Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams. 

Colli Swyddi yn Tata Steel

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y posibilrwydd o golli swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot? OQ60456

Diolch am y cwestiwn.

Nid yw Tata Steel UK wedi cyhoeddi manylion cynigion ar gyfer y dyfodol ym Mhort Talbot eto tra bo'r ymgynghoriad anffurfiol gydag undebau llafur yn parhau. Rwyf wedi parhau i ddadlau’r achos dros fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU i ddiogelu’r sector dur fel ased sofran. Mae’r Prif Weinidog a minnau’n parhau i ymgysylltu â’r cwmni a chydag undebau llafur.

Diolch, Weinidog. Mae’n dda clywed hynny, gan fod llawer o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn wynebu blwyddyn newydd ofnadwy o anodd. Wrth i’r gweithwyr a gyflogir yn Tata Steel, eu teuluoedd, y rhai yn y dref a’r cymunedau cyfagos edrych tua'r dyfodol, mae’r darlun yn dal i fod yn un o ansicrwydd ofnadwy, gofid dwys a phryder. Nid oes unrhyw newyddion cadarn o hyd, fel rydych wedi'i nodi, dim arwydd clir o'r hyn sydd gan y flwyddyn nesaf i'w gynnig i'r gweithwyr crefftus hynny a'u teuluoedd, ac mae llawer bellach yn cael eu gorfodi i chwilio am gyflogaeth arall er mwyn cael sicrwydd y byddant yn gallu parhau i dalu eu biliau a darparu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd. Ac mae cwmnïau lleol hefyd, yn y gadwyn gyflenwi ehangach, yn ei chael hi’n anodd cynllunio, ac mae’r rheini y mae eu crefft yn dibynnu ar y gwaith a’r gweithlu yn wynebu blwyddyn yr un mor bryderus, yn amlwg. Felly, a wnewch chi ddisgrifio beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddadlau'r achos dros achub y swyddi hynny, fel rydych wedi'i amlinellu, a chadw'r gweithlu crefftus hwnnw yn ardal Port Talbot? Hefyd, a ydych yn sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau'n cael eu cyfleu'n brydlon, yn uniongyrchol ac yn glir i'r rhai yr effeithir arnynt, gan fod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod y gweithlu a'r rhai sy'n gweithio yn y cadwyni cyflenwi yn byw ar draws ardal eang—yng Nghastell-nedd Port Talbot, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn Abertawe, yn wir, o Gaerdydd i Gaerfyrddin?

Rwy’n deall yn iawn yr ansicrwydd i'r gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol ac yn wir i'r bobl sydd â swyddi a busnesau sy’n dibynnu’n anuniongyrchol ar y gweithgarwch presennol ym Mhort Talbot—nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn llawer pellach hefyd, sef y rheswm pam yr ymwelais â Llan-wern a Throstre hefyd. Felly, deallaf fod hwn yn gyflogwr pwysig a chanddo ôl troed sylweddol. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi ymgysylltu mor uniongyrchol nid yn unig â'r cwmni a'r undebau llafur, ond hefyd wrth ddadlau'r achos i Lywodraeth y DU, yn ysgrifenedig, yn sicr, a chyda Gweinidogion rydym wedi cyfarfod â nhw, ynghylch pam y dylid ystyried Tata yn ased sofran. Ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur, ar gyfer yr economi yr ydym am ei chreu yn ogystal â’r un sydd gennym heddiw, bydd angen inni allu cynhyrchu ein dur ein hunain a’r mathau o ddur hefyd. Fy mhryder, wrth wneud hynny—ac rydym wedi nodi'n glir ac yn gyson iawn ym mhob un o’n sgyrsiau yr hyn yr ydym am ei weld yn digwydd—os na allwn newid safbwynt Llywodraeth y DU, ac nad yw Llywodraeth bresennol y DU ond yn barod i fuddsoddi yn y dyfodol yn y ffordd a wnânt ar hyn o bryd, yw bod hynny, o bosibl, yn fy marn i, yn gosod terfyn ar yr hyn y gall y cwmni ei wneud. Pe bai Llywodraeth y DU wahanol yn barod i fuddsoddi mwy, yna mewn gwirionedd, mae hynny’n sicrhau dyfodol gwahanol. Ac mae'r amserlen ar gyfer gwneud dewisiadau yn rhan fawr o hyn.

Nawr, credaf fod y rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud â'r sector ac o'i gwmpas yn deall hynny'n dda iawn. Yr hyn na allaf ac na fyddaf yn ei wneud yw rhoi sylwebaeth barhaus ar bob un o'r sgyrsiau, gan y credaf y bydd hynny'n ychwanegu at yr ansicrwydd, oherwydd tra bo'r trafodaethau uniongyrchol yn mynd rhagddynt, maent yn y cyfnod anffurfiol, nid y cyfnod ffurfiol, a chredaf fod hynny'n bwysig hefyd. Nid wyf am roi'r argraff fod nifer fawr o swyddi'n sicr o gael eu colli. Mae'n gwbl bosibl na fydd hynny'n digwydd pe gellir dod i gytundeb arall. Felly, rwy’n cydnabod yr ansicrwydd, ond credaf fod hynny’n well na gosod llwybr lle bydd swyddi'n bendant yn cael eu colli er nad oes sicrwydd o hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i wneud y gwaith gyda Llywodraeth y DU, undebau llafur a’r cwmni ei hun hyd nes y cawn gyhoeddiad pellach. Cyn gynted ag y bydd cyhoeddiad mwy pendant, gallwch fod yn sicr y byddaf yn dychwelyd i’r Siambr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

Diolch, Sioned, am godi’r cwestiwn hwn. Weinidog, mae’r Nadolig a’r flwyddyn newydd wedi bod yn gyfnod o ansicrwydd mawr a chryn bryder i weithlu Tata Steel ym Mhort Talbot, gyda’r posibilrwydd y gallai hyd at 3,000 o swyddi gael eu colli. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei hymrwymiad i gynhyrchu dur mewn ffordd lanach drwy ddarparu hyd at £500 miliwn o gyllid i helpu i gadw’r safle ar agor. Fodd bynnag, dywedodd is-lywydd gweithredol cwmni H2 Green Steel o Sweden ym mis Rhagfyr y gallai fod yn rhaid i ffatri Tata ym Mhort Talbot roi’r gorau i gynhyrchu dur newydd ac y dylai ganolbwyntio ar ddur wedi’i ailgylchu yn lle hynny. Pa drafodaethau a gawsoch chi, Weinidog, gyda Tata ar y mater hwn, ac a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud Port Talbot yn wyrddach, gan ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl? Diolch.

13:35

Credaf mai’r hyn sy'n anodd gyda’r hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud yw nad yw ei bwynt olaf ynglŷn â diogelu cymaint o swyddi â phosibl yn cyd-fynd â’r dechrau ynglŷn â rhoi’r ffigurau mwyaf posibl o ran colli swyddi. Ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw’n glir i Weinidogion y DU, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac ni chredaf ei bod o gymorth i barhau i gymdeithasoli'r canlyniad mwyaf a gwaethaf posibl. Credaf fod angen i’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt gael lle i fynd rhagddynt ar faint y pontio, gan fod y pontio i gynhyrchu dur mewn ffordd wyrddach yn cael ei ragweld gan bob ochr yn hyn o beth.

Ers imi ddod yn Weinidog yr Economi, a gallwn gofio yn ôl i adeg pan nad oedd Kwasi Kwarteng yn Ganghellor byrhoedlog ond yn Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol, cafwyd sgyrsiau bryd hynny, a oedd wedi bod yn mynd rhagddynt ers peth amser eisoes, ynglŷn â sut y dylid pontio i ffordd wyrddach o gynhyrchu dur. Yr hyn nad wyf yn ei dderbyn yw y dylai hynny ddigwydd ar y sail fod swyddi gweithwyr Cymru yn cael eu hallanoli i rannau eraill o'r byd, lle na fydd y broses o gynhyrchu dur yn wyrddach na'r broses sydd gennym nawr, ac mewn gwirionedd, y cynnydd posibl mewn allyriadau nid yn unig o broses wahanol o gynhyrchu dur nad yw ynddi’i hun yn wyrddach, ond wedyn yn y gost o ran allyriadau wrth drosglwyddo’r dur hwnnw i’w rolio yn y DU. A dyna, unwaith eto, pam y credaf y dylid ei ystyried yn ased sofran, am ei bod yn hanfodol ar gyfer dyfodol y DU ein bod yn gallu cynhyrchu dur, ond graddau gwahanol ohono. Bydd dur wedi'i ailgylchu yn rhan o hynny. Mae gennyf gwmni dur sy’n cynhyrchu dur gyda ffwrneisi arc trydan yn fy etholaeth. Gallwch ei weld pan fyddwch yn cerdded y tu allan i’r Senedd—gallwch weld lle mae CELSA yn fy etholaeth. Mae’n rhan o’r ateb, ond hefyd, mae'n ymwneud â’r mathau gwahanol o gynhyrchu dur a sut rydych yn mynd ar daith i ddatgarboneiddio sy’n sicrhau y ceir pontio gwirioneddol deg.

Fel rhywun a fu'n gweithio ym maes haearn a dur, sef yr hyn a elwir yn ben trwm, ar gyfer Dur Prydain, credaf fod arnom angen gwaith cynhyrchu dur o haearn i'r cynnyrch gorffenedig. Mae ffwrnais arc trydan yn dibynnu ar sgrap rhad sydd ar gael, ynghyd â thrydan rhad, a gwyddom nad yw'r ddau beth hynny'n sicr. Mae’r undebau llafur wedi cyflwyno cynnig lle byddai Tata yn trosglwyddo i ddiwydiant cynhyrchu dur datgarbonedig sydd hefyd yn ceisio cadw mwy o weithwyr dur wedi'u cyflogi ym Mhort Talbot, a bydd hynny'n agor y drws i barhad y diwydiant cynhyrchu dur crai, gan ganiatáu i ansawdd y dur a gynhyrchir fwydo safleoedd a marchnadoedd eraill ledled y DU. A wnewch chi ofyn i Tata dderbyn y llwybr hwn ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru, ac a wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan gynhyrchiant dur yng Nghymru y cyfuniad mwyaf o brosesau cynhyrchu dur?

Mae hyn wedi bod yn rhan o'n galwadau cyson ar bob ochr ynghylch hyn, a dyna pam y gwnaf y pwynt fod y cyd-fuddsoddiad y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w wneud yn bwysig ar gyfer y cynnyrch terfynol. Mae'n bwysig o ran hyd unrhyw gyfnod pontio. Ac er bod dur arc trydan yn rhan o'r dyfodol, ac yn fy marn i, byddem yn disgwyl y gellir cynhyrchu graddau gwahanol o ddur drwy ddefnyddio arc trydan yn y dyfodol, mewn gwirionedd, rydym hefyd yn deall bod y dur crai hwnnw, fel y'i gelwir yn aml yn y sector, hefyd yn rhan o'r hyn y bydd ei angen arnom. Os ydym am weld mwy o ddur plât yn cael ei gynhyrchu i helpu i fanteisio nid yn unig ar y cyfle i ddatgarboneiddio pŵer ond ar y cyfleoedd am swyddi a datblygu economaidd sy'n bodoli oddi ar ein harfordir, rydym yn mynd i fod angen mwy o ddur plât, a byddai'n llawer gwell gennyf pe bai hwnnw'n cael ei gynhyrchu yn y DU, yng Nghymru, a byddai hynny wedyn yn golygu nad ydym mor ddibynnol ar rannau eraill o'r byd ar gyfer y mewnforion y byddai eu hangen arnom fel arall. Felly, mae'n parhau i fod yn rhan o'n dadl y byddem yn dymuno gweld cymaint â phosibl o ddur yn cael ei gynhyrchu a thrwy fwy nag un broses er mwyn diogelu nid yn unig y swyddi sy'n bodoli yma—ac fel y dywedwyd eisoes, nid yn unig yn ardal Castell-nedd Port Talbot—ond yn llawer pellach, a'r hyn y mae hynny hefyd yn ei olygu i fusnesau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Felly, dyna yw ein dadl o hyd, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw gyda'r holl bartneriaid: yr undebau llafur, y cwmni, ac yn wir, Llywodraeth y DU.

Swyddi Gwyrdd

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi swyddi gwyrdd? OQ60484

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi pontio teg a ffyniant gwyrdd fel un o'n pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwireddu’r cyfleoedd sero net enfawr ledled Cymru drwy ein hamgylchedd naturiol i gefnogi twf busnes, swyddi da, a phontio teg.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llawer i’w groesawu, ond a ydych yn rhannu fy mhryderon fod Llywodraeth y DU ar ei hôl hi yn y ras am swyddi gwyrdd—er enghraifft, ei methiant i sicrhau unrhyw gynigion llwyddiannus ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn arwerthiant diwethaf y Llywodraeth? Nid yn unig fod hyn yn ergyd i’n strategaeth ynni adnewyddadwy, ond mae’n gyfle enfawr a gollwyd i sicrhau dyfodol swyddi gwyrdd. A ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â hyn, ac a ydych chi'n rhannu fy ngobaith y bydd y rownd nesaf yn arwain at brosiectau newydd?

13:40

Credaf fod Joyce Watson yn llygad ei lle—roedd yn gyfle pwysig a gollwyd yn y rownd ddiwethaf i beidio â chael pris taro gwell a mwy sylweddol, sef y cymorth sydd ar gael ar gyfer technolegau newydd. Roedd hynny’n golygu na chyflwynwyd yr un prosiect ynni gwynt ar y môr—ni wnaed unrhyw geisiadau gan y sector cyfan yn unrhyw le yn y DU. Ac fe ddaeth am fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwrando ar yr hyn yr oedd y diwydiant, ac yn wir, y Llywodraeth hon, yn ei ddweud wrthynt. Dywedais i a’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn glir na fyddai hyn yn arwain at brosiectau’n cael eu cynnig a’u cyflawni. A'r risg yw y gellir colli'r fantais sydd gennym ar hyn o bryd. Felly yn y cam nesaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld prosiectau’n gallu cael eu symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau; mae pris taro llawer mwy sylweddol ar gael bellach, y cymorth. Pe bai hwnnw wedi bod ar gael yn y rownd ddiwethaf, fel y dywedasom y dylai fod, gallem fod yn gweld, er enghraifft, prosiect Erebus, o ranbarth yr Aelod, eisoes ar y ffordd i fod yn weithredol. A chymerodd Llywodraeth Cymru gamau sylweddol i sicrhau ei fod yn cael cydsyniad a'i fod ar gael. Mae'n ymwneud â phŵer gwyrddach. Mae'n ymwneud hefyd â'r nifer sylweddol o swyddi gwyrddach ar gyfer y dyfodol. Rwyf am weld y rheini yma yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio ein pwerau yma yn Llywodraeth Cymru i wneud hynny, ac yn wir, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol yn manteisio'n llawer cyflymach ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o’r cyfleoedd ynni gwyrdd yng ngorllewin Cymru, yn enwedig gan fy mod wedi eu codi’n barhaus, ond ymddengys hefyd eich bod yn treulio llawer iawn o amser yng ngorllewin Cymru yn ddiweddar. Ond nid cyfleoedd yn unig yw’r rhain; mae'n hollbwysig gwneud hyn yn iawn, o ddiogelu sgiliau at y dyfodol i gefnogi datgarboneiddio fel bod diwydiannau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac ar draws clwstwr diwydiannol de Cymru, yn cael yr amodau gorau oll nid yn unig i oroesi ond i ffynnu hefyd. Ac rwyf wedi codi yn y gorffennol yr angen i edrych ar ardal ddaearyddol clwstwr diwydiannol de Cymru nid yn unig fel clwstwr diwydiannol ond hefyd fel ardal sgiliau ac academaidd, o ystyried pa mor drosglwyddadwy yw sgiliau ac agosrwydd diwydiannau yn y rhanbarth hwnnw. Nawr, tybed pa ystyriaeth bellach a roddwyd gennych i hyn, Weinidog, neu a allai fod yn rhan o'ch maniffesto arweinyddiaeth hyd yn oed?

Wel, mae sgiliau ar gyfer y dyfodol yn rhan o'r hyn a nodwyd gennym yn y genhadaeth economaidd yr wyf eisoes wedi'i nodi. Mae sgiliau ar gyfer y dyfodol wedi bod yn rhan o’r sgwrs a gefais gyda Joyce Watson a rhanddeiliaid eraill yn sir Benfro, a thu hwnt. Yr her, serch hynny, yw ein hadnoddau i allu cyflymu a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael. Dyna pam fod cwestiwn cychwynnol a chwestiwn atodol Joyce Watson mor bwysig. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ysgogiadau’r DU yn y lle iawn i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd y mae Samuel Kurtz, a bod yn deg, wedi’u crybwyll yn y gorffennol. Er mwyn i'r potensial hwnnw gael ei wireddu, mae angen sefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU, rhagweladwyedd a buddsoddiad yn ein dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld hynny’n digwydd, os nad gyda’r Llywodraeth bresennol, yna'n sicr gyda’r un y gobeithiaf y bydd yn ei dilyn.

Prynhawn da, Weinidog. Rwyf innau am ganolbwyntio ar yr un math o fater mewn perthynas ag ynni gwynt arnofiol ar y môr, mater y gwn fod Samuel a Joyce yn ymroddedig iawn iddo. Ac mae'n ymwneud â sgiliau. Credaf fy mod wedi defnyddio'r ystadegyn hwn o'r blaen, ond credaf ei bod yn werth ei ailadrodd: mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod angen 10,000 o swyddi newydd i gynhyrchu 1 GW yn unig o ynni gwynt ar y môr. A gallem fod yn edrych ar 4.5 GW hyd at 2030, sef oddeutu 20,000 o swyddi newydd, sy'n ased gwirioneddol i orllewin Cymru. Ond mae'n ymwneud â'r sgiliau hynny, y gwnaethoch eu crybwyll, rwy'n sylweddoli, yn eich ymateb diwethaf. Ond hyd y deallaf, mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gapasiti a dylanwad, yn enwedig dros y cynllun gweithredu sgiliau sero net. Felly, mae'n ymwneud â cheisio deall gennych, os caf, Weinidog, pa gamau sydd angen eu rhoi ar waith er mwyn inni gyflymu'r cynllun gweithredu sgiliau sero net hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich cwestiwn. Mewn gwirionedd, mae’r ymgynghoriad sgiliau sero net sy’n dilyn y cynllun wedi dod i ben yn ddiweddar, a bydd yn ein helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth, ac yna deall y sefyllfa bresennol o ran sgiliau, gan fod buddsoddiad eisoes yn cael ei wneud. Ceir arloesedd o ran deall yr hyn y bydd ei angen ar y sectorau, a'r hyn a wnawn wedyn i gefnogi datblygiad caffael sgiliau mwy penodol ar gyfer y sector. Mae rhywfaint o hynny eisoes ar waith gennym, serch hynny. Er enghraifft, lansiais raglen sgiliau hyblyg fis Hydref diwethaf. Mae wedi'i hanelu at gyflogwyr, ac mae'n darparu 50 y cant o'r cyllid i gefnogi ystod o gyrsiau i fusnesau i helpu eu gweithlu i addasu. Felly, nid yw'n ymwneud ag edrych ar y dyfodol mwy hirdymor yn unig; mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â buddsoddi yn y gweithlu presennol, a sicrhau bod ganddynt y sgiliau cywir ar waith.

Ond rydych yn iawn i nodi ei fod yn gyfle economaidd sylweddol. Dyna pam, gan ddychwelyd at gwestiwn Joyce Watson, ei bod mor bwysig gwneud pethau'n iawn ar lefel y DU hefyd, gan nad oes yn rhaid creu’r holl swyddi hynny yma yng Nghymru. Ac fel enghraifft, gwn fod arddangoswr—arddangoswr ynni gwynt ar y môr—wedi'i greu yn yr Iseldiroedd ac wedi'i leoli oddi ar arfordir yr Alban. Nawr, mae hynny'n newyddion gwych i borthladd Rotterdam, ond nid yw'n newyddion gwych ar gyfer y swyddi y gellid ac y dylid eu creu yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Felly, mae’n dangos bod y risg o beidio â gweithredu'n real. Nid gwylio'n unig y mae rhannau eraill o’r byd, maent yn gweithredu, a dyna rwyf am i Lywodraeth y DU ei wneud. A bydd Llywodraeth Cymru, gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni, yn gwneud popeth yn ein gallu i fanteisio ar y cyfleoedd sydd, heb os, yn bodoli.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. 

Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Weinidog: mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn ddiddorol iawn i economi Cymru, ac yn flwyddyn ddiddorol iawn i chithau hefyd, o bosibl. [Chwerthin.] Nawr, yn ôl ffigurau dangosfwrdd Llywodraeth Cymru, mae cyfradd cyflogaeth Cymru yn y nawfed safle o blith 12 o wledydd a rhanbarthau’r DU. Felly, Weinidog, pa ganlyniadau newydd, mesuradwy y byddwch yn eu sicrhau eleni i gynyddu cyfradd cyflogaeth Cymru, fel nad ydym yn parhau i lusgo ar ôl yn hanner gwaelod y tabl am y dyfodol rhagweladwy?

A dweud y gwir, mae wedi bod yn un o lwyddiannau datganoli. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar y gyfradd gyflogaeth, ac yn wir, y ffigurau diweithdra hefyd. Rydym mewn sefyllfa well o lawer bellach o gymharu â dechrau datganoli. Ac ar y cynnydd hwnnw, lle ar y dechrau, wrth gwrs, roeddem bob amser ymhell ar ôl cyfradd ddiweithdra'r DU, gyda chyfraddau diweithdra llawer uwch yma, rydych yn gweld bellach ein bod cystal neu'n is na chyfradd y DU. Ac mae hwnnw’n gynnydd gwirioneddol. A'r gyfradd gyflogaeth wedyn, rydym yn dal i fod ychydig ar ei hôl hi o gymharu â ffigurau'r DU, ond mewn gwirionedd, unwaith eto, rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol ar hynny. Felly, mae datganoli wedi arwain at gynnydd; mae'n ymwneud â chyfradd y cynnydd y gallwn ei wneud o hyd.

Ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod hyn: ein bod yn cael ein heffeithio gan ddewisiadau a wneir ar lefel y DU gyfan. Pan fydd yr economi’n arafu ledled y DU, mae’n effeithio arnom ninnau yma yng Nghymru hefyd. Mae realiti diffyg unrhyw dwf, yn y bôn, yn economi’r DU yn effeithio arnom ninnau yma yng Nghymru, fel yn wir y mae’n effeithio ar ranbarthau eraill y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Edrychaf ymlaen at sefydlogrwydd a phwrpas yn Llywodraeth y DU, ac fe fyddwch yn gweld yma y bydd sefydlogrwydd a phwrpas y Llywodraeth hon yn cyfateb ac yn mynd y tu hwnt i hynny i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yma yng Nghymru.

Wel, gallwn weld bod y Gweinidog eisoes yn ymarfer ateb cwestiynau i'r Prif Weinidog drwy feio rhywun arall am broblemau economaidd Cymru.

Dim byd adeiladol i drawsnewid pethau, dim ond gwawdio gwleidyddol fel arfer. Efallai ei fod wedi treulio gormod o amser yn ymgyrchu yn ddiweddar yn hytrach na chanolbwyntio ar y swydd sydd ganddo ar hyn o bryd.

Wel, Weinidog, nid dyna’r unig ddata sy’n peri her wirioneddol i economi Cymru. Mae’r un dangosfwrdd yn dangos bod Cymru yn yr wythfed safle o ran enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer gweithwyr llawn amser, ac mae hefyd yn yr unfed safle ar ddeg allan o 12 o ran gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â rhannau eraill o’r DU, gan ddangos unwaith eto yr angen am syniadau newydd a mesurau newydd.

Wrth gwrs, rydym wedi clywed barn ei gyd-Aelod, y Gweinidog addysg, ar economi Cymru. Mae wedi addo cyfarwyddo'r gwaith o sefydlu cyngor economaidd cenedlaethol newydd i gynghori'r Llywodraeth ar bolisïau strategol i sicrhau undod a ffyniant economaidd cynaliadwy. Felly, Weinidog, a ydych chi'n cytuno â’ch cyd-Aelod, ac os ydych chi, pam nad ydych eisoes wedi sefydlu cyngor economaidd newydd i gynghori’r Llywodraeth ar faterion economaidd, fel gwella cyfradd gyflogaeth Cymru a chefnogi busnesau?

Wrth gwrs, mae gennym eisoes amrywiaeth o gyngor ar gael i ni gan randdeiliaid allanol y mae gennyf berthynas dda ac adeiladol â nhw. Credaf fod angen i’r Aelod ddychwelyd at wirionedd rhai o’r materion yma. Mae bob amser yn ymgais ddewr gan y Torïaid i ddweud bod popeth yn gyfrifoldeb i rywun heblaw am Brif Weinidog y DU neu Ganghellor y DU. Bu llawer o newidiadau yn neiliaid y swyddi hynny, ac rwy’n derbyn y bydd yn cael trafferth dal i fyny, ond y gwir amdani yw bod 13 mlynedd, bron i 14 mlynedd o gyni wedi cael effaith wirioneddol ar yr economi.

Mae'r rheswm pam ein bod wedi gweld y gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw yn deillio o Stryd Downing; mae’r rheswm pam fod gennym y baich treth mwyaf ar bobl sy’n gweithio yn deillio'n uniongyrchol o Stryd Downing. Mae'n hawdd i'r Torïaid ddod yma a dweud, 'Bai rhywun arall yw'r cyfan.' Credaf fod pobl yng Nghymru a thu hwnt yn gwybod yn iawn pwy sy’n gyfrifol am y dyfodol economaidd sy’n ein hwynebu, os oes unrhyw gynnydd pellach yn yr amser sydd ar gael i’r Torïaid yn Stryd Downing. Edrychaf ymlaen at eich gweld yn colli eich grym ledled y DU, a dyfodol cwbl wahanol yn cael ei gynnig.

13:50

Wel, yn amlwg, nid ydych yn cytuno â'ch cyd-Aelod, y Gweinidog addysg, ond mae'n debyg y bydd yn rhaid inni aros i weld a ddaw'r syniad o greu cyngor economaidd newydd yn realiti yn nes ymlaen eleni. Nawr, yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft, cyllideb sy’n torri cyllid ar gyfer prentisiaethau yn sylweddol, er mai dim ond yn ddiweddar y pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd creu cyfleoedd cyflogaeth, hunangyflogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc yn ei genhadaeth economaidd newydd. Mae’r un gyllideb yn cynnwys gostyngiad yn y cyllid ar gyfer cymorth i fusnesau a masnach ac ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes manwerthu, lletygarwch a hamdden. Mae gostyngiad hefyd yn y cymorth drwy’r rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer y sectorau hyn.

Felly, er bod pwysau ar bob un o gyllidebau'r Llywodraeth, mae gwleidyddiaeth yn golygu blaenoriaethau, ac mae eich cenhadaeth economaidd newydd, pob un o’i phedwar pwynt, yn blaenoriaethu sgiliau a buddsoddi ar gyfer twf, ac eto, mae pob rhan o’r economi, bron â bod, yn wynebu toriad yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac mae cyllideb gyffredinol eich adran eich hun yn wynebu toriad mewn termau real. Felly, a allwch ddweud wrthym sut, yn realistig, y bwriadwch wella economi Cymru pan fo’ch adran yn wynebu toriad mewn termau real? Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu a thyfu eu busnesau drwy dorri’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau? A sut y gall busnesau Cymru fod ag unrhyw hyder mewn Llywodraeth sy’n lansio cenhadaeth economaidd newydd cyn ei thanseilio drwy dorri cyllid i’r meysydd sy’n sylfaen uniongyrchol i’r genhadaeth honno?

Credaf fod pobl yn deall yn iawn pwy yw'r tanseilwyr mewn perthynas ag economïau Cymru a'r DU, Mr Davies, sef chi a'ch plaid. [Torri ar draws.] Roedd ddoe yn ymarfer rhyfeddol mewn gwadu’r gwir: araith ar ôl araith gan y Torïaid, yn cwyno am wirioneddau ein cyllideb, yn mynnu addewidion gwariant ym mhob maes, mwy o arian ar gyfer iechyd, mwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, mwy o arian ar gyfer addysg ac ysgolion, ac eto, ni wnaethant egluro o ble fyddai'r arian yn dod. Ni wnaethant gymryd unrhyw gyfrifoldeb am y ffaith bod ein cyllideb wedi’i thorri unwaith eto mewn termau real gan y Torïaid. Ac ar brentisiaethau, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom fuddsoddi £147 miliwn mewn prentisiaethau, y ffigur uchaf a wariwyd mewn unrhyw flwyddyn ers dechrau datganoli.

Mae’r dewisiadau anodd sy’n ein hwynebu yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith bod y Blaid Geidwadol mewn grym ledled y DU. Ac wrth gwrs, mae hon yn blaid sydd wedi dathlu a chroesawu colli cronfeydd a phwerau blaenorol yr UE yng Nghymru. Roedd hynny yn eu maniffesto. Fe wnaethant groesawu’r dull newydd, ac mae hynny wedi golygu, ym maes prentisiaethau, fod yr arian hwnnw wedi diflannu. Rwy'n falch iawn o'r ffaith fy mod wedi arwain ar sicrhau y ceir ymrwymiad gan Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol i anfon pwerau ac arian yn ôl yma. Rwy'n glir iawn, os a phan fydd hynny'n digwydd, y byddaf yn sicrhau y ceir dull prentisiaeth genedlaethol newydd y mae'r Torïaid wedi dewis ei ddinistrio. Mae hynny'n ateb, yn ymrwymiad gan y Llywodraeth hon, ymrwymiad a wnaed gan arweinyddiaeth y DU, penderfyniad na fydd y Ceidwadwyr yn ei wneud a phenderfyniad na all eraill yn y lle hwn ei wneud. Rwy'n falch o fod ar ochr iawn y ddadl hon ac o blaid realiti.

Diolch, Lywydd. Arweiniodd yr argyfwng costau byw yn hawdd at yr argyfwng cost gwneud busnes, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld hynny’n glir iawn. Mae nifer o fusnesau o bob rhan o Gymru, yn enwedig yn y sector lletygarwch, wedi dweud yn glir eu bod yn ei chael hi'n anodd, a heb os, nid yw’r gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes wedi helpu. Mae'r Llywodraeth wedi egluro pam eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw yn y gyllideb ddrafft, ond yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw a yw'r Gweinidog yn credu mai nawr yw'r amser i leihau rhyddhad ardrethi busnes, a beth a ddywedai wrth y busnesau hynny sydd wedi gwneud y symiau ac wedi dod i'r casgliad na allant barhau i fasnachu.

Y realiti yw, fel y dywedodd yr Aelod, fod yr argyfwng costau byw yn troi'n argyfwng cost gwneud busnes. Y realiti yw bod cost nwyddau a gwasanaethau yn llawer uwch na'r hyn ydoedd hyd yn oed flwyddyn yn ôl, hyd yn oed wrth i gyfradd chwyddiant ostwng o’r lefelau uchaf erioed hynny. Mae hynny hefyd yn golygu bod llai o arian ym mhocedi pobl sy’n dod i mewn i’r busnesau bach hynny, ac mae'n ymwneud â'r pwynt a wneuthum i lefarydd y Ceidwadwyr, ein bod wedi gweld, o dan oruchwyliaeth y Ceidwadwyr, ar ôl bron i 14 mlynedd wrth y llyw, y cwymp mwyaf mewn safonau byw a’r cynnydd mwyaf yn y baich treth ar bobl sy’n gweithio.

Yr her sydd gennym yw creu ymdeimlad o flaenoriaeth, ac os mai iechyd a llywodraeth leol yw ein blaenoriaethau, mae canlyniadau i hynny ym mhob rhan arall o’r gyllideb, ac mae perchnogion busnesau bach, er enghraifft, yn deall hynny. Nid yn unig am eu bod yn defnyddio gwasanaethau, ond mae rhai ohonynt hefyd yn gontractwyr gyda'r gwasanaethau hynny hefyd. Felly, credaf fod pobl yn gweld bod dewis gonest gan y Llywodraeth hon i flaenoriaethu meysydd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl, i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cymorth, yn enwedig i fusnesau bach ar draws yr economi, ond i wneud hynny mewn ffordd onest. Unwaith eto, rwy’n parchu’r ffaith bod pobl eraill am i ddewisiadau gwahanol gael eu gwneud. Pan awn drwy'r broses o graffu ar y gyllideb, bydd yn ddiddorol gweld a oes cynigion ynglŷn â ble i fynd ag arian ohono i ddarparu adnoddau ychwanegol mewn rhai o feysydd y Llywodraeth. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi realiti’r dewisiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud.

13:55

Y cwestiwn a ofynnais oedd a oeddech chi'n credu mai dyma’r amser i leihau rhyddhad ardrethi busnes ai peidio, ac fe wnaethoch nodi, yn gwbl briodol, pam nad nawr yw’r amser i wneud hynny pan fo busnesau’n wynebu costau cynyddol oherwydd chwyddiant a phrisiau ynni cynyddol. Credaf fod yr union ffaith bod busnesau’n dibynnu cymaint ar ryddhad ardrethi yn dangos bod angen diwygio ardrethi busnes.

Yn flaenorol, mae’r Llywodraeth wedi sôn am ei diddordeb mewn archwilio diwygio, felly ble mae’r Llywodraeth arni ar hynny? Nawr, mae'r Llywodraeth wedi dweud o'r blaen y byddai gostyngiad graddol yn y cymorth yn y pen draw. Felly, roeddech yn gwybod y byddai hyn yn digwydd. Roeddech yn gwybod ei fod yn dod. Felly, beth a wnaethoch gyda'r amser? Oherwydd mae angen system well ar fusnesau.

A dyna waith y mae'r Gweinidog cyllid yn arwain arno. Rydym wedi cymryd camau, er enghraifft, ar leihau’r lluosydd yma yng Nghymru. Mae hynny’n darparu budd parhaol a hirdymor, tra bo rhyddhad ardrethi yn para blwyddyn yn unig. Ac mae angen iddo edrych hefyd ar y ffaith, o ran cymharu ein hunain â rhannau eraill o'r wlad, fod gennym werthoedd ardrethol is ar eiddo yma yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan o'r ffactor ynglŷn â sylfaen costau.

Rwy’n cydnabod ei bod yn gyfnod anodd iawn i fusnesau ar draws yr economi, gan fod twf wedi bod mor farwaidd ledled y DU. Yr her yw: beth y gallwn ei wneud gyda’r adnoddau sydd gennym, a beth y gallwn ei wneud i ailosod yr hyn a all ac a fydd yn digwydd ledled y DU? Bydd hynny’n caniatáu i’r diwygiadau ardrethi busnes y mae ein Gweinidog cyllid eisoes yn eu hystyried fynd rhagddynt mewn cyd-destun gwahanol. Rwy’n obeithiol am y dyfodol er gwaethaf ein hanawsterau presennol, ac edrychaf ymlaen at greu’r dyfodol hwnnw mewn partneriaeth â Llywodraeth wahanol iawn ar draws y DU a chanddi set wahanol o werthoedd sy’n cyd-fynd â lle mae’r Llywodraeth hon yn dymuno mynd â’r economi ar ran pobl Cymru.

Terfynau Cyflymder 20 mya

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ddisgwyliedig y terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar economi Cymru? OQ60476

Nid oes terfyn cyflymder cyffredinol ar waith. Mae ein hasesiad effaith rheoleiddiol o’r terfyn 20 mya diofyn yn amcangyfrif manteision economaidd ehangach o £1.4 biliwn yn sgil gwell diogelwch ar y ffyrdd, manteision amgylcheddol ac iechyd o £0.5 biliwn yn sgil mwy o deithio llesol, a buddion pellach difesur o ganlyniad i economïau lleol mwy bywiog a chysylltiedig.

Weinidog, mae sawl mis wedi bod bellach ers cyflwyno’r terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya, mesur a orfodwyd ar y cyhoedd yng Nghymru. [Torri ar draws.] Achosodd ddicter ym mhobman. Cafodd bron i 0.5 miliwn o bobl eu cymell—[Torri ar draws.] Cafodd 0.5 miliwn o bobl eu cymell i lofnodi’r ddeiseb i wrthdroi’r polisi.

Rydych chi a'ch cydymgeisiwr yn yr etholiad arweinyddiaeth eich dau wedi ymrwymo i adolygiad o'r polisi, a fyddai'n fy arwain i gredu eich bod, o'r diwedd, yn ymwybodol o'i amhoblogrwydd, hyd yn oed o fewn eich plaid eich hun. Mae wedi'i feirniadu’n hallt gan wasanaethau rheng flaen hollbwysig, gan y gallai amharu ar amseroedd ymateb i argyfwng, yn ogystal â’r effaith ganlyniadol drychinebus bosibl o £4.5 biliwn ar economi Cymru. Weinidog, rydych wedi bod yn barod i gefnogi'r polisi hyd yn hyn, er bod yn rhaid eich bod yn deall y niwed y bydd yn ei wneud i economi Cymru. Mae'n amlwg o'ch cynigion arweinyddiaeth chi a Jeremy Miles eich bod yn sylweddoli nad yw'r polisi hwn yn dda i ddim, ac nad yw pobl yn cydymffurfio ag ef, ac eto, rydych yn bwrw ymlaen ag ef er gwaethaf hynny. A allwch egluro pam y gwnaethoch ei gefnogi, a pham eich bod yn parhau i'w gefnogi?

Wel, credaf y byddai David Melding yn anhapus iawn wrth glywed Ceidwadwr honedig yn dweud hynny am gynnig a gefnogwyd ganddo. Credaf hefyd, pe baech yn mynd i Portsmouth, gyda’u Haelod Seneddol Ceidwadol sydd wedi bod yn gyson o blaid y dull diofyn cynhwysfawr o ymdrin â therfynau cyflymder yno, lle mae 20 mya yn norm, credaf y byddai Penny Mordaunt yn dweud ei bod yn eithaf bodlon ar hynny yno. Ac os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, rydym wedi ymrwymo i adolygiad am ein bod yn awyddus i ddeall y pwynt ynghylch gweithredu a gwrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd i'w ddweud lle mae materion penodol yn codi mewn rhannau penodol o'r wlad. Nid yw'r polisi'n mynd i gael ei ddiddymu; mae'n ymwneud â sut rydym yn sicrhau ein bod yn gwrando, yn dysgu ac yn symud ymlaen.

14:00
Cefnogi Diwylliant a'r Celfyddydau

4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu a chefnogi sector y celfyddydau a'r sector diwylliant yng Nghymru? OQ60471

Mae sectorau diwylliant Cymru yn rhan annatod o gymdeithas a llesiant y genedl. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid uniongyrchol i gefnogi sectorau'r celfyddydau a diwylliant, yn nodi blaenoriaethau strategol ar gyfer ein cyrff hyd braich diwylliannol ac yn gweithredu fel asiantaeth ddatblygu ar gyfer y sectorau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Yng nghyllideb ddiweddar Llywodraeth Lafur Cymru, rydym wedi gweld toriad sylweddol i'ch portffolio diwylliant, Weinidog. Mae'n arbennig o siomedig yn dilyn rhybuddion gan ystod o sefydliadau am yr effaith y mae'r penderfyniadau hynny'n ei chael. Er enghraifft, fe wnaethoch chi gyhoeddi toriad o 10.5 y cant i Amgueddfa Cymru yn y gyllideb, a hynny er eu bod yn dweud bod ganddynt ddiffyg o £90 miliwn yn eu gwaith cynnal a chadw. Roeddent yn dweud bod gwaith mewn perygl yn llythrennol oherwydd bod waliau a thoeau'n gollwng, a bod bwcedi yn eu lle i gasglu'r dŵr glaw mewn nifer o'u safleoedd. Ond dim ond £4.7 miliwn o'r £90 miliwn a oedd ei angen i gefnogi Amgueddfa Cymru ar gyfer gwaith cyfalaf y daeth Llywodraeth Cymru o hyd iddo. Felly, er bod Llywodraeth yr Alban yn cynyddu gwariant ar y celfyddydau a diwylliant, mae Llywodraeth Cymru yn ei dorri, ac yn blaenoriaethu hoff brosiectau fel terfynau cyflymder 20 mya a mwy o wleidyddion. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, rwy'n dechrau meddwl tybed a oedd Plaid Cymru yn iawn, oherwydd dywedodd eich partneriaid cytundeb cydweithio nad oedd unrhyw un sy'n hyrwyddo'r sector celfyddydau o amgylch bwrdd Cabinet Llywodraeth Cymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos eu bod yn gywir, onid yw?

Hoffwn ddiolch i Tom Giffard am y cwestiwn hwnnw, ond nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno, oherwydd rwy'n ei chael hi'n anodd iawn derbyn pregeth gan blaid sydd wedi gorfodi cyni ataliadwy ar ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon, tra bo'n maeddu enw da'r DU yn fyd-eang. Fel y clywsom dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru bellach yn wynebu'r diffyg mwyaf mewn cyllid ers dechrau datganoli. Ac nid yw hynny'n unigryw i Gymru; mae gennym awdurdodau lleol yn Lloegr, llawer ohonynt yn gynghorau sy'n cael eu rheoli gan y Torïaid, sydd wedi cyhoeddi hysbysiadau adran 114, i nodi y gallent fynd yn fethdalwr yn fuan. A diau y byddwch wedi gweld y newyddion yr wythnos hon am Gyngor Sir Suffolk, sy'n cael ei reoli gan y Torïaid, yn diddymu eu holl gyllidebau diwylliant a chwaraeon oherwydd nad oes ganddynt unrhyw arian i'w gyflawni. Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn; mae'n ganlyniad i ddegawd o gyni a diffyg twf.

Mae Llywodraeth y DU wedi maeddu ein henw da ar lwyfan byd-eang. A ydych chi'n gwybod ein bod wedi cael cymaint â saith ysgrifennydd diwylliant ers 2018 yn unig? A gadewch inni edrych ar eu cyfraniadau nodedig, a'r hyn y maent wedi'i wneud. Nadine Dorries a Matt Hancock: pan nad ydynt yn defnyddio eu proffil i lansio eu gyrfaoedd mewn rhaglenni realiti ar y teledu, maent yn cyhoeddi gweithiau ffuglen. Maent wedi codi cywilydd ar swyddi cyhoeddus ac wedi rhoi eu hunain o flaen y sector. O'm safbwynt i, fel y Gweinidog diwylliant, rwy'n gweithio'n agos gyda'n cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru ar ddatblygu ein strategaeth ddiwylliant, rydym yn bwrw ymlaen â hwnnw, ac rydym yn gorfod gwneud hynny mewn sefyllfa ariannol anodd dros ben.

Ac un peth arall i'w ychwanegu i'r gymysgedd: o ran Amgueddfa Cymru a'u pryder ynghylch diogelu eu casgliadau, fe wnaethom roi £5 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol iddynt y llynedd i ddarparu cymorth ar unwaith ar gyfer hynny. Mae cyfanswm ein cyllideb eleni—y gyllideb gyfalaf i Gymru eleni, ar gyfer Llywodraeth Cymru gyfan—wedi cynyddu £6 miliwn. Sut ar y ddaear ydych chi'n meddwl y byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw beth i lenwi bwlch o £50 miliwn y mae Amgueddfa Cymru wedi'i nodi ar gyfer gwaith cyfalaf y maent angen ei wneud? Os gallwch ddweud wrthym lle gallwn ddod o hyd i'r math hwnnw o arian, Tom Giffard, buaswn yn hapus i drafod gyda chi a chydag Amgueddfa Cymru a gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ddarparu.

Weinidog, yn wahanol i'r Ceidwadwyr, nid wyf yn crïo dagrau crocodeil am y diffyg cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, pan nad ydynt yn dymuno modd o ddarparu hynny drwy gyllideb Trysorlys y DU, ac ar yr un pryd maent yn difrïo pob her o fewn Llywodraeth Cymru ac yn mynnu cyllid pellach. Mae'n hollol hurt. Ond Weinidog, fe wnaethoch chi ymweld yn ddiweddar, yn fy etholaeth i—[Torri ar draws.] A gallwn eu clywed yn mwmian y tu ôl i ni, oherwydd nad ydynt yn hoffi clywed y gwir, sef bod y toriadau a wynebwn yng Nghymru yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau gan eu Canghellor a'u Prif Weinidog, Rishi Sunak, a oedd yn dal llinynnau'r pwrs ar gyfer y Trysorlys tra bod yr holl benderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.

Weinidog, fe wnaethoch ymweld â grwpiau yn fy etholaeth yn ddiweddar, gan gynnwys Neuadd y Gweithwyr Blaengarw ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae gennym hefyd Tanio, sy'n buddsoddi'n sylweddol mewn celfyddydau cymunedol, gyda chefnogaeth sefydliad hyd braich Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae gennym hefyd fuddsoddiad enfawr yn mynd tuag at Neuadd y Dref Maesteg, partneriaeth gyda'r awdurdod lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflwyno a'i gwblhau hefyd. O'r celfyddydau uchel i'r celfyddydau isel, a fyddai hi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig fod Llywodraeth Cymru'n rhoi arwydd—er fy mod yn casáu'r arwyddion hynny—o gelfyddydau cymunedol a chelfyddydau poblogaidd i Opera Cenedlaethol Cymru ac eraill, fod angen inni edrych tuag at yr amseroedd da a thuag at Lywodraeth a fydd yn dod i mewn ac yn buddsoddi'n briodol yng Nghymru ac yn sector y celfyddydau a'r sector diwylliant?

14:05

Diolch am y cwestiwn hwnnw, oherwydd fel rwyf wedi'i ddweud droeon, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod gwerth sectorau'r celfyddydau a diwylliant a'r rhan bwysig y maent yn ei chwarae yn llesiant ein cymunedau. Felly, i mi, roedd hi'n hollol wych cael dod atoch ac ymweld â Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, a gadewch inni beidio ag anghofio'r clwb pêl-droed, oherwydd roedden nhw'n wych hefyd, ac mae'r ddau wedi elwa o gyllid Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Ac rwy'n credu, mewn cyferbyniad uniongyrchol â'r hyn y soniais amdano yn gynharach am Gyngor Sir Suffolk sy'n cael ei reoli gan y Ceidwadwyr ac sydd newydd ddiddymu eu cyllideb ddiwylliant, yr hyn rydym wedi'i weld yng Nghymru yw awdurdodau Llafur yn cefnogi sefydliadau diwylliannol lleol, lle mae ganddynt y gallu i wneud hynny. Ac mae gweld y gwaith sydd wedi cael ei wneud, y buddsoddiad o £8 miliwn yn Neuadd y Dref Maesteg, a'r hyn y mae hynny wedi ei wneud i'r gymuned leol, sefydliadau diwylliannol a'r ddarpariaeth yn yr ardal honno—mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r hyn a welwn yn y mannau eraill hynny.

Hoffwn ddweud yn fyr, Huw, er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol sy'n ein hwynebu—ac fe gafodd hynny ei nodi'n bendant ddoe yn y ddadl a gawsom ar y gyllideb—byddwn yn parhau i weithio mor agos ag y gallwn gyda'n cyrff hyd braich, a chyda sefydliadau diwylliannol lleol, i sicrhau y gallwn weithredu o fewn y gyllideb ddiwygiedig a pharhau i ddarparu'r math o gydlyniant diwylliannol cymunedol y mae angen inni ei weld yn lleol. Oherwydd fel y dywedodd rhywun ddoe—Rhun ap Iorwerth rwy'n credu—wrth ddyfynnu'r Coleg Nyrsio Brenhinol, nid yw bob amser yn ymwneud o reidrwydd â faint o arian sydd gennych; mae'n ymwneud â'r hyn a wnewch yn effeithiol gyda'r arian sydd gennych chi. A dyna'r sgyrsiau, yn amlwg, y mae'n rhaid inni eu cael, wrth symud ymlaen.

Cau Canolfannau Hamdden

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y bwriad arfaethedig i gau canolfannau hamdden ar chwaraeon cymunedol, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili? OQ60458

Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, mater i'w ystyried yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hwn. Fel rhan o'r broses o wneud unrhyw benderfyniadau lleol, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am eu hasesiadau eu hunain o ddarpariaeth gwasanaethau lleol a allai effeithio ar bobl yn yr ardal honno.   

Diolch, Weinidog. Mae canolfannau hamdden yn darparu buddion i gymunedau na ellir ond eu mesur mewn termau ariannol yn unig. Pan fyddant wedi mynd, bydd iechyd a llesiant pobl yn dioddef yn sylweddol. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod bygythiad yn fy rhanbarth i i ddau gyfleuster hamdden: mae canolfan hamdden Pontllan-fraith a chae hoci Rhisga ymhlith y cyfleusterau sydd mewn perygl o gael eu cau. Mae ymgyrch weithredol yn yr ardal yn galw am achub ein canolfan hamdden. Rwy'n gwybod bod y broblem hon wedi codi mewn ardaloedd ledled Cymru, a chyda thoriadau i Chwaraeon Cymru, mae effaith ganlyniadol ar faint y gall Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyrff eraill fuddsoddi mewn cyfleusterau llawr gwlad pan fo cyllidebau cynghorau yn lleihau. Mae llawer o awdurdodau lleol yn dibynnu ar fuddsoddiad gan sefydliadau fel y rhain i fuddsoddi mewn caeau trydydd cenhedlaeth ac ystafelloedd newid. Pa obaith y gellir ei roi i gymunedau fel Pontllan-fraith, fel Rhisga—yn wir, ledled Cymru—na fydd eu llesiant yn dioddef?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn amlwg, mae dwy ran i'ch cwestiwn. Rwy'n glir iawn mai'r cyrff a etholir yn ddemocrataidd, yr awdurdodau lleol, sydd yn y lle gorau i reoli a threfnu eu gwasanaethau hamdden. Rwy'n gwybod bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yr ydych chi'n cyfeirio ato yno, strategaeth chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol, a gwn eu bod yn gweithio i'w chyflwyno ar hyn o bryd. Mae ymgynghori helaeth wedi bod ar draws y fwrdeistref sirol, ac rwy'n deall bod penderfyniadau i'w gwneud o hyd ynglŷn â sut olwg fydd ar y ddarpariaeth honno yn y dyfodol. Ond i fod yn glir iawn, o ran cyllid Chwaraeon Cymru, rwy'n credu bod y gostyngiad sy'n rhaid inni edrych arno mewn perthynas â chyllid Chwaraeon Cymru yn ymwneud yn bennaf ag arian refeniw; ni fu toriad i'w cyllid cyfalaf. Mae'r cyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau llawr gwlad yn dal i fod yn £8 miliwn, felly mae cryn dipyn o waith y gellir ei wneud gyda sefydliadau lleol, drwy Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yn enwedig ar ddefnyddio caeau aml-gamp, caeau 3G y gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un gamp. Rwy'n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth weithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill i ddatblygu caeau sy'n addas ar gyfer rygbi a hoci ac yn y blaen yn ogystal â phêl-droed. Felly, mae gennym ddau beth yn digwydd yno, ond rwy'n hyderus fod digon o fewn cyllideb Chwaraeon Cymru o hyd i allu cynnig cefnogaeth sylweddol i gyfleusterau llawr gwlad gyda'r prosiectau cyfalaf sydd eu hangen arnynt.

14:10

Weinidog, mae canolfannau hamdden yn gyfleusterau hynod bwysig i gynifer o bobl a chymunedau ledled y wlad. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Delyth Jewell wedi sôn am Bontllan-fraith, canolfan hamdden yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, sy'n ased cymunedol hanfodol y mae trigolion bellach yn ymgyrchu i'w arbed rhag cau. Fel rwy'n siŵr y gallwch chi ddeall, mae canolfannau hamdden yn aml yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i breswylwyr. Mae pobl yn eu defnyddio i gadw'n heini, mae plant yn aml yn dysgu sut i nofio mewn canolfannau hamdden, ac rwy'n gwybod yr oeddwn i'n un o'r rheini hefyd. Gallaf ddweud yn onest fy mod wedi treulio llawer o ddyddiau hapus fy mhlentyndod yn y tonnau yng nghanolfan hamdden Casnewydd ac yn mynd i lawr y sleid mewn canolfan sydd bellach wedi'i dymchwel. Felly, mae'n bwysig ein bod yn diogelu'r cyfleusterau annwyl hyn ar gyfer y cymunedau. Fodd bynnag, mae cynnal canolfannau hamdden yn dasg gynyddol anodd. Felly, Weinidog, rwy'n derbyn yr hyn a nodoch chi, sef mai cyfrifoldeb cynghorau ydyw, ond fel Llywodraeth Cymru, gwn fod y canllawiau terfynol yn dod o'r fan hon. Felly, pa arweiniad, pa gefnogaeth a pha gydnabyddiaeth ydych chi am eu rhoi i gynghorau lleol i sicrhau bod canolfannau hamdden yn gallu aros ar agor, a ffynnu a goroesi yn y pen draw hefyd? Diolch. 

Diolch, Natasha Asghar, am y cwestiwn atodol hwnnw, ond unwaith eto mae'n rhaid imi ailadrodd bod yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud gyda'u grant cymorth ardrethi yn fater i'r awdurdod lleol. Nid yw wedi'i neilltuo. Nid yw'r cyllid y mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn wedi'i neilltuo, a mater iddyn nhw yw sut maent yn pennu eu blaenoriaethau o ran pa wasanaethau hamdden y mae angen iddynt eu darparu ar gyfer eu hetholwyr lleol. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o ystod eang o faterion pan fyddant yn pennu eu blaenoriaethau, yn enwedig dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac a fydd cau un ganolfan hamdden benodol yn golygu ei bod yn llawer anos i rywun o ran arall o'r fwrdeistref sirol honno gyrraedd ardal benodol i wneud eu gweithgareddau hamdden. Mae awdurdodau lleol, fel ni, yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â ble caiff eu harian ei wario, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonynt yn gorfod wynebu hynny ar hyn o bryd, ac yn gorfod ystyried rhai o'r penderfyniadau anodd iawn hynny ynghylch sut maent yn darparu nid yn unig gwasanaethau hamdden ond gwasanaethau eraill hefyd, ar y rheng flaen ac yn rhai o'r gwasanaethau mwy anstatudol. 

Cefnogi Busnesau Bach

6. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi busnesau bach yn 2024? OQ60468

Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi blaenoriaethau economaidd allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod a fydd yn cefnogi busnesau bach i feithrin cydnerthedd a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer arloesi a thwf cynaliadwy. Byddwn yn darparu cymorth penodol sydd ar gael drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, ac yn wir, Banc Datblygu Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Roedd cyfarfod cyntaf y flwyddyn i mi ar 2 Ionawr, pan gefais wahoddiad gan ddynes o'r enw Jaz Hudson, sy'n adnabyddus am wneud bwydydd a chacennau blasus yn ei chaffi yn Neuadd Glansevern rhwng y Drenewydd a'r Trallwng. Roedd hi'n trefnu digwyddiad Rhwydwaith Gwell Busnes, lle gwahoddodd nifer o fusnesau lleol i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a chefnogi ei gilydd. Soniais fy mod am ofyn cwestiwn i chi yr wythnos hon, ac fe wnaethant awgrymu cwestiwn i'w ofyn i chi, rhywbeth y credwn ei fod yn briodol, o ystyried ein bod ar ddechrau blwyddyn newydd a'ch dyheadau ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ond roeddent yn gofyn beth yw'r newid pwysicaf y gallech chi ei wneud i gefnogi twf busnes a beth sy'n eich atal chi rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Ac ymhellach, roeddent hefyd eisiau imi estyn gwahoddiad i chi ymuno â nhw yn eu digwyddiad rhwydweithio nesaf.

Rwy'n credu bod yr hyn y gallem ei wneud gyda'r pwerau sydd gennym yn ymwneud â'r sgiliau sydd gan bobl, gan gynnwys y sector busnesau bach. Hoffwn fuddsoddi mwy yn y cymorth, y cyngor a'r cymwysterau i bobl, fel y gwnaethom yn llwyddiannus gyda'n cyllid UE. Fe wnaeth wahaniaeth go iawn. Y rhwystr mwyaf yw'r ffaith nad oes gennym fynediad at hwnnw. Nid oes gennym allu i wneud y dewisiadau hynny mwyach oherwydd dewisiadau a wnaed am y ffordd y cafodd cronfeydd blaenorol yr UE eu dyrannu—nid yn unig y swm, ond y ffaith na allwn eu defnyddio ar lefel Cymru gyfan i lunio rhaglenni sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Boed yn brentisiaethau, yn bobl yn cael eu cymwysterau, yn allu i fasnachu gyda hyder a llwyddiant, mae arnaf ofn, Russell, i chi, o leiaf, mai'r peth mwyaf y gallem ei wneud i allu gwneud hynny yn y dyfodol yw ethol Llywodraeth newydd ledled y DU. 

14:15

Dod o hyd i staff ydy un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu busnesau bach. Yn Ynys Môn, mae Môn CF wedi gweithio'n galed i adeiladu perthynas efo busnesau er mwyn adnabod eu hanghenion staffio nhw a cheisio dod o hyd i gyfleon i bobl ddi-waith. Yn anffodus, maen nhw'n wynebu toriad o dros 40 y cant yn eu cyllideb drwy'r rhaglen Communities for Work, er eu bod nhw wedi mwy na dyblu eu targed o ran creu swyddi. Rŵan, mae yna amrywiaeth mawr ym mherfformiad y rhaglenni yma ar draws Cymru, ond all y Gweinidog edrych eto, ac o leiaf sicrhau bod y rheini sydd wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i'w targedau yn cael eu gwarchod rhag toriadau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau efo'r gwaith da o greu swyddi? Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog ar y mater yma yn gynharach heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at obeithio gallu rhoi rhywfaint o newyddion da i Môn CF fod modd edrych eto ar y newyddion sydd wedi cael ei roi iddyn nhw'n barod.

Diolch am y cwestiwn.

Mae angen imi fod yn uniongyrchol ac yn onest ynglŷn â sefyllfa'r gyllideb. Mae gennym £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag a oedd gennym ddwy flynedd yn ôl, ac ni allwch guddio'r raddfa honno o ostyngiad yn ein pŵer gwariant. Os ydym am ddiogelu'r setliad llywodraeth leol, a buddsoddi mwy mewn iechyd, fel rydym wedi dewis ei wneud, bydd hynny'n arwain at ganlyniadau cyllideb ym mhobman arall yn y Llywodraeth. Ac rwy'n credu mai dyna'r dewis cywir a wnaethom fel Llywodraeth. Mae hynny'n golygu felly fod yn rhaid i chi wneud gostyngiadau mewn rhannau eraill o wariant. Felly, ym mhob un o'r meysydd cyflogadwyedd yr hoffwn fuddsoddi mwy ynddynt, yn y tymor byrrach ni allwn wneud hynny os ydym am oresgyn ein her gyllidebol. Felly, nid ar Cymunedau am Waith yn unig y mae'n effeithio, mae'n effeithio ar bethau eraill hefyd.

Rwy'n gwybod bod eich cyd-Aelod Luke Fletcher wedi siarad am brentisiaethau, ond mewn gwirionedd, os ydych chi am fod yn onest ag ef, mae'n rhaid ichi nodi, os ydych chi eisiau gwneud y pethau sylfaenol, ac os yw iechyd a llywodraeth leol yn flaenoriaethau ar gyfer yr holl bethau y maent yn eu gwneud, mae'n rhaid ichi wneud dewisiadau eraill. Hoffwn weld—. Ac os oes ffordd o edrych ar ddewisiadau amgen o fewn y gyllideb, i roi mwy o arian i feysydd eraill, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y byddai hynny'n edrych. Fel y dywedodd Rebecca Evans ddoe, mae'r Ceidwadwyr wedi cymryd mwy na degawd i gynnig cyllideb amgen. Rydym yn wynebu mwy na chraffu ynghylch pam na allwn ddod o hyd i fwy o arian yn y broses drwy bwyllgorau—mae'n rhaid inni osod cyllideb y gall y Senedd hon ei phasio, ac un y gellir ei mantoli.

Felly, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar yr ohebiaeth gan yr Aelod, ond yr hyn na allaf ei ddweud wrtho yw bod gennyf swm ychwanegol o arian yn aros i gael ei wario. Felly, buaswn yn falch iawn o weld yr ohebiaeth, i'w hystyried, ac mewn gwirionedd rydym eisoes yn adolygu sut mae ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau yn gweithio a sut maent yn gweithio gyda'i gilydd. Rydym yn bwriadu gwneud y gwaith hwnnw ar y cyd â llywodraeth leol ac eraill, oherwydd rydym yn cydnabod gwerth yr hyn rydym wedi'i wneud, ac rydym yn ceisio amddiffyn a gwella hynny ar gyfer y dyfodol, ac mae gennym fodel y gallwn fuddsoddi mwy ynddo yn y dyfodol os bydd gennym setliad ariannol gwahanol wrth symud ymlaen.

Weinidog, yn y cyfnod cyn y Nadolig, cynhaliodd ardal gwella busnes Aberdâr raglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddenu pobl i ganol y dref. Yn allweddol i hyn roedd ymyriadau i hyrwyddo'r busnesau bach gwych sydd gennym yn y dref, er enghraifft drwy gynllun teyrngarwch y Nadolig oedd yn cynnig talebau i bobl eu gwario mewn siopau lleol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch ardal gwella busnes Aberdâr ar ŵyl Nadolig anhygoel Aberdâr? Ond yn fwy cyffredinol, pa fath o ymyriadau rydych chi a chyd-Weinidogion ledled Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gefnogi a datblygu'r busnesau bach sydd gennym yng nghanol ein trefi?

Diolch. Bydd rhai Aelodau'n gwybod beth mae ardal gwella busnes yn ei olygu. Mae'n cynnwys cais gan fusnesau lleol sy'n gweithio gyda'u hawdurdodau lleol i edrych ar flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn busnesau bach, ac os bydd yn llwyddiannus bydd pawb yn talu ardoll i ganiatáu iddynt fuddsoddi yn y blaenoriaethau hynny. Ac mae cynlluniau 'siopa'n lleol' yn rhan o hynny i raddau helaeth. Byddwn yn parhau i ddarparu mewnwelediad ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu a thyfu, ac yn gweithio gyda gwasanaeth Busnes Cymru i ddeall sut y gallwn helpu gwahanol fusnesau lleol i weld dyfodol lle mae mwy o fasnach leol yn dod i mewn. Mae rhai rhannau o Gymru yn llwyddiannus iawn, boed yn Arberth neu rai trefi yn y Cymoedd hefyd, lle mae ganddynt fusnesau bach bywiog iawn a lleol, sy'n aml yn cael eu rhedeg gan gwmnïau annibynnol yn y sector hwnnw. Felly, byddwn yn parhau i geisio gweithio'n uniongyrchol gyda'r busnesau hynny i sicrhau ein bod yn parhau i gydnabod dyfodol y sector manwerthu, ond yn fwy na hynny, ein bod yn parhau i helpu pobl i ddechrau busnesau newydd hefyd. Dyna pam rwy'n falch o gyhoeddi rownd arall o'n grant cychwyn busnes sy'n cynnig hyd at £2,000 i helpu entrepreneuriaid i sefydlu busnes—nid yr arian yn unig, ond y cyngor sy'n dod gydag ef hefyd.

14:20
Brwydro yn erbyn Trais ar sail Rhywedd drwy Chwaraeon

7. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyrff chwaraeon ynghylch brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd? OQ60474

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw? Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cadw'n dawel am unrhyw fath o gamdriniaeth, gan gynnwys trais ar sail rhywedd. Bydd dull cymdeithas gyfan Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, yn seiliedig ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn ein helpu i herio a newid yr ymddygiadau hyn yn uniongyrchol ar draws pob sector, gan gynnwys chwaraeon.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn hŷn ac yn ddoethach o ganlyniad i'r—. Mae bron i flwyddyn ers inni glywed am y bygythiad dirfodol i un o'n cyrff chwaraeon amlycaf ac rwy'n llongyfarch arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru am y camau y maent yn eu cymryd i unioni problemau'r gorffennol. Ond yn amlwg mae angen inni edrych mor eang â phosibl ar yr hyn a all fod yn fygythiad i'r cynnydd y dymunwn ei wneud. Er enghraifft, mae yna ymdrech gref i gynnwys mwy o swyddogion benywaidd mewn chwaraeon, ac yn enwedig menywod i oruchwylio gemau sy'n cael eu chwarae gan ddynion. Ac o ystyried bod yna enghreifftiau eisoes o gamdriniaeth wedi'i thargedu at swyddogion mewn gemau gwylwyr, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff chwaraeon i sicrhau bod swyddogion benywaidd yn cael eu hamddiffyn rhag mwy fyth o gamdriniaeth ac nad ydynt yn cael eu digalonni rhag ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn?

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw? A chyn imi ateb, efallai y byddai'n werth cydnabod ei bod yn dda iawn gweld swyddogion benywaidd yn codi o'r rhengoedd, fel Cheryl Foster, dyfarnwr pêl-droed Cymru a chyn-chwaraewr, wrth gwrs; Rebecca Welch—hi oedd y dyfarnwr benywaidd cyntaf i weinyddu yn yr Uwch Gynghrair ym mis Rhagfyr y llynedd; a Hollie Davidson, dyfarnwr rygbi'r Alban—i gyd yn gweinyddu ar y lefel uchaf o chwaraeon proffesiynol. Ac mae hynny i'w groesawu, ac rwy'n credu fy mod eisiau cofnodi hynny. Oherwydd, wyddoch chi, heb y swyddogion hyn, ni all ein campau ffynnu ac ni allant ddigwydd hyd yn oed. Felly, mae'n bwysig eu bod yn gwneud y gwaith hwnnw.

Ond ein man cychwyn yw bod y rhaglen lywodraethu sydd gennym yn ymwneud ag annog cyfranogiad menywod ym mhob agwedd ar chwaraeon, boed hynny ar gyfer mynd yn swyddogion, cymryd rhan mewn chwaraeon, neu fod yn wylwyr chwaraeon yn unig. Ni ddylai unrhyw beth rwystro menywod rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Ac fel y dywedwch yn gywir, Jenny, fe wnaeth yr hyn a welsom gydag Undeb Rygbi Cymru ychydig dros flwyddyn yn ôl bellach ein deffro i'r hyn a oedd yn digwydd. Bu'n rhaid i ni ac Undeb Rygbi Cymru ymateb yn gyflym, a hyd yma mae'r holl arwyddion yn gadarnhaol iawn o ran sut mae'r sefydliad yn ymdrin â hynny.

Ond mae gennym ddyletswydd i herio ein hunain, onid oes, mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a chasineb at fenywod a'r anghydraddoldeb rhywedd y tu ôl i hynny. Felly, mae yna drafodaethau'n mynd rhagddynt gyda sefydliadau chwaraeon ynglŷn â'r rôl bwysig y gallant ei chwarae i gefnogi'r frwydr yn erbyn trais ar sail rhywedd. Ac yn ogystal â'r ddarpariaeth bresennol sydd gennym yn y maes hwnnw, gan gynnwys, fel y byddwch yn gwybod, llinell gymorth hirsefydlog Byw Heb Ofn a sefydlwyd gennym beth amser yn ôl, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ymgyrch fawr newydd sy'n annog dynion ifanc i fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn mabwysiadu ymagwedd cymdeithas gyfan tuag at hyn.

Un o'r pethau rwyf wedi'i ddweud droeon yw bod yr hyn a welsom yn Undeb Rygbi Cymru, yr hyn rydym wedi'i weld eto yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eleni, yr hyn a welsom mewn sefydliadau eraill, S4C, ac fe welsom rywbeth tebyg yng Nghydffederasiwn Diwydiant Prydain hefyd gyda chwynion yn dod i'r amlwg yno—mae hwn yn fater cymdeithasol. Nid yw'n fater sy'n ymwneud ag unrhyw sefydliad penodol. Yr hyn sy'n bwysig, fodd bynnag, yw bod gan y sefydliadau hynny bolisïau a gweithdrefnau ar waith. Wrth gwrs, mae hynny'n bwysig, ond yr hyn sy'n bwysicach na hynny yw'r ffordd maent yn defnyddio'r polisïau a'r gweithdrefnau hynny, a sut maent yn datblygu diwylliant o fewn y sefydliadau sy'n sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau hynny'n ddiogel i fenywod. Felly, fe welsom, er enghraifft, yn Undeb Rygbi Cymru, ac rwy'n credu ein bod wedi gweld gyda gwasanaeth tân de Cymru hefyd fod yr holl fathau hynny o weithdrefnau ar waith. Fodd bynnag, ni roddwyd ystyriaeth ddifrifol i'r menywod a gododd eu llais ac felly mae pa mor dda mae'r gweithdrefnau hynny'n gweithio yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae'r bobl sy'n rhedeg y sefydliadau hynny'n ystyried y cwynion sy'n dod i law a sut maent yn ymdrin â nhw, a dyna'r allwedd i hyn: mae'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â'r mater mewn gwirionedd. Rwy'n hyderus ein bod yn rhoi gweithdrefnau, polisïau a strategaethau ar waith, gan weithio gyda sefydliadau a chymdeithas yn gyffredinol, i geisio newid yr ymagwedd ddiwylliannol tuag at fenywod mewn cymdeithas.

14:25

Rwy'n falch o glywed eich bod mor gefnogol i fenywod a merched mewn chwaraeon. Rwyf wedi bod yn pryderu ychydig am rai o'r sylwadau rydych chi wedi'u gwneud yn ddiweddar ar hynny, oherwydd y pwysigrwydd absoliwt fod gan fenywod a merched eu hystafelloedd newid eu hunain a bod ganddynt eu campau eu hunain, ac nad ydym yn caniatáu ideoleg rhywedd i gymryd drosodd mewn chwaraeon. Mae mor bwysig—rhyw dros rywedd—o ran diogelwch merched a menywod mewn chwaraeon. A fyddech chi'n cytuno â hynny?

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar hynny, Laura, yw bod penderfyniadau ar gyfranogiad pobl drawsryweddol mewn unrhyw ran o gymdeithas yn dod o gynhwysiant fel man cychwyn. Mae'n rhaid i ni osgoi plymio ymhellach i'r hyn sy'n aml yn ddadl greulon a gelyniaethus iawn ynghylch hawliau pobl drawsryweddol, a'r ymgais i awgrymu, yn uniongyrchol neu fel arall, eu bod rywsut yn rheibus ac yn berygl i'r cyhoedd. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am gefnogi'r gymuned drawsryweddol. Mae'n parhau i fod yn un o'r ychydig grwpiau mewn cymdeithas heddiw lle mae'n ymddangos ei bod yn dderbyniol i wahaniaethu yn eu herbyn, i'w cam-drin, i'w dychryn ac ymddengys ei bod yn dderbyniol iddynt fod yn destun trais corfforol ac ymosodiadau, a hyd yn oed llofruddiaeth.

Mae'n fater cymhleth, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i gydnabod nad yw pobl yn dechrau ar y broses o ailbennu rhywedd ar chwarae bach. Pan fyddant yn dewis gwneud hynny, dylid eu cefnogi ac ni ddylid eu barnu, ac mae'r rhethreg wrth-drawsryweddol honno'n tanseilio'r gwaith da sy'n digwydd mewn cymaint o leoliadau i gefnogi pobl drawsryweddol, gan gynnwys yn ein system addysg. Felly, nid wyf am gadw'n dawel a chaniatáu i naratif gwrth-drawsryweddol fynd heb ei herio, ac ni fyddaf yn cael fy nhynnu i mewn i bydew diwaelod poblyddol asgell dde o bardduo'r gymuned drawsryweddol. Rwy'n apelio am fwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad tuag atynt. 

Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru? OQ60475

Gwnaf, nodais fy mhedair blaenoriaeth ar gyfer economi gryfach ar 28 Tachwedd y llynedd. Dylai hyn ein galluogi i fwrw ymlaen â'r genhadaeth economaidd ledled Cymru er mwyn cydnabod y pwysau economaidd sylweddol sy'n ein hwynebu. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar dwf gwyrdd, cefnogi pobl ifanc, cyflawni ar draws rhanbarthau Cymru, ac yn benodol, buddsoddi i sicrhau twf mewn swyddi da ar gyfer dyfodol yr economi.

Ar y swyddi hynny, gwrandewais ar Paul Davies gyda diddordeb. Fel y gŵyr, mae gennyf barch mawr tuag ato, ond y prif sbardun ar gyfer y problemau gyda phrentisiaethau yw Brexit, a wrthwynebwyd gan y Gweinidog, a hefyd, wrth gwrs, ardoll brentisiaethau drychinebus Llywodraeth y DU, sydd, i bob pwrpas, yn dreth ar gyflogwyr yng Nghymru heb fawr ddim elw yma. Mae angen setliad gwell arnom, felly a wnaiff y Gweinidog amlinellu beth arall y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i alluogi Llywodraeth Cymru i ehangu prentisiaethau, gan gyfeirio at yr ardoll brentisiaethau, ac a yw wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chynrychiolwyr San Steffan ynglŷn â hyn? 

Ie, rydym yn ei chael hi'n anodd iawn ac yn rhwystredig, mewn ffordd. Pan gyflwynwyd yr ardoll brentisiaethau, dywedwyd wrth y Gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, y byddai £109 miliwn yn dod i Gymru; yna darllenodd y byddai £117 miliwn yn cael ei dynnu'n ôl oherwydd newidiadau eraill mewn cyllid prentisiaethau. Felly, wrth gyflwyno'r ardoll gwelwyd gostyngiad net o £8 miliwn yn y fformiwla ariannu ar gyfer prentisiaid yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, pan fo pobl yn ceisio cymharu'r ardoll brentisiaethau yn Lloegr â'r un sydd gennym yma yng Nghymru, nid ydym yn cymharu'r un pethau. Mae'r cyflogwyr sy'n cael eu harian eu hunain i'w wario mewn cyfrifon yn Lloegr wedi talu amdano a mwy, ac rydym yn dal i fod wedi gweld gostyngiad.

Yr hyn a wnaethom gyda'n hadnoddau ein hunain yw buddsoddi hyd yn oed mwy mewn cyllid prentisiaethau, ac rwy'n falch o weld Ken Skates ar y sgrin, ac yn wir, fy nghyd-Weinidog Eluned Morgan yma, oherwydd pan oeddent yn Weinidogion â chyfrifoldeb am sgiliau, fe wnaethom fwy nag edrych eto ar yr hyn a wnawn yn unig a pha mor addas i'r diben ydyw, fe wnaethom ddewisiadau go iawn ynghylch faint i'w fuddsoddi. Credaf fod Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, wrth gadw ei haddewid i roi'r arian a'r pwerau dros gronfeydd blaenorol yr UE yn ôl, yn un o'r pethau gorau a allai ddigwydd ar gyfer dyfodol prentisiaethau. Byddai'n caniatáu i ni ailgyflwyno rhaglen brentisiaethau strategol genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan, rhywbeth a gafodd ei roi i'r naill ochr yn fwriadol gan y Torïaid pan wnaethant lunio'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid mecaneg gwleidyddiaeth yn unig mohono; mae'n wirioneddol bwysig. Byddem yn gweld mwy o arian yn cael ei roi tuag at bwrpas hyd yn oed yn well. Ac edrychaf ymlaen at ymgyrchu dros ddychwelyd y pwerau a'r arian y dylai'r Senedd hon allu craffu arnynt a helpu'r Llywodraeth i'w cyfeirio. 

14:30
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.

Amseroedd Aros y GIG

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ei chael ar amseroedd aros y GIG yn 2024? OQ60459

Er nad yw'r cyllid yn cael ei leihau, gall y gwerth, mewn termau real, effeithio ar yr hyn y gellir ei gyflawni. Cynghorwyr lleol sy'n gyfrifol am y ffordd y mae cyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu dyrannu. Bydd gwell gweithio mewn partneriaeth, fel y caiff ei fonitro drwy adrodd ar lwybrau gofal, yn asesu'r effaith, ac mae gan ofal wedi'i gynllunio gamau i leihau'r ddibyniaeth ar welyau acíwt. 

Diolch, Weinidog. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn cadw pobl yn iach am fwy o amser y tu allan i'r ysbyty a'i gwneud yn bosibl rhyddhau cleifion i'w cartrefi yn gyflymach ac yn fwy diogel. Canfu ymchwil ddiweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod gostyngiadau mewn gwariant gofal cymdeithasol wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys gan unigolion 65 oed a hŷn. Roedd yr effeithiau yn fwyaf amlwg ymhlith yr hynaf oll, hynny yw, y rhai 85 oed a hŷn, a'r rhai sy'n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cydlynu rhwng ysbytai a darparwyr gofal cymdeithasol. Gan fod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi rhagweld bwlch cyllidebol o £646 miliwn dros y tair blynedd nesaf, a yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd amseroedd aros yn parhau i waethygu o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n llygad eich lle, mewn gwirionedd, fod y berthynas rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yn un y mae'n rhaid inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei chylch. A'r gwir amdani yw ein bod ni yng Nghymru'n gwario 40 y cant yn fwy o arian yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr ar ofal cymdeithasol i oedolion. Ond mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon o hyd, ac mae'r ffaith bod dros 2,000 o weithwyr gofal cymdeithasol wedi mynd adref ar ôl Brexit ac nad ydynt wedi dychwelyd wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Ac rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi clywed hynny, ond dyna'r realiti, yn enwedig mewn ardaloedd fel gorllewin Cymru, lle mae wedi bod yn anodd iawn recriwtio a lle mae rhannau eraill o'r economi bellach yn amsugno'r bobl a oedd yn arfer gwneud gwaith gofal cymdeithasol. Mae llawer ohonynt bellach wedi troi at letygarwch a meysydd eraill lle mae bylchau erbyn hyn, unwaith eto o ganlyniad i Brexit. 

Y gwir amdani yw ein bod yn gwario llawer o arian ac yn treulio llawer mwy o amser yn cydlynu ein hymdrechion yng Nghymru rhwng y GIG a llywodraeth leol. Mae gennym gyllideb gadarn iawn wedi'i sefydlu, y gronfa integreiddio rhanbarthol—£144 miliwn yn flynyddol yn benodol er mwyn sicrhau bod y gwaith integredig hwnnw'n parhau. Oherwydd rydych chi'n llygad eich lle, os nad ydym yn cael y llif drwy'r ysbytai, mae'n cael effaith ar ofal wedi'i gynllunio. Ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth yr hoffem ei osgoi, ac mae'n rheswm pam ein bod nid yn unig yn sicrhau bod y gwaith a wnawn mewn perthynas ag asesiadau a phethau yn rhagweithiol iawn, ond hefyd pam ein bod yn ceisio dilyn yr argymhelliad y mae meddygon gorau yn ei awgrymu, sef y dylech chi gynyddu'n sylweddol faint o lawdriniaethau gofal dydd a wnewch. Rydym yn gwneud gormod o lawdriniaethau sy'n galw am arhosiad dros nos.

Gofal Iechyd Sylfaenol yn Nwyrain Casnewydd

2. Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o argaeledd gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn Nwyrain Casnewydd? OQ60481

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i fuddsoddi a gweithio i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain Casnewydd, er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer 'Cymru Iachach'.

Diolch am hynny, Weinidog. Mae'n dda iawn gweld buddsoddiad parhaus yn y gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol hynny, ac rwy'n falch iawn, yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd, y bydd gennym ganolfan iechyd a lles integredig newydd yn agor, ymhen tua blwyddyn, gobeithio. Ond mewn rhannau eraill o Ddwyrain Casnewydd mae cryn bryder yn y gymuned ynglŷn â diffyg gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol digonol, Weinidog. Yng Nglannau Hafren, ym Magwyr a Gwndy, mae yna boblogaeth sy'n tyfu'n gyflym, gyda llawer o dai newydd wedi'u hadeiladu ac yn dal i gael eu hadeiladu, a dim ond gwasanaeth meddygon teulu allgymorth ategol, gydag oriau cyfyngedig, o Feddygfa Gray Hill yng Nghil-y-coed. Mae pobl yn teimlo'n gryf iawn yno, ym Magwyr a Gwndy, nad oes gwasanaethau, gan gynnwys gofal iechyd sylfaenol, ar gael ac yn cael eu datblygu i gyd-fynd â chyfradd dwf y boblogaeth a thai newydd. Felly, tybed beth rydych chi'n ei weld fel mecanwaith, Weinidog, i gymunedau wneud y pryderon hynny'n hysbys ac i weithio gyda'r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwell darpariaeth ar gael yn y dyfodol agos.

14:35

Gwych. Diolch yn fawr iawn, a diolch am y datblygiad yn Ringland sydd i'w groesawu—gwerth £28 miliwn o gyllid yn mynd tuag at y datblygiad hwnnw, ac fel y dywedwch, rydym yn gobeithio y bydd hwnnw yno i bawb ei ddefnyddio erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Fe wyddom fod llawer o bwysau ar feddygfeydd meddygon teulu yn arbennig ar hyn o bryd. Dyna pam mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw tynnu'r pwysau oddi arnynt trwy bethau fel sicrhau bod fferyllfeydd yn gallu ysgwyddo rhywfaint ohono. Mae llawer o fferyllfeydd bellach yn gallu presgripsiynu, ac yn amlwg, mae gennym y cynllun anhwylderau cyffredin, sydd eisoes wedi'i gyflwyno ledled Cymru gyfan.

Ond o ran yr hyn sy'n digwydd nesaf, rydym yn amlwg yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gweld mwy o integreiddio, yn enwedig rhwng canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddod â'r gwasanaethau cyhoeddus lleol hynny at ei gilydd. Ond mae ein rhaglen—ac mae llawer o arian wedi'i neilltuo i'r rhaglen hon—yn cael ei llywio gan y cynlluniau cyfalaf strategol a gyflwynir i ni gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Felly, os oes gan bobl yn y cymunedau hynny unrhyw bryderon, y peth i'w wneud yw siarad â'r bwrdd iechyd lleol, a fydd wedyn yn penderfynu a yw hyn, yn wir, yn un o'u blaenoriaethau o fewn cymhlethdod eang yr holl bethau eraill y gallent fod eisiau eu gwneud. Wedyn, fe fydd yna ymarfer blaenoriaethu, yn amlwg, yng ngoleuni fforddiadwyedd, i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu darpariaeth sy'n deg ar draws Cymru gyfan. 

Weinidog, rwy'n mynd i ofyn cwestiwn i chi y credaf yn siŵr fod llawer o Aelodau eisoes wedi'i ofyn yn y gorffennol, ond mae ceisio cael apwyntiad deintydd yn uffern i lawer o bobl, ac mae'n rhywbeth y bydd pobl yn cysylltu â mi yn ei gylch yn ddyddiol. Mae trigolion ar draws de-ddwyrain Cymru bellach yn cael eu gorfodi i ddioddef poen wrth iddynt ymdrechu i gael apwyntiad neu hyd yn oed ddod o hyd i ddeintydd ar y GIG yn y lle cyntaf. Gorfodwyd un o fy etholwyr oedrannus i deithio dros y ffin i Loegr i dalu am driniaeth breifat wedi iddi gael trafferth dod o hyd i bractis lleol i'w gweld ar y GIG. Ac rwyf am gyfaddef yma heddiw yn y Siambr, heb unrhyw gywilydd, fy mod wedi mynd â fy mam fy hun dros y ffin am fod y practis deintyddol lle roedd hi'n glaf wedi gwrthod ymdrin â hi pan oedd hi'n dioddef poen a gofid y ddannoedd. Ac yn bersonol, teimlwn fod eu hawydd i'w chael hi ar becyn talu-wrth-fynd misol yn llawer mwy na rhoi'r driniaeth feddygol roedd hi ei hangen iddi.

Nawr, Weinidog, nid yw mynd yn breifat yn opsiwn i lawer o fy etholwyr. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, nad yw straeon fel y rhai rwyf newydd eu rhannu yn dderbyniol ac y dylai pobl ledled Cymru gael mynediad hawdd at ddeintyddion y GIG. Felly, Weinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael eu gweld gan ddeintyddion y GIG o fewn amser rhesymol?

Diolch yn fawr. Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi treulio cryn dipyn o amser yn ceisio ad-drefnu maes sy'n wynebu heriau mawr trwy gyflwyno contract newydd, ac mae'r contract newydd hwnnw wedi golygu, am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, fod y deintyddion hynny'n derbyn cleifion newydd. Nawr, a ydynt yn derbyn digon? Nac ydynt, oherwydd, yn amlwg, bu gostyngiad, yn rhannol o ganlyniad i'r pandemig a dulliau newydd y mae'n rhaid ichi eu gwneud i sicrhau nad oes unrhyw heintiau'n lledaenu. Ond y ffaith amdani yw bod bron i 290,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ers mis Ebrill 2022, nifer go sylweddol, gan gynnwys 50,000 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Nawr, rwy'n derbyn nad yw'r bobl y soniwch chi amdanynt wedi'u cynnwys ymhlith y rheini, ond yn amlwg, rydym wedi gofyn iddynt feddwl am y rhestrau canolog hyn fel ein bod yn llawer cliriach am yr hyn sydd angen inni ei wneud. Ond ni allwch greu deintyddion dros nos. Mae deintyddion yn penderfynu a ydynt am weithio i'r GIG neu'r sector preifat. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio i'r ddau, a bod yn onest. Ond nid yw'n rhywbeth y gallwch chi orfodi pobl i'w wneud, yn enwedig pan fo'n cyllidebau'n gyfyngedig. Dyna pam mai un o'r pethau y ceisiwn ei wneud yw ehangu'r cyfleoedd i bobl weld therapyddion deintyddol. Rydym yn hyfforddi mwy o therapyddion deintyddol nag erioed o'r blaen, er mwyn sicrhau y gallwn leihau'r pwysau, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn awgrymu na ddylai fod angen ichi weld deintydd fwy nag unwaith bob dwy flynedd os oes gennych ddannedd iach. A'r ffaith amdani yw bod y rhan fwyaf ohonom wedi dod i arfer dweud, 'Iawn, gadewch inni fynd am ein harchwiliad chwe mis' pan nad yw'n angenrheidiol. Ac felly mae angen inni wneud lle i'r bobl sydd angen yr apwyntiadau hynny mewn gwirionedd, a dyna rydym wedi ceisio ei wneud. 

14:40

Yn dilyn cwestiwn Natasha, mae rhybuddion wedi bod, yn amlwg, dros y flwyddyn ddiwethaf fod deintyddiaeth y GIG yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Efallai ei bod yn wir fod ôl-groniadau ar gyfer y rhai sy'n aros am driniaeth wedi cael eu lleihau, ond maent eto i ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Mae hefyd yn wir ei bod bellach yn anhygoel o anodd cael deintydd GIG, gan olygu mai gofal deintyddol preifat drud yw'r unig opsiwn arall. Mae'n broblem arbennig i gyn-filwyr sydd wedi dychwelyd i fywyd sifil ar ôl degawdau o gyflawni rôl anodd a llawn straen. Mae gennyf etholwr sydd wedi gadael y lluoedd arfog ers degawd ac sy'n dal yn methu cael deintydd GIG. Dywedodd un etholwr: 'Mae hon yn broblem enfawr. Fe adewais yn 2014 ac rwy'n dal i orfod mynd yn breifat. Nid oes cymorth ar gyfer gwneud hynny, ond eto mae iechyd yn rhan o gyfamod y lluoedd arfog. Mae'n rhaid inni gael lle awtomatig, rwy'n credu. Nid yw'n fai arnom ni nad ydym wedi byw yn ein pentref lleol ers ein geni.' Weinidog, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y cyn-filwyr, yn ogystal â phobl nad ydynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, sy'n aros ac yn aros am ddeintydd GIG?

Wel, diolch yn fawr iawn. Wel, fe fyddwn i'n dweud y dylent sicrhau bod eu henw ar restr, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn rhan o broses, a bob blwyddyn, rydym yn annog deintyddion y GIG i dderbyn cleifion newydd. Ac wrth gwrs, rydym yn gwneud yn dda iawn ar hynny. Os cymharwch sut rydym ni'n gwneud gyda chleifion newydd y GIG o'i gymharu â Lloegr, rydym ni filltiroedd ar y blaen i ble maent arni yn Lloegr. Nawr, nid yw'n ddigon, ac rydym yn ymwybodol iawn fod y galw'n fwy na'r ddarpariaeth. Ond fel rwy'n dweud, ni allwch ddarparu'r bobl hyn dros nos, ac rydym wrthi'n hyfforddi pobl newydd. 

Rydym yn arbennig o ymwybodol o'r heriau mewn ardaloedd gwledig, a dyna pam mai un o'r pethau y gwnaethom geisio ei wneud yw cymell pobl i hyfforddi mewn ardaloedd mwy gwledig, gyda £5,000 ychwanegol i sicrhau y gallant gael nid yn unig y cyllid ychwanegol hwnnw, ond cefnogaeth ychwanegol hefyd, a gobeithio wedyn y byddant yn aros yn yr ardaloedd hynny. 

Mewn perthynas â chyn-filwyr, rwy'n hapus i gael golwg ar beth arall y gallwn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, mae gennym y cyfamod, ac fe ddof yn ôl atoch ar y mater hwnnw. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhagweld bwlch cyllidebol o £646 miliwn yn y gwasanaethau cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelod Altaf Hussain yn ei gwestiwn cyntaf—toriad mewn gwariant a fydd yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod adrannau'n cael mwy na 1,000 o alwadau y dydd gan bobl sy'n poeni am blant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, yn ogystal â theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cefnogi perthnasau oedrannus neu berthnasau ag anawsterau dysgu. Mae angen gweithredu'n gyflym i sicrhau nad yw'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn dioddef caledi nac yn wynebu risg o gael eu hesgeuluso. Mae CLlLC hefyd wedi codi pryderon ynglŷn â'r cap sy'n cyfyngu ar faint mae pobl yn ei dalu am ofal yn y cartref, sy'n golygu nad yw'r cyfoethocaf mewn cymdeithas yn talu cost lawn eu gofal. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ailasesu'r cap er mwyn sicrhau bod y baich yn cael ei rannu'n deg?

Diolch i Gareth Davies am y cwestiynau hynny. Rwy'n ymwybodol o sylwadau CLlLC a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n ymwybodol, ym maes gofal cymdeithasol, ein bod yn gweithio i helpu a hyrwyddo llesiant rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, felly mae'r gyllideb yn bwysig iawn. Fel y mae'n gwybod, mae mwyafrif helaeth y gyllideb yn cael ei darparu gan lywodraeth leol, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol ein bod wedi diogelu'r gyllideb i lywodraeth leol, gan ei chynyddu 3.5 y cant mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu ei fod hefyd yn gwybod, fel y dywedodd y Gweinidog yn un o'i hymatebion, ein bod yn gwario 43 y cant yn fwy ar ofal cymdeithasol yng Nghymru nag yn Lloegr, os ydych chi am edrych ar gymharydd. 

Ond yn amlwg, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ac rydym yn gwneud ein gorau i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf. Ar y cap ar gyfer gofal yn y cartref, mae'n iawn, mae CLlLC wedi gofyn inni edrych ar faint y cap ar gyfer gwasanaethau gofal cartref, ac rydym yn ystyried hynny. 

14:45

Diolch yn fawr iawn. Mae unrhyw gyllid ychwanegol y gellir ei ddyrannu i wasanaethau cymdeithasol yn arian a fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywydau pobl fregus, ac mae'n arian a fyddai'n sicrhau bod mwy o bobl yn gallu byw gydag urddas. Buaswn yn fodlon betio y byddai'r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn blaenoriaethu gofal ac urddas y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas dros hoff brosiectau fel cyfyngiadau cyflymder cyffredinol o 20 mya, ehangu'r Senedd, cynlluniau peilot incwm sylfaenol cyffredinol a chynlluniau porthi balchder 'gwladwriaeth fawr' eraill sydd ond yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yn bur anaml, ac sy'n gwneud dim mwy nag arddangos cymwysterau sosialaidd Llywodraeth Cymru yn y gobaith o ddenu clodydd y cyfryngau. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ffordd o lenwi'r bwlch gan ddefnyddio cyfran o'u cronfeydd wrth gefn i sicrhau bod gan wasanaethau cymdeithasol adnoddau priodol? 

Ie. Rydym yn sicr yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy'r amser. Rydym mewn trafodaethau parhaus gyda nhw. Rydym yn amlwg wedi cael trafodaethau gyda nhw am y gyllideb. Rydym yn deall eu pryderon, sydd wedi'u mynegi, ac rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu yn y gyllideb i ddiogelu'r gwasanaethau mwyaf bregus. Ac fel rwyf am ailadrodd, rydym yn gwario 43 y cant yn fwy ar ofal cymdeithasol yng Nghymru nag a werir yn Lloegr. Maent yn flaenoriaeth i ni. Rwy'n cytuno'n llwyr fod gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn y gymuned yn gwbl hanfodol ac rydym mewn trafodaethau parhaus gyda'n partneriaid.

Diolch unwaith eto, Ddirprwy Weinidog. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n amddiffyn y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas, ond a allwch chi sefyll yma y prynhawn yma a dweud bod blaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas wrth ffafrio cynlluniau fel 20 mya cyffredinol, ehangu'r Senedd a'r peilot incwm sylfaenol cyffredinol yr wyf newydd eu crybwyll? Rwy'n derbyn nad yw'n mynd yr holl ffordd i ddatrys pob problem ym maes gofal cymdeithasol, ond a allwch chi ddweud y gellid gwario cost y cynlluniau hynny'n well i ddiogelu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a gwella ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru gyfan? Ond hoffwn i'r Dirprwy Weinidog roi sylw i ganfyddiad adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod heriau cyson yn dal i gael eu hachosi gan lif cleifion gwael trwy wardiau o ganlyniad i broblemau gofal cymdeithasol. Mae anhawster i ryddhau cleifion i leoliadau mwy priodol neu yn ôl adref gyda chymorth yn achosi tagfeydd mewn ysbytai, gyda chleifion yn defnyddio gwelyau gwerthfawr a hwythau'n feddygol ffit i adael. Rwy'n siŵr y gall y Dirprwy Weinidog dderbyn nad yw'r sefyllfa hon yn ddelfrydol i'r claf na'r ysbyty sydd angen lle ar gyfer cleifion eraill. A allai'r Dirprwy Weinidog nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd mor effeithiol â phosibl i fynd i'r afael â phroblemau llif cleifion? Diolch. 

Diolch yn fawr, Gareth. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac rwy'n credu bod gennym record rwy'n falch o'i harddel. Ar lif gwael cleifion drwy'r ysbyty, mae hynny'n rhywbeth y buom yn gweithio arno'n agos iawn—gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd, mewn byrddau iechyd a llywodraeth leol—ac rydym wedi gallu gostwng nifer y bobl sy'n aros yn yr ysbyty am nad oes pecyn cymdeithasol ar gael ar eu cyfer. Mae hynny wedi dod i lawr. Mae'n dal i fod yn llawer rhy uchel, ac mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud, ond rydym yn gweithio gyda'n gilydd arno. Mae gennym bwyllgor gweithredu—pwyllgor gweithredu gofal—sy'n cynnwys pobl allweddol yn y maes, sy'n cyfarfod yn rheolaidd i drafod pa gamau y gellir eu cymryd. Dyrannodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol arian i gynyddu cymorth yn y cartref ar benwythnosau er enghraifft, ac ar gyfer gofal diwedd oes, fel nad oes gennym sefyllfaoedd gofidus gyda phobl yn mynd i'r ysbyty a fyddai'n llawer gwell eu byd gartref. A'r maes arall y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno o ddifrif yw atal pobl rhag mynd i'r ysbyty pan fyddant yn well eu byd gartref, ac rydym yn parhau i roi'r adnoddau ychwanegol hynny i mewn. Felly, mae gennym gynllun. Rydym yn gweld cynnydd, ond mae'n gynllun hirdymor, ac mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn arno. Ond rwy'n ailadrodd fy mod yn falch iawn o'r gwaith y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud ym maes gofal cymdeithasol, yn y gwasanaeth iechyd, ac rwy'n credu ein bod yn gweld cynnydd.

14:50

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Helen Whyley, rybudd amlwg i'r Gweinidog iechyd fod angen i bethau newid yn 2024. O ystyried y pwysau di-baid a ddioddefwyd gan ein gweithwyr gofal iechyd ymroddedig drwy gydol y llynedd, roedd hi'n iawn i wneud hynny. Fel y soniais ddoe yn ystod y ddadl ar y gyllideb, nid yw busnes fel arfer yn opsiwn os ydym am gael dyfodol cynaliadwy i'r GIG. Roedd yn siomedig, felly, mai ymateb y Gweinidog oedd datgan yn wamal nad oedd y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn talu sylw. Ond efallai mai'r Llywodraeth sy'n euog o beidio â thalu sylw i bryderon dilys y Coleg Nyrsio Brenhinol, fel yr amlygir gan y newyddion diweddar fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno rôl cydymaith nyrsio band 4 wedi'i rheoleiddio yng Nghymru, heb ymgynghori ymlaen llaw a chraffu seneddol. Nid oes gennym wrthwynebiad mewn egwyddor i ddiwygiadau o'r math hwn, ond mae'n rhaid iddynt bob amser, yn ddieithriad, gael eu datblygu'n llawn ac yn agored mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr staff perthnasol. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau felly a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cymdeithion nyrsio i GIG Cymru, ac os felly, a fydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno i'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer ymgynghori yn eu cylch a'u cymeradwyo cyn eu gweithredu?

Diolch yn fawr. Yn amlwg, rydym yn cael sgyrsiau aml iawn gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Mae gwir angen y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn ein hysbytai, a hoffwn ddiolch i'r holl nyrsys a'r holl weithwyr gofal iechyd am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros yr adeg fwyaf anodd o'r flwyddyn. Maent yn iawn—mae angen i bethau newid. Ond mae'n rhaid imi bwysleisio bod pethau'n newid. Rwyf wedi newid llawer o bethau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oedd gennym ganolfannau gofal sylfaenol brys ddwy flynedd yn ôl. Nid oedd gennym ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod ddwy flynedd yn ôl. Mae gennym lawer mwy o weithwyr ambiwlans eleni nag a oedd gennym ddwy flynedd yn ôl, ac mae gennym system '111 pwyso 2', sy'n tynnu llawer o bwysau oddi ar ein hysbytai. Felly, rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad ydynt wedi bod yn talu sylw oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n dangos bod y system yn newid. Ond mewn perthynas â rôl cydymaith nyrsio band 4, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni sicrhau ein bod yn deall bod yna rôl i nyrsys, ond rwy'n credu ei bod yn sgwrs sy'n bendant yn werth ei chael ar gyflwyno cymdeithion nyrsio. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod diogelwch yn flaenoriaeth, ac mae angen inni sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei roi yn gyntaf, ac er mwyn gwneud hynny, efallai y bydd angen ichi reoleiddio a dyna pam ein bod yn edrych ar hyn. Ond os ydym yn ei gyflwyno, cynhelir ymgynghoriad ynglŷn â hynny wrth gwrs.

Diolch am yr ateb hwnnw. Rydym yn cydnabod yn llawn y manteision posibl y gallai cymdeithion nyrsio eu cynnig i'r gweithlu, yn enwedig y llwybrau newydd ar gyfer ymuno â'r proffesiwn nyrsio, ond mae'n hanfodol nad yw eu cyflwyno'n dod yn ateb de facto y Llywodraeth yn y pen draw i lenwi'r bylchau gwag hirsefydlog yn y cohort o nyrsys cofrestredig yng Nghymru. Fel y noda'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gywir, mae lefelau nyrsio annigonol yn creu risg o gynyddu cyfraddau marwolaeth cleifion hyd at 26 y cant, arosiadau hwy yn yr ysbyty a chyfraddau heintio uwch. Felly, mae'n rhaid i unrhyw gynigion yn y dyfodol ar gyfer cymdeithion nyrsio fod yn seiliedig uwchlaw dim arall ar y cynsail na fydd capasiti nyrsys cofrestredig yn lleihau. Felly, sut y bydd cynlluniau'r Llywodraeth yn y maes hwn yn rhyngweithio â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016? Byddai angen strategaeth gydlynol hefyd ar gyfer eu hintegreiddio'n effeithiol o fewn y gweithlu, yn ogystal â llwybrau clir ar gyfer datblygu gyrfa, a nodwyd mewn astudiaeth ddiweddar gan Goleg y Brenin Llundain fel diffygion allweddol yn y dull a weithredir yn Lloegr. Mae angen eglurder ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ariannu'r rolau newydd hyn. Felly, a all y Gweinidog warantu na fydd unrhyw gynlluniau i gyflwyno cymdeithion nyrsio yn effeithio ar ffrydiau cyllido presennol ar gyfer nyrsys cofrestredig, gan gynnwys y rhai ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau bod y gwahaniaeth rhwng cymdeithion nyrsio a nyrsys cofrestredig yn cael ei wneud yn eglur ym mhob gwaith cynllunio, adrodd a chasglu data gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar weithlu'r GIG?

Diolch yn fawr. Rwy'n falch fod yr Aelod yn deall bod angen sawl llwybr i mewn i nyrsio, ac roedd yn galonogol iawn gweld, ddiwedd yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Aelod, y ffordd y mae prentisiaethau'n dechrau pobl ar eu gyrfa. Maent yn dechrau drwy fod yn weithwyr gofal ac yna mae llawer ohonynt yn gweithio'u ffordd i fyny, a'u huchelgais yw dod yn nyrsys, ond dyna'r llwybr drwodd, ac nid ydynt eisiau mynd i'r brifysgol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei ganmol. Nawr, nid ydych yn gofyn cwestiynau ynglŷn â hynny, a chredaf fod hynny'n hollol gywir, ond y pwynt yw, ar hyn o bryd, rydych chi'n parhau i ofyn wythnos ar ôl wythnos, 'Beth a wnewch ynglŷn â gostwng nifer y staff asiantaeth?' Mae hyn yn rhan o'r ateb, gwneud yn siŵr fod gennym lwybrau i mewn i nyrsio ar wahân i bobl yn dod yn syth o'r brifysgol. Nawr, rwy'n credu mai'r peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd gwahaniaeth, a bydd gwahaniaeth bob amser rhwng cymdeithion nyrsio band 4, ond gobeithiwn mai'r hyn a fyddai'n digwydd yw y byddai'n rhyddhau nyrsys i weithio ar frig eu trwydded. Yn sicr, o'n rhan ni, mae'n bwysig fod gennym dîm o amgylch wardiau i sicrhau nad yw'r cyfan yn disgyn ar ysgwyddau un rhan o'r proffesiwn.

14:55
Pwysau'r Gaeaf

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae GIG Cymru yn ymdrin â phwysau'r gaeaf? OQ60473

Mae wedi bod yn aeaf heriol hyd yma i GIG Cymru a phartneriaid, yn rhannol oherwydd ymchwydd yn y galw, difrifoldeb a chymhlethdod angen cleifion, a phroblemau llif cleifion. Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynlluniau a chamau gweithredu integredig ar waith, i alluogi mwy o gydnerthedd yn y system er gwaethaf pwysau ychwanegol ar wasanaethau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Clywais mewn trafodaethau â'r Dirprwy Weinidog am oedi wrth drosglwyddo cleifion sy'n ffit yn feddygol allan o ysbytai yn ôl i'r gymuned. Yr adeg hon y llynedd, fe roesoch ddatganiad i'r Siambr a oedd yn nodi bod 12 y cant o welyau yn cael eu defnyddio gan bobl sy'n ffit yn feddygol ac yn gallu cael eu rhyddhau, ac roeddech chi hefyd wedi dyrannu £145 miliwn y mis Ebrill cyn hynny ar gyfer rhaglen bum mlynedd i gynorthwyo'r cynllun rhyddhau hwnnw. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw am y sefyllfa o fewn GIG Cymru o ran y bobl sy'n ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau, a nifer y gwelyau y maent yn eu defnyddio, ac a fu unrhyw welliant sylweddol yn llif cleifion yn ysbytai Cymru fel y dywedoch chi y byddai'n digwydd yn sgil rhoi'r rhaglen hon ar waith gennych bron i ddwy flynedd yn ôl bellach, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn creu pwysau enfawr yn ystod misoedd y gaeaf?

Diolch yn fawr. Mae nifer y bobl sy'n ffit yn feddygol yn ein hysbytai yn dal i fod yn llawer rhy uchel, ond mae gennym ddull systematig iawn o ymdrin â hynny nawr. Mae gennym fecanwaith manwl iawn i asesu'n union pam eu bod yn yr ysbyty. Mae bellach yn system sy'n cael ei deall ledled Cymru, lle caiff y rheswm pam fod pawb yn yr ysbyty ei godio, felly mae pawb yn gwybod yn union ac felly nid oes gêm feio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae pawb yn gwybod yn union pam eu bod yno.

Felly, mae gennym dros 1,000 o bobl yn ein hysbytai o hyd yn sgil oedi wrth drosglwyddo, ond mewn gwirionedd, oherwydd ein bod wedi gwneud cymaint o waith ar hyn—yn fwyaf arbennig, y rheswm pennaf pam mae pobl yn aros yn yr ysbyty yw oedi cyn cael asesiad, felly mae angen eu hasesu ar gyfer eu gofynion gofal—ac oherwydd y buddsoddiad a wnaethom tuag at hyn ar ffurf amser, egni ac adnoddau rhyngom ni, llywodraeth leol a'r byrddau iechyd, rydym wedi gweld gostyngiad o 24 y cant yn y lefelau oedi cyn cael asesiad rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2023. Felly, mae'n galonogol iawn gweld lle rydym yn canolbwyntio'n wirioneddol ar fater, fod y niferoedd hynny'n gostwng. Dyna un o'r meysydd lle rwy'n credu y dylem fod yn eithaf balch ohonynt. Hefyd, ar yr oedi cyn dyrannu gweithwyr cymdeithasol, a oedd yn rheswm arall, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn hynny—gostyngiad o 61 y cant yno. Felly, mae pethau'n gwella. Mae'r ffaith ein bod yn gallu nodi'n union pam mae pobl yn dal i fod yno yn gwbl allweddol, oherwydd gallwn fynd ar eu holau'n iawn drwy wneud hynny.

Mae gweld rhesi hir o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'n hysbytai wedi cael ei normaleiddio. Mae'n ymddangos bod ambiwlansys bron yn ystafelloedd aros newydd, a'r llynedd fe nodais fy mhryderon ynghylch y ffordd y bydd y mygdarth o'r ambiwlansys yn ciwio gyda'u hinjans yn rhedeg yn llygru'r aer y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys lle mae pobl eisoes yn fregus ac yn wael iawn. Ers diwedd y llynedd, bu'n rhaid gosod ffaniau wrth ddrysau damweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor i wasgaru'r mygdarth o'r ambiwlansys, ac nid mesur brys dros dro yn unig oedd hynny; mae'r ffaniau'n dal i fod yno. Byddant yn aros yno, yn ôl pob tebyg, nes y daw adeg pan na fydd rhaid i ambiwlansys giwio mwyach i ryddhau eu cleifion. Weinidog, pryd ydych chi'n meddwl y bydd hynny? A pha drafodaethau brys rydych chi'n eu cael am yr aer llygredig budr y tu allan i'n hysbytai o ambiwlansys sy'n ciwio?

15:00

Diolch yn fawr. Wel, cefais y fraint fawr o dreulio'r diwrnod gyda'n gweithwyr ambiwlans dewr cyn y Nadolig, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gweld y math o bwysau sydd arnynt a'r rhwystredigaethau y maent yn eu dioddef yn sefyll y tu allan i ysbytai am oriau maith. Nid yw'n rhywbeth y maent eisiau ei wneud; maent wedi'u hyfforddi i wneud gwaith ac maent am fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Ac ar 2 Ionawr, sef y diwrnod y mae'r GIG dan fwyaf o bwysau mae'n debyg, fe alwais heibio i dri ysbyty yn ddirybudd, er mwyn cael syniad iawn o sut deimlad ydoedd, ac mae'n sylweddol, ac roedd yno bobl a oedd yn hynod rwystredig.

Ar y mygdarth a'r ambiwlansys—y materion a nodoch chi yno—roedd hyn yn rhywbeth y gwnaethom weithredu arno y llynedd. Felly, un o'r pethau yr ydym wedi'i wneud yw rhoi mannau gwefru mewn llawer o adrannau brys, fel y gallant blygio eu hambiwlansys i mewn iddynt, er mwyn osgoi'r mygdarthau hynny. Felly, mae'r rheini yn eu lle nawr ar draws nifer o adrannau brys yng Nghymru; rwyf wedi eu gweld fy hun, felly, maent yn eu lle. Mae'n debygol y bydd angen ychydig mwy ohonynt, ond hyd nes y bydd hynny'n digwydd, rwy'n meddwl ei bod hi'n hollol iawn ein bod yn parhau i geisio gwasgaru'r mygdarthau hynny gyda ffaniau, neu beth bynnag arall sydd angen ei wneud i ddiogelu ein cleifion, a'r gweithwyr ambiwlans eu hunain wrth gwrs.

Y peth allweddol, serch hynny, yw ceisio mynd i'r afael â sut i gael y llif hwnnw i symud; sut i ddatrys y broblem mewn perthynas â gofal cymdeithasol; a sut y gallwn geisio osgoi cael pobl yn dod i'r ysbyty yn y lle cyntaf, ac rwy'n meddwl mai dyna'r her wirioneddol i ni. Roedd yn ddiddorol, clywais heddiw fod y rhan fwyaf o'r bobl sydd wedi cael gwely yn Hywel Dda yn y dyddiau diwethaf dros 90 oed. Nawr, mae'n rhaid ichi ddechrau holi, 'Edrychwch, ai dyma'r lle iawn? Oni fyddai'n well ganddynt fod gartref, a sut y gallwn roi mwy o adnoddau tuag at wneud y newid hwnnw i'w cefnogi yn y gymuned?' Rydym wedi gwneud hynny; rydym wedi bod yn gwneud hynny. Rydym wedi rhoi £8.5 miliwn ychwanegol tuag at hynny yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a cheisio rhoi'r cymorth amddiffynnol hwnnw ar waith ar gyfer y gofal lliniarol yr oedd y Dirprwy Weinidog yn sôn amdano, a rhoi gofal nyrsys ardal ar waith hefyd, fel eu bod ar waith nid yn unig o naw tan bump yn ystod yr wythnos, ond hefyd ar benwythnosau a chyda'r nos hefyd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

4. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hyder mewn gwasanaethau iechyd lleol? OQ60457

Y byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd ar gyfer eu poblogaeth leol. Mae Llywodraeth Cymru yn eu dal yn atebol am y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau o safon uchel.

Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, bu’n rhaid i saith ward yn Ysbyty Treforys gau oherwydd achosion o norofeirws, COVID, ffliw a C. difficile, ac roedd yr heintiau yn lledu i’r fath raddau fel y bu’n rhaid i’r ysbyty gau i ymwelwyr am chwe diwrnod. Dim ond ddoe llwyddodd y bwrdd iechyd i ailagor i ymwelwyr, er bod un ward yn dal i fod ar gau i ymwelwyr. Roedd e’n gyfnod pryderus iawn i fy etholwyr sydd â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty. Roedden nhw’n poeni y bydden nhw’n dal heintiau a all fod yn hynod ddifrifol, wrth gwrs, i rai sydd eisoes yn sâl.

Felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud, Gweinidog, o'r hyn sydd wedi arwain at ddiffyg hyder y cyhoedd yng ngallu’r gwasanaethau iechyd i’w cadw rhag heintiau fel hyn yn ein hysbytai? Pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi, er enghraifft, i gyngor diweddar Sefydliad Iechyd y Byd y dylid gwisgo mwgwd yn fandadol mewn lleoliadau iechyd, yn unol â dymuniad Coleg Brenhinol y Nyrsys mewn llythyr at Brif Swyddog Nyrsio Cymru, ac hefyd gwella awyru mewn wardiau, clinigau cleifion allanol a mannau aros, er mwyn ceisio atal heintiau resbiradol fel COVID rhag rhoi pwysau ychwanegol ar staff a gwasanaethau, a dwysáu sefyllfaoedd fel yr un gododd yn Nhreforys?

Diolch yn fawr. Mae cyfraddau norofeirws, COVID a ffliw yn dechrau codi. Maen nhw'n codi ar draws Cymru ac, yn sicr, o ran beth welon ni yn Abertawe, dwi'n meddwl mai dyna oedd y peth doeth i'w wneud. Os ydych chi'n gweld rhywbeth yn dod tuag atoch chi, y peth i'w wneud yw atal y sefyllfa rhag codi ymhellach trwy gymryd camau cyn i'r sefyllfa waethygu, a dyna beth wnaethon nhw yn Abertawe. Roeddwn i'n falch i weld eu bod nhw wedi cymryd y camau hynny ac wrth gwrs yn falch i weld eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n gallu ymlacio ar hynny.

Jest o ran heintiau a monitro, wrth gwrs mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd safonau. Mae hwn yn un o'r pethau rŷn ni'n gofyn amdanynt ac rŷn ni'n monitro gyda'r byrddau iechyd, i wneud yn siŵr eu bod nhw yn glanhau, eu bod nhw'n cadw pethau yn lân. Hefyd, wrth gwrs, rŷn ni wastad yn cymryd beth maen nhw'n cynghori o ddifri, ond hefyd mae'n rhaid inni ystyried y World Health Organization, mae'n rhaid inni hefyd ystyried materion eraill a sicrhau bod beth rŷn ni'n ei gyflwyno yn ein hysbytai ni yn cael ei 'back-o' lan gydag efidens i wneud yn siŵr bod yna reswm dros wneud hynny. Mae'n rhaid i chi gadw rhai pethau nôl ar gyfer pryd mae'n wirioneddol yn mynd yn galed iawn, a dŷn ni ddim yn y sefyllfa lle yr oedden ni, er enghraifft, gyda COVID yn y gorffennol.

15:05

Weinidog, mae misoedd y gaeaf wedi bod yn anodd iawn i Ysbyty Treforys. Fel y gwyddoch, yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd yr ysbyty rybudd du oherwydd lefelau uchel o bwysau a achoswyd gan nifer o gleifion yn aros am welyau, ac yna, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, cyhoeddwyd rhybudd du arall am resymau gwahanol, ac fel y clywsom eisoes, yr wythnos diwethaf fe welsom waharddiadau ar ymwelwyr i'r ysbyty oherwydd lefelau cynyddol o haint feirysol yn Ysbyty Treforys hefyd. Mae pobl yn Abertawe a thu hwnt, gan gynnwys fi fy hun, yn gweld gwerth Ysbyty Treforys a'r rôl y mae'r staff yno yn ei chwarae yn helpu cleifion pan fyddant angen help, ac roeddwn am ddefnyddio'r cyfle hwn i gofnodi'r gofal a gafodd fy nhad-cu yn Ysbyty Treforys am yr ychydig wythnosau y bu'n aros yno dros fisoedd y gaeaf; roeddem yn ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n bwysig iawn hefyd fod gan bobl hyder y gall weithredu mor effeithiol ag y gwyddant y gall. Felly, pa gamau a roddwyd ar waith gennych i sicrhau'r cyhoedd fod Ysbyty Treforys yn ysbyty diogel ac effeithiol fel y mae pobl yn gwybod y gall fod, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf, pan fo'n ysgwyddo pwysau tymhorol ychwanegol?

Diolch yn fawr. Wel, Treforys oedd un o'r ysbytai yr ymwelais â nhw ar fy ymweliad ar 2 Ionawr, ac nid oedd amheuaeth ei fod o dan bwysau dwys, ac roedd yn dda iawn cael cyfle i siarad gyda'r meddygon ymgynghorol a'r nyrsys ar y rheng flaen a rhai o'r gweithwyr ambiwlans, a oedd yn awyddus iawn i rannu rhai o'u profiadau a'u pryderon.

Ar sicrwydd, rwy'n dirprwyo cyfrifoldeb dros ddarparu gofal y GIG i'r byrddau iechyd, a'r hyn a wnawn fel Llywodraeth yw ceisio sicrwydd ac rydym yn darparu her yn rheolaidd. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfarfodydd y cyd-dîm gweithredol sydd gennym bob chwe mis ac mae gennym gynlluniau ansawdd integredig a threfniadau darparu gyda byrddau iechyd lleol, bob mis, i gadw llygad ar beth sy'n digwydd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym mewn cysylltiad dyddiol â nhw a dweud y gwir, i gael gwybod, 'Iawn, beth yw'r pwysau sydd arnoch chi? A oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i helpu? A oes angen inni edrych a all byrddau iechyd eraill ddod i'ch cefnogi?' Felly, mae rhai targedau clir a chyflawnadwy iawn yr ydym yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cyflawni, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, serch hynny, i bobl yn y gymuned honno ddeall bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal o safon yn amserol iawn.

Therapyddion Iaith a Lleferydd

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gadw a recriwtio therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru? OQ60465

Rydym yn buddsoddi £281 miliwn bob blwyddyn mewn addysg broffesiynol ym maes iechyd. Mae ein bwrsariaeth yn cefnogi myfyrwyr drwy addysg. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ôl-gofrestru a llwybrau gyrfa, gyda goruchwyliaeth glinigol, datblygiad proffesiynol a chyfleoedd tiwtoriaeth i alluogi therapyddion lleferydd ac iaith i ddatblygu eu sgiliau a dod yn aelodau o rwydwaith proffesiynol o therapyddion lleferydd ac iaith ledled Cymru.

Dylwn ddatgan bod gennyf brofiad personol uniongyrchol o'r rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chwarae wrth alluogi plentyn i dyfu'n oedolyn llwyddiannus.

Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y therapyddion lleferydd ac iaith a gomisiynir yng Nghymru yn 2024-25, a chynllunio gweithlu gwell ar gyfer y proffesiwn yng Nghymru fel rhan o gynllun gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd. Dywedasant y llynedd fod eu data aelodaeth yn datgelu bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Felly, sut rydych chi'n ymateb i'r rhiant o Ynys Môn a rannodd lythyr gan bennaeth y gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ddaeth i law dridiau cyn y Nadolig, a oedd yn nodi, o ganlyniad i'r

'heriau'n ymwneud â recriwtio a chadw staff therapi lleferydd ac iaith o fewn yr adran, sydd hefyd wedi ei adlewyrchu ar draws y GIG',

roeddent

'wedi methu recriwtio i therapi lleferydd ac iaith ar gyfer yr ysgolion arbennig',

ac

'nid oes darpariaeth therapi lleferydd ac iaith ar gyfer yr ysgolion arbennig ar hyn o bryd'?

Fe wnaethant nodi ysgolion yn Llangefni, Caernarfon a Phenrhyndeudraeth.

15:10

Diolch yn fawr. Wel, fel y dywedais, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr y GIG, ac mae hynny'n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith, ac mae lleoedd hyfforddi wedi cynyddu 11 y cant ers 2018. Felly, rydym yn cynyddu'r niferoedd hynny. Wrth gwrs, ar ben hynny, fe glustnodais werth £5 miliwn o gyllid i greu swyddi proffesiynol perthynol i ofal iechyd ychwanegol mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, sy'n cynnwys swyddi therapi lleferydd ac iaith.

Yr hyn rwyf am ei ddweud mewn perthynas â gogledd Cymru yw bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno cwrs therapi lleferydd ac iaith newydd sbon yng ngogledd Cymru ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a dechreuodd y garfan gyntaf yn 2022-23, felly, byddant yn dod drwodd. Mae'n amlwg nad ydynt yn barod eto, ond rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i'r ysgolion arbennig y dylai'r llif recriwtio hwnnw fod yn weithredol yn y blynyddoedd nesaf.

Strategaeth ar gyfer Cynyddu Bwydo ar y Fron

6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu bwydo ar y fron? OQ60472

Nod cynllun gweithredu bwydo ar y fron Cymru gyfan yw sicrhau bod mwy o fabanod yng Nghymru yn cael eu bwydo ar y fron, ac am gyfnod hwy, gyda gostyngiad mewn anghydraddoldebau. Mae'r cynllun yn nodi nodau strategol, gan osod camau gweithredu lleol a chenedlaethol i sicrhau bod bwydo ar y fron yn norm a dderbynnir yn ddiwylliannol ac a gefnogir.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud y dylai menywod fwydo ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf o fywyd y baban, oherwydd y manteision gydol oes a ddogfennwyd yn dda i'r plentyn a'r fam. Cefais fy niflasu wrth glywed, mewn grŵp trawsbleidiol diweddar ar nyrsio a bydwreigiaeth, fod yr arweinydd bwydo ar y fron yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod nifer y mamau sy'n bwydo eu plentyn ar y fron yn llwyddiannus am y chwe mis llawn wedi gostwng i un o bob 100—1 y cant. Mae hynny'n newyddion eithaf digalon, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno.

Rydym yn gwybod nad yw bwydo ar y fron yn hawdd, ac yn aml ni all mamau newydd dynnu ar brofiad eu mam neu berthnasau eraill i'w helpu i fwydo ar y fron yn llwyddiannus, er mai dyna yw eu dymuniad. Mae cwlwm tafod heb ei ddiagnosio yn her ychwanegol, sydd angen ymyrraeth gyflym i unioni'r rhwystr corfforol hwnnw i fwydo ar y fron yn llwyddiannus. Nid wyf yn disgwyl y bydd gan fydwragedd sydd wedi'u hyfforddi'n dda amser i helpu mamau newydd gyda'r dasg o fwydo ar y fron yn llwyddiannus, tasg sydd weithiau neu'n aml yn cymryd llawer o amser, ond mae angen timau amlddisgyblaeth arnom. Felly, rwyf am wybod faint o fydwragedd sydd â gweithwyr cymorth bwydo ar y fron fel rhan o'u tîm amlddisgyblaeth, a faint o weithwyr cymorth bwydo ar y fron sydd ar gael mewn timau bydwragedd cymunedol ledled Cymru i fynd i'r afael â'r hyn sy'n her ddifrifol o ran iechyd cyhoeddus?

Diolch yn fawr. Cefais fy syfrdanu pan welais y ffigur o 1 y cant, ac roeddwn yn bryderus iawn. Rwyf wedi edrych arno, a fy nealltwriaeth i yw bod hwnnw o arolwg bwydo babanod a gynhyrchwyd yn 2010. Felly, y newyddion da yw bod StatsCymru yn nodi bod ychydig dros 20 y cant o fabanod Cymru yn cael eu bwydo ar y fron yn unig a bod mwy na 25 y cant yn cael eu bwydo ar y fron yn chwe mis oed. Mae hynny'n llawer gwell na'r ffigurau yr oeddech chi'n sôn amdanynt. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn falch iawn o glywed hynny, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod bwydo ar y fron yn dda iawn i lesiant y babanod a'r mamau hefyd. Mae llai o fabanod yn dioddef o heintiau, dolur rhydd, chwydu. Ceir llai o ymweliadau â lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae yna lawer iawn o bethau. Nid oes rhaid i mi eu rhestru i chi, Jenny. Rydych yn hynod o ymwybodol o ba mor bwysig yw hyn. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yna arweinwyr bwydo babanod ym mhob bwrdd iechyd lleol ledled Cymru. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod pob nyrs newyddenedigol, gweithiwr cymorth mamolaeth a bydwraig yn chwarae rhan hanfodol yn cynorthwyo mamau i fwydo ar y fron. Felly, mae'n ymwneud â mwy na gweithwyr cymorth bwydo ar y fron yn unig—mae'n ymwneud â'r tîm ehangach hwnnw, a dyna'r ffordd y gobeithiaf y bydd byrddau iechyd yn edrych ar hyn.

15:15

Y fron sydd orau. Mae gan fabanod sy'n bwydo ar y fron lai o risg o asthma, gordewdra, diabetes math 1 a syndrom marwolaeth sydyn babanod. Mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron hefyd yn llai tebygol o gael heintiau ar y glust a'r stumog. Fodd bynnag, ni all pob mam newydd gyflawni hyn, ac maent yn ei chael hi'n anodd. O ystyried y pwysau ar ein wardiau, hoffwn wybod pa sylw sy'n cael ei roi i hyn. Canfu astudiaeth a oedd yn cynnwys yr holl fenywod yng Nghymru a roddodd enedigaeth rhwng 2018 a 2021 fod cyfraddau bwydo ar y fron yn chwe mis oed wedi cynyddu o 16.6 y cant, cyn y pandemig, i 20 y cant. Priodolodd prif awdur yr astudiaeth, Hope Jones, y cynnydd i'r ffaith bod teuluoedd yn treulio mwy o amser gartref—yn amlwg yn ystod COVID. Pa gamau yr ydych yn eu cymryd, Weinidog, a Llywodraeth Cymru, i sicrhau nad yw'r ganran yn mynd yn ôl i lawr, fod y sector iechyd yng Nghymru yn grymuso mamau i sylweddoli mai'r fron sydd orau, a bod methodolegau ar waith i helpu mamau sy'n ei chael hi'n anodd? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn eithaf diddorol gweld y newid o'r cyfnod cyn-bandemig i'r cyfnod ôl-bandemig. Ac wrth gwrs, rhan o hynny, mae'n debyg, oedd oherwydd bod pobl yn gweithio o adref yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid wyf am roi neges y dylai menywod aros gartref. Gadewch imi fod yn hollol glir ynglŷn â hynny. Ond rwy'n credu mai'r hyn y dylem ei wneud yw pwysleisio'r pwynt yr oeddech yn ei wneud am yr holl fanteision enfawr mewn perthynas â bwydo ar y fron. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud gwaith mapio i ddeall beth yw'r trefniadau presennol ledled Cymru ac yna, rydym yn mynd i ganolbwyntio ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol eleni i edrych ar yr union fater hwn.

Darpariaeth Iechyd Meddwl mewn Cymunedau Gwledig

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60480

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ogystal â chyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, rydym yn darparu adnodd pwrpasol ar gyfer iechyd meddwl yng ngweithrediaeth y GIG. Mae hyn yn cynnwys datblygu rhaglen iechyd meddwl strategol i ysgogi gwelliannau a gwasanaethau iechyd meddwl mwy safonedig, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig.

Diolch yn fawr iawn. Fel rŷn ni'n gwybod, yng nghanol tywyllwch y gaeaf, yng nghanol y glaw a'r oerfel, y gorwariant dros y Nadolig, a'r biliau i'w talu, gall mis Ionawr fod yn gyfnod heriol yn feddyliol i nifer fawr o bobl, yn arbennig yn y gymuned amaethyddol. Yng nghymunedau gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r argyfwng iechyd meddwl yn aml yn cuddio dan y wyneb, ac mae arolwg diweddar gan y Farm Safety Foundation yn nodi bod 94 y cant o ffermwyr yn credu taw iechyd meddwl difrifol yw’r brif her sy'n wynebu'r sector. Wrth gwrs, mae rhesymau am y straen meddyliol hwn yn gallu bod yn amrywiol a dyrys iawn, fel straen effeithiau TB, gwaith papur affwysol, pwysau ariannol, a'r ffaith bod bywyd ffermwr yn gallu bod yn fywyd unig iawn—oriau di-ben-draw yn gweithio heb efallai weld neb. Does dim dwywaith bod elusennau pwysig fel DPJ, RABI a Tir Dewi yn gwneud gwaith aruthrol, ond mae'r ddarpariaeth ar gyfer cefnogaeth arbenigol o fewn y gwasanaeth iechyd yn anghyson a phrin iawn. Felly gaf i ofyn ichi pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ehangu’r ddarpariaeth a'r gefnogaeth iechyd meddwl i'n ffermwyr o fewn ein cymunedau gwledig? 

A gaf fi ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiwn atodol hwnnw a chydnabod pwysigrwydd yr hyn a ddywedodd am yr angen am gymorth iechyd meddwl i gymunedau ffermio? Rwy'n cydnabod bod gan bobl sy'n ymwneud â ffermio bwysau iechyd meddwl penodol, felly, mae wedi gwneud pwynt pwysig iawn heddiw. Wrth gwrs, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl pan fydd eu hangen arnynt. Mae'n ymwneud â'r dull 'dim drws anghywir' ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys gwasanaethau arbenigol, ond mae hefyd yn cynnwys y gwaith a wnaethom drwy hyrwyddo '111 pwyso 2' ar gyfer iechyd meddwl, sydd ar gael ddydd a nos, ac sy'n ddefnyddiol iawn i bobl yn y gymuned ffermio sydd ynghlwm wrth eu gwaith yn ystod y dydd.

Rydym hefyd wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, pethau fel SilverCloud; rydym wedi ariannu Sefydliad DPJ, y gwn ei fod yn gwneud gwaith rhagorol mewn cymunedau gwledig gyda'u gwasanaethau profedigaeth, ac rydym wedi parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau arbenigol: £26.5 miliwn y llynedd a'r flwyddyn flaenorol i gefnogi meysydd blaenoriaeth allweddol yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Felly, rydym yn parhau i flaenoriaethu'r buddsoddiad hwnnw; rydym wedi parhau i weld cynnydd yn nifer atgyfeiriadau byrddau iechyd, atgyfeiriadau iechyd meddwl mwy difrifol a chymhleth, ac er ein bod wedi gweld rhai gwelliannau mewn perfformiad ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, mae pob bwrdd iechyd yn wynebu heriau wrth gyflawni amseroedd aros ar sail gynaliadwy, ac mae pob bwrdd iechyd wedi datblygu taflwybrau diwygiedig i wella perfformiad tuag at dargedau a lleihau rhestrau aros. Mae gweithrediaeth newydd y GIG yn monitro'r cynnydd yn weithredol yn ôl y taflwybrau mewn cyfarfodydd misol gyda'r byrddau iechyd. 

Mewn perthynas â Hywel Dda a Phowys, yr ardaloedd y mae Cefin Campbell yn eu cynrychioli, hoffwn gadarnhau bod cynnydd yn ôl y taflwybrau i wella perfformiad dros gyfnod y gwanwyn ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni.

15:20

Ddirprwy Weinidog, mewn ardaloedd gwledig, mae ein fferyllfeydd yn chwarae rhan allweddol iawn yn ein helpu gyda phroblemau iechyd meddwl ledled Cymru, ond a ydych chi'n cytuno â mi y dylai fod llwybr mwy ffurfiol i'n fferyllwyr allu atgyfeirio pobl sy'n mynd atynt gyda phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol at weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt?

A gaf fi ddiolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw? Mae'n bwysig cydnabod rôl bwysig fferyllwyr, a rhai ohonynt fydd y man galw cyntaf i bobl sy'n teimlo'n ofidus. Rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod fferyllwyr yn gallu trosglwyddo pobl i wasanaethau priodol. Gwn fod arferion da eisoes mewn rhai mannau yng Nghymru mewn perthynas â fferyllwyr yn cyfeirio at wasanaethau fel '111 pwyso 2', ond wrth inni ddatblygu ein strategaeth iechyd meddwl newydd yng Nghymru a chael ffocws mor gryf ar ein gweithlu, bydd yn bwysig iawn ein bod yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd pellach yn y gofod hwnnw, yn enwedig gan fod fferylliaeth yn darparu cyfleoedd penodol mewn cymunedau gwledig.

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn am barhau â'r drafodaeth ar iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yr hyn y byddem yn ei alw'n ddiagnosis deuol—sef y posibilrwydd fod diagnosis iechyd meddwl yn cyd-ddigwydd gyda chamddefnyddio sylweddau neu gamddefnyddio alcohol. Gallant ddigwydd gyda'i gilydd, a chanfu astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Abertawe fod salwch meddwl wedi'i nodi hefyd yn achos 70 y cant o'r bobl ifanc yng Nghymru y nodwyd eu bod yn camddefnyddio sylweddau. Felly, mae'n broblem fawr, ac mae'n rhaid ceisio meddwl sut y gallwn ddiwallu'r anghenion hynny mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig ym Mhowys. Mae yna sefydliad o'r enw Kaleidoscope sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi cael diagnosis deuol ac o gamddefnyddio sylweddau, ac maent am sefydlu gwasanaeth yn Ystradgynlais. Dim ond un sydd ganddynt ar hyn o bryd yn Aberhonddu, felly, mae gan unrhyw un yn ne Powys, er enghraifft, daith wirioneddol i'w gwneud ac maent yn annhebygol o ofyn am help. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella mynediad at y gwasanaethau gwerthfawr hynny i bobl ag anhwylderau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd mewn cymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Jane. Rydych chi'n tynnu sylw at fater pwysig iawn ynglŷn â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi diogelu cyllid ar gyfer problemau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Rydym yn cynyddu cyllid eto yn y gyllideb yr ydym newydd ei chyhoeddi, a bydd hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae'n faes heriol ac mae angen inni ystyried bob amser y gall fod tueddiad i lithro i mewn i seilos, ac rydym am osgoi sefyllfa lle nad yw rhywun yn cael cymorth iechyd meddwl oherwydd bod ganddynt broblem caethiwed, ac fel arall. Rydym am i'r dull 'dim drws anghywir' fod yno mewn gwasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth hefyd.

Ar gyllid ar gyfer y gwasanaethau yr ydych wedi'u disgrifio, mae'r cyllid sy'n mynd i fyrddau cynllunio ardal wedi'i neilltuo. Rwy'n ymwybodol iawn o waith da Kaleidoscope mewn rhannau eraill o Gymru, a buaswn yn bendant yn eu cynghori i ymgysylltu â'u bwrdd cynllunio ardal ynglŷn â'u cynlluniau. Hoffwn ychwanegu hefyd ein bod wedi cyhoeddi canllawiau i fyrddau cynllunio ardal ar bobl â chyflyrau sy'n cyd-ddigwydd, ac mae gennym grŵp archwiliad dwfn arbennig sy'n canolbwyntio ar hynny ac sy'n cyfarfod bob chwarter i geisio sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd yn y maes hwnnw. Diolch.

Gwasanaethau Meddygon Teulu

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y galw presennol ar wasanaethau meddygon teulu? OQ60469

Mae'r lefel bresennol o alw am wasanaethau meddyg teulu yn uchel iawn, fel y byddech yn ei ddisgwyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda meddygon teulu a'u staff yn gweithio'n eithriadol o galed i ddarparu gofal a chyngor i gleifion.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ddiwedd y llynedd, cyfarfûm â Dr Gareth Oelmann, sef cadeirydd pwyllgor meddygon teulu BMA Cymru, a buom yn trafod yn fanylach yr ymgyrch Achub ein Meddygfeydd. Rwyf i fod i gyfarfod â meddygon practis meddygol y Drenewydd ddiwedd yr wythnos hon hefyd. Pan gyfarfûm â Dr Oelmann, soniodd am feddygon teulu yn cael eu gorfodi i geisio ymdopi ag adnoddau annigonol a llwyth gwaith anghynaliadwy. Aeth rhagddo i siarad am y pwysau ledled Cymru gyfan a rhai ardaloedd o Gymru sydd mewn argyfwng, sy'n cael ei waethygu hefyd, wrth gwrs, gan orweithio. Yn ogystal â chyflwyno'r problemau, mae ymgyrch Achub ein Meddygfeydd yn cyflwyno atebion, ac un o'r atebion hynny yw ymrwymiad i gyllid, ac adfer cyfran gwariant cyllideb GIG Cymru ar bractisau cyffredinol i'r lefel hanesyddol o 8.7 y cant dros y tair blynedd nesaf. Ymhlith y gofynion eraill mae buddsoddi yn y gweithlu, cynhyrchu strategaeth ar gyfer y gweithlu a mynd i'r afael â llesiant staff. Weinidog, tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rai o'r gofynion hynny, yn enwedig mewn perthynas â thrafodaethau ynghylch cyllid.

Diolch yn fawr. Yn amlwg, mae yna her wirioneddol o ran cyllid ar hyn o bryd, ac fe fyddwch yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw honno. Felly, mae'n mynd i fod yn anodd iawn inni ddod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer meddygon teulu, fel y bydd ar gyfer unrhyw beth mewn perthynas ag iechyd. Mae'n rhaid imi ddiolch yn gyntaf i'm cyd-Aelodau o gwmpas bwrdd y Llywodraeth, sydd wedi bod yn barod i gyfrannu o'u hadnoddau eu hunain er mwyn gwella'r mathau o bwysau a welsom yn y GIG.

Y ffaith amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gwario tua 10 y cant o gyfanswm gwariant y Llywodraeth ar hyn o bryd ar dalu dyled. Dyna lle mae'r arian yn mynd. Dyna lle mae arian y DU yn mynd—i dalu dyled. Mae hynny'n golygu £110 biliwn ar dalu dyled, a chyllideb iechyd gyfan y DU yw £181 biliwn. Felly—[Torri ar draws.] Wel, gadewch imi ddod at hyn, oherwydd y ffaith amdani yw, os nad ydynt yn gwario arian ar iechyd, nid ydym yn cael cyllid canlyniadol ac mae'n anodd inni wario arian ar iechyd. Dyna sut mae'n mynd, iawn? Felly, rydym yn gwario 8 y cant yn fwy—[Torri ar draws.] Rydym yn gwario 8 y cant yn fwy, ond os nad ydynt yn ei wario—. Ac os edrychwch ar y cynnydd yn y cyllid rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn 2010, pan ddaeth y Torïaid i rym, hyd at oddeutu 2019, mae wedi cynyddu tua 15 y cant i gyd, y gyllideb iechyd. Yn yr Almaen, mae wedi cynyddu tua 35 y cant. Mae yna wahaniaeth. Rydym ymhell ar ei hôl hi. Rydym ymhell ar ôl gweddill yr UE gyda gwariant ar ofal iechyd.

Ar feddygon teulu, rwy'n credu mai'r un peth rwyf am ei ddweud yw bod ein dull o weithredu wedi bod yn glir iawn mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw adeiladu cefnogaeth o amgylch meddygon teulu. Y gwir amdani yw bod gennym 379 o bractisau meddygon teulu gweithredol. Rydym wedi cynyddu'r niferoedd 3.8 y cant. Mae gennym gynnydd mewn cofrestryddion mewn practisiau cyffredinol. Felly, mae'r rheini'n cynyddu yng Nghymru, ond mae'r galw'n parhau i ddod, a dyna pam mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau bod gennym ddewisiadau amgen i bobl. Gallant fynd i'w fferyllfeydd, gallant droi at eu gwasanaeth 111. Ac maent yn eu defnyddio, dyma beth sy'n anhygoel—mae'r gwasanaeth 111 yn cael ei ddefnyddio gan tua 70,000 o bobl bob mis. Mae'n tynnu pwysau oddi ar y gwasanaethau meddyg teulu.

Nawr, fel rhywun sy'n briod â meddyg teulu, rwy'n cydnabod bod llawer o bwysau yn y system ar hyn o bryd, ond mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn ceisio adeiladu'r gefnogaeth honno, eu cael i weithio mewn clystyrau, sicrhau bod y system yn fwy cadarn. Ond rwy'n cydnabod, mewn byd delfrydol, fy mod am weld newid o ofal eilaidd a mwy o arian yn mynd tuag at atal ac i ofal sylfaenol. Rwy'n awyddus iawn i weld hynny, ond mae'n rhaid ichi fod yn berson dewr iawn, pan welwch yr ambiwlansys y tu allan i ddrysau ysbytai, pan welwch restrau aros, i ddweud, 'Iawn, rwy'n mynd i dorri gofal eilaidd.' Felly, mae'n rhaid inni gael y cydbwysedd yn iawn; mae'n rhaid inni ei wneud yn araf. Rydym yn gwneud hynny. Y ffaith amdani yw ein bod wedi symud yr arian ychwanegol hwnnw i mewn i'n cymunedau—fel rwy'n dweud, £8.5 miliwn y gaeaf hwn yn unig, i wneud yn siŵr fod gennym gymorth yn y gymuned i atal pobl rhag mynd i mewn i ysbytai.

15:30

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, rhwng y dathliadau dros y toriad, treuliais gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn ymweld â phractisau meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol ledled Ogwr a gweld â’m llygaid fy hun—. A diolch iddynt am yr amser y gwnaethant ei dreulio gyda mi, gan imi weld â’m llygaid fy hun y pwysau sydd arnynt a’r ystod gynyddol o wasanaethau y maent yn eu darparu i wneud yr hyn y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld, sef lleihau’r baich ar ofal eilaidd ac acíwt, ar ein hysbytai yn wir, a chadw pobl yn iach am gyfnod hwy yn eu cartrefi neu'n nes at eu cartrefi. Maent yn wirioneddol ymrwymedig i'r genhadaeth hon, fel y mae Llywodraeth Cymru.

Nawr, fe ŵyr pob un ohonom mai dyma'r dull gweithredu cywir. Mae'n rhaid inni newid o fod yn wasanaeth salwch gwladol i fod yn wasanaeth iechyd gwladol, felly mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i atal salwch yn gynnar, ac mae hynny'n cynnwys ein cyfraniad ni fel unigolion hefyd, rhaid imi ddweud. Ond maent o dan straen go iawn; maent o dan straen. Ac maent yn ysgwyddo'r straen ehangach hefyd mewn gofal eilaidd.

Mae meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol hefyd yn dymuno gallu talu eu staff rheng flaen yn well, gan gynnwys y derbynyddion. Rydym yn eu galw'n 'dderbynyddion'—maent yn llawer mwy bellach. Mae'r sgiliau sydd gan y derbynyddion hyn a'r hyn a wnânt y tu ôl i'r llenni—maent yn gwneud llawer mwy erbyn hyn nag ateb ffonau. Felly, a gaf fi ofyn am sicrwydd gennych y byddwch yn ymgysylltu â'n hymarferwyr gofal sylfaenol? Ac a gaf fi, ar eu cais, eich gwahodd i ddod i Ogwr, i weld peth o'r gwaith a wnânt, i eistedd i lawr gyda nhw a thrafod sut y gallant eich helpu yn y genhadaeth hon, dros amser, i gyflawni'r amcan cyffredin o gadw pobl yn iach, yn eu cartrefi neu’n agosach at eu cartrefi, am gyfnod hwy a thros amser, ailgyfeirio cyllid tuag at ofal sylfaenol i arbed arian yr ydym yn ei wario yn ddrud iawn ar salwch yn hytrach na chadw pobl yn iach?

Wel, diolch yn fawr. A phe bai’r meddygon teulu hynny y gwnaethoch ymweld â nhw yn darllen ein dogfen 'Cymru Iachach’, byddent yn cydnabod mai dyna’n union yw ein cynllun strategol. Rydym yn gwneud rhywfaint o hyn; rydym yn gwneud cryn dipyn ohono, mewn gwirionedd. Mae'r ffaith bod fferyllfeydd yno bellach i gefnogi meddygon teulu yn rhan o'r hyn rydym yn ei gyflawni—strategaeth 'Cymru Iachach'. Ac rydym yn gwneud yr un peth—rydym newydd newid y gyfraith mewn perthynas â gwasanaethau offthalmoleg fel ein bod yn cadw pobl allan o'r ysbyty. Gallant weld eu hoptometrydd yn eu cymuned, a cheir ystod eang o afiechydon bellach y gellir eu trin gan yr optometryddion hynny sy'n weithwyr proffesiynol medrus iawn. Rydym yn eu defnyddio nhw ac yn defnyddio'u sgiliau ar frig eu trwydded.

Felly, rydym yn gwneud cryn dipyn o hyn eisoes. Ac rydych yn llygad eich lle, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw newid o wasanaeth salwch i wasanaeth iechyd. Ac rydych yn llygad eich lle, mae gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud mewn perthynas â hynny. Ac rydych yn llygad eich lle hefyd i sôn am y derbynyddion, nad ydynt yn dderbynyddion bellach, maent yn llyw-wyr gofal, ac mae'n system eithaf anodd ei llywio, a dyna pam ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu hyfforddi ac yn cael eu gwobrwyo. Ac un o'r pethau a wnaethom pan wnaethom gynnig y dyfarniad cyflog i feddygon teulu eleni oedd sicrhau bod cynnig ar gyfer y bobl yr oeddent yn eu cyflogi yn rhan o hynny hefyd.

15:35
3. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cyntaf o'r rheini i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Jack Sargeant. 

Sgandal Horizon Swyddfa'r Post

1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn parhau i effeithio ar fywydau trigolion yng Nghymru? TQ941

Mae’n amlwg fod y sgandal hon wedi cael effaith sylweddol a dinistriol ar fywydau pawb yr effeithiwyd arnynt, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi codi materion sy’n peri pryder dwys mewn perthynas â mynediad at faterion cyfiawnder a chamweinyddu cyfiawnder mewn cyfarfodydd gyda chyfres o Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder.

Rwy’n ddiolchgar am ymateb y Gweinidog. Lywydd, rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn y Siambr hon pan ddywedaf fy mod wedi fy llorio gan anghyfiawnder sgandal Horizon Swyddfa'r Post. Cafodd cymaint o fywydau eu heffeithio, cymaint o fywydau eu difetha. Mae'n gwbl warthus. Y bobl mewn awdurdod a oedd yn rhannol gyfrifol am yr anghyfiawnder hwn, a llawer o rai eraill a oedd yn amharod i edrych a gwrando pan ofynnodd ymgyrchwyr fel Alan Bates iddynt wneud hynny. Mae mantol cyfiawnder yn y wlad hon yn gogwyddo at y pwerus, ac mae egwyddorion sylfaenol fel y ddyletswydd gonestrwydd ar goll. Dyma pam fod angen i Lywodraeth y DU gyflwyno deddf Hillsborough ar unwaith.

Lywydd, mae pobl wedi colli eu tai. Maent wedi cael eu gwneud yn fethdalwyr. Maent wedi colli eu holl gynilion. Maent wedi bod yn aros ers blynyddoedd i glirio eu henwau ac i gael iawndal digonol. Lywydd, yn drasig, mae rhai wedi lladd eu hunain. Mae eraill wedi colli eu bywydau oherwydd afiechyd.

Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich swydd i bwysleisio i Lywodraeth y DU fod yn rhaid i’r iawndal fod yn ddigon sylweddol i gydnabod realiti’r sefyllfa? Nid yw’r ffigur cychwynnol o £75,000 a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU y prynhawn yma ar gyfer postfeistri'r gorchymyn ymgyfreitha grŵp yn ddigon da. Ac wrth inni aros am fanylion cynigion Prif Weinidog y DU, yn enwedig y rhai i ryddhau dioddefwyr diniwed o fai, a wnewch chi ddweud wrth Weinidogion y DU fod cyflymder yn hanfodol yma? Mae pobl eisoes wedi marw wrth aros i glirio eu henwau, ac ni ddylai’r is-bostfeistri a’u teuluoedd aros eiliad yn hwy am yr iawndal, y cyfiawnder a’r gwirionedd y maent yn eu haeddu.

Diolch i Jack Sargeant am ddwyn y mater hwn i sylw’r Senedd heddiw, ac rwy’n siarad dros lawer pan ddywedaf fy mod yn sicr nad yw ar ei ben ei hun wrth gael ei synnu a'i lorio gan raddau’r anghyfiawnder a welsom. Ac yn rhy aml, mae'r system gyfiawnder yn methu ar ran pobl gyffredin, a dro ar ôl tro, mae bywydau'n cael eu difetha, ac fel y dywedoch chi, yn cael eu colli'n drasig o ganlyniad i gamweinyddu cyfiawnder, ac yna'n cael eu gwaethygu gan amharodrwydd neu wrthodiad llwyr i unioni'r camweddau hynny. Ac er fy mod yn ymuno â chi i gydnabod datganiad Prif Weinidog y DU yn gynharach heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin fel cam i'r cyfeiriad cywir i unioni'r camweddau hynny, cytunaf fod cyflymder a graddau'r ymateb hefyd yn hanfodol. A buaswn hefyd yn dweud, mewn gwirionedd, ei fod yn adlewyrchiad trist o'r oes hon fod difrifoldeb y mater rydym ni ac eraill wedi'i godi bellach yn cael ei gymryd o ddifrif, yn ôl pob golwg, o ganlyniad i'r ddrama deledu dda iawn ac effeithiol iawn, Mr Bates vs The Post Office.

A hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau fod y Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod â phob un o bedair gwlad y DU cyn bo hir, ac y bydd y camweinyddu cyfiawnder trallodus a hirhoedlog hwn yn cael ei drafod gyda'i gilydd, ochr yn ochr â'r newidiadau sylfaenol y mae eu hangen yn daer i sicrhau bod rheolaeth y gyfraith yn fwy na sylw bachog yn unig.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’m cyd-Aelod, Jack Sargeant, am godi cwestiwn amserol mor bwysig. Mae sgandal Horizon yn drasiedi genedlaethol, ac mae’n warthus fod postfeistri ac is-bostfeistri wedi gorfod wynebu achosion llys a dedfrydau o garchar oherwydd hyn. Credaf fod pob un ohonom yn cytuno bod yr effaith y mae wedi'i chael ar fywydau cymaint o bobl wedi bod yn ddinistriol, ac ni all unrhyw swm o iawndal wneud iawn am y trallod y maen nhw a'u teuluoedd wedi'i ddioddef.

Yr hyn sy’n gwneud yr achos hwn mor frawychus yw ei bod yn amlwg i unrhyw sylwedydd, os oedd Swyddfa’r Post yn erlyn un postfeistr bob wythnos am 16 mlynedd ar gyfartaledd, am yr un drosedd yn union, yna mae’n amlwg fod nam sylweddol yn y system a gâi ei defnyddio, ac mae'n warthus fod Swyddfa'r Post, yn hytrach nag ymchwilio'n iawn i'r nam hwnnw, wedi ochri â gwneuthurwyr meddalwedd dros eu staff ffyddlon ac ymroddedig eu hunain. Yn y pen draw, mae'n rhaid inni sicrhau, yn yr oes ddigidol yr ydym yn byw ynddi bellach, fod systemau ar waith i amddiffyn gweithwyr pan fydd problemau meddalwedd yn codi ac yn achosi anghysondebau mawr, fel y rhai a welwyd gyda Horizon, ac mae'n rhaid inni wynebu’r ffaith nad oes unrhyw feddalwedd yn ddi-feth, yn enwedig yn yr oes o seiberdroseddu a seiber-ryfela sydd ohoni. Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, at ddibenion atal cwmnïau rhag erlyn gweithwyr ar gam oherwydd gwallau meddalwedd neu ddigidol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro erlyniadau gweithwyr? A pha fecanweithiau sydd gennych ar waith i allu ymateb pan fyddwch yn sylwi ar duedd sy'n dod i'r amlwg? Diolch.

15:40

Diolch i Joel James am ei gyfraniad ar y mater pwysig hwn. Ac yn gywir ddigon, fe godoch chi yr effaith y mae'r sgandal wedi'i chael ar fywydau, ac yn wir, ei maint hefyd, maint yr arswyd a'r dinistr y mae wedi'i achosi, a'r blynyddoedd y mae wedi'u cymryd i gyrraedd lle rydym nawr er mwyn unioni'r camweddau hynny. Fe wnaethoch chi ddefnyddio’r gair iawn—mae’n ‘sgandal’ fod y postfeistri ffyddlon hynny a gweision ffyddlon y gwasanaeth post, sy’n golygu cymaint i’n holl gymunedau, wedi’u diswyddo, ac na chawsant eu credu ar gost eu bywoliaeth, ac mewn rhai achosion, yn drasig, eu bywydau. A chredaf eich bod yn codi pwyntiau gwerthfawr a phwysig iawn ynghylch sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd. Yn amlwg, nid yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli, ac mae llawer o’r ysgogiadau sy'n gysylltiedig â rhai o’r materion a godwyd gan Joel James wedi'u cadw yn ôl gan Lywodraeth y DU, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn sicr yn bwrw ymlaen ag ef, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, yn gwneud hynny yn ei gyfarfodydd nesaf hefyd.

Mae sgandal Horizon yn stori am anghyfiawnder dwys iawn, ac mae'n stori am drachwant corfforaethol, onid yw, lle nad yw ymddygiad cywilyddus, diegwyddor y pwerus yn cael ei gosbi, a lle mae canlyniadau eu methiannau yn cael effaith ar bobl gyffredin, weithgar, ac mae ymdrechion yr ymgyrchwyr dros gyfiawnder wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Ni ddylent erioed fod wedi gorfod rhoi cymaint i ymgyrch o'r fath.

Allwn ni ddim talu teyrnged ddigonol iddyn nhw, i bobl fel Noel Thomas a Lorraine Williams, dau o fy etholwyr i, am eu gwaith nhw, yn ddygn yn mynnu cyfiawnder.  Dwi wedi dod i adnabod Noel yn y blynyddoedd diwethaf. Mae o'n ddyn arbennig iawn, ac mae meddwl amdano fo mewn carchar, yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ar ei ben ei hun mewn carchar, yn dod â chymysgedd o rwystredigaeth, o dor calon ac o wylltineb hefyd, ac mae hynny yn rhywbeth sydd yn ein huno ni gyd, gobeithio.  

Ni ddylai fod angen ymgyrch. Mae olwyn cyfiawnder, yn drasig, wedi troi'n llawer rhy araf i'r rhai sydd wedi marw, wedi lladd eu hunain, wrth aros i gael eu rhyddhau o fai. Mae gan Swyddfa'r Post a Llywodraeth y DU, a anwybyddodd y mater am flynyddoedd hyd nes i lefel y dicter cyhoeddus ddod yn amhosibl i'w anwybyddu, eu dau gwestiynau difrifol i'w hateb. Ac mae'r un peth yn wir, wrth gwrs, am Fujitsu, y cwmni sydd wrth wraidd y gwallau meddalwedd a arweiniodd at erlyn cannoedd o weithwyr post dieuog yn anghyfiawn.

Nawr, rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â'r cwmni sawl tro dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae gan Trafnidiaeth Cymru gontract cymorth a chynnal a chadw pum mlynedd gyda Fujitsu. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i awgrymu eu bod wedi bod yn gyfrifol am unrhyw fethiannau tebyg yng Nghymru. Ond er mwyn sicrhau tryloywder, a allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am nifer y contractau gweithredol sydd gan y Llywodraeth gyda Fujitsu? A allai’r Gweinidog ddweud wrthym hefyd sut yr ystyriwyd y pryderon ynghylch eu rhan yn sgandal Horizon cyn dyfarnu contractau Llywodraeth Cymru iddynt? A pha ddiwydrwydd dyladwy ychwanegol a fydd yn cael ei gwblhau yng nghyswllt perthynas y Llywodraeth â Fujitsu, nawr ac yn y dyfodol, o ganlyniad i ddealltwriaeth newydd y cyhoedd o faint y sgandal yr oedd Fujitsu yn rhan ohoni? A ydynt yn gymwys i gael contractau gyda Llywodraeth Cymru? A yw Llywodraeth Cymru yn gyfforddus fod ganddi gontractau gyda'r cwmni sydd wrth wraidd y fath sgandal?

Yn olaf, sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfrannu at y gwaith o sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i'r mater hwn ar lefel y DU? A all y Gweinidog rannu gyda ni y sicrwydd, y gobeithiaf fod y Llywodraeth wedi’i geisio, y bydd cwmpas yr ymchwiliad yn rhoi’r atebion a’r diweddglo y mae gweithwyr post amyneddgar Cymru a’u teuluoedd yn ei haeddu? Diolch yn fawr.

15:45

Diolch, Rhun ap Iorwerth, ac os caf sôn am y pwynt ynghylch Fujitsu yn gyntaf, mae’r rôl a chwaraewyd ganddynt yn warthus, ac mae angen eu dwyn i gyfrif hefyd. Dylwn ddweud nad oes gennyf ar flaenau fy mysedd nifer y contractau gweithredol gyda Llywodraeth Cymru, ond o ystyried bod hwn yn fater mor ddifrifol, nid wyf am geisio dyfalu. Ac os caf, efallai y gall fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth nodi'r pwynt hwnnw ynglŷn â'r cwmni, a dod yn ôl at y Senedd hon gyda diweddariad ar y mater yn y dyfodol.

O ran yr ymchwiliad, gwn fod fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, wedi ymgysylltu â’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar y pryd mewn perthynas ag achos Horizon Swyddfa’r Post yn benodol, a galwodd hefyd am i gylch gwaith cylch gorchwyl yr ymchwiliad gael ei ehangu i ystyried rhai o’r problemau sylfaenol yn y system gyfiawnder a godwyd gan yr achosion hyn. Ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny ac yn mynd ar drywydd hynny yn y cyfarfod sydd ar y ffordd ganddo hefyd.

Yn olaf, hoffwn ymuno â chi i—. Ni ddylai fod wedi gorfod digwydd, ni ddylai fod wedi digwydd, ni ddylent fod wedi gorfod ymgyrchu dros gyfiawnder. Dylai’r system gyfiawnder fod yno i gefnogi pobl gyffredin, nid i gefnogi’r rhai mwyaf pwerus, a hoffwn ymuno â chi a phawb yma i dalu teyrnged i ddycnwch a dewrder yr ymgyrchwyr a’r bobl yr effeithiwyd arnynt, fel eich etholwr, Noel Thomas, a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac ymrwymo yma y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ac yn ymdrechu ar y cyd i chwarae ein rhan i sicrhau bod y camweddau hanesyddol yn cael eu hunioni o’r diwedd.

Hoffwn gytuno â Rhun ap Iorwerth fod Noel Thomas, yn wir, yn ddyn arbennig iawn, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan lwyddodd i wyrdroi ei euogfarn yn ôl yn 2021, ynghyd ag eraill—. Roedd ei sylwadau mor bwerus, cefais yr argraff fod y mater hwn wedi'i ddatrys, ac ni chedwais fy llygaid ar y bêl mewn perthynas â hyn. Felly, credaf fod y mater ar frig yr agenda ar hyn o bryd, ond mae angen inni sicrhau bod y mater hwn, sef sgandal waethaf yr unfed ganrif ar hugain sy’n ymwneud â sefydliad cyhoeddus, yn cael ei ddatrys, a’r holl bobl sydd wedi’u cael yn euog  ar gam ar raddfa ddiwydiannol—ar raddfa ddiwydiannol—mae gwir angen iddynt gael eu harian yn ôl a chael iawndal am yr holl boen a dioddefaint y maen nhw a’u teuluoedd wedi’i wynebu.

Felly, hoffwn annog yr holl Aelodau ar y meinciau cefn i lofnodi'r datganiad barn a bostiais ddoe, gan y credaf fod angen inni ei anfon at Senedd y DU a Llywodraeth y DU, gan na allwn ddatrys y mater hwn yn y lle hwn; nid oes gennym y pwerau hynny. Ac edrychaf ymlaen, Weinidog, at glywed yn union faint o gontractau sydd gennym gyda Fujitsu, gan ei bod yn ymddangos i mi fod angen ystyried a yw hwn yn gwmni sy’n gweithredu'n unol â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Diolch, Jenny Rathbone. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn dweud bod y mater hwn wedi'i ddwyn yn ôl i sylw'r cyhoedd gan ddrama ITV, Mr Bates vs The Post Office. Rwyf wedi fy synnu gyda'r nifer o bobl sydd wedi cysylltu â mi, neu wedi cael sgwrs, a oedd yn meddwl bod cyfiawnder wedi’i wneud a sylweddoli wedyn nad oedd hynny'n wir, ond hefyd, graddau'r mater a’r effaith a gafodd ar fywydau pobl. Fel y dywedais, fe ddinistriodd fywoliaeth pobl a bywydau cymaint o is-bostfeistri dieuog, ac rydych yn amlwg yn llygad eich lle—mae'r rhai yr effeithir arnynt bellach yn haeddu cael eu henw da wedi'i adfer a chael yr iawndal y maent yn ei haeddu, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hynny’n digwydd cyn gynted â phosibl. Ac rydych yn codi pwynt pwysig am y rôl sydd gan bawb yma i’w chwarae i sicrhau ein bod yn defnyddio ein pwerau perswadio a’r ysgogiadau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y cyfiawnder hanesyddol hwnnw’n anghywir yn ddigonol ac yn llawn cyn gynted ag y bo modd.

Hoffwn ddiolch i'n cyd-Aelod, Jack, am ddod â hyn i lawr y Senedd eto ac am yr holl sylwadau, gan ei bod yn braf ac yn galonogol gweld ein bod yn unedig. Mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan hyn wrth wylio'r rhaglen, am bobl nad oeddem hyd yn oed eu hadnabod. Cefais fy synnu'n fawr, ac roedd fy ngŵr yn ei gwylio gyda mi yr wythnos diwethaf, ac roedd y ddau ohonom yn ein dagrau. Nawr, er diddordeb, hoffwn ganmol Mr Alan Bates. Roedd Alan a'i wraig Suzanne yn rhedeg y swyddfa bost yn y ward lle rwy'n byw a'r ward lle mae fy musnes wedi'i leoli. Roeddwn yno bron bob dydd. Roeddwn yn ei adnabod ef a'i wraig Suzanne am flynyddoedd lawer. Roeddent yn rhedeg swyddfa bost effeithlon, gyfeillgar a gwerthfawr iawn ochr yn ochr â chownter gwlân. Cafodd pob un ohonom ein synnu pan gaeodd y swyddfa bost, ond nid oeddwn innau, hyd yn oed, yn gwybod—. Er fy mod yn gwybod am ei frwydr bersonol, nid oeddwn yn gwybod ei fod yn defnyddio ei egni, ei benderfyniad a'i ddewrder i weithio ar ran cymaint o bobl, a deallaf, ers i'r rhaglen gael ei darlledu, fod llawer mwy o is-bostfeistri yn codi eu llais ac yn dweud, 'Digwyddodd hynny i mi.' Felly, rwy'n credu'n wirioneddol fod gennym ran i'w chwarae yma fel gwleidyddion Cymreig. Gwelais Mr Thomas a'r stori wir yn ogystal â'r ddrama, ac ni allech roi blewyn rhwng y ddwy. Nid oedd y ddrama'n gwrth-ddweud unrhyw ran o'r stori wir. Cafodd ei chyfleu'n wych. Ond o'm rhan i, mae angen dod â'r holl unigolion a oedd yn gyfrifol am y sgandal erchyll hon o flaen eu gwell ar unwaith. Mae arnom angen i’r rhai sydd wedi’u cyhuddo ar gam gael eu rhyddhau o fai yn gyfan gwbl, ac edrychaf ymlaen at ddadl ar hyn gyda’r Cwnsler Cyffredinol yma maes o law fel y gallwn sefydlu sut yn union y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU. Diolch.

15:50

Diolch, Janet Finch-Saunders, am eich cyfraniad gwirioneddol angerddol a theimladwy. Credaf ei fod yn dangos—. Rydych chi'n sôn y bydd pobl wedi gweld Alan Bates bellach drwy’r ddrama, ac mewn gwirionedd, mae’n dangos grym drama i fynd ar drywydd achos, lle na ddylai fod angen hynny, ond y gwahaniaeth y gall ei wneud. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaethoch chi rannu eich myfyrdodau yn ogystal â'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar gynifer o unigolion, ond mae cymaint o gymunedau, fel y dywedwch hefyd, yn pwysleisio, fel y mae pob un ohonom ni wedi'i wneud yn y Siambr heddiw, yr angen i beidio—. Mae hyn wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r ddrama dros gyfnod y Nadolig, ond dylem beidio ag anghofio hynny nawr, a sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud ar ran pawb. Rwy’n siŵr na fydd ots gan fy nghyd-Aelod y Cwnsler Cyffredinol imi ymrwymo ar ei ran i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r lle hwn am ddatblygiad ei drafodaethau a’i sylwadau ar y mater hwn hefyd.

Diolch, Lywydd. Roeddwn yn glerc swyddfa'r post ar y pryd, ac mae hyn wedi dod â materion y buom yn ymdrin â nhw yn ein cangen yn ôl i mi, heb sylweddoli nad oedd yn ddigwyddiad unigol. Hefyd, roedd Hilary Isherwood, gwraig Mark, yn gweithio yno ar yr un pryd. Nid oedd y problemau ar yr un raddfa â'r rhai a bortreadwyd, ond nid oeddwn yn sylweddoli—. Roeddwn yn credu mai problem yn ein cangen ni ydoedd, ac fe wnaethom ei datrys, i raddau. Ond mae'r rhaglen wedi adfywio fy atgofion o'r cyfnod hwnnw. Caeodd y gangen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach o dan fesurau rhesymoli'r Llywodraeth. Cawsom brotest, ond fe ddigwyddodd serch hynny. Ond hoffwn ofyn: sut y gallwn annog y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal, gan gynnwys fy nghyn-bostfeistres, ac nad ydynt eto wedi codi eu llais i wneud hynny? Oherwydd mae'n debygol fod y rhaglen hon wedi gwneud iddynt feddwl. Efallai nad oedd ar yr un raddfa â’r bobl yn y rhaglen, ond efallai y byddent hwythau wedi gorfod talu rhywfaint o arian yn ôl ar y pryd hefyd.

Diolch i'm cyd-Aelod, fy ffrind, Carolyn Thomas, am rannu eich myfyrdodau hefyd. Credaf hefyd ei fod yn mynd at wraidd y mater, onid yw, fod cymaint o bobl wedi meddwl mai eu problem nhw'n unig oedd hon, ac wedi dioddef ar eu pen eu hunain, pan nad oedd yn broblem gyda nhw mewn gwirionedd, roedd yn broblem gyda'r system, a system sydd wedi gwneud cam â phobl ar gymaint o wahanol lefelau—[Anghlywadwy.] Mae'n hen bryd i'r methiannau hynny gael eu hunioni. Credaf fod Janet Finch-Saunders wedi crybwyll y peth hefyd, yn yr ystyr fod y rhaglen wedi dangos i bobl—efallai na wnaethant sylweddoli—nad eu problem nhw'n unig oedd hyn, a’r angen iddynt godi eu llais fel eu bod nhw'n cael cyfiawnder hefyd. Felly, yn dilyn y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw, efallai y gallwn sicrhau bod gennym yr wybodaeth y gallwn ni fel Aelodau ei rhannu drwy ein rhwydweithiau a’n cysylltiadau ein hunain fel y gellir cefnogi pobl, os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu heffeithio ac nad ydynt wedi cael cymorth neu fynediad at unrhyw fath o gyfiawnder, i godi eu llais nawr.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a'i ofyn gan Sam Rowlands. 

15:55
Gwasanaethau Bws Arriva yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am Arriva yn newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i'r terfyn cyflymder diofyn 20 mya yng Nghymru? TQ946

Wel, rydym wedi dweud yn glir yr hoffem ddysgu o gyflwyno'r terfyn 20 mya a gwneud gwelliannau. Rydym bob amser wedi cydnabod y byddai'n cael effaith ar rai gwasanaethau bysiau, ac rydym bellach yn adolygu'r canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol, ac mae'r effeithiau ar fysiau yn rhan o'r adolygiad hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, a diolch, Lywydd, am ganiatáu’r cwestiwn amserol hwn yma heddiw. Mae pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, bellach mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy anodd o ganlyniad uniongyrchol i derfyn cyflymder 20 mya diofyn Llywodraeth Cymru. Mae darparwr bysiau Arriva yn gorfod newid pob un o’u gwasanaethau bysiau yn y gogledd, nid un neu ddau fel yr hoffai’r Dirprwy Weinidog ei awgrymu oherwydd yr hyn y maent yn eu galw'n ‘amodau gweithredu heriol’.

Nawr, mae'r newidiadau hyn yn cynnwys nifer o leoliadau yn fy rhanbarth nad ydynt yn mynd i gael eu gwasanaethu gan fws mwyach—un enghraifft, a godwyd gan Darren Millar ddoe, yw pentref Llandegla—a gostyngiadau difrifol ar gyfer rhannau eraill o fy rhanbarth. Bydd y gwasanaeth rhwng Llandudno a Phrestatyn bellach yn gweithredu bob awr, ac ni fydd yn galw mewn lleoedd fel gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno mwyach nac i Lysfaen; mae gwasanaeth Bangor i Fiwmares yn cael ei gwtogi i weithredu bob 75 munud. Mae'r rhain yn aneddiadau sylweddol, Bangor, Llandudno, Prestatyn—mae'r gwasanaethau bws ar gyfer y degau o filoedd o bobl sy'n byw yn yr aneddiadau hyn yn cael eu lleihau hyd yn oed ymhellach.

Mae hyn oll, wrth gwrs, yn cael effaith negyddol sylweddol ar fy etholwyr. Mae'n gwneud eu bywydau'n anoddach. Mae'n mynd i effeithio ar eu swyddi, eu teuluoedd, eu bywydau cymdeithasol—i gyd o ganlyniad i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn 20 mya nad oes mo'i eisiau. Mae hyn, wrth gwrs, yn wahanol iawn i nod datganedig Llywodraeth Cymru o annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yr hyn sydd wedi’i roi ar waith yw polisi sy’n mynd ati'n weithredol i orfodi pobl i beidio â gallu cael mynediad at y drafnidiaeth gyhoeddus honno, ac yn hytrach, mae'n cynyddu dibyniaeth ar geir.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn goruchwylio dros ddirywiad hirhoedlog bysiau yng Nghymru wrth gwrs. Fe gyflymodd COVID y gostyngiad yn nifer y teithwyr ar fysiau, ond roedd nifer teithiau bws y pen yng Nghymru ar i lawr ymhell cyn hynny. Fe wnaethant ostwng chwarter rhwng 2005 a 2019, ac maent wedi bod ymhlith yr arafaf i adfer ar ôl y pandemig. Ond gweithredu'r terfyn 20 mya diofyn sy'n eu gwthio dros y dibyn ac yn anffodus, mae'r holl beth wedi bod yn rhagweladwy. Codwyd y materion hyn yn y Siambr hon hyd yn oed, gennyf fi ac eraill, ond yn anffodus, fe wnaethant syrthio ar glustiau byddar.

Wrth gwrs, mae’r holl beth yn gwaethygu mater cyllid ar gyfer ein gwasanaethau bysiau, i drethdalwyr ac i ddefnyddwyr bysiau, gan y byddant yn costio mwy i’w rhedeg, ac mae’n rhaid talu’r gost honno rywsut. Ac rydym eisoes wedi gweld addasiad enfawr eleni yn y cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac ni fydd effaith barhaus y terfyn 20 mya diofyn ond yn gwaethygu hyn—eto, fel y rhagwelwyd gan y rheini yn y Siambr hon, fel y rhagwelwyd hefyd gan yr Athro Stuart Cole, gan syrthio unwaith eto ar glustiau byddar. Felly, mae'n amlwg yn y dystiolaeth hon a welsom eto nawr yng ngogledd Cymru fod polisi trafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru yn methu ar ran y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, yn enwedig fy nhrigolion yng ngogledd Cymru. Felly, hoffwn wybod gan y Dirprwy Weinidog heddiw, Lywydd, a yw'n fodlon fod y llwybrau bysiau hyn yn y gogledd yn cael eu torri a beth yn union y mae'n mynd i'w wneud i glirio'r llanast a wnaed.

Wel, mae llawer o heriau yn wynebu’r diwydiant bysiau, ac mae’n rhy hawdd beio’r cyfan ar y terfyn cyflymder newydd. Hoffwn ymdrin â nifer o’r materion a godwyd yn eu tro, gyda’ch amynedd, Lywydd.

Yn gyntaf oll, gadewch inni gofio pam y gwnaethom benderfynu gostwng y terfyn cyflymder mewn ardaloedd adeiledig. Roedd hynny er mwyn achub bywydau a lleihau anafiadau. Sefydlais grŵp arbenigol i weithio gyda phartneriaid cyflenwi i lunio cynllun gweithredu a fyddai’n gweithio’n ymarferol. Fe weithiodd gyda Trafnidiaeth Cymru, a ddangosodd y byddai’r effaith ar amseroedd teithio yn ymylol, ac fe wnaethant argymell ein bod yn defnyddio terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol yn hytrach na’r dull fesul stryd a oedd yn bodoli eisoes ac yr ystyrid ei fod wedi methu yn ei amcanion. Nawr, cyflwynwyd y dull terfyn cyflymder diofyn hwnnw i’r Senedd ac fe’i cymeradwywyd gan fwyafrif llethol gan gynnwys y rhan fwyaf o grŵp y Ceidwadwyr. Felly, gadewch inni gofio hynny. Cytunwyd ar y dull hwn gan y Senedd gyfan ac fe’i cymeradwywyd gan y rhan fwyaf o’r Ceidwadwyr, ac mae’r cofnodion yn dangos hynny.

Nawr, dros y tri mis diwethaf, rydym wedi symud o'r cyfnod peilot i'w gyflwyno'n llawn ac mae hynny'n anochel wedi amlygu rhai problemau y mae angen mynd i'r afael â nhw. A dywedais ar y dechrau na fyddem yn cael hyn yn iawn ar y diwrnod cyntaf, ac y byddem yn adolygu ei weithrediad, a dyna rydym yn ei wneud. Fe wnaethom nodi canllawiau i awdurdodau lleol wneud eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn, a'r cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i wneud hyn ar eu ffyrdd lleol eu hunain; wedi’r cyfan, yn gyfreithiol, nhw yw’r awdurdod priffyrdd lleol. Nawr, fe wyddom o'r data a gyhoeddwyd gennym, ac y mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd wedi'i ddadansoddi, fod cyfran y ffyrdd sy'n dal i fod yn 30 mya bellach yn amrywio'n fawr rhwng cynghorau, o dros 10 y cant yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr i lai nag 1 y cant ym mhedwar awdurdod gogledd Cymru. Felly, yn amlwg, mae gan gynghorau bŵer i eithrio rhai ffyrdd lle maent yn teimlo bod cyfiawnhad dros hynny, ac yn amlwg, mae p'un a yw stryd ar lwybr bysiau mawr yn rhywbeth y gallant ei ystyried.

Nid yw'r newid hwn wedi'i wneud yn gyfrinachol. Roedd yr holl wybodaeth am newidiadau i derfynau cyflymder ar gael i weithredwyr bysiau er mwyn caniatáu iddynt gynllunio'n ddigonol ar gyfer cyflwyno'r terfyn 20 mya. Fe wnaeth rhai gweithredwyr bysiau, fel Bws Caerdydd, newidiadau i'w hamserlen cyn y newid i'r terfyn cyflymder; dewisodd Arriva a First Cymru beidio â gwneud hynny, a dywedodd Stagecoach na fyddai’r terfyn cyflymder newydd yn cael unrhyw effaith ac nad oeddent yn bwriadu newid eu hamserlenni. Nawr, fe wyddom fod pob cwmni wedi ei chael hi'n anodd recriwtio gyrwyr, ac mae hynny wedi effeithio ar eu gallu i gadw at eu hamserlenni. Fe wyddom hefyd fod llawer ohonynt yn awyddus i wneud newidiadau i rai llwybrau i adlewyrchu’r ffordd y mae teithwyr yn teithio bellach, neu’n dewis peidio â theithio, ar ôl COVID, ac roedd y rhain oll yn ffactorau yn y newidiadau i’r amserlenni.

Rydym wedi gweld honiadau cyn yr wythnos hon mai’r terfyn cyflymder oedd ar fai am yr oedi, ac rydym wedi gofyn i’r cwmnïau bysiau am eu data i’n helpu i ddeall hynny. Rydym wedi cael rhywfaint, ac rydym yn aros am fwy, ac rwy’n berffaith barod i dderbyn bod bysiau’n symud yn rhy araf ar rai llwybrau. Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai’r ymateb awtomatig i hynny yw newid pob llwybr bws yn ôl i 30 mya. Ni chredaf mai’r ateb cywir yw caniatáu i rai o’r cerbydau trymaf a mwyaf ar ein ffyrdd yrru'n gyflymach na phawb arall mewn ardaloedd adeiledig lle mae pobl a thraffig yn cymysgu.

Rydym am i fwy o bobl ddewis defnyddio’r bws, a gwyddom fod y cwmnïau bysiau wedi dweud ers blynyddoedd fod tagfeydd yn broblem fawr sy’n effeithio ar ddibynadwyedd bysiau. Dair blynedd yn ôl, yn strategaeth drafnidiaeth Cymru,fe wnaethom ddweud ein bod am annog mesurau blaenoriaeth i fysiau, fel lonydd bysiau a goleuadau blaenoriaeth, i roi mantais i fysiau mewn traffig prysur, a gwyddom fod hyn yn gwella amseroedd teithiau bysiau ac yn gwella dibynadwyedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi ymrwymo £6 miliwn ar gyfer cynlluniau blaenoriaeth i fysiau a thros £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac rwyf am weld mesurau blaenoriaeth i fysiau’n cael eu blaenoriaethu mewn ceisiadau gan awdurdodau lleol a'u cynnwys yn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y maent yn eu datblygu.

Ar strydoedd lle byddai’n gwneud synnwyr i draffig deithio ar gyflymder o 30 mya, rydym wedi annog cynghorau i ddefnyddio synnwyr cyffredin. Rwyf wedi sôn am ddefnyddio prawf synnwyr cyffredin; dylem ofyn, 'A yw hyn yn teimlo'n iawn?' Os gofynnir i bobl yrru'n arafach ar stryd, mae angen i hynny wneud synnwyr. Os nad yw'n gwneud synnwyr, bydd pobl yn tueddu i anwybyddu'r terfyn, ac rydym yn mentro tanseilio'r holl beth. Ar ôl tri mis, mae pob un ohonom wedi cael cyfle i ddod i arfer â’r newid, ac mae’n rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad personol, er ei fod yn anecdotaidd, fel gyrrwr, rwy'n credu bod pobl yn gyrru’n arafach; nid ydynt yn gyrru mor araf ag 20 mya, ond yn fy mhrofiad i, oddeutu 25 mya, a dyna a ddisgwyliem i ddechrau. Wrth i’r newid ymsefydlu ac wrth i orfodi ddechrau, rydym yn gobeithio y gwelwn hynny’n gostwng ymhellach, oherwydd am bob gostyngiad o 1 mya yn y cyflymder cyfartalog, mae nifer yr anafusion yn gostwng 6 y cant.

Byddwn yn cyhoeddi'r cyntaf o'r adroddiadau monitro rheolaidd bob chwe mis maes o law, a bydd gennym ddata cadarn i gymharu â fy mhrofiad anecdotaidd fy hun. Ond mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n gweld ardaloedd lle mae pobl yn anwybyddu'r terfyn cyflymder, ac mewn rhai achosion, mae hynny am ei fod yn methu'r prawf synnwyr cyffredin. Roedd yn anochel y byddai angen cyfnod ymsefydlu, ac mae’r gallu i wneud newidiadau wedi'i ymgorffori yn y pwerau sydd gan gynghorau fel yr awdurdodau priffyrdd lleol. Fe wyddom fod awdurdodau lleol eisoes yn coladu rhestrau o fannau lle nad yw 20 mya yn teimlo fel y cyflymder cywir. Yn ddealladwy, nid ydynt wedi bod yn awyddus i weithredu ar frys wrth i bobl ddod i arfer â'r newid, ond maent am adolygu a diwygio eu terfynau cyflymder lleol. Nid oes unrhyw un yn rhagweld y bydd hyn yn golygu newidiadau mawr, a bydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anomaleddau. Rwyf wedi gofyn i Phil Jones, sy'n arwain yr adolygiad ar ein rhan, ystyried a fyddai newidiadau pellach i'r canllawiau ar eithriadau yn ddefnyddiol, er enghraifft, drwy gynnwys llwybrau bysiau mawr yn benodol fel un o'r meini prawf lleol y gallant eu hystyried.

Rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn monitro unrhyw effeithiau ar wasanaethau bysiau yn sgil y terfyn cyflymder newydd yn barhaus, a byddwn yn parhau i weithio gyda gweithredwyr, awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau ehangach sydd, heb os, yn wynebu’r diwydiant bysiau. Diolch.

16:00

Roeddwn i'n mynd i ofyn i chi beth oedd y gwir gymhelliad yma, ond â bod yn deg, rwy'n credu eich bod wedi cyffwrdd â hynny, Ddirprwy Weinidog, oherwydd mae rhai o fy etholwyr wedi gofyn i mi a yw—. Wyddoch chi, mae'n debyg fod y newid yn y terfyn cyflymder yn ysgogiad i hyn, ond rwy'n credu bod yna ysgogiadau eraill i'r newidiadau gyda'r heriau ehangach sy'n wynebu'r sector. Ond rwy'n credu eich bod wedi dweud eich dweud ar hynny.

Felly, a gaf fi ofyn i chi beth fyddech chi wedi'i ddisgwyl gan gwmni fel Arriva mewn perthynas â gweithredu'r newidiadau hyn? Oherwydd mae etholwyr wedi cysylltu â mi heb unrhyw syniad fod y newidiadau hyn yn dod ac yn darllen amdano yn y wasg, ac maent yn siomedig iawn na chysylltwyd â nhw fel defnyddwyr rheolaidd y gwasanaethau hyn, ac na chawsant gyfle trwy broses ymgynghori i ddweud eu barn am unrhyw gynigion a oedd yn cael eu paratoi. A gafwyd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb? Nid wyf yn gwybod. Os na, fe ddylai fod wedi'i wneud, oherwydd yn amlwg mae'n rhan mor bwysig o alluogi pobl i gyrraedd swyddi a gwasanaethau, fel y clywsom. Ac mae yna safle bws newydd arfaethedig—cafodd Llandegla ei grybwyll ddoe—ar y brif ffordd, ar dir preifat, rwy'n credu. Nid oes gan y perchennog unrhyw fwriad o ganiatáu i'r tir hwnnw gael ei ddefnyddio. Felly, onid yw hyn i gyd yn awgrymu bod Arriva wedi gwneud cawlach o newid gwasanaethau, beth bynnag yw'r cymhelliad?

16:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wedi tynnu sylw'n berffaith at rai o'r diffygion yn y gwasanaeth bws preifat sydd gennym ar hyn o bryd, oherwydd cwmnïau masnachol yw'r cwmnïau hyn; yn y bôn, gallant wneud fel y mynnant. Gallwn apelio arnynt, ond oni bai bod gennym arian i'w roi iddynt, cymhorthdal uniongyrchol, i gynnal llwybrau a ddiffinnir gennym fel rhai sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, nid oes rhaid iddynt gymryd unrhyw sylw. Ac rwy'n rhwystredig ei bod wedi cymryd tan nawr iddynt aildrefnu eu hamserlenni, o ystyried, fel y dywedais, fod Bws Caerdydd wedi gwneud hyn cyn y newid yn y terfyn cyflymder, ac rwy'n credu ei bod yn drueni eu bod yn ceisio beio'r terfyn cyflymder o 20 mya am ystod eang o wahanol bethau.

Fel y dywedais, nid wyf yn ddogmatig ynglŷn â hyn; rwy'n berffaith barod i dderbyn bod yna feysydd lle gellir gwneud newidiadau, a gadewch inni weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r rheini, oherwydd rydym am i hyn ymsefydlu'n llwyddiannus. Ond heb ddod â'r Bil bysiau newydd i mewn a'r pwerau i reoleiddio'r diwydiant bysiau, mae pethau fel asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ac ymgynghoriadau a gweithio gyda staff a chynllunio strategol lle dylai llwybrau fynd, yn seiliedig ar angen yn hytrach nag ar elw, yn amhosibl i'w gorfodi ar ddiwydiant preifat, tameidiog, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd hon eleni, i newid hynny.

Mae Arriva wedi cynnal adolygiad prydlondeb o 90 y cant o'u gwasanaethau—ei effaith ar 90 y cant o'u gwasanaethau. Cefais fy hysbysu am y peth gan gymuned Llandegla, felly, dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cyfarfod â thrigolion Llandegla ac rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i geisio mynd i'r afael â'r mater er mwyn dod o hyd i ateb. Rwyf wedi bod yn cysylltu â Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdod lleol ac ymwelais â depo Arriva hefyd, ac edrychais ar eu graffiau a gwrando arnynt—roedd cynrychiolwyr undeb yno hefyd—ac fe welais yn y graffiau lle roedd 80 y cant o gydymffurfiaeth o'r blaen wedi gostwng 60 y cant mewn rhai ardaloedd oherwydd y terfyn cyflymder o 20 mya. Felly, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid hyn i geisio dod o hyd i ateb ar gyfer Llandegla. Mae'n edrych yn debygol y cawn un; rwyf newydd weld e-bost gan Arriva, sydd wedi bod yn gweithio gyda sir Ddinbych ar hynny.

O edrych ar y llwybrau prifwythiennol y mae'r bysiau'n eu defnyddio, rwy'n meddwl y bydd hynny'n ateb wrth symud ymlaen, a rhoi llinellau dwbl melyn i lawr hefyd, lle ceir tagfeydd mewn rhai ardaloedd. Gwn fod yna linellau melyn dwbl ym mhentref Llandegla lle mae'n rhaid i'r bws wneud tro thri phwynt, ac ym Mwcle, roedd problem tagfeydd yno ac mae'r llinellau melyn dwbl wedi helpu. Mae sefydlu llwybrau bysiau a'u hyrwyddo, fel y gallwn gael mwy o deithwyr ar y bysiau, i gyd yn rhan o'r pecyn cyfan wrth symud ymlaen.

Ond wrth i Arriva weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a chyda'r awdurdod lleol i edrych ar ffyrdd penodol y gellir eu codi i 30 mya, a bod yr adolygiad y dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n digwydd yn digwydd—ac rwy'n falch iawn o glywed heddiw ei fod yn dweud y byddant yn edrych ar lwybrau bysiau—drwy gydweithio, rydym yn dod o hyd i atebion yng ngogledd Cymru a gobeithio y bydd rhai yn parhau, ac mae'n swnio fel pe bai hynny'n mynd i ddigwydd yn Llandegla. Mae'n ddrwg gennyf nad cwestiwn yw hwn, oherwydd fe wnaethoch chi ateb fy nghwestiwn yn gynharach, a dweud eich bod yn cytuno i ychwanegu llwybrau bysiau allweddol ar lwybrau prifwythiennol i fod yn rhan o'r meini prawf ar gyfer eithrio, felly diolch am hynny. Felly, Ddirprwy Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod hynny'n syniad da? Diolch.

Diolch am hynny, Carolyn Thomas, ac am y gwaith y mae hi'n ei wneud yng ngogledd Cymru i geisio mynd i'r afael ag atebion ymarferol i'r problemau hyn.

Nid dyfarniadau syml yw'r rhain, oherwydd rydym wedi clywed yn aml yn y Siambr gan y rhai sy'n gwrthwynebu ein polisi, ond sy'n cefnogi 20 mya, meddent, y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai ac mewn ardaloedd preswyl. Yn wir, os edrychwch ar y meini prawf sydd gennym, maent yn dweud y dylai fod yn 20 mya y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai, y tu allan i ardaloedd preswyl, y tu allan i siopau a'r tu allan i ganolfannau cymunedol. Felly, mae'n ymddangos ein bod yn cytuno mewn egwyddor fod 20 mya yn briodol mewn ardaloedd adeiledig, y cwestiwn wedyn yw lle mae'n briodol, lle nad yw'n briodol, a dyna ddiben y meini prawf ar gyfer eithrio, er mwyn caniatáu hyblygrwydd i awdurdodau.

Nawr, mae'n hawdd inni ddweud hynny mewn egwyddor wrth gwrs, ond pan gânt eu cymhwyso ar gyfer ffyrdd gwahanol, mae'n aml yn gymhleth iawn. Rwy'n cydymdeimlo ag awdurdodau lleol am y dyfarniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud, oherwydd mae gennych rai ffyrdd a allai fod ar lwybr prifwythiennol ond sydd hefyd yn agos at ysgol, neu dai, neu ardal chwarae. Felly, a ydym yn dweud, oherwydd eu bod ar lwybr bws prifwythiennol, y dylent fod yn 30 mya, er bod defnyddwyr ffyrdd agored i niwed yn cymysgu â thraffig? Nawr, nid yw'n ddyfarniad syml, ac rwy'n credu mai'r lle gorau i wneud dyfarniad o'r fath yw yn lleol. Felly, lle mae gan Arriva enghreifftiau o hynny'n effeithio'n arbennig ar eu prydlondeb, mae proses ar gael iddynt fynd at yr awdurdod lleol, i gyflwyno'r achos a gofyn i'r awdurdod lleol ddefnyddio'r disgresiwn sydd ganddo.

Rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn i ni yn Llywodraeth Cymru ddweud wrth strydoedd unigol, 'Dyma'n union y dylech ei wneud.' I ddechrau, nid oes gennym bwerau cyfreithiol i wneud hynny; yr awdurdod lleol sydd â'r rheini. Ond hefyd rwy'n credu mai'r broblem yw bod llawer o'r dadleuon a wneir, yn enwedig gan y Ceidwadwyr yma, yn gyffredinol iawn ac ar lefel uchel, ac nid ydynt yn dweud wrthym sut y cânt eu cymhwyso'n ymarferol. Nawr, rhesymeg eu safbwynt yw ein bod yn ei wneud ar gyfer strydoedd unigol, sef yr hyn a wnaem o'r blaen. Os felly, mae'n rhaid ichi gael gorchymyn rheoleiddio traffig ar gyfer pob stryd. Byddai hynny'n costio ffortiwn, ac maent yn dweud ein bod wedi gwastraffu arian ar y broses hon. Byddai wedi costio llawer mwy pe byddem yn gweithredu ar eu cyngor, a dyna pam yr argymhellodd y tasglu arbenigol annibynnol ddull diofyn, a gefnogwyd gan y Ceidwadwyr yn y lle hwn.

Pan gafodd y rheoliadau eu gwneud, mae'n wir fod yna newid yn yr arweinyddiaeth, a gwelodd Andrew R.T. Davies gyfle poblyddol i geisio creu rhaniad, a newidiodd eu safbwynt. Ond ar yr egwyddor, sef adroddiad y tasglu a ddywedodd, pe baem yn ei wneud mewn ffordd ddiofyn, byddai cefnogaeth—. Nid yw'r enwau gennyf o'm blaen, ond o'r hyn a gofiaf, rwy'n credu bod gennym Janet Finch-Saunders, Laura Anne Jones, Russell George, a chafodd yr egwyddor ei chefnogi gan y Ceidwadwyr—

16:10

I chi gynnal ymgynghoriad. Fe wnaethom bleidleisio yn erbyn y—

Mae Janet yn dweud mai dim ond dros fwrw ymlaen ag ymgynghoriad y pleidleisiodd hi. Nid yw hynny'n wir. Dylech ddarllen y cynigion rydych chi'n pleidleisio arnynt, Janet. Nid dyna a ddywedai'r cynnig, a gofynnaf i chi fynd yn ôl ac edrych ar yr hyn y gwnaethoch chi bleidleisio drosto. Roedd yn dweud yn glir yn y cynnig a gefnogwyd gan eich grŵp fod hwn yn derfyn cyflymder diofyn, a dyna beth a wnaethom. O fewn y terfyn cyflymder diofyn mae gallu i wneud eithriadau, ond maent yn aml yn ddyfarniadau cymhleth i'w gwneud, yn ymarferol.

Os caf gywiro pethau, mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at bleidlais ar 15 Gorffennaf 2020 ar ddadl gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno terfynau cyflymder o 20 mya yng Nghymru, a chawsom bleidlais rydd ac fe wnaethom ymrannu. Ar gyfer y cofnod, ymatal a wnes i. Ond ar y bleidlais rwymol ar 12 Gorffennaf 2022, ar y ddeddfwriaeth a gyflwynodd y terfyn diofyn o 20 mya, pleidlais ar y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru), pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn unfrydol yn ei erbyn, ddwy flynedd ar ôl y bleidlais nad oedd yn rhwymol yr ydych chi'n parhau i gyfeirio ati.

Yn gynnar y mis diwethaf, cyfarfûm â Bysiau Arriva Cymru yn eu depo ym Mrychdyn Newydd, Wrecsam, pan bwysleisiodd eu pennaeth masnachol gogledd-orllewin Lloegr a Chymru yr hyn a ddisgrifiodd fel yr effaith erchyll ar eu gwasanaethau yn sgil gostwng y terfyn cyflymder diofyn gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru i 20 mya. Eglurodd fod y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan Bysiau Arriva Cymru yn deillio o effaith hyn ar eu gwasanaethau.

Cysylltais â nhw eto yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r newidiadau i wasanaeth bws X51 trwy bentref Llandegla ar ôl cael gohebiaeth, fel y gwnaeth Carolyn Thomas, gan drigolion yr effeithiwyd arnynt yno. Sut rydych chi'n ymateb felly i'w hymateb diamwys, fel a ganlyn?

'Fel y trafodwyd yn Wrecsam, nid yw Arriva eisiau newid gwasanaethau, ond mae'n rhaid iddynt oherwydd 20 mya. Ni fyddem yn newid 90 y cant o'r rhwydwaith yng ngogledd Cymru fel arall. Y broblem sydd gennym nawr, oherwydd 20 mya, yw bod y bysiau'n cymryd mwy o amser i weithredu ledled gogledd Cymru, felly bu'n rhaid inni wneud newidiadau sydd wedi arwain at dorri llwybrau, lleihau amlder ac adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r amseroedd teithio newydd sydd eu hangen.'

Dyna beth roeddent yn ei ddweud. Beth yw eich ymateb i'r datganiad ffeithiol, diamwys hwnnw a sut rydych chi'n mynd i ymgysylltu'n uniongyrchol â nhw i sicrhau dealltwriaeth o beth yw'r problemau go iawn?

16:15

Fel y dywedais, rwy'n awyddus iawn i ymgysylltu ymhellach â nhw. Rydym wedi ymgysylltu llawer; mewn gwirionedd, rydym wedi eu hachub rhag methdaliad. Felly, mae gennym berthynas gydag Arriva ac rydym am weld y data. Rydym am ddeall yr effeithiau, ac rydym am iddynt ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol. Gofynnais y cwestiwn iddo: pam mai dim ond 0.6 y cant o'i ffyrdd sydd gan sir Ddinbych fel eithriadau ar gyfer 30 mya; Conwy, 0.8 y cant; sir y Fflint, 0.9 y cant; Wrecsam, 1.2 y cant; Gwynedd, 1.9 y cant; pan fo gan Abertawe 10 y cant, mae gan Ben-y-bont ar Ogwr 10 y cant, mae gan Blaenau Gwent bron i 10 y cant, ac mae'r rhestr yn wybodaeth gyhoeddus?

Mae'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru wedi gallu creu eithriadau, ac maent wedi dewis peidio. Mae'n ddigon posibl mai dyna sy'n achosi rhai o'r anawsterau i Arriva a byddai dull mwy cynnil, gronynnog yn well. Mae modd datrys hynny. Mae'n rhywbeth lle gallwn weithio gyda nhw a gallant weithio gyda'r awdurdodau lleol i ddefnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin. Fel y dywedais yn yr ateb i'r cwestiwn cynharach, yn ymarferol nid yw'r dyfarniadau hyn yn ddu a gwyn bob amser ac mae'n rhaid inni gydbwyso nifer o ystyriaethau. Nid oes unrhyw beth mewn egwyddor i atal neb rhag gweithredu dull gwahanol, ond gan gadw 20 mya lle mae pobl a thraffig yn cymysgu.

Ar ei bwynt cyntaf ar y bleidlais nad oedd yn rhwymol, pan ymrannodd y grŵp, dim ond pleidlais nad oedd yn rhwymol yn swyddfa chwip y Ceidwadwyr Cymreig ydoedd. Roedd yn bleidlais rwymol o'r Senedd hon ar gynnig gan y Llywodraeth yn seiliedig ar eu hadroddiad, a phleidleisiodd y Senedd hon i dderbyn y dull gweithredu yn yr adroddiad. Roedd hwnnw'n adroddiad rhwymol gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Nid yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio â defnyddio'r chwip arni yn ei gwneud yn bleidlais nad oedd yn rhwymol. Wrth gwrs, pan ddaeth y rheoliadau drwodd, rydych chi'n gywir fod y Ceidwadwyr wedi newid eu safbwynt, a bod y rhai a oedd wedi cefnogi'r dull gweithredu a nodwyd wedi newid eu barn heb egluro pam. Rwy'n credu y gallwn i gyd ddyfalu pam: oherwydd bod Andrew R.T. Davies a'r tîm cyfryngau cymdeithasol yn swyddfa ganolog y Ceidwadwyr wedi gweld cyfle i greu rhaniadau a lansio rhyfeloedd diwylliant. Fe wnaethant gamarwain pobl drwy ddweud mai gwaharddiad cyffredinol oedd hwn, a chreu dryswch enfawr pan fo'n amlwg iawn nad yw'n waharddiad cyffredinol. [Torri ar draws.] Mae'n gwybod mai nonsens yw hynny; mae'n benderfynol o gadw at ei safbwynt, ond mae'n anghywir.

Hoffwn glywed yr ymatebion, ac rwy'n credu bod y lleisiau sy'n dod oddi ar feinciau'r gwrthbleidiau ar hyn o bryd yn boddi'r hyn rwy'n ei glywed gan y Dirprwy Weinidog, felly rhowch gyfle i bawb glywed beth sy'n cael ei ddweud. 

Hoffwn ehangu mwy ar yr elfen leol i'r newyddion hwn gan Bysiau Arriva Cymru a sut mae wedi effeithio ar bobl Dyffryn Clwyd, gyda'r cyhoeddiad ddoe fod Arriva yn dileu'r gwasanaeth bws X51 rhwng Rhyl a Dinbych o ganlyniad i bolisi 20 mya Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn wasanaeth a ddefnyddir yn aml sy'n rhoi cyfle i bobl fynd o A i B. Fel y soniais ddoe yn fy sylwadau, mae gan fy etholaeth nifer uchel o bobl oedrannus sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn o ddydd i ddydd mewn ardal sy'n wledig i raddau helaeth a defnyddio cyfleusterau siopa yn siop ffatri Tweedmill a chyfleusterau eraill ar hyd y llwybr.

O ystyried bod 13,584 o bobl yn Nyffryn Clwyd wedi arwyddo deiseb y Senedd yn erbyn polisi 20 mya Llywodraeth Cymru, gellid dadlau bod mandad y polisi hwn yn fy etholaeth i braidd yn fain a dweud y lleiaf. Mae'r polisi'n cael effaith niweidiol ar yr economi leol, gwasanaethau o ddydd i ddydd a phobl leol yn sir Ddinbych, gydag amharodrwydd yr awdurdod lleol i edrych ar eithriadau ymarferol i leddfu effaith y polisi o'i gymharu ag ardaloedd cyfagos yn sir y Fflint a Chonwy. Rydych newydd grybwyll yr ystadegyn ei hun mai dim ond 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych sydd wedi bod yn destun eithriadau, ac adroddwyd yn lleol mai'r rheswm am hynny yw oherwydd anawsterau i lywio trwy gymhlethdodau'r system eithrio a'r meini prawf cymhwyso. A yw'n bryd rhoi'r gorau i arbed wyneb a chyfaddef bod y polisi hwn yn anghywir i bobl yn sir Ddinbych a gweithio er budd gorau fy etholwyr, sy'n parhau i fod yn ddig iawn, lawer ohonynt, ynghylch y polisi 20 mya a haerllugrwydd Llywodraeth Cymru am nad ydych yn fodlon gweithio er budd gorau pobl sir Ddinbych? Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, dyna lais fy etholwyr ar raddfa fawr. Diolch.

16:20

Rydych chi wedi ailadrodd y geiriau hynny yn y Senedd ac rwy'n eu gwrthod, oherwydd fy nghymhelliad i yw achub bywydau a lleihau anafiadau. Os nad yw'r polisi hwn yn gweithio, rwy'n fwy na pharod i newid fy safbwynt a newid fy meddwl. Rwyf am i hyn weithio oherwydd fe fydd yn achub bywydau, ac mae bellach yn ymwneud â'i weithredu i sicrhau ein bod yn cael hynny'n iawn. Ceir disgresiwn ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'n sôn am anhawster i lywio drwy'r meini prawf; wel, nid yw'r holl awdurdodau lleol eraill hynny yng Nghymru wedi cael anhawster i lywio drwy'r meini prawf, felly nid wyf yn gwybod beth sy'n arbennig o drafferthus i chwe awdurdod gogledd Cymru fel eu bod wedi cael trafferth llywio'r un meini prawf ag y mae awdurdodau lleol yn ne Cymru a rhannau eraill o Gymru wedi eu gweithredu'n berffaith ddidrafferth.

Hefyd, mae'n werth dweud mai canllawiau yw'r rhain; mae'r pŵer yn nwylo'r awdurdod priffyrdd lleol. Nid oes gennym bŵer i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Gallwn osod y canllawiau, gallwn osod y ddeddfwriaeth, gallwn ddarparu'r cyllid, ond yr awdurdod lleol sydd i wneud y penderfyniadau ar ffyrdd unigol ac eithriadau unigol, a hynny'n briodol, ac rydym yn gweithio gyda nhw nawr fel rhan o'r adolygiad i ddeall pam mae rhai wedi gallu cyhoeddi nifer o eithriadau tra bod eraill wedi gochel rhag gwneud hynny. A yw'n broblem gyda'r canllawiau? A yw'n broblem gyda'u hyder i symud y tu hwnt i union lythyren y canllawiau? Rwy'n credu bod ystod o bethau ar waith yma ac rydym am ddeall hynny a gweithio gydag awdurdodau lleol i gael y canlyniad cywir. Mae'n rhwystredig nad yw'n berffaith o'r dechrau. Gyda newid mor fawr a newid mor gymhleth, nid oedd byth yn mynd i fod, ond rwy'n hyderus y gallwn gyrraedd yno ac yn sicr nid wyf yn mynd i fod yn ddiwyro ar hyd y ffordd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae pobl yn dibynnu ar wasanaethau bysiau; maent yn wasanaethau hanfodol i lawer o bobl, yn enwedig os ydych chi mewn ardal wledig, mewn pentref fel Llandegla, lle mae'n amhosibl mynd i unrhyw le os nad oes gennych gar a heb drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch. Mae pobl yn ofidus am golli'r gwasanaeth yn y pentref, ac rwyf i, ynghyd ag eraill, fel y clywsoch, wedi bod yn gweithio i geisio herio Arriva ynglŷn â'i benderfyniad. Rydym am weld Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn gweithio gyda nhw i adfer y gwasanaeth fel y gall barhau am byth i'r dyfodol.

Mewn perthynas â'ch polisi 20 mya, un o'r pethau rwy'n cofio ei godi yn y Senedd ar y pryd, pan gawsom y ddadl wreiddiol cyn y rheoliadau, oedd, 'Edrychwch, pam na wnewch chi newid y gyfraith i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol gyflwyno terfyn o 20 mya heb broses feichus y gorchymyn rheoliadau traffig?' Roedd hwnnw'n opsiwn y gallech fod wedi'i gyflawni, ond fe wnaethoch chi ddewis y llwybr diofyn, sydd wedi achosi gofid; rydym i gyd yn gwybod ei fod wedi achosi gofid, ac mae'n sicr yn ffactor yn rhai o'r teithiau bws hwy y mae pobl yn eu hwynebu a'r problemau sy'n codi gyda phrydlondeb.

Fe ddywedoch chi y bydd adolygiad yn cael ei gynnal, a chyhoeddwyd hynny ddiwedd y llynedd wrth gwrs. Rwy'n falch fod adolygiad yn cael ei gynnal a bod rhan o'r adolygiad hwnnw'n mynd i edrych ar wasanaethau bysiau, ond mae angen amserlen glir arnom ar gyfer canlyniad yr adolygiad hwnnw. Os yw pobl yn mynd i ddiddymu'r gwasanaethau hyn nawr, sef beth sy'n digwydd yng ngogledd Cymru—. Ac nid gwasanaeth 51 i Landegla yn unig mohono; mae gennym broblemau hefyd i bobl sy'n ceisio cyrraedd apwyntiadau ysbyty ym Modelwyddan, sydd hefyd ar lwybrau bysiau pwysig. Mae amlder y teithiau hynny wedi gostwng o 40 munud y llynedd i awr erbyn hyn. Mae hynny'n broblem i bobl sy'n aros mewn ysbytai ac sydd eisiau mynd allan er mwyn iddynt allu dychwelyd at eu bywydau bob dydd ar ôl eu hapwyntiadau. Felly, hoffwn wybod beth yw'r amserlen ar gyfer yr adolygiad, os gallwch roi rhywfaint o wybodaeth i ni am hynny.

Yn olaf, mae'n ymddangos bod gan y Llywodraeth lawer o adnoddau i'w defnyddio ar ei gwasanaeth rheilffyrdd gwladoledig ei hun, sy'n un o'r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus pwysig y mae pobl yn dibynnu arnynt i deithio o gwmpas. Fe roesoch chi £125 miliwn i Trafnidiaeth Cymru ychydig cyn y Nadolig heb gyhoeddi unrhyw fath o gynllun busnes a sicrhau bod hwnnw ar gael i Aelodau'r Senedd fel y gallem edrych arno a phenderfynu a oedd yn benderfyniad priodol ai peidio, ond eto mae'n ymddangos eich bod yn anfodlon rhoi'r adnoddau y maent eu hangen er mwyn i weithredwyr bysiau, sydd hefyd yn darparu gwasanaethau hanfodol, allu darparu cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus i'r trigolion yr ydym i gyd yn eu gwasanaethu yn y Siambr hon. Mae'r safonau dwbl hynny'n annerbyniol. Mae angen ichi weithio'n gadarnhaol gyda'r sector bysiau, peidio â'u gwthio ymaith a dweud, 'Rydym am i chi gadw draw oherwydd eich bod yn ddrwg, oherwydd eich bod yn weithredwyr bysiau preifat ac yn fusnesau preifat'—mae hynny'n annerbyniol. Mae angen inni weld agwedd wahanol tuag at fusnesau preifat gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'r gweithredwyr bysiau hyn i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r mathau o wasanaethau sydd eu hangen ar bobl.

16:25

Diolch. Mae nifer o faterion yn codi yno. Gadewch i mi ddechrau gyda'r olaf, oherwydd roedd hwnnw'n bwynt hurt i orffen arno—y syniad ein bod ni'n gweld busnesau preifat fel pethau drwg. Rydym wedi achub y busnesau preifat hyn. Oni bai am Lywodraeth Cymru, ni fyddai diwydiant bysiau yng Nghymru, ac maent yn cydnabod hynny'n llwyr. Roedd hwnnw'n sylw hurt ganddo, a wnaeth gam â nifer o bwyntiau synhwyrol a wnaeth.

Y pwynt ar y preifateiddio yw nad oes gennym bŵer i ddweud wrthynt beth i'w wneud. Ni allwn gynllunio gwasanaeth strategol. Maent yn gwneud eu penderfyniadau masnachol eu hunain, ac oni bai bod gennym arian i'w cymell i wneud fel arall, nid oes gennym unrhyw reolaeth. Ni allwn reoleiddio. Mae angen i Darren Millar ddarllen Deddf Trafnidiaeth 1985. Drwy ein pwerau masnachfreinio, bydd gennym allu i gael system wahanol, ond fel y saif pethau, o dan ein pwerau presennol, nid yw'r gallu hwnnw gennym, felly mae'n ffeithiol anghywir ynglŷn â hynny.

Ar fater cymhorthdal i'r rheilffyrdd yn erbyn cymhorthdal i fysiau, mae hwnnw'n bwynt diddorol iawn, ac mae'n destun rhwystredigaeth fawr i mi. Unwaith eto, mae gennym y broblem fod hwn yn wasanaeth masnachol tameidiog na allwn ddarparu cyfeiriad strategol a fframwaith ac amlen gyllido ar ei gyfer yn hawdd. Dyna fydd yn cael ei ddatrys drwy fasnachfreinio, gobeithio. Ond hefyd, y broblem gyda rheilffyrdd wrth gwrs yw eu bod yn ddrud iawn i'w rhedeg ac maent yn gostau sefydlog. Felly, pe baem yn penderfynu heddiw, oherwydd ein sefyllfa gyllidebol, ein bod ni am roi'r gorau i bob gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru, byddai'n rhaid inni dalu mwy na 90 y cant o'r costau o hyd, oherwydd eu bod yn bethau fel taliadau mynediad, cyflogau staff, costau seilwaith, na allwn eu haddasu. Felly, oedd, roedd bwlch o £125 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond roedd hynny oherwydd nad oedd y rhagdybiaethau yn y fasnachfraint yn berthnasol bellach am fod chwyddiant wedi codi a niferoedd teithwyr wedi gostwng. Ond nid yw'n fater syml o ddweud, 'O, wel, nid ydym am roi'r arian hwnnw iddynt, felly', oherwydd pe na baem yn rhoi'r arian hwnnw iddynt, byddai'r system reilffordd gyfan yn chwalu. Felly, mae'n system lawer mwy anhyblyg na'r system fysiau, sydd, oherwydd ei bod yn dameidiog a masnachol, yn eironig, yn haws ei hystwytho, sy'n gweithio yn erbyn ei lles ei hun, a dyna pam ein bod am roi hynny ar sylfaen fwy strategol. Rydych chi'n awgrymu, pe bai'r diwydiant rheilffyrdd yn ddiwydiant preifat, y byddai gennym yr hyblygrwydd hwnnw, ac mae hynny, mae arnaf ofn, yn dangos camddealltwriaeth lwyr o economeg y diwydiant rheilffyrdd, sy'n eithaf lloerig, mae'n rhaid imi ddweud. Ond dyna'r system sydd gennym.

Mae hefyd yn anghywir pan fo'n dweud y dylem fod wedi ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol basio gorchmynion rheoleiddio traffig ar ffyrdd unigol. Nid dyna'r fframwaith deddfwriaethol yr ydym yn gweithredu ynddo ar lefel y DU. Nid oes gennym bŵer i'w newid, a dyna pam y gwnaethom sefydlu grŵp arbenigol i edrych yn bragmataidd o fewn y pwerau sydd gennym ar yr hyn y gallwn ei wneud, ym mha drefn y'i gwnawn, a sut i weithio gyda phartneriaid cyflawni i'w wneud yn bragmataidd. Dyna'r adroddiad a gyflwynwyd gennym. Dyna'r adroddiad a gefnogwyd gan y Senedd hon a mwyafrif y grŵp Ceidwadol. Nawr mae'n ymwneud â gweithredu hynny'n ymarferol, ac rwy'n credu bod angen inni ddatgysylltu mater yr 20 mya a'r argyfwng sy'n wynebu'r diwydiant bysiau. Rwyf innau hefyd wedi cael problemau yn fy etholaeth fy hun, gyda First Cymru yn tynnu gwasanaethau bws yn ôl, gan leihau gwasanaethau i Gydweli ac i Lanelli, ac mae wedi achosi gofid mawr. Mae arnaf ofn mai dyna realiti'r gwasanaeth bysiau sydd gennym ar hyn o bryd, gyda'r cyllid cyni a gawn o San Steffan, felly ni allwn roi mwy o gymhorthdal i mewn oni bai ein bod yn gwneud toriadau sylweddol mewn mannau eraill. Nid yw'r gwasanaethau masnachol eu hunain yn gynaliadwy, o ystyried dirywiad yn nifer y teithwyr oherwydd COVID, ac wrth gwrs, y lleihad a gawsom yn y defnydd o fysiau, fel y nododd Sam Rowlands ar y dechrau, sydd unwaith eto wedi bod yn un o weithredoedd polisi trafnidiaeth yn fwy cyffredinol ledled y DU. Dyna pam ein bod wedi nodi yn 'Llwybr Newydd' y dylem geisio anelu i gyfeiriad gwahanol.

Fy rhwystredigaeth i yw y bydd y newidiadau a roddwn ar waith yn cymryd rhai blynyddoedd i arwain at fanteision, ond mae gennym argyfwng tymor byr, y plannwyd ei hadau ymhell cyn imi ddod i'r swydd. Rydym yn gwneud ein gorau i'n rhoi ar y trywydd iawn yn y dyfodol. Rwy'n dal yn hyderus mai cyflymderau arafach mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw yw'r polisi cywir. Nid wyf yn derbyn, heb ddata cryf i ddangos hynny, fod hyn yn anfanteisiol i fysiau. Lle mae'r anfantais yn bodoli ar hyn o bryd, gellir diwygio hynny trwy ymagwedd synnwyr cyffredin tuag at eithriadau.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yfory yw Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ganserau Llai Goroesadwy. Mae'n gyfle i dynnu sylw at ganserau'r ymennydd, yr afu, yr ysgyfaint, y stumog, yr oesoffagws a'r pancreas. Yn anffodus, yr hyn sy'n uno'r canserau hyn yw cyfraddau goroesi ystyfnig o isel, a chyfartaledd o 16 y cant yn unig o bobl â chanser llai goroesadwy yn y DU a fydd yn byw am bum mlynedd neu fwy. Ar gyfer y chwe chlefyd, nid yw'r cyfraddau goroesi wedi gwella'n sylweddol ers degawdau. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r tasglu canserau llai goroesadwy a phobl sydd wedi cael eu heffeithio'n bersonol gan y canserau marwol hyn, fel y cefais i.

Mae data'n dangos, o 33 gwlad sydd â chyfoeth a lefelau incwm cymharol, fod Cymru mor isel â safle 31 ar gyfer goroeswyr pum mlynedd o ganser y stumog, a safle 30 ar gyfer canser y pancreas a'r ysgyfaint. Mae'n codi i safle 21 ar gyfer yr afu, safle 20 ar gyfer canser yr oesoffagws, a safle 12 ar gyfer canser yr ymennydd. Mae'r lefel oroesi wael hon ar gyfer canserau llai goroesadwy yn debyg ar draws holl wledydd y DU. Fel llawer o bobl, rwy'n cofio pan oedd cyfradd oroesi pum mlynedd yr holl ganserau'n isel. Mae'r canserau llai goroesadwy'n dal i ddioddef o lefelau ymwybyddiaeth isel ymhlith y cyhoedd ac ymarferwyr iechyd. Mae oedi cyn cael diagnosis yn cael effaith niweidiol ar lefel oroesi'r clefydau hyn sy'n datblygu'n gyflym, ac sydd ar hyn o bryd yn anodd neu'n amhosibl eu trin ar gamau diweddarach. Os oes gennych chi ganser llai goroesadwy, rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â chael diagnosis nes bod eich symptomau'n ddigon difrifol i fynd i'r ysbyty, o'i gymharu â rhywun â chanser mwy goroesadwy. Gall diagnosis hwyr a llwybr araf i driniaeth gyfyngu'n ddifrifol ar opsiynau triniaeth i gleifion, sydd wedyn yn wynebu rhagolygon goroesi gwael.

16:30

Braint yw talu teyrnged i eicon yn y byd rygbi yng Nghymru a'r byd heddiw, J.P.R. Williams. Mae'n amhosibl gwneud cyfiawnder ag ef mewn 90 eiliad, ond rwyf am wneud fy ngorau glas, oherwydd mae'r cydymdeimlad o bob rhan o Gymru wedi bod yn aruthrol, a gallaf glywed pobl yn rhannu eu hatgofion a'u straeon annwyl amdano ym mhobman rwy'n mynd.

Daeth llawer ohonom yn ymwybodol o farwolaeth J.P.R. drwy glwb rygbi Ravens Pen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd J.P.R. yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Pen-y-bont ar Ogwr, a gwasanaethodd y clwb yn fwyaf diweddar fel llywydd y clwb hefyd. Ganed J.P.R. ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fab i ddau feddyg teulu, a dechreuodd ei yrfa rygbi uwch ar Gae'r Bragdy lle roedd ei dad hefyd yn llywydd ac yn feddyg i'r clwb. Yn ddim ond 19 oed, enillodd J.P.R. ei gap cyntaf i Gymru ym 1969. Aeth ymlaen i wasanaethu ein cenedl 54 gwaith arall, pump ohonynt fel capten, ac fel y nodwyd gan y Llywydd ddoe, ni chafodd ei drechu gan dîm Lloegr yn unrhyw un o'i gemau.

Cymhwysodd J.P.R. fel meddyg ym 1973, ac ym 1986 fe'i penodwyd yn feddyg ymgynghorol mewn llawdriniaeth trawma ac orthopedig yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fe wnaeth gymaint i'n cymuned. Rwy'n credu bod ei gyfaill agos, cyn flaenasgellwr Cymru a'r Llewod, John Taylor, wedi ei ddisgrifio'n wych pan ddywedodd:

'Roedd ei allu i weithio'n galed yn anhygoel. Byddai'n estyn ei holl werslyfrau allan ac yn gwneud ei astudiaethau meddygol yn y gwesty cyn gêm ryngwladol. Ond roedd hefyd yn greadur hwyliog iawn ac nid oedd dim yn well ganddo na mwynhau gyda'r bechgyn.'

Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd pawb yn ein Senedd heddiw yn ymuno â mi i dalu teyrnged i un o oreuon Cymru ac yn cydymdeimlo â'i ffrindiau a'i deulu ar yr adeg drist hon. Yn arwr i'r gêm, yn fab i Ben-y-bont ar Ogwr, ni allai Cymru fod yn fwy balch. Gorffwys mewn hedd J.P.R. Williams, a diolch am yr atgofion. Diolch.

Rwyf eisiau siarad heddiw i ddathlu a chydnabod côr yn fy rhanbarth, Côr Meibion Maelgwn. Mae côr yn anadl einioes i sawl rhan o Gymru ac mae'n rhan o wead ein cenedl, wrth gwrs, ac nid yw Côr Meibion Maelgwn yn eithriad o gwbl. Maent yn cynnig perfformiadau arbennig, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl mewn traddodiad corawl gwych, ac mae eu talent wedi cael ei gydnabod gan Opera Cenedlaethol Cymru pan wnaethant gymryd rhan yn yr operetta Blaze of Glory yn Venue Cymru. Maent hefyd wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol, gan eu bod yn deithwyr profiadol, gyda chyrchfannau'n amrywio o Slofenia, i'r UDA ac Israel.

Ond yn fwyaf arbennig, rwyf eisiau tynnu sylw atynt heddiw am fod eu hymwybyddiaeth fyd-eang yn cynnwys cefnogaeth i Wcráin, ac mae'r grŵp yn arddangos baner Wcráin ac yn cyflwyno'r gân You'll Never Walk Alone iddynt ar bob cyfle i atgoffa eu cynulleidfaoedd o frwydr barhaus Wcráin yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Putin. Mae'r côr, yn fy marn i, yn enghraifft wych o gefnogi elusennau lleol, hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant yng Nghymru a chreu cymunedau, ac mae hefyd yn enghraifft wych o gofio pwysigrwydd cefnogaeth i'r rhai sydd wedi'u dal yn yr erchyllterau parhaus yn Wcráin. Felly, gennyf fi a'r Senedd hon, diolch yn fawr iawn i chi am wneud eich rhan i gofio pobl Wcráin. Diolch yn fawr iawn.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well'

Eitem 5 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8446 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well' a osodwyd ar 6 Tachwedd 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Felly beth yw maint problem tlodi plant? Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr adran sy'n penderfynu faint o gymorth ariannol y dylai cymdeithas ei roi i deuluoedd â phlant, yn cyfrifo bod naw plentyn mewn dosbarth o 30 yn byw mewn cartrefi sy'n rhy dlawd i fforddio'r pethau sylfaenol mewn bywyd. Dylai'r ystadegyn echrydus hwnnw ar ei ben ei hun ein sbarduno i gael trefn ar ba bynnag adnoddau y mae Cymru'n eu rheoli i wneud Cymru'n wlad fwy cyfartal i blant. Nid yw hon yn broblem newydd, ac nid yw'n unigryw i Gymru, ond rydym wedi cyrraedd cyffordd dyngedfennol ar y daith hon.

Diben ymchwiliad ein pwyllgor oedd trafod strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar dlodi plant, gyda'r bwriad o ddylanwadu ar iteriad terfynol ei chynllun deng mlynedd nesaf a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth yn ddiweddarach y mis hwn. Yn ogystal ag aelodau craidd y pwyllgor sy'n cynrychioli'r pedair plaid yn y Senedd, cawsom fudd o gyfraniad Jayne Bryant i'n gwaith, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi hi a nhw am rannu peth o'r dystiolaeth ofidus y maent wedi'i chasglu gyda ni fel rhan o'u hymchwiliad parhaus i'r frwydr y mae teuluoedd â phlant anabl yn ei hwynebu wrth arfer eu hawl i ofal plant. 

Cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i'n clerc, Rhys Morgan, a'n hymchwilydd, Gareth Thomas, am y gwaith rhagorol a wnaethant yn ailddrafftio ein hadroddiad ar fwy nag un achlysur i'w wneud yn gryno, i'r pwynt, ac wedi'i ddrafftio er mwyn ennyn cefnogaeth unfrydol holl aelodau'r pwyllgor, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gennym.

Yng Nghymru mae gennym lai o dlodi plant na chwech o'r naw rhanbarth yn Lloegr o hyd, ar ôl ystyried costau tai, a dim ond Gogledd Iwerddon a Llundain sydd wedi gweld gostyngiad mwy mewn tlodi plant na Chymru. Ond nid oes lle i hunanfodlonrwydd, oherwydd mae'r canlyniadau'n ddifrifol. Rwy'n eich cyfeirio at y ffeithlun ar dudalen 15 ein hadroddiad, sy'n cynnwys y ffeithiau fod disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 28 y cant yn llai tebygol o gael TGAU da na disgyblion nad ydynt yn gymwys, fod plant sy'n cael eu magu mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn 11 oed, a bod oedolion a gafodd eu magu mewn tlodi pan yn blant yn colli £12 biliwn amcangyfrifedig mewn enillion a gollwyd o ganlyniad i'r tebygolrwydd y byddant yn ddi-waith neu ar gyflog isel. Mae'r wybodaeth honno ar dudalen 11, mae'n ddrwg gennyf—fe wneuthum gamgymeriad gyda'r tudalennau. 

Felly, y dystiolaeth gan randdeiliaid, gan gynnwys y comisiynydd plant, Sefydliad Bevan, a llawer o rai eraill, oedd bod diffyg uchelgais yn y strategaeth ddrafft fel y'i cyhoeddwyd a'i bod yn cilio rhag sefydlu llinellau atebolrwydd clir, gan gynnwys sut y bwriadai gyflawni ei addewidion. Mae'r NSPCC yn crynhoi'r rhwystredigaeth a fynegwyd gan lawer o bobl eraill sydd eisiau mwy o ffocws ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na all ei wneud. Nid oes unrhyw un yn dadlau nad yw llawer o'r ysgogiadau polisi a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran ailddosbarthu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, a'u bod wedi'u cadw yn San Steffan, ond nid yw hynny'n newid pryder dwfn y pwyllgor nad yw'r strategaeth ddrafft yn meddu ar y weledigaeth strategol sydd ei hangen i gyflawni'r newid sylweddol i fynd i'r afael â thlodi plant yr ydym ei eisiau ar gyfer plant Cymru.

Roedd yna anesmwythyd eang, bron yn gyffredinol, ynghylch y diffyg targedau a cherrig milltir yn y strategaeth ddrafft. Rhannodd y pwyllgor farn ein tystion ac mae'n glir fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru oresgyn ei gwrthwynebiad i bennu targedau. Mae hynny oherwydd bod y dystiolaeth o'r Alban a Seland Newydd yn gwbl glir: mae targedau'n gweithio. Rydym eisiau gweld targedau heriol ond realistig, rhai interim a mwy hirdymor, a allai chwarae rhan bwysig yn canolbwyntio meddyliau a mesur cynnydd.

Roedd argymhelliad 1 hefyd yn ategu'r alwad gan sawl sefydliad am gynllun cyflawni i gydlynu gwaith gwahanol adrannau'r Llywodraeth yn well a nodi sut y bydd nodau'r strategaeth yn cael eu cyflawni. Felly, rwy'n ofni ein bod ni'n siomedig, fel pwyllgor, gydag ymateb derbyn-mewn-egwyddor Llywodraeth Cymru, am nad yw'n ymrwymo i osod targedau penodol y teimla'r pwyllgor a'r rhanddeiliaid fod eu hangen. Mae'n nodi y bydd gwaith i ddatblygu fframwaith monitro cadarn yn mynd rhagddo'n gyflym ond nid yw'n rhoi unrhyw arwydd o sut olwg fydd ar hwnnw, na'r amserlenni cysylltiedig. Nid yw'n ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ac mae'n dweud bod y strategaeth yn lle hynny yn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau gweithredu ar wahân ar draws portffolios gweinidogol, sy'n manylu ac yn mesur cynnydd o dan weithgarwch perthnasol y rhaglen lywodraethu. Mae'r amserlenni ar gyfer cytuno ar y cynlluniau gweithredu unigol hyn, ac a fydd angen eu diweddaru er mwyn cysylltu'r gweithgarwch yn uniongyrchol â nodau'r strategaeth, yn parhau i fod yn aneglur. Rydym yn aros gyda diddordeb i'r strategaeth newydd gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae lleihau costau a chynyddu incwm teuluoedd ar frig rhestr Llywodraeth Cymru o'r hyn sy'n bwysig yn ei strategaeth ddrafft. Rydym yn cytuno. Mae hwn yn amcan pwysig iawn ac mae'n un y mae'r pwyllgor yn ei gefnogi'n llawn. Ac mae'n werth pwysleisio bod adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ailadrodd bod mesurau i gynyddu incwm yr aelwydydd tlotaf ymhlith y rhai mwyaf effeithiol wrth fynd i'r afael ag ymyriadau tlodi plant.

Hefyd, clywodd aelodau'r pwyllgor gan Gomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe am ba mor bwysig yw hi fod pobl yn ymwybodol o'u hawliau i fudd-daliadau, a'r angen am brosesau awtomatig a symlach, i'w helpu i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Roedd hyn yn arbennig o bwysig i bobl â phroblemau llythrennedd—felly oddeutu 25 y cant o'r boblogaeth oedolion—neu'r rheini lle nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig yn allweddol i'w hymdrechion i gynyddu incwm y bobl dlotaf, ac rydym wedi dilyn y gwaith hwn yn agos mewn gwaith craffu blaenorol a wnaethom, ac rydym yn croesawu'r ffaith bod y cyngor partneriaeth wedi cytuno ar y siarter budd-daliadau terfynol i Gymru, rhywbeth sy'n cael sylw yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Fodd bynnag, mae cytuno ar eiriad y siarter budd-daliadau gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yn her sylweddol, a'r holl gyrff eraill sy'n rhan o'r cyngor partneriaeth. Ond nid yw hynny yr un peth â gweithio ar a chyflawni gweledigaeth y siarter. Rhaid inni sicrhau bod ymdeimlad o frys a momentwm yn cael ei gynnal wrth symud ymlaen. Mae Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn rhybuddio, wrth inni fynd i mewn i 2024, nad oes system o'r fath wedi'i sefydlu o hyd, ac mae'n rhaid sicrhau mai 2024 yw'r flwyddyn y gwneir cynnydd gwirioneddol ar weithredu system fudd-daliadau Gymreig.

I'r pwyllgor, mae'r argyfwng costau byw yn gwneud yr angen i symud o eiriau cynnes i weithredoedd cadarn yn fwy dwys. Mae'r ffaith na fydd pob corff cyhoeddus yn hyrwyddo'r siarter fudd-daliadau y maent wedi ymrwymo iddi ar y raddfa a'r cyflymder sy'n angenrheidiol yn risg allweddol i gynnydd. Os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn barod i orfodi unrhyw gyrff cyhoeddus a allai fod yn llusgo'u traed? Rydym yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth Cymru i fandadu dull cyson ar gyfer Cymru gyfan o basbortio aelwydydd sy'n derbyn un budd-dal Cymreig i fudd-daliadau eraill y maent hefyd yn gymwys i'w cael.

I grynhoi, mae'n bwysig ailadrodd nad oes gan blant unrhyw reolaeth dros eu hamgylchiadau ac nad oes ganddynt unrhyw fodd o unioni eu sefyllfa. Yn llythrennol, nhw yw'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae'r caledi y mae plant mewn tlodi yn ei wynebu yn un yr ydym ni'n ei orfodi arnynt. Mae'n anghyfiawnder dwfn sy'n haeddu ymateb mwy egnïol na'r un a gynigir yn y strategaeth ddrafft neu yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Os ydym am roi diwedd ar dlodi plant, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith bod Cymru'n gallu, a bod yn rhaid iddi, wneud yn well na hyn.    

16:40

Yn gyntaf, a gaf fi gofnodi fy niolch i Jenny Rathbone am ei rôl yn cadeirio a chynhyrchu adroddiad y pwyllgor heddiw, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well'? A gaf fi hefyd ddiolch i'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor a'r clercod a thîm cymorth y pwyllgor, sydd wedi rhoi tystiolaeth ac wedi ein cefnogi ni fel pwyllgor drwy gydol yr holl broses hon?

Fel y gwyddom, mae tlodi plant yng Nghymru yn argyfwng hirsefydlog, ac mae angen strategaeth gydlynol a chadarn ar gyfer plant gyda mwy nag un o bob pedwar o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Roedd yn destun pryder mawr fod Comisiynydd Plant Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, gan ddweud eu bod yn brin o uchelgais, eglurder a manylion. Gwn hefyd fod hwn yn fater y mae fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, wedi'i godi sawl gwaith yn Siambr y Senedd, ac wedi dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ei gylch.

Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater allweddol y gwnaethom eu harchwilio a'u canfod drwy gydol ein gwaith pwyllgor. Yn gyntaf, un mater allweddol yr edrychodd ein pwyllgor arno oedd pwysigrwydd maeth yn ein bwyd wrth fynd i'r afael â thlodi plant, oherwydd, yn anffodus, mae llawer o blant ledled Cymru yn dal i deimlo'n llwglyd ar ôl eu prydau bwyd am nad ydynt yn cael y maetholion y maent eu hangen. Mae'n amlwg fod yn rhaid cael mwy o addysg ynglŷn â manteision bwyd maethlon a sut y gellir ei gynnwys yn neiet mwy o bobl ifanc. Mae angen gwneud mwy o waith, gan weithio gydag ysgolion a'n hawdurdodau lleol, i sicrhau bod hyn yn digwydd. 

Yn ail, mae ein pwyllgor hefyd wedi gweld, yn rhyngwladol, pa mor bwysig yw cael Gweinidog penodol sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi plant, fel y gwelwyd yn yr Almaen, Iwerddon, Norwy a Denmarc. Yn ogystal â hyn, cawsom dystiolaeth sylweddol ynghylch diffyg cydlyniad yn ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at fynd i'r afael â thlodi. Ar ben hynny, cawsom dystiolaeth hefyd ar dlodi plant a oedd yn cwmpasu ystod o friffiau yn Llywodraeth Cymru, gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi plant, tra bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn arwain ar faterion plant. Dyna pam fy mod yn hapus i weld argymhelliad 6 yn cael ei gynnwys yn adroddiad ein pwyllgor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i

'sicrhau bod ei hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant yn cael eu cydgysylltu’n well ar draws y llywodraeth drwy benodi Gweinidog Babanod, Plant a Phobl Ifanc penodedig i fod yn gyfrifol am fynd i’r afael â thlodi plant.'

Yn olaf, mater sy'n agos at fy nghalon yw'r cam-drin hiliol ffiaidd a welsom ledled Pen-y-bont ar Ogwr a fy ardal i yng Ngorllewin De Cymru. Y llynedd, gwelsom dros 40 o ddigwyddiadau hiliol a gwahaniaethol yn cael eu cofnodi yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno bod angen rhoi diwedd ar hyn. Fe godais y mater gyda'r Gweinidog yn ôl ym mis Tachwedd a galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion er mwyn mynd i'r afael â bwlio hiliol yn ein hysgolion yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd cynhyrchu'r adroddiad heddiw yn golygu y bydd y sefydliadau y gwnaethom gyfarfod â nhw yn gweld mwy o waith ac ymdrech yn cael ei wneud i fynd i'r afael â cham-drin hiliol, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cyfrannu at ffigurau tlodi plant.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor a phawb a gyfrannodd at adroddiad defnyddiol a phwysig iawn wrth edrych ar sut rydym yn ymdrin â'r heriau niferus sy'n gysylltiedig â thlodi plant, a sut rydym am geisio lleihau a dileu hyn yn y pen draw. Diolch. 

16:45

'Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn dweud bod ei phwerau'n fwy cyfyngedig na phwerau Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ond os credwn nad oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru neu Senedd Cymru ei wneud i leihau tlodi yng Nghymru, buaswn yn rhoi'r gorau iddi. Wrth gwrs fod yna bethau i'w gwneud. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau allweddol yw cyflawni: beth yw'r camau gweithredu ynddo, sut y cânt eu mesur, sut y gwyddom eu bod yn gweithio? Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd ym myd gwleidyddiaeth i gyfaddef pan nad yw pethau wedi mynd yn dda neu nad yw pethau wedi gweithio, ond gydag adnoddau cyfyngedig mae'n rhaid i chi wybod hynny. Os nad yw rhywbeth yn gweithio, rhowch y gorau i'w wneud, gwnewch rywbeth gwahanol.'

Dyma eiriau doeth a gonest un o'r arbenigwyr y clywsom ganddo yn ystod ein hymchwiliad, Chris Birt, cyfarwyddwr cyswllt yn Sefydliad Joseph Rowntree a oedd yn bennaeth uned bolisi a chyflawni Prif Weinidog yr Alban. Ac fe roddodd gipolwg hynod werthfawr i ni ar sut mae dull statudol cyffredinol ac wedi'i dargedu yr Alban o weithredu ar dlodi plant yn gweithio, oherwydd holl bwynt ein hymchwiliad oedd edrych ar ddulliau sy'n gweithio, o ran ymyriadau polisi ac o ran cyflawni. Oherwydd nid yw'n ddigon da, Weinidog, fel y gwnewch dro ar ôl tro yn eich ymateb i'n hadroddiad, i barhau i bwyntio at Lywodraeth bresennol y DU, i barhau i'w beio nhw—yn briodol—am y camau y maent yn eu cymryd i wreiddio anghydraddoldeb, a pharhau i godi eich ysgwyddau ac ochneidio a gwneud addewidion gwag y bydd pethau'n wahanol pan fydd eich plaid yn cael yr allweddi i Stryd Downing, yn enwedig gan nad oes unrhyw gyfweliad a glywaf gydag arweinydd Llafur y DU a'i Weinidogion yr wrthblaid yn cynnwys unrhyw ymrwymiad i ddileu'r cap dau blentyn, er enghraifft, neu ddatganoli pwerau dros les, er eich bod chi eich hunain yn tynnu sylw at sut y byddai'r pethau hynny'n grymuso Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yn eich ymateb.

Dywedodd Chris Birt wrthym yn bendant iawn mai un o'r prif rwystrau i wneud cynnydd ar fynd i'r afael â thlodi plant yw penderfyniadau gwleidyddion.

'Ni chaiff tlodi ei achosi gan y tywydd; mae'n ganlyniad nifer o benderfyniadau a wnaed gan lywodraethau'.

Yn hollol. Clywodd ein pwyllgor gan lawer o arbenigwyr am atebion sy'n gweithio'n rhyngwladol. Rhywbeth arall y soniodd Chris Birt wrthym amdano oedd y ffordd mae targedau'n gweithio, rhywbeth y mae ein Cadeirydd, Jenny Rathbone, yn ei bwysleisio yn ei chyflwyniad i'n hadroddiad, ac fe nododd hynny eto y prynhawn yma. Pam ein bod wedi ceisio pwysleisio yn ein hadroddiad yr angen am strategaeth glir gyda thargedau mesuradwy, penodol? Pam y dywedodd y person sy'n gyfrifol am gyflawni yn Llywodraeth yr Alban wrthym nad oes unrhyw beth yn canolbwyntio meddyliau Gweinidogion fel targedau statudol? Wel, oherwydd bod yna risg wrth greu strategaethau. Gallwn i gyd gytuno ar y broblem y mae strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â hi. Gallwn i gyd gytuno ar ddatrysiadau. Yr hyn sydd bwysicaf, serch hynny, yw perchnogaeth a chyflawniad, a dyna pam mae angen targedau arnom. Ond efallai na ddylem synnu. Wedi'r cyfan, mae'r Prif Weinidog ei hun wedi rhannu ei farn ar hyn yn eithaf agored. Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi strategaeth tlodi plant flwyddyn yn ôl, dywedodd nad yw ysgrifennu strategaethau'n rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd unrhyw un. Wel, nid yw hynny ond yn wir os nad oes ffocws digonol i'r strategaeth, a thargedau interim a hirdymor clir i sbarduno newid ac i sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni. Felly, mae'n siomedig nad yw'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad yn llawn ar hyn, ac y bydd yn treulio llawer mwy o fisoedd nawr yn ymgynghori ar fframwaith monitro.

Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn dweud bod mynd i'r afael â thlodi plant yn 'brif flaenoriaeth'. A yw hynny'n wir? Pam felly mae'r Llywodraeth yn argymell torri'n ôl ar gyflwyno bwndeli babanod, mesur sy'n gweithio'n rhyngwladol, ac a gefnogwyd gan dystiolaeth a gymerwyd gennym yn ein hymchwiliad? Pam nad yw'r argymhelliad i sicrhau darpariaeth gofal plant ddi-dor a fforddiadwy drwy'r symiau canlyniadol y bydd yn eu cael o fwy o wariant yn Lloegr wedi ei dderbyn yn llawn, pan fo'r tystion wedi dweud wrthym, pan ofynnir i rieni, 'Beth sydd ei angen arnoch?', dro ar ôl tro yr ateb yw 'gofal plant, gofal plant, gofal plant fforddiadwy'?

Rhywbeth yr ymgyrchais yn hir amdano yw'r angen am system fudd-daliadau Gymreig ddi-dor. Ymateb y Llywodraeth fu gweithio ar siarter i awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn ymateb i'n hargymhelliad ar y mater hwn, ond rwy'n pryderu, o ystyried statws anstatudol y siarter, ynglŷn â sut y bydd y pwysau difrifol a dirfodol ar gyllidebau awdurdodau lleol, o ystyried y setliad arfaethedig yn y gyllideb ddrafft, yn effeithio ar gyflawni system effeithiol, ddi-dor a gwella'r nifer sy'n hawlio mewn gwirionedd. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ystyriaeth a roddwyd i hynny. A hoffwn gyfeirio'r Gweinidog at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan ddoe, sy'n cefnogi barn y pwyllgor ar y mater hwn yn llawn, ac sy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw grantiau a lwfansau cyfredol a luniwyd i gefnogi plant mewn tlodi yn addas i'r diben. Mae angen adolygu cymhwysedd, gyda gwerth cymorth ariannol yn annigonol i ddiwallu anghenion pobl.

Felly, y cwestiwn i mi yw: a yw mynd i'r afael â thlodi plant yn brif flaenoriaeth? Pam mae'r strategaeth hon wedi bod mor hir yn dod? A fydd ganddi ddannedd, brathiad digon miniog i ysgogi Gweinidogion? A wnaiff y Gweinidogion hynny sicrhau bod unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn rhoi'r pwerau y mae'r Gweinidogion hynny'n dweud bod eu hangen arnynt i gyflawni ein hargymhellion yn llawn? Oherwydd mae'r Llywodraeth dros y dyddiau diwethaf wedi siarad drosodd a throsodd am wneud penderfyniadau anodd. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw, 'Gwnewch nhw'. Gwnewch y penderfyniadau dewr—

16:50

Fe wnaf. Gwnewch y penderfyniadau dewr, beiddgar a radical sy'n anodd yn wleidyddol—gwnewch nhw—os ydych chi am ddileu tlodi plant, yn hytrach na dim ond ei reoli.

Rwyf am ddechrau drwy esbonio ychydig am fy nghymhelliad personol dros fynd i mewn i'r byd gwleidyddol, sy'n seiliedig ar fy mhrofiad proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant am oddeutu 20 mlynedd. Gallaf ddweud yn eithaf hyderus fy mod yn dyfalu bod 90 y cant o'r achosion y bûm yn gweithio arnynt yn blant a oedd yn byw mewn tlodi. Dyna pam y dechreuais mewn gwleidyddiaeth, oherwydd gallwn weithio bob dydd, bob awr, yn ceisio helpu teuluoedd a phlant yn eu sefyllfa benodol. Ond roeddwn i eisiau newid y system. Roeddwn i eisiau sicrhau ein bod ni'n gyfrifol ac yn newid y system ar gyfer y plant oedd yn byw mewn tlodi. Fel Sioned, fe roddaf innau y ffidl yn y to hefyd os na allwn wneud rhywbeth am dlodi plant yma yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn i fod yn ddefnyddiol, ond mae'n bryd rhoi diwedd ar dlodi plant. Dim ond chwe argymhelliad a wnaethom yn ein hadroddiad oherwydd ein bod am iddo fod yn gyflawnadwy ac rydym am allu clywed ymatebion cadarn iawn. Ond rydym yn siomedig. Er bod pedwar o'r argymhellion hynny wedi'u derbyn yn llwyr, ni wnaed hynny yn achos dau ohonynt. Ac rwyf eisiau cyffwrdd â'r ddau hynny.

Yn gyntaf, mae bod yn dlawd yn rhywbeth na allwn ei oddef yn 2024. Mae cael plant sy'n dlawd yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei newid. Mae 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Nid yw hyn yn rhywbeth y dylem ei oddef. Felly, yn gyntaf, gadewch inni gael targedau. Pam petruso? Beth am fod yn ddewr a beiddgar yn wleidyddol a chael llinellau amser ar gyfer sut yr awn ati i leihau'r 28 y cant o blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru? Oni fyddai'n wych pe byddem yn gweld gostyngiad yn y 28 y cant y flwyddyn nesaf, neu'r flwyddyn wedyn? Heb dargedau, ni allwn wneud hynny.

Roedd y neges a gawsom gan arbenigwyr ar draws y sectorau yn glir. Nid oes gan strategaeth Llywodraeth Cymru mo'r weledigaeth na'r targedau sy'n angenrheidiol i gyfeirio adnoddau a chanolbwyntio meddyliau. Felly, nid oes angen gohirio ymhellach, o dan gochl ymchwil ychwanegol, pan ydym eisoes wedi nodi'r meysydd arferion da o'r Alban, Norwy a thu hwnt. Gadewch inni gael targedau. Ac yn ogystal â thargedau, yr argymhelliad arall sydd wedi'i wrthod yn llwyr yw i un unigolyn ysgwyddo cyfrifoldeb am dlodi plant. Rydych chi wedi gwrthod hynny, Weinidog. Rydych chi wedi gwrthod Gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. Mae'r arbenigwyr—clywsom hyn eto—o'r farn fod y gred fod trechu tlodi a hawliau plant yn gyfrifoldeb Llywodraeth gyfan yn gwbl gamarweiniol. Mae llawer o bobl yn dweud, lle mae pawb yn gyfrifol, nid oes neb yn gyfrifol. Mae gwasgaru tlodi plant ar draws portffolios yn cuddio atebolrwydd ac yn sicrhau na roddir sylw i fethiant.

Mae gan yr Alban weinidog ar gyfer plant a phobl ifanc; mae gan Seland Newydd Weinidog Plant ac Atal Trais Teuluol a Rhywiol; mae gan y Ffindir weinidog ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd; mae gan Iwerddon weinidog ar gyfer plant, cydraddoldeb, integreiddio a phobl ifanc; mae gan Awstralia weinidog ar gyfer teuluoedd. A gadewch inni edrych ar dlodi yn rhai o'r gwledydd hyn. Mae'r gyfradd tlodi plant yn Iwerddon yn 15 y cant. Mae'r gyfradd tlodi plant yn Seland Newydd yn 12 y cant. Mae'r gyfradd tlodi plant yn Awstralia yn 16 y cant; yn y Ffindir, mae'n 13 y cant; yn Seland Newydd, 12 y cant.

Enw'r adroddiad hwn yw 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant', oherwydd digon yw digon. Ni allwn ddal ati i restru mentrau ac ailbecynnu rhaglenni presennol, rhaid inni ddatblygu dull cydlynol, cydgysylltiedig ac atebol. Ni all Llywodraeth Cymru obeithio dileu tlodi plant heb sefydlu cerrig milltir realistig, targedau diriaethol a chael rhywun—un unigolyn—yn gyfrifol.

Weinidog, rydym i gyd yn cydnabod eich ymrwymiad i leihau tlodi plant yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymateb i'n pryderon. Ond mae'n amser—amser i feddwl yn wahanol, amser ar gyfer targedau, amser i Weinidog atal plant yng Nghymru rhag bod yn dlawd. Felly, nodwch eich rhesymau dros wrthod yr argymhellion hyn. Diolch yn fawr iawn. 

16:55

Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth i ni ac a siaradodd â ni—pan aethom allan i ymweld â phrosiectau roedd pawb yn hynod o onest a chroesawgar tuag atom—yn ogystal â'n clercod a fy nghyd-Aelodau a'r Cadeirydd. Ac rwyf am groesawu'r ffaith hefyd fod Llywodraeth Cymru yn derbyn bron bob un o'n hargymhellion, ac rwy'n deall na all dderbyn 6, ac fe ddof at hynny yn nes ymlaen. Penderfyniad bwriadol gan ein pwyllgor oedd cael chwe argymhelliad. Nid yw hynny mewn unrhyw ffordd yn dangos nad oes llawer o waith i'w wneud—i'r gwrthwyneb. Rwy'n teimlo ei fod yn dangos bod yn rhaid cwblhau'r argymhellion allweddol hyn o'r brig, gan Lywodraeth Cymru, i gael y blaenoriaethau a'r rhaglen glir ar gyfer yr hyn y credwn ei fod yn gweithio, wrth symud ymlaen.

Ar gyfer ein hadroddiad, mae’n ddiddorol nodi inni ddefnyddio’r hyn a ystyrir yn dlodi cymharol ar gyfer plentyn, sef pan fydd incwm y cartref y maent yn byw ynddo yn disgyn o dan 60 y cant o incwm canolrifol y DU. Ond hefyd, mae categori arall ar gyfer tlodi parhaus, sef lle mae aelwyd mewn tlodi am dair blynedd allan o bedair. Ar ôl costau tai, roedd gan blentyn yng Nghymru 17 y cant o debygolrwydd o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2017 a 2021.

Rydym wedi clywed gan fy nghyd-Aelodau heddiw am yr effaith uniongyrchol a hirhoedlog y mae hyn yn ei chael ar ein plant a’n cymdeithas. Rydym hefyd wedi clywed gan ein Cadeirydd fod ardaloedd eraill yn y DU lle mae ganddynt niferoedd uwch o blant yn byw mewn tlodi cymharol—Llundain, gogledd Lloegr a chanolbarth Lloegr. Nid yw hyn yn dweud mewn unrhyw ffordd fod lle rydym ni arni ar hyn o bryd yng Nghymru yn dderbyniol, ond mae'n cadarnhau i mi na allaf ddeall pam y byddai Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i wneud bywyd mor anodd â phosibl i blant a theuluoedd, gan effeithio ar yr holl blant ledled y DU, gan fod y Resolution Foundation yn disgwyl i dlodi plant yn y DU fod ar ei gyfradd uchaf ers 30 mlynedd yn 2027 a 2028, os na wnawn rywbeth yn ei gylch—yn enwedig ar gyfer teuluoedd mwy yr effeithir arnynt yn fwyaf arbennig gan gap budd-daliadau'r terfyn dau blentyn a’r cyfraddau lwfans tai lleol sydd wedi’u rhewi.

Nid yn unig hynny, ond mae’n dal i fy nrysu'n llwyr eu bod yn fodlon fod gwerth £15 biliwn o fudd-daliadau yn dal heb eu hawlio bob blwyddyn, gyda £7.5 biliwn o hwnnw’n gredyd cynhwysol, bron i £1 biliwn yn fudd-dal plant a £2.5 biliwn yn fudd-dal credyd treth plant. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pobl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hytrach na thargedu’r rhai sy’n cael cymorth budd-dal anabledd, fel y gwelsom yn ddiweddar?

Wrth gasglu tystiolaeth, fe wnaethom gyfarfod hefyd â defnyddwyr gwasanaeth Faith in Families yn Abertawe, ac roeddent yn dweud wrthym am yr hyfforddiant sgiliau allweddol a gawsant, ac arhosodd hyn gyda mi, oherwydd clywsom gan fam a oedd wedi cael cymorth gan y ganolfan o'r adeg pan oedd ei phlentyn yn fabi yn y bôn, ac mae'r plentyn hwnnw bellach yn mynd i'r brifysgol. Un o'r sesiynau sgiliau allweddol y dywedodd wrthym ei fod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddi hi, sy'n swnio'n syml iawn, oedd coginio. Nid oedd erioed wedi cael ei dysgu i goginio rhywbeth o'r dechrau, ac roedd hi yno'n dweud wrthym yn falch ei bod wedi dysgu nid yn unig sut i goginio popeth o'r dechrau a'i fod yn iach ac yn rhad, ond fod ei merch bellach yn mynd i'r brifysgol, ac mae hi wedi trosglwyddo'r sgiliau hynny iddi hi. Mae'n swnio'n fach, ond mae'n hollol enfawr, ac roeddwn yn meddwl, 'O, mae hyn yn wych, mae hyn yn arfer da—gallwn nodi hyn a dweud y dylai barhau', ac yna dywedwyd wrthym fod y cyllid hwn wedi mynd, gan mai cyllid yr UE ydoedd. Addawodd Llywodraeth Geidwadol y DU iddynt y byddai’n parhau, ac ni wnaeth, felly cafodd hyn effaith bendant ar ein cymunedau gyda pholisi a oedd yn gweithio'n dda, ac a gafodd ei ddiddymu.

Mae wedi bod yn hynod o rwystredig clywed yr holl straeon hyn. Nid yw’n tynnu oddi ar—rwy’n cytuno â phob un o’m cyd-Aelodau yma heddiw—yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud, ond hoffwn sôn hefyd am yr ochr arall i hyn hefyd, sef bod Llywodraeth y DU wedi gwneud pethau'n hynod o anodd i blant ledled y DU.

Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei hysgogiadau datganoledig, fel pennu budd-dal y dreth gyngor a'r gronfa cymorth dewisol, a'u bod yn deg ac yn hygyrch. Rwy'n croesawu'r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y cyntaf o'r rheini a pharhad yr ail—gan ei fod yn cael ei ddiogelu yng nghyllideb ddrafft ddiweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gadarnhaol fod Llywodraeth Cymru, ers dechrau’r Senedd hon ym mis Mai 2021, wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, cynyddu’r lwfans cynhaliaeth addysg, ehangu mynediad at gynllun Dechrau’n Deg yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, a dechrau ehangu gofal plant am ddim i rieni plant dwy oed sy'n gweithio. Roedd hyn yn waith a gafodd ei gydnabod gan gomisiynydd plant Cymru mewn gwirionedd.

Felly, hoffwn sôn am y ddau argymhelliad olaf y cyfeiriodd Jane Dodds atynt. Disgwylir y strategaeth tlodi plant ymhen ychydig wythnosau. Rydym wedi clywed bod pryderon ynghylch ei ddiffyg uchelgais. Buaswn hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau sy’n gyraeddadwy. Gwn nad yw’n hawdd, ond wyddoch chi, er enghraifft, cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael ac sy’n gweithio ar hyn o bryd. Gwn nad rôl Llywodraeth Cymru o reidrwydd yw sicrhau bod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau hynny, ond byddai sicrhau bod pobl yn manteisio ar fudd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Yn olaf, yr argymhelliad i gael portffolio ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc, rwy'n teimlo'n gryf ei fod yn hanfodol. Roedd gennym un o'r blaen, dylem gael un eto. Credaf y byddai'n anfon neges glir; credaf y byddai hefyd yn nodi pa mor bwysig yw hyn i ni, ei fod yn flaenoriaeth—y canlyniadau—ac i roi sicrwydd nad yw hyn, ynghyd â'r targedau, yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei anghofio. Nid wyf am inni fod yn rhan o’r ffigur hwnnw ar gyfer 2027, 2028 i blant y DU, wyddoch chi, yr isaf yn y wlad; rwyf am i Gymru wneud yn llawer gwell na hynny. Diolch.

17:05

Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yn enwedig y Cadeirydd, am wahodd ein pwyllgor i gymryd rhan yn yr ymchwiliad pwysig hwn. Mae'r dull cydweithredol hwn yn hollbwysig wrth edrych ar effaith materion hollgwmpasol a hydreiddiol fel tlodi plant.

Fel y mae’r Cadeirydd yn ei nodi yn ei rhagair i’r adroddiad, mae mwy o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi yn ein gwlad nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae'r effaith y mae tlodi'n ei chael ar bob agwedd ar fywydau plant a phobl ifanc yn erchyll ac wedi'i nodi'n glir yn yr adroddiad: mae cyfraddau marwolaethau plant yn uwch; mae plant sy'n byw mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol na'u cyfoedion o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn eu bod yn 11 oed; maent yn llawer llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol; ac mae tlodi'n golygu bod plant mewn mwy o berygl o gael eu hesgeuluso ac yn fwy tebygol o gael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni.

Gan symud ymlaen at yr argymhellion yn yr adroddiad, rwy'n croesawu argymhelliad 2 yn gryf, sy’n galw am i'r strategaeth tlodi plant derfynol ganolbwyntio’n uniongyrchol ar hawliau plant a nodi'n glir y camau gweithredu ynddi i fynd i’r afael ag effaith negyddol tlodi plant ar hawliau plant i addysg, diogelwch ac iechyd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yn glir fod angen y newid hwn.

Rwyf am ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar ddau grŵp penodol sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan dlodi: plant â phrofiad o fod mewn gofal a phlant a phobl ifanc anabl. Clywodd ein hymchwiliad diweddar i blant â phrofiad o fod mewn gofal fod gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn dweud mai tlodi yw’r rheswm mwyaf cyffredin pam fod plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, ac y gallai lleihau tlodi plant gael yr effaith fwyaf ar leihau nifer y plant mewn gofal. Ac eto, fel y nododd yr NSPCC, nid yw’r strategaeth tlodi plant ddrafft yn cyfeirio o gwbl at effaith tlodi ar y risg gynyddol y bydd angen ymyrraeth gwasanaethau amddiffyn plant. Felly, ailadroddaf alwadau ein pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i drosi ei hymrwymiad i ddiwygio radical yn gamau gweithredu pendant ar gyfer newid.

Yn ystod ein hymchwiliad presennol, sy’n edrych ar addysg a mynediad at ofal plant i blant anabl, clywsom sut mae diffyg addysg a gofal plant cynhwysol a hygyrch yn effeithio ar allu rhieni a gofalwyr i weithio. Hyd yn oed os yw teulu'n gallu sicrhau addysg neu ofal plant cynhwysol a hygyrch, mae disgwyliad yn aml y byddant ar gael yn hawdd mewn ffordd nad yw'n ddisgwyliedig gan rieni neu ofalwyr plant heb anghenion ychwanegol. Mae hyn yn lleihau gallu rhieni a gofalwyr i weithio yn sylweddol, gan gynyddu’r risg y bydd y teulu'n byw mewn tlodi. Gwaethygir hyn wedyn gan y ffaith eu bod yn aml yn wynebu costau byw uwch am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn glir iawn ar bwysigrwydd addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant. Ac eto, mae’n dangos nad oedd yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi asesu bod darpariaeth ddigonol ar gael ar gyfer plant anabl. Mae hyn yn frawychus, ac wedi’i gadarnhau dro ar ôl tro yn y tystiolaethau personol a glywsom gan deuluoedd, ac mae’r tystiolaethau hynny’n dorcalonnus. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol felly i edrych ar ddarpariaeth gofal plant yn y dyfodol agos, a byddwn yn fwy na pharod i rannu tystiolaeth berthnasol o’n gwaith ein hunain, unwaith eto. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar alwadau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a rhanddeiliaid i sicrhau bod y strategaeth tlodi plant derfynol yn pwysleisio’n gryfach pa mor bwysig yw darpariaeth addysg y blynyddoedd cynnar sy’n hygyrch i bawb ac sydd, yn ei thro, yn cynorthwyo teuluoedd i weithio.

Hoffwn gloi drwy ddiolch, unwaith eto, i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y pwyllgor, y staff a’r holl randdeiliaid a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn. Mae trechu tlodi plant yn hanfodol er mwyn gwella pob agwedd ar fywyd yng Nghymru i bawb, ac edrychaf ymlaen at weld strategaeth tlodi plant fwy cadarn yn cael ei chyhoeddi. Diolch.

Diolch i’r pwyllgor am gynhyrchu’r gwaith hwn, sy’n peri i rywun feddwl. Mae mor hanfodol ein bod yn cadw ein llygad ar y bêl yn yr ymgyrch i drechu tlodi plant, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn pwyso a mesur y sefyllfa, yn monitro cynnydd ac yn gweld beth arall sydd angen ei wneud. Ar gynnydd, mae tystiolaeth i’w chroesawu yn yr adroddiad hwn. Roeddwn yn falch o nodi bod tlodi plant cymharol yng Nghymru wedi gostwng rhwng 2012 a 2022, yn wahanol i gyfartaledd y DU. Ond wrth gwrs, mae’n gwbl annerbyniol fod 28 y cant o blant sy’n byw yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol. Gwyddom fod y tlodi hwn yn effeithio ar fywydau a chyfleoedd bywyd plant mewn llawer gormod o ffyrdd, fel y mae siaradwyr eraill eisoes wedi nodi.

Mae’r adroddiad yn awgrymu nifer o gamau y gallwn eu cymryd i newid hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig fod rhai o’r atebion a awgrymwyd y tu hwnt i gwmpas ein setliad datganoli presennol. Fodd bynnag, mae llawer o rai eraill o fewn y cwmpas hwnnw, a hoffwn ganolbwyntio ar ddau o’r argymhellion hynny heddiw. Yn gyntaf, argymhelliad 3, mae’r ymchwil gan Dr Bucelli a Dr McKnight yn darparu sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer yr ymyriadau sydd fwyaf llwyddiannus wrth fynd i’r afael â thlodi, fel y mae tystiolaethau tystion eraill. Cytunaf ag argymhelliad y pwyllgor y dylid blaenoriaethu’r ymyriadau hynny sydd wedi bod yn fwyaf effeithiol. Mae hyn yn amlwg yn unol â dull gweithredu Llywodraeth Cymru fel y’i nodir yn eu hymateb i’r adroddiad.

Fel y dywed Llywodraeth Cymru, pan fo Cymru’n wynebu pwysau cyllidebol mor enfawr ar gyllideb sy'n werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag yn 2021, mae'r blaenoriaethu hwn yn fwy o anghenraid nag o rinwedd. Nododd y Prif Weinidog, yn gywir ddigon, mai dyma fyddai sail dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y Siambr ddoe, pan soniodd am roi blaenoriaeth i amddiffyn y bobl sydd â'r anghenion mwyaf. Gallwn weld hyn yn y blaenoriaethau gwariant a gyflwynwyd.

Er enghraifft, darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r grwpiau blwyddyn olaf yn nes ymlaen eleni. Mae hyn yn wirioneddol bwysig er mwyn sicrhau bod disgyblion oedran ysgol gynradd yn gallu cael o leiaf un pryd maethlon y dydd, fel nad ydynt yn llwglyd ac fel y gallant ganolbwyntio ar eu haddysg. Mewn man arall yn yr adroddiad, nodaf y sylwadau gan Plant yng Nghymru mai ymyriadau sy’n mynd i’r afael â newyn a sicrwydd bwyd fyddai eu prif flaenoriaethau, ac edrychaf ymlaen at ganfyddiadau’r adolygiad o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd maes o law.

Yn yr un modd, cadarnhaodd y Prif Weinidog na fyddai unrhyw ostyngiad yn y swm o arian yn y gyllideb ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf. Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â’r cynllun ym Mhen-y-waun a chael gwybod am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael, nid yn unig ar blant cymwys, ond ar eu teuluoedd a staff ysgol hefyd. Yn olaf, gwnaed ymrwymiad calonogol hefyd y bydd y grant hanfodion ysgol yn aros ar yr un lefel uwch ag eleni ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ynghyd â'r canllawiau diwygiedig ar wisg ysgol, bydd hyn o fudd i blant a phobl ifanc yng Nghwm Cynon a mannau eraill.

Yn ail, hoffwn sôn yn gryno am argymhelliad 5. Gwyddom fod gofal plant o ansawdd uchel yn hynod bwysig i blant a rhieni fel ei gilydd er mwyn brwydro yn erbyn tlodi a'i effaith ar ddysgu yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyflawni hyn wedi bod yn nod i Lywodraethau Cymru olynol, ac rwy'n falch, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, nad yw hyn yn wahanol ar gyfer y weinyddiaeth bresennol.

Rwy'n manteisio'n rheolaidd ar y cyfle i ymweld â rhai o’r cyfleusterau gofal plant o’r radd flaenaf sydd i'w cael yng Nghwm Cynon, gan ymweld yn fwyaf diweddar â meithrinfa Little Inspirations yn Aberaman fis diwethaf. Rwyf bob amser wedi fy nghalonogi gan y gwaith gwych y maent yn ei wneud i greu amgylcheddau cynnes, diogel a chefnogol i blant. Mae hynny'n arbennig o wir yn achos rhai o'n lleoliadau Dechrau'n Deg gwych. Mae dull ymarferol Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfleoedd yn sicrhau nad yw'r cynnig gofal plant ond yn cael ei gyflwyno pan fydd yna hyder fod digon o ddarparwyr i ateb y galw. Mae hyn yn cyferbynnu â’r dull gweithredu a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU, sy'n brin o gapasiti ac sy’n ymwneud mwy â bachu penawdau. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod, lle mae cyllid yn caniatáu, fod yn rhaid inni sicrhau gwaith ar draws y Llywodraeth i annog mwy o bobl i weithio yn y sector gofal plant er mwyn cyflawni ein huchelgais a chodi mwy o blant a theuluoedd allan o dlodi. Diolch.

17:10

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl bwysig hon ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well'. Rwy'n croesawu'r adroddiad a’i argymhellion craff. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, Jenny Rathbone, ac aelodau’r pwyllgor am eu cyfraniadau sylweddol gyda’r ymchwiliad a’r adroddiad hwn. Mae eich canfyddiadau'n werthfawr ac wedi llywio’r ymgynghoriad ar ein strategaeth tlodi plant ddiwygiedig. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod cyhoeddiad y strategaeth tlodi plant newydd wedi’i ohirio er mwyn ystyried y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr, a gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn lansio’r strategaeth ar 23 Ionawr.

Mae canfyddiadau'r pwyllgor yn rhan o'r adborth a gawsom o raglen ehangach o ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid. Roedd yr ymarfer ymgysylltu yn cynnwys ceisio barn plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau, a sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Gyda'i gilydd, cafwyd mwy na 3,000 o ymatebion i lywio’r strategaeth.

Er mwyn dangos yn glir ein cynnydd ar gyflawni ein hamcanion tlodi plant, er mwyn cyflawni ein hamcanion—ac mae'r neges honno wedi'i chyfleu eto yn yr holl gyfraniadau pwysig heddiw—rydym wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith a fydd yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gyflawni yn erbyn ein hamcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant er mwyn cael ein dwyn i gyfrif. Rydym yn bwrw ymlaen gyda rhanddeiliaid allweddol ar sut y dylai hyn edrych, a byddaf yn dweud mwy am hyn yn y datganiad llafar yn nes ymlaen y mis hwn.

Fel man cychwyn, rydym yn ceisio cyngor annibynnol ar ddangosyddion tlodi cenedlaethol ac argaeledd data fel rhan o fframwaith i fonitro a dangos y bydd atebolrwydd tryloyw, sy'n hanfodol, yn cael ei ddarparu i adrodd ar ein cynnydd ar drechu tlodi. Credwn y bydd fframwaith sy'n seiliedig ar ystod o fesurau yn ein cefnogi i adlewyrchu effaith ein hymagwedd at y gyfres gymhleth hon o broblemau yn fwy cywir. Mae'n hanfodol, fodd bynnag, fod yn rhaid i unrhyw ddull o fonitro'r cynnydd a wnawn gynnwys tystiolaeth o'r profiad o fyw mewn tlodi. Rwyf wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf pwysig hwnnw mewn egwyddor. Credaf mai’r hyn a wnawn fel Llywodraeth, ein gweithredoedd, yw'r hyn y mae angen inni gael ein profi yn ei erbyn. Bydd y rhaglen lywodraethu yn sail i’r camau gweithredu sydd eu hangen ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni ein hamcanion tlodi plant.

Mae'r strategaeth ddrafft yn cadarnhau y byddwn yn parhau i fabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau plant i gyflawni ein rhaglen lywodraethu yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydym yn mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb fel ysgogiadau polisi trawsbynciol. Bydd y strategaeth derfynol yn cynnwys cyfeiriad cliriach a mwy penodol at erthyglau unigol CCUHP, a gwn fod honno'n alwad gan y pwyllgor a chan Aelodau heddiw. Byddwn hefyd yn adolygu'r asesiadau effaith hawliau plant i nodi’r dystiolaeth gan blant a phobl ifanc ar sut y dylanwadodd hyn ar y strategaeth.

Bydd y strategaeth hefyd yn canolbwyntio ein gweithgarwch ar y rhaglenni a’r ymyriadau sy’n cael yr effaith fwyaf ar leihau tlodi plant o fewn ein pwerau datganoledig; mae hwnnw'n bwynt pwysig a wnaed y prynhawn yma hefyd—o fewn ein pwerau datganoledig. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gennym asesiad effaith integredig strategol sydd wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r gyllideb ddrafft. Mae’n amlinellu’r dystiolaeth gyd-destunol sy’n cefnogi ein penderfyniadau gwariant, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Blaenoriaeth allweddol o fewn y strategaeth tlodi plant yw gwneud y gorau o incwm, ac mae ein gwaith i symleiddio mynediad at system fudd-daliadau Cymru fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn allweddol i’r amcan hwn. Felly unwaith eto, rwy'n falch fod gwneud y gorau o incwm—unwaith eto o'ch ymchwiliad, a chyfraniadau heddiw—wedi cael sylw.

Mae cyngor partneriaeth Cymru wedi cytuno ar ddrafft terfynol y siarter ar gyfer darparu budd-daliadau Cymreig a sefydlu grŵp llywio allanol i ddatblygu cynllun gweithredu a goruchwylio’r gwaith o’i gyflawni. Rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gadarnhau aelodaeth y grŵp a fydd yn cynnal ei gyfarfod cyntaf y mis hwn. Yn y cyd-destun hwnnw, hoffwn gydnabod y gwaith a wnaed gan Sefydliad Bevan i wella mynediad at fudd-daliadau Cymreig, a diolch iddynt—ac fe’i crybwyllwyd y prynhawn yma gan Sioned Williams hefyd, a chan y Cadeirydd yn wir—am eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Making the case for a Welsh Benefits System—people’s experiences'. Mae’n neges bwysig iawn heddiw gan Aelodau yn y Siambr, o’r ddadl hon, ac o ymchwiliad y pwyllgor—neges i’n partneriaid mewn llywodraeth leol fod cydnabyddiaeth fod pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cymeradwyo’r siarter hon, ac yna, yn amlwg, bydd cyflawni a dwyn pobl i gyfrif ar y cyflawniad hwnnw'n bwysig.

Ddirprwy Lywydd, amlygodd yr adborth o’n hymarferion ymgysylltu ar y strategaeth tlodi plant fod angen arbennig i ni weithio’n fwy effeithiol ar draws y Llywodraeth i sicrhau’r newid sydd ei angen i wneud y gwahaniaeth hwn i fywydau pobl. Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i barhau i ddatblygu polisi drwy lens cydraddoldeb a thlodi. Mae Gweinidogion wedi cytuno i barhau i nodi bylchau a chyfleoedd i ailflaenoriaethu cyllidebau. Mae hwn wedi bod yn ymarfer mor anodd; cydnabuwyd unwaith eto heddiw fod y toriad o £1.3 biliwn wedi effeithio ar ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl 13 mlynedd o gyni a thoriadau. Fel y dywedais, rydym wedi edrych ar ffyrdd y gallwn ailflaenoriaethu cyllidebau i gyflawni’r canlyniadau a rennir ar leihau tlodi plant ac anghydraddoldeb yn hirdymor; ac mae'n ymrwymiad sydd wedi arwain at Weinidogion yn cydweithio ar draws portffolios i sicrhau bod ffocws ar fynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth allweddol. Byddwn yn clywed llawer mwy am hyn ym myd addysg hefyd mewn dadleuon yn nes ymlaen heddiw.

Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn hollbwysig ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant. Cofiaf mai dyna'r peth cyntaf a ddywedodd y comisiynydd plant wrthyf pan ddeuthum i’r swydd hon: 'Cyflwynwch brydau ysgol am ddim’. Diolch i'n cytundeb cydweithio, rydym yn gwneud hynny. Wrth gwrs, mae Aelodau wedi codi hyn hefyd, a’r ffaith bod rhaglen gwella gwyliau’r haf a’r grant hanfodion ysgol wedi’u diogelu hefyd. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw dangos ein hymrwymiad ein bod yn gweithio i fynd i’r afael â thlodi plant. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Y llynedd, cynhaliais uwchgynhadledd i ystyried sut mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus gydweithio i fynd i’r afael â thlodi. Yr wythnos nesaf, rwy’n cyfarfod â grŵp cyfeirio allanol y strategaeth tlodi plant i drafod y strategaeth a’i gweithrediad, ac yn ôl pob tebyg, bydd llawer o’r aelodau wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor hwn.

A gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith, yn enwedig ar godi’r materion, fel y gwnaeth Jayne Bryant heddiw, ar anghenion plant anabl a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal hefyd? Rydym yn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n effeithio ar blant anabl yn ein tasglu hawliau anabledd, ac mae yna ffrwd waith ar blant a phobl ifanc.

I gloi, Ddirprwy Lywydd ac Aelodau, rwy'n croesawu ac yn diolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad. Yn wir, nodaf argymhelliad 6 yn enwedig. Mae'n bwysig ein bod yn cael—. Rwy’n cymryd yr awenau, wrth gwrs, o ran cyfrifoldeb i fynd i’r afael â thlodi plant, ond mae’n bwysig cydnabod bod dyletswydd ar bob Gweinidog, pob aelod o’r Cabinet, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—

17:20

Rwyf wedi ymrwymo, hoffwn ddweud, fel y dywedais yn fy ymateb i’ch adroddiad, i fynd i’r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr, fel y mae Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni ac ysgwyddo rôl arweiniol mewn camau gweithredu ehangach i weithio tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon, gan y credaf ei bod yn dangos bod llawer iawn o ddiddordeb, angerdd ac ymrwymiad i gyflawni ar leihau tlodi plant.

Dechreuodd Altaf Hussain drwy sôn am bwysigrwydd maeth—nad yw'n rhywbeth y mae angen fy argyhoeddi i yn ei gylch. Ond mae'n amlwg yn bwysig iawn sôn fod rhai plant yn dal i deimlo'n llwglyd ar ôl pryd o fwyd am nad yw'r hyn y maent yn ei fwyta'n faethlon. Rwy'n credu iddo godi mater pwysig iawn hefyd ynghylch cam-drin hiliol mewn ysgolion, sy'n fater yr wyf yn siŵr y byddwn yn mynd i'r afael ag ef yn ein hymchwiliad mwy diweddar ar 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ond yn amlwg, os yw plant yn dioddef hiliaeth yn ogystal â thlodi, mae hynny'n gwbl ddinistriol. Yn amlwg, rôl ysgolion yw sicrhau nad yw plant yn cael eu bwlio oherwydd amgylchiadau sydd ymhell y tu hwnt i'w rheolaeth.

Dyfynnodd Sioned yn helaeth gan Chris Birt, a gyfrannodd safbwynt yr Alban at ymchwiliad ein pwyllgor. Dadleuodd Sioned yr achos dros ddatganoli cyfrifoldebau lles, a gallem wneud llawer mwy pe bai hynny'n digwydd. Gwn nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu hynny o gwbl, ond yn amlwg, nid yw hynny'n rhywbeth sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'r hyn sydd gennym. Nododd Sioned hefyd fod tlodi'n cael ei achosi gan benderfyniadau’r Llywodraeth, yn bendant. Nid yw hyn yn benderfyniad gan Dduw. Nid yw'n digwydd oherwydd y tywydd. Ni fydd perchnogaeth a thargedau yn rhoi bwyd ar y bwrdd, dadleuodd y Prif Weinidog ddoe, ond serch hynny, rydym yn llwyr gydnabod fod Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd dros ben yn ei phenderfyniadau cyllidebol presennol. Felly, er i Sioned ofyn pam nad ydym yn cyflwyno bwndeli babanod, mae arnaf ofn mai dyna rai o’r penderfyniadau y bu’n rhaid eu gwneud, ac na ellir ond ei dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf. Nododd Sioned yr angen am ofal plant hefyd. Dyma un o’r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd sy'n disgyn i mewn i dlodi. Os nad oeddent yn dlawd cyn iddynt gael plant, mae pobl yn mynd yn dlawd ar ôl cael plant, oherwydd yn syml iawn, ni allant ennill digon o gyflog i dalu am ofal plant. Mae hyn yn rhywbeth hirsefydlog. Soniodd hefyd am statws anstatudol siarter budd-daliadau Cymru, ond dyna sydd gennym ar hyn o bryd, a dyna y mae angen inni weithio gydag ef.

Dechreuodd Jane Dodds gyda'i phrofiad fel gweithiwr cymdeithasol plant, lle roedd 90 y cant o’r plant y gweithiai gyda nhw yn blant a oedd yn byw mewn tlodi. Daeth i fyd gwleidyddiaeth er mwyn newid y system, a soniodd am yr addewid i roi'r gorau iddi os na allwn wneud rhywbeth ynglŷn â thlodi plant. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom wedi ein hysbrydoli i geisio gwneud gwahaniaeth, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Amlinellodd hefyd pam mai dim ond chwe argymhelliad a wnaethom. Fe wnaethom chwe argymhelliad am ein bod am iddynt gael eu clywed a'u cyfrif. Heriodd Lywodraeth Cymru unwaith eto am betruso ynghylch pennu targedau beiddgar. Heb dargedau, meddai, ni fyddwn yn gweld gostyngiad yn y 28 y cant sy'n byw mewn tlodi. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cael un unigolyn yn gyfrifol am fabanod, plant a phobl ifanc, oherwydd os yw pawb yn gyfrifol, nid oes unrhyw un yn gyfrifol. Tynnodd sylw at y ffaith bod gan yr Alban, y Ffindir, Norwy, Awstralia, Iwerddon a Seland Newydd bob un gyfraddau tlodi plant is nag sydd gennym ni, a bod ganddynt oll Weinidogion penodedig i fynd i’r afael â thlodi plant. Gorffennodd drwy ddweud ei bod yn bryd cael targedau, ac yn bryd cael un Gweinidog.

Pwysleisiodd Sarah Murphy hefyd pam mai dim ond nifer fach o dargedau sydd gennym, ac fe’n hatgoffodd o’r rhybudd gan y Resolution Foundation nad ydym wedi mynd at wraidd y broblem eto, o ganlyniad i rewi lwfansau tai.

Vikki Howells, diolch yn fawr iawn am godi rhai o'r pethau pwysig a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe ynghylch diogelu rhaglen gwella gwyliau’r haf a diogelu prydau ysgol am ddim i bawb. Rydym yn cydnabod bod y rheini'n argymhellion hynod o bwysig, ac yn rhai y mae angen inni fynd ar eu trywydd.

Credaf fod Sarah hefyd wedi sôn am bwysigrwydd y fenyw a ddysgodd sut i goginio gan ddefnyddio'r cyllid Ewropeaidd. Mae hwnnw’n sgìl mor bwysig, ac mae’n un o’r rhesymau pam fod cymaint o blant heb fod yn cael digon o faeth. Mae'r pethau hyn yn wirioneddol enbyd.

Roedd cyfraniad Jayne Bryant yn ein hatgoffa am effaith y problemau iechyd meddwl sy’n debygol o godi os yw plant yn byw mewn tlodi, ac roedd ei ffocws ar hawliau plant, gan sôn am y gwaith y mae’r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi’i wneud ar blant â phrofiad o fod mewn gofal, lle mae plant wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, a’r cysylltiad cryf iawn â thlodi, yn ogystal â’r gwaith a’r dystiolaeth y maent wedi’i chasglu am deuluoedd lle mae plentyn yn anabl. Nid oes gofal plant digonol ledled Cymru.

17:30

Un yw'r angen i ganolbwyntio ar ble gwyddom fod lefelau tlodi ar eu huchaf: teuluoedd â niferoedd mawr o blant; teuluoedd gyda phlentyn neu oedolyn anabl; teuluoedd ethnig leiafrifol; a phobl sy'n byw mewn tai rhent preifat.

Ac yn olaf, hoffwn sôn am ein hargymhelliad i gael Gweinidog dros fabanod, plant a phobl ifanc. Cafodd ein hadroddiad ei ddrafftio cyn i Mark Drakeford gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau iddi, ac rwy’n deall yn llwyr pam nad yw am glymu dwylo’r Prif Weinidog newydd o ran sut y bydd yn rhedeg ei Lywodraeth. Ond rydym yn gobeithio ei fod yn argymhelliad y bydd yr ymgeiswyr am swydd y Prif Weinidog yn ei ystyried, gan nad yw rhanddeiliaid yn gwybod ble i gyfeirio eu pryderon ynghylch tlodi plant, ac os yw pawb yn gyfrifol, mae hynny'n golygu nad oes unrhyw un yn gyfrifol.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—canlyniadau PISA, a galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8447 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.

2. Yn gresynu at y ffaith:

a) bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed;

b) mai canlyniadau Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro yn olynol; ac

c) bod canlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;

b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;

c) ailgyflwyno math o brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu rhieni ac athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau allweddol a chymharu perfformiad;

d) datblygu rhaglen well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac

e) cael gwared ar y consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a wnaed yng nghyllidebau ysgolion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, a hoffwn wneud ein cynnig yn enw Darren Millar. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi pryderon real iawn droeon eisoes ynghylch canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ar gyfer Cymru, ond mae pethau mor wael, Weinidog, fel bod hyn yn cyfiawnhau dadl lawn heddiw. Ni all y duedd ar i lawr hon mewn canlyniadau addysgol yng Nghymru barhau.

Fel y mae ein cynnig yn ei nodi heddiw, mae perfformiad PISA Cymru wedi cwympo i'w lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth—pynciau craidd y mae angen i ni eu cael yn iawn ac y mae angen inni fod yn rhagori ynddynt. Nid er mwyn llongyfarch ein hunain fel cenedl, ond ar gyfer dyfodol ein plant a phobl ifanc ac ar gyfer dyfodol Cymru. Dyma sydd mewn perygl yma. Dyma yw'r hyn nad ydym yn ei gael yn iawn.

Canlyniadau Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU am y chweched tro yn olynol, gyda chanlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae hwn yn feirniadaeth ddamniol ar 26 mlynedd y Blaid Lafur mewn grym yng Nghymru. A allwn ni barhau i wneud yr un peth a disgwyl canlyniadau gwahanol? Na allwn. Yn amlwg, mae angen buddsoddi i gael y pethau sylfaenol yn iawn yma yng Nghymru. Yn hytrach, gwelwn doriadau gan y Llywodraeth Lafur hon yn eu cyllideb addysg, pan ddylai addysg gael ei diogelu os nad cael mwy o fuddsoddiad. Mae addysg yng Nghymru wedi bod ar lwybr un ffordd, ar i lawr, heb unrhyw arwydd o wella. Mae’r blynyddoedd o gamreoli i’w gweld yn glir, boed yn golli niferoedd mawr o athrawon, y toriadau i gyllidebau, cyllidebau ysgolion yn cael eu dihysbyddu, neu ffocws ar ideoleg rhywedd yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach na safonau addysg.

A sut mae Llafur yn ymateb i’r methiant hwn, i’r sgoriau PISA gwaethaf erioed? Drwy fod y Gweinidog yn gwrthod ymddiheuro. Efallai y gwnaiff hynny heddiw. Ac ar ôl clywed y canlyniadau, unwaith eto mae’n gwrthod gosod targed ar gyfer y set nesaf o ganlyniadau PISA ymhen tair blynedd, neu hyd yn oed yr un wedyn. Dywedodd mai ei uchelgais—neu ddiffyg uchelgais—ac rwy'n dyfynnu, yn syml iawn, oedd y bydd canlyniadau pobl ifanc yn eu harddegau yma yn gwella y tro nesaf. Sut? Sut? Beth mae wedi’i wneud, neu beth mae’r Llywodraeth wedi'i wneud i sicrhau y gall Cymru lusgo’i hun yn ôl i gyflawni canlyniadau y gallwn fod yn falch ohonynt unwaith eto?

Nid bai’r athrawon neu’r staff ysgol gwych a gweithgar sy’n gweithio’n ddiflino yn ein hysgolion ledled y wlad, ac sy’n aml yn cael eu gorfodi i addysgu mewn amodau na ddylent orfod gweithio ynddynt yw hyn. Y rheoli canolog a’r diffyg arian mewn addysg yng Nghymru sy’n gwneud cam â nhw a’n dysgwyr—diffyg gweledigaeth y Llywodraeth hon ynglŷn â sut i godi’r safonau hynny. Nid yw'n ymddangos eich bod yn gwrando ar y sector ynghylch yr hyn sydd ei angen ar lawr gwlad iddynt allu gwneud eu swyddi. Mae’r diffyg gweithredu gan Lafur Cymru ers cymryd yr awenau ar addysg yma 26 mlynedd yn ôl nid yn unig wedi arwain at ganlyniadau addysgol gwael, ond at filoedd o athrawon yn gadael y proffesiwn yn eu heidiau dros y degawdau diwethaf. Dyna pam fod pwynt 3(a) yn ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i'n hystafelloedd dosbarth. Nid rhywbeth dymunol yn unig mo hynny, ond anghenraid llwyr os yw’r Llywodraeth Lafur hon yn mynd i roi’r gorau i wneud cam â chenedlaethau o blant yng Nghymru. Rydym yn brin o athrawon yn y pynciau craidd yn gyffredinol, ond yn enwedig ar gyfer addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—mae ar lefel argyfyngus, bron â bod. Nid oes gennym ddigon o staff addysgu i helpu athrawon i ymdopi â’r cynnydd sydyn mewn ADY—anghenion dysgu ychwanegol—a’r cymhlethdodau cynyddol sy’n dod i’r amlwg mewn addysg brif ffrwd. Nid ar y rhai ag ADY yn unig y mae hyn yn effeithio ychwaith, ond ar bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth, gan rwystro a tharfu ar addysg pawb, heb fai ar unrhyw un heblaw'r diffyg arian sy'n mynd i’n hysgolion.

Mae’r Llywodraeth hon yn methu cadw athrawon. Rydym yn colli niferoedd enfawr o athrawon o fewn y pum mlynedd gyntaf ar ôl iddynt gymhwyso. Gyda’r methiannau sylfaenol hyn, mae'n destun rhyfeddod i mi fod y Gweinidog yn teimlo mai ef yw’r dyn gorau i fod yn Brif Weinidog nesaf.

Mae’r toriadau i addysg a’r diffyg cyllid a welsom gan y Llywodraeth Lafur ers degawdau wedi chwarae rhan fawr yn y sgoriau PISA gwael hyn a welsom fis diwethaf. Nid oes unrhyw esgus pan welwch y sgoriau o rannau eraill y DU. Yn Lloegr, fe'u gwelsom yn codi yn y safleoedd drwyddi draw. Dim ond un wlad Ewropeaidd a oedd ar y blaen i Loegr yn y safleoedd, ac eto, maent wedi gorfod ymdopi â COVID, yn union fel ninnau, Weinidog. Efallai ein bod yn gweld y gwelliannau addysgol yn Lloegr oherwydd y diwygiadau a gyflwynwyd gan Michael Gove dros ddegawd yn ôl bellach. Mae'n amlwg fod cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd wedi cael effaith bwerus ar addysg yn Lloegr.

Gadewch inni sôn am anghenion dysgu ychwanegol. Yn y gyllideb ddiweddar, gwelsom y gyllideb adnoddau ADY yn cael ei thorri 86 y cant. Rydym yn cydnabod y bydd rhywfaint o arian, gobeithio, yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion, rhywbeth y bûm yn gwthio amdano ers dwy flynedd bellach, ond gyda chynghorau Llafur fel sir Fynwy yn torri bron i £1 filiwn o addysg, sut yn union, Weinidog, y gwnawn ni wella ein sgoriau PISA a’n canlyniadau addysgol yng Nghymru, ac o leiaf dal i fyny â rhannau eraill o’r DU? Daw hyn ar ôl i ysgolion, rhieni, athrawon a minnau ddweud wrth y Gweinidog dro ar ôl tro mai ADY yw’r mater mwyaf dybryd sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd. ADY yw problem fawr ein hoes ym myd addysg Cymru, ac eto, nid ydym yn clywed unrhyw beth gan y Llywodraeth hon, ac yn hytrach, mae’n rhaid i’r sector ymdopi â mwy o doriadau enbyd. A ydym o ddifrif yn disgwyl gwell canlyniadau PISA y tro nesaf os na allwn unioni neu hyd yn oed gydnabod y problemau mwyaf dybryd yn ein hysgolion ar hyn o bryd? Ni chredaf y gallwn, ac rwy'n tybio bod y Gweinidog yn meddwl hynny hefyd, a dyna pam ei fod mor gyndyn o osod targed y gellir mesur ei gyflawniad yn ei erbyn.

Dyna pam ein bod wedi galw yn ein cynnig ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheini ag ADY yn cael mynediad at gymorth yn gynt, yn cael y cymorth un i un neu’r cymorth un i ddau sydd ei angen arnynt yn daer yn ein hystafelloedd dosbarth, a pham na ddylid gwneud unrhyw doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25.

Os yw’r Gweinidog yn meddwl tybed sut y gall fforddio ariannu addysg yn briodol ac osgoi’r toriadau y mae wedi bod yn eu gwneud, dylai ddilyn cyngor ein cynnig a chael gwared ar y consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi’r arbedion yn ôl yng nghyllidebau ysgolion. [Torri ar draws.] Yn hollol. Gallai hefyd edrych ar roi'r gorau i'r cynlluniau i ehangu’r Senedd, a gwario'r arian hwnnw ar flaenoriaethau pobl, fel addysg dda i’n plant, yn hytrach nag ariannu ehangu nad oes unrhyw un ei eisiau ac nad oes unrhyw un wedi galw amdano ar wahân i gymrodyr cenedlaetholgar eich clymblaid.

Ond nid cyllid yn unig sydd ei angen; mae angen inni hefyd ddiwygio'r ffordd yr ydym yn olrhain cynnydd dysgwyr yng Nghymru fel nad ydym yn cael ein synnu gan ganlyniadau ar ddiwedd eu taith addysgol. Dyna pam fod ein cynnig yn galw am ailgyflwyno math o brofion safonedig, i helpu rhieni ac athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr mewn cyfnodau allweddol a chymharu perfformiad. Ni allwn aros i fyfyrwyr neu ddysgwyr orffen eu TGAU nac aros am ganlyniadau PISA i weld a yw’r cynnydd yn cyrraedd y safon. Mae angen inni fod yn llawer mwy rhagweithiol, Weinidog, a datrys problemau cyn ei bod yn rhy hwyr. Gwn y gallai hyn daflu goleuni ar fethiannau'r Llywodraeth, ond mae gwella canlyniadau addysgol plant yn llawer pwysicach na tholc i ego'r Llywodraeth.

Yn olaf, a gwn y gallai hyn yn hawdd fod yn sioc i Lywodraeth sosialaidd sy’n cael ei gyrru gan ideoleg, ond mae’n bryd rhoi’r gorau i lunio polisïau anhyblyg, ideolegol. Mae’n bryd gwneud yr hyn sy’n iawn i ddysgwyr, a chaniatáu inni harneisio dawn y disgleiriaf a’r goreuon, a pheidio â gadael iddynt lithro drwy’r bylchau. Mae’n bryd datblygu rhaglen well ar gyfer ein dysgwyr mwy abl a dawnus, i’w helpu i ffynnu mewn lleoliadau addysg prif ffrwd ledled Cymru. Mae ein cynnig heddiw yn nodi’r sylfeini ar gyfer dyfodol mwy disglair i addysg yng Nghymru. Os gofynnwn i ysgolion wneud mwy, gadewch inni roi mwy o arian iddynt. Mae'n rhaid i arian ddilyn cyfarwyddebau, Weinidog.

Pe bai gan y Gweinidog hwn gerdyn adroddiad ysgol, byddai'n dweud: canlyniadau PISA, methu—angen ymdrechu'n galetach; cyllideb addysg, methu—yn dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o'r hyn sydd ei angen; ei friff, methu—mae angen mynd yn ôl at y pethau sylfaenol a chael y rheini'n iawn yn gyntaf. Mae ein plant yn haeddu gwell. Mae Cymru yn haeddu gwell.

17:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod y pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.

Yn cydnabod bod Cymru wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018, fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.

Yn croesawu:

a) lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;

b) bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;

c) bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a

d) sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) blaenoriaethu'r gwaith o recriwtio a chadw athrawon a chynorthwywyr addysgu, yng ngoleuni data CGA sy'n dangos bod 16% o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf a bod tua 40% o staff cymorth dysgu yn bwriadu gadael yn y 5 mlynedd cyntaf;

b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;

c) lansio adolygiad cyflym i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysg yng Nghymru, gan adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon a'u gweithredu.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mae Plaid Cymru wedi nodi yn flaenorol wrth ymateb i'r canlyniadau PISA diweddaraf, mae’n bwysig inni fyfyrio ar ac ystyried y goblygiadau o ddifrif. Y pwynt canolog i'w gadw mewn cof yw mai nod PISA yw cynorthwyo Llywodraethau i wella addysg pobl ifanc, nid bod yn rhyw fath o gystadleuaeth er ei mwyn ei hunan.

Wrth gwrs, rydym yn cytuno bod COVID wedi cael effaith enfawr ar ein sector addysg, ac ni ellir anwybyddu hyn wrth ddadansoddi’r darlun rhyngwladol ehangach. Mae gwelliant y Llywodraeth yn pwysleisio hyn, ond, eto, os yw’r Gweinidog yn credu bod Cymru wedi’i heffeithio’n waeth oherwydd COVID, yna efallai y dylai fe gytuno bod hwn yn fwy o reswm inni gael ymchwiliad penodol i effaith COVID yng Nghymru ar addysg, er mwyn inni ddeall effaith y penderfyniadau a wnaed, er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau yn rhai cywir ac er mwyn, wrth gwrs, dysgu gwersi pwysig i'r dyfodol.

O ran ein gwelliannau i’r cynnig ei hun, rydym wedi gwneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu’r hyn y credwn y dylai’r blaenoriaethau fod wrth fynd i’r afael â’r argyfwng presennol o fewn ein system addysg—argyfwng sydd angen cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ddadansoddi'r canlyniadau. Mae galwad gyntaf ein gwelliant yn cyfeirio at yr angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i’r argyfwng recriwtio a chadw staff presennol yn y gweithlu addysg. Gydag 16 y cant o athrawon yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf, a thua 40 y cant o gynorthwywyr dysgu yn bwriadu gadael yn eu pum mlynedd cyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr a mynd i’r afael â hyn o ddifrif. Os nad oes gan ysgolion weithlu addysg digonol i gefnogi anghenion ein dysgwyr, dŷn ni ddim yn debygol o weld unrhyw welliant yn ansawdd a thegwch ein system addysg. Ni allwn ni anwybyddu’r ffaith bod 78 y cant o athrawon yng Nghymru a wnaeth ymateb i arolwg gan undeb yr NASUWT wedi dweud na fyddent yn argymell addysgu fel gyrfa i ffrindiau neu deulu.

Mae’r ail alwad yn ein gwelliant yn yr un modd yn adlewyrchu’r un sydd wedi ei chynnwys gan y Ceidwadwyr yn y cynnig gwreiddiol. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru am roi mwy o bwyslais ar anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n Gymraeg eu hiaith, a’r diffyg cefnogaeth ddwyieithog sydd ar gael ar eu cyfer yn bresennol, yn unol â galwadau Comisiynydd y Gymraeg a’r comisiynydd plant a ddaeth at ei gilydd i alw am well ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau ADY drwy’r Gymraeg. Gofynnwyd am flaenoriaethu’r gwaith o sefydlu adolygiad cenedlaethol o’r maes a’r ddarpariaeth a chynigir drwy’r Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi y dylai darpariaeth ADY yng Nghymru adlewyrchu anghenion gwlad ddwyieithog, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n dweud bod gan blant yr hawl i dderbyn addysg yn eu hiaith eu hunain. Ac felly ni ddylai safon y ddarpariaeth addysgol arbenigol Gymraeg hon fod yn ddibynnol ar leoliad daearyddol. Mae'n annerbyniol bod rhieni plant ag ADY yn dal i orfod brwydro i gael darpariaeth Gymraeg ac adnoddau Cymraeg o'r safon uchaf. Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog a yw’r gyllideb ar gyfer darpariaeth ADY yn adlewyrchu anghenion siaradwyr Cymraeg sydd angen y gefnogaeth yma? Pa weithredu sy'n digwydd i ateb y galwadau yma am welliannau?

Yn olaf, fel y bydd ein dadl ni yn ei hamlinellu yn ddiweddarach, credwn mai blaenoriaeth arall yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli o fewn ein system addysg ac sy'n cael effaith ar gyrhaeddiad addysgol, sef effeithiau tlodi ar ein plant. Dyna pam mae'r alwad olaf yn ein gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno adolygiad y mae mawr ei angen i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sydd yn y system ar hyn o bryd—y system addysg—a darparu adroddiad sy’n amlinellu cyfres o argymhellion ystyrlon a sut y cânt eu gweithredu. Rŷn ni'n credu, drwy wneud hyn, y gallwn ddechrau mynd i’r afael yn iawn â’r anghydraddoldebau hyn sy’n bodoli a sicrhau nad oes yna unrhyw rwystrau i unrhyw un o’n plant gyrraedd y safon uchaf o ran perfformiad addysgol.

Mae'r ystadegau o ran y bwlch perfformiad yn dweud y cyfan. Mae dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llai tebygol o gael y graddau uchaf. Mae plant mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn iddynt droi’n 11 mlwydd oed, ac mae'r effaith ar absenoldeb yn drychinebus. A fydd y tasglu presenoldeb cenedlaethol felly yn edrych ar effaith tlodi plant a chost y dydd ysgol ar bresenoldeb dysgwyr? Rŷn ni'n dal i aros, wrth gwrs, am y strategaeth tlodi plant, ac mae angen inni weld camau newydd ynddi y bydd modd eu mesur drwy dargedau, er mwyn sicrhau nad yw perfformiad ein dysgwyr am flynyddoedd eto i ddod yn is na'r hyn y dylai fe fod. Diolch. 

17:45

Mae'r set ddiweddaraf o ganlyniadau PISA yn adrodd stori am ddwy system addysg. Fel yr amlinellodd Laura Anne Jones, yn system addysg Lloegr, sy’n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr, mae’r sgoriau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth oll yn sylweddol uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel y sgoriau addysg gorau yn y Deyrnas Unedig. Yn system addysg Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Lafur, y gwrthwyneb sy'n wir. Ar ôl chwarter canrif o Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, Cymru sydd â’r sgoriau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth gwaethaf yn y DU, pob un yn sylweddol is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yn wir, canlyniadau PISA Cymru yw'r rhai gwaethaf yn y DU bob tro y cânt eu mesur. Nid wyf yn crybwyll y gymhariaeth hon gydag unrhyw fath o falchder. Rwy'n eithaf trist mewn gwirionedd, gan fod fy mhlant yn y system addysg yma yng Nghymru, ac ymddengys i mi eu bod yn mynd i gael cyfleoedd bywyd gwaeth na fy neiaint a fy nithoedd sy'n cael eu haddysg yn Lloegr, ac nid yw hynny'n iawn.

Nawr, hoffwn fynd â chi ar daith ar hyd lôn atgofion, os nad oes ots gennych ymuno â mi am eiliad neu ddwy, ac rydym yn mynd i fynd yn ôl i 2007, y flwyddyn wych pan gymerodd Gordon Brown yr awenau fel Prif Weinidog y DU, roedd Leona Lewis ar frig y siartiau, ac roedd Jane Hutt yn Weinidog addysg. Dyma’r tro cyntaf hefyd—[Chwerthin.] Dyma’r tro cyntaf hefyd i Gymru gymryd rhan yn PISA, a chael canlyniadau is na’r cyfartaledd mewn darllen a mathemateg a chanlyniadau cyfartalog mewn gwyddoniaeth. A dywedodd Jane Hutt ei bod yn awyddus, i 'ddysgu o'r arferion rhyngwladol gorau a mwyaf effeithiol.' Nawr, 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae rhywun heb fod yn gwneud eu gwaith cartref yn ôl pob golwg, gan fod pethau'n waeth nag erioed.

Ac fe glywsom gan y Gweinidog addysg, a darpar Brif Weinidog posibl, mai ysgolion yw'r buddsoddiad gorau mewn cyfiawnder cymdeithasol ac economi iach, ac rwy'n digwydd cytuno ag ef ar hyn. Ond mae’r canlyniadau addysg truenus dan arweiniad Llafur yng Nghymru wedi niweidio’r economi ac wedi amharu ar gyfleoedd bywyd ein plant a’n pobl ifanc.

Os edrychwn ar y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, mae gan Loegr un o’r canlyniadau addysg mwyaf teg yn Ewrop. Mae'n well i blant o gefndiroedd tlotach, heb fod ar gost i rannau eraill o gymdeithas. Yn wir, mae perfformwyr gorau a gwaethaf Cymru yn gwneud yn waeth na’u cymheiriaid yn Lloegr. Felly, diolch i Lafur, ymddengys bod pawb ar eu colled.

Nawr, beth yw'r rheswm am y gwahaniaeth hwn? Cyfeiriwyd ato gan Laura Anne Jones yn ei datganiad agoriadol, ac mae'n rhaid inni roi clod enfawr i rai fel Michael Gove a Nick Gibb, a gydiodd yn y danadl a rhoi diwygiadau addysg difrifol wedi'u harwain gan dystiolaeth ar waith. Roeddent yn canolbwyntio ar ddull addysgu a oedd yn gyfoethog o ran gwybodaeth, nad ydym, yn anffodus, wedi’i weld yng Nghymru o dan Lafur, lle'r ymddengys bod Gweinidogion—[Torri ar draws.] A hoffech chi wneud ymyriad, Mike Hedges?

Nid wyf yn credu fy mod yn cael gwneud un—[Anghlywadwy.]

Diolch. Mae Lloegr wedi gwneud yn dda iawn. Maent wedi gwneud yn dda iawn oherwydd y London Challenge a'r Manchester Challenge. Os ydych chi'n chwilio am feirniadaeth o Lywodraeth Cymru, roedd gennym Her Cymru, ac fe wnaethant ei diddymu. Ond yn sicr, y London Challenge a'r Manchester Challenge yw’r rhesymau pam fod yr ardaloedd hynny wedi gwneud cymaint yn well.

Diolch am yr ymyriad, Mike. Mae'n sicr yn werth dysgu oddi wrtho. Rwy’n siŵr y bydd y rheini ar y meinciau blaen—[Torri ar draws.] Rwy’n siŵr y bydd y rheini ar y meinciau blaen yn gwrando ar y rhai sydd ar eu meinciau cefn am y syniadau newydd hyn hefyd.

Nawr, mae’r diwygiadau Ceidwadol hynny wedi dwyn ffrwyth ac wedi arwain at sefyllfa lle mae Lloegr yn safle 11 yn y byd mewn mathemateg ac yn safle 13 mewn darllen a gwyddoniaeth. Gadewch imi ailadrodd nad wyf yn sôn am y pethau hyn yn Lloegr am fy mod yn ceisio tynnu sylw at bethau da yno. Rwy'n drist am nad yw fy mhlant yn gallu cael yr un lefel o addysg â'u cymheiriaid yn Lloegr. A dylai safon Cymru fod yn uwch nag y mae. Mae'n drueni mawr nad ydym ni sy'n byw yma yng Nghymru yn elwa ar hynny, gyda phlant yng Nghymru yn cael eu llesteirio gan system ddiffygiol. Dylai’r canlyniadau PISA hyn fod yn destun cywilydd dwfn i’r Llywodraeth Lafur hon. Maent yn sôn am gyfiawnder cymdeithasol, ond gwelwn y dystiolaeth, ac yn anffodus, ni allai fod ymhellach o'r gwir. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Gwn fod pob Aelod ar draws y Siambr hon yn siomedig fod perfformiad PISA Cymru wedi dirywio yn dilyn y pandemig. Yn 2018, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i gyflawni gwelliannau mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Digwyddodd hyn oherwydd gwaith caled ein gweithlu addysgu ymroddedig. Mae fy merch yn athrawes draw yn Lloegr, ac mae ganddi ddosbarth o 30 o blant ifanc—babanod—y mae'n rhaid iddi eu haddysgu. Mae hi i fod i gael un cynorthwyydd ystafell ddosbarth, ond mae hefyd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?

A gaf fi ddatgan bod un o'r plant hynny yn un o fy wyrion? [Chwerthin.]

Mae hynny'n wir, ac mae'n hyfryd. Felly, hoffwn ddweud, mae ganddi un cynorthwyydd ystafell ddosbarth, ond yn aml iawn, maent yn gorfod gadael, felly nid yw'r cyfan yn fêl i gyd yn Lloegr ychwaith.

Yn anffodus, mae sgoriau cyffredinol yn dangos mai ardaloedd ag amddifadedd uchel sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan bandemig COVID. Ni ddylai hyn fod yn syndod i ni, gan ein bod wedi gweld dros y 14 mlynedd diwethaf sut mae’r un cymunedau hyn wedi cael eu taro galetaf gan doriadau di-baid wrth fynd ar drywydd cyni a orfodwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Byddai’n ddiddorol gwybod o ble mae meinciau’r Ceidwadwyr yn awgrymu y bydd yr arian ar gyfer y 5,000 o athrawon ychwanegol yn dod. Cyfrifais y byddai'n costio £225 miliwn y flwyddyn mewn cyllid ychwanegol y byddai'n rhaid dod o hyd iddo, gan gynnwys yr holl argostau. Ac yng nghyd-destun y toriadau a orfodwyd gan San Steffan a’r argyfwng chwyddiant, mae hyn yn wirioneddol anodd.

Gwn nad yw meinciau’r wrthblaid yn naïf i ganlyniadau cyni. Fel cyn-gynghorydd, fe fydd yn cofio'r protestiadau gan ysgolion a rhieni pan fu'n rhaid iddo dorri cyllideb addysg yr awdurdod lleol. Nid yw toriadau'n dod heb ganlyniadau.

Nid ydym wedi mynd ar dywydd profi di-baid a marchnadeiddio addysg yng Nghymru oherwydd y straen sylweddol a achosodd hynny i'r bobl ifanc y bu’n rhaid iddynt sefyll yr arholiadau hynny, ac i’r staff a’r ysgolion a aseswyd ganddynt. Câi perfformiad disgyblion ei ddyfarnu ar sail profion yn hytrach na'u datblygiad. Nid ystadegau yw plant, ac ni all rhifau ar dudalen fyth adlewyrchu cynnydd yr unigolyn hwnnw'n iawn, na'r oriau o waith a wneir gan athrawon a staff cymorth.

Yng Nghymru, rydym yn ffodus i gael Llywodraeth oleuedig sy’n gwneud newidiadau sy’n darparu ar gyfer pob disgybl, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, gan ofalu am eu lles corfforol a meddyliol, chwaraeon a sgiliau bywyd hefyd. Gallem addysgu i safonau PISA yn unig, ond ai dyna’r safonau cywir? Pam y dylem addysgu i'r safonau hynny'n unig? Rydym am sefydlu system addysg sy’n cynhyrchu pobl ifanc cyflawn sy’n barod i fod yn rhan o'r gymdeithas ehangach, a dyna’r hyn y mae’r cwricwlwm newydd wedi’i lunio i’w gyflawni.

Nid yw'r cynnig hwn yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru academi sefydledig Seren ar gyfer y dysgwyr mwyaf galluog eisoes. Sefydlwyd y fenter, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn 2015, a'i diben yw sicrhau bod dysgwyr mwyaf dawnus Cymru yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial academaidd llawn, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd neu gymdeithasol. Nid yw’r cynnig ychwaith yn cydnabod bod adolygiad llawn o haen ganol addysg, gan gynnwys consortia rhanbarthol, eisoes wedi’i gynnal gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i hymrwymiad i asesu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru. Deallaf fod canfyddiadau’r adolygiad hwnnw yn yr arfaeth ar hyn o bryd.

Unwaith eto, nid yw’r cynnig yn sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid yn sylweddol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf, a bod y cyllid hwn wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft.

Mae gwersi i’w dysgu o ganlyniadau PISA, ond nid ydynt eto’n adlewyrchu’r gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y cwricwlwm newydd. Mae’r canlyniadau’n symptom o’r pandemig a’r argyfwng costau byw, sydd wedi taro Cymru’n galetach nag ardaloedd mwy cefnog y DU. Ni allwn ond gobeithio bod cyllideb nesaf Llywodraeth y DU yn cydnabod pa mor hanfodol yw cefnogi addysg a’r holl wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol ac y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Diolch.

Rwy’n ddiolchgar, fel cyn addysgwr, i gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae'n bwysig cofio ble rydym arni. Dyma’r gyfres waethaf erioed o ganlyniadau i Lywodraeth nad yw erioed wedi bod yn unrhyw beth ond y gwaethaf o ran addysg yn y DU. Islaw Lloegr, islaw'r Alban, islaw Gogledd Iwerddon ar bob pwnc, bob tro y cawsom ein hasesu. Yn wir, rydym yn is na gwledydd fel Slofenia a Hwngari gyda darllen, yn is na Twrci a Lithwania gyda gwyddoniaeth ac ar ôl Latfia a Fietnam gyda mathemateg. Ac nid y dadlau gwleidyddol arferol mo hyn. Mae'r pethau hyn yn wirioneddol bwysig. Mae safonau addysgol gwael heddiw yn gwneud ein heconomi'n llai cystadleuol yfory. Mae gweithlu heb sgiliau yn golygu bod yr economi honno ar ei hôl hi yn y ras fyd-eang. Ac mae methiant cyson Llywodraeth Lafur Cymru dros chwarter canrif i wella ein system addysg yng Nghymru yn golygu eu bod yn gyfrifol am genhedlaeth goll yma yng Nghymru.

Ac roedd y Gweinidog addysg yn awyddus iawn i nodi—ac rwy'n siŵr y bydd eto heddiw—mai'r pandemig a oedd ar fai am y set ddiweddaraf o ffigurau. Ond pe bai’n rhoi amser i ddarllen yr adroddiad, fe welai ar yr ychydig dudalennau cyntaf yn unig ddyfyniad sy'n dweud mai:

'ddim ond yn rhannol y gellir priodoli'r dirywiad i bandemig COVID-19';

roedd sgoriau mewn darllen a gwyddoniaeth eisoes wedi bod yn gostwng cyn y pandemig. Maent yn mynd rhagddynt wedyn er enghraifft i gyfeirio at 31 o wledydd a lwyddodd i o leiaf gynnal eu perfformiad mewn mathemateg yn ystod y pandemig. Dangosodd y gwledydd a'r economïau hynny nodweddion cyffredin: ysgolion yn cau am gyfnodau byrrach, llai o rwystrau i ddysgu o bell a chymorth parhaus gan athrawon a rhieni. Ond gwyddom ein bod ni yng Nghymru wedi colli mwy o ddiwrnodau ysgol i’r pandemig nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig a llawer o’r byd. A methodd Llywodraeth Cymru wneud trefniadau amserol i fynd i'r afael â'r effeithiau y byddai hynny’n eu cael ar addysg.

Ond wrth ddarllen yr adroddiad, y rhan fwyaf diddorol i mi o leiaf yw’r hyn a oedd gan y dysgwyr eu hunain i’w ddweud. Ac mae adroddiad PISA yn eithaf damniol yn hynny o beth hefyd. Canfuwyd mai myfyrwyr yng Nghymru a nododd y lefelau uchaf o 'deimlo fel rhywun o'r tu allan yn yr ysgol', 5.4 y cant; yn ysgolion Cymru y gwelwyd y lefelau uchaf o ymladd yn yr ysgol lle cafodd rhywun ei frifo, 47.5 y cant; dywedodd myfyrwyr eu bod wedi clywed myfyriwr yn bygwth brifo myfyriwr arall yn yr ysgol, 43 y cant; dywedodd myfyrwyr eu bod wedi gweld gangiau yn yr ysgol, 14.5 y cant; a dangosodd Cymru y lefelau uchaf o ailadrodd blynyddoedd mewn o leiaf un ysgol gynradd, ysgol uwchradd is neu ysgol uwchradd uwch, cyfartaledd o 3 y cant. Y ffigurau hynny yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac maent yn chwarae rhyw ran, yn fy marn i, i egluro pam fod ein canlyniadau asesiadau PISA mor wael.

Os nad yw ein disgyblion a'u hathrawon yn teimlo mor gyfforddus ag y gallant fod yn yr ystafell ddosbarth, nid yw'n syndod nad ydynt yn cyflawni eu potensial yn y dosbarth hwnnw. Dyna pam fy mod yn falch iawn o weld Gweinidog addysg yr wrthblaid, Laura Anne Jones, yn cyflwyno cynllun pum pwynt i fynd i’r afael ag ymddygiad treisgar mewn ysgolion, ond mae’n siomedig nad ydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd yr un camau ar y cynllun hwnnw.

Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf fod y dewis yn glir iawn heddiw. Gallwn gefnogi cynllun y Ceidwadwyr Cymreig, a fydd yn rhoi mwy o athrawon mewn ystafelloedd dosbarth, yn darparu mwy o gymorth i ddysgwyr ADY ac yn datblygu rhaglen well ar gyfer myfyrwyr dawnus ledled y wlad, neu gallwn gadw at yr un hen ddull gan Lywodraeth Lafur Cymru, sydd dro ar ôl tro wedi ein hoelio wrth waelod y tablau cynghrair addysg ac wedi torri cyllidebau addysg dro ar ôl tro. Dyna'r dewis sy'n ein hwynebu heddiw, a gwn sut y byddaf i'n pleidleisio.

17:55

Pan dynnais sylw am y tro cyntaf at fethiant parhaus y Llywodraeth hon a Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru i wella canlyniadau PISA, dywedwyd wrthyf fod hynny oherwydd dau beth. Y cyntaf oedd COVID, a’r ail oedd am nad oedd newidiadau deddfwriaethol y Llywodraeth mewn addysg wedi bod yn weithredol ers digon o amser i achosi newid.

Nawr, mae arnaf ofn na chredaf fod yr esgusodion parhaus hynny'n ddigon da mwyach. Mae Llafur a Phlaid Cymru ill dau wedi sefyll yn y Siambr hon ac wedi honni bod y pandemig yn un o'r ffactorau a achosodd y canlyniadau PISA gwael. Ond roedd y pandemig yn fyd-eang, ac wrth edrych ar graff o'r canlyniadau ers 2006, gallwn weld nad eithriad oedd 2022, ond yn hytrach mae'n dynodi dirywiad rheolaidd. Os mai’r pandemig a oedd ar fai, beth sy’n gyfrifol am y ffaith na fu unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol yn gyffredinol mewn cylch ar ôl cylch hyd yma? Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi gwaethygu'n barhaus mewn gwyddoniaeth. Ymhellach, er y nodwyd bod gwledydd eraill y DU hefyd wedi gwaethygu ychydig, mae hyn yn erbyn cefndir o gynyddu eu safleoedd yn barhaus ers 2006, a Chymru yw’r eithriad yma. Dywedodd cyfarwyddwr addysg a sgiliau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hyd yn oed fod y gostyngiad mewn sgoriau'n fwy tebygol o fod wedi'i achosi gan strwythurau sylfaenol mewn addysg, yn hytrach na’r pandemig. Clywsom gan y Gweinidog nad y newidiadau a roddwyd ar waith ganddo a oedd ar fai gan nad oeddent wedi cael digon o amser i weithio, a hynny er bod y Gweinidog yn honni bod eu llwybr o godi safonau wedi arwain at welliant cryf mewn safonau llythrennedd a rhifedd cyn y pandemig. Ddirprwy Lywydd, ni all y ddau beth fod yn wir; ni allwch ganmol eich newidiadau am wneud gwelliannau ar un law, a honni ar y llall nad yw eich newidiadau wedi cael digon o amser i weithio ar gyfer PISA.

Ymhellach byth, fel y clywsom ddoe, mae cyllideb ddrafft y Llywodraeth yn anghydnaws â’r addewidion y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar ôl y canlyniadau PISA. Yn wir, ni fydd y setliad llywodraeth leol—toriad enfawr mewn termau real o 3.1 y cant—yn helpu pethau. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn awyddus i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad mewn addysg, ond wedyn, gwelwn £100 miliwn yn cael ei dorri o’r gronfa i fynd i’r afael â rhwystrau i gyrhaeddiad. Dadleuwyd nad oedd y cwricwlwm newydd wedi cael digon o amser i weithio, ond wedyn, cafodd y cyllid ar gyfer y cwricwlwm ei dorri dros 50 y cant. Dywedwyd wrthym pa mor bwysig oedd cefnogi ysgolion mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond wedyn, torrwyd y cyllid ar gyfer datblygiad a chymorth i athrawon ychydig yn llai na 50 y cant.

Fel y dywedais yma o’r blaen, nid oes dim o'i le ar y Llywodraeth na’r Gweinidog yn cyfaddef eu bod wedi gwneud pethau’n anghywir, fel y mae llawer o Weinidogion addysg blaenorol wedi ei wneud. Mae’n amlwg fod y Llywodraeth wedi gwneud gormod o gamau gwag, gan olygu bod Cymru yn yr un sefyllfa'n union ag yr oedd ynddi bron i 20 mlynedd yn ôl. Ond nawr yw’r amser i feddwl yn hynod o galed ynglŷn â sut y gallwn drawsnewid 20 mlynedd o fethiant Llafur yng Nghymru. Mae plant angen addysg o safon wedi'i darparu gan weithlu addysgu y buddsoddir ynddo i’w arfogi i ddarparu’r addysg o’r radd flaenaf y mae ein myfyrwyr yng Nghymru yn ei haeddu. Diolch.

18:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, cynhaliwyd profion PISA yn 2022, pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal i gael eu teimlo ac roedd COVID yn dal i amharu'n ddifrifol ar addysg. Nid Cymru yn unig sydd yn y sefyllfa hon; mae COVID wedi effeithio ar berfformiad gwledydd ar draws y byd. Ers 2018, mae perfformiad cyfartalog yng ngwledydd yr OECD wedi gostwng 10 pwynt mewn darllen a bron 15 pwynt mewn mathemateg. Mae pob gwlad yn y Deyrnas Unedig wedi gweld dirywiad mewn perfformiad, ac mae'r OECD yn dweud yn glir fod angen inni fod hyd yn oed yn fwy gofalus na'r arfer wrth gymharu â Lloegr a'r Alban, oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel 'upward bias'. Mae'r OECD yn amcangyfrif y gallai eu canlyniadau nhw fod rhwng saith a naw pwynt yn uwch na'r ffigur gwirioneddol.  

Ond Ddirprwy Lywydd, rwyf eisiau bod yn glir: nid yw canlyniadau Cymru lle rwy'n dymuno iddynt fod. Yn 2018, yn groes i honiad Tom Giffard a Peter Fox, roeddem wedi dechrau gweld gwelliant cryf mewn safonau llythrennedd a rhifedd, diolch i waith caled ein gweithlu addysgu. Ni oedd yr unig wlad yn y DU i wella ym mhob un o'r tri maes PISA. Nid oes unrhyw amheuaeth fod COVID wedi cael effaith ar y gwelliant hwnnw. Fel Gweinidog addysg, rwyf wedi mynegi fy mhryder dro ar ôl tro ynghylch effeithiau hirdymor y pandemig ar ymddygiad, presenoldeb—fel y clywsom heddiw—a diddordeb mewn dysgu. Mae'r rhain i gyd wedi eu heffeithio, ac nid ydym ar ein pen ein hunain yn dweud hyn; mae Estyn wedi bod yn adrodd am y materion hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am brofion safonedig i fonitro perfformiad. Yn ddiweddar, penderfynais gyhoeddi ein hadroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol. Amlygodd hyn pa mor fregus yw llythrennedd a rhifedd ar draws pob blwyddyn, yn enwedig ers y pandemig, hyd yn oed cyn inni gael y canlyniadau PISA. I fod yn glir, nid oedd galwadau arnaf i wneud hyn gan y Ceidwadwyr nac unrhyw un arall. Fe'i gwneuthum er mwyn sicrhau tryloywder a gwella safonau. Efallai y bydd y Ceidwadwyr hefyd eisiau gwybod bod asesiadau personol eisoes yn orfodol mewn ysgolion ledled Cymru. Maent yno i gefnogi addysgu a dysgu, a bydd adroddiad cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol i olrhain cynnydd. Ochr yn ochr â hyn, dros y misoedd diwethaf cyhoeddais ein cynllun mathemateg a rhifedd a diweddarais ein pecyn cymorth darllen a llafaredd i egluro ein hymrwymiad i addysgu ffoneg yn systematig ac yn gyson, fel y nodir yn 'Ein cenhadaeth genedlaethol: safonau a dyheadau uchel i bawb'.

Nid yw'r cylch PISA hwn wedi asesu dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru, yn groes i honiad Peter Fox. Mae ein cwricwlwm newydd, ynghyd â'r newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a bydd yr adroddiad yn ein helpu i gryfhau'r gefnogaeth i ysgolion a dysgwyr ar y daith ddiwygio hon. Drwy gydol y cyfnod hwn, rwyf wedi gwrando ar addysgwyr, ac maent yn rhannu fy mhryderon ynghylch safonau llythrennedd a rhifedd ers y pandemig. Rhaid i'r sgiliau craidd hyn fod yn flaenoriaeth genedlaethol absoliwt.

Mae adroddiad PISA yn dangos bod y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf a lleiaf difreintiedig yn llai nag yn Lloegr a chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Ond nid wyf yn credu bod hyn yn adlewyrchu profiad byw ein dysgwyr a'n hysgolion ledled Cymru, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i leihau'r bwlch hwn, cefnogi pob dysgwr ac ymestyn ein pobl ifanc mwy galluog. Ar draws y byd, nid yw lefelau presenoldeb ysgolion wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Mae colli cyfnodau parhaus yn yr ysgol yn effeithio ar gyrhaeddiad plentyn a gall arwain hefyd at wneud iddynt fod â llai o ddiddordeb mewn addysg. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth i gefnogi ysgolion, fel cyllid ar gyfer mwy o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ond mae angen mwy o gefnogaeth. Bydd ein tasglu cenedlaethol ar bresenoldeb, y cyfeiriodd Sioned Williams ato, yn cyfarfod eto y mis hwn i'n helpu i feddwl yn greadigol ar draws y system i ddod o hyd i atebion i broblemau sy'n galw am ddylanwad a mewnbwn y tu hwnt i'r sector addysg.

Mae diwygiadau cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Ers 2020, rydym wedi buddsoddi dros £62 miliwn mewn refeniw a £40 miliwn mewn cyfalaf i gefnogi gweithredu'r system newydd. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn y flwyddyn i ysgolion i gynyddu adnoddau ar gyfer cefnogi rôl cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol a gwaith i sefydlu dull ysgol gyfan o gynllunio ar gyfer anghenion dysgwyr ADY a'u diwallu. Yn groes i nifer o honiadau camarweiniol yn y ddadl hyd yma, mae'r gyllideb ddrafft yn diogelu ymhellach ac yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn diwygio ADY ac yn cynyddu adnoddau i gefnogi dysgwyr ADY.

Mae'n bwysig cofio, Ddirprwy Lywydd, fod ein diwygiadau addysg hirdymor wedi dechrau cael eu teimlo erbyn hyn mewn ysgolion ar ôl blynyddoedd o gyd-ddatblygu gyda'r proffesiwn. Ond fel y dywed y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae gwelliannau o'r fath yn cymryd amser. Mae systemau sy'n gwneud yn dda yn darparu ymreolaeth i arweinwyr ysgolion lunio cwricwlwm a phwyslais ar hunanwerthuso, ond gyda mecanweithiau sicrhau ansawdd ac atebolrwydd clir. Dyma'r daith ddiwygio yr ydym arni. Mae tystiolaeth ryngwladol yn glir fod angen cefnogi dysgu o ansawdd uchel â dysgu proffesiynol a gwella ysgolion dros amser i gefnogi ysgolion mewn hinsawdd sy'n heriol i bob gweithiwr proffesiynol. Dyma'r hyn y byddwn yn ei flaenoriaethu ac yn ein cyllideb ddrafft, rwyf eisoes wedi nodi fy ymrwymiad i sicrhau bod cymaint o gyllid â phosibl yn mynd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol ac ysgolion i ysgogi'r gwelliant mewn safonau.

Ddirprwy Lywydd, gwyddom mai athrawon rhagorol yw'r allwedd i addysg dda a byddwn yn cynorthwyo ein hathrawon i ganolbwyntio ar addysgu a'u dysgu proffesiynol drwy barhau â'n gwaith gydag undebau a phartneriaid eraill i leihau llwyth gwaith diangen. Mae codi safonau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn galw am ymateb system gan bob arweinydd addysg yng Nghymru, ac rwy'n dod â'n partneriaid ynghyd i ddatblygu ymateb cyffredin a chynhwysfawr i'r her hon, gydag addysgu rhagorol yn ganolog iddo.

Mae ein gweithlu addysg yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi ein disgyblion, ond y gwir amdani yw bod dros ddegawd o gyni yn parhau i wneud eu gwaith yn galetach. Rwy'n parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth yn fy ngallu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, gan roi'r offer sydd eu hangen ar ein hathrawon i wneud y gwaith gorau posibl.

18:05

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Mae addysg ein pobl ifanc ledled Cymru yn flaenoriaeth i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yma a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein pobl ifanc ledled Cymru yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu a'r addysg y mae trethdalwyr y wlad hon hefyd yn talu amdano.

Rwyf am ddechrau hyn drwy siarad am Laura Anne Jones, a nododd Laura y gostyngiad yn y tueddiadau addysgol yma yng Nghymru. Soniodd hefyd am yr angen inni ei gael yn iawn yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn pan edrychwn ar addysg—mae angen inni sicrhau bod gennym system ar waith sy'n addas i'n holl ddysgwyr ac sy'n gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr addysg sydd ei hangen.

Siaradodd Laura hefyd, a siaradodd nifer o'r Aelodau, am y diffyg cyllid ar gyfer ein darpariaeth ADY yn yr ysgolion. Rwyf wedi bod yn aelod o'r pwyllgor ers i mi fod yma, ac rwy'n clywed dro ar ôl tro, ynghyd ag Aelodau eraill ar draws y Siambr hon, nad oes arian yn mynd tuag at ADY yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yma'n dweud bod digon o arian yn mynd tuag ato, ond gallaf ddweud wrthych y bydd ein hysgolion a'n hathrawon yn dweud stori hollol wahanol.

Tynnodd Laura Anne Jones sylw hefyd at yr angen i edrych ar wahanol ffyrdd o reoli addysg yma yng Nghymru, gyda'r model ysgolion rhydd neu academi, ac rwy'n credu weithiau fod y Llywodraeth ychydig yn amharod i wrando ar syniadau newydd yma ac edrych ar fodelau eraill o ddarparu addysg, a hynny'n unig am ei fod yn cael ei wneud yn wahanol dros y ffin.

Fe wnaeth rhywun godi cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn mynd i dalu am y pethau hyn, ond gellid edrych ar y consortia addysg rhanbarthol, fel y soniodd Laura Anne Jones, fel ffordd o ailflaenoriaethu'r gyllideb i ryddhau rhywfaint o arian i gyflawni'r hyn y dymunwn ei weld. Daeth Sioned Williams i mewn hefyd ar yr angen i bwyso a mesur ac edrych ar y canlyniadau hyn a gwneud yn siŵr ein bod yn eu dadansoddi'n iawn ac yn dechrau cyflawni ar gyfer ein plant ledled Cymru, a thynnodd sylw hefyd at yr anghydraddoldeb i bobl ledled Cymru, ac mae angen inni sicrhau nad oes gennym anghydraddoldeb yn ein system addysg, i sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni'r pethau y maent eisiau eu cyflawni, a hefyd, ar yr elfen ADY, gan sicrhau bod darpariaeth ADY ar gael yn y Gymraeg, oherwydd ni waeth beth yw eu hiaith ledled Cymru, dylai unrhyw un allu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a pheidio â chael trafferth am nad ydynt yn siarad Saesneg. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylai'r Llywodraeth ystyried ei weithredu yma.

Agorodd Sam Rowlands drwy fynd â ni ar daith ar hyd lôn atgofion. Roedd yn braf ei fod wedi ein hatgoffa pa mor hir y mae Jane Hutt wedi bod yn Weinidog yma yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu mai chi yw'r Gweinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hemisffer y gogledd erbyn hyn. Hefyd, fe wnaeth Sam bwynt da iawn nad yw ei blant a phlant pobl eraill yma yng Nghymru yn mynd i gael yr un cyfleoedd bywyd ag y byddant yn eu cael mewn rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem i gyd ei gymryd o ddifrif—y dylai pob plentyn yng Nghymru gael cyfle i gyflawni lawn cymaint ag unrhyw un arall. Cydnabu Sam hefyd y gwahaniaethau rhwng y sefydliadau addysgol sydd gennym yn Lloegr a ddarparwyd gan Weinidogion addysg Ceidwadol blaenorol i geisio gwella safonau addysgol yn Lloegr, sy'n well nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig gyfan.

Carolyn Thomas, ie, fe gawsom y drefn arferol o feio Llywodraeth y DU am bopeth a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi siomi pawb. Weithiau, rwy'n credu bod angen ichi edrych ychydig yn agosach at adref. Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi bod mewn grym yma ers bron i 25 mlynedd bellach, ac addysg wedi'i datganoli dros y cyfnod hwnnw o amser. Felly, os nad ydych am edrych ar safonau addysgol, credaf y dylech edrych ar eich grŵp eich hun yno i weld sut y gallant wella addysg, yn hytrach na beio Senedd arall ar ben draw'r M4.

Ond rwyf am ddweud un peth, fe sonioch chi am raglen Seren mewn perthynas â chyflawni ar gyfer ein dysgwyr gorau, ac mae rhaglen Seren yn un peth rwy'n eithaf hoff ohono, yn bersonol. Ond un peth bach rwy'n poeni amdano gyda Seren yw ei bod yn gweithio'n ardderchog mewn rhai rhannau o'r wlad, ond mewn rhannau eraill o'r wlad nid yw'n gweithio cystal. Felly, os ydym yn mynd i gael rhaglen sy'n darparu ar gyfer ein dysgwyr gorau ledled Cymru, mae angen iddi gyflawni ar gyfer pawb, a pheidio â bod yn dameidiog ar draws y wlad.

Dywedodd Tom Giffard hefyd ein bod yn gwneud cam â'n dysgwyr yma yng Nghymru gyda'n safonau addysgol gwael a bod Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn gyfrifol am genhedlaeth goll o bobl ifanc nad ydynt yn cael y cyfleoedd bywyd y bydd pobl o'r blaen yn eu cael, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i bawb ohonom edrych arno. Soniodd hefyd, fel y gwnaeth eraill, fod y Gweinidog a'r Llywodraeth yn beio COVID am bopeth. Cododd Sioned Williams hyn hefyd. Os yw'r Llywodraeth yma, y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, yn credu bod COVID wedi cael cymaint o effaith ar addysg plant ledled Cymru, nid wyf yn gweld pam na all y Gweinidog addysg ddweud, os mai ef yw'r Prif Weinidog nesaf, y byddwn yn cael yr ymchwiliad COVID yma yng Nghymru fel y gallwn edrych ar y pethau hyn yn iawn a dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif am y penderfyniadau a wnaethant yn ystod y pandemig COVID-19.

Soniodd Peter Fox hefyd am weithrediad y cwricwlwm newydd a bod hynny'n rheswm arall y mae'r Llywodraeth yn ei feio am PISA, ond mae'n ddrwg gennyf, rydym wedi gweld diwygiadau addysgol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae addysg yn gwella, felly nid wyf yn gweld sut y gall y Llywodraeth barhau i ddefnyddio'r esgusodion hyn am eu perfformiad gwael ar addysg. Hefyd, mae'r dirywiad mewn gwyddoniaeth yn rhywbeth sy'n cael ei nodi gan lawer o gyrff, yn yr ystyr fod angen inni ddysgu ein pobl ifanc am wyddoniaeth a'r pynciau craidd hynny i sicrhau bod gan bob un ohonynt gyfleoedd bywyd yn y byd modern a'r union swyddi a sgiliau newydd sy'n ymddangos. A hefyd y toriadau llywodraeth leol. Mae Peter ac eraill yn y Siambr hon wedi bod mewn llywodraeth leol, a gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar y gyllideb, ac mae'r gyllideb y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno yn mynd i roi pwysau difrifol ar ein hysgolion a'n llywodraeth leol. Nid wyf yn credu bod y Llywodraeth yn deall yn iawn faint o bwysau y byddant yn ei roi ar ein dysgwyr.

Ac yna clywsom gan y Gweinidog ei hun ac fe gyfeiriodd yn ôl eto at COVID fel esgus dros y canlyniadau gwael hyn, ac rwy'n ofni bod yr esgusodion yn denau iawn bellach. Mae angen inni ddechrau gweld gwelliannau, ac os yw'r Gweinidog yn llwyddiannus fel Prif Weinidog, mae'n ymddangos ei fod yn rhoi addysg fel un o'i flaenoriaethau allweddol, felly gadewch inni weld a all wneud y gwelliant hwnnw, wrth eistedd efallai mewn cadair newydd ychydig ymhellach i fyny o'r fan lle mae'n eistedd nawr. Ond fe soniodd y Gweinidog hefyd am rai o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu gwneud i wella addysg, ond nid yw'n gweithio, oherwydd daw hyn gan Lywodraeth sy'n brin o syniadau, sy'n brin o gynllun.

Y broblem nawr gyda'r Llywodraeth hon yw eu bod wedi bod mewn grym mor hir nes ei bod yn dechrau gweithredu diwygiadau ar ddiwygiadau a gyflwynwyd ganddi yn gynt, oherwydd eu bod yn methu. Felly, un ffordd yn unig sydd yna o wella canlyniadau addysgol pobl yma yng Nghymru yn fy marn i: cael gwared ar Lafur, ethol Llywodraeth newydd yma yng Nghymru, Llywodraeth newydd gyda syniadau beiddgar, syniadau ynglŷn â sut y gallwn wella canlyniadau addysgol pobl yng Nghymru, a Llywodraeth sydd am roi ein plant yn gyntaf. Yr unig ffordd y credaf y gallwn wneud hynny yw gyda Llywodraeth Geidwadol Gymreig yma ym Mae Caerdydd, ac mae'n hen bryd eu bod nhw'n treulio mwy o amser fan yma a'n bod ni'n treulio mwy o amser fan acw.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar dlodi plant a chyrhaeddiad addysgol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8445 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran enillion; a

b) gweithredu targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant derfynol i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi ei nodi a'i ddyfynnu yn y lle hwn am effaith tlodi plant a'r angen dybryd a brys i wella sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r hyn sy'n atal hyd at draean o'n plant rhag cyrraedd eu llawn botensial—sut mae tlodi yn cael effaith andwyol o ran iechyd corfforol a meddyliol, sut mae'n achosi trawma niweidiol sy'n cael effaith gydol oes. Yn gynt heddiw, fe fuon ni'n trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dwi'n aelod ohono ar strategaeth tlodi plant ddrafft y Llywodraeth; drafft gwan, yng ngolwg pob arbenigwr ar dlodi a hawliau plant, o strategaeth sy’n dal heb gael ei chyhoeddi. Fe glywon ni dystiolaeth am her cyrhaeddiad yr Alban sy'n edrych ar y gwahaniaeth yn y bwlch cyrhaeddiad yn sgil tlodi; y ffocws tyn a'r cyllid sy'n cael ei neilltuo i sicrhau cau'r bwlch hwnnw.  Ddoe, fe fuon ni'n trafod cyllideb ddrafft y Llywodraeth, ac fe danlinellwyd gan y Llywodraeth ei hun sut y bydd toriadau i wasanaethau a chefnogaeth yn siŵr o gael effaith andwyol ar y rhai sydd fwyaf angen cymorth.

Mae'r cynnig ger eich bron nawr yn tynnu sylw at un o brif effeithiau tlodi plant, sef y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol, a nod ein dadl yw galw am weithredu gan y Gweinidog addysg i gau y bwlch cyrhaeddiad drwy gymryd camau pendant a fydd yn lleddfu effaith tlodi ar ddysgwyr. Mae'n cynnig yn nodi bod canlyniadau ac arolwg PISA wedi tanlinellu'r hyn sydd eisoes yn hysbys i nifer ohonom drwy'r adroddiadau niferus rŷn ni’n eu derbyn ac yn darllen, drwy ein gwaith craffu ac ymchwiliadau pwyllgor, a thrwy ein gwaith achos, sef bod plant a phobl ifanc yn dioddef yn sgil eu hamgylchiadau economaidd, ac mae hyn yn arwain at gylch dieflig o anghydraddoldeb sy'n amharu ar eu gallu i dorri'n rhydd o fagl tlodi drwy gyrhaeddiad addysgol.

Wrth gwrs, mae yna lawer o ffactorau sy'n cyfrannu at ganlyniadau PISA siomedig Cymru, ac mae’r ffactorau hynny yn cynnwys materion yn ymwneud â'r gweithlu ac effeithiau COVID, ond ni ellir gwadu mai un o’r prif ffactorau yw tlodi plant a’r effaith y mae’n ei gael ar gyrhaeddiad ein plant, gyda mwy nag un o bob pump plentyn yn dweud yn yr adroddiad eu bod yn teimlo bod sefyllfa ariannol eu teuluoedd wedi cael effaith ar ba mor dda y maent yn gwneud yn yr ysgol.

Dyna pam mae gwelliant y Llywodraeth i'n cynnig nid yn unig yn siomedig, ond y mae hefyd yn annerbyniol, a bod yn berffaith onest. Mae eu gwelliant yn dileu pwynt 4 ein cynnig, sy'n galw am un cam pendant a chlir, sef sicrhau nad yw plant yn ein hysgolion cyfun sy’n byw mewn tlodi, ond sy’n anghymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim, yn gorfod ceisio dysgu tra'n llwglyd. Mae'r rhesymeg y tu ôl i'r alwad yn un sydd wedi ei derbyn gan y Llywodraeth o ran ysgolion cynradd—diolch i'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru—ac mae'n alwad sy'n cydnabod bod arian yn dynn ac felly'n gofyn yn y lle cyntaf am sicrhau nad yw plant sydd mewn tlodi yn colli mas, sef plant sy'n dod o aelwydydd sy'n derbyn credyd cynhwysol, ond yn anghymwys. Mae'n alwad resymol a fydd yn talu ar ei chanfed, ac mae'n alwad sy'n ymateb yn uniongyrchol i'r sefyllfa annerbyniol ac anghynaliadwy a ddadlennwyd gan adroddiad PISA, bod 11 y cant o blant yn mynd heb fwyd yn rheolaidd. Mae hynny dros un ymhob 10. Ac mae'r ffigwr yna yn siŵr o fod yn uwch mewn gwirionedd o gofio cyfran tlodi plant yng Nghymru, a hefyd y stigma sydd ynghlwm wrth dlodi, fyddai'n atal nifer o'n pobl ifanc yn eu harddegau rhag cyfaddef natur ac effaith eu hamgylchiadau. Achos wrth gwrs er bod yna groeso i'r mesurau sydd wedi eu rhestru yn eich gwelliant—.

18:20

Er bod yna groeso i'r mesurau sydd wedi eu rhestru yn eich gwelliant, mae'r datganiad ynddo fod y Llywodraeth yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn un anodd, mewn gwirionedd, i gytuno ag e. Janet.

Diolch. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a wnewch, ond mae'n debyg eich bod wedi fy nghlywed yn sôn yma sawl gwaith am fy rhwystredigaeth lwyr a fy ngofid ynglŷn â'r ffaith bod cymaint o blant bellach yn byw mewn llety dros dro, fel gwestai a llety gwely a brecwast. Fe sonioch chi am fwyd a maeth; sut mae teuluoedd, sut mae plant yn cael bwyd os ydynt yn byw mewn ystafell mewn gwesty?

Rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna pam mae angen inni sicrhau cyfiawnder ym maes tai ac mae gennym fesurau, wrth gwrs, yn y cytundeb cydweithio i geisio mynd i'r afael â'r broblem honno.

I fynd nôl i'r pwynt roeddwn i'n sôn amdano fe, achos y rheswm dwi'n anghytuno â'r datganiad yma gan y Llywodraeth taw addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw'r ffactor pwysicaf wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yw, os yw plentyn yn llwglyd yn yr ysgol, mae'n anos iddynt ganolbwyntio, yn anos iddynt ddysgu'n effeithiol ac mae ymchwil wedi dangos y bydd y plentyn hwnnw yn colli hyd at yr hyn sy'n cyfateb i werth awr o addysgu y dydd. Felly, os yw plentyn yn llwglyd unwaith yr wythnos, byddan nhw'n colli'r hyn sy'n cyfateb i wythnosau o addysg dros eu cyfnod yn yr ysgol gyfun. Dwi ddim yn bwriadu ailadrodd yr holl ymchwil sydd wedi ei wneud yn rhyngwladol i brofi hyn, rŷn ni wedi clywed y dadleuon hyn droeon dros y blynyddoedd diwethaf, ond dwi'n meddwl bod angen inni edrych o ddifri ar y cynnig yma.

Mae'n gofyn am wariant, ydy, ond gwariant rhesymol. Yn ôl adroddiad y grŵp arbenigol ar gostau byw, byddai wedi bod yn bosibl gweithredu hyn ers Medi y llynedd drwy'r system cerdyn rhagdalu gyda chyllid ychwanegol o £3.8 miliwn. Mae'r adroddiad yn nodi y byddai'r cam hwn wedi bod o fudd sylweddol i aelwydydd incwm isel gan y byddai gwariant fel hyn yn golygu arbediad cyfartalog i aelwydydd o dros £1,200 y flwyddyn, heb sôn am y buddion, wrth gwrs, i iechyd a'r buddion addysgol. Pe bai gennym dargedau statudol yn y strategaeth tlodi plant pan ddaw i'r fei o'r diwedd, gallem fesur gwerth y gwariant yna a'i gyfraniad at allbwn pendant, sef cau'r bwlch cyrhaeddiad, y graith yma sy'n anharddu ac yn bygwth dyfodol gormod o'n plant a lles ein cenedl.

Hoffwn sôn yn benodol hefyd am y rhaglen gwyliau ysgol sy'n cael ei chrybwyll yng ngwelliant y Llywodraeth. Mae'n rhaglen hynod werthfawr, wrth gwrs, ond fel mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Heledd Fychan, wedi codi sawl tro yn y Siambr hon, nid yw'r rhaglenni hyn yn cyrraedd hyd yn oed y cyfan o'r plant sy'n gymwys am brydau bwyd am ddim; mae bwlch o rai degau o filoedd o blant rhwng pump a 15 oed, heb sôn am bob plentyn mewn tlodi.

Amlygwyd y cysylltiad rhwng lefelau uchel o ddiffyg bwyd a chyrhaeddiad mewn ysgolion yn adroddiad blynyddol Plant yng Nghymru ar gyfer 2023 hefyd. Yn yr adroddiad yma, mae’n nodi bod teimlo'n llwglyd i’w weld yn effeithio’n sylweddol ar y gallu i ganolbwyntio ac ymgysylltu â dysgu. Nododd yr ymarferwyr yn yr adroddiad fod llawer o blant mor llwglyd nes eu hunig ffocws oedd bwyd, a phryd neu a fyddant yn bwyta nesaf.

Mae Heledd Fychan hefyd wedi galw am weithredu ar gostau'r diwrnod ysgol. Er bod addysg i fod am ddim, rydym yn ymwybodol bod teuluoedd yn cael eu gofyn yn gyson ac yn barhaus am arian tuag at gostau pethau fel teithiau, cludiant, gwisg ysgol, offer ac yn y blaen. Yn ogystal â hyn, pan na all plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd oherwydd cost, maent yn colli mas ac yn teimlo eu bod nhw wedi’u cau mas, gan ei gwneud yn anoddach iddynt ddysgu ac ymgysylltu.

Mae'r camau sydd wedi cael eu cymryd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn eto, wrth gwrs, i'w croesawu, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pob corff llywodraethol, er enghraifft, yn gweithredu polisi gwisg ysgol sy'n dileu ac nid yn creu anghydraddoldeb. Mae teimlo cywilydd am wisg ysgol yn cyfrannu at lefelau absenoldeb—rhywbeth sydd hefyd wrth gwrs yn ffactor o ran y bwlch cyrhaeddiad.

Yn eu hadroddiad ar fudd-daliadau Cymreig a gyhoeddwyd ddoe, mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw penodol at y ffaith bod effeithiolrwydd y grant hanfodion ysgol yn destun pryder o ran hyn. Roedd rhai rhieni a gafodd eu holi yn eu gwaith ymchwil yn feirniadol o benderfyniadau sy'n cael eu cymryd gan ysgolion sydd yn tanseilio'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu trwy'r grant. Er enghraifft, meddai Llinos, rhiant sengl a gafodd ei holi ym Mhantri Hope, Merthyr Tudful: 'Rwy'n derbyn y grant gwisg ysgol sydd wedi bod o gymorth mawr ond mae'r ysgol wedi newid y cit ymarfer corff yn ddiweddar ac mae'n teimlo bod yr help nawr wedi ei wastraffu.'

Mae'r un adroddiad gan y Sefydliad Bevan hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw pobl ar incwm isel yn gymwys ar gyfer nifer o'r mathau o gymorth sydd yn cael eu rhestru yng ngwelliant y Llywodraeth, bod y cymorth yn anodd i'w gael ato yn aml, a bod gwerth y grantiau hyn hefyd yn cael ei erydu dros amser. Ac rwy'n dyfynnu:

'Mewn rhai amgylchiadau, nid yw pobl sy'n cael budd-daliadau hyd yn oed yn gymwys i gael grantiau a lwfansau Cymreig am fod eu hincwm yn rhy uchel. Y ddau fudd-dal sy'n dangos hyn orau yw'r Grant Hanfodion Ysgolion a Phrydau Ysgol am Ddim (yn yr ysgol uwchradd). Byddai plentyn y mae ei deulu'n cael Credyd Cynhwysol ond yn gymwys o dan y naill gynllun neu'r llall os yw enillion yr aelwyd yn llai na £7,400 y flwyddyn. Mae trothwy mor anhygoel o isel yn golygu bod miloedd o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn cael eu hamddifadu o gymorth bob blwyddyn'.

Mae'r comisiynydd plant yn glir bod angen ystyried absenoldeb parhaus yng nghyd-destun tlodi, gan ddweud bod mynd i'r afael â thlodi plant yn gorfod bod yn sbardun allweddol i leihau absenoldeb. Roedd yn bryderus felly ei chlywed hi'n sôn yn ddiweddar wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei bod hi'n teimlo bod Gweinidogion wedi bod yn llai agored i'w mewnbwn ar dlodi plant ac yn llai hyderus ei bod hi'n cael dylanwad cadarnhaol ar hynny na meysydd eraill. Ac mae Cadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, wedi tynnu sylw at hyn mewn llythyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dwi'n aelod ohono, yn dweud bod Llywodraeth Cymru heb nodi'n glir yn ei ymateb i'w hadroddiad blynyddol hi—adroddiad y comisiynydd—a yw e wedi derbyn neu wrthod pob argymhelliad, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, sy'n gwneud monitro wrth gwrs yn anodd, ac yn fodd anhryloyw o weithredu. Mae'n destun pryder, felly, o gofio'r cysylltiad clir yna rhwng tlodi a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

Rwyf wedi codi sawl pwynt wrth agor y ddadl ar y mater pwysig hwn sy'n greiddiol i lewyrch ein cenedl i'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau gan Aelodau, ac yn gobeithio y bydd y Gweinidog wrth ymateb yn derbyn bod ein cynnig yn un adeiladol, wedi ei seilio ar dystiolaeth gadarn, yn ymarferol, ac yn synhwyrol. Diolch.

18:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Y Gweinidog addysg, felly, i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Yn croesawu:

a) gwell ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.

b) diogelu yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.

c) y gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn ymhellach.

d) y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.

e) rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.

Yn nodi bod canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Ffurfiol.

Wedi ei gynnig yn ffurfiol. Laura Anne Jones, nawr, i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5. Laura Anne Jones.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 4, dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:

hyrwyddo'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n cael Credyd Cynhwysol;

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

mynd i'r afael â'r tanberfformiad economaidd sy'n achosi tlodi plant yng Nghymru;

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rhaglenni sy’n cael eu hariannu â grantiau;

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cydnabod bod atebion syml sy'n canolbwyntio ar eu galluogi i gael y gorau o addysg prif ffrwd, yn hollbwysig i'r mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi;

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mae'r ddadl heddiw yn un bwysig, ac rwy'n falch o'r cyfle, am yr eildro heddiw, i daflu goleuni ar fethiannau Llafur Cymru dros ddegawdau, wedi'u cefnogi gan eu cymheiriaid cenedlaetholgar wrth gwrs. Felly, roeddwn yn synnu braidd fod ganddynt yr wyneb i gyflwyno'r ddadl hon. Un pwynt allweddol yn y ddadl heddiw na ddylid ei anwybyddu—

Na wnaf—yw'r cynnydd parhaus—[Torri ar draws.] O, ewch amdani 'te.

Rydych chi'n galw enwau arnom ac nid ydych yn fodlon derbyn ymyriad.

O, da iawn. A fyddech chi'n derbyn bod ymchwil ryngwladol yn dangos bod prydau ysgol am ddim i bawb, sydd wedi'u cyflwyno drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru mewn ysgolion cynradd, yn un o'r ffyrdd allweddol o leihau tlodi plant, neu a ydych chi'n anghytuno â'r holl dystiolaeth ryngwladol sy'n cefnogi hynny?

Mae'n ddiddorol nad ydych chi am ei barhau dros wyliau'r ysgol felly.

Rydym eisiau hynny, fel mae'n digwydd. Mae Plaid Cymru eisiau hynny.

Mae Plaid Cymru eisiau hynny, ond rydych chi wedi cael eich siomi gan eich cymheiriaid ar hynny. Mae'n ddiddorol gweld pa fath o glymblaid sydd gennych mewn gwirionedd, onid yw?

Meddai'r Dirprwy Weinidog. Un pwynt allweddol yn y ddadl hon na ddylid ei anwybyddu yw'r bwlch cyrhaeddiad addysgol sy'n cynyddu'n barhaus yng Nghymru. Cadarnhaodd Sefydliad Joseph Rowntree—[Torri ar draws.]

Gadewch i'r Aelod barhau. Rydych chi i gyd yn eistedd ac yn gwneud sylwadau—gadewch inni wrando ar yr Aelod, os gwelwch yn dda. Laura Anne Jones.

18:30

Rydych chi'n lwcus nad yw'n glymblaid. Un pwynt allweddol yn y ddadl heddiw na ddylid ei anwybyddu yw'r bwlch cyrhaeddiad addysgol sy'n cynyddu'n barhaus yma yng Nghymru. Cadarnhaodd Sefydliad Joseph Rowntree yn ei adroddiad yn 2013 fod perfformiad addysgol plant o gefndiroedd tlotach, o'i gymharu â'u cyfoedion o gefndiroedd mwy llewyrchus, yn dystiolaeth glir o effaith tlodi ar gyflawniad. A datgelodd ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith anghydraddoldebau addysgol ledled Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, fod ysgolion Cymru yn dioddef bwlch anfantais ehangach nag ysgolion Lloegr. Gwelwn fod ffigurau ar effaith anghydraddoldeb addysgol ar gyfer 2019—caiff ei fesur yn ôl sawl mis y mae dysgwyr y tu ôl i ble y dylent fod yn addysgol—wedi datgelu bod bwlch anfantais Cymru yn 22 i 23 mis, gyda'r bwlch yn gulach yn Lloegr, sef 18 mis. Mae'r ffigurau hyn hyd yn oed yn fwy brawychus pan ystyriwn fod y ffigurau wyth mlynedd ynghynt yn 2011 ar gyfer Cymru yn 24 mis, gan ddangos pa mor araf yw'r gyfradd welliant.

Ar ben hynny, mae'r rhan o Loegr sydd â'r bwlch anfantais gwaethaf, Blackpool ar 25 mis, yn dal i berfformio'n well na Wrecsam, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, gan ddangos cymaint yw'r gwahaniaeth. Mae disgyblion sydd dan anfantais barhaus yn profi bylchau anfantais sylweddol, gyda'r rhai yng Nghymru yn dioddef bwlch anfantais parhaus o 29 mis, ond yn Lloegr mae'n 23 mis. Yn hytrach na bod y bwlch yn dangos unrhyw arwyddion o leihau, mae disgwyl y bydd cyfanswm y disgyblion yn y categori hwn yn cynyddu. Mae'n amlwg nad oes gan Lafur Cymru a Jeremy Miles syniad na chynllun clir sut i gau'r bwlch hwn yn briodol, er gwaethaf ei holl falu awyr yn ei ddarn diweddar ar LabourList. Dylai cyrhaeddiad addysgol fod yn flaenoriaeth graidd i unrhyw un yn y Llywodraeth, ac eto mae wedi dod yn fetrig a anghofiwyd gan y Llywodraeth hon. Pan fyddwch chi'n cysylltu hyn â thoriadau a welsom i'r gyllideb addysg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n ddigalon iawn.

Fodd bynnag, nid drwy'r bwlch cyrhaeddiad yn unig y mae Llafur Cymru yn gwneud cam â'r genhedlaeth nesaf. Yn y canlyniadau PISA diweddaraf, Cymru yw'r gwaethaf yn y DU am y chweched tro yn olynol.

Do, ac mae'n werth ei ddweud eto, Ddirprwy Weinidog. A hoffech chi wneud ymyriad ar ganlyniadau PISA? Efallai y dylech fod yn dawel felly, a gwrando.

Mae'r Gweinidog wedi beio COVID am y canlyniad hwn, ac eto nid oedd rhannau eraill o'r DU mor ddrwg, a bu'n rhaid iddyn nhw ymdopi â'r pandemig. Mae'n esgus tila, o gofio bod y problemau yng Nghymru yn dyddio o'r amser cyn y pandemig. Ond gan fod y Gweinidog wedi bod yn y swydd ers pedair blynedd bellach, byddai'n golygu fel arall y byddai'n rhaid iddo dderbyn bod y parhad hwn o fethiant wedi digwydd o dan ei oruchwyliaeth ef, ac ni fyddai hynny'n adlewyrchu'n dda ar ei ymdrechion presennol i ddod yn Brif Weinidog wrth gwrs. Efallai hefyd mai dyna pam, ar ôl clywed y canlyniadau, y gwnaeth y Gweinidog wrthod gosod y targed unwaith eto ar gyfer y set nesaf o brofion PISA ymhen tair blynedd, neu'r un ar ôl hynny. Dywedodd mai ei uchelgais, ac rwy'n dyfynnu, oedd y byddai 'canlyniadau gan bobl ifanc yn eu harddegau yn gwella y tro nesaf'. Ac mae'n werth dweud eto fod y Gweinidog yn gwrthod cael ei ddwyn i gyfrif am ei fethiannau, ac nid yw am wynebu craffu ar flynyddoedd o fethiant.

Yn olaf, hoffwn grybwyll prydau ysgol am ddim. Mae Llafur wedi tanariannu ysgolion er mwyn bwrw ymlaen â'u prydau ysgol am ddim i bawb, ar ôl camfarnu'n ddifrifol beth fyddai'r gost sy'n gysylltiedig â'i weithredu, sy'n fai arnoch chithau hefyd, Blaid Cymru. Nid oedd yr ysgolion i gyd yn ddigon parod i ddarparu ceginau mwy o faint neu i allu bwydo cymaint yn fwy o blant. Mae cynghorau ac ysgolion wedi gorfod ysgwyddo cost ychwanegol y polisi, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi gweld yn dda i gwtogi'r gyllideb addysg. Rydym wedi gweld Plaid Cymru'n cynnal y Llywodraeth hon dros y tair blynedd diwethaf, a beth sydd ganddynt i'w ddangos am hynny? Mae Llywodraeth Cymru wedi methu darparu prydau ysgol am ddim i bawb dros wyliau'r ysgol. Ai dyna a ragwelwyd gennych? Ond mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi parhau â'u gweithgareddau gwyliau a'u rhaglen fwyd ar gyfer Lloegr, gan ddarparu cymorth i'r plant mwyaf agored i niwed sy'n cael prydau ysgol am ddim.

Unwaith eto, rydym wedi gweld y geiriau i fachu penawdau gan y Llywodraeth hon, tra bo polisi blaenllaw eich clymblaid wedi ei gyflawni'n wael. Mae'n gwneud imi holi pam ar y ddaear y mae Plaid Cymru wedi bod yn cynnal y Llywodraeth hon ers tair blynedd. Rhaid bod gweld eich syniadau polisi yn methu yn gwneud i chi sylweddoli mai chi yw'r partner gwannach ac nad yw hynny'n talu. Ond nid oes fawr o wahaniaeth rhwng y ddwy blaid. Mae'n profi'r hen ddywediad, os pleidleisiwch dros Blaid Cymru, fe gewch Lafur, ac os pleidleisiwch dros Lafur, fe gewch Blaid Cymru. Mae'r ddwy ohonoch i'ch beio am bopeth y cwynwch yn ei gylch heddiw. Nid oes gennych lawer i fod yn falch ohono.

Fe wnaethoch chi geisio rhoi Plaid Cymru mewn grym—

Mae'n ddrwg gennyf, mae'r Aelod wedi gorffen, felly eisteddwch, Mike. Rhowch gynnig arni eto yn nes ymlaen. Cefin Campbell.

Diolch, Llywydd. Rwy'n credu bod tueddiad inni feddwl am dlodi fel problem drefol, ond mae tystiolaeth yn dangos bod plant mewn ardaloedd gwledig yr un mor debygol o ddioddef o effeithiau tlodi â'u cymheiriaid mewn dinasoedd a threfi. Er enghraifft, yn ôl data Sefydliad Bevan a Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, mae gan Geredigion, ar 30 y cant, yr ail gyfradd uchaf o dlodi plant o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cyfraddau tlodi plant yng nghefn gwlad Cymru wedi'u gwneud yn waeth gan yr argyfwng costau byw presennol, sydd wedi'i deimlo'n fwy difrifol gan aelwydydd gwledig. Mae'r aelwydydd hyn wedi cael eu taro gan yr hyn y mae Sefydliad Bevan wedi'i alw'n 'ergyd driphlyg', sef costau uchel, incwm isel, a chymorth annigonol gan y wladwriaeth.

Mae tlodi tanwydd, trafnidiaeth gyhoeddus ddiffygiol a chostau bwyd i gyd yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r Centre for Progressive Policy wedi dangos bod lleoedd gwledig ac anghysbell, gan gynnwys trefi a phentrefi bach yng Nghymru, wedi bod yn fwy agored i chwyddiant uchel oherwydd lefelau uchel o dlodi tanwydd, ynghyd â ffactorau lleol eraill megis prisiau bwyd uwch a chyfraddau cyflog is.

Yn ôl data'r Ganolfan Polisi Blaengar (CPP), Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Powys a sir Benfro, sydd oll yn ardaloedd gwledig yn bennaf, yw'r pum awdurdod lleol sydd â'r cyfraddau tlodi tanwydd uchaf yng Nghymru. Yng Ngwynedd a Cheredigion, mae dros 20 y cant o aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad felly mai'r rhain yw'r awdurdodau lleol sydd â'r nifer uchaf o aelwydydd oddi ar y grid, sydd wedi cael eu gwasanaethu'n wael o ran mynediad at gymorth gwladwriaethol ar gyfer costau tanwydd cynyddol. Mae gan y mwyafrif o'r ardaloedd hyn gyfraddau cyflog isel hefyd, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru o 12.3 y cant. Mae 17 y cant o'r holl swyddi lleol yn Ynys Môn, Powys a sir Benfro yn cael eu dosbarthu gan y CPP fel swyddi cyflog isel. Y canlyniad net yw bod miloedd o blant ledled y Gymru wledig yn tyfu i fyny mewn cartrefi gwariant uchel ac incwm isel, gyda llawer ohonynt yn cael eu gorfodi fwyfwy i ddewis rhwng gwresogi a bwyta.

Mae tlodi plant yn effaith a all barhau am oes, fel y clywsom eisoes gan Sioned. Mae iddo ganlyniadau parhaol i iechyd corfforol a meddyliol, o ran hyder a hunan-barch, ac o ran cyrhaeddiad addysgol wrth gwrs. Gall hefyd effeithio ar lwybrau gyrfa dilynol. Yng nghefn gwlad Cymru, mae'r effeithiau hyn yn cael eu dwysáu gan ddiffyg cyfleoedd i bobl ifanc allu cael mynediad at waith, hyfforddiant ac addysg bellach, a chaiff hynny ei adlewyrchu wedyn mewn patrymau allfudo ieuenctid, sydd wedi bod yn bla mewn cymunedau gwledig ers degawdau. Yn ôl arolwg gan Brifysgol Aberystwyth yn 2022, dim ond 22 y cant o bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru sy'n credu bod cyfleoedd cyflogaeth yn eu hardal leol yn dda, ac mae 81 y cant yn credu y bydd angen iddynt symud i ffwrdd er mwyn cael addysg, hyfforddiant neu waith. Mae 61 y cant o bobl ifanc yn poeni ynglŷn â gallu dod o hyd i swydd addas, ac mae 59 y cant yn poeni am allu fforddio prynu tŷ yn eu hardal leol.

Mae'r rhain yn ganfyddiadau gofidus iawn am fywyd gan bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, felly mae mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru wledig yn gofyn am ddull gweithredu penodol, wedi'i dargedu'n strategol. Ond yn fwy na dim, mae'n rhaid cydnabod ei bod yn her bolisi benodol a ddylai fynd law yn llaw ag ymdrech o'r newydd i hybu hyfywedd economaidd a chyfleoedd i'n pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.

18:35

Mae'n bwysig iawn inni gofio, heb fod mor bell â hynny'n ôl—tua awr yn ôl, mewn gwirionedd—ein bod wedi canolbwyntio ar dlodi plant; mae'n debyg braidd i gylch diddiwedd. Ond rwy'n canmol ffocws y ddadl hon ar dlodi a chau'r bwlch cyrhaeddiad mewn addysg. Er ein bod wedi edrych ar dlodi plant, rydym bellach yn edrych ar yr effaith ddinistriol y mae tlodi yn ei chael ar allu dysgu. Mae 28 y cant o'n plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae gennych gylch o blant tlawd sy'n mynd i'r ysgol, nid ydynt yn gallu dysgu, nid ydynt yn gallu cael swyddi da ac maent yn parhau i fod yn dlawd, ac mae hynny'n golygu bod eu plant hefyd yn dlawd. Felly, mae'r cylch yn parhau, ac mae mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad yn bwysig mewn addysg, ac mae'n un o'r pethau i ddod â'r cylch tlodi parhaus hwn i ben.

Ond rwy'n mynd i ailadrodd rhai o'r pethau a ddywedais awr yn ôl. Nid oes gan Gymru unrhyw dargedau clir i leihau tlodi plant. Nid yw hyn wedi newid ers degawdau. Rydym yn gwybod bod arferion da yn fyd-eang yn gallu helpu i fynd i'r afael â thlodi plant, ac mae gan Gymru rai o'r dulliau i allu gwneud hyn. Ond rwyf am ganolbwyntio'n fyr ar yr hyn y gallwn ei wneud i ysgolion i helpu yn y frwydr am ganlyniadau gwell i blant a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â thlodi plant.

Mae'r grant datblygu disgyblion, a gafodd ei gyflwyno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru dros ddegawd yn ôl, yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol ac effeithiol o dargedu cymorth i fyfyrwyr difreintiedig. Mae hyblygrwydd y grant datblygu disgyblion wedi grymuso arweinwyr ysgolion i ddyrannu cyllid yn seiliedig ar wybodaeth am anghenion lleol. Fe'i defnyddiwyd i gefnogi llythrennedd, rhifedd, presenoldeb, gwasanaethau arbenigol, ymgysylltiad â rhieni, a mynd i'r afael â phrinder staff cymwys. Mae ymchwil academaidd helaeth bellach yn dangos effeithiau cadarnhaol gwariant strategol ysgolion ar leihau anghydraddoldebau addysgol a chau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae adroddiad yn 2022 gan y Sefydliad Polisi Addysg yn tynnu sylw penodol at bwysigrwydd mentrau wedi'u targedu, fel y grant datblygu disgyblion. Ond nodais fod cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion difreintiedig yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, a gellid gwneud mwy ar gyfer myfyrwyr sy'n wynebu amddifadedd parhaus.

Ym mis Medi 2023, daeth adolygiad gan Lywodraeth Cymru i'r grant datblygu disgyblion i gasgliad tebyg, gan argymell bod angen ehangu cyllid ar gyfer y grant datblygu disgyblion, er mwyn i ysgolion allu mynd i'r afael â'r heriau cynyddol a wynebant wrth gulhau'r bwlch hwnnw. Rydym i gyd yn gwybod am y cyfyngiadau cyllidol ar Lywodraeth Cymru, ond maent yn tanlinellu'r angen i wneud y gorau o ddefnydd effeithlon a theg o'r cyllid presennol. Dyna pam yr hoffwn argymell ehangu polisi dyrannu'r grant datblygu disgyblion, fel bod plentyn sy'n dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn gymwys i gael y grant ar gyfer y chwe blynedd nesaf o addysg. Drwy ehangu cymhwysedd y grant datblygu disgyblion, byddwn yn sicrhau bod mwy o blant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael mynediad at gyfleoedd a gwneud eu gorau yn yr ysgol. Hefyd, gallwn fynd benben â'r argyfwng cyllido ysgolion drwy ddarparu arian uniongyrchol i ysgolion i gyflawni eu blaenoriaethau a diwallu anghenion plant.

Felly, i ailadrodd, gadewch inni gael targedau ar gyfer tlodi plant. Nid oes cost i hynny. Ond mae angen i fwy o gyllid ddod o San Steffan i ehangu cymhwysedd y grant datblygu disgyblion fel y gallwn dargedu ein cymorth i'r plant sydd fwyaf o'i angen am fwy o amser. Diolch yn fawr iawn.

18:40

Mae'r ystadegau tlodi plant ar gyfer cymunedau'r Cymoedd a gynrychiolir gennyf yn staen ar gydwybod pawb ohonom. Ym Merthyr Tudful, Caerffili a Blaenau Gwent, mae traean neu fwy o blant yn byw gyda gofid beunyddiol tlodi, tlodi sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ac yn difetha dyfodol plant. Ac mae creulondeb tlodi plant yn fwy amlwg yn ein hysgolion ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Gall mis Ionawr fod yn fis creulon ar iard yr ysgol, oherwydd ar draws y wlad, bydd rhai plant yn mynd yn ôl i'r ysgol yn cario bagiau newydd, yn gwisgo cotiau newydd, esgidiau newydd, yn rhannu straeon am yr anrhegion a agorwyd ganddynt dros y Nadolig, ond ar bob iard ysgol, bydd rhai plant yn dawel am fod ganddynt ormod o embaras i gyfaddef na chawsant oriawr newydd na PlayStation na thalebau—fod Siôn Corn wedi anghofio dod i'w tŷ nhw. Efallai y byddant hyd yn oed yn esgus eu bod wedi cael anrhegion er mwyn arbed wyneb, i beidio â gorfod wynebu tawelwch lletchwith eu ffrindiau.

Mae tlodi plant yn ymwneud â mwy na bwyd yn unig, neu blant nad ydynt yn cael eu bwydo; gall hefyd newynu plant o agosrwydd y dylent ei deimlo gyda'u cyd-ddisgyblion. Gall eu gosod ar wahân, adeiladu rhwystrau a chywilydd, sy'n ynysu'r plant hynny oddi wrth eu cyfoedion, fel pe bai'n fai arnyn nhw rywsut. Mae tlodi yn tarfu ar Nadolig pobl ac mae'n tolcio eu gobeithion ar gyfer y flwyddyn newydd, ar adeg pan fo prynu pethau'n ymddangos mor ganolog, pan fo pobl yn gwneud cynlluniau ac yn gosod nodau. Mae'n tynnu sylw at ba mor fawr yw'r bwlch sy'n bodoli rhwng plant y mae eu rhieni wedi bod yn ffodus a'r rhai nad ydynt wedi bod yn ffodus, ac mae'n fater o lwc i raddau helaeth iawn. Nid yw'n fater o rianta 'crap', fel yr honnodd un AS Torïaidd yn warthus. Rhianta gwael—dywedwch hynny wrth y mamau a'r tadau sy'n treulio gwyliau'r ysgol yn teimlo'n llwglyd drwy'r amser, sy'n cael darn o dost i ginio neu afal fel bod mwy o fwyd i'w plentyn. Dywedwch hynny wrth y rhieni sy'n gweithio tair swydd ar gontractau dim oriau, gan ymdrechu'n daer i gadw eu teulu gyda'i gilydd, neu'r rhieni sy'n cael eu llorio gan bryder ynglŷn â sut y bydd eu plant yn goroesi'r mis nesaf, ynglŷn â sut i esbonio i'w plentyn na allant fynd ar drip ysgol, pam na allant fforddio'r cit iddynt allu ymuno â'r tîm rygbi, pam mai nhw sy'n cael eu gadael allan neu eu gadael ar ôl bob amser. 

Gall cyrraedd yr ysgol fod yn rhwystr hyd yn oed. I deuluoedd sy'n methu fforddio car, sydd heb foethusrwydd bysiau ysgol—rhaid i'r teuluoedd hynny dalu peth o'u harian prin tuag at docynnau bws neu docynnau trên. Nawr, rwy'n ymwybodol fod adroddiad blynyddol Plant yng Nghymru yn rhestru costau a hygyrchedd trafnidiaeth ymhlith y pum mater pwysicaf sy'n gysylltiedig â thlodi, a bod yr adroddiad hwnnw'n nodi'r pryder, y ffaith, fod mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod cyfyngu ar y dyddiau y gall eu plant fynd i'r ysgol am na allant fforddio eu cael yno. Mae'r comisiynydd plant wedi mynegi pryder ynglŷn â hyn, fel y gwn fod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi'i wneud, a gwyddom fod pobl sy'n byw yng nghymunedau'r Cymoedd yn llai tebygol o fod â char at eu defnydd. Fe wyddom y bydd gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig neu ynysig lai o ffyrdd o deithio o gwmpas heb gar. Mae daearyddiaeth pobl yn ffactor sy'n cyfyngu mewn perthynas â thlodi. 

Gyda hyn i gyd, mae'n amlwg, onid ydyw, fod tlodi yn straen ar blant ac ar eu rhieni. Mae'n erydu hunan-barch plant, eu gallu i ymdopi, eu gallu i fod yn hapus, ac nid yw tlodi a achosir i bobl yn ganlyniad i'w methiannau na methiannau eu rhieni, mae'n gynnyrch polisïau creulon Llywodraeth nad yw'n malio. Am ffôl, am ddiofal oedd yr AS Torïaidd a siaradodd am rianta gwael, er mai'r rhieni hynny yw'r rhai sydd mor aml yn cael eu profi i'r eithaf, gan aberthu bob dydd fel y gall eu plant aros yn fyw.

Nid oes esgus digonol dros dlodi plant. Mae'n arwydd o gymdeithas sy'n gwneud cam â'r union ddinasyddion sy'n dibynnu fwyaf ar gefnogaeth pobl eraill, ac mae'n destun cywilydd i bawb ohonom. 

18:45

Dangosodd ymchwil gan y Times Education Supplement, sawl tymor seneddol yn ôl, fod yr ysgolion sy'n perfformio orau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr wedi perfformio'n well na'r ysgolion sy'n perfformio orau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Felly, mae'n feirniadaeth drist ar Lywodraeth Lafur Cymru nad oes fawr ddim wedi newid yn y blynyddoedd ers hynny, lle datgelodd ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith anghydraddoldebau addysgol ledled Cymru a Lloegr, er enghraifft, ymchwil a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield ac a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, fod ysgolion Cymru yn dioddef bwlch anfantais ehangach nag ysgolion Lloegr. Mae'r bwlch cyrhaeddiad cynyddol hwn yn bygwth gadael dysgwyr o gefndiroedd llai cefnog ymhellach ar ôl nag erioed.  

Mae'r cynnig hwn yn nodi bod 28 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi, sy'n uwch na'r Alban, Gogledd Iwerddon a sawl rhanbarth yn Lloegr. Ond wrth gwrs, mae'n fater hirsefydlog. Fel y nodwyd yn adroddiad 'Monitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru' Sefydliad Joseph Rowntree' yn 2009, roedd

'problem incwm isel, hyd yn oed cyn y dirwasgiad, eisoes yn codi’n gyflym, i’r graddau bod hanner y gwelliant blaenorol mewn tlodi ymhlith plant wedi cael ei golli.'

Mewn geiriau eraill, roedd hyn cyn y wasgfa gredyd yn 2008 pan gyrhaeddodd y lefel uchaf yn y DU ar 32 y cant. 

Mae ein gwelliant sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i 

'ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i fynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol'

yn cydnabod yr angen i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol sydd eisoes yn gymwys i gael hyn yn gwybod eu bod yn gymwys. Y ffordd orau o roi sylw i hyn yw o fewn system fudd-daliadau symlach yng Nghymru, lle roedd adroddiad Sefydliad Bevan ddoe a oedd yn cyflwyno'r achos dros system fudd-daliadau yng Nghymru, unwaith eto'n tynnu sylw at y diffyg ymwybyddiaeth, y rhwystrau helaeth i fynediad a'r dryswch cyffredinol ynghylch budd-daliadau, a'r angen i weld budd-daliadau datganoledig, gan gynnwys prydau ysgol am ddim, yn cael eu tynnu at ei gilydd mewn un system gydlynol sy'n hygyrch i bawb sy'n byw mewn tlodi.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU a gwrthblaid Lafur y DU yn cefnogi chwyldro datganoli i wella ffyniant economaidd ar draws rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, er i'r un ddadl gael ei defnyddio o blaid datganoli i Gymru yn y 1990au, mae 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi methu cyflawni hyn yma. Er iddi dderbyn biliynau o gyllid dros dro, gyda'r bwriad o gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, Cymru heddiw sydd â'r allbwn cynnyrch domestig gros isaf y pen, y pecynnau cyflog isaf a'r incwm gwario gros isaf o holl wledydd y DU, gyda chyflogaeth islaw, a diweithdra a gweithgarwch economaidd uwchlaw lefel y DU. Felly, mae'r gwelliannau a gynigiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r tanberfformiad economaidd sy'n hybu tlodi plant yng Nghymru.

Roedd yr argymhellion yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Tachwedd 2022 '"Amser am Newid"—Tlodi yng Nghymru' yn cynnwys

'Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rhaglenni sy’n cael eu hariannu â grantiau',

ac mae ein gwelliant 4 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn unol â hynny. Fel y nodai'r adroddiad hwnnw:

'Mae pob cyngor yn ddibynnol ar grantiau ond mae natur fyrdymor rhaglenni grant, gweinyddiaeth rhy gymhleth, gwendidau mewn canllawiau a chyfyngiadau grantiau, ac anawsterau gwario arian yn golygu nad yw cyllid yn cael yr effaith y gallai ei chael.'

Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn effeithio ar gyrff y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar hanfodol ar lawr gwlad, y byddai'r gost i wasanaethau cyhoeddus yn llawer uwch hebddynt.

Ymhlith ei argymhellion, galwodd yr archwilydd cyffredinol ar Lywodraeth Cymru i ddarparu graddfeydd amser hwy ar gyfer cyhoeddi a chael cynigion i’w gwneud yn bosibl cynllunio adnoddau’n well; newid o gylchoedd cynigion blynyddol i ddyraniadau amlflwyddyn; ei gwneud yn bosibl gwario cyllid yn fwy hyblyg ac osgoi pwyslais ar brosiectau cyflymach; a symleiddio prosesau ac amodau grant i leihau’r baich gweinyddol. Mae argymhellion yr adroddiad hefyd yn cynnwys strategaethau, targedau ac adroddiadau perfformiad lleol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a'i leddfu, lle mae adrodd ar berfformiad a strategaethau, polisïau a deddfwriaeth rheoli perfformiad fel arall yn ddim mwy na malu awyr di-ystyr.

Mae ein gwelliant 5 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod

'bod atebion syml sy'n canolbwyntio ar eu galluogi i gael y gorau o addysg prif ffrwd, yn hollbwysig i'r mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi'.

Daw'r dyfyniad hwn yn uniongyrchol o ymateb Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i strategaeth tlodi plant ddrafft Llywodraeth Cymru 2023, a oedd hefyd yn galw am ddull sy'n ymestyn plant yn briodol yn ôl eu doniau eu hunain ac roedd yn nodi, ac rwyf am ddod i ben gyda hyn:

'Yn aml, bydd gweithwyr proffesiynol academaidd yn barnu bod rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol tlotach yn cynhyrchu gwaith o ansawdd israddol.... Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnwys y stigma hwn fel ffactor yn y strategaeth a rhoi diwedd ar y gred fod cefndir yn effeithio'n uniongyrchol ar allu.'

Diolch.

18:50

Rwyf bob amser yn ei chael hi'n anodd siarad yn y trafodaethau hyn. Rwyf bob amser yn teimlo fy mod yn annheg â fy rhieni. Nid oeddent eisiau bod yn dlawd. Nid dyna oedd eu huchelgais mewn bywyd, i fod yn dlawd. Dyna a roddodd bywyd iddynt, ac mae llawer o fy etholwyr yn yr un lle'n union. Felly, rwyf bob amser yn teimlo fy mod i'n bod yn annheg â nhw, ond fe wnaf hyn beth bynnag. 

Mae'n rhyfedd iawn, cymryd rhan mewn dadl ar dlodi plant ac addysg mewn ystafell sy'n cynnwys pobl ddosbarth canol yn bennaf, pobl a fagwyd mewn cefndir dosbarth canol. Fel rhywun a oedd yn byw ar ystad dai cyngor—pe bai'r holl bobl a oedd yn byw ar ystad dai cyngor yn codi eu dwylo mae'n debyg na fyddai gennym ddigon ar gyfer tîm pêl-droed pump-bob-ochr—rwy'n gyfarwydd â'r problemau o fod yn dlawd yn y system addysg. Mae problemau ynghlwm wrth fod yn llai breintiedig. Mae'n anos heddiw na phan oeddwn i yn yr ysgol. Roedd gennyf fynediad at yr holl lyfrau a oedd gan unrhyw un yn fy nosbarth. Roedd gennyf fynediad at y llyfrgelloedd: llyfrgell ganolog Abertawe, ac roedd gennyf fynediad at y llyfrgell leol, a oedd filltir a hanner i ffwrdd ar droed—nid wyf yn siŵr y byddwn i'n disgrifio hynny fel lleol, ond roedd yn rhywle y gallwn fynd iddo—ac roedd y llyfrgell ganolog dair milltir i ffwrdd ar droed, felly nid oedd yr un ohonynt yn arbennig o anodd eu cyrraedd. Ond mae'n llawer mwy anodd heddiw. Heddiw mae plant angen mynediad at y rhyngrwyd. Mae popeth yn ymwneud ag edrych am wybodaeth. Mae gennym eiriau newydd ar ei gyfer hyd yn oed—'Gwglwch ef'. Os na allwch fforddio bwyd a gwres, mae talu am fand eang yn foethusrwydd anfforddiadwy. Hyd yn oed os gallwch chi fenthyg cyfrifiadur ysgol—ac mae llawer o ysgolion yn gadael i'w disgyblion fenthyg cyfrifiaduron er mwyn eu helpu—os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, mae'n ddiwerth o ran yr hyn y gallwch ei wneud ag ef. Yn Abertawe nawr, mae llyfrgelloedd yn cyfyngu ar yr amser y gallwch ddefnyddio cyfrifiadur i un awr, hyd yn oed i blant. Dychmygwch orfod gwneud eich holl waith cartref mewn un awr.

Gyda dim ond un ystafell yn ddigon cynnes i fyw ynddi, nid yw astudio'n hawdd, yn enwedig gyda theledu ymlaen yn y gornel. Dyma sut beth yw bywyd i lawer o'r bobl a gynrychiolwn. Roeddwn i'n ffodus iawn, roeddwn i'n dod o deulu a oedd yn credu'n gryf mewn addysg ac y byddai'n helpu i roi bywyd gwell a'i fod yn llwybr allan o fod yn dlawd. Ac roedd hynny'n wir. Fe weithiodd i mi. Mae yna anfanteision penodol, ac rydym yn dweud o hyd, os ydych chi'n dod o gefndir tlawd, rydych chi'n cael eich gadael ar ôl ac rydych chi'n cael problemau pan fo pawb arall yn rhannu'r un profiad bywyd, sy'n hollol wahanol i'ch un chi.

Ond mae angen inni sicrhau bod pawb yn llwyddo mewn addysg. Rydym yn siarad o hyd am PISA; nid yw'n safon rwy'n ei chydnabod. Os ydych chi am wneud yn dda ar PISA, mae'n hawdd iawn: dewiswch ysgol, dewiswch y disgyblion, hyfforddwch nhw, ac fe gewch ganlyniadau PISA da iawn. Mae Laura Anne Jones yn siarad o hyd am PISA; pam na wnewch chi'r prawf PISA? Mae ar gael ar-lein. Dangoswch i ni pa mor hawdd yw hi i chi ei wneud. Oherwydd mae pobl yn dweud o hyd pa mor anodd ydyw. Rwy'n siŵr y daw'r Llywydd neu Gomisiwn y Senedd o hyd i ystafell i chi fel y gallwch ei wneud o dan amodau prawf, i chi allu dangos pa mor hawdd yw ei wneud. Mae TGAU, Safon Uwch a graddau yn llawer mwy ystyrlon wrth asesu cyrhaeddiad addysgol ac yn llawer mwy defnyddiol wrth ymgeisio am swyddi. Efallai fy mod wedi methu rhywbeth yma, ond nid wyf erioed wedi gweld unrhyw un ar unrhyw ffurflen gais yn gofyn, 'Pa lefel PISA a gawsoch?' Mae'n ymwneud â TGAU, Safon Uwch, graddau, graddau uwch—pob lefel o gyrhaeddiad addysgol.

Ar arian, mae'r cyfan yn dibynnu ar flaenoriaethau. Hynny yw, mae pobl wedi diflasu ar fy nghlywed yn dweud hyn, ond mae gennym bron i £300 miliwn mewn taliadau fferm sylfaenol—difidend Brexit ydyw, nid oes raid inni ei wario. Gellid ei roi i addysg, gellid ei roi i lywodraeth leol. Nid wyf yn siŵr y byddai Plaid Cymru na'r Ceidwadwyr yn cytuno â hynny; maen nhw'n credu bod rhoi arian ym mhocedi ffermwyr yn bwysicach na bwydo plant tlawd—

18:55

Nid wyf yn credu y dylai unrhyw un fod â chywilydd o ddarparu cymorthdaliadau ar gyfer cynhyrchu bwyd yn y wlad hon. Nid ydych yn meddwl dim ynglŷn â gofyn am £1 biliwn i sybsideiddio Tata, ac rwy'n cefnogi hynny, felly pam rydych chi'n gwahaniaethu rhwng un diwydiant a'r llall?

Oherwydd nad ydym yn sybsideiddio ystod eang o ddiwydiannau, a'r hyn rwy'n ei ddweud yw nad oes rheswm i sybsideiddio amaethyddiaeth, a gobeithio y cawn ddadl ar hyn rywbryd, achos rwy'n hollol—[Torri ar draws.] Fe wnawn i pe gallwn i, oherwydd mae gennyf deimlad fod angen inni drafod hyn. Ac a gaf fi ddweud wrth y Ceidwadwyr eich bod chi wedi ceisio rhoi Plaid Cymru mewn grym yn 2016? Nawr rydych chi wedi newid eich meddyliau.

Wrth ein bod ni'n trafod tlodi plant a llwyddiannau academaidd, yr unig gyfraniad dwi am ei wneud ydy cyfeirio ychydig at dai a'r sefyllfa mae pobl yn ffeindio'u hunain ynddi. Dŷch chi wedi clywed fi'n trafod yma sawl gwaith yr hawl i dai addas i bobl fyw ynddynt. Rydyn ni'n gwybod bod ansawdd tai yn arwain yn uniongyrchol at fethiant plant yn academaidd. Os ydyn ni'n edrych ar y ffaith bod plant yn gorfod byw—. Bellach, dŷn ni'n gweld yn ein cymunedau plant yn byw mewn tai sydd yn orlawn, pobl yn byw mewn tai efo'u neiniau a theidiau am genedlaethau'n fwy nag y dylen nhw fyw ynddyn nhw, a phobl yn byw mewn tai sydd yn damp. Ac o ganlyniad i hynny, oherwydd y tlodi mae pobl yn ffeindio eu hunain ynddo, a'r plant yma'n ffeindio eu hunain mewn tai o ansawdd gwael, trwy ddim rheolaeth eu hunain—nid eu dewis nhw ydy hynny—maen nhw, o ganlyniad, yn methu cael y cyfleoedd yna er mwyn dysgu mewn ystafelloedd sydd yn addas iddyn nhw, yn methu â gwneud eu gwaith cartref oherwydd bod tai yn llawn, oherwydd bod gormod o sŵn yna, oherwydd bod tamprwydd yna, ac o ganlyniad i hynny maen nhw'n methu â chyrraedd y lefelau angenrheidiol o ran eu haddysg.

Felly, os ydym ni o ddifrif eisiau mynd i'r afael â phroblemau addysg plant a'r tlodi yma, mae'n rhaid inni felly ddatrys y broblem tai. Mae hynna yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru yn gorfod datblygu rhaglen o adeiladu tai o ansawdd fel bod plant yn gallu cael eu magu a byw mewn llefydd lle maen nhw'n gallu cael yr awyrgylch yna i ddysgu ac yn gallu dysgu i'r lefel orau maen nhw'n medru cyrraedd. Dydyn nhw ddim ar hyn o bryd, felly dwi'n edrych ymlaen i glywed y Gweinidog yn sôn am beth mae o'n credu ydy'r berthynas yma rhwng tai ac addysg plant, ac a ydyn ni'n mynd i weld cydweithio ar draws y Senedd, efo'r Llywodraeth yn edrych ar dai fel rhan o ddarpariaeth llwyddiannau addysg plant. Diolch yn fawr iawn.

19:00

Y Gweinidog addysg nawr i gyfrannu i'r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae mynd i'r afael â thlodi yn egwyddor sylfaenol i'r Llywodraeth hon, ac mae'n ganolog i'r rhaglen lywodraethu. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad heddiw am ein strategaeth tlodi plant a minnau wedi siarad am PISA, ond mae'n bwysig dechrau drwy nodi unwaith eto ein hymrwymiad i'n plant a'n pobl ifanc a'n huchelgais ar eu cyfer.

Ym mis Mawrth eleni, mi wnes i gyhoeddi 'Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb', sy'n ymrwymo i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais. Bydd pob dysgwr, beth bynnag ei gefndir, yn cael ei gefnogi i fod yn iach, i ymddiddori yn ei addysg ac i gael profiadau dysgu cadarnhaol, ac i gefnogi'r nod hwnnw mae gyda ni ystod o raglenni a pholisïau sy'n cynnig cymorth ymarferol i blant a theuluoedd.

O fewn ein cyllideb ddrafft, Lywydd, rydym wedi diogelu'r cyllid ar gyfer y grant datblygu disgyblion, y siaradodd Jane Dodds mor huawdl yn ei gylch, ac os yw'r Senedd yn cytuno, bydd hyn yn darparu £128 miliwn o gyllid i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Mae hyn ochr yn ochr â'n grant hanfodion ysgol, a roddodd dros £13 miliwn o gymorth eleni, gan alluogi plant i gael mynediad at weithgareddau a phrofiadau allgyrsiol y gallent fod yn eu colli fel arall, ac mae bellach wedi'i ymestyn fel ei fod ar gael i blant ym mhob blwyddyn ysgol. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn cymorth gyda chost y diwrnod ysgol, gan gyhoeddi canllawiau ar fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol, fel y cydnabu Sioned Williams, a darparu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'n cynnig rhoi llyfrau. Mae hyn i gyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad ehangach i sicrhau na ddylai anfantais economaidd-gymdeithasol eich dal yn ôl wrth ichi geisio cyrraedd eich potensial.

Lywydd, fe'n hatgoffir yn y ddadl hon o'r ffaith echrydus fod gormod o blant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynyddu argaeledd prydau ysgol am ddim. Fel rhan o'n cytundeb cydweithio, rydym yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Hyd yma, mae dros 15 miliwn o brydau bwyd am ddim ychwanegol wedi cael eu gweini ledled Cymru, gydag oddeutu 145,000 yn fwy o ddisgyblion yn gymwys ers dechrau'r flwyddyn academaidd hon.

I droi at y pwynt a wnaeth Sioned Williams, mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y byddai'r gost o ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd sy'n derbyn credyd cynhwysol oddeutu £28 miliwn y flwyddyn mewn gwirionedd. Mae hyn cyn unrhyw gostau cyfalaf neu weinyddol ac nid yw'n cyfrif costau ehangu i gynnwys sefydliadau addysg bellach. 

Lywydd, realiti'r sefyllfa ariannol sydd o'n blaenau yw bod ein cyllideb yn werth llai nag a oedd, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau heriol wrth bennu ein cyllideb ddrafft. Fodd bynnag, rydym yn deall pa mor anodd yw hyn i deuluoedd. Ymhlith cynlluniau eraill, rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol ynghylch y disgresiwn sydd ar gael iddynt i ddarparu prydau bwyd heb godi tâl, a'r disgwyliad na ddylid gwrthod cynnig pryd o fwyd i unrhyw blentyn os yw'n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd.

Un o'r dylanwadau mwyaf ar lwyddiant dysgwyr yw ansawdd y dysgu a'r addysgu y maent yn eu profi, ac fel y nodwyd yn y ddadl heddiw, yn enwedig i'n dysgwyr iau, ansawdd yr amgylchedd y maent yn ei brofi ar lefel y cartref a'r gymuned. Rwyf am dalu teyrnged i'r gweithlu addysg, sy'n gweithio mor galed i gefnogi plant a phobl ifanc o ystod o gefndiroedd, gan roi profiadau dysgu cadarnhaol ac atyniadol iddynt mewn cyd-destunau sy'n aml yn heriol iawn, a'u helpu i dyfu, i ffynnu ac i wella eu llesiant a'u gwytnwch.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwella ansawdd dysgu ac addysgu yn barhaus; fe wyddom fod hyn yn cael effaith enfawr ar gynnydd. Bydd ein cynnig dysgu proffesiynol yn cefnogi gwaith y proffesiwn wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Bellach mae'n ofynnol i bob rhaglen addysg gychwynnol i athrawon sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hyfforddi mewn strategaethau i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Ym mis Ionawr eleni, Lywydd, penodais saith hyrwyddwr cyrhaeddiad fel rhan o gynllun peilot lle mae'r hyrwyddwyr hynny'n gweithio gyda saith ysgol bartner i ddatblygu strategaethau ac arferion i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad. Bellach, cawsom adolygiad o'r cynllun peilot, sy'n dangos ei lwyddiant, ac rwy'n edrych nawr ar sut y gallwn adeiladu ar y gwaith hwn.

Rydym hefyd yn datblygu ein rhaglen ysgolion bro. Mae'n cydnabod y rôl hanfodol y mae rhieni a theuluoedd yn ei chwarae yn addysg a datblygiad eu plant. Maent yn meithrin perthynas â rhieni a theuluoedd, i'w helpu i gymryd mwy o ran eto yn addysg eu plant, gan eu cefnogi i ddatblygu amgylchedd dysgu yn y cartref a chymryd rhan ym mywyd yr ysgol a gwneud penderfyniadau.

Mae ein hymgynghoriad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Archwilio Diwygio'r Flwyddyn Ysgol', yn rhan allweddol o hyn hefyd, gan sicrhau y gellir defnyddio amser ysgol yn y ffordd orau i gefnogi ein holl ddysgwyr, ond fe wyddom y bydd yn arbennig o fuddiol i rai sy'n byw mewn tlodi.

Lywydd, wrth orffen, fy asesiad i yw ein bod wedi gwneud cynnydd, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae gallu pob plentyn i goleddu uchelgais yn gyfartal, ac rwy'n gwbl argyhoeddedig fod hynny'n golygu na ddylai cefndir byth fod yn rhwystr i astudio a byth yn rhwystr i lwyddiant.

19:05

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl prynhawn yma. Mae torri’r cysylltiad yna rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol yn un sydd angen ei flaenoriaethu yn well os ydym am weld cynnydd yn y perfformiad addysgol, os ydym am greu tegwch i bob plentyn, os ydym am ganiatáu i’n dinasyddion ifanc gyrraedd eu llawn botensial. Mae mor syml â hynny. Achos os bydd tlodi yn parhau, os bydd plant yn gorfod meddwl mwy am y teimlad yna o wacter, o wendid, o ddiflastod sy’n dod o ddiffyg maeth, sy’n eu hatal rhag canolbwyntio, rhag ffocysu, rhag deall, rhag amsugno'r wybodaeth hanfodol sydd ei angen arnynt i lwyddo, yna, mae’n flin gen i, gallwch chi wneud faint fynnwch chi gyda’r cwricwlwm, gyda mesurau cefnogi addysgol—ni fydd y bwlch cyrhaeddiad yna fyth yn cau yn ddigonol.

Mae angen gwneud cymaint mwy i ddileu tlodi, fel mae’r Gweinidog wedi cydnabod—oes, yn sicr—ond cyfrifoldeb y Llywodraeth yw cymryd pob cam posib i gefnogi addysg ein plant. A heb dargedau, mae’r arbenigwyr yn gytûn na fydd y strategaeth tlodi plant, er enghraifft, yn debygol o gyrraedd y nod.

Fe glywon ni nifer o gyfraniadau. Dwi’n falch bod Laura Anne Jones o’r Ceidwadwyr yn cydnabod anghydraddoldeb a thlodi ac effaith hynny ar y bwlch cyrhaeddiad. Dwi’n ei chael hi’n amhosib deall pam mae hi’n gallu bod yn erbyn un o’r mesurau sydd wedi ei brofi i leihau yr anghydraddoldeb yna, sef sicrhau dyw plant ysgol ddim yn llwglyd. Cefin wedyn yn sôn am sefyllfa benodol plant mewn ardaloedd gwledig o ran lefelau tlodi a’r angen yna am strategaeth benodol i ddatrys hynny. Diolch i Jane Dodds am sôn am yr angen i daclo’r bwlch cyrhaeddiad er mwyn torri’r cylch dieflig yna o dlodi plant, a chytuno y byddai ehangu cymhwysedd y grant datblygu disgyblion yn gam cadarnhaol. Fe soniodd Delyth am effaith seicolegol tlodi ar blant a’u teuluoedd, a thanlinellu hefyd gost trafnidiaeth i’r ysgol ac effaith hyn ar bresenoldeb a chyrhaeddiad. A Mabon wedyn yn pwysleisio’r cysylltiad yna o sicrhau tai addas o ran cau y bwlch addysgol. Mark Isherwood yn cefnogi, rwy’n falch o glywed, yr angen am system fudd-daliadau Cymreig fwy llyfn ac effeithiol, ond mae’n rhaid cofio—i bawb sydd ar y meinciau gyferbyn—mai llenwi tyllau yn rhwyd ddiogelwch nawdd cymdeithasol yn sgil creulondeb mesurau fel y cap dau blentyn y mae nifer o’r mesurau Cymreig yma, oherwydd y ffaith bod budd-daliadau yn gwbl annigonol i sicrhau safon byw dechau i blant Cymru.

A Gweinidog, dwi’n falch o glywed, wrth gwrs, fel y soniais yn fy nghyfraniad, am y mesurau sydd ar waith i geisio cyrraedd y nod. Mae e’n od i glywed dydych chi ddim yn cytuno â barn y grŵp arbenigol, y grŵp a benodwyd gan y Llywodraeth i edrych ar fesurau fyddai yn helpu i leddfu tlodi plant, o ran y gost o roi prydau bwyd am ddim ar gyfer pawb sydd ar y credyd cynhwysol. Ac felly mae'n anodd clywed y ddadl hefyd lle rydych chi'n sôn y byddai costau ychwanegol o ran y seilwaith, achos mae hynny'n rhywbeth maen nhw'n dweud yn bendant iawn, ac y mae Sefydliad Bevan wedi dweud yn bendant iawn, fyddai ddim yn peri problem i'r un graddau mewn ysgolion cyfun ag y mae mewn ysgolion cynradd.

Rwyf wedi sôn am effaith tlodi plant mewn tair dadl y prynhawn yma. Mae nifer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hyn—groundhog day, yn wir. Mae hynny’n dangos maint y broblem, difrifoldeb y broblem, a diffyg y Llywodraethau ar ddau ben yr M4 i flaenoriaethu’r broblem yn ddigonol. Fe fyddaf i a Phlaid Cymru yn parhau i godi’r mater hwn ar bob cyfle, ac yn falch o'i wneud, achos dyma inni yw prif achos ein cyfnod, prif gyfrifoldeb gwleidyddion.

19:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Felly, oni bai fod tri Aelod moyn i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r bleidlais. 

Felly, fe wnawn ni gynnal y bleidlais gyntaf; mae'r gyfres o bleidleisiau gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr o dan eitem 6 ar ganlyniadau PISA. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. [Torri ar draws.] Oes problem dechnegol gyda'r Gweinidog iechyd? Mae'r bleidlais yna wedi ei chau. Y canlyniad yw bod 14 o blaid, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gaf i gadarnhau bod y pleidleisio'n gweithio nawr i'r Gweinidog iechyd? Ydy. Iawn, fe awn ni ymlaen felly.

Y bleidlais nesaf felly bydd ar wellliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. Mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-ddethol.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 1. 

Cynnig NDM8447 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.

2. Yn nodi bod y pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.

3. Yn cydnabod bod Cymru wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018, fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.

4. Yn croesawu:

a) lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;

b) bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;

c) bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a

d) sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.  

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi ac addysg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

19:15

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig.

Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1. 

Cynnig NDM8445 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.

4. Yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Yn croesawu:

a) gwell ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.

b) diogelu yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.

c) y gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn ymhellach.

d) y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.

e) rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.

6. Yn nodi bod canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol. Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Methu cynllunio, cynllunio methiant—Pam mae angen aildrefnu cynllunio yng Nghymru

Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau, ond mae yna ddadl yn dal i'w chynnal, a'r ddadl yna yw'r ddadl fer o dan eitem 9. Yn cyflwyno'r ddadl fer heno fydd Mabon ap Gwynfor. Fe gewch chi gychwyn unwaith fydd Aelodau wedi gadael yn weddol o dawel.

Diolch, Llywydd, a dwi'n hapus i gyflwyno'r ddadl, a dwi wedi caniatáu ychydig o fy amser i Carolyn Thomas a Peredur Owen Griffiths ar y diwedd hefyd. Pan ges i fy ethol yn gynghorydd sir ar Gyngor Sir Dinbych rai blynyddoedd yn ôl, un o'r pethau cyntaf roedd gofyn i'r cyngor wneud oedd adeiladu'r cynllun datblygu lleol. Cafodd y cynllun datblygu'i fabwysiadu ar ddechrau ail ddegawd y ganrif hon ar ôl sawl blwyddyn o ymgynghori a thrafod ac yn wyneb gwrthwynebiadau cryf gan y cyngor sir ar y pryd. Roedd y dystiolaeth wreiddiol gan arbenigwyr yn y sir a'r rhanbarth yn dangos y byddai angen 50 y cant o'r tai yn y cynllun i fod yn dai fforddiadwy. Gwrthodwyd hyn gan y swyddogion ar y sail na fyddai cynllun o'r fath yn cael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio a'r Llywodraeth. Tynnwyd y ganran, felly, lawr i 30 y cant a chyflwynodd y cyngor y cynllun i'r Llywodraeth gyda'r amcan y byddai 30 y cant o'r tai, felly, yn fforddiadwy. Ond gwrthod hyn wnaeth yr Arolygiaeth Gynllunio a'r Llywodraeth ar y pryd, gan orfodi cynllun datblygu oedd gyda 10 y cant yn unig o dai fforddiadwy ynddo—hynny'n rhannol am y rheswm na fyddai cynllun datblygu gyda 30 y cant o dai fforddiadwy, heb sôn am y 50 y cant gwreiddiol, yn apelgar i ddatblygwyr. Cafodd y cynllun ei basio cyn i fi gael fy ethol, ond, fel y soniais, roedd gofyn inni adolygu'r cynllun. Mae'r cynllun datblygu yn ddogfen fawr a chymhleth ac mae'n anodd i'r rhelyw o bobl leyg fedru prosesu'r cyfan. Dwi ddim yn cofio'r manylion yn llwyr, ond, yn achos adolygiad y cynllun datblygu, cafwyd oddeutu 20 yn unig o ymatebion i'r ymgynghoriad, a fi oedd yr unig gynghorydd sir i ymateb. Roedd pob un—pob un—o'r ymatebion eraill yn dod wrth ddatblygwyr.

Ac mae hyn yn syth yn mynd â fi at fy mhrif gŵyn yn y drafodaeth hon, sef y ffaith fod y system gynllunio yma yng Nghymru wedi cael ei chreu i ffafrio datblygwyr ac nid cymunedau. Yr enghraifft amlycaf a mwyaf diweddar o hyn ydy achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rŵan, mewn theori, mae cynllun datblygu yn adlewyrchiad o ddyheadau y corff democrataidd, ac mae'r corff democrataidd yn perchnogi'r cynllun trwy ei ethol a'i fabwysiadu—o leiaf dyna'r theori, ond gall pethau ddim bod ymhellach o'r gwir mewn gweithred. Oblegid, fel y gwelsom ni yn achos Cyngor Sir Ddinbych a rŵan yn amlycach fyth yn achos Wrecsam, nid dogfen ddemocrataidd mo'r cynllun datblygu lleol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn achos Wrecsam, gwrthododd y cyngor fabwysiadu'r cynllun datblygu sawl gwaith am eu bod yn teimlo nad oedd yn ateb anghenion y cymunedau yr oeddent yn eu cynrychioli, ond serch hynny, fe'u gorfodwyd i'w fabwysiadu yn wyneb bygythiadau o fynd i'r carchar pe na baent yn ei fabwysiadu. Mae hwn i fod yn gynllun sydd wedi'i lunio a'i berchenogi gan y corff democrataidd, ond nid democratiaeth yw bygwth gwleidyddion â charchar am wrthod cefnogi polisi. Gweithredoedd unben pot jam ydynt. Yn sicr, nid yw'n iach ac nid dyma sut y dylai democratiaeth weithredu. A pham y cyrhaeddodd hyn bwynt mor ddadleuol yn Wrecsam? Oherwydd bod cabál o ddatblygwyr mawr wedi mynd â'r cyngor i'r llys am fethu mabwysiadu cynllun datblygu. Mae hyn yn dweud popeth sydd angen inni ei wybod am y system gynllunio yng Nghymru. Nid yw wedi'i llunio er budd ein cymunedau, ond yn hytrach mae yno er budd datblygwyr mawr sydd eisiau cael cymaint o elw ag y gallant ar draul ein cyfoeth naturiol a'n cymunedau.

Ni ddylai hyn fod yn syndod. Fel gyda llawer o Lywodraethau, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r system gynllunio a datblygu fel sbardun economaidd. Mae datblygiad yn cael ei ystyried yn rhan allweddol o'r economi ac yn ganolog i'w huchelgais ar gyfer twf economaidd. 'Mae'n creu swyddi', 'adeiladu yw un o'r prif ddiwydiannau', 'mae'n cynhyrchu gweithgaredd economaidd' a'r holl jargon arall y gallwch feddwl amdano gyda bingo economaidd. Ond rhith yw'r cyfan. Yn gyntaf, mae angen inni symud ymlaen o'r gred ffug mai twf economaidd yw'r hyn sy'n arwain at gymdeithas lwyddiannus. Bydd economegwyr da yn esbonio'n glir nad yw economi yn golygu cyllidoli popeth, ond yn hytrach, yr hyn sy'n creu economi yw cymuned, diwylliant a phopeth arall sy'n ffurfio'r cymdeithasau a'r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt, yn ddiriaethol ac anniriaethol, ond rwy'n crwydro. Mae'r syniad y gall datblygiad fod yn sbardun economaidd wedi methu. Mae gennym y nifer uchaf erioed o bobl ar restrau aros am dai, y nifer uchaf erioed o bobl mewn llety dros dro, y nifer uchaf erioed o bobl sy'n byw mewn tai gorlawn. Mae'r bobl yr ydym yma i'w gwasanaethu a'u cynrychioli yn dioddef. Nid yw datblygwyr wedi camu i'r adwy a datrys yr argyfwng tai oherwydd nid oes unrhyw fudd iddynt wneud hynny mewn gwirionedd.

Nid oes gan ddatblygwyr ddiddordeb mewn ateb y galw. Ceir galw enfawr am eiddo un ystafell wely neu ddwy ystafell wely, am fyngalos, ond yr hyn a gawn yw 'cartrefi uwchraddol' fel y'u gelwir, cartrefi dienaid pedair ystafell wely ar ystadau sy'n llawn o dai union yr un fath, ac ar ôl datblygu, rydym yn dioddef dadleuon hir ynghylch pwy sy'n cynnal neu'n mabwysiadu'r ffyrdd, a chwynion am ddiffyg mynediad at wasanaethau, ond erbyn hynny, mae'r datblygwyr wedi diflannu ar ôl darparu ar gyfer eu cyfranddalwyr, gan adael yr awdurdod lleol i wynebu'r canlyniadau. A thrwy'r cyfan, caiff y cartrefi eu gwerthu am brisiau sy'n dod â dŵr i'r llygaid ac mae'r prynwyr yn clymu eu hunain i genhedlaeth o ad-daliadau morgais gyda biliynau o bunnoedd o arian prin yn gorlifo allan o'r economi leol, i dalu am ffordd o fyw foethus pobl gefnog mewn mannau pell ar draul ein cymunedau. Ychydig iawn o feddwl a roddir i anghenion y bobl a'r cymunedau eu hunain. Oes, ceir canran fach iawn o'r hyn a elwir yn 'gartrefi fforddiadwy', cartrefi adran 106, ac mewn rhai achosion, addewidion gwag am ffyrdd cyswllt, cyfraniadau ysgol ac ati. Ond yn aml, gwelwn addewidion am gyfleusterau manwerthu neu addysg neu hamdden yn diflannu oherwydd eu bod yn sydyn yn anfforddiadwy i'r datblygwyr—yn anfforddiadwy, hynny yw, ar ôl talu difidendau i gyfranddalwyr.

Gadewch inni edrych eto ar Wrecsam. Yn sgil eu gorfodi i fabwysiadu'r CDLl yno, mae cynlluniau i ddatblygu 455 o gartrefi ar Ffordd yr Wyddgrug. Gwnaeth y bwrdd iechyd sylwadau i'r pwyllgor cynllunio yn datgan bod ganddynt

'bryderon sylweddol am gynaliadwyedd gwasanaethau Gofal Sylfaenol lleol os yw'r cynnig yn mynd rhagddo ac am y gofod ffisegol sydd ar gael o fewn y cyfleusterau Gofal Sylfaenol presennol i ddarparu ar gyfer mwy o gleifion yn yr ardal, yn ogystal â phryderon ynghylch staffio clinigol.'

A dyma ni yn ei grynswth—dyma ddarlun clir o sut nad ydy'r system gynllunio yn gweithio o blaid pobl. Rŵan, dwi wedi sôn o'r blaen yma fy mod i wedi cael y fraint o fynd ar deithiau ymchwil i gymunedau ledled Ewrop i weld sut maen nhw'n edrych ar dai a chynllunio, ac un o'r mwyaf trawiadol ydy Fienna.

Mae'r drefn yn Fienna i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn sydd gennym ni yma. Yn Fienna, mae yna bwyllgorau arbenigol yn ymwneud ag iechyd, addysg, trafnidiaeth, natur a bioamrywiaeth, ac eraill, yn cael eu hymgynnull wrth i ddatblygiadau cael eu cyflwyno er mwyn ystyried a ydy'r cynlluniau yn gydnaws â dyheadau’r ddinas ac yn ateb gofynion yr aelodau etholedig. Os nad oes sicrwydd o ddarpariaeth addysg neu iechyd, dyweder, yna ni chaiff cynlluniau eu caniatáu. Dyma drefn gynllunio sy'n rhoi anghenion pobl a chymuned yn ganolog. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r drefn yma yng Nghymru, ond does dim syndod. Mae'r drefn gynllunio yma yn seiliedig ar ddeddfwriaethau cynllunion a gyflwynwyd o dan Margaret Thatcher, megis y Town and Country Planning Act 1990. Mae holl ethos y drefn gynllunio yma yn seiliedig ar unigolyddiaeth, gan edrych ar allu pobl i gael hawl cynllunio, yn hytrach nag edrych ar anghenion cymuned a sut mae defnyddio cynllunio i ateb gofynion cymuned. Mae'n rhaid i ni droi'r drefn bresennol ar ei phen, ac yn hytrach na rhoi datblygwyr yn ganolog a rhoi iddyn nhw yr hawl i apelio, mae'n rhaid dechrau o'r gwaelod drwy rymuso cymunedau ac adeiladu cymunedau.

Wrth edrych ar unrhyw ddatblygiad, boed yn dŷ, yn siop neu beth bynnag ydy o, yna rhaid gofyn i'n hunain pa ran mae'r datblygiad yn mynd i chwarae yn y gymuned. Ydy'r gymuned yn ddigon gwydn i dderbyn y datblygiad? Beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud y gymuned yn fwy gwydn? I'r diben yma, mae'n rhaid cael cynlluniau datblygu sydd yn llawer iawn mwy hyblyg ac yn seiliedig ar ddata byw a dibynadwy. Mae'n ddifyr nodi bod y cynlluniau datblygu presennol mewn lle am dros 20 mlynedd, ond eu bod nhw'n seiliedig ar ragamcanion poblogaeth a wnaed flynyddoedd lawer ynghynt ac sydd wedi profi i fod yn gwbl annibynadwy.

Yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru, mae yna berygl o or-ddatblygu, gyda'r datblygiadau yma yn gwbl anghydnaws a ddim yn ateb gofynion lleol, tra'n bod mewn rhannau o'r gorllewin yn gweld diffyg datblygu a diboblogi. Mae'n rhaid i ni gael cynllun datblygu sydd felly'n clymu i mewn i feysydd polisi eraill. Un rheswm amlwg pam mae yna ddiffyg datblygu yn rhannau o'r gorllewin ydy oherwydd diffyg buddsoddi mewn isadeiledd. Mi ddylai hynny fod yn ganolog i unrhyw gynllun datblygu lleol a rhanbarthol. Mi ddylid defnyddio'r drefn o hwyluswyr tai gwledig sydd gyda ni mewn rhannau o Gymru a'i datblygu i fod yn hwyluswyr tai cymunedol, gan gasglu data byw, cyson ar ddatblygiad cymuned a galluogi i'r wybodaeth yma i fwydo i mewn i'r cynllun datblygu er mwyn cael cynlluniau sy'n ein galluogi ni i ddatblygu yn unol ag anghenion.

Ond yn ei hanfod, mae angen i ni gael gwared ar y drefn bresennol a sefydlu trefn gynllunio sy'n rhoi pobl a chymuned yn ganolog. Dwi'n edrych ymlaen, felly, i glywed ymateb y Gweinidog. 

19:25

Diolch am funud o'ch amser, Mabon. Rydym mewn argyfwng hinsawdd a natur. Dylai pob datblygwr fod yn gosod paneli solar ar doeau, yn adeiladu cartrefi am oes wedi'u hinswleiddio'n dda, yn gosod casgenni dŵr, yn plannu ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn bod yn ymwybodol o lawiad trwm a chyfnodau sychder. Mae angen i iechyd, addysg, cyfleusterau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus dyfu ar yr un pryd â datblygiadau tai. Drwy amodau cynllunio 106 ac ysgogiadau seilwaith cymunedol, gellid rhoi tocyn bws am ddim i breswylwyr datblygiadau newydd i dreialu'r bws lleol am flwyddyn i weld a ydynt yn ei hoffi. Dylem fod yn adeiladu ar gyfer y dyfodol a dylem fod yn adeiladu ar gyfer cymunedau.

Diolch yn fawr i Mabon am adael i mi siarad yn y ddadl yma'r prynhawn yma. Cyn i mi gychwyn, buaswn i'n licio datgan buddiant; dwi newydd rhoi planning application i mewn ar gyfer sièd yn yr ardd, ond ddim am hynny dwi am siarad heddiw. 

Dwi eisiau cefnogi beth mae Mabon wedi dweud, ond dwi eisiau mynd ar ôl un aspect arall.

Hoffwn weld lles anifeiliaid yn cael ei ymgorffori mewn unrhyw gais cynllunio. Y cyd-destun y tu ôl i'r alwad hon yw bod y trac cŵn olaf yng Nghymru yn fy rhanbarth i. Yn ddiweddar, gwnaeth gais am ganiatâd cynllunio i ymestyn y cyfleusterau, i ganiatáu ar gyfer cynnal mwy o ddigwyddiadau yn y lleoliad. Fel y gallwch ddychmygu, roedd grwpiau lles anifeiliaid yn wrthwynebus iawn i ehangu o'r fath, fel yr oeddwn i a llawer o gyd-Aelodau Plaid Cymru, yn ogystal ag eraill yn y Siambr hon. Mae nifer ohonom wedi galw am wahardd y gamp honedig hon yng Nghymru. Yn anffodus, er gwaethaf pryderon dilys am oblygiadau ehangu'r trac a'i gyfleusterau i les anifeiliaid, ni allem atal caniatâd rhag cael ei roi ar gyfer y cais cynllunio. Yr unig opsiynau oedd dulliau llai grymus o wrthwynebu'r cais o fewn y canllawiau cynllunio, ac yn y pen draw, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu y tu ôl i ddrysau caeedig gan swyddogion cynllunio. Mae hyn i'w weld yn anomaledd go iawn ac yn un yr hoffwn iddo gael ei gywiro mewn unrhyw ailwampio yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

A galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Julie James. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod system gynllunio Cymru heddiw, ond nid wyf yn derbyn y cynnig y mae'r ddadl yn seiliedig arno, na llawer o'r sylwadau a wnaed yn gynharach, mae arnaf ofn. Yn wahanol i system ein cymydog agosaf, nid yw system gynllunio Cymru yn methu—[Anghlywadwy.]—angen gwelliant, fel y—[Anghlywadwy.]—gwasanaethau cynllunio, y byddaf yn dychwelyd atynt yn nes ymlaen. Nid yw'r system gynllunio yn—[Anghlywadwy.]

19:30

Weinidog, rydym yn cael trafferth bach gyda'r telediad. Rydych chi'n torri i fyny braidd. A gawn ni roi cynnig arall arni? Y frawddeg olaf.

Iawn, ble wnaethoch chi gyrraedd? A oeddwn i'n siarad am yr argyfyngau hinsawdd a natur? A glywsoch chi hynny?

O'r gorau. Fe roddaf gynnig arall arni. Mae fy nghyfrifiadur yn dweud wrthyf fod gennyf gysylltiad llawn ac nad oes unrhyw oedi ar fy ochr i, felly nid wyf yn gwybod beth sy'n digwydd, mae arnaf ofn. O'r gorau. Felly, fe ddechreuaf eto, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod system gynllunio Cymru heddiw. Fodd bynnag, nid wyf yn derbyn y cynnig y seiliwyd y ddadl arno, na llawer o'r sylwadau a wnaed yn ystod y cyflwyniadau yn gynharach. Nid yw system gynllunio Cymru yn methu, yn wahanol i system ein cymydog agosaf. Wrth gwrs, mae yna feysydd sy'n galw am welliannau, megis y ddarpariaeth o wasanaethau cynllunio lleol a deddfwriaeth gynllunio, ac fe ddychwelaf at y rheini yn ddiweddarach. Mae'r system gynllunio yn ymyrraeth polisi cyhoeddus hanfodol—[Anghlywadwy.]—materion mawr y dydd, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn helpu i ddiwallu anghenion tai y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Mae system gynllunio Cymru wedi bod ar daith hir a chymhleth ers datganoli. Rydym wedi bod yn gyson yn ein cefnogaeth i'r system gynllunio, ac yn llwyr ategu'r angen i ymyrryd yn y farchnad er budd y cyhoedd. Rydym hefyd yn gweld gwerth ac yn cefnogi pawb sy'n gyfrifol am weithredu'r system gynllunio, a all fod yn dasg heriol iawn, fel y gwyddom i gyd. O dan ein stiwardiaeth, mae gennym lawer i'w ddathlu am system gynllunio Cymru.

Cyn datganoli, yr hyn a nodweddai system gynllunio Cymru oedd dull o docio a throsi, a fyddai'n mynd ati'n ddall i fabwysiadu polisi a gynlluniwyd ar gyfer Lloegr a'i gymhwyso i Gymru. O dan ddatganoli, rydym wedi llunio ein polisi cynllunio cynhwysfawr ein hunain yn fedrus, polisi a luniwyd yng Nghymru er budd pobl Cymru. Yn wir, mae'r dull blaengar hwn o weithredu polisi cynllunio wedi'i efelychu gan yr Alban bellach, ac yn fwyaf diweddar, yn Lloegr hyd yn oed. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi goresgyn prawf amser yn dda, gydag argraffiad 12 i'w gyhoeddi'n fuan. Mae arbenigwr uchel ei barch ar bolisi cynllunio, Hugh Ellis, wedi cyferbynnu'r dulliau o gynllunio polisi rhwng Cymru a Lloegr, gan nodi bod polisi Cymru yn seiliedig ar resymeg ac egwyddorion, tra bo polisi Lloegr a'i olygon wedi'u sodro'n gadarn ar y llawr.

Mae'r rhesymeg a'r egwyddorion yr ydym yn seilio polisi cynllunio Cymru arnynt yn llifo'n uniongyrchol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac fe'u heglurir drwy ein dull o greu lleoedd, persbecitif cyfannol ar gynllunio i gyflawni manteision lluosog. Er enghraifft, nid yw'n dderbyniol yng Nghymru i ystyried nifer y tai a adeiladwn yn unig; yn hytrach, rhaid i bob tŷ fod o ansawdd uchel, wedi ei leoli'n gynaliadwy a gwneud budd net i fioamrywiaeth.

Rydym yn cymhwyso ein polisïau cynllunio mewn ffyrdd arloesol, gan ddarparu'r arweinyddiaeth angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cenedl. Mae hyn yn fwyaf amlwg mewn perthynas ag ynni. Rydym wedi cyflwyno hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio, sy'n blaenoriaethu ffurfiau adnewyddadwy o ynni ac yn cefnogi pontio teg i ffwrdd o danwydd ffosil. Nid ydym wedi cilio rhag gwneud penderfyniadau anodd, gan fod yn gyson yn ein cefnogaeth i ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y tir. Drwy nodyn cyngor technegol 8, ac yn ddiweddarach 'Cymru'r Dyfodol', rydym wedi ceisio cyfeirio cynigion ffermydd gwynt i'r lleoliadau mwyaf priodol. Mae ein harweiniad yn y maes hwn yn gwrthgyferbynnu'n sylweddol â'r gwaharddiad de facto ar ffermydd gwynt ar y tir a oedd yn weithredol tan yn ddiweddar iawn yn Lloegr, sydd wedi lleihau diogeledd ynni'r DU ac wedi ychwanegu tua £182 at fil ynni pob cartref yn y DU. Mae hon yn enghraifft glir iawn o ble mae mantais wleidyddol wedi trechu budd ehangach y cyhoedd yn Lloegr.

Mae ein polisïau ni yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r farchnad dai leol i fynd i'r afael â'u hanghenion tai, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr angen i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Rydym wedi deddfu i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol at ddibenion cynllunio, ac i gefnogi'r broses o nodi ardaloedd ar gyfer tai marchnadoedd lleol a rheoli ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr. Rydym yn cydnabod hynodrwydd ardaloedd gwledig ac yn caniatáu hyblygrwydd polisi mewn perthynas ag anheddau newydd ar gyfer mentrau gwledig, ffermwyr sy'n ymddeol, a datblygiadau Un Blaned.

Mae gennym fframwaith polisi hynod o effeithiol yng Nghymru y dylai pob un ohonom fod yn falch ohono. Fodd bynnag, rwy'n llwyr dderbyn nad yw'r fframwaith ond yn llwyddiannus lle caiff ei weithredu'n effeithiol ar y lefel leol. Rydym yn gweithredu ein polisïau drwy ddull o ddatblygu a arweinir gan gynllun. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arweinyddiaeth strategol effeithiol yn y maes drwy 'Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040', y mae'n rhaid i bob cynllun datblygu strategol a lleol gydymffurfio ag ef. Er fy mod yn siomedig nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi dechrau gweithio eto ar y cynlluniau datblygu strategol gofynnol, mae cynlluniau datblygu lleol gan bob un bellach ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu.

Mae cynlluniau datblygu lleol yn galw am arweinyddiaeth wleidyddol leol gyson ac effeithiol i'w cyflawni. Maent yn darparu sylfaen gadarn, resymegol a chyson ar gyfer penderfyniadau cynllunio newydd. Byddai peidio â mabwysiadu a pharhau i adolygu cynllun datblygu lleol yn gyfystyr â gwrthod prif gyfrifoldeb awdurdod cynllunio lleol. Fel gyda llawer o wasanaethau cyhoeddus, mae COVID wedi bwrw cysgod hir dros yr adolygiad o gynlluniau datblygu lleol, gyda nifer o gytundebau cyflawni angen eu hymestyn, gan ei bod yn amhosibl cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus effeithiol gyda mesurau rheoli COVID ar waith. Rwy'n falch o weld cynnydd yn cael ei wneud unwaith eto ar adolygiadau CDLl ac rwy'n annog awdurdodau cynllunio lleol i gyflymu eu gwaith arnynt. Ac er bod cysgod COVID yn cael llai a llai o effaith ar system gynllunio Cymru, mae effaith cyni a orfodir arnom gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i ddwysáu.

Cynllunio yw un o'r meysydd gweithgarwch awdurdod lleol sydd wedi eu taro galetaf, gydag Archwilio Cymru yn nodi gostyngiad o 50 y cant mewn termau real ers 2008-09 i gyllidebau cynllunio, o ystyried chwyddiant. Mae gwariant net wedi gostwng o £45 miliwn yn 2008-09 i £22.8 miliwn yn 2017-18. Roedd y toriad mwyaf i gyllidebau rheoli datblygu, lle mae'r gwariant wedi gostwng 59 y cant. O ystyried effaith barhaus cyni, bydd gostyngiadau pellach mewn gwariant wedi digwydd ers hynny. Er y gellir lliniaru rhai o effeithiau cyni drwy gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio, byddai'r graddau y byddai angen cynyddu'r ffioedd hyn yn sylweddol. Yn achos ceisiadau ar gyfer mân ddatblygiadau yn y cartref, fel estyniadau mwy o faint, bydd angen i ffioedd ymgeisio gynyddu o £230 i dros £500 er mwyn adennill costau'n llawn. Rhaid i gynnydd mor fawr mewn ffioedd gynnwys ymrwymiad lleol cadarn a diamwys i wella perfformiad a chadw ffioedd ceisiadau cynllunio o fewn y gwasanaeth cynllunio. Byddaf yn lansio ymgynghoriad ar ffioedd ceisiadau cynllunio a disgwyliadau perfformiad yn ddiweddarach eleni.

Un maes lle gellid gwneud gwelliannau uniongyrchol a hanfodol yw drwy gydweithio gwell rhwng awdurdodau cynllunio lleol. Rydym eisoes wedi mandadu'r gwaith o baratoi cynlluniau datblygu strategol a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a ddylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth ar y cyd a chael eu paratoi ochr yn ochr. Bydd y ddau gynllun yn cael eu paratoi gan y cyd-bwyllgorau corfforedig ac yn ddarostyngedig i'r un trefniadau llywodraethu. Ni ddylid cyfyngu cydweithredu gwell i gynlluniau datblygu strategol a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn unig. Gellir paratoi CDLlau ar y cyd hefyd a rhaid ystyried y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ag adolygiad o'r cynllun datblygu lleol ar y cyd ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn yn un anflaengar.

Rhaid inni fynd i'r afael o ddifrif â'r cwestiwn a yw cadw 25 awdurdod cynllunio lleol yn safbwynt cynaliadwy, o ystyried bod llai a llai o adnoddau proffesiynol ac ariannol ar gael—[Anghlywadwy.]—cyni wedi'i orfodi. Mae cydweithio, gan gynnwys darparu gwasanaeth ar y cyd, yn faes lle gallwn ddysgu gan ein cymdogion yn Lloegr. Fan lleiaf, rhaid i awdurdodau cynllunio lleol fynd ati'n weithredol i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu darpariaethau arbenigol ar y cyd mewn meysydd fel bioamrywiaeth a chyngor cynllunio trefol. Bydd hyn yn helpu i gynyddu gwytnwch gwasanaethau a darparu llwybr gyrfa proffesiynol clir.

Rhaid i Senedd Cymru hefyd chwarae rhan lawn ac adeiladol wrth wella system gynllunio Cymru. Mae Bil Seilwaith (Cymru) gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Os caiff ei dderbyn, bydd yn darparu fframwaith cydsynio modern a hyblyg ar gyfer prosiectau seilwaith datganoledig yng Nghymru. Bydd Bil i gydgrynhoi cyfraith gynllunio Cymru yn dilyn y Bil seilwaith yn gyflym. Bydd y ddeddfwriaeth gwbl ddwyieithog yn symleiddio'r llyfr statud cynllunio cymhleth, ac yn dod â deddfwriaeth gynllunio Cymru a Lloegr ar y cyd i ben, gan nodi'r garreg filltir fwyaf arwyddocaol ar y daith gynllunio ers datganoli.

I gloi, dylem i gyd ystyried tair neges allweddol y ddadl hon. Yn gyntaf, mae gennym fframwaith cynllunio cynhwysfawr a wnaed yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru, fframwaith y mae parch mawr tuag ato. Yn ail, mae gennym gynlluniau datblygu ar lefel genedlaethol a lleol ar draws y wlad sy'n caniatáu ar gyfer gwneud penderfyniadau rhesymegol a chyson, rhywbeth y dylem ei ddathlu. Ac yn olaf, byddwn yn parhau i hyrwyddo ein system gynllunio ac yn gweithio i liniaru effeithiau gwaethaf cyni a orfodwyd gan y Torïaid ar y gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig a hanfodol hwn. Diolch.

19:35

Daeth y cyfarfod i ben am 19:39.