweddaru'r wybodaeth honno ar gyfer setliadau'r dyfodol. Mae'n bwysig iawn. Mae tua £460 miliwn o gyllid mewn perthynas â'r setliad yn cael ei ddosbarthu ar sail y dangosydd teneurwydd poblogaeth, felly mae'n bwysig, ac rydym wedi cael y cyfrifiad diweddar, felly rydym yn edrych ar sut y gallwn ddiweddaru'r fformiwla yn hynny o beth. Felly, bydd hynny'n bwysig iawn wrth symud ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pentref Caeriw yng nghanol de sir Benfro yn denu dros 70,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ac mae llawer, os nad pob un ohonynt, yn mwynhau un o'r cestyll Normanaidd gorau yn y DU, castell Caeriw. Fodd bynnag, mae toiledau cyhoeddus y pentref newydd gael eu hachub rhag cau yn dilyn ymgyrch gan drigolion lleol a'r cynghorydd sir gweithgar, y Cynghorydd Vanessa Thomas, a Chyngor Cymuned Caeriw sydd wedi cymryd y gwaith o gynnal y bloc oddi ar ysgwyddau'r awdurdod lleol. Mae'r cyngor cymuned wedi ariannu'r ymrwymiad hwn drwy gynyddu eu praesept treth lleol o £18,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i £30,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol, gan arwain at fwy o faich ar breswylwyr. Nid yw hwn yn ateb hirdymor, ac ar adeg pan ydym eisiau cynyddu a chroesawu mwy o ymwelwyr i gefn gwlad ac annog ymarfer corff a llesiant, a gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyllid digonol ar gael ar gyfer cynnal toiledau cyhoeddus? Diolch. 

Wel, gallech ddadlau bod yr Aelod bron â dadlau'r achos dros ardoll ymwelwyr yno, o ran cydnabod yr effaith y mae ymwelwyr yn ei chael ar ardal leol a'r ffordd yr ydym yn dibynnu ar drigolion lleol i dalu am hynny. Mae gennym enghreifftiau o leoedd yn y byd lle mae awdurdodau neu lywodraethau'n buddsoddi mewn toiledau cyhoeddus, er enghraifft, fel ffordd o sicrhau bod y lleoedd sydd gennym i groesawu twristiaid yn gyfforddus ar eu cyfer pan fyddant yn cyrraedd.

Cyflog yn y Gwasanaethau Iechyd a Gofal

6. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ariannu lefel briodol o gyflog yn y gwasanaethau iechyd a gofal? OQ60914

Rwy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd dwyochrog yn rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydym yn wynebu'r sefyllfa ariannol fwyaf difrifol ers dechrau datganoli, sy'n gwneud ein tasg yn llawer anos. Er gwaethaf hyn, rydym wedi nodi ffordd ymlaen y gobeithiwn y bydd yn arwain at ddatrys yr anghydfod.

14:10

Diolch am hynny. Cafodd rhagor o streiciau meddygon eu hatal am y tro am fod Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd o'r diwedd i gael trafodaethau ystyrlon gyda meddygon am eu cyflog, ac rwy'n croesawu hynny. Ond ar fater meddygfeydd meddygon teulu a gofal sylfaenol, mae mwy a mwy o feddygfeydd lleol yn cau, ac felly mae'r pwysau cynyddol ar ymarfer cyffredinol yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol i bobl sy'n ei chael hi'n anos gweld meddyg. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi dangos parodrwydd i gynnal trafodaethau gyda meddygon mewn gofal eilaidd, felly a allech chi ddweud wrthyf a fydd yr un parodrwydd yn cael ei ddangos i fynd i'r afael â thanariannu ymarfer cyffredinol, oherwydd nid wyf yn credu y gall ein Cymoedd ymdopi â mwy fyth o feddygfeydd yn cau?

Rwy'n credu y byddai'n well cyfeirio'r cwestiwn cyffredinol mewn perthynas ag ariannu gofal sylfaenol at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sy'n gyfrifol am y meysydd hyn. Ond hoffwn atgoffa cyd-Aelodau ein bod wedi blaenoriaethu'r GIG drwy gydol ein paratoadau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd y GIG yn gweld y cynnydd hwnnw o fwy na 4 y cant yma yng Nghymru, o'i gymharu â llai nag 1 y cant dros y ffin yn Lloegr. Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed, a byddant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, dros doriad y Pasg, mynychais gyfarfod gyda Diwygio ADY Cymru, lle buom yn trafod yr angen i adrannau addysg ac iechyd weithio'n agosach wrth gefnogi plant ag ADY. Mae ystadegau wedi dangos bod gostyngiad o fwy na 40 y cant wedi bod yn nifer y plant sy'n cael cymorth, er gwaethaf cynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau yn ei gylch. Er fy mod yn cydnabod bod hon yn broblem ar draws y sectorau iechyd ac addysg, rwy'n siŵr y gallwch gytuno fod cymorth ariannol yn hanfodol ac y bydd yn adfer ffydd cymaint o deuluoedd ledled Cymru ei fod yn flaenoriaeth mewn gwirionedd ac y bydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, gobeithio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymrwymiadau y gallwch eu gwneud heddiw i'n sicrhau eich bod am edrych ar adnoddau ychwanegol ar gyfer hyfforddiant ar draws amrywiol broffesiynau i gefnogi plant ag ADY yng Nghymru? Diolch.

Wel, unwaith eto, byddai'n well cyfeirio'r cwestiynau hyn at fy nghyd-Aelodau, oherwydd fel y gwnaethom nodi yn ein paratoadau ar gyfer y gyllideb, nid ydym yn cadw symiau enfawr o gyllid yn ôl fel y gallwn ymateb i gwestiynau gan gyd-Aelodau am feysydd lle hoffent weld cyllid ychwanegol. Nid dyna'r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Rydych chi wedi gweld y gwaith anodd a wnaethom ar ailflaenoriaethu ar draws y Llywodraeth i ddarparu cyllid ychwanegol i iechyd, ac i sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu cael yr arian yr oeddem wedi ei ragweld ar ei gyfer, ac mae hynny wedi golygu dewisiadau anodd iawn i gyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth. Felly, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i allu siarad am ddyrannu adnoddau ychwanegol, er cymaint yr hoffwn wneud hynny.

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Arfon

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Arfon? OQ60905

Mae swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn Noc Fictoria, lle mae gennym feddiannaeth ar les tan 2028. Cwblhawyd gwerthiant ein safle gwag yng Ngogledd Penrallt i Gyngor Gwynedd ar 28 Mawrth 2024. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i bresenoldeb yng ngogledd-orllewin Cymru.

Mae'r gwaith ar gamau nesaf y prosiect i droi adeilad Penrallt yn llety dros dro ar gyfer y rhai sy'n ddigartref yn symud ymlaen, a dwi'n falch o glywed bod y pryniant wedi cael ei gadarnhau yn ddiweddar ar hwn. Dwi'n falch y bydd yna hwb cefnogaeth amlasiantaethol yn yr adeilad, yn ogystal â llety ar gyfer y rhai sydd yn canfod eu hunain yn ddigartref. Mae taclo'r argyfwng digartrefedd yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd yn sgil y cynnydd anferthol a phryderus sydd yn digwydd ar draws yr ardal. Dros y 12 mis diwethaf yn unig, mae 885 o bobl wedi cyflwyno yn ddigartref yng Ngwynedd, ac mae yna 250 o aelwydydd ar hyn o bryd mewn llety argyfwng sydd yn llety anaddas. Beth fedrith eich Llywodraeth chi ei wneud i gynnal y momentwm rŵan gyda phrosiect Penrallt, a chydlynu'r ymdrechion i wireddu'r cynllun cyn gynted â phosib?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n gwybod y bydd y camau nesaf mewn perthynas â chynllunio, felly bydd angen gwaith cynllunio angenrheidiol. Rwy'n gwybod bod Gwynedd yn bwriadu tendro a dechrau ar y safle cyn gynted â phosibl, i leihau niferoedd y bobl mewn llety dros dro, ac maent wedi derbyn cyllid grant o £763,000 o'n rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, a gobeithio y bydd hwnnw wedyn yn trawsnewid y safle yn 46 o fflatiau, a fydd yn darparu llety mawr ei angen i bobl sy'n byw'n lleol. A llwyddais i ymweld â Chaernarfon yn weddol ddiweddar, lle bûm yn siarad ag arweinydd y cyngor am y cynlluniau, a gwn eu bod yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda'r trydydd sector bywiog iawn sydd ganddynt yn yr ardal hefyd.

14:15
Ardoll Ymwelwyr

Unwaith eto, llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd. Fe fyddaf yn gweld eich colli yma, yn troi atom pan fyddwch yn beio Llywodraeth y DU. [Chwerthin.]

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ardoll ymwelwyr? OQ60900

Rydym yn bwrw ymlaen â'r cynigion deddfwriaethol ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Mae'r broses o ddatblygu deddfwriaeth a'r asesiadau effaith yn parhau. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n helaeth â'r sector twristiaeth, awdurdodau lleol ac eraill wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Diolch. Rydym i gyd yn ymwybodol, yn eich ymgynghoriad, fod mwyafrif ysgubol o'r rhai yn y diwydiant twristiaeth wedi dweud, 'Na, nid ydym eisiau treth dwristiaeth nac ardoll ymwelwyr.' Nawr, rydym ni, ar y meinciau hyn, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi ein busnesau'n llawn. Rydym yn sylweddoli eu bod yn creu swyddi, maent yn rhan hanfodol o'n heconomi—gwerth hyd at £5 biliwn yn wir. Yn ôl arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, mae 70 y cant o ymwelwyr bellach wedi dweud y byddent yn ystyried mynd ar wyliau i wlad arall. A ydych chi'n teimlo'n falch o hynny fel Gweinidog ein heconomi?

Yn fy etholaeth i yn Aberconwy, twristiaeth yw'r unig ddiwydiant. Dyma sylfaen yr economi leol. Yn annheg, mae'r dreth hon yn cosbi'r cymunedau sy'n dibynnu ar ymwelwyr—ac nid ymwelwyr dydd yn unig ond pobl sy'n defnyddio'r holl welyau niferus sydd gennym yn Aberconwy. Pam eich bod chi, fel Llywodraeth Cymru, mor awyddus i osod treth arall eto ar ddiwydiant sy'n dal i gael trafferth i ymadfer yn sgil COVID, diwydiant sydd wedi cael ei siomi gan y ffaith eich bod wedi torri'r rhyddhad ardrethi busnes, ac nid ydych chi'n deall, fel Llywodraeth, fod mwy o dderbyniadau treth i'w cael drwy gefnogi ein busnesau preifat, wrth iddynt gyflogi mwy o bobl, ac yn y pen draw, fod hynny'n golygu bod gennym well gwasanaethau cyhoeddus? Diolch.

Wel, wrth gwrs, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll dwristiaeth ai peidio a nhw fydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd orau i'w hardal leol. Ond pwrpas ardoll dwristiaeth fyddai galluogi a chefnogi'r awdurdod lleol hwnnw i gefnogi economi ymwelwyr leol fywiog, a gwn mai dyna rydym i gyd eisiau ei weld ar draws pob plaid yma yn y Siambr.

Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil sylweddol—cyfeiriais at beth o'r gwaith ymchwil hwnnw wrth un o'ch cyd-Aelodau yn gynharach y prynhawn yma—ond yn ogystal â hynny, rydym wedi cyflawni ymchwil defnyddwyr i ddeall beth oedd barn trigolion Cymru, a chwsmeriaid gwyliau domestig yn y DU hefyd, ar ardoll ymwelwyr posibl, ac archwilio barn ymwelwyr ynglŷn ag a ddylent gyfrannu ac a fyddai eu hymddygiad yn newid pe bai ardoll ymwelwyr yn bodoli. Cwblhaodd mwy na 2,500 o ymatebwyr yr arolwg, gyda dros 1,000 ohonynt yn byw yng Nghymru, ac roedd y canlyniadau'n dangos cefnogaeth eang i'r egwyddor o ardoll ymwelwyr. Canfu fod ymateb yr ymatebwyr i'r arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol i'r cysyniad o gael ardoll ymwelwyr yn rhywle y byddant yn mynd ar wyliau iddo neu yn eu hardal eu hunain. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gall pobl sy'n byw yn lleol, pobl sy'n gweld effaith twristiaeth ar eu cymunedau ac sydd eisiau gwella'r cynnig twristiaeth, ei gydnabod ond hefyd, mae pobl sy'n mynd ar wyliau yn cydnabod y gallant wneud cyfraniad i'r cymunedau hynny.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Diolch, Lywydd. Nid yw'r cwestiwn gennyf o'm blaen, mae'n ddrwg gennyf.

Fe wnaf i ffeindio fe.

Cynlluniau Adfer Glofeydd Brig

1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cynlluniau adfer glofeydd brig yn diogelu cymunedau yng Ngorllewin De Cymru? OQ60908

Diolch, Sioned, am y cwestiwn.

Mae diogelwch tomenni glo yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet—fy nghyd-Aelod—dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Serch hynny, mae rhaglen ddiogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei threfn arolygu a chynnal a chadw a Bil newydd ar gyfer tomenni glo nas defnyddir, yn rhoi diogelwch cymunedol wrth wraidd ei hamcanion.

Diolch. Mae'n siŵr eich bod wedi clywed y pryderon yn y wasg ac wedi clywed fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn codi pryderon am ddŵr yn cronni y gwagle a adawyd gan safle glo brig Ffos-y-Fran. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â diogelwch tomenni glo mewn gwirionedd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, gan ddweud ei bod yn monitro'r sefyllfa'n agos ac mai ei blaenoriaeth yw diogelwch y gymuned leol. Felly, hoffwn bwysleisio na ddylid ystyried hwn fel achos ynysig am mai un enghraifft yw Ffos-y-Fran o fethiant systemig i adfer mwyngloddiau brig. Mae problemau tebyg yn bodoli ym Mhwll y Dwyrain yn Nhairgwaith a Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r ffaith bod y gwagleoedd hyn yn llawn dŵr yn bryder mawr ers amser hir i'r cymunedau lleol yno. Ni chafodd y gwagleoedd mwyngloddio hyn erioed mo'u cynllunio yn ddaearegol, yn strwythurol, na'u harolygu'n hydrolegol i ddal miliynau o dunelli o ddŵr. Ym Mhwll y Dwyrain, mae daeargrynfeydd diweddar wedi cynyddu pryderon trigolion ynghylch y peryglon o adael 40 miliwn cu m o ddŵr ar ffawt daeargryn tua 150m uwchben llawr y dyffryn heb argae wedi'i adeiladu i ddal dŵr. Mae preswylwyr eisiau gweld arolygon ac adroddiadau gan beirianwyr cymwysedig wedi'u hindemnio a mesurau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r risgiau. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau a adawyd i ymdrin â chanlyniadau amgylcheddol difrifol mwyngloddio glo brig, a sut, yn benodol, rydych chi'n rhagweld y bydd y ddeddfwriaeth sydd ar y ffordd yng Nghymru yn cynorthwyo diogelwch a llesiant amgylcheddol cymunedau sy'n cynnwys safleoedd ôl-ddiwydiannol?

14:20

Diolch i chi, Sioned, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r pryderon a fynegwyd gan drigolion ac rydym wedi gweld llawer o hynny yn y parth cyhoeddus hefyd, ac mewn gwirionedd, rydym wedi cael gohebiaeth hefyd, ac rydym wedi gweld Delyth yn codi'r mater ac rwyf wedi gweld bod yr Aelod dros Ferthyr, fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, wedi ysgrifennu at fy rhagflaenydd yn y rôl hon neu at yr Aelod Cabinet presennol mewn perthynas â hyn hefyd. Ac nid yw'n fater newydd; nid yw'n fater ynysig. Mewn gwirionedd, wrth edrych ar draws y Siambr yma ar gyd-Aelodau sy'n cynrychioli fy rhanbarth, mae gennym ambell un yn ein hardal sy'n mynd yn ôl i gyfnod John Major yn y Llywodraeth. Ond mae pob un yn wahanol; mae pob un yn hollol ar wahân.

O ran Ffos-y-Fran, rydym mewn gwirionedd—. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn ac yn cadw mewn cysylltiad agos iawn nid yn unig â'r awdurdod lleol, ond hefyd gydag asiantaethau ar lawr gwlad yno, oherwydd ein blaenoriaeth o hyd—yn Ffos-y-Fran fel mewn mannau eraill—yw diogelwch y gymuned leol bob amser. Felly, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'r awdurdod lleol, ac amrywiaeth o bartneriaid yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi bod yn glir iawn—yn glir iawn—mai ein bwriad o hyd yw diogelu ac adfer y safle hwnnw, ochr yn ochr â'n dymuniad i weld y safle'n cael ei adfer yn llawn yn unol â'r caniatâd cynllunio.

Nawr, os caf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi hefyd, mae arweinydd y cyngor wedi rhoi sicrwydd i Weinidogion nad yw lefel y dŵr yn y gwagle yn bryder uniongyrchol, ond fel y dywedais, rydym wedi gweld hyn mewn achosion eraill mewn gwahanol rannau o Gymru hefyd, a gallwn gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i'r cyngor i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at asesiadau annibynnol ar bryderon llifogydd posibl ac ar effeithiau amgylcheddol hefyd. Ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad, ac rwy'n fwy na pharod i drafod hyn ymhellach gyda'r Aelod neu unrhyw Aelodau eraill sydd eisiau gweld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad a sut rydym yn monitro'r sefyllfa, ochr yn ochr â'r awdurdod lleol ac asiantaethau eraill hefyd. Felly, diolch.

Diolch i Sioned am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Er bod llawer o'r ffocws diweddar wedi bod ar dynged y cymunedau o amgylch Ffos-y-Fran, mae cymunedau yn ein rhanbarth ni yn dioddef malltod yr hyn a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo, yn byllau glo a mwyngloddiau glo brig. Er gwaethaf sicrwydd, mae Parc Slip ym Margam a Phwll y Dwyrain yng Nghastell-nedd Port Talbot yn parhau heb eu hadfer. Mae'r pryderon a leisiwyd gan gymunedau ym Merthyr Tudful wedi cael eu lleisio gan gymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot ers blynyddoedd heb unrhyw ddatrysiad. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd eich Llywodraeth chi'n sicrhau na fydd ein hetholwyr yn cael eu gorfodi i fyw gyda malltod gweithgareddau mwyngloddio a  bod safleoedd fel Parc Slip a Phwll y Dwyrain yn cael eu hadfer cyn gynted â phosibl?

Diolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw, am mai Parc Slip yw'r enghraifft y cyfeiriais ati yn fy ateb cyntaf mewn gwirionedd, ar garreg ein drws. Mae dau awdurdod lleol yn ymwneud ag ef; dau awdurdod lleol sydd wedi gorfod, ochr yn ochr â diddordeb gan fudiadau bywyd gwyllt hefyd, rhaid i mi ddweud, os gellid datrys y rhwymedigaethau ac yn y blaen—. Ond mae wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, ac mae gofyn wedyn i awdurdodau lleol gamu i'r adwy, oherwydd yn wreiddiol, yn yr achos hwnnw, ac rydym wedi'i weld mewn mannau eraill, y cynlluniau adfer, y cyllid sydd yn ei le ac yn y blaen—mae pob un yn wahanol, ond ni chawsant eu rhoi ar waith. Dyna'r un sy'n dyddio'n ôl i gyfnod Llywodraeth John Major, yn rhyfedd iawn. Felly, rydym yn dal i orfod mynd i'r afael â'r rhain.

Ond yr hyn a wnawn ar y ddeddfwriaeth, a chyflwyno'r ddeddfwriaeth, a fydd yn helpu yn wir, yw sicrhau bod cynllunio Bil diogelwch tomenni nas defnyddir yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi ymrwymo i hyn a threfn hirdymor, ragweithiol i sicrhau diogelwch parhaus y rhan hon o etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru. Rydym yn bwriadu cyflwyno'r Bil i'r Senedd yr hydref hwn, a gwn y bydd yr Aelodau sy'n codi pwyntiau yma ac eraill eisiau gweld sut y gall y Bil hwnnw gyfrannu yn ogystal at fynd i'r afael â'r hyn a adawyd ar ôl mewn gwahanol rannau o Gymru, ledled Cymru, pethau yr ydym i gyd bellach yn byw gyda nhw a ddylai fod wedi cael eu datrys pan gafodd y cynlluniau hyn eu rhoi ar waith, i fod yn onest, a ni sy'n gorfod ysgwyddo'r baich bellach. Ond byddwn yn gweithio gydag asiantaethau ar lawr gwlad, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ac yn ceisio gwneud yn siŵr hefyd nad ydym yn rhoi baich annheg ar y trethdalwr yn hyn o beth, rhaid imi ddweud. Mae yna gyfrifoldeb ar y datblygwyr gwreiddiol hyn, os ydynt yn dal i fodoli, i gamu i'r adwy hefyd.

14:25
Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Newydd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd a ddaeth i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2024? OQ60911

Diolch yn fawr, Hefin. Gwnaf. Bydd y rheoliadau dan sylw yn cynyddu ailgylchu ac yn lleihau allyriadau carbon drwy sicrhau bod deunyddiau o ansawdd uchel yn cael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd. Bydd hyn yn lleihau gwastraff sy'n cael ei losgi a'i dirlenwi gan helpu ein heconomi a gwytnwch cadwyni cyflenwi, ac mae'n gam hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu.

Gan fod y newidiadau wedi cael eu cyflwyno erbyn hyn, mae elusennau wedi cysylltu â mi mewn perthynas â rhai o'r anawsterau a ddaw yn sgil y rheoliadau, yn enwedig cost sawl bin newydd a chreu lle i storio gwastraff ailgylchu ychwanegol. Felly, i roi un enghraifft i chi, mae YMCA Cwm Aber yn Abertridwr wedi cysylltu â mi, ynghyd â Grŵp Sgowtiaid Senghennydd, sy'n rhedeg Parc Gweithgareddau Sgowtiaid Caerffili, Cwm Rhymni ac Islwyn, a Tŷ Hafan, sydd â siop yng Nghaerffili, ac mae gan bob un ohonynt bryderon fod y gofynion lluosog yn y rheoliadau ar gyfer storio gwastraff yn costio arian iddynt. Er enghraifft, mae siop Tŷ Hafan yng Nghaerffili yn ailgylchu neu'n ailddefnyddio 90 y cant o'i rhoddion, ac felly, er eu bod wedi ymrwymo ac yn angerddol ynglŷn ag ailgylchu, maent yn gorfod ysgwyddo baich y costau ychwanegol, ac ar ben hynny nid yw tomenni trefol yn derbyn gwastraff busnes—nid yng Nghaerffili. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu'r math hwnnw o gymorth ymarferol i ddatrys rhai o'r problemau, yn enwedig ar gyfer yr achosion mwyaf haeddiannol, fel sefydliadau elusennol?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Hefin. Mae'n gwestiwn ymarferol iawn hefyd, gyda pholisi sydd â bwriadau da iawn ac a fydd yn sicrhau canlyniadau go iawn. Dyma sut rydym yn helpu'r sefydliadau hynny, ac nid y sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus yn enwedig, ond y sefydliadau elusennol, sefydliadau'r trydydd sector, i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, a busnesau bach hefyd. Fel enghraifft, gyda llaw, er bod rhai costau cychwynnol wrth drosglwyddo i'r system newydd hon, fel y gwelsom gydag ailgylchu ar garreg y drws, mae'r amcanestyniadau'n dangos, os yw pethau'n aros fel y maent ar hyn o bryd, oherwydd y costau cynyddol o gasglu gwastraff a chostau cynyddol tirlenwi, a'r ffaith bod Bil ar y ffordd yn Senedd y DU sy'n debygol o gynyddu'r costau hynny ymhellach, rydym yn edrych ar arbedion o £124.3 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf o'i gymharu â'r status quo. Mae hyn cyn inni ystyried, gyda llaw, y costau gwaredu gwastraff gweddilliol. Felly, rhan o'r cynllun hwn yw rhoi gwytnwch i'r sector, gan ragweld y bydd yn mynd yn ddrutach os yw pethau'n aros fel y maent.

Ond fe wnaethoch chi ofyn yn benodol sut y gallwn ni helpu. Wel, rydym wedi creu—. Gyda llaw, yn gyntaf oll, dylwn ddweud, os ydych chi am gysylltu â mi, rwy'n fwy na pharod i gyfarwyddo'r sefydliadau unigol hynny. Ond rydym wedi creu ystod o adnoddau ymarferol defnyddiol i helpu'r gweithleoedd hynny, gan gynnwys cod ymarfer manwl, a chanllawiau penodol i'r sector. Mae yna weminarau gyda gwybodaeth ar-lein—sy'n ddefnyddiol iawn, rwyf wedi edrych arnynt; maent yn hawdd iawn i'w deall—ond hefyd fideos o astudiaethau achos, gan gynnwys y math o sefydliadau rydych chi'n cyfeirio atynt. Felly, er enghraifft, mae un o'r astudiaethau achos ar elusen trydydd sector, siop elusen Hosbis y Cymoedd ym Mlaenau Gwent sy'n dangos sut maent wedi mynd i'r afael â'r peth heb lawer o drafferth, drwy wneud y newid yn hawdd iawn gyda chefnogaeth, gydag arweiniad. Felly, gall yr adnoddau hyn helpu gweithleoedd i nodi beth sy'n arfer da, sut i'w wneud yn ymarferol iawn, sut i wahanu deunyddiau a lleoli biniau hefyd, y pethau ymarferol hynny, a hefyd sut i hyfforddi ac uwchsgilio staff—mae hyn i gyd yn digwydd yn fy ngweithle fy hun ar hyn o bryd—ac optimeiddio a symleiddio systemau i leihau gwastraff a lleihau costau. Ond fel y dywedais, mae gennym lawer o sefydliadau'n arddangos arferion gorau. Mae'r wybodaeth honno ar gael yn hawdd iawn, ond os hoffech ysgrifennu ataf, rwy'n fwy na pharod i'w cyfeirio'n unigol at ble y gallant ddod o hyd iddi. Diolch.

14:30

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf wedi cyfarfod â busnes ar draws fy etholaeth nad yw eisiau ailgylchu mwy. Fodd bynnag, mae'r busnesau yr wyf wedi siarad â nhw wedi dweud, ynghylch ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnes, 'Do, fe wnaethant geisio, ond ni chyrhaeddodd bawb.' Felly, mae yna fusnesau allan yno nad ydynt yn ymwybodol o'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn gwirionedd. Mae yna fusnesau lletygarwch hefyd, fel y tafarndai, sy'n pryderu'n fawr y bydd ganddynt lawer o finiau allan yng nghefn eu heiddo a bydd ganddynt wastraff halogedig oherwydd bod pobl yn taflu beth bynnag y maent am ei daflu i mewn i finiau mewn mannau cyhoeddus, a'u busnesau nhw fydd yn cael dirwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru am fod ganddynt wastraff halogedig. Byddai'r busnesau yr wyf wedi siarad â nhw eisiau ychydig mwy o amser fel y gallant addasu i'r newidiadau hyn, a chwmnïau ailgylchu hefyd, fel y gallant ddarparu biniau gyda chlo arnynt, fel na fydd modd i bobl daflu unrhyw fath o wastraff i mewn i'r biniau hynny. Felly, gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: a allwn ni gael safbwynt ychydig yn llai llym ynghylch gorfodi hyn am 12 mis, er mwyn inni allu rhoi amser i'r busnesau ailgylchu ddarparu'r biniau sydd eu hangen arnynt, a hefyd i roi cyfle i'r busnesau sy'n gweithredu'r newidiadau hyn gael y biniau y maent eu heisiau fel eu bod yn gallu cydymffurfio ag unrhyw reolau a roddwch ar waith? 

James, diolch am y cwestiwn atodol defnyddiol hwnnw. A Lywydd, os caf nodi wrth bobl, y rheswm pam na allaf droi atoch yw, er mor ffit ac iach wyf i, ni allaf droi fy ngwddf—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Ond i esbonio, rhag ofn eich bod chi'n meddwl fy mod i'n eich anwybyddu, neu os ydych chi'n meddwl fy mod yn troi fy nghefn arnoch, fel hyn rwyf i'n barhaol. 

Os trowch eich cefn hefyd, Weinidog, ni fydd y camerâu yn eich gweld ac ni fydd y meicroffon yn codi eich llais. Felly, daliwch ati i edrych o'ch blaen yw fy nghyngor proffesiynol. [Chwerthin.]

Mae'n un o ffeithiau fy mywyd. Ni allaf chwarae criced nawr ychwaith am na allaf edrych ar hyd y llain gan fy mod yn methu troi fy mhen.

Ond beth bynnag, mae'n gwestiwn defnyddiol iawn. Yn gyntaf oll, mae wedi cymryd 10 mlynedd i'w wneud—10 mlynedd—ac rydym eisoes wedi gohirio am chwe mis er mwyn ei fireinio mewn ymateb i gais blaenorol. Soniais mewn ymateb i gwestiwn Hefin David am yr ystod eang o wybodaeth sydd ar gael, ac o ddifrif, James, mae'n cyfeirio pobl tuag at y ffynonellau hynny oherwydd byddant yn ddefnyddiol iawn. Yr hyn sy'n ddiddorol iawn yn yr arolygon a wnaethom yn ddiweddar yw bod mwy na thri chwarter y cyhoedd a arolygwyd, ond hefyd, y BBaChau a arolygwyd, yn cefnogi hyn mewn gwirionedd; maent eisiau gwneud iddo ddigwydd. Felly, rydym yn ceisio ei gwneud hi'n hawdd iddynt drwy ddweud, 'Dyma lle gallwch chi gael y cyngor ac yn y blaen.' Ond rydym eisoes wedi gohirio.

Un peth arall i'w grybwyll mewn ymateb i hynny, ar ddull cymesur o weithredu'r rheoliadau a'r orfodaeth, mae CNC eisoes wedi cynghori, yn unol â'u hegwyddorion rheoleiddiol, y byddant yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar risg o reoleiddio—dull teg a chymesur. Maent yn bwriadu helpu, cynghori, arwain, addysgu, os mynnwch, yn gyntaf oll. Roedd yr un fath â phan ddaeth i mewn gyda'r ailgylchu ar garreg y drws mewn tai. Fe gofiwch y ffwdan ynglŷn â hynny, a phawb yn dweud, 'Sut ar y ddaear y gwnawn ni hyn?' Ond rydym wedi arfer nawr; rydym yn ei wneud. Felly, bydd y cyngor a'r gefnogaeth yno, a dull teg a chymesur o orfodi, gyda phwyslais cychwynnol ar ddarparu cymorth ac arweiniad i helpu'r busnesau a'r gweithleoedd hynny i gydymffurfio. Ond mae cyngor ymarferol ar gael, James, ac unwaith eto, rwy'n cynnig: os ydych chi am gael sgwrs gyda mi fel y gallwn nodi busnesau sy'n ei chael hi'n anodd, rwy'n fwy na hapus i wneud hynny er mwyn helpu i'w cyfeirio at lle gallant gael y gefnogaeth honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r Ysgrifennydd Cabinet newydd i'w swydd ac yn dymuno'n dda iddo. Ac rwy'n ddiolchgar hefyd, am yr amser a roddodd i mi ddoe i drafod ystod o faterion. Rwy'n falch o weld hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi bod allan ar ffermydd, rai ohonynt yn fy etholaeth i, heb i mi gael fy hysbysu, gwaetha'r modd, fel sy'n brotocol safonol. Ond ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliwyd y brotest fwyaf o'i bath ar risiau'r Senedd, wrth i ffermwyr Cymru sefyll mewn undod yn erbyn cynigion Llywodraeth Cymru ar y cynllun ffermio cynaliadwy, dileu TB buchol a rheoliadau parthau perygl nitradau. Nawr, nid wyf yn genfigennus o'r Ysgrifennydd Cabinet newydd a'r berthynas doredig rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gymru wledig y mae wedi'i hetifeddu gyda'r portffolio hwn. Fe wnaeth eich rhagflaenydd gyfarfod â threfnwyr cyfarfodydd mart y Trallwng a Chaerfyrddin, ac a gaf i eich annog i wneud yr un peth? Ond ar y cynllun ffermio cynaliadwy yn benodol, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud i gymell ffermwyr i ymuno â'r cynllun, ar ôl cael gwybod yn bendant iawn gan yr undebau ffermio na fydd mân newidiadau'n ddigonol?

14:35

Diolch yn fawr, Sam, a diolch am y croeso i'r swyddfa. Gwrandewch, o ddifrif, rwy'n ymddiheuro am beidio â rhoi rhybudd i chi yr wythnos diwethaf. Roedd yna amgylchiadau ynghlwm wrth hynny yr wyf yn hapus i'w trafod, ond fe wnawn sicrhau nad yw'n digwydd eto, a hyd yn oed gydag amgylchiadau anarferol, fe wnawn eich hysbysu chi ac Aelodau eraill yma hefyd. Felly, rwy'n ymddiheuro. 

Edrychwch, Sam, nid wyf eto yn fwriadol—ac rwy'n dweud hyn yn gwbl onest—neu nid ydym mewn sefyllfa eto i wneud penderfyniadau polisi penodol a chyhoeddi'r camau nesaf ar lle rydym ni'n mynd gyda chynaliadwyedd ffermio. Gyda llaw, pan ddywedaf gynaliadwyedd ffermio, rwy'n golygu hynny yn yr ystyr ehangaf. Fel y dywedais mewn cyfweliadau yr wythnos hon, mae'n ymwneud â chynaliadwyedd a bywiogrwydd busnesau'r fferm, yn ogystal â chynaliadwyedd mewn perthynas â'r argyfyngau newid hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu. Mae'n ymwneud â chynhyrchu bwyd a hynny i gyd ochr yn ochr â'r pethau eraill y mae'n rhaid i ni eu gwneud. Mae hynny'n golygu, ar sail y miloedd o ymatebion a gawsom eisoes, ar sail y ddeialog a gawsom dros saith mlynedd, ei bod hi'n bryd oedi a myfyrio ac yna ymgysylltu, ond peidio ag oedi'n rhy hir, oherwydd y peth gwaethaf y gallwn ei wneud i ffermwyr, yn ogystal â phawb arall, yw dweud, 'Gadewch inni chwistrellu mwy o ansicrwydd, mwy o oedi'. Mae'n rhaid inni fwrw ymlaen.

Un o'r pethau defnyddiol a wnaethom o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf o ddod i'n swyddi, fy nghyd-Aelod, y Prif Weinidog a minnau—. Rwy'n credu mai'r cyfarfod ffurfiol cyntaf a gafodd y Prif Weinidog ym Mharc Cathays oedd yr un gyda phenaethiaid yr undebau ffermio. Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol, ond fe wnaethom bwysleisio iddynt ein bod yn gwrando o ddifrif. Rydym yn edrych ar beth yw'r ymatebion i'r ymgynghoriadau hynny cyn i ni symud. Pan fyddwn yn symud, fe'i gwnawn gyda'n gilydd. Mae hynny'n allweddol, ac mae hynny'n mynd at wraidd y cwestiwn a ofynnoch chi. Nid ydym yn gwneud hyn heb gefnogaeth eang ledled Cymru, ar draws y gymdeithas, ar draws yr holl grwpiau a oedd â diddordeb yn hyn, ond yn enwedig y gymuned ffermio. Oherwydd boed yn ffermydd ar yr ucheldir neu'r iseldir, boed yn ffermio dwys neu lai dwys, pa fathau bynnag o ffermio arallgyfeiriol, mae angen iddynt ddod gyda ni ar y daith hon oherwydd byddant yn sicrhau'r llu o fuddion hynny i ni. Nawr, rwy'n hyderus, yn dawel bach, y gallwn wneud hynny, ond mae angen inni ailadeiladu'r ewyllys da, yr ymddiriedaeth, y ffydd, y cydweithio hwnnw—y ffordd Gymreig o wneud pethau—ar bob ochr, sef 'rydym yn gwneud hyn gyda'n gilydd'. Ac yna, Sam, gallwn ddarparu'r enghraifft orau o arweinyddiaeth ar hyn yng Nghymru a gallwn wneud hyn. Ond, ie, oedi, myfyrio, edrych ar y dystiolaeth, edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a chafwyd miloedd lawer, sy'n mynd i gymryd ychydig o amser i ni, ac yna byddwn yn nodi sut rydym am symud ymlaen.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch o'ch clywed yn sôn am gydnabod yr angen i ailadeiladu'r berthynas honno, a phwysleisio unwaith eto fod i gynaliadwyedd ddiffiniad ehangach na hinsawdd a natur yn unig. 

Nawr, gan symud ymlaen at TB buchol, cyhoeddwyd aelodaeth hirddisgwyliedig y grŵp cynghori technegol yn gynharach yr wythnos hon, ar ôl cael ei gyhoeddi gyntaf yn ôl ym mis Gorffennaf 2022—21 mis llawn yn ddiweddarach, ond gwell hwyr na hwyrach. Ond nid yw'n creu darlun o Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddileu TB. Ond mae pryderon wedi eu codi nad oes llais i ffermwyr yn y grŵp hwn, llais neb sydd wedi bod drwy erchyllterau TB buchol ar eu fferm. Cyfle a gollwyd, byddwn yn dweud, i beidio â chael y profiad hwnnw ochr yn ochr â phrofiad y byd academaidd a'r proffesiwn milfeddygol hefyd, oherwydd y tu ôl i bob achos o TB mae yna ffermwr a theulu. Ni ellir anwybyddu'r effaith a'r gost ddynol.

Nawr, fe sonioch chi yn gynharach am y cyfweliadau a wnaethoch, ac ar raglen Farming Today ar Radio 4 ddoe, fe wnaethoch chi honni'n ddewr y gallai Lloegr, lle maent ar y lefel isaf ers 15 mlynedd o achosion o TB mewn gwartheg, ddysgu rhywbeth gan Gymru, ac mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth bellach yn y sector, sy'n edrych dros y ffin ac yn gweld gostyngiad gwirioneddol a chadarnhaol mewn TB buchol. Nawr, a wnewch chi ddilyn y wyddoniaeth, dilyn yr arweiniad hwn, a sicrhau bod bywyd gwyllt heintiedig yn cael ei dargedu fel nad yw'r diwydiant yn parhau i geisio dileu TB buchol gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w gefn?

Sam, rwy'n credu bod dau neu dri maes allweddol mewn amaethyddiaeth a ffermio yn mynd i fod gyda ni am y dyfodol rhagweladwy ac mae'n rhaid inni eu datrys. Dyfodol ffermio cynaliadwy yw un, mae TB buchol yn un arall. Yr hyn a wnawn ar ansawdd dŵr afonydd yw'r un mawr arall yn y drindod honno os mynnwch. Mae'n rhaid inni eu gwneud gyda'i gilydd. Ond ar aelodaeth y grŵp cynghori, a fynychais heddiw, gyda llaw—a diolch i chi am roi amser i gyfarfod â mi ddoe hefyd a mynd trwy rai o'r materion hyn—gadewch inni ddweud ei bod hi'n debyg fod peth camddealltwriaeth wedi bod ynghylch yr hyn y mae'r grŵp hwnnw'n ei wneud a'i berthynas â'r bwrdd. Mae'r bwrdd yn grŵp llawer ehangach o randdeiliaid gan gynnwys cynrychiolaeth ffermwyr fel aelodau ex officio. Felly, mae gennym yr undebau ffermio ar y bwrdd hwnnw. Dyna'r bwrdd sy'n gosod y llwybr ac yn y blaen. Ond y grŵp cynghori y gwneuthum gyfarfod ag ef y bore yma, pan aethom o gwmpas y bwrdd ac edrych ar hynny—ac roeddwn i wedi edrych o'r blaen ar curricula vitae y bobl hyn; dyma bobl sydd nid yn unig yn meddu ar brofiad uniongyrchol, profiad ar y fferm, gyda llaw, gydag un ohonynt yn mynd yn ôl i'w blentyndod cynnar ar benrhyn Gŵyr, lle roedd yn byw ac yn gweithio ar ffermydd fel milfeddyg ar ffermydd, ac eraill o gwmpas y bwrdd hwnnw yn ogystal yn dod â'r un dyfnder profiad hwnnw—nid pobl heb unrhyw gysylltiad â chefn gwlad Cymru a'r gymuned ffermio yw'r rhain. Maent yn dod ag ystod eang o gyngor arbenigol iawn a all dreiddio i fyny wedyn i fwrdd y rhaglen. Rwyf wedi gweld un neu ddau o'r penawdau ar hyn. Rwy'n hapus i gyfarfod â phwy bynnag sy'n dweud bod hyn yn wastraff amser. Nid yw hynny'n wir. Mae'n sail i'r hyn y gallwn ei wneud wrth edrych ar y dystiolaeth, wrth edrych ar y wyddoniaeth a symud ymlaen.

Roeddech chi'n sôn, serch hynny, pam y cyfeiriais yn y cyfweliadau a wneuthum at rai o'r gwersi yng Nghymru. Roeddwn allan yr wythnos diwethaf ar gyfres o ymweliadau fferm, ac roedd un ohonynt gyda rhywun rydych chi'n ei adnabod yn dda iawn, sef Roger a llwybrau sir Benfro, y gwn eich bod wedi ymwneud yn uniongyrchol â nhw yn flaenorol. Mae peth o hynny'n dangos y ffordd ymlaen yn rhai o'r pethau a wnaethom. Dros ddegawd yn ôl, pan oeddwn yn Weinidog DEFRA, gwelsom y dystiolaeth, y data, y bydd Lesley yn gwybod amdano hefyd, data sy'n dangos nid yn unig sut y gallech ddadansoddi i lawr at ffermydd unigol neu at fuchesi o fewn fferm, ac at wartheg unigol mewn gwirionedd a nodi clefyd yn gynnar. Ond wedyn, y peth gwahanol am brosiect llwybr sir Benfro yw ei fod yn dod â rhywfaint o ymreolaeth i'r ffermwr, y milfeddyg ar y safle yn ogystal â'r gwasanaeth milfeddygol yng Nghymru, ochr yn ochr â'r cyngor gan y ganolfan ragoriaeth TB yn Aberystwyth ac ati. Mae'n bartneriaeth go iawn. Nid yw'n dweud wrth y ffermwr mwyach, 'Rydych chi ar fympwy rhywun sy'n dod ar eich fferm ac yn gwneud beth bynnag y maent yn ei wneud i chi.' Mae'n ymreolaeth go iawn, ac roedd brwdfrydedd gwirioneddol yn ei gylch.

Y peth arall yw bod nifer yr achosion newydd ledled Cymru wedi gostwng o 754 yn 2018 i 630 am y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2023. Mae'n ostyngiad o 16.4 y cant. Dros yr un cyfnod, bu gostyngiad o 8.4 y cant yn nifer yr anifeiliaid a laddwyd hefyd. Rydym yn gwneud pethau da mewn rhannau o Gymru. Y cwestiwn yw, i ddod yn ôl i'r rhan gychwynnol ohono, lle mae'r grŵp cynghori hwnnw'n awgrymu bod angen inni fynd wedyn?

Gyda llaw, Lywydd, un o'r pethau sydd o ddiddordeb i Aelodau'r Senedd y bore yma yw bod y grŵp cynghori yn edrych gyntaf ar ladd ar y fferm, sydd wedi bod yn fater emosiynol iawn. Rydych chi'n iawn—effaith emosiynol hyn ar ffermwyr, sy'n aml iawn yn unigolion gwydn, mae'r effaith emosiynol yn dweud llawer. Un o'r agweddau hynny yw lladd ar y fferm, a dyna pam eu bod yn edrych ar hynny fel eu heitem gyntaf o fusnes.

14:40

Rwy'n ddiolchgar am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Oes, mae gan y grŵp cynghori brofiad o gyflawni'n ymarferol, ond nid wyf yn credu y dylid colli golwg ar bwysigrwydd deall llais y ffermwr wrth anelu at ddileu TB ar ffermydd. Ydy, mae'n grŵp cynghori technegol, ond y ffermwyr eu hunain sy'n cyflawni llawer o hyn ar eu ffermydd. Felly, rwy'n credu bod pwynt penodol yno o ran colli llais y fferm ar y grŵp cynghori technegol.

Do, fe wnaethoch chi sôn am dri phwnc, ac fe symudaf ymlaen at y trydydd, sef ansawdd dŵr. Ni fydd yn sioc i'r Siambr hon fod y tywydd gwlyb diweddar wedi achosi problemau gwirioneddol i ffermwyr ledled Cymru. Mae cnydau heb eu hau, mae silwair yn brin ac mae da byw wedi'u troi allan ar gaeau sydd eisoes yn wlyb iawn. Rwy'n falch eich bod chi, yn dilyn fy llythyr atoch yn gofyn pa gymorth sydd ar gael i'r ffermwyr yr effeithir fwyaf arnynt, wedi cynnull uwchgynhadledd tywydd gwlyb yfory. Ond mae hyn hefyd yn dangos pa mor anrhagweladwy yw'r tywydd yma yng Nghymru a pham mae dull ffermio yn ôl y calendr y parthau perygl nitradau yn nonsens llwyr, mae arnaf ofn. A ydych chi'n cydnabod hyn ac a wnewch chi gael gwared ar y polisi hen ffasiwn hwn, a allai wneud achosion o lygredd dŵr yn waeth? Ac a wnewch chi weithio gyda'r sector a'r dechnoleg gyffrous sy'n datblygu i sicrhau newid gwirioneddol sy'n gwella ansawdd ein dyfrffyrdd gan roi gobaith i'n ffermwyr ar yr un pryd fod dyfodol i'r diwydiant hwn yng Nghymru, oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr ar hyn o bryd, ar y tri phwnc, yw gobaith?

Diolch, Sam. Rydym wedi gwneud y tri phrif beth, ac rwy'n credu y byddwn yn dychwelyd atynt. Ond hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd yn y rôl hon, Lesley Griffiths, oherwydd un o'r pethau a wnaed yn glir ganddi yw ein bod nid yn unig wedi addasu'r rheoliadau nitrad ar hyn o bryd—a byddwn yn edrych i weld sut mae'r rheini'n gweithio neu a oes angen gwella—ond ni allwn wadu'r ffaith ychwaith fod cymaint o'n hafonydd wedi eu heffeithio gan wahanol fathau o lygredd, a llawer ohonynt gan lygredd amaethyddol gwasgaredig, ac o dan statws ecolegol, ac nid oes neb eisiau hynny. Nid yw'r cyhoedd eisiau hynny, nid yw'r ffermwyr eisiau hynny, ac yn y blaen. Felly, byddwn yn edrych ar sut i fwrw ymlaen â hynny. Ond hefyd, mae gennym yr adolygiad pedair blynedd cyntaf o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar fin digwydd; mae'r tîm wedi dechrau cael trafodaethau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, gan ddod ag ystod eang o grwpiau at ei gilydd ar hyn. Felly, mae angen inni edrych arno, ac nid wyf am achub y blaen arno. Wrth sefyll yma fel Gweinidog, nid wyf yn ffynnon pob gwybodaeth. Dyna pam ein bod yn sefydlu'r grwpiau hyn i fynd i edrych i weld a dweud wrthym beth yw'r ffordd ymlaen nawr. Ond ar ansawdd afonydd, unwaith eto, mae'n fater o weithio gyda'r ffermwyr a chyda rhanddeiliaid eraill ar sail dalgylch i ddarganfod sut rydym yn adfer cyflwr rhagorol yr afonydd sydd gennym—pob un ohonynt. Unwaith eto, mae'n rhaid inni ei wneud gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

14:45

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet, hefyd, ar ei benodiad? Gwn o'i swydd flaenorol fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y bydd yn gwneud ei waith yn ddiwyd, yn gydwybodol ac rydym i gyd yn gobeithio, yn effeithiol. A chyn i'w ben chwyddo, mae'r geiriau hynny'n disgrifio fy mwriadau i i'w graffu hefyd. [Chwerthin.] Ond rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda chi lle mae hynny'n bosibl, ond hefyd i'ch cysgodi, wrth gwrs, yn eich brîff materion gwledig.

Fel y gwyddom, mae'n ymgymryd â'r rôl ar adeg pan fo'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'n cymunedau gwledig yn waeth nag erioed: methiant i fynd i'r afael â TB buchol, wrth gwrs; y gofid parhaus ynghylch y rheoliadau ansawdd dŵr; cynigion hynod o ddadleuol a phroblemus, i lawer, y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae llawer o waith gennych i'w wneud ar ailadeiladu'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r sector amaeth. Felly, a allwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut rydych chi'n bwriadu adeiladu'r pontydd hynny? Roeddech yn sôn yn gynharach y byddwch yn cydweithio â'r sector ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyna a ddywedodd eich rhagflaenydd wrth gwrs. Sut fydd eich ffordd chi o weithio'n wahanol i'ch rhagflaenwyr? A fydd yn wahanol, neu a fyddwn ni'n gweld mwy o'r un peth?

Pan gyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â phenaethiaid yr undebau ffermio, ac mewn trafodaethau dilynol a gawsom, fe wnaethom bwysleisio nad ydym yn mynd i ailadrodd beth a wnaethom eisoes; rydym am sefydlu proses weddol amserol lle gallwn geisio cytuno lle rydym yn cytuno a nodi'r materion anodd sy'n galw am eu datrys a'u deall. Efallai y bydd rhai o'r problemau anodd hynny'n galw am ychydig mwy o dystiolaeth hefyd. Diolch am eich cydnabyddiaeth fy mod yn tueddu i fynd i'r afael â fy ngwaith mewn ffordd ddiwyd ac agored i graffu—mae hynny'n wir, a dyna'r ffordd y byddaf yn ei wneud, fel y gwnaeth fy rhagflaenydd yn y swydd hon.

Hyd yn hyn rydym wedi cynnig—fe ddatgelaf ychydig, o'r gorau, ond ni allaf ddatgelu llawer ar hyn o bryd—yw fframwaith strwythur cynllun, yn seiliedig ar y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma. Y sgwrs gychwynnol a gawsom yw bod hyn yn dderbyniol ar y cyfan, ond yr hyn rydym am ei gyflwyno'n fuan i'r rhanddeiliaid hynny, gan gynnwys yr undebau ffermio, ond hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r ystod ehangach o randdeiliaid, yw strwythur sy'n dweud, 'Dyma rai syniadau ynglŷn â sut y gallem gyflawni'r broses'. Byddaf yn cymryd rhan weinidogol glir ynddo, nid o reidrwydd ym mhob cyfarfod, ond gellir codi'r meysydd problemus gyda mi, fel y gallwn geisio eu datrys wedyn. Yna byddwn yn symud ymlaen.

Ond rwy'n meddwl mai'r pwynt cyntaf—ac fe'i gwelsom, yn rhyfedd, yn y sesiynau newid hinsawdd a gynhaliwyd gennym yn y munudau cyn imi gael galwad yn dweud, 'Hei, byddai'n well i ti fynd draw i Barc Cathays'—yw bod cytundeb da dros faes eang o bethau, ond wedyn roedd yna ddau neu dri maes anodd. Felly, fel y dywedais mewn cyfweliadau ar y cyfryngau yr wythnos hon, nid ydym yn bwriadu ei ohirio, dechrau eto, achosi'r holl ansicrwydd i bawb; rydym yn bwriadu symud ymlaen ac ymdrin â'r meysydd anodd. Ond rwy'n rhoi ymrwymiad i'r holl Aelodau yn y Siambr hon, yn eich cynnwys chi a'r pwyllgor, y byddwn yn ymgysylltu â phawb ar hyn wrth inni gyflwyno'r cynigion hynny.

Diolch am hynny, oherwydd roeddwn i'n mynd i ofyn i ble rydym ni'n mynd nesaf o ran y broses. Efallai mai amserlenni yw'r hyn ydynt ac efallai yr hoffech chi ymhelaethu ychydig am hynny. Ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw eich bod wedi ailadrodd eto heddiw mai cymryd mwy o amser yw'r peth gwaethaf y gallwn ei wneud, neu oedi cyn ei gyflwyno. Wel, rydych chi newydd restru pethau eithaf sylfaenol y bydd angen iddynt ddigwydd nawr er mwyn i chi fod mewn sefyllfa i weithredu'r cynllun fel y bwriadwyd y flwyddyn nesaf. Rhaid ei fod yn anymarferol, oherwydd roedd eich rhagflaenydd yn rheolaidd yn atgoffa—. Wyddoch chi, roeddwn i'n ceisio cael rhyw fath o gydnabyddiaeth fod amser yn brin ar hyn, ac y byddai hi o leiaf yn cydnabod y byddai'n heriol iawn. Os ydym yn edrych ar newidiadau i'r cynllun ffermio cynaliadwy, fel y tybiaf ein bod, o ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, bydd yna ailgynllunio elfennau o bosibl. Bydd hynny'n golygu bod angen cyd-gynllunio rhai elfennau, ac ymgynghori pellach ar rai agweddau hyd yn oed. Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych chi'n bwriadu ymgynghori, yn dibynnu ar raddau'r newidiadau. Mae hynny'n mynd i gymryd amser, ac nid oes gennym amser. Felly, er eich bod chi'n dweud mai'r peth gwaethaf y gallwn ei wneud yw oedi'r broses gyflwyno, y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw ei ruthro a'i gael yn anghywir.

14:50

Rwy'n cytuno â hynny, mewn perthynas â lle mae gennym rai elfennau anodd. Mae'n rhaid inni roi amser nawr i edrych yn iawn ar y rheini a gweld sut i'w datrys, ond hefyd yr amserlen ar gyfer eu datrys hefyd, a sut y gwnawn hynny gyda'n gilydd, a sut i ddod â phob ffermwr gyda ni ar y daith honno hefyd. Mae'n ddigon posibl fod rhywfaint o hynny'n ymwneud â phethau fel profi bod rhyw awgrym neu'i gilydd yn un cywir, neu edrych ar syniadau amgen, ond nid oes rhaid inni gymryd blynyddoedd i wneud hynny.

Gellid gwneud rhywfaint o hynny trwy arddangos hefyd, a'u harchwilio ychydig ymhellach. Rwy'n awyddus i gael golwg ar beth o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar opsiynau amgen hefyd, gan gynnwys gan ein sector prifysgolion, sy'n ymwneud yn helaeth â hyn. Felly, yr hyn y gallaf ei warantu i chi yw na fydd yn hir nes y byddwn yn datgelu llawer mwy, ond rwyf am sicrhau bod pawb yn gefnogol i hynny.

I ddod yn ôl at y thema a gododd Sam hefyd, mae'n rhaid i bawb fod yn fodlon ar y broses, a lle mae'r materion anodd hynny, a hefyd lle rydym yn cytuno. A byddwn yn dweud, o ddifrif, heb ddatgelu unrhyw gyfrinachau, fod y trafodaethau a gawsom hyd yma gydag undebau ffermio wedi dweud mai'r fframwaith cyffredinol yw'r fframwaith cywir. Mae'r prif amcanion yn gywir. Mae llawer o'r opsiynau o'i fewn yn rhai cywir. 

Mae gennym swm penodol o gyllid ar hyn o bryd, sy'n mynd i achosi trafodaeth barhaus hefyd. Mae gennym yr arian sydd gennym. Ond os gallwn gael cytundeb ar hynny, yna rwy'n gobeithio, o fewn wythnosau, y gallwn ddweud, 'Dyma'r llwybr gweithredu a'r amserlenni ar gyfer symud ymlaen'. Ond nid oes raid i bopeth ddod i stop, Llyr. Mae yna bethau yr ydym yn cytuno arnynt. Felly, dyna pam rwy'n dweud nad ydym yn dod i stop ac yn gohirio popeth. Gadewch inni gytuno lle gallwn gytuno a dechrau dangos bod gennym gyfeiriad teithio y mae pawb ohonom yn mynd iddo.

Cyflawni Sero Net a Phontio Teg

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth fydd ei flaenoriaethau ar gyfer cyflawni sero net a phontio teg? OQ60923

Diolch yn fawr, Luke. Mae pontio teg i sero net yn ganolog i waith y Llywodraeth hon ac wrth gyflawni ein cynlluniau hinsawdd presennol. Byddwn yn sicrhau bod gweithwyr a chymunedau Cymru yn elwa ar fanteision economaidd a chymdeithasol mewn meysydd fel ynni, yr economi gylchol, tai a thrafnidiaeth.

Diolch am yr ateb.

Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich swydd newydd. Dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael.

Yr angen am bontio teg a datgarboneiddio ein heconomi yw mater diffiniol y degawd hwn, a bydd yn fater diffiniol y degawd nesaf hefyd—a mater sy'n mynd i alw am lawer o gydweithio traws-bortffolio. Ar thema cydweithio, hoffwn wybod pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ar feithrin systemau ynni newydd, gydag ynni'n un o'r pileri allweddol i ddatgarboneiddio. Beth rydych chi'n ei weld fel yr heriau uniongyrchol sy'n rhychwantu'r ddau gylch gwaith?

Diolch yn fawr iawn. Rydym yn cael y trafodaethau hynny, nid yn unig gyda'r Ysgrifennydd Cabinet hwnnw ond gydag Ysgrifenyddion eraill y Cabinet hefyd. Er bod y portffolios wedi'u hailgyflunio, mae newid hinsawdd yn parhau yn nheitl fy swydd i oherwydd ein bod yn dal i fwrw ymlaen â'r cyllidebau carbon. Rydym yng nghyllideb carbon 2, ac rydym yn edrych ymlaen at gyllideb carbon 3. Rydym yn gwybod beth yw'r heriau sydd o'n blaenau. Byddwn yn ceisio eu cyflawni gydag uchelgais go iawn a chyda phwrpas go iawn.

Mae hynny'n golygu y bydd pob un o'm cyd-Aelodau yn y Cabinet yma yn cael trafodaethau, ond o fewn eu meysydd portffolio eu hunain, ac o fewn eu ffrydiau ariannu eu hunain. Gyda thrafnidiaeth, gyda thai, gyda llywodraeth leol a phopeth, rydym i gyd yn ceisio cyflawni ar ein taith tuag at sero net. Ond wrth wneud hynny, mae ein ffocws, Luke, yn mynd i fod ar yr hyn rydym wedi'i ddweud erioed, o ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog, ond hefyd yn hirsefydlog: y syniad o ffyniant gwyrdd.

Nid ydym bob amser yn gwneud digon o hyn—y syniad ein bod ni o ddifrif yn gallu creu swyddi gwyrdd. Bydd y swyddi gwyrdd hynny mewn ynni a'r hyn a wnawn, a byddant yn rhai o'r cyfleoedd cyffrous hynny. Ond byddant hefyd yn y pethau yr oeddem yn sôn amdanynt nawr. Byddant mewn pethau fel yr hyn y mae angen inni ei wneud gyda gwasanaethau cynghori ffermwyr a Cyswllt Ffermio, a seilwaith naturiol gwyrdd a'r fyddin o bobl y byddwn eu hangen i wneud hynny hefyd.

Felly, wrth geisio symud at bontio teg, os ydym o ddifrif ynglŷn â hyn, rwy'n credu y dylem edrych ar bob agwedd ar bob portffolio a dweud, 'Ble y gallwn ni ddarparu'r swyddi ychwanegol a'r cyfleoedd economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru ac ym mhob sector unigol?' Mae hynny'n heriol, ond mae'n gyffrous, a'r hyn a fydd yn ei yrru ar draws y Llywodraeth yw ein hangen i gyrraedd y targedau cyllideb carbon. Rydym wedi ymrwymo iddynt yma yng Nghymru, a byddwn yn eu cyflawni. Rydym yn rhoi pobl ar y blaen yn hyn. Mae pobl a chymunedau ar y blaen ac yn ganolog i bopeth a wnawn.

14:55

Mae cyrraedd sero net yn bwysig iawn wrth gwrs. Rwy'n deall eich ymrwymiad parhaus i hynny yn eich rôl newydd, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn ddiolchgar am hynny. Ond mae symud tuag at hynny yn galw am rwydwaith trafnidiaeth a seilwaith sy'n wyrdd ac yn lân, ac nid yn unig o ran trafnidiaeth gyhoeddus, ond o ran cerbydau defnydd preifat hefyd. Yn ganolog i hynny, yn amlwg, wrth inni symud tuag at wahardd gwerthu ceir petrol a diesel, mae seilwaith mannau gwefru cerbydau trydan ledled y wlad. Serch hynny, mae pwyllgor newid hinsawdd y Senedd wedi dweud yn y gorffennol, ac rwy'n dyfynnu, 

'mae'r diffyg cynnydd ar gerbydau trydan yn annerbyniol.'

Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi siarad ddoe am bwysigrwydd twf gwyrdd yn ei ddatganiad, ond ni chafwyd digon o dystiolaeth o dwf yn y diwydiant penodol hwn. Felly, sut rydych chi'n mynd i weithio, fel y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am newid hinsawdd, gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i sicrhau bod gennym y rhwydwaith modern hwnnw, y seilwaith modern hwnnw sydd ei angen arnom, nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol hefyd?

Diolch am y cwestiwn. Rydych chi'n gywir; os edrychwn ar y sectorau mwyaf a all ddarparu cyfraniad tuag at y llwybr sero net, bydd yn cynnwys trafnidiaeth, tai ac yn y blaen, ond amaeth hefyd, fel roeddem yn ei drafod yn gynharach. Ond mae trafnidiaeth yn gwbl allweddol, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi bod yn gwrando ar y pwyntiau a wnaethoch. Yn wir, mae'n sicr yn golygu newid o ffurfiau o drafnidiaeth breifat sy'n llygru, ond nid dyna'r ateb llawn. Mae angen inni sicrhau bod y rhwydwaith o fannau gwefru yno, ac rydym yn buddsoddi yn hynny, gyda phartneriaid, i sicrhau bod hynny'n digwydd. 

Ond mae'n cynnwys yr hyn a wnawn gyda'r fflyd fysiau hefyd, a'r hyn a wnawn i geisio sicrhau bod dulliau teithio pobl yn newid i drafnidiaeth gyhoeddus—bysiau a threnau. Ac yn aml, mae hefyd yn ymwneud â'r elfen sinderela honno, er ein bod wedi cynyddu'r buddsoddiad yn aruthrol; rydym wedi sicrhau pedair gwaith y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn teithio llesol. Bydd yna rai pobl na fyddant byth yn beicio—hyd yn oed beic trydan ac yn y blaen—ond mae llawer mwy o bobl yn gwneud hynny bellach. Ac os edrychwch ar y ffordd y mae dinasoedd Ewropeaidd wedi ail-greu eu hunain o amgylch teithio llesol, yn ogystal â mathau llai drud-ar-garbon o deithio, mae'n fater o'r rhain i gyd gyda'i gilydd. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi eich clywed. Byddaf yn sicr yn cyfarfod ag ef, ac eraill, i drafod eu cyfraniad tuag at hyn. Ond rwy'n croesawu'r gefnogaeth yn fawr. Bydd yn cynnwys datgarboneiddio trafnidiaeth breifat, ond hefyd y newidiadau dulliau teithio ehangach ar hyd—mae'n gas gennyf ei ddweud—triongl â'i ben i lawr yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, gyda theithio llesol ar y brig.

Llygredd mewn Afonydd

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â llygredd mewn afonydd? OQ60925

Diolch, Alun. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull integredig o fynd i'r afael â llygredd afonydd. Mae'n canolbwyntio ar gydweithredu a chydweithio â'r holl bartneriaid. Mae gennym ymgysylltiad cryf parhaus, gan gynnwys y Llywodraeth, rheoleiddwyr a'r holl bartneriaid a sectorau perthnasol yng Nghymru, yn gweithio gyda'n gilydd drwy broses yr uwchgynhadledd llygredd afonydd. Bydd yr uwchgynhadledd nesaf yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf, a fi fydd yn ei chadeirio.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Hoffwn innau hefyd ymuno ag eraill i'w longyfarch ar ei benodiad; rwy'n gwybod bod croeso cynnes i'w benodiad nid yn unig ar draws y Siambr hon ond ledled Cymru hefyd. Hoffwn ychwanegu fy ngeiriau at hynny.

Mewn sawl ffordd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ateb fy nghwestiynau yn ei ateb cyntaf. Gobeithio y gallwn—[Torri ar draws.] Ddim cweit. Rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen, gan ddod â phobl ynghyd, oherwydd nid wyf yn credu y gallwn roi'r bai am lygredd afonydd ar unrhyw randdeiliad unigol neu grŵp unigol o randdeiliaid. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cydweithredu a chydweithio ymhlith perchnogion glannau, ymhlith diwydiannau, ymhlith awdurdodau lleol, y Llywodraeth, rheoleiddwyr, yn ogystal â defnyddwyr ein dyfrffyrdd, i sicrhau ein bod yn cael rheolaeth gydweithredol ar gyrsiau dŵr sy'n sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phob ffynhonnell llygredd yn deg ac yn gyfartal, a bod gennym y math o afonydd ffres a glân y byddem i gyd yn dymuno eu gweld.

Diolch am y cwestiwn atodol. Rydych chi'n gywir. Fel y gwyddoch, gwleidydd Llafur a Chydweithredol wyf i—rwy'n pwysleisio hynny'n gyson. Fy agwedd tuag at wneud y pethau hyn yw ein bod i gyd yn ei wneud gyda'n gilydd neu nid ydym yn ei wneud o gwbl, boed hynny gyda ffermio, neu'n ymwneud â heriau trafnidiaeth, ac yn enwedig heriau gydag ansawdd dŵr. Nid wyf erioed wedi bod yn un mawr am ymadroddion fel 'tîm Cymru', ond yn hytrach y ffordd Gymreig o wneud pethau, felly gweithio gyda'n gilydd, fel ein bod yn gwneud mwy na phwyntio bysedd a gweiddi ar ein gilydd, ond yn lle hynny ein bod yn dweud bod gan y rheoleiddiwr ran i'w chwarae, mae gan y cwmnïau dŵr ran i'w chwarae, mae gan glybiau'r pysgotwyr ar yr afon ran i'w chwarae, mae gan y ffermwyr a'r tirfeddianwyr ran i'w chwarae, mae gan yr adeiladwyr rôl i'w chwarae—. A'r Llywodraeth, gyda llaw, ac asiantaethau fel CNC—pob un ohonom i mewn yno gyda'n gilydd. A phawb ohonom i mewn yno gyda'n gilydd yn hytrach na phwyntio bysedd, a dweud, 'Beth yw eich cyfraniad chi? Beth yw eich un chi? Sut y gallwn ei gynyddu wedyn?'

Y peth gwych yw ein bod wedi gwneud hyn o'r blaen. Rydym wedi ei wneud gyda phethau fel ansawdd dŵr ymdrochi. Rydym wedi mynd i'r afael â materion ecolegol ac amgylcheddol mawr ac wedi ei wneud gyda'n gilydd. Nawr, ar y sail honno, rwy'n edrych ymlaen yn fawr, a diolch i fy nghyn-Brif Weinidog a chyn-gydweithwyr am y gwaith a wnaethant ar yr uwchgynadleddau afonydd. Roedd yna chwilfrydedd a fyddem yn parhau ar y daith honno nawr gyda'r ad-drefnu. Rydym yn bendant yn parhau ar y daith honno, oherwydd rydym yn eu hystyried yn hanfodol i ddod â phobl at ei gilydd a dweud, 'Beth y gall pawb ohonom ei wneud i sicrhau'r ansawdd dŵr yr ydym ei eisiau?'

15:00

Llongyfarchiadau unwaith eto am eich portffolio. Rydym yn disgwyl pethau mawr gennych, ac mae'r hyn yr ydych wedi'i ddweud hyd yn hyn yn swnio'n dda. Y llynedd, fodd bynnag, gwelsom afonydd Wysg a Gwy yn cael eu henwi'n afonydd mwyaf llygredig Cymru. Mae chwech o afonydd mwyaf llygredig y DU yng Nghymru. Yn amlwg, mae pethau'n gwaethygu, nid gwella, ac yn amlwg mae'r Llywodraeth hon hyd yma wedi methu mynd i'r afael â'r mater hwn, ac yn hytrach, wedi dewis anwybyddu difrifoldeb y sefyllfa sy'n wynebu ein hafonydd yng Nghymru. Mae gweld fy afon leol, afon Wysg, yr oeddwn yn arfer pysgota ynddi gyda fy nhad, yn wyrdd, a heb eog yn neidio ynddi fel yr arferent ei wneud yn peri gofid i mi. Roeddwn am gael gwybod heddiw beth y bwriadwch ei wneud yn wahanol. Rydych eisoes wedi siarad â fy nghyd-Aelod Sam Kurtz am y peth, ac Alun Davies, ond rwyf am gael gwybod pa gamau yr ydych yn mynd i'w cymryd nawr. Pa gamau brys y gallwch eu gwneud? Mae'n wych eich bod am weithio gyda rhanddeiliaid, yn wych ein bod yn rhannu'r un nod i adfer cyflwr rhagorol ein hafonydd, ond pa gamau brys y bwriadwch eu cymryd cyn inni ymgynnull o gwmpas y bwrdd? Diolch.

Wel, afonydd Gwy, Wysg a Hafren, a rhai o'n hafonydd mawr eraill sy'n llifo o'r gogledd a'r gorllewin, a rhai o'r afonydd sy'n croesi ffiniau, yn enwedig, yw rhai o'n heriau mwyaf, ac un o'r pethau y gobeithiaf ei wneud am hyn, gan adeiladu ar waith fy rhagflaenwyr, yw ceisio cryfhau peth o'r cydweithrediad trawsffiniol hwnnw yn ogystal â thrawsdalgylch, oherwydd mae rhai o'r dalgylchoedd hyn yn ymwneud â dwy Lywodraeth, yn ymwneud â dau gwmni dŵr ac ati. Felly, rwy'n credu bod yna rôl go iawn yno, ac rwyf am fynd ar drywydd hyn mewn ffordd synhwyrol iawn drwy ddweud, 'Beth y gallwn ei gyfuno?' Ond lle byddwn yn gwrthod yr hyn a ddywedwch yw nad ydym wedi gwneud unrhyw beth, oherwydd rydym wedi gwneud rhywbeth, a gallwn dynnu sylw at y dystiolaeth sy'n dangos lle'r ydym wedi'i wneud. Ond mae gennym gymaint mwy i'w wneud o hyd oherwydd, fel y dywedwch—. Edrychwch, rwy'n gerddwr brwd, yn ganŵydd ac yn y blaen—rwy'n adnabod yr afonydd hyn yn dda, ac mae'n fy siomi weithiau pan edrychwch arnynt, ond mae'n codi'r her ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud i newid pethau. Felly, rydym wedi ariannu, er enghraifft, bwrdd rheoli maethynnau Gwy i ddatblygu cynllun rheoli maethynnau ar gyfer yr afon honno. Mae'r cynllun yn mynd i roi gwell dealltwriaeth i ni o lefelau maethynnau yn yr afon a chyflawni amcanion cadwraeth yr hyn sy'n ACA—sef ardal cadwraeth arbennig. Rydym wedi sicrhau bod £15 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i CNC ar gyfer gwelliannau ehangach i ansawdd dŵr. Fel rydym wedi sôn eisoes, rydym wedi cynnull—a dyma'r ffordd ymlaen—pedair uwchgynhadledd llygredd afonydd, sydd wedi rhoi cyfle i ddysgu gan wahanol randdeiliaid o'r dalgylchoedd hyn am y gwahanol waith sy'n cael ei wneud, ac ni fydd yn un bwled arian, bydd yn llawer o faterion y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw.

Felly, gallaf eich sicrhau y bydd gennyf yr un faint o egni â fy rhagflaenwyr. Rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch. Ond bydd angen imi weithio gyda'r holl Aelodau yn y Siambr hon hefyd i sicrhau bod pawb yn camu i'r adwy ac yn barod i gyfrannu.

Amaethwyr ar Ynys Môn

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cefnogi amaethwyr ar Ynys Môn? OQ60931

Diolch yn fawr iawn, Rhun. Mae dros 99.9 y cant o hawlwyr ar Ynys Môn wedi derbyn taliadau o dan gynllun y taliad sylfaenol, sydd yn werth cyfanswm o £8.3 miliwn. Mae'r cymorth yma yn ychwanegol at ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi cofrestru eleni dros 1,000 o bobl sy'n gweithio ym maes amaethyddiaeth ar Ynys Môn.

Diolch am yr ymateb yna. Rwyf innau'n llongyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad. Mi fydd o'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, o bwysigrwydd y diwydiant amaeth i fy etholaeth i, ac am y pryderon go iawn sydd yna ymhlith amaethwyr ar Ynys Môn, fel ledled Cymru, ynglŷn â gweledigaeth a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector. Mae'n glir i fi ar y pwynt yma, efo Gweinidog newydd wrth y llyw, fod rhaid cymryd stoc o'r weledigaeth honno a gwneud newidiadau sylfaenol i gynlluniau niferus sydd mewn lle, ac i Lywodraeth weithiau efo'r sector, sy'n gwbl allweddol, er mwyn eu cael nhw'n iawn.

Felly, dwi'n erfyn ar yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw yma yn ei sesiwn gwestiynau cyntaf i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud y newidiadau sydd eu hangen, a hynny'n gyflym, nid yn unig yn eu cynlluniau ond yn eu hagwedd hefyd, ac i fod yn bencampwyr go iawn dros y sector amaeth. Ac ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ar y NVZs, ar blannu coed, ar TB—mae yna gymaint o elfennau yn fan hyn—sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu cydweithio efo amaethwyr Ynys Môn ac ar draws Cymru i sicrhau bod y Llywodraeth a'r diwydiant yn rhwyfo i'r un cyfeiriad?

15:05

Mae'n rhaid i ni deithio ar y daith hon gyda'n gilydd. 

Mae'n rhaid inni symud ymlaen gyda'n gilydd. 

Felly, rydw i'n mynd dros bob rhan o Gymru.

Byddaf yn ymweld fy hun, yn ogystal â'm swyddogion, gan siarad â ffermwyr, gan wrando ar ffermwyr, ymgysylltu â nhw, yn ogystal â'r rhanddeiliaid ehangach sydd allan yno. Rwy'n gwybod y bydd ef hefyd, fel minnau, wedi cael sylwadau gan sefydliadau bywyd gwyllt ac amgylcheddol sydd am ein gweld yn bwrw ymlaen hefyd, sydd wedi dod o'r Pwyllgor newid hinsawdd. Rwy'n gwybod pa mor eang yw'r awydd o bob rhan o Gymru i fwrw ymlaen â hyn a'i gyflawni, ond fel y dywedais mewn ymyriadau blaenorol ar hyn, ni allwn ei wneud heb inni ei wneud gyda'n gilydd. Dyna'r ffordd Gymreig. Rwy'n benderfynol o wneud hyn. Bydd angen ewyllys da ar bob ochr ac mae'n debyg y bydd yn galw am ychydig o fyfyrdod tawel ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar hyn, a'r ymatebion a gawsom, a fydd yn cymryd ychydig o amser i'w treulio, a bod yn onest, a'r sgyrsiau niferus.

Felly, rwy'n credu ein bod yn cadw hynny i fynd ond wedyn mae'n rhaid inni gynllunio sut y bwriadwn symud ymlaen, oherwydd mae'n ymwneud â dyfodol cynaliadwy ffermio yn y dehongliad eang yr amlinellais yn flaenorol—gwir gynaliadwyedd ffermio a chynhyrchu bwyd yng Nghymru—ond mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn wynebu'r argyfyngau natur a hinsawdd. Nid oes gennym amser i'w wastraffu, ond mae'n rhaid inni ei wneud gyda'n gilydd.

Lles Anifeiliaid

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid? OQ60894

Wrth gwrs, Mike, diolch. Mae ein blaenoriaethau lles anifeiliaid wedi'u nodi yng 'Nghynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26'. Mae hyn yn cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu a blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cynnydd dwy flynedd, ynghyd â datganiad ysgrifenedig, ym mis Ionawr.

Diolch am yr ateb hwnnw. Gydag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid wedi dod i ben yn ddiweddar, mae gan ganlyniad yr ymgynghoriad hwn botensial i wella bywydau miloedd o anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys rhai mewn llochesau anifeiliaid, canolfannau achub ac ailgartrefu, yn ogystal â milgwn rasio trwy ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru. Beth mae'r Gweinidog yn ei flaenoriaethu er mwyn gwella lles anifeiliaid?

Diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda phawb, gan gynnwys y llochesau anifeiliaid y gwn eu bod yn bodoli yn ei ardal ei hun, a hefyd ar draws fy ardal innau a fy nghyd-Aelod Sarah Murphy hefyd, gan gynnwys Hope Rescue. Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o les ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru ym mhob sefyllfa yr ydych newydd gyfeirio atynt, Mike. Ond mae hyn yn cynnwys mater eithaf dadleuol rasio milgwn, ac rydym yn cydnabod y cryfder teimladau yma gyda deiseb a gyflwynwyd gyda dros 35,000 o lofnodion. Mae'n arwydd clir o gryfder y teimladau mewn perthynas â milgwn.

Felly, mae rasio milgwn a'i drwyddedu yn sicr yn rhan o'n 'Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru'. Nawr, ar hyn o bryd, ni allaf ddarparu dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth sy'n dilyn o'r ymgynghoriadau yr ydym yn eu gwneud, ond rydych wedi gweld ein hymrwymiad, ymrwymiad deiliad blaenorol y swydd hon hefyd, sy'n parhau. Felly, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno cynigion, yn amodol ar y trafodaethau arferol rhwng cyd-Aelodau yn y Cabinet, ac rwy'n deall nad yw hynny'n golygu fy mod yn cael y cyfle cyntaf yn awtomatig, ond byddaf yn gwthio'n galed, yn amlwg, Mike.

Diogelu Bioamrywiaeth

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth? OQ60913

Diolch yn fawr, Julie. O ran bioamrywiaeth, rydym yn diogelu bioamrywiaeth trwy fentrau fel y rhwydweithiau natur, yr ardaloedd morol gwarchodedig a'r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, sydd o fudd i'n hamgylcheddau tirol, dŵr croyw a morol. Rydym hefyd yn cryfhau ein fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys cyflwyno targedau bioamrywiaeth statudol, fel y nodir yn ein Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

15:10

Diolch am yr ateb hwnnw, a hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd a dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o'r ymgyrch gymunedol lwyddiannus 20 oed i achub cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen a'r ardal gyfagos yng Ngogledd Caerdydd. Ddiwedd y llynedd, ymwelais â chronfa ddŵr Llys-faen gyda Plantlife Cymru i weld drosof fy hun y nifer helaeth o rywogaethau ffwng capiau cwyr, sy'n gwneud y cronfeydd dŵr yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn y pen draw, yn helpu i'w hachub. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hon yn enghraifft hollol wych o'r gymuned yn dod at ei gilydd i achub safle poblogaidd a llawn bioamrywiaeth y gellir ei fwynhau nawr, ac sy'n cael ei fwynhau, gan filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn?

Yn sicr, Julie, ac mae'n dangos yr hyn y gall pobl ei wneud. Ac rwyf am ddweud wrthych, rwy'n ymwybodol o'ch hanes fel cefnogwr grŵp gweithredu'r gronfa ddŵr, yn arbed ac yna adfer cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen, a'r canlyniad llwyddiannus yn 2023—am gyflawniad. Mae pŵer pobl yn sicr yn gweithio—pŵer pobl ar lawr gwlad. A'ch ymweliad gyda Plantlife Cymru, sy'n sefydliad gwych, i edrych ar y capiau cwyr coch—rwyf am ddweud cyfrinach wrthych chi: mae gennyf ardd wlyb iawn, mae fel coedwig law drofannol ynddi ei hun, ac mae gennym gapiau cwyr coch yn fy ngardd hefyd.

Mae pobl fel Plantlife, partneriaeth natur leol Caerdydd sy'n datblygu'r cynllun gweithredu adfer natur lleol, yn nodi'r hyn sydd angen ei wneud i adfer a gwella natur yng Nghaerdydd—dyma'r math o gefnogaeth y gallwn ei wneud, trwy Lywodraeth Cymru a thrwy bob un ohonom, ond hefyd i annog a chymell sefydliadau ar lawr gwlad a chyrff trydydd sector i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hardaloedd lleol. Ond roedd llwyddiant cynllun cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn anferthol, ac mae'n ymwneud nawr â beth a wnawn i adeiladu ar lwyddiant hynny, gyda'r diogelu a'r cyfoethogi a'r adfer bioamrywiaeth sy'n digwydd o amgylch yr ardaloedd hynny.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ddiwedd ar y sesiwn gwestiynau yna.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, y cwestiynau amserol, ac mae'r cyntaf o'r rheini i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Heledd Fychan.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

1. Pa asesiad mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o’r posibilrwydd bydd Amgueddfa Cymru yn cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oherwydd dirywiad yr adeilad? TQ1039

Diolch. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag Amgueddfa Cymru i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw brys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cyfarfûm â'r prif weithredwr ddoe, ac fe'm sicrhaodd nad oes unrhyw gynlluniau i gau'r amgueddfa. Fodd bynnag, rwy'n llwyr dderbyn difrifoldeb y sefyllfa a'r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn gyntaf oll, a gaf i eich llongyfarch ar eich penodiad a dweud pa mor falch wyf i o weld diwylliant yn cael ei ddyrchafu yn y Llywodraeth, a chroesawu'r ffordd y mae'n gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol nawr? Rwy'n mawr obeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd yn adeiladol ac yn gadarnhaol i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu ein sefydliadau cenedlaethol.

Gobeithio hefyd y gallwn i gyd gytuno yn y Siambr hon nad oes yr un ohonom am weld Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, pencadlys ein hamgueddfeydd cenedlaethol eiconig, yn gorfod cau ei drysau am nad yw'n ddiogel i ymwelwyr, staff a'n casgliadau cenedlaethol. Rwy'n falch iawn o glywed eich ymateb, ac mae'n newid i'w groesawu o gymharu â rhai o'r ymatebion a gefais gan eich rhagflaenydd. Rwy'n gobeithio nawr y gwelwn barodrwydd i ddod o hyd i atebion. Ac fel rwy'n siŵr y gallwch ddeall o'ch cyfarfod gyda'r amgueddfa genedlaethol, nid ydynt yn fygythiadau gwag gan yr amgueddfa genedlaethol. Mae'n bosibilrwydd real iawn, ac mae'n rhaid i ni, fel Senedd, wneud popeth yn ein gallu i atal hyn rhag digwydd i gartref ein cof fel cenedl. Ac nid yw'n broblem a ymddangosodd dros nos ychwaith. Mae angen inni fod yn glir fel Senedd fod angen ôl-groniad o £90 miliwn o wariant cyfalaf i ddod â'n holl amgueddfeydd cenedlaethol i'r safon sy'n ofynnol i ofalu am gasgliadau ein cenedl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth annerch y Senedd ddoe ar gyflawni ei flaenoriaethau, defnyddiodd y Prif Weinidog y gair 'dewisiadau' chwe gwaith, ac ni ellir osgoi'r ffaith mai un o'r dewisiadau hynny fu cwtogi cyllideb a oedd eisoes yn rhy fach o'i gymharu ag eraill. Ac os nad yw hynny'n ddigon drwg, roedd hefyd yn hapus i amddiffyn y penderfyniad i wneud hynny.

Nawr, mae Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd yn dioddef cyni Torïaidd, wedi ymrwymo i ddyblu cyllid y celfyddydau a diwylliant. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Andrew Green, cyn-lyfrgellydd y llyfrgell genedlaethol, am 'ddiffyg dealltwriaeth angheuol' a 'diffyg gweledigaeth' Llywodraeth Cymru ynghylch rôl diwylliant a'r celfyddydau yn y ffordd rydym yn byw a sut y cawn ein gweld gan bobl y tu allan i Gymru. Felly, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi heddiw nad oes sail i feirniadaeth mor ddamniol, ac a wnewch chi ymrwymo i weithio'n drawsbleidiol yma yn y Senedd gydag Amgueddfa Cymru, yn ogystal â'n sefydliadau cenedlaethol diwylliannol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, nid yn unig i asesu'r risg i'n casgliadau cenedlaethol, ond i roi cynllun ar waith i'w diogelu ac ymrwymo i fabwysiadu ymagwedd newydd tuag at ddiwylliant a threftadaeth am weddill tymor y Senedd hon?

15:15

Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich geiriau o groeso. Rwyf innau hefyd wedi credu erioed mai'r celfyddydau yw'r gwaredwr mawr mewn bywyd, felly, rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi i'r portffolio diwylliant, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae'r cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol a sicrhau ein bod yn ehangu'r cynnig i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at gelf a diwylliant i'w groesawu'n fawr, ac yn sicr, pan gyfarfûm â fy uwch dîm rheoli am y tro cyntaf, pawb gyda'i gilydd ddydd Llun, gallech weld y brwdfrydedd ynghylch hynny.

Fel y dywedais, cyfarfûm â'r prif weithredwr ddoe; rwy'n cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yfory. Mae'n amlwg fod llawer iawn o waith eisoes wedi dechrau cyn imi ddod i'r portffolio i edrych ar gyllid penodol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i geisio helpu i glirio'r ôl-groniad y cyfeirioch chi ato. Maent yn adeiladau hen iawn, maent yn adeiladau eiconig, ond rydym yn gwybod—. Nid oes ond yn rhaid ichi edrych ar Neuadd y Ddinas yma yng Nghaerdydd i weld y problemau yno, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y prif weithredwr yn gallu gweld bod tebygrwydd rhwng yr amgueddfa a Neuadd y Ddinas. Felly, mae'n bwysig iawn fy mod yn cael y sicrwydd hwnnw gan y prif weithredwr a'r cadeirydd ynghylch diogelwch ein casgliadau. Nhw yw'r bobl sydd yn y sefyllfa orau i fy nghynghori ar hynny; nhw yw'r bobl i ddweud wrthyf beth yw'r ffordd orau o gadw'r casgliadau hynny'n ddiogel.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod sefyllfa'r gyllideb, ac rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, a dim ond ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nawr, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth swyddogion fy mod am iddynt barhau i weithio'n agos iawn gyda'r amgueddfa, gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr, i sicrhau eu bod yn cyflwyno cynllun busnes. Hoffwn weld y cynllun busnes hwnnw yn sicr erbyn canol y mis nesaf i weld beth y gallwn ei wneud wedyn. Nid oes gennyf gyllideb anferth, fel y gwyddoch, ond nid wyf yn credu mai mater imi yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater trawslywodraethol, ond bydd pob Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud hynny wrthych, ond rwy'n glir iawn fod hwn yn adeilad eiconig, nid ein casgliadau ni yw'r casgliadau hyn, rydym yn gofalu amdanynt wrth inni deithio trwodd, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn eu diogelu, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda phawb, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hynny. Diolch.

A gaf i eich croesawu i'ch rôl, Ysgrifennydd y Cabinet? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar amrywiaeth o faterion. Rwyf hefyd yn croesawu'r geiriau cynnes a glywsom hyd yma am ddyfodol yr amgueddfa genedlaethol. A gaf i ddiolch hefyd i Heledd Fychan am gyflwyno'r cwestiwn heddiw ar ddyfodol amgueddfa cenedlaethol Cymru? Nawr, rwy'n teimlo ychydig yn flin dros Heledd oherwydd, er ei bod yn amlwg â diddordeb brwd yn yr amgueddfa, rwy'n credu ei bod wedi cael ei thanseilio yma gan ei phlaid ei hun. Mae hynny oherwydd bod Plaid Cymru, mewn cydweithrediad â'r Llywodraeth Lafur hon, wedi cytuno'n ddiweddar i strategaeth ddiwylliannol, gyda'u Haelod dynodedig yn gweithio gyda'ch rhagflaenydd i'w chyflawni. Nawr, mae ymgynghoriad wedi dechrau ar y strategaeth honno, ond a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'r strategaeth, fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd gan y ddwy blaid, yn cynnwys gwaith diogelu penodol i sicrhau dyfodol yr amgueddfa?

Wel, diolch. Nid yw'r ymgynghoriad wedi dechrau eto, ac rwyf wedi gofyn am saib fel y gallaf edrych ar y ddogfen honno. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan fy rhagflaenydd a chan yr Aelod dynodedig, ond nid yw'r ymgynghoriad wedi dechrau eto.

A gaf i hefyd longyfarch Lesley Griffiths ar eich penodiad, a hefyd ar gyfuno diwylliant â chyfiawnder cymdeithasol yn eich portffolio? Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am fanteisio ar hynny.

Rwyf newydd ddod o drafodaeth gyhoeddus a gynhaliwyd gan Mercury Theatre i lywio eu gwaith ar newid hinsawdd a'n moroedd, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ymgysylltu â'r cyhoedd ar faterion dyrys fel yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud am newid hinsawdd. 

Gan gyfeirio at heriau'r amgueddfa genedlaethol, gwyddom y bydd angen cael gwared ar hyd at 60 o swyddi yn amgueddfeydd Cymru, o'r hyn y maent wedi'i ddweud. Mae cynlluniau diswyddo gwirfoddol yn ffyrdd lletchwith iawn o fynd i'r afael â hyn, gan ei bod yn anochel yn golygu colli'r staff mwyaf cyflogadwy, yn hytrach na chanolbwyntio ar ail-lunio strwythur yr amgueddfa i gyflawni ei blaenoriaethau a nodwyd. Gan fod gennym Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 erbyn hyn, pa drafodaethau y byddwch yn eu cael neu a gawsoch gydag uwch reolwyr i sicrhau bod yr holl staff yn cymryd rhan yn y ffordd orau o gyflawni blaenoriaethau'r amgueddfa gyda chyllideb lai?

15:20

Diolch. Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno hyd yma, ond soniais yn fy ateb gwreiddiol i Heledd Fychan fy mod yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i gael trafodaeth lawer ehangach yfory, a bydd hynny, yn amlwg, yn rhan ohoni. Pan siaradais â'r prif weithredwr ddoe yma yn y Senedd, roeddwn yn falch o glywed na fu unrhyw ddiswyddiadau gorfodol, oherwydd rwy'n credu bod honno'n ffordd arall y byddwn weithiau'n colli'r sgiliau sydd eu hangen. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed hynny. Yn amlwg, byddaf yn cael sgwrs ehangach, ond credaf ei bod yn bwysig iawn atgoffa unrhyw sefydliad fod dyletswydd arnynt i lynu wrth y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn defnyddio'r dull partneriaeth wrth symud ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich croesawu'n ddiffuant i'r rôl hon. Nawr, mae hwn yn fater y mae'r pwyllgor diwylliant wedi mynegi pryderon difrifol yn ei gylch. Mae'r risg sydd wedi'i hamlinellu i'r casgliadau cenedlaethol eu hunain yn sylweddol. Mae'r risg gysylltiedig i'n hunaniaeth genedlaethol a'n cof cyfunol yn ddwys. Nawr, cefais fy nghalonogi nawr o'ch clywed yn dweud mai'r celfyddydau yw gwaredwr bywyd. Nawr, fel yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros ddiwylliant, a wnewch chi ymdrechu i ddod o hyd i ateb brys i'r argyfwng hwn, oherwydd, a fyddech yn cytuno â mi, os na all cenedl gofio o ble mae wedi dod, nid oes modd iddi ddysgu o'i gorffennol nac wynebu ei dyfodol gyda gobaith?

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n cydnabod fy mod yn mynd i fod yn geidwad am gyfnod byr iawn ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu, ond rwy'n credu bod fy swyddogion a'r swyddogion sy'n gweithio yn yr amgueddfa—. Ac mae'n rhaid imi ddweud bod eu perthynas yn braf iawn i'w gweld; yn amlwg, roedd llawer iawn o waith wedi cael ei wneud. Roedd yn ymddangos eu bod yn siarad fel un llais. Roeddwn yn meddwl bod y gwaith yr oedd y ddau grŵp wedi'i wneud yn dda iawn. Maent yn gwybod beth sydd ei angen i gadw'r casgliadau hynny'n ddiogel, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, a byddwn yn hapus iawn i—. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad llafar ar y blaenoriaethau yn y portffolio i'r Senedd, y mis nesaf yn ôl pob tebyg, a byddwn yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trafodaethau pellach a gaf. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i'w helpu. Hyd yn oed yn y cyfnod economaidd hynod heriol hwn, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn.

Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Fel eraill, rwy'n croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl. A hefyd yn croesawu'r ffordd y cyfunir, os mynnwch, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n credu ei fod yn hanfodol ac yn bwysig. Ac rwy'n credu y dylem hefyd wneud datganiad clir iawn ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma—nid wyf yn siŵr a yw hwn yn bwynt lle'r ydym am fod yn ceisio sgorio pwyntiau, Tom. Ni ddylai pobl Cymru fyth gael eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn cael gwybod bod ganddynt ddewis rhwng gweld meddyg teulu neu ddarlun gan van Gogh. Mae cael mynediad at ein casgliadau cenedlaethol, at bwy ydym ni, yn bwysig nid yn unig i ni fel cenedl, ond i ni fel teulu, ni fel unigolion, ni fel cymuned. A phryd bynnag y cawn y dadleuon hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, caf fy atgoffa o'r cyn-Brif Weinidog a'r ddadl a wnaeth ynglŷn â mynediad at brydau ysgol am ddim: bara a rhosod. Rydym yn gwneud mwy na darparu bara yn unig, ond bara a rhosod hefyd—pwy ydym ni fel pobl, fel gwlad, fel cenedl, fel cymuned. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl allweddol.

Rwy'n croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i roi datganiad yma fis nesaf. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Ond hoffwn hefyd gael datganiad ar ddyfodol ein casgliadau cenedlaethol. Mae cadeirydd y pwyllgor diwylliant eisoes wedi siarad yn y cwestiwn hwn, ac mae angen datganiad ar ddyfodol ein casgliadau cenedlaethol, ond hefyd ar fynediad at y casgliadau cenedlaethol hynny, oherwydd mae'r ddadl wrthun a gawsom dros yr ychydig ddyddiau diwethaf ynglŷn ag a fyddai gennym amgueddfa genedlaethol ar agor i'n pobl yn ein prifddinas yn pwysleisio'r ffaith nad oes gennym fynediad at ein casgliadau cenedlaethol hyd yn oed pan fydd yr amgueddfa honno ar agor. Rwyf am i fy mab 13 oed dyfu i fyny yn deall ei orffennol, a phan fo'n deall hynny, rwy'n gobeithio y bydd yn chwarae rhan—mae'r Llywodraeth yn arswydo wrth glywed hyn—yn creu ein dyfodol hefyd.

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth y mae Alun wedi'i ddweud. Byddaf yn ymweld â'r amgueddfa ddydd Mawrth. Mae'n debyg fod tua dwy flynedd ers imi fod yno, ac fe euthum i weld arddangosfa Richard Burton fel y peth diwethaf a welais yn yr amgueddfa. Mae'n bwysig iawn fod cymaint â phosibl o'r casgliadau hynny i'w gweld. Wrth gwrs, mae'n deulu o amgueddfeydd ar draws Cymru, onid yw; edrychaf ymlaen at ymweld â'r saith amgueddfa yn y teulu, i weld beth sydd yno. Fel y dywedwch, mae'n bwysig iawn fod pawb yn cael mynediad, ac mae'n dda clywed y croeso i gyfuno diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol, gan fy mod innau hefyd yn credu bod hynny'n bwysig iawn.

15:25

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd. Mae ariannu'r celfyddydau a diwylliant yn ffordd o greu cymdeithas fwy cyfartal. Mae llawer ohonom wedi cael y manteision o allu mynd i amgueddfeydd ac orielau celf am ddim, felly, nid yn unig fod gennym yr her nawr o adeilad eiconig a allai fod yn cau—am gyfnod byr o amser gobeithio—ond yn eich cynllun busnes y bwriadwch ei gael gan eich swyddogion, tybed a ydych chi hefyd yn mynd i allu cynnwys y mater ynghylch codi tâl ar gyfer amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio y byddant yn parhau i fod am ddim ac yn agored i bawb. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, ac yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i beidio â chodi tâl mynediad i'n hamgueddfeydd. Fel rwy'n dweud, cefais drafodaeth fer iawn gyda'r prif weithredwr ynghylch hynny ddoe, ac fe'm sicrhaodd mai dyna oedd y farn o hyd. Rwy'n cytuno'n llwyr. Os ydym am ehangu cyfranogiad yn ein hadeiladau eiconig ac yn ein hamgueddfeydd, mae'n bwysig iawn nad oes tâl. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud, a bydd hyn yn rhan o'r sgwrs a gaf yn fy nghyfarfod yfory, eu bod yn edrych ar ffyrdd—yn sicr yn yr amgueddfa genedlaethol yma yng Nghaerdydd—y gallant greu a chynhyrchu rhywfaint o incwm, ond nid yw codi tâl mynediad yn un ohonynt.

Mae Jane, Delyth ac Alun eisoes wedi sôn sut mae gwerth diwylliant yn mynd ymhell y tu hwnt i dermau ariannol syml, ond gyda'r perygl o ddadwneud rhywfaint o hynny drwy siarad am y gwerth a gynhyrchir gan yr amgueddfa mewn termau ariannol, a syrthio i'r fagl o briodoli gwerth i bethau sy'n gwneud elw yn unig, fe wyddom o ddata yn 2020, am bob £1 y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwario ar yr amgueddfa genedlaethol, fod £4 yn cael ei chynhyrchu mewn gwariant ychwanegol, ac mae hynny, yn ôl pob sôn, yn amcangyfrif ceidwadol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn deall pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddeall effaith economaidd unrhyw bosibilrwydd o gau'r amgueddfa genedlaethol ac unrhyw golli swyddi pellach o fewn yr amgueddfa genedlaethol ei hun.

Wel, rwy'n siŵr fod fy rhagflaenydd wedi gwneud y gwaith hwnnw. Nid wyf wedi cael cyfle i edrych arno. Rydym yn aml yn clywed hyn, onid ydym, fod punt yn cynhyrchu sawl punt yn ei lle, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall y bydd yn rhaid cael sawl asesiad effaith, ond rwyf am sicrhau pawb nad yw'r amgueddfa genedlaethol yn cau.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i'w ofyn gan Altaf Hussain.

Marwolaeth Dr Kim Harrison

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ganfyddiadau'r crwner ym marwolaeth Dr Kim Harrison a amlygodd fethiannau difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? TQ1044

Diolch yn fawr. Mae hwn yn achos trasig, ac mae fy meddyliau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio. Fe wnaeth y bwrdd iechyd ymchwilio i'r digwyddiad ar y pryd, ac fe wnaeth y gwelliannau angenrheidiol. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithredu ar unwaith yn sgil canfyddiadau'r crwner, ac rwyf wedi gofyn i weithrediaeth y GIG ddarparu sicrwydd ynglŷn â hyn.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n dda eich gweld yn ôl yn eich swydd. Nawr, cefais sioc o glywed am y rhestr hir o fethiannau a arweiniodd at ganlyniad mor drasig. Mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda'r teulu Harrison. Yn sicr, cyfrannodd methiannau'r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, a'r bwrdd iechyd yn y pen draw at farwolaeth Dr Harrison ac mae'n rhaid inni sicrhau na all hyn fyth ddigwydd eto. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gynnal adolygiad brys o fesurau diogelwch, nid yn unig yn yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, ond ar draws yr ystad iechyd meddwl, mewn unedau diogel ac agored fel ei gilydd? Sut y bydd gwersi o'r driniaeth wael a gafodd Daniel Harrison yn cael eu cymhwyso ar gyfer hyfforddi clinigwyr iechyd meddwl sy'n gweithredu yn y GIG yng Nghymru? Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gwnewch chi sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am gleifion yn cael ei defnyddio pan gynhelir asesiadau iechyd meddwl yn nalfeydd yr heddlu? Diolch.

15:30

Wel, diolch yn fawr, ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn deall trasiedi eithafol yr achos hwn a'r anawsterau gwirioneddol y mae'r teulu hwn wedi'u hwynebu. A hoffwn sicrhau y ceir dealltwriaeth fy mod yn cymryd pob adroddiad rheoliad 28 o ddifrif, a chredaf fod gwersi ehangach inni eu dysgu, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog y bwrdd iechyd i ymgymryd ag ef. Ond hefyd, rwyf wedi cyfarwyddo gweithrediaeth y GIG i edrych ar y gwersi ehangach hynny.

Gallaf roi sicrwydd i chi fod nifer o gamau allweddol ar y gweill, gan gynnwys ymgorffori mesurau diogelwch ychwanegol yn ward F yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sy’n darparu mannau ychwanegol dan glo o amgylch allanfeydd. Ac rydych yn llygad eich lle fod angen inni sicrhau bod y gwersi hynny’n cael eu dysgu mewn byrddau iechyd eraill.

Credaf fod dysgu ehangach y mae angen inni ei ddeall hefyd, gan gynnwys, yn hollbwysig—. Ac rydym yn dal i aros i'r rheoliad 28 gael ei gyhoeddi ymhen rhyw saith niwrnod. Credaf fod pwysigrwydd yr angen i wrando ar fewnwelediad a gwybodaeth gan y teulu o ran darparu gofal, a'r angen i ddarparu gofal, a sut i ddarparu gofal, yn rhywbeth y mae angen ei ystyried hefyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

4. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Alun Davies.

Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Bob hyn a hyn, mae seren yn ymddangos. Mae Jess Fishlock yn seren o'r fath. Roedd 9 Ebrill yn garreg filltir, pan arweiniodd Jess Fishlock ei gwlad ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Kosovo, gan ddod yn chwaraewr cyntaf Cymru i ennill 150 o gapiau dros Gymru. Dylai pob un ohonom ei llongyfarch yma ar yr orchest hon. Mae'n golygu y bydd wedi chwarae yn 65 y cant o holl gemau Cymru ers i dîm Cymru gael ei gymeradwyo'n llawn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1993. Mae'n ystadegyn rhyfeddol, ac yn rhywbeth y dylai fod yn falch tu hwnt ohono. Ychydig ddyddiau ynghynt, torrodd Jess record Gareth Bale am y nifer uchaf o goliau dros Gymru, wrth i Gymru guro Croatia o bedair gôl i ddim ar Gae Ras Wrecsam.

Mae'r ddwy orchest yn dyst i chwaraewr eithriadol sydd wedi codi'r safon ac wedi ysbrydoli pawb o'i chwmpas ers chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf yn 16 oed. Nid oes chwaraewr mwy haeddiannol i feddu ar y cyflawniadau hyn, oherwydd nid yn unig ei bod yn seren gartref yng Nghymru, ond yn fyd-eang hefyd. Ac nid ei sgiliau ar y cae chwarae yn unig sy’n ei gwneud yn gymaint o ysbrydoliaeth i genhedlaeth iau o chwaraewyr, ond ei chyngor a’i hagwedd hefyd. Mae'n seren fyd-eang sydd erioed wedi anghofio ei gwreiddiau Cymreig. Ond mae wedi gwneud mwy na hynny. Mae wedi cefnogi a helpu'r gymuned LHDTC+ ar y cae chwarae ac oddi arno. Pan gafodd ei MBE, fe'i cafodd oherwydd ei chyfraniad i bêl-droed menywod a'r gymuned LHDT, a chafodd ei henwi’n hyrwyddwr chwaraeon Stonewall hefyd ym mis Rhagfyr 2020. Dylai pob un ohonom ddod ynghyd i longyfarch Jess Fishlock ar yr hyn y mae wedi’i gyflawni dros Gymru a thros y gymuned y mae'n ei chynrychioli. Diolch.

Mi fyddai rhai pobl yn dweud bod yr ymadrodd 'o flaen ei hamser' yn cael ei ddefnyddio’n llawer rhy aml, ond prin y gallai neb ddadlau nad yw’n ddisgrifiad teilwng iawn o Zonia Bowen fu farw yn ddiweddar. Fel cynifer o’r bobl sy’n gwneud cyfraniad arbennig i’n cenedl, y tu allan i Gymru y ganed Zonia, a hynny yn Norfolk yn 1926. Daeth i astudio Ffrangeg i’r brifysgol ym Mangor, ond gyda’r Gymraeg a gyda Chymru y syrthiodd mewn cariad ar ôl cyrraedd yma. Astudiodd Zonia’r Llydaweg hefyd, a hi oedd y cyntaf erioed i gyhoeddi gwerslyfrau Llydaweg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd rhyddid ac annibyniaeth yn llinyn arian drwy holl waith Zonia, ac, o dan ei harweiniad hi, daeth cangen Sefydliad y Merched y Parc ger y Bala yn rhydd oddi wrth y WI, a hynny am eu bod yn gwrthod caniatáu i ferched y Parc weithredu’r gangen drwy gyfrwng y Gymraeg. Aeth y merched hynny yn eu blaenau i sefydlu mudiad sy’n rhan mor annatod o ddiwylliant y gymdeithas Gymraeg erbyn hyn, sef Merched y Wawr, a Zonia oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf y mudiad, yn ogystal â golygydd cyntaf eu cylchgrawn arbennig, Y Wawr. Fe fu Zonia’n ymgyrchu yn erbyn claddu gwastraff niwclear yng Nghymru yn yr 1980au dan faner ymgyrch Madryn, a bu’n ysgrifennydd ar Gyngor Dyneiddwyr Cymru hefyd am gyfnod.

Nid dynes draddodiadol oedd Zonia, ac nid bywyd traddodiadol y buodd hi fyw. Bu'n cicio yn erbyn y tresi, a gwrthododd dderbyn mai 'fel hyn y mae, ac fel hyn y mae i fod'. Diolch yn fawr, Zonia.

15:35

Wel, mae'n bleser mawr gen i i allu cynnig llongyfarchiadau gwresog i glwb pêl-droed Wrecsam, wrth gwrs, sydd wedi sicrhau dyrchafiad i adran gyntaf cynghrair Lloegr yr wythnos yma. Ac am ffordd i sicrhau dyrchafiad: sgorio chwe gôl yn erbyn Forest Green Rovers ar y Cae Ras, cae, wrth gwrs, sydd, unwaith eto nawr, yn gweld gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae yno.

Nawr, mae yna ddywediad gan glwb pêl-droed Barcelona: mes que un club, mwy na chlwb. A dyna'n union sydd gennym ni, wrth gwrs, yn Wrecsam erbyn hyn: tîm ar gyfer y gogledd cyfan, tîm sy’n llenwi’r Cae Ras bob wythnos ac am godi stand newydd er mwyn ateb y galw gan y miloedd o ffans newydd sydd wedi eu swyno gan y stori. Clwb pêl-droed proffesiynol hynaf Cymru, y trydydd hynaf yn y byd, yn chwarae ar y cae rhyngwladol hynaf yn y byd. Clwb efo hanes.

Ond dyma glwb, wrth gwrs, fuodd bron â diflannu oherwydd camreoli gan unigolion barus. Clwb gafodd ei achub gan y cefnogwyr, oedd wedyn yn ddigon hael i roi’r clwb yng ngofal dau actor oedd yn cyfaddef nad oedden nhw'n gwybod fawr ddim am bêl-droed, yn Rob McElhenny a Ryan Reynolds. Ac mae’r ffydd yna, wrth gwrs, wedi talu ar ei ganfed, onid yw e? Wedi 15 mlynedd y tu allan i’r gynghrair, dyma nhw’n ennill dyrchafiad llynedd i'r ail adran, ac eleni maen nhw wedi llwyddo unwaith eto.

Mae clwb pêl-droed Wrecsam wastad wedi bod yn galon i’r gymuned leol a gogledd Cymru yn ehangach. Mae’r sylw, yn sgil y perchnogion newydd a’r gyfres deledu, yn golygu bod cefnogwyr ar draws y byd bellach yn rhan o’r siwrne anhygoel yma. Dim ond fis yn ôl, daeth criw o Batagonia draw am y tro cyntaf a chael croeso enfawr gan y clwb a’r ffans.

Mwy na chlwb pêl-droed. Mae’r llwyddiant yn haeddiannol wedi cyfnod mor anodd. Pan fydd y cefnogwyr yn canu 'Yma o hyd', wel, mae yna angerdd go iawn yn perthyn i’r geiriau 'er gwaetha pawb a phopeth'. A gobeithio y cân nhw fwy o lwyddiant, wrth gwrs, yn y tymhorau i ddod. Ond rwy’n siwr y bydd holl Aelodau’r Senedd eisiau llongyfarch Wrecsam ar ddiwedd tymor llwyddiannus fel hyn, gan hefyd, wrth gwrs, ddymuno pob lwc ar gyfer y tymor nesaf. 

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.

Cynnig NNDM8542 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd

Nesaf yw'r cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i  wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan. 

Cynnig NNDM8543 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), a galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8536 Sam Rowlands

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o wneud y cynnig ar yr agenda yn fy enw i, ac felly, wrth agor y ddadl, rydym yn cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11, yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r tîm o bobl sydd wedi fy helpu i baratoi’r Bil hwn a’r llu o gyd-Aelodau sydd wedi cynnig her a chymorth drwy’r amrywiol bwyllgorau a thu hwnt i’r pwyllgorau hynny hefyd dros y misoedd diwethaf. Yn benodol, hoffwn ddiolch i staff Comisiwn y Senedd, y mae rhai ohonynt yma heddiw, am eu hymdrechion sylweddol, yn ogystal â fy nhîm fy hun, ynghyd â’r rheini yn y sector awyr agored ac addysg sydd wedi fy nghefnogi, yn enwedig Graham French, Dave Harvey, Clare Adams a Paul Donovan, a ddarparodd fewnwelediad academaidd a mewnwelediad amhrisiadwy gan y sector. Hefyd, rwy'n ddiolchgar am ymgysylltiad ysgolion a phlant drwy gydol y broses hon. Eu hangerdd a'u hymrwymiad hwy a rhanddeiliaid ledled Cymru a wnaeth fy argyhoeddi ynghylch pwysigrwydd y Bil hwn a'r angen amdano.

Pan gyflwynais y Bil hwn ym mis Tachwedd y llynedd, agorais drwy ofyn cwestiwn, a’r cwestiwn oedd: a wnaiff Cymru arwain y ffordd? Ers hynny, rydym wedi clywed tystiolaeth gan ystod eang o grwpiau ac unigolion, y rhan fwyaf ohonynt yn cefnogi’r Bil. Yn wir, er bod nifer o bwyntiau pwysig i’w dadlau, mae wedi bod yn amlwg fod bron bob unigolyn sy’n rhoi tystiolaeth, boed o blaid neu yn erbyn y syniad o ddeddfwriaeth, yn cydnabod gwerth addysg awyr agored breswyl a’r mynediad anghyfartal at fuddion cysylltiedig sydd wrth wraidd y Bil.

Mae'r Bil wedi'i gyflwyno yng nghyd-destun addysg, ond credaf fod ganddo gwmpas ehangach o lawer sy'n berthnasol i wahanol bortffolios a phob agwedd ar ein bywydau. Mae manteision addysg awyr agored breswyl i’w teimlo’n gryf ar lefel bersonol ac maent yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu gorwelion pobl ifanc a datblygu eu hymdeimlad o gynefin. Ond mae’r profiadau hyn hefyd yn cyfrannu at Gymru mewn ystyr ehangach. Mae iechyd, llesiant, cyfalaf diwylliannol a’r economi oll yn agendâu hollbwysig yma yng Nghymru ac maent oll yn cael eu hybu gan y Bil hwn. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, drwy wneud cyrsiau addysg awyr agored breswyl yn rhad ac am ddim ac yn rhan warantedig o daith addysg plant, mae’r Bil yn dileu’r elfen loteri cod post o fynediad at y manteision personol hynny. Credaf y bydd pob un o'r Aelodau'n cytuno na ddylai unrhyw blentyn fod ar eu colled oherwydd eu hamgylchiadau personol, a dyna pam, yn dilyn proses graffu drylwyr iawn, fod y Bil hwn ger eich bron heddiw ar ei ffurf bresennol.

Ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud fy mod wedi mwynhau’r broses graffu, a diolch i bob un o Aelodau’r pwyllgor sydd wedi fy holi i a fy nhîm, ac yn sicr, cafwyd digonedd o gwestiynau treiddgar. Er nad wyf am wneud hynny eto ar y pwynt hwn, rwyf wedi ymateb yn fanwl i bob argymhelliad pwyllgor, ac rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen fy ymateb os digwydd eich bod yn cael trafferth cysgu. Rwyf wedi nodi ‘derbyniwyd mewn egwyddor’ neu ‘derbyniwyd’ ar gyfer llawer o’r argymhellion a wnaed yn dilyn hyn, sy’n dangos pa mor gynhyrchiol oedd y broses graffu, ac rwy'n bwriadu cyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i ymateb i'r rhain. Ond ceir rhai pwyntiau allweddol yr hoffwn dynnu sylw'r Aelodau atynt yn y cyfamser serch hynny.

Diben y Bil, i’ch atgoffa, yw galluogi pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir i gael o leiaf pedair noson o addysg awyr agored breswyl yn rhad ac am ddim, gyda’r gallu i rannu'r ddarpariaeth honno’n sawl ymweliad byrrach os oes angen. Mae rhywfaint o ddadlau wedi bod ynghylch diffinio addysg awyr agored, ond o ystyried yr ystod eang o safbwyntiau ar hyn, rwyf o’r farn y byddai gosod diffiniad ar wyneb y Bil yn cyfyngu ar ei weithrediad yn y dyfodol o bosibl, gan y byddai unrhyw welliant i’r diffiniad er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn ymarfer neu'r galw am rai elfennau o addysg awyr agored angen deddfwriaeth sylfaenol bellach.

Mae mabwysiadu’r dull hwn hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion benderfynu ar y math o brofiad sy’n briodol i’w disgyblion. Ynghyd â'r math o brofiad, dylai'r ysgolion hefyd allu dewis hyd yr ymweliad, yn briodol i oedran, gallu ac anghenion eu plant. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r Bil yn gwneud darparu cwrs addysg awyr agored preswyl yn rhan orfodol o’r cwricwlwm—byddai’n orfodol, felly, i ysgolion ddarparu’r cwrs addysg awyr agored preswyl hwn—ond y bwriad yw na ddylai plant gael eu gorfodi i'w wneud. Eisoes, gall penaethiaid ysgolion a gynhelir benderfynu na ddylai darpariaethau cwricwlwm Cymru fod yn gymwys i blentyn neu ddisgybl. Felly, os na fyddai plentyn yn dymuno cymryd rhan yn y cwrs o addysg a ddarperir o dan y Bil, gallai pennaeth yr ysgol wneud y penderfyniad hwnnw.

Wrth imi symud drwy’r broses a chynnal ymgynghoriadau ar yr amcanion polisi yn y Bil drafft, daeth yn amlwg fod safbwyntiau cryf y dylid ehangu’r Bil i gynnwys disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol. Rwy’n llwyr gydnabod y gallai plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, fel y rheini mewn unedau cyfeirio disgyblion, elwa’n arbennig o brofiad addysg awyr agored preswyl a ddarperir o dan y Bil. Rwy’n cydnabod bod hon yn rhan o’r Bil y gellid ei chryfhau. Mae clywed tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod proses Cyfnod 1 wedi amlygu hyn ymhellach. Felly, os yw'r Bil yn symud yn ei flaen, rwy’n ymrwymo i adolygu’r mater hwn ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu dichonoldeb ymestyn y ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac i weld ai drwy'r Bil fyddai'r ffordd orau o wneud hynny neu drwy ffyrdd eraill.

Mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi cynnig gwelliannau'n ymwneud â’r canllawiau y mae’n rhaid eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru, ac rwy'n croesawu hynny. Yn ystod Cyfnod 1 y Bil, rwyf wedi rhoi ymrwymiad penodol i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Rwy’n fwy na pharod i osod gofyniad fod addysg awyr agored breswyl yn cynnig cyfleoedd i bob disgybl ddysgu a chael profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’i fod yn hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Pa mor ddymunol bynnag yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, serch hynny, mae'n werth nodi bod diffyg gallu yn y sector i fodloni'r nod hwn yn llawn ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa'n gwella, diolch i gymwysterau newydd ym maes addysg awyr agored a sefydliadau fel y Bartneriaeth Awyr Agored, ond mae'n newid cenedliadol yn hytrach nag ateb dros nos. Rwy'n hyderus, serch hynny, y byddai pasio fy Mil yn hwb i ddyheadau 'Cymraeg 2050' ac yn hybu ein hiaith ledled Cymru, yn enwedig o ystyried bod llawer o'r safleoedd addysg awyr agored wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad a'i dathlu'n eang.

Nid yw’n syndod fod dadl ynghylch cyllid wedi bod yn thema ganolog yn y Bil hyd yma. Wrth ddatblygu’r asesiad effaith rheoleiddiol, gwnaed cryn dipyn o waith, gan gynnwys gyda darparwyr addysg awyr agored breswyl, ac rwy'n credu o ddifrif fod y costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn gadarn ac yn gallu gwrthsefyll unrhyw graffu. Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag addysg awyr agored breswyl, a bod yn rhaid i’r canllawiau wneud darpariaeth o ran y costau y mae’n rhesymol eu talu yn gysylltiedig ag addysg awyr agored breswyl. Dylai hyn roi rhywfaint o amddiffyniad fod yn rhaid i gost ymweliadau fod yn rhesymol. Fodd bynnag, rwy'n fwy na pharod i archwilio'r angen i gryfhau darpariaethau canllawiau yn y Bil i hyrwyddo ymhellach yr angen i sicrhau gwerth am arian.

Byddwn yn dadlau y byddai’r Bil hwn yn cael effaith economaidd gadarnhaol net hirdymor, nid yn unig o ran hybu economi ehangach Cymru, yn enwedig lle mae’r safleoedd preswyl hynny’n bodoli, ond drwy hybu a chefnogi iechyd corfforol a meddyliol hirdymor ein pobl ifanc, a fydd yn talu ar ei ganfed am ddegawdau yn y dyfodol. Credaf fod fy Mil yn angenrheidiol, oherwydd er bod gennym system addysg a chwricwlwm sydd â'r nod o ddarparu’n gyfartal ar gyfer pob plentyn, y gwir amdani yw nad yw pob agwedd ar yr addysg honno ar gael i bawb ar delerau cyfartal. Mae plant, rhieni ac athrawon fel ei gilydd yn gwerthfawrogi sesiynau addysg awyr agored breswyl, ac eto, i'r rheini na allant fforddio mynediad atynt, maent yn anghyraeddadwy. Credaf fod hyn yn sylfaenol anghywir, ac mae’r Bil hwn yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau ariannol rhag gallu cymryd rhan mewn profiadau a all newid bywydau.

Mae yna ddadl nad oes angen deddfwriaeth, ac rwy’n ymwybodol fod darpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn rhoi pŵer drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ddiwygio meysydd dysgu a phrofiad. Ond mae fy Mil yn sicrhau y bydd ei fanteision yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn y bôn, rydych yn deddfu ar gyfer ac yn ariannu’r hyn sy’n bwysig yn eich barn chi, ac os ydych am i rywbeth gael ei warantu, rydych yn rhoi hynny mewn cyfraith. Dyna rwy’n ei wneud gyda’r Bil hwn ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i wneud hynny y prynhawn yma. Byddaf yn pleidleisio dros weledigaeth o'r dyfodol sy'n wirioneddol hygyrch i holl blant Cymru, un sydd â photensial i effeithio ar lesiant yn y dyfodol ac ar ddiwylliant ac economi Cymru hefyd. Rwy'n gobeithio'n fawr, Aelodau, y byddwch chi'n gwneud yr un peth. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn a’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) i’r Senedd. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf siarad heddiw yn fy rôl newydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Wedi bod yn Aelod o’r pwyllgor ers 2021, mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy ethol yn Gadeirydd. Rydym wedi gwneud gwaith hollbwysig o dan arweiniad rhagorol ein cyn Gadeirydd, Jayne Bryant. Ar ran yr holl bwyllgor, hoffwn ddiolch i Jayne am fod yn Gadeirydd pwyllgor penigamp. Edrychwn ymlaen at eich ymgysylltiad parhaus â ni yn eich rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. Hoffwn ychwanegu diolch arbennig hefyd i Ken Skates ar ran y pwyllgor am ei gyfraniadau gwerthfawr a'i fewnwelediad.

Gan droi at y Bil, hoffwn ddiolch i'r Aelod sy'n gyfrifol am ei sylwadau agoriadol a'i ymagwedd agored ac adeiladol tuag at ein craffu. Mae’n ddefnyddiol cael ymateb ysgrifenedig i’n hargymhellion cyn y ddadl, felly diolch am hynny. Hoffwn ddiolch i’r rhai a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Yn olaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu dull ystyriol a chydweithredol o graffu ar y Bil.

Er y cafwyd cytundeb unfrydol â bwriadau ac amcanion polisi’r Bil, ni allem ffurfio safbwynt unfryd ar egwyddorion cyffredinol. Roedd gan rai Aelodau bryderon ynghylch cost y Bil a phroblemau posibl gyda'i weithredu, tra bo Aelodau eraill yn teimlo y gallai’r Aelod sy’n gyfrifol fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn ystod gweddill y broses graffu ac y dylai’r Bil fynd yn ei flaen felly. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed rhai o’r safbwyntiau gwahanol hyn yn ystod gweddill y ddadl. Fodd bynnag, fe wnaethom wyth argymhelliad. Derbyniodd yr Aelod sy’n gyfrifol ddau yn llawn, dau yn rhannol, ac un mewn egwyddor. Gwrthododd ddau, ac fe nododd un.

Trof yn awr at rai o’r rhain mewn mwy o fanylder. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi dweud yn glir iawn fod yr anghydraddoldeb presennol mewn darpariaeth addysg awyr agored breswyl yn ffactor blaenllaw ar gyfer cyflwyno’r Bil. Fe'i disgrifiodd fel mater cyfiawnder cymdeithasol; roeddem yn cytuno â hyn. Ac eto, mae’r Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd yn eithrio rhai plant a phobl ifanc mewn addysg, ac felly nid yw’n darparu ar gyfer darpariaeth gyffredinol. Yn benodol, clywsom sut y gallai plant a phobl ifanc mewn addysg heblaw yn yr ysgol elwa’n arbennig o’r cyfleoedd a ddarperir gan addysg awyr agored breswyl. Roedd llawer o’r rhanddeiliaid y siaradasom â nhw yn teimlo bod hwn yn fwlch yn y Bil. Roeddem yn teimlo’n gryf fod hwn yn faes i’w wella pe bai’r Bil yn mynd yn ei flaen, ac fe wnaethom argymell gwelliannau i gynnwys disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol o fewn cwmpas darpariaeth y Bil.

Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor gan yr Aelod sy’n gyfrifol. Nododd y sail y'i galluogwyd i fwrw ymlaen, sef er mwyn ceisio sefydlu dyletswydd statudol i sicrhau bod pob unigolyn ifanc sy’n derbyn addysg a gynhelir yn cael cyfle i brofi addysg awyr agored breswyl. Wrth ddatblygu’r Bil, dywedodd y teimlid mai’r ffordd orau o gyflawni hyn oedd trwy ddefnyddio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae Deddf 2021 yn gosod gofynion cwricwlwm gwahanol ar blant mewn addysg heblaw yn yr ysgol. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol yn cydnabod bod hwn yn faes lle gellid cryfhau’r Bil ac rydym yn falch o weld hyn. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn i adolygu’r mater hwn ymhellach, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu dichonoldeb ymestyn cymhwystra. Os bydd y Bil yn mynd rhagddo, byddwn yn cadw llygad ar y datblygiadau hyn.

Mater hollbwysig arall a archwiliwyd yn fanwl gennym ni a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad oedd natur orfodol y ddarpariaeth. Roedd yr Aelod sy’n gyfrifol yn glir yn ei dystiolaeth i ni na fyddai plant yn cael eu gorfodi i fynychu, ac mai’r hyn a oedd yn orfodol oedd y cynnig a wneir gan ysgolion. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i unrhyw system optio allan gael ei rhoi ar waith drwy’r mecanwaith a nodir yn adran 42 o Ddeddf 2021. Disgrifiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd hyn fel erfyn di-awch ar gyfer y dasg benodol hon. Roeddem yn cytuno, ac felly fe wnaethom argymell bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i nodi ar wyneb y Bil nad oedd yn orfodol i blant dderbyn y cynnig o ddarpariaeth addysg awyr agored breswyl. Sylwaf fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi gwneud argymhelliad tebyg yn galw am ddiwygio’r Bil i gynnwys mecanwaith optio allan. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn ein hargymhelliad, er ei fod yn dweud nad yw’n siŵr a oes angen gwelliant, ond mae’n barod i archwilio i weld a fyddai gwelliant o’r fath yn gwneud bwriad y Bil yn gliriach a’i effaith yn haws i’w rheoli’n ymarferol. Rydym yn croesawu’r ymagwedd agored hon, a phe bai'r Bil yn mynd rhagddo, bydd gennym gryn ddiddordeb mewn unrhyw welliannau perthnasol a gyflwynir ar gyfer Cyfnod 2.

Hoffwn sôn yn fyr am rai o’r argymhellion eraill a wnaethom. Roedd y rhain yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad o gapasiti o fewn y sector gyda ffocws penodol ar ddarpariaeth hygyrch a chynhwysol a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhain yn faterion y clywsom amdanynt yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil hwn a hefyd mewn perthynas â darpariaeth gynhwysol fel rhan o’n gwaith ar edrych ar fynediad i rai anabl at addysg a gofal plant. Bydd hyn yn amlwg yn fater i Lywodraeth Cymru yn hytrach na’r Aelod sy’n gyfrifol os yw'r Bil yn mynd yn ei flaen, ond mae’n dda gweld y byddai’r Aelod sy’n gyfrifol yn croesawu adolygiad o’r fath a’i fod yn gallu gweld sut y byddai’n cefnogi'r gwaith o weithredu'r Bil.

Yn olaf, rwy'n nodi argymhelliad 6, a oedd yn cefnogi’r gwelliannau arfaethedig a awgrymwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn rhannol. Dywedodd y byddai’n hapus i dderbyn y gwelliannau a fyddai’n sicrhau y dylai darpariaeth addysg awyr agored breswyl, yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, ddarparu cyfleoedd i bob disgybl ddysgu a chael profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac y dylai darpariaeth hybu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Cymru. Rydym yn croesawu hyn. Fodd bynnag, nid yw’n derbyn y gwelliant a gynigiwyd gan y comisiynydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr allu cynnig darpariaeth drwy’r Gymraeg. Rwy’n disgwyl y bydd y materion hyn ac eraill yn cael eu trafod ymhellach os aiff y Bil yn ei flaen.

15:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl Cyfnod 1 yma ar yr ail Fil arfaethedig Aelod i gael ei gyflwyno yn y Senedd hon. Mae ein hadroddiad yn dod i bedwar casgliad, ac yn gwneud 11 o argymhellion. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands a’i swyddogion am ddod i’r pwyllgor ac am ddarparu ymateb i’n hadroddiad cyn y ddadl heddiw. Hoffwn longyfarch Sam a'i dîm ar lefel y manylder a ddarparwyd ar yr amcangyfrifon cost—sydd yn haws i fi ei ddweud na neb—sydd wedi eu cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Credaf fod y dull hwn yn gosod esiampl dda ar gyfer Biliau'r dyfodol. Wedi dweud hynny, mae’n siomedig nad yw’r Aelod wedi gallu derbyn dros hanner ein hargymhellion.

Er ein bod yn fodlon ar y cyfan â’r costau sydd wedi’u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yn amodol ar yr argymhellion yn ein hadroddiad, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod y lefel sylweddol o gyllid sydd ei angen ar gyfer y Bil hwn, a hynny yn erbyn cefndir o bwysau cyllidebol ar Lywodraeth Cymru.

Cyn troi at argymhellion penodol, hoffwn dynnu sylw at ein disgwyliad y dylai cyllid ar gyfer pob Bil gael ei ystyried ar sail gyfartal ac i’r un safon. Yn ystod ein hystyriaeth o’r Bil hwn, dywedodd y Gweinidog ei bod yn ormod o risg i ymrwymo i brisiadau rhagolygol heb unrhyw gyllidebau dangosol ar ôl mis Mawrth 2025, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol a’r dull ‘newydd’ o ariannu un agwedd ar y cwricwlwm. Ein barn ni yw bod cyfnod arfarnu pum mlynedd ar gyfer y Bil hwn yn briodol ac yn unol â’r amserlenni a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith y Biliau y mae’n eu cyflwyno.

Yn yr un modd, cododd y Gweinidog bryderon hefyd ei bod yn bosibl na fydd y costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn lleihau dros y cyfnod arfarnu o bum mlynedd, oherwydd y gyfradd chwyddiant gyfredol. Rydym yn fodlon ar y dull a fabwysiadwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol o ddiystyru chwyddiant wrth brisio'r Bil, gan ei fod yn dilyn canllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF ac yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, oherwydd cost sylweddol ei Fil, rydym yn argymell bod yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnal dadansoddiad pellach o effaith bosibl chwyddiant, ac mae’n dda gweld bod yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn.

Gan symud ymlaen, mae’n siomedig fod ein hargymhelliad i ddarparu dadansoddiad pellach wrth amcangyfrif manteision y Bil wedi’i wrthod. Fodd bynnag, roedd yn galonogol fod yr Aelod sy’n gyfrifol yn cefnogi’n llawn unrhyw ddadansoddiad ôl-ddeddfwriaethol ynglŷn ag a wireddwyd manteision disgwyliedig y Bil. Mae’r pwyllgor hefyd yn croesawu ymrwymiad gan yr Aelod sy’n gyfrifol i archwilio’r posibilrwydd o gynnwys adolygiad ôl-weithredu ar wyneb y Bil, os yw'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2. Mae cynnwys adolygiad ôl-weithredu cadarn yn arfer da ac yn helpu i roi sicrwydd ynghylch y modd y caiff y gwaith o gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth ei fonitro. Yn ogystal, mae’r pwyllgor yn croesawu’r eglurhad a ddarparwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol am unrhyw ofynion arolygu posibl sy’n gysylltiedig â’r Bil, gan gynnwys unrhyw rôl i Estyn, a’r wybodaeth bellach a ddarparwyd ar gyflawni gwaith monitro effeithiol.

Gwnaeth y pwyllgor sawl argymhelliad arall yn gofyn am ragor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o’r costau amcangyfrifedig mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, athrawon cyflenwi, eitemau anarbenigol fel dillad ac esgidiau, ac olrhain cyfranogiad disgyblion. Mae’n siomedig fod pob un o'r rhain wedi’u gwrthod, ond nodwn y rhesymau a roddwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol yn ei ymateb.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, cafodd ein hargymhelliad i wneud gwaith pellach ar y goblygiadau cost a fyddai’n deillio o newidiadau posib i ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol ei wrthod hefyd. Er bod hyn hefyd yn peri siom, gan fod y gost hon o bosib yn sylweddol, rydym yn cydnabod yr anawsterau o ran llunio amcangyfrif o’r fath ac yn nodi’r rhesymau a roddwyd gan yr Aelod sy’n gyfrifol. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Sarah Murphy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth fy ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Rwy'n croesawu'r her newydd hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag aelodau eraill o’r pwyllgor, yn ogystal â'r tîm clercio da iawn. Hoffwn hefyd ddiolch a chydnabod gwaith ac ymrwymiad y cyn-Gadeirydd, Huw Irranca-Davies. Ble bynnag rydych chi, Huw, fe fydd yn anodd llenwi eich esgidiau. Nid oeddwn yn aelod o’r pwyllgor yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil wrth gwrs, ond hoffwn ddiolch i Sam Rowlands, fel yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, am roi tystiolaeth yn gynharach eleni i lywio ei waith craffu. Teimlaf ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith y mae Sam wedi’i wneud ar gyflwyno’r Bil, ac felly hoffwn dynnu sylw at ganfyddiadau’r pwyllgor. Hoffwn ddiolch i Sam hefyd am gyhoeddi ymateb cynhwysfawr ddydd Llun i’r chwe argymhelliad a wnaeth y pwyllgor yn ei adroddiad.

Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn ymwneud â nod craidd y Bil, sef, fel y dywedodd yr Aelod sy’n gyfrifol wrth y pwyllgor, sicrhau bod cwrs addysg awyr agored preswyl yn cael ei ddarparu fel rhan orfodol o’r cwricwlwm, er na fyddai plant yn cael eu gorfodi i fynychu. Barn yr Aelod sy’n gyfrifol yw y gall disgybl optio allan o gael y ddarpariaeth honno drwy ddibynnu ar reoliadau presennol a wnaed o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Fodd bynnag, canfu’r pwyllgor nad yw’r rheoliadau hynny’n cyflwyno mecanwaith priodol i ddisgybl optio allan o ddarpariaeth o'r fath. Daeth i’r casgliad hwnnw am ddau reswm. Yn gyntaf, dim ond dros dro y byddai’r mecanwaith yn caniatáu i ddisgybl optio allan, ac yn ail, byddai hefyd yn ofynnol i ddisgybl gefnogi eu cais i optio allan gyda rhesymau i bennaeth eu hystyried. Felly, argymhellodd y pwyllgor, os yw’r Bil hwn yn mynd yn ei flaen heddiw, y dylid ei ddiwygio i gynnwys mecanwaith optio allan mwy priodol ar ei wyneb. Sylwaf nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol yn rhannu barn y pwyllgor ar y mater hwn, ond mae wedi ymrwymo i archwilio a ellid cyflwyno gwelliant o’r fath yng Nghyfnod 2 i wneud bwriad y Bil yn gliriach ac i’w gwneud yn haws rheoli ei effaith yn ymarferol.

Mae argymhelliad 2 yn adlewyrchu’r ffaith nad yw’r Bil, fel y’i cyflwynwyd, yn cynnwys diffiniad o ‘addysg awyr agored breswyl’. Barn y pwyllgor yw y dylai’r Bil gynnwys diffiniad o’r fath, er nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol yn cytuno. Ym marn y pwyllgor, mae hyn am resymau'n ymwneud â hygyrchedd ac arfer da, ac mae cynnwys diffiniad ar wyneb y Bil yn fwy priodol na dibynnu ar wybodaeth sydd yn y memorandwm esboniadol, neu’r cod addysg awyr agored breswyl, fel yr awgrymwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol.

Trof yn awr at argymhellion 3 a 4 yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â’r ffaith bod y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag addysg awyr agored breswyl. Mae’r Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cynnwys gofynion rhagnodedig y mae’n rhaid eu nodi yn y canllawiau hynny. Fodd bynnag, nid yw’n glir i’r pwyllgor pam nad yw’n briodol i ddarpariaeth o’r fath gael ei rhoi ar wyneb y Bil. Argymhellodd y pwyllgor, felly, y dylid diwygio’r Bil i ddileu’r gofyniad i’r materion hynny gael eu nodi mewn canllawiau, ac yn lle hynny, eu gosod yn uniongyrchol ar wyneb y Bil. Yng ngoleuni’r argymhelliad hwn, argymhellodd hefyd y dylai’r Aelod sy’n gyfrifol ystyried a yw’n angenrheidiol i’r Bil osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau. Yn wir, nid yw'n barnu bod y gofyniad hwnnw’n angenrheidiol. Argymhellodd y pwyllgor y dylid diwygio’r Bil i gynnwys y ddyletswydd fel darpariaeth ar ei phen ei hun yn Neddf 2021. Mae’r Aelod sy’n gyfrifol wedi derbyn argymhelliad 3 yn yr adroddiad mewn egwyddor, drwy ymrwymo i ystyried pob un o’r gofynion rhagnodedig hyn yn eu tro, i benderfynu a ellir eu rhagnodi neu ymdrin â nhw mewn ffordd wahanol. Mae hefyd wedi derbyn argymhelliad 4, drwy ymrwymo i gyflwyno gwelliant i gynnwys y ddyletswydd fel darpariaeth ar ei pen ei hun.

Rydym yn nodi bod yr Aelod sy’n gyfrifol wedi gwrthod argymhelliad 5, a bod yr Aelod sy’n gyfrifol, o ganlyniad, yn fodlon gyda gofyniad y Bil am ganllawiau i ddarparu mai dim ond yn amodol ar argaeledd a phan ofynnir amdani y dylid darparu addysg awyr agored breswyl yn y Gymraeg.

Roedd yr argymhelliad olaf yn cwestiynu a ddylid diwygio’r Bil i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r cod addysg awyr agored breswyl a’r canllawiau cyntaf. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod sy’n gyfrifol am dderbyn yr argymhelliad hwn, yn amodol ar ddeialog bellach gyda’r Gweinidog ar y mater hwn, os yw’r Bil yn mynd rhagddo heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:00

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands a'i dîm am ei waith ar y Bil hwn, a diolch iddo hefyd am ei ymgysylltiad â mi a fy rhagflaenydd? Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeiryddion ac aelodau'r tri phwyllgor craffu am y gwaith y maent wedi'i wneud ar y Bil.

Fel fy rhagflaenydd, ac o fy ngwaith fel y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwy'n cydnabod cymaint sydd gan addysgu yn yr awyr agored a phrofiad o'r awyr agored i'w gynnig, gan ehangu gorwelion a chyfrannu at iechyd corfforol da a llesiant meddyliol ac emosiynol. Mae'r manteision hyn wedi cael eu cydnabod yn eang gan bawb yn natblygiad y Bil hyd yma. Mae ein Cwricwlwm newydd i Gymru yn atgyfnerthu'r manteision hyn ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu, nid ar un adeg yn nhaith dysgwr yn unig, ond sicrhau eu bod yn gweu drwy gydol cyfnod dysgwyr yn yr ysgol. Dyna pam mae'r canllawiau statudol ar gyfer y cwricwlwm yn disgwyl i ysgolion ddatblygu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored, o dair oed hyd at 16 oed. Mae'r fframwaith yn nodi disgwyliad clir fod plant yn dysgu yn yr awyr agored yn rheolaidd, a bod hyn yn eu helpu i ddod yn unigolion iach a hyderus. Mae'n elfen arbennig o gryf yn ein cefnogaeth i'n dysgwyr ieuengaf, ond mae angen ei ddatblygu drwy gydol y daith drwy'r ysgol.

Bydd manylion hyn yn amrywio o ysgol i ysgol, yn dibynnu ar ofod yr ysgol, ac oedran a datblygiad y dysgwyr. Mae hyn yn cydnabod y bydd yr hyn sy'n ennyn diddordeb dysgwyr orau ac sy'n fwyaf cefnogol iddynt ddatblygu cariad gydol oes tuag at yr awyr agored yn amrywio. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae hefyd yn cydnabod, os ydym am newid ymddygiad plant wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion, fod angen datblygu'r ymddygiadau hyn dros amser, drwy gysylltiad parhaus â'r awyr agored. Mae hyn yn bwysicach o lawer nag unrhyw ymyrraeth unigol.

Mae'r manteision hyn yn allweddol, ond yn anffodus, nid wyf fi na fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o'r farn mai'r Bil hwn yw'r ffordd orau o ehangu'r manteision hynny neu'r ddarpariaeth addysg awyr agored breswyl ar hyn o bryd. Byddai'r Bil hwn yn gosod rhwymedigaeth lwyr ar Lywodraeth Cymru i sicrhau darpariaeth ac ariannu profiad awyr agored preswyl i bob dysgwr o oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, gyda chost debygol ymhell dros £20 miliwn y flwyddyn.

Yr effaith yw y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu addysg awyr agored breswyl yn benodol yn ychwanegol at unrhyw agwedd arall ar y cwricwlwm newydd, ac yn wir, unrhyw ddarpariaeth addysg arall. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi gwneud llawer iawn o waith ar gwmpasu cost debygol hyn. Rwy'n cydymdeimlo â hynny, gan fy mod yn ymwybodol o ba mor anodd yw'r dasg honno.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cydnabod bod llawer mwy o waith i'w wneud o hyd i sefydlu beth fyddai'r costau go iawn, pe bai'r Bil yn cael ei dderbyn. Rwy'n ddiolchgar hefyd fod adroddiad y Pwyllgor Cyllid wedi nodi'r pwysau cyllidebol presennol a'r lefel sylweddol o gyllid y byddai ei hangen. Ar ben hynny, drwy gydol y broses o gasglu tystiolaeth Cyfnod 1, codwyd pryderon sylweddol gan randdeiliaid, yn enwedig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg a'n hundebau addysg, am yr effaith ar sefyllfa ariannol sydd eisoes dan bwysau.

Mae llawer o randdeiliaid wedi tynnu sylw at yr agenda newid sylweddol sydd eisoes yn cael ei rheoli gan ysgolion mewn perthynas â gweithredu diwygiadau, a'r risg o heriau ychwanegol i'n llwyth gwaith ysgol. Byddai cyflawni gofynion y Bil hwn yn golygu bod angen newidiadau i delerau ac amodau staff mewn ysgolion, er enghraifft, ac mae llawer yn credu y gallai hynny gael effaith niweidiol ar y gwaith o recriwtio a chadw staff o fewn y gweithlu.

Nodaf hefyd y pryderon sylweddol a godwyd ynghylch capasiti'r sector addysg awyr agored preswyl i fodloni darpariaethau'r Bil, yn enwedig o ran y ddarpariaeth Gymraeg a sicrhau tegwch y ddarpariaeth i'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y clywsom, roedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon tebyg. Er bod aelodau'r pwyllgor yn unfrydol ynglŷn â bwriadau'r Bil, nid oeddent yn gallu dod i gonsensws ar yr egwyddorion cyffredinol oherwydd pryderon sylweddol ynglŷn â'r modd y câi  ei ariannu a'i weithredu.

Rydym hefyd o'r farn fod y Bil yn cynnwys nifer o wendidau deddfwriaethol, y mae llawer ohonynt wedi'u hamlygu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Er enghraifft, nid yw'r Bil yn cynnig diffiniad o beth yw addysg awyr agored breswyl ar ei wyneb. Nid yw'n berthnasol i unedau cyfeirio disgyblion. Ac nid yw'n darparu mecanwaith cyfreithiol priodol i ddisgybl gael ei eithrio rhag y gofyniad gorfodol i bob disgybl ymgymryd â chyfnod o addysg awyr agored breswyl. Nodaf yma fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi argymell bod yr Aelod yn cyflwyno sawl gwelliant i fynd i'r afael â'r pethau hyn.

Yng ngoleuni'r uchod, rydym yn parhau i fod yn argyhoeddedig na ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, er bod eu bwriadau'n dda. Yn olaf, fodd bynnag, fel rwyf i a fy rhagflaenydd wedi dweud droeon, mae'r cyfraniad y mae addysg awyr agored breswyl yn ei wneud i addysg yng Nghymru a datblygiad ein plant a'n pobl ifanc yn bwysig ac mae'n haeddu ein cydnabyddiaeth a'n sylw. Felly, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi'i wneud ar y Bil hyd yma, ac am godi ymwybyddiaeth o'r rhan hanfodol hon o daith ddatblygu ein dysgwyr. Cyfarfu'r Aelod a minnau yn gynharach yr wythnos hon i drafod hyn, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cytuno bod nifer o feysydd y tu hwnt i ddeddfwriaeth y gallem eu harchwilio gyda'n gilydd i geisio gwella'r cyfraniad hwn hyd yn oed ymhellach. Diolch. 

16:10

I ddechrau, hoffwn longyfarch Sam am gyflwyno hyn, a llongyfarch tîm y Bil hefyd am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud, a'r gwaith o ansawdd uchel, fel y clywsom gan y Cadeirydd cyllid. Rwy'n credu y byddai'r Bil hwn yn rhoi Cymru'n gadarn ar y map am fabwysiadu dull pragmataidd ond arloesol o ymdrin ag addysg a datblygiad cymdeithasol ein pobl ifanc.

Yn aml ym myd addysg, gwelwn wneuthurwyr polisi'n ceisio cyflawni newidiadau radical i ddarparu'r arfau gorau i genedlaethau'r dyfodol allu naddu eu dyfodol eu hunain, ac eto rydym yn anwybyddu'r blociau adeiladu go iawn i addysg plentyndod, pethau nad ydynt yn cael eu dysgu ar e-fwrdd, ond sy'n cael eu dysgu mewn amgylchedd naturiol, megis hyder, annibyniaeth a gweithio mewn tîm—nodweddion hanfodol bwysig ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Sam yn ceisio ei warantu yn ein system addysg gyda'r Bil hwn, a hynny'n briodol.

Yn sir Fynwy, mae cynnal a sybsideiddio mynediad at addysg awyr agored wedi bod yn flaenoriaeth ers degawdau. Fe wnaethom ddarparu'r gwasanaeth i gynghorau eraill Gwent, ond dros y blynyddoedd fe dynnodd cynghorau cyfagos eu cefnogaeth yn ôl a'r unig reswm am hynny oedd oherwydd eu bod am wneud arbedion effeithlonrwydd. Byddwn i'n dweud bod hwnnw'n adlewyrchu'n wael arnynt. Fodd bynnag, fe wnaethom ni symleiddio ein darpariaeth a chadw'r cynnig, gan ein bod wedi gweld y manteision i blant ers degawdau. Bydd fy mhlant fy hun, a llawer ohonoch chi yma heb os, wedi elwa o'r profiadau a gawsant wrth gael addysg awyr agored. Mae hi mor hawdd diystyru pethau ar sail ariannol, fel rydym wedi'i glywed eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd yna Aelodau a fydd yn cefnogi rhinweddau'r Bil, ond a fydd yn anffodus wedi cael cyfarwyddyd i beidio â chefnogi oherwydd y gost—rhywbeth a glywais pan gyflwynais fy Mil fy hun, ac mae'n adlewyrchu'n wael ar y lle hwn nad yw'n ei gwneud yn bosibl i ddeddfwriaeth meinciau cefn allu gwneud cynnydd.

Fel rwyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae angen inni feddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol. Pa bris a roddwn ar lesiant plentyn? Mae'n ffaith ddiymwad fod treulio amser yn yr awyr agored yn cyfrannu at lesiant meddyliol gwell, ochr yn ochr â chadw'n heini. A ddoe fe glywsom y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn gwneud ein pobl ifanc yn flaenoriaeth, gan roi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd iddynt, meddai.

'Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall plant dyfu i fyny yn teimlo'n hapus ac yn obeithiol am eu dyfodol.'

Mae'n sicr y byddai'r Bil hwn yn hanfodol i'r perwyl hwnnw, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn gymell cariad gydol oes tuag at yr awyr agored a gweithgarwch corfforol yn y genhedlaeth nesaf, byddwn nid yn unig yn gadael y cyhoedd yng Nghymru mewn sefyllfa well nag y maent ynddi nawr, byddwn hefyd yn arbed degau o filiynau o bunnoedd i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol eraill mewn gwasanaethau sy'n cynorthwyo gydag iechyd meddwl a gordewdra. Nid yw'r Bil hwn yn un ffansïol; dylai fod yn rhan bwysig o'n haddysgeg. Prawf o hynny yw'r ffaith bod Biliau tebyg yn cael eu cyflwyno yn Holyrood a San Steffan. Ond mae gennym gyfle unigryw i basio'r Bil hwn cyn i unrhyw un arall wneud hynny. Gadewch inni beidio â dilyn y dorf yn unig. Mae angen inni arwain y ffordd a heddiw, Senedd, mae gennym gyfle i wneud hynny. 

Rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil hwn a'i alluogi i symud ymlaen i Gyfnod 2. Gellir ystyried yr holl bethau y mae pawb wedi siarad amdanynt sydd ag elfen ychydig bach yn negyddol yn ystod Cyfnod 2, drwy welliannau. Pam nad ydym yn caniatáu i'r pethau hyn symud ymlaen a gweld beth sy'n digwydd? Ac os na allwch ddod o hyd i ffordd drwy hynny, gellir atal pethau yn y dyfodol. Pam ein bod bob amser yn atal deddfwriaeth cyn iddi gael cyfle i symud ymlaen, i anadlu ac i ddangos yr hyn y mae ganddi botensial i'w wneud? Mae'n hanfodol ein bod yn diogelu llesiant ein plant yn y dyfodol, ac nid Bil am nawr yn unig yw hwn, rwy'n ei ystyried yn Fil ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Diolch.

16:15

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands am ei holl waith caled ar y Bil hwn? Dwi wedi cael y pleser o fod ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar y Bil yma. Dwi wedi gofyn nifer o gwestiynau i Sam a dwi wedi cael nifer o drafodaethau bywiog ar y mater, a dwi’n credu, fel roedd Peter Fox yn ei ddweud, fod yna fudd inni symud ymlaen gyda'r Bil hwn, a gweld beth fedrith gael ei gytuno arno drwy welliannau.

Mae gen i bryderon, rhai ohonyn nhw ynglŷn â sut rydyn ni’n sicrhau bod y manteision a budd economaidd yn aros yma yng Nghymru. Oherwydd, yn sicr, os ydyn ni’n mynd i wneud y math yma o fuddsoddiad, mae’n ffantastig i feddwl y byddai gan bawb y cyfle, ac mae’r manteision economaidd i gymaint o'n cymunedau ni yn wych. Mi glywsom ni ynglŷn â’r ddarpariaeth y byddai angen cael ei hymestyn, a beth fyddai hyn yn ei olygu i nifer o ddarparwyr sydd, efallai, yn cael trafferth i gael llefydd yn llawn drwy gydol y flwyddyn—gwych, a gobeithio, wedyn, yn annog plant a phobl ifanc i fod yn annog eu teuluoedd nhw hefyd i fanteisio ar y cyfleusterau yma. Felly, wrth gwrs, mae yna angen inni sicrhau, dwi’n credu, fod y ddarpariaeth yma yng Nghymru os ydyn ni’n mynd i fod yn buddsoddi.

Dwi’n croesawu hefyd, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd Sam ynglŷn â rhai o'r pethau y mae o’n gytûn arnynt er mwyn cryfhau o ran yr ochr ddiwylliannol, nid dim ond ieithyddol, a'n bod ni’n cael y manteision hynny. Heb os, dwi’n gobeithio'n fawr ein bod ni i gyd yn gytûn ar y buddion sy’n dod nid yn unig o addysg awyr agored, ond cyfleoedd preswyl. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl athrawon a chynorthwywyr mewn ysgolion sydd eisoes yn cefnogi hyn i ddigwydd. Mi ydyn ni’n clywed yn aml yn ystod y drafodaeth yma ynglŷn â’r ffaith dyw pob plentyn yng Nghymru, yn anffodus, ddim yn cael y cyfle hwn, ond dwi hefyd yn gwybod am ysgolion sy'n gwneud gwaith rhagorol er mwyn sicrhau bod pob plentyn, dim ots beth ydy eu cefndir nhw, yn cael y cyfle yma. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni gydnabod bod rhai o'r pethau y mae'r Bil yma yn ceisio eu cyflawni eisoes yn digwydd—y broblem ydy ei fod o’n loteri cod post ar y funud, gan olygu dyw pob plentyn ddim yn cael y cyfle hwn yn gydradd.

Mae’n rhaid inni hefyd adlewyrchu ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog hefyd o ran y straen aruthrol sydd ar staff ar y funud. Maen nhw yn aml yn gwneud hyn yn wirfoddol, dŷn nhw ddim yn cael unrhyw fath o dâl ychwanegol amdano fo, ac maen nhw’n ei wneud o oherwydd eu bod nhw’n gweld y budd o ran y plant a phobl ifanc maen nhw’n gofalu amdanyn nhw pan ydyn nhw yn ein hysgolion ni.

Mi oedd yna rai pryderon a godwyd o ran yr Urdd hefyd, ynglŷn â’r ffaith fyddai gwersyll Caerdydd, er enghraifft, neu Bentre Ifan, ddim yn gymwys. Dwi’n meddwl mai dyna pam byddwn i’n hoffi gweld sut ydyn ni’n ehangu’r syniad yna o gyfleoedd preswyl i fod yn cynnwys dod i adnabod gwahanol lefydd o fewn ein cenedl ni. Hefyd, dwi’n gwybod am amryw ysgolion o ogledd Cymru sydd yn cymryd mantais o ddod lawr yma i Gaerdydd er mwyn ymweld a'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd roedden ni’n ei thrafod yn gynharach, dod i ymweld â’r Senedd hon, ac efallai fod angen inni sicrhau, felly, dŷn ni ddim yn cyfyngu cyfleoedd preswyl a golygu na fyddai’r math yna o dripiau yn gallu digwydd.

Dwi’n siŵr bod mwyafrif y bobl yma wedi bod ar gyfleoedd eu hunain. Fyddwn i, yn sicr, ddim wedi clywed am y black nun, er enghraifft, os fyddwn i ddim wedi bod yn Llangrannog a Glanllyn a chael hunllefau amdani hi. Ond mae’r manteision, dŷn nhw ddim jest o ran y gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud yna; mae cymdeithasu, dod i adnabod pobl o ysgolion eraill, i gyd yn rhan ohono fo. Felly, dwi’n awyddus ein bod ni’n edrych yn bragmataidd ar hyn, nid dim ond edrych ar yr ochr ariannol, ond edrych ar sut ydyn ni’n mynd i sicrhau, os oes yna ffordd drwy adael i’r Bil yma symud ymlaen, drwy welliannau, fod o’n gwneud yr hyn rydyn ni i gyd eisiau fo ei wneud, sef, rhoi’r cydraddoldeb hwnnw bod pob plentyn, ble bynnag eu bod nhw yng Nghymru, pa bynnag ysgol maen nhw ynddi, neu ddim mewn ysgol, yn cael y cyfle cydradd hwn. Ac os gallem ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau hynny, dwi’n meddwl y byddwn ni wedi cyflawni lot fel Senedd. Diolch.

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, am yr holl waith caled a wnaeth ar y Bil hwn ac i gyrraedd y cam hwn. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau i gyd wedi'i ddweud hyd yma ar y Bil hwn, ond yn enwedig geiriau olaf Peter Fox nawr fod hwn yn Fil ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod honno'n frawddeg allweddol iawn wrth ystyried y Bil hwn a pham y dylem ei wthio yn ei flaen. 

Mae syniadau ac amcanion y Bil hwn yn gymeradwy, ond mae'r manteision yn enfawr—y dylai pob plentyn gael profiad awyr agored preswyl. Er yr hoffwn i'r Aelod, Sam Rowlands, wrth gwrs—mae'n ddrwg gennyf, ni allaf siarad yn dda iawn—sicrhau bod pob plentyn, ac rwy'n golygu pob plentyn, fel y mae'r Cadeirydd newydd ar gyfer y pwyllgor plant a phobl ifanc newydd ei amlinellu, yn cael y cyfle hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae rhai plant yn cael eu hepgor. Felly, mae'n hanfodol iawn ein bod yn cynnwys y plant hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, efallai mai'r plant hynny sy'n cael eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd yw'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai a fyddai'n elwa fwyaf o Fil o'r math hwn.

Fel y gwyddom i gyd, byddai sicrhau bod gan blant fynediad at addysg awyr agored breswyl yn cael effaith gadarnhaol hirdymor ar iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â chreu arferion da, fel yr amlinellodd yr Aelod yn gynharach yn ei araith. Mae hefyd yn arbed arian yn y tymor hir, oherwydd, drwy fabwysiadu dull iechyd ataliol, mae'n cryfhau iechyd meddyliol a chorfforol ar gyfer y dyfodol—sy'n arbennig o dda pan edrychwn ar ein hunain fel gwlad sydd â chyfraddau gordewdra ofnadwy o wael ymhlith plant. 

Mae hefyd yn rhoi profiadau cofiadwy i bobl ifanc, sy'n rhoi hyder a sgiliau gwaith tîm iddynt, ac amrywiaeth o fanteision eraill a amlinellwyd gennym dro ar ôl tro yn ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn y Siambr hon eisoes, yn ogystal â hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg—mae cymaint o fanteision a chyfleoedd yno—a hefyd er budd ein canolfannau addysg awyr agored yng Nghymru, fel yr amlinellodd Heledd, a'n heconomïau lleol. Byddai'r Bil o fudd arbennig i blant o ardaloedd trefol nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i archwilio cefn gwlad a gweld popeth sydd gan Gymru i'w gynnig. 

Byddai hefyd o fudd i blant o deuluoedd tlotach, sy'n aml yn methu manteisio ar weithgareddau preswyl am eu bod yn rhy ddrud. Yn ei dro, byddai hyn yn helpu i gau'r bwlch anghydraddoldeb addysgol. Ar hyn o bryd, mae'r cyfleoedd hyn yn loteri cod post, fel y mae Heledd eisoes wedi'i amlinellu, ac nid yw hynny'n beth da i ni yma yng Nghymru. Mae'r gweithgareddau a gynigir yn heriol ac yn anturus, a byddai'r Bil yn gwella cymwyseddau syn ganolog i'r Cwricwlwm newydd i Gymru, sef unigolion iach, hyderus sy'n gyfranwyr creadigol, yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog ac yn ddinasyddion egwyddorol.

Wrth gwrs, mae yna rai pryderon yr ydym wedi'u trafod fel pwyllgor, ond rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ddal i gefnogi'r Bil hwn a gweld beth arall y gellir ei wneud. Rwy'n credu y byddai'n drueni mawr pe bai'n dod i stop nawr a phe na bai'n mynd yn ei flaen, oherwydd rwyf eisiau gweld y Llywodraeth yn rhoi mwy o ymdrech i weithio'n agos gyda'r Aelod i ddatblygu'r hyn sydd mor gadarnhaol am y Bil hwn. Ond hefyd, mae yna gyfleoedd ac mae yna atebion i'r hyn rydych chi'n pryderu yn ei gylch. Os edrychwn ni'n ddigon manwl ac os gweithiwn yn ddigon caled, gallwn ddod o hyd i'r arian hwnnw, fel y dywedodd Peter Fox, a gallwn ddod o hyd i atebion os ydym eisiau gwneud hynny.

Hyd yn oed os na all Llywodraeth Cymru ei gefnogi, rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn gweithio gyda'r Aelod dros Ogledd Cymru heddiw i weld beth y gellir ei gyflawni i ddarparu cyfleoedd gwell i blant ledled Cymru, gan geisio sicrhau cyfle cyfartal i bawb, rhywbeth a ddylai fod mor bwysig i bob Aelod yn y Senedd hon. Ond rwy'n annog pawb heddiw i gefnogi'r Bil hwn fel y gall symud ymlaen at y Cyfnod nesaf, Cyfnod 2, ac rwy'n eich annog i wneud hynny. Diolch.    

16:20

Mewn egwyddor, mae'r Bil hwn yn syniad gwych. Rydym yn gwybod bod yr amgylchedd y mae plentyn yn dysgu ynddo yn hanfodol ar unrhyw oedran. Os na fydd plentyn yn cysylltu â natur erbyn ei fod yn 12 oed, ni fydd yn gwneud hynny fel oedolyn. Felly, er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol gydol oes â natur ac amgylcheddau awyr agored, mae angen cyfleoedd parhaus ar ddysgwyr i ddysgu, chwarae ac archwilio yn yr awyr agored drwy bob cam o addysg orfodol, a thrwy fynediad at chwarae a hamdden. 

Fodd bynnag, o ran deddfwriaeth, ni allwn fynd ar drywydd syniadau dymunol heb wynebu'r realiti llym. Ar ôl mwy na degawd o gyni, gwyddom fod cyllid yn dynn iawn. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai oherwydd bod y Ceidwadwyr wedi camreoli'r economi. Mae pob maes Llywodraeth yn gorfod aberthu a blaenoriaethu. Mae Sam yn amcangyfrif mai'r gost ychwanegol i'r gyllideb addysg fyddai £19.7 miliwn y flwyddyn, felly rydym yn gorfod edrych ar dalu am athrawon, llety, trafnidiaeth—mae'r cyfan yn costio—ac efallai dillad sydd eu hangen hefyd. Ar adeg pan fo ysgolion yn gorfod wynebu penderfyniadau anodd tu hwnt, gan gynnwys diswyddiadau, ni ellir meddwl am roi pwysau ychwanegol ar y gyllideb addysg. Clywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod costau cludiant i'r ysgol wedi codi 40 y cant oherwydd chwyddiant, ac mae bodloni'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn her fel y mae. Rydym yn ystyried ei ymestyn, ond ni allwn dorri cyllidebau rheng flaen ysgolion i ariannu'r polisi hwn.

Ar ben hyn, mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 eisoes yn newid enfawr i leoliadau addysg. Bydd angen amser a chefnogaeth arnynt i weithredu honno'n llawn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr. Mae gennym hefyd ddiwygiadau anghenion dysgu ychwanegol newydd yn dod i rym, ac roeddwn i'n eistedd yma pan glywais Natasha Asghar yn gofyn yn gynharach am gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, sy'n wirioneddol bwysig. Mae gennym yr holl geisiadau hyn am arian o'r gyllideb, sydd mor dynn. Bydd y newidiadau a gynigir gan y Bil yn rhoi beichiau ychwanegol ar staff ac yn mynd ag amser pan allant fod yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd. Gwn fod undebau athrawon wedi darparu tystiolaeth yn mynegi eu pryder dwfn am y baich ychwanegol y byddai'r Bil hwn yn ei roi ar ysgwyddau athrawon.

Nid yw teithiau preswyl yn bosibl pan nad yw lefelau staffio yn ddigon uchel i'w cyflwyno'n ddiogel, pan fo'r addysgu'n parhau ar gyfer grwpiau eraill. Er mwyn sicrhau cysylltiad hirsefydlog â natur a gweithgareddau awyr agored, mae angen cymaint mwy nag un profiad ar blant. Mae ysgolion ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych i ennyn diddordeb plant yn yr awyr agored, gan gynnwys ardaloedd dysgu awyr agored yn y cyfnod sylfaen, Ysgolion Coedwig a Dysgu drwy Dirweddau. Ymwelais ag ysgol Sant Pedr yn Wrecsam yn ddiweddar, lle roeddent wedi cael cyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn dysgu am eu hardal awyr agored, cysylltu â natur, ac maent wedi bod yn gweithio ar brosiectau morwellt, a daethant â nhw i lawr at risiau'r Senedd, ac roedd hynny'n anhygoel.

Mae angen inni sicrhau hefyd bod plant hŷn yn cael eu hannog i fod yn fwy egnïol. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm, a bydd yn parhau i wneud hynny, mewn meysydd sy'n cynnwys iechyd, llesiant, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a'r celfyddydau mynegiannol. Mae mynediad drwy'r Geidiaid, y Sgowtiaid, clybiau ieuenctid, Dug Caeredin a grwpiau eraill—. Mae'r Cerddwyr hefyd yn werthfawr iawn wrth sicrhau bod ein llwybrau tramwy cyhoeddus yn cael eu cadw ar agor. Mae'n bwysig iawn. Felly, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weld gwerth yr ymrwymiad a'r cyfraniad i'r sector addysg awyr agored a'r hyn y mae'n ei gynnig i addysg yng Nghymru, ond ni allwn anghofio'r cyd-destun ariannol.

Yn ddiweddar, ymwelais â Chanolfan Addysg Awyr Agored hyfryd Bryntysilio yn Llangollen, a buom yn siarad am gyllid ar gyfer y dyfodol a grantiau a allai fod ar gael iddynt nawr. Buom yn siarad am y gronfa ffyniant gyffredin, ac roeddent hefyd yn gwneud cais i gronfa Multiply, yr ymddengys bod ganddi lawer iawn o arian—mae gormod o arian yn y gronfa honno; ni allant ei wario—ond maent yn gwneud cais am hwnnw hefyd, i weithio'n wahanol. Ac maent hefyd yn edrych ar waith gydag ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a fydd yn barc cenedlaethol cyn bo hir, a bydd hynny yn eu helpu hefyd, yn rhoi hwb. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae angen inni wneud addysg rheng flaen yn flaenoriaeth, felly ni allaf gefnogi'r Bil hwn.

16:25

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o ddweud nad wyf yn rhannu ymagwedd negyddol y siaradwr blaenorol mewn perthynas â'r Bil hwn. Ac rwy'n diolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd heddiw, a gwelais drosof fy hun—wyddoch chi, rydych chi wedi gweithio ar y Bil hwn mewn sawl ffordd, nid dim ond wrth weithio ar fanylion y Bil yma yn y Senedd, a gweithio gyda'r bobl a'r staff perthnasol yma, rydych chi hefyd wedi mynd allan i wahanol rannau o Gymru. Rwyf wedi eich gweld mewn cychod canŵio, rwyf wedi eich gweld mewn coetiroedd, rwyf wedi eich gweld ledled y wlad. Felly, nid yn unig eich bod wedi gwneud hynny ar lefel polisi a Bil yma, rydych chi hefyd wedi gwneud yr ymdrech i fynd allan ac ymgysylltu â'r rhanddeiliaid cywir i ffurfio'r Bil hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am eich ymrwymiad i'r Bil hwn, y credaf y dylid ei wobrwyo a'i drin gyda mwy o bositifrwydd ar y meinciau Llafur draw yn y fan acw.

Ac mae manteision dirifedi’n deillio o addysg awyr agored i blant, ac mae'r cyfoeth o dystiolaeth ar hyn yn ddiamheuaeth. Mae addysg awyr agored yn fuddiol i les meddyliol a chorfforol, ac mae'r manteision iechyd hefyd yn arbed arian ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor hir. Mae'n arfogi plant â sgiliau gydol oes hanfodol, yn rhoi mynediad i blant o ardaloedd trefol at yr awyr agored, ac mewn perthynas â phlant o aelwydydd lle mae canolfannau addysg awyr agored preifat yn anfforddiadwy, mae'n cynnig yr un cyfleoedd iddynt â phlant eraill. Mae'n fuddiol i blant yn academaidd a bydd yn helpu i gau'r bwlch anghydraddoldeb addysgol. Roedd gennym 44 o ganolfannau addysg awyr agored gennym yng Nghymru cyn COVID-19, a chaeodd dros 10 y cant o'r rhain yn ystod y pandemig, felly mae'r argaeledd yn crebachu, ac i lawer o rieni ar incwm is nid yw'n rhywbeth y gallant ei fforddio.

Ond i mi, y rhan bwysicaf o addysg awyr agored yw'r effaith y mae'n ei chael ar lesiant meddyliol plentyn. Yn dilyn y pandemig, lle roedd plant wedi cael eu cadw dan do am ddwy flynedd, mae mynediad at yr awyr agored yn hanfodol. Dangosodd arolwg gan YoungMinds fod 74 y cant o athrawon a staff ysgolion yn cytuno bod y cyfyngiadau symud wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ac mae manteision natur a'r awyr agored i'r ymennydd dynol bob amser wedi bod yn amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae gwyddoniaeth yn cydnabod hyn hefyd. Canfu astudiaeth gan Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg fod manteision cryf a chyson i iechyd meddwl a llesiant o ddod i gysylltiad ag amgylcheddau naturiol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod yr anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol o ran llesiant meddyliol yn gulach ymhlith y rhai sy'n nodi bod ganddynt fynediad da at ardaloedd gwyrdd neu hamdden.

Yn dilyn y pandemig, rwy'n credu ein bod wedi meithrin gwerthfawrogiad newydd o ba mor bwysig yw gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol i ni, a pha mor bwysig yw natur a'r awyr agored i'n llesiant. Maent hyd yn oed yn bwysicach i ymennydd sy'n datblygu, a dylem ddefnyddio'r amser hwn i ailfeddwl sut y dylai ein plant dreulio eu diwrnod yn yr ysgol. Mae eistedd wrth ddesg am chwe awr yn annaturiol i unrhyw un, heb sôn am blentyn, a chyda'r Bil hwn, mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd ac amrywio'r diwrnod ysgol ac ymgorffori addysg awyr agored, ac rwyf wedi crynhoi manteision hynny'n fyr. Rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy ohonynt yn sylwadau Sam ar y diwedd a sylwadau unrhyw siaradwr arall yn y ddadl hon y prynhawn yma.

Ond os ydych chi'n malio am wella iechyd meddwl ein plant, os ydych chi'n malio am gyrhaeddiad addysgol, os ydych chi'n malio am gael gwared ar anghydraddoldeb rhwng plant, ymunwch â'r Outward Bound Trust, Scouts UK, Sgowtiaid Cymru, UK Youth, Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid, y Geidiaid, y Cyngor Astudiaethau Maes a llawer mwy drwy gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

16:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sam Rowlands am gyflwyno'r materion hyn i'w trafod yn y ffordd a wnaeth. Rwy'n credu, fel y dywedodd eraill, ei bod yn amlwg yn bwysig iawn fod gan yr awyr agored, cysylltu â natur a gweithgaredd, rôl ganolog iawn ym mhrofiad addysgol ein plant a'n pobl ifanc, ac mae hynny'n digwydd yn y profiad addysgol cyffredinol sy'n digwydd yma yng Nghymru. Ond rwy'n credu hefyd, y tu hwnt i hynny, fod gan y profiad penodol o weithgarwch awyr agored preswyl ran bwysig iawn i'w chwarae, a gwelwn hynny'n cael ei adlewyrchu, rwy'n credu, yn y ffordd y mae ar gael ledled Cymru mewn cymaint o'n hysgolion. Ond mae hynny, rwy'n credu, yn codi'r cwestiwn, fel y mae Sam wedi ei ofyn, ynghylch yr amrywio a sut y gallwn sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael yn fwy cyson ar draws ein holl ysgolion i'n holl ddisgyblion, ac yn enwedig, rwy'n credu, i ddisgyblion o deuluoedd mwy difreintiedig, ac ydy, mae hynny'n cynnwys plant sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol. Rwy'n credu ei bod yn arwyddocaol, wrth i'r ddadl hon barhau, fod y mater penodol hwnnw wedi dod i'r amlwg.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud am barhau i weithio gyda Sam Rowlands, fel y bydd yna drafodaeth barhaus, y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth benodol hon, rhwng Llywodraeth Cymru a'r Aelod ynglŷn â sut y gallwn elwa mwy o'r ddadl a gawsom, o'r cynigion a wnaed, a sicrhau bod rhagor o'n disgyblion yma yng Nghymru, rhagor o'n teuluoedd, yn elwa o brofiad addysgol awyr agored preswyl, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwerus.

Mae oddi allan i'r profiad cyffredinol o addysg, onid yw, sy'n rhoi pŵer iddo y tu hwnt i'r profiad cyffredinol hwnnw. Ac oherwydd ei fod yn bwysig yn gymdeithasol, oherwydd ei fod yn brofiad newydd i rai disgyblion nad ydynt wedi bod ar wyliau gyda'u teuluoedd, nad ydynt wedi cael profiad o fynd i ffwrdd am benwythnosau gyda'u teuluoedd, i'r disgyblion hynny, mae'n rhywbeth newydd a gwahanol iawn, onid yw? Rwy'n credu ei fod yn magu hyder, mae'n meithrin sgiliau cymdeithasol, a gall yr hyder hwnnw wedyn hybu eu cyflawniad addysgol cyffredinol a'r hyder sydd ganddynt yn eu taith trwy fywyd.

Felly, mae ganddo ran bwysig eisoes, onid oes, ond gallai chwarae rhan bwysig yn fwy cyson yn ein profiad addysgol cyffredinol, a gallai fod o fudd arbennig i ddisgyblion o deuluoedd sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw. Mae cyllid yn rhwystr i'r teuluoedd hyn, onid yw? Dylem ddod o hyd i ffordd. Dylem sicrhau bod ffyrdd yn cael eu canfod, a phan fo'r cynnig ar gael yn yr ysgol ond nad ydynt yn gallu manteisio ar y cyfle am nad oes ganddynt fodd ariannol o fewn y teulu, fod y teuluoedd hynny'n cael eu helpu, er mwyn iddynt hwy gael y cyfle hwnnw hefyd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater sylfaenol o gyfiawnder cymdeithasol yn ein system addysgol.

16:35

Diolch unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod John Griffiths wedi gwneud gwaith ardderchog o gau'r ddadl a chrynhoi llawer o faterion yno, felly diolch, John, am eich sylwadau ar y diwedd yno heddiw, a diolch i'r holl Aelodau am eich cyfraniadau yn y ddadl hon y prynhawn yma.

Fe af drwy ychydig o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'u codi drwy'r trafodion, ac yn enwedig y Cadeiryddion ar y dechrau, a'ch sylwadau ynghylch yr argymhellion y dewisais eu derbyn neu eu gwrthod neu wneud sylwadau eraill arnynt. Roeddwn yn falch o allu derbyn nifer sylweddol o'r argymhellion a wnaethoch chi, ac a wnaethpwyd gan eich pwyllgorau, ond rwy'n gobeithio eich bod yn deall ac yn derbyn yr esboniadau y llwyddais i'w rhoi ar gyfer y rhai nad oeddwn yn gallu eu derbyn. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith y pwyllgorau yn craffu ar y Bil hwn ac a allai ei wneud, rwy'n credu, yn waith hyd yn oed yn well os caiff barhau.

Weinidog, diolch i chi am eich cyfraniad heddiw hefyd, ac am eich ymwneud cynnar yn eich rôl newydd yn y Cabinet. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Jeremy Miles yn ei rôl flaenorol, am ei ddidwylledd a'i her agored yn ôl i mi drwy'r broses hon hefyd. Er nad yw bob amser yn hawdd i'w glywed, mae bob amser yn well ei glywed yn syth na chael siarad dibwrpas. Rwy'n obeithiol y bydd y cyfle'n parhau yn y dyfodol i gydweithio ar addysg awyr agored breswyl, yn enwedig mewn perthynas â phethau fel fframweithiau addysg antur, cefnogaeth i athrawon a'u hyfforddiant, a systemau hefyd ar gyfer cefnogi teuluoedd sy'n wynebu heriau ariannol.

Hoffwn anghytuno â sylwadau a wnaed, Weinidog, am y goblygiadau ariannol a amlinellir yn y Bil. Clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yr asesiad effaith rheoleiddiol, a amlinellais yn fy memorandwm esboniadol, yn enghraifft y gallai Llywodraeth Cymru geisio ei dilyn o ran lefel ei fanylder. A hoffwn wrthwynebu i raddau yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'gwendidau deddfwriaethol'. Rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â'r rhesymau dros y ffordd y cafodd y Bil ei fframio, ac rwyf wedi gallu derbyn addasiadau ac rwyf wedi derbyn gwelliannau ar gyfer y dyfodol os caiff y Bil barhau.

O ran Aelodau eraill, yn eich cyfraniadau, rwy'n sicr yn ddiolchgar am yr hyn a ddywedwyd. Peter Fox, fe amlinelloch chi fanteision addysg awyr agored, a rhan o'ch rôl mewn bywyd blaenorol, fel petai, o sicrhau bod y canolfannau hynny'n gallu aros ar agor i'r bobl ifanc hyn am eich bod yn gwerthfawrogi eu manteision. Fe wnaethoch chi ein herio ni hefyd, fel Senedd, i fyfyrio ar sut y dylem ymdrin â Biliau Aelodau nawr ac yn y dyfodol, o ran caniatáu'r cynnydd hwnnw a chaniatáu gwaith craffu yn y dyfodol hefyd. Felly, diolch.

Heledd Fychan, fe wnaethoch chi dynnu sylw at fanteision economaidd Bil fel hwn i Gymru, a gobeithio eich bod wedi gallu gweld fy mod yn derbyn llawer o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ystod hyn, yn ymwneud â manteision diwylliannol ac ieithyddol Bil fel hwn. Efallai y gellid ei gryfhau eto, ond rwy'n derbyn yn llwyr y sylwadau a wnaethoch dros y misoedd diwethaf ynglŷn â sut y gellid cryfhau hyn hyd yn oed ymhellach. Laura Anne Jones, roeddech chi'n gallu tynnu sylw at sut mae Bil fel hwn yn creu cynhwysiant i bobl, ac yn helpu i gefnogi cau'r bwlch cyrhaeddiad i bobl ifanc—pwynt pwysig iawn.

Carolyn Thomas, diolch am eich cyfraniad, a'r cysylltiad a nodwyd gennych rhwng plant yn cysylltu â natur ar oedran mor ifanc ac yna'n gallu cynnal hynny drwodd i'w bywydau fel oedolion. Fel y dywedoch chi, os yw plant o dan 12 oed yn cael cysylltiad o'r fath, mae'r tebygolrwydd y byddant yn ei barhau yn y tymor hir yn sylweddol. Yn amlwg, fe wnaethoch chi godi pryderon am gost y Bil, ac mae honno'n her. Yn ddiddorol, mae'r gost oddeutu'r un swm o arian bob blwyddyn ag y byddai'n ei gostio i gael 36 yn rhagor o wleidyddion yn y lle hwn, rhywbeth y mae'n ymddangos eich bod yn ei gefnogi. Ond ceir manteision traws-bortffolio i'r Bil hwn, ac nid wyf yn credu ei fod y tu hwnt i allu'r Cabinet i allu dod â'u pennau at ei gilydd i ddeall sut y gellid ariannu budd traws-bortffolio drwy'r lle hwn hefyd.

Llwyddodd Gareth Davies i gydnabod manteision iechyd meddwl y Bil. Yn sicr, mae llawer iawn i'w archwilio o'r manteision hynny os caiff y Bil barhau. Ac yna, i gau'r cylch yn llawn, John Griffiths, diolch eto am eich sylwadau i orffen. Mae cysondeb yn bwysig iawn ar draws Cymru i'n pobl ifanc. Ni all addysg fod yn loteri cod post, ac mae'r Bil hwn yn ceisio dod â'r loteri cod post hwnnw i ben. Ac fel y dywedoch chi, nid profiadau addysgol pwerus yn unig yw'r rhain; maent yn brofiadau pwerus i bobl ifanc nad ydynt o bosibl yn gallu cael y profiadau y bydd llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol trwy gydol plentyndod—y rhyngweithio cymdeithasol, ac amser i fod i ffwrdd o ble rydych chi fel arfer yn ei alw'n gartref. Felly, diolch am y cyfraniad hwnnw hefyd.

Rwyf am orffen fy sylwadau yno, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y trafodaethau yma y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at y bleidlais yn nes ymlaen, a gobeithio y cawn gefnogaeth lawn gan y Senedd. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Paul Davies.

Cynnig NDM8535 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn ymwneud ag ymchwiliad undydd a gynhaliwyd gan y pwyllgor fis Hydref diwethaf, i edrych ar effeithiau economaidd datblygiadau ynni niwclear newydd yma yng Nghymru. Canolbwyntiodd y pwyllgor ei sylw nid ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn pŵer niwclear, ond ar sut y gallai Cymru fod yn bwerdy niwclear yn y dyfodol pe bai datblygiadau ynni niwclear yng Nghymru yn mynd rhagddynt. Gwn y bydd gan rai Aelodau farn gref ar bŵer niwclear, ond nid yw'r adroddiad hwn na'r ddadl hon yn wir yn ymwneud â manteision ac anfanteision pŵer niwclear; mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â'r potensial economaidd sydd gan Gymru yn y maes hwn.

Roedd y pwyllgor eisiau dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i'r sector, ac unrhyw rwystrau i'w dwf, ac roedd pryderon ynglŷn â buddsoddiad, swyddi a sgiliau, a'r rhagolygon ar gyfer y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf. Mae'n bwysig cydnabod bod yna safbwyntiau gwahanol ynglŷn ag a ddylai ynni niwclear fod yn rhan o'r cymysgedd ynni cyffredinol yn y DU, ond mae'n elfen hanfodol o strategaeth diogelu ffynonellau ynni Prydain, ac i Gymru mae datblygiad hen safleoedd niwclear yng ngogledd Cymru yn fater economaidd allweddol.

Fel yr eglura adroddiad y pwyllgor, mae potensial enfawr i'r diwydiant niwclear yma yng Nghymru. Byddai diwydiant niwclear llwyddiannus yn darparu miloedd o swyddi o ansawdd uchel a gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. A hynny nid yn unig ar gyfer gogledd Cymru, lle mae'r diwydiant eisoes yn gyflogwr mawr lleol, oherwydd gall y sgiliau sydd eu hangen a'r potensial ar gyfer gweithgarwch gweithgynhyrchu sy'n gysylltiedig â niwclear gynhyrchu buddion ledled Cymru. Gallai datblygiadau niwclear fod yn ysgogiad economaidd enfawr, a byddai'n sicr yn helpu i sefydlu cysylltiadau masnachol cryf ledled y byd.

Ers i'r pwyllgor adrodd yn ôl ym mis Chwefror, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi bod Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb gyda Hitachi i brynu safle Wylfa. Pan gyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor, fe'i gwnaed yn glir fod angen penderfyniadau ar frys ar gyfer Wylfa a Thrawsfynydd, sydd wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Roedd hyn yn arbennig o wir o gofio nad oedd y cynllun 'Civil Nuclear: Roadmap to 2050', a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Ionawr, wedi sôn am y naill safle na'r llall.

Roedd disgwyl hir am y newyddion am brynu Wylfa, ac mae wedi cael ei groesawu gan y rhan fwyaf o bobl. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y pwyllgor fod Wylfa yn gystadleuydd cryf ar gyfer datblygiadau niwclear yn y dyfodol i helpu'r DU i gyflawni ei nodau diogeledd ynni a sero net, a chydnabuwyd bod Trawsfynydd hefyd yn safle â photensial mawr. Felly, er bod prynu Wylfa yn gam pwysig ymlaen, mae'n dal i fod angen manylion llawn am gynlluniau Llywodraeth y DU, yn enwedig pryd y bydd yn cadarnhau'r safleoedd dynodedig ar gyfer prosiectau niwclear yn y dyfodol, y mathau o dechnoleg i'w defnyddio, a'r amserlenni ar gyfer gweithredu.

Roedd argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn ymwneud â'r wybodaeth hon, ac felly fe wnaethom ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net. Rwy'n croesawu'r cywair cadarnhaol at ei gilydd yn ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol i'n hargymhelliad a'r awgrym fod gwaith yn mynd rhagddo i ddiffinio natur prosiectau niwclear y dyfodol yn gliriach. Fodd bynnag, nid oes atebion clir o hyd, gyda phenderfyniadau ar gyfer y dyfodol i'w gwneud, rwy'n dyfynnu, 'maes o law'. Rwy'n croesawu'r ffaith y dywedir bod corff hyd braich newydd Llywodraeth y DU, Great British Nuclear, sy'n cefnogi'r diwydiant, yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol yn Ynys Môn, ac edrychaf ymlaen at ddiweddariadau pellach a addawyd dros y misoedd nesaf.

Nawr, ymwelodd y pwyllgor ag Ynys Môn yr haf diwethaf a chlywed pa mor bwysig y gallai gorsaf ynni niwclear newydd fod i'r gymuned. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod gobeithion am ddatblygiadau niwclear wedi'u chwalu yn y gorffennol, ac felly roedd rheoli disgwyliadau yn rhywbeth a gafodd ei bwysleisio i aelodau'r pwyllgor. Mae'r pwyllgor yn deall bod pobl yng ngogledd Cymru eisiau eglurder ynglŷn â beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig iddynt. Sicrwydd yw'r allwedd i feithrin hyder, i sicrhau'r buddsoddiad angenrheidiol mewn sgiliau, i adeiladu cadwyni cyflenwi cryf a gwydn, i sicrhau swyddi o ansawdd uchel ac i ddarparu cyfeiriad ar gyfer diwydiant ynni niwclear Cymru yn y dyfodol.

Cipolwg yn unig ar y sector a'i uchelgeisiau ar gyfer Cymru a roddai ein hadroddiad, ac fe wnaethom nodi cyfres o argymhellion i gefnogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wireddu potensial datblygiadau niwclear Cymru. Os yw'r safleoedd yng ngogledd Cymru yn cael eu dewis i fod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf o adweithyddion niwclear, mae Cymdeithas y Diwydiant Niwclear yn dweud wrthym y gallai ddod â degau o filoedd o swyddi ychwanegol i'r ardal. Ac felly, mae adroddiad y pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn barod i sicrhau bod cymaint o fanteision â phosibl i economi Cymru pan wneir y penderfyniad i fwrw ymlaen â niwclear yng ngogledd Cymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, gofynnodd yr aelodau lawer o gwestiynau am gadwyn gyflenwi Cymru ac mae ymateb y Llywodraeth yn nodi rhesymeg glir dros nodi'n realistig lle gellir cael y manteision hawsaf a lle gallai fod angen mwy o ymdrech i fusnesau Cymru dorri i mewn i gyflenwi cydrannau, nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn dilyn pwynt allweddol a godwyd wrth gasglu tystiolaeth ei fod yn ymwneud â dangos i fusnesau Cymru ble mae'r cyfleoedd, a hefyd, lle nad ydynt, fel y gallant weld ble i gyfeirio eu hymdrechion tuag at feithrin sgiliau ac ennill busnes.

Un o'r heriau allweddol a nodwyd gan y pwyllgor yw'r angen i gynyddu sgiliau'r gweithlu ar gyfer y sector niwclear. Dywedodd Great British Nuclear fod y cynnydd mewn sgiliau sydd ei angen ar gyfer y sector yn syfrdanol, gan arwain y pwyllgor i alw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn gweithio gyda'r sector addysg a sgiliau i sefydlu gweithlu sy'n barod.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod maint sylweddol yr her i'r gweithlu hwnnw. Dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb na chafodd Llywodraeth Cymru wahoddiad i gymryd rhan yn y tasglu sgiliau niwclear, ond bod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r tasglu a bod adroddiad y tasglu yn debygol o wneud argymhellion generig am y mathau o sgiliau sydd eu hangen. Felly, bydd angen mwy o eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Wylfa a Thrawsfynydd cyn y gellir cynllunio'r gweithlu'n llawer mwy manwl.

Yn wir, mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn nodi y byddai unrhyw brosiectau niwclear newydd yn debygol o ddod â llawer o weithwyr i mewn o'r tu allan i ogledd Cymru a gallai hyn roi pwysau ar y stoc dai leol. Mae'r pwyllgor wedi annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a chynllunwyr tai os bydd buddsoddiad niwclear yn mynd rhagddo. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n agos â phartneriaid a chymunedau lleol a rhanbarthol i sicrhau nad yw'r stoc dai'n cael ei llethu ar y camau cychwynnol a bod cynllun hirdymor clir ar gyfer sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r bobl sy'n byw agosaf at y safleoedd hyn.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru ar y materion hyn a'r arwydd y bydd yn annog ethos tîm cryf a dull partneriaeth gydlynol wrth sicrhau'r gorau i Gymru o brosiectau niwclear. Mae enghraifft prosiect Somerset Larder a nodwyd yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn un da, gan ddangos sut mae'n bosibl ysgogi buddion lleol a thwf economaidd sylweddol drwy gydweithio. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i sicrhau bod y buddsoddiad posibl hwn yn llwyddiannus. Mae angen i gymaint o waith â phosibl ddechrau nawr i sicrhau bod y gweithlu'n fedrus, yn arbenigol ac yn barod.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad undydd y pwyllgor a diolch hefyd i'r tîm a gynorthwyodd yr Aelodau gydag ef. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd.

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a phawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor.

Rwy'n credu, o'r dechrau, ei bod yn deg dweud, fel pwyllgor, ein bod yn ymwybodol o'r feirniadaeth sydd wedi dod dros yr adroddiad hwn, ond hoffwn ailadrodd yr hyn y mae'r Cadeirydd eisoes wedi'i ddweud: nid oedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn yn cynnwys pwyso a mesur manteision ac anfanteision ynni niwclear. Pe bai'n ymchwiliad ar y sail honno, byddai'r adroddiad wedi edrych yn wahanol iawn. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn werth myfyrio ar rai o'r sylwadau a wnaed yn y lle hwn a thu hwnt i'r lle hwn ac ystyried efallai sut y gallem gynnal ymchwiliad ar ynni yn ehangach, mewn partneriaeth â'r pwyllgor newid hinsawdd efallai—rwy'n ymwybodol fod y Cadeirydd yn eistedd wrth fy ymyl—i edrych ar sut y dylai cyfansoddiad cynhyrchiant ynni edrych mewn economi Gymreig yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'n eithaf amserol mewn gwirionedd, oherwydd y modd y dynododd Prif Weinidog Cymru y rôl ganolog sydd gan ynni i'w chwarae yn ei weledigaeth economaidd ei hun trwy symud ynni i bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—cam rwy'n ei groesawu, gyda llaw. Mae gennyf fy mhryderon ynghylch niwclear am nifer o resymau, a'r elfen cost cyfle'n benodol, ond dyna pam rwy'n credu y byddai ymchwiliad ehangach o fudd, fel y gallwn drafod yr elfennau hynny o ynni niwclear.

Roeddwn eisiau tynnu sylw at rywbeth penodol yn ein hadroddiad sydd, yn fy marn i, yn cyffwrdd â mater ehangach o fewn ein heconomi—rhywbeth y gallech ei gopïo a'i ludo i mewn i adroddiadau am sectorau eraill o'r economi yn eithaf hawdd. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn amdano, sef y bwlch sgiliau a nodwyd. Boed ein bod yn siarad am dechnolegau niwclear neu rai gwyrdd, mae hwn yn fater sy'n parhau i godi. Felly, byddwn yn croesawu sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r prinder sgiliau ehangach. Oherwydd ychydig fisoedd yn ôl, roedd y Prif Weinidog—Gweinidog yr Economi ar y pryd—yn cynnig toriadau sylweddol i'r cyllid prentisiaethau, un o'r prif lwybrau sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â phrinder sgiliau. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu nodi strategaeth sgiliau, un gynhwysfawr, wedi'i chydgynhyrchu gyda'r sector addysg bellach. Ac rwyf wedi sôn amdano o'r blaen: mae peth o'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau gydag adroddiad Hefin David, felly hoffwn weld sut y gallem weithredu rhywfaint ohono. Ni allwn fychanu pwysigrwydd cael strategaeth ar gyfer sgiliau, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhannu newyddion calonogol yn hynny o beth.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, yn ogystal â phawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad.

16:50

Diolch i Gadeirydd ein pwyllgor am ei arweinyddiaeth drwy gydol yr ymchwiliad hwn a'r tîm clercio am eu gwaith yn dod â'r adroddiad hwn at ei gilydd.

Rwy'n cefnogi ynni niwclear, ac er nad wyf yn credu bod hynny'n ddadleuol, rwy'n credu ei bod yn werth edrych pam. Pan fydd amseroedd ansicr o'n blaenau gyda rhyfel parhaus yn Wcráin a thensiynau cynyddol yn y dwyrain canol, mae cael diogeledd ynni i'n gwlad yn hollbwysig. Nid oes yr un ohonom, rwy'n siŵr, eisiau bod yn ddibynnol ar bwerau tramor a chadwyni cyflenwi cymhleth ar gyfer ein trydan os nad oes raid. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod fy mod yn frwd fy nghefnogaeth i ynni adnewyddadwy, yn enwedig gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd. Ond mae cyflenwad trydan cryf yn dibynnu ar amrywiaeth, gyda niwclear yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau lefel sylfaenol o gynhyrchiant.

Nid ydym eisiau gorfod ofni toriadau trydan cyson, ac nid ydym ychwaith eisiau byw gyda grid cenedlaethol nad yw'n gallu diwallu ein hanghenion o ddydd i ddydd. Yr hyn rydym ei eisiau, fodd bynnag, yw ffynhonnell bŵer sy'n ddibynadwy, yn isel o ran ei defnydd o garbon, ac y gellir ei defnyddio'n hawdd ar y cyd â'n rhwydwaith adnewyddadwy sy'n datblygu, gan helpu i gynnal cydbwysedd a chyflenwad ynni ein grid. Dyna'n union pam mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn nodi, ynghyd â llu o fuddion eraill sydd o ddiddordeb arbennig i mi fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, lle mae gennym nifer o sgiliau perthnasol eisoes. Os ewch am dro o gwmpas Hinkley Point byddwch yn siŵr o glywed acen sir Benfro: gellir gweld manteision economaidd ehangach ynni niwclear.

Nid wyf am siarad am faint o fusnesau eraill a allai ddatblygu a chael eu cefnogi gan hyb mor gryf o weithgarwch economaidd, gan y byddai hynny'n siarad drosto'i hun, ond rwy'n awyddus i sôn faint o effaith barhaol y byddai seilwaith niwclear o'r fath yn ei chael yn uniongyrchol. Gallai un adweithydd modiwlar bach, neu SMR, er enghraifft, ddarparu 400 i 500 o swyddi tra byddai'n weithredol, gyda llawer ohonynt ym maes gwasanaethu a chynnal a chadw, yn ogystal â'r swyddi niferus a fyddai'n cael eu creu ym maes adeiladu. Ac fe ellid adeiladu nifer o'r SMRs hyn. I bwysleisio budd economaidd niwclear, amcangyfrifir y byddai pob person a gyflogid yn cynhyrchu gwerth gros o £102,300 i'r cynnyrch domestig gros, dros ddwywaith y swm cyfartalog o'i gymharu â diwydiannau eraill. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi rhai o'r anawsterau y gallem eu hwynebu os ydym am gael y budd llawn o niwclear i'n cymunedau a'n heconomi, a hynny'n ymwneud â chael y sgiliau a'r hyfforddiant cywir, fel y crybwyllwyd.

Er bod rhai o'r sgiliau hynny ar gael, yn ffodus, fel y soniais yn gynharach, nid yw tua 80 y cant o swyddi yn rhai penodol i niwclear, felly mae cyfle i bobl mewn diwydiannau eraill newid llwybr gyrfa. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau nad yw hyn yn effeithio ar ddatblygiad diwydiannau eraill, yn enwedig ynni adnewyddadwy. Ond nid y gweithlu presennol yn unig sy'n mynd i elwa; mae angen inni feddwl am ein gweithlu yn y dyfodol, un lle gall pobl ifanc fod â hyder i fanteisio ar gyfleoedd prentisiaeth gan wybod bod ganddynt yrfa hir a gwerthfawr o'u blaenau.

Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru pa gyllid y mae'n rhagweld y bydd ar gael i gefnogi colegau technegol neu ganolfannau hyfforddi eraill. Mae'n newyddion cadarnhaol fod Llywodraeth y DU wedi prynu safle Wylfa, fel y soniodd y Cadeirydd. Er bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd, pan geir y sicrwydd hwnnw, rwy'n siŵr y bydd angen i Lywodraeth Cymru fod yn barod i fanteisio ar y cyfle gwych hwn trwy ddarparu lefelau digonol o gyllid a chymorth yn y meysydd sydd eu hangen. Mae'n fater o sicrhau perthynas waith gadarnhaol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i ariannu ei chyflenwad o sgiliau niwclear, a fydd yn helpu'r sector i lenwi 40,000 o swyddi newydd erbyn diwedd y degawd. Mae eu cynllun hyd at 2050 yn ei le, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag ef a nodi ei chynlluniau ar gyfer sut y bydd yn ei weld yn ariannu'r ddarpariaeth y bydd ei hangen yn daer ym maes hyfforddiant a datblygu sgiliau heb fod yn benodol i brosiectau. Nid yw hynny'n benodol i niwclear yn unig; bydd hynny o fudd i ystod eang o ddiwydiannau eraill yma yng Nghymru hefyd.

Wrth gau fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, mewn egwyddor o leiaf, holl argymhellion adroddiad y pwyllgor. Unwaith eto, rwy'n ailadrodd pwysigrwydd ynni niwclear i'n diogeledd ynni ac rwy'n gobeithio croesawu dyfodol niwclear hir a llewyrchus yma yng Nghymru. Diolch.

16:55

Rwy'n croesawu'n fawr yr adroddiad gan y pwyllgor a'r cyfle i'w drafod y prynhawn yma. Fel y dywedais yn gyson wrth ymgyrchu ar yr angen i ddadfuddsoddi pensiwn, mae'n rhaid inni symud i ffwrdd o'n dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn glir y bydd y penderfyniadau a wnawn yn y 10 mlynedd nesaf yn diffinio'r hinsawdd am y 10,000 mlynedd nesaf. Yn fy marn i, dylem fod yn gweithio gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i symud i ffwrdd o danwydd ffosil a sicrhau bod niwclear yn rhan sylweddol o'n cymysgedd ynni. Mae'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchiant ynni niwclear yn gyfle aruthrol i Gymru, fel y mae'r technolegau nesaf yn ein sector ynni adnewyddadwy.

Cyfrannodd diwydiant niwclear sifil presennol y DU £700 miliwn i economi Cymru yn 2021, gan gyflogi 800 o bobl yn uniongyrchol a chefnogi cyfanswm o 10,700 o swyddi ledled Cymru. Ym mis Rhagfyr 2022, rhoddodd Rolls-Royce SMR safle yng Nglannau Dyfrdwy ar restr fer i gynhyrchu cydrannau ar gyfer adweithyddion modiwlar bach, a dyma'r union fath o rolau sgiliau medrus sy'n talu'n dda yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio i'w denu i fy ardal. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y mater hwn y prynhawn yma. Yn ogystal â denu'r math hwnnw o waith, mae'n adeiladu ar waith y cewri peirianneg Boccard, sydd, unwaith eto, wedi lleoli eu cyfleuster cynhyrchu niwclear mawr cyntaf yn y DU yn agos at ffatri Airbus ym Mrychdyn, gyda 200 o swyddi medrus sy'n talu'n dda, sydd bob amser i'w croesawu yng Nglannau Dyfrdwy.

Wrth inni wynebu heriau cynyddu cynhyrchiant trydan i bweru ceir trydan, i bweru systemau gwresogi ac yn y blaen, mae Luke Fletcher yn iawn, rydym hefyd yn wynebu her sgiliau. Un o'r rhwystrau i sicrhau bod y sgiliau yn eu lle yw'r ansicrwydd sy'n wynebu'r diwydiant. Mae gan weithwyr Cymru, cadwyn gyflenwi Cymru a darparwyr hyfforddiant Cymru botensial i gyfrannu llawer mwy at agenda niwclear y DU, ond mae angen iddynt weld ymrwymiad clir i'r prosiectau newydd a bod yn hyderus fod y buddsoddiad mewn amser ac arian yn werth chweil.

Mae maint her y gweithlu niwclear yn sylweddol. Mae'r sector yn brin o 9,400 o bobl ar hyn o bryd, ond mae angen iddo dyfu o 83,000 i 123,000 erbyn 2030 i ateb a chefnogi'r galw disgwyliedig. Dyna pam fod yr adroddiad gan bwyllgor Paul Davies mor amserol, ac mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r adroddiad i'w groesawu. Rhaid inni ddarparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant i ffynnu ac i helpu i gyrraedd sero net a chreu swyddi sy'n talu'n dda yng Nghymru. Diolch.

Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i. Dwi'n ddiolchgar am yr adroddiad yma gan y pwyllgor. Dwi ddim yn credu bod yna unrhyw beth annisgwyl yn y canfyddiadau na'r argymhellion. Yn fyr iawn, beth sydd gennym ni ydy sylweddoliad bod yna fudd economaidd yn gallu dod yn sgil buddsoddiad mewn cynhyrchiant ynni niwclear, ond bod datblygiadau o'r fath, heb os, yn dod â chyfres o heriau hefyd, ac mae'n rhaid inni fod yn barod amdanyn nhw a bod yn ymwybodol ohonyn nhw. A dyna'r gwaith y bues i'n ymwneud â fo yn Ynys Môn mewn perthynas â Wylfa—trio uchafu'r potensial am fudd economaidd ar un llaw tra'n gweithio'n galed ar y llaw arall i warchod ein buddiannau ehangach ni. Ac mae'r adroddiad yn pwyntio at rai o'r rheini, a'r pwysau cymdeithasol, nid achos ei fod yn ddatblygiad niwclear—mae'n hynny'n wir efo unrhyw ddatblygiad—ond oherwydd ei fod o'n ddatblygiad mawr. Un o'r rheini ydy'r pwysau ar y sector tai, ac mae hynny'n cael ei enwi'n benodol yn yr adroddiad yma hefyd. A'r her, hefyd, fel dŷn ni wedi clywed gan eraill yma heddiw, o sicrhau mai'r gweithlu lleol a sgiliau lleol sy'n cael eu blaenoriaethu, a gwarchod busnesau eraill sy'n gallu colli gweithwyr, sy'n her fawr pan fo yna ddatblygiadau o'r math yma yn digwydd.

Fan hyn dwi'n lleisio fy rhwystredigaeth i fod cymaint o'r gwaith yma, wrth gwrs, wedi cael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun Horizon Hitachi yn Ynys Môn, a chymaint o bartneriaid lleol yn rhan o hynny. Dwi'n meddwl am y gwaith ardderchog gan Grŵp Llandrillo Menai a'r gwaith gafodd ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn, dan arweiniad Llinos Medi yn y fan honno. Ac, wrth gwrs, beth y gwelsom ni efo Llywodraeth Geidwadol yn methu â chefnogi hwnnw, a hynny'n golygu bod y gwaith yn cael ei ddadwneud, a dyma ni nôl ar y dechrau. Mi soniodd Sam Kurtz am glywed acenion sir Benfro draw yn Hinkley—wel, gallaf i sicrhau'r Senedd yma fod yna lawer o acenion Ynys Môn, oherwydd mi oedd yna brentisiaid wedi dechrau gweithio ar y cynllun Wylfa Newydd ac mi gafodd y rheini eu gorfodi i symud o'u cartrefi i weithio ar y cynllun yn Hinkley, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni resynu yn ei gylch o, a hynny eto oherwydd methiant Llywodraeth Geidwadol Prydain.

Byddwch yn glir iawn, mae unrhyw ddatblygiad yn Wylfa, rŵan, flynyddoedd lawer i ffwrdd. Dŷn ni'n gwybod, mewn blwyddyn etholiad, y byddai hi'n ddymunol gan rai i bobl gredu bod yna gyhoeddiad yn digwydd rŵan, neu ar fin digwydd, ond nid dyna'r realiti, a dyna pam fod y pwyllgor yn hollol iawn i ddweud bod angen peidio â chodi gobeithion pobl. Mae o'n rhywbeth dwi'n glir iawn yn ei gylch o. Roeddwn i mewn briefing efo Great British Nuclear wythnos union yn ôl, ac mi oedden nhw'n egluro lle dŷn ni arni, rŵan, heb benderfynu hyd yn oed pa fath o ddatblygiad allai fynd i Wylfa, er bod y safle wedi cael ei brynu yn ddiweddar. Felly, ydy, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud llanast o'u cynlluniau niwclear, ac mae'r pwyllgor yn iawn i nodi bod yna'n dal ddim syniad clir gennym ni o beth ydy'r cynlluniau. Ond dwi'n dweud hyn fel pwynt olaf, cwbl allweddol—rhywbeth y gwnes i ac eraill godi yn y cyfarfod yna efo GBN—mae'n rhaid i gymunedau lleol fod yn ganolog i unrhyw benderfyniadau. Fel unrhyw ddatblygiad ynni yng Nghymru, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru a chymunedau Cymru yn cael eu gwarchod, wastad.

17:00

Fel rhywun mwy brwdfrydig dros niwclear na’r siaradwr blaenorol, hoffwn ddiolch i Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Dywed yn yr adroddiad y bydd diwydiant niwclear llwyddiannus a modern yma yng Nghymru yn darparu miloedd o swyddi o ansawdd uchel, gan ddatgloi gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Edrychwch ar Ynys Môn: bydd Wylfa Newydd yn dod â buddsoddiad o oddeutu £20 biliwn ar gyfer safle gwaith mawr, 8,000 o swyddi adeiladu, a byddai 800 o yrfaoedd sefydlog o ansawdd yn cael eu creu. Ond mae’n rhaid imi gofnodi fy niolch unwaith eto, fel Aelod dros Aberconwy a’r swyddi a ddaw i Aberconwy o ganlyniad i hyn, gobeithio, i’n 'atomic kitten' ein hunain, Virginia Crosbie AS. Mae’r gwaith y mae wedi’i wneud ar hyn yn sicrhau bod cryn dipyn o gefnogaeth i Lywodraeth Geidwadol y DU. Er enghraifft, fe wnaeth strategaeth ddiogeledd ynni Llywodraeth y DU ar gyfer Prydain enwi Wylfa fel safle allweddol ar gyfer un o’i wyth gorsaf niwclear newydd arfaethedig. Lansiodd Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Gwn nad ydych yn hoffi clywed sôn am Lywodraeth y DU, ond rwy'n rhoi clod lle mae'n ddyledus. Lansiwyd cronfa galluogi niwclear y dyfodol ar gyfer y DU gyfan—

17:05

Mae'n rhaid imi nodi nad oes unrhyw sôn am Wylfa na Thrawsfynydd yn y dogfennau diweddaraf gan Lywodraeth y DU. Fe sonioch chi am y swyddi a grëwyd gan y gwaith niwclear mawr yn Ynys Môn. Er gwybodaeth, byddwn yn ffafrio opsiwn modiwlar llai. Ond nid oes penderfyniad, felly mae'n rhaid ichi gydnabod bod hyn flynyddoedd i ffwrdd.

Cawn weld. Amynedd. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Great British Nuclear yn prynu safle Wylfa fel rhan o gytundeb gwerth £160 miliwn. Daw’r momentwm hwnnw o dan yr arweinyddiaeth Geidwadol hon. Rwy'n obeithiol iawn am benderfyniad cyn bo hir. Fel y dywedodd y Gwir Anrhydeddus Claire Coutinho AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, yn ei hymateb, mae Llywodraeth y DU yn gwneud ymdrech gydunol i gefnogi penderfyniadau datblygu, gwella hyder buddsoddwyr a darparu’r sicrwydd mwyaf sydd ei angen.

Mewn cymhariaeth, yn argymhelliad 2 mae’r pwyllgor yn cwestiynu rôl Llywodraeth Cymru, a hynny’n gwbl briodol. Yr argraff glir a gaf o’r ymateb a ddarparwyd gan Jeremy Miles yw eich bod am gael penderfyniad gan Lywodraeth y DU cyn gwneud mwy gyda’r ysgogiadau sydd gennych at eich defnydd. Nid felly y dylai fod.

O gofio bod Alan Raymant wedi dweud wrth y pwyllgor ei bod yn debygol na fyddai ceisio datblygu Wylfa a Thrawsfynydd yn y gogledd ar yr un pryd yn ymarferol yng nghyd-destun y prinder sgiliau presennol, mae’r her y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi yn glir. A phwy sydd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod gennym y sgiliau hynny dros y 26 mlynedd diwethaf? Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru.

Fel y dywedodd Bechtel, yn gywir ddigon, mae’n hollbwysig fod Cymru’n adeiladu gweithlu cryf i fodloni'r galw newydd am ynni niwclear. Wrth gwrs, mae Prifysgol Bangor bellach wedi dechrau cynnig cwrs gradd mewn peirianneg gyffredinol, ac mae cyfleusterau hyfforddi newydd wedi’u darparu yng Ngholeg Menai yn Llangefni, er mwyn cynnig cyrsiau mewn peirianneg, saernïo, weldio, peirianneg fecanyddol a pheirianneg pŵer.

Fodd bynnag, mae’r nifer sy’n dilyn prentisiaethau wedi bod yn gostwng dros y pum mlynedd diwethaf, gyda 43 y cant o leoedd gwag mewn rolau STEM, ac mae gennym brinder enfawr o ymgeiswyr â’r sgiliau gofynnol o hyd. Mae potensial anhygoel i bobl ifanc ein cenedl gamu i'r adwy, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod ein system addysg yn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl iddynt gael sgiliau a gyrfaoedd STEM.

Yn fyr, mae angen inni adolygu polisi prentisiaethau a chwricwlwm Llywodraeth Cymru, er mwyn canfod sut y gallwn gyflawni’n well. Ac fel yr ysgrifennodd y Gweinidog yn ei ymateb, os yw Cymru am gyfrannu at fynd i’r afael â phroblem prinder sgiliau niwclear y DU yn ehangach, credaf y gallwch ac y dylech wneud ymrwymiad cadarn heddiw y bydd Cymru’n cyfrannu at fynd i’r afael â phroblem prinder sgiliau niwclear y DU yn ehangach.

Yn olaf, hoffwn wahodd y Gweinidog i roi rhywfaint o eglurder mawr ei angen ar gyllid ar gyfer Cwmni Egino. Tra bo Llywodraeth y DU yn cynyddu buddsoddiad mewn ynni niwclear, gan oruchwylio’r ehangu mwyaf a gafwyd mewn 70 mlynedd, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn lleihau cymorth. Mae’r Prif Weinidog yn uniongyrchol atebol. Wrth gwrs, yn ystod ei gyfnod ef fel Gweinidog yr Economi y gwnaethpwyd y cynlluniau i dorri'r buddsoddiad ariannol ar gyfer Cwmni Egino.

Ysgrifennydd y Cabinet, wedi imi ysgrifennu atoch yn gofyn ichi wneud datganiad ar faint o arian y bydd Cwmni—rwy’n siŵr eu bod wedi rhoi hyn i mewn er mwyn imi barhau i’w ddweud—yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn 2024-25 yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch ddewis peidio â rhoi’r ffigur i mi. Felly, dywedwch wrthym yma heddiw faint rydych chi wedi ymrwymo i'w roi i Gwmni Egino.

—a roddodd Llywodraeth Cymru yn 2023-24, a hefyd yn 2024-25? Rwyf wedi cyfarfod ag Andrew Bowie AS, y Gweinidog Niwclear ac Ynni Adnewyddadwy, a gallaf eich sicrhau bod unrhyw arwydd nad yw Trawsfynydd yn cael ei ystyried yn anghywir. Yn wir, byddai’n rhy gynnar i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar dorri unrhyw gyllid ar gyfer Cwmni Egino.

Felly, mae angen eglurder ar yr hyn y mae Llafur Cymru wedi’i wneud ar frys, ac yma yn Senedd Cymru heddiw. Diolch.

Rhoddwyd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'r pwyllgor gan sefydliadau ac unigolion pleidiol i niwclear, ond dim o gwbl gan bobl â safbwyntiau gwrth-niwclear neu sgeptig i roi cydbwysedd. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd y Cadeirydd yn gynharach, ond rwyf am wneud hynny nawr. Ni chafwyd unrhyw gymariaethau â thechnolegau adnewyddadwy amgen, sef ynni gwynt, tonnau neu solar. Felly, pam na chasglwyd tystiolaeth gan arbenigwyr a phartïon â diddordeb ar gwestiynau megis, 'Pam y dylid dibynnu i'r fath raddau ar leisiau diwydiant sy'n gyson yn methu cyflawni ar amser ac o fewn cyllidebau?', 'Pam y dylai Ynys Môn a Gwynedd ddod yn orsaf niwclear i ddiwallu anghenion y diwydiant niwclear a gwladwriaeth y DU?', 'Pam parhau pan fo'r diwydiant niwclear ar i lawr yn fyd-eang?'

Bydd adweithydd cyffredin yn cynhyrchu 25 i 30 tunnell o wastraff niwclear lefel uchel bob blwyddyn. Gall barhau i fod yn ymbelydrol ac yn beryglus i iechyd pobl am filoedd o flynyddoedd. Nid oes ateb hirdymor boddhaol i waredu gwastraff wedi'i ganfod yn unman, felly pam cynhyrchu mwy? Mae diogeledd ynni yn cael ei grybwyll fel rheswm, ond nid oes cronfeydd wraniwm yn y DU, disgwylir i'r cronfeydd wraniwm presennol gael eu dihysbyddu erbyn diwedd y ganrif ac mae'n anodd dod o hyd i gronfeydd newydd o wraniwm. O ganlyniad, mae prisiau wraniwm wedi bod yn codi’n gyson, gydag amcangyfrifon y bydd prisiau’n dyblu erbyn 2030.

Wrth i ddigwyddiadau hinsawdd eithafol ddod yn norm, bydd lefel y môr yn codi, a bydd mwy o stormydd aflonyddol ac ymchwyddiadau storm, sy'n codi amheuaeth ynghylch diogelwch gweithredol, sicrwydd a hyfywedd seilwaith niwclear arfordirol. Mae gan ynni niwclear mewndirol broblemau eraill hefyd: tanau gwyllt, llifogydd ysbeidiol am yn ail â llif afonydd is a thymheredd dŵr uwch, sy'n effeithio ar brosesau oeri adweithyddion a gollyngiadau.

Canfu swyddogion cynllunio arbenigol fod Wylfa Newydd wedi methu cyrraedd rhai o safonau amrywiaeth fiolegol y Cenhedloedd Unedig, ac fe wnaethant hefyd restru pryderon ynglŷn ag effaith y prosiect ar yr economi leol, y stoc dai, iechyd, diwylliant a’r iaith Gymraeg. Yn 2016, amcangyfrifwyd y byddai costau Hinkley Point yn £18.2 biliwn, ond mae’r costau diweddaraf bellach yn £31 biliwn i £35 biliwn. Mae EDF wedi amcangyfrif y gallai gostio hyd at £46 biliwn, cynnydd arall o £10 biliwn yn y gost a phedair blynedd arall i’w gwblhau—neu fwy na hynny, yn ôl pob tebyg.

Disgwylir mai dim ond 60 mlynedd fydd hyd ei oes. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi trwyddedau ar gyfer meysydd nwy newydd, i osgoi toriadau trydan, meddent. Ni fydd ynni niwclear ar ei ben ei hun byth yn llenwi'r bwlch ynni. Ac yn y cyfamser, rydym yn llosgi mwy o danwydd ffosil am nad ydym yn buddsoddi digon yn y technolegau adnewyddadwy, storio a seilwaith, effeithlonrwydd ynni, neu inswleiddio cartrefi, a fyddai'n ein galluogi i roi mesurau i liniaru newid hinsawdd ar waith yn gyflymach ac yn rhatach, ac yn helpu cyllidebau pobl.

Gan gynnwys cynllunio a chymeradwyo, mae un orsaf niwclear yn cymryd hyd at 17 mlynedd i'w hadeiladu, gyda'r gwaith adeiladu yn cymryd oddeutu 10 mlynedd. Mae argostau a chostau datgomisiynu yn bwll diwaelod. Felly, o ystyried yr amserlenni datblygu ar gyfer cynlluniau adweithyddion newydd, nid ydynt yn debygol o gael effaith sylweddol ar ostyngiadau allyriadau carbon deuocsid am ddegawdau, ac o ganlyniad, mae eu perthnasedd i’r ddadl hinsawdd yn crebachu.

Pan oedd prosiect Wylfa Newydd Hitachi yn fyw, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp addysg a sgiliau, a oedd yn canolbwyntio ar ymdrin â'r ddarpariaeth hyfforddiant a sgiliau, fel rhan o raglen fewnol drawsadrannol Wylfa Newydd, i ymateb i’r heriau niferus a oedd yn deillio o’r prosiect. Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth sylweddol hefyd i’r sector addysg bellach ar gyfer cyfleusterau hyfforddi newydd yng Ngholeg Menai yn Llangefni, sydd bellach yn gallu cynnig cyrsiau mewn peirianneg, saernïo a weldio, peirianneg fecanyddol a pheirianneg pŵer. Ac mae cyfleuster peirianneg newydd Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn cynnig cyrsiau mewn cynnal a chadw tyrbinau gwynt, mewn partneriaeth ag RWE. Maent hefyd yn edrych ar hydrogen gwyrdd.

Rwy'n siomedig fod Cwmni Egino wedi’i ddefnyddio ar gyfer mynd ar drywydd ynni niwclear, pan ddylid rhoi blaenoriaeth i dechnoleg ynni adnewyddadwy. Nid yw'r ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd y DU o dan Rishi Sunak wedi dynodi ynni niwclear yn ynni adnewyddadwy yn ei wneud yn iawn. Mae ynni gwynt, tonnau a solar yn dechnoleg adnewyddadwy.

Mae llawer o sôn wedi bod am yr angen am ynni niwclear ar gyfer sicrhau cyflenwad sylfaenol o ynni, ond rwy'n clywed yn amlach ac yn amlach nad yw hyn yn wir. Dywedodd cyn brif weithredwr y Grid Cenedlaethol sawl blwyddyn yn ôl nad oedd angen cyflenwad sylfaenol o ynni, ac eto, cafodd y mantra ei ailadrodd yn ddi-gwestiwn gan y lobi niwclear. Mae ynni gwynt a solar yn ategu ei gilydd ar draws sectorau i ddarparu allbwn sefydlog. Mae RWE Renewables yn datblygu cynlluniau i gyfuno hydrogen gwyrdd â’u ffermydd gwynt, a dywedir wrthyf y byddai morglawdd ynni’r llanw yn para am 130 o flynyddoedd, yn darparu amddiffynfa rhag llifogydd ar gyfer arfordir gogledd Cymru ac yn darparu ynni cyson.

Dylai buddsoddiad ac ewyllys gwleidyddol ganolbwyntio ar sicrhau dyfodol cynaliadwy, ac ni ellir gwneud hynny gydag ynni niwclear.

17:10

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.

Member
Jeremy Miles 17:14:50
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i'n gyntaf ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu hadroddiad, sydd yn dod ar adeg bwysig yn natblygiad y diwydiant niwclear yn y Deyrnas Unedig. Ac mae hyn yn arbennig o amserol yng Nghymru gyda’r newyddion bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi yn prynu safle Wylfa oddi wrth Hitachi.

Fel dywed yr adroddiad, nid yw niwclear yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli, felly Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn gyfrifol am sbarduno buddsoddiad newydd mewn niwclear. Dwi’n deall bod amrywiaeth o safbwyntiau—mae Carolyn Thomas wedi lleisio rhai ohonyn nhw—ond mae Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn gefnogol i fuddsoddi mewn niwclear yng Nghymru, ond ddim, wrth gwrs, heb ystyried y gost.

Wrth i’r datblygiadau yma fynd yn eu blaenau, rŷn ni am sicrhau’r gorau o’r manteision economaidd a chymdeithasol a ddaw. Ond ar yr un pryd, rydym am leihau’r effeithiau negyddol a all dod yn sgil prosiectau seilwaith mawr o’r fath, a soniodd Rhun ap Iorwerth am hynny.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau brif gasgliad a chwech argymhelliad. Y casgliad cyntaf yw bod angen penderfynu ar fyrder ynghylch dyfodol Wylfa a Thrawsfynydd. Yr ail yw bod diffyg eglurder Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch beth i’w wneud nesaf yn rhwystro ymdrechion ar y cyd i baratoi’r gweithlu trwy ddatblygu sgiliau a hyfforddiant. A dwi’n cytuno yn llwyr gyda’r ddau gasgliad.

Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn adeiladu ar y casgliadau ac yn galw am benderfyniad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan Lywodraeth y DU ar leoliad prosiectau, ynghyd ag eglurder ynghylch sut a phryd y mae prosiect yn debygol o gael ei gyflwyno yn y gogledd. Mae ymrwymiad i ogledd Cymru yn rhywbeth y buom yn ei geisio gan Lywodraeth y DU ers canslo prosiect Wylfa Newydd Horizon. Mae'r distawrwydd ar fanylion unrhyw brosiectau newydd wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i gynllunio ar gyfer unrhyw weithgarwch newydd, ac mae'r oedi parhaus hefyd yn cael effaith ar ganfyddiad cymunedau sy'n lleoliadau posibl o'r gallu i gyflawni a gall erydu trwydded gymdeithasol unrhyw brosiect yn y dyfodol i weithredu. Mae argymhellion 2 i 4 yn canolbwyntio ar geisiadau i Lywodraeth Cymru esbonio sut y bydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol, i gefnogi cadwyn gyflenwi Cymru, i ymgymryd â'r gwaith o gynllunio'r gweithlu lleol, ac i fynd i’r afael ag anghenion tai a phwysau a all godi gyda phrosiectau seilwaith mawr. Mae galwad hefyd ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn gweithio gydag eraill i reoli disgwyliadau mewn perthynas ag unrhyw gynigion newydd. Rwy’n cefnogi’r argymhellion hyn, ac fe roddaf sylw i bob un yn ei dro.

Pe bai prosiectau newydd yn dod i’r amlwg ar gyfer Trawsfynydd ac Wylfa, byddwn yn ymdrechu, fel y gwnaethom bob amser, i ddatblygu dull pragmatig o weithio gyda datblygwyr mawr a phartneriaid strategol, gan gynnwys Llywodraeth y DU. Ar brosiect Wylfa Newydd, buom yn gweithio gyda Horizon a rhanddeiliaid rhanbarthol ar faterion yr aethpwyd i’r afael â hwy orau drwy ddull amlasiantaethol, gan gynnwys, er enghraifft, anghenion a phwysau tai, a gwnaethom hynny ar y cyd â phartneriaid awdurdodau lleol o gynghorau Ynys Môn a Gwynedd a'r cymdeithasau tai rhanbarthol perthnasol, a byddem yn ceisio ailgyflwyno gwaith cydweithredol tebyg ar unrhyw brosiect niwclear newydd yng ngogledd Cymru.

Ar faterion yn ywneud â chymorth i'r gadwyn gyflenwi a chynllunio’r gweithlu, mae gennym lwyfan i adeiladu arno. Buom yn gweithio gyda’r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch niwclear ar eu rhaglen i ddatblygu cadwyn gyflenwi addas ar gyfer ynni niwclear rhwng 2015 a 2019, gan ariannu mynediad ar gyfer oddeutu 70 o gwmnïau o Gymru. Fe wnaethom fuddsoddiad sylweddol hefyd yn y sector addysg bellach ar gyfer cyfleusterau hyfforddi newydd, y mae Carolyn Thomas a Rhun ap Iorwerth wedi’u crybwyll, yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Mae bellach yn gallu cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n gysylltiedig â pheirianneg, pob un ohonynt yn berthnasol i ynni niwclear a'r sector ynni ehangach.

Ar reoli disgwyliadau, gadewch inni fod yn glir: mae'r cyfrifoldeb am reoli disgwyliadau yn bennaf yn nwylo'r rheini sy'n gallu gwireddu'r disgwyliadau hynny, sef Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae prosiectau niwclear newydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer newid economaidd sylweddol, ac felly byddwn yn ceisio chwarae ein rhan i annog paratoadau cymesur yn y cymunedau lle mae'r prosiectau wedi'u lleoli. Er inni greu Cwmni Egino yn wreiddiol er mwyn targedu cyfleoedd yn Nhrawsfynydd, rydym yn cael trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU ar rôl rheoli rhanddeiliaid gynnar bosibl ar gyfer Cwmni Egino ar unrhyw brosiect Wylfa newydd.

Mae argymhelliad 5 yn cyfeirio at waith y tasglu sgiliau niwclear, ac yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gydnabod a mynd i’r afael â rhwystrau posibl rhag cynyddu sgiliau ar gyfer y sector niwclear. Mae Jack Sargeant, Luke Fletcher ac eraill wedi crybwyll y pwynt hwn.

Mae her y gweithlu niwclear yn un sylweddol. Ar hyn o bryd, mae'r sector yn brin o 9,400 o bobl, ac mae angen iddo dyfu'n sydyn o 83,000 i 123,000 o bobl erbyn 2030 i ateb ac i gefnogi'r galw disgwyliedig. Sefydlwyd y tasglu sgiliau yr haf diwethaf i helpu i fynd i’r afael â’r her hon o dan gadeiryddiaeth Syr Simon Bollom, fel y clywsom. Mae'n cynnwys swyddogion Llywodraeth y DU o wahanol adrannau, academyddion a phartneriaid diwydiant. Ni wahoddwyd Llywodraeth Cymru i gymryd rhan ac nid ydym wedi cael unrhyw ymgysylltiad ffurfiol o ganlyniad i hynny, ond mae fy swyddogion mewn cysylltiad ag aelodau'r tasglu, fel y soniodd Paul Davies, a deallwn y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried sut y byddwn yn ymateb i unrhyw argymhellion sy’n berthnasol i'n hamgylchiadau yng Nghymru.

Yn olaf, mae argymhelliad 6 yn awgrymu, pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gweithio gyda sectorau a phartneriaid allweddol ledled Cymru i ysgogi a sicrhau’r manteision economaidd-gymdeithasol mwyaf posibl. Byddwn yn gwneud hyn ar yr adeg briodol. Yr allwedd fydd sicrhau bod yr holl bartneriaid yn deall y cyfleoedd posibl ac yn ymrwymo i ddull tîm cydlynol. Mae i'r mathau hynny o ddulliau y fantais o gyfuno adnoddau ariannol a'r gweithlu, yn ogystal â'i gwneud hi'n bosibl datblygu atebion trawsranbarthol ar gyfer heriau a all fod yn rhy anodd mynd i'r afael â hwy a'u datrys ar lefel leol neu asiantaeth unigol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n cefnogi casgliadau ac argymhellion y pwyllgor, ac yn cydnabod y bydd angen ymyriadau arnom mewn meysydd fel datblygu’r gadwyn gyflenwi, cynllunio’r gweithlu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddwn yn chwarae ein rhan, ond nawr mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu arweinyddiaeth glir ac amserol.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Rydym wedi clywed cyfraniadau hynod ddiddorol gan yr Aelodau heddiw, ac ymateb adeiladol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae'n ddealladwy fod Aelodau wedi gwneud sylwadau ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y dyfodol a'r cyfleoedd i Gymru, a hoffwn ddweud yn glir a rhoi sicrwydd i Janet Finch-Saunders y bydd y pwyllgor yn dilyn datblygiadau yn y dyfodol yn agos iawn, ac edrychaf ymlaen at weld Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar y materion hyn.

Nawr, fel y dywedodd Luke Fletcher, nid adroddiad ar fanteision ac anfanteision ynni niwclear mo hwn. Ymchwiliad undydd oedd hwn i edrych ar ynni niwclear ac economi Cymru, a chyfyngedig oedd y dystiolaeth lafar y gallem ei chael. A chlywaf yr hyn a ddywedodd Carolyn Thomas, ond hoffwn ddweud yn glir unwaith eto na wnaethom edrych ar y dadleuon o blaid neu yn erbyn ynni niwclear; fe wnaethom edrych yn unig ar effeithiau economaidd datblygiadau niwclear posibl yn y dyfodol.

Nawr, fel y crybwyllodd Luke Fletcher hefyd, er nad yw cylch gwaith y pwyllgor yn cynnwys ynni, mae'n cynnwys potensial economaidd y sector, ac felly roedd yn gwbl briodol i’r pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn, ond gallai ei awgrym o ymchwiliad ar y cyd ar ynni yn sicr fod yn rhywbeth y gallem edrych arno yn y dyfodol.

Nawr, wrth gwrs, mae gwir angen eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau. Mae gwybodaeth bellach yn hanfodol i gefnogi blaengynllunio o ran sgiliau a thai, yn ogystal â rhoi sicrwydd i gymuned Ynys Môn. Er y gall eu safbwyntiau ar rinweddau ynni niwclear amrywio, mae’r Aelodau’n gytûn eu bod am sicrhau'r canlyniadau economaidd gorau i Gymru yn sgil penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU ar brosiectau niwclear newydd, ac rwy'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru—yn ogystal â manteision i gymunedau, gall y prosiectau hyn greu heriau i’r cymunedau hynny, ac fel pwyllgor, fe wnaethom drafod rhai o’r heriau hynny.

Soniodd Jack Sargeant am bwysigrwydd swyddi medrus. Mae galw enfawr am y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant niwclear, ac mae llawer o’r sgiliau hynny hefyd yn drosglwyddadwy i feysydd twf eraill, gan gynnwys swyddi ar gyfer twf gwyrdd a symud tuag at sero net. Cyfeiriodd Jack Sargeant hefyd at brinder sgiliau, a dywedodd sawl tyst wrth yr ymchwiliad fod hynny'n bryder gwirioneddol ac yn rhwystr rhag gallu cyflawni uchelgeisiau niwclear. Dywedodd Alan Raymant o Cwmni Egino fod profiad Horizon yng ngogledd Cymru wedi dangos bod modd paratoi colegau lleol i gyflogi prentisiaid, gan nodi bod llawer ohonynt bellach yn gweithio yn Hinkley Point wrth gwrs, fel y clywsom gan Aelodau eraill.

Wrth gwrs, mae sicrwydd yn hanfodol er mwyn ehangu rhaglenni sgiliau, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy o waith. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a’i phartneriaid amrywiol yng Nghymru, yn ogystal â'r cymunedau yn y gogledd yr effeithir arnynt fwyaf, i uwchsgilio ein gweithlu a sicrhau’r budd mwyaf posibl i Gymru.

Nawr, dangosodd ymchwiliad y pwyllgor yn glir y potensial sydd gan y diwydiant niwclear i ddarparu ysgogiad economaidd enfawr i’n heconomi a chynhyrchu swyddi a buddsoddiad. Wrth gwrs, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ystwyth yn ei hymateb i faterion sy'n codi gyda’r gadwyn gyflenwi a sgiliau, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am y cynlluniau ar gyfer Wylfa, a phan geir mwy o sicrwydd ynghylch Trawsfynydd hefyd.

Nawr, cyfeiriodd Samuel Kurtz at faterion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, a chlywodd y pwyllgor fod angen cryn dipyn o waith i sicrhau cadwyni cyflenwi cryf a gwydn i gyflawni prosiectau niwclear newydd. Mae dull Cwmni Egino o sicrhau gwaddol eang a pharhaol o fudd lleol dros oes prosiect yn edrych o'r gwaelod i fyny wrth ymdrin â'r dadansoddiad o anghenion lleol, gan nodi'r hyn y byddai cymunedau'n ei werthfawrogi. Mae'n edrych y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu, sy'n para am gyfnod penodol, tuag at y cyfnod gweithredu, gan gynnwys gwaith mewn meysydd megis gwasanaethu a chynnal a chadw, ond hefyd tuag at greu cyfleoedd busnes ar sylfaen o weithgarwch economaidd.

Mae'r Aelodau hefyd wedi codi effeithiau lleol a chefnogaeth gymunedol, ac fel y dywed adroddiad y pwyllgor, mae datblygiadau ynni niwclear yn denu cymysgedd o weithwyr i mewn, a bydd y ganran o'r gweithlu sy'n lleol yn amrywio dros oes prosiect. Bydd yn cynnwys gweithwyr iau a allai fod yn disgwyl aros yn yr ardal am gyfnod hir o amser, a gweithlu mwy byrarhosol, yn cynnwys gweithwyr hŷn profiadol yn symud o un prosiect niwclear i’r llall. Ac mae hynny'n galw am ymgysylltu â'r gymuned leol, cynllunio strategol, a chydweithredu yn wir.

Argymhellodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol ac eraill i fynd i’r afael yn benodol â’r pwysau a'r anghenion tai sy’n gysylltiedig â datblygiad niwclear newydd, ac rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad penodol hwn. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi'n glir fod dull o gydweithredu â phartneriaid awdurdodau lleol ac eraill wedi’i brofi yn ystod cyfnod gweithredu rhaglen Wylfa Newydd. Felly, pe bai prosiect Wylfa newydd yn cael ei roi ar waith, byddai dull tebyg yn cael ei awgrymu, gyda phartneriaid, i fynd i'r afael â phwysau tai a llety yn y ffordd orau.

Nawr, fel gyda phob un o'r themâu a nodwyd yn yr adroddiad hwn, bydd y pwyllgor yn parhau i fonitro datblygiadau'n agos iawn. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? A hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd y pwyllgor yn parhau i edrych ar ynni niwclear ac economi Cymru yn y dyfodol, ac rydym bellach yn aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU am ddyfodol datblygiadau niwclear yn y DU, ac yn benodol, dyfodol safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i’r Senedd.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8537 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2. Yn mynegi ei phryder bod didueddrwydd gwleidyddol Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cael ei beryglu.

3. Yn nodi:

a) bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau o ddidueddrwydd gwleidyddol; a

b) mai'r person a benodir yw James Goudie KC.

4. Yn nodi nad yw'n credu bod y penodiad yn briodol o ystyried bod James Goudie KC yn gyn-ymgeisydd seneddol Llafur, yn gyn-gadeirydd ar Gymdeithas Cyfreithwyr Llafur, yn gyn-lefarydd Llafur dros Faterion Cyfreithiol yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yn gyn-arweinydd Cyngor Brent dros y Blaid Lafur.

5. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau:

a) bod didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a

b) y gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg.

6. Yn galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddatgelu telerau ymadawiad y cyn Bennaeth Ymchwiliadau, er budd craffu cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar.

A dweud y gwir, mae hon yn ddadl na ddylem orfod ei chael. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i fod yno er mwyn bod yn ganolwr diduedd ac amhleidiol mewn achosion sy'n ymwneud â chynghorwyr etholedig a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Dylai fod ganddynt hyder y bobl, a dylent fod yn gwbl ymroddedig i'r gwirionedd, mewn ffordd drylwyr a diduedd a theg. Yn anffodus, fe wyddom bellach nad yw hyn wedi bod yn wir. Ar ôl datgeliadau fod y pennaeth ymchwiliadau, dros gyfnod hir o amser, wedi gwneud llu o sylwadau gelyniaethus, ymosodol wedi'u cymell yn wleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n amlwg fod gan yr ombwdsmon broblem wirioneddol.

Mae’r sylw yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar y sylwadau gwrth-Geidwadol, gan gynnwys y defnydd o iaith anweddus, ond mae’n werth cofio bod gwleidyddion a phleidiau heblaw'r Ceidwadwyr—ar wahân i Lafur—wedi bod o dan y lach hefyd. Mae cynghorwyr annibynnol, y ceir llawer ohonynt yng Nghymru, hefyd yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg gan yr ombwdsmon. Mae hyn yn cynnwys nifer o aelodau annibynnol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi sôn yn gyhoeddus am eu pryderon, ac mae hyd yn oed wedi arwain at gadeirydd annibynnol pwyllgor safonau Cyngor Sir Fynwy yn ymddiswyddo, gan ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei danseilio. Felly, gyda'r gwir wedi'i ddatgelu am ragfarn y prif ymchwilydd o blaid Llafur, a oes unrhyw syndod fod cynghorwyr nad ydynt yn rhai Llafur yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu?

Cefais fy nghalonogi o glywed y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond pwy a ddewiswyd yn wreiddiol i’w arwain? Dyn a fu'n arweinydd Llafur ar gyngor, yn ymgeisydd seneddol Llafur ac yn gadeirydd y Gymdeithas Cyfreithwyr Llafur. Mae bron yn anghredadwy, ond wedyn fe gofiwch ein bod yng Nghymru o dan arweinyddiaeth Llafur, lle mae'r ymddygiad hwn yn gwbl gyffredin. Rwy’n falch na chafodd yr unigolyn dan sylw aros yn y rôl yn y pen draw, ac rwy’n siŵr y gellir dod o hyd i rywun arall i ymgymryd â’r rôl hon, rhywun nad ydynt, gobeithio, yn gyn-arweinydd cyngor Llafur.

Ond mae'n rhaid i ddau beth ddigwydd er mwyn i’r ombwdsmon adennill ei hygrededd, sydd wedi’i ddinistrio yn sgil y sefyllfa druenus hon. Yn gyntaf, mae'n rhaid i’r ombwdsmon ailagor pob ymchwiliad a gynhaliwyd yn ystod y pum mlynedd y bu’r unigolyn dan sylw yn gweithio i’r ombwdsmon er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau cywir wedi'u gwneud, ac os na chawsant, fod cyfiawnder yn cael ei wneud yn hytrach na beth bynnag sydd o fudd i Blaid Lafur Cymru. Yn ail, rhaid cael ymchwiliad llawn a thrylwyr gan un o bwyllgorau’r Senedd i’r ombwdsmon a’r ffordd y mae’r sefydliad cyfan yn gweithredu o’r brig i lawr. Rhaid inni ddeall manylion ymadawiad y cyn bennaeth ymchwiliadau. Mae angen inni wybod hyd a lled y pydredd. Rhaid i’r Senedd hon, sydd, wedi’r cyfan, yn ganolog i'r broses o benodi’r ombwdsmon, anfon neges glir a chadarn fod rhagfarn o’r math hwn yn gwbl annerbyniol, ac y byddwn, fel Siambr, yn sefyll o blaid tegwch, o blaid didueddrwydd, ac o blaid yr hyn sy'n iawn. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

b) bod yr Ombwdsmon wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau;

c) fel ‘awdurdod rhestredig’ dan oruchwyliaeth yr Ombwdsmon, na fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar yr ymchwiliad; a

d) bod y Senedd yn disgwyl i’r Ombwdsmon adrodd yn ôl i’r Senedd maes o law ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Dwi'n cyfrannu heddiw yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw Cadeiryddion pwyllgorau fel arfer yn cyfrannu at ddadleuon gwrthbleidiau. Fodd bynnag, o ystyried bod y cynnig hwn yn ceisio cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i fynd ati ar fyrder i adolygu gweithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, hoffwn i roi braslun o rôl a chyfrifoldebau'r pwyllgor o ran dwyn yr ombwdsmon i gyfrif. 

Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am oruchwylio gwaith yr ombwdsmon o dan Reol Sefydlog 18A, a bydd y pwyllgor yn cynnal sesiynau craffu blynyddol i ystyried perfformiad yr ombwdsmon, a hefyd yn cymeradwyo cyllideb flynyddol yr ombwdsmon, a cheisiadau am gyllid atodol. Mae union natur gwaith yr ombwdsmon yn golygu bod ei gallu i gynnal ymchwiliadau'n annibynnol i ymyrraeth wleidyddol yn hanfodol. Mae hon yn egwyddor hirsefydlog i ombwdsmyn yn rhyngwladol ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau system ymchwilio effeithiol, ddibynadwy, sy'n cael ei pharchu.

Hoffwn rybuddio Aelodau'r Senedd i fod yn ofalus hefyd wrth ystyried materion gweithredol yn swyddfa'r ombwdsmon. Nid ein rôl ni yw monitro gweithrediad y swyddfa o ddydd i ddydd, ac ni ddylem herio penderfyniad yr ombwdsmon, gan y byddai hynny'n tanseilio uniondeb y swyddfa a'r broses ymchwiliadau. Fodd bynnag, mae'r ombwdsmon yn atebol i'r Senedd yn y pen draw, ac mae'n iawn i ni weithredu pan fo pryderon difrifol yn codi. [Torri ar draws.]

Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am annibyniaeth y rôl, ond dyletswydd pob cynrychiolydd etholedig yn y Senedd hon yw herio'r ombwdsmon pan fyddant yn gwneud penderfyniadau sy'n amlwg yn anghywir, fel yn achos penodi'r CB, a oedd â chysylltiadau gwleidyddol clir, i ymchwilio i bryder am farn wleidyddol unigolyn mewn swydd amhriodol y talwyd amdani o'r pwrs cyhoeddus. Ein dyletswydd ni yw herio'r pethau hynny, yn hytrach na chaniatáu iddynt fynd heb eu herio, sef yr hyn rydych chi'n ei awgrymu.

Pe baech chi wedi gadael imi orffen, byddwn wedi dod at hynny, felly byddwch yn amyneddgar â mi am eiliad. 

Yn yr achos hwn, mae'n amlwg fod cwestiynau i'w hateb, yn enwedig o ran tegwch a didueddrwydd, fel y nodir yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Hoffwn felly roi sicrwydd i'r Aelodau fod yr ombwdsmon wedi siarad â mi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r newyddion dorri am yr aelod staff dan sylw. Rydym hefyd wedi cael gohebiaeth ganddi yn amlinellu digwyddiadau diweddar a'r camau nesaf, sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen we ac sydd wedi'u rhannu â'r Aelodau. Rwyf hefyd eisiau rhoi gwybod i'r Aelodau y bydd y pwyllgor yn trafod y mater hwn yn ein cyfarfod ddydd Mercher nesaf, gan gynnwys penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd. Mae hyn yn dilyn y llwybrau cywir a phriodol yn y Senedd hon pan nodir pryderon ynghylch yr ombwdsmon sy'n galw am ystyriaeth bellach. Diolch yn fawr.

Mae'r ombwdsmon yn darparu gwasanaeth ardderchog i bobl Cymru. Mae'n ymchwilio i bryderon a godir gan unigolion ynghylch y gwasanaeth y maent wedi'i gael gan gyrff cyhoeddus, yn enwedig gan gynghorau a byrddau iechyd. Rwyf i, fel llawer o Aelodau, yn cyfeirio etholwyr at yr ombwdsmon. Arweiniodd canlyniad ymchwiliad ombwdsmon ym mwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg at y newidiadau canlynol: 

'Rydym yn derbyn yr argymhellion a wnaed gan yr Ombwdsmon yn llwyr, a gallwn roi sicrwydd fod nifer o newidiadau pwysig wedi'u rhoi ar waith dros y tair blynedd diwethaf.

'Oherwydd y nifer fach o oedolion sydd â chlefyd cynhenid y galon yng Nghymru, mae'r gwasanaeth llawfeddygol yn parhau i gael ei ddarparu mewn canolfannau arbenigol yn Lloegr, fel yr un ym Mryste.

'Fodd bynnag, mae'r rheolaeth a'r prosesau sy'n cefnogi'r cleifion hyn wedi cael eu gwella'n sylweddol erbyn hyn, ac mae mynediad at brofion cyn-lawfeddygol yng Nghymru wedi gwella'n fawr.'

Llwyddiant i'r ombwdsmon, ac yn bwysicach o lawer, llwyddiant i gleifion yng Nghymru.

Mae'n anodd dod o hyd i niwtraliaeth wleidyddol. Fy syndod mwyaf oedd bod y person dan sylw yn gefnogwr i'r Blaid Lafur yn hytrach na'r nifer fawr o gefnogwyr Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol a oedd yn dal nifer o swyddi. Roedd yr ombwdsmon blaenorol, Nick Bennett, yn gyn-ymgeisydd Rhyddfrydol. Y cwestiwn ehangach yw: a ddylai'r ombwdsmon ymchwilio i gwynion yn erbyn cynghorwyr etholedig? Fy marn i yw nad yw'r gwasanaeth, sy'n wych am fynd i'r afael â chwynion am ddarparu gwasanaethau, yn addas ar gyfer mynd i'r afael â chwynion am wleidyddion. Gan siarad fel rhywun y gwnaed cwyn amdano, nid oedd gan y bobl a gyflawnai'r broses lawer o ddealltwriaeth o natur wleidyddol cynghorau. Fel y gwyddom, cymhellion gwleidyddol sydd i lawer o gwynion, ac mae'r nifer yn cynyddu wrth ichi nesáu at etholiadau lleol, ac yn aml cânt eu gwneud gan bobl sy'n sefyll yn erbyn cynghorwyr cyfredol sydd wedyn yn gwneud cwyn ar ôl cwyn amdanynt er mwyn ceisio taflu llwch i lygaid.

Mae gan y Senedd swyddfa'r comisiynydd safonau i ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau. Rwy'n credu y dylem gael yr un math o swyddfa i fynd i'r afael â chwynion am aelodau cynghorau. Yn yr Alban, os nad ydych chi'n hapus ynghylch ASA, cynghorydd neu aelod o gorff cyhoeddus, gallwch wneud cwyn i'r Comisiynydd Safonau Moesegol. Mae angen i'r Senedd ystyried creu swydd comisiynydd safonau moesegol a fyddai'n mynd i'r afael â chwynion yn erbyn cynghorwyr ac aelodau cyrff cyhoeddus yn unig. Mae'r cwestiwn a fyddai hyn hefyd yn cynnwys ymdrin ag Aelodau o'r Senedd yn fater sy'n werth ei drafod, rwy'n credu.

Ond mae cael grŵp o bobl sy'n dda iawn am wneud un peth, ymchwilio i gwynion yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus—ac rydym i gyd wedi cael canlyniadau da iawn yn ein hetholaethau pan fo'r ombwdsmon wedi ymchwilio i'r rheini—mae ymchwilio wedyn i gamau gan wleidyddion yn sylfaenol anghywir ac nid yw'n gweithio. Mae diffyg dealltwriaeth o ba mor gadarn y gall trafodaethau fod mewn amgylchedd gwleidyddol. Ac rwy'n dal i bryderu am yr hyn a ddigwyddodd yma mewn perthynas â Leanne Wood, a wnaeth sylw rhesymol am y dyn mwyaf annymunol yng Nghymru, mae'n debyg, ac fe gafodd ei cheryddu am hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym rywun sy'n ymchwilio i wleidyddion sy'n deall yr hyn yr awn drwyddo a'r hyn a wnawn. 

17:35

Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn falch bod Sinead Cook, yr uwch ymchwilydd dan sylw, wedi ymddiswyddo, ac nid oes unrhyw amheuaeth nad dyma'r penderfyniad cywir. Rwyf hefyd yn falch fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu yn erbyn penodi'r cyn arweinydd cyngor Llafur, James Goudie CB, i arwain yr adolygiad—dewis a oedd mor amhriodol fel y credaf fod llawer yn tybio mai jôc ydoedd. Ni wnaf dreulio amser yn esbonio pam fod y penodiad yn amhriodol, ond mae'n eithaf amlwg i bawb y byddai'r adolygiad wedi bod yn siarâd llwyr, gyda gwleidyddion Llafur yn marcio eu gwaith cartref eu hunain.

Rwy'n credu bod pob un ohonom wedi ein syfrdanu gan yr apwyntiadau gwarthus hyn, ond hoffwn wybod gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus a oedd hwn yn gyd-ddigwyddiad neu'n fwriadol. Ac os oedd yn fwriadol, a oeddent yn meddwl o ddifrif na fyddai neb yn sylwi? Yn bwysicaf oll, nid sgandal tân siafins mo hon. Mae hyn wedi erydu'r ymddiriedaeth yn yr hyn sydd i fod yn gorff gwarchod annibynnol. Rwyf wedi cyfeirio etholwyr at yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer unioni camweddau, felly sut mae disgwyl i fy etholwyr deimlo'n hyderus y bydd eu cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif pe baent yn cael eu cynrychioli a'u cyfeirio gan wleidydd Ceidwadol, er enghraifft?

Nid yw rhagfarn adain chwith ddiwylliannol ac ideolegol yn ein sefydliadau yn newydd. Mae wedi bod yn nodwedd o sefydliadau cyhoeddus Prydain ers y 1970au o leiaf. Mae yna gyfoeth o dystiolaeth am hyn ar draws y byd academaidd, y BBC a'r gwasanaeth sifil, fel cwrs gwrthderfysgaeth rhagfarnllyd Coleg y Brenin ar gyfer gweision sifil, a gondemniwyd yn gynharach eleni. Ond mae rhagfarn wleidyddol bleidiol mor amlwg â hyn yn brin, ac mae'n peri pryder, ac nid oes angen imi ddweud bod hyn ymhell islaw'r safonau a ddisgwylir gan gorff fel yr ombwdsmon. Mae'n dibrisio ac yn diraddio'r gwaith pwysig y cânt eu penodi i'w wneud.

Dylai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gynrychioli pawb yng Nghymru, ond ar wahân i ragfarn, roedd yr iaith ddeifiol a sarhaus a ddefnyddiwyd yn peri pryder mawr, gyda phennaeth ymchwiliadau'r corff gwarchod yn defnyddio iaith ragfarnllyd wedi'i hanelu at Aelod Seneddol cyfredol. Mae eu swydd uwch a'r ymgais i wyngalchu'r ymchwiliad yn gwneud i rywun gwestiynu pa mor ddwfn yw'r pydredd yn y corff hwn. Pa fath o ddiwylliant sy'n bodoli yn swyddfa'r ombwdsmon os mai dyma'r agweddau sy'n bodoli yn haenau uchaf y corff, os mai dyma'r iaith a ddefnyddir gan uwch swyddogion?

Mae didueddrwydd yn bwysig i uwch swyddogion mewn unrhyw swydd yn y gwasanaeth sifil, ond mae'n hollbwysig mewn corff fel swyddfa'r ombwdsmon, sydd i fod i ymchwilio i gamweinyddu. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi chwalu, a'r unig ffordd y gellir ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno yw drwy ddiddymu'r corff gwarchod a rhoi corff newydd yn ei le sy'n rhoi mesurau diogelu ar waith i atal hyn rhag digwydd eto. Diolch.

17:40

Rydym yn cefnogi'r cynnig hwn, ac roeddwn yn cytuno â chi am ran o'r ffordd, ond fe wneuthum eich colli chi wedyn yn yr ail ran, mae'n rhaid i mi ddweud, oherwydd—. Rwyf am ddweud 'diolch' am gyflwyno'r cynnig hwn. Mewn oes pan geir llai a llai o ymddiriedaeth yn y mathau hyn o sefydliadau, rwy'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal y safonau uchaf posibl, yn enwedig yn y cyrff hynny sydd i fod i graffu ar ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus. Ni fu erioed yn bwysicach. Ac mae hynny'n cynnwys ymlyniad llym gan gyrff o'r fath wrth egwyddor didueddrwydd gwleidyddol, ac yn hynny o beth mae datguddiadau diweddar yn ymwneud â swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi bod yn destun gofid mawr ac yn niweidiol iawn.

Rwy'n croesawu'r ffaith, serch hynny, fod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi ymrwymo ar unwaith i ymchwiliad annibynnol i'r honiadau, ac er bod cwestiynau teg iawn wedi codi ynghylch addasrwydd eu hymgeisydd dewisol i arwain yr ymchwiliad hwnnw, mae'n dda gweld bod yr ombwdsmon bellach wedi ymateb i'r pryderon hynny. Fe'i gwnaeth yn glir, ac fe'i clywais hi'n dweud hyn ar y radio, nad oedd hi'n ymwybodol o raddau cysylltiadau Mr Goudie â'r Blaid Lafur cyn iddo gael ei benodi'n bennaeth ar yr ymchwiliad hwnnw, a phan ddaeth y rheini'n amlwg rwy'n credu ei bod hi'n iawn inni gydnabod bod y penderfyniad cywir wedi'i wneud. Dylid bod wedi sicrhau mwy o ddiwydrwydd—rwy'n derbyn hynny—ond pan ddaeth i'r amlwg, fe weithredodd, a dylem o leiaf gydnabod hynny.

Nawr, yn fwy cyffredinol, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog egluro yn ei hymateb a fyddai telerau ymadawiad y pennaeth ymchwiliadau blaenorol wedi cael eu cynnwys yng nghanllawiau'r DU ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus. Byddai'n dda clywed a yw hynny'n wir neu beidio. Rydym ni yma hefyd yn credu ei bod yn briodol, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn y cynnig mewn gwirionedd, fod y Pwyllgor Cyllid yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o weithrediadau'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus er mwyn adfer hyder y cyhoedd yn y corff, ac rwy'n deall, o glywed yr hyn a ddywedodd y Cadeirydd, fod hynny'n rhywbeth y byddant yn ei ystyried yn eu cyfarfod nesaf.

Ond yn wahanol i ymyriadau nodweddiadol o annefnyddiol Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y mater hwn, sydd wedi galw am ddisodli'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus—ac rydym wedi clywed hynny eto gan yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd—nid wyf yn credu mai'r ffordd orau o weithredu yw rhuthro a chael gwared ar y da a'r drwg fel ei gilydd. Yn wir, hoffwn dalu teyrnged, a gadewch inni oedi yma am funud. Hoffwn dalu teyrnged i'r staff gweithgar, y tîm staff ehangach yn swyddfa'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi cael eu llusgo drwy'r digwyddiad anffodus hwn heb fod unrhyw fai arnynt hwy, ac mae'n hanfodol nad ydym yn caniatáu i'r mater hwn ddifetha enw da'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr—enw da sydd wedi'i ddatblygu dros bron i 20 mlynedd. Y ffordd orau o wasanaethu'r cyhoedd yng Nghymru yw craffu ar y gwasanaeth a mynd ati i'w wella'n ofalus a phwyllog, yn hytrach na'r polisi tir llosg hwn a glywn oddi ar feinciau'r Torïaid, ac yn enwedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Ni fyddwn yn anghytuno â chi ynglŷn â gwaith caled swyddfa'r ombwdsmon, yn enwedig—

Wel, gadewch inni ei glywed. Nid oes neb wedi'i ddweud eto.

Wel, rwy'n ei ddweud nawr. O ran eu cefnogaeth gydag achosion unigol, y bu'n rhaid i bob un ohonom yn y Siambr hon ymgysylltu â hwy yn eu cylch, ac wrth gwrs mae wedi bod yn braf gweld pa mor gyflym y rhoddwyd camau ar waith. Yn amlwg, mae problemau gyda pholisïau cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen y mae angen mynd i'r afael â hwy, ac yn amlwg mae problem wedi bod gyda diwydrwydd dyladwy yn achos penodiad Mr Goudie CB. Serch hynny, rwy'n synnu'n fawr na wnaeth James Goudie ei hun ddatgelu'r pethau hynny, ac rwy'n credu y dylai fod dyletswydd arno ef, neu unrhyw un arall a benodir i gynnal ymchwiliadau o'r fath. A fyddech chi'n cytuno â mi ar y pwynt hwnnw?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddwn; rwy'n credu bod hwnnw'n sylw teg. Ond mae'n debyg y byddai'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn dweud ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi a'i bod wedi gwneud yr hyn y teimlai fod yn rhaid iddi ei wneud, ond mae cwestiwn ehangach yn codi am ddiwydrwydd ac ati, fel y nodais yn gynharach.

Rwy'n gwybod bod fy amser wedi dirwyn i ben, Lywydd. Roeddwn am fynegi fy siom nad yw'r Ceidwadwyr wedi dangos y math hwn o graffu a gofid am rai o weithredoedd eu Llywodraeth eu hunain yn San Steffan o ran penodi cadeiryddion y BBC a drefnodd fenthyciadau i gyn Brif Weinidogion ac ati, ond dyna ni, rydym yn gwybod hynny nawr, onid ydym? Dyna'r drefn, onid e?

17:45

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr, dros ddiwylliant a chyfiawnder cymdeithasol, i gyfrannu. Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn un o'r cyrff yng Nghymru sy'n rhan o gylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nid oes gennym unrhyw rôl o ran eu penodi, cyllido eu swyddfa nac unrhyw oruchwyliaeth ar eu gweithrediadau na'u cyllid. Ni fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar unrhyw un o'r materion hynny. Felly, y cwestiwn penodol a ofynnodd Llyr Huws Gruffydd i mi: nid ydym yn goruchwylio'r ombwdsmon, nid oedd gennym lais nac unrhyw ymwneud â thelerau ymadael yr aelod o staff, ac efallai ei fod yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Cyllid ei archwilio yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r ombwdsmon yn chwarae rhan allweddol wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn cynghorwyr o dan eu cod ymddygiad moesegol. Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r swyddogaeth hon ac yn ei gosod ar yr ombwdsmon. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod y swyddogaeth yn cael ei chyflawni i safon uchel a'i bod yn rhydd o ragfarn wleidyddol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith yr ombwdsmon yn gadarn fel ymchwilydd annibynnol i gwynion lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym ein polisi cwynion ein hunain, sydd wedi'i wella gan yr ombwdsmon, ac os yw achwynwyr yn dal i fod yn anfodlon ar ôl mynd drwy'r broses, ac yn cyfeirio eu hachos at yr ombwdsmon, rydym yn gweithio'n agored ac yn adeiladol gyda'r ombwdsmon i geisio datrys pethau. Dyna'n union fel y dylai fod.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn credu'n gryf ei bod hi'n bwysig fod gweision cyhoeddus yng Nghymru, boed yn swyddogion neu'n weision sifil, yn ymddwyn yn gwbl ddiduedd yn wleidyddol yn eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwneud unrhyw beth yn eu bywydau y tu allan i'r gwaith a allai beri i rywun gwestiynu'r didueddrwydd hwnnw. Felly, rydym yn rhannu'r pryder sydd wedi'i fynegi ynghylch digwyddiadau diweddar. Ni fyddem yn ceisio cynghori'r ombwdsmon sut y dylai ymateb i'r digwyddiadau hynny.

Er bod datblygiadau pellach wedi bod ers y cynnig gwreiddiol wrth gwrs, ac ers i'r Llywodraeth gyflwyno gwelliant, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yr un fath. Fodd bynnag, byddem eisiau sicrwydd fod yr ombwdsmon wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater a'i bod wedi gosod camau priodol i atal hyn rhag digwydd eto.

Credwn hefyd ei bod yn bwysig i'r ombwdsmon adrodd yn ôl i'r Senedd, drwy'r Pwyllgor Cyllid, ar y camau a gymerwyd a'r canlyniad. Bydd hyn wedyn yn galluogi'r Pwyllgor Cyllid, ar ran y Senedd gyfan, i fod yn fodlon â chanlyniadau eu camau gweithredu. Mae ein gwelliant i'r cynnig wedi'i lunio i gyflawni'r amcan hwn. Diolch.

Nid wyf yn gallu ysgrifennu mor gyflym â hynny, Lywydd. Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein dadl heddiw.

Mewn swydd gyhoeddus, mae'n hanfodol fod pob swyddog cyhoeddus yn cael eu mesur yn ôl y safonau uchaf posibl. Rhaid i'r cyhoedd fod yn sicr, pan fo cwynion yn cael eu gwneud am bobl, y cânt eu harchwilio'n ddiduedd, ac mae'n anffodus ein bod mewn sefyllfa lle rydym wedi gorfod cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd bod y safonau yn swyddfa'r ombwdsmon wedi syrthio'n fyr iawn o'r safonau rydym ni'n eu disgwyl ac y mae'r cyhoedd yn ehangach hefyd yn eu disgwyl.

Agorodd Sam Rowlands y ddadl gan dynnu sylw at y safbwyntiau rhagfarnllyd a'r iaith anweddus a fynegwyd gan un ymchwilydd yn swyddfa'r ombwdsmon, a bod rhai pobl ar draws Cymru yn teimlo bod eu hachosion heb gael eu hystyried yn deg a'u bod wedi cael eu cam-drin, a bod pobl wedi gorfod ymddiswyddo oherwydd y gamdriniaeth honno. Tynnodd Sam sylw hefyd at yr adolygiad sy'n digwydd a bod y CB a benodwyd i arwain yr adolygiad hwnnw hefyd yn arweinydd cyngor Llafur, a hefyd yn eithaf amlwg yn y mudiad Llafur, ac rwy'n falch fod yr ombwdsmon wedi gweithredu i gael gwared ar yr unigolyn dan sylw.

Tynnodd Peredur Owen Griffiths ein sylw at y gwaith y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud yn craffu ar waith yr ombwdsmon, a nododd mai eu rôl yw craffu arnynt, ond nid ar eu penderfyniadau gweithredol. Ond fe ymyrrodd Darren Millar i herio hynny, ond fe wnaeth Llyr Gruffydd hefyd egluro hynny wrth inni fynd yn ein blaenau.

Mae Mike Hedges yn credu bod yr ombwdsmon yn beth da, ac nid wyf yn anghytuno—mae llawer o bobl yn meddwl bod yr ombwdsmon yn beth da—ond rwy'n credu eich bod chi wedi methu pwynt y ddadl hon braidd, sy'n ymwneud â didueddrwydd yr ombwdsmon. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch am gorff annibynnol i edrych ar ffigurau gwleidyddol a chynghorwyr ac Aelodau'r Senedd yn rhywbeth sy'n werth ymchwilio iddo ac edrych arno yn y dyfodol efallai.

Llyr Gruffydd, hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad meddylgar, gan dynnu sylw at ddidueddrwydd gwleidyddol unwaith eto. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith bod yr ombwdsmon yn ymwybodol o'r problemau hyn, a'i bod wedi gweithredu pan oedd yn rhaid iddi wneud hynny, yn enwedig pan benodwyd y CB hefyd, pan oedd yr ombwdsmon yn ymwybodol o bopeth a oedd yn digwydd, a'i bod wedi cymryd camau i gael gwared ar yr unigolyn ac wedi penodi rhywun nawr a fydd yn ddiduedd ac na fydd yn dangos unrhyw ragfarn wleidyddol o gwbl. Ond fe wnaethoch chi hefyd dynnu sylw at y staff sy'n gweithio yn swyddfa'r ombwdsmon, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i bob un ohonom ei gydnabod. Mae llawer o bobl weithgar yn gweithio yn y swyddfeydd hyn i wneud gwaith gwych ar ran pobl Cymru, ac nid yw'r ffaith bod un wy clwc yn y grŵp yn golygu y dylai pawb arall gael eu paentio â'r un brwsh.

Tynnodd Gareth Davies sylw at ddidueddrwydd y swyddfa hefyd, a thuedd wleidyddol ar draws y gymdeithas. Cododd y Gweinidog ac mae'n debyg ei fod wedi ailddatgan llawer o bethau sydd yn ein cynnig ni beth bynnag, ynglŷn â sut rydych chi'n siarad â'r ombwdsmon yn rheolaidd am eu didueddrwydd a sut mae wedi gwella prosesau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chwynion mewn gwirionedd. Hefyd roedd hi'n braf clywed y bydd y Llywodraeth yn gofyn i'r ombwdsmon ddod yn ôl i'r Senedd i adrodd ar yr hyn a ganfuwyd a sut y gallant wella eu prosesau.

Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n credu ei bod yn dda fod y pethau hyn yn cael sylw ar lawr y Senedd. Mae angen inni sicrhau bod ein sefydliadau yma i ddiogelu pobl a diogelu cynghorwyr a diogelu Aelodau'r Senedd yn rhydd o ragfarn, fel bod unrhyw un sy'n gwneud cwyn yn teimlo y gallant wneud hynny heb unrhyw ofid na fydd pethau'n cael eu gwneud yn llwyddiannus. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae rhai cyfranwyr wedi'i ddweud yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y pwynt hwn yn ei sylwadau clo: credaf ei bod yn bwysig ein bod yn taflu goleuni ar y materion hyn ac yn tynnu ychydig o'r gwres allan ohonynt hefyd mewn gwirionedd, oherwydd dyna rydym yma i'w wneud; gwella'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli yma ledled Cymru.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf fydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, a dwi'n galw ar Natasha Asghar i wneud y cynnig. Natasha Asghar.

Cynnig NDM8538 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben.

2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd;

b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru; ac

c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw, sy'n ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am fethiannau'r gorffennol yn y sector trafnidiaeth, ac yn adolygu meysydd polisi er mwyn rhoi hwb mawr ei angen i'n seilwaith a'n heconomi.

Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei rôl newydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi mewn modd cynhyrchiol i wella trafnidiaeth ledled Cymru wrth symud ymlaen. Yn anffodus, rwy'n credu eich bod wedi etifeddu sefyllfa druenus iawn o ran trafnidiaeth yma yng Nghymru. Rwyf mewn cysylltiad cyson â phobl ledled ein gwlad nad ydynt, yn anffodus, yn gallu dod i arfer â'r polisïau hyn, fel y mae llawer o Weinidogion wedi'i honni yn y gorffennol yn wir, ac maent yn dal i fod mor ddigalon ag erioed, os nad yn fwy digalon nag o'r blaen, o ystyried cryfder y farn gyhoeddus sydd wedi cael ei hanwybyddu a'i hysgubo o dan y mat dro ar ôl tro.

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr fy mod, ar y nodyn hwn, am ddechrau gyda'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod gadarnhaol clywed eich blaenoriaeth ar gyfer y polisi 20 mya, sef y byddwch yn gwrando. Roeddwn hefyd yn falch o glywed eich bod wedi estyn allan at brif brotestwyr y grwpiau 20 mya i drefnu cyfarfod, ac mae'n braf clywed am y weithred gadarnhaol hon a fydd yn digwydd—nid dim ond geiriau—o'r dechrau un, a'r parodrwydd a ddangoswyd gennych i gael y sgyrsiau agored a mawr eu hangen hynny.

Fel y gwyddoch, mae'r polisi hwn wedi bod yn hynod amhoblogaidd ledled Cymru, yn enwedig wrth ystyried y ddeiseb fwy nag erioed i'w ddiddymu, sydd wedi cyrraedd ychydig o dan 0.5 miliwn o lofnodion. Rwyf wedi gweld ambell Aelod yn y Siambr hon yn rholio eu llygaid, ond mae'r ffaith bod bron i 0.5 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn y polisi hwn pan fo poblogaeth Cymru ychydig dros 3 miliwn yn nifer anferthol, ac ni ellir ei anwybyddu.

Daw hyn â mi at fy ail bwynt: hyd y gwelaf, nid oes unrhyw dystiolaeth yn unrhyw le yn y byd fod terfyn 20 mya ar ei ben ei hun yn lleihau anafiadau neu wrthdrawiadau ar y ffordd. Pan fo gostyngiadau yn y terfyn cyflymder, fel parthau 20 mya, mae ffactorau eraill a allai ac a fyddai'n gyfrifol am liniaru effeithiau lleihau anafiadau mewn gwrthdrawiadau. Rhaid inni ystyried hefyd mai'r trothwy ar gyfer parthau 20 mya yng Nghymru yw 10 y cant a 4 mya, ac felly, nid yw ond 4 mya yn is na'r terfyn diofyn gwreiddiol o 30 mya. Golyga hyn fod llawer o effeithiau cadarnhaol gyrru ar gyflymder o 10 mya yn is wedi cael eu lleihau gan y dryswch a'r hyblygrwydd cynyddol ynghylch y 4 mya ychwanegol. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon yn y gorffennol, mae llawer gwell ffyrdd o addysgu a gwella diogelwch ar y ffyrdd na gwario £33 miliwn o arian trethdalwyr ar newid posibl o 4 mya, ac ar adegau, nid yw'n hynny hyd yn oed.

Rwyf hefyd wedi clywed gan etholwyr dirifedi fod y newid yn y terfynau cyflymder wedi achosi i bobl yrru'n fwyfwy peryglus, gyda chynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n brecio'n sydyn ac yn gyrru trwyn wrth gwt, ac mae'n ymddangos bod y niferoedd yn cynyddu fwyfwy. Rhaid inni hefyd fynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol y terfynau diofyn o 20mya, gyda cherddwyr a beicwyr yn teimlo'n fwy diogel ac yn cymryd llai o ofal wrth groesi ffyrdd oherwydd hyn. Yn wir, mae mwy a mwy o achosion o rwystredigaeth a gyrru peryglus, goddiweddyd a llawer o yrwyr yn talu mwy o sylw i'w cloc cyflymder yn lle'r ffordd o'u blaenau.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rhaid imi roi sylw i'r ffigur o £92 miliwn, a ddyfynnwyd gan Lywodraeth Cymru fel y swm a fyddai'n cael ei arbed gan y GIG o ganlyniad i'r polisi hwn. Yn anffodus, prin iawn yw'r dystiolaeth sydd gennym o ran sut y cyfrifwyd y ffigur hwn mewn gwirionedd a sut y cafodd ei ryddhau i mi, ac i'r cyhoedd yn wir. Mae hwn yn gysyniad anhygoel o anodd i'w fesur, ac rydym yn annhebygol o wybod beth yn benodol a achosodd y ddamwain na beth oedd y cyflymder teithio o'i gymharu ag effaith cyflymder, er enghraifft. Hefyd, mae'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd mewn perthynas â'r ffigur hwn yn amwys iawn. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad manwl o sut y cyfrifwyd y ffigur hwn, mewn ymgais i fod yn fwy tryloyw ac agored, nid yn unig gyda mi, ond gyda'r cyhoedd hefyd? Byddwn yn sicr yn cytuno bod angen inni atgyfnerthu addysg i gerddwyr a gyrwyr mewn perthynas â diogelwch a rheolaeth ar y ffyrdd. Nid yw gyrru'n araf yn gyfystyr â rheolaeth, ac rydym i gyd yn gwybod bod gan amseroedd ymateb ac ymwybyddiaeth ran enfawr i'w chwarae hefyd.

Daw hyn â mi'n dwt at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar brosiectau adeiladu ffyrdd mawr. Rydym i gyd yn gwybod bod buddsoddi mewn seilwaith yn arwain at dwf economaidd, ffyniant a chysylltedd, pethau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Rydym hefyd yn gwybod, wrth atal pob prosiect adeiladu ffyrdd mawr ledled Cymru, fod y gwrthwyneb yn llwyr wedi bod yn digwydd dros y tair blynedd diwethaf. Mae hyn yn ddigon drwg wrth nodi cyflwr ein ffyrdd a'r tagfeydd ar draws de Cymru, heb sôn am nodi'r cyflwr yn y gogledd.

Fel Aelod dros dde-ddwyrain Cymru, rwy'n synnu'n fawr fy mod am ddweud hyn, ond rwy'n teimlo'n ffodus dros fy rhanbarth i raddau, ein bod yn derbyn cyfran fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith trafnidiaeth. Fodd bynnag, ni allaf help ond teimlo bod hyn yn annheg. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn hanu o ogledd Cymru ac wedi awgrymu y byddech yn ystyried adeiladu ffyrdd newydd, felly hoffwn ofyn i chi heddiw o flaen pawb: a oes gennych unrhyw brosiectau penodol mewn golwg? Ac os felly, a oes gennych chi unrhyw amserlenni penodol ar gyfer y prosiectau rydych wedi siarad amdanynt yn y gorffennol? Mae gwir angen inni fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd a gweld rhywfaint o arwyddion y gwelir ailgyflwyno'r gwelliannau a'r prosiectau hyn er mwyn ein cysylltedd a'n twf, ac mewn llawer o achosion er mwyn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd hefyd.

Mae ein cynnig yma heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein bysiau a'n trenau i wneud y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hyn yn fwy cystadleuol na theithio mewn car. Yn ddiweddar, ymwelais â Japan a synnais glywed mai un funud yn hwyr ar gyfartaledd yw eu trenau'n flynyddol, dim ond un funud y trên, tra bo Trafnidiaeth Cymru, ar y llaw arall, wedi cael miliwn o funudau hwyr y llynedd yn unig. Dengys hyn yr angen dybryd am y buddsoddiad a'r arweiniad cywir i wella gwasanaethau er mwyn ein cymudwyr. Er y byddem i gyd wrth ein boddau yn gweld cynnydd mewn teithio llesol, nid yw beicio a cherdded bob amser yn ymarferol i bob un person yng Nghymru, ac mae angen inni gael dewis arall ymarferol yn lle defnyddio ein ceir bob dydd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig heddiw er budd pawb yng Nghymru, sy'n haeddu gwasanaeth gwell a mwy o ddealltwriaeth am realiti cymudo na'r hyn y maent wedi bod yn ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Delyth Jewell nawr i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben;

b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru;

c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn Cymru; a

d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr;

b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023;

c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o’r cyfle i drafod y pynciau pwysig hyn. Rwy’n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl a dwi yn symud ein gwelliant.

Mae angen newid mawr yma. Dydyn ni ddim lle rŷn ni angen bod pan fo hi’n dod i drafnidiaeth. A’r rhai sy’n talu’r pris ydy teithwyr, wrth gwrs, heddiw ac yfory. Mae trafnidiaeth yn rhy aml yn rhy gostus ac yn anodd ei defnyddio. Yn 2022, ffeindiodd Sustrans fod 40 i 50 y cant o deuluoedd yn gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar redeg car. Rŷn ni angen gweld llai o bobl yn defnyddio ceir, ond mae diffyg buddsoddiad digonol wedi golygu bod niferoedd mawr yn ddibynnol ar geir achos does dim dewisiadau amgen ganddynt.

Mae prisiau tocynnau bws wedi cynyddu ar yr un adeg â phan fo gwasanaethau’n cael eu torri. Mae cymunedau’n cael eu hynysu. Ac mae tanwariant yn ein diwydiant bysys yn peri risg sylweddol i ardaloedd gwledig a’r Cymoedd. Dydy hanner ein gorsafoedd ddim yn hygyrch ar gyfer pobl anabl. Dydy’n gorsafoedd a’u cyrraedd nhw ddim wastad yn saff ar gyfer unrhyw un sy’n cael ei wneud yn fregus gan y ffordd mae ein cymdeithas yn cael ei gynllunio.

A lle mae'r rheilffyrdd yn dechrau ac yn gorffen, lle mae'r ffyrdd yn mynd, mae hynny'n bwysig. Mae'r diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn drosiad llwm o'r modd y mae San Steffan yn llesteirio ein cynnydd, oherwydd ni all fod llawer o wledydd eraill yn y byd lle mae teithio o un pen o'r wlad i'r llall yn golygu gorfod mynd i'r cyfeiriad arall yn gyntaf drwy wlad wahanol. Ond dyna sy'n digwydd pan fo penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth yn cael eu gwneud gan bobl y tu allan i Gymru. Ni fyddwn byth yn flaenoriaeth i San Steffan, dim ond lle i deithio drwyddo ar y ffordd i gyrchfan arall, neu'n wir, ar y ffordd i rym.

18:00

Mae trafnidiaeth wedi’i ddatganoli ers amser maith. Anghofiwch am drafnidiaeth rheilffyrdd am eiliad, beth am ffyrdd? Beth am ffyrdd? Pam nad oes gennym ffordd well yn cysylltu gogledd a de Cymru? Mae ein ffyrdd yn wirioneddol erchyll, a bu eich cyn arweinydd, Ieuan Wyn Jones, yn gyfrifol am drafnidiaeth am bum mlynedd lawn, fel Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn y lle hwn, ac ni wnaeth unrhyw gynnydd o gwbl o ran mynd i’r afael â’r broblem honno. Beth sydd gennych i'w ddweud am hynny?

Diolch, Darren. Mae digonedd o ffyrdd, fel y dywedais, lle nad ydym yn y sefyllfa y mae angen inni fod ynddi, ac mae hynny'n fethiant ar ran Llywodraethau olynol i wneud digon ar y polisi hwn. Ond ar ffyrdd, os edrychwn ar ble mae’r ffyrdd mawr hynny’n mynd yng Nghymru, maent yn mynd drwy Gymru; nid ydynt ar gyfer pobl Cymru, eu pwrpas yw gwneud teithiau'n haws rhwng dau ben y—[Torri ar draws.] Ond os edrychwn ar y prif rydwelïau hynny, mae hwn yn rheswm hanesyddol sy'n mynd yn ôl at ble mae’r teithiau hynny bob amser wedi dechrau, ac ni chredaf—. Ac rwy'n gresynu at yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag 'Anghofiwch am y rheilffyrdd am eiliad'. Dof at yr union bwynt hwnnw. Dim ond pan fydd yr holl benderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru y bydd hyn oll yn newid. A Darren, ar y pwynt hwn, rydym wedi cael ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd drwy orfod talu am HS2 pan nad oes milltir o drac yn croesi ein ffin genedlaethol. Rydym wedi talu tuag at wneud ein hunain yn dlotach, ac nid yw Sunak na Starmer yn gweld yr angen i unioni hynny. Bydd San Steffan, Darren, bob amser yn blaenoriaethu San Steffan, byth Cymru.

Nawr, byddwn wedi disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud yn wahanol. Mae ein gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i ailystyried ei phenderfyniad i beidio â herio dynodiad HS2 yn gyfreithiol, i beidio â mynd ar drywydd achos yn y llysoedd. Nawr, deallaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrth Rhun ap Iorwerth na fydd hyn yn digwydd. Ni all hyn fod yn ddiwedd ar y mater. Byddai’r biliynau hynny’n cyfrannu at adfywio ein seilwaith trafnidiaeth, gan adeiladu’r cysylltiadau y mae Darren a minnau newydd fod yn sôn amdanynt yn ein gwlad ein hunain. Mae’n rhaid ailystyried hynny. Os ydym am gyrraedd lle mae angen inni fod fel cenedl, mae'n rhaid inni fynnu’r hyn sy’n ddyledus i ni, gyda’r biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i ni gan San Steffan. Diolch.

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth nawr i gynnig yn ffurfiol welliant 2.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.

2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:

a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a

b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.

3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n cynnig, yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Fel y trafodwyd gennym yn gynharach yn ein sesiynau cwestiynau, mae newid hinsawdd yn golygu bod angen newid sylweddol i’n system drafnidiaeth yma yng Nghymru, ac yn enwedig, mae arnom angen newid dulliau teithio o ddefnyddio ffyrdd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac mae hynny’n allweddol, yn yr argyfwng hinsawdd, wrth lywio polisi trafnidiaeth yma yng Nghymru.

Yn ne-ddwyrain Cymru, Lywydd, rydym wedi cael comisiwn Burns a bellach mae gennym yr uned gyflawni, ac mae honno'n nodi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd yn y de-ddwyrain a gwaith cysylltiedig i gefnogi hynny. A byddai hynny, felly, yn gwneud cyfraniad mawr o ran lleihau traffig ar yr M4, gan leddfu’r tagfeydd a’r problemau cysylltiedig. Ond mae angen buddsoddiad mawr er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs. Nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mae angen i’r arian hwnnw ddod gan Lywodraeth y DU. Felly, pan glywn Natasha Asghar, fel y clywsom yn gynharach, yn sôn am broblemau gyda'n gwasanaeth rheilffyrdd a'r buddsoddiad sydd ei angen, mae gwir angen y buddsoddiad hwnnw arnom gan Lywodraeth y DU, gan mai nhw sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac rydym wedi cael cyfran bitw o'r buddsoddiad hwnnw o gymharu â gweddill y DU. Felly, pan gawn Lywodraeth Lafur yn y DU cyn bo hir iawn, rwy'n mawr obeithio y gwelwn y buddsoddiad hwnnw ac y gallwn wneud y math o gynnydd y bydd angen inni ei wneud ar ôl yr holl flynyddoedd hyn o ddiffyg buddsoddi gan y Torïaid ar lefel y DU.

Ac ar deithio llesol, Lywydd, credaf fod angen mwy o gysondeb ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru yn mynd ati o ddifrif i'n helpu i gyflawni'r newid i deithio llesol. Rwy’n falch o ddweud, yng Nghasnewydd, fod gennym sefydliad o’r enw Momentwm, sy’n darparu hyfforddiant beicio ac sy’n helpu’r ymdrech i gael pobl i feicio, ac yn wir, i gerdded gyda’r llwybrau newydd sydd ar gael. Un enghraifft o’r gwahaniaeth y gall ei wneud yw bod angen llwybr beicio newydd arnom sy’n cysylltu datblygiad tai Glan Llyn â’r parc manwerthu cyfagos. Ar hyn o bryd, mae tagfeydd sylweddol ar y ffyrdd yn yr ardal honno, a gwn fod llawer o bobl a fyddai’n defnyddio cyswllt teithio llesol i feicio a cherdded i’r siopau yn teimlo ar hyn o bryd nad oes dewis ganddynt ond defnyddio eu ceir.

Yn olaf, ar y terfyn 20 mya, ni allaf gredu pa mor negyddol oedd Natasha Asghar. Ymddengys nad yw'n mynd i achub bywydau, nid yw'n mynd i atal anafiadau. Mae'n ymagwedd mor negyddol. Mae’r bobl rwy'n siarad â nhw yn cydnabod gwerth terfynau 20 mya, ond maent am ei weld ar y ffyrdd cywir a’r ffyrdd priodol, a dyna fydd yr adolygiad yn ei gyflawni. Mae ar bobl ei eisiau. Maent am ei weld yn y lle iawn.

18:05

Mae cysylltedd ledled Cymru yn hanfodol. Mae’n hanfodol er mwyn caniatáu i’n busnesau a’n teuluoedd symud o gwmpas. Mae trigolion sy’n byw yn ne sir Fynwy wedi teimlo effaith tagfeydd cynyddol o ganlyniad uniongyrchol i fethiant Llafur i ddarparu seilwaith digonol, neu i wella’r hyn sydd eisoes yn ei le. Gwaethygir hyn gan y terfynau 20 mya niweidiol yn economaidd ar ffyrdd lle nad oes eu hangen. Bob dydd yng Nghas-gwent, er enghraifft, daw'r tagfeydd â'r traffig i stop yn gyfan gwbl, yn bennaf am mai dyna’r porth i mewn i Gymru a dyma’r pwynt mynediad i’r M4 ac oddi arni, gyda miloedd o geir y dydd yn defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd i ddod o swydd Gaerloyw, drwy Gas-gwent, ar yr A48, sydd wedi'i gostwng i 20 mya. Mae hon yn enghraifft glir o ddiffyg rhagwelediad llwyr a diffyg gweithredu Llafur, ac mae wedi golygu bod y dref yn gorfod ymdopi â thagfeydd difrifol ac wedi ei llygru'n ddifrifol o ganlyniad. Diolch i'w penderfyniad i rewi adeiladu ffyrdd a'u meddylfryd negyddol am y seilwaith trafnidiaeth, mae unrhyw obaith am ffordd osgoi i Gas-gwent wedi'i ohirio'n ddifrifol. Mae taer angen ffordd osgoi ar y dref, ac mae’n rhaid i hynny ddigwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU i wneud i hynny ddigwydd. Mae tagfeydd traffig sy'n ymestyn hanner ffordd dros hen bont Hafren yn ddigwyddiad dyddiol. Mae'n giw sydd bron yn ddwy filltir o hyd, a chefais fy nal ynddo ddwywaith yr wythnos diwethaf. Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo mewn cyfarfodydd cyhoeddus y byddai'n rhoi mesurau traffig lleol ar waith ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i liniaru tagfeydd, ond haws dweud na gwneud, ac nid ydym yn gweld unrhyw beth yn digwydd.

Lywydd, defnyddiais Gas-gwent fel enghraifft ar gyfer y ddadl hon fel tref sy’n ysu am seilwaith, ond un sy’n cael ei hanwybyddu gan y Llywodraeth Lafur hon, fel llawer o gymunedau eraill ledled Cymru. Mae awydd y Llywodraeth i'n tynnu allan o’n ceir, ar ein beiciau, neu i ddefnyddio ein trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig iawn yn freuddwyd ofer sy’n anwybyddu realiti bywyd bob dydd a masnach. Mae gan y Prif Weinidog newydd ac Ysgrifennydd y Cabinet gyfle i newid pethau. Mae angen inni weld y cynlluniau ffyrdd a ganslwyd yn ôl ar y bwrdd er mwyn hybu’r economi a lleddfu'r tagfeydd ar ein ffyrdd. Ac yn sicr, mae'r wlad angen i Lafur newid i ddull gweithredu wedi'i dargedu mewn perthynas â therfynau 20 mya, a chael gwared ar y polisi difeddwl sydd ganddynt ar hyn o bryd. Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig.

Mae angen inni flaenoriaethu buddsoddiad i gynnal ein seilwaith priffyrdd presennol. Mae wedi dirywio'n gyflym wrth i gyllidebau grebachu fwyfwy dros y 14 mlynedd diwethaf, a'i waethygu ymhellach gan lifogydd cynyddol. Maent mewn cyflwr enbyd. Mae gan y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru yn unig ôl-groniad o £1 biliwn, ac amcangyfrifwyd bedair blynedd yn ôl fod gan strwythurau a gynhelir yn lleol ôl-groniad o £1.6 biliwn. Gyda chymaint o bwysau sy'n cystadlu â'i gilydd ar gyllidebau awdurdodau lleol, a rhai’n gorfod gwneud arbedion yn ystod y flwyddyn, mae angen inni fynd yn ôl at ddarparu cyllid grant wedi’i glustnodi ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd, yn union fel oedd i'w gael ychydig flynyddoedd yn ôl. Rwy'n ymwybodol fod yr arian wedi dod i ben mewn un awdurdod lleol y mis diwethaf ar gyfer llenwi tyllau yn y ffordd a'i fod wedi gorfod aros tan fis Ebrill. Mesur dros dro yn unig yw mynd ati'n adweithiol i gynnal a chadw tyllau yn y ffordd. Mae angen buddsoddiad cyson ar briffyrdd i osgoi gwaith atgyweirio adweithiol helaeth a drud, cau ffyrdd a risg uwch i ddefnyddwyr.

Rwy'n gobeithio eleni y bydd modd defnyddio rhywfaint o’r cyllid teithio llesol, sydd wedi treblu ac sy’n dal i fod wedi'i glustnodi fel cyllid grant, gan na allwn adeiladu llawer mwy o lwybrau beicio dynodedig, na ellir eu cynnal, pan fo beicwyr yn wynebu peryglon cwteri wedi cwympo a thyllau ar ffyrdd, sef lle mae'r rhan fwyaf ohonynt yn beicio. Mae'n wahanol iawn yng ngogledd Cymru ac mewn ardaloedd gwledig o gymharu ag ardaloedd fel yma yng Nghaerdydd, ac mae'n rhaid cael cydbwysedd.

Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus yn ddrud ac mae pwysau chwyddiant wedi effeithio ar y ddarpariaeth honno. I wella'r canfyddiad o’r rhaniad rhwng y gogledd a'r de, hoffwn weld rhai cynlluniau peilot yn y gogledd fel rhan o fetro gogledd Cymru. Gallem dreialu capio prisiau siwrneiau, ymyriadau wedi’u targedu mewn perthynas â chyhoeddusrwydd a gwybodaeth, defnyddio cytundebau 106 gan ddatblygwyr i roi tocyn trafnidiaeth integredig am ddim i drigolion newydd am flwyddyn—mae hyn wedi digwydd yng Nghaer. Mae cynorthwyydd platfform rheilffordd a gyrrwr bws cyfeillgar a chymwynasgar yn amhrisiadwy ac yn gwneud byd o wahaniaeth i hyder pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I lawer dros 60 oed, nid yw tocynnau teithio consesiynol yn cael eu defnyddio, a bu gostyngiad yn eu defnydd ers COVID. Felly, gyda chymorth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, gellid cynnal ymgyrch wedi’i thargedu i ddarparu gwybodaeth, i roi hyder, gan ganolbwyntio ar ardal.

Ar y terfyn 20 mya, mae angen inni symud ymlaen mewn partneriaeth â chynghorau sydd wedi—. Mae'n ddrwg gennyf, os caf fynd yn ôl at drafnidiaeth gyhoeddus—gadewais ddarn bach allan—hoffwn edrych ar gapio prisiau siwrneiau hefyd, wrth symud ymlaen, i dreialu prisiau siwrneiau wedi'u capio, ac edrych ar bobl ifanc hefyd, efallai.

Ar y terfyn 20 mya, mae angen inni symud ymlaen mewn partneriaeth â chynghorau sydd wedi coladu rhestrau o ffyrdd i’w haddasu, ond sy’n aros am y canllawiau newydd. Nid ydynt am orfod gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig ddwywaith, ac mae angen iddynt fod yn dawel eu meddwl ynghylch atebolrwydd, pe bai'r hyblygrwydd yn cael ei ganiatáu i gynyddu cyflymder mewn perthynas â natur y ffordd. [Torri ar draws.] Rwy’n brin o amser.

Gwn fod gennym lawer o ddatblygu trefol a chysylltedd rhyngdrefol yng ngogledd Cymru, a dyna pam y cafodd llawer o lwybrau eu cynnwys yn y terfyn cyflymder diofyn newydd. Cafwyd galwadau am gadw terfynau 20 mya i ystadau yn unig, ond mae swyddogion priffyrdd wedi dweud wrthyf fod 90 y cant o ddamweiniau'n digwydd ar briffyrdd lle mae traffig trymach, dwysedd tai uwch, cerddwyr a beicwyr yn cymysgu â thraffig. Mae llawer o drigolion yn hoffi'r terfynau 20 mya lle maent yn byw, ond mae gyrwyr yn rhwystredig pan fo darnau hir o ffordd dan gyfyngiad heb unrhyw reswm amlwg. Gyda’r canllawiau cywir, a chan weithio gydag awdurdodau lleol mewn partneriaeth, gallwn gael y cydbwysedd cywir.

18:10

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr heddiw, ac yn croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i’r ddadl gyda rhywfaint o flas ar y polisïau a’r blaenoriaethau trafnidiaeth y byddaf yn eu hamlinellu’n fanylach ddydd Mawrth nesaf. Yn wir, credaf fod agweddau ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau hynny ac sy’n adlewyrchu llawer o’r hyn a glywsom ar draws y Siambr heddiw.

Mae dros flwyddyn wedi bod bellach ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb i'r adolygiad ffyrdd, ac wrth gwrs, mae'n iawn inni fyfyrio, pwyso a mesur a chymryd amser i wrando—gwrando ar ein gilydd, ar ein cymheiriaid ar gynghorau, yn San Steffan, ar gynghorau tref a chymuned, ac yn anad dim, ar y dinasyddion a wasanaethwn. Ers cyhoeddi’r adolygiad ffyrdd, rydym wedi parhau i adeiladu ffyrdd, ac mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Nowlais fel rhan o adrannau 5 a 6 o'r gwaith o ddeuoli’r A465 yn dystiolaeth o hynny, yn ogystal â bod yn ddarn hynod drawiadol yn fy marn i o seilwaith o safbwynt peirianneg. Byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd newydd, boed hynny er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd lleol, mannau cyfyng ac ansawdd aer gwael, gwella diogelwch, neu o ran hynny, i addasu ein rhwydwaith ffyrdd i’r math o dywydd eithafol a welwn yn frawychus o rheolaidd yma yng Nghymru. Fe fyddwn yn adeiladu ffyrdd newydd.

Ond yn fwy na dim, byddwn yn adeiladu'n well nag o'r blaen. Byddwn yn gwneud hynny er mwyn cyflawni’r rhwymedigaethau a gyflwynwyd, yn gywir ddigon, gan y Llywodraeth ddiwethaf i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn adeiladu’n well nag o’r blaen drwy ddefnyddio technegau adeiladu newydd sy’n arloesol yn rhyngwladol ac sy’n lleihau carbon corfforedig, drwy leihau’r effaith ar goetiroedd hynafol, fel rydym yn ei weld yn cael ei roi ar waith nawr yn Llanharan. A byddwn hefyd yn gwneud hynny drwy gynnwys llwybrau blaenoriaeth i fysiau o'r dechrau yn rhan o'n cynlluniau, a gwell cysylltiadau cerdded.

Ac rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn fy mod am wrando mewn perthynas â'r terfyn 20 mya. Ers imi gael fy mhenodi, rwyf wedi bod yn cyfarfod ag aelodau cabinetau trafnidiaeth ac arweinwyr llywodraeth leol o bob rhan o Gymru. Rydym wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i gyflwyno rhaglen wrando genedlaethol, i ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, gyda busnesau, cymunedau a dinasyddion ledled Cymru, gan gynnwys plant, sy'n hollbwysig yn fy marn i. Rwy'n credu bod consensws cynyddol yn y ddadl hon y gallwn o leiaf adeiladu arno fod terfynau 20 mya yn briodol o gwmpas ein hysgolion, ein hysbytai, ein meithrinfeydd—

Os caf dorri ar draws y Gweinidog, mae Andrew R.T. Davies yn dymuno gwneud ymyriad. A ydych chi am dderbyn yr ymyriad?

Rwy'n croesawu'r Ceidwadwr yn ôl i’r Llywodraeth, ac mae hynny’n braf iawn ei weld. Ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth iddo sôn am y sgwrs y mae ef a'r Llywodraeth yn ei chael ynglŷn â'r terfyn 20 mya, beth yw'r terfyn amser ar y sgwrs honno, gan fod pobl yn dymuno gweld canlyniad un ffordd neu'r llall, a newidiadau radical i'r polisi wrth gwrs?

18:15

Dywedaf wrth Andrew R.T. Davies y byddaf yn gwneud datganiad llafar ddydd Mawrth nesaf ar flaenoriaethau trafnidiaeth, lle byddaf yn amlinellu’r mesurau a roddir ar waith yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf mewn perthynas â phob mater sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, ac yn enwedig terfynau 20 mya. Ond mae'n rhaid imi ddweud eto fy mod yn teimlo'n gryf iawn fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr i derfynau 20 mya yn y mannau lle maent yn briodol, yn enwedig lle mae plant a'r henoed mewn perygl. Credaf eu bod yn gwneud synnwyr mewn mannau o'r fath, maent yn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel. Ond mae angen inni sicrhau bod terfynau 20 mya yn cael eu targedu’n briodol yn y lleoedd hynny, fel y gwnaethom addo o'r cychwyn. A bydd angen inni weithio'n eithriadol o agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, gyda chynghorau tref a chymuned, ac yn wir, gyda dinasyddion er mwyn cyflawni hynny. Bydd newidiadau’n cael eu gwneud gyda ac ar gyfer y cymunedau y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu, gyda llais dinasyddion yn ganolog i bopeth a wnawn.

Cyfeiriodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru at drafnidiaeth gyhoeddus, ac wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr angen am fuddsoddiad parhaus. Yn wir, roeddwn yn rhan o'r Llywodraeth a ymrwymodd gyntaf i drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd yn gyfan gwbl yng Nghymru, gyda buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon. Mae'n werth cofio y bydd hynny'n rhoi Cymru yn agos at frig y tabl o ran trenau newydd, a ninnau wedi bod yn agos at waelod y proffil oedran gyda'n fflyd yn y gorffennol. Wedyn, mae'r gwaith o drawsnewid rheilffyrdd craidd datganoledig y Cymoedd, a fydd yn darparu gwasanaeth 'cyrraedd a theithio', gwasanaeth metro, a fydd, heb os, yn trawsnewid bywydau ar draws y rhanbarth. A hefyd—peidied neb â chamgymryd—hoffwn weld mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, gan gynnwys sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, gan mai nhw, nid ni, sy’n gwbl gyfrifol am hynny.

Ond fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon, rwy'n credu, nid yw cymharu’r cyllid datblygu ar gyfer y gogledd â buddsoddiad yn rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn cymharu tebyg â’i debyg, a hynny am fod perchnogaeth ar reilffyrdd craidd y Cymoedd wedi’i throsglwyddo i ni, felly mae gennym bwerau i fuddsoddi ynddynt. Mae gogledd Cymru yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yn unig yng nghyswllt seilwaith rheilffyrdd. Yn ogystal, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn buddsoddi yn y rhaglen drawsnewid. Nid yw bargen twf gogledd Cymru wedi’i strwythuro yn yr un modd. Ni all ariannu prosiectau rheilffyrdd cyfatebol ac felly rydym yn gwbl ddibynnol ar Lywodraeth y DU i ddarparu’r holl gyllid ar gyfer gwelliannau i’r rheilffyrdd y maent hwy eu hunain yn gyfrifol amdanynt. Rwy'n gobeithio darbwyllo Gweinidogion yn San Steffan i ariannu’r hyn y mae ei wir angen ar y gogledd, a byddaf yn gweithio gyda nhw ac eraill i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer y gogledd yn ogystal â’r de-orllewin a chanolbarth a gorllewin Cymru.

Ac mae'n rhaid imi ddweud hyn: rwy'n hynod o awyddus i helpu i newid naws a chywair y ddadl ar drafnidiaeth. Rwy’n falch iawn fod llefarwyr y gwrthbleidiau wedi cytuno i gyfarfod â mi i gael trafodaethau rheolaidd ar sut y gallwn weithio’n fwy cydweithredol, oherwydd fel rwyf wedi'i ddweud erioed, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr ar ddatblygu atebion i’r heriau trafnidiaeth sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy’n cydnabod bod rhywfaint o rinweddau i gynnig Plaid Cymru hefyd. Yn gywir ddigon, mae'n nodi rhai o’r diffygion yn y setliad datganoli, ac rwy'n cytuno bod cysylltedd ar gyfer gogledd Cymru yn fater o flaenoriaeth, a bod yn rhaid inni barhau i adolygu effaith y terfyn cyflymder 20 mya. Ond mae angen datblygu'r atebion y mae'n eu hawgrymu ymhellach.

Rwy’n benderfynol o siapio dyfodol trafnidiaeth fel galluogydd economaidd a chymdeithasol. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd pan ofynnodd y Prif Weinidog imi ymgymryd â’r portffolio hwn, gan fod trafnidiaeth yn ymwneud â mwy na mynd o A i B yn unig, mae'n ymwneud â chysylltu pobl â gwasanaethau cyhoeddus, gwaith, addysg, ffrindiau a theulu, ac ar gyfer hamdden, a thwristiaeth. Dyma’r ethos sy’n sail i’m hymrwymiad i wrando ar bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Rydym wedi ceisio cynhyrchu gwelliant gan y Llywodraeth sy'n cydnabod y tir cyffredin ar draws y Siambr ac sy'n dangos ein bod yn gwrando ar leisiau'r Aelodau yma ac ar bobl ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio ar draws Siambr y Senedd, ac rwy'n gobeithio bod pob Aelod yn teimlo heddiw y gallant gefnogi ein gwelliant. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet newydd yn ei rôl, a’i groesawu yn ôl i’r Llywodraeth ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig? A gaf i groesawu cywair ei ymateb yn arbennig, ymateb a oedd yn llawer mwy adeiladol a chymodlon na'r hyn rydym wedi arfer ag ef ar bolisi trafnidiaeth dros y blynyddoedd diwethaf a bod yn onest? Rwy'n croesawu'n arbennig ei sylw ei fod yn awyddus i wrando mewn perthynas â'r terfyn 20 mya mewn rhai mannau. Credaf ichi grybwyll ysbytai ac ysgolion fel mannau lle mae terfynau 20 mya yn tueddu i fod yn synhwyrol. Dyna yw ein safbwynt wedi bod yma ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig ers tro, ac rwy’n falch o’ch clywed yn dweud hynny hefyd, Weinidog. Hoffwn hefyd eich canmol am ddweud dro ar ôl tro ar ddechrau eich sylwadau y byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd, ac rwy'n credu y bydd hynny’n tawelu meddyliau pobl fel Peter Fox a’i etholwyr yng Nghas-gwent sy’n chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn gwrando ac yn ymgysylltu ar y mater hwn.

Os caf ymateb i rai pwyntiau a wnaed yn y ddadl, fe agorodd Natasha Asghar drwy ddweud bod y Gweinidog wedi etifeddu sefyllfa enbyd, ac yn anffodus, mae'n llygad ei lle. Fe welsom rai o’r mesurau gwrth-fodurwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd yr Athro Stuart Cole yn ddiweddar y dylai cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus fod wedi cael eu cyflwyno cyn unrhyw ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr arall, ac mae’n llygad ei le, gan nad oes ond angen inni edrych ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru i weld sut olwg sydd ar y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Clywsom y Prif Weinidog ddoe yn honni mai hwn oedd y gweithredwr sy’n perfformio orau, ond y gwir amdani yw mai nhw yw’r gwaethaf yn y DU o ran boddhad cwsmeriaid, ac mae hynny’n cynnwys sylwadau am brydlondeb, dibynadwyedd ac amlder gwasanaethau.

18:20

A wnewch chi ymhelaethu ar y ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr hon? Nid wyf wedi'i gweld eto, nid wyf wedi clywed amdani. Am beth rydych chi'n sôn?

A gaf i awgrymu eich bod yn siarad â’ch etholwyr, sydd wedi codi nifer o faterion ynghylch y dull gweithredu blaenorol a welsom mewn perthynas ag adeiladu ffyrdd, y dull gweithredu blaenorol a welsom mewn perthynas â'r terfyn 20 mya, a’r pwerau a roddwyd iddynt mewn deddfwriaeth flaenorol i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn y dyfodol? Rwy'n gobeithio na fydd hynny’n dwyn ffrwyth, ac rwy'n gobeithio bod y newid o ran dull gweithredu a nododd y Gweinidog heddiw yn arwydd o bethau i ddod, ond nid dyna a welsom yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Delyth Jewell, am ryw reswm, fod holl ofidiau trafnidiaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi deillio o San Steffan mewn rhyw ffordd, ond mae’r ffigurau rwyf newydd eu darllen mewn perthynas â Trafnidiaeth Cymru yn awgrymu nad San Steffan yw’r broblem, y broblem yw Llywodraeth Cymru, y maent hwy wedi bod yn ei chynnal ers 25 mlynedd.

Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gywiro’r cofnod. Dywedais yn benodol mai methiant Llywodraethau olynol yng Nghaerdydd yn ogystal ag yn San Steffan oedd hyn, a nodais gryn dipyn o ffyrdd y mae angen i hyn wella. Ond mae biliynau'n ddyledus i ni gan San Steffan.

Rwy’n derbyn y pwynt o eglurder ynghylch y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd y buoch chi'n ei chynnal ers nifer o flynyddoedd, gan gynnwys gwasanaethu yn y Llywodraeth honno.

Soniodd John Griffiths am faterion trafnidiaeth yng Nghasnewydd. Pe bawn i'n siarad â’i etholwyr, rwy'n credu y byddent yn dweud wrthyf mai’r broblem drafnidiaeth fwyaf yng Nghasnewydd a’r cyffiniau yw canslo ffordd liniaru’r M4. A chlywsom gan Peter Fox nad dyna’r unig brosiect nas datblygwyd sy’n achosi problemau yn y rhan honno o’r byd, a ffordd osgoi Cas-gwent hefyd. Rwy’n siŵr y bydd gan Aelodau eraill enghreifftiau yn eu hardaloedd o brosiectau trafnidiaeth nas datblygwyd.

Yn olaf, soniodd Carolyn Thomas am gyflwr ffyrdd a thyllau yn y ffordd. Mae hwnnw’n fater enfawr, ac mae Carolyn yn llygad ei lle. Felly, rwy'n siŵr y bydd yn arswydo lawn cymaint â minnau fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £33 miliwn ar osod arwyddion ger y ffyrdd, yn hytrach na gwella cyflwr y ffyrdd hynny yn y lle cyntaf.

Rwy'n croesawu'r sylwadau gan y Gweinidog heddiw. Rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd o newid dull gweithredu, newid yn ymagwedd Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch polisi trafnidiaeth yma yng Nghymru, ond hoffwn annog yr Aelodau heddiw i anfon y neges honno fod pethau’n newid, i gefnogi ein cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe ohiriwn ni'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais gyntaf.

Mae'r bleidlais gyntaf hwnnw ar eitem 5, y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:25

Eitem 5. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar y ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir y gwelliant, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, naw yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8538 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd.

2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod:

a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a

b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith ffyrdd presennol Cymru.

3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, naw yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ond nid diwedd ar y gwaith am heddiw, oherwydd mi fydd yna ddadl fer, ac mae'r ddadl fer honno gan James Evans.

Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, gall James ddechrau ei ddadl fer.

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Cefin Campbell, Russell George, Sam Kurtz, Janet Finch-Saunders a Rhun ap Iorwerth.

Heddiw, hoffwn drafod effaith y seilwaith ynni adnewyddadwy ar ein cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae Cymru’n adnabyddus am ei thirweddau syfrdanol, ei bryniau gwyrddion, ei phentrefi hardd a’i hymdeimlad o heddwch. Mae’r harddwch hwn yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn, ac mae’n rhan hanfodol o’n heconomi wledig. Fodd bynnag, mae ffermydd gwynt mawr a'u peilonau yn bygwth hyn. Er bod ynni adnewyddadwy'n hollbwysig, ni allwn anwybyddu'r niwed posibl y gall y prosiectau hyn ei achosi i'r union gymunedau y maent i fod i'w helpu. Dychmygwch hyn: rydych chi'n deffro i sŵn mwmian cyson llafn tyrbin. Mae rhai trigolion wedi disgrifio'r sŵn fel rhywbeth tebyg i sŵn awyren uwch eu pennau drwy'r amser. Nid ffuglen wyddonol mo hyn, dyma'r realiti i lawer o bobl sy'n byw ger ffermydd gwynt. Dengys astudiaethau y gall tyrbinau gwynt amharu ar gwsg ac ar y gallu i ganolbwyntio gyda'u sŵn amledd isel. Mae'r strwythurau anferth hyn hefyd yn newid y dirwedd weledol, gan effeithio ar dwristiaeth ac ymdeimlad trigolion o le. Mae hyn yn peri pryder arbennig i ardaloedd sy’n dibynnu ar harddwch golygfeydd, fel rhai o’r ardaloedd a argymhellwyd ar gyfer tyrbinau a pheilonau yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Yn ychwanegol at hynny, gall maint anferthol y strwythurau hyn daflu cysgodion hir, annifyr—ffenomenon a elwir yn gysgodion symudol—gan darfu ymhellach ar lonyddwch ardaloedd gwledig.

18:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Gall prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr newid cymeriad cefn gwlad yn sylweddol. Canfu astudiaeth effaith negyddol arwyddocaol yn ystadegol ar werthoedd eiddo ger ffermydd gwynt ar y tir. Er bod rhai tirfeddianwyr yn elwa o brydlesu tir, gall gostyngiad yng ngwerth eiddo gael effaith ganlyniadol ar y gymuned gyfan. Gydag un o bob saith swydd yng Nghymru yn ddibynnol ar dwristiaeth, mae'r sector hwn yn cyfrannu'n fawr at yr economi wledig. Mae twristiaeth yn allweddol mewn sawl rhan wledig o Gymru, gan ddarparu swyddi mawr eu hangen, ychwanegu at incwm ffermydd a dod â gwariant i gymunedau sy'n cadw busnesau'n hyfyw. Pan fydd harddwch naturiol ac estheteg a llonyddwch yn denu twristiaid, mae'n amlwg y bydd datblygiadau tyrbinau gwynt a pheilonau ar raddfa fawr yn effeithio'n andwyol ar yr ardaloedd hyn. Bydd yn effeithio ar swyddi a busnesau lleol a'r holl ddiwydiannau sy'n gysylltiedig â'r economi wledig.

Efallai mai'r agwedd fwyaf pryderus yw'r teimlad ymhlith preswylwyr o ddiffyg llais. Mae llawer o gymunedau'n ofni nad oes ganddynt lawer o gyfle i ddweud eu dweud yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau ffermydd gwynt. Yn aml, gall ymgynghoriadau, os ydynt yn digwydd o gwbl, deimlo fel mater o ffurfioldeb yn unig. Datgelodd ymchwiliad gan y BBC yn 2023 nifer o achosion lle'r oedd preswylwyr yn teimlo bod eu pryderon am sŵn, estheteg ac effeithiau posibl ar iechyd wedi eu diystyru. Gydag unrhyw brosiectau seilwaith o'r fath, mae prosesau cynllunio statudol i'w dilyn. Roeddwn wedi gobeithio y byddai hyn yn amddiffyniad sylweddol, ond mae gennyf fy amheuon, ac rwy'n rhoi enghraifft fferm wynt Hendy i chi: gwnaed y penderfyniad terfynol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru o dan broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Anwybyddodd adborth cymunedol lleol, sylwadau cynghorwyr sir ac egwyddorion sylfaenol 'Polisi Cynllunio Cymru'. Roedd hyd yn oed yn diystyru argymhellion swyddogion Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn Llywodraeth Cymru. Yr holl boen i'r gymuned. Ac er iddo gael ei adeiladu yn 2021, nid yw'r safle'n weithredol o hyd ac nid yw'n cynhyrchu unrhyw drydan. Os yw'r datblygwyr yn credu bod eu cynlluniau'n briodol ar gyfer yr ardal, pam ddim gadael i'r prosesau cynllunio lleol redeg eu cwrs? Trwy ddosbarthu'r datblygiadau hyn fel datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a rhoi'r gair olaf i Weinidogion Cymru, mae hyn yn osgoi gweithdrefn gynllunio sefydledig mewn awdurdodau lleol sydd â'r mesurau diogelu angenrheidiol ar waith i sicrhau bod cymunedau'n cael eu hamddiffyn rhag buddiannau corfforaethol mawr. Fel y mae Ymgyrch  Diogelu Cymru Wledig wedi dweud, maent yn pryderu am gymunedau sy'n brwydro yn erbyn corfforaethau mawr fel Dafydd a Goliath.

Ar seilwaith peilonau, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir mai'r opsiwn a ffefrir, lle bo hynny'n bosibl, yw gosod ceblau tanddaearol, ond mewn llawer o ddatblygiadau, dywedir wrthym nad yw hyn yn ymarferol yn ariannol. Dylid cynllunio'r holl ddatblygiadau hyn, yn y lle cyntaf, i gydymffurfio â 'Polisi Cynllunio Cymru'. Ni allant ddefnyddio costau fel esgus i osgoi'r polisïau cynllunio yma yng Nghymru, ac rwy'n credu bod angen i Weinidogion Cymru fod yn llawer cryfach wrth ddilyn canllawiau eu Llywodraeth eu hunain a nodir yn y gyfraith gynllunio.

Mae llawer o gymunedau hefyd yn cael addewid o fuddion yn sgil y datblygiadau hyn. Mae'r rhain yn amrywio o gyllid i amwynderau lleol i daliadau uniongyrchol i unigolion a thrydan a gynhyrchir yn uniongyrchol o'r datblygiadau hynny i'r gymuned. Felly, yn ddamcaniaethol, bydd rhai yn elwa, bydd eraill ar eu colled. Ond gadewch inni gofio, mae'r rhain yn fuddiannau corfforaethol mawr, busnes mawr, a bydd yr hyn sy'n cael ei gynnig yn fach iawn o gymharu â'r enillion mawr i gyfranddalwyr a'r potensial i allforio'r ynni a gynhyrchir. Ni all datblygwyr ddod i mewn i'n gwlad a meddwl y gallant brynu cefn gwlad Cymru i gyd. Ni all ddigwydd. Pe bai gwaith mwyngloddio yn dod i Gymru ac unrhyw gymuned yn cynnig symiau enfawr o arian i bobl leol yn gyfnewid am halogi cefn gwlad, byddai pob plaid wleidyddol yn y Siambr yn protestio a hynny'n briodol, ac eto yn ein ras tuag at sero net, caniateir yr un peth ar gyfer ynni adnewyddadwy. Pan fydd y difrod a achosir gan eu hadeiladu, o'r concrit sydd ei angen ar gyfer sylfeini, y deunyddiau sydd eu hangen i adeiladu ffyrdd dros dro mewn ardaloedd ucheldirol dilychwin, mynd i mewn i afonydd i greu ffyrdd eraill, sy'n cael eu gwarchod ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru—anaml y rhoddir ystyriaeth i'r holl bethau hyn, a rhoddir caniatâd cynllunio beth bynnag, yn groes i bolisi.

Mewn adroddiad diweddar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, nodwyd bod prosiectau alltraeth yn cyfrannu mwy na £6.5 miliwn y flwyddyn i gymunedau Cymru, ond hoffwn wybod ymhle. Maent yn dweud bod enghreifftiau'n cynnwys taliadau i berchnogion tir, i gefnogi arallgyfeirio gwledig, ond mae llawer o ffermwyr wedi gwneud hyn yn barod, drwy greu llety gwyliau, a hynny ond i gael eu tanseilio gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae buddion eraill yn cynnwys ardrethi busnes dros oes y prosiect, neu adfer cynefinoedd, ond mae'r rhain yn cael eu gosod oherwydd y gweithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw. Fel y gwnaeth un etholwr grynhoi hyn i mi mewn digwyddiad ymgynghori yn ddiweddar, 'Nid yw hyn oll yn golygu dim i mi.'

Caiff creu swyddi ei grybwyll mewn amrywiol gyd-destunau hefyd, ond yn ymarferol anaml y caiff ei weld. Efallai y bydd rhywfaint o gyflogaeth leol yn y cyfnod adeiladu, ond y tu hwnt i hynny, mae'r gwaith yn diflannu. Yn ogystal â chyfeirio at y swyddi sy'n cael eu creu, dylid ystyried y swyddi a gollir o ganlyniad. Rwyf eisoes wedi sôn am yr ergyd i dwristiaeth a faint o swyddi a gollwyd gennym trwy golli ein tir fferm, twristiaeth a'r holl grefftau cysylltiedig. Nid yw hynny byth yn cael ei ystyried pan fyddwn yn trafod y ceisiadau hyn. 

Rwyf am weld trigolion lleol yn gweld buddion diriaethol, ond mae'r model presennol yn ddiffygiol yn hyn o beth. Nid yw hyn yn golygu rhoi'r gorau i ynni adnewyddadwy yn gyfan gwbl. Mae angen atebion modern arnom i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ac mae pŵer gwynt yn cynnig dewis arall glân. Fodd bynnag, mae datblygu cyfrifol yn allweddol, gosod terfynau allyriadau sŵn llymach, sicrhau bod tyrbinau'n cael eu gosod ymhellach i ffwrdd o gartrefi, a chynnig ymgynghoriad cymunedol mwy cadarn ar gamau allweddol yn yr hyn sydd angen ei ddatblygu. Archwilio mwy o opsiynau ar y môr ar gyfer datblygu: mae angen i atebion cynaliadwy hefyd ystyried yr adegau pan nad yw'r gwynt yn chwythu a phan nad yw'r haul yn tywynnu. Am y rheswm hwnnw, cymysgedd ynni cynaliadwy, mae'n rhaid inni hefyd gynnwys cynlluniau hydro a mwy o orsafoedd ynni niwclear ledled ein gwlad. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos y bydd prosiectau gwynt ar y tir yn cyfrannu llai at gyrraedd y targed o 100 y cant erbyn 2035, ond mae ateb gwell o fewn cyrraedd. Gallai dim ond un—dim ond un—prydles wynt alltraeth ychwanegol ym môr Iwerddon, tebyg i brosiect llwyddiannus Mona, gynhyrchu cymaint o ynni glân â'r holl ddatblygiadau gwynt ar y tir arfaethedig gyda'i gilydd. Trwy gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau'r brydles gydag Ystad y Goron yn gyflym, gallem gyflawni'r targed a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru 100 y cant erbyn 2035. Byddai'r dull cydweithredol hwn yn ein galluogi i osgoi cael llawer iawn o seilwaith yn tarfu ar ein tirweddau hardd am genedlaethau i ddod.

Gall ffermydd gwynt fod yn arf pwerus yn ein brwydr am ddyfodol cynaliadwy, ond ni all hynny fod ar draul cymunedau gwledig. Fel y dywedais yn gynharach, mae gennyf sawl datblygiad dan ystyriaeth yn fy etholaeth i, ac rwy'n eu gwrthwynebu oherwydd y pryderon a nodais yma heddiw. Gadewch inni groesawu ynni adnewyddadwy, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd sy'n parchu pobl a'r lleoedd sy'n stiwardiaid ein cefn gwlad hardd. Ein gwaith ni yma yn y Senedd hon yw diogelu cefn gwlad Cymru a'i buddiannau, ac rwy'n gobeithio na fydd Llywodraeth Cymru yn aberthu fy nghymunedau i a chymunedau cefn gwlad Cymru ar ei thaith tuag at sero net. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:35

Mae James wedi rhoi munud yr un i bum siaradwr ar gyfer gweddill yr amser. Cefin Campbell.

Diolch yn fawr iawn. Diolch James, am roi munud i mi, er y dylwn fod eisiau 10 o bosibl, ond rwy'n mynd i gadw at yr amser.

Nid oes gan Blaid Cymru unrhyw wrthwynebiad i brosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni ofyn cwestiynau am raddfa a maint rhai o'r ffermydd gwynt sy'n cael eu cynnig. Ond fy mhrif bryder yw'r ffaith bod llawer o'r cwmnïau 'klondike' hyn sy'n symud i mewn fel rhyw fath o ruthr aur gwyrdd ar hyn o bryd yn cynnig adeiladu peilonau sy'n croesi ar draws Powys, Ceredigion a sir Gaerfyrddin i gyd, ac mae cynifer o grwpiau ymgyrchu—a chyfarfûm ag un yr wythnos diwethaf yn Llanymddyfri—yn gwrthwynebu difrodi ein tirwedd fendigedig. Ac fel mae'n digwydd, wythnos i heddiw euthum i weld arddangosiad yn Llanybydder gan gwmni sydd wedi'i leoli yng ngorllewin Cymru sy'n llwyddiannus iawn yn Ewrop ym maes aredig ceblau. Felly, yn hytrach na pheilonau'n mynd ar draws y tir, mae modd gosod y ceblau hyn o dan y ddaear heb fawr o effaith ar yr amgylchedd, a rhoi'r tir yn ôl heb i chi weld unrhyw wahaniaeth.

Felly, dyna'r ffordd ymlaen, ac rwy'n gofyn i'r Gweinidog a wnaiff hi wneud dadansoddiad cost a budd yn cymharu peilonau â thanddaearu. Ac mae hi wedi addo gwneud hynny, felly hoffwn ofyn pryd y gallwn gael yr adroddiad hwnnw. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n edrych ar y Gweinidog anghywir; maddeuwch i mi.

18:40

A gaf i ddiolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl fer hon? Ac rwy'n cytuno â phopeth y mae James wedi'i ddweud, ac yn croesawu sylwadau Cefin Campbell yn fawr hefyd. Am flynyddoedd lawer, neu'n sicr ers imi fod yn Aelod o'r Senedd hon, rwyf wedi coleddu safbwyntiau hirsefydlog ynghylch gosod gormodedd o dyrbinau gwynt mewn un ardal benodol yng Nghymru. Nid wyf yn gwrthwynebu un tyrbin. Nid wyf yn erbyn ffermydd gwynt lle maent wedi'u lleoli'n briodol, ond rwy'n gwrthwynebu gormodedd o ffermydd gwynt, gyda channoedd o dyrbinau, a seilwaith yn croesi ar draws cefn gwlad hardd canolbarth Cymru fel y dywedodd Cefin Campbell. Rydym angen ein hardaloedd gwledig hardd: dyma ein pwynt gwerthu unigryw ar gyfer twristiaeth yng nghanolbarth Cymru.

Ond rwyf am fynd ar drywydd yr hyn a ddywedodd James Evans am bolisi cynllunio, oherwydd mae Gweinidogion wedi dweud yn aml mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid trawsyrru'n danddaearol ac nid uwchben y ddaear. Ond nid yw hynny'n trosi i ganllawiau'r Llywodraeth. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog egluro, pan fydd Gweinidogion yn gwneud y datganiad hwnnw, ei fod yn cael ei ategu gan bolisi, oherwydd nid yw'n ymddangos bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi munud o'i amser imi. Ac i ddatblygu'r pwynt ar seilwaith y mae ef a Russell George a Cefin Campbell wedi'i wneud, yn Hundleton, mae gennym gyfle gyda'r môr Celtaidd i gael gwynt alltraeth arnofiol. Ac mae gosod ceblau a seilwaith ar y tir yn achosi pryderon i'r gymuned, sy'n croesawu, yn gywir ddigon, y cyfle a ddaw yn sgil y môr Celtaidd, ond sy'n meddwl, 'Gadewch inni feddwl yn rhesymol, gadewch inni beidio â chloddio ffordd am chwe mis i osod un cebl ar gyfer un prosiect, ac yna, o fewn chwe mis, cloddio'r un ffordd honno eto ar gyfer y prosiect nesaf. Gadewch inni feddwl yn gyfannol sut y gallwn ddod â'r seilwaith alltraeth hwnnw ar y tir mewn ffordd gynaliadwy a synhwyrol sy'n caniatáu i'r gymuned barhau â'u bywydau o ddydd i ddydd heb yr aflonyddwch a ddaw yn sgil hynny, a datgloi'r cyfle y mae'r môr Celtaidd yn ei gynnig hefyd.' Felly, o ran y seilwaith eilaidd gydag ynni adnewyddadwy, gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gynnig rhywfaint o eglurder i gymuned fel Hundleton a'r cynghorydd sir ardderchog, Steve Alderman yno.

Unwaith eto, diolch i James am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae gennym broblem wirioneddol yn ein cymunedau gwledig, ac fel y crybwyllwyd, gyda gwerth twristiaeth i gymunedau lle mae'n unig ddiwydiant. Rydym yn gwybod bod angen moderneiddio grid Cymru, a bod gennym seilwaith gwael neu brin iawn yng Nghymru. Ac mae'n rhaid ei ymestyn. Ond onid oes gennym gyfle yma i greu rhwydwaith sy'n gynaliadwy ac yn hawdd ei reoli? Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r nod o gyflawni 100 y cant o gynhyrchiant trydan o ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, credwn hefyd y dylid mynd ar drywydd yr amcan hwn heb ildio i'r opsiwn mwyaf sylfaenol. Mae peilonau'n croesi tir yn yr oes sydd ohoni—gallwn hedfan dyn i'r lleuad, a menyw i'r lleuad, ond rydym yn sôn am fynd tuag yn ôl o ran gosod peilonau. 

Yn wir, mae'r cymariaethau cost mwyaf cynhwysfawr o beilonau a thanddaearu yn seiliedig ar adroddiad yn 2012 mewn gwirionedd. Er bod yr adroddiad wedi canfod bod cost gosod cysylltiadau pŵer newydd o dan y ddaear bob amser yn ddrutach na gosod llinellau uwchben, efallai nad yw'r canfyddiad hwnnw'n dal dŵr mwyach. Felly, rwy'n credu yn yr hyn a ddywedodd Cefin Campbell hefyd, a Sam Kurtz, o ystyried datblygiadau technolegol ers 2012, gan gynnwys technegau fel aredig ceblau, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys nawr i benderfynu a yw gosod llinellau trydan newydd yn danddaearol yn fwy costus, a faint yn fwy costus, na defnyddio peilonau.

Felly, hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet newydd—ac rydym wedi gweld dull mwy ffres gan y Gweinidog trafnidiaeth newydd nag a gawsom o'r blaen, a'r cywair—. Mae gennyf bob hyder ynoch chi, Weinidog, y byddwch chi nawr efallai yn gallu rhoi newyddion calonogol i ni yma heddiw. Diolch. 

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar i James am gyflwyno'r ddadl hon. Mae cynllunio yn bwysig yma. Mae angen inni allu rheoli maint datblygiadau. Mae'n rhaid inni gefnogi tanddaearu ceblau, ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na chynllunio a phenderfynu pa beilonau sy'n mynd yn y fan yma neu pa dyrbin gwynt a all fynd yn y fan acw; mae'n rhaid iddo ymwneud â pham y caiff rhywbeth ei gynnig. Pwy sy'n elwa ohono? Ai'r gymuned ei hun sy'n elwa o ddatblygiad penodol neu'r cwmnïau rhyngwladol sy'n tynnu elw o'n cymunedau? Yn fy etholaeth i, ynni solar yw'r broblem; mae miloedd o erwau mewn perygl o gael eu gorchuddio mewn paneli solar. Rwy'n dwli ar ynni solar—mae gennyf fy mhaneli fy hun—ond mae ffordd well o'i wneud na cholli tir fferm. Gallem fod yn cadw'r elw yn lleol. Mae hynny mor bwysig. Mae gennym botensial enfawr mewn ynni adnewyddadwy, ond rhaid iddo fod ar ein telerau ni.

18:45

Llongyfarchiadau i Rhun, a gadwodd o fewn y funud mewn gwirionedd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.

Member
Jeremy Miles 18:45:52
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl hon ac i gyd-Aelodau a roddodd bum cyfraniad Just a Minute i ni heb unrhyw betruso, ailadrodd na gwyro? Mae'n bleser ymateb i'r ddadl hon fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi ac ynni, a chydag ymddiheuriadau i'r cyd-Aelodau a oedd yn gobeithio am ymateb gan Julie James, rwy'n credu.

Rŷn ni i gyd yn deall bod yn rhaid newid i system ynni carbon isel er mwyn inni allu cyrraedd ein targedau sero net. Rŷn ni wedi bod yn glir hefyd ein bod ni am weld yr elw a'r manteision yn aros yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y pontio hwnnw yn deg a'i fod yn cryfhau'r economi, yn creu swyddi, ac yn cefnogi newid cymdeithasol yn ein cymunedau.

Mae ynni yn hanfodol i'n heconomi ni, a dwi'n disgwyl ymlaen at gyhoeddi manylion fy mlaenoriaethau ar gyfer yr economi yn y dyddiau nesaf. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i wella llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys yn ein cymunedau gwledig. Dwi am fanteisio ar y cyfle hwn, felly, i dynnu sylw at yr hyn sydd eisoes wedi ei wneud a chyhoeddi'r hyn rŷn ni am ei wneud yn y dyfodol ym maes ynni adnewyddadwy.

Rŷn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddan nhw'n sicrhau bod ein cymunedau yn cael ynni fforddiadwy a glan yn y tymor hir ac y daw cyfleoedd economaidd hefyd o'r arian mawr fydd yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.

Gwnaeth y cyn-Weinidog newid hinsawdd osod y targedau canlynol: bod cyfateb i 100 y cant o'r trydan rŷn ni'n ei ddefnyddio bob blwyddyn yn drydan adnewyddadwy erbyn 2035 a bod o leiaf 1.5 GW o'r capasiti ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol erbyn 2035.

Mae ein hadroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn dangos y bydd y galw am drydan yn 2050 yng Nghymru deirgwaith yn fwy nag yw e heddiw, felly mae angen inni gynllunio nawr i ddiwallu anghenion ein heconomi ac anghenion ehangach Cymru yn y dyfodol. Mae angen inni gryfhau'r rhwydwaith trydan er mwyn i gymunedau ledled Cymru allu defnyddio technolegau carbon isel fel pympiau gwres, paneli solar, a cherbydau trydan. Mae angen inni hefyd gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd. Mae hynny'n golygu bod angen trawsnewid y system ynni, a hynny yn gyflym iawn.

Bydd trawsnewid i system glyfar a hyblyg sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy nid yn unig yn lleihau allyriadau'r sector ynni, ond bydd hefyd yn helpu i ddatgarboneiddio'r economi gyfan ac yn creu cyfleoedd i Gymru gadw'r cyfoeth hwnnw yn ein cymunedau lleol.

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein datganiad polisi ar berchnogaeth leol ar gynhyrchiant ynni, a oedd yn cynnwys diffiniadau o berchnogaeth leol, cydberchnogaeth a pherchnogaeth gymunedol. Fe wnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygwyr a rhanddeiliaid a rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar sut i fodloni ein disgwyliadau, gan gynnwys mewn perthynas â thryloywder a chyfranogiad yr holl randdeiliaid. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi y byddem yn ymuno â'r sector drwy sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ar ran pobl Cymru gyda Trydan Gwyrdd Cymru.

Wrth edrych ymlaen, gwyddom fod gennym fwy o waith i'w wneud i weithio gyda diwydiant i gadw mwy o werth yng Nghymru wrth inni weithio i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy. Gan adeiladu ar y gwaith o'r archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, rwyf am weithio gyda—

Weinidog, a gaf i wneud ymyriad? Fe sonioch chi eiliad yn ôl y byddwch chi'n sefydlu'r cwmni ynni yma i Gymru. A allwch gadarnhau neu wadu yma heddiw eich bod wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda Green GEN Cymru neu Bute Energy ynghylch dod ag unrhyw un o'u cynhyrchion i berchnogaeth gyhoeddus?

Ni allaf gadarnhau hynny. Nid yw'r wybodaeth honno gennyf. Gan adeiladu ar y gwaith o'r archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, rwyf am weithio gyda diwydiant ar fargen sector. Bydd bargen sector yn egluro sut y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi diwydiant i gyflawni ein targedau gan nodi sut y bydd buddsoddiad newydd o fudd i Gymru. Rwyf am weithio ar gael gwared ar rwystrau i gadw budd a gwerth yng Nghymru a sicrhau bod Cymru'n lle hyd yn oed yn fwy deniadol ar gyfer buddsoddiad newydd. Un rhwystr allweddol i fuddsoddiad newydd yw'r grid. Mae uwchraddio grid Cymru yn hanfodol os ydym am gael system ynni sy'n addas i'r diben yn y tymor hir, ac mae angen seilwaith newydd ar gyfer rhwydweithiau ynni. Roedd adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn rhoi trosolwg o'r brig i lawr o'r llwybrau sydd angen eu cynllunio, eu datblygu, eu hintegreiddio a'u rhoi ar waith er mwyn i'r system ynni yng Nghymru gyrraedd ein targedau sero net. Pwysleisiodd yr angen i ni sicrhau ein bod yn adnewyddu, adolygu a chynllunio ein system ynni ar sail system gyfan, gan ystyried datblygu seilwaith yn strategol. Ond mae angen inni hefyd weithio o'r gwaelod i fyny i ddeall yr anghenion a'r cyfleoedd lleol y gall system ynni carbon isel eu cynnig.

Rwy'n falch o gadarnhau heddiw fod gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar greu cynlluniau ynni ardaloedd lleol bellach yn cyrraedd y camau datblygu terfynol. Mae'r 22 cynllun, a ddrafftiwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru, yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a bydd y rhain yn cael eu datblygu'n bedwar cynllun ynni rhanbarthol cyn bo hir ac yna'n gynllun ynni cenedlaethol i Gymru erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae'r gwaith hwn yn darparu'r dystiolaeth ar gyfer datblygu system wedi'i hoptimeiddio a fydd yn defnyddio'r lefel isaf o seilwaith i weithredu'n effeithlon a diwallu ein hanghenion trydan. Er bod rhwydweithiau ynni yng Nghymru yn rhan o'r system ledled y DU ac mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu sut y caiff ei chynllunio a'i ariannu, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni drwy'r broses gynllunio a'n gallu i weithio'n uniongyrchol gydag Ofgem a'r gweithredwyr rhwydwaith i sicrhau bod ein gofynion yn cael eu hadlewyrchu yn y cynlluniau ar gyfer y DU.

Rwy'n cydnabod y gall cynigion ynni adnewyddadwy a seilwaith cysylltu, ac yn fwyaf arbennig, fel y trafodwyd heddiw, y newid i'r dirwedd sy'n deillio o hynny, fod yn ddadleuol wrth gwrs ac mae angen ystyriaeth ofalus arnynt. Rwyf am eich sicrhau bod y broses gynllunio ar gyfer penderfynu ar brosiectau o'r fath yn drylwyr, yn gadarn, yn dryloyw, ac yn hollbwysig, mae'n rhoi cyfleoedd i archwilio'n helaeth y materion y mae cymunedau lleol yn eu codi. Rydym yn deall ac yn derbyn y gall cymunedau sy'n agos at gynigion datblygu newydd, yn enwedig lle mae'r cynigion ar gyfer cynlluniau ar raddfa fawr fel ffermydd gwynt a seilwaith trawsyrru, fod yn pryderu'n ddifrifol am raddfa a natur y cynlluniau hyn. Bydd cymunedau'n cael eu clywed a gwneir penderfyniadau i gydbwyso'r argyfwng hinsawdd ac anghenion cymunedau ar gyfer y tymor hir, gan sicrhau bod prosiectau ar gyfer heddiw'n cael eu hadeiladu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

Rydym wedi ymrwymo o'r blaen i nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trawsyrru yn glir, yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gref sy'n adlewyrchu anghenion economi Cymru, ein hamgylchedd a'n cymunedau yn y dyfodol ac rydym yn dechrau o'r rhagdybiaeth y dylai'r grid fod o dan y ddaear lle bynnag y bo modd i leihau'r effaith weledol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chynrychiolwyr o bob sector a rhanbarth yng Nghymru i ddatblygu set o egwyddorion ar gyfer datblygiadau grid a bydd y rhain yn seiliedig ar fframwaith Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Byddant yn mynd i'r afael â gofynion y gymuned, yr effaith amgylcheddol, annymunoldeb gweledol a chost, a byddant yn cael eu hintegreiddio yn 'Polisi Cynllunio Cymru' wrth iddynt gael eu datblygu. Bydd hyn yn sicrhau y byddai angen i gynigion ar gyfer llinellau trydan newydd fodloni'r egwyddorion hyn os ydynt am gael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n falch o gyhoeddi hefyd ein bod wedi dechrau ar y gwaith o gynnull grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan i Gymru yn y dyfodol. Bydd y grŵp hwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hanfodol i gynyddu dealltwriaeth o'r dulliau posibl o ddarparu seilwaith trawsyrru trydan—[Torri ar draws.]

18:50

Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed am y grŵp y gwnaethoch chi sôn amdano, ond a fydd hynny'n cynnwys pobl fel y rhai sy'n malio am gefn gwlad, fel Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig? A fyddant yn rhan o'r grŵp hwnnw—pobl sy'n barod i allu mynegi eu barn a'u pryderon ynglŷn â sut y bydd seilwaith ar raddfa fawr yn effeithio ar gefn gwlad?

Felly, yr hyn y mae angen i'r grŵp ei wneud yw ein helpu i feithrin y ddealltwriaeth honno o effaith yr amrywiol opsiynau, gan ystyried graddau llawn yr effeithiau hynny ac adeiladu'r ddealltwriaeth ddyfnach honno o'r dewisiadau posibl eraill, y dulliau posibl, o ran sut y gallwn gyflawni hynny a dyfeisio cyfres o egwyddorion a fydd yn darparu'r sail honno a defnyddio hynny wedyn a sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r egwyddorion hynny. A thrwy'r dull hwn, byddwn yn dadlau dros sicrhau bod Cymru'n cael y seilwaith sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol, ond wedi ei ddarparu yn y lle iawn ac mewn ffordd sy'n lleihau'r gost i'r cyhoedd, ond hefyd yn diogelu'r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.

Bydd hyn yn ein galluogi i gael rhagor o dystiolaeth i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i gyflawni ein targedau. Mae materion anodd i'w cydbwyso ar hyd y ffordd, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gallu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ynni glân, ac rwy'n gobeithio y bydd James Evans wedi cael ei sicrhau bod y Gymru wledig ar flaen ein meddyliau. Byddwn yn edrych ar ein cymunedau gwledig i gael deialog agored ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen arnom ar gael yn y cymunedau lleol hynny a bod ein cadwyn gyflenwi yn gallu elwa yn y tymor hir o'r prosiectau hyn, gan sicrhau pontio teg drwy wneud hynny.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.