Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/10/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i faint y grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru ar gyfer 2024-25? OQ60013
Mae llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn flaenoriaeth yn ein hystyriaethau cyllidebol. Pan fydd cyllideb y grant cynnal refeniw ar gyfer 2024-25 wedi’i phennu fel rhan o broses y gyllideb ddrafft, caiff ei dyrannu ar sail angen cymharol, gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol ar gyfer y setliad.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Weinidog. Hoffwn godi’r pwnc hwn gyda chi gyda golwg ar y flwyddyn ariannol nesaf, gan fod awdurdodau lleol gogledd Cymru, o bob lliw gwleidyddol, wedi bod o'r farn ers peth amser eu bod yn cael cam o gymharu ag awdurdodau yn y de, gan arwain at anfodlonrwydd ynghylch blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru a’i hymrwymiad i sicrhau bod fy awdurdod lleol i, Cyngor Sir Ddinbych, ac awdurdodau eraill ar draws y gogledd, ar yr un lefel â gweddill Cymru. Felly, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i fy etholwyr, sy’n gweld oriau agor llyfrgelloedd yn lleihau, a gwasanaethau rheng flaen eraill yn cael eu torri i’r asgwrn, fod Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried lles gorau'r gogledd a’i drigolion yn y 12 mis nesaf?
Gallaf roi pob sicrwydd i’ch etholwyr yn hynny o beth, gan fod y grant cynnal refeniw, a’r fformiwla sy’n sail iddo, yn un y gellir dangos ei fod yn deg, ac nad yw’n ffafrio rhannau penodol o Gymru dros rannau eraill. Yn 2023-24—yn y flwyddyn hon—mae pedwar o chwe awdurdod gogledd Cymru wedi cael codiadau sy'n uwch na chyfartaledd Cymru. Mae’r rhesymau pam fod rhai awdurdodau’n cael codiadau llai nag eraill mewn rhai blynyddoedd, neu godiadau mwy, yn dibynnu fel y cyfryw ar y newidiadau cymharol yn y boblogaeth a niferoedd disgyblion. Ond yn gyffredinol, credaf fod yna gydnabyddiaeth fod y fformiwla ariannu yn deg. Fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â'r is-grŵp dosbarthu a llywodraeth leol i sicrhau bod y gwahanol ffactorau'n cael eu trin yn deg.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith caffael blaengar sy'n digwydd ar draws byrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru? OQ60028
Rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan edrych ar fwy na chost ariannol yn unig. Mae hyn yn arwain at fuddsoddiad yn ein cymunedau, cyflawni effeithiau llesiant, a chreu effaith lluosydd, gyda’r bunt Gymreig yn aros yng Nghymru ac yn cylchredeg drwy’r economi.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mewn trafodaethau rwyf wedi’u cael ar agenda economi sylfaenol y Llywodraeth, ymddengys bod yna gydnabyddiaeth fod diddordeb wedi’i ganolbwyntio ar fynd ati i ddiwygio caffael cyhoeddus ar lefel byrddau gwasanaethau cyhoeddus, gyda’r amcan generig o roi contractau'r sector cyhoeddus i gwmnïau sydd â'u pencadlys yng Nghymru. Hyd yn hyn, ymddengys bod y trafodaethau rwyf wedi'u cael yn awgrymu nad yw gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar yr hyn y gallai caffael cyhoeddus ei wneud yn wahanol fesul sector. Felly, rwy'n awyddus i ddeall a oes unrhyw ddadansoddiad o weithgarwch wedi ei wneud i ddangos ym mha sectorau y gellid ysgogi gwariant cyhoeddus orau, a pha mor effeithiol y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn hybu'r gwaith hwnnw hyd yma.
Diolch am y cwestiwn. Buaswn yn awyddus, efallai, i gael cyfarfod y tu allan i’r Siambr y prynhawn yma i ddeall ychydig mwy ar yr hyn sy'n sail i'r pryderon. Ond cytunaf yn llwyr fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn bartneriaid hollbwysig yn yr agenda hon. Maent wedi bod wrthi'n ddiweddar yn datblygu ac yn cyhoeddi eu cynlluniau llesiant diweddaraf, a gallwch weld drwy'r rheini y ffaith eu bod yn cydnabod pwysigrwydd caffael cyhoeddus a chaffael lleol wrth ddatblygu’r economi leol.
Mae llawer o enghreifftiau da i'w cael. Y gwaith caffael dodrefn gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—maent wedi cydweithio i gomisiynu’r fenter gymdeithasol Ministry of Furniture, sydd wedi’i lleoli ym Mhort Talbot, i greu gofod swyddfa newydd yng Nghaerdydd, sy’n werth £230,000. Ffocws y gwaith hwnnw oedd gwneud y mwyaf o'r stoc ddodrefn bresennol y gellid ei hailddefnyddio a'i haddasu at ddibenion gwahanol, gyda chyn lleied o ddeunydd â phosibl yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. A chefais gyfle i gyfarfod â Ministry of Furniture yng nghynhadledd Procurex, a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan ddod ynghyd â phobl sydd â diddordeb mewn caffael cyhoeddus a’r sefydliadau sy’n gallu gweithio gyda nhw. Ac mae'n rhaid imi ddweud, pan oeddwn yno'n cyfarfod â phobl yn y gynhadledd, cefais fy syfrdanu gan bob un o'r sgyrsiau a gefais—roeddent yn ymwneud â, 'Sut mae cadw'r bunt yng Nghymru?', 'Sut mae gwario arian i gael buddion cymdeithasol, ac i ddangos gwerth cymdeithasol?' Nid oeddent yn ymwneud ag elw net o gwbl. Felly, cefais fy nghalonogi'n fawr gan y sgyrsiau hynny, ac ymddengys bod pobl, ym maes caffael ar hyn o bryd, yn deall yr angen i sicrhau nad ydym yn edrych ar y gost yn unig, er mor bwysig yw hynny; mae a wnelo â gwerth hefyd.
Nawr, fe fyddwch yn cofio, Weinidog, inni gael ein hethol yn 2011, ac ers hynny, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i drafod caffael cyhoeddus yn y Siambr hon, a sut y gallwn ddefnyddio mwy o gynnyrch Cymreig fel rhan o'r cynllun caffael hwnnw. Nawr, ers 12 mlynedd, rydym wedi clywed cynlluniau gwahanol. Bwriad y strategaeth gaffael genedlaethol oedd helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gydweithio’n agosach wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau lleol. Nododd y cynllun Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol hefyd ei fod yn anelu at gefnogi economïau lleol bob dydd Cymru ac ail-leoleiddio cadwyni bwyd y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd yn bryderus gweld ei fod yn datgan bod pennu cynhyrchion lleol yn benodol yn debygol o fod yn wahaniaethol ac felly’n anghyfreithlon. Felly, mae’r polisi hwn wedi’i lansio i annog bwyd lleol ar blatiau lleol, ac eto mae’r ddogfen ei hun yn dweud bod hynny'n wahaniaethol. Mae llysiau a chynnyrch ffres Cymreig sydd â gwell gwerth maethol, llai o filltiroedd bwyd a gwell maeth i’n plant a’n cleifion yn hanfodol bwysig. Felly, os yw’r cynllun hwn ei hun yn rhwystr rhag rhoi bwyd Cymreig ar blatiau, credaf y dylid ei newid. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau ein bod yn gweld mwy o fwyd o Gymru mewn ysgolion, ysbytai, ac ar draws y sector cyhoeddus, gan helpu i hybu’r economi leol yma yng Nghymru o ganlyniad? Diolch.
Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Janet Finch-Saunders gyda mwy o fanylion ynglŷn â'r cwestiwn penodol hwnnw a ofynnwyd ganddi ynghylch caffael, gan y dylai sefydliadau yn sicr allu caffael yn lleol, caffael bwyd o Gymru. Ac a dweud y gwir, mae a wnelo'r cwestiwn â byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn eu cynlluniau llesiant, mae bwyd gan bob un o'r rheini, a phwysigrwydd caffael yn lleol, a chefnogi cydweithfeydd bwyd lleol ac ati, yn rhan o'u cynlluniau. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn archwilio mwy o'r hyn sy'n sail i'r cwestiwn. Ond rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid bwyd mewn awdurdodau lleol a’r GIG ar hyn o bryd i’w helpu i ddod yn fwy hunangynhaliol o ran caffael yn lleol, a bydd hynny wedyn yn helpu i adeiladu ein cydnerthedd bwyd a’n diogeledd bwyd.
Mae gennym y canllawiau bwyd cyfreithiol newydd, ac maent yn amlinellu dulliau cyrchu sy'n cydymffurfio â rheolau caffael, a dylai hynny ysgogi newid oddi wrth ddulliau cost isaf. Ac i helpu gyda hynny, mae gennym adnodd bwyd newydd o'r enw 'Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol'. Felly, byddaf yn rhannu gwybodaeth am hwnnw, ond efallai fod y sefyllfa hon wedi'i goddiweddyd gan ddigwyddiadau.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o’r dadleuon brwd yn y Siambr hon dros yr wythnosau diwethaf ynghylch cyflwyno terfyn 20 mya diofyn yma yng Nghymru. Yn wir, fe fyddwch yn gwbl ymwybodol o'r ddeiseb o dros 450,000 o lofnodion sy'n ceisio gwrthdroi penderfyniadau ynghylch y terfyn 20 mya diofyn. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod cynghorau yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol ar hyn o bryd. Mae llawer yn gorfod dod o hyd i doriadau sylweddol yn eu cyllidebau er mwyn mantoli eu cyllidebau i ddarparu gwasanaethau y mae taer eu hangen ar ein trigolion. Daw’r pethau hynny law yn llaw, gan ei bod yn anghredadwy yn fy marn i fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £200,000 i gynghorau yn Lloegr i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen 20 mya. Yn wir, derbyniodd Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer £150,000 gan Lywodraeth Cymru, derbyniodd Cyngor Swydd Gaerloyw £20,000 gan Lywodraeth Cymru, ar adeg pan fo ein cynghorau yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd mantoli eu cyllidebau. Felly, Weinidog, tybed sut y credwch chi y mae ein cynghorau'n teimlo am arian yn cael ei gymryd oddi arnynt a'i roi i gynghorau yn Lloegr.
Wel, mae'n amlwg i mi nad yw ffyrdd yn dod i ben yng Nghymru ac yn dechrau eto yn Lloegr, a bod y ffyrdd hynny'n croesi'r ffin. A chredaf ei bod yn bwysig fod pobl ar ddwy ochr y ffin yn deall beth yw'r terfyn cyflymder fel eu bod yn gallu aros o fewn y gyfraith a chael yr eglurder hwnnw. A chredaf mai un peth rydym wedi trafod cryn dipyn arno yn y Siambr dros yr ychydig wythnosau diwethaf yw pwysigrwydd eglurder. Felly, credaf ei bod ond yn deg i bobl sy'n gyrru ar y ffyrdd hynny allu cael arwyddion sy'n briodol i'r ffordd honno ac sy'n rhoi'r hyder iddynt eu bod yn ufudd i'r gyfraith.
Wel, diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Buaswn wedi meddwl y byddech yn credu ei bod yn rhyfedd fod Llywodraeth Cymru yn ariannu cynghorau yn Lloegr. Ac wrth gwrs, ceir llawer o feysydd lle mae'n ymddangos bod pwysau ar ein gyrwyr yma yng Nghymru. Fe wyddom fod Gweinidogion ac Aelodau ar feinciau cefn y blaid Lafur wedi dadlau'n flaenorol o blaid codi ardoll ar barcio yn y gweithle i gynghorau ei rhoi ar waith yng Nghymru. Yn wir, dywedodd cyn Weinidog trafnidiaeth ei bod yn gwbl ddiangen. Yn fy marn i, byddai ardoll ar barcio yn y gweithle yn cosbi’r rhai sydd efallai’n cael eu gwasgu fwyaf ar hyn o bryd—pobl sy’n gweithio’n galed, yn mynd i'r gwaith, yn ceisio rhoi bwyd ar y bwrdd wrth fynd i'r gwaith. Yn yr Alban, fe wyddom fod ardoll ar barcio yn y gweithle a gyflwynwyd yng ngwanwyn 2022 wedi caniatáu i gynghorau osod trethi ar fannau parcio mewn gweithleoedd. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw i beidio â chyflwyno ardoll ar barcio yn y gweithle, ac na fydd cynghorau’n ceisio eu rhoi ar waith ledled Cymru?
Gallaf gadarnhau nad wyf yn cael unrhyw drafodaethau ar hyn o bryd gydag unrhyw gyngor ynglŷn ag ardoll ar barcio yn y gweithle.
Wel, diolch, Weinidog. Credaf ei bod yn bwysig cael hynny wedi'i gofnodi yma heddiw.
Ac i gloi fy nghwestiynau yma gyda newyddion cadarnhaol, yn sicr, roeddwn yn falch iawn, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, o weld Llywodraeth y DU yn cyhoeddi dros £1 biliwn o fuddsoddiad mewn ffyniant bro ar draws y Deyrnas Unedig, gydag ardaloedd fel Merthyr Tudful, Cwmbrân, y Barri, ac wrth gwrs, dinas fwyaf newydd Cymru, Wrecsam, yn cael £20 miliwn i gefnogi’r ardaloedd pwysig hynny ledled Cymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu’r buddsoddiad hwnnw gan Lywodraeth Geidwadol y DU?
Mae hynny fel cael rhywun yn mynd â £100 o'ch poced ôl, cael £5 yn ôl a bod disgwyl ichi fod yn ddiolchgar amdani. Hynny yw, mae hwn yn arian a ddylai fod wedi dod i Gymru ac a fyddai wedi dod i Gymru pe bai Llywodraeth y DU wedi cadw at ei haddewid i ddarparu'r holl gyllid i Gymru y byddem wedi'i gael fel arall gan yr Undeb Ewropeaidd. Felly, credaf fod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r arian hwn dros 10 mlynedd—bydd yr arian cyntaf yn dod yn ystod haf y flwyddyn nesaf—. Felly, mewn gwirionedd, credaf y dylid cwestiynu i ba raddau y mae'r ardaloedd hyn yn debygol o elwa o'r cyllid hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog.
Mae’r materion rydym wedi sôn amdanynt, megis cyni a’r argyfwng costau byw, wedi’u gwaethygu gan effaith Brexit caled Llywodraeth y DU, sy’n parhau i lesteirio ein heconomi. Mae pob un ohonom yn cofio’r honiad gan yr ymgyrch dros adael, sydd bellach wedi’i chwalu'n llwyr, y byddai £350 miliwn y dydd yn cael ei ailgyfeirio o gostau a oedd yn gysylltiedig â’r UE i’r GIG. Wrth gwrs, nid oedd yn adlewyrchu’r costau sylweddol y byddai Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig wedi’u hysgwyddo wrth fynd i'r afael â'r tarfu difrifol ar ein perthynas fasnachu â’r UE. O safbwynt Llywodraeth Cymru, roedd hyn yn golygu recriwtio nifer sylweddol o staff ychwanegol i ymdrin â gwaith parodrwydd ar gyfer Brexit ac ymrwymo i ddarparu adnoddau ar gyfer seilwaith a phrosesau ar gyfer rheolaethau mewnforio newydd. A thros saith mlynedd ers y refferendwm, gyda safleoedd rheolaethau'r ffin yn dal heb eu hadeiladu a rheolaethau mewnforio newydd yn dal heb eu rhoi ar waith, mae bil Brexit i Gymru yn parhau i fod yn sylweddol. Yng ngoleuni’r pwysau di-ildio y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, a yw’n werth ystyried a ellid bod wedi gwario’r arian hwn yn llawer gwell mewn mannau eraill? Ar y sail honno, felly, a allai’r Gweinidog amlinellu faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar waith parodrwydd ar gyfer Brexit ers 2016, a hefyd, a fyddai’n cytuno, pe bai Cymru'n ailymuno â’r farchnad sengl, y gallem ddefnyddio’r arian, sydd ar hyn o bryd yn cael ei daflu i mewn i bydew diwaelod prosiect porthi balchder Torïaidd aflwyddiannus, i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn briodol yn lle hynny?
Wel, rwyf am ddechrau drwy fyfyrio ar y sylwadau a wnaed gan y Canghellor ddoe am y sefyllfa o ran economi’r DU. Ymddengys ei fod yn fodlon iawn ar ei pherfformiad ar ôl Brexit. Wel, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Canghellor, mae ffigurau swyddogol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod economi’r DU wedi gweld perfformiad cynnyrch domestig gros sydd ymhlith y gwaethaf yn y G7 ers cyn y pandemig. Felly, credaf fod rhai o’r honiadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU am ein perfformiad ar ôl Brexit yn amheus a dweud y lleiaf.
Nid yw'r ffigur ar gyfer faint rydym wedi’i wario ar barodrwydd ar gyfer Brexit wrth law gennyf heddiw, ond buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion hynny. A chredaf fod pob un ohonom, er hynny, yn ymwybodol iawn o'r ffigur o £1 biliwn y byddem wedi’i gael, y cyfeiriais ato yn fy ateb i’r cwestiwn gan Sam Rowlands, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pe bai Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid na fyddem geiniog yn waeth ein byd.
Diolch, Weinidog. Mae 13 blynedd o gyni a chamreoli economaidd o dan arweiniad y Torïaid wedi gadael cyllid cyhoeddus mewn sefyllfa enbyd, a bydd y canlyniadau’n cael effaith arbennig o galed ar bobl Cymru. Onid yw'n siarad cyfrolau am haerllugrwydd pur y Blaid Dorïaidd y gall pobl fel Liz Truss, a chwalodd economi’r DU wrth fynd ar drywydd dogma economaidd asgell dde aflwyddiannus, ddal i ddylanwadu ar ASau Torïaidd cyffredin? Mewn meysydd eraill, ni ddylai ac ni fyddai esgeulustod o’r fath yn cael ei oddef, ond fel y dangoswyd yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nid yw'n ymddangos bod y Torïaid yn credu y dylid eu barnu yn ôl yr un safonau ag sy’n gymwys i’r gweddill ohonom.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol wynebu'r set fwyaf heriol o amgylchiadau yn ein hanes modern, gyda'u gallu i ddarparu hyd yn oed y lefel fwyaf sylfaenol o wasanaethau yn cael ei beryglu'n ddifrifol. Ategir hyn gan amcangyfrifon diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru y gallai’r bwlch ariannu sy’n wynebu awdurdodau lleol Cymru, o gymharu â 2021-22, fod cymaint â £744 miliwn erbyn 2027-28. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i awdurdodau lleol fod yn strategol ac yn ddarbodus ynglŷn â sut maent yn defnyddio’r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael iddynt, i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng yn ein cyllid cyhoeddus. Beth rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd, Weinidog, neu beth yw eich dealltwriaeth o faint o gronfeydd wrth gefn sydd ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru? A pha ganllawiau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar y ffordd orau o ddefnyddio’r cronfeydd hyn?
Felly, yr asesiad o argaeledd cronfeydd wrth gefn i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yw y byddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu heb eu dyrannu, ar lefel Cymru gyfan, yn talu am 10 diwrnod yn unig o gostau llywodraeth leol. Nawr, rwy'n gwybod, wrth gwrs, fod y darlun yn amrywio'n eithaf sylweddol, mae'n deg dweud, ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol iawn o hynny. Gwn yr hoffai’r Ceidwadwyr inni ystyried lefel y cronfeydd wrth gefn pan fyddwn yn dyrannu’r grant cynnal refeniw, ond ni chredaf mai dyna’r peth cywir na'r peth teg i’w wneud, gan y daw'r lefel sy'n cronni o gronfeydd wrth gefn o ganlyniad i gyfnod hwy o wneud penderfyniadau gan y cyngor hwnnw, a chaiff sawl gwaith y cronfeydd wrth gefn hynny ei glustnodi ar gyfer gweithgareddau penodol. Ac mae'n werth nodi hefyd fod lefelau wrth gefn yn Lloegr wedi cynyddu dros 50 y cant mewn gwirionedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, credaf ein bod yn gweld cynnydd yn y cronfeydd wrth gefn dros y ffin yn ogystal ag yng Nghymru. Ond fel y dywedaf, yn gyffredinol, nid ydynt ond yn cyfateb i werth 10 diwrnod o lywodraeth leol.
Cwestiwn 3, Peredur Owen Griffiths.
Ie, mae'r rhain fel bysiau.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag arweinwyr cynghorau ynghylch toriadau posibl i wasanaethau rheng flaen yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn wynebu diffyg yn y gyllideb o £900 miliwn mewn termau real? OQ60022
Rwy’n cyfarfod ag awdurdodau lleol yn rheolaidd, ac yn ddiweddar, bûm yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â gweithrediaeth CLlLC. Mae’r grant cynnal refeniw wedi’i ddiogelu mewn penderfyniadau ynghylch cyllideb 2023-24. Rwy'n croesawu'r ffordd bragmatig y mae llywodraeth leol yn gweithio gyda ni i wneud y mwyaf gyda'n gilydd o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda’r cyllid sydd ar gael.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog.
Ar ôl siarad ag arweinwyr cynghorau, yn ogystal â nifer o arweinwyr cyrff eraill sy’n cael arian cyhoeddus, mae’n deg dweud bod llawer o bryder ynghylch yr adroddiadau fod twll du o £900 miliwn yng nghyllideb y Llywodraeth. Ychydig iawn o fanylion, os o gwbl, a gafwyd gyda'r cyfweliadau â'r cyfryngau ar y diffyg yn y gyllideb, sy'n gadael llawer o le i ddyfalu. Mae pobl yn pendroni, er enghraifft, a fydd unrhyw doriadau yn ystod y flwyddyn—ac rwy'n derbyn yr hyn rydych newydd ei ddweud. Gwn y byddwch yn gwneud cyhoeddiad ymhen pythefnos, ond mae pobl wedi bod yn aros yn hir iawn ac yn poeni am hyn ers misoedd. A allwch chi gywiro'r ffeithiau ar y mater, a chadarnhau na fydd angen gwneud toriadau yn ystod y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus rheng flaen? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrth y Senedd sut y cyrhaeddwyd y ffigur o ddiffyg o £900 miliwn, gan fod dryswch ynglŷn ag o ble y daeth y ffigur hwnnw?
Yn sicr. Felly, yn gyntaf, hoffwn gydnabod a derbyn y pwynt y mae Peredur wedi’i wneud ynglŷn â'r pryder y mae sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd. Ac o ran sut y cyrhaeddwyd y ffigur o £900 miliwn, cynhaliwyd ymarfer gan swyddogion Trysorlys Cymru a'n dadansoddwyr, a fu'n edrych ar effaith chwyddiant a'r ffaith bod ein cyllideb bellach yn werth llawer llai nag yr oedd ar yr adeg y'i gosodwyd, yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, effaith chwyddiant sy'n gyfrifol i raddau helaeth, a chredaf ein bod yn gweld hynny'n arbennig o glir gyda chyflogau'r sector cyhoeddus, lle mae rhai o'r dyfarniadau y bu'n rhaid inni gytuno arnynt yn amlwg wedi creu pwysau mawr ar ein cyllideb. Ond yn amlwg, dyna'r peth iawn i'w wneud. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd nawr o ddarparu ar gyfer hynny o fewn y gyllideb.
Ym maes iechyd, rydym wedi gweld costau meddyginiaethau'n cynyddu oddeutu 17 y cant, felly dyna faes arall o bwysau sylweddol, ynghyd â chost ynni, ac unwaith eto, ar yr ystad iechyd, mae hynny wedi bod yn eithaf difrifol. Rydym hefyd wedi gweld pobl yn peidio â dychwelyd at drafnidiaeth gyhoeddus yn yr un ffordd ag yr oeddem wedi’i rhagweld ar ôl y pandemig, yn enwedig ar y rheilffyrdd, lle credaf fod llai o opsiynau i allu addasu'r gwasanaethau, ac ati, i ymateb i hynny. Felly, dyna’r prif feysydd lle mae pwysau.
Fel y dywedwch, byddaf yn gwneud datganiad i’r Senedd ar 17 Hydref am ein dull o fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, ond rydym yn dal i fireinio rhywfaint o’r gweithgarwch hwnnw. Yn amlwg, mae'r asesiadau effaith wedi bod yn bwysig iawn, felly pan fo cyd-Aelodau wedi bod yn ystyried o ba feysydd o'u cyllidebau i ryddhau arian, yn amlwg, maent wedi bod yn awyddus i gynnal asesiadau effaith cyn gwneud y penderfyniadau hynny. Ac yna, mae angen imi gynnal asesiad effaith gronnol drawslywodraethol real i ddeall ble fydd yr effeithiau'n cael eu teimlo fwyaf, oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn yn torri gwariant cyhoeddus, mae'n anochel mai'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n mynd i deimlo effaith hynny, gan mai nhw yw'r bobl a fydd bob amser yn elwa fwyaf o wariant cyhoeddus beth bynnag.
Ac yna y peth olaf i'w ddweud ar hyn, wrth gwrs, yw nad Cymru'n unig sy'n teimlo'r pwysau hwn. Gwn fod yr Alban wedi bod yn teimlo’r pwysau mewn cyllidebau hefyd, ac fe wnaethant roi cyllideb frys ar waith y llynedd i fynd i'r afael â pheth o effaith chwyddiant bryd hynny. Yng Ngogledd Iwerddon, wrth gwrs, aethant y tu hwnt i'w terfyn gwariant adrannol y llynedd, felly maent yn gorfod ad-dalu arian i'r Trysorlys eleni. Ac mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad cynhyrchiant, ac rwy'n gobeithio glywed mwy am ganlyniadau'r adolygiad hwnnw yn natganiad yr hydref.
Weinidog, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth eisoes yn nodi gorwariant enfawr, degau o filiynau o bunnoedd yn y coch, ymhell cyn i’ch toriadau cyllidebol frathu. Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i’r fwyell ddisgyn yn rhywle, ond mae'n rhaid inni wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'n disgyn ar wasanaethau rheng flaen, na bod hyn yn esgus i gynyddu biliau’r dreth gyngor. Weinidog, yn y realiti economaidd ddidrugaredd newydd hon, a yw hi bellach yn bryd ystyried cost cynnal 22 o gynghorau? Onid yr unig ffordd o ddiogelu'r rheng flaen yw mynd i’r afael â gwastraff y swyddfa gefn? Felly, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru yn gyfan gwbl?
Felly, ychydig o bwyntiau allweddol i’w dweud. Yn gyntaf oll, rydym wedi diogelu’r grant cynnal refeniw yn y flwyddyn ariannol hon, ond wrth gwrs, bydd awdurdodau lleol yn teimlo effaith chwyddiant eu hunain, felly ni fydd eu harian yn mynd mor bell ag y deallwyd yn wreiddiol. Felly, yn anochel, credaf y bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd iawn. Ond nid bwriad y Llywodraeth hon yw ad-drefnu llywodraeth leol yn gyfan gwbl, yn enwedig ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw alwad gan lywodraeth leol inni wneud hynny. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw rhoi system ar waith lle gall awdurdodau lleol gydweithio, a lle gallant gydweithredu a chaffael gyda'i gilydd lle maent yn ystyried bod hynny o fudd, a gwelwn hynny'n digwydd ledled Cymru—mae eisoes yn digwydd, y math hwnnw o gydweithio, ac mae hynny'n creu buddion i'r awdurdodau lleol hynny. Mae awdurdodau lleol yn dal i allu uno os yw'n rhywbeth y maent yn dymuno ei wneud. Mae hynny'n bosibl o dan y ddeddfwriaeth, ond unwaith eto, nid oes unrhyw awdurdodau wedi siarad gyda mi am hynny hyd yma.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn agored ac yn dryloyw gyda phreswylwyr? OQ60011
Mae deddfwriaeth yn gosod llawer o ofynion ar awdurdodau lleol i fod yn agored ac yn dryloyw. Hefyd, cyhoeddais ganllawiau statudol diwygiedig yn ddiweddar i gynorthwyo cynghorau i ymgysylltu’n effeithiol â thrigolion. Mae archwilwyr a rheoleiddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cynghorau'n dilyn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau hyn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae cwmwl enfawr o ddirgelwch dros Gyngor Dinas Casnewydd yn dilyn penodi rheolwr dinas yn ddiweddar. Prif nod y rôl yw bod yn bwynt cyswllt a chyswllt cyntaf i fusnesau yng Nghasnewydd, ac eto nid oes gan unrhyw un syniad pwy sydd wedi cael y rôl, sy'n talu rhwng £37,000 a £41,000 y flwyddyn, gan ddefnyddio arian trethdalwyr. Nawr, cwestiwn cyffredin gan etholwyr sydd wedi dod ataf yw: sut ar y ddaear y mae busnesau i fod i gysylltu â'u rheolwr dinas pan nad ydynt yn gwybod pwy yw ef neu hi? Mae sïon ar led fod swydd gyfforddus wedi’i rhoi i gyn-ddirprwy arweinydd y cyngor a gollodd ei sedd yn yr etholiad blaenorol. Er gwaethaf ymdrechion mynych i ddatgelu pwy yw'r rheolwr dinas, mae uwch swyddogion yr awdurdod lleol wedi parhau i gadw'r rôl yn gyfrinach. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylai Cyngor Dinas Casnewydd roi'r gorau i'r holl ddirgelwch a bod yn onest gyda phobl Casnewydd, ac a wnewch chi ymuno â mi i annog y cyngor i wneud hynny? Diolch.
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw y buaswn yn disgwyl i bob awdurdod lleol weithredu’n unol â’r safonau uchaf wrth recriwtio i swyddi o fewn eu sefydliadau, a gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Credaf fod digon o ddeddfwriaeth ar waith i gefnogi hynny. Ond os oes dryswch ynglŷn â phwy i gysylltu â nhw mewn perthynas â materion rheoli dinas, yn y lle cyntaf, buaswn yn awgrymu y dylid ysgrifennu at yr arweinydd neu’r prif weithredwr, a all roi’r manylion cyswllt cywir i chi, gobeithio.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion lleol? OQ60010
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid, y fframwaith deddfwriaethol a’r canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn ffordd sy’n darparu hyblygrwydd er mwyn adlewyrchu anghenion lleol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae cynghorau lleol ledled Cymru wedi bod yn ymgymryd â'r gwaith o roi terfynau cyflymder diofyn 20 mya Llywodraeth Cymru ar waith, ac rydym wedi gweld bod y gost mewn arwyddion yn unig bellach wedi cyrraedd £40 miliwn, a chlywsom gan Sam Rowlands yn gynharach heddiw nad mewn cynghorau lleol yng Nghymru yn unig y mae hynny hyd yn oed, gan fod y gost honno wedi mynd i gynghorau yn Lloegr hefyd. Ond yr hyn yr oeddwn am ofyn i chi yn ei gylch oedd y gallu i gynghorau gadw ffyrdd 30 mya yn y lle cyntaf. Dywedodd y Prif Weinidog fod
'lle i awdurdodau lleol gadw 30 mya lle maen nhw'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud.'
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn honni bod honno'n broses hawdd. Tybed beth yw eich barn ynglŷn â sylwadau cyngor Llafur Abertawe, yn yr ardal y mae’r ddau ohonom yn ei chynrychioli, sy'n dweud:
'Mae gan gynghorau ddisgresiwn cyfyngedig iawn i gynnal terfyn cyflymder o 30mya ar nifer o ffyrdd trefol lle mae'r ffyrdd hyn yn bodloni meini prawf penodol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.'
Ânt yn eu blaenau i ddweud:
'Nid cynghorau a wnaeth y penderfyniad ar hyn ac ni allant newid y penderfyniad'.
Felly, mae gennym Lywodraeth Cymru yn dweud bod disgresiwn, mae gennym gyngor Llafur Abertawe yn dweud bod y disgresiwn yn gyfyngedig iawn, pwy sy'n dweud y gwir?
Rwyf wedi bod yn falch iawn o fod mewn cysylltiad ag arweinydd cyngor Llafur Abertawe—er y dylwn ddweud, Lywydd, fod hynny yn fy rôl fel AS yn hytrach na fy rôl weinidogol—ond y nod yw cael sgwrs cyn bo hir i drafod y pryderon penodol hynny. Nodais fy niolch i’r tîm yn Abertawe, sydd wedi bod yn gweithio’n galed iawn i roi’r ddeddfwriaeth ar waith. Credaf fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn wirioneddol glir yn ei gyfraniad yn y ddadl yr wythnos diwethaf wrth ddweud, ar draws awdurdodau, fod
'cynghorau eisoes wedi defnyddio'r pwerau hynny i wneud eithriadau cyn cyflwyno'r cynllun.... Maent wedi arfer eu gallu i gadw rhai ffyrdd ar 30 mya, a dyna pam nad yw hwn yn bolisi cyffredinol, am fod rhai ffyrdd yn cael eu cadw ar 30 mya.'
Rwy'n dyfynnu o'r Cofnod yr wythnos diwethaf. Meddai:
'Mae ganddynt bwerau i wneud y newidiadau hynny, ac mae'r pwerau hynny'n parhau gyda nhw i'w defnyddio yng ngoleuni profiad. Gallant wneud newidiadau.'
Felly, credaf mai’r pwynt yr oedd y Dirprwy Weinidog yn ceisio'i gyfleu yno yw y bydd hwn yn ddarlun sy’n esblygu. Bydd pobl yn dysgu, bydd cynghorau'n dysgu o brofiad pa mor dda y mae'r broses o gyflwyno'r newid wedi mynd mewn ardaloedd penodol; ac yn sicr, credaf y bydd newidiadau mewn ardaloedd penodol lle mae cynghorau yn gweld synnwyr mewn newid i 30 mya—neu efallai y bydd yna ardaloedd lle mai 20 mya yw’r dewis cywir wedi’r cyfan. Felly, credaf ei bod yn bwysig rhoi rhywfaint o le i awdurdodau lleol anadlu, fel y gallant asesu beth sy’n digwydd ar lawr gwlad.
6. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i’r effaith ar blant yn sgil unrhyw ddiwygiadau i ddyraniadau’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24? OQ60007
Mae adolygu llinellau’r gyllideb wedi bod yn broses gymhleth, ac nid yw wedi digwydd allan o gyd-destun. Rydym wedi bod yn gweithio’n adeiladol ar draws y Llywodraeth i ddeall effeithiau penderfyniadau a sicrhau bod yr effeithiau cronnol—gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc—wedi’u hystyried a’u cofnodi.
Rwy’n sylweddoli bod y Gweinidog yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac mae’n ffaith bod polisïau Llywodraeth y DU wedi gwaethygu tlodi plant yn aruthrol yng Nghymru a ledled y DU. Cymeradwyaf Lywodraeth Cymru am ymdrechu i gamu i’r adwy lle mae Llywodraeth y DU wedi methu lliniaru pethau, ond mae'n dal yn ffaith bod tlodi plant yn parhau i daflu cysgod hir dros ein cenedl. Mae sawl rhanddeiliad wedi codi pryderon ynghylch y strategaeth tlodi plant ddrafft yn y cyd-destun hwn: ei diffyg targedau a chanlyniadau mesuradwy, ac yn benodol, p'un a ydym yn cadw at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cymhwyso Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth ffurfio'i chyllidebau?
Byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon yn ymwybodol o’r sylwadau hynny, er y credaf ei bod, yn ôl pob tebyg, wedi derbyn sylwadau gan yr un sefydliadau.
Ond o ran sut rydym yn ystyried hawliau plant a’r effeithiau ar blant yn ein cyllidebau, mae hynny’n digwydd pan fo Gweinidogion yn ystyried pa raglenni i’w cefnogi, pa ymyriadau i’w hariannu. Mae’r mathau hynny o asesiadau effaith yn digwydd ar y dechrau. Yr hyn sy'n digwydd erbyn iddynt gyrraedd y broses gyllidebol ehangach, mewn gwirionedd, yw cael y math hwnnw o ddealltwriaeth gronnol o effeithiau'r dewisiadau a wnawn. Mae’r rheini bob amser yn bwysig pan fyddwn yn datblygu’r gyllideb, ond credaf eu bod hyd yn oed yn fwy felly nawr pan fyddwn yn edrych ar feysydd i symud cyllid oddi wrthynt, fel y gallwn ddeall yr effeithiau’n iawn.
Cefais gyfle i glywed gan y comisiynydd plant yr wythnos diwethaf fel rhan o’r broses o ymgysylltu ynghylch y gyllideb—bob blwyddyn, rwy'n cael cyfarfod bord gron gyda phob un o’r comisiynwyr statudol—ac roedd hi’n awyddus i wneud pwyntiau tebyg iawn am bwysigrwydd nid yn unig ystyried anghenion a hawliau plant yn yr hyn a wnawn, ond dangos hynny hefyd.
Gwyddom fod disgyblion yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu â’u cyfoedion yn Lloegr o ran cyllid, o oddeutu £1,000 y disgybl. Gwyddom hefyd fod Cymru wedi derbyn gwerth £129 miliwn o gyllid ychwanegol y llynedd o ganlyniad i wariant uwch mewn ysgolion yn Lloegr. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn gan Lywodraeth y DU, gwelwyd toriad o £6.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gyllid addysg mewn termau real o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae canlyniadau arholiadau diweddaraf yn dangos bod ein graddau TGAU uchaf ar y lefel isaf ers pedair blynedd, yn ogystal â’n cyfraddau pasio TGAU. At hynny, mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg wedi canfod bod bwlch anfantais ehangach yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Gyda hynny mewn golwg, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi wedi’u cael gyda’r Gweinidog addysg ynghylch effaith toriadau i’r gyllideb addysg ar raddau disgyblion?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn bod braidd yn anonest yn y cyfraniad hwnnw, mae arnaf ofn, oherwydd mae’n methu cydnabod bod ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu drwy lywodraeth leol a thrwy’r grant cynnal refeniw. Ar ôl datganiad y gwanwyn, roeddwn yn glir iawn gyda’r Senedd fy mod wedi rhoi’r £170 miliwn o gyllid canlyniadol, a mwy, i lywodraeth leol. Felly, cafodd llywodraeth leol fudd o’r cyllid hwnnw, o gyllid a oedd yn ymwneud â gofal cymdeithasol, ac o gyllid pellach hefyd. Felly nid wyf yn credu ei bod yn deg dweud y bu toriad. Nid yn unig ein bod yn ariannu ysgolion drwy'r grant cynnal refeniw, mae gennym ystod eang o raglenni sy’n cael eu cefnogi drwy gyllideb y portffolio addysg hefyd, felly nid wyf yn credu bod y datganiad yn deg nac yn gywir.
Prynhawn da, Weinidog. Rwyf eisiau troi’n ôl at fater plant sy’n byw mewn tlodi, rhywbeth y gwn ein bod ni i gyd yn pryderu yn ei gylch. Rwyf am siarad rhywfaint am fy mhrofiadau personol o fod yn weithiwr cymdeithasol ym maes amddiffyn plant am 25 mlynedd. Nid yw’r ystadegau gennyf, ond credaf fod 90 y cant o’r teuluoedd y bûm yn gweithio gyda nhw yn byw mewn tlodi. Ac mae hynny'n rhywbeth nad oes yr un ohonom ei eisiau, ond mae hefyd yn cael effaith economaidd o ran y cyllidebau i'n gwasanaethau diogelu ac i'n hawdurdodau lleol allu diwallu anghenion y plant y mae angen eu hamddiffyn. Rwy'n hoffi'r dywediad fod owns o atal nawr yn werth pwys o wellhad yn y dyfodol. Rwy’n meddwl tybed sut y gall y Llywodraeth gyfrifo costau gwasanaethau diogelu, pan allem fod yn gwrthbwyso hwnnw, mewn gwirionedd drwy wneud yn siŵr nad yw ein plant yn byw mewn tlodi a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y canlyniadau y byddem i gyd eu hangen a’u heisiau ar gyfer ein teuluoedd ein hunain. Diolch yn fawr iawn.
Un darn pwysig iawn o waith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'n grŵp cynghori ar y gyllideb oedd edrych ar sut rydym yn diffinio ac yn mesur gwariant ar atal a chamau ataliol. Rwy’n credu bod y gwaith hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn helpu pob un ohonom i feddwl am ein cyllidebau, a hyd yn oed yn fwy felly, rwy’n credu, mewn cyfnod o ailflaenoriaethu, oherwydd pan fyddwch yn trin y tân o’ch blaenau mae’n wirioneddol anodd meddwl am atal tanau yn y dyfodol, onid yw. Felly, yr hyn rwy'n awyddus iawn i ni ei wneud gyda’r gwaith hwn yw bod yn ymwybodol bob amser o atal, nid yn unig gyda'r ochr gymdeithasol i bethau, ond mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a natur hefyd. Oherwydd nid wyf eisiau gweld yr agenda ataliol a'r agenda newid hinsawdd yn cael eu hanghofio am nad ydynt yn ddigon pwysig, yn galw am sylw uniongyrchol, oherwydd maent yn bendant yn bwysig ac yn galw am frys. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau mai dyna sydd ar flaen ein meddyliau pan fyddwn yn datblygu'r gwaith hwn, ac edrych ar sut rydym yn llenwi'r bwlch hwnnw yn ein cyllideb eleni.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu cwmpas pwerau benthyca Llywodraeth Cymru? OQ60025
Rwyf wedi dadlau dros fwy o bwerau benthyca i Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro. Pan wneuthum gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fis diwethaf, dadleuais y dylai’r gwelliannau diweddar i derfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn o fewn fframwaith cyllidol yr Alban gael eu cymhwyso’n awtomatig i Gymru.
Cytunwyd ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016 ac mae’n gweithredu pwerau Deddf Cymru 2014. Cynyddodd y fframwaith derfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru i £1 biliwn a’r terfyn blynyddol i £150 miliwn. Y llynedd, galwodd adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig am wella pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Mae’n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn gallu nac yn fodlon buddsoddi, fel rydym newydd ei glywed heddiw, mewn prosiectau seilwaith hirdymor, fel y dangoswyd yn araith Prif Weinidog y DU y prynhawn yma, gyda chynlluniau llwybr HS2 heibio Birmingham yn cael eu canslo a chyda’r methiant i fuddsoddi’n ddigonol yn seilwaith Cymru. A yw'r Gweinidog yn cytuno felly fod angen y gallu arnom i fenthyca i fuddsoddi mwy ein hunain i allu cyflawni'r newid trawsnewidiol a chynaliadwy sydd ei angen ar Gymru?
Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Mae ein terfynau benthyca yn fach iawn, a dyna un o’r rhesymau pam ein bod wedi gor-raglennu ein cyllideb gyfalaf eleni o £100 miliwn, er mwyn ceisio diogelu rhag unrhyw lithriant ac i wneud y defnydd mwyaf posibl o’r bunt Gymreig. Ond mae angen i ni gael mwy o bwerau benthyca yn flynyddol ac yn gyffredinol. Gallai fod yn fater o fynegeio benthyca yn ôl chwyddiant. Y flwyddyn nesaf byddai ein pwerau benthyca, er enghraifft, yn werth 17 y cant yn llai mewn termau real nag yr oeddent ar yr adeg y cytunwyd arnynt. Nid oes unrhyw beth yn symud gyda'r oes, felly mae'n bwysig fod Llywodraeth y DU yn rhoi'r hyblygrwydd syml hwnnw inni y mae wedi cytuno arno gyda'r Alban fel rhan o'i hadolygiad o'r fframwaith cyllidol. Nid ydym yn credu bod angen i ni gael adolygiad llawn, nid oes angen inni dreulio 18 mis yn edrych ar y fframwaith. Mae'n gweithio'n dda ar hyn o bryd. Ond rwy’n credu y byddai’r pethau syml, pragmatig y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud i’n helpu i reoli ein cyllideb yn cael eu croesawu’n fawr, ac nid oes unrhyw reswm real o gwbl dros beidio â'u darparu.
Rwy'n credu bod Hefin David yn codi cwestiwn pwysig heddiw, ac yn sicr mae gennyf lefel o gydymdeimlad â'r heriau rydych chi'n eu hwynebu, Weinidog. Rwy'n credu yr hoffem ddeall lle gallwn edrych am gefnogaeth drawsbleidiol i ystyried rhai o'r pethau rydych chi'n gofyn amdanynt. Yn y cyfamser, un o’r pethau sy’n fy nharo i o hyd yw’r lefel uchel o gronfeydd wrth gefn sydd gan ein hawdurdodau lleol, hyd at tua £2.5 biliwn yma yng Nghymru. Tybed a oes cyfle, mewn perthynas â benthyca, i ddeall sut y gellid defnyddio rhai o'r cronfeydd wrth gefn hynny i gefnogi benthyca i Lywodraeth Cymru? Efallai y bydd o fudd i rai o’ch uchelgeisiau gwaith cyfalaf gan gefnogi awdurdodau lleol ar yr un pryd mewn perthynas â llog, efallai, y gellir ei dalu iddynt dros gyfnod hwy. Nid wyf yn siŵr pa sgyrsiau rydych wedi’u cael, neu a yw hwnnw’n rhywbeth y gallech fod wedi’i ystyried.
Diolch am y cwestiwn. Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod cefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i beth o'r hyblygrwydd cyllidol eithaf syml rydym yn gofyn amdano. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi awgrymu y byddai’n beth rhesymol i Lywodraeth y DU ei wneud, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid wedi bod yn gefnogol iawn iddo yn y gorffennol. Felly rwy'n meddwl bod yna gynghreirio go iawn ar hynny.
O ran benthyca â chymorth, rydym wedi cael trafodaethau â llywodraeth leol. Mae’n ddyddiau cynnar, felly nid wyf mewn sefyllfa i ddweud llawer mwy heb ddweud gormod am yr hyn y buom yn ei drafod. Ond pan fyddwn yn gallu dweud mwy, byddaf yn fwy na pharod i roi mwy o wybodaeth i'r Senedd.
8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido llywodraeth leol? OQ60002
Rwy’n trafod y fformiwla gyllido yn rheolaidd gydag is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth. Mae’r fformiwla gyllido’n parhau i gael ei datblygu a’i chytuno gyda’r is-grŵp dosbarthu i ddiweddaru ac adolygu’r data a’r ffactorau yn y fformiwla gan gynnwys teneurwydd poblogaeth, gwasgariad ac amddifadedd.
Weinidog, mae’n gwbl amlwg i bawb fod y fformiwla gyllido llywodraeth leol yng Nghymru wedi dyddio ac nad yw’n addas i’r diben. Mae ganddi dros 4,000 o newidynnau, gyda rhai ohonynt yn dyddio’n ôl i’r 1990au, ac a dweud y gwir, mae’n fformiwla sy'n gwahaniaethu ar sail oed nad yw’n gwasanaethu’r awdurdodau lleol sydd â phoblogaethau hŷn. Nid yw’n gwasanaethu awdurdodau lleol gwledig yn dda ychwaith. Mae’n amlwg fod angen ei hadolygu'n annibynnol. Ni fydd pwyllgor cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydsynio i newid sylweddol am fod gormod o enillwyr a chollwyr o gwmpas y bwrdd sydd â diddordeb uniongyrchol yn y mater. A gaf fi eich annog i ddefnyddio synnwyr cyffredin a chael rhywun annibynnol i ddod i edrych ar hyn yn fanwl fel y gallwn gael fformiwla deg sy’n gweithio i bob rhan o Gymru?
Wel, hoffwn ddweud bod 72 y cant o’r cyllid yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, ac mae hynny’n cynnwys y data poblogaeth, sy’n 25 y cant o’r cyllid. Mae hwnnw eisoes yn defnyddio'r data poblogaeth diweddaraf. Daw hwnnw o gyllideb 2020-21. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r is-grŵp cyllid yr wythnos diwethaf—neu’n ddiweddar—mewn cyfarfod ar waith ar y gweill i ddiweddaru’r data poblogaeth, a hefyd y dangosyddion cyfrifiad eraill sydd bellach yn dod drwodd ar fesurau teneurwydd poblogaeth a gwasgariad. Gall hynny achosi corddi sylweddol o fewn y dosbarthiad.
Hefyd, cynhaliodd yr is-grŵp dosbarthu weithdy yn ddiweddar i edrych ar ddata newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd ar gael ar gyfer teneurwydd poblogaeth, a’r modelu ystadegol sy’n sail i’r dangosyddion meithrin a chynradd, ac effaith bosibl newidiadau i gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim ar ddangosyddion amddifadedd. Felly, mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo drwy'r amser i geisio gwneud yn siŵr fod y fformiwla'n gyfredol ac yn glir.
Gadewch inni gofio hefyd ein bod yn dechrau ar gyfnod lle rydym yn edrych ar ddiwygio’r dreth gyngor. Nawr, yn anochel, bydd hynny'n cael effaith ar gyllid llywodraeth leol gan y bydd yn newid y sylfaen drethu ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny. Felly, faint o ansicrwydd a newid rydym ni eisiau ei gyflwyno i’r system ar un adeg? Yn amlwg, ar hyn o bryd rydym yn meddwl pa gymorth trosiannol y gallai fod ei angen ar awdurdodau lleol yng nghyd-destun gwneud y dreth gyngor yn decach. Ond ar hyn o bryd rwy’n credu bod llawer o waith yn mynd rhagddo ar ddiweddaru’r fformiwla. Fel bob amser, os yw llywodraeth leol eisiau cael y drafodaeth honno am adolygiad mwy trylwyr—
Mae'n ateb stoc.
—yna, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Mae’r Aelod yn dweud ei fod yn ateb stoc, ond mae’r Aelod yn gofyn y cwestiwn i mi drwy’r amser, ac nid yw’r ateb wedi newid.
9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phwysau ar y gyllideb? OQ60019
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag awdurdodau lleol yn yr is-grŵp cyllid a’r cyngor partneriaeth i drafod cyllidebau a phwysau. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd yn cyfarfod yn aml â chynghorau i drafod materion sy’n ymwneud â’u portffolios.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, cawsom thema gyson yn y cwestiynau heddiw. Mae fy nghyngor fy hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cyfarfod â mi yn ddiweddar ac wedi dweud mai’r tri phrif faes y maent yn gwario’r rhan fwyaf o’u cyllideb arnynt yw: digartrefedd, amddiffyn plant, a chludiant o’r cartref i’r ysgol. Mae’r rhain i gyd yn ofynion statudol ac felly, mae'n rhaid eu blaenoriaethu.
Ond wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith ganlyniadol. Er enghraifft, mae ymrwymiad enfawr nawr i adeiladu Ysgol Heronsbridge newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr—yr ysgol arbennig leol—ond mae'r gyllideb a osodwyd ar ei chyfer ychydig flynyddoedd yn ôl bron wedi dyblu nawr oherwydd chwyddiant. Wyddoch chi, mae'r holl bethau hyn—. Ac eto, rwyf eisiau canmol fy awdurdod lleol am ein bod yn dal i adeiladu ysgolion newydd. Rydym yn gweld adfywiad ym Mhorthcawl ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r amddiffynfeydd môr wedi cael eu gwneud ym Mhorthcawl yn ddiweddar i amddiffyn cartrefi a busnesau. Mae cymaint yn cael ei wneud.
Ond rwy’n tybio mai’r hyn y mae pawb yn ei godi yma heddiw yw’r ffaith bod yna bryder enfawr nawr, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar y gorwel. Dyma fy nghwestiwn: a fyddwch chi’n parhau i gael y sgyrsiau hynny fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl o'r gyllideb honno ymlaen llaw, a hefyd fel y gallant gael sicrwydd na fyddant yn waeth eu byd—neu na fyddant yn cael eu trin yn wahanol, am wn i—i unrhyw ran arall o'n sector cyhoeddus yng Nghymru? Diolch.
Rwy'n awyddus iawn i barhau â’r trafodaethau hynny gyda llywodraeth leol, a bod mor agored a gonest gyda nhw ag y gallwn fod ar bob pwynt o'r broses hon. Fel y dywedais, bûm yng nghynhadledd CLlLC ac fe gyfarfûm â swyddogion gweithredol llywodraeth leol Cymru yn ddiweddar, a llwyddais i gael y sgwrs ynglŷn â sut rydym yn rheoli’r pwysau penodol ar y gyllideb.
Wrth gwrs, un rhan yn unig o'r darlun yw'r grant cynnal refeniw. Mae gennym grantiau penodol sy’n mynd i awdurdodau lleol hefyd. Un peth y credaf ei fod yn cael croeso mawr yw’r gwaith a wnawn ar leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Ar adeg pan nad oes mwy o arian gennym i’w ddarparu, credaf mai’r hyn y gallwn ei wneud yw rhoi hyblygrwydd iddynt ddefnyddio’r arian sydd ganddynt. Mae’r gwaith hwnnw wedi cael croeso arbennig, ac rwy’n gobeithio gwneud rhywfaint o gynnydd o leiaf yn y gyllideb nesaf.
Ac yn olaf, cwestiwn 10—Rhys ab Owen.
10. Sut mae fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ardaloedd llai gwydn yng Nghymru, fel y nodir mewn ymchwil ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau? OQ60004
Dyrannwyd dros chwarter y setliad llywodraeth leol diweddaraf ar sail 22 o ddangosyddion amddifadedd, gan alluogi awdurdodau lleol i nodi a darparu cymorth i’r ardaloedd lle mae fwyaf o angen.
Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn debyg i gwestiwn Darren Millar ond o safbwynt gwahanol. Fel y gwyddoch, nododd yr ymchwil gan Oxford Consultants for Social Inclusion ardaloedd yng Nghymru lle mae dros 800,000 o bobl yn byw fel ardaloedd cydnerthedd isel, ardaloedd sydd yn bennaf ar gyrion ardaloedd poblogaeth mawr, megis Trelái a Llaneirwg yng Nghaerdydd, ac rwy'n siŵr y gallech feddwl am ardaloedd tebyg yn eich etholaeth chi—ardaloedd sydd â chysylltedd gwael â'r gymuned ehangach, economi grebachlyd a llai o asedau cymunedol. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos gwir effaith hyn ar y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn—cyfraddau uwch o ddiweithdra, lefelau is o gymwysterau a disgwyliad oes byrrach. Mae'n anhygoel fod gan bobl ddisgwyliad oes byrrach oherwydd lle maent yn byw.
Fel y dywedodd Jenny Rathbone a Sarah Murphy mewn cwestiynau blaenorol, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi wynebu dewisiadau anodd iawn, ond a wnewch chi ystyried addasu'r fformiwla gyllido llywodraeth leol i gyfrif am y gwaith ymchwil newydd pwysig hwn? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Mae fy swyddogion yn edrych yn ofalus ar yr ymchwil. Un cwestiwn rwyf wedi ei ofyn iddynt yw i ba raddau y byddai'n gwneud gwahaniaeth i'r fformiwla—a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol ac ystyrlon i'r swm o arian y byddai awdurdodau lleol yn ei gael pe baem ni'n gwneud rhai o'r newidiadau? Nid wyf yn gwybod yn iawn beth yw'r ateb i'r cwestiwn hwnnw ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno.
Er hynny, mae'r fformiwla'n ystyried rhai o'r ffactorau sy'n ymwneud â phwysigrwydd effaith amddifadedd ar wahanol wasanaethau. Felly, er enghraifft, cynyddwyd y pwysoliad ar gyfer teneurwydd poblogaeth yn y gorffennol mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, ac roedd hynny o ganlyniad i'r gwaith y mae ein his-grŵp dosbarthu wedi'i wneud. Felly, mae'n edrych ar rai o'r ffactorau hyn, ond rwy'n sicr yn awyddus i edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwnnw gyda fy swyddogion, ac mae'n adroddiad sydd wedi bod o gymorth mawr yn fy marn i.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd. Y cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar yr effaith ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru o ganlyniad i roi diwedd ar gyllid y rhaglen datblygu gwledig? OQ60026
Diolch. Rydym yn parhau i gefnogi ein ffermwyr a'n rheolwyr tir drwy gynlluniau buddsoddi gwledig, gan fuddsoddi dros £200 miliwn. Fodd bynnag, mae yna effeithiau anochel o ganlyniad i derfynu'r rhaglen datblygu gwledig, gan fod Llywodraeth y DU wedi gadael ein cymunedau gwledig gyda £243 miliwn yn llai na phe byddem wedi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yr wythnos diwethaf yn y Siambr, fe gyfeiriais i at y ffaith bod cynllun Fflecsi Bwcabus yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro yn dod i ben ddiwedd y mis, ac fe wnes i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn y gwasanaeth hanfodol hwn, sy'n achubiaeth i gynifer o bobl, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig. Fel rŷch chi'n gwybod yn iawn, mae Bwcabus wedi'i ariannu'n rhannol drwy'r rhaglen datblygu gwledig, yr RDP, un o gronfeydd ariannol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r cynllun, ar gyfartaledd dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn derbyn rhyw £500,000 y flwyddyn o'r gronfa hon.
Nawr, yn ddiweddar, dangosodd adroddiad gan Archwilio Cymru, nôl ym mis Mawrth eleni, fod £58 miliwn o'r gronfa RDP heb ei wario, a bod risg bod Cymru yn mynd i golli'r arian yma os nad oeddem ni'n mynd i'w ddefnyddio cyn diwedd y flwyddyn. Felly, rŷn ni mewn sefyllfa ryfedd iawn, iawn. Mae'n debyg ar un llaw bod arian dros ben, arian sylweddol, ac eto does yna ddim arian i dalu am barhad i'r cynllun Bwcabus, felly mae hon yn sefyllfa ryfedd iawn. Gaf i ofyn i chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am faint o arian grant RDP sydd ar ôl i'w wario? Pa fesurau rŷch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cronfeydd hyn yn cael eu gwario'n llawn? Ac os oes arian ar ôl, a fyddech ch'n fodlon rhoi sicrwydd bod gwasanaeth Bwcabus yn gallu parhau?
Diolch. Fel y dywedwch, mae Bwcabus wedi cael ei ariannu gan yr UE am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae'r cyllid hwnnw bellach yn dod i ben. Ond nid yw'n syndod o gwbl, oherwydd nid oes unrhyw gyllid heb ei ddyrannu o'r cynllun datblygu gwledig. Felly, mae gennym tan ddiwedd y flwyddyn hon i wario pob ceiniog o'r arian hwnnw. Ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir fy mod yn disgwyl i bob ceiniog gael ei gwario, felly rydym wedi gor-ddyrannu'r cyllid oherwydd ein bod yn gwybod, o flynyddoedd lawer o brofiad, fod cyllid y cynllun datblygu gwledig—yn ddieithriad, mae cynlluniau'n dod yn ôl heb fod wedi gallu gwario'r arian. Felly, rydym wedi dysgu o'r gwersi hynny ac eleni rydym wedi gor-ddyrannu. Felly, nid oes £58 miliwn heb ei wario, efallai fod hynny'n wir ar ddechrau'r flwyddyn, ond erbyn diwedd y flwyddyn, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y cyfan wedi'i wario. Rwy'n cyfarfod â fy swyddogion o dîm y rhaglen datblygu gwledig yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gwthio pob cynllun sydd wedi cael cyllid drwy'r rhaglen datblygu gwledig i sicrhau eu bod yn gallu dyrannu'r arian hwnnw'n llawn, oherwydd rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r cynllun datblygu gwledig wedi'i gyflawni yma yng Nghymru. Felly, ni fydd unrhyw danwariant erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Weinidog, fe wyddoch fy mod wedi eich herio o'r blaen ar gyllid y rhaglen datblygu gwledig a sut y cafodd ei wario, gan nodi adroddiad deifiol Archwilio Cymru a ganfu fod miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr wedi cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru drwy ffafriaeth a cheisiadau uniongyrchol. Gelwais am adolygiad annibynnol o'r rhaglen datblygu gwledig, ac fe wnaethoch wrthod, gan ddweud eich bod yn hyderus fod gwersi wedi'u dysgu. Ond gyda chynllun newydd Cynefin Cymru, mae'n ymddangos nad oes unrhyw wersi wedi'u dysgu, oherwydd ni chafwyd asesiad effaith, ni chafwyd ymgynghoriad, ac yn fwy rhyfeddol, ni chafwyd cyllideb. Mae Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa unigryw o fod wedi cythruddo'r lobi amgylcheddol a'r gymuned ffermio ag un ergyd. I ddyfynnu un ffermwr: 'Pe na bai mor ddifrifol yn ariannol, byddai'n chwerthinllyd.' Mae Cymdeithas y Pridd Cymru wedi disgrifio'r cynllun newydd fel un 'brawychus'. Felly, gyda'r rhaglen datblygu gwledig yn dod i ben, gyda Glastir yn dod i ben, ac o ystyried na fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lansio tan 2025, pa sicrwydd y gallwch ei roi nad yw'r bont rhwng gwaddol a chymorth newydd yn dymchwel o dan y Llywodraeth hon?
Rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â phwrpas y cynllun Cynefin. Roedd pawb—pawb—yn gwybod bod cynlluniau Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ni allwn ei ymestyn mwyach. Fe wneuthum ei ymestyn dro ar ôl tro. Mae'n amhosibl imi ei ymestyn ymhellach eto. Pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai'r cyllid hwnnw ar gael o hyd. Nid yw ar gael, felly rydym mewn byd hollol newydd. Mae'n newid enfawr, ac rwy'n deall ei fod yn newid enfawr i'n ffermwyr, ond roeddent i gyd yn gwybod ei fod yn dod i ben eleni. Roedd pawb yn gwybod, pob un ohonynt. Nid oes unrhyw bwynt i chi ysgwyd eich pen, roedd pawb yn gwybod bod cynlluniau Glastir yn dod i ben eleni.
Nawr, fe ofynnwyd i mi sicrhau, yn enwedig gan yr undebau ffermio, fod gennym gynllun amaeth interim cyn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy ym mis Ebrill 2025. Felly, rwyf wedi gwneud hynny. Roedd yna ffenestr fach iawn i allu gwneud hynny. Buom yn gweithio'n agos iawn gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a chydag Undeb Amaethwyr Cymru a llawer o randdeiliaid eraill i geisio creu cynllun cyn gynted â phosibl. A dyna a wnaethom. Ddydd Gwener diwethaf, agorwyd y cynllun hwnnw. Rydym eisoes wedi derbyn dros 100 o geisiadau.
Ni wneuthum ddweud o gwbl y byddai'r arian yr un fath â Glastir. Er enghraifft, nid wyf yn gwybod ar hyn o bryd beth yw'r gyllideb oherwydd rydym ni, fel Llywodraeth, ar draws y Llywodraeth, gyda fy holl gyd-Weinidogion, yn gorfod ailflaenoriaethu cyllideb eleni—nid cyllideb y flwyddyn nesaf, cyllideb eleni. Felly, llwyddais i sicrhau bod gennym gronfa fach o arian ar gyfer y cynllun hwn. Rwy'n falch iawn fod y cynllun yno. A pheth arall, gallwch ddweud bod pawb yn anhapus am y peth, ond mae yna ffermwyr wedi dweud wrthyf pa mor falch ydynt o gael cynllun amaeth-amgylcheddol y gall pob ffermwr wneud cais amdano, oherwydd nid oedd hynny'n wir gyda Glastir.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i wella lles anifeiliaid domestig? OQ59998
Diolch. Ein huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael ansawdd bywyd da. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yn 'Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26'. Mae'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill.
Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio bod anifeiliaid domestig yn fodau ymdeimladol. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes ardderchog o ddeddfu ar gyfer lles anifeiliaid domestig. Er enghraifft, mae bellach yn anghyfreithlon i werthwr masnachol werthu cŵn bach neu gathod bach nad ydynt wedi eu magu eu hunain ar eu tir eu hunain, ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod y fam yn bresennol. Rwy'n dal i aros i ficrosglodynnu cathod gael ei wneud yn orfodol, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n dweud y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol agos. Ond mae'r rhan fwyaf o greulondeb tuag at anifeiliaid yn seiliedig ar anwybodaeth yn hytrach na phobl yn ceisio bod yn greulon tuag at yr anifeiliaid. A wnaiff y Llywodraeth ystyried ei gwneud yn orfodol i ddarparu gwybodaeth ar sut i ofalu am gwningod i berchnogion cwningod newydd?
Diolch. Wrth gwrs, mae'n Ddiwrnod Anifeiliaid y Byd heddiw. Fe wnaethom ni ei ddathlu ddiwrnod yn gynnar eleni yma yn y Senedd ddoe gyda digwyddiad wedi'i noddi gan Luke Fletcher. Rwyf wedi ymrwymo i edrych ar ficrosglodynnu cathod fel y gwyddoch, ac er nad oes gennym ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar gyfer eleni, mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn edrych arno mewn perthynas â chronfeydd data ar gyfer cathod a chŵn. Rwy'n ddiolchgar iawn fod yr Aelod bob amser yn cadw'r mater hwnnw ar yr agenda. Rwy'n credu bod perchnogaeth gyfrifol ar bob anifail yn bwysig iawn, a byddaf yn sicr yn ystyried ei gais.
Weinidog, mae torri cynffonnau cŵn bach wedi cael ei wahardd yng Nghymru ers 2007, gyda rhai eithriadau ar gyfer bridiau penodol o gŵn gwaith. Cyfarfûm â grŵp o filfeddygon yn fy etholaeth yn ddiweddar a oedd yn dweud wrthyf, pan fo pobl yn dod â'u cŵn bach i'r filfeddygfa ar gyfer eu brechiadau, na allant brofi bod cynffonnau'r anifeiliaid anwes hynny wedi cael eu torri'n iawn mewn gwirionedd. Pan fyddant yn hysbysu'r adran safonau masnach leol neu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, nid yw'r rheini'n fodlon ymchwilio ac nid ydynt yn cymryd unrhyw gamau gorfodi yn gysylltiedig â hynny. Felly, hoffwn wybod: beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y cyrff hyn yn gorfodi'r rheoliadau rydym yn eu pasio yma yn y Senedd hon i wella lles ein hanifeiliaid domestig yng Nghymru?
Diolch. Nid yw hwnnw'n fater sydd wedi cael ei godi gyda mi o'r blaen, ond byddaf yn sicr o siarad gyda'r prif swyddog milfeddygol mewn perthynas â hynny, a hefyd, yn amlwg, gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion—rwy'n cyfarfod â phrif weithredwr yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn aml iawn—oherwydd os yw hynny'n wir, mae'n destun pryder mawr. Ond fe wnaf edrych ar hynny ac fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod. Diolch.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth frys ledled gogledd Cymru, ac wedi cynnal ymgynghoriad ar dri opsiwn ar gyfer newid. Bydd pob un o'r opsiynau hynny'n gweld toriadau a gostyngiadau yn y ddarpariaeth frys mewn lleoliadau allweddol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys israddio gorsafoedd tân yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy, ac mae dau o'r opsiynau yn argymell cael gwared ar injan dân â chriw yn eich etholaeth chi yn Wrecsam. Mae Undeb y Brigadau Tân wedi disgrifio'r argymhellion fel,
'tair ffordd wahanol o roi'r cyhoedd mewn perygl'.
Weinidog, fel Gweinidog gogledd Cymru, a ydych chi'n cytuno â nhw?
Wel, yn amlwg, mae hwn yn gyfnod o ddewisiadau anodd iawn i bawb, ond rwy'n credu bod hwn yn fater lleol a gweithredol i awdurdod tân ac achub gogledd Cymru, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reswm i ymyrryd. Ar hyn o bryd, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cadw llygad barcud ac yn cyfarfod â'r prif swyddog tân yn rheolaidd, ond yn amlwg, mae unrhyw beth sy'n effeithio ar y ffordd y mae ein gwasanaethau brys yn gallu ymateb yn destun pryder.
Wel, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gwasanaeth tân yng ngogledd Cymru yn y pen draw, ac rydym yn gwybod, Weinidog, fod y gwasanaethau tân yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn cael eu staffio bob awr o'r dydd am resymau da ar hyn o bryd: mae'r orsaf yn y Rhyl yn gwasanaethu canolfan boblogaeth fawr iawn, gyda llawer ohoni'n ddifreintiedig, ac mae wedi'i lleoli ar ran o arfordir gogledd Cymru sydd â'r nifer fwyaf o eiddo'n wynebu perygl llifogydd. Gwyddom fod Glannau Dyfrdwy yn gwasanaethu poblogaeth fawr iawn, mewn ardal sy'n cynnwys ardal ddiwydiannol fawr, lle gall argyfyngau fod yn drychinebus i'r rhai sy'n gweithio ac yn byw gerllaw. Ac yn Wrecsam, mae'r tair injan dân a'r criwiau'n hanfodol i ddiogelwch y ddinas, y ganolfan boblogaeth fwyaf yng ngogledd Cymru.
Y llynedd, o dan y trefniadau darpariaeth frys presennol, cyflawnodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru garreg filltir eithriadol: hon oedd y flwyddyn gyntaf lle na chafwyd unrhyw farwolaethau'n gysylltiedig â thân. Nawr, mae hynny'n awgrymu i mi fod y model presennol yn gweithio'n dda iawn. Felly, a ydych chi'n cytuno y bydd ailddyrannu a thorri adnoddau yn y ffordd y mae'r awdurdod tân yn ei argymell yn rhoi'r cyflawniad hwnnw a bywydau pobl mewn perygl?
Fel y dywedais, mae hwn yn fater lleol a gweithredol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mater iddyn nhw yw dod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy—mae'n rhaid iddo fod yn deg â'u gweithlu, mae'n rhaid iddo fod yn deg â chymunedau gogledd Cymru. Ac rwy'n cydnabod y gallai'r hyn sy'n cael ei gynnig achosi rhywfaint o bryder i'r cymunedau hynny, ond rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn sicr wedi annog yr awdurdod tân ac achub i geisio dod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy ac yn fforddiadwy, ac sy'n deg, fel y dywedais, nid yn unig â'u gweithlu ond sy'n deg â phobl gogledd Cymru hefyd.
Edrychwch, rwy'n derbyn mai awdurdod tân gogledd Cymru sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol, ond chi yw Llywodraeth Cymru. Chi sy'n gosod y canllawiau. Chi sy'n gosod y canllawiau i'r sefydliad hwn weithredu. Chi hefyd sy'n gyfrifol am sicrhau bod lleisiau rhanddeiliaid fel undebau yn cael eu clywed ar draws y sector cyhoeddus. Felly, mae'n destun syndod i mi nad oes mwy o ymdrech i'w gweld yn cael ei gwneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llais Undeb y Brigadau Tân, yn enwedig, yn cael ei glywed. Maent yn dweud wrthym, fel Aelodau lleol o'r Senedd yng ngogledd Cymru, na fu unrhyw ymgysylltiad â'r undeb fel rhanddeiliad allweddol wrth ddatblygu'r cynigion sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Nawr, mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Mae pob diffoddwr tân proffesiynol eisiau i bobl fod yn ddiogel. Maent i gyd eisiau gwell darpariaeth frys ar draws gogledd Cymru gyfan, ac mae Undeb y Brigadau Tân, fel y gwyddoch fel Aelod gogledd Cymru, wedi datblygu dau gynnig arall, a bydd y ddau ohonynt yn sicrhau'r ddarpariaeth frys ychwanegol gan gynnal y trefniadau staffio 24/7 yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy, a chynnal yr injan dân a'r criw yn Wrecsam a oedd i fod i gael eu torri. A wnewch chi ymuno â mi i annog Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i roi ystyriaeth ddifrifol i gynigion rhesymol Undeb y Brigadau Tân, ac a wnewch chi weithio gyda'ch cyd-Weinidogion a'r Gweinidog partneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod canllawiau newydd yn cael eu darparu i'n hawdurdodau tân ac achub yng Nghymru i sicrhau ymgysylltiad ag Undeb y Brigadau Tân, a rhanddeiliaid allweddol eraill yn wir, cyn i unrhyw gynlluniau gael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus? Nid yw hynny wedi digwydd yn yr achos hwn, a dylai fod wedi digwydd.
Wel, gan wisgo fy het AS, rwy'n sicr yn credu bod ymgysylltu yn digwydd. Fel y dywedais, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, sydd yn ei sedd ac a fydd wedi clywed eich sylwadau, yn cadw llygad barcud ar hyn. Ond mater i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yw hyn yn bendant. Mae'n gwbl hanfodol eu bod yn ymgysylltu, a fy nealltwriaeth i yw eu bod yn ymgysylltu, a'u bod yn gwrando. Ond nawr mae angen iddo weithredu o fewn y terfynau y mae'n eu gosod iddo'i hun, ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn cyfarfod yn rheolaidd â phennaeth tân gogledd Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae manylion am gynllun Cynefin Cymru braidd yn aneglur o hyd, onid ydynt? Ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r undebau ffermio pan fyddant yn dweud wrthym fod yr amwysedd yn peri pryder i'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r cynllun, yn enwedig y nifer fawr o ffermwyr a oedd yn meddu ar gontractau Glastir yn flaenorol. Nawr, roedd y newid o daliadau Glastir i fod i ddigwydd yn ddi-dor—mae'n rhywbeth rydych chi wedi'i addo—ond yn amlwg nid yw'n ymddangos yn ddi-dor. Mae yna ymdeimlad o ansicrwydd, mae yna ymdeimlad o ddryswch, ac mae hynny wrth gwrs yn golygu y gallai ffermwyr droi eu cefnau ar y cynllun, gan danseilio degawdau o fuddsoddiad mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol blaenorol, a'r amcanion polisi rydych chi wedi'u nodi yn y Bil amaeth, amcanion rydych chi a llawer ohonom yn gobeithio eu cyflawni drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, a wnewch chi dderbyn nad yw dod â thaliadau Glastir i ben yn y ffordd sy'n digwydd nawr, gyda'r cynllun interim byr-rybudd byrdymor hwn, yn ddi-dor o gwbl, a bod diffyg eglurder a natur frysiog y cynllun yn gadael marc cwestiwn enfawr dros lefelau cyfranogiad?
Wel, rwy'n meddwl iddo gael ei ruthro—. Roedd rhaid gwneud rhywbeth ar frys. Roeddwn i'n meddwl mai dyna roedd pobl ei eisiau—ar hynny y cefais fy lobïo. Fel rwy'n dweud, ddydd Gwener y cafodd ei agor i geisiadau; rydym eisoes wedi cael dros 100, felly, yn amlwg, mae llawer o ffermwyr eisiau bod yn rhan o'r cynllun hwn. Rwy'n cydnabod ei bod yn sefyllfa ansefydlog, ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi. Fel y dywedais yn fy ateb i Sam Kurtz, pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gallem fod wedi ymestyn Glastir eto, ond ni allwn. Felly, roedd yn rhaid inni gael cynllun newydd, i bontio'r cyfnod rhwng Glastir yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn hon a dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Yn anffodus, nid oeddem ni'n gallu gosod y gyllideb; byddai wedi bod yn llawer gwell pe bawn i wedi gallu gosod y gyllideb, ond yn anffodus, oherwydd yr ymarfer ailflaenoriaethu sy'n rhaid inni ei wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, nid wyf wedi gallu gwneud hynny. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw bod cymaint o ffermwyr â phosibl yn gwneud cais amdano. Fel y dywedais, mae'n agored i bob ffermwr, ac mae hynny'n sicr wedi cael croeso. Efallai eich bod yn gwybod bod ein ffermwyr organig, er enghraifft, wedi bod ychydig yn bryderus ynglŷn â chyllid, felly rydym wedi sicrhau ei fod yn gwbl agored iddyn nhw hefyd, wrth inni edrych ar ffordd o roi cymorth ychwanegol iddynt.
Rwy'n credu bod y sector organig yn fwy nag ychydig yn bryderus.
Mae'n rhyfedd, onid yw, oherwydd ddau funud yn ôl, mewn ymateb i gwestiwn arall, roeddech chi'n dweud bod ffermwyr yn gwybod bod Glastir yn dod i ben—nid oes unrhyw esgus, roedd pawb yn gwybod bod Glastir yn dod i ben. A nawr rydych chi newydd ddweud wrthym y bu'n rhaid i chi ymateb yn gyflym i'r ffaith bod Glastir yn dod i ben—wel, roeddech chi'n gwybod bod Glastir yn dod i ben hefyd. Felly, pam gosod un mesur ar gyfer ffermwyr a mesur eich hun mewn ffordd wahanol? Dim ond wythnosau sydd gan ffermwyr, onid e, cyn y gallent wynebu ymyl clogwyn ariannol, oherwydd nid oes sicrwydd o gyllid o ddiwedd mis Rhagfyr ymlaen. Ac fe fyddwch chi'n gwybod nad yw ffermio'n gweithio felly, pan fyddwch chi'n gweithio yn ôl mympwy natur; mewn gwirionedd, ni all weithio ar amserlenni mor afresymol o fyr. Felly, a allwch chi ddweud wrthym—ac rwy'n tybio fy mod yn gwybod yr ateb—pa fodelu a wnaed o effaith bosibl cynllun Cynefin Cymru yn enwedig? Pa ragamcanion a wnaed gan y Llywodraeth ynghylch lefelau'r nifer a fyddai'n manteisio arno? Ac os yw'r gwaith hwnnw wedi'i wneud, rwy'n siŵr y byddech yn fwy na pharod i'w gyhoeddi. A phryd y gall ffermwyr Cymru ddisgwyl cadarnhad ac eglurder ynglŷn â beth fydd y gyllideb mewn gwirionedd?
Wrth gwrs roeddwn i'n gwybod bod Glastir yn dod i ben eleni, ond yr hyn na wyddwn oedd a fyddai gennyf unrhyw gyllid ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol. Roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau na fyddem yn cael gwared ar y manteision yn ogystal â'r anfanteision, a bod yr holl ddaioni a gawsom o gynlluniau Glastir—. Ond gadewch inni fod—. Mae angen deall beth yw'r gwirionedd yma; mae angen i bawb ohonom ei ddeall. Ychydig iawn o arian sydd ar gael. Ac mae'n ymddangos bod y ffaith fy mod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol wedi cael ei golli yn yr holl sŵn, oherwydd dros yr haf, nid oeddwn yn siŵr a allwn ddod o hyd i unrhyw gyllid o gwbl, ac fe fyddai bwlch. Felly, wrth gwrs fy mod yn gwybod bod Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ond roedd pob ffermwr yn gwybod hynny hefyd. Felly, yn eu cynlluniau busnes, dylent fod wedi cydnabod hynny a gwneud cynlluniau mewn perthynas â hynny.
Cefais fy lobïo'n galed iawn gan ein rhanddeiliaid, yn enwedig gan yr undebau ffermio, i gyflwyno cynllun. Roeddent yn awyddus iawn i'n helpu i baratoi'r cynllun, ac rydym yn sicr wedi—. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion wedi siarad llawer dros yr haf, gydag Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn enwedig, i geisio cael y cynllun i fod yn rhywbeth y byddai ffermwyr am wneud cais amdano. Ychydig iawn o le oedd yna ar gyfer asesiadau effaith a modelu, ond roeddwn i'n meddwl y byddai'r cynllun hwn yn cael ei groesawu, oherwydd roedd yn gyllid ychwanegol i geisio cymryd lle cynlluniau Glastir, er nad oedd unrhyw fodd iddo gymryd lle'r cyfan. Ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i bob ffermwr allu gwneud cais, oherwydd un peth a ddysgais yw bod llawer o ffermwyr yn anhapus na allent wneud cais am Glastir, ac, wrth gwrs, roeddem yn ymestyn flwyddyn ar ôl blwyddyn ac roedden nhw'n methu ei gael.
3. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu faint o lysiau a ffrwythau a dyfwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OQ60009
Diolch. Er na chesglir ystadegau blynyddol ar gynhyrchu ffrwythau a llysiau, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i dyfwyr yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau datblygu garddwriaeth a dechrau busnes i ffermwyr. Hefyd, caiff cyngor a hyfforddiant wedi'i deilwra ei gynnig i dyfwyr drwy Cyswllt Ffermio.
Rwy'n bryderus wrth eich clywed yn dweud nad ydym yn casglu ystadegau ar faint o lysiau a ffrwythau sy'n cael eu tyfu yng Nghymru, oherwydd gwyddom fod yr hinsawdd ledled Ewrop yn newid ar raddfa sy'n syndod i hyd yn oed y rhai ohonom sydd wedi bod yn rhybuddio am hyn ers peth amser. Mae'r tywydd ar hyn o bryd yn ne Ewrop yn debycach i'r hyn sy'n digwydd ym mis Gorffennaf a mis Awst. Ni fydd glaw am o leiaf 10 diwrnod yn unrhyw un o'r lleoedd rydym fel arfer yn mewnforio llysiau a ffrwythau ohonynt, a gallwch weld sut mae argyfwng cynyddol o ran dosbarthu bwydydd y byddem fel arfer yn dibynnu arnynt—nid yw Brexit wedi helpu, yn amlwg—yn golygu bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar faint y mae angen i ni ei gynhyrchu er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael deiet iach a chytbwys. Gwyddom nad yw dau o bob 10 o bobl yn gallu cael deiet iach a chytbwys am eu bod yn dibynnu ar fanciau bwyd, sydd bron bob amser yn methu darparu deiet iach a chytbwys o ran yr hyn y mae'r archfarchnadoedd yn dewis ei ddarparu.
Felly, ni allwn fforddio mynd tuag yn ôl, ac rwyf eisiau deall sut y bydd y trefniadau dros dro, hyd nes y caiff y cynllun ffermio cynaliadwy ei fabwysiadu'n llawn, yn hyrwyddo'r hyn sy'n fater diogeledd bwyd mawr, sef yr angen i dyfu mwy o lysiau a ffrwythau yn y wlad hon, oherwydd ni allwn ddibynnu ar yr hyn sy'n dod o dramor.
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, mae rhan arddwriaethol y sector amaethyddol yn faes y bûm yn awyddus iawn i'w dyfu. Ac rydym wedi gweld gwelliant bach—rwy'n credu mai 0.1 y cant ydoedd pan ddechreuais yn y portffolio, ac roedd hynny'n rhyw lun o gyfateb i chwarter cyfran y person y dydd, rwy'n credu. A'r uchelgais i mi yw ei dyfu i tua 2 y cant, lle byddai hynny wedyn yn cyfateb i pum dogn y dydd i bob unigolyn. Felly, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at hyn gyda'n cynlluniau grant cychwyn a datblygu garddwriaeth.
Soniais yn fy ateb i Llyr Huws Gruffydd ei bod yn bwysig iawn fod ffermwyr organig yn gallu cael mynediad at y cynllun Cynefin. Mae'n cymryd llawer o amser ac ymdrech i ffermydd organig newid o fod yn ffermwyr confensiynol i fod yn ffermwyr organig, felly rwy'n awyddus iawn i gadw ffermwyr organig yn y dyfodol. Ac maent wedi bod yn cyflawni arferion rheoli tir cynaliadwy ers blynyddoedd lawer drwy eu hardystiad organig, felly dyna un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd gyda'r cynllun Cynefin.
Byddwn yn parhau i edrych ar ba gymorth y gallwn ei roi i'n ffermwyr organig, ac rwyf wedi sicrhau bod Cyswllt Ffermio—edefyn o'n rhaglen Cyswllt Ffermio newydd—yn mynd i ganolbwyntio'n llwyr ar arddwriaeth, oherwydd mae'n cydnabod bod angen ehangder o gyngor arbenigol ar y sector hwnnw.
Weinidog, rhaid inni beidio byth â cholli golwg ar bwysigrwydd ein diogeledd bwyd ac i'r perwyl hwnnw, rhaid inni archwilio pob opsiwn i annog mwy o arddwriaeth leol, ac rwy'n cytuno â Jenny.
Canfu astudiaeth a gyflawnwyd gan Tyfu Cymru, ynghyd â Synnwyr Bwyd Cymru, y gall buddsoddiad ar raddfa fach gael effaith sylweddol ar fusnesau garddwriaethol. Rhoddodd yr astudiaeth fuddsoddiad i dyfwyr bach nad oeddent wedi cael llawer iawn o gyfleoedd o'r blaen i gael grantiau buddsoddiad cyfalaf, a chanfu'r peilot fod twf gwerthiant busnesau'n 74.5 y cant ar gyfartaledd. Weinidog, os ydym am helpu'r sector gardd farchnad i ymateb i her ein hangen cynyddol am gynnyrch lleol, mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cymhellion pellach. Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ehangu taliadau cymorth i fusnesau garddwriaethol ar raddfa fach o dan 5 hectar?
Diolch. Wel, soniais am y cynlluniau grant sydd gennym ar waith; soniais am yr edefyn ychwanegol sydd gennym o fewn Cyswllt Ffermio. Mae'r holl bethau hyn wedi'u cynllunio i helpu ein sector garddwriaeth i dyfu, oherwydd rydych chi'n pwyso ar ddrws agored gyda mi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cefnogi'r tyfwyr bach hyn wrth symud ymlaen.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro? OQ59996
Diolch. Mae dros £18 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol wedi'u gwneud i ffermwyr yn sir Benfro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn ychwanegol at ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, sy'n parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor hanfodol i fusnesau yn ardal Preseli Sir Benfro.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae TB buchol yn parhau i gael effaith fawr ar ffermwyr yn sir Benfro, a dangosodd arolwg diweddar gan NFU Cymru fod 85 y cant o ffermwyr yn credu bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a disgrifiodd 70 y cant ddull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn. Yn ôl yr arolwg, mae cost y clefyd i bob busnes fferm oddeutu £25,000 dros y 12 mis diwethaf yn unig. Nawr, ddydd Mawrth nesaf yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac fel y gwyddoch, mae yna rai sefydliadau ffermio rhagorol sy'n gweithio i gefnogi ffermwyr gyda'u hiechyd meddwl. Mae sefydliadau y byddwch yn gwybod amdanynt, fel Sefydliad DPJ, Rhwydwaith y Gymuned Ffermio, Tir Dewi a'r Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, yn parhau i weithio'n galed i ddarparu cymorth mawr ei angen i bobl yn y byd amaeth, ac mae'n hanfodol fod eu gwaith yn cael ei hyrwyddo a'i gefnogi. Felly, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau fel y rhain, fel y gallant barhau i ddarparu cymorth i ffermwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl?
Diolch. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae iechyd meddwl y rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant amaeth yn peri pryder mawr i mi. A hoffwn annog unrhyw un sy'n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i siarad ag arbenigwr yn y maes, ac fe wnaethoch chi roi llawer o enghreifftiau o sefydliadau gwych sy'n gweithio ar hynny yn y sector amaethyddiaeth.
Roeddwn i ar stondin DPJ yn sioe Ynys Môn yn yr haf, ym mis Awst, ac roedd yn ddiddorol iawn gweld cymaint o bobl a ddaeth i mewn i gael sgwrs, pobl y gellid eu cyfeirio mewn ffordd efallai, pe na baent wedi camu i mewn i'r babell honno i siarad â'r arbenigwyr yno, byddai'r foment wedi mynd heibio ac ni fyddent wedi gofyn am help. Felly, rwy'n gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi'r elusennau a enwyd gennych ac elusennau eraill. Rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Maent yn dod at ei gilydd fel un, os mynnwch, i gyfarfod â fy swyddogion yn rheolaidd. Rwy'n ceisio cyfarfod â nhw o leiaf ddwy neu dair gwaith y flwyddyn i glywed beth sy'n digwydd ar lawr gwlad, ac rwy'n credu eu bod yn darparu gwasanaeth gwych i gefnogi ein ffermwyr a'n rheolwyr tir sy'n troi atynt.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sector bwyd a diod Cymru? OQ60016
Diolch. Mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i dyfu o ran maint ac enw da. Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth ar gyfer arloesi, buddsoddiad cyfalaf, datblygu sgiliau a thwf busnes yng Nghymru, y DU a marchnadoedd tramor. Yn ddiweddarach y mis hwn, cynhelir ein pedwerydd digwyddiad BlasCymru.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Wrth gwrs, mae'r sector bwyd a diod yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru ac yn elwa o nifer o ganolfannau arloesi bwyd. Ond er hynny, nid yw stoc gymedrol Cymru o gwmnïau bwyd canolig eu maint yn dangos twf cadarn. Mae problem ddifrifol i ficro-gwmnïau yn benodol sydd am dyfu i fod yn fentrau bach a chanolig eu maint. Mae data adroddiadau ymchwil yr economi sylfaenol yn dangos mai dim ond pump yn fwy o gwmnïau bwyd a diod canolig eu maint a welwyd rhwng 2010 a 2020—felly, o 35 i 40. Felly, hoffwn wybod pa waith traws-bortffolio y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar hyn o bryd gyda Gweinidog yr Economi yn y maes hwn i wella'r sefyllfa.
Wel, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw waith penodol ar y cyd â Gweinidog yr Economi, ond yr hyn rwy'n sicr yn ei wneud yw sicrhau bod y cwmnïau hynny'n gallu dod o hyd i arbenigedd ariannol ac arbenigedd addas ar eu cyfer nhw. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni. Mae gennym y rhaglen Parod am Fuddsoddiad, a'r nodau yw cynorthwyo ein busnesau i gael buddsoddiad ac, yn amlwg, os ydynt am ehangu. Rydym hefyd am sicrhau bod unrhyw benderfyniadau y maent yn eu gwneud yn gynaliadwy, felly, os ydynt yn mynd i ehangu, mae'n bwysig iawn eu bod yn ymwybodol o'r tramgwyddau, ac o ba gymorth sydd ar gael hefyd. Rydym wedi cyflwyno cynlluniau, fel y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd ac mae prosesau datganiadau o ddiddordeb yn parhau yn hynny o beth.
Ond rwyf wedi gweld llawer iawn o fusnesau bwyd a diod bach—ac rwy'n sôn am un neu ddau o bobl—yng Nghymru yn ehangu go iawn. Ac rwy'n credu, mewn rhai ffyrdd, ein bod wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer yn ystod y pandemig COVID. Rwy'n meddwl bod pobl wedi dechrau siopa'n lleol efallai, ac efallai fod mwy o bobl yn coginio gartref yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond yn sicr rwyf wedi gweld cynnydd yn niferoedd y mathau hynny o fusnesau, a bydd BlasCymru yn fan lle gallwn arddangos y busnesau hynny, nid y busnesau mawr yn unig.
Weinidog, fel sawl rhan arall o Gymru, mae Gorllewin De Cymru yn gartref i lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod gwych. Rydym i gyd wedi clywed am gocos Penclawdd a wisgi Penderyn, a agorodd ddistyllfa yn Abertawe, ond mae gennym hefyd y Drop Bear Beer Company gwych a'r Dog's Window Brewery i enwi ond ychydig. Weinidog, gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwyrthiau wrth werthu bwyd a diod o Gymru dramor, ond beth am gartref? Sut rydych chi'n gweithio gyda phartneriaid yma yng Nghymru ac ar draws y DU i hyrwyddo ein bwyd a'n diod anhygoel i gynulleidfa ddomestig sy'n barod i deithio i fwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig?
Wel, soniais yn fy ateb gwreiddiol i Luke Fletcher y byddwn yn cael ein pedwerydd digwyddiad BlasCymru yn ddiweddarach y mis hwn. Nawr, gwerthu Cymru i'r byd yw nod hwnnw yn bennaf, oherwydd mae gennym brynwyr rhyngwladol yn dod draw, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn edrych yn nes at adref ac rydym yn sicr yn gwneud hynny. Ac fe welsom ein hallforion i Loegr—os ydych chi am ddefnyddio'r gair 'allforio' yn y cyd-destun hwnnw—yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd mae'n bwysig iawn fod pobl yn defnyddio ein cynhyrchwyr bwyd a diod gwych. Fe wnaethoch chi enwi rhai yn eich rhanbarth chi ac mae yna lawer iawn ledled Cymru ac mae'n cynyddu'n gyson, ac mae faint o arian rydym wedi gallu ei roi—rwy'n falch iawn ohono. Rwy'n falch iawn hefyd—soniodd Luke Fletcher am y canolfannau arloesi bwyd—ein bod wedi cael Prosiect HELIX, ac roedd hwnnw'n rhoi'r gallu i'n cwmnïau gael mynediad at ystod o arbenigedd nad oedd yno o'r blaen mewn ffordd a olygai eu bod yn gallu tyfu wedyn a bod yn arloesol iawn gyda'u cynhyrchion bwyd.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Cynefin Cymru? OQ60017
Agorodd y ffenestr ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru ar 29 Medi. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i reoli tir cynefin hyd nes y cyflwynir y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025. Hoffwn annog pob ffermwr cymwys yng Nghymru i wneud cais.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rydym wedi gweld y gallai'r cyfraddau talu fod 45 y cant yn is na'r hyn ydynt yn Glastir Uwch a hefyd y cap o 400 erw hefyd. Ac mae hynny wedi achosi llawer o bryder i ffermwyr yn fy etholaeth o ran sut maent yn mynd i barhau i ddilyn llwybr mwy amgylcheddol i gyflawni rhai o'r amcanion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod. Felly, hoffwn wybod pa ddadansoddiad y mae eich adran wedi'i wneud i weld faint o'r ffermwyr sy'n defnyddio'r cynlluniau ar hyn o bryd a allai gefnu ar y cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn gyfan gwbl a dilyn llwybr mwy masnachol i sicrhau y gallant adfer yr elw y byddent wedi'i golli gyda'r arian sy'n mynd allan yn y cynlluniau hyn. Rwyf am wneud yn siŵr fod ein ffermwyr i gyd yn broffidiol a'u bod yn gallu cyfrannu at helpu i gyrraedd sero net a chyda'n heriau amgylcheddol. Ond rwyf eisiau gwybod pa ddadansoddiad rydych chi wedi'i wneud o hyn i sicrhau nad yw ffermwyr yn mynd i newid i lwybr mwy masnachol a bod yn niweidiol i bopeth rydych chi'n ceisio'i wneud yma fel Llywodraeth.
Diolch. Fel y dywedais mewn atebion cynharach ar y cynllun Cynefin, nid ydym wedi gallu cyhoeddi'r gyllideb hyd yma, ond nid wyf erioed wedi dweud y byddai yr un peth â Glastir, oherwydd ni feddyliais erioed y byddai gennyf yr arian ar gyfer hynny. Unwaith eto, mewn ateb cynharach, fe wnaethoch fy nghlywed yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi amddifadu ein ffermwyr o £238 miliwn. Mae hwnnw'n swm enfawr o arian ac yn amlwg, ni allwn lenwi'r bwlch hwnnw.
Oherwydd bod y cynllun wedi cael ei gyflwyno'n gyflym iawn—fe fyddwch wedi clywed fy atebion cynharach—nid ydym wedi gallu gwneud llawer iawn o ddadansoddi, ond dyna pam rwy'n dweud ei bod yn bwysig iawn fod ein ffermwyr yn defnyddio'r cynlluniau hyn. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn wers y bu'n rhaid i bob un ohonom ei dysgu. Rydym wedi symud i gyllidebau blynyddol, ac ni fydd y gyllideb honno na'r cyllid hwnnw'n cael eu cyflwyno o un flwyddyn i'r llall fel a ddigwyddai gyda'r rhaglen datblygu gwledig, er enghraifft, a chyllid Ewropeaidd arall. Felly, pan fydd y cynlluniau hyn wedi agor, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod ein ffermwyr i gyd yn manteisio ar y cyfle i gael cymaint o arian ag y gallant.
Mae cwestiwn 7 [OQ60001] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 8, Hefin David.
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diweddaru Deddf Cŵn Peryglus 1991? OQ60023
Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac wedi ysgrifennu at wahanol Weinidogion ar wyth achlysur yn gofyn am gamau i gryfhau deddfwriaeth nad yw wedi'i datganoli yn ymwneud â chŵn peryglus. Gan fod camau ar y gweill ar hyn bellach, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda'u cymheiriaid yn Adran yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig i sicrhau bod y rheoliadau diwygiedig yn cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Weinidog. Mae Llywodraeth y DU, yn wir, wedi cydnabod braidd yn hwyr yn y dydd fod angen diweddaru Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn dilyn ymosodiadau diweddar gan gŵn bully XL. Ac fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, roedd dau ymosodiad angheuol ar bobl yng Nghaerffili, un yn fachgen 10 oed a'r llall yn ddynes 83 oed. Mae fy nghyfaill, Wayne David, sy'n Aelod Seneddol dros fy etholaeth i, Caerffili, wedi gwneud llawer o waith ar y mater i'w gadw ar agenda Llywodraeth y DU ac mae wedi gweithio gyda The Mirror ar eu hymgyrch nhw a gydag etholwyr hefyd.
Weinidog, rydych eisoes wedi dweud y byddech yn trefnu uwchgynhadledd ar gŵn peryglus i ddod â rhanddeiliaid ynghyd i weld pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, megis rheoliadau bridio. A wnewch chi ymrwymo wedyn i weithio gyda phobl fel Wayne David AS, grwpiau ymgyrchu yng Nghaerffili a'r cyffiniau a minnau i helpu i gadw'r pwysau ar Lywodraeth y DU a sicrhau eu bod yn cyflawni eu hymrwymiad i wneud y newid mawr ei angen hwn a helpu i gadw ein cymunedau'n fwy diogel?
Rwy'n ymrwymo'n llwyr i wneud hynny. Fel y dywedwch, rwy'n credu bod y cam y mae Llywodraeth y DU yn ei roi ar waith nawr i'w groesawu er yn hwyr yn y dydd. Roedd yn siomedig iawn; cefais gyfarfod gyda'r Gweinidog cyfatebol yn DEFRA y diwrnod cyn i'r Prif Weinidog wneud y cyhoeddiad ar y Ddeddf Cŵn Peryglus ac edrych ar gŵn bully XL, ac rydym wedi clywed am ymosodiad angheuol arall heddiw yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, a nodir mai ci bully XL unwaith eto oedd hwnnw. Felly, gallwn weld pa mor angenrheidiol yw'r ffocws hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn gymaint o drueni, fel y dywedais, fy mod wedi cael cyfarfod ddydd Mercher gyda fy nghymheiriaid gweinidogol yn DEFRA ac nid wyf yn credu yr oeddynt hyd yn oed yn ymwybodol o'r cyhoeddiad a wnaeth y Prif Weinidog. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod swyddogion yn gweithio'n agos gyda'i gilydd nawr, oherwydd gallai fod canlyniadau anfwriadol, ac mae gwrando ar y Dogs Trust yn enwedig, ac elusennau cŵn uchel eu parch eraill, yn dweud eu bod bellach yn bryderus iawn am y camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd, yn destun gofid mawr.
Fel y dywedoch chi, cyhoeddais y byddaf yn cynnal uwchgynhadledd amlasiantaeth yn ddiweddarach y mis hwn. Yn bendant, rydych chi a'n cyfaill Wayne David wedi gwneud llawer iawn o waith, ac mae Aelodau eraill yn y Siambr y byddaf yn eu gwahodd i'r uwchgynhadledd honno. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed fy mod wedi gohebu drwy e-bost ddoe gydag Emma, mam Jack Lis, yr hoffwn yn fawr pe bai'n dod. Mae hi wedi cytuno i ddod i'r uwchgynhadledd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rwy'n credu y byddai clywed ei stori'n bwerus iawn, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio pam ein bod yn gwneud hyn, pam ein bod yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Rwyf bob amser o'r farn y gallai unrhyw gi fod yn beryglus, beth bynnag y bo'i frîd, ac mae gwir angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi perchnogion a'n sefydliadau trydydd sector i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae angen i ni barhau i'w adolygu hefyd. Felly, er bod llawer o'r ddeddfwriaeth hon yn fater a gedwir yn ôl, mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud fel Llywodraeth Cymru yn ogystal, ac rwyf am barhau i hyrwyddo hynny.
Weinidog, mae wedi bod yn dorcalonnus gweld cynnydd mawr yn nifer yr ymosodiadau erchyll gan gŵn sy'n digwydd yn Nwyrain De Cymru, fy rhanbarth i, yn unig. Rydym wedi gweld ymosodiad ar ddau fachgen ifanc gan gŵn, cafodd babi pum mis oed ei gludo i'r ysbyty ar frys ar ôl i gi ymosod arno, ac wrth gwrs rydym i gyd yn cofio achos gwirioneddol drasig Jack Lis, y gwnaethoch chi a fy nghyd-Aelod ei grybwyll nawr, yn dilyn ymosodiad gan gi. Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd cŵn bully XL Americanaidd yn cael eu gwahardd yn dilyn llu o ymosodiadau brawychus ar draws y Deyrnas Unedig. Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig yn croesawu'r cam hwn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn helpu i ddod â'r ymosodiadau milain hyn i ben yn y dyfodol. Weinidog, gwn eich bod wedi rhoi sawl diweddariad i ni nawr, ond a gaf fi ymrwymiad gennych heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth y DU yn adeiladol ynghylch y mater hwn? Ac a gaf fi ymrwymiad gennych chi hefyd y byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar bob cam o'r ffordd? Diolch.
Yn bendant, rwy'n ymrwymo i hynny, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol. Rwyf wedi ysgrifennu at amryw o Weinidogion, o Weinidogion y Swyddfa Gartref i Weinidogion DEFRA, ar o leiaf wyth achlysur. Roeddwn i'n edrych yn ôl ar nifer y llythyrau. Ni chafwyd ymateb i rai ohonynt. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydweithio'n agos, ac fel y dywedais, fe wnaeth y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog synnu DEFRA hyd yn oed. Ond cafwyd o leiaf un cyfarfod eisoes, os nad dau. Fe wneuthum sicrhau bod fy swyddogion yn mynychu. Yn wir, gallodd y prif swyddog milfeddygol fod yn bresennol hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig. Ac rwy'n credu bod gennym grŵp rhyngweinidogol DEFRA arall yn ddiweddarach y mis hwn. Byddaf yn ei roi ar yr agenda, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod ar bob agenda, oherwydd mae hyn yn rhywbeth—. Rydym yn gweld llawer gormod o ymosodiadau, yn enwedig gan yr un brîd hwn, ond fel y dywedais, gall pob ci fod yn beryglus, beth bynnag y bo'i frîd neu ei faint. Felly, er bod nifer anghymesur o ddigwyddiadau diweddar yn ymwneud â chŵn bully XL Americanaidd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn tynnu ein llygad oddi ar y bêl mewn perthynas â pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn, oherwydd mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei hyrwyddo fel Llywodraeth.
Yn sicr, mae'n ymddangos bod consensws ar draws y Siambr ynghylch y mater pwysig hwn, ac rwy'n cymeradwyo hynny. Mae cyfle yma hefyd, efallai, i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru, i ffwrdd oddi wrth anhrefn sylwadau bachog Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Byddaf yn archwilio'r dull hwnnw o weithredu yn fanylach yn fy nadl cynnig deddfwriaethol gan Aelod yr wythnos nesaf, ac rwy'n gobeithio cael cyfraniadau ar draws y Siambr i honno, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu i hynny ddigwydd.
Un mater y byddaf yn cyffwrdd ag ef yw'r fenter Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn, neu LEAD, sydd wedi'i mabwysiadu yn gyfredol gan Caerffili Saffach. Bydd y cynllun hwn yn rhoi cyngor i'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â chŵn ac yn gwella diogelwch a lles cŵn. Mae hefyd yn anelu at fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad anystyriol gan unigolion sydd â chŵn, er mwyn cynyddu diogelwch y cyhoedd. Mae gwersi posibl i'w dysgu o'r fenter hon er mwyn creu dull Cymru gyfan o hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a diogelwch cymunedol, yn hytrach na dull tameidiog o weithredu. A fyddech chi'n fodlon cyfarfod â Caerffili Saffach a minnau i siarad am rai o'r materion sy'n codi a rhai o'r dulliau y maent yn eu mabwysiadu a mynd â hynny ymlaen i'ch uwchgynhadledd a symud ymlaen gyda hynny?
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n iawn i groesawu'r consensws. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud—rwy'n edrych ar Darren Millar nawr—fod pob rheolwr busnes yn hapus iawn i edrych ar eich cynnig deddfwriaethol. Rwy'n credu ein bod i gyd yn meddwl ei fod mor amserol fel ei fod yn rhywbeth y dylid ei drafod yma yn y Siambr, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at hynny ddydd Mercher nesaf. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i wneud hynny. Efallai nad fi fydd yn gwneud hynny, cyn yr uwchgynhadledd, ond byddaf yn bendant yn sicrhau bod fy swyddogion yn cymryd rhan yn y cynllun rydych chi'n ei drafod. Unwaith eto, fel y dywedais, byddaf yn gwahodd Aelodau i'r uwchgynhadledd. Ni allaf gael pawb yno, ond os hoffech ddod, yn enwedig yng ngoleuni eich cynnig deddfwriaethol, rwy'n hapus iawn i chi wneud hynny.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu'r cyhoedd rhag ymosodiadau gan gŵn? OQ59994
Diolch. Nid yw'r cyfreithiau sy'n diogelu'r cyhoedd rhag ymosodiadau gan gŵn wedi'u datganoli. Rwy'n croesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r diwedd. Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd amlasiantaeth ar 18 Hydref i sefydlu pa gamau ychwanegol y gallwn eu cymryd i wella perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yma yng Nghymru, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gyda'n partneriaid.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb a hefyd am ei harweinyddiaeth ar y mater hwn. Weinidog, ychydig wythnosau'n ôl ymosododd dau ddaeargi tarw Staffordshire, y ddau oddi ar eu tennyn, yn ffyrnig arnaf fi a fy nghi, Coco sy'n sbaengi Siarl. Lywydd, mae'n rhaid imi dalu teyrnged i'r chwe aelod o'r cyhoedd a ddaeth i'n hachub y diwrnod hwnnw. Yn rhyfeddol, roeddwn i'n iawn yn gorfforol wedi'r ymosodiad; roedd yr ysgytwad feddyliol yn waeth—rwy'n dal i ddioddef ohoni, Weinidog. Mae'n ymddangos bod Coco, ar ôl chwe ymweliad â'r milfeddyg, ar y ffordd i wella, diolch byth.
Nawr, rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau ar draws y Siambr heddiw—Hefin David yn arbennig—ynglŷn â sut y gall pethau fynd o chwith yn drasig yn sgil ymosodiadau gan gŵn. Rwy'n ddiolchgar am eich atebion mewn ymateb i hyrwyddo perchnogaeth synhwyrol a chyfrifol ar gŵn. Tybed pa ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i un cais penodol, sef hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth o berchnogaeth gyfrifol ar gŵn, yn enwedig edrych ar atgoffa perchnogion cŵn yng Nghymru o'u rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw cŵn a'u hanifeiliaid dan reolaeth briodol ym mhob man, bob amser, ac annog perchnogion i ofyn am gyngor os ydynt yn poeni am ymddygiad eu ci eu hunain, ac annog pobl hefyd i roi gwybod am unrhyw amheuon a allai fod ganddynt am fridio anghyfreithlon i'w hawdurdodau lleol. Diolch.
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gennyf fod yn rhaid i Coco a chithau fynd drwy'r profiad hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, rwy'n credu bod pethau y gallwn eu gwneud, ond efallai fod pethau ychwanegol hefyd. Holl bwynt cael yr uwchgynhadledd oedd dod â’n holl bartneriaid ynghyd, yn ogystal â rhai ohonom ni i glywed am brofiadau. Fel arfer, ein hetholwyr sy'n adrodd straeon fel eich un chi, ond yn anffodus, fe gawsoch chi'r profiad hwnnw yn ogystal. Rwy'n credu'n sicr fod ymgyrch ymwybyddiaeth yn rhywbeth y gallwn ei hystyried fel rhan o’r uwchgynhadledd. Rwy'n awyddus iawn i wneud popeth y gallwn ei wneud, ond mae rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn bwysig iawn. Ers inni gael y cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, credaf ein bod wedi gweld—. Mae wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi gyda'n hawdurdodau heddlu ledled Cymru, a chredaf ein bod wedi gweld cynnydd o ran adrodd am ddigwyddiadau, fel y dywedwch, felly mae hynny i'w annog hefyd. Felly, unrhyw beth y gall pob un ohonom ei wneud i godi ymwybyddiaeth. Ond fe af â’r pwynt hwnnw’n benodol i’r uwchgynhadledd i weld a yw’n rhywbeth y gallwn ei ystyried a’i gefnogi.
Yn olaf, cwestiwn 10, Siân Gwenllian.
10. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gynlluniau datblygu’r gweithlu iechyd yn Arfon? OQ60015
Diolch. Rwy’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda chyd-aelodau o'r Cabinet, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd yn y gogledd. Fodd bynnag, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio sut y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, gan gynnwys recriwtio a chynllunio’r gweithlu.
Am y tro cyntaf erioed, mae modd gwneud cais ar gyfer cwrs is-raddedig yn ysgol feddygol newydd Prifysgol Bangor—newyddion ardderchog a fydd yn arwain maes o law at wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd. Mae cynlluniau ar waith i greu ysgol fferylliaeth ym Mangor, sydd hefyd i'w groesawu, a'r datblygiad naturiol nesaf yw hyfforddi deintyddion yn lleol, ac mi fyddai Prifysgol Bangor yn lleoliad delfrydol ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd i Gymru. A wnewch chi gefnogi'r ymgyrch hon fel Gweinidog y gogledd, ac a wnewch chi ymuno efo mi i wneud yr achos i'r Gweinidog iechyd—yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor—gan adeiladu ar yr hyfforddiant meddygol sydd eisoes ar droed yn y ddinas?
Diolch. Byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â hynny. Credaf ei bod yn deg dweud fy mod wedi lobïo’n gryf iawn i sicrhau ein bod yn cael ysgol feddygol gogledd Cymru, ac rydym yn dechrau gweld—wel, yn sicr o’r flwyddyn nesaf—byddwn yn dechrau gweld pobl yn hyfforddi yno. Rwy'n awyddus iawn i unrhyw beth sy'n cael ei ystyried ar sail genedlaethol ddod i ogledd Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn heddiw i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac i'w ofyn gan Delyth Jewell.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith ar gyllid trafnidiaeth yng Nghymru yn sgil yr adroddiadau bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu rhoi’r gorau i linell gangen prosiect HS2 rhwng Birmingham a Manceinion? TQ860
Diolch. Wel, nid ydym wedi cael unrhyw hysbysiad swyddogol o’r penderfyniad ymlaen llaw, ond nid yw ein safbwynt ar gyllid canlyniadol yn sgil HS2 wedi newid: mae symiau enfawr o arian wedi’u gwario yn Lloegr, ac mae Cymru’n haeddu ei chyfran.
Diolch, Weinidog. Wel, dyma oedd un o'r cyfrinachau gwaethaf ym myd gwleidyddiaeth; roedd pob un ohonom yn gwybod bod HS2 yn crebachu; mater o aros i glywed hynny'n swyddogol ydoedd, dyna i gyd. Weinidog, hoffwn wybod pa effaith y mae hyn yn ei chael ar allu Llywodraeth Cymru i lunio polisi—ar drafnidiaeth yn yr achos hwn, ond efallai yn fwy cyffredinol—pan na fydd Llywodraeth y DU yn codi'r ffôn. Mae'n debyg fod yn rhaid ichi ddod i wybod am newidiadau a phenderfyniadau polisi mawr drwy ddarllen amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn adroddiadau newyddion fel y cyhoedd. Roeddwn am ofyn a ymgynghorwyd o gwbl â Llywodraeth Cymru ynghylch y cyhoeddiad ynglŷn â Chymru a wnaed gan Mr Sunak yn ei araith yn y gynhadledd. Mae'n annhebygol fod hynny wedi digwydd.
Ac er cymaint y byddai trydaneiddio prif reilffordd y gogledd i'w groesawu—byddai hynny i'w groesawu—ni fyddai hynny mewn unrhyw ffordd yn ddigon i wneud iawn am yr arian a gollwyd o gam cyntaf HS2. Honnir y byddai hynny'n ddwywaith cymaint â'r hyn sy’n cael ei addo bellach ar gyfer prif reilffordd y gogledd. Nawr, ofnaf efallai mai cam sinigaidd yw hwn: efallai y bydd Mr Sunak yn gwybod na fydd mewn grym i gyflawni'r addewid hwnnw. Gadewch inni aros i weld. Ond mae’n eironig eu bod yn sôn am gryfhau cysylltiadau ar draws yr undeb, Weinidog, pan nad yw prosiect HS2 ond wedi cadarnhau ym meddyliau pobl pa mor anghyfartal yw’r undeb honedig hwn. Y gwir amdani yw bod Llundain yn cael rheilffyrdd cyflym, ac rydym ni'n cael seilwaith Fictoraidd.
Felly, yn olaf, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch, os gwelwch yn dda—a pha drafodaethau y byddwch yn eu cael—i sicrhau y bydd Cymru gyfan yn cael cyfran deg o’r arian a ailddosbarthwyd, ac nid yn unig hynny, ond yr hyn a oedd eisoes yn ddyledus i ni o’r cam cyntaf? Ac a oes gennych unrhyw ffydd y bydd y prosiect hwn yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd?
Wel, credaf ei bod yn deg dweud nad dyma'r ffordd orau o wneud pethau. Rydym wedi clywed llawer iawn gan y Ceidwadwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf am arian y credant ei fod yn cael ei wario’n wael, ac yma mae gennym gannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael eu dileu ar gynllun sydd wedi’i gynllunio a’i gytuno a’i gontractio ers blynyddoedd. Ac rwyf wedi gweld adroddiadau am bobl sydd wedi cael eu gorfodi o'u cartrefi i wneud lle ar gyfer cynllun na fydd bellach yn mynd rhagddo. Felly, mae hyn yn anhrefn llwyr, ac rydym yn gweld patrwm cynyddol o banig gan Weinidogion Ceidwadol, sydd wedi rhoi'r gorau i lywodraethu ac sy'n pysgota am faterion adweithiol er mwyn ceisio dal eu gafael ar rym.
Felly, o safbwynt trafnidiaeth, mae canslo HS2 yn amlwg yn gam difeddwl. Nid oes unrhyw strategaeth na chynllun yn sail i'r peth. Nid ydym yn gwybod llawer o'r manylion. Mewn egwyddor, mae'r ffaith bod cynlluniau eraill yn mynd i gael eu hariannu yn lle hyn i’w chroesawu, gan y byddem yn disgwyl cael cyfran Barnett o hynny inni allu ariannu ein blaenoriaethau. Ond eto, ni wyddom unrhyw beth am hynny; nid ydym wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw, gyda’u swyddogion, dros nifer o fisoedd, i lunio set ar y cyd o gynlluniau blaenoriaethol ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd, oherwydd, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i San Steffan, ac rydym yn agos at ddod i gytundeb ar dair cyfran o gynlluniau y gallwn gytuno ar y cyd mai'r rheini yw'r rhai iawn i Gymru. Ac mae'n rhaid imi ddweud, nid oedd trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn agos at frig y rhestr. Yn wir, bydd yn cymryd o leiaf 10 mlynedd. Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw waith datblygu wedi’i wneud ar hyn o gwbl. Dim. Nid oes gennym unrhyw syniad o'r gost. Soniwyd am £1 biliwn o bunnoedd. Mae'r ffigur hwn wedi'i dynnu o'r awyr, ac nid wyf hyd yn oed yn gwybod o ble y daeth.
Ond nid oes unrhyw wersi'n cael eu dysgu, am mai'r rheswm pam na wireddwyd addewidion blaenorol—. Fe fyddwch yn cofio; mae ganddynt hanes blaenorol ar hyn. Maent wedi addo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru o'r blaen—llawer o benawdau, llawer o ganmoliaeth gan y Ceidwadwyr, ac nid ydynt wedi—[Torri ar draws.] Ac nid ydynt wedi—[Torri ar draws.] Ac nid ydynt wedi cyflawni hynny. Felly, maent wedi torri eu haddewid ar drydaneiddio—[Torri ar draws.]
Darren. Darren Millar. Darren Millar, nid yw eich meicroffon ar agor. A allwn ganiatáu i’r Gweinidog ymateb i’r cwestiwn os gwelwch yn dda? Os ydych am gael eich galw, fe wnaf fi eich galw, Darren Millar.
Felly, mae ganddynt hanes blaenorol o dorri addewidion ar hyn. Nid yw hyn yn ddim mwy nag addewid etholiadol heb unrhyw ffigurau y tu ôl iddo. A'r rheswm pam na chwblhawyd prif reilffordd de Cymru yw oherwydd bod y costau wedi codi allan o reolaeth. Fe wnaethant godi allan o reolaeth am nad oedd unrhyw waith datblygu wedi'i wneud. Yn yr un modd, y rheswm pam eu bod wedi rhoi'r gorau i HS2 yw am fod y costau wedi codi allan o reolaeth am nad oeddent wedi gwneud y gwaith datblygu. A dyma ni, unwaith eto, yn gwrando arnynt yn ailadrodd eu camgymeriad o gyhoeddi cynllun trawiadol heb unrhyw ffigurau, gwyddoniaeth na chynlluniau y tu ôl iddo, cynllun nad yw ar y rhestr o gynlluniau y cytunwyd arnynt ar y cyd. Nid dyma'r flaenoriaeth bwysicaf i deithwyr yng ngogledd Cymru. Gellid gwneud llawer mwy, er enghraifft, i gynyddu cyflymder ar brif reilffordd gogledd Cymru, i wella gorsaf Caer, i wella rheilffordd Wrecsam-Bidston. Dyma’r blaenoriaethau go iawn ar gyfer gwella gwasanaethau i deithwyr yng ngogledd Cymru. Wrth gwrs ein bod am weld trydaneiddio, ond nid dyma'r ffordd o'i wneud. Ac mae'r arian sydd wedi'i wastraffu gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain heb fod unrhyw fudd i'r cyhoedd yn warthus.
Heddiw, gwelsom Brif Weinidog y DU yn rhoi camau beiddgar a phendant ar waith, camau a fydd yn arwain at fanteision sylweddol i Gymru. Yn rhy hir o lawer, mae'r weinyddiaeth Lafur anghymwys hon wedi gwneud cam â phobl Cymru, yn enwedig ym meysydd trafnidiaeth, ond diolch byth, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wrth law i gyflawni dros Gymru, a dylai cyhoeddiad heddiw ddangos i ni pa mor ymrwymedig ydynt mewn gwirionedd. O ganlyniad i'r penderfyniad i gael gwared ar gymal Birmingham i Fanceinion o HS2, bydd yr arian a arbedir, fel y mae pawb ohonoch wedi'i grybwyll—oddeutu £36 biliwn—yn cael ei wario ar gannoedd o brosiectau trafnidiaeth mawr eu hangen ledled y DU yn lle hynny. Mae hyn yn cynnwys gwario £1 biliwn, fel rydych wedi'i grybwyll eisoes hefyd, ar drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a fydd, heb os, yn sicrhau manteision enfawr i’r ardal, yn enwedig i drigolion y gogledd.
Nawr, Ddirprwy Weinidog, gwn efallai nad ydych wedi bod yng ngogledd Cymru, ond mae fy nghyd-Aelod yma sy’n cynrychioli gogledd Cymru wedi dweud, ac felly hefyd yr holl drigolion sydd wedi cysylltu â mi dros y chwe mis diwethaf, nad oes ganddynt gysylltedd â llawer o’r DU, ac maent wedi teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso’n fawr iawn gan y Llywodraeth Lafur hon, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig.
Felly, mae hefyd yn braf gweld Llywodraeth Geidwadol y DU yn symud ymlaen ac yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ffyrdd hanfodol megis, fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yr M4, yn wahanol i’r Llywodraeth Lafur hon sy’n wrth-yrwyr ac yn wrth-dwf gyda’i gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, a'r terfyn cyflymder hurt o 20 mya. Och a gwae, ydw, rwy'n mynd i sôn amdano, gan mai dyna mae'n ei haeddu. Ac wrth gwrs, gyda Llywodraeth y DU yn newid i wariant lleol, mae'r newyddion da'n parhau i ddod i Gymru.
O ganlyniad, bydd Cymru'n cael cyllid canlyniadol. Yn anffodus, bydd yr arian hwn yn mynd yn syth i’r Llywodraeth Lafur, sydd, mae'n rhaid imi gyfaddef, yn fy llenwi ag ofn ac yn gyrru ias i lawr fy asgwrn cefn. Felly, Ddirprwy Weinidog, a gaf fi ymrwymiad gennych chi y bydd y cyllid canlyniadol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella darpariaeth trafnidiaeth yng Nghymru, ac na chaiff ei wastraffu ar brosiectau porthi balchder diddiwedd eich Llywodraeth, prosiectau a restrais yn y Siambr hon sawl gwaith o'r blaen?
Lywydd, a bod yn onest mae'n anodd bod o ddifrif ynglŷn â'r sylwadau hyn. Cyfrifoldeb y corff sydd â phwerau dros y seilwaith rheilffyrdd yw’r diffyg cysylltedd â gweddill y DU y mae'r gogledd yn ei wynebu, a'r hyn rwyf newydd gael fy nghyhuddo ohono. Nid yw'r pwerau hyn wedi'u datganoli. Mae’n fy meirniadu am ddiffyg buddsoddiad ei Llywodraeth ei hun yn y seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Yr unig beth a gawn yw llond llaw o safbwyntiau o'r swyddfa ganolog nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â realiti.
Gofynnodd i ni am y cyllid canlyniadol. Cyllid canlyniadol o beth? Cyllid canlyniadol o beth a gawn? Mae hi wedi nodi £1 biliwn. O ble y daw'r ffigur hwnnw? Ble mae'r ffigurau y tu ôl i'r £1 biliwn hwnnw, gan nad ydym wedi gweld unrhyw waith yn cael ei wneud ar y gost ddatblygu? Nid oes syniad ganddi, gan nad yw'n gwneud unrhyw beth ond parablu'r safbwyntiau diweddaraf nad oes unrhyw hygrededd yn perthyn iddynt.
Hoffwn atgoffa’r Aelod—nid wyf am ymateb i bob un o’r pwyntiau hurt y mae’n eu gwneud; rwyf wedi rhoi’r gorau i fod o ddifrif ynglŷn â llawer ohono a bod yn onest—fod rheswm pam mai 1 y cant yn unig o bobl dan 25 oed sy’n cefnogi’r Blaid Geidwadol, oherwydd nid oes ganddynt unrhyw beth i’w ddweud drostynt eu hunain, ac ni all yr un ohonom fod o ddifrif yn eu cylch.
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion yna.
Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf gan Mark Isherwood.
Ddydd Llun roedd hi'n bum mlynedd ers marwolaeth drist fy etholwr, Alastair neu Ali Thomas, o DKA, cetoasidosis diabetig, un o gymhlethdodau ei ddiabetes. Yn ganwr, cyfansoddwr caneuon a thad, mab a brawd annwyl, roedd yn byw pob dydd i'r eithaf, ac mae ei deulu'n gweld ei golli'n fawr. Ni ddylai ei farwolaeth drist fod wedi digwydd. Ers hynny, mae ymwybyddiaeth o DKA wedi bod yn brif flaenoriaeth i’w fam, a bellach, yn ei chweched flwyddyn o ymgyrchu, mae Dee Pinnington, sydd, fel ei mab, yn byw gyda diabetes math 1, yn parhau gyda’i hymdrechion hollbwysig. Mae ymwybyddiaeth o DKA mor hanfodol ag erioed, yn enwedig yn ystod y pwysau digynsail ar ein gwasanaethau iechyd. Gall deall y symptomau a rhoi gwybod i'r gwasanaethau meddygol yn briodol, fel y gallant gategoreiddio eu cymorth a blaenoriaethu ambiwlans, olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Cefnogir ei thaflen ddwyieithog gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Diabates UK Cymru, a heddiw, bydd yn cael ei rhannu’n ddigidol gyda meddygon teulu ledled Cymru. Mae ymgyrchwyr hefyd yn galw am i'r daflen hon, neu ei chynnwys, fod ar gael ar ap GIG Cymru. Fel rhan o’i hymgyrch, mae Dee Pinnington wedi trefnu gŵyl gerddoriaeth, Ali Fest 2024, yng ngogledd Cymru ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf y flwyddyn nesaf er cof am Ali, gyda’r holl arian a godir yn cael ei roi i Diabetes UK Cymru. Mae Diabetes UK Cymru wedi anfon e-bost i estyn gwahoddiad i bob un ohonoch—os nad yw wedi cyrraedd eto, fe fyddwch yn ei gael—gan na ddylai stori Ali gael ei hailadrodd byth. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yr wythnos diwethaf fe ddathlodd Max Boyce, un o eiconau diwylliannol Cymru, ei ben-blwydd yn 80 oed, ac fe ddadlennwyd cerflun ohono yn ei bentref genedigol, sef Glyn-nedd. Roedd y Llywydd a'r Prif Weinidog yno, ynghyd â rhai o sêr mwyaf y byd rygbi fel Gareth Edwards a Gerald Davies. Ond yn bwysicach, efallai, oedd presenoldeb y cannoedd o drigolion y cylch a ddaeth i nodi a dathlu'r achlysur a thalu teyrnged i'r dyn sydd wir yn haeddu cael ei alw yn ddyn ei gymuned. Achos er iddo ddod yn enw mor adnabyddus, drwy ei ddawn canu a chomedi, dyn ei bobl yw Max. Fel un a oedd yn deall i'r dim pris drud y glo, wrth golli ei dad Leonard, mewn damwain erchyll yng nglofa rhif 3 yr Onllwyn fis cyn iddo gael ei eni, a threulio cyfnod dan ddaear ei hun, fe ysbrydolwyd gwaith Max Boyce gan brofiadau, dyheadau a diwylliant cymunedau diwydiannol y de—y caledi, y cyfeillgarwch, y chwerthin a'r chwarae, a'n cariad at rygbi, wrth gwrs, gan hefyd adlewyrchu dwyieithrwydd y cymunedau hynny mewn modd cwbl naturiol.
Cafodd y recordiad cyntaf o'i ganeuon ei wneud yng Nghlwb Gwerin y Cwm ym Mhontardawe yn 1971, gan gynnwys rhai o'r caneuon sydd nawr yn gyfarwydd i bawb, fel 'Hymns and Arias'. Ac fe aeth ei ail albwm gyda EMI, We All Had Doctors' Papers, i frig y siartiau albwm ym 1975, camp sydd dal yn unigryw i recordiad o'r fath. Fel nifer o'm cenhedlaeth i a oedd yn dod o gefndir tebyg, dwi'n medru adrodd y caneuon a'r cerddi llon a lleddf gair am air. Amhosib yw rhestru ei holl orchestion a'r holl anrhydeddau sydd wedi dod i'w ran dros yr hanner canrif y bu yn perfformio dros Gymru a'r byd. Ond fe hoffwn i annog pawb i fynd i weld y cerflun newydd hardd yng Nglyn-nedd gan yr artist lleol Rubin Eynon, ac ar ran y Senedd ddweud 'penblwydd hapus Max, a diolch'.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Medi 1983, agorwyd Clwb y Bont ym Mhontypridd gan neb llai na Dafydd Iwan. O’r cychwyn, a hyd heddiw, menter cydweithredol yw Clwb y Bont, gyda’r amcan o hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymreig yn yr ardal, a hynny mewn awyrgylch naturiol ddwyieithog.
Dros y degawdau, mae’r clwb wedi cynnal llu o weithgareddau amrywiol o gyfarfodydd gwleidyddol i gorau cymunedol, o Dalwrn y Beirdd i nosweithiau roc, hip-hop, gwerin a jazz, heb son am nosweithiau cwis, ffilm a charioci, ynghyd â bod y lle i wylio gemau rygbi a phêl-droed timau cenedlaethol Cymru. Mae llu o bobl wedi dysgu Cymraeg yno dros y degawdau, gan groesawu’r cyfle i ddysgu mewn ffordd fwy anffurfiol a chartrefol.
Nifer o weithiau yn ei hanes, mae’r clwb wedi dioddef llifogydd, a bydd nifer, dwi’n siwr, yn cofio gweld y clwb dan ddŵr yn dilyn llifogydd dinistriol 2020. Yn fuan wedyn, daeth COVID. Ond, gyda gwaith caled yr aelodau a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol, fe lwyddodd Clwb y Bont i ailagor. Diolch i Prosiect Pum Mil, ymdrechion codi arian a grantiau lu, mae Clwb y Bont—fel y dywedodd Caryl Parry Jones fel rhan o ddathliadau’r 40 yno nos Sadwrn diwethaf—yn fit at 40, ac wedi dod drwy bennod anodd yn ei hanes yn gryfach nag erioed.
Mae Clwb y Bont yn drysor o le, ac yn paratoi i groesawu pawb fydd yn dod i Bontypridd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf. Diolch i bawb fu’n rhan o hanes y clwb dros y degawdau. Ymlaen i’r 40 nesaf: penblwydd hapus, Clwb y Bont.
Diolch, bawb.
Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Yr Hawl i Gael Tai Digonol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Cynnig NDM8365 John Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Yr Hawl i Gael Tai Digonol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Gorffennaf 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar yr hawl i dai digonol.
Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel i’w alw’n gartref yn rhywbeth rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn dyheu amdano. Mae gan sawl gwlad yr hawl i dai digonol wedi’i ymgorffori yn y gyfraith, a chafwyd galwadau am ymgorffori hawl o’r fath yma yng Nghymru. Felly, fe wnaethom gynnal yr ymchwiliad hwn gan wybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer yr hawl i dai digonol, ac y bydd deddfwriaeth ddigartrefedd yn cael ei chyflwyno hefyd yn ystod tymor y Senedd hon.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyrdd yn galw am dystiolaeth ar ddigonolrwydd tai a rhenti teg. Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y bydd y dystiolaeth a gyflwynir i ni fel pwyllgor yn cael ei hystyried yn rhan o’r broses ymgynghori. Fel pwyllgor, credwn y gall ein hymchwiliad ychwanegu gwerth at y gwaith hwnnw drwy dynnu sylw at rai o’r materion pwysig y mae angen eu hystyried ymhellach. Rydym yn falch, felly, fod pob un o’n 10 argymhelliad wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.
At ei gilydd, roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan randdeiliaid o blaid ymgorffori hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru, ac rydym yn cydnabod y gallai hyn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael ag anghenion tai. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod angen newidiadau i’r system cyn y gellid cyflwyno hawl o’r fath yn effeithiol.
Amlygodd ein hadroddiad bwysigrwydd sicrhau bod y math cywir o lety ar gael yn y lleoliadau cywir. Mae angen cymysgedd o lety i ddiwallu anghenion amrywiol pobl. Rydym yn croesawu sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid ac ymrwymiad y Gweinidog i gydweithio â grwpiau sy’n debygol o gael eu heffeithio. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â phobl anabl a chynrychiolwyr pobl hŷn i fynd i’r afael â phrinder llety hygyrch, nawr ac ar gyfer anghenion y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, gellir dadlau mai prinder cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel yw'r rhwystr mwyaf rhag sicrhau hawl i dai digonol. Felly, mae mynd i’r afael â’r cyflenwad tai yn allweddol. Credwn fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn ar fyrder er mwyn bodloni gofynion y presennol a'r dyfodol. Fel pwyllgor, rydym wedi mynegi pryder o’r blaen y bydd costau cynyddol a materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi a’r gweithlu yn gwneud nod Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn fwy heriol.
Yn ogystal, o ystyried y galw parhaus am dai fforddiadwy, a’r nifer cynyddol o bobl sy’n byw mewn llety dros dro, rydym yn pryderu bod y targed o 20,000 o gartrefi newydd ynddo’i hun yn annigonol. Hoffwn bwysleisio, felly, ein hargymhelliad fod y Gweinidog yn nodi sut y bydd yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn cyfrannu at ddiwallu’r angen cyffredinol am dai yng Nghymru. Credwn y dylai asesiad o’r fath gynnwys sut y bydd y mathau o gartrefi a ddarperir yn mynd i’r afael â meysydd o angen penodol, megis eiddo un ystafell wely.
O ran sut y gellid ymgorffori hawl i dai digonol, cyfeiriodd tystion at ddau fodel gwahanol: ei ymgorffori'n uniongyrchol yng nghyfraith Cymru; neu'n anuniongyrchol, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill i roi sylw dyledus i'r hawl. Rydym yn sylweddoli efallai na fyddai dull 'sylw dyledus' yn ddigonol i sicrhau y cedwir at hawl. Felly, gallai ymgorffori uniongyrchol fod yn fwy effeithiol. Credwn y dylid rhoi ystyriaeth bellach i hyn.
Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad y dylid ystyried cyflwyno arolwg tai blynyddol yng Nghymru. Mae’r ymchwiliad hwn, a’n gwaith blaenorol, wedi dangos yr angen am ddata gwell i gael gwell dealltwriaeth o anghenion tai, a chredwn y byddai arolwg blynyddol yn rhoi cyfle i gasglu data o’r fath.
Ddirprwy Lywydd, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod bod heriau i'w goresgyn cyn y gellir rhoi hawl i dai digonol ar waith yn effeithiol. Fodd bynnag, credwn y dylai'r gwaith ddechrau nawr er mwyn gwireddu’r dyhead o dai diogel, priodol i bawb yn ein gwlad. Diolch yn fawr.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i John Griffiths am gadeirio’r pwyllgor yn fedrus a’n harwain drwy'r broses o gynhyrchu’r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau drwy gydol y broses, fel pwyllgor.
Gwyddom fod tai yn un o faterion allweddol ein hoes—yma yng Nghymru, ie, ond ledled y DU hefyd. Gwyddom ei fod yn effeithio ar bobl ledled Cymru mewn pob math o wahanol ffyrdd, o’n pobl ifanc sy’n brwydro i gael troed ar yr ysgol dai, i bobl sy’n cysgu allan ac sy’n ysu am gartref. Credaf fod yn rhaid inni gyfaddef nad ydym yn gwneud pethau'n iawn ar hyn o bryd, a bod angen inni ystyried pob opsiwn i wella pethau i bobl Cymru.
O ran adroddiad ein pwyllgor, hoffwn dynnu sylw at rai o argymhellion penodol yr adroddiad a rhoi rhywfaint o sylwadau arnynt. Yn gyntaf, mae argymhelliad 5 yn ein hadroddiad yn ystyried sut y dylid diffinio 'tai digonol'. Yn y ddadl hon, credaf mai dyna un o’r pethau pwysicaf i’w hystyried, mae’n debyg. Mae'n bwysig am fod yr holl waith posibl ar lunio polisi a all ddeillio o hyn yn dibynnu ar gywirdeb y diffiniad. Clywsom gan yr Athro Hoffman, a roddodd dystiolaeth i ddweud bod digonolrwydd yn gysyniad hyblyg, ac ychwanegodd na ddylai rhai pethau fod yn agored i drafodaeth, fel gwneud pob ymdrech i roi diwedd ar ddigartrefedd. Ymddengys i mi fod hyn eisoes yn wir, felly, byddai angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw ddiffiniad yn cynnwys mwy na geiriau cefnogol na ellir eu cyflawni. Ac efallai fod fy safbwynt yn naturiol ofalus, y tu hwnt i'r hyn rydym yn ei drafod yma heddiw a'r hyn sydd yn yr adroddiad, gan y gwyddom, hyd yn oed pe bai hawl i dai digonol yn cael ei chreu heddiw, dyweder, nad yw hynny'n golygu y byddai'r argyfwng sy'n bodoli ar hyn o bryd, lle mae miloedd o bobl yn byw mewn gwestai a llety gwely a brecwast yng Nghymru, yn diflannu yfory, neu'n wir, ymhen 10 mlynedd, efallai na chaiff mo'i datrys. Ni cheir un ateb gwyrthiol a fyddai'n datrys y problemau a wynebwn, ac mae'n rhaid inni weithio gyda datblygwyr, gyda landlordiaid, gyda'n partneriaid tai cymdeithasol a chydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y tai y bydd eu hangen arnom yfory yn cael eu hadeiladu ac ar gael heddiw.
A daw hyn â mi at yr argymhelliad nesaf yr hoffwn inni ganolbwyntio arno a chlywed mwy yn ymateb y Gweinidog, a soniodd ein Cadeirydd, John Griffiths, amdano yn ei gyfraniad agoriadol. Argymhelliad 6 yw hwnnw, a sy'n ymwneud â'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i’w hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon. Gwyddom nad yw hynny’n mynd i gael ei gyflawni, neu ei fod yn hynod o annhebygol o gael ei gyflawni. Un o’r cwestiynau a ofynnais i’r Gweinidog yn y pwyllgor—ac efallai yr hoffwn glywed ganddi eto heddiw—yw’r gallu i’n landlordiaid cymdeithasol yn enwedig allu fforddio adeiladu’r eiddo ar y lefel sy’n ofynnol ar hyn o bryd. Gwyddom gan landlordiaid cymdeithasol, oherwydd y gofyniad ansawdd, ei bod yn costio bron i £250,000 bellach i adeiladu cartref cymdeithasol yng Nghymru, sy’n golygu bod pob £1 filiwn a werir yn adeiladu pedwar cartref yn unig. Nid wyf yn dweud o gwbl y dylem fod yn adeiladu tai annigonol ar gyfer pobl, ond pan fydd gennym filoedd o bobl mewn gwestai a llety gwely a brecwast ar hyn o bryd, tybed pa ystyriaeth a wnaiff y Gweinidog ei rhoi i gael y cydbwysedd rhwng yr ansawdd a’r fforddiadwyedd yn iawn.
Mae gennym broblemau, wrth gwrs, gyda'r gallu i gyflawni ar fater ffosffadau, a rhoddir sylw i hynny yn argymhelliad 7 yn ein hadroddiad heddiw. Rhaid inni ddod o hyd i ateb ymarferol ar frys i fynd i'r afael ag oedi mewn datblygiadau tai o ganlyniad i reoliadau ffosffad. Gwn fod y Gweinidog yn deall hyn ac yn awyddus iawn i weld hyn yn cael ei ddatrys, ac nid wyf yn dweud bod llawer o'r hyn sydd ynddo yn anghywir, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw ateb i'n datblygwyr i sicrhau y gellir adeiladu'r cartrefi cymdeithasol hynny, yn enwedig, cyn gynted â phosibl. Yn fy ardal i yng ngogledd Cymru, er enghraifft, fe wyddom nad yw oddeutu 1,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd oherwydd rheoliadau ffosffad, ac ni allwn barhau i ohirio'r mater. Fel y dywedaf, gwn fod y Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn, ond hoffwn glywed am y cynnydd diweddaraf ar hynny er mwyn inni weld y tai hyn, sydd mor bwysig, yn cael eu hadeiladu.
Felly, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith ar gynhyrchu'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw. Byddaf yn sicr yn cadw llygad barcud ar gynnydd y syniad, sef yr hawl i dai digonol. Byddaf yn awyddus i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried sut y gellid gweithredu rhywbeth fel hyn. Ond hefyd, hoffwn ailadrodd fy mhwynt ynglŷn â gofalu nad ydym yn credu y bydd hyn yn ateb a fyddai'n datrys ein holl broblemau. Diolch yn fawr iawn.
Roeddwn wedi paratoi araith, ac roeddwn yn bwriadu sôn rhywfaint am Fienna, Barcelona, y Ffindir ac enghreifftiau eraill. Ond yn lle hynny, rwyf am ddweud stori fach wrthych am rywbeth a ddigwyddodd neithiwr. Pan adewais y Senedd hon neithiwr, tua 8 o'r gloch, cyrhaeddais yn ôl i'r fflat, ac roedd menyw ifanc yn cysgu wrth y fynedfa, gan rwystro fy mynedfa i'r fflat. Roedd ganddi gi bach gyda hi ac roedd hi wedi bod yno ers y bore, oherwydd roedd hi yno pan wneuthum adael. Ac er mwyn cael mynediad i'r fflat, roedd yn rhaid i mi ei deffro hi, ac yn y broses o'i deffro, gofynnais a oedd hi'n iawn, a dywedodd, na, roedd hi eisiau bwyd, bron â llwgu, yn oer iawn ac angen cymorth. Felly, rhedais i fyny'r grisiau, euthum i mewn i'r fflat, euthum i chwilio am fwyd, cesglais yr hyn a allwn iddi, ac euthum i lawr a chael sgwrs, a chynnig mynd â hi allan am fwyd, er mwyn gwneud yn siŵr ei bod hi'n iawn. Ac ar y daith honno, rhannodd ei stori gyda mi.
Roedd hi yn ei 20au hwyr. Cafodd ei geni i fam a oedd yn ei cham-drin a thad a oedd ar heroin. Cafodd ei rhoi mewn gofal, ac roedd hi wedi byw mewn gofal drwy gydol ei hoes, ac wedi cael ei throsglwyddo o un teulu neu un unigolyn i'r llall. Pan oedd hi'n 14 oed, rhoddodd enedigaeth i blentyn—yn 14 oed. Bythefnos yn ddiweddarach, collodd y plentyn. Dim ond 14 oed oedd hi, ni wyddai sut i ymdopi â'r golled, ac nid oedd wedi'i chyfarparu i ymdrin â hynny. Yna, pan oedd hi'n 16 oed, cafodd ei throi allan ar y stryd. Pan oedd hi'n 18 oed, penderfynodd gysylltu â'i thad, ei thad biolegol. Cyfarfu â'r tad ac nid oedd eisiau unrhyw beth i'w wneud â hi. Roedd hi eisiau bod yn rhan o deulu, nid oedd ganddi unrhyw un arall. Felly, meddyliodd, 'Iawn, sut y gallaf fi ddod yn rhan o'i deulu?' A dyma hi'n mynd i brynu heroin iddo. Nid oedd ganddo ddiddordeb ynddi hi, ond roedd ganddo ddiddordeb yn yr heroin, felly dechreuodd dorri'r heroin hwnnw iddo. Nid oedd ganddo ddiddordeb o hyd, ac felly fe ddechreuodd hithau gymryd heroin er mwyn bod yn rhan o'i fywyd. Yna roedd hi'n gaeth i heroin am—wel, mae hi wedi bod yn gaeth i heroin ers hynny. Ac mae hi wedi bod ar y strydoedd er pan oedd hi'n 18 oed, yn byw yng Nghaerdydd—mae'n siŵr eich bod wedi ei phasio wrth i chi fyw eich bywydau bob dydd. Ac mae hi'n ennill arian yn yr unig ffordd y mae'n gwybod sut i ennill arian, sef drwy werthu ei chorff.
Nawr, nid yw'n iawn, mewn cymdeithas fel hon, yn yr unfed ganrif ar hugain—rwy'n edrych o gwmpas—ein bod ni'n byw mewn cymdeithas sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. Ni ddylai fod—na, ni ddylem fod yn y sefyllfa hon. Mae hi wedi cael cam ac wedi'i cham-drin gan bawb drwy gydol ei hoes. Nid yw'n ymddiried yn unrhyw un. Ers ei geni, mae hi wedi cael cam, ac rydym ni wleidyddion wedi gwneud cam â hi yn fwy na neb, drwy fethu rhoi'r strwythurau ar waith i atal y pethau hyn rhag digwydd iddi.
Nawr, ni fyddai'r hawl i gartref digonol—ac mae'n debyg y byddaf yn dychwelyd at y stori hon am Polly pan glywn am y ddeddfwriaeth ddigartrefedd—ond ni fyddai'r hawl i gartref digonol wedi datrys y problemau pan gafodd ei geni, na. Ni fyddai wedi datrys y problemau'n ymwneud â'r gofal a gafodd, na. Ond nawr mae hi angen rhyw fath o strwythur yn ei bywyd. Mae hi angen rhywbeth i ddal ei gafael arno. Mae hi angen to uwch ei phen. Mae hi wedi colli ei ffôn—cafodd ei ddwyn oddi arni ychydig wythnosau yn ôl—felly nid oes ganddi unrhyw bwynt cyswllt. Fe fydd yn mynd i rai cartrefi o bryd i'w gilydd i ymolchi, ond nid oes ganddi un cyfeiriad parhaol, nid oes modd cysylltu â hi. Felly byddai rhoi to uwch ei phen yn rhoi strwythur iddi ac yn rhoi pwrpas iddi.
Ac er mwyn Polly, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod gennym yr hawl i gael tai digonol, fel bod ganddi do uwch ei phen, mewn man lle mae hi'n gwybod y gall gael y gofal hwnnw, lle mae yna ofal cofleidiol iddi, lle mae'n gwybod bod trafnidiaeth ar gael iddi, i ddod o hyd i waith pan ddaw'r amser. Ond heb dŷ i ddechrau, heb do uwch ei phen, nid oes ganddi obaith. Felly, dyna pam rwy'n credu y dylem gefnogi ac annog y Llywodraeth i ddatblygu a gweithio ar y cynigion. Diolch.
Ychydig ddyddiau'n ôl, fe wnaethom ddathlu pen-blwydd cyn Arlywydd yr UDA Jimmy Carter yn 99 mlwydd oed. Rhan o waddol y cyn Arlywydd yw Prosiect Gwaith Jimmy a Rosalynn Carter, sef ymdrech greu cartrefi flynyddol ryngwladol a drefnir gan Habitat for Humanity, sydd hefyd yn ymwneud â galluogi adfywio cymunedol a chymdogaethol. Ail-lansiwyd y prosiect yr wythnos hon, ac ers 1984, mae dros 100,000 o wirfoddolwyr wedi helpu bron i 4,500 o deuluoedd mewn 14 gwlad i symud i mewn i loches ddiogel a fforddiadwy. Pan ofynnwyd iddo am ei gefnogaeth i'r prosiect, dywedodd yr Arlywydd Carter:
'Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn ystyried tai yn hawl ddynol, ond dyna ydyw. Nid wyf yn gweld sut y gall teulu fwynhau hawliau dynol eraill... os ydynt yn byw mewn lle gwarthus y mae ganddynt gywilydd ohono.'
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad tebyg a nodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn y rhaglen lywodraethu i gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartref digonol. Edrychaf ymlaen at weld hwnnw'n cael ei gyhoeddi maes o law. Yn y cyfamser, hoffwn ganmol y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am gynnal yr ymchwiliad byr hwn, i archwilio rhai o'r meysydd allweddol y mae angen i'r Papur Gwyn ymdrin â nhw. Mae'n adroddiad ardderchog, a diolch i aelodau'r pwyllgor, y tîm clercio, a phawb a roddodd eu hamser a'u harbenigedd fel tystion. Rwy'n siŵr y bydd hwn yn ddefnyddiol iawn wrth symud ymlaen.
Am y rhan fwyaf o'm hamser heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 6. Dyna'r argymhelliad sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei hasesiad o sut y bydd y targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi newydd y mae’n bwriadu eu creu yn cyfrannu at ddiwallu’r angen cyffredinol am dai yng Nghymru, gan sicrhau hefyd eu bod yn mynd i'r afael â meysydd o angen penodol, megis y galw am eiddo un ystafell wely. Nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Yn ei hymateb, mae ymrwymiad y Gweinidog i gyflawni'r nod hwn yn amlwg, ac rwy'n nodi'r sylwadau am awdurdodau lleol, a sut maent yn asesu ac yn mapio anghenion tai eu hardaloedd.
Fel sy'n wir gyda llawer ohonom o bob rhan o'r Siambr, rwy'n siŵr, mae diwallu'r angen hwn yn un o'r prif heriau sy'n cael eu codi'n gyson gan fy etholwyr. Yn ogystal â chynyddu cyflenwad, roeddwn yn falch o weld ail gam gweithredu Cymorth Cymru ar gyfer sut y gallwn ddiwallu'r angen hwn, sef dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Rwyf eisiau cyffwrdd yn fyr â dwy enghraifft lle mae hyn wedi digwydd yn fy etholaeth. Yn gyntaf, roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau'r flwyddyn hon, wedi lansio'r cynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol. Yn ymestyn dros ddwy flynedd, ac wedi'i gefnogi gan £50 miliwn o gyllid, gallai hyn olygu bod hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio eto fel cartrefi teuluol. Tyfodd y grant o brosiect cartrefi gwag tasglu'r Cymoedd, ac rwy'n cofio ein hymweliad yn dda, Weinidog, i Ynys-y-bŵl ychydig flynyddoedd yn ôl, lle cawsom ein croesawu gan Jade i'w chartref teuluol hardd a oedd newydd gael ei adnewyddu. Yn yr un modd, mae'r ffordd ragweithiol y mae Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf wedi adeiladu, adnewyddu a gosod eiddo teras gwag ar rent ym Mhenrhiw-ceibr wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae hon yn ffordd gynaliadwy o addasu tai gwag at ddibenion gwahanol ac adfywio cymunedau sydd wedi eu difetha gan eiddo a fu'n wag ers llawer gormod o amser. Rwy'n awyddus i glywed gan y Gweinidog a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog gwaith o'r fath.
Yn ogystal â chael mynediad at dai, mae'r angen am dai mwy hygyrch hefyd yn rhywbeth rwy'n ei weld yn boenus o reolaidd yn fy ngwaith achos. Roedd y dystiolaeth gan Tai Pawb a Gofal a Thrwsio Cymru yma yn eithaf clir. A chefais fy nharo gan y ffigur, a ddarparwyd gan Gofal a Thrwsio Cymru, sef
'Erbyn 2035, rhagwelir y bydd gan 58 y cant o bobl dros 65 oed amhariad symudedd.'
Fel y soniwyd, nodaf y sylwadau gan y Gweinidog ynglŷn â'r modd y mae asesiadau o'r farchnad dai leol a phrosbectws awdurdodau lleol yn ffordd o sicrhau bod y math cywir o ddatblygiad tai fforddiadwy yn cael ei ariannu a'i ddarparu yn y lle cywir. Fodd bynnag, rwy'n pryderu a yw'r system yn ddigon hyblyg i ddiwallu angen. Gellid addasu tai i'w defnyddio, ond wedyn, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, bydd angen eu dadaddasu i ddychwelyd i'r stoc dai gyffredinol. Ac yn sicr, yn fy etholaeth i, nid yw'n ymddangos bod yna fyth gyflenwad angenrheidiol o dai hygyrch wedi'u haddasu. Nid oes amheuaeth fod angen inni ddiogelu ein stoc dai ar gyfer y presennol a'r dyfodol. Mae'r Papur Gwyn, yn enwedig os yw'n bodloni argymhellion y pwyllgor, yn cynnig cyfle perffaith i ni wneud hyn.
Rwy'n cyfeirio at fy natganiadau o fuddiant fy hun o ran perchnogaeth eiddo. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, o dan gadeiryddiaeth John Griffiths, a'r holl aelodau, am eu gwaith ar faes polisi hynod o bwysig. Mae'r hawl i gael tai digonol wedi cael ei disgrifio gan Cartrefi Cymunedol Cymru fel 'edau aur'. Mae Shelter Cymru yn ystyried mai dyma'r ysgogiad a fyddai'n gwyrdroi'r hanes hir o danfuddsoddi a gawsom. Mae Alma Economics yn dweud bod ei fodelu'n dangos bod y buddion yn gorbwyso'r gost yn sylweddol, ac mae Gofal a Thrwsio Cymru yn credu bod yr hawl yn cynnig cyfle i symud i ffwrdd o reoli argyfwng a dechrau edrych ar ddulliau ataliol o ymdrin ag iechyd. Fodd bynnag, fel y mae'r un sefydliad wedi'i ddweud, y gwir amdani yw na wyddom beth yw cost tai annigonol.
Rydym i gyd yn gwybod bod cartref cynnes, fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i'n llesiant. Mae hefyd yn hanfodol i lesiant ein plant a'u hanghenion addysgol. Mae nifer o randdeiliaid wedi dweud bod yr hawl yn mynd i'r afael â materion megis diogelwch deiliadaeth, cyfaneddoldeb a fforddiadwyedd. Ac eto, fel y mae argymhelliad 5 a'ch ymateb yn ei amlygu, nid oes diffiniad clir o 'dai digonol' yng Nghymru. Felly, mae'n ddiddorol meddwl sut y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd. Hyd yn oed pe bai yna ddiffiniad clir, mae'r syniad y bydd creu'r hawl hon yn y gyfraith yn datrys yr argyfwng tai yn nonsens.
Y broblem allweddol yng Nghymru yw'r cyflenwad tai. Yn 2022-23 dim ond 5,785 o anheddau a gwblhawyd. Roedd hyn yn llai na hanner y 12,000 yr oedd eu hangen. Mae'r adroddiad wedi dangos mai ffosffadau yw un broblem sy'n rhwystr mawr i'r cyflenwad. Nawr, rydym yn gwybod—. Rydym wedi codi hyn sawl gwaith yn y Siambr hon. Mae miloedd o gartrefi newydd arfaethedig, gan gynnwys tua 700 o eiddo cymdeithasol, bellach yn destun oedi—oedi hir—oherwydd y canllawiau hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi gwybod am yr argyfwng hwn ers 2021, ond y gorau y gall y Gweinidog ei wneud, mewn ymateb i argymhelliad 7, yw dweud y bydd yna uwchgynhadledd arall eto ar lygredd afonydd. Oedi ar ôl oedi ar ôl oedi. Y neges y mae angen i Gymru ei chlywed yw 'adeiladu, adeiladu, adeiladu'.
Mewn ymateb i argymhelliad 6, rydych chi wedi datgan yn gywir mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am bennu gofynion tai lleol. Ac eto, mae awdurdodau lleol yn rhan—rhai awdurdodau lleol—yn rhan o'r oedi i'r cyflenwad tai. Yn wir, rwy'n hyderus fod—. Arhoswch eiliad. Felly, mae dros 100 o swyddi gwag mewn adrannau cynllunio ledled Cymru—. Mae'n cymryd blynyddoedd i ddatblygwr—preifat neu gymdeithasol—fynd o gaffael tir i osod un fricsen. Mae ein proses gynllunio yng Nghymru wedi torri. Felly, mae angen inni ystyried llwybr cyflym ar frys ar gyfer ceisiadau cynllunio i safleoedd sy'n 100 y cant cymdeithasol a'r un peth ar gyfer tai fforddiadwy, adolygu'r angen am geisiadau cyn cynllunio ar y ddeiliadaeth dai fawr ei hangen hon, annog awdurdodau lleol i gydweithio i lenwi bylchau arbenigeddau, lle nad oes gennym ddigon o swyddogion cynllunio, swyddogion cyfreithiol, peirianwyr priffyrdd, peirianwyr sifil, a chael y ceisiadau hyn drwodd.
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor fod ymgysylltu â grwpiau gwahanol yn hanfodol er mwyn deall y mathau o lety sydd eu hangen a lle mae eu hangen er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth gywir. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon i gasglu data'n llawer gwell. Gallai'r grŵp cynghori rhanddeiliaid fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig os oes cynrychiolaeth o grwpiau anabledd a phobl hŷn, yn unol ag argymhelliad 3. Ni allwn ganiatáu unrhyw oedi pellach cyn gwella'r cyflenwad.
Yn gwbl briodol, rydym yn trafod polisi tai bron yn wythnosol yn y Senedd hon yng Nghymru, ond rwy'n bryderus iawn nad oes cynnydd yn cael ei wneud. Mewn gwirionedd, rwy'n hyderus iawn y bydd y gwerthusiad annibynnol o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 hefyd yn canfod bod y ddeddf hon wedi gyrru landlordiaid sector preifat allan ac wedi gwaethygu'r cyflenwad o lety rhent. Mae gennyf lawer o westai yn Aberconwy sy'n gartrefi i bobl ar hyn o bryd—caiff un ystafell ei galw'n gartref iddynt—oherwydd y diffyg cyflenwad hwn. Nawr, mae'r pwyllgor yn iawn i alw am werthusiad o'r ddeddf bresennol yn argymhelliad 4, ond mae angen inni fynd gam ymhellach. Weinidog, ymrwymwch i weithredu ar y canfyddiadau hyn, hyd yn oed os yw'n golygu cyfaddef bod eich Deddf 2016 wedi cael effaith niweidiol ar gyflenwad.
Ers tri degawd, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi goruchwylio polisi tai yng Nghymru. Yr hyn y maent wedi'i gyflawni yw'r argyfwng cywilyddus hwn. Ni fydd deddfu i greu hawl i gael tai digonol yn mynd i'r afael â hynny. Yr hyn sydd ei angen arnom yw Senedd sydd o blaid tai—
Janet, mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Rydym angen Senedd sy'n codi'r brêc ar adeiladu, Senedd sy'n atal yr ymosodiadau ar landlordiaid preifat a Senedd sy'n darparu cartrefi i bobl Cymru. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gyntaf, yn enwedig y Cadeirydd, a phawb a gymerodd amser i ddarparu tystiolaeth yn seiliedig ar eu profiad a'u harbenigedd i ymchwiliad y pwyllgor. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i'r pwyllgor am gyhoeddi eu canfyddiadau a'r argymhellion yn dilyn eu hymchwiliad i dai digonol yn amserol. Fel y mae'r Cadeirydd wedi cydnabod, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi derbyn yr holl argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Cyhoeddwyd ein hymateb llawn, Ddirprwy Lywydd, ar 27 Medi. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy holl fanylion hwnnw, ond daeth ein hymgynghoriad galwad am dystiolaeth Papur Gwyrdd hefyd ar dai digonol a rhenti teg fel rhan o'r cytundeb cydweithio i ben ar 15 Medi, ac mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn dadansoddi cyflwyniadau gan dros 370 o ymatebwyr. Rwyf hefyd wedi ymrwymo, fel rhan o'r gwaith o sefydlu'r sylfaen dystiolaeth drwy'r ymgynghoriad, y byddwn yn ystyried y cyflwyniadau a wnaed i ymchwiliad y pwyllgor fel rhan o'n dadansoddiad, ac fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod hynny yn ei gyfraniad.
Fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu, ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn i gynnwys cynigion ar gyfer hawl i gael tai digonol, i gynnwys rhenti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fforddiadwy i bobl ar incymau lleol. Bydd tystiolaeth y Papur Gwyrdd, ynghyd ag adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar dai digonol yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynigion sydd i'w nodi ac a fydd yn destun ymgynghoriad yn y Papur Gwyn dilynol.
Ac fel rwyf wedi'i nodi yn fy natganiad ysgrifenedig ar ymgynghoriad y Papur Gwyrdd yn gynharach eleni, er bod enghreifftiau rhyngwladol a gwaith academaidd ar y cysyniad o ddigonolrwydd tai a mesurau rhent teg, nid ydynt yn uniongyrchol drosglwyddadwy i Gymru a'r sector tai yng Nghymru. Nod yr ymgynghoriad felly yw cael gwell dealltwriaeth, yn enwedig o'r farchnad rentu yng Nghymru, ac yn benodol, pa ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad landlordiaid wrth osod rhenti a chyflogi tenantiaid a'r hyn y mae tenantiaid yn ei ystyried yn eiddo fforddiadwy a digonol mewn gwirionedd. Felly, i ateb y pwyntiau a gododd Sam, rwy'n meddwl, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sydd yn y diffiniad a'r ffordd orau o roi hynny ar waith yng Nghymru.
Rwyf hefyd wedi nodi yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor sut mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi, ac yn dal i gymryd camau sylweddol tuag at fodloni'r meini prawf a fyddai'n sicrhau digonolrwydd tai. Felly, fy ffocws o hyd yw sicrhau ein bod yn rhoi'r blociau adeiladu cywir yn eu lle er mwyn darparu digonolrwydd tai i bawb yn ymarferol. Dyma'r strategaethau, y polisïau a'r rhaglenni hirdymor rydym yn eu datblygu, ynghyd â'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad ar draws y portffolio tai, a fydd yn cyflawni ffactorau digonolrwydd tai. Mae'r rhain yn cynnwys ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd drwy sicrhau nad yw'n digwydd yn aml, nad yw'n para'n hir ac nad yw'n ailadrodd, a'r diwygio deddfwriaethol rydym yn ei gynllunio i drawsnewid ein dull o ymdrin â digartrefedd, gan ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn cyflwyno Papur Gwyn yn fuan yn nodi cyfres radical o ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau, ac mae pob un ohonynt yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer cyflawni rhai o ffactorau digonolrwydd tai.
Hoffwn sôn yn fyr am y stori ddigalon a nododd Mabon yn ei gyfraniad. Rwy'n gobeithio, Mabon, eich bod wedi adrodd lleoliad y fenyw ifanc drwy Streetlink hefyd. Mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth ein bod yn sicrhau bod gweithwyr allgymorth tai yn mynd at bob person y gwyddom eu bod yn cysgu allan. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n cysgu allan ar strydoedd Cymru weithiwr allgymorth addas gyda nhw, felly rydym yn gwybod lle maent, ac nid ydynt fel arfer mewn tai oherwydd bod ganddynt lu o broblemau eraill, gydag iechyd meddwl a cham-drin sylweddau ymhlith y mwyaf cyffredin o'r problemau hynny. Felly, rwy'n gobeithio eich bod wedi rhoi gwybod. Os na, rhowch wybod i mi ac fe wnaf sicrhau ein bod yn anfon gweithiwr allgymorth at y fenyw ifanc dan sylw. Mae'n bwysig iawn, fel y dywedoch chi, eu bod yn rhywun y maent yn ymddiried ynddynt ac yn teimlo y gallant ddibynnu arnynt a gall gymryd misoedd lawer o waith i wneud hynny. Felly, mae'n bwysig dechrau'r broses honno.
Ddirprwy Lywydd, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy wrth gwrs, a dyna pam ein bod yn buddsoddi £330 miliwn mewn tai cymdeithasol y flwyddyn ariannol hon fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod y tymor hwn. Ac yn wahanol i Loegr, rydym hefyd wedi parhau â'n cefnogaeth i Cymorth i Brynu, sydd, yn ogystal â darparu cefnogaeth i ddarpar berchnogion tai, yn gwneud cyfraniad pwysig i annog adeiladu tai a chefnogi cadwyni cyflenwi ledled Cymru.
Ers ei sefydlu, mae'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi darparu mwy na 13,640 o gartrefi ac ar hyn o bryd mae gennym fwy na 40 o ddatblygwyr wedi'u cofrestru i gyflawni'r cynllun. Rydym hefyd yn defnyddio ein tir ein hunain i gyflwyno safleoedd enghreifftiol sy'n cynnwys mwy na 50 y cant o dai fforddiadwy ac yn ddiweddar rydym wedi prynu dau safle ychwanegol, a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu mwy na 500 o dai fforddiadwy.
Rydym hefyd yn cefnogi mynediad at dir ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy drwy ein cynllun tir ar gyfer tai sy'n werth £88 miliwn. Caiff y cyllid ei ailgylchu pan fo benthyciadau'n cael eu had-dalu i ddarparu benthyciadau newydd, a hyd yma, mae £248 miliwn o fenthyciadau wedi'u gwneud, a fydd yn hwyluso'r gwaith o ddarparu 8,187 o gartrefi newydd, gyda 78 y cant ohonynt yn fforddiadwy, drwy gyfres o fuddsoddiadau ledled Cymru sy'n helpu i wneud mwy o waith a fydd yn sail i gyflawni ffactorau digonolrwydd tai ledled Cymru.
Rwyf am ateb y pwynt a wnaeth Sam, sy'n bwynt sy'n cael ei ddwyn i fy sylw'n aml, ynghylch pam nad ydym yn gostwng y safonau. Y gwir yw mai un o'r problemau mwyaf mewn perthynas â digonolrwydd tai ledled Cymru yw'r ffaith bod gennym dai sydd o safon mor wael, ac mewn gwirionedd, mae cartrefi a adeiladwyd gwta 10 mlynedd yn ôl eisoes yn gwneud cais i ôl-osod. Felly, mae'n economi ffug iawn. Rwy'n deall yr elfen tymor byr, ond mae'n economi ffug, oherwydd os oes rhaid i chi ôl-osod tŷ, mae'n llawer mwy costus na phe baech chi'n ei adeiladu'n ddigonol yn y lle cyntaf. Felly, y syniad yw adeiladu cartrefi sy'n addas am oes, sydd â mynediad digonol, fel y nododd Vikki, fel eu bod mewn gwirionedd yn gartrefi am oes. Felly, os oes gennych bram neu blentyn ar feic, neu berthynas hŷn neu unrhyw un arall sydd â phroblemau symudedd, mae'r cartref yn addasadwy ar gyfer y pethau hynny heb gost fawr, a dyna un o brif elfennau'r hyn rydym yn ei adeiladu, fel bod y rhain yn gartrefi da i bobl fyw ynddynt am oes.
Mae gennym ymrwymiadau diogelwch adeiladu a mesurau deddfwriaethol arfaethedig hefyd gyda phwysigrwydd a pherthnasedd amlwg i elfen cyfaneddoldeb tai digonol. Nid oes gennyf amser i fynd drwy hynny i gyd, Ddirprwy Lywydd. Gwyddom fod elfennau sy'n mynd tuag at sicrhau cartrefi digonol yn gydberthynol, ac mae'n bwysig deall risgiau ac effeithiau posibl unrhyw newidiadau polisi ar gyfer un ffactor yng nghyd-destun ffactor arall. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i fyfyrio ar oedran ac ansawdd presennol rhywfaint o'r stoc dai bresennol yng Nghymru, a'r angen i ddeall cyfyngiadau posibl a'r angen am adnoddau, fel y nodais.
Yn y sector rhentu preifat, yn benodol, mae gan ddwy ran o dair o'r eiddo dystysgrif perfformiad ynni D neu is. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU fis diwethaf i ddileu'r gofyniad am welliannau ynni yn siomedig iawn, a bydd yn llesteirio cynnydd tuag at wella amodau byw i denantiaid a lleihau biliau ynni i helpu tenantiaid gyda'r argyfwng costau byw.
Yr agwedd fwyaf oll ar dai digonol i aelwydydd incwm isel yw fforddiadwyedd, wrth gwrs. Fel y dywedais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, un o'r ysgogiadau pwysicaf yn y maes hwn, y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano, yw'r lwfans tai lleol. Er gwaethaf galwadau mynych gennyf fi ac eraill ledled y DU, gan gynnwys cynghorau Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn parhau i rewi cyfraddau tai lleol i'r 30ain canradd o renti a oedd ar gael yn 2020. Mae hyn er bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod rhenti ledled Cymru wedi cynyddu 6.5 y cant dros y 12 mis diwethaf. Felly, rwyf am achub ar y cyfle hwn, unwaith eto, i annog Llywodraeth y DU i weithredu ar frys i godi lwfans tai lleol i adlewyrchu gwir gostau rhentu eiddo heddiw.
Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, bydd galwad am dystiolaeth Papur Gwyrdd a'r Papur Gwyn dilynol y flwyddyn nesaf yn helpu i archwilio a darparu sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer pa fesurau pellach y gallai fod eu hangen. Rydym eisoes yn datblygu'r sylfeini cryf a'r blociau adeiladu a fydd yn darparu'r llwybr i sicrhau ffactorau tai digonol, ac rydym eisoes ar y daith honno. Mae gwaith amserol y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn archwilio'r hawl i gael tai digonol i'w groesawu'n fawr, ac rwyf am orffen drwy ddiolch iddynt unwaith eto am eu gwaith. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw am eu diddordeb a'u hymrwymiad i'r maes strategaeth, polisi a chyflawni hynod bwysig hwn, a diolch i Sam Rowlands am ei waith ar y pwyllgor, ac rwy'n cytuno gyda Sam fod hon yn un o heriau mawr ein hoes, ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth Sam hefyd fod y rhain yn broblemau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru, ar draws y DU, ac ymhellach? Yn amlwg, rydym bob amser yn edrych ar rannau eraill o'r DU a thu hwnt i ddysgu gwersi a dysgu o brofiad, a rhannu ein profiad ein hunain yn wir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweld popeth yn y cyd-destun ehangach.
A gaf fi hefyd gytuno gyda Sam ynghylch y diffiniad, a phan fyddwn ni'n edrych ar sut rydym yn diffinio hawl i gartref digonol, mae angen inni ymdrin â rhai o'r agweddau mwyaf llwm ar yr hyn sy'n ddiffygiol ar hyn o bryd? Mae cysgu ar y stryd a digartrefedd yn dangos yn amlwg iawn beth yw'r cwestiynau a'r problemau sy'n ein hwynebu. Mae gwir angen inni ganolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed a chyflawni ar eu cyfer yn rhan o ddatblygu hawl i gartref digonol a symud tuag at yr amcan a'r nod hwnnw.
Rwyf hefyd yn cytuno â Sam ynglŷn â pha mor gyflawnadwy yw hyn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o hynny yn gyffredinol, mai'r hyn sy'n cyfrif go iawn i bobl, wrth gwrs, yw cyflawni ar eu cyfer mewn ffyrdd ymarferol ar lawr gwlad. Bydd yn cymryd amser, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod yn fawr gan y sefydliadau sydd wedi bwrw ymlaen ag ymgyrch y Bil a'r syniad o gael hawl i gartref digonol a'i ymgorffori mewn cyfraith ddomestig. Maent yn gwybod y bydd yn cymryd amser, ac maent yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill ar y sail honno. Ond wrth gwrs, er y bydd yn cymryd amser, rydym eisiau gweld ymdeimlad o frys wrth ymdrin â'r materion hyn, ac mae cysgu ar y stryd a digartrefedd ar y blaen o ran yr angen am frys.
Ac yn anffodus, fel y gwyddom, nid yw'r hyn a ddywedodd Mabon wrthym mewn ffordd mor bwerus am Polly a'i brofiad o ddod ar draws Polly yn ei gartref yma yng Nghaerdydd, yn broblem ynysig, ond unwaith eto, fel y dywedodd y Gweinidog, mae gan gynifer o bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru anghenion lluosog, mae ganddynt gefndiroedd anodd iawn o ran eu magwraeth a'u bywydau, a bydd angen ymateb amlasiantaethol ar gyfer hynny. Ond mae'n rhaid i hynny droi o gwmpas llety, onid oes—fel y dywedodd Mabon, sicrhau bod ganddynt do uwch eu pennau sy'n rhoi rhyw fath o fan sefydlog iddynt allu cael gwasanaethau wedi'u darparu, rhyw fath o sefydlogrwydd, rhyw fath o gysur. Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw hynny i ni a'n teuluoedd, oherwydd rydym yn elwa o gael y to hwnnw dros ein pennau ni, ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn meddwl am bobl nad ydynt yn y sefyllfa honno ac yn meddwl amdanynt yn rheolaidd, ac yna'n cysylltu hynny â pholisi Llywodraeth Cymru a'r camau gweithredu sydd eu hangen. Felly, mae'n bwysig iawn cael yr enghreifftiau pwerus hynny, fel yr enghraifft a rannodd Mabon gyda ni yma heddiw, i ganolbwyntio ein meddyliau ar bwysigrwydd y materion hyn a'r realiti llwm y mae llawer gormod o bobl yng Nghymru yn ei hwynebu o ddydd i ddydd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Vikki Howells yn gwbl gywir, o ran y cyd-destun ehangach y soniais amdano yn gynharach, i dynnu ein sylw at rai o'r mentrau ledled y byd, gan gynnwys un Jimmy Carter a'i wraig, a sut y gall hynny ymwneud â'r hyn a wnawn yma yng Nghymru, oherwydd, ymhlith y prif fentrau i gynyddu cyflenwad, mae yna lawer o agweddau a all chwarae rhan yn hynny, nid ar raddfa rhai o'r datblygiadau mwy, ond maent yn bwysig iawn serch hynny, ac rydym eisiau adeiladu amrywiaeth o dai. Nid yw'r dull fformiwlaïg a welwn gan y prif adeiladwyr tai yn diwallu anghenion cymunedau yma yng Nghymru. Mae angen llawer mwy o amrywiaeth, llawer mwy o ddychymyg ac arloesedd, ac mae'n dda cael enghreifftiau o hynny. Ac unwaith eto, cydnabu Vikki her fawr yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor y Senedd hon a sut y gallem ymateb i'r her honno. Ac ydy, mae ailddefnyddio eiddo gwag, unwaith eto, yn rhan sylweddol o'r ymdrech gyffredinol, er, yn amlwg, mae gennym her lawer mwy, ond serch hynny, mae gan hynny ran i'w chwarae a dylem roi camau ar waith i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Ac yn fy mhrofiad i, mae hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei deimlo'n gryf mewn cymunedau. Gallant weld pa mor wastraffus yw eiddo gwag, pan ellid ei ddefnyddio'n bwrpasol ar gyfer ein teuluoedd a'n poblogaeth yma yng Nghymru.
Mae Vikki yn iawn ynghylch diogelu at y dyfodol a'n poblogaeth hŷn ac anabledd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan sylweddol o'n hadroddiad. Mae'n rhaid inni gael—fel y nododd Gofal a Thrwsio Cymru—mae'n rhaid i ni sicrhau bod hygyrchedd wrth wraidd yr hyn sy'n digwydd.
Rwy'n credu bod gan Janet Finch-Saunders bersbectif gwahanol i'w chyd-Aelod Sam Rowlands o ran rhai o'r heriau hyn, ond yr hyn y carwn sôn amdano a thynnu sylw ato yw'r dull edau aur hwnnw a grybwyllwyd gan Janet, oherwydd un agwedd bwysig ar yr ymgyrch a'r ymgyrch 'cefnogi'r Bil' yw gweld pa mor bwysig yw hawl i gael tai digonol yn fwy cyffredinol; pa mor bwysig ydyw i iechyd a gofal, pa mor bwysig ydyw i addysg, pa mor bwysig ydyw i'r economi—gallwch olrhain yr edau aur ar draws cyfrifoldebau Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'u hadrannau, ac mae'n rhaid edrych arno yn y ffordd drawsbynciol honno, ac os rhoddwn y pwysigrwydd trawsbynciol hwnnw iddo, rwy'n credu y bydd yn cryfhau'r ymdeimlad o frys y mae angen i ni ei weld.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi orffen drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei hymwneud â'r agenda hon, am y ffordd y mae hi'n gweithio gyda rhanddeiliaid, drwy sefydlu'r grŵp rhanddeiliaid a'i hymrwymiad i edrych ar gyfansoddiad y grŵp rhanddeiliaid hwnnw? Rydym wedi gwneud pwyntiau ynglŷn ag anabledd, er enghraifft, ynglŷn â pha leisiau y mae angen inni eu clywed wrth y bwrdd, ac rwy'n falch fod y Gweinidog yn mynd i edrych ar y grŵp rhanddeiliaid ar sail barhaus o ran y lleisiau y mae angen inni yn eu cynnwys.
Ac mae'n dda clywed y Gweinidog, fel erioed, yn nodi ei chydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr agenda, ei hymrwymiad i ddarparu'r adnoddau sy'n angenrheidiol. Rydym yn deall yr hyn y mae'r Gweinidog wedi bod yn ei ddweud am y camau sy'n angenrheidiol i gyrraedd sefyllfa lle gallwn gyflawni'r hawl i gael tai digonol a chyflawni'r hawl gyfreithiol i unigolion gyflwyno materion ger bron llysoedd neu dribiwnlysoedd. Rydym yn deall bod gennym ffordd bell i fynd, ond yr hyn rydym eisiau ei weld—y pwyllgor, yn amlwg, a phawb yma, rwy'n credu—yw ymdeimlad o frys go iawn, ac mae hynny'n dechrau, mewn sawl ffordd, gyda chysgu allan a digartrefedd, a rhoi diwedd ar y malltod hwnnw sy'n gwneud cymaint o niwed i'n cymdeithas ac i unigolion fel Polly, ac yna adeiladu a symud ymlaen o hynny. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2022-23'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8367 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2022-23’, a osodwyd ar 19 Mai 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dyma ail adroddiad y pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod cyfnod y Senedd yma, wrth gwrs, ac mi fyddwn ni'n parhau, fel y byddech chi'n disgwyl, dwi'n siŵr, i gyhoeddi adroddiadau blynyddol fel hyn ac, yn eu sgil nhw, yn cynnal dadl er mwyn caniatáu i Aelodau godi unrhyw faterion gyda’r Gweinidog fan hyn yn y Siambr.
Dwi am ddechrau’r ddadl yma, os caf i, Dirprwy Lywydd, yn y man y gwnes i orffen y ddadl gyfatebol 12 mis yn ôl, oherwydd ar ddiwedd yr araith honno, yr hyn a ddywedais i—a dwi ddim yn dyfynnu fy hunan yn aml iawn yn y Siambr, ond fe wnaf i ar yr achlysur penodol yma: 'flwyddyn o nawr', meddai fi, llynedd,
'rwy'n gobeithio y byddaf yn dweud wrthych chi am ddyfodol gwahanol iawn i Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond, rwy'n pryderu, er gwaethaf y synau cadarnhaol rŷn ni'n parhau i'w clywed, y bydd taith Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau, efallai, i fod yn heriol ac yn anodd.'
Felly, beth y gallaf ei ddweud wrth Aelodau am gynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf yma, dywedwch? Wel, a oeddwn i'n ddiangen o besimistaidd flwyddyn yn ôl? Yr hyn a wnaf i, efallai, yw mynd trwy bwyntiau allweddol yr adroddiad a dweud beth yw ein casgliadau ni wrth fynd yn ein blaen.
Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar y trefniadau llywodraethiant. Ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth gwrs, mi gwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru adolygiad sylfaenol, neu baseline review, i ddangos dyletswyddau a swyddogaethau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn ei gyllid. Mae’r adolygiad wedi arwain at sawl cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, a bydd y cytundebau lefel gwasanaeth hyn, wrth gwrs, wedyn yn sail i gynllun busnes blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru a’i brosesau cyllidebol yn sgil hynny. Ac maen nhw'n ymdrin â meysydd polisi, wrth gwrs, fel rheoli perygl llifogydd ac ansawdd dŵr, i enwi dim ond dau.
Nawr, mi fydd y Gweinidog yn gwybod ein bod ni wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf yma ynghylch gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei restr gynyddol o ddyletswyddau a swyddogaethau. Fel pwyllgor, felly, roeddem yn croesawu datblygiad y cytundebau lefel gwasanaeth yma, a buaswn i'n hoffi canmol y Gweinidog am yrru’r mater yma yn ei flaen. Rŷn ni'n ymwybodol, ar yr un pryd, y dylai'r cytundebau hyn fod yn ddogfennau byw ac y byddan nhw'n destun monitro ac adolygu rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw yn parhau i fod yn addas i'r diben. Ond rŷn ni yn falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym ni mai dyna yn union yw'r bwriad.
O ran staffio, mi oedd gennym ni ddiddordeb, wrth gwrs, mewn clywed sut oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu heriau i recriwtio staff ac i gadw staff arbenigol mewn rhai meysydd. Mewn rhai achosion, mae hyn oherwydd bod cyflog yn fwy deniadol yn y sector breifat, ac mae hynny wedi effeithio ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, nid dim ond Cyfoeth Naturiol Cymru. Mewn achosion eraill, wrth gwrs, mae diffyg ymgeiswyr posibl sydd â’r sgiliau angenrheidiol yn broblem. Mi wnaethon ni felly argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru geisio cryfhau ei gysylltiadau â sefydliadau academaidd a phartneriaid ym maes diwydiant, er mwyn datblygu mentrau meithrin gallu a hyfforddi wedi'u targedu, er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r her yma. Roeddem yn falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i hyn, ac rwy’n siŵr y byddwn ni'n dychwelyd at y pwnc yma y flwyddyn nesaf fel ein bod ni'n gallu asesu cynnydd dros y cyfnod sydd i ddod.
Mae ail ran ein hadroddiad ni'n canolbwyntio ar gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ystod ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft, fe ddaeth hi'n amlwg i ni y byddai bwlch ariannu o dros £18 miliwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Mewn ymateb i'n cwestiynau ni, fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'n ceisio mynd i'r afael â hyn ac yn ei brif-ffrydio o fewn dyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n ystyried cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o broses graffu'r pwyllgor ar y gyllideb yn y misoedd sydd i ddod.
Mae adennill costau wedi bod yn destun ffocws cynyddol, onid yw e? Mae hyn yn ddealladwy, wrth gwrs, o ystyried y pwysau ehangach sydd ar gyllidebau. Fe ddangosodd adolygiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru fod tan-adennill taliadau yn arwain at ddiffyg blynyddol o £3 miliwn yn y gweithgareddau darparu trwyddedu. Rŷm ni'n cytuno, wrth gwrs, fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, mae hwn wedi bod yn rhywfaint o destun dadl. Mi fydd yr Aelodau, dwi'n siŵr, yn cofio bod rhai pryderon y llynedd gan undebau ffermio, er enghraifft, ynghylch cynigion ar gyfer cynnydd sydyn mewn taliadau. Yn naturiol, fe wnaethom ni godi'r pryderon hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roeddem ni'n pryderu y dylid osgoi cynnydd sylweddol mewn costau ar adeg o ansicrwydd economaidd os oedd hynny yn bosibl. Ac fe sicrhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru ni na fyddai costau'n cynyddu mor sydyn yn y dyfodol. Serch hynny, argymhellwyd gennym ni fel pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth lawn i effaith y gost ar ymgeiswyr unigol cyn gwneud penderfyniad. Fe welwch chi yn ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru y ceir sicrwydd bod y Gweinidog wedi cael gwybod yn llawn am y goblygiadau hyn cyn gwneud y penderfyniad.
Mae rhan olaf ein hadroddiad yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2023. Yn gyntaf, o ran llygredd sy'n deillio o amaethyddiaeth, rŷm ni'n cydnabod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu llwyth gwaith sylweddol wrth orfodi rheoliadau llygredd amaethyddol. Dylid nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol at y diben hwn. Gwnaethom ni awgrymu y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i adolygu digonolrwydd lefelau staffio ac adnoddau yng ngoleuni, wrth gwrs, profiad sy'n datblygu.
Fel pwyllgor, rŷn ni'n parhau i fod yn bryderus hefyd am effaith gollyngiadau o garthffosydd nas caniateir, hynny yw, unpermitted sewer discharges, ac effaith hynny ar ansawdd dŵr ac iechyd y cyhoedd. Fe wnaethom ni annog Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio'n agos â chwmnïau dŵr i wella'r seilwaith ac i leihau amlder ac effaith gorlifoedd o garthffosydd. Roeddwn yn falch o weld cyfeiriad yn ymateb y Gweinidog at y tasglu gwell ansawdd afonydd, ac mi fyddwn i'n ddiolchgar o gael y wybodaeth ddiweddaraf ganddi hi ar gynnydd y tasglu erbyn hyn.
Roeddem ni hefyd yn falch o glywed am ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i gyrraedd y targed bioamrywiaeth 30x30 a nodau bioamrywiaeth byd-eang eraill. Nawr, mae hwn yn faes allweddol i ni fel pwyllgor, ac roedd hi'n galonogol clywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol, ynghyd, wrth gwrs, â fframwaith cynhwysfawr o dargedau adfer byd natur. Ac mi fyddwn ni'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran datblygu'r targedau bioamrywiaeth yma yn ei hymateb i'r ddadl.
Gobeithio, felly, fy mod i wedi ymdrin â phrif themâu ein hadroddiad yn yr amser sydd ar gael i mi. Felly, ble ŷn ni erbyn hyn, flwyddyn ers ein dadl ddiwethaf? Wel, mae'r cytundebau lefel gwasanaeth yn sicr yn gam sylweddol ymlaen. Mae'n gynnar eto, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn destun monitro ac adolygu er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu gwneud yn iawn, ond mae'n bwysig, fel dywedais i yn gynharach, ein bod ni'n rhoi clod i'r Gweinidog yn hyn o beth, yn fy marn i. Mae'r Gweinidog hefyd wedi bod yn adeiladol ynglŷn â'r bwlch ariannu, ac yn benderfynol hefyd, os caf i ddweud, ynghylch pwysigrwydd adennill costau. Ac er mor heriol mewn rhai sefyllfaoedd y mae hynny, dwi'n meddwl mewn egwyddor mae hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei chefnogi hi arno fe.
Yn olaf, o ran ei flaenoriaethau, yn sicr ddylem ni ddim tanbrisio'r gwaith y mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud. Rŷm ni'n wynebu bygythiad deuol, sef argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, ac mi fydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar y rheng flaen yn hyn o beth. Dirprwy Lywydd, mae sawl peth cadarnhaol wedi digwydd eleni i roi Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa ychydig yn gryfach, ychydig yn fwy cytbwys, ond nawr, wrth gwrs, mae'n rhaid iddo fe fwrw ymlaen â'r gwaith, ac o ystyried maint yr argyfwng hinsawdd, a maint yr argyfwng natur, dwi ddim yn amau mai dyna fydd yr her anoddaf eto. Diolch.
Mae adroddiad 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Craffu Blynyddol 2022-23' yn bwysig iawn, ac mae hefyd wedi tynnu sylw at y meysydd allweddol lle credwn fod CNC yn ddiffygiol. Mae gwaith CNC yn hanfodol bwysig, ac yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, rydym yn gobeithio y byddant yn arwain y ffordd yn ein hymateb.
Mae llawer yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhy fawr—mae ei bortffolio yn enfawr—a gofynnir llawer o gwestiynau ynglŷn ag a yw'n gweithio'n briodol ac yn effeithiol ai peidio oherwydd y goblygiadau o ran adnoddau. Rydym wedi galw yn y gorffennol am awdurdod llifogydd cenedlaethol. Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd, felly nid yw'n ddigon i weithredu ar argymhellion yr adroddiad hwn i helpu i fynd i'r afael â'r materion a ddaw yn sgil hyn, megis llifogydd. Llifogydd yw gwendid mwyaf Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddem o'r farn efallai y gallwn fod yn fwy effeithiol a gweithredu'n gyflymach i wrthsefyll llifogydd o greu corff ar wahân, gydag adnoddau effeithlon.
Mae Elusen Cefn Gwlad Cymru wedi mynegi pryderon yn eu llythyr diweddar atoch, Weinidog, nad yw proses gynllunio datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn addas i'r diben. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef eu hunain nad oes ganddynt adnoddau digonol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â cheisiadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol mewn modd amserol. Felly, mae angen adolygu'r system i sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei chynnal a'i chyflawni yn y modd cywir.
Er nad oedd pob un o'r argymhellion a'u hatebion yn amlygu pethau penodol, er enghraifft, roeddwn yn falch o glywed bod fframwaith corfforaethol CNC yn cael ei adolygu, a bod canlyniadau'n cael eu hailasesu oherwydd yr ymatebion gwael.
Mae argymhelliad 10 yn tynnu sylw at y ffaith bod angen meini prawf datblygu a phrofi cyflymach ar gyfer ein dyfroedd ymdrochi mewndirol, ond mae ei angen gyda llinell amser glir. Mae cwmnïau dŵr eraill ledled y DU wedi darparu hyn, felly pam ddim yma? Ceir pryderon fod CNC yn brin o brosesau monitro a gwerthuso ar gyfer ei gytundebau lefel gwasanaeth. Pam felly? Mae llawer o'r argymhellion yn ofynion sylfaenol a ddylai fod yn flaenoriaethau CNC eisoes, ond dylent fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru hefyd.
Argymhelliad 4: cydweithio i ddatblygu mentrau wedi'u targedu i feithrin capasiti a darparu hyfforddiant. Nid yw'n ddigon i Lywodraeth Cymru gynhyrchu adroddiad sy'n trafod y sgiliau sydd eu hangen ar draws Cymru yn y dyfodol. Mae angen camau gweithredu pendant ar yr adroddiadau hyn.
Mae argymhelliad 14 yn tynnu sylw at yr angen am yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun gweithredu ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth, ac unwaith eto ymateb Llywodraeth Cymru yw nad cyfrifoldeb CNC yn unig yw hyn. Dylai ddal i fod yn flaenoriaeth.
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd, a dylid diogelu a gwarchod bioamrywiaeth am genedlaethau i ddod. Mae'r ymateb i argymhelliad 7, sy'n nodi'r angen am adroddiad cryno ar y prif heriau i sicrhau statws da i bob corff dŵr erbyn 2027 a'r cynlluniau i'w goresgyn, yn ddiffygiol. Nid yw ailgyfeirio'n unig at gynlluniau rheoli basn afonydd yn ddigon; nid yw'n drylwyr ac nid yw'n mynd i'r afael â'r mater dan sylw.
O ran materion fel argymhelliad 3, fod ymateb Llywodraeth Cymru yn wael, a bod angen mewnbwn gan yr holl randdeiliaid, mae'n bwysig eich bod yn cydnabod y dylai CNC arwain y ffordd ar y materion hyn a gosod sylfaen i'w diwygio, nid aros am fewnbwn gan randdeiliaid eraill yn unig.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ei ffurf bresennol, mewn trafferthion; mae'n cael ei lethu, ac mae'n bortffolio enfawr. Weinidog, bob blwyddyn, rydym yn gwneud yr un galwadau: mae'r argymhellion yn yr adroddiadau hyn yn debyg iawn, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eich ymateb i'r argymhellion yn aml yr un fath flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Os ydym yn mynd i weld perfformiad gwell gan CNC, mae arnaf ofn fod yn rhaid iddo ddod o'r brig; rhaid cael arweinyddiaeth. Diolch.
Rwy'n mynd i ddechrau gyda phwynt o gytundeb a phwynt o anghytundeb â Janet. Rydym yn gyd-aelodau o'r pwyllgor. Un yw bod yna argyfwng hinsawdd, fel rydym i gyd yn ei ddweud gyda'r rhethreg honno; mae yna argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr. Felly, ym mhob un o'n gweithredoedd, yn ein holl benderfyniadau fel Aelodau unigol a'r hyn a wnawn yn y Senedd, mae'n rhaid inni weithredu yn unol â hynny. Lle rwy'n anghytuno â hi braidd—a bydd hi'n deall hyn o'r dystiolaeth a gawsom—yw bod gennym bryderon ers amser hir fel pwyllgor, mae gennyf bryderon ers i mi gyrraedd yma yn Aelod o'r Senedd, ynglŷn ag a oes gan CNC, gyda'r cyfrifoldebau enfawr sydd ganddo, ddigon o gapasiti i ymdrin â phob un o'r rheini. Yn y dystiolaeth a glywais—ac mae wedi'i adlewyrchu yn yr adroddiad hwn—mae peth o'r gwaith sydd wedi'i wneud gyda'r dadansoddiad sylfaenol ac yn y blaen yn dechrau mynd i'r afael â hynny nawr ac yn realistig iawn, a chredaf fod hwnnw'n adlewyrchiad teg o'r dystiolaeth a glywsom. Ond fe wnaf droi at beth o hynny mewn manylder.
Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw ein bod yn sôn am CNC fel rhyw endid blomonj. Mae'r holl bobl rwy'n eu hadnabod sy'n gweithio yn CNC yn angerddol ynglŷn â hyn. Maent o ddifrif eisiau gwneud i hyn weithio, ac maent am gael eu rhyddhau i wneud y swyddi y mae llawer ohonynt yn arbenigwyr arnynt yn eu meysydd, a dyna fu fy mhrofiad ers amser. Ac rwy'n credu ei fod wedi'i adlewyrchu'n deg yn yr adroddiad y mae'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud nawr, yn enwedig gyda'r adolygiad sylfaenol a gosod disgwyliadau ar gyfer CNC, i fod yn realistig ynghylch yr hyn y gall ei gyflawni a'r hyn y dylid ei ddisgwyl ganddo. Roedd yn ddiddorol, o dan baragraff 10 yn yr adroddiad—. Adroddiad byr sydd gennym, ond byddwn yn ei argymell yn llwyr i unrhyw un, er mwyn mynd o dan groen CNC nawr. Dywedodd Clare Pillman wrthym—a diolch iddi am ddod ger ein bron a rhoi tystiolaeth a bod yn onest iawn—pan wnaethom ofyn am lefel y gwasanaethau y gall CNC eu darparu:
'"Os ydych chi eisiau gwneud hyn, dyma faint mae'n mynd i gostio, a dyma beth fyddwch chi'n ei gael am hynny. Ac os ydych chi am wneud ychydig yn fwy, dyma sut y byddai'n edrych. Os ydych chi am wneud yr isafswm lleiaf, dyma sut y byddai'n edrych." Felly rwy'n credu'—
mewn ymateb i'r dadansoddiad sylfaenol a'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn, 18 mis a mwy diwethaf—
'bod gennym ddealltwriaeth ronynnog dda iawn o'n cyllideb a'n hadnoddau a'n hymdrechion nawr.'
Ni allwn ddisgwyl i CNC ddatrys holl broblemau'r byd, ond os edrychwch ar yr hyn y mae'n ei wneud, mae'n aruthrol. Nid yn unig y fioamrywiaeth a'r llifogydd a'r erydu arfordirol ac ansawdd dŵr a phopeth arall, a gadael yr UE a sut rydym yn ymateb i hynny, ac ati; mae'n bopeth arall rydym yn disgwyl iddynt ei wneud.
Yn ystod sesiwn y pwyllgor y llynedd, fe wnaethom nodi bod y gyllideb wedi lleihau o un flwyddyn i'r llall, ac wrth wneud hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi pentyrru mwy a mwy o gyfrifoldebau arno. Felly, rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am ddweud, 'Wel, mae angen i ni gael adolygiad cywir o'r hyn rydym yn gofyn iddo ei wneud' ac edrych ar ble mae pethau fel taliadau'n berthnasol hefyd. Ac rydym wedi cyffwrdd â hynny yn yr adroddiad, y syniad y dylem adennill mwy o gostau ar draws ystod o feysydd hefyd, nid fel ffordd o drethu'r rheini na chosbi'r rhai sy'n gallu fforddio eu gwneud, ond fel adlewyrchiad go iawn o'r costau sydd bellach yn cael eu hysgwyddo gan y trethdalwr yn ogystal ag CNC.
Gadewch i mi nodi ychydig o bethau, Ddirprwy Lywydd. Fel rwy'n dweud, mae'r adolygiad sylfaenol i'w groesawu yn fy marn i, a datblygiad cytundebau lefel gwasanaeth rhwng CNC a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi ffordd i ni gynllunio'r ffordd ymlaen o ran hynny. Roeddem yn poeni am y bwlch cyllido a nodwyd fel rhan o'r adolygiad hwnnw, ond rydym yn falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau yn ysgrifenedig y bydd y bwlch cyllido hwnnw'n cael ei lenwi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, tybed—. Wrth gwrs, yn ystod yr haf, un o'r pethau na chafodd eu cynnwys yn yr adroddiad yw'r sefyllfa ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Oherwydd costau cynyddol ac yn y blaen, deallwn ei fod yn effaith mewn termau real o tua £900 miliwn a mwy, a tybed a all hi siarad am hynny, a allai hynny alw am—. Dywedir wrthym fod pob Gweinidog Llywodraeth yn edrych ar draws eu portffolios i weld sut y bydd hynny'n cael effaith. Wel, CNC yw'r prif chwaraewr yn y gofod hwn.
Yn fyr iawn hefyd, gadewch imi grybwyll rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn ei gael yn gyson gan lawer o bobl, gan fy nghynnwys i, sef sut rydym yn darparu ansawdd dŵr da iawn, gan ein bod wedi gadael yr UE, wrth inni edrych ymlaen at drefniadau llywodraethu yn y dyfodol, ac ati. Ond mae llawer o bethau da yn digwydd: y gwaith sy'n cael ei wneud ar ffosffadau; y gwaith sy'n cael ei wneud ar ollyngiadau carthffosiaeth gyfun; y gwaith y buaswn i'n ei ddweud ei fod bellach yn dechrau edrych fel pe bai'n hwyr yn y dydd ar fynd i'r afael â llygredd amaethyddol gwasgaredig—mae pob un o'r rhain yn bwysig. Ond rwy'n credu mai'r hyn y chwiliwn amdano, o ran adnoddau CNC yw gweld canlyniadau'r gwaith hwnnw'n arwain at well ansawdd dŵr, a dyna'r her fawr sydd gennym yma. Ond nid eu beio sydd ei angen—maent yn rhan o'r ateb i'w wneud.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben. Rwy'n argymell yn gryf i unrhyw un sy'n feirniadol iawn o CNC ddarllen yr adroddiad a gweld yr heriau sy'n eu hwynebu a rhai o'r ffyrdd ymlaen. Dylai'r rhai sy'n credu mai CNC yw'r corff a all ein helpu i ddatrys rhai o'r materion dirfodol mawr hyn ei ddarllen hefyd, oherwydd credaf fod cynnydd yn cael ei wneud, ond rhaid inni ei fonitro'n ofalus nawr er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni.
Diolch i'r pwyllgor, y tîm clercio a Chadeirydd y pwyllgor am eu gwaith gyda'r adroddiad hwn. Chwaraeir rôl eithriadol o bwysig gan NRW i'n hamgylchedd, fel rydym ni wedi clywed, ac wrth helpu ni oll i fynd i'r afael â sialensau newid hinsawdd a'r argyfwng natur. Ac mae'r cyfrifoldebau sy'n cael eu rhoi ar NRW wrth galon ein hymdrechion i genedlaethau'r dyfodol. Mae hyn mor bwysig, ond rhaid i ni gydnabod, fel mae'r adroddiad yn ei wneud, y sialensau mae NRW ei hun yn eu hwynebu. Mae ein hamgylchedd naturiol o dan straen aruthrol o ganlyniad i newid hinsawdd a cholledion yn ein byd natur. Mae'r galwadau am waith ar NRW yn cynyddu, ac mae'n rhaid sicrhau fod ganddynt ddigonedd o gyllid i allu ymateb i'r heriau hynny.
Rydym eisoes wedi clywed yn helaeth sut mae cyllideb a chapasiti CNC yn wynebu cyfyngiadau na ellir mo'u hanwybyddu. Gall y diffygion hyn arwain at ganlyniadau difrifol yn amrywio o oedi cyn ymateb i argyfyngau amgylcheddol, sy'n digwydd weithiau oherwydd y diffyg cyllid, i ymdrechion annigonol ym maes cadwraeth ac adfer cynefinoedd. Mae'n rhaid inni ddeall nad oes gan CNC ddigon o adnoddau, a phan fydd hynny'n digwydd, mae ein hamgylchedd yn dioddef. Mae dirywiad cynefinoedd, llygredd cynyddol a dirywiad bioamrywiaeth wedi dod yn fwy amlwg. Nid materion amgylcheddol yn unig mo'r rhain. Mae ganddynt sgil-effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor hefyd.
Ond nid yw'r cyfan yn llwm, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i CNC. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae wedi'i darparu hyd yn hyn. Ein gobaith yw y bydd yr ymrwymiad hwn yn parhau i fod yn ddiwyro ac yn parhau i esblygu. Ac rydym yn cydnabod ymrwymiad diymwad staff CNC, sy'n malio cymaint am yr hyn a wnânt. Roedd Huw yn sôn am yr angerdd y gŵyr pawb ohonom fod staff CNC yn ei deimlo. Mae CNC yn llawn o bobl ymroddedig, brwdfrydig ac mae arnaf ofn fod disgwyl iddynt wneud yr amhosibl weithiau oherwydd y trafferthion gyda'u hadnoddau. Mae angen inni ofyn i ni'n hunain sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi CNC yn wyneb yr her adnoddau—wel, nid yn unig gofyn i ni'n hunain ond gofyn i Lywodraeth Cymru: pa gynlluniau neu ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud? Beth yw'r cynllun ar gyfer y dyfodol? Yr holl gwestiynau hyn sydd wedi'u nodi'n fanwl yn ein hadroddiad.
Wedi'r cyfan, mae'r cydweithio rhwng CNC a'r Llywodraeth yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin. I adeiladu ar y capasiti hwnnw, i ddyrannu adnoddau'n effeithiol, rydym yn awgrymu sawl mesur yn ein hadroddiad ynglŷn â sut y gellir cyflawni hynny: sicrhau cyllid ychwanegol, gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau presennol. Gofynnwn am y cynlluniau sydd ar waith i fuddsoddi mewn technoleg, hyfforddiant, partneriaethau i wella effeithiolrwydd CNC. Felly, rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth drawsbleidiol o'r gwaith hanfodol bwysig y mae CNC yn ei wynebu. Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ailadrodd y pwynt a wnaeth Huw, oherwydd mae'n rhaid ei bod yn ddigalon weithiau i staff CNC, wrth i'r penawdau ganolbwyntio mor aml ar ffaeleddau—mae yna elfen anochel i hyn oherwydd y sefyllfa y maent ynddi, a dylai hynny ganolbwyntio ar pam mae angen inni newid y sefyllfa honno. Ni ddylid dehongli hyn mewn unrhyw ffordd fel beirniadaeth o'r staff ymroddedig ac angerddol sydd, yn eu bywydau gwaith, eisiau helpu i wella ein hamgylchedd, gwella ein cymdeithas, nid yn unig i ni ond i'r cenedlaethau sydd i ddod.
Diolch gymaint iddyn nhw.
Diolch yn fawr iawn iddynt am yr holl waith gwych a wnânt.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad yma.
Rwyf innau hefyd eisiau diolch i staff CNC sy'n gweithio mor galed. Yn wir, fe gurais ar ddrws un aelod o staff yn Llanwrtyd ac fe soniodd ei bod yn teimlo pwysau'r hyn a fynnwn gan staff CNC ar ei hysgwyddau, a'i bod yn teimlo fel pe bai yna awyrgylch wirioneddol negyddol tuag at yr holl ymdrechion yr oeddent wedi bod yn eu gwneud. Maent ar flaen y gad gyda thechnoleg arloesol, syniadau newydd ac arloesol, a'n cyfrifoldeb ni yw eu cefnogi yn hynny o beth, sef yr hyn roeddwn eisiau canolbwyntio arno, os caf, yn fy nghyfraniad byr yma.
Rwy'n croesawu'r newyddion fod CNC wedi cwblhau ei adolygiad sylfaenol ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cytundebau gwasanaeth manwl. Roeddwn yn falch o weld y cynllun corfforaethol yn gynharach, ac rwy'n cofio'r Gweinidog yn dweud ei bod wedi teimlo ei fod yn ddeunydd darllen da iawn. Rwy'n credu fy mod yn ei chofio'n dweud ei bod yn ei ddarllen yn hwyr iawn yn y gwely un noson, a'n teimlo ei fod cystal â llyfr da iawn. Nid wyf yn siŵr y buaswn i'n mynd mor bell â hynny, ond yn sicr rwy'n teimlo bod y cynllun hyd at 2030, 'Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd', yn hawdd iawn i'w ddarllen, ac yn hygyrch iawn, ac yn wir, i mi—amatur llwyr—mae'n gwneud synnwyr go iawn. Mae'n sôn am yr ymrwymiad i leihau llygredd, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella afonydd canolbarth Cymru, ecoleg a phrosiectau fel adfer afon Gwy uchaf. Yn amlwg, gan fy mod yn byw ar lan afon Gwy, mae bob amser wedi bod yn bryder real i mi mai dyma'r afon fwyaf llygredig ond un yng Nghymru o hyd, ac rwy'n gwybod bod hynny'n bryder sy'n cael ei godi'n aml, nid yn unig gyda mi, ond gyda llawer o bobl yma yn y Siambr.
Ond roeddwn am dreulio munud neu ddau ar y pryder ynghylch y problemau personél a chapasiti a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Mae CNC wedi wynebu anawsterau dro ar ôl tro wrth recriwtio staff arbenigol, anawsterau sy'n parhau i gael sgil-effeithiau ar eu hymdrechion i ailgynllunio eu rhwydwaith a'u gwaith monitro. Mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor i gydweithio ar feithrin capasiti, canolbwyntiodd ymateb CNC ar brentisiaethau ac interniaethau presennol, sy'n galonogol. Tybed a allai'r Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am ymateb Llywodraeth Cymru i hynny, oherwydd os nad oes gennym bobl fedrus sy'n teimlo'u bod yn cael eu cefnogi i fonitro a rheoli ein hadnoddau naturiol yn iawn, ni allwn ddiogelu ein hamgylchedd.
Tybed a oes rhai syniadau yno am CNC yn cyflymu datblygiad ei fframwaith rheoli talent, a ffurfio partneriaethau newydd efallai gyda sefydliadau academaidd, er enghraifft, i greu rhaglenni hyfforddi newydd wedi'u teilwra. Fe wneuthum edrych ar eu gwefan ychydig cyn i mi ddechrau hyn, ac rwy'n credu bod ganddynt oddeutu 12 swydd wag ar hyn o bryd ar bob lefel, ac a bod yn onest, maent yn talu cyflogau cymharol dda. Ond maent yn rolau eithaf medrus, ac mae'n fater o sut rydych chi'n denu'r rolau hynny a'r bobl hynny i Gymru, yn enwedig yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn ceisio meddwl am syniadau arloesol i geisio denu'r bobl hynny i mewn i'n helpu i ofalu am ein hamgylchedd, ac annog y rhai sydd eisoes yn gweithio yn CNC, ac i sicrhau ein bod yn adeiladu gweithlu gwydn sy'n gallu bwrw ymlaen â'r gwaith. Oherwydd os caf aros gydag ansawdd dŵr, fe wyddom y gall hynny ddioddef wrth inni barhau i weld prinder staff.
Felly, yn olaf, tybed a gawn ni glywed gan y Gweinidog sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gydag CNC i recriwtio staff arbenigol, a'i gwneud hi'n bosibl cyflawni'r rhaglenni arolygu a'r gwaith monitro ansawdd dŵr cadarn y clywsom ei fod mor bwysig yn adroddiad y pwyllgor. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'u tîm clercio am adroddiad craff dros ben. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch hefyd i staff CNC sy'n gweithio'n ddiflino o dan amodau hynod o heriol.
Wrth gynllunio dyfodol CNC mewn byd ôl-bandemig, mae'r adroddiad yn nodi bod rhaglen adfywio CNC yn edrych ar drawsnewid y ffordd y mae'r sefydliad yn rhedeg, ac mae hynny'n beth da. Ochr yn ochr â nodau uchelfrydig fel datgarboneiddio, lles staff a chynyddu gwytnwch, nod y rhaglen hefyd yw edrych ar arbedion ariannol. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi pryderon sy'n dangos bod gwaith arbed arian yn dod ar draul cyflawni dyletswyddau statudol CNC. Un ddyletswydd o'r fath sydd wedi effeithio'n uniongyrchol ar fy etholaeth i yw strategaeth genedlaethol CNC ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol. Roedd yr adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yn yr hydref y llynedd, ac fe wynebodd oedi sylweddol oherwydd pwysau ar y gweithlu, a gobeithiwn y bydd yn cael ei gyhoeddi yr hydref hwn. Mae'r pwysau ar y gweithlu yn thema ailadroddus heddiw, yn ogystal â thrwy'r adroddiad, gydag CNC yn nodi'n gadarn fod 'y broblem yn ddeublyg'. Fel y clywsom, mae staff medrus yn cael eu colli i'r sector preifat, lle gallant gael mwy o arian, ac mae recriwtio'n dioddef oherwydd prinder ymgeiswyr sydd â'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer swyddi—ac rwy'n credu bod sgiliau'n thema. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at ddifrifoldeb y prinder sgiliau yng Nghymru, a'r effeithiau seismig y mae'n eu cael ar fywydau bob dydd a'n cymunedau. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, mae Ynysgynwraidd wedi dioddef y problemau yn sgil arbedion ariannol a recriwtio a amlygwyd yn yr adroddiad. Ym mis Ebrill 2022 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried amddiffynfeydd rhag y llifogydd eithafol a ddioddefir gan y rhai sy'n byw yn Ynysgynwraidd, ac ym mis Gorffennaf 2022 cadarnhawyd bod cyllid ar gael i ddatblygu'r achos, ond rhybuddiwyd y cyhoedd ymlaen llaw y gallai fod anhawster i recriwtio pobl, ac y gallai hynny olygu oedi. Ac mewn modd bron yn broffwydol, gadawyd y prosiect yn ddi-staff oherwydd recriwtio annigonol, ac ni wnaethpwyd unrhyw gynnydd ar y prosiect tan fis Chwefror eleni, 10 mis ar ôl y cyfarfod cyhoeddus cyntaf a saith mis ar ôl y gymeradwyaeth ariannol. A rhoddodd hyn olau bach iawn i bobl Ynysgynwraidd ar ben draw twnnel hir iawn. Roedd tîm wedi'i ffurfio, ac roedd CNC yn barod i gyflawni'r newid a fyddai'n achubiaeth i'r gymuned leol. Yna, fis yn ddiweddarach, cafodd y golau ei ddiffodd yn gyflym iawn pan holodd ein Haelod Seneddol lleol, David Davies, am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, a dywedwyd wrtho fod CNC yn wynebu pwysau ariannol ac yn gorfod blaenoriaethu prosiectau a oedd yn debygol o achosi mwy o risg i bobl ac eiddo. Y darlun llwm a grynhowyd yn glir iawn gan CNC oedd nad oedd digon 'o adnoddau ariannol nac adnoddau staff' i gyflawni 'popeth roeddem wedi'i gynllunio.' Ddirprwy Lywydd, mae'n amlwg, felly, fod achos Ynysgynwraidd yn dangos yn berffaith y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn. Yn amlwg, nid oes gan CNC staff medrus i gyflawni prosiectau, gan ddangos bod yna brinder sgiliau hirdymor yng Nghymru sy'n galw am sylw ar frys.
Mae cynyddu adnoddau i CNC yn bwysig, a bydd yn mynd ran o'r ffordd i helpu i leihau pryderon, ond ni fydd arian yn datrys argyfwng staffio hirdymor helaeth ar ei ben ei hun, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n galw am fynd ati mewn modd rhyngweinidogol. O ystyried hyn, hoffwn orffen drwy ddweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn—ac rwy'n siŵr ei bod—er mwyn sicrhau bod CNC yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, fel nad oes trigolion ledled Cymru yn cael eu gadael mewn limbo, fel y trigolion yn Ynysgynwraidd. Diolch.
[Anghlywadwy.]—staff CNC. Ni fydd y Gweinidog yn synnu fy mod yn mynd i ganolbwyntio yma ar ansawdd dŵr, ac mae honno'n flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o bobl. Ceir llawer iawn o agweddau ar hynny. Un yw gorfodi ac un yw addysg gyda rhanddeiliaid—gyda llaw, mae pob un ohonom yn rhanddeiliaid—a'r angen i hyrwyddo cynaliadwyedd. Cafwyd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda rhai o’r pethau hynny, ac eto, fe wyddom fod carthion amrwd yn cael eu gollwng gan gwmnïau dŵr, ac rydym wedi gweld y targedau i leihau hynny'n cael eu chwalu'n llwyr, a dweud y gwir. Rwy’n byw yn sir Benfro, ac mae’r lefelau o garthion amrwd sydd wedi’u pwmpio i’r moroedd o amgylch sir Benfro eleni wedi bod ar lefel wahanol i’r hyn y gallaf ei gofio. Mae Surfers Against Sewage wedi cyhoeddi llawer iawn o adroddiadau ar hyn.
Y broblem yw bod potensial yma i gael effaith negyddol ar iechyd, ond hefyd ar yr economi leol. Felly, fe wyddom eich bod wedi sefydlu tasglu i wella ansawdd afonydd, ac rwy'n croesawu hynny, ond bydd unrhyw beth sy'n cael ei ollwng i'r afon yn cyrraedd y môr yn y pen draw beth bynnag. Ond edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw ar y tasglu gwella ansawdd afonydd, i weld beth yw’r canlyniad a’r awgrymiadau. Rwy'n croesawu'r moratoriwm ar safleoedd cynhyrchu dofednod, oherwydd yn amlwg, nid yw’r pethau hynny’n helpu o gwbl gyda llygredd.
Ond gallwn weld y newid presennol mewn patrymau tywydd. Credaf y rhagwelir y bydd hi'n 20 gradd a mwy ar y penwythnos. Mae’n anochel y bydd glaw trwm iawn yn dilyn hynny. Mae hynny’n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ymwybodol ohono. Felly, mae’r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff yn allweddol yma, gan fod y patrwm wedi newid. Nid yw'r hyn a arferai fod yn rhywbeth a fyddai'n digwydd unwaith bob 100 mlynedd yn wir bellach. Felly, ceir cynigion ar gyfer atebion naturiol, ac arafu llif dŵr wyneb—. Mae’r holl bethau hynny i’w croesawu, a gwn fod CNC yn gweithio gyda’u partneriaid. Partneriaethau sy'n mynd i gynhyrchu hyn, a gwn eich bod yn cydnabod hynny yn eich atebion yn yr adroddiad, Weinidog.
Ond i mi, credaf fod elfen arall i hyn. Os ydym yn gwybod bod gennym system hynafol—a gwyddom hynny ac rydym yn cydnabod hynny—ac na allwn wneud rhywbeth am hynny yn y dyfodol agos, credaf fod angen mwy o bwyslais ar atal y dŵr hwnnw rhag dod i mewn yn y lle cyntaf. Rwy'n croesawu'r holl ddeddfwriaeth rydych chi wedi’i chyflwyno gyda systemau draenio cynaliadwy ac atebion eraill. A yw'r atebion hynny'n mynd yn ddigon pell ac yn ddigon cyflym? Credaf mai dyna’r cwestiwn y mae’n rhaid i bob un ohonom ei ofyn. Cafwyd llawer iawn o sôn yma heddiw am yr arbenigedd sydd ei angen, nad yw o reidrwydd ar gael i CNC. Sut mae’r Gweinidog yn gweithio i ddod o hyd i’r arbenigedd hwnnw mewn mannau eraill, fel nad CNC yn unig sy’n mynd i gynhyrchu’r canlyniadau hynny? Sut mae pob un o'r cyrff hynny'n gweithio gyda'i gilydd—. Rwy’n siŵr y bydd gan y tasglu gwella ansawdd afonydd ac eraill argymhellion ar gyfer hynny.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am baratoi ei ail adroddiad cynhwysfawr ar CNC, a gyhoeddwyd ar 19 Mai, ac am roi’r cyfle hwn imi ymateb. Ond cyn imi roi fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, hoffwn achub ar y cyfle i dalu fy nheyrnged fy hun i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymdrechion i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol, a hefyd am y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae fel ymatebwr categori 1, yn ymdrin â digwyddiadau ac yn diogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd.
Gwn fod Janet wedi ceisio ei gywiro wedyn drwy ddweud 'clywch, clywch', ond nid yw ei chywair didrugaredd o negyddol yn help i recriwtio staff—[Torri ar draws.]—na'u cadw. Ac rwy'n—[Torri ar draws.]
Hoffwn glywed ymateb y Gweinidog i’r ddadl, os gwelwch yn dda.
Mae gwahaniaeth rhwng craffu a herio ac ymagwedd ddidrugaredd o negyddol. Mae'r staff yn CNC yn gweithio'n galed iawn yn wir, ym mhob tywydd a phob awr. Maent yn gweithio drwy'r nos, maent yn gweithio drwy'r amser. Pe baech yn gweld yr adroddiadau ymateb i ddigwyddiadau a gawn yn ddyddiol, byddai gennych lawer mwy o barch at y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae. Mae’r staff—fel y mae llawer o bobl wedi’i ddweud, Huw yn enwedig, ond mae eraill wedi’i ddweud—yn gwbl angerddol am eu gwaith, ac mae ymdrechion unigol pob aelod o staff i’w croesawu ac i’w canmol yn fawr.
Hoffwn hefyd groesawu’r ffordd y mae CNC yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ledled Cymru. Dull cydweithredol newydd, sy’n manteisio ar gryfderau ar draws sectorau a rhwng sefydliadau a chyda chymunedau yw’r ffordd gywir, a’r unig ffordd, o fynd i’r afael yn llwyddiannus â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae CNC yn rhan gwbl allweddol o'r dull tîm Cymru hwnnw, ac rwy’n hyderus iawn y byddant yn parhau i fod.
Rwy'n croesawu gwaith craffu’r pwyllgor yn fawr. O ystyried y rôl hollbwysig y mae CNC yn ei chwarae fel prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud ag adnoddau naturiol Cymru, mae’n hollbwysig fod y sefydliad a’i dîm arwain yn cael eu dwyn i gyfrif wrth arfer eu swyddogaethau. Gwnaeth adroddiad y pwyllgor 14 o argymhellion, ac mae pob un ohonynt wedi’u derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Lle cânt eu derbyn mewn egwyddor, mae hynny am ein bod eisoes yn gwneud yr hyn y mae'r pwyllgor yn ei argymell mewn ffordd ychydig yn wahanol. Ond maent i'w croesawu.
Mae’r argymhellion yn gofyn i CNC weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a rhannu diweddariadau ar gynnydd a gwybodaeth am y gwaith gyda’r pwyllgor. Ac rwy’n deall bod CNC wedi cydymffurfio'n llawn â chais y pwyllgor ac wedi darparu’r holl wybodaeth a diweddariadau perthnasol, gan gynnwys cyfarfod â chlercod, lle bo angen, i roi eglurder ychwanegol ar feysydd penodol o’u gwaith. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir eu bod wedi gwneud hynny, ac i'r pwyllgor a'r tîm clercio am eu gwaith hefyd. Roeddwn yn falch hefyd o weld cydnabyddiaeth a chanmoliaeth y pwyllgor i waith CNC, yn enwedig eu hymagwedd a’u hymrwymiad i integreiddio eu gwaith a’u gweithgareddau â’r rhaglen lywodraethu a’n hamcanion llesiant trosfwaol.
Soniodd Jane Dodds am y cynllun corfforaethol. Efallai fod gennych ddeunydd darllen gwell na mi, Jane, ond yn onest, fe wneuthum fwynhau darllen y cynllun corfforaethol, yn rhannol am nad yw'n nodi'r un hen bethau, er gwaethaf disgrifiad Janet ohono. Mewn gwirionedd, mae'n mynd ati mewn ffordd wahanol iawn, ac mae'n dangos ymdrech wirioneddol gyfunol y tîm arwain yno i roi'r dull gwahanol hwnnw ar waith ac i gydweithio â phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae gan y cynllun corfforaethol gynllun, nad oes gennyf amser i fanylu arno, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer cynllunio ar gyfer olyniaeth a recriwtio, ac maent yn ymwybodol iawn o'r holl faterion a godwyd gan Jane a Joyce ac eraill ynglŷn â recriwtio. Rwy’n sicr yn gweithio’n agos gyda nhw, ac ni fydd gennyf amser heddiw i fanylu ar hynny, ond rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor pan fydd amser yn caniatáu.
Ysgrifennais at y pwyllgor hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ariannu. Roeddwn yn falch o roi gwybod i’r pwyllgor fy mod wedi cytuno i ddarparu’r £18.2 miliwn o gyllid i CNC i’w dynnu i lawr yn 2023-24 a dywedais yn glir iawn wrth y pwyllgor mai fy mwriad yw sicrhau bod y £18.2 miliwn ychwanegol hwnnw i ddyraniad CNC yn rhan o'r gyllideb sylfaenol, yn amodol ar y broses bresennol. Rydym mewn sefyllfa gyllidebol hynod heriol, ond rwy’n dal i fwriadu sicrhau cyllideb sylfaenol o £18.2 miliwn. Mae angen gwneud penderfyniadau anodd o hyd, hyd yn oed gyda hynny'n gyllideb sylfaenol, a bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â CNC i sicrhau eu bod yn parhau i gael cyllid priodol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau statudol. Byddwn yn parhau i weithio gydag CNC i sicrhau eu bod yn cael cyllid priodol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r gwaith rydym ni, wedi’r cyfan, yn gofyn iddynt ei gyflawni, ac mae dull gweithredu'r cytundeb lefel gwasanaeth a’r adolygiad sylfaenol yn sicr wedi ein helpu i wneud hynny. Ac—ni allaf gofio pwy a gyfrannodd. Huw, rwy'n credu—yn sicr mae'n caniatáu inni ddweud, 'Wel, os byddwn yn rhoi hyn a hyn o arian i chi, beth a gawn amdano?' Mae wedi rhoi cyfle gwirioneddol inni ddeall effaith penderfyniadau cyllido ar allu CNC i gyflawni, ac a dweud y gwir, inni ddeall, 'Os ydym eisiau hyn, efallai y bydd yn rhaid inni dorri rhywbeth arall', oherwydd, yn amlwg, mae'r arian yn gyfyngedig. Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn ohono. Eleni, er enghraifft, mae CNC wedi dioddef ergyd drom yn sgil y gostyngiad mewn incwm coedwigaeth, ac felly mae'n rhaid inni raddnodi'n unol â hynny. Hoffwn gyrraedd pwynt lle mae CNC yn cael eu hariannu yn annibynnol ar fympwyon grym y farchnad yn hynny o beth, ond nid ydym ar y pwynt hwnnw eto. Rwy’n mawr obeithio, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, y byddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Rydym eisoes wedi unioni incwm ffermydd gwynt, er enghraifft.
Soniodd Cadeirydd y pwyllgor ac eraill am y taliadau rheoleiddiol a chyflawni’r dull rheoleiddiol a’r canlyniadau, sydd wedi’u crynhoi yno. Hoffwn nodi fy mod yn llwyr gefnogi adennill costau llawn ar gyfer taliadau rheoleiddiol, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried effaith newidiadau sydyn ar y bobl sy'n cael eu rheoleiddio a'u graddnodi yn unol â hynny. Ond lle nad ydym yn adennill costau llawn, yr hyn sydd gennym, i bob pwrpas, yw cymhorthdal cyhoeddus ar gyfer hynny, ac nid wyf yn gweld unrhyw rinwedd go iawn yn hynny. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt ynglŷn â’i raddnodi a'i wneud yn hydrin, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a busnesau fferm bach yn enwedig, ond nid wyf yn gwneud unrhyw esgus o gwbl am wthio CNC i edrych yn ofalus iawn ar adennill costau llawn, a byddwn yn gwneud yr un peth yn ein gwaith ar y Bil seilwaith hefyd.
Mae’r pwyllgor hefyd yn ymwybodol o’r gwaith y mae CNC yn ei wneud gyda’r cwmnïau dŵr i reoli, diogelu a gwella’r amgylchedd dŵr yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, byddai angen awr arnaf i restru'r holl bethau rydym yn eu gwneud ar ansawdd dŵr, felly rwyf am fod mor gyflym ag y gallaf. Mae gennym y cynllun gweithredu i leihau pwysau ar ddalgylchoedd afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy—mae pob partner allweddol bellach wedi ymrwymo i hynny. Mae'n nodi camau gweithredu, amserlenni a chyfrifoldebau clir ar ansawdd dŵr ac i fynd i'r afael â chyfyngiadau cynllunio. Mae’r pwyllgor yn ymwybodol iawn o’r gwaith y mae Syr David Henshaw yn ei wneud gyda’r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ei ymrwymiad personol i hynny. Cynhelir yr uwchgynhadledd drosfwaol nesaf ar ansawdd dŵr ym mis Tachwedd, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor, ac i’r Senedd yn wir, wedi hynny.
Mae CNC yn parhau i weithio ar weithredu a chyflawni eu rheoliadau llygredd amaethyddol, ac maent yn gweithio'n agos gyda fy swyddogion a swyddogion Lesley Griffiths, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd o ran meithrin capasiti ac adnoddau i gefnogi cydymffurfiaeth a gorfodi'r rheoliadau. Mae hynny'n amodol ar gytundeb lefel gwasanaeth penodol iawn y mae'r pwyllgor yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr.
Hoffwn sôn yn gyflym hefyd am waith CNC ar ddyfroedd mewndirol. Maent wedi bod yn treialu dulliau gweithredu newydd gyda dyfroedd ymdrochi drwy gydol 2023, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau hynny, wrth inni symud ymlaen at ddynodi dyfroedd mewndirol. Rydym bob amser yn awyddus i gael barn pobl ar beth arall y gallwn ei wneud i annog y defnydd o ddyfroedd mewndirol, ac yn nes ymlaen eleni, byddwn yn cyhoeddi arolwg o berchnogion tir dyfroedd mewndirol. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog, sy'n mynd i fod yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw ar ein rhan. [Torri ar draws.] Yn sicr. [Torri ar draws.] Mae fy amser yn mynd i ddod i ben.
Mae yna bethau diddorol iawn ynglŷn â gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi mewn rhai mannau yn yr afonydd. Ond tybed: beth sydd bwysicaf—hynny, neu statws ecolegol da yr afonydd? Byddai'n braf cael y ddau, ond nid ydynt yr un peth.
Na, ond maent yn ategu ei gilydd. Ac felly, un o'r pethau rydym yn awyddus iawn i'w gwneud yw sicrhau bod cymunedau'n gofyn am ddynodiad fel y gallwn wneud y gwaith angenrheidiol i gynnwys yr elfen fioamrywiaeth hefyd—felly, maent yn ategu ei gilydd. Nid wyf am i unrhyw un feddwl, am ein bod wedi ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi, fod hynny rywsut yn tynnu oddi wrth y gwaith arall. Nid yw hynny'n wir. Ac yn fuan iawn, rwy'n gobeithio cyhoeddi dull dalgylch un pen i’r llall y byddwn yn ei dreialu hefyd. Felly, gallwch weld bod gennym y ddau ohonynt gyda'i gilydd.
Rydym wedi cael yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth ac wedi datblygu set o gamau gweithredu ar y cyd y gallwn eu cymryd ar unwaith i gefnogi'r gwaith o gyflawni nod 30x30 y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol, a bydd y rhain yn llywio ein Bil sydd ar y ffordd. Ac ar y pwynt hwnnw, Jane, mae hynny'n rhan o'r ffordd rydym yn annog pobl eraill y tu allan i CNC i gyfrannu eu talent ac i helpu i dyfu'r gweithlu. Felly, mae nifer fawr o wyddonwyr o bob rhan o’r byd wedi ein cynorthwyo ar hynny. Maent yn cydnabod y galluoedd sydd gennym yng Nghymru ac yn adlewyrchu ein dyletswyddau ni a dyletswyddau CNC o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a Ddirprwy Lywydd, pleser mawr i mi oedd gweld y nifer o wyddonwyr sy'n barod i ddod i helpu Cymru gyda’n cynlluniau am eu bod yn ein hystyried yn genedl flaengar iawn.
Byddwn yn parhau i weithio gyda CNC i ddarparu cymorth angenrheidiol mewn perthynas ag argymhellion y pwyllgor. Hoffwn gloi drwy ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad, ac i staff CNC am eu gwaith parhaus gyda Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig y tîm arwain yn CNC, sydd, er gwaethaf y sylwadau oddi ar y meinciau gyferbyn, wedi gweithio’n galed iawn i drawsnewid CNC ei hun a’i berthynas â thîm Cymru. Felly, diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eich cyfraniadau? Efallai na fyddaf yn gallu cyfeirio at yr holl sylwadau, fel y gallwch ddychmygu. Thema glir, yn amlwg, yw maint CNC, ac mae’r portffolio’n eithaf enfawr, ac mae'n naturiol y bydd goblygiadau i hynny o ran adnoddau. Nawr, rydym wedi clywed galwadau am fynd â llifogydd, efallai, oddi ar CNC. Wel, mae hynny’n mynd at wraidd y ddadl am sefydlu CNC yn y lle cyntaf ac arbedion maint a dod â’r cyrff rhagflaenol ynghyd.
Ond nid cyfrifoldebau ar lifogydd yn unig sydd o dan sylw. Fe sonioch chi am y sefyllfa mewn perthynas â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, ac rwyf wedi clywed straeon fod cwmnïau wedi cynnig talu am wneud gwaith, ond wrth gwrs, nid oes ganddynt bobl yn yr adeilad i wneud y gwaith hyd yn oed pe bai'r arian yno. Felly, ceir nifer o heriau, fel rydym wedi'i glywed yn ystod y ddadl hon.
Ansawdd dŵr hefyd—soniodd Joyce ac eraill am hyn. Pan fydd gennych gyllideb gyfyngedig, dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud. A chredaf mai'r hyn rydym wedi ymgiprys ag ef yn y gorffennol yw sut felly y gall y Llywodraeth fod yn gliriach gydag CNC ynglŷn â beth yw'r blaenoriaethau hynny, a—gadewch inni fod yn onest—beth maent yn derbyn efallai y bydd yn rhaid iddo ddod yn ail weithiau. A dyna'n union, gobeithio, y mae'r cytundebau lefel gwasanaeth yn ei gyflawni. Felly, mae symud i’r cyfeiriad hwnnw yn rhywbeth i’w groesawu. Mae'n ddull pragmatig o weithredu.
Ac efallai y bydd yna deimladau negyddol, ond wrth gwrs, mae'r cyfan yn dod o le da, onid yw? Oherwydd mae pob un ohonom yn ddiamynedd ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd. Mae pob un ohonom yn dymuno gwneud mwy, ond mae'n rhaid inni gofio bod yr adnoddau'n gyfyngedig. A chredaf fod yn rhaid i hynny gymedroli ein rhwystredigaethau ar adegau, efallai, a gwneud inni dderbyn na allwn wneud popeth y dymunwn ei wneud.
Nawr, roedd Huw ac eraill yn iawn. Nid endid corfforaethol yn unig yw CNC, ond pobl. Pobl ydynt. Ac fel ninnau, maent yn angerddol am yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac maent yn mynd y tu hwnt i'r galw, yn amlach na pheidio, o ran yr hyn a wnânt, ac mae capasiti adnoddau a diffyg capasiti yn golygu hyd yn oed mwy o bwysau ar y rhai sydd yno i wneud y gwaith. Felly, gwn ein bod yn ymwybodol o hynny, a dyna pam mae'r pwyllgor bob amser wedi dadlau o blaid rhoi adnoddau priodol i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Felly, i gloi, mae’r Gweinidog—. Rwy'n credu bod y ffaith ichi garlamu drwy nifer fawr o feysydd gwaith y mae CNC yn eu cyflawni ar hyn o bryd yn tanlinellu ehangder ei gyfrifoldebau. Yn amlwg, mae'n waith sy'n mynd rhagddo, fel ein gwaith ninnau fel pwyllgor. Byddwn yn parhau i graffu ar eu gwaith wrth i bethau ddatblygu. Soniodd Joyce am atal—mae atal yn well na gwella, a chredaf fod hynny'n mynd at wraidd y newid diwylliannol hwnnw, y sylweddoliad cymdeithasol fod yn rhaid inni wneud mwy na'r pethau rydym bob amser wedi'u gwneud. Rydym yn siarad am fuddsoddiad ataliol, ond mae angen newid meddylfryd i gyd-fynd â hynny, ac rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan fawr o hynny hefyd. Rydym yn ddiolchgar fod y Gweinidog wedi llenwi’r bwlch ariannu a nodwyd, ac y bydd £18 miliwn yn cael ei ddarparu fel cyllideb sylfaenol nawr. Nid ydym yn clywed hynny’n aml iawn gan unrhyw Lywodraeth y dyddiau hyn a dweud y gwir, o ystyried yr amgylchiadau heriol y maent yn eu hwynebu o ran cyllid.
Diolch i bawb am eu cyfraniad, ond mae'r diolch pennaf, wrth gwrs, i Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd tra ein bod ni i gyd yn y rheng flaen pan fo hi'n dod i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, mae eu rôl nhw, wrth gwrs, yn un arweiniol yn y cyd-destun yna. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru, gwasanaethau bws. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8369 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n teithio i'r ysgol.
2. Yn nodi bod y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn gresynu bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.
4. Yn gresynu y bydd diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei adfer.
5. Yn credu y gellid gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt a’u hehangu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae sicrhau diwydiant bysus safonol, digonol yn angenrheidiol, nid yn unig ar gyfer ein planed ond ein pobl, ein cymunedau. Yn anffodus, mewn cymaint o rannau o Gymru, mae'r dewisiadau trafnidiaeth cyhoeddus sydd ar gael yn wan, yn gostus ac yn annigonol. Mae hyn wedi gadael cymaint o bobl yn ddibynnol ar y car, tra mae'r rhai sydd heb y dewis hwnnw weithiau wedi cael eu hynysu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae iechyd ein gwasanaeth bysiau nid yn unig yn fater sy'n ymwneud â seilwaith, prisiau tocynnau a fflydoedd, mae hefyd yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, cefnogi strwythurau cymunedol ac atal teimladau o fod yn ynysig rhag gafael. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom sy’n cynrychioli cymunedau’r Cymoedd yn enwedig yn gwybod o ddarllen cwynion ein hetholwyr fod amlder gwasanaethau bysiau gyda’r hwyr wedi lleihau’n sylweddol. Rydym wedi gweld toriadau, er enghraifft, i lwybr bws rheolaidd coridor yr A470 sy'n cysylltu Caerdydd, Pontypridd a Merthyr Tudful o gymharu â'r amserlenni cyn COVID. Mae gwasanaethau o'r math hwnnw wedi'u torri mewn cymunedau ledled Cymru.
Roedd y Dirprwy Weinidog wedi ysgrifennu ataf yn gynharach eleni i egluro bod cwmni bysiau mawr wedi dweud mai prinder gyrwyr a llai o alw gan deithwyr sy’n arwain at eu hanallu i ddarparu mwy o wasanaethau. Yn ystod y ddadl hon, rwy'n gobeithio y gallwn sôn am beth—wel, darganfod beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a darparu awgrymiadau hefyd ynghylch yr hyn y gallai’r Llywodraeth ei wneud i fynd i’r afael â’r ddau fater hynny.
Mae Plaid Cymru yn cytuno â thargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru. Maent yn ganmoladwy, gan gynnwys targed i 45 y cant o deithiau gael eu gwneud naill ai ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar feic erbyn 2040. Ond y broblem fawr, wrth gwrs, yw cyflawni'r targedau hynny, gan fod gwasanaethau'n dal i fod ar ymyl y dibyn. Yn wir, gall hyd at chwarter y gwasanaethau bysiau yng Nghymru gael eu torri os bydd gweithredwyr yn methu cael rhagor o gyllid hirdymor gan y Llywodraeth, ac amcangyfrifir bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau wedi’u torri yr haf hwn am fod y £150 miliwn o gyllid brys cyfnod y pandemig gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.
Mae'r argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau bysiau yn amlhaenog. Mae iddo oblygiadau dwys i gyfiawnder cymdeithasol, i ganlyniadau economaidd ac i'r amgylchedd. Byddwn yn clywed pob un o’r rhain yn cael eu trafod yn ystod y ddadl, rwy’n siŵr. Gyda hyn mewn golwg, buaswn yn cwestiynu—byddai'n ddefnyddiol gwybod a yw'r Llywodraeth wedi adolygu'r effaith y byddai'r gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau yn ei chael ar 10 nod llesiant Llywodraeth Cymru a sut y gellid mapio'r gwaith o fynd i'r afael â hynny. Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddewis ymarferol i lawer, ond mae wedi bod yn dirywio ers degawdau tra bo prisiau tocynnau wedi codi uwchlaw chwyddiant. Rhwng 2019 a 2020 yn unig, cynyddodd prisiau tocynnau bws 3.5 y cant. Yn yr un cyfnod, collodd Cymru 690 safle bws, sef oddeutu 3 y cant, gan wneud dal bws yn anos byth. Wrth gwrs, ni ddylem anwybyddu mewn unrhyw ffordd effaith drychinebus polisïau sy’n mynd yn ôl ddegawdau gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a sut nad yw’r gwasanaeth bysiau sydd gennym erioed wedi ymadfer yn sgil hynny mewn gwirionedd.
Nawr, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, mae llawer o'r cymunedau—. Mae'n gas gennyf y term 'difreintiedig'. Cyfeirir atynt fel rhai sy'n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Yr hyn y mae'r term hwnnw'n cyfeirio ato neu'n ei olygu yw nad yw'r cyfleoedd yno yn yr un ffordd i'r cymunedau hynny. Mae pobl yn ein hardaloedd yn aml yn cael eu gwasanaethu’n wael o ran gwasanaethau hanfodol, siopau, darpariaeth iechyd, cyfleoedd gwaith. Ceir llai o glybiau, canolfannau cymunedol sy'n dal i fod ar agor a lle gall pobl gymdeithasu, maent yn aml yn ardaloedd lle mae perchnogaeth ar geir ar ei hisaf, lle mae trigolion yn aml yn hŷn, yn llai iach, yn llai symudol, ac mae'r rhain yn gymunedau pwysig, ond mor aml, dyma'r rhai lle gwelir y toriadau yn gyntaf—dros dro i ddechrau, ac yna'n barhaol. Mae'r rhwydwaith bysiau wedi bod yn gwneud cam â'i ddefnyddwyr. Mae'r rhwydwaith bysiau wedi bod yn gwneud cam â'i ddefnyddwyr ers llawer gormod o amser. Gwaethygir hyn gan y ffaith nad yw 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau yn berchen ar gar a’u bod bron yn gwbl ddibynnol ar fysiau i fynd i'r gwaith, i weld ffrindiau ac i fyw bywydau bodlon, ac nid yn unig hynny, ond weithiau er mwyn cymdeithasu o gwbl. I lawer o bobl yng Nghymru, y gwir amdani yw bod byw heb wasanaeth bws yn golygu cael eu hynysu yn eu cartrefi, yn methu cyflawni tasgau hanfodol hyd yn oed.
Nawr, nid yw’r dirywiad yn ddim byd newydd, ac er bod y pandemig wedi cael effaith ddramatig a niweidiol iawn ar wasanaethau bysiau, bydd Llywodraeth Cymru hefyd, rwy’n siŵr, yn cydnabod bod argaeledd gwasanaethau bysiau wedi gostwng un rhan o bump yn y degawd hyd at 2019. Mae’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn amcangyfrif y gwnaed diwygiadau neu newidiadau mawr i oddeutu 10 y cant o wasanaethau bysiau yng Nghymru yn y misoedd diwethaf, a tybed pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o’r gronfa bontio ar gyfer bysiau, ac a fydd digon o gyllid i gynnal y rhwydwaith presennol tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae llawer o’n hetholwyr, sy’n cael eu gwasanaethu gan bob plaid yn y Siambr hon, yn dibynnu ar wasanaethau bysiau, ond maent wedi wynebu toriad ar ôl toriad, siom ar ôl siom; maent yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, eu dibrisio, yn bryderus ac yn ynysig. Fel y dywedodd un o fy nghyd-Aelodau wrthyf unwaith, 'Gall y Llywodraeth hon newid hyn. Fe ddylai'r Llywodraeth hon newid hyn.' Mae arnom angen gweithredu, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid hirdymor nawr i sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol.
Rwy’n cydnabod y sefyllfa anodd iawn y mae Llywodraeth Cymru ynddi yn y cyswllt hwn, a dyna pam y buaswn yn croesawu awgrymiadau o bob rhan o’r Siambr ar sut y gellid unioni hyn, ac yn allweddol i hyn oll, wrth gwrs, mae presenoldeb yr argyfwng hinsawdd yn gwmwl dros bopeth a ddywedwn, a phenderfyniad trychinebus Mr Sunak i gamu'n ôl ar bolisïau hinsawdd allweddol. Mae angen i fysiau fod yn rhan o’n hateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o annog gweithredwyr bysiau i newid i ddefnyddio cerbydau trydan. Ffordd bosibl o fynd i’r afael â’r her hon yw i’r sector cyhoeddus brynu cerbydau a’u lesio i gwmnïau yn y sector preifat, ond byddai angen cyllid i wneud hynny. Wrth gwrs, i gwmnïau bysiau llai o faint sy’n gweithio ar elw tynn, bydd hyn yn anos fyth. Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun datgarboneiddio bysiau, yn debyg i’r un a weinyddir gan Transport Scotland; byddai’n ddefnyddiol clywed barn y Gweinidog ar hynny.
A Lywydd, buaswn ar fai yn peidio â sôn am y newyddion fod Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, yn cael gwared ar reilffordd HS2 rhwng Manceinion a Birmingham, a chafwyd addewidion o fuddsoddiad ar gyfer rhannau gogleddol y wlad hon, a fyddai i'w groesawu, ond fel rydym wedi'i ddweud eisoes yn y Siambr y prynhawn yma, maent yn addewidion y mae Mr Sunak yn gwybod o bosibl na fyddai mewn grym mewn pryd i'w cyflawni, oherwydd yr amser y byddai hynny'n ei gymryd, felly mae llawer o gwestiynau'n codi ynglŷn â hynny o hyd, ac roedd Cymru eisoes wedi'i hamddifadu o unrhyw arian o rannau cynharach prosiect HS2, am fod hwnnw'n cael ei alw neu'n cael ei ystyried, yn sinigaidd, yn brosiect 'Lloegr a Chymru', a gallai'r arian hwnnw—ein harian ni—fod wedi'i ddefnyddio, a gellid ei ddefnyddio o hyd, i adnewyddu ein rhwydwaith bysiau pe bai'r Trysorlys yn gwneud y peth iawn, ac i drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gyfan wrth gwrs.
Mae arnom angen ymrwymiad gan bob plaid i ailddosbarthu cynllun HS2, yn enwedig y gyfran gynharach honno o gynllun HS2 sydd eisoes ar y gweill. Mae honno'n ffordd. Mae'n ffordd o ddechrau unioni, o leiaf, y ffordd anghyfiawn y mae'r prosiect gwarthus hwnnw wedi'i roi ar waith. Byddai’n well gennyf weld y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng Nghymru.
Ond rwy'n edrych ymlaen at glywed barn pobl eraill yn ein dadl. Dwi'n siŵr bydd hyn yn ddadl lle bydd pobl ar draws Cymru wedi cysylltu gyda ni oll i ddweud am yr effaith mae hyn yn ei gael ar fywydau pob dydd pobl. Felly, wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn rhan annatod o hyn, ond bywydau pobl bob dydd, dyna beth rydyn ni angen ei wella. Diolch.
Ni ellir gwadu bod ein rhwydwaith bysiau mewn cyflwr enbyd, gyda llwybrau’n cael eu torri a gweithredwyr yn wynebu dyfodol ansicr iawn. A gellir rhoi'r bai am y trychineb i gyd ar Lywodraeth Lafur Cymru, ac rydym eisoes wedi clywed—. Ers i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i ddarparu cyllid hanfodol, rydym wedi gweld oddeutu 10 y cant o lwybrau bysiau yn cael eu torri yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ni fuaswn yn 'twt, twtio' am y peth; mae'n ffaith. Rwy'n cytuno â Delyth Jewell, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw bysiau i bobl Cymru, sy’n eu defnyddio i weld ffrindiau, teulu, mynd i siopa a mynychu apwyntiadau hanfodol. Mae'n achubiaeth go iawn i gynifer o bobl o gymunedau amrywiol ledled Cymru, ac eto mae'r Llywodraeth hon wedi methu diogelu gwasanaethau bysiau, buddsoddi ynddynt a'u hehangu. Cawsom ein harwain i gredu y byddai'r gronfa bontio ar gyfer bysiau yn achub y dydd, ac eto mae’r bygythiad i wasanaethau bysiau yn parhau. Cafwyd rhybudd, heb sicrwydd o fuddsoddiad hirdymor y tu hwnt i fis Mawrth 2024—
A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
Hoffwn allu parhau os yw hynny'n iawn. Diolch.
Pan ddaw'r gronfa bontio i ben, bydd rhwng 15 a 25 y cant o'r holl lwybrau bysiau yng Nghymru yn parhau i fod dan fygythiad o gael eu torri neu o newidiadau mawr. Dywedodd un arweinydd diwydiant wrthyf:
'Mae'r cloc yn tician o ran gwneud y penderfyniadau hyn. Yn wir, rydym i gyd yn anelu tuag at yr un ymyl clogwyn ag yr oeddem yn ei wynebu ym mis Gorffennaf.'
Rwyf wedi sefyll yn y Siambr hon ar sawl achlysur ac wedi annog Llywodraeth Cymru i gymell teithio ar fysiau fel y mae gwledydd eraill ar draws y DU wedi'i wneud. Mae'n ffaith na all neb yma ei gwadu bod mwy o deithiau bws yn Lloegr—
A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
—wedi cael eu gwneud ers cyflwyno cap o £2 ar docynnau yn Lloegr—[Torri ar draws.]
Nid yw'r Aelod yn ildio a'i phenderfyniad hi ydyw.
—rhywbeth y cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw y byddai'n cael ei ymestyn. Ac yn yr Alban, fe wnaethant gyflwyno teithio am ddim i bobl dan 22 oed mewn ymgais i gynyddu defnydd. Beth rydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru? Yng Nghymru, mae adferiad ôl-COVID gwasanaethau bysiau yn parhau i fod yn arafach nag unman arall yn y DU ac mae prisiau 6.3 y cant yn uwch ar gyfartaledd. Gwnaed pethau'n waeth byth i weithredwyr bysiau ar 17 Medi, pan gyflwynodd Llywodraeth Lafur Cymru y cynllun 20 mya. Mae swyddog arall yn y diwydiant bysiau wedi dweud wrthyf, ac rwy'n mynd i'w dyfynnu air am air,
'Fe welsom ostyngiad sylweddol mewn prydlondeb ers ei weithredu, ac rydym yn pryderu am yr effaith fwy hirdymor y bydd hyn yn ei chael ar hyfywedd gwasanaethau oherwydd y costau gweithredu ychwanegol a'r gostyngiad yn niferoedd teithwyr o ganlyniad.'
Mae'n ergyd arall i'r diwydiant ar adeg pan fo angen yr holl gymorth y gall ei gael i annog pobl i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Daw hyn er i'r Dirprwy Weinidog wneud yn fach o'r effaith y byddai ei gynllun 20 mya yn ei chael ar fysiau. Dywedodd nad oedd y newid yn debygol o effeithio'n sylweddol ar fysiau. Wel, buaswn i'n dadlau bod y sylwadau rwyf newydd eu rhannu gyda chi i gyd heddiw, yn ogystal â'r cyfaddefiad gan Arriva fod terfynau cyflymder 20 mya yn gwneud bysiau'n hwyr ac yn achosi, 'amodau gweithredu heriol', yn dangos fel arall. Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effaith lawn y polisi 20 mya, mae'n amlwg ei fod yn creu haen ychwanegol o ansicrwydd i weithredwyr wrth iddynt gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Hefyd, hoffwn grybwyll penderfyniad y Prif Weinidog heddiw i ddiddymu rhan o HS2, cam sy'n mynd i ddod â manteision i Gymru. O ganlyniad, bydd rhywfaint o'r arian sy'n cael ei arbed yn cael ei roi tuag at drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru ac mae cyllid canlyniadol ar y ffordd. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyllid hwn i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth. Efallai fod y Dirprwy Weinidog a'i gyd-Aelodau'n gwneud yr holl synau cywir, gan ddweud wrthym pa mor bwysig yw ein rhwydwaith bysiau, ond rwy'n ofni nad yw eu gweithredoedd wedi cyd-fynd â'u rhethreg.
Mae'r Llywodraeth hon yn mynd ati'n weithredol i wneud teithio ar bron bob dull teithio yn anos i bobl yng Nghymru. Yn hytrach na phwyntio'r bys at San Steffan ben bwy'i gilydd, mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb a datrys y problemau y mae'n gyfrifol amdanynt. Mae pobl angen rhwydwaith bysiau addas i'r diben, ond unwaith eto mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu siomi a dyna pam ein bod ni'n cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma. Mae'n hanfodol fod diogelu ac ehangu ein gwasanaethau bysiau yn dod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Wel, mae rhywun bob amser yn meddwl sut rydych chi'n dilyn cyflwyniad fel hwnnw. Ac mae'n dweud wrthych chi am y Ceidwadwyr, onid yw? Rydych chi'n darllen yr araith rydych chi wedi'i pharatoi ymlaen llaw, ac nid ydych chi'n caniatáu unrhyw ymyriad. Nid ydych yn caniatáu unrhyw atebolrwydd. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Nid wyf eisiau ymyriad, rwyf wedi cael—[Anghlywadwy.]
Os gwnewch chi, fe wnewch chi—
Dim ond drwy ymyriad y gallwch wneud pwynt i'r Aelod. Ni chewch ei wneud o'ch sedd. Os ydych chi am wneud ymyriad, Natasha Asghar, rwy'n siŵr y gwnaiff Alun Davies ei dderbyn.
Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod i bob amser yn hapus—
Na? 'Na' oedd hynny. Gallwch barhau, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod bob amser yn hapus i dderbyn ymyriadau oherwydd fy mod yn credu mewn dadl. Siambr drafod yw hon. Nid fy adroddiad ysgol Sul mohono—[Torri ar draws.] O, dyma ni. Ni lwyddais i gyrraedd diwedd y frawddeg hyd yn oed.
Diolch, Alun. A fyddech chi'n cytuno bod y gwasanaeth bysiau yn eich etholaeth wedi dirywio dros y blynyddoedd? Ydy neu nac ydy?
Ydy. Ydy, mae wedi dirywio. Mae wedi dirywio ers preifateiddio bysiau ym 1985, a dyna'r union bwynt roeddwn yn mynd i'w wneud. Mae'r hyn a glywsom y bore yma, a'r anhrefn ym Manceinion drwy'r wythnos, yn dweud un peth wrthych am Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig: nid yw'n becso dim am y wlad hon, ac nid yw'n becso dim am unrhyw le y tu allan i Lundain. Mae pawb yn gwybod—a cheisiais wneud y pwynt hwn yn gynharach yn yr wythnos—mae pawb yn gwybod, pe bai HS2, pe bai'r cyswllt Birmingham-Manceinion, unrhyw le'n agos i Lundain neu'r siroedd o'i chwmpas, byddent wedi dod o hyd i'r arian. A dyna pam y cafodd Llundain, wrth gwrs, ei heithrio rhag preifateiddio'r diwydiant bysiau, oherwydd eu bod yn gwybod, ac nid oeddent yn poeni, am effaith preifateiddio y tu allan i Lundain. A'r hyn a welsom ers preifateiddio oedd lleihau gwasanaethau dros y degawdau diwethaf. Ac rydym wedi gweld effaith y pandemig, ac rwy'n talu teyrnged i'r Dirprwy Weinidog ac i'r Llywodraeth hon, sydd wedi rhoi rhywbeth fel £200 miliwn i'r diwydiant, rwy'n credu: £200 miliwn o gymhorthdal i wasanaethau y mae fy etholwyr eu hangen ac yn dibynnu arnynt; £200 miliwn i gynnal gwasanaeth a diwydiant sydd wedi'i dorri gan orthrwm preifateiddio. Byddech wedi meddwl y byddai rhywun ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ddigon hunanymwybodol i ddeall canlyniadau'r gweithredoedd hynny ac maent—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Mae angen inni fod yn gwbl glir—[Torri ar draws.] Bob tro rwy'n dweud—.
Rydych chi wedi gofyn i ni tua hanner dwsin o weithiau, felly roeddwn i'n meddwl y buaswn yn ymuno. Mae chwe blynedd ers i Lywodraeth y DU y gwnaethoch chi ladd arni eto fyth—rydych chi'n gwneud hynny bob tro y codwch ar eich traed, wrth gwrs—a Deddf Gwasanaethau Bysiau 2017 rymuso'r awdurdodau cyfun maerol i gyflwyno masnachfreinio ar gyfer eu gwasanaethau bysiau lleol. Pam y bu'n rhaid inni aros mor hir i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth masnachfreinio ar gyfer bysiau yma?
Rwy'n croesawu masnachfreinio gwasanaethau bysiau a chroesawais y gwaith y mae Andy Burnham wedi bod yn ei wneud ym Manceinion, a chredaf ei fod yn dangos yr angen am reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau cyhoeddus—rhywbeth y mae gennych broblem ideolegol gydag ef. Nid oes gennyf fi, oherwydd rwy'n credu yn y bobl hynny. Rwyf newydd ddod yn ôl o Ysgol Gynradd Willowtown yng Nglyn Ebwy, lle roeddwn i amser cinio—digwyddiad ffantastig yn yr ysgol. Mae gan y bobl hynny hawl i ddisgwyl gwasanaethau cyhoeddus, wedi'u darparu'n gyhoeddus ac yn atebol i'r cyhoedd, ar eu cyfer nhw eu hunain, ar gyfer eu rhieni, eu neiniau a'u teidiau a'u plant. A'r hyn rydych chi wedi'i wneud yw eu hamddifadu o'r gwasanaethau hynny. A'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud—.
Ac mae hwn yn gwestiwn sydd gennyf i'r Dirprwy Weinidog, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ei ateb yn ei sylwadau wrth ymateb i'r ddadl hon. Sut y bydd y ddeddfwriaeth y bydd yn ei chyflwyno ym mis Ionawr, gobeithio, yn sicrhau bod gennym fynediad at wasanaethau? Oherwydd dyma lle mae angen inni fod yn hollol glir ynglŷn â beth fydd gwasanaethau bws yn ceisio ei gyflawni. Maent yn dod â phobl at ei gilydd. Maent yn dod â'n cymunedau at ei gilydd. Maent yn cysylltu ein cymunedau â'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y bobl hynny, ac maent yn ein cysylltu ni'n hunain fel gwlad. Mae hynny'n bwysig iawn. Ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn teimlo y gallant ddibynnu ar y gwasanaethau hynny. Mae'n bwysig fod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gyda rhagoriaeth, fel bod gennym gerbydau cyfredol y gall pobl ddibynnu arnynt, nad yw pobl yn cael eu gadael mewn arosfannau bysiau yn y glaw am fod y bws wedi torri lawr, fod gan bobl fynediad at Wi-Fi ar y bysiau, fod pobl yn gwybod bod y bws yn mynd i ddod pan fydd i fod i ddod, a bod digon o wasanaethau i ddarparu'r gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnynt i allu cyrraedd beth bynnag y maent angen gallu ei gyrraedd.
Mae arnom angen iddo fod yn rhan o system drafnidiaeth integredig, a'r cwestiwn sydd gennyf i chi, Weinidog, yw hwn: beth y bydd y ddeddfwriaeth rydych chi'n ei chyhoeddi ym mis Ionawr yn ceisio ei gyflawni? Sut y bydd honno'n darparu'r gwasanaethau y ceisiais eu disgrifio yn y cyfraniad hwn? Sut y bydd, er enghraifft—? Rydym yn cyflawni'r gwelliannau rheilffyrdd yng Nghymoedd de Cymru mewn ffordd na fyddai Llywodraeth y DU byth yn ei wneud, ac rydym yn gwybod hynny, oherwydd nid yw rheilffordd Glyn Ebwy yn weithgarwch datganoledig o hyd, ond y Llywodraeth hon sy'n gwario arian ar wella'r gwasanaethau hynny. Nid yw'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn poeni am reilffordd Glyn Ebwy. Nid yw'n gwybod lle mae hi. Nid yw'n poeni lle mae hi. Nid yw'n barod i roi'r arian tuag ati am ei bod y tu allan i Lundain, nid yw mewn etholaeth allweddol, ac felly nid oes ots gennych am fy etholwyr. Mae fy amser ar ben, yn anffodus. Rwyf wedi profi amynedd y Llywydd yn fwy nag arfer y prynhawn yma. Rwy'n hapus i'w brofi eto—
Na, nid yw'n wahanol i'r arfer o gwbl.
Mark Isherwood. Mark Isherwood, dewch.
Nid oeddwn yn meddwl y byddai amser. A ydych chi'n cydnabod nad oes yr un Lywodraeth Lafur yn y DU erioed wedi trydaneiddio yr un droedfedd na'r un fodfedd o drac yng Nghymru, ac mai Llywodraeth y DU ers 2010 oedd y Llywodraeth gyntaf erioed i wneud hynny?
Ac fe stopiodd yng Nghaerdydd, wrth gwrs. Fe stopiodd yng Nghaerdydd yn hytrach nag Abertawe. A gadewch imi ddweud hyn wrthych: nid wyf yn dod yma i amddiffyn Llywodraethau Llafur y DU ychwaith. Dylai'r buddsoddiad hwnnw fod wedi digwydd mewn blynyddoedd cynharach. Nid wyf yn gwadu hynny. Mae'r methiant wedi bod yn fethiant go gynhwysfawr, Mark. Y gwahaniaeth rhyngoch chi a fi yw fy mod i'n ei ddweud. Rydych chi'n amddiffyn methiant ac nid wyf fi'n gwneud hynny—rwy'n tynnu sylw ato.
Yr hyn rwyf am ei wneud—. Ac fe wnaf orffen nawr, Lywydd, ar ôl profi eich amynedd eto. Fe wnaf orffen gyda hyn. Ddirprwy Weinidog, mae'n bryd inni ddarparu gwasanaethau sy'n cysylltu pobl â phen draw rheilffyrdd, i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd meddygon a siopau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi pobl yn gyntaf. Ac mae'r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda gwasanaeth Fflecsi yng Nglyn Ebwy yn rhywbeth rwy'n ddiolchgar iawn i chi amdano, ac rwy'n credu ei fod yn dangos hyblygrwydd o ran meddwl a gweithredu, sy'n bwysig wrth ddarparu gwasanaeth, ac mae hynny'n bwysig iawn. Ond y cwestiwn sylfaenol yw: sut y bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi fy etholwyr i ddefnyddio gwasanaeth bws cynhwysfawr sy'n eu cysylltu nhw â'u gwasanaethau, sy'n ein cysylltu ni â'n cymunedau, sy'n cysylltu ein cymunedau ni â chymunedau eraill, ac yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol sy'n gwbl wahanol i'r weledigaeth a ddisgrifiwyd—yr hunllef grotesg a ddisgrifiwyd ym Manceinion yn gynharach heddiw?
Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon. Dwi'n teimlo, wythnos ar ôl wythnos, fy mod i'n ffeindio fy hunan yn y Siambr hon yn codi mater diffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn arbennig. Dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi hyd yn oed heddiw fod Llywodraeth Cymru yn deall maint y broblem yn ein cymunedau gwledig, heb sôn am gael fy argyhoeddi gyda'u hymateb iddo fe.
Fel y mae cymaint o ymchwil, gan gynnwys gan Sustrans, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Bevan, wedi dangos, mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrannu mewn modd sylfaenol iawn i dlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae’n cyfyngu twf economaidd ac mae’n ei gwneud yn llawer mwy anodd i bobl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Dro ar ôl tro, mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn codi gan bobl mewn sgyrsiau gyda fi ar draws y rhanbarth. A'r tristwch yw, lle mae cymaint o angen buddsoddi er mwyn ehangu trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad, ŷn ni nawr yn clywed bod mwy o doriadau ar y ffordd. Fel ŷn ni wedi clywed yn barod heddiw gen i, mae'r Fflecsi Bwcabus, sydd wedi gwasanaethu cymunedau sir Gâr, Ceredigion a sir Benfro am bron i 15 mlynedd, yn dod i ben ddiwedd y mis.
Ddirprwy Weinidog, dyma dystiolaeth gan un o yrwyr Bwcabus—un o'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol sydd gennym yng nghefn gwlad gorllewin Cymru—Mike Morgan, gan ddangos bod Bwcabus yn fwy na gwasanaeth bws, fel y nododd Alun Davies, a dyma y cyfeiriodd ef ato: mae'n hyb cymdeithasol yn ei hawl ei hun; mae'n dod â phobl at ei gilydd. A dyma ei eiriau:
'Wrth golli hyn, mae'r bobl sy'n teithio ar y bws yn colli mwy na dim ond gwasanaeth, maent yn colli ffrindiau hefyd. I lawer o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae llawer yn byw ar eu pen eu hunain, ac mae'n ffordd o fynd allan a chyfarfod â phobl a dianc rhag y teimlad o fod yn ynysig.'
Nawr, gan adlewyrchu cyhoeddiadau blaenorol am ddiwedd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn gynharach eleni, gwnaed y cyhoeddiad am ddiwedd Bwcabus ar fyr rybudd, ac roedd yn hynod amharchus i'r defnyddwyr a'r darparwyr. Yn wir, roedd yn sioc i awdurdodau lleol hefyd, yn dilyn yr hyn y credent eu bod wedi bod yn drafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ar ei dyfodol.
Nawr, yn strategaeth drafnidiaeth 'Llwybr Newydd' 2021, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu fel blaenoriaeth graidd—ac rwyf am i chi wrando ar hyn—
'Rhwydwaith sefydlog a chydlynol o wasanaethau bysiau sydd wedi'u hintegreiddio'n llawn â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n ddibynadwy, yn fforddiadwy, yn hyblyg, yn hawdd eu defnyddio, yn garbon isel ac sy'n annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r bws yn hytrach na'u ceir.'
Nawr, rwy'n cytuno â'r uchelgais clodwiw hwnnw, ond mae'n anodd dros ben, os nad yn amhosibl, cysoni hyn gyda'r penderfyniad i ddod â'r Fflecsi Bwcabus i ben; nid yw'n gwneud synnwyr.
Ar sail yr ateb a roddodd i mi i gwestiwn amserol yr wythnos diwethaf, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn dweud, 'Wel, mae'r prinder cyllid yng ngoleuni'r diffyg o £1 biliwn yn sgil y newid o gyllid strwythurol Ewropeaidd i'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir yn broblem', ac rwy'n rhannu ei rwystredigaeth yn hynny o beth ynghylch addewid toredig y Torïaid na fyddai Brexit yn gadael Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd. Fodd bynnag, rydych chi wedi gwybod bod cyllid y rhaglen datblygu gwledig yn dod i ben ers peth amser, ac mae'r penderfyniad i beidio â dyrannu ffynonellau eraill o arian i'r cynllun yn benderfyniad gwleidyddol ar ran Llywodraeth Cymru y mae'n rhaid i chi fod yn atebol amdano. Ac mae arnaf ofn ei fod yn benderfyniad adweithiol a thymor byr, un sy'n dangos diffyg gweledigaeth neu strategaeth gydlynol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
Weinidog, dwi'n gorffen gyda hyn: dwi'n eich annog chi eto i ailystyried y penderfyniad ariannu hwn ac yn gofyn i chi gydweithio â ni, sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig, i ddatblygu strategaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig fel mater o frys. Fel arall, bydd cymaint o bobl, yr henoed a'r anabl yn bennaf, yn cael eu gadael ar gyrion ein cymdeithas, wedi eu hynysu o'r byd o'u cwmpas.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac i siarad ar ran fy etholwyr a'r rhai y mae toriadau i fysiau wedi effeithio ar eu bywydau—etholwyr mewn lleoedd fel y pentref lle rwy'n byw, Pen-y-fai. Nid oes gennym unrhyw lwybrau teithio llesol, ac mae toriadau i wasanaethau bysiau wedi ynysu ein cymuned ymhellach. Mae cymaint o bobl yn dibynnu ar fysiau gan nad oes ganddynt unrhyw ddewisiadau amgen—dim dewis arall i gyrraedd yr ysgol, i gyrraedd y gwaith neu i fynychu apwyntiadau gofal iechyd hanfodol. Heb fysiau, mae llawer o bobl, yn enwedig yr henoed, yn gaeth yn eu cartrefi.
Rydym eisoes wedi gweld diflaniad llawer o lwybrau bysiau, gyda llawer mwy ar y ffordd. Ddechrau'r wythnos, dywedodd First Cymru wrthym eu bod yn dileu llawer o lwybrau bysiau. Meddent: 'Cawsom y dasg gan awdurdodau lleol rhanbarth de-orllewin Cymru, dan arweiniad Abertawe, i leihau ein rhwydwaith i lefel sy'n fforddiadwy o ystyried y cyllid sydd ar gael. Felly, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gwneud rhai gwasanaethau'n llai aml, a lleihau oriau gweithredu, a dileu gwasanaethau mewn rhai achosion.' Un gweithredwr bysiau'n unig yw hynny; pwy a ŵyr beth y bydd cwmnïau eraill yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud heddiw yn cael effaith barhaol ar wasanaethau bws. Pan fydd llwybr wedi dod i ben, mae bron yn amhosibl ei adfer. Gall fy nghymdogion a fy etholwyr dystio i hynny. Mae colli gwasanaethau bysiau wedi gorfodi pobl i ddefnyddio tacsis drud i gyrraedd apwyntiadau meddygon. Nid pawb sydd â char at eu defnydd, felly mewn sawl rhan o Gymru, bysiau yw'r unig opsiwn. Nawr mae'r opsiwn hwnnw'n cael ei ddileu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dweud wrthym ers blynyddoedd am roi'r gorau i'r car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond maent wedi methu buddsoddi yn y drafnidiaeth. Gennym ni y mae'r trenau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae bysiau'n dod yn olygfa nad yw'n bodoli yn fy nghymuned i a llawer o gymunedau hefyd.
Mae fy etholwyr wedi cael eu siomi'n ddrwg gan Lafur Cymru, sy'n cael eu cynnal gan Blaid Cymru, gyda'r ddwy blaid yn ceisio beio pawb arall am eu methiannau. Ond digon yw digon. Rhowch y gorau i wneud esgusodion a gwnewch rywbeth. Ni all ein cymunedau, yn enwedig yr henoed a'r anabl, fforddio aros am ddiwygio'r diwydiant bysiau. Erbyn hynny, fe fydd yn rhy hwyr. Gallwch symud yn gyflym pan fydd yn gyfleus i chi. Mae angen atebion arnom heddiw. Diolch yn fawr.
Mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, ac fe ddylai gefnogi pobl i gyfranogi'n llawn ym mhob agwedd ar eu bywydau. Dyna mae pwynt cyntaf ein cynnig yn ei bwysleisio, a dwi'n siŵr ei fod e'n rhywbeth gallwn ni i gyd ei gefnogi. Ond, i gymaint o fy etholwyr i, sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, sir Abertawe a Phen-y-bont, mae bws yn wasanaeth hanfodol—yr un mor hanfodol ag addysg ac iechyd. I nifer, does dim dewis arall o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Does dim trên, ac mae nifer o gymunedau yn y siroedd yma â lefel is na'r cyfartaledd cenedlaethol o berchnogaeth ceir. I bobl sy'n methu gyrru, pobl anabl, pobl hŷn a phobl ifanc, mae'r toriadau sydd wedi cael eu cyhoeddi i wasanaethau bws dros y misoedd diwethaf yn cael effaith gwbl andwyol ar ansawdd eu bywydau ac ar eu cyfleon bywyd.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, wrth i’r cynllun brys ar gyfer bysiau ddirwyn i ben, torrodd South Wales Transport ddau wasanaeth, a bu’n rhaid i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ariannu bysiau gwennol i sicrhau nad oedd cymunedau nad oedd ar lwybrau'r prif wasanaethau yn cael eu hynysu yn gyfan gwbl. Fe dorrwyd gwasanaeth ben bore gan olygu nad oedd plant o bentref Rhos yn medru mynd ar fws i Ysgol Gymunedol Cwmtawe mwyach. A dydd Llun yr wythnos yma, fel rŷm ni wedi clywed, cyhoeddodd First Cymru doriadau i lawer o wasanaethau ar draws y rhanbarth, gan ddod â gwasanaeth rhwng Castell-nedd a Phontardawe i ben yn ystod yr wythnos, ynghyd â'r gwasanaeth rhwng canol dinas Abertawe a Thŷ-coch ar ddydd Sadwrn. Dyw nifer o'r gwasanaethau nawr ddim yn rhedeg ar ddydd Sul mwyach, a bydd 22 o wasanaethau eraill yn rhedeg yn llai aml. Bydd gwasanaethau parcio a theithio, gwasanaethau ysbyty, a gwasanaethau drwy gymunedau fel Pontarddulais, Townhill, Blaen-y-maes, Sgiwen, Cwmafan, Ystalyfera, Baglan, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a llawer mwy yn gweld toriadau, a dim ond y dechrau yw hyn.
Rwyf wedi cael cymaint o negeseuon gan etholwyr pryderus a dig sydd wedi cael eu heffeithio gan y toriadau hyn. Rwyf am rannu rhai ohonynt oherwydd credaf ei fod yn dangos y rhesymau dros y galwadau yn ein cynnig. Dywedodd un etholwr: 'Rwy'n ysgrifennu atoch ynglŷn â'r gwasanaeth X6 o Ystradgynlais i Abertawe. Rwy'n dibynnu ar fysiau cynnar i deithio i'r gwaith, a nawr rwyf mewn perygl o wynebu camau disgyblu o ganlyniad i hyn am nad oes gennyf unrhyw ffordd arall o deithio'. Dywedodd un arall: 'Y 256 o Gastell-nedd i Bontardawe yw'r unig wasanaeth sy'n caniatáu i ddisgyblion gyrraedd ysgol Cwmtawe mewn pryd a gartref eto. Gan fod cymaint o rieni'n gweithio, ni allwn i gyd roi lifft ar y ffordd i'r gwaith. Rwy'n gweithio yn Llanelli i'r GIG—mae'n rhaid imi adael am y gwaith am 7.45 a.m.' Dywedodd un arall: 'Mae fy swydd fel gweithiwr cymorth plant rhan-amser ac athro ysgol gynradd rhan-amser yn golygu fy mod yn defnyddio bysiau yn y bore cynnar. Rwy'n dal y bws X6 am 7 a.m. yng Nghilmaengwyn i gyrraedd fy nwy swydd yn ardaloedd Castell-nedd ac Abertawe. Heb y gwasanaeth hwn am 7 a.m. nawr, rhaid i mi gael tacsi bob dydd i Bontardawe i ddal cysylltiad bws i Abertawe. Bydd hyn yn costio tua £50 yr wythnos i mi.'
'Ni allaf gyrraedd y gwaith', medd un arall, 'o Fargam i Brifysgol Abertawe erbyn 9 a.m., ac mae'n rhaid i mi yrru fy mab i Goleg Castell-nedd hefyd am nad yw'n gallu cyrraedd yno mewn pryd'. Dywedodd etholwr arall: 'Mae gwasanaeth 202 yn rhedeg o Gastell-nedd drwy Lansawel, Baglan, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac ymlaen i orsaf fysiau Port Talbot. Rwy'n fam weddw anabl i bedwar o blant. Gyda chanslo'r gwasanaeth hwn, ni fyddaf yn gallu cael fy mhlant i'r ysgol am na allaf gerdded yr 1.1 milltir yno ac yn ôl ddwywaith y dydd. Bydd tacsi, pe bawn i'n gallu archebu un yn ystod amseroedd ysgol mewn gwirionedd'—a buom yn siarad am hyn ddoe—'yn costio tua £8 bob ffordd, bedair gwaith y dydd i mi.'
Felly, mae toriadau i wasanaethau yn bendant yn cael effaith enbyd ar bobl, ac ar bobl anabl yn enwedig, y bobl sy'n dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus ond sydd eisoes yn cael anawsterau difrifol i gael mynediad at wasanaethau. Mae angen i'r Llywodraeth edrych ar ei gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru drwy'r lens honno a gweld a yw'n diwallu anghenion pobl anabl yn llawn, ac i asesu'n llawn beth yw effaith toriadau i wasanaethau ar fywydau pobl anabl, oherwydd mae problemau presennol fel anawsterau i gael ac adnewyddu tocynnau bws y maent yn gymwys i'w cael, sy'n achosi'r fath ofid i bobl anabl—ac rwyf eisoes wedi codi hyn sawl gwaith gyda'r Llywodraeth, ac nid wyf eto wedi cael y diweddaraf ar hyn yn dilyn llythyr y Dirprwy Weinidog ataf ar hyn ar 2 Awst—yn cael eu gwaethygu nawr gan y toriadau hyn, a bydd ond yn gwaethygu eto os na chynlluniwn ar gyfer y tymor hwy. Pan nad yw gwasanaethau'n ddibynadwy neu ar gael, mae pobl anabl yn gwbl gaeth i'w cartrefi, ac yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o gymdeithas, yn methu cael gwasanaethau a chymorth a rhwydweithiau cymdeithasol hanfodol.
Rydym yn gweld y problemau gyda'n gwasanaethau bysiau yn ynysu pobl anabl, yr henoed, pobl ifanc a phobl ar incwm is, y rheini sy'n dibynnu ar fysiau. Er y gellid unioni llawer o'r materion hyn drwy gyllid teg wrth gwrs, mae angen rheolaeth effeithiol gan y Llywodraeth ar y defnydd o'r cyllid hwnnw, a dealltwriaeth o effaith methiant i wella hygyrchedd gwasanaethau bysiau yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor. Mae'r argyfwng bysiau'n dyfnhau. Mae dyfnder yr argyfwng hwnnw'n faich ofnadwy ar ysgwyddau'r rhai lleiaf abl i'w gynnal. Mae angen gweithredu, Weinidog. Mae'r bobl y mae bysiau'n wasanaeth hanfodol iddynt yn mynnu hynny. Felly sut y bydd cynlluniau'r Llywodraeth i ddiogelu ac ehangu'r gwasanaethau'n mynd i'r afael â hyn? Sut y bydd angen yn cael ei flaenoriaethu?
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Gadewch inni fod yn hollol onest yma: mae ein diwydiant bysiau wedi torri, ac mae'n ddiwydiant bysiau. Sector preifat ydyw, sector sy'n cael ei yrru'n fasnachol. Dyna beth ydyw. Nid bysiau trefol yw hyn bellach, nid yw'n system reoledig sy'n dod â thocynnau ac amserlenni at ei gilydd ac yn y blaen. Mae'n dibynnu ar gymhorthdal cyhoeddus i redeg rhai llwybrau nad yw'r gweithredwyr masnachol yn credu eu bod yn hyfyw, ac yna maent yn ei ddarparu i ni. Wel, diolch yn fawr iawn.
Ac mae'r system wedi torri ers 1986. Gallwn i gyd gytuno bod y gwasanaeth bysiau wedi torri. Mae rhai ohonom yn amharod i ddweud pam ei fod wedi torri. Yn y bôn, mae wedi torri am nad oes gennym bobl yn rhan o hyn o gwbl. Nid oes gennym bobl yn penderfynu pryd mae'r bysiau'n gweithredu'r llwybrau y dylent eu gweithredu, i wneud yn union hynny—cael pobl i'r swyddi yn y gwasanaethau cymdeithasol, neu gael pobl i ymweld ag ysbytai. Nid oes gennym bobl sy'n gallu dweud pryd mae gwasanaeth pen uchaf cwm Afan a chwm Llynfi yn cael ei dynnu'n ôl wedi 5.30p.m. Oni bai bod y Gweinidog, neu Ben-y-bont ar Ogwr, neu Gastell-nedd Port Talbot, yn cyflwyno siec fawr o arian i ddweud, 'Os gwelwch yn dda, darparwch hyn', mae'r gweithredwyr yn dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n benderfyniad masnachol'. Mae wedi mynd. Felly nawr mae gennym ardaloedd mawr o'r rhan fwyaf gogleddol o fy nghymoedd wedi'u hamddifadu'n llwyr o drafnidiaeth fysiau. Mae yna ffyrdd o gwmpas hyn, ond mae angen inni fod yn gwbl onest, yn onest gyda'n gilydd ynglŷn â beth yw hyn, a rhoi'r gorau i siarad am faterion a mesurau dros dro.
Ym 1986, cafodd y bysiau eu dadreoleiddio. Llundain yw'r unig le yn y wlad gyfan lle ceir model masnachfraint cyflawn ar gyfer bysiau. Mae pob ardal fysiau ledled y DU gyfan wedi dirywio'n llwyr, nid yn unig yn ddiweddar—flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddegawd ar ôl degawd, o'r foment y cafodd ei newid i weithredu'n fasnachol yn unig, pob rhan o'r DU. Gyda llaw, lefarydd y fainc flaen ar drafnidiaeth a wrthododd dderbyn ymyriad gennyf—roeddwn yn mynd i nodi ein bod wedi colli 10 y cant o wasanaethau yng Nghymru yn ddiweddar. A'r unig reswm nad yw'r gwasanaethau hynny wedi'u colli ymhellach yw oherwydd cymhorthdal cyhoeddus sy'n dod i mewn i gadw'r llwybrau'n weithredol. Ond mae wedi gostwng 20 y cant yn Lloegr. Rydych chi'n sôn am hyn fel pe bai'n nefoedd ar yr ochr arall i Glawdd Offa, rydych chi'n gwrthod derbyn ymyriadau—sef eich hawl, wrth gwrs—ond ar yr ochr arall i Glawdd Offa, pan ddaeth yr arian brys ar gyfer y sector bysiau i ben ym mis Mawrth, fe orffennodd gwasanaethau y diwrnod hwnnw yn Lloegr yn rhai o siroedd canolbarth Lloegr a mannau eraill. Felly peidiwch ag esgus nad yw hon yn broblem ledled y DU.
Ond gadewch i mi droi at rai o'r atebion. Os ydym o ddifrif yn barod i wneud hyn, mae angen inni fynd ati'n flaengar ac yn gadarn fel Senedd i gefnogi camau i symud arian i fyny'r hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy. Nawr, nid yw hynny'n golygu ein bod yn parhau i adeiladu ffyrdd yn ddiddiwedd. Dylem adolygu pob ffordd i weld a allwch chi wneud hyn yn well, ac a ddylem roi arian tuag at fysiau fel y gallant ddefnyddio rhai o'r ffyrdd sy'n bodoli, ac a ddylem gael lonydd bysiau cyflym wedyn, systemau sy'n ffafrio bysiau ar oleuadau traffig, fel y gall pobl wneud dewis a dweud, 'Rwy'n mynd i gyrraedd canol y ddinas yn gynt ar y bysiau yn hytrach na bod yn unigolyn sy'n eistedd mewn car ar fy mhen fy hun'.
Ac rwyf innau'n gyrru, iawn? Rwy'n yrrwr, ond rwyf hefyd yn teithio ar fysiau a threnau. Byddem yn blaenoriaethu bysiau. Felly mae angen inni symud y cyllid sydd ar gael, sy'n gyfyngedig, tuag at fysiau. Os rhown arian tuag at fysiau, fel mae pawb wedi dweud heddiw, gan siarad yn angerddol—. Peidiwch â rhoi'r arian tuag at bethau eraill, rhowch yr arian tuag at fysiau yn gyntaf. Oherwydd fel y dywedwyd wrthym o'r blaen, nid oes gan wyth o bob 10 o'r bobl sy'n teithio ar fysiau unrhyw ddewis arall. Rwy'n gallu mynd yn y car, rwy'n gallu mynd ar y trên, rwy'n ddigon ffit i feicio. Nid oes gan y bobl eraill hyn ddewis ynglŷn â sut i gyrraedd y gwaith. Felly, os ydym yn mynd i fod o ddifrif am hyn, Natasha, ac os ydych chi am gael ymyriad fel y llefarydd ar hyn, byddwch o ddifrif ynglŷn â symud arian tuag at hyn dros amser.
Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Mae hefyd yn ymwneud â chyfiawnder hinsawdd. Mae hefyd yn golygu siarad am y materion sy'n ymwneud â theithio gwell ar fysiau, gwell gwybodaeth am fysiau, y math o beth a welais pan oeddwn yn Llundain fel AS. Yn yr unig le ym Mhrydain sydd â model wedi'i fasnachfreinio'n iawn o hyd, model rheoledig, gallech weld arwyddion a ddywedai, 'Mae eich bws saith munud yn hwyr, ond peidiwch â phoeni—mae un arall ar ei ffordd'. Gallech eistedd mewn cysgodfannau bysiau cynnes, cyfforddus a gwybod bod hwnnw'n ddewis roeddech chi'n ei wneud a oedd yn dda i'r amgylchedd, ac a fyddai hefyd yn eich cludo yno'n gyflymach ar draws Llundain na chael tacsi, ac yn y blaen. Roedd un tocyn yn caniatáu i chi fynd ar y tramiau a'r bws neu'r trên dros y tir i gyrraedd yr un pwynt. Roedd yn ardderchog, yn anhygoel. Maent wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. Pam? Oherwydd bod ganddynt system a reoleiddir. Felly, mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn, ac mae'n golygu dod â'r holl botiau arian sydd ar gael at ei gilydd—gan nad oes y fath beth â phot arian diwaelod—yn ogystal â sicrhau newid graddol i ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol. Un rhwydwaith. Un amserlen. Un tocyn. Cyflwynwch y Bil masnachfreinio. Gadewch inni edrych ar sut y defnyddiwn yr holl arian sydd ar gael i ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol drwy ein bysiau, a gadewch inni roi pobl o flaen elw am y tro cyntaf ers i Margaret Thatcher ddadreoleiddio'r bysiau.
Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno hyn, oherwydd rydym yn sôn am fysiau, ac mae hynny'n beth pwysig iawn, onid yw? Diolch hefyd i Huw am bwyntiau mor dda. Cytunaf yn llwyr â chi. Ni allwn sefyll yma, fel y gwnawn yn aml yn y Siambr hon mewn dadl, a gwneud dim ond beio pobl eraill a phethau eraill. Mae angen inni gydweithio o hyn ymlaen er mwyn datrys y mater. Rwy'n credu o ddifrif fod y Dirprwy Weinidog yn ymrwymedig i sicrhau bod gennym fodel bysiau gwell, yn angerddol am sicrhau bod gennym fodel trafnidiaeth gyhoeddus gwell, ac o ddifrif yn dymuno gweld hyn yn symud yn ei flaen. Mae gennym fodelau da iawn ym mhob cwr o'r byd. Rydym yn edrych tua'r Almaen, Ffrainc a Sbaen i weld sut beth yw buddsoddiad go iawn mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a manteision hynny i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Nid oeddwn yn mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw gan ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaethau ar fysiau, ac fel y dywedaf, teimlaf fod y Llywodraeth a’r Dirprwy Weinidog yn ymrwymedig i ddatblygu ein model bysiau. Ond mae yna lawer o bobl rydym yn eu cynrychioli nad oes ganddynt lais. Nhw yw'r bobl sy’n teithio ar ein bysiau. Nhw yw'r bobl dlotaf yn ein cymunedau. Nhw yw ein nyrsys. Nhw yw ein glanhawyr. Nhw yw'r bobl sy'n gweithio mewn siopau. Nhw yw'r rhai sy'n teithio ar ein bysiau am 5 a.m. a 6 a.m. yn y bore ac sy'n cyrraedd adref am 10 p.m. ac 11 p.m. yn y nos. Dyna pam y credaf ei bod yn bwysig cyfrannu at hyn, fel ein bod yn eu cadw nhw yn ein meddyliau.
Mae cymaint o bobl—a Sioned, fe sonioch chi amdanynt hefyd—nad ydynt yn gallu gyrru ceir am lawer o resymau. Ar wahân i Huw, a safodd yma a dweud ei fod wedi defnyddio bysiau, hoffwn i bob un ohonom feddwl am y peth, ac mae hyn yn fy nghynnwys i: pryd oedd y tro diwethaf i ni ddefnyddio bws?
Ddydd Sadwrn.
Diolch, Mike. [Chwerthin.] Mae pob un ohonom braidd yn euog yn y Siambr hon o fynd i mewn i'n ceir yn hawdd a meddwl, 'Gadewch inni fynd i'r lle hwn yn ein car.' Mae'n rhaid inni geisio dangos y newid rydym am ei weld, gan na all newid dulliau teithio ddigwydd oni bai ein bod yn defnyddio ein bysiau.
Hoffwn gloi gyda dau beth. Rydym wedi dweud bod angen inni gael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed, a tybed a allai Llywodraeth Cymru feddwl am hynny. Clywsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddydd Llun am ba mor bwysig yw meddwl am ein plant a’n pobl ifanc, a sut yr effeithir ar eu symudedd cymdeithasol drwy fethu cyrraedd lleoedd. Siaradaf ar ran y bobl yn ein cymunedau gwledig hefyd, fel y gwnaeth Cefin.
Ond rwyf am gloi gyda geiriau Janet Pearson o Adpar yng Ngheredigion, a ysgrifennodd ataf am Fflecsi Bwcabus. Dyma ei geiriau hi:
'Mae rhai grwpiau o bobl yn y DU, yn enwedig yr henoed, pobl anabl a’r rhannau tlotach o’n cymdeithas, eisoes yn cael eu hesgeuluso ac yn cael fawr ddim parch gan rai o’r grwpiau sy’n aml mewn grym. Bydd y penderfyniad i atal gwasanaethau Bwcabus ond yn cynyddu ymyleiddio o'r fath yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd.'
Dyna pam fod y ddadl hon yn bwysig. Dyna pam ein bod yn parhau i sôn am fysiau. Oherwydd bod rhannau helaeth o'n cymunedau a gynrychiolir gennym yn cynnwys y bobl dlotaf, na allant fforddio ceir, ac mae angen inni barhau i weld gwasanaeth gwell yn datblygu.
Fy nghwestiwn olaf i’r Dirprwy Weinidog: os maddeuwch mwyseirio, beth yw’r amserlen ar gyfer y Bil bysiau hwn? Credaf fod Alun newydd ddweud mis Ionawr, ond ni chredaf ein bod yn gwybod. Felly, yn eich ymateb, efallai y gallech roi amlinelliad ac amserlen ar gyfer pryd y bydd y Bil hollbwysig hwn yn cael ei gyflwyno i ni yma yn y Senedd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon. Roedd Jane Dodds yn peri'r cwestiwn i ni i gyd o ran yr her o ddefnyddio bws: pam dydyn ni ddim yn defnyddio bws? Efallai fod yna ddim gwasanaeth bws i ni ei gyrraedd, efallai eich bod chi ddim yn teimlo'n ddiogel i gerdded yn y tywyllwch. Mae gennym ni opsiynau os dŷn ni'n gallu fforddio ceir, ac i nifer ohonon ni, mae bysys yn handi i'w dal weithiau, neu os dŷn ni eisiau gwneud ein hunain i deimlo'n dda a chael ein gweld gan etholwyr. Ond i nifer dŷn ni'n eu gwasanaethu, a dyna'r straeon dirdynnol dŷn ni'n eu clywed, does yna ddim opsiwn arall. Ac mae'n rhaid inni feddwl, nid yn unig—. Mae'n un peth o ran sicrhau bod gwasanaethau i bobl newid o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, fel sy'n digwydd mewn nifer o wledydd yn rhyngwladol, ond mae'n rhaid inni, efo hyn, feddwl am y bobl hynny sydd yn hollol ynysig ar y funud, sydd yn gorfod dibynnu ar dacsis i fedru cyrraedd gwasanaethau cyfan gwbl hanfodol, sydd yn hwyr i'r gwaith, a ddim jest eu bod nhw'n hwyr i'r gwaith ond sy'n colli allan ar gyflogau, sy'n methu nôl eu plant o'r ysgol.
Dwi wedi sôn o'r blaen am fam a oedd wedi cysylltu efo fi yn torri'i chalon oherwydd ei bod hi'n poeni am ddiogelwch ei phlant yn gorfod cerdded adref o'r ysgol yn oed ifanc ofnadwy ar hyd lôn beryglus, gan ei bod hi yn hwyr i'w casglu nhw oherwydd bod y bysys yn ddiffygiol. Dyma'r math o realiti sy'n wynebu pobl, a dyna pam dŷn ni angen gwybod yr amserlen honno a gwybod pryd fydd y newidiadau yma'n digwydd i bobl yn ein cymunedau ni. Dŷn ni i gyd yn derbyn bod angen y gwasanaethau yma. Dŷn ni'n derbyn bod angen gwelliannau. Ond i bawb allan yna sydd yn methu cyrraedd apwyntiadau, sy'n eu colli nhw ar y funud, sy'n methu cyrraedd cyfleon gwaith neu, fel dŷn ni'n dweud, ysgol a chyfleoedd addysgol—maen nhw eisiau gwybod pryd fydd y newid yma.
Mi gysylltodd y Cynghorydd Sera Evans o Dreorci gyda mi y prynhawn yma dim ond i ddweud am y cwynion lu mae hi'n eu derbyn am y gwasanaeth bws 121 yng Nghwmparc. Mae Cwmparc, os dŷch chi'n adnabod yr ardal, yn ardal sydd yn serth dros ben, a dydy pobl hŷn ac anabl methu cyrraedd y brif lôn. Maen nhw'n ei chael hi'n eithriadol o anodd a dydy hi ddim chwaith yn hawdd cael tacsi, yn aml iawn, i gyrraedd apwyntiadau ac ati. Felly, dŷn ni'n sôn am ardal boblog fan hyn—dwi'n derbyn pwynt Cefin yn llwyr o ran ardaloedd gwledig, ond mae yna nifer o bobl hefyd sydd o fewn trefi, yn gallu gweld canol tref a methu cyrraedd yno. Wedyn, mae hon yn broblem sydd ledled Cymru ac yn un dŷn ni i gyd efo straeon torcalonnus amdani.
Mae'n stori debyg yn y Barri. Cymerwch, er enghraifft, y gyfnewidfa fysiau newydd yn y dociau, y gwn fod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu cyllid tuag ati. Mae'n edrych yn ffantastig. Mae yno bedwar safle bws, ond dim bysiau'n rhedeg o gwbl. Felly, mae angen inni feddwl am gael dull gweithredu cydgysylltiedig hefyd. Nid oes pwynt buddsoddi yn y cyfnewidfeydd gwych hyn os nad oes bysiau i'w gwasanaethu.
Testun pryder arbennig i mi hefyd, fel llefarydd addysg Plaid Cymru, yw cludiant i'r ysgol, neu’n hytrach, y diffyg cludiant i'r ysgol, a sut mae hyn yn cael effaith negyddol ar lefelau presenoldeb, ac felly ar gyrhaeddiad, ond hefyd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Fel y gwyddom, bob wythnos, mae miloedd o blant yng Nghymru yn dibynnu ar wasanaethau bws i fynd â nhw i ac o’r ysgol. Fel yr adlewyrchwyd yn yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn 2021, mae rhieni a disgyblion fel ei gilydd wedi cwestiynu addasrwydd y fframwaith deddfwriaethol i ddarparu ar gyfer anghenion presennol cymdeithas, yn enwedig pan nad oes opsiynau trafnidiaeth eraill ar gael, neu yn hollbwysig, pan nad ydynt yn fforddiadwy i lawer o deuluoedd. Mynegodd bron i 60 y cant o’r ymatebwyr i’r adolygiad bryderon nad yw’r radiws o 2 a 3 milltir yn y ddeddfwriaeth bresennol yn rhoi ystyriaeth ddigonol i faterion yn ymwneud â lles plant, megis problemau ymhlith plant ysgol uwchradd a allai fod ag anableddau corfforol. Mewn gwahanol rannau o Gymru, clywsom hanesion am blant yn gorfod cerdded am bron i awr i gyrraedd yr ysgol, yn aml ar hyd ffyrdd prysur, gan nad oes llwybrau beicio diogel ychwaith. Ac mae'n broblem arbennig yn ein Cymoedd, lle mae llawer o fryniau ac ychydig iawn o lwybrau cerdded diogel—
A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf, wrth gwrs.
Os caf gyflwyno awgrym. O gofio'r hyn a ddisgrifiais fel y pot cyfyngedig o arian y bydd yn rhaid inni ymgodymu ag ef bob amser, a chan gofio bod yna rai enghreifftiau gwirioneddol dda o sut mae cludiant i'r ysgol wedi'i ymgorffori yn y rhwydwaith trafnidiaeth safonol, felly, gallwch gael y gwasanaethau hynny’n mynd i rai o’r cymunedau y soniwn amdanynt sy'n cael eu colli, ac rydych yn defnyddio'r bysiau ychwanegol ar yr adegau o’r dydd pan fydd yr ysgolion ar agor, ond mewn gwirionedd, rydych yn defnyddio’r model trafnidiaeth safonol, ac mae’n datblygu annibyniaeth—a ydych chi'n credu y gallai hynny fod yn ffordd ymlaen?
Yn sicr, rwy'n credu bod—. Os cymerwch, er enghraifft—gwn fod Ruben Kelman, sy'n Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, wedi ymgyrchu ers tro ar ran Ysgol Uwchradd Llanisien, lle nad yw rhai plant yn gallu mynd ar y bws am na allant fforddio'r tocyn. Felly, dyna enghraifft o fysiau'n mynd heibio a phlant a phobl ifanc yn methu fforddio bws sydd ar gael. Credaf fod yna atebion, ond y peth gwaethaf yw ein bod yn gwybod bod y bobl ifanc hyn wedi dweud wrthym na allant gyrraedd yr ysgol, mae yna fws na allant fynd arno, bws y gwrthodwyd mynediad iddynt rhag mynd arno, ac eto, mae'r broblem honno'n parhau. Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn, ac ni chafwyd ateb.
Felly, yn hollbwysig, pan fo gwasanaeth yno, sut na allwn ddod o hyd i'r ateb? Gwyddom fod pobl ifanc wedi dioddef cymaint o darfu. Mae pethau y gallwn eu gwneud—amlinellodd Huw Irranca-Davies un—ond mae angen inni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ni waeth ble maent yn byw, yn gallu cael cludiant diogel, effeithlon ac am ddim i'r ysgol.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Yn bersonol, mae gennyf bryderon ac amheuon mawr, ac mae Heledd Fychan newydd amlinellu rhai ohonynt nawr mewn gwirionedd. A dweud y gwir, nid wyf am ailadrodd popeth y mae hi newydd ei ddweud, ond rwyf am gytuno â'r hyn a ddywedodd am gludiant i'r ysgol, ac mae gennyf bryderon ynghylch y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pob dysgwr uwchradd yn lle cerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol.
Ond os yw polisi yn symud nawr tuag at roi’r gorau i gerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol, a gorfodi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ysgolion uwchradd, (1), carwn awgrymu bod y Dirprwy Weinidog yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'w defnyddio, oherwydd ar hyn o bryd, mae prinder llwybrau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mewn gwirionedd, rydym yn gweld llwybrau’n cael eu torri. Ond (2), ac mae'n bwysig iawn, dyma pam rwy'n ymyrryd heddiw, os yw ysgol o fewn llwybr bws, rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth hon sicrhau bod pob cyngor ledled Cymru, Stagecoach, rhanddeiliaid a'r comisiynydd trafnidiaeth yn sicrhau eu bod yn gweithio’n drawsffiniol, yn draws-sirol, ar draws y wlad i sicrhau bod y llwybr hwnnw wedi'i lunio o gwmpas yr ysgol. Mae gennyf ddysgwyr ifanc yn fy rhanbarth sy'n aros hyd at 45 munud cyn ac ar ôl yr ysgol am y bws cyhoeddus, neu i'r ysgol agor am nad yw'r llwybr bws y maent arno yn cyd-fynd ag oriau ysgol. Dyna 45 munud yn yr oerfel, y glaw a’r tywyllwch, yn sefyll y tu allan i’r ysgol ar ddechrau neu ar ddiwedd y dydd, ac nid yw hynny’n ddigon da, Ddirprwy Weinidog. Mae angen i bob llwybr, pob bws sydd ag ysgol ar ei lwybr, ffitio o amgylch y diwrnod ysgol hwnnw. Mae'n gwbl hanfodol fod y broblem hon yn cael ei datrys cyn gynted â phosibl, gan fod pryderon amlwg o ran diogelu a llesiant, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn ymateb gyda pha gamau y mae'n mynd i'w cymryd ar hyn heddiw. Diolch yn fawr.
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyfrannu a chyflwyno gwelliant 1, os gwnewch chi. Anghofiais i ofyn ichi gyflwyno gwelliant 1 yn gynt yn y ddadl.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid brys i’r diwydiant bysiau.
Yn nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r gwasanaeth Bwcabus.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae yn eich enw chi, felly rydych yn iawn.
Iawn.
Diolch.
Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfraniadau. Pryd bynnag y byddwn yn trafod y mater hwn yn y Siambr, credaf mai'r hyn sydd bob amser yn glir iawn yw bod pobl yn malio am fysiau, ac nid yw'r gwasanaeth bysiau yn bodloni ein huchelgeisiau ar hyn o bryd o ran sut y dylai gwasanaeth bysiau weithredu. Credaf fod unfrydedd ar draws y Siambr ynglŷn â hynny, ac mae hynny’n rhywbeth cadarnhaol y gallwn adeiladu arno. Cafwyd ymateb Gweinidogol meistrolgar i’r ddadl gan Huw Irranca-Davies. Mae wedi gwneud llawer o’r pwyntiau y buaswn i wedi’u gwneud, felly nid wyf am eu hailadrodd, ond rwyf am ddefnyddio fy amser i ymateb i gymaint â phosibl o’r pwyntiau a wnaed yn y ddadl.
Gadewch imi ddechrau gyda mater y gronfa bontio ar gyfer bysiau. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario £139 miliwn eleni ar gefnogi gwasanaethau bysiau, gyda £46 miliwn o'r ffigur hwnnw yn mynd ar y gronfa bontio arbennig ar gyfer bysiau. Yn ychwanegol at hynny, mae cyllidebau ysgolion yn cyfrannu oddeutu 25 y cant o’u holl gyllid i ariannu cludiant i'r ysgol, felly rydym yn gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus ar gefnogi’r diwydiant bysiau. Nawr, ni ellir dweud nad yw’r Llywodraeth hon yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus neu fysiau pan fyddwch yn cydnabod y ffigurau hynny. Y broblem sydd gennym yw nad yw hynny’n digwydd mewn ffordd ddigon strategol, ac mae’n cael ei roi drwy gwmnïau preifat sydd, yn amlwg, dan orfodaeth fasnachol i wneud yr elw mwyaf posibl. Dyna’r gwendid sylfaenol yn ein system, a dyna mae ein Bil bysiau a’n Papur Gwyn wedi’u cynllunio i'w unioni.
Nawr, credaf mai’r broblem sylfaenol y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ati yw mai COVID oedd ei diwedd hi ar system doredig wedi'i phreifateiddio, ac mae cyni'n llesteirio ein gallu i ymateb i’r argyfwng y mae hynny wedi’i greu. Dyna yn ei hanfod yw’r broblem sydd gennym. Ac roeddwn yn gwrando'n astud ar gyfraniadau'r Aelodau am rai atebion y gallwn eu hystyried nad ydym wedi rhoi cynnig arnynt eisoes, ac fe'i cefais hi'n anodd clywed unrhyw un o gwbl. Rwy’n deall y problemau, ac rwyf innau hefyd yn cael e-byst gan etholwyr sy’n ddig am y toriadau, yn enwedig pobl ym Mhorth Tywyn a Chydweli, a'r gwasanaeth X11, sydd wedi’i gwtogi o ddau wasanaeth yr awr i un gwasanaeth yr awr. Rwy'n deall, ac rwy'n rhannu eu siom a'u rhwystredigaeth.
Beth rydym yn ei wneud am y peth? Y broblem sylfaenol sydd gennym yw bod gennym system breifat lle mae ei model masnachol wedi disgyn yn ddarnau oherwydd COVID, ac nid yw niferoedd teithwyr ledled y byd wedi dychwelyd i'r hyn yr arferent fod. Yn syml, nid yw'r refeniw yno i'r rhan fwyaf o wasanaethau bysiau redeg ar eu telerau eu hunain, felly dim ond gyda chymorth y Llywodraeth y gallant redeg. Nawr, sylwaf fod Sioned Williams wedi nodi enghraifft Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae’n werth cofio bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau bysiau lle mae angen cymdeithasol a lle mae’r farchnad yn methu gwneud hynny, ac mae Castell-nedd Port Talbot yn un o dri chyngor yng Nghymru nad ydynt yn cyfrannu unrhyw arian o’u cyllidebau eu hunain tuag at gefnogi’r rhwydwaith bysiau lleol, ac mae honno'n her yn fy marn i. [Torri ar draws.] Iawn, â phleser.
Hoffwn ddweud bod y gwariant hwnnw wedi’i dorri gan y weinyddiaeth Lafur flaenorol yng Nghastell-nedd Port Talbot a’i dynnu allan o’r gyllideb sylfaenol, felly nid oedd yno wedyn i weinyddiaeth bresennol Plaid Cymru a’r aelodau annibynnol allu ei ddefnyddio, felly'r unig ffordd y byddent yn gallu gwneud hynny, ac maent wedi ceisio llenwi'r bwlch, yw allan o'r cronfeydd wrth gefn.
Wel, mae'n deall yr her o fod mewn grym, onid yw, lle nad yw'r arian sydd ar gael yn ddigon ar gyfer y dyheadau sydd gennym yn aml, a dyna'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu pob un ohonom. Felly, mae'n hawdd tynnu sylw at y diffygion, ond beth rydym yn ei wneud? Beth rydym yn ei wneud am y peth? [Torri ar draws.] Mae’n ddull tymor byr, ydy, ond pan fo gennych gyllidebau cyni, nid oes gennych unrhyw ddewis ond gweithredu o fewn yr amlen ariannu sydd gennych, ac mae’n eich gyrru tuag at benderfyniadau nad ydych am eu gwneud, ond nad oes gennych lawer o ddewis ond eu gwneud. Nid oes dim y byddai'n well gennyf ei wneud na—. Rwyf wedi dweud droeon wrth y Siambr hon ein bod am gyflwyno pris tocyn bws safonol o £1 i Gymru gyfan. Cytunodd y Cabinet, fe wnaethom ei gefnogi, fe wnaethom yr holl waith modelu ar ei gyfer, a hyd nes i gyllideb Liz Truss ddinistrio'r economi, roeddem yn credu bod yna obaith bach y gallem ddod o hyd i’r £19 miliwn ychwanegol y byddai’n ei gostio i wneud hynny, a chredaf y byddai hwnnw wedi bod yn fesur cyfiawnder cymdeithasol pwysig iawn, byddai wedi bod yn fesur newid hinsawdd pwysig iawn; yn sicr, byddai wedi fy helpu gyda’r feirniadaeth ynghylch yr adolygiad ffyrdd a chyflwyno'r terfyn 20 mya. Felly, mae pob math o fanteision i wneud hynny. Ond yn syml iawn, nid oedd gennym yr arian pan ddinistriwyd yr economi a phan ymddangosodd tyllau enfawr yn ein cyllidebau. Ond nid oes unrhyw amheuaeth beth rydym yn dymuno'i wneud; mae a wnelo â'n gallu i'w wneud, o ystyried y cyfyngiadau sydd arnom.
Soniodd Cefin Campbell a Jane Dodds ill dau am gynllun Bwcabus, ac unwaith eto, rwy'n ymwybodol iawn o anghenion ardaloedd gwledig, ac rwy’n gwneud gwaith ar hyn o bryd lle rwy'n edrych ar y modelau sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ledled Ewrop. Mae’r rhain yn ddewisiadau gwleidyddol, mae’r rhain yn ddewisiadau ariannol, y mae pob un ohonom yn eu gwneud, a hoffwn ddweud yn garedig wrth yr Aelodau: ceir llawer o ddadleuon yn y Siambr hon pan fydd galwadau’n cael eu gwneud a chefnogaeth yn cael ei rhoi i gynlluniau rheilffyrdd drud, i gynlluniau ffyrdd drud, ond nid mor aml i wario’r cyllid hwnnw yn lle hynny ar wasanaethau bysiau. Mae'r rhain yn ddewisiadau 'swm sero'. Os ydych am wario £1 biliwn ar reilffordd drwy ganolbarth Cymru, neu’n agos at £100 miliwn ar ffordd osgoi wledig, nid yw’r arian hwnnw ar gael wedyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Ni all yr Aelodau ei chael hi'r ddwy ffordd, a daeth y cyllid ar gyfer Bwcabus o arian Ewropeaidd. Pan bleidleisiodd pobl dros adael yr UE, fe wnaed penderfyniad i beidio â defnyddio’r cyllid hwnnw mwyach, a dywedodd Llywodraeth y DU y byddent yn darparu arian yn ei le, ac ni wnaethant hynny. Felly, credaf fod ein beio ni am beidio â chefnogi Bwcabus er nad ein cynllun ni ydoedd yn y lle cyntaf, ond cynllun a ariannwyd gan Ewrop, yn annheg. Buaswn wedi bod wrth fy modd yn gweld cynllun Bwcabus yn parhau. Ychydig iawn o deithwyr a oedd ganddo, ond roedd yn darparu gwasanaeth pwysig mewn ardaloedd gwledig. Ac rwy'n gresynu'n fawr ei fod wedi dod i ben, ond credaf fod y syniad fod hwn yn ddewis syml ac mai arnom ni mae'r bai yn anonest.
Hoffwn droi at y pwynt a wnaeth Natasha Asghar ynghylch effaith terfynau cyflymder 20 mya, ac rwyf newydd ddod o gyfarfod â rheolwr gyfarwyddwr cwmni bysiau, a gofynnais y cwestiwn hwn iddo'n uniongyrchol. Gofynnais iddo am asesiad gonest o effaith 20 mya ar ei wasanaethau, a dywedodd, 'Os gofynnwch i'r gyrwyr bysiau, mae'n ddiwedd y byd, ond nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'r gwahaniaeth yn fach iawn,' yw'r hyn a ddywedodd wrthyf. Nawr, mae rhywfaint o hyn oherwydd nad yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithrio ffyrdd y gallent fod wedi'u heithrio o'r terfyn 20 mya ar lwybrau bysiau rheolaidd, ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno eto. Mae hefyd yn adlewyrchiad o brinder mesurau blaenoriaeth i fysiau gan awdurdodau lleol. Nawr, rwyf wedi erfyn ar awdurdodau lleol i wneud cais am fesurau blaenoriaeth i fysiau, a phrin yw'r cynigion wedi bod, ond rydym wedi ariannu £6 miliwn eleni a £5 miliwn y flwyddyn nesaf i greu’r mesurau hyn, a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fysiau dros geir mewn mannau lle ceir tagfeydd, gan wella eu dibynadwyedd a helpu i annog teithwyr i’w defnyddio. Felly, credaf fod hynny'n sicr yn un o'r pwyntiau.
Gwnaeth Laura Anne Jones y pwynt am ei phryder a’i nerfusrwydd ynglŷn â gofyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd ddefnyddio gwasanaethau bws wedi’u hamserlennu yn hytrach na gwasanaethau bws ysgol annibynnol, ac rwy’n deall y pryder, ac mae’n un cyffredin, ac mae hynny am nad ydym wedi arfer â phlant yn teithio'n annibynnol, gan ddefnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi eu neilltuo mewn gwasanaeth annibynnol, nad yw wedyn yn creu'r arferion iddynt eu defnyddio drwy gydol eu hoes. [Torri ar draws.] Gadewch imi orffen y pwynt, ac yna rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Cyfarfûm ag awdurdod lleol sir Fynwy yr wythnos diwethaf i drafod hyn, gan fod ganddynt eu cynllun eu hunain, sy’n adlewyrchiad o’r ffaith bod y farchnad wedi methu yn sir Fynwy, felly mae’r cyngor wedi gorfod camu i'r adwy. Credaf fod manteision mawr, fel y mae Caerdydd a Chasnewydd yn ei wneud yn rhannol, i ddefnyddio’r gwasanaeth bysiau masnachol—mae'n ddrwg gennyf, y gwasanaeth bysiau wedi’i amserlennu—ar gyfer trafnidiaeth ysgol, a dyna un o’r pethau rydym yn bwriadu eu cynnwys yn y model masnachfreinio fel bod y gwasanaethau yno ac ar gael i bawb, ac yna ein bod yn defnyddio'r cyllid sydd gennym yn llawer mwy craff i gefnogi gwasanaeth bws integredig. Rwy’n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n ymwybodol o rai o fy etholwyr sy’n poeni am fynd ar fysiau cyhoeddus. Dywedais 'rai' pobl rwy'n poeni amdanynt. Pobl ifanc 11 i 12 oed rwy'n poeni amdanynt, merched ar eu pennau eu hunain yn enwedig. Mae gennyf etholwr sy'n ferch ac sy'n mynd ar fws am oddeutu pedair milltir ar ei phen ei hun mewn ardal wledig, ac ni chredaf fod hynny'n iawn. Nid yw ei mam yn credu ei fod yn iawn, ac mae'r ferch yn dioddef o orbryder yn ei gylch, oherwydd yn amlwg, mae gennych nosweithiau tywyllach nawr yn enwedig, ac yn y glaw a'r oerfel, mae'r cyfan yn ychwanegu at y gorbryder hwnnw. Ac felly, mewn rhai achosion, nid yw'n briodol. Mewn trefi a phethau felly, lle mae llawer o blant yn mynd ar fysiau gyda'i gilydd, efallai y gellid edrych arno, ac rwy’n cytuno ei fod yn iawn mewn rhai achosion. Ond mewn rhai achosion, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, nid yw'n iawn.
Ymyriad yw hwn. Diolch.
Mae'n ddrwg gennyf.
Mae'n iawn.
Wel, rwy’n cydnabod bod yna bryder go iawn. Credaf fod llawer o hyn yn ymwneud â hyder, ac mae'n ymwneud â bod wedi arfer â gorfod ei wneud, a chredaf fod angen inni edrych ar ble y gallwn ddarparu rhywfaint o gymorth a rhywfaint o hyfforddiant i feithrin hyder i allu defnyddio bysiau. Yn eironig, credaf y gallai bysiau cyhoeddus fod yn fwy diogel i rai plant, oherwydd gadewch inni beidio â delfrydu profiad y plentyn ar y bws ysgol. Rwy'n siŵr y bydd gan lawer o bobl yn y Siambr hon atgofion eithaf trawmatig o deithio ar fws ysgol, ac efallai y bydd bws cyhoeddus, lle rydych gydag oedolion eraill ac aelodau eraill o'r gymuned yn amgylchedd mwy digynnwrf a mwy priodol.
Rwy'n ymwybodol fod amser yn fy erbyn. Nid wyf wedi ymateb i bob pwynt yr hoffwn fod wedi ymateb iddynt. Dim ond i ddweud, rydym mewn sefyllfa ariannol dynn iawn. Rydym wedi ymrwymo i geisio diogelu cymaint o wasanaethau bysiau ag y gallwn, gan gydnabod bod cost rhedeg y gwasanaethau bysiau hynny'n cynyddu a bod hynny’n bwyta i mewn i'r cyllid sydd ar gael, ac rydym yn wynebu dewisiadau tymor byr gwirioneddol anodd. Ein her yw symud o'r sefyllfa rydym ynddi i fasnachfreinio, gan y credaf fod masnachfreinio yn caniatáu inni lunio rhwydwaith deallus, integredig lle gall bysiau a threnau ddod ynghyd, lle gall gwasanaethau ysgol gysylltu â gwasanaethau eraill, lle gellir cynllunio anghenion cymunedau yn rhan ohonynt a lle gellir talu croes-gymhorthdal rhwng gwasanaethau sy'n gwneud elw a gwasanaethau sy'n gwneud colled. Credaf fod pob un ohonom yn cytuno mai dyna’r lle iawn i'w gyrraedd. Rydym yn gweithio’n galed iawn ar lunio’r ddeddfwriaeth honno a’r system i gyd-fynd â hi, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth y flwyddyn nesaf. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod fy amser ar ben ac na allaf dderbyn ymyriad, mae arnaf ofn. Ond os caf ddychwelyd at y pwynt cychwynnol, rwy'n credu bod pob un ohonom yn rhannu dyhead i’r system fod yn well, ynghyd â chydnabyddiaeth o ba mor bwysig yw hi, ac os oes gan Aelodau atebion ymarferol, rwy’n glustiau i gyd.
Delyth Jewell, nawr, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl.
Soniodd Natasha am yr angen am sicrwydd o gyllid yn y dyfodol, a dyfynnodd arweinwyr diwydiant sy’n sôn am ymyl dibyn. Soniodd Natasha hefyd am y penderfyniad i ganslo rhan o HS2 a rhai o’r cynlluniau eraill sydd wedi’u haddo. Gwn fod gwahanol safbwyntiau ar hyn yn y Siambr, ond roedd hynny’n rhan o gyfraniad Natasha hefyd.
Soniodd Alun am yr effaith y mae toriadau i fysiau yn ei chael ar bobl yn ei ardal, y modd y mae bysiau’n ein cysylltu, a soniodd Alun am y ffordd y cafodd Llundain ei hachub rhag preifateiddio’r rhwydwaith bysiau. Credaf fod cymaint y mae'n rhaid i ni, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn gwahanol rannau o'r DU, ei ddysgu o hynny. Mae wedi dod i’r amlwg mewn rhai o’r cyfraniadau gwahanol fod stigma, weithiau, ynglŷn â defnyddio bysiau nad yw'n bodoli yn Llundain. Fel y dywedodd Alun, mae angen gwasanaeth bws rhagorol arnom. Soniodd Huw, yn ei gyfraniad, am enghraifft Llundain hefyd, a sut y gallwch weld ar y sgrin fod eich bws ddau funud yn hwyr. Pan oeddwn yn byw yn Llundain, rwy'n cofio sut yr arferwn ddigio pe bawn yn gweld bod yn rhaid aros dau funud am fws. Nid oeddwn yn gwybod pa mor lwcus oeddwn i, Lywydd, ond dyna ni.
Gwnaeth Mark ymyriad, ac rwy’n cytuno bod Llywodraethau olynol yn San Steffan wedi gwneud cam â Chymru mewn perthynas â thrydaneiddio, er nad wyf yn credu y dylem fod yn ddiolchgar mai dim ond 2 y cant o’n llwybrau rheilffyrdd sydd wedi'u trydaneiddio. Ond rwy'n cytuno bod Llywodraethau olynol wedi bod yn gyfrifol am y methiant hwn neu wedi bod yn rhan ohono.
Diffygion y system trafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig oedd ffocws Cefin, a'r effaith mae hynny yn ei gael ar dlodi, a'r toriadau i Bwcabus, a'r effaith gymdeithasol difrifol mae'r toriadau yna yn ei gael.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn nwydd cyhoeddus—
—ac roedd hynny yn glir o beth roedd Cefin yn ei ddweud.
Soniodd Altaf am effaith toriadau yn y pentref lle mae'n byw, ac yn aml, nid oes gan bobl ddewis arall yn lle'r bws, a bod pobl oedrannus, i bob pwrpas, yn gaeth i'w cartrefi. Pan fydd llwybr wedi'i ddiddymu, meddai, mae hi bron yn amhosibl ei gael yn ôl, sydd mor aml yn wir. Cytunaf ein bod yn cael ein siomi’n arw mewn cymaint o ffyrdd yng Nghymru o ran yr opsiynau, neu’r diffyg opsiynau, trafnidiaeth gyhoeddus, a tybed a fyddai Altaf yn cytuno mai’r ffordd o fynd i'r afael â hyn ac o unioni hyn yw datganoli’r pwerau hynny i Gymru, yn hytrach na bod cenedl arall yn penderfynu ar gynifer o bethau ar ein cyfer.
I etholwyr Sioned, neu rai o etholwyr Sioned hefyd, mae bws yn aml yn hanfodol—i bobl sydd yn methu gyrru, pobl hŷn, pobl ifanc, pobl sydd yn methu fforddio car. A'r toriadau gan First yn lleol, fel oedd Altaf hefyd wedi cyfeirio atynt.
Dyfynnodd Sioned eiriau un o’i hetholwyr, sy'n gorfod gwario £50 yr wythnos ar dacsis, sy'n—. A bydd hynny'n digwydd i bobl ledled Cymru. Soniodd am yr effaith anghymesur y bydd yn ei chael ar bobl anabl, sydd mor bwysig i ni ei gofio.
Dywedodd Huw fod ein diwydiant bysiau wedi torri, ac olrheiniodd y problemau hynny yn ôl i breifateiddio’r gwasanaeth yn y 1980au. Nid yw'r farchnad yn darparu ar gyfer y bobl sydd ei angen fwyaf. Ac roeddwn yn credu bod syniad Huw am lonydd penodol i fysiau yn ddiddorol. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da, oherwydd os nad oes gan bobl opsiynau, pam na ddylem ei gwneud yn haws i ddefnyddio’r opsiynau hynny, fel bod llai o bobl yn penderfynu gwneud y peth hawdd a defnyddio'u ceir? Mae'n syniad diddorol.
Soniodd Jane am rai o’r modelau rhyngwladol eraill y gallwn ddysgu oddi wrthynt. Dywedodd mai'r bobl sy'n teithio ar fysiau sydd â'r lleiaf o lais yn aml. Rwy'n credu ichi ddyfynnu un o’ch etholwyr, Jane, a ddywedodd fod grwpiau penodol yn ein cymdeithas yn cael eu diystyru. Yn union. Codwyd y pwynt hwnnw bron ar unwaith gan Heledd—
—achos gofynnodd Heledd pam mae cyn lleied ohonom ni yn defnyddio'r bws. Mae angen gwneud mwy na chael gwasanaethau yn unig—pwynt Alun eto:
mae defnyddwyr bysiau'n haeddu rhagoriaeth.
Mae daearyddiaeth y Cymoedd hefyd yn golygu bod pobl mewn trefi weithiau wedi eu hynysu. Mae hynny'n rhywbeth dŷn ni ddim wastad yn meddwl amdano fe, ond, achos y bryniau a phopeth, mae hynny'n bwynt rili pwysig inni ei gofio.
Ac mae'r effaith ar blant ysgol yn effeithio ar gymaint o bobl.
Codwyd y pwynt hwnnw gan Laura—y pryderon sydd gan Laura hefyd ynglŷn â chludiant i'r ysgol. Dylai bysiau fod yn ganolog i anghenion cymunedau, a dylent fod yn atebol i anghenion cymunedau, nid corfforaethau—rwy’n cytuno. Gwn y bydd gennym safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pham ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon, ond credaf fod y sector a breifateiddiwyd yn gwneud cam â ni.
Canfu’r Dirprwy Weinidog rywfaint o unfrydedd yn y Siambr, sydd bob amser yn ddefnyddiol, a nododd yr heriau ariannol. Rwy'n cydnabod y rheini, a dyna pam fod rhan olaf ein cynnig yn cyfeirio at yr angen am gyllid canlyniadol o gyllid HS2. Rwy'n gobeithio'n fawr fod hwnnw’n dal i fod yn bwynt y mae pawb yn y Siambr yn cytuno arno. Mae’r diwydiant sydd gennym, fodd bynnag, yn ychwanegol at hynny, hyd yn oed y tu hwnt i hynny, wedi torri. Mae preifateiddio a dadreoleiddio yn arwain at sefyllfa lle mae'r bobl sydd fwyaf o angen gwasanaethau yn colli eu llais, ac mae hynny’n rhan anochel o’r drafodaeth hon.
Mae budd bysiau i'n cymunedau yn fwy na chludo pobl o A i B yn unig; maent yn cysylltu pobl. I lawer o bobl, credaf ei fod yn ymwneud â rhywbeth heblaw dal bws i gyrraedd achlysur cymdeithasol; mae bod ar y bws ynddo'i hun yn rhywle i bobl weld eu ffrindiau, lle iddynt fynd i deimlo'n llai unig. Rwy’n cofio, pan oedd fy mam-gu'n hŷn, roedd wrth ei bodd yn dal y bws am ei bod yn gweld ei ffrindiau ar y bws. Roedd yn ymwneud â mwy na ble roedd hi'n mynd; roedd hi'n hoffi dal y bws. Fe'i disgrifiwyd gan Cefin fel hyb cymdeithasol. Roedd gan fy mam-gu lun mewn man blaenllaw yn ei byngalo—y peth cyntaf a welech wrth fynd drwy’r drws blaen—ohoni'i hun yn sefyll y tu allan i’r bws gyda’i ffrindiau a oedd yn arfer dal y bws gyda hi, ac roedd y gwasanaeth bws hwnnw mor bwysig iddi. Roedd yn rhan wirioneddol hanfodol o'i bywyd. Felly, roedd yn ymwneud â mwy na ble roedd hi'n mynd yn unig; roedd yn ymwneud â bod gyda'i ffrindiau yn yr amgylchedd hwnnw hefyd.
Byddai manteision cyllid cynaliadwy yn mynd y tu hwnt i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth yn unig, wrth gwrs. Byddai’n golygu buddsoddiad yn ein heconomïau lleol, gan greu swyddi, ysgogi twf, ac yn wir, gallai olygu bod llai o bobl yn teimlo’n unig. Mae gwerth hynny'n rhywbeth na allwn ei fesur—mae'n amhrisiadwy.
Felly, fe fydd anghytundeb yn y Siambr ynghylch y gwahanol resymau pam ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon. Rwy'n credu—rwy'n gobeithio—y byddwn yn cytuno ar y cyfeiriad cyffredinol y mae angen inni fynd iddo. Yn amlwg, mae’r cyhoeddiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU heddiw, y buaswn i'n ei alw'n sinigaidd, ond gwn y bydd eraill yn anghytuno, ynglŷn â sut y dylid ariannu ein system drafnidiaeth gyhoeddus, wedi rhoi un ffocws yn y cyfryngau. Hoffwn inni ddangos y gallwn ni yng Nghymru wneud y penderfyniadau hyn ein hunain, ac y gallwn wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy; gallwn wneud hynny drwy ateb anghenion cymunedau, gyda chynllunio priodol, a phe bai'r pwerau hynny gennym yng Nghymru, byddai llawer mwy o deithwyr nid yn unig yn gallu defnyddio’r bws, ond yn gallu mwynhau gwneud hynny hefyd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, byddwn ni'n symud i'r cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf, sydd ar eitem 7, sef y ddadl rŷn ni newydd glywed gan Blaid Cymru ar wasanaethau bws.
Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Mae gennyf broblem.
A yw'n un dechnegol? [Chwerthin.] O'r gorau. Fe wnawn oedi ychydig ac edrych i weld. Iawn. Rwy'n mynd i symud at y bleidlais, ac fe alwaf eich pleidlais yn—. Ie, fe wnaf aros i chi fewngofnodi. Nid dim ond fi sy'n aros i chi fewngofnodi; mae pawb yn aros i chi fewngofnodi, wrth gwrs. Fe wnaf edrych. Iawn.
Felly, fe wnawn ni alw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio—cynnig yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Eitem 7: Dadl Plaid Cymru—Gwasanaethau bws. Y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Fe fyddwn ni'n symud ymlaen, felly, i welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal a 27 yn erbyn, ac, felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod, sydd yn golygu bod y cynnig a'r gwelliant wedi'u gwrthod a does yna ddim byd wedi'i dderbyn.
Eitem 7: Dadl Plaid Cymru—Gwasanaethau bws. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rwy'n credu bod hynny'n achub eich croen, Andrew R.T. Davies. [Chwerthin.]
Felly, dyna ddiwedd ar y pleidleisio.
Dyna ddiwedd y pleidleisio ac fe symudwn ymlaen at y ddadl fer.
Mae'r ddadl fer yn enw Mark Isherwood ac fe ofynnaf i Mark Isherwood ddechrau ei ddadl fer pan fydd yn credu bod y Siambr yn ddigon tawel iddo wneud hynny. Mark Isherwood.
Diolch. Os gwnaiff fy nghyd-Aelodau ymdawelu, efallai y gwnaf ddechrau. Diolch.
Yn hollol, Mark.
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwneud eich gwaith ar eich rhan.
Rwy'n credu mai eich cyd-Aelodau chi oedd y mwyaf swnllyd o'r cyfan. Mark Isherwood.
Diolch. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Sam Rowlands. Mewn cyfarfod hybrid o grŵp awtistiaeth trawsbleidiol Senedd Cymru ar 17 Ebrill a gadeiriais ym Mhrifysgol Bangor, rhoddwyd sylw y bu'n rhaid aros yn hir amdano i broblem bai rhieni a phroffil awtistiaeth osgoi galw patholegol, neu PDA.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mewn cyflwyniad gan Alice Running a Danielle Jata-Hall ar eu hymchwil ar fai rhieni a phroffil awtistiaeth PDA, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, nodwyd bod cael y bai am rai agweddau ar anabledd eich plentyn gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn yn brofiad brawychus ac unig. Deilliodd eu hymchwil o brofiadau personol yr awduron a oedd wedi dioddef craffu anghymwys a'u beio gan eu hawdurdodau lleol mewn perthynas ag ymgyflwyniadau awtistig eu plant. Nid yw'r profiad hwn yn anghyffredin, gyda llawer o deuluoedd yn disgrifio eu profiadau a sut y cawsant eu beio am ymgyflwyniad neu ddiffyg cynnydd tybiedig eu plant awtistig. Mae teuluoedd â phlant awtistig yn ofni colli eu plant i'r system ofal, a gall y stigma sy'n gysylltiedig â'r ofn olygu bod ffynonellau cymorth yn anhygyrch.
Mae eu hadroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg o fwy na 1,016 o rieni a gofalwyr plant PDA. Nodau'r arolwg oedd archwilio pa mor gyffredin yw beio rhieni ymhlith teuluoedd â phlant PDA; nodi unrhyw batrymau sy'n gysylltiedig â phryd, sut a pham y daw beio rhieni i'r amlwg; darganfod a oes unrhyw fathau o rieni neu ofalwyr sy'n fwy agored i gael eu beio am ymgyflwyniad eu plentyn PDA; a dysgu sut mae hyn yn teimlo i rieni a gofalwyr. Dywedodd 88 y cant o rieni a gofalwyr a gwblhaodd yr arolwg eu bod wedi teimlo eu bod yn cael eu beio am ryw agwedd ar ymgyflwyniad neu ddiffyg cynnydd eu plentyn PDA. Dangosodd dadansoddiad yr awduron mai teuluoedd mamau sengl a/neu riant niwrowahanol sy'n wynebu'r risg fwyaf o fai ar ffurf diogelu. Mae'r adroddiad yn gorffen drwy restru'r newidiadau yr hoffai rhieni a gofalwyr eu gweld ac mae'n nodi'r angen am fwy o weithwyr proffesiynol awtistiaeth a PDA.
Mae'r awduron yn egluro mai beio rhieni yw'r hyn sy'n digwydd pan fo gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda theulu yn honni neu'n awgrymu bod y rhiant/gofalwr rywsut yn achosi ymgyflwyniad anabledd eu plentyn. Roeddent yn dweud y gall fod ar ffurf dibwyllo, trin rhywun drwy ddulliau seicolegol i amau eu pwyll eu hunain, gwneud yn fach o bethau a beirniadu mynych, codi pryderon diogelu anghymwys a beio iechyd meddwl rhiant—rhywbeth rwy'n clywed amdano yn fy ngwaith achos yn gyson. Maent yn disgrifio proffil awtistiaeth PDA fel un sy'n cael ei yrru gan yr angen am reolaeth annibynnol, oherwydd gorbryder, a gaiff ei arddangos drwy ymwrthod cyson â galwadau pob dydd. Gan fynegi pryderon ynglŷn â diffyg cydnabyddiaeth i'r proffil PDA a dealltwriaeth ohono, roeddent yn dweud bod hyn yn effeithio ar y cymorth y mae teuluoedd yn ei gael ac yn arwain at rieni'n wynebu craffu mewn perthynas â diogelu plant. Roedd themâu cyffredin yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn dweud wrth rieni mai eu rhianta neu eu hiechyd meddwl sy'n achosi ymgyflwyniad awtistig eu plentyn—agweddau o'r Oesoedd Tywyll. Mae 11 y cant o'r ymatebwyr wedi bod yn destun gweithdrefnau diogelu ffurfiol, a nodai mai'r rhieni oedd ar fai am ymgyflwyniad y plentyn. Roedd bron i 60 y cant yn famau sengl, ac roedd bron i 80 y cant yn rhieni niwrowahanol.
Pan ofynnwyd iddynt pa newidiadau yr hoffent eu gweld, galwodd rhieni/gofalwyr am well hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ynghylch proffiliau awtistiaeth osgoi galw, cymorth i rieni ddeall eu hawliau cyfreithiol a chydnabod proffil PDA ledled y DU. Daw eu hadroddiad i'r casgliad:
'Mewn sefyllfaoedd lle mae rhiant/gofalwyr yn cael y bai am ymgyflwyniad eu plentyn awtistig/PDA, y plentyn sy'n dioddef yn y pen draw.
'Gall systemau cymorth ar gyfer plant awtistig/PDA greu problemau iechyd meddwl i'r rhiant/gofalwr.
'Mae rhai mathau o rieni/gofalwyr yn fwy agored i'r math mwyaf eithafol o feio rhieni—diogelu plant.
'Yn ddealladwy, mae rhieni niwrowahanol yn ofni datgelu eu math o niwrowahaniaeth i weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi.'
Ac, 'Mae angen', fel y dywedais,
'am weithwyr proffesiynol sy'n deall awtistiaeth/PDA yn well.'
Rhannodd mam niwrowahanol o sir y Fflint ei phrofiad ei hun o fai rhieni. Wrth nodi pwysigrwydd hyfforddiant, tynnodd sylw at achos Paula McGowan OBE, a ymgyrchodd yn llwyddiannus am hyfforddiant awtistiaeth gorfodol yn y GIG yn Lloegr yn dilyn methiannau a arweiniodd at farwolaeth ei mab Oliver. Mae fy ngwaith achos i hefyd yn cadarnhau'r angen dybryd am hyfforddiant gorfodol ar niwrowahaniaeth nid yn unig i staff GIG Cymru, ond hefyd yn ein hysgolion a'n hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, gan gefnogi'r ymgyrch Neurodiversity Unmasked dan arweiniad Clare-Anna Mitchell mewn perthynas â staff addysg—y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwrthod hyd yma, yn anffodus—ac ymchwil gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, y gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, a gyhoeddwyd y llynedd yn y British Journal of Social Work. Canfu fod nifer cynyddol o deuluoedd plant ag ymgyflwyniadau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth yn destun archwiliad salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, FII, a arferai gael ei alw'n Munchausen's, gan y gwasanaethau cymdeithasol ac o ganlyniad wedi'u labelu fel cyflawnwyr cam-drin plant posibl, gyda'r teuluoedd hyn wedyn yn cael eu tynnu i mewn i'r system amddiffyn plant ac yn nodi trawma o ganlyniad i hynny. Roeddwn i'n meddwl bod trin pobl awtistig yn y ffordd hon yn rhywbeth a oedd wedi dod i ben gyda'r Oesoedd Tywyll.
Yng nghyfarfod trawsbleidiol y grŵp awtistiaeth ym mis Ebrill, clywsom hefyd gan Lavinia Dowling, ymgynghorydd nyrsio arbenigol iechyd meddwl ac awtistiaeth, a roddodd gyflwyniad ar ei hastudiaeth o iechyd meddwl, awtistiaeth a'r proffil PDA. Mae hi'n sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni buddiannau cymunedol sy'n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl, ac mae wedi gweithio fel clinigydd ers 25 mlynedd. Dywedodd wrth y cyfarfod nad yw canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog yn dweud hyn wrthym—yn cydnabod PDA. Dywedodd nad yw 70 y cant o blant a phobl ifanc â PDA yn gallu mynychu addysg prif ffrwd, a bod llawer o rieni yn cael eu cyhuddo o ffugio neu achosi salwch, fod ysgolion yn aml yn methu adnabod awtistiaeth neu'n honni nad yw PDA yn bodoli, ac nad oes digon o wybodaeth am awtistiaeth gan wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac nad ydynt yn cydnabod PDA. Gan ddefnyddio dynwared cyswllt llygaid fel enghraifft, dywedodd fod sgrinio'n aml yn ymarfer blwch ticio, ac nad oedd gweithwyr proffesiynol yn deall nodweddion awtistig yn iawn. Nododd fod anhwylder herio gwrthryfelgar, ODD, sy'n gysylltiedig ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn cael ei gydnabod, yn wahanol i PDA, ac eto mae ymgyflwyniadau ODD yn debyg i PDA oherwydd bod y ddau gyflwr yn cynnwys gorbryder llesteiriol. Wrth gloi, mynegodd bryderon am restrau aros hir ac adnoddau cyfyngedig, a galwodd am ymagwedd fwy ataliol a rhagweithiol.
Ar y pwynt hwn, dylwn nodi bod clinigwyr ac academyddion sydd ag arbenigedd go iawn yn y maes wedi dweud wrthyf nad ydynt bellach yn derbyn y term 'patholegol' yn y cyd-destun hwn, lle nad yw'n rhywbeth sy'n cynnwys nac yn cael ei achosi gan glefyd corfforol neu feddyliol—mae pobl yn cael eu geni gyda hyn—nad yw osgoi galw patholegol yn label diagnostig annibynnol, ac os yw'r clinigydd yn arsylwi ar nodweddion PDA drwy gydol yr asesiad, efallai y byddant, er enghraifft, yn geirio'r diagnosis fel 'anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth gyda phroffil osgoi galw'. Mae'r methiant i ddeall cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth—heb sôn am y rhai sydd â phroffiliau osgoi galw—yn caniatáu i uwch swyddogion cyhoeddus arteithio teuluoedd yr effeithir arnynt i bob pwrpas, gan ei gadael i bobl fel ni i godi'r darnau ar eu rhan. Ysgrifennodd mam o Wrecsam:
'Mae gennym fab awtistig 15 oed â datganiad, sy'n ddeallus, yn yr ysgol brif ffrwd ac sydd â math o awtistiaeth o'r enw syndrom osgoi galw patholegol, syndrom y gwnaethom addysgu'r ysgol a'r AALl yn ei gylch. Mae'n cael ei yrru gan orbryder, ac mae angen iddo gael dewis a bod mewn rheolaeth. Fe gei lanhau dy ddannedd i fyny'r grisiau neu i lawr grisiau, brwsh dannedd trydan neu â llaw: dy ddewis di, mae'n dewis, mae'n cael ei wneud. Pe bawn i'n dweud, "Mae angen i ti lanhau dy ddannedd," dim gobaith. Mae angen eu trin yn wahanol i gyflyrau eraill ar y sbectrwm awtistiaeth. Gallant ganolbwyntio'n dda ac mae ein mab yn ddysgwr brwd sydd ond eisiau bod yn y dosbarth, a chael ei ddysgu gyda'i ffrindiau.'
Ychwanegodd,
'Fodd bynnag, mae staff yr uned anghenion dysgu ychwanegol sydd i fod i gefnogi ein mab blwyddyn 11 yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.'
Mae eu tribiwnlys addysg fis nesaf. Fe wnaeth mam o sir y Fflint y mae gan ei mab PDA a mudandod dethol fy nghopïo i mewn i'w llythyr at gyngor sir y Fflint, a oedd yn cynnwys hyn:
'Rydych chi'n datgan bod penderfyniadau wedi'u gwneud ar sail safbwyntiau, gan gynnwys safbwyntiau rhiant a disgybl, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.'
Yn yr achos hwn, i fod yn deg, fe wnaeth y cyngor gytuno i osod eu mab yn ei ysgol ddewisol, ond cymerodd hyn dri mis o bwyso.
Fe wnaeth mam niwrowahanol o sir y Fflint y cafodd ei phlant eu gosod mewn gofal ar ôl iddi gael ei chofnodi fel rhywun yn dioddef o salwch meddwl a oedd yn ffugio afiechydon, er bod ei phlant yn dangos tystiolaeth o ymddygiadau a oedd yn gyson â phlant ag awtistiaeth, PDA ac ADHD, ysgrifennu y gallai ddweud yn bendant
'nad oes unrhyw blentyn neu deulu niwrowahanol yn sir y Fflint yn ddiogel nac wedi'i eithrio rhag y lefel hon o niwed sy'n cael ei wneud i'n plant ac i ninnau fel teuluoedd niwrowahanol, ac mae'n mynd i barhau felly hyd nes y ceir atebolrwydd.'
Ysgrifennodd mam arall o sir y Fflint y mae ei merch wedi cael diagnosis yn cynnwys awtistiaeth gyda phroffil PDA ac ADHD, ac sydd ei hun wedi cael diagnosis yn cynnwys awtistiaeth, ADHD a PTSD:
'Ymddengys mai diwylliant sir y Fflint yw bwlio, erledigaeth a chelu pryderon diogelu difrifol a bygythiadau i symud plant er mwyn gagio'r rhieni sy'n cwyno. Yn fy achos i, cefais fy nghyfeirio'n amhriodol gan y cyngor am asesiad o ffugio neu achosi salwch. Rwy'n ofni nawr y bydd fy merch yn cael ei symud o fy ngofal. Mae a wnelo hyn â mwy nag achosion unigol yn unig'
meddai, 'o dargedu unigolion niwrowahanol.'
Felly, i gloi, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ymateb i gais yr etholwr dan sylw am gyfarfod wyneb yn wyneb â hi ac eraill y gallent ddod â'r cofnodion allweddol iddo fel tystiolaeth i chi ei gweld. Diolch.
Diolch i Mark Isherwood am roi munud o'i amser i mi siarad yn y ddadl fer ond pwysig hon heno. Rwyf am siarad yn fyr oherwydd mae etholwr i mi y bûm yn yn gweithio gyda nhw yn ddiweddar ar yr union bwnc hwn—ac mae'n rhaid cyfaddef nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o'r blaen, osgoi galw patholegol—yn rhiant â phlentyn a oedd yn cael trafferth yn yr ysgol, a tybed a allai'r Dirprwy Weinidog ymateb i'r pwyntiau a godwyd.
Roedd y rhiant yn cysylltu â mi oherwydd eu bod yn poeni'n bennaf am y cyfathrebu rhwng yr ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol, y rhiant eu hunain, a'r gwasanaethau iechyd. I mi, o'r hyn a glywais wrth weithio gyda'r rhiant, mae'n ymddangos bod rhai cysylltiadau coll o ran y cyfathrebu rhwng y gwahanol wasanaethau y mae gan lywodraethau o wahanol haenau gyfrifoldeb amdanynt.
Fel yr amlinellodd Mark Isherwood yn ei gyfraniad, gyda'r enghreifftiau a roddodd, a'r enghraifft o'r plentyn sy'n cael ei gefnogi yn y sefyllfa hon, sydd o ddifrif eisiau dysgu ac sydd o ddifrif eisiau ymgysylltu â'r ysgol a chanddo awydd i ddysgu, ond nad yw'n ymddangos ei fod yn gallu cael y strwythur o'u cwmpas i alluogi iddo ddigwydd yn y ffordd orau bosibl iddyn nhw, ac rwy'n meddwl bod honno'n sefyllfa drist iawn i'r teulu hwnnw fod ynddi.
Rydym yn gwybod bod PDA yn her ychwanegol i rieni ac athrawon fel ei gilydd, a gwyddom fod ein hathrawon dan ormod o bwysau mewn sawl ffordd, ond rwy'n credu y byddai codi ymwybyddiaeth o'r heriau a'r atebion i gefnogi sefyllfaoedd plant ar draws y gwasanaethau amrywiol hynny yn gwneud llawer iawn i helpu'r plant yn y sefyllfaoedd hynny, felly, diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Julie Morgan.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r ddadl hon, Mark Isherwood. Hoffwn ddiolch i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda phlant a theuluoedd yng ngogledd Cymru, oherwydd gwn eich bod yn codi'r materion hyn yn gyson a hoffwn eich llongyfarch ar hynny.
Rwy'n cydnabod yn llawn yr heriau a'r rhwystrau parhaus y mae rhai teuluoedd niwrowahanol yn eu hwynebu. Rwyf innau, fel chithau, wedi cyfarfod â theuluoedd a phobl ifanc—plant ag awtistiaeth a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth iawn—a chlywed ganddynt am eu profiadau. Ac mewn gwirionedd, pan ddechreuais yn y swydd hon, cyfarfûm â grwpiau o deuluoedd a oedd yn gallu dweud wrthyf ar unwaith, o lygad y ffynnon, pa anawsterau a thrafferthion a wynebent. Felly, rwy'n ymwybodol o'r rheini. Ac mae'r cyfarfodydd hyn, clywed am eu profiadau a gweld cryfder y teuluoedd hyn, bob amser ar flaen fy meddwl wrth inni ymdrechu i wneud newidiadau cadarnhaol. Felly, yn gyntaf, gadewch imi ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn niwrowahanol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu manteisio ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt. Rwy'n ymrwymedig ac mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i hynny.
Mae'r materion sy'n gysylltiedig â niwrowahaniaeth yn gymhleth a bydd yn cymryd amser a chydweithio i weld y newidiadau rydym yn eu gwneud yn dwyn ffrwyth. A soniodd Sam Rowlands am bwysigrwydd cydweithio a chyfathrebu, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod yn hanfodol. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd wrth symud ymlaen drwy'r rhaglen gwella niwrowahaniaeth. Gwyddom fod plant anabl, gan gynnwys plant niwrowahanol a'u teuluoedd, yn un o'r grwpiau dan fwyaf o anfantais yn y DU.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddiwallu anghenion dynodedig plant awtistig a'u teuluoedd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau. Ac rwy'n drist iawn o glywed am brofiadau anodd rhai o'n teuluoedd yng Nghymru.
Diolch i'r Aelod dros y Gogledd am dynnu ein sylw at hyn.
A hefyd am rannu ymchwil ar fai rhieni ac osgoi galw patholegol. Ac rwy'n falch o ddweud bod y gwaith ymchwil hwn eisoes wedi'i rannu gyda'n grŵp cynghori clinigol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu plant i aros yng ngofal eu teuluoedd, ac rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu cymorth amserol i rieni. Rydym yn glir fod yn rhaid rhoi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y canol yn ein system gofal cymdeithasol, ac mae Gweinidogion yn disgwyl i bawb gael eu trin gydag urddas a pharch, a'u cefnogi i gyflawni eu hanghenion cymwys a aseswyd.
Fel y dywedodd Mark Isherwood, rwy'n gwybod nad yw ein gwasanaethau niwrowahanol yng Nghymru yn cydnabod diagnosis penodol o awtistiaeth gyda phroffil osgoi galw patholegol, a'r rheswm am hynny yw nad yw'n gategori cydnabyddedig mewn llawlyfrau diagnostig safonol. Mae'n bwysig nodi bod yna ddull cenedlaethol o ymdrin â PDA sy'n cael ei dderbyn gan bob bwrdd iechyd.
Mae gwasanaethau niwrowahaniaeth yn cydnabod bod rhai plant yn ymgyflwyno â nodweddion PDA o ran eu gorbryder, a'u gwahaniaethau emosiynol ac ymddygiadol. Ac mae angen asesiad gofalus a thrylwyr ar y plant hyn o fewn y gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a thimau gofal cymdeithasol anableddau plant. Dylid teilwra'r ddarpariaeth o gymorth ac ymyrraeth yn ôl yr angen wrth ymgyflwyno, megis gorbryder, gan ein bod yn gwybod na fydd rhai ymatebion ymddygiadol traddodiadol yn gweithio.
Ac wrth gwrs, gall profiad unigolyn o'i awtistiaeth ei hun amrywio dros gwrs ei fywyd. Felly, mae'n bwysig asesu anghenion, heriau a chryfderau'r unigolyn wrth iddynt ymddangos yn hytrach na darparu label diagnostig a meddygol a fydd yn aros gyda'r plentyn drwy gydol ei oes. Dyma sut y deallwn ac yr ymatebwn i ehangder a gwahaniaethau awtistiaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Cydnabyddir bod gwybodaeth am PDA ar gael yn hwylus i rieni ac fel y cyfryw, gall rhieni ymholi ynglŷn â PDA fel esboniad am anawsterau eu plentyn. Os felly, mae'n bwysig iawn nad yw gwasanaethau'n diystyru'r pryderon hyn, ond yn archwilio'r anghenion sy'n ymgyflwyno gyda rhieni.
Drwy'r rhaglen gwella niwrowahaniaeth, rydym yn cynghori gwasanaethau i symud o fodel meddygol o ddiagnosis a darparu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid cyfarparu gwasanaethau i ddarparu ymyrraeth gynnar wrth i anghenion godi, beth bynnag y bo'r diagnosis. Mae'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth yn rhoi pwyslais cryf ar hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Yn sail i'r cod mae pwysigrwydd cael gweithlu effeithiol, hyfforddedig a gwybodus, y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei ddadl—mor bwysig yw hi i'r gweithlu fod yn ymwybodol ac wedi'i hyfforddi—gweithlu sy'n gallu cyflawni'r dyletswyddau ar ran sefydliadau.
Mae'r cod wedi bod yn ysgogiad go iawn i reolwyr gweithlu ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi. Mae'r tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol wedi datblygu lefelau hyfforddiant yn llwyddiannus i gefnogi staff iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gan bob awdurdod lleol fynediad at ddau fodiwl hyfforddi: 'Deall Awtistiaeth' a 'Deall Cyfathrebu Effeithiol ac Awtistiaeth'. Ac rwy'n gwybod bod dros 5,200 o staff gofal cymdeithasol wedi dilyn o leiaf un o'r ddau fodiwl.
Mae'r tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol hefyd—
A wnaiff y Dirprwy Weinidog dderbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog. A yw'r cyrsiau hyfforddi hynny'n orfodol?
Rwy'n credu bod pobl yn cael eu hannog i'w gwneud, ac fel y dywedais, mae 5,200 wedi eu gwneud. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cynnydd go iawn yno.
Mae'r tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol hefyd yn gweithio ar ddatblygu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol ar ddeall awtistiaeth ac asesu. Bydd gan yr hyfforddiant elfen bwrpasol ar gyfer proffesiynau penodol, fel gweithwyr cymdeithasol. Bydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i weithwyr proffesiynol wneud newidiadau rhesymol ac addasu eu hymarfer i ddeall a diwallu anghenion teuluoedd niwrowahanol yn well.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i werthusiad annibynnol ar effaith y cod ymarfer ar gyfer awtistiaeth. Mae dwy ran i'r gwerthusiad, ac mae disgwyl canfyddiadau'r cam cyntaf yn fuan. Bydd y gwerthusiad yn nodi a yw awdurdodau lleol yn bodloni gofynion y cod ac yn gofyn a oes gan yr ymarferydd sy'n asesu pa mor gymwys yw unigolyn awtistig i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol ddigon o wybodaeth a sgiliau i ddeall effaith awtistiaeth ar yr unigolyn yn ei fywyd o ddydd i ddydd. Bydd y gwerthusiad yn dangos i ni lle mae angen mwy o gefnogaeth.
Ac wrth gwrs mae rôl addysg, sydd eisoes wedi'i chrybwyll yma y prynhawn yma, yn gwbl hanfodol i gefnogi plant a phobl ifanc niwrowahanol. Ac rydym yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn y byd addysg sy'n cyflawni gwelliannau drwy ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc niwrowahanol yn cael eu cydnabod a bod gan staff wybodaeth a sgiliau i'w cefnogi. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth fod llawer o blant awtistig yn gallu cuddio a rheoli eu nodweddion awtistiaeth yn yr ysgol, gan ryddhau eu rhwystredigaeth aruthrol pan fyddant yn teimlo'n ddiogel gartref. A chefais lawer o rieni'n dweud wrthyf am y trafferthion gartref, tra bo'r plant efallai yn ymgyflwyno yn yr ysgol—heb achosi unrhyw bryder i'r ysgol, ac mae hynny'n weddol gyffredin.
Rwyf hefyd yn falch o adrodd ar lwyddiant cynnar ein cynllun peilot llinell wrando ar gyfer teuluoedd niwrowahanol. Rydym wedi darparu hon fel ychwanegiad i'r llinell gymorth dros y ffôn 24 awr bresennol. A hyd at fis Gorffennaf eleni, gwta dri mis ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau, roedd y llinell wrando wedi derbyn tua 260 o alwadau ar faterion yn ymwneud â niwrowahaniaeth. Rwy'n eich annog i atgoffa teuluoedd o'r cymorth hwn sydd ar gael, oherwydd mae'n newydd ac mae'n ymateb i'r profiad a gefais o gyfarfod â theuluoedd, cyfarfod â phobl ifanc, a'u hangen dybryd i allu ffonio rhywle ar unrhyw adeg, 24 awr y dydd, i gael rhywun i wrando arnynt. Ar ba gam bynnag roeddent arni o ran cael asesiad neu ddiagnosis, roeddent eisiau'r gefnogaeth honno. Felly, rydym yn gwneud hynny mewn ymateb i'r hyn y mae teuluoedd niwrowahanol wedi ei ddweud wrthyf fi yn uniongyrchol.
Felly, i gloi, byddwn yn parhau i yrru newid trawsnewidiol yn ei flaen i wneud gwahaniaeth i fywydau drwy wasanaethau niwrowahaniaeth. Ac rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno mai'r allwedd i gefnogi unigolion yw cyfathrebu da sydd wedi'i addasu i anghenion yr unigolyn o'ch blaen. Rwy'n gwybod bod rhieni a phobl ifanc yn aml yn cael trafferth mawr i gael y gwasanaethau y maent eu heisiau, ac rwy'n hollol barod i gyfaddef hynny. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud ychydig o gynnydd. [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen nawr, os nad oes ots gennych. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud ychydig o gynnydd, ond rwy'n gwybod bod ffordd bell iawn i fynd. Ac rwy'n hapus iawn, Mark Isherwood, i ddod i'ch grŵp trawsbleidiol i gyfarfod ag unrhyw rai o'r teuluoedd y credwch y byddai'n briodol i mi eu cyfarfod. Felly, hoffwn ddiolch unwaith eto am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Rydym yn ystyried bod dod â'r profiadau, profiadau byw teuluoedd, i'r Senedd hon yn hynod o bwysig, a gallaf eich sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael bywyd bodlon.
Diolch yn fawr am eich amser heddiw.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Diolch, bawb. Daw hynny â busnes heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.