Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/06/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r sesiwn lawn o'r Senedd. Y cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.  

Gwella'r Amgylchfyd Trefol

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar strategaeth y Llywodraeth i wella’r amgylchfyd trefol yng Ngorllewin De Cymru? OQ59611

Diolch, Sioned. Rydym yn creu amgylcheddau trefol iachach drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Anogir seilwaith gwyrdd mewn cynigion am gymorth i greu lleoedd, gan wella bioamrywiaeth, ansawdd bywyd, wrth helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o wella mannau gwyrdd cymunedol lle mae pobl yn byw ac yn gweithio drwy ein prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Diolch, Weinidog. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Ross Cameron o Brifysgol Sheffield yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddol gerddi naturiol. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn oeri ardaloedd trefol, yn amsugno glaw, ac felly'n lleihau'r perygl o fflachlifoedd, ac yn cynnig lloches sydd ei hangen yn fawr ar fywyd gwyllt. Mae'r adroddiad yn amlinellu rhai o dueddiadau cynllunio a chynnal a chadw gerddi sy'n niweidiol i'r amgylchedd trefol, ac un o'r rhain yw'r defnydd o laswellt artiffisial. Gwneir glaswellt artiffisial o blastig a deunyddiau synthetig eraill, sydd angen ei lanhau'n rheolaidd, er gwaethaf y canfyddiad nad oes angen gwaith cynnal a chadw arno, ac mae ganddo oes o wyth i 15 mlynedd, ac ar ôl hynny, gall fod yn heriol cael gwared arno mewn modd cynaliadwy. Yn ogystal â lleihau manteision gerddi naturiol, mae canlyniadau amgylcheddol eraill i ddefnyddio glaswellt artiffisial, megis amharu ar gynefin pryfed genwair a phryfed, a gall trwytholchi microplastigau niweidio bywyd gwyllt.

Ysgrifennais at Gyngor Abertawe, yn fy rhanbarth, am y mater hwn ar ôl clywed bod glaswellt artiffisial wedi'i ddefnyddio yng ngwaith adfywio'r ddinas. Fe wnaethant ateb gan ddweud na fyddai'r cyngor yn ei ddefnyddio ar dir cyhoeddus, hyd yn oed dros dro, wrth symud ymlaen. Felly, a wnewch chi ymrwymo, heddiw, Weinidog, i ddilyn esiampl dda Cyngor Abertawe drwy ymrwymo i wahardd glaswellt artiffisial mewn lleoedd sydd o dan reolaeth y Llywodraeth, ac eithrio caeau chwaraeon? Ac a wnewch chi hefyd ystyried cefnogi rhai o awgrymiadau'r Athro Cameron, megis darparu cymhellion ariannol i annog a gwobrwyo rheolaeth gynaliadwy ar erddi?

Diolch yn fawr, Sioned. Mae'n gwestiwn pwysig iawn am sawl rheswm. Mae glaswellt artiffisial yn cael effaith wael iawn ar gynaliadwyedd lleol nifer fawr o ardaloedd yng Nghymru. Fel y dywedoch chi, yn gwbl gywir, mae ffocws tymor byr ar y syniad fod angen llai o gynnal a chadw arno efallai, ond mewn gwirionedd, mae chwyn yn tyfu drwy laswellt artiffisial. Gall fod yn anodd iawn ei lanhau, os oes anifail wedi bod arno, ac mewn gwirionedd, mae adroddiadau o nifer o ffynonellau prifysgol yn peri cryn bryder gan eu bod yn dweud y gall glaswellt artiffisial fod yn wenwynig os yw plant yn chwarae arno ac ati. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu'n wirioneddol fod arnom angen ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â pham nad yw'n ateb tymor byr effeithiol i bobl mewn gwirionedd. Rwy'n pryderu hefyd am y duedd i gael gwrychoedd a photiau artiffisial ac ati. Nid oes ond angen ichi edrych ar y rhain ar ôl un hydref o law i weld bod y lliw wedi llifo allan ohonynt ac i'r amgylchedd. Felly, credaf ei fod wir yn fater pwysig. Byddwn yn edrych ar ein holl ganllawiau ac yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw le a ariennir yn gyhoeddus, ond rwy'n awyddus i gael tystiolaeth hefyd er mwyn (a), cynnal ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â'r problemau gyda glaswellt artiffisial, a (b), archwilio a yw ein Bil cynhyrchion plastig untro, a gafodd gymeradwyaeth frenhinol—. Roeddwn yn y seremoni gymeradwyo ddydd Llun, a gobeithio ei fod ar ei ffordd atoch, os nad yw wedi cyrraedd yn barod, Lywydd. Mae hwnnw wedi rhoi'r gallu inni ychwanegu plastigau eraill i'w gwahardd, felly rwy'n awyddus iawn i fynd ati'n rhagweithiol i archwilio a oes modd ei wneud drwy'r llwybr hwnnw hefyd.

Yn 2007, heb yn wybod i lawer, pasiodd y byd garreg filltir hollbwysig, sef y pwynt lle roedd mwy o bobl am y tro cyntaf erioed yn byw mewn trefi a dinasoedd nag yng nghefn gwlad. Yng Nghymru, mae dwy ran o dair ohonom yn byw mewn ardaloedd trefol. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wella'r amgylchedd trefol. Mae hynny'n golygu nid yn unig mynd i'r afael â llygredd aer yn ein trefi a'n dinasoedd, neu'r arfer gwarthus o ddympio carthion i afonydd fel afon Tywi ac afon Ogwr, ond hefyd, gwella mynediad at fannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i amddiffyn mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol a sicrhau bod gan bob cymuned fynediad agored a chyfleus at fannau o'r fath?

13:35

Diolch yn fawr, Altaf. Mae'n bwynt pwysig iawn. Mae'n rhan flaenllaw o'n menter Trawsnewid Trefi, lle rydym yn ceisio creu seilwaith gwyrdd, fel y'i gelwir. Seilwaith gwyrdd yw lle mae rhwydwaith o nodweddion ac ardaloedd naturiol a lled-naturiol yn cyfrannu at amgylcheddau o ansawdd uchel, sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd o gwmpas trefi. Un o'r pethau na ymatebais iddynt yng nghwestiwn cychwynnol Sioned oedd y mater ynghylch cymhellion ariannol i annog pobl i gael gerddi cynaliadwy. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau ei bod yn haws gwneud y peth iawn na'r peth anghywir, ledled Cymru. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi codi'r ffaith ar sawl achlysur yn y Senedd fod angen caniatâd cynllunio arnoch i balmantu dros yr ardal o flaen eich tŷ mewn amgylchedd trefol. Nid yw'n rheol sy'n cael ei gorfodi'n aml yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn ysgrifennu at awdurdodau lleol yn rheolaidd i'w hatgoffa bod angen iddynt ystyried dŵr ffo mewn perthynas â hynny, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na bioamrywiaeth yn unig; mae'n ymwneud â systemau dŵr cynaliadwy hefyd, felly mae'n bwysig iawn ar gyfer hynny.

Mae angen inni ddod o hyd i ffordd gymdeithasol gynhwysol o sicrhau bod gan bobl fynediad at fannau gwyrdd, nid yn unig os ydych yn ddigon ffodus i gael gardd—mae'n amlwg y dylech ddefnyddio honno yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl—ond hefyd, mae angen inni sicrhau bod gan bawb mewn ardal drefol neu o gwmpas trefi fynediad parhaus at y math hwnnw o fan gwyrdd. Yn syml, ni allwch wneud hynny drwy gael ardaloedd sydd wedi'u palmantu, neu'n wir, wedi'u gorchuddio â glaswellt artiffisial—nid yw hynny'n cynhyrchu'r un ansawdd yn yr amgylchedd. Felly, mae angen inni edrych, fel y dywedais wrth Sioned, ar ystod o ymyriadau y gallwn eu gwneud, ac yn bersonol, byddwn yn edrych o ddifrif i weld a allem gynnal ymgyrch addysg i wneud i bobl ddeall y problemau, ac edrych wedyn i weld a allwn ei gynnwys mewn gwaharddiad.

Cysylltiadau Trafnidiaeth dros y Fenai

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau’r Llywodraeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth dros y Fenai? OQ59621

Diolch am y cwestiwn.

Rwyf wedi gofyn i gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru ystyried gwytnwch mynediad i ac o Ynys Môn yn ychwanegol at ei gylch gwaith gwreiddiol. Disgwylir i adroddiad interim y comisiwn gael ei gyhoeddi yr wythnos hon, gydag argymhellion terfynol i ddilyn yn yr hydref.

Diolch am yr ateb yna. Dwi'n edrych ymlaen i weld yr adroddiad yna. Mae yna ddwy bont, wrth gwrs, ar hyn o bryd. Mi fuaswn i'n licio gofyn am sicrwydd, yn gyntaf, y bydd popeth yn cael ei wneud i leihau'r trafferthion yn lleol wrth wneud y gwaith trwsio ar y Fenai. Mae yna oleuadau traffig rŵan; mi fuaswn i'n licio sicrwydd y bydd y cyfyngiadau am gyfnodau mor fyr â phosib.

Ond mae dwy. At yr ail bont—. Mi fyddwn i'n licio estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu'r dyn fu farw mewn damwain ar 23 Mai. Mae diogelwch, wrth gwrs, yn un o'r prif ddadleuon, ynghyd â gwytnwch, dros yr angen am drydedd bont. Beth ddigwyddodd yn yr achos yma—pont Britannia wedi ei chau am naw awr, pobl yn methu â chyrraedd Ysbyty Gwynedd, disgyblion ysgol yn methu â chyrraedd ar gyfer arholiadau TGAU a lefel A. Mae'n rhaid i ni ddatrys y sefyllfa o ran gwytnwch. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog, yn argymell, fel cam cychwynnol, er bod dal angen y drydedd bont, rhoi system zipper yn ei lle, lle mae yna rwystr yn cael ei osod, i ganiatáu dwy lôn o draffig i un cyfeiriad un bore, yna symud y rhwystr er mwyn cael llif traffig y ffordd arall gyda'r nos. A gaf i sicrwydd gan y Gweinidog fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar hynny yn ddifrifol?

Diolch. Hoffwn innau hefyd gydymdeimlo â theulu'r unigolyn a fu farw ar y bont.

Rydym yn sicr yn edrych ar y materion a nodwyd gan Rhun ap Iorwerth. Fel y gŵyr, rydym wedi gofyn i gomisiwn Burns edrych yn benodol ar hyn. Rydym hefyd wedi comisiynu astudiaeth i faterion gwytnwch a llif traffig ar bont Britannia, a'r effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar gynllun y gerbytffordd. Fe wnaethom edrych yn benodol, fel yr awgrymodd, ar enghreifftiau'r system 'zipper' ar bont y Golden Gate, a phont Tamar. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni, Tamar Crossings, a National Highways, sy'n gweithredu'r system draffig llanw a thrai ar bont Tamar a thwnnel Saltash yn Plymouth. Ac rydym wedi rhoi'r wybodaeth am draffig a'r wybodaeth weithredol rydym wedi'i chasglu i gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru er mwyn iddynt ei hystyried. Felly, rwy'n cytuno ag ef—credaf fod system 'zipper' yn edrych yn ddiddorol, ac o bosibl, yn ddefnyddiol iawn yng nghyd-destun Ynys Môn, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

Rwyf innau hefyd yn cydymdeimlo â'r teulu sydd mewn profedigaeth.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2007 ar gynigion a oedd yn cynnwys wyth opsiwn ar gyfer lleddfu tagfeydd traffig i ac o Ynys Môn, gan gynnwys pont newydd. Cyhoeddwyd adroddiadau yn 2008, 2009, 2011, a chyflwynwyd achos busnes strategol yn 2016, a ganfu y byddai'r cynllun yn diwallu anghenion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys amseroedd teithio, dibynadwyedd a mynediad ar gyfer defnyddwyr ffordd nad ydynt yn defnyddio cerbydau. Mae'r angen hwn wedi'i ddwysáu gan y cyhoeddiad am borthladd rhydd Ynys Môn. Yn 2017, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol wrthyf mai nod Llywodraeth Cymru oedd gweld trydedd bont dros y Fenai yn agor yn 2022. Yna, yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi'r gorau i fwy na 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. Mewn cynhadledd i'r wasg y mis diwethaf, fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog fod 'trydedd bont dros y Fenai yn brosiect rydym yn parhau i'w archwilio.' Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfûm eto ag AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, a busnesau yn ardal Porthaethwy, a gododd faterion gyda ni a oedd yn cynnwys parcio a'r angen am drydedd bont dros y Fenai. Sut felly y byddwch yn ymgysylltu â hwy ynghylch hyn, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i geisio penderfynu beth i'w wneud?

13:40

Wel, diolch am fynd â ni drwy hanes y bont a'r drafodaeth ynghylch beth i'w roi yn ei lle. Fel y gŵyr Mark Isherwood, fe wnaethom gyhoeddi ein hadolygiad ffyrdd a'n datganiad polisi diwygiedig ar ffyrdd, a gafodd ei groesawu ganddo i'r graddau ei fod yn berthnasol i'r llwybr coch yn sir y Fflint. Rydym wedi defnyddio'r un lens yn gyson wrth ystyried pob cynllun ffyrdd, nid y rhai y mae'n dymuno cael gwared arnynt yn unig, ond pob un ohonynt, ac rydym wedi ceisio cymhwyso'r rhesymeg honno'n gyson. Ac roedd hynny, fel y dywedodd, yn awgrymu nad oedd cyfiawnhad dros drydedd bont, ond nododd gyfres o ddewisiadau amgen eraill. A dyna pam fy mod wedi gofyn i gomisiwn Burns edrych o ddifrif ar hynny, yng nghyd-destun ei astudiaeth o ogledd Cymru yn gyfan, a oedd, yn wir, yn rhan o argymhellion adolygiad cysylltedd yr undeb gan Syr Peter Hendy, a gomisiynwyd gan ei Lywodraeth ef. Felly, credaf ei bod yn dda ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r argymhellion hynny. A phan gaiff yr adroddiad interim ei gyhoeddi yr wythnos hon, byddwn yn disgwyl y bydd yr holl randdeiliaid ledled gogledd Cymru yn ymgysylltu â'r comisiwn i fwydo eu syniadau i mewn, ac mae cyfle i'r holl Aelodau etholedig, a rhanddeiliaid eraill, wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae chwech o 20 afon fwyaf llygredig y DU yma yng Nghymru—afonydd Teifi, Wysg, Gwy, Tywi, Menai a Thaf. Nawr, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, llygredd carthion yw'r llygrydd mwyaf yn nyfroedd ymdrochi Cymru. Mae pobl leol ac ymwelwyr wedi bod yn heidio i'r dyfroedd yn ystod y tywydd gogoneddus hwn, a gwn eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch cyfrifoldeb eich hun ac yn dymuno sicrhau eu bod yn ddiogel i bobl. Nawr, ers 2016, mae oddeutu 450,000 o ollyngiadau gorlifoedd storm wedi bod yng Nghymru. Ers 2016, nid yw CNC ond wedi anfon—ond wedi anfon, ac rwy'n dweud hynny'n amwys—350 o lythyrau rhybuddio at Dŵr Cymru, ond o ganlyniad i anfon 350 o lythyrau rhybuddio, dim ond chwe gwaith y mae Dŵr Cymru wedi cael eu herlyn. Nawr, ymddengys i mi fod hynny'n fethiant enfawr o ran gorfodaeth. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i asesu'n annibynnol a yw CNC wedi bod o ddifrif ynghylch eu cyfrifoldebau eu hunain a'u bod wedi bod yn gorfodi'n gywir?

Diolch yn fawr, Janet. Mae arnaf ofn fod eich cwestiwn yn cynnwys camddealltwriaeth sylfaenol iawn o'r gydberthynas rhwng llythyrau rhybuddio ac erlyniadau. Yn amlwg, bydd CNC yn erlyn rhywun nad ydynt yn cymryd y camau unioni cywir. Nid ydych yn erlyn rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth ac yna'n cymryd y camau unioni cywir. Erlyn yw'r cam olaf pan nad oes ateb arall ar gael. 

Ond os caf droi at y prif bwynt, sef y cwestiwn ynghylch yr hyn rydym yn mynd i'w wneud ynglŷn â gwella ansawdd dŵr yr afonydd—nad yw erlyn byth yn mynd i'w wneud; nid yw hynny ond yn gam olaf i rywun nad ydynt yn gwneud y peth iawn—yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gwneud y peth iawn. Rydych yn rhestru'r pethau sy'n digwydd yn ein hafonydd yn gyson, ond rydych bob amser yn anghofio sôn am ddefnydd tir a llygredd amaethyddol. Mae defnydd tir a llygredd amaethyddol yn gyfranwyr mawr at lygredd afonydd ledled Cymru. Nid oes pwynt ysgwyd eich pen, mae'n ffaith; mae'n fater o ddata. Mae'n gyfuniad o gyfres gyfan o bethau ym mhob afon yng Nghymru. Gallaf gynhyrchu, ac rwy'n hapus iawn i rannu gyda'r Senedd, Lywydd, y dadansoddiad o bob afon yng Nghymru a beth yw'r llygrwr mwyaf ym mhob afon yng Nghymru, ac yna'r raddfa gyfan o broblemau. Ond y pwynt yw nad oes ots. Mae'n rhaid inni ddatrys yr holl broblemau. Felly, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn cynnal cyfres o uwchgynadleddau ac yna grwpiau gorchwyl a gorffen yn dilyn yr uwchgynadleddau, lle mae pob sector wedi ceisio cael trefn arnynt eu hunain yn hytrach na thaflu bai ar y lleill.

Felly, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn—ac fe wnaeth pob un o'r sectorau ymrwymo i hyn—mai'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw edrych i weld beth y gall eich sector ei wneud i wella ei broblemau'n cyfrannu at lygredd dŵr. Felly, wrth gwrs, mae hynny'n golygu y cwmnïau dŵr, ac rydym yng nghanol yr adolygiad pris dŵr y mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw arbennig iddo, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n dal i fynnu bod talwyr biliau yn talu am hynny, ac yn amlwg, dyna'r ffordd anghywir o wneud hyn. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni wneud y buddsoddiad sydd ei angen arnom er mwyn i'n cronfeydd dŵr fod yn iawn am ystod eang o resymau—ac mae ansawdd dŵr yn un ohonynt. Ond mewn gwirionedd, rydym ar fin wynebu haf poeth iawn a sych iawn, felly rydym eisoes wedi paratoi ein timau sychder, er enghraifft.

Felly, mae'r rhain yn bethau cymhleth iawn. Mae'n llawer rhy syml dweud y byddai'r broblem wedi'i datrys dros nos pe bai CNC yn erlyn pawb y maent yn anfon llythyr rhybuddio atynt. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Felly, byddwn yn dweud wrthych chi: ymgysylltwch â'r broses, ymgysylltwch â chyfranogiad gweithredol pob un o'r sectorau i gael trefn arnynt eu hunain, ac mae hynny'n cynnwys defnydd tir ac amaethyddiaeth; mae'n cynnwys dŵr; mae'n cynnwys adeiladwyr tai; mae'n cynnwys cynhyrchwyr bwyd; mae'n cynnwys pawb sy'n dibynnu ar ac yn cyfrannu at ansawdd ein dŵr yng Nghymru, oherwydd os nad yw pawb yn gwneud hyn, ni fyddwn yn cyrraedd lle rydym yn dymuno'i gyrraedd.

13:45

Diolch, ond credaf eich bod wedi methu ateb fy nghwestiwn: anfonwyd 350 o lythyrau rhybuddio at gwmnïau dŵr, felly, yn y pen draw, efallai yr hoffai'r Gweinidog ymhelaethu a dweud wrthyf faint o ffermwyr rydych wedi anfon llythyrau rhybuddio atynt mewn perthynas â llygredd.

Nawr, pan glywch fod bron i 0.5 miliwn o ollyngiadau wedi arwain at chwe erlyniad yn unig, ni all fod llawer o hyder yn eich cyfundrefn reoleiddio a gorfodi eich hun. Mewn gwirionedd, mae hon yn broblem a nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y llynedd, pan ddywedasom fod: 

'rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru allu ymateb mewn modd amserol ac effeithiol i ddigwyddiadau llygredd, a rhaid iddo fod yn barod i gymryd camau gorfodi pan fydd achosion o dorri trwydded yn digwydd.'

Nid ydych yn dweud wrthyf mai dim ond chwe achos o dorri trwyddedau sydd wedi digwydd yng Nghymru. Mae hyd yn oed Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor wedi dweud y byddai newid y rheolau ynghylch llygredd carthion yn creu newid cyflym. Mae'n awyddus i benaethiaid cwmnïau dŵr wynebu ymchwiliadau troseddol os yw cwmni'n gyfrifol am ddympio carthion amrwd mewn afonydd a moroedd. Rwy'n cytuno â'r egwyddor o gamau gorfodi llymach os yw hynny'n arbed ein hafonydd. A ydych chi?

Wel, Janet, rwy'n credu efallai y gallech wrando ar yr ateb yn hytrach na dim ond darllen y cwestiwn sydd gennych o'ch blaen. Rwyf newydd ddweud wrthych beth rydym yn ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd ein dŵr. Roedd yn eithaf syml. Felly, wrth gwrs, rwy'n poeni am hyn—fe wyddoch yn iawn fy mod. Ond rwy'n dweud wrthych nad dyna'r unig ateb—dim ond erlyn y cwmnïau dŵr. Nid ydych am imi erlyn pawb sydd wedi cyflawni trosedd llygredd yng Nghymru. Byddem yn ymrwymo llawer iawn o adnoddau i'r erlyniadau, ac ni fyddent yn cael fawr o effaith, os o gwbl, ar ansawdd y dŵr. Nid ydych yn bwydo mochyn drwy ei bwyso.

Felly, mae'n rhaid ichi fynd at achos sylfaenol y broblem. Achos sylfaenol y broblem yw bod pob un sector yng Nghymru yn cyfrannu rhywfaint at lygredd dŵr ac ansawdd dŵr. Mae'n rhaid i bob un sector yng Nghymru chwarae ei ran wrth unioni hynny. Mae hynny'n sicr yn cynnwys CNC a'r ddau gwmni dŵr, ond mae hefyd yn cynnwys yr holl ddefnyddwyr tir ar hyd glannau pob un o'n dalgylchoedd—pob un ohonynt. Felly, golyga hynny yr adeiladwyr tai, y cynghorau, y parciau, y ffermwyr—pob un ohonynt. Mae'n rhaid i bob un o'r bobl hynny chwarae eu rhan i leihau llygredd. Gallaf ddangos yr ystadegau i chi os hoffech, ond ar wahân i un afon yng Nghymru, y llygrwr mwyaf ar gyfer ein holl afonydd yw defnydd tir amaethyddol. Nid oes dianc rhag y ffaith honno—dyna'r data amrwd; ni ellir gwadu hynny.

Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i'r cwmnïau dŵr chwarae eu rhan—wrth gwrs hynny. Ac fel y dywedais wrthych, rydym yng nghanol yr adolygiad pris dŵr. Mae'n rhaid iddynt allu talu er mwyn gallu chwarae eu rhan; mae'n rhaid iddynt allu buddsoddi i allu chwarae eu rhan, ac oni bai bod Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt ar sut olwg fydd ar y rhaglen fuddsoddi honno, ni fydd y cwmnïau dŵr yn gallu buddsoddi ar y lefel y dylent allu buddsoddi mewn unrhyw ran o'r DU. Oherwydd y cynllun presennol gan Lywodraeth y DU yw y bydd yr holl fuddsoddiad hwnnw'n mynd ar y biliau, a bydd y cwmnïau sy'n llygru ac sy'n talu difidendau—nad yw Dŵr Cymru yn ei wneud, wrth gwrs—yn dal i allu talu difidendau er nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd y sefyllfa yr hoffent fod ynddi. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar y diben, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny—dylid erlyn pobl nad ydynt yn cael trefn arnynt eu hunain, ond mae arnom angen iddynt gael trefn arnynt eu hunain; rwy'n cytuno â hynny—mae angen i bobl gael trefn arnynt eu hunain. Ond yn hytrach na chanolbwyntio ar eu cosbi, mae angen ichi ganolbwyntio ar eu rhoi mewn sefyllfa lle gallant fynd i'r afael â'r llygredd ar y rheng flaen.

13:50

Diolch. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â'ch ateb. Nid fy mod heb wrando ar eich ateb, ond mae'n rhaid imi gytuno â Dr Christian Dunn. Nawr, boed hynny'n ddirwyon uwch neu'n euogfarnau troseddol, credaf ei bod yn amserol ystyried cryfhau'r rheoliadau presennol o ran sut mae cwmnïau dŵr yn gweithredu. Ni ddylai unrhyw un yma allu amddiffyn 0.5 miliwn o sefyllfaoedd. Mae angen camau pendant arnom sy'n profi bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'i grym yn y frwydr yn erbyn carthion. Mae angen i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y rhwystr rhag cynnydd. Nawr, fe wnaethoch addo adroddiad i ni, Weinidog, ar orlifoedd storm erbyn mis Mawrth 2023. Rwy'n iawn i ddweud ei bod bellach yn fis Mehefin. Dri mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros. Pam, ac am faint eto?

Weinidog, er ichi ddiystyru'r ffaith y dylai cwmnïau dŵr wynebu cosbau llymach a mwy o erlyniadau, a wnewch chi o leiaf edrych ac adolygu'r ochr o CNC sy'n cyflawni'r camau gorfodi hyn, er mwyn gweld a oes unrhyw ddirwyon gorfodi wedi'u methu? Diolch.

Rwy'n fwy na pharod, Janet, i ddarparu rhestr i holl Aelodau'r Senedd o'r camau gorfodi a gymerwyd gan CNC. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ond er mwyn ichi ddeall yr hyn rwy'n sôn amdano o ran y cyfraniad tuag at lygredd, mae'r rhestr gennyf yma. Felly, yn ôl dalgylch ACA: afon Cleddau Ddu, yn ôl canran, dŵr 11 y cant, defnydd tir gwledig 84 y cant, gorlifoedd storm 2 y cant, 2 y cant 'arall', er enghraifft; afon Cleddau Wen, dŵr 22 y cant, 65 y cant llygredd, gorlifoedd storm 5 y cant, 8 y cant arall; afon Dyfrdwy, 34, 48, 11; afon Teifi 66, 30—dyna'r un sy'n wahanol—3, 1; afon Wysg, 21, 67, 1, 11; afon Gwy, 23, 72, 2, 3. Felly, rydych yn cwyno am y peth anghywir.

[Anghlywadwy.]—mae hysbysiadau gorfodi wedi mynd allan i ffermwyr, felly. Atebwch y cwestiwn.

Nid oes angen trwydded ar ffermwyr, wrth gwrs, a dyna un o'r pethau rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Os yw eich plaid am awgrymu bod angen i bob defnyddiwr tir gael trwydded i roi pethau ar eu tir, cerwch amdani. Byddwn wrth fy modd pe bai un o'ch llefarwyr yn codi ac yn dweud wrthyf eich bod yn credu y dylai ffermwyr gael trwydded i roi pethau ar eu tir.

Ni ellir eu herlyn am nad oes angen trwydded arnynt, Janet.

Diolch, Lywydd. Hoffwn eich holi, os gwelwch yn dda, am rai materion cenedlaethol y credaf eu bod yn codi o'r hyn sy'n digwydd ym mhwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful. Ychydig wythnosau yn ôl, gwrthododd yr awdurdod lleol gais i bwll glo brig barhau i weithredu. Mae ymgyrchwyr, yn yr wythnosau ers hynny, wedi rhyddhau lluniau sy'n dangos yn ôl pob golwg fod y gwaith cloddio wedi parhau, a'r wythnos diwethaf, dywedodd yr awdurdod lleol fod hysbysiad gorfodi wedi'i roi i'r cwmni, yn dweud bod yn rhaid iddynt roi'r gorau i gloddio. Ond bydd hwnnw'n dod i rym ar y seithfed ar hugain o'r mis hwn, ac yna bydd gan y datblygwr 28 diwrnod arall i gydymffurfio, ac mae posibilrwydd o apêl. Felly, rwy'n credu bod o leiaf 56—. Wel, o'r adeg y rhoddwyd yr hysbysiad gorfodi, byddai isafswm o 56 diwrnod wedi bod lle gallai mwy o gloddio barhau ar ôl y dyddiad hwnnw. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch wneud sylw ar achosion unigol fel hwn, ond a gan gadw mewn cof yr hyn sydd wedi digwydd ym Merthyr Tudful, wnewch chi nodi p'un a ydych chi'n credu fod y system gynllunio sydd gennym yn addas i'r diben yn y cyd-destun hwnnw, lle gall awdurdod lleol wneud penderfyniad yn rhannol ar sail ymateb i'r argyfwng hinsawdd, ac y gall datblygwr ddod o hyd i gynifer o ffyrdd o anwybyddu neu osgoi'r penderfyniad hwnnw?

Ni allaf wneud sylwadau ar yr achos hwnnw. Mae'n achos parhaus, ac mewn gwirionedd, mae Gweinidogion Cymru yn barti yn yr achos. Felly, ni allaf wneud hynny.

Ond mae'n un o egwyddorion cyffredinol cyfraith gynllunio—ac mae'n anodd iawn newid hyn—os oes gennych drwydded fyw a'ch bod yn destun apêl, y gallwch barhau â'r gweithgarwch rydych yn apelio yn ei erbyn tra bo'r apêl yn mynd rhagddi. Mae hwnnw'n bwynt safonol mewn cyfraith gynllunio ledled y DU gyfan, hyd y gwn i—credaf ei fod yn wir yn yr Alban hefyd—ac am resymau amlwg. Oherwydd, os ydych yn adeiladu estyniad ar dŷ ac mae awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad gorfodi i chi ac rydych yn apelio yn ei erbyn, gallwch barhau i adeiladu'r estyniad hwnnw. Nid ydych yn gwybod beth yw'r sefyllfa tan i'r apêl ddod i ben a chael ei hegluro gan y llys. Nid yw'n gweithredu fel gwaharddeb, i bob pwrpas. Felly, dyna'r sefyllfa safonol.

Mae nifer o bethau rhwystredig eraill am y system gynllunio, ac rydym wrthi'n edrych arnynt. Rydym wedi llwyddo i'w newid ar gyfer rhai o'n rheoliadau adeiladu newydd, ond nid ar gyfer rhai hŷn. Er enghraifft, ar ôl ichi ddechrau adeiladu caniatâd cynllunio, gallwch barhau i'w adeiladu i'r un safon am 100 mlynedd. Rydym wedi llwyddo i newid hynny ar gyfer rheoliadau adeiladu newydd, ond nid ar gyfer rhai hŷn. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw ceisio sicrhau bod gennych rywfaint o sicrwydd pan gewch ganiatâd cynllunio y gallwch adeiladu'r hyn rydych wedi cael caniatâd i'w adeiladu—oherwydd dyna'r broblem, ynte—ac yna, os yw'r rheolau'n newid dair blynedd yn ddiweddarach a'ch bod yn dechrau ar ddarn newydd o'r cynllunio, fod yn rhaid ichi gydymffurfio â'r rheoliadau newydd. Ond os ydych ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r broses o adeiladu tŷ, gallwch weld na allwch ei ôl-osod gan fod y rheolau wedi newid draean o'r ffordd i mewn. Felly, mae'n broblem. Rwy'n cytuno bod hynny'n broblem. Rydym yn archwilio nifer o ffyrdd ledled Cymru i weld a allwn symleiddio hynny a'i wneud yn gliriach, ond mae'n parhau i fod yn faes problemus.

13:55

Diolch, Weinidog. Tybed a ellid rhoi ystyriaeth i edrych, lle caiff penderfyniadau cynllunio eu gwneud yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, i weld a ellid gwneud unrhyw newid neu p'un a oes cynsail byd-eang i rywbeth o'r fath. Byddai'n ddiddorol gwybod.

Hoffwn ofyn i chi hefyd am adfer tir halogedig mewn achosion fel hyn—unwaith eto, nid yn benodol am yr achos hwn, ond yn deillio ohono. Mae wedi bod yn hysbys ers blynyddoedd yn yr achos hwn—unwaith eto, yr achos hwn ym Merthyr Tudful—fod y pwll glo'n mynd i gau, a chafwyd dealltwriaeth y dylai miliynau fod wedi'u neilltuo ar gyfer adfer y tir ac yn y blaen. Ar ôl unrhyw brosiect o'r fath, dylid darparu hyfforddiant a chyfnod pontio ar gyfer y gweithlu hefyd. Yn Ffos-y-fran, ceir cwestiynau pwysig ynglŷn ag a oes digon o arian ar ôl ar gyfer y gwaith adfer hwnnw. Fy nghwestiwn i chi yw, ar raddfa genedlaethol, yn gyntaf, os gwelwch yn dda, sut mae'r Llywodraeth yn blaenoriaethu datblygiad rhaglenni hyfforddi a fyddai'n galluogi gweithwyr mewn sectorau sy'n dibynnu ar danwydd ffosil i bontio i swyddi newydd, ac yn olaf, pa newidiadau y credwch y dylid eu gwneud—unwaith eto, i'r system gynllunio—i sicrhau bod datblygwyr yn cael eu gorfodi i unioni'r difrod a wneir i dir pan ddaw prosiectau mawr fel hwn i ben. Gwn fod hyn yn rhywbeth sy'n agos at eich calon. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Mae nifer o bethau yno. Rydym newydd gyhoeddi, drwy adran Vaughan Gething, ond ar y cyd â minnau a fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, y cynllun sgiliau sero net, sy'n cynnwys adrannau ar sut i fynd ati'n rhagweithiol i ailhyfforddi pobl sydd mewn diwydiannau y gwyddom ein bod yn dymuno dod â nhw i ben yn raddol, fel ein bod yn cael y pontio teg rydym yn sôn amdano. Nid ydym yn dymuno rhoi cymunedau cyfan allan o waith, fel y gwnaed yn y gorffennol, wrth i ddiwydiannau newid. Felly, rydym yn sicr yn edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd ar waith. Rydym yn siarad yn gyson â'r cyrff seilwaith gwyrdd sy'n dod i mewn ynglŷn â sut y gallant fod yn sicr eu bod yn recriwtio pobl sy'n dod o hen ddiwydiannau ac yn y blaen. Felly, rydym yn sicr yn mynd ati'n rhagweithiol iawn i edrych ar hynny.

O ran adfer tir halogedig sy'n deillio o ddefnydd diwydiannol, yn anffodus, rydym yn aml yn rhwym i gontractau a lofnodwyd amser maith yn ôl pan oedd bywyd yn wahanol iawn. Unwaith eto, rwy'n ofalus iawn i beidio â gwneud sylw ar yr achos penodol, ond mae ystod o faterion—lle mae cyfleoedd wedi cael eu gwerthu, neu ble nad yw cyfrifon wedi'u cynnal, neu ble mae cyfryngau at ddibenion arbennig wedi mynd allan o fusnes, ac yn y blaen, lle nad yw bondiau cwmnïau mewn grym mwyach—y mae angen inni ddysgu oddi wrthynt. Ond mae'n eithriadol o anodd gwneud hynny'n ôl-weithredol. Gallwch ei wneud ar sail barhaus o hyn ymlaen, ond yn anffodus, roedd llawer o'r rheini'n bethau a gymeradwywyd yn y ganrif ddiwethaf, felly mae'n anodd iawn gweld sut y gallwch eu newid yn rhagweithiol ymlaen llaw.

Llygredd yn Afon Tawe

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lygredd yn Afon Tawe? OQ59590

Diolch yn fawr, Mike. Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Rydym yn gwella ansawdd dŵr drwy symud tuag at ddynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol, cryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr afonydd a thrwy sicrhau'r buddion mwyaf posibl i natur drwy systemau draenio cynaliadwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal prosiect yn afon Tawe i wella ansawdd dŵr, gan dargedu dalgylch cyfle bae Abertawe.

Diolch. Rwyf eisoes wedi codi problem carthion amrwd o safle trin gwastraff Trebanos. Mae'n debyg y bydd pobl yn falch o glywed nad wyf am wneud hynny eto heddiw. Ond rydym mewn cyfnod hir o dywydd sych, sy'n golygu bod lefelau dŵr yn anarferol o isel. O astudiaethau Americanaidd, gwyddom y gall ffosfforws gormodol mewn dŵr wyneb achosi twf sylweddol mewn planhigion dyfrol ac algâu. Gall hyn arwain at amrywiaeth o broblemau ansawdd dŵr, gan gynnwys crynodiadau isel o ocsigen tawdd, a all achosi i bysgod farw a niweidio bywyd dyfrol arall. Mae'r cysylltiad rhwng amaethyddiaeth, ffosfforws gormodol a thwf algâu gormodol mewn ecosystemau dŵr croyw yn dra hysbys. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fesur a lleihau lefelau ffosffad yn afon Tawe?

14:00

Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro cyflwr afon Tawe o dan y rheoliadau cyfarwyddeb fframwaith dŵr. Mae statws ecolegol 'da' i'r data diweddaraf o afon Tawe ac rwy'n falch iawn o ddweud bod bae Abertawe hefyd wedi cael dosbarthiad ansawdd dŵr ymdrochi cyffredinol 'da' yn 2022 am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Ar y pwynt hwn, Lywydd, dylwn ddweud mai fy etholaeth i yw honno wrth gwrs.

Mae CNC yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru a Chyngor Abertawe i hyrwyddo'r atebion seilwaith gwyrdd i leihau llygredd silt o safleoedd adeiladu, camgysylltiadau domestig, ac effaith ar ansawdd dŵr o dir halogedig. Byddant hefyd yn cynyddu capasiti'r brif system garthffosydd ac yn helpu i leihau'r gollyngiadau gorlif carthffosydd cyfun ar hyd basn afon Tawe, Mike. O'r 58 o asedau dŵr sy'n mynd i mewn i afon Tawe a'i llednentydd, mae 29 ohonynt yn mynd i fod yn destun ymchwiliad llawn o dan y fframwaith asesu gorlifoedd storm, cwblhawyd ymchwiliad ar saith ohonynt ac mae 22 i'w cwblhau yn ystod y cyfnod buddsoddi hwn, sef hyd at 2025 ac yna bydd cynllun arall ar gyfer y cyfnod ar ôl 2025. Rwy'n gwybod eich bod eisoes yn gwybod hynny. Ac rwy'n gwybod eich bod yn gwybod am y gwaith yn Nhrebanos hefyd. 

Rydym eisoes wedi cryfhau'r grŵp gweithredu ar sychder ar gyfer Cymru. Mae'n ein hatgoffa'n amserol, Lywydd, er ein bod i gyd yn mwynhau'r tywydd hyfryd iawn a gawsom dros y pythefnos diwethaf, rwy'n siŵr y byddwch wedi sylwi bod y defnydd o ddŵr yn cynyddu yn ystod cyfnodau o'r fath, ac er inni fod yn lwcus iawn dros y gaeaf a bod y rhan fwyaf o'n cronfeydd dŵr wedi ail-lenwi'n llwyr neu bron iawn, nid yw'n cymryd llawer iawn iddynt fod yn ôl i'r cyflwr roeddent ynddo y llynedd. Mae'n debyg fod dwywaith na'r arfer o bosibilrwydd y cawn haf poeth iawn eleni. Er nad ydym ar hyn o bryd yn rhagweld cyfnodau sych hir i fynd gyda'r tywydd poeth hwnnw, mae'n atgoffa pobl yn amserol iawn fod gofalu am adnoddau dŵr yn rhywbeth y dylech ei wneud fel mater o drefn drwy'r amser, oherwydd fel arall bydd gennym broblemau difrifol, fel y mae Mike wedi'i amlinellu.

Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, ac eraill yn y Siambr hon fod angen mynd i'r afael â llygredd afonydd, ac rwy'n cytuno â sylwadau'r Prif Weinidog na ellir datrys y broblem hon drwy un mesur yn unig. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn yr uwchgynadleddau rydych wedi bod yn eu cael, oherwydd rydych wedi dweud wrth y Siambr hon ar sawl achlysur fod mesurau wedi'u nodi i ymdrin â llygredd dŵr a sut y gallwn fynd i'r afael ag ef trwy fesurau naturiol ac yn y blaen. Hoffwn wybod a allech chi amlinellu pa fesurau ydynt a phryd y cânt eu gweithredu, oherwydd po gynharaf y gallwn wneud hynny, y cynharaf y gallwn lanhau ein hafonydd a dadflocio'r system gynllunio ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n anodd iawn gwneud hynny'n gyffredinol i Gymru oherwydd, yn amlwg, mae gan bob dalgylch set wahanol o atebion. Ond at ei gilydd, mae'r cynlluniau rheoli basn afon sydd gennym yng Nghymru yn cynnig mecanwaith inni allu nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar y dalgylch penodol. Yna mae gennym gyfres gyfan o weithgorau a chynlluniau gweithredu gan y grwpiau rheoli ansawdd afonydd yn well a'r byrddau rheoli maethynnau sy'n gweithio ar ein holl afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig ledled Cymru. Mae gan bob un o'r rheini gynllun gweithredu, a gymeradwywyd yn yr uwchgynhadledd, i weithio ar ddalgylch penodol yr afon y maent yn edrych arni. Felly, mae'r camau hynny'n parhau.

Proses yr uwchgynadleddau yw cynnal uwchgynhadledd dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog tua dwywaith y flwyddyn. Nid yw'n union ddwywaith y flwyddyn, ond tua dwywaith y flwyddyn, yn cael ei gyd-gadeirio gennyf fi a Lesley Griffiths. Ac yna ceir grwpiau gweithredu unigol dan fy nghadeiryddiaeth i neu Lesley Griffiths neu gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar sail barhaus, i sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cael ei gadw'n ffres ac yn fyw a'n bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae gennym hefyd system ar waith i sicrhau nad ydym yn ailddyfeisio'r olwyn, fel bod byrddau rheoli maethynnau yn deall yr hyn y mae pob un ohonynt yn ei wneud ac os oes ganddynt waith y gellir ei rannu rhwng pawb, ei fod yn cael ei rannu, ac yna down at ein gilydd yn yr uwchgynhadledd i sicrhau bod y gwersi'n cael eu dysgu ledled Cymru.

Fel y dywedais ar sawl achlysur, mae angen ymyriadau lluosog. Rydym yn newid ystum afonydd, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd lle ceir llifoedd dŵr cyflymach, y tybid eu bod yn ateb y broblem ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ond sydd bellach wedi profi'n broblemus iawn. Mae gennym yr holl waith a wnawn ar orlifoedd carthffosiaeth cyfun, ac mae rhywfaint o'r gwaith adfer y soniais wrth Mike amdano ar y Tawe yn digwydd ar nifer o afonydd ledled Cymru. Ond mae'n rhaid inni fynd i'r afael â llygredd amaethyddol a defnydd tir, a llygredd adeiladwyr tai, felly mae gennym drefn systemau draenio cynaliadwy ar gyfer hynny. Un o'r problemau mawr sydd gennym yw ein bod ers blynyddoedd wedi caniatáu i dai gael eu hadeiladu heb gyfraniad priodol i'r rhwydwaith carthffosiaeth i fynd gyda'r tai hynny. Ac mae llawer o'n dinasoedd wedi'u hadeiladu ar rwydweithiau carthffosiaeth Fictoraidd nad ydynt yn addas i'r diben. Felly, wyddoch chi, nid oes ateb byr i'ch cwestiwn; rydym yn gweithio ar set gymhleth o gamau gweithredu ledled Cymru i fynd â ni i ble mae pawb ohonom eisiau bod.

14:05

Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n nodi eich ymatebion i Janet Finch-Saunders, ac rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r safbwynt rydych chi a'r Prif Weinidog wedi'i gymryd, sef bod yr holl asiantaethau yn gyfrifol am lygredd afonydd; ni ddylem neilltuo un i'w geryddu. Ac rwy'n nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud nad yw am glywed mai grŵp arall sydd ar fai, ac rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Rwyf hefyd yn cytuno, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn cytuno, ei fod yn ymwneud â gweithredu rhagweithiol yn ogystal â gweithredu adweithiol. Felly, tybed a gaf fi ofyn i chi—ac rwy'n sefyll yma yn fy het dun braidd—am yr adolygiad ar gyfer cyllid i CNC, oherwydd yn y pen draw, o ran ymatebion adweithiol, nhw sy'n gyfrifol, fel rwy'n deall. Rydym yn gwybod eu bod yn ei chael hi'n anodd, felly tybed a allech chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am yr arian a'r adolygiad sy'n digwydd ynghylch eu gallu i allu cyflawni hynny'n effeithiol. Diolch yn fawr iawn.

Yn sicr, Jane. Cwestiwn da iawn hefyd. Fe wnaethom adolygiad sylfaenol gyda CNC a oedd yn caniatáu iddynt roi costau uned i ni am y tro cyntaf erioed. Ac yn sgil costau'r uned, rydym wedi gallu gweithio gyda nhw i adeiladu'r hyn sy'n bosibl gyda pha lefel o gyllid yn gyffredinol. Rydym wedi gallu eu helpu i flaenoriaethu'r hyn y dylent ei flaenoriaethu, o ystyried yr amlen ariannu. Rydym newydd ddod drwy'r rownd gyllidebol waethaf a brofais erioed yn Llywodraeth Cymru, felly mae'n amlwg yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw.

Ddoe, cefais y fraint o fod yn un o'r siaradwyr gwadd yn lansiad cynllun corfforaethol newydd CNC. Nid wyf yn dweud hyn yn ysgafn, Lywydd, oherwydd mae cynlluniau corfforaethol yn aml yn anodd eu darllen—rhywbeth rydych chi'n ei wneud gyda chalon drom yn hwyr yn y nos, rhywbeth sy'n rhaid i chi fynd drwyddo—ond o ddifrif, mae'n galonogol iawn. Hynny a'r cynllun corfforaethol newydd ar gyfer Bannau Brycheiniog, gobeithio, yw'r safon newydd ar gyfer cynlluniau corfforaethol. Os nad yw'r Aelodau wedi ei ddarllen, mae'n werth ei ddarllen. Mewn gwirionedd, mae'n gyffrous iawn; dechreuais gyda chalon drom a chanfod fy mod yn mwynhau ei ddarllen. Ac mae hynny oherwydd eu bod wedi ei wneud yn hollol wahanol; maent wedi rhoi eu gweledigaeth a'u cenhadaeth yn y canol ac yna wedi siarad am natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd yr holl ffordd drwodd, ac maent wedi cysylltu pob un o'u gweithgareddau yn ôl at hynny mewn ffordd sydd, yn fy marn i, wedi rhoi tipyn o hwb a gobaith i'r sefydliad cyfan, yn hytrach na'r math o deimlad rhwystredig a oedd i'w deimlo o'r blaen, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n deillio o berthynas well gyda CNC, oherwydd y cydweithio a fu rhyngom. Mae CNC yn eiddo i Lywodraeth Cymru yn llwyr; nid ydym yn elynion, nhw yw ein braich sy'n cyflenwi. Ac rwy'n credu bod y berthynas newydd â nhw wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, ar sail barhaus, byddwn yn parhau i adolygu lle maent yn rhoi eu hadnoddau a sut y gallwn fwydo mwy o adnoddau i mewn. Mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths newydd roi mwy o adnoddau i mewn ar gyfer monitro'r rheoliadau llygredd amaethyddol, er enghraifft. A chyda'n gilydd, rwy'n credu y gallwn gael ein set o flaenoriaethau wedi'u graddnodi yn y ffordd iawn.

Rydych chi wedi rhoi rhagolwg tywydd i ni ar gyfer yr haf a rhestr ddarllen ar gyfer yr haf nawr, Weinidog. [Chwerthin.]  

Cwestiwn 4, Russell George.

Saethu Anifeiliaid Hela

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fanteision amgylcheddol saethu anifeiliaid hela? OQ59591

Diolch yn fawr, Russell. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu anifeiliaid neu adar byw fel gweithgaredd hamdden. Fodd bynnag, rydym yn deall yn iawn fod angen rheoli rhywogaethau penodol weithiau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt, er enghraifft i atal niwed difrifol i safleoedd neu rywogaethau sensitif.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl yn ystod dadl fer fy nghyd-Aelod James Evans ar saethu a chadwraeth, ymyrrais arnoch i ofyn cwestiwn syml i chi ac fe wnaethoch chi ddweud wrthyf y byddech yn ateb fy nghwestiwn yn ddiweddarach yn eich cyfraniad. Yna fe aethoch ymlaen i beidio ag ateb fy nghwestiwn a gwrthod cymryd ail ymyriad. Felly, rwy'n gobeithio nawr y gallaf ofyn yr un cwestiwn i chi eto. Felly, ydw, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o ymatebion i fy nghyd-Aelodau ac eraill pan ydych chi wedi amlinellu nad ydych chi ac nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgareddau sy'n gysylltiedig â saethu. Fodd bynnag, gwn fod nifer o ddigwyddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sioeau amaethyddol sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela, felly mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela. Felly, a gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad ar beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth ariannol i digwyddiadau sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela?

Rydym yn darparu cefnogaeth i'r diwydiant helgig, sy'n ddiwydiant pwysig yng Nghymru a'r amgylchedd gwledig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hynny ers rhai blynyddoedd. Fy marn bersonol i, a barn cryn dipyn o bobl yng Nghymru rwy'n credu, yw bod gwahaniaeth mawr rhwng gorfod lladd rhywbeth am eich bod eisiau ei fwyta neu ei roi yn y gadwyn fwyd a chael rhyw bleser neu weithgaredd hamdden o wneud hynny. Rwy'n meddwl bod llinell eithaf clir rhwng y ddau beth, a dyna'r gwahaniaeth roeddwn i'n ei ddarlunio, Russell. Felly, yn bersonol, nid wyf yn credu bod gwylio rhywun yn mwynhau lladd rhywbeth yn fuddiol. Os oes raid i chi ei ladd, am wahanol resymau, dylech wneud hynny gyda chalon drom, a dyna yw fy safbwynt i ar hyn o bryd. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cefnogi diwydiant helgig yng Nghymru; wrth gwrs ein bod. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi nifer fawr o ddiwydiannau cig, sy'n galw am ladd anifeiliaid er mwyn bodoli, ond credwn y dylid lladd yr anifeiliaid hynny mor gyflym ac mor drugarog â phosibl, ac nid oherwydd eich bod yn mwynhau eich hun.

14:10

Mae cwestiwn 5 [OQ59618] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 6, Tom Giffard.

Tardegau Adeiladu Tai

6. Pa ffactorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth gyfrifo targedau adeiladu tai? OQ59606

Diolch yn fawr, Tom. Cyfrifoldeb pob awdurdod cynllunio lleol yw asesu'r angen am dai yn eu hardal. ac yn seiliedig ar y dystiolaeth hon, sefydlu gofyniad tai o fewn eu cynllun datblygu lleol.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac fe fyddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, y bydd angen adeiladu rhwng 6,200 ac 8,300 o anheddau ychwanegol bob blwyddyn i ateb y galw presennol am dai. Ond gyda phrinder cyflenwad sylweddol yn y farchnad yn hanesyddol, mae'n codi'r cwestiwn a yw'r targed hwnnw'n ddigon uchelgeisiol yn y lle cyntaf. Er hynny, mae rhai cynghorau'n dal i fethu cyrraedd y targedau adeiladu tai hyn yn gyson. Er enghraifft, addawodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu CDLl y byddent yn adeiladu 505 o gartrefi y flwyddyn, ond ers cyhoeddi'r CDLl hwnnw, maent wedi methu cyrraedd y targed un waith, a'r llynedd, dim ond eu hanner y llwyddwyd i'w hadeiladu. Ac rydym yn gwybod beth yw canlyniadau diffyg gweithredu o'r fath, Weinidog: mae prinder cyflenwad yn y farchnad yn cynyddu cost cartrefi newydd i bobl, yn enwedig pobl iau, sydd eu hangen yn fawr, pobl iau sydd am ddechrau eu bywydau a chael troed ar yr ysgol dai. Ond i mi, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn creu llawer o ganlyniadau i gynghorau nad ydynt yn bodloni'r rhwymedigaethau CDLl a nodwyd ganddynt yn y lle cyntaf, felly pa gamau a gymerwyd gennych yn erbyn cynghorau sy'n methu cyrraedd y targedau CDLl hynny'n gyson, lle maent yn anfodlon neu'n methu gwneud hynny, a pha ystyriaeth a roddwyd gennych i annog cynghorau, os ydynt yn cyrraedd diwedd y broses CDLl a'u bod heb gyrraedd y targed a nodwyd ganddynt, er mwyn eu gorfodi i roi hyd yn oed mwy o dai yn eu CDLl nesaf? Diolch.

Diolch yn fawr, Tom. Rydym yn cyflawni set eithaf cymhleth o ymyriadau. Mae amcangyfrif y CDLl ar gyfer tai ar gyfer pob math o dŷ, wrth gwrs, tai defnydd cyfunol. Felly, rydym yn ei rannu yn ôl yr hyn rydym yn ei ariannu—felly, tai ar gyfer rhent cymdeithasol a rhai tai fforddiadwy a defnydd cymysg yw'r tai rydym yn eu hariannu—a thai sy'n cael eu cyflwyno gan y sector preifat, gyda rhai o'r rheini hefyd, wrth gwrs, yn dod yn dai cymdeithasol neu dai fforddiadwy.

Fe gynhaliwyd ymarfer gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf—neu dair efallai; nid wyf yn cofio'n iawn, ond dros y blynyddoedd diwethaf—lle'r aethom drwy'r tir a ddyrannwyd ar gyfer tai ym mhob CDLl a gofyn pam nad oedd yn bosibl ei ddwyn ymlaen, oherwydd mewn rhai CDLlau roedd tir wedi'i ddyrannu nad oedd wedi cael ei ddwyn ymlaen ers blynyddoedd lawer, a daeth yn amlwg mai tir oedd hwn nad oedd byth yn mynd i fod yn addas ar gyfer tai. Mewn mannau lle gwelsom fod y tir yn addas ar gyfer tai ond bod rhwystrau'n bodoli—felly, fod tir yn halogedig, neu fod  yna broblemau mynediad penodol ac ati—rhoesom ddau gynllun grant ar waith: felly, y cyllid safleoedd segur a'r—ni allaf gofio'r llall—yr un tir halogedig—nid yw'n cael ei alw'n hynny, ond dyna beth yw ei bwrpas—yn y bôn i ddadrisgio rhywfaint o'r tir er mwyn gallu ei ddwyn ymlaen.

Ond rydym hefyd wedi bod yn gweithio—. Oherwydd y broblem ffosffadau yng Nghymru, mae gennym nifer fawr o geisiadau cynllunio yn methu symud ymlaen oherwydd y broblem ffosffadau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r adeiladwyr tai yng Nghymru, a chydag awdurdodau lleol sydd wedi'u heffeithio—nid wyf yn credu bod Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r rheini, ond beth bynnag, cryn dipyn o awdurdodau yng Nghymru—i ddarganfod sut y gallwn ddwyn y safleoedd hynny ymlaen gydag atebion penodol i'r mathau hynny o broblemau ar y safleoedd hynny. Ac yna rydym yn gofyn i'r awdurdodau lleol ailedrych ar eu CDLlau ac ail-wneud eu dyraniad asesiad tai lleol os credwn nad yw'n gweithio yn y ffordd y dylai. Felly, rydym yn cyflawni nifer o ymyriadau gwahanol i gynorthwyo'r awdurdod lleol i sicrhau bod ganddo'r dyraniadau cywir yn ei dir mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac sy'n ein galluogi i ddwyn y rhain ymlaen.

Wedyn, y peth olaf yw ein bod wedi bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth ganolog dros gyfnod y Senedd hon i geisio cyflwyno treth ar dir gwag. Mae hynny wedi profi'n llawer mwy problemus nag y gobeithiem, oherwydd roeddem wedi gobeithio gallu sicrhau nad oedd pobl yn bancio tir, ac fel bod safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer CDLlau yn mynd rhagddynt mewn gwirionedd, yn hytrach na bod tir yn cael ei fancio yn erbyn prisiau uwch.

14:15
Diogelwch ar y Ffyrdd

7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Sir Ddinbych? OQ59602

Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Cyngor Sir Ddinbych, fel yr awdurdod priffyrdd, yn gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn eu sir. Ers 2019, rydym wedi darparu dros £1 filiwn o gyllid diogelwch ffyrdd iddynt. Eleni, bydd eu cyllid yn cynnwys dros £197,000 i weithredu'r terfyn cyflymder 20 mya diofyn newydd—y cynllun diogelwch ffyrdd mwyaf mewn cenhedlaeth.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb y prynhawn yma, Ddirprwy Weinidog. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn yw oherwydd fy mod eisiau codi mater y B5119, ac os ydych chi'n meddwl, 'Wel, beth yw'r B5119?', caiff ei hadnabod yn lleol fel y 'dizzy bends', a ffordd gul yw hi sy'n cysylltu'r Rhyl a Phrestatyn. Mae'r ardal wedi gweld cryn dipyn o ddatblygiadau tai dros y 25, 30 mlynedd diwethaf, ond nid yw'r ffordd ei hun wedi'i datblygu ers dyddiau ceffyl a chert, yn anffodus. Felly, o ganlyniad i'r datblygiad, yn amlwg o ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld cynnydd yn y traffig sy'n defnyddio'r B5119. Fel Llywodraeth Cymru, gwn eich bod wedi ymrwymo i wahardd adeiladu ffyrdd o dan yr adolygiad ffyrdd, ond rwyf am wahaniaethu rhwng adeiladu ffyrdd a diogelwch ffyrdd, a pha drafodaethau y gallech eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych i wneud gwelliannau diogelwch a lledu'r ffordd yn bosibl ar gyfer y B5119, gan ein bod, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau a ddaeth yn agos at fod yn ddamweiniau difrifol, a marwolaeth a ddigwyddodd y llynedd, yn anffodus. Felly, ar ran fy etholwyr, a gaf fi ofyn i chi ynglŷn â'r posibilrwydd o edrych ar wella diogelwch ffordd y 'dizzy bends', fel rydym yn ei galw'n lleol?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Bob tro y clywaf feinciau'r Ceidwadwyr yn camddisgrifio ein polisi, rwy'n cael pwl o bendro hefyd. I fod yn glir, am y pymthegfed tro, nid ydym yn gwahardd adeiladu ffyrdd. Rydym yn adeiladu ffyrdd newydd nawr, byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd newydd, rydym wedi cytuno â Chyngor Gwynedd i adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr. Felly, rwy'n sylweddoli ei fod yn fater bach braf iddynt ei roi ar gyfryngau cymdeithasol, ond mae'n hollol anghywir. Nid oes gan yr Aelod unrhyw gywilydd ei fod yn stribedu'r camargraffiadau hyn dro ar ôl tro. Nid yw'n wir. I fod yn glir iawn, o'r gorau? Nid ydym yn gwahardd ffyrdd newydd. Felly, rwy'n gobeithio bod pawb yn deall hynny nawr.

Rydym yn cymhwyso polisi ffyrdd newydd yn seiliedig ar yr adolygiad ffyrdd annibynnol, ac mewn achosion o ddiogelwch ar y ffyrdd, mae'n dweud bod angen inni fynd trwy broses, ac un o'r pethau cyntaf y dylem ei wneud, cyn edrych ar newidiadau seilwaith fel lledu ffyrdd, mae'n dweud, neu gynyddu cyflymder ar ffyrdd, yw y dylem edrych ar dorri cyflymder ffyrdd fel cam cyntaf i wneud ffyrdd yn fwy diogel ac i leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau. 

Nawr, rwy'n credu mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw'r ffordd hon, ac mae angen iddo drafod pryderon ynghylch diogelwch gyda nhw, ac fe allant hwy wneud cais i ni yn y ffordd arferol, o fewn ein fframwaith polisi ffyrdd newydd, nad yw'n cynnwys gwahardd ffyrdd newydd. 

Cynlluniau Datblygu Strategol

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut fydd cynlluniau datblygu strategol y dyfodol yn effeithio ar broses cynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OQ59612

Diolch am y cwestiwn, Llyr.

Mae dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i baratoi cynllun datblygu lleol, fel y nodir yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Ar ôl mabwysiadu cynllun datblygu strategol gan gyd-bwyllgor corfforedig, bydd gofyn i awdurdodau cynllunio lleol yn yr ardal honno baratoi CDLl llai manwl.

Ie, diolch am hynny, oherwydd mae llawer o bobl yn gofyn sut y gallai pethau fod yn wahanol mewn senario yn y dyfodol. Oherwydd fe fyddwch yn gwybod am y cyfyngder presennol yn Wrecsam, lle mae cyngor Wrecsam bellach mewn sefyllfa lle mae consortiwm o ddatblygwyr wedi cyhoeddi her gyfreithiol yn erbyn y cyngor am bleidleisio i beidio â mabwysiadu ei CDLl. Nawr, bydd y cyngor yn pleidleisio eto yr wythnos nesaf i weld a ddylid gwrthdroi'r penderfyniad cynharach hwnnw oherwydd y bygythiad nawr y gallai barnwr orfodi'r CDLl arnynt yn erbyn dymuniadau cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, a beth mae hynny'n ei ddweud am y cysyniad o ddemocratiaeth leol, nid wyf yn siŵr. A wnewch chi dderbyn bod y llanast hwn wedi bod yn cyniwair ers amser hir? Rwyf wedi ei godi—fe wneuthum ei godi nôl yn 2012 pan wrthododd Llywodraeth Cymru a'r arolygiaeth gynllunio am y tro cyntaf, neu pan wnaethant fynnu bod y cyngor yn cyflwyno ail CDLl. Rwy'n dod yn ôl eto at bwynt a grybwyllwyd yn gynharach mewn perthynas â niferoedd tai; fe'u gorfodwyd i chwyddo nifer y tai yn y CDLl. Nawr, mae'r rheini'n hollol groes i realiti. Mae poblogaeth Wrecsam yn gostwng, nid yn cynyddu, ac i lawer o bobl leol, yn yr amgylchiadau presennol, maent yn teimlo bod Llywodraeth Cymru, yr arolygiaeth gynllunio, yn gweithio law yn llaw â datblygwyr eiddo mawr i orfodi'r tai hyn ar gymuned nad yw'n dymuno eu cael. Felly, a wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am y llanast hwn? Ac yn bwysicach fyth, yng ngoleuni'r hyn sy'n dod gyda CDLl llai manwl ac ati, a wnewch chi weithio gyda'r cyngor i geisio datrys y sefyllfa hon, yn hytrach na'r hyn sy'n teimlo fel caniatáu i ddatblygwyr gael eu ffordd?

14:20

Llyr, hoffwn yn fawr iawn gael trafodaeth gyda chi ynglŷn â ble rydym arni gyda CDLl Wrecsam, ond rwy'n ofni, Lywydd, ein bod yng nghanol cyfres o brosesau adolygiadau barnwrol y mae Llywodraeth Cymru yn barti iddynt. Felly, rwy'n ofni na allaf ei drafod ar lawr y Senedd. Ond os yw'r Aelod am ofyn am sgwrs breifat gyda mi, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Er hynny, rwy'n dweud hyn, Llyr: nid wyf yn credu bod eich disgrifiad o'r hyn sydd wedi digwydd yn Wrecsam yn gwbl deg, a hoffwn yn fawr iawn gael cyfle i gael trafodaeth iawn gyda chi yn ei gylch.

Gwasanaethau Rheilffyrdd

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59604

Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith o dan y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar gysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, gan gynnwys coridorau teithio ar arfordir gorllewin Cymru, ar system drafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, ac ar ein datblygiadau metro.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i am ganolbwyntio’n benodol ar station Sanclêr yn sir Gaerfyrddin, ond mi ddof i yn ôl at hynny mewn eiliad. Mi fyddwn ni i gyd yn y Siambr yma yn deall, wrth gwrs, bwysigrwydd datblygu rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, er mwyn cysylltu pobl â’r ardaloedd gwledig yma. Mae’n bwysig am nifer o resymau, wrth gwrs, ac rydyn ni wedi eich clywed chi’n sôn am hynny sawl gwaith.

Mae’n mynd i annog pobl i ddefnyddio llai o geir os gallwn ni uwchraddio ein gorsafoedd ni yn yr ardaloedd yma a datblygu mwy o reilffyrdd. Mae hefyd yn ymateb i’r agenda argyfwng newid hinsawdd. Hefyd, mae’n mynd i fod yn hwb i’r economi leol, gan gynnwys twristiaeth, wrth gwrs, ac yn annog mwy o deithio llesol. Felly, o safbwynt gorsaf Sanclêr yn benodol, dwi’n deall bod yna amcangyfrif o’r costau wedi digwydd, a bod tua hanner y costau hynny wedi cael eu cyfrannu yn barod gan adran drafnidiaeth San Steffan. Felly, mae yna fwlch ar ôl, o ryw £6 miliwn, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall. Felly, beth yw’r diweddaraf—os gallwch chi rannu hynny gyda ni—o ran cyfraniad Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r costau yma, er mwyn sicrhau bod gorsaf ffit i bwrpas gyda ni yn Sanclêr?

Diolch. Wel, fel y dywedodd yr Aelod, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld gorsaf yn Sanclêr fel rhan o'r broses o uwchraddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus gyffredinol, am y rhesymau a nododd yn glir iawn. Mae hefyd yn iawn fod costau cynnig Sanclêr wedi cynyddu'n sylweddol, fel pob prosiect seilwaith yn wir, ac mae ein cyllideb gyfalaf ar yr un pryd wedi'i thorri 8 y cant mewn termau real gan y Llywodraeth Geidwadol fel rhan o'r cyni ariannol y maent yn dewis mynd ar ei drywydd. Felly, mae yna fwlch, fel y dywedoch chi.

Rydym mewn trafodaethau gyda bwrdd iechyd Hywel Dda, yn rhan o'u cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. Gallai gorsaf yn Sanclêr fod yn rhan bwysig o hynny, a sut y ceisiwn gynnwys hynny yng nghynlluniau a chyllideb yr ysbyty hwnnw—. Ond yn y tymor byr, mae gennym fwlch ariannol heb ffordd glir iawn o fynd i'r afael ag ef. Mae'r rhain yn sgyrsiau sydd ar y gweill gyda Network Rail a Llywodraeth y DU .  

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

1. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i hybu addysg cyfrwng Cymraeg? OQ59616

Mae hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn greiddiol i’n strategaeth 'Cymraeg 2050'. Rwyf wedi cytuno cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yr holl awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith hwn. Rŷn ni’n gweithredu cynllun gweithlu Cymraeg uchelgeisiol ac yn ariannu gwaith partneriaid a phrosiectau amrywiol i gefnogi gweithgarwch hybu ledled y wlad.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Rydw i’n gobeithio bod data cyfrifiad 2021, yn ogystal â’r rhybuddion a roddwyd yn y pwyllgor diwylliant a’r Gymraeg yn ddiweddar, yn symbyliad i weithredu o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu’r iaith Gymraeg. Does dim digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon i ddysgu’r Gymraeg yn dod i mewn i weithio yn ein hysgolion a’n colegau. Ar ben hynny, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn dirywio, yn ôl ffigurau’r cyfrifiad. Yn anffodus, mae’r duedd ar i lawr yn arbennig o amlwg ymhlith pobl ifanc yn fy rhanbarth i, yn enwedig ym Mlaenau Gwent. Heb os, bydd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn anoddach i'w gyrraedd neu yn cael ei fethu heb gamau radical a mwy uchelgeisiol. Weinidog, ydych chi'n cydnabod bod y sefyllfa yn bryderus fel ag y mae ar hyn o bryd ac ydych chi'n hyderus y gellir troi cornel i weld pethau yn gwella? Hefyd, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael, yn benodol yn ne-ddwyrain Cymru, â'r prinder difrifol o athrawon cyfrwng Cymraeg a'r athrawon sy'n dysgu Cymraeg sy'n bodoli mewn addysg gynradd ac uwchradd? Diolch.

14:25

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r ffigurau yn y cyfrifiad, wrth gwrs, yn dangos gostyngiad mewn rhai grwpiau oedran, ond fel mae'r Aelod yn gwybod, rŷn ni hefyd wedi bod yn edrych ar ddata trwy'r arolwg cenedlaethol sydd yn dangos, am y tro cyntaf erioed, yn yr un cyfnod gynnydd yn y rhifau. Felly, mae'n rhaid mynd i waith i edrych ar beth mae'r data o'r ddwy ffynhonnell yn ei ddweud wrthyn ni. Rŷn ni wedi cytuno gyda'r ystadegydd cenedlaethol swyddogol fod cynllun gwaith yn mynd i'r afael â hynny. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni ddata dibynadwy fel Llywodraeth, ac sydd yn deall y cyd-destun. Felly, mae'r gwaith yna'n waith pwysig iawn.

Ond roeddwn i'n siomedig, wrth gwrs, yng nghanlyniadau'r cyfrifiad, er efallai fod esboniad ehangach iddyn nhw. Rwyf i yn ffyddiog bod gennym ni gynllun da er mwyn cyrraedd y nod, sydd yn nod heriol, fel mae'r Aelod yn cydnabod, yn nod uchelgeisiol yn sicr. Mae rhifau athrawon, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol i lwyddiant strategaeth addysg Gymraeg. Mae cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn hanfodol os ŷn ni eisiau gweld mwy o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd, a diolch i'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid sydd wedi cydweithio gyda ni ar hynny, gyda llawer o gamau creadigol yn hynny.

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod ardaloedd o fewn ei rhanbarth ef yn ardaloedd lle mae'r gostyngiad yn ymddangos, o leiaf, fel ei fod e ar ei waethaf, felly mae gwaith penodol i'w wneud yn hynny o beth. Rŷn ni'n falch fy mod i wedi gallu cymeradwyo cyllid ar gyfer pencampwr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg rhanbarthol newydd i weithio yn benodol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae hwn yn gydweithrediad rhwng yr awdurdodau lleol a'r mentrau iaith, ac os bydd hynny'n llwyddiannus, byddwn ni'n edrych i ehangu hynny yn genedlaethol.

Weinidog, weithiau mae yn teimlo fel ein bod ni'n syrthio i'r fagl o feddwl bod y Gymraeg ar fin marw pan, mewn gwirionedd, fo'r ffigurau a gyhoeddwyd gan bapur newydd The Scotsman yn dangos bod dros 15 gwaith yn fwy o siaradwyr Cymraeg nag sydd o siaradwyr Gaeleg yr Alban, ac mae gan Gymru tua hanner poblogaeth yr Alban. Felly, mae gwir angen i ni fod yn fwy optimistaidd am yr iaith a'i dyfodol, yn enwedig wrth i ni symud tuag at Cymraeg 2050. Gyda hyn mewn golwg, sut mae Llywodraeth Cymru yn edrych i fod yn fwy cadarnhaol ac optimistaidd yn ei hiaith ei hun wrth iddi geisio annog mwy o athrawon i ymuno â'r gweithlu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Diolch.

Rwy'n optimist wrth reddf, felly'n cytuno â beth mae'r Aelod newydd ei ddweud. Mae'n bwysig, rwyf i'n credu, er ein bod ni'n trafod yn aml yr heriau sy'n wynebu recriwtio, er enghraifft, ein bod ni hefyd yn dathlu'r cyfraniad mae athrawon yn gallu ei wneud a'r galw sydd angen arnom ni ar gyfer athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn annog pobl i ddod i mewn i'r proffesiwn, gan fod dysgu yn un o'r proffesiynau prin hynny lle gallwch chi gael effaith sylweddol iawn ar gwrs bywyd cannoedd a miloedd o bobl, efallai, ac annog mwy a mwy o bobl i ddysgu'r Gymraeg.

Teithio Llesol

2. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion? OQ59598

Mae ei gwneud hi'n bosib i fwy o blant gerdded a mynd ar sgwter neu feic i’r ysgol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rŷn ni’n gweithio’n agos ar draws adrannau a chyda phartneriaid eraill i gyflawni’r amcan hwn.

Diolch, Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gynradd Pencoed—enghraifft arall o'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion yn Ogwr, a ledled Cymru, yn wir. Wrth imi gyrraedd, gwelais 30 neu fwy o feiciau a sgwteri yn y storfa bob tywydd o flaen yr ysgol. Eglurodd y pennaeth, Mr Raymond, fod staff a llywodraethwyr yr ysgol yn gweithio gyda rhieni a'r plant i annog cerdded, beicio a sgwtera i'r ysgol. Mae hyn yn digwydd yn amlach nawr, diolch i fuddsoddiad enfawr Llywodraeth Cymru mewn llwybrau diogel i'r ysgol a chyfleusterau teithio llesol mewn ysgolion hefyd. Ond mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni gael pob ysgol yn gwneud mwy o hyn, ac mae angen i'n holl blant, ac athrawon a llywodraethwyr a rhieni, fod yn rhan ohono. Felly, wrth inni ddathlu canfed Wythnos Genedlaethol y Beic, sy'n nodi canrif o ddathlu beicio bob dydd i bawb, pa neges fydd y Gweinidog yn ei hanfon i ysgolion ledled Cymru, a pha gamau mwy ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd fel bod ein disgyblion yn cael y manteision i'w hiechyd, y manteision lles, mae llai o congestion ar ein ffyrdd oherwydd school runs, ac mae'n haer yn lanach i bawb?

14:30

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cyfle i allu annog ein hysgolion ni ar draws Cymru i wneud popeth y gallan nhw i annog, nid jest disgyblion, ond fel mae e'n ei ddweud mor bwysig yn ei gwestiwn, staff ysgol hefyd, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach hefyd, wrth eu bod nhw'n ymwneud â'r ysgol, i ddefnyddio ffyrdd amgen o allu cyrraedd yr ysgol. A gaf i ddiolch iddo fe am y gwaith y mae e wedi ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o beth hefyd, sydd wedi ysgogi llawer o'r pethau sydd gyda ni mewn golwg—buddsoddiad mewn i ysgolion yn fwyfwy dibynnol ar gael cynlluniau active travel o'r math y mae e'n sôn amdanyn nhw, ond hefyd adnoddau newydd ar Hwb i gefnogi ysgolion a chymuned ysgolion i allu gwneud popeth y gallan nhw yn y ffordd y mae e'n ei ddweud yn ei gwestiwn, a'r buddsoddiad gwych, rwy'n credu, yng nghynllun School Streets, sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol, dwi'n gobeithio, er mwyn ei gwneud hi'n haws i ysgolion ddenu trafnidiaeth llesol i'r ysgol? A gaf i hefyd ddiolch iddo fe am ein hatgoffa ni ei bod hi'n Wythnos y Beic? Byddaf i'n seiclo i'r gwaith yfory, er mwyn dathlu'r wythnos honno.

Weinidog, er bod croeso i unrhyw ymgais i annog teithio llesol gan ddisgyblion ysgol, mae’n rhaid inni hefyd fynd i’r afael â’r ffaith, yn aml iawn, nad yw llwybrau teithio llesol diogel yn bodoli i lawer o blant. Rwy'n aml wedi codi’r ffaith, yn fy mhentref fy hun, Pen-y-fai, mai ychydig iawn o lwybrau teithio llesol diogel sydd gennym. Mae gennym broblem hefyd lle nad oes sicrwydd y bydd disgyblion sy’n byw o fewn pellter cerdded neu feicio i ysgol yn cael eu derbyn i’r ysgol honno, gyda’r ysgol a ddynodwyd ar eu cyfer yn aml yn anaddas ar gyfer teithio llesol i blant iau. Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, i sicrhau bod teithio llesol yn opsiwn ymarferol i’n disgyblion ysgol?

Cyfeiriaf Altaf Hussain at yr ateb rwyf newydd ei roi i Huw Irranca-Davies, sy'n nodi’r camau rydym yn eu cymryd. Ar y cwestiwn am lwybrau i'r ysgol a'i gwneud yn hawdd i bobl allu cerdded, beicio a sgwtera i gyrraedd lleoliad ffisegol yr ysgol, rydym yn annog awdurdodau lleol—gofynnodd imi beth a wnawn gydag awdurdodau lleol—i gyflwyno Strydoedd Ysgolion, rhywbeth rwyf newydd ei grybwyll yn fy ateb i Huw Irranca-Davies. Ac maent yn ymwneud â chau ffyrdd o amgylch ysgolion ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol, er mwyn gwella amodau ar gyfer cerdded a beicio a sgwtera, lleihau llygredd aer, yn amlwg, gwella diogelwch ffyrdd, hefyd yn amlwg. Fe wnaethom ariannu awdurdodau i gyflwyno cynlluniau i wneud hyn; mae 13 o awdurdodau wedi cael cyllid i wneud hynny, ac rydym wedi buddsoddi bron i £5 miliwn yn y cynlluniau hynny. Rwy’n meddwl ei fod yn ddatblygiad cyffrous iawn, i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gyrraedd yr ysgol gan ddefnyddio opsiynau teithio llesol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf am ofyn ichi am argyfwng sy’n ymddangos fel pe bai’n gudd yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae miloedd o achosion o drais mewn ysgolion cynradd a channoedd o achosion mewn ysgolion uwchradd wedi'u cofnodi yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prifysgol Roehampton yn Llundain adroddiad ar drais tuag at gynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr dosbarth yn ysgolion prif ffrwd y DU. Canfu’r adroddiad fod 53 y cant o athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi profi trais corfforol mewn blwyddyn, a bod 60 y cant wedi profi cam-drin geiriol. Ar ôl cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i holl gynghorau Cymru, llwyddodd fy swyddfa a minnau i ddod o hyd i’r canlyniadau yng Nghymru; fodd bynnag, ni fu hynny'n bosibl yn achos rhai cynghorau. Weinidog, ers 2018-19, mae 3,872 o ddigwyddiadau treisgar, y gwyddom amdanynt, wedi’u cofnodi yn ein hysgolion ledled Cymru, ac nid yw hyn yn cynnwys cam-drin geiriol. Fy nghwestiwn i chi yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r mater hwn ac wedi caniatáu iddo waethygu yn y ffordd hon?

14:35

Bydd hi’n gwybod o’i gwaith ar y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi bod yn gweithio gydag undebau athrawon mewn perthynas â’r union gwestiwn hwn, ac mae’n gwestiwn pwysig. Yr hyn nad yw wedi bod yn gwbl glir yw maint y broblem. Mae ganddi rai ffigurau yno, ond fel y mae’n nodi ei hun, nid yw’n gwbl glir mai dyna’r darlun llawn, na bod yr hyn sy’n cael ei adrodd yn adlewyrchu’r cyd-destun hefyd. Cefais gyfarfod ddoe lle trafodais ag undebau athrawon, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gydag awdurdodau lleol, yr hyn y gallwn ei wneud i ddeall maint y broblem—. Fe fydd hi'n cofio o'r ohebiaeth a dderbyniodd y pwyllgor gan Unsain fod ganddynt arolwg a ddangosodd fod gan 41 y cant o'u haelodau rywfaint o brofiad ar draws ystod o ymddygiadau. Ac nid oedd hyn wedi cael ei drafod yn flaenorol yn y fforwm partneriaeth ysgolion, felly, gofynnais iddo gael ei ddwyn ymlaen. Cawsom drafodaeth dda a chadarnhaol ddoe. Mae rhai themâu’n dod i’r amlwg ynghylch pam y gallai fod cynnydd yn y niferoedd, ac yn sicr mae tuedd i ddangos cynnydd. Yr hyn nad yw’n glir eto yw’r union resymau pam, a’i union faint, ond rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddeall hynny a gwneud yn siŵr fod cymorth yno i athrawon, os nad yw yno eisoes.

Diolch, Weinidog, ac rwy’n falch fod rhywbeth yn dechrau cael ei wneud yn ei gylch o’r diwedd, oherwydd gyda Chymru eisoes yn profi argyfwng gyda niferoedd athrawon a achoswyd gan Lywodraeth Cymru, diolch i ymdrechion di-fflach Llywodraethau olynol yng Nghymru, mae’n amlwg i mi fod trais yn mynd i wthio pobl oddi wrth y proffesiwn. Weinidog, yn lle dod â’r mater i’r amlwg, mae eich Llywodraeth wedi caniatáu iddo waethygu’n dawel yn y cefndir ers degawdau bellach. I wneud hyn yn waeth yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw safon adrodd—fel rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod o'ch cyfarfod ddoe—na gofyniad i adrodd am gamdriniaeth neu drais yn yr ystafell ddosbarth. Felly, Weinidog, mae mwy i’r ystadegau hyn a ddarllenais i chi nag a welir, ac mae’r darlun gwirioneddol, fel y dywedoch chi nawr, yn llawer iawn gwaeth yn ôl pob tebyg. Felly, pam nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno safon adrodd ledled Cymru, a pham nad oes gofyniad hyd yma i adrodd am achosion o drais, hyd yn oed, yn yr ystafell ddosbarth?

Wel, maent yn cael eu hadrodd; y cwestiwn yw sut maent yn cael eu hadrodd, ac yn sicr, bydd yna enghreifftiau lle na chânt eu hadrodd. Felly, rwy’n amlwg yn derbyn hynny. Mae hynny’n nodwedd o ofynion adrodd yn gyffredinol mewn cyd-destunau eraill hefyd. Yr hyn y mae angen inni ei ddeall yw beth yw maint y broblem a pham ei fod yn digwydd. Mae pwysau arbennig ar ysgolion ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd yr ymateb i COVID, ac mae yna heriau ymddygiad wedi codi o ganlyniad i hynny, heb os. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cydweithio â’n partneriaid i ddeall y broblem yn ei chyfanrwydd, fel y gallwn ymateb yn llawn bryd hynny, ac yn amlwg dyna rydym yn ei wneud, fel y soniais.

Diolch, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod bob amser yn awyddus imi ddod â syniadau i'r Senedd i'ch helpu, felly dyma ni. Fe ddywedoch chi yma, nawr, fod angen inni ddeall maint y broblem. Felly, pam na wnewch chi gynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar drais mewn ysgolion, ac yn ail, cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon, staff ac arweinwyr ysgol; (3) diwygio gweithdrefnau gwahardd, fel bod pobl sy'n cael eu gwahardd wedyn yn mynd ymlaen i gael y cymorth sydd ei angen arnynt; (4) sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon i gefnogi dioddefwyr a chyflawnwyr trais, a (5) creu llinell gymorth genedlaethol i gefnogi athrawon a staff sy'n ofni adrodd am drais ac aflonyddwch. Felly, Weinidog, a wnewch chi gytuno i edrych ar yr awgrymiadau a wnaed gennyf heddiw, ac yn olaf, rhoi'r sylw y mae'n ei haeddu i’r mater? Mae ein myfyrwyr yn haeddu gwell, ac mae ein hathrawon yn haeddu gwell. Diolch.

Wel, diolch i’r Aelod am ddod ag awgrymiadau cadarnhaol i’r drafodaeth; rwy’n croesawu’n llwyr y cywair newydd yn ei chyfraniad. Felly, yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio ar hyn gyda'n partneriaid, sy'n arbenigwyr yn y maes—felly, gyda'n partneriaid yn yr undebau athrawon, gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau addysg lleol, a chydag arbenigwyr eraill, i ddeall y pwyntiau a wneuthum yn fy atebion blaenorol i’r Aelod yn gynharach. Mae’n fater pwysig, ac mae pob un ohonom eisiau deall, gyda’n gilydd, beth sy’n digwydd a pham, fel y gallwn gael ymateb gwybodus i hynny.

Gwnaeth bwynt penodol am waharddiadau. Fe fydd hi'n gwybod fy mod, yn gynharach yn yr wythnos, wedi cyhoeddi'r canllawiau presenoldeb ar gyfer ymgynghoriad. Ochr yn ochr â hynny, mae gwaith eisoes yn digwydd mewn perthynas â gwaharddiadau i adnewyddu’r canllawiau hynny, a bydd yn cwmpasu rhai o’r pwyntiau y mae hi wedi’u gwneud heddiw. Felly, mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, a byddaf yn hapus iawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y gwaith hwnnw maes o law.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog. Mae data HESA ar gyfer 2021-22, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar, yn dangos sector addysg uwch yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau cynyddol. Mae diwedd y flwyddyn academaidd hon wedi'i ddominyddu gan bryderon am brisiau ynni a chwyddiant cynyddol, gweithredu diwydiannol dros gyflogau a phensiynau, pryderon ynghylch caledi myfyrwyr, ac mae gwerth y cap ffioedd cartref yng Nghymru yn gostwng yn gyflym felly, a’r sector wedi bod yn gorfod torri gwariant a gwneud arbedion yn wyneb rhewi’r ffioedd ers nifer o flynyddoedd. Canlyniad anorfod hyn yw bod staff yn wynebu gorfod gwneud mwy heb y cynnydd cymesur mewn cyflog nag adnoddau. Dim ond trwy gynyddu incwm trwy recriwtio y gall darparwyr gadw’u capasiti presennol nhw, ond heb y gallu i fuddsoddi er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad o ansawdd da, mae’n gylch dieflig.

All y Gweinidog, felly, amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r bwlch incwm gwariant pryderus yma sy’n cael ei arddangos yn y ffigurau HESA ar gyfer prifysgolion Cymru? Sut ŷch chi’n mynd i gefnogi sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i’r dyfodol yn sgil hyn?

A, Llywydd, dylwn i fod wedi datgan diddordeb bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.

14:40

Wel, dwi ddim yn gwybod os oedd yr Aelod yn fy meirniadu i am beidio â chynyddu ffioedd, ond dwi ddim yn bwriadu cynyddu ffioedd. Mae’n gyfnod anodd i fyfyrwyr ar hyn o bryd, ac felly rwy’n sicr bod angen cefnogi sefydliadau, ond mae hefyd eisiau sicrhau nad yw myfyrwyr yn talu hefyd yn ychwanegol. Felly, mae cyllideb eleni i’r sector dros ryw £212 miliwn i’r sector, felly mae'n gyllideb sylweddol iawn. Rŷn ni wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau, o fewn y pwysau aruthrol sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ein bod ni’n parhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn sefydliadau addysg uwch, a dyna beth rŷn ni wedi’i wneud eleni. Dwi ddim am eiliad yn tanystyru’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud; maen nhw’n bwyntiau pwysig. Mae pwysau ar sefydliadau, fel sydd ar bob rhan arall o’n gwasanaethau ni a’n cymdeithas a’n heconomi ni. Dwi mewn trafodaeth gyson gyda’r is-gangellorion ar hyn o bryd i weld beth yw goblygiadau, beth yw implications, hyn, a beth mwy y gallwn ni ei wneud ar y cyd i weithredu efallai mewn ffyrdd gwahanol, er mwyn cydnabod bod y pwysau ariannol gyda ni yn bwysau real iawn, ac mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn rhai creadigol a chalonogol ac yn mynd i barhau.

Diolch. Mae strategaeth gwaith ieuenctid y Llywodraeth yn datgan yn glir pa mor bwysig yw rôl gwaith ieuenctid i Gymru, i hyrwyddo ac annog cyfleoedd ar gyfer pob person ifanc, er mwyn iddynt allu cyflawni’r potensial i fod yn unigolion sydd wedi’u grymuso, ac fel aelodau o grwpiau a’r gymuned, a thrwy hynny wella eu cyfleoedd bywyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y strategaeth hon ac mae ei bwrdd gweithredu ar waith ieuenctid wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith ieuenctid fel proffesiwn ac fel gyrfa. Mae’n destun pryder a siom felly fod prifysgol Wrecsam wedi cael gwared ar ei rhaglen israddedig ar waith ieuenctid a chymunedol yn swyddogol, ac o ganlyniad i hyn, nid oes llwybr cydlynol bellach o’r cymhwyster cymorth gwaith ieuenctid lefel 3 i gymhwyster proffesiynol yng ngogledd a chanolbarth Cymru; darpariaeth MA yn unig fydd yn parhau. Mae pryder eang am hyn yn y sector; mae'r MA, meddent, yn anaddas i lawer o'r ymgeiswyr israddedig posibl sy'n dod i fyny trwy waith yn eu cymunedau lleol. Mae graddedigion o Wrecsam gan amlaf yn mynd ymlaen i ymarfer yng ngogledd Cymru ac mae hyfforddiant mewn mannau eraill yn creu risg y byddant yn aros yn ne Cymru, neu yn rhywle arall yn y DU hyd yn oed, ac yna hefyd, wrth gwrs, yn methu manteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg lleol ar draws y rhanbarth. Felly, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda phrifysgol Wrecsam ynglŷn â chael gwared ar y rhaglen israddedig hon, a pha asesiad a wnaed gan y Llywodraeth o sut mae ei dileu yn effeithio ar nifer yr israddedigion sy’n mynd ymlaen i ymarfer gwaith ieuenctid a chymunedol proffesiynol yng ngogledd a chanolbarth Cymru?

Wel, mae’r Aelod yn iawn i nodi bod cefnogi a chryfhau’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog, ond mae hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol. Mae’n rhan o’n rhaglen lywodraethu, ac mae a wnelo hynny â nifer o bethau. Mae'n ymwneud â cheisio adolygu'r strwythur ariannu ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru, sy'n amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru, rwy'n credu. Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiadau ariannol sylweddol i’r sector. Mae gwaith y bwrdd gweithredu yn wirioneddol werthfawr, ac yn parhau i helpu i arwain y ffordd drwy’r diwygiadau y ceisiwn eu cyflawni, ac rydym hefyd—fel y bydd yr Aelod yn gwybod—yn edrych ar y sail ddeddfwriaethol ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru. Nid wyf wedi cael trafodaethau mewn perthynas â’r cwrs israddedig penodol y mae’n cyfeirio ato yn ei chwestiwn. Yn amlwg, mater i brifysgolion fel sefydliadau ymreolaethol eu hunain yw darparu cyrsiau, ond fe geisiaf ddarganfod mwy mewn perthynas â’r cwrs penodol hwnnw, ac rwy’n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod yn sgil hynny.

Recriwtio Cynorthwywyr Addysgu

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio asiantaethau i ddarparu cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion? OQ59593

14:45

Gwnaf yn wir. Fel sy'n wir am bob mater staffio, wrth gwrs, ysgolion sy'n gyfrifol am benderfynu sut i recriwtio cynorthwywyr addysgu. Bydd eu penderfyniadau nhw yn wahanol yn ôl anghenion unigol yr ysgol a'i dysgwyr. Gall ysgolion gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol neu drwy eu hawdurdod lleol neu asiantaeth gyflogi.

Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethoch gyhoeddi eich bod yn creu grŵp llywio dysgu proffesiynol i gynorthwywyr addysgu er mwyn datblygu adnoddau pellach ar gyfer arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion ar ddefnyddio cynorthwywyr addysgu. Deallaf fod y grŵp llywio wedi bod yn ystyried isafswm gofynion mynediad ar gyfer cynorthwywyr addysgu fel rhan o’i waith—os gallwch gadarnhau hynny. Ac fe dynnodd etholwr fy sylw at y ffaith bod rhai asiantaethau yn hysbysebu swyddi cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt yn galw am unrhyw gymwysterau o gwbl, ac rydym ychydig yn bryderus ynglŷn â hynny. A wnewch chi roi sylwadau ar hyn os gwelwch yn dda a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp llywio ar fater isafswm y gofynion mynediad, a phryd mae’r grŵp llywio’n debygol o adrodd ar y mater hwnnw?

Cawsom drafodaeth ddoe mewn gwirionedd, yn y cyfarfod y cyfeiriais ato mewn perthynas â'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y grŵp hwnnw, ac mae cynorthwywyr addysgu yn ganolog iddo ac yn arwain rhai agweddau arno, sydd, yn fy marn i, yn nodwedd wirioneddol bwysig ohono. Mae wedi bod yn edrych ar ystod o agweddau. Mae defnydd yn un agwedd, a thelerau ac amodau yn fwy eang, a sut y gallwn safoni dull o recriwtio, cyflogi a defnyddio rhwng y gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ac fel y gofynnodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rhan sylweddol o’r gwaith yw gwella dysgu proffesiynol a hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Mae gan gynorthwywyr addysgu bellach yr un hawl ag athrawon i’r hawl dysgu proffesiynol cenedlaethol, ac mae’r cyllid sydd ar gael i ysgolion i gefnogi dysgu proffesiynol bellach yn ystyried nifer y cynorthwywyr addysgu ar gofrestr yr ysgol, yn ogystal â nifer yr athrawon. Felly, rwy'n credu bod newid amlwg yn y cymorth a ddarperir i gynorthwywyr addysgu o safbwynt dysgu proffesiynol. Mae’r grŵp hefyd yn edrych ar gwestiynau’n ymwneud â chymwysterau, fel y gŵyr yr Aelod. Mae gennym eisoes raglen hyfforddi trwy lwybr dysgu cynorthwywyr addysgu, sy’n darparu modd i gynorthwywyr addysgu gamu ymlaen yn eu gyrfa. Mae un o'r ystyriaethau'n ymwneud â chymwysterau proffesiynol yn ehangach. Mae arnaf ofn nad wyf yn cofio dyddiad yr adroddiad ar yr agwedd honno, ond rwy'n hapus i ddarparu'r wybodaeth benodol honno ar wahân i'r Aelod. Fe fydd yn cofio imi roi diweddariad i’r Senedd am waith grŵp gweithredu’r gweithlu yn ehangach ychydig fisoedd yn ôl, a byddaf yn ceisio gwneud hynny o bryd i’w gilydd dros y misoedd nesaf hefyd.

A gaf fi ddiolch i Hefin David am gyflwyno’r cwestiwn hwn? Fel cyn gynorthwyydd addysgu asiantaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, rwy’n arbennig o falch eich bod wedi cyflwyno hyn heddiw. Os gwnaiff y Gweinidog ganiatáu imi fynd ar daith fer a chyflym ar hyd llwybr atgofion, Weinidog, fe fyddwch wedi gweld amser hapus iawn i mi, ond roeddwn am dynnu eich sylw at un enghraifft yn arbennig heddiw. Yn amlwg, fel cynorthwyydd addysgu a gyflogid gan asiantaeth, cawn fy nhalu ar gyfradd ddyddiol, ac ar un diwrnod penodol, fe wnaeth hi fwrw eira ac roedd y pennaeth wedi barnu ei bod yn anniogel ac felly, fe wnaeth anfon y plant adref amser cinio. Roedd hynny'n golygu mai dim ond hanner diwrnod o dâl a gefais y diwrnod hwnnw, a oedd yn effeithio ar gyllidebau wythnosol ac ystyriaethau eraill, yn amlwg, ac roedd gennyf yr un costau teithio i ac o’r ysgol ar y diwrnod hwnnw. Yn amlwg, rwy’n deall nad oes gennych bwerau dros gyfraith cyflogaeth, ond mae gennych bwerau dros ganllawiau y gallwch eu rhoi i benaethiaid ac arweinwyr ysgolion wrth wneud penderfyniadau fel hynny. Felly, a gaf fi ofyn pa gamau a roddwyd ar waith gennych yn y maes hwn i sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw gynorthwywyr addysgu eraill yn y dyfodol gael yr un profiad â mi, yr holl flynyddoedd hynny yn ôl?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn fwy pwerus felly am ei fod wedi’i seilio ar ei brofiad ei hun ohono, wrth gwrs. Mae'n iawn i ddweud nad oes gennyf bwerau uniongyrchol mewn perthynas â hynny, ond y rheswm pam y lansiais y rhaglen waith hon dros flwyddyn yn ôl yw oherwydd straeon fel yr un y mae'r Aelod newydd ei roi a phrofiadau o ymarfer sy'n amrywio rhwng ysgolion ac yn sicr rhwng awdurdodau addysg lleol hefyd. Pwynt y gwaith yw arwain at ganllawiau mewn perthynas â llawer o’r cwestiynau hynny, cwestiynau’n ymwneud â thelerau ac amodau, cynnydd gyrfaol, ond hefyd cwestiynau y credaf y byddant yn darparu sylfaen inni allu symud ymlaen ar fater tâl hefyd, sy’n hollbwysig, o brofiad pob cynorthwyydd addysgu unigol, ond hefyd i wneud yn siŵr fod gennym weithlu o gynorthwywyr addysgu i wneud y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ein hysgolion.

14:50
Clybiau Gwyliau

4. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi ysgolion sy'n dymuno cynnal clybiau gwyliau? OQ59595

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu rhaglen gwella gwyliau'r haf ac mae £4.85 miliwn wedi'i ddyrannu i'r rhaglen ar gyfer eleni. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn gweithio'n agos i sicrhau cysondeb rhwng rhaglen gwella gwyliau'r haf a'r rhaglen wyliau Gwaith Chwarae, sy'n cael ei rhedeg gan ddarparwyr chwarae a gofal plant.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac am y gefnogaeth rydych yn ei chynnig i ysgolion. Mae gan Ysgol Pen Coch yn sir y Fflint uchelgais fel ysgol i redeg clwb gwyliau hefyd, ond fel ysgol, maent yn wynebu heriau ychwanegol. Gyda'r hyn rydych wedi'i ddweud, tybed a oes unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei darparu i ysgolion, fel Ysgol Pen Coch, i sicrhau darpariaeth o glybiau gwyliau. Ac a wnewch chi ofyn naill ai i'ch swyddogion yn yr adran addysg neu i swyddogion y Dirprwy Weinidog yn yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol edrych ar achos penodol Ysgol Pen Coch. Ac os gallant adrodd yn ôl i mi ar hynny hefyd, byddai hynny'n wych.

Rwy'n hapus i wneud hynny, Lywydd. Yn gyffredinol, lle mae gan ysgol ddiddordeb mewn rhedeg clwb gwyliau, byddant yn cysylltu â'u hawdurdod lleol yn y lle cyntaf, ac yna gall awdurdodau lleol eu rhoi mewn cysylltiad â darparwyr eraill a allai fod â diddordeb mewn cydweithio â nhw. O ran y rhaglen gwella gwyliau'r haf, Bwyd a Hwyl, byddaf yn gwneud yn siŵr fod fy swyddogion yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gan yr ysgol unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arni er mwyn gallu bwrw ymlaen â hynny.

Mae etholwyr wedi cysylltu â minnau hefyd ynglŷn ag Ysgol Pen Coch, sef yr unig ysgol gynradd a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer plant anabl yn sir y Fflint, lle mae gan lawer o'r disgyblion awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig neu anghenion cymhleth, a lle byddai clwb gwyliau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i les disgyblion a'u teuluoedd. Fodd bynnag, fel y clywsom, yn wahanol i ysgolion eraill yn y sir, nid oes gan yr ysgol hon ddarpariaeth clwb gwyliau, lle byddai hyn yn llawer drutach na mewn ysgol brif ffrwd yn ôl yr hyn y mae etholwyr yn ei ddweud wrthyf, ac nid oes ganddynt arian ac arbenigedd, gan adael rhieni a llywodraethwyr i'w weithredu, sy'n afrealistig. Ac fel maent yn ei ddweud, mae plant mewn ysgolion arbennig yn cael eu trin yn wahanol i blant mewn ysgolion prif ffrwd, pan fo angen rhagor o ddarpariaeth ar gyfer eu hymddygiad a'u gwelliannau, ac angen ei hasesu. Felly, pa ofyniad penodol, os o gwbl, sy'n bodoli ar gyfer darpariaeth o'r fath mewn ysgolion cynradd yn gyffredinol, ac mewn ysgolion cynradd arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn enwedig?

Wel, rwy'n gobeithio y bydd yr ateb a roddais i Jack Sargeant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi ysgolion yn benodol, i ddeall beth yw'r rhwystrau arbennig a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw ar lefel ysgolion.

Trochi yn y Gymraeg

5. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar ddarparu cyfloedd trochi yn y Gymraeg i ddysgwyr oed ysgol yng Nghanol De Cymru? OQ59588

Rwyf wedi ymrwymo £6.6 miliwn dros weddill cyfnod y Senedd hon i ehangu darpariaethau trochi hwyr ar draws Cymru. Mae bron £1 filiwn yn cael ei buddsoddi dros gyfnod o dair blynedd i sefydlu darpariaethau newydd yn siroedd Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, ac i ehangu yn sylweddol y ddarpariaeth sydd yng Nghaerdydd.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gwybod ein bod ni yn hollol gytûn o ran gwerth trochi. Rydyn ni i gyd wedi adlewyrchu’n flaenorol gweld pobl o Wcráin, er enghraifft, wedi manteisio ar hynny a dod yn hollol rugl yn y Gymraeg. Ond eto, mae yna amrywiaethau mawr ar y funud yn fy rhanbarth fy hun. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, diolch i'r buddsoddiad gan y Llywodraeth, mae'n bosib i blentyn fod am 12 wythnos mewn ysgol, o ddydd Llun i ddydd Iau, lle mae’r profiad yn Rhondda Cynon Taf ar y funud ydy efallai awr y diwrnod, sy'n wahaniaeth mawr. Felly, beth hoffwn weld ydy sut ydyn ni'n sicrhau bod trochi, a throchi gwirioneddol felly, er mwyn i blant a phobl ifanc gael y cyfle i fedru’r Gymraeg—. Sut ydyn ni'n sicrhau nad loteri cod post mo’r profiad hwnnw, a’n bod ni'n gallu rhoi’r un math o gynnig, boed ichi fod ym Mro Morgannwg, Caerdydd neu Rhondda Cynon Taf, sef y tair ardal o ran awdurdodau lleol yn fy rhanbarth i?

Wel, y newyddion calonogol yw bod pob awdurdod wedi rhoi cynnig i mewn am ran o'r gyllideb hon, ac mae rhywfaint wedi'i ddyrannu i bob awdurdod. Ond y gwir plaen amdani yw bod pob rhan o Gymru mewn lle gwahanol yn eu siwrne o ran gallu darparu trochi hwyr. Mae rhai awdurdodau wedi bod yn gwneud hyn am ddegawdau, yn arloesi, ac mae eraill yn dilyn eu hesiampl nhw. Felly, dwi ddim yn credu ei bod hi'n realistig heddiw i ddisgwyl bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob rhan o Gymru, yn anffodus, ond beth hoffwn i weld fel rhan o'r darpariaethau yn y Bil—rŷn ni wedi bod yn ymgynghori ar hyn fel rhan o'r Papur Gwyn gyda Phlaid Cymru, fel mae'r Aelod yn gwybod—yw beth allwn ni wneud i sicrhau, ym mhob awdurdod lleol, fod trochi hwyr ar gael a bod awdurdodau'n hybu'n rhagweithiol fanteision hynny fel bod yr argaeledd yn amlycach i bobl a'r ddarpariaeth yn fwy cyson dros amser.

14:55

Weinidog, fel pe bai wedi amseru hynny'n berffaith, mae'r Cadeirydd newydd ddod i mewn o'r pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chwaraeon, gan eu bod newydd gyhoeddi adroddiad ar allu ysgolion i gynnig addysg Gymraeg sy'n caniatáu i'r iaith ffynnu yn ein lleoliadau ysgol, ac mae rhan o'r adroddiad hwnnw'n nodi'r gallu i athrawon gymryd cyfnod sabothol i feithrin eu sgiliau Cymraeg. Y ffigur yr amcangyfrifir y byddai ei angen yw oddeutu 17,000 o athrawon ledled Cymru i ymuno â'r rhaglen sabothol honno. A yw hwn yn ffigur rydych chi'n ei gydnabod? Ac os yw'n ffigur y mae'r Llywodraeth yn ei gydnabod, pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i hyrwyddo'r gallu i athrawon fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi hynny ac yn y pen draw, i gynyddu'r gallu i'r Gymraeg gael ei derbyn naill ai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, neu mewn ysgolion Cymraeg wrth gwrs?

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig ar y diwedd yno nad yw'n ymwneud ag athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg yn unig; mae hefyd yn ymwneud ag athrawon sy'n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Rwy'n credu bod angen inni fod yn glir fod amrywiaeth o anghenion ar draws y system. Nid wyf yn derbyn mai'r unig ffordd o sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw yw drwy'r cynllun sabothol, er fy mod yn derbyn ei fod yn gyfraniad sylweddol i'r cynnydd rydym am ei wneud, ond ni fydd yn gweithio yn yr holl amgylchiadau, ac yn sicr nid dyma'r unig ffordd o wneud y cynnydd hwnnw. Mae ein hymrwymiad i'r cynllun sabothol yn gwbl glir; rydym wedi parhau'r cyllid ar ei gyfer, a byddaf yn ceisio gwneud hynny, yn amlwg, yn y blynyddoedd i ddod hefyd. Pan ewch i weld—. Rwyf wedi cael cyfle i fynd i siarad â dosbarthiadau o athrawon, yn yr ysgolion cynradd yn gyffredinol, sydd wedi profi'r cyfle nid yn unig i ddysgu Cymraeg ac i addysgu drwy'r Gymraeg, ond yr ymagwedd honno tuag at addysgeg drwy gyfrwng y Gymraeg y maent yn ei dysgu. Mae'n hollol ddiddorol ei weld yn digwydd, ac mae'n amlwg yn ffordd lwyddiannus iawn o allu cynyddu'r niferoedd sy'n gallu addysgu'r Gymraeg. Ond fel rwy'n dweud, dim ond un o'r ffyrdd o wneud hynny yw hi.

Mae cwestiwn 6 [OQ59606] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 7, Tom Giffard.

Addysg Gymraeg

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg o safon? OQ59605

Rŷn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw yn gweithredu cynlluniau Cymraeg mewn addysg i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru â mynediad hafal i addysg cyfrwng Cymraeg o safon, ac mae gennym ni gynlluniau ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno gyda fi am bwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg dda ym mhob cyfnod o fywyd. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad Estyn o fis Tachwedd ar ddysgu oedolion mewn partneriaeth gymunedol yn Abertawe a amlygodd nad yw Cymraeg a diwylliant Cymru wedi'u hymgorffori yn y cwricwlwm yn Abertawe, a bod ychydig iawn o ddysgwyr yn ymarfer, defnyddio neu ddatblygu eu medrau Cymraeg fel rhan o'r ddarpariaeth, ac nad yw'r bartneriaeth yn arfarnu cyfraddau deilliant dysgwyr na chyrchfannau ar ddiwedd y cyfnod astudio. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o bwysigrwydd cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond nid ydym ni'n mynd i gyrraedd y targed hynny oni bai bod hyn yn cael ei gymryd o ddifrif ledled y wlad, a hefyd yn Abertawe. Felly, pa gamau ydych chi wedi'u cymryd o ganlyniad i'r adroddiad hynny i sicrhau bod oedolion a phawb yn gallu siarad Cymraeg yn y ffordd maen nhw'n moyn?

Wel, mae'n bwysig i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi gydag adnoddau a darpariaethau i allu diwallu anghenion y cwricwlwm, ac, fel mae'r Aelod yn gwybod, mae pob ysgol nawr sy'n dysgu'r cwricwlwm yn dysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n digwydd am y tro cyntaf, felly mae hynny'n galonogol iawn. Beth rŷn ni eisiau ei weld fel rhan o'n cynlluniau—ac mae hyn yn y Papur Gwyn hefyd—yw bod mwy a mwy o gynnydd a mwy a mwy o ddarpariaeth ym mhob ysgol o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, mae hynny'n heriol, wrth gwrs, i allu cyflawni hynny, ond mae'n bwysig bod gennym ni'r nod uchelgeisiol hwnnw fel bod gan bob rhan o'r system y nod cyffredin hwnnw i'w wneud. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd â'u swyddogaeth i gefnogi ysgolion, yn cynnwys y consortia, y gwasanaethau gwella safonau ysgolion ac ati. Ac rŷn ni ar fin diwygio rhyw elfennau o sut rŷn ni'n ariannu darpariaeth i wella safonau addysg yn y Gymraeg, felly byddaf i yn gwneud datganiad maes o law ynglŷn â'r cynlluniau newydd rheini.

15:00
Absenoldeb Ysgol

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau absenoldeb ysgol? OQ59620

Rydym wedi buddsoddi £2.5 miliwn yn y gwasanaeth lles addysg eleni, er mwyn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cymorth cynharach, cyn i faterion waethygu, a chymorth mwy dwys i ddysgwyr â lefelau absenoldeb uchel. Yn ogystal, mae ymgynghoriad ar y gweill ers dechrau'r wythnos hon ar ganllawiau presenoldeb drafft i gefnogi ysgolion a rhieni i wella presenoldeb dysgwyr.

Rwyf wedi siarad â chi sawl gwaith ynglŷn â hyn, ac rydym wedi clywed amdano yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn amlwg, mae nifer o resymau pam fod lefelau mor uchel o absenoldeb, ond un o'r ffactorau sy'n cyfrannu yw diffyg cludiant i'r ysgol a chost cludiant i'r ysgol. Tybed a allech chi wneud ychydig o sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda?

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn darparu safonau gofynnol penodol ar gyfer gofynion trafnidiaeth, ac mae adolygiad o hynny ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gwybod hefyd am y gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau bysiau yn fwy eang, er enghraifft, sydd wedi bod yn heriol iawn, yn amlwg, ac sydd wedi peri cryn bryder yng nghyd-destun cludiant i'r ysgol yn benodol, a gwn y bydd ganddo fwy i'w ddweud am hynny cyn bo hir.

Cyllid Ysgolion yng Nghaerdydd

9. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi cynnal am gyllid ysgolion yng Nghaerdydd? OQ59613

Wel, yn enwedig mewn cyfnod sy'n heriol yn ariannol, mae'n hollbwysig defnyddio pob sianel cyfathrebu ac ymgysylltu yn hyn o beth. Rwy’n trafod yn agos gyda llywodraeth leol ar faterion cyllidebol ac yn cwrdd ag arweinwyr, drwy'r is-grŵp cyllid a grwpiau eraill, fel y bo'n briodol. Rwyf hefyd yn ymweld ag ysgolion er mwyn clywed drosof i fy hun am brofiadau penaethiaid o ran cyllid.

Diolch, Weinidog. Darllenais i â diddordeb mawr yn ddiweddar am eich ymweliad ag Ysgol Mynydd Bychan a'r gwaith arloesol maen nhw'n ei wneud yna i ddatblygu diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Mae nifer ohonom ni wedi cael cyfle i groesawu Ysgol Mynydd Bychan, ar sawl achlysur, i'r Senedd. Wrth gwrs, un o brif hanfodion sicrhau arfer dda yw cyllideb ddigonol. Yn ôl y sôn, mae tua 50 o ysgolion Caerdydd yn gweithredu bellach ar ddiffyg yn eu cyllideb. Pa gefnogaeth ymarferol ŷch chi'n gallu ei rhoi i sicrhau bod ysgolion yn gwella eu sefyllfa ariannol? Diolch yn fawr.

Mae'r Aelod yn gwybod bod y system sydd gennym ni yng Nghymru yn seiliedig ar y ffaith mai cynghorau lleol sydd yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Ond, er mwyn darparu'r gefnogaeth ariannol i sicrhau bod hynny'n bosib, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru, llynedd, wedi cynyddu'r gyllideb i gynghorau lleol yn sylweddol, ac roedd hynny'n wir y flwyddyn gynt hefyd. Wrth gwrs, mae'r pwysau ar gyllideb ysgolion a chyllideb cynghorau ac ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn hysbys i bawb erbyn hyn. Beth rŷn ni wedi'i wneud fel Llywodraeth yw sicrhau, pan gafwyd arian Barnett yn ddiweddar yn sgil penderfyniadau yn San Steffan—penderfyniadau cwbl annigonol, gyda llaw—gwnaethom ni sicrhau bod yr arian hynny yn mynd yn syth i gynghorau lleol i ddarparu ar gyfer ysgolion.

Beth rwyf wedi gallu ei wneud yn fy nghyllideb i, sydd hefyd yn cael ei defnyddio yn rhannol i ariannu ysgolion, yw sicrhau bod yr elfennau sydd o fewn fy nghyllideb, hynny yw, y PDG a'r arian sydd yn mynd i ysgolion i ddelio ag effeithiau COVID, sydd yn dal yn real yn ein hysgolion ni, naill ai wedi aros ar yr un lefel neu wedi cynyddu. Byddwn i'n hoffi bod gennym ni fel Llywodraeth fwy o gyllideb i allu gwario ar wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Yr unig ffordd o wneud hwnna yw sicrhau Llywodraeth wahanol yn San Steffan, sy'n barod i fuddsoddi ar draws y Deyrnas Gyfunol, a bod gennym ni arian, wedyn, i allu buddsoddi ymhellach yn ein hysgolion ni. Ond, yn y cyfamser, rŷn ni'n gwbl ymrwymedig i wneud y penderfyniadau mwyaf blaengar gallwn ni fel Llywodraeth, gyda'r gyllideb honno, ac i wario pob ceiniog gallwn ni ar ein hysgolion ni.

Fel anrheg pen-blwydd i chi, Vikki Howells, rwyf wedi cyrraedd cwestiwn 10. Cwestiwn 10. [Chwerthin.]

15:05
Iechyd Meddwl a Llesiant yn y Sector Addysg Bellach

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant i fyfyrwyr a staff yn y sector addysg bellach? OQ59589

A gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Aelod hefyd? Ers 2019, mae dros £17 miliwn wedi'i ddyrannu i'r sector addysg bellach i ariannu cynlluniau a phrosiectau i gefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a staff. Yn 2023-24, bydd buddsoddiad pellach o £4 miliwn yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i sefydliadau addysg bellach i barhau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl dros y ffôn arloesol, '111 Dewis 2'. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau yn y Llywodraeth ynglŷn â datblygu adnoddau a all dargedu myfyrwyr a staff yn benodol yn y system addysg, fel eu bod yn ymwybodol o'r gwasanaeth siop un stop uniongyrchol y mae '111 Dewis 2' yn ei ddarparu?

Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. Diolch i Vikki Howells am ei godi. Yn ddiweddar, roeddwn mewn coleg addysg bellach yng ngogledd Cymru pan wnaethom gyhoeddi'r buddsoddiad pellach, ac mae'n amlwg i mi fod colegau'n mynd ati'n gyson ac yn greadigol iawn i chwilio am ffyrdd newydd o dynnu sylw eu dysgwyr at y cymorth y maent yn ei ddarparu, weithiau'n lleol, weithiau'n genedlaethol. Mae'r gwasanaeth '111 Dewis 2', wrth gwrs, yn wasanaeth pob oed, ac mae ar gael i bawb ar gyfer cymorth a chyngor iechyd meddwl brys, ac mae hyn yn cynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch.

Felly, i ateb cwestiwn yr Aelod, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth, ac yn bwysig, i sicrhau y defnyddir dull integredig, fel ei fod wedi'i integreiddio â'r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys gwasanaethau cwnsela mewn colegau a phrosiectau arbenigol fel SilverCloud a Kooth Student. Credaf fod colegau wedi datblygu arbenigedd sylweddol yn teilwra cymorth llesiant i anghenion penodol eu myfyrwyr, ac maent wedi gweithio'n gydweithredol iawn â'i gilydd i gynhyrchu corff sylweddol iawn o adnoddau a deunydd dysgu proffesiynol i staff hefyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

Dylwn ddweud bod y grŵp cynghori ar iechyd meddwl mewn addysg bellach ac addysg uwch, sy'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, hefyd yn ystyried y ffordd orau o sicrhau dull cydlynol o gefnogi lles myfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys cyfathrebu'r ystod o gymorth i sefydliadau ac i'r myfyrwyr eu hunain. 

Cost y Diwrnod Ysgol

11. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chost y diwrnod ysgol? OQ59610

Mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o deuluoedd incwm is ledled Cymru, gan helpu i leihau’r pryder ynghylch prynu gwisg a chyfarpar ysgol. Mae cyllid o £13.6 miliwn wedi ei ddarparu ar gyfer y grant hwn yn 2023-24.

Diolch, Weinidog. Rŷm ni wedi bod yn clywed mwy am brosiectau i ailddefnyddio gwisgoedd ysgol yn ddiweddar. Bu pedwar disgybl o Ysgol Maesteg yn cwrdd â'r Brenin ar ôl ennill gwobr gan y Prince's Trust am eu prosiect yn ailgylchu a chyfnewid gwisgoedd ysgol am ddim. Ond fe wnaeth arolwg a gomisiynwyd gan My Nametags ffeindio bod 1.4 miliwn o eitemau gwisg ysgol gwisgadwy yn cael eu taflu bob blwyddyn, gydag 81 y cant o rieni wastad yn prynu gwisgoedd ysgol newydd sbon, a hanner y rhai a holwyd yn dweud doedden nhw ddim eisiau i'w plant nhw wisgo dillad oedd wedi cael eu gwisgo o'r blaen. 

Mae etholwr i mi, Laura Santiago, sy'n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws, wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â siop gwisg ysgol ail law y mae hi a'i hysgol yn rhedeg, lle rŷch chi'n gallu prynu eitemau gwisg ysgol ar gyfer rhodd ariannol bach o'ch dewis, a'r holl elw yn mynd nôl i'r ysgol. Mae Laura yn dweud bod y fenter yn fodd o sicrhau nid yn unig bod gwisgoedd ysgol o ansawdd da ar gael i bawb am gost bach, ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol, wrth gwrs, ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae'n credu bod angen mwy o gefnogaeth ar gyfer y modd yma o brynu gwisg ysgol er mwyn lleihau costau a gwastraff. O ystyried dyhead y Llywodraeth i leihau costau'r diwrnod ysgol, a fyddech chi'n fodlon ystyried sefydlu ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo a normaleiddio siopau gwisg ysgol fel hyn, fel bod rhieni ym mhob rhan o Gymru yn gallu fforddio gwisg ysgol a hefyd leihau gwastraff? 

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, a llongyfarchiadau i Laura Santiago am y gwaith mae hi'n ei wneud yn ysgol Trebannws. Mae arfer dda iawn yn digwydd mewn llawer iawn o ysgolion yng Nghymru—dyna glywsom ni pan wnaethom ni ymgynghori ar y canllawiau gwisg ysgol yn ddiweddar. Roedd ymateb cryf iawn o blaid sicrhau bod ysgolion yn gwneud mwy a mwy o ran cyfnewidfeydd a siopau gwisgoedd ail law, o ran fforddiadwyedd, ond hefyd, fel mae'r Aelod yn ei ddweud, cynaliadwyedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i adlewyrchu ethos yr ysgol. Yn aml iawn y disgyblion sy'n fwyaf brwdfrydig dros fod yn rhan o hyn, ac mae hynny'n beth calonogol iawn, rwy'n credu.

O ran sicrhau bod hyn yn cael ei ledaenu ar draws Cymru, dyna yn union pam rŷn ni wedi newid y canllawiau gwisg ysgol fel ei bod hi nawr yn ofynnol i ysgolion wneud hynny, a byddwn ni'n disgwyl i bob corff llywodraethol edrych ar hynny nawr, a sicrhau eu bod nhw'n dodi trefniadau yn eu lle.

15:10
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Ond mae yna ddau ddatganiad 90 eiliad, y cyntaf gan Vikki Howells.

Diolch, Lywydd. Roedd Tyrone O'Sullivan yn un o gewri'r mudiad Llafur, yr undebau llafur a'r mudiad cydweithredol. Roedd ei angerdd a'i optimistiaeth dros ein Cymoedd yn amlwg. Pan oedd yn ysgrifennydd cangen leol Undeb Cenedlaethol y Glowyr, arweiniodd Tyrone bryniant pwll glo'r Tower gan y gweithwyr, sef y pwll dwfn olaf yng Nghymru. Dyma'r pwll glo lle bu'n gweithio ar hyd ei oes, y pwll glo a hawliodd fywyd ei dad. Pan gaeodd Llywodraeth y DU y pwll ym 1994, cyfunodd y 239 o weithwyr eu tâl dileu swydd, a phrynu pwll glo'r Tower. Hon oedd y frwydr olaf yn hanes y gwrthdaro rhwng glowyr de Cymru a San Steffan, brwydr y chwaraeodd Tyrone ran lawn ynddi, brwydr lle'r arweiniodd y glowyr i fuddugoliaeth—buddugoliaeth a gadwodd y pwll ar agor, yn cyflogi pobl leol, yn rhoi arian i'r economi leol. Yn wir, roedd pwll glo'r Tower yn un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghwm Cynon pan gaeodd 13 mlynedd yn ddiweddarach. Wedyn, gwireddodd Tyrone ei freuddwyd o agor atyniad weiren wib i dwristiaid ar y safle.

Mae'n deg dweud bod Tyrone wedi breuddwydio'n fawr ac wedi cyflawni llawer. Yn anffodus, bu farw ar 28 Mai. Fel llawer o bobl, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda Tyrone a'i alw'n ffrind. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'i wraig, Elaine, ei deulu a phawb a gafodd eu cyffwrdd a'u hysbrydoli ganddo. Gorffwys mewn hedd, Tyrone; byddwn yn sicrhau bod dy waddol yn parhau. 

Roedd yr Arglwydd John Morris o Aberafan nid yn unig yn ffigwr enfawr ym mywyd gwleidyddol Cymru, roedd hefyd yn eiriolwr cryf dros Gymru a'i hiaith.

Lywydd, yn eich teyrnged iddo ddoe, fe dynnoch chi sylw at y ffordd y lluniodd ei fagwraeth gynnar yn Aberteifi ei farn wleidyddol a'i berthynas gref â'r byd amaeth yng Nghymru. Yn dilyn ei astudiaethau i ddod yn gyfreithiwr, daeth yn ffigur dylanwadol yn y gwaith o sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru, ac nid anghofiodd y rôl bwysig y mae amaethyddiaeth yn ei chwarae ym mywyd Cymru ac economi Cymru. Symudodd ymlaen wedyn i fyd gwleidyddiaeth, ac ar 8 Hydref 1959, cafodd ei ethol yn AS dros fy etholaeth enedigol yn Aberafan, a pharhaodd yn AS i ni am bron i 42 mlynedd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei deyrnged, yn ystod y cyfnod hwnnw, gwasanaethodd John yn y Llywodraeth yn y 1960au, 1970au a'r 1990au, o dan dri Phrif Weinidog Llafur gwahanol—Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair.

Ni ddylem ychwaith golli golwg ar ei gynnydd yn ei broffesiwn cyfreithiol i fod yn Gwnsler y Frenhines, gan ennill cryn barch ymhlith ei gyfoedion. Ond ar ôl gadael Tŷ'r Cyffredin, fe'i gwnaed yn Farwn Morris o Aberafan, a pharhaodd â'i rôl weithredol yn Nhŷ'r Arglwyddi hyd ei farwolaeth yr wythnos hon. Bydd nifer yma yn cofio ei ymweliad â'r Senedd a'i araith i goffáu Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths.

Nawr, drwy gydol ei yrfa wleidyddol, roedd bob amser yn credu mewn datganoli llywodraeth, gan nodi ar fwy nag un achlysur nad oedd pobl Whitehall bob amser yn gwybod beth oedd orau i Gymru. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyflwynodd y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn y 1970au, ond ni chafodd ei ddigalonni pan fethodd hynny sicrhau'r pleidleisiau, a pharhaodd i weithio dros ddatganoli. Heb os, roedd yn ffigwr hollbwysig yn hanes sefydlu Senedd Cymru, ac mae pob un ohonom yn eistedd yma heddiw o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw.

Lywydd, ar yr achlysur hwn, nid yw 90 eiliad yn caniatáu imi wneud cyfiawnder â gyrfa a chyfraniadau nodedig John Morris i fywyd Cymru, ond mae pob un ohonom wedi elwa o'i gredoau a'i weithredoedd, ac rwy'n siŵr fod ein meddyliau heddiw gyda'i wraig Margaret a'i deulu.

Diolch i chi, John, am bopeth rydych chi wedi'i wneud dros Gymru.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—'Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru'

Eitem 5 yw'r eitem nesaf. Yr eitem hynny yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 'Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru'. Dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8281 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 28 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i agor y ddadl hon heddiw, yn enwedig a finnau'n Gadeirydd dros dro ar y pwyllgor, ond yn lwcus o fod wedi bod yn rhan o sesiwn dystiolaeth ar y pwnc hwn. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl randdeiliaid hynny a gyfrannodd at waith y pwyllgor, yn ogystal ag aelodau’r pwyllgor ac, wrth gwrs, y swyddogion sy'n cynorthwyo ein gwaith ni.

Mae ein hadroddiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo cerbydau trydan wedi datgelu diffyg cynnydd siomedig, enghreifftiau o dorri addewidion, a diffyg uchelgais, sy'n destun pryder. Rydyn ni’n credu bod angen gweithredu ar frys i ymdrin â'r materion hyn a rhoi Cymru nôl ar y trywydd iawn.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y bydd £15 miliwn ar gael i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn. Ond mae problemau yn y maes polisi hwn sy'n mynd y tu hwnt i gyllid. Roedd ein gwaith ni yn canolbwyntio ar strategaeth gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru a’r cynllun gweithredu cysylltiedig, a gyhoeddwyd yn 2021. Ac fel pwyllgor, roedden ni’n siomedig bod Llywodraeth Cymru, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi cynllun gweithredu 2021, wedi methu â hyd yn oed dechrau bwrw ymlaen â sawl cam allweddol.

Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei ymateb i’n hadroddiad. Yn ôl ei arfer, mae wedi ymgysylltu â gwaith y pwyllgor yn adeiladol ac yn gadarnhaol. Er fy mod yn siomedig ei fod wedi gwrthod pedwar o'n 21 o argymhellion, dylai amseriad y cyhoeddiad cyllido ychydig oriau yn ôl dawelu unrhyw un sy'n amau effaith bosibl pwyllgorau'r Senedd, a phwysigrwydd gwaith craffu o'r fath.

Mi ddechreuaf drwy sôn am y strategaeth cerbydau trydan ei hun. Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud bod £26 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ar hyd a lled Cymru ers cyhoeddi’r strategaeth, a bod hyn wedi arwain at gynnydd o 1,500, bron, yn nifer y pwyntiau gwefru cyhoeddus sydd ar gael, sef cynnydd o 120 y cant.

Mae'r ymateb hwn yn rhoi'r argraff bod hyn yn arwydd o gynnydd da, ond gwyddom nad yw hynny'n wir. Dim ond yr wythnos hon, yn ei adroddiad damniol, cyfeiriodd adroddiad y UK Climate Change Committee yn benodol at seilwaith gwefru EV, gan ddweud nad yw datblygu seilwaith yn digwydd yn ddigon cyflym i gefnogi'r newid i gerbydau trydan. Mae'n amlwg, felly, nad dim ond ein pwyllgor ni sy'n pryderu am y diffyg cynnydd.

Mae’r strategaeth yn nodi y bydd angen cynyddu nifer y mannau gwefru cyflym i fod rhwng 30,000 a 50,000 erbyn 2030. Hynny yw, bydd angen 10 gwaith mwy o wefrwyr yn ystod y saith mlynedd nesaf. Ond ni chafodd y pwyllgor ei ddarbwyllo y bydd y strategaeth na’r cynllun gweithredu yn gallu sicrhau y bydd hynny’n digwydd. 

Y weledigaeth yn y strategaeth yw y bydd pawb sy'n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus, erbyn 2025, y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gael iddyn nhw pan fydd arnyn nhw ei angen. Wel, dim ond dwy flynedd sydd ar ôl i gyrraedd y targed hwnnw, a dywedodd nifer o randdeiliaid fod llawer iawn i'w wneud yn ystod y cyfnod byr hwn. Ac er gwaethaf y buddsoddiad a wnaed hyd yma, tynnodd gyrwyr cerbydau trydan sylw at broblemau fel prinder mannau gwefru, gwefrwyr diffygiol, a phrinder gwybodaeth am y gwefrwyr.  

Ein hargymhelliad cyntaf oedd y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y strategaeth gwefru cerbydau trydan yng ngoleuni’r newid ym mhatrymau’r defnydd o gerbydau trydan a’r twf mewn cerbydau trydan masnachol. Mae’r Gweinidog wedi gwrthod hyn oherwydd ei fod wedi’i argyhoeddi bod y strategaeth yn ddigon hyblyg i adlewyrchu’r newidiadau yn y modd y caiff cerbydau trydan eu defnyddio. Ond Ddirprwy Weinidog, byddwn yn gweld a oedd yn iawn i chi fod mor hyderus â hyn pan fyddwn ni'n cyrraedd dyddiad y targed yn 2025.

Mi symudaf rŵan at y cynllun gweithredu. Dwi'n meddwl ei bod yn deg dweud ein bod wedi ein synnu at y diffyg cynnydd o ran hyn. Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys naw o gamau gweithredu; dwy flynedd yn ddiweddarach, does dim cynnydd amlwg i'w weld yn achos pump ohonyn nhw, ac mae targedau a therfynau amser wedi'u methu yn barod. 

Roedden ni wedi ein synnu nad oedd eglurhad dros beidio â chwblhau’r camau hyn. Mewn sawl achos, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried a ddylai fwrw ymlaen â chamau penodol, neu'n ystyried sut y dylai wneud hynny, a hynny fisoedd ar ôl y terfyn amser ar gyfer eu cwblhau. I’r pwyllgor, mae'r diffyg cynnydd yn tanseilio hygrededd y cynllun gweithredu ac yn bwrw amheuaeth ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddo.

Ac o ystyried y diffyg cynnydd truenus o ran y cynllun gweithredu, un o gyhoeddiadau mwyaf syfrdanol y Dirprwy Weinidog oedd hwnnw’n ymwneud â pharatoi cynllun arall, sef y cynllun cyflawni y tro hwn, yn hytrach na chynllun gweithredu.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cynnwys fersiwn o’r cynllun cyflawni manwl hwn gyda’i ymateb, ac mae o'n gam mawr ymlaen o ran manylder a’r camau clir y mae angen eu cymryd i fod ag unrhyw obaith o wireddu’r weledigaeth yn y strategaeth cerbydau trydan. Mae’n sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn. Ond ar ôl ychydig o flynyddoedd o lusgo traed, a ellid dweud bod y Dirprwy Weinidog felly wedi dod o hyd i’r ail gêr o’r diwedd?

Yn olaf, fe drof at rai argymhellion penodol. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi gwrthod argymhelliad 12, sef y dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam na chafodd y grŵp cysylltiadau ei sefydlu er iddynt ymrwymo i wneud hynny o dan gam 2 yn y cynllun gweithredu. Drwy beidio ag esbonio, mae’r Llywodraeth yn llwyddo i wneud dim ond un peth, sef tanseilio hygrededd y cynllun gweithredu. Dwi’n amau mai pwysau ar adnoddau a blaenoriaethau ydy’r rheswm, ond, os felly, dylai’r Dirprwy Weinidog ddweud hynny gan nad ydy o’n afresymol i’r pwyllgor ofyn am atebion yn y cyswllt hwn.

Cafodd argymhelliad 17 ei wrthod hefyd. Roedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam na chafodd gweithgor gweithredwyr mannau gwefru ei sefydlu yn 2021, fel roedd wedi ymrwymo iddo o dan gam 6 yn y cynllun gweithredu. Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud yn ei ymateb fod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno na ddylai’r grŵp gael ei sefydlu nes bod y cynllun cyflawni hwn ar waith. Wel, does dim esgus go iawn am hyn, Ddirprwy Weinidog, oherwydd y Llywodraeth sydd wedi penderfynu ar y camau gweithredu a’r terfynau amser ar gyfer eu cwblhau. Pa ddiben, felly, cael camau gweithredu a therfynau amser mewn cynllun gweithredu os nad oes gennych chi unrhyw fwriad i gadw atyn nhw? Allwch chi o leiaf egluro i’r Senedd pam mae hyn wedi digwydd?

Mi wnaf i gloi'r agoriad i'r ddadl hon gyda hynny o sylwadau. Dwi'n edrych ymlaen i glywed y cyfraniadau eraill ac ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch am y cyfle i wneud hynny heddiw.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:20

Erbyn mis Ionawr 2023, nifer y mannau gwefru a osodwyd am bob 100,000 o drigolion yng Nghymru oedd 47, 69 yn Yr Alban, a 1,311 yn Llundain. Mae'r ffigurau hynny'n siarad drostynt eu hunain—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, ond rydych yn methu yn hyn o beth. Rwyf yma i graffu arnoch a'ch herio, felly byddwch yn gwrtais a gadewch imi orffen, os gwelwch yn dda. Rydych yn methu cyflawni a sbarduno'r gwaith o gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflym yng Nghymru. Fel y nododd Heledd Fychan yn graff, nid yw'n syndod fod y pwyllgor yn pryderu y gallai'r strategaeth fethu cyflawni ei gweledigaeth y bydd holl ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus erbyn 2025 y gallant gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fydd ei angen arnynt ac yn y lleoedd y bydd ei angen arnynt. Mae cynllun ar gyfer un neu ddau fan gwefru chwim 50 kW bob 20 milltir ar y rhwydwaith ffyrdd strategol bellach yn annigonol.

Bu Olly Craughan, o grŵp DPD, yn trafod diffyg ystyriaeth y strategaeth i gerbydau masnachol. Mae grŵp DPD yn datgarboneiddio eu fflyd ar fyrder, ac mae ganddynt bron i 3,000 o gerbydau trydan ledled y DU. Mae'n amlwg fod angen i'r strategaeth hon gwmpasu defnydd masnachol, ond rydych wedi gwrthod argymhelliad 1, ac yn nodi'n unig fod cynllun ar gyfer cerbydau cludo nwyddau'n cael ei ddatblygu. Mae Logistics UK wedi mynegi eu siom, yn enwedig gan eu bod wedi canfod bod 62 y cant o weithredwyr faniau'n bwriadu datgarboneiddio eu fflydoedd o faniau erbyn 2030. Felly, byddai'n fuddiol i ni ac i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghymru pe gallech roi dyddiad yma heddiw ar gyfer cyhoeddi'r cynllun ar gyfer cerbydau cludo nwyddau a nodi pa newidiadau y byddwch yn eu cyflawni.

Mae Logistics UK hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod defnyddio cerbydau trydan masnachol yn golygu ehangu cyfleusterau gwefru mewn depos, ac eto, mae traean o'r cwmnïau a gafodd eu cyfweld wedi nodi seilwaith y cyflenwad pŵer fel un o'u heriau mwyaf rhag gallu gwefru mewn depos. Nododd rhai gweithredwyr gostau amcangyfrifedig gan eu gweithredwr rhwydwaith ynni o dros £1 filiwn i uwchraddio eu cyflenwad ynni i alluogi gwefru. Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, sut ydych chi'n mynd i ddarparu dull teg a chyfartal o ariannu cysylltiadau trydan i alluogi depos i ehangu eu cyfleusterau gwefru?

Mae CLlLC wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw materion cydraddoldeb, er eu bod yn cael eu crybwyll yn y strategaeth, yn cael eu harchwilio'n ddigon manwl. Dywedodd Dr Neil Lewis nad oes gan 40 y cant o bobl le i barcio oddi ar y ffordd, sy'n ei gwneud yn anodd iddynt allu gwefru eu cerbydau trydan ar gyfradd fforddiadwy. Yn 2020, pwysais ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gallai gefnogi'r gwaith o droi polion lamp cyhoeddus yn fannau gwefru ceir trydan. Mae'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig; maent yn defnyddio mannau gwefru ceir trydan. Dair blynedd yn ddiweddarach, ac mae'n warthus mai dim ond un uned gwefru polyn lamp a geir yng Nghymru gyfan. O gofio bod o leiaf 7,000 i'w cael yn Llundain eisoes, nid oes gan y Llywodraeth Lafur unrhyw esgus o gwbl dros ddiffyg darpariaeth o'r fath yma. Byddai eglurder ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r argyfwng i'w groesawu, oherwydd fel y saif pethau, yn sicr nid wyf i'n argyhoeddedig eich bod yn cadw at eich ymrwymiad eich hun mewn ymateb i argymhelliad 3 fod cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn cael eu hystyried. 

Hoffwn dynnu sylw hefyd at ddatganiad pwysig iawn yn yr adroddiad hwn. Ni chyflawnwyd pump o'r naw cam gweithredu yn ôl yr amserlenni yn y cynllun gweithredu, ond eto, ni roddir esboniad pam na chafodd y camau gweithredu eu cyflawni ar amser. Mae'r diffyg cynnydd yn gyffredinol yn tanseilio hygrededd eich cynllun gweithredu, ac yn codi cwestiwn ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r mater. 

Mewn ymateb i argymhelliad 6, rydych yn dadlau'r pwynt yn anghywir, mewn gwirionedd. Grŵp cysylltiadau i adrodd ym mlwyddyn ariannol 2021: nis cyflawnwyd. Rhwydwaith o orsafoedd gwefru ledled Cymru bob tua 20 milltir ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol erbyn 2025: nis cyflawnwyd. Adolygu polisi a rheoliadau erbyn 2022 a gwneud diweddariadau lle bo’n briodol, i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan: nis cyflawnwyd. Sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn 2021: nis cyflawnwyd.

Rydych wedi gwrthod argymhelliad 7 y dylai Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i adolygu’r dangosyddion perfformiad allweddol yn flynyddol, ond eglurwch pam.

Rwyf am gloi ar nodyn cadarnhaol. Rwy'n croesawu'r nodiadau y dylai diwygiadau drafft i reoliadau adeiladu fod ar y ffordd ac y bydd y rhain yn ei gwneud yn orfodol i ddarparu mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob annedd newydd sydd â lle parcio cysylltiedig. Ond Weinidog, mae gennych ffordd bell iawn i fynd i droi geiriau'n weithredoedd, a chredaf ein bod ni fel Senedd yn gofyn am hynny yma heddiw. Diolch. 

15:25

Ni fyddwch yn synnu y bydd gennyf safbwynt ychydig yn wahanol yn y ddadl hon, gan fy mod yn cytuno'n llwyr â Llywodraeth Cymru y dylai'r sector preifat ddarparu'r rhan fwyaf o'r seilwaith gwefru cerbydau trydan. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhedeg gorsafoedd petrol, felly pam y dylent redeg mannau gwefru cerbydau trydan? Credaf fod hyn yn rhywbeth sylfaenol iawn. Mae angen i'r sector preifat gamu i'r adwy, ac mae llawer o ffyrdd—.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch fod angen i'r sector preifat gamu i'r adwy. Yn wir, ymddengys eu bod wedi gwneud hynny mewn sawl ffordd, er mwyn llenwi peth o'r bwlch y mae Llywodraeth Cymru wedi'i adael. Ond onid ydych yn cytuno, os yw Llywodraeth Cymru wedi cael degau o filiynau o bunnoedd i gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, fod y nifer pitw o fannau gwefru cerbydau trydan a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn gwbl annerbyniol?

Nac ydw. Rwy'n cytuno bod y sector preifat wedi gosod mannau gwefru trydan, ac maent wedi gwneud hynny am resymau masnachol cwbl ddilys, sef am eu bod am i bobl ymweld â'u safle, ac felly maent yn eu gwneud yn ddeniadol i bobl sy'n berchen ar gerbydau trydan. Mae archfarchnadoedd, er enghraifft, wedi dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan. Rwy'n synnu nad yw llawer o'r gwestai ar hyd peth o'r anialwch gwefru cerbydau trydan—ar hyd yr A470 er enghraifft—wedi manteisio ar y cyfle i annog mwy o yrwyr i aros a bwyta yn eu gwestai tra byddant yn gwefru eu cerbyd. Mae hynny'n anesboniadwy i mi, boed yn westy, yn dafarn, neu'n fwyty, nad ydych wedi achub ar y cyfle hwn i gynyddu eich cyfleoedd masnachol. Credaf fod angen defnyddio'r arian a allai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU ar wahanol bethau, ac rwy'n cefnogi'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn.

Felly, gwyddom o'r dystiolaeth a gawsom fod y strategaeth i gyflawni'r dyhead erbyn 2025, y gall pob defnyddiwr car a fan drydan fod yn hyderus o gael mynediad amserol at fan gwefru cerbyd trydan, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ond yn bragmatig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cadarnhau yn eich ymateb, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn credu bod yr uchelgais hwnnw'n dal yn bosibl. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymdrechu i annog y rheini sy'n gallu fforddio newid i gerbydau trydan wneud hynny pan fyddant yn newid eu cerbyd yn y modd arferol. Oherwydd yn amlwg, mae hynny oll yn cefnogi'r ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Hoffwn ganolbwyntio yn fy sylwadau sy'n weddill ar y materion mwy heriol sy'n ymwneud â pharcio ar y stryd mewn ardaloedd adeiledig, y gwn ei fod wedi'i nodi fel un o'r ddwy flaenoriaeth yn rhaglen y seilwaith gwefru cerbydau trydan. Felly, nid oes lle i barcio oddi ar y stryd yng nghartrefi o leiaf hanner fy etholwyr. Mae ganddynt ardd fechan o flaen y tŷ, neu mae eu tŷ'n agor allan yn syth i'r stryd, heb ddigon o le i fin sbwriel, o bosibl, heb sôn am barcio car yno. Ac yn amlwg, mae angen inni osgoi canlyniad negyddol lle mae pawb sydd â gardd flaen yn ei phalmantu, gyda'r holl ganlyniadau cysylltiedig o ran draenio cynaliadwy a drafodwyd gennym yn gynharach yn y cwestiynau newid hinsawdd. Felly, mae llawer o'r tai yng Nghanol Caerdydd yn dai teras, yn debyg i lawer o eiddo yn y Cymoedd, lle nad oes ganddynt, yn llythrennol, unrhyw le sy'n ddigon mawr. A'r hyn nad wyf am ei weld yw llwyth o bileri newydd ar balmentydd, a fydd yn beryglus i bobl â phramiau, i bobl â nam ar eu golwg.

Mae angen inni gael ffordd wahanol o edrych ar hyn, yng nghyd-destun y ffaith bod angen i bob un ohonom ystyried a oes gwir angen cerbyd preifat arnom ai peidio, yn hytrach na llogi cerbyd o glwb ceir pan fo angen inni ddefnyddio un. Ac yn amlwg, yng nghyd-destun amgylchedd trefol fel Caerdydd, mae honno'n ystyriaeth sylweddol a phwysig. Felly, hoffwn wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol fel Caerdydd ynglŷn â sut y gallwn strwythuro ein mannau gwefru cerbydau trydan i fod yn llawer mwy cyfeillgar i bobl allu chwarae ar y stryd, yn hytrach na chael yr holl gerbydau hyn yn llenwi'r stryd, a chael mannau gwefru cerbydau trydan canolog dros nos—efallai mewn mannau parcio i fusnesau masnachol, lle nad oes angen iddynt eu defnyddio dros nos am eu bod ar gau; gallent eu cynnig i glwb o bobl leol, er mwyn eu galluogi i wneud hynny yno. Mae'n ymwneud â defnyddio mannau trefol yn effeithiol, heb achosi canlyniadau negyddol i eraill. Ac ymddengys i mi fod honno'n her eithaf mawr yn yr amgylchedd trefol, ac yn un sy'n haeddu llawer mwy o drafod arni.

15:30

Hoffwn i ddiolch i'r tîm pwyllgor, i'n Cadeirydd, a'n Cadeirydd dros-dro am eu gwaith.

Fel dŷn ni wedi ei glywed yn barod, gyda’r angen i symud tuag at gludiant cynaliadwy yn dod yn bwnc o bwys byd-eang, mae mabwysiadu cerbydau trydan yn gyfle hollbwysig i leihau allyriadau carbon a sicrhau dyfodol gwyrddach. Nawr, dylen ni fod yng Nghymru mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd o ran datblygu seilwaith cynhwysfawr o gerbydau trydan, ond, fel dŷn ni wedi ei glywed yn barod, mae'r realiti yn siomedig. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi’r diffygion difrifol o ran yr isadeiledd, fel sydd wedi cael ei grybwyll. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru’r nifer isaf o ddyfeisiadau gwefru cyhoeddus a dyfeisiau cyflym neu uwch-gyflym o’r boblogaeth ym Mhrydain Fawr—gwnaf i ddim ailadrodd y ffigurau hynny. Ond mae’n amlwg, wedi dwy flynedd ers cyhoeddiad y cynllun gweithredu ar y pwnc yma yn 2021, tan heddiw, buaswn i wedi dweud, yn sicr, nad oedd cynnydd boddhaol wedi digwydd gan Lywodraeth Cymru ar sawl cam allweddol, ac mae yna dal nifer o bethau sydd angen cael eu gwneud. Mae'r newyddion heddiw am fuddsoddiad pellach o £15 miliwn yn rywbeth positif; mae hynna'n rywbeth, yn sicr, i'w groesawu. Mae angen cynllun clir er mwyn caniatáu bod hyn yn arwain at ganlyniadau clir er mwyn osgoi ailadrodd unrhyw gamgymeriadau sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A dwi'n siŵr bydd pawb yn y Siambr yma yn cytuno bod difrifwch yr argyfwng hinsawdd sydd yn ein wynebu ni nawr yn golygu nad oes gennym ni amser ar gyfer oedi pellach. Er mwyn cychwyn ar y daith hon, mae'n hanfodol bod yna gydweithredu a chyd-gysylltu effeithiol rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru, i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi clywed, ac asiantaethau trafnidiaeth weithio law yn llaw, gyda'r sector breifat hefyd, i greu is-adeiledd cynhwysfawr, tra bod angen cydweithio agos gyda'r darparwyr egni, er mwyn asesu capasiti perthnasol y grid. 

Nawr, fel dŷn ni wedi clywed, mae partneriaid preifat yn mynd i fod yn rhywbeth eithriadol o bwysig yn hyn, megis drwy gynnig—. Ac efallai y dylen ni fod yn meddwl am annog partneriaid cyhoeddus preifat yn sgil hyn trwy gynnig argymhellion ariannol fel grantiau, credydau treth, gan fanteisio ar arbenigedd cyllid ac adnoddau'r ddau sector. 

Mae angen hefyd asesu trylwyr ar ofynion y seilwaith gwefru. Rhaid inni ddadansoddi tirwedd a nodi lleoliadau addas ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan, yn seiliedig ar nifer o ffactorau megis dwysedd poblogaeth, fel mae Jenny newydd fod yn sôn amdano fe, coridorau trafnidiaeth, canolfannau trefol, ardaloedd preswyl, gweithleoedd, canolfannau manwerthu, mannau twristiaeth—mae yna gymaint o ffactorau sydd angen cael eu hystyried. Yn ogystal â hyn, mae'n hollbwysig bod darpariaeth gorsafoedd gwefru cyflym yr un mor amlwg ar draws ardaloedd gwledig ag y maent mewn ardaloedd dinesig. Ar ben hynny, dylai'r gorsafoedd gwefru hyn gael eu gosod mewn llefydd sydd wedi cael eu goleuo'n dda, gan flaenoriaethu hwylustod a diogelwch. Mae hwnna'n rhywbeth hollbwysig. 

Rhaid i ni fod yn glir o ran y mathau o orsafoedd gwefru sydd eu hangen, gan ystyried y twf a ragwelir mewn cerbydau trydan yng Nghymru. Dylai hynny gynnwys cymysgedd o ddulliau i godi tâl, megis gorsafoedd codi tâl cyflym, gwefrwyr cyrchfan, a dulliau addas i godi tâl mewn mannau preswyl. 

Nawr, dylai'r Llywodraeth gymryd rôl proactif, wrth gwrs, wrth annog defnyddio cerbydau trydan. Ar hyn o bryd, dim ond 0.17 y cant o'r holl gerbydau yng Nghymru sy'n drydanol, ac mae'n dangos pa mor angenrheidiol mae e i weld cynnydd sylweddol. Byddai cyflwyno cymhellion ariannol, eto fel grantiau credydau treth i unigolion, ar gyfer busnesau—. Mae cymaint o bethau sydd angen digwydd ar y cyd, ac mae angen rhoi hwb i'r nod hyn. 

Nawr, dwi'n ymwybodol o amser, felly mi wnaf ddweud yn olaf am y cyd-destun o ba mor hollbwysig yw e ein bod ni yn gweithredu ar hyn. Rai wythnosau yn ôl, gwnaeth adroddiad diweddaraf y World Meteorological Organisation danlinellu bod y blaned yn beryglus o agos i gynhesu uwchben y targed o 1.5 gradd Celsius o fewn y degawd presennol. Dydy'r argyfwng hinsawdd ddim yn rhywbeth ar y gorwel bellach; mae yma nawr, ac mae'n effeithio ar ein bywydau gyda phob dydd sydd yn pasio. Felly, mae angen i ni gael system sydd ddim dim ond yn meddwl am y sector trafnidiaeth gyhoeddus—mae hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i fod yn hollbwysig—ond gyda'r ffyrdd rydym ni'n byw ein bywydau, rhaid i hyn fod yn rhywbeth hollbwysig. A chyda hynny, Dirprwy Lywydd, mi wnaf i orffen. Diolch. 

15:35

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i gyd-aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith, ar y cyd â phob un ohonom, yn cymryd tystiolaeth, a hefyd, i'r rhai a roddodd dystiolaeth, ac i'n Cadeirydd hefyd, ac i'n tîm clercio a'r ymchwilwyr? Ac mae'n adroddiad deifiol, ond mae wedi bod yn ddiddorol gweld y gwahanol ddulliau o ymdrin â hynny. Mae rhai wedi defnyddio'r adroddiad deifiol i roi cic dda i'r Llywodraeth, fel y byddech yn ei ddisgwyl mae'n debyg—Janet. [Chwerthin.] Mae eraill wedi cymryd ei fod yn dweud 'Wel, arhoswch eiliad, gadewch inni edrych ar ble mae cydbwysedd y cyfrifoldebau hefyd, a phwy sy'n tynnu eu pwysau ar hyn'. 

A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud rhywbeth nad wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei ddweud heddiw? Nid yw cerbydau trydan, yn ddomestig, yn mynd i fod—. Rydym yn canolbwyntio ar fannau gwefru cerbydau trydan heddiw, ond nid yw ceir trydan, cerbydau trydan yn mynd i fod yn ateb i bawb. Mae goblygiadau cyfiawnder cymdeithasol go iawn yma gyda chyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, fforddiadwyedd technoleg cerbydau trydan, cynaliadwyedd cerbydau trydan eu hunain a'r effeithiau carbon a hynny i gyd. Ond gadewch inni roi hynny ar un ochr am eiliad a chanolbwyntio ar gerbydau trydan.

Rwy'n credu bod y pwynt wedi'i wneud yn dda yn ymateb y Llywodraeth i'r 21 argymhelliad sydd gennym, y derbyniwyd pob un ond pedwar ohonynt yn llawn. Mae'n adroddiad deifiol. Byddwn i'n dweud bod y Llywodraeth wedi ymateb yn dda, ar y cyfan. Gallaf ganolbwyntio'n llwyr ar y pedwar, a byddaf yn troi atynt mewn eiliad, ond mae derbyn mwyafrif yr argymhellion yn dangos, rwy'n credu, yn groes i'r hyn rydym wedi'i glywed hyd yma gan rai o'r cyfranwyr, fod y Llywodraeth o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn, Llyr, ac effaith yr adroddiad hwn a'r alwad ar y Llywodraeth. Ond mae'r adroddiad hefyd yn gwneud yn glir—. Mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad yn dweud yn glir fod yn rhaid i hyn ymwneud yn bennaf â'r sector preifat yn camu i'r adwy. Mater i'r Llywodraeth yw helpu i adeiladu fframwaith a'i helpu i fynd i'r afael â methiannau'r farchnad. Felly, yn hynny o beth, cyn imi droi at fanylion yr argymhellion yn yr adroddiad, rwy'n croesawu, nid yn unig ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, ond hefyd y cyhoeddiad, fel roedd Delyth yn ei ddweud, o'r £15 miliwn ychwanegol ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru, ac rwyf wedi edrych ar fanylion peth o hyn hefyd.

Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid oes gennyf gerbyd trydan, ond pe bawn i'n cael un, byddai'r rhan fwyaf o'r teithiau, neu deithiau fy ngwraig, yn ôl ac ymlaen i'r gwaith o ddydd i ddydd, o fewn cwmpas o 50 milltir, os hynny, pe baem yn gwneud hynny. Ond mewn gwirionedd, rydym yn mynd ar deithiau yr holl ffordd i ogledd a de Cymru ac yn y blaen. Mae'n wych gweld, ym manylion y cyhoeddiadau a wnaed, fod buddsoddiad sylweddol yng nghanolbarth Cymru, yng ngorllewin Cymru, yng ngogledd Cymru, yn y rhannau lle mae angen inni wneud y cysylltedd hwn. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw gweithredwyr preifat ac awdurdodau cyhoeddus ac eraill i ddefnyddio hyn a darparu'r mannau gwefru trydan fel nad oes raid i neb boeni amdano mwyach.

Ac nid oes cyferbyniad uniongyrchol â Llundain a de ddwyrain Lloegr, gyda llaw, lle mae'r bobl hyfryd i lawr yno, ar y cyfan, mewn amgylchedd hynod drefol. Mae gan rai ohonynt lwyth o incwm gwario ac maent yn prynu ac yn gyrru cerbydau trydan. Pob lwc iddynt. Nid yw'r un peth, mae'n rhaid i mi ddweud; mae'n rhaid inni ddod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i Gymru, ond mae'r buddsoddiad yma o fewn y £15 miliwn hwn wedi'i wasgaru ledled Cymru. Mae gennyf gwestiwn neu ddau ar hynny. Hoffwn dynnu sylw at fy ardal fy hun am eiliad. Mae'n dda gweld arian yn mynd i lefydd fel Rhondda Cynon Taf ac yn y blaen. Mae hefyd yn sôn am arian y tu hwnt i Gaerdydd ac ardal ranbarthol Caerdydd. Hoffwn wybod a yw hynny'n cynnwys holl ardaloedd yr awdurdodau lleol yn ardal ehangach Caerdydd fel ei fod yn cysylltu â Chastell-nedd, Abertawe, a rhannau pellach o Gymru ac yn y blaen.

Fe sonioch chi hefyd yn eich datganiad, gyda llaw, am y tasglu sector preifat. Rwy'n croesawu hynny. Byddwn yn falch o glywed unrhyw fanylion pellach am hynny, oherwydd credaf fod y cwestiwn am y sector preifat yn camu i'r adwy yn galw am ymyrraeth y Llywodraeth i helpu i sbarduno hynny, ond rwy'n credu bod eu tynnu at ei gilydd a dweud, 'Iawn, sut y gwnawn ni hyn gyda'n gilydd?'—ychydig fel band eang mewn ffordd. 'Ble gallwn ni helpu fel Llywodraeth, ond ble rydych chi'n mynd i gamu i'r adwy a gwneud hyn, oherwydd fe fyddwch chi'n elwa yn y pen draw?' Wrth wneud hynny, a gaf fi awgrymu mai un aelod o'r tasglu y gallech fod eisiau edrych arno yw cynrychiolydd busnes Cymreig cynhenid sy'n tyfu'n gyflym o'r enw Clenergy EV sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i? Rwy'n credu eu bod bellach yn drydydd o ran twf ac arweinyddiaeth yn fyd-eang gyda chymwysiadau meddalwedd fel y gall pobl gysylltu fflydoedd. Gall y sector cyhoeddus ac unigolion gysylltu lle gallant wefru—mewn ysbytai, mewn cyfleusterau gwefru preifat, yng nghartref rhywun, yn ogystal â'r rhai annibynnol hyn sy'n ymsefydlu.

Rwy'n brin o amser. Mae pedwar argymhelliad yn y fan hon rydych wedi'u gwrthod, Weinidog. Nodaf fod dau ohonynt yn ymwneud yn benodol ag amserlen. Byddai'n ddefnyddiol gwybod pam mae'r amserlen wedi llithro ar y ddau beth hynny. Ar yr argymhelliad cyntaf, argymhelliad 1, a wrthodwyd gennych, byddai'n dda gwybod, oherwydd rydym wedi cael sylwadau gan y sector masnachol am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd gyda'r rhwydwaith ar eu cyfer nhw. Felly, ymateb i'w pryderon nad aeth yr adroddiad yn ddigon pell i ateb eu pryderon, ond ni wnaeth ymateb y Llywodraeth ychwaith; wel, sut rydym am ymateb i'r sector masnachol, sector y fflyd, i hyrwyddo'r mannau gwefru cerbydau trydan hyn? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

15:40

Nodwyd eisoes fod gan Gymru lai o fannau gwefru chwim o'i gymharu â gweddill y DU, a'r nifer isaf o ddyfeisiau gwefru cyhoeddus fesul poblogaeth ym Mhrydain. Mae'n debyg, felly, ei bod hi'n beth da nad yw Rowan Atkinson yn byw yma yng Nghymru, neu efallai y byddai'n teimlo bod y chwyldro cerbydau trydan wedi gwneud cam gwaeth fyth ag ef.

Ddirprwy Weinidog, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y strategaeth cerbydau trydan. Maent yn credu bod angen i'r nod fod yn gliriach; mae angen amserlenni clir a chefnogaeth i fusnesau. Fel Aelodau eraill, mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector preifat ar y mater hwn.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai Gweinidogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen datgarboneiddio trafnidiaeth, a fydd yn cefnogi datgarboneiddio bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat. A wnewch chi nodi pa drafodaethau a gawsoch gyda Bws Caerdydd i newid i fflyd sero net?

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw o £900,000 dros y ddwy flynedd nesaf i Gyngor Caerdydd i gyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan a gwefru chwim yn Ffordd Lamby ar gyfer 12 cerbyd trydan casglu sbwriel. Ond beth am gynghorau eraill yn fy rhanbarth i—Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf? Pa gamau y maent hwy'n eu cymryd?

Ar draws y rhanbarth, pa mor sicr yw'r Gweinidog y bydd arian gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod y seilwaith gwefru trydan cywir ar gael mewn safleoedd strategol, fel cyfleusterau parcio a theithio? Ac roeddwn yn hoff o syniad Jenny Rathbone o ddefnyddio mannau mawr sy'n wag am gyfnodau hirach.

Rwy'n gwybod bod rhai datblygwyr ac adeiladwyr yn fy rhanbarth yn edrych ar gynnwys pympiau gwres, paneli solar a mannau gwefru trydan ym mhob tŷ a adeiladir o'r newydd. Rwy'n croesawu hynny, ac rwy'n croesawu'r ymgynghoriad rydych chi wedi'i grybwyll yr haf hwn ar ddiwygio'r rheoliadau adeiladu i'w gwneud yn orfodol iddynt gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan. A wnewch chi ddarparu amserlen ar gyfer cwblhau'r ymgynghoriad hwnnw, ac a wnewch chi ystyried deddfwriaeth i wneud mannau gwefru cerbydau trydan yn orfodol wrth adeiladu tai newydd?

Fel y soniodd Jenny Rathbone, adeiladwyd llawer o dai yn fy rhanbarth i, gan gynnwys fy un i, ymhell dros 100 mlynedd yn ôl ac nid oes ganddynt ardd flaen. Rwyf wedi codi'r mater gyda chi yn y gorffennol ar ran etholwyr. Mae pobl sy'n byw mewn tai teras, y mae eu mynediad i lonydd yn anodd, yn teimlo y byddai'r anawsterau o wefru cerbyd trydan yn rhy afresymol. Gwelais yn ddiweddar fod Octopus Energy ar hyn o bryd yn cynnig tâl economi dros nos o 10c y kWh, ynghyd â thâl sefydlog o 52c y dydd fesul aelwyd. Ond yn Rhondda Cynon Taf, yr argymhellion ar gyfer tâl oedd 35c y kWh pan fydd y gorsafoedd gwefru cyhoeddus ar waith. Mae'n deg dweud, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, fod problem go iawn yma ynghylch gwahaniaethu yn erbyn trigolion tai teras ac anghymell aelodau o'r gymuned rhag defnyddio cerbydau trydan. Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes bwlch gwefru cerbydau trydan o ganlyniad i ble mae pobl yn byw. Ddirprwy Weinidog, efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddarparu mannau gwefru ar gyfer tai teras, fel sydd wedi'i dreialu yn swydd Rhydychen. Diolch yn fawr.

15:45

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith am gynhyrchu'r adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth hwn? Gobeithio y bydd yr adroddiad yn canu larymau i Lywodraeth Cymru a'n bod yn gweld gweithredu ystyrlon o'r diwedd, yn hytrach na'r geiriau cynnes arferol. Dro ar ôl tro, fe glywn Weinidogion yn y lle hwn yn honni eu bod yn rhan o'r Llywodraeth werdd, ac eto mae'r adroddiad hwn yn profi fel arall. Mae gan Lywodraeth Cymru record wirioneddol frawychus ar ddarparu mannau gwefru cerbydau trydan, fel mae llawer o fy nghyd-Aelodau o bob platfform gwahanol yma wedi bod yn ei ddweud.

Nawr, hoffi hynny neu beidio, rydym yn mynd i weld mwy o gerbydau trydan ar ein ffyrdd yn y dyfodol, yn enwedig yng ngoleuni gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu ceir petrol a diesel. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gan yrwyr fynediad at fannau gwefru. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan yng Nghymru. Pa mor dda y gweithiodd hynny? Oherwydd nodaf fod y pwyllgor wedi mynd ar drywydd y ffaith bod y Llywodraeth wedi methu dechrau gwneud cynnydd ar nifer o gamau allweddol. Un o amcanion Llywodraeth Cymru yw:

'Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.'

Fel llawer ohonoch, gwelais gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw eu bod yn mynd i fuddsoddi £15 miliwn mewn gwefru cerbydau trydan, a gallai swnio fel llawer o arian, sy'n wych ac i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, ar ôl mynd ar Google tra oeddem yn eistedd yma yn gynharach, mae man gwefru'n costio rhwng £1,000 a £1,500 a TAW ar gyfartaledd. Nawr, os nad ydych chi'n ystyried gosod neu unrhyw un o'r taliadau eraill a allai fod ynghlwm wrth ei gysylltu ac yn y blaen, rydym yn dal i fod yn sôn am lai na 10,000 o fannau gwefru, ac mae hynny'n eithaf chwerthinllyd yn fy marn i. Mae'n ymddangos bod Gweinidogion Llafur â'u pennau yn y cymylau os nad ydynt yn agos at daro'r garreg filltir honno.

15:50

Rwy'n credu bod yn rhaid inni feddwl yn wahanol am hyn, oherwydd nid yw cerbydau'n mynd i gael eu defnyddio trwy'r amser, bob dydd o'r wythnos. Ac felly mae'n rhaid newid agweddau, trwy rannu mannau gwefru cerbydau trydan fel bod—. Dim ond unwaith yr wythnos y byddai angen i'r rhan fwyaf o bobl wefru, ac felly nid oes angen ichi annibennu'r amgylchedd gyda gormod o fannau gwefru cerbydau trydan. Ac felly gallai cymunedau rannu'r gost o £1,500 rhyngddynt i osod man gwefru cerbydau trydan—ni fyddai hynny'n ormod o her. Os oes ganddynt gar, gallant fforddio hynny.

Wrth gwrs, rwy'n deall eich pwynt, Jenny, ond o gofio fy mod wedi ymdrin â llawer o bobl sy'n gyrru ceir at ddibenion cymudo, ar gyfer apwyntiadau ysbyty, pobl sydd ag anableddau, sydd angen gallu gyrru eu ceir, hyd yn oed wedyn—. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae angen inni gael mwy o fannau gwefru, ni waeth sut y gwneir hynny. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi gofyn y cwestiwn yn gynharach, ac ni chafodd hwnnw ei ateb ychwaith ac fe gafodd ei ddiystyru braidd, lle gofynnodd—. Mae arian wedi cael ei roi gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru—ble mae wedi mynd? I ble mae'n mynd? Pam nad yw hwnnw wedi'i wario ar fannau gwefru cerbydau trydan? [Torri ar draws.] Rwyf eisiau gorffen fy mhwynt. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen 30,000 i 50,000 o fannau gwefru chwim ychwanegol ar Gymru erbyn 2030. Nawr, yn ôl fy nghyfrif i, fel y soniais nawr, ni fydd £15 miliwn yn dod yn agos at gyrraedd y ffigur hwnnw. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd yn cyrraedd y targed a osododd? Hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ar frys i wella'r ddarpariaeth o fannau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni'r adroddiad hwn, oherwydd i mi, mae'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn eistedd ar eu dwylo.

Rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd yr Aelod Plaid Cymru dros dde-ddwyrain Cymru yn gynharach, fod yn rhaid i Weinidogion feddwl yn fwy arloesol a chymell cyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflymach, gyda mwy o ffocws ar ehangu'r ddarpariaeth mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan, ond ar hyn o bryd, ni allant wneud hynny am nad yw'n ymarferol. Mae angen i hyn newid, Ddirprwy Lywydd, ac mae angen iddo newid yn gyflym.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad. Rwy'n croesawu'r her a'r craffu gan y pwyllgor, yn ein sesiynau tystiolaeth lafar ac yn yr adroddiad heddiw. A byddwn yn croesawu rôl barhaus iddynt yn ein dwyn i gyfrif. Rwy'n credu eu bod yn darparu swyddogaeth bwysig iawn. Ac rydym wedi derbyn y mwyafrif llethol o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ac rydym yn cyflawni'r rhain.

Fy hun, nid wyf yn cefnogi rhoi 'derbyn mewn egwyddor' pan nad ydym yn cytuno â rhywbeth, a hynny er mwyn osgoi bod yn amwys. Byddai'n llawer gwell gennyf ddweud, 'Nid ydym yn cytuno' a nodi'r rhesymau pam. A dyna pam, ar bedwar o'r argymhellion, fy mod wedi nodi nad ydym yn eu derbyn, ac e af i'r afael â'r rhain yn eu tro nawr.

Mae argymhelliad 1 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailedrych ar ein strategaeth gwefru cerbydau trydan. Nawr, rydym yn hyderus fod y strategaeth, a ddatblygwyd i ystyried newid cyflym mewn technoleg a defnydd, yn parhau i fod yn ddilys. Mae'r egwyddorion a'r fframwaith yn parhau'n ddilys ac nid oes angen ailedrych arnynt.

Mae argymhelliad 7 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu a chyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol yn flynyddol. Yn hytrach, rydym yn bwriadu adolygu a chyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol ar bwyntiau strategol mewn amser—nid i rythm mympwyol, ond pan fyddwn yn ystyried cyfnodau allweddol y rhaglen gyflawni ac argaeledd adnoddau. A gwnaed sylw am effaith adnoddau, ac wrth gwrs, mae'n ffaith, pan fo'n cyllidebau'n cael eu cwtogi a phan fo nifer y gweision sifil sydd gennym yn cael ei gadw'n isel oherwydd cyni, yn anochel mae terfyn ar yr hyn y gallwn ei wneud ar unrhyw adeg. Ac mae hynny'n effeithio ar ein holl weithredoedd. A byddwn wedi meddwl, o sylwadau Aelodau Plaid Cymru, y byddai cael Aelodau yn eu grŵp sy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel Aelodau dynodedig, yn golygu eu bod yn gwybod beth yw realiti gwaith y Llywodraeth a'r adnoddau tynn sydd ar gael a'r penderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud. Ac nid oes diben gwadu'r ffaith bod hynny wedi cael rhywfaint o effaith ar ein gallu i gyflawni hyn.

Ond yn fwy na hynny, rwy'n credu ein bod wedi penderfynu camu ac oedi yn ein dadansoddiad—yn hytrach na chwistrellu arian yn ddiwahân, ein bod yn edrych ar ble mae'r farchnad yn cynllunio i wasanaethu, dadansoddi a mapio hynny, ac edrych lle gallai'r Llywodraeth ymyrryd yn y ffordd orau. Felly, trwy arolygu'r dirwedd yn gyntaf a chynyddu'r gwariant wedyn, credaf fod hwnnw'n ddull llawer gwell o weithredu na'r dull y mae'r pwyllgor i'w weld yn ein ceryddu yn ei gylch. 

15:55

Gyda'r dull y mae'r Gweinidog yn awgrymu ei fod yn ei gymryd, pan ddown at waith y tasglu a thrafod gyda nhw, rwy'n meddwl tybed ai dyna'r adeg y bydd yn gallu egluro i'r Senedd beth fyddai'r adnoddau hynny'n eu caniatáu mewn pwyntiau adolygu strategol o daro'r dangosyddion perfformiad allweddol? Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud am, 'Oedi. Gweithio gyda'r sector'—mae'n rhaid inni fynnu bod y sector preifat yn camu i'r adwy ar hyn—ond mae'n rhaid cael pwynt lle rydych chi'n dod yn ôl i'r Senedd a dweud, 'Mae gennym ddealltwriaeth gliriach nawr o ba bryd rydym yn mynd i fynd am hyn.'

Wel, gadewch imi ddod at hynny. Gadewch imi fynd i'r afael ag argymhellion 12 a 17 yn gyntaf, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu'r grŵp cysylltiadau a'r gweithgor gweithredwyr mannau gwefru o fewn wythnosau. Nawr, rydym wrthi'n sefydlu'r ddau grŵp. Fodd bynnag, credwn ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi amser i ddatblygu rhaglen gyflawni gadarn cyn ein hymgysylltiad ffurfiol â gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu a gweithredwyr mannau gwefru. Felly, nid ydym yn mynd i fod yn gwneud hynny o fewn wythnosau, ond fe fyddwn yn ei wneud yn fuan, a dyna pam nad wyf wedi derbyn yr argymhellion hynny.

Rydym wedi dysgu llawer o'n dull o ymdrin â band eang, ac os ewch yn ôl at y dadleuon a gawsom ar fand eang, rydym wedi penderfynu ar ddull o'r tu allan i mewn ar gyfer band eang. Felly, yn hytrach nag edrych ar ble bydd y farchnad i bob pwrpas yn ateb y galw yn ei hawl ei hun, mewn cytrefi trefol poblog, yn hytrach na gorwasanaethu'r marchnadoedd hynny trwy roi cyllid y Llywodraeth i mewn, i mewn i fand eang, fe wnaethom benderfynu targedu'r ardaloedd y byddai'r farchnad yn eu gwasanaethu arafaf, ac mae'r sefyllfa honno wedi gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylem ddilyn yr un dull o weithredu gyda mannau gwefru trydan, oherwydd, fel y mae Huw Irranca a Jenny Rathbone wedi ategu, rôl i'r sector preifat yw hon yn bennaf, gyda Llywodraeth Cymru yn ymyrryd lle ceir methiant yn y farchnad neu lle mae'r farchnad yn araf i ymateb. Credaf mai dyna'r defnydd gorau o arian cyhoeddus ac mae'n adlewyrchu'r ffaith nad oes gennym yr ystod lawn o bwerau yn y maes hwn.

Nawr, y datganiad a wnaeth y pwyllgor, yr ychwanegwyd ato mewn ffordd braidd yn ffôl gan rai sylwadau yn y wasg a chan Aelodau, yw bod

'Llywodraeth Cymru wedi methu’n llwyr â chyflawni llawer o’r Camau Gweithredu yn y Cynllun Gweithredu a chan y diffyg cynnydd tuag at gyflawni eraill.'

Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n werthusiad annheg o'r gwaith a'r canlyniadau rydym wedi'u cyflawni hyd yma. Nawr, am y rheswm hwn, rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaethom, ac ni ddylem golli golwg ar ba mor gymhleth a drud yw'r maes gwaith hwn. Mae ein dadansoddiad ariannol yn awgrymu y bydd angen buddsoddi cyfanswm o dros £350 miliwn o gost gyfalaf i osod digon o fannau gwefru ar lwybrau ac mewn cyrchfannau erbyn 2040. Nawr, o ystyried maint yr her, fel y dywedaf, rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o hyn gael ei gyflawni gan y sector preifat, a'n rôl ni yw camu i mewn i helpu hynny, i gael gwared ar rwystrau ac edrych ar lle gallwn sicrhau bod cymorth wedi'i dargedu ar gael. Felly, rwyf wedi penderfynu dysgu eto o brofiad darparu'r band eang, lle argymhellodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ychydig flynyddoedd yn ôl ein bod yn creu tasglu i chwalu rhwystrau er mwyn i fand eang weithio gyda'r gweithredwyr preifat i nodi lle byddai'n ddefnyddiol i'r Llywodraeth weithredu.

Felly, rydym yn mynd i wneud yr un peth gyda mannau gwefru trydan; rydym yn mynd i sefydlu tasglu sector preifat a fydd yn ein helpu i ymgysylltu â'r farchnad, chwalu unrhyw rwystrau i fuddsoddiad a chyflymu'r broses o gyflwyno seilwaith gwefru. Nawr, gallai hynny gynnwys ymyrraeth ariannol, ond mae'r un mor debygol o gynnwys materion yn ymwneud â chynllunio neu ystyfnigrwydd gwahanol sefydliadau i ymateb mewn modd amserol. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei groesawu gan y sector fel rhywbeth ymarferol y gallwn ei wneud i ddatgloi buddsoddiad y sector preifat, oherwydd, fel y soniodd Huw a Jenny, mae yna awydd yn y farchnad ar sail fasnachol i fuddsoddi yn hyn, a'n gwaith ni yw ysgogi hynny yng Nghymru yn hytrach na cheisio ei ddyblygu.

Nawr, ers cyhoeddi'r strategaeth, rydym wedi canolbwyntio ein hadnoddau ar ddwy flaenoriaeth allweddol. Yn gyntaf, darparu seilwaith gwefru sylfaenol ledled Cymru sy'n rhoi hyder i ddefnyddwyr y gallant deithio ar draws ein gwlad heb ofni mynd yn brin o drydan. Nawr, gofynnodd Darren Millar sut roeddem wedi gwario'r arian y gallasom ei dynnu i lawr. Rhwng 2020 a 2022, rydym wedi darparu £26 miliwn o arian cerbydau allyriadau isel iawn, neu ULEV fel y'i gelwir, i awdurdodau lleol, i osod seilwaith gwefru ledled Cymru, ac eleni rydym wedi cymeradwyo cyfanswm o £15 miliwn o gyllid ar gyfer cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan, ac mae hynny'n cynnwys £8.9 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol. Fe wnaethom dreial cychwynnol yn gofyn i Trafnidiaeth Cymru ein helpu i gyflwyno'r seilwaith a daethom i'r casgliad, mewn gwirionedd, fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa well o lawer i chwarae'r rôl honno, ac rydym bellach wedi penderfynu adlewyrchu hynny mewn ffordd hael yn ein penderfyniadau cyllido.

Felly, rydym wedi gwario'r arian yn dda ac mae yna seilwaith i'w ddangos amdano. Mae wedi profi'n gymhleth iawn mewn rhai achosion ac yn araf ac yn rhwystredig iawn. Felly, yn achos y Rhyl, yn ardal Darren Millar, mae yna sgwâr gwefru braf iawn, yr ymwelais ag ef, ond gohiriwyd hynny yn fawr oherwydd yr angen i greu is-orsaf ychwanegol, a mynediad i'r grid, costau adeiladu cynyddol ac yn y blaen. Felly, nid yw hyn yn syml, ond rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd da.

Ac roedd ein hail ffocws ar ddatblygu offer a chynlluniau a fydd yn helpu awdurdodau lleol i gyflymu'r broses o gyflwyno eu rhwydwaith. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o osod 19 man gwefru chwim o leiaf bob 25 milltir ar draws Cymru a'r rhwydwaith ffyrdd strategol eleni—mae hynny ddwy flynedd ar y blaen i darged y cynllun gweithredu. Mae'n gam mawr ymlaen at gyflawni ein gweledigaeth, ac mae'n wahanol iawn i'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, fod y ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac fe geisiodd Natasha Asghar ddisgrifio hyn fel record wirioneddol frawychus. Rwy'n ofni nad yw'r ffeithiau'n cadarnhau'r rhagfarnau hynny.

Gofynnodd Jenny Rathbone am sicrwydd na fyddem yn creu annibendod i amgylchedd palmentydd trwy gael seilwaith gwefru ar balmentydd. Rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna pam mae'r safonau cenedlaethol rydym ar fin eu cyhoeddi yn ei gwneud yn glir nad yw hynny'n dderbyniol. Ac i wneud yn siŵr fod y safonau hynny'n gywir gennym, fe'u rhannais ag ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, eu cael nhw i adolygu'r ddogfen, maent wedi gwneud nifer o welliannau, ac rydym wedi'u derbyn, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb—

16:00

—y pryder hwnnw.

Rwy'n ofni nad wyf wedi gallu mynd i'r afael â'r holl bwyntiau. Gadewch imi ddweud yn syml i gloi: mae llawer wedi'i wneud. Ar hyn o bryd, mae gennym fwy na’n cyfran y pen o fannau gwefru ar gyfer nifer y bobl yng Nghymru sy’n berchen ar gerbydau trydan, ac wrth i hynny gynyddu, fel y dymunwn iddo ei wneud, bydd ein darpariaeth hefyd yn cynyddu. Ond bydd yn cynyddu mewn ffordd strategol, oherwydd rydym wedi mynd i’r drafferth o wneud y gwaith paratoi, o osod y sylfaen, o sefydlu cysylltiadau yn y sector preifat a gwneud hyn mewn ffordd bwyllog a darbodus. Ac rwy'n mawr obeithio y bydd y pwyllgor yn cadw llygad ar ein cynnydd ac yn parhau i'n herio, a chyda'n gilydd, fe gyrhaeddwn y lle iawn. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb ac i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon.

Yn bendant, mae’r rôl barhaus yn rhywbeth y bydd y pwyllgor yn sicr yn ei groesawu, a bydd y pwyllgor yn edrych eto ar hyn yn ystod tymor y Senedd. Ac yn amlwg, fel y soniais ar y dechrau, mae’r ffaith inni weld y cyhoeddiad heddiw yn brawf o bwysigrwydd craffu.

Roeddwn yn bryderus ynglŷn ag ymateb y Dirprwy Weinidog ar ddangosyddion perfformiad allweddol ac yn y blaen, a’r diffyg ymrwymiad i ddyddiad pendant, oherwydd, at ddibenion craffu, mae’n ddefnyddiol inni wybod pryd y disgwylir y rheini, fel ein bod yn gallu monitro cynnydd, felly ni fyddwn yn derbyn y pwynt hwnnw, yn bersonol. 

Rwy’n meddwl bod Huw Irranca wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, i nifer o’n hetholwyr, nid ydynt hyd yn oed yn berchen ar geir, heb sôn am gerbydau trydan. Nid yw hynny'n mynd i fod yn fforddiadwy, a dyna pam y bu cymaint o bwyslais mewn dadleuon blaenorol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen. Felly, rwy'n derbyn eich pwynt ar hynny, ac mae wedi'i wneud yn dda iawn.

Ac o ran y seilwaith, a grybwyllwyd gan lawer o Aelodau—Jenny, Delyth a Rhys ab Owen—o ran yr heriau gyda thai teras, er enghraifft. Mae yna heriau enfawr, a Jenny, roeddech yn llygad eich lle wrth sôn am beryglon  baglu—. Eisoes, gall parcio ar balmentydd fod yn her enfawr; os crëwch fwy o beryglon baglu, yna i'r henoed, pobl sy'n agored i niwed, y rhai sydd â nam ar eu golwg, mae'n her enfawr, a gwelwn y rheini mewn llawer iawn o gymunedau ar hyn o bryd, lle mae pobl yn ceisio gwneud y newid hwnnw.

Ond y gwir amdani ar hyn o bryd yw bod llawer o’r bobl sy’n gwneud y newid yn ei chael hi’n anodd gyda’r seilwaith sydd yno, o beidio â chael y sicrwydd y byddant yn gallu mynd o ogledd i dde Cymru ac ati, ar y teithiau hynny. Clywsom am lawer o bobl yn ansicr y byddent yn cyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yr wythnos diwethaf gyda cherbydau trydan. Felly, mae her yno i wneud yn siŵr fod y seilwaith, hyd yn oed pan fydd yn bodoli, yn gweithio, sy’n rhywbeth a glywsom hefyd fel tystiolaeth drwy’r gwaith hwn. 

Delyth, fe sonioch chi am bwysigrwydd diogelwch—

—bod diogelwch yn eithriadol o bwysig hefyd, oherwydd mae nifer o'r gofodau cyhoeddus hyn efallai heb eu goleuo'n dda. Ac yn sicr, mae'n rhaid i ni fod yn gwneud hyn yn ddiogel i bawb os ydyn ni'n mynd o ran hynny.

Soniodd Natasha a Janet am rai o’r rhwystrau ar hyn o bryd a rhai o’r heriau, a diolch i chi am eich cyfraniadau hefyd.

Ond yn sicr, mi hoffwn i fod yn cydnabod bod gan y sector preifat, wrth gwrs, ran allweddol o ran y gwaith o osod mannau gwefru, ac mae hynny yn glir yn yr adroddiad. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio ag esgeuluso ei rôl arweinyddol bwysig ychwaith o ran hyn. Mae angen gwella'r perfformiad, ac mae nifer o randdeiliaid allweddol yn teimlo eu bod yn cael eu gadael yn y niwl, ac maen nhw'n aros yn eiddgar am unrhyw arwydd o gynnydd pendant. Ac fel roeddwn i'n sôn wrth ddechrau hyn, mae'r UK Climate Change Committee yn ei adroddiad cynnydd wedi dweud bod angen cyflymiad pendant ac arwyddocaol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targedau erbyn 2025—targedau'r Llywodraeth ei hun.

Mi oeddwn i'n siomedig o glywed y Dirprwy Weinidog yn sôn am y cytundeb cydweithio oherwydd adroddiad pwyllgor ydy hwn, a chyfrannu fel aelodau trawsbleidiol o bwyllgor oeddem ni. Ac mae hwn yn adroddiad sydd yn sôn am ac yn craffu o ran targedau'r Llywodraeth ei hun. Mi ydw i'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi amlinellu'r gwaith pwysig fydd gan y pwyllgor o barhau i gydweithio a chraffu ar y maes hwn. Mae o o ddiddordeb mawr i'n hetholwyr ni ac mae o'n bwysig o ran ein hymateb ni i'r argyfwng hinsawdd.

Hoffwn orffen hefyd drwy ddiolch i Llyr Gruffydd am ei rôl o fel Cadeirydd y pwyllgor tra roedd yr adroddiad hwn yn mynd rhagddo. Yn amlwg, dwi'n siŵr byddai Llyr efo lot fawr o bethau i'w dweud pe byddai wedi cyfrannu heddiw, ond diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mi fyddwn ni'n derbyn eich her chi, Weinidog, i barhau i graffu a pharhau i wthio'r Llywodraeth ar y mater hwn.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 6 yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma: arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8282 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylid cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus.

2. Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young.

3. Yn gofyn, o ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol yn cael ei ystyried i roi sicrwydd:

a) nad yw'r arferion a nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau GIG eraill yng Nghymru; a

b) nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd gan Ernst & Young.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o agor y ddadl hon y prynhawn yma a gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ond rydym yma eto, onid ydym? Yma yn Siambr y Senedd hon eto, yn tynnu sylw at fethiant arall a sgandal arall yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe wnaethom godi yn y Siambr hon yn ddiweddar i drafod dychwelyd at fesurau arbennig, yr adroddiad damniol ar wasanaethau fasgwlaidd, ac yn aml, rydym yn trafod methiant Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn ddiogel, a’r methiant i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, a lleihau amseroedd aros i gleifion ar draws gogledd Cymru wrth gwrs.

Ond yn ogystal â hyn, mae'n ymddangos ein bod wedi mynd i dir newydd eto wrth ddysgu am y twyll eang honedig ar ran y personél uchaf y mae'r bwrdd yn eu cyflogi. Ond sut y gwnaethom ddysgu am hyn? A gawsom ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lawr y Senedd hon y cawsoch eich ethol iddi? Na, wrth gwrs na chawsom. Bu'n rhaid inni gael gwybod am y newyddion ar ôl i adroddiad Ernst & Young gael ei ddatgelu'n answyddogol i'r wasg, ac nid ydym eto wedi gweld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n llawn a manylion y methiannau cyfrifyddu yr honnir iddynt ddigwydd.  

Nawr, gadewch inni roi ychydig o bersbectif i hyn. Y bobl yr honnir eu bod wedi cyflawni ymddygiad twyllodrus yw rhai o’r bobl sy’n cael y cyflogau uchaf yn y wlad, gyda chyflog y prif weithredwr yn £250,000 y flwyddyn a’r cyfarwyddwr cyllid yn ennill £150,000 y flwyddyn. Mae’n iawn os ydych chi'n ddigon ffodus, onid yw? Ond mae’r unigolion hyn yn ennill mwy na Phrif Weinidog Cymru, a Phrif Weinidog y DU hyd yn oed, a’u prif rôl a’u swyddogaeth yw bod yn geidwaid a gwarcheidwaid y pwrs cyhoeddus, a gwneud penderfyniadau craff a phwyllog er lles gorau trethdalwyr. Wel, 'Beth ddigwyddodd gyda hynny?', gofynnaf.  

Rwyf i a’r Ceidwadwyr Cymreig am wybod ers pryd y mae Llywodraeth Cymru wedi gwybod am hyn, pam na roddwyd camau ar waith ar y pryd, pam na chafwyd datganiad i Siambr y Senedd hon gan y Gweinidog iechyd yn hysbysu’r Aelodau o’r newyddion, gan mai drwy erthygl gan Guy Adams yn y Daily Mail y cafodd y rhan fwyaf ohonom wybod am hyn. Go brin fod hynny'n hysbyseb wych i safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddemocratiaeth ar ran pobl gogledd Cymru, gan nad yw’n ymddangos eich bod yn mwynhau trafod y materion y mae’r rhan fwyaf o bobl gogledd Cymru yn bryderus yn eu cylch. Oherwydd mae’r bobl yn yr ardal honno’n bryderus am berfformiad cyffredinol y bwrdd iechyd, a’i fethiannau parhaus dros y degawd diwethaf.

Bywydau pobl yw hyn yn y bôn, a’r hyn sydd ei angen ar bobl gogledd Cymru yw unigolion cymwys sydd o ddifrif ynglŷn â'u hanghenion. Ac mae arnaf ofn fod y sgandal ddiweddaraf yn dystiolaeth bellach fod y bwrdd iechyd a’r Llywodraeth Lafur wedi gwneud cam â phobl gogledd Cymru. Beth fyddai Aneurin Bevan neu hyd yn oed Betsi Cadwaladr ei hun yn ei feddwl pe gallent weld hyn i gyd yn digwydd?  

Rwyf wedi cadw fy sylwadau yn eithaf byr oherwydd amser y ddadl, ond terfynaf fy sylwadau drwy annog Llywodraeth Cymru a Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young yn ei gyfanrwydd i bobl gogledd Cymru, fel y gallwn weld hyd a lled yr hyn sydd wedi digwydd yma, fel y gallwn ddechrau unioni’r difrod ac adfer uniondeb y bwrdd iechyd a hyder y cyhoedd ynddo, os oes unrhyw ran ohono ar ôl i'w adfer. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heno. Diolch.

16:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y diddordeb sylweddol yn adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w gyhoeddi.

2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol a’i fod yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi.

3. Yn nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg sefydliadau’r GIG.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. 

Mae'n achos o déjà vu, onid yw? Ac mae'n fy nhristáu'n fawr ein bod yma eto, yn siarad am fater o'r difrifoldeb mwyaf mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n wyth mlynedd—wyth mlynedd—ers iddo gael ei wneud yn destun mesurau arbennig am y tro cyntaf. Wyth mlynedd lle rydym wedi tystio i gyfres o sgandalau. Pob un yn tanseilio hyder, pob un yn tanseilio morâl staff. Ac mae'r adroddiad hwn gan Ernst & Young yr ydym yn ei drafod heddiw, mewn cymaint o ffyrdd, yn crynhoi stori Betsi Cadwaladr. Rwy'n ei weld fel microcosm o fethiannau'r bwrdd iechyd.

Mae'n adroddiad sy'n tynnu sylw at gamreoli sylfaenol. Mae'n adroddiad sy'n tynnu sylw at anghywirdeb ariannol. Mae'n adroddiad sy'n tynnu sylw at ddiffyg tryloywder. Mae'n adroddiad sy'n tynnu sylw at ymateb annigonol gan Lywodraeth Cymru, ac mae ei methiant i ddarparu tryloywder drwy roi copi o'r adroddiad i ni yn swyddogol yn rhan o hynny. Mae'n enghraifft arall o feio'r bobl anghywir. Cofiwch, adroddiad yw hwn a gomisiynwyd gan aelodau annibynnol y bwrdd, a oedd am unioni pethau a thaflu goleuni ar yr hyn oedd yn digwydd yn Betsi Cadwaladr. Ac eto, nhw a ddiswyddwyd i bob pwrpas a'u gorfodi i fynd cyn i'r adroddiad hwn weld golau dydd. Mae'r adroddiad wedi'i seilio ar faterion ariannol. Mae'r diffygion a ddaeth yn amlwg drwyddo yn debyg iawn, onid ydynt, i'r problemau a welsom gyda'r ddarpariaeth iechyd meddwl, gyda gwasanaethau fasgwlaidd, gydag adroddiadau di-rif a dynnai sylw at fethiannau difrifol yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd. 

Rydym yn sicr wedi colli ffydd yng ngallu Llywodraeth Cymru i reoli Betsi Cadwaladr, a chofiwch fod hon yn Llywodraeth sy'n rhedeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn uniongyrchol i bob pwrpas, drwy'r drefn mesurau arbennig. A chymryd cyfrifoldeb sydd felly mor hanfodol bwysig. Fel y dywedais yn gynharach, nodaf yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw eu bod yn galw am ryddhau'r adroddiad yn ei gyfanrwydd. Yn amlwg, mae angen inni weld hynny'n digwydd. Pan dynnodd Adam sylw at y cynnwys yma, roedd yn rhywbeth a ysgydwodd hyd yn oed ymhellach y ffydd a oedd gan bobl yn yr hyn oedd yn digwydd wrth geisio datrys problemau yn Betsi Cadwaladr. 

Byddaf yn parhau i rygnu ymlaen am yr angen i ailstrwythuro Betsi, nid oherwydd fy mod eisiau ailstrwythuro—bobol bach, hoffem osgoi hynny—ond nid yw'n gweithio ar hyn o bryd. Ac unwaith eto, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun ar waith. Rhowch gynllun B ar waith. Ond mae'n rhaid cyhoeddi'r adroddiad hwn. Rwyf am weld ymchwiliad llawn gan yr heddlu iddo, ac mae angen inni fod ar lwybr tuag at well gwasanaethau iechyd yn y gogledd, oherwydd nid ydym yno eto.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad, er yn fyr yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod bod yna lawer o Aelodau sy'n dymuno cyfrannu. Yn gyntaf, dylem gydnabod bod staff y GIG yng ngogledd Cymru, fel ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, yn gwneud gwaith anhygoel bob dydd. Fel y mae eraill eisoes wedi dweud, mae'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru yn destun mesurau arbennig, ond mae hynny'n wir am fwy nag 20 o fyrddau iechyd yn Lloegr hefyd rwy'n credu, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd pwysau sy'n deillio o flynyddoedd o gyni. Ond ni ddylai dynodi statws mesurau arbennig danseilio ein cefnogaeth na'n hymrwymiad i'r GIG. Yn sicr, cwmnïau yswiriant iechyd Americanaidd a darparwyr gofal iechyd preifat sydd fwyaf cyffrous a llawen ynglŷn â'r ffaith bod cynifer o fyrddau iechyd Lloegr, ynghyd â Betsi Cadwaladr, yn destun mesurau arbennig. Nid wyf yn credu bod unrhyw un yn y Siambr hon eisiau iddynt wireddu eu huchelgeisiau a chwalu ein GIG gwerthfawr. 

Mae adroddiad Ernst & Young wedi creu diddordeb enfawr yng ngogledd Cymru, ac yn ddi-os, mae gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg ohono wedi niweidio hyder y cyhoedd yn y sefydliad ymhellach. Mae'n adroddiad, fel y dywedwyd, a ddaeth o ganlyniad i'r ymchwiliad a gychwynnwyd gan y cyn-aelodau annibynnol, a hoffwn ddweud hyn: y bwrdd sy'n berchen ar yr adroddiad, a rhaid i'r bwrdd ailadeiladu hyder y cyhoedd yn y sefydliad. Er mwyn adeiladu hyder, rhaid ichi ddarparu'r gwir a bod yn dryloyw, ac felly, ni ddylai'r bwrdd fod yn gofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn ag a ddylid cyhoeddi'r adroddiad ai peidio, ond yn hytrach, dylai ofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn â phryd ac ar ba ffurf y dylid ei gyhoeddi, ar ffurf ac ar bwynt na fydd yn niweidio unrhyw gamau disgyblu a allai fod wedi'u cychwyn neu a allai fod eto i'w cychwyn. Ac yn olaf, hoffwn annog y bwrdd hefyd i gyhoeddi'r cyngor cyfreithiol y mae'n ei gael, fel y gall fod mor dryloyw â phosibl i'r cyhoedd.

16:15

Rwy'n siomedig. Rwy'n gwybod, Weinidog, ein bod i gyd yn teimlo mai eich cyfrifoldeb chi yw hyn yn y pen draw. Dyma fwrdd iechyd sydd bellach yn destun mesurau arbennig oherwydd yr holl fethiannau dros nifer o flynyddoedd. Ond rwy'n siomedig yn y Gweinidog dros ogledd Cymru, Lesley Griffiths, sydd ei hun, drwy ddileu'r cynnig, wedi anfon neges glir iawn. Nid yw am i'r trigolion yng ngogledd Cymru a'i hetholwyr hi a minnau weld yr adroddiad ar y bwrdd iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu ac y mae'r bobl hyn yn dibynnu arno am ofal iechyd da.

Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—i fod yn onest, mae siom enfawr yno hefyd. Fe wnaethoch ysgrifennu ataf yn ddiweddar yn nodi bod adroddiad Ernst & Young wedi'i gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac o ystyried perchnogaeth ar yr adroddiad a'r broses ddisgyblu barhaus yn y bwrdd, mai nhw sydd i benderfynu ynghylch cyhoeddi'r adroddiad. Rwy'n gweld hynny fel methiant llwyr i ysgwyddo cyfrifoldeb ar eich rhan chi, ac mae cymaint o fy etholwyr a chleifion yn teimlo'r un peth. Yn y pen draw, chi sy'n dyrannu arian trethdalwyr i'r bwrdd iechyd. Chi, Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud y bwrdd yn destun mesurau arbennig, a chi fel Llywodraeth Cymru sydd â'r dulliau wrth law i sicrhau bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi.

Mae arweinyddiaeth wedi bod yn ffactor pwysig drwy gydol yr holl broblemau a'r methiannau a welsom yn y bwrdd iechyd. Roedd arweinyddiaeth hefyd yn ffactor pwysig wrth wneud y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn 2016, felly mae o leiaf saith mlynedd o fethiant wedi bod gyda'r arweinyddiaeth, ac mae'n debygol iawn y gellid gweld y canfyddiadau yn adroddiad Ernst & Young mewn blynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd. Mewn gwirionedd, mae pwt o'r adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol yn nodi bod

'methiannau diwylliannol systematig wedi bod yn y tîm cyllid ac arweinyddiaeth'

bwrdd Betsi. Dyma'r cyfan y gofynnwn amdano—ni all unrhyw sefydliad, na llywodraeth yn wir, fod o ddefnydd o gwbl gydag arweinyddiaeth wael a gwan. Weinidog, mae nifer o fy etholwyr yn dioddef o ganlyniad i holl fethiannau'r bwrdd iechyd hwn. Ysgwyddwch y cyfrifoldeb eich hun. Gallwch wneud hynny heddiw trwy gefnogi ein cynnig. Diolch.

Cyn imi alw ar Mark Isherwood, hoffwn egluro fod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi cyflwyno'r gwelliant yn ei rôl fel Trefnydd, nid yn ei rôl fel Gweinidog gogledd Cymru. Mark Isherwood.

Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at nifer y sefydliadau yn Lloegr sy'n destun mesurau arbennig ond nid yw'n nodi nad yw'r sefydliadau hyn wedi'u huwchgyfeirio am gyfnod hir, am fod GIG Lloegr yn dod â thîm arbenigol allanol i mewn i ddatrys yr anawsterau. Wrth siarad yn gyhoeddus ym mis Mawrth, dywedodd cyn-gadeirydd y bwrdd iechyd:

'Cafodd ystod o ddiffygion a phryderon hirsefydlog eu huwchgyfeirio'n ffurfiol ddechrau mis Medi, nid yn unig i'r prif swyddog gweithredol ar y pryd ond hefyd i'r Gweinidog a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Cafodd yr uwchgyfeiriadau hynny ynghyd â'r sail drostynt eu hanwybyddu gan y Llywodraeth'.

Wrth siarad yma ym mis Mawrth, dyfynnais o ddatganiad a gefais ar ran cyn-aelodau annibynnol y bwrdd iechyd, lle'r oeddent yn datgan mai

'Llywodraeth Cymru a'r tîm gweithredol sy'n rhedeg y bwrdd iechyd, ac nid yw'r bwrdd ond yn ôl-ystyriaeth ar adegau.... Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli.'

Yn ei gyfarfod ar 3 Mai, derbyniodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth gan gyn-aelodau anweithredol annibynnol y bwrdd iechyd a orfodwyd i ymddiswyddo gan y Gweinidog. Roedd hyn yn cynnwys:

'Yr aelodau annibynnol felly ddaeth ag Ernst & Young i mewn i wneud adolygiad manwl annibynnol pellach, ac ar hyn o bryd mae'n adroddiad nad yw wedi ei ryddhau i'r cyhoedd eto... roeddem yn gwbl syfrdan gyda'r datganiad 'dim gweithredu pellach' gan y gwasanaeth atal twyll yn y GIG pan fo eitemau yn adroddiad Ernst & Young yn dangos yn eithaf clir ystod o afreoleidd-dra ariannol sylweddol, nid yn unig o fewn Betsi, ond o bosibl yn cyrraedd adrannau eraill ar draws y GIG yng Nghymru, byrddau iechyd eraill, ac i mewn i Lywodraeth Cymru ei hun mewn gwirionedd.'

ac, 'Nid y perfformiad ariannol oedd yr unig faes oedd yn peri pryder. Dylid rhyddhau adroddiad Ernst & Young o ystyried yr hyn a wyddem.'

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ers rhai wythnosau, i gael copi o'r adroddiad hwn ar gyfer craffu arno'n ffurfiol gan y pwyllgor. Rydym wedi cynnig trafod amryw o opsiynau ynghylch sut y gellir rhannu'r adroddiad gyda ni i sicrhau na chaiff unrhyw ymchwiliadau parhaus mo'u rhwystro. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau copi o'r adroddiad hwn trwy sianeli swyddogol cyn gynted â phosibl.

Rydym i gyd yn ymwybodol o ddiddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, ac er bod cynnwys yr adroddiad wedi'i nodi'n gyhoeddus, mae'n rhwystredig nad yw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cael cyfle i gyflawni gwaith craffu priodol. Mae'n hanfodol fod ein cais yn cael ei drin yn gyflym er mwyn caniatáu gweithredu a chraffu buan a thrylwyr gan y pwyllgor.

Os na fydd yr adroddiad ar gael i'r pwyllgor, byddwn yn archwilio ein pwerau i alw, o dan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio na fydd angen inni arfer y pŵer cyfreithiol hwn ac rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gydnabod y parch sy'n ddyledus i ddeddfwrfa genedlaethol ar fater o bwys fel hwn. 

16:20

Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon gan yr wrthblaid ynglŷn ag adroddiad Ernst & Young ar reolaeth cyfrifyddu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd pwyllgor archwilio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Ernst & Young i gynnal adolygiad fforensig o reolaeth cyfrifyddu ar ôl i Archwilio Cymru roi barn amodol ar gyfrifon y bwrdd iechyd ar gyfer 2021-22 a nodi methiannau rheoli mewnol.

Fel y dywedwyd droeon yn y Siambr hon, nid ein hadroddiad ni oedd hwn, felly ni allaf ofyn iddo gael ei gyhoeddi. Comisiynwyd yr adroddiad gan y bwrdd iechyd, felly mater i'r bwrdd iechyd yw unrhyw benderfyniad i gyhoeddi unrhyw ran neu'r cyfan o'r adroddiad. Yn wir, mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi fy hysbysu bod y bwrdd iechyd yn gofyn am gyngor cyfreithiol ynglŷn ag a all gyhoeddi'r adroddiad. Os mai'r cyngor fydd cyhoeddi'r adroddiad yn llawn neu'n rhannol, dyna fyddant yn ei wneud. Rwy'n credu eu bod yn awyddus iawn i wneud hynny os cânt sêl bendith cyfreithiol i wneud hynny.

Fel y dywedais o'r blaen, mae'r adroddiad yn sobreiddiol iawn, ac yn nodi methiannau difrifol iawn o ran rheolaeth ariannol yn y bwrdd iechyd. Ni ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth fod unrhyw un wedi elwa'n bersonol o'r gweithredoedd hyn, ond roedd yn datgelu arferion cyfrifyddu hynod o wael. Rwyf wedi cael sicrwydd gan y cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr dros dro fod y bwrdd iechyd wedi datblygu, ac yn gweithredu, cynllun gweithredu rheolaeth ariannol sy'n ymateb i'r materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young a chanfyddiadau Archwilio Cymru.

Mae fy swyddogion a chyfarwyddiaeth cyflawni a chynllunio ariannol bwrdd gweithredol y GIG yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ar ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu llywodraethiant a rheolaeth ariannol, fel rhan o fframwaith y mesurau arbennig. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynllun gweithredu rheolaeth ariannol a ddatblygwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i adroddiad Ernst & Young a chanfyddiadau Archwilio Cymru yn gadarn ac yn cael eu gweithredu.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn bwrw ymlaen â rheoli'r materion a godwyd yn yr adroddiad, yn unol â'u gweithdrefnau a'u polisïau presennol. Lle ceir unrhyw arwydd o gamau anghywir yn cael eu rhoi ar waith gan unigolion, mae prosesau disgyblu priodol yn cael eu dilyn, ond rhaid caniatáu iddynt gael eu cwblhau cyn neidio i unrhyw gasgliadau. Mae llawer iawn o ddiddordeb wedi bod mewn perthynas â chyhoeddi'r adroddiad hwn; mae hyn wedi cynnwys Aelodau yn y Siambr yn dyfynnu copïau o'r adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol, y gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n deall y gallai beryglu'n sylweddol y prosesau hynod bwysig y mae'r bwrdd iechyd yn eu dilyn i fynd i waelod y materion a amlygwyd yn yr adroddiad gan barchu hawliau cyflogaeth unigolion ar yr un pryd.

Fel y mae'r Prif Weinidog a minnau wedi dweud yn flaenorol, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau ar ddogfennau a ddatgelir yn answyddogol, yn enwedig—fel yn yr achos hwn—pan fo gweithdrefnau mewnol yn dal i fynd rhagddynt. Dywedais wrth y Siambr yn ddiweddar mai fy nealltwriaeth i yw bod yr unigolion allweddol a enwir yn yr adroddiad hwn wedi'u hatal dros dro. Tra bod y bwrdd iechyd yn dilyn ei brosesau a'i weithdrefnau mewn perthynas ag unigolion allweddol a enwir yn yr adroddiad hwn, ni fyddai'n briodol imi ddweud mwy am hynny nes bod y gweithdrefnau angenrheidiol wedi'u cwblhau. 

16:25

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Rydych wedi gwneud y datganiad hwnnw o'r blaen, fod unigolion allweddol wedi'u hatal dros dro, ac rwy'n falch iawn o glywed hynny. A allwch chi ddweud wrthyf a oes unigolion allweddol ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd wedi'u hatal dros dro, ac nid ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn unig?

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod wedi edrych ar gydwasanaethau hefyd, ond nid oes unrhyw un wedi cael ei atal yn y maes hwnnw. Nid mater i'r Siambr yw gweithredu fel barnwr a rheithgor ar faterion a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau personol a phroffesiynol pobl, yn ogystal â'u llesiant. Fe wnaeth y gwasanaeth atal twyll yn y GIG ymchwilio i bryderon a godwyd yn adroddiad Ernst & Young, ar ôl cael cyfle i adolygu'r adroddiad llawn, gan gynnwys yr atodiadau, ac ym mis Ebrill, penderfynodd nad oedd tystiolaeth fod unrhyw un wedi gweithredu mewn ffordd a oedd wedi'i hysgogi gan fudd personol, a chyhoeddodd na fyddai'n rhoi unrhyw gamau troseddol ar waith bryd hynny. Nid yw Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eto a yw'n ystyried bod sail dros agor ymchwiliad i honiadau a wnaed yn yr adroddiad. Rwy'n gwybod bod yr heddlu wedi cael trafodaethau cynnar gyda'r gwasanaeth atal twyll yn y GIG a'r bwrdd iechyd a bod y bwrdd iechyd yn cydweithredu ar y cam cynnar hwn. Byddwn yn disgwyl iddynt weithredu mewn modd tryloyw a gonest pe bai'r heddlu'n penderfynu ymchwilio.

Rwy'n ddiolchgar. Mae awgrym yn yr adroddiad, sydd wedi cael ei adrodd gan y cyfryngau, fod cwmni, Lightfoot Solutions, wedi newid y dyddiad ar gynnig i bob pwrpas er mwyn caniatáu i'r camadrodd ariannol ddigwydd. Rwy'n credu eich bod wedi cyfarfod â'r cwmni ym mis Hydref y llynedd. A yw'r cwmni hwnnw'n dal i fod yn gyflenwr cymeradwy i GIG Cymru?

Mae Lightfoot Solutions yn darparu gwasanaethau i rai o sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Hyd nes y gwyddom beth yn union a ddigwyddodd a beth sydd angen ei wneud—. Gallaf roi sicrwydd i chi ein bod wedi edrych ar hynny. Rydym yn ystyried a oedd unrhyw anghywirdeb a beth yn union a ddigwyddodd. Felly, mae'r broses honno wedi'i chyflawni.

Mae yna faterion difrifol o fewn yr adroddiad ac mae’r bwrdd iechyd wrthi nawr yn rhoi sylw i'r rhain. Mae hyn yn cynnwys a oedd swyddogion y bwrdd iechyd yn rhan o’r materion ariannol afreolaidd sydd o dan sylw yn yr adroddiad. Mae’r gwaith yma yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau disgyblu’r bwrdd iechyd. Gallaf roi sicrwydd fy mod i yn cymryd y materion yma o ddifrif, ac fel ŷch chi'n gwybod, fe wnaeth y materion a godwyd gan Archwilio Cymru, ynghyd â phryderon difrifol eraill am effeithlonrwydd y bwrdd ac ati, arwain at roi’r bwrdd dan fesurau arbennig.

Archwilio Cymru wnaeth amlygu'r mater hwn, ac mae’n cyflawni rôl hanfodol o ran archwilio cyrff y gwasanaeth iechyd yn allanol, a rhoi sicrwydd am reoli arian cyhoeddus ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Bydd Archwilio Cymru wrthi nawr yn archwilio cyfrifon 2022-23 o ran cyrff y gwasanaeth iechyd. Mae byrddau pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yn y gwasanaeth iechyd yn gyfrifol am weithio gydag archwilwyr, ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am sicrhau eu hunain bod rheolaeth ac arferion ariannol eu sefydliad yn cyd-fynd nid yn unig â’u gweithdrefnau mewnol, ond hefyd gyda’u dyletswyddau cyfreithiol a statudol. Dwi wedi gofyn i fy swyddogion nodi’r materion allweddol yn yr adroddiad a allai fod yn berthnasol i sefydliadau eraill yn y gwasanaeth iechyd, ac i rannu'r themâu a'r canfyddiadau allweddol hynny gyda nhw. Felly, dyna'ch ateb chi. Felly, dwi wedi gofyn iddyn nhw ystyried unrhyw gamau eraill sydd angen eu cymryd i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ac i sicrhau nad yw'r arferion dan sylw yn digwydd nac yn gallu digwydd yn sefydliadau eraill y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

Rhaid inni gofio grym ein geiriau ni yn y Siambr yma a thu hwnt. Mae'r hyn rŷn ni'n ei ddweud yn effeithio ar sut mae aelodau o staff blaenorol a phresennol, a darpar aelodau o staff, yn teimlo am weithio yn y bwrdd iechyd, a sut mae cleifion a'u teuluoedd yn teimlo am y bwrdd iechyd a thu hwnt. Rhaid inni beidio anghofio bod staff y bwrdd iechyd yn—

16:30

—yn gweithio'n galed i bobl yn y gogledd o dan amgylchiadau anodd iawn. Felly, gobeithio bydd cyfle gyda fi yn ystod yr wythnosau nesaf i roi adroddiad arall ar yr hyn sydd wedi newid yn Betsi yn ddiweddar. Diolch.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf braidd yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog i'r ddadl heddiw. O dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gwyddom fod gennych bwerau i gyfarwyddo'r bwrdd iechyd mewn unrhyw ffordd y gwelwch yn addas, o gofio mai eich safbwynt yw bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, a golyga hynny y gallech eu cyfarwyddo i gyhoeddi'r adroddiad y gŵyr pob un ohonom ei bod o fudd i'r cyhoedd allu ei weld. Rydym angen tryloywder. Mae angen inni allu gweld yr wybodaeth hon allan yno. Rwyf wedi darllen yr adroddiad. Rhannwyd copi gyda mi, fel gydag Aelodau eraill, ar sail anhysbys, ac mae'n warthus: cyfrifyddu ffug, twyll, ac yn ôl pob golwg, yr hyn sy'n gyfystyr â chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Gallai pob un o'r rhain, wrth gwrs, fod yn faterion troseddol, a dyna pam ei bod yn gwbl briodol fod yr heddlu yn ystyried yn ofalus a ddylid bwrw ymlaen ag erlyniad.

Ond beth arall sydd yn yr adroddiad hwn? Gwyddom fod newidiadau bwriadol wedi'u gwneud i ddogfennau drwy gydgynllwynio â chyflenwr, Lightfoot Solutions, fel y crybwyllwyd eisoes—cyflenwr rydych eisoes wedi cadarnhau eu bod yn dal i weithio yn y GIG yng Nghymru. Dyfarnwyd contract gwerth £1.8 miliwn iddynt heb fynd drwy'r drefn briodol. Mewn gwirionedd, fe wnaethant osgoi'r gweithdrefnau hynny'n fwriadol, ac mae pobl bellach yn gwneud elw ar draul y trethdalwr o ganlyniad i osgoi—osgoi'n fwriadol—y rheolaethau ariannol yn y bwrdd iechyd. Nid oes problem gyda'r rheolaethau ariannol; y broblem yw pobl yn osgoi'r rheolaethau ariannol hynny'n fwriadol, a dyna mae'r adroddiad hwn yn ei ddatgelu. Mae'n adroddiad fforensig, manwl iawn, ac mae'n manylu'n fawr nid yn unig am Lightfoot Solutions, nid yn unig am lawer o unigolion yn y bwrdd iechyd—rhestrwyd tua 75 o unigolion ar ddechrau'r adroddiad—ond mae hefyd, wrth gwrs, yn mynd at wraidd GIG Cymru, gan ei fod yn sôn am Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Nawr, a dweud y gwir, bydd pobl ledled Cymru yn synnu wrth glywed heddiw na fydd Simon Whitehead, pennaeth caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a sefydlodd archeb brynu a luniwyd yn fwriadol i beidio â mynd drwy'r system yn briodol neu fynd i Lightfoot Solutions, yn cael ei atal dros dro am ei weithredoedd. Dyma unigolyn sy'n gweithio fel un o uwch-aelodau'r tîm caffael hwnnw ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. A dweud y gwir, credaf fod hynny'n gyfystyr â chamymddwyn difrifol ac na ddylai'r unigolyn hwnnw allu gweithio yn y GIG mwyach, ond rydych wedi dweud wrthym fod yr unigolyn hwn yn dal yn ei swydd, nad yw wedi cael ei atal dros dro, ac nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn digwydd i'r unigolyn penodol hwnnw. Mae llawer o unigolion eraill wedi'u henwi yn yr adroddiad wrth gwrs, sy'n dal i fod wrth eu desgiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl pob golwg, yn gwneud eu swyddi ar gyflogau sylweddol, ac a oedd yn gwybod beth oeddent yn ei wneud wrth guddio gwybodaeth, a phlygu'r rheolau neu dorri'r rheolau'n fwriadol er mwyn iddynt allu cael eu ffordd eu hunain.

Nawr, mae'r adroddiad hwn wedi bod gennych chi, a'r bwrdd iechyd hefyd, ers pedwar mis a hanner. Nid wyf yn gwybod pa mor hir y mae'n ei gymryd i ddiswyddo pobl a'u dwyn i gyfrif, ond ni ddylai gymryd pedwar mis a hanner, o ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad hwn, sy'n nodi'r hyn a oedd yn digwydd yn eithaf clir. Ceir atodiadau i'r adroddiad, nad wyf wedi'u gweld, sef copïau o negeseuon e-bost a manylion eraill, a chredaf fod angen iddynt hwythau gael eu cyhoeddi hefyd. Ac os cânt eu cyhoeddi, Weinidog, credaf y bydd pobl yng ngogledd Cymru yn eich cymeradwyo am sefyll o'u plaid a datgelu'r pydredd ar frig y sefydliad hwn, fel y gallwn ei chwynnu, cael gwared ar y llanast, a chael pobl addas wrth y llyw sydd â'r diwylliant cywir, sy'n onest, ac sydd am gyflawni'r newid y mae taer angen inni ei weld yn ein gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

Felly, bedwar mis a hanner yn ddiweddarach, nid ydym wedi gweld unrhyw un yn cael eu diswyddo. Rydym wedi gweld pobl a oedd ynghlwm wrth hyn yn gadael y bwrdd iechyd ac yn cael swyddi eraill mewn lleoedd eraill, gan gynnwys rolau uwch, unwaith eto, yn sefydliadau GIG Cymru, gan gynnwys Sue Green, cyn-gyfarwyddwr gweithredol adnoddau dynol y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru, sydd bellach â rôl ehangach fyth ledled Cymru gyfan. A dyma unigolyn a fethodd ddatrys a chaffael a sicrhau prif weithredwr newydd o fewn amserlen benodol—

16:35

—rhywbeth a feirniadwyd yn hallt gan Archwilio Cymru. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon, ac rwy'n eich atgoffa nad ydym yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi'r adroddiad hwn; rydym yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi'r adroddiad hwn, am ei fod er budd y cyhoedd. A gobeithiaf yn fawr felly na fydd Aelodau Llafur, yn enwedig y rhai yng ngogledd Cymru, yn cael eu chwipio ac y byddant yn gallu defnyddio eu crebwyll eu hunain i allu galw ar y bwrdd iechyd i gyhoeddi'r adroddiad, a'i wneud yn gyhoeddus cyn gynted â phosibl.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynefinoedd carbon glas

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 7 heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gynefinoedd carbon glas, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8283 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod moroedd Cymru yn cynnwys morwellt, morfeydd heli, a chynefinoedd carbon glas gwymon, sy'n cwmpasu mwy na 99km² o rwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. 

2. Yn nodi bod carbon eisoes yn cael ei storio yng ngwaddodion morol Cymru. 

3. Yn gresynu at y ffaith bod hyd at 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf, fel yr amlygwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru.

4. Yn cydnabod bod galluoedd storio carbon y cefnfor yn hanfodol wrth gyrraedd y targed o ddod yn sero-net erbyn 2050. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) creu cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefinoedd carbon glas morol amhrisiadwy;

b) adeiladu ar lwyddiant Prosiect Seagrass, cydweithrediad rhwng Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe, sy'n anelu at adfer 20,000m² o forwellt, drwy blannu dros 750,000 o hadau ym Mae Dale yn Sir Benfro; ac

c) datblygu cynllun datblygu morol cenedlaethol Cymru sy'n dangos yn glir lle y gellir cynnal prosiectau carbon glas. 

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl hon heddiw oherwydd, yn rhy aml, pan fyddwn yn sôn am ein hamcanion di-garbon, rydym yn gwneud y camgymeriad o anwybyddu'r cyfraniad enfawr y gall cynefinoedd carbon glas ei wneud i'r uchelgeisiau hynny. Ystyrir coetiroedd a mawnogydd Cymru yn hanfodol i'n strategaeth garbon. Mae'n rhaid inni drin ecosystemau morol ac arfordirol, nid yn unig yn yr un ffordd, ond gyda mwy o flaenoriaeth. Mae 113 miliwn tunnell o garbon wedi'i storio yn y 10 cm uchaf o waddodion morol yng Nghymru. Yn ôl CNC, mae hynny bron yn 170 y cant o'r carbon sydd wedi'i ddal yng nghoedwigoedd Cymru. Gall ecosystemau morol ddal mwy o garbon yr erw na choedwigoedd. Er enghraifft, mae metr sgwâr o forwellt yn dal tair gwaith cymaint ag ardal gyfatebol ei maint o fforest law, a 10 gwaith cymaint â glaswelltir. Felly, yn amlwg, mae angen inni adeiladu ar lwyddiant y prosiect morwellt. Ystyrir y byddai morfeydd heli mewn aberoedd gyda lefel uchel o waddod mewn daliant yn y golofn ddŵr, fel aber afon Hafren, yn atafaelu mwy o garbon na'n coedwigoedd—o leiaf 1.5 gwaith cymaint. Nawr, gwn fod y Gweinidog wedi clywed y dadleuon hyn o'r blaen, a gwn, i raddau, eich bod yn cytuno â ni ar hyn. Nawr, mae angen cynllun arnom i gefnogi ac ehangu morfeydd heli yn ein haberoedd o amgylch Cymru. Mae hyn yn unol â chanfyddiadau CNC yn 2020,

'Yn benodol, gallai diogelu ac adfer cynefinoedd fel morfeydd heli a morwellt sy'n storio ac yn atafaelu carbon gyfrannu at gynnydd sylweddol mewn carbon glas. Gallai mwy o amddiffyniad i ardaloedd o wely'r môr sy'n cefnogi (neu sydd â'r potensial i gefnogi) gwelyau rhywogaethau dwygragennog hefyd gynyddu lefelau atafaelu carbon.'

Nawr, mae'r dystiolaeth hon wedi bod gyda ni ers blynyddoedd, ond nid fi yw'r unig un sy'n meddwl mai prin yw'r cynnydd a wnaed. Mae astudiaethau wedi cynnig y byddai rhoi'r gorau i dreillrwydo môr-waelodol yn hyrwyddo gwell lefelau storio carbon mewn cynefinoedd gwaddodol islanwol. Fodd bynnag, caniateir treillrwydo môr-waelodol o hyd. Adfer cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol bas fyddai'n arwain at yr ardal o fudd mwyaf fesul uned o ran cynyddu lefelau atafaelu carbon. Nawr, mae amryw dechnegau wedi'u defnyddio i gyflawni hyn, a'r dull mwyaf cyffredin a phrofedig ar gyfer creu cynefinoedd rhynglanwol yw adlinio a reolir. Mae hyn, er enghraifft, wedi digwydd ym Morfa Friog yng Ngwynedd. Gyda pherygl cynyddol o lifogydd arfordirol, byddai'n werth asesu a oes rhannau o arfordir Cymru lle gellid cymryd camau adlinio a reolir heb fygwth cartrefi unrhyw un. Ar gyfer rhai cynefinoedd bas, islanwol, deuogenig, fel morwellt a gwelyau wystrys, dylem fod yn edrych ar ein partneriaid Celtaidd. Mae llawer o awduron wedi dadlau bod carbon sy'n cael ei storio mewn cregyn yn ffordd o storio'n hirdymor.

Nawr, rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag Ulster Wildlife a phrosiect Wild Oysters. Maent yn gwneud gwaith mor anhygoel yng Ngogledd Iwerddon ac yng Nghonwy. Ceir wystrys o dan farina Conwy, y pontydd cychod, ac mae hyn yn helpu i adfer rhywogaeth hanesyddol bwysig. Meddyliwch, pysgodfa fawr y Mwmbwls neu Ystumllwynarth oedd y mwyaf yng Nghymru, yn cynnal 400 o bysgotwyr ar draws 188 o gychod. Yn lleol i Gonwy, roedd yna welyau wystrys brodorol cynhyrchiol hefyd yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ger Caernarfon a Bangor, oddi ar Ynys Seiriol, ac o gwmpas Ynys Môn, ond yn anffodus, erbyn hyn, dim ond ychydig o boblogaethau wystrys brodorol bach sy'n weddill yng Nghymru. Mae ein ffrindiau ar yr ochr arall i Fôr Iwerddon wedi cynnig y syniad o wystrys Celtaidd, lle gallai Cymru weithio gyda Gogledd Iwerddon a rhanddeiliaid eraill i adfer ein pysgod cregyn. Gallai honno fod yn genhadaeth ryngwladol mor anhygoel. Felly, Weinidog, rydym am eich gweld yn cymryd y camau enfawr posibl i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur drwy edrych allan ar ein môr, ac mae hyn wedi'i gynnwys yn ein gwelliannau.

Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod yn egluro'r angen am gynllun datblygu morol Cymreig a chynllun gofodol cenedlaethol hefyd sy'n dangos yn glir lle gallai pob math o brosiect ddigwydd, gan gynnwys carbon glas, ond eto, rydym yn dal i orfod galw arnoch i fabwysiadu ymagwedd ofodol tuag at gynlluniau morol. Yn yr un modd, rydych hyd yn oed yn galw arnoch eich hunain i sicrhau adferiad carbon glas cenedlaethol. Fodd bynnag, dros flwyddyn ers i'n pwyllgor newid hinsawdd gefnogi galwadau am gynllun adfer carbon glas cenedlaethol, rydym eto i weld un. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn llygad eu lle pan fyddant yn tynnu sylw at botensial y cefnfor i storio carbon fel elfen hanfodol ar gyfer cyrraedd y targed o ddod yn sero net erbyn 2050.

Yr wythnos hon, mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi datgelu bod Cymru ar ei hôl hi gyda'r camau sydd eu hangen i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Nawr yw'r amser i ryddhau potensial carbon glas Cymru. Yn y pen draw, gall ecosystemau morol ddal mwy o garbon fesul erw na choedwigoedd; gallant helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, cefnogwch ein cynigion heddiw.

Nawr, a bod yn blwmp ac yn blaen, byddai datganoli Ystad y Goron yn tynnu sylw'n ddiangen oddi ar y nod ac yn achosi mwy fyth o oedi. Ni fyddwn byth yn cefnogi hynny. Mae ein hamgylchedd yn haeddu gwell. Diolch yn fawr iawn. 

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylid manteisio ar bob cyfle ddaw i ehangu dalfa garbon Cymru, megis carbon glas, er mwyn cyflymu’n taith at sero net yn hytrach nag osgoi gweithredu.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystâd y Goron fel bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar garbon glas yn cael eu gwneud yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau adferiad carbon glas cenedlaethol trwy ariannu gwaith cynnal a gwella morwellt, morfeydd heli a chynefinoedd arfordirol eraill sy’n gyfoethog o ran eu natur a’u carbon;

b) adeiladu ar lwyddiant yr holl brosiectau ledled Cymru sy’n adfer cynefinoedd morol, gan gynnwys gwaith llwyddiannus y Prosiect Morwellt yn Dale a phrosiect Ocean Rescue Seagrass o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gafodd ei ariannu’n ddiweddar i dargedu gwaith adfer oddi ar arfordir Llŷn; a

c) mynd i’r afael â chynllunio morol mewn ffordd ofodol gan sicrhau bod prosiectau carbon glas yn cael eu lleoli i sicrhau’r manteision mwyaf i natur tra’n caniatáu gweithgareddau morol pwysig eraill gan gynnwys pysgota, mordwyo ac ynni.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae cynefinoedd carbon glas yn dal arwyddocâd aruthrol pan fo’n dod i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae gan yr ecosystemau arfordirol hyn y gallu, fel dŷn ni wedi clywed, i ymneilltuo deuocsid carbon o’r atmosffer ac i storio fe yn eu haenau gwaddodol. Maen nhw’n gallu dal a storio carbon ar raddfa—eto, fel dŷn ni wedi clywed gan Janet yn barod—ar raddfa fwy eang nag unrhyw goedwigoedd ar ein tir, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n ffocysu ar ddiogelu a gwarchod y cynefinoedd hyn yn effeithiol.

Ac mae’r syniad o adfer cynefinoedd carbon glas yn cynnig cyfleoedd i Gymru sy’n fwy na dim ond ymneilltuad carbon. Mae’n cynnig y cyfle inni gyfrannu at ein targedau rhyngwladol, fel cytundeb Paris. Mae gan yr ecosystemau hyn botensial ar raddfa bydol.

Ac wrth adfer y cynefinoedd hyn, mae haen fioamrywiol, wrth gwrs, achos mae’r cynefinoedd hyn yn gartref i amryw o blanhigion, o rywogaethau, gan gynnwys nifer sydd dan fygythiad. Mae adfer y cynefinoedd, mewn ffordd, yn ffordd o gynnig lloches i rywogaethau. Mae hynna’n bwysig ar gyfer ein gwytnwch cenedlaethol, prydferthwch ein harfordir, a chynaliadwyedd ein pysgodfeydd.

Mae'r cynefinoedd hyn yn gwarchod ein harfordir; maent yn gweithredu fel clustogau naturiol sy'n gwarchod ein glannau rhag y cynnydd yn lefel y môr, rhag erydiad, rhag stormydd. Er bod yr argyfwng natur yn hanfodol bwysig, mae angen inni gofio am yr argyfwng hinsawdd hefyd. Mae'n gwneud synnwyr economaidd—synnwyr i'n cymunedau arfordirol—ein bod yn buddsoddi mewn cynlluniau sy'n diogelu'r systemau bregus hyn. A dyna pam fod arnom angen cynllun datblygu morol clir sy'n nodi lleoliadau addas ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yn ein hardal forol. Dylai fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o gynefinoedd presennol, geomorffoleg arfordirol ac ansawdd dŵr. Dylid ei lunio ar y cyd ag arbenigwyr gwyddonol, llunwyr polisi a rhanddeiliaid. Dylai eu harbenigedd ein harwain. Ac mae'n rhaid iddo gynnwys camau i fonitro iechyd yr ecosystemau hynny ac olrhain dangosyddion bioamrywiaeth.

Nawr, gwn nad oes gennym lawer o amser ar gyfer y ddadl hon, felly i gloi, dywedaf yn unig fod yn rhaid inni gynnwys cymunedau lleol, grwpiau amgylcheddol a diwydiannau sy'n gweithredu mewn ardaloedd arfordirol, gan fod eu cefnogaeth yn hanfodol, fel y mae eu safbwyntiau hefyd. Mae angen inni sicrhau bod yr holl bobl hyn yn teimlo eu bod yn berchen ar y polisi hwn. Rydym yn darparu ar gyfer eu dyfodol hwythau yma hefyd wrth gwrs.

Felly, diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl hon i'n Senedd. Janet, ni allaf gytuno â chi ar yr hyn a ddywedoch chi am Ystad y Goron. Ni chredaf ei fod yn tynnu sylw oddi ar y nod; credaf ei fod yn hanfodol yng nghyd-destun yr hyn rydym yn sôn amdano yma, ond rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi dod â'r ddadl hon i'r Senedd. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn. Dair blynedd yn ôl, arweiniais ddadl fer ar yr angen i ychwanegu glas at yr adferiad gwyrdd, ac fe'i gelwais yn 'fargen newydd wyrddlas', a chredaf fod hynny'n siarad â'r ystafell hon heddiw. 

Fel y dywedais bryd hynny, ac fel rydym wedi'i glywed heddiw, ecosystemau carbon glas yw rhai o amsugnwyr carbon deuocsid mwyaf effeithlon y byd, ac maent yn ddalfeydd carbon hirdymor. Fel yr adroddwyd gan CNC yn 2020, mae'r carbon sydd wedi'i storio yn ein gwaddodion morol yn cyfateb i 170 y cant o'r carbon sydd wedi'i ddal yng nghoedwigoedd Cymru. Ac mae dolydd morwellt yn dal carbon ar gyfradd uwch na fforestydd trofannol, ac mae hynny wedi'i ddweud eisoes yma heddiw. Felly, mae diogelu a gwella carbon glas yn ddarn allweddol o'r darlun sero net. 

Mae polisïau fel coedwig genedlaethol Llywodraeth Cymru wedi dal dychymyg pobl, yma ac yn rhyngwladol. Ond gan fod cynefinoedd carbon glas yn aml yn llai gweladwy, gallant ennyn llai o ddiddordeb a llai o egni gwleidyddol felly, a dyna pam fod prosiectau fel y feithrinfa forwellt arloesol ym Mhentywyn yn hanfodol. Mae prosiect adfer y Prosiect Morwellt ym Mhorth Dinllaen ym Mhen Llŷn eisoes yn llwyddiant ysgubol. Datblygu meithrinfa fawr yw'r cam nesaf tuag at gyflawni nod y tîm o adfer 2,500 hectar o forwellt yn y DU erbyn 2050. Rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gefnogi hynny wrth symud ymlaen.

Gair o rybudd, serch hynny—nid yw rheoli amgylcheddol byth yn gweithio mewn seilos. Ac mae hyn yn arbennig o wir am ein cyrsiau dŵr. Ni allwn adfer cynefinoedd carbon glas heb fynd i'r afael â llygredd a rheoli maethynnau ymhellach i fyny'r afon. Felly, rwy'n annog yr Aelodau Ceidwadol, a'r holl Aelodau eraill sydd wedi mynegi cefnogaeth i gynefinoedd carbon glas heddiw, i gefnogi Llywodraeth Cymru gyda chyflwyno'r terfyn nitrogen fferm gyfan o 170 kg yr hectar yr hydref hwn.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae dros 100 miliwn o dunelli o garbon wedi'i storio yn y 10 cm uchaf o waddodion morol yng Nghymru. Mae hynny bron ddwywaith cymaint â'r carbon sydd wedi'i ddal yng nghoedwigoedd Cymru. Felly, o ran allyriadau carbon net, gallwn ddweud bod morwellt yn gweithio ddwywaith mor galed â'n coed yng Nghymru, a'i fod yr un mor bwysig â'n coed derw a'n masarn. Mewn gwirionedd, mae rhai astudiaethau'n dangos y gall ddal tair gwaith cymaint o garbon yr hectar.

Mae potensial y planhigion dyfrol hyn i ddal carbon yn chwarae rhan hollbwysig wrth reoli asidedd ein dŵr. Mae angen i garbon deuocsid tawdd gael ei amsugno, neu mae perygl y gall asideiddio ein cefnforoedd a'n dyfrffyrdd ymhellach, gan niweidio bywyd morol a niweidio iechyd dynol hefyd.

Gwyddom y gwnaed 83,000 o ollyngiadau carthion i'n dyfrffyrdd y llynedd; 600,000 awr o ollyngiadau carthion. Mae'n broblem arbennig yma yng Nghymru, gyda gorlifoedd yn gorlifo 65 y cant yn amlach nag yn Lloegr, ac mae chwech o'r 20 o afonydd mwyaf llygredig yn y DU yng Nghymru.

Gall y gollyngiadau hyn achosi ewtroffigedd, proses dorcalonnus, lle caiff twf algâu ei hybu oherwydd gollyngiadau carthion sy'n llawn maethynnau. Mae'r algâu yn gweithredu fel blancedi mawr gwyrdd sy'n cysgodi planhigion dyfrol rhag golau'r haul, gan eu lladd, ac yna effeithir ar yr holl bysgod yn grynofa ddŵr, gan greu 'parthau marw'. Heb forwellt a chynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, gallem weld gostyngiad dramatig mewn bioamrywiaeth ddyfrol, gan y gwyddom fod ecosystemau morol yn dibynnu ar y miloedd o hectarau o gynefinoedd morwellt ar hyd ein harfordir hardd yng Nghymru—4,582 hectar, i fod yn fanwl gywir, sydd â'r potensial i gynnal dros 350 miliwn o bysgod a dros 450 biliwn o infertebratau dŵr hallt. Ond yn anffodus, fel y dywed gwyddonwyr wrthym, mae'r cynefinoedd hanfodol hyn dan fygythiad, ac maent mewn cyflwr enbyd. Ond nid oes angen ichi fod yn wyddonydd i ddeall hyn; fe wnaethom ei ddysgu yn yr ysgol: pan fydd cynhyrchwyr ecosystemau fel planhigion gwyrdd yn lleihau yn eu nifer, mae'n cael effaith ganlyniadol i lawr y gadwyn fwyd. Os collwn ein cynefinoedd morwellt, gallem weld cwymp yn nifer y pysgod. Byddai hyn yn niweidiol i'n diwydiant pysgota, sector sydd eisoes wedi wynebu cwymp o 82 y cant yng ngwerth pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir rhwng 2019 a 2021, gyda nifer y tunelli a gynhyrchwyd yn dirywio o 3,100 tunnell i ddim ond 214 tunnell, gostyngiad o 93 y cant.

Colli ein cynefinoedd morwellt fyddai'r hoelen olaf yn arch y sector pysgota, a fydd, yn ei dro, yn cael effaith ganlyniadol ar dwristiaeth, diwydiant arall sydd dan warchae ar hyn o bryd. Bydd llai o gimychiaid, crancod, cregyn bylchog, penfreisiaid ac eogiaid yn dinistrio cymunedau ledled Cymru, o'r Rhyl i Ddinbych-y-pysgod. Pan fo ecosystemau carbon glas yn dirywio, maent yn allyrru'r carbon roeddent yn ei storio'n flaenorol. Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2019—

16:50

Iawn. Rwyf am ei gadael yn y fan honno am fod fy amser wedi dod i ben. Felly, i grynhoi, fodd bynnag, yn gryno: gadewch inni ddatblygu'r cynllun adfer carbon glas cenedlaethol, a gweithio i ehangu'r Prosiect Morwellt, gan ddod â'r manteision i bob rhan o Gymru, ac yn enwedig i Ddyffryn Clwyd. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw'n fawr, er fy mod yn gresynu ei bod yn ddadl mor fyr, ac ni fyddaf yn gallu mynd i'r afael â'r holl faterion a godwyd, o ystyried faint o amser a fydd gennyf. Rwyf am roi eiliad, er hynny, i sôn am yr ysgol gynradd yn Wrecsam a ddaeth i ganu'r gân rap fwyaf gwych i mi am bwysigrwydd morwellt, a rhoi llyfr hardd i mi, llyfr rwy'n trefnu gyda'r Comisiwn i'w arddangos yn yr Oriel, fel y gall cymaint o bobl â phosibl ei weld. Roeddent yn angerddol iawn, fel y dylent fod, am forwellt.

Felly, mae Cymru Sero Net, ein cynllun ar gyfer lleihau allyriadau, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, yn cydnabod y rôl y gallai morfa heli a morwellt ei chwarae yn ein gwaith cyllidebu carbon, drwy'r rhestr nwyon tŷ gwydr, ond mae hefyd yn mynd ymhellach i archwilio'r rôl y gall y rheini a chynefinoedd carbon glas eraill ei chwarae yn addasu a lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae llawer o'r cynefinoedd eisoes yn rhan o'n rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig ac rydym yn cymryd camau i'w diogelu a'u hadfer. Yn ogystal ag ariannu'r gwaith o reoli'r rhwydwaith ac ymchwil i lywio ein blaenoriaethau, rydym hefyd yn cyflawni camau cadwraeth newydd sylweddol, ac un enghraifft o hynny yw dyrannu dros £1 filiwn i'r gwaith yng Nglanfa Fawr Tredelerch, a fydd yn ailsefydlu cynefin morfa heli yno. A soniodd Joyce am un o'r lleill, yn Llŷn, ac rwy'n arbennig o hoff ohono. Byddwn yn datblygu'r dull hwn drwy gyflawni ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i ariannu camau wedi'u targedu i adfer morwellt, morfeydd heli a chynefinoedd arfordirol eraill sy'n gyfoethog o ran eu natur a'u carbon.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu â phartneriaid i ystyried y dulliau mwyaf effeithiol o gyflawni'r cynllun ac adeiladu'r capasiti sydd ei angen i gyflawni ar raddfa fawr ac yn gyflym. Felly, rydym yn cefnogi tri phwynt cyntaf cynnig yr wrthblaid, sy'n nodi rhai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynefinoedd morol ac atafaelu carbon. Mae ein gwelliant yn ceisio cryfhau'r galwadau am weithredu yn sylweddol. Mae'r cynnig ar welliant y Llywodraeth yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr ymagwedd at sero net a ffefrir gan y Blaid Geidwadol a'r dull sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid yw ein llwybr sero net yn ystyried carbon glas, ac felly, wrth i'n dealltwriaeth o'r wyddoniaeth wella, bydd yn cyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer cyfrannu at ymdrechion byd-eang i gyfyngu ar effaith cynhesu byd-eang.

Nid yw hyn yn fater o naill ai/neu—nid yw'n ddewis rhwng morwellt a choedwigoedd. Mae Aelodau'r wrthblaid yn fy holi'n rheolaidd—. Os oes cyfleoedd newydd ar gyfer defnyddio ynni gwynt ar y môr, a ydynt yn credu bod hyn yn golygu y dylem ddefnyddio llai o wynt ar y tir? Nid yw'n fater o naill ai/neu; mae angen yr holl gyfleoedd arnom inni allu cyrraedd sero net, nid rhai ohonynt, na chanolbwyntio ar un yn fwy na'r llall. Os oes cyfleoedd newydd i gyflymu datgarboneiddio yng Nghymru er mwyn cyfrannu at ymdrechion byd-eang, dylai'r rhain fod yn gyfleoedd i fynd ymhellach, nid yn esgus dros lai o uchelgais mewn meysydd eraill. Felly, rwy'n galw ar bob Aelod o'r Senedd sy'n cytuno bod y cyfleoedd newydd mewn perthynas â charbon glas yn golygu bod yn rhaid inni wneud mwy yn hytrach na llai i bleidleisio o blaid gwelliant y Llywodraeth heddiw. 

Mae cynnig yr wrthblaid hefyd yn galw am gynlluniau. Rwy'n cytuno bod y rhain yn rhan bwysig o gyflawni nodau polisi, ond ynddynt eu hunain, ni fydd iechyd y cefnforoedd yn cael ei adfer â geiriau yn unig. Dyna pam fod gwelliant y Llywodraeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ariannu adferiad carbon glas, gan ganolbwyntio ar gynefinoedd pwysig ar hyd yr arfordir. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt, mae'r cynefinoedd hyn, sy'n bwysig yn fyd-eang, yn rhan o dreftadaeth naturiol Cymru, ac fel y mae prosiectau sydd eisoes ar waith yng Nghymru wedi'i ddangos, mae modd cyflawni gwelliannau sylweddol pan fo cyrff cyhoeddus, cadwraethwyr, gwyddoniaeth a chymunedau oll yn gweithio gyda'i gilydd, fel y nododd Delyth yn ddefnyddiol iawn.

A dylwn ddweud ar y pwynt hwn mai fi yw hyrwyddwr yr wystrys brodorol, Janet; rwy'n ymwybodol iawn o dreftadaeth wystrys Ystumllwynarth. Rwy'n falch iawn o weld ein bod wedi bod yn ailhadu wystrys brodorol ym mae Abertawe, sydd, fel y dywedais yn gynharach mewn ateb i Mike Hedges, wedi cadw ei statws cadwraeth da am flwyddyn arall. 

Mae cynnig yr wrthblaid hefyd yn galw am ymagwedd ofodol tuag at gynlluniau morol, ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu'r dull hwn yn y ffordd y caiff cynllun morol cenedlaethol Cymru ei roi ar waith. Fodd bynnag, ni all dull gofodol fod ar gyfer un sector yn unig. Mae angen iddo sicrhau defnydd cynaliadwy o'r môr mewn ffyrdd a fydd yn galluogi datblygiad economi wyrddach yng Nghymru, boed hynny mewn ynni, llongau, pysgota neu ddefnyddiau eraill. 

Roedd bwlch mawr yn y cynnig gwreiddiol gan iddo fethu ateb y cwestiwn pwysicaf ynghylch cyfrifoldebau dros Ystad y Goron. Nhw yw'r perchnogion a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau ynglŷn â'r gwaith o reoli gwely'r môr ac ardaloedd sylweddol o arfordir Cymru, ac felly mae ganddynt rôl gwbl allweddol i'w chwarae mewn perthynas â charbon glas. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli cyfrifoldeb am Ystad y Goron i Gymru, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Yn amlwg, nid yw'r Blaid Geidwadol yn cytuno â ni, ond mewn gwirionedd, ni allant egluro pam. Rwy'n synnu eich bod yn dweud ei fod yn tynnu sylw oddi ar y nod. Sut y gall rheolaeth dros wely'r môr yr ydych am i ni ei wella fod yn tynnu sylw pan mai dyna'r union beth a fyddai'n caniatáu inni wneud hynny?  

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn fyr yn fy sylwadau, o ystyried yr amser a neilltuwyd i'r ddadl, ond rwy'n gobeithio ei fod yn bwnc y byddwn yn dychwelyd ato, gan ei fod yn haeddu dadl lawer hirach i archwilio'r materion dan sylw. Diolch. 

16:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y ddau funud rydych wedi'u rhoi i mi i gau'r ddadl hon, a chyfeiriodd y Gweinidog at ba mor fyr yw'r ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at weld y Llywodraeth yn cyflwyno dadl ar y pwnc hwn yn eu hamser eu hunain.

Ond wrth agor y ddadl, siaradodd Janet Finch-Saunders yn huawdl, gan ddisgrifio'r angen am forwellt carbon glas a pham fod hyn yn bwysig iawn. Mae gennyf gwmni Atlantic Edge Oysters yn fy etholaeth i, ac euthum i ymweld â hwy, a phan oedd y llanw allan ar benrhyn Angle, gallech weld y morwellt yno, ac mae'n gorwedd yn llipa wrth aros i'r môr ddod yn ôl i mewn a'i atgyfodi. Mae'n beth anhygoel i'w weld, y darn bach hwn o forwellt yn y dolydd môr hyn, a faint o garbon y gallant ei atafaelu. 

Credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig—ac mewn gwirionedd, y ffordd rwy'n amgyffred pethau—yw'r ffaith bod morwellt yn gallu dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Dylem fod yn dathlu pwysigrwydd morwellt yn ein brwydr i atafaelu rhagor o garbon. Felly, credaf fod y ddadl hon yn fan cychwyn gwych i geisio sbarduno'r drafodaeth hon. 

Siaradodd Delyth Jewell yn huawdl hefyd ynglŷn ag elfen gynefin ehangach morwellt a charbon glas, a'r hyn a ddaw yn sgil hynny o ran ein bioamrywiaeth a'r gofynion sydd gennym i ni ein hunain a llunwyr polisi o ran adfer y cynefinoedd hyn, fel bod bioamrywiaeth yn cael cyfle i ffynnu unwaith eto, a chredaf fod hynny'n hynod o bwysig.

A dyna bwynt y parhaodd Joyce Watson ag ef yn ei sylwadau a'i chyfraniadau, a chyfeiriodd at reoliadau dŵr Llywodraeth Cymru a'r terfyn nitradau o 170 kg yr hectar. Cytunaf fod angen inni edrych ar lygredd o fewn ein dyfrffyrdd mewn ffordd gyfannol, ar draws pob sector. Hoffwn dynnu sylw Joyce Watson at y dystiolaeth gan asiantaeth amgylcheddol Iwerddon, sydd wedi cyflwyno rheoliadau parthau perygl nitradau yn Iwerddon, lle maent wedi gweld cynnydd mewn lefelau nitradau am fod y rheoliadau hyn wedi gwaethygu'r problemau mewn gwirionedd, oherwydd, cyn gynted ag y mae'r problemau hynny'n bodoli, mae'r ewtroffigedd—rhoddodd Gareth wers wyddoniaeth huawdl iawn i ni ar ewtroffigedd a'r broses wyddonol sydd ynghlwm wrth hynny—. Gall y terfynau hynny gael effeithiau niweidiol ar ein dyfrffyrdd.

Gallaf weld bod y cloc wedi troi'n goch, felly, i osgoi profi amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach, awgrymaf fod yr holl Aelodau'n cefnogi ein cynnig. Diolch.  

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Datganoli adnoddau dŵr yn llawn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru, datganoli adnoddau dŵr yn llawn, a galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8279 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau;

b) y byddai datganoli pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon; ac

c) bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru;

b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol.

Cynigiwyd y cynnig.

17:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gan ein dadl heno sawl ffrwd yn llifo i mewn iddi. Mae eu cenllif yn ein cyfeirio tuag at ein dyfodol fel cenedl hyd yn oed wrth iddynt gael eu llywio gan ein gorffennol. Mae yna lanw o uniondeb tiriogaethol; yr hawl gyfansoddiadol y credaf y dylai Cymru gael pwerau dros ein hadnoddau; ac mae ein cynnig yn ei gwneud yn glir y dylai Cymru fod â'r gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'n ffiniau. 

Wedyn ceir llednentydd eraill sy'n bwydo i mewn i bwysigrwydd y ddadl hon—yr argyfyngau hinsawdd a natur, y grymoedd sylfaenol, hanfodol hynny, y gallai eu hymchwydd ein llethu eto os na wnawn newid ein cwrs ein hunain a throsi obsesiwn ein cymdeithas â thanwydd carbon yn ffyrdd gwyrddach o gynnal ein bywydau.

Ac o dan hyn oll, ceir isgerrynt sy'n llywodraethu sut y gwelwn y ddadl hon, ac mae'r isgerrynt hynny'n deillio o'n gorffennol, ein hymwybyddiaeth, mor agos at yr wyneb, o sut mae gwleidyddiaeth fodern Cymru, a'r cwestiwn cenedlaethol yn sicr, wedi dod i amlygrwydd oherwydd dŵr a boddi Capel Celyn yn y 1960au. Efallai ei bod yn amhosibl trafod dŵr mewn cyd-destun Cymreig heb ymwybyddiaeth o'r hyn a ddigwyddodd o'r blaen. Mae cymaint o lif meddyliau, Ddirprwy Lywydd, yn llifo i mewn i'r un ddadl hon. Ond gadewch inni ddechrau yn y tarddiad. 

Achos mae gan ddŵr swyn dros seice neu ysbryd ein cenedl, ac mae unrhyw ddadl am ddŵr yn y Senedd hon—Senedd, byddai rhai yn dadlau, a ddaeth i fodolaeth achos y sŵn am Dryweryn—mae’n amhosibl i gynnal dadl heb sôn am yr hanes chwerw hwnnw.

Mae yna rai enwau llefydd yn hanes Cymru sy’n dal yn fwy na synau’n unig, sy’n dal dicter a brad cymunedau cyfan; enwau llefydd sydd wedi dod yn symbolau, achos diflannodd y llefydd a oedd yn cael eu cynrychioli. Ac anafwyd mwy na daearyddiaeth gyda’u diflaniad. Fel dywed Harri Webb yn ei gerdd, 'Colli Iaith', arweiniodd at

'Colli tir a cholli tyddyn, / Colli Elan a Thryweryn; / Colli Claerwen a Llanwddyn / A’r wlad i gyd dan ddŵr llyn.'

Elan. Tryweryn. Enwau, geiriau y mae galw arnom i’w cofio nhw. Enwau sy’n dwyn i gof gyflafan ddiwylliannol, yr ymdeimlad o analluogrwydd. Geiriau sy’n cyfleu colled. Nid cyflenwad neu gyfleustod yn unig ydy dŵr yng Nghymru.

Mae dŵr wedi chwarae rhan yn ein diwydiant. Roedd ein dyfroedd yn golchi'r glo a fachwyd o'r ddaear gan ddwylo ein teidiau, ond fe wnaeth diwydiant staenio'r dyfrffyrdd hefyd—y nentydd mynydd a lifwyd yn ddu gan huddygl, gwaddol mwyngloddio sy'n dal i halogi ein dyffrynnoedd a'n cymoedd. Ac er bod y pyllau wedi cau, y rhan fwyaf ohonynt, mae'r bryntni'n parhau. Mae obsesiwn ein cymdeithas gyda dadreoleiddio a moneteiddio ein byd naturiol, tueddiadau anllad, gwastraffus cyfalafiaeth ein dyddiau ni, wedi ein gadael ag afonydd sy'n marw, carthion sy'n treiddio i'n nentydd, cynefinoedd ac ecosystemau cyfan wedi eu gwenwyno gan fudreddi dynol. Felly, mae ein cynnig yn galw am roi pwerau i Weinidogion Cymru fynd i'r afael â malltod carthffosiaeth sy'n cael ei ollwng i'n hafonydd a'n moroedd, y dyfroedd sy'n marw.

Ydy, mae model Dŵr Cymru yn cynhyrchu canlyniadau gwell. Mae 44 y cant o'n hafonydd mewn cyflwr ecolegol da, o'i gymharu â dim ond 14 y cant yn Lloegr. Nid yw'r rhan fwyaf o Gymru'n cael ei llywodraethu gan fympwyon yr hyn a fydd yn plesio cyfranddalwyr. Ond nid i gyd. Nid yw'n ddigon. Ac mae'n rhaid i Dŵr Cymru barhau i weithredu yn y system ehangach flêr hon sy'n gosod cwmnïau masnachol preifat ochr yn ochr â'u model, system nad yw'n parchu ffiniau cenedlaethol. Mae preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus. Mae wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad ofnadwy yn ansawdd ein cyflenwad dŵr. Mae'n rhaid inni adael i gerrynt arall ddilyn ei gwrs yn lle hynny.

Oherwydd bydd gan ganlyniadau'r hyn y penderfynwn ei wneud am ddŵr effaith ar fwy na Chymru heddiw yn unig. Byddant yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Bydd yr angen am ddŵr yn dyfnhau yn y blynyddoedd i ddod, ond wrth inni edrych tuag at ddyfodol ansicr ein planed, wedi'i lethu gan y ddau argyfwng sy'n bla ar ein hinsawdd a'n byd naturiol, mae'r dyfodol hwnnw'n dibynnu ar ddŵr. Gyda buddsoddiad, bydd miliynau'n gallu byw heb fynediad at olew, ond ni fydd neb yn goroesi heb ddŵr.

Beth sy'n sefyll yn ein ffordd felly? Pam nad yw'r pwerau hyn dros ddŵr wedi'u datganoli i Gymru? Wel, mae troad y llanw hwn yn rhyfedd. Fel y mae pethau, nid yw pwerau Cymru i basio deddfau dros ddŵr yn cyd-fynd â'n ffiniau ar fap. Mae hynny'n golygu na allwn ddeddfu i atal neu reoli sefyllfa lle mae cwmni preifat sydd wedi'i leoli yn Lloegr i raddau helaeth yn ceisio trosglwyddo dŵr allan o gronfa ddŵr yng Nghymru oherwydd ei bod yn rhatach iddo wneud hynny na thrwsio pibellau sy'n gollwng.

Nawr, argymhellodd comisiwn Silk y dylid dod â'r anghysondeb hwnnw i ben, a gwneud i bwerau dros ddŵr gyd-fynd â'n ffiniau, fel sy'n digwydd eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond nid yw adran 48 o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n caniatáu i hyn ddigwydd, wedi'i roi mewn grym, a byddai'n ymddangos mai'r rheswm am hynny yw bod Gweinidogion Cymru eto i sbarduno'r mecanwaith. Mae hynny'n bwysig, oherwydd rhoddir y pŵer i gychwyn y darpariaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n golygu bod yn rhaid i ni wneud cais ffurfiol.

Nawr, o dan gais rhyddid gwybodaeth, rydym wedi cael copi o lythyr dyddiedig 3 Rhagfyr 2018, gan Weinidog yr amgylchedd ar y pryd at Is-ysgrifennydd Seneddol DEFRA ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, a oedd, fel y bydd Adam yn nodi rwy'n siŵr, wedi gofyn am ohirio ac aildrefnu'r dyddiad ar gyfer pryd y byddai'r pwerau hyn yn cael eu trosglwyddo. Er bod yr oedi dan sylw i fod i ohirio gweithredu'r aliniad tan wanwyn y llynedd, ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Hyd y gallwn ddweud, ni fu trafodaeth bellach rhwng y Llywodraethau. Yn sicr, ni chafwyd eglurhad gan y naill Lywodraeth na'r llall ynglŷn â phryd y bydd yn digwydd, os o gwbl.

Nawr, wrth ymateb i'r ddadl rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog daflu rhywfaint o oleuni ar pam y digwyddodd hyn a pham mae'n ymddangos bod trosglwyddo'r pwerau wedi ei ohirio am gyfnod amhenodol. Nid mater ar gyfer anoracs cyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae modd mesur canlyniadau'r penderfyniad hwn. Mae seilwaith dŵr Cymru yn helaeth. Mae gennym gymaint â 1,592 o gronfeydd dŵr mawr cofrestredig, a gellir tynnu 243 biliwn litr o ddŵr o ffynonellau Cymreig bob blwyddyn i'w ddefnyddio yn Lloegr. Mae'n ymddangos ein bod wedi atal ein hunain yn fwriadol rhag cael unrhyw lais dros y mater.

Gadewch inni gofio bod arwyddocâd cenedlaethol i'r ddadl hon. Mae'n ymwneud ag o ble y daethom fel cenedl, ac i ble rydym yn mynd. Caf fy atgoffa o'r hyn y mae Eliot yn ei ddweud yn ei 'Four Quartets':

'Ni allwn ddychmygu adeg heb y môr / Neu fôr nad yw'n frith o wastraff / Neu ddyfodol nad yw'n debygol / Fel y gorffennol, o fod heb gyrchfan.'

Mae cyrchfan Cymru, y cerrynt y byddwn yn ei ddilyn, ynghlwm wrth y cwestiwn hwn. Mae cwestiwn dŵr i Gymru yn ymwneud â mwy na phibellau neu systemau. Ar ei wyneb gloyw, gwelwn adlewyrchiad ohonom ein hunain, ein blaenoriaethau, faint rydym yn malio am y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd—y cefnforoedd hynny sy'n llawn o wastraff. Mae dŵr yn adlewyrchu. Mae'n dangos cymaint am y ffordd y llywodraethwn ac y trefnwn ac y gwenwynwn ein byd byw. Ac ydy, mae'n adlewyrchu'r colledion y mae ein cenedl wedi'u dioddef. Ydy, mae'n adrodd hanes llygredd, aflendid, esgeulustod ein gorffennol. Ond mae hefyd yn ffynhonnell bywyd, ac mae'n elfen a fydd yn allweddol ar gyfer ein dyfodol. Dŵr, dŵr ym mhob man, heb ddiferyn wedi ei wastraffu.

17:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn eraill yn ein dadl.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Janet Finch-Saunders.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru. 

2. Yn gresynu at y ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion yng Nghymru a Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diweddaru'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru;

b) cyhoeddi adroddiad tasglu Llywodraeth Cymru ar orlifiadau stormydd; ac

c) gweithredu targedau statudol i gwmnïau dŵr wella gorlifiadau stormydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Nawr, gwn fod Plaid Cymru a Llafur Cymru yma yn datgan bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus. Gydag unrhyw beth fel hyn, mae'n syniad diddorol. Ond wrth gwrs, cwsmeriaid Dŵr Cymru sy'n wynebu'r biliau dŵr ail uchaf trwy Gymru a Lloegr. Er mai'r bil cyfartalog ledled Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn 2023-24 yw £448, y bil cyfartalog yng Nghymru yw £499. Roedd dros 83,000 o ollyngiadau carthion yng Nghymru yn 2022, gyda 569 awr o ollyngiadau yng Nghymru. Ac mae'r cwmni dŵr wedi cael dirwyon o gannoedd o filoedd o bunnoedd oherwydd gollyngiadau carthion. Fodd bynnag, credwn y gallai fod gwell gorfodaeth. Roedd un achos o'r fath yn 2021, pan gafodd y cwmni ddirwy o £180,000 oherwydd achos o ollwng carthion a arweiniodd at yr achos gwaethaf o ladd pysgod yng ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn.

Fodd bynnag, nid wyf yn credu mai preifateiddio yw'r broblem, a dywedais yn glir wrth y Senedd ddoe fod angen mwy o orfodaeth, a gorfodaeth gryfach gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai'r rôl arweinyddiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ddod gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, mae'r model yn sicrhau newid cadarnhaol. Mae model gweithredu busnes Dŵr Cymru wedi caniatáu iddynt gyflwyno dros £100 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol a fydd o fudd uniongyrchol i'n hafonydd, ond bydd hyn yn digwydd erbyn 2025. Nid oes yr un sefydliad arall yn buddsoddi ar y lefel a'r cyflymder hwnnw i geisio gwella ansawdd dŵr afonydd yng Nghymru.

Ers tua 2010, mae biliau Dŵr Cymru wedi bod yn gostwng. Cwmni un pwrpas yw Glas Cymru, a ffurfiwyd i fod yn berchen ar, ariannu a rheoli Dŵr Cymru. Mae'n gwmni cyfyngedig drwy warant, ac oherwydd nad oes ganddo gyfranddalwyr, cedwir unrhyw arian dros ben er budd cwsmeriaid Dŵr Cymru. Mae canlyniadau asesiad effaith economaidd Prifysgol Caerdydd o fodel Glas yn dangos cynnydd sylweddol mewn swyddi, gwerth ychwanegol i economi Cymru a gwariant wedi'i gadw yma yng Nghymru. Mae'n cefnogi dros 9,000 o swyddi, ac am bob £1 filiwn o werth ychwanegol gros uniongyrchol, mae £1.27 miliwn arall o werth ychwanegol gros yn cael ei gadw mewn mannau eraill yn ein heconomi. Mae 62 y cant o wariant y gadwyn gyflenwi yn cael ei gadw yma yng Nghymru, o'i gymharu â 41 y cant yn 2013.

Ni allai'r dystiolaeth fod yn gliriach: nid yw preifateiddio'n aflwyddiannus; mae'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw Llywodraeth Cymru yn cydweithredu â Dŵr Cymru i helpu i gyflymu rhai o'r cynlluniau sydd ganddynt ar y gweill. Mae enghreifftiau'n cynnwys yr angen i Dŵr Cymru fuddsoddi'n sylweddol i wella gorlifoedd storm, gyda £140 miliwn yn cael ei fuddsoddi erbyn 2025 a £420 miliwn arall wedi'i gynllunio rhwng 2025 a 2030; a buddsoddi £60 miliwn ychwanegol yn benodol i leihau ffosfforws yn y pum afon ardal cadwraeth arbennig sy'n methu yn eu hardal weithredu eu hunain. A cheir cynlluniau draenio cynaliadwy trefol GlawLif yn Llanelli, Caerdydd a Llandudno, lle defnyddir datrysiadau sy'n seiliedig ar natur i dynnu neu arafu faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'n carthffosydd a chyfyngu ar ba mor aml y maent yn gorlifo. Mwy o gydweithredu sydd ei angen, nid mwy o ddatganoli.

Weinidog, gallech gyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd bresennol. Credwn fod Llywodraeth Cymru wedi methu deddfu i fynd i'r afael â llygredd dŵr. Mewn cyferbyniad, cyflwynodd Llywodraeth y DU, o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021, ddarpariaethau ar gyfer Lloegr yn unig i leihau gorlifoedd storm. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod targedau llym i gwmnïau dŵr eu cyrraedd. Felly, erbyn 2035, bydd yn rhaid i gwmnïau dŵr wella'r holl orlifoedd storm sy'n gollwng i mewn i ddŵr ymdrochi dynodedig neu'n agos ato, a gwella 75 y cant o orlifoedd sy'n gollwng i safleoedd natur â blaenoriaeth uchel. Erbyn 2050, bydd hynny'n ehangu i gynnwys yr holl orlifoedd storm sy'n weddill, lle bynnag y maent. Rydym angen gweld yr un dyhead gennych chi. Yn wir, rydym yn dal i aros am yr adroddiad ar orlifoedd storm a ddylai fod wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.

Yn olaf, rwyf am fynd i'r afael â'r pwynt ynghylch adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017. O dan y ddarpariaeth hon, bydd cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cwmpasu unrhyw ddŵr a charthffosiaeth yng Nghymru hyd yn oed os yw ardaloedd y gweithredwr wedi'u lleoli'n bennaf yn Lloegr. Llywodraeth Cymru a ofynnodd am ohirio deddfu'r darpariaethau dŵr hynny. Mewn llythyr wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU yn 2018, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth. Nododd Llywodraeth Cymru resymau fel diwygio deddfwriaeth, cynlluniau statudol a datrys materion trwyddedu a rheoleiddio cymhleth. Mewn ymateb i gwestiwn diweddar ar y mater, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy Lywodraeth a'r diwydiant dŵr.

Fel rwy'n ei weld, mae'n eithaf amlwg: mae'r hyn y mae Plaid Cymru a Llafur yn galw amdano yn hynod gymhleth a gallai gael effaith niweidiol ar Gymru. Bydd dileu preifateiddio a chyflwyno mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru yn achosi i'r ymateb i'n hargyfwng dŵr fod yn llai effeithiol. Mae Plaid Cymru a Llafur yn aml yn siarad am ddatganoli a gwladoli pellach—

17:15

Ie, rwy'n gwybod, er mor annisgwyl yw hynny i chi, Janet Finch-Saunders.

Diolch. Y gwir amdani yn yr achos hwn yw ei fod yn anghywir. Diolch. 

Adam Price. O, na; yn gyntaf, sori, os caf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 2.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd bwynt 2:

defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.

gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol.

neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr.

neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr.

cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr.

datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol. 

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol. Diolch yn fawr.

Diolch, Lywydd. Mae dŵr, yr adnodd hynod werthfawr hwnnw, yn un y mae gennym lawer iawn ohono yng Nghymru, ond mae'n un nad ydym yn cael fawr ddim amdano, ac nid ydym ar ein pennau ein hunain yn hynny. Mae'r Comisiwn Byd-eang ar Economeg Dŵr newydd gynhyrchu ei adroddiad yn gynharach eleni a ddaeth i'r casgliad fod y byd yn gyfan ar hyn o bryd yn gosod pris rhy isel ar ddŵr. Caiff dŵr ffres ei drin fel rhywbeth rhad ac am ddim i raddau helaeth, neu bron yn rhad ac am ddim, yn hytrach na'r adnodd gwerthfawr ydyw, ac mae ei bris i'r cwsmer yn seiliedig ar gost cael y dŵr i'r cwsmer, nid gwerth y dŵr ei hun, sy'n arwain at ddirywio amgylcheddol ym mhob cwr o'r byd. Mae hefyd yn golygu bod arian yn cael ei drosglwyddo o'r cymunedau tlotach, sef tarddleoedd dŵr ffres fel arfer, i'r cwmnïau mawr yn y rhanbarthau cyfoethocach sy'n elwa o ecsbloetio'r adnodd hwn na chaiff ei werthfawrogi'n ddigonol.

Dyna fu hanes dŵr yng Nghymru ers dros ganrif—ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sicr. Mae'n anghynaladwy: mae'n anghynaladwy yn amgylcheddol, mae'n anghynaladwy yn economaidd, ac mae'n anghynaladwy yn wleidyddol hefyd. Mae'n debygol o newid beth bynnag oherwydd newid hinsawdd, llygredd, dinistrio ecosystemau; mae dŵr ffres yn y ganrif hon eisoes yn dod yn adnodd prin, a bydd hynny'n parhau. Rydym eisoes yn gweld marchnadoedd dŵr lleol, rhanbarthol a byd-eang yn dod i'r amlwg; mae dŵr yn dechrau cael ei fasnachu ar draws ffiniau, nid y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn unig, ac mae'r pris yn codi o ganlyniad i hynny.

Dyna'r dyfodol, ond beth sy'n digwydd nawr yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae hyd at 320 miliwn litr y dydd yn cael eu hallforio o gwm Elan gan Dŵr Cymru i Severn Trent i'w ddefnyddio'n bennaf yng nghanolbarth Lloegr. Gall United Utilities dynnu hyd at 252 miliwn litr y dydd o Lyn Efyrnwy i gyflenwi cwsmeriaid yng Nghaer a gogledd-orllewin Lloegr. Dyma'r adnodd y mae Thames Water yn edrych ar y posibilrwydd o'i ddargyfeirio i dde-ddwyrain Lloegr. Mae United Utilities hefyd yn defnyddio Llyn Celyn i echdynnu, ar wahanol bwyntiau ar hyd Afon Dyfrdwy, hyd at 660 miliwn litr drwy reoleiddio lefel y dŵr, ac mae 50 miliwn o hwnnw'n cael ei dynnu'n uniongyrchol ar ochr Cymru i'r ffin. Felly, yn dibynnu ar lefel y galw ar unrhyw ddiwrnod penodol, mae tua 600 miliwn litr o ddŵr fel arfer yn cael eu hallforio o Gymru.

I roi rhyw fath o bersbectif i hynny, cyfanswm y galw am ddŵr yng Nghymru yw tua 800 miliwn litr y dydd. Pitw iawn yw'r swm a gaiff Cymru yn gyfnewid am y lefel o ddŵr sy'n cael ei allforio. Am y dros 100 miliwn cu m o ddŵr sy'n cael ei allforio bob blwyddyn o gwm Elan yn unig, mae Dŵr Cymru yn cael ychydig dros £7 miliwn—sy'n cyfateb i 7c y metr ciwbig—pan fo Severn Trent, sy'n derbyn y dŵr hwnnw, yn codi tâl o 20 gwaith hynny ar eu cwsmeriaid eu hunain. Gallai caniatáu i Dŵr Cymru godi tâl ar Severn Trent fel yr hyn y maent yn ei godi ar eu cwsmeriaid eu hunain ddod â channoedd o filiynau o bunnoedd i mewn, ac wrth i bris byd-eang dŵr godi, gallai hynny ddod nid yn unig yn ymarferol, ond yn angenrheidiol. Ond byddai ychwanegu ardoll allforio dŵr eithaf ceidwadol o 50c at gyfanswm y dŵr sy'n cael ei allforio o Gymru yn dod â £100 miliwn y flwyddyn ychwanegol i mewn. Byddai hynny'n golygu y byddai'r gost yn dal yn is na dewisiadau amgen fel dihalwyno. Gellid defnyddio'r arian hwnnw at amrywiaeth o ddibenion pwysig yng Nghymru, boed yn ymladd llygredd dŵr neu dlodi dŵr. A dyna'r eironi mawr: mae gan y wlad wleb iawn hon dlodi dŵr cynyddol oherwydd ein bod yn cael ein hatal yn y gyfraith ar hyn o bryd, oherwydd diffyg pwerau, rhag cael pris teg am y dŵr a allforiwn, tra bod y cwmnïau sy'n derbyn y dŵr yn gwneud elw gormodol i'w cyfranddalwyr yn seiliedig ar allforio dŵr ar sail cost yn unig i bob pwrpas.

Mae rhai o'r manylion yn hurt mewn gwirionedd. Mae preifateiddio yn rhan o hyn, wrth gwrs, oherwydd cyn i Dŵr Cymru gael ei breifateiddio, sicrhaodd y Llywodraeth Geidwadol y byddai dwylo Dŵr Cymru wedi eu clymu i bob pwrpas, felly ceir cyfres o gytundebau cydgysylltiedig sy'n golygu na all Dŵr Cymru wneud unrhyw elw o'r dŵr y maent yn ei allforio. Yn fwy hurt byth, mae yna gyfrif esgrow yn Jersey o bob man yn cronni arian ar gyfer y draphont ddŵr y mae Severn Trent i fod wedi'i gwerthu i Dŵr Cymru, ond nid ydynt wedi arwyddo eto, ac nid oes raid iddynt arwyddo—mae gennyf y manylion yma—tan 21 mlynedd ar ôl i ŵyr olaf Siôr V farw. A'r Tywysog Richard, Dug Caerloyw, yw hwnnw os nad oeddech chi'n gwybod—hollol ffiwdal. Mae dros £100 miliwn yn y cyfrif esgrow hwnnw y gellid ei ddefnyddio er budd pobl Cymru. Dyna yw gwaddol y Llywodraeth Geidwadol i ni. Dyna pam ein bod angen y pwerau yma i Gymru, fel y gallwn gael pris teg am allforio'r dŵr hwnnw, a'i ailfuddsoddi er budd pobl ac amgylchedd Cymru.

17:20

Mae 385 biliwn litr o ddŵr yn cael eu cymryd o'r sir rwy'n byw ynddi, Powys, bob blwyddyn: fel y clywsom, 133 biliwn litr o gwm Elan, a 252 miliwn litr o Lyn Efyrnwy. Ac rwy'n falch o ddweud bod cyngor Powys a reolir gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymchwilio i hyn. Maent eisiau gwneud rhywbeth amdano. Maent wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at Lywodraeth y DU, yn gofyn am ganiatâd i godi ardoll fach sy'n golygu y gallant godi tâl am y dŵr sy'n cael ei dynnu allan o Bowys i Loegr, a fydd wedyn yn cael ei ailfuddsoddi ym Mhowys yn ein cyflenwadau ynni, ond hefyd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ymarferol, dyna allai ddigwydd. Rwy'n croesawu'r ddadl ar y mater hollbwysig hwn, ac os caf ychwanegu at restr Janet Finch-Saunders o bleidiau sy'n cefnogi datganoli dŵr Cymru, rhowch Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y rhestr honno hefyd os gwelwch yn dda.

Rhaid inni sicrhau bod ein cymunedau a'n hamgylchedd naturiol yn elwa o'r penderfyniadau seilwaith yng Nghymru, yn enwedig lle mae'n arwain at drosglwyddo adnoddau naturiol y tu allan i Gymru. Mae'n sicr yn iawn fod gennym awdurdod a goruchwyliaeth dros ein hadnoddau naturiol. Ni ddylem oddef yr echdynnu parhaus ar ein hadnoddau naturiol a'n cyfoeth naturiol er mwyn i eraill allu elwa'n ariannol ohonynt. Os nad yw darparwr yn gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru, nid oes gan y Senedd unrhyw offer i weithredu. Mae gennym lai o bwerau i sicrhau bod pob darparwr yn gweithio tuag at yr un nodau a rennir o ran ansawdd ein hafonydd a'n moroedd.

Mae biliau dŵr Cymru ymhlith yr uchaf yn y DU, ac eto rydym yn gweld biliynau o litrau o ddŵr yn cael eu trosglwyddo o Gymru bob blwyddyn am geiniogau'n unig. Boddwyd Llyn Efyrnwy, ym Mhowys. Mae Llanwddyn, y pentref a oedd yno, yn gymuned goll erbyn hyn, a hynny er budd pobl y tu allan i Gymru. Mae trethdalwyr Cymru hefyd yn talu i lanhau degawdau o danfuddsoddi yn ein gwaith trin carthion, fel y gwyddom o ddadleuon yn gynharach yn y Senedd.

Os caf sôn am y gwelliannau, rwy'n croesawu'r dull cydweithredol a amlinellir yng ngwelliant y Llywodraeth, ond yn y gwelliant Ceidwadol byddwn wedi hoffi mwy o gefnogaeth ar y camau gweithredu ar orlifoedd storm a gollyngiadau carthffosiaeth. Mae llygredd yn fater datganoledig, ond mae'r gwelliant yn osgoi mater hollbwysig yr angen i Gymru gael rheolaeth lawn ar ein hadnoddau naturiol ein hunain.

Mae'n hen bryd cael y ddadl hon, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Mae hon yn drafodaeth y buom yn ei chael ers y rhan orau o ddegawd ac wrth i fwy ohonom ddod yn fwy ymwybodol o gyflwr ein hafonydd sy'n dirywio'n gyflym, rwy'n credu nawr y dylai'r Senedd gael awdurdod llawn dros ein hadnoddau dŵr. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Hoffwn i ganolbwyntio, yn fy nghyfraniad i, ar y pwynt yn ein cynnig sy'n cyfeirio at sut y mae preifateiddio dŵr wedi arwain at filiau cynyddol, ac effaith hyn ar lawer o aelwydydd Cymru sydd eisoes yn cael trafferthion economaidd. Ac fel soniodd Adam Price, mae'n baradocs trist, eironig, er bod Cymru'n allforiwr net o ddŵr, bod cwsmeriaid Cymru yn wynebu rhai o’r biliau dŵr uchaf, ac mae nifer bryderus a chynyddol o aelwydydd Cymru mewn tlodi dŵr.

Y bil dŵr cyfartalog ar gyfer cwsmeriaid Dŵr Cymru yw £499, cynnydd o bron i 3 y cant ers y llynedd, tra bod cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy wedi gweld cynnydd o 12.4 y cant i gyfartaledd o £372. Cwsmeriaid Dŵr Cymru sy'n talu'r ail bris uchaf am eu biliau ar draws Cymru a Lloegr. A gallai biliau nodweddiadol fod hyd yn oed yn uwch, gan fod taliadau'n dibynnu ar nifer fawr o ffactorau.

Yn ei ganllawiau ar gyfer proses adolygiad prisiau 2024, diffiniodd Ofwat dlodi dŵr fel aelwydydd yn gwario mwy na 5 y cant o'u hincwm, ar ôl costau tai, ar eu bil dŵr a dŵr gwastraff. Yn ôl y metrig yma, mae tua 114,000 o aelwydydd Cymru mewn tlodi dŵr—dros 8 y cant o holl aelwydydd Cymru. Mae hyn yn cymharu â 6.3 y cant o holl aelwydydd Lloegr. Yn y cyfamser mae 354,000 o aelwydydd Cymru—27.2 y cant o holl aelwydydd ein cenedl—yn gwario mwy na 3 y cant o'u hincwm ar filiau dŵr. Mae hyn hefyd yn gyfran llawer uwch nag yn Lloegr, ar 17.4 y cant. Does dim arwydd mwy damniol o system economaidd gwbl annheg na'r ffaith bod cymaint o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i fforddio hanfodion mwyaf sylfaenol bywyd, a phrin fod unrhyw beth yn fwy elfennol a sylfaenol na dŵr.

Yn fy rhanbarth fy hun yng Ngorllewin De Cymru, mae Cyngor ar Bopeth wedi gweld cynnydd o 11 y cant yn y bobl sy'n dod atyn nhw am gyngor ar ddyledion dŵr a charthffosiaeth. Ymhlith y rheini, y swm cyfartalog oedd yn ddyledus oedd £1,278. Dylid hefyd ystyried y ffigurau yma i gyd yng nghyd-destun ehangach yr argyfwng costau byw. Mae prisiau bwyd wedi cyfrannu at gynnydd o 69 y cant mewn ansicrwydd bwyd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn ei dro yn cyfrannu at 30 y cant o bobl Cymru'n dweud bod eu sefyllfa ariannol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. A go brin bod angen dweud hyn, ond eto mae gwir angen dweud hyn: mae hyn yn cael effaith trychinebus ar iechyd meddwl pobl.

Yn ôl ymchwil costau byw a gyhoeddwyd gan Ofwat, roedd traean o gwsmeriaid dŵr yng Nghymru a Lloegr yn disgwyl i'w sefyllfa ariannol waethygu yn y flwyddyn i ddod, ac o'r rheini, roedden nhw i gyd yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n hollol ddigalon am eu sefyllfa. Felly mae biliau'n rhy uchel.

Mae tariffau cymdeithasol ar gael, ond mae meini prawf a lefelau cymorth yn wahanol ar draws cwmnïau yng Nghymru. Mae tariff HelpU Dŵr Cymru, er enghraifft, yn helpu aelwydydd incwm isel drwy roi cap ar y swm rhaid iddyn nhw ei dalu am eu dŵr, ond mae'n rhaid ichi fodloni nifer o feini prawf, gan gynnwys bod yn gymwys ar gyfer budd-dal prawf modd.

Mae ymchwil ar y cyd gan Cyngor y Defnyddwyr Dŵr ac Ofwat yn dangos, er bod mwy na thraean o gwsmeriaid yn cael trafferth talu biliau dŵr yn aml, dim ond 4 y cant ddywedodd eu bod wedi cael cymorth ariannol gan eu cwmni dŵr yn y flwyddyn flaenorol. Rhaid cydnabod bod lefel sylweddol o gefnogaeth yn cael ei gynnig gan Dŵr Cymru, sydd wedi helpu bron i 146,000 o unigolion yn y flwyddyn ddiwethaf. Dyma'r gyfradd uchaf o'r holl gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ac eto’n tanlinellu manteision y model dielw, sy’n caniatáu i ddifidendau gael eu hail-fuddsoddi er budd cwsmeriaid yn hytrach na chyfranddalwyr.

Mae Cyngor y Defnyddwyr Dŵr wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd am un cynllun fforddiadwyedd dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr, i’w sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, wedi’i ariannu’n deg, a fyddai'n medru cefnogi aelwydydd Cymru sy’n cael trafferth gyda'u biliau. Gallai cynllun fforddiadwyedd dŵr sengl o'r fath godi rhyw 114,000 o aelwydydd mas o dlodi dŵr yng Nghymru. Mae DEFRA yn dal i gynllunio i ymgynghori ar ddyfodol mesurau fforddiadwyedd, ond dyw e ddim bellach yn bwriadu symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer cynllun o'r fath.

Yn y cyfamser, mae Cyngor y Defnyddwyr Dŵr wedi gweithio ar fesurau interim posib i helpu i fynd i'r afael â fforddiadwyedd dŵr. Maen nhw'n aros am gyfarwyddyd pellach gan y Gweinidogion dros gyfiawnder cymdeithasol a newid hinsawdd ar y gwaith yma, felly byddwn yn gwerthfawrogi diweddariad ar hynny'r prynhawn yma.

Ond, Lywydd, pam fod yn rhaid inni aros? Pam fod yn rhaid i ni erfyn ar Lywodraeth San Steffan a disgwyl am fisoedd, os nad blynyddoedd, am atebion sydd byth yn ein cyrraedd ni? Pam fod yn rhaid inni fod mewn sefyllfa o fod angen lliniaru ar dlodi dŵr yn y lle cyntaf?  Mae'n gywilyddus y dylai cymaint o'n cyd-ddinasyddion orfod ei chael hi'n anodd i dalu am un o angenrheidiau mwyaf elfennol bywyd. Er lles pobl Cymru, felly, yn enwedig y rhai ar incwm is, dylid rhoi rheolaeth lawn ar ddŵr dan berchnogaeth gyhoeddus dan ofal y Llywodraeth hon fel y gallwn greu system deg i bawb.

17:30

Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r prynhawn yma drwy danlinellu pa mor bwysig yw dŵr a symboliaeth cronfeydd dŵr i'r rhanbarth dwi'n ei chynrychioli. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae gwleidyddiaeth, diwylliant a chof cenedl yn parhau i gael eu trwblu gan ysbrydion cymunedau coll megis Cwm Elan, Llanwddyn, ac, wrth gwrs, Capel Celyn, i enwi dim ond rhai.

Yng ngeiriau anfarwol y canwr Huw Jones,

'Dyma'r dŵr sy'n drymach nag unrhyw garreg fedd',

ac mae’r pentrefi diflanedig hyn a’r dŵr aflonydd sydd yn eu gorchuddio wedi tyfu’n gofebau o’r math o anghyfiawnder ac ecsbloetiaeth mae ein cymunedau wedi eu dioddef mewn perthynas â dŵr dros y degawdau. A, Weinidog, nid codi hen grachen yw hyn er mwyn cynhyrfu dyfroedd emosiynol, ond mynegiant gweledol o hen glwyfau sydd ar agor o hyd.

Hoffwn droi nawr at fater sy'n tanlinellu'r achos dros lawer mwy o reolaeth ddeddfwriaethol ar ein hadnoddau dŵr, sef y dirywiad yn ansawdd ein hafonydd a dyfrffyrdd eraill oherwydd esgeulustod cwmnïau dŵr.

Ar hyn o bryd, mae llai na 45 y cant o'n hafonydd yn cael eu hystyried yn rhai sydd mewn cyflwr ecolegol 'da'. Wrth wraidd y broblem hon, mae natur hen ffasiwn ein rhwydwaith carthffosiaeth cyfunol, nad yw wedi newid fawr ddim ers oes Fictoria. Mae ymchwil ddiweddar dan arweiniad yr Athro Peter Hammond o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn amcangyfrif bod 11 biliwn litr o garthion amrwd wedi'u gollwng ledled Cymru a Lloegr gan 30 o weithfeydd trin gwastraff y cwmnïau dŵr yn 2020 yn unig. Roedd cyfraniad Dŵr Cymru yn hyn o beth yn cyfateb i lond 55 pwll nofio Olympaidd o garthion.

Yn seiliedig ar ddata monitro hyd digwyddiadau, sy'n cofnodi hyd y gollyngiadau gorlifoedd storm cyfunol, roedd pum etholaeth yng Nghymru ymhlith y 10 uchaf o etholaethau'r DU o ran nifer yr oriau o ollyngiadau yn 2022. Mae pump o'r rheini yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli—Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw'r gwaethaf, ond mae'r rhestr hefyd yn cynnwys Preseli Sir Benfro, Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion a Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Felly, mae angen clir i gwmnïau dŵr gael eu gwneud yn gwbl atebol am eu camweddau gyda gollyngiadau carthion, ond yn anffodus mae hwn, unwaith eto, yn faes lle mae'r fframwaith datganoledig presennol yng Nghymru ymhell o ble mae angen iddo fod.

Mae diffyg pwerau datganoledig cadarn yn y maes hwn yn golygu ein bod mewn cryn berygl o adael i gwmnïau dŵr sy'n llygru allu osgoi unrhyw gosbau.

O safbwynt ehangach, Llywydd, mae cyflwr truenus ein hafonydd yn adlewyrchu ffolineb trychinebus preifateiddio dŵr—model methedig sydd, ers ei sefydlu o dan Lywodraeth Thatcher, wedi methu cwsmeriaid a'r amgylchedd fel ei gilydd.

Nid yw'n syndod yn hyn o beth mai Lloegr yw'r unig wlad yn y byd sydd â system ddŵr wedi'i phreifateiddio'n llawn. Wrth gwrs, yma yng Nghymru, mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol o ystyried natur ddielw Dŵr Cymru. Ac, ar y pwynt hwn, dwi'n siŵr y bydd y Torïaid, sydd wedi meddwi ar y syniad o breifateiddio, yn dadlau, 'Wel, efallai dyw ein system ni ddim cystal â hynny, ond dyw hi ddim yn waeth na'ch system chwi.' Wel, byddwn i'n ateb gyda thri phwynt allweddol. Yn gyntaf, er nad yw’r sefyllfa yn ein hafonydd yn berffaith o bell ffordd, mae’r methiant i fuddsoddi gan gwmnïau wedi'u preifateiddio yn Lloegr yn golygu mai dim ond 14 y cant o afonydd fanna sydd wedi'u cofnodi fel rhai sydd mewn statws ecolegol da, o gymharu â 45 y cant yng Nghymru. Yn ail, mae'n werth cofio nad yw dalgylch Dŵr Cymru yn cwmpasu Cymru gyfan. Ac yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae'r fframwaith datganoledig presennol ar gyfer Cymru yn golygu bod Dŵr Cymru yn gweithredu, mewn gwirionedd, ochr yn ochr ag ecosystem fasnachol sydd wedi'i phreifateiddio yn llawn.

Mae Plaid Cymru, felly, yn credu'n gryf y dylai'r cyflenwad a'r driniaeth o ddŵr yng Nghymru gael ei reoli yn y pen draw gan un corff cyhoeddus wedi'i ddatganoli sy'n cyd-fynd â ffiniau daearyddol ein cenedl ni. Ac i gloi, ydy, mae dŵr yn fater sy'n cyffroi emosiynau cryfion, ond mae dadleuon ymarferol fel gwella ansawdd a rheolaeth a lleihau biliau yn tanlinellu pam mae datganoli dŵr yn fater o'r pwys mwyaf i ni fel cenedl.

17:35

Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, felly yn sicr, nid oes gennyf unrhyw ystadegau wrth law, ond credaf ei bod yn ddadl ddiddorol a phwysig iawn, ac rwy'n llwyr ddeall bod gwleidyddiaeth dŵr yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru, yn bennaf oherwydd Bessie Braddock a'i haerllugrwydd wrth ymdrin â phobl Tryweryn.

Ac felly, mae gwir angen inni wneud pethau'n iawn mewn perthynas â dŵr, ac nid oes unrhyw amheuaeth nad ydym yn gwneud pethau'n iawn ar hyn o bryd, gan oes unrhyw gymhelliant ar hyn o bryd inni adeiladu mwy o gronfeydd dŵr, oherwydd mae llawer o rannau eraill o Brydain yn mynd i ddioddef sychder difrifol o ganlyniad i newid hinsawdd, ac ni allaf weld Cymru'n barod i gytuno i adeiladu cronfeydd dŵr anferthol newydd, oni bai ein bod yn mynd i gael rhywfaint o fudd ohonynt. Mae'n broblem debyg gydag ynni gwynt, lle rydym mewn perygl o ddioddef os nad ydym yn ei wneud yn iawn.

A chredaf fod y pwyntiau pwysig a wnaed gan Sioned Williams ynglŷn â chostau byw a sut mae'r tariff cymdeithasol yn bwysig iawn i sicrhau bod pobl yn cael pris dŵr wedi'i gapio, ond i lawer o bobl eraill, mae pris dŵr yn rhy rhad, gan fod pobl yn ei daflu i ffwrdd; maent yn gwastraffu dŵr. Rydym yn gwario llawer mwy y pen ar ddŵr yn y wlad hon nag a wnânt mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac mae'n rhaid ailwerthuso hynny gan mai dŵr yw'r aur newydd. Oherwydd ni all yr un ohonom fyw heb ddŵr, ac os nad oes gennym ddŵr, wel, dyna'r diwedd. Rwy'n bryderus iawn fy mod, yn yr wythnos ddiwethaf, wedi gweld pobl yn dyfrio'r glaswellt, rwyf wedi gweld pobl yn dyfrio eu gwrychoedd leylandii ofnadwy. Mae hyn yn gwbl wallgof ac yn gamddefnydd llwyr o ddŵr. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am hynny'n ofalus er mwyn sicrhau bod pobl yn deall pa mor bwysig yw dŵr i'r ecosystem gyfan ac i'n goroesiad.

Wrth gwrs, ni ddylid preifateiddio dŵr am nad oes unrhyw un wedi ei gynhyrchu; mae'n dod o'r awyr. Yn amlwg, mae angen codi tâl am fecanwaith symud dŵr o'r man lle caiff ei storio i'r man lle mae angen ei ddefnyddio, ond mae'r enghraifft a roddwyd o'r hyn y mae Severn Trent yn ei godi am ein dŵr, o gymharu â'r hyn y caniateir i Dŵr Cymru godi amdano, yn warthus; nid oes amheuaeth am hynny. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi cael y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen yn fawr at yr hyn y bydd y Gweinidog yn ei ddweud ynglŷn â sut y cawn fargen decach i Gymru, gan fod angen i Lywodraeth y DU ddeffro mewn perthynas â hyn. Os ydynt o ddifrif eisiau datrys rhai o'r problemau dŵr y byddant yn eu cael yn Lloegr, heb sôn am y problemau sy'n digwydd yn ne Ewrop ar y cyfandir, bydd angen bargen decach i Gymru os ydym am wneud cyfraniad i ddod â'r argyfwng hwnnw i ben.

17:40

Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu i'r ddadl—Julie James. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hynod bwysig hon heddiw yn fawr. Cafwyd ymchwydd o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd o blaid gwell ansawdd dŵr, gwell rheolaeth ar ddŵr, ac yn arbennig o blaid glanhau ein hafonydd. Ac mae hon yn foment y dylem fanteisio arni. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd lawer, wedi ymgysylltu â physgotwyr, ac mae defnyddwyr afonydd eraill wedi bod yn ymgyrchwyr brwd dros well ansawdd dŵr, gwell rheolaeth ar ddŵr ac afonydd iachach. Ond mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn y pwnc hwn, i raddau helaeth dyma mae pobl am siarad amdano ble bynnag yr ewch, sy'n foment i fanteisio arni. Mae angen inni gael momentwm o'r fath i fwrw ymlaen â'r holl weithredu sydd ei angen i gyflymu'r cynnydd ar wella ansawdd dŵr yng Nghymru. 

Ni chredaf fod gan y rhai sy'n ymgyrchu dros well ansawdd dŵr ddiddordeb arbennig mewn trafodaeth wleidyddol er mwyn cael trafodaeth wleidyddol yn unig. Maent yn disgwyl inni lunio consensws dros weithredu cadarn, ac yn yr ysbryd hwnnw, er na fyddem wedi geirio'r cynnig heddiw yn union fel y gwnaeth Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi cynnig yr wrthblaid yn llwyr gan ychwanegu cyfres o gamau gweithredu ato y credwn y gallent helpu i gyflawni'r bwriad y tu ôl i'r cynnig. Felly, cytunaf yn llwyr y dylai Cymru gael rheolaeth lawn ar ei hadnoddau dŵr. 

Mae'n bwysig dweud bod hyn eisoes yn wir i raddau helaeth o ganlyniad i broses barhaus datganoli, gan gynnwys drwy'r gwahanol gysylltiadau rhwng y Llywodraeth, cwmnïau dŵr yng Nghymru, CNC ac Ofwat, fel y mae llawer iawn o bobl wedi'i nodi. Er enghraifft, amlinellodd ein datganiad blaenoriaethau strategol ar gyfer Ofwat yr haf diwethaf ein disgwyliadau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, diogelu'r amgylchedd, adeiladu gwydnwch a chynnal iechyd asedau, a chydweithio â chwsmeriaid a chymunedau. A dyna sut mae'n rhaid iddynt gyflawni blaenoriaethau Cymru o ran sut maent yn cyflawni eu rôl, ac fel y soniodd amryw o bobl—Adam yn benodol—protocol dŵr rhynglywodraethol 2018 ar gyfer Cymru a Lloegr, a'i effaith ar adnoddau. 

Ond cytunaf yn llwyr fod y mecanweithiau prisio yn anghyson a bod angen eu hadolygu, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried y syniad y dylem edrych eto i weld a oes angen yr amddiffyniadau statudol ar waith ar ben y protocolau rhynglywodraethol. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. 

Mae'r cynnig gwreiddiol hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor y Senedd hon i roi draenio ar gynlluniau rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr ar sail statudol. Mae hwn yn ymrwymiad rydym eisoes wedi'i wneud a gobeithiwn y bydd y Senedd yn ein cefnogi wrth inni gymryd y cam hwnnw hefyd. 

Cytunaf hefyd nad yw'r model wedi'i breifateiddio o reoleiddio dŵr wedi llwyddo. Nid yw wedi arwain at y lefelau buddsoddi a addawyd wrth iddo ddarparu elw, cyflogau a bonysau y mae'r cyhoedd yn ei chael hi'n anodd iawn eu derbyn fel rhai rhesymol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i lawer gormod o gostau'r system gael eu hychwanegu at filiau cwsmeriaid, gan achosi problemau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol gwirioneddol y mae sawl Aelod, yn enwedig Sioned, wedi tynnu sylw atynt. Gwyddom hefyd fod biliau dŵr yn aml yn arwydd o broblemau costau byw ehangach hefyd, a dyma'r bil cyntaf y mae pobl yn rhoi'r gorau i'w dalu am eu bod yn credu na ellir torri eu cyflenwad, ac yn y blaen. Rydym wedi gwneud llawer o waith gyda Dŵr Cymru ar eu tariff cymdeithasol, ac rwy'n falch o weld cydnabyddiaeth o hynny.

Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod y Llywodraeth Geidwadol wedi tynnu'r plwg ar dariff cymdeithasol ar gyfer y DU gyfan ar y funud olaf. Nid oes esgus o gwbl dros hynny. Mae'n achosi problemau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol gwirioneddol.

Mae'n bwysig dweud bod ansawdd dŵr yng Nghymru wedi bod yn gwella, a'n gorchwyl ni yw cyflymu'r cynnydd hwnnw. Mae llawer o bobl wedi sôn bod 40 y cant o grynofeydd dŵr wedi cyflawni statws cyffredinol da neu well o dan gyfarwyddebau'r fframwaith dŵr; mae'r ffigur yn codi i 44 y cant os edrychwch ar afonydd Cymru yn unig. I roi hynny mewn cyd-destun hanesyddol, mae hynny 8 y cant yn uwch na'r dosbarthiadau cyntaf yn 2009, ond nid yw'n ddigon da, yn amlwg. Nodwyd hynny gan Cefin Campbell, yn enwedig, a chithau hefyd, Delyth. Yn sicr, mae'n rhaid inni wneud yn well. Ond credaf ei bod yn bwysig peidio ag anobeithio. Mae'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ceisio cyflymu'r cynnydd. 

Mae angen mynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr acíwt a chronig, ond rydym wedi dangos eisoes, drwy weithio gyda'n gilydd—cyrff cyhoeddus, cymunedau, busnesau—y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol. Mae modd dadlau bod y model presennol wedi cyfrannu at sefyllfaoedd lle bu dirywiad mewn ansawdd dŵr, ond yn gyffredinol, mae'r camau a gymerwyd gan yr holl bobl a ymrwymodd i'r uwchgynhadledd ffosffadau yn arbennig—cwmnïau dŵr, ffermwyr, cadwraethwyr, cynllunwyr, adeiladwyr tai a llawer o bobl eraill—wedi helpu i sicrhau cynnydd ar wella ansawdd dŵr.

Ond mae'r model wedi'i breifateiddio yn amlwg yn ddiffygiol. Nid am fod gennym fodel nid-er-elw yma y mae'n ddiffygiol, Janet—mae'n dal i fod yn gwmni a breifateiddiwyd, ni waeth beth y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei drydar yn anesboniadwy drwy'r amser. Ond mae'n gweithredu mewn system fasnachol nad yw'n gweithio ac sy'n mynnu bod costau'r gwelliannau amgylcheddol rydych chi'n galw amdanynt drwy'r amser yn cael eu talu gan dalwyr biliau, yn hytrach na'u trin fel datblygiadau seilwaith o bwysigrwydd cyffredinol y dylid talu amdanynt allan o drethiant cyffredinol. Nid yw'r model hwn yn gweithio. Dyna pam nad ydym wedi cael y gwelliannau rydym am eu gweld, a dyna pam na fyddant yn digwydd tra bo'r model hwnnw'n dal i fodoli.

Felly, nid yw gwelliant y Llywodraeth yn tynnu unrhyw beth oddi wrth y cynnig gwreiddiol, mae'n ychwanegu camau y credwn y dylai'r Senedd ein cefnogi i'w cymryd, gan ddefnyddio'r pwerau sydd gennym. Nid ydym mewn sefyllfa lle gellir rhoi buddiannau Cymru o'r neilltu, oherwydd y pwerau sydd ar gael i ni i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Rwy'n deall yr alwad emosiynol ynghylch dŵr Cymru, wrth gwrs fy mod. Mae pob un ohonom yn deall arwyddocâd emosiynol a diwylliannol y ffordd echrydus y mae cymunedau ledled Cymru wedi cael eu trin. Ond credaf hefyd fod yn rhaid inni gydnabod nad yw'r prif bwysau ar adnoddau dŵr yng Nghymru yn deillio o'r trosglwyddiadau hynny, er y gellid eu rheoleiddio'n well, ac er y gellid talu'n well amdanynt. Mae'r prif bwysau'n deillio o weithgarwch sy'n digwydd yma yng Nghymru y mae angen inni gymryd camau i fynd i'r afael ag ef. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:45

Yn benodol ar fater pwerau, a wnewch chi egluro beth yw'r sefyllfa bresennol? Oherwydd mae'r Dirprwy Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr amgylchedd yn gofyn am oedi cyn trosglwyddo'r pwerau hynny o dan adran 48. A fu gohebiaeth ddilynol? A ydych chi bellach yn gofyn am drosglwyddo'r pwerau hynny'n llawn ar unwaith, ar gyfer yr holl gwmnïau sydd wedi'u lleoli o fewn ffiniau Cymru?

Nac ydym. Nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers inni ofyn am yr oedi, ond yr hyn rwy'n ei ddweud, o ganlyniad i'r ddadl hon, yw y byddaf yn archwilio mewn mwy o fanylder pam ein bod wedi setlo ar y protocol a heb fynd â hynny ymhellach. A dweud y gwir, nid wyf yn gwybod yr ateb i hynny, Adam, ond rwy'n gwbl benderfynol o ddod o hyd i'r ateb a dod yn ôl atoch. Felly, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael y ddadl heddiw i godi'r pwynt hwnnw. 

Y pwynt roeddwn yn ei wneud, fodd bynnag, oedd, wrth fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ei hun, nad yw hynny'n ymwneud â'r trosglwyddiadau, er bod yr holl bwyntiau a wnaed gennych yn bwyntiau da. Mae'n ymwneud â datblygu mesurau pellach i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol, symud gwariant ar ffyrdd newydd i dargedu gwaith cynnal a chadw, sy'n cynnwys rheoli dŵr wyneb ac ariannu'r gwaith o gael gwared ar seilwaith llwyd o afonydd, a'n gwaith blaenllaw ar fynd i'r afael â llygredd mwyngloddiau metel. 

Hefyd, yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno gofyniad gorfodol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy mewn datblygiadau tai newydd. Nid yn unig fod systemau draenio cynaliadwy yn cefnogi ein hamcanion sero net, bioamrywiaeth a llesiant, maent hefyd yn ffordd bwysig o leddfu pwysau ar y rhwydwaith carthffosiaeth, ac yn eu tro, cânt effaith gadarnhaol ar faterion fel gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol. Y llynedd, comisiynais adolygiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i adolygu gweithrediad y systemau draenio cynaliadwy, a byddaf yn gwneud datganiad llafar y mis hwn am y canfyddiadau. 

Rydym eisoes wedi gweld bod y gweithgareddau hyn yn darparu gwelliannau ansawdd dŵr yng Nghymru, a'n barn ni yw y dylid canolbwyntio ar barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth weithio gydag eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn manteisio ar ddiddordeb y cyhoedd mewn hyrwyddo'r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd i lywio penderfyniadau polisi a thargedu camau rheoleiddio. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda grŵp yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth ac eraill ar ddatblygu dulliau dalgylch cyfan sy'n hwyluso camau gweithredu a all fynd i'r afael â'r holl bwysau ar draws dalgylch cyfan, gan ddod â'r holl fuddiannau perthnasol at ei gilydd wrth wneud hynny. Defnyddio'r math hwnnw o ddull cydweithredol yw'r ffordd ymlaen, fel y dywedais mewn dadleuon cynharach y bore yma, yn hytrach na gosod un sector yn erbyn y llall er budd gwleidyddol cul.

Felly, wrth sôn am agweddau nad ydynt yn ddefnyddiol, rhaid imi droi nawr at y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr. Credaf efallai y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn synnu bod y Ceidwadwyr o'r farn nad oes rôl iddynt hwy na'u plaid wrth fynd i'r afael â'r mater hwn. Dywedant wrthym mai bai rhywun arall a phroblem rhywun arall i'w datrys yw'r cyfan, ac yn hytrach na chefnogi camau cadarn i wella ansawdd dŵr, gwelant gyfle i dynnu'r sylw oddi ar y lefelau anhygoel o anallu economaidd ac amgylcheddol a ddangosir yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae'n anhygoel clywed y Blaid Geidwadol yn cwyno am gyflwr afon Gwy. Mae cynrychiolwyr Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi bod yn ddiwyro eu gwrthwynebiad i gamau gweithredu i fynd i'r afael â llygredd dŵr oherwydd—ac rwy'n mynd i'w dyfynnu yma—byddai'n anghymesur cryfhau rheoliadau mewn ardaloedd fel afon Gwy, lle maent yn dweud nad oes problem. Eu geiriau nhw yw'r rheini, nid fy ngeiriau i. Rwy'n siŵr y gallai fod ganddynt gryn ddiddordeb mewn cael golwg ar y dystiolaeth wyddonol—byddai'n ddiddorol iawn iddynt—ond yn anffodus, efallai y byddai'n ei gwneud yn ofynnol iddynt newid eu safbwynt.

Os hoffai'r Blaid Geidwadol gefnogi rheoliadau tynnach heddiw mewn perthynas â llygredd sy'n effeithio ar adnoddau dŵr yng Nghymru o bob ffynhonnell, byddai hwnnw'n ddatblygiad y byddai'r cyhoedd yn ei groesawu'n fawr. Fodd bynnag, nid yw cynnig y Ceidwadwyr yn nodi unrhyw weithred a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth uniongyrchol, a chredaf fod hynny'n dweud popeth sydd angen inni ei wybod am gyflwr amgylcheddaeth Dorïaidd heddiw: geiriau gwag yn hytrach na gweithredoedd, a gwrthod gwirioneddau anghyfleus sydd wedi'u derbyn gan y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru ymhell dros ddegawd yn ôl.

Felly, Lywydd, credaf fod heddiw'n gyfle i'r Senedd siarad ag un llais ar y mater hwn a dangos ein penderfyniad ar y cyd i roi camau pendant ar waith ar ansawdd dŵr. Yn amlwg, mae gennym wahanol safbwyntiau gwleidyddol ar y mater hwn, ond ar ôl derbyn pob pwynt yn y cynnig gwreiddiol, rydym wedi ychwanegu set o gamau gweithredu y credwn y gallai ac y dylai unrhyw blaid a gynrychiolir yma eu cefnogi. Diolch.

17:50

Diolch, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl heno. Clywsom gan Janet am y gwaith pwysig mae Dŵr Cymru wedi bod yn ei wneud, yn enwedig wrth helpu cwsmeriaid bregus. Mae'n bwysig i gael hynny.

Ni chredaf fod yr hyn y galwn amdano yn gymhleth, mewn ymateb i'r hyn a ddywedoch. Yn ei hanfod, credaf ei fod yn hynod o syml mewn gwirionedd, ond diolch am eich cyfraniad i'r ddadl.

Nododd Adam sut nad yw'r byd yn gweld gwerth dŵr a sut mae hyn wedi arwain at ecsbloetio cymunedau ledled y byd. Gwnaeth achos economaidd argyhoeddiadol dros bris tecach am ein dŵr i Gymru. Cawsom gyd-destun gan Jane i'r problemau sy'n wynebu cymunedau ym Mhowys, yr un teimlad o anghyfiawnder hanesyddol: y biliau dŵr uchel, yn erbyn y ceiniogau a gawn. 

Diolch am hynny. Clywsom gan Sioned am dlodi dŵr, y paradocs trist eironig roedd hi'n sôn amdano o'r biliau uchel eto, pan fo cyflenwad mor gyfoethog gennym sydd tu hwnt i'n gafael, a'r effaith ar iechyd meddwl o ganlyniad i'r dyledion. Roedd hynny'n rhywbeth pwysig i'w gynnwys. Gwnaeth Cefin sôn am symbolaeth y cymunedau coll:

'Dyma'r dŵr sy'n drymach nag unrhyw garreg fedd'.

Diolch am ddyfynnu hwnna. Mae ein galwad heno, Llywydd, er lles ein dyfodol, ond mae hi er lles y cymunedau coll hynny hefyd. 

Nid yw'r gorffennol byth yn bell o'r wyneb yn y ddadl hon. 

Cawsom ein cyfeirio tuag at y dyfodol gan Jenny, gan danlinellu'r angen unwaith eto i ddiogelu cwsmeriaid bregus, yn erbyn y ffaith, i'r rhai sy'n gallu ei fforddio—. Fel y soniodd Adam gyda rhai o'r ffigurau hyn, dylai hyn arwain at ailystyried y gwerth rydym yn ei roi ar ddŵr. Fe ddywedoch chi mai dŵr yw'r aur newydd. Yn y blynyddoedd i ddod, tybed a ddaw dŵr ar un ystyr yn dewach nag olew, yn dewach na gwaed. Felly, diolch am eich cyfraniad chi hefyd. 

Diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad. Mae hon yn foment i fanteisio arni. Rwy'n croesawu eich cefnogaeth. Byddwn yn dal i groesawu eglurder, pan allwch, Weinidog, ynglŷn â'r hyn a arweiniodd at yr oedi, er tryloywder. Rwy'n cytuno bod yn rhaid inni edrych tua'r dyfodol i raddau helaeth, ac mae'n teimlo y gallai hon fod yn foment hanesyddol. Rwy'n gobeithio y cawn amserlen yn fuan i nodi pryd y gellir sbarduno'r mecanwaith i ddatganoli'r pwerau a nodir yn Neddf 2017, gan mai dyna fydd y cynnig yn galw amdano pan—. Rwy'n mawr obeithio y caiff ei dderbyn nawr.

Mae wedi bod yn ddadl emosiynol, fel y dylai fod, ac rydym wedi croesi sawl rhan o Gymru yn ein hamser heno drwy ein hafonydd a'n cronfeydd dŵr. Ond er gwaethaf yr holl gyfeiriadau a wnaed at ein gorffennol cythryblus—

yr enwau na allant eu hanghofio—

Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi canolbwyntio ar ein dyfodol fel cenedl, nid ennill pwerau er mwyn ennill pwerau, ond yr angen i wella bywydau pobl sy'n byw yma, yr angen i lanhau'r gwastraff yn ein dyfrffyrdd, yr angen am eglurder ynglŷn â sut y gwneir penderfyniadau'n ymwneud â dŵr yn y dyfodol. Ac rwy'n teimlo y gallai hyn fod yn ddechrau rhywbeth pwysig. 

Fel byddai Harri Webb wedi ei ddweud, dyma Gymru'n dechrau ar ei hymdaith.

Oherwydd mae'n rhaid inni wynebu'r dyfodol hwnnw, gan ddysgu gwersi'r hyn sydd wedi bod, neu fel arall, bydd ein tynged fel un Nick Carraway yn nofel Fitzgerald, yn rhygnu ymlaen,

'cychod yn erbyn y cerrynt, yn cael ein llusgo'n ôl yn dragywydd i'r gorffennol.'

Mae'r llanw'n llifo gyda ni. Mae'n rhaid inni fynd gydag ef. Bydd ein ffawd, fel cenedl, yn dibynnu arno. Diolch.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, fe wnawn ni ohirio'r pleidleisiau tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac fe symudwn ni i'r bleidlais os nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. Gan nad oes neb yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni at y bleidlais gyntaf.

Mae'r cyfres bleidleisio cyntaf ar eitem 6, a hon oedd dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal ac felly fe fyddaf i'n bwrw fy mhleidlais fwrw fel Cadeirydd yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw fod 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, fe fyddwn ni'n mynd at welliant 1; mae gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Felly, agor y bleidlais ar welliant 1. Mae'r bleidlais unwaith eto yn gyfartal, ac felly fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Mae canlyniad y bleidlais ar welliant 1 yn 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi cwympo.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r cynnig a'r gwelliant, felly, wedi cwympo, ac felly does yna ddim byd wedi ei gytuno o dan bleidleisiau’r eitem yna.

Eitem 7 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gynefinoedd carbon glas. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Felly canlyniad y bleidlais oedd fod 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynefinoedd carbon glas. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 1, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal: o blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, dwi'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais yw 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn gwelliant 1. Mae gwelliant 1 felly hefyd yn cwympo.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynefinoedd carbon glas. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Dim byd wedi ei gytuno yn y pleidleisiau ar yr eitem yna.

Felly, rydym ni'n symud ymlaen i'r pleidleisiau ar eitem 8, ar ddadl Plaid Cymru ar ddatganoli adnoddau dŵr yn llawn. Galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn. Cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf, felly, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

18:00

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 2, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi’i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi’i ddiwygio gan welliant 2. 

Cynnig NDM8279  fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau;

b) y byddai datganoli pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon; ac

c) bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru;

b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol;

d) defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.

e) gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol.

f) neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr.

g) neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr.

h) cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr.

i) datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Cymorth i fenywod yng Nghymru sy'n dioddef o anhwylder dysfforig cyn mislif

Fe fyddwn ni yn mynd ymlaen yn awr i'r ddadl fer nesaf.

Gadawaf i'r Aelodau adael y Siambr cyn imi ofyn i Buffy Williams gyflwyno ei dadl fer. Os oes Aelodau'n gadael—. Rwy'n credu bod Aelodau sy'n gadael wedi gadael, ac mae eraill yma i wrando. Buffy Williams.

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Sioned Williams a Joyce Watson hefyd, os caf.

Cymro oedd sylfaenydd ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennym dros 105,000 o staff GIG, a menywod yw dros 70 y cant ohonynt. Mae gennym bresgripsiynau am ddim, yn wahanol i dros y ffin, ond yr hyn nad oes gennym yw cydraddoldeb. Rydym wedi clywed dro ar ôl tro yn y Siambr hon am effaith anghydraddoldebau iechyd menywod yng Nghymru, rydym wedi darllen amdano mewn llawer iawn o adroddiadau gan elusennau, ac mae rhai ohonom wedi'i brofi ein hunain. Er mai menywod a merched yw dros hanner poblogaeth Cymru, dywed GIG Cymru nad yw iechyd a lles menywod yn cael ei werthfawrogi na'i ariannu ddigon, ac mae angen lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella cydraddoldeb gwasanaethau a gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru.

Gwyddom o'r datganiad ansawdd ar iechyd menywod a merched fod yna 29 o gyflyrau iechyd lle ceir anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, o asthma i ddementia, clefyd y galon a strôc, i anhwylderau gynaecolegol ac osteoporosis, i les meddyliol, gorbryder ac iselder. Ond mae yna anghydraddoldeb wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein diwylliant hefyd, wedi'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, fod rhai cyflyrau a brofir gan fenywod yn cael eu hystyried yn normal, neu mai ffrwyth dychymyg ydynt. Mae menywod yng Nghymru wedi clywed hyn ers blynyddoedd, weithiau gan fenywod eraill, sydd wedi ei glywed ddigon nes eu bod yn dechrau ei gredu eu hunain, gan arwain at lu o broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd.

Y tro diwethaf imi sefyll yma yn agor fy nadl fer, siaradais am anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol, anhwylder gorbryder sy'n effeithio ar fenywod, un y mae'n anodd iawn gwneud diagnosis ohono, ac er bod gennym uned mamau a babanod o'r radd flaenaf ym mae Abertawe, a'r elusennau anhygoel sy'n darparu cymorth, fel Mothers Matter yn Rhondda, ychydig iawn o gymorth clinigol hirdymor sydd ar gael.

Pan gefais hysbysiad gan y Swyddfa Gyflwyno fy mod yn cael cyfle i gyflwyno dadl fer arall, teimlwn ei bod ond yn iawn tynnu sylw at gyflwr iechyd menywod arall. Mae anhwylder dysfforig cyn mislif—PMDD—yn gyflwr arall sy'n effeithio ar fenywod, ac un y mae'n anodd iawn gwneud diagnosis ohono, ac er bod ymwybyddiaeth a chefnogaeth wedi tyfu, yn fwy felly nag erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid ydynt yn agos at y lefel sydd ei hangen i gyrraedd menywod sy'n dioddef, i glinigwyr allu gwneud diagnosis yn achos y menywod hynny a helpu felly i wella ansawdd bywyd.

Byddech yn cael trafferth dod o hyd i fenyw neu ferch yng Nghymru nad yw wedi profi crampiau, hwyliau cyfnewidiol, gorbryder, anniddigrwydd, stumog chwyddedig, bronnau poenus, newid archwaeth bwyd neu gur pen dros y dyddiau sy'n arwain at eu mislif—maent oll yn symptomau cyfarwydd o syndrom cyn mislif sy'n effeithio ar fenywod a merched ledled Cymru ac maent wedi'u dogfennu'n dda, gyda nifer o driniaethau ar gael. Ond mae yna fenywod a merched sy'n dioddef o gyflwr gwahanol: PMDD.

18:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Oherwydd cynnydd anesboniadwy yn y sensitifrwydd i ymchwydd hormonaidd, gall menywod a merched â PMDD ddioddef am wythnosau cyn eu mislif, nid dyddiau'n unig. Maent yn profi symptomau syndrom cyn mislif (PMS), ond yn llawer mwy difrifol, yn ogystal â symptomau ychwanegol fel iselder neu anobaith, dicter neu deimladau hunanladdol. Gall symptomau corfforol fod yn wanychol, gan arwain at orfod aros yn y gwely, ac mae menywod a merched yn colli gwaith neu ysgol, a digwyddiadau bywyd pwysig i deulu a ffrindiau. Yn feddyliol, bydd symptomau'n arwain at chwalfa dros ddigwyddiadau, senarios neu sylwadau dibwys a fyddai'n cael eu hystyried yn gyffredin ar unrhyw ddiwrnod arall. Mae'n hollol bosibl y bydd y sawl sy'n dioddef yn teimlo'r symptomau hyn am 26 wythnos o'r flwyddyn. Byddant yn digwydd ar ddolen barhaus bob mis, fel ton fawr o ofid na ellir ei rhwystro.

Mae'r canlyniadau ar waith a bywyd ysgol, neu berthnasoedd a bywyd cymdeithasol, yn drychinebus. Pan fydd y symptomau'n dod i ben, ni ddaw'r problemau a achosir o ganlyniad iddynt i ben—ffraeo gyda ffrindiau neu deulu, problemau yn yr ysgol neu'r gwaith—gan ychwanegu at y pryderon iechyd meddwl. Heb unrhyw fai arnynt eu hunain, mae menywod a merched yn aml yn dioddef yn dawel gyda PMDD. Mae'n ffaith bod rhai menywod yn goddef yr hyn yr ânt drwyddo heb geisio ymyrraeth feddygol, oherwydd 'maent i fod i gael mislif' ac 'mae mislif i fod yn anodd'.

Cynhaliais arolwg ar gyfer menywod yn Rhondda cyn y ddadl hon, a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am gymryd rhan. Dywedodd 99 y cant ohonynt fod eu mislif, a'r amser sy'n arwain at eu mislif, yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl ac mae rhai wedi gofyn am driniaeth feddygol. Roedd yn frawychus darllen y nifer fawr o ymatebion manwl a gafwyd am yr anawsterau rhag cael mynediad at ofal iechyd. Mae darlun clir yn dod i'r amlwg nad yw menywod yn teimlo'u bod yn cael eu clywed, gyda rhai'n dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu diystyru, eraill yn teimlo nad oedd eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn malio, a llond llaw'n dweud eu bod yn teimlo eu bod yn gwastraffu amser eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Yn fwy brawychus na hyn, dywedodd bron i draean o fenywod eu bod wedi penderfynu peidio â gofyn am gymorth meddygol o ganlyniad i glywed am brofiadau menywod a merched eraill.

Mae yna ddiffyg dealltwriaeth cronig ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, sy'n arwain at gamddiagnosis a thriniaethau anghywir i fenywod sy'n dioddef o PMDD. Nid yw gwefan y GIG yn dweud fawr ddim am PMDD, gan gynnwys y cyflwr fel atodiad i PMS. Nid yw rhai triniaethau ar gyfer PMS yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fenywod sy'n dioddef o PMDD. Dywedir wrth fenywod ifanc mai'r unig ddewis arall yw cael hysterectomi. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yna wahaniaeth clir. Os na wnawn hynny, bydd menywod â PMDD yn parhau i deimlo'n unig, yn ynysig, yn flin ac yn hunanladdol. Dychmygwch pa mor ofnadwy yw ceisio egluro wrth deulu a ffrindiau sut rydych chi'n teimlo heb ddiagnosis, ceisio esbonio i gydweithwyr neu reolwyr am eich symptomau heb ddiagnosis. Rhaid i hyn newid.

Ar ôl dioddef blynyddoedd o symptomau corfforol, gan gynnwys stumog chwyddedig, cur pen, mastitis, blinder a phoen yn y cymalau, a rhoi cynnig ar bob ateb a argymhellwyd gan y meddyg teulu, gan gynnwys y bilsen, y pigiad Depo, a hyd yn oed y coil, clywed mai 'dyma mae menywod yn mynd drwyddo', clywed mai PMS oedd arnaf, ac a oeddwn i wedi rhoi cynnig ar redeg, rhoddais y gorau i ofyn am help. Fe roddais y gorau i geisio dod o hyd i atebion. Byddwn yn treulio wythnos o bob mis yn byw a'r tair arall yn bodoli'n unig—yn bwrw ymlaen â phethau fel y mae'r rhan fwyaf o fenywod yn ei wneud. Nid tan i mi gael fy merch ieuengaf a threulio cyfnod hir o amser yn cael gofal gan weithwyr iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn iechyd menywod y dysgais am PMDD. Am fisoedd ar ôl cael fy merch, roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le. Fe wnaeth fy symptomau waethygu. Roeddwn yn dioddef mor wael fel nad oeddwn eisiau gadael y tŷ. Roedd fy hwyliau'n gyfnewidiol, roeddwn i'n anniddig, roeddwn i'n teimlo ar goll. Roedd fy mislif yn ddychrynllyd. Roeddwn yn dioddef ar ôl genedigaeth drawmatig ac roedd gennyf holl symptomau PMDD. Roeddwn yn teimlo'n ddiobaith. Wrth siarad gyda fy meddyg ymgynghorol, eglurais am y blynyddoedd o fethu deall yn iawn beth oedd yn digwydd i mi. Roedd fy mywyd wedi dod i stop. Fel dewis olaf, cefais fy ngadael heb unrhyw ddewis arall heblaw cael hysterectomi yn 34 oed. Hwn oedd un o'r penderfyniadau anoddaf i mi ei wneud erioed. Esboniwyd yr holl fanteision ac anfanteision i mi'n fanwl, ond i mi, dim ond un dewis oedd. Y ffordd rwy'n egluro fy hysterectomi i eraill yw, cyn fy llawdriniaeth, roeddwn yn cael misoedd erchyll o boen; ar ôl fy llawdriniaeth, newidiodd fy mywyd yn llwyr, er fy mod yn deall nad yw hyn yn opsiwn i bob menyw a merch.

Oherwydd mai ychydig iawn o ymchwil a wnaed, mae'n anodd iawn i fenywod a merched ddod o hyd i wybodaeth am PMDD. Lai na phum mlynedd yn ôl yr ychwanegodd Sefydliad Iechyd y Byd PMDD at y dosbarthiad rhyngwladol o glefydau, ICD-11, gan helpu i ddilysu'r cyflwr fel diagnosis iechyd dilys. Oni bai am yr elusen, y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD), byddem yn dal i fod yn y tywyllwch ynglŷn â PMDD. Diolch i IAPMD, mae llwyth o wybodaeth ar gael i fenywod a merched sy'n credu y gallent fod yn dioddef o PMDD, o symptomau, camau ymarferol tuag at ddiagnosis, i driniaethau posibl a grwpiau cymorth.

Ar ran menywod a merched sy'n dioddef o PMDD, hoffwn i'r Gweinidog gydnabod yn ffurfiol bod PMDD yn gyflwr iechyd yn ei hawl ei hun a sicrhau ei fod yn cael ei drin felly yng Nghymru. Gallwn gymryd y cam cyntaf yn gyflym iawn trwy greu tudalen we unigol ar wefan y GIG ar gyfer y cyflwr, nid dim ond ychwanegu un neu ddwy o frawddegau ar ddiwedd y dudalen we ar PMS. Hoffwn i'r Gweinidog helpu menywod a merched a allai fod yn dioddef o PMDD i adnabod y symptomau a helpu i ddilysu'r cyflwr. Mae angen inni roi diwedd ar y pryder a'r gofid ychwanegol sy'n deillio o wynebu digwyddiadau bob dydd. Camau cadarnhaol hirdymor i'w cymryd fyddai cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gyrraedd menywod ar draws ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Gallai hyn gynnwys adolygiad i weld a yw PMDD yn cael ei gynnwys yn ddigon manwl wrth drafod y system atgenhedlu mewn ysgolion; hysbysu menywod a merched sut i baratoi a beth i'w baratoi cyn apwyntiad ar gyfer diagnosis; rhoi gwybod i ddioddefwyr, teuluoedd a ffrindiau sut i'w helpu i ymdopi; a hyrwyddo'r safon a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar iechyd mislif a menopos yn y gweithle.

Yn dilyn y sylw a gafodd yr anhwylder mewn opera sebon boblogaidd yn ddiweddar, ni allaf feddwl am amser gwell i ddechrau'r ymgyrch hon. O ystyried y camau breision a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hoffwn i'r Gweinidog gynnal trafodaethau ystyrlon gyda'r elusen IAPMD mewn partneriaeth â darparwyr gofal sylfaenol ac eilaidd, i sicrhau bod gan ein rhoddwyr gofal yr wybodaeth ddiweddaraf am PMDD, gan wneud yn siŵr, os a phan fydd menywod a merched yn dod atynt, fod y gofal a'r driniaeth orau sy'n bosibl yn cael ei darparu. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, hoffwn i'r Gweinidog adolygu pa ymchwil sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru ar PMDD, gyda'r bwriad yn y dyfodol agos iawn o weithio gyda phartneriaid ymchwil ac ariannu ymchwil PMDD yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes prawf gwaed ar gyfer gwneud diagnosis o PMDD. Gadewch inni sicrhau ein bod ar flaen y gad yn y maes ymchwil hwn yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i fod yn genedl sy'n arwain ar iechyd menywod a merched. Rhaid i PMDD fod yn rhan o hyn yn ei hawl ei hun er mwyn achub bywydau.

18:10

Diolch, Buffy, am gyflwyno'r ddadl hon a siarad mor onest am eich profiad eich hun. Fel roeddech chi'n dweud, weithiau caiff PMDD ei gamddiagnosio fel iselder, gorbryder neu anhwylder deubegynol, a hynny oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr, ac roeddwn yn falch o noddi'r digwyddiad yn y Senedd yn ddiweddar—rwy'n gwybod eich bod wedi'i fynychu—i godi ymwybyddiaeth o PMDD, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd. Cafodd y digwyddiad hwnnw ei drefnu gan Becci Smart, sy'n un o fy etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sydd wedi byw gyda PMDD er pan oedd yn 14 oed, a bu'n rhaid iddi aros 18 mlynedd am ddiagnosis a thriniaeth. Rwy'n falch o ddweud bod Becci bellach yn gweithio ar gyflwyno deiseb i'r Senedd ar newidiadau ymarferol, fel rhai o'r pethau y sonioch chi amdanynt, er mwyn inni allu gwneud newidiadau i addysg, i hyfforddiant gofal iechyd ac i driniaeth fel y gellir goresgyn hyn. Felly, byddwn yn parhau i glywed am hyn yn y Senedd, gobeithio, hyd nes y caiff rhagor o gamau eu rhoi ar waith, oherwydd fel y dywedoch chi, mae'n rhaid i ni weld PMDD o fewn ffrâm ehangach cyflyrau iechyd menywod, a sicrhau ei fod yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Nid ydym yn gwybod digon am gyflyrau fel hyn, ac nid ydym yn siarad digon amdanynt. A gobeithio bod hynny'n newid nawr. Felly, gadewch inni barhau i siarad amdanynt. Gadewch inni barhau i sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth, fel ein bod yn cynyddu ein gwybodaeth trwy fuddsoddi mewn ymchwil, a gwrando ar y menywod, fel chi, fel Becci, sy'n dweud wrthym am y trafferthion a'r gofid y gall anhwylderau hormonaidd cylchol sy'n effeithio ar dymer eu hachosi.

18:15

Hoffwn ddiolch i Buffy am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac am rannu ei sefyllfa ei hun mor onest. Ac rydym i gyd wedi'i glywed wrth dyfu i fyny, 'O, mae'n adeg o'r mis' neu 'Mae hi braidd yn ddi-hwyl, peidiwch â chymryd unrhyw sylw.' Ac yn anffodus, rydych chi'n dal i glywed y pethau hynny. Ac mae pobl yn dal i gredu'r pethau hynny. A diffyg addysg yw hynny. Rwy'n gwybod ein bod yn rhoi addysg mewn ysgolion nawr, fel y gall merched ddeall beth yw mislif da, ac mae hynny o fudd i'r merched ifanc hyn wrth iddynt dyfu i fyny, ac i'w teuluoedd, oherwydd gallant hwy yn eu tro ei gymryd os ydynt yn gwybod bod eu mam yn dioddef, neu eu modryb neu eu chwaer.

Ond rwy'n credu mai'r hyn y gofynnir amdano heddiw yw ffocws penodol sy'n mynd ymhellach, ac rwy'n cefnogi hynny. A hefyd, i helpu'r bobl sy'n rhoi'r addysg honno, a'r bobl sy'n rhoi diagnosis a thriniaeth hefyd. Felly, rwy'n eich canmol am eich gonestrwydd wrth gyflwyno hyn, ac onid yw'n wych pa mor aml y siaradwn am faterion penodol yn ymwneud ag iechyd menywod nawr, pethau nad ydynt erioed wedi cael eu trafod yn y Siambr hon o'r blaen?

A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i ymateb i'r ddadl. 

Wel, diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i Buffy am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw. Ac mae hyn yn rhan o gyfres o faterion yn ymwneud ag iechyd menywod, ac rwy'n hynod ddiolchgar i chi, yn enwedig am rannu eich profiad eich hun a phrofiad eich etholwyr, oherwydd dyna'r lliw sy'n gwneud i bobl wrando a sylweddoli nad rhywbeth haniaethol ydyw; mae'n rhywbeth sy'n digwydd i bobl y mae pawb ohonom yn eu hadnabod. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gydnabod bod—amcangyfrifir bod—53,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gydag anhwylder dysfforig cyn mislif. Ac rwy'n credu ei fod yn gyflwr y mae angen ei ystyried yn ei hawl ei hun.

Mae'n anhwylder hormonaidd sy'n effeithio ar dymer. Caiff ei achosi gan adwaith annormal yn yr ymennydd i newidiadau hormonaidd normal ar draws y cylch mislif, ac fel arfer mae symptomau'n digwydd wythnos neu bythefnos cyn i'r mislif ddechrau, ac yn ystod yr amser hwnnw'n unig y byddant i'w teimlo. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys dicter, anniddigrwydd, iselder ysbryd, gorbryder, a gall yr holl bethau hyn darfu ar eu gweithgareddau dyddiol wrth gwrs. Ond mae'r bobl sy'n dioddef o'r anhwylder mewn mwy o berygl o hunanladdiad, ac mae'n rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â hynny. Mae hwn yn gyflwr difrifol tu hwnt, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddechrau cydnabod hynny.

Felly, rwy'n mynd i edrych ar eich awgrym ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud ar wefannau. Yn amlwg, byddai'n well eu cael ar wefannau'r byrddau iechyd, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth y gallwn eu hannog i'w wneud, ac yn sicr gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud ar wefan 111 o bosibl.

Felly, i fenywod a merched sydd â'r anhwylder hwn, gall gael effaith enfawr ar eu bywydau bob mis. A gellir gwneud diagnosis o'r cyflwr trwy olrhain symptomau dyddiol am o leiaf ddau gylch mislif, ac mae ystod o driniaethau ac opsiynau clinigol ar gael, sy'n aml yn galw am gymorth gofal sylfaenol ac eilaidd, a gwasanaethau iechyd meddwl weithiau, i sicrhau y gellir rheoli'r cymorth corfforol ac emosiynol yn effeithiol. Ac yn y cynllun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' presennol, cafwyd cyllid ychwanegol i wella mynediad at ystod o therapïau seicolegol.

Nid wyf yn credu bod digon o gydnabyddiaeth wedi'i rhoi i anhwylder dysfforig cyn mislif a'r effaith ddinistriol y gall ei chael. Nid wyf yn credu bod menywod wedi bod yn ymwybodol o'r symptomau. Mae cymaint o fenywod yn ei oddef heb wneud dim yn ei gylch. Nid yw'n rhywbeth y mae angen i chi ei oddef heb wneud dim yn ei gylch, ac mae'n rhywbeth y gallwch ofyn am gymorth a help ar ei gyfer. Ond mewn gwirionedd, mae angen dweud wrth bobl nad yw goddef hyn yn normal. Mae yna rôl addysgiadol yma, a bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni sicrhau bod gwell hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr, yn cynnwys ymhlith ymarferwyr sydd, efallai, yn rhwystr i ddiagnosis a thriniaeth gynnar. Mae angen iddynt wybod y gall mynediad cynnar helpu a newid eu bywydau.

Mae gwaith wedi cael ei wneud i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod hwn. Ym mis Gorffennaf y llynedd, mi wnes i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched. Ac mae'r datganiad hwn yn nodi beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr NHS o ran sicrhau ein bod ni'n cynnig gwasanaeth iechyd sydd o ansawdd i fenywod yma yng Nghymru. Ac, ym mis Rhagfyr, mi wnaeth y gwasanaeth iechyd gyhoeddi yr adroddiad darganfod. Mae'r adroddiad hwn wedi rhoi—. Mae tua 3,800 o fenywod wedi gwneud rhywbeth yn ymwneud â'r ymgynghoriad yma, felly mae wedi dylanwadu ar yr ymgynghoriad. Y cam nesaf nawr yw sefydlu rhwydwaith clinigol iechyd menywod. So, yr NHS biau hwn. Mae'n bwysig nawr eu bod nhw'n cymryd y cyfle i gymryd hwn ymlaen.

Rwyf am eich sicrhau mai'r hyn a wnaf ar ôl y ddadl hon yw gofyn i rwydwaith y GIG sy'n edrych ar iechyd menywod weld a allant edrych yn benodol ar hyn, a gweld a allent gysylltu â'r elusen y sonioch chi amdani—ai IAPMD oedd hi? Felly, rwy'n mynd i wneud yr ymrwymiad hwnnw, a chaf weld a ydynt yn barod i wneud hynny.

Ac ar yr ymchwil, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weld beth y gallwn ei wneud i symud adnoddau at iechyd menywod, oherwydd mae angen i hynny ddigwydd. Digon yw digon. Mae angen i rywbeth ddigwydd mewn perthynas ag ymchwil. Felly, rwyf wedi gofyn i hynny ddigwydd, ac rwy'n aros am ymateb ar hynny.

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu 'Cymru sy'n falch o'r mislif', ac uchelgais y cynllun yw cael gwared ar dlodi mislif. Hefyd, mae e'n herio'r arfer o normaleiddio'r symptomau mae menywod yn eu cael pan dŷn nhw ddim yn normal. So, mae'n rili bwysig. Ac mae hwnna'n cynnwys symptomau sy'n gysylltiedig ag anhwylder dysfforig cyn mislif.

Dyna chi, dyna beth yw PMDD yn Gymraeg, anhwylder dysfforig cyn mislif.

Felly, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw at hyn heddiw. Rwyf wedi gwneud ymrwymiadau yma, a byddaf yn mynd ar drywydd y rheini, ac rwyf am i chi fy nwyn i gyfrif a sicrhau fy mod yn mynd ar eu trywydd. Rwyf am eich sicrhau na fyddaf yn gollwng fy ngafael ar iechyd menywod tra byddaf yn y swydd hon. Diolch yn fawr.

18:20

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.