Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/02/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da. Wrth i ni gychwyn y prynhawn yma, ac, ar eich rhan chi i gyd, dwi'n siŵr, os caf i groesawu'r Prif Weinidog yn ôl i'n plith ni, a'r eitem gyntaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, a'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates. 

Gwaith i Bobl Ifanc

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn Ne Clwyd? OQ59159

Llywydd, bywiogrwydd parhaus yr economi yn y gogledd-ddwyrain yw'r cymorth gorau un i bobl ifanc sy'n dechrau gweithio yn etholaeth yr Aelod. I'r rhai ymhellach o'r farchnad lafur, mae'r warant i bobl ifanc yn cynnig amrywiaeth o gymorth i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith, a'u gosod ynddo.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'r warant i bobl ifanc wir wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y flwyddyn y mae wedi bod yn gweithredu, ar ôl dod o hyd i waith i 11,000 o bobl ledled Cymru. Ac mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd cyfradd ddiweithdra'r DU hefyd. Beth all cyflogwyr ei wneud i ddenu gweithlu'r dyfodol, ochr yn ochr, yn amlwg, â'r amrywiaeth o gynlluniau rhagorol Llywodraeth Lafur Cymru fel y warant i bobl ifanc?

Wel, Llywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn cyfres o gyfarfodydd â chyflogwyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac nid prinder gwaith yw'r stori allan yna, fel y gwyddoch, erbyn hyn, ond prinder gweithwyr. Mae 330,000 yn llai o bobl yn y gweithlu ar draws y Deyrnas Unedig nag yr oedd yn 2016. Ac mae hynny'n golygu bod cyflogwyr yn chwilio am bobl ifanc yn arbennig, ac mae natur y drafodaeth wedi bod am y mathau o bethau y mae pobl ifanc yn eu dweud wrth gyflogwyr eu bod nhw'n chwilio amdano. Ac maen nhw'n chwilio am lwybr a datblygiad gyrfaol, maen nhw'n chwilio am hyblygrwydd yn y gweithle, maen nhw'n chwilio am y gwerthoedd y maen nhw'n gweld cyflogwr yn eu cynnig—ymrwymiad i waith teg, ymrwymiad i gyfrifoldebau hinsawdd. Felly, rwy'n credu bod gwersi, yn eglur iawn, gan bobl ifanc eu hunain, am y math o bethau y byddan nhw'n eu hystyried yn ddeniadol mewn gweithle lle maen nhw'n adnodd prin.

Daw cyfrifoldeb y Llywodraeth, Llywydd, o wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n barod eto i fentro i'r gweithle yn cael yr holl gymorth y gallant ei gael drwy'r warant i bobl ifanc, pa un a yw hynny'n lle hyfforddi, yn datblygu sgiliau, yn lleoliadau a gynorthwyir yn y gweithle, fel y gallwn wneud yn siŵr bod yr holl bobl ifanc hynny yng Nghymru, sydd eisiau gwneud eu cyfraniad at ein heconomi, wedi'u paratoi'n llawn i wneud hynny. 

Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am gyflwyno cwestiwn pwysig heddiw. Hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed ganddo, a gennych chithau hefyd, Prif Weinidog, o ran y warant i bobl ifanc, rhywbeth yr ydym ni, ar yr ochrau hyn i'r meinciau, wedi bod yn ei gefnogi. Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, mae'n gynnig sydd yno i bawb dan 25 oed—y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Ac, yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cefais y fraint o ymuno â'r is-ganghellor a'i thîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i glywed am yr holl waith da sy'n cael ei wneud yn yr ysgol fusnes yn arbennig yn y brifysgol, ac i glywed am eu perthynas gyda diwydiant, a chyda busnesau yn Wrecsam a De Clwyd, ac yng ngogledd Cymru fel rhanbarth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod pwysigrwydd y berthynas honno rhwng addysg uwch a busnes a diwydiannau yn y gogledd, ac yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, a sut ydych chi'n credu y gellir adeiladu ar y berthynas bwysig honno i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle o gyflogaeth yn fy rhanbarth i yn y gogledd?

Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae'n ei wneud, ac nid addysg uwch yn unig, ond addysg bellach hefyd, ac mae'r gogledd yn arbennig o wyn ei byd, rwy'n credu, o ran ansawdd yr addysg bellach sy'n cael ei darparu i bobl ifanc yn y rhanbarthau hynny. 

Rydyn ni'n gwybod bod profiad y pandemig yn golygu bod gan hyd yn oed bobl ifanc sydd wedi mynychu addysg uwch synnwyr o fod angen magu hyder yn ôl er mwyn bod yn y gweithle. Ac mae'n ddiddorol bod nifer o'r cynlluniau sy'n rhedeg o dan gylch gwaith y warant i bobl ifanc yn cymryd pobl ifanc sydd eisoes wedi graddio o dan eu hadain er mwyn rhoi'r cychwyn hwnnw iddyn nhw. Ac mae'r berthynas rhwng darparwyr addysg bellach ac uwch a byd gwaith, rwy'n credu, yn sylfaenol bwysig o ran gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny sydd angen y cam ychwanegol hwnnw ar eu taith yn gynnar, i wneud yn iawn am rai o'r profiadau y byddan nhw wedi gorfod mynd drwyddyn nhw yn ystod y cyfnod diweddar, bod y cymorth ychwanegol hwnnw ar gael iddyn nhw, ac yn cael ei gefnogi o'r ddwy ochr.

13:35
Ailosod Pont Llannerch

2. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â chynlluniau i ailosod pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion? OQ59153

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau bod y cyngor wedi gwneud cais am gyllid trwy ein cronfa ffyrdd cydnerth i gynorthwyo gydag ailosod y bont.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar yn y White House yn Rhuallt, ynglŷn â chynnydd o ran y gwaith o ailadeiladu pont Llannerch yr oedd mawr ei angen, yn dilyn ei herydiad drwy achosion naturiol yn sgil storm Christoph, yn ôl yn 2021. Cafodd trigolion lleol, cynghorwyr, arweinwyr cyngor, a phenaethiaid adrannol o'r awdurdod yn sir Ddinbych drafodaeth gynhyrchiol ar strategaeth y swyddogion i gwblhau gwaith ailosod erbyn 2026, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i achos busnes Cyngor Sir Ddinbych, a gyflwynwyd yn ddiweddar, fel yr ydych chi wedi sôn, am gyllid. Fel y gwyddoch, mae trigolion cymunedau gwledig fel Trefnant a Thremeirchion wedi cael eu hynysu am ddwy flynedd ers cwymp y bont, ac mae diffyg pont newydd yn parhau i fod yn rhwystr i bolisi newid hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun ar wahardd adeiladu ffyrdd yng Nghymru, a hefyd yn gwneud dargyfeiriadau ffyrdd maith yn angenrheidiol ac yn ychwanegu at gostau beichus i gyllidebau teuluol a gwahanol gyllidebau adrannol y cyngor. Roedd cymeriad pendant y cyfarfod cyhoeddus yn un o ymdrech unedig a dymuniad i weithio ar draws y rhaniad gwleidyddol i sicrhau bod y darn allweddol hwn o seilwaith lleol a hanesyddol yn cael ei adfer cyn gynted â phosibl. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddarparu manylion heddiw o'ch arsylwadau o'r achos busnes gan Gyngor Sir Ddinbych, a rhoi manylion eich strategaeth i wneud yn siŵr bod pobl dda cefn gwlad sir Ddinbych yn gallu parhau wedi'u cysylltu, trwy ailosod pont Llannerch, i sicrhau symudiad diogel trigolion cefn gwlad sir Ddinbych? Diolch.

Llywydd, diolch i Gareth Davies am y cwestiynau pellach yna. Rwy'n cytuno ag ef—yn sicr nid yw'n fater o ddadlau gwleidyddol bod angen diwallu anghenion y trigolion lleol hynny. Fel rheol, Llywydd, mae'r gronfa ffyrdd cydnerth yn cymryd ceisiadau gan gynlluniau sy'n bodoli eisoes yn unig, ond yn yr achos hwn, gan fod y bont wedi cael ei dinistrio gan achosion naturiol, gwnaed eithriad fel bod modd gwneud cais i'r gronfa honno. Ac mae'r cais, fel y dywedodd yr Aelod, bellach wedi dod i law. Mae'n gofyn am rai cannoedd o filoedd o bunnau yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol, oherwydd er bod y cynnig, fel yr wyf i'n ei ddeall, ar gyfer pont sydd yr un fath yn ei hanfod, gyda rhai elfennau teithio llesol ychwanegol, bydd angen gwaith dylunio ar bont sydd yr un fath hyd yn oed, a bydd angen modelu, o gofio mai llifogydd a achosodd chwalfa'r bont, ac mae'n bosibl y bydd angen rhywfaint o gaffael tir cymedrol i fwrw ymlaen â'r gwaith. Dyna'r elfennau gwaith y mae Cyngor Sir Ddinbych eisiau eu cwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod nifer fawr o geisiadau, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, i'r gronfa honno, ac mae'n rhaid i swyddogion asesu'r holl geisiadau sy'n dod i mewn, yn y ffordd decaf bosibl, ac yna byddan nhw'n edrych i weld a yw'n bosibl darparu'r cyllid y gofynnir amdano ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y gellir cwblhau'r gwaith paratoi angenrheidiol hwnnw ac y gall trigolion yn etholaeth yr Aelod edrych ymlaen at gynllun cadarnhaol i ailosod y bont.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, cafodd rhai pobl eu synnu gan y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn gwneud Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ddoe, ond nid oedd yn annisgwyl, o ystyried adroddiad yr archwilydd cyffredinol o'r wythnos flaenorol. Roedd gweithredoedd y Gweinidog iechyd yn gofyn am ymddiswyddiadau aelodau annibynnol y bwrdd, o ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw, yn syndod, oherwydd yn yr adroddiad mae'n sôn am gydlyniant aelodau annibynnol y bwrdd yn eu gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif a'u rhwystredigaeth at anallu'r aelodau gweithredol i ymgysylltu'n llawn. Mae prif weithredwr neu brif swyddog gweithredu'r cyngor iechyd cymuned i fyny yn y fan honno wedi dweud ei fod wedi cael ei synnu o weld y bu'n rhaid i aelodau annibynnol y bwrdd ymddiswyddo. Pam y bu'n rhaid i aelodau annibynnol y bwrdd, gan gofio'r geiriau yn yr adroddiad am y cydlyniant a'r gwaith yr oedden nhw'n ei wneud fel aelodau annibynnol o'r bwrdd, ymddiswyddo? 

13:40

Wel, nid wyf i'n credu, fy hun, Llywydd, y gallai fod wedi bod yn syndod i unrhyw un a oedd yn weddol gyfarwydd â gweithrediad y bwrdd. Rwy'n edrych nawr ar y llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, aelod o grŵp arweinydd yr wrthblaid ei hun, at y Gweinidog pan alwodd am gael gwared ar y bwrdd yn gyfan gwbl, gan gynnwys aelodau annibynnol y canfyddir nad ydyn nhw'n gallu cyflawni'r hyn sy'n ofynnol trwy ymyraethau mewnol. Os oedd yn amlwg i Aelod Ceidwadol lleol bod angen cael gwared ar aelodau annibynnol, rwy'n ei chael hi'n anodd dychmygu ei fod yn newyddion syfrdanol i unrhyw un arall yn y gogledd. Yr hyn a wnaeth y Gweinidog oedd gwneud asesiad o'r hyn yr oedd yr archwilydd cyffredinol wedi ei ddweud, yn ogystal â ffynonellau eraill o wybodaeth a ddaeth i'r casgliad bod y perthnasoedd a oedd wedi torri o fewn y bwrdd yn eglur, yn barhaus, yn ddwfn ac yn anhydrin ac nad oedd modd trwsio perthnasoedd gwaith. Dyna'r sail y gwnaeth y Gweinidog ei phenderfyniad arni.

Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am y mesurau arbennig, Prif Weinidog, oedd y byddai trigolion yn y gogledd, o gofio mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu allan o fesurau arbennig, yn cael eu synnu, yn ddealladwy, ei fod yn dychwelyd i fesurau arbennig ar ôl bod mewn mesurau arbennig am chwe blynedd. Roedd aelodau annibynnol y bwrdd, yn ôl geiriau adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn gweithio mewn ffordd gydlynol i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Nawr, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, yr Aelod dros Aberconwy, ac rwy'n siŵr, drwy ei rhyngweithio, ei bod wedi ffurfio barn, ond nid yw'r sylwadau gan y Gweinidog iechyd, yn dweud bod yn rhaid i'r aelodau annibynnol hyn ymddiswyddo, yn gyson â'r dystiolaeth a oedd gan yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud i chi yw, drwy gydol yr adroddiad hwnnw, nodwyd bod yr aelodau gweithredol yn ddiffygiol yn eu gwaith a'u cyfrifoldebau, ac, mewn gwirionedd, roedd y dadleuon a'r trafodaethau a gynhaliwyd o fewn y bwrdd, yn aml iawn, wrth draed y ffaith fod yr aelodau gweithredol hynny yn anwybodus, nid ar draws y materion yr oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb gweithredol amdanyn nhw, ac eto mae pob un o'r unigolion hynny yn dal yn ei swydd. Felly, oni allwch chi weld lle mae'r gallu i ddeall rhesymeg mynnu bod yr aelodau annibynnol yn ymddiswyddo—? Ond mae'r aelodau gweithredol, sy'n cael eu beirniadu yr holl ffordd drwy'r adroddiad hwn—yr holl ffordd drwy'r adroddiad hwn—yn dal yn eu swyddi.

Rwy'n deall nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'r hyn yr wyf i'n credu y mae angen iddo ei wneud yw caniatáu i'r stori barhau i ddatblygu. Yr hyn a welsoch chi ddoe oedd y gyfres gyntaf o fesurau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd. Ceir beirniadaethau gwirioneddol iawn o aelodau gweithredol a bydd angen rhoi sylw i'r rheini hefyd. Ni ddylid cymryd y ffaith na chymerwyd y camau hynny ddoe fel pe bai'n golygu na fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd o gwbl. Dim ond bod yn rhaid gwneud pethau mewn ffordd sy'n parchu hawliau cyfreithiol pobl ac mewn ffordd a fyddai'n sefyll i fyny i graffu allanol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r bwrdd weithredu fel cyfanwaith cydlynol, ac ni allwch, rwy'n credu, wahanu'n synhwyrol cyfrifoldebau'r weithrediaeth a'r aelodau annibynnol. Pan fydd gennych adroddiadau o fethiant yn y cysylltiadau hynny, pan fyddwch chi'n darllen am y ffordd y mae ymddygiad a gweithredoedd y bwrdd eu hunain wedi dod yn rhan o'r broblem o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gogledd, yna mae camau i ymdrin â'r bwrdd cyfan, gan gynnwys ei aelodau annibynnol, nad ydyn nhw'n cael eu rhyddhau o fai mewn unrhyw ffordd gan adroddiad yr archwilydd cyffredinol, na chwaith gan wybodaeth arall o'r gogledd—. Man cychwyn oedd yr hyn a welsoch chi ddoe. Mae llawer iawn mwy i'w wneud.

13:45

Gyda'r pwynt am 'lawer iawn mwy i'w wneud', Prif Weinidog, beth yw'r weledigaeth ar gyfer meddylfryd Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at ddarpariaeth iechyd yn y gogledd? Nid yw'n iawn. Nid yw'n deg i'r staff yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac yn bwysig, i gleifion a phobl yn y gogledd sy'n dibynnu ar eu gofal sylfaenol ac acíwt sy'n cael ei ddarparu gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. A oes modd atgyfodi'r model presennol, ei ailfywiogi a'i ailsbarduno i ddarparu'r gofal iechyd hwnnw, neu ai meddylfryd Llywodraeth Cymru yw bod angen toriad llwyr, ac, yn y pen draw, dros y tymor canolig i'r hirdymor, o ystyried y dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg hyd yma, bod angen i rywbeth hollol wahanol ddod i'r amlwg o ran darparu iechyd yn y gogledd?

Wel, Llywydd, y cam cyntaf yw penodi nifer fach o unigolion i gyflawni'r swyddogaethau cyfreithiol ac i sefydlogi'r sefydliad. Rydych chi'n gwybod bod cadeirydd wedi ei benodi a bydd tri aelod arall ochr yn ochr â'r cadeirydd, a'u gwaith yn y tymor byr yw sefydlogi'r sefydliad, i ganolbwyntio ar benodi prif weithredwr newydd.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid yw hyn: rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r profiad anodd o bryd i'w gilydd yn Betsi Cadwaladr, bwrdd, gyda llaw, sy'n parhau, drwy ei staff, i ddarparu triniaeth lwyddiannus i filoedd o gleifion bob un dydd, yw'r ddibyniaeth honno ar unigolion arwrol, y syniad y bydd cadeirydd newydd, ar ei ben neu ei phen ei hun, yn datrys problemau'r sefydliad, neu mai prif weithredwr newydd ar ei phen neu ei ben ei hun yw'r ateb—rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu nad yw hwnnw'n ymateb digonol i'r ffordd y mae gwasanaethau dros boblogaeth mor amrywiol, gyda gwahaniaethau diwylliannol rhwng y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain, y byddai ein dibyniaeth ar y syniad, pe gallech chi dim ond cael y person iawn y byddai hynny'n datrys y problemau a fu yno nawr dros gyfnod parhaus o amser, nad dyna, ar ei ben ei hun, yw'r ateb. Bydd angen rhywbeth sy'n fwy sylfaenol na hynny, a bydd y camau a gymerodd y Gweinidog ddoe a'r datganiad y bydd yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma yn esbonio sut y bydd diwygiad mwy sylfaenol y sefydliad yn digwydd yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Mae Betsi Cadwaladr yn fwrdd iechyd sy'n methu. Mae'n methu cleifion ac mae'n methu staff. Daeth ymchwiliad Tawel Fan o hyd i restr o fethiannau dychrynllyd ac annerbyniol yng ngofal rhai o'r cleifion mwyaf agored i niwed, rhai â dementia, a adawyd i orwedd yn noeth ar y llawr. Nodwyd risgiau diogelwch cleifion, gyda sawl adroddiad beirniadol ar wasanaethau fasgwlaidd. Bu'n rhaid i wraig gŵr trychedig ei gario i'r tŷ bach ar ôl iddo gael ei anfon adref o'r ysbyty heb gynllun gofal. Ceir perthnasoedd gwaith sydd wedi torri, fel yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw, Prif Weinidog, sy'n peryglu'n sylfaenol gallu'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r heriau sylweddol y mae'n eu hwynebu—nid fy ngeiriau i, ond rhai'r archwilydd cyffredinol. Rwyf i wedi tynnu sylw at dri adroddiad yn unig, ond dim ond crib y rhewfryn yw hynny, fel yr ydych chi eich hun newydd ei awgrymu. Faint yn fwy o adroddiadau damniol ydych chi'n fodlon eu derbyn o dan eich goruchwyliaeth cyn i Weinidog iechyd Llafur gymryd cyfrifoldeb?

Wel, Llywydd, cymerodd y Gweinidog iechyd Llafur gyfrifoldeb ddoe, a cheir 60 munud i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Roedd penderfyniad eich Llywodraeth i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig yn ymgais amlwg i daflu llwch i lygaid pobl. Ddwy flynedd yn ôl, a chydag etholiad ar y gorwel, roeddech chi eisiau rhoi'r argraff eich bod chi wedi llywio'r bwrdd iechyd trwy ddiwygiad sylweddol, eich bod chi wedi gwneud eich gwaith. Roedd yn rhy gynnar. Profwyd ei fod yn fyrbwyll, a dangosodd ddiffyg crebwyll ac arweinyddiaeth. Mewn cyfweliad gyda'r BBC neithiwr, dywedodd y Gweinidog iechyd, 'Ni allaf i fod yno'n cyflawni'r llawdriniaethau fy hun.' Roedd yn ymateb gwamal, a dweud y lleiaf. Nid oes unrhyw ddisgwyliad i'r Gweinidog wisgo sgrybs, ond dylem ni o leiaf ddisgwyl i Weinidogion ddangos yr arweinyddiaeth angenrheidiol i droi'r bwrdd iechyd o gwmpas. Y bore yma, dywedodd y Gweinidog:

'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau, nhw oedd wrth y llyw.'

A fydd adeg fyth pan fydd y Gweinidog â'r cyfrifoldeb terfynol? Neu ai dim ond y bwrdd y gellir ei gyflogi a'i ddiswyddo?

13:50

Wel, o ystyried ei gyfraniad hyd yn hyn y prynhawn yma, rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno myfyrio ar ei ddefnydd o'r gair 'gwamal' yng nghyswllt cyfraniadau unrhyw un arall. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn gyhuddiad gwarthus bod y penderfyniadau a wnaed ym mis Tachwedd 2020 wedi'u hysgogi gan unrhyw beth heblaw'r cyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan y system dair ochrog yr ydym ni'n dibynnu arni. Daethpwyd i'r penderfyniad, ac mae'n benderfyniad gan Weinidogion, i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r cyngor i Weinidogion.FootnoteLink Dyna oedd sail y penderfyniad, ac rwy'n credu y dylai'r Aelod dynnu yn ôl yr hyn y mae wedi ei ddweud drwy sarhau, yn fy marn i, enw da'r cyrff hynny. Mae'n ddigon hapus i ni ddilyn eu cyngor pan fydd yn ei siwtio ef, a phan nad yw'n ei siwtio mae eisiau lladd ar gymhellion Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Dylai wybod yn well.

Y King's Fund a oedd yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar lywodraethu, dyma sut y gwnaethon nhw ddisgrifio pethau yn ystod gaeaf 2020, pan wnaethoch chi benderfynu ei bod hi'n briodol tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig: fe welodd y gronfa ymddygiad gweithredol a oedd yn dirywio, gydag aelodau unigol o'r tîm gweithredol yn beirniadu ei gilydd i'r cadeirydd ac aelodau annibynnol, gan ddwysau pryderon aelodau annibynnol am gydlyniant y tîm gweithredol. Sut, ar sail y dyfarniad cytbwys hwnnw ar ran y King's Fund, a oedd yn gweithio gyda'r bwrdd ar y pryd, allech chi benderfynu ei bod hi'n iawn eu tynnu nhw allan o fesurau arbennig?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, mae hyn yn rhan o batrwm ehangach, onid yw, o gamreolaeth drychinebus ar ran y Llywodraeth hon o ofal iechyd. Ac ar ôl 25 mlynedd o gyfrifoldeb am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, onid yw'n wir eich bod chi wedi rhedeg allan o syniadau? Rydych chi'n taflu arian at atebion byrdymor, plaster glynu, gydag enillion sy'n lleihau'n barhaus. A ydych chi'n barod i edrych ar adolygiad o'r bôn i'r brig a diwygio Betsi Cadwaladr, a ydych chi'n barod i ystyried yr opsiwn o chwalu'r bwrdd yn llwyr a chael gwahanol strwythur, fel y mae Plaid Cymru wedi ei hyrwyddo'n gyson, yn hytrach nac aildrefnu, unwaith eto, y cadeiriau cynfas ar long sy'n suddo?

Wel, Llywydd, cyhoeddwyd adroddiad y King's Fund ym mis Tachwedd 2022, nid ym mis Tachwedd 2020, pan wnaed y penderfyniad. Rwy'n cynghori'r Aelod i ddarllen yr hyn a ddywedwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain ar 6 Rhagfyr, pan wnaethon nhw ddweud mai problem GIG Cymru oedd y bloeddiwyd 'blaidd' yn rhy aml, gan gynnwys ganddyn nhw, ac rwy'n credu ei fod ef yn gwneud hynny eto heddiw. Mae GIG Cymru, bob un dydd, yn darparu triniaeth lwyddiannus. Gwn ei fod eisiau ysgwyd ei ben, ond dyma, yn syml, yw gwirionedd y mater. I'w etholwyr ef, i fy etholwyr i, ac i etholwyr pob Aelod arall yma, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn darparu, bob un dydd, driniaeth effeithiol a ddarperir gan bobl ymroddedig sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl iddyn nhw ei wneud. Dydyn ni ddim yn cael mwy allan o'r gwasanaeth iechyd nac yn rhoi sylw i'r heriau gwirioneddol iawn y mae'n eu hwynebu yn y gogledd ac mewn mannau eraill trwy beidio â chydnabod ei bod hi'n system sy'n parhau i lwyddo llawer mwy nag y mae'n methu. Lle mae angen gweithredu, fel yr oedd ddoe, fe wnaeth y Gweinidog gymryd y camau hynny, ac mae hi yma yn y Senedd y prynhawn yma i egluro i'r Aelodau ac i ateb cwestiynau pellach ynglŷn â pham roedd ei chamau yn angenrheidiol a'r hyn a fydd yn digwydd nawr.

Plaladdwyr Niweidiol

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol? OQ59154

Llywydd, ein polisi yw lleihau, i'r lefel isaf bosibl, effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a'r amgylchedd ehangach. Bu gostyngiad cyson yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yng Nghymru dros y cyfnod datganoli, ond mae mwy y gallwn ni, ac y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol.

13:55

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae pob plaladdwr cemegol o bosibl yn niweidiol i bobl a'r amgylchedd. Wrth gwrs, mae rhai yn waeth nag eraill, ond nid oes yr un ohonyn nhw'n gwbl ddiogel. Er bod pob plaladdwr wedi'i ddynodi i ladd plâu a phroblemau wedi'u targedu, yn anffodus effeithir ar lawer iawn mwy na'r targedau penodol hynny; mae llawer yn cael eu golchi i mewn i afonydd, gan greu problemau. Mae'r plaladdwyr gwaethaf yn cynnwys atrasin, hecsaclorobensen, glyffosad, methomyl a rotenon. Yn seiliedig ar ddata Sefydliad Iechyd y Byd, maen nhw'n arbennig o beryglus oherwydd biogasglu, dyfalbarhad mewn dŵr, pridd a gwaddodion, gwenwyndra i organebau dyfrol, a gwenwyndra i wenyn a'r ecosystem. Defnyddir glyffosad yn rheolaidd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried naill ai i wahardd y plaladdwyr y cyfeiriais atyn nhw neu awgrymu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?

Wel, diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pellach yna. Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd. Mae newyddion da, rwy'n credu, yn yr ymateb iddo: mae'r nodyn sydd gen i yn dweud wrthyf fod y defnydd o atrasin, hecsaclorobensin a methomyl eisoes wedi ei wahardd yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Mae'r defnydd o rotenon bellach wedi'i gyfyngu i ymdrin â rhywogaethau pysgod ymledol yn unig, ac rwy'n credu bod hynny, mae'n debyg, yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor sydd wrth wraidd y ddadl y mae Mike Hedges wedi ei hagor i ni y prynhawn yma, sef, er bod plaladdwyr yn gallu achosi niwed, weithiau ceir defnyddiau dilys iddyn nhw sy'n atal niwed mwy fyth, ac mae ymdrin â rhywogaethau ymledol yn un o'r ffyrdd y gall y plaladdwyr cemegol grymus hynny fod â defnydd buddiol o hyd.

Glyffosad yw'r plaladdwr mwyaf cyffredin a ddefnyddir o'r rhai y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw. Hyd yma, rydyn ni wedi dilyn y rheolau sy'n cael eu defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ymestyn ei ganiatâd presennol ar gyfer defnyddio glyffosad am 12 mis arall ym mis Tachwedd y llynedd, a disgwylir y byddan nhw'n cyhoeddi cyngor newydd ar hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd hynny'n cyfrannu at gynllun gweithredu cenedlaethol newydd y Deyrnas Unedig ar gyfer defnydd cynaliadwy o blaladdwyr. Rydyn ni'n disgwyl hwnnw erbyn canol 2023.

Gall Cymru fynd ymhellach na'r cynllun hwnnw os na fyddwn yn fodlon â'i gwmpas, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Mike Hedges tua diwedd ei gwestiwn atodol: yn y byd polisi sy'n ymwneud â phlaladdwyr, maen nhw'n sôn am dri gwahanol ddosbarth defnydd. Ceir amaethyddiaeth, ceir defnydd amatur—gallwch brynu glyffosad mewn unrhyw ganolfan arddio—ac yna ceir defnydd amwynder, y defnydd o blaladdwyr o'r fath gan awdurdodau lleol ac eraill. Dyna'r maes yr wyf i'n awyddus ein bod ni'n canolbwyntio arno. Nid wyf i'n credu bod dadl dros ddefnyddio'r math hwnnw o gemegyn, er enghraifft, ar gae chwarae ysgol, ond nid oes gennym ni lyfr rheolau yng Nghymru eto sy'n atal hynny rhag digwydd. Mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud i leihau'r defnydd o blaladdwyr yn y ffordd honno; ceir cyfleoedd yn y flwyddyn galendr hon i wneud hynny'n rhan fwy ffurfiol o'r system sydd gennym ni yng Nghymru.

Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol, yn enwedig pan fo bygythiad i iechyd pobl, ond gall gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi gynnig yr ateb yma, a dyna pam cefais fy ngadael yn rhwystredig gan na roddwyd caniatâd i'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Gall y ddeddfwriaeth hon gynorthwyo ein cydnerthedd yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf sylweddol sydd o'n blaenau, gan gynnwys amddiffyn planhigion a chnydau rhag plâu, clefydau a'r newid hinsawdd. Trwy gymryd yr hyn sy'n digwydd yn naturiol dros gannoedd o flynyddoedd, gall bridio manwl hwyluso'r broses mewn ffordd a reolir, ffordd foesegol a diogel, gan adeiladu'r cydnerthedd hwnnw mewn planhigion a chnydau a lleihau ein dibyniaeth ar blaladdwyr niweidiol. O ystyried hyn, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i Gymru yn y maes hwn i sicrhau y gallwn adeiladu'r cydnerthedd hwnnw yn ein cnydau, gan ddefnyddio byd academaidd Cymru fel Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth? Diolch.

Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn.

Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, a'r Senedd, wedi mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â'r mater o addasu planhigion yn enetig erioed; rwy'n credu ein bod ni'n iawn i wneud hynny. Rwy'n credu pe gallem ni fod yn sicr y byddai'n cael ei wneud yn y ffordd yr amlinellodd Sam Kurtz, byddai hynny'n fater gwahanol, ond ni allwn fod yn sicr, oherwydd mae'r rhain yn ffyrdd hanfodol a chynhenid arbrofol o ymyrryd â chyfansoddiad genetig planhigion a sylweddau eraill. Ein safbwynt ni fu na ddylem ni wneud hynny tan y profir yn sylfaenol bod y wyddoniaeth yn ddiogel. Rwy'n credu bod y Senedd wedi gwneud y penderfyniad cywir o ran gwrthod cydsyniad deddfwriaethol.

14:00
Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun i greu canolfan iechyd a lles yng nghanol Bangor? OQ59158

Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Roedd y ganolfan yn rhan o gais Cyngor Gwynedd i gronfa ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig; doedd y cais ddim yn llwyddiannus. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn helpu partneriaid lleol i chwilio am gyllid arall. Bydd Gweinidog yr Economi yn trafod hyn yn ei gyfarfod gydag arweinydd Cyngor Gwynedd ar 6 Mawrth.

Roeddwn i yn siomedig iawn o glywed fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais am £15 miliwn tuag at y cynllun pwysig yma. Unwaith eto, dyma'r Torïaid yn anwybyddu Bangor ac yn dangos cyn lleied maen nhw'n poeni am bobl Arfon a phobl yng ngogledd-orllewin Cymru. Ond dwi yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros y cynllun yma a chefnogi ymdrechion Cyngor Gwynedd, a'r holl bartneriaid, i ddod â chanolfan iechyd newydd i ganol y ddinas a fyddai'n rhoi hwb anferth i siopau'r stryd fawr yn ogystal â gwella cyfleusterau iechyd. Fel roeddech chi yn ei ddweud, mae'ch Llywodraeth chi hefyd yn gefnogol i'r cynllun yma ac wedi ymrwymo i roi arian tuag ato fo. A fedrwch chi gadarnhau bod yr arian hwnnw yn dal ar y bwrdd, er gwaethaf y ffaith na welodd y Torïaid yn dda i gwblhau'r pecyn ariannol? Ac a wnewch chi ymrwymo i wneud popeth posib er mwyn gwireddu'r prosiect pwysig yma?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn ychwanegol. Dwi'n cytuno, wrth gwrs: siomedig oedd e fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn fodlon cefnogi'r cais roedd Cyngor Gwynedd wedi'i roi i mewn. Llywydd, fe ges i'r cyfle nôl ym mis Ionawr i gwrdd ag arweinydd y cyngor ac eraill yng nghanol Bangor ac i glywed oddi wrth yr arweinydd am y prosiectau sydd yna i adfywio canol y ddinas ac i glywed yn fwy cyffredinol am y cynllun meistr sydd wedi'i greu at y pwrpas hwnnw.

Nawr, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phobl leol i edrych am bosibiliadau eraill i gario ymlaen â'r broses o ddewis safle ar gyfer canolfan iechyd a llesiant newydd a mwy o arian i wneud y gwaith yna. Mae'n debygol mai un o'r llwybrau ar gyfer cyllid pellach fydd trwy'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at y dyfodol i weld cais yn dod i mewn i gronfa gyfalaf integreiddio Llywodraeth Cymru, os bydd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn rhoi'r cynllun am ganolfan newydd ym Mangor fel un o'u blaenoriaethau nhw.

Deintyddiaeth i Blant

5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan blant fynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd da? OQ59157

Llywydd, mae'n rhaid i atal nid ymyrryd fod y nod i ofal deintyddol o ansawdd da i blant. Mae'r Cynllun Gwên yn gweithredu'n llawn eto bellach, ac mae bron i 240,000 o blant wedi cael eu trin mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol ers mis Ebrill 2022. O'r nifer hwnnw, mae dros 55,000 yn gleifion newydd.

14:05

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn fy etholaeth i, mae cael gafael ar ddeintydd yn anodd dros ben, a hyd yn oed os cewch chi ddeintydd, gall yr amseroedd teithio i'r deintyddion hynny fod yn hir iawn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried mewn gwirionedd dod â deintyddion symudol i ysgolion, fel y gallwn ni eu cael nhw yn yr ysgol, fel y gallan nhw gael yr archwiliadau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod eu hiechyd y geg mewn cyflwr da, gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod iechyd y geg da yn arwain at iechyd a llesiant cyffredinol da ein plant? Diolch.

Diolch i James Evans am hynna, Llywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod yn wreiddiol ar y papur trefn heddiw bod datganiad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau ym maes gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, ac un o'r pethau y byddai wedi eu hadrodd i'r Senedd oedd syniadau ar gyfer ymdrin â gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig, a'r posibilrwydd o ddeintyddiaeth symudol mewn ysgolion uwchradd. Felly, mae'r Aelod wedi rhagweld ychydig o'r hyn y byddai'r Gweinidog wedi ei ddweud, ymhlith pethau eraill y bydd yn rhaid iddi eu dweud pan gaiff y datganiad ei gyflwyno. Bydd yn cael ei aildrefnu ar gyfer pythefnos o nawr, a gwn y bydd yr Aelod yn gwrando'n astud ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud.

Yn y cyfamser, yn ei ran ef o Gymru, mae'r bwrdd iechyd lleol yn cymryd camau nawr i gynyddu capasiti o ran gwasanaethau deintyddol i blant. Penodwyd therapydd deintyddol newydd ac mae'r swydd honno eisoes yn gwneud cynnydd o ran plant sydd wedi bod yn aros am apwyntiadau. Ac mae deintydd arbenigol pediatrig newydd wedi cael ei benodi fel bod mwy o blant yn gallu cael triniaeth o fewn sir Powys, yn hytrach nag, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, bod angen iddyn nhw gael eu cyfeirio at driniaethau arbenigol ymhellach i ffwrdd.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i ddilyn y cwestiwn gan James Evans, mae'n wir pan fydd plant angen ymyrraeth ym maes deintyddiaeth, bod rhestrau aros hir am y driniaeth GIG honno, yn enwedig yn yr ardaloedd yr ydym ni'n eu cynrychioli. Yn ystod y pandemig, rydyn ni'n gwybod bod nifer y plant a oedd yn cael triniaeth wedi gostwng dros 80 y cant, felly mae gwaith dal i fyny i'w wneud. A dyma ystadegyn sy'n syfrdanol i mi: tynnu dannedd yw'r achos mwyaf o lawdriniaeth o dan anesthetig cyffredinol ymhlith plant o hyd. Cwblhawyd dros 7,000 o lawdriniaethau yn 2018. Nawr, wn i ddim amdanoch chi, ond rwy'n cofio pan oeddwn i'n aros am lawdriniaeth ac wrth feddwl am gael anesthetig cyffredinol, roeddwn i'n eithaf pryderus, ond dychmygwch fod yn blentyn yn aros am y driniaeth honno—triniaeth orthodontig yn bennaf. Ym Mhowys yn unig, mae bron i 800 o blant ar restrau aros am driniaeth gan y GIG. 

Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth San Steffan wedi capio cyllid ar gyfer taliad cydnabyddiaeth ym maes deintyddiaeth i staff ar 3.5 y cant—ffigur sy'n llawer is na chwyddiant. Ac felly, rydyn ni'n ei chael hi'n anodd nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd, i recriwtio ein deintyddion, ac mae hwnnw'n benderfyniad gan y Llywodraeth Geidwadol. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i alw am fwy o adnoddau gan San Steffan i sicrhau bod gennym ni system ddeintyddol GIG gadarn nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y wlad, i bawb, gan gynnwys ein plant? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Jane Dodds am hynna, ac wrth gwrs rwy'n cytuno gyda'r gosodiad sylfaenol y mae hi wedi ei gyflwyno y byddai croeso mawr i fuddsoddiad pellach ar draws y Deyrnas Unedig mewn gwasanaethau deintyddol. Ni osododd Llywodraeth Cymru derfyn fforddiadwyedd yn ein tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau, felly cyngor a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn unig yw'r lefel fforddiadwyedd o 3.5 y cant y soniodd amdani, ac nid cyngor yr ydym ni wedi ei ddarparu yma yng Nghymru.

Pe bai buddsoddiad pellach, yna fel yr wyf i wedi ei drafod gyda'r Aelod o'r blaen, fy mlaenoriaeth i yw arallgyfeirio'r proffesiwn deintyddol. A'r newyddion da yw y bydd gennym ni, ym mis Medi eleni, ddwbl nifer y therapyddion deintyddol yn dod allan o Brifysgol Caerdydd, ac ym Mangor y bydd gennym ni gwrs newydd sbon, eto yn darparu therapyddion deintyddol ar gyfer y dyfodol. Yr hyn nad oes angen i ni ei weld yw'r rhan fwyaf hyfforddedig a'r rhan ddrytaf o'r gweithlu yn cyflawni gweithgaredd nad yw'n gofyn am y lefel honno o ddawn na phrofiad i'w gyflawni yn glinigol briodol a boddhaol. Rydyn ni angen i ddeintyddiaeth ddilyn yr hyn sydd eisoes wedi digwydd ym maes gofal sylfaenol, a chael proffesiwn mwy amrywiol, fel y gall y deintyddion sydd gennym ni ganolbwyntio ar ddarparu triniaeth i'r cleifion hynny sydd wir angen y lefel honno o ofal a chymhlethdod. Ac mae'r dyfodol i wasanaethau deintyddol yng Nghymru, rwy'n credu, wir yn dibynnu ar ein gallu i symud y proffesiwn i'r cyfeiriad hwnnw, yn y ffordd y mae rhannau eraill o faes gofal sylfaenol eisoes wedi llwyddo i'w wneud yn llwyddiannus.

14:10
Teithio Cynaliadwy

6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo teithio cynaliadwy yn Nwyrain De Cymru? OQ59163

Llywydd, gweithredu cynigion comisiwn Burns sy'n darparu'r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo teithio cynaliadwy. Mae'r cyhoeddiad y mis hwn yn adroddiad blynyddol uned gyflawni Burns yn nodi'r cynnydd go iawn a wnaed eisoes, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain. 

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Roedd y newyddion diweddar na fyddai prosiectau ffyrdd yng Nghymru yn cael eu hariannu yn fater chwerw i rai. Byddai wedi bod ychydig yn haws ei ddeall pe na bai wedi cael ei ategu gan y cyhoeddiad ddiwrnod yn ddiweddarach bod y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn mynd i gael ei derfynu'n raddol ym mis Mehefin. I lawer o'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli, mae'r gwasanaeth bysiau yn achubiaeth. I bobl hŷn, mae'n cynrychioli annibyniaeth; i bobl ifanc, mae'n cynrychioli addysg; ac i bobl sydd heb gar, mae'n cynrychioli cyflogaeth. Rwy'n ofni bod penderfyniad eich Llywodraeth yn mynd i gael effaith niweidiol enfawr ar fywydau pobl. Byddai hefyd yn mynd yn groes i ymdrechion i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ar adeg pan ddylem ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu yn y maes hwn. Prif Weinidog, pa astudiaethau effaith sydd wedi cael eu cynnal ar y penderfyniad hwn, ac a wnewch chi ailystyried y penderfyniad ar ran y cymunedau niferus a fydd yn waeth eu byd o ganlyniad, tan fod canlyniadau llawn y penderfyniad yn hysbys?

Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig unioni'r cofnod yma: cyllid brys oedd ef, fel dywedodd yr Aelod. Ac ni ellir ymestyn cyllid brys am gyfnod amhenodol y tu hwnt i'r pwynt lle arweiniodd y sefyllfa frys at y miliynau ar filiynau o bunnau y mae trethdalwyr Cymru wedi dod o hyd iddyn nhw i gynorthwyo'r diwydiant bysiau tra oedd y sefyllfa frys yn weithredol. Darparwyd dros £150 miliwn, yn ychwanegol at y miliynau o bunnau sydd eisoes yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau, i'r diwydiant ers dechrau pandemig COVID. Roedd yn mynd i fod yn gyllid llenwi bwlch o'r cychwyn, i helpu'r diwydiant tra bod y pandemig yn cael ei effaith.

Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi estyniad i'r cynllun hwnnw am dri mis arall—tri mis cychwynnol, fel y dywedodd y cyhoeddiad—tra byddwn ni'n gallu trafod gyda'r diwydiant, gydag awdurdodau lleol, sut y gallwn ni ganolbwyntio'r grant cymorth i wasanaethau bysiau ar gyfer y dyfodol, gan symud y diwydiant oddi wrth, fel y mae'n rhaid iddo symud, ddibyniaeth ar gyllid brys a thua'r dyfodol y bydd y Bil bysiau y byddwn ni'n ei gyflwyno ar lawr y Senedd yn ei lunio ar gyfer gwasanaethau bysiau, dyfodol mewn ffordd sy'n cydweddu â'r arian y mae'r cyhoedd yn ei ddarparu, er budd y cyhoedd mewn gwasanaeth bysiau effeithiol ym mhob rhan o Gymru.

Prif Weinidog, yn dilyn polisi newydd economaidd niweidiol eich Llywodraeth ar ffyrdd, mae'n dod yn fwy eglur nag erioed o'r blaen bod angen i ni hyrwyddo a chael teithio cynaliadwy sy'n gweithio ar waith, ac eto rydyn ni'n gweld gwasanaethau bysiau yn cael eu torri mewn gwirionedd, fel y mae fy nghyd-Aelod dros Ddwyrain De Cymru newydd ei amlinellu, a gwasanaethau rheilffyrdd sydd wedi dod yn destun sbort, fel yr wyf i'n siŵr y bydd Aelodau dros y gogledd hefyd yn cytuno. Mae hyn heb hyd yn oed sôn am y ffaith eich bod chi'n gwrthod adeiladu ffyrdd newydd ac ymhell ar ei hôl hi o ran pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Nid yw hyrwyddo'r defnydd o ychydig o lonydd bysiau yma ac acw yn mynd i fod yn ddigon da o gwbl, cymaint ag yr hoffai'r aelod dros Lanelli feddwl ei fod. Mae fy nghwestiwn yn syml, Prif Weinidog: sut ydych chi'n hyrwyddo teithio cynaliadwy heb i ffyrdd gael eu hadeiladu, heb i wasanaethau bysiau gynyddu nawr, a heb wasanaeth rheilffyrdd sy'n gweithio?

Llywydd, aeth plaid yr Aelod at bobl Cymru yn etholiad diwethaf y Senedd yn addo'r rhaglen adeiladu ffyrdd fwyaf erioed yn hanes Cymru, a gwrthodwyd y cynnig hwnnw yn bendant gan bobl Cymru. Wrth gwrs, gall yr Aelod barhau i roi'r peth y mae pobl wedi ei wrthod lawer gwaith yn barod gerbron pobl. Mae gwahaniaeth barn sylfaenol rhwng y math o ddyfodol y mae hi'n ei weld, lle bydd Cymru yn cael ei gorchuddio mewn concrit a'r argyfwng hinsawdd yn cael ei anwybyddu yn y broses, a chynigion Llywodraeth Cymru, nad oedden nhw, gyda llaw, Llywydd, erioed yn dweud na fyddai unrhyw ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu—dim ond y bydd y ffyrdd y byddwn ni'n eu hadeiladu yn ffyrdd pan fo dadl ddiogelwch dros wneud hynny, a phan fo ffyrdd yn cyfrannu'n gadarnhaol at leihau allyriadau ac yn gwneud y cyfraniad y mae'n rhaid i Gymru ei wneud at fynd i'r afael â'r argyfwng mwyaf y bydd ein plant a'n hwyrion a'n hwyresau yn ei weld.

Yn rhan o hynny, rwy'n gwrthod yn llwyr ei syniad nad oes gennym ni wasanaeth rheilffyrdd sy'n gweithio yma yng Nghymru. Mae'n drueni mawr nad yw ei phlaid hi yng Nghymru wedi llwyddo i berswadio eu Haelodau yn San Steffan y dylai'r £5 biliwn nad ydym ni'n ei dderbyn oherwydd camddosbarthiad y rheilffordd cyflymder uchel 2 ddod i Gymru; byddai hynny'n ein helpu i ddarparu gwell gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru, oni fyddai? Yn y cyfamser, dim ond yr wythnos hon—dim ond ddoe—yn rhanbarth yr Aelod ei hun, dechreuodd trenau Stadler newydd weithio ar linell Rhymni. Bydd wyth trên o'r fath ym mis Mai. Mae'n arwydd bach o'r buddsoddiad mawr sy'n cael ei wneud yng Nghymru yn y gwasanaeth rheilffyrdd, er gwaethaf y gwrthodiad bwriadol o'r buddsoddiad y dylai pobl yng Nghymru ei gael ac sy'n cael ei ddarparu i bobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:16:59
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. I wneud lle ar ei gyfer, mae'r datganiad llafar ar ddiwygio deintyddol wedi'i ohirio. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a ddyrannwyd i gwestiynau Comisiwn y Senedd yfory yn unol â nifer y cwestiynau a gyflwynwyd. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cytuno i newid trefn y dadleuon yfory fel bod cynnig Plaid Cymru'n cael ei drafod cyn cynnig y Ceidwadwyr. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.  

A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd, gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, sydd newydd gymryd cyfrifoldeb dros y sector twristiaeth yma yng Nghymru? Rydym yn gwybod, pan oedd twristiaeth yn dod o dan Weinidog yr economi, bod Gweinidog yr economi wedi cynnig treth dwristiaeth ar y sector. Dywedodd adroddiad y Llywodraeth ei hun y byddai'n costio £100 miliwn a 2,500 o swyddi i'r sector. Fe wnaeth VisitBritain ei galw'n anfaddeuol, gan ddweud ei bod yn atal yr ymwelwyr dros nos sy'n gwario fwyaf rhag dod i Gymru. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad lle bydd y Dirprwy Weinidog yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y sector twristiaeth, yn y gobaith y byddwn, gyda Gweinidog newydd, yn gweld set newydd o flaenoriaethau?

Na, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r polisi fel y nodwyd gan y Gweinidog blaenorol â'r cyfrifoldeb am dwristiaeth.

Mae teuluoedd dros Gymru yn wynebu dyfodol agos sy'n eithriadol o ansicr fel canlyniad i'r sefyllfa benagored ynghylch a fydd San Steffan yn parhau gyda'r help sydd ar gael i aelwydydd gyda'u biliau ynni, ac mae'r sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth. Ddoe, ges i sgwrs â rhywun sy'n rhedeg banc bwyd yn fy rhanbarth, ac mi wnaeth e ddweud bod nifer y bobl sy'n mynychu'r banc bwyd wedi cynyddu 20 y cant dros y gaeaf diwethaf. Mae'r bobl sy'n mynd yno yn siarad am yr ofn sydd ganddyn nhw am y llinell derfyn yna ym mis Ebrill. Tra bod y galw am wasanaethau wedi cynyddu, mae'r rhoddion weithiau'n mynd i lawr achos y pwysau sydd ar bobl yr ardal. A fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi datganiad, plis, yn gosod mas pa drafodaethau argyfyngus y byddwch yn eu cael â San Steffan i fynnu bod y cymorth ar gyfer biliau ynni yn parhau ar ôl mis Ebrill? Os na fydd San Steffan yn ildio, a fydd y datganiad yn cadarnhau beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i lenwi'r bwlch? Diolch.

Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gael trafodaethau gyda'i gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Fel y gwyddoch chi, ni fydd cyhoeddiad y cap prisiau yn cael unrhyw effaith o gwbl ar brisiau ynni am y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin, oherwydd bod y prisiau gwirioneddol yn cael eu gosod ar hyn o bryd gan warant prisiau ynni Llywodraeth y DU. Yr hyn yr hoffem ei weld yw Llywodraeth y DU yn gwrthdroi'r penderfyniad i gynyddu pris EPG o £2,500 i £3,000 o 1 Ebrill, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cael y cyfle i wneud hynny yn y gyllideb fis nesaf.

14:20

Rydyn ni i gyd naill ai wedi arsylwi neu wedi gweld y cynnydd aruthrol ym mhris llysiau a'r silffoedd gwag yn ein siopau. Arweiniodd y cynlluniau grant dechrau busnes garddwriaeth a datblygu garddwriaeth y llynedd i 19 o newydd-ddyfodiaid yn dod i arddwriaeth fasnachol ac ehangu 12 cynllun sydd eisoes yn bodoli. Tybed a allwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch a yw hon dim ond yn broblem tymor byr wedi'i achosi gan dywydd gwael a'r cynnydd mawr mewn costau ynni, fel y'i disgrifiwyd yn y wasg, neu ydy hyn yn symptomatig o broblem diogeledd bwyd parhaus a achosir gan ein hinsawdd sy'n newid, rhwystrau Brexit yn amharu ar fewnforio nwyddau darfodus a'r ffaith bod cwmnïau rhyngwladol sydd â diddordeb yn bennaf mewn proffidioldeb yn hytrach na sicrhau cyflenwadau o fwyd maethlon yn dominyddu ein cyflenwadau bwyd. Mae gwir angen i ni asesu a yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gryfhau ein rhaglen ddeddfwriaethol neu fuddsoddi mewn mwy o lysiau sy'n cael eu tyfu yng Nghymru.

Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae tyfu y rhan arddwriaethol o'r sector amaethyddol yng Nghymru yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo. Mae'n rhan fach iawn o'n sector amaethyddol, dim ond 1 y cant. Y rheswm yr oedd gen i'r ddau gynllun yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw oedd oherwydd y galw. Roedd pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw eisiau gweld mwy o ffenestri o fewn y cynlluniau hynny, ac roedd hi'n dda iawn cael y 19 o newydd-ddyfodiaid yna a chael y nifer yna yn derbyn grant.

Mae yna, yn amlwg, brinder eang o rai cynhyrchion ffres: tomatos, pupurau, ciwcymbrau. Ddoe, cefais wybod fod prinder cennin, sy'n eithaf anffodus, rwy'n credu, yr wythnos hon a hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi. Rwy'n credu mai yn yr archfarchnadoedd yn benodol yr ydyn ni'n gweld prinder. Rwy'n credu mewn siopau bwyd lleol, er enghraifft, dydyn ni ddim yn gweld y prinder yna.

Ddydd Llun nesaf, Llywodraeth Cymru sy'n cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol nesaf gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac rwyf wedi gofyn am roi'r cyflenwad bwyd a diogeledd bwyd ar yr agenda. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog bwyd a ffermio yn Llywodraeth y DU, Mark Spencer, yn cwrdd â'r archfarchnadoedd yr wythnos hon. Dydyn ni ddim wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan, ond yn sicr rwyf wedi gofyn i gael nodyn ar hynny i weld pa mor eang yw hyn.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Dros bythefnos yn ôl, daeth y T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog i ben. Mae cyflogeion wedi eu gadael yn methu â chyrraedd eu gwaith, mae myfyrwyr yn dibynnu ar drafnidiaeth breifat i gyrraedd yr ysgol ac mae trigolion yn ei chael hi'n anodd cyrraedd apwyntiadau meddygol. Y bore 'ma, ynghyd â fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor, roeddem mewn cyfarfod da iawn gyda gweithredwyr bysiau, swyddogion Llywodraeth Cymru, yr aelod cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Trafnidiaeth Cymru. Ond yr hyn ddaeth yn amlwg iawn oedd ei bod yn ymddangos bod gweithlu wedi'i lethu o fewn Trafnidiaeth Cymru. Roedd y feirniadaeth wedi ei hanelu atyn nhw, gyda gweithredwyr bysiau yn ceisio cael y llwybr yma yn ôl yn gweithio eto, ond dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn dda iawn am ymateb. Disgrifiwyd eu safon cyfathrebu gyda gweithredwyr bysiau preifat yn echrydus, gyda dim ymateb i negeseuon e-bost, a bod diffyg profiad gan TrC yn y farchnad fysiau mewn gwirionedd. Bellach, mae gennym sefyllfa lle mae dirfawr angen adfer y T19. Ymateb TrC y bore 'ma oedd eu bod nhw'n mynd i fynd allan at y cyhoedd i weld faint o alw sydd am y gwasanaeth hwn. Wel, rwy'n siŵr y gall fy nghyd-Aelod Mabon a minnau ddweud mewn gwirionedd o'n blychau post ein bod yn gwybod, mae gennym ni ddata, ond hefyd mae gan y cwmni bysiau sydd wedi gorfod atal eu gweithrediad bws yr holl ddata. Fe wnaethom ni'r pwynt nad mwy o siarad rydyn ni ei angen; mae angen i'r bws hwnnw gael ei adfer. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog nawr gyflwyno datganiad a chynllun ar gyfer sut y gallwn ni gael y llwybr bws hwn yn ôl yn gadarn ar ei olwynion mewn gwirionedd? Diolch.

Dydw i ddim yn credu bod angen datganiad llafar. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud y peth iawn yn llwyr. Roeddwn i'n ymwybodol o'r cyfarfod y bore 'ma. Yn amlwg bydd y data'n helpu, oherwydd yn sicr nid ydym wedi gweld nifer y defnyddwyr yn dychwelyd i wasanaethau bysiau ar ôl pandemig COVID fel yr oedden nhw cyn pandemig COVID. Felly, heb os nac oni bai, os cant y data, byddan nhw'n gallu gweld, ac os ydych chi'n dweud bod y data yno, yna rwy'n credu y bydd hynny'n eu galluogi i ystyried a ddylid adfer y gwasanaeth hwn cyn gynted â phosibl.

14:25

Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r mater o godi tâl am ddelifro presgripsiynau gan fferyllfeydd? Mae'n gwbl resymol i godi tâl mewn sefyllfa lle dyw unigolyn ddim yn barod i drafferthu i fynd i gasglu presgripsiwn, ond dwi wedi cael cyswllt gan rai pobl sy'n byw yn fy rhanbarth i sydd oherwydd eu cyflwr meddygol yn methu â mynd i nôl presgripsiwn ac wedi ffeindio nawr bod yna ofyn iddyn nhw dalu am hynny. Yn y lle cyntaf, dyw nifer ohonyn nhw ddim yn gallu fforddio gwneud hynny, a chanlyniad anochel hynny yw na fyddan nhw felly yn derbyn y feddyginiaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hynny, wrth gwrs, yn tanseilio'r polisi rŷn ni i gyd yn falch ohono fe, bod presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Felly dwi'n meddwl bod angen eglurder o gyfeiriad y Gweinidog ynglŷn â beth yw disgwyliad y Llywodraeth ar y fferyllfeydd: oes angen cefnogaeth naill ar y fferyllfeydd neu ar yr unigolion efallai sydd yn trio cael mynediad i'r presgripsiynau yma? A hefyd dwi'n meddwl bod angen gwell cysondeb ar draws Cymru, oherwydd mewn rhai ardaloedd maen nhw'n codi, ac mewn ardaloedd eraill dydyn nhw ddim.

Diolch. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder drwy ddatganiad ysgrifenedig. Rydych chi'n hollol iawn mai holl bwynt bod â'r polisi hwnnw o bresgripsiynau am ddim yw cadw pobl yn iach a gwneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi'u cyflogi yn gallu aros mewn cyflogaeth. Os oes gennym yr anghyfartaledd hwn, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn; dydych chi ddim eisiau gweld yr anghysondeb yna na loteri cod post, lle mae gennych chi rai ardaloedd yn codi tâl. Felly, yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i egluro hynny.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch diweddariad i'r system gyfrifiadurol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol? Mae gen i, er enghraifft, glaf canser yn Ninas Mawddwy sydd wedi gorfod mynd i gael triniaeth gychwynnol drwy fynd i weld y meddyg yn lleol yn Nolgellau, ac yna yn gorfod mynd i'r ysbyty ym Mronglais yn Aberystwyth, ac yna yn ei dro yn mynd lawr i Glangwili yng Nghaerfyrddin, ac yna yn ôl i fyny i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, yna draw am driniaeth i Lanidloes, sydd yn rhan o fwrdd iechyd Powys, ac yna mae'n gorfod mynd i, dwi'n meddwl, Clatterbridge ger Lerpwl. A'r hyn mae o wedi ffeindio ydy bod pob un o'r darparwyr yma, yr ysbytai gwahanol, ddim yn siarad efo'i gilydd, a hwyrach bod y nodiadau ddim ganddyn nhw, eu bod nhw hwyrach ddim yn barod am y claf i gyrraedd, ddim yn gwybod yn union hanes y claf yna, oherwydd bod y systemau cyfrifiadurol, yn un peth, ddim yn siarad efo'i gilydd a bod yna ddim ffordd rwydd iddyn nhw rannu'r wybodaeth yna ymhlith ei gilydd. Felly a gawn ni ddatganiad i weld beth ydy'r drefn, pa gynlluniau sydd ar y gweill i sicrhau bod y system yna'n integredig yng Nghymru er mwyn osgoi hyn yn y dyfodol? Diolch.

Mae'n ddarn o waith parhaus i sicrhau bod cyfrifiaduron yn siarad â chyfrifiaduron a byrddau iechyd yn siarad â byrddau iechyd yma yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol nad oes rhaid i gleifion ailadrodd eu stori bob tro y maen nhw'n mynd i ysbyty gwahanol, er enghraifft. Rwy'n gwybod bod rhai anawsterau rhwng Cymru a Lloegr, ond hyd y gwn i dylai'r systemau hynny allu siarad â'i gilydd o fewn Cymru.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar y strategaeth arloesedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar 'Cymru'n arloesi', ein strategaeth arloesedd newydd, sydd wedi ei chyd-ddatblygu gyda'r Gweinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg a'r Gymraeg ac, wrth gwrs, newid hinsawdd. Fe'i lansiwyd yn swyddogol ddoe. Yn gyntaf, hoffwn gydnabod a diolch i Aelodau dynodedig Plaid Cymru a'u harweinydd yn natblygiad y strategaeth, sy'n gymaint cryfach yn sgil eu gwaith a'u mewnbwn ac yn cyflawni ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu.

Rydym wedi datblygu'r strategaeth hon yn dilyn mwy na blwyddyn o ymchwil annibynnol ac ymgysylltu helaeth ledled Cymru, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus statudol lle cafwyd dros 160 o gyflwyniadau gan ddiwydiant, academia, y sector cyhoeddus a dinasyddion unigol. Rydym wedi rhoi datblygu diwylliant o arloesi wrth wraidd y strategaeth hon ac ar draws pob adran o'r Llywodraeth. Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth a fydd yn creu economi gryfach a mwy cadarn, canlyniadau addysgol gwell—yn enwedig mewn addysg drydyddol ac ymchwil—iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol, cynaliadwy, gyda gwell gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed, a gallu i ymateb i argyfyngau ar wahân hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Rydym yn bwriadu i arloesedd fod yn brif alluogwr i Gymru a fydd yn sicrhau canlyniadau fel gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb. Rydyn ni eisiau i ddinasyddion a chymunedau deimlo'r manteision, ni waeth ble maen nhw yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn yn wyneb tirwedd ariannu newydd ac esblygol. 

14:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rydyn ni'n gwybod nad yw ffynhonnell draddodiadol llawer o fuddsoddiad Cymru mewn ymchwil a datblygu—hen gronfeydd strwythurol yr UE—yn bodoli bellach. Rydyn ni'n gwybod y bydd gennym ni lai o arian i fuddsoddi, a llai o reolaeth dros sut mae'n cael ei fuddsoddi. Mae ymgysylltu â'r UE dros raglen Horizon Europe yn parhau i fod heb ei ddatrys. Ond mae gennym berthynas gadarnhaol â rhanbarthau'r UE trwy ein cysylltiad parhaus â rhwydweithiau fel Menter Vanguard gyda llywodraethau rhanbarthol Ewrop. Mae angen strategaeth sy'n wirioneddol gydweithredol ac sy'n arwain y ffordd at ddull gwahanol nawr yn fwy nag erioed. Felly, rydyn ni'n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar genhadaeth, a fydd angen cydnabyddiaeth a disgyblaeth gan ein rhanddeiliaid bod yn rhaid i ni flaenoriaethu rhai meysydd ymchwil ac arloesedd yn fwy nag eraill. Os ydym yn cydnabod na allwn gefnogi pob ymchwil, gallwn flaenoriaethu gwaith sy'n trosi i feysydd eraill. Ond gallwn dim ond llwyddo os yw'r holl randdeiliaid arloesi yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd gydweithredol yr ydym yn ei nodi yn y strategaeth.

Bydd ein pedair prif thema sef addysg, economi, iechyd a llesiant, hinsawdd a natur yn ein caniatáu i archwilio cyfleoedd blaengar; i'n galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol am gyllid a buddsoddiad a chyllid y DU a rhyngwladol; i ganolbwyntio ar ein meysydd o gryfder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac i wneud cyfraniad i Gymru sydd hefyd yn ychwanegu at weledigaeth ddatganedig y DU ar gyfer arloesi. Mae ein strategaeth yn gwneud ymrwymiad cadarn i sbarduno buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a thu hwnt, sydd hyd yn oed yn fwy hanfodol ym myd cyllid ar ôl yr UE. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag asiantaethau arloesi'r DU, lle mae gennym uchelgeisiau a rennir, ac at weld eu bwriad datganedig yn cael ei wneud yn real i gynyddu buddsoddiad ymchwil, datblygu ac arloesi yn sylweddol y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr.

Bydd gennym hefyd ddull newydd o ariannu. Ni fydd ein cymorth arloesi bellach yn gyfyngedig i fusnesau a sefydliadau ymchwil. Bydd yn agored i unrhyw sefydliad sefydledig sy'n dymuno cymryd rhan a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae hynny'n cynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Drwy gefnogi meddylfryd arloesol ac entrepreneuraidd ar draws pob sector, gallwn fynd at broblemau mewn ffyrdd newydd drwy lygaid pobl wahanol ac amrywiol. Rydym yn galw am gydraddoldeb, o ran buddsoddiad ac effaith ddemograffig a rhanbarthol. Rwyf eisiau i'n holl brifysgolion, ein busnesau, ein cyrff cyhoeddus, a'n dinasyddion gydweithio'n agosach fyth i greu amgylchedd sy'n troi cwestiynau ymchwil yn atebion yn y byd go iawn, ac yn ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, gwyddonwyr, ymchwilwyr ac entrepreneuriaid.

Fel Llywodraeth, rydyn ni'n deall bod ein dyfodol wedi'i gysylltu'n anorfod ag addysg ein pobl ifanc a'n gallu i groesawu economi entrepreneuraidd sy'n cael ei hysgogi gan dechnoleg. Bydd ein cwricwlwm newydd yn helpu i feithrin sgiliau entrepreneuraidd yn ein plant a'n pobl ifanc drwy gydol eu taith addysgol. Gallwn ni harneisio talent, brwdfrydedd a photensial anhygoel ein pobl ifanc a fydd, yn y dyfodol, nid yn unig yn cyfrannu at economi Cymru, ond yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl ac ar eu cyfer. Byddwn ni hefyd yn buddsoddi mewn sgiliau o fewn ein gweithlu, yn ddigidol, i wasanaethu'r chwyldro diwydiannol diweddaraf, ac mewn sgiliau sero net. Mae ein cynlluniau ar gyfer y rhain wedi'u nodi yn y cynllun sgiliau sero net. Mae gwreiddio sgiliau sero net, mewn partneriaeth â'n cyrff diwydiant a'n sefydliadau cyflawni, yn allweddol i gyflawni o'i gymharu â'n cenhadaeth hinsawdd a natur.

Dylai mynd i'r afael â newid hinsawdd a gwarchod natur fod ar flaen ein dewisiadau ym mhob maes. Mae angen arloesi arnom i drawsnewid y systemau bwyd, ynni a chludiant yng Nghymru. Mae angen i arloesi hefyd mewn meysydd eraill gael ei wneud mewn ffordd garbon-niwtral ac effeithlon o ran adnoddau. Byddwn yn gofyn i sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth, fesur a deall eu heffaith, a byddwn yn ceisio eu helpu ar y daith honno. Byddwn yn defnyddio arloesedd fel dull o wella ein gwasanaethau iechyd a gofal, gan flaenoriaethu camau i helpu i fynd i'r afael ymhellach ag oedi wrth drosglwyddo gofal, gwella'r ddarpariaeth ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol, gofal brys a gofal wedi'i gynllunio, yn ogystal â gwasanaethau canser ac iechyd meddwl.

Rwy'n falch y bydd ein gweledigaeth ar gyfer arloesi nawr yn troi at weithredu pellach. Cyn bo hir, bydd y rhain yn cael eu tynnu at ei gilydd mewn cynllun cyflawni ymarferol. Bydd hon yn ddogfen fyw, sy'n nodi nodau, gweithredoedd, cerrig milltir penodol, a bydd yn cael ei monitro a'i mireinio i fesur effaith. Mewn tirwedd ariannu sy'n newid yn barhaus, bydd angen i ni edrych eto ar ein cynnydd a chadw meddwl agored am yr hyn rydyn ni'n gobeithio bydd yn gyfleoedd gwahanol a gwell. Mae'r strategaeth hon yn batrwm o sut gall dull Llywodraeth Cymru o arloesi, fod o fudd i bobl, amgylchedd a busnesau Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at adrodd i'r Aelodau ar gynnydd.

14:35

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn 'ma? Rwy'n falch iawn o glywed bod y strategaeth hon bellach wedi'i chyhoeddi—y ddogfen hon—ac y bydd yna gynllun cyflawni fydd yn eistedd ochr yn ochr â hi. Fe ddywedoch chi, Gweinidog, yn eich sylwadau yn y fan yna, y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi'n fuan, a byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i ni i gyd gael amserlen yn nodi erbyn pryd yr ydych yn disgwyl gallu cyhoeddi hwnnw.

Wnaethoch chi ddim cyfeirio yn eich datganiad at y tîm arloesi canolog y mae'r ddogfen strategaeth yn cyfeirio ati, sy'n ymddangos i mi yn eithaf canolog i fod eisiau ysgogi'r gwaith o gyflawni'r agenda hon ar draws gwahanol adrannau a meysydd polisi Llywodraeth Cymru. Mae'r tîm hwnnw'n mynd i fod yn allweddol, rwy'n credu, i lwyddiant y gweithredu, a bydd angen iddo fod â rhywfaint o rym ac adnoddau. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni pwy fydd y tîm hwnnw'n ei gynnwys a sut fydd hynny'n digwydd, a pha adnoddau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith y tu ôl i'r tîm hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud y gwaith o gyflawni? Byddai hefyd yn ddefnyddiol, Gweinidog, rwy'n credu, pe gallech ddweud wrthym a fydd unrhyw bresenoldeb allanol ar y tîm hwnnw, neu a yw'n mynd i fod yn fath o weithrediad cwbl fewnol. Rwy'n credu bod cael sefydliad hyd braich er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau. A byddai'n ddefnyddiol gwybod a oes unrhyw arbenigedd allanol y gallech chi ei gyflwyno.

Rydych chi wedi cyfeirio at y pedwar gwahanol faes cenhadaeth penodol, os mynnwch chi: addysg, economi, iechyd a llesiant, a hinsawdd a natur. Ac yn amlwg, mae gennym gwricwlwm newydd sy'n newid. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith yn ceisio hybu'r agenda sgiliau digidol ac ymgysylltu â phynciau STEM, ond ni allaf weld yn y cwricwlwm newydd yn benodol sut y mae arloesi o reidrwydd yn cael ei hybu. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael ychydig mwy o wybodaeth am sut rydych chi'n gweld hynny'n cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm newydd, oherwydd dydw i'n bersonol ddim yn gweld bod hynny wedi'i bwysleisio'n ddigonol ar hyn o bryd.

Yn ogystal â'r ddogfen strategaeth, rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu ei chynnig i fusnesau micro, bach a chanolig gyda rhywfaint o arian a chyngor. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith, yn y lansiad ddoe, y bydd gwasanaeth newydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar gyfer y busnesau bach, micro a chanolig hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni a oes dyddiad lansio wedi'i bennu mewn gwirionedd, a beth rydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gefnogaeth y gallan nhw ei gael yn y busnesau llai hynny, er mwyn iddynt gael mynediad ato, ac y gallwn ni i gyd weld yr arloesedd hwn yn llifo drwodd i'n heconomi?

Nawr, rwy'n falch iawn o weld y cyfeiriadau yn y ddogfen at Gymru fwy cyfartal, a bod y strategaeth yn cydnabod bod angen dosbarthiad daearyddol tecach o fuddsoddiad mewn gweithgareddau arloesi. Mae hynny'n dda iawn i'w glywed, yn enwedig yn y gogledd, lle rydym yn aml yn teimlo ein bod yn cael ein hanwybyddu gan fuddsoddiad Llywodraeth Cymru. Ond yn amlwg, mae yna bartneriaid mewn gwahanol rannau o Gymru y bydd angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â nhw i gyflawni'r agenda bwysig hon—mae gennych chi bartneriaethau rhanbarthol, mae gennych chi awdurdodau lleol, mae gennych chi grwpiau busnes, weithiau'r siambrau masnach mewn meysydd penodol. A allwch chi ddweud wrthym ni pa rôl fydd ganddyn nhw wrth sicrhau cyflwyno'r weledigaeth hon ledled y wlad, i wneud yn siŵr bod yr elfen gyflenwi leol honno yn ychwanegol at y fframwaith cenedlaethol rydych chi wedi'i nodi?

Rwy'n falch iawn o weld y pwyslais hefyd ar iechyd a llesiant. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y GIG yng Nghymru ar ei hôl hi o'i gymharu â rhai o'i sefydliadau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r DU, o ran defnyddio rhywfaint o'r dechnoleg ddigidol sydd ar gael. Clywsom gyfeirio'n gynharach heddiw o ran pethau syml, fel presgripsiynau electronig, nad oes gennym ni yng Nghymru ond y mae pobl yn cael budd ohono yn rhywle arall. Gwelsom yn ystod y pandemig y cafwyd camau enfawr ymlaen o ran ymgysylltu â thechnoleg er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau a allai godi gyda'r pellter y gallai pobl orfod ei deithio er mwyn dod i apwyntiadau. Ond un o'r pethau a gododd Conffederasiwn GIG Cymru mewn ymateb i'r strategaeth ddrafft oedd eu bod yn dweud bod angen mwy o gysylltiadau gweladwy rhwng diogelwch cleifion, ansawdd a chanlyniadau'r strategaeth wrth symud ymlaen. Ydych chi bellach wedi mynd i'r afael â'r pryderon hynny? Ac os felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi wedi mynd i'r afael â nhw?

Ac yna, yn olaf, ynghylch y mater hwn o gyllid yr UE, fel y gwyddoch chi, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, yn aml wedi cyfeirio at y ffaith bod angen i ni fwrw ymlaen a gweithredu argymhellion adolygiad yr Athro Graeme Reid o ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth, ac nid ef yw'r unig un. Mae llawer o randdeiliaid eraill hefyd wedi dweud yr union yr un peth. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni a fydd Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ar y corws hwnnw o leisiau sydd allan yno ac o'r diwedd yn mynd i'r afael â gweithredu argymhellion yr adolygiad? Rwy'n credu bod ar bobl eisiau dim mwy a dim llai. 

14:40

Diolch am y gyfres hir o gwestiynau. Wnaf i ddim rhoi prawf ar amynedd y Dirprwy Lywydd drwy roi ateb hir i bob un o, rwy'n credu, y 10 maes gwahanol. Edrychwch, ar y cynllun gweithredu a chyflawni, rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n cael ei ddarparu mewn mater o fisoedd, a dylai hynny ein helpu, gan ei bod i fod yn ddogfen fyw, i wneud yn siŵr bod gennym gerrig milltir a mesurau o fewn hynny i fynd ochr yn ochr â'r cenadaethau ehangach. Rydym wedi gwneud dewisiadau yn y strategaeth hon. Edrychwch ar y meysydd hynny lle mae gennym ni gryfderau gwirioneddol sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ac mewn gwahanol rannau o Gymru—y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—ond sydd hefyd yn edrych ar ardaloedd posibl ar gyfer cryfder yn y dyfodol. Nawr, mae hynny'n ymwneud â sut rydyn ni'n ceisio adeiladu ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn rydyn ni'n dda iawn yn ei wneud yma yng Nghymru, yn hytrach na cheisio gwneud ychydig o bopeth, ac felly, fe welwch chi hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyflawni rydych chi wedi cyfeirio ato.

Nawr, fe geisiaf i ymdrin â rhai o'ch pwyntiau am ganlyniadau eraill hefyd. Rydyn ni eisiau gweld canlyniadau a gweld pethau'n cael eu trosi. Mae'r adolygiadau y byddwn yn eu cynnal ar ôl un, tair a phum mlynedd—mae'r adolygiad blwyddyn gyntaf yn bwysig iawn i ddeall ein bod ni'n dal i wneud y cynnydd a nodir gennym yn y genhadaeth, ond, hefyd, oherwydd bod nifer o'r darnau ariannu yn ansicr o hyd ar hyn o bryd. Mae pwynt o ran a fydd Llywodraeth y DU wir yn cyflawni ei chenhadaeth i ddefnyddio cryn dipyn o brif gyllideb ar arloesi i wneud yn siŵr nad yw'n mynd i'r triongl euraidd o amgylch Oxbridge a chwpl o brifysgolion yn yr Alban. Bydd hefyd yn bwysig gweld beth sy'n digwydd gyda'r dirwedd gymharol ddryslyd—byddaf mor gwrtais ag y gallaf—mewn cronfeydd ôl-UE, ac, mewn gwirionedd, mae dryswch polisi yn y fan honno yn ogystal â phethau sy'n anghyson. Rydyn ni'n mynd i geisio bod â dull mwy cydlynol, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag ystod o bobl wrth wneud hynny yn y cyfnod cyn lansio'r strategaeth hon hefyd. Mae hynny'n cynnwys busnesau yn ymwneud â hynny, mae'n cynnwys addysg uwch ac addysg bellach, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bobl sydd eisoes wedi ymgysylltu. Mae yna hefyd ddarn o waith anorffenedig yn Llywodraeth y DU ac mae yna adolygiad y mae Syr Paul Nurse wedi bod yn ei wneud—bydd hynny'n cael effaith ar y dirwedd ariannu a rhai blaenoriaethau y bydd angen i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd.

Rwy'n disgwyl, pan fyddwn ni'n dod at y tîm arloesi sydd wedi'i leoli yn fy adran i, a'u gwaith nhw nid yn unig i gydlynu'r hyn sy'n digwydd o fewn y Llywodraeth, ond eu gwaith nhw gyda rhanddeiliaid allanol hefyd—. Oherwydd, yn aml, mewn gwlad maint Cymru, mae pobl yn edrych at Lywodraeth Cymru i barhau â rhywfaint o arweiniad i helpu i fonitro a rheoli, ond denu'r rhanddeiliaid eraill hynny, sef yr hyn yr ydyn ni eisoes wedi bod yn ei wneud. Ond rydyn ni hefyd, er hynny, yn gobeithio bod â chynllun cyflawni ar y cyd, cynllun gweithredu ar y cyd, gydag Innovate UK, a dyna'r tro cyntaf i ni allu gwneud hynny, i sicrhau cytundeb ar hynny, ac maen nhw'n gobeithio gwneud hynny ar sail y strategaeth yr ydyn ni wedi'i lansio heddiw. Felly, rydyn ni wedi ceisio bod ag agwedd gydlynol at yr hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud. Dylai hynny ein helpu ni gyda ffrydiau ariannu yn y dyfodol.

Yn y cwricwlwm newydd—dydw i ddim yn derbyn disgrifiad yr Aelod. Rwy'n credu, o fewn y meysydd dysgu ac entrepreneuriaeth ac arloesi, maen nhw yno, ac mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n ategu hynny'n ymarferol yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae llawer o'r hyn y mae busnes yn ei ddweud ar hyn o bryd, pan fyddan nhw'n edrych ar y dyfodol gyda'r holl risgiau a heriau a chyfleoedd sydd ganddyn nhw, maen nhw'n siarad llawer am lafur a sgiliau ac am sut mae angen i ni allu cyrraedd pobl nid yn unig rhai 16, 17, 18 a thu hwnt, ond yn gynharach mewn gwirionedd, i gadw'r meddyliau hynny'n agored i yrfaoedd posib sy'n bodoli. Nid pwynt am sgiliau yn unig yw hynny; mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn gwreiddio diwylliant o arloesi a herio. Roedd hi'n ddiddorol iawn ddoe, yn y lansiad, i gael amrywiaeth o bobl ifanc mewn gwahanol rannau o Gymru yn dweud beth maen nhw eisoes yn ei wneud wrth edrych ar ffyrdd arloesol, felly maen nhw'n meddwl am ddatrys problemau i fynd drwy hynny, ac nid dim ond—er bod Jack Sargeant yn yr ystafell—peirianwyr ydyn nhw; mae yna amrywiaeth o bobl eraill yn meddwl am sut i ymdopi â heriau yn y dyfodol. 

Ac, edrychwch, o ran lansio'r cyllid micro a busnesau bach a chanolig, rydych chi'n disgwyl iddo ddigwydd o fewn y misoedd nesaf. Unwaith eto, byddaf yn ei gwneud yn glir pan fydd y gronfa honno'n cael ei lansio. Bydd yr aelodau yn gwybod a byddant yn ceisio mynd i weithio gyda rhanddeiliaid. Rwy'n amau, yn anffodus, na fydd yn bennawd yn y newyddion ar y teledu pan fyddwn ni'n lansio'r gronfa honno, ond bydd y bobl sydd angen gwybod am hynny yn gwybod amdano a'r rhwydweithiau busnes sydd gennym yw sut y byddwn ni'n gallu ceisio hyrwyddo hwnnw. Ac, yn amlwg, i Aelodau o bob ochr, byddai'n ddefnyddiol pe gallen nhw ei hyrwyddo, oherwydd bydd gennych chi i gyd etholwyr a fydd â diddordeb mewn pryd y caiff y gronfa honno ei lansio.

Rydym yn bendant yn credu bod arloesi yn bwysig ym mhob ardal ledled Cymru. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer mewn arloesedd yn y gogledd mewn ystod eang o feysydd. Roeddwn i'n siarad â Siemens yn gynharach heddiw, a gyda'r buddsoddiad rydyn ni wedi'i wneud gyda nhw yn Llanberis, maen nhw'n cymryd rhan mewn nid dim ond gweithgynhyrchu ond ymchwil diddorol, arloesol iawn hefyd. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd â chyrhaeddiad ym mhob rhan o Gymru. Ac mae'n un o'r pwyntiau rydyn ni wedi'i wneud i Lywodraeth y DU, fel nad ydyn nhw'n gweld ymchwil, gwyddoniaeth, datblygiad ac arloesedd fel rhywbeth sy'n digwydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn y clwstwr lled-ddargludyddion; bu'n rhaid i ni ddweud wrthyn nhw fod llawer mwy o ardaloedd o gryfder ledled Cymru, a soniodd Sam Kurtz yn gynharach heddiw am waith IBERS yn Aberystwyth. Dylwn i ddweud, Llywydd, mai dyna'r sefydliad lle gwnes i fy ngradd; does dim rhagfarn yn y fan yna, yn amlwg.

Yn olaf, er hynny, ar adolygiad Reid, mae angen i ni fod yn onest: dydyn ni ddim yn mynd i allu cyflawni'r hyn yr awgrymodd adolygiad Reid y byddem ni'n ei wneud, oherwydd mae'r gwirioneddau cyllido bryd hynny wedi eu dymchwel yn llwyr nid yn unig gan inni adael yr Undeb Ewropeaidd ond gan y methiant i ymdrin, y methiant i anrhydeddu'r addewidion clir iawn a wnaed na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae ein cyllideb wedi cymryd pwysau gwirioneddol. Rydyn ni'n mynd i fod yn siarad am y gyllideb derfynol yn yr wythnosau nesaf, ac o fewn hynny rydych chi'n gwybod yn iawn nad oes yna arian ychwanegol yn chwilio am gartref. Ein her mewn gwirionedd yw sut rydyn ni'n blaenoriaethu ac yn ymdrin â'r pethau y mae angen i ni eu gwneud, y cyfleoedd y gallwn ni eu cymryd, yn hytrach na'r holl bethau y byddai Aelodau ar draws gwahanol bleidiau eisiau eu gwneud. Felly, dydw i ddim yn mynd i gymryd rhan mewn sgwrs anonest ac esgus ein bod ni'n dal yn yr un sefyllfa â phan gyhoeddwyd adolygiad Reid. Ac mae angen i Aelodau Ceidwadol gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y ffaith bod mwy o arian wedi ei dynnu allan o Gymru a bellach mae gennym lai o lais dros lai o arian. 

14:45

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. 

Fel y nododd y Gweinidog yn gywir, mae ein hymadawiad â'r UE wedi cael effaith niweidiol ar ein gallu i gael cyllid. Beth oedd e', 'Dim ceiniog yn llai, dim pŵer a gollwyd'? Nawr, o leiaf, mae lansiad y strategaeth arloesedd yn ein galluogi i gael cenhadaeth gyffredin ar draws y pleidiau sy'n uno ein sylw i wneud Cymru'n genedl ddeinamig ar gyfer y dyfodol. 

Nawr, mae strategaethau arloesi ledled Ewrop wedi gweld llwyddiant a dydyn nhw ddim yn syniad newydd. Sefydlodd y Ffindir, ym 1967, Sitra, sy'n gorff sydd wedi ymrwymo i arloesi, ni waeth pa blaid sydd mewn grym. Ac o fewn 10 mlynedd, cyflawnodd Sitra ddiwygiad addysg, sydd fel mae'n digwydd yr un strwythur ag yr ydym ni, yn ogystal â llawer o'r byd, wedi'i ddilyn. Felly, mae potensial aruthrol i strategaeth arloesedd Cymru fel un y Ffindir i nid yn unig effeithio ar bolisi domestig ond dylanwadu ar newid rhyngwladol hefyd.

Nawr, i Gymru, mae gennym doreth o botensial ynni gwyrdd. Os gwnawn ni hyn yn iawn, mae gan y strategaeth arloesedd hon y gallu i adfywio rhannau o Gymru sydd wedi—ac sy'n dal—i brofi diffyg twf economaidd ond hefyd i osod Cymru fel cenedl flaenllaw ym maes arloesi a pholisïau gwyrdd. Felly, i'r perwyl hwnnw, sut mae'r Gweinidog yn gweld y strategaeth yn cyfrannu at gefnogi prosiectau ynni sy'n eiddo i'r gymuned? Mae'n bwysig bod y strategaeth yn cysylltu gyda nifer o'r prosiectau sy'n weithredol o amgylch Cymru yn barod, ond hefyd gyda'r rheiny sy'n dal i fod yn yr arfaeth. Rydyn ni'n gwybod eisoes bod prosiectau ynni cymunedol yn aml yn ei chael hi'n anodd cychwyn arni. Byddwn hefyd yn gofyn: sut mae'r strategaeth arloesedd yn ffactor yn yr angen am bontio teg wrth i ni fynd tuag at economi wyrddach?

Nawr, drwy sefydlu nodau sydd wedi'u diffinio'n dda o fewn y strategaeth, bydd gan lunwyr polisi gyfle i ddylanwadu ar dwf economaidd gwyrdd a hefyd i ddylanwadu ar gyfeiriad, effaith a phwrpas pob nod. Ac ar y pwynt am dwf economaidd, sut fydd y strategaeth hon yn cefnogi ac yn asesu ceisiadau nid yn unig gan fusnesau lleol a busnesau bach a chanolig ond hefyd partneriaethau cymdeithasol a chydweithredwyr a allai fod eisiau cynnal ymchwil a datblygu ond yn syml sydd heb y cyfalaf? Mae yna ffordd o ddatblygu arloesedd gwirioneddol gartref.

Nawr, er ein bod yn edrych ymlaen at ddatblygiadau arloesol yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y gorffennol diweddar. Heb os, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith negyddol ar gynnydd datblygiadau arloesol ledled Cymru, ac o ganlyniad, mae'n rhaid i ni ddeall hefyd bod angen sylw beirniadol ar feysydd y genhadaeth fel y system iechyd a gofal, ac mae angen i ni weithredu'n gyflym i gywiro hyn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gallai'r Llywodraeth flaenoriaethu neu fod yn hyblyg gyda'r cenadaethau o fewn y strategaeth hon.

Wrth edrych ar gymhariaeth ryngwladol arall, mae gan Gyngor Ymchwil Norwy bum maes strategol craidd. Nawr, mae'r pum maes strategol hyn wedi'u cysylltu'n gynhenid ac ni ellir eu cyflawni heb newid cymdeithasol, o fewn a thu allan i Norwy. O ganlyniad, mae newid cymdeithasol wrth wraidd strategaeth arloesedd yn ei chyfanrwydd. Nawr, os nad yw Cymru fel cymdeithas yn cefnogi polisïau, yna bydd yn anodd iawn iddynt lwyddo. Gofyniad allweddol felly ar gyfer llwyddiant yw bod â gweithredwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid sydd â digon o wybodaeth ac adnoddau i helpu i gysylltu a gwreiddio datblygiadau arloesol ac arferion newydd o fewn strwythurau a sefydliadau presennol. Felly, i'r perwyl hwnnw, bydd hyn wrth gwrs yn allweddol i gyflawni'r pedair cenhadaeth a nodir, a byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed am waith y Llywodraeth wrth ddod â'r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd hyd yma.

14:50

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau.

Diolch am y cwestiynau.

Clywais lawer am y Ffindir ddoe, cyfeiriodd arweinydd Plaid Cymru at y Ffindir yn helaeth yn ei gyfraniad, ac wrth gwrs rydyn ni wedi ymddiddori yn y ffordd mae gwledydd eraill, gan gynnwys y Ffindir, wedi defnyddio arloesedd fel arf ar gyfer gwella cenedlaethol ac mewn amryw o feysydd polisi. Mae'r Ffindir a gwledydd eraill Sgandinafia wedi cael dylanwad amlwg ar y ffordd rydyn ni wedi datblygu polisi—nid yn unig y cyfnod sylfaen, ond llawer o rai eraill hefyd—a'r ffordd yr ydyn ni'n ceisio defnyddio ein hasedau naturiol ar gyfer dyfodol y wlad hefyd.

Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud am arloesi gwyrdd. Os ydych chi'n meddwl am y pedair cenhadaeth, yr hinsawdd, natur a'r economi, mae gorgyffwrdd amlwg iawn yn y maes hwn, ac mae'n un o'r meysydd y gwnaethom ni dreulio llawer o amser yn siarad amdanyn nhw yn y Siambr hon, nid yn unig am y materion sydd heb eu datrys ynghylch porthladdoedd rhydd, ond am yr hyn yr ydym ni'n credu y gallwn ni ei wneud. Gyda'r prosiectau cynhyrchu ynni mawr ym maes gwynt arnofiol ar y môr, bydd mwy o arloesi i ddod, ac mewn gwirionedd rydyn ni wedi gweld, yn etholaeth y Dirprwy Lywydd ei hun, rhywfaint o'r arloesi hwnnw mewn amrywiaeth o dechnoleg tyrbinau ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ac fe allai rhywfaint o hwnnw ddod yn ôl i'r pwynt am gynhyrchu cymunedol hefyd, achos mae rhywbeth i ni ddysgu am ble rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus a ble nad ydyn ni wedi bod mor llwyddiannus ag yr ydyn ni eisiau bod, ac mae hefyd yn rhywbeth lle rwy'n credu bod mwy o le i fwy o gydweithrediadau. Mae llawer o'r cynhyrchu cymunedol a fu'n llwyddiannus mewn gwirionedd wedi bod yn ddatblygiadau cydweithredol, wedi'u cefnogi gan bleidlais hefyd, ac mae gennym gymuned gydweithredol fywiog iawn yng Nghymru. Fe fyddech chi'n disgwyl i mi ddweud hynny fel aelod Llafur a Chyd-weithredol, ond mae llawer o'r arloesi hwnnw'n digwydd. Dylai'r ffordd rydyn ni'n bwriadu agor i fyny, fel y nodais yn fy natganiad, y gallu i gael gafael ar rywfaint o'r cyllid craff hwnnw, olygu bod mwy o gyfle i'r sefydliadau hynny, nid llai, yn y ffordd y gallan nhw gael gafael ar wariant ar arloesedd yn y dyfodol, ac mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael iddyn nhw: Cwmpas Cymru, yn amlwg iawn, ond hefyd Busnes Cymru.

Mae hyn i gyd yn cynnwys eich pwynt am y pontio teg. Byddwn ni'n siarad mwy amdano yn y datganiad nesaf hefyd. Nid gadael pobl ar ôl yw'r pontio yr ydym ni eisiau ei wneud, ond sut rydyn ni'n gweld arloesedd yn gwella bywydau pobl—pobl p'un a ydyn nhw'n byw mewn cymunedau a'r gwasanaethau y gallan nhw eu derbyn, neu yn wir pobl ym myd gwaith a thu hwnt. Rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd i chi fod y pontio teg yn rhywbeth sy'n nodwedd reolaidd ym meddyliau Gweinidogion am y dewisiadau rydyn ni'n eu gwneud ac am y ffaith bod llawer mwy o darfu i ddod yn y dyfodol. Gall hwnnw fod yn gyfle yn ogystal ag yn risg gwirioneddol i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.

Ar eich pwynt am arloesi COVID-19, fe wnaeth atal ystod o feysydd ac arloesedd a oedd wedi cychwyn, gwaith a oedd yn digwydd—torrwyd ar draws llawer o hynny. Ond rwy'n credu bod pwynt pwysig i'w wneud yma, y bu'n rhaid i ni mewn gwirionedd, oherwydd COVID-19, arloesi mewn ystod gyfan o feysydd, ac fe wnaethon ni. Mae'r ffordd y bu modd i wasanaeth ambiwlans Cymru, er enghraifft, allu meddwl eto am sut y gallen nhw ail-baratoi cerbydau i allu mynd allan. Bu'n rhaid i hynny ddigwydd ac, oherwydd yr arloesedd gorfodol, mae gennym ni erbyn hyn system well ar waith nawr, ac, mewn ystod o feysydd eraill, mae'r arloesedd a orfodwyd wedi arwain pobl i wneud dewisiadau gwahanol mewn gwirionedd. Weithiau mae'n ymwneud â chynhyrchion. Weithiau mae'n ymwneud â gwasanaethau. Weithiau, y ffordd y mae pobl yn gweithio ydyw. Os edrychwch chi ar yr arloesi sydd wedi digwydd dim ond o ran y ffordd rydyn ni'n gweithio ar sail hybrid, nid yn unig yn y lle hwn, ond mae'n gyffredin ym myd gwaith, lle mae'n bosib gwneud hynny, dair blynedd yn ôl fydden ni ddim wedi meddwl mai dyna'r ffordd y byddai pobl yn disgwyl gweithio, er enghraifft, mewn amgylchedd swyddfa, erbyn heddiw. Felly, mae llawer mwy o arloesi sydd i ddod. Nid yw'n ymwneud dim ond, os mynnwch chi, â'r bobl-mewn-cotiau-gwyn ym maes arloesi. Mae llawer o'r arloesi sy'n gwella ein bywydau yn dod o'r adegau pan fyddwn ni'n ailfeddwl ein hymagwedd tuag at y byd a'r ffordd rydyn ni'n gweithio hefyd, ac yna'i gymhwyso'n gyson. A dyna un o'r pethau rydyn ni'n siarad â'n rhanddeiliaid amdano, oherwydd weithiau mae'n ymwneud â'r pethau newydd a'r pethau anodd, y rhan flaengar ohono. Ar adegau eraill, mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n trosi'r hyn rydyn ni'n ei wybod sy'n gweithio'n llawer mwy cyson ac effeithiol. Felly, mae gennym her darganfod a chyfle newydd. Yna, mae gennym hefyd her gweithredu a chymhwyso, sy'n gymaint o broblem yn y sector preifat ag y mae mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond, gallaf ddweud yn onest bod rhanddeiliaid yn gadarnhaol iawn ynglŷn â ble yr ydym wedi cyrraedd nawr, ac, yn y cyfnod nesaf, rwy'n edrych ymlaen at sicrhau eu bod yn parhau i'n cefnogi.

14:55

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Os ydych chi'n astudio cenhedloedd a rhanbarthau llwyddiannus, rydych chi'n dod o hyd i dair thema gyffredin—tair coes economi lwyddiannus. Arloesedd, ymchwil a datblygu yw coes 1, entrepreneuriaeth yw coes 2, ac addysg o ansawdd uchel a graddedigion addysgedig iawn yw coes 3. Mae gen i ddau gwestiwn. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda phrifysgolion i gefnogi ymchwil ac arloesedd? Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i gefnogi ceisiadau profi a phatent? Heb y patent, collir budd arloesi, ac rydyn ni'n gwybod ym Mhrydain, yn aml iawn, rydym wedi arloesi ac mae gwledydd eraill wedi ei droi'n ddiwydiant llwyddiannus iawn mewn gwirionedd.

Rydyn ni wedi clywed sôn am y Ffindir, sydd, yn fy marn i, wedi cael llwyddiannau mawr, ond mae'r Ffindir hefyd yn rhoi rhybudd i chi. Nokia oedd y gwneuthurwyr mwyaf o ffonau symudol yn y byd. Allwch chi ddim prynu ffôn Nokia heddiw. Gallwch ei gael yn anghywir hefyd.

A gaf i gynnig tair ardal y gallech chi eu hystyried efallai? Caergrawnt, Silicon Valley yng Nghaliffornia, a Mannheim—mae'r rhain yn ardaloedd llwyddiannus. Efallai y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw hefyd.

Ar eich pwynt olaf, rhan o'n her ni yw bod y tri maes rydych chi'n sôn amdanyn nhw wedi cael syniadau newydd, maen nhw wedi cael cynhadledd o lawer o bobl, ac mae cyfalaf wedyn wedi mynd i lawer o'r syniadau newydd hynny ac mae wedi ei gadw yno. Rhan o'n her ni yn y ffordd y mae cyllid arloesedd yn gweithio yn y DU yw bod Oxbridge yn un o'r ardaloedd yn y triongl aur, gyda rhai sefydliadau yn Llundain, lle mae'n parhau i bentyrru mwy o arian a buddsoddiad. Ein her ni yw nid dim ond dweud, 'Rydyn ni eisiau atal arian rhag mynd yno.' Mewn gwirionedd, bydd angen i ni weld mwy o arian yn mynd i rannau eraill o'r DU hefyd, yn hytrach na chystadleuaeth ostyngol sydd, yn syml, yn tynnu arian allan o'r hyn sydd eisoes yn llwyddiannus. Ac mae hynny'n anodd i ni, mewn gwirionedd, ond dyna'r genhadaeth mae Llywodraeth y DU wedi'i gosod pan fo nhw wedi cynyddu, rwy'n credu o dros £20 biliwn, yr arian arloesi y maen nhw'n barod i'w wario. Mae hynny'n beth da. Dydych chi ddim yn aml yn fy nghlywed i'n dweud pethau da am Lywodraeth y DU, ond mae'n beth da eu bod nhw wedi bod yn barod i wneud hynny. Yna mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad yw'n ymwneud ag ecwiti daearyddol yn unig lle mae'n cael ei fuddsoddi yng ngweddill y DU, ond eu bod yn cydnabod yr ardaloedd o gryfder a chyfle go iawn sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU, a hefyd y cysondeb gweithredu yn y tri maes hynny yr ydych chi wedi'u crybwyll hefyd sydd wedi bod yn gyson.

Rwy'n gwybod yn iawn am rybudd yr Aelod am Nokia. Roedd gen i ffôn Nokia ar un adeg, fel yn wir yr oedd gan fy ffrindiau i gyd ar un adeg, ond does gan yr un ohonon ni un nawr.

Ar batentau, mae'n un o'r pethau rydyn ni eisiau gweithio arno gydag amrywiaeth o bobl i sicrhau eu bod wedi cael patentau. Yn fy mywyd blaenorol fel Gweinidog Iechyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud mewn gwyddorau bywyd nid yn unig i newid a gwella canlyniadau triniaethau a chanlyniadau gofal i bobl, ond wrth sicrhau bod pobl yn amddiffyn eu heiddo deallusol. Mae'n un o'r risgiau, mewn gwirionedd, i rai o'r cytundebau masnach rydd sy'n cael eu gwneud, i wneud yn siŵr bod gennym reolau cyson sy'n orfodadwy ym mhob gwlad am ddiogelu eiddo deallusol hefyd. Ac yn sicr mae'n rhywbeth rydyn ni'n siarad amdano, drwy ein gwasanaethau cyngor i fusnes ac arloeswyr.

Ac ar eich pwynt am brifysgolion, mae yna rybudd gan eich sefydliad lleol am yr hyn sy'n digwydd gyda'r newid mewn cyllid. Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn glir bod swyddi da o safon uchel yn mynd oherwydd y newid mewn cyllid. Nawr, rydyn ni wedi gweithio'n fwriadol gyda sector y brifysgol. Mae is-ganghellor Abertawe yn cymryd rôl arweiniol ar rai o'r meysydd hyn, ynglŷn â sut rydyn ni'n bwriadu sicrhau eu bod nhw ochr yn ochr â ni. A rhan o fy her i iddyn nhw fu ynglŷn â'r hyn y bydd prifysgolion yn ei wneud yn y dyfodol i gael mynediad at ffynonellau ariannu'r DU, oherwydd, hyd yn oed yn y gorffennol, cyn peidio â chadw addewidion ar gronfeydd newydd yr UE, roeddem ni'n dal eisiau i'n sector prifysgol fod yn well wrth gael mynediad at gystadleuaeth ariannu'r DU hefyd. Nawr mae rheidrwydd gwirioneddol i wneud hynny, ac mae hynny'n rhan o'r sgwrs rydyn ni wedi ei chael.

Ond hefyd, i'r sector addysg uwch—mae gan addysg bellach rôl mewn arloesedd hefyd; nid wyf yn dweud nad oes ganddo, ond roedd y cwestiwn ar addysg uwch—rhan ohono yw eu cyd-ddealltwriaeth o ble maen nhw'n cydnabod bod y sector yn gryf ac y bydd gwahanol gryfderau mewn gwahanol sefydliadau, fel nad oes gennym brifysgolion yn cystadlu i daro ei gilydd i lawr a dweud, 'Mewn gwirionedd, mae yna chwe sefydliad yn honni eu bod yn arwain y byd yn yr un ardal yng Nghymru', oherwydd rydyn ni'n gwybod nad yw hynny'n debygol o fod yn wir, ond i gael proffil cydlynol ganddyn nhw a fydd yn arwain i'r cenadaethau hefyd, ac mewn gwirionedd mae hynny wedi llywio'r meysydd cryfder yr ydym wedi'u nodi. Felly, rydyn ni mewn lle da yn ein perthynas ag addysg uwch, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny fod yn wir trwy gyflawni'r strategaeth hon a'r cynllun cyflawni.

15:00

Hoffwn i ddatgan budd, sef bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.

Hoffwn siarad ychydig yn fwy manwl am sut y bydd y strategaeth yn lliniaru effaith tynnu'n ôl cronfeydd strwythurol y DU ar brifysgolion Cymru yn benodol. Fe wnaethoch chi sôn am y rhybudd rydyn ni wedi'i gael gan Brifysgol Abertawe bod hyd at 240 o ymchwilwyr yn wynebu colli eu swyddi yn y sefydliad hwnnw yn unig. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno y byddai diswyddiadau ar y raddfa hon—a llawer ohonyn nhw yn ymchwilwyr blynyddoedd cynnar—yn tanseilio hyder yn y sector ymchwil yng Ngorllewin De Cymru a ledled Cymru yn angheuol. Dyma eiriau un o'r ymchwilwyr sydd eisoes wedi'i ddiswyddo o un o'r rhaglenni. Meddai, 'Roeddwn i'n gallu gweld cymaint yn cael ei gyflawni bob wythnos. Y tu hwnt i'r canlyniadau mesuradwy, roedd y prosiect yn gyfrwng ar gyfer cysylltedd a datblygu arbenigedd pontio', rhywbeth yr ydych chi wedi cyfeirio ato heddiw fel bod mor allweddol i'r strategaeth hon ac mae mor bwysig, wrth gwrs, wrth ddatblygu'r sector ymchwil a thechnoleg mewn gwlad fach. Felly, hoffwn wybod, Gweinidog, ydych chi'n datblygu unrhyw atebion tymor canolig a hirdymor fel rhan o'r strategaeth hon, ac a fyddwch chi'n archwilio mesurau pontio tymor byr yn y cyfamser a allai efallai gynnwys pecyn o arian cyfatebol i sefydlogi cyflogaeth a bod yn sail i ymchwil a datblygiad yn ein prifysgolion i atal y golled hon o gyfalaf deallusol?

Fyddwn i ddim yn dweud y bydd yn tanseilio hyder yn y sector yn angheuol. Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn lladd popeth sy'n bodoli, ond bydd yn achosi difrod go iawn—difrod y mae modd ei osgoi hefyd. Ond y broblem yw bod dewisiadau sydd wedi'u gwneud ar lefel y DU yn tynnu'r arian yna allan o'r sector, a chynllun bwriadol y gronfa ffyniant gyffredin yn benodol oedd eithrio addysg uwch o hynny. A phe byddem ni'n cael y ddadl hon yn Lloegr, byddai ganddyn nhw yr union yr un cwynion am sut maen nhw wedi cael eu gadael allan ohoni, ac mae'n broblem wirioneddol; mae'n broblem go iawn a diymdroi, a dydych chi ddim fel arfer yn clywed is-gangellorion addysg uwch yn sôn am y ffaith bod cannoedd o swyddi sy'n talu'n dda yr ydym eisiau mwy ohonyn nhw, nid llai, yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth o'r DU, yn mynd oherwydd y dewis cyllido hwnnw.

Nawr, mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol o hynny, ac yn y sgyrsiau yr wyf i wedi'u cael yn uniongyrchol gyda George Freeman, y Gweinidog gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU, maen nhw'n ymwybodol bod yna broblem, a'r her yw nad yw gwahanol rannau o Lywodraeth y DU yn gysylltiedig â'i gilydd yn y dewisiadau y maen nhw i gyd yn eu gwneud. Rwy'n credu y bydd hi'n rhy hwyr i rai o'r bobl hynny, mae gen i ofn, ac, hyd yn oed gyda'r holl ffyrdd yr ydyn ni wedi ceisio gweithio ochr yn ochr â phobl, y realiti yw bod ein cyllidebau dim ond yn ymestyn hyn a hyn ac ni allwn lenwi'r holl ddifrod sydd wedi'i wneud. Dyna pam yr ydyn ni'n chwilio am berthynas sefydlog gyda Llywodraeth y DU, ac un pan geir gonestrwydd ynghylch sut y bydd arian yn cael ei wario, ac i symud i ffwrdd o rai o'r prosesau cystadleuol niweidiol a cibddall a dim ond ychydig o onestrwydd ynglŷn â chadw eu haddewidion ynghylch yr arian. Byddwn ni'n glir ynghylch sut yr ydym yn defnyddio'r arian sydd gennym ni; byddwn yn gweithio gyda sector y brifysgol ar sut rydym yn defnyddio'r arian hwnnw ar y cenadaethau a sut yr ydym yn mynd i symud i edrych ymlaen, a sut mae hynny'n cael effaith bontio go iawn i gymunedau Cymru nawr ac yn y dyfodol. Mae yna gyfleoedd o hyd, ond gallem ni wneud cymaint mwy pe na baem ni'n dechrau o sefyllfa lle mae difrod wedi'i wneud gyda rhagwelediad a gwybodaeth am yr hyn a oedd i ddod.

Diolch, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen y strategaeth sy'n dangos sut yr ydym yn ceisio ymgorffori arloesedd ar draws pob agwedd ar y Llywodraeth; mae'n ddull sydd i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n credu ei fod yn dangos pam mae arloesi'n hanfodol i'n heconomi ac i sectorau eraill hefyd.

Roedd gen i ddiddordeb mawr i ddarllen yr adran ar yr economi gylchol ac ar effaith amgylcheddol yr economi sylfaenol yn benodol, y byddwch chi'n gwybod ei fod yn faes sydd o ddiddordeb mawr i mi. O fy nhrafodaethau gyda busnesau yng Nghwm Cynon, rwy'n gwybod bod llawer o'r busnesau llai, teuluol hyn yn awyddus iawn i fuddsoddi mewn, er enghraifft, ffynonellau ynni adnewyddadwy, neu beiriannau mwy modern ynni-effeithlon, ond gall hyn fod yn ddrud iawn. Felly, sut gallwn ni gefnogi'r busnesau hyn yn well i arloesi a moderneiddio? 

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â rhethreg y strategaeth ar gyfer creu clystyrau màs critigol ar gyfer arloesi. Rwy'n deall hynny'n llwyr, ac efallai ei fod yn swnio fel ychydig o baradocs, ond rwyf hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd agwedd Cymru gyfan at hynny hefyd. Fe roddaf enghraifft: busnes yr wyf i wedi'i grybwyll yma yn y Siambr hon o'r blaen yn fy etholaeth yw Pontus Research Ltd, sy'n gwneud gwaith blaengar iawn sy'n arwain y byd yn y sector dyframaethu, nad yw'n rhywbeth y byddech chi'n disgwyl dod o hyd iddo ar ystad ddiwydiannol yn Hirwaun. Felly, rwy'n nodi'r ymrwymiad mewn adran arall o'r strategaeth na chaiff, rwy'n dyfynnu, 'neb na dim lle', diwedd y dyfyniad, ei adael ar ôl. Ac felly, gan gofio'r enghraifft honno rydw i wedi'i rhoi i chi—ac rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl eraill—byddwn i'n awyddus i gael manylion am sut y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio i wreiddio'r cyfleoedd hyn ledled Cymru mewn gwirionedd, gan ddarparu cefnogaeth ond hefyd estyn allan yn rhagweithiol at fusnesau hefyd.

15:05

Gwych. Diolch. Diolch am y ddau gwestiwn. Rwy'n credu, ar eich pwynt olaf yn gyntaf, bod cydnabyddiaeth nad yw clystyrau yn ddaearyddol yn unig; clystyrau o sectorau diwydiant a sut rydyn ni'n tynnu pobl at ei gilydd a'r cysylltedd rhyngddyn nhw hefyd—. Rydych chi'n iawn, ni fyddech chi'n disgwyl i dyframaethu yng Nghwm Cynon o reidrwydd fod yn beth mawr, ond mae'n gyfle mawr i Gymru pan fyddwch chi'n meddwl am yr hyn y byddwn ni eisoes yn ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud yn well, ac mae ymchwil diddorol iawn ar hynny i fyny ym Mangor hefyd. Felly, mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n cysylltu'r bobl hynny. Dyna pam mae'r pwynt am sut rydyn ni'n cysylltu—un o'r ymadroddion jargon hynny—yr ecosystem arloesi. Ond deall pwy sy'n gwneud beth yn lle, dyna'n rhannol ein rôl ni yn y Llywodraeth; mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni'n gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill i ddeall ble mae'r rhagoriaeth honno yn bodoli mewn gwahanol rannau o Gymru ac yna ei gwneud hi'n haws i bobl wybod pwy ydyn nhw a gyda phwy ac yn ble y gallan nhw gydweithio gyda phobl hefyd. Ac, mewn gwirionedd, mae gan Aelodau rôl bwysig iawn yn hynny, wrth ddeall beth sy'n gweithio'n dda iawn yn eu hetholaeth neu ranbarth eu hunain, ac yna sut i hyrwyddo hynny ar draws y wlad, ac, wyddoch chi, y berthynas â Gweinidogion wrth allu tynnu sylw at y ffaith bod cyfleoedd i wneud mwy yn hynny.

Mae hefyd yn ymwneud â sut maen nhw'n gweithio gyda Busnes Cymru fel y drws ffrynt i'r holl gyngor a'r gefnogaeth, ac i gyfeirio pobl i le gallan nhw gael y gefnogaeth honno hefyd. Ac mae hynny hefyd yn cysylltu â'ch cwestiwn, rwy'n credu, am yr economi gylchol a'r economi sylfaenol, sut rydyn ni'n cadw mwy o arian yn lleol. Ond mae yna arloesi go iawn yn digwydd yno, ac mae'n dod yn ôl i fy mhwynt bod rhai pethau eisoes yn gweithio'n dda iawn ond heb eu trosi i bob un busnes. Felly, dyna sydd eisoes yn gweithio, sut ydych chi'n ei gymhwyso yn eich busnes eich hun. Ac, mewn gwirionedd, un o'r pethau, o ran symud ymlaen, yw Banc Datblygu Cymru a'r cynllun benthyciadau busnes gwyrdd y maen nhw'n ei weithredu, oherwydd mae'n ymdrin â'ch union bwynt: sut mae cael mwy o effeithlonrwydd ynni, sut ydych chi'n lleihau eich ôl troed carbon a lleihau eich gwaelodlin? Nid dim ond bod benthyciadau ar gael o £1,000 i fyny; dyma hefyd y cymorth a'r cyngor ymgynghori sy'n bodoli i'r busnesau hynny. Os oes gennych chi fusnesau sydd eisiau gwella'r ffordd maen nhw'n gweithio a'u bod yn ystyried effeithlonrwydd ynni i leihau eu gwaelodlin hefyd, ewch i Busnes Cymru yn bendant ac ystyried y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd yr wyf yn falch iawn ein bod ni wedi'i lansio gwta bythefnos yn ôl gyda Banc Datblygu Cymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw ac am gyhoeddi'r strategaeth arloesi. Roeddwn yn arbennig o awyddus i ddarllen yr adran ar asedau arloesi a'r pwyslais a roddwyd arnynt. Nawr, mae gennym lawer o'r rhain mewn bodolaeth o amgylch Cymru, ac maen nhw'n profi i fod yn fagnetau gwych ar gyfer buddsoddi mewn sawl cymuned. Un sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, a phan fydd yn agor yn 2025, bydd yn un o'r goreuon o'i math yng ngorllewin Ewrop. Yn wir, bydd y rhaglen waith gwerth £400 miliwn hon yn cynnwys adeiladu dwy ddolen brawf a dyma fydd y rheilffordd sero net gyntaf erioed yn y DU. Gweinidog, sut ydych chi'n rhagweld y bydd yr asedau arloesi hyn yn cyfrannu at gydlyniant cymunedol, i ffyniant ac i arloesedd yn gyffredinol, nid yn unig yn yr ardaloedd lle maent wedi'u lleoli ond yn ehangach ledled Cymru, ledled y DU a ledled y byd? A sut fyddech chi'n asesu eich perthynas hyd yma gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran sicrhau ein bod yn gweld cymaint o ymchwil, datblygu ac arloesi yn cael ei dynnu i ffwrdd o'r triongl euraidd yr ydych chi wedi'i nodi heddiw ac sy'n llyncu cyfran mor enfawr o gyllid Ymchwil ac Arloesedd y DU? Diolch.

Diolch am y cwestiynau. Eich pwynt am asedau arloesi ac enghraifft GCRE, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, yw'r union beth oedd gen i yn fy meddwl, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i arwain, gwneud dewis a gweld bwlch lle nad oedd rhywbeth yn bodoli ac roedd gennym ni'r potensial i greu rhywbeth yng Nghymru, ac mae hynny mewn gwirionedd wedi denu arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, a bydd arian o'r sector preifat yn dod i mewn hefyd. Ac nid arbrawf arloesi diddorol yn unig fydd hi, ond Birmingham, sydd â Phrifysgol Birmingham, sy'n un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw, os nad y brifysgol flaenllaw, ar arloesi rheilffyrdd yn y DU, mae ganddyn nhw ddiddordeb; maen nhw eisiau bod yn rhan o hynny. Gallwn ni ddisgwyl y bydd swyddi da iawn mewn rhan wledig o Gymru yn cael eu creu'n uniongyrchol oherwydd y ffordd yr ydyn ni, fel Llywodraeth, wedi dewis y safle hwnnw gyda bwlch go iawn. A bydd hynny'n cynhyrchu nid yn unig cyfleoedd o fewn y DU, ond ar draws Ewrop bydd pobl, rwy'n credu, a fydd eisiau dod i'r ganolfan arloesi honno. Mae'n golygu bod mwy o ddatblygiad a fydd yn digwydd nid yn unig yn uniongyrchol yn y sector rheilffyrdd, ac nid dim ond cyfle o bosibl i amgueddfa yno, ond, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod chi'n mynd i edrych ar anghenion llety eraill ynghyd â hynny, dylech gael gwahanol gyfleoedd, os ydym ni'n meddwl am yr amgylchedd y mae'n bodoli ynddo hefyd.

Felly, rwy'n awyddus iawn ein bod yn gweld pob un o'r meysydd hyn fel cyfleoedd i wella'r economi yn y maes hwnnw, a hefyd i ychwanegu at economi Cymru gyfan. Ac mae'r cyfan yn ymwneud â'r stori rydyn ni eisiau ei hadrodd am Gymru, nid yn unig i weiddi am ein llwyddiannau ein hunain ond gyda rhannau eraill o'r byd i weld bod y pethau hyn wir yn digwydd yng Nghymru ac maen nhw'n gwneud gwahaniaeth ymarferol, fel y dywedwch chi, nid yn unig i Gymru ond mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt. Ac yn fy sgyrsiau gyda Gweinidogion y DU, maen nhw'n ymarferol ac yn adeiladol iawn gyda nifer ohonyn nhw o ran yr hyn yr ydyn ni'n meddwl y gallwn ni ei wneud, ac, hyd yma, mae'r Gweinidogion gwyddoniaeth—lluosog—yr wyf wedi ymwneud â nhw wedi bod â meddwl agored ynghylch cydnabod nad oes ganddyn nhw ddarlun llawn o ble mae yna ragoriaeth arloesi yng Nghymru.

Yr her yw'r cysondeb ar waith, ac er y byddwn i'n hoffi gweld Llywodraeth y DU wahanol yn gyfan gwbl, byddwn i'n croesawu cyfnod o sefydlogrwydd am o leiaf ychydig fisoedd, nad ydym wedi ei gael am nifer o flynyddoedd, oherwydd mae'r newidiadau parhaus i'r Gweinidogion yn ei gwneud hi'n anodd iawn cael ateb cyson, a bydd angen i ni wedyn weld a yw'r gyllideb ymhen ychydig wythnosau yn cyflawni mewn gwirionedd ar fwriadau da datganedig Gweinidogion sy'n ymwneud â'r maes arloesi. Mewn gwirionedd mae'n rhywle lle gallem ni ychwanegu at yr hyn rydyn ni'n ei wneud gyda pherthynas fwy aeddfed a phragmataidd, mewn cyferbyniad uniongyrchol â'r hyn sydd wedi digwydd ar ffyniant cyffredin. Dylai hyn fod yn faes lle mae yna gryfderau go iawn, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU yn ehangach hefyd. 

15:10
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r ail ddatganiad gan Weinidog yr Economi, strategaeth sgiliau sero net, a galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething, unwaith eto. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r cynllun gweithredu sgiliau sero net heddiw. Mae'r cynllun yn gam cyntaf pwysig i ddeall swyddogaeth sgiliau wrth bontio'n deg i sero net. Mae ein huchelgeisiau sero net yn cynnwys dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bawb ohonom. Mae sgiliau yn un o'r prif ysgogiadau i gyflawni'r uchelgeisiau hyn, i sicrhau bod y pontio yn deg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn profi baich annheg o ran costau'r newid.

Mae'r her o ran ein hymrwymiad sero net yn enfawr, ac fe fydd angen dull cydweithredol ar ein hanghenion sgiliau yn y dyfodol ar draws yr economi gyfan. Wrth lunio'r cynllun, rydyn ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i fod â darlun o'r dirwedd sgiliau sero net yn ôl yr wyth sector allyriadau a nodir yn Cymru Sero Net. Dechrau'r daith yw'r cynllun hwn. Nid ydym ni'n honni bod â'r atebion i gyd eisoes. Mae'r cynllun yn blaenoriaethu saith maes allweddol ac yn cynnwys 36 o gamau. Mae'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi pontio teg i sero net trwy ymagwedd sy'n fwy cydgysylltiedig.

Mae'r ddealltwriaeth yn gymysg o ran y sefyllfa sgiliau gyfredol a'r anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru. Mae rhai sectorau wedi mynd ymhellach ar eu taith nag eraill, ac mae rhywfaint o ddryswch mewn rhai sectorau o ran sut y bydd sero net yn effeithio ar anghenion eu gweithlu yn y dyfodol. Wrth i ni drosglwyddo at economi sero net, fe fydd yr anghenion o ran sgiliau yn esblygu ac yn dod yn fwy eglur. Serch hynny, yn y cyfamser, fe fydd yr ansicrwydd yn golygu nad yw'r darlun yn sefydlog ac rydyn ni'n cydnabod yr angen am ragor o waith i ddeall y dirwedd sgiliau newidiol.

Felly, rydyn ni am ddechrau drwy edrych ar y dirwedd sgiliau mewn mwy o fanylder. Fe fyddaf i'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ofynion sgiliau penodol y sector. Fe fydd hwnnw'n nodi ein dealltwriaeth bresennol o'r sefyllfa o ran sgiliau ar gyfer pob sector, pa sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, canolig a hir, a sut i gyflawni hynny gyda gwaith parhaus mewn partneriaeth. Fe fydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu map ffordd sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a buddsoddi sgiliau yn y dyfodol.

Mae ein hymgysylltiad ni â rhanddeiliaid yn awgrymu bod rhywfaint o ddryswch a diffyg dealltwriaeth ymhlith rhai busnesau, gweithwyr a'r rhai sy'n gadael yr ysgol ynglŷn â'r hyn a olygir gan swyddi gwyrdd neu sero net a'r sgiliau angenrheidiol. Mae angen i ni feithrin dealltwriaeth gyffredin ynglŷn â sgiliau sero net ledled Cymru. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi dehongli sgiliau sero net yn fras fel sgiliau y mae eu hangen i gefnogi pob sector ar eu llwybr hyd sero net ledled yr economi gyfan. O ganlyniad i hynny, mae i bob swydd bosibiliadau o ran cyfrannu at helpu i gyflawni ein hymrwymiad sero net. Mae taer angen i fanylu ar y diffiniad a chael dealltwriaeth gyffredin o'r swyddi a'r sgiliau sydd eu hangen gyda llif eglur o wybodaeth rhwng y Llywodraeth, sectorau cyhoeddus a phreifat a gweithwyr ynglŷn â'r sgiliau sydd eu hangen. Fe fyddwn yn defnyddio canlyniad ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r diffiniad arfaethedig o 'swydd werdd' i helpu i lywio'r diffiniad i Gymru.

Mae angen i ni feithrin gweithlu medrus ac amrywiol a chreu swyddi o ansawdd i gyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn economi sy'n newid yn gyflym fel hon. Mae'r heriau o ran sgiliau ein gweithlu yn real iawn ar hyn o bryd. Mae angen i ni ymateb i'r galw cynyddol o wahanol sectorau fel y bydd mwy o bobl yn ennill sgiliau sero net. Heb gymryd camau pellach ni fydd ein hymrwymiadau sero net yn cael eu cyflawni. Bydd cynorthwyo pobl i uwchsgilio yn y sectorau presennol a defnyddio eu sgiliau a'u cymwysterau presennol yn allweddol i helpu pontio o fewn sectorau.

Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol mewn cyfrifon dysgu personol eleni i helpu i uwchsgilio unigolion cyflogedig i helpu i fodloni'r bylchau sydd gennym ni mewn sgiliau, i'w helpu i sicrhau eu dyfodol eu hunain. O fewn hynny, dyrannwyd £1.5 miliwn ychwanegol i'r cynllun peilot cyfrif dysgu personol gwyrdd a lansiwyd gennyf i ym mis Hydref. Fe fydd hynny'n darparu buddsoddiad o gyfanswm o £3.5 miliwn eleni i gefnogi sgiliau uniongyrchol yn y sectorau adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg.

Fodd bynnag, mae hi'n amlwg nad ydym ni'n dechrau o'r dechrau. Ceir llawer o lwyddiannau ledled Cymru, a rhai ohonyn nhw'n enghreifftiau yn y cynllun. Mae'r rhain yn dangos yr effeithiau a'r manteision adeiladol y gellir eu sicrhau drwy gyflawni newidiadau a buddsoddi mewn sgiliau. Gan weithio gyda chyrff y diwydiant a phartneriaid allweddol, fe fyddwn ni'n parhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd ac arloesol o feithrin ein gweithlu yn y dyfodol.

Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni gryfhau'r system sgiliau i fodloni'r galw am sgiliau sy'n cynyddu yn gyflym o bob rhan o'r sector. Fe fydd cydweithio rhwng addysg bellach ac addysg uwch, prentisiaethau, darpariaeth ddysgu ehangach, undebau llafur a diwydiant yn ein helpu ni i ddarparu'r cynnig a'r dilyniant addas i ddysgwyr mewn ffordd sy'n fwy cydlynol.

Fel y gwyddom ni, mae prentisiaethau yn codi lefelau sgiliau, yn helpu i ysgogi mwy o gynhyrchiant, a chreu cymunedau sy'n fwy cadarn. Rydyn ni'n archwilio dewisiadau o ran sut y gall y fframweithiau prentisiaethau gyflawni ein hymrwymiadau sero net ymhellach, ond gan adeiladu ar y sylfeini cryf hyn, ac rydyn ni'n ystyried ymestyn y cynnig o gyrsiau byr i ychwanegu at a mireinio sgiliau sero net i brentisiaid ifanc mewn technolegau a thechnegau newydd a datblygol gyda'n cyfrifon dysgu personol ni.

Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a phobl ifanc i wireddu eu posibiliadau. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn amlwg yn rhan allweddol o weithlu'r dyfodol, ac mae'n rhaid i ni eu hysgogi nhw, ymgysylltu â nhw a'u harfogi i ddeall eu cyfleoedd gyrfaol yn effeithiol mewn byd gwaith newidiol. Mae cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn gyfle rhagorol i gysoni ein blaenoriaethau. Mae'r cynllun hwn yn nodi camau gweithredu i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo ymgysylltiad ar gyfer magu hyder a bod â gwybodaeth am fyd gwaith.

Rydyn ni'n gwybod na allwn ni fynd i'r afael â'r her ar ein pennau ein hunain, felly bydd gwaith trawslywodraeth a gweithio mewn partneriaeth yn gonglfeini yn ein dull ni o weithredu. Wrth i ni symud at y cyfnod gweithredu, fe fyddwn ni'n parhau â'r dull partneriaeth hwnnw ar draws yr economi gyfan, gan geisio defnyddio'r cryfderau sy'n cael eu darparu gan ein ffordd ni o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Fe ddylai cyflwyno pontio teg olygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, felly fe fyddem ni'n annog unigolion i fod yn rhan o'r sgwrs, i hyrwyddo diwylliant adeiladol sy'n annog tegwch a chydraddoldeb yn y ffordd yr ydym ni'n ysgogi newid.

Ein cynllun hirdymor ni o hyd yw cyflawni Cymru decach, gryfach, wyrddach i bob un ohonom ni, a buddsoddi yn y sgiliau i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r cynllun gweithredu sgiliau sero net hwn, ac wrth gwrs busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill y tu allan i'r Siambr hon.

15:15

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am roi copi ymlaen llaw o'i ddatganiad? Fel y gwyddoch chi, rydyn ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno eich strategaeth sgiliau sero net am fisoedd lawer, felly rydyn ni'n falch ei fod wedi'i gyhoeddi o'r diwedd. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: mae gennym ni waith enfawr i'w wneud os ydyn ni am gyrraedd sero net erbyn 2050, ac mae gennym ni lawer o sgiliau y mae eu hangen ar ein gweithlu er mwyn gallu mynd â ni dros y llinell derfyn.

Nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor gyflym y caiff pethau a oedd yn brin ar un adeg, fel paneli solar ar doeau pobl, eu mabwysiadu gan bobl, yn enwedig pan fo prisiau ynni wedi bod mor uchel. Nid yw'r prinder sgiliau yn hynny o beth yn cymharu â'r prinder enfawr y byddwn yn ei gael o ran yr ymrwymiadau ynni adnewyddadwy ehangach sydd gennym ni—ar gyfer gallu gosod ffermydd gwynt newydd, ar y tir ac ar y môr fel ei gilydd, ac, wrth gwrs, ar gyfer gwireddu ein huchelgeisiau ni i sicrhau y byddwn ni'n manteisio ar yr ynni y gellir ei gynhyrchu gan y llanw o gwmpas arfordir Cymru hefyd.

Nawr, yn amlwg, rydych chi wedi sôn am lawer o bethau yn eich strategaeth. Yn sicr, rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol sydd am fynd i gyfrifon dysgu personol pobl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n hyrwyddo'r rhai sydd â chyflogwyr oherwydd y buddion y gallan nhw eu cyflwyno i'w gweithlu yn ogystal â'r unigolion eu hunain, a fydd, gobeithio, yn manteisio ar yr adnoddau newydd hynny.

Unwaith eto, rydych chi wedi cyfeirio at y cwricwlwm newydd a'r cyfleoedd y mae hwnnw'n eu cyflwyno. Rydyn ni'n gwybod bod newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n ymddangos yn y cwricwlwm hwnnw, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi ein pobl ifanc ni i chwilio am gyfleoedd a gyrfaoedd mewn meysydd a all helpu i fynd i'r afael â her newid hinsawdd. Ond, mae angen i ni wneud hynny drwy ddod â nhw gyda ni, ac un o'r pethau na wnaethoch chi ei grybwyll yn eich datganiad yw cyngor gyrfaoedd, a phwysigrwydd cyngor gyrfaoedd pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ddweud, fy marn bersonol yw bod ein cyngor ar yrfaoedd, yn enwedig i bobl ifanc mewn ysgolion, braidd yn siomedig; nid yw'n dda iawn nac yn hyrwyddo'r cyfleoedd ehangach sydd ar gael bob amser, yn enwedig o ran prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen mwy o ganolbwyntio ar hyn gan Lywodraeth Cymru i wella'r cynnig hwnnw a gwella ansawdd y cyngor hwnnw o ran gyrfaoedd.

Fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau, yn amlwg, a'u swyddogaeth wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau. Mae hi'n bwysig bod â'r cysylltiadau hynny â'r diwydiant, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio meithrin y cysylltiadau hynny, yn enwedig gyda chyflogwyr mwy. Ond mae yna lawer iawn o gyflogwyr llai nad ydyn nhw bob amser yn meddwl bod amser ganddyn nhw i allu datblygu cyfleoedd prentisiaeth o fewn eu gweithluoedd eu hunain—nid ydyn nhw'n sylweddoli pa fanteision a ddaw yn sgil hynny. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi am ei wneud i estyn allan i'r cwmnïau llai a chanolig hynny, efallai lle mae perchnogion a chyfarwyddwyr y busnesau hynny'n brysur yn rhuthro o gwmpas yn gwneud pob math o bethau eraill, a'r peth diwethaf sydd ei angen arnyn nhw yw'r gwaith ychwanegol o ran ceisio datblygu rhaglen brentisiaeth, pan, mewn gwirionedd, fe allai hynny fod yn weddol syml, gyda'r gefnogaeth a'r ymgysylltu priodol gan golegau addysg bellach lleol ac eraill i helpu i ddarparu'r rhaglenni hynny.

Yn ogystal â hynny, rydych chi wedi cyfeirio at yr angen am fonitro parhaus o ran y sgiliau angenrheidiol, oherwydd, wrth gwrs, fe fydd angen sgiliau amgen yn 2040 nag sydd eu hangen nawr, oherwydd fe fydd y technolegau yn datblygu. Felly, a fydd hon yn ddogfen nawr a fydd yn cael ei hadnewyddu yn rheolaidd? Oherwydd, yn amlwg, fe fydd angen edrych ar hyn yn weddol reolaidd, fe fyddwn i'n gobeithio, er mwyn i ni fod â gweithlu sy'n addas i'r dyfodol ac sy'n bodloni'r dyheadau sydd gan bob un ohonom ni.

Rydyn ni'n gwybod bod prinder sgiliau gennym ni mewn rhai meysydd eisoes. Pan fyddwch chi'n ceisio cael gafael ar gontractwyr i wneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd, hyd yn oed o ran addasiadau cartref ar gyfer ynni adnewyddadwy, fe all hi fod yn anodd cael trefn ar bethau mewn modd amserol. Wrth gwrs, mae hynny wedyn yn cyflwyno risg ychwanegol i'r system, oherwydd fe all pobl ofyn i rai diegwyddor, sydd wedyn yn tanseilio llwyddiant unrhyw raglenni yr ydym ni'n dymuno eu gweld. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd yn y tymor byrrach i wneud yn siŵr bod cynlluniau priodol ar waith i roi sicrwydd, pan fydd sgiliau ar gael y gall pobl eu hadnabod, yn yr un ffordd ag yr ydym yn gwybod pwy sy'n blymwyr CORGI a phethau felly, fel y gallwn ni wybod pwy yw'r bobl hynny a achredwyd i gyflawni peth o'r gwaith a fydd yn cael ei wneud, yn sicr yn y pump neu chwe blynedd nesaf, pan fydd pobl yn chwilio am yr addasiadau hynny i'w cartrefi yn arbennig felly?

15:20

Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu o ran eich pwynt olaf, mae yna bwynt sy'n mynd y tu hwnt i waith safonau masnach ac sy'n ymwneud yn fwy ag achrediad gweladwy i'r cyhoedd i roi sicrwydd i bobl. Os ydych chi'n meddwl am y ffordd y mae—. Ar eich pwynt chi am baneli solar, pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc, yn tyfu i fyny, roedd gennym ni ddau banel solar ar ein tŷ ni. Roedd hynny'n anarferol dros ben ond eto nawr mae ymchwydd gwirioneddol fawr wedi bod yn y diwydiant a'r gosodwyr. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yn y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd yr oeddwn i'n siarad amdano gyda Vikki Howells yn gynharach yw ein bod ni'n ystyried ffyrdd o gadw mwy o'r arian hwnnw yn yr ardal leol, a rhan o'n her ni yw niferoedd y bobl sy'n gallu gwneud y gwaith ac sydd ar gael i'w wneud. Mae rhywbeth eto i'w wneud ynglŷn â gweithio gyda'r diwydiant hwnnw i wneud yn siŵr y bydd sicrwydd gan bobl o ansawdd priodol. Felly, mae hyn yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ystyried ei wneud i sicrhau nad yw'r sgiliau hynny nid yn unig yn mynd yn fwy cyffredin, fel bydd angen iddyn nhw fod, ond y byddwn ni wedyn â chyfradd ddigonol o sicrwydd sy'n weladwy i'r cyhoedd. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n bendant yn edrych arno. Mae hyn yn mynd ychydig y tu hwnt i gwmpas y datganiad, ond mae hwnnw'n gam nesaf pwysig ac amlwg.

O ran y gorwel a welwn ni gyda'r cynlluniau gweithredu y byddwn ni'n eu llunio, wrth gwrs, fe ŵyr yr Aelodau ar draws y Siambr bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn rhannu ôl troed â'n rhanbarthau economaidd ni, sy'n cael eu mapio ar yr un meysydd â'r bargeinion twf sy'n bodoli hefyd. Felly, mae gennym ni feysydd eisoes lle rydym ni'n gweithio mewn ffordd fwy eang ar y sgiliau sy'n bodoli. Yn y ddogfen hon, fe fyddwn ni'n edrych hefyd ar y gorwel yn y tymor byr, canolig a hirach, ac felly fe fydd angen i ni ddal ati i sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gennym ni'n cyfateb i anghenion pobl, busnesau a'r gwasanaethau cyhoeddus.

Rhan o'r her yw pa mor ddeinamig yw'r system ac a oes gennym ni ymgysylltu rheolaidd rhwng darparwyr sgiliau, ond busnesau a'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen hefyd. Wrth i mi fynd o amgylch y wlad a siarad gyda gwahanol bobl, bob hyn a hyn, fe fyddaf i'n clywed rhywun yn dweud, 'Rwy'n anhapus iawn gyda fy ngholeg AB lleol', a phobl eraill yn dweud, 'Mae fy ngholeg AB lleol i'n wych, rydyn ni'n cael yr union beth sydd ei eisiau ac mae gennym ni berthynas dda iawn.' Wel, ystyr hynny'n rhannol mewn gwirionedd yw natur yr ymgysylltu a'r berthynas, ac yn aml mae hynny oherwydd nad yw'r ddau unigolyn sy'n anhapus yn siarad â'i gilydd, neu nad yw'r coleg yn ymwybodol bod yna fusnes sy'n cwyno. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut rydyn ni'n tynnu pobl i mewn i ddeialog fwy rheolaidd ac adeiladol, yn hytrach nag aros nes bod pethau wedi mynd o chwith neu heb weithio o gwbl iddyn nhw.

O ran prentisiaethau, rydyn ni wedi bod yn cynnal ymgyrch weladwy i'r cyhoedd er mwyn i fusnesau dderbyn prentisiaid. Rwy'n cydnabod, i rai busnesau, eu bod nhw'n deall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, eu bod nhw'n gweld y gwerth yn hynny. Ddoe, roeddwn i'n siarad â busnesau yn fy etholaeth i, busnes lletygarwch oedd un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dweud, mewn gwirionedd, o ran y coleg lleol a'r prentisiaid sy'n dod o hwnnw, maen nhw'n cael eu dihysbyddu gan fusnesau mwy yn gyflym iawn. Felly, fe geir her o ran cyflenwad yn hyn o beth. Mae gyrfa dda i'w chael, ond yr her yw cael digon ohonyn nhw, tra ceir busnesau eraill llawer llai nad ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n bodoli. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn ceisio nid yn unig hyrwyddo prentisiaethau fel cyfle, ond rydyn ni'n edrych mwy ar brentisiaethau a rennir rhwng mwy nag un cyflogwr hefyd, o bosibl. Dyna rywbeth a welais i pan oeddwn i fyny yng Nglannau Dyfrdwy yn y gorffennol agos: pobl sy'n gweithio gyda mwy nag un cyflogwr i gael profiad prentisiaeth llawn, cyflawn. Felly, rydyn ni'n ystyried gwneud mwy yn y maes hwnnw yn y dyfodol hefyd.

Ynglŷn â'ch pwynt chi am gyngor gyrfaoedd, rwy'n credu eich bod chi ychydig yn ddidrugaredd, ond rwy'n cydnabod bod mwy i ni ei wneud bob amser a deall sut mae'r cyngor y mae pobl yn ei roi—. Fe all pobl o'n hoedran ni, fel petai, gofio cyngor gyrfaoedd gweddol gyntefig, ac yn aml athro a fyddai'n dweud, 'Rwy'n credu y dylech chi wneud hyn,' neu 'Ewch i edrych draw fanna ac edrychwch ar lyfr a phenderfynwch beth rydych chi am ei wneud.' Mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwneud yn llawer gwell na hynny. Ein her ni, ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r gyllideb, a hefyd, serch hynny, mae;n ymwneud â'r gallu i roi profiad gwaith da iawn i bobl, rwy'n credu, yn ystod eu cyfnod nhw yn yr ysgol. Ond hefyd, mewn nifer o'n meysydd twf, mae hwn yn gyfle i gadw meddyliau pobl yn agored i'r dyfodol, ac mae hynny wir yn dychwelyd at lawer o bethau sy'n digwydd yn y cwricwlwm, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud dewisiadau, yn aml yn ddiarwybod, erbyn iddyn nhw fod yn 15 ac 16. Felly, mae gwneud popeth bryd hynny'n rhy hwyr i lawer gormod o bobl. Ond er mwyn deall y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i gael gwahanol swyddi, mae yna sgwrs yr ydym ni'n ei chael gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog addysg, ond gyda phobl mewn gwahanol sectorau twf hefyd, gan gynnwys yn y meysydd hyn o sgiliau gwyrdd, i wneud yn siŵr bod y wybodaeth mae ysgolion yn ei chael, a phobl ifanc yn ei chael, yn cadw eu meddyliau yn agored i ddewisiadau gwirioneddol o ran gyrfa i'r dyfodol.

O ran yr hinsawdd, dim ond i orffen, mae fy mab i'n wyth oed, ac mae'n llawer iawn mwy ymwybodol o'r hinsawdd a'r amgylchedd nag yr ydw i'n cofio bod erioed pan oeddwn i'n wyth oed. Felly, rydyn ni'n gweld eisoes bod gan bobl ifanc farn wahanol am y byd, ac fe fydd y cwricwlwm newydd, rwy'n credu, yn gwella hynny. Fe fydd yn eu helpu i amgyffred y byd hyd yn oed yn well nag y maen nhw yn barod, ond rwy'n meddwl ac yn gobeithio, yn sicr, y bydd hynny'n ychwanegu at yr hyn yr ydyn ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynllun sgiliau hwn, sef bod pobl yn ystyried y cyfleoedd hynny i newid ac ailgreu'r byd, a sicrhau ei fod yno i'w plant nhw ac nid dim ond i'n plant ni.

15:25

Diolch am y datganiad, Gweinidog.

Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth yn y Siambr bod y strategaeth sgiliau sero net yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn eglur, nid yn unig y Llywodraeth, ond yn y gwrthbleidiau hefyd, am yr hyn yr ydym ni'n ei olygu pan fyddwn ni'n sôn am sgiliau gwyrdd. Fe fydd yr eglurder hwnnw'n holl bwysig, yn enwedig pan fyddwn ni'n troi at y sector addysg bellach i ddarparu'r sgiliau hynny.

Bydd y strategaeth, fel mae'r Llywodraeth yn ei amlinellu, yn canolbwyntio, yn rhannol o leiaf, ar ddarparu hyfforddiant ac addysg i unigolion a busnesau i gefnogi'r broses o drosglwyddo at economi carbon isel, ac mae nifer o gyhoeddiadau i'w croesawu o ran cyfrifon dysgu personol a swyddogaeth cyrsiau byr. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw hi'n ddigon i ddibynnu ar unigolion a busnesau i wneud y newidiadau angenrheidiol ar eu pennau eu hunain. Nid oes ond angen edrych ar yr amodau economaidd a chymdeithasol presennol yng Nghymru, sy'n ei gwneud hi'n anodd i lawer o unigolion a busnesau wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae pandemig COVID-19, a'r argyfwng dilynol a pharhaus o ran costau byw, a'r effaith ar gadwyni cyflenwi, wedi cael effaith sylweddol ar yr economi, ac mae llawer o fusnesau yn ei chael hi'n anodd goroesi. Yn flaenorol, rwyf i wedi codi'r angen gyda'r Gweinidog am grantiau ynni gwyrdd i fusnesau fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar y safle. Fe all buddsoddi, wrth gwrs, mewn seilwaith a systemau cynaliadwy ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer twf a chyflogaeth, ond mae hyn, wrth gwrs, yn gofyn am fuddsoddiad a chefnogaeth y Llywodraeth.

Fe glywsom ni gan lefarydd y Ceidwadwyr am y prinder sgiliau, ac mae'n iawn i dynnu sylw at hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod, wrth fynd i'r afael â hyn, bod cadw pobl am fod yn un o'r heriau mwyaf a fydd yn wynebu ein colegau addysg bellach a'n sefydliadau addysg uwch yn y blynyddoedd sydd i ddod. Fe allwn ni greu'r holl leoedd newydd ar gyrsiau a'r holl brentisiaethau newydd y dymunwn ni, ond os na all myfyrwyr fforddio aros arnyn nhw, yna fe fyddan nhw, yn y pen draw, yn fethiant o ran amcanion y Llywodraeth. Rydym ni'n siarad yn ei hanfod am grwpiau mawr o fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel yn cael eu cloi allan o gymryd rhan yn yr economi werdd newydd hon yr ydym ni'n sôn amdani drwy'r amser. Mae cadw myfyrwyr incwm isel mewn addysg er budd pawb.

Rwyf i wedi sôn am LCA, ond rwy'n credu y dylem ni ystyried yr angen hefyd am isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol, er, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu arni, a bod yn deg, yn yr hyn y gall hi ei wneud yn hyn o beth. Yn flaenorol, mae'r Gweinidog wedi dweud bod angen i ni siarad am uwchsgilio ac addysg fel buddsoddiad a, sawl tro, rydyn ni wedi mynd dros pam na fyddai hynny'n rhesymol yng ngolwg myfyrwyr incwm isel, yn bennaf oherwydd nad oes ganddyn nhw'r gallu i feddwl ymlaen mor bell â hynny. Ond os ydyn ni'n cadw at y naratif hwn o fuddsoddiad am y tro, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i ddeall sut y bydd y Llywodraeth yn dechrau siarad â phobl ifanc nawr am rai o'r swyddi hyn a allai fod ar gael yn yr economi werdd newydd. Beth yw'r llwybrau, yn ei hanfod, sydd yn agored iddyn nhw? Rydym ni wedi clywed am gyngor gyrfaoedd; ni allwn ac ni ddylwn anghofio am brofiad gwaith ychwaith. Mae hi'n hollbwysig ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac ni fydd hyn o unrhyw syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, mae'n rhaid i mi bwysleisio'r angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â mater diogelwch swyddi i'r rhai sy'n gweithio mewn diwydiannau y bydd y newid tuag at economi carbon isel yn effeithio arnyn nhw. Ni allwn ddisgwyl i unigolion wneud y newidiadau angenrheidiol os ydyn nhw'n ofni colli eu bywoliaeth yn y broses honno. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithio gyda diwydiannau ac undebau llafur i sicrhau mai pontio teg at economi carbon isel sy'n digwydd. Mae hyn yn golygu darparu cefnogaeth i'r rhai y mae'r cyfnod pontio yn effeithio arnyn nhw, a chreu cyfleoedd gwaith newydd mewn diwydiannau cynaliadwy, a sicrhau y bydd pawb sydd angen cael eu huwchsgilio yn meddu ar y sgiliau uwch hynny. Mae hi'n dda i weld y Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i hyn heddiw. Yn syml, ni allwn ailadrodd camgymeriadau Llywodraethau blaenorol, Llywodraeth Thatcher yn fwyaf nodedig—effeithiau ei phenderfyniadau a'i diffyg pontio yr ydym ni'n dal i'w deimlo heddiw. 

15:30

Mae'r pwynt ynglŷn â phontio teg yn rhywbeth sydd, fel rwy'n dweud, ar feddyliau Gweinidogion i raddau helaeth iawn yn y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud ynglŷn â'r cyfle, ond yr amharu hefyd, wrth i bobl symud i ffordd wahanol o weithio mewn ystod gyfan o gynigion mewn sectorau. Rwy'n credu, ar y pwynt am beth yw sgiliau gwyrdd, mi wnes i sôn am hynny yn fy natganiad. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, rwy'n credu, yn ddefnyddiol wrth gyrraedd y nod. Fe wnaethom ni benderfynu peidio ag aros am y gwaith hwnnw cyn cyhoeddi'r datganiad hwn. Mae gennym ni waith i'w wneud ar gynlluniau gweithredu, ac fe allwn ni ystyried hynny wrth i ni symud ymlaen.

Ynglŷn â sut yr ydym ni'n ymgysylltu â phobl ifanc, mae yna amrywiaeth o wahanol ffyrdd yr ydyn ni'n gwneud hynny. Mae yna waith ar arolygon amrywiol yr ydyn ni'n ei wneud drwy'r ysgolion. Mae yna waith hefyd yr ydym ni'n ei wneud gyda'r warant i bobl ifanc ei hun, gan wrando yn uniongyrchol ar bobl sy'n cymryd rhan ynddi. Mewn gwirionedd, mae hynny wedi arwain at rai o'r newidiadau a wnaethom ni yn Twf Swyddi Cymru+. Gan ddarparwyr, ond gan y bobl ifanc eu hunain hefyd, rydyn ni mewn gwirionedd wedi cyflwyno rhywfaint o gymorth ariannol pellach i bobl wneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â, ac yn ystyried, rhai o'r pwyntiau ynglŷn â theithio, ond hefyd gallu bwyta yn ystod y dydd hefyd wrth wneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw. Felly, rydyn ni'n gwrando ac yn edrych er mwyn bod yn hyblyg a gwneud yn siŵr bod ein cynnig ni'n gwneud synnwyr i bobl er mwyn iddyn nhw allu cwblhau'r cyfleoedd yr ydym ni'n eu darparu.

Rwy'n credu bod llawer o bobl yn gallu deall bod gwell cyfle iddyn nhw o bosibl ddysgu ac ennill tâl ar ddiwedd yr ymyraethau hynny. Ein her ni yw helpu pobl i ddod drwy'r cwrs i wneud hynny'n ymarferol, ac rwy'n gwybod mai dyna safbwynt yr Aelod. Fe fyddwn ni'n parhau i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i fod mor hyblyg â phosibl yn wyneb realiti'r cyfyngiadau cyllidebol sydd arnom ni. Ond mae ein cyfraddau ni o ran cwblhau cyrsiau a'r ystod o gyrsiau sgiliau sydd ar gael, gan gynnwys prentisiaethau, yn eithaf da mewn gwirionedd, ac yn sicr mae hynny'n cymharu yn well na'r hyn sy'n digwydd ledled Lloegr. Yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw peidio â mynd tua nôl, a pharhau i fod mor llwyddiannus â phosibl. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod am brofiad gwaith, ac fe fuom ni'n siarad am hynny'n gynharach heddiw—gwerth profiad gwaith o ansawdd uchel a'r hyn y mae hwnnw'n ei gyflawni.

Rwyf i am orffen ar y pwynt hwn o ran cwestiynau'r Aelod am filiau ynni a'r sefyllfa wirioneddol. Unwaith eto, i ddefnyddwyr unigol, ond i fusnesau hefyd, mae heriau a chwestiynau gwirioneddol yn dod i'r amlwg, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd y cyfle yn y gyllideb ymhen pythefnos i wneud rhywbeth. Roedd yr Ysgrifennydd Ynni yn dweud heddiw y gallai ef ddeall bod dewis i'w wneud, a'i fod yn deall yr achos sy'n cael ei wneud. Ond, eto i gyd, heb hynny, ni fydd nifer o'r busnesau yr ydym ni'n awyddus i'w gweld yn goroesi i'r dyfodol yn llwyddo i oroesi'r chwarter nesaf o weithgarwch. Fe geir her a chyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU wneud y peth cyfiawn, ac, rwy'n credu, ennill rhywfaint o barch gan bobl ar draws y Siambr hon ac mewn mannau eraill. Os na wneir hynny, fe fyddwn ni'n ôl yn y fan hon ymhen tri neu bedwar mis, yn trafod, ym mhob rhanbarth ac ym mhob etholaeth, colli swyddi a ddylai fod wedi bod â dyfodol ond mewn gwirionedd nid oedden nhw wedi llwyddo i oroesi oherwydd cynnydd arall unwaith eto yn eu biliau ynni nhw, a'r costau i'w cwsmeriaid a'u defnyddwyr hefyd.

15:35

Yn gyntaf i gyd, rwy'n cael trafferth dod o hyd i'r cynllun newydd hwn a gyhoeddwyd heddiw ar y we. Fe fyddai hi'n ardderchog cael gwybod a yw wedi bod ar gael i bawb ohonom ni mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rai yw'r saith maes allweddol a'r 36 o gamau.

Yn dilyn y pwyntiau yr ydych chi newydd eu gwneud wrth ateb Luke Fletcher, fe allwn ni obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn ynglŷn â biliau ynni, ond, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i'r datrysiad byrdymor cynaliadwy fod ynghylch gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi ni. Ym Mhrydain y mae'r tai sy'n gollwng fwyaf o wres yn Ewrop gyfan, ac mae talu biliau ynni yn ymdrech wirioneddol i tua thraean o'n holl aelwydydd. Rydyn ni'n gwybod mai honno yw'r ffynhonnell fwyaf o ddyled. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod i leihau swm yr ynni y mae'n rhaid i bobl ei brynu ar gyfer cadw eu cartrefi nhw'n gynnes.

Tybed, o fewn y meysydd a'r nodau allweddol hyn, sut ydych chi'n bwriadu uwchsgilio gweithlu'r diwydiant adeiladu fel y bydd sgiliau technegol a manwl gennym ni i leihau llawer iawn ar gost gwresogi cartrefi Cymru? Fel y nododd Darren Millar, ceir llawer o ddiddordeb mewn gosod paneli solar ar doeau pobl, ond nid oes llawer iawn o bobl sy'n gwybod sut i wneud hynny, yn arbennig y rhai sy'n hoffi rhoi teils newydd ar doeau—nid ydyn nhw'n dweud, 'O, a gyda llaw, fe ddylech chi osod panel solar hefyd'. Mae gwir angen i ni gyflymu'r broses o sicrhau bod llawer mwy o bobl yn gwybod sut i wneud hyn, i leihau ein hallyriadau carbon, yn ogystal â dyledion pobl, sy'n mynd i gwmnïau tramor y tu hwnt i Gymru.

Ar y pwynt cyntaf, cafodd strategaeth ei chyhoeddi, mae hi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac nid y camau yn unig sy'n bwysig; rwy'n credu y byddai'r Aelod yn ymddiddori rhywfaint yn yr wyth sector allyriadau, oherwydd adeiladau preswyl yw un ohonyn nhw. Rydyn ni'n ystyried yr hyn sy'n digwydd eisoes yn y sector allyriadau, yn ogystal â chyfleoedd i sicrhau y bydd llai o allyriadau gwirioneddol yn digwydd oherwydd gwaith adeiladu, ond wedyn wrth gadw adeiladau preswyl. Ynglŷn â'ch pwynt chi am gartrefi ynni-effeithlon, fy mhwynt i yw bod angen cefnogaeth nawr ar gyfer costau y mae pobl yn eu talu nawr—ac rwy'n gwybod y bydd gan yr Aelod bobl yn ei etholaeth sy'n ei chael hi'n anodd iawn, yn wir fe fydd gan bob un ohonom ni—yn ogystal â buddsoddi mewn effeithlonrwydd. Mae hynny'n cynnwys ôl-osod cartrefi sy'n bodoli eisoes—ac rwy'n edrych ar fy etholaeth fy hun; mae rhannau helaeth o fy etholaeth i â stoc hen iawn o dai, ac fe geir her ynglŷn â sut rydych chi am ôl-osod—ond mae hynny hefyd wedyn ynglŷn â'r cartrefi newydd yr ydyn ni'n disgwyl eu codi. Ynglŷn â'ch pwynt am baneli solar, a phobl sydd â'r sgiliau hynny, maen nhw'n brysur iawn, oherwydd mae galw gwirioneddol ar lawr gwlad. Yr her yw sut y gallwn ni wneud mwy yn y maes hwnnw a fydd yn helpu'r cartrefi newydd ac yn ôl-osod amrywiaeth o gartrefi eraill hefyd. Fe geir cyfleoedd gwirioneddol hefyd i gadw'r arian hwnnw yn yr ardal leol. Un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynllun benthyciadau busnes gwyrdd y cyfeiriais i ato yw ceisio sicrhau y gallwn ni gyfeirio pobl at gefnogaeth i helpu i wella effeithlonrwydd ynni eu busnesau a chadw'r arian hwnnw gymaint â phosibl yn y fro leol. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru yn awyddus i allu gwneud y ddau beth yna. Felly, mae rhywfaint o optimistiaeth gennyf i, yn ogystal â gwerthfawrogiad o'r rheidrwydd mawr yr wyf i'n gwybod bod yr Aelod yn ei bwysleisio yn y ddadl hon yn rheolaidd ynglŷn â'r angen i wneud hynny ac ennill elw economaidd wrth wneud hynny, a'r hyn y bydd hynny'n ei wneud wrth ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur sydd gennym hefyd. 

15:40

Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ar strategaeth sgiliau sero net Llywodraeth Cymru a'r cynllun gweithredu hefyd. Gweinidog, fe fyddwch chi'n falch o glywed i mi gael y pleser, yr wythnos diwethaf, o fod yn bresennol yn nigwyddiad Growth Track 360 yn senedd San Steffan, gan ymuno gyda nifer o Aelodau'r Senedd hon, Aelodau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, ac arweinwyr cynghorau, o bob plaid. Yn ystod y digwyddiad hwn roedd pwyslais hyfryd ar y gwaith trawsffiniol rhagorol a'r cyfleoedd i gydweithio trwy sefydliadau fel Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a gwaith ein cynghorau lleol ni yn y gogledd, sy'n gweithio gyda busnesau, fel y gwyddoch chi, i helpu i alluogi economi sero net yn y gogledd. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn cynnwys miloedd o swyddi gwyrdd sy'n talu yn dda, sy'n cefnogi ac yn gwella economi'r gogledd ymhellach, y mae pob un ohonyn nhw, er hynny, rwy'n siŵr y cytunwch chi, ag angen am y sgiliau priodol hynny i alluogi sefydlu'r swyddi hyn er mwyn i uchelgeisiau Growth Track 360 a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy ddwyn ffrwyth, oherwydd fel arall, fe fyddwn ni mewn perygl y gallai'r syniadau gwych hyn i gyd fod yn ddim byd ond ymarfer academaidd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am ddefnyddio'r strategaeth sgiliau hon a'r cynllun gweithredu oddi mewn iddi i sicrhau y bydd y bargeinion twf presennol a'r cyfleoedd economaidd i'r dyfodol yn cael eu gwireddu yn eu cyfanrwydd? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y strategaeth hon yn cael ei diogelu yn llwyr ar gyfer uchelgeisiau sefydliadau fel Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a phrosiectau fel Growth Track 360? 

Mae'n rhan o'r pwynt ynglŷn â'r wyth sector allyriadau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonyn nhw, gan sicrhau eu bod nhw'n ymuno â nid yn unig cynllun Cymru Sero Net, ond bod gennym ni rywfaint o gysondeb a dealltwriaeth mewn gwirionedd o fewn y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ym meysydd y bargenion twf hefyd, lle gall pobl gydweithio yn fwy effeithiol, ac felly ledled y gogledd yn ogystal â Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, o ran gweld y cyfleoedd sydd ar gael. Dyma un o'r meysydd hynny lle ceir risg i'r dyfodol oherwydd anallu i drawsnewid ein heconomi ni, o ran peidio bod yn alluog i wneud felly, nid dim ond o ran yr argyfwng hinsawdd a natur yn unig, ond y ffaith y byddwn ni wedi colli cyfle economaidd hefyd os na fyddwn ni'n gwneud hynny. Felly, nid wyf i'n gweld unrhyw beth yma sy'n anghyson â'n hawydd ni i feithrin yr economi mewn ffordd gynaliadwy a'r rheidrwydd i weithredu mewn ffordd sy'n adlewyrchu ar yr argyfwng hinsawdd a natur sydd gennym ni, y sectorau allyriadau, lle byddwn ni'n llunio'r cynlluniau unigol hynny, ac, fel y dywedais i'n gynharach wrth Darren Millar, y persbectif tymor byr, canolig a hir o ran yr hyn y bydd angen i ni ei wneud i gynhyrchu'r sgiliau cywir mewn gwirionedd ar gyfer gwahanol sectorau'r economi yn ogystal â lleihau allyriadau yn yr wyth sector allweddol hyn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn mwynhau mynd drwy bob un o'r 36 maes gweithredu, ac y bydd yn bwriadu dychwelyd yn y tymor byr, canolig a hirach i ystyried maint y cynnydd a wnaethom ni. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar y strategaeth sgiliau sero net. Cyn y datganiad, fe dreuliais i amser yn darllen drwy'r cynllun gweithredu 'Cymru Gryfach, wyrddach a thecach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' a'r atodiad, 'Trosolwg o'r sector sgiliau allyriadau a themâu trawsbynciol'. Fe gefais i fy siomi nad oedd unrhyw sôn am sir Benfro na Choleg Sir Benfro, dim ond un cyfeiriad at Goleg Sir Gâr, a dim sôn am wynt arnofiol ar y môr. Nid wyf i am ddarllen gormod i mewn i hynny ar hyn o bryd, yn dibynnu ar ateb y Gweinidog i'r cwestiwn hwn, gan ei fod e'n gwybod fy mod i wedi gwneud llawer i hybu fy etholaeth i a gwynt arnofiol ar y môr hefyd, ond ar gyfer bod â'r manteision i'r cymunedau hyn yr wyf i'n eu cynrychioli mae angen y gadwyn gyflenwi gyfan yn ei lle. Felly, o ystyried nad oes unrhyw sôn am y rhain sydd yno, pa warantau y gallwch chi eu rhoi i fy etholwyr i fod eich strategaeth sgiliau sero net, wrth anelu at gyrraedd sero net erbyn 2050, yn sicrhau y bydd y cadwyni cyflenwi hynny mor lleol â phosibl? Diolch, Dirprwy Lywydd.

Mae honno'n amcan allweddol i'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r cyfleoedd y mae'r Aelod yn eu tanlinellu. Rwyf i wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon nad wyf i'n dymuno gweld dim ond datgarboneiddio'r ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu yn unig; rwy'n dymuno gweld y cyfleoedd economaidd mor lleol â phosibl. Nid wyf i'n dymuno gweld y cyfleoedd hynny yn cael eu cymryd yn Ffrainc ac yn Sbaen wrth weithgynhyrchu'r offer a gyda'r sgiliau y bydd eu hangen mewn swyddi hirdymor iawn. Fe hoffwn i weld y buddsoddiad hwnnw'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Boed hynny yn y de-orllewin neu ar draws y gogledd, mae cyfle gwirioneddol gennym ni i gynhyrchu symiau sylweddol o bŵer a swyddi gyda dyfodol hirdymor iddyn nhw. Fel hyn y mae hi bob amser, pan fyddwch chi'n nodi enghreifftiau o'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru fel enghreifftiau o'r hyn sy'n digwydd, ac fe fydd rhai yn dweud, 'Nid yw fy rhan i o Gymru wedi cael ei chrybwyll yn ddigon aml.' Fe wn i, rhwng Sam a Samuel, eich bod chi'n siarad yn rheolaidd am y rhannau o Gymru yr ydych chi'n eu cynrychioli ar hyn o bryd, ac fe allaf i roi'r sicrwydd hwn i chi: wrth gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn y cynllun hwn, wrth nodi'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un o'r sectorau allyriadau, fe allai ac fe ddylai hynny fod o fudd gwirioneddol i bob etholwr unigol ym mhob rhanbarth o Gymru, a dyna ran o'r hyn a welwn ni'n ddyfodol gwirioneddol i ni wrth greu Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus.

15:45
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Felly, symudwn ymlaen i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad, Eluned Morgan.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ynghylch y mesurau eithriadol yr wyf i wedi eu cymryd i sefydlogi a chefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rwyf eisiau egluro'r penderfyniadau rydw i wedi'u gwneud, pa gefnogaeth rwy'n ei rhoi ar waith a'r hyn yr wyf i'n disgwyl bydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Nid penderfyniadau a gymerais yn ysgafn oedd y rhain. Yn gyntaf, rwyf am sicrhau'r bobl sy'n byw yn y gogledd y byddan nhw'n gallu defnyddio eu gwasanaethau iechyd lleol fel arfer. Bob dydd, mae miloedd o bobl ar draws y gogledd yn cael gwasanaeth ardderchog gan y GIG, ond mae diffyg cysondeb o ran ansawdd, diogelwch ac effeithlonrwydd, ac fe fydd cywiro hyn wrth wraidd y newidiadau fydd angen eu gwneud. Gwn fod gennym ni filoedd o weithwyr ymroddedig y bwrdd iechyd a allai fod yn bryderus ynghylch y datblygiadau hyn hefyd, ond hoffwn eu sicrhau nhw y bydd eu gwasanaethau a'u gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau ac na fydd statws 'mesurau arbennig' yn effeithio ar unwaith arnyn nhw.

Yn 2020, gwnaethom y penderfyniad dadleuol i isgyfeirio Betsi allan o fesurau arbennig. Bydd llawer ohonoch yn dweud mai dyma'r penderfyniad anghywir i'w wneud, ac rydym wedi clywed rhai yn dweud eto heddiw ei fod yn benderfyniad gwleidyddol ac yn un a oedd yn rhy gynnar; nid felly y bu hi. Roedd sawl rheswm tu ôl i'n penderfyniad i isgyfeirio Betsi allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020. Fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb yn dda i heriau COVID, a chawsom nifer o adroddiadau oedd yn arwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd camau strategol cadarnhaol tuag at wella. Roeddem o'r farn y byddai penodi'r prif weithredwr newydd a'r cymorth ymyrraeth wedi'i dargedu a gafodd ei roi ar waith yn galluogi'r bwrdd i barhau i wneud y gwelliannau yr oeddem yn disgwyl eu gweld. Yn wir, roedd arweinyddiaeth y prif weithredwr newydd a datblygu model gweithredu newydd i gyd yn arwydd bod y sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen yn strategol.

Ond yn fwy diweddar, nid yw ymateb y bwrdd iechyd ar lawer o faterion wedi rhoi'r sicrwydd sydd ei angen, er gwaethaf yr adnoddau ariannol ychwanegol sylweddol sydd wedi eu darparu, ac mae ymweliadau dirybudd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ogystal â fy ymweliadau dirybudd fy hun, wedi dangos nad yw gwelliannau'n digwydd ar y cyflymder sydd ei angen. Mae gen i bryderon difrifol yn ymwneud â pherfformiad a llywodraethiant y bwrdd yn ogystal â phryderon ynghylch yr arweinyddiaeth a'r diwylliant yn y sefydliad. Roedd y disgrifiad o'r bwrdd yn 'gamweithredol' yn adroddiad diweddar Archwilio Cymru yn cynyddu'r pryderon hynny ymhellach. Mae angen i ni newid y diwylliant sefydliadol yn sylfaenol, ac fe gyhoeddais fy mhenderfyniad ddoe i roi'r bwrdd iechyd i mewn i fesurau arbennig. Wedi hynny rwyf wedi cymryd camau pellach i sicrhau sefydlogrwydd y bwrdd.

Daeth yn amlwg bod angen arweinyddiaeth a chyfeiriad newydd. Fel rhan o'r broses o'u rhoi mewn mesurau arbennig, rwyf wedi siarad â'r aelodau anweithredol ac o ganlyniad, mae'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, ac aelodau annibynnol wedi camu o'r neilltu. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn ac am y rhesymau iawn, a'n bod ni'n eu gwneud nhw gyda thosturi ac ar gyflymder. Rydw i wedi gwneud pedwar penodiad anweithredol uniongyrchol dros dro i'r bwrdd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, ac maen nhw'n ymuno ar unwaith. Bydd penodiadau pellach yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae gan y rhai a benodwyd brofiad helaeth ac eang, yn enwedig ym meysydd lle mae angen i'r bwrdd iechyd wella. Rwy'n falch o gyhoeddi y byddan nhw'n cael eu harwain gan Dyfed Edwards, cyn arweinydd Cyngor Gwynedd, a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd penodiadau uniongyrchol ychwanegol yn dilyn yn fuan. Byddan nhw'n ymgymryd â gofynion statudol cadeirydd y bwrdd ac aelodau annibynnol. Wrth wneud hynny, byddant yn adolygu'r trefniadau arweinyddiaeth weithredol a strwythurau a gwneud y penderfyniadau angenrheidiol ar gyfer gwelliannau, gan ystyried canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru. Bydd ymgyrch i recriwtio aelodau annibynnol newydd i'r bwrdd tu hwnt i'r cyfnod cychwynnol hwn o sefydlogi yn dechrau yn ddiweddarach eleni.

Rwyf hefyd o'r farn nad nawr yw'r amser i wneud newidiadau strwythurol. Mae'n bwysig canolbwyntio ar ansawdd a'r ddarpariaeth o wasanaethau, sydd angen gwelliant sylweddol a chyflym, ac felly nid oes gennyf unrhyw fwriad i dorri'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai, yn arbennig ar adeg pan ydym yn annog cydweithredu a chydweithio rhanbarthol, sydd ei angen i gefnogi canlyniadau clinigol gwell i gleifion. Byddai ad-drefnu'n amharu'n aruthrol ac yn tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio nawr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i bobl y gogledd.

Bydd trefniadau arbennig y mesurau yn cynnwys creu tîm ymyrraeth a chefnogi byrddau iechyd. Heddiw, gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch penodi pedwar cynghorwr bwrdd iechyd. Y rhain yw: Mick Giannasi, Alan Brace, Dr Graham Shortland, Susan Aitkenhead a—mae'n ddrwg gen i, roedd pum penodiad—David Jenkins.

Bydd y cynghorwyr yn cael eu contractio am chwe mis i ddechrau, gan ddechrau heddiw. Byddan nhw'n cefnogi'r bwrdd iechyd ar lywodraethiant y bwrdd ac ar faterion eraill sy'n gysylltiedig â mesurau arbennig. Bydd hyn yn cynnwys lefel o gefnogaeth bersonol i'r cadeirydd newydd a'r aelodau annibynnol ac i roi adborth lle bo'n briodol i'r bwrdd o drafodaethau ac arsylwadau. Yn ogystal, byddan nhw'n adrodd yn ffurfiol i mi fel Gweinidog mewn perthynas â'u hasesiad a'u barn am allu'r bwrdd i gyflawni a hefyd ynglŷn ag a oes angen unrhyw waith pellach i ddatblygu'r bwrdd i sicrhau bod ganddo drefniadau cyllid ac archwilio priodol. Byddwn ni hefyd yn penodi cymorth adnoddau dynol arbenigol i'r cadeirydd newydd a'r bwrdd i adolygu'r strwythur sefydliadol a'r portffolios a sicrhau ansawdd y systemau a'r prosesau sy'n sail iddynt, a darparu cefnogaeth i'r bwrdd yn ei chwe mis cyntaf.

Fel cynghorwyr annibynol, nid gwneud penderfyniadau gweithredol yw eu swyddogaeth ond dadansoddi ac asesu'r ffordd y mae'r bwrdd yn cyflawni ei benderfyniadau er mwyn cynorthwyo'r cadeirydd a'r bwrdd i gwrdd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn hefyd yn golygu darparu eu hasesiad nhw o faterion, camau gweithredu angenrheidiol a chynnydd. Un o brif amcanion y bwrdd newydd fydd recriwtio prif weithredwr parhaol newydd ar gyfer y bwrdd iechyd. Bydd angen i'r bwrdd newydd benodi rhywun â phrofiad o droi sefydliad iechyd o gwmpas a rhywun sydd â'r pendantrwydd, y weledigaeth a'r sgiliau i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cwrdd â'i botensial. Mae cynlluniau eisoes ar waith ynglŷn â'r apwyntiad allweddol hwn. Byddaf hefyd yn edrych i'r bwrdd i sicrhau bod y strwythurau a'r prosesau ar waith i yrru'r gwelliannau sydd eu hangen yn eu blaen.

Er y bydd mesurau arbennig yn berthnasol i'r sefydliad, hoffwn roi sicrwydd i'r cleifion a'u cymunedau a wasanaethir gan y bwrdd iechyd, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio ar ei gyfer, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau dydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer, gan ganolbwyntio'n gynyddol ar ansawdd a diogelwch. Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad ar staff gweithgar ac ymroddedig rheng-flaen y bwrdd iechyd, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu cleifion a gwella eu bywydau. Dwi am ddweud eto, fel dwi wedi sawl gwaith o'r blaen, diolch o galon i holl aelodau staff y bwrdd iechyd am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i helpu pobl. Dwi'n gobeithio y bydd y penderfyniad a wnaed ddoe yn mynd â ni ar y llwybr at fwrdd iechyd y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu, y mae ganddyn nhw hyder ynddo ac yn gallu bod yn falch ohono. 

15:50

Mae gen i lawer o Aelodau sydd eisiau cyfrannu'r prynhawn yma, yn ddealladwy ar ddatganiad mor bwysig. Os caf ofyn i bob Aelod gadw eu cyfraniadau i'w terfynau amser fel y gallaf mewn gwirionedd sicrhau bod pob un yn gallu siarad heddiw. Darren Millar.

Diolch. Dirprwy Lywydd. Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich datganiad, Gweinidog, a chlywais i ddim ymddiheuriad i bobl yn y gogledd am fethiant Llywodraeth Cymru hon i ddatrys problemau dwfn ein bwrdd iechyd yn y rhanbarth, sydd wedi bod yn parhau, nid dim ond ers 2015 pan roddodd Llywodraeth Cymru Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf, ond am gyfnod hir cyn hynny hefyd. Ni ddylai erioed fod wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig; rwy'n dal i gredu bod y penderfyniad hwnnw'n wleidyddol, does dim ots beth rydych chi wedi ei ddweud heddiw, ac ni ddylai erioed fod wedi digwydd. Fe wnaethom ni alw yn y Siambr hon fis Mehefin diwethaf am i'r sefydliad fynd yn ôl i fesurau arbennig, ac fe wrthodoch chi wrando ar ein galwadau. Nid galwadau'r meinciau hyn yn unig oedden nhw; galwadau pob un person oedd yn cynrychioli etholaeth yn y gogledd a phob un person yn cynrychioli'r rhanbarth hwnnw. Rydyn ni'n gwybod beth sy'n digwydd yn y bwrdd iechyd yna. Rydyn ni'n gweld y llythyrau sy'n dod i mewn oddi wrth etholwyr, ac rydyn ni'n gweld y llythyrau chwythu'r chwiban sy'n dod i mewn oddi wrth staff hefyd. Ac a dweud y gwir, mae eich ymateb hyd yma yn druenus o annigonol. Rwyf wedi darllen gyda diddordeb mawr, adroddiad Archwilio Cymru—adroddiad Archwilio Cymru a roddodd gychwyn i'r camau a gymeroch chi ddoe. Fe ddarllenaf rai dyfyniadau ohono. Mae'n dweud, 

'Canfuwyd holltau eglur a dwfn gennym o fewn y Tîm Gweithredol',

'mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a oes modd trwsio cysylltiadau gwaith',

a hynny o fewn y tîm gweithredol.

Mae

'problemau sylweddol o ran cysylltiadau gwaith o fewn y Tîm Gweithredol'.

'Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni yn awgrymu camweithrediad a charfannau o fewn y tîm'.

Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at y problemau hyn o fewn y tîm gweithredu, nid gydag aelodau annibynnol y bwrdd, a orfodwyd gennych i ymddiswyddo ddoe, yn hytrach na'r union bobl sy'n gyfrifol am y methiannau ar lawr gwlad—y tîm gweithredol hwnnw, nad yw dim un ohonyn nhw wedi dal eu hunain yn atebol a chynnig eu hymddiswyddiadau i chi. Mae hynny'n warthus i mi, ac rwy'n credu ei bod yn hen bryd i ni gael systemau yng Nghymru i gael gwared ar bobl fel yna nad ydyn nhw'n derbyn cyfrifoldeb am fethiannau pan fo pethau'n mynd o chwith. Mae gennym sefyllfa yn y gogledd lle mae cleifion wedi marw, lle mae cleifion wedi cael niwed, o ganlyniad i'r methiannau a ddigwyddodd, ac a dweud y gwir, mae pobl yn haeddu ymddiheuriad. Mae gennym broblemau yn ein gwasanaethau fasgwlaidd, ein hadrannau brys, ein gwasanaethau wroleg, ein gwasanaethau offthalmoleg, ein gwasanaethau iechyd meddwl, a'n gwasanaethau canser hefyd—pobl sy'n aros yn rhy hir am driniaeth, ac mae'r sefyllfa o dan wyliadwriaeth gwahanol Weinidogion iechyd yn y Llywodraeth hon wedi gwaethygu, nid gwella, yn ystod cyfnodau o ymyrraeth wedi'i thargedu.

'Mae angen arweinyddiaeth newydd'—ie, rydych chi'n hollol iawn bod angen arweinyddiaeth newydd. Mae angen arweinyddiaeth newydd arnom yn y bwrdd iechyd ar y tîm gweithredol, ac, a dweud y gwir, mae angen Llywodraeth newydd arnom, oherwydd nid yw'r Llywodraeth hon yn gallu datrys y problemau hyn. Dydw i ddim yn gwybod y rheswm dros hynny. A hyd yn oed pan fyddwch chi'n triongli'r dystiolaeth sydd yn adroddiad Archwilio Cymru â darnau eraill o dystiolaeth, gallwch weld bod y bai i gyd am y problemau a'r diwylliant yn y sefydliad hwnnw ar y tîm gweithredol hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pam ar y ddaear fyddech chi'n cael gwared ar yr aelodau annibynnol sydd wedi bod yn gwneud eu gorau i geisio dwyn i gyfrif y tîm gweithredol hwnnw yn ystod y misoedd diwethaf? Pam ar y ddaear y byddech chi'n gofyn iddyn nhw ymddiswyddo a pheidio gofyn am ymddiswyddiadau'r swyddogion gweithredol hynny sydd wedi bod yn gyfrifol ar y cyd am y methiannau hyn?

Gwn, o'r llythyr a gafodd ei anfon at y Prif Weinidog ddoe a'i rannu gydag Aelodau'r Senedd, fod cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ysgrifennu atoch sawl tro, fwyaf diweddar ym mis Medi'r llynedd, yn codi pryderon, uwchgyfeirio pryderon atoch chi, ac wrth gwrs at gyfarwyddwr cyffredinol yr adran, sydd hefyd yn brif weithredwr GIG Cymru, wrth gwrs. Ni chafodd ymateb hyd yn oed—ni chafodd ymateb hyd yn oed, ac mae hwn yn fwrdd iechyd sydd i fod o dan ymyrraeth wedi'i dargedu. Ac mae'n ymddangos nad ei lythyrau ef yn unig sy'n cael eu hanwybyddu gennych. Ysgrifennodd Geoff Ryall-Harvey o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru atoch ym mis Awst y llynedd, yn sôn am y sicrwydd yr oeddech yn seilio'ch ymatebion i'r sefydliad hwnnw. Dywedodd nad oedd y sicrwydd yn werth y papur y cawson nhw eu hysgrifennu arno. Ond fe wnaethoch amddiffyn y tîm gweithredol a oedd yn rhoi'r sicrwydd hynny i chi ar gyfer ei roi iddo; doeddech chi ddim yn cydnabod bod pryderon difrifol am ansawdd yr ymatebion hynny o gwbl. Mae'n annerbyniol, Gweinidog, ac mae'n rhaid gosod rhywfaint o'r bai am hyn wrth eich drws chi. Nawr, a gaf i ofyn—? Mae'r adroddiad, adroddiad Archwilio Cymru, yn cyfeirio at yr ymchwiliad i dwyll. Mae'n sôn am adroddiad Ernst & Young, a gomisiynwyd cyn i Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG ddod a chael golwg dros y llyfrau oherwydd y £122 miliwn o wariant coll hwn nad oedd unrhyw gofnodion priodol ar ei gyfer. Ac mae'n dweud bod y darn yna o waith wedi datgelu rhai problemau difrifol yn sefydliad y bwrdd iechyd. Yn wir, roedd y llythyr gan gadeirydd y bwrdd iechyd at y Prif Weinidog ddoe yn cyfeirio'n benodol at dystiolaeth o gamymddygiad difrifol. Hoffwn weld copi o'r adroddiad hwnnw. O safbwynt tryloywder, rwy'n credu bod pobl yn y gogledd yn haeddu gweld copi o'r adroddiad hwnnw hefyd.

16:00

Oherwydd bydd hwnnw'n drydydd adroddiad sy'n cyfeirio at broblemau yn y tîm gweithredol hwnnw. A gaf i ofyn un cwestiwn olaf—

—os caf, Dirprwy Lywydd? Mae gan lawer o'r swyddogion gweithredol hyn berthynas weithio agos â phobl, yn ddealladwy, yn eich adran o'r Llywodraeth, gan gynnwys, wrth gwrs, prif weithredwr GIG Cymru. Rydw i eisiau gwybod beth mae prif weithredwr GIG Cymru mewn gwirionedd yn ei wneud i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif. Oherwydd os hi yw prif weithredwr GIG Cymru, byddech chi'n disgwyl iddi ddwyn y bobl hyn i gyfrif am eu hymddygiad, sy'n annerbyniol. Rwyf eisiau'r bobl yma allan. Rwyf eisiau i'r bobl yma fynd. Mae pobl yn y gogledd eisiau eu gweld nhw'n mynd, ac rydyn ni'n eich dal chi'n atebol am beidio â chael gwared arnyn nhw ddoe.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf am roi gwers gyflym i chi ynghylch sut mae'r system yn gweithio, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall—[Torri ar draws.]—deall sut mae'r system yn gweithio. Felly, fi sy'n gyfrifol am y GIG, ond rwy'n dirprwyo'r cyfrifoldeb hwnnw i fyrddau annibynnol. Rwy'n gosod paramedrau iddyn nhw, rwy'n gosod nodau iddyn nhw, rwy'n gosod targedau iddyn nhw. Ond yna rwy'n penodi pobl i'r byrddau hynny i oruchwylio sefydliadau annibynnol, a'u gwaith nhw yw rhedeg y sefydliad. Eu gwaith nhw yw dwyn y weithrediaeth i gyfrif. Nid fy ngwaith i yw e. Dyna pam yr wyf i'n eu penodi nhw—[Torri ar draws.] Os nad oes ots gennych chi, mi wnaf i gario ymlaen. Pan fyddan nhw'n methu â gwneud y gwaith rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud, gan ddwyn y swyddogion gweithredol i gyfrif—oherwydd eu gwaith nhw yw gwneud hynny—yna mae'n rhaid i mi gamu i'r adwy, a dyna wnes i.

Mae'r swyddogion gweithredol yn dal yno. Mae'r swyddogion gweithredol yn dal yno, a'r holl bwynt yw—[Torri ar draws.]—yr holl bwynt yw ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwrando ar ac yn darllen yn ofalus adroddiad Archwilio Cymru, sy'n sôn am raniadau dwfn yn y tîm gweithredol, ond mae hefyd yn dweud bod yna rywfaint o gamweithrediad sy'n bryderus o fewn y bwrdd ac uwch arweinyddiaeth yn Betsi. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn deall mai'r cam a gymerais i ddoe yn syml oedd y cam cyntaf, y cam cyntaf mewn proses pryd rwy'n siŵr y bydd y cadeirydd newydd eisiau darllen yn fanwl iawn, adroddiad Archwilio Cymru, ac rwy'n siŵr ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithredu yn dilyn hynny. A gallaf eich sicrhau chi fy mod i wedi rhoi rhybudd clir i rai o'r swyddogion gweithredol hynny—[Torri ar draws.] Nid oes gen i'r pŵer i—[Torri ar draws.] Nid oes gen i'r pŵer i'w gwneud hi'n ofynnol i weithredwyr gamu i lawr. Nid wyf i'n cyflogi'r bobl hyn.

Nid wyf i'n cyflogi'r bobl hyn. Mae gan y rhain hawliau cyfreithiol sydd angen eu parchu, ac mae'n rhaid bod â phroses i'w dilyn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall y system ac yn deall mai dyma'r cam cyntaf o lawer.

Nawr, rwy'n credu bod angen cryfhau'r pwerau hynny sydd gen i mewn gwirionedd. Dyna un o'r casgliadau sy'n glir i mi—nad oes gen i'r offer sydd eu hangen arnaf i ddwyn rhai o'r sefydliadau hyn i gyfrif. Ac felly rwyf wedi gofyn i swyddogion sefydlu grŵp i edrych ar sut y gallwn wella atebolrwydd o fewn y GIG, a byddaf yn dewis pobl fy hun o ran pwy fydd yn fy nghynghori ar sut i dynhau atebolrwydd o fewn y GIG. Rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa lle mae'n bwysig wrth gwrs bod pobl yn deall lle mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd, ond o ran y cyrff annibynnol, rwy'n eu penodi nhw i wneud swydd. Yr hyn rydw i wedi'i wneud yw camu i'r adwy pan nad ydw i'n credu eu bod wedi gwneud y gwaith yr oeddwn i angen iddyn nhw ei wneud, a oedd yn rhannol er mwyn dwyn y weithrediaeth i gyfrif, i gymryd y cam nesaf, yr oedden nhw wedi'i nodi, a ddigwyddodd hynny ddim.

Felly, a gaf i ymateb i fater Ernst & Young hefyd? Gadewch i ni siarad am hwnnw. Felly, mae problem wedi bod o ran twyll, sy'n bryderus iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu mae'n debyg nad yw'r arian yma wedi mynd ar goll; mae hyn yn ymwneud â chyfrifo gwael, sydd hefyd yn annerbyniol. Mae'n ymchwiliad sy'n parhau, felly nid yw'n bosib cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, ond yr hyn rwy'n ei wybod yw bod tri aelod o'r tîm cyllid eisoes wedi eu hatal o'r gwaith mewn cysylltiad â'r sefyllfa honno. Ond mae'n ymchwiliad sy'n parhau. Unwaith eto, mae hwn yn rhywbeth fydd yn rhaid bod ar frig y rhestr ar gyfer yr aelodau newydd hynny o'r bwrdd iechyd sy'n dod i mewn.

16:05

Rydw i'n mynd i ddechrau gyda'r hyn yr ydw i'n cytuno â'r Gweinidog yn ei gylch—sef gosod Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Ond mae'n eithaf clir, onid yw, na ddylai fod wedi cael ei dynnu allan yn y lle cyntaf, yn gyfleus ac yn rhy gynnar. Ond roedd y Gweinidog eisiau neilltuo bai hefyd. Mae hi'n dweud mai adroddiad diweddar Archwilio Cymru oedd y pennog gyda phwn a dorrodd asgwrn cefn y ceffyl; soniodd am gamweithrediad y bwrdd. Cyfeiriodd mewn cyfweliad ar Radio Wales fore heddiw at y feirniadaeth aruthrol o aelodau'r bwrdd gweithredol, ond wrth gwrs penderfynodd mai'r aelodau annibynnol oedd i'w gadael yn y twll yn gyhoeddus iawn ddoe. Mae hi wedi amddiffyn ei gweithredoedd, gan ddweud, 'Does gen i ddim y pwerau i ymyrryd yn uniongyrchol o ran y weithrediaeth.' Mae hi wedi dweud hynny eto'r prynhawn 'ma. Ond dyna'n union mae mesurau arbennig yn caniatáu i'r Gweinidog ei wneud, rhedeg y bwrdd iechyd yn effeithiol, hyd yn oed cefnogi'r cadeirydd ac aelodau annibynnol os dyna oedd hi eisiau.

Nawr, mae gennym ddisgrifiad â chôt o siwgr, onid oes, o'r hyn a ddigwyddodd ddoe yn natganiad y Gweinidog—'wedi siarad â'r aelodau anweithredol. O ganlyniad, maen nhw wedi penderfynu camu o'r neilltu.' Gadewch i ni fod ychydig yn fwy uniongyrchol, i unrhyw un arall a allai fod yn ystyried penodiad gan y Llywodraeth hon ac yn ystyried pa fath o gefnogaeth y gallant ei disgwyl. Efallai y bydd y Gweinidog eisiau cadarnhau, ar ôl eu galw i'r cyfarfod, dywedodd wrthyn nhw fod ganddyn nhw 50 munud i ymddiswyddo neu y byddai hi yn eu diswyddo, ac wrth wneud hynny eu hatal rhag penodiadau cyhoeddus eraill am ddwy flynedd, a chyn i'r 50 munud ddod i ben, bod llythyr terfyniad drafft wedi'i roi iddyn nhw, dim ond i gadarnhau'n derfynol beth oedd y sefyllfa. Sut allen nhw beidio ag ymddiswyddo? Ond fe fydd eu hymateb urddasol wedi taro deuddeg ymhlith nifer. Mewn llythyr cyhoeddus damniol at y Prif Weinidog, medden nhw,

'Does gennym ni ddim hyder yng ngafael Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa.'

Nawr, cafodd hynny ei roi i'r Gweinidog y bore 'ma, a gadewch i mi ddweud wrthych beth ddywedodd hi:

'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau'.

Dyma'r Gweinidog iechyd.

'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau, nhw oedd wrth y llyw,

meddai. Y Gweinidog yn y pen draw sy'n gyfrifol ac yn atebol. Mewn gwirionedd, cytunodd â hynny, ond dywedodd ei bod yn dirprwyo i eraill. A gyda llaw, nid yw hyn yn amddiffyniad diamod i'r aelodau annibynnol; mae'n dangos y gwahaniaeth amlwg rhwng y bai a neilltuwyd iddyn nhw a'r gwadu unrhyw gyfrifoldeb yn llwyr ar ran y Gweinidog.

Gadewch i ni ddychwelyd at y cyfarfod hwnnw ddoe. Credaf i'r Gweinidog ddweud wrth yr aelodau annibynnol mai eu rôl nhw oedd rhoi pwysau ar y swyddogion gweithredol. Ond onid oedden nhw'n gwneud hynny ynghylch fasgwlar, wroleg, Ysbyty Glan Clwyd, a chanfuwyd bod eu barn yn iawn dro ar ôl tro?

Gadewch i mi ddarllen mwy o'u datganiad ar ôl eu hymddiswyddiad. Maen nhw'n dweud eu bod wedi

'dod o hyd i fethiannau difrifol yn rheolaeth ariannol y Bwrdd Iechyd. Fe wnaethom ni gomisiynu adolygiad arbenigol...a gadarnhaodd ein pryderon, daeth o hyd i dystiolaeth o gamymddygiad difrifol, ac arweiniodd at ymchwiliad gwrth-dwyll. Mae hyn ar y gweill, ond mae ganddo oblygiadau difrifol i sefydliadau eraill y GIG a'r Llywodraeth.'

Byddwch chi, Gweinidog, yn ymwybodol, heb os, o'r cwestiynau y mae rhai yn eu gofyn am gysylltiadau posibl rhwng hynny a'r camau a gymerwyd ddoe. Af ymlaen. 'Rydym hefyd wedi uwchgyfeirio pryderon o'r blaen a thro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru fel y gwelwyd trwy ohebiaeth i'r cyfarwyddwr cyffredinol ddechrau mis Medi, a amlygodd lawer o'r materion a gofnodwyd yn adroddiad effeithiolrwydd bwrdd Archwilio Cymru, sy'n cael ein cefnogaeth lawn, ac eto ni chawsom ymateb, heb sôn am gefnogaeth mewn ymateb i'r uwchgyfeiriadau hynny.'

Mae hynny'n rhyfedd iawn, onid yw e, heb dderbyn ymateb ar faterion mor ddifrifol. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny. Byddech chi wedi meddwl y byddai'r Gweinidog eisiau gweithio gyda nhw a gwrando ar unrhyw un sy'n codi pryderon o'r math yna. Dywedais wrthych fod y Gweinidog wedi dweud bod ei gweithredoedd ddoe yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad archwilio. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau awgrymiadau bod chwilio ar droed am aelodau newydd o'r bwrdd annibynnol gymaint â phum wythnos yn ôl, cyn yr adroddiad archwilio. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi ei chael hi'n ofidus iawn yn wir mai'r neges gyntaf ges i'r bore 'ma, trwy rywun sy'n agos at yr adroddiad archwilio hwnnw, oedd hyn: 'Mae'r Gweinidog wedi cael gwared ar y bobl anghywir.' Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu y gallen nhw fod ar y trywydd iawn ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl eraill yn dod i'r casgliad hwnnw hefyd, yn union fel y mae llawer eisoes, fel yr wyf i, fod Betsi, yn ei ffurf bresennol, y tu hwnt i'w hadfer.

Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at broblemau diwylliannol o fewn Betsi, ond rwy'n dweud wrthych chi fod y camweithrediad diwylliannol hwn yn greiddiol yn Betsi. Mae'n flynyddoedd ers i mi ddweud, os nad oes modd troi pethau o gwmpas, dylai'r Llywodraeth edrych ar chwalu Betsi yn rhannau llai, mwy hylaw. Wel, fe redodd y tywod allan yn yr amserydd arbennig hwnnw flynyddoedd yn ôl. Mae wedi bod yn glir i fi, a llawer o staff a chleifion, ers tro bod yn rhaid i Betsi fynd. Mae Llywodraethau olynol Cymru, Gweinidogion Iechyd, wedi potsian, ond dydyn nhw ddim wedi cymryd y camau pendant hynny gan ddweud, fel y dywed y Gweinidog eto heddiw, y byddai hyn yn

'tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio nawr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posib'

Ond rydyn ni'n troi mewn cylchoedd, gan wario mwy o arian ar ymdrechion aflwyddiannus i gael pethau'n iawn nag y bydden ni ar ad-drefnu. Mae hi'n dweud wrthym y byddai ei chwalu'n anghywir pan ydyn ni'n ceisio annog cydweithio rhanbarthol. Ni all Betsi hyd yn oed gydweithio â hi ei hun. 

16:10

Gadewch i ni gael dechrau newydd.

Ac yn olaf, ynghylch rôl y Gweinidog ei hun, awgrymais ddoe y dylai fod yn ystyried ei lle hi ei hun a'i rôl hi ei hun yn hyn i gyd. Dywedodd y bore yma, bydd hi'n parhau'n Weinidog iechyd cyn belled â bod gan y Prif Weinidog ffydd ynddi. Wel, gallaf ddweud wrthych chi fod ffydd yng ngallu'r Llywodraeth hon a'r Gweinidog i roi trefn ar Betsi wedi hen fynd.

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall mai cam cyntaf yw hwn a bydd mwy o gamau yn dilyn hyn, felly ailadroddaf rai o'r pwyntiau a wnes yn gynharach i Darren. Ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod gen i'r pŵer i ddiswyddo'r bwrdd; nid oes gen i'r pŵer i ddiswyddo swyddogion gweithredol. Mae ganddyn nhw hawliau; mae ganddyn nhw hawliau cyflogaeth. Nid fi sy'n eu cyflogi; ni allaf eu diswyddo. Dyna realiti'r sefyllfa. Felly, dydw i ddim yn siŵr beth yn union rydych chi eisiau i mi ei wneud. Ydych chi eisiau i mi gyflogi pob un o'r 105,000 o bobl sy'n gweithio yn uniongyrchol—[Torri ar draws.] Na, does gen i ddim y pwerau, hyd yn oed o dan fesurau arbennig, i ddiswyddo pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol i'r byrddau iechyd. [Torri ar draws.] Na, does gen i ddim, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall nad oes gen i'r pwerau hynny, a dyna pam mai un o'r rhesymau—[Torri ar draws.] Un o'r rhesymau pam yr wyf i eisiau edrych ar y systemau atebolrwydd yw oherwydd nad oes gen i'r ysgogiadau rwy'n credu sydd eu hangen i mi wneud y math o ymyriadau sy'n angenrheidiol yn fy marn i. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn edrych arno ac yn barod rwyf wedi cysylltu ag ychydig o bobl i fy helpu yn y dasg honno.

Nawr, dim ond o ran y llythyr hwn at y cadeirydd—. Felly, anfonodd cadeirydd Betsi e-bost ymlaen ar 1 Medi, sef e-bost oddi wrth y cadeirydd ei hun at y prif weithredwr ar y pryd, Jo Whitehead, a nodwyd arno 'er gwybodaeth'. Nawr, dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond dydw i ddim yn ateb yr holl negeseuon e-bost yr wyf yn eu cael 'er gwybodaeth'. Ac fe drefnodd y cyfarwyddwr cyffredinol, o ganlyniad i hynny, gyfarfod—er gwaethaf y ffaith ei fod yn dweud 'er gwybodaeth'—trefnu i gwrdd â'r cadeirydd ar ôl dychwelyd o absenoldeb ar 21 Medi. Ni dderbyniodd y cyfarwyddwr cyffredinol unrhyw ohebiaeth ffurfiol oddi wrth y bwrdd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall hynny. Ac ateb Plaid i bopeth yw ad-drefnu, strwythurau newydd, mwy o reolwyr—dyna sydd ei angen arnom: mwy o reolwyr. Rwyf i eisiau mwy o bobl rheng flaen. Ceisio cael gwared—. [Torri ar draws.] Byddwch yn cael mwy o reolwyr os byddwch chi'n ailstrwythuro, gallaf ddweud wrthych chi. Dyna ganlyniad ailstrwythuro. Felly, rwyf eisiau canolbwyntio ar y rheng flaen. Rwyf am ganolbwyntio ar fynd trwy'r rhestrau aros hynny. Rydw i eisiau cael yr amseroedd cyfeirio canser hynny i lawr. Rwyf am sicrhau y gall pobl yn y gogledd gael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw, a dydw i ddim yn credu bod ad-drefnu sy'n tynnu sylw yn aruthrol yn mynd i helpu yn y dasg honno.

16:15

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw a dechrau drwy gydnabod ymdrechion yr aelodau o'r bwrdd sydd wedi ymadael, waeth beth yw'r sefyllfa sy'n wynebu BIPBC, oherwydd ymhlith yr aelodau hynny mae rhai o'r unigolion mwyaf uchel eu parch a chymwys yn y gogledd?

Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud heddiw yn dweud bod newid pellach i ddod. Rydym wedi clywed eich bod am newid diwylliant sefydliadol yn sylfaenol, y bydd aelodau newydd y bwrdd a benodwyd yn uniongyrchol yn adolygu trefniadau arweinyddiaeth weithredol, ac mai gweithred ddoe oedd y cam cyntaf yn yr hyn a fydd yn gyfres o newidiadau sylweddol. Ac felly rwy'n casglu y byddwn yn gweld newid enfawr o bosib o fewn y tîm gweithredol, o bosib ymhellach i reolwyr canol. 

Gweinidog, rydych chi hefyd wedi bod yn glir iawn ar eich safbwynt ynghylch newid strwythurol, ond er mwyn gwireddu newid diwylliannol o fewn y sefydliad, a fyddwch chi'n ymrwymo i ymdrech helaeth a dilys i ymgysylltu â dinasyddion y gogledd i ganfod beth mae pobl y rhanbarth ei eisiau o unrhyw drefniadau yn y dyfodol? A fyddwch chi hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o ganiatáu i bobl yn y gogledd ethol aelodau'r bwrdd yn uniongyrchol, er mwyn gwneud aelodau annibynnol yn gwbl atebol i ddinasyddion y rhanbarth? 

Ac yn olaf, a fyddai'n bosibl, nid o reidrwydd heddiw, i'r Llywodraeth nodi'r amgylchiadau a fyddai'n sbarduno newid strwythurol? Rwy'n gofyn hyn oherwydd dylai bod yn glir y gallai methiant arwain at newid strwythurol ganolbwyntio meddyliau yn sicr. Diolch.

Diolch yn fawr, Ken. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod aelodau'r bwrdd blaenorol wedi ymdrechu'n fawr i geisio dwyn y tîm gweithredol i gyfrif. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yw'r cam nesaf, sef gweithredu ar y canfyddiadau. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod dealltwriaeth nawr bod angen cymryd y cam nesaf hwnnw. Felly, hoffwn gydnabod y cryn dalent sydd yna ymhlith yr aelodau hynny o'r bwrdd a wnaeth roi'r gorau i'w swydd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, â dinasyddion yn y gogledd. Mae angen i ni, yn gyntaf oll, roi hyder iddyn nhw y bydd y gwasanaethau hyn, mewn gwirionedd, y gwaith o ddydd i ddydd, yn parhau. Ac roedd hi'n ddiddorol iawn, ddoe yn Ysbyty Glan Clwyd, siarad â rhai o aelodau'r staff yno am beth sydd wedi digwydd a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud, ac roedden nhw'n dweud, wel, mewn gwirionedd, maen nhw'n bwrw ymlaen â'u swyddi. Dim ond peth strwythurol sefydliadol mawr yw hwn ar y brig. Y broblem yw, weithiau, bod angen ychydig mwy o bendantrwydd ar y brig o ran newid y diwylliant a fydd wedyn yn hidlo i lawr. Ac mae'n debyg bod y ffaith iddyn nhw weld y datgysylltiad hwnnw hefyd yn awgrymu bod problem yno hefyd.

Rwy'n credu bod gwneud yn siŵr nad ydym yn colli'r pwyslais ar y gwasanaethau rheng flaen hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod yn cydnabod, mewn gwirionedd, fod y gafael sydd gan y bwrdd, a'r swyddogion gweithredol yn fwy na neb arall, yn eithaf syfrdanol. Fe es i ar ymweliad dirybudd â chyfleuster yn y gogledd a chefais fy syfrdanu gan y diffyg gweithgaredd sy'n digwydd yno. Yr hyn oedd yn peri gofid oedd y ffaith nad oedd neb, mewn gwirionedd, yn monitro hynny. Mae hynny'n fethiant gweithredol. Mae'n fethiant gweithredol, a beth sy'n bwysig yw pam oedd hyn yn bod, nid yn unig bod methiant gweithredol, ond, mewn gwirionedd, pam na ddaeth y bwrdd yn ymwybodol nad oedd y math o weithgaredd a ddylai fod yn digwydd yn digwydd? Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.

O ran y staff, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd ein bod ni'n deall bod yna lawer o bobl sy'n gweithio i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; mae'n weithlu o tua 19,000 o bobl sy'n darparu gofal i tua 700,000 o bobl. Fe wnes i fideo ddoe, yn Gymraeg ac yn Saesneg, dim ond i geisio egluro'n uniongyrchol iddyn nhw yr hyn oedd yn digwydd o ran y bwrdd.

Rwy'n credu bod eich syniad o ethol aelodau'r bwrdd yn uniongyrchol—. Wel, edrychwch, mae gen i ddiddordeb mewn atebolrwydd, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n teimlo bod pob un peth sy'n digwydd mewn cysylltiad ag iechyd yn cwympo ar fy ysgwyddau i yn unig, a dydw i ddim yn siŵr os ydy honno'n system deg. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod angen system wahanol. Ac rydych chi'n hollol iawn: yn Lloegr, dydy hynny ddim yn digwydd. Felly, mae 500 o ysbytai yn Lloegr, a gallaf ddweud wrthych nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol yno'n cael unrhyw beth tebyg i'r math o graffu a gaf i yma ar yr 20 ysbyty sydd gennym ni yma. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dechrau deall, yn iawn, ble mae atebolrwydd. Rwy'n credu bod angen i'r sgwrs yna ddigwydd.

Os awn ni i lawr y llwybr o ethol yn uniongyrchol, rwy'n credu bod yna faterion y mae angen i ni eu hystyried yno oherwydd mae angen pobl sy'n deall llywodraethu ac atebolrwydd a beth bynnag, ac nid ydynt o reidrwydd y bobl sy'n gallu ennill etholiadau, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl rhywfaint am hynny. Ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn edrych eto ar yr atebolrwydd o fewn y system, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n barod i gymryd atebolrwydd, ond rwy'n credu bod y cyfan ar hyn o bryd yn disgyn ar fy nesg i dro ar ôl tro, ac, yn amlwg, o ran dwyn i gyfrif pobl pan wyf eisoes wedi dirprwyo cyfrifoldeb, rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd ddeall mai dyna'r system rydyn ni'n ei defnyddio.

16:20

Mae gen i ofn fy mod i hefyd yn ceisio deall beth sydd wedi digwydd mewn cysylltiad ag aelodau annibynnol y bwrdd. Rydyn ni i gyd wedi clywed pa mor bwysig yw hi i Betsi Cadwaladr fynd i fesurau arbennig, ac rydyn ni i gyd am ddiolch i'r staff hefyd. Ond mae'n hanfodol ein bod ni'n deall y broses, fel rydyn ni i gyd wedi clywed gan bobl—ac, yn fy achos i, gan gyn-aelod annibynnol uchel ei barch o'r bwrdd—o'r sefyllfa. Rydym wedi clywed bod gan y bwrdd rôl nid mewn rheolaeth weithredol, ond wrth gynnal goruchwyliaeth a chyflwyno strategaeth a pherfformiad, ac rydym wedi clywed yn union beth yr oedden nhw yn ei wneud, a'r hyn yr oedden nhw'n dechrau ei wneud. Felly, mae'n ymddangos i mi fod eu diswyddo o dan yr amgylchiadau hyn mewn gwirionedd, pan oedden nhw'n dechrau ar yr hyn sy'n teimlo fel taith bwysig iawn, yn ymddangos yn gwbl anghywir. Felly, hoffwn i chi ateb y cwestiynau penodol hyn. Beth wnaeth aelodau annibynnol y bwrdd a oedd mor anghywir? Sut wnaethon nhw ymadael? Ac rwy'n dilyn yr hyn a ddywedodd Rhun, achos mae gen i ofn mod i hefyd wedi clywed am y sefyllfa pan wnaethon nhw ymadael. A pha hyder sydd gennym ni na fydd y cylch nesaf o aelodau annibynnol yn teimlo eu bod yn cael eu tawelu, ar ôl gweld y ffordd y cafodd y grŵp olaf ei drin? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod gen i'r awdurdod cyfreithiol i ddiswyddo aelodau annibynnol o'r bwrdd. Felly, dyna'r peth cyntaf: mae gen i'r awdurdod hwnnw, a gallaf ei wneud ar unwaith, ac yn amlwg fe wnaethom ni wirio'n ofalus iawn cyn i ni fynd i lawr y llwybr hwnnw.

Roeddech chi'n sôn amdanyn nhw'n dechrau ar daith bwysig. Wel, wyddoch chi, maen nhw wedi bod mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ers amser maith, a chyn hynny mewn mesurau arbennig. Ni ddylai honno fod yn daith sy'n dechrau. Mae hon wedi bod yn daith sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers amser hir iawn. Nawr, fe aethon nhw dipyn o ffordd i lawr y llwybr, ond mewn gwirionedd y cam nesaf sydd heb ei gymryd. Mae'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt lle rydyn ni'n penodi prif weithredwr newydd—. Mae'n ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, dim ond siarad â phobl yn Llywodraeth Cymru am y gwahaniaethau o ran y ffordd y mae'r bwrdd yno'n ymateb, mae'r swyddogion gweithredol yno'n ymateb. Felly, mewn byrddau iechyd eraill, mae pobl eraill yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Yn Betsi, maen nhw'n aros, maen nhw'n gofyn am ganiatâd, maen nhw'n aros am gyngor. Mae angen iddyn nhw fwrw ymlaen â'r peth. Nhw sy'n gyfrifol. Maen nhw'n cael llawer o arian i wneud swydd, a dydyn nhw ddim wedi bod yn gwneud hynny. Felly, nid yw'r swyddogion gweithredol yn cymryd y math o gamau y dylen nhw.

Rwy'n credu mai'r cwestiwn yw, nid beth wnaeth aelodau'r bwrdd annibynnol, ond beth na wnaethon nhw, a beth na wnaethon nhw yw'r cam nesaf, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Roedd angen iddyn nhw gymryd y cam nesaf o ganolbwyntio go iawn ymlaen, 'Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynghylch y swyddogion gweithredol?' Rwy'n credu beth sy'n bwysig yw bod pobl yn deall bod rôl gan aelodau annibynnol i gymryd cyfrifoldeb, ond mae atebolrwydd yn allweddol o fewn y system. Fy rôl i yw nodi rhai nodau. Eleni, rwyf wedi gosod targedau gwrthrychol—targedau mesuradwy—ar gyfer cadeiryddion, oherwydd dyna fy—. Mae gen i gyn lleied o offer—rwy'n cael fy syfrdanu gan gyn lleied o offer sydd gen i, fel Gweinidog y Llywodraeth, i beri newid yn y system. Felly, yr hyn rwy'n dechrau ei wneud yw codi nerth a defnyddio'r offer sydd gen i ar gael i mi mewn ffordd fwy sylweddol. Ond, mewn gwirionedd, dyna pam rwy'n awyddus iawn i gael yr adolygiad hwn o atebolrwydd i wneud yn siŵr ei fod yn glir iawn i bawb lle mae'r atebolrwydd hwn.

16:25

A gaf i ofyn, Gweinidog, beth yw eich meini prawf ar gyfer cymryd y bwrdd iechyd yn ôl allan o fesurau arbennig? Gofynnaf y cwestiwn hwnnw yng nghyd-destun—. Fe ddywedoch chi yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, fod eich rhagflaenydd wedi mynd â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig ychydig cyn etholiad y Senedd yn 2020 oherwydd eu bod yn cymryd camau cadarnhaol tuag at wella. Wel, byddwn i'n awgrymu bod y bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig nes ei fod wedi dangos gwelliant. Os ydych chi'n cytuno â'r datganiad hwnnw, felly, a ydych chi'n anghytuno â'ch rhagflaenydd—ei fod yn anghywir i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig nôl yn 2020, cyn etholiadau'r Senedd?

Yn ail, Gweinidog, ysgrifennodd y cadeirydd a'r aelodau annibynnol at y Prif Weinidog, a dywedon nhw, 'Rydym hefyd wedi uwchgyfeirio pryderon i Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro.' Ni chawsant ymateb, heb sôn am gefnogaeth, wrth ateb yr uwchgyfeiriadau hynny. Wel, gofynnodd Darren Millar a Rhun ap Iorwerth y cwestiwn hwn i chi, ac rwy'n credu mai eich ymateb chi iddyn nhw oedd, 'Wel, mewn gwirionedd, ni chafodd ei anfon yn uniongyrchol ataf i na Llywodraeth Cymru'—yr oedd er gwybodaeth i chi neu fe gawsoch eich copïo i mewn. [Torri ar draws.] Ond, fy nghwestiwn i yw: beth ddywedoch chi, Gweinidog, os ydych chi'n cael eich copïo o e-bost, neu os ydych chi'n cael copi carbon o e-bost, dydych chi ddim bob amser yn ateb. Wel, dydw i ddim bob amser yn ateb, ond pe bawn i'n derbyn rhywbeth o bryder difrifol, byddwn i'n sicr yn ateb. Felly, hoffwn ddeall pam gafodd yr e-bost hwnnw ei anwybyddu?

Wel, yn gyntaf oll, rwy'n credu eich bod chi'n iawn: rwy'n credu bod angen meini prawf arnom ni ar gyfer gwybod pryd y byddwn ni wedi cyrraedd y pwynt ar gyfer tynnu pobl allan o fesurau arbennig. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hynny, fel bod gennym ni fesur mwy gwrthrychol ar gyfer sut y gallwn ni fesur gwelliant a sut rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi cyrraedd y lle mae angen i ni ei gyrraedd.

Rwyf wedi ceisio esbonio'r sefyllfa mewn cysylltiad â'r llythyr y gwnaethoch chi sôn amdano. Fe wnes i egluro, er gwaetha'r ffaith ei fod 'er gwybodaeth', fe gymerodd y cyfarwyddwr cyffredinol gamau dilynol a chael cyfarfod gyda'r cadeirydd o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod hynny'n cael ei ddeall. Diolch.

Mae nifer ohonom ni, a dwi'n siŵr eich bod chi yn ein plith ni, yn cofio dysgu dywediad yn yr ysgol gynradd a oedd yn ein hatgoffa ni, bob tro rydyn ni'n pwyntio bys at rywun, mae yna dri bys yn pwyntio yn ôl atom ni ein hunain. Dwi ddim yn meddwl bod hwnna wedi bod yn fwy gwir nag y mae e y prynhawn yma, oherwydd mae'r 24 awr diwethaf wedi dangos i ni eich bod chi, fel Gweinidog, a bod y Llywodraeth yma jest yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd pan fo'n dod i wasanaethau iechyd yn y gogledd. Mewn i fesurau arbennig; mas o fesurau arbennig; nôl mewn i fesurau arbennig; prif weithredwyr yn cael eu penodi; prif weithredwyr yn cael eu gorfodi, yn aml iawn, i symud ymlaen; cadeiryddion newydd yn cael eu penodi; cadeiryddion newydd yn cael eu gofyn i sefyll i lawr. Rydyn ni wedi bod fan hyn nifer fawr o weithiau a dyw pethau ddim yn gwella.

Nawr, pan benodwyd Mark Polin, mi oeddwn i yn hyderus, os oedd unrhyw un yn gallu troi'r bwrdd yma rownd, fe oedd yr un. Ond mae'r ffaith ei fod e a'i gyd-aelodau fe o'r bwrdd wedi methu â gwneud hynny yn amlygu i fi fod yna broblemau dyfnach, mwy systemig, ac mae hynny'n golygu bod angen gweithredu mwy radical a bod angen gweithredu mwy pellgyrhaeddol gennych chi, fel Gweinidog, a gan y Llywodraeth yma. Felly, a wnewch chi o leiaf jest comisiynu darn o waith i edrych ar opsiynau amgen o safbwynt dyfodol y bwrdd iechyd? Efallai y daw e yn ôl yn dweud mai'r hyn sydd gennym ni nawr yw'r gorau y gallwn ni ei gael. Iawn, digon teg, ond gofynnwch y cwestiwn a chychwynnwch y broses, oherwydd os na wnewch chi, mi fyddwn ni'n dal i fynd rownd a rownd, a'ch olynydd chi fydd fan hyn mewn cwpwl o fisoedd yn esbonio pam ydyn ni'n dal ble ŷn ni.

Diolch. Wel, ateb Plaid Cymru i gymaint o bethau yw ailstrwythuro a mwy o management—[Torri ar draws.] Dyna beth sy'n digwydd. O ran comisiynu gwaith, na, dwi ddim yn mynd i gomisiynu'r gwaith yna. Dwi'n meddwl bydd y bwrdd newydd yn dod i mewn, ac os ydyn nhw eisiau edrych arno fe, mae i fyny iddyn nhw, ond byddaf i ddim yn comisiynu'r gwaith. Diolch.

16:30

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw a hefyd am gyfarfod ag Aelodau o'r Senedd y gogledd ddoe? Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd yr amser hwnnw. Ond hoffwn i ategu'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, yn bennaf oll, oherwydd, fel y maen nhw eisoes wedi'i amlinellu, mae'n amlwg nad yw tîm gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflawni nodau Llywodraeth Cymru nac yn cyflawni ar nodau aelodau annibynnol y bwrdd. Maen nhw'n parhau i fethu pobl y gogledd, ac ni allwn ni barhau i weld hyn yn digwydd. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, ac fel sydd eisoes wedi cael ei amlygu, mae'n debyg ein bod ni wedi cael 10 mlynedd o'r methiannau cyson hyn nawr, y byddai wyth mlynedd ohonyn nhw wedi bod mewn mesurau arbennig pe byddai'r mesurau arbennig wedi parhau fel y dylen nhw fod wedi'u gwneud. Nid yw'n or-ddweud pan ydyn ni'n dweud bod hon yn sefyllfa byw neu farw. Mae bywydau pobl yn y fantol gyda gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Safon bywyd fy nhrigolion sy'n dioddef o ganlyniad i reolaeth wael y bwrdd iechyd yn y gogledd. Fy nhrigolion i sy'n fy mhoeni i fwyaf yn y sefyllfa hon.

Gweinidog, rydych chi wedi sôn nad oes gennych chi, yn ôl eich tyb chi, yr ysgogiadau y mae eu hangen arnoch chi i allu gwneud y newidiadau yr ydych chi eisiau'u gweld, felly byddai gennyf i ddiddordeb clywed pryd fyddwch chi'n meddwl efallai y byddwch chi'n cael yr ysgogiadau hynny sydd eu hangen arnoch chi yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog Iechyd i unioni'r sefyllfa wael hon. Yn ogystal â hyn, Gweinidog, mae'n amlwg bod gwleidyddion o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol eisiau gweithio gyda'r bwrdd iechyd i wella'r sefyllfa i'n trigolion ni yn y gogledd. Nid ydyn ni eisiau sefyll yma o wythnos i wythnos yn dweud pa mor wael yw pethau, rydyn ni eisiau sefyll yma a bod yn falch o'r gwasanaeth iechyd sydd gennym ni yn y gogledd. Rydyn ni daer eisiau gweld newid yn digwydd ar gyfer ein trigolion yn y gogledd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n credu y gallwn ni weithio'n agosach gyda'n gilydd i wasanaethu ein trigolion yn well, nid dim ond drwy graffu a herio yn y Siambr hon, yr ydyn ni'n parhau i'w wneud ac mae'n ymddangos ein bod ni'n parhau i gael ein hanwybyddu wrth i ni dynnu sylw at y materion yr ydyn ni'n eu gweld yn y gogledd? Pa strwythurau ydych chi'n credu y byddai modd eu rhoi ar waith i'n galluogi ni fel Aelodau etholedig lleol i gefnogi a chraffu ar waith y bwrdd i helpu i gael y newid yr ydym ni i gyd eisiau'i weld? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl ei bod hi'n glir bod angen tipyn o waith ar y tîm gweithredol yn Betsi, ac rwy'n gobeithio y bydd y cadeirydd a'r prif weithredwr nesaf yn deall pwysigrwydd hynny. Rydw i wedi sôn am yr ysgogiadau nad oes gennyf i, y ffaith na allaf i ddiswyddo pobl nad ydw i'n eu cyflogi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod gan y bobl hyn hawliau, mae angen i chi barchu'r hawliau hynny ac mae angen dilyn y drefn briodol. Ond dyma ddechrau proses, fel yr wyf i wedi'i ddweud dro ar ôl tro.

Roedd cryn bryderon yn ymwneud â Betsi o ran arweinyddiaeth, rheolaeth, effeithiolrwydd a llywodraethiant y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw, er gwaethaf yr holl faterion lle mae gennym ni bryderon, nad ydyn ni'n dilorni Betsi. Mae'n wir rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynghylch ceisio denu pobl newydd i weithio yn y bwrdd iechyd. Rwy'n credu bod pethau y gallwn ni eu gwneud. Rwy'n credu bod ysgol feddygol y gogledd yn gyfle gwirioneddol i Betsi. Rwy'n credu y gallen ni fod yn denu rhai pobl sylweddol newydd i'r gogledd yn sgil yr ysgol feddygol newydd honno. Mae gennym ni Academi ddeintyddol Gogledd Cymru. Erbyn hyn mae gennym ni wasanaeth iechyd meddwl '111 gwasgwch 2'. Mae'r pethau hyn i gyd yn bethau lle mae cynnydd wedi bod. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni'n anghofio, mewn gwirionedd, byth a beunydd, bod yna filoedd o bobl sydd wir yn cael budd o'r iechyd a'r gofal sy'n cael eu darparu bob dydd i bobl yn y gogledd.

Rydyn ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen, wrth gwrs, ond ddaeth y newidiadau mawr, angenrheidiol ddim i fodolaeth, ac yn wir fe wnaed penderfyniadau gwael iawn yn y cyfnod blaenorol o fesurau arbennig. Roedd y bwrdd mewn mesurau arbennig pan ddatgymalwyd yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn enw canoli, ac rydyn ni i gyd yn gwybod beth oedd canlyniad hynny. Felly'r cwestiwn gwaelodol ydy beth sydd yn mynd i fod yn wahanol y tro yma. Faint o amser ydych chi'n mynd i roi er mwyn i'r gwahaniaeth ddechrau amlygu ei hun? Dwi'n cymryd, a dwi'n mawr obeithio, eich bod chi fel Gweinidog wedi gosod allan eich amserlen ar gyfer gweld newid dros restr lawn o welliannau mesuradwy. Fedrwch chi gadarnhau hynny, a beth yn union ydy'r amserlen honno?

Dwi'n awgrymu eich bod chi hefyd angen bod yn barod i ddweud beth rydych chi'n mynd i wneud os na ddaw gwelliant o fewn cyfnod penodol o amser. Mae'n rhaid i chi gael plan B yn barod i fynd, oherwydd dwi'n poeni na fydd plan A—sef yr hyn sydd ar waith ers ddoe—ddim yn dwyn ffrwyth ac yn sicr ddim yn dwyn ffrwyth yn ddigon cyflym. Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cynllun ni o greu unedau llai, a dwi'n siŵr petasech chi'n dilyn cyngor Ken Skates ac yn gofyn i bobl y gogledd ddweud wrthych chi beth fydden nhw'n licio gweld yn digwydd, mai'r un peth fydden nhw'n ei ddweud hefyd. Ond rydych chi'n gwrthod hynny ar hyn o bryd, felly beth yn union ydy'ch plan B chi? 

Hoffwn i wybod hefyd beth arall sydd y tu ôl i'ch cyhoeddiad—

16:35

Mi wnaf ofyn un peth arall, felly. Mi wnaeth y Prif Weinidog sôn yn y sesiwn gwestiynau fod yna ddarnau eraill o wybodaeth wedi eich arwain chi at y cyhoeddiad yma ddoe. Beth ydy'r darnau hynny o wybodaeth? Ydy'r cyfan o'r wybodaeth tu ôl i benderfyniad ddoe allan yna yn y pau cyhoeddus, neu oes yna fwy i ddod?

Diolch yn fawr, Siân. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig deall bod y newidiadau hyn ddim yn mynd i ddigwydd dros nos. Bydd rhaid i ni fynd trwy broses. Bydd hi'n cymryd sbel i gael prif weithredwr newydd mewn lle, a dwi'n gobeithio bydd y penodiad yna yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dwi'n gwybod bod y cadeirydd newydd yn awyddus iawn i osod amserlen mewn lle o'r hyn mae e'n disgwyl ei gyflawni yn ystod ei gyfnod cyntaf e, ac felly gobeithio gallwn ni weld beth sydd gydag e mewn golwg yn fanna.

O ran y darnau o wybodaeth, wrth gwrs, beth ŷn ni yn gwybod yw bod Healthcare Inspectorate Wales wedi bod mewn sawl gwaith, ac ŷn ni wedi gweld eu hadroddiadau nhw. Rŷn ni'n ymwybodol bod y King's Fund wedi gwneud adroddiadau. Mae'r ripórt Ernst and Young yn amlwg yn rhywbeth sydd ddim wedi cael ei rannu eto, ond ŷn ni'n gwybod bydd hwnna yn creu problemau, ac ŷn ni'n gwybod bod tri suspension wedi digwydd eisoes. Rŷn ni hefyd yn gwybod bod yna archwiliad annibynnol yn digwydd, ac unwaith eto, dyw hwnna ddim wedi terfynu eto.

Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynychu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd fis Mawrth diwethaf, ysgrifennais i atyn nhw fel Cadeirydd am bryderon ynghylch rhai o'r ymatebion y gwnaethon nhw eu rhoi i ni gan geisio eglurder ar rai pwyntiau. Roedd ein llythyr yn cynnwys ein bod ni wedi ein siomi gan y diffyg perchnogaeth a chyfrifoldeb y cymerodd y gweithredwr dros y problemau yn y bwrdd, gan gyfeirio at adroddiadau amrywiol yn ystod y degawd blaenorol, gan gynnwys Holden, Ockenden, HASCAS ac adroddiadau Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn ôl y llythyr hwn:

'Rydyn ni hefyd yn poeni am bresenoldeb parhaus swyddogion gweithredol a rheolwyr y bwrdd iechyd a oedd yn gysylltiedig â chasgliadau'r adroddiadau hyn ac am eu gallu i gyflawni'r newid mewnol sydd ei angen.'

Yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, Gweinidog, gwnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi cytuno ei bod hi'n bryd i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol o'r bwrdd gamu o'r neilltu. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r safbwynt arall sydd wedi'i roi ar hyn gan aelodau annibynnol y bwrdd yn eu llythyr at y Prif Weinidog ddoe, y cafodd Aelodau'r gogledd gopi ohono? Maen nhw'n dweud:

'Rydyn ni'n ysgrifennu i fynegi ein pryderon diffuant o ran dyfodol gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn dilyn y cyfarfod y bore yma gyda'r Gweinidog pan nad oedd gennym ni unrhyw ddewis ond ymddiswyddo fel Aelodau Annibynnol ar unwaith.'

Dywedon nhw eu bod nhw'n pryderu'n ddifrifol am ymateb y Gweinidog i adroddiad Archwilio Cymru a bod canolbwyntio ar aelodau annibynnol yn hytrach na'r weithrediaeth weithredol a'u cyflawniad yn gwneud cleifion ledled Cymru a'r sefydliad yn agored i risg sylweddol wrth symud ymlaen.

Yn olaf, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi amlygu pryderon yn gyson ynghylch goruchwylio'r bwrdd iechyd gan Lywodraeth Cymru. Pam ydych chi a'ch Gweinidogion iechyd rhagflaenol wedi caniatáu i faterion gyrraedd y penllanw hwn, pan adroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryderon ynghylch ymarferoldeb y bwrdd yn ei adroddiadau ar y bwrdd a gafodd eu cyhoeddi yn 2013, yn 2016, yn 2019—

16:40

—ac mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru hefyd wedi bod yn codi'r pryderon hyn gyda chi drwy gydol yr amser?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod chi'n cydnabod bod problem o ran cyfrifoldeb ar ran y swyddogion gweithredol, ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth yr ydyn ni'n poeni'n fawr amdano. Mae hynny, rwy'n gobeithio, yn rhywbeth y bydd y cadeirydd newydd yn ymgymryd â hi o ran ei gyfrifoldeb. Byddaf i'n siarad ag ef i argymell ei fod yn darllen eich adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn deall eich pryderon fel pwyllgor hefyd. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hefyd bod adroddiad Archwilio Cymru wedi dweud mai'r hyn sydd ei angen yw ymateb unedig a chydlynus, a dull gweithredu cydlynus o fewn y bwrdd. Roedd hi'n amlwg i mi nad oedd hynny'n mynd i fod yn bosibl gyda'r bwrdd fel y mae wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, a dyna un o'r rhesymau pam wnaethon ni gymryd y camau y gwnaethon ni. Rwy'n credu bod y berthynas o ran ymddiriedaeth a gonestrwydd, atebolrwydd—. Dyna bethau lle roedd cymaint o wrthwynebiad. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd y cadeirydd yn deall bod angen gweithredu ar y cynigion o fewn adroddiad Archwilio Cymru, neu o leiaf ei ganfyddiadau. 

Mae'n amlwg i bawb bellach mai cam sinigaidd gwleidyddol oedd tynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig llai na tair blynedd yn ôl. Ac, yn yr amser hynny, mae rhai pethau wedi gwaethygu: fasgwlar, wroleg, adrannau brys, er enghraifft. Ond, mae gen i gyfres o gwestiynau yma y mae etholwyr Dwyfor Meirionnydd wedi gofyn i fi eu rhoi ger eich bron chi heddiw. 

Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, ac yn amlwg doedd o ddim wedi gweithio tro o'r blaen, felly beth mae'r Gweinidog yn meddwl bydd yn wahanol y tro yma? Mae'r Gweinidog wedi sôn am newid personél ac wedi sôn am rai o'r gwendidau sydd wedi bodoli, ond ydy'r Gweinidog yn fodlon cydnabod rôl yr aelodau annibynnol wrth dynnu sylw at rai o'r gwendidau hynny? Mae'r ffaith bod y Gweinidog wedi cael gwared ar yr aelodau annibynnol yn awgrymu ei bod hi'n credu mai dyma lle gorwedd y bai, ond y Gweinidog sy'n apwyntio'r aelodau annibynnol, felly a wnaiff y Gweinidog gymryd o leiaf rhywfaint o'r cyfrifoldeb am y trallodion yma? Hefyd, mae'r aelodau yma, y rhai annibynnol, yn cael eu penodi am dymhorau penodol a rhai ohonyn nhw'n gymharol newydd, ond mae'r problemau dwfn yn y bwrdd yn mynd yn ôl degawd. Felly, ydy'r Gweinidog yn fodlon derbyn bod yna fai y tu hwnt i'r aelodau annibynnol? Yn wir, yn y degawd yma, rydyn ni wedi gweld pum prif weithredwr a thri chadeirydd, felly mae'n amlwg y gorwedd y bai y tu hwnt i'r aelodau yma. Yn wir, yr un presenoldeb cyson drwy'r holl amser yma ydy Llywodraeth Lafur. Felly, onid ydy o'n bryd iddi hi a'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb?

Yn olaf, rydych chi'n gwrthod aildrefnu gan eich bod chi am ganoli arbenigedd. Gresyn bod yn rhaid i fi atgoffa'r Gweinidog bod y gwasanaethau fasgwlar wedi cael eu canoli yn ystod cyfnod mesurau arbennig, ac edrychwch ar y llanast yna. Rydych chi wedi sôn droeon y byddai hwn yn rhy ddrud. Ar gyfaddefiad y Gweinidog ei hun, fe gostiodd y mesurau arbennig diwethaf £84 miliwn i'r Llywodraeth. Onid ydy o felly yn gwneud synnwyr i edrych ar aildrefnu? Mi fyddai'r gost yma yn llai na'r hyn rydych chi'n gorfod ei wneud—

—ar hyn o bryd ac yn llai disruptive na'r hyn sydd yn mynd ymlaen. Pryd ydych chi'n mynd i dderbyn bod y bwrdd yn rhy fawr ac yn aneffeithiol ac angen ei aildrefnu? Diolch.

Diolch yn fawr. Dwi eisiau darllen neges dwi wedi ei gael oddi wrth un o'i etholwyr e. Ces i hwn ddoe: 'Newyddion ffantastig. Well done, Eluned. Nawr mae gyda ni obaith.' Mae hwnna oddi wrth un o'ch etholwyr chi hefyd. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i ni ddeall bod y cyfrifoldeb yn mynd y tu hwnt i'r aelodau annibynnol. Dwi'n derbyn hynny. Dwi wedi dweud dro ar ôl tro mai hwn yw'r cam cyntaf, mae'n rhaid inni fynd i'r cam nesaf nawr a gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gweithredu yn y bwrdd, sy'n cael eu hariannu gan y bwrdd yn uniongyrchol, yn deall bod newidiadau yn dod. Jest o ran aildrefnu, dwi wedi dweud yn glir bod dim diddordeb gen i mewn aildrefnu, mae'n well gen i weld yr £82 miliwn yna yn mynd ar y front line yn hytrach nag aildrefnu. Dyna sydd wedi digwydd. Byddwn i ddim eisiau cymryd oddi wrth hwnna.

16:45

Diolch am eich datganiad, y prynhawn yma, Gweinidog, ac, yn wir, am wahodd Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ddoe i gael eich briff.

Rwy'n mynd i fod yn glir gyda chi, Gweinidog, mewn gwirionedd. Mae pobl Dyffryn Clwyd wedi cael digon, ac nid yw'n ddoniol—gallaf i weld eich bod chi'n gwenu yno—oherwydd maen nhw wedi cael blynyddoedd o esgusodion, a methiant ar ôl methiant gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghaerdydd: cau 13 o welyau yn ysbyty Dinbych; adroddiad Tawel Fan; adroddiad y Gwasanaethau Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Donna Ockenden; methu adeiladu ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl wedi 10 mlynedd o dorri addewidion; a'r ugeiniau ac ugeiniau o ambiwlansys y tu allan i ysbyty Glan Clwyd. Digwyddodd y cyfan o dan y rownd olaf o fesurau arbennig, Gweinidog, yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw. Ac rydych chi'n dod yn ôl ata'i yn aml ac yn dweud, 'Wel, nid oeddwn i'n Weinidog Iechyd ar y pryd ac felly nid fy nghyfrifoldeb i yw hi, ond nid yw hynny'n tycio, mae gennyf i ofn, oherwydd rydych chi'n dod o dan gyfrifoldeb cyfunol yn y Llywodraeth ac mae gennych chi ddyletswydd i ddarparu darpariaeth gofal iechyd o safon ar draws y gogledd. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n gwneud pethau'n iawn y tro hwn, Gweinidog? A sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr yn bersonol bod y methiannau'n dod i ben nawr? Ac os na allwch chi wella Betsi Cadwaladr a chymryd atebolrwydd, a wnewch chi fyfyrio ar eich cymhwysedd i wneud eich gwaith ac ystyried gadael eich swydd, gan na all hyn fynd ymlaen rhagor? Mae pobl y gogledd wedi cael llond bol o fwrdd iechyd sy'n methu a Llywodraeth sy'n methu yma ym Mae Caerdydd. Diolch.

Diolch, Gareth. Roeddwn i'n cilwenu oherwydd roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n od iawn i chi ddweud, 'Rwy'n mynd i fod yn glir gyda chi,' fel petai neb arall cyn chi wedi bod yn glir gyda fi.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall rhai o'r disgwyliadau y byddwn ni'n eu rhoi ar waith o ran beth sy'n digwydd nesaf. Bydd cyngor arbenigol ar lywodraethiant ac effeithiolrwydd y bwrdd. Bydd mentora i'r bwrdd. Bydd cefnogaeth Adnoddau Dynol arbenigol i'r cadeirydd a'r tîm gweithredol. Bydd mwy o allu ac arbenigedd wrth gynllunio gwasanaethau clinigol i gyflawni'r diwygiad trawsnewidiol hwnnw yr ydyn ni eisiau'i weld, a bydd gwaith i gwblhau'r cynlluniau gwella. Felly, mae'r holl bethau hynny'n fesurau y byddwn ni'n eu rhoi ar waith i gefnogi'r bwrdd, ac yn amlwg mae gennym ni'r pum arbenigwr ychwanegol hynny a fydd yn helpu.

Diolch. Gweinidog, gallwch chi dwyllo rhai rywfaint o'r amser, ond allwch chi ddim twyllo pawb drwy'r amser, ac nid ydyn ni'n ffyliaid; rydyn ni'n Aelodau etholedig yn cynrychioli ein hetholwyr, ac nid ffyliaid ydyn nhw chwaith.

Nawr, mae'r adroddiad archwilio yn codi'r ffaith bod pedwar prif weithredwr wedi bod mewn llai na phedair blynedd. Gwnaethoch chi sôn am eich rhesymau dros dynnu'r bwrdd o fesurau arbennig, bod

'y bwrdd iechyd ymateb yn dda i heriau COVID, a chawsom nifer o adroddiadau oedd yn arwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd camau ...cadarnhaol'. 

Yn sicr, nid ydw i wedi gweld unrhyw un o'r adroddiadau hyn. Yr hyn y gallaf i ei gofio, serch hynny, yw, yn ystod y cyfnod hwn, yn dod allan o'r pandemig, ond doedden ni'n dal ddim allan—. On'd ydych chi'n cytuno â mi y byddai wedi bod yn ddoethach i fod wedi gweld mwy o ganlyniadau wedi gwella'n fesuradwy, oherwydd mae Cofnod y Trafodion yn gwbl glir, yn ystod y cyfnod hwn, bod llawer ohonon ni'n codi pryderon yn rheolaidd am yr holl adroddiadau hyn, yr adroddiadau damniol hyn? Pam, Gweinidog, y cymerodd hi adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol i wneud newidiadau i'r bwrdd pan ydyn ni wedi bod yn ymwybodol ers cyn 2015 bod arweinyddiaeth a llywodraethiant yn y bwrdd hwn wedi methu? Pam nad oedd y ffaith bod £122 miliwn heb gael ei gyfrif amdano yn ddigon i sbarduno mesurau arbennig? A pham nad oedd y ffaith bod diogelwch adeiladau, lle roedd triniaethau meddygol yn cael ei chynnal mewn ysbytai nad oedden nhw'n addas i'w pwrpas, wedi gwaethygu ers 2019 yn ddigon i sbarduno mesurau arbennig? Pobl sy'n gyfrifol am hyn, a'r aelodau gweithredol yw'r rheiny. Mae fy etholwyr i'n credu, fel yr wyf i, mai chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am y methiannau niferus yn y bwrdd iechyd hwn, ac y dylech chi gymryd camau mwy beiddgar na defnyddio'r aelodau annibynnol fel bwch dihangol. Y methiannau y mae fy nghyd-Aelodau—

Mae'r methiannau mae fy nghyd-Aelodau wedi'u codi wedi bod yn gysylltiedig i raddau helaeth â methiannau gweithredol. Nawr, rydych chi wedi dweud wrthyn ni yma heddiw nad oes gennych chi'r pwerau hynny. Wel, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, ac nid wyf i'n poeni beth mae'n ei gymryd, ond yn sicr mae angen i chi fod â'r pwerau hynny i sicrhau y gallwch chi wir ddod yn llai ar wahân oddi wrth fwrdd iechyd sy'n methu yn ei allu i ddarparu gofal iechyd diogel a phriodol i lawer o etholwyr. Mae cyd-Aelodau wedi sôn am sut mae pobl wedi marw o ganlyniad i'r methiannau hyn gan y bwrdd gweithredol. Fy mhwynt olaf: pe bawn i'n Weinidog iechyd, credwch chi fi, ni fyddai un aelod gweithredol yn dal yn ei swydd. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr, Janet. Ac rydych chi'n iawn. Edrychwch, nid yw'n sefyllfa dderbyniol lle mae gennych chi bedwar prif swyddog gweithredol dros bedair blynedd. Mae angen rhywfaint o barhad yn y swydd hon, a dyna pam—

Gyda phob parch, a allwch chi alw pwynt o drefn ar gyn-Weinidog iechyd a fethodd yn ystod ei—[Anghylwadwy.]

Fydd dim pwynt o drefn. Roeddwn i ar fin gofyn am dawelwch fel bod modd clywed y Gweinidog, a dyna dwi'n gofyn amdano: tawelwch fel bod modd clywed y Gweinidog.

Diolch. Fe gymerais i fy nghyngor o ran mesurau arbennig hefyd gan Archwilio Cymru ac AGIC. Felly, mae yna system driphlyg sy'n rhoi cyngor i mi o ran pryd mae angen i mi gamu i'r adwy. Felly, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddweud, 'Mae angen i chi gamu i'r adwy.' Felly, mae hynny'n eithaf pwysig hefyd.

Felly, o ran eich bod chi'n sôn am adeiladau a'r sefyllfa'n gwaethygu. Wel, gallaf ddweud wrthych chi fod y gronfa gyfalaf wedi cael ei thorri gan eich Llywodraeth chi. Gan eich Llywodraeth chi. Byddwn i wrth fy modd yn gwario llawer mwy ar gyfalaf o fewn y GIG, a'ch Llywodraeth chi sydd wedi torri'r cyllid hwnnw.

Gadewch i mi ddweud wrthych chi hefyd, ac rwy'n mynd i'w ddweud yn araf eto: nid oes gen i'r pŵer i ddiswyddo aelodau o'r pwyllgor gwaith. Nid oes gen i'r pwerau hynny. Nawr, os ydych chi am i mi—wyddoch chi, yr hyn rydych chi'n ei awgrymu yw, 'Iawn, mynnwch y pwerau hynny'. Ydych chi wir eisiau i mi, yn uniongyrchol, gyflogi 19,000 o bobl yn Betsi yn unig? Ar wahân i'r 105,000—[Torri ar draws.] Na, na, dyna realiti'r ffordd—. Nid wyf i'n cyflogi'r bobl hynny.

Nid wyf yn cyflogi'r bobl hynny'n uniongyrchol. Mae gan y bobl hynny hawliau. Fe fydd yna broses, ac mae angen iddyn nhw ddeall y bydd y broses honno, rwy'n siŵr, yn cael ei dilyn.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau

Eitem 7 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—Cymru: cymuned o gymunedau. A galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd. Gaf i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus cynnar i bawb?

Am nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar y llwyfan rhyngwladol trwy fynd â Chymru i'r byd a thynnu sylw at bopeth sy'n wych am ein gwlad. Eleni, rydyn ni'n parhau â'r traddodiad hwnnw, ac yn ogystal â dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhyngwladol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd dathlu a nodi'r diwrnod hwn yng Nghymru hefyd. Yn sgil cyfarfod diweddar gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i drafod 'Cymraeg 2050', rwy'n dod â'r datganiad hwn i'r Senedd heddiw, datganiad yn tynnu sylw at rai o'n strategaethau trawslywodraethol a'n cynlluniau gweithredu ym maes cyfiawnder cymdeithasol a Chymraeg.

Heddiw, rydyn ni hefyd yn dathlu amrywiaeth cymunedau sy'n gwneud Cymru'r wlad ydy hi heddiw. Yn ystod fy natganiad, rwy'n bwriadu amlinellu'r camau rydyn ni eisoes wedi eu cymryd, a'r rhai y byddwn ni'n eu cymryd yn y dyfodol, i greu Cymru fwy cyfartal a llewyrchus i bawb—Cymru lle mae pawb yn teimlo ymdeimlad o berchnogaeth dros ein hiaith a'n diwylliant.

Dirprwy Lywydd, bydd Aelodau eisoes yn ymwybodol o'r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r nodau llesiant yn sail i holl waith Llywodraeth Cymru. Mae tri o'r nodau yn arbennig yn berthnasol iawn i gyfiawnder cymdeithasol a Chymraeg, a heddiw, rwyf i eisiau sôn am sut mae'n rhaid i'r nodau hynny gydweithio. Y rhain yw, wrth gwrs:

Cymru sy'n fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; a Chymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae ein holl strategaethau a chynlluniau gweithredu presennol ym maes cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ystyried y Gymraeg o fewn llunio a chyflwyno polisi, yn yr un modd ag y dylai 'Cymraeg 2050' ategu ein huchelgeisiau cyfiawnder cymdeithasol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cryn dipyn o weithredu i symud ymlaen at gydraddoldeb, ac mae rhywfaint o'n gwaith mwyaf nodedig yn cynnwys: lansio 'Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau' yn 2020; yn 2021, fe wnaethon ni sefydlu'r tasglu hawliau anabledd; yn 2022, roeddwn i'n falch o gyhoeddi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'; ac ar ddechrau'r mis hwn, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol nodi mis hanes LHDTC+ gyda lansiad y cynllun gweithredu cydraddoldeb LHDTC+.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi datgan dro ar ôl tro sut mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n rhannu ei farn. Dyma pam yr ydym ni'n cymryd camau rhagweithiol i gryfhau'r cysylltiad rhwng 'Cymraeg 2050' a'n gwaith presennol ym maes cyfiawnder cymdeithasol. O fewn cynllun gweithredu gwrth-hiliol Cymru, fe wnaethom nodi sut, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae gennym weledigaeth ehangol a chynhwysol ar gyfer y Gymraeg'

ac y gall fod yn

'ffordd o uno pobl o gefndiroedd gwahanol. Gall dysgu ieithoedd newydd ein gwneud ni fel unigolion yn fwy agored i ddiwylliannau eraill.'

Felly, rwy'n falch o ailddatgan fy ymrwymiad i gysoni'r ddau faes gwaith, a byddaf yn parhau i weithio gyda'r Gweinidog i wireddu hyn.

Mae gweld cymunedau yn dod at ei gilydd ar adeg o angen yn fy llenwi â gobaith ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni nodi blwyddyn ers goresgyniad Wcráin, a achosodd i bobl Wcráin na allai fyw yn eu gwlad mwyach gael eu dadleoli, rwyf eisiau rhannu pa mor falch ydw i o weld sut mae cymunedau ledled Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin i'w cartrefi a'u cymunedau. Mae'n bwysig bod Cymru yn genedl noddfa ac yn parhau i fod. Mae'n galonogol gweld sut mae teuluoedd bellach yn integreiddio i gymunedau Cymraeg, gyda sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar yn tynnu sylw at sut mae plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg drwy rai o'n canolfannau trochi hwyr. Gall iaith fod yn offeryn integreiddio pwerus iawn. Mae prosiectau fel Dydd Miwsig Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gerrig milltir pwysig i allu mynd â'r Gymraeg i gynulleidfaoedd a chymunedau newydd. Mae'r adnodd 'Croeso i Bawb' yn rhoi cyfleoedd i gyflwyno'r Gymraeg a Chymru i bobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg. Mae hyn oll yn cyfrannu at weld Cymraeg a diwylliant Cymreig mewn goleuni gwahanol, goleuni sy'n gynhwysol ac yn groesawgar.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at waith y Mudiad Meithrin, a lansiodd y cynllun AwDUra yn ddiweddar. Mae'r prosiect hwn yn grymuso ac yn galluogi pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ysgrifennu llenyddiaeth plant yn y Gymraeg er mwyn mynd i'r afael â thangynrychioli cymunedau lleiafrifoedd ethnig mewn llenyddiaeth Gymraeg. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Caerdydd a'r Fro i ddatblygu digwyddiad ymgysylltu er mwyn dysgu gan bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig sy'n siarad Cymraeg. Byddwn yn gwrando ar eu lleisiau er mwyn llunio'r camau nesaf i ni gymryd er mwyn sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg ifanc o leiafrifoedd ethnig yn cael eu diwallu.

Mae'r Urdd hefyd yn parhau i arloesi yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod Nooh, eu swyddog datblygu chwaraeon, amrywiaeth a chynhwysiant newydd yn fuan, sy'n siarad Cymraeg yn hyderus ar ôl misoedd yn unig o'i dysgu. Mae o'n ysbrydoliaeth i ni i gyd.

Llywydd, mae'r gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni yn y maes hwn yn fy llenwi â balchder, a gwn fod llawer o brosiectau cyffrous ar y gweill hefyd, ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo, gan y gwn y bydd gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd.

Gwelsom yn ddiweddar sut y gall chwaraeon hefyd chwarae rhan wrth gyflawni ein hamcanion. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo i danio balchder y genedl gan ailgynnau cariad y genedl at yr iaith, ei blethu'n naturiol i gyhoeddiadau a chyfathrebu, gan ddangos i ni sut i ddefnyddio Cymraeg yn organig mewn ffordd sy'n ein huno. Yn ddiweddar, fe wnaethant arddangos Cymru i'r byd yng Nghwpan y Byd ac roedd gweld Cymraeg a'n diwylliant ar y llwyfan rhyngwladol yn amlygu pwysigrwydd ieithoedd a diwylliant yn rhyngwladol. O amgylch y byd, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yw'r norm. Dim ond yr wythnos diwethaf, ar 21 Chwefror, y gwnaethom ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn hyrwyddo'r ffaith bod,

'Amlieithrwydd yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasau cynhwysol sy'n caniatáu i sawl diwylliant, safbwyntiau byd-eang a systemau gwybodaeth gydfodoli a chroesffrwythloni'.

Yn gynharach heddiw, ac yn unol â Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith, cefais fodd i fyw yn mynd i ddigwyddiad ym Mharc Grangemoor. Cwrddais hefyd yn gynharach y prynhawn yma gyda chynrychiolwyr o swyddfa Uchel Gomisiynydd Bangladesh. Fe wnaethom siarad am amryw o faterion, gan gynnwys sut y gall ieithoedd uno cymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dechreuais fy natganiad y prynhawn yma trwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i'r Aelodau. Mae'r Gymraeg a Dydd Gŵyl Dewi yn perthyn i ni i gyd, ac rydw i wir yn golygu hynny. Mae'n perthyn i bob un ohonom a phob cymuned ar draws Cymru. Gadewch i ni i gyd ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ein holl ffyrdd unigryw ein hunain, a gadewch i ni barhau i wneud Cymru yn gymuned o gymunedau. Diolch, Llywydd.

17:00

Wrth gwrs, rydym ni’n byw mewn gwlad o gymunedau: o Aberdeen i Aberystwyth, Cumbria i Gaerfyrddin, Cernyw i Gonwy, Belfast i Ben-y-bont ar Ogwr a Swydd Efrog i'r Wyddgrug. Wrth i ni agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi, rydych chi’n cyfeirio at eich strategaethau trawslywodraethol a'ch cynlluniau gweithredu ym maes cyfiawnder cymdeithasol a Chymraeg. Wrth siarad yma saith mlynedd yn ôl, nodais fod

'datblygu cymunedol ar sail asedau yn fudiad mawr a chynyddol sy’n ystyried pobl fel blociau adeiladu sylfaenol mewn datblygu cymunedol cynaliadwy.... Gan adeiladu ar sgiliau trigolion lleol, grym cymdeithasau lleol a chefnogaeth sefydliadau lleol...a manteisio ar gryfderau cymunedol presennol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol.'

Ydych chi'n cydnabod hyn, ac os felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd i roi llais, dewis, rheolaeth a phŵer go iawn i'r bobl yn ein cymunedau?

Wrth siarad yma chwe blynedd yn ôl, cyfeiriais at adroddiad 'Valuing place' gan yr Young Foundation gafodd ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar ymchwil gyda phobl yn Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot, ac fe wnaeth ddarganfod y dylai sefydlu rhwydwaith lleol i helpu i annog, hyfforddi, mentora, hyfforddi a chysylltu pobl â'i gilydd sydd am weithredu'n lleol, beth bynnag fo'u set sgiliau neu adnodau, fod yn flaenoriaeth. Mae angen i ni ganiatáu datblygiad cadarnhaol lle sy'n gynhwysol a chyfranogol. Cyfeiriais wedyn at ddogfen 'Cymunedau yn Gyntaf—Camau Nesaf' gan Sefydliad Bevan, wnaeth ddarganfod nad oedd rhaglen £500 miliwn Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn lleihau prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai byth i Gymru gyfan, ac y dylai rhaglen newydd gael ei chydgynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol ac na ddylai fod yn rhaglen o’r brig i lawr, h.y. gan awdurdodau lleol, y dylai fod yn seiliedig ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau nid diffygion, ac y dylid arwain camau lleol gan sefydliadau sefydledig yn y gymuned sydd â hanes cryf o gyflawni ac sydd ag ymgysylltiad cymunedol sylweddol. Oedd Llywodraeth Cymru yn derbyn canfyddiadau'r rhain ac adroddiadau tebyg eraill, ac os felly, ble mae'r newid a sut mae hyn yn cael ei fonitro?

Sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Ymddiriedolaeth Carnegie, bod y dull gwladwriaeth-alluogi yn ymwneud â chydnabod y dylai

'llywodraeth, ochr yn ochr â sbarduno perfformiad gwasanaethau cyhoeddus, alluogi cymunedau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau',

ac mai cymunedau

'sydd yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni cyfunol i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw'?

Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei roi i bapur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru mis Ionawr 2022, 'Cymunedau yn Creu Cartrefi', oedd yn dweud bod Cymru yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill yn y DU mewn perthynas â hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw'r polisïau yng Nghymru yn cynnig yr un grymuso â chymunedau yn Lloegr neu, yn enwedig, yr Alban, gan eu bod naill ai'n canolbwyntio'n llwyr ar asedau a chyfleusterau sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus neu'n golygu bod angen cynnwys corff cyhoeddus yn uniongyrchol i weithredu'r pŵer yn hytrach na chydgynhyrchu?

Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i adroddiad 'Ein Tir: Cymunedau a Defnydd Tir' y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Chwefror 2022, wnaeth ddarganfod mai cymunedau Cymru yw'r lleiaf grymusol ym Mhrydain, ac fe ddywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthynt am senario mympwyol, ddigalon, heb fawr ddim proses i gymunedau berchnogi asedau cyhoeddus neu breifat?

Mae'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy'n cael ei hariannu trwy waddol loteri, yn cynnal rhaglen Buddsoddi'n Lleol mewn 13 cymuned leol ledled Cymru, gan gryfhau eu hardaloedd mewn ffyrdd mae cymunedau eu hunain yn eu hystyried yn dda, a galluogi grwpiau cymunedol i ddarparu seilwaith cymdeithasol lleol a chefnogi eu cymunedau. Fodd bynnag, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau mae pobl yng Nghymru yn teimlo'n gynyddol llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Wrth eich holi yma fis Hydref diwethaf, cyfeiriais at ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru, oedd yn dangos eu bod nhw’n aml yn teimlo eu bod nhw’n cael eu hanwybyddu ac nad oeddent yn cael digon o adnoddau gan lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol. Pan ofynnais i chi ymateb i'w datganiad eu bod nhw’n credu bod cyfle mawr i Lywodraeth Cymru ddatblygu gwell cefnogaeth ar gyfer dulliau lleol hirdymor sy'n cael eu harwain gan gymunedau yng Nghymru, fe wnaethoch chi ateb eich bod chi wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda nhw yr wythnos flaenorol i siarad am bolisi cymunedol ac i siarad am ein cyrhaeddiad asedau cymunedol. Pa newidiadau ymarferol felly, os o gwbl, ydych chi wedi eu cyflwyno ers hynny?

Yn olaf, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi buddsoddiad o £27 miliwn mewn cronfa cymunedau dros dair blynedd, gyda dros 100 o fentrau yn cael eu datblygu gan bobl leol, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi cymunedol. Felly, yn olaf, pa gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd i gefnogi prosiectau tebyg a ddatblygwyd gan bobl leol yng Nghymru lle gall pawb deimlo ymdeimlad o berchnogaeth dros iaith, diwylliant, perfformiad economaidd a lles cymdeithasol Cymru?

17:05

Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac, yn wir, mae'r datganiad hwn yn ymwneud â chymuned o gymunedau, yr ydym ni’n credu sy’n wir am Gymru, yn sicr, ym mhob ystyr, ac yn arbennig rwy'n credu mewn perthynas â'n hymrwymiad i wrando, dysgu a gweithio gyda'n cymunedau er mwyn cyflawni'r nodau a'r polisïau sydd wir yn diwallu anghenion ein pobl. Dyna pam, yn wir, y dechreuais y datganiad drwy gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y saith nod llesiant, ond hefyd at y ffyrdd o weithio, wrth gwrs, o ran lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn gwbl berthnasol i'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud o ran ein hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau a'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol, wrth ddatblygu hynny—. Rydych chi wedi annog ac arddel y dull cyd-gynhyrchu mor aml i wneud yn siŵr ein bod ni yn estyn allan i'n cymunedau i ymgysylltu â nhw.

Rydych chi'n gwybod ein bod ni’n datblygu polisi cymunedol i Gymru, ac rwy'n falch iawn, drwy'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, fod rhai cynlluniau peilot bellach yn datblygu yn sir Benfro, Gwynedd ac Ynys Môn. A'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—sydd, mewn gwirionedd, wrth gwrs, yn drawslywodraethol iawn o ran eu cyfrifoldebau statudol a'u cysylltu, wrth gwrs, â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol—sy'n gweld mewn gwirionedd er eu budd y gallant ymgysylltu â chymunedau ar y lefel agosaf a mwyaf lleol i sicrhau eu bod nhw’n gallu cael eu polisïau'n iawn ac yn unol â'u hamcanion.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n dysgu'r gwersi o'r holl adroddiadau hynny rydych chi wedi siarad amdanynt, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, rwyf i wedi bod yn gweithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni’n cael y mudiad ar draws y Llywodraeth ar gyfer polisi cymunedol, gan ddatblygu gyda fy nghydweithwyr y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Gallwn ddysgu gwersi gan nid yn unig Cymunedau yn Gyntaf, ond yna ymgysylltu olynol drwy'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, er mwyn sicrhau y gallwn ni symud ymlaen o ran y trafodaethau a'r dadleuon trosglwyddo asedau rydyn ni wedi eu cael yn gynhyrchiol iawn yn y Senedd hon.

Hoffwn ddweud yn olaf fy mod i'n credu bod ein rhaglen cyfleusterau cymunedol yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ariannu a chefnogi cyfleusterau cymunedol a grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru yn uniongyrchol. Rwy'n falch iawn y byddaf yn cyhoeddi rhywfaint mwy o ddyraniad o'r cyllid hwnnw yn fuan iawn, a fydd, yn fy marn i, o fudd i Aelodau ar draws y Siambr hon o ran yr effaith.

Yn olaf, rwyf am ddod â hyn yn ôl i'r ffaith bod hwn yn gyfle heddiw i gysylltu hyn â Dydd Gŵyl Dewi, a beth mae hynny'n ei olygu i ni, yn enwedig o ran 'Cymraeg 2050'. Rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn ymwneud ag iaith, diwylliant ac rydyn ni mewn gwirionedd—. Nid yw’n ymwneud â buddsoddi mewn addysg Gymraeg yn unig, sef y £7 miliwn mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei roi i hynny, ond mae hefyd, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag edrych ar ffyrdd y gallwn ni ymgorffori iaith yn ein cymunedau. Dyna pam mae 'Cymraeg 2050' mor bwysig, ac mae'n ymwneud â dyfodol bywiog i'n hiaith, fel sydd wedi’i nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Diolch, Weinidog, a Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb, pan ddaw yfory, hefyd. Yn anffodus, dyw e ddim yn ŵyl banc genedlaethol, fel y dylai fe fod, ond rydyn ni’n dal i obeithio’n fawr. Yn amlwg, mae Sam Kurtz yn cytuno—plîs, perswadiwch eich Llywodraeth chi yn y Deyrnas Unedig i ganiatáu inni gael un. Gobeithio, os bydd yna Lywodraeth arall yn sgil yr etholiad cyffredinol nesaf, byddan nhw’n caniatáu inni yma yng Nghymru gael gŵyl banc i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Rydych chi wedi nodi, wrth gwrs, y llu o bethau sydd yn digwydd o ran dathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond mae’n rhaid inni gydnabod hefyd mai nifer o wirfoddolwyr sy’n gyrru hynny ar hyn o bryd, ac rydyn ni yn colli cyfleoedd ar y funud, cyfleoedd pwysig dwi’n credu, pe baem ni’n rhoi mwy o gefnogaeth ac yn hyrwyddo’r hyn sydd i’w gynnig, yn yr un modd ag y mae gwledydd eraill yn gallu manteisio ar wyliau cenedlaethol.

Dwi’n falch hefyd o weld y Gweinidog yn cyfeirio at Gymru fel cymuned o gymunedau—rhywbeth oedd yn ganolog, wrth gwrs, i weledigaeth Gwynfor Evans, ac mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru fel cymuned rhyng-gysylltiedig o gymunedau gwydn, llewyrchus, iach ac amgylcheddol gadarn, sy’n cynnwys sicrhau bod y cyfle i ddysgu a siarad yn y Gymraeg yn agored i bawb, pa bynnag eu hamgylchiadau.

Mae’n dda, felly, glywed amcanion y Llywodraeth o ran cydlynu’r gwaith cyfiawnder cymdeithasol gyda’r gwaith o hybu’r Gymraeg. Mae’n bwysig cydnabod bod hybu’r Gymraeg yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac felly mae yna berthynas gref rhwng gwahanol bortffolios. Fodd bynnag, mae yna angen i weld targedau pendant yn mynd law yn llaw gyda’r amcanion hyn, ac y gwir ydy, fel y dangoswyd diwedd flwyddyn diwethaf gyda chanlyniadau’r cyfrifiad, fod amcanion 'Cymraeg 2050' ymhellach i ffwrdd rŵan nag yr oeddent pan y'u gosodwyd.

Am yr ail ddegawd yn olynol mae cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi'i gostwng, gan gyrraedd y lefel isaf erioed o 17.8 y cant. Mae hyn yn cyfateb i bron i 24,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, a cholled o 44,000, sy’n gyfatebol i boblogaeth Merthyr Tudful, ers 2001. Dylai hyn gael ei ystyried hefyd yng nghyd-destun y ffaith mai dim ond tua 20 y cant o’n plant ar hyn o bryd sy’n cael y cyfle i gael eu haddysgu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n anodd, felly, gweld sut all nod y Gweinidog o gael

'weledigaeth ehangol a chynhwysol ar gyfer y Gymraeg'

gael ei gyflawni yn wirioneddol heb newid radical o ran y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru.

Yn ogystal â hyn, mae angen i’r Llywodraeth gydnabod bod y seiliau er mwyn ehangu mynediad cydradd i bobl o bob cefndir i’r Gymraeg yn fregus ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae yna ddiffyg o ran nifer yr athrawon sy’n medru siarad Cymraeg sy'n cael eu hyfforddi—dim ond 250 y flwyddyn, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Llywodraeth, o'i gymharu â’r 500 a mwy sydd eu hangen er mwyn cyflawni amcanion 'Cymraeg 2050'. Gwelir hefyd ffigurau diweddaraf Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau, sy’n dangos cwymp sylweddol o ran niferoedd yr ymgeiswyr yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon am y flwyddyn academaidd nesaf. Mae perig mawr y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith dros y tymor byr a’r tymor hir.

Rydym wrth gwrs yn croesawu’r newyddion am ffoaduriaid, megis y rhai o Wcráin, yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg trwy adnoddau’r rhaglen Croeso i Bawb a’r canolfannau trochi, ac rydym ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld hynny yn y cyfryngau ac ati, a chyfarfod â rhai o’r ffoaduriaid hynny, a’r ffordd maen nhw wedi gallu bod yn rhan o’r gymuned ac ymwneud drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwaith gwych yr Urdd ac ati. Ond ydy’r Gweinidog yn cydnabod yr angen i sicrhau nid mesurau dros dro yn unig yw’r rhain, a phwysigrwydd caniatáu bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ffynnu o’r adnoddau yma?

Yn ogystal â hyn, mae angen cydbwyso’r newyddion da yma gyda’r cyd-destun o ganolfannau croeso ar gyfer ffoaduriaid yn cau ar draws Cymru. Pa effaith fydd y penderfyniad yma i gau canolfannau croeso i ffoaduriaid Wcráin yn ei chael ar eu mynediad at yr iaith Gymraeg? Ydy, mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae mwy y gallem ni ei wneud i sicrhau bod yr hawl gan bawb i’w dysgu a’i defnyddio hefyd.

17:10

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich questions pwysig iawn.

Rydw i am ddechrau drwy roi sylwadau ar y cwestiwn gŵyl y banc. Wrth gwrs, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU ar fwy nag un achlysur, fel y bydd cydweithwyr yn gwybod, i ddynodi'r diwrnod yn ŵyl banc, neu roi'r pŵer i ni wneud hynny. Yn anffodus, hyd yn hyn mae'r ceisiadau yma wedi cael eu gwrthod.

Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod beth sy'n mynd i fod yn digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae'n adeg pan fyddwn ni'n cynnal gweithgareddau ledled Cymru. Rydyn ni'n canolbwyntio ar ysgogi cymunedau yfory, yma yng Nghymru, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Rydyn ni'n dathlu popeth Cymreig gan ddefnyddio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol 'Gwnewch y Pethau Bychain', felly gobeithio bydd pawb yn ymgysylltu â hynny. Mae'r ymgyrch yn ddathliad llawn hwyl ar y cyfryngau cymdeithasol o'n cenedl, ac, wrth gwrs, mae hynny'n arddangos, fel rydych chi wedi ei ddweud, Heledd, y pethau da rydyn ni'n eu gwneud dros ein gilydd, i'n cymunedau ac i'n byd ni. Yn wir, mae pob un o'ch cwestiynau yn rhoi sylwadau ar y pwyntiau hynny—y pethau da rydyn ni'n eu gwneud dros ein gilydd, i'n cymunedau ac i'n byd, oherwydd mae Cymru, ac mae'n rhaid iddi fod, yn gymuned o gymunedau rhyng-gysylltiedig. Rwy'n credu y gall y datganiad heddiw helpu o ran y cyfraniadau. Gall ein helpu ni a'n cynorthwyo, fel Llywodraeth Cymru, i wneud Cymru'n gymuned o gymunedau. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod 'Cymraeg 2050' yn ymrwymiad cryf bod ein hiaith yn perthyn i bob un ohonom ni, ac rydyn ni wedi bod yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae ganddo'r nodau hynny i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd, yr un mor allweddol, dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith. Rwy'n credu bod fy rôl i—rwy'n diolch i chi am gydnabod pwysigrwydd y cysylltiad hwn â'r agenda cyfiawnder cymdeithasol, oherwydd pan wyf i wedi cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fel mae fy holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, mae wedi ein galluogi ni i edrych eto ar bopeth rydyn ni'n ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran bwrw ymlaen â hyn. I mi, mae wedi golygu edrych arno o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, o ran, er enghraifft, integreiddio mudwyr. Rydym ni wedi gwneud sylwadau ar hynny o ran y ffaith ein bod ni’n genedl noddfa.

Mae integreiddio a chynhwysiant mudwyr yn hanfodol, ac os ydym ni mewn gwirionedd yn cydnabod bod Cymru yn gartref ar hyn o bryd i tua 200,000 o fudwyr, mae'r aelodau hyn o'n cymuned eisoes yn sgwrsio yn eu hail iaith o leiaf, os nad eu trydedd neu bedwaredd. Pan yw mudwyr yn siarad Cymraeg, mae'n ddarlun gwych o integreiddio cymunedol, ac rydyn ni’n edrych ar sut y gellir cefnogi hyn a sut rydym ni’n sicrhau bod integreiddio yn digwydd o'r diwrnod cyntaf.

Ymhen cwpl o wythnosau rwy’n mynd i'r Gwobrau Cenedl Noddfa, ac mae gwobrau i ddysgwyr ieithoedd—un ar gyfer Saesneg a'r llall ar gyfer yr iaith Gymraeg—ac rwyf i eisiau dweud heddiw, Llywydd, ein bod ni'n cofio ac yn llongyfarch, yn 2019, cafodd y wobr dysgwr Cymraeg ei hennill gan Mohamad Karkoubi, a oedd yn byw yn Aberystwyth ar y pryd—felly fe wnaf i sôn yn arbennig amdano ef, Llywydd—gyda'i wraig a'u tri phlentyn ar ôl ffoi o'r rhyfel cartref yn eu mamwlad. Enillodd y wobr dysgwr Cymraeg. Mae Mr Karkoubi, o Aleppo, wedi bod yn dysgu Cymraeg ddwywaith yr wythnos ers mis Medi, ac mae hynny wedi ei helpu yn ei swydd fel gof yn Nhregaron. Dywedodd Mr Karkoubi,

'Dwi wir yn mwynhau dysgu Cymraeg. Mae'r iaith wedi fy helpu i a fy nheulu i deimlo'n rhan o'r gymuned yr ydym ni’n byw ynddi.'

Rwy'n credu mai dyma lle, yn amlwg, mae'r ymrwymiad i addysg Gymraeg yn hanfodol bwysig, ond mae ymgynghoriad ar sut rydym ni’n cryfhau cymunedau Cymraeg. Roeddech chi'n sôn am addysgu. Mae yna gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg a chyllid ar gyfer cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu Cymraeg heb orfod bod yn rhugl yn Saesneg. Mae gennym ni lawer i'w ddysgu gan y rhai sy'n croesawu, ac yn ymgysylltu â'r Gymraeg. Mae yna gyllid i roi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad gwaith i bobl ifanc ddechrau gyrfa yn y sector gofal plant cyfrwng Cymraeg, sydd, fel y dywedwch chi, mor hanfodol bwysig.

Yn olaf gen i , o ran ffoaduriaid o Wcráin ac integreiddio o fewn cymunedau Cymraeg, mae gennym ni ymdrech tîm yng Nghymru. Ddoe, cawsom ni ddigwyddiad gwych, lle'r oeddem mewn gwirionedd yn nodi carreg filltir erchyll goresgyniad Wcráin gan Putin, ond roeddem yno, mewn gwirionedd, i gydnabod haelioni gwych teuluoedd ac aelwydydd sydd wedi lletya dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi codi i'n helpu i gefnogi dros 6,500 o bobl Wcráin sydd bellach yn byw yng Nghymru. Mae llawer yn gweithio a'u plant yn yr ysgol—maen nhw'n dysgu Cymraeg—ac, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn eu cefnogi nhw drwy nid yn unig ein lletywyr, ond drwy ein canolfannau croeso. Dim ond i sicrhau cydweithwyr ac i sicrhau Heledd, o'ch cwestiwn chi, ein bod ni'n gweithio—. Rydyn ni wedi cau nifer o ganolfannau croeso dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn wir, yr un cyntaf i ni ei chau oedd yr Urdd, ac roedd cau hon yn naturiol ar ôl tri, pedwar mis o gymorth dwys, cefnogaeth dros dro cychwynnol, ac yna galluogi’r bobl hyn o Wcráin i symud ymlaen. Am drochfa yn y Gymraeg oedd hynny, o ran yr Urdd. Ond yn ein holl ganolfannau croeso, rydyn ni’n darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno ac, yn wir, gan fod llawer ohonyn nhw wedi symud ymlaen allan o ganolfannau croeso, maen nhw'n sicr yn cael eu cau mewn ffordd sensitif i sicrhau bod gan bawb mewn canolfan groeso gartref i symud ymlaen iddo, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw yma heddiw.

Ond iddyn nhw, hefyd, fe fydd yn golygu symud ymlaen i gymunedau, i drefi, dinasoedd a phentrefi yng Nghymru, i weithio ac i barhau gydag ysgolion. Ond, fel y gwyddom ni, mae cymaint ohonyn nhw, wrth gwrs, yn edrych tuag at yr amser pan fyddan nhw'n gallu dychwelyd i Wcráin ac i fod gyda'u teuluoedd y maen nhw wedi'u gadael gartref. Ond i lawer mwy, Cymru yw eu cartref.

17:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Fel y Gweinidog, mae gweld cymunedau yn dod at ei gilydd ar adeg o angen yn fy llenwi â gobaith ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni nodi blwyddyn ers goresgyniad anghyfreithlon Wcráin gan y Rwsiaid, a achosodd i lawer o bobl Wcráin na allai fyw yn eu gwlad mwyach gael eu dadleoli, rwy'n falch hefyd o weld sut mae cymunedau ledled Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin i'w cartrefi ac i'w cymunedau. Mae'n bwysig bod Cymru'n genedl noddfa. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe ar fod yn ddinas noddfa a'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i ffoaduriaid yn Abertawe? Rwyf i am dynnu sylw at un enghraifft yn unig o garedigrwydd tuag at ffoaduriaid o Wcráin yn fy etholaeth fy hun, lle cafodd yr arian a gasglwyd mewn cwis tafarn lleol yng Ngwesty'r Midland, Treforys ei roi i gefnogi plant Wcráin sy'n aros mewn gwesty lleol.

Ond, fel y gwyddom ni, mae amlieithrwydd yn gyffredin mewn llawer o wledydd, a hefyd mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe. Rwy'n credu mai'r broblem sydd gennym ni yw bod gennym ni farn Brydeinig mai dim ond un iaith sydd angen i unrhyw un ei gwybod, ac mai Saesneg yw honno, ac os nad ydyn nhw'n deall y tro cyntaf, dylech weiddi ychydig yn uwch. Ydy'r Gweinidog yn gwybod faint o bobl amlieithog sydd gennym ni yng Nghymru mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr, Mike Hedges, ac, ie, a gaf fi ddweud pa mor falch ydyn ni o Abertawe fel dinas noddfa? Mae gennym ni ddinasoedd noddfa eraill ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd, wrth gwrs, ond hefyd, mae Treffynnon, rwy'n meddwl, yn dref noddfa. Mae gennym ni gynghorau tref, cymuned a sir hefyd. Ond hefyd, pan ddes i i Abertawe i longyfarch y brifysgol a Choleg Gŵyr, sydd hefyd yn golegau a phrifysgolion noddfa, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith ar bob agwedd ar fywyd. Ac i longyfarch y rhai a gododd yr arian hwnnw yn nigwyddiad Gwesty'r Midland, gan godi arian i deuluoedd a phlant.

Rwy'n meddwl bod hyn yn esiampl, unwaith eto, o'r caredigrwydd a'r ymrwymiad i wirfoddoli sy'n digwydd yng Nghymru, y gymuned o gymunedau. Mae'n ymwneud â'r ffyrdd mae pobl wedi ymateb i oresgyniad Wcráin gan Putin, trwy ddangos y gefnogaeth honno. Ond hefyd, rwy'n gobeithio heddiw fel cenedl noddfa, y gallwn ni i gyd gytuno ein bod ni'n anfon neges o obaith, undod a pharch at ein haelodau cymunedol o Wcráin.

Mae'n wir ein bod ni'n genedl amlieithog. Gadewch i ni gydnabod hyn heddiw. Ni allaf roi'r union ffigyrau i chi o ran y niferoedd a'r ieithoedd sy'n cael eu siarad. Siaradais am y 200,000 o ymfudwyr sydd gennym sy'n sgwrsio o leiaf eu hail, eu trydedd neu eu pedwaredd iaith. Ond a gaf i ddweud, yn olaf, mai un o amcanion y 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' yw cael gwell dealltwriaeth o brofiad byw'r 10,000 o siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol, i lywio camau ac ymyriadau i ddileu hiliaeth yng Nghymru? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ein bod ni'n deall y cysylltiadau hyn heddiw, ac i mi, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n awyddus iawn, unwaith eto, i rannu gyda'r Aelodau y 10,000 o siaradwyr Cymraeg o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, wrth i ni ddathlu'r 10,000 o bobl hynny.

17:25
8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd—Cynnydd Cynllun Pum mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a chynnydd y cynllun anifeiliaid a'r amgylchedd pum mlynedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y datganiad. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:25:22
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae gwrthfiotigau'n sail sylfaenol ar gyfer systemau gofal iechyd modern, sy'n ein galluogi i drin y rhan fwyaf o heintiau bacteriol yn effeithiol, mewn pobl ac anifeiliaid. Mae eu darganfyddiad a'u datblygiad wedi chwyldroi nid yn unig gofal iechyd, ond hefyd y gymdeithas ehangach. Mae heintiau a gweithdrefnau a fyddai wedi bod yn angheuol yn y gorffennol bellach yn cael eu trin mewn modd arferol. Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr, ac mae angen i ni eu diogelu er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Mae gwrthfiotigau'n digwydd yn naturiol ym myd natur, fel y mae gallu bacteria i ddatblygu ymwrthedd iddynt. Er enghraifft, o fewn 20 mlynedd i'w gyflwyno yn y 1940au, roedd mwy nag 80 y cant o straeniau o Staphylococcus aureus wedi datblygu ymwrthedd i benisilin. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn un o nodweddion bacteria, nid eu gwesteiwyr dynol neu anifail, wedi'i ysgogi yn bennaf gan y defnydd o wrthfiotigau eu hunain, ac mae'r bygythiad y mae'n ei achosi yn real. Gan y gellir lledaenu ymwrthedd rhwng bacteria ac mae rhai organebau sydd ag ymwrthedd yn heintio pobl ac anifeiliaid, mae angen i ni fynd i'r afael â'r defnydd o wrthfiotigau yn gyfannol mewn pobl ac anifeiliaid.

Mae angen i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd fynd i'r afael â llwybrau posibl o ledaeniad drwy'r amgylchedd a thrwy'r gadwyn fwyd. Byddai gadael ymwrthedd gwrthficrobaidd heb ei reoli ag effeithiau eang a chostus iawn, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid, yn ogystal â masnach, diogeledd bwyd a datblygiad amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol. Eisoes, amcangyfrifir bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 700,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn fyd-eang. Amcangyfrifir y bydd y ffigwr hwn yn codi i 10 miliwn erbyn 2050 os nad oes camau'n cael eu cymryd. Bydd pobl ac anifeiliaid yn dioddef afiechydon hirach a mwy o farwolaethau, a bydd yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd i bobl ac anifeiliaid. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bennaf yn fygythiad i bobl; fodd bynnag, byddai colli gwrthfiotigau effeithiol drwy ymwrthedd yn arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid a diogeledd bwyd.

Cynhyrchodd Sefydliad Iechyd y Byd gynllun gweithredu byd-eang ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, a gymeradwywyd yng Nghynulliad Iechyd y Byd yn 2015. Wedi hynny, cyhoeddodd Sefydliad y Byd dros Iechyd Anifeiliaid eu strategaeth ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r defnydd doeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid. Yma yn y DU, mae gweledigaeth 20 mlynedd a chynllun gweithredu cenedlaethol pum mlynedd ar hyn o bryd, y ddau wedi'u cyhoeddi yn 2019. Mae'r strategaethau hyn wedi helpu i lywio ein dull gweithredu yng Nghymru. Yn 2019, sefydlais Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a'r Amgylchedd Cymru. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygol, academyddion blaenllaw, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a swyddogion y Llywodraeth.

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddais gynllun gweithredu ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r amgylchedd pum mlynedd i Gymru, a argymhellwyd gan y grŵp cyflawni a oedd newydd ei sefydlu. Mae pum prif amcan yng nghynllun Cymru. Mae pwyslais pwysig ar atal a rheoli heintiau. Mae cadw anifeiliaid yn iach drwy ofal a rheolaeth dda yn lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Pwyslais allweddol arall yw sicrhau pan fydd rhaid defnyddio gwrthfiotigau, y'u defnyddir yn gyfrifol, yn brin iawn ac mewn ffyrdd sy'n lleihau'r risg o ddatblygu ymwrthedd.

Rydym wedi defnyddio'r cysyniad 'un iechyd' i'n dull gweithredu. Mae iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid yn gyd-ddibynnol ac maen nhw ynghlwm ag iechyd yr amgylchedd y maen nhw'n bodoli ynddo. Rydym wedi dod ag arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus, anifeiliaid ac iechyd yr amgylched ynghyd i weithio gyda'i gilydd, gan rannu eu profiad a'u harbenigedd. Rwy'n credu bod y dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi gosod Cymru tuag at flaen y gad yn yr ymdrechion i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r gyfarwyddiaeth ansawdd a nyrsio ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o dargedau cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd a gyhoeddwyd yn 2019. Mae'r adolygiad yn canolbwyntio'n bennaf ar iechyd pobl; fodd bynnag, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyfrannu at yr adolygiad hwn gydag asesiad o dargedau'r cynllun gweithredu cenedlaethol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid a'r amgylchedd. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd wedi cael ei nodi yn un o brif flaenoriaethau ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru 10 mlynedd. Mae dull 'un iechyd' yn sylfaenol, nid ar gyfer rheoli ymwrthedd gwrthfiotigau yn unig, ond i'n nod o fod â Chymru iach.

Hoffwn roi gwybod i'r Senedd am rywfaint o'r gwaith penodol yr wyf wedi'i gomisiynu. Er mwyn cefnogi dulliau darparu ar lawr gwlad, fe wnes i £4 miliwn o gyllid cynllun datblygu gwledig ar gael i ganolbwyntio ar reoli ymwrthedd gwrthfiotigau mewn anifeiliaid a'r amgylchedd. Roedd Arwain DGC Cymru yn llwyddiannus yn eu cais i gyflawni amrywiaeth o brosiectau pwysig i reoli ymwrthedd gwrthfiotigau a hybu iechyd anifeiliaid. Mae'r prosiect, a lansiwyd ym mis Hydref 2021, yn cyflwyno nifer o weithgareddau ar hyn o bryd, a nifer ohonyn nhw'n cael eu treialu yma yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae'r prosiect yn arwain y ffordd ar gasglu data ar y defnydd o wrthfiotig yn y sectorau cig eidion, defaid a chynhyrchion llaeth ledled Cymru. Mae hwn yn gam pwysig gan fod angen i ni ddeall patrymau o ddefnyddio gwrthfiotigau er mwyn sefydlu gwaelodlin a thargedu gostyngiad yn y defnydd â'r risg uchaf. Mae'r wybodaeth o ddiddordeb mawr i'r gadwyn fwyd gyfan, a bydd y gwaith hwn yn rhoi ein cynhyrchwyr mewn sefyllfa dda i ateb gofynion y farchnad. Bydd gweithredu a chyflawni nawr yn helpu'n sylweddol i ddangos sut mae cynnyrch Cymru yn cael ei gynhyrchu'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Mae rhai o'r prosiectau a ddatblygir o dan Arwain DGC hefyd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed fel rhan o brosiect Arwain Vet Cymru. Sefydlodd staff yr ysgol filfeddygol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y grŵp cyntaf o hyrwyddwyr rhagnodi milfeddygol yn y DU, sy'n arwain gwaith yn eu practisiau ac ymhlith eu cleientiaid i sicrhau bod gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio'n gyfrifol. Mae'r prosiect wedi cael cydnabyddiaeth eang ac wedi ennill rhai gwobrau o fri. Cafodd arweinydd y prosiect, sydd wedi'i leoli yn yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth, ei wobrwyo â Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon am y gwaith hwn. Mae ein hyrwyddwyr rhagnodi milfeddygol hefyd yn datblygu canllawiau pwysig ar ddewis gwrthfiotigau i'w defnyddio gan filfeddygon, yn debyg i adnoddau sydd ar gael i feddygon teulu'r GIG—y cyntaf ar gyfer Cymru.

Mae llawer o linynnau arloesol eraill o brosiect Arwain DGC, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Byddwn yn annog pob Aelod i gael golwg. Mewn ychydig dros flwyddyn, mae Arwain DGC eisoes yn derbyn llawer iawn o gydnabyddiaeth, nid yn unig ledled y DU ond ymhellach i ffwrdd. I gydnabod eu llwyddiant, rwy'n falch o gadarnhau bod Arwain DGC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tri chais ar wahân fel rhan o wobrau'r Antibiotic Guardian. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw pan fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi, yn nes ymlaen eleni.

Mae'n amlwg na ellir rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd gan y Llywodraeth yn unig. Mae rheoli afiechydon heintus a'r gwrthfiotigau a ddefnyddir i'w trin yn nwylo ceidwaid anifeiliaid a'u milfeddygon. Mae arnom ni angen i'r bobl hynny, felly, a'r arbenigwyr gwyddonol, gweithio gyda'i gilydd a gyda ni. Felly, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi dyrannu £2.5 miliwn yn ychwanegol er mwyn cefnogi parhau â'r ymdrechion cyflawni am y ddwy flynedd nesaf yma yng Nghymru.

I gloi, Llywydd, rwyf eisiau pwysleisio perthnasedd rheolaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd i ddiogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol, yng Nghymru a ledled y byd. Mae ein gwaith ar reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd yn enghraifft wych o'r modd y gall dulliau blaengar ac amlddisgyblaethol, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio'n adeiladol ochr yn ochr â phartneriaid yn y sector preifat, gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn yr achos hwn Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n benderfynol bod Cymru yn parhau i gyfrannu'n llawn at reolaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd. Diolch.

17:30

Rwy'n ddiolchgar am weld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Mae'n hanfodol ein bod yn eithriadol o glir am y risgiau y mae AMR, ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn ei achosi i gymdeithas fodern, boed hynny ar fferm neu mewn lleoliad gofal iechyd. Mae'r risg hon yn fygythiad dirfodol i bobl ac anifeiliaid, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y Llywodraeth hon yn rhoi arf waith cynllun gweithredu sy'n addasadwy, yn gyfannol ac yn gynhenid yn ei dull o weithredu. Wrth gyfaddawdu gallu anifail i reoli ac atal heintiau bacteriol yn llwyddiannus, mae AMR yn dileu'r gallu naturiol hwnnw i wrthsefyll haint, ac mae'r canlyniadau, fel y dywedodd y Gweinidog, yn mynd ymhell y tu hwnt i giât y fferm. Os byddwn yn methu â gwrthweithio hyn, rydym yn peryglu dinistrio iechyd anifeiliaid yn ogystal â chwymp cadwyni cyflenwi bwyd, cymunedau wedi'u gadael heb incwm a dirywiad terfynol ymwrthedd i wrthfiotigau mewn rhywogaethau eraill, sef ni'r bodau dynol. O ystyried y bygythiad y mae hyn yn ei achosi, rwy'n falch o nodi bwriadau'r Gweinidog y prynhawn yma.

Mae cynllun y Gweinidog, wedi'i baru â chynllun gweithredu cenedlaethol AMR pum mlynedd y DU, yn gam allweddol i'r cyfeiriad cywir, un sy'n ein gweld yn gweithio gyda diwydiant i ddileu'r defnydd torfol o wrthfiotigau yn raddol. A gadewch i ni fod yn glir, mae'r diwydiant eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol. Mae'r defnydd o wrthfiotigau mewn da byw yn y DU wedi gostwng cymaint â 50 y cant yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae ffermwyr Cymru yn gwneud newidiadau i'w protocolau da byw, gan leihau eu dibyniaeth ar wrthfiotigau drwy ddatblygu mesurau diogelu cynaliadwy i iechyd anifeiliaid. Ac mae Arwain DGC yn gweithio gyda milfeddygon Cymru ac yn eu cefnogi i ddatblygu a defnyddio technoleg newydd i archwilio bioddiogelwch ac atebion manwl.

Mae pob rhan o'r sector amaethyddol, o ffermwr i filfeddyg, yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu strategaeth atal AMR drwy ddefnyddio technoleg newydd, casglu data, a gwell dealltwriaeth—proses o wneud penderfyniadau dan arweiniad gwyddoniaeth y dylen ni fod yn ei chefnogi, gwella a dyblygu. Mewn gwirionedd, un elfen allweddol yng nghynllun gweithredu pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn 2019 oedd gwneud hynny'n union, gan fuddsoddi mewn a chefnogi arloesedd, gwella capasiti labordy a defnyddio data i optimeiddio'r defnydd penodol, cyfyngedig a chyfrifol o feddyginiaeth wrthficrobaidd. O gofio bod gennym dîm gwyddonol sefydlog eisoes yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, IBERS, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'w hymgorffori yn y prosiect Arwain DGC i helpu i gyrraedd y targed a bennwyd yng nghynllun gweithredu 2019? Yn wir, mae'n bwysig ein bod hefyd yn cydnabod y datblygiadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ymdrechion sydd wedi profi'n llwyddiannus ac y dylid eu cefnogi, ac felly rwy'n falch o nodi eich bwriad i ddyrannu £2.5 miliwn ychwanegol i gefnogi parhad yr ymdrechion cyflawni. Byddai diddordeb gennyf, er hyn, mewn derbyn eglurhad pellach am ffynhonnell yr arian hwn ac a yw wedi'i ddyrannu o'r rhaglen datblygu gwledig.

Yn olaf, gyda phrif swyddog milfeddygol newydd Llywodraeth Cymru i ddod i rym yn fuan fis nesaf, hoffwn wybod pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i arbenigedd y prif swyddog milfeddygol yn y mater hwn ac a yw ei benodiad yn dod â ffordd newydd o feddwl gydag ef. I orffen, hoffwn ailadrodd sylwadau cloi'r Gweinidog. Mae ein gwaith ar AMR, y diwydiant a'r Llywodraeth, yn enghraifft eithriadol o pam mae dulliau amlddisgyblaethol yn allweddol i ddatblygu cynlluniau gweithredu llwyddiannus. Mae'r glasbrint hwn y mae'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru wedi'i ddilyn mewn perthynas ag AMR yn gymeradwy ac wedi sicrhau canlyniadau. Mae'r defnydd o wyddoniaeth, technoleg, arloesi a bod yn ddewr wrth wneud penderfyniadau wedi helpu Cymru i arwain ym maes ymchwil a datblygu AMR: glasbrint sy'n deilwng o gael ei efelychu wrth i ni fynd i'r afael â heriau pellach yn y sector amaethyddol. Diolch, Llywydd.

17:35

Diolch, Sam, am eich ymateb cadarnhaol iawn i'r adroddiad. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn. Mae'n rhaid bod yn ddewr iawn, ac yn sicr pan oeddwn i'n Weinidog iechyd roedd yn faes yr oeddwn i'n awyddus iawn i edrych arno. Rwy'n cofio roedd gennym brosiect bach iawn mewn un ysbyty i weld sut allen ni leihau'r defnydd o wrthfiotigau, ac rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael y math yna o bwyslais ar ardal fach i weld wedyn sut allwch chi gyflwyno arferion gorau, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydyn ni wedi'i wneud.

Rwy'n credu yn yr Athro Christianne Glossop roedd gennym ni rywun a oedd yn awyddus iawn i'w hyrwyddo, ac yn sicr mae'r prif swyddog milfeddygol dros dro wedi bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Mae'n cadeirio grŵp yn y DU ar wyliadwriaeth AMR mewn anifeiliaid. Rydych yn gofyn am y prif swyddog milfeddygol newydd, sydd i fod i ddechrau'r wythnos nesaf, mewn gwirionedd, a bydd yn dod ag arbenigedd penodol. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw beth, ond ar hyn o bryd ef yw'r dirprwy brif swyddog milfeddygol yn y DU ac yn amlwg rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar AMR. Mae ganddyn nhw gynllun cenedlaethol. Mae gennym ni gynllun cenedlaethol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n amlwg yn cydweithio, felly rwy'n edrych ymlaen at weld beth mae'n ei gyflwyno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i fod â'r pwyslais hwnnw. Yn amlwg, mae'r cynllun sydd gennym ni o 2019 yn mynd â ni hyd at 2024, ac rydyn ni'n edrych ar ba newidiadau y gallwn ni ddisgwyl gyda'r cynllun gweithredu newydd y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno. Bydd y cynllun hwnnw'n llunio ein dull ni yma yng Nghymru, felly rwy'n tybio y bydd y prif swyddog milfeddygol newydd yn ein helpu, oherwydd rydyn ni eisoes wedi dechrau edrych ar ein cynllun olynol wrth symud ymlaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n blaenoriaethu ein cryfderau. Mae gennym amgylchiadau unigryw, wrth gwrs, yng Nghymru, y mae angen edrych arnynt hefyd.

Rydych chi'n gofyn am IBERS. Unwaith eto, soniais am yr ysgol filfeddygol newydd sydd gennym yn Aberystwyth. Mewn gwirionedd dydw i ddim wedi cael unrhyw drafodaethau gydag IBERS am hyn, ond byddaf yn sicr yn sicrhau bod swyddogion yn gwneud hynny os ydym yn credu y byddai'n werth chweil. O ran y £2.5 miliwn, rydyn ni'n ystyried sut y gall partïon sydd â buddiant asesu'r cyllid hwnnw wrth fwrw ymlaen, oherwydd rydym wedi cyhoeddi hynny ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny'n waith ar y gweill, ac yn amlwg bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi.

Dwi'n croesawu'r datganiad yma heddiw, oherwydd mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael effaith andwyol ar ein ffermydd ac ar iechyd cyhoeddus. Yn wir, erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang, ac yn costio $100 triliwn i economi'r byd. Felly, wrth ystyried hyn, pa asesiadau economaidd y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o impact ymwrthedd gwrthficrobaidd ar y sector amaethyddol yng Nghymru? A pha asesiad sydd wedi ei wneud o’r impact ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru? Mae canlyniadau Arwain Defnydd Gwrthfiotig Cyfrifol—Arwain DGC—i'w croesawu. Ymddengys bod y ffocws ar leihau y defnydd o gwrthfiotig trwy hyfforddiant, technoleg a chasglu data wedi profi i fod yn effeithiol.

Er enghraifft, mae ffermydd cig oen wedi elwa yn sgil tynhau protocolau diheintio a rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd a phrydlondeb bwydo colostrwm, yn ogystal â thriniaeth ddethol wedi'i thargedu mewn ŵyn. Ar ffermydd gwartheg, mae'r defnydd a dreialwyd o dechnoleg bolws wedi rhoi system rhybudd cynnar i ffermwyr, gan dynnu eu sylw at haint posibl mewn buwch pan fydd yn gofyn tarw neu yng nghamau cynnar geni llo, ac unrhyw faterion iechyd eraill fel mastitis neu gloffni, sy'n eu galluogi i weithredu cyn i'r clefyd ddatblygu ac mae'r fuwch yn cyrraedd y cam lle mae angen triniaeth wrthfiotig arni. Byddai'n ddiddorol clywed mwy gan y Gweinidog, ac mewn mwy o fanylder, beth yw prif ganlyniadau'r prosiect, ac os, neu sut, y gellid cyflwyno'r atebion ar raddfa fwy i gyflawni canlyniadau mwy eang ar gyfer mwy o ffermydd yng Nghymru.

Cyfarfu'r Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a'r Amgylchedd fis Mawrth diwethaf, ac ar ôl adolygu'r drafodaeth, mae gennyf rai cwestiynau ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru y credaf fod yn rhaid i'r Gweinidog ymateb iddynt. Roedd yn amlwg bod pryderon ynghylch effaith cynhyrchion fferyllol a charthion heb eu trin yn ein cyrsiau dŵr a'n hamgylchedd morol. Yn hyn o beth, rwy'n chwilfrydig i glywed pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith deunydd fferyllol a charthion heb eu trin yn ein cyrsiau dŵr ar ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru, a sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymdrin â'r mater.

Wrth gwrs, mae’n fater dyrys, ac mae angen dod at hyn o sawl cyfeiriad. Rhaid hyrwyddo arferion glendid da er mwyn atal heintiau rhag lledaenu, a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotig. Y gorddefnydd a’r camddefnydd o gwrthfiotig sydd yn gyrru ymwrthedd gwrthficrobaidd. Rhaid, felly, sicrhau bod y defnydd o gwrthfiotig yn cael ei gyfyngu i'r adegau angenrheidiol yn unig, gan ei ddefnyddio yn unol â chyngor milfeddygol yn unig. Rhaid hefyd edrych ar hyrwyddo meddyginiaeth amgen, megis probiotegau, prebiotegau, a chwistrelliadau. Ond nid yw’r cyfrifoldeb yn gorwedd ar ysgwyddau ein ffermwyr yn unig. Mae’n angenrheidiol i'r Llywodraeth ddangos arweiniad. 

Rhaid, felly, i'r Llywodraeth ddarparu cefnogaeth ac adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ffermwyr y gallu i weithredu yn unol â'r arferion glendid a lles gorau posib er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad yma o £2.5 miliwn gan y Llywodraeth er mwyn parhau â'r ymdrech am ddwy flynedd arall. Ond tybed all y Gweinidog gadarnhau os mai pres newydd ydy hwn, yntau ai pres wedi'i arallgyfeirio oddi fewn i amlen gyllidol yr adran amaeth ydy o, ac a fedrith y Gweinidog ateb cwestiwn Sam ai pres o gyllideb RDP ydy o? Diolch.

17:40

Diolch yn fawr iawn. Mae'n arian newydd. Fel rwy'n dweud, bydd mwy o fanylion yn cael eu nodi, ac mae o'r rhaglen honno.

Rydych chi'n gofyn am yr asesiad o ran carthion. Ni fyddai hynny'n ddarn o waith y byddai fy adran i, yn amlwg, yn ei wneud, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, rwy'n gwybod, yn gwneud gwaith helaeth i fynd i'r afael ag AMR yng Nghymru. Fe soniais ein bod ni'n defnyddio 'un iechyd', oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych arno o fewn iechyd pobl a hefyd iechyd ein hanifeiliaid. Mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr iechyd cyhoeddus, ac mae swyddogion iechyd cyhoeddus mewn gwirionedd yn rhan o'n grŵp cyflawni AMR amgylchedd anifeiliaid, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydynt yn gweithio mewn seilos, a'u bod yn gweithio ar y cyd gyda'i gilydd.

Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am Arwain DGC, oherwydd, i mi, mae gwahanol feysydd o hynny. Er enghraifft, un o'r meysydd yw eu bod yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnydd cyfrifol o wrthfiotigau ac yn annog arferion gorau, ac mae hynny'n cynnwys gwaredu cyfrifol, felly mae'n debyg bod hynny'n berthnasol i raddau i'ch pwynt cyntaf hefyd. Mae yna faes sy'n canolbwyntio ar gasglu data defnydd. Beth hoffwn i ei gael mewn gwirionedd—. Cyfeiriodd Sam Kurtz at dros ostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o wrthfiotigau ers 2014—mae hynny ar draws y DU. Alla i ddim darganfod beth yw'r gyfran yna yng Nghymru ar hyn o bryd, felly mae yna faes, fel rwy'n dweud, o'r prosiect sy'n canolbwyntio ar nodi hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda iawn bod gennym ni'r wybodaeth benodol yna ar gyfer Cymru am y pwnc yna yn y dyfodol agos iawn.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud, wrth gwrs, weithiau, mai gwrthfiotigau yw'r unig driniaeth, a dyna pam mae'n rhaid i ni amddiffyn—. Ac rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn y fan yna ein bod ni'n gwybod bod y gwrthfiotigau hynny'n cael eu defnyddio yn y ffordd gywir yn sicr.  

17:45

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y datganiad pwysig iawn hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn sylweddoli, oni bai ein bod ni'n newid ein ffyrdd, ein bod ni i gyd yn mynd i fod mewn perygl o farw o'r ymyrraeth symlaf, er enghraifft, pe baen ni'n cael haint, torri ein braich, neu rywbeth arall. Byddai'n mynd â meddygaeth yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn gwirionedd. Felly, go brin y gallai hyn fod yn bwysicach.

Fel y dywedwch chi, mae atal a rheoli heintiau yn gwbl hanfodol, ac roeddwn i eisiau edrych ar ble yr ydych chi eisiau targedu gostyngiad o'r defnyddiau sydd â'r risg uchaf. Yn amlwg, fe feddyliais ar unwaith am fywyd yr iâr—y miloedd hyn o ieir mewn siediau, ac a yw'r defnydd o wrthfiotigau yn arferol ar gyfer ceisio rheoli heintiau, oherwydd, fel gydag unrhyw rywogaeth, os ydych chi'n pacio pobl at ei gilydd mewn gofod bach, bydd haint gan un anifail neu fod dynol yn lledaenu'n gyflym i fannau eraill os nad yw'n cael ei awyru'n iawn. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allwn ni wir fforddio parhau i fagu anifeiliaid yn yr amgylchedd llawn iawn hwn, lle maen nhw'n llawer rhy agos at ei gilydd, er mwyn, yn amlwg, bwydo brwdfrydedd cynhyrchwyr a defnyddwyr am gyw iâr rhad.

Diolch. Cyhoeddir gwybodaeth am ddefnyddiau penodol i sector yn flynyddol yn yr adroddiad gwyliadwriaeth milfeddygol AMR a gwerthiant, ac os edrychwch chi arno, fe welwch chi, rwy'n credu, mai'r sectorau dofednod a moch yw'r ddau sector sydd â'r defnydd uchaf o wrthfiotigau ar hyn o bryd. Ond dydw i ddim yn credu ei bod yn ddefnyddiol gweld y mater o'r safbwynt hwnnw'n unig; rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ag agwedd gyfannol at y problemau, y cyfeiriais i ato, gan flaenoriaethu pryderon pan fyddan nhw'n digwydd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio nad ydym ni'n cyfyngu'r defnydd o wrthfiotigau; yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau ein bod yn eu defnyddio pan fydd gwir angen. Ond rwy'n credu, fel rwy'n dweud, y gallwch chi weld bod y sector dofednod—bod y data hwnnw ar gael yn sicr. Felly, gallai fod hynny'n faes y bydd angen inni edrych ymhellach arno os yw hynny yn wir.

9. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau

Yr eitem nesaf yw eitem 9. Hwn yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar waith teg a chynnydd blynyddol a blaenoriaethau, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad, Hannah Blythyn.

Diolch. Yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Comisiwn Gwaith Teg ar y pryd, a wnaeth nifer o argymhellion yn dilyn hynny yn ôl yn 2019. Ers hynny, mae'r byd a'r gwaith fel rydyn ni'n ei adnabod wedi newid, ond er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar argymhellion y comisiwn. Mae'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma a dyna pam, i gyd-fynd â'r datganiad hwn, rwyf heddiw wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hyn, rwyf eisiau canolbwyntio ar feysydd allweddol o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Yn gyntaf, ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur a gwerth bod yn rhan o undeb llafur i weithwyr, gweithleoedd a Chymru. Yn ail, y sylfeini yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg mewn sectorau lle mae pryderon hirsefydlog sy'n cael eu cydnabod am amodau gwaith. Ac yn drydydd, y camau ymlaen yr ydyn ni wedi'u gweld ar fabwysiadu ac achredu cyflog byw gwirioneddol.

Mae ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur ac undebaeth lafur yn cael ei ysgogi gan farn gadarn y Llywodraeth Cymru hon bod undebau llafur yn sylfaenol i waith teg. I weithwyr, credwn mai bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau o ddiogelu hawliau yn y gwaith, gwella cyflog, telerau ac amodau, a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed. I gyflogwyr, rydym yn credu bod undebau llafur yn bartneriaid dyfeisgar o ran nodi a datrys materion yn y gweithle, wrth wella iechyd a diogelwch, wrth gefnogi dysgu yn y gweithle, ac wrth alluogi ymgysylltu â gweithwyr effeithiol. 

O ran Cymru, credwn fod undebau llafur yn ganolog i wead ein cenedl ac yn rym er lles. Byddwn ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth o rôl undebau llafur, hyrwyddo manteision bod mewn undeb llafur, ac yn glir ar werth cyflogwyr ac undebau llafur yn cydweithio'n adeiladol a gyda pharch at ei gilydd. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, o'n negeseuon ynghylch Wythnos HeartUnions bythefnos yn ôl, trwy gyfrwng rhaglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf a werthfawrogir fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy'n cefnogi sgiliau yn y gwaith, a thrwy ddatblygu mentrau newydd a chyffrous fel y cynllun treialu Undebau a Byd Gwaith.

Gan adeiladu ar ymgyrchoedd cynharach gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle, mae'r prosiect undebau a byd gwaith wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, athrawon ac ysgolion. Gan weithio gyda TUC Cymru, bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o ddarparu profiadau gyrfaoedd ac sy'n ymwneud â gwaith—CWRE—rhan annatod o'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Drwy'r cynllun treialu, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i ysgolion uwchradd ledled Cymru, gyda'r nod o rymuso'r genhedlaeth nesaf o weithwyr a chyflogwyr ac entrepreneuriaid i gael gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, rôl undebau llafur ac effaith llais ar y cyd wrth fynd i'r afael â materion yn y gweithle a thu hwnt.

Mae ein dull blaengar ni yn cydnabod y rôl ddilys ac angenrheidiol sydd gan undebau llafur. Mae hyn yn sefyll yn gwbl groes i'r hyn a welwn gan Lywodraeth y DU, sy'n cael ei grisialu yn eu Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) dinistriol, yr ydym yn gwrthwynebu ei effaith niweidiol. Yng Nghymru, mae gennym yn nodweddiadol ymhlith y cyfraddau uchaf o aelodaeth o undebau llafur o'u cymharu â gwledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr, ac yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd y llynedd, yn 2021, cynyddodd cyfran y gweithwyr yng Nghymru a oedd yn aelodau o undebau llafur 3.7 pwynt canran i 35.6 y cant, sef y lefel uchaf ers 2014. Gostyngodd y ffigwr cyfatebol mewn gwledydd eraill o'r DU dros yr un cyfnod. Er bod hyn yn ymddangos yn drawiadol o'i gymharu â gweddill y DU, rydym yn cyferbynnu'n llai ffafriol yn erbyn arferion gorau rhyngwladol. Rwyf eisiau gweld gwelliant parhaus yn lefelau dwysedd undebau llafur, presenoldeb undebau llafur a darpariaeth undebau llafur yng Nghymru, a bydd y Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hyn.

Gan droi yn awr at y sylfeini rydym yn eu gosod ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ym maes gofal cymdeithasol a manwerthu. Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn enghraifft wych o'r gwahaniaeth y gall dull partneriaeth gymdeithasol ei wneud yn ymarferol. Fe'n cynghorwyd ni ar weithredu'r cyflog byw gwirioneddol, ac mae bellach yn mynd i'r afael ag amodau gwaith ehangach yn y sector. Gwn y bydd ein dull partneriaeth yn ein rhoi ar seiliau cadarnach wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau hynny yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym wedi cymryd y cysyniad o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac wedi cymhwyso dull tebyg i'r sector manwerthu, gyda fforwm partneriaeth gymdeithasol yn dod â phartneriaid o bob rhan o'r sector penodol hwn ynghyd i ddatblygu'r cynllun gweithredu manwerthu. Cafodd drafft o'r cynllun ei drafod yng nghyfarfod diweddaraf y fforwm manwerthu yn gynharach heddiw ac rydym yn disgwyl cyhoeddi'r cynllun hwnnw yn yr wythnosau nesaf. Credwn y gellir defnyddio'r model hwn mewn sectorau eraill, ac er ein bod yn cydnabod nad yw'r dull hwn yn cyfateb i'r bargeinio ar y cyd sectoraidd a fyddai'n codi safonau'n gyson ac ar raddfa, mae fodd bynnag yn cynrychioli'r hyn sy'n bosibl trwy ein ysgogiadau a gall arwain at newid cadarnhaol a pharhaol. Yn bennaf, gall helpu i ddatblygu meincnodau ledled y sector a gall helpu i roi seiliau ar waith y gellir adeiladu arnynt, oherwydd, o'i gymharu â llawer o wledydd eraill Ewrop, mae bargeinio ar y cyd sectoraidd ledled y DU yn wan. 

Y maes olaf yr wyf am adrodd arno heddiw yw'r cyflog byw gwirioneddol. Nid y cyflog byw gwirioneddol yw ffactor diffiniol gwaith teg, ond mae'n bwysig o ran darparu llinell sylfaen ar gyfer cyfradd bob awr sydd yn cyd-fynd â thalu costau byw sylfaenol. Mae gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod bron i 70 y cant o'r bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, a'r mesur hwn yn gweld cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth wrth weithredu ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol. Rydym wedi darparu £43 miliwn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd y flwyddyn ariannol hon i ariannu codiad cyflog byw gwirioneddol, ac rydym wedi ymrwymo tua £70 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ond, fel arfer, mae mwy i'w wneud.

Felly wrth gloi, rwyf eisiau nodi rhai blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod yn gryno. Byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i wella cyrhaeddiad ac effaith y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Byddwn ni'n cefnogi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) trwy ei gyfnod craffu deddfwriaethol ac yn datblygu'r canllawiau cysylltiedig i wneud y mwyaf o'i effaith ar wasanaethau cyhoeddus, caffael, gwaith teg a llesiant ehangach. Byddwn yn parhau i wneud yn gwbl glir i Lywodraeth y DU nad yw'r ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr o fudd i weithwyr nac i Gymru. Ac er bod gwaith teg yn cwmpasu meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli sy'n effeithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a sut y byddwn ni'n ei wneud, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd gennym i hybu a galluogi gwaith teg. Felly, ar draws y blaenoriaethau hyn a blaenoriaethau eraill yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i gael bargen well i weithwyr ac i Gymru. Diolch.

17:50

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac am eich copi ymlaen llaw.

Fel bob amser, rwyf wedi fy siomi gan y naratif ideolegol sy'n dod gan Lywodraeth Cymru hon, yn enwedig yn eich sylwadau ynghylch y Bil lefelau gwasanaeth gofynnol. Oherwydd fel y gwyddoch chi, Dirprwy Weinidog, mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae'r TUC yn tanysgrifio iddo, yn cefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol mewn egwyddor yn ystod gweithredu ar ffurf streic. Er nad yw'n union yr un fath, mae deddfwriaeth gwasanaeth gofynnol yn Ffrainc, yr Almaen a gwledydd Ewropeaidd eraill. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod eich anhoffter o unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ceisio sicrhau bod y nifer priodol o bobl sydd eu hangen i gefnogi diogelwch y cyhoedd yn ystod streiciau yn nwylo Gweinidogion etholedig ac atebol, gyda mynediad at y wybodaeth a'r data priodol, yn hytrach na'u rhoi i'r meistri pypedau undebau llafur sy'n rheoli llinynnau pwrs y Blaid Lafur.

Dirprwy Weinidog, byddwn i wedi meddwl y gallai eich datganiad heddiw fod wedi canolbwyntio ychydig yn fwy ar ddiffygion eich Llywodraeth eich hun, ac yn ymwneud â mwy o bethau yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu eich pwyslais ar y cyflog byw, ond cefais fy siomi o weld bod y panel cynghori amaethyddol wedi penderfynu yn erbyn dod â'r gyfradd isafswm cyflog is i ben ar gyfer y rhai hynny sydd dan 25. Mae hyn yn fy nharo i braidd yn hurt, wrth i chi sôn am waith teg a thâl teg, ond eto'n caniatáu gwahaniaethu o'r fath yn erbyn gweithwyr amaethyddol ifanc. Dirprwy Weinidog, mae'r cyfraddau o £4.81 yr awr ar gyfer pobl ifanc 16 i 17 oed, a £6.83 yr awr ar gyfer pobl rhwng 18 a 20 oed, yn gwbl groes i'r egwyddor o gyflog teg am waith teg. Mae plentyn 16 i 20 oed yn debygol o weithio yr un mor galed, ac mae'n debyg y bydd ganddo gymaint o sgiliau, â gweithiwr amaethyddol hŷn. Fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae gan Gymru economi wledig sylweddol, ac os ydym ni am annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr amaethyddol, mae angen i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael o ddifrif â'r anghyfartaledd hwn. Pa esboniad allwch chi ei gynnig i'r Siambr am gadw'r cyflogau hyn i weithwyr amaethyddol dan 25 oed mor isel?

Yn eich datganiad, rydych yn sôn bod gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Ond faint o undebau llafur sydd wedi cofrestru, Dirprwy Weinidog? Gallaf ddweud wrthych chi mai nifer yr undebau llafur achrededig yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i fod wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol yw dim. Nid yw'r un undeb llafur wedi cofrestru—dyna faint maen nhw'n cefnogi ac yn gwerthfawrogi'r cynllun achredu hwn yr ydych chi'n ei hyrwyddo. Ac fe fyddwn i'n gofyn, Dirprwy Weinidog, os allwch chi egluro pam nad yw undebau llafur yn trafferthu cofrestru yng Nghymru, a dim ond saith undeb sydd wedi yn Lloegr a'r Alban.

Y llynedd, soniais yn fy ymateb i'ch datganiad blynyddol eich bod wedi methu â gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at waith teg i bobl anabl. Unwaith eto, dydych chi ddim wedi sôn am unrhyw gynnydd i leihau a chael gwared ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac nid ydych wedi sôn am unrhyw fentrau i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Yn hytrach, rydych chi wedi achub ar y cyfle hwn i ymosod ar Lywodraeth y DU. Gyda hyn mewn golwg, rwyf eisiau pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru'n cydnabod y dylai gwaith teg fod i bawb, a thrwy beidio â darparu diweddariadau ar anghenion y gymuned anabl, mae'n eithaf digalon iddyn nhw. Mae pobl anabl yn wynebu rhai o'r rhwystrau mwyaf wrth gael gwaith teg, ac, yn wir, cyflog teg, am y sgiliau y gallan nhw eu cyfrannu i fusnesau. Ac felly, Dirprwy Weinidog, a fyddwch chi'n gwneud ymrwymiad i roi diweddariad ar sut mae'r Llywodraeth hon yn helpu pobl anabl i gael gwaith teg yn natganiad y flwyddyn nesaf?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwyf eisiau sôn am bobl ifanc a phrentisiaethau. Er bod gennym ni lawer o gyfleoedd am brentisiaethau—ac rwyf newydd ymweld â Choleg Caerdydd a'r Fro a Choleg y Cymoedd i glywed am y cyrsiau gwych maen nhw'n eu cynnig—mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n manteisio ar y prentisiaethau yn gostwng. Rydyn ni wedi sôn droeon yn y Siambr hon am sut mae busnesau yng Nghymru yn cael eu hatal gan brinder sgiliau, yn arbennig, sut nad oes gan bobl ifanc a graddedigion y sgiliau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer busnesau. Ac fel y gwyddoch chi, mae cael y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau yn caniatáu i weithwyr fod â mwy o gadernid, oherwydd eu bod nhw'n gallu cael swyddi sy'n talu mwy ac yn gallu dod o hyd i waith yn gynt os cawn nhw eu diswyddo, er enghraifft. Felly, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr dilys i bobl ifanc gael swyddi sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi boddhad sy'n bodloni'r meini prawf gwaith teg? Diolch.

17:55

Dechreuaf drwy ymateb i'r cyfraniadau mwyaf sylweddol gan Joel James, ac yn arbennig ynghylch y pwyntiau pwysig iawn y mae'n eu gwneud o ran cefnogaeth i weithwyr anabl, pobl ag anableddau, ynghylch gwaith teg. Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gynnwys hynny mewn diweddariad yn y dyfodol, ond rwyf hefyd yn hapus i fynd i ffwrdd a gweld a allwn ni ddiweddaru'r Aelodau yn ysgrifenedig, cyn hynny hefyd. Byddwn yn dweud, nad yw'r ffaith nad yw pethau wedi eu cynnwys yn fy natganiad llafar heddiw ddim yn golygu nad ydyn nhw'n digwydd; mae am y rheswm syml bod gennym ni amser cyfyngedig i roi diweddariad yn Siambr y Senedd heddiw. Ac rwy'n siŵr y byddai gan y Llywydd rywbeth i'w ddweud pe bawn i'n rhestru pob un eitem yn niweddariad adroddiad cynnydd y Comisiwn Gwaith Teg.

Nid wyf i'n cael fy synnu gan—. Mae Joel James yn agor drwy ddweud nad oedd wedi ei synnu gan fy safbwynt ideolegol, mae'n debyg, ar undebau llafur. Yn yr un modd, nid wyf i'n synnu mai dyna oedd llinell agoriadol Joel James. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd iawn â hynny yn y Siambr hon nawr, ac mae'r cwbl wedi cael sylw droeon o'r blaen.

Dim ond pwynt ar y materion yn ymwneud â'r panel cynghori amaethyddol y cyfeiriwyd ato. Nid wyf i'n siŵr a yw Joel yn ymwybodol bod hynny, yn amlwg, wedi datblygu o waddol Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr. Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraeth Geidwadol, oedd eisiau cael gwared ar y bwrdd cyflogau amaethyddol, ac mewn gwirionedd, mewn bywyd blaenorol, roeddwn i'n rhan o'r ymgyrch i geisio atal hynny, a phan ddigwyddodd hynny, i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i weithwyr yma yng Nghymru drwy'r panel cynghori amaethyddol. Ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud ynghylch y gwahaniaethau yn yr isafswm cyflog yn cael eu rhannu gydag aelodau'r panel hwnnw, sy'n cynnwys cynrychiolaeth gyfartal o undebau llafur ac ar draws yr undebau ffermio hefyd, ac aelodau annibynnol, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n clywed y sylwadau hynny yn gwbl eglur i'w bwydo yn ôl. Ond y Llywodraeth hon sy'n sicr ar ochr gweithwyr ac yn rhoi'r mecanweithiau hynny ar waith i wneud yn siŵr y gallwn ni drin gweithwyr yn iawn, pa un a ydyn nhw mewn lleoliadau trefol neu wledig.

18:00

Diolch yn fawr am y datganiad brynhawn yma ac am yr adroddiad y gwnaethoch chi gyhoeddi heddiw hefyd. 

Fel y byddwn ni'n trafod yn nadl y Blaid yfory, mae angen i'r agenda gwaith teg fod â rhan ganolog yn y gwaith o lunio strategaeth ddiwydiannol ac economaidd Cymru yn y dyfodol. Mewn ymateb i'r Bil streiciau didostur sy'n gwneud ei ffordd drwy San Steffan, mae'n hanfodol i ni yng Nghymru ddiffinio egwyddorion eglur sy'n gysylltiedig â gwaith teg. Bydd hyn yn diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag y ddeddfwriaeth frawychus yr ydym ni'n ei gweld yn dod o San Steffan. Yng ngoleuni'r argymhellion gwaith teg a dderbyniwyd heddiw, nodaf yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflawni ymrwymiadau polisi i hyrwyddo undebau llafur a bargeinio ar y cyd yn wyneb deddfwriaeth ddidostur y DU. Pa un o'r rhain ydych chi'n meddwl fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran lliniaru rhywfaint o'r ymosodiad hwnnw gan San Steffan ar undebaeth lafur?

Y mater arall yr oeddwn i eisiau troi ato yw argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019 y dylai diffiniad o 'waith teg' yng Nghymru gynnwys gweithwyr yn cael tâl, gwrandawiad a chynrychiolaeth deg, eu bod yn ddiogel ac yn gallu datblygu mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir gweld bod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg wedi cael ei dderbyn i'w fabwysiadu a'i ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r ffaith mai dim ond nawr y mae diffiniad a argymhellwyd yn 2019 yn cael ei dderbyn yn amlygu bod gwaith i'w wneud pan ddaw at wneud penderfyniadau rhagweithiol. Pam na dderbyniwyd y diffiniad hwn yn gynt, a beth arall y gellir ei wneud nawr i ymwreiddio'r diffiniad hwn yn ymarferol? Diolch yn fawr.

Diolch. A gaf i ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gwestiynau a hefyd ei ymrwymiad yn y maes hwn? Gwn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth yn gydweithredol iawn ar nifer o'r materion hyn. Rwy'n credu y gwnaf i roi sylw i'r pwynt olaf yn gyntaf ynghylch diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o ran gwaith teg. Dim ond i egluro, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth yr oeddem ni eisiau ei wneud o'r blaen, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud erbyn hyn. Ac rwy'n credu'n arbennig ei bod hi'n bwysig, fel y dywedais, er y bu cynnydd o ran llawer o'r argymhellion hynny, bod y cyd-destun ar ei gyfer wedi newid yn sylweddol iawn yn sgil pandemig COVID, a'r argyfwng costau byw bellach, newidiadau i batrymau gweithio a chyfleoedd gwaith mwy hyblyg. Felly, mae'n dod â mwy o heriau gydag ef, ond rwy'n credu hefyd os edrychwn ni ar bethau o safbwynt mwy cadarnhaol, mae'n dod â mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith teg hefyd o bosibl. Felly, dim ond i roi sylw i'r pwynt nad ydym ni—. Dim ond i egluro, nid dim ond nawr yr ydym ni'n derbyn y diffiniad hwnnw; dim ond ei fod yn yr adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd heddiw. Derbyniwyd hwnnw gennym ni gryn amser yn ôl, diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano yn natblygiad deddfwriaeth Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) hefyd, a bydd hynny yn y canllawiau fel y diffiniad pendant y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi ac eisiau ei rannu ledled Cymru o ran y llinell sylfaen honno o ddeall bod gwaith teg, ydy, yn ymwneud â thâl ac amodau, ond ei fod yn ymwneud â'r pecyn ehangach hwnnw hefyd—fel y dywedwch chi, llais gweithwyr, llesiant yn y gweithle, a'r holl ysgogiadau hynny y gallwn ni eu defnyddio.

O ran sut rydym ni'n defnyddio'r cytundebau sectoraidd hynny, mae gennym ni'r mwyaf o ysgogiadau yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, ond rwy'n credu mai'r hyn y mae'r gwaith yn y sector manwerthu wedi ei ddangos i ni, mewn gwirionedd, yw'r heriau sy'n wynebu gweithwyr ond hefyd o ochr fusnes y cyflogwyr o ran cynaliadwyedd rhai sectorau yng Nghymru. Ac rwy'n credu, mae'n debyg, y gallech chi edrych ar letygarwch hefyd yn rhan o hynny. Felly, mewn gwirionedd, gall gwell cefnogaeth ar draws y sector cyfan i weithwyr o ran tâl ac amodau ar draws y sector cyfan sy'n sicrhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd i'r sector wir helpu i gyflawni hynny. Roedd achos busnes ar gyfer gwaith tecach a gwell hefyd, felly rwyf i bob amser yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo. Ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes ym maes manwerthu a gofal cymdeithasol efallai'n cynnig y model hwnnw i adeiladu arno yn y dyfodol, ac mewn gwirionedd sut y gallwn ni ddysgu o hwnnw a'i rannu ledled Cymru.

18:05

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n croesawu yn arbennig eich sylw ynghylch y cwricwlwm newydd ac undebau yn y gweithle. Cysylltu dealltwriaeth o hawliau yn y gweithle â chanllawiau gyrfaol yw'r peth sylfaenol iawn i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at ganlyniadau'r cynllun peilot maes o law.

Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, nodaf eich sylwadau ynghylch y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno ar yr angen brys i ehangu ein gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn hwnnw, yn enwedig drwy'r agenda gwaith teg, yn gwbl allweddol i hynny. Felly, a allwch chi ymhelaethu ychydig ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael am hyn, ac am y model o waith teg yr ydych chi'n awyddus i'w hyrwyddo y tu hwnt i ddarpariaeth y cyflog byw gwirioneddol?

Yn gysylltiedig â hyn, rwy'n credu bod argymhellion 46 a 47 ar olrhain cynnydd yn hanfodol. Mae mynediad at ddata o ansawdd da yn bwysig os ydym ni'n mynd i allu monitro darpariaeth a chyflymder y ddarpariaeth, a nodi a datrys unrhyw rwystrau. Rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am wneud y newidiadau i'r dangosyddion cenedlaethol a awgrymwyd. Sut bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lunio ac ysgogi perfformiad i sicrhau y gallwn ni ddarparu gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, clywsom hefyd gan Weinidog yr Economi yn gynharach heddiw ynghylch sut y bydd arloesedd yn cael ei ymwreiddio ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Felly, byddwn yn croesawu eich myfyrdodau ar sut mae gwaith teg yn cyd-fynd â hyn yn unol â'r argymhelliad cyntaf un hwnnw bod hwn hefyd yn gyfrifoldeb trawslywodraethol. Sut gallwn ni ddefnyddio arloesedd fel ysgogiad i'n caniatáu i hyrwyddo a sicrhau gwaith teg yn well i ddinasyddion Cymru?

Diolchaf i Vikki Howells am ei chyfraniad hithau ac am ei sylwadau gwresog am rywfaint o'r gwaith a wnaed gennym ni. Gwn fod hwn yn faes yr ydych chi, nid yn unig fel cyn-athrawes, yn angerddol iawn amdano, ond fel rhywun sy'n eirioli dros waith tecach a gwell mewn cymunedau ar draws y wlad gyfan.

Dim ond i sôn am y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n symud ymlaen, a'r angen i fynd i'r afael â phethau yn y sector hwnnw, yn amlwg fe aethom ni i'r afael â'r pryder uniongyrchol hwnnw ynghylch y cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu eich bod wedi sôn yn eich sylwadau olaf bod y cyflog byw gwirioneddol yn elfen allweddol, ond yn un elfen yn unig o waith teg. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, a dweud y gwir, y dylem ni ei weld fel llinell sylfaen yn hytrach na meincnod—y sylfaen honno i adeiladu arni ac i dyfu arni.

Yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud i wella telerau ac amodau, a hefyd i ddyrchafu statws gofal cymdeithasol fel gyrfa sy'n cael ei gwerthfawrogi ac yn un sydd mor hollbwysig i'n holl gymunedau a'n holl deuluoedd o ran gofalu, mewn llawer o'n hachosion, am ein hanwyliaid agosaf, a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n bodoli ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae hwn yn waith y mae fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn ei arwain yn bendant, ond yn amlwg rwy'n cyfrannu ato fel dull trawslywodraeth o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymwreiddio'r dull gwaith teg hwnnw. Felly, mae'r fforwm wedi edrych ar bethau fel tâl salwch yn y sector annibynnol yn ddiweddar, gan ystyried strwythur ar gyfer cydfargeinio i weithwyr gofal cymdeithasol, a datblygu fframwaith cyflog a chynnydd. Mae is-grŵp i'r fforwm, sy'n cynnwys gwahanol bartneriaid cymdeithasol, wedi datblygu fframwaith drafft ar gyfer cyflog a chynnydd i ganfod mwy o gysondeb mewn swyddi a chyflogau, yn ogystal â chyfleoedd gyrfaol gwell a mwy eglur. Rwy'n rhagweld y bydd yr ymgynghoriad ar y fframwaith drafft yn dechrau yn y gwanwyn yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol sydd â'r nod o symleiddio comisiynu gwasanaethau a chynnig cymorth gwell i gomisiynwyr a darparwyr.

Dim ond i wneud sylw ar y pwynt ynghylch arloesi, hefyd, a'r rhan y mae gwaith teg yn ei chwarae, rydych chi yn llygad eich lle i ddweud bod yn rhaid i hwn fod yn ymrwymiad traws-Lywodraethol. Efallai mai fi sy'n arwain ar waith teg, ond mewn gwirionedd mae angen i ni ei ymwreiddio yr holl ffordd ar draws yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru, felly rwy'n meddwl bod arloesedd a phethau rydym ni'n eu gwneud—. Gwn fod TUC Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r gwaith hwnnw i wneud yn siŵr mewn gwirionedd bod rhan, o bosibl, i gynrychiolwyr undebau llafur ei chwarae o ran ymwreiddio arloesedd, yn enwedig wrth i ni edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei alw'n bontio teg hefyd. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â chyfiawnder amgylcheddol, hefyd, felly ceir cyfle gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r gweithio partneriaeth cymdeithasol hwnnw yng Nghymru a'r fforymau hynny sydd gennym ni mewn bodolaeth eisoes i wneud yn siŵr bod arloesi yn gweithio i fusnesau a chymunedau, ond hefyd i unigolion a gweithwyr hefyd.

Ac yn olaf un, ynghylch y sylwadau ar y rhaglen beilot mewn ysgolion, ydw, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth yw canlyniad y rhaglen beilot, ac roeddwn i'n ddigon ffodus, gryn amser yn ôl erbyn hyn, i ymweld ag ysgol—yn anffodus, nid yn ardal yr Aelod, ond yng Nghasnewydd—a gweld grŵp o bobl ifanc a'i weld ar waith. Roedd yn braf iawn gweld eu bod nhw'n siarad am y syniad o gydweithio ar bethau y tu hwnt i waith hefyd. Felly, mewn gwirionedd, roedden nhw wedi sefydlu ymgyrchoedd ar bethau yr oedden nhw eisiau eu cyflawni yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ddifaru yn y pen draws pan fydd gennym ni grŵp o bobl ifanc yn ymgyrchu y tu allan, ond rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd, a dweud y gwir, yn addysgu pobl i ddefnyddio eu llais, gwybod bod ganddyn nhw hawliau ac am rym gweithio ar y cyd i gyflawni newid.

18:10

Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid mai partneriaethau cymdeithasol yw'r allwedd sy'n sail i bopeth yn y gweithle, ac, yn groes i'r myth Torïaidd a'r cysyniadau ideolegol sydd ganddyn nhw sy'n wahanol i'n rhai ni, mae partneriaethau cymdeithasol o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr mewn gwirionedd. Mae'n rhoi pobl mewn sefyllfa o drafod, yn hytrach na gwrthdaro, ac rydym ni wedi gweld digon o wrthdaro a diffyg trafod yn eithaf diweddar, ac nid yw'n llesol i neb. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad hwn yr ydych chi wedi ei wneud heddiw yn fawr, ac rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n mynd i mewn i ysgolion ac yn addysgu pobl ifanc am y manteision o fod yn ymwybodol o'u hawliau yn y gwaith cyn iddyn nhw fynd i'r gwaith. Felly, os byddan nhw'n gweld sefyllfa nad yw o fudd iddyn nhw, byddan nhw'n gallu codi'r gwrthwynebiadau hynny ac, efallai, tynnu sylw at wendidau yn y gyflogaeth a allai bara am ddegawdau lawer drwy gydol eu hoes, a byddan nhw'n teimlo'n rhan wedyn, rwy'n credu, o'r cwmni hwnnw a byddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n perthyn, y mae'r Torïaid, wrth gwrs, wedi methu â'i ddeall.

Diolchaf i Joyce Watson am ei chyfraniad heddiw, ac rwy'n ategu'n fawr y cyfraniad a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud ynghylch gwerth partneriaeth gymdeithasol ac nad yw er budd gweithwyr ac undebau llafur yn unig; mae er budd cyflogwyr, boed yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu eraill. Rydym ni wedi gweld cydnabyddiaeth o hynny drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru, a holl ddiben cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yw nad ydych chi bob amser yn mynd i gytuno, ond mae gennych chi'r fecanwaith i ddod at eich gilydd i nodi heriau a cheisio dod o hyd i atebion ar y cyd. Mae'n cynnig manteision i fusnesau, mae'n cynnig manteision i Gymru hefyd.

Ar y pwynt ynghylch yr undeb o'r byd gwaith a mynd i ysgolion, rwy'n credu fy mod i wedi dweud o'r blaen, efallai nid yn y fan yma, ond oni bai eich bod chi'n filiwnydd sawl gwaith drosodd neu'n ennill y loteri, rydych chi'n debygol o dreulio cyfran helaeth o'ch bywyd yn y gwaith, a phobl ifanc, yn anffodus, yw'r lleiaf tebygol o fod yn ymwybodol o'u hawliau yn y gwaith ond y mwyaf tebygol o fod mewn sefyllfa lle maen nhw'n destun camfanteisio. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n arfogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i fynd i fyd gwaith gyda'r wybodaeth honno a chyda'r ddealltwriaeth honno, ond hefyd nid yn unig, efallai, fel cyflogeion a gweithwyr eu hunain, ond fel cyflogwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol hefyd.

10. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Nesaf, felly, mae'r cynnig i amrywio trefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog eto i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.

Cynnig NDM8208 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-22

b) Atodlen 1

c) Adrannau 23-24

d) Atodlen 2

e) Adrannau 25-49

f) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Felly, mae'r cynnig wedi ei wneud. Does gyda fi neb eisiau siarad. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 10 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Eitem 11 sydd nesaf, y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8209 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023. Mae'r rheoliadau yn gosod y lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer 2023-24. Ar 12 Rhagfyr, cyhoeddais y penderfyniad i rewi'r lluosydd ar gyfer 2023-24. Bydd yn aros ar yr un lefel a osodwyd ers 2020-21, sef 0.535. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl filiau ardrethi a dalwyd yn 2023-24 yn sylweddol is nag y bydden nhw fel arall. Bydd y newid hwn yn helpu busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, gan gynnal llif sefydlog o refeniw trethi ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae'r rhewi yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n buddsoddi dros £100 miliwn bob blwyddyn i dalu'r gost, felly ni fydd unrhyw effaith ar yr arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau drwy ardrethu annomestig. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

18:15

Diolch, Gweinidog. Mae pob un ohonom ni'n gwybod mai BBaChau yw curiad calon ein heconomi yma yng Nghymru. Maen nhw'n darparu cyflogaeth hanfodol ac yn cyfrannu at synnwyr o gymuned a pherthyn. Ac er fy mod i'n falch nad yw'r lluosydd wedi codi, ni allwn ni gefnogi'r rhewi, oherwydd mae'n amlwg y gellid fod wedi gwneud llawer mwy i gynorthwyo'r gymuned fusnes. Er enghraifft, fel y nododd y memorandwm esboniadol yn opsiwn 3, lle mae'n awgrymu opsiwn i leihau'r lluosydd 2 y cant, wel, byddai hynny wedi dod â ni'n fwy cyson â gweddill y DU. Y gwir amdani yw bod busnesau yn yr Alban a Lloegr yn talu cyfradd is o ardrethi busnes nag y mae busnesau yn ei wneud yng Nghymru. Mae eu lluosyddion yn fwy hael, ac felly hefyd eu cynlluniau rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae'n amlwg bod y gost o gyflawni busnes yn uwch yma yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain Fawr, gan lesteirio twf busnesau a chynyddu'r pwysau ar fusnesau ar adeg pan ddylem ni fod yn ceisio eu cynorthwyo. Felly, gellid gwneud llawer mwy; er ein bod ni'n croesawu'r rhewi, nid yw'n ddigon—. Dydyn ni ddim wedi gwneud digon. Diolch.

A wnaf i ymateb i'r ddadl, Llywydd?

O, mae'n ddrwg gen i. Ie. Fe wnes i anghofio bod yn rhaid i mi ddweud rhywbeth. Y Gweinidog i ymateb, os yw'n dymuno.

Hoffwn, os gwelwch yn dda. Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi rhewi'r lluosydd, oherwydd, wrth gwrs, y dewis arall yw bod y lluosydd yn codi yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, a fyddai'n amlwg yn newyddion drwg iawn i fusnesau ledled Cymru gyfan, ac mae'n rhaid i ni gofio hefyd mai dim ond un ffactor sy'n pennu bil y talwr ardrethi yw'r lluosydd, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo ei hun, ac mae ein sylfaen dreth, sydd â gwerth ardrethol cyfartalog o tua £19,000, yn wahanol iawn, iawn i'r hyn ar draws y ffin yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw gyfartaledd llawer uwch o tua £33,000, ac yn amlwg wedyn mae hynny'n creu gwahaniaeth mawr o ran rhwymedigaeth gyfartalog talwyr ardrethi.

Ac mae'n werth cydnabod hefyd, wrth gwrs, mai dim ond rhan o'n cymorth i fusnesau yw ein cymorth o ran rhewi'r lluosydd. Rydym ni'n darparu drwy'r gyllideb derfynol, a gyhoeddwyd heddiw, dros £460 miliwn o gymorth i dalwyr ardrethi yng Nghymru dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, ac mae hynny ar ben y £240 miliwn o gymorth yr ydym ni'n ei ddarparu bob blwyddyn. Felly, rydym ni'n darparu cymorth helaeth iawn i dalwyr ardrethi ledled Cymru o ran, yn enwedig, busnesau bach, ond hefyd y busnesau hynny yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden, y fydd eu biliau yn cael eu gostwng 75 y cant y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu.

Ac yn amlwg, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol o'r ailbrisio sydd wedi bod yn digwydd, a'r ffaith y bydd ardrethi rhai eiddo yn cynyddu, felly rydym ni wedi rhoi cymorth pontio ar waith i bob un o'r busnesau hynny a fydd yn gweld cynnydd o fwy na £300 o ganlyniad i'r ailbrisiad hwnnw—eto, dull teg a phragmatig iawn o gynorthwyo busnesau. Ac rwy'n credu bod ein pecyn o gymorth newydd, ynghyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol, yn sicrhau bod gennym ni amgylchedd gwirioneddol groesawgar yma i fusnesau yng Nghymru, gan ddiogelu ein cyllid llywodraethol lleol wrth gwrs.

A bydd y rheoliadau yr ydym ni wedi eu cyflwyno heddiw yn darparu elfen allweddol o'r cymorth hwnnw, gan atal y cynnydd ar sail chwyddiant i filiau ardrethi y byddai talwyr ardrethi yn eu hwynebu fel arall, ac, am y rheswm hwnnw, Llywydd, byddwn yn gofyn i'r Ceidwadwyr ailystyried eu bwriad i bleidleisio yn erbyn y camau hynny y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Eitem 12 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
 

Cynnig NDM8207 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Bil ar lefel y DU yw hwn sydd â'r bwriad o ddiwygio'r modd y caiff darparwyr tai cymdeithasol eu rheoleiddio yn Lloegr. Mae darparwyr tai cymdeithasol o Loegr yn berchen ar tua 500 o gartrefi yng Nghymru, neu'n eu rheoli; felly, bydd y newidiadau a gynigir gan y Bil hwn yn cael effaith ar bobl sy'n byw yn y cartrefi hyn, gan y bydd y Bil yn newid y ffordd y caiff eu landlordiaid eu rheoleiddio. Mae angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd pan fo deddfwriaeth y DU yn darparu ar gyfer unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd y Senedd. Mae tai yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac felly, er bod y Bil yn effeithio ar nifer gymharol fach o bobl sy'n byw yng Nghymru, caiff y gofyniad am gydsyniad ei sbarduno.

Mae'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd yn nodi ac yn esbonio pam rwy'n credu bod angen cydsyniad. Fy marn gyffredinol i yw mai nod y newidiadau sy'n cael eu cynnig i'r drefn yn Lloegr yw sicrhau bod landlordiaid yn fwy atebol i'w tenantiaid am eu perfformiad ac, felly, rwy'n argymell y dylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Mae'n bwysig nodi mai'r cwbl y mae cydsynio i'r darpariaethau hyn yn ei wneud yw cadw'r sefyllfa bresennol ar gyfer y tenantiaid hynny o ran sut y caiff eu landlordiaid eu rheoleiddio ac i nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn i unrhyw un o'r newidiadau hyn fod yn berthnasol i landlordiaid cymdeithasol Cymru.

Mae'r drefn reoleiddio yng Nghymru wedi'i fframio ar sail gwahanol ddarpariaethau statudol ac yn gweithredu'n wahanol iawn i'r drefn yn Lloegr. Er bod natur landlordiaid cymdeithasol hefyd yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, i ryw raddau, maen nhw i gyd yn darparu gwasanaethau tebyg i rai o'r bobl a'r cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn wynebu heriau tebyg. Gan gydnabod rhai o'r heriau hynny, fe wnes i lansio cyfres o safonau rheoleiddio newydd a fframwaith rheoleiddio diwygiedig ar gyfer Cymru ym mis Ionawr 2022. Rwy'n gosod safonau heriol ar y ffordd y mae landlordiaid yn ymgysylltu â thenantiaid ac yn gwrando arnyn nhw, yn gwneud gwybodaeth am berfformiad ar gael, yn sicrhau lefelau uchel o foddhad tenantiaid gyda'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ac yn dysgu o gŵynion. Cyflwynir y gofyniad pendant i gadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi yn eglur yn y safonau hefyd, wedi'i atgyfnerthu ymhellach gan y ddyletswydd ffitrwydd i fod yn gartref a nodwyd yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr.

Wrth argymell cydsynio i'r Bil hwn ar lefel y DU, gallaf sicrhau'r Aelodau bod y materion y mae'n bwriadu mynd i'r afael â nhw o dan ystyriaeth yma yng Nghymru, a'u bod nhw bob amser. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau sydd wedi ystyried y memoranda ar y Bil hwn. Nodaf y pryderon ynghylch darparu gwybodaeth amserol a chraffu dyladwy. Yn aml, mae hyn y tu allan i reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac er y byddaf bob amser yn ceisio darparu gwybodaeth mor brydlon â phosibl, mae'n rhaid i mi hysbysu'r Senedd fy mod i'n ymwybodol bellach y cyhoeddwyd gwelliannau pellach dim ond ddoe, sy'n cael eu hystyried gan swyddogion ac a allai hefyd sbarduno'r gofyniad am gydsyniad.

Rwy'n bwriadu ysgrifennu at Weinidog perthnasol y DU i fynegi fy anfodlonrwydd gyda chyflwyniad hwyr y gwelliannau a'i effaith ar allu'r Senedd hon i graffu'n effeithiol ar y Bil cyflawn. Gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd ar y memorandwm diweddaraf ddoe. Maen nhw'n cytuno ar bob pwynt oni bai am un. Rwy'n cadw'r safbwynt a nodir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diwethaf bod angen cydsyniad ar gyfer y gwelliant i Atodlen 5, sy'n ymwneud â diogelu data, sef gwelliant 35 y Llywodraeth. Er hynny, hoffwn ddiolch i'r ddau bwyllgor sydd wedi ystyried y Bil hwn ac rwy'n falch bod cytundeb ar y rhan fwyaf o bwyntiau yn ymwneud â'r gofyniad am gydsyniad ac argymhelliad mwyafrifol y dylid cydsynio.

Felly, Llywydd, i gloi, rwy'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol o ran y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Diolch.

18:20

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor—y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y dywedoch chi, Llywydd. Rydym ni wedi cynnig dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, memorandwm atodol Rhif 2 a memorandwm atodol Rhif 3 ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm atodol Rhif 4 ar 13 Ionawr. Llywydd, fel yr esboniais mewn llythyr at y Pwyllgor Busnes, yn anffodus, nid oedd gennym ni ddigon o amser i adrodd ar y memorandwm atodol diweddaraf, Rhif 5, a gyflwynwyd ar 15 Chwefror—y diwrnod cyn yr unig gyfarfod lle'r oeddem ni'n gallu ei ystyried.

Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd darpariaethau yn berthnasol i'r oddeutu 530 o eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr neu'n cael eu rheoli ganddyn nhw, ac na fydd y mwyafrif llethol o dai cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu heffeithio. Rydym ni hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Bil yn dod â newidiadau cadarnhaol i'r tenantiaid hynny yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio. Ond rydym ni'n credu nad yw'r amser byr a neilltuwyd i'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn ddigonol i ganiatáu i ni ddeall yn llawn effaith darpariaethau ar fywydau pobl yng Nghymru. Ac rydym ni'n pryderu y gall deddfu fel hyn roi pobl o dan anfantais yng Nghymru oherwydd bod ganddyn nhw lai o gyfleoedd i rannu eu safbwyntiau â'r rhai sy'n llunio'r ddeddfwriaeth, ac nid yw'r cyfle gennym ni i brofi'r darpariaethau gyda rhanddeiliaid yng Nghymru.

Mae'r pwyllgor yn rhwystredig iawn nad oeddem ni'n gallu craffu ar y darpariaethau ym memorandwm Rhif 5 ac adrodd ein sylwadau i'r Senedd cyn y ddadl hon. Oherwydd iddo gael ei gyflwyno y diwrnod cyn ein cyfarfod, dim ond am gyfnod byr iawn y llwyddwyd i ystyried y darpariaethau. Mae'r aelodau yn teimlo'n gryf bod cael un cyfarfod yn unig i ystyried ac adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn annigonol. Ddwywaith, Llywydd, rwyf i wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ar ran y pwyllgor i amlinellu ein pryderon ynghylch y defnydd cynyddol o Filiau'r DU a'r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig.

Er gwaethaf y pryderon hyn, mae'r mwyafrif o aelodau'r pwyllgor yn teimlo y gallan nhw argymell y dylai'r Senedd roi ei chydsyniad i ddeddfu ar y materion datganoledig yn y memorandwm cychwynnol a memoranda Rhifau 2 i 4. Mae un aelod o'r pwyllgor, Mabon ap Gwynfor AS, yn anghytuno â barn y mwyafrif ac yn credu na ddylid rhoi cydsyniad. O gofio'r amser a oedd ar gael i graffu ar femorandwm atodol Rhif 5, nid ydym mewn sefyllfa i fynegi barn ynghylch a ddylid argymell i'r Senedd ei bod yn rhoi neu'n gwrthod cydsyniad deddfwriaethol o ran y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm diweddaraf.

Llywydd, hoffwn gloi drwy ailadrodd ceisiadau blaenorol y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pwyllgorau yn cael yr amser a'r wybodaeth angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.

18:25

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Llywydd. Byddaf mor gyflym â phosibl. Rydyn ni wedi llunio tri adroddiad sy'n cwmpasu'r pum memorandwm cydsyniad sydd wedi'u gosod gan y Gweinidog ar gyfer y Bil hwn. Cwblhawyd y cyntaf fis Tachwedd diwethaf, a dim ond brynhawn ddoe y gosodwyd y trydydd.

Nawr, y mis diwethaf, Llywydd, siaradais yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU a nodais mai ein hadroddiad terfynol ar y Bil hwnnw oedd ein deugeinfed hadroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol yn y chweched Senedd hon—y deugeinfed adroddiad. Ers hynny, rydym ni wedi adrodd ar bedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall.

Felly, bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar y nifer fawr o femoranda ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae'r Gweinidog wedi cyflwyno pum memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, sy'n dangos i ba raddau y mae'r Bil a gyflwynwyd i Senedd y DU wedi newid ers ei gyflwyno ac i ba raddau y mae newidiadau o'r fath yn effeithio ar feysydd datganoledig. Mae ein hystyriaeth o'r holl femoranda ar gyfer y Bil hwn yw amlygu anaddasrwydd difrifol galluogi Senedd wahanol i ddeddfu ar gyfer Cymru ar faterion datganoledig.

Yn ein hadroddiad diweddaraf, rydym ni wedi croesawu camau'r Gweinidog i gyflwyno memorandwm Rhif 5 gerbron y Senedd o fewn ychydig ddiwrnodau i'r gwelliannau perthnasol gael eu cyflwyno yn Senedd y DU. Mae hynny i'w groesawu yn fawr. Fodd bynnag, o gofio bod y ddadl wedi'i threfnu ar gyfer heddiw, nid yw cyd-Aelodau'r Senedd ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel rydych chi newydd glywed, sydd wedi bod yn ceisio edrych ar fanylion polisi pwysig a goblygiadau'r Bil hwn, wedi gallu craffu ar y gwelliannau diweddaraf a'r memorandwm cydsyniad atodol. Dim ond oherwydd bod amserlen y pwyllgor yn galluogi ein pwyllgor i gyfarfod ar brynhawn Llun ac y gwnaethom ni lwyddo i ystyried y memorandwm ddoe ac adrodd yn syth wedyn, cyn y ddadl hon, yr ydym ni'n gallu gwneud y sylwadau hyn nawr. Ond nid dyma'r ffordd i graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol a fydd yn cael effaith yng Nghymru.

Mae John Griffiths, fy nghyd-Gadeirydd, Cadeirydd y pwyllgor llywodraeth leol, wedi crynhoi'r cyfyng gyngor hwn yn dda yn ei sylwadau heddiw ac yn ei lythyr diweddar at y Pwyllgor Busnes. Mae'r defnydd cynyddol o Filiau'r DU a'r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn golygu nad oes digon o gyfle i Aelodau'r Senedd graffu ar ddeddfau newydd arfaethedig a deall effaith y darpariaethau hyn yn llawn ar fywydau pobl yng Nghymru.

Nawr, ar y pwynt hwn, hoffwn dynnu sylw eto at y problemau amseru gyda'r memorandwm cyntaf a memorandwm Rhif 2. Cymerodd 10 wythnos i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r memorandwm cyntaf, ac erbyn hynny roedd y Senedd wedi torri ar gyfer yr haf, a bu oedi o chwe wythnos rhwng cyflwyno gwelliannau perthnasol i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi a chyflwyno memorandwm Rhif 2. Felly, yn ein hadroddiad ar y memoranda cynnar hynny, fe wnaethom ni fanteisio ar y cyfle i atgoffa'r Gweinidog—a herio'r Gweinidog a holl Weinidogion Cymru—o bwysigrwydd darparu gwybodaeth brydlon i Aelodau'r Senedd er mwyn peidio ag ychwanegu at y diffygion democrataidd a achosir gan Filiau'r DU sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru mewn meysydd datganoledig a'r broses gydsynio gysylltiedig. Ond, yn yr ysbryd hwnnw o fod yn gyfaill adeiladol a beirniadol, yn ein hadroddiad ar femoranda Rhifau 3 a 4, fe wnaethom ni groesawu'r ffaith bod memorandwm Rhif 4 wedi cael ei gyflwyno gerbron y Senedd o fewn 14 diwrnod i gyflwyno'r gwelliannau perthnasol gerbron Senedd y DU. Mae hyn i'w groesawu'n fawr ac mae'r Llywodraeth yn amlwg wedi gwrando ac rydym ni'n croesawu hynny.

Felly, cyn cloi, Gweinidog, rydym ni hefyd wedi nodi, fel y gwnaethoch chi yn eich sylwadau, y cyflwynwyd gwelliannau pellach i'r Bil hwn ddoe, felly efallai y byddwn ni yn ôl yma eto. Gallai'r gwelliannau hyn hefyd effeithio ar feysydd datganoledig ac felly sbarduno'r broses cydsyniad deddfwriaethol, felly Gweinidog, eto, efallai y gallech chi barhau i fyfyrio ar y pryderon hyn yn y ffordd ymlaen ar hyn ac yn eich sylwadau i gloi, ond rydym ni'n croesawu prydlondeb eich cyflwyniad diweddar o hwn, er ei fod wedi rhoi amser cyfyngedig iawn i bwyllgorau ei ystyried.

18:30

Wrth gwrs, diben y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) yw hwyluso dull rhagweithiol newydd o reoleiddio landlordiaid tai cymdeithasol ar faterion defnyddwyr. Mae materion o'r fath yn cynnwys diogelwch, tryloywder ac ymgysylltu â thenantiaid. Mae gan y Bil hwn dri phrif amcan: hwyluso trefn rheoleiddio defnyddwyr ragweithiol newydd, mireinio'r drefn reoleiddio economaidd bresennol, a chryfhau'r rheoleiddiwr ar gyfer pwerau tai cymdeithasol i orfodi'r trefnau defnyddwyr ac economaidd.

Mae tua 530 eiddo yng Nghymru yn eiddo i ddarparwr a/neu dan reolaeth ddarparwr o Loegr a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau a ddisgrifir gan y Bil hwn. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ddisgrifio'n briodol i ymdrin â'r darpariaethau o fewn Bil Senedd y DU, oherwydd y niferoedd bach o stoc tai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr sydd wedi'u lleoli yn Lloegr, neu'n cael eu rheoli ganddyn nhw. Wrth ddisgrifio'r cymalau fel rhai 'cadarnhaol' i denantiaid yng Nghymru, mae'r Gweinidog yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd effaith gadarnhaol y Bil ar denantiaid Cymru trwy gryfhau hawliau tenantiaid fel cyfiawnhad dros roi cydsyniad, ac eto rwy'n cytuno.

Mae'n ymddangos fel y bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy wneud diogelwch a thryloywder yn rhannau eglur o amcanion y rheoleiddiwr. Byddai Llywodraeth y DU yn cael gwared ar y prawf anfantais ddifrifol—rhwystr deddfwriaethol i weithrediad y rheoleiddiwr ar faterion defnyddwyr. Hefyd, bydd Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid enwebu unigolyn dynodedig ar gyfer materion iechyd a diogelwch. Byddai landlordiaid tai cymdeithasol hefyd yn destun gofynion newydd ar gyfer archwiliadau diogelwch trydanol. Diben yr amcan hwn yw sicrhau bod darparwyr yn cael eu llywodraethu'n dda ac yn hyfyw yn ariannol i ddiogelu cartrefi a buddsoddi mewn cyflenwad newydd, trwy fireinio swyddogaeth rheoleiddio economaidd bresennol y rheoleiddiwr. Bydd hyn yn amddiffyn tenantiaid rhag risgiau o ran ansolfedd darparwyr, gan gefnogi datblygiad cartrefi newydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw amdano ers amser maith. Mae'r Bil hefyd yn darparu ar gyfer pwerau gorfodi newydd llym i sicrhau y gall y rheoleiddiwr ymyrryd yn effeithiol pan fo angen. Byddai gan y rheoleiddiwr y dulliau priodol i ymdrin â diffyg cydymffurfiad gan landlordiaid cymdeithasol, i annog landlordiaid i gynnal safonau, ac i osgoi'r bygythiad o gamau gorfodi.

Nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod tri deg dau o ddarpariaethau'r Bil angen cydsyniad y Senedd, gan gynnwys cymal 9, dynodi arweinydd iechyd a diogelwch; cymal 18, caniatáu i'r rheoleiddiwr gyhoeddi cod ymarfer ar safonau defnyddwyr; a chymal 24, galluogi'r rheoleiddiwr i gymryd camau unioni brys yn erbyn risgiau iechyd a diogelwch difrifol. Ceir dau gymal ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu nodi fel rhai sydd efallai angen cydsyniad. Mae cymal 33 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r Bil hwn drwy reoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hyn y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Ar sail y berthynas â darpariaethau eraill yn y Bil, mae Llywodraeth Cymru wedi honni bod angen cydsyniad y Senedd; fodd bynnag, ynddo'i hun, nid yw'r cymal penodol yn rhan o'r cylch gwaith datganoledig.

Cyflwynwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3 gerbron y Senedd ar 17 Tachwedd 2022. Roedd gwelliannau o'r fath yn cynnwys grym newydd i'r rheoleiddiwr osod safon ar faterion yn ymwneud â chymhwysedd ac ymddygiad staff, y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol ei gwneud yn ofynnol i'r rheoleiddiwr ei gosod; a hefyd cyflwyno dyletswydd ar y rheoleiddiwr i lunio cynllun sy'n nodi'r disgrifiadau o ddarparwyr cofrestredig i fod yn destun archwiliadau rheolaidd. Mae'r mesurau hyn eto'n bodloni'r trothwy o gryfhau hawliau tenantiaid, ac felly, mae eto'n cryfhau'r ddadl dros roi cydsyniad. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno, fodd bynnag, gyda Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad ar gyfer pump o'r cymalau hyn.

Wrth gwrs, nid yw'r ystyriaethau cyfreithiol ynglŷn â lle yn union mae'r llinell wedi'i thynnu rhwng meysydd a gadwyd yn ôl a datganoledig bob amser yn ddu a gwyn. Mae mwy o ddatganoli dros y 25 mlynedd diwethaf yn naturiol wedi cynyddu rhywfaint o gymhlethdod. Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid rhoi cydsyniad beth bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio'r bobl y bwriedir i'r ddeddfwriaeth hon eu helpu, a thenantiaid agored i niwed mewn angen yw'r rheini. Er lles y bobl hyn, ni allwn gael sefyllfa lle mae anghytuno rhyng-lywodraethol yn cymryd blaenoriaeth dros weithredu'n ymarferol y fframwaith sydd ei angen ar y tenantiaid tai cymdeithasol hyn. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Wel, yn dilyn cyfraniad John Griffiths, bydd o ddim yn dod fel syndod i’r un ohonoch chi fy mod i, a ni ar y meinciau yma, yn gwrthwynebu’r cynnig yma heddiw, gan, yn y broses, ypsetio fy nghyfaill newydd, Janet Finch-Saunders.

Mae'r Bil yma, fel cynifer o’r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym wedi eu gweld dros y 18 mis diwethaf, yn tanseilio ein deddfwrfa genedlaethol yma, ac, yn benodol felly, yn tanseilio polisïau Llywodraeth Cymru a’r Senedd yma ym maes polisi tai, ac mae o'n methu â mynd i'r afael â’r heriau mawr sydd yn wynebu'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Pwrpas datganoli, mor wan ag ydy o, ydy rhoi i ni y grym i osod polisi mewn meysydd penodol yma yng Nghymru, megis iechyd, addysg, amgylchedd a thai. Ond os rhoddwn ni gydsyniad i'r memorandwm yma heddiw, yna mi fyddwn ni'n trosglwyddo rhan fach o’n grymoedd yn y maes tai yn ôl i San Steffan. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol. 

Yn ogystal â hyn, nid yw deddfwriaethau San Steffan, sydd wedi eu llunio i ateb anghenion Lloegr, megis yn y maes tai, yn ateb yr heriau sydd yn ein wynebu ni yma yng Nghymru. Mae gennym ni heriau gwahanol yma, ac mae’n rhaid i Gymru ymateb i'r heriau yma efo’n fframwaith polisi ein hun. Os nad ydyn ni'n gallu datrys y problemau sydd yma efo’r grymoedd cyfyng sydd gennym ni, yna yr ateb ydy mynnu mwy o rymoedd er mwyn mynd i'r afael â’r heriau hyn.  

Un o’r pryderon sydd gen i ynghylch y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma ydy’r ffaith bod yna dai cymdeithasol yng Nghymru sydd yn dod o dan reolaeth cymdeithasau tai yn Lloegr, a fydd yn atebol i ddeddfwriaethau San Steffan, yn hytrach nag yn atebol i ddeddfwriaeth Gymreig. Mae gofynion a safonau Cymru yn uwch na Lloegr—a llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru am sicrhau hynny—ond mae'n rhaid sicrhau bod pawb yma yng Nghymru yn medru disgwyl yr un safonau. Mae galluogi'r memorandwm yma heddiw am olygu y bydd rhai tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i gyrraedd safonau gwahanol ac is. Dylai hynny ddim digwydd, ac mae'n rhaid cael cysondeb o ran ein disgwyliadau yng Nghymru.  

Yn olaf, noder mai dyma’r bumed LCM sydd wedi cael ei gyflwyno ar y Bil yma. Ar bob un achlysur, ychydig iawn o gyfle yr ydym ni wedi ei gael i graffu ac ymgynghori ar y Bil a’i effaith ar denantiaid sydd yn byw yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annigonol. Mae’r ffaith bod yna bump LCM wedi bod yn dangos sut mae’r Bil arfaethedig yn newid ac yn addasu, a sut mae Aelodau etholedig San Steffan, ac yn wir datblygiadau maes tai yn Lloegr, yn medru dylanwadu ar y Bil, oherwydd eu Bil nhw ydy o. Ond does gennym ni fawr ddim llais yma. Mae o am effeithio ar fywydau dyddiol tenantiaid sydd yn byw yng Nghymru—pobl yr ydym ni yn eu cynrychioli—ond, eto, does gennym ni na nhw ddim dylanwad arno fo. Mae'r diffyg amser i graffu a deall deddfwriaeth arfaethedig yn iawn yn gwbl annerbyniol. Rwyf felly yn eich annog chi i bleidleisio yn erbyn yr LCM yma heddiw. Diolch.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr siom yr Aelodau at y diffyg amser i graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol hyn. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni'n siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi dewis cyflwyno gwelliannau hwyr fel hyn, ac yn wir, rydym ni'n gwybod nawr, wedi dewis cyflwyno gwelliannau pellach yn y Cyfnod Adrodd. Felly, efallai y bydd angen i mi gyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol arall, os oes angen, i hysbysu'r ddadl.

Rwy'n bwriadu ysgrifennu at Weinidog perthnasol y DU i fynegi fy anfodlonrwydd bod y Cyfnod Adrodd yn debygol o fynd yn ei flaen heb i'r Senedd gael cyfle i ystyried y ddadl dros gydsyniad yn ymwneud â'r Bil yn ei gyfanrwydd o ganlyniad i'r ychwanegiadau hwyr. Mae'r gwelliannau diweddaraf yn ymwneud â phroffesiynoli'r gweithlu tai cymdeithasol yn Lloegr. Rydym ni wrthi'n dadansoddi'r gwelliant a byddwn yn darparu cyngor ar ba un a oes angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach cyn gynted â phosibl, yn ogystal ag unrhyw oblygiadau posibl i'r gweithlu tai yng Nghymru.

Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i Gadeiryddion y pwyllgorau. Rwyf i wedi ceisio ystyried ac wedi ystyried y gwahanol adroddiadau, ac rwy'n ymddiheuro iddyn nhw—rydym ni wedi ymdrechu'n galed iawn i gael y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atoch chi mewn da bryd, ond, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n cael ein trechu gan gyflwyno'r gwelliannau yn hwyr, ac ni fu llawer y gallem ni ei wneud am hynny. Ond, er hynny, ymddiheuraf am y sefyllfa honno.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio sicrhau cymaint o graffu â phosibl gan y Senedd ar y Bil, ond, er hynny, rwy'n anghytuno â Mabon yn llwyr gan nad yw anfodlonrwydd â'r broses yn rheswm i gymryd rheoleiddio yn well y landlordiaid cymdeithasol sydd ag eiddo yng Nghymru oddi wrth y tenantiaid hynny. Byddai hwnnw'n sicr yn gam gwag yn fy marn i. Nid yw'r ffaith bod y broses yn gwbl anfoddhaol yn golygu y dylai'r tenantiaid hynny gael eu hamddifadu o'r amddiffyniad ychwanegol hwnnw.

Rwyf i hefyd yn anghytuno â Janet Finch-Saunders, ac rwy'n credu bod un o'r aelodau pwyllgor eraill wedi ei ddweud hefyd, nad oes angen cydsynio i Atodlen 5. Rydym ni'n parhau i ddweud bod angen cydsynio i Atodlen 5.

Serch hynny, er gwaethaf hyn, Llywydd, rwy'n credu bod barn fwyafrifol yn y Senedd y dylid cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a byddwn yn annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol o ran y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Diolch.

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly mi wnawn ni ohirio y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe fydd yna ddwy bleidlais. Felly, mae'r cyntaf o'r rheini ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 11 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 11. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023: O blaid: 37, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, naw yn erbyn, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 12 wedi ei dderbyn.

Eitem 12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): O blaid: 39, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddod â ni at ddiwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.

Llythyr gan y Prif Weinidog ar 24 Ebrill 2023.

Llythyr gan y Prif Weinidog ar 26 Ebrill 2023.