Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/02/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. O dan Reol Sefydlog 12.58, y Trefnydd fydd yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Ken Skates.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc? OQ59151
Mae gwaith dadansoddi yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn fwy tebygol o effeithio ar deuluoedd â phlant, yn enwedig plant o aelwyd sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydyn ni'n cynorthwyo pobl ifanc a'u teuluoedd trwy fentrau, gan gynnwys ein cynnig gofal plant, cymorth gyda chostau ysgol, prydau ysgol am ddim, a'n gwarant i bobl ifanc.
Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rwyf i wedi clywed am achosion o blant ysgol uwchradd sydd wedi cael eu troi i ffwrdd wrth dil y ffreutur oherwydd nad yw eu rhieni gweithgar wedi gallu clirio'r dyledion arian cinio sydd ganddyn nhw. A fyddech chi'n cytuno â mi y dylai ysgolion weithredu gyda'r tosturi mwyaf yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol, a pheidio â rhoi pobl ifanc drwy'r fath brofiadau sy'n codi cywilydd? Ac a allwch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl ifanc i'w harbed nhw rhag bod yn llwglyd yn ystod amser ysgol?
Ie, byddwn i'n cytuno'n llwyr â chi. Rydyn ni'n gwybod na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd, a dylai awdurdodau lleol ac ysgolion weithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy'n cael anawsterau wrth dalu am brydau ysgol i geisio dod o hyd i ateb i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb bryd bwyd amser cinio. Dylai fod system ar waith pryd yr atgoffir rhieni yn brydlon os yw'r balans ar gyfrif eu plentyn yn isel, er enghraifft, fel bod rhieni yn amlwg yn gallu cymryd y camau sydd eu hangen. Mewn achosion o fethu â thalu, dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r rhiant i ddod o hyd i ateb, a gallai hynny gynnwys sefydlu cynllun talu. Mae'r Gweinidog wedi atgoffa awdurdodau lleol o'u pwerau i ddefnyddio disgresiwn i allu darparu prydau bwyd heb godi tâl, neu weithredu strwythurau prisio amrywiol. Ac rydyn ni hefyd wedi eu hatgoffa o'n disgwyliad na ddylai unrhyw blentyn beidio â chael cynnig pryd o fwyd os yw'n dod i'r ysgol yn llwglyd, oherwydd, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod, onid ydym, bod plant yn canolbwyntio yn llawer gwell pan nad ydyn nhw'n llwglyd.
Fel Llywodraeth, rydyn ni'n cyflwyno prydau ysgol gynradd am ddim i bawb mor gyflym ag y gallwn, gan gynnal ein hymrwymiad i frecwast ysgol gynradd, ac rydyn ni wedi ymestyn ein cynllun treialu brecwast blwyddyn 7 tan ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol. Ac mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo £11 miliwn i ymestyn darpariaeth bwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion sy'n draddodiadol gymwys i gael pryd ysgol am ddim tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror. A bydd hynny'n sicrhau nad yw plant o deuluoedd incwm is yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Prynhawn da, Gweinidog, a Dydd Sant Ffolant hapus. [Chwerthin.] Roedd yn rhaid i mi gael yr un yna i mewn.
Mae pobl ifanc ymhlith y grwpiau y mae pwysau costau byw fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru fel pe bai'n gwrthsefyll syniad Plaid Cymru y gallwch chi drethu eich ffordd allan o argyfwng, pan mai pobl ifanc fydd yn wynebu'r beichiau mwyaf drwy eu cynnydd arfaethedig i drethi. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gadarnhau heddiw—'byddwn' neu 'na fyddwn'—na fyddwch chi'n cynyddu treth incwm? Ac a wnewch chi ystyried rhoi teithiau am ddim ar fysiau a threnau i bobl ifanc yng Nghymru fel y gall pobl symud o gwmpas yn rhydd heb orfod poeni am eu pwrs neu waled, a chynnig gostyngiadau ar gyfer aelodaeth campfa, fel ein bod ni'n darparu mannau cynnes mewn amgylchedd lle gall pobl ifanc gadw'n heini ac yn iach? Diolch.
Nid wyf i wir yn siŵr o ble rydych chi'n meddwl y byddwn i'n cael yr arian ar gyfer y rhestr o ddymuniadau helaeth iawn honno. Ond dim ond ar eich pwynt penodol am drafnidiaeth am ddim i bobl dan 25 oed, fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, ac mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthi'n archwilio hynny ar hyn o bryd, ond, o ystyried ein setliad gwael iawn gan Lywodraeth y DU, mae'n mynd i fod yn anodd iawn ei gyflawni.
Prynhawn da, Gweinidog. Mae tlodi plant yn rhedeg mor ddwfn yng Nghymru ac mae'n cael effaith barhaol ar bawb, yn parhau i'w bywyd fel oedolion. Gwn fod llawer o fesurau ar waith yma yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hynny, a gellir gwneud mwy wrth gwrs. Rwyf i hefyd yn ymuno â'r galwadau am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed. Rwyf hefyd yn meddwl bod angen cael trafodaeth ynghylch o ble mae'r arian hwnnw'n dod, a bod angen i ni feddwl a yw hynny'n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethu. Felly, hoffwn adleisio'r galwadau hynny am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed. Mae'n beth cadarnhaol ym mhob agwedd—i'n heconomi, i'n hamgylchedd, ac, yn enwedig i ni mewn ardaloedd gwledig, lle'r ydym ni eisiau gweld mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn ein gwasanaethau bysiau. Felly, hoffwn ofyn i chi pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater hwnnw a thyfu ein heconomi a sicrhau y gall ein pobl ifanc symud o gwmpas. Diolch.
Diolch. Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Gareth Davies, prisiau teg yw un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, felly mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn archwilio hynny. Fe wnaethoch chi amlinellu manteision cael trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'n pobl ifanc dan 25 oed yn huawdl iawn. Yn sicr, gwn fod fy merched fy hun, pan oedden nhw'n iau na 25 oed, wir yn meddwl ei fod yn rhywbeth y gellid ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ifanc eisiau mynd yn annibynnol ac weithiau nid yw hynny'n bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, mae'n rhywbeth sy'n cael ei archwilio, fel rydych chi'n ei ddweud. Mae'r gyllideb gennym ni, mae'n rhaid i ni benderfynu sut i ddyrannu'r gyllideb honno, ond mae'n rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog yn sicr wedi ymrwymo i'w wneud.
2. Pa bwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y GIG mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd cymhleth sy'n byw gartref? OQ59125
Rydyn ni'n cydnabod y gallai fod cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw ac effeithiau negyddol posibl ar y GIG. Rydyn ni'n disgwyl i'r sector iechyd a gofal nodi'r rhai sydd yn y perygl mwyaf a chyfeirio pobl at gymorth priodol fel ffordd o osgoi'r galwadau ar wasanaethau iechyd.
Mae cefnogi cleifion i aros gartref yn rhan bwysig o'r ymdrech i gadw pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd, ond mae yna achosion lu. Mae gen i etholwraig sydd angen dialysis yn y cartref dair gwaith yr wythnos. Mae hynny'n costio £20 y dydd o ran ynni i redeg y peiriant dialysis. Mae'r ysbyty yn darparu £40 bob tri mis. Felly, yn amlwg, dyw hi ddim yn gallu fforddio fe. Mae hi hefyd yn dibynnu ar y banc bwyd, ond mae anghenion deietegol neilltuol ganddi a dyw'r rheini ddim yn gallu cael eu darparu ar eu cyfer nhw gan y banc bwyd. Felly, er gwaetha'r arwyddbostio yma sy'n digwydd, mae yna ormod o bobl yn disgyn drwy'r rhwyd. Fy nghwestiwn i felly, Weinidog, yw: rhowch eich hunan yn esgidiau fy etholwraig i, ac a fyddech chi yn dewis rhedeg i fyny dyledion bwyd ac ynni er mwyn gwarchod eich iechyd, neu a fyddech chi'n torri nôl ar gostau ynni a bwyd arbenigol sy'n hanfodol i'ch cadw chi'n fyw?
Mae GIG Cymru yn helpu pobl sy'n cael dialysis gartref i dalu eu biliau. Mae rhwydwaith arennau Cymru yn talu treuliau parod cleifion sy'n cael dialysis yn y cartref, h.y. y trydan a'r dŵr ychwanegol rydych chi'n eu defnyddio at ddiben cyflawni eich triniaeth dialysis yn eich cartref eich hun, fel y rhagnodwyd gan eu tîm arennau. Ceir nifer o elusennau arennau hefyd yng Nghymru sydd hefyd yn darparu cymorth ariannol os yw cleifion yn ei chael hi'n anodd. Hefyd, mae pob claf arennau yng Nghymru wedi cael ei gynghori i gofrestru gyda'i ddarparwr ynni ar eu cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth. Nid wyf i'n gwybod a oes unrhyw beth yn yr wybodaeth honno y gallwch chi ei rannu â'ch etholwr nad yw efallai wedi ymchwilio iddo eto.
Gweinidog, flwyddyn yn ôl, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau deintyddiaeth am ddim i'r rhai sy'n cael radiotherapi neu gemotherapi i leddfu sgil-effeithiau negyddol triniaeth ond hefyd i ganiatáu i gleifion ganolbwyntio mwy ar eu gwellhad yn hytrach na gorfod poeni am y costau ychwanegol. Ar y pryd, gwrthododd Llywodraeth Cymru y cynnig hwn, ond, o ystyried yr heriau costau byw yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw a'r ffaith fod yr heriau hyn wedi mynd yn llawer anoddach dros y flwyddyn ddiwethaf, a gaf i ofyn, Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n fodlon ei drafod gyda'ch cyd-Aelodau ac ailystyried y safbwynt hwn?
Rydyn ni'n sicr yn gwybod bod gan gleifion sy'n dioddef o ganser lawer o gostau ychwanegol yn aml. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i'r gwaith, er enghraifft, ac nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at eu cyflog yn y ffordd y bydden nhw fel rheol. Yn amlwg, mae'r rhain i gyd yn bethau y byddai timau iechyd yn eu hystyried, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond, eto, rwy'n dychwelyd at ateb blaenorol sef, gyda'r gyllideb sydd gennym, rydyn ni'n amlwg wedi neilltuo'r gyllideb honno mewn ffordd benodol, ac nid wyf i'n credu bod llawer o le i symud ar gyfer costau ychwanegol. Ond, rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud a gwn fod yna elusennau sy'n gofalu am gleifion â chanser sy'n helpu gyda chostau. Eto, byddwn yn annog etholwyr i geisio cael gafael ar hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, un o ganolbwyntiau'r rhaglen ddeddfwriaethol a oedd ym maniffesto eich plaid oedd Deddf aer glân. Trafodwyd hyn ers blynyddoedd lawer cyn yr etholiad diwethaf. Rydyn ni'n dal yn ansicr ynghylch pryd y gallai'r Ddeddf aer glân hon gyrraedd Senedd Cymru. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd y gallem weld Bil yn dod i lawr y Cyfarfod Llawn yma fel y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes hollbwysig hwn?
Gallaf, bydd yn ystod y flwyddyn hon.
Mae o gymorth mawr cael gwybod hynny, yn enwedig gyda 2,000 o farwolaethau cynamserol ac £1 biliwn o wariant gyda GIG Cymru. Dyna yw cost aer budr ar ysgyfaint pobl a chyflyrau iechyd cysylltiedig. Yn aml iawn, pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfwriaeth, dywedir wrthym nad oes gan Lywodraeth Cymru gapasiti. Yr wythnos diwethaf, mewn datganiad, fe'i gwnaed yn hysbys gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw eisiau gwneud cais am y pwerau cydnabod rhywedd fel y gallan nhw gyflwyno darn o ddeddfwriaeth yn y maes penodol hwnnw. Pam ar y ddaear nad yw holl ymdrechion Llywodraeth Cymru yn cael eu cyfeirio at gyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth—y Ddeddf aer glân—a fydd, gobeithio, yn dod eleni? Fe'i haddawyd i ni o'r blaen ac nid yw wedi cyrraedd. Pam ceisio mwy o bwerau pan nad yw'r pwerau presennol sydd gennych chi yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yma yng Nghymru?
Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, bydd yn digwydd eleni, rwy'n gwybod, oherwydd bod gen i gyfrifoldeb am lygredd sŵn bellach. Mae seinwedd yn amlwg yn rhan o'r Bil aer glân, a gwn fod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau gyfarfod yfory gyda'n swyddogion, felly mae'n symud ymlaen yn y ffordd yr ydych chi'n dymuno, ac yr ydym ni'n dymuno hefyd. O ran deddfwriaeth arall, yn amlwg, ceir rhaglen ddeddfwriaethol y mae'r Prif Weinidog yn ei chyflwyno bob blwyddyn. Hyd y gwn i, ar hyn o bryd, nid yw'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn y rhaglen ddeddfwriaeth.
A fydd y Ddeddf aer glân, fel rydych chi wedi bod yn ei drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, yn hollgwmpasog, oherwydd rydyn ni wedi cael ein harwain i gredu yn amlwg y bydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd fel y gallwn weld gwelliant gwirioneddol i ansawdd yr aer yma yng Nghymru? Fel y dywedais, mae tua 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol oherwydd aer budr yma yng Nghymru, ac ar gost o filiynau lawer os nad biliynau o bunnau i GIG Cymru. A fydd yn ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn cynnwys busnesau, cymdeithas ddinesig a chwmpas llawn bywyd yng Nghymru? Neu a ydych chi'n edrych ar ddarn mwy cynnil o ddeddfwriaeth a fydd yn fwy penodol i feysydd bywyd yma yng Nghymru?
Na, mae'n eang iawn. Fel y dywedais, mae'r Gweinidog a minnau'n cyfarfod yfory i drafod agweddau penodol arni, ac yn amlwg byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr. Ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rydyn ni'n gwybod bod llawer gormod o bobl yn dioddef iechyd gwael oherwydd ein hansawdd aer gwael. Byddwch yn ymwybodol o'r prosiectau 50 mya a gawsom, sy'n dangos yn bendant, os byddwch chi'n lleihau eich cyflymder i 50 mya mewn ardaloedd penodol yng Nghymru—rwy'n credu bod pum cynllun treialu ar draws Cymru—bydd yn cael effaith gadarnhaol. Felly, mae'n ddarn o ddeddfwriaeth yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei gyflwyno i'r Siambr.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Heddiw, bydd y Llywodraeth, trwy gyhoeddi'r adolygiad ffyrdd, yn datgan ei hymrwymiad i newid hanesyddol i bolisi a blaenoriaeth o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, pam wnaethoch chi gyhoeddi'n hwyr ddydd Gwener mai'r cwbl yr oeddech chi'n ei wneud oedd oedi toriad trychinebus i gymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Mehefin, a fydd yn anrheithio'n llythrennol yr hyn sydd i'r mwyafrif o bobl yn y rhan fwyaf o Gymru yr unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ganddyn nhw?
Wel, roeddwn i'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn croesawu tri mis o gyllid ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau bysiau. Rwy'n credu bod yn rhaid cael sgwrs llawer ehangach, ac rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyfeirio at hyn. Nid ydym wedi gweld y dychweliad i ddefnydd o fysiau a oedd gennym ni cyn y pandemig. Nid wyf i'n gallu cofio ai 70 y cant neu 75 y cant oedd y ffigur, o ran yr hyn y mae wedi dychwelyd iddo. Felly, nid yw 25 y cant neu 20 y cant—sori, 30 y cant—wedi dod yn ôl. Nid yw'r cwsmeriaid hynny wedi dod yn ôl i'n gwasanaethau bysiau. Felly, bydd y sgyrsiau hynny yn amlwg yn parhau. Rwy'n sylweddoli bod llawer o bobl angen gwasanaeth bysiau a'u bod angen gwasanaeth bysiau dibynadwy, ac yn sicr, os ydym ni'n mynd i gael pobl oddi ar ein ffyrdd, rydyn ni'n derbyn yn llwyr fod yn rhaid i'n trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dda a bod yn rhaid iddi fod yn hygyrch. Ond dychwelaf at yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud mewn tri ateb bellach mae'n debyg: mae llawer ohono'n ymwneud â chyllid. Ni allwch chi wario cyllid nad yw gennych chi, ond byddwn yn dychmygu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn croesawu'r estyniad cyllid hwnnw am dri mis.
Mae'r corff diwydiant, Cymdeithas Bysiau Cymru wedi dweud bod y risg i wasanaethau a swyddi heb barhad cyllid dim ond wedi cael ei ohirio yn unig. Maen nhw'n rhagweld toriadau i wasanaethau bysiau yn amrywio o ddwy ran o dair i ddadgofrestru torfol o bob llwybr. Byddai hynny'n golygu bod pobl ledled Cymru yn sydyn yn methu â mynd i'r gwaith, i siopa, mynd i'r ysbyty, mynd i'r coleg ac i'r ysgol. Fel y mae prif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Karen Jones, wedi ei ddweud, mae'n wrthnysig fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau teithio cynaliadwy, gyda'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddibynnu llai ar drafnidiaeth breifat, ac eto y bydd penderfyniadau ariannol, fel y cynigir yma, yn gorfodi mwy o bobl i deithio mewn car, gan beryglu amcan y polisi. A allwch chi esbonio'r rhesymeg yn eich cynnig?
Mae'r Gweinidog wedi cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r sefydliad yr ydych chi'n cyfeirio ato. Fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, rydyn ni wedi achub y diwydiant bysiau gyda'r cyllid brys hwnnw yn ystod y pandemig. Fel y dywedais, mae'r defnydd o fysiau wedi newid. Ceir cytundeb eang, rwy'n credu—ac rwy'n credu y byddai'r sefydliad hwnnw yn ei gyfarfodydd â'r Gweinidog yn derbyn hynny—bod gwir angen i ni gael golwg o'r newydd ar ein rhwydwaith bysiau. Rydyn ni mewn sefyllfa anodd iawn gyda'n cyllideb, fel y gwyddoch. Nid ydym wedi gallu cadarnhau pecyn ariannu'r diwydiant bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eto. Mae'n gyfnod anodd iawn i bawb, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant, gyda'r awdurdodau lleol, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i ni fynd drwy'r mis hwn.
Mae tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws, ond mae bysiau dim ond yn cael mymryn o'r buddsoddiad sydd wedi'i glustnodi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth ar gyfer rheilffyrdd. Bydd torri'r cyllid hwnnw ymhellach ar adeg pan fo nifer y teithwyr yn gostwng a chostau yn cynyddu yn anrheithio'r rhwydwaith bysiau; bydd yn rhoi menywod, plant a phobl ifanc, yr henoed, yr anabl, gweithwyr ar incwm isel a chymunedau gwledig a'r Cymoedd o dan anfantais anghymesur. Mae torri cymhorthdal i drafnidiaeth bysiau yng nghanol argyfwng costau byw ymhlith y gweithredoedd mwyaf atchweliadol yr ydych chi erioed wedi eu cynnig. A wnewch chi gyfarfod fel Llywodraeth gyda dirprwyaeth o fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru—mae'n bosibl y bydd hyd yn oed y Llywydd eisiau gwisgo ei het etholaeth ar y mater hwn—i wrthdroi eich penderfyniad ac ymestyn y cynllun argyfwng bysiau am 12 mis fel y gallwn ni amddiffyn y rhwydwaith bysiau presennol tra byddwn yn cynllunio ac yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwell, tecach, gwyrddach y mae hyd yn oed y Dirprwy Weinidog yn dweud eich bod chi eisiau ei weld?
Fel y mae'r Aelod yn gwybod, cafodd y gwasanaeth bysiau, yn anffodus, ei breifateiddio. Rydyn ni'n ystyried dadbreifateiddio, os mai dyna'r gair cywir. Mae gennym ni'r Bil bysiau, a fydd, mae'n debyg, y cynllun mwyaf pellgyrhaeddol ar draws y DU, ac rwy'n credu y bydd wir yn gam hanfodol i wyrdroi niwed dadreoleiddio. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan bobl wasanaeth bysiau y gallan nhw ddibynnu arno sy'n hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi pobl cyn elw, ond, wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth yn digwydd dros nos. Rydyn ni'n cymryd camau ar hyn o bryd i geisio mynd i'r afael â'r problemau a achoswyd gan y pandemig. Mae'r tri mis ychwanegol o gyllid brys wedi cael croeso mawr; mae'n rhoi rhywfaint o le i'r Dirprwy Weinidog anadlu. Ond rwy'n dychwelyd: y gyllideb yw'r gyllideb. Mae'n hawdd iawn i Aelodau'r gwrthbleidiau wario cyllid nad yw'n bodoli. Fel Llywodraeth, bu'n rhaid i ni edrych yn ofalus iawn. Yn rhan o'r cytundeb cydweithio, rydych chi'n gwybod yn union pa mor anodd yw ein cyllideb.
Mae cwestiwn 3 [OQ59147] wedi cael ei dynnu'n ôl, er bod Laura Jones yma ac y gellid bod wedi ei ofyn. Rwy'n siŵr y bydd hi eisiau esbonio hynny i mi y tu allan i'r Siambr. Cwestiwn 4, Heledd Fychan.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lles trigolion Canol De Cymru sy'n parhau i wynebu perygl o lifogydd? OQ59119
Diolch. Rydyn ni wedi darparu dros £71 miliwn i awdurdodau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynnwys £12.2 miliwn o gyllid cyfalaf i awdurdodau rheoli perygl yng Nghanol De Cymru eleni. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gwella'r seilwaith rheoli perygl llifogydd, a fydd o fudd i tua 1,280 o eiddo yn uniongyrchol.
Diolch, Gweinidog, ond roedd fy nghwestiwn am lesiant trigolion yn benodol. Mae'n dair blynedd yr wythnos hon ers y llifogydd dinistriol ar draws y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli a thu hwnt o ganlyniad i storm Dennis. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau erbyn hyn, ond mae'r effaith ar blant ac oedolion yr effeithiwyd arnyn nhw yr un mor fawr heddiw ag yr oedd bryd hynny. Mae llawer yn parhau i ddioddef trawma, gan fyw mewn ofn bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm ac yn methu cysgu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth rai bod perygl parhaus i'w bywydau os bydd eu cartrefi yn dioddef llifogydd yn y dyfodol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n ofni am eu cartrefi yn unig, ond mae eu bywydau mewn perygl.
Er bod rhai ardaloedd wedi elwa, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich ymateb, ar fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a mesurau atal llifogydd, mae llawer mwy i'w wneud. Ceir anghysondeb o ran pa gartrefi sydd wedi cael cynnig llifddorau neu ddrysau am ddim. Hefyd, ni chynigiwyd unrhyw gymorth seicolegol, ac ni chafwyd buddsoddiad chwaith yn y gwaith o sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd i helpu i gynorthwyo cymunedau pe bai'r gwaethaf byth yn digwydd eto. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo pobl sy'n byw mewn ofn? A oes unrhyw gynlluniau i fuddsoddi mewn sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd ym mhob ardal sydd mewn perygl parhaus o lifogydd?
Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i sefydlu grwpiau gweithredu ar lifogydd, ond rwy'n siŵr y gellid eu hystyried nhw'n lleol. Soniais am y cyllid sylweddol yr ydyn ni wedi ei roi i geisio amddiffyn cymaint o dai ag y gallwn ni, ond rwy'n credu bod pawb yn derbyn, gyda'r newid hinsawdd, nad yw'n mynd i fod yn bosibl gwneud hynny 100 y cant. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi; fi oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am liniaru llifogydd pan darodd storm Dennis, ac ymwelais â llawer o'r bobl rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ac mae'n hollol dorcalonnus. Fe wnes i groesawu'r adroddiad diweddar 'Every time it rains' gan y Groes Goch Brydeinig yn fawr iawn. Rwy'n credu ei fod yn wir wedi cynnig gwybodaeth am yr effeithiau hirdymor ar gymunedau yn y ffordd yr ydych chi'n cyfeirio. Fy unig gyngor, mewn gwirionedd, fyddai, yn y lle cyntaf, gwneud yn siŵr bod pobl yn cael gafael ar y gwasanaethau iechyd cywir os ydyn nhw wir yn teimlo bod angen rhywfaint o help ychwanegol arnyn nhw yn hynny o beth.
Gweinidog, fel yr ydych yn gwybod, gall llifogydd gael effaith ddifrifol ar ein cymunedau, gan arwain at ddifrod amgylcheddol hirdymor, dinistrio eiddo, tarfu ar ein rhwydwaith drafnidiaeth ac, yn anffodus, arwain hyd yn oed, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Heledd, at golli bywydau. Canlyniad arall o lifogydd yw'r perygl o lygredd o garthffosiaeth a chemegau diwydiannol, er enghraifft, yn halogi ein nentydd, ein hafonydd a'n morlinau, a all arwain at broblemau iechyd y cyhoedd posibl yn ogystal â lladd pysgod ac anifeiliaid y môr eraill, dinistrio ecosystemau morol gwerthfawr ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed mynd i mewn i'n cadwyn fwyd. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, mae gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd y bydd achosion o lygredd o garthion a gwastraff diwydiannol yn digwydd yn ystod llifogydd, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydych chi wedi eu nodi fel rhai sydd mewn perygl. Pa gamau y dylid eu cymryd i atal datblygiadau masnachol rhag sefydlu sy'n cynnig posibilrwydd o berygl uchel o lygredd ar safleoedd ar orlifdiroedd neu'n agos atyn nhw? Diolch.
Diolch. Soniais ein bod ni wedi darparu dros £71 miliwn ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd yn y flwyddyn ariannol bresennol ac, wrth gwrs, mae llawer o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd hynny yn mynd i'r afael â'r materion yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae hyn ar ben cyllid tebyg o un flwyddyn i'r llall dros y degawd diwethaf. Mae'n rhaid i ni wynebu ffeithiau: gyda'n hafau yn mynd yn gynhesach a'n gaeafau yn mynd yn wlypach, rydyn ni'n mynd i weld mwy o achosion o lifogydd, yn anffodus, yma yng Nghymru. Y nod yw gwneud yn siŵr bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd cywir yn y lle iawn. Ceir llawer o wahanol amddiffynfeydd rhag llifogydd nawr. Mae'r Gweinidog wedi bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gan amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n cael eu hadeiladu fuddion eraill hefyd i gymunedau, ac un ohonyn nhw yw mynd i'r afael â'r problemau llygredd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol cyllid ffyniant bro? OQ59122
Er bod y gronfa'n gweithredu mewn maes sy'n amlwg wedi'i ddatganoli, gwrthodwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yn ei datblygiad na'i gweithrediad yng Nghymru. Mae'r gronfa ffyniant bro, fel y gronfa ffyniant gyffredin, wedi dioddef oedi, tanariannu a threfniadau anhrefnus sy'n costio swyddi a thwf i Gymru.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Clywodd cyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan yr Athro Steve Fothergill am chwe egwyddor y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol i symleiddio cyllid ffyniant bro. Un egwyddor yw y dylai cyllid gael ei dargedu'n gryf i ganolbwyntio ar y lleoedd mwyaf difreintiedig. Mae'r dull hwn yn hanfodol i gymunedau fel y rhai yr wyf i'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon. Mae Kevin Morgan a Richard Wyn Jones hefyd wedi disgrifio sut mae polisïau Llywodraeth y DU yn methu â darparu'r crynodiad hwnnw o adnoddau i'r rhanbarthau tlotaf a oedd yn nodweddiadol o gyllid Ewropeaidd. Gan dderbyn bod hynny'n wir, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU i sicrhau bod anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu diwallu?
Diolch. Mae Gweinidogion wedi cael trafodaethau parhaus ynghylch y gronfa ffyniant bro, ond mae gen i ofn ei fod wedi syrthio ar glustiau byddar. Rydyn ni wedi dadlau'n bendant ac yn gyson i gyllid fod yn seiliedig ar anghenion yn hytrach na chael ei ddyrannu ar sail gystadleuol. Fel y gwyddoch, bu'n rhaid i awdurdodau lleol wneud cais. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull a arweiniodd at gymeradwyo 11 allan o 43 o geisiadau yng Nghymru yn rownd 2 yn ddiweddar, ac nid yw ardaloedd sy'n cynnwys Merthyr, Casnewydd a sir y Fflint wedi derbyn ceiniog yn yr un o'r ddwy rownd gyntaf. Nid yw'r tri awdurdod lleol hynny wedi cael unrhyw arian o'r gronfa o gwbl.
Gyda'r gronfa ffyniant gyffredin, fe wnaethom ni argymell fformiwla ariannu a oedd yn pwysoli 70 y cant ar gyfer mynegai amddifadedd lluosog Cymru, ond eto, fe wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r fformiwla a oedd yn pwysoli dim ond 30 y cant ar gyfer MALlC. O ganlyniad i hynny, mae cronfeydd datblygu economaidd yn cael eu hailgyfeirio oddi wrth yr ardaloedd yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw sydd wir eu hangen nhw fwyaf. Dim ond un rownd o'r gronfa ffyniant bro sydd gennym ni ar ôl bellach, a dim ond 20 y cant o'r cyllid, sef tua £1 biliwn, sydd ar ôl ar gyfer rownd derfynol y flwyddyn nesaf. Ychydig iawn o botensial sy'n weddill, mewn gwirionedd, a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod ffyniant bro yng Nghymru yn golygu colli £1.1 biliwn o gyllid yr UE na chafodd ei ddisodli—toriad i gyllideb Cymru mewn termau real.
Fel rydych chi wedi ei nodi, Gweinidog, mae'r cynghorau hynny yng Nghymru yn ymgeisio'n llwyddiannus ar gyfer yr 11 prosiect hynny â gwerth £200 miliwn o gyllid, rwy'n siŵr, i'w groesawu gan lawer o gymunedau ac yn mynd i fod yn drawsnewidiol i bobl ar hyd a lled Cymru. Yn ehangach, wrth gwrs, derbyniodd Cymru dair gwaith y cyllid y pen na de-ddwyrain Lloegr—yr ardal uchaf fesul pen o gyllid ar draws Prydain Fawr. Ac wrth gwrs, mae ein cynghorau lleol yn cael eu grymuso i ddarparu'r prosiectau hyn ac mae gwneud cais am y prosiectau hyn yn enghraifft arall o ddatganoli yn digwydd ar lefel fwy cymunedol. Tybed, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymuno â mi i groesawu'r grymusiad hwnnw yn ein hawdurdodau lleol. Hefyd, a wnewch chi rannu pa gynlluniau sydd gennych chi i weld rhagor o gyfrifoldebau ariannu yn cael eu datganoli i lawr i'n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Mae'n amlwg na wnaeth yr Aelod glywed yr hyn a ddywedais i. Mae ffyniant bro yng Nghymru yn golygu colled o £1.1 biliwn o gyllid yr UE na chafodd ei ddisodli—toriad i gyllideb Cymru mewn termau real. Mae hefyd yn ymosodiad ar y setliad datganoli, efallai ei fod wedi methu hynny. Nid wyf i'n credu bod cael rhaglenni hynod ddiffygiol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnom ni yn rhywbeth i'w ddathlu o gwbl. Byddan nhw'n cael effaith gyfyngedig iawn. Mae'n debyg y byddan nhw'n cynnig gwerth gwael am arian hefyd. Rwy'n credu y cyflwynwyd llawer o geisiadau ardderchog, ond yn anffodus roedden nhw'n aflwyddiannus gan fod Gweinidogion y DU yn Llundain wedi dewis enillwyr a chollwyr yn unig a gwneud penderfyniadau ar brosiectau lleol yma yng Nghymru.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy rhag syrthio i dlodi tanwydd y gaeaf hwn? OQ59140
Mae pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, sydd werth £380 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae aelwydydd incwm isel cymwys hefyd yn elwa ar ein cynllun cymorth tanwydd o £200. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna, a hefyd croesawu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar hyn o bryd? Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi ers cryn amser bellach sgandal genedlaethol miloedd o bobl agored i niwed yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu. Mae Llywodraeth y DU, Ofgem a'r cyflenwyr ynni eu hunain wedi bod yn ciwio i ddweud eu bod nhw'n mynd i roi'r gorau i hyn, ond bu'n ddyletswydd arnyn nhw i wneud hynny erioed, ac maen nhw wedi methu yn y pen draw. Mae newid yn dal i ddigwydd heddiw. Ymhen ychydig wythnosau yn unig, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn bwriadu tynnu'r cymorth ynni oddi wrth drigolion. Mae hwn yn berygl gwirioneddol, onid yw e, Gweinidog—y perygl y bydd pobl yn mynd i ddyled yn gyflym ac y gallai newid amhriodol pellach ddigwydd. Un o'r ffyrdd gorau o osgoi hyn, ym mhwerau Llywodraeth Cymru, yw drwy roi'r cymorth a'r cyngor gorau sydd ar gael i bobl. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal y cynllun treialu cyngor ynni yn y cartref yn ddiweddar, ac mae llawer o grwpiau sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed ac mewn perygl o dlodi tanwydd yn dweud wrthyf i ei fod wedi gweithio'n dda. A gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw sut y gellid cyflwyno'r cynllun treialu ymhellach i gynorthwyo trigolion Cymru?
Diolch. Mae'n hynod siomedig bod y warant pris ynni yn cynyddu, fel y gwnaethoch chi sôn, o £2,500 i aelwyd nodweddiadol i £3,000 am 12 mis arall o ddechrau mis Ebrill eleni. Rydyn ni'n gwybod yng Nghymru y byddai angen i lawer wario llawer mwy na £3,000 oherwydd oedran y stoc dai a thaliadau sefydlog eithriadol o uchel. Nid wyf i'n credu bod y cyfartaledd y mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio ato yn adlewyrchu'r tai yma yng Nghymru mewn gwirionedd.
Cynhaliwyd y cynllun treialu y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y cynllun treialu cyngor ynni yn y cartref, rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022 mewn tair ardal o Gymru—Gwynedd, Ceredigion a Chaerffili. Y pwrpas oedd profi a mesur effeithiolrwydd darparu gwasanaethau cyngor a chymorth yn y cartref i bobl ledled Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Roedd manteision i'r cynllun treialu, ond ar hyn o bryd mae swyddogion yn ystyried cydbwysedd y gost, y manteision a thargedu'r cynllun treialu cyngor. Mae hynny'n cael ei ystyried yn rhan o'r cynnig o gyngor fel rhan o'r datblygiad ar gyfer fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw'r cyngor a'r cymorth hynny y gellir ymddiried ynddyn nhw. Ar hyn o bryd mae gennym ni ymgyrch tanwydd gaeaf estynedig ar waith. Dechreuodd honno ar 1 Tachwedd trwy raglen Nyth Cartrefi Clyd. Mae honno'n targedu cynulleidfa llawer ehangach na'r cynllun treialu y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Mae'n hygyrch i bawb sydd angen cyngor a chyfarwyddyd ar effeithlonrwydd ynni. Bydd gwasanaethau cyngor cost-effeithiol hefyd yn cael eu cynnwys yn y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd. Fel y dywedais, mae swyddogion yn edrych ar hynny, o ran pa gyngor y maen nhw'n ei ddarparu, ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Er mwyn diogelu trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, mewn mannau eraill yn y gogledd a ledled Cymru rhag mynd i dlodi tanwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun grant effeithlonrwydd ynni a arweinir gan alw cenedlaethol newydd, sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael yn rhan o'r rhaglen Cartrefi Clyd ac yn weithredol cyn y gaeaf nesaf. Pryd fydd y cynllun hwn yn weithredol, ac a fydd ar gael i aelwydydd cymwys yng Nghymru yn barod ar gyfer Hydref 2023, pan fydd y tywydd oer yn dechrau yn draddodiadol?
Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae swyddogion yn edrych ar y cynllun treialu i weld beth oedd y manteision cyn iddyn nhw roi cyngor pellach i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer y fersiwn nesaf. Ond, dim ond i ailadrodd ar gyfer ein holl etholwyr, mae cyngor a chymorth i berchnogion tai ar gael. Mae gennym ni linell gymorth rhaglen Nyth Cartrefi Clyd.
7. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy? OQ59113
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu pobl â'i gilydd, yn rhwymo cymunedau gyda'i gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon ar draws y genedl, gan gynnwys yn Aberconwy.
Pe bai hynny ond yn wir. Trefnydd, yng nghytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rydych chi'n gwneud addewid eglur i ofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol yn y gogledd-orllewin a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig. Nawr, yn hytrach na gweld cynnydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer fy nghymunedau yn nyffryn Conwy. Rydyn ni wedi cael deiseb a lofnodwyd gan dros 700 o etholwyr hynod bryderus, ac roedd hynny i achub y T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a hefyd rwyf i wedi ysgrifennu sawl llythyr i gyngor Conwy a Gwynedd yn amlinellu rhai gwahanol atebion. Rwyf i wedi cyfarfod â'r holl weithredwyr bysiau, sydd eisiau cadw'r gwasanaeth hwn yn weithredol mewn gwirionedd. Mae'r sefyllfa mor ddifrifol bellach bod myfyrwyr a disgyblion yn gorfod dibynnu ar drafnidiaeth breifat i fynd o ardal Blaenau Ffestiniog i ysgol yn Llanrwst a'r coleg yn Llandrillo, ac ni all staff gyrraedd y gwaith. Dylai atebion fod wedi bod ar waith cyn i'r gwasanaeth hwn ddod i ben. Er enghraifft, gellid ymestyn y gwasanaeth Fflecsi i fyny coridor yr A470. Ond, mae Trafnidiaeth Cymru yn llusgo'u traed. Prif Weinidog, neu Drefnydd yn yr achos hwn, pa gamau brys wnewch chi a'ch Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau difrifol a achoswyd gan derfynu'r T19? Ac onid ydych chi'n cytuno â mi, yn yr oes sydd ohoni, ei bod yn argyfwng pan nad yw plant yn gallu cyrraedd yr ysgol? Diolch.
Gan fod y gwasanaeth T19 yn cael ei weithredu'n fasnachol gan y cwmni bysiau, maen nhw wedi dweud wrthym ni, yn anffodus, nad yw twf yn nifer y teithwyr wedi cyd-fynd â disgwyliadau'r gweithredwr ac mae prinder gyrwyr wedi effeithio ar eu gallu i barhau i weithredu'r gwasanaeth diwrnod gwaith a dydd Sadwrn ar sail fasnachol yn unig. Felly, rwy'n dychwelyd i ateb cynharach: dyma pam rydyn ni'n ceisio cyflwyno'r Bil bysiau, a dyma sy'n digwydd pan fydd gennych chi breifateiddio. [Torri ar draws.] Wel, yn anffodus, dyna sydd gennym ni. Efallai ei bod hi'n rhy hwyr, ond yn anffodus, roedd y preifateiddio yno.
Rwy'n credu ei bod hi braidd yn annheg dweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi methu. Maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau—[Torri ar draws.] Roedd eich cwestiwn ynghylch Trafnidiaeth Cymru, ac fe wnaethoch chi ddweud eu bod nhw wedi methu. Y cwbl rwy'n ei wneud yw dweud wrthych chi nad ydyn nhw wedi methu; maen nhw wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau yn nyffryn Conwy a oedd yn cael eu gwasanaethu gan wasanaeth bysiau T19 yn cael trefniadau teithio amgen addas. Mae eich pwynt olaf yn bwysig iawn: mae angen trefniadau teithio amgen i sicrhau—yr enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi oedd plant yn cyrraedd yr ysgol. Mae'r dewisiadau amgen hynny wedi cael cyhoeddusrwydd ac, fel Llywodraeth, rydyn ni'n gweithio gyda Defnyddwyr Bysiau Cymru i gynnal digwyddiadau ymgynghori pellach â theithwyr yn yr ardal dros yr wythnosau nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi hysbysu eich etholwyr ynghylch hynny. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio ar fodel newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd yn caniatáu i ni weithio gydag awdurdodau lleol fel y gallwn ni ddylunio gyda'n gilydd y rhwydweithiau bysiau y mae eu cymunedau eu hangen, oherwydd nhw yw'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i'n caniatáu i weithio gyda nhw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi contractau ar waith i'w darparu. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw rhoi pobl cyn elw.
8. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb y DU ym mis Mawrth? OQ59123
Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf yng Nghaeredin i drafod cyllideb wanwyn Llywodraeth y DU gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ymhlith materion eraill yn ymwneud â chyllid.
Diolch yn fawr, Trefnydd. Bythefnos yn ôl, mi wnes i godi gyda chi yr angen am £500 miliwn i sicrhau bod Crossrail Caerdydd yn mynd o'r bae i Lantrisant. Gyda The Times yn adrodd dydd Gwener bod costau HS2 nawr wedi cyrraedd £72 biliwn, pa mor benderfynol ydy Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni yma yng Nghymru yn derbyn y Barnett consequential o'r prosiect enfawr yma? Diolch yn fawr.
Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ychydig wythnosau yn ôl wrthych chi ein bod ni'n amlwg yn cefnogi prosiect Cledrau Croesi Caerdydd y gwnaeth Llywodraeth y DU ei gyhoeddi o dan ei chronfa ffyniant bro, ac rydyn ni'n rhoi arian sy'n cyfateb i'r buddsoddiad hwnnw, ond nid oeddem ni'n rhan o ddatblygiad y gronfa ffyniant bro honno, felly ni fu gennym ni unrhyw swyddogaeth o ran strategaeth na darpariaeth.
Rwy'n credu bod categoreiddio parhaus HS2 gan Lywodraeth y DU fel prosiect Cymru-Lloegr, er gwaethaf argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig i ailddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig, wir yn difetha ein gallu i fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. A gwn fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i wneud y pwynt hwnnw i'r Trysorlys, naill ai i'r Canghellor neu i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac wedi gofyn i Lywodraeth y DU ailedrych yn wirioneddol ar y penderfyniad dosbarthu, ac yna rhoi swm canlyniadol Barnett i Gymru, a fyddai tua £5 biliwn. Ac, fel y dywedais, fe wnaeth hi ei godi eto, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf yn ei—mae'n nodio, felly fe wnaeth hi ei godi eto yr wythnos diwethaf yn ei chyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
Mae pwyslais y Canghellor a Phrif Weinidog y DU ar sefydlogrwydd, yr wyf i'n siŵr fydd yn parhau yng nghyllideb y gwanwyn, yn paratoi'r tir er mwyn i'r DU ganolbwyntio ar dwf. Gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf y disgwylir i economi'r DU wella yn gynt na'r disgwyl, ceir cyfle yng Nghymru i ni wneud y cam i fyny i'r economi arloesol twf uchel y mae angen i ni fod, gan adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ysgogi momentwm economaidd, hybu hyder ac annog buddsoddiad yma, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r prinder llafur a sgiliau i helpu'r twf hwnnw?
Wel, byddwn yn hapus pe bai gen i eich hyder chi y bydd Prif Weinidog y DU a'i Ganghellor yn mynd i'r afael â'u blaenoriaethau yng nghyllideb y gwanwyn. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn amlwg wedi trafod yr hyn a oedd ar y gweill; nid wyf i'n credu ei bod hi wedi mynd yn bell iawn gyda llawer o wybodaeth am yr hyn a oedd yn mynd i ddod yng nghyllideb y gwanwyn. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni'n cael ein cyfran deg o gyllid, ac rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i'n cyllideb, yn enwedig ein cyllideb gyfalaf, dros y blynyddoedd diwethaf. Ond yn amlwg, mae buddsoddi mewn sgiliau yn bwysig iawn i'r swyddi, yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwybod pa mor gyflym y mae gwahanol swyddi yn dod i'r amlwg, a gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl â'r sgiliau hynny.
Eto, o ran y rhagolwg ar gyfer yr economi, byddwch yn cofio, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhagweld mai'r DU fydd yr unig economi fawr i grebachu i mewn i 2023, chynnyrch domestig gros yn gostwng 0.6 y cant, felly mae gen i ofn nad ydw i wir yn rhannu eich hyder.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i godi cyllid gwella rheilffyrdd. Fel y mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod, gan gynnwys rhai ar y meinciau Ceidwadol, mae Cymru wedi cael ei gadael yn gwbl brin o arian gan Lywodraethau San Steffan: dim symiau canlyniadol Barnett o HS2, a thanariannu dros flynyddoedd sy'n dod i gyfanswm o sawl biliwn. Mae adroddiad Hendry y Ceidwadwyr eu hunain yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Burns, gan gytuno bod ganddo'r ateb trafnidiaeth iawn ar gyfer de-ddwyrain Cymru, felly, mewn unrhyw drafodaethau cyllidebol, a ydych chi wedi cael gwybod pryd fydd y cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer uwchraddio'r llinellau rhyddhad rhwng twnnel Hafren a Chaerdydd ar ei ffordd o'r diwedd?
Rydyn ni'n aros am gadarnhad o gyllid gwella rheilffyrdd terfynol Cymru gan Lywodraeth y DU. Byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi codi hyn eto yr wythnos diwethaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y ffaith fod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr. Nid wyf i wir yn siŵr sut y gallan nhw o bosibl gredu hynny—mae'n bwysig iawn. Ac nid wyf i'n meddwl bod y Gweinidog yn mynd i anghofio am hynny; rwy'n credu ei bod hi'n mynd i ddyfalbarhau wrth geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y swm canlyniadol hwnnw o £5 biliwn. Rydyn ni'n gwybod y byddai'r cyllid gwella rheilffyrdd wir yn dod â manteision eglur—y byddem ni'n gallu darparu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig hwnnw ac annog y newid i ddulliau teithio hwnnw yr ydym ni eisiau ei weld. Ond, yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ein cais yn gyson, yn barhaus—fel y gwnaethoch chi nodi—gan fethu â buddsoddi yn ein seilwaith yma yng Nghymru. Ac yn absenoldeb datganoli priodol y seilwaith rheilffyrdd a setliad cyllid teg—y ddau beth hynny rwy'n credu—rydyn ni wir angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
9. Pa effaith y mae'r fframwaith adrodd ar lwybrau gofal wedi'i chael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ59150
Mae'r cynllun treialu adrodd ar lwybrau gofal wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws yr holl fyrddau iechyd. Er nad yw'r effaith lawn yn hysbys eto, bwriedir iddo ddarparu un ffynhonnell ddata er mwyn deall yn well y rhesymau am oediadau ar y pwynt rhyddhau a helpu partneriaid i nodi atebion gyda'i gilydd.
Diolch, Gweinidog. Mae nyrsys yn y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol ar ben eu tennyn. Nid yw'r galw dros fisoedd y gaeaf am ambiwlansys a damweiniau ac achosion brys wedi bod yn ddim byd tebyg i'r hyn y maen nhw wedi ei weld o'r blaen. Maen nhw'n gwybod, er mwyn cael cleifion sâl drwy'r drws, bod angen i gleifion sy'n barod i adael yr ysbyty wneud hynny cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Mae eu cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau hyn, ond, yn syml, rydyn ni angen mwy ohonyn nhw. Gan adeiladu ar yr ymrwymiad i roi'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc ac ailhyfforddi pobl hŷn i swyddi gofal cymdeithasol? A pha drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gyda cholegau fel Coleg y Cymoedd yn fy etholaeth i ynglŷn â niferoedd cofrestru ac apêl cyrsiau gofal?
Rwy'n credu bod y cyflog byw gwirioneddol yn gam cyntaf hanfodol, mewn gwirionedd, a rhoddodd fan cychwyn pwysig iawn ar gyfer amodau gwaith gwell i'n staff gofal cymdeithasol. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych ar fwy o ffyrdd o sut y gallwn ni wella telerau ac amodau ein holl weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru ymhellach. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid allweddol i archwilio pob llwybr i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith ac i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ystyried gofal cymdeithasol fel gyrfa. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn pwysig iawn o waith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud. Mae ymgyrch Gofalwn.cymru, a arweinir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn darparu astudiaethau achos fideo sy'n ysbrydoli ynghylch pam y gwnaeth unigolion ymgymryd â swyddi gofal a chymorth ym maes gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, rydyn ni wedi cynnal sawl ymgyrch uchel eu proffil i hyrwyddo'r sector. Mae prentisiaeth Llywodraeth Cymru a swyddogion addysg bellach yn cael trafodaethau rheolaidd â cholegau yn ogystal â gyda'n darparwyr hyfforddiant annibynnol i wneud yn siŵr bod cyrsiau—ac mae hynny i bob sector, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys gofal cymdeithasol—yn darparu hyfforddiant effeithiol i'n dysgwyr.
Gweinidog, mae'r fframwaith Adrodd ar Lwybrau Gofal yn ychwanegiad i'w groesawu. Rydyn ni'n rhy ymwybodol o'r effaith y mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar draws y GIG. Nod y fframwaith yw hyrwyddo cydweithio agosach rhwng meysydd iechyd a gofal, a dim ond pan fyddwn ni'n gweld trefn ryddhau fwy integredig y byddwn ni'n gallu asesu ei effaith lawn. Gweinidog, a yw cyflwyno'r fframwaith wedi arwain at greu timau amlddisgyblaeth sy'n cynnwys nid yn unig staff iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd swyddogion tai a swyddogion o Ofal a Thrwsio fel y gallwn ni sicrhau bod holl anghenion y claf yn cael eu diwallu'n ddiogel wrth gael ei ryddhau?
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn: mae'n golygu gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dull amlasiantaeth hwnnw, fel rydych chi'n dweud, felly os oes rhwystrau penodol sy'n atal rhywun rhag gadael yr ysbyty, mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Datblygwyd y fframwaith adrodd ar lwybrau gofal ar y cyd gan grŵp arbenigol, ac roedd hwnnw'n cynnwys partneriaid o amrywiaeth o wasanaethau. Yr hyn y mae'r fframwaith hwnnw wedi ei wneud yw diwygio'r broses yn wirioneddol i wneud gwelliannau i'r system a sicrhau ei bod yn cyd-fynd â phrosesau llwybrau cleifion cyfoes, fel rhyddhau i wella ac yna asesu. Nid oedden nhw wedi'u cynnwys yn y broses o oedi wrth drosglwyddo gofal yn flaenorol. Mae'r cynllun treialu bellach yn cael ei gyflwyno i gam Cymru gyfan rhwng mis Tachwedd y llynedd a mis Ionawr eleni, ac mae'r system honno a'r llwybr newydd hwnnw wir wedi cael eu profi'n llawn, ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod y camau, yn ôl yr arfer, bod gwersi i'w dysgu, ac roedden ni'n gallu nodi gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd. Maen nhw bellach yn cael eu rhoi ar waith wrth i ni baratoi i ymwreiddio'r fframwaith adrodd terfynol yn llawn.
Mae cwestiwn 10 [OQ59116] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 11 yn olaf—Rhun ap Iorwerth.
11. Pa gymorth ariannol y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig i deuluoedd gyda phlant ag anghenion iechyd dwys yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ59149
Effeithiwyd yn ddifrifol ar bobl ag anghenion iechyd gan yr argyfwng. Mae ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn cynorthwyo pobl i fanteisio ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyfforddiant i weithwyr rheng flaen hefyd yn helpu gweithwyr cymorth i gyfeirio pobl agored i niwed fel y gallan nhw dderbyn y cymorth sydd ar gael.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n trafod yn ystod ymweliad â Tŷ Gobaith yn ddiweddar, y pwysau sydd ar deuluoedd sydd â phlant sâl iawn, neu blant ag anghenion sylweddol iawn. Maen nhw'n wynebu heriau nad oes rhaid i'r rhan fwyaf ohonon ni wynebu bob amser, ond wrth gwrs mae'r argyfwng costau byw wedi ychwanegu'n enfawr at y pwysau sydd arnyn nhw. Rwy'n meddwl am deulu Gleave ger Amlwch, tri o blant—Katie, Kelly a Mason. Yn amlwg, mae'r pwrs cyhoeddus yn talu i staff llawn amser ofalu amdanyn nhw, ond mae cost gwresogi iddyn nhw, y gost o gynnal y rhesi o peiriannau sy'n eu cadw ar gymorth bywyd, yn sylweddol. Rwy'n meddwl am Pam a Mark a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd, dim ond yn gofalu am y plant. Nawr, mae teuluoedd yn yr un sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried beth arall y mae modd ei wneud i roi'r cymorth iddyn nhw allu cefnogi eu plant yn iawn—ac os nad fydden nhw'n gallu eu cefnogi nhw gartref bydden nhw yn yr ysbyty, gyda'r costau enfawr y byddai hynny yn eu golygu ar gyfer y pwrs cyhoeddus. Felly, mae'n apêl i'r Llywodraeth ystyried eto yr hyn y gallai ei wneud i'w helpu.
Diolch, ac rydych chi'n amlinellu'n glir, fel yr ydych chi'n ei ddweud, bod rhai teuluoedd yn wynebu anawsterau a heriau nad ydyn ni wedi gorfod ei wneud yn ein bywydau ni, ac maen nhw'n anodd iawn, iawn. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi dyrannu £90 miliwn ar gyfer ail gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru—rwy'n gobeithio bod eich etholwyr wedi gallu cael y cyfle i fanteisio ar hynny—ac mae yna amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi'u cyflwyno i geisio helpu pobl sy'n wynebu amser ansicr iawn ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl. Mae yna gronfa cymorth dewisol y bydden nhw efallai yn gallu manteisio arni nad ydyn nhw o bosibl wedi gwneud hyd yma.
Diolch i'r Trefnydd am ateb y cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau eto. Fe wnaf alw ar y Trefnydd i gyflwyno'r datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar fformiwla gyllido llywodraeth leol? Mae trigolion fy etholaeth i'n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi awgrymu y gallai'r dreth gyngor orfod codi hyd at 12.45 y cant, sy'n amlwg yn uwch na'r gyfradd chwyddiant sydd eisoes yn uchel iawn. Mae hynny'n destun pryder mawr i nifer o etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd pwysau costau byw. Ond un peth yr ydyn ni'n ei wybod yw bod y fformiwla gyllido honno wedi caniatáu i rai awdurdodau lleol yng Nghymru gronni cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd wrth gefn, tra bod eraill â chronfeydd prin iawn wrth gefn oherwydd iddyn nhw eu defnyddio'n flynyddol oherwydd bod y fformiwla gyllido yn sylfaenol ddiffygiol ac annheg. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? Ac a fydd y Trefnydd yn ceisio cael cytundeb ei chyd-Aelod Cabinet y Gweinidog cyllid, ac yn wir y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb am lywodraeth leol, am adolygiad annibynnol—adolygiad annibynnol—o'r fformiwla gyllido i wneud yn siŵr bod cyfle teg i fanteisio ar gyllid ar gyfer llywodraeth leol ledled y wlad?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn aml yn ddigroeso iawn i'r mwyafrif o dalwyr trethi lleol, rwy'n credu ei bod hi'n dda cydnabod ei bod yn ffynhonnell ariannu sylweddol ar gyfer gwasanaethau lleol. Rydych chi'n dweud bod y fformiwla gyllido yn ddiffygiol—wel, byddwch chi'n gwerthfawrogi nad yw'r fformiwla gyllido honno'n cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru; mae'n cael ei wneud ar y cyd ac mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Felly, nid ydw i'n cytuno â chi ei bod yn ddiffygiol. Efallai nad dyma'r gorau, a bydd bob amser pobl sy'n gwneud yn well nag eraill. Hyd y gwn i—ac rwy'n edrych at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol—nid ydw i'n credu bod unrhyw alwad wedi bod gan awdurdodau lleol i gael golwg ar y fformiwla gyllido, heb sôn am adolygiad annibynnol.
Llyr Gruffydd. Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Gwnes i ddim ond eich clywed chi ar yr ail gynnig, dwi'n amau. Dwi eisiau gofyn i'r Trefnydd os cawn ni ddatganiad ar lefel y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r cynllun Cychwyn Iach, the Healthy Start scheme. Fe godwyd y lefel o gefnogaeth ddiwethaf yn ôl yn Ebrill 2021 i £4.25 yr wythnos, ond, wrth gwrs, mae yna ddwy flynedd bron iawn ers hynny, ac yn y cyfamser mae costau byw wedi mynd drwy'r to, mae chwyddiant bwyd wedi bod yn sylweddol, ond mae'r gefnogaeth wedi aros yr un peth. Ac mae yna oblygiadau, wrth gwrs, yn hynny o beth pan fo'n dod wedyn i deuluoedd fedru cael mynediad at fwydydd iach a maethlon, sef holl bwrpas y cynllun. Felly, gofyn dwi'n gwneud am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y posibilrwydd o gynyddu'r lefel cefnogaeth, oherwydd mae gwerth a chyfraniad y cynllun yn cael ei danseilio o fis i fis wrth i brisiau bwyd gynyddu tra bod lefel y gefnogaeth, wrth gwrs, i bob pwrpas, wedi ei rhewi.
Diolch. Nid ydw i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gefnogaeth, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi'r galw sylweddol ar y gyllideb iechyd. Yn amlwg, mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi, ac nid ydw i'n ymwybodol a yw'r cynllun hwn yn cael unrhyw gynnydd, ond gallai fod yn werth aros i weld a yw hynny'n wir cyn gofyn am ddatganiad arall.
Wrth fynd yn ôl i adroddiad Silk ynghylch datganoli trethiant, a wnaeth argymell y dylai'r ardoll agregau gael ei datganoli i Gymru. Nid oedd modd ei datganoli oherwydd ymyrraeth yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Liz Saville Roberts i Ganghellor y Trysorlys a oedd wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli'r ardoll agregau i Gymru. Ymateb y Trysorlys oedd eu bod
'bob amser yn hapus i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, pe bydden nhw eisiau trafod hyn neu unrhyw fater arall ymhellach.'
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gynnydd tuag at ddatganoli'r ardoll agregau.
Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ar gyflyrau prin. Er eu bod yn brin yn unigol, ac felly eu henw, maen nhw'n effeithio ar lawer o bobl, gydag un o bob 17 o bobl yn cael eu yn ystod eu hoes. Mae llawer o gyflyrau prin yn rhai gydol oes ac yn gymhleth. Yn aml, mae clefydau prin yn gronig ac yn peryglu bywyd. O ganlyniad, mae pobl y mae cyflyrau prin yn effeithio arnyn nhw yn aml angen cefnogaeth ac arbenigedd gan amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gall hyn olygu cael nifer o apwyntiadau mewn gwahanol leoliadau, ac ar ddyddiadau gwahanol. Rwy'n credu y byddai datganiad ar hynny o gymorth mawr.
Rwy'n cytuno â chi ac fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae gennym ni Ddiwrnod Clefydau Prin yn dod ar ddiwedd y mis hwn, felly fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i dynnu sylw at ein cefnogaeth i glefydau prin, a hefyd y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru.
Mewn ymateb i'ch cais cyntaf, mae agregau yn adnodd naturiol gwerthfawr yng Nghymru ac rydyn ni'n cydnabod y gallai datganoli'r ardoll agregau fod o fudd i'n nodau cyllidol ac amgylcheddol. Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i sgyrsiau eraill gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli posibl yr ardoll, gan gydnabod bod nifer o faterion allweddol i'w hystyried, yn benodol, materion traws-ffiniol posibl a rhwystro effeithiau grant a allai godi. Mae gennym ni hefyd ddiddordeb mawr i ddysgu o brofiad Llywodraeth yr Alban wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddatblygu eu hagwedd at ardoll agregau yr Alban. Byddai'n dda efallai cymhwyso'r dysgu y maen nhw wedi'i gael at ystyriaethau eraill, ond mae gwir angen pennu unrhyw ymgysylltu arall â Llywodraeth y DU ar ardoll yng nghyd-destun datganoli ehangach ar ddatganoli trethi. Mae hynny'n cynnwys ymdrin â'n cais i gael y pŵer i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.
Gweinidog Busnes, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg am amnewid cymwysterau BTEC a sut olwg, mewn gwirionedd, fydd ar yr hyn sy'n cyfateb i gymwysterau Safon T yng Nghymru. Y mis hwn, cyhoeddodd yr Adran Addysg yn Lloegr gynllun lleoliad cyflogwyr Safon T newydd gwerth £12 miliwn i roi hwb i nifer y busnesau sy'n manteisio ar hyn i ymgymryd â lleoliadau myfyrwyr a mynediad i ddarparwyr ar gyfer grantiau lluosog, ond eto nid oes gennym ni syniad o hyd sut olwg fydd ar gymwysterau Safon T yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld colegau a chweched dosbarthiadau mewn cyflwr o banig oherwydd agwedd ddilewyrch y Gweinidog tuag at hyn, ac mae llawer nawr yn credu ei bod hi'n rhy hwyr i wneud y newidiadau a weithredwyd yn dda neu'n gywir, gan roi Cymru dan anfantais fawr. Mae angen datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, dysgwyr a'n haddysgwyr ar frys. Diolch, Gweinidog Busnes.
Nid wyf i'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi nodi hynny'n gywir—rydyn ni eisoes wedi ymestyn cymhwysedd ar gyfer BTEC, er enghraifft—ond rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn parhau i gael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru ac fe wnaiff ddarparu datganiad maes o law.
Ac yn olaf, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd ddechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i ffermwyr oherwydd yr ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm. Mae ymchwil diweddar gan NFU Mutual yn nodi bod gwerth niwed i anifeiliaid a'r rhai sydd wedi cael eu lladd gan gŵn o gwmpas rhyw £400,000 y llynedd, sydd yn gynnydd o ryw 15 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae'r un ymchwil yn dangos hefyd fod dau o bob tri pherson sy'n mynd â'u cŵn am dro yn barod i adael i'r cŵn yma redeg yn wyllt pan fyddan nhw mas yn y wlad. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ffigurau yma sydd ar gynnydd, ac ydych chi'n fodlon gwneud datganiad arno fe? A sut ydych chi'n bwriadu annog pobl i fod yn fwy cyfrifol pan fyddan nhw'n mynd â'u cŵn am dro, mas yng nghefn gwlad?
Diolch i chi. Rydych chi'n hollol gywir; rydyn ni'n gweld llawer gormod o achosion o gŵn yn ymosod, yn enwedig ar ddefaid ac ŵyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Fel rydych chi'n dweud, rydyn ni'n ond yn—. Wel, mae'r wyna wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd eisoes; bydd eraill yn eu dilyn. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld ymgyrch y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, 'ewes a lead'—'use' wedi'i sillafu 'ewes'—a oedd, yn fy marn i, yn ffraeth iawn. Ond rwy'n credu bod yr ymgyrchoedd hyn yn bethau da iawn, ac yn y Llywodraeth rydyn ni'n sicr yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r ymgyrch honno, oherwydd mae perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn bwysig iawn, ac rydych chi'n ymwybodol o'r cynlluniau amrywiol i gyd. Ond roedd hi'n dda iawn cael gweld yr ymgyrch honno, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, cyn, fel rydych chi'n dweud, i bobl ddechrau mynd allan yn fwy, efallai, i gefn gwlad wrth i'r gwanwyn agosáu.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar yr adolygiad ffyrdd a'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.
Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiad terfynol y panel annibynnol adolygu ffyrdd. Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn ag arwyddocâd rhyngwladol, ac fe hoffwn i ddiolch i Dr Lynn Sloman a'i chyd-banelwyr. Mae eu hadroddiad yn un manwl, awdurdodol a grymus, ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei hegwyddorion craidd a'r ymagwedd newydd y mae'n eu nodi.
Pan gyhoeddwyd strategaeth drafnidiaeth Cymru, ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni ymrwymo i ddechrau ar lwybr newydd. Mae cyhoeddi'r adolygiad hwn o'r ffyrdd, ynghyd â'r cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol a'n datganiad polisi ffyrdd newydd, yn gam mawr ymlaen ar y daith honno. Gadewch i mi fod yn eglur iawn o'r cychwyn: fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni'n adeiladu ffyrdd newydd wrth i mi siarad, ond rydyn ni'n codi'r bar o ran ystyried ai ffyrdd newydd yw'r ymateb cywir i broblemau trafnidiaeth. Rydyn ni'n buddsoddi mewn dewisiadau amgen gwirioneddol hefyd. Mae cynllun cyflenwi trafnidiaeth cenedlaethol heddiw yn nod rhaglen bum mlynedd o fuddsoddiad mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a beicio. Mae gan economïau llwyddiannus cyfoes systemau trafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus cyfoes. Mae ein un ni wedi crebachu oherwydd preifateiddio, ac mae'n rhaid i hynny newid. Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Nid yn unig ein bod ni'n cael ein hamddifadu o'n cyfran ni o fuddsoddiad rheilffyrdd Cyflymder Uchel, ond mae Llywodraeth y DU yn gwthio llawer o wasanaethau bws dros ddibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Hyd yn oed pe byddem ni wedi dymuno parhau â'r holl gynlluniau ffyrdd a oedd ar y gweill, nid oes gennym ni'r arian i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf ni 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf mewn termau real o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU. Felly, pan fydd y Ceidwadwyr yn ein beirniadu ni, fe ddylen nhw gofio'r sefyllfa ariannol wirioneddol o'u gwneuthuriad nhw: yn syml, ni ellir fforddio'r rhaglen ffyrdd. Gyda llai o adnoddau mae hi'n bwysicach fyth i flaenoriaethu, ac mae'r adolygiad ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny.
Mae cynlluniau ffyrdd yn cymryd blynyddoedd lawer rhwng y cynllun dechreuol ar y dudalen i'r rhaw gyntaf yn y ddaear. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cael eu llunio cyn i ni ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a chyn i ni bennu ymrwymiadau polisi yn strategaeth trafnidiaeth Cymru, y rhaglen lywodraethu a Cymru Sero Net. Roedd yr adolygiad ffyrdd yn ystyried pob un o'r 55 cynllun a ddatblygir ac yn rhoi prawf arnyn nhw yn ôl ein polisïau presennol. Mae'r panel yn nodi eu barn fanwl ar bob un yn eu hadroddiad, ynghyd â chyfres o ddibenion ac amodau ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn mynegi bod angen i ni wneud mwy i ofalu am y ffyrdd sydd gennym ni eisoes, a rhoi mwy o sylw i gefnogi cludo nwyddau. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ar adolygiad o'n dull ni o gynnal a chadw ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd. Mae angen ffyrdd arnom ni, ond mae angen i ni gofio nad ar gyfer ceir yn unig y mae ffyrdd. Dywedodd y panel fod angen i ni roi mwy o flaenoriaeth i fysiau a rhwydweithiau teithio llesol mewn cynlluniau ar gyfer ffyrdd.
Mae'r adroddiad yn mynegi hefyd, lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd, y dylem ni ystyried yn gyntaf leihau cyflymder mewn mannau lle ceir gwrthdrawiadau. A phan fyddwn ni'n bwrw ymlaen â chynllun newydd, fe ddylem ni ddewis yr un sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Daw tua thraean o'r carbon a gynhyrchir o gynllun ffordd o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu, goleuo a'i chynnal drwy ei hoes gyfan: dur, concrit, asffalt, dŵr—mae gan bopeth sy'n mynd i gynllun ffordd ôl troed carbon sylweddol ei hun. Ac mae angen i ni leihau'r carbon hwn a gaiff ei ymgorffori, drwy arloesedd, ond drwy wneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym ni hefyd.
Y ddadl ganolog a gyflwynwyd gan y panel adolygu ffyrdd yw na allwn ni adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd. Wrth edrych ar hyn ar ei ben ei hun, yn aml mae achos dros ffordd osgoi neu lôn ychwanegol, ond, yn gronnus, gwaethygu'r broblem a wna hynny. Yn y byrdymor, mae creu lle newydd ar gyfer ffordd yn aml yn cyflymu taith mewn car ac yn gwneud hynny'n fwy deniadol na dewis arall ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn annog mwy o bobl i yrru. Ond gydag amser, mae hyn yn creu mwy o deithiau, gyda phobl yn teithio pellteroedd hirach. Mae hyn yn ei dro yn creu traffig a thagfeydd ychwanegol. Mae'n arwain hefyd at ddatblygiadau manwerthu a phreswyl yn ymddangos yn agos at y cyffyrdd newydd, fel yr ydym wedi'u gweld ledled Cymru. Ac mae'r rhain yn fannau sydd, fel arfer, yn brin o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus neu ddewisiadau o ran teithio llesol, ac felly nid oes gan bobl fawr o ddewis ond eu cyrraedd mewn car, ac mae hyn yn creu mwy o draffig eto, hyd yn oed.
Wrth i bobl yrru mwy, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n golygu bod llai o wasanaethau yn hyfyw, gan adael pobl â llai fyth o ddewisiadau amgen. Mae hyn yn anfanteisiol yn anghymesur i fenywod a phobl ar incwm isel, yr ydym ni'n gwybod o'r data sy'n fwyaf dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i redeg car ar gyfer gallu gweithio, fe all y costau fod yn uchel iawn. Mae astudiaethau wedi dangos bod yr aelwydydd tlotaf yn gallu gwario hyd at chwarter eu hincwm ar gostau trafnidiaeth, gan eu rhoi mewn tlodi trafnidiaeth. Nid yn unig y mae ein dull gweithredu wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisi hinsawdd a'n polisi cynllunio, mae hefyd wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisïau cyfiawnder cymdeithasol, ac mae'n rhaid i hynny newid.
Llywydd, nid yw ein hymagwedd ni am y 70 mlynedd diwethaf yn gweithio. Fel mae'r adolygiad yn nodi, mae'r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn arwain at draffig ychwanegol, sydd, ymhen amser, yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd. Rownd a rownd yr awn ni, gan allyrru mwy a mwy o garbon wrth wneud hynny. Mae hon yn duedd a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae academyddion yn ei galw yn 'ysgogi galw'. Ac mae adroddiad y panel yn dweud yn eglur iawn na ddylai cynlluniau sy'n creu mwy o le i geir ar ffyrdd gael eu cefnogi. Yn hytrach, maen nhw'n argymell y dylid rhoi mwy o sylw i gynlluniau sy'n canolbwyntio ar reoli galw, gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol. Fe fydd hyn, medden nhw, yn helpu i leihau traffig nad yw'n hanfodol a sicrhau bod lle digonol ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd hanfodol, gan gynnwys cludwyr nwyddau.
Rydym ni wedi derbyn achos yr adroddiad dros newid. Ni fyddwn ni'n cyrraedd sero net oni bai ein bod ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Lle gallwn ni greu dewis arall sy'n rhwyddach na gyrru, gadewch i ni wneud hynny. Mae hwn yn ddull a fydd yn dod â llawer o fanteision, ac fe fydd yn helpu'r rhai sydd heb ddewis heblaw am gar i barhau â'u gweithgarwch. Dyna'r ffordd orau i fynd i'r afael â thagfeydd a chostau i fusnesau yn y byrdymor. Ac yn y tymor hirach, mae economegwyr wedi ein rhybuddio y bydd canlyniadau tymereddau cynyddol yn achosi gostyngiad mewn cyfraddau blynyddol o gynnyrch domestig gros o rhwng 5 y cant a 7 y cant, gan beri niwed mawr i swyddi a buddsoddiad. Felly, nid oes unrhyw wrthdaro rhwng yr amgylchedd a'r economi yn yr hirdymor. Bydd ein polisïau ni o gymorth gyda'r ddau. Mae angen y ddau arnom ni.
Mae'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn rhestru'r cynlluniau ffyrdd y byddwn ni'n parhau â'u datblygiad dros y pum mlynedd nesaf. Lle mae'r panel adolygu ffyrdd wedi argymell na ddylai cynllun fynd yn ei flaen, ni fyddwn ni'n bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw fel y cynlluniwyd. Ond lle mae cytundeb ynglŷn â phroblem drafnidiaeth, fe fyddwn ni'n gweithio gyda noddwyr y cynllun i nodi ateb sy'n bodloni'r profion newydd ar gyfer buddsoddiad.
Mae ein polisi ffyrdd newydd yn ei gwneud yn eglur y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd a ffyrdd sy'n bodoli eisoes, ond, i fod yn gymwys i dderbyn cyllid yn y dyfodol, fe ddylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid creu mwy o gapasiti, peidio â chynyddu allyriadau drwy gynyddu cyflymder cerbydau, a pheidio â dinistrio safleoedd sy'n werthfawr yn ecolegol.
Ar gyfer y ffyrdd hynny sydd wedi eu cynllunio i gysylltu â safleoedd o ddatblygiad economaidd, mae'r adroddiad wedi gwneud cyfres o awgrymiadau, ac rwyf i wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd cyngor Torfaen, a'r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd cyngor Ynys Môn, weithio gyda ni er mwyn dod o hyd i ddull ymarferol o ganiatáu i safleoedd twf gael eu hyrwyddo sy'n unol â'n polisïau cynllunio a thrafnidiaeth.
Llywydd, gadewch i ni gofio'r hyn a ddywedodd Julie James ac y dywedais i wrth ddechrau yn ein swyddi: yn y degawd hwn, mae'n rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau mewn allyriadau nag a wnaethom ni yn y tri degawd diwethaf i gyd gyda'i gilydd. Mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a lwyddom yn ystod y 30 diwethaf i gyd. Dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud bod angen i ni ei wneud. Fe wyddom ni beth sy'n dod. Ein gorchwyl ni yw paratoi Cymru ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn. Nid oes dim yn hawdd yn hyn, ond nid yw'r dewis arall yn hawdd chwaith. Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni'n gweithredu yn bendant nawr, byddwn ni'n wynebu trychineb hinsawdd. Rwy'n dweud hyn gyda phob diffuantrwydd wrth yr holl Aelodau: os ydym ni am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, a deddfu i ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel gwnaethom ni, a'i gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r panel adolygu ffyrdd am ein helpu ni i nodi ffordd o wneud hynny. Diolch.
Dirprwy Weinidog, roedd gennych chi gyfle gwirioneddol yma i gael Cymru yn symud unwaith eto drwy roi seilwaith i gymunedau ledled Cymru yr oedden nhw nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu. Mae trigolion ym mhob cwr o Gymru wedi bod ar bigau'r drain ers bron i ddwy flynedd tra bod y gwaharddiad er gwaeth hwn ar adeiladu ffyrdd wedi bod ar waith. Ond nawr mae'r disgwyl ar ben o'r diwedd, fe aeth ychydig o dan 60 cynllun o dan y microsgop yn rhan o'ch adolygiad chi, ac yn awr rydyn ni'n darganfod mai dim ond llond llaw sydd wedi eu harbed o'r tân ac yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd. Dirprwy Weinidog, o ystyried bod pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod yn aros cyhyd am weithredu, pryd yn union ydych chi'n disgwyl i'r peiriannau cloddio ddechrau gweithio?
Er y bydd newyddion am rai o'r prosiectau sy'n cael eu chwifio drwodd yn cael eu croesawu yn fawr gan gymudwyr, ymwelwyr a thrigolion yn yr ardaloedd hynny, mae'r diflastod, yr anhrefn a'r ansicrwydd i bawb arall mewn anwybodaeth a fydd yn parhau, yn anffodus. Dirprwy Weinidog, beth ydych chi am ei ddweud wrth y bobl hyn a fydd yn dal i ddioddef o ganlyniad uniongyrchol i'ch penderfyniad? Beth ydych chi am ei ddweud, Dirprwy Weinidog, wrth y busnesau hyn i gyd sy'n ei chael hi'n anodd dal ati ac a fydd nawr yn dal i straffaglu oherwydd y penderfyniad hwn?
Fe wn eich bod yn cael pleser mawr o weld bai ar Lywodraeth y DU am eich holl ddiffygion chi. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylwn i eich atgoffa chi fod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £155 miliwn yn ôl i San Steffan am na wnaethoch chi ei wario yng Nghymru ar bobl Cymru. Ac nid oes unrhyw angen i mi eich atgoffa chi bod llawer o feysydd trafnidiaeth yr ydym yn siarad amdanyn nhw, mewn gwirionedd, wedi eu datganoli. I chi, Dirprwy Weinidog, gallai ffyrdd fod yn ddarnau dychrynllyd o goncrit fel hyn, ond i ni, busnesau, cymudwyr a thrigolion, maen nhw'n angenrheidiol. Mae angen ffyrdd digonol arnom ni i redeg rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o'r safon uchaf, i helpu busnesau i ffynnu, a rhedeg injan yr economi yn briodol—dim ond rhai o'r ychydig resymau pam rwy'n siarad mor angerddol am hyn.
Rwy'n deall y gallai rhai prosiectau gael y golau gwyrdd yn y pen draw os gwneir peth mireinio a gwelliannau a'u bod yn pasio eich profion gorchestol sydd ar waith erbyn hyn. Felly, o ystyried bod £24 miliwn eisoes wedi cael ei wario ar brosiectau ffyrdd ar ffurf ymchwil a datblygu cyn i'r gwaharddiad hwn ddigwydd, pwy fydd yn talu'r bil nawr am y gwaith o ailgynllunio? Mae cyfarwyddwr Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil wedi cysylltu â ni gan ddweud bod angen peth eglurder ar unwaith o ran yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen.
Mae gen i bryderon hefyd am ddau gynghorydd, Anthony Hunt o'r Blaid Lafur a Llinos Medi o Blaid Cymru, sydd â'r dasg o adolygu prosiectau safleoedd datblygu economaidd wrth symud ymlaen. Oni allai panel o bobl annibynnol gael eu hymgynnull i archwilio hyn, yn lle dau gynghorydd sydd ag aliniad gwleidyddol?
Un o argymhellion yr adolygiad oedd darparu gwell cyfleusterau parcio a mannau gorffwys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, rhywbeth rwy'n ei groesawu ac wedi bod yn galw amdano ers tro, ochr yn ochr â'r Gymdeithas Cludo ar Ffyrdd, i gyflawni hyn. A gaf i gadarnhad pendant gennych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd hyn yn wir yn digwydd, a phryd yn union yr ydych chi'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud? Pan wnaethoch chi gyhoeddi'r gwaharddiad ar adeilad ffyrdd, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n eich dyfynnu chi nawr, fe ddywedoch chi,
'mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.'
Nawr, os yw hynny'n wir, Dirprwy Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi wedi torri gwariant o fewn teithio llesol ar gyfer 2023-24 o'r £223 miliwn a grybwyllwyd i £184 miliwn? Beth yn union yw'r 'dewisiadau amgen go iawn' honedig hyn yr ydych chi'n buddsoddi ynddyn nhw yn ôl y sôn, Dirprwy Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi am roi'r gorau i wario arian ar bethau sy'n annog pobl i yrru. Digon teg. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Dirprwy Weinidog, pam nad yw eich Llywodraeth chi wedi gwario'r un geiniog ar hysbysebu teithio llesol ers 2018. Yn rhyfedd iawn, ni wnaeth eich Llywodraeth wario unrhyw beth chwaith ar hysbysebu trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod 2021-22.
Ac yn awr, gadewch i ni droi at y cynllun trafnidiaeth. Roeddech chi'n dweud y byddai hwnnw'n blaenoriaethu newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Cywir? Eto i gyd, ar ôl darllen y fersiwn lawn o 162 tudalen a'r fersiwn fer o 16 tudalen, nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth o dlodi trafnidiaeth nac unrhyw arwydd o sut mae eich gwaith gyda gweithredwyr trafnidiaeth am leihau prisiau teithio wrth symud ymlaen. Felly, beth ydych chi a'ch cydweithwyr yn ei wneud i leddfu'r baich ariannol sydd ar y rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd, Dirprwy Weinidog? Dros y ffin yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno cap o £2 ar brisiau bws. Dirprwy Weinidog, pam nad oes gennym ni gynllun tebyg yma yng Nghymru i'n cymudwyr ni? Ac a fyddwch chi'n ystyried hyn o ddifrif, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y byddai'n annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau?
Un arall o amcanion y cynllun yw erbyn 2025 y bydd ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw fod o fewn cyrraedd seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fo angen. Sut fydd hyn yn gweithio, Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n amau eich bod chi'n fethiant llwyr gyda dim ond 39 dyfais gwefru cyhoeddus fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru? Nid yw hynny'n ddigonol. Gyda Chymru â'r gyfradd leiaf o ddyfeisiau gwefru cyflym neu gyflymach, a ydych chi'n hyderus eich bod chi am gyrraedd y nod hwn?
Un o flaenoriaethau'r cynllun yw cael mwy o bobl i weithio o gartref. Mae'n rhaid i mi gyfaddef y gwnaeth hynny i mi chwerthin, oherwydd i mi roedd hi'n debyg eich bod chi, yn ei hanfod, yn dweud fod y rhwydwaith drafnidiaeth yng Nghymru mor wael y byddai'n well gennych chi gadw pobl yn eu cartrefi, yn lle cynnig datrysiadau gwirioneddol. Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg i mi nad yw hyn i gyd heddiw, yn gymysg oll â'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol sy'n cael ei gyflwyno a'r tâl tagfeydd y sibrydir amdano wrth symud ymlaen, yn gwneud dim ond tynnu sylw pellach at agenda gwrth-gar, gwrth-dwf, gwrth-swydd Llafur. I mi, mae'n ymddangos bod strategaeth drafnidiaeth Llafur mewn anhrefn llwyr.
Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol nad yw eich Llywodraeth chi'n gwybod beth mae hi'n ei wneud o ran yr economi. Mae hi'n hen bryd nawr i chi godi eich dwylo a chyfaddef, gerbron pawb ohonom ni, ei bod hi'n amlwg nad ydych chi'n gwybod beth yr ydych chi'n ei wneud o ran trafnidiaeth chwaith.
Wel, rwy'n gwybod sut i ddarllen cyllideb, ac rwy'n ofni ei bod hi wedi camddeall yn llwyr wrth ddarllen ein un ni. Ni chafwyd toriad o £220 miliwn i £180 miliwn ar deithio llesol. Wn i ddim o ble y cafodd hi'r ffigyrau hyn; mae hynna'n ffantasi llwyr, ac, o ran rhoi £155 miliwn yn ôl i'r Trysorlys, rwy'n credu bod honno'n weithred ffantasïol hefyd.
Rwy'n gwerthfawrogi y gallem ni fod wedi rhoi Natasha Asghar dan anfantais gyda'r cyhoeddiad heddiw, oherwydd rwyf i wedi bod yn darllen darnau cynyddol frawychol ganddi hi ynglŷn â sut yr oeddwn i am esgor ar ddiwedd y ddynoliaeth fel rydyn ni'n ei hadnabod, ac yn amlwg rydyn ni wedi cynnig cyfres synhwyrol o argymhellion ar sail gwaith arbenigwyr annibynnol, a gytunwyd yn gyffredin ganddyn nhw, a gytunwyd yn gyffredin yn y Llywodraeth, ac a dderbyniwyd yn dda gan lywodraeth leol, sy'n golygu ein bod ni'n ymdrin â'r heriau sydd o'n blaenau.
Fel y dywedais i wrthi hi a'i chydweithwyr, gyda'r parch mwyaf, os ydyn ni am ymrwymo i nodau sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Gadewch i mi ddyfynnu hyn ar eu cyfer nhw:
'po hwyaf y byddwn ni'n methu â gweithredu, y gwaethaf y bydd hi a'r uchaf fydd y pris pan fyddwn ni'n cael ein gorfodi yn y pen draw, trwy drychineb, i wneud rhywbeth.... Mae hi'n un funud i hanner nos ar y cloc dydd y farn hwn, ac mae angen i ni weithredu nawr. Os nad ydyn ni'n cymryd newid hinsawdd o ddifrif heddiw, fe fydd hi'n rhy hwyr i'n plant ni wneud felly yfory.'
Cafodd hynny ei ddweud gan Brif Weinidog Ceidwadol lai na blwyddyn yn ôl. Felly, mae'r geiriau hyn ar sero net yno, yn sicr ymysg ei phlaid hi yn Llundain—yn llai felly yn y fan hon. Ond nid yw hi o unrhyw les dweud geiriau oni bai eich bod chi'n barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol.
Y cyfan a glywais ganddi hi yw cyfres o sloganau y mae hi'n awyddus i'w hybu ar gyfer cynhyrfu pobl. Ni chlywais i'r un awgrym adeiladol o ran sut, os ydym ni'n derbyn bod angen i ni gyflawni nod sero net, y byddwn ni'n gwneud hynny gyda thrafnidiaeth. Dyna wnaethom ni yma; rydyn ni wedi cymryd y cwestiwn arholiad hwn: 'Sut mae sicrhau sero net yn ein rhaglen ffyrdd? Gadewch i ni fynd oddi yma ac archwilio hynny.' Dyna sydd wedi digwydd, a dyna beth y gwnaethom ni ei gynnig: ffordd ymlaen sy'n gredadwy, ymarferol, bragmataidd sy'n dal ati i adeiladu ffyrdd, ond yn adeiladu ffyrdd nad ydyn nhw'n parhau i ychwanegu at ein problemau ni. A dyna'r gwahaniaeth, mae arna' i ofn, rhwng gwrthblaid a Llywodraeth: nid ydyn ni'n gallu siarad ar sloganau; mae'n rhaid i ni roi ystyriaeth i brosiectau ymarferol ar gyfer symud ymlaen, a dyna a wnaethom ni. Rwy'n siŵr, pan gaiff hi'r cyfle i ddarllen yr adroddiad yn fwy manwl, fe wnaiff hi sylweddoli ein bod ni wedi nodi ffordd bragmataidd ymlaen. Ac os oes ganddi hi awgrymiadau eraill i ni o ran dulliau ar gyfer lleihau allyriadau, fe fydda' i'n glustiau i gyd.
Diolch, Gweinidog. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes. Mae'r wyddoniaeth yn eglur: os na wnawn ni gymryd camau beiddgar i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd gennym ddyfodol. Felly, mae'n rhaid gweld yr adolygiad ffyrdd a'r holl benderfyniadau anodd y mae hynny'n eu golygu yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r egwyddor yn un yr wyf i'n ei chroesawu—sut na allem ni? Ond, mae'r polisi ymhell o fod yn berffaith, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i newid eu bywydau, ond mae llawer o'r ardaloedd lle mae prosiectau adeiladu ffyrdd wedi cael eu gohirio yn cael eu tanwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eisoes. Mae pryderon gennyf i, Gweinidog, am yr effaith a gaiff hyn ar fywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae llawer o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat i fynd o gwmpas, yn union fel mae llawer o bobl yng nghymunedau'r Cymoedd yn dibynnu ar fysiau. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, newid yr orddibyniaeth honno ar geir, ond ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Dyma'r cyfnod pontio sy'n peri'r pryder mwyaf i mi, oherwydd fe fydd yna lawer o bobl yn dibynnu ar ffyrdd i gyrraedd eu gwaith, i allu cael gafael ar wasanaethau hanfodol, i ymweld â ffrindiau a theulu, ac fe allai ataliad ffyrdd newydd heb, efallai, fuddsoddiad mwy penodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus olygu teithiau hirach, cynnydd mewn costau teithio a rhwystro hygyrchedd gwasanaethau pwysig. Felly, yr elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn o beth sy'n fy mhoeni i. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod yn eglur ynghylch pa gamau eraill y bydd hi'n eu cymryd ar gyfer yr ymateb cwbl hanfodol i lygredd aer.
Fe wn i fod lleihau allyriadau o drafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r ateb. Ni all hwnnw fod yr unig ateb, wrth gwrs. Mae angen i ni ystyried anghenion pob cymuned, a chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau a gwella ansawdd aer. Felly, o ran y camau eraill y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i lygredd aer, siawns nad oes angen i hyn i gyd fod yn fuddsoddiad mewn dulliau teithio amgen, fel trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n siŵr mai dyma'r amser pwysicaf i hyrwyddo a rhoi sicrwydd o ran cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n dymuno ategu'r sylwadau a wnaethpwyd yn barod yn y Siambr yn gynharach heddiw ynglŷn â sicrwydd o gyllid i wasanaethau bws.
Nawr, fe wn i fod teithio llesol, Gweinidog, yn rhywbeth sy'n agos at eich calon, ac rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethoch chi am roi blaenoriaeth i ffyrdd ar gyfer llwybrau teithio llesol at fysiau. Fe fyddwn i'n croesawu mwy o wybodaeth am hynny, oherwydd fe fyddai buddsoddi yn y dulliau amgen hyn yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd ac yn helpu i leihau allyriadau. Siawns na ddylem ni fod yn buddsoddi hefyd mewn seilwaith cerbydau trydan fel gall pobl newid i fathau glanach, mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'r tanariannu yn y maes hwnnw'n alaethus. Mae croeso i ni ddweud ein bod ni'n awyddus i fod â gwell gwasanaethau bws a newid dulliau teithio. Nid dim ond croeso sydd i hynny, mae'n rhywbeth hanfodol. Ond, fel gyda'r pethau hyn i gyd, fe fyddan nhw'n dal i fod yn ddibynnol ar ffyrdd. Eto i gyd, y pontio sy'n fy mhoeni i.
Yn ail, a fyddech chi'n cytuno, Gweinidog, bod angen i ni hyrwyddo parthau allyriadau isel yn ein dinasoedd i helpu i leihau allyriadau yn ein hardaloedd mwyaf poblog a gwella ansawdd aer i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y mannau hynny? Rwy'n credu bod rhywbeth arbennig i'w ddweud am fonitro llygredd aer yn well, yn enwedig y tu allan i ysgolion. Unwaith eto, mae angen ymgymryd â'r ymyriadau hyn ar y cyd, wrth gwrs, â'r cynllun.
Yn olaf, a ydych chi'n cytuno bod angen i ni addysgu a grymuso pobl gyda gwybodaeth am bwysigrwydd lleihau allyriadau a'r effaith y mae llygredd aer yn ei gael ar ein hiechyd ni? Oherwydd os ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i annog pobl i wneud dewisiadau cynaliadwy fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—lle mae honno ar gael, wrth gwrs, a'i gwneud yn fwy hygyrch—beicio, lleihau'r defnydd o ynni, fe fyddai hynny'n helpu i newid, efallai, y syniad nad yw pobl yn teimlo mai rhywbeth sy'n cael ei wneud er eu mwyn nhw yw hyn, a'i fod yn benderfyniad y maen nhw'n rhan ohono hefyd, ac yn cael eu dysgu am eu cyfranogiad drwy'r system addysg.
Felly, mae'r polisi adolygu ffyrdd, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Mae hwnnw'n gyfeiriad y mae'n rhaid i ni fynd iddo, neu fe gawn ein llyncu gan fwrllwch, ond mae'n rhaid tywys pobl i'r cyfeiriad hwnnw. Mae angen llwybr trwodd iddyn nhw gyrraedd yno. Nid yw'r polisi yn berffaith, ond mae angen dull cynhwysfawr, integredig arnom ni o fynd i'r afael â llygredd aer, i leihau allyriadau. Fe ddylai gynnwys yr holl ddarnau amrywiol hyn yn dod at ei gilydd ochr yn ochr ag amaethyddiaeth gynaliadwy ac addysg.
Rwy'n credu hefyd fod y pwynt amlwg yn hyn o beth yn ymwneud â deddfwriaeth. Mae angen y Bil aer glân arnom ni'n fuan. Fe fyddai croeso mawr i ddiweddariad ynglŷn â hynny hefyd. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni greu dyfodol glanach, gwyrddach, mwy cynaliadwy i Gymru. Rwy'n credu ein bod ni eisiau yma—. Mae'n rhaid i ni fod ar y ffordd i'r un gyrchfan, ond mae angen i ni ei gwneud hi'n haws ac nid yn anos i bobl gyrraedd yno. Felly, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu hynny.
Diolch i chi am eich croeso cyffredinol i'r ymagwedd, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am yr angen i ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl bontio. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl ganolog i'r ymagwedd y mae angen i ni i gyd ei gymryd. Rwy'n cael fy nharo gyda'r gyfatebiaeth â'n hanes ni gydag ailgylchu. Pan ydych chi'n meddwl am y peth, 20 mlynedd yn ôl, ychydig iawn o bobl yng Nghymru oedd yn ailgylchu. Nawr mae gennym ni'r drydedd gyfradd orau yn y byd. A pham hynny? Oherwydd mae hynny'n beth rhwydd. Rydym ni wedi cymryd y boen i ffwrdd ac mae wedi mynd yn beth arferol erbyn hyn. Mae gan bobl eu deinamig eu hunain, ac rydyn ni i gyd yn gwybod hyn o'n bywydau ein hunain ac mae hi'n mynd yn obsesiwn mawr am ailgylchu ac ymestyn am y mymryn lleiaf o gardfwrdd sydd wedi syrthio i lawr cefn y gadair. Ond, pan edrychwch chi ar y gwahaniaeth rhwng trafnidiaeth a gwastraff, ers 1990, mae'r allyriadau oherwydd gwastraff wedi lleihau 64 y cant. Yn yr un cyfnod, mae trafnidiaeth wedi lleihau ei allyriadau 6 y cant, hyd yn oed gyda'r enillion cyflym mewn technoleg cerbydau a welsom ni yn yr amser hwnnw. Ac rydych chi'n meddwl am y gwersi y gallwn ni eu defnyddio o hynny: fe ddaethom ni'n arloeswyr ailgylchu drwy fuddsoddiad parhaus dros ddegawd, arweinyddiaeth ganolog gan Lywodraeth Cymru, ac ymdrechion penderfynol gan awdurdodau lleol yn gweithio law yn llaw. Nawr, fe wnaethon ni hynny gyda gwastraff. Mae angen i ni wneud hynny gyda thrafnidiaeth. Mae angen i ni wneud y peth cyfiawn i'w wneud yn beth hawsaf un ei wneud, ac mae hynny'n bosibl, ond mae angen newid dull gweithredu, a dyna'r arwydd sy'n cael ei roi heddiw.
Ac yn sicr, o ran ansawdd aer, mae gennym ni Fil ansawdd aer y bydd Julie James, fy nghydweithiwr, yn gwneud datganiad yn ei gylch yn fuan iawn. Mae gennym ni becyn o ddiwygiadau. O ddiwygio bysiau, mae gennym Fil a gaiff ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a fydd yn rhoi system gydlynol ar waith, mewn cyferbyniad â gorllewin gwyllt y system breifateiddio yr ydym ni'n ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Mae gennym ni £1.6 biliwn o fuddsoddiad yn mynd i'r rheilffyrdd a'r metros ledled Cymru nawr. Mae cerbydau newydd yn dod i'r gwasanaeth yr wythnos hon a phob mis am y 18 mis nesaf, ac rydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn teithio llesol ddeg gwaith. Mae mwy i'w wneud eto, ac mae swyddogaeth i barthau allyriadau isel, ac mae hynny'n rhan o'r Bil Aer Glân, ac rydym ni'n gwybod mai cyngor Caerdydd sy'n arwain y ffordd wrth edrych ar gyflwyno codi tâl tagfeydd.
Felly, rwy'n credu bod y fframwaith gennym ni ar gyfer ymagwedd polisi a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yr her sydd gennym ni yn y byrdymor yw'r cyllid sydd ei angen arnom ni ar gyfer bysiau, ac rydyn ni i gyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa y mae'r diwydiant bysus yn ei hwynebu erbyn hyn. Y gwir amdani yw—. Roeddwn i'n gwrando gyda diddordeb ar yr hyn a ddywedodd Adam Price yn y Siambr yn gynharach, ond, ar y cyd, mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi gwneud dewisiadau ariannol. Rydyn ni wedi blaenoriaethu rhai materion. Rydyn ni wedi blaenoriaethu prydau ysgol am ddim. Rydyn ni wedi blaenoriaethu mesurau costau byw. Rydyn ni wedi blaenoriaethu, yn ein Llywodraeth, godiad cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus. Dyna'r pethau priodol i'w gwneud. Ond allwch chi ddim gwario'r un arian ddwywaith, ac yn syml, nid yw'r arian ar gael yn y gyllideb. Mae Adam Price yn anghytuno, ond fe hoffwn i weld ei gyfrifiadau ef. Fe welodd ef gyllideb Llywodraeth Cymru, fel gwnes innau. Yn syml, nid yw'r arian yno yn y byrdymor i wneud yn iawn am y diffyg hwnnw, nad oedd erioed wedi ei fwriadu i'w gynnal dros amser; cronfa argyfwng oedd honno. Nid oedd hi fyth wedi ei bwriadu i fod yn ddatrysiad parhaol. Wedi dweud hynny, mae angen i ni ddiogelu'r rhwydwaith orau ag y gallwn ni. Rydym ni wedi gallu rhoi estyniad o dri mis, ac rydyn ni'n gweithio yn agos gyda'r diwydiant a'r awdurdodau lleol i geisio gwneud yr hyn a allwn ni, ond, yn amlwg, ni fydd hynny'n ddigon i gadw'r gwasanaethau fel maen nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny'n drueni mawr. Ystyr cyhoeddiad heddiw yw ein bod ni'n newid y cyfeiriad ar gyfer buddsoddiadau tymor canol a hirdymor, ar gyfer symud yr arian oddi wrth gynlluniau adeiladu ffyrdd i'w roi i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae 'na ddadl hirfaith i'w chynnal ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yng Nghymru, ond dydw i ddim yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny, ac rwy'n siŵr nad ydych chithau yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny.
Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd ar gyfer tir a ddynodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer datblygu tai? Ac, yn yr 1960au, fe adeiladwyd ffordd osgoi ogleddol Llandeilo. A yw'r Gweinidog yn bwriadu adeiladu ail ffordd i osgoi Llandeilo? Ac, mewn gwirionedd, faint o drefi a dinasoedd eraill sydd â dwy ffordd osgoi?
Wel, diolch i chi am fod yn gryno ac i'r pwynt—rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Felly, ar y pwynt cyntaf am ffyrdd newydd ar gyfer tir a nodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai, pan gewch chi gyfle i edrych ar yr adolygiad ffyrdd, fe geir sylwadau ynddo ar yr union bwnc hwn, ac rydyn ni wedi cael trafodaeth yn y Llywodraeth ynglŷn â'r ffordd orau o weithredu hyn, ac yn rhannol, dyma yw'r adolygiad a grybwyllwyd eisoes yr ydym ni wedi gofyn i Anthony Hunt a Llinos Medi ein cynorthwyo ni ag ef, sef cyplysu ein polisïau cynllunio, trafnidiaeth a hinsawdd mewn ffordd ymarferol â'r cynlluniau datblygu sydd eisoes ar waith. Er enghraifft, y bwriad yw i'r prosiect yn y Faenor ger Cwmbrân yn Llanfrechfa, ar bwys yr ysbyty sydd heb lwybr bysiau, fod yn stad o dai. Nawr, nid ydym ni'n dymuno stad draddodiadol o dai, ar fin tref, yn llawn o geir, felly mae'r panel adolygu yn argymell prosiect enghreifftiol lle byddwn ni'n cynnwys pherchnogaeth ceir isel o'r dechrau, a dyna yr ydym ni'n dymuno gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddylunio. Yn yr un modd, yn Wrecsam, mae'r awdurdod lleol yn siomedig iawn fod y panel adolygu ffyrdd—a ninnau'n derbyn—wedi penderfynu peidio ag adeiladu gwelliannau i gyffordd wrth ymyl stad dai fawr a gynlluniwyd ar gyrion canol tref Wrecsam, wrth ymyl cyffyrdd ffordd ddeuol. Nawr, rydyn ni o'r farn y byddai hynny'n gwneud dim ond annog mwy o draffig ac y byddai'n achosi mwy o dagfeydd. Rydyn ni wedi dweud yn eglur iawn wrth Wrecsam ein bod ni'n dymuno gweithio gyda nhw i weld y datblygiad hwnnw'n digwydd, ond yn digwydd mewn ffordd sy'n esiampl o adeiladu gyda golwg ar berchnogaeth isel o geir heb i ni gyfrannu at yr un problemau dro ar ôl tro. Rydyn ni'n awyddus i gael ffyrdd mynediad i safleoedd datblygu. Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w weld yw defnyddio safleoedd datblygu fel esgus i gael ffordd osgoi neu lwybr answyddogol i osgoi traffig. Felly, mae'r panel adolygu yn egluro mai ffordd i mewn a ffordd allan yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, heb ddefnyddio datblygiadau ar ymylon tref i ysgogi mwy fyth o ffyrdd y tu allan i dref sy'n cynhyrchu traffig ychwanegol.
O ran Llandeilo, mae'r Aelod yn gwybod, ac fe sonnir am hyn yn y cynllun, fod yr ymrwymiad a wnaethon ni yn y cytundeb cyllideb rai blynyddoedd yn ôl, i ymchwilio i'r dewisiadau am ffordd osgoi i Landeilo, yn parhau. Rydym ni'n parhau i wneud hynny. Rydym ni'n mynd trwy'r broses WelTAG. Mae cynnig gennym ni am estyniad i ran o'r ffordd yn Ffairfach, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi beth fyddai orau gennym ni o ran y camau nesaf yn ystod y misoedd nesaf.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddatganiad heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig, pan oedd y datganiad yn cael ei ddarllen, nad oedd copi o'r adolygiad ffyrdd ar gael i ni. Felly, o ran gallu gwneud cyfraniad ystyrlon heddiw mewn ymateb i'ch datganiad, fe wnaeth hynny hi'n anodd iawn i lawer o Aelodau yn y Siambr hon. Mae hon yn ddogfen o 327 tudalen erbyn hyn, ac roeddech chi'n dweud wrthym ni yn eich datganiad,
'Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn.'
Roedd hi'n amhosibl i ni wneud hynny pan oeddech chi'n codi i wneud y datganiad. Ond, er hynny, wrth edrych ar y datganiad—neu'r adroddiad, fe ddylwn i ddweud—ers i chi fod yn siarad, mae hi'n amlwg i mi y bydd y gogledd ar ei golled yn aruthrol o ganlyniad i'r adolygiad hwn. O'r 16 prosiect a oedd yn yr arfaeth yno, yr argymhellion yw i 15 o'r rhain naill ai gael eu hatal neu eu diddymu yn gyfan gwbl, a gadewch i ni edrych ar rai o'u plith. Rydych chi wedi crybwyll ffordd osgoi Wrecsam eisoes wrth gyffyrdd 3 i 6 ar yr A55. Mae cynllun ffordd Lôn Fawr Rhuthun/Corwen A494 am gael ei ddiddymu gennych chi; mae'r gwaith ar gylchfan A5/A483 Halton i'w ddiddymu; mae cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 i'w diddymu; cyffyrdd 32 i 33 yr A55, y gwaith hwnnw i'w ddiddymu; diddymu'r gwaith i wella coridor sir y Fflint; ac yna, yr ergyd fwyaf un, trydedd bont dros y Fenai i'w diystyru yn llwyr, er gwaethaf y problemau a welsom ni ar draws yr ynys, hyd yn oed yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd fy etholwyr i yn y gogledd yn hynod bryderus nid yn unig oherwydd hyn, ond oherwydd yr adroddiadau a glywsom ni'n gynharach o ran metro'r gogledd o ran maint y buddsoddiad a fwriadwyd ar ei gyfer yno, o gymharu â'r hyn sy'n digwydd i lawr yn y de.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda, Sam.
Fe fyddaf i'n siŵr o wneud. Pa sicrwydd y gallwch chi eu rhoi i fy nhrigolion yn y gogledd y byddan nhw'n cael cyfran deg o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus, nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg iawn?
Wel, diolch i chi am y cwestiwn, ac a gaf i'n gyntaf oll ymddiheuro na chafodd y datganiad ei roi i chi mewn da bryd? Yn sicr, dyna oedd y bwriad. Rwy'n credu i ni ddechrau ychydig yn gynt, o ganlyniad i hynny, roedd yna oedi wrth iddo gael ei roi i chi cyn i mi godi, ond pechod trwy esgeulustod yn hytrach nag un bwriadus oedd hwnnw, ac fe wnes i gyfarfod â Natasha Asghar fore heddiw mewn gwirionedd a'i briffio hi a siarad gyda hi am yr hyn a oedd yr adroddiad yn ei ddweud yn llawn, o gwrteisi. Felly, yn sicr ni fwriadwyd unrhyw amarch, ac rwy'n ymddiheuro yn ddiffuant am hynny. Mae yna gyfle o hyd, wrth gwrs, i bori ynddo. Ni fyddwn i'n disgwyl i neb fod yn mynd trwy'r adroddiad i gyd heddiw. Fe gefais i fis i bori ynddo, ac ni fyddwn i'n disgwyl i'r Aelodau ddarllen y cyfan ar unwaith. Rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd pellach yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau eto i siarad yn fanwl am yr adroddiad, ac fe fyddwn i'n croesawu hynny'n fawr.
O ran sylwedd y cyhuddiad hwn, rwy'n sylweddoli ei fod ef yn mwynhau gyrru'r hollt rhwng gogledd a de pryd bynnag y caiff gyfle i wneud felly, ond rwy'n credu ei fod ar gyfeiliorn ar yr un yma, oherwydd yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yw cymhwyso'r penderfyniadau a wnaethpwyd ar yr M4 eisoes—prosiect £2 biliwn yn y de-ddwyrain—ac ymagwedd Comisiwn Burns yn y de-ddwyrain i weddill Cymru. Felly, nid achos yw hwn o un rhan o Gymru yn cael ei thrin yn wahanol; mae hyn yn ymwneud, drwy broses ar gamau, â phob rhan o Gymru yn destun i'r un sail resymegol.
Rydyn ni wedi sefydlu comisiwn Burns hefyd, fel gwŷr yr Aelod, sy'n cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd. Fe gyhoeddwyd ei adroddiad interim, ac fe fydd yn ymgysylltu ag Aelodau am syniadau ac yn cyhoeddi ei gynigion yn yr haf. Mae'r syniad y tu cefn i hynny'n union fel comisiwn Burns yn y de-ddwyrain: fe fydd yn cynnig llif prosiectau o gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau eraill a fydd yn gallu cael eu datblygu, gan weithio ar y cyd â'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, i gyflwyno cyllid i Lywodraeth y DU ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus eraill. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o drin y gogledd yn wahanol neu anghofio amdano; fe wnaethom ni hyn mewn gwahanol gyfnodau, a dyna i gyd.
O ran y cynlluniau y soniodd ef amdanyn nhw, yn sicr, ni chafodd y drydedd bont dros y Fenai ei diystyru. Edrychodd y panel adolygu ffyrdd arni a phenderfynodd nad oedd ei manteision yn ei chyfiawnhau. Maen nhw wedi edrych ar y cynllun hwnnw fel cynllun ar ei ben ei hun; rydyn ni'n dymuno cael ystyriaeth lawn i'r mater yn rhan o waith comisiwn Burns ynglŷn â choridor trafnidiaeth y gogledd. Rydym ni wedi gofyn i Burns edrych ar bont dros y Fenai yn y cyd-destun hwnnw ac adrodd ar hynny'n rhan o'i waith ym mis Gorffennaf. Felly, ni chafodd hyn ei ddiystyru, ond mae'r panel adolygu ffyrdd wedi canfod nad yw pont arall yn gwrthsefyll y profion ar ei phen ei hun. Ond mae mwy o waith i'w wneud ar hynny eto.
O ran enghraifft coridor sir y Fflint, mae honno'n ffordd osgoi glasurol o'r 1990au gwerth £350 miliwn yn torri drwy goetir hynafol. Rwy'n clywed Aelodau ar eich meinciau chi'n sôn yn aml am argyfyngau natur a bioamrywiaeth, ac mae hwn yn gynllun a fyddai'n gweithio yn gwbl groes i'r agenda honno. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir i'r cynllun hwnnw fod wedi cael ei atal lle'r ydoedd. Mae Mark Isherwood wedi bod yn eiriolwr ardderchog dros ganslo'r cynllun hwnnw. Felly, mae gennych chi raniad yn eich rhengoedd eich hun yn hyn o beth, yn fy marn i, fel sydd gennym ninnau, yn wir. Mae hwn yn rhannu barn, y cynllun hwn. Ond rydyn ni wedi dweud wrth yr awdurdod lleol ein bod ni'n cydnabod, yn Aston Hill yn arbennig felly, fod problem trafnidiaeth a allai fod yn deilwng o ddatrysiad sy'n seiliedig ar ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gynnig rhywbeth i helpu'r tagfeydd yn Aston Hill. Felly, nid ydym ni'n cymryd pob sefyllfa yn yr un modd; rydyn ni'n dilyn dull wedi'i thargedu i leihau allyriadau carbon, sy'n atal cynyddu'r galw ac yn arafu cyflymderau lle gallwn ni er mwyn ymdrin â phroblemau trafnidiaeth yn ogystal ag ymdrin â'r argyfwng hinsawdd.
Gweinidog, mae hyn wedi mynd â ni yn ein holau 15 mlynedd dda, gan ddadwneud gwaith da fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, pan oedd ef yn Weinidog trafnidiaeth, a dadwneud gwaith da eich rhagflaenwyr chi gydag egluro'r achos dros drydedd bont dros y Fenai a pha lwybrau y dylid eu dilyn a pham hynny. A gaf i wneud sylw hefyd ynglŷn â sut y gwnaethpwyd y cyhoeddiad hwn? Rwyf i wedi cael cyfle, mewn byr amser, i ddarllen trwy'r adolygiad a'r hyn yr oedd yn ei ddweud am y bont arall dros y Fenai. Rwyf i newydd glywed cyfeiriad nawr at adolygiad pellach gan olwg ehangach Burns ar deithio yn y gogledd; nid oes unrhyw sôn am hynny yn yr adolygiad ffyrdd, hyd y gwelaf i. Mae gennym ni benderfyniad yma sy'n datgan yn eglur iawn,
'Ni ddylid bwrw ymlaen â Thrydedd Bont y Fenai ar yr A55.'
Mae hynny mor eglur ag y gallai fod. Mae hynny'n egluro pam mae'r drydedd bont, fel cynlluniwyd hi, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth, ond mae'r penderfyniad ei hun i beidio â bwrw ymlaen â'r bont, fe fyddwn i'n dadlau, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth ei hun. Edrychwch chi ar yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud ymhlith y pum amcan a nodwyd am yr angen am bont: i wella cydnerthedd rhwydwaith a lleihau'r ddibyniaeth ar y defnydd o bont grog Menai. Ni welaf unrhyw gyfeiriad o gwbl at y ffaith bod pont grog y Fenai wedi bod ar gau am dri mis. Fe fyddwn i wrth fy modd yn gwybod pryd gafodd hwn ei lofnodi. Roedd yna sôn am—
Rhun, mae angen i chi ofyn—
Mae hyn o bwys mawr i'm hetholwyr i.
Rwy'n deall hynny, ond mae gennym ni lawer o bobl sy'n dymuno siarad hefyd.
Mae sôn am ymweliad â'r safle; fe hoffwn i wybod pryd ddigwyddodd yr ymweliad â'r safle ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth bryd hynny i'r anrhefn oherwydd cau pont Menai. Mae'n dweud bod hynny ar gyfer gwella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr, ond mae rhan arall o'r adolygiad yn dweud mai un cyfle i gynyddu newid dulliau teithio yw deuoli'r rheilffordd ar bont Britannia. A yw hynny'n gywir? Wel, yr unig le y gallech chi roi cerddwyr a seiclwyr ar hyn o bryd yw ar yr ail reilffordd honno dros bont Britannia. Felly, rydych chi'n symud cerddwyr a beicwyr, o bosibl, oddi ar bont Menai. Mae cymaint o anghysondebau yn hyn. Mae hyn yn anghyson â'ch polisi chi eich hun. Mae'r adroddiad yn sôn am gynnydd yn nifrifoldeb ac amlder digwyddiadau tywydd; mater o gydnerthedd yw hwn. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n cytuno â'r egwyddorion sydd wrth gefn yr adolygiad hwn o ffyrdd. Rwy'n cytuno a'r egwyddor fod angen i ni newid dulliau teithio, ac rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai penderfyniadau i fwrw ymlaen ar ffyrdd yn y dyfodol fod ar sail rhesymau amgylcheddol. Ond mae yna ddolen goll yma. Fe ddylai fod lefel sylfaenol o gydnerthedd fod yn ymhlyg yn ein rhwydwaith ni o ffyrdd a dyna'r wyf i wedi bod yn dadlau yn hir ac yn galed amdano o ran yr angen am drydedd bont. Fe welsom ni yn ystod y tri mis diwethaf—
Rhun, mae'n rhaid i mi ofyn i chi orffen.
—beth mae'r diffyg cydnerthedd hwnnw'n ei olygu. Mae'r penderfyniad wedi fy siomi i'n fawr, yn y ffordd y cafodd ei wneud, a'r anghysondebau yn y ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi dod i'r penderfyniad hwn heddiw.
Efallai y gallaf i egluro. Rwy'n sylweddoli bod llawer o ddogfennau i'r Aelodau bori drwyddyn nhw mewn byr o amser. Fe wnes i roi sesiwn friffio i Blaid Cymru fore heddiw i geisio caniatáu i chi ddeall cefndir y penderfyniadau hyn. Nid adroddiad gan Lywodraeth Cymru yw'r adolygiad ffyrdd; adroddiad annibynnol yw hwn. Rydych chi'n dyfynnu yn y fan yna, gan ein cyhuddo ni o fynd yn groes i'n polisïau ein hunain; adroddiad annibynnol yw hwn. Y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a gyhoeddwyd gennym ni ochr yn ochr ag ef yw ymateb polisi'r Llywodraeth. Y cynlluniau a gynhwysir yn y cynlluniau cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ar sail yr argymhellion yn yr adolygiad annibynnol, yw ein hymateb ni; dyna mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi. Ochr yn ochr â hynny fe geir y datganiad polisi ffyrdd, sy'n bolisi newydd i Lywodraeth Cymru erbyn hyn, a'r profion a gymhwysir ar gyfer cynlluniau ariannu yn y dyfodol ac yn y broses WelTAG. Mae'r panel yn mynegi barn eglur ynglŷn â'r bont dros y Fenai, sy'n seiliedig ar y profion a gymhwyswyd yn gyson ar draws y 55 cynllun arall. Fe welwch chi, yng nghefn yr adroddiad, yn yr atodiad, bennod sy'n rhoi golwg fanwl ar hynny.
Mae ef yn dweud ar ei eistedd, 'Mae hyn yn gwbl anghyson.' Dadansoddiad y panel yw hyn. Mae ganddo hawl i fod yn anghyson. Nid ein dadansoddiad ni mohono; ond eu dadansoddiad nhw. Rydyn ni wedi gofyn i banel annibynnol ystyried hyn. Rydyn ni wedi dweud—ac rwyf i newydd ddweud wrtho ef yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud—'Fe fyddwn yn gofyn i gomisiwn Burns ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach y gogledd.' Rwy'n clywed yr hyn a ddywed ef am gadernid; mae'n rhaid i ni gydbwyso cadernid byrdymor â chadernid mwy hirdymor o ran materion newid hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae hwn yn gynllun gwerth £400 miliwn nad oes gennym ni mo'r cyllid ar ei gyfer. Felly, ni waeth beth yw'r argymhelliad yn yr adolygiad, pwynt braidd yn academaidd yw hwn ar hyn o bryd o ystyried cyflwr ein cyllidebau ni oddi wrth Lywodraeth y DU. Fe wn i fod yna ornest fawr yn digwydd yn sir Fôn, ac mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg y prynhawn yma yn ein galw ni'n bob math o enwau. Nid oes unrhyw arian oddi wrth Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda thrydedd bont dros y Fenai. Fe fyddwn ni'n edrych ar waith comisiwn Burns yn y gogledd i edrych ar becyn cymorth cyfan, ac a yw'r achos a wnaeth Rhun ap Iorwerth nawr o ran cydnerthedd yn gallu gwrthsefyll manylu arno neu a yw'r gwaith a wnaeth yr adolygiad ffyrdd yn gydnerth ynddo'i hun. Fe fyddwn ni'n dod yn ôl at y cwestiwn hwn eto.
A gaf i atgoffa'r Aelodau fod gennyf i 12 Aelod eto sy'n dymuno siarad? Rwy'n deall yr angerdd a'r teimlad y mae'r Aelodau yn dymuno ei fynegi ar ran eu hetholwyr, ond a gawn ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n cadw at yr amseriadau i ganiatáu y bydd pob un o'r 12 Aelod yn cael cyfrannu heddiw, os gwelwch chi'n dda? Jack Sargeant.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd hi'n syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, fy mod i'n amlwg yn siomedig iawn gyda chyhoeddiad heddiw. Mae hi'n amlwg o'r cyhoeddiadau a'r datganiad a wnaethoch chi heddiw nad yw'r llwybr coch yn sir y Fflint am fynd yn ei flaen. Yn y pen draw, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â lleihau llygredd aer. Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod gan aelodau eraill yn y Siambr angerdd tebyg, ond mae hwn yn destun angerdd mawr i mi. Mae hi'n bryd i chi gyflawni nawr. Mae angen gweithredu ar unwaith ar fy etholwyr i; nid oes angen mwy o adolygiadau arnyn nhw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n diweddaru'r Siambr heddiw ac yn amlinellu sut olwg sydd yna ar weithredu ar unwaith, a hefyd pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fuddsoddi'r holl arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy i leddfu'r broblem ddifrifol iawn hon o ran iechyd y cyhoedd.
Diolch i chi. Rwy'n parchu safbwynt Jack Sargeant, ac roeddwn i'n falch o gwrdd ag ef a Mark Tami i drafod y materion. Rwy'n deall cryfder y teimladau sydd yn yr ardal leol ynglŷn â mynd i'r afael â'r pryderon o ran ansawdd aer, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu edrych ar Aston Hill fel achos ar wahân. Fe fyddwn ni'n ystyried datblygu datrysiadau gyda'r awdurdod lleol a fydd yn dod â rhai manteision byrdymor i'r ardal honno. O ran bod yn ddisyfyd, rwyf i am dynnu sylw at y ffaith na fyddai llwybr coch sir y Fflint wedi digwydd ar unwaith. Fe fyddai'r amser adeiladu ar gyfer hwnnw—hyd yn oed pe byddai'r arian i'w gael, ac nid ydyw—wedi bod yn faith iawn. Felly, nid wyf i o'r farn fod hynny'n deg.
Fe wn i fod hon wedi bod yn ddadl hirfaith, ond yr hyn sy'n eglur iawn o'r cynlluniau hyn—. Pan fyddwch chi'n edrych ar gasgliadau'r adolygiad ffyrdd a phob un o awgrymiadau'r panel, mae'r rhain yn nodi'r broses fanwl o ran sut y gwnaethpwyd y penderfyniadau hyn. Ym mhob achos, ar gam cyntaf yr arfarniad dewisiadau, roedd nifer o gynlluniau eraill y gellid bod wedi eu datblygu a fyddai wedi mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal, ar gam 1. Pan aeth hi'n gam 2, cafodd pob dewis heblaw am y dewisiadau o wneud ffyrdd, fel arfer, eu dileu a'r peirianwyr yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r dewis o wneud ffordd. Felly, rwy'n credu bod dulliau eraill o fynd i'r afael â llawer o'r problemau hyn heb fynd mor bell ag adeiladu ffordd osgoi fawr, ddrud, niweidiol i'r hinsawdd, a niweidiol i fioamrywiaeth. Rwy'n credu bod angen i ni wahanu materion ansawdd aer yr ydym ni'n gobeithio gwneud rhywbeth yn eu cylch a'r achos dros ffordd sy'n creu mwy o draffig. Fe fyddaf i'n parhau i weithio gydag ef i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion ei etholwyr ef, ond mewn ffordd sy'n gyson â'r argyfwng hinsawdd.
Rwyf i am ddweud wrth Aelodau unwaith eto fy mod i wedi clywed llawer o bobl yn dweud yn aml iawn, 'Rydyn ni'n cytuno ag egwyddorion yr adolygiad ffyrdd, ond yn achos fy etholaeth i, fe geir amgylchiadau eithriadol.' Rwy'n deall hynny, ac mae hynny'n berthnasol yn fy etholaeth innau hefyd. Rwy'n deall y pwysau yr ydym ni i gyd yn ei wynebu oherwydd cyfres o ddisgwyliadau a chyfres o ymddygiadau a phenderfyniadau buddsoddi dros 70 mlynedd o ran y ffordd i ymdrin â phroblemau trafnidiaeth. Ond pe byddech chi'n darllen yr adroddiad a phe byddech chi'n tynnu drwodd ein hymrwymiadau ein hunain ar sero net a sut mae hynny'n berthnasol i drafnidiaeth, yr arafaf o'r sectorau i gyd i ymateb, fe ddylai pob un ohonom ni gydnabod yr angen mawr i ni wneud rhywbeth gwahanol.
Dirprwy Weinidog, mae seilwaith ffyrdd a chludiant digonol yn allweddol i economi fywiog, ond eto mae'n ymddangos eich bod chi eisiau rhwystro cynnydd Cymru bob tro. Beth arall rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl gan Lywodraeth sosialaidd aflwyddiannus sy'n benderfynol o wahardd pethau ac arafu cynnydd? Fe allen ni fod wedi gweld ffordd liniaru'r M4 erbyn hyn, ond eto fe wnaed y penderfyniad chwerthinllyd hwn i gael gwared ar ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf gwario £157 miliwn arno, er gwaethaf y buddsoddiad mewnol enfawr a fyddai wedi dod yn ei sgil. Mae'n dangos y bydd y Llywodraeth hon yn gwario miliynau o bunnoedd ar unrhyw beth ar wahân i wella seilwaith ein ffyrdd. Mae'r Llywodraeth hon eisiau gwahardd gyrru yn ôl pob golwg neu ei gwneud hi'n amhosib gyrru, sydd, i rywun sy'n byw mewn ardal wledig, fel llawer o bobl yng Nghymru, ychydig yn wallgof, heb lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol mewn lle neu osod mwy o draciau. Ni allaf weld hyn yn unrhyw un o'ch cynlluniau. Ar rai o'ch llwyddiannau hyd yma, Dirprwy Weinidog, ni fu cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar seiclo at ddibenion teithio llesol, ac ni wariwyd unrhyw arian ar hysbysebu teithio llesol ers 2018 gan y Lywodraeth hon yng Nghymru. Mae Cymru ar ei hôl hi yn sylweddol wrth symud tuag at gerbydau trydan, fel yr amlinellodd fy nghydweithiwr Natasha Asghar. Ac ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau gwariant ar deithio llesol yn 2023-24. Dirprwy Weinidog, mae gen i un cwestiwn i chi: gyda gwasanaeth rheilffordd annigonol, maes awyr sy'n methu a ffyrdd dadfeiliol, sut ydych chi'n disgwyl i bobl fynd o un lle i'r llall, heb sôn am gael yr economi hwn i symud eto?
Yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, o ystyried y cwynion sydd wedi eu gwneud yn y Siambr hon am y defnydd o iaith ynghylch iechyd meddwl yn ddiweddar, byddwn yn cwestiynu a yw defnyddio'r term 'gwallgof' yn briodol. Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Aelodau eraill, ac rwy'n meddwl y dylen nhw gymhwyso hynny iddyn nhw eu hunain. Efallai y byddwn i'n gofyn i chi ystyried hynny wrth archwilio'r cofnod.
Fel erioed, rwy'n mwynhau ymarferion Laura Anne Jones ar gyfer etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, gan wasgu botymau llawr gwlad, a pharhau â'r rhyfeloedd diwylliant pryd bynnag mae'n cael cyfle i wneud hynny. Yn syml, mae ei chynsail cychwynnol yn ffug. Nid oes unrhyw un yn anghytuno bod seilwaith ffyrdd digonol yn allweddol i'r economi fodern. Os byddech chi wedi mynd i'r drafferth i wrando ar fy araith cyn ysgrifennu eich araith eich hun, byddech chi wedi sylwi ein bod ni wedi dweud y byddwn ni'n parhau i adeiladu ffyrdd, bod adeiladu ffyrdd yn rhan allweddol o'n dull trafnidiaeth, ond mae angen i ni ailasesu'r math o ffyrdd rydyn ni'n eu hadeiladu, y dibenion maen nhw wedi'u hadeiladu ar eu cyfer a'r ffordd maen nhw'n cael eu hadeiladu. Bydd capasiti sero-net eich Llywodraeth eich hun—[Torri ar draws.]—yn siŵr o gefnogi hynny.
Rydyn ni'n cael y trosiadau arferol o'r meinciau ar eu heistedd ein bod ni'n wrth-ffyrdd, yn wrth-fuddsoddiad mewnol. Sloganau gwag yw'r rhain heb unrhyw sail mewn polisi, dadansoddiad deallusol neu drylwyredd—[Torri ar draws.] Pe byddech chi wedi mynd i drafferth i ddarllen yr adroddiad yn lle pwyso botymau ar gyfer eich ymgyrchwyr eich hun—
A allwn ni ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog roi ei ateb, os gwelwch yn dda?
—byddai gennym ddadl gyfoethocach. Mae'r mater bod gwariant ar deithio llesol yn is na lle byddem wedi hoffi ei weld yn fater o gapasiti mewn awdurdodau lleol. Mae hynny'n fater yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef gydag awdurdodau lleol, nad ydynt, yn syml, yn gallu gwario'r gyllideb rydyn ni'n ei darparu ar eu cyfer. Dyna pam mae'r arian lle mae e. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd wneud yn well na hyn, oherwydd nid yw'n mynd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu. Dim ond mân-siarad hurt yw hwn.
A gaf sicrhau'r Dirprwy Weinidog y byddwn ni'n adolygu'r trawsgrifiad?
Diolch.
Rwy'n credu ein bod ni yma i gynrychioli ein cymunedau a'n hetholaethau, ond hefyd i dynnu'r darlun ehangach, ac mae hynny'n anodd. Rydw i a thri arall yn y Siambr hon yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Brycheiniog a Maesyfed yw'r etholaeth fwyaf tenau ei phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr. Felly, rydyn ni'n gwybod am gymunedau gwledig, ond rwy'n sefyll yma yn dweud fy mod i'n cefnogi'r adolygiad hwn, ac rydw i yma i ddweud bod angen i ni gymryd cam dewr ymlaen ar gyfer y mater mwyaf dybryd sydd o'n blaenau, sef yr argyfwng hinsawdd. Byddaf yn amddiffyn hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cael fy meirniadu'n fawr, ond mae angen i ni fod yn dweud: gadewch i ni gael mwy o wasanaethau bws, gadewch i ni edrych ar sut rydym ni'n datblygu ein cyfle i fod yn wlad gyffrous, fywiog sy'n dangos nad oes angen i ni ddibynnu ar ffyrdd, ein bod ni'n cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, a gadewch i ni fynd ymlaen ar sail hyn.
Rwy'n cefnogi'r datganiad hwn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog: beth allwch chi ei gynnig i gymunedau gwledig? Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n clywed yn union beth y gall yr adolygiad ffyrdd hwn ei gynnig i gymunedau gwledig, gan gynnwys, gobeithio, edrych ar well trafnidiaeth bws a, byddwn i'n gobeithio, trafnidiaeth bws am ddim i'n rhai dan 25 mlwydd oed. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am hynny, ac mae'n safbwynt cyson mae Jane Dodds wedi ei chymryd ar y materion hyn, ac rwy'n ei werthfawrogi. Ar bwynt ardaloedd gwledig, yr wyf yn gwybod sy'n rhywbeth mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei godi hefyd, rwy'n derbyn yn llwyr, mewn ardaloedd gwledig, bod angen agwedd wahanol i ardaloedd trefol. Mae'n hollol bosib gwneud hynny. Os edrychwch chi ar gefn gwlad y Swistir neu gefn gwlad Sweden neu gefn gwlad yr Almaen, gydag ardaloedd gwledig llawer dyfnach na'n rhai ni, maen nhw'n llwyddo i gael, mewn sawl rhan, gwasanaeth bws i bob pentref bob awr. Nid yw'n ddigyfnewid na allwn ddarparu trafnidiaeth amgen mewn ardaloedd gwledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau rydyn ni wedi'u gwneud. Wrth gwrs eich bod chi'n fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar geir mewn ardaloedd gwledig nag ydych chi mewn ardaloedd trefol, ond mae yna bethau eraill y gallwn ni gydweithio arnyn nhw. Fe wnes i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos ddiwethaf ar ardaloedd gwledig, rwyf i wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae'n ddiddorol nawr sut mae'r meinciau Ceidwadol wedi mynd yn dawel ac maen nhw'n edrych ar eu ffonau tra fy mod i'n ateb eu cwestiynau nhw mewn gwirionedd, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu llinellau ymgyrchu rhad. Y gwir yw bod ateb i ardaloedd gwledig os ydym ni am ddod o hyd iddo, ac os ydym ni am fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'n rhaid i ni ei daclo yn y Gymru drefol ac yng nghefn gwlad Cymru, ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar atebion yn hytrach na dweud yn gyson nad oes dim y gellir ei wneud mewn ardaloedd gwledig.
Nawr, ar bwynt penodol Jane Dodds am ei hetholaeth, un o'r pryderon, rwy'n gwybod, yw cyflymder mewn ardaloedd gwledig, a'n darn nesaf o waith yw adolygu terfynau cyflymder ar draws y wlad. Un o'r prif bwyntiau yn yr adolygiad ffyrdd yw, lle mae mannau lle ceir damweiniau neu bryderon diogelwch, y dylem ni fod yn edrych i leihau'r terfynau cyflymder yn yr ardaloedd hynny yn gyntaf, a gwneud ymyriadau ar raddfa fach yn hytrach nag ailadeiladu coridorau cyfan i'w gwneud yn addas i yrru yn gyflymach. Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw densiwn, mewn gwirionedd, rhwng system drafnidiaeth wledig hyfyw, ddiogel a'r nodau hinsawdd—mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n mynd ati.
Ond wrth gwrs, yn y byd go iawn, Llywodraeth Cymru sy'n tynnu gwasanaethau yn bellach oddi wrth bobl. Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wnaeth ariannu ysbyty newydd heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl ar gyfer fy etholwyr, ac rwyf i wedi dod yn ôl yma am y chwe, saith mlynedd diwethaf, ac wedi cael sicrwydd gan bob Gweinidog sydd wedi dal y portffolio hwnnw y byddai cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu darparu, a dydyn nhw heb gael eu darparu. Dydyn nhw heb gael eu darparu hyd heddiw. Ac felly, yr hyn rydw i eisiau ei weld gan Lywodraeth Cymru yw meddwl mwy cydgysylltiedig—bod, os ydyn ni'n mynd i dynnu gwasanaethau oddi wrth bobl o ran pellter, yna'r hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw darparu opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i bobl gyrraedd y gwasanaethau hynny, a dydy hynny heb ddigwydd.
Y peth hawsaf yn y byd yw gwneud araith dduwiol neu ddweud 'na'. Yr hyn sy'n anoddach yw dylunio'r strwythurau a'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi dewis go iawn i bobl, a'r rhan fwyaf trawiadol o'ch datganiad i mi, Dirprwy Weinidog, oedd pan wnaethoch chi ddweud bod gan y rhan fwyaf o economïau llwyddiannus systemau trafnidiaeth gyhoeddus fodern, llwyddiannus. Nawr, rydych chi'n gwybod, ac rwyf i'n gwybod, bod dadreoleiddio'r bysiau, na ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, gan Lywodraeth Thatcher wedi dileu gwasanaethau bws ledled Cymru—gwledig a threfol—a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw adfer y rheini. Felly, yr hyn rydyn ni ei angen ochr yn ochr â'r datganiad hwn yw datganiad arall ar y dewisiadau amgen sydd ar gael i bobl, i rai o'r bobl fwyaf tlawd a bregus yn y wlad, oherwydd nid yw addo mwy o bwyllgorau a mwy o gomisiynau flwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn yn ddigon da bellach. Mae pobl eisiau gweld cynlluniau go iawn ar gyfer opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus go iawn, a phan fydd hynny'n cael ei wneud, ni fydd angen i chi wneud areithiau fel hyn; ni fydd angen i chi gael mwy o ddatganiadau—
Alun, wnewch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda?
—oherwydd byddai pobl yn gwneud y dewisiadau eu hunain.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hynny, a dywedais i yn gynharach bod angen i ni wneud y peth iawn i wneud y peth hawsaf i'w wneud. Rydyn ni angen trafnidiaeth gyhoeddus ar garreg y drws i bobl gyrraedd a mynd. Ac un o ddibenion ailgyfeirio ein llif prosiectau ffyrdd yw rhyddhau cyllid yn y blynyddoedd i ddod er mwyn caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Rydyn ni'n dioddef ar hyn o bryd o benderfyniadau'r gorffennol ac o, fel y gwnaethoch chi ddweud yn gywir, system drafnidiaeth gyhoeddus dameidiog a phreifat, ac, wrth gwrs, effaith COVID, sydd wedi achosi niwed go iawn. Mae e'n hollol iawn am y diffyg meddwl cydgysylltiedig am osod gwasanaethau mewn safleoedd y tu allan i'r dref, ac mae angen i ni atal hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir iawn.
Mae Julie James a minnau wedi bod yn gweithio ar ddatganiad polisi newydd 'canol tref yn gyntaf', a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, sydd yn cynnwys, wrth ei wraidd, yr angen i'r sector cyhoeddus, yn benodol, ymuno a meddwl lle mae'n gosod ei gwasanaethau fel ei fod yn cryfhau canol trefi, ac nad yw'n eu llusgo allan i ganolfannau y tu allan i drefi lle nad oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n iawn; mae'r enghraifft honno'n graith ar gofnod meddwl cydgysylltiedig yn y sector cyhoeddus. O ran y sector breifat, mae Julie James eisoes wedi cyhoeddi polisi cynllunio newydd, 'Cymru'r Dyfodol', sydd yn gwneud y mathau hynny o ddatblygiadau yn anghyson â pholisi.
O ran dewisiadau eraill, rydyn ni wedi darparu a threialu'r bws 'fflecsi' sy'n ymateb i'r galw ym Mlaenau Gwent, ac mae'r canlyniadau mewn lleoliadau gwahanol wedi bod yn galonogol iawn. Mae wedi bod yn wahanol yn y gwahanol lefydd rydyn ni wedi ei dreialu. Mae gennym ni ddata da rydyn ni nawr yn ei werthuso. Yr her wedyn fydd lledaenu a datblygu, ond, fel erioed, pan fydd y cyllidebau fel y maen nhw o ganlyniad i gyni, sy'n ddewis gwleidyddol gan y Llywodraeth yn Llundain, nid oes gennym ni'r adnoddau i wneud yr holl bethau rydyn ni am eu gwneud. A'r enghraifft benodol y mae'n dyfynnu o'r gwasanaeth bws ym Mlaenau Gwent, rydyn ni, fel mae'n gwybod, wedi ymdrechu'n galed iawn i roi bws sy'n derbyn cymhorthdal cyhoeddus yno, ond mae wedi cael ei herio gan weithredwr masnachol, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod ni'n ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau i wneud yn siŵr bod cydlyniad i'r system drafnidiaeth, ac nad yw'n cael ei adael i natur ar hap y farchnad.
Hoffwn ddweud mai'r un peth y byddwn i'n ei ddweud amdanoch chi, Gweinidog, Lee, yw bod eich calon yn hyn, ac mae wedi bod ers cryn amser, a does neb yn gwadu bod angen mwy o deithio llesol. Ond rwy'n meddwl mai'r pwynt mae Alun Davies, fy nghyd-Aelod, wedi ei wneud yw'r ffaith eich bod chi'n sicrhau bod eich seilwaith yn ei le, yna gallwch chi benderfynu peidio gwneud yr hyn rydyn ni wastad wedi ei wneud a pharhau i adeiladu ffyrdd. Ond rydw i am gwyno eto am fy nwy gylchfan ar yr A55, achos mae rhan o'r rheswm yn ymwneud â'r amgylchedd a newid hinsawdd, a hefyd am lygredd aer. Mewn gwirionedd, byddwn yn gofyn i chi nawr heddiw i adolygu'r opsiynau ar y ddwy gylchfan honno.
Rwyf i hefyd wedi cael gwybod y gallai porthladd rhydd Caergybi fod dan fygythiad os nad yw'r cylchfannau hynny'n cael eu dileu, oherwydd nid oes cylchfannau o Hull i Gaergybi yn y ffordd honno, ac mae'r cylchfannau hynny'n achosi tagfeydd nawr i fy nhrigolion, lle, pan aethoch chi i ymgynghori, £9 miliwn—a phrofwyd y dylid cael gwared ar cylchfannau hynny. Cawsant eu dileu cyn yr adolygiad ffyrdd hwn hyd yn oed. Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud yw eich bod chi wedi gweld y diddordeb brwd. Mae gennym ni i gyd broblemau o ran ein hetholaethau ein hunain. Fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd ac amgylchedd, rydyn ni wedi bod yn cymryd tystiolaeth helaeth ar ein system drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw'n dda i'w ddarllen i unrhyw un nac i Lywodraeth Cymru. Mae angen i chi gael y seilwaith hwnnw yn ei le. Nid yw pobl yn mynd i fynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau nad ydyn nhw'n bodoli, neu'n mynd ar drenau sy'n annibynadwy, weithiau'n fudr iawn ac yn aml yn cael eu canslo. Byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog: a allwn ni gael dadl lawn ar hyn?
Dirprwy Lywydd, rydych chi wedi bod yn dda iawn, iawn yn gadael i bob un ohonom gael dweud ein dweud heddiw. Roeddwn i'n gyffrous am yr adolygiad ffyrdd yma a'r cynllun, a heddiw, mae fy swigen wedi ei byrstio, oherwydd dydyn ni ddim wedi gallu craffu go iawn arno. Felly, mae angen i chi wynebu'r heriau. Gadewch i ni gael dadl dda yr wythnos nesaf arno, dadl sy'n cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth. Diolch.
Wel, mae'n ddrwg iawn gen i fyrstio eich swigen, Janet. Mae'n anodd dal i fyny, rhaid i mi ddweud, oherwydd pan wnaethon ni'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r newidiadau cylchfan, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i eich bod chi o blaid y penderfyniad. Rydych chi nawr yn erbyn y penderfyniad. Felly, mae'n eithaf dryslyd. Y pwynt am y cylchfannau hynny, fel y penderfyniadau eraill a wnaed yn yr adolygiad ffyrdd, yw, pan adeiladwyd cynlluniau am resymau diogelwch ar y ffyrdd, yr achosion oedd yn cael eu gwneud gan ein hadrannau a'n peirianwyr ein hunain oedd mai'r ffordd i ymdrin â hynny oedd drwy roi cyffyrdd aml-lefel —felly, trosffyrdd, i bob pwrpas. Nawr, fel y soniais yn yr araith yn gynharach, mae traean o'r holl allyriadau o gynlluniau trafnidiaeth yn dod o'r carbon sydd wedi'i ymgorffori yn y cynllun. Felly, mae cyffyrdd aml-lefel yn ddrud, maen nhw'n defnyddio llawer iawn o garbon, a'r achos diogelwch rydych chi'n ei wneud—pe byddech chi'n darllen yr adroddiad eto y gwnaeth yr adolygiad ffyrdd ei gyhoeddi o'r cyffyrdd hynny—nid oedd yr achos diogelwch wedi'i wneud. Roedden nhw i bob pwrpas yn ymwneud â chynyddu llif y traffig a chyflymder traffig. Nawr, nid yw hynny'n gyson â diogelwch.
Wyddwn i ddim am eich honiad chi y byddai'n peryglu datblygiad economaidd, a hoffwn glywed rhywfaint o dystiolaeth y tu ôl i hynny, os yw hynny yn wir. Ond gadewch i mi fynd yn ôl i'r pwynt cynharach: fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi am roi'r seilwaith yn ei le yn gyntaf ac yna edrych ar y gwasanaethau. Sefyllfa'r iâr a'r ŵy yw hon. Rydyn ni wedi bod yn ceisio'r dull hwn o, 'Gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda ffordd osgoi; gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda lôn ychwanegol' am 70 mlynedd, a'r hyn mae wedi'i wneud, fel mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir, yw cynhyrchu teithio ychwanegol, ac wedyn mae ffyrdd yn llenwi ac mae mwy o dagfeydd ac yna mae gennych chi fwy o fuddsoddiad. Felly, nid oes byth unrhyw arian i ariannu'r dewisiadau amgen. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i ni dorri'r cylch hwn i'n rhoi ni mewn modd addas i'r diben gyda'r targedau hinsawdd rydych chi a minnau wedi dweud yn gyhoeddus ein bod ni'n eu cefnogi, oherwydd dydy cefnogi'r targed yn dda i ddim os nad ydych chi'n cefnogi'r camau sydd eu hangen.
Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â'r penderfyniad i atal ffordd osgoi Llanbedr ei wneud yn hydref 2021. Hwn oedd y penderfyniad anghywir ac fe ddaeth fel pilsen chwerw iawn ar ôl degawdau o addewidion. Felly, er ein bod ni'n derbyn bod yn rhaid gwneud popeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yn unig y dylai'r weithred hon ganiatáu pontio cyfiawn, ond dylai hefyd fod yn gymesur â'r effaith debygol ar y cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Yn achos Llanbedr, dydyn ni ddim yn edrych ar ffordd fydd yn ychwanegu mwy o gerbydau at y rhwydwaith ffyrdd, ond yn hytrach, rydyn ni'n edrych ar gynllun i wella diogelwch y trigolion lleol ac i gryfhau'r economi leol.
Mewn gwirionedd, siaradodd y Dirprwy Weinidog, yn ei gyflwyniad, am y bobl fwyaf bregus sy'n dioddef oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Soniodd am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu teithio llesol. Ac eto, yn y flwyddyn a hanner ers gwneud cyhoeddiad Llanbedr, nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad i unrhyw un o'r pethau hyn yn Llanbedr na hyd yn oed arfordir Meirionnydd. Yn wir, yr wythnos ddiwethaf, bwriad y Llywodraeth oedd cwtogi'r cynllun argyfwng bysiau, gan wneud llwybrau ar hyd arfordir Meirionnydd yn anhyfyw i'r rhan fwyaf o ddarparwyr bysiau. Ac, mewn rhan arall o fy etholaeth, rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth T19 hanfodol yn cael ei dorri hefyd heb unrhyw gymorth gan y Llywodraeth. Felly, mae'n ymddangos fod llawer o eiriau cynnes ond dim gweithredu o gwbl cyn belled ag y mae profiad Meirionnydd yn y cwestiwn. Felly, a all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthyf i heddiw pa fuddsoddiad mae'r Llywodraeth yn ei roi i mewn i Lanbedr ac arfordir Meirionnydd, fel bod gan y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fynediad hawdd at bopeth maen nhw ei angen i fyw bywyd o urddas ac yn rhydd o'r peryglon marwol maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd? Hefyd, roedd adroddiad Llanbedr yn argymell adeiladu fersiwn ddiwygiedig o'r cynnig gwreiddiol, gyda therfyn cyflymder arafach. Byddai hyn yn cael ei groesawu gan y gymuned, ond nid ydym wedi cael unrhyw symudiad ar hyn hyd yma. Felly, a fydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i'r dewis arall hwn yma heddiw a chael cyfarfod gyda mi a'r rhanddeiliaid i symud y cynllun hwn yn ei flaen? Diolch.
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, rwyf i eisoes wedi cytuno i'w gyfarfod ef a dirprwyaeth o Lanbedr i drafod y mater. Rwyf i wedi fy rhyfeddu gan ei honiadau o ddiffyg gweithredu, pan ydyn ni wedi bod yn ceisio dro ar ôl tro i wneud cynnydd gyda'r awdurdod lleol, nad yw wedi cymryd rhan mewn ffordd sydd wedi dod â chynnydd gyda ni. Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd—maen nhw'n sicr wedi troi i fyny i gyfarfodydd—ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw barodrwydd i gymryd rhan o ddifrif mewn atebion. Yn hytrach, maen nhw wedi mynd y tu allan i'r setliad datganoli—cyngor sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru yw hon—i apelio ar San Steffan, nad oes ganddynt bwerau dros drafnidiaeth, i ariannu, dros bennau eu Llywodraeth etholedig ddatganoledig yng Nghymru sydd â phwerau dros drafnidiaeth, cynllun o dan y gronfa ffyniant bro, ar yr un pryd ag y mae Plaid Cymru yma, yn ein gwthio i gyrraedd sero-net erbyn 2035. Wyddoch chi, rwy'n credu bod y gwrthddweud hwn yn syfrdanol. Rydym ni'n parhau i fod yn barod i gydweithio gyda'r awdurdod lleol. Hoffwn drin Llanbedr fel cynllun gwledig enghreifftiol, er mwyn ceisio dod o hyd i atebion amgen i ddelio gyda'r problemau. Rwyf wedi dweud hynny wrth arweinydd y cyngor, rwyf wedi dweud hynny wrth yr aelod cabinet ar sawl achlysur, ac rwy'n parhau i fod yn barod i weithio gyda nhw, ond mae'n cymryd y ddwy ochr i wneud hynny.
Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy ymrwymiad hirsefydlog i Borth Gogledd Cynon, gan weithio ochr yn ochr â thrigolion Llwydcoed a Phen-y-waun a'r cynghorwyr lleol yno. Pwrpas y cynllun porth yw lliniaru gwasgariad gorfodol traffig o ddeuoli rhannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, oherwydd cael gwared yn barhaol ar brif fynediad a man ymadael Hirwaun. A allwch chi roi ar y cofnod heddiw y ffaith eich bod chi'n deall nad cynllun wedi'i gynllunio i gynyddu capasiti ffyrdd yw hwn, ond yn hytrach i liniaru effeithiau cael gwared ar y prif lwybr hwn i mewn ac allan o gwm Cynon? Mae'n galonogol clywed y bydd awdurdodau lleol yn gallu dechrau ailgyflwyno eu cynlluniau o ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ymhen ychydig wythnosau. Felly, allwch chi addo y bydd eich swyddogion yn gweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i archwilio sut y gallai'r cynllun yma gael ei ddiwygio er mwyn bodloni profion adeiladu ffyrdd y dyfodol?
Diolch. Rwy'n deall safbwynt Vikki Howells ar y ffordd hon, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu drosti'n gyson. Fe wnaeth yr adolygiad ffyrdd ei archwilio, ac maen nhw'n nodi'n fanwl yn eu hadroddiad y rhesymau pam nad ydyn nhw'n credu ei fod yn cydymffurfio â'r profion y mae wedi'u gosod, ac rydym ni wedi cytuno â nhw, i ddatblygu fel cynllun ffordd. Wedi dweud hynny, rydym ni wedi dweud yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ac yn y sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda hi a gydag Andrew Morgan, arweinydd y cyngor, ein bod ni'n barod i edrych ar y cynllun hwn i weld a allwn ni wneud iddo gydymffurfio â'n polisïau, i weld a all ddiwallu'r profion. Ac mae hynny'n berthnasol i bob cynllun yng Nghymru: lle mae problem trafnidiaeth go iawn mewn cymuned, rydym ni am fynd i'r afael â'r broblem honno. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi mai adeiladu cynllun ffordd traddodiadol yw'r ffordd orau o'i wneud; rydyn ni'n meddwl bod ffyrdd eraill. Gadewch i ni geisio dod o hyd i gytundeb a ffordd gonsensws ymlaen, fel y gallwn ni helpu ei hetholwyr.
Mae tri chynllun y cyfeirir atynt yn fy etholaeth yn yr adroddiad adolygu ffyrdd, ac mae pob un ohonyn nhw, yn anffodus, yn debygol, i'w weld o'r ddogfen, yn mynd i gael eu dileu. Nawr, mae'r rhain yn gynlluniau yr wyf i wedi gohebu â chi a'ch rhagflaenwyr amdanynt dros nifer o flynyddoedd a phob tro rwyf wedi gohebu â chi, hyd nes i'r adolygiad ffyrdd ddechrau, roedd popeth yn cael golau gwyrdd ac roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen, ac roedd dyddiadau'n cael eu trefnu ac roedd pawb yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith.
Cyfeiriaf yn arbennig at gyffordd Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, prosiect sydd wedi ei addo ers ymhell dros ddegawd, gyda chi a'ch rhagflaenwyr yn rhoi atebion i mi i gwestiynau ysgrifenedig yn dweud y byddai'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Mae'n gyffordd beryglus, sydd angen sylw, a bydd y gymuned leol yn edrych atoch chi i ddarganfod pam ar y ddaear nad yw'n mynd i gael sylw, o ystyried y cyhoeddiad heddiw. Ffordd Corwen a chyffordd Lôn Fawr ar yr A494 yn Rhuthun—prosiect arall sydd wedi ei addo ers amser maith iawn, porth i Ruthun, cyffordd sydd angen ei wella, Gweinidog, os caf i ddweud, er mwyn cynnal teithio llesol ar lwybr cylchol o amgylch Rhuthun fel tref. Ac eto rydych chi'n cael gwared ar ddarn o waith a fydd yn galluogi cyflawni hynny, ac eto rydych chi'n dweud eich bod o blaid teithio llesol. Ac rwy'n credu eich bod chi o blaid teithio llesol, ond dydw i ddim yn gweld sut mae'r penderfyniad hwnnw'n gyson â'ch uchelgais i'w gyflawni. A thrydydd cynllun—cynllun tagfeydd canol tref Abergele—eto, wedi'i ddileu. Ac mae hon yn dref sy'n wynebu tagfeydd yn ddyddiol, nid yn unig ym misoedd yr haf, pan fydd yn aciwt iawn oherwydd yr ymwelwyr rydyn ni'n eu derbyn, ond bob un diwrnod o'r wythnos.
Felly, byddwn i'n eich herio chi, Gweinidog: dewch gyda mi i fy etholaeth. Fe wnaf i roi taith o amgylch y lleoliadau hyn i chi, a gallwch weld drosoch chi eich hun y problemau mae eich penderfyniad yn mynd i arwain ato yn sgil dileu y cynlluniau penodol hyn. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried fy ngwahoddiad, oherwydd rwyf i am i chi weld o lygad y ffynnon, drosoch chi eich hun, pam nad yw cael gwared ar y cynlluniau hyn yn gwneud unrhyw synnwyr.
Wel, rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar—efallai ddim yn llawn eto—y rhesymau a nodir ar gyfer y tri chynllun yn yr adolygiad ffyrdd. Er enghraifft, ar welliant cyffordd ffordd Maes Gamedd ar yr A494, dywed y panel adolygu:
'Ni ddylai’r cynllun fynd rhagddo ar ei ffurf bresennol. Dylid parhau i fonitro diogelwch y gyffordd. Dylid datblygu opsiynau eraill i arafu a gwella’r llain welededd yn y gyffordd bresennol os yw’r cofnod gwrthdrawiadau’n awgrymu y dylid cymryd camau.'
Yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, rydyn ni wedi dweud y byddwn ni'n ystyried
'opsiynau amgen ar raddfa fach i wella diogelwch, wedi'u halinio â phrofion a nodir ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Ffyrdd.'
Rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall ohonom ni'n gwadu bod problem, ac nid ydym yn dweud nad ydym am weithio ar ddatrysiad, ond mae angen i ni wneud yr ateb yn gymesur, mewn termau carbon, i'r hyn sy'n briodol ar y gyffordd honno. Ac rwy'n credu mai dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud. Felly, rwy'n credu y gall eich etholwyr fod yn dawel eu meddyliau ein bod ni wedi ymrwymo i weithio i ddod o hyd i ateb diogel, ond un sy'n bodloni'r profion yr ydym ni bellach wedi'u nodi mewn polisi.
Rwy'n llwyr gefnogi cais Janet Finch-Saunders am ddadl lawn. Mae angen i ni allu treulio'r holl gynnwys yma—ac rwy'n derbyn eich bod chi wedi ymddiheuro, Dirprwy Weinidog, am beidio â chyhoeddi o flaen llaw—oherwydd mae'n bwysig i'n hetholwyr ein bod ni'n gallu ymgysylltu'n llawn ar faterion fel hyn, ac nid yw cael golwg yn ystod dadl yn caniatáu hynny.
Byddwch yn ymwybodol bod llawer o gynlluniau datblygu lleol yn cynnwys targedau cenedlaethol ar gyfer chwarela agregau ar gyfer ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys chwarel Craig-yr-Hesg ychydig y tu allan i Bontypridd, y rhoddwyd caniatâd iddi fwrw ymlaen ag estyniad i'w hoes a'r ardal sy'n cael ei chloddio gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf gwrthwynebiadau lleol cryf. Wrth adolygu'r buddsoddiad mewn ffyrdd, pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i sut y bydd hyn yn effeithio ar yr angen am agregau? Dywedwyd wrth gymunedau fel Glyncoch yn y gorffennol bod yr angen economaidd am yr agregau yn drech nag ystyriaethau amgylcheddol neu iechyd, sydd yn groes i'r dull yr ydych chi'n ei amlinellu heddiw o ran yr adolygiad ffyrdd. Felly, rwy'n credu ein bod ni angen rhywfaint o eglurhad. Os oes adolygiad o ran yr angen am ffyrdd newydd a'r buddsoddiad mewn ffyrdd newydd, sut fydd hynny wedyn yn effeithio ar yr angen am agregau?
Dydw i ddim yn gyfarwydd â manylion yr enghraifft y mae hi'n ei dyfynnu, ond byddwn i'n dweud yn gyffredinol y canfyddiad allweddol—. Un o'r profion rydyn ni wedi'u gosod ar gyfer cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol yw lleihau faint o garbon wedi'i wreiddio a'i ymgorffori sy'n gysylltiedig â hynny. Mae hynny'n awgrymu y byddem ni'n defnyddio deunyddiau llai carbon-ddwys, felly byddai angen llai o ddeunyddiau yn gyffredinol. Mae'n ddigon posib y bydd sgil-ganlyniadau i hynny. Ond, yn hytrach na rhoi ymateb byrfyfyr, efallai y gallaf i fynd yn ôl ati unwaith y caf gyfle i'w ystyried yn llawnach.
Dirprwy Weinidog, rwy'n ofni braidd bod y drol yn cael ei rhoi o flaen y ceffyl heddiw, ac wedi rholio drosto. Mae'n rhaid i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus amgen fodoli os yw pobl am fynd allan o'u ceir, a dyna beth gafodd strategaeth trafnidiaeth Cymru ei chynllunio i'w gyflawni, ond mae'n anodd dod o hyd i unrhyw ddewisiadau amgen newydd yn y cyhoeddiad heddiw. Ydy'r £56 miliwn a glustnodwyd ar gyfer gwella cyffordd yr A483 yn aros yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth ar gyfer gwelliannau o amgylch Wrecsam? A fyddwch chi'n cytuno i ddechrau ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer cefnffyrdd y gogledd i'r gogledd? O ystyried yr angen am bolisi clir a chyson yn ogystal â'r diwedd i lwybrau ffyrdd newydd, a fydd teithiau awyr a fferi newydd i borthladdoedd Cymru bellach yn cael eu hatal? Ac yn olaf, o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, faint o refeniw ychwanegol ydych chi'n bwriadu ei roi mewn gwasanaethau bws fel y prif ddewis amgen i geir?
O ran gwasgariad daearyddol, o'r 17 cynllun sy'n mynd ymlaen yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar drafnidiaeth, mae pump yn y gogledd, mae pump yn y canolbarth, felly nid wyf yn credu bod yr achos bod gogwydd daearyddol yn gwrthsefyll craffu. Ac nid wyf i'n derbyn y syniad na ddylen ni gael dull cenedlaethol o gludo ac adeiladu ffyrdd. Felly, dydw i ddim yn cytuno gyda'r Aelod ar hynny. Rydyn ni wedi gosod dadansoddiad manwl, seiliedig ar dystiolaeth, yn seiliedig ar y targedau carbon yr oeddem ni i gyd eu cefnogi, gan ddatblygu strategaeth trafnidiaeth Cymru y gwnaeth ef a minnau ei datblygu gyda'n gilydd ac y gwnaethom ni ei gymeradwyo. Bwriad y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yw gweithredu'r egwyddorion yn hwnnw. Rwy'n gwerthfawrogi, ar lefel etholaeth, fod gan yr Aelod rai pryderon am gynllun, yr oeddwn i'n falch o'i gyfarfod yr wythnos diwethaf i'w drafod. Fel y dywedais bryd hynny, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â'r problemau ansawdd aer lleol mewn ffordd sy'n gyson â'r profion. Ond dangoswyd dro ar ôl tro bod adeiladu capasiti ychwanegol ar y ffyrdd, yn cynhyrchu traffig pellach, sy'n cael yr effaith gyffredinol o waethygu ansawdd aer a niweidio'r hinsawdd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y rhain yn gyfnewidiadau anodd ar adegau, ac mae gan bob un ohonom ystyriaethau etholaethol lleol, ac nid ef yw'r unig un â hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod i wireddu'r polisïau rydyn ni wedi'u nodi.
Gweinidog, rwy'n siomedig nad yw nifer o gynlluniau yr wyf i wedi bod yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd lawer yn mynd yn eu blaen, ond roeddwn i'n falch o weld bod cynllun ffordd Caersws yn mynd yn ei flaen, ac mewn gwirionedd mae'n debyg i herio hynny efallai na ddylai fod wedi bod yn y cynllun adolygu ffyrdd yn y lle cyntaf, gan ei fod yn fwy o fater diogelwch, yn hytrach nag adeiladu ffordd newydd. Ond rwy'n credu eich bod yn gwthio ar ddrws agored pan fo'r adroddiad yn sôn am fwy o deithio llesol yn cael ei gynnwys yn y cynllun hwnnw; bydd hynny'n cael cefnogaeth gymunedol. Ond, yn enwedig, rwy'n sylwi, Gweinidog, nid oes sôn am ffordd osgoi Pant a Llanymynech—mae hwn yn gynllun sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Swydd Amwythig—yn mynd yn ei blaen, ac a gafodd gefnogaeth ar ochr Llywodraeth Cymru ac ochr Llywodraeth y DU am nifer o flynyddoedd, sy'n cael ei hariannu yn bennaf gan Lywodraeth y DU, a byddai'r cynllun ffordd yn Lloegr i raddau helaeth hefyd, ond rwy'n credu eich bod chi wedi cadarnhau i mi 18 mis yn ôl bod hwn yn rhan o'r cynllun adolygu ffyrdd. Felly, os nad yw'n cael ei gynnwys, efallai y gallech chi fy niweddaru ar hynny, ac, os nad heddiw, efallai y gallech chi ysgrifennu diweddariad o ran yr elfen honno a'r prosiect penodol hwnnw.
Diolch. Eto, rwy'n gwerthfawrogi nad ydych chi wedi cael llawer o amser i edrych arno, ond rwy'n credu y byddwch chi'n gweld yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth bod sôn am y cynllun, y bydd yn destun y prawf, fel y mae unrhyw gynllun arall. Ac fel rydych chi'n ei ddweud, yn Lloegr y mae yn bennaf, ond mae disgwyl i ni dalu cyfran anghymesur o'r costau ein hunain, gan ystyried cyn lleied sydd yng Nghymru. Ond byddai hynny'n cael ei drin yr un fath ag unrhyw gynllun arall.
Roeddech chi wedi cyfeirio, Gweinidog, at ffordd osgoi ddwyreiniol Llandeilo, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad sydd yn y cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth i'r cynllun hwnnw. Ond a ydych chi jest yn gallu egluro, o ran y cyhoeddiad rŷch chi ar fin ei wneud, meddai chi, a fydd hynny'n cael ei wneud ar sail WelTAG cam 2, sef y fframwaith oedd yn sail i'r ymgynghoriad? Ac a fydd e'n symud ymlaen wedyn i WelTAG cam 3 yn unol â'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno o ran y rhanddeiliad? Ac oes yna unrhyw beth yn eich ymateb chi i'r adolygiad, o ran eich polisi chi, rŷch chi'n meddwl, gall fod mewn unrhyw ffordd yn rhwystr i chi ddelifro ar yr ymrwymiad wnaethoch chi saith mlynedd yn ôl nawr i adeiladu ffordd osgoi yn Llandeilo?
Wel, rwy'n gwybod bod Adam Price wedi ymrwymo i wireddu'r cynllun hwn. Mae'r geiriau yn y cynllun trafnidiaeth yn glir. Yr un geiriau ag y gwnaethom ni gytuno arnynt ar y cyd rhwng ein pleidiau yng nghytundeb y gyllideb. Fel y dywedais i yn gynharach, byddwn ni'n symud ymlaen i gam nesaf y broses honno. O ran statws polisi, mae gennym ni nawr ddatganiad polisi ffyrdd sy'n bolisi Cymru, felly bydd hynny'n berthnasol i bob cynllun, ac yn amlwg bydd yn ystyriaeth berthnasol pe bai unrhyw anghydfod cynllunio. Felly, mae'r polisi yn berthnasol i bawb, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chi a'ch etholwyr ar gyfer eich cynllun penodol, yr ydym ni'n gweithio drwyddo ac y byddwn ni'n ei anrhydeddu.
Ac, yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gomisiynu'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n mynd i'n helpu i gysoni ein rhwymedigaethau sero-net gyda'n strategaeth drafnidiaeth, ac mae'n amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod ein polisïau cynllunio hefyd yn cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero-net. Er enghraifft, yn union fel mae angen i ni atal datblygiadau tai anghynaladwy, fel yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn Wrecsam—a'r un sydd yn fy etholaeth i, datblygiad tai Llysfaen, lle mae Redrow wedi gwneud arian mawr arno, ac nid wyf eto wedi gweld unrhyw fesurau i wella teithio llesol neu, yn wir, llwybrau bysiau i ymuno â'r datblygiad tai mawr iawn hwnnw gydag unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, Ac felly mae hynny'n rhywbeth y dylen ni i gyd boeni amdano wrth iddo ddechrau cyrraedd ei gyflawniad—.
Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn, yr adolygiad ffyrdd hwn, oherwydd mae'n rhoi cyfeiriad clir iawn i ni. Dyfeisiwyd ffyrdd ymhell cyn yr injan hylosgi. Yn wir, y Rhufeiniaid a adeiladodd yr A5, felly mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd a siawns nad oes rhaid i ni ganolbwyntio ar y rhai nad oes ganddynt gar, o ran sut y gallwn ni eu galluogi i deithio. Ac rwy'n credu mai'r mater rydw i eisiau siarad amdano, a gofyn i chi amdano heddiw, mewn gwirionedd yw sut y gallwn ni gael llwybrau cludo bws mwy cyflym gyda lonydd bws pwrpasol fel cyfrwng i gael etholwyr Blaenau Gwent neu Gwm Cynon i mewn i Gaerdydd heb orfod defnyddio ceir? Oherwydd, ar hyn o bryd, y prif reswm sy'n cael ei roi gan bobl sy'n dod â'u ceir i ganol y ddinas, dim ond i eistedd am wyth awr tra'u bod nhw'n gweithio, yw nad ydyn nhw'n gallu dibynnu—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—ar y bysiau, oherwydd eu bod nhw'n sownd yn y tagfeydd sy'n cael eu creu gan geir, sy'n gylch cwbl gythreulig, a meddwl oeddwn i tybed sut allwn ni wneud cynnydd o ddifrif a chyflym ar hynny er mwyn symud ymlaen yn gyflym arno.
Un o fy rhwystredigaethau mawr yw pa mor hir y mae popeth yn cymryd mewn trafnidiaeth. Un o'r tensiynau sydd gennym ni yw bod gennym ni wyddoniaeth hinsawdd sy'n dweud wrthym ni fod angen i ni weithredu ar frys, ac mae gennym ni systemau sy'n cymryd am byth. Pe baem ond yn gallu croesawu rhywfaint o'r arloesedd a welon ni yn ystod y pandemig, pan wnaethon ni weld lonydd beiciau dros dro yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym iawn, chwarae teg i lywodraeth leol, ond mae'n ymddangos ein bod ni wedi mynd yn ôl i'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn flaenorol. Mae hynny'n her wirioneddol i ni, rwy'n credu.
O ran eich pwynt penodol ar drafnidiaeth bysiau cyflym, rwy'n cytuno'n llwyr fod hynny'n rhan hanfodol o'r gymysgedd mae angen i ni ei weld. Rwyf i wedi dyfarnu arian yn y flwyddyn ariannol bresennol, £1 miliwn, i'r consortia weithio gyda'i gilydd ar ôl troed rhanbarthol i nodi mannau cul a choridorau bysiau rhanbarthol posibl er mwyn i ni wedyn greu llwybr o gynlluniau. Rwyf i hefyd wedi gwahodd cwmnïau bysiau i nodi meysydd y maen nhw'n credu y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w dibynadwyedd a'u hamseroedd teithio. Mae angen cyflymu hynny. Pwrpas y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yr ydym ni'n mynd i fod yn eu datblygu, a'r gwaith ar flaen y gad y mae comisiwn Burns wedi'i wneud yn y de-ddwyrain, yw dechrau mapio rhai o'r coridorau bysiau rhanbarthol hyn ac yna i weithio'n systematig gyda'n gilydd i wneud iddyn nhw ddigwydd. Ond rwy'n rhannu'ch diffyg amynedd gyda'r amser y mae'n ei gymryd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Cyn i ni symud ymlaen—
Rydw i wedi cael cais gan ddau Aelod i godi pwynt o drefn. Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y datganiad, wrth ateb cwestiwn cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at Blaid Cymru yn llunio'r gyllideb. Cyfeiriwyd at hyn hefyd wrth ateb cwestiwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Erbyn hyn, gan fod llunio'r gyllideb yn rhan sylfaenol o rôl weithredol y Llywodraeth, mae'n codi cwestiynau sylweddol am ein gallu ni i graffu ar aelodau Plaid Cymru sy'n llunio'r Llywodraeth ac yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, nid oes modd dwyn Aelodau dynodedig i gyfrif. Mae angen i ni gael dadl yn y lle hwn ynghylch sut mae Aelodau dynodedig yn gweithredu o fewn y Llywodraeth, a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud ochr yn ochr ag Aelodau dynodedig, fel y gallwn ni gael atebolrwydd a chraffu priodol yn y Siambr hon.
Diolch am godi'r pwynt hwnnw, sy'n fater pwysig. Nid ydw i'n credu ei fod yn bwynt o drefn, ond mae'n bwynt pwysig sydd angen ystyriaeth arall, a fydd yn cael ei wneud, yn amlwg.
Yr ail berson yw Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i herio'r Dirprwy Weinidog oherwydd dywedodd ddau beth ffeithiol anghywir, yn fy marn i, yma heddiw. Ar un, fe ddywedoch chi fod—. Wnes i ond codi gyda chi ynghylch y ddwy gylchfan yn fy etholaeth, a gwnaethoch chi'r pwynt fy mod i'n dweud un peth nawr, ond fy mod i wedi dweud rhywbeth arall yn wahanol, fy mod i'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n aros. Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi o hyn: ar 16 Chwefror 2022, dywedais i
'Ni fydd yn syndod, Ddirprwy Weinidog, fy mod yn codi i herio eich penderfyniad i roi'r gorau i'r cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar.... Mae'r cynlluniau hyn wedi bod ar y gweill ers 2017, ac wedi bod yn destun llawer o asesiadau costus'
gan gostio tua £9 miliwn i'r trethdalwr. Ac, mewn gwirionedd, dyna'r sefyllfa sydd gennym ni i heddiw. Felly, hoffwn i ymddiheuriad neu wrthdyniad.
Gwnaethoch chi ddweud hefyd nad oedd dim ar y pryd a oedd yn dangos bod unrhyw broblemau diogelwch, a dywedais i wrthych chi bryd hynny hefyd:
'Nawr, mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad yw cyffyrdd yn cydymffurfio â'r safonau dylunio presennol; oedi traffig o ganlyniad i ddiffyg cadernid y rhwydwaith; diffyg llwybrau gwyro addas'.
Ond, y peth yw, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn pan ydyn ni'n siarad yn y Siambr hon nad ydyn ni'n bwriadu camarwain. Nid ydw i'n credu eich bod chi wedi mynd ati i gamarwain, ond hoffwn i chi gywiro'r cofnod. Diolch.
Gan fod y Dirprwy Weinidog eisoes wedi gofyn i mi adolygu'r trawsgrifiad, rwy'n siŵr y bydd ef hefyd yn adolygu'r trawsgrifiad ac yna'n dod yn ôl i gywiro unrhyw wallau sydd wedi'u gwneud o'i fewn. Iawn? Diolch.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ddoe, ynghyd â'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol.
Mae'r Bil yn ceisio diwygio'r ffordd y mae rhai gwasanaethau gofal iechyd y GIG yn cael eu caffael yng Nghymru, gan gyflwyno pwerau deddfu sylfaenol a galluogi Gweinidogion Cymru i greu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG. Mae'r pwerau yn y Bil yn cefnogi nodau ac amcanion ein strategaeth 'Cymru Iachach' ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy, drwy gefnogi'r GIG yng Nghymru i sicrhau canlyniadau iechyd gwell i ddinasyddion Cymru.
Mae'r darpariaethau yn y Bil yn rhannol mewn ymateb i newidiadau arfaethedig a gafodd eu sefydlu o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Llywodraeth y DU 2022, lle mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno rheoliadau a threfn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG yn Lloegr. Nod trefn dewis darparwyr yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n berthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yn Lloegr yn unig, fydd gwella canlyniadau cleifion drwy geisio cael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen o'r broses o weithio gyda darparwyr gofal iechyd annibynnol, drwy annog cydweithio a phartneriaethau.
Bydd y gydundrefn dethol darparwyr felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd. O ganlyniad, gallai'r trefniadau newydd hyn gael effaith ar allu GIG Cymru i gynnal a sicrhau gwasanaethau iechyd yng Nghymru wrth weithio gyda darparwyr annibynnol. Er mwyn sicrhau nad yw caffael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno trefn ddethol y darparwyr yn Lloegr, mae angen i ni sicrhau bod y GIG yng Nghymru hefyd â'r gallu i elwa ar arferion caffael mwy hyblyg.
Bydd y darpariaethau yn y Bil a'r rheoliadau yn y dyfodol yn hwyluso'r hyblygrwydd hwnnw, gan ddarparu mecanwaith cefnogol sy'n ceisio cynnal y tegwch, o ran caffael presennol, yng ngwasanaethau iechyd y GIG rhwng Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn helpu i liniaru'r risg o effaith anffafriol ar GIG Cymru oherwydd gweithredu trefn gaffael wahanol gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Bydd yn cadw'r gallu i'r GIG yng Nghymru gomisiynu darparwyr gwasanaethau iechyd annibynnol ar sail cyd-gydymffurfio a chydweithredu, ac yn ei dro yn cefnogi ac optimeiddio adnoddau ariannol a staff, gan gefnogi'r GIG yng Nghymru i ddarparu'n effeithlon ac effeithiol.
Bydd mesurau yn y Bil hefyd yn ceisio lliniaru unrhyw afluniad posibl y farchnad drwy sicrhau bod marchnad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn ddeniadol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd annibynnol a allai gael eu rhwystro fel arall drwy orfod cymryd rhan mewn dwy drefn gaffael wahanol rhwng Cymru a Lloegr. Y gobaith yw y bydd dull gweithredu mwy hyblyg, cydweithredol a llai biwrocrataidd yn agor mwy o gyfleoedd i gyflenwyr, i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector a leolir yma yng Nghymru ac, felly, o ganlyniad, yn dod â manteision economaidd ar draws blaenoriaethau eraill y rhaglen lywodraethu, fel ein hymrwymiad i economi sylfaenol Cymru.
Mae'r Bil drafft yn ceisio cyflwyno dau bŵer i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, bydd yn cynnwys pŵer datgymhwyso, disapplication. Bydd hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod darpariaethau Deddf caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amherthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yr NHS yng Nghymru. Yn ail, bydd yn cynnwys pŵer creu i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu trefn gaffael newydd, wahanol ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy reoliadau yn y dyfodol, gyda chanllawiau newydd ar y trefniadau caffael yn cael eu cydgynllunio a'u rhoi ar waith gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae disgwyl i'r gyfundrefn dethol darparwyr, y provider selection regime, yn Lloegr gychwyn nes ymlaen eleni. Felly, er mwyn lleihau unrhyw wyrdroi posib yn y farchnad a sicrhau bod gwasanaethau iechyd allweddol yr NHS yng Nghymru yn parhau i gael eu darparu, mae rhywfaint o frys i gyfyngu ar y cyfnod lle bydd platfformau caffael yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n wahanol. Y cynnig, felly, yw bod y Bil yn dilyn amserlen gyflym i geisio cael Cydsyniad Brenhinol yr haf yma a rheoliadau a fydd yn dod i rym yn fuan y flwyddyn nesaf. Bydd yr amserlen yma hefyd yn ceisio sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd gorau posibl ar gyfer yr NHS yng Nghymru drwy gyd-fynd â newidiadau ehangach sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygiadau Bil Caffael Llywodraeth y DU sy'n cael eu cynllunio at y flwyddyn nesaf.
Er bod angen cofio bydd yn rhaid i unrhyw drefn newydd ac unrhyw reoliadau a chanllawiau yn y dyfodol weithio'n debyg i'r gyfundrefn dethol darparwyr sy'n cael ei chynnig yn Lloegr, mae gan Weinidogion Cymru y cymhwysedd a'r gallu deddfwriaethol sydd ei angen i greu trefn newydd sy'n gweddu orau i anghenion penodol Cymru o ran gofal cleifion a chanlyniadau iechyd. Bydd y manylion ymarferol yn cael eu harchwilio ymhellach a'u diffinio yn ystod y cam rheoleiddio.
I gloi, bydd y Bil sy'n cael ei gynnig yn rhoi'r pwerau angenrheidiol fel bod rheoliadau yn y dyfodol yn gallu addasu ac ymateb wrth i newidiadau gael eu cyflwyno i drefniadau caffael gwasanaethau iechyd yr NHS yn Lloegr. O ganlyniad, bydd yn creu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru i gefnogi gofal cleifion a gwell canlyniadau iechyd i bobl Cymru. Dwi'n falch o gyflwyno'r Bil yma ac yn edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau o'r Senedd heddiw, ac yn ystod, wrth gwrs, yr wythnosau nesaf, fel rhan o broses graffu'r Senedd. Diolch.
Gweinidog, a gaf i ddiolch o flaen llaw am y briff y gwnaethoch chi ei roi i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf? Rwy'n gwybod bod eich swyddogion yn mynd i fod yn darparu briff technegol i Aelodau hefyd, felly mae hynny wrth gwrs yn cael ei werthfawrogi. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod y GIG yn ddigon ystwyth yn ei arferion caffael fel na fydd ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Fel yr ydw i wedi'i ddeall—ac rwy'n dal i ddysgu—y Bil hyd yma, rwy'n deall pam eich bod chi'n cyflwyno'r Bil hwn, ond mae rhai cwestiynau gennyf i y tu ôl i hynny.
Rydw i'n meddwl, Gweinidog, ei bod hi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn ni eisiau i Gymru fod ar ei hôl hi neu fod o dan anfantais o gymharu â Lloegr pan fo'n dod at gaffael iechyd, ond mae'n debyg y byddai'n ddefnyddiol pe baech yn nodi unrhyw beth sy'n ein helpu ni i ddeall sut y daethom ni i'r sefyllfa hon yn y lle cyntaf. Yna mae'r pwynt tybed a allai memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fod wedi ei gyflwyno drwy'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio drwy Senedd y DU. Wrth gwrs, byddai hynny wedi arbed amser gwerthfawr y Senedd ac yn wir Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a aeth Llywodraeth Cymru ati i geisio'r llwybr deddfwriaethol hwn, ac os naddo, efallai y gallech chi amlinellu rhai o'r rhwystrau y tu ôl i'r penderfyniad hwnnw.
Mae hwn yn Fil galluogi, felly, fel y caiff ei ddweud yn aml, rhaid edrych yn fanwl ar y rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio'r pwerau y bydd y gyfraith hon yn eu creu. Felly, o ystyried efallai mai is-ddeddfwriaeth fydd y rhan fwy arwyddocaol o'r Bil hwn, rwy'n gobeithio na fydd hynny'n ddadleuol, ond rwy'n falch wrth gwrs y bydd y Senedd yn cael pleidleisio arnyn nhw gan y byddan nhw'n rhan o'r weithdrefn gadarnhaol, fel yr wyf i wedi'i deall. Ond mae angen i ni ddeall y bwriad polisi y tu ôl i'r Bil, felly tybed, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut fath o reoliadau y gallai'r rhain sydd i ddilyn fod, ac ar gyfer pa wasanaethau iechyd yn benodol fyddai'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio.
Cawson ni wybod hefyd, ei bod hi'n arbennig o bwysig i'r gwasanaethau GIG hynny sy'n darparu ar gyfer cleifion ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac wrth gwrs byddai gennyf i ddiddordeb yn hynny. Felly, a gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw enghreifftiau o ble fyddai hyn yn berthnasol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau'r GIG-i-GIG? Ac o ystyried bod y Bil yn ymwneud â rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru i gaffael gwasanaethau darparwyr annibynnol, ydy hyn yn golygu o gwbl fod y Llywodraeth Lafur yma'n benderfynol o gynyddu defnyddio gwasanaethau preifat yn y GIG? A allwn ni ddisgwyl i hyn ddigwydd?
Hefyd, dim ond i ddeall sut y gallai'r Bil hwn helpu'r 50,000 o bobl hynny sydd wrth gwrs yn aros am dros ddwy flynedd am driniaeth. Rwy'n gwybod bod eich targed yn agosáu, i ddileu'r ôl-groniad erbyn diwedd mis Mawrth, ac rwy'n credu y byddwch chi'n cadarnhau mae'n debyg y bydd hynny'n annhebygol o gael ei gyflawni, ond sut fyddai'r Bil hwn yn helpu yn hynny o beth?
Rwy'n credu y byddai'r Senedd a'r cyhoedd efallai hefyd yn elwa ar esboniad o sut y byddai'r gyfundrefn dethol darparwyr, neu'r PSR yn—. Sut byddai hynny—. Esboniad o hynny. Byddai'n dda, efallai, clywed y Gweinidog yn egluro pa newidiadau y gallwn ni eu disgwyl yn hynny o beth.
Yn olaf, pan gyflwynir y rheoliadau, i ba raddau gallwn ni ddisgwyl i'r rhain adlewyrchu'r rheoliadau y mae Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno? A fyddant, er enghraifft, gair am air? A fyddant yn cael eu codi o ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU? Ac efallai y gallech chi sôn am faint o gydweithio, os o gwbl, fydd gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diolch yn fawr. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna. Os ydw i'n onest, nid dyma'r Bil mwyaf cyffrous y gwelodd y Senedd hon erioed. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ymateb i'r ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr yw eu bod wedi cyflwyno'r Bil newydd hwn a fydd yn caniatáu i rai sefydliadau, efallai, beidio â gorfod ail-dendro. Weithiau mae hynny'n cymryd llawer o egni, ymdrech a chyllid, pan, mewn gwirionedd, mae'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn eithaf da. Felly, rwy'n credu mai dyna'r bwriad o safbwynt Llywodraeth y DU.
Gwnaethom ni ofyn, 'Gwrandewch, allwch chi ein cynnwys ni yna? Pam na wnewch chi ond ychwanegu ein henw at hynna?' Ac mewn gwirionedd, dywedon nhw na allan nhw roi'r ddau bŵer angenrheidiol i Weinidogion Cymru i ddatgymhwyso'r rheolau caffael presennol a chreu'r rheolau newydd. Dyna pam y rydyn ni yn y sefyllfa yma. Felly, gwnaethom ni ofyn y cwestiwn hwnnw, a dyna pam ein bod ni'n gorfod cyflwyno hyn nawr, oherwydd fel arall fe fydd yna, i bob pwrpas, bwlch ac mae gwahaniaeth yn mynd i fod o ran y gwahanol drefnau caffael rhwng Cymru a Lloegr.
Nid ydym eisiau bod o dan anfantais. Mae hwn yn Fil sy'n galluogi, mae'n Fil fframwaith. Fel y dywedoch chi, bydd y darnau mwy cyffrous, y darnau sy'n dod â'r peth hwn yn fyw, yn dod pan gyflwynir is-ddeddfwriaeth. Rwy'n falch o ddweud y bydd gan y Senedd gyfle i edrych ar y manylion hynny drwy'r weithdrefn gadarnhaol. Dyna rwy'n credu yw'r darn y mae angen i bawb deimlo'n gyffrous yn ei gylch; dim ond creu'r fframwaith yw hyn.
O ran a fyddwn ni dim ond yn torri a gludo beth bynnag y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, nid ydym wedi gweld yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud yn Lloegr eto. Nid ydym wedi gweld manylion eu his-ddeddfwriaeth. Felly, nid ydym ni'n gwybod a ydym eisiau torri a gludo hynny. Bydd rhaid i ni gael golwg. Efallai ein bod ni eisiau gwneud pethau'n wahanol. Efallai ein bod ni eisiau gwyro pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r hyn y maen nhw'n bwriadu'i wneud yn Lloegr. Mae'n ymwneud â chadw meddwl agored a gweld beth maen nhw'n ei greu. Ond o leiaf bydd gennym ni'r hyblygrwydd i ymateb os oes angen i ni wneud hynny.
Mae yna, rwy'n credu, gyfleoedd. Mae llawer o feysydd lle y rydyn ni'n caffael o dros y ffin yn Lloegr ar gyfer gwasanaethau arbenigol iawn, ac nid oes rheswm pam y byddem ni eisiau i hynny ddod i ben, o reidrwydd. Er enghraifft, mae gwasanaethau arennol, gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion sy'n wirioneddol arbenigol iawn, ac efallai na fydd y gwasanaethau hynny ar gael yng Nghymru. Yr hyn y gallwn ni ei wneud wedyn yw mynd o dan yr un faner gaffael ag y bydden nhw yn Lloegr.
Gwnaethoch chi ofyn am y ffin, ac rydych chi'n hollol gywir; mae enghreifftiau, er enghraifft ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae enghraifft ym Mhowys lle mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael ei rannu rhwng Cymru a Lloegr ar y ffin. Byddai hynny'n anodd iawn i ni'i wneud yn y dyfodol oni bai fod gennym ni fframwaith caffael cyffredin. Bydd enghreifftiau pan fyddwn ni eisiau gwneud hyn. Os caiff y rheoliadau eu cyflwyno, bydd rhaid i ni weld a ydym ni'n cytuno â nhw neu beidio o ran yr hyn mae Lloegr eisiau’i wneud. Ond bydd cyfle i drafod hynny yn y Senedd bryd hynny.
Diolch am y datganiad heddiw gan y Gweinidog a hefyd am y briefing a roddwyd i ni ymlaen llaw. Mae'n ychydig yn aneglur, dwi'n meddwl, ar y pwynt yma o beth ydy rhai o'r pethau y byddwn ni'n eu canfod wrth i'r broses yma fynd yn ei blaen dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dwi'n clywed y rhesymeg gan y Gweinidog dros ei chred hi bod angen gwneud hyn, bod angen lefel o warchodaeth oherwydd deddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno dros y ffin yn Lloegr a allai greu math o distortion fyddai'n gallu bod yn broblematig i ni. Yng nghyd-destun hynny, dwi eisiau bod yn bragmataidd, a deall go iawn beth fydd effeithiau ymarferol hynny a beth ydy'r angen ymarferol dros gymryd y cam yma yng Nghymru. Y broblem sylfaenol sydd gen i yw pam mae'r Llywodraeth yn San Steffan, neu yn Whitehall, yn cyflwyno'r newid yma pan fo'r Gweinidog yn dweud wrthym ni heddiw:
'Bydd y gydundrefn dethol darparwyr felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd.'
Dydw i ddim yn trystio beth ydy cymhelliad y Llywodraeth Geidwadol dros fod eisiau gwneud hynny, ac mi fydd yna egwyddorion yn fy arwain i drwy'r broses yma. Egwyddor sylfaenol ydy dydw i ddim eisiau gweld hwn yn fodd i'r sector breifat allu rhoi gwreiddiau dyfnach o fewn darpariaeth gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac i allu gosod y gwreiddiau dyfnach hynny mewn ffordd llawer haws na bydden nhw wedi gorfod gweithredu yn y gorffennol. Felly mi fyddwn i'n licio clywed gan y Gweinidog yn fan hyn ar y cofnod ei bod hithau hefyd yn rhannu y pryderon hynny.
Mae hi'n bryder i mi fod yna broses fyrrach yn mynd i fod ar gyfer gwneud y gwaith sgrwtineiddio. Oherwydd fy mod i eisiau bod yn bragmataidd a dysgu yn union beth sydd yn y fantol fan hyn, mae o'n achos pryder i fi bod y cyfnod i ddod i ddeall y goblygiadau posib yn fyrrach nag y dylai fo fod. Pa hyder mae'r Gweinidog yn meddwl y gall hi ei roi i fi y bydd y cyfnod, os nad yr un hyd ag arfer, yn caniatáu yr un dyfnder o sgrwtini? Achos mi ydyn ni angen bod yn berffaith glir ein bod ni'n edrych ar yr holl oblygiadau yn fan hyn. Mi fyddaf i’n bragmataidd, fel dwi'n dweud, ond mae'r pryderon yna yn golygu bod y sgrwtini yn hynod, hynod bwysig. Dwi'n gwybod bod Aelodau eraill ar y meinciau yma yn rhannu hynny efo fi, ac mi fyddwn i'n croesawu clywed gan y Gweinidog ei chonsérn hithau.
Un cwestiwn penodol dwi wedi ei ofyn o'r blaen, a dim ond eisiau gwybod os oes unrhyw ganfyddiadau cynnar yn dod o waith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth ar hyn: mi fyddai caffael mewn ffordd haws yn ei gwneud hi'n haws i roi cytundebau i'r trydydd sector, nid dim ond i'r sector breifat. Dwi wedi ystyried oes yna fodd i wahaniaethu rhwng darpariaeth trydydd sector a darpariaeth sector breifat o fewn y ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud ar y posibilrwydd hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. Dwi yn meddwl bod yn rhaid inni gadw golwg ar beth sy’n digwydd, ac mae’n rhaid inni gofio, dwi’n meddwl, bod hwn yn Fil hynod o fyr. Felly, beth dŷn ni’n sôn am yw fframwaith, a beth fydd yn bwysig yw beth sy’n mynd mewn i'r fframwaith, a dyna pam beth sy’n bwysig yw y byddwn ni’n cael cyfle i ddod yn ôl i drafod y manylion sydd yn mynd i mewn i'r fframwaith. A dyna fydd y pwynt pan efallai y bydd hi’n lot mwy gwleidyddol, a dyna'r pwynt lle bydd yn rhaid inni edrych i weld ydy beth sy'n cael ei gynnig yn Lloegr yn weddus i ni yma yng Nghymru hefyd. Felly, dwi ddim yn meddwl bod y rhan gyntaf yma hwn mor contentious â hynny; yr ail ran fydd, ac wrth gwrs, bydd rhaid inni ddod nôl i'r Senedd ar gyfer hynny.
Dwi yn rhannu pryderon o ran y sector breifat, ac mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus ynglŷn â hynny, ond dwi yn meddwl hefyd bod yna enghreifftiau lle mae’r trydydd sector, er enghraifft, yn gwneud gwaith anhygoel, a beth sy’n rhwystr iddyn nhw—a dwi’n siŵr eich bod chi wedi trafod gyda rhai ohonyn nhw hefyd—yw bod yn rhaid iddyn nhw fynd drwy'r lwpiau yma dro ar ôl tro, er eu bod nhw’n cynnig gwasanaeth hynod o dda. Pam mae’n rhaid inni fynd trwy hynny dro ar ôl tro er bod y gwasanaeth maen nhw’n ei cynnig yn dda? Mae hynny’n creu anhawster o ran cadw pobl yn eu swyddi nhw a phob math o bethau. Felly dwi’n meddwl bod yna agweddau fydd yn help efallai i’r trydydd sector, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn i’n gyfforddus gyda. Dwi jest eisiau bod yn glir: o ran y rheswm pam—.
Dim ond i fynd yn ôl at bwynt Russell yn gynharach o ran pam nad oedd modd i ni gael ein cynnwys yn y Ddeddf Iechyd a Gofal gyntaf, y pwynt yna yw bod cwmpas y Ddeddf Iechyd a Gofal ar gyfer Lloegr, felly dyna pam roedd hi'n anodd i ni ddweud—. Roedd yn ymwneud â chwmpas y Ddeddf ei hun, a oedd yn golygu ei bod hi'n anodd i ni ymuno â hi. Roedd hi wedi'i chymhwyso ar gyfer Lloegr yn unig, felly roedden nhw'n anfodlon. Fel arfer, rwy'n credu, o ran memoranda cydsyniad deddfwriaethol, maen nhw'n ymdrin â materion ehangach, ond mae hwn yn faes datganoledig wedi'i ddiffinio'n ofalus iawn, a dyna pam rwy'n dyfalu bod y cwmpas wedi'i ddiffinio'n eithaf da ar eu cyfer nhw.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Fel y dywedwch, cam cyntaf hyn yw Bil fframwaith, a'r ail gam fydd pryd y cawn y manylion. Pan roddaf y term 'caffael hyblyg yn y GIG' a'r Torïaid gyda'i gilydd, rwy'n pryderu'n fawr, fel y dylai'r rhan fwyaf o'r wlad, oherwydd byddwn ni'n cofio ffiasgo'r cyfarpar diogelu personol a ddigwyddodd gyda'r weithdrefn llwybr carlam VIP hyblyg, neu, os hoffech chi, yn fy ngeiriau i, trefn elw cyflym, yn cael ei chreu. Yn amlwg, mae angen i ni gadw golwg arni. Rydyn ni'n gwybod bod trefn dewis darparwyr yn mynd i fod ac mae angen i ni wybod mwy am sut bydd hynny'n edrych yng Nghymru, oherwydd rydych chi'n hollol iawn i beidio â mynd lawr yr un llwybr ag rydyn ni'n amau y bydd y Torïaid yn Lloegr yn ei wneud ac yn rhoi swyddi i'r bobl hynny sy'n buddsoddi yn y blaid honno. Mae ganddyn nhw hanes da o ran rhoi'r ddau beth yna at ei gilydd. Nid ydym yn dymuno dilyn hynny, ac rydyn ni eisiau cael deddfwriaeth a fydd yn diogelu, yn gyntaf oll, y GIG yng Nghymru ei hun, ond hefyd, wrth gwrs, y cleifion, oherwydd mae'n rhaid i'r bobl hynny a fyddai'n derbyn y gofal hwnnw a chanlyniadau'r gofal hwnnw fod yn ganolog i bopeth a wnawn ni. Ie, byddem ni i gyd wedi hoffi mwy o amser, ond, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fframwaith yw'r cam cyntaf, felly mae'n rhaid iddo fynd trwyddo fel y mae—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Joyce, os gwelwch yn dda.
Fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw: pan fyddwch chi'n gweithredu'r ail ran o hyn, a wnewch chi roi amser digonol, neu fwy o amser, yn sicr, i graffu ar beth fydd yn y fframwaith hwnnw fel y gallwn ni i gyd fod yn sicr na fydd y pethau hynny yr ydw i newydd eu hamlinellu sy'n digwydd dros y ffin yn digwydd yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr, Joyce. Rydw i dim ond eisiau eich sicrhau chi, mewn gwirionedd, mai ni fydd y rhai sy'n penderfynu sut mae'n edrych yng Nghymru. Os ydym ni'n hoffi'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, gallwn ni ei gopïo. Os nad ydym ni'n ei hoffi, does dim rhaid i ni ei gopïo. Ond mae gennym ni'r fframwaith nawr i wneud y penderfyniadau hynny. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn eithaf aml yma yw gwasanaethau arbenigol na allwn ni eu cynnig yng Nghymru, felly nid ydym mewn sefyllfa, yn aml iawn, i wneud dewisiadau; mae e naill ai yno, neu ni chewch chi wasanaeth. Mae'n rhaid i ni gadw llygad ar beth sy'n dda i'r claf yn gyson, ac mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen i ni ei wneud yma, a dyna pam, er enghraifft—. Rydych chi hefyd yn cynrychioli etholaeth ehangach ar y ffin. Mae Shropdoc, y gwasanaeth y tu allan i oriau, yn cael ei gyd-gomisiynu gyda byrddau iechyd yn Lloegr ac awdurdod iechyd Powys, felly byddai'n llawer anoddach gwneud hynny yn y dyfodol, sy'n golygu y byddai gwasanaethu'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ar y ffin, y tu allan i oriau yn anodd iawn, iawn. Efallai yn yr enghraifft honno, na fyddai digon o bobl ar ochr Cymru i bobl dendro ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Felly, mae'n ymwneud â bod yn ymarferol, rwy'n credu, cadw ein llygad ar beth sydd orau i'r cleifion, ond heb golli'r lens ideolegol yna rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ymrwymo'n llwyr iddi.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddysgu digidol mewn addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y tair blynedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn natblygiad dysgu digidol ar raddfa na allen ni erioed fod wedi ei rhagweld cyn pandemig COVID-19. Dwi am dalu teyrnged i ymroddiad ein staff a'n harweinwyr ar draws y sector addysg a weithiodd i gynnal brwdfrydedd ein dysgwyr yn ystod cyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen.
Mae'n amser nawr i edrych ymlaen. Mae gyda ni gyfle cyffrous i ystyried sut y gall addysgu a dysgu esblygu i ddiwallu anghenion dysgwyr, anghenion yr economi a chymdeithas—anghenion sydd, wrth gwrs, yn newid o hyd. Mae hyn yn golygu harneisio potensial technoleg i wella profiadau dysgu ac ehangu mynediad pobl yng Nghymru i gyfleoedd dysgu. Bydd ein cwricwlwm newydd i ysgolion yn help i ddatblygu gallu digidol disgyblion, ac rwyf am wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn gallu parhau gyda'r daith honno wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddysgu ôl-16.
Mae’r sector addysg bellach hefyd yn rhan ganolog o'n cynlluniau ni i roi'r sgiliau sydd eu hangen i ddysgwyr o bob oed, er mwyn gallu symud ymlaen i waith ystyrlon, sy'n dod â boddhad iddyn nhw. Mae dysgu galwedigaethol effeithiol yn golygu gweithio gyda’r adnoddau a’r technegau sy'n cael eu defnyddio o fewn diwydiant modern, ac mae ein colegau ni wedi creu partneriaethau cryf gyda chyflogwyr er mwyn helpu i gyflawni'r amcan o ran sgiliau digidol yn y strategaeth ddigidol i Gymru.
Yng ngwanwyn y llynedd, fe wnes i nodi fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru. Fe’i wnes i'n glir fy mod yn disgwyl i adnoddau a thechnolegau digidol ddod yn rhan naturiol o daith dysgwr, a hynny fel rhan o ddull cydlynol, modern o ddysgu. Eisoes, mae gyda ni sylfaen gref i helpu i wireddu’r uchelgais hon. Fe gafodd ein fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol, 'Digidol 2030', a gyhoeddwyd yn 2019, ei gydlunio ochr yn ochr gyda'r sector ôl-16. Rŷn ni'n defnyddio’r weledigaeth, y nodau a’r amcanion sydd yn 'Digidol 2030' fel sail i'n buddsoddiad a'n cymorth ar gyfer y sector.
Hoffwn i'n sector addysg bellach yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran arloesedd, creadigrwydd a chydweithio. Rwy'n falch iawn o weld sawl enghraifft o'r math hwn o weithgarwch yn ein sector addysg bellach. Mae ein colegau yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau o archwilio'r defnydd o realiti rhithwir ac estynedig, gan archwilio partneriaethau creadigol gyda diwydiannau uwch-dechnoleg, a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymwysterau â phwyslais digidol.
Ym mis Rhagfyr, ysgrifennais at benaethiaid colegau addysg bellach i lansio galwad i weithredu ar gyfer y sector addysg bellach o dan 'Digidol 2030'. Gan symud ymlaen o brofiadau o addysg frys o bell yn ystod anterth y pandemig, rwyf wedi gofyn i bob coleg ddatblygu ei gynllun strategol ei hun ar gyfer dysgu digidol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon. Hoffwn sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio dull cynaliadwy, strategol o ddysgu digidol a chynnig profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n ennyn diddordeb a brwdfrydedd ein dysgwyr. I gefnogi'r alwad hon i weithredu, rwyf i wedi clustnodi cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf dros dair blwyddyn academaidd ar gyfer offer digidol a gwelliannau i seilwaith mewn sefydliadau addysg bellach. Bydd hyn yn dod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn dysgu digidol addysg bellach i dros £30 miliwn erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25. Gwn fod y sector addysg bellach yn cefnogi amrywiaeth eang iawn o unigolion, gan gynnig amrywiaeth o wahanol bynciau a chymwysterau ar wahanol lefelau, ac nid oes un dull dysgu digidol syml sy'n addas i bawb, felly bydd angen i bob coleg ddatblygu ei gynllun unigryw ei hun.
Er mwyn sicrhau, gyda'i gilydd, bod y cynlluniau hyn yn creu dull strategol trawsbynciol ar draws yr holl sector addysg bellach, rwyf i wedi nodi pedair blaenoriaeth allweddol i golegau eu hadlewyrchu yn eu cynlluniau. Yn gyntaf, gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu. Yn ail, datblygu galluoedd a hyder digidol dysgwyr a staff ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Yn drydydd, manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, i gymell ac i ysbrydoli dysgwyr, ac yn bedwerydd, i ymwreiddio dulliau ystwyth, cydnerth a chynaliadwy o ddarparu.
O ganlyniad i gyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, mae colegau yn elwa o gynnig cymorth cynhwysfawr gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth. Bydd y cydbwyllgor yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol i ni ar gyfer 'Digidol 2030', gan ddatblygu ein sylfaen ymchwil a thystiolaeth, a chan sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu ac, yn wir, eu hymestyn ar draws y sector ôl-16. Rydym ni wedi comisiynu darn unigryw o ymchwil gan y cydbwyllgor, a fydd yn nodi'r cyfleoedd i ddefnyddio dysgu digidol a chyfunol i greu'r effaith fwyaf posibl i'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn yn cael eu rhannu yn y gwanwyn.
Mae amcanion 'Cymraeg 2050', ein strategaeth ar gyfer cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, yn greiddiol i hyn hefyd. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gydag ystod o ymyraethau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, a hefyd sgiliau a hyder yn y Gymraeg yn y sector addysg bellach, yn helpu colegau ac ymarferwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr a'u gallu i ddod o hyd i'r Gymraeg a datblygu eu sgiliau.
Rwy'n disgwyl y bydd cynlluniau strategol colegau yn nodi uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer dysgu digidol, ond yn canolbwyntio'n fwy manwl ar y cyfnod rhwng 2023 a 2025, tra bod y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei sefydlu. Mae technoleg ddigidol yn cynnig potensial enfawr i helpu i gyflawni nodau allweddol y comisiwn o gryfhau cydweithrediad ar draws y sector ôl-16, i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru, ac i gynorthwyo cyfnodau pontio a datblygiad dysgwyr. Bydd yr alwad i weithredu yn helpu i sicrhau bod y sector addysg bellach yn barod i chwarae ei rhan i gyflawni'r nodau hyn dros y blynyddoedd nesaf.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi nodau ac uchelgeisiau'r datganiad, gan ein bod ni i gyd eisiau gweld Cymru fwy medrus yn ddigidol. Ac rydym ni i gyd yn cydnabod bod manteision cymdeithasol ac ariannol mawr i'w cael o gyfoethogi sgiliau digidol Cymru. Fodd bynnag, mae gen i ychydig o bryderon ynghylch sut yr ydym ni'n sicrhau nad oes neb yn colli allan ar hyn, felly os gallech chi dawelu'r ofnau hyn heddiw, byddwn yn ddiolchgar.
Mae pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru nad ydyn nhw ar-lein fel rheol yn cael eu heithrio oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, ar gyfer llinellau sefydlog a gwasanaethau band eang symudol. Ceir llawer o ardaloedd o Gymru o hyd sy'n cael eu heffeithio gan fannau gwan, er bod y rhai sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau achos yn hysbysu bod cyffredinrwydd y rhain yn lleihau. Sut mae eich cynllun yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio oherwydd darpariaeth band eang wael?
Mater allweddol arall, fel y gwyddoch, yw'r rhai o deuluoedd incwm is sy'n fwy economaidd anweithgar ac sy'n llai tebygol o ymweld â gwefan na'r rhai mewn gwaith. Gallai teuluoedd ac unigolion ar incwm is gael eu heffeithio gan fynediad at ddyfeisiau a chysylltedd a'u fforddiadwyedd, yn ogystal â bod heb fynediad at ddyfeisiau neu, o bosibl, rhwydweithiau, sy'n golygu efallai na fyddan nhw chwaith yn datblygu'r wybodaeth, y cymhelliant neu'r sgiliau digidol sydd eu hangen. Felly, cwestiwn arall: sut ydych chi'n mynd i sicrhau nad yw incwm a chyllid yn amharu ar ddysgu'r sgiliau hollbwysig hyn?
Ac yn olaf, mae fy mhryder am y rhai sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Mae wyth deg naw y cant o'r rhai sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn defnyddio'r rhyngrwyd o'i gymharu â 93 y cant o'r rhai hebddynt. Efallai y bydd angen cymorth ar bobl ag anableddau i ddod o hyd i dechnolegau cynorthwyol priodol, neu gallen nhw gael eu rhwystro ar eu taith dysgu ddigidol. Mae'n amlwg y gallai fod angen rhyw fath o grant neu gymorth yma i helpu i gynorthwyo'r nodau clodwiw hyn sydd gennych chi, Gweinidog. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: a allwch chi ddweud wrthyf i pa gymorth fydd ar gael i'r rhai sydd ag anableddau neu broblemau iechyd hirdymor? Diolch, Gweinidog.
Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r buddsoddiad o dros £30 miliwn yr ydym ni wedi ei wneud i ehangu darpariaeth ddigidol gan y sector addysg bellach yn y blynyddoedd diwethaf—dyna fydd y ffigur erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25—un o'r meini prawf allweddol ar gyfer buddsoddi hwnnw yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth sy'n deillio o hynny. Bydd yr Aelod hefyd yn cofio'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud i ariannu'r ddarpariaeth o liniaduron a chyfrifiaduron llechen yn y sector ysgolion a cholegau, fel bod yr unigolion hynny a allai ei chael hi'n anodd eu hunain prynu'r hyn a all fod yn offer drud iawn yn aml hefyd yn gallu cael mynediad at y cyfarpar hwnnw, yr offer hwnnw, eu hunain. Felly, mae hynny wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r arlwy, rwy'n credu.
Ac mae hi'n iawn i nodi'r mynediad amrywiol at fand eang mewn rhai rhannau o Gymru, yn sicr, fel her benodol. Yr hyn y bydd hi'n ei wybod, fel Llywodraeth, yw bod y swyddogaeth hon, fel y mae'n gwybod, yn swyddogaeth neilltuedig i San Steffan, ond er hynny, rydym ni wedi ceisio buddsoddi trwy ein band eang cyflym iawn a chynlluniau eraill er mwyn lleihau nifer y mannau gwan sy'n bodoli oherwydd daearyddiaeth Cymru, Ac, yn wir, yn rhan o'r ymateb i COVID, byddwch yn cofio, yn ogystal â darparu cyfarpar, ein bod ni hefyd wedi darparu offer cysylltedd hefyd, felly donglau ac yn y blaen, i sicrhau nad oedd dysgwyr yn cael eu heithrio yn y ffordd y mae'n ofni yn ei chwestiwn. Felly, mae rhan o'r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio'n benodol ar wneud yn siŵr bod yr offer sy'n cael ei ddatblygu, y technegau addysgu a ddefnyddir, mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys i'r rhai sydd â heriau penodol oherwydd anabledd yn ogystal â fforddiadwyedd. Mae'n rhan bwysig iawn o'r genhadaeth y tu ôl i hyn i ymestyn y cyfleoedd hynny, ac felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod honno'n flaenoriaeth bwysig.
Diolch am y datganiad, Weinidog, a dŷn ni'n croesawu'r buddsoddiad hwn mewn sgiliau digidol, yn enwedig yn sgil y ffaith bod yna alw cynyddol ar gyfer sgiliau digidol o fewn y farchnad swyddi—galw nad yw'n cael ei gwrdd ar hyn o bryd—a diffyg sgiliau digidol uwch hefyd yn bryder gan gyflogwyr.
Lansiwyd 'Digidol 2030' yn 2019, felly rŷn ni bellach ryw bedair blynedd i mewn i'r strategaeth, a'r buddsoddiad, fel rŷch chi wedi nodi, yn £30 miliwn ers hynny. Mae pob ymchwil yn dangos bod angen cynnau diddordeb yn gynnar mewn pynciau fel cyfrifiadureg a TGCh, ac rŷch chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at rôl y cwricwlwm newydd yn hynny. Ond, mae yna bryder bod yna gyfran fawr o athrawon arbenigol nad sy'n arbenigwyr pwnc yn dysgu y pwnc yma yn ein hysgolion. Mae'n hysbys, wrth gwrs, nad yw targedau y Llywodraeth o ran recriwtio yn y gweithlu addysg yn cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Felly, hoffwn wybod beth yw'r darlun ar hyn o bryd o ran y maes yma yn ein hysgolion ac yn ein colegau, o ran y rhai sy'n medru dysgu'r sgiliau hyn ac sy'n arbenigwyr pwnc. O ystyried yr angen am arbenigedd a'r gwahaniaethau mewn cyflogau rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer sgiliau o'r fath, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yr arbenigedd digidol angenrheidiol i ddarparu profiadau dysgu digidol effeithiol? Ac wedyn, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu parhau â'r ymrwymiad hwn yn y tymor hir o gofio, wrth inni barhau i gyflwyno addysg mewn ffyrdd arloesol, a gyda thechnolegau newydd yn ymddangos yn barhaus i ddiwallu anghenion diwydiant, ein bod hefyd yn wynebu risgiau cynyddol seiberddiogelwch y mae angen inni eu lliniaru?
O ystyried, wedyn, cyfeiriad galwad i weithredu 'Digidol 2030' at ymateb i flaenoriaethau gweinidogol, yn enwedig gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu, pa rôl y bydd y sector preifat yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu digidol mewn addysg bellach? Sut bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflawni ei nodau yn y maes hwn?
Ac yn olaf, mae yna fwlch amlwg, yn anffodus, o hyd, yn nifer y rhai sy'n ferched sy'n astudio'r cyfrifiadureg a TGCh i TGAU a safon uwch gyfrannol ac uwch. Pa gynlluniau sydd ar waith gan y Llywodraeth i newid hyn, a sut mae'r cynnydd yn hynny o beth yn cael ei fonitro? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n croesawu'r gwaith sydd eisoes ar waith i gynyddu'r niferoedd sydd yn medru dysgu gwyddorau a mathemateg a chyfrifiadureg, yn cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cymhellion ariannol sydd yn gallu bod yn rhai sylweddol, a hefyd initiatives eraill i ddenu pobl i mewn i'r proffesiwn. Gwnaeth hi orffen drwy ofyn am yr hyn roeddem ni'n ei wneud i sicrhau bod mwy a mwy o ddisgyblion yn penderfynu dewis y cyrsiau yma hefyd. Mae'r cwestiwn o perception, canfyddiad, a stereotyping yn bwysig iawn yn hyn o beth, a bydd hi'n gwybod am y gwaith rŷn ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn codio ac mewn cyrff fel Techniquest, ynghyd ag amryw o ymyraethau STEM, a'r rheini yn cael ffocws pwrpasol ar ddenu merched i mewn i'r sector am y rhesymau mae hi'n eu dweud. Gwnaeth hi sôn am sgiliau a pha mor bwysig oedd e i gydweithio â'r sector breifat i ddiwallu'r angen yn hyn o beth, a hefyd darparu digon o hyfforddiant proffesiynol i'r gweithlu, fel eu bod nhw'n gallu darparu'r sgiliau yma, sydd mor bwysig.
Bydd hi'n gwybod ein bod ni wedi, yn ddiweddar, ehangu'r cyfrifon dysgu unigol, sydd â ffocws penodol ar sgiliau digidol. Mae hynny wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o gyrsiau IT a phrentisiaethau digidol yng Nghymru ar lefelau 2 i 5 a 3, a lefelau gradd hefyd. Felly, mae amryw o ddarpariaeth, yn cynnwys seiberddiogelwch, fel roedd hi'n dweud yn ei chwestiwn, sydd mor bwysig fel sector sy'n tyfu yma yng Nghymru hefyd, a chyfleoedd yn dod yn sgil hynny. Fel rhan o'r gwaith yn cydweithio â'r sector breifat, rydym ni wedi hefyd ariannu cynlluniau knowledge transfer, fel bod staff dysgu addysg bellach yn gallu cadw eu sgiliau yn gyfredol wrth gydweithio â'r sector breifat, a hefyd cyfnewid swyddi dros dro, fel bod adnewyddu cyson yn digwydd o fewn sgiliau'r gweithlu, sydd yn bwysig am y rhesymau mae hi'n eu dweud, ac yn benodol o bwysig mewn sector fel hon, sydd yn newid mor gyflym ac yn datblygu mor gyflym hefyd.
Ac yn olaf, o ran dysgu proffesiynol, yn y sector ôl-16, rydym wedi comisiynu deunydd hyfforddi pwrpasol a chyrsiau ar addysgu digidol wrth Jisc, mewn ymateb i argymhellion Estyn i wella safon ac argaeledd dysgu ar-lein a dysgu remote hefyd. Felly, mae corff o hyfforddiant yn bodoli eisoes; rydym ni'n ychwanegu at hynny yn gyson.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. A diolch am adael i mi siarad am ychydig o eiliadau i ofyn un cwestiwn, mewn difrif. Dwi'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd. Mae'n dda gweld buddsoddiad ychwanegol yn mynd i mewn i ddarparu mwy o gyfleon i ddysgu mewn modd digidol, ond tybed ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi syniad i fi o sut mae o'n gweld hwn yn ffitio mewn i greu'r math o sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer yr economi Gymreig. Mae'r gallu i weithio yn ddigidol yn un peth, ond, drwy ddatblygu'r sgiliau hynny, sy'n gwneud dysgu yn fwy difyr, yn fwy engaging, mae eisiau cadw llygad ar pam dŷn ni'n gwneud hyn hefyd, a beth ydy'r budd dŷn ni'n mynd i'w gael fel cymdeithas allan o ddatblygu'r sgiliau yna, a sut ydym ni, fel economi, yn mynd i elwa hefyd.
Mae'n gwestiwn pwysig. Wrth gwrs, prif bwrpas hyn yw sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu myfyrwyr yn gallu cyrraedd y rhan fwyaf sydd yn bosib, felly, fod cyfle ehangach gyda phobl i allu cael mynediad at gyrsiau amrywiol, ac mae galw gwahanol mewn ardaloedd gwahanol am gyrsiau ymhlith ein colegau ni. Ond mae e hefyd yn gyfle—fel roeddwn i'n sôn yn fras yn gynharach gyda Sioned Williams—mae hefyd yn gyfle i sicrhau ein bod ni'n cadw'n gyfredol o ran y sgiliau mae'r gweithlu addysg bellach, er enghraifft, yn eu cynnal, fel eu bod nhw'n gallu sicrhau bod y myfyrwyr yn cadw'u sgiliau yn gyfredol. Mae amrywiaeth o gymwysterau eisoes yn bodoli. Mae'r rheini, wrth gwrs—er enghraifft, o ran prentisiaethau—yn cael eu dylunio gyda'r sector ei hunan, ac mae'r ddeddfwriaeth rydym ni newydd ei phasio fel Senedd yn mynd i wneud hynny'n haws fyth, yn ei wneud e'n fwy hyblyg fyth, fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y sectorau sy'n tyfu ac yn newid yn gyflym yn gallu cael llais uniongyrchol ar sut rydym ni'n siapio'r cyrsiau hynny. Mae hynny'n bwysig iawn.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr ymateb dyngarol i Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.
Mae Cymru bellach wedi croesawu ychydig dros 6,400 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd bron i 3,400 gan aelwydydd yng Nghymru, a noddwyd ychydig dros 3,000 gan Lywodraeth Cymru erbyn 7 Chwefror. Mae dros 1,300 o'r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi eu noddi bellach wedi symud i lety tymor hwy. Mae rhagor wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond ni roddir y data hynny i ni gan Lywodraeth y DU. Nid yw cyfanswm y fisâu a roddwyd wedi cynyddu rhyw lawer yn 2023 hyd yn hyn. Rhoddwyd tua 8,750 o fisâu i'r rhai sydd â noddwyr yng Nghymru erbyn hyn, a cheir tua 1,500 o unigolion â fisâu nad ydyn nhw wedi teithio eto, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru.
Ar 31 Ionawr, fe wnaeth fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau gyfarfod â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, i drafod materion sy'n effeithio ar ein hymateb o ran Wcráin. Yn ystod fy natganiad diwethaf, amlinellais y materion ariannol y byddwn yn eu codi, a thrafodwyd y rhain gyda'r Gweinidog Buchan. Yn anffodus, gwrandawyd ar ein ceisiadau am newidiadau yr ydym ni'n credu fyddai'n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau i newydd-ddyfodiaid agored i niwed ond ni fwriwyd ymlaen â nhw. Ers ein cyfarfod gyda'r Gweinidog Buchan, cododd ein Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol faterion tebyg gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth y DU gynyddu'r lwfans tai lleol, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o newid dull. Ond rydym ni'n dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarganfod pa gyfran o'r gronfa newydd gwerth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24 fydd yn dod i Gymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynnig ac rydym ni wedi bod yn eglur bod angen eglurder ar frys i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n ddigonol.
Mae hyn yn ein gadael ni ac awdurdodau lleol mewn sefyllfa gyllidebol anodd, heb yr eglurder sydd ei angen arnom ni i gyflawni ein hymateb dyngarol yn fwyaf effeithiol. Serch hynny, rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ystyried sut y gallwn ddefnyddio orau y £40 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd hyn yn ein cynorthwyo symud ymlaen i lety tymor hwy, gan gynnwys lletywyr, ac yn cynorthwyo integreiddiad yn ein cymunedau.
Rydym ni wrthi'n datblygu pecyn cyfathrebu ar hyn o bryd i annog recriwtio rhagor o aelwydydd yng Nghymru fel lletywyr i'r rhai sy'n cyrraedd neu'n aros yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu taliadau 'diolch' i £500 yn unig ar ôl i westai fod yn y DU am 12 mis yn golygu y bydd llawer yn cael trafferth gyda biliau pan fo angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Fodd bynnag, un agwedd gadarnhaol ar newidiadau cyllid Llywodraeth y DU oedd ymestyn y taliadau 'diolch' i letywyr i ail flwyddyn ein gwesteion yn y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r newid hwn i gadw lletywyr. Byddwn yn ceisio cynyddu gweithgarwch yn y gwanwyn i ddod o hyd i'r rhai a allai ein cynorthwyo yn yr ymdrech hon. Fel erioed, gall lletywyr â diddordeb fynd i www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain i ddarganfod mwy a chofrestru eu diddordeb. Rydym ni'n chwilio'n arbennig am letywyr sy'n gallu cynorthwyo teuluoedd mawr, y rhai ag anifeiliaid anwes, neu ddynion sengl.
Rwyf i wedi bod yn darparu'r datganiadau diweddaru hyn ers misoedd lawer, ond prin y gellir credu o hyd ein bod ni eisoes yn agosáu at flwyddyn ers ymosodiad 2022 ar Wcráin. Rydym ni'n gwybod bod rhai Wcreiniaid yma yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a wnaeth geisio noddfa flynyddoedd yn ôl, yn ystyried mai 2014 oedd dechrau'r ymosodiad presennol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio hynny, hyd yn oed wrth i ni fyfyrio ar ben blwydd dwysáu'r ymosodiad.
Mae'r pen blwydd hwn yn garreg filltir ofnadwy ac yn atgoffâd trasig o pam rydym ni'n gwneud popeth yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddiwyro yn ein cefnogaeth i'r rhai yr ydym ni wedi eu croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yr aelodau o'r gymuned o Wcreiniaid sydd eisoes yn galw Cymru yn gartref, a'r rhai sy'n ymladd yn Wcráin. Rydym ni'n genedl noddfa, a gwn y byddai pob ochr o'r Siambr hon yn cytuno â mi wrth anfon neges o obaith, undod a pharch. Mae pobl Cymru wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni'n bobl dosturiol, gan ddarparu cymorth rhyfeddol er gwaethaf trafferthion enfawr drwy'r argyfwng costau byw.
Byddwn yn nodi'r pen blwydd rhwng 24 Chwefror a 27 Chwefror. Ar y pen blwydd ei hun, bydd y Senedd mewn toriad, ond rydym ni'n gweithio ar gynlluniau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y pen blwydd yn cael ei nodi'n briodol. Ar 25 Chwefror, byddwn yn croesawu Kenneth Nowakowski, Esgob Eparchiaeth Gatholig Wcráin y Teulu Sanctaidd o Lundain i Gymru, a fydd yn ymuno ag Archesgob Caerdydd mewn gwasanaeth gweddi eciwmenaidd golau cannwyll wedi'i ffrydio'n fyw. Bydd hon yn offeren dros heddwch, a bydd yn cael ei chynnal am 8 yr hwyr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn eglwys gadeiriol fetropolitan Caerdydd, a byddaf yn bresennol. Ac yna, ddydd Sul 26 Chwefror am 3 y prynhawn, bydd offeren ddwyfol hefyd yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Pedr yng Nghaerdydd, gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn bresennol.
Ac yn olaf, rydym ni'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar 27 Chwefror. Rydym ni wedi gwahodd y rhai o bob sector sydd wedi estyn allan ac wedi helpu pobl o Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â theuluoedd lletya o bob cwr o Gymru a'u gwesteion. Bydd yn ddiwrnod o fyfyrdod, yn ddiwrnod i gofio'r gorffennol ac i edrych tua'r dyfodol.
Bydd ein cefnogaeth i Wcreiniaid a phawb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn parhau ymhell y tu hwnt i'r pen blwydd hwn. Mae'r rhai sy'n canfod noddfa yng Nghymru yn cyfrannu at ein cymunedau, ein heconomi a'n synnwyr o bwy ydym ni fel cenedl. Fel y dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy yn ei anerchiad diweddar i ddau Dŷ Senedd y DU,
'Mae yn ein gallu i sicrhau gyda geiriau a gweithredoedd y bydd ochr olau'r natur ddynol yn drech. Yr ochr yr ydych chi a ninnau yn ei rhannu. Ac mae hyn yn drech na phopeth arall.'
Diolch.
Fel y nodwyd gennych chi, mae'n flwyddyn ar 24 Chwefror ers ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Putin ar Wcráin. Yn eich diweddariad ar Wcráin yma dair wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud:
'Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd',
lle'r oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd i Wcreiniaid o dros £650 miliwn, gan gynnwys cynnydd i daliadau i £500 y mis i letywyr Cartrefi i Wcráin.
Mewn ymateb i mi, fe wnaethoch hefyd ddweud eich bod wedi cyfarfod â Felicity Buchan, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y DU dros Dai a Digartrefedd, ynghyd â Gweinidog ffoaduriaid Llywodraeth yr Alban, cyn y Nadolig a bod gennych chi gyfarfod pellach wedi'i drefnu gyda Felicity Buchan yr wythnos ganlynol. Yn eich datganiad heddiw fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyfarfod hwnnw, gan gadarnhau bod y materion hyn wedi cael eu trafod, a'ch bod wedi gwneud cynnig. Beth oedd y cynnig hwn? A pha amserlenni dangosol, os o gwbl, a roddwyd i chi ar gyfer ymateb?
Er i gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru gael ei ohirio dros dro ar 10 Mehefin 2022, beth yw'r sefyllfa bresennol gyda hwn, lle, fel yr ydych chi wedi ei nodi, mae 6,437 o Wcreiniaid, wedi eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yng Nghymru yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, wedi cyrraedd Cymru ac mae bron i hanner y ffoaduriaid yng Nghymru yn cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru?
Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol. Rwy'n dyfynnu yma o erthyglau papur newydd, ac felly wn i ddim pa mor ddilys yw ffynhonnell y straeon hynny. Ond, wrth ymateb i chi dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a'r ferch a wnaeth ffoi o ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i'w noddwr o Gymru dynnu'n ôl, nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhent preifat ac sy'n ofni y gallen nhw fod ar y strydoedd yn y pen draw.
Nodais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai'n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 â lle i 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i gael eu hadeiladu erbyn y Pasg, wrth iddi ruthro i ddod o hyd i dai. O gofio bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiwn hwn ar ei phen ei hun neu gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, beth mae'n ei wneud amdano ar hyn o bryd?
Cyfeiriais eto yn fy ymateb i chi dair wythnos yn ôl at y cymorth sy'n cael ei ddarparu i ffoaduriaid o Wcráin gan ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid Wrecsam, a'ch ymweliad arfaethedig ar y pryd, yr oeddwn i'n bresennol ynddo, ag ymateb gogledd Cymru i Wcráin gan elusen Link International, ac i'r ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnes i ymweld ag ysgol gynradd yn sir Ddinbych gyda'm cyd-Aelod Laura Anne Jones, Gweinidog addysg yr wrthblaid, pan gyfeiriodd y pennaeth at eu disgyblion o Wcráin, y cafodd eu teuluoedd gymorth a chartrefi yn lleol gan y Groes Goch. Rwyf i hefyd yn aelod anrhydeddus o glwb rotari'r Fflint a Threffynnon, a dros y 12 mis diwethaf mae clybiau rotari wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac adnoddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddolwyr yn cynorthwyo Wcráin a'i phobl.
Yn olaf, felly, a wnewch chi roi diweddariad ar sut rydych chi'n sicrhau bod yr holl gyfraniadau ehangach hyn yn cael eu hintegreiddio i ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i Wcráin?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac a gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau agoriadol am yr ymosodiad barbaraidd, fel rydych chi'n ei ddweud? Ac rydym ni, wrth gwrs, bellach yn wynebu blwyddyn lle gwnaethom ni i gyd sefyll gyda'n gilydd yn y Siambr hon i gydnabod hyn ac i ymrwymo'n hunain i ymateb yn y ffordd ddyngarol yr ydym ni'n credu sy'n iawn ac yn gyfiawn fel cenedl noddfa. Rydym ni wedi gweithio'n agos iawn, byddwn i'n dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Llywodraeth y DU, a gyda chydweithwyr yn yr Alban hefyd—Llywodraeth yr Alban. Cytunodd a phenderfynodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r llwybr uwch-noddwr, a oedd yn golygu y gallai'r rhai a oedd yn ffoi'r ymosodiad ddod i Gymru a mynd yn syth i lety cychwynnol ac y byddem ni'n eu cefnogi gyda'n cyllid a oedd yn cael ei wneud ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae gennym ni yn y gyllideb ddrafft y £40 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol, felly, wedi bod yn bwysig o ran y ffordd yr ydym ni wedi cydweithio i symud ymlaen, ond hefyd i ddarparu tystiolaeth bod y llwybr yr ydym ni wedi ei ddilyn gyda'n cynllun uwch-noddwyr wedi bod yn fuddiol o ran y llety cychwynnol yr ydym ni wedi ei ddarparu drwy ein canolfannau croeso.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ein bod ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'n hawdurdodau lleol, nid yn unig i gynorthwyo pobl mewn llety cychwynnol, ond wedyn, yn hollbwysig, i'w helpu i symud ymlaen. Ond dim ond i gydnabod ein bod ni wedi bod yn darparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer yr wythnosau cyntaf pan fo Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru yn arbennig. Y cam croeso yw ein henw ar hwn. Mae'n amlwg yn golygu y gallwn ni weithio wedyn gydag awdurdodau lleol o ran cael mynediad at ysgolion, gwasanaethau cyfieithu, gwasanaethau iechyd, a Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, ac yna i gynorthwyo'r rhai sy'n cyrraedd i gael llety tymor hwy.
Ie, fel y dywedais, y £150 miliwn, rydym ni'n aros am yr ymateb gan Lywodraeth y DU o ran sut y bydd hwnnw'n cael ei ddyrannu. Fe wnaethom ni weithio gyda Llywodraeth yr Alban o ran dod o hyd i ffordd ymlaen i wneud yn siŵr bod dyraniad teg a chymesur o gyllid, ac rydym ni'n disgwyl clywed yr ymateb gan Lywodraeth y DU i'n cynigion.
Ond mae'n sicr yn gysylltiedig â'n fframwaith llety, sef y pwynt arall yr ydych chi'n ei wneud, ac fe wnaf i ganolbwyntio ar hwnnw o ran cloi fy ymateb i'ch cwestiynau, oherwydd mae'r llety symud ymlaen yn hanfodol, ac mae hynny'n gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae gennym ni fframwaith ar gyfer llety er mwyn gweithio gyda nhw. Mae ganddo fformiwla ac mae'n darparu cymorth i awdurdodau lleol, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni helpu pawb sydd angen tai dros dro yng Nghymru.
O ran sicrhau llety mwy hirdymor, a dyna pam rydym ni eisiau cael mynediad at y £150 miliwn, mae'n gymysgedd o lety; lletya unigolion, fel y dywedais yn y datganiad; y sector rhentu preifat; a hefyd mathau eraill o lety pontio o ansawdd da. Dyma mewn gwirionedd yw lle gallwn ni rannu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, a oedd yn £65 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, rydym ni'n cynyddu honno i £89 miliwn gyda chymorth gan Blaid Cymru. Mae gennym ni'r pwysau ehangach hyn o ran tai, ac rydym ni'n edrych i weld y rhaglen gyfalaf llety trosiannol honno yn darparu amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffyrdd y gallwn ni gefnogi tai o ansawdd da, defnyddio tai gwag, a hefyd sicrhau y gallwn ni gael y llety modiwlar y gellir ei ddarparu yn gyflym ac yn rhad, ac y gellir ei defnyddio wedyn fel rhaglen gyfalaf drosiannol i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, dim ond ar gyfer y cofnod eto, bod dros 1,300 bellach wedi symud ymlaen i lety tymor hwy—dros 800 o'r rhai sy'n ymgartrefu yng Nghymru—ac o'r rhai sy'n cyrraedd drwy'n cynllun uwch-noddwyr, mae bron i 1,100 wedi symud ymlaen i lety tymor hwy. A hefyd i gydnabod, wrth gwrs, bod y rhain i gyd yn aelodau o'n cymunedau, y mae llawer ohonyn nhw'n gweithio, yn integreiddio, a byddwch yn eu hadnabod nhw ledled Cymru.
A gaf i ddweud cymaint y gwnes i werthfawrogi ymweld â'r ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid yn Wrecsam gyda chi? Rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ond hefyd, yn y gogledd, cyfarfod â Link International, a chyfarfod â'r holl sefydliadau trydydd sector sydd wedi bod yn cynorthwyo gwesteion o Wcráin trwy Gymru gyfan. Maen nhw i gyd wedi cael gwahoddiad i ddod i'r Senedd ar 27 Chwefror, fel yr ydych chithau hefyd, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw i gyd yn gallu ymuno â ni, oherwydd maen nhw wedi chwarae rhan hollbwysig. A pheidiwch ag anghofio ein bod ni wedi bod yn ariannu'r sefydliadau trydydd sector—y Groes Goch Brydeinig, Asylum Justice, Housing Justice Cymru—bob un ohonyn nhw, a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, i'w helpu gydag ailgartrefu ein gwesteion o Wcráin.
Wrth i ni nesáu blwyddyn—y garreg filltir ofnadwy, fel y gwnaethoch chi ei galw—ers yr ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd ar Wcráin, hoffwn adleisio eich diolch i bobl ledled Cymru sydd wedi darparu noddfa i bobl o Wcráin. Pan fyddwn ni yng Nghymru yn dweud, 'Mae croeso i ffoaduriaid', pan fyddwn ni'n datgan ein hunain yn genedl noddfa, pan fydd ein Llywodraeth yn datgan ei hun yn uwch-noddwr i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, mae'n cyfrif. Ac mae'r iaith a ddefnyddir gan y rhai mewn Llywodraeth yn cyfrif. Ac rwyf i mor falch ein bod ni yng Nghymru yn defnyddio iaith wahanol i iaith Llywodraeth San Steffan—gwahanol ym mhob ystyr.
Rydym yn genedl noddfa.
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod y termau sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sydd mewn grym wrth drafod ffoaduriaid yn arbennig a phawb sydd ar y cyrion yn ein cymdeithas yn cyfrif, oherwydd bod canlyniadau i iaith? Ac fe welsom ni hyn yn Knowsley y penwythnos hwn—canlyniadau ffiaidd ac o bosibl ofnadwy. Mae cant o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored i alw ar bob arweinydd gwleidyddol i gondemnio ymosodiad dydd Gwener ar ffoaduriaid. A yw Llywodraeth Cymru wedi lleisio ei phryder i Lywodraeth y DU bod geiriau gelyniaethus yn arwain at weithredoedd gelyniaethus?
Mae ein cefnogaeth yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ffoaduriaid o Wcráin wedi dangos sut y gall ymateb i angen mewn cyfnod o argyfwng eithafol fod yn gyfle i gael y gorau, nid y gwaethaf, allan o gymdeithas. Mae llawer ohonom ni wedi gweld enghreifftiau o lygad y ffynnon sut mae ffoaduriaid yn cyfoethogi ein cymunedau. Fe wnes i gyfarfod ag Iryna yr wythnos diwethaf, sydd â gradd o brifysgol Kyiv, a ddaeth i Gymru drwy'r cynllun uwch-noddwyr ac a arhosodd yn y ganolfan groeso yn Llangrannog. Mae hi bellach yn gweithio yn Power and Water yn Abertawe ac yn flaenllaw yng ngwaith arloesol y cwmni hwnnw ym maes trin dŵr gwastraff heb gemegion. Roedd Iryna'n ffodus bod y cwmni wedi helpu i ddod o hyd i'w llety a'i ariannu i gychwyn, fel y gallai dderbyn y swydd honno. Nid yw llawer o'i chyd-ffoaduriaid mor ffodus, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod, fel yr ydych chi wedi sôn, bod y pwysau ar dai yn aruthrol.
Fel y nododd Mark Isherwood, mae WalesOnline wedi cyhoeddi adroddiadau am ffoaduriaid o Wcráin a noddwyr sydd wedi cael trafferthion gyda'r system sy'n bodoli i'w lletya, gyda disgwyl i ffoaduriaid fyw mewn llety byrdymor am gyfnodau hirdymor a bron yn denantiaid di-hawliau o dan noddwyr sy'n landlordiaid, a noddwyr yn teimlo bod diffyg cymorth iddyn nhw yn ystod yr argyfwng costau byw. Allech chi gynnig sylwadau, os gwelwch yn dda, ar ba broblemau posibl gyda'r cynllun uwch-noddwyr a'r cynlluniau noddi eraill a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau eu gweithrediad, ac felly pa fesurau ataliol a roddwyd ar waith? Ac a yw'n bosibl i'r Gweinidog gadarnhau nifer yr aelwydydd o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yma, yn enwedig o'r canolfannau croesawu a'r gwestai presennol y bydd disgwyl i bob awdurdod lleol eu croesawu, fel y gall paratoadau'r awdurdodau gael eu cadarnhau ymhellach trwy gymorth ac integreiddiad i gymunedau lleol?
Cynhaliodd Cymorth Cymru arolwg gyda 650 o weithwyr rheng flaen a chynhaliodd gyfarfodydd gyda 68 o weithwyr cymorth digartrefedd a thai ledled Cymru i ddarganfod sut mae costau byw yn effeithio ar eu bywydau a'u swyddi. Roedd effaith yr argyfwng costau byw ac ofnau pobl am y dyfodol yn eang, gan effeithio nid yn unig ar eu cyllid ond ar eu hiechyd meddwl a'u gallu i wneud eu gwaith. Soniwyd yn helaeth ganddyn nhw am yr effaith ar eu hiechyd meddwl, gan gyfeirio at orbryder, gorfod cymryd amser o'r gwaith, pryderon am lwyth gwaith mwy gan fod pobl yn gadael y sector ac, wrth gwrs, mwy o alw. Ac wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r argyfwng costau byw wedi dwysau'n sylweddol. Cododd Cymorth Cymru bryderon yn ddiweddar ynghylch effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr digartrefedd a chymorth tai rheng flaen a'u teuluoedd. Mae'r gweithwyr hyn yn wynebu straen sylweddol yn eu swyddi oherwydd yr argyfwng, ac byddan nhw bellach yn wynebu mwy fyth o bwysau ychwanegol wrth iddyn nhw geisio diogelu ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru rhag digartrefedd a'u cynorthwyo gyda llety. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o sut y bydd newidiadau i gymorth ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru yn effeithio ar ein gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau? Sut maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaethau hyn i sicrhau eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i allu cynorthwyo ffoaduriaid agored i niwed orau yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch, Sioned Williams, a diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am fynegi pwysigrwydd ein croeso, bod ffoaduriaid yn cael eu croesawu i Gymru. Fel y dywedwch chi, mae'n garreg filltir ofnadwy yr ydym ni wedi ei chyrraedd, ond byddwn hefyd yn cael ein mesur ar sail y croeso hwnnw a chryfder a dyfnder y croeso hwnnw. Gallwn weld ei fod mor gryf o ran y ffordd y mae pobl ledled Cymru, ym mhob cymuned, wedi ymateb, a'r ffordd y mae awdurdodau lleol wedi cydweithio gyda ni yn Llywodraeth Cymru a chyda'r trydydd sector i gyd, fel yr wyf i wedi ymateb i Mark Isherwood.
A hefyd i ddweud bod yn rhaid i hyn bob amser, o ran ein cyfrifoldebau ni fel Lywodraeth Cymru, fynd ymhell y tu hwnt i'n pwerau—ymhell y tu hwnt. Hynny yw, mae mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, ond byddwn yn defnyddio ein holl bwerau i gynorthwyo ceiswyr noddfa sy'n cyrraedd Cymru, ac rydym ni'n credu bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac yr ydym ni wedi eu cymryd gyda'n cynllun uwch-noddwyr yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr noddfa, gan eu cynorthwyo wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru, ac adeiladu cymunedau cydlynus. Gwelsom lif helaeth o gymorth, gan gynnwys miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn lletya ac yn cynorthwyo Wcreiniaid yn uniongyrchol.
Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar faterion o ran—. Dyna lle y saif Llywodraeth Cymru, ond rwy'n sicr yn ategu safbwyntiau'r 100 sefydliad sydd wedi condemnio geiriau gelyniaethus. Nid yw hwn yn le o gwbl ar gyfer amgylchedd gelyniaethus, a phryd bynnag y cawn y cyfle, rydym ni fel Gweinidogion yn ei gwneud hi'n eglur iawn beth yw ein safbwynt a sut rydym ni'n gwrthwynebu'r amgylchedd gelyniaethus a'r geiriau gelyniaethus, a all gael effaith ar y math o gydlyniad cymunedol yn ein cenedl noddfa yr ydym ni'n ei gymeradwyo a'i arddel.
Felly, mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar ba wersi yr ydym ni wedi eu dysgu o ran iechyd a chymorth, ac wrth ymdrin ag anghenion mwy efallai y rhai sydd wedi dod ymlaen a phroblemau enfawr o ran iechyd meddwl, yr effaith, trawma pobl, a menywod yn bennaf, wrth gwrs, yn dod o Wcráin. Rydym ni hefyd wedi gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud yn siŵr felly bod y gwasanaeth iechyd yn chwarae rhan lawn. Mae gennym ni wasanaeth cynhwysiant Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, sy'n edrych nawr ar anghenion asesu iechyd cymhleth, ond o ran iechyd meddwl hefyd. Mae hyn yn rhywbeth lle mae angen i'r rhai sy'n ffoi'r rhyfel gysylltu â'n canolfannau cyswllt a'r canolfannau croeso. Efallai eu bod nhw wedi dioddef trawma eithafol. Dyma lle'r oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llwybrau Newydd, yn datblygu pecynnau cymorth i staff, hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu rhoi cymorth iechyd meddwl.
Mae effaith costau byw wedi bod yn ddifrifol ar ein cymunedau a'n pobl yma yng Nghymru, yn enwedig llawer sydd â nodweddion gwarchodedig sydd eisoes yn wynebu anghydraddoldebau. Mae'n wych, mewn gwirionedd, bod nifer y cymunedau sy'n dioddef effeithiau economaidd-gymdeithasol llymach costau byw yn dal i gynorthwyo'r gwesteion sy'n dod i'w cymunedau. Rwy'n bryderus iawn bod y tariff ar gyfer awdurdodau lleol wedi cael ei leihau ar gyfer y rhai sy'n mynd i gyrraedd yn 2023. Roedd yn dariff o £10,500 ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n cael ei leihau gan Lywodraeth y DU i £5,900. Hefyd, rydym ni'n credu, fel y dywedais yn fy natganiad, ac fe wnaf i ei ddweud eto: y taliad diolch yna o £350 y mis i letywyr a roddodd lety, wel, rydym ni'n credu y dylai pawb sydd wedi bod yn lletywr ac sy'n parhau i fod yn lletywr dderbyn y £500, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'u galluogi nhw i barhau i gynorthwyo yn yr argyfwng costau byw.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ymateb i'r datganiad yma y prynhawn yma. Mae iaith a chywair mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol i'n dadl ac mae'n sôn am y gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn eu rhannu, ac rwy'n credu bod y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi estyn allan i Wcráin, gan gydnabod effaith drychinebus yr ymosodiad ar fywydau pobl, yn dangos rwy'n credu bod pobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hon eisiau i'r Llywodraeth hon barhau i estyn allan i gynorthwyo pobl yn Wcráin.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am ei arweinyddiaeth. Wrth gwrs, mae'n dod o gefndir Wcreinaidd, sydd â'i wreiddiau mewn cymunedau yn Wcráin, ac mae wedi meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin dros ddegawdau lawer, ond mae hefyd wedi defnyddio grym ei rethreg a'i brofiad yn y flwyddyn ddiwethaf i ysgogi ac i helpu pobl gyda'r cymorth hwn. Ac rwy'n credu, fel Senedd, y dylem ni gydnabod y gwaith y mae Mick Antoniw wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth ymateb i'r datganiad heddiw, y byddwn ni'n parhau i gynorthwyo teuluoedd a phobl o Wcráin a fydd yn dod yma oherwydd y peryglon sy'n eu hwynebu nhw gartref, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny yn y ffordd ddwys, gynhwysfawr a chyfannol y mae hi wedi ei ddisgrifio? Ond mae angen i ni helpu pobl yn Wcráin hefyd, ac mae hynny'n golygu sicrhau ein bod ni'n cyfrannu'n rhyngwladol at yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud o ran cynnal seilwaith. Pan oeddem ni yno ym mis Rhagfyr, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn oedd effaith peiriant rhyfel Putin ar y seilwaith ynni, er enghraifft, yn Wcráin, a byddai unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyfrannu at yr ymdrech ryngwladol ehangach honno, rwy'n credu, yn bwysig. A phwynt olaf—
Alun, rydw i wedi rhoi llawer o amser i chi.
Do, ac rydych chi'n hael iawn. Y pwynt olaf—
Ond dim llawer yn fwy hael.
Y pwynt olaf y byddaf i'n ei wneud yw bod angen i ni hefyd ddarparu'r hyn y gall Wcráin ei ddefnyddio i frwydro yn erbyn Putin a pheiriant rhyfel Putin, ac mae hynny'n golygu cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru hefyd, sy'n gallu cynhyrchu arfau a ffrwydron rhyfel, er mwyn galluogi byddin Wcráin i wrthsefyll peiriant rhyfel Rwsia. Mae gennym weithgynhyrchwyr yn y diwydiant arfau yng Nghymru, a byddai'n dda pe gallai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cynnyrch o'r busnesau hyn yn gallu cefnogi a chynnal yr Wcreiniaid sy'n brwydro dros ddyfodol eu gwlad a'n democratiaethau ni i gyd.
Diolch yn fawr, Alun Davies. Byddaf yn ymateb yn gryno, Dirprwy Lywydd, i ddweud pa mor bwysig yw hi y gallwn fod yn atebol am ein hiaith, am ein tôn, am y modd yr ydym yn darparu'r ymateb dyngarol hwnnw. Roedd yn dda iawn ein bod ni allan ar y grisiau gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, i ddymuno'n dda i chi a'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi ein harwain yn y Siambr hon, on'd yw e. Mae wedi ein harwain ni yn ein dealltwriaeth, mae wedi ein harwain ni yn y Llywodraeth ac, yn fy marn i, yn y Senedd, i ddeall y ffordd orau o ymateb a'r ffordd fwyaf priodol o estyn llaw a chefnogi Wcráin—pobl yn Wcráin yn ogystal â'r Wcreiniaid hynny sy'n dod i fyw yn ein plith. Mae ef wedi dod i lawer o'n cyfarfodydd yr ydym ni wedi'u cael mewn etholaethau, mae ef wedi cyfathrebu, a hoffem ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, sydd yma heddiw, a fydd yn arwain eich cenhadaeth, byddwn i yn ei galw, nesaf, y daith allan, yn gadael ddydd Iau, gyda'n cefnogaeth, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon.
Mae'n rhaid i mi ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud heddiw, Alun Davies, a hefyd i gydnabod y gallwn helpu pobl yn Wcráin. Gallwn ymgymryd â'r rôl ryngwladol honno fel Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Rydyn ni wir wedi helpu pobl i ddeall beth fyddai hynny'n ei olygu gydag ymweliad yr Arlywydd Zelenskyy yr wythnos diwethaf. Fe wnaeth dreiddio drwodd atom ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dros y penwythnos nesaf, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â ni wrth i ni gydnabod drwy weddi a chydnabyddiaeth ddifrifol, a hefyd drwy'r digwyddiad sydd gennym ni yma yn y Senedd. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Yn dilyn cais y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma yn ystod ei gyfraniad yn eitem 3 ynglŷn â'r defnydd o'r term 'gwallgof' yn ystod cwestiwn a gyflwynwyd iddo, rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad, a dod i'r casgliad er mai i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru oedd y cyfeiriad, ac nid unrhyw unigolyn, nid yw hyn yn ei gwneud yn briodol. Fel Aelodau o'r Senedd, mae gan bob un ohonom, gan gynnwys fi fy hun, gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn y lle hwn ac mewn mannau eraill yn ein rôl fel Aelodau yn briodol ac na ellir ei ystyried fel arall. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn yr achos hwn yn myfyrio ar y cyfraniad heddiw ac yn sicrhau y bydd cyfraniadau yn y dyfodol, boed yma neu y tu allan i'r lle hwn, yn cael eu hystyried yn barchus i bawb.
Mae eitem 7 wedi ei dynnu yn ôl.
Eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8201 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, manylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu gwaith yn ein cymunedau. Er bod dadl hanfodol, barhaus am y lleiafrif o swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn gwbl briodol, ac mae'n hanfodol i heddluoedd gymryd camau cyflym a phendant yn yr achosion hynny o hyd, gwn fod y rhan fwyaf o staff yr heddlu yn dangos llawer iawn o ymroddiad a phenderfyniad wrth iddynt gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Mae'r arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth cyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei benderfynu a'i sbarduno gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydyn ni wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Does dim newidiadau pellach i'r trefniadau cyllido ar gyfer 2023-24 yn dilyn y newidiadau technegol a gweinyddol a wnaed y llynedd. Deilliodd y newidiadau hynny o benderfyniadau'r Swyddfa Gartref heb fawr ddim goblygiadau ymarferol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru.
Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona ar gyfer 2023-24 yn aros yr un fath â'r llynedd, sef £113.5 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a ddisodlodd drosglwyddiad cyllid blynyddol o'r Swyddfa Gartref i Lywodraeth Cymru gydag arian uniongyrchol gan y Swyddfa Gartref i'r heddlu. Fel yn achos eleni, does dim effaith ar lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer heddluoedd o ganlyniad.
Rwyf hefyd wedi cadw'r gyfran o gyfraddau annomestig y mae heddluoedd yn ei derbyn yn 0.1 y cant, gydag addasiad canlyniadol i'r grant cymorth refeniw i gydbwyso hyn. Mae hyn yn hwyluso'r cyfnod pontio tuag at gadw cyfraddau annomestig rhannol ar gyfer rhanbarthau bargen ddinesig a thwf, ac ni fydd yn arwain at golli cyllid ar gyfer unrhyw heddlu. Fel yr amlinellir yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei glustnodi ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2023-24 yn £434 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at hyn yw £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2023-24, y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd mewn cyllid o 0.3 y cant o'i gymharu â 2022-23 cyn yr addasiad a wnaed ar gyfer y trosglwyddiad cangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant ychwanegol gwerth £63.5 miliwn er mwyn sicrhau bod pob un o'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel waelodol.
Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Fel y clywsom, cyflwynir cyllid ar gyfer y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru drwy drefniant tair ffordd yn cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, a chydrannau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ledled Cymru a Lloegr.
Ar gyfer 2023-24, bydd cyfanswm y gefnogaeth graidd i heddluoedd Cymru yn £433.9 miliwn. Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cael hwb ariannol o hyd at £287 miliwn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynnydd yn cymryd cyfanswm y cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr hyd at £17.2 biliwn, ac yn golygu y bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael cynnydd o hyd at £523 miliwn o grantiau'r Llywodraeth ac incwm praesept. Bydd praeseptau'r dreth gyngor yn codi 7.75 y cant yn Nyfed Powys, 7.4 y cant yn Ne Cymru, 6.8 y cant yng Ngwent, a 5.14 y cant yng Ngogledd Cymru, sy'n cyfateb i £1.86 y mis ar gyfer eiddo band D yn y de, a £1.34 yn y gogledd.
Roedd ffigyrau fis diwethaf yn dangos bod 1,420 o swyddogion ychwanegol wedi ymuno â heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y tri mis diwethaf, a 16,753 ers 2019 fel rhan o raglen tair blynedd Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol erbyn Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys 1,843 o swyddogion yr heddlu newydd ledled Cymru. Wrth gwrs, mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i fod i gynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn, gan gytuno â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwnnw.
Er bod troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi codi, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod hyn wedi'i sbarduno i raddau helaeth gan gynnydd yng nghategorïau’r troseddau sy'n rhoi'r newidiadau mwyaf o ran arferion riportio a chofnodi. Felly, dywedwyd y dylai'r amcangyfrifon hyn gael eu trin yn ofalus gan nad ydynt o bosibl yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau. Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau bythefnos yn ôl yn dangos bod tua 136,000 o droseddau treisgar wedi'u hatal ers 2019 mewn 18 ardal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ardal De Cymru, y mae troseddau treisgar yn amharu'n fawr arni, sydd wedi cael cyllid wedi'i dargedu gan Lywodraeth y DU. Yn ôl yr arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, sef y dangosydd gorau o dueddiadau hirdymor mewn troseddau, mae'r ffigurau troseddau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022 yn dangos bod cyfanswm y troseddau wedi gostwng 10 y cant, o'i gymharu â'r flwyddyn cyn pandemig y coronafeirws a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.
Fel y dywedodd y Gweinidog cyllid yma'r wythnos ddiwethaf mewn cyd-destun gwahanol,
'mae gennym y ffin hir agored â Lloegr'.
Ac fel y dysgais wrth ymweld ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, amcangyfrifir bod 95 y cant neu fwy o droseddau yn ardal Gogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan. Fodd bynnag, ac rwy'n cloi gyda'r sylw hwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi egluro eto pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddu trawsffiniol y mae adroddiad comisiwn Thomas yn ei wneud, er gwaethaf y dystiolaeth a gyflwynwyd iddi, y rhoddwyd gwybod i mi amdano yn ystod yr ymweliad hwnnw. Diolch yn fawr.
Mae cyni wedi cael effaith ddinistriol ar blismona yn y DU. Mae'n bosibl mai syniad y blaid Dorïaid oedd y toriadau creulon i wariant cyhoeddus, y mae'r term 'cyni' yn ei guddio, ond maent hefyd yn staen ar bleidiau eraill San Steffan, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth glymblaid yn cefnogi'r syniad hwnnw, a'r Blaid Lafur wedi cytuno iddo fel yr wrthblaid. Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o'r rhengoedd—
A wnewch chi ildio?
Newydd ddechrau ydw i.
Mewn munud, 'te.
Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o rengoedd heddlu yn ardal De Cymru yn unig. Er y buddsoddiadau diweddar, mae lefelau staffio yn yr heddlu hwn yn parhau i fod yn llawer is na'r niferoedd a oedd ganddo yn 2010. Mark.
Ydych chi'n derbyn—ac mae hyn yn ffaith—bod y toriadau i'r heddlu rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, yn wreiddiol hyd at 2015, wedi'u cyhoeddi yng nghyllideb olaf Alistair Darling yn 2010, a bod Llywodraeth y DU dim ond wedi parhau â nhw o ran plismona? Mae'n amlwg yn natganiad y gyllideb derfynol gan Mr Darling.
Nid yw hynny'n esgus, ond dywedais 'pob plaid sydd wedi cefnogi cyni', a wnaethon ni ddim.
Codwyd y ffaith bod lefelau plismona wedi gwaethygu dros y degawd diwethaf yn ystod cymhorthfa ar y stryd yn ddiweddar, ddydd Gwener diwethaf ym Mhontlotyn. Roedd pobl wedi sylwi ar yr hyn y mae'r Torïaid, gyda chefnogaeth eraill yn San Steffan, wedi'i wneud i blismona cymunedol. Bydd y setliad hwn yn newyddion gwael pellach i bob un o'n heddluoedd yng Nghymru. Ni fydd cynnydd o 0.3 y cant yn unig mewn cyllid cymorth canolog yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r pwysau difrifol ar adnoddau y mae ein heddluoedd yn eu hwynebu. Bydd yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch y gyllideb. Mae Heddlu De Cymru, er enghraifft, yn wynebu bwlch cyllidol gwerth £20.8 miliwn, ac yn gorfod canfod gwerth £9.6 miliwn o arbedion eleni i ddangos bod ei gynlluniau gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn gynaliadwy, tra bod Heddlu Dyfed Powys yn gorfod ystyried arbedion o £5.9 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Dangosodd arolwg morâl a thâl diweddar Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022 y graddau y mae morâl swyddogion yr heddlu wedi'i erydu gan flynyddoedd o esgeulustod ar ran Llywodraeth y DU. Mae canfyddiadau o'r fath yn pwysleisio cyn lleied mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ym maes plismona a chyfiawnder o fudd i Gymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn heb oedi, fel nad yw penderfyniadau ar sut rydym yn cadw ein cymunedau'n ddiogel yn cael eu gadael yn nwylo Llywodraeth San Steffan sydd wedi colli gafael ar faterion ac sydd ag obsesiwn â chyni. Nid yw cynigion presennol Llafur y DU i ddatganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig yn mynd yn ddigon pell. Mae'r ffaith bod lefelau cyllid Llywodraeth ganolog y DU bron yn wastad hefyd yn golygu bod pob heddlu yn gorfod troi at gynnydd sylweddol yn eu praeseptau'r dreth gyngor i gyfyngu ar eu diffygion yn y gyllideb yn unig.
Yn olaf, rwyf eisiau ei gwneud yn glir pa mor annerbyniol yw hi bod cynnydd yn y dreth gyngor atchwel yn cael ei ddefnyddio i gadw gwasanaethau plismona hanfodol i fynd. Mae pob un ohonom yn gwybod bod y dreth gyngor yn effeithio'n anghymesur ar yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru, ac yn fy rhanbarth i, ceir rhai o'r cyfraddau uchaf yn y wlad ym Mlaenau Gwent. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei ddiwygio, neu'n well fyth, gael cynllun arall yn ei le. Diolch yn fawr.
Byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi bleidleisio dros setliad sy'n darparu hyd yn oed yn rhagor o doriadau i'n gwasanaethau plismona ledled Cymru. Mae Mark Isherwood yn talu teyrnged i'w cyd-Aelodau yn Llundain am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud wrth ariannu'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn rydym yn ei wybod, a'r hyn rydym yn ei wybod yng Ngwent, yw bod heddluoedd mewn gwirionedd yn gweld gostyngiadau yn eu cyllidebau o un flwyddyn i'r llall. Yn y setliad hwn, bydd Heddlu Gwent, er enghraifft, yn gweld gostyngiad o 2.8 y cant yn ei rym gwario gwirioneddol, a phan fyddwch yn edrych ac yn cymryd 2010 fel y sylfaen, byddwch yn gweld unwaith eto bod gan Heddlu Gwent 85.9 y cant o'r grym gwario sydd ar gael iddo a oedd ganddo yn ôl yn 2010. A phan fyddwn yn clywed am 20,000 o swyddogion yr heddlu newydd, yr hyn rydym yn ei wybod hefyd yw mai'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw disodli swyddogion yr heddlu gafodd eu diswyddo yn ystod blynyddoedd o gyni. A dweud y gwir, yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod, bydd llai o swyddogion yr heddlu yng Ngwent nag a oedd yn 2010. Felly, nid ein bod ni ddim yn gweld y cynnydd; dydyn ni ddim hyd yn oed yn gweld sefydlogrwydd yn y niferoedd y gwnaeth y Torïaid eu hetifeddu gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yr hyn yr ydym yn ei weld yw toriadau tameidiog o gyllidebau'r heddlu blwyddyn ar ôl blwyddyn, a'r bobl sy'n talu pris hyn, wrth gwrs, yw swyddogion yr heddlu eu hunain sydd ddim yn gallu darparu'r gwasanaeth yr hoffent ei ddarparu, ond hefyd y cymunedau y mae pob un ohonom yn ceisio eu gwasanaethu mewn unrhyw ran o Gymru.
Ac mae'n bwysig, pan fyddwn yn trafod hyn, ein bod yn gallu darparu'r cyllid y mae heddluoedd ei angen ledled y wlad, ond ein bod hefyd yn gallu darparu'r gwasanaeth plismona y mae cymunedau eisiau ei weld mewn gwahanol rannau o Gymru. A beth mae hynny'n ei olygu yw bod plismona yn gallu gweithredu ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a gwasanaethau golau glas eraill yng Nghymru, sy'n golygu eu bod yn gweithredu o fewn strwythur datganoledig a bod plismona yn cael ei ddatganoli i'r lle hwn ar fyrder. Oherwydd, mae'n rhaid i ni wneud dau beth: yn sicr, mae'n rhaid i ni gynnal a chynyddu gwariant, oherwydd mae hynny'n gwbl sylfaenol i allu darparu gwasanaeth; ond wedyn, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau cydlyniad gwasanaethau, fel bod swyddogion yr heddlu'n gallu gweithio gyda phob heddlu a gwasanaeth cyhoeddus arall i ddarparu cydlyniad. Ac rwyf wedi clywed y dadleuon gan Mark Isherwood dros y materion hyn sawl gwaith, ac mae'n hapus iawn, iawn i ddyfynnu ei areithiau o flynyddoedd yn ôl i gefnogi ei ddadleuon heddiw, ond pe byddai'n dyfynnu ei areithiau o 2016, o 2017 i 2018, yna bydd e' hefyd yn gweld y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cwtogi plismona. A'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf bregus sydd wedi talu'r pris am y toriadau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hyd nes y bydd plismona wedi'i ddatganoli i'r lle hwn, ni fyddwn yn gallu cael cydlyniad gwasanaethau y mae'r lle hwn yn ei fynnu ac y mae ein pobl yn ei haeddu. Felly, byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond rwy'n siomedig iawn i weld y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda heddluoedd, yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda diogelwch y cyhoedd ac yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda dyfodol ein cymunedau.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r cyd-Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw, ac mae'r cyd-Aelodau wedi'i gwneud hi'n glir iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae swyddogion yr heddlu yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru yn fawr iawn, ac rydw i'n rhannu'r pryderon hynny a godwyd ynghylch morâl ymysg swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd. Ond, yma yng Nghymru, maen nhw'n rhan gwbl allweddol o'n gwasanaeth cyhoeddus integredig; maen nhw'n gweithio gyda'r byrddau iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Rwy'n meddwl eu bod nhw'n hollol anhygoel, mewn gwirionedd, o ran dod o hyd i ffyrdd creadigol o gydweithio. Felly, maen nhw'n bartneriaid gwerthfawr iawn yn ein gwaith Ystadau Cymru, er enghraifft, ac maen nhw'n gallu gwneud cynigion am nifer o gronfeydd Llywodraeth Cymru, ac rydym yn eu hannog i edrych ar ffyrdd o wneud hynny ar y cyd—er enghraifft, mae rhannu gwasanaethau corfforaethol yn ffordd dda iawn o weithio'n agos gyda'i gilydd, ac rwy'n gwybod eu bod o bosibl yn gobeithio ehangu'r gwaith hwnnw drwy'r partneriaethau diogelwch cymunedol i fynd i'r afael â materion yn ein cymunedau.
Byddwn hefyd yn ailadrodd ein cefnogaeth barhaus i ariannu swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr heddlu, ac mae hynny wir yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd y ffordd gydweithredol honno o weithio. Rydym yn gwybod, pan ydym yn gweld mwy o hyder ym maes plismona mewn cymunedau, fod hynny yn aml oherwydd bod nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu allan ar y strydoedd, ac felly'n rhoi'r math yna o amlygrwydd plismona y mae pobl yn ei ddisgwyl yn eu cymunedau hefyd, a hynny'n gwbl briodol—rydym yn falch iawn o barhau â'n hymrwymiad i ariannu a chynyddu nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru.
Ac rydym hefyd yn parhau i wneud yn glir iawn ein cefnogaeth i blismona gael ei ddatganoli fel y gallwn gyflawni ar anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd Cymru. Fel y clywsom, dyma'r unig wasanaeth golau glas sydd heb ei ddatganoli i Gymru, ac yn y cyd-destun hwnnw o weithio ar y cyd, gallwch weld bod yna lawer o ffyrdd y gallem newid a gwella pethau, pe bai'n cael ei ddatganoli. Rwy'n gwybod bod pryder ymhlith comisiynwyr yr heddlu a throseddu mai setliad dim ond fymryn yn fwy cadarnhaol yw hwn eleni. Mae hynny'n fater i'r Swyddfa Gartref, ond rydym wedi clywed am effaith pwerus iawn y toriadau ym maes plismona dros y blynyddoedd ar ein cymunedau, ac rwy'n clywed nad yw'r niferoedd cynyddol o swyddogion yr heddlu mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd yn gwrthbwyso'r toriadau i'r niferoedd rydym wedi'u gweld yn flaenorol, ac mae llawer i'w wneud o hyd mewn rhai rhannau o Gymru i wneud yn iawn am y niferoedd hynny.
Rydym wedi ymrwymo'n bendant iawn i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau rydym wedi clywed amdanynt y prynhawn yma yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol ac ar blismona rheng flaen yng Nghymru. Ac wrth gwrs, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn camddefnyddio sylweddau a'r agenda benodol honno, ac mae ein cyllid yn y fan yna wedi cynyddu i £67 miliwn yn 2023-24. Mae cyfran fawr o hynny'n mynd i fyrddau cynllunio'r ardal drwy'r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau.
Ac wrth gwrs, mae'r elfen olaf o gyllid yr heddlu yn cael ei chodi drwy braesept y dreth gyngor, ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw'r rhyddid i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynnydd yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae hynny'n dangos eu cyfrifoldeb a'u hatebolrwydd i'r etholwyr lleol. Er hynny, gwn y bydd y comisiynwyr, mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar aelwydydd lleol, yn ystyried hyn yn ofalus iawn yn wir.
Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond does yna ddim pleidleisiau heddiw. Felly, dyna ni'n cyrraedd diwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i bawb.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:23.