Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/05/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George. 

Mynediad Cyfartal at Doiledau Cyhoeddus

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am sicrhau mynediad cyfartal at doiledau cyhoeddus i bobl anabl? OQ59514

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi sefydlu’r tasglu hawliau pobl anabl i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru. Ymgysylltais â phob cyd-Weinidog i benderfynu ar y camau y mae angen eu cymryd ym mhob maes portffolio, gan gynnwys mynediad i doiledau cyhoeddus ar gyfer pobl anabl.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ôl y Great British Public Toilet Map, mae 25 o doiledau cyhoeddus yn sir Drefaldwyn, yn fy etholaeth i, ond saith o’r rheini'n unig sydd ar gael i bobl anabl. Mae hyn yn peri cryn bryder, yn enwedig gan fod llawer o bobl anabl ar draws y sir sydd angen defnyddio toiled cyhoeddus yn fwy na’r rhan fwyaf o bobl am wahanol resymau, ac mae angen iddynt fod yn hyderus, pan fyddant yn mynd i doiled cyhoeddus, y bydd cyfleusterau priodol ar eu cyfer, heb sôn, wrth gwrs, am y ffaith bod sir Drefaldwyn yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid, ar hyn o bryd o leiaf. Ac rwy'n gobeithio, Weinidog, eich bod hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hyn wrth ddenu pobl anabl i ddod ar eu gwyliau. Rwy'n meddwl yn benodol am brosiect yn fy etholaeth i. Mae Cyngor Cymuned Aberriw, ychydig oddi ar y gefnffordd, yn awyddus iawn i ddarparu cyfleusterau ar gyfer pobl anabl hefyd. Ond tybed pa gyngor y gallwch ei roi ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi, oherwydd hyd yma, maent yn ei chael hi'n wirioneddol anodd denu digon o arian i wella'r cyfleusterau?

Diolch yn fawr, Russell George. Cwestiwn pwysig iawn. Gwyddom y gall diffyg toiledau lleol hygyrch gyfyngu ar fywydau pobl anabl a'u hatal rhag mynd allan, gan arwain at ynysigrwydd, gorbryder, cyflyrau iechyd, a dyna'r ffactorau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw. Mewn gwirionedd, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu nid yn unig yn y gweithle, ond yn y gymdeithas ehangach, ac mae angen inni hyrwyddo a chyflawni ein huchelgeisiau i roi hawliau cyfartal ac urddas i bobl anabl yng Nghymru. Nawr, mae gennym ddarpariaeth doiledau cyhoeddus, ac mae darpariaeth lleoedd newid yn dod yn ei blaen, oherwydd—nid ydynt yn fy mhortffolio i—mae newidiadau wedi'u gwneud i'r rheoliadau adeiladu ynghylch darparu lleoedd newid yn benodol ar gyfer pobl anabl. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 3 Ionawr.

Credaf y byddai’n ddoeth i’ch cyngor cymuned ymgysylltu â’r awdurdod lleol—Cyngor Sir Powys yn yr achos hwn—gan fod gennym ofyniad hefyd, o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal, mewn ymgynghoriad â thrigolion a phartneriaid cyflenwi eraill, sef eich cyngor cymuned yn yr achos hwn. Mae'n bwysig fod darpariaethau’r Ddeddf honno wedi’u cynllunio i wella darpariaeth toiledau i bawb ac i gydnabod ei bod yn ofynnol, fel rhan o’u strategaethau toiledau lleol, i awdurdodau lleol asesu anghenion eu cymunedau, gan gynnwys anghenion pobl anabl a’u gofalwyr, ac i gymryd camau drwy'r strategaeth i ddiwallu’r anghenion hynny.

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy'n Gadael Gofal

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddysgwyd hyd yma o'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal? OQ59510

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae strategaeth ymchwil gynhwysfawr a manwl ar waith i werthuso’r cynllun peilot incwm sylfaenol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ond mae’n rhy gynnar i ddarparu data ar effaith y rhaglen. Rydym yn rhagweld y gellir gyhoeddi data monitro pellach ar y cynllun peilot incwm sylfaenol yn yr hydref.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mae’n braf clywed yr adborth cynnar addawol ynghylch y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, yn enwedig eich sylwadau'n nodi ein bod eisoes yn dechrau gweld manteision y cynllun. Cofiaf, hefyd, y cynnig a gyflwynais y llynedd, yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn cynllun peilot incwm sylfaenol i gynnwys gweithwyr sy’n gweithio yn y diwydiannau trwm—y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pontio. Mae gennym her gyfreithiol yn mynd rhagddi gyda phwll glo Aberpergwm a'r cyhoeddiad eleni y byddai Liberty Steel yn diswyddo 150 o'u gweithwyr yn eu safleoedd yng Nghasnewydd a Thorfaen. Felly, mae taer angen sefydlogrwydd a diogelwch ar weithwyr wrth i'r diwydiannau hyn newid. Ac mae disgwyl i’r Llywodraeth edrych ar eu fframwaith pontio teg ar gyfer Cymru sero net yn y dyfodol. Mae angen inni fynd â chymunedau gyda ni a darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa sgyrsiau rydych wedi’u cael, efallai, gyda’r Gweinidogion newid hinsawdd a’r economi, fel rhan o'r gwaith o greu fframwaith pontio teg ar ehangu’r cynllun peilot incwm sylfaenol, ar ôl ei iteriad presennol, i gynorthwyo gweithwyr i bontio i swyddi gwyrdd? Diolch.

13:35

Diolch, Jane Dodds. A hoffwn ddiolch am eich cefnogaeth gyson i'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, gyda'r gefnogaeth rydych wedi'i rhoi ers y diwrnod y gwnaethom ei gyhoeddi yma yn y Senedd. Hoffwn ddweud bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a minnau wedi cyfarfod â phobl sy’n gadael gofal ddiwedd mis Hydref, i drafod y cynllun peilot a’u profiad ohono, ac mae'r hyn a ddysgwyd ganddynt yn mynd i lywio’r gwerthusiad. O'r bobl ifanc a oedd yn gymwys yn ystod chwe mis cyntaf y cynllun peilot, rwy'n falch fod 92 y cant wedi ymuno â'r cynllun a'u bod eisoes yn cael eu taliad misol. Ac mae'n bwysig ein bod yn cysylltu hyn â'ch dadl a'r cwestiynau rydych hefyd wedi'u gofyn, ynglŷn â'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn.

O ran pontio teg, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, i’r Gweinidog Newid Hinsawdd dderbyn galwad am dystiolaeth ar bontio teg rhwng y llynedd a 15 Mawrth. Cafwyd ymateb da i hynny, ac maent yn cael eu dadansoddi, felly bydd hynny'n dod drwodd. A chredaf mai'r hyn sy'n bwysig i'w gydnabod yw mai'r ysgogiad polisi ar gyfer ein cynllun peilot incwm sylfaenol yw cefnogi pobl sy'n gadael gofal i allu cwblhau cyfnod pontio cadarnhaol o ofal awdurdod lleol, gan ddefnyddio incwm sylfaenol fel modd. Ac fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, incwm sylfaenol yw'r mecanwaith ar gyfer hyn, yn hytrach na diben y rhaglen, i roi cyfle gwirioneddol mewn bywyd i bobl sy'n gadael gofal. Felly, gwn y byddwn yn gallu edrych nid yn unig ar y gwerthusiad o’r cynllun peilot incwm sylfaenol mewn perthynas â'r defnydd o’r mecanwaith a’r effaith a gaiff ar rai sy’n gadael gofal, ond hefyd, sut y gallech edrych arno yn nhermau pontio teg, yn amlwg, a’r cyfleoedd yn hynny o beth, pan glywn o’r alwad honno am dystiolaeth.

Fel y gwyddoch, Weinidog, mae ymchwil wedi dangos yn gyson fod pobl sydd wedi mynd drwy ofal maeth, gofal preswyl neu ofal gan berthynas yn fwy tebygol o ddod yn rhieni'n llawer iau nag eraill. Yn wir, mae astudiaethau yn y DU wedi dangos bod gan bron i chwarter y bobl sy’n gadael gofal yn ifanc blant pan fyddant yn gadael gofal, ac mae’r gyfran hon yn cynyddu i bron i 50 y cant oddeutu dwy flynedd yn ddiweddarach, gyda thystiolaeth yn dangos mai’r rheswm dros hyn yw ceisio diwallu, yn ymwybodol ac yn anymwybodol, anghenion perthynol a theuluol nad ydynt wedi'u diwallu. Rwy’n hynod o gefnogol i'r syniad fod angen gwneud mwy i helpu’r rheini sydd wedi mynd drwy’r system ofal, ond rwy’n dal i gwestiynu ai treial incwm sylfaenol cyffredinol yw’r ffordd gywir ai peidio, yn enwedig gan fod ymyl clogwyn ar ei ddiwedd pan ddaw'r incwm misol o £1,600 i ben ar ôl dwy flynedd. Gyda hyn mewn golwg, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r effaith y bydd y treial hwn yn ei chael ar rieni ifanc â phrofiad o ofal a’u plant pan ddaw eu hincwm ychwanegol i ben, oherwydd rwy'n wirioneddol bryderus am y goblygiadau negyddol a all ddigwydd pan fydd pobl sydd wedi addasu eu patrymau gwario a'u ffordd o fyw i'r incwm ychwanegol, yn sydyn iawn yn gorfod mynd hebddo? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Joel James. Gwn y byddwch yn edrych ymlaen, ac y bydd gennych gryn ddiddordeb, rwy'n siŵr, yng nghanlyniadau interim gwerthusiad annibynnol Cascade—Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd. Ac mae'n ymwneud â cheisio deall effaith y cynllun peilot ar fywydau pobl sy'n gadael gofal, ac fel y gwyddoch, mae'n para tan 2026, gan ymgysylltu'n agos â safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc a gymerodd ran yn y cynllun peilot. Ac wrth gwrs, mae gennym lawer o gymorth ymgysylltu ar gyfer y bobl ifanc hynny—rhanddeiliaid awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru, partneriaid Cyngor ar Bopeth—yn helpu a chefnogi ein pobl ifanc i oresgyn heriau. Ond hefyd, o’n profiad o gyfarfod â’r bobl ifanc, mae eu huchelgais, eu diddordeb, eu penderfyniad i'w bywydau symud yn eu blaenau o ganlyniad i’r cyfle hwn a roddwyd iddynt yn eu rhoi mewn sefyllfa dda iawn ar gyfer eu dyfodol—eu bywyd cyfan fel oedolyn, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â gweld a all yr ymddiriedaeth a'r cyllid a'r cymorth ariannol a roddwn i'r bobl ifanc hyn drawsnewid eu bywydau cyfan o'u blaenau. Felly bydd, wrth gwrs, fe fydd rhai o'r bobl ifanc hynny â phrofiad o ofal ac sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn y sefyllfa hon yn barod—bydd rhai'n rhieni ifanc—a byddant yn symud yn eu blaenau, fel y mae pob unigolyn ifanc yn ei wneud, i fywyd fel oedolyn. Ond credaf fod hwnnw’n sylw defnyddiol iawn wrth edrych ar eu profiad.

A gaf fi ddweud bod 50 y cant o'r bobl ifanc sydd wedi cofrestru wedi ymateb i arolwg Eich Bywyd y tu hwnt i Ofal? Mae hwnnw'n arolwg pwysig iawn. Yn amlwg, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gyfrifol am bobl sy'n gadael gofal a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, ac rwy’n falch iawn fod y Prif Weinidog, gyda nifer o Weinidogion, wedi lansio'r datganiad gan bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Ac rwy’n annog yr Aelod, a’r holl Aelodau, i edrych ar y datganiad hwnnw, gan ei fod yn deillio o waith a wnaed ganddynt hwy—pobl ifanc—i ddweud wrthym ni yn y Llywodraeth sut roeddent yn teimlo y gallem wneud yn well, ar lefel awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i gefnogi pobl sy’n gadael gofal ar bob cam o’u bywydau ifanc.

13:40

Ni fydd yn syndod clywed bod Plaid Cymru o blaid y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, ac mae’n bleser fod y cynllun peilot yn mynd rhagddo. Mae hynny wedi’i ddisodli gan ffieidd-dod at rai o’r ffyrdd y mae'r Aelodau Torïaidd ar ochr arall y llawr wedi ystumio'r polisi hwn. I'r rhai sy'n arddel gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' sy'n atgoffa rhywun o Trump, dywedaf hyn, 'Rhag eich cywilydd.'

Weinidog, hoffwn weld yr amserlen a bennwyd gan y Llywodraeth, fel y bydd marcwyr eglur yn cael eu cyflwyno pan ddaw canlyniadau’r treial hwn yn ôl—ac rwy’n rhagweld y byddant yn gadarnhaol—fel y gall incwm sylfaenol helaeth barhau. Ni allwn fforddio gadael i gynllun a allai fod mor drawsnewidiol â hwn fynd yn angof.

Diolch yn fawr, Peredur, a chwestiwn mor bwysig. Rwy’n gyndyn o fynd yn ôl—ond fe wnaf—i ddweud cymaint o syndod a gawsom gan yr ymosodiad hwn ar ein cynllun peilot incwm sylfaenol, a seiliwyd ar wybodaeth gyfeiliornus, anghywir a chamarweiniol gan y Ceidwadwyr. Rydym yn sicr ynglŷn â hynny. Ei nod oedd tanseilio’r hyn rydym yn ei wneud, ond yn bennaf oll, tanseilio'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cenedl noddfa—ein plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, sydd bob amser wedi’u cynnwys fel rhai cymwys. Ac a gaf fi gofnodi hynny eto ar gyfer y cynllun peilot incwm sylfaenol? Fel pobl sy'n gadael gofal yng nghategori 3—. Mae’n rhaid imi ddweud wrth bawb yma, mae gan bob un ohonoch bobl ifanc, pobl sy’n gadael gofal, yn y cynllun peilot hwn. Mae gan bob un awdurdod lleol yn y Siambr hon bobl sy’n gadael gofal yn y cynllun peilot hwn. Cofiwch hynny. Ac maent yn awyddus, rwy’n siŵr, i sicrhau ein bod yn eu cefnogi wrth iddynt fynd drwy’r cynllun peilot pwysig hwn, ac wrth gwrs, fel y dywedais, yr ymchwil manwl cynhwysfawr, a chyhoeddi data monitro pellach yn nes ymlaen eleni.

Ond hoffwn ddweud hefyd, am y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, byddwn yn awyddus, fel rydych wedi'i nodi'n glir iawn, i'w cefnogi drwy bob hawl sydd ganddynt—pob hawl sydd ganddynt. Ac mae hynny’n cynnwys hawl i hawlio lloches yn y DU.

Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen o hynny, ond hefyd, hoffwn ddweud, o ran ein pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, maent yn gwrando ac yn gwylio’r hyn rydym yn ei ddweud yn y Siambr hon, yn eu cefnogi gyda'u rhagolygon—ac mae ganddynt ragolygon—ar gyfer eu cyfleoedd bywyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Mae eich cyfrifoldebau gweinidogol, fel y gwyddoch, yn cynnwys cydgysylltu mesurau trawsbynciol i hybu ffyniant a threchu tlodi. Wrth siarad yma fis Hydref diwethaf yn y ddadl ar gynnig deddfwriaethol Aelod ar gyfer Bil i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, heriais Lywodraeth Cymru ar y camau roedd wedi’u cymryd i sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig yng Nghymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt, fel yr argymhellwyd yn adroddiad pwyllgor 2019 ar fudd-daliadau yng Nghymru. Nododd adroddiad Sefydliad Bevan fis diwethaf ar ddull cyffredin o weithredu budd-daliadau Cymru eu bod wedi galw ers tro am un fframwaith o grantiau a lwfansau a elwir yn ‘system fudd-daliadau Gymreig’, y byddai’r system hon yn cael gwared ar y broses ymgeisio gymhleth a dryslyd a bod ganddi’r potensial i ddod â phobl allan o dlodi. Mae eu canfyddiadau’n dangos bod sefydlu system fudd-daliadau Gymreig yn ymarferol o ran data, ac y gallai miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio gefnogi pobl ar incwm isel, a bod y rheoliadau sy’n llywodraethu budd-daliadau Cymru yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ac felly mae cyflwyno diwygiadau rheoliadol i hwyluso mwy o unffurfiaeth o fewn eu pŵer. Sut felly rydych chi'n ymateb i’r canfyddiadau hyn, a pha gamau rydych chi'n eu cymryd nawr yn dilyn y ddadl y llynedd a'r adroddiad fis diwethaf? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy’n llwyr gefnogi a chroesawu'r adroddiad gan Sefydliad Bevan; yn wir, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Sefydliad Bevan. Ac mae'n rhaid imi ddweud bod hyn hefyd yn rhan o'n gwaith yn y cytundeb cydweithio, fel y gallwn weithio tuag at edrych ar archwilio'r hyn y teimlwn sy'n rhaid iddo fod yn bosibilrwydd gwirioneddol o ddatganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru. Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes wrth gwrs, o ran symud tuag at system nawdd cymdeithasol i Gymru, yw cyflwyno siarter. Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Bevan i gyflwyno siarter ar sut y byddem yn darparu a sut rydym yn darparu ein budd-daliadau presennol yng Nghymru. A chredaf hefyd ein bod wedi cael ein cynorthwyo a’n harwain gan adroddiadau pwyllgor blaenorol ar hyn, ac yn wir, gan gyfraniadau o ddadleuon.

Rhaid i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar fudd-daliadau lles fod yn flaenoriaeth i bawb sy'n gysylltiedig â hyn, ac mae’n rhaid imi ddweud fy mod wedi ysgrifennu at Stephen Crabb, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, heddiw i’w annog i edrych eto ar yr ymchwiliad a gynhaliwyd ganddynt i edrych ar nawdd cymdeithasol yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig iawn na chefnogodd Llywodraeth y DU unrhyw un o'r argymhellion. Rwy’n sôn am Bwyllgor Materion Cymreig trawsbleidiol yn San Steffan. Ac un o'r pwyntiau allweddol y byddwn yn gobeithio y byddech yn eu cefnogi, Mark Isherwood—un o'r argymhellion allweddol—yw y dylid cael pwyllgor cynghori ar fudd-daliadau ar gyfer Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn inni allu sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru.

13:45

Diolch. Fel y dywedais, mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu budd-daliadau Cymru yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru ac mae hyn yn ymwneud â system fudd-daliadau Gymreig ar gyfer y budd-daliadau sydd eisoes o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i’r Senedd i ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i fwrw ymlaen â chynllun peilot fan lleiaf, a system fudd-daliadau Gymreig lawn ar gyfer y budd-daliadau hynny, gobeithio.

Ond mae eich cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys tlodi tanwydd, ac roedd cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru a gynigiwyd ar gyfer 2022-23 yn cynnig taliad i aelwydydd incwm isel cymwys i’w helpu gyda chost gynyddol ynni. Cadarnhawyd gennych mewn atebion ysgrifenedig i fy swyddfa fod Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £90 miliwn ar gyfer hyn a'i bod yn amcangyfrif y byddai oddeutu 427,000 o aelwydydd yn gymwys. Fodd bynnag, cadarnhawyd gennych hefyd i fy swyddfa fod llai na £65 miliwn wedi’i wario ar hyn hyd at 28 Chwefror eleni, a bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi nodi mai 316,000 o aelwydydd yn unig a oedd wedi gwneud cais i’r cynllun ac mai 341,468 yn unig a oedd wedi cael taliad. A fydd y tanwariant hwn yn cael ei gario ymlaen felly, ac os na fydd, pam hynny? A pha waith sy'n mynd rhagddo i sefydlu pa wersi y gellid eu dysgu o hyn er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar gynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. A gaf fi fynd yn ôl at y pwynt a oedd yn ymwneud â'ch cwestiwn cyntaf? Nid yn unig ein bod yn gweithio gyda Sefydliad Bevan, ond cyn bo hir, byddwn yn cyfarfod â nhw i edrych ar y gwaith y maent wedi’i wneud gydag ymgynghoriaeth Policy in Practice, sy’n edrych ar sut y gallem gyflwyno system fudd-daliadau yng Nghymru. Ac a gaf fi ddweud bod y system fudd-daliadau hon yng Nghymru, sydd eisoes yn bodoli—? Ac fe gyfeirioch chi nawr at un budd-dal allweddol rydym wedi bod yn ei dalu i bobl, i roi arian ym mhocedi pobl: y cynllun cymorth tanwydd. Bydd y system fudd-daliadau hon yn system fudd-daliadau dosturiol—system fudd-daliadau dosturiol sy'n mynd ati i ddiwallu anghenion ein trigolion.

Clywsom gan Ymddiriedolaeth Trussell ym mhwyllgor y Cabinet ar gostau byw ddydd Llun, sy’n galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu credyd cynhwysol fel ei fod yn ddigon i dalu am hanfodion sylfaenol bywydau pobl. Mae hon yn ymgyrch ledled y DU. Byddwn yn gobeithio y byddem yn ymuno â hi, ond mae Policy in Practice yn ein harwain. Mae'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, oherwydd drwyddynt hwy, er enghraifft, rydym wedi darparu ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. I roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, y ffigurau diweddaraf yw bod 349,000 o aelwydydd wedi cael y taliad o £200 tuag at eu costau tanwydd drwy ein cynllun cymorth tanwydd. Ac rwy’n falch ein bod yn parhau â’n cynllun Sefydliad Banc Tanwydd, sy’n ei gwneud hi'n bosibl i dalebau tanwydd a chynllun y gronfa wres yng Nghymru barhau i mewn i’r flwyddyn ariannol hon.

Golyga hynny fod 78,000 yn llai o aelwydydd nag a amcangyfrifwyd gan Lywodraeth Cymru wedi defnyddio'r rhaglen honno ac na ddefnyddiwyd £30 miliwn i £35 miliwn a ddyrannwyd ar ei chyfer. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod angen inni ddysgu o hynny fel y gallwn wneud mwy i gyrraedd y bobl sy’n gymwys yn y dyfodol.

Ond yn olaf, mae cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau i bobl sydd angen byw’n annibynnol yn y gymuned neu sydd wedi bod drwy argyfwng neu drychineb. Mewn ateb ysgrifenedig, unwaith eto, i Aelod o Blaid Cymru ym mis Chwefror y llynedd, fe ddywedoch chi:

'Yn y flwyddyn ariannol bresennol 1 Ebrill 2021 tan 16 Chwefror 2022, gwnaed 14,130 o geisiadau i'r Gronfa Cymorth Dewisol am daliadau brys, gydag 8,175 o ddyfarniadau, gan ddod i gyfanswm o £470,616 i gleientiaid 60 oed a hŷn.'

Ym mis Mawrth eleni, gofynnodd fy swyddfa i chi:

'Faint o bobl 60 oed a throsodd, 70 oed a throsodd ac 80 oed a throsodd sydd wedi defnyddio cronfa gymorth dewisol Llywodraeth Cymru yn ystod 2021-22 a 2022-23?'

Fodd bynnag, fe ateboch chi bryd hynny:

'Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth am oedran y bobl sy'n defnyddio'r Gronfa Cymorth Dewisol.'

Wel, cyflwynodd fy swyddfa gwestiwn pellach i chi wedyn, gan ddefnyddio’r un derminoleg â'r cwestiwn a ateboch chi i'r Aelod o Blaid Cymru ym mis Chwefror 2022:

'Faint o bobl dros 60 oed sydd wedi gwneud ceisiadau i'r gronfa cymorth dewisol ar gyfer taliad cymorth brys yn ystod 2022-23?'

Fe ateboch chi:

'Fel y nodwyd yn fy ateb blaenorol...nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth am oedran y bobl sy'n defnyddio'r Gronfa Cymorth Dewisol.'

Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth am faint o bobl dros 60 oed sydd wedi gwneud ceisiadau i'r gronfa cymorth dewisol, fel y dywedoch chi wrth Blaid Cymru, ai peidio, fel y dywedoch chi wrthyf innau? Os oes gennych ddata o'r fath, a wnewch chi ei ddarparu nawr? A pham yr anghysondeb rhwng eich ateb i'r Aelod o Blaid Cymru y llynedd, pan ddarparwyd y ffigurau hynny gennych, a’ch atebion i mi eleni, pan ddywedoch chi na allech wneud hynny?

13:50

Wel, rwy’n falch iawn o gael cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa cymorth dewisol. Ac rydym wedi sôn am Sefydliad Bevan fwy nag unwaith y prynhawn yma, a gaf fi ddiolch iddynt unwaith eto am eu harweiniad a'r ymgysylltiad rydym wedi'i gael wrth sicrhau, yn y flwyddyn ariannol hon, y gallwn ddarparu cronfa cymorth dewisol symlach a thecach? Felly, o fis Ebrill eleni, mae pob ymgeisydd i'r gronfa cymorth dewisol yn gymwys am dri thaliad cymorth brys mewn cyfnod treigl o 12 mis. A'r hyn sy'n bwysig yw bod y taliadau hynny wedi cynyddu 11 y cant—mae pob taliad wedi cynyddu 11 y cant—yn unol â chwyddiant. Mae'n rhaid inni roi cymaint o gymorth ag y gallwn i helpu pobl i dalu am eu costau byw sylfaenol, fel bwyd a thanwydd. Felly, rydym eisoes, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi rhoi grantiau, i 527,885 o bobl, a llawer mwy.

Nawr, yn amlwg, rydym am geisio deall a yw'n cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed sydd angen y cymorth brys hwnnw, a byddaf yn sicrhau y gallwn ymchwilio i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i'r Aelodau mewn perthynas â'r anghenion hynny.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Weinidog.

Rydym wedi clywed eto heddiw am y pwysau economaidd enfawr a chynyddol sydd ar aelwydydd. Ledled y DU, mae nifer y bobl sy’n ei chael hi'n anodd talu eu biliau a’u dyledion wedi cynyddu i bron i 11 miliwn, gydag 11 y cant o oedolion wedi methu bil neu daliad benthyciad yn ystod tri mis olaf y chwe mis blaenorol, yn ôl ymchwil newydd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae'n hollbwysig felly fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull posibl i gefnogi pobl a dod â nhw allan o dlodi hefyd.

Yng Nghymru, mae aelwydydd â phlant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi cymharol. Mae'r cynllun bocsys babanod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Alban fel un ffordd o helpu pobl i ymdopi â'r pwysau ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil cael baban newydd. A chafodd cynllun bwndeli babanod ei dreialu gan Lywodraeth Cymru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021, a barnwyd ei fod yn llwyddiannus yn ôl y gwerthusiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd rhagor o ymchwil gwmpasu gadarnhaol ar gyfer cyflwyno hyn yn genedlaethol. Mae dwy flynedd wedi bod ers diwedd y cynllun peilot. Bellach, mae rhagor o ymchwil wedi'i chwblhau gennym. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid cyflwyno bwndeli babanod ledled Cymru cyn gynted â phosibl i helpu rhieni newydd yn ystod yr argyfwng costau byw? Ac a allai’r Llywodraeth gyhoeddi manylion ynglŷn â sut a phryd y maent yn bwriadu cynyddu’r ddarpariaeth o fwndeli babanod? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae’r cynllun bwndeli babanod, fel y dywedwch, wedi’i dreialu’n llwyddiannus. Roeddwn yn falch iawn o gael bod yn lansiad y cynllun hwnnw. Mae’n fenter a ysgogwyd i raddau helaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Mae'n anrheg ar gyfer pawb, a dyna sydd mor bwysig. Mae ar gyfer pawb. Yr holl fabanod sy'n cael eu geni yng Nghymru. Anrheg gan Lywodraeth Cymru i ddarpar rieni sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys yr holl eitemau hanfodol sy’n cynorthwyo babanod ym mlwyddyn gyntaf eu bywydau, a’u rhieni, wrth gwrs. Yr hyn sy’n hanfodol yw ein bod wedi dysgu o’r cynllun peilot beth yw barn rhieni, pa eitemau priodol y dylid eu darparu, a hefyd gan fydwragedd a gweithwyr proffesiynol. A’r pwynt allweddol, wrth gwrs, fel y dywedwch, Sioned, yw’r argyfwng costau byw. Felly, mae'n gynnig ar gyfer pawb, y gyllideb yw £6 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a'u nod yw caffael a phenodi cyflenwr i ddarparu hyn erbyn diwedd y flwyddyn, ac maent yn dechrau cyflawni'r prosiect yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf.

13:55

Diolch, Weinidog. Mae’n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud ar hyn o’r diwedd. Rwy’n falch iawn o fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu, ac yn anffodus, mae’r anghydraddoldeb a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu mewn bywyd bob dydd yn bwnc trafod rheolaidd yn ein cyfarfodydd.

Nid oes unrhyw beth yn fwy normal nag arian, ond dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Mencap Cymru wedi clywed gan lawer o bobl sy’n pryderu bod mwy a mwy o fusnesau a sefydliadau yn newid i daliadau heb arian parod yn unig am eu nwyddau a’u gwasanaethau. Gan nad oes gan lawer o bobl sydd ag anableddau dysgu fynediad at eu cyfrifon banc eu hunain, neu efallai y bydd eu cardiau'n caniatáu iddynt godi arian parod ond nid i dalu â cherdyn, ni allant dalu am bethau bob dydd gyda cherdyn yn unig. Golyga hyn na allant gael mynediad cyfartal at lawer o siopau, bwytai a chyfleusterau hamdden.

Ond er ei bod yn bosibl nad oes gan unigolyn ag anabledd dysgu allu i ddefnyddio cyfrif banc, neu ddefnyddio cardiau debyd neu gredyd, yn sicr, mae ganddynt allu i ddefnyddio arian parod, ac mae hyn yn rhan bwysig o’u hannibyniaeth; mae'n eu helpu gyda chyllidebu eitemau, i sicrhau nad ydynt yn mynd i ddyled. Felly, Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i alluogi pobl ag anableddau dysgu i dalu am bethau ag arian parod lle bynnag a phryd bynnag y mae angen iddynt wneud hynny, er mwyn cadw eu hannibyniaeth, eu hyder a’u rhydd-ewyllys, gan sicrhau y gallant gymryd rhan lawn mewn cymdeithas? A wnewch chi ymateb i’r galwadau a wnaed gan ddeiseb a gychwynnwyd gan Mencap Cymru i leoliadau a ariennir ag arian cyhoeddus, neu’r rhai sy’n cael grantiau, megis canolfannau hamdden, amgueddfeydd ac ati barhau i dderbyn taliadau arian parod yn ogystal â thaliadau â cherdyn?

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn fy mod wedi ysgrifennu yn ddiweddar at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, yn ymateb i'r ddeiseb honno—y ddeiseb gyda'r pryderon a godwyd gan Mencap Cymru ynghylch pobl anabl yn methu talu, fel y dywedwch, am nwyddau a gwasanaethau gydag arian parod mewn rhai busnesau yng Nghymru, ac nad ydynt felly'n cael defnyddio'r gwasanaeth hwnnw.

A gaf fi ddweud, ar y pwynt hwn, pa mor falch roeddem ni o weld bod BBC Wales wedi canolbwyntio fawr ar bobl anabl yn ddiweddar? Fe fyddwch wedi gweld hyn, a chodwyd hyn, mewn gwirionedd, mewn eitem ar BBC Wales, fel y gallem glywed gan bobl anabl yn uniongyrchol beth mae hyn yn ei olygu iddynt. Yn amlwg, nid ydym yn gyfrifol am fancio a gwasanaethau ariannol, ac nid oes gennym yr ysgogiadau i orfodi busnesau i gadw systemau arian parod, ond mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn edrych ar y mater o safbwynt busnes. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r tasglu hawliau pobl anabl edrych ar hyn a'i godi ar bob cyfle posibl gyda'r sector manwerthu a lletygarwch, ac i ystyried safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc, anabl yn y cyd-desun hwn.

Banciau Bwyd

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer banciau bwyd? OQ59512

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Rydym yn parhau i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i reoli cynnydd yn y galw. Yn 2023, darparwyd £3.5 miliwn gennym i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i’w helpu i oresgyn rhwystrau gyda chael mynediad at, storio a dosbarthu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da, gan gynnwys bwyd dros ben o ansawdd da.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn anffodus, rydym yn gweld angen cynyddol am fanciau bwyd. Mae rhai pobl yn mynd heb fwyd. Mae ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn helpu, ond ni fydd yn datrys y problemau y mae banciau bwyd yn mynd i’r afael â nhw. Gall salwch, angladd, neu ostyngiad sydyn mewn oriau gwaith achosi pwysau ariannol difrifol. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch a diolch i’r rhai sy’n trefnu banciau bwyd ledled Cymru, gan gynnwys ym mhob ward yn fy etholaeth. Pa gymorth anariannol y gall Llywodraeth Cymru ei roi i fanciau bwyd?

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Yn bendant, rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr hon yn diolch i bawb, gwirfoddolwyr yn bennaf, sy’n sefydlu ac yn rhedeg banciau bwyd. Daeth Ymddiriedolaeth Trussell i bwyllgor costau byw'r Cabinet mewn gwirionedd—rwyf eisoes wedi sôn am hynny—yn gynharach yr wythnos hon. Dywedant eu bod am gyrraedd y pwynt lle nad oes angen banciau bwyd arnom mwyach, Ymddiriedolaeth Trussell, a sefydlwyd ac a gychwynnwyd, ymhell yn ôl, yn Salisbury, ac sydd bellach ym mhob cymuned. Nid yn unig eu bod yn darparu bwyd a chymorth brys i bobl sy'n byw mewn tlodi, ond un o’r pwyntiau a wnaed yn y cyflwyniad a chyda phartneriaid yno o’r trydydd sector oedd eu bod hefyd, yn y banciau bwyd hynny, yn darparu amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys cyngor ariannol a lles, a mynediad at fudd-daliadau, cyngor ar gostau byw. Ond hefyd, rydym yn cysylltu hyn—ac mae hyn yn mynd i'r afael â'r mater rydych wedi'i godi, Mike Hedges—â chodi ymwybyddiaeth o sut y gall pobl gael mynediad at gredyd fforddiadwy, sy'n hollbwysig, ac yn gweithio gyda'n hundebau credyd a'u cefnogi, ac yn edrych hefyd ar raglenni cyflogadwyedd cymunedol i ddarparu mwy o gyngor ar dai a dyled.

Credaf ei bod yn bwysig ystyried y ffaith, yn eich etholaeth chi yn Abertawe—. Hoffwn nodi a llongyfarch y ffaith bod Abertawe eisoes yn darparu prydau ysgol am ddim i bawb yn y dosbarth derbyn a blwyddyn 1, gyda 3,470 o ddisgyblion newydd yn gymwys. Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu ehangu'r cynllun i ddisgyblion blwyddyn 2 o fis Medi ymlaen, gyda 1,700 o ddisgyblion ychwanegol yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim. Mae hwnnw’n ganlyniad gwych o ran y ffordd honno ymlaen gyda chinio ysgol am ddim, ond o ran cael mynediad at y gronfa gynghori sengl hefyd.

A gaf fi ofyn i Mike Hedges gefnogi rhai o'r galwadau a wnawn hefyd—ac fe'u gwnaed ddydd Llun—ar Lywodraeth y DU? Pe bai Llywodraeth y DU yn cymryd rhai camau i helpu i drechu tlodi a lleihau’r angen am fanciau bwyd, byddent yn diddymu’r cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn; byddent yn gwneud newidiadau i'r polisi didynnu credyd cynhwysol i leddfu'r pwysau ar yr aelwydydd mwyaf bregus yn ariannol; byddent yn cynyddu taliadau'r lwfans tai lleol; a byddent yn darparu cyllid ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai.

14:00

Weinidog, mae banciau bwyd yn achubiaeth hanfodol i lawer o deuluoedd, ac mae eu defnydd wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i bris bwyd godi i’r entrychion. Er bod gennym y chwyddiant prisiau bwyd isaf yng ngorllewin Ewrop, sy’n llawer is na chyfartaledd yr UE, mae’n dal i fod oddeutu 19 y cant. O ganlyniad, rydym yn gweld llawer o deuluoedd yn defnyddio banciau bwyd am y tro cyntaf. Ond rydym hefyd yn clywed straeon am etholwyr sydd â gormod o gywilydd i ymweld â banc bwyd yn dewis mynd heb yn lle hynny. Weinidog, a gytunwch fod angen inni roi diwedd ar y stigma a bod sylwadau gan gynghorwyr Llafur yn Nhorfaen yn ddi-fudd pan fyddant yn siarad am godi cywilydd ar bobl sy’n defnyddio banciau bwyd mewn ffordd y mae'r cynghorwyr hynny'n ei ystyried yn amhriodol? Diolch.

Wel, Altaf, rydych wedi ei wneud yn glir, ac rydych yn llygad eich lle yn eich datganiad fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith enfawr a niweidiol ar fywydau ein dinasyddion—mae chwyddiant bwyd yn 19 y cant, a phobl sy'n gweithio bellach yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd am mai dyna’r unig fwyd a chymorth mewn argyfwng y gallant ei gael.

Ond rwy'n meddwl hefyd ei bod hi’n bwysig fod nifer o fentrau eraill yn datblygu yn ogystal â gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Trussell sy'n rhedeg banciau bwyd ledled Cymru, mentrau fel y pantrïau bwyd. Yn eich rhan chi o’r byd—ymwelais gyda Luke Fletcher a Huw Irranca-Davies—rwy’n llongyfarch ymddiriedolaeth Baobab Bach, sydd bellach yn lledaenu ar draws de Cymru, lle mae pobl yn dod yn aelodau am ffi fechan, ac yna gallant ddod i gael llawer o fwyd bob wythnos, ond maent yn talu tuag ato, ac yna'n cael cyngor a gwybodaeth hefyd. Mae llawer o wahanol ffyrdd i bobl allu cael mynediad at fwyd. Siaradais â rhywun yn fy menter Baobab Bach leol. Roedd hi a’i gŵr yn gweithio, roedd ganddynt bedwar o blant, ac roeddent wedi dod i’r sefyllfa hon, ac roeddent yn falch eu bod yn dod i gronfa Baobab lle gallent gyfarfod â phobl, cael cyngor a chael gafael ar fwyd. Ond hefyd, mae’r Big Bocs Bwyd yn ein hysgolion yn ardderchog.

Ond y pwynt yw y dylem fod yn mynd i’r afael ag achosion hyn. Rwy’n dychwelyd at y ffaith mai’r achosion yw bod pobl yn cael trafferth yr eiliad hon. A gwn na fydd y Llywydd eisiau imi wneud hyn, ond a gaf fi ofyn i Altaf Hussain, a wnaiff ymuno gyda ni—ef a'i Aelodau—i alw ar Lywodraeth y DU? Un peth y dylem fod yn unedig yn ei gylch yw bod rhaid inni gynyddu lwfansau tai lleol. Mae’n fater sy’n cael ei godi bob tro y bydd gennym gwestiynau am gyfiawnder cymdeithasol ym maes tai. Os na wnawn gynyddu lwfansau tai lleol yn ogystal â diddymu’r cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn ac uwchraddio credyd cynhwysol, byddwn yn parhau i gael pobl wedi’u rhoi mewn sefyllfa, oherwydd eu hamgylchiadau—mewn gwaith a heb fod yn gweithio, yn agored iawn i niwed—lle maent yn troi at fanciau bwyd. Ond os gwelwch yn dda, gadewch i bawb ohonom ddiolch i'r gwirfoddolwyr hynny wrth i ni agosáu at Wythnos y Gwirfoddolwyr ar 1 Mehefin am bopeth a wnânt yn ein banciau bwyd yng Nghymru.

14:05
Allgáu Ariannol

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael ag allgáu ariannol? OQ59527

Diolch i chi, Luke Fletcher. Rydym yn gweithio’n agos gydag undebau credyd ledled Cymru fel bod pobl sydd wedi’u hallgáu’n ariannol yn gallu cael gafael ar gredyd fforddiadwy a chynnyrch cynilo yn lleol. Rwyf hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd â benthycwyr cyfrifol i sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw.

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Mae banciau mawr wedi bod yn mynd ati fel lladd nadroedd i gau eu drysau yn ein cymunedau. Mae’r diffyg arian parod a dibyniaeth ar fenthyca cost uchel sy'n gallu deillio o hyn wedi'i wrthsefyll i ryw raddau gan y rhwydwaith o undebau credyd sydd gennym yma yng Nghymru, ond yn y pen draw nid yw’n cymryd lle amrywiaeth lawn o wasanaethau. Fel mater nad yw wedi'i ddatganoli, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Link, ond mae cau banciau'n digwydd yn llawer cyflymach na'r ymdrechion i'w atal. Mae amrywiaeth o elusennau, gan gynnwys Age UK yn ogystal â grwpiau cynhwysiant ariannol, yn galw am gyflymu'r broses o gyflwyno hybiau bancio. A allwn ddisgwyl hyn gan Lywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr, Luke, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Wrth gwrs mae colli banciau o’n stryd fawr yn gymaint o her i gymunedau a busnesau. Effeithir ar bob rhan o Gymru, ond yn enwedig cymunedau gwledig a mwy difreintiedig. Er mwyn helpu i sicrhau bod mynediad wyneb yn wyneb at wasanaethau bancio yn parhau i fod ar gael, rydym yn gweithio'n agos gyda Link ar y gwaith o gyflwyno hybiau bancio a rennir, a fydd yn dod â gwasanaethau bancio banciau yn ôl i mewn i gymunedau. Rwyf am ddweud er budd yr holl gyd-Aelodau yma fod pump o hybiau bancio wedi’u clustnodi ar gyfer Cymru ar hyn o bryd: Treorci, Prestatyn, y Trallwng, Abergele a Phorthcawl. Yn wir, mae'r hyb yn y Trallwng yn agor yn ddiweddarach eleni. Ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hyn gyda’n gilydd, a diolch i Luke am hyn oherwydd mae angen inni edrych arno yng nghyd-destun pob cymuned.

Weinidog, yn eich ymateb i Sioned Williams yn gynharach ar ddeiseb Mencap Cymru ar fynediad at arian parod i bobl agored i niwed, mae hyn wedi’i gyflymu—y newid i gymdeithas heb arian parod—yn sgil y pandemig. Ond fel y dywedodd Sioned yn huawdl, mae yna bryder nad oes gan bobl anabl fynediad at ddulliau talu electronig, ac felly ni allant gael mynediad cyfartal at nwyddau a gwasanaethau. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gyfarfod â Mencap Cymru a Gweinidog yr Economi a grybwyllwyd gennych yn eich ateb blaenorol i Sioned er mwyn gallu cynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i Mencap Cymru a’u haelodau i sicrhau bod y bobl hyn yn cael mynediad sy'n deg a chyfiawn? Oherwydd gadewch inni gofio bod arian parod yn hollbwysig.

Yn sicr, mae arian parod yn gwbl allweddol. Rwy'n falch iawn fod gennym ffocws ar fynediad at gyllid ac arian parod i bobl anabl, a'r cwestiynau a ofynnwyd imi y prynhawn yma. Yn sicr, drwy ymateb i’r Pwyllgor Deisebau, sydd eisoes wedi ysgrifennu ataf, a chydgysylltu â Gweinidog yr Economi hefyd, byddaf yn gweithio gyda phobl anabl i edrych ar hyn drwy’r tasglu hawliau anabledd. Mae’r tasglu hwnnw’n cynnwys pobl anabl, gyda phob cysylltiad sector cyhoeddus, i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. Ond byddaf yn hapus iawn i gyfarfod â Mencap a chyd-Weinidogion ynglŷn â’r mater hwn.

Vikki Howells. Rydym i gyd yn disgwyl yn eiddgar. Dyna chi.

Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn y byddwch yn ymweld â Hwb Cana ym Mhen-y-waun cyn bo hir, lle sydd wedi’i adfer fel man cymunedol gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gan ddefnyddio arian sy’n cynnwys cyllid o raglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru. Ymwelais â Hwb Cana yn ddiweddar ac roeddwn yn falch iawn o glywed y bydd Banc Cymunedol Smart Money Cymru yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannol wyneb yn wyneb oddi yno. Mae gan undebau credyd rôl sylweddol i’w chwarae yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn a wnânt, a hefyd i annog arloesedd fel ap bancio Smart Money?

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Onid yw'n dda ein bod wedi cynnwys eich cwestiwn? Oherwydd rydych chi wedi agor maes gwaith cwbl newydd, y bydd eraill ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, yn awyddus i'w ystyried ac i edrych arno yn eu cymunedau. Felly, rwy’n wirioneddol falch fod Banc Cymunedol Smart Money Cymru bellach yn darparu gwasanaethau undeb credyd a gwasanaethau bancio ehangach o Hwb Cana sydd newydd agor ym Mhen-y- waun, Aberdâr; a dweud y gwir, rwy'n meddwl ein bod yn ymweld yr wythnos nesaf, Vikki. Mae’n ased gwirioneddol bwysig i gymuned Pen-y-waun. Mae’n un o ardaloedd mwyaf difreintiedig de Cymru, a darparwyd y cyllid hwnnw gennym ni. Y ffordd y gallem helpu oedd drwy'r rhaglen cyfleusterau cymunedol, a roddodd arian cyfalaf ar gyfer y ganolfan honno, oherwydd, yn aml, dyna sydd ei angen i ddod â'r holl sefydliadau hynny at ei gilydd.

Hefyd, os caf ddweud, o ran y cyllid a roddwn ar gyfer undebau credyd drwy gydol eleni, mae'n mynd i sefydlu hybiau bancio eraill, nid yn unig yng nghwm Cynon ond ym Mlaenau Gwent ac ym Mhowys, dros y tair blynedd nesaf. Felly, byddwn yn dysgu gan Smart Money Cymru a'r gwaith y maent yn ei wneud, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chael mynediad at fenthyciadau fforddiadwy, cynhyrchion cynilo a gwasanaethau bancio moesegol o'r hyb.

14:10
Tlodi Plant

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi plant yng Nghanol De Cymru? OQ59505

Diolch yn fawr, Heledd. Rydyn ni'n dal i roi blaenoriaeth i leihau tlodi plant, gan gynnwys yng Nghanol De Cymru. Yn ystod 2022-23 a 2023-24, rydyn ni wedi rhoi cymorth gwerth mwy na £3.3 biliwn drwy raglenni sy'n helpu i ddiogelu cartrefi dan anfantais, ac i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd. 

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dwi'n gwybod bod yna nifer o bethau yn cael eu gwneud, ond, fel rydyn ni wedi clywed eisoes heddiw, mae hi'n sefyllfa ddirdynnol. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld gyda'n llygaid ein hunain, gan etholwyr a sefydliadau rydyn ni'n gweithio efo nhw, mai gwaethygu mae'r sefyllfa ar lawr gwlad. Mae pobl yn dod atom ni sydd ddim jest yn methu fforddio bwyd, a methu fforddio trydan, ynni ac ati, ond methu fforddio rhoi dodrefn yn eu tai—pobl heb welyau i'w plant. Mae hon yn sefyllfa argyfyngus. 

Mae Barnardo's Cymru heddiw wedi cyhoeddi papur briffio sydd yn sôn am effaith gynyddol tlodi ac yn dweud, o ran arolwg YouGov a gomisiynwyd gan Barnardo's yn Chwefror 2023, fod 61 y cant o rieni yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi dirywio yn y pedwar mis cyn hynny. Felly, dwi'n gwybod bod nifer o'r pethau rydych chi wedi eu hamlinellau yn bethau y mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn gyfrifol amdanyn nhw, ond oherwydd y sefyllfa argyfyngus ar lawr gwlad, beth fedrwn ni ei wneud ar frys i sicrhau bod yna ddim un plentyn heb wely i gysgu ynddo fo, sef y sefyllfa yna o dlodi yr oeddem ni'n arfer darllen amdani hi mewn llyfrau hanes? Dyna'r realiti ar lawr gwlad rŵan, a dwi ddim yn siŵr os ydyn ni'n gallu delio â'r sefyllfa efo'r holl fesurau rydyn ni yn eu rhoi yn eu lle ar y funud.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwyf am ddweud ar y pwynt hwn fy mod wedi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth tlodi plant ddiwygiedig erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd—plant a phobl ifanc yn enwedig, a'u rhieni, eu neiniau a'u teidiau a'u gofalwyr—i weld beth y gallwn ei wneud, beth sydd fwyaf effeithiol, beth rydym yn ei wneud yn barod sy'n helpu go iawn a beth sy'n gweithio. Rwy'n mynd yn ôl at rai o'r cwestiynau cynharach am y gwaith a wnawn gyda Sefydliad Bevan, gan ddysgu o bolisi ar waith. Fel y dywedwch, ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yw'r pwerau dros y system dreth a lles sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond mae angen inni weithredu lle bynnag y gallwn.

Rwy'n mynd i ganolbwyntio am eiliad ar gymorth gwyliau, prydau ysgol am ddim a gofal plant, oherwydd mae gofal plant yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, blaenoriaeth a adlewyrchir nid yn unig yn ein rhaglen lywodraethu ond yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae buddsoddi'n helaeth yn y cynlluniau hyn, ehangu gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar, yn digwydd yn y tymor byr ac yn hirdymor. Mae'n helpu pobl, yn enwedig rhieni a menywod, i weithio, ac i fynd i'r afael â thlodi. Gallwn roi'r holl gefnogaeth leol—y gronfa ddewisol, y gronfa gynghori sengl—ond hefyd hoffwn sôn am y ffaith ein bod, mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, yn ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros y gwyliau i bob plentyn cymwys tan ddiwedd hanner tymor yr haf 2023, a phob gŵyl y banc yn ystod y cyfnod hwn. Mae hynny'n rhan o'r pecyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd yn uniongyrchol bob dydd gyda'r prydau hynny, gyda'r argyfwng costau byw, ac i sicrhau nad yw'r plant hynny'n mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Weinidog, drwy addysg, fe wyddom y gallwch rymuso pobl i gamu ymlaen mewn bywyd, a chodi eu hunain allan o ddyfnderoedd tlodi yn arbennig. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn herio'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ynghylch niferoedd anghenion dysgu ychwanegol yma yng Nghymru a bod 19,000 o fyfyrwyr wedi disgyn oddi ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol drwy asesiadau newydd a wnaed. Rwy'n credu bod marc cwestiwn ynglŷn â pha mor gywir yw hynny—fod y niferoedd hynny wedi gostwng—o ystyried yr hyn a wyddom drwy COVID a'r effaith a gafodd COVID ar addysg. Ond a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Gweinidog addysg i brofi, o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, fod disgyblion yn cael yr asesiadau ADY sydd eu hangen arnynt fel y gallant gael y datganiadau a chael budd o raglen addysgol gyfan fel y gallant fod yn y lle gorau posibl i gael swyddi o safon ar ddiwedd eu haddysg?

14:15

Diolch yn fawr iawn, Andrew R.T. Davies. Y ffordd rydym yn datblygu'r strategaeth tlodi plant, y strategaeth sydd ar y ffordd ar gyfer ymgynghori arni, yw drwy ymgysylltu. Rwy'n ymgysylltu â'r holl Weinidogion, oherwydd mae gan bob Gweinidog yn y Llywodraeth hon gyfrifoldeb, felly, yn amlwg, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gan fynd i'r afael â'r union faterion hyn ynglŷn â'r rhai sydd dan anfantais, y rhai nad ydynt yn cael mynediad at addysg, y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datganiadau y mae wedi'u gwneud a'r polisïau y mae wedi'u cyflwyno, ac rwyf wedi cydnabod a thrafod llawer o'r rheini yng nghyd-destun cyflwyno prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol hefyd.

Un o'r mentrau pwysicaf y mae wedi'u cymryd yw datblygu ysgolion bro, gyda chyllid sylweddol yn mynd allan. Ceir tystiolaeth eisoes fod yr ymgysylltu ag ysgolion bro, swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, i sicrhau bod pawb yn gwneud defnydd o'r ysgol ac addysg eisoes yn dechrau gwneud gwahaniaeth. Mae hynny'n allweddol i'r strategaeth tlodi plant.

Wythnos Waith Pedwar Diwrnod

6. Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith wythnos waith pedwar diwrnod ar economi Cymru? OQ59526

Mae gan wythnos waith fyrrach botensial i gael effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sylweddol. Rydym wedi sefydlu gweithgor partneriaeth gymdeithasol yn ein cyngor partneriaeth y gweithlu i ystyried yr wythnos waith pedwar diwrnod yn fanylach ac i wneud argymhellion ar ddichonoldeb, addasrwydd a derbynioldeb cynllun peilot yng Nghymru. 

Diolch, Weinidog. Er y gallai wythnos waith pedwar diwrnod swnio'n ddelfrydol ar gyfer llawer o swyddi mewn swyddfeydd efallai, y gwir amdani yw na fydd y polisi hwn yn ymarferol i'r mwyafrif helaeth o fusnesau a phobl weithgar yng Nghymru. Yn hytrach na gwella amodau gwaith, mae llawer ohonom yn credu y byddai'r polisi hwn yn creu cymdeithas anghyfartal iawn, gan esgeuluso llawer mewn diwydiannau hanfodol a mentrau bach a chanolig. Nawr, rydym i gyd yn gwybod bod cynhyrchiant yng Nghymru yn faes nad yw'n cyflawni cystal ag y byddem yn ei ddymuno; 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig sydd gan Gymru, ond gwyddom mai dim ond 3.4% o'i chyfoeth sydd ganddi. Felly, Weinidog, pe bai hyn yn cael ei weithredu, sut y credwch y byddai torri'r wythnos waith yn gwella cynhyrchiant ledled Cymru, o ystyried bod gennym rai o'r ystadegau gwerth ychwanegol gros isaf yn y Deyrnas Unedig?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwy'n credu mai un o'r pethau i'w dweud yw, pe byddem wedi mabwysiadu'r ymagwedd honno yn y gorffennol, na fyddai gennym y gweithleoedd hyblyg, ni fyddai gennym y penwythnos ac ni fyddai gennym lawer o'r hawliau a'r cyfrifoldebau yn y gwaith rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol.

Ond nid un model o wythnos waith fyrrach sydd yna, nac un model o gynllun peilot, ac rydym wedi gweld cynlluniau peilot yn digwydd, boed ar sail wirfoddol mewn busnesau unigol ledled y byd, neu gynlluniau peilot sydd yn yr arfaeth. Yr holl bwynt o gael yr ymarfer hwnnw mewn partneriaeth drwy ein cyngor partneriaeth y gweithlu yw er mwyn casglu mwy o dystiolaeth ac edrych ar beth fyddai hynny'n ei olygu yng Nghymru a'i wneud mewn ffordd sy'n dod â chynrychiolwyr y gweithlu a chyflogwyr at ei gilydd hefyd, fel y gallwn ddysgu ac adeiladu'r dystiolaeth honno. A dweud y gwir, mae'n ymwneud â mwy na wythnos waith pedwar diwrnod yn unig, mae'n ymwneud â'r holl bethau y gallwn eu gwneud sydd o fewn ein pwerau i'w gwneud, yr ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth. Oherwydd rydych chi'n siarad am gynhyrchiant, ond mae hynny'n seiliedig ar bobl hefyd. Pobl sy'n ei ddarparu, ac mae darparu llesiant ar eu cyfer yn arwain at enillion i gynhyrchiant, nid yn unig i fusnesau, ond i'r wlad gyfan.

Canolfan Breswyl i Fenywod

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am greu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru ar gyfer menywod sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol? OQ59516

Diolch yn fawr. Ar hyn o bryd mae cais y Weinyddiaeth Gyfiawnder i greu canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe yn mynd drwy broses apêl Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n drueni gwirioneddol, er gwaethaf y cyhoeddiad yn gynnar ym mis Mai 2020, dros dair blynedd yn ôl, nad yw caniatâd cynllunio wedi'i roi o hyd ar gyfer safle'r cynllun peilot pum mlynedd hwn. Yn y cyfamser, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod o Gymru sy'n cael eu hanfon i garchardai ymhell o'u cartrefi, ac rydym wedi gweld cynnydd yn y polisïau a deddfwriaeth cyfiawnder anflaengar sy'n dod o San Steffan. Weinidog, a ydych chi'n gwybod, a yw'n dal i fod yn fwriad i agor canolfan breswyl yn 2024? A pha gymorth sy'n cael ei gynnig i fenywod tu hwnt i ardal Abertawe, ac yn wir yn ardal Abertawe, yn y cyfamser? Diolch yn fawr. 

14:20

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd bob amser wedi cydnabod gwerth y ganolfan breswyl hon i fenywod fel dewis arall yn lle dedfryd o garchar, ac i ddarparu cefnogaeth fawr ei hangen i fenywod bregus yn y system cyfiawnder troseddol. Cynllun peilot ydyw; cynllun peilot ar gyfer y DU. Bydd yn mynd rhagddo, ac a gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i brofiad menywod o'r system gyfiawnder? Edrychaf ymlaen at ddadl ar hyn, oherwydd bydd yn ein harwain ac yn ein llywio hefyd, yn ogystal ag adeiladu ar ein glasbrint troseddu benywaidd, a ysgogodd hyn yn y lle cyntaf.

Tlodi Plant ym Mlaenau Gwent

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent? OQ59518

Diolch yn fawr, Alun Davies. Gwyddom pa mor gymwys sy'n rhaid i'n gweithredoedd fod ar dlodi plant, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ein gweithgaredd a'n cyllidebau ar gefnogi pobl, yn cynnwys ym Mlaenau Gwent. Fe wnaethom gynnwys 3,000 o bobl dros y gwanwyn, gyda llawer ohonynt â phrofiad bywyd o dlodi, yn y gwaith o ddatblygu strategaeth tlodi plant ar y cyd ar gyfer ymgynghori arni yr haf hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Fe welodd y Gweinidog ddisgyblion o ysgol Coed-y-Garn ym Mlaenau Gwent yn yr oriel ychydig cyn i ni ddechrau'r sesiwn gwestiynau, ac rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd a'r Dirprwy Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid hefyd am roi amser i'w cydnabod.

Rydym i gyd eisiau'r gorau i blant yn ein hetholaethau lle bynnag y maent, a pha ran bynnag o'r Siambr yr eisteddwn ynddi, ond rydym hefyd yn ymwybodol fod plant yn tyfu i fyny yng nghanol argyfwng costau byw sydd wedi'i greu i raddau helaeth yn Stryd Downing ac sydd wedi'i waethygu gan Brexit, ac rydym yn cydnabod bod y pwysau ar deuluoedd yn fwy heddiw nag y bu dros y rhan fwyaf o'n hoes. Rwyf hefyd yn cydnabod, ac mae disgyblion mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent a mannau eraill yn cydnabod, pwysigrwydd prydau ysgol am ddim ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi gyrru hynny yn ei flaen ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol hefyd. Ond mae'r cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg yn golygu ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu plant hŷn a phobl ifanc o ran mynediad at addysg.

Weinidog, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, ond yn enwedig mewn lleoedd fel Blaenau Gwent. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau y bydd y prosiectau a'r polisïau a'r rhaglenni y maent yn eu rhoi ar waith yn cael eu blaenoriaethu i ddiwallu'r angen mwyaf ym Mlaenau Gwent, a chymunedau eraill fel Blaenau Gwent, ac y byddwch yn parhau i ddadlau dros bolisi cymdeithasol cryf a pholisi economaidd i sicrhau bod y plant y gwnaethoch gyfarfod â nhw heddiw, ac a gynrychiolir gan bob un ohonom, yn gallu tyfu i fyny'n ddiogel drwy eu plentyndod gan wybod bod hon yn Llywodraeth sydd o'u plaid?

Diolch yn fawr, Alun Davies. Roedd yn dda iawn gweld eich disgyblion heddiw yn yr oriel gyhoeddus o Flaenau Gwent, ac rwy'n credu eu bod wedi gofyn cwestiynau anodd i chi hefyd, sy'n dangos bod ganddynt uchelgeisiau ar gyfer eu bywydau, oherwydd mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, yn profi'r gostyngiad mwyaf yn eu safonau byw ers dechrau cadw cofnodion. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu gyda'n pwerau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Felly, hoffwn sôn nid yn unig am brydau ysgol gynradd am ddim i bawb a llongyfarch cyngor Blaenau Gwent ar gyflwyno'r rheini, ond cydnabod Dechrau'n Deg hefyd, y blynyddoedd cynharaf, mae'r cynnydd yn y cyllid rydym yn ei roi tuag at hynny yn hanfodol bwysig. A'r cynnig gofal plant sy'n helpu pobl i weithio, a hefyd i sicrhau ein bod yn estyn allan ac yn gwneud y gorau o incwm pobl. Ond rhaid i ni ganolbwyntio ar blant Blaenau Gwent a'n holl etholaethau, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r anfantais fwyaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Fe ddywedodd y Llywydd blaenorol mai dyna oedd y cwestiwn olaf. [Chwerthin.]

Wel, fe fyddwch yn falch o wybod mai chi sydd â'r cwestiwn olaf. [Chwerthin.]

Cytundeb Cydweithio

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei sgyrsiau gyda Phlaid Cymru am y Cytundeb Cydweithio? OQ59520

Diolch yn fawr iawn, Joel James. Ac rwy'n falch fy mod yn gallu ateb eich cwestiwn, rhaid dweud.

Fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, rwyf wedi ymgymryd â rôl weinidogol dros y cytundeb cydweithio i gefnogi cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau wrth inni ddechrau ar ail hanner y cytundeb tair blynedd gyda Phlaid Cymru, a byddaf yn gweithio'n agos gydag Aelodau dynodedig a Gweinidogion i oruchwylio cynnydd.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n credu fy mod yn siarad dros bawb yma pan ddywedaf cymaint o sioc a gawsom wrth ddarllen am ddiwylliant o fwlio a gwreig-gasineb o fewn Plaid Cymru. Ac mae'n siomedig clywed y sylwadau yn gynharach gan fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr am Donald Trump a gwleidyddiaeth 'chwiban y ci', oherwydd roedd yn wirioneddol ofidus darllen sut mae fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon, eu staff, ac aelodau eraill o Blaid Cymru wedi cael eu trin a'r hyn y bu'n rhaid iddynt ei ddioddef. Mae'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, fod y canfyddiadau hyn wedi arwain at ganfyddiad gwael iawn ar ran y cyhoedd o ymwneud Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru mewn perthynas â'r cytundeb cydweithio, a chafodd hyn ei adleisio hefyd gan gyn-Weinidog Cabinet Llywodraeth Cymru, sydd wedi galw am i'r cytundeb ddod i ben yn llwyr.

Weinidog, rwy'n ymwybodol o'r datganiad sydd newydd gael ei ryddhau cyn dechrau'r cyfarfod gan Llyr Gruffydd, ond rwy'n awyddus i wybod, ac rwy'n siŵr fod gan lawer o Aelodau yma ddiddordeb mewn gwybod, a ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddileu'r cytundeb cydweithio yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, ac os na, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad o gwbl i ailagor trafodaethau gyda'r arweinydd Plaid Cymru newydd a etholir? Diolch.

14:25

Mae nifer o bwyntiau yno yr hoffwn ymateb iddynt, ond credaf y dylwn ddechrau drwy ddweud bod digwyddiadau'r wythnos diwethaf unwaith eto wedi rhoi ffocws cryf ar faterion yn ymwneud â bwlio, gwreig-gasineb, aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth, a hynny'n gyffredinol yn ein gweithleoedd. Nid oes neb yn rhydd rhag cydnabod bod hyn yn rhywbeth—ac ar draws y Siambr hon gobeithio—y mae angen inni edrych arno. Credwn fod gan bawb hawl i weithio neu wirfoddoli mewn amgylchedd diogel lle mae eu hawliau'n cael eu diogelu a'u bod yn cael eu trin gyda pharch ac urddas. Felly, o ran y Blaid Lafur, mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi ysgrifennu at aelodau'r holl blaid yng Nghymru i sicrhau eu bod yn gwybod sut i wneud cwyn a'u bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael. Mae wedi nodi cyfres o gamau gweithredu i ni yng ngrŵp Llafur y Senedd eu cymryd i gryfhau hyfforddiant i Aelodau Llafur y Senedd a'u staff. Mae'n bwysig fod pob un ohonom yn gwneud yr hyn a allwn i wneud gwleidyddiaeth yn lle mwy diogel i bawb. Mae hynny'n rhywbeth y dylai pawb ohonom ymrwymo iddo yn y Siambr hon, ond mae hefyd yn rhan o'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, lle mae gennym ffrwd waith ar fynd i'r afael â thrais yn y gweithle. 

Nid wyf yn gwybod a glywsoch chi'r araith bwerus iawn a wnaeth arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Adam Price, ddoe a'r ymateb gan ein Prif Weinidog, lle roedd yn cydnabod canlyniad pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd, gan gydweithio ar ymrwymiadau polisi, ar flaenoriaethau a rennir, polisïau y mae gennym ddiddordeb cyffredin ynddynt, i weithredu atebion blaengar. Dyna beth a wnawn yn y cytundeb cydweithio. Mae'n agenda uchelgeisiol. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â materion y bydd eu datrys yn cael yr effaith wleidyddol a'r effaith polisi fwyaf, a lle bo cytundeb yn bosibl, fel y dywedodd Adam Price ddoe, mae pobl yn iawn i ddisgwyl i bleidiau gwleidyddol weithio gyda'i gilydd, a dyna a wnawn.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Yn gyntaf, Rhys ab Owen.

Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

1. Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dilyn penderfyniad y Senedd ar 25 Ebrill 2023 yn atal ei chydsyniad ar gyfer y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)? OQ59530

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi gwrthwynebu'r Bill cyfeiliornus hwn yn gryf, yn groch, ac ar bob cyfle ers ei gyhoeddi. Rydym yn parhau i wneud ein safbwynt yn glir i Lywodraeth y DU. Rydym yn disgwyl iddynt ystyried y diffyg cydsyniad a fynegwyd gan y Senedd hon a thrwy'r gwelliannau a basiwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fel y soniais eisoes, mae Undeb y Brigadau Tân yn credu bod gan y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban rôl bwerus i wrthsefyll gweithredu'r Bil hwn. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi addo peidio â chyhoeddi na gorfodi unrhyw hysbysiad gwaith os daw'r ddeddfwriaeth hon yn gyfraith. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r un addewid? Diolch yn fawr.

Diolch am hynny. Datganiad Llywodraeth yr Alban oedd,

'Na foed unrhyw amheuaeth, ni fydd Llywodraeth yr Alban byth yn cyhoeddi nac yn gorfodi unrhyw hysbysiad gwaith. Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth warthus a ffiaidd hon.'

Gallaf ailadrodd hynny ar ran Llywodraeth Cymru, ond carwn nodi wrth gwrs nad Llywodraeth Cymru yw'r cyflogwr, fel sy'n wir yn achos Llywodraeth yr Alban hefyd. Ond rwy'n credu bod y safbwynt allweddol yn glir. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth o gwbl ynglŷn â'n gwrthwynebiad i'r Bil, cryfder ein barn, a'n hawydd i amddiffyn Cymru rhag effeithiau niweidiol y Bil. Nid Llywodraeth Cymru yw'r cyflogwr, fel y dywedais, ond os daw'r Bil yn gyfraith ac os gwneir rheoliadau gwasanaeth gofynnol, ni fyddwn yn cefnogi'r defnydd o'r hysbysiadau gwaith hyn mewn unrhyw ffordd. Rydym hefyd yn ei gwneud yn glir iawn ein bod yn cefnogi'r gwelliannau a basiwyd gan aelodau Tŷ'r Arglwyddi, sydd wedi eithrio Cymru a'r Alban o'r ddeddfwriaeth, a byddwn yn gofyn am ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU i barchu'r penderfyniad hwnnw. 

14:30

Carwn adleisio sylwadau Rhys ac Undeb y Brigadau Tân ynglŷn â'r rôl bwysig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae yn gwrthwynebu'r Bil, ac rwy'n falch o glywed sylwadau cadarnhaol gan y Cwnsler Cyffredinol yno. Rhaid inni wneud popeth a allwn i wrthsefyll Llywodraeth sy'n amlwg yn ceisio torri undebau a thorri gweithwyr sy'n streicio am weithle gwell a bywyd gwell i'w teuluoedd. Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau sy'n digwydd nawr yn Llywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu gweithwyr, nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol hefyd? Rydym yn gwybod bod Cyngres yr Undebau Llafur yn archwilio goblygiadau datganoli cyfraith cyflogaeth—a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd?  

Diolch. Ar hyn o bryd, mae cysylltiadau diwydiannol a chyfraith cyflogaeth fel y cyfryw yn fater a gadwyd yn ôl. Byddwn yn gweithio gyda phawb sydd am gefnogi a gwella amodau gwaith i wella deddfwriaeth sy'n effeithio ar bobl sy'n gweithio. Mae yna feysydd sy'n ategol i hynny. Wrth gwrs, rydym yn gweithio ar y cyd â'n partneriaid cymdeithasol ac wrth gwrs, rydym wedi pasio'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sydd bellach yn Ddeddf, neu sydd ar fin dod yn Ddeddf yn swyddogol, rwy'n credu, pan gaiff ei selio ymhen wythnos. Rydym hefyd wedi dangos ein bod wedi gwneud hynny mewn perthynas ag amrywiol ddarnau eraill o ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd, y meysydd allweddol rwy'n canolbwyntio arnynt—. A byddaf yn cael trafodaethau yn ddiweddarach y prynhawn yma, i geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU mewn gwirionedd y bydd yn parchu penderfyniadau Tŷ'r Arglwyddi. Byddai hynny'n golygu na fydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i Gymru. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd maes o law, pan fyddwn yn gwybod beth fydd ymateb Llywodraeth y DU. Mae'r maes arall, wrth gwrs, lle bu rhai newidiadau sylweddol, rwy'n credu, mewn ymateb i'r gwahanol sylwadau a gyflwynwyd, yn ymwneud â chyfraith yr UE a ddargedwir, a oedd o bosibl yn darparu mecanwaith ar gyfer dileu hawliau cyflogaeth ac ati, ac mae hwnnw'n fater arall y byddaf yn adrodd yn ôl arno maes o law. 

Fforwm Rhyng-Seneddol y DU

2. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei rhoi i ddatblygu rôl Fforwm Rhyng-Seneddol y DU o ran craffu ar faterion deddfwriaethol a chyfansoddiadol a'u goruchwylio? OQ59525

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu rôl ddatblygol y fforwm a'r cyfle ar gyfer craffu gwell y mae'n ei gyflwyno mewn perthynas â Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig.

Rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod ansawdd Llywodraeth ond cystal ag ansawdd y gwaith craffu ar y Llywodraeth honno, neu, yn yr achos hwn, ar y Llywodraethau ledled y DU. Ac yn wir, mae fforwm rhyng-seneddol y DU yn dechrau datblygu rhywfaint o gyhyrau yn ei rôl nawr yn y ffordd y mae'n craffu —y peiriannau rhynglywodraethol cynyddol, y cytundebau rhwng Llywodraethau, y ddealltwriaeth rhwng Llywodraethau. Ddirprwy Lywydd, mae'n wych gweld y tir rydym wedi'i ennill yn ystod y Senedd hon, gyda rhagor o dryloywder a gwelededd yma, lle bydd Gweinidogion sy'n mynychu pwyllgorau rhyng-seneddol yn dweud wrthym ymlaen llaw eu bod yn mynychu, beth yw'r agenda, ac yn adrodd yn ôl. Gallwn wneud mwy yma bob amser, ond a fyddai'n cytuno â mi fod gan y fforwm rhyng-seneddol ar lefel y DU fwy o rôl i'w chwarae yn ôl pob tebyg, nawr yn fwy nag erioed, yn cynyddu gwelededd y trafodaethau hynny ledled y DU yn y fframwaith ôl-UE sydd gennym? Yn y cyfarfod diwethaf, buom yn trafod Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), confensiwn Sewel, deddfwriaeth ddirprwyedig a mwy. Cyfarfu Felicity Buchan AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, â ni i drafod y trefniadau rhynglywodraethol hynny ac rydym yn gobeithio gwneud mwy. Felly, a yw'n rhannu fy ngobaith y gallwn fynd ymhellach ar y fforwm rhyng-seneddol a chodi gwelededd a thryloywder ac ansawdd craffu ar ein holl Lywodraethau yn y gwaith rhynglywodraethol hwn? 

Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny, oherwydd mae'r pwyntiau a wnewch yn bwysig iawn. Rwyf wedi mynychu'r rheini, fel rydych chi'n ei wneud nawr. Credaf fod cydweithrediad seneddwyr yn ffordd hynod ddefnyddiol o sicrhau craffu effeithiol a chyson ar Lywodraeth y DU. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r fforwm hefyd yn ei wneud, fel fforwm seneddol y DU, yw dwyn ynghyd yr holl sefydliadau a chyrff sy'n ymwneud â chraffu ar wahanol Seneddau'r DU mewn ffordd eithaf unigryw. Yn sicr, fy marn ers peth amser yw y dylai ddod yn gorff seneddol ffurfiol a gefnogir gan bedair Senedd y Deyrnas Unedig.

Yr hyn sydd hefyd yn ddiddorol amdano wrth gwrs, yn y meysydd cyfansoddiadol hynny, yw bod yna lawer iawn o gefnogaeth drawsbleidiol i lawer o'r materion. Felly, weithiau, nid yw'r polareiddio sy'n bodoli yn rhai o'r dadleuon neu'r trafodaethau ar faterion cyfansoddiadol lawn mor arwyddocaol, oherwydd eu bod yn cael eu hystyried ar sail y DU gyfan, gan gynnwys y pedwar parti. Mynychais ail gyfarfod y fforwm ym mis Hydref 2022, a byddwn yn sicr yn barod iawn ac yn awyddus i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol yng Nghymru. Byddaf yn hapus i ymwneud â hynny. Rwy'n hapus i gymryd rhan yn ei sesiynau tystiolaeth. Ac i ail-bwysleisio'r pwynt felly, sef sylwedd eich cwestiwn rwy'n credu, mae angen iddo gael ei godi i lefel seneddol ffurfiol nawr.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion diweddaraf ar gyfer Bil diwygio'r Senedd?

Diolch am eich cwestiwn. Mae Bil diwygio'r Senedd yn waith sydd ar y gweill. Wrth gwrs, mae'n fater sydd wedi'i gysylltu'n gryf iawn â'r cytundeb cydweithio, ac mae paratoadau ar y gweill mewn perthynas â nifer o'r agweddau ar Fil diwygio'r Senedd. Byddwn yn gobeithio, erbyn yr hydref, y bydd modd cyflwyno deddfwriaeth sy'n nodi telerau diwygio'r Senedd. Mae diwygio'r Senedd, wrth gwrs, wedi'i seilio'n fawr ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Nid yw'n Fil sy'n cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, fel y cyfryw, ond Bil y Senedd ydyw mewn gwirionedd, sy'n seiliedig ar argymhellion y pwyllgor diben arbennig, a'r rôl a welaf i, fel y Gweinidog a fydd yn bwrw ymlaen â hyn, yw trosi'r argymhellion a'r cytundebau hynny'n ddeddfwriaeth.

Fel y gwyddoch yn iawn, Weinidog, mae Bil diwygio'r Senedd yn gynnyrch cytundeb cyfrinachol amheus rhwng y Prif Weinidog a chyn arweinydd Plaid Cymru erbyn hyn, ac nid yw'n Fil y byddwn yn ei gefnogi. Nid ydym yn credu bod gan y cyhoedd awydd am fwy o wleidyddion yma yng Nghymru, yn enwedig pan fo'n mynd i gostio oddeutu £100 miliwn—[Torri ar draws.]

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Yn enwedig pan fydd yn costio dros £100 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd. Nawr, un o'r pethau roeddech yn cyfeirio ato ddoe yn eich datganiad ar ddiwygio etholiadol oedd yr awgrym y byddech yn bwrw ymlaen â gwaith ar ddiwygio etholiadol yn y Bil newydd ar ddiwygio'r Senedd, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae hynny wedi codi'r pryder y gallem weld estyn yr etholfraint pleidleisio i garcharorion yn dychwelyd. A wnewch chi ddweud wrthym: a ydych yn bwriadu cyflwyno estyniad i'r etholfraint i ganiatáu i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru?

Gallaf ddweud wrthych nad yw'r mater olaf a godwyd gennych ar fy agenda o ran cynnwys y ddeddfwriaeth.

Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny, Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn falch o'i glywed hefyd. Oherwydd nid oeddem am ddychwelyd at yr ymgais a wnaeth eich Llywodraeth yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn ôl yn 2021, pan oeddech yn bwriadu cyflwyno estyniad i'r etholfraint, fel bod treiswyr, troseddwyr rhywiol, pobl a oedd—[Torri ar draws.]—pobl a gafwyd yn euog o droseddau pornograffi plant, ac eraill—[Torri ar draws.] Nid yw'n nonsens. Roedd hyn—[Torri ar draws.] Roedd hyn—[Torri ar draws.] Mae'r rhain yn ddatganiadau ffeithiol. 

A gaf fi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod yr Aelod yn cael gofyn y cwestiwn, a bod yr Aelod yn canolbwyntio ar y cwestiwn?

Rwy'n canolbwyntio ar y cwestiwn. A phwynt y mater yw bod eich Llywodraeth wedi cyflwyno cynlluniau o'r blaen ar gyfer estyn yr etholfraint i garcharorion sydd â dedfryd o bedair blynedd neu lai, sy'n cynnwys, yn unol â'r canllawiau dedfrydu, y mathau o droseddau rwyf newydd eu rhestru. Nawr, o ystyried bod y cynlluniau a'r cynigion hynny wedi'u gollwng, a'ch bod wedi ymrwymo i beidio â'u dwyn yn ôl, oherwydd eu bod yn amhoblogaidd iawn, a ydych yn cytuno â mi bod angen ichi ystyried safbwyntiau'r cyhoedd ar y Bil newydd i ddiwygio'r Senedd, a bod angen amod na fydd yn cael ei weithredu oni cheir refferendwm? [Chwerthin.]

14:40

Rwy'n gwybod nad ydych yn hoffi barn gyhoeddus boblogaidd.

A gaf fi ddweud fy mod yn synnu'n fawr at yr agwedd? Oherwydd un o fy mhryderon yw bod yna lawer o bethau y byddem yn hoffi eu gwneud yn y ddeddfwriaeth rydym yn ei chyflwyno, a'r diwygiadau a wnawn, a bod yna lawer o bethau y gallem eu gwneud yn y dyfodol. Mae cywirdeb deddfwriaeth ar flaen fy meddwl, a'r angen iddi fod yn glir, yn enwedig pan fyddwch yn gwneud newidiadau. Felly, mae'r materion sy'n ymwneud â'r potensial i garcharorion bleidleisio, sy'n digwydd mewn llawer o wledydd o gwmpas y byd mewn gwirionedd—nid yw'n ymwneud â'r egwyddor benodol honno. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw hyn: gyda'n system garchardai, sy'n tyfu a thyfu o dan y Llywodraeth hon, lle mae gennym lawer o bobl yn y carchar na ddylent fod yn y carchar yn ôl pob tebyg, un o'r pethau y dylem roi sylw go iawn iddo—a dyma pam mae pethau fel cyfiawnder ieuenctid a datganoli prawf ac ati mor bwysig—yw sut y gellir adsefydlu pobl sydd wedi cyrraedd y carchar, sydd wedi cyflawni troseddau, i ddod yn ddinasyddion eto, a chael eu hintegreiddio yn y gymdeithas.

Nawr, rwy'n credu mai'r dull rydych chi'n ei fabwysiadu, yn y bôn, yw, pan fyddwch yn y carchar, dyna ni, clowch y drws, taflwch yr allwedd. Ymddengys mai dyna yw dull y Blaid Geidwadol o weithredu cyfiawnder. Rydym ni o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder. Rydym o ddifrif hefyd ynghylch materion yn ymwneud ag adsefydlu carcharorion, a sut rydych yn cynnwys pobl unwaith eto, oherwydd, pan fydd pobl yn gadael y carchar, mae gennym bryderon mawr iawn ynghylch lefelau aildroseddu—y ffaith bod pobl yn dychwelyd i'r carchar. Mae’n gostus tu hwnt, ond mae hefyd yn gostus yn gymdeithasol, yn economaidd, mae'n cael effaith ar deuluoedd ac yn y blaen. Felly, rydym eisiau gwell gwasanaeth carchardai a phrawf ac rydym eisiau gwell system gyfiawnder. O dan y Ceidwadwyr, y realiti yw bod pob un o'r rheini wedi dirywio, i gyflwr echrydus. Pe bai'r Llywodraeth hon yn cael ei hethol byth, byddem yn dychwelyd i fathau Fictoraidd o gosbi a charcharu. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae arestio ugeiniau o brotestwyr heddychlon yn ystod y coroni yn nodi'r bennod iasol ddiweddaraf yng nghyfyngiadau'r Llywodraeth Geidwadol hon ar anghydweld dinesig. Fel sydd wedi bod yn wir ers peth amser, cefnogwyr mwyaf tanbaid diwylliant canslo yw'r ffurf bresennol ar y blaid Dorïaidd, sydd wedi cyflwyno cyfres o fesurau llym yn wyneb yr awgrym lleiaf nad yw eu hagenda ideolegol yn boblogaidd yn gyffredinol. Targedu protestwyr gweriniaethol yn y coroni oedd y defnydd mawr cyntaf o bwerau a roddwyd gan y Bil Trefn Gyhoeddus, sydd wedi rhoi gallu i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr stopio a chwilio heb amheuaeth, a gweithredu ar ddarpariaeth anghymesur o awdurdodaidd y gorchmynion atal tarfu difrifol. 

Bydd ehangu pwerau stopio a chwilio hefyd yn arwain at oblygiadau hiliol problemus, yn enwedig ar adeg pan fo hyder y cyhoedd yn agweddau'r heddlu tuag at hil wedi'i ysgwyd yn ddirfawr. Mae ystadegau'n dangos bod pobl ddu eisoes chwech i saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun stopio a chwilio, o'i gymharu â phobl wyn. Yn anffodus, gan nad yw cyfiawnder a phlismona wedi'u datganoli yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r ddeddfwriaeth hon wedi'i gosod arnom p'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Ar ben hynny, yn yr ymgais ddiweddaraf i berffeithio ei ddynwarediad o'r Torïaid, dro ar ôl tro mae Keir Starmer wedi gwrthod diddymu'r ddeddfwriaeth os mai Llafur fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf San Steffan. 

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog felly am safbwynt Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023, ac a yw'n cytuno mai'r unig ffordd o atal deddfwriaeth mor niweidiol a difeddwl rhag cael ei gorfodi ar Gymru yn y dyfodol yw pwyso am ddatganoli plismona a chyfiawnder yn llawn?

Wel, diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylid datganoli plismona, a chredaf fod hynny'n rhywbeth a fydd yn digwydd. Rydym wedi symud cryn dipyn tuag ato mewn gwirionedd, i'r graddau fod y modelau partneriaeth ac ati wedi'u creu, lle mae llawer o hynny eisoes yn digwydd. Ac ychydig iawn o wrthwynebiad a welaf i'r rhesymeg dros wneud hynny. Ac os siaradwch ag aelodau o'r cyhoedd, rwy'n credu eu bod yn gefnogol i hynny hefyd, a phan siaradwch am blismona, rydych yn sôn am gymunedau a diogelwch cymunedol.

A gaf fi wneud sylw, felly, ar y pwynt a godwyd gennych am Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023? Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn wrthwynebus iawn i'r ddeddfwriaeth honno. Ni chawsom unrhyw ymwneud â hi. Ni wnaed unrhyw  ymgynghori â ni yn ei chylch. Mae'n fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, ond yn amlwg, mae'n effeithio ar y buddiannau ehangach sydd gennym o ran rhyddid sifil yn ein cymdeithas, a rhyddid o fewn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. Y rheswm pam ei bod yn fy mhoeni, ac rwy'n credu mai dyma'r rheswm pam mae'r Heddlu Metropolitanaidd bellach wedi cyhoeddi ymddiheuriad mewn perthynas â nifer o'r arestiadau, yw pan edrychais ar yr hyn a oedd yn digwydd yn Moskva (Moscow), ac fe weloch chi unigolyn yn sefyll a phrotestio a chodi placard gwag, a gwneud dim byd arall, a chael ei arestio am y peth, ac yna pan welwch yr un peth yn digwydd yn Llundain, mae'n fater o ofyn beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau. Sut y gallwn ddangos dicter tuag at un, a pheidio â dangos dicter pan fydd yn digwydd yn ein gwlad ni? Ac rwy'n credu bod hynny'n dweud y cyfan.

14:45

Diolch am yr ateb yna.

Ie, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw.

Hoffwn droi nawr at enghraifft arall o'r Llywodraeth Dorïaidd yn deddfu'n amhriodol, sef Deddf Etholiadau 2022, sydd wedi gweithredu'r gofynion newydd mewn perthynas ag adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau'r DU. Fel y cadarnhawyd gan ddadansoddiadau helaeth o'r mater gan y Comisiwn Etholiadol, mae achosion o dwyll pleidleiswyr ledled y DU yn hynod o brin. Yn wir, yn 2022, dim ond saith achos o dwyll etholiadol honedig yn y gorsafoedd pleidleisio a archwiliwyd gan yr heddlu, ac nid arweiniodd yr un ohonynt at roi unrhyw gamau pellach ar waith. Felly, mae'r gofynion newydd yn ddatrysiad i broblem nad yw'n bodoli, ac amcangyfrifir eu bod yn costio tua £200 miliwn i'w gweithredu ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus yn cael ei ymestyn i'r eithaf. Ond mae'r goblygiadau i hawliau pleidleisio a sut y gallai'r gofynion newydd hyn osod rhwystrau i gyfranogiad etholiadol yn fwy gofidus byth. Mae'r broblem yn arbennig o berthnasol i Gymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar ar gyfer Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain nad yw dros chwarter y trigolion ym Mlaenau Gwent, Dwyfor Meirionnydd a Preseli Sir Benfro yn ddeiliaid pasbort y DU. Yn y cyfamser—

Peredur, rhoddais lawer o hyblygrwydd i chi yn y cwestiwn cyntaf. Mae angen i chi ofyn eich ail gwestiwn nawr.

Mae'n ddrwg gennyf, o'r gorau. A yw'r Gweinidog felly'n cytuno y dylai fod yn rheidrwydd democrataidd i unrhyw Lywodraeth sicrhau bod y gallu i bleidleisio mor hygyrch â phosibl? Ac a wnaiff gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio efelychu mesurau adnabod pleidleiswyr yn etholiadau Cymru?

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu eich bod yn gwybod yr ateb oherwydd rwyf wedi dweud cymaint o weithiau yn y Siambr hon nad oes gennym unrhyw fwriad o gwbl yn etholiadau Cymru, sef yr etholiadau cynghorau a'r Senedd yn y bôn, o gyflwyno dull adnabod pleidleiswyr. Rwy'n meddwl bod y profiad o'r hyn sydd wedi digwydd—. Fel y dywedwch, mae'n brosiect a gostiodd oddeutu £200 miliwn, a gwrthodwyd pleidlais i ddegau o filoedd o bobl ledled y DU, a'r gwir amdani yw bod cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno'n ymwneud ag atal pleidleiswyr. Fel y gwyddom, mae uwch Aelod o'r Cabinet Torïaidd wedi cyfaddef hynny'n glir iawn. Nid oedd yn pryderu eu bod wedi cyflwyno'r dull adnabod yn y ffordd honno, ond yn hytrach, nad oeddent wedi meddwl drwy'r peth yn iawn oherwydd roedd hi'n ymddangos bod llawer o bleidleiswyr Ceidwadol wedi'u gwrthod. Felly, roedd yn ymwneud â'r ffaith bod atal pleidleiswyr wedi cael effaith wahanol i'r hyn roedd wedi'i ddisgwyl, ac fe allai hynny egluro pam y collodd y Ceidwadwyr dros 1,000 o seddi cyngor.

A gaf fi ddweud ei fod hefyd yn dangos yr anghysondeb o ran, pan edrychwn yma—? O ran yr ethos sy'n sail i'n strategaeth etholiadol a'n hagenda ddiwygio, mae'n ymwneud â moderneiddio. Mae'n ymwneud â chynhwysiant. Rwy'n gwneud y datganiad hwn yn glir iawn. Nid wyf yn poeni sut mae pobl yn pleidleisio, o ran ein diwygiadau, ond yr hyn rwyf am i'n diwygiadau ei wneud yw ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio a chael cynifer â phosibl o bobl i bleidleisio ac i gymryd rhan yn ein democratiaeth.

Diwygio'r Senedd

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r costau i Lywodraeth Cymru o ddarparu diwygio'r Senedd? OQ59509

Mae paratoi a chyflawni deddfwriaeth diwygio'r Senedd yn galw am wariant sy'n cael ei ddyrannu yng nghyllideb 2023-24. Cyhoeddir amcangyfrifon manwl o oblygiadau ariannol diwygio'r Senedd ochr yn ochr â'r Bil wrth ei gyflwyno, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, i'w craffu gan Aelodau yn ystod hynt y Bil.

Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. Mewn datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog, dywedodd fod bwriad i'r ddeddfwriaeth ganiatáu i Lywodraeth Cymru gael hyd at 19 o Weinidogion. Mae cost y Gweinidogion hyn fel a ganlyn: pe baent yn Weinidogion llawn, gydag uwch-gynghorwyr arbennig, byddai'n costio £869,000. Pe baent yn Ddirprwy Weinidogion, gyda chynghorwyr arbennig arferol, byddai'n £645,000. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi y byddai'n well gan y cyhoedd sy'n gwylio'r trafodion hyn fod arian yn cael ei wario ar bobl mewn angen sy'n ei chael yn anodd, yn hytrach nag ar roi Gweinidogion y tu ôl i ddesgiau yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays?

14:50

Wel, rwy'n sicr yn credu na fyddai aelodau o'r cyhoedd eisiau i Lywodraeth fod yn gwario £200 miliwn ar gardiau adnabod pleidleiswyr i'w gwneud yn anodd i bobl bleidleisio. Rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl yn ei barchu yw achos wedi'i ddadlau'n dda ac sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol—efallai'n fwy trawsbleidiol mewn rhai meysydd nag eraill—i'r ffaith bod angen y gellir ei gyfiawnhau i ddiwygio o fewn y Senedd hon. Mae rôl y Senedd wedi newid yn sylweddol ers 1999, y cyfrifoldebau. O'ch ochr chi, yn aml iawn rydych yn siarad am bwysigrwydd craffu a'r gallu i graffu. Mae hynny'n agwedd bwysig ar ein democratiaeth, ac mae'n fater sydd wedi cael sylw; mae'n fater lle cafodd pwyllgor dibenion arbennig ei sefydlu i edrych arno, i'w archwilio. Mae hon yn broses sy'n ymwneud â gwella ein democratiaeth, a'r cyfan y gallaf ei ddweud wrth ymateb i'r ymagwedd rydych chi wedi'i mabwysiadu yw ei bod yn nodweddiadol o'r blaid Dorïaidd, onid yw? Rydych yn gwybod pris popeth, a gwerth dim byd. Gwelwn o'r ddeddfwriaeth rydych wedi'i chyflwyno cyn lleied o werth sydd i ryddid sifil a'r hawliau sifil sydd gennym yn ein cymdeithas, ac rwy'n falch iawn fod cefnogaeth o fewn y Senedd hon i wneud pethau sy'n moderneiddio er mwyn gwella democratiaeth y Senedd hon.

Twyllwybodaeth yn ystod Etholiadau Cymru

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal lledaenu twyllwybodaeth yn ystod etholiadau Cymru? OQ59511

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pleidleiswyr i arfer eu hawliau democrataidd gyda mynediad at wybodaeth o ansawdd da. Rydym yn helpu pobl ifanc i adnabod camwybodaeth drwy'r cwricwlwm ac rydym yn archwilio darparu gwybodaeth i bleidleiswyr fel rhan o'n hagenda diwygio etholiadol.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Mae etholiadau'n ysgogi llawer o weithgarwch ar-lein, ac ar un lefel, mae hynny'n beth da iawn, i alluogi pobl i ymgysylltu â materion sy'n codi mewn unrhyw etholiad penodol. Fodd bynnag, gwelwyd tueddiad gan grwpiau preswylwyr ar-lein i gael eu cymryd drosodd fel hyrwyddwyr un ymgeisydd neu'r llall gan ymhonni bod yn rhywbeth sy'n annibynnol, a'u galluogi i atal unrhyw farn gan aelodau o'r cyhoedd sy'n wahanol i farn yr ymgeisydd unigol hwnnw. Nid wyf yn dymuno mygu trafodaeth mewn unrhyw ffordd, ond gellir ystyried hon yn ffordd o osgoi'r cyfyngiadau cwbl briodol ar ymgyrchu etholiadol i roi chwarae teg i bob ymgeisydd lle na allant gael mwy na swm penodol o wariant yn ôl y gyfraith, a bod rhaid iddynt ddarparu manylion asiant yr unigolyn hwnnw fel bod rhywun yn atebol os ceir unrhyw beth enllibus neu anghywir. Felly, pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol i sicrhau bod unrhyw grwpiau ar-lein naill ai'n rhoi mynediad cyfartal i'r holl ymgeiswyr yn ystod cyfnod etholiad, neu fel arall, yn cael eu cynnwys yn rhan o dreuliau etholiad ymgeisydd unigol sydd i'w datgan fel hysbysebu gwleidyddol?

Wel, a gaf fi ddweud, mae'r materion rydych yn eu codi yn bethau sy'n peri cryn bryder? Rwy'n credu eu bod yn bryderon ar draws pob plaid. Maent yn ymwneud â datblygiad cyfryngau cymdeithasol, ffenomen sydd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn un sy'n destun cam-drin sylweddol, ac rydym yn gweld hynny ledled y byd. Mae'n rhaid inni edrych o fewn y meysydd lle mae gennym allu i weld sut y gallwn effeithio ar hynny. Wrth gwrs, mae rhai o'r agweddau yn faterion a gadwyd yn ôl, ac yn faterion y gallwn ymwneud â nhw ond nad oes gennym gyfrifoldeb penodol amdanynt. Ond roedd dros 55 y cant o'r ymatebion i'n hymgynghoriad Papur Gwyn ar ddiwygio gweinyddiaeth etholiadol ym mis Hydref yn gefnogol i gynigion, er enghraifft, ar gyfer platfform gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein. Felly, er enghraifft, rydym bellach yn archwilio dichonoldeb platfform i ganiatáu gwell mynediad at wybodaeth ar gyfer pob ymgeisydd yn y prosesau hynny. Rydym hefyd yn gweithio'n adeiladol gydag amrywiaeth o sefydliadau sydd â diddordeb yn y maes hwn, gan gynnwys y comisiwn etholiadol a'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Roeddwn yn trafod hyn yn benodol gyda nhw ac eraill ddoe. Rydym yn cefnogi eu gwaith yn y maes hwn, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw. Rydym am weld ymgyrchu cynyddol ffeithiol, ac nid peth o'r ymgyrchu a welsom na rhai o'r pethau a welsom ar gyfryngau cymdeithasol.

Wrth gwrs, mae materion yn codi yn y cwricwlwm newydd. Rydym yn cefnogi pobl ifanc i'w helpu i nodi camwybodaeth wrth iddynt ei gweld, ac rydym wedi cyhoeddi canllaw i helpu athrawon i fynd i'r afael â hynny'n hyderus. A cheir mater iechyd democrataidd hefyd, ac rydym yn bwriadu cryfhau'r drosedd o ddylanwad gormodol mewn etholiadau. Byddwn i gyd yn gwybod am bobl, ac ar draws pob plaid yn ôl pob tebyg, a allai fod wedi sefyll fel cynrychiolwyr ond sydd wedi dewis peidio â gwneud hynny am nad ydynt am ddod yn agored i'r math o gam-drin sy'n digwydd ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, mae'r pwynt rydych yn ei godi yn un pryderus iawn.

Ceir rhai problemau hefyd mewn perthynas â'r ffaith ein bod wedi cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU y llynedd, gan gymhwyso argraffnodau digidol fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022. Felly, mae hwn yn fater sy'n parhau, ac mae'n cael ei adolygu'n agos iawn, gan edrych ar bob ffordd y gallwn sicrhau bod ein hiechyd democrataidd yn cael ei ddiogelu a bod rhyddid pobl i sefyll a chymryd rhan, a hawliau pleidleiswyr i gael gwybodaeth ddilys a ffeithiol wedi'i chyflwyno iddynt yn cael eu cynnal.

14:55
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

5. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sicrhau bod y rheoliadau a wneir o dan Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yn gydnaws â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ59515

Wel, diolch am eich cwestiwn. Safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Deddf marchnad fewnol y DU, pan fydd y Senedd yn deddfu mewn meysydd heb eu cadw'n ôl, yw ei bod yn gwneud hynny'n rhydd o ofynion y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys sefyllfa lle mae'r Senedd yn deddfu i roi pwerau rheoleiddio i Weinidogion Cymru.

Diolch am eich ymateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe godais y cwestiwn hwn gyda'r Gweinidog pan ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwy'n credu ein bod yn dal i fod mewn peth dryswch, oherwydd tybed sut y gall fod cymaint o sicrwydd na fydd y rheoliadau sy'n deillio o'r Bil, pe bai'n dod yn Ddeddf, yn effeithio ar Ddeddf y farchnad fewnol, pan nad ydym yn gwybod, wrth gwrs, sut fydd y rheoliadau hynny'n edrych. Nawr, rwy'n deall, o ran Bil caffael y gwasanaeth iechyd, mai'r dybiaeth weithredol yw y bydd y rheoliadau'n adlewyrchu rhai Lloegr. Ond pe baent yn ymwahanu yn y dyfodol, fel y mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud yn glir y gallai ddigwydd, os dymunir, yn sicr ni fydd hynny'n newid y cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gofyn sut y gall Llywodraeth Cymru fod mor sicr a hyderus na fydd Deddf y farchnad fewnol yn effeithio ar y set benodol hon o reoliadau.

Wel, rwy'n credu y gallwn ddweud mai'r rheswm yn ôl pob tebyg yw bod gan Lywodraeth Cymru gynghorwyr cyfreithiol rhagorol. Edrychwch, ein safbwynt ni yw hyn: nid yw cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cael ei effeithio gan Ddeddf marchnad fewnol y DU oherwydd bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn statud cyfansoddiadol. Ac er mwyn i hynny gael ei ddiwygio er mwyn effeithio ar ein cyfrifoldebau datganoledig, byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau i hynny ddigwydd drwy ddeddfwriaeth ddatganedig. Nid yw Deddf marchnad fewnol y DU yn gwneud hyn yn ddatganedig. Nid yw, felly, yn tanseilio statws gwarchodedig Deddf Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais, pe bai hynny'n digwydd, byddai'n rhaid iddo fod yn welliant a fyddai'n galw am welliant datganedig nid gwelliant ymhlyg, ac nid yw Deddf marchnad fewnol y DU yn gwneud hyn.

Deddf Trefn Gyhoeddus 2023

6. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â gweithredu Deddf Trefn Gyhoeddus 2023? OQ59529

Mae'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 yn ymwneud â materion sydd wedi eu cadw yn ôl, a doedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi ymgynghori gyda ni am eu bwriad i gychwyn rhai darpariaethau penodol. Mae'n hanfodol bod pobl yn cael hawl a rhyddid i ddweud eu dweud a mynegi eu pryderon yn ddiogel a heddychlon.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Efallai y byddwch yn fy nghywiro ar hyn, oherwydd mae'n debyg fod gennych gof ychydig yn hirach na fy un i, ond ni allaf gofio achlysur arall lle mae'r heddlu wedi mynegi edifeirwch yn gyhoeddus mor fuan ar ôl arestio. Ac mae'n amlwg eu bod wedi gwneud hynny oherwydd nad oedd sail gyfreithiol o gwbl i arestio protestwyr yn ystod y coroni, na'r cefnogwr brenhinol brwd a oedd yn digwydd sefyll wrth ymyl y protestwyr, yn wir. Yr hyn sy'n anarferol hefyd yw bod y gyfraith hon wedi dod i rym drwy reoliad y DU gyda dim ond diwrnod o rybudd y gellid ei defnyddio yn erbyn y protestwyr. Fel arfer, rhoddir misoedd i ganiatáu amser i esbonio sut y bydd trosedd newydd yn gweithio'n ymarferol. Unwaith eto, Gwnsler Cyffredinol, enghraifft arall o ddeddfwriaeth frysiog sy'n ddeddfwriaeth wael. Rwy'n siŵr nad dyna oedd bwriad y Senedd.

Mewn ymateb i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, yn wahanol i arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, yn dal i wrthwynebu'r Ddeddf hon. Yn ffodus, nid effeithiwyd ar brotestwyr yng Nghaerdydd, ond gan fod plismona mewn sawl ffordd wedi'i ddatganoli drwy'r comisiynwyr heddlu a throseddu, pa gamau y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r Ddeddf hon yn rhwystro protestio heddychlon yma yng Nghymru? Diolch yn fawr. 

15:00

Diolch. Rydych yn llygad eich lle. Credaf mai’r hyn a oedd yn ddiddorol pan welsoch yr arestiadau hynny oedd bod llawer o’r bobl a oedd wedi’u cynhyrfu gan y ffaith ei fod wedi digwydd yn bobl a oedd yno i wylio’r coroni, ac a oedd am ei gefnogi. Oherwydd credaf fod pobl, yn y bôn, beth bynnag fo'u barn ar frenhiniaeth ac yn y blaen, yn gryf iawn o blaid rhai o'n hawliau sifil sylfaenol. Ac rwy'n credu mai'r hyn a ddaeth yn amlwg iawn, pan oedd y dicter yn dechrau cael ei fynegi ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfweliadau gan bobl o bob anian yn y dorf a oedd yno, yw bod yr heddlu wedi sylweddoli bod camgymeriad mawr wedi'i wneud.

Yr hyn a oedd yn bryder gwirioneddol i mi wrth wylio hyn, wrth wylio rhai o’r digwyddiadau wedyn, oedd ei bod yn ymddangos bod cryn ddryswch ymhlith yr heddlu ynglŷn â beth oedd eu rôl, a beth oedd eu cyfrifoldebau—gan nad cynnal y gyfraith yw eu hunig gyfrifoldeb, mae ganddynt gyfrifoldebau hefyd i ddiogelu hawliau dinasyddion. Felly, roedd hynny’n bryder mawr i mi, ac mae’n debyg fod hynny'n rhannol o ganlyniad i’r ffaith bod y Bil hwn wedi’i ruthro drwodd yn fwriadol ac yn benodol mewn ffordd anseneddol, heb y gwaith craffu a'r sylw priodol. A chodwyd y pwynt hwnnw gan Aelodau Seneddol Ceidwadol hefyd, felly codwyd lleisiau trawsbleidiol ar hynny wrth i’r Bil hwnnw fynd drwodd.

Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd fod yr heddlu yma yng Nghymru wedi cadarnhau na wnaed unrhyw arestiadau, ac fel y gwelsom ar achlysuron blaenorol, rwy'n credu bod y berthynas sydd gennym, y bartneriaeth, yr ymgysylltiad, yr ymgysylltu parhaus â’r comisiynwyr heddlu a throseddu, yn golygu bod gennym ffordd sy'n llawer mwy ystyriol ac ymatebol yn fy marn i o ymdrin â rhai o'r materion hyn, gan gynnwys materion sy'n codi o ddeddfau eraill—Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022—hefyd.

Yr hyn y mae gennyf ddiddordeb mewn cadw llygad barcud arno yw y bydd Pwyllgor Materion Cartref Senedd y DU yn cynnal sesiwn dystiolaeth i archwilio dull yr Heddlu Metropolitanaidd o blismona protestiadau cyhoeddus, a goblygiadau ymarferol y Ddeddf Trefn Gyhoeddus. Felly, bydd gennyf gryn ddiddordeb yn hynny, ac yn amlwg, ceir ymgysylltiad parhaus â'n comisiynwyr heddlu a throseddu etholedig.

Cyngor Partneriaeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i gynrychiolaeth Cymru ar gyngor partneriaeth y cytundeb masnach a chydweithredu? OQ59524

Diolch. Mae’r cyngor partneriaeth mewn gwirionedd yn gyfarfod rhwng Llywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol, a’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae gan y gwledydd datganoledig statws sylwedydd, fel sydd gan aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, ac maent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd paratoadol gan gynnwys cyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. A gaf fi gofnodi fy niolch i ddirprwyaeth y DU a’r arweinyddiaeth, yn enwedig Syr Oliver Heald, am y ffordd y maent wedi ceisio cynnwys y Senedd hon yn nhrafodion rhan seneddol y cyngor partneriaeth pan fyddwn yn cyfarfod, er gyda statws sylwedydd yn hytrach na statws cynrychiolydd llawn? Yn y cyfarfod diwethaf yn Llundain, fe wnaethom ymuno ag eraill o'r deddfwrfeydd datganoledig i annerch cynrychiolwyr yn y cyfarfod llawn, mewn sesiwn arbennig. Fe wnaethom arsylwi ar y prif ddadleuon ar ynni, masnach, diogelwch, Wcráin, cytundeb Windsor a llawer mwy, ac fe wnaethom gymryd rhan lawn yn y trafodaethau ehangach a'r gweithdai y tu allan i'r cyfarfod llawn hefyd. A gaf fi ofyn, pa obeithion sydd gan y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer datblygu llais Llywodraeth Cymru ymhellach yn ei rôl? Ond hefyd, wrth i hynny ddatblygu—ac rwy'n gobeithio y gwnaiff, dros amser—fod ymgysylltu adeiladol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar lefel yr UE, a bod llais seneddwyr yn cael ei glywed hefyd.

Diolch. Wrth gwrs, gan gyfeirio at y cyngor partneriaeth, cafwyd dau gyfarfod—21 Mehefin, ac wrth gwrs, daeth COVID ac yn y blaen wedyn, ac yna, 24 Mawrth. Credaf mai’r hyn sy’n ddiddorol amdano yw bod y statws sylwedydd sydd gennym yr un fath â'r statws sylwedydd sydd gan yr Almaen, Ffrainc ac yn y blaen. Felly, mae’n un pwysig, ond wrth gwrs, yr hyn sy’n bwysig yw i ba raddau y mae Llywodraethau datganoledig yn rhan o’r gwaith paratoi sy’n digwydd cyn y cyfarfodydd penodol hynny.

Mae’r grŵp rhyngweinidogol, felly, yn un eithriadol o bwysig. Credaf fod angen edrych ar y mater yng nghyd-destun materion masnach ryngwladol a sut yr effeithir arnynt. Ond cyfarfu’r grŵp rhyngweinidogol ar 21 Mawrth, cyn cyfarfod y cyngor partneriaeth ar 24 Mawrth. Ystyriodd eitemau a oedd yn benodol ar yr agenda ar gyfer y cyngor partneriaeth. Roedd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn bresennol yng nghyfarfod y grŵp rhyngweinidogol ar ran Gweinidog yr Economi, nad oedd yno.

Ceir trosolwg hefyd ar bwyllgorau arbenigol. Rwy'n credu ei fod yn faes pwysig sy’n tyfu, gan fod cymaint o’r trafodaethau hyn yn effeithio ar swyddogaethau datganoledig. Felly, mae'r ymgysylltu gwirioneddol hwnnw â'r Llywodraethau datganoledig yn eithriadol o bwysig, a gwn ei fod yn rhywbeth sy'n cael ei gadw dan oruchwyliaeth fanwl iawn. Yn amlwg, mae'n rhywbeth rydym am ei weld yn dod yn gyson, yn rheolaidd ac yn well o ran ei ansawdd, ac yn fwy sicr.

15:05
Ymgyrch Cyfraith Hillsborough

8. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn ag ymgyrch cyfraith Hillsborough? OQ59528

Diolch am eich cwestiwn. Ar hyn, rydym wedi ymrwymo i archwilio’r ffyrdd gorau o helpu i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael eu clywed yn dilyn unrhyw ddigwyddiad mawr, ac rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i sicrhau bod dioddefwyr yn cael eiriolaeth ar lefel genedlaethol pan fo trasiedïau'n digwydd.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, mae ymgyrch Hillsborough Law Now yn ymwneud â rhoi mynediad gwirioneddol at gyfiawnder i bobl gyffredin. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cyflwyno Bil Dioddefwyr a Charcharorion na fydd yn cyflawni hyn; nid yw’n mynd yn ddigon pell, Gwnsler Cyffredinol. Mae Keir Starmer wedi ymrwymo i gyflwyno cyfraith Hillsborough pan fydd yn Brif Weinidog y DU. O ystyried eich cefnogaeth barhaus, cefnogaeth rwy'n ddiolchgar iawn amdani, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ddechrau ar y gwaith yma yng Nghymru i sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi Keir Starmer a Llywodraeth Lafur i weithredu a chyflwyno cyfraith Hillsborough nawr?

Wel, a gaf fi ddiolch yn gyntaf i’r Aelod am y modd parhaus a chyson y mae'n dadlau dros hawliau’r bobl sy’n ddioddefwyr trasiedïau mawr? A gaf fi hefyd wneud y sylw, ac mae'n un rwyf wedi'i wneud o'r blaen, mai'r ateb go iawn i hyn yw'r ffaith y dylai cymorth cyfreithiol fod ar gael i bobl fel hawl? Ni fyddai unrhyw gymhlethdod mawr ynghlwm wrth gynnwys darpariaeth y bydd cymorth cyfreithiol ar gael pan fydd digwyddiad mawr yn digwydd.

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Mae’n cynnwys darpariaethau i Ysgrifennydd Gwladol y DU benodi eiriolwr cyhoeddus annibynnol i gefnogi dioddefwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n glir o gwbl pwy fyddai’r bobl hynny, beth fyddai eu statws, beth fyddai eu rôl a’u swyddogaethau, beth fyddai eu pwerau ac a ydynt yno i gefnogi a rhoi cymorth, oherwydd os ydynt, ni fyddai hynny'n ddigonol. Mae wedi bod yn anodd cael eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â beth yw eu barn ar hyn, felly mae ymgysylltu parhaus yn mynd rhagddo i ganfod beth fyddai hynny.

Mae gennyf nifer sylweddol o bryderon, oherwydd pe bai digwyddiad mawr yn digwydd yng Nghymru, byddem eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu mecanwaith a fyddai'n cael effaith ar ddinasyddion Cymru. Wrth gwrs, anaml iawn y mae digwyddiadau, pan fyddant yn digwydd, yn gysylltiedig ag un wlad benodol. Yn aml iawn, ceir gwrthdaro hefyd rhwng y bobl yr effeithir arnynt, felly mae'n rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr i bob un o'r pethau hynny hefyd.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn credu bod rhaid inni archwilio popeth y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau i helpu pobl i gael mynediad at gyfiawnder ym mhob sefyllfa. Rydym yn cefnogi'r syniad o eiriolwr dros ddioddefwyr yn sgil digwyddiadau mawr, ond mae gennym bryderon gwirioneddol nad yw'r darpariaethau hyn yn adlewyrchu'r setliad datganoli'n briodol; nid ydynt wedi cael eu hystyried yn briodol eto, ac mae cryn dipyn o drafod a gwaith i'w wneud o hyd i weld i ble mae'r darpariaethau hyn yn mynd. Rwy'n cefnogi’r ymrwymiad a gafwyd gan Keir Starmer i’r ffaith y byddant yn cyflwyno cyfraith Hillsborough, ond yn y cyfamser, byddwn yn sicr yn parhau i archwilio hyn, byddwn yn parhau i weithio, a diolch i chi am ymgysylltu, am godi'r mater hwn.

15:10
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd Mark Isherwood yn gofyn cwestiwn 1.

Hyrwyddo Senedd Cymru

1. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd? OQ59506

Mae'r Comisiwn yn cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo ac arddangos ein Senedd a'i gwaith arloesol ar lwyfan rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau i gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol megis yng nghyfarfod llawn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd yn Jersey yn ystod y dyddiau diwethaf yma. Cytunwyd ar ein fframwaith rhyngwladol fis Tachwedd diwethaf yn y Comisiwn. Mae’n amlinellu'r nod o godi proffil y Senedd a gwerth meithrin ein henw da drwy ymgysylltu a chydweithio, p'un ai yw'r gwaith hynny'n cael ei arwain gan Aelodau neu bwyllgorau, neu ai yw'n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng Seneddau.

Iawn, wel, yn ogystal â hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd ehangach, mae angen hyrwyddo'r Senedd hon ym myd Cymru hefyd. Gyda llai na hanner yr etholwyr yn pleidleisio dros unrhyw un yn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021, mae’n amlwg fod y diffyg democrataidd yn dal i fod yn fyw ac yn iach, gyda llawer yn dal heb ddeall ble caiff y penderfyniadau eu gwneud, pwy sy’n gyfrifol, a faint o bŵer sydd gan Lywodraeth Cymru dros eu bywydau mewn gwirionedd.

Er bod tîm gwasanaethau cwsmeriaid Senedd Cymru yn gwneud gwaith gwych yn estyn allan i ymgysylltu ag ysgolion a grwpiau cymunedol a chynnal ymweliadau â’r Senedd, mae pobl yn dal i gysylltu â mi bob dydd nad ydynt yn deall yr ymwahaniad rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, neu pryd y dylid dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn hytrach na Llywodraeth y DU. Mae democratiaeth gynrychioliadol yn ei gwneud yn ofynnol i bob Llywodraeth wybod ei bod ar brawf ac y gellir cael gwared arni, ac i bob Senedd gael ei gweld yn dwyn eu Llywodraeth i gyfrif.

Pa gamau y mae’r Comisiwn yn eu cymryd, felly, i ledaenu dealltwriaeth ehangach o Senedd Cymru i’r rhannau o fyd Cymru lle mae’r diffyg democrataidd ar ei waethaf?

Rwyf wrth fy modd â’r ymgais i wneud i’ch cwestiwn atodol gyd-fynd â’r cwestiwn gwreiddiol drwy sôn am Gymru yn y byd ar y diwedd. Fe wnaethoch hynny’n daclus iawn, os caf ddweud.

A'r ateb i'r cwestiwn atodol, felly: rwy'n cytuno â chi; byddwn wrth fy modd yn gwario mwy o arian, a chael mwy o bobl i fynd ati i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru ar y gwaith a wnawn yma. Ond rydym yn byw o fewn yr adnoddau sydd gennym, ac rydym yn gweithio’n barhaus gyda’n pwyllgorau a chydag Aelodau unigol i weld sut y gallwn ymestyn y gwaith ymgysylltu y mae ein pwyllgorau'n ei wneud, yn enwedig gyda phrofiadau bywyd go iawn pobl yng Nghymru. Ac mae'r ymgysylltiad uniongyrchol hwnnw, wrth gwrs, yn digwydd er mwyn gwneud ein gwaith yma'n berthnasol i brofiadau bywyd go iawn ac er mwyn iddo gael ei gyfoethogi gan brofiadau go iawn pobl Cymru. Felly, gallwn wneud hynny’n uniongyrchol.

Rydym yn y sefyllfa rydym ynddi o ran sut y mae’r wasg a’r cyfryngau yn rhoi sylw i'r Senedd, a gallwn sôn am beth amser, fel y gallech chi, am y diffyg sylw i wleidyddiaeth Gymreig yn gyffredinol yn y wasg y mae pobl Cymru yn ei darllen a'r cyfryngau y maent yn gwrando arnynt. Ond ni, fel 60 Aelod, yw ein hyrwyddwyr pennaf, yn y gwaith a wnawn yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau, a hefyd yn y ffordd yr ymgysylltwn â phobl yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau ac y gwnawn y materion sy’n bwysig iddynt yn bwysig i Lywodraeth Cymru yma, a’r ffordd y craffwn ar weithredoedd Llywodraeth Cymru yn gwella bywydau pobl Cymru.

Aflonyddu

2. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae'n ei ddarparu i staff y Comisiwn a staff yr Aelodau sy'n profi aflonyddu? OQ59513

Diolch am eich cwestiwn, Mike. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod y Senedd yn sefydliad cynhwysol, sy’n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Rhoddwyd ein polisi urddas a pharch teirochrog ar waith yn 2018, a chaiff y polisïau eu cefnogi, er enghraifft, drwy hyfforddiant, swyddogion cyswllt, a chymorth ar gyfer llesiant, megis iechyd galwedigaethol, a’n rhaglen cymorth i weithwyr. Caiff y polisi a sut i gael gafael arno ei gyfathrebu’n rheolaidd i bawb dan sylw drwy amrywiaeth o ddulliau, megis erthyglau ar dudalennau newyddion, cyfarfodydd lefel gwasanaeth, gyda manylion llawn y cymorth sydd ar gael ar dudalennau pwrpasol ar y fewnrwyd. Cynhaliwyd adolygiad rhagweithiol o’r polisi urddas a pharch i gydnabod y cod ymddygiad i Aelodau newydd, a nifer yr Aelodau newydd a etholwyd i’r chweched Senedd. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen o swyddogion Comisiwn y Senedd i arwain y broses adolygu, a chaiff y canfyddiadau eu cyflwyno i’r Comisiynwyr yn eu cyfarfod nesaf ar 22 Mai. Mae’r Comisiwn hefyd wedi cymryd camau helaeth i sicrhau diogelwch Aelodau a’u staff cymorth etholaethol. Mae swyddogion diogelwch y Senedd wedi sefydlu platfform cadarn ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau sy’n sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar gymorth ac arweiniad yn ôl yr angen gan dîm diogelwch penodedig yr Aelodau.

15:15

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei hymateb? Credaf fod y polisi'n wych. Mae'r rhan fwyaf o'r polisïau a gynhyrchwn yn wych. Mae hyn yn ymwneud â'u cael allan fel bod pobl yn gwybod amdanynt. Rwy'n siŵr ei fod wedi'i gyhoeddi mewn pob math o leoedd nad wyf i a'r rhan fwyaf o bobl eraill yn yr ystafell hon wedi'u darllen, a chredaf mai dyna un o'r problemau sydd gennym—cyfleu pethau i bobl eraill. Sut mae pobl yn gwybod at bwy i fynd? Pe bai Aelod arall yma'n aflonyddu ar un o fy staff, at bwy y byddent yn mynd ar wahân i mi? Sut y gall pobl gael ymyrraeth gynnar? Rwy’n gredwr mawr mewn ymyrraeth gynnar. Mae angen enwau cyswllt arnom. Mae arnom angen strategaeth ymyrraeth gynnar fel y gellir dweud wrth rywun fod yr hyn y maent yn ei wneud yn amhriodol ac nad oes croeso iddo, oherwydd weithiau, nid yw pobl yn gwybod hynny, a rhoddaf enghraifft i chi. Pan oeddwn yn ddarlithydd, dywedais wrth un myfyriwr am roi'r gorau i fwlio. Roedd yn ddig iawn ac yn ofidus iawn a dywedodd, 'Nid wyf erioed wedi bwlio unrhyw un yn fy mywyd—dim ond tynnu ei goes oeddwn i.' Dywedais wrtho, 'Roedd yn dynnu coes i ti, ond yn fwlio iddo ef.' Fe ymddiheurodd, a daeth y peth i ben. Mae hyn yn ymwneud â chael yr ymyrraeth gynnar hon fel bod pobl yn gwybod os ydynt yn gwneud pethau sy'n peri gofid i eraill, yn hytrach na'i fod yn parhau.

Diolch, ac mae’r hyn a ddywedwch yn hynod bwysig. Cyflwynwyd hyfforddiant urddas a pharch i’r Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn yn y pumed Senedd, ac mae bellach yn rhan o raglen datblygiad proffesiynol parhaus y Comisiwn, felly mae hynny’n ateb y rhan gyntaf o sut y dylech wybod nad yw'r hyn a wnewch yn dderbyniol. Darperir hyfforddiant urddas a pharch i holl staff newydd y Comisiwn yn rhan o'r rhaglen gynefino graidd, a phenodwyd swyddogion cyswllt i roi arweiniad i achwynwyr posibl ac i ddarparu cymorth cyfrinachol. Mae cymorth emosiynol ar gael i achwynwyr posibl a'r rhai y gwneir honiadau yn eu herbyn drwy'r rhaglen cymorth i weithwyr a'r nyrs iechyd galwedigaethol. Mae'r rhaglen cymorth i weithwyr yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol cyfrinachol ar gyfer materion gartref neu yn y gwaith, gan fod pobl yn gweithio yn y ddau le bellach.

Darparwyd cymorth ychwanegol i swyddfa’r comisiynydd safonau er mwyn hwyluso gwasanaeth gwell sy'n gydradd o ran y rhywiau o’i swyddfa, a gwelliannau i’r wefan, a chynhaliwyd ymarfer cwsmer cudd—ac mae hyn yn allweddol i'ch cwestiwn mewn gwirionedd—i brofi a oedd yr wybodaeth, yr offer chwilio a'r iaith yn glir ac yn hygyrch. Mae cymorth annibynnol a chyfrinachol arbenigol ar gael bellach drwy swyddfa’r comisiynydd safonau, i gefnogi’r rheini sy’n dymuno achwyn am achosion honedig o ymddygiad anaddas gan Aelodau. Darperir y gwasanaeth cyfrinachol penodol hwnnw gan yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr. Mae'n gwbl allweddol yma fod gennym gyngor a chymorth annibynnol.

Rydym wedi casglu data cadarn am niferoedd achosion cyfredol, ac mae hynny’n anodd ei sefydlu, oherwydd natur hynod sensitif a phersonol achosion, ond gallwn fod yn weddol hyderus mai prin yw’r achosion. Fodd bynnag, fel yr amlygwyd eto mewn adroddiadau diweddar, mae perygl na roddir gwybod am rai achosion. Felly, fel Comisiynydd ac fel Aelod o’r Senedd hon, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy’n gwrando yma heddiw'n teimlo’n hyderus ein bod yn gwneud ein gorau glas, fod llinell gyngor annibynnol ar gael drwy Cymorth i Ddioddefwyr, y byddant yn ei defnyddio, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pob Aelod yn manteisio, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, ar yr hyfforddiant y bydd ei angen arnynt. Fe wyddom fod cyfarwyddyd clir wedi'i roi i’n plaid wleidyddol, ac rwy’n siŵr y bydd eraill yn ystyried hynny.

15:20
Hyrwyddo Gwaith y Senedd

3. Pa waith allgymorth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i hyrwyddo gwaith y Senedd ledled Cymru? OQ59508

Mae'r Comisiwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i hyrwyddo gwaith y Senedd ledled Cymru. Mae ein rhaglen addysg yn ymgysylltu â phobl ifanc drwy ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid mewn cymunedau ledled Cymru, yn bersonol ac ar-lein, ac yn croesawu grwpiau i'r ganolfan addysg yn Siambr Hywel. Rydym yn cefnogi 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, o bob rhan o Gymru, i gyflawni eu gwaith, gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd ledled Cymru, ac mi fydd y Senedd yn nigwyddiadau mawr yr haf, gan gychwyn o fewn y bythefnos nesaf yma yn Eisteddfod yr Urdd, sydd o fewn cyrraedd gweddol agos i’ch etholaeth chi, a hefyd, wrth gwrs, yn y sioe frenhinol yng Ngorffennaf, sydd yn eich etholaeth chi.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, a hefyd i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, am ofyn fy nghwestiwn atodol. Felly, oherwydd bod amser yn brin, Lywydd, rwy’n parchu’r ateb a roesoch yn gynharach i fy nghyd-Aelod.

Rwy’n fodlon ateb y cwestiwn hwnnw drwy roi’r ateb parod y gweithiais arno i gwestiwn Mark Isherwood, ond oherwydd bod amser yn brin, fe wnaf ymatal rhag gwneud hynny. Diolch.

Cefnogi Ysgolion i Ymweld â'r Senedd

4. Sut mae'r Comisiwn yn cefnogi ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig i ymweld â'r Senedd? OQ59522

Mae ein rhaglen addysg fewnol yn rhoi cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn dadleuon yn y ganolfan addysg yn Siambr Hywel ac ymweld â’r Senedd fel rhan o'u hamser gyda ni. Mae chwe slot ar gael bob wythnos yn ystod y tymor, sydd ar gael i grwpiau o bob rhan o Gymru. Er mwyn cefnogi ysgolion gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'u hymweliad, megis talu ar gyfer petrol a llogi bysiau, mae cymhorthdal teithio o £1 am bob milltir ar gael i'r rhai sy'n byw mwy na 10 milltir i ffwrdd o'r Senedd ym Mae Caerdydd. Mae argaeledd y sesiynau yma'n cael eu rhannu ag ysgolion drwy ein cylchlythyr a anfonir at bob ysgol yng Nghymru, ac ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Diolch, Lywydd. Rwy’n siŵr y gallaf siarad ar ran yr holl Aelodau yma wrth ddweud bod croesawu ysgolion o’n hetholaeth i’r Senedd yn un o uchafbwyntiau pennaf y rôl sydd gennym, ac mae’n hyfryd gweld yr ymgysylltiad hwnnw a’r cwestiynau gwych y mae plant yn eu gofyn. Mae ymrwymiad y staff yn amlwg iawn i geisio cymryd rhan yn y ddemocratiaeth sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, fel pawb arall rwy’n siŵr, rwy’n awyddus i adeiladu ar hynny a'i weld yn datblygu gymaint â phosibl.

Un o'r problemau i ysgolion yn fy etholaeth, Lywydd, ac unwaith eto, rwy'n siŵr fod yr un peth yn wir ledled Cymru, yw cost dod yma. Fe sonioch chi am gost trafnidiaeth—credaf fod honno'n broblem sylweddol iawn—a'r £1 y filltir. Mae'n arbennig o anodd i ysgolion sy’n gwasanaethu’r ardaloedd mwy difreintiedig, Lywydd, gan fod eu cyllidebau’n tueddu i fod o dan lawer mwy o bwysau, ac mae’n llawer anos codi arian gan rieni a chymdeithasau rhieni ac ati, a busnesau lleol, oherwydd natur yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu. Felly, tybed a ellir rhoi rhywfaint o ystyriaeth arbennig i ysgolion sy'n gwasanaethu ein cymunedau mwy difreintiedig, a chyfraniad mwy hael, efallai, tuag at eu costau. Fel arall, credaf fod mater cyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol yn codi o ran yr ysgolion a ddaw yma a’r ymgysylltu a wnawn.

Fel Aelod dros Geredigion, gwn fy mod yn mwynhau gweld yr ysgolion o fy etholaeth yn dod yma, a gwn gymaint y mae’r bobl ifanc eu hunain yn gwerthfawrogi’r cyfle. Y pwynt a wnewch yw bod ysgolion fel fy ysgolion i o Geredigion yn elwa’n fawr o’r cyfraniad at gostau teithio oherwydd hyd a chost y daith, ond mae costau gwahanol yn effeithio’n wahanol ar wahanol ysgolion, yn dibynnu ar yr ardal y maent ynddi, ac rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt da iawn mewn cyfnod anodd iawn i lawer o deuluoedd ledled Cymru. Felly, fe wnaf ystyried y mater a byddwn yn edrych arno fel Comisiwn i weld a oes ymyriadau ychwanegol y gellir eu darparu i ysgolion mewn rhai ardaloedd lle maent yn cael eu tangynrychioli eisoes, o bosibl, yn eu gallu i ddod i'r Senedd, ac a oes angen inni ganolbwyntio ar y maes penodol hwnnw o waith. Felly, diolch am godi hynny—mae'n fater pwysig iawn. Rwy'n credu y gall pob un ohonom, ar draws y Siambr, feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn helpu.

15:25
Coroni Brenin Charles III

5. Pa drafodaethau gafodd y Comisiwn ynglŷn â chynrychiolaeth y Senedd yng nghoroni Brenin Charles III? OQ59535

Ni fuodd unrhyw drafodaeth o fewn y Comisiwn ynghylch cynrychiolaeth y Senedd yn y digwyddiad coroni. Trafododd y Dirprwy Lywydd a finnau y mater o bresenoldeb y Senedd ar fy nghais i, a cytunodd y Dirprwy Lywydd i gynrychioli'r Senedd yn y digwyddiad hwnnw. 

Diolch am eich ateb, Lywydd. Rydych eisoes yn ymwybodol o'r siom ar y meinciau hyn ynghylch eich penderfyniad i beidio â mynychu’r coroni er gwaethaf y ffaith, wrth gwrs, mai chi sydd â'r rôl o gynrychioli’r Senedd. Credaf fod hyn yn codi nifer o gwestiynau pwysig ynglŷn â'r ffordd y mae’r lle hwn yn gweithio a rôl y Llywydd. Gwyddom am y trafodaethau yn y lle hwn ar hyn o bryd ynglŷn â diwygio'r Senedd, ac yn y cyd-destun hwnnw, Lywydd, mae rhywbeth sylfaenol ynghlwm wrth eich rôl mewn gwirionedd. Os edrychwn ar rôl Llywydd y Senedd, mae deiliad y rôl honno’n parhau i fod ag ymlyniad â phlaid wleidyddol, sy'n gallu eich rhoi mewn sefyllfa letchwith weithiau, byddwn yn dychmygu. Fe wyddom fod y llefarydd yn San Steffan yn torri pob cysylltiad â'u plaid wleidyddol pan fyddant yn rôl y llefarydd, ac mae cynsail amlwg hefyd yn y seneddau datganoledig—mae Llywydd Senedd yr Alban yn niwtral hefyd. Nid yw'n ddim byd personol i'w wneud â chi o gwbl, Lywydd; mae'n ymwneud â rôl y Llywydd ac aeddfedrwydd y Senedd, neu fel arall. Yn wir, mae’r ffaith eich bod wedi gorfod dweud na allech gymryd rhan yn ras arweinyddiaeth Plaid Cymru yn ddiweddar hefyd o bosibl yn dynodi aneglurder rhwng ymlyniad gwleidyddol a rôl niwtral y Llywydd. Felly, tybed beth sy'n cael ei wneud, yn enwedig yng nghyd-destun diwygio’r Senedd, i edrych ar statws y Llywydd i gynrychioli’r sefydliad hwn, a’r wlad hefyd, yn y ffordd orau. Diolch yn fawr iawn.

Bythefnos ar ôl y coroni, rwy'n eithaf balch o gael cyfle yma mewn gwirionedd i gofnodi fy mhenderfyniad i beidio â mynychu'r coroni, felly diolch am y cwestiwn, Sam Rowlands.

Ar lefel bersonol, nid yw byth yn hawdd dweud 'na' pan fydd pawb o'ch cwmpas yn dweud 'ie'. Fodd bynnag, penderfynais drosglwyddo fy ngwahoddiad i’r Dirprwy Lywydd ar sail fy marn bersonol nad oedd mynychu dathliad coroni'n rhywbeth roeddwn yn dymuno'i wneud. Cynrychiolwyd y Senedd yn fedrus gan y Dirprwy Lywydd. Ni cheisiais unrhyw gyhoeddusrwydd i fy mhenderfyniad, dim ond ateb cwestiwn ffeithiol gan newyddiadurwr. Gwrthodais bob cais am gyfweliad gan y cyfryngau, gan fy mod yn credu mai dyna'r peth mwyaf parchus i'w wneud.

Gwn fod rhai Aelodau o’r Senedd wedi beirniadu fy mhenderfyniad, ac eraill wedi'i gefnogi. Rydym yn Senedd lle ceir safbwyntiau gwahanol ar ddyfodol y frenhiniaeth, lle ceir safbwyntiau gwahanol ynglŷn ag a oes rhaid i Lywydd dderbyn unrhyw wahoddiad a phob gwahoddiad i ddigwyddiadau brenhinol. Rydym ar ein cryfaf fel Senedd pan fyddwn yn parchu safbwyntiau gwahanol ein gilydd, ac o un Llywydd i’r nesaf, nid ydym yn gopïau o’n gilydd; rydym yn parhau i fod yn unigolion o fewn ein rolau. Os edrychaf yn ôl ar Lywyddion blaenorol, mae’n debyg y gallaf gasglu y byddai un ohonynt wedi croesawu'r cyfle i fynychu coroni, ac efallai y byddai un arall wedi croesawu'r cyfle, ond gyda thro cyfansoddiadol diddorol i ddehongli ei frwdfrydedd.

Felly, fel Aelodau etholedig, mae safbwyntiau pob un ohonom yn wahanol. Mae'n debyg y bydd gennym 60 o safbwyntiau gwahanol ar fy absenoldeb. Vive la difference, rwy'n dweud. Yn bersonol, rwy'n mwynhau'r gwahaniaeth. Mwynheais weld llun o Sam Rowlands a Darren Millar ar ddiwrnod y coroni yn eich gwasgodau, eich bresys a'ch dici-bôs jac yr undeb, yn canu clychau, rwy'n credu. Mwynheais weld cyfweliad ar Twitter ar GB News gydag Andrew R.T. Davies hyd yn oed, lle dywedwyd wrthyf am 'wisgo fy mhans merch fawr'—nid gan Andrew R.T. Davies, gyda llaw. Ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ym mhob penderfyniad a wnaf, rwy'n gwisgo fy mhans merch fawr.

Mae union eiriad eich cwestiwn, Sam, yn ymwneud â rôl y Llywydd ac a yw'r deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd yn gyfle i ddiffinio’r rôl honno’n wahanol. Rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, fod y gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth honno yn sicr yn gyfle i gael y ddadl honno. Fel Senedd fach, 60 Aelod, rydym bob amser wedi bod yn Senedd 'pawb at ei waith', os mynnwch. Rwyf wedi bod yn Weinidog y Llywodraeth, a bellach, rwy’n Llywydd. Daeth Llywydd blaenorol yn Weinidog y Llywodraeth ar ôl tri thymor fel Llywydd. Mewn Senedd fwy o faint, gallwn greu arferion a phrotocolau newydd, ac os mai fy absenoldeb o seremoni coroni yw'r hyn a ysgogodd drafodaeth ar hyn, yna mae hynny'n beth da, ac ar hynny, gallwn gytuno.

15:30
Newid Hinsawdd

6. A wnaiff y Comisiwn ystyried treial o ddarparu dyddiau gwyliau blynyddol ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n teithio dramor ar eu gwyliau drwy ddulliau heblaw am hedfan, fel ar drenau a coetsys, i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd? OQ59517

O'r gorau. Mae'n ddrwg gennyf, ni wnes eich clywed yn fy ngalw. Nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynigion yn ymwneud ag absenoldeb blynyddol ychwanegol yn amodol ar ddulliau teithio. Nod Senedd Cymru yw bod yn batrwm o gynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol. Yn wir, fel un o'r sefydliadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb ein hunain i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn modd amgylcheddol gyfrifol yn ein holl weithgareddau. Mae gennym strategaeth carbon niwtral ar waith, ein trydedd strategaeth, sy'n rhedeg tan 2030, ac sy'n cynnwys ystod o dargedau heriol ar gyfer lleihau ein defnydd o ynni a'n hallyriadau ymhellach. Dylid nodi hefyd fod y Senedd bellach yn gweithredu ar hanner yr ôl troed carbon a oedd gennym pan ddechreuasom. Diolch.

Mae hynny'n dda iawn i'w glywed, a diolch am yr ateb ysgrifenedig i gwestiwn tebyg i hwn, ond nid yn hollol yr un fath, ychydig wythnosau yn ôl. Ac mae'n dda clywed bod y Senedd, y Comisiwn, yn ceisio bod yn arweinydd ym maes newid hinsawdd a lleihau carbon. Ac yn yr ysbryd hwnnw rwy'n gwthio unwaith eto ar y cwestiwn hwn.

Hoffwn ddweud fy mod yn credu efallai mai fi yw'r Aelod cyntaf o'r Senedd, Senedd yr Alban neu AS sydd bellach yn gweithredu treial ar hyn, lle rwyf wedi dweud wrth fy ngweithwyr, os ydynt eisiau cael gwyliau eleni mewn cyrchfan Ewropeaidd lle gallant fynd ar y trên neu ar fws neu rywbeth arall yn lle hedfan—ac rwy'n credu bod gan rai ohonynt ddiddordeb—yna byddant yn cael y diwrnod ychwanegol a fydd yn eu galluogi i deithio heb fwyta i mewn i'w hamser teithio, a'r gost ychwanegol hefyd, oherwydd rwyf innau hefyd eisiau arwain ar newid hinsawdd. Felly, a wnewch chi fynd yn ôl a chael golwg eto? Oherwydd mae yna sefydliad o'r enw Climate Perks y mae llawer o gwmnïau blaenllaw—cwmnïau preifat, cyrff y sector gwirfoddol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, rhaid i mi ddweud—yn ei gefnogi, sy'n gweithredu hyn nawr. Rwy'n ei dreialu eleni. Mae hyn yn rhywbeth y dylai'r Comisiwn edrych arno a gweld a allwch chi ei dreialu hefyd. Efallai na fydd yn gweithio, efallai na fydd llawer o bobl ei eisiau, ond i'r rhai sydd ei eisiau, un o'r cyfraniadau mwyaf y gallwn ei wneud i amcanion di-garbon a lleihau ein defnydd o garbon yw gwneud llai o hediadau i gyrchfannau pellter byr.

Diolch. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith eich bod wedi penderfynu, yn eich swyddfa—eich penderfyniad i wneud hynny. Fodd bynnag, fel gweddill y sector cyhoeddus, mae'r Comisiwn hwn o dan bwysau ariannol, a gallai unrhyw gynnig o'r fath ar gyfer gwyliau ychwanegol, y byddai'n rhaid ei ariannu, alw am gynnydd go sylweddol yn y gyllideb. Mae'r Comisiwn eisoes yn cynnig pecyn gwyliau blynyddol hael iawn i staff. Wedi dweud hynny, mae gennym gyfarfod Comisiwn ddydd Llun, a gallwn grybwyll yno eich bod yn gwneud hyn. Fodd bynnag, ni allaf wneud unrhyw addewidion yma ar ran Comisiwn y Senedd y byddwn yn gwneud yr un peth. Diolch.

4. Cwestiynau Amserol

Symudwn ymlaen yn awr at gwestiwn amserol a fydd yn cael ei ofyn gan Samuel Kurtz a'i ateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd. Samuel Kurtz.

Ffliw Adar

1. Pa fesurau bioddiogelwch y mae'r Gweinidog yn ymgymryd â hwy i atal ymlediad H5N1 yng Nghymru yn sgil dau weithiwr dofednod yn Lloegr yn dal ffliw adar? TQ776

Member
Lesley Griffiths 15:34:22
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Clefyd adar yw ffliw adar H5N1, ond rydym wrthi'n lliniaru'r perygl bach o ledaeniad i bobl. Mae ein parth atal ffliw adar yn cynnwys ystod o fesurau bioddiogelwch pwysig i atal lledaeniad y feirws. Mae gan ein partneriaid a'n contractwyr sy'n ymdrin ag achosion yr holl gyfarpar diogelu personol priodol. Cynghorir y cyhoedd i beidio â chyffwrdd ag adar sâl neu farw.

Diolch, Weinidog.

Diolch hefyd i'r Dirprwy Lywydd.

Rwy'n ddiolchgar fod y cwestiwn amserol hwn wedi'i ddewis heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi amser i ateb y cwestiwn, yn enwedig o ystyried y sesiwn hirfaith ar y Bil amaeth neithiwr. Ond i fod yn hollol glir, nid wyf yn ceisio codi ofn gyda'r cwestiwn amserol hwn; yn hytrach, hoffwn ddeall ymhellach, fel yr hoffai sector dofednod Cymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r diwydiant a'i weithlu. Fel gydag unrhyw afiechyd, y ffordd orau o reoli'r lledaeniad a lleihau trosglwyddiad yw cadw at brotocolau bioddiogelwch llym. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn ag a oes unrhyw ganllawiau bioddiogelwch wedi'u diweddaru neu unrhyw ganllawiau bioddiogelwch manwl wedi'u cyhoeddi i'r sector dofednod, yng ngoleuni trosglwyddiad milheintiol. Yn ogystal â hyn, a oes unrhyw gymorth ychwanegol yn cael ei gynnig drwy Cyswllt Ffermio ar ffurf hyfforddiant i weithwyr dofednod, neu gymorth i dalu costau ariannol gweithredu mesurau bioddiogelwch neu fuddsoddi mewn cyfarpar diogelu personol? Ac a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw frechlyn cost-effeithiol a fydd ar gael yn y dyfodol a'r modd o'i gyflwyno? Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:35

Mae'n debyg mai'r ateb byr i'ch cwestiwn yw 'na'. Yn amlwg, mae gennym ganllawiau llym; mae bioddiogelwch, fel y nodwch, yn gwbl orfodol, ac mae rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch ar gael i'n holl geidwaid dofednod. Soniais fod y cyfarpar diogelu personol ac ati gan unrhyw gontractwyr a fu gennym y bu'n rhaid iddynt fynd i mewn lle rydym wedi cael achosion o ffliw adar. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried, onid oes, y rhesymau pam ein bod ni'n rheoli ffliw adar, ac mae tri rheswm: mae'n lladd adar, mae'n tarfu ar fasnach ac mae angen inni ei wneud er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ac rwy'n deall yn llwyr fod y risg i bobl yn fach iawn, ond fel y gwelsom yn Lloegr gyda'r ddau weithiwr dofednod a brofodd yn bositif, er eu bod yn gwbl asymptomatig, roeddent yn rhan o gynllun peilot profi gwyliadwriaeth a oedd yn cael ei gynnal gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Ac wrth gwrs, pan fydd gennych gysylltiad galwedigaethol, mae'n rhywbeth y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohono. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau â'r mesurau bioddiogelwch ychwanegol a fu gennym yn ysbeidiol dros y 18 mis diwethaf, yn anffodus.

Ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, mae'n gyfle da i atgoffa'r cyhoedd—. Oherwydd, wrth gwrs, gallwn ei reoli gyda'n heidiau ac adar sy'n cael eu cadw, ond mae yna adar gwyllt hefyd, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall nad ydynt i fod i gyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw os dônt ar eu traws. Mae'n bwysig iawn hefyd fod unrhyw gontractwyr—pan feddyliwch am y senario erchyll y mae'n rhaid i rai o'r bobl hyn ymdrin â hi ar ein rhan, pan ydym wedi cael adar yn cael eu difa, mae yna lawer o lwch, mae yna lawer o blu, mae yna lawer o ddeunydd arall—mae'n bwysig iawn fod ganddynt gyfarpar diogelu personol priodol a'u bod yn gwisgo gorchuddion wyneb hefyd.

Diolch i Sam Kurtz am ofyn y cwestiwn yma heddiw. Bydd y Gweinidog yn cofio i fi godi'r mater yma efo hi ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, felly, dwi ddim am ailadrodd fy hun, a dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y diweddariad sydd newydd gael ei gyflwyno heddiw. Ond mae yna un elfen sy'n mynd yn angof yn aml yn y drafodaeth am ffliw adar, sef ei effaith ar gynhyrchwyr wyau. Mae'r sector hwn eisoes wedi dioddef cyfnod anodd iawn, efo rhai ffermwyr yn dweud bod yna fai ar yr archfarchnadoedd, ond does yna ddim amheuaeth bod mater ffliw adar yn effeithio ar y cyflenwad o wyau. Felly, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog: pa asesiad y mae hi wedi ei wneud o effaith hyn ar y sector wyau, a pha gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr wyau Cymru yn dioddef yn sgil y datblygiadau yma? A pha gefnogaeth sydd am gael ei rhoi mewn lle os ydy'r sector yma am gael ei effeithio? Diolch.

Diolch. Wel, yn amlwg, effeithiwyd ar ein cynhyrchwyr wyau; os ydych chi'n meddwl am wyau maes er enghraifft, oherwydd y Gorchmynion gorfodol a gawsom i gadw adar dan do, fe effeithiwyd ar gynhyrchiant wyau maes wrth gwrs. Rwy'n credu fy mod wedi dweud wrthych yn ôl pob tebyg fod hyn yn cael sylw ar lefel y DU, ac yn sicr, roedd Llywodraeth y DU wedi cydlynu cyfarfod yn ymwneud â chynhyrchwyr wyau. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gymorth neu gyllid penodol sydd ar gael, ond yn amlwg, mae angen inni gadw llygad barcud ar hynny, a gweld beth yw'r canlyniad i'n cynhyrchwyr wyau.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Twristiaeth Cymru, pan fyddwn yn hyrwyddo popeth sydd gan y genedl brydferth hon i'w gynnig. Cefais y pleser o ymweld â nifer o fusnesau twristiaeth—nifer ohonynt yn wych—ar draws fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru, a gweld yn uniongyrchol y manteision aruthrol y mae'r cwmnïau hyn yn eu cynnig, nid yn unig i'r arlwy twristiaeth yn eu hardaloedd lleol, ond i'r cymunedau y maent yn byw ynddynt eu hunain. O sgyrsiau gyda gweithredwyr lleol am farchnata Cymru i'r byd, mae'n rhaid inni fod yn glir fod yna rywbeth at ddant pawb, boed yn draethau ysblennydd neu'n ardaloedd cefn gwlad, neu bopeth rhyngddynt—digon yw dweud bod gan Gymru gymaint mwy i'w gynnig na chestyll a rygbi yn unig, er mor falch yr ydym o'r dreftadaeth honno. Mewn geiriau eraill, mae'r amrywiaeth fawr, ar hyd a lled Cymru, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystrydebau cyffredin hynny. Ac yng Ngorllewin De Cymru, mae gennym leoedd gwirioneddol anhygoel i ymweld â nhw, o draethau gwych Gŵyr, i amgylcheddau mawreddog Porthcawl, i'r canrifoedd sydd wedi gadael eu hôl ar gwm Nedd a thu hwnt. Mae gennym gymaint i'w gynnig ar draws fy rhanbarth. Ac wrth gwrs, ni fyddai cryfder ein cynnig twristiaeth yn bosibl heb waith caled aruthrol ein busnesau lleol, staff lletygarwch, ymddiriedolaethau hanes a gwirfoddolwyr, a hoffwn ddiolch o galon i'r holl bobl hynny. 

A thrwy gydol yr wythnos hon, a phob wythnos yn wir, rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am fywydau a phrofiadau ein busnesau twristiaeth anhygoel ledled Cymru. Lle bynnag y byddwch yng Nghymru, mwynhewch Wythnos Twristiaeth Cymru wrth inni ei nodi yma yn y Senedd. 

15:40

Mae'n bwysig ein bod yn gwarchod ein hanes lleol, ac mae hynny'n cynnwys hanes menywod, sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Mae'r ymgyrch plac porffor yn gwneud hynny i gofio am fenywod nodedig Cymru. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, mynychais seremoni ddadorchuddio plac porffor cyntaf Amgueddfa Cwm Cynon yn fy etholaeth. Roedd yn briodol fod y plac yn coffáu Rose Davies y mae ei chyflawniad yn un o gyfres ryfeddol o gyflawniadau cyntaf. Rose oedd y fenyw gyntaf i gadeirio pwyllgor addysg yng Nghymru; ysgrifennydd cyntaf Urdd Gydweithredol y Menywod yn Aberdâr; y fenyw gyntaf i gadeirio Cyngor Gweithredol Crefftau a Llafur Aberdâr; ym 1920, y fenyw gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Forgannwg, gan gynrychioli ward Aberaman. Ac yna, ym 1949, Rose oedd cadeirydd benywaidd cyntaf y cyngor sir. 

Ganed Rose yn Aberdâr ym 1882, a gweithiodd fel athrawes cyn dechrau ar yrfa hir o wasanaeth cyhoeddus. Gyda'i gŵr Ted, daeth yn ffrindiau agos â Keir Hardie, a bu'n ei gynghori ar bolisi addysg. Dyma un o'r pethau y teimlai'n angerddol yn eu cylch, yn ogystal â mudiadau heddwch a menywod Llafur, gan gynnwys darparu gwasanaethau mamolaeth ac atal cenhedlu. Roedd Rose yn Gymraes ryfeddol, felly mae'n addas iawn ei bod hi'n cael ei chofio. Diolch i gyd-Aelodau o'r Senedd, ac i'r holl bobl leol a fynychodd, i sicrhau bod hynny'n digwydd. 

Yfory, fe fydd hi'n 60 mlynedd ers agor Sw Mynydd Cymru—sw cenedlaethol Cymru. Wedi'i lleoli ym Mae Colwyn, mae'r sw yn un o atyniadau twristiaeth gorau gogledd Cymru, ac mae'n croesawu tua 170,000 o bobl drwy ei gatiau bob blwyddyn. Ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers iddi gael ei hagor gan ei sylfaenydd, Robert Jackson, a maer bae Colwyn ym 1963. O'r dechreuadau bach hynny, mae'r sw bellach yn gartref i 1,500 o anifeiliaid, a mwy na 100 o rywogaethau. Mae'n cyflogi 40 aelod o staff, ac mae hynny'n codi i 55 aelod o staff yn ystod tymor prysur yr haf. 

Cefais y fraint o ymweld â'r sw ar sawl achlysur dros y blynyddoedd i glywed mwy am ei gwaith addysgol a chadwraethol, gan gynnwys ei rôl hanfodol wrth gwrs yn y rhaglen DU gyfan ar gyfer bridio gwiwerod coch. Rwyf hefyd wedi helpu'r ceidwaid i fwydo'r parotiaid, y tsimpansîaid, y giboniaid, yr eirth, teigrod, lemyriaid, morlewod, swricatiaid a llewpardiaid yr eira dros y blynyddoedd, a'r penwythnos hwn, gwahoddwyd ymwelwyr i ddathlu pen-blwydd diemwnt y sw gyda thocynnau hanner pris a llu o weithgareddau arbennig. Mae Sw Mynydd Cymru yn stori lwyddiant Gymreig, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr yn ymuno â mi i ddymuno llongyfarchiadau calonnog i bawb ar y pen-blwydd arbennig hwn, a phob llwyddiant ar gyfer y degawdau i ddod. 

Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu ar Ddementia, ac mae'r ffocws eleni ar bwysigrwydd diagnosis amserol. Mae diagnosis cywir ac amserol yn hanfodol i helpu pobl i reoli eu symptomau a chaniatáu mynediad at y driniaeth, y cymorth a'r cyngor y mae diagnosis yn eu cynnig. Mae ymchwil gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru wedi datgelu bod bron i un o bob tri o bobl yng Nghymru sy'n sylwi ar symptomau dementia ynddynt eu hunain neu rywun annwyl yn aros mwy na mis cyn lleisio eu pryderon, gyda bron i un o bob pump o bobl yng Nghymru yn aros am fwy na chwe mis cyn siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol. Drysu symptomau dementia ag arwyddion o heneiddio oedd y prif reswm pam fod pobl yn cadw'n dawel am symptomau posibl dementia. Dilynwyd hyn gan beidio â bod eisiau poeni anwyliaid, yn ogystal ag ofnau ynglŷn â sut y gallai eu perthynas ag anwyliaid newid. Nid mynd yn hen yw gofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd, ond mynd yn sâl, a gallai fod yn arwydd o ddementia. Felly, yr wythnos hon, Wythnos Gweithredu ar Ddementia, hoffwn i fy etholwyr a phawb yng Nghymru wybod bod cefnogaeth ar gael gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer's Cymru os ydych chi'n ddryslyd ynglŷn â'ch symptomau. Felly, ewch i gael yr help rydych chi ei angen ac yn ei haeddu.

15:45

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol o’r rôl bwysig mae cadw’n heini yn ei chwarae wrth gynnal iechyd meddwl da. Felly, hoffwn gymryd y cyfle i sôn am y gwaith rhagorol mae ColegauCymru yn ei wneud i sicrhau bod bywyd pob dydd dysgwyr yn weithgar a heini, a’r effaith gadarnhaol caiff hyn ar eu hiechyd meddwl.

Yn ddiweddar, noddais gyfarfod gan ColegauCymru, lle dywedodd dysgwyr wrthyf am y budd o fod yn heini a’r effaith ar eu iechyd corfforol a meddyliol. Roedd yn galonogol clywed pobl ifanc yn siarad mor frwd am eu profiadau.

Yn 2021, comisiynodd Colegau Cymru dri prosiect ymchwil ansoddol gyda cholegau, oedd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth lles actif. Ariannwyd y prosiectau ymchwil lles actif gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u rhaglen i gefnogi mentrau iechyd meddwl a lles mewn colegau addysg bellach.

Mae dros 300 o ddysgwyr, tiwtoriaid ac aelodau staff wedi cymryd rhan yn yr ymchwil erbyn hyn. Maent yn darparu lles actif mewn sefydliadau addysg bellach, ac mewn sefydliadau cenedlaethol eraill. Canfu’r ymchwil fod darpariaeth lles actif yn cael ei groesawu gan ddysgwyr a’i fod wedi eu helpu i ddeall y cysylltiad rhwng gweithgaredd corfforol, iechyd meddwl a lles. Mae’r rheini sy’n cymryd rhan mewn cyfleoedd lles actif yn adrodd eu bod yn cael hwyl, mwynhad a rhyddhad rhag straen, pryder a phwysau gwaith, yn ogystal â chyfle i gymdeithasu.

Er bod gwaith gwych yn digwydd mewn y colegau, mae tystiolaeth bod llai o bobl 15 oed ac 16 oed yn cadw’n heini, yn enwedig merched, pobl o gefndir incwm isel, a'r rheini o gefndiroedd du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig, a nodweddion gwarchodedig eraill.

Mae colegau mewn sefyllfa dda i gefnogi’r dysgwyr hyn ond mae’r her yn barhaus ac mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn hanfodol yn y maes hwn—rhywbeth, gobeithio, y gallwn ni oll gytuno arno. 

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Diogelwch adeiladau uchel

Eitem 6 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, diogelwch adeiladau uchel. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8230 Janet Finch-Saunders, Jane Dodds, Rhys ab Owen

Cefnogwyd gan Gareth Davies, Joel James, Natasha Asghar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a

b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, bydd yn rhaid imi ddatgan diddordeb yn hyn—diddordeb nad oeddwn yn gwybod ei fod gennyf, ddoe hyd yn oed wrth imi eistedd yma. Cyrhaeddais adref ddoe, i'r fflatiau rwyf ynddynt—rwy'n gwybod bod Aelodau eraill ynddynt hefyd—ac roedd llythyr yno gan y cwmni rheoli eiddo a ddywedai fod arolwg ar y cyd wedi'i gynnal o'r cladin allanol, ac adroddiad cychwynnol wedi dod yn ôl, sy'n awgrymu y bydd angen gwaith cyweirio, ac oherwydd y lefel annioddefol o risg yn yr adeilad, rhaid cynnal gwyliadwriaeth effro tra bod system larwm tân estynedig yn cael ei gosod. System diogelwch tân yw gwyliadwriaeth effro lle mae staff sydd wedi'u hyfforddi'n addas yn patrolio'r lloriau a therfyn allanol yr adeilad yn barhaus i gadw'r bobl sy'n byw ynddo'n ddiogel rhag tân. Nod gwyliadwriaeth effro yw sicrhau bod digon o rybudd pe bai tân yn digwydd i gefnogi'r strategaeth wacáu. Deallaf fod dau ŵr bonheddig yn crwydro o gwmpas ddoe mewn siacedi llachar ac yn cario corn, peth tebyg i gorn niwl, felly pe baent yn sylwi ar unrhyw beth o'i le roeddent ar y safle. Nawr, heddiw y deallais hyn, felly efallai y bydd eraill heb glywed eto. Ond yr hyn a wyddom yw bod miloedd wedi'u dal yn y fflatiau lesddaliadol hyn yr eiliad hon.

Nawr, pwrpas y cynnig hwn yw gweld Senedd Cymru'n defnyddio ei phŵer deddfwriaethol i gefnogi'r lesddeiliaid caeth hyn. Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys ab Owen a Jane Dodds, oherwydd mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei deimlo'n gryf ac yn drawsbleidiol, a gwn eu bod wedi bod yn gefnogol iawn hyd yma. 

Felly, Ddirprwy Lywydd, mae wedi cymryd pum mlynedd ers trasiedi Grenfell i gyrraedd y pwynt lle mae datblygwyr yn llofnodi'r ymrwymiad. Mae'n dda bod hyn yn digwydd. Nawr, rwyf wedi gweld llythyr a anfonwyd yr wythnos diwethaf gan eich dirprwy gyfarwyddwr diogelwch, rheoleiddio a safonau tai. Ac mae'n dweud: 'Nid yw telerau'r cytundeb cyfreithiol sy'n sail i'r ymrwymiad yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr dalu costau am fesurau dros dro, fel gwyliadwriaeth effro. Fodd bynnag, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr fynd i'r afael â materion diogelwch tân cyn gynted ag y bo'n rhesymol yn ymarferol fel nad oes angen mesurau dros dro mwyach.' Nawr, mae'r ymrwymiad yn ffon wych a ysbrydolwyd gan Michael Gove. Er eglurder, Weinidog, a allwch chi roi eich rhesymeg dros beidio â'i gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr dalu costau ar gyfer mesurau dros dro?

Y rheswm pam mae angen gwyliadwriaeth effro, megis yn achos un datblygiad yn ne Cymru, yw bod peiriannydd tân annibynnol, mewn ymgynghoriad â gwasanaeth tân ac achub de Cymru, wedi awgrymu mai gwyliadwriaeth effro dros dro oedd y llwybr cywir i'w ddilyn er mwyn cadw preswylwyr yn ddiogel. Fodd bynnag, ni ddylai'r dioddefwyr, y lesddeiliaid hyn, orfod talu'r costau. Nawr, am fy mod bob amser yn y gwaith yn ystod y dydd, mae'n debyg fy mod—wyddoch chi, yr adegau, y nifer o ddyddiau rwyf i lawr yn y fan hon, mae'n debyg na fydd y bobl a gweld y bobl sy'n diogelu pawb yn y fflatiau hynny'n effeithio arnaf fi; yn y bôn, rwy'n gadael hynny ar ôl. Ond mae yna lesddeiliaid, neu landlordiaid eiddo a brynwyd mewn diniweidrwydd llwyr, sy'n gorfod bod yn ymwybodol o hyn nawr.

Mae'r costau—. O, rwyf wedi dweud hynny. Rydych eisoes wedi cytuno i ad-dalu costau arolwg, lle cynhaliwyd arolygon cyn lansio cronfa diogelwch adeiladau Cymru ym mis Medi 2021. Fodd bynnag, mae hynny ar yr amod fod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni: rhaid bod y gwaith arolygu wedi digwydd cyn mis Medi 2021; rhaid bod proses gaffael—ac ar hynny, nid yw pawb wedi gallu cael y gwaith arolygu wedi'i wneud erbyn 2021—rhaid bod proses gaffael wedi cael ei dilyn; rhaid i'r gwaith fod wedi'i gyflawni gan berson â chymwysterau addas—pwy fyddai'n dadlau â hynny—rhaid i adroddiad yr arolwg fod o safon gyfatebol i'r rhai sy'n cael eu cyflawni gan syrfewyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Ac mae hwnnw'n dir llwyd iawn, oherwydd mae rhai pobl yn darganfod eu bod yn un o'r adeiladau peryglus hyn. Ac er inni fod yn siarad am y Cladiators a chladin ers misoedd lawer yma fel y nodoch chi'n gywir, Weinidog, fe wyddom fod llawer mwy iddo na hynny. Mae yna eiddo lle—. Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am bethau fel llenni tân; nid sgandal am gladin yn unig mohoni. Mae adroddiad yr arolwg yn—. O ydw, rwyf wedi dweud hynny. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i mi, er hynny, eich bod yn gosod meini prawf mor llym yn ôl-weithredol. Mae pob person sy'n byw yn un o'r adeiladau hyn angen eich help a'ch cymorth. Felly, dylech fod yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i chi i sicrhau mynediad at gymorth i bob deiliad tŷ unigol a'i wneud mor hawdd â phosibl.

Enghraifft arall o rwystr Llywodraeth Cymru yw nad ydych chi wedi ymrwymo i dalu'n ôl-weithredol am yr holl waith a wnaed. Lansiwyd cronfa diogelwch adeiladau Cymru ym mis Medi 2021, dros bedair blynedd ar ôl Grenfell. Mae'n gwbl rhesymol i fod wedi disgwyl i breswylwyr pryderus gymryd camau pendant i wneud eu cartrefi'n fwy diogel yn yr amser y cymerodd i Lywodraeth Cymru weithredu. Fel y mae, teimlir bod mynediad at gymorth yn hynod o anodd i'r lesddeiliaid hyn. Felly nawr, rydym yn credu, maent hwy'n credu, ac rwyf i'n credu y byddai unrhyw berson rhesymol yn credu, fod angen defnyddio ein gallu i ddeddfu nawr i sicrhau cyfiawnder i'r unigolion hyn.

Nawr, rwyf wedi cael amser i ddarllen gweithred contract dwyochrog rhwng Gweinidogion Cymru ac unrhyw ddatblygwr. Nodir yn adran 20—torri amodau a therfynu—y caiff Gweinidogion Cymru fynd ar drywydd unrhyw un o'r camau unioni sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn y gyfraith am dorri amodau perthnasol o'r fath, gan gynnwys y camau unioni y cyfeirir atynt yng nghymal 27.5. Mae cymal 27.5 yn cyfeirio at iawndal, gwaharddeb a pherfformiad penodol. Byddai'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw yn datgan mewn cyfraith y byddai unrhyw ddatblygwr sy'n gwrthod cyweirio diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt yn cael eu gwahardd rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.

Nawr, er y byddwn yn hoffi i Senedd Cymru ystyried opsiynau ynglŷn â sut y gellid cyflawni'r gwaharddiad, un opsiwn yw ailadrodd gorchmynion gwahardd. Yn Lloegr, mae gorchmynion o'r fath yn cael eu defnyddio gan y tribiwnlys haen gyntaf i wahardd landlord rhag gosod tai yn Lloegr, rhag cymryd rhan mewn gwaith asiantaeth gosod yn Lloegr a rhag cymryd rhan mewn gwaith rheoli eiddo yn Lloegr. Opsiwn arall fyddai cyflwyno TAN, nodyn cyngor technegol, sy'n gwneud methiant datblygwr yn y gorffennol i gyweirio diffygion diogelwch tân yn sail ddilys ar gyfer gwrthwynebu unrhyw gais a gyflwynid ganddynt. Neu gallwn edrych ar esiampl y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS unwaith eto, ac ailadrodd cynllun gweithredwyr cyfrifol. Bydd y rheoliadau'n galluogi datblygwyr cymwys nad ydynt yn ymuno ac yn cydymffurfio ag amodau'r cynllun—

15:55

Janet, mae'n ddrwg gennyf dorri ar eich traws, ond rydych chi wedi defnyddio'r holl amser a ddyrannwyd i chi ar gyfer agor a chloi, felly awgrymaf efallai eich bod am ddod i ben yn y fan honno.

O, mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl bod gennyf wyth munud i agor a—.

O, iawn, o'r gorau. Wel, rwy'n erfyn ar bob Aelod i gefnogi fy nghynnig heddiw ein bod yn rhoi hyn mewn cyfraith nawr. Bydd hynny'n diogelu'r lesddeiliaid sy'n ddioddefwyr diniwed. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Janet hefyd am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma.

Rydym wedi bod yma droeon o'r blaen, ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog ychydig bach yn rhwystredig ein bod yn dychwelyd ato eto, ond mae'n wir ei fod yn fater nad yw wedi diflannu, a/neu nad yw pobl yn cael y cyfathrebiadau sy'n cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwy'n falch fod hwn yn gynnig trawsbleidiol, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar dri mater penodol—tri chwestiwn penodol, os mynnwch.

Gwyddom fod rhai datblygwyr wedi llofnodi addewid Llywodraeth i wneud gwaith cyweirio a thalu amdano, ond rwy'n pryderu nad yw'r ymrwymiad yn gyfreithiol rwymol a hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar hynny, os gwelwch yn dda. Mae canlyniadau'r ymrwymiad yn Lloegr, a'r camau a gymerwyd, yn dangos na fydd unrhyw beth heb sail gyfreithiol yn sbarduno newid. 

Yn ail, hoffwn ddeall hefyd a oes parodrwydd, rhwymedigaeth, ymrwymiad—gallwch ei alw'n beth bynnag a fynnwch—i ddilyn pwynt Janet, i dalu am y costau afresymol a pharhaus sy'n gysylltiedig â'r methiannau diogelwch adeiladau real iawn ar ran y datblygwyr—.

Yn drydydd, ac yn olaf, rhywbeth y cyffyrddais ag ef yn fy sylwadau agoriadol oedd: pa gynllun cyfathrebu i lesddeiliaid, gydag amserlenni clir hefyd, sydd ar waith ar hyn o bryd? Mae llawer ohonom yn gwybod, os oes gennych wybodaeth, os cyfathrebir â chi, yna efallai y byddwch yn teimlo mewn sefyllfa well, efallai y bydd eich lefelau straen yn teimlo ychydig yn is ac efallai y bydd eich iechyd meddwl ychydig yn fwy sefydlog. Gwyddom fod llawer o'r lesddeiliaid hyn dan straen mawr ac yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl; clywn fod hynny'n wir am deuluoedd a phobl ifanc, a phobl hŷn yn enwedig—pobl sydd wedi ymddeol ac sydd wedi rhoi eu holl gynilion oes, yn y bôn, yn eu heiddo.

Mae Janet wedi tynnu sylw at y cysyniad o wyliadwriaeth effro, rhywbeth sy'n effeithio arni hi bellach, ac mae pobl wedi talu miloedd tuag at hyn. Mae'n dwll enfawr yn eu cynilion neu eu hincwm. Felly, rwy'n mynd i orffen yn y fan honno, ond hoffwn ychwanegu hyn: rwy'n siarad am deimladau'r nifer fawr o bobl sydd wedi cysylltu â mi, ac rwy'n gwybod bod nifer o rai eraill yn y Siambr hefyd, dros fisoedd lawer, os nad y flwyddyn ddiwethaf, yn credu bod yr hyn sydd gennym ar waith nawr yn rhy ychydig, yn rhy wan ac yn rhy araf i weithredu. Hoffwn glywed gan y Gweinidog ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r tair elfen honno. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd i Janet Finch-Saunders am y cynnig deddfwriaethol pwysig yma, ac i Jane Dodds am ei chyfraniad hi.

Weinidog, rydych wedi datgan sawl gwaith fod rhaid i ddatblygwyr a'r diwydiant adeiladu gymryd cyfrifoldeb am gyweirio diffygion diogelwch tân. Roeddwn yn falch o glywed ym mis Mawrth eich bod yn gwneud ymrwymiadau datblygwyr yn gyfreithiol rwymol. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â faint o ddatblygwyr sydd bellach wedi llofnodi contract cyfreithiol rwymol gyda Llywodraeth Cymru?

Rydych chi wedi sôn sawl gwaith o'r blaen hefyd am y materion ymarferol niferus sy'n codi mewn perthynas â gwaith cyweirio, megis pwy i'w flaenoriaethu a sicrhau digon o adnoddau a sgiliau. Pa gymorth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fynd i'r afael â'r materion hyn?

Rydych chi hefyd wedi dweud y byddwch chi'n ystyried deddfwriaeth a gwaharddiad yn erbyn datblygwyr nad ydynt yn cymryd cyfrifoldeb. Mae ymgyrchwyr yn rhwystredig iawn fod datblygwyr sy'n gysylltiedig ag adeiladau diffygiol yn dal i gael caniatâd cynllunio a chontractau llywodraeth leol. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddant yn gwahardd datblygwyr rhag datblygiadau yn y dyfodol o dan adrannau 126 i 129 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd yn erbyn datblygwyr ac a ydych yn darparu unrhyw ganllawiau i awdurdodau lleol?

Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod rhai preswylwyr eisoes wedi cymryd camau cyfreithiol eu hunain yn erbyn datblygwyr o dan Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972. Heb amserlen gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n deall y rhesymau rydych wedi'u rhoi cyn heddiw pam na allwch roi amserlen, maent o'r farn y bydd y llysoedd yn cyflawni ymhell cyn i Lywodraeth Cymru wneud. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y preswylwyr hyn ac a ydych chi'n pryderu bod safonau'r Ddeddf Mangreoedd Diffygiol yn wahanol i'r hyn a geir yn y Ddeddf Diogelwch Adeiladau?

Gwnaf i orffen drwy ddyfynnu geiriau Non a Gwenallt Rees, dau bensiynwr sy'n byw yn Victoria Wharf, nid nepell o fan hyn. 

'Pam ŷn ni breswylwyr fflatiau yn dal yn gyfrifol am gostau anferth...a grëwyd gan eraill?'

Dyna pam ŷn ni'n cefnogi'r Bil heddiw ac yn gobeithio bydd y Senedd yn ei gefnogi hefyd. Diolch yn fawr.

16:00

Mae problem gydag adeiladau uchel iawn yng Nghymru. Mae hyn wedi dod i’r amlwg yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell. Mae preswylwyr, heb unrhyw fai arnynt eu hunain, mewn sefyllfa lle mae ganddynt gartrefi na ellir eu gwerthu ac sydd angen gwariant sylweddol ar waith cyweirio. Mae gennyf ddau yn Nwyrain Abertawe. Y cyntaf yw Cei'r De, a adeiladwyd gan Carillion. Nid yw Carillion yn bodoli mwyach, felly ni fydd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon o fudd i drigolion yng Nghei'r De.

Nid yw Carillion yn bodoli mwyach, felly ni fydd y cynnig i ddeddfu i ad-dalu costau rhesymol sy'n deillio o faterion diogelwch adeiladau i lesddeiliaid yn gwneud unrhyw les. Nid yw Carillion yn bodoli i wneud y taliadau, ac mae’r cynnig sy’n gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio'r diffygion diogelwch tân ar adeiladau y maent yn eu datblygu rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru—wel, nid yw’r cwmni’n bodoli. Sut y byddai'n effeithio ar gwmni nad yw'n bodoli?

Mae fy mhreswylwyr yng Nghei'r De'n bryderus iawn am y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Ni fydd Carillion yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, ni fydd yn gwneud cais am unrhyw beth; nid yw'n bodoli. Rwy’n siŵr nad Cei'r De yw unig ddatblygiad Carillion. Mae hyn wedi golygu bod pobl yn bryderus iawn, os bydd rhaid iddynt gymryd camau cyfreithiol yn y pen draw, sut rydych yn eu cymryd yn erbyn cwmni sydd wedi mynd i'r wal?

Ar gyfer yr adeiladau hyn y mae’r Llywodraeth yn eu hystyried yn adeiladau amddifad, nid yw’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon o unrhyw ddefnydd, ond mae’r Gweinidog wedi gwneud cynigion, wedi gwneud datganiadau o gefnogaeth ar gyfer yr adeiladau amddifad hyn, a chredaf y bydd hynny’n gwneud llawer mwy o les i fy etholwyr yng Nghei'r De na'r ddeddfwriaeth hon.

Altamar yw’r datblygiad arall yr effeithir arno, lle mae Bellway Homes yn gysylltiedig â'r gwaith fel datblygwr. Dywedwyd wrth drigolion Altamar fod Bellway wedi llofnodi'r ymrwymiad. Mae hyn yn bendant yn gynnydd. Cyhoeddwyd hefyd fod taliad am waith cyweirio a wnaed eisoes yn cael ei ystyried mewn proses fewnol yn Llywodraeth Cymru, a fydd, pan fydd wedi’i chwblhau, yn cael ei hanfon at Julie James i’w derbyn. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, yn ei hateb, roi’r wybodaeth ddiweddaraf am daliad am y gwaith cyweirio a wnaed eisoes ac amserlen ar gyfer gweithredu gan y datblygwr.

Mae symiau bach i Lywodraethau yn symiau mawr iawn i unigolion. Byddai rhai adeiladau, er nad yn Abertawe, wedi cael eu hadeiladu gan gwmnïau un diben y gellir eu dirwyn i ben yn hawdd pe gwneir hawliadau, ac na fyddant yn gwneud cais cynllunio yn y dyfodol.

Os caiff y ddeddfwriaeth hon ei derbyn heddiw, bydd yn cymryd dros ddwy flynedd i fynd drwy weithdrefnau’r Senedd. Mae’n rhaid ysgrifennu’r Bil, y ddeddfwriaeth fanwl, a dilyn hynny gyda Chyfnodau 1, 2, 3 a 4 yn y Senedd. Er gwaethaf yr holl bryderon sydd gennyf, byddaf yn pleidleisio drosto i ddangos fy nghefnogaeth i fy nhrigolion, ond credaf fod y rhai ohonoch sydd wedi dweud wrthynt fod hwn yn ateb cyflym wedi eu camarwain. Mae angen datrys hyn nawr, ymhell cyn i’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon fynd drwy’r Senedd. Mae pobl yn gobeithio gweld y mater yn cael ei ddatrys yn gyflym iawn.

Wrth gwrs, fe wnaf gais i’r Ceidwadwyr: a wnewch chi wrthod pob rhodd wleidyddol gan y cwmnïau dan sylw?

16:05

Diolch yn fawr iawn i Janet Finch-Saunders am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw, ac mae Janet wedi bod yn gyson wrth hyrwyddo'r mater yma dros y ddwy flynedd diwethaf, o leiaf. Mae’r cynnig yn clymu i mewn yn arbennig o dda efo'r gwaith mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf, o dan arweiniad celfydd John Griffiths yn y fan acw. Ac mae'r pwyllgor wedi cymryd tystiolaeth bwysig iawn yn ystod yr ymchwiliad, ac yn wir wedi agor fy llygaid i sawl peth newydd.

Mae’r cynnig yma gan Janet yn adlewyrchu llawer iawn o’r gwaith sydd wedi mynd yn ei flaen, ac mae hi wedi llwyddo i gyfleu hynny mewn modd cryno yng ngeiriad y cynnig, felly diolch iddi am y gwaith yn hynny o beth.

Wrth i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai edrych ar cladin a diogelwch tân, yr hyn sydd wedi dod yn hynod o amlwg ydy bod y problemau yn llawer o’r adeiladau yma yn mynd y tu hwnt i’r materion penodol sydd o dan gwestiwn yma, ac mewn gwirionedd, yn dangos gwendidau sylfaenol yn y drefn ddiogelwch a safon adeiladu. Yn wir, mi fuaswn i'n mynd mor bell â dweud bod y sector wedi bod fel y gorllewin gwyllt, gyda bron dim goruchwylio wedi bod i sicrhau safonau adeiladu a diogelwch, a chwmnïau wedi torri corneli yn sylweddol er mwyn cynyddu eu helw.

Dyma ddyfyniad gan un o’r tystion o Gaerdydd:

'os edrychwch ar yr ansawdd, mae'n ddiwydiant gwenwynig. Mae wedi'i adeiladu gan y cynigydd isaf… cawson broblem gyda'r staciau gwastraff yn Celestia. Y staciau gwastraff yw'r pibellau yn yr adeilad sy'n cael gwared ar wastraff dynol, ac fe fethodd un. A phan aethom i edrych—mae hon yn stori enwog ac eiconig iawn bellach—daethant o hyd i blyg a oedd yn cael ei ddal i fyny gan gwpan Starbucks gwag. Y gwir amdani yw bod llawer o'r adeiladau hyn wedi'u codi mewn dim o dro, heb y lefel ofynnol o ansawdd a phroffesiynoldeb.'

A dyma dystiolaeth arall, y tro yma gan berson o Abertawe, ac yntau'n dweud:

'Mae yna ddellt 2m o led o'r llawr i'r nenfwd, dellt awyru, gyda dyfais gychwyn awtomatig ynddi… cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu a'i feddiannu gyntaf yn 2004 neu 2005. Bythefnos yn ôl, fe wnaethom arolwg manwl ein hunain a chanfuom fod y strapiau i gadw'r dyfeisiau yn eu lle wrth eu cludo'n dal i fod yn eu lle ar bump o'r 43 dyfais hynny, a chawsant eu gosod yn yr adeilad heb gael gwared ar y strapiau.'

Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rhain, yn dangos safon gwael y gwaith adeiladu. Mae tystiolaeth arall gan bobl efo gwahanol anableddau yn dangos y byddant mewn perygl sylweddol pe byddai yna dân neu argyfwng, gyda dim ystyriaeth go iawn yn cael ei rhoi i anghenion pobl ag anableddau.

Felly, mae’r cynnig yma heddiw yn sôn am wahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio'r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd yng Nghymru. Mae hyn yn atseinio'r galwadau rydw i a Phlaid Cymru wedi’u gwneud yn y Siambr yma ar sawl achlysur erbyn hyn, felly fydd o ddim yn dod yn syndod ein bod ni'n cefnogi hyn. Dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog i’r cais yma yn benodol, ac yn gobeithio ei bod hi'n meddwl yn ddwys am yr opsiwn yma yn ei hystyriaethau.

Efallai, hefyd, y gall y Gweinidog yn ei hymateb roi diweddariad inni am y trafodaethau efo'r datblygwyr. Ydy Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barrett Homes bellach wedi arwyddo’r cytundeb i'w rhwymo i wneud gwaith atal tanau ar adeiladau uchel a chanolig yng Nghymru? Hefyd, ydy Redrow, McCarthy and Stone, Lovell, Vistry, a Persimmon, sydd eisoes wedi llofnodi'r cytundeb newydd, wedi dechrau ar y gwaith hynny? Efallai y gallwn ni gael adroddiad cynnydd gan y Gweinidog yn ei hymateb. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle unwaith eto i drafod mater pwysig diogelwch adeiladau yng Nghymru, ac mor fuan ar ôl y ddadl flaenorol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth.

Nid yw fy safbwynt wedi newid: dylai datblygwyr gymryd cyfrifoldeb am faterion tân mewn adeiladau y maent wedi'u datblygu. Ac yma yng Nghymru, nid ydym wedi cyfyngu hyn i adeiladau uchel iawn o 18m neu fwy o uchder, fel yr awgrymodd ein cyd-Aelodau a gyflwynodd y ddadl hon, ond, yn hytrach, rydym wedi ymestyn y cyfrifoldeb i gynnwys adeiladau canolig o 11m neu fwy o uchder. Mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â diogelwch tân mewn adeiladau o'r fath.

Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen diwygio diogelwch adeiladau yn gynhwysfawr dros gylch oes adeiladau; dyna pam ein bod, yn ogystal â mynd i’r afael â materion diogelwch tân yn ein stoc adeiladau bresennol, yn bwrw ymlaen â rhaglen ddiwygio sylweddol i sefydlu trefn ddiogelwch adeiladau sy'n addas i’r diben yng Nghymru.

Rydym eisoes wedi nodi ein dyheadau ar gyfer newid diwylliannol yn y ffordd y caiff adeiladau eu cynllunio a’u hadeiladu yn y Papur Gwyn, ‘Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru’, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021. Cadarnhaodd ein huchelgais hefyd i sefydlu system reoleiddio gadarn a chydlynol a fydd yn dwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif ac yn sicrhau y ceir gwybodaeth gyfredol gywir am yr holl adeiladau preswyl amlfeddiannaeth o fewn y cwmpas. Mae hyn yn cynnwys nodi person atebol a fydd yn gyfrifol am reoli diogelwch tân a risgiau ehangach mewn perthynas â diogelwch adeiladau.

Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr i sicrhau bod diffygion diogelwch tân yn cael eu cyweirio a'u bod yn talu am y gwaith. I’r perwyl hwn, ysgrifennais at dros 50 o ddatblygwyr preswyl mwyaf y DU i ofyn iddynt gadarnhau eu sefyllfa yng Nghymru. Mae'r holl ddatblygwyr hyn wedi ymateb. Cadarnhaodd y datblygwyr naill ai nad oeddent wedi datblygu unrhyw adeiladau preswyl o 11m neu fwy o uchder yng Nghymru, eu bod eisoes wedi cyweirio eu hadeiladau, neu eu bod wedi llofnodi ymrwymiad datblygwyr Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Lywydd, gwneuthum ddatganiad i'r perwyl hwn ym mis Hydref yn yr union Siambr hon. Ar y pryd, cyfeiriais hefyd at ddau ddatblygwr nad oeddent wedi ymgysylltu eto. Mae'r ddau ddatblygwr wedi cysylltu erbyn hyn ac wedi cadarnhau nad ydynt wedi datblygu adeiladau preswyl o 11m neu fwy o uchder yng Nghymru.

Mae’r ymrwymiad ei hun yn ymrwymiad cyhoeddus yn hytrach nag un cyfreithiol, ond i dawelu meddwl Janet a Jane a Mabon ac eraill yn y Siambr hon sydd wedi gofyn cwestiwn dros y misoedd diwethaf, mae’r contract cyfreithiol rwymol sy'n sail i'r ymrwymiad wedi’i baratoi a’i rannu gyda datblygwyr. Gadewch imi fod yn gwbl glir. Rwyf wedi dweud hyn nifer o weithiau, ac fe'i dywedaf eto. Mae pob un o'r datblygwyr roeddem yn disgwyl iddynt lofnodi ein contract cyfreithiol wedi gwneud hynny. Cofiaf eich sylwadau yn dilyn fy natganiad llafar, Janet, pan oedd datblygwyr wedi nodi eu bwriad i lofnodi, nad oedd bwriad i lofnodi yn unig yn werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno, felly rwy'n gobeithio y bydd y newydd hwn yn rhoi rhywfaint o gysur i chi.

O ystyried nad yw pob datblygwr wedi ymrwymo i wneud hyn yn Lloegr, rwy’n gwerthfawrogi’r angen i osod rheoliadau yno, ond nid yw hyn yn wir yng Nghymru. Yng Nghymru, gyda chytundeb cyfreithiol rwymol ar waith, gallwn geisio sicrhau datrysiad contractiol i faterion yn hytrach na dilyn y dull deddfwriaethol. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges newydd nodi’r problemau gyda’r amserlen ar gyfer dull deddfwriaethol, a Janet, roedd y ffaith eich bod wedi darllen y rhannau o'r contract sy'n nodi pam fod gennym gamau unioni contractiol yn ddefnyddiol iawn. Nid yw maint y broblem yng Nghymru yr un fath ag yn Lloegr, ac felly rydym wedi cymryd y camau cymesur hyn i fynd i’r afael â diogelwch adeiladau.

Er gwybodaeth i Mabon yn arbennig, y datblygwyr sydd wedi llofnodi—Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi darllen hyn ar gyfer y Cofnod o’r blaen ac fe'i darllenaf eto—yw Redrow, Bellway, Barratt Homes, Taylor Wimpey, Lovell Homes, Persimmon, Crest Nicholson, Vistry, Countryside a McCarthy and Stone, felly rhai o’r datblygwyr preswyl mwyaf sy’n gweithredu yn y DU. Rhyngddynt, mae'r datblygwyr hyn wedi nodi 121 o adeiladau 11m neu fwy o uchder, a bydd 84 ohonynt yn cael eu cyweirio drwy'r cytundeb hwn, ac am y gweddill, naill ai nid oes angen gwaith arnynt, maent eisoes wedi'u cyweirio, neu mae gwaith ar y gweill.

Byddwn yn defnyddio’r contractau hyn nawr i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau i safon briodol o fewn amserlen mor fyr ag sy’n bosibl, i roi terfyn ar ddioddefaint ddiamheuol lesddeiliaid a chaniatáu iddynt symud ymlaen â’u bywydau. Rwyf hefyd wedi bod yn falch o glywed am ddatblygwyr sydd wedi ysgwyddo'u cyfrifoldeb moesol ac wedi ad-dalu lesddeiliaid am unrhyw gostau a ddeilliodd o gyweirio materion diogelwch tân yn eu hadeiladau cyn i'r cytundebau hyn gael eu llofnodi.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cyhoeddi’r garfan gyntaf o 28 o adeiladau amddifad i’w datblygu—y rhai heb ddatblygwr dynodedig, neu lle mae’r datblygwr wedi rhoi’r gorau i fasnachu. Yn ogystal â chefnogi gwaith cyweirio ar yr adeiladau hyn, rwyf hefyd wedi cytuno y dylid ad-dalu lesddeiliaid am unrhyw gostau a ddeilliodd o waith cyweirio materion diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladwaith eu hadeilad.

Ac i fod yn glir, Janet—fe wnaethoch ddarllen y meini prawf ar gyfer hynny—nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros hynny. Arian cyhoeddus yw hwn; wrth gwrs y dylid ei dalu pan fydd yr arolygon wedi'u cynnal yn gywir ac y gellir dibynnu arnynt. Y rheswm am y dyddiad terfyn yw y gallech fynegi diddordeb ar ôl y dyddiad hwnnw a'i wneud drwy ein harolwg, felly nid oes angen ichi wneud arolwg ar wahân bryd hynny, a gallwch wneud hynny o hyd. Felly, os ydych yn ymwybodol o adeilad sy'n credu eu bod wedi colli eu cyfle am na wnaethant gomisiynu eu harolwg eu hunain, nid oes angen iddynt wneud hynny. Y cyfan sy'n rhaid iddynt ei wneud yw mynegi diddordeb, a bydd ein harolwg yn cymryd drosodd o'r pwynt hwnnw.

Nid yw'n iawn o gwbl i lesddeiliaid fod ar eu colled mewn perthynas â materion diogelwch tân nad ydynt yn fai arnynt hwy, ac rwyf bob amser wedi dweud yn glir na ddylent ysgwyddo'r costau hyn. Fel y nododd Mike Hedges hefyd, ar gyfer adeilad amddifad lle mae busnes wedi mynd i'r wal, ni fyddai’n bosibl dilyn y llwybr a amlinellwyd gennych, ac felly rydym wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am adeiladau amddifad a byddwn yn cyweirio'r adeiladau hynny gydag arian cyhoeddus.

Rwyf wedi dewis canolbwyntio ar gael y gwaith wedi'i wneud. Nid wyf yn ymddiheuro am y dull hwn o weithredu. Rwyf o ddifrif ynglŷn â'r cyfrifoldebau hyn ac rwyf wedi gwneud ymrwymiad clir iawn i weithio’n galed dros lesddeiliaid a thrigolion yr effeithir arnynt gan y materion tân hyn. Wedi dweud hynny, rwyf bob amser wedi dweud yn glir yn y gorffennol, ac rwy'n dal i ddweud yn glir heddiw, fy mod yn barod i ddilyn llwybr deddfwriaethol os nad yw datblygwyr yn gweithredu'n briodol i unioni materion diogelwch tân yn eu hadeiladau, ond ar hyn o bryd, nid yw'n angenrheidiol. Mae gennyf lwybr contractiol i wneud yn siŵr fod datblygwyr yn gwneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod yr adeiladau hyn mor ddiogel rhag tân â phosibl. Ni fyddai mabwysiadu dull deddfwriaethol, a fyddai’n mynd ag adnoddau gwerthfawr oddi ar y gwaith i sicrhau bod gan bob adeilad yng Nghymru lwybr at gael eu cyweirio, p’un a oes ganddynt ddatblygwr dynodedig ai peidio, yn ddefnydd da o adnoddau.

Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf fy mod wedi nodi rhesymau cynhwysfawr pam nad yw'r Bil hwn yn angenrheidiol yn fy marn i. Mae’r rhan fwyaf o’r hyn y mae’n ei wneud naill ai’n digwydd eisoes neu bydd yn cael ei gynnwys yn y Bil diwygio adeiladau a diogelwch tân, sydd eisoes wedi’i gyfeirio at y Senedd. Diolch.

16:15

Janet, dywedais y byddwn yn rhoi rhywfaint o amser i chi, felly os gallwch grynhoi ac ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog, ac yn wir i bawb, yn enwedig Jane Dodds a Rhys ab Owen, a phawb arall sydd wedi siarad ar hyn. Cyflwynais hyn gyda Jane a Rhys. Rydym wedi bod yn ymdrin â'r bobl yr effeithir arnynt gan hyn, y dioddefwyr diniwed hyn, a chredir bellach fod y cynnig deddfwriaethol hwn yn ddilys iawn yn wir. A hoffwn ofyn i bob Aelod gefnogi hynny a phleidleisio drosto heddiw. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai—Digartrefedd

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddigartrefedd. Galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM8267 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Digartrefedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddigartrefedd. Gwnaethom 24 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a chawsant eu derbyn yn llawn neu mewn egwyddor, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.

Dechreuasom ein gwaith drwy gyfarfod yn anffurfiol ag unigolion a grwpiau â phrofiad bywyd o ddigartrefedd, a gwasanaethau sy'n eu cefnogi'n uniongyrchol. Gwnaeth hyn ein helpu i ddeall y prif broblemau y mae defnyddwyr gwasanaethau'n eu hwynebu yn well. Fel gyda llawer o bethau eraill, Ddirprwy Lywydd, newidiodd pandemig COVID-19 y dull o ymdrin â digartrefedd yng Nghymru yn sylweddol. Roedd y dull 'neb heb help' a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn golygu bod gan bawb sydd angen lloches hawl iddo. Heb os, mae hyn wedi achub llawer o fywydau, ac rydym wedi gweld a chanmol yr ymdrechion eithriadol gan awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth i symud ymlaen yn y modd hwn.

Yn dilyn y pandemig, mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar roi terfyn ar ddigartrefedd, a gyhoeddwyd yn 2021, yn nodi nifer o gamau gweithredu, gyda’r nod o newid i ddull ailgartrefu cyflym. Clywsom fod y newidiadau mewn polisïau wedi creu cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ogystal â heriau newydd i awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth digartrefedd. Gwyddom hefyd fod y cyd-destun wedi newid eto ers cyhoeddi’r cynllun gweithredu, a bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bwriadu diweddaru’r cynllun eleni. Weinidog, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â phryd y disgwyliwch i gynllun gweithredu wedi’i adnewyddu fod ar waith.

Mae’r galw am lety dros dro wedi cynyddu’n sylweddol, gan effeithio ar awdurdodau lleol, staff sy’n darparu gwasanaethau, a'r bobl sy'n ddigartref. Fe wnaethom edrych ar hyn yn fanwl, yn ogystal ag ar y cyflenwad o lety dros dro, ynghyd â'i ansawdd a'i addasrwydd. Roeddem yn bryderus o glywed am safon wael peth o'r llety dros dro, a’r effaith ar y bobl sy’n cael eu cartrefu yno. Er enghraifft, roedd tystiolaeth yn awgrymu’n gyson fod pobl a oedd yn cael eu rhoi mewn gwestai a llety gwely a brecwast, yn enwedig teuluoedd, yn wynebu amodau byw anodd oherwydd diffyg cyfleusterau digonol, ac amodau cyfyng fel arfer. Hefyd, mae rheolau peth o'r ddarpariaeth llety dros dro yn golygu bod llawer yn colli eu rhyddid arferol, wrth orfod peidio â chael ymwelwyr a gorfod cadw at gwrffyw, gan waethygu’r teimladau o ynysigrwydd ac unigrwydd. Mae angen gwella hyn ar frys. Fe wnaethom nifer o argymhellion yn ymwneud â gwella safonau a’r cyflenwad o ddarpariaeth llety dros dro.

Roeddem yn arbennig o bryderus nad yw pobl yn gwybod am ba hyd y bydd yn rhaid iddynt aros mewn llety dros dro cyn dod o hyd i gartref sefydlog. O ganlyniad, mae pobl yn teimlo fel pe baent mewn limbo a bod eu bywydau wedi dod i stop dros dro, sy’n gallu cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl yn ogystal ag effeithio ar agweddau eraill ar eu bywydau, fel gwaith a pherthnasoedd. Rydym yn cydnabod yr anawsterau i awdurdodau lleol gyda mynd i’r afael â’r sefyllfa hon o ystyried y prinder llety symud ymlaen. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod pobl sy’n byw mewn llety dros dro yn cael gwybodaeth reolaidd a realistig ynglŷn â pha mor hir y mae eu harhosiad yn debygol o fod. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod pobl sy’n aros mewn llety dros dro yn cael gwybod am eu statws tai parhaus. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn datblygu dogfen sy'n anelu at ledaenu enghreifftiau o arferion da o ran cymorth a symud o lety dros dro. Felly Weinidog, a wnewch chi rannu’r wybodaeth honno gyda’r pwyllgor pan fydd ar gael?

Clywsom alwadau gan randdeiliaid am reoleiddiwr digartrefedd, yn enwedig er mwyn cadw golwg ar safonau llety dros dro. Cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth a ddaeth i law ac rydym yn gweld gwerth mewn creu rôl rheoleiddiwr digartrefedd yn y dyfodol. Roeddem yn siomedig, felly, mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad hwn. Byddem yn annog y panel adolygu arbenigol, a sefydlwyd i wneud argymhellion ar gyfer diwygio’r ddeddfwriaeth dai gyfredol, i roi ystyriaeth o ddifrif i sefydlu rheoleiddiwr digartrefedd.

Wrth gasglu tystiolaeth, clywsom am bwysigrwydd mynd i’r afael â digartrefedd gan ddefnyddio dull amlasiantaethol. Rydym yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae gwasanaethau cymorth yn ei wneud i helpu pobl sy’n ddigartref, ac roeddem yn arbennig o bryderus am effaith y sefyllfa bresennol ar staff. Argymhellwyd gennym y dylid cynyddu’r dyraniad ar gyfer y grant cymorth tai, yn ogystal ag adolygu canllawiau'r grant. Mae’r grant hwn yn hanfodol i ariannu gwasanaethau pwysig i atal digartrefedd sydd eu hangen fwy nag erioed ar hyn o bryd. Roeddem yn siomedig felly mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhellion hyn. Er bod y grant yn parhau i fod yn £166.8 miliwn mewn arian parod, o ystyried chwyddiant, mae hwn yn ostyngiad mewn termau real.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn bryderus iawn am y pwysau aruthrol sydd ar staff sy'n gweithio yn y sector ar hyn o bryd, ac effaith y pwysau hwn ar recriwtio a chadw, heb sôn am forâl a llesiant. Rydym yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o bobl i'r maes tai a digartrefedd, a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni. Byddem yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog rannu unrhyw ganfyddiadau ynghylch llwyddiant yr ymgyrch recriwtio gyda ni.

Roedd rhan fawr o’n gwaith yn ymwneud ag edrych ar y cyflenwad tai, gyda diffyg tai cymdeithasol yn un o achosion sylfaenol digartrefedd yng Nghymru. Clywsom am nifer o ffactorau cysylltiedig sy’n cyfrannu at y sefyllfa bresennol o ran digartrefedd, gan gynnwys diffyg y math cywir o dai cymdeithasol yn y lleoliadau cywir, yn ogystal â diffyg tai fforddiadwy. Mae’r broblem hon yn ymestyn i’r sector rhentu preifat, a chlywsom am ddiffygion sylweddol yn y lwfans tai lleol. Clywsom fod rhenti’r farchnad yn anfforddiadwy mewn llawer o ardaloedd, ac roeddem yn arbennig o bryderus o glywed nad oedd gan rai awdurdodau lleol unrhyw eiddo o gwbl ar gael ar gyfraddau'r lwfans tai lleol.

Awgrymodd rhai tystion y byddai data gwell ar renti yn helpu i lywio trafodaethau ar lefelau'r lwfans tai lleol yn ogystal â gwaith ar reolaethau rhent yn y dyfodol, ac y gallai Rhentu Doeth Cymru wneud y gwaith hwn. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad yn nodi y byddai'n ystyried dulliau o wella data rhentu yng Nghymru yn y Papur Gwyrdd ac yna'r Papur Gwyn ar renti teg. Edrychwn ymlaen at ystyried y Papur Gwyrdd yr haf nesaf.

Clywsom hefyd am yr heriau o ran dod o hyd i gartrefi addas i ddiwallu anghenion pobl sengl mewn llety dros dro. Dywedwyd wrthym am ddiffyg sylweddol o lety un ystafell wely fforddiadwy priodol, a bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â hyn. Galwodd rhai am ddeddfwriaeth i sicrhau bod eiddo un ystafell wely yn cael eu datblygu gan y gallai datblygwyr fod yn annhebygol o fod yn fodlon newid cyfeiriad yn wirfoddol eu hunain, gan fod adeiladu cartrefi llai o faint yn llai hyfyw'n fasnachol. Clywsom hefyd fod angen edrych ar sut mae’r galw am dai yn cael ei gyfrifo wrth ddrafftio cynlluniau datblygu lleol.

Mae’r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro yn cynnwys 390 eiddo un ystafell wely, ond teimlwn fod angen gwneud mwy i gynyddu nifer y math hwn o lety. Felly, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r holl opsiynau posibl ar gyfer cynyddu nifer y llety un ystafell wely sydd ar gael. Derbyniwyd hyn mewn egwyddor, gyda’r Gweinidog yn datgan mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cynnal adolygiadau cyfnodol o'r angen am dai, drwy broses yr asesiad o'r farchnad dai leol, a bod gwaith wedi cael ei wneud i gysoni proses gyllido'r grant tai cymdeithasol yn well â'r dystiolaeth o'r angen lleol am dai. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o eiddo un ystafell wely yn cael ei ddarparu.

Mae'n bwysig ein bod hefyd yn gwneud y defnydd gorau o’n stoc dai bresennol. Roeddem yn bryderus o glywed bod amrywiaeth hefyd ymhlith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran sicrhau bod eiddo gwag ar gael i denantiaid newydd, a bod eiddo'n aros yn wag yn rhy aml. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi pa ddata mae’n ei gasglu ar dai cymdeithasol gwag, gan gynnwys yr amser a gymerir i ailosod eiddo gwag, y rhesymau pam fod eiddo’n aros yn wag, a sut mae’n cefnogi landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod eiddo ar gael i’w osod. Derbyniodd y Gweinidog hyn mewn egwyddor, gan nodi bod mater casglu data tai cymdeithasol amser real wrthi'n cael ei ystyried. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i roi ystyriaeth o ddifrif i hyn, gan fod cartrefi gwag yn cyfrannu at yr argyfwng tai ac at ddigartrefedd.

Mae'n rhaid inni leihau’r ddibyniaeth ar lety dros dro yng Nghymru. Un o achosion sylfaenol digartrefedd yw’r diffyg cyflenwad tai cymdeithasol yng Nghymru, ond mae gan y sector rhentu preifat ran i’w chwarae hefyd. Byddwn yn gwneud rhagor o waith ar y cyflenwad o dai cymdeithasol ac yn edrych ar y sector rhentu preifat yn nhymor yr hydref. Mae angen edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer cynyddu'r cyflenwad tai. Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

16:25

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Mae'n bwnc hynod bwysig wrth gwrs, ac roeddwn yn falch iawn o chwarae rhan fach yn y broses o'i gynhyrchu, ond diolch hefyd i'n tîm clercio, ein timau ymchwil a phawb a rannodd dystiolaeth yn rhan o'r adroddiad.

Er mwyn bod yn gryno, bydd yr Aelodau’n falch fy mod am ganolbwyntio ar un neu ddau o argymhellion yn yr adroddiad a oedd yn sefyll allan i mi, gan fod y Cadeirydd eisoes wedi rhoi amlinelliad huawdl o eitemau’r adroddiad, ac argymhelliad 14 yn benodol, sy’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Rhentu Doeth Cymru yn casglu data ar nifer y landlordiaid preifat sy’n gadael y sector a’u rhesymau dros wneud hynny. Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno bod rôl landlordiaid preifat yn wirioneddol bwysig wrth fynd i’r afael â digartrefedd a dod o hyd i le i bobl fyw. Yn wir, mae llawer o bobl ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan landlordiaid preifat, ac os yw landlordiaid yn cadw eiddo yn y system, yna, yn amlwg, bydd llai o bobl yn ddigartref. A gwyddom fod y cynghorau'n gwario cryn dipyn o arian yn y maes gwaith hwn yn barod, ac mae'r gostyngiad yn nifer y landlordiaid preifat yn peri risg o waethygu'r argyfwng ymhellach fyth. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig casglu’r data hwnnw ynglŷn â pam fod landlordiaid preifat yn gadael y sector. Ac mae'n hollbwysig nad yw polisi Llywodraeth Cymru wedi'i anelu at gael gwared ar landlordiaid preifat a gallant ddysgu pam fod llawer yn gadael ar hyn o bryd.

Yr ail argymhelliad yr hoffwn dynnu sylw’r Aelodau ato yw argymhelliad 15, sef yr argymhelliad pwysicaf yn yr adroddiad, yn ôl pob tebyg. Mae’n ymwneud â sut y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut mae’n gweithio gyda’r sector rhentu preifat i wella’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy o safon, gan gynnwys pa gamau y mae wedi’u hystyried i gymell landlordiaid i aros yn y sector. Aelodau, rwy'n credu bod y dull deublyg hwn yn ffordd bragmatig o helpu i fynd i’r afael â digartrefedd yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Gwyddom nad oes digon o gartrefi’n cael eu hadeiladu yng Nghymru, ac wrth gwrs, nid yn unig fod hynny’n mynd i'r afael â phroblem digartrefedd ar hyn o bryd, mae'n datrys problemau mwy hirdymor hefyd, yn enwedig i bobl iau sy’n ceisio cael mynediad at dai ledled Cymru.

Crybwyllais fy mhryder wrth y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â phenderfyniadau polisi sy’n gwneud rhai datblygwyr neu landlordiaid cymdeithasol—mae'n gwneud adeiladu cartrefi yn amhosibl. Yn benodol, polisi Llywodraeth Cymru ar ffosffadau, lle gwelwn dai'n cael eu hadeiladu, yn llythrennol, ar ochr Lloegr i gae, ond ni ellir eu datblygu yn y rhan o'r cae sydd yng Nghymru. Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi’r rheswm pam fod rhywfaint o’r polisi hwnnw ar waith, ond clywsom yn ein pwyllgor gan gyngor Wrecsam, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sut mae pob un ohonynt wedi nodi sut mae’r cyfyngiadau yn rhwystr uniongyrchol i adeiladu tai. Yn wir, cyfyngiadau fel hyn—rwy'n deall nawr fod cost gyfartalog adeiladu tŷ cymdeithasol tair ystafell wely oddeutu £240,000. Felly, am bob £1 filiwn a werir ar adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, rydych yn cael pedwar cartref ar gyfartaledd. Felly gallwch weld yr heriau a wynebir, sy'n ymwneud i raddau helaeth â rhai o’r penderfyniadau polisi sy’n cael eu rhoi ar waith ac sy’n ei gwneud yn anodd iawn i landlordiaid cymdeithasol adeiladu’r tai sydd eu hangen ar frys.

Felly, credaf fod angen ateb brys i'r broblem. Nid yw’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â hyn yn ddigon da yn fy marn i. Credaf y dylai fod yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn, yn ogystal â gwaith arall y gwn fod y Llywodraeth yn ei wneud, yn cyfrannu rhywfaint at ysgogi’r camau gweithredu brys hyn. Felly, unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, diolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a phawb a gyfrannodd at yr adroddiad. Mae'n fater pwysig iawn ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn parhau i fod o ddifrif ynghylch yr argymhellion. Diolch yn fawr iawn.

16:30

Diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol i mewn i ddi-gartrefedd. Dwi am ddechrau drwy mynegi fy edmygedd a diolch i’r Cadeirydd, John Griffiths, ar lywio'r ymchwiliad mor ddeheuig, ac hefyd diolch i bob un aelod arall o'r pwyllgor ac i'r tîm cynorthwyol. Os caf i yn sydyn roi ar record fy niolch i ymchwilydd rhagorol y Senedd yn y materion yma, Jonathan Baxter, sydd bellach wedi symud i weithio i’r Llywodraeth.

Mae’r adroddiad yn un hunanesboniadol, ac mae’n dda gweld bod y Llywodraeth wedi naill ai derbyn pob un o’r argymhellion yn llawn neu eu derbyn mewn egwyddor. Y drafferth efo derbyn mewn egwyddor, wrth gwrs, ydy ein bod ni'n gwybod na fyddwn ni'n gweld gweithredu yn y meysydd yma. Ond, o blith yr holl argymhellion pwysig sydd yn yr adroddiad, dwi am dynnu eich sylw at ddwy yn benodol. Ond cyn hynny, dwi am gyfeirio at Sara.

Mae Sara Lewis yn ddynes arbennig. Mae hi'n byw yn Aberllefenni, pentref bach chwarelyddol yn ne Meirionnydd, ger Corris. Cafodd Sara ei geni a’i magu yn y pentref a magodd ei theulu yno. Yn anffodus, mae hi’n dioddef o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, sydd yn golygu ei bod hi'n cael trafferth anferthol i anadlu a gwneud unrhyw waith. Mae hi felly yn ddibynnol ar rwyd ddiogelwch y wladwriaeth am ei hincwm, ond er gwaethaf hynny, mae hi wedi trio sefydlu ei busnes crefftau ei hun, ac mae hi am fynychu'r brifysgol er mwyn cael gradd a gwella ei chyfleodd swyddi. Yn anffodus i Sara, gwerthodd ei landlord ei thŷ—a nifer o dai eraill yn y pentref—ac yn dilyn hyn, fe gynyddodd y landlordiaid newydd ei rhent 26 y cant. Y gwir trist ydy nad oes gan Sara y gallu ariannol i dalu'r math yna o rent. Esgus y landlord ydy eu bod nhw wedi codi’r rhent i gyd-fynd â chyfartaledd rhent yr ardal. Dydy hyn ddim yn rheswm. Mae’r cyfartaledd yma wedi chwyddo dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil trachwant a chynnydd Airbnbs a dim mecanwaith i reoli rhent. Dydy o ddim yn adlewyrchu gallu pobl leol i dalu. 

Mae hi’n chwilio am eiriolwyr i’w chynorthwyo, ond mae’r eiriolwyr yma yn mynd yn fwy ac yn fwy prin gan fod y gweithlu yn gadael y sector cymorth di-gartrefedd. Mae ei lwfans tai lleol wedi ei gapio ar tua £300, ond mae ei rhent yn £550. Does ganddi ddim y gallu ariannol i wneud y gwahaniaeth yna i fyny. Mae hi rŵan o dan fygythiad o gael ei gwneud yn ddigartref, a fyddai'n ei gorfodi i symud o’i thŷ ac o’i chymuned.

Dydy Sara ddim ar ei phen ei hun; mae eraill yn Aberllefenni yn yr un sefyllfa, heb sôn am bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Dydy’r system ddigartrefedd ddim yn gwegian, mae hi wrthi'n torri—mae’r ystadegau yn profi hynny. Ym mis Chwefror, roedd bron i 10,000 o bobl mewn llety dros dro, a threian ohonyn nhw'n blant o dan 16. Nid yn unig hynny, mae’r sector sydd i fod i gefnogi pobl sydd yn canfod eu hunain yn y fath drallod yn araf ymddatod. Mae bron i dreian y staff sydd yn gweithio yn y maes ac yn cael eu hariannu gan y grant cefnogi tai, yr housing support grant, yn derbyn cyflog is na’r cyflog byw. Yr eironi trist ydy fod bron un o bob pump o’r gweithlu digartrefedd yn ei chael hi’n anodd talu eu rhent eu hunain, a dros hanner yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Felly, mae’r gweithlu yn gadael i chwilio am swyddi eraill, sydd yn golygu nad oes cymorth, na chyngor nag eiriolaeth arbenigol ar gael i bobl fel Sara sydd yn canfod eu hunain yn ddigartref neu'n wynebu digartrefedd.

Fe ddangosodd ymchwiliad y pwyllgor hyn yn glir. Fe ddangosodd fod angen i Lywodraeth San Steffan gynyddu'r lwfans tai lleol er mwyn adlewyrchu'r cynnydd sydd wedi bod mewn rhenti preifat. Gwn fod y Llywodraeth yma eisoes wedi trio dwyn pwysau ar Lywodraeth Llundain i wneud hyn, ond mae’n rhaid i ni godi llais eto yn hyn o beth; mae argymhelliad 16 yn galw am hynny. Wrth gwrs, datrysiad tymor byr ydy hyn. Dydy o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr fod pres cyhoeddus yn cael ei drosglwyddo yn syth i gyfrifon banc landlordiaid. Felly, yn y tymor hir, mae’n rhaid gweld shifft sylweddol yn ein defnydd o bres cyhoeddus, gan ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu tai o dan berchnogaeth gyhoeddus. Mae hynny yn rhan o’r datrysiad hirdymor er mwyn cael gwared ar ddigartrefedd.

Ond, rhywbeth sydd o fewn gallu y Llywodraeth yma ydy’r grant cymorth tai. Mi roeddem ni oll yn hynod siomedig gweld nad oedd yna gynnydd wedi bod i ariannu hyn yn y gyllideb. Heb y gwasanaethau arbenigol yma, yna mi fyddwn ni’n gweld digartrefedd o bob math yn cynyddu. Mae darparwyr y gwasanaethau hanfodol yma eisoes yn gadael, gan beidio â rhoi cais am dendrau cytundebau i fewn ar hyn o bryd. Mae’r argyfwng am waethygu, felly mae’n andros o bwysig gweld y Llywodraeth yn gweithredu argymhelliad 10 hefyd, nid dim ond mewn egwyddor ond trwy weithredu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog.

16:35

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am adroddiad diddorol iawn. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar yr holl Aelodau, rwy'n credu, ond mae'n sicr yn broblem fawr yn fy etholaeth i. Rwy'n credu eich bod wedi cynnwys llawer o'r heriau a'r pethau y mae gwir angen i ni eu hystyried.

Yn ddiweddar roeddwn yn cefnogi mam a oedd yn ddigartref gyda dau o blant wedi iddi gael ei throi allan o denantiaeth breifat am ddim rheswm heblaw bod y denantiaeth wedi dod i ben. Yn dilyn cyfnod o syrffio soffas, rhoddodd y gwasanaeth Opsiynau Tai yng Nghaerdydd lety iddynt mewn hostel. Roedd hyn yn anodd tu hwnt i'r teulu, am fod llawer iawn o aflonyddwch yn digwydd yn yr hostel—llawer iawn o nosweithiau di-gwsg—ac roedd y pellter o ysgol y plant yn golygu eu bod yn colli llawer o ysgol neu'n cyrraedd yn hwyr. Felly, penderfynodd y fam y byddai'n well i'w phlant aros gydag aelod o'r teulu ac y byddai hi'n cysgu yn ei char, gan chwalu'r teulu, a oedd eisoes wedi'u trawmateiddio am nad oedd ganddynt gartref a heb fod gam yn agosach at ddatrys eu sefyllfa dai. Ar ôl iddi gysylltu â fy swyddfa, gallasom ei pherswadio i ailgysylltu â gwasanaethau tai, a byddant yn gallu cael tŷ sy'n addas ar gyfer eu hanghenion yn y pen draw, gobeithio.

Ond mae'n dangos yn glir pa mor brin yw'r tai cymdeithasol sydd eu hangen ar deuluoedd. Mae llety preifat yn hollol iawn i fyfyrwyr, am mai pasio drwodd y maent, o ran ble maent yn mynd i fyw eleni, y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn ganlynol. Ond os oes gennych blant sy'n mynd i'r ysgol, mae'r bygythiad o gael eich troi allan o'ch cartref, heb unrhyw reolaeth dros ble rydych chi'n mynd i fod nesaf, yn golygu bod eich plant mewn perygl o orfod gadael yr ysgol honno a mynd i ysgol arall, sy'n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod yn fy marn i. Yn syml, ni all tai preifat ddarparu'r lefel o sefydlogrwydd sydd ei angen i'w gynnig i blant lle bo hynny'n bosibl, ac er ei fod yn rhywbeth rydym yn dibynnu arno, nid dyna'r ateb gorau.

Fe wneuthum ymdrin â rhywun arall yn ddiweddar a oedd yn ei phumdegau hwyr ac a fu'n byw mewn hostel YMCA am naw mis, ac roedd hynny'n anodd iawn iddi, am mai pobl ifanc yn bennaf oedd yno, ac roeddent yn ymddwyn fel pobl ifanc. Ac mae hi'n dioddef o asthma, a waethygodd yn sylweddol o ganlyniad i fod mewn amgylchedd anghyfforddus iawn iddi, sy'n rhyw fath o bwysleisio natur anfoddhaol ei sefyllfa. Diolch byth, mae hi bellach wedi cael ei hailgartrefu mewn llety gwarchod parhaol, ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael llety priodol i bobl o bob oed, a gall llety i bobl dros 50 fod yn wych i rywun mewn sefyllfa o'r fath.

Nawr, mae llawer o ddynion ifanc yn gwrthod ymgysylltu ag Opsiynau Tai am eu bod yn credu y bydd fel y profiad y clywsant amdano yn Huggard, lle clywaf yn gyson am bobl yn cymryd cyffuriau, a phroblemau cysylltiedig sy'n digwydd yno. Nawr, boed hynny'n wir ai peidio, mae'n amlwg yn dod yn rhwystr gweithredol i bobl sy'n ceisio cymorth, ac os siaradwch â phobl ar y stryd, dyna un o'r rhesymau a roddant dros fod ar y stryd, yn hytrach na derbyn y llety sy'n cael ei gynnig iddynt. Rwy'n rhannu amheuon Wallich am hosteli mawr, oherwydd pan fydd llawer o bobl sydd â phroblemau—dyna pam eu bod yn ddigartref i raddau helaeth—yn dod at ei gilydd, yn amlwg mae ganddynt heriau, ac nid yw rhoi llawer o bobl â phroblemau at ei gilydd yn gyfuniad defnyddiol, ac mae angen pobl fedrus iawn i'w wneud. Bob tro rwy'n mynd i'r Wallich, mae eu gallu i reoli'r sefyllfa, a rhoi cefnogaeth anffurfiol a ffurfiol i bobl mewn llety dros dro i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal y denantiaeth yn creu argraff arnaf.

Darperir llety gwych gan dai Cadwyn ar gyfer mamau ifanc â phlant sy'n ddigartref am nad ydynt erioed wedi datblygu sgiliau i gynnal tenantiaeth, am nad ydynt yn deall bod rhaid i chi roi'r rhent heibio'n gyntaf oll, yn hytrach na mynd allan a phrynu pethau eraill y byddent yn hoffi eu cael. Nid ydynt yn deall bod rhaid talu'r rhent yn gyntaf oll, a hefyd, fod angen y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am blant, a sut i goginio, ac ati. Maent yn gwneud gwaith ardderchog.

Rwy'n credu bod rhaid i'r atebion ymwneud ag adeiladau mwy parod, oherwydd mae peth o'r stwff sydd ar Stryd Bute, rownd y gornel, yn wych i bobl sengl; mae'n rhoi llety diogel iddynt, eu drws blaen eu hunain, ac adeiladau parod modern. Adeiladwyd 170,000 o adeiladau parod rhwng 1942 a 1951, a 500,000 arall ar ôl hynny, ac mae pobl yn dal i fyw yn y rhan fwyaf ohonynt. Wyddoch chi, roeddem yn meddwl—

16:40

—roeddem yn meddwl mai dim ond 10 munud y byddent yn ei gymryd, ond mewn gwirionedd, gellir adeiladu cartrefi ffrâm bren modern ar safle mewn dwy i dair wythnos. Ac rwy'n deall nad oes cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu'r angen, felly mae angen inni edrych ar rôl cronfeydd pensiwn, gan fod hwn yn fuddsoddiad da. Mae buddsoddi mewn tai yn gwarantu elw ar rent, ac mae angen inni gael mwy o atebion i ymdrin â'r hyn sy'n broblem heriol iawn.

Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o ddiddordeb cyhoeddedig. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am yr adroddiad, ond mae'n drist, onid yw, yn 2023, fod angen adroddiad o'r fath, a dysgu am y miloedd o bobl ddigartref neu sy'n aros mewn angen mewn llety dros dro. A phan feddyliwch am y peth, mae angen 90,000 o gartrefi cymdeithasol, gyda bron i 10,000 ym mis Chwefror mewn llety dros dro, ac o'r rhain, mae frawychus fod 3,000 ohonynt yn blant.

Nawr, fe sylwais—. Fe siaradaf am argymhelliad 3 yn gyntaf, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio cyfleoedd i ddarparu cyllid pellach ar gyfer llety dros dro a llety trosiannol. Nawr, er bod ei angen, yn bersonol, ni allaf ond teimlo y dylem fod yn edrych mwy ar yr achosion, yn hytrach na'r symptomau—gobeithio fy mod wedi dweud hynny'n gywir.

Er na chafodd y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro unrhyw gyllid ychwanegol penodol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24, dim ond —. Ni allaf ddeall pam na chynyddwyd yr arian hwnnw. Ond rwy'n cydnabod, Weinidog, eich bod bellach yn darparu £15 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol. Ond pan edrychwch ar rai o'r ffigurau a'r cynnydd enfawr, nid wyf yn rhy siŵr pa mor bell yr aiff £15 miliwn i 22 o awdurdodau lleol. Nawr, mae'n debyg fod y cyllid wedi'i ddyrannu ar sail fformiwla i sicrhau dosbarthiad teg. Ond rwy'n dyfalu, o ran y fformiwla, mai'r ffordd y bydd hyn yn gweithio, o ran y niferoedd—mae ein niferoedd yn sir Conwy newydd saethu i fyny, wedi treblu yn y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf—felly, a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y bydd y fformiwla honno'n gweithio yn y dyfodol.

Nawr, mewn ymateb i argymhelliad 4, rydych chi wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn datblygu dogfen gyda'r nod o ledaenu arferion da. Nawr, nid yw mwy o waith papur yn mynd i helpu'r ffaith bod gan rai swyddogion awdurdodau lleol lwyth achosion uwch na'r cyfartaledd, ac nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith bod cadw cysylltiad rheolaidd â phobl sy'n aros mewn llety dros dro yn anodd. Mae hon yn broblem yn fy awdurdod lleol fy hun. Bob mis, rwy'n cynnal cymhorthfa dai reolaidd gyda Cartrefi Conwy a Conwy Housing Solutions, a rhaid imi ddweud, mae—. Rwy'n gorffen fy mhenwythnos ac rwy'n mynd adref ar ôl cyfarfod â sawl teulu, sawl plentyn, lle maent yn ysu i gael to uwch eu pennau.

Nawr, mae gwir angen ystyried y safon ar gyfer rhai sy'n byw neu sy'n gaeth, bron, mewn llety dros dro. A phan ddywedwn 'llety dros dro', roeddem yn arfer siarad am oddeutu chwech i wyth wythnos; Weinidog, mae gennyf blant a theuluoedd sydd wedi bod mewn llety dros dro ers 14, 15 mis. Ac maent yn meddwl, 'Dyna ni; dyna'r cyfan sydd i fywyd.' Rwyf wedi cael pobl yn dod i fy ngweld i ar fy mhrynhawniau Gwener, ac i weld fy staff yn ystod yr wythnos, sy'n dweud, 'Rydym yn teimlo'n hunanladdol; rydym yn teimlo'n gwbl ddiobaith.'

Nawr, mae argymhelliad 6 yn eich annog i archwilio'r hyn y gellir ei wneud i fonitro a gwella safonau. Ac mor aml, clywn ladd ar landlordiaid y sector preifat, ac eto, yn y bôn, rwy'n cael cwynion nawr am y bobl sy'n rhedeg y llety dros dro, a gallant fod yn hosteli, yn dafarndai, yn llety gwely a brecwast. Ac mae rhai o'r problemau a welir, lle nad oes modd byw yn yr eiddo mewn gwirionedd, neu lle nad yw'n addas i deuluoedd fyw ynddo—. Hoffwn wybod, Weinidog, sut rydych chi'n teimlo y gallwch chi fynd i'r afael yn eithaf cyflym â'r ffaith nad oes ganddynt gegin, dim peiriant golchi—sinc mewn ystafell westy i dri neu bedwar o bobl, lle mae'n rhaid iddynt weithiau—. Rwy'n credu eu bod yn cael microdon weithiau. Felly, mae'n rhaid iddynt ymolchi a dysgu paratoi bwyd yn yr un sinc. Mae'n—. Rwyf hyd yn oed wedi clywed am deuluoedd yn cael eu rhoi uwchben safleoedd trwyddedig. Felly, gallwch ddychmygu sut mae'n effeithio arnynt.

Nawr, a ydych chi wedi meddwl—? Nid wyf yn credu mewn cael comisiynwyr mewn gwirionedd, ond onid ydych chi wedi meddwl am gael rhywun dynodedig—. Ar wahân i Gomisiwn y Senedd, wrth gwrs. Ond Weinidog, a ydych chi wedi meddwl am gael person cyfrifol a allai weithio gydag awdurdodau lleol i'w helpu gyda llety dros dro, helpu i—? Bron fel rhywun yn monitro lle mae'r bobl hyn yn aros o ran llety dros dro o'r fath.

Rwyf wedi gofyn i chi adolygu Rhentu Doeth Cymru o'r blaen hefyd. Onid oes mwy o waith y gallent hwy ei wneud? Os ydynt yn casglu data ar landlordiaid preifat, Weinidog, oni allent hefyd—? Neu ryw—[Anghlywadwy.]—arall yn eich adran, lle gallent fod yn helpu mewn gwirionedd? Mae angen cysondeb arnom. Mae angen rhyw fath o sefydlogrwydd nawr ar gyfer y dyfodol. Mae angen adeiladu mwy o dai.

Ddoe, roeddwn mewn fforwm lle dywedwyd wrthym, er mwyn aros lle rydym ni hyd yn oed—dim ond aros lle rydym ni—. Hyd yn oed gyda rhwng 12,000 a 14,000 o dai y flwyddyn, ni fyddai hynny ond yn ein cadw lle rydym. Rydym ni nawr—. Os oes 6,000 yn cael eu hadeiladu, gallwch weld ein bod yn llusgo ar ei hôl hi. Felly, fy mhle yw: trowch gartrefi gwag yn ôl yn gartrefi, ac adeiladu mwy o dai hefyd. Diolch.

16:50

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd ddiolch i'r pwyllgor am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Mae'r adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o fater allweddol digartrefedd ledled Cymru, ac mae'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor wedi cael eu llywio, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, gan leisiau'r nifer o bartneriaid sy'n ymwneud â'r sector, ac yn hollbwysig, gan bobl sydd â phrofiad bywyd o ddefnyddio gwasanaethau digartrefedd. Hoffwn innau achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i bob un ohonynt am eu hamser ac am y dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt i'r ymchwiliad.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol iawn o uchelgais Llywodraeth Cymru i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru drwy ei wneud yn rhywbeth prin, tymor byr, nad yw'n cael ei ailadrodd. Mae'n gwbl hanfodol fod gennym ddealltwriaeth gyffredin, nid yn unig o uchelgais hirdymor y Llywodraeth a'r camau sydd eu hangen i'w gyflawni, ond hefyd o'r pwysau uniongyrchol yn y system a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd ar draws sectorau a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â'r pwysau hwn. Yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, rydym wedi cynnal yr ymagwedd 'neb heb help' a fabwysiadwyd ers dechrau'r pandemig. Mae hyn wedi tynnu sylw at wir raddfa digartrefedd yng Nghymru, a waethygwyd gan yr argyfwng costau byw. Mae arnaf ofn, Lywydd, na allaf adael i'r cyfle fynd heibio i ddweud ei bod yn ymddangos bod y cyfraniadau gan y ddau Geidwadwr yma heddiw wedi'u gwneud heb gydnabod yr argyfwng costau byw presennol o gwbl na'i gyfraniad at gynyddu digartrefedd ledled Cymru, sy'n rhywbeth y dylent fyfyrio arno.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i symud i ddull o ailgartrefu'n gyflym a lleihau ein dibyniaeth ar lety dros dro. Rwy'n cydnabod bod y pwysau presennol yn y system yn golygu hyn. Mae'r nod terfynol yn aros yr un fath, ond bydd yn cymryd mwy o amser i ni ei gyflawni nag y byddem yn hoffi. Nawr, fel y gwyddom i gyd, gall unrhyw un o gwbl fynd yn ddigartref, ac am lawer o wahanol resymau. O ganlyniad i'r argyfwng costau byw presennol, mae llawer mwy o bobl yn gweld angen i estyn allan am gyngor a mynediad at wasanaethau na fyddent byth wedi meddwl y byddai'n rhaid iddynt eu defnyddio.

Mae'n amlwg iawn o ganfyddiadau'r pwyllgor a'n data ein hunain fod timau tai a digartrefedd yn wynebu niferoedd cynyddol o achosion, ac rwyf am achub ar y cyfle i fynegi fy niolch parhaus iddynt, ac i'r rhai yn y sector cymorth, am bopeth a wnânt i helpu pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Maent wedi cefnogi a gweithredu dull 'neb heb help' Llywodraeth Cymru, gan ddangos yr hyn y gall gweithio gyda'n gilydd ei gyflawni. Rhaid i'r gwaith partneriaeth hwn barhau, ac fe fydd yn parhau, am fod pobl yn ymroddedig iawn iddo, ac mae angen inni ei gryfhau wrth inni wynebu'r heriau newydd hyn yn y dyfodol.

Ar y pwynt ynglŷn â sefyllfa'r gyllideb, rwy'n derbyn yn llwyr nad yw'r sefyllfa gyllidebol yr hyn yr hoffem iddi fod. Rydym wedi rhoi £166.7 miliwn yn y gyllideb. Mae hynny'n cadw'r cynnydd o 30% rhwng 2020 a 2021. Byddwn wedi hoffi ei gynyddu eto eleni, ond dyma'r setliad cyllideb gwaethaf a gawsom erioed, ac roedd hyd yn oed cadw'r cynnydd o 30 y cant yn anodd. Ond os gallwn, byddwn yn cynyddu'r gyllideb honno—rwy'n derbyn y pwynt sy'n cael ei wneud yn llwyr.

Rydym yn cydnabod mai'r her sylweddol a'r hyn sy'n mynd i'n galluogi i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, wrth gwrs, yw cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fel rhan o'n rhaglen lywodraethu, rydym wrthi'n gweithio tuag at ddarparu 20,000 o gartrefi o ansawdd da ar gyfer rhent cymdeithasol, gyda'r holl adeiladu newydd yn garbon isel. Rydym hefyd wedi datblygu cynlluniau creadigol i gefnogi cynnydd pellach yn nifer y tai sydd ar gael, gan gynnwys ehangu cwmpas cynllun prydlesu Cymru a datblygu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro i ddarparu hyblygrwydd o fewn y system.

Ond unwaith eto, mae'n ddrwg gennyf ddod â'r mater yn ôl at y Ceidwadwyr, ond ni wnaeth y ddau gyfraniad ystyried hyn. Mae'n rhaid inni ddadrewi lwfans tai lleol. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr yn economaidd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr yn gymdeithasol. Nid yw'n deg. Nid yw'n iawn. Mae'n hel pobl allan o'r sector rhentu preifat. Nid wyf yn deall y rhesymeg dros wneud hyn, ac rwy'n hapus iawn i ymgysylltu ag unrhyw un ohonoch y tu allan i'r Siambr os gallwch egluro beth ar y ddaear yw'r rhesymeg dros rewi lwfans tai lleol. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, ac mae gwir angen ei roi yn ôl ar 50 y cant, neu o leiaf ar 30 y cant lle'r arferai'r Ceidwadwyr ei gynnal. Mae'n hollol hurt.

Ac mae arnaf ofn, Sam, nad dadlau y dylem anwybyddu'r problemau ffosffad yn ein hafonydd ac adeiladu cartrefi is na'r safon ar eu glannau yw'r ffordd o fynd i'r afael â'r broblem gyflenwi. Lywydd, nid oes gennyf unrhyw beth tebyg i'r amser y byddai'n ei gymryd imi egluro beth rydym yn ei wneud ar hynny, ond gallaf gyfeirio'r Aelodau, fel y dywedodd John, Cadeirydd y pwyllgor, at yr ymateb ysgrifenedig a roddais i'r pwyllgor ar bob un o'r argymhellion. Nid oes gennyf amser i fynd i'r afael â phob un ohonynt heddiw.

Fodd bynnag, mae'r rhaglen drosiannol yn darparu cartrefi i gynorthwyo pobl i symud o lety dros dro i ddarpariaeth fwy hirdymor. Yn ystod 2022-23, fe wnaethom fuddsoddi £76 miliwn arall i ddarparu 936 eiddo a chartrefi ychwanegol, a fydd yn cael eu hariannu eleni a'r flwyddyn nesaf. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd dod o hyd i gartrefi addas, cartrefi cynaliadwy, i bobl cyn gynted â phosibl. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod digartrefedd yn dod â chanlyniadau negyddol sylweddol yn ei sgil i unigolion a theuluoedd sydd yn y sefyllfa honno. Mae teuluoedd sy'n ddigartref yn wynebu aflonyddwch mewn rhannau eraill o'u bywydau o ganlyniad uniongyrchol. Gwyddom ei fod yn effeithio ar addysg, cyflogaeth, mynediad at wasanaethau cyngor iechyd a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Mae diffyg mynediad ym mhob un o'r meysydd hyn yn cronni i waethygu amgylchiadau a phrofiad unigolyn neu deulu ymhellach. Bydd y trawma i'w ganlyn, fel y canfu'r pwyllgor yn dda, yn aml yn arwain at effaith andwyol hirhoedlog ar yr unigolyn a'i ragolygon yn y dyfodol. Dyna pam—ni allaf siarad nawr—mae goblygiadau bod yn ddigartref gymaint yn fwy na bod heb gartref. Yn rhy aml, mae'n golygu bod heb fynediad digonol at ofal iechyd, addysg, cyflogaeth hefyd, ac mae hynny i gyd yn gwaethygu ac yn rhwystro gallu unigolyn i weithredu'n rhan o gymdeithas ac yn cael effaith ar eu gwytnwch ac yn effeithio'n sylweddol ar ansawdd eu bywyd. 

Wrth fwrw ymlaen â'n gwaith i ddod â digartrefedd i ben, rydym yn cydnabod yr holl bethau hynny, a dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar atal digartrefedd yn y lle cyntaf, a lle na ellir ei atal, ar sicrhau ei fod ond yn digwydd am gyfnod byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Nodwyd hyn yn ein cynllun gweithredu ar gyfer dod â digartrefedd i ben, sy'n cynnwys cyflwyno'r cysyniad o ailgartrefu'n gyflym ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgaredd atal. Mae'n canolbwyntio ar gynorthwyo unigolion yn gynnar i gael mynediad at wasanaethau cymorth a chyngor, gan ddarparu gwasanaeth sy'n ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu pobl drwy'r system dai ac i gael mynediad at dai priodol ar eu cyfer cyn gynted â phosibl. Nid yw hyn yn golygu mynediad ar unwaith at dai, ond yn hytrach, gwasanaeth cymorth cyflymach i mewn i'r cartref cywir ar gyfer eu hanghenion unigol. Mae tystiolaeth yn dangos bod dull amlasiantaethol yn arwain at gynnal tenantiaethau pobl mewn cartrefi sefydlog hirdymor mewn ffordd lawer mwy gwybodus.

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach, fel landlordiaid cymdeithasol a darparwyr cymorth, i symud tuag at ailgartrefu cyflym. Mae cynlluniau trosiannol ailgartrefu cyflym yn cael eu datblygu ac mae rheolwyr cysylltiadau'n cysylltu'n agos ag awdurdodau i sicrhau cefnogaeth a gweithredu, i nodi risgiau i gyflawniad a chydnabod a rhannu arferion gorau. Rydym i gyd yn gwybod bod polisïau a chynlluniau gweithredu newydd yn siapio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ac yn cefnogi ein dyheadau i wella bywydau pobl yng Nghymru, ond deddfwriaeth sy'n nodi dyletswyddau cyrff cyhoeddus, ac yn amlwg ceir disgwyliad o ran sut y bydd partneriaid yn datblygu ac yn darparu'r cymorth a fydd yn gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, tymor byr, nad yw'n cael ei ailadrodd. 

Felly, yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn nodi'r polisi a'r cynigion deddfwriaethol i gryfhau ein dull o atal digartrefedd a chefnogi aelwydydd sy'n mynd yn ddigartref. Mae'r rhaglen waith hon yn cael ei datblygu yn rhan o'n cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, gan weithio'n agos gyda phartneriaid a chyda phobl sydd â phrofiad bywyd yn ganolog yn y gwaith hwnnw. Rwy'n cydnabod y pwysau sylweddol a digynsail yn y system ddigartrefedd. Y diwygio trawsnewidiol rydym yn ei yrru yn ei flaen drwy ein cynllun gweithredu ar ddod â digartrefedd i ben i'n symud i system atal ac ailgartrefu cyflym yw'r ffordd yr awn i'r afael â'r pwysau yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor. Mae'r panel adolygu arbenigol yn cyfarfod ar hyn o bryd, a bydd yn gwneud argymhellion i mi yn yr haf, i ateb y pwynt ynglŷn ag amserlen a godwyd gan Gadeirydd y pwyllgor. 

Mae argymhellion y pwyllgor yn cyd-fynd yn agos â'r camau a nodir yn ein cynllun gweithredu, ac i'r rhai ohonoch sydd wedi gweld fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor, fe welwch fy mod wedi derbyn yr argymhellion—yn llwyr neu mewn egwyddor—ac i nodi'r pwynt a wnaeth Mabon yn enwedig, nid am nad oes cynllun yn gysylltiedig â nhw y derbyniwyd rhai mewn egwyddor yn unig, ond oherwydd ein bod, ym mhob un ohonynt, bron—pob un ohonynt, rwy'n credu, ond bron bob un, yn sicr—yn gwneud rhywbeth yn barod, ac mae ychydig yn wahanol i'r ffordd y gwnaeth y pwyllgor eu hargymhelliad. Felly, rydym yn derbyn pwynt yr argymhelliad yn llwyr, ond rydym eisoes yn gwneud rhywbeth ar hynny nad oedd yn union yr un peth. Felly, nid wyf am ichi feddwl bod y term 'mewn egwyddor' yn golygu nad ydym yn ei dderbyn; rydym yn sicr yn ei dderbyn.

Mae polisïau Llywodraeth Cymru a'r dull o weithredu a fabwysiadwyd ers y pandemig, ynghyd â chamau diflino timau tai ein hawdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, yn ein helpu i gymryd y camau enfawr ymlaen y mae angen i ni eu gwneud. Rydym wedi cychwyn y daith, ond fel y dengys argymhellion y pwyllgor, mae angen mwy o waith partneriaeth a chamau gweithredu gan bob un ohonom i gyrraedd y nod o roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru. Felly, Lywydd, unwaith eto, diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad a'u hargymhellion, ac i'r rhai a roddodd amser i ddarparu tystiolaeth a llywio'r canfyddiadau hyn. Gyda'n gilydd, rwy'n credu y gallwn wneud digartrefedd yn rhywbeth prin, tymor byr, na chaiff ei ailadrodd, a hynny ym mhob rhan o Gymru. 

16:55

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac aelodau'r pwyllgor am eu hymroddiad, a'r tîm clercio a staff ymchwil, oherwydd fel pwyllgor a phwyllgorau rhagflaenol rydym wedi gwneud llawer o waith ar faterion tai a digartrefedd dros gyfnod eithaf estynedig, ond mae'n rhywbeth rydym yn sicr yn bwriadu cadw ato, oherwydd pwysigrwydd yr agenda hon. 

Soniodd Sam am rôl y sector rhentu preifat, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn fod angen inni weld rôl fwy i'r sector rhentu preifat. Mae angen inni alluogi a hwyluso ac annog, a dod o hyd i ffyrdd o alluogi'r sector hwnnw i chwarae rhan fwy yn y gwaith o ddarparu tai i'n pobl yma yng Nghymru.

Hefyd, ar y materion ffosffad y soniodd Sam amdanynt ac a nodwyd gan y Gweinidog, yn amlwg mae hwn yn fater o bwys ar hyn o bryd ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. Gwn fod y Gweinidog, a'r Prif Weinidog yn wir, wedi tynnu sylw at rai o'r cyfarfodydd sydd wedi digwydd i ddod â'r partneriaid allweddol at ei gilydd nid i feio, ond yn hytrach, i ddod o hyd i atebion ymarferol i fynd y tu hwnt i'r materion hyn, ac rwy'n credu mai yn yr ysbryd hwnnw y dylem symud ymlaen, ond mae angen gweithredu'n gyflym. 

Roeddwn yn falch iawn fod Mabon wedi cyfeirio at Jonathan Baxter. Rwyf newydd siarad am ymrwymiad y tîm clercio a'r staff ymchwil, ac yn sicr cafodd hynny ei ddangos yn dda gan Jonathan, sydd, fel y dywedodd Mabon, wedi symud i Lywodraeth Cymru erbyn hyn. Felly, budd Llywodraeth Cymru yw colled y pwyllgor a'r Gwasanaeth Ymchwil yma yn y Senedd, ond rydym yn sicr yn dymuno'r gorau i Jonathan ar gyfer y dyfodol a diolch yn fawr iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud, unwaith eto dros gyfnod o flynyddoedd ar faterion tai, i'r pwyllgor hwn a'r pwyllgorau a'i rhagflaenodd. 

A gaf fi ddiolch i Mabon hefyd, Lywydd, a Jenny Rathbone yn wir, am roi wyneb dynol i'r materion sy'n ein hwynebu? Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol y gallwch chi edrych ar yr ystadegau ac yn amlwg maent yn adrodd stori bwerus iawn, ond pan fyddwch chi'n cyfarfod â theuluoedd ac unigolion ar ben garw'r sefyllfa hon, bydd yr effaith y mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn ei chael ar ein cymunedau yn eich taro go iawn. Rwy'n dymuno'r gorau yn y dyfodol i bob un o'r rhai y soniodd yr Aelodau amdanynt heddiw, oherwydd gwyddom am yr effaith enfawr ar bobl a theuluoedd a gaiff bygythiad o ddigartrefedd, a bod yn ddigartref, a methu dod o hyd i ffordd drwy'r anawsterau. Ac wrth gwrs, dyna lle mae'r gwasanaethau cymorth mor hanfodol bwysig. Fel y dywedodd Mabon, mae staff o dan bwysau mawr, ac mae materion cadw a recriwtio'n real iawn ac angen sylw.

Rwy'n credu bod Jenny'n edrych ar ffyrdd o feddwl y tu allan i'r bocs i ryw raddau o ran cronfeydd pensiwn, er enghraifft. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn barod iawn i archwilio'r holl opsiynau posibl i ddenu mwy o fuddsoddiad. Felly, mae'n dda iawn cael y syniadau hynny i'w hystyried. Ac fel y soniodd Jenny hefyd, mae adeiladau parod, adeiladau ffrâm bren, yn rhan o'r atebion posibl. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn awyddus iawn i gyflwyno tai modiwlar newydd ac unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd yn edrych ar bosibiliadau newydd.

Lywydd, yn anffodus rwy'n gweld bod y sgrin yn goch a fy amser ar ben. Felly, gadewch imi orffen drwy ddweud, er nad oes consensws llwyr ar yr atebion a'r ffyrdd posibl ymlaen, rwy'n credu ei bod yn glir iawn fod yna gonsensws ynghylch pwysigrwydd y materion hyn a'r angen i'w deall ac i ymdrin â nhw ar fyrder. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhoi sail dda i ni fel Senedd, fel Llywodraeth Cymru, ar gyfer symud ymlaen.

Rhaid imi ddweud fy mod yn croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog i'r maes gwaith hwn a gwn fod hynny'n cael ei adlewyrchu yn y sector yma yng Nghymru. Mae gennym ymdrech weinidogol gref iawn nawr, ac mae'r pwyllgor yn awyddus i weithio gyda nhw a'u hannog, a weithiau i bwyntio i gyfeiriadau ychydig yn wahanol ac o bosibl i gyflymu ychydig, ond fe wyddom ein bod yn gweithio gyda Gweinidog sydd ag ymrwymiad gwirioneddol i'r gwelliannau sydd eu hangen. Roedd hi'n dda clywed y Gweinidog yn derbyn rhai o'r materion ariannu a godwyd yn ystod y ddadl hon ac yn adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n gobeithio gwneud cynnydd pellach ar hynny hefyd. 

Felly, diolch yn fawr iawn i bawb ac rwy'n gobeithio y cawn weld cryn dipyn o gynnydd pellach, a hynny ar fyrder yn y dyfodol agos iawn. Diolch yn fawr.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r adroddiad yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Clefydau anadlol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Yr eitem nesaf, felly, fydd dadl Plaid Cymru ar glefydau anadlol, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8266 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod 1 ym mhob 5 o bobl yn byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru;

b) bod gan Gymru'r lefel uchaf o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop;

c) nad yw'r gwasanaethau anadlu wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer adsefydlu ysgyfeiniol mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru;

d) bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu datganiad ansawdd newydd ond nid oes cynllun gweithredu.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl bwysig yma heddiw gan Blaid Cymru am iechyd yr ysgyfaint.

A gadewch inni fod yn hollol o glir o'r dechrau un yn fan hyn, mae gennym ni broblem wirioneddol yng Nghymru efo iechyd yr ysgyfaint a chlefydau resbiradol. Mae bod efo'r nifer fwyaf o farwolaethau o'r math yng ngorllewin Ewrop i'n poblogaeth ni yn rhywbeth dwi'n ei ganfod yn frawychus, ac mi ddylai'r sylweddoliad yna fynnu gweithredu brys gan y Llywodraeth. Rydym ni ar y meinciau yma heddiw yn galw ar y Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng yna, achos mae o yn argyfwng. Ac mae'r broblem yng Nghymru i'w gweld yn glir mewn sawl ffordd ac mewn cyfres o ystadegau. Mae un o bob pump o bobl Cymru yn byw efo cyflwr yr ysgyfaint, a'r rhan fwyaf o'r rheini'n dioddef o gyflyrau fel asthma neu glefyd pwlmonaidd, ond mae'n rhaid hefyd cofio, wrth gwrs, fod yna nifer eang iawn o gyflyrau llai cyffredin: bronciectasis ac apnoea cwsg, ac yn y blaen. Mae 61 y cant o'r rheini sy'n dioddef yn methu â chael mynediad at ofal cynnar, sy'n arwain gyflyrau yn mynd heb eu trin tan eu bod nhw wedi datblygu i fod yn fwy difrifol. Mae gen i ystadegyn ddod ar ei draws o rŵan, yn dilyn sgwrs efo Siân Gwenllian, Aelod Arfon, yn dangos mai dim ond 13.7 y cant o bobl sydd yn derbyn yr hyn sy'n ddisgwyliedig o ran gofal COPD yng Nghymru ac, yn Betsi Cadwaladr, llai na 10 y cant yn derbyn yr hyn sy'n cael ei ystyried yn ofal cwbl greiddiol ar gyfer trin COPD.

Mae amseroedd aros, yn gyffredinol, am driniaeth yn rhy hir ac yn hirach nag erioed, wrth gwrs, ers y pandemig. Mae hyn, yn aml, yn golygu nad y driniaeth orau sydd yn cael ei chynnig i bobl, ond y driniaeth hawsaf neu'r driniaeth gyflymaf—y pwmp bach glas yna rydyn ni i gyd yn ei adnabod yn cael ei roi yn llawer rhy hawdd, o bosibl. Hyd yn oed pan fydd y pwmp yn cael ei ragnodi i gleifion, dydy'r hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r pwmp ddim yn cael ei ddarparu yn gywir bob tro, sy'n arwain at ystadegyn rhyfeddol bod tri chwarter o gleifion ddim yn defnyddio eu pympiau asthma yn gywir. Dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr, dydy o ddim yn dderbyniol.

Mae yna broblemau mawr efo dealltwriaeth cleifion, a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol, ar sut i atal clefyd yr ysgyfaint drwy wneud newidiadau, weithiau'n newidiadau bach iawn, yn eu bywydau bob dydd, a hefyd wedyn sut i ymdopi efo cyflyrau ysgyfaint ar ôl diagnosis. Dydy'r addysg a'r gefnogaeth sy'n cael eu cynnig i ddelio efo'r newid mawr mae cael diagnosis yn gallu golygu ddim yn ddigonol, sy'n golygu bod cleifion yn tyfu'n ddibynnol ar bethau sy'n cynnig rhyddhad tymor byr, fel y pympiau glas yna, yn lle dysgu sut i reoli a byw yn iach efo'r cyflyrau, neu o leiaf yn fwy iach.

Mae yn broblemau ehangach hefyd, wrth reswm, i'w hystyried yn fan hyn, sy'n mynd yn bellach nag amseroedd aros a thriniaethau ar gyfer cleifion unigol. Mae yna broblemau amgylcheddol enfawr sy'n cael effaith wirioneddol negatif ar ein hiechyd ysgyfaint ni fel gwlad—cymaint â 2,000 o bobl yn marw yng Nghymru y llynedd oherwydd sgil-effaith llygredd aer. Ffigur cwbl, cwbl annerbyniol, ac mae'n rhaid inni ddeffro i hyn. Rydyn ni wedi bod yn llawer rhy araf i ymateb i'r pryderon. Mae yna gynigion wedi cael eu gwneud yma yn y Senedd, mae yna bwysau wedi dod ar draws y pleidiau i gyd yma am weithredu cwbl, cwbl eglur ar y Llywodraeth. Oes, mae yna gamau yn cael eu cymryd ymlaen, ac mae'r Llywodraeth yn dweud y pethau iawn yn aml, ond rydyn ni'n wynebu argyfwng. Dwi'n falch o weld y cytundeb cydweithio yn rhoi cymaint o sylw i wthio tuag at sero net a'r manteision ddaw o ran glanhau awyr yn hynny o beth.

Dwi'n cydnabod, o edrych ar welliant y Llywodraeth heddiw, fod y Llywodraeth wedi cymryd rhai camau mewn perthynas â chlefydau resbiradol. Dwi'n cytuno efo'r egwyddorion sydd wedi cael eu rhestru yn natganiad ansawdd y Llywodraeth: fod y gwasanaeth yn gorfod bod yn un effeithiol a diogel, yn rhoi ffocws ar anghenion y claf—hynny yw patient-centered, felly. Mae hynny'n allweddol. Ond does yna ddim cynllun yn ei le sydd yn dangos yn glir i ni sut i weithredu'r math o newidiadau rydyn ni angen eu gweld er mwyn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd. Does yna ddim cynllun cadarn yn ei le ar sut i daclo'r rhestrau aros sy'n llawer rhy hir, a dim cynllun yn ei le ar sut i symud i ffwrdd o'r orddibyniaeth ar anadlwyr glas a symud ymlaen i driniaethau sy'n rheoli symptomau'n well, a cheisio mynd i'r afael ag achosion a'r rhesymau y tu ôl i symptomau yn hytrach na'u harafu nhw dros dro neu gynnig rhyddhad. Does yna ddim cynllun ar sut i addysgu pobl i ymdopi'n well efo cyflyrau, a sut, fel dwi'n dweud, i atal afiechydon yn y lle cyntaf.

Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y digwyddiad yma yn y Senedd wedi'i noddi gan John Griffiths ychydig wythnosau yn ôl—lansiad adroddiad gan Asthma and Lung UK. Roedd y digwyddiad hwnnw'n cynnig ffordd wahanol i fynd ymlaen—ffordd amgen i fynd i'r afael â'r problemau maith sydd gennym ni efo iechyd yr ysgyfaint yma yng Nghymru, a'r pwyslais ar yr angen am gynllun gwella. Roedd cael y math yna o gynllun clir a realistig ynglŷn â lle y gallem ni fynd ac o fewn pa amserlen yn ganolog i'r argymhellion yna. 

Ym mis Ionawr eleni, mi gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun gwella ar gyfer gwasanaethau canser—rhywbeth roeddwn i'n sicr yn falch iawn o'i weld. Ond onid yw hynny'n dangos bod gwirioneddol werth yn y Llywodraeth yn adnabod pwysigrwydd y mathau yna o gynlluniau ar gyfer gwahanol gyflyrau a bod angen cynlluniau gwella clir er mwyn i ni allu gwireddu amcanion?

Mi wnaf i adael fy nghyfraniad cychwynnol yn y fan yna. Dwi'n hyderus y clywn ni dystiolaeth bwerus iawn ar draws y Siambr y prynhawn yma am yr angen am gynllun o'r fath. Mae'r Llywodraeth, yn eu gwelliant nhw, yn dileu'r galw am gynllun gwella. Gadewch i ni felly glywed gan y Gweinidog sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud neu gymryd y mathau o gamau bras ymlaen rydyn ni eu hangen mewn ffordd amgen. Ond, fel dwi'n dweud, mi glywn ni dystiolaeth glir yma'r prynhawn yma, a'r un peth na allwn ni wneud ydy caniatáu i'r ystadegau dwi wedi sôn amdanyn nhw allu parhau: y nifer uchaf o farwolaethau yng ngorllewin Ewrop. Mae'n argyfwng; mae angen gweithredu brys i ymateb iddo fo.

17:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl 1(b) a rhoi yn ei le:

bod Cymru’n arwain y ffordd yn y DU mewn llawer o agweddau ar wella gwasanaethau clefydau anadlol, gan gynnwys defnyddio addysg ddigidol yn helaeth i wella gofal clinigol, defnyddio apiau i gleifion i leihau’r angen am ofal brys a gofal mewn argyfwng, a helpu cleifion i newid i ddefnyddio anadlyddion ag ôl troed carbon is.

y bydd y GIG yn ymateb i’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol drwy ei waith cynllunio gweithredol lleol ac y bydd yn cael ei gefnogi’n genedlaethol gan rwydwaith clinigol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer clefydau anadlol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Iawn. Mae thumbs-up yn gwneud y tro. Diolch yn fawr i'r Gweinidog. Russell George.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw a nodi y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hyn hefyd. Credaf ei bod yn siomedig fod y Llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno gwelliant sy’n gwyngalchu’r ffeithiau am glefydau anadlol yn y cynnig gwreiddiol. Credaf y gallai’r Llywodraeth yn hawdd fod wedi derbyn y pwyntiau hyn i gydnabod bod mwy i’w wneud. Ac fel y nodwyd, ac fel y mae'r cynnig yn ei nodi, mae gan un rhan o bump o boblogaeth Cymru gyflwr ar yr ysgyfaint—yr un gyfran ag sydd ar restr aros y GIG, ac mae'n destun pryder a ddylai ysgogi Llywodraeth Cymru i weithredu y tu hwnt i'r datganiad ansawdd. Dim ond bwriadau da yw datganiadau o'r fath os nad oes cynllun i'w cefnogi. Mae’r datganiad ansawdd yn disgrifio sut y dylai gwasanaethau o ansawdd da ar gyfer cyflyrau anadlol edrych, ond os yw’r Gweinidog am wireddu'r uchelgais, mae angen inni weld y cynllun gwella hwnnw, fel y nodwyd.

Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf ond un o glefydau anadlol yn Ewrop—carwn awgrymu mai prin fod hynny'n cyd-fynd â chywair hamddenol gwelliant y Llywodraeth. Mae’n arbennig o rwystredig darllen hefyd fod y datganiad ansawdd wedi dweud wrthym y bydd y ffocws ar wneud diagnosis, rheoli a thrin clefydau anadlol yn briodol yn cael ei ategu gan strategaeth a pholisi cenedlaethol arall sy’n ymwneud â chlefydau trosglwyddadwy eraill, yn ogystal â chynlluniau’n ymwneud â thybaco a gordewdra. Yn nes ymlaen, roedd y datganiad yn cadarnhau mai byrddau iechyd unigol a fyddai’n gyfrifol am gynllunio’r ffordd y darperir eu gwasanaethau gofal anadlol eu hunain, yn hytrach na gallu gweithio o strategaeth genedlaethol gyda set o gamau a disgwyliadau. Felly, carwn awgrymu nid yn unig nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau mwyaf sylfaenol tuag at helpu i ailadeiladu'r gwasanaethau hyn, ond eu bod wedi taflu'r baich o gyflawni'r trawsnewidiad sydd ei angen, yn fy marn i.

Mae’r cynnig yn sôn am glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, sy’n effeithio ar 74,000 o bobl yng Nghymru—mae hynny'n etholaeth seneddol gyfan—ond eto, ceir rhestr aros o dair blynedd. Nawr, gwn ein bod yn sôn am restrau aros yn y Siambr hon yn aml, gyda 40,000 o bobl yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth ledled y wlad, ond dychmygwch eich bod yn cael trafferth anadlu ac angen sylw meddygol ac yna'n cael gwybod na fyddwch yn cael cymorth am fwy na thair blynedd.

Nawr, oes, ceir pwysau costau byw neu ddim pwysau costau byw, bydd pobl—a gwelaf dystiolaeth o hyn fy hun—yn gwario eu cynilion i gael triniaeth breifat, ac yn sicr nid yw hon yn sefyllfa dderbyniol. Ac nid yn unig fod y cyflyrau hyn yn gwneud bywyd yn anodd i'r bobl sy'n eu dioddef, bydd angen gofalwyr ar lawer ohonynt hefyd, ac mae’r rhain yn cynnwys gofalwyr di-dâl wrth gwrs. Felly, hoffwn ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru wneud pethau'n glir, neu’n haws iddynt, drwy hawl i seibiant, teithiau bws am ddim a grantiau i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth o safon. Ond yn y pen draw, Lywydd, rwy’n cytuno â’r cynnig heddiw: rwy’n cytuno bod angen i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol.

17:15

Diolch i Rhun am agor y ddadl yma y prynhawn yma. Mae hi yn ddadl bwysig. Ddaru Rhun, yn ei agoriad, sôn am y pwmp bach glas yna. Mae pob un ohonom ni wrth gwrs yn gyfarwydd â'r pwmp bach glas, a llawer yn ei weld o a meddwl, 'Wel, dim ond y fogfa ydy o.' Pan fo rhywun yn mynd allan o wynt, yna mae'n rhaid dim ond cymryd pwff bach o'r pwmp a bydd pob dim yn iawn. Ond mae’r argraff yma yn gwbl gamarweiniol, ac fel rydym ni wedi'i glywed eisoes gan Rhun, mae e'n fater hynod o ddifrifol.

Mae'n siŵr bod yn well i fi ddatgan diddordeb yn hyn o beth. Dwi hefyd yn gorfod cymryd y pwmp yma; dwi ar bwmp steroid yn y bore, yr un brown, a'r Ventolin glas yna ar gyfer adegau o argyfwng, ac mae aelodau o fy nheulu hefyd yn byw efo'r fogfa. Ond dwi am dreulio yr ychydig funudau nesaf sydd gen i i sôn am ddwy elfen yn benodol, sef llygredd awyr a thai.

Mae Rhun eisoes wedi sôn am y 2,000 o bobl sydd yn marw yma yng Nghymru o ganlyniad i lygredd awyr, ac yn ein trafodaethau ni yn ddiweddar iawn ar ffordd osgoi Llanbedr, fe ddaeth y mater o lygredd awyr yn rhywbeth byw go iawn i fi. Roeddwn i'n trafod efo trigolion ardal Llanbedr, a hwythau yn sôn wrthyf i fod eu hiechyd nhw yn andros o wael o ganlyniad i'r ciwiau o gerbydau oedd yn sefyll yn y pentref yna efo'r injan ynghyn a'r mwg yn dod allan o'r cerbydau yna yn effeithio ar eu hiechyd nhw, a hwythau'n cwyno bod lles eu hysgyfaint yn dioddef yn arbennig.

Mi ddaeth o'n sioc i mi wedyn i ddeall mai llygredd aer oedd y bygythiad amgylcheddol mwyaf i'n hiechyd cyhoeddus ni yng Nghymru ag eithrio ysmygu. Felly, pan ystyriwch chi fod heintiau yr ysgyfaint yn costio dros £0.5 biliwn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn, yna pe gellir mynd i'r afael â'r llygredd yn yr aer, byddai hynny yn mynd gam mawr o ffordd i wella iechyd pobl ac arbed arian prin yn y gwasanaeth iechyd.

Wrth gwrs, mae pawb yn edrych ar Gymru fel cenedl fach yn llawn mynyddoedd a glannau môr yn llawn awyr iach, ond mae gan rannau o Gymru safon aer ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Gyfunol. Cymerwch Caerdydd a Phort Talbot, sydd wedi cofrestru lefelau uwch o allyriadau mater gronynnol na Manceinion a Birmingham. Ac, wrth gwrs, mae pawb yma yn gyfarwydd erbyn hyn â llygredd yr A472 yn Hafodyrynys, oedd yn dangos y lefelau uchaf o lygredd y tu allan i Lundain. Ddylai ddim felly fod yn syndod inni fod ClientEarth wedi cymryd y Llywodraeth yma i'r llys nôl yn 2018 oherwydd y diffyg gweithredu ym maes llygredd aer.

Mae llygredd aer yn effeithio ar bob un ohonom ni, ond mae'n effeithio ar rai yn fwy nag eraill, efo pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu heffeithio yn waeth nag eraill. Ond mae lefelau uchel o lygredd yn yr awyr yn cynyddu y cyfleoedd o bobl yn dioddef o ganser yr ysgyfaint, y fogfa, COPD, camesgor, babanod yn cael eu geni'n gynnar neu o dan bwysau, clefyd y galon, dementia, iechyd meddwl, wrth gwrs, gorbwysau, a llawer iawn mwy na hynny. Felly mae’n amlwg, er lles ein hiechyd cyhoeddus a’r pwrs cyhoeddus, fod angen strategaeth glir er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Yn ail, mae’r elfen dai—mater sydd yn agos iawn at fy nghalon i. Unwaith eto, y tlotaf, y mwyaf bregus, a’r mwyaf difreintiedig sydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i broblem llygredd aer a thai ag ansawdd gwael, sy'n effeithio ar eu hiechyd. Mae tai tamp ac sydd efo llwydni yn effeithio yn andwyol ar iechyd ysgyfaint pobl. Yn wir, mae plant sydd yn byw mewn tai efo llwydni a thamp hyd at dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o beswch cyson neu wichian ar y frest na phlant sy’n byw mewn tai sych. Ac mae plant sydd yn byw mewn tai sydd heb eu gwresogi'n addas ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau y frest a phroblemau anadlol, megis y fogfa a broncitis. Mae hyn yn ei dro yn arwain at y plentyn hwnnw yn dioddef o’r cyflwr am flynyddoedd, o bosib am oes, gan leihau cyfleoedd y person yna mewn bywyd os nad yw’r cyflwr yn cael ei drin yn iawn. Yn yr un modd, tamprwydd; mae hwn hefyd yn gallu arwain at gyflyrau ac effeithiau tebyg.

Mae’n rhaid felly cymryd iechyd yr ysgyfaint o ddifrif, a rhaid iddo fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n amlwg bod angen cynllun gweithredu er mwyn taclo llygredd aer a gwella safon ein tai; mae’n rhaid felly i hyn fod yn gynllun traws-adrannol o fewn y Llywodraeth. Os medrwn ni gael cynllun o’r fath sydd yn pwysleisio yr angen am wella ansawdd ein haer a gwella safon ein tai, yna fe allwn ni weld ansawdd bywyd pobl yn gwella a llai yn dioddef o broblemau yn ymwneud â’r ysgyfaint. Diolch.

17:20

Rwy'n credu yr hoffwn gytuno â llawer o’r pwyntiau a wnaed eisoes, a chanolbwyntio ar rai o’r agweddau ataliol ar wella iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru. Rydym wedi clywed, yn effeithiol iawn, Lywydd, am faint y broblem—fod un o bob pump o bobl yng Nghymru yn dioddef o gyflyrau ar yr ysgyfaint, pa mor gyffredin yw asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Roeddwn yn falch iawn o gynnal digwyddiad Asthma Cymru yma yn y Senedd yn ddiweddar, i edrych ar wasanaethau iechyd mewn ymateb i faint yr her, ac i wneud awgrymiadau ynghylch y ffordd ymlaen. Ac yn amlwg, mae'n hanfodol ein bod yn gwella ein gwasanaethau iechyd i bobl â chyflyrau anadlol, ac mae'n rhaid gwireddu'r datganiad ansawdd yn ein gwasanaethau iechyd ledled Cymru gyfan.

Ond fel y dywedais, hoffwn ganolbwyntio ar atal, ac mae llawer mwy y gellir ei wneud i fynd i'r afael â materion ansawdd aer, fel y clywsom. Ac yn wir, mae ardaloedd o Gymru wedi bod yn mynd yn groes i reoliadau'r Undeb Ewropeaidd ers sawl blwyddyn bellach, a gwyddom fod problem wirioneddol— deunydd gronynnol a materion eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer yn yr awyr agored fel y risg amgylcheddol fwyaf i iechyd, ac amcangyfrifir y gellir priodoli rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru i gysylltiad â llygredd aer. Mae'n cael effaith enfawr ar iechyd, ac wrth gwrs, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, gan fod pobl dlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur—caiff yr ardaloedd, y tai y maent yn byw ynddynt eu heffeithio'n anghymesur.

Felly, yn amlwg, mae'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn, a dyna pam rwy'n croesawu'r Bil Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, o ran yr effaith y gall ei chael ar fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwella'r sefyllfa. Mae cael strategaeth ansawdd aer genedlaethol, ynghyd â rheoli ansawdd aer lleol, rheoli mwg, y posibiliadau o godi tâl ar gefnffyrdd, mynd i’r afael â cherbydau sy'n segura—sy'n rhywbeth a welwch drwy'r amser, mae'n rhaid imi ddweud, boed y tu allan i ysgolion neu yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd; nid oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai hynny fod yn digwydd, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno—ac wrth gwrs, bydd cael dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer yn hynod o bwysig.

Fel bob amser, mae angen cyllid digonol arnom i fwrw ymlaen â pholisïau, ac mae cyllideb ar gael. Mae'n ymwneud yn rhannol ag atal, gan ei fod yn ceisio gwella ansawdd aer ac atal crynodiadau llygredd rhag gwaethygu, a chynorthwyo i liniaru, ac edrych hefyd ar ddulliau mwy arloesol a thechnolegau newydd. Felly, mae arnom angen i'r arian gael ei ddarparu ac mae arnom angen i'r ddeddfwriaeth fod ar waith, ac rwy'n gobeithio y gall hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl.

Wrth gwrs, mae ysmygu—. Jenny, iawn.

17:25

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, a diolch am dynnu sylw at bwysigrwydd y ddeddfwriaeth y mae’r pwyllgor newid hinsawdd yn craffu arni ar hyn o bryd. A fyddech yn cytuno â mi mai cerbydau'n segura yw un o’r gweithgareddau mwyaf dibwrpas a niweidiol, ac y dylid rhoi diwedd ar hynny ar unwaith? Nid oes angen deddfwriaeth bellach arnom; mae angen inni roi dirwyon llymach i bobl sy’n gwneud rhywbeth y gellir ei osgoi’n llwyr ac sy’n gwbl ddiangen.

Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr, ac mae’n gwneud ichi feddwl am yr angen i godi ymwybyddiaeth ac addysg, gan fy mod yn siŵr y byddai llawer o bobl, pe baent yn deall yr effaith ar iechyd, yn rhoi’r gorau i wneud hynny. Ond ydych, rydych yn ei weld yn rhy aml o lawer, ac mae'n enghraifft ymarferol iawn o'r broblem, ac yn un y mae angen mynd i'r afael â hi ar unwaith. Fel y dywedwch, nid oes angen aros am ddeddfwriaeth; mae angen gorfodi a gweithredu nawr.

I ddod yn fyr at ysmygu, Lywydd, y ffigurau diweddaraf a welais yw bod oddeutu 13 y cant o bobl Cymru yn ysmygwyr ar hyn o bryd. Unwaith eto, mae hyn yn cael effaith enfawr ar iechyd yng Nghymru. Mae'n anablu yn ogystal â chyfrannu'n helaeth at farwolaethau cyn pryd, ac unwaith eto, mae hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol. Gwyddom fod cymaint yn rhagor o bobl yn ysmygu yn ein hardaloedd mwy difreintiedig. Y ffigurau sydd gennyf yw bod 21 y cant o oedolion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ysmygu o gymharu ag 8 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae’n fater anghydraddoldeb iechyd mor fawr, ac unwaith eto, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd cryn dipyn ar hyn ac wedi tynnu sylw’r cyhoedd a llunwyr polisi at faint y broblem a’r angen i symud ymlaen. Mae gennym rai enghreifftiau ymarferol o’r ffordd y gellir helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu gyda’r rhaglen Helpa Fi i Stopio, ac wrth gwrs, mae’r gwaharddiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn werthfawr iawn yn fy marn i. Ond mae mwy y gellir ei wneud i ymestyn y mannau hynny a’i gwneud yn gliriach fyth pa mor annerbyniol yn gymdeithasol yw ysmygu, a’r niwed y mae’n ei wneud i’n hiechyd.

Felly, mae yna bethau ymarferol y gallwn eu gwneud nawr, mae deddfwriaeth bwysig ar y ffordd, ac mae gwir angen inni sbarduno’r agenda iechyd ataliol hon a mynd i’r afael â llygredd aer yn effeithiol.

Bu farw fy mam-gu, Mari Owens, o asthma pan oedd hi'n 50 oed, cyn i mi gael fy ngeni. Roedd hi'n wraig i löwr, ac yn byw yn Rhymni, pentref glofaol tlawd, lle roedd llwch a llygredd y diwydiant glo yn llenwi'r awyr adeg ei marwolaeth ym 1958. Ond, fel rŷn ni wedi clywed, mae pobl yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw—pobl fel fy mam-gu, sy'n byw mewn ardaloedd tlawd, lle mae llygredd awyr yn dal i fod yn uchel, sy'n byw mewn tai oer a thamp.

Nawr, fel yr adeg honno, mae'n gyflwr sydd llawer mwy cyffredin mewn menywod, gyda menywod yn dioddef symptomau llawer mwy difrifol ac yn fwy tebygol o farw o asthma. Mae astudiaeth gan Asthma and Lung UK yn dangos bod menywod bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw o bwl o asthma na dynion. Amcangyfrifir bod 180,000 o fenywod yng Nghymru yn byw ag asthma ac mae'r adroddiad yn dangos nad oes digon o waith ymchwil wedi'i wneud i archwilio effeithiau hormonau rhyw benywaidd ar asthma. Gall amrywiadau mewn hormonau rhyw benywaidd a achosir gan lasoed, beichiogrwydd, y mislif a menopos waethygu neu hyd yn oed ysgogi pyliau o asthma sy'n bygwth bywyd. Wrth gofio bod fy mam-gu yr oedran oedd hi pan fu farw, 50, mae hyn yn amlwg hefyd o bosib yn ffactor yn yr hyn ddigwyddodd iddi hi.

Felly, mae’n hynod o bryderus, yn arswydus, fel dywedodd Rhun ap Iorwerth, fod yna fenywod fel fy mam-gu yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw. Mae meddyginiaethu a thriniaethau gwell i'w cael, ond mae ffactorau fel tlodi, diffyg aer glân ac effaith anghydraddoldebau iechyd yn dal i chwarae eu rhan yn y marwolaethau hyn, ac mae yn rhan fawr. Mae hwn yn faes y mae angen ymchwilio iddo ymhellach gan fod yr ymagwedd yr un maint i bawb bresennol ar gyfer trin asthma yn beryglus i lawer o fenywod yng Nghymru.

Gallai deall y gwahaniaethau yn rôl hormonau rhyw mewn asthma menywod helpu i ddatblygu ymyriadau priodol sy’n cael effaith fawr ac yn trawsnewid canlyniadau i fenywod. Ond am gyfnod rhy hir o lawer, dyw iechyd yr ysgyfaint ddim wedi'i drin yn ddigonol ac heb dderbyn y lefel o fuddsoddiad sydd ei angen. Er bod cyflyrau'r ysgyfaint yn effeithio ar un o bob pump o bobl yng Nghymru, fel rŷn ni wedi clywed, dim ond 1.8 y cant o'r £2.56 biliwn a fuddsoddwyd mewn ymchwil iechyd a gafodd ei fuddsoddi mewn ymchwil i gyflyrau anadlol.

Yn y rhanbarth o Gymru dwi'n ei chynrychioli, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae 7.3 y cant o bobl ag asthma, yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae'r rhanbarth hefyd yn cynnwys rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae 15 y cant o Gastell-nedd Port Talbot, y sir ble dwi'n byw, yn y 10 y cant o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a 33 y cant yn yr 20 y cant mwyaf difreintiedig. Mae'r 20 y cant tlotaf ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o angen derbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd asthma o gymharu â'r 20 y cant cyfoethocaf.

Rŷn ni wedi clywed gan Mabon ap Gwynfor am effaith ansawdd wael yr awyr, gyda Phort Talbot yn fy rhanbarth i yn un o'r llefydd gwaethaf am lygredd awyr yn y Deyrnas Gyfunol. Yn Aberafan, mae 75 y cant o feddygfeydd ac 11 y cant o ysgolion mewn ardaloedd sy'n torri terfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae 75.9 y cant o bobl â COPD sy'n byw mewn amddifadedd yn nodi bod llygredd aer yn effeithio ar eu hiechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn sicr yn gysylltiedig â COPD, gyda phobl o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gael pwl dwys pan fyddant yn cael trafferth anadlu.

Mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint. Mae angen i'r cynllun gwella hwn ystyried yn llawn yr anghydraddoldebau sydd ynghlwm wrth achosion o'r clefydau hyn, yn benodol tlodi ac anghydraddoldebau rhywedd, a'r amodau sy'n medru ysgogi pyliau a gwaethygu symptomau fel tai gwael a diffyg aer glan. Hoffwn i glywed gan y Gweinidog, felly, sut mae hyn yn cael ei fewngorffori yn yr hyn sy'n digwydd o ran gweithrediadau'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Dyw hi ddim dderbyniol bod y ffactorau hyn a gyfrannodd at farwolaeth fy mam-gu yn lawer rhy ifanc ym 1958, a miloedd o'i chyd-Gymry ers hynny, yn dal i beryglu a thorri bywydau yn fyr yn 2023. Rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig.

17:30

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y mae Asthma and Lung UK wedi'i ddweud mor briodol,

'Mae iechyd yr ysgyfaint yn broblem i bawb, ac eto ceir miliynau o bobl â chyflyrau'r ysgyfaint o hyd nad ydynt yn cael yr help y maent ei angen ac yn ei haeddu.'

Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru y ceir rhai o'r cyfraddau uchaf o farwolaethau o glefydau anadlol yn y Deyrnas Unedig a gorllewin Ewrop. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cynllun gwella ar waith ar gyfer clefydau anadlol ac yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'n record erchyll ar farwolaethau o glefydau anadlol.

Fel y bydd unrhyw glinigydd da yn dweud wrthych, mae atal yn well na gwella. Un ffordd y gallwn atal marwolaethau o glefydau anadlol yw drwy fynd i'r afael â malltod mesothelioma. Math o ganser yw mesothelioma sy'n datblygu o'r mesotheliwm, haen denau o feinwe sy'n gorchuddio llawer o'r organau mewnol. Y rhan yr effeithir arni'n fwyaf cyffredin yw leinin yr ysgyfaint a wal y frest. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu hachosi drwy ddod i gysylltiad ag asbestos. Yn ôl ymchwiliad diweddar gan bwyllgor dethol gwaith a phensiynau Tŷ'r Cyffredin, asbestos yw prif achos marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith yn y DU o hyd. Mae hwnnw'n ystadegyn ysgytwol pan ystyriwn fod y defnydd o asbestos wedi'i wahardd ers dros ddau ddegawd, ond nid yw'n syndod pan ystyriwn pa mor gyffredin yw'r deunydd mewn llawer o'n hadeiladau cyhoeddus. Rhybuddiodd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau, er y gallai cysylltiad eithafol fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, mae'r risgiau'n debygol o waethygu. Mae ôl-osod adeiladau i fodloni gofynion sero net yn golygu yr aflonyddir ar fwy o ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn y degawdau nesaf.

Er bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn credu y dylid ei ddileu, dywedodd y pwyllgor nad oedd y naill na'r llall wedi cyflwyno strategaeth glir a chynhwysfawr ar gyfer cyflawni hyn. Mae'r lladdwr cudd hwn yn dal i lechu mewn llawer o'n hadeiladau cyhoeddus yng Nghymru. Er bod nifer y marwolaethau o ganser yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag asbestos wedi gostwng yn y rhai sy'n gweithio mewn diwydiant trwm, dywedwyd wrth y pwyllgor dethol gwaith a phensiynau mai ymhlith athrawon ysgolion cynradd benywaidd y gwelir un o'r lefelau uchaf o achosion o mesothelioma fel grŵp galwedigaethol. Ni allwn barhau i ohirio gweithredu. Nid gorchuddio asbestos yw'r ateb; mae'n rhaid ei ddileu o ffabrig ein hadeiladau.

Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau i gael gwared ar yr holl asbestos mewn adeiladau cyhoeddus ar frys yn rhan o'u cynllun gwella ar gyfer iechyd anadlol. Un peth yw mynd i'r afael â llygredd aer ar ein strydoedd, ond ni allwn anwybyddu'r lladdwr anweledig yn ein hystafelloedd dosbarth a'n wardiau ysbytai mwyach. Mae angen gweithredu; rhaid i ni ddileu asbestos. Mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy. Diolch yn fawr.

17:35

Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i'r ddadl. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr iawn. Diolch am roi'r mater pwysig hwn ar yr agenda, oherwydd rwy'n cydnabod bod clefyd anadlol yn cael effaith sylweddol ar ein poblogaeth, ac mae'r pandemig wedi atgyfnerthu hyn i bob un ohonom.

Mae yna lawer o bobl sy'n dioddef o asthma neu sydd â phroblemau anadlol yng Nghymru. Os ydych chi'n berson sydd ag asthma anodd neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint mwy difrifol, gall eich bywyd cyfan ddod i ymwneud â rheoli'ch cyflwr, a bydd yr hyn y gallwch ei wneud yn eich bywyd o ddydd i ddydd yn gyfyngedig iawn. Rhaid ichi sicrhau nad ydych chi byth yn fwy na hyd braich oddi wrth eich meddyginiaeth neu'ch ocsigen, ac mae pob gaeaf yn dod â risg o ffliw a chlefydau eraill sy'n cylchredeg a allai waethygu eich cyflwr. Rydych chi'n poeni y gallech orfod mynd i'r ysbyty er mwyn trin diffyg anadl difrifol. I lawer o bobl sy'n ymdrin â mathau llai difrifol o glefyd anadlol, gall ymwneud mwy â pharhau i reoli eich clefyd, a pheidio â gadael iddo amharu ar y ffordd rydych chi'n byw eich bywyd.

Clywsom heddiw fod amcangyfrifon yn amrywio rhwng bod un o bob pump i fod un o bob saith o boblogaeth y DU wedi'u heffeithio, ond mae arolwg cenedlaethol Cymru yn dangos bod oddeutu 8 y cant neu un o bob 12 o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru yn nodi salwch anadlol hirdymor. Beth bynnag yw'r canlyniad, mae'n rhy uchel, mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch, ac mae gennym fesurau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Mae'r cyfraddau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chlefydau anadlol yn y cynnig yn sicr yn peri pryder, a byddaf yn edrych ar y ffigurau hynny ar gyfer 2018, i wneud yn siŵr fy mod yn deall yr achosion, ac i weld ein bod yn gwneud gwelliannau ers y ffigurau hynny yn 2018.

Beth bynnag yw'r union ffigurau, yr hyn sy'n bwysig yw bod sawl can mil o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan gyflyrau fel asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, canser yr ysgyfaint a ffibrosis yr ysgyfaint, yn ogystal â chlefydau trosglwyddadwy fel y ffliw, TB, a coronafeirws wrth gwrs. Ac mae hynny'n golygu y bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth fynd i'r afael â hi. Mae canlyniadau ar gyfer clefydau anadlol yn adlewyrchu ein cyfraddau hanesyddol o ysmygu, lefelau llygredd aer—fel y mae cynifer wedi cyffwrdd arno heddiw—cysylltiad â halogyddion diwydiannol a thai gwael, ac rwy'n credu bod hyn yn creu baich mwy o salwch anadlol sy'n rhaid i wasanaethau gofal iechyd geisio ei liniaru.

Mae'n ymwneud â mwy na mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn unig, fel y mae cymaint wedi crybwyll heddiw, mae a wnelo â'r penderfynyddion ehangach y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw ochr yn ochr â darparu gwasanaethau triniaeth o ansawdd uchel. Ac mae rhai o'r pethau hynny wedi cael sylw gan bobl fel John Griffiths. Dyna pam mae ein camau gweithredu ehangach ar, er enghraifft, y cynllun aer glân i Gymru a'r Bil Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), mor bwysig. Dyna pam mae'n rhaid cynnal y cynnydd a wnaethom ar leihau'r gyfradd ysmygu. Roedd cyfraddau ysmygu yn 2021-22 yn 13 y cant, sef y gyfradd isaf ers dechrau cadw cofnodion. Fe all ein GIG helpu miloedd o bobl i reoli eu cyflyrau ac ymyrryd pan fo pobl mewn argyfwng, ac mae'n gwneud hynny, ond os ydym am gael y canlyniadau gorau yn Ewrop yn hytrach na rhai o'r gwaethaf, mae angen inni leihau cysylltiad â phethau sy'n niweidio ein hysgyfaint: llygredd aer, mwg tybaco, ac aer oer a llaith yn ein cartrefi. Yn sail i hyn oll, rhaid gweithredu i fynd i'r afael ag amddifadedd ac anghydraddoldeb, gan eu bod yn gwneud yr holl risgiau hyn yn anos eu goresgyn.

Ar ofal a ddarperir gan y GIG, rydym wedi cael blynyddoedd lawer o waith ar y gweill i gynorthwyo gwasanaethau'r GIG i wella. Gwelsom hyn yn achos datblygu'r apiau hunanreoli cleifion ar gyfer clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma, a datblygu gwasanaethau arbenigol ar gyfer ymdrin ag asthma anodd, yn ogystal ag adnoddau pwysig i gynorthwyo gofal sylfaenol i reoli cyflyrau anadlol i safon gyffredinol. Gwnaed cynnydd sylweddol, ond cafodd dyfodiad y pandemig effaith fawr ar yr holl ymdrechion hyn, ac rydym yn dal i weld rhywfaint o'r effaith honno, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau spirometreg ac adsefydlu ysgyfeintiol.

Mae’r cynnig gwreiddiol o’n blaenau ni heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol. Fe fyddai’r trywydd yma, pe byddem ni am ei ddilyn, yn debyg iawn i’r cyn-gynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol. Ond er ein bod ni wedi cyflawni llawer o dan y cynllun yma, mae cael sawl cynllun cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau clinigol yma wedi dangos inni, os ydym ni am sicrhau newid o bwys, bod rhaid inni weithio o fewn y ffordd y mae’r NHS yn cael ei drefnu, ei ariannu, ei gynllunio a’i ddwyn i gyfrif.

Llynedd, fe wnes i gyhoeddi datganiad ansawdd ar gyfer clefydau anadlol, ym mis Tachwedd 2022. O fewn y datganiad, fe wnes i nodi ein disgwyliadau o ran ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan yr NHS yn y maes hwn. A gyda chefnogaeth gweithrediaeth yr NHS, dwi’n disgwyl i fyrddau iechyd ymateb gyda’r camau y bydden nhw yn eu cymryd i gwrdd â’r gofynion hyn fel rhan o’u cynllunio gweithredol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno llwybrau gofal sydd wedi’u cytuno’n genedlaethol y dylai’r gwasanaeth iechyd gynllunio i’w cyflawni. Mae’n cynnwys ystod eang o addysg broffesiynol ym maes gofal iechyd i helpu gweithlu'r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd y gofal i bobl sydd â chyflyrau anadlol.

Ochr yn ochr â hyn, mae’n cynnwys rhoi sylw i leihau effaith carbon dyfeisiadau anadlu sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn. A rŷn ni wedi gweld gwelliant sylweddol yn hynny o beth yn barod. Ac yn derfynol, mae hefyd yn cynnwys defnyddio apiau hunanreoli NHS Cymru ar gyfer asthma a COPD. Mae adborth gan gleifion yn dangos bod 36 y cant o ddefnyddwyr rheolaidd yr ap yn ymweld â’r meddyg teulu yn llai aml, a bod 19 y cant yn mynd i’r adrannau brys yn llai aml hefyd. Ar gyfer pobl sy’n methu rheoli eu clefydau, mae’r gostyngiad yn fwy byth, sef 44 y cant a 33 y cant.

Mae’r dull gweithredu newydd yn sicrhau’r arweiniad a’r gefnogaeth genedlaethol hanfodol fydd nawr yn cael ei ddarparu gan y rhwydwaith clinigol clefydau anadlol, sy’n rhan o weithrediaeth yr NHS. Amcan sylfaenol y gwaith yw nodi beth mae gofal o ansawdd uchel yn ei olygu, gan ddal ati i weithio gyda’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau i’w wella. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio i ddelio â’r amrywiad mewn mynediad at wasanaethau fel adsefydlu cleifion yr ysgyfaint, adolygiadau blynyddol, a gofal o ansawdd i gleifion mewnol. 

Mae'r ffordd newydd yma o weithio wedi cychwyn yn barod, ac mae'r cynnydd ffurfiol mewn mynediad at barametrig yn y gymuned yn enghraifft gynnar o sut bydd hyn yn gweithio. Mae mannau eraill yn y Deyrnas Unedig wedi dangos diddordeb yn ein gwaith ni yng Nghymru nawr. Dwi'n gwerthfawrogi bod hyn yn ffordd newydd o weithio, a gall pobl eraill ddysgu wrthon ni. Gallaf sicrhau Aelodau y byddwn ni'n gofyn i'r NHS asesu ei ddarpariaeth yn erbyn y disgwyliadau sydd wedi'u nodi yn y datganiad ansawdd. A byddwn ni hefyd yn gofyn iddo ddatblygu cynlluniau gweithredol lleol i wella gwasanaethau gyda chymorth cenedlaethol parhaus gan weithrediaeth yr NHS. Diolch yn fawr. 

17:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb, yn cynnwys y Gweinidog, wrth gwrs, sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Mi wnes i rhagweld y byddem ni'n clywed tystiolaeth gref, ac mi wnaethon ni glywed tystiolaeth gref iawn ynglŷn â'r angen i weithredu yn y maes yma. Dŷn ni wedi clywed ystadegau lu. Dŷn ni wedi clywed profiadau—profiadau personol, profiadau Aelodau hyd yn oed, oherwydd mae afiechyd yr ysgyfaint a phroblemau resbiradol yn effeithio ar bob un o'n teuluoedd ni, yn fwy na thebyg. Mi sylweddolon ni, dwi'n meddwl, yn eithaf clir, er mai'r Gweinidog iechyd oedd o'n blaenau ni yn fan hyn, ein bod ni angen gweithredu ar draws Llywodraeth o ran yr ymateb i'r argyfwng yma. Dŷn ni'n sôn am elfennau yn ymwneud â thai a chynllunio, trafnidiaeth, ac mae cael gwared ar asbestos yn gorfod bod yn rhan o'r ateb, yn ôl Altaf Hussain, ysmygu hefyd, ac, wrth gwrs, yr angen i daclo tlodi. Roedd yn fy nharo i wrth wrando ar rai o'r cyfraniadau faint o bobl sydd wedi dewis brwydro a llwyddo i roi'r gorau i ysmygu oherwydd y sylweddoliad o'r drwg mae ysmygu yn ei wneud i ni'n hunan, ond faint wedyn sydd â dim dewis o gwbl ynglŷn â pha mor llygredig ydy'r awyr y mae nhw'n gorfod ei anadlu oherwydd eu bod nhw yn byw mewn tlodi, yn byw ger ffordd sydd yn llygru'r awyr. Mae hwn yn faes sydd yn cyffwrdd ar gymaint o agweddau o bortffolios Gweinidogion Llywodraeth Cymru. 

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymateb hi. Dwi'n cytuno, yn sicr, â hi ar yr angen i bwysleisio o hyd y gwaith ataliol. Mi wnaf wastad gefnogi ac annog y Gweinidog i wneud mwy a mwy o ran gyrru chwyldro ataliol, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys elfennau fel y gwaith ar atal ysmygu ac yn y blaen. 

Ond mae angen cynllun gwella. Dwi'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn am y gwaith y mae hi yn gofyn i gael ei wneud gan y byrddau iechyd ar ddatblygu'r gwasanaethau; mae hynny'n bwysig, wrth gwrs. Ond nid ni fel gwleidyddion yn fan hyn sy'n gofyn am gynllun gwella clir a phendant, ond y rheini sydd yn ymwneud â'r maes yma o ddydd i ddydd—ie, Asthma and Lung UK, ond meddygon, ac, wrth gwrs, teuluoedd y rhai sydd yn dioddef. Felly, mae'n rhaid i ni, rywsut, symud ymlaen yn y ffordd hwnnw. Dwi'n sylweddoli bod y Llywodraeth wedi ymrwymo ers blynyddoedd bellach i ddatganiadau ansawdd. Ynddyn nhw eu hunain, dydy datganiadau ansawdd ddim yn beth drwg, ond hanner y gwaith ydy datganiad ansawdd. Fel y gwelson ni efo canser, y broblem efo cael datganiad ansawdd heb gamau gweithredu ydy bod dim byd yn gyrru yr hyn sydd angen ei gymryd fel camau er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. 

Felly, oes, mae angen gwella mynediad i driniaeth. Mae angen taclo'r triniaethau hen ffasiwn, os liciwch chi, sydd dal yn cael eu rhoi yn llawer rhy hawdd, yn hytrach nag edrych ar opsiynau mwy newydd, mwy effeithiol. Mae angen edrych ar addysgu. Mae addysg yn annigonol ar hyn o bryd ar sut i atal neu ymdopi efo gwahanol gyflyrau. Ac, wrth gwrs, fel y dywedon ni, mae lefelau llygredd aer ymhell rhy uchel, ac yn achosi dioddefaint a marwolaeth di-angen. 

Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths, ac i'r Gweinidog, am gydnabod maint yr hyn sy'n ein hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddweud y byddant yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw. Ond wrth bob Aelod Llafur, gadewch imi ddweud hyn: cymerwch anadl ddofn, cydnabyddwch a sylweddolwch pa mor werthfawr yw hynny, a phleidleisiwch dros ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni yn gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr ac, os nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud at y bleidlais.

Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ddiogelwch adeiladau uchel, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 18 yn ymatal, a neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Diogelwch adeiladau uchel: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 18

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r gyfres bleidleisio ar eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar glefydau anadlol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly fe rydw i yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod o 24 o bleidleisiau i 25 yn erbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Clefydau anadlol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Sy'n caniatáu inni gael pleidlais nesaf ar welliant 1. Mae gwelliant 1 wedi'i gyflwyno gan Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly fe dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, sy'n golygu bod y gwelliant wedi ei drechu o 24 pleidlais i 25 yn erbyn, sy'n golygu fod naill ai'r cynnig na'r gwelliant wedi ei dderbyn, felly does yna ddim byd wedi ei dderbyn o dan yr eitem yna.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Clefydau anadlol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

10. Dadl Fer: Pam fod angen cynllun strategol ar Gymru i flaenoriaethu ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd

Sy'n caniatáu inni symud ymlaen i'r ddadl fer, eitem 10. Cyn i fi alw ar Peter Fox, mi wnaf i ofyn i Aelodau i adael y Siambr yn dawel. 

Os gall yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, byddem yn gwerthfawrogi hynny, ac fe alwaf ar Peter Fox i gyflwyno ei ddadl fer.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o ganiatáu i Mark Isherwood, Mike Hedges, Jack Sargeant a Peredur Owen Griffiths gael munud o fy amser. Thema'r ddadl hon yw pam mae angen cynllun strategol ar Gymru i flaenoriaethu ymchwil i diwmorau'r ymennydd.

Nid yw tiwmorau'r ymennydd yn anwahaniaethol a gallant daro unrhyw un ar unrhyw oedran. Mae'n frawychus fod y clefyd hwn yn lladd mwy o blant ac oedolion o dan 40 oed nag unrhyw ganser arall, sy'n ystadegyn cwbl syfrdanol. Mae natur anwahaniaethol tiwmorau'r ymennydd yn gadael effaith ddinistriol, nid yn unig ar y dioddefwr, ond hefyd ar eu hanwyliaid, ac rwy'n gwybod o brofiad personol, fel y bydd eraill yma—cafodd fy mam annwyl ddiagnosis o diwmor glioblastoma a dyfodd y tu mewn i'w hymennydd ac fe wnaeth ei dentaclau ddinistrio a difa'r ymennydd hwnnw'n gyflym iawn. Rhoddwyd tri i chwe mis iddi, a bu farw, yn 81 oed, yn 2019. Efallai fod rhai yn meddwl bod hwnnw'n oedran da, ond gwyddom fod y tiwmor wedi dwyn o leiaf 10 mlynedd neu fwy oddi arni; roedd ei theulu wedi byw ymhell i mewn i'w nawdegau, bron yn 100 oed.

Mae'n salwch dinistriol nad yw'n arbed fawr o neb. Mae mor anodd pan fydd rhywun rydych chi'n ei garu'n fawr yn cael eu cymryd cyn eu hamser, a heb fawr o rybudd. Ac i bawb, fel fy mam, a fu farw o ganser yr ymennydd, nid oes gennym unrhyw ddewis ond derbyn eu bod wedi marw. Ond rwy'n credu ei bod bellach yn ddyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon heddiw i wneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at y clefyd gwirioneddol ofnadwy hwn gyda'r nod yn y pen draw o atal neu o leiaf leihau nifer y bobl y mae'n effeithio arnynt. Cefais fy synnu o glywed mai dim ond 1 y cant o'r gwariant cenedlaethol ar ymchwil canser sydd wedi'i ddyrannu i'r clefyd dinistriol hwn yn hanesyddol. Gadewch i hynny suddo i mewn am eiliad: dim ond 1% o'r cyllid a ddyrannir, er bod 16,000 o bobl ledled y DU o bob oed yn cael eu taro gan y canser ymennydd hwn bob blwyddyn. Dysgais y ffaith frawychus hon yn dilyn cyfarfod diweddar yma yn y Senedd gydag elusen Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd, a hoffwn ganmol yr elusen honno am y gwaith rhagorol y mae'n ei wneud, bob dydd o'r flwyddyn, i godi ymwybyddiaeth hanfodol o ganser yr ymennydd. Dywedodd swyddogion yr elusen wrthyf fod yn rhaid i ni, ac rwy'n dyfynnu,

'Gydnabod clefyd sy'n unigryw o gymhleth gydag ymateb sy'n unigryw'. 

I'r rhai sy'n dioddef o diwmor ar yr ymennydd, mae amser yn allweddol. Weinidog, dyna pam y penderfynais gyflwyno'r ddadl fer hon. Mae cymaint y gallwn ei wneud ar y cyd i helpu i atal cynnydd y clefyd anwahaniaethol hwn.

Ar ôl cysylltu'n agos ag elusen Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd, rwy'n galw heddiw am gefnogaeth i helpu i gyflawni saith pwynt beiddgar. Rhif 1, dylai Llywodraeth Cymru gydnabod ymchwil i diwmorau'r ymennydd fel blaenoriaeth hollbwysig, a datblygu cynllun strategol ar gyfer darparu adnoddau digonol ac ariannu ymchwil ddarganfyddiadol, drosiadol a chlinigol; Rhif 2, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod seilwaith casglu a storio meinwe cadarn ar waith ledled y wlad; Rhif 3, mae angen mwy o weithredu i feithrin gallu ymchwil, gan annog a chadw talent drwy gymrodoriaethau a mentrau ymchwil; Rhif 4, rhaid inni sicrhau mynediad teg at dreialon clinigol, a bod cronfa ddata'r treialon clinigol yn gadarn ac yn gyfredol, bydd hyn yn sicr yn gwella treialon clinigol; Rhif 5, gyda rhai cwmnïau fferyllol yn dewis peidio â datblygu cyffuriau canser yr ymennydd yn y DU, mae angen i Lywodraeth Cymru symleiddio'r broses reoleiddio i annog buddsoddiad am y cyfnodau hirach sy'n angenrheidiol i ddatblygu a darparu cyffuriau newydd ar gyfer tiwmorau'r ymennydd; Rhif 6, dylai cyrff cyllido neilltuo cyllid penodol ar gyfer ymchwil i diwmorau'r ymennydd yn ystod plentyndod lle mae cyfraddau goroesi'r tiwmorau mwyaf ymosodol wedi aros yn ddigyfnewid ers degawdau, gan arwain at deuluoedd rhwystredig yn amlwg yn chwilio am driniaeth gostus dramor, sy'n aml heb ei phrofi; a Rhif 7, mae dirfawr angen cyfarfod gweinidogol rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru, elusen Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd, ymgyrchwyr tiwmorau'r ymennydd yng Nghymru, ac ymchwilwyr i diwmorau'r ymennydd yng Nghymru, i drafod sut i wella canlyniadau ar gyfer cleifion tiwmorau'r ymennydd a'u teuluoedd nawr ac yn y dyfodol.

Y genhadaeth gyda'r saith pwynt yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu cyllid ar gyfer ymchwil hanfodol. Gyda thiwmorau'r ymennydd yn lladd mwy o fenywod o dan 35 na chanser y fron, ac yn lladd mwy o ddynion o dan 70 oed na chanser y prostad, mae'n bryd gweithredu. Gallai ein camau nesaf wneud gwahaniaeth enfawr i'r rhai sy'n cael diagnosis a'u teuluoedd. Diolch.

17:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Pan fynychais ddigwyddiad codi ymwybyddiaeth Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd ar 25 Ebrill, clywais fod tiwmorau'r ymennydd yn lladd mwy o blant ac oedolion o dan 40 nag unrhyw ganser arall, ond mai dim ond 1 y cant o'r gwariant cenedlaethol ar ymchwil canser yn hanesyddol sydd wedi'i ddyrannu i'r clefyd dinistriol hwn, a bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i feithrin gallu ymchwil, gan annog a chadw talent.

Canser yr ymennydd yw'r ail brif achos marwolaeth o ganser mewn rhai dan 40 oed, yn ail yn unig i lewcemia, gyda 10.3% o farwolaethau canser gwrywaidd a 6.7 y cant o farwolaethau canser benywaidd o dan 40 oed i'w priodoli i diwmorau'r ymennydd a'r system nerfol ganolog. Felly, dylai Llywodraeth Cymru gydnabod ymchwil tiwmorau'r ymennydd fel blaenoriaeth allweddol a chytuno i gyfarfod gweinidogol gydag Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd, ymgyrchwyr tiwmorau'r ymennydd ac ymchwilwyr i diwmorau'r ymennydd yng Nghymru i drafod y ffordd orau o ddatblygu llwybr i wella opsiynau a chanlyniadau ar gyfer cleifion tiwmorau'r ymennydd a'u teuluoedd nawr ac yn y dyfodol. Diolch.

18:00

A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Peter Fox, nid yn unig am funud yn y ddadl hon ond am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad ar 25 Ebrill yn y Senedd yn ymwneud â thiwmorau'r ymennydd. Bu farw fy mam o diwmor ar yr ymennydd a aeth heb ei ganfod nes iddo gyrraedd cam 4. Roedd hi'n cael ei thrin am broblem thyroid. Fel y dywedodd Peter, mae'r symptomau'n datblygu'n raddol dros sawl mis, ond dim ond 40 y cant o'r bobl sy'n cael diagnosis o diwmor malaen ar yr ymennydd sy'n byw am fwy na blwyddyn, a llai nag 20 y cant am fwy na phum mlynedd. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at gyfraddau marwolaeth uchel canser yr ymennydd, gan gynnwys natur ymosodol y clefyd a'r rhwystrau i driniaeth, felly mae dal tiwmorau'n gynnar yn caniatáu ar gyfer mwy o opsiynau triniaeth. Yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o ymchwil ar diwmorau'r ymennydd, sut y gallwn eu hatal rhag datblygu, ac mae angen i feddygon teulu gael eu hyfforddi'n well i nodi bodolaeth tiwmorau'r ymennydd a threfnu profion cynharach.

Lywydd, rwy'n falch o ddilyn fy nghyd-Aelod Mike Hedges i ddiolch i Peter Fox, nid yn unig am funud o'i amser, ond hefyd am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon heddiw.

Lywydd, hoffwn ddefnyddio fy amser heddiw i siarad am Aaron Wharton a'i rieni, Nicola a Lee Wharton. Bu farw Aaron o diwmor prin ar yr ymennydd ym mis Ebrill eleni. Yn ystod ei salwch, roedd Aaron a'i rieni yn anhygoel o ddewr, a dyma ddyfynnu ei rieni yn ein papur lleol, The Leader:

'Roeddem yn cadw bywyd mor gonfensiynol â phosibl i Aaron, gan ei annog i fyw'r bywyd y dylai bachgen bach "normal" ei fyw. Rwy'n credu mai'r agwedd hon a'i gwelodd nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.'

Lywydd, mae hynny'n galw am gryfder anhygoel, a dylem gydnabod hynny. Mae rhieni Aaron eisiau gwneud popeth yn eu gallu i godi ymwybyddiaeth o diwmorau'r ymennydd ac i gefnogi'r ymchwil i driniaethau mae Peter Fox wedi siarad amdani heno. Mae hon yn ymdrech rwy'n ei chefnogi'n llwyr ac rwy'n gobeithio, er cof am Aaron, y gall Llywodraeth Cymru ei chefnogi hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Peter, am gael cyfle i siarad yn y drafodaeth yma.

Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r ddadl hon. Ac rwy'n adleisio llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes.

Pan ddarllenais bwnc y ddadl hon yr wythnos diwethaf, fe sbardunodd atgof poenus. Cefais fy nghario'n ôl i alwad ffôn a gefais gyda fy mrawd ym mis Rhagfyr 2014. Roedd newydd ddod allan o gyfarfod gyda doctoriaid a fy rhieni i drafod pam nad oedd fy mam yn iach. Nid oedd hi wedi bod yn iawn ers tua 12 mis, ond roedd hi wedi dirywio, ac roedd hi'n dioddef o symptomau tebyg i strôc. Yn ystod yr alwad ffôn emosiynol honno, dywedodd wrthyf fod ganddi sawl tiwmor ar yr ymennydd. Dros y chwe wythnos nesaf, dirywiodd a bu farw'n dawel ddiwedd mis Ionawr, ar ôl derbyn gofal lliniarol ardderchog yn Hosbis Dewi Sant yn Llandudno. A byddaf bob amser yn ddiolchgar i hosbisau ledled Cymru am y gwasanaeth a'r gofal y maent yn ei roi i gleifion a theuluoedd.

Drwy adrodd y stori hon, roeddwn eisiau tynnu sylw at dri pheth. Mae angen profion cynnar gwell, oherwydd mae'r rhagolygon yn llawer gwell os yw tiwmorau'r ymennydd yn cael eu dal yn gynnar. Mae angen ymchwil penodol ar diwmorau'r ymennydd, er mwyn datblygu triniaethau i achub bywydau. Ac os nad yw pethau'n mynd yn dda, mae angen inni barhau i ariannu ein hosbisau ledled Cymru, yn enwedig hosbisau plant, er mwyn sicrhau'r gofal diwedd oes gorau sy'n bosibl. Diolch yn fawr.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Peter Fox ac i'r nifer o Aelodau sy'n amlwg â diddordeb personol go iawn yn y maes penodol hwn. Ac mae wedi bod yn emosiynol iawn clywed straeon pobl, eu straeon personol, ac yn ddealladwy pam eu bod yn gweld yr angen am ymchwil canser o ansawdd uchel, sydd wrth gwrs yn hanfodol i gleifion sy'n dioddef. Rwy'n credu ei fod yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i ddarparu'r gofal, y profiad a'r gwasanaethau gorau, a dyna pam fod ymchwil canser o ansawdd uchel mor hanfodol.

Ond gyda chymaint o fathau o ganser, a llawer ohonynt â chyfraddau achosion isel iawn fesul gwlad, er mwyn cynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud y gwelliannau angenrheidiol ym maes atal, diagnosis a thriniaeth, rhaid inni weld ymchwil canser fel ymdrech fyd-eang. Gyda hynny mewn golwg, mae'n bwysig fod gennym amgylchedd ymchwil canser cryf yng Nghymru a all gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang hon a chefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil yn ein GIG, ar draws sawl math o ganser, gan gynnwys canser yr ymennydd a chanserau'r system nerfol ganolog. A rhaid inni wneud hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parchu cof am bobl fel Aaron Wharton, y soniodd Jack amdano. Ac mae'n dorcalonnus meddwl am y boen y bu'n rhaid i'r rhieni fynd drwyddo yn y sefyllfa honno, ac yn dorcalonnus clywed cymaint ohonoch chi'n siarad am eich mamau a'r hyn y bu'n rhaid iddynt hwy ei ddioddef.

Dros y blynyddoedd, canser yw'r maes unigol mwyaf o fuddsoddiad ymchwil iechyd Llywodraeth Cymru. Mae cyllid sylweddol gan y Llywodraeth wedi adeiladu seilwaith ymchwil canser allweddol, er enghraifft, megis Canolfan Ymchwil Canser Cymru a'r uned atgyweirio'r ymennydd a niwrotherapiwteg mewngreuanol. Nawr, gyda'i gilydd, mae'r ddau grŵp ar hyn o bryd yn gweithio i ddeall a rhagweld ymatebion triniaeth yn well mewn tiwmorau'r ymennydd, yn ogystal â datblygu technoleg newydd i gefnogi treialon am y tro cyntaf mewn pobl a arweinir gan Gymru ar therapïau a ddarperir yn uniongyrchol i'r ymennydd. Yn berthnasol iawn i ymchwil i diwmorau'r ymennydd, mae Cymru hefyd yn elwa o ganolfan ddelweddu'r ymennydd sy'n arwain y byd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn anrhydedd mawr cael mynd i ymweld â hi. Gan weithio mewn cydweithrediad â Felindre, mae'r ganolfan yn cefnogi datblygiad biofarcwyr niwroddelweddu er mwyn deall ymateb a gwenwyndra triniaeth radiotherapi yn well mewn tiwmorau'r ymennydd.

Mae gennym hefyd weithgaredd sylweddol mewn ymchwil canser yn ein sefydliadau GIG eu hunain. Mae llawer ohonoch wedi siarad am yr angen am dreialon clinigol; maent yn hanfodol er mwyn deall cyflyrau a chynnig cyfleoedd triniaeth i gleifion. Yma yng Nghymru, mae gennym oddeutu 10 o astudiaethau tiwmorau'r ymennydd ar y gweill, yn amrywio o dreialon sy'n edrych ar ddeall achosion canser yr ymennydd i dreialu triniaethau, gan gynnwys radiotherapi a chemotherapi. Mae sicrhau bod gan bob claf fynediad at gyfleoedd ymchwil yn hanfodol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio'n agos gyda thimau clinigol yn rheolaidd i gynnig cymorth i gleifion a allai fod eisiau cymryd rhan mewn treialon mewn canolfannau arbenigol y tu allan i Gymru, felly nid oes unrhyw un yn cael ei eithrio o gyfleoedd i roi cynnig ar driniaethau newydd.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod, y llynedd, fod ein cymuned ymchwil, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi cyhoeddi'r strategaeth ymchwil canser gyntaf i Gymru. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar chwe thema ymchwil â blaenoriaeth lle ceir cryfder ymchwil cydnabyddedig yng Nghymru a lle gall ymchwilwyr o Gymru wneud y cyfraniad mwyaf i gefnogi'r ymdrech ymchwil fyd-eang. A'r themâu hyn yw oncoleg fanwl a mecanistig; imiwno-oncoleg; radiotherapi; treialon clinigol canser; oncoleg liniarol a chefnogol; ac atal canser yn seiliedig ar y boblogaeth ac iechyd, diagnosis cynnar, gofal sylfaenol ac ymchwil gwasanaethau iechyd.

Nawr, mae'r dull strategol newydd hwn yn cydnabod, wrth inni ymdrechu i wella atal, diagnosis a thriniaeth a gweithio'n galed i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan gynnwys anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, fod rhaid inni ganolbwyntio ar feysydd màs critigol a rhagoriaeth sy'n galluogi'r ymchwil a gefnogwn yng Nghymru i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar gyfer yr uned atgyweirio'r ymennydd a niwrotherapiwteg mewngreuanol a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru, rydym yn cefnogi ymchwil canser yr ymennydd mewn ffyrdd eraill hefyd. Mewn partneriaeth â Cancer Research UK, rydym yn buddsoddi mewn rhwydwaith o ganolfannau ymchwil canser arbrofol ledled y DU, gan gefnogi cyfraniad ymchwil oedolion a phediatrig yng Nghymru. Ac mae'r rhwydwaith hwn o ganolfannau meddygaeth canser arbrofol yn cefnogi cyflwyno astudiaethau canser cam cynnar rhwng partneriaid ymchwil i fod o fudd yn gyflymach ac yn fwy personol i gleifion, ar gyfer rhwydweithiau oedolion a phediatrig sy'n ymdrin â threialon canser yr ymennydd. 

Mae hyn yn ailadrodd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, ac mae'n rhaid inni barhau gyda'r gwaith o weithio ar draws ffiniau cenedlaethol, prifysgolion, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac arianwyr i greu cyfleoedd cyllido i ymchwilwyr Cymreig. Mae'n rhaid inni roi ein hymchwilwyr mewn cysylltiad â grwpiau ymchwil o safon uchel eraill a chynyddu cyfleoedd sydd gan gleifion Cymreig i gymryd rhan mewn ymchwil. A ninnau'n aelodau o'r National Cancer Research Institute, rŷn ni'n parhau i fod yn ymroddedig i archwilio cyfleon gyda phartneriaid.

Tu hwnt i ymchwil, mae ein dull ehangach o wella gwasanaethau canser a deilliannau yn cael ei osod allan yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser, y quality statement for cancer, wnes i ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021. Fel ŷch chi'n gwybod, dwi'n rhoi ffocws sylweddol ar wella gwasanaethau canser a gwella deilliannau. Mae'n un o'n chwe blaenoriaeth ni yn fframwaith cynllunio'r NHS ar gyfer eleni, ac rŷn ni'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau'r NHS ar wneud gwelliannau. Dwi'n falch o weld bod y gwasanaeth clinigol ar gyfer triniaeth canser yr ymennydd yng ngogledd Cymru ac yn ne Cymru wedi derbyn statws canolfan ragoriaeth gan ymgyrch canser yr ymennydd Tessa Jowell, y Tessa Jowell Brain Cancer Mission. Ac mae hyn yn llwyddiant hynod o bwysig, sy'n dangos rhagoriaeth mewn triniaeth y claf a gofal ac ymchwil sydd ar gael i boblogaeth Cymru. 

Dwi'n hynod o ddiolchgar o'r cyfle i siarad gyda chi heddiw i gael tynnu'ch sylw chi at bwysigrwydd ymchwil canser yr ymennydd rŷn ni'n ei osod fel Llywodraeth, ac i roi syniad clir ichi o'i le yng nghyd-destun y strategaeth ymchwil canser ac yn y dirwedd ymchwil yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

18:10

Diolch i'r Gweinidog, ac i'r holl siaradwyr ar yr eitem hon heddiw.

Ac ar ran y grŵp trawsbleidiol rwy'n ei gadeirio ar ganser, diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Peter, oherwydd rydym yn anghofio weithiau am y gwahanol fathau o ganser sy'n effeithio ar unigolion, ac mae hwn yn un arall o'r ffurfiau hynny sy'n cael eu rhoi i'r naill ochr mewn ffordd wrth inni siarad am bethau eraill. Mae'n bwysig ein bod yn codi proffil y cyfan. Diolch. 

Daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.