Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/01/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Hybiau Cynnes

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun hybiau cynnes Llywodraeth Cymru? OQ58988

Diolch am eich cwestiwn. Mae hybiau cynnes ledled Cymru bellach yn cynnig amrywiaeth o gymorth, yn dibynnu ar eu lleoliad a’u cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys man cynnes syml gyda lluniaeth, i fwyd mwy sylweddol, gweithgareddau, mynediad am ddim at gyfrifiaduron a Wi-Fi, a phwyntiau gwefru ar gyfer ffonau a thabledi.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi bod yn bartneriaid arbennig o effeithiol, ac sydd wedi ymgysylltu â’r cynllun hybiau cynnes, ledled y wlad, ym mhob cwr o Gymru? Gwn, er enghraifft, fod Eglwys Festival, yn fy etholaeth i—yr eglwys yr af iddi bob dydd Sul—yn un o’r hybiau cynnes hynny sy’n estyn allan at bobl yn y gymuned leol ac yn agor ei drysau fel ei fod ar gael fel man diogel a chynnes i bobl allu ei fwynhau. Ond mae miloedd lawer o’r rhain, wrth gwrs, ledled y genedl, ac felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y cymunedau ffydd sydd wedi gweithio’n galed iawn i estyn allan a phartneru â Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r rhaglen bwysig hon ar waith?

Ymunaf â chi i longyfarch y cymunedau ffydd o bob enwad sydd wedi chwarae eu rhan, fel y dywedwch. Ac yn wir, ddydd Llun, yn is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw, clywsom gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, ac yn wir, gan yr Eglwys yng Nghymru hefyd—bu'r Archesgob Andy John yn sôn am yr ymgyrch bwyd a lloches a thanwydd a gynhaliwyd gan yr eglwysi. Felly, ar draws pob enwad, yn wir, ein mosgiau a'n temlau, mae pawb yn chwarae rhan allweddol, a hoffwn longyfarch yn arbennig ein holl etholaethau lle mae hynny'n digwydd yn eu cymunedau.

Weinidog, mae gan Gwm Cynon 19 o ganolfannau croeso yn y gaeaf, sy’n cynnig amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes i bobl leol yn ystod y dydd, ac rwy’n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i bawb sy’n darparu’r adnodd amhrisiadwy hwn y gaeaf hwn. Mae darparu cyngor a chymorth i'r bobl sy'n mynychu'r mannau hyn yn un o amcanion allweddol y canolfannau. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i hwyluso'r broses o rannu arferion gorau yn hyn o beth, fel bod mynychwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir, a darparwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt.

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Ac eto, y gynrychiolaeth ar draws yr holl etholaethau—eich un chi yng Nghwm Cynon—o wirfoddolwyr sy'n rhedeg y prosiectau hyn, yn cychwyn y prosiectau hyn, a hoffwn gofnodi fy niolch eto i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymateb ac yn helpu i gefnogi eu cymunedau. Hefyd, hoffwn gadarnhau bod hyn yn deillio o'n gwariant o £1 filiwn ar hybiau cynnes, a ddosbarthwyd gennym drwy awdurdodau lleol. Maent yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a darparu hybiau cynnes. Ac mewn gwirionedd, mae eich pwynt ynglŷn ag arferion da, a rhannu arferion da, wedi bod yn wirioneddol bwysig. Fel y soniais, cyfarfu is-bwyllgor y Cabinet eto ddydd Llun gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a TUC Cymru, ac wrth gwrs, rhannwyd arferion da yno, ond hefyd, o ran CLlLC, rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr ac maent hwythau wedi rhannu arferion da pan ydym wedi cyfarfod hefyd. Credaf fod hyn wedi dangos yr arbenigedd sydd wedi datblygu bellach ledled Cymru, a byddwn yn bwydo'n ôl yr hyn sy'n gweithio. Rwy'n credu bod datblygu'r cysylltiadau â mynediad at Wi-Fi, mynediad at gyngor hefyd—. Felly, mae'n fan lle mae pob cyswllt yn cyfrif, ar gyfer ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' 'Yma i Helpu'—caiff popeth ei rannu, ond gyda gwirfoddolwyr wrth wraidd hyn.

Y Post Brenhinol

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflog ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru? OQ59003

Er bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaeth i weithwyr a chymunedau ledled Cymru. Cyfarfûm ddiwethaf ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a’r Post Brenhinol, ar wahân, ar 11 ac 16 Ionawr.

Iawn. Diolch. Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi bod yn gynyddol bryderus am y gamwybodaeth sy’n cael ei rhoi gan y Post Brenhinol i Aelodau o'r Senedd, Aelodau Seneddol a’r cyhoedd. Rwyf wedi'i gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod pobl yn gwybod y gwir. Roeddwn yn falch o siarad â Darren Jones AS, cadeirydd pwyllgor dethol San Steffan, a chefais y sgwrs honno ag ef cyn iddo gyfweld â phrif weithredwr y Post Brenhinol. Ac yn yr un modd, braf oedd cael gwahodd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i’r Senedd, gyda Luke Fletcher. A gwrandawodd 20 Aelod o’r Senedd ar yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, gan gynnwys cadw tâl salwch yn ôl rhag y gweithwyr.

Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod yr hyn a welwn yn peri cryn bryder, ynghyd â'r ymdrechion amlwg i lastwreiddio cyfranogiad undebau llafur gan gwmnïau preifat fel y Post Brenhinol, a hefyd, yn y sector cyhoeddus drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â thynhau rheolau ar streiciau ac ati, a bod angen i leisiau gweithwyr gael eu clywed? Mae hyn mor bwysig, gan fod camwybodaeth o'r fath yn cael ei rhoi i'r cyhoedd. Felly, diolch—roeddwn yn awyddus i ddweud hynny heddiw.

13:35

A gaf fi ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn? Gwn fod hwn yn faes y mae’r Aelod yn ymrwymedig iawn iddo ac yn angerddol yn ei gylch, yn anad dim oherwydd ei chefndir ei hun. Ac mae'n dda cael pobl â phrofiad o'r materion yma, yn enwedig pan fo rhywbeth yn y penawdau yn y ffordd y mae'n ei ddisgrifio yn ei chwestiwn.

Cytunaf yn llwyr â Carolyn Thomas. Rydym yn llwyr wrthwynebu ymosodiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar weithwyr ac undebau llafur, sef llais cyfreithlon gweithwyr yn y gweithle, boed yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. O ran y Bil lefelau gwasanaeth lleiaf, y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw dod ynghyd o gwmpas y bwrdd i gytuno ar ateb. Ac nid yw hynny bob amser yn hawdd; gall gymryd amser weithiau, ond dyna’r ffordd iawn o wneud hyn, drwy negodi ystyrlon, i gytuno ar ateb sydd nid yn unig yn cynnal y gwasanaeth, ond yn cefnogi’r gweithlu sy’n hanfodol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. Ac mae'r ddeddfwriaeth newydd honno'n mynd yn gwbl groes i'r ffordd y cytunwn ar atebion i'r heriau presennol sy'n ein hwynebu.

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yma fy mod yn cytuno’n llwyr â’r Aelod ei bod yn hanfodol i weithwyr gael y cyfle a'r dewis i gael eu cynrychioli gyda'i gilydd yn yr amgylchedd gwaith, sy’n eu galluogi i gael eu clywed. Nid yn unig fod hynny'n arwain at fuddion i gyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr, ond gwyddom fod gan y bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, boed yn gwmnïau fel y Post Brenhinol, neu yn y sector cyhoeddus hefyd, syniadau ynglŷn â sut y gallech wella’r gwasanaeth hwnnw. Ac mewn gwirionedd, mae cefnogi eich gweithwyr, a chreu gweithlu gwell yn creu buddion i'r cyflogwr hefyd, ac mae'n eu helpu gydag unrhyw heriau neu faterion ar gam buan.

Pan gyfarfûm ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a chyda'r Post Brenhinol, un peth a sylwais yn y cyfarfod ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu oedd bod ganddynt gynigion cadarnhaol yn ymwneud â chydnabod yr heriau y mae'r Post Brenhinol yn eu hwynebu fel cwmni, gan fod y ffordd rydym yn byw ein bywydau wedi newid, a'r ffordd y mae pobl yn anfon llai o lythyrau ond mwy o barseli. Ond hefyd, fel rydym wedi'i ddweud o'r blaen yn y lle hwn, ar gydnabod y rôl y mae gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau, mae ffordd o adeiladu ar hynny mewn ffordd gadarnhaol yn hytrach na'i diraddio. Ac rwy'n awyddus iawn i weithio gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a'r Post Brenhinol ar sut y gallwn gefnogi hynny, nid yn unig er mwyn cefnogi'r gweithlu, ond er mwyn cefnogi gwasanaethau, a'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol sydd mor bwysig i ni yma yng Nghymru.

Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae streiciau’r Post Brenhinol dros gyfnod y Nadolig nid yn unig wedi cael effaith ariannol ar y Post Brenhinol, ond wrth gwrs, wedi achosi niwed difrifol i'w henw da hefyd. Credaf fod pob un ohonom yma'n cytuno bod gan bob unigolyn hawl i gymryd camau gweithredu diwydiannol, ond mae angen inni fod yn ymwybodol fod y streiciau hyn wedi arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol nad ydynt yn gyfyngedig i’r Post Brenhinol yn unig. Mae busnesau bach a chanolig eu maint, fel 99.4 y cant o fusnesau Cymru a 62 y cant o gyflogaeth yng Nghymru, yn dibynnu’n helaeth ar fasnach dymhorol, ac o ganlyniad i fethu ag anfon nwyddau mewn pryd ar gyfer y Nadolig, wedi colli nifer sylweddol o archebion, gyda chwsmeriaid naill ai'n canslo eu harchebion neu ddim yn trafferthu archebu o gwbl. Nawr, er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth fod llawer ohonom yn cydymdeimlo â sefyllfa'r streicwyr, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol fod llawer o fusnesau, sydd eisoes yn ymdopi ag effaith COVID a phrisiau ynni, wedi mynd i'r wal oherwydd y streiciau hyn.

Hefyd, Ddirprwy Weinidog, yn wahanol i ychydig flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd llawer o ddewisiadau eraill i'w cael, ceir llawer o gwmnïau eraill bellach a all gystadlu am wasanaethau y mae’r Post Brenhinol yn eu cynnig. Ac rydym wedi gweld cwmnïau mawr fel Currys yn newid eu contractau hynod fawr a phroffidiol i ddarparwyr eraill, sydd, heb os, yn mynd i roi straen ychwanegol ar y Post Brenhinol yn y tymor hir. Fel y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod, mae’r Post Brenhinol bellach wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 10,000 o swyddi erbyn diwedd mis Awst 2023 oherwydd y streiciau, a disgwylir i’r golled gynyddol fod oddeutu £350 miliwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Post Brenhinol—[Torri ar draws.]—i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o swyddi'n cael eu colli yng Nghymru? Diolch.

Diolch. A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am fy helpu i ateb fy nghwestiwn yno ymlaen llaw? Fe ddywedaf ar y cychwyn fy mod yn croesawu'r ffaith bod Joel James wedi nodi ei fod yn cydnabod bod gan bob unigolyn hawl i weithredu'n ddiwydiannol, a bod y penderfyniad i weithredu'n ddiwydiannol yn un nad yw byth yn cael ei wneud yn ddifeddwl gan unrhyw weithiwr neu undeb llafur. Yma, rydym yn cefnogi hawl pob gweithiwr i weithredu'n ddiwydiannol, a dyna yw'r dewis olaf bob amser.

Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, gwyddom mai’r ffordd orau o ymateb yw gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur i negodi ateb. Nid yw hynny'n hawdd; gall fod yn anodd, gall gymryd amser, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Yn fy nghyfarfodydd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a chyda'r Post Brenhinol, maent wedi cadarnhau eu bod yn ôl mewn trafodaethau. Er na allaf wneud sylw ar hynny, gan nad fy lle i yw gwneud hynny heddiw, gobeithiwn y gallwn gytuno ar ateb. Gwyddom fod y Post Brenhinol yn wynebu llawer o heriau, ond y ffordd o weithio drwy’r heriau hynny yw cynnwys eich gweithlu a’u cefnogi hwy i gefnogi ein cymunedau yng Nghymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, ddydd Llun, clywsom honiadau unwaith eto fod casineb at fenywod a rhywiaeth yn rhemp yn Undeb Rygbi Cymru. Clywsom straeon torcalonnus am fenywod a oedd wedi ystyried hunanladdiad o ganlyniad i fwlio rhywiaethol. A thrwy'r adeg, ni chymerodd yr uwch-reolwyr unrhyw gamau o gwbl. Yn y rhaglen, dywedodd Charlotte Wathan, a gafodd ei chyflogi gan Undeb Rygbi Cymru i helpu i drawsnewid rygbi menywod, iddi glywed dyn y gweithiai gydag ef yn dweud ei fod eisiau ei threisio yn ei ystafell westy o flaen aelodau eraill o staff yn y swyddfa, gan gynnwys uwch-reolwr. Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ymchwilio yn y pen draw, ond ni wnaethant siarad â thystion allweddol, gan gynnwys y cyflawnwr honedig. Weinidog, er fy mod yn derbyn mai mater i Undeb Rygbi Cymru yw ymdrin â’r materion a godwyd yn rhaglen y BBC, mae'n rhaid inni ddatgan yn glir nad oes unrhyw le i ymddygiad o’r fath yng Nghymru heddiw. A fyddwch chi, fel y Gweinidog cydraddoldeb, yn cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i danlinellu’r ffaith na ddylid goddef rhywiaeth a chasineb at fenywod mewn unrhyw weithle, yn enwedig rhywle mor uchel ei broffil ag Undeb Rygbi Cymru?

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr iawn am wneud y datganiad cryf hwnnw y prynhawn yma. Gwyliais innau'r rhaglen, fel llawer ar draws y Siambr hon, rwy’n siŵr. Roedd y manylion yn y tystiolaethau hynny'n gwbl erchyll. Roeddwn yn meddwl eto am yr effaith ar y bobl hynny a dewrder y menywod a roddodd dystiolaeth—y fath ddewrder ar ôl dioddef yr aflonyddu, y bwlio, y cam-drin. Ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn amlwg, yn fy marn i, fod casineb at fenywod a rhywiaeth sefydliadol yn drwch yn y sefydliad.

Mae hwn yn fater y mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn ymwneud ag ef wrth gwrs. Fe ddywedasom ddoe ei bod eisoes wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i drafod y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith. Ond hoffwn ddweud, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ei bod yn amlwg o'n safbwynt ni, o’n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fod gan fenywod a merched hawl i fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau. Rydym bellach yn ehangu ein strategaeth i fynd i’r afael â cham-drin yn y gweithle ac i herio ymddygiad ac agweddau niweidiol yn uniongyrchol fel y gall pob menyw a merch yng Nghymru fyw heb ofn.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Pe bai Undeb Rygbi Cymru ond yn gallu bod yn debycach i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n haeddu cael eu llongyfarch am gyflwyno cyflogau cyfartal i bêl-droedwyr gwrywaidd a benywaidd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fynd i'r afael â chasineb at fenywod yn uniongyrchol. Yn ddiweddar, lansiodd Chwarae Teg ddeiseb gyda’r nod o wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i fenywod ar ôl i bwyllgor cenedlaethol UN Women ar gyfer y DU nodi bod 71 y cant o fenywod yn y DU wedi dioddef aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein holl fannau cyhoeddus yn ddiogel i fenywod a merched?

Diolch unwaith eto am eich datganiadau cryf iawn o blaid ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd, fel y dywedais, bellach yn mynd i’r afael ag achos sylfaenol y trais, y casineb a’r rhywiaeth y mae menywod yn eu hwynebu. Mae hon yn broblem gymdeithasol sy'n galw am ymatebion cymdeithasol. Golyga fod angen i bob un ohonom, gan gynnwys pawb ag unrhyw bŵer, gael ein hymddygiad ein hunain wedi'i herio.

Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r newyddion da fod gennym gyflogau cyfartal i'n pêl-droedwyr benywaidd, sy'n wych. Rydym yn llongyfarch Cymdeithas Bêl-droed Cymru am arwain y ffordd. Rwy'n credu mai un o’r pethau tristaf wrth wylio’r rhaglen honno hefyd oedd y ffaith bod y chwaraewyr rygbi benywaidd hynny'n fenywod gwych ym myd chwaraeon, ac nid ydynt wedi cael y cyfle a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Ond unwaith eto, ym mhob agwedd ar fywyd, credaf fod cefnogaeth gref iawn, a thrawsbleidiol, rwy'n siŵr, i'n strategaeth. Mae'n rhaid inni barhau i godi hyn mewn perthynas â'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom yn ein holl sefydliadau, sydd wedi’i adlewyrchu yma yn y sylwadau hyn heddiw.

13:45

Diolch, Weinidog. Nid mannau cyhoeddus yw'r unig leoedd lle nad yw menywod yn teimlo'n ddiogel. Hyd yn oed yn Siambr Tŷ’r Cyffredin, mae menywod yn wynebu casineb ffiaidd at fenywod. Yn ystod araith ddiweddar ar Fil diwygio cydnabod rhywedd yr Alban, cafodd yr AS Llafur, Rosie Duffield, ei cham-drin yn ffiaidd gan ei chyd-AS Llafur, Lloyd Russell-Moyle, a aeth yn ei flaen wedyn i gam-drin pob menyw a fynegodd bryderon am y Bil. Dylai ei ymddygiad fod wedi'i gondemnio, ond serch hynny, glynodd arweinyddiaeth y Blaid Lafur wrth eu safbwynt, gan wneud briff i'r wasg yn erbyn Rosie Duffield, gyda phennaeth cyfathrebu Keir Starmer yn dweud y dylai dreulio mwy o amser yn ei hetholaeth a llai o amser gyda J.K. Rowling. Gwnaeth hyn i Rosie ddod i’r casgliad fod gan Lafur broblem gyda menywod. Weinidog, a yw eich cyd-bleidiwr yn San Steffan yn iawn? A yw eich plaid yn anwybyddu menywod ac yn caniatáu i rywiaeth fynd yn rhemp? Diolch.

Rwy'n drist iawn fod yn rhaid inni orffen sesiwn gwestiynau bwerus a chryf iawn yn y cywair hwnnw. Rwy'n falch iawn o'n safbwynt. Y gwir amdani yw bod gennym gynllun LHDTC+ yn cael ei gyflwyno yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y caiff gefnogaeth y Siambr gyfan o ran hawliau LHDTC+ a'r camau gweithredu cryf rydym yn eu cymryd. Galwaf arnoch chi, y Ceidwadwyr Cymreig, i ddweud y byddwch chi'n cefnogi’r hyn rydym ni yn Llywodraeth Cymru, gyda’n partneriaid yn y cytundeb cydweithio, yn ei gyflwyno. Wrth gwrs, mae angen inni drin ein gilydd fel gwleidyddion gyda goddefgarwch a pharch. Ac mae hynny'n berthnasol i bob plaid, mae'n rhaid imi ddweud—eich plaid chithau hefyd, Altaf. Ond gadewch inni edrych ymlaen yn awr at dderbyniad cadarnhaol i’r hyn a fydd, rwy'n credu, yn gynllun gwirioneddol arloesol, ac yn gynllun a fydd yn cael ei gydnabod ledled y byd oherwydd ei barch at bobl LHDTC+ yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Weinidog, rŷch chi siŵr o fod wedi gweld yr ystadegau pryderus ynglŷn â thlodi dwfn yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y bore yma. Mae'r dystiolaeth yna o aelwydydd yn cael trafferth enbyd i fforddio hanfodion bywyd—bwyd, cysgod, gwres—a hynny yn sgil incwm isel iawn neu dim incwm o gwbl, neu am fod dyled yn llyncu cyfran fawr o'u hincwm. Mae costau ynni, wrth gwrs, yn cyfrannu'n fawr i'r dyledion yma, ac mae National Energy Action wedi cynnig darlun o'r diffyg cynnydd tuag at gyflawni targedau tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn eu hadroddiad monitro tlodi tanwydd diweddaraf. Y targed oedd 5 y cant o aelwydydd Cymru ar y mwyaf yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035; 45 y cant o aelwydydd ar hyn o bryd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.

Yn ein sesiwn graffu ar eich cyllideb ddrafft, fe sonioch chi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, wrth egluro pam nad ydych yn parhau i gyllido cynllun cymorth tanwydd Cymru, eich bod yn buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol ac y bydd hyn yn helpu'r rhai fydd yn canfod eu hunain mewn tlodi tanwydd—rhywbeth i'w groesawu. Oes modd i chi felly roi mwy o wybodaeth inni, Weinidog, am sut mae effaith y gronfa hon, y gronfa cymorth dewisol, wedi cael ei fesur, ac yn cael ei fesur a'i werthuso, yn erbyn mesurau o dlodi, a thlodi tanwydd yn enwedig?

13:50

Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn gwirioneddol bwysig am y ffyrdd rydym wedi bod yn ceisio mynd i'r afael, fel Llywodraeth Cymru, â'r argyfwng costau byw, ac yn wir, yr effaith ar dlodi tanwydd yn enwedig. Fel y dywedais yn fy ymateb i gwestiynau a chraffu ar y gyllideb ddrafft, yn anffodus, ni chawsom y cyllid gan Lywodraeth y DU a fyddai’n ein galluogi i fwrw ymlaen â llawer o’r cynlluniau pwysig y buom yn eu datblygu, ac yn wir, yn eu cyflawni—£1.6 biliwn eleni i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Credaf fod y cwestiwn pwysig rydych yn ei ofyn yn ymwneud ag effaith cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rwy'n falch o ddweud, hyd heddiw, fod 72 y cant wedi manteisio ar y £200. Ehangwyd y cymhwysedd gennym yn unol â nifer o geisiadau ar draws y Siambr hon, yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac yn wir, y rhan a chwaraeodd y pwyllgor yn hynny—y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—hefyd. Ac yn sicr, byddwn yn gallu adrodd ar y canlyniadau pellach. Mae’n ddibynnol iawn ar awdurdodau lleol. Rydym wedi nodi, pan fydd awdurdodau'n gallu awtomeiddio a phasio buddion ymlaen, fel cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, maent yn cyrraedd y bobl sydd angen y cymorth fwyaf. Ond mae cyfle i'w gael dros yr wythnosau nesaf; os gwelwch yn dda, ar draws y Siambr hon, anogwch eich etholwyr i fanteisio ar y £200 o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf.

A hefyd—ac mae hyn yn allweddol iawn hefyd—mae mater y bobl sydd ar fesuryddion rhagdalu. Unwaith eto, ddydd Llun, cyfarfûm â chyflenwyr ynni, ac mae'n eithaf amlwg—ac roedd yn amlwg yn y wasg dros y penwythnos—nad yw pobl yn cael y daleb. Gwyddom fod aelwydydd wedi cael y £400, ond nid yw pawb ar fesuryddion rhagdalu wedi cael y £400. Fe wneuthum eu dwyn i gyfrif ddydd Llun: 'Pam nad ydych wedi darparu'r talebau hynny?' Eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud hynny. Ond yn amlwg, byddaf yn adrodd yn ôl ac yn monitro effaith cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ein partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd, a hefyd yn cydnabod mai ein dull gweithredu yw sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Diolch, Weinidog. Rôn i'n gofyn yn benodol am y gronfa cymorth dewisol, ond efallai gallwn ni fynd nôl at hynny ar adeg arall.

Mae gen i gwestiwn am fesuryddion talu o flaen llaw, a'r pryder yma bod pobl yn cael eu gorfodi arnyn nhw yn groes i'w hewyllys, hyd yn oed pan nad yw'n ddiogel iddynt fod ar un, yn groes i ddyletswydd y cyflenwyr i wirio ac ystyried hynny. Dwi'n falch bod cymaint ohonom ni wedi cefnogi cynnig Jack Sargeant sy'n gofyn cwestiynau ynglŷn â'r mater yma.

Rŷn ni'n cofio bod Cyngor ar Bopeth wedi gweld mwy o bobl yn dod atyn nhw yn dweud eu bod nhw'n methu â fforddio topio eu mesuryddion lan dros y flwyddyn ddiwethaf nag a wnaethon nhw yn y 10 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn fater o frys o ran mynd i'r afael ag ef. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid cymdeithasol i alluogi eu tenantiaid i dalu am eu hynni drwy ddulliau amgen, os ydynt am wneud hynny? Mae Llywodraeth San Steffan dros y Sul wedi annog cyflenwyr i beidio â gorfodi cwsmeriaid i dalu o flaen llaw am eu hynni, ond nid gwaharddiad mo hynny. Ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ymdrechion i geisio'r grymoedd y byddai eu hangen i wahardd neu gyfyngu gorfodi mesuryddion ar gwsmeriaid yng Nghymru?

Diolch am eich cwestiwn, a hoffwn hefyd gydnabod a llongyfarch Jack Sargeant. Mae Jack Sargeant wedi galw'n gyson dros yr ychydig wythnosau diwethaf am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ac mae hefyd yn waharddiad rwyf wedi’i gymeradwyo a’i godi gyda Gweinidogion y DU hefyd.

Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr ynni. Fel rwyf newydd ei ddweud, cyfarfûm â hwy eto ddydd Llun, a'r peth cyntaf a ddywedais yw pa mor siomedig yr ydym, wrth gwrs, gyda'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'r ffyrdd y caiff gwarantau llys eu defnyddio—gwn fod cwestiwn amserol ar hyn—i orfodi pobl i osod mesuryddion rhagdalu heb unrhyw ganiatâd gan y cwsmer. Dywedais wrthynt eto na allwn dderbyn mai dyma’r arfer cywir. Dyma’r bobl fwyaf agored i niwed, o ran mesuryddion rhagdalu. Rwyf eisoes wedi sôn mai nifer isel o aelwydydd rhagdalu traddodiadol sy'n manteisio ar dalebau rhagdalu—dyfynnwyd ffigur adbrynu o 72 y cant gan Ofgem yn ddiweddar. Ond codais gyda hwy hefyd ei bod yn bwysig inni symud yn awr tuag at dariff cymdeithasol, a fyddai, wrth gwrs, yn golygu y byddem yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau mewn perthynas â’r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed.

Unwaith eto, nodais fod gennym ein partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd. Mae gennym eisoes oddeutu 70 o bartneriaid wedi cytuno i weithio gyda hwy. Rwy’n cofio’r cwestiwn, Sioned Williams, ynglŷn â'r posibilrwydd nad yw pob banc bwyd yn gwybod amdano. Rydym wedi lledaenu’r neges honno. Cyfarfûm eto y bore yma, a dweud y gwir, gyda'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Ymddiriedolaeth Trussell, Plant yng Nghymru a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant—pob un ohonynt yn sefydliadau sy'n gweithio gyda ni ar ein strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant—i sicrhau bod pobl yn manteisio ar dalebau rhagdalu'r Sefydliad Banc Tanwydd. Ond oes, mae angen inni ystyried, ac rwy'n ystyried yn barhaus, yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n pwerau i gefnogi a gweithio gyda'r bobl fwyaf agored i niwed, y bobl dlotaf.

Yn olaf, rwy'n dweud yr hyn a ddywedais ddydd Llun wrth y darparwyr ynni: 'Rhowch y gorau i godi'r taliadau sefydlog hyn'. Mae hyn yn gwbl allweddol. Dywedodd un wrthyf nad oeddent yn codi taliadau sefydlog. Dylai pob un ohonynt fod yn y sefyllfa honno, a byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael cefnogaeth i hynny ar draws y Siambr. Mae taliadau sefydlog yn cael eu codi hyd yn oed os nad yw pobl yn gallu cael ynni o ganlyniad i ddiffyg arian neu dalebau i fwydo'r mesuryddion.

13:55
Diogelwch Cymunedol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn y Rhyl a Phrestatyn? OQ58989

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Rydym yn gweithio gyda’r heddlu a sefydliadau partner eraill i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn y Rhyl, Prestatyn a ledled Cymru. Mae plismona'n fater a gedwir yn ôl, ond rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu ar faterion strategol ac yn darparu cyllid sylweddol i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu er mwyn diogelu cymunedau ledled Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Diolch i waith Llywodraeth y DU ar gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yng ngogledd Cymru, mae cyfraddau troseddu'n lleihau yn y Rhyl. Ond mewn cyfarfod diweddar gyda’r heddlu lleol, nodwyd mai ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl mor ifanc â 13 oed yw hyd at 75 y cant o’r holl ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl. Yn anffodus, mae diffyg strwythur teuluol cryf a chyfrifoldeb rhieni yn golygu o bosibl fod y bobl ifanc hyn yn troi at droseddu. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yng nghanol tref y Rhyl yn ddiogel, a beth a wnewch i sicrhau nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol y bobl ifanc hyn yn parhau? Diolch.

Wel, Gareth, fel y dywedais, rydym wedi ymrwymo i gadw cymunedau yng Nghymru mor ddiogel â phosibl, yn y Rhyl a Phrestatyn, a ledled y wlad. Rydym wedi ceisio gwneud hynny drwy ein rhaglen lywodraethu. Er nad yw'r mater wedi’i ddatganoli, rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi cynnal ein cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ac yn darparu 100 o swyddogion ychwanegol yn y cyfnod anodd hwn. Cânt eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, nid gan Lywodraeth y DU—gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn destun eiddigedd ledled Lloegr, yng Nghymru, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud. Hoffwn gofnodi unwaith eto fod hyn yn golygu cyllid blynyddol o dros £22 miliwn, ac rydym wedi ariannu hynny er bod plismona'n fater a gedwir yn ôl a'n bod mewn sefyllfa ariannol heriol.

Hoffwn ateb eich pwynt ynglŷn â'r ffaith bod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, yn fy marn i, yn hollbwysig i hyrwyddo diogelwch cymunedol a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwyddom ein bod yn gweithio ar lawer o’r problemau sy’n wynebu pobl gyda mentrau eraill, fel ein strategaeth troseddwyr ifanc a'n gwaith ar fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Ond credaf fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu'n glustiau a llygaid ar lawr gwlad i heddluoedd; maent yn adeiladu cysylltiadau lleol ac yn creu ymdeimlad o ddiogelwch yn ein cymunedau.

Mynediad at Wasanaethau Cyhoeddus

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad pobl anabl at wasanaethau cyhoeddus? OQ59000

Diolch, Jenny Rathbone. Fel rhan o’r tasglu hawliau pobl anabl, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol i hybu newidiadau er mwyn gwella mynediad at holl wasanaethau Cymru.

14:00

Diolch, Weinidog. Mynychodd y ddau ohonom ddigwyddiad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall yr wythnos diwethaf yma yn y Senedd, a chlywsom gleifion o bedwar bwrdd iechyd gwahanol yn rhannu eu gofidiau am eu brwydr i sicrhau’r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Cafodd y tystiolaethau hyn eu cefnogi gan arolwg diweddar yr RNIB, a oedd yn nodi bod un o bob tri o bobl ddall neu rannol ddall wedi methu apwyntiad neu fod eu hiechyd wedi cael ei effeithio gan y ffaith nad oeddent wedi cael gwybodaeth a oedd yn hygyrch iddynt. Fe gafodd dros eu hanner wybodaeth am eu gofal iechyd gan eu meddyg teulu mewn fformat na allent ei ddarllen, a hyd yn oed yn fwy anhygoel, ychydig dros un o bob 10 a ddywedodd bod eu meddygfa wedi gofyn iddynt beth oedd eu dull cyfathrebu dewisol, a sut yr hoffent gael gwybodaeth. Ysgrifennwyd safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau a chyfathrebu â hwy yn 2003, ac yn amlwg, mae dulliau cyfathrebu wedi gwella ers hynny, felly roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym, Weinidog, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i'w diweddaru a sicrhau bod byrddau iechyd yn eu gweithredu yn eu holl waith.

Diolch yn fawr, Jenny. Wrth gwrs, roedd yn bwysig iawn ein bod yn mynychu'r digwyddiad RNIB—ac rwy'n credu bod llawer o bobl eraill wedi ymuno â ni—ac roedd yn bwysig ein bod yn siarad â chyfarwyddwr yr RNIB am yr union bwyntiau hyn o dystiolaeth rydych wedi'u rhoi i ni. Ond roeddwn yn credu mai'r peth pwysicaf am y digwyddiad oedd y panel o bobl â nam ar eu golwg a rannodd eu profiad byw o geisio mynediad at wybodaeth gofal iechyd. Ond roedd hefyd yn dda fod swyddogion o dîm cydraddoldeb iechyd Llywodraeth Cymru yn bresennol, ac mae'n bwysig fod y gwersi hynny'n cael eu dysgu gan bobl ar y rheng flaen. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod yn ymgysylltu ag arweinwyr cyfathrebu byrddau iechyd drwy’r broses arferol o ddarparu gwasanaethau, ac felly'n tynnu sylw at yr holl anghenion i ddiweddaru canllawiau iechyd ar gyfer byrddau iechyd ynghylch sut maent yn cysylltu ac yn rhyngweithio â chleifion dall. Dyna werth y math o ryngweithio a gawsant ar y diwrnod hwnnw.

Ac mae safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch yn sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth pobl sydd â nam ar eu synhwyrau yn cael eu diwallu. Felly, bydd honno'n safon a fydd yn cael ei monitro'n llawer agosach nawr, oherwydd mae dyletswydd arnynt—mae'n ymrwymiad i gydraddoldeb—a'r ddyletswydd ansawdd sydd i ddod hefyd ar gyfer gwasanaethau. Ond byddwn yn bwrw ymlaen â hyn fel tasglu, ac rwyf wedi disgrifio rôl y tasglu anabledd sy'n cael ei gyd-gadeirio gydag unigolyn anabl, ac mae'n bwrw ymlaen â chyfathrebu hygyrch yn enwedig.

Er nad yw cynllun y bathodyn glas yng Nghymru yn rhan o'ch portffolio, mae cael gwared ar y rhwystrau i bobl anabl yn rhan ohono, ac mae cynllun presennol y bathodyn glas yng Nghymru yn creu rhwystrau. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi gydag ystod o gyflyrau corfforol a niwroddatblygiadol, y cafodd eu ceisiadau am drwyddedau parcio bathodyn glas, neu geisiadau i'w hadnewyddu, eu gwrthod gan awdurdodau lleol gan ddyfynnu meini prawf cymhwysedd Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dangos, ymhlith pethau eraill, fod penderfyniad yr awdurdod lleol ar gymhwysedd yn derfynol—nid oes proses apelio—ac mae hyn yn peri gofid enfawr i ymgeiswyr ac mae gofyn i mi ymyrryd er mwyn i'w ceisiadau gael eu hailystyried.

Pan oeddwn yn aelod o ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2019 i gynllun y bathodyn glas yng Nghymru, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig ar y cyd gan elusennau, gan gynnwys Gofal Canser Tenovus a Chymorth Canser Macmillan. Fe wnaethant fynegi siom pan wrthododd Llywodraeth Cymru lawer o argymhellion y pwyllgor a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth yn ein hadroddiad dilynol. Er i Lywodraeth Cymru gyfeirio at adolygiad o feini prawf cymhwysedd a dogfennau canllawiau, a bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd wedi dweud ei fod wedi gofyn i swyddogion weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau cysondeb yn eu dull o ymdrin â cheisiadau a wrthodwyd, mae Gofal Canser Tenovus wedi ysgrifennu i ddweud eu bod yn siomedig iawn na fu unrhyw newid i weithrediad y cynllun, ac mae'r materion a adroddwyd i'r pwyllgor yn 2019 yn parhau. Pa gamau y gallwch chi, ac y byddwch chi felly yn eu cymryd yn unol â hynny?

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Diolch am y dystiolaeth honno ar weithrediad cynllun y bathodyn glas, a'r adborth rydych wedi'i roi. Yn sicr, byddaf—. Nid fy mhortffolio i ydyw, ond mae hyn yn ymwneud â bwrw ymlaen â mynediad at wasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys amcanion pob gwasanaeth. Felly, byddaf yn edrych ar y materion hynny. 

14:05
Costau Byw

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cyllid a Thollau EF, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo gyda chostau byw uwch yn cyrraedd cymaint o bobl â phosib? OQ59006

Diolch, Luke Fletcher. Mae ein cynlluniau cymorth ariannol wedi'u llunio i gyd-fynd â chynlluniau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth y DU. Mae ymgysylltiad cynnar â'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF wedi galluogi awdurdodau lleol i fabwysiadu dull rhagweithiol, gan eu galluogi i ddefnyddio data'r Adran Gwaith a Phensiynau i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog.

Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn falch o glywed bod y bylchau hynny'n cael eu llenwi, ond yn ddiweddar tynnwyd fy sylw at achos pryderus gan etholwr yn Wildmill a gafodd ei atal rhag hawlio'r cylch olaf o daliadau cymorth costau byw Llywodraeth y DU. Pan saethodd costau byw i fyny, bu'n rhaid i fy etholwr geisio cymorth ond oherwydd ei fod yn derbyn budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol, sy'n golygu, er ei fod yn derbyn lwfans cymorth anabledd yn seiliedig ar incwm yn ogystal â lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, nid oedd yn gallu cael mynediad at gynllun taliadau costau byw Llywodraeth y DU o gwbl. A oes lle i Lywodraeth Cymru ystyried camu i'r adwy a llenwi bylchau fel hyn? Nid yw hwn ond yn un o lawer o achosion a ddaeth i fy sylw yn ystod cyfnod o galedi mawr i lawer. 

Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hynny, Luke. Hoffwn gael sgwrs ddilynol am y mater hwn gyda chi, yn dilyn eich cwestiwn heddiw. Dyma lle mae'n rhaid i ni weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF ac mae gwaith da yn mynd rhagddo, ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r trefniadau'n lleihau mynediad at fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ac rydych wedi disgrifio hynny. Mae'n rhaid inni adnabod cyfleoedd i gyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosibl. Mewn gwirionedd, mae gennym brofforma a luniwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF, ond byddaf yn trosglwyddo'r neges ar y mater penodol hwn. A gaf fi ddweud mai un o'r pethau siomedig, rwy'n credu, am waith y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar oedd y ffaith eu bod yn awgrymu, roedd ganddynt argymhelliad—fe'i cadeiriwyd gan Stephen Crabb—i greu bwrdd cynghori rhyngweinidogol ar nawdd cymdeithasol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i edrych ar rinweddau datganoli gweinyddiaeth budd-daliadau lles i Gymru? Cafodd yr argymhelliad hwnnw ei wrthod gan Lywodraeth y DU, ond rwyf eisiau ailedrych ar hynny, oherwydd dyma sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. 

A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am godi'r cwestiwn hwn? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau y dylai pob corff wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Tuag at ddiwedd y Senedd flaenorol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei chynllun gweithredu pwyslais ar incwm yn benodol mewn perthynas â thlodi plant. Roedd hwn yn cynnwys amcanion a oedd yn ymwneud â helpu teuluoedd i fod yn fwy gwydn yn ariannol. Rwy'n deall, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r gronfa gynghori sengl sy'n rhoi cyngor ariannol i deuluoedd, rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei groesawu. Ond hoffwn ofyn, Weinidog, pa asesiad rydych wedi'i wneud o ganlyniadau'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm gwreiddiol? Sut ydych chi wedi defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio'r camau sydd wedi eu cymryd gan y Llywodraeth drwy gydol yr heriau costau byw rydym bellach yn eu hwynebu? A pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddiweddaru'r strategaeth hon yng ngoleuni'r hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd? 

Diolch yn fawr, Peter Fox. Gwneud y gorau o incwm yw un o'r prif ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi. Pan wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n cynghori ar ein llwybr i fynd i'r afael â thlodi, cafodd gwneud y gorau o incwm—rhoi arian ym mhocedi'r bobl dlotaf—ei gynnig fel blaenoriaeth allweddol. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ac i ddilyn hynny, rydym newydd lansio ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn ddiweddar, sy'n ymgyrch i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, yn hanfodol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau hynny. Wrth gwrs, mae gwaith Cyngor ar Bopeth yn gallu cynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt hefyd. Rydym yn eu hariannu drwy'r gronfa gynghori sengl. 

I roi ateb i chi ar y pwynt am y trydydd—. Dyma ein trydedd ymgyrch i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, 'Yma i helpu'. Llwyddodd y ddwy ymgyrch flaenorol i gynorthwyo dros 8,000 o bobl i ymateb i'r alwad i gysylltu ag Advicelink Cymru a'u helpu i hawlio £2.7 miliwn ychwanegol o gymorth. 

14:10

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau tân ac achub? OQ58992

Mae'r awdurdodau tân ac achub yn pennu eu cyllid eu hunain i gyd bron drwy godi cyfraniadau gan eu hawdurdodau lleol cyfansoddol. Nid yw'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Cefais wybod gan aelodau awdurdod tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru eich bod wedi rhoi gwybod i'r gwasanaeth yno y bydd y grant Airwave FireLink, a ddefnyddir i gefnogi eu platfform radio hanfodol, yn dod i ben yn gyfan gwbl ym mis Ebrill eleni. Mewn cymhariaeth, mae'r Swyddfa Gartref yn araf leihau ei chyllid grant FireLink i awdurdodau tân ac achub Lloegr 20 y cant bob blwyddyn am bum mlynedd. Er bod hwn yn cael ei leihau'n raddol, mae'n dal i roi cyfle i awdurdodau tân ac achub yno gynllunio ar gyfer pan fydd y grant yn dod i ben a gwasgaru'r effaith ariannol, yn hytrach na chael pedwar mis yn unig i ddod o hyd i £0.5 miliwn yn eu cyllidebau. O ystyried bod Airwave yn achubiaeth hanfodol i wasanaethau golau glas, gan gynnwys gwylwyr y glannau, a fyddech yn ailystyried eich penderfyniad a lleihau'r grant hwn yn raddol yn lle hynny?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei godi gyda fi o'r blaen hefyd. Byddwn yn dweud fy mod yn deall sefyllfa'r awdurdodau tân ac achub, ond fel hwy ac fel awdurdodau lleol cyfansoddol, rydym i gyd yn wynebu llawer o heriau ariannu yn yr hinsawdd bresennol. Nid ydym yn arfer darparu cyllid ar gyfer cyfarpar neu systemau gweithredol, fel FireLink, felly bydd yn rhaid iddynt godi'r cyllid hwnnw o'u hadnoddau craidd eu hunain.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol, o ddatganiad yr hydref y Canghellor ar 17 Tachwedd, ei fod wedi cynrychioli toriad sylweddol mewn termau real i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, sydd wedi ei ddwysáu gan rymoedd allanol, megis yr argyfwng costau byw a biliau ynni uwch. Mae'n anodd iawn, wrth osod cyllideb heriol iawn, i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu cyfarpar cyfathrebu gweithredol. Fel y dywedwch, mae wedi golygu y bydd yn rhaid torri cyllid ar gyfer FireLink, system gyfathrebu weithredol y gwasanaeth, o 2023-24 ymlaen. Mae'r cyllid hwn yn llai na 1 y cant o'r cyllid cyffredinol y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ei gael gan eu hawdurdodau cyfansoddol. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod yr heriau. Er bod setliadau cyllideb blaenorol wedi caniatáu inni ddarparu'r cyllid ar gyfer y ffioedd hyn ers 2010, bu'n anodd cyfiawnhau hynny yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Ac os hoffai'r Aelod ein cefnogi yn ein hymdrechion, mae croeso iddo gael gair yng nghlust ei gymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Gartref, i helpu gyda chyllid pellach i ni yng Nghymru.

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn fynd ar drywydd y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a gynrychiolir gennyf fi ac eraill, a thynnodd y prif swyddog tân yno sylw at ansefydlogrwydd ein gwasanaethau tân mewn ardaloedd gwledig os yw pethau'n parhau fel y maent. Ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn pryderu am hynny. Mae'r rhan fwyaf o staff y gwasanaeth yn y canolbarth a'r gorllewin yn ddiffoddwyr tân wrth gefn ac maent yn cael eu cefnogi gan staff amser llawn. Ond mae'r gwasanaeth yn ei chael yn fwyfwy anodd recriwtio a chadw'r diffoddwyr tân hynny. Mae'n amlwg nad yw'r cynnig cyflog yn gymesur â nifer yr oriau y maent yn eu gweithio—mae rhai ohonynt yn gweithio tua 120 awr. Felly, tybed a allwn gael adolygiad o grant Llywodraeth Cymru, fel y gall ein gwasanaethau tân wneud y cynnydd angenrheidiol i'n gwasanaeth diffoddwyr tân wrth gefn. Diolch yn fawr iawn.

A gaf fi ddiolch i Jane Dodds am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn y maes hwn? Oherwydd, fel chi, rwy'n cydnabod mai gwasanaethau tân wrth gefn, i nifer o gymunedau ledled Cymru, sy'n darparu'r diogelwch sydd ei angen ac sy'n cael ei werthfawrogi, ac mae'r un peth yn wir i mi fy hun yn ardal gogledd Cymru hefyd. Er hynny, rwyf eisiau nodi ar y cychwyn nad ydym yn ariannu awdurdodau tân ac achub yn uniongyrchol yng Nghymru, felly ni fyddem yn eu hariannu'n uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau craidd.

Rwy'n rhannu'r pryderon ynghylch dyfodol y system ar ddyletswydd yn ôl galw, ac rydym wedi gweld newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn byw, sydd wedi creu sawl her. Ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r penaethiaid a chadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub, gan gynnwys y tro diwethaf imi siarad â phennaeth gwasanaeth y canolbarth a'r gorllewin—rydym yn rhannu pryderon ynghylch yr heriau i'r system ar ddyletswydd yn ôl galw a chynaliadwyedd i'r dyfodol. Ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda hwy a'r awdurdodau eraill i weld, mewn gwirionedd, sut y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hynny. Ond rydym yn gwybod y bydd hyn yn galw am ymdrech sylweddol, ac mae angen bod yn arloesol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny yn y dyfodol, a gweithio i gefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau, yn enwedig mewn cymunedau mwy gwledig ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd rwyf i fod i gyfarfod â'r awdurdodau tân ac achub a chynrychiolwyr eraill yfory, fel rhan o'n fforwm partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, ac rwy'n deall y bydd y mater hwn ar yr agenda ar gyfer hynny hefyd.

Cynnydd Cyfamod yr Heddlu

7. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gynnydd cyfamod yr heddlu? OQ58993

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Alun Davies. Mae Llywodraeth Cymru'n ymwneud yn agos â'r gwaith o ddatblygu cyfamod yr heddlu, gan gynnwys drwy fod yn aelod o'r grŵp goruchwylio cyfamodau, sy'n cael ei gadeirio gan Weinidog plismona Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o greu cyfamod ehangach ar gyfer y gwasanaethau brys yng Nghymru. 

14:15

Diolch yn fawr. Cefais gyfarfod gyda Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn yr hydref, ychydig cyn y Nadolig, ac roeddwn yn bryderus i glywed eu bod yn teimlo bod llawer iawn o lesgedd gyda chyflwyno'r cyfamod a bod nifer o wasanaethau nad ydynt yn cael eu cyflwyno, y dylid eu cyflwyno i swyddogion heddlu fel rhan o'r broses hon. A fyddai'r Gweinidog yn barod i gyfarfod â mi a ffederasiwn yr heddlu i drafod eu pryderon, a hefyd i sicrhau bod anghenion y rhai sy'n ein hamddiffyn yn gwbl greiddiol i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud wrth symud ymlaen? Rwy'n cydnabod y gwaith y cyfeiriodd ato ar gyfamod gwasanaethau brys ehangach, ond mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, cyn inni geisio symud ymlaen i wneud rhywbeth gwahanol. 

Diolch yn fawr, Alun Davies, am rannu'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod gyda ffederasiwn yr heddlu, y byddaf yn cyfarfod â hwy yn rheolaidd, ac a gafodd gyfarfod â'r Prif Weinidog yn ddiweddar. Trefnodd ffederasiwn yr heddlu i ni gyfarfod â llawer o'r swyddogion heddlu gwych sydd wedi dangos dewrder mawr ar draws ein gwlad. Unwaith eto, i sicrhau bod pobl, cyd-Aelodau, yn ymwybodol o hyn, addewid yw cyfamod yr heddlu i wneud mwy i helpu'r rhai sy'n gwasanaethu'r wlad hon, ac yn benodol i gydnabod dewrder, ymrwymiad ac aberth y rhai sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio ym maes plismona, ac mae'n hanfodol fod swyddogion heddlu, staff a'u teuluoedd yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau cymorth yn ystod eu hamser mewn gwasanaeth ac wedi hynny. Felly, byddaf yn hapus iawn i gael cyfarfod dilynol gyda chi fel rydych wedi'i gynnig. 

Cyfiawnder Data

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu cyfiawnder data? OQ58996

Diolch, Sarah Murphy. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio data yn dryloyw, yn ddiogel ac yn foesegol er budd holl ddinasyddion Cymru, fel y nodir yng nghenhadaeth 6 o'r 'Strategaeth ddigidol i Gymru'.

Diolch. Mae'r Labordy Cyfiawnder Data, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn diffinio cyfiawnder data fel y

'berthynas rhwng creu data a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu llywio gan ddata a data mawr'—

yn y bôn, tynnu sylw at y niwed a'r peryglon posibl i ddinasyddion. Rydym wedi gweld hyn yn ymchwiliad ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i drais domestig ac anghenion menywod mudol. Dywedodd Elizabeth, o gynghrair Step Up Migrant Women, wrthym, pan wnaethant annog menyw i ddweud wrth yr heddlu am gam-drin domestig, fe wnaethant ei adrodd ar-lein, ac wyth diwrnod yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd llythyr rheolaeth fewnfudo ei thŷ. Ac yn 2019, adroddwyd bod heddlu yn Lloegr wedi cyfaddef bod ganddynt gytundeb ysgrifenedig gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i rannu unrhyw wybodaeth am bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn protestiadau hinsawdd. Gwyddom hefyd, yn Hackney, fod yr awdurdod lleol wedi defnyddio cronfa ddata dadansoddi rhagfynegol i asesu pob un o'r 53,000 o blant sy'n byw yno. Fe wnaethant ddefnyddio'r gronfa ddata hon i nodi pa blant a allai fod mewn perygl o gael eu hesgeuluso, gan ddefnyddio eu nodweddion, megis oedran, ethnigrwydd ac amddifadedd, i greu'r sgôr, rhywbeth y byddwn i, yn y bôn, yn ei alw'n 'sgorio dinasyddion'. A'r peth am sgorio dinasyddion, a'r math hwn o ddata sy'n cael ei gasglu mewn sectorau cyhoeddus, yw bod pobl yn hollol anymwybodol fod y data ymddygiadol hwn yn cael ei gasglu; maent yn cael eu hasesu, maent yn cael eu categoreiddio ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd o ymladd yn ôl ar hyn a chael unrhyw fath o dryloywder yn ei gylch. Mae ymchwilwyr wedi dadlau bod arferion data wedi cael eu normaleiddio yn ein cymdeithas cyn inni gael cyfle i gynnal trafodaeth gyhoeddus ehangach ar foeseg defnyddio data yn y ffordd hon. Felly, Weinidog, wrth i sgorio dinasyddion barhau i ddatblygu yn y sector cyhoeddus, a ydych yn cytuno bod yn rhaid i'n hawliau dynol yn y byd digidol adlewyrchu ein hawliau dynol yn y byd go iawn?

Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Rwyf eisiau cydnabod y ffyrdd y mae Sarah Murphy, yn arbennig, yn mynd i'r afael â'r mater hwn—ac rwy'n credu ei fod o fudd i bob un ohonom—a'r ffordd y mae'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rydym i gyd yn dysgu am hyn, ond mae gennym gyfrifoldebau ac mae gennym bwerau. Mae gan bawb mewn awdurdod bwerau, ac mae'n rhaid inni gydnabod y cysylltiad rhwng cyfiawnder data a chyfiawnder cymdeithasol yn y ffordd rydych wedi'i disgrifio. Diolch am gyfeirio at y ffyrdd y mae'r mater hwn bellach wedi dod yn fyw, o ran y dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am fenywod mudol a'r ffordd y mae data'n gallu cael ei gam-drin yn ogystal â'i ddefnyddio. Mae hyn yn ymwneud â'r math hwnnw o gydbwysedd. Roeddwn yn falch o roi tystiolaeth i'r pwyllgor hwnnw, ond hefyd i edrych ar hyn o safbwynt dinesydd a sut y gall dinasyddion ymgysylltu. Ac felly mae'n rhaid iddo fod wrth wraidd ein meddylfryd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb—sut mae ymgysylltu â'n dinasyddion.

Rydym yn ffodus iawn fod gennym y Labordy Cyfiawnder Data yma ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r gwaith y maent wedi'i wneud. Ac rydych chi, yn amlwg, wedi ymgysylltu; rydym yn ymgysylltu â'r mater mewn perthynas â sgorio dinasyddion. Mae'n bwysig iawn. Ac mae gennym berthynas agos â'r Ganolfan Moeseg Data ac Arloesi, ond rydym eisiau gweld sut y gallwn gael cyrff cyhoeddus i ystyried moeseg data drwy gyhoeddi canllawiau, a byddai'r canllawiau hynny'n berthnasol iawn ar draws pob sector yn wir wrth fwrw ymlaen â hyn.

14:20
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor y mae wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gymwyseddau datganoledig? OQ59008

Diolch am y cwestiwn. Fel y mae'r cynllun wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai'r Bil roi awdurdod dilyffethair i Weinidogion Llywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn groes i'r setliad datganoli sydd wedi ei sefydlu'n ddemocrataidd. Rydym wedi ailadrodd i Lywodraeth y DU, ar lefel swyddogol a gweinidogol, fod angen parchu a gwarchod ein setliad datganoli.

Diolch. Gallai deddfwriaeth bwysig, yn amrywio o hawliau gweithwyr i reoliadau diogelu'r amgylchedd, fod ar fin diflannu yn dilyn Brexit, os yw Bil cyfraith yr UE a ddargedwir yn parhau i fwrw ymlaen ar ei ffurf bresennol. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gwnsler Cyffredinol, am dynnu sylw at oblygiadau difrifol y Bil hwn a'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru a'r Senedd hon, oherwydd bydd llawer o'r miloedd o ddeddfau a osodwyd yn cael eu diddymu cyn diwedd y flwyddyn, ac fe fyddant yn dod o dan gymwyseddau datganoledig. Nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli beth fydd goblygiadau hyn. Rwy'n gwybod eich bod yn dal i dynnu sylw at y mater, ond nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli, a bydd yn rhy hwyr pan fydd yn digwydd. Gwnsler Cyffredinol, a allech chi roi diweddariad ar y sylwadau rydych wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU am y ffordd y mae'n tresmasu ar hawliau datganoledig gyda'r Bil cwbl ddiangen a pheryglus hwn? Diolch. 

Wel, mae hwn yn Fil difrifol iawn, yn ddeddfwriaeth ddifrifol iawn, gyda chanlyniadau difrifol iawn. Mae'r pryderon am y canlyniadau hynny, rwy'n credu, yn cael eu rhannu ar draws pob plaid wleidyddol ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn ddeddfwriaeth sy'n cael ei llywio'n ideolegol gan leiafrif bach yn San Steffan, ac rwy'n credu bod canlyniadau difrifol i holl Lywodraethau'r DU os yw'r Bil yn bwrw ymlaen ar ei ffurf bresennol.

Yn gyntaf, ni chawsom fawr o ymwneud ag ef, â chynnwys y Bil. Yn wir, fel yr adroddais i'r Senedd hon, rwy'n credu mai'r hysbysiad cyntaf a gawsom oedd galwad i gyfarfod ar ddydd Sadwrn gyda'r Gweinidog, Suella Braverman ar yr adeg benodol honno, ac ni chawsom lawer o wybodaeth am yr hyn a fyddai'n cael ei drafod. Gallaf ddweud fy mod wedi cael llu o gyfarfodydd ers hynny. Rwyf wedi cyfarfod ar sawl achlysur â'r Gweinidog Rees-Mogg; rydym wedi cael nifer o eitemau o ohebiaeth, gan gynnwys llythyr ar y cyd ar y dechrau oddi wrthyf fi ac oddi wrth Lywodraeth Yr Alban a amlygodd y pryderon difrifol ynglŷn â cheisio newid deddfwriaeth yn y ffordd hon. Nid pwynt gwleidyddiaeth plaid mo hwn; mae hyn yn ymwneud â chyfraith wael. Mae'n ffordd wael o newid cyfraith, ac mae'n rhoi pwerau dilyffethair i Lywodraeth y DU, gyda chanlyniadau difrifol iawn. Mae hefyd yn ffordd o osgoi'r Senedd, oherwydd nid yw'n rhoi pwerau i'r Senedd ei hun i graffu ar ddeddfwriaeth, i ddeall yr hyn y gall darnau pwysig o ddeddfwriaeth ei newid, ond yn hytrach mae'n rhoi'r pwerau hyn i gyd yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth y DU yn unig. Dylai hynny fod yn rhywbeth a ddylai boeni pawb sy'n ymwneud â democratiaeth seneddol.

Ar ben y llythyrau, cyfarfûm â Felicity Buchan, Gweinidog Llywodraeth y DU, ddoe i ailadrodd y pryderon hynny, a byddaf yn cadeirio cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yr wythnos nesaf lle bydd y mater hwn yn cael ei godi eto.

Dau bryder mawr sydd gennym, wrth gwrs, yw ei fod yn cynnwys pwerau cydamserol a fyddai'n galluogi Llywodraeth y DU i newid cyfraith Cymru heb gyfeirio at Lywodraeth Cymru o gwbl. Mae ganddo hefyd gymal machlud, lle mae holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir yn cael eu diddymu, ni waeth beth ydyw ac ni waeth pa graffu a wnaed, neu na wnaed arno, erbyn 31 Rhagfyr 2023. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi rhoi rhyw fath o docyn achub i'w hunain o fewn y Bil fel y gallant ei ymestyn, wedi iddynt sylweddoli beth fydd canlyniad yr hyn y maent yn ceisio ei wneud. Rydym wedi gofyn am yr un pwerau'n union ac yn anffodus nid ydym yn cael y rheini chwaith.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod pob pryder sydd gennym, sy'n cael eu rhannu gan yr Alban, sy'n cael eu rhannu gan lawer ar draws y pleidiau gwleidyddol yn Llywodraeth San Steffan rwy'n credu, ac sy'n cael eu rhannu gan fusnesau, a fydd yn ysgwyddo costau sylweddol o ganlyniad i'r Bil hwn os bydd yn cael ei dderbyn ar ei ffurf bresennol—. Ac nid oes ymatebion digonol wedi bod i'r pryderon a fynegwyd.

14:25
Ardoll Prentisiaethau

2. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru? OQ59002

Diolch. Mae Gweinidogion Cymru wedi dweud yn glir, ers iddo gael ei gyflwyno, nad yw Llywodraeth Cymru o blaid ardoll brentisiaethau'r DU. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector cyfreithiol i gyflwyno prentisiaethau a fydd yn cefnogi twf a datblygiad.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac yn wir mae cynnydd wedi bod, gan weithio gyda phartneriaid yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, gyda cholegau a darparwyr addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gymhwyster cyfnod sylfaen lefel 3 yn awr a chymhwyster uwch lefel 5 o'r cymhwyster proffesiynol CILEx newydd, y CPQ, ond mae llawer yn y proffesiwn, yn enwedig cyfreithwyr, a Chymdeithas y Cyfreithwyr yn eu plith, yn credu bod angen rhaglen brentisiaeth lefel 7 ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru hefyd. Mae gennym broblemau o hyd gyda'r ardoll brentisiaethau a'r ffaith ei bod yn cael ei chodi ar gwmnïau Cymreig, ond nid oes gennym gyfrifoldeb llawn i allu ei defnyddio yn y ffordd y byddem eisiau ei defnyddio yng Nghymru. Ond tybed: a wnaiff ymrwymo i weithio gyda'r sefydliadau partner hynny i ystyried sut y gellir bwrw ymlaen â hyn maes o law?

Diolch. Rydych wedi codi maes pwysig, lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried sut y gall gefnogi datblygiad y proffesiwn cyfreithiol, y rhai sy'n cael mynediad ato, ac, yn y pen draw, y rhai sy'n gallu darparu gwasanaethau cyfreithiol o fewn cymunedau. Y peth cyntaf i'w ddweud am yr ardoll brentisiaethau, wrth gwrs, yw ei bod yn dreth ar gyflogwyr, nid oeddem yn ei chefnogi, ac ychydig iawn o fudd ariannol a gawn o ganlyniad iddi.

I droi'n ôl at sylwedd eich cwestiwn, sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyfreithiol, fel y dywedwch, fis Medi diwethaf, fe wnaethom gyflwyno prentisiaethau paragyfreithiol, sy'n caniatáu i brentisiaid ennill cymwysterau Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, a dechreuodd y garfan gyntaf o'r rheini yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 2022. Fel y dywedwch, rydym wedi ei ymestyn i gynnwys cymwysterau lefel 3 a lefel 5, ac rydym yn edrych ar gymhwyster lefel 7; rydym yn edrych ar y mynediad at brentisiaethau cyfreithwyr hefyd. Mae hynny ychydig yn fwy cymhleth, oherwydd ei fod yn codi materion ynghylch yr hyn y mae llawer o gwmnïau eisoes yn ei wneud o ran cefnogi a thalu prentisiaid, a'r hyn rydym eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw sicrhau bod unrhyw beth y gallem ei wneud yn arwain at well mynediad i fwy o bobl, mynediad mwy amrywiol, a hefyd fod pobl yn gallu darparu gwasanaethau cyfreithiol mewn cymunedau, yn hytrach na dim ond disodli gwariant sydd eisoes yn digwydd. Yr hyn y gallaf ei ddweud, serch hynny, yw ein bod wedi cyhoeddi manyleb ar gyfer asesiad o'r angen am brentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru, a gaeodd i dendrau ddoe. Y nod yw sefydlu i ba raddau y gall gradd-brentisiaeth cyfreithiwr helpu i ddiwallu anghenion hyfforddiant a datblygiad y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil diwygio'r Senedd?

Wel, diolch am y cwestiwn. Mae Bil diwygio'r Senedd yn ddibynnol ar y polisïau sy'n cael eu pennu gan y Senedd hon, felly nid yw'n ddatblygiad polisi sy'n cael ei arwain gan y Llywodraeth. Mae cryn dipyn o waith polisi'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda golwg ar gynhyrchu deddfwriaeth. Byddaf yn gwneud datganiadau maes o law am y ddeddfwriaeth honno. Yr amcan, fel y gwyddoch, yw cyflawni argymhellion y pwyllgor arbennig a sefydlwyd. Rwy'n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiadau yn y dyfodol heb fod yn rhy bell ar gynnydd hynny, a hefyd ar ôl inni edrych ar y materion sy'n ymwneud â chynnwys y ddeddfwriaeth honno.

14:30

Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae un o elfennau allweddol y cynigion a'r cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd yn cynnwys gorfodaeth i sicrhau bod rhestrau 'am yn ail' o ymgeiswyr yn ôl rhywedd ar bapurau pleidleisio etholiadol, er mwyn hyrwyddo gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad dadleuol Llywodraeth y DU i atal Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) rhag dod yn Ddeddf a derbyn Cydsyniad Brenhinol, oherwydd yr amheuon mewn perthynas â materion cydraddoldeb, sydd hefyd yn berthnasol yma i'r Senedd. Yn sgil y datblygiadau i'r gogledd o'r ffin â Lloegr, a wnewch chi ddweud wrthym pa asesiad a wnaed o gymhwysedd y Senedd, o ran Llywodraeth Cymru, a chwotâu rhywedd a rhestrau 'am yn ail'? Ac a wnewch chi gadarnhau a oes gan y Senedd gymhwysedd yn y maes hwn yn eich barn chi?

Diolch. Ym gyntaf, byddwn yn gallu rhoi ymateb mwy pendant pan fyddwn wedi cyrraedd y cam o gael deddfwriaeth ddrafft o'n blaenau, inni allu edrych ar hynny. Ac fel y gwyddoch, un o'm rhwymedigaethau fel Cwnsler Cyffredinol—ac unwaith eto, yr un peth gyda'r Llywydd—yw edrych ar fater cymhwysedd. Ac eto, mae hwnnw'n fater sydd hefyd yn nwylo Llywodraeth y DU.

Rwy'n ymwybodol o'r dyheadau mewn perthynas â'r pwyllgor arbennig a'i argymhellion penodol. Rydym yn archwilio'r holl wahanol amrywiadau ac opsiynau ar gyfer ffyrdd o geisio cyflawni'r dyhead hwnnw. Carwn ailadrodd efallai yr ymrwymiad rwyf bob amser wedi'i roi i'r Senedd, mai fy rôl fel swyddog y gyfraith yn y pen draw, gyda chymhwysedd, yw rhoi asesiad priodol a theg a dilys o gymhwysedd. A byddaf yn ceisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth a ddaw ger bron y Senedd hon o fewn cymhwysedd y Senedd hon.

Ar y pwynt a wnewch ynglŷn ag adran 35, rwy'n meddwl bod mater—. Cyn belled â'n bod yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n mynd drwy broses seneddol briodol, ac sydd o fewn y cymhwysedd, nid wyf yn credu bod rôl i Lywodraeth y DU geisio gwyrdroi deddfwriaeth sydd wedi'i phennu'n briodol yn y lle hwn ac o fewn y cymhwysedd hwnnw. Os oes pryder gan Lywodraeth y DU ynghylch cymhwysedd, mae ffordd o ymdrin â hynny drwy ei gyfeirio at y Goruchaf Lys i'w benderfynu.

Wel, wrth gwrs, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu mewn perthynas â Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn dilyn yr hyn a osodwyd yn adran 35 o'r Ddeddf Seneddol. Felly, mae'n sicr o fewn y rheolau arferol, ac nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad.

Ond a gaf fi fynd yn ôl at fater gwell amrywiaeth yma yn y Senedd? Rydym i gyd yn cytuno ein bod eisiau Senedd amrywiol sy'n cynrychioli poblogaeth Cymru, fel y gallwn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n iawn ac yn briodol ac sy'n adlewyrchu'r dinasyddion a gynrychiolwn. Ond mae'n ymddangos yn glir, yn y cyngor a welais, nad oes gan y Senedd gymhwysedd i allu gweithredu'r rhestrau 'am yn ail' hyn. Ac o ystyried hynny, pam mae'r Llywodraeth yn gwastraffu amser ar y mater hwn hyd yn oed, o ystyried y gallai beryglu unrhyw un o'r cynlluniau i ddiwygio'r Senedd a allai fod gan bleidiau eraill ac y byddent yn awyddus i'w cyflawni?

Wel, nid wyf yn credu y bydd unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir ger bron y lle hwn yn gymwys os yw'n mynd y tu hwnt i'r cymhwysedd statudol sydd gennym mewn gwirionedd. Ac os mai fy nghadarnhad yw y byddaf yn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno yma o fewn y cymhwysedd, nid wyf yn credu y bydd y pryderon sydd gennych yn codi. Fy mwriad yw peidio â chyflwyno deddfwriaeth heb fod ganddi gymhwysedd; byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth sydd yno.

Mae mater cydraddoldeb yn faes cymhleth iawn, ac rwy'n credu ei bod bob amser yn gamgymeriad inni ddibynnu ar ddarnau unigol o gyngor a allai fod allan o'u cyd-destun, neu nad ydynt yn rhan o'r darlun cyfan, neu nad ydynt o reidrwydd yn ymwneud â'r gwahanol opsiynau y gellid eu hystyried. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac wrth gwrs, mae'r rheini'n feysydd rydym am edrych arnynt yn ofalus iawn. Mae'n faes cymhleth o'r gyfraith; gallaf eich sicrhau yr edrychir arno'n ofalus iawn, y bydd yr agweddau cyfreithiol yn cael eu dadansoddi'n briodol, ac y bydd yr hyn a gyflwynir gennym ger bron y Senedd hon o fewn y cymhwysedd.

14:35

Diolch, Lywydd. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i osod feto ar hynt Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn nodi isafbwynt yn y berthynas rhwng San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig. Dros y 13 mlynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi dangos ei diffyg parch amlwg tuag at ddatganoli ar sawl achlysur. Yn hytrach na gweithio'n adeiladol gyda'i phartneriaid datganoledig, mae wedi ymroi i gamau gweithredu unochrog dinistriol, megis Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, sy'n sathru ar gymwyseddau datganoledig.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi ei asesiad o ddefnydd diweddar Llywodraeth y DU o bŵer adran 35 o dan Ddeddf yr Alban 1998 i rwystro Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban), ac yn benodol, goblygiadau'r mesur hwn i'r setliad datganoli yn y DU? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fynd mor bell â mi a dweud bod y ffordd warthus y mae Llywodraeth y DU yn gwadu ewyllys ddemocrataidd Senedd yr Alban yn tanlinellu ymhellach pa mor gwbl gyfeiliornus yw'r syniad fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth gyfartal?

Diolch am y cwestiwn. Ac wrth gwrs, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig. Os caf ddweud yn gyntaf, ar fater cydnabod rhywedd, wrth gwrs mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn fater a gadwyd yn ôl, felly rydym mewn sefyllfa wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban ynddi? Rwy'n tybio bod y sylw a wnaed am adran 35 o Ddeddf yr Alban hefyd yn cyd-fynd ag adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, er nad yw'r cymalau'n union yr un fath i'r Alban a Chymru.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi derbyn, ac yn ystyried yn ofalus, y ddogfen saith tudalen sy'n nodi dadleuon Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i anghytundeb â'r Ddeddf cydnabod rhywedd a gafodd ei phasio yn yr Alban, a byddaf yn ystyried yn awr beth yw ymateb Llywodraeth yr Alban i hynny, a oes her, a yw hynny'n codi materion cyfansoddiadol sylweddol y byddem yn bryderus yn eu cylch. Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, bydd gennyf bwerau i ymyrryd mewn unrhyw faterion cyfansoddiadol cyfreithiol a allai godi o ganlyniad i hynny.

Mae'n debyg ei bod yn rhy fuan i ddweud unrhyw beth pellach na hynny gan fod cymaint o fanylion. Yr hyn a wnaf yw mynegi'r sylw penodol hwn ein bod, yn gyntaf, ar ôl 20 mlynedd o Sewel ar waith, wedi cael niferoedd cynyddol o enghreifftiau o normaleiddio diystyru Sewel gan Lywodraeth y DU, sydd nid yn unig wedi bod yn tanseilio'r setliad datganoli, ond rwy'n credu ei fod yn dechrau tanseilio'r peirianwaith rhynglywodraethol sydd newydd gael eu sefydlu'n ddiweddar. A dyma fater sy'n cael ei godi, y byddaf i yn ei godi, mewn cyfarfodydd priodol y byddaf yn eu cael.

Mae'n fater o'r pryder mwyaf difrifol, os oes gennych Lywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig sydd â deddfwriaeth, ei bod yn mynd drwy'r prosesau cywir, y craffu seneddol cywir, ac yna'n cael ei phasio, ac y gallai gael ei gwyrdroi ar sail unrhyw beth heblaw mater cyfansoddiadol o bwys sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan. Mae yna bryderon difrifol ynglŷn ag ai dyna'r sail dros sbarduno adran 35. Ond byddaf yn ystyried y cwestiynau sy'n codi yn ofalus iawn, yn ogystal â'r goblygiadau i'r materion cyfansoddiadol a allai fod yn berthnasol i Gymru. 

Diolch am yr ateb yna.

Er nad yw'r pwerau i ddeddfu ar gydnabod rhywedd ar gael i'r Senedd hon eto, mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi awydd i gyflwyno deddfwriaeth debyg i'r Bil diwygio cydnabod rhywedd yma yng Nghymru. Dywedodd yn y Siambr hon yn ddiweddar,

'byddwn yn ceisio'r pwerau. Os cawn ni'r pwerau hynny, byddwn ni'n eu rhoi nhw ar waith yma yng Nghymru, a byddwn ni'n rhoi cynigion ger bron Senedd Cymru'.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod yr uchelgeisiau hyn yn gynyddol groes i farn arweinyddiaeth Llafur y DU. Yn gynharach yn y mis, dywedodd Keir Starmer fod ganddo bryderon am y Bil arfaethedig, a mynegodd ei wrthwynebiad i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael y gallu i ddewis eu rhywedd. Ar ben hynny, dim ond 11 o ASau Llafur a bleidleisiodd yn erbyn y defnydd o bwerau adran 35 yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y gweddill ymatal. Gresyn fod Llafur y DU i'w gweld wedi penderfynu dilyn arweiniad y Torïaid ac ymroi i'r rhyfel diwylliannol hwn ar wleidyddiaeth.

A all y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau felly mai uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw ceisio'r pwerau angenrheidiol i ddeddfu ar system hunanddiffinio rhywedd ar hyd yr un llinellau â'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y Bil diwygio cydnabod rhywedd, gan gynnwys gostwng yr isafswm oedran i ymgeiswyr o 18 oed i 16 oed? Diolch yn fawr.

14:40

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, sef ein bod yn dymuno cael y pwerau hynny. Mae'n faes rydym am ddeddfu ynddo. Rwy'n siŵr y byddai angen ystyried y manylion ynglŷn â beth fyddai union gynnwys y ddeddfwriaeth honno. Yn yr un modd, byddai angen inni fynd drwy'r Senedd hon. A gaf fi ddweud hefyd, ar y pwyntiau a wnaethoch am Lywodraethau eraill, wrth gwrs fod yna bryderon, yn union fel roedd pryderon yn yr Alban? Yr hyn a oedd yn ddiddorol am y ddeddfwriaeth yn yr Alban oedd bod iddi gefnogaeth drawsbleidiol ac roedd iddi wrthwynebiad trawsbleidiol. Roedd rhai o fewn yr SNP yn ei gwrthwynebu. Roedd yna rai o fewn Plaid Lafur yr Alban a oedd yn cefnogi a rhai'n gwrthwynebu hefyd. Rwy'n credu mai dyna natur y ddeddfwriaeth benodol honno. Ond mae'r Prif Weinidog wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â'r cyfeiriad rydym eisiau mynd iddo. Rwy'n siŵr fod manylion hynny'n rhywbeth a fyddai'n cael ei ystyried os a phan gawn gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes.

Wythnos Pedwar Diwrnod

3. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i gallu i gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru? OQ58997

Diolch i'r Aelod. Er nad ydym wedi ymrwymo i gynllun peilot, rydym yn cydnabod manteision posibl wythnos waith fyrrach ochr yn ochr â mathau eraill o weithio hyblyg. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cymdeithasol i annog arferion gweithio blaengar. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd a gadeirir gennyf. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan fwyafrif o'r pwyllgor, ac fe wnaeth argymell treialu wythnos pedwar diwrnod o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y peilot yn adeiladu ar dystiolaeth treialon y sector preifat sydd eisoes wedi dangos cynnydd mewn cynhyrchiant a'r manteision i weithiwr. Gwnsler Cyffredinol, mae'n siŵr fod hwn yn gynnig beiddgar, ond mae'n un a allai fod yn heriol. Ond nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn heriol yn golygu na ddylem ei wneud. Ar draws y byd, mae treialon wythnos pedwar diwrnod wedi dangos llwyddiant o ran cynyddu cynhyrchiant a gwella iechyd meddwl a chorfforol gweithwyr a'u helpu i uwchsgilio hefyd. A gaf fi ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ymrwymo i edrych ymhellach ar y mater hwn, a thrafod gyda'ch cyd-Weinidogion Llywodraeth Cymru, a dod yn ôl i'r Senedd hon gydag adroddiad llawnach ar y pwerau sydd gennym i gymryd y cam beiddgar hwn ymlaen?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi hyn? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y syniadau hyn yn cael eu codi yn y Siambr ac mae cwestiynau'n ffordd briodol o wneud hynny mewn gwirionedd. Mae'n fy atgoffa, pan ddaeth yr argymhelliad y gallem symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn bwnc llosg yn sydyn iawn—rwy'n credu ei fod yn bwnc llosg mae'n debyg pan symudwyd o wythnos waith saith diwrnod i wythnos waith chwe diwrnod, pan symudwyd o chwe diwrnod i bum diwrnod, ac ati. Mae'n debygol ei fod yn bwnc llosg pan fuom yn sôn am atal plant rhag gorfod gweithio yn y pyllau glo ac yn y blaen.

Yr hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo yw effeithlonrwydd economaidd, cynhyrchiant economaidd, ond hefyd llesiant cymdeithas, llesiant y bobl sy'n gweithio yn y gymdeithas, a sut y gall gweithio hyblyg a gwahanol fathau o weithio fod yn fwy cynhyrchiol mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl mai dyna pam mae cymaint o gynlluniau peilot wedi bod. Rwy'n edrych ar hyn o bryd—. Rwy'n gwybod, ar draws y Llywodraeth, ein bod yn â diddordeb mawr yn y dystiolaeth ynghylch yr wythnos waith fyrrach. Nid oes gennym gymhwysedd deddfwriaethol mewn deddfwriaeth cyflogaeth, ond mae yna lawer o feysydd y gallwn ddylanwadu arnynt. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wrth gwrs, mae gennym y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn dod drwodd hefyd, sy'n ceisio dylanwadu ar lesiant a chyflogaeth foesegol a materion o'r fath.

Ond fe gafwyd treialon. Rwy'n edrych ar rywfaint o'r ymchwil mewn perthynas â hyn. Mae'r Alban yn edrych ar hyn yn fanwl ar hyn o bryd. Mae'n fater sy'n ennyn diddordeb, rwy'n credu. Mae Gogledd America wedi cael treialon. Mae Gwlad yr Iâ wedi cael treialon. Mae Sbaen yn cynnal cynllun peilot. Mae Awstralia yn edrych ar gynllun peilot. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth anarferol. Mae llywodraethau blaengar a modern ledled y byd yn edrych ar ffyrdd o weithio'n well, gwell i'r bobl sy'n gweithio, ond yn yr un modd, gwell i'r economïau hefyd. Cafodd cynllun peilot Sbaen ei lansio yn 2022, ac mae disgwyl iddo fod yn weithredol am ddwy flynedd. Felly, dyma rywbeth lle mae'n rhaid inni gadw meddwl agored. Mae'n rhaid inni fod eisiau newid lle bydd newid yn gwella amodau gwaith pobl, ac mae'n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth o'r cynlluniau peilot sy'n cael eu cynhyrchu. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y bydd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddo.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n falch fod y cwestiwn hwn wedi'i godi heddiw, a diolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am ei ofyn, gan ei fod yn enghraifft berffaith o ragrith llwyr yn y Blaid Lafur Gymreig. Mewn un anadl, maent yn cefnogi tâl-feistri'r undebau sy'n dal i fod yn benderfynol o ddifa'r wlad, gyda streic ar ôl streic ar ôl streic, ond gyda'r anadl nesaf, maent yn gofyn i bobl weithio llai o ddyddiau a gostwng chynhyrchiant a chyflogau. Mae fy etholwyr sy'n gweithio yn sir y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy yn wynebu morgeisi cynyddol, biliau ynni uwch, prisiau uchel am bob dim, ac maent  am weithio goramser, gweithio awr neu ddwy ychwanegol, i gadw'r blaidd o'r drws, ac mae'r Aelodau lleol am iddynt weithio llai a lleihau eu rhagolygon. Mae'n anghredadwy. Felly, pryd y gwelwn Blaid Lafur a Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn cefnogi gweithwyr gogledd-ddwyrain Cymru ac yn cefnogi pobl sydd eisiau camu ymlaen mewn bywyd, yn hytrach na'u dal yn ôl?

Wel, pe bai'r Aelod wedi bod o gwmpas ar yr adeg honno, rwy'n siŵr y byddech wedi bod yn gwneud yn union yr un araith pan aethom o wythnos waith saith diwrnod i wythnos waith chwe diwrnod, ac rwy'n tybio eich bod yn dal yn ddig nad ydym yn anfon plant o dan 12 oed i lawr y pyllau glo. O, fe anghofiais—fe wnaethoch chi gau'r rhan fwyaf o'r pyllau glo, felly mae'n debyg fod hynny wedi cael gwared ar y broblem honno.

Rwy'n siŵr hefyd eich bod yn dal i gefnogi safbwynt y Blaid Geidwadol pan wrthwynebodd yr isafswm cyflog a'r holl bethau a ddywedwyd am yr isafswm cyflog ar y pryd. Felly, gwrandewch, rwy'n clywed beth a ddywedwch. Mae arnaf ofn eich bod chi'n dal i fyw yn Oes Fictoria. Rydym bellach yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain ac rydym eisiau gofalu am y bobl sy'n gweithio am eu bywoliaeth, ac rydym eisiau cael economi dda ac effeithlon a chynhyrchiol.

Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 y DU

4. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU yn gallu manteisio ar arbenigedd y sector cyfreithiol yng Nghymru? OQ58987

Mater i gadeirydd yr ymchwiliad yw penodi arbenigedd cyfreithiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r ymchwiliad, a bu'n rhagweithiol wrth fynd ati i wneud yr ymchwiliad yn ymwybodol o drefniadau cyfansoddiadol a chyfreithiol Cymru fel bod modd asesu lefelau o arbenigedd.

Os caf dynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant. O'r 12 Cwnsler y Brenin, a'r 50 bargyfreithiwr iau a benodwyd i ymchwiliad COVID y DU, nid oes yr un ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru. Nid dyna'r sefyllfa yn yr Alban na Gogledd Iwerddon wrth gwrs. Ni fyddent byth yn goddef hynny, na fyddent, Gwnsler Cyffredinol? Mae'n ymddangos mai Cymru, unwaith eto, yw'r genedl a anghofiwyd—dadl gref arall dros ymchwiliad COVID i Gymru. Pa gamau a gymerwyd gennych i unioni'r sefyllfa a sicrhau bod ymchwiliad y DU yn adlewyrchu'r system ddatganoledig yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau a wnewch am y proffesiwn cyfreithiol Cymreig yn rhai pwysig yn fy marn i. Nododd tîm ymchwiliad y DU ei fwriad i geisio cymorth staff a chymorth cyfreithiol o bob rhan o'r DU, gyda thîm ymchwiliad Llywodraeth Cymru yn argymell iddynt y dylid gofyn am gyngor o gylchdaith Cymru a Chaer y bar. Mae'n wir, wrth gwrs, o ran y gynrychiolaeth gyfreithiol sy'n cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru, fod mewnbwn sylweddol gan y bar yng Nghymru, ac yn amlwg fe wnaf bopeth a allaf, ym mhob agwedd ar fy ngwaith, i hyrwyddo manteision defnyddio'r proffesiwn cyfreithiol Cymreig lle bo hynny'n briodol, a materion a allai godi wrth gwrs. Yn yr un modd, un mater y mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso amdano yw'r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn nhrefniadau'r ymchwiliad, a'r cadarnhad y bydd yn digwydd.

O ran yr ymchwiliad ei hun, i mi, yr hyn sy'n hollbwysig, yw beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y cwestiynau sydd gan gymdeithas yn gyffredinol, y cwestiynau y mae teuluoedd mewn profedigaeth oherwydd  COVID am gael ateb priodol iddynt. Beth yw'r mecanwaith cywir ar gyfer sicrhau bod yna bwerau i sicrhau bod tystiolaeth ar gael, fod y tystion ar gael, fod popeth sy'n angenrheidiol er mwyn ateb y cwestiynau hynny'n cael ei wneud? Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r safbwynt sydd ganddi. Ond gallaf gadarnhau unwaith eto, ac ailadrodd wrth gwrs y bydd yna gyfreithwyr Cymreig yn rhan o gynrychiolaeth Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad COVID.

14:50
Bil Trefn Gyhoeddus

5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59004

Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus yn effeithio ar hawl hanfodol pobl yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac y gallant fynegi eu pryderon yn ddirwystr. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU fod yn rhaid clywed barn Cymru ynghylch pwysigrwydd yr hawl i brotestio.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol, fel finnau, wedi bod mewn sawl protest o wahanol fathau dros y blynyddoedd. Ac mewn gwirionedd, dros y degawdau, ac yn wir dros genedlaethau a chanrifoedd yng Nghymru, gwelwyd traddodiad brwd o brotestio cyhoeddus, ac mae'n iawn mai felly y bu. O'r protestwyr cynharaf yng Nghomin Greenham a ddaeth o Gymru, gan gynnwys fy niweddar gyfaill a'm beirniad dibynadwy, Eunice Stallard o Ystalyfera, i Ann Clwyd AS yn ymuno â Tyrone O'Sullivan a glowyr mewn protest danddaearol ym mhwll glo'r Tower, protestwyr Trawsfynydd, ymgyrchwyr dros y Gymraeg, protestwyr gwrth-hiliaeth, protestwyr amgylcheddol yn fwy diweddar hefyd, mae'r ymgyrchoedd hyn bob amser wedi arwain at ddadlau tanbaid, ac maent yn aml wedi peri anghyfleustra mawr i bobl. Yn wir, Ddirprwy Lywydd, bydd llawer ohonom yn cofio'r protestiadau petrol drwy yrru'n araf a chodi rhwystrau ar y ffyrdd dan arweiniad ffermwr o ogledd Cymru—cadeirydd cangen sir y Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru, aelod o gyngor y Sioe Frenhinol, Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig, a ddaeth wedyn yn Aelod Cynulliad yma—y diweddar Brynle Jones. Roedd hefyd yn rhan o brotest a waredodd 40 tunnell o gig i'r môr oddi ar Gaergybi, yn ei fersiwn ef o De Parti Boston. Felly, beth mae'n ei feddwl, beth mae'r Gweinidog yn ei feddwl y byddai Brynle Jones, Eunice Stallard, Tyrone O'Sullivan neu'r protestwyr dros y Gymraeg neu sawl un arall yn ei feddwl o'r pwerau ysgubol y mae Llywodraeth y DU bellach yn eu cymryd iddynt eu hunain i rwystro protestio cyhoeddus? Ac a bod yn onest, a oes ei angen hyd yn oed, pan fo'r pwerau sydd ganddynt eisoes mor eang?

Cyn i chi ateb, Gwnsler Cyffredinol, ar gyfer y cofnod, ei enw oedd Brynle Williams. 

Rwy'n cofio Brynle Williams yn dda.

Mae'n gwestiwn pwysig iawn, ac yn un sy'n codi mor aml ar eitemau o ddeddfwriaeth. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus yn parhau ag ymagwedd anflaengar Llywodraeth y DU tuag at yr hawl i brotestio a mynegiant rhydd. Mae'n ymosodiad arall ar hawliau democrataidd pobl ar draws Cymru. Byddai'r diwygiadau diweddaraf i'r Bil yn caniatáu i'r heddlu gyfyngu ar brotestiadau hyd yn oed cyn iddynt ddod yn aflonyddgar, gan wneud y Bil yn fwy anflaengar ac awdurdodol. Mae'n fy atgoffa o'r ffilm honno. A ydych chi'n cofio'r ffilm gyda—? Ni allaf gofio pwy, ond roeddent yn arestio pobl am y gallent weld i'r dyfodol ac fe fyddent yn darganfod ac yn atal troseddau drwy arestio pobl o flaen llaw. Wel, dyma'r un pŵer, bron yn union, lle byddai gan yr heddlu bŵer i arestio pobl nad ydynt wedi cyflawni unrhyw drosedd mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn credu y gallai trosedd gael ei chyflawni, ni waeth beth fo'r dystiolaeth, pŵer sydd bron yn fympwyol. 

Mae'r Bil yn dilyn Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022, a oedd unwaith eto'n cyfyngu ar hawliau dinesig ac unwaith eto, fe wnaethom wrthod cydsyniad deddfwriaethol i honno, ond cafodd ein gwrthwynebiad ei ddiystyru gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid inni weld beth sy'n digwydd, rwy'n meddwl, o fewn cyfres o ddarnau anflaengar o ddeddfwriaeth sydd, fesul tipyn, yn erydu rhyddid a hawliau sylfaenol. Gallwn siarad am y Ddeddf Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, mae gennym y Bil hawliau'n cael ei atgyfodi eto, Bil sy'n ceisio dileu hawliau dinasyddion i arfer eu hawliau dynol yn llysoedd y DU. Mae gennym y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf), sy'n rhoi pwerau mympwyol i Ysgrifennydd Gwladol heb unrhyw gyfeirio at dystiolaeth nac unrhyw barti arall. Felly, yn y bôn, dyma ddeddfwriaeth sy'n creu math mwy a mwy awdurdodol o lywodraeth. Yn amlwg, bydd mwy o ystyriaeth i hyn mewn perthynas â chydsyniad deddfwriaethol, oherwydd credaf ei fod yn effeithio ar ein sefyllfa yma. Bydd rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar hynny ac ar ddiwygiadau i hynny. Ond mae yna rybudd ac mae cyfrifoldeb ar swyddogion y gyfraith ac ar seneddau i barhau'n effro i ryddid eu dinasyddion. Mae'n rhaid imi ddweud bod y ddeddfwriaeth hon, ddydd ar ôl dydd, yn dwyn rhyddid a hawliau oddi wrth ddinasyddion Cymru. 

14:55
Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ58999

Mae'r Bil hwn yn ddiangen ac mae'n annoeth. Mae'n torri ar draws datganoli ac yn ceisio tanseilio ein dull o weithredu mewn partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. 

Unwaith eto, Gwnsler Cyffredinol, enghraifft arall o ddeddfwriaeth ymosodol gan Dorïaid y DU, un sy'n ceisio creu rhaniadau rhwng gweithwyr. Mae'n ceisio gwneud iawn am 12 mlynedd o fethiant y Torïaid drwy feio gweithwyr allweddol. Hwy yw'r union weithwyr y gwnaethant glapio iddynt yn ystod y pandemig. Gwnsler Cyffredinol, mae'r hawl i streicio'n hawl sylfaenol, a dylai arweinwyr ar draws y Deyrnas Unedig bob amser geisio trafod, nid bygwth gweithwyr allweddol drwy gael gwared ar eu hawliau. Yr wythnos nesaf, byddaf yn sefyll mewn undod â TUC Cymru yn eu rali genedlaethol i amddiffyn rhyddid gweithwyr. Mae hwn yn fater hynod bwysig i weithwyr a'u teuluoedd ledled Cymru. Wrth i'r ddeddfwriaeth ymosodol hon wneud ei ffordd drwy Dŷ'r Cyffredin, a wnewch chi ddod yn ôl i'r Siambr hon a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ar y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru ei heffaith yng Nghymru? 

Diolch, unwaith eto, am godi mater hawliau sifil sy'n anhygoel o bwysig a rhywbeth sydd hefyd yn effeithio ar ddatganoli. Mae'n werth dweud, onid yw, pan gododd y mater hwn gyntaf ynghylch lefelau gwasanaeth lleiaf, ei fod yn ymwneud â thrafnidiaeth, ac wrth gwrs roedd yn Fil a gyflwynwyd, rwy'n meddwl, ym mis Tachwedd y llynedd. Yn y Bil hwnnw, roedd yn ddiddorol o leiaf, er mor ddiangen, fod y Bil yn cynnwys gofyniad i geisio cytundeb gwirfoddol gydag undebau llafur dros lefelau gwasanaeth lleiaf ac roedd yn darparu mecanwaith ar gyfer cyflafareddu lle na ellid cyflawni hynny. Nid yn unig y mae'r Bil hwn bellach wedi'i ymestyn i gynnwys ystod gyflawn bron o wasanaethau cyhoeddus, mae'r gofynion i geisio cytundeb gyda'r undebau llafur wedi'u tynnu allan ohono. Tynnwyd y system gyflafareddu allan ohono hefyd wrth gwrs. Felly, beth mae'n ei wneud? Mewn gwirionedd mae'n creu pŵer cwbl fympwyol, pŵer Harri VIII o'r radd waethaf, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Felly fe allech gael Ysgrifennydd Gwladol yn eistedd yn ei swyddfa yn Llundain, er enghraifft, yn penderfynu beth fyddai'r lefelau gwasanaeth lleiaf a fyddai'n briodol ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yn ne Morgannwg. Mae'n nonsens llwyr ac mae'n afresymol. Rwy'n meddwl bod iddo nifer o oblygiadau eraill hefyd. Rwy'n credu ei fod yn herio confensiynau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar ryddid i ymgysylltu yn sylweddol. Rwy'n credu y gallai'n hawdd gystadlu â'r cytundeb masnach a chydweithredu sy'n ei gwneud yn ofynnol inni gydymffurfio â chytundebau rhyngwladol, neu ei danseilio, ac rwy'n credu y gallai fod materion hawliau dynol sylweddol yn codi ohono hyd yn oed.

Dyma ddeddfwriaeth nad oes mo'i hangen. Nid oes angen y ddeddfwriaeth hon arnom yng Nghymru ac fel y dywedais yr wythnos diwethaf—mewn ymateb i'ch cwestiwn brys chi ar y mater hwn rwy'n credu—mae undebau llafur bob amser wedi sefydlu lefelau gwasanaeth lleiaf. Gwelsom hynny ar hyd a lled Cymru ac fe'i gwelsom ar hyd a lled y DU. Dyma ddeddfwriaeth sy'n ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi ar yr achos a gyflwynir gan yr undebau llafur ynghylch tâl a thelerau ac amodau'r sector cyhoeddus, ac mae'n ymgais i geisio pardduo gweithwyr yn ein sector cyhoeddus. Mae'n dro pedol llwyr o'r ymrwymiadau a roddodd y Llywodraeth hon y byddem, ar ôl COVID, yn gofalu am ein gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon yn llwyr ac ni fyddwn yn argymell cydsyniad i'r ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn ceisio pob dull cyfreithlon sydd gennym i'w gwrthwynebu hi a'i gweithrediad.

Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ58986

Rwy'n credu efallai fod yr Aelod wedi clywed rhai o'r sylwadau a wneuthum yn awr.

Rwy'n hapus i fynd yn syth at gwestiwn atodol yr Aelod.

Diolch yn fawr. Nid wyf yn hollol siŵr pam na chafodd y rheini eu grwpio gyda'i gilydd. Wrth gwrs, mae'r Bil hwn yn ymestyn i Gymru ac fel yr awgrymwyd gennych, yn rhoi pwerau ysgubol i'r Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall. Trafodwyd diogelwch yn helaeth yn y Bil blaenorol; wel, mae diogelwch wedi'i ddileu'n llwyr. Mae diogelwch y cyhoedd wedi'i dynnu allan o'r Bil hwn yn gyfan gwbl. Fe allai Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall atal streic oherwydd yr effaith y mae'n ei chael ar yr awr frys yng Nghaerdydd, neu fe allai atal streic oherwydd y posibilrwydd y gallai arwain at ganslo apwyntiadau ysbyty neu y gallai arwain at darfu ar ddosbarthiadau. Yn y bôn, i bob pwrpas, gallai Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall atal pob streic yma yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y meini prawf ar gyfer lefelau gwasanaeth lleiaf yn dal i ganiatáu i streicio effeithiol ddigwydd yng Nghymru? Diolch yn fawr.

15:00

Diolch eto am y cwestiwn. Mae sylwadau eisoes wedi'u cyflwyno. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod i—a'r Prif Weinidog yn wir—wedi ein cofnodi'n defnyddio cywair tebyg. Bydd yn cael ei godi mewn cyfarfodydd a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Ond wrth gwrs, o ran Llywodraeth y DU, mae'n rhaid imi ddweud, ar y Bil hwn, na chawsom unrhyw ymgysylltiad. Ni chafwyd unrhyw ymgynghoriad, nac unrhyw ymgysylltiad o gwbl â Llywodraeth Cymru ar hyn.

Mae'n werth dweud hefyd, ar y pwynt a godwyd gennych ynghylch diogelwch, nad oes asesiad effaith ar gyfer y Bil hwn eto. Roedd asesiad effaith ar yr un gwreiddiol, y Bil lefelau gwasanaeth lleiaf ar gyfer trafnidiaeth, ond wrth gwrs, mae'n siŵr nad oeddent am fynd ar drywydd asesiad effaith y tro hwn, oherwydd, yn y bôn, dywedodd yr asesiad effaith diwethaf mai'r canlyniad tebygol fyddai cynnydd mewn mathau o weithredu diwydiannol ar wahân i streicio. Felly, rydym yn aros i weld beth allai ymddangos bryd hynny a beth allai ddigwydd i'r Bil hwn, ac os yw'n mynd rhagddo, beth all ddigwydd wedyn gydag unrhyw heriau cyfreithiol posibl. Eto, yr hyn y gallaf ei ddweud yw y byddaf yn sicrhau, os oes buddiannau cyfreithiol dilys gennym, a phwerau sydd gennyf fel Cwnsler Cyffredinol i ymyrryd, fod hynny'n rhywbeth y byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn iddo.

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar weithredu'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)? OQ58984

Diolch am y cwestiwn. Ar ôl Cydsyniad Brenhinol, bydd darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu cychwyn fesul cam, gyda'r cynhyrchion cyntaf yn cael eu gwahardd yn yr hydref o bosibl. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan y Bil i sicrhau bod y gwaharddiadau'n cael eu gweithredu'n llwyddiannus.

Diolch. Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Bil at bwyllgor cyfrifol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Busnes, un o'r rhesymau pam y gwnaethoch ofyn am amserlen gyflymach ar gyfer gwaith craffu'r Senedd oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'oherwydd ei fwriad i ddefnyddio'r Bil fel enghraifft ymarferol i gefnogi ei achos mewn perthynas â Deddf marchnad fewnol y DU yn y Goruchaf Lys.' Wedi i Lywodraeth Cymru lwyddo i gwtogi ein proses graffu ddemocrataidd a phasio'r Bil, fe wnaethoch gynghori'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 16 Ionawr eich bod wedi dewis peidio â defnyddio'r ddeddfwriaeth i herio Deddf y farchnad fewnol. Credaf fod eich Llywodraeth Cymru wedi bod yn fyrbwyll gyda phwerau'r Senedd hon yng Nghymru er mwyn defnyddio'r broses ddeddfwriaethol hon er budd eich agenda gyfreithiol eich hun. A wnewch chi ymddiheuro yn awr am weithredoedd eich Llywodraeth yng Nghymru a gwneud ymrwymiad cyhoeddus eich bod yn cydnabod mai'r rheswm dros herio unrhyw ddeddf yw i gyflawni amcan y ddeddfwriaeth ac nid fel arf mewn rhyw frwydr gyfreithiol wedi'i chymell yn wleidyddol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw a oedd wedi'i gymell yn gwleidyddol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: rwy'n credu efallai ei bod wedi camddeall beth sydd wedi digwydd gyda'r broses. Y rheswm yw ein bod wedi dechrau proses adolygiad barnwrol i ddechrau, a bod yr adolygiad barnwrol wedi mynd i'r Llys Apêl, ac yn y bôn, fe ddywedodd y Llys Apêl na fyddai'n ei ystyried oni bai bod Bil penodol ger ei fron, ac ati. Fe wnaethom geisio apelio wedyn i'r Goruchaf Lys ar y materion hynny, ond hefyd, roedd angen paratoi Bil, cael Bil a fyddai yno.

Mae dau gymhelliad i gyflymu'r Bil. Un yw'r un a gyflwynwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, sef bod angen iddynt gael y Bil hwn ar waith cyn gynted â phosibl, a'i bod yn hanfodol ei fod yn ei le. Fy ystyriaeth i, mewn gwirionedd, fel swyddog y gyfraith, yw i ba raddau y byddai'r Bil hwnnw'n berthnasol, i allu cyrraedd yno mewn pryd, a bod yn briodol o ran unrhyw gyfeiriad penodol at y llys. Yr hyn a newidiodd ers hynny, wrth gwrs, yw bod y Goruchaf Lys wedi gwrthod caniatâd i apelio. Felly, mae'r ddeddfwriaeth wedi ei phasio ac wrth gwrs, yr hyn sy'n codi wedyn yw'r mater cyfansoddiadol o atgyfeiriad ar gymhwysedd i'r Goruchaf Lys. Mae hwnnw'n bŵer sydd gennyf fi, ac mae hefyd yn bŵer sydd gan y Twrnai Cyffredinol yn benodol. Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi dewis peidio â'i atgyfeirio. Rwy'n ystyried hynny'n fuddugoliaeth. Rwy'n ystyried hynny'n fuddugoliaeth oherwydd bod y Twrnai Cyffredinol yn derbyn ein dadleuon o ran ein dehongliad cyfansoddiadol o'r sefyllfa gyfreithiol. Rwy'n barod i gefnogi'r Twrnai Cyffredinol gyda'r safbwynt hwnnw, a dyna pam y dewisais beidio ag atgyfeirio hyn at y Goruchaf Lys. Felly, gallwn dderbyn mai'r safbwynt yn awr yw bod Llywodraeth y DU yn derbyn dadansoddiad cyfreithiol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth. Os yw'r mater yn codi eto, gallai godi mewn amgylchiadau eraill, ond roeddwn yn teimlo ei bod yn briodol, pan wrthododd Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU ei atgyfeirio at y Goruchaf Lys, y gallwn ddibynnu ar hynny fel rhywbeth sy'n gosod cynsail o ran ein dehongliad o'n sefyllfa gyfansoddiadol. 

15:05
Pwerau Cyfreithiol

9. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a oes ganddi'r pwerau cyfreithiol i gynnal neu gomisiynu ymchwiliad i sut mae honiadau yn erbyn swyddogion o fewn lluoedd heddlu Cymru'n cael eu trin? OQ58995

Diolch am y cwestiwn. Mae ymddygiad yr heddlu yn fater rydym o ddifrif yn ei gylch. Ond ar hyn o bryd, mae plismona wedi'i gadw'n ôl gan Lywodraeth y DU ac felly, nid rôl Llywodraeth Cymru yw cynnal nac arwain ymchwiliad ar ymarfer plismona.  

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd The Sunday Times adroddiad a ddaeth i'r casgliad fod tystiolaeth o gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a llygredd wedi ei ganfod yn Heddlu Gwent, gan gynnwys ymhlith swyddogion a oedd yn gwasanaethu ar y pryd. Ar wahân i hyn, wrth gwrs, mae ymchwiliad wedi'i sefydlu i ymchwilio i bryderon am ddiwylliant a diogelwch menywod o fewn yr Heddlu Metropolitan. Rwy'n gwybod bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn ymchwilio i Heddlu Gwent, er bod Ffederasiwn yr Heddlu wedi cyfaddef fod y broses yn debygol o fod yn erchyll o araf. Byddwn yn gwerthfawrogi eich barn ynglŷn ag a ddylem fabwysiadu ymagwedd ataliol yma, yn hytrach nag aros i rywbeth ofnadwy ddigwydd cyn gweithredu. Rwy'n derbyn yr hyn rydych newydd ei ddweud, Gwnsler Cyffredinol, ond yn ôl y BBC, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddai'n ystyried ymchwiliad cenedlaethol i'r honiadau. A gaf fi ofyn i chi am eich barn bersonol efallai ynglŷn ag a ddylai hyn ddigwydd? A wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU naill ai i wneud hyn neu i ddatganoli'r pŵer hwn fel y gallem ei wneud ein hunain?

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw, er nad yw plismona wedi'i ddatganoli, mae yna berthynas agos. Rydym yn cyfarfod â'r comisiynwyr heddlu a throseddu a etholwyd yn ddemocrataidd. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod yn rheolaidd iawn i drafod ystod gyfan o'r materion hynny: y cynllun gweithredu gwrth-hiliol, materion yn ymwneud ag amrywiaeth, yr holl faterion y mae plismona'n rhyngweithio ag amrywiol gyfrifoldebau llywodraethol datganoledig. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod eisiau i blismona gael ei ddatganoli, oherwydd ei fod yn rhesymegol, mae'n gwneud synnwyr i'w wneud, ac mae pob comisiynydd heddlu a throseddu etholedig yn cytuno y dylai ddigwydd. Rwy'n credu un diwrnod y bydd yn digwydd.

Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw, mewn ymateb i'r digwyddiadau hynny, fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod â Heddlu Gwent a'r comisiynydd troseddu, Jeff Cuthbert, a'r prif gwnstabl Pam Kelly ar 14 Tachwedd, ac eto ar 23 Tachwedd, i drafod y mater. Hefyd, cyfarfu'r Prif Weinidog â'r comisiynydd heddlu a throseddu Jeff Cuthbert a'r prif gwnstabl Pam Kelly ar 20 Rhagfyr. Deallaf fod Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol wedi cael sawl sesiwn briffio gan Heddlu Gwent ar y mater hwn, ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd wedi cadarnhau bod ganddo hyder yn arweinyddiaeth y prif gwnstabl. Rwy'n credu bod hwn yn amlwg yn fater lle mae'n rhaid inni aros i weld nawr pa gamau pellach sy'n cael eu cymryd. Mae'n amlwg yn fater o ddiddordeb inni, ond rwyf am ddweud ein bod wedi ein cyfyngu yn y pethau penodol y gallwn eu gwneud am nad yw plismona wedi'i ddatganoli.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Daeth yr ymchwiliad gan y Coleg Plismona, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, i'r casgliad fod diffygion systematig yn y ffordd y mae rhai heddluoedd yn Lloegr, ac yng Nghymru hefyd, yn ymdrin â honiadau o droseddau rhyw a cham-drin domestig yn erbyn eu swyddogion a'u staff eu hunain. Mae'r ffigyrau a gasglwyd y llynedd yn dangos bod wyth o bob 10 swyddog wedi cadw eu swyddi wedi cyhuddiad o gam-drin domestig. Fe wnaeth bron i 2,000 o swyddogion wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol mewn cyfnod o bedair blynedd; dim ond 8 y cant o'r rheini a gafodd eu diswyddo. Mae'r gyfradd euogfarnau i weithwyr heddluoedd a gyhuddwyd o gam-drin domestig yn hanner yr hyn ydyw i'r boblogaeth gyffredinol. Mae hyn i gyd yn sail i broblem ddifrifol. Y cwestiwn yma, Gwnsler Cyffredinol, yw beth sy'n cael ei wneud yn ei gylch? Rwy'n gwybod nad yw wedi'i ddatganoli, ond yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yma yw'r gwaith o ymdrin â'r bobl sydd mewn gofid mawr ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd a hefyd dioddefwyr y troseddau hynny. 

15:10

Rydych yn gwneud sylwadau pwysig iawn a dilys iawn am annigonolrwydd y system bresennol, sydd wedi'i amlygu dro ar ôl tro. Rwy'n credu ei fod wedi dod i benllanw yn awr, lle ceir methiannau difrifol ar draws heddluoedd i gyrraedd y safon ac i fonitro ac yn y blaen yn yr holl faterion hynny a godwyd gennych. Rwy'n credu mai'r cyfan y maent yn ei wneud yw atgyfnerthu'r farn sydd gennym fod datganoli plismona yn gam rhesymegol a ddylai ddigwydd, oherwydd ei fod yn cyd-daro ag ystod eang o bolisïau rydym yn ymwneud â hwy ac y mae'r heddlu ar lawr gwlad yn ymwneud â hwy, boed yn gam-drin domestig, yn gam-drin rhywiol, yn ymosodiadau neu'n drais yn y cartref.

Mae'r holl fathau hynny o bethau a llawer o faterion cymdeithasol eraill yn rhan annatod o'r amrywiaeth eang o agweddau ar blismona a'r mathau o wasanaethau a chyfrifoldebau sydd gennym. Rydym yn parhau i weithio a byddwn yn parhau i weithredu gymaint ag y gallwn mewn partneriaeth â'r holl gyrff hynny a'r holl asiantaethau hynny, ond o fewn fframwaith yr hyn y gadewir inni ei wneud, ac wrth gwrs, mae cyfyngiadau i hynny. Ond rwy'n diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn; nid oes gennyf amheuaeth y bydd yn parhau i'w codi, a hynny'n gwbl gyfiawn.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y rhain yn cael eu hateb gan y Llywydd. Yn gyntaf, Delyth Jewell.

Streic gan Staff y Comisiwn

1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau sydd wedi arwain at staff y Comisiwn yn cyhoeddi streic ar 1 Chwefror? OQ59009

Nid yw'r Comisiwn yn rhan o unrhyw drafodaethau ffurfiol gydag undebau llafur sy'n cynrychioli staff y Comisiwn ar hyn o bryd. Mae trefniadau cyflog presennol y Comisiwn ar waith tan fis Mawrth 2025, ac mae'r Comisiwn yn mwynhau partneriaeth gadarnhaol gyda'n swyddogion undebau lleol. Mae cynrychiolwyr Prydeinig PCS wedi cadarnhau bod anghydfod ffurfiol, fodd bynnag. Cynhelir y streic ar 1 Chwefror yn sgil anghydfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfres o egwyddorion ehangach—ar godiad cyflog, cyfiawnder pensiynau, sicrwydd swyddi a dim toriadau o ran telerau diswyddo. Fel Comisiwn, rydym yn parchu hawl aelodau'r undeb llafur i streicio.

Diolch am hynny. Mae'n swnio, felly, taw'r rhesymau ar gyfer y streic yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, yn lle unrhyw ddisbíwt sydd rhwng y Comisiwn a'r staff yma. Mae hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru, efallai, pan ydyn ni'n dod i weithwyr yn y sector cyhoeddus, lle mae yna benderfyniadau ariannu yn digwydd yn San Steffan ac mae'r penderfyniadau ariannu yna yn mynd i roi rhyw fath o gwtogiad, weithiau, ar faint o negodi sydd yn gallu digwydd. 

Heb setliad cyllido sy'n seiliedig ar angen, bydd Cymru bob amser ar y pen anghywir i fympwy penderfyniadau a wneir yn Nhrysorlys Lloegr. Ac wrth gwrs, nid ariannu yw'r unig broblem yma. Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru gweithwyr Cymru'n llwyr drwy gyhoeddi bwriad i gael gwared ar Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017. 

Buaswn i'n dweud mai'r unig ffordd o warantu unrhyw hawliau ar gyfer gweithwyr fyddai os yw employment law yn cael ei ddatganoli i'r lle yma. Ond buaswn i'n gofyn i chi—dwi'n gwybod bod hynny y tu hwnt i beth y byddech yn gallu rhoi unrhyw farn arno—os oedd hynny yn digwydd, ac os oedd employment law yn cael ei ddatganoli, a fyddech chi'n gallu rhoi unrhyw syniad i ni o'r egwyddorion y byddai'r Comisiwn yn eu dilyn wrth fynd ati i negodi unrhyw pay neu conditions gyda'r gweithwyr yn y Senedd?

Rŷch chi'n ceisio fy nhemtio i i roi pob math o atebion gwleidyddol i'r cwestiwn yna. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n gyfrinach i neb i glywed fi'n ateb fel unigolyn i ddweud fy mod i o blaid datganoli mwy o rymoedd i'r Senedd yma. Ond, yng nghyd-destun y cwestiwn penodol ynglŷn â'r streic yr wythnos nesaf, i gadarnhau unwaith eto nad oes yna anghydfod penodol rhyngom ni a'r staff yn lleol yng nghyd-destun y trefniadau cyflog sydd mewn lle tan 2025. A dwi'n gobeithio bod hynny'n adlewyrchu, ar ran y Comisiwn yn gyfan, ar draws y pleidiau yn y lle yma, ein parch ni tuag at drafodaeth agored a synhwyrol gyda'r undebau llafur, sy'n cynrychioli'n gweithwyr ni fan hyn, a'n parch ni tuag at eu hawl nhw i streicio hefyd, os oes gyda nhw egwyddorion a phethau ymarferol, ac maen nhw'n dewis gwneud hynny.  

15:15
Hyrwyddo Senedd Cymru

2. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd? OQ59007

Mae'r Comisiwn yn cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo ac arddangos ein Senedd a'i gwaith arloesol ar lwyfan rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau i gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol, a hwyluso rhaglenni ar gyfer ymweliadau gan ddirprwyaethau rhyngwladol, fel Senedd ffederal Canada’r wythnos diwethaf, a chroesawu diplomyddion i'r lle yma, fel cynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia y bore yma. Cytunwyd ar ein fframwaith rhyngwladol mewn cyfarfod Comisiwn yn ddiweddar. Mae’n amlinellu’r nod o godi proffil y Senedd a gwerth meithrin ein henw da drwy ymgysylltu a chydweithio, p’un a yw’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan Aelodau neu bwyllgorau, neu a yw’n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng seneddau. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n amlwg fod gwaith sylweddol yn cael ei wneud i hyrwyddo gwaith ein Senedd genedlaethol, a gellid gwneud hyn drwy'r gweithredoedd mawr, fel y sonioch chi, gydag ymgysylltiad â'r holl seneddau, neu weithredoedd llai efallai hyd yn oed. Nawr, mae Cymru, fel cenedl, yn lle hael a chroesawgar, ac felly hefyd ein Senedd, ac rwy'n siŵr fod yr Aelodau, fel finnau, wedi cael gohebiaeth gan bobl o amgylch y byd yn gofyn amryw o gwestiynau. Yn fwyaf diweddar, ysgrifennodd Oliver o Ffrainc ataf yn gofyn am un o fy nheis. Nawr, rwy'n gwybod bod Sarah Murphy yn aml yn dweud mai gennyf fi y mae'r teis gorau yn y Senedd, ac mae Oliver yn amlwg yn cytuno—[Chwerthin.]—ond o ddifrif, Lywydd, mae'n amlwg fod gwaith ein Senedd yn cyrraedd sawl rhan o'r byd, ac roeddwn yn meddwl tybed pa adnoddau pellach y gellid eu darparu i ganiatáu i Aelodau hyrwyddo gwaith ein Senedd genedlaethol yng Nghymru.

Wel, rwy'n falch o glywed bod eich teis yn fater o ddiddordeb rhyngwladol [Chwerthin.] Hoffwn gadarnhau yn fy ymateb i chi, ac annog yr Aelodau yma i edrych ar y cyfleoedd sydd ganddynt fel Aelodau unigol, ac fel aelodau o bwyllgorau, i deithio ac i ymgysylltu â seneddau a chyda phrosiectau ledled y byd, fel y gallwn gyfoethogi ein gwaith yma ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth â phrofiadau o bob rhan o'r byd. Rwy'n credu bod COVID wedi cyfyngu ar rywfaint o'r gwaith rhyngwladol hwnnw; fe agorodd rai cyfleoedd ychwanegol drwy ddefnyddio Zoom a thechnoleg arall. Ond nid oes unrhyw beth cystal â'r profiad uniongyrchol o ymweld a chyfarfod â phobl o bob cwr o'r byd i ddysgu o'r syniadau diddorol sy'n digwydd ar lawr gwlad, ac i bobl eraill hefyd ddysgu am ychydig o'r gwaith da a wnawn yma yng Nghymru. Felly, rwy'n eich annog i gyd, fel Aelodau o'r Senedd hon, i chwilio am gyfleoedd, lle gall y Comisiwn eich cefnogi mewn unrhyw waith rhyngwladol y dymunwch ei wneud ar ran pobl Cymru. 

Rwy'n ddiolchgar, Lywydd, am ganiatáu imi gael cyfle i gywiro'r cofnod. Mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ni chafodd ei wneud yn ysgafn, ond anghofiais atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel aelod balch o undeb llafur, wrth ofyn cwestiwn am y streic. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i atgoffa'r Aelodau fod hynny ar gael ar-lein, ond hefyd am y cyfle i ddweud, yn y Siambr ger eich bron ac ym mhresenoldeb y Llywydd, fy mod yn aelod balch o undebau Community ac Unite. 

Diolch. Nid wyf bob amser wedi fy argyhoeddi ei fod yn bwynt o drefn, ond mae'n bwysig ei gofnodi, a'ch bod wedi gwneud hynny. Diolch yn fawr. 

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw cwestiynau amserol, a bydd yr un cyntaf heddiw gan Jack Sargeant. 

Mesuryddion Rhagdalu

1. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil trigolion Cymru? TQ713

15:20

Mae Llywodraeth Cymru'n credu mai dim ond fel opsiwn olaf y dylid ystyried symud cwsmeriaid i fesuryddion rhagdalu. Yn ystod argyfwng costau byw, mae'n bryderus iawn fod rhai o'r aelwydydd mwyaf bregus yn cael eu gorfodi i drefniadau ad-dalu, gan eu gadael yn agored i'r risg o fod heb wres. 

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac am arweinyddiaeth ei gyd-Aelod yn Llywodraeth Cymru Jane Hutt ar y mater hwn. Nid yw hyn yn ddim llai na sgandal genedlaethol. Rydym wedi gweld cannoedd o orchmynion llys yn cael eu cyhoeddi ar y tro, ac erbyn hyn mae data'n dangos, o'r 500,000 o orchmynion y ceisiwyd amdanynt ar gyfer newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod. O 500,000 o geisiadau, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod. Ni allai neb awgrymu nad yw hyn yn dangos nad oes gwiriadau'n digwydd i ganfod a yw'r defnyddwyr yn fregus. 

Nawr, oherwydd y methiant hwn i gynnal gwiriadau sylfaenol hyd yn oed, mae pobl fregus yn cael eu bygwth yn gyson y byddant yn cael eu datgysylltu yng nghanol argyfwng costau byw yng nghanol y gaeaf. Gwnsler Cyffredinol, mae hyn yn fater o fywyd a marwolaeth. Mae Llywodraeth y DU, a gydnabu dros y penwythnos fod rhywbeth ymhell o'i le yn dilyn galwadau cyson gan bobl fel fi ac ymgyrchwyr eraill, yn dal i fodloni ar ofyn i'r union gwmnïau sydd wedi gwneud y fath gam â'n trigolion i wneud y peth iawn. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gwneud penderfyniadau, yn enwedig pan fo'r dystiolaeth o gamwedd mor llethol. Dengys ystadegau y bydd bron i 200,000 yn fwy o bobl yn cael eu gorfodi i newid erbyn diwedd y gaeaf os na wneir unrhyw beth. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cefnogi fy ngalwadau am waharddiad ar unwaith ar newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu, a galluogi'r trigolion sydd eisoes wedi cael eu newid yn amhriodol gan gyflenwyr ynni i newid yn ôl, a hynny am ddim ac yn gyflym?

Diolch am y cwestiwn, ac eto, mae'r Aelod yn rhagori ar godi materion o gryn bwys i ryddid a hawliau sifil yn ein cymdeithas. Gadewch imi roi'r ffigurau hyn i chi. Nid oedd hyn yn rhywbeth a roddais fy sylw iddo mewn gwirionedd tan i chi godi'r mater, ac rwy'n gwybod bod hynny'n wir am y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol ar y mater penodol hwn.

Ond o ran ychydig o'r data sydd gennym eisoes, rydym yn gwybod o'r cyfryngau fod rhywbeth tebyg i 500,000—hanner miliwn—o warantau wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar, a gadewch inni edrych ar sefyllfa Cymru o'r hyn a wyddom hyd yma. Yn llys ynadon Caernarfon yn 2022, cyhoeddwyd dwy warant o'r fath. Yn llys ynadon Caerdydd yn 2021, cyhoeddwyd chwe gwarant ac yn 2022, cyhoeddwyd 10 warant—cyfanswm o 16—a gwrthodwyd dwy. Yn llys ynadon Abertawe yn 2020, cyhoeddwyd 7,308, yn 2021, cyhoeddwyd 8,652, ac yn 2022, cyhoeddwyd 6,817, gan wneud cyfanswm, dros y tair blynedd honno, o 22,777, gyda chwech ohonynt wedi eu gwrthod. 

Bûm yn edrych ar rywfaint o'r wybodaeth gyhoeddus am hyn, ac eto, mae hyn yn rhywbeth rwyf eisiau mynd i'r afael ag ef. Roeddwn yn edrych ar rai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud ynghylch y ffigurau sydd bellach yn dechrau ymddangos, ac mae'r sylwebaeth fel hyn: 'mae cyflenwyr yn gallu cael gwarantau i osod mesuryddion rhagdalu pan fydd eu cwsmeriaid yn mynd i ddyled fel ffordd iddynt adennill arian sy'n ddyledus iddynt. Yn gyffredinol, maent yn ddrytach na thariffau ynni sefydlog ac maent wedi cael eu beirniadu gan nifer o elusennau am gadw aelwydydd incwm isel mewn tlodi' ac 'maent yn ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd dalu am ynni cyn ei ddefnyddio, ac fel arfer ar gyfradd uwch'.

Wrth fonitro hyn ymhellach, gellir datgelu bellach fod y costau i'r cwmnïau ynni gael caniatâd i orfodi mynediad wedi eu gosod ar £22 y warant, gyda llysoedd yn rhoi hyd at 1,000 ar y tro mewn gwrandawiadau sy'n para 20 munud yn unig. Yna, gellir codi tâl o hyd at £150 ar gwsmeriaid am gael mesurydd rhagdalu wedi'i osod drwy orfodaeth, gan gynnwys £56 ar gyfer cais y warant. Datgelodd un ymchwiliad sut roedd un llys—roedd hyn yng ngogledd Lloegr—wedi rhoi 496 o warantau a oedd yn caniatáu i gwmnïau orfodi mynediad i gartrefi mewn tri munud a 51 eiliad yn unig. 

Rwy'n credu ei fod yna fater cyfiawnder sifil go iawn pan fo modd mynd i mewn i gartrefi pobl mor barod ac mor hawdd drwy orfodaeth, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen ei ystyried. Yn anffodus, nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ond gallaf roi pob sicrwydd i'r Aelod, ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd wedi bod yn mynd ar drywydd y mater hwn yn ddiwyd iawn, y byddaf nid yn unig yn mynd i'r afael â hyn gyda'r cwmnïau ynni penodol hynny o ran yr hyn sy'n digwydd a pham y caiff y llysoedd eu defnyddio, a hynny'n aml ddegau os nad cannoedd o filltiroedd o ble mae pobl yn byw, ond mae hyn yn rhywbeth y credaf y gallwn fynd i'r afael ag ef yn ddilys, ac sydd o bryder sylweddol, gyda Gweinidog cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chyda'r Twrnai Cyffredinol hefyd rwy'n credu, i archwilio ac ystyried y dull y mae'r llysoedd yn ei fabwysiadu o dderbyn taenlenni o enwau a phasio gwarantau fesul llwyth. Rwy'n credu bod yna rai materion sylweddol iawn sydd angen eu harchwilio ymhellach, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â hynny ym mhob ffordd. Diolch am ddod â'r mater hwn i'n sylw. 

15:25

Mae'r Senedd eisoes wedi clywed gan Jack am ba mor annheg yw gosod mesuryddion rhagdalu; rwy'n cymeradwyo ei bwyntiau'n llwyr. Mae mesuryddion rhagdalu yn anghymesur o gyffredin yn y sector tai cymdeithasol, sy'n golygu bod tenantiaid ar rai o'r bandiau incwm isaf yn y wlad yn gorfod talu'r tariffau ynni uchaf. Mae'n hynod o wrthnysig fod y rhai sydd â llai nag eraill yn cael eu gorfodi i dalu mwy nag eraill am ynni. Mae hyn yn golygu bod teuluoedd mewn tlodi wedi cael eu gorfodi i grynu drwy'r cyfnod oer diweddar am na allant fforddio cael y gwres ymlaen. Mae'n warthus. Os na allwn amddiffyn ein dinasyddion yng Nghymru rhag arferion rheibus cwmnïau ynni, dylem ei gwneud yn flaenoriaeth i ennill yr hawl honno.

Rydym eisoes wedi gweld na fydd San Steffan yn gweithredu yn erbyn y cwmnïau ynni. Tra bo pobl yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, mae cyflenwyr yn parhau i wneud yr elw mwyaf erioed o filiau ynni cynyddol. Mae'r cyflymder syfrdanol y mae llysoedd yn rhoi gwarantau, fel y sonioch chi, yn aml mewn mater o funudau ar gost fach iawn i'r cwmnïau ynni, yn rhoi'r nesaf peth i ddim cyfle i gwsmeriaid herio eu penderfyniadau ar lefel gyfreithiol. Ecsbloetio ar raddfa ddiwydiannol yw hyn. Dylai fod gwaharddiad ar unwaith ar arferion o'r fath. Rwy'n eich annog i edrych ar y mater hwn i weld a oes unrhyw ffordd y gallwn reoli'r ffordd y mae cwmnïau ynni'n ecsbloetio ein dinasyddion. Diolch. 

Diolch i'r Aelod am y sylwadau ychwanegol hynny. Ar gyfer y cofnod, rwy'n meddwl bod gan oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan. Mae'r Aelod wedi gwneud ei sylwadau'n rymus iawn, gan ychwanegu at yr holl sylwadau eraill sydd wedi'u gwneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd eisiau gweithio ar y cyd ar draws pob plaid wleidyddol i sicrhau yr edrychir ar hyn, ac i weld bod hawliau ac amddiffyniadau pobl yn cael eu cynnal yn briodol. 

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan James Evans. 

Undeb Rygbi Cymru

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC? TQ714

Member
Dawn Bowden 15:28:22
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

A gaf fi ddiolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw? Rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru ddwywaith yn ystod y deuddydd diwethaf ynghylch y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r honiadau a nodwyd yn yr ymchwiliad gan y BBC. 

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich ateb. Gallwn fod wedi cyfeirio'r cwestiwn hwn at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach hefyd. Mae'r adroddiadau diweddar sy'n datblygu am Undeb Rygbi Cymru yn frawychus iawn. Cawsom wybod fod yna ddiwylliant gwenwynig o rywiaeth wrth galon y sefydliad. Clywsom honiadau fod gweithiwr gwrywaidd wedi gwneud sylw o flaen uwch-aelod o staff am dreisio cydweithiwr benywaidd. Mae'n wrthun ac mae'n ymddygiad annerbyniol i unrhyw un ei wneud. Fel rhywun a chwaraeodd rygbi mewn clwb sy'n mynd ati i hyrwyddo a datblygu gêm y menywod, ac yn annog merched ifanc a menywod i chwarae ein camp genedlaethol, mae'n fy ngwneud yn sâl i feddwl bod yna bobl a fyddai'n meithrin diwylliant gwenwynig o'r fath yn Undeb Rygbi Cymru.

Rwyf am gymeradwyo pawb sydd wedi camu ymlaen i ddatgelu'r problemau dwfn hyn o fewn yr undeb. Mae'n amlwg fod angen rhoi camau uniongyrchol a thryloyw ar waith i fynd i'r afael â'r problemau enfawr hyn. Ni ddylai fod lle i unrhyw un sy'n cyflawni'r ymddygiad ffiaidd hwn guddio na'r rhai sy'n ei amddiffyn neu'n ei esgusodi. Nid oes lle i wahaniaethu na thrais yn erbyn menywod yn ein cymdeithas. Weinidog, a wnewch chi fy sicrhau i a'r Siambr hon eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod gweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru yn gwneud popeth y mae angen iddynt ei wneud i ymchwilio i'r honiadau hyn, a sicrhau y byddwch yn gwneud arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru yn atebol am yr amgylchedd gwenwynig y mae wedi ei greu wrth galon rygbi Cymru?

15:30

Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i James Evans am ei sylwadau pwerus iawn, sylwadau rwy'n cytuno â hwy? Ac a gaf fi ddechrau drwy wneud rhai pwyntiau cyffredinol mewn ymateb? Yn gyntaf, mae’r materion a godwyd gan raglen ymchwilio’r BBC yn ddychrynllyd, heb os, a hoffwn ailadrodd ein bod yn cydnabod y dewrder a gymerodd i godi llais ar ôl dioddef unrhyw fath o aflonyddu—credaf y dylid canmol y ffordd y gwelsom hynny’n cael ei wneud yn gyhoeddus ar y rhaglen. Nawr, y llynedd, fel y gwyddoch, fel Llywodraeth, gwnaethom gyhoeddi ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n nodi'n glir ein huchelgeisiau i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw, ac mae hynny'n cynnwys yn y gweithle. Nawr, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gadw'n dawel am gam-drin, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio yn uniongyrchol, gan fod hawl gan fenywod a merched i fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Nawr, ar y manylion, fel y dywedodd y Prif Weinidog yma yn y Siambr ddoe, mae angen inni weld camau gweithredu tryloyw ar frys i helpu i adfer hyder yn Undeb Rygbi Cymru. Ac er mwyn sicrhau hynny, mae angen i Undeb Rygbi Cymru gydnabod yn gyhoeddus pa mor ddifrifol yw'r materion a gafodd eu darlledu yn y rhaglen deledu BBC Wales Investigates nos Lun. Nawr, dros y dyddiau diwethaf, rwyf wedi bod yn ymgysylltu ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r honiadau hyn a sut maent yn darparu amgylchedd diogel i'w staff a rhanddeiliaid ehangach sy'n rhydd rhag aflonyddu a chamdriniaeth o bob math. Nodaf y sylwadau a wnaed gan y prif weithredwr yn y wasg ddoe eu bod wedi syrthio'n fyr o'r disgwyliadau wrth arddangos rygbi Cymru i’r byd a'u bod yn gweithio ar y newidiadau angenrheidiol ar unwaith i sicrhau bod hon yn gamp y gall pob un ohonom fod yn falch ohoni unwaith eto ac sy’n cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol a chreu amgylchedd sy’n rhydd rhag camdriniaeth.

Cyfarfûm â’r prif weithredwr eto y bore yma, a nodais ein disgwyliadau'n glir ar gyfer camau gweithredu brys a fydd yn adfer ymddiriedaeth staff, chwaraewyr, cefnogwyr, rhieni a phlant yn ei sefydliad. Pwysais arno am enghreifftiau penodol o’r hyn y maent yn bwriadu ei roi ar waith i sicrhau diogelwch y rheini sy’n gweithio i Undeb Rygbi Cymru. A dywedwyd wrthyf fod y rhain bellach yn cynnwys cyflogi cyfarwyddwr pobl, adnewyddu eu polisïau AD, a hyfforddiant cydraddoldeb ac ymgysylltu â staff. Nawr, mae hynny'n bwysig, gan mai'r anghydraddoldeb a wynebir gan fenywod oedd wrth wraidd y rhaglen ddydd Llun, yn Undeb Rygbi Cymru ac yng ngêm y menywod yn gyffredinol. A dylai menywod allu mynd i'r gwaith a chymryd rhan mewn chwaraeon yn rhydd rhag aflonyddu a chamdriniaeth. Nawr, ar y materion yn y gweithle ei hun a godwyd yn y rhaglen, byddwn yn dweud hyn: os nad oes gan sefydliad broblem gyda'i ddiwylliant, ni fyddai cwynion mor ddifrifol â'r rhain yn dod i'r amlwg. A hyd yn oed os nad yw proses ffurfiol a arweinir gan gyfreithiwr allanol yn cadarnhau cwyn, nid yw hynny'n golygu na ddigwyddodd y digwyddiad hwnnw.

Nawr, gwelais drosof fy hun fod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn ddiweddar ar ddatblygu gêm y menywod yng Nghymru, gyda chontractau proffesiynol ar gyfer y tîm cenedlaethol, tîm datblygu sydd newydd ei ffurfio a chystadleuaeth ranbarthol i chwaraewyr dan 18, i nodi ychydig o enghreifftiau'n unig—gyda phob un yn cynyddu'r cyfleoedd i fenywod a merched ym myd rygbi. Fodd bynnag, mae Undeb Rygbi Cymru eu hunain yn cydnabod bod hyn yn dilyn blynyddoedd o lesgedd o ran datblygu gêm y menywod, a dyna pam y gwnaethant gomisiynu adolygiad i gêm y menywod ychydig flynyddoedd yn ôl. Cafwyd galwadau i'r ddogfen hon gael ei chyhoeddi; rwy'n cefnogi’r galwadau hynny, gan fy mod yn credu’n gryf fod y ffordd y mae wedi'i chadw'n gyfrinachol yn fwy niweidiol na phe bai’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Gwneuthum y pwynt hwnnw i’r prif weithredwr y bore yma, a gwneuthum y pwynt iddo o’r blaen mewn trafodaethau gydag ef. Dylai Undeb Rygbi Cymru, yn y lle cyntaf, gyhoeddi'r ddogfen honno ac egluro sut y gwnaethant ymateb i’r adolygiad a sut maent yn cynllunio ar gyfer datblygu gêm y menywod ymhellach. Rwyf hefyd yn ymwybodol y bu galwadau am ymchwiliad gan bwyllgor Senedd, a byddwn yn croesawu hynny hefyd, wrth gwrs.

Lywydd, mae hwn yn fater rwyf fi, fel y Dirprwy Weinidog chwaraeon, o ddifrif yn ei gylch, a byddaf yn parhau i bwyso yn y ffordd gryfaf bosibl am ddiwygio a thrawsnewid Undeb Rygbi Cymru ar unwaith, gan ei fod yn sefydliad sy'n ganolog i chwaraeon a bywyd diwylliannol a dinesig ein cenedl.

15:35

Weinidog, roedd y rhaglen a ddarlledwyd yr wythnos hon yn rhaglen dorcalonnus, a chlywsom dystiolaeth dorcalonnus. A chredaf y dylai pob un ohonom uno i gymeradwyo ac i ganmol y menywod a gododd eu lleisiau bryd hynny, a hefyd, wrth gwrs, y newyddiadurwyr sydd wedi adrodd ar y stori hon ac a ddaeth â'r mater i'n sylw.

I mi, nid mater AD unigol yw hyn ond diwylliant sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, a diwylliant y mae’n rhaid ei newid. Ac i bob un ohonom sydd wedi treulio oes yn cefnogi rygbi Cymru ar bob lefel, rydym am weld y newid hwn yn digwydd. Ac nid oes gennyf ddiddordeb mewn clywed am fesurau byrdymor, adweithiol. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn hela gwrachod yn y tymor byr; rwyf am weld newid hirdymor, sylfaenol, a newid diwylliannol sylfaenol hirdymor. A gobeithio y bydd Ieuan Evans yn arwain y newid hwnnw, a’r hyn rwyf am ei ddweud yw bod angen i lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru newid, mae angen i ddiwylliant Undeb Rygbi Cymru newid, ac mae angen inni sicrhau bod diwylliant rygbi yn y wlad hon yn ddiwylliant cynhwysol ac yn un sy’n annog menywod i fod yn rhan annatod ohono ac nad yw’n gorfodi pobl allan—ni all hynny ddigwydd.

A hoffwn ddweud wrth Undeb Rygbi Cymru—os nad ydych yn gallu neu os nad ydych yn barod i arwain y newid hwn, bydd y newid yn cael ei orfodi arnoch. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir rhoi plastr drosto. Nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei frwsio o dan y carped, ac nid yw'n rhywbeth y bydd y cyfryngau yn symud ymlaen ohono yr wythnos nesaf. Mae hyn yn galw am newid diwylliannol sylfaenol. A fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw hyn: beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd, a sut y byddwn yn deall bod y newid hwnnw wedi digwydd? Oherwydd nid wyf am weld rhestr o gamau gweithredu yn unig, ac y byddwn yn cael ymchwiliad gan y Senedd yr adeg hon y flwyddyn nesaf neu beth bynnag—rwyf am weld y newid yn digwydd. Mater i Undeb Rygbi Cymru yw arwain y newid, a mater i Undeb Rygbi Cymru yw ysgwyddo cyfrifoldeb am y newid. Ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ddibynnu ar Undeb Rygbi Cymru i ddeall y sefyllfa y mae ynddi heddiw.

Diolch am eich sylwadau, Alun Davies, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr â’r materion a godwch. Gwyddom mai'r angen am newid diwylliannol, mewn unrhyw sefydliad, yw’r peth anoddaf i’w gyflawni. Mae newid diwylliannol yn cymryd amser. Mae'n cymryd newidiadau nid yn unig o ran polisïau, ond o ran personél, o ran agwedd, a phur anaml y gall ddigwydd dros nos. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid i’r newid diwylliannol hwnnw ddigwydd, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw’r ffordd y caiff pethau eu gweld yn Undeb Rygbi Cymru yn cyd-fynd â gwerthoedd y Llywodraeth hon.

Nawr, fel Llywodraeth, yn amlwg, nid ni sy'n rhedeg Undeb Rygbi Cymru. Nid ydym yn berchen ar Undeb Rygbi Cymru. Maent yn fusnes annibynnol, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch ble y caiff y penderfyniadau ynglŷn â'r gêm yng Nghymru eu gwneud. Ac nid Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. Ond yr holl bwynt, a chredaf mai’r pwynt roeddech chi'n ei wneud, Alun, yw bod rygbi’r undeb, a rygbi’r undeb rhyngwladol yn arbennig, mor bwysig i ddiwylliant y genedl hon fel bod yn rhaid inni gael sefydliad sy’n arddel gwerthoedd y genedl hon hefyd. Ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pawb, boed yn chwarae, neu boed yn gweithio yn y sefydliad, yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yn cael eu gwerthfawrogi. A dyna fydd y mesur y byddaf yn ei roi ar y newid o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Nawr, rwy'n ymwybodol, Lywydd, wrth imi sefyll yma, ac efallai ychydig cyn imi ddod i mewn i'r Siambr, fod cynhadledd i'r wasg yn cael ei chynnal gydag Undeb Rygbi Cymru ac Ieuan Evans, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf ychydig wythnosau yn ôl. Ac mae'n rhaid imi ddweud, yn y sgwrs a gefais ag ef ychydig wythnosau yn ôl, fod ei ymrwymiad i ysgogi newid o fewn Undeb Rygbi Cymru wedi creu cryn argraff arnaf. Nawr, nid wyf wedi cael cyfle, yn anffodus, i ddal i fyny â'r hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, ond byddwn yn mawr obeithio mai dyna a nododd yn glir iawn yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd, ac a ddarlledwyd ar raglen y BBC ddydd Llun.

15:40

Yn sicr, hoffwn gytuno â’r holl sylwadau a wnaed. Roedd y rhaglen yn un anodd iawn i'w gwylio. Mae'n codi cwestiynau, gan ein bod wedi bod yn falch iawn o rygbi fel camp genedlaethol ochr yn ochr â phêl-droed, a dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac mae'r honiadau'n gwbl wrthun. Yr hyn sydd yr un mor wrthun, yn fy marn i, yw’r datganiadau cyhoeddus hyd yn hyn gan Undeb Rygbi Cymru, gan nad ydynt wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn rhoi ystyriaeth mor ddifrifol ag y dylent i'r mater. Mae’r ffaith hefyd y bu cyfleoedd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn o dan yr arweinyddiaeth bresennol, ond nad yw hynny wedi digwydd i bob golwg, yn codi pryderon yn fy marn i, ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'r arweinyddiaeth bresennol.

Nid wyf wedi cael y trafodaethau hynny a gawsoch chi hyd yma, wyneb yn wyneb ag Undeb Rygbi Cymru, ond a gaf fi ofyn i chi: a ydych yn dawel eich meddwl fod Undeb Rygbi Cymru o ddifrif ynghylch yr honiadau hyn ac yn rhoi camau pendant ar waith? Ac a ydych yn teimlo, fel rwyf innau'n teimlo bellach, fod angen newid arweinyddiaeth os ydynt am fynd i'r afael â'r honiadau hyn i'r graddau sydd eu hangen?

Hefyd, mae’n codi arswyd arnaf, a dweud y gwir, nad oes ymrwymiad wedi'i wneud o hyd i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw, er eich bod chi, fel Dirprwy Weinidog, wedi gofyn am yr adroddiad hwnnw. Beth oedd eu hagwedd pan ofynnoch chi am y gyhoeddi hwnnw? A ydych wedi cael unrhyw sicrwydd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?

Hefyd, o gofio ein bod yn rhoi arian cyhoeddus i Undeb Rygbi Cymru, a bod llawer ohono'n cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod y gamp yn fwy cynhwysol, gan gynnwys i fenywod, sut y gallwn roi arian cyhoeddus i gorff pan na allwn roi sicrwydd i fenywod y bydd yr amgylchedd y byddant yn ei wynebu yn un diogel ac y byddant yn ddiogel rhag rhywiaeth a chasineb at fenywod? A yw hyn yn rhywbeth rydych yn ei adolygu ar hyn o bryd hefyd, Weinidog?

Diolch, Heledd. Unwaith eto, pob un ohonynt yn bwyntiau dilys iawn y byddwn yn cytuno â hwy. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn dros gyfnod o amser. Yn y sgwrs a gefais gyda’r prif weithredwr y bore yma, nododd nifer o gamau gweithredu y mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi’u rhoi ar waith. Dywedais wrtho'n blwmp ac yn blaen fy mod yn teimlo bod angen i hynny fod yn llawer mwy eglur, fod angen iddo ddweud yn gyhoeddus beth mae Undeb Rygbi Cymru wedi’i wneud i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, yn anad dim yng ngoleuni’r adroddiad ar gêm y menywod.

Yn y trafodaethau a gefais gydag ef o’r blaen ynglŷn â'r adroddiad ar gêm y menywod a pham na chafodd ei gyhoeddi, y prif reswm yw am fod y menywod a roddodd dystiolaeth ar gyfer datblygu’r adroddiad hwnnw wedi cael sicrwydd y byddai eu cyfrinachedd yn cael ei barchu ac na fyddai eu henwau'n cael eu datgelu. Dywedodd yn glir iawn wrthyf ei fod yn teimlo, pe na baent wedi cael y sicrwydd hwnnw, y byddai llawer o’r menywod  hynny heb roi tystiolaeth. Felly, teimlai fod yn rhaid iddo barchu eu cyfrinachedd. Rwy’n deall hynny, ac rwyf wedi dweud yn glir wrtho na chredaf fod unrhyw un yn ceisio darganfod pwy yw unrhyw un sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r adroddiad, ac y gallai adroddiad o’r fath gael ei gyhoeddi a’i olygu fel na ellir adnabod pobl, a dyna y gelwais arno i'w wneud. Felly, cawn weld a fydd hynny'n digwydd, yng ngoleuni'r trafodaethau a gefais—y trafodaethau pellach a gefais—ynglŷn â hynny yr wythnos hon.

Mae arweinyddiaeth newydd yn Undeb Rygbi Cymru. Soniais am Ieuan Evans yn gynharach. Dim ond ers ychydig wythnosau y bu'n gadeirydd Undeb Rygbi Cymru. Yn sicr, roedd fel petai'n dweud y pethau iawn pan gyfarfûm ag ef. Nid wyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg heddiw. Ond credaf ei bod bellach yn ddyletswydd ar Undeb Rygbi Cymru i ddangos beth yw eu hymrwymiad i wneud y newidiadau rydych chi ac Alun Davies eisoes wedi'u nodi'n glir. Yn sicr, o’r rhaglen a welsom, yr argraff oedd nad yw hynny wedi digwydd eto. Credaf mai mater i Undeb Rygbi Cymru nawr yw profi ei fod yn digwydd, a nodi beth maent yn ei roi ar waith i sicrhau ei fod yn digwydd.

Nid wyf yn amau'r hyn a ddywedwch, a bod Ieuan Evans yn unigolyn rhagorol, ond rwy'n meddwl tybed a fydd yn gallu newid hyn ar ei ben ei hun. Oherwydd mae dros flwyddyn wedi bod ers i Amanda Blanc rybuddio yn ei haraith wrth ymddiswyddo fod bom amser o rywiaeth a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru, sydd bellach wedi ffrwydro. Felly, yng ngoleuni’r niwed a wnaed i Gymru, i’n henw da, o ganlyniad i’r storm berffaith hon, a diffyg gweithredu gan Undeb Rygbi Cymru, pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gael rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer pob corff chwaraeon sy'n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru, fel bod y diwylliant o gyrff chwaraeon yn marcio eu gwaith cartref eu hunain yn dod i ben?

15:45

Clywais yr alwad honno am reoleiddiwr annibynnol gan Tonia Antoniazzi yn y rhaglen. Dyma’r tro cyntaf imi glywed yr alwad honno gan unrhyw un, felly byddai angen imi gael trafodaeth gyda swyddogion ynglŷn â sut olwg a allai fod ar hynny, sut y byddai’n gweithio’n ymarferol, beth fyddai'r agweddau cyfreithiol ar hynny, sut y byddai’n berthnasol, er enghraifft, i gyrff rhyngwladol, gan nad yng Nghymru y mae'r gair olaf mewn perthynas â chyrff llywodraethu cenedlaethol Cymru; ceir byrddau rygbi rhyngwladol, ac UEFA ar gyfer pêl-droed, FIFA ar gyfer pêl-droed, ceir byrddau rhyngwladol ar gyfer pob un o'n cyrff llywodraethu. Felly, ar yr wyneb, nid yw mor syml ag y mae'n swnio. Fodd bynnag, credaf fod rhywbeth y gallem edrych arno yn y cyswllt hwnnw, ond yn sicr, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau i hynny ar hyn o bryd, gan y credaf fod angen cryn dipyn o ymchwil ar y syniad hwnnw.

Lywydd, os maddeuwch i mi, rwy'n ymwybodol iawn nad atebais un o'r pwyntiau a gododd Heledd Fychan, a oedd yn ymwneud â rhoi arian cyhoeddus i Undeb Rygbi Cymru. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ei bod yn amlwg fod gan Lywodraeth Cymru berthynas ariannol hirsefydlog ag Undeb Rygbi Cymru, sy'n seiliedig, yn y bôn, ar hyrwyddo amcanion cyhoeddus ac economaidd. Ac fel un o'n prif bartneriaid, mae gennym ddisgwyliadau clir iawn ynglŷn â sut mae sefydliad yn edrych ac yn ymddwyn er mwyn cael arian cyhoeddus, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wylio'n ofalus iawn yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, mae Chwaraeon Cymru, gyda’r sector, wedi datblygu fframwaith o ganllawiau galluogrwydd a llywodraethu ar gyfer yr holl gyrff llywodraethu cenedlaethol sy’n gweithio yng Nghymru, ac mae hwnnw wedi’i ddatblygu gan y sector i helpu i ddarparu offeryn cefnogol i helpu sefydliadau ar draws ystod o sectorau. Nawr, unwaith eto, un o'r pethau yr hoffwn eu trafod gydag Undeb Rygbi Cymru yw i ba raddau y maent yn rhoi ystyriaeth i hwnnw. Mae’n gyfres newydd o ganllawiau gan Chwaraeon Cymru, a byddaf yn disgwyl i Undeb Rygbi Cymru gydymffurfio â hi.

Rwyf wedi cael llond bol ar sefyll yma'n siarad am gyrff cyhoeddus, cyrff chwaraeon, yr heddlu, y gwasanaeth tân, ac yn sôn am y diwylliant sy’n sail iddynt, am ddiwylliant systemig o gasineb at fenywod a rhywiaeth mewn meysydd sydd wedi eu dominyddu, yn draddodiadol, gan ddynion. Rwy'n blino braidd ar hyn.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod

'yn condemnio'r defnydd o iaith hiliol, homoffobig neu rywiaethol'.

Wel, profwch hynny. Oherwydd nid ydynt wedi'i brofi, ac nid yw'r holl sefydliadau eraill wedi'i brofi eto. Felly, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod eu datganiad mewn ymateb i'r honiadau yn drahaus ac yn ddiystyriol. Roeddwn o'r farn eu bod yn lleihau ac yn dibwyllo, mewn ffordd y bydd llawer o fenywod yma heddiw yn ei hadnabod. Roedd ymateb Undeb Rygbi Cymru i sylw fy nghyd-bleidiwr, Tonia Antoniazzi, yn arbennig o ddiystyriol ac awgrymodd AS Gŵyr, yn gwbl briodol, y dylid sefydlu corff annibynnol i edrych ar y cwynion yn erbyn cyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru. Os edrychwn ar y ffaith ei bod wedi sôn am hiliaeth mewn criced, ac rydym wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda hynny; os edrychwn ar Gymnasteg Prydain, ac rydym wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda hynny, faint o Weinidogion sy'n mynd i godi yma ac egluro'r hyn nad yw'r cyrff cyhoeddus hyn yn ei wneud, gan mai dyma'r cwestiwn yma?

Felly, credaf mai’r hyn y mae angen inni ei wneud yw mynd gam ymhellach yma. Mae'n amlwg nad yw'r strwythurau'n gweithio, mae'r bobl sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol yn dweud nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd ar waelod eu sefydliad. Nid oeddent wedi cael sgwrs. Wel, dylent fod wedi cael un. Felly, mae angen inni sicrhau, mewn cyrff sy'n cael arian cyhoeddus, fod y strwythurau hynny'n ddigonol i wneud dau beth: un, sicrhau bod pob rhan o'r sefydliad hwnnw'n gwybod beth sy'n digwydd yn rhannau eraill y sefydliad hwnnw; a'r llall yw llwybr diogel i chwythwyr chwiban, gan mai dyna'r peth arall sy'n wirioneddol bwysig yma, yn ogystal â fetio'r bobl sy'n mynd i fod yn rhan o'r sefydliadau hynny a'r bobl sy'n eu goruchwylio.

Nid wyf am orfod codi yma yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr nad oes unrhyw arall ychwaith, pan fydd stori arall yn torri, a stori arall. Felly, gadewch inni fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn iawn, gan fod hyn yn destun cywilydd i Gymru—yn destun cywilydd mawr i Gymru. A beth fydd y stori yr wythnos nesaf? Ac mae dweud na allant gyhoeddi adroddiad am eu bod wedi rhoi cyfle, yn briodol, i bobl beidio â chael eu henwi yn yr adroddiad yn warthus, gan eu bod yn gwybod yn iawn y gallent gyhoeddi'r adroddiad hwnnw drwy ddileu'r enwau. Felly, maent yn cuddio y tu ôl i hynny eto. Credaf fod angen newid y bobl a oedd yn gyfrifol am Undeb Rygbi Cymru yn llwyr yn ôl eu perfformiad hyd yma.

15:50

Wel, diolch, Joyce, a chredaf fy mod wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau a godwch mewn ymatebion i gwestiynau blaenorol, ac unwaith eto, nid wyf yn anghytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedwch. Yn sicr, mae gennym ni fel Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod cyrff y mae gennym berthynas ariannol â hwy ac y mae gennym bartneriaethau ariannol â hwy yn cydymffurfio â rheolau, ymddygiad a gwerthoedd diwylliannol sy’n cefnogi ein rhai ninnau. Ac os nad yw hynny'n digwydd, mae angen inni adolygu'r cysylltiadau hynny, a chredaf fy mod wedi dweud hynny'n glir iawn mewn ymateb i gwestiwn Heledd Fychan. A'r math hwnnw o drefniant partneriaeth sy'n bwysig, oherwydd, unwaith eto, fel y dywedais mewn ymateb i Alun Davies, mae Undeb Rygbi Cymru yn sefydliad annibynnol—nid ydynt yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac ni allwn eu gorfodi i wneud y pethau rydym am iddynt eu gwneud, ond gallwn nodi ein disgwyliadau yn glir iawn. Ni chredaf y gallwn fod wedi bod yn gliriach gydag Undeb Rygbi Cymru yr wythnos hon ynglŷn â beth yw ein disgwyliadau a byddwn yn monitro hynny’n agos iawn, a byddaf yn disgwyl gweld newid sylweddol yn y ffordd y caiff y sefydliad hwn ei redeg yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel pawb, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymwybodol o’r honiadau a wnaed. Mae'r honiadau hynny yn erbyn Undeb Rygbi Cymru yn ddifrifol dros ben. Yn waeth na hynny, maent yn dorcalonnus, fel y clywsom. Maent wedi peri cryn bryder i lawer o bobl. Rwy'n canmol y menywod sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Rydym ni, fel pwyllgor, yn gytûn y dylai unrhyw un a phawb, ni waeth beth fo’u cefndir, allu cymryd rhan mewn chwaraeon heb ofni gwahaniaethu. Ni ddylai unrhyw un byth orfod wynebu unrhyw fath o gamdriniaeth neu iaith ragfarnllyd, yn enwedig yn y man lle maent yn gweithio, sy’n fan lle dylai pawb gael eu parchu a’u trin yn gyfartal.

Mae’r pwyllgor yn ymwybodol o’r datblygiadau a wnaed ers i’r rhaglen gael ei darlledu. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos dros y dyddiau nesaf, a bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ffurfiol yr wythnos nesaf i drafod y mater hwn, ac fel rhan o’r trafodaethau hynny, bydd yn ystyried unrhyw gamau y dylem eu cymryd. Er mwyn llywio’r trafodaethau hynny yr wythnos nesaf, Weinidog, byddwn yn croesawu cadarnhad—unrhyw beth yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi’i ddweud eisoes—o unrhyw drafodaethau rydych chi, fel Llywodraeth, wedi’u cael gydag Undeb Rygbi Cymru, a hoffwn wybod hefyd pa opsiynau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i sicrhau newid diwylliannol yn Undeb Rygbi Cymru, gan ystyried yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Ie, diolch, Delyth, a chredaf fod ymyrraeth y pwyllgor i’w groesawu’n fawr ac y byddai’r cymorth y gall y pwyllgor ei gynnig yma ar ffurf ymchwiliad i fynd i'r afael â rhai o’r materion hyn i’w groesawu’n fawr, ac y gallai fod o gymorth mawr. Ond unwaith eto, mae’n rhaid imi ailadrodd nad oes gennyf bŵer nac awdurdod i ddweud wrth Undeb Rygbi Cymru beth sy'n rhaid iddynt ei wneud. Maent yn sefydliad annibynnol. Yr hyn y gallaf ei wneud yw ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes, sef fy mod wedi dweud yn blwmp ac yn blaen wrth Undeb Rygbi Cymru beth yw fy nisgwyliadau ar gyfer corff llywodraethu chwaraeon pwysig yng Nghymru, sut y dylai edrych a sut y dylai ymddwyn. A byddwn yn disgwyl iddynt ddod yn ôl ataf gyda'u cynllun gweithredu ar fyrder, i nodi sut yn union y maent yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion hyn.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Bydd y cwestiwn amserol olaf gan Rhun ap Iorwerth.

15:55
Cwmni 2 Sisters Food Group

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? TQ720

Diolch am eich cwestiwn. Cyfarfu'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a minnau ag arweinydd yr awdurdod lleol y bore yma, ar ôl inni gael gwybod am y newyddion hynod siomedig hwn. Rwy’n cydnabod y bydd yn peri gofid i aelodau’r gweithlu. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad â’r cwmni i geisio deall goblygiadau’r datganiad a wnaed heddiw, ac i gynnig unrhyw gymorth y gallwn ei roi i’r gweithlu yr effeithir arno gan y cyhoeddiad y bydd y ffatri’n cau yn ôl pob tebyg.

Diolch am yr ateb yna. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint o ergyd fyddai hyn pe bai'r ffatri'n cau. Mae dros 700 yn gweithio yno, yng nghalon Môn. Mae cyfran uchel iawn yn byw yn lleol iawn, yn ddigon agos i gerdded i'r gwaith. Mi fyddai colli'r swyddi'n treiddio drwy holl gymuned Llangefni a thu hwnt, a dwi'n meddwl am bawb sy'n cael eu taro gan hyn, yn weithwyr a'u teuluoedd, ac, wrth gwrs, dwi'n nabod sawl un yn dda.

Rhoddwyd rhestr hir o resymau am y penderfyniad i mi gan brif weithredwr 2 Sisters: Brexit, chwyddiant, prinder gweithlu, COVID, prisiau ynni. Roedd yna elfennau'n ymwneud â chyflwr, maint a lleoliad y ffatri ei hun hefyd, meddai. Ond gallwn weld bod y ffactorau trosfwaol hynny'n rhai sydd o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid inni edrych at Lywodraeth y DU am ymateb yma hefyd. Rwyf wedi siarad â Chyngor Sir Ynys Môn y bore yma. Gwn eich bod wedi siarad â hwy hefyd, ac edrychaf ymlaen at weld pob un ohonom yn dod at ein gilydd yn y dyddiau nesaf.

Ac ydym, rydym yn galw am gymorth Llywodraeth Cymru ym mhob ffordd bosibl, gan geisio osgoi colli swyddi, neu golli cyn lleied â phosibl o swyddi, ac wedi hynny, yn y senario waethaf, heb os, bydd cynnig i sefydlu tasglu. Dywedodd Prif Weinidog y DU amser cinio fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau weithdrefnau y gall eu rhoi ar waith. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir yma: gyda mater mor fawr, gyda'r amseriad, gydag ymgynghoriad i gau mewn ychydig wythnosau, gan adael fawr ddim amser i chwilio am ddewisiadau amgen, bydd arnom angen mwy o lawer na thasglu ac ailhyfforddi staff i chwilio am gyfleoedd eraill. Mae arnom angen swyddi. Mae arnom angen buddsoddiad mewn busnesau lleol i dyfu yn y sector bwyd, ym maes ynni. Mae arnom angen cymorth i fusnesau gyda chostau ynni. Ac mae angen inni weld y pethau rydym wedi chwarae ein rhan yn paratoi'r ffordd ar eu cyfer fel cymuned yn cael eu cyflawni—ym maes ynni, y cyngor a chais porthladd rhydd Stena. Nid wyf yn derbyn mai tynged Ynys Môn yw bod yn ynys wyliau a lle i ymddeol. Ac nid yw hynny'n sarhad ar dwristiaeth, sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae, ond mae cymuned sy'n gwbl ddibynnol ar hynny'n peidio â gweithredu fel cymuned normal.

Ond wrth wraidd hyn, mae’r bobl, fy etholwyr, sy’n wynebu colli eu gwaith yng nghanol argyfwng costau byw. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi’r gweithwyr a’n cymuned ar yr adeg hon, ym mhob ffordd, i ddarparu cymorth i'r teuluoedd a fydd ei angen, a chymorth i’r cyngor allu ymdopi â phwysau ychwanegol ar wasanaethau? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU a phwyso arni i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi bod mor ddinistriol yma, ac i gydweithredu er mwyn darparu atebion? Byddai colli'r swyddi hyn yn echrydus, a hynny ddiwrnod ar ôl i weithwyr gael gwybod bod popeth yn iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Diolch am y gyfres o bwyntiau a wnaed. Cefais innau ddeall hefyd o sgyrsiau heddiw fod Brexit a’r newid i amodau masnachu yn ffactor o bwys, ynghyd â chwyddiant yn gyffredinol, ac ynni yn benodol. Ac wrth gwrs, mae newid wedi bod i’r cymorth ynni i fusnesau, ac mae'r cynnydd mewn gorbenion ynni, unwaith eto, yn ffactor sylweddol.

Mater i’r busnes yw’r pwynt ynglŷn â buddsoddi yn y safle, ac yn yr un modd, y cyfleuster o’i gymharu â safleoedd eraill yn y grŵp. Maent wedi gwneud dewisiadau ynghylch buddsoddi yn y safle. Ond mae’r holl bwyntiau hynny, Brexit, chwyddiant ac ynni, oll yn faterion y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau yn eu cylch, ac rwy'n credu eu bod wedi dweud yn glir iawn mai dyna sy'n achosi'r her benodol yn eu barn hwy.

Rydych yn iawn, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd y penderfyniad ei gyfathrebu yn golygu nad oes fawr o amser i fynd i'r afael â hyn. Maent wedi nodi eu bod yn disgwyl gwneud penderfyniad, ac os byddant yn bwrw ymlaen â'r penderfyniad i gau, byddai hynny'n digwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Golyga hynny, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, y byddai’n digwydd ymhen wythnosau yn unig. Felly, mae hon yn amserlen dynn iawn, ac rwy'n pryderu am ystod o ganlyniadau yn sgil hynny. Rydych yn llygad eich lle; ceir dros 700 o weithwyr, llawer ohonynt yn lleol iawn. Yr hyn y mae'n ei olygu yw nad oes gwaith gan bobl o oedran gweithio, ac mae'r potensial i bobl aros ar yr ynys yn galw am ddyfodol economaidd.

Felly, oes, mae gennyf ddiddordeb mawr o hyd yn y gwaith y byddwn yn parhau i'w wneud i greu dyfodol economaidd cynaliadwy i Ynys Môn, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith. Oherwydd mae rhai o’r pethau y byddwn yn siarad amdanynt yn bethau a fydd yn digwydd ymhen blynyddoedd, nid wythnosau. Felly, mae yna her hefyd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn y cyfamser. Felly, byddwn yn gweithio gydag unrhyw un a phawb i geisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Rydym am weld a oes modd achub y swyddi. Os nad oes modd gwneud hynny, beth yw'r dewisiadau amgen gorau? Beth fydd dyfodol y safle? Beth am y gadwyn gyflenwi? Mae’r rhain oll yn faterion nad oes atebion iddynt ar hyn o bryd, ond rwy’n fwy na pharod i weithio gyda’r Aelod a chynrychiolwyr etholedig eraill a’r awdurdod lleol i chwilio am atebion, a bydd hynny’n golygu gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae angen inni ystyried yn onest pam ein bod yn y sefyllfa hon a'r hyn y bydd ei angen er mwyn ceisio achub y swyddi hyn neu sicrhau dewisiadau amgen o ran cyflogaeth yn y dyfodol agos iawn.

16:00

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cwestiwn amserol heddiw? Hoffwn ategu sylwadau'r Aelod dros Ynys Môn. Yn bennaf oll, mae'n newyddion trychinebus i drigolion Ynys Môn, yn enwedig yn Llangefni, ac fel y clywsom, mae yna 730 o swyddi mewn perygl difrifol yng nghwmni 2 Sisters Food Group yno. Mae'n hynod o ddifrifol, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau sydd ar Ynys Môn ar hyn o bryd.

Yn briodol, tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw at gwestiwn sy'n cael ei ofyn heddiw i Brif Weinidog y DU gan Virginia Crosby AS, a'r ymateb mewn perthynas ag ymrwymiad yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu gweithdrefnau a chymorth lle gall wneud hynny. Ond hefyd, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae yma. Rwy'n sicr o blaid y galwadau am weithio trawslywodraethol, boed yn llywodraeth leol neu'r DU, gyda chi yma fel Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn awyddus i glywed mwy am eich disgwyliadau ynglŷn â sut y gallai hynny weithio'n ymarferol.

Fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: mae yna gynlluniau ac mae yna fuddsoddiadau ac mae yna gyfleoedd rydych eisoes wedi eu nodi i Ynys Môn dros y blynyddoedd i ddod; a wnewch chi heddiw ymrwymo i gyflymu rhai o'r buddsoddiadau a'r cyfleoedd a'r cynlluniau hynny yn sgil y cyhoeddiad heddiw ac yn sgil pwysau eraill sydd ar Ynys Môn, fel bod y trigolion, y bobl a allai fod yn wynebu colli eu swyddi, yn cael sicrwydd fod yna rai cyfleoedd da ar y gorwel iddynt?

Byddwn yn gweithio mor gyflym â phosibl i ddarparu budd economaidd nid yn unig i Ynys Môn ond i bob cymuned yng Nghymru. Yr hyn na allaf ei wneud, serch hynny, yw ceisio dweud, yn y cyfnod o wythnosau sydd ar gael i ni, y gallwn gyflymu'r holl fuddsoddiadau hynny. Ni fydd rhai ohonynt yn barod. Os ydych yn meddwl am Fenter Môn a'r gwaith y maent yn ei wneud, rwy'n credu bod yna ddyfodol mawr ar yr ynys, ond ni allwch esgus y bydd gwaith ar gael ddechrau mis Ebrill neu'n wir y bydd y gweithlu sy'n gweithio yn 2 Sisters yn gallu cymryd yr holl swyddi hynny.

Bydd angen meddwl am yr hyfforddiant a'r gofynion sgiliau i feddwl mewn gwirionedd am yr holl swyddi gwahanol sydd ar gael. Felly, mae arnaf ofn nad yw ôl-lenwi dros 700 o swyddi yn y sector hwn mewn mater o wythnosau yn rhywbeth y byddwn yn honni y gallwn ei wneud a bod yn onest. Ond rwyf am ddal ati i wneud yr hyn a ddywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, sef gweithio gyda phob partner i ddeall nid yn unig yr hyn sydd wedi digwydd a pham ond i gyflwyno'r achos yn y lle cyntaf i weld a allwn ni gefnogi a chadw'r swyddi—dyna'r cam cyntaf—wedyn os nad yw hynny'n bosibl, yr hyn sy'n dod nesaf, sut y gweithiwn gyda'r gymuned, sut y gweithiwn gyda'n rhanddeiliaid.

Mae'n gadarnhaol fod yr Aelod Seneddol wedi codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin gyda'r Prif Weinidog, ond mae angen gwneud mwy na chodi'r mater yn unig. Mae angen gweld pa gamau y mae'r busnes yn barod i'w cymryd a pha gamau y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w cymryd. Oherwydd yn y telerau masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd, gwnaed dewis clir ynghylch hynny—dewis clir. Ar rai o'r heriau ynghylch chwyddiant, ar rai o'r heriau ynghylch y newid i'r cymorth ynni, mae'r rhain yn ddewisiadau gweithredol a wnaed ac mae iddynt ganlyniadau termau real, ac rydym yn eu gweld heddiw, mae arnaf ofn.

Roeddwn innau'n siomedig iawn hefyd o gael galwad ffôn am 9 o'r gloch gan drigolion ar Ynys Môn. Yn amlwg, bûm yn siarad gyda chi, Weinidog, a bûm yn siarad hefyd gydag undeb Unite, sydd wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r gweithlu. Mae angen imi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o undeb Unite. Dylwn fod wedi datgan hynny'n gynharach hefyd pan oedd gennyf gwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Felly, ymddiheuriadau am hynny.

Mae'r ffatri'n cyflogi llawer o bobl leol, fel y dywedodd yr Aelod lleol, ond hefyd pobl ym Mangor a Chaernarfon hefyd, a phobl o ddwyrain Ewrop, India ac Affrica sy'n dod i wneud eu cartref ym Mangor hefyd. Mewn perthynas â Brexit hefyd, pan oeddem yn ymgyrchu o amgylch ffatri 2 Sisters yn sir y Fflint, roedd pobl yno'n ymgyrchu dros Brexit, ond roeddent yn dweud bryd hynny, rydych yn ymgyrchu dros hyn ac efallai y bydd yr effaith ar weithwyr sy'n dod o ddwyrain Ewrop yn golygu y byddai'r ffatri yn cau yn y dyfodol, oherwydd maent yn cynnal y swyddi i bobl leol yn ogystal.

Mae'r oddeutu 730 o swyddi hyn yn weithwyr ar gyflogau isel, ac i mi, rwy'n gwybod bod pwynt wedi'i wneud am ddarparu diwydiant a gwaith pellach, ond rwy'n wirioneddol bryderus am deuluoedd, am yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, ar y plant, a phopeth arall i'r gweithwyr hyn sydd ar gyflogau isel. Felly, a oes angen arian ar gyngor Ynys Môn i'w helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar hyn o bryd? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda hwy, ond wyddoch chi, nid yw nawdd cymdeithasol yn dda iawn drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n cymryd, faint, chwe wythnos, i gredyd cynhwysol ddod drwodd. Bydd angen cymorth cyflym iawn arnynt ar unwaith.

Felly, beth y gellir ei wneud? Clywais fod yna dasglu yn cael ei sefydlu, a hoffwn fod yn aelod o hwnnw hefyd, gan weithio gydag undeb Unite a'r Aelod lleol, ond byddant angen y cymorth hwn ar unwaith, oherwydd ni fydd ganddynt unrhyw arian wedi'i gynilo. Ni fydd ganddynt arian wrth gefn. Felly, a wnewch chi nodi beth y gallwch chi ei wneud ar hynny, os gwelwch yn dda, Weinidog.

16:05

Diolch, a diolch am gysylltu â mi y bore yma. Dylwn wneud hyn yn glir, Ddirprwy Lywydd: pan fo diswyddiadau'n cael eu gwneud, yn aml bydd sgwrs wedi bod gyda'r cyngor, gyda swyddogion cymorth eraill, gyda Busnes Cymru, weithiau gyda'r banc datblygu, weithiau'n uniongyrchol gyda thimau o swyddogion Llywodraeth Cymru, yn yr achos hwn Lesley Griffiths yn ei rôl fel Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. Mae gan yr adran fwyd gysylltiadau â'r sector hwn, ac wrth gwrs, yn ystod y pandemig, treuliais fwy o amser nag y byddwn wedi'i ddymuno yn darganfod mwy am y sector penodol hwn, oherwydd cafwyd achosion o COVID, a buom yn edrych ar rai o'r heriau. Felly, mae'r cwmni'n ymwybodol o fodolaeth Llywodraeth Cymru, y ffaith ein bod ni wedi mynd ati i ymgysylltu â'r cwmni hwn, ac roeddent yn gwybod sut i gysylltu â phobl yn yr adran fwyd ac yn adran yr economi. Ond nid oes unrhyw gyswllt wedi bod â Llywodraeth Cymru. Roedd y newyddion y bore yma yn syndod. Ni chafwyd unrhyw rybudd nac unrhyw ymgysylltiad blaenorol â ni.

Cefais alwad gan undeb Unite am yr hyn a oedd yn debygol o ddigwydd heddiw, ac maent yn amlwg yn bryderus am y swyddi yr awgrymai'r cyhoeddiad y byddent yn cael eu colli'n uniongyrchol. Maent yn poeni am effaith diswyddiadau ar raddfa fawr ar iechyd eu haelodau. Bron bob amser ceir canlyniad iechyd i'r gweithlu a'r gymuned gyfagos. Maent yn poeni beth fydd y telerau diswyddo, i ba raddau y byddai'r pecyn cyflog terfynol yn galluogi i bobl ymdopi â'r sioc o golli cyflogaeth a pha gyfleoedd sy'n bodoli i chwilio am waith pellach. Ceir pwyntiau ehangach am y gadwyn gyflenwi a'r holl bobl eraill yr effeithir arnynt gan y cau: pa mor ddilys yw'r ymgynghoriad? Beth fydd dyfodol y safle, hefyd—safle sylweddol o ran ei faint—a beth allai ddigwydd yno os bydd 2 Sisters yn bwrw ati i gau? Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau nad oes gennym atebion iddynt eto. Maent oll yn bwyntiau y mae angen inni weithio gyda'n gilydd arnynt. Rwy'n ddiolchgar am y dull adeiladol a fabwysiadwyd gan undeb Unite a'r cyngor, a byddaf yn edrych am ymateb priodol ac adeiladol gan y cwmni. Byddaf yn gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol wrth gwrs i geisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl i'r gweithlu sydd yno a'r gymuned oddi amgylch.

Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn drychineb i'r 730 o staff sy'n cael eu cyflogi yno, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau anodd am y cwmni hwn hefyd, oherwydd yn y gorffennol, fel y dywedoch chi, Weinidog, cafwyd nifer fawr o achosion o COVID, ac wyth mlynedd yn ôl roedd honiadau difrifol o dorri safonau iechyd yr amgylchedd, ond pan ymchwiliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i'r honiadau hynny, canfuwyd nad oeddent yn gywir. Ond pan fyddwch yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd a pham, tybed a wnewch chi ymchwilio i sicrhau bod hwn yn gwmni sydd wedi cynnal telerau ac amodau digonol yn y gweithle yn ogystal â safonau iechyd amgylcheddol digonol, oherwydd yn amlwg byddai angen unioni'r pethau hynny os yw'r cwmni am gael unrhyw ddyfodol o werth.

16:10

Mae gan y cwmni ôl troed sylweddol, ac wrth gwrs, mae yna safle sylweddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Felly, mae hwn yn gwmni sydd ag ôl troed ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Un o'r pethau y nododd y cwmni sydd wedi arwain at eu penderfyniad tebygol i gau, y maent yn ymgynghori'n ffurfiol arno ac a gyhoeddwyd ganddynt heddiw, yw bod y safleoedd eraill wedi derbyn buddsoddiad a bod ynddynt alluoedd a chapasiti gwahanol. Dewis y mae'r cwmni'n ei wneud ynglŷn â sut i fuddsoddi yw hwnnw, ac mae'n un o'r ffactorau wrth wneud y dewis. Wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld beth sy'n digwydd ar y safle wrth geisio deall a yw'n bosibl cadw'r gyflogaeth lle mae, ac os na ellir gwneud hynny bydd angen inni ddeall pa ddefnyddiau amgen sy'n bodoli, ac i'r safleoedd eraill sy'n dal i fodoli ac sy'n dal i gyflogi niferoedd sylweddol o bobl—rwy'n credu bod tua 1,000 o weithwyr ar y safle yng ngogledd-ddwyrain Cymru—o ran beth fydd yr amodau yno. Ac mae'n ymwneud â mwy na'r sefyllfa yn Llangefni yn unig, mae yna ddarlun ehangach, ond yn ddealladwy, mae'n rhaid canolbwyntio ar safle Llangefni, ar y gweithlu, yr effaith ar y gymuned a'r economi ehangach ar yr ynys ac yng ngogledd-orllewin Cymru.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Samuel Kurtz.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, arwyddodd ColegauCymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu gytundeb cydweithio hirddisgwyliedig yng Ngholeg Sir Benfro. Disgwylir i'r cytundeb gryfhau'r berthynas rhwng cynrychiolwyr colegau addysg bellach yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant adeiladu, a chydnabyddiaeth fod gan y ddau sefydliad ddiddordeb cyffredin mewn cefnogi'r diwydiant adeiladu drwy hwyluso prentisiaethau a datblygu cyflogwyr, pobl ifanc ac oedolion sy'n ddysgwyr. Mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i ragoriaeth, ond maent hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod dysgwyr yn cael yr hyfforddiant a'r sgiliau cywir sy'n angenrheidiol i flaenoriaethau'r diwydiant. Yn wir, mae'r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sy'n codi ymwybyddiaeth o addysg a hyfforddiant galwedigaethol a llwybrau gyrfa a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar fusnesau Cymru, yn enghraifft wych o golegau addysg bellach a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn cydweithio er budd dysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru. Yn rhan o'r rhaglen, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Coleg Sir Benfro groesawu dros 70 o ddysgwyr o bob cwr o Gymru i gystadlu yn rownd gyntaf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys 11 crefft yn y maes adeiladu ac roedd nifer o gwmnïau adeiladu lleol yn bresennol, yn cynnwys W.B. Griffiths a'i Fab, Carreg Construction, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a Grŵp Hyfforddi Dyfed. Hoffwn longyfarch pob dysgwr a gymerodd ran a dymuno'r gorau iddynt yn y gystadleuaeth. Diolch yn fawr.

Dwi am gymryd y cyfle i longyfarch O Ddrws i Ddrws, elusen cludiant cymunedol yn Llŷn, am ddarparu 20 mlynedd o wasanaeth i drigolion yr ardal. Ymgorfforwyd O Ddrws i Ddrws yn Ionawr 2003 ac, ers hynny, mae wedi cludo cannoedd o deithwyr ar filoedd o siwrneiau angenrheidiol—o apwyntiadau meddygol, siopa lleol neu ymweld ag anwyliaid, i ysgol, coleg neu i'r gwaith. Erbyn hyn, mae'r elusen yn darparu gwasanaeth llesiant, Lôn i Les, ac yn arloesi mewn gwasanaeth rhannu a gwefru ceir trydan, Gwefryl, a gwasanaeth Flecsi Llŷn, sy'n darparu cludiant cyhoeddus ar alw yn ystod misoedd yr haf yn ogystal. Mae'r diolch yn fawr i'r holl wirfoddolwyr a staff sydd wedi cyfrannu at barhad yr elusen dros y blynyddoedd, yn ymddiriedolwyr, gweinyddwyr a gyrwyr, etifeddwyr, dyngarwyr ac arianwyr, eu haelioni yn tystio i'r angen parhaol a'r gwaith hanfodol sydd yn cael ei gyflawni gan yr elusen. Heb wasanaethau O Ddrws i Ddrws, byddai bywyd cymunedol ymarferol annibynnol heb fynediad at drafnidiaeth bersonol yn amhosib yn Llŷn. Diolch amdanynt, ac ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf. 

Mae'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, ac mae elusen Jo's Cervical Cancer Trust wedi lansio ei hymgyrch fwyaf eto, yr ymgyrch i gael gwared ar ganser ceg y groth. Mae tua 160 diagnosis yn cael eu gwneud bob blwyddyn, a dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Ond yma yng Nghymru, mae gennym yr arfau i sicrhau bod canser ceg y groth yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol: rhaglen frechu feirws papiloma dynol, HPV, eang a gwasanaethau sgrinio serfigol a cholposgopi effeithiol iawn. Gall sgrinio rheolaidd yn unig leihau'r risg hyd at 70 y cant. Rydym yn atal mwy o achosion o ganser ceg y groth nag erioed, ond rydym hefyd yn wynebu rhwystrau, gan gynnwys anghydraddoldeb o ran mynediad a chwymp yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaeth. Mae effaith y pandemig hefyd wedi bod yn sylweddol ac mae angen gwneud gwaith i unioni hyn. Mae'r posibilrwydd o sicrhau bod un math o ganser yn rhywbeth sy'n perthyn i lyfrau hanes yn un cyffrous, ac mae'n bosibilrwydd y dylem ei groesawu a chael ein hysgogi ganddo. Er mwyn cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â materion sy'n codi heddiw, ac edrych ar raglenni'r dyfodol. Mae'r adroddiad diweddaraf gan Jo's Cervical Cancer Trust yn tynnu sylw at y rhwystrau a'r cyfleoedd i gael gwared ar ganser ceg y groth. Yn ystod Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, hoffwn annog pawb i gael eu brechlyn HPV a'u sgriniad serfigol, ac i gysylltu ag elusen Jo's Cervical Cancer Trust am wybodaeth a chefnogaeth. Gyda'n gilydd, gallwn gael gwared ar ganser ceg y groth.  

16:15
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar. 

Cynnig NNDM8192 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol

Eitem 6 y prynhawn yma: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8155 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi i helpu i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dadl ydy hon am y berthynas rhwng y byd digidol a'r byd o'n cwmpas ni, am y rhyngweithio sydd yna rhwng ein defnydd ni o dechnoleg ddigidol a'n pryderon ni am newid hinsawdd. Mi ddywedaf i, reit ar y dechrau, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol, dwi'n eiddgar i'n gweld ni yn gwneud mwy o ddefnydd o blatfformau digidol, i ddatblygu platfformau newydd ac i wella ein sgiliau digidol. Mae hynny, dwi'n meddwl, am ein cyfoethogi ni mewn llawer ffordd: creu cyfleoedd economaidd, gwella'n hiechyd ni, cefnogi'n hiaith ni, popeth, yn cynnwys ein helpu ni i daclo'r argyfwng hinsawdd. Drwy dechnoleg ddigidol mae rheoli ein defnydd ni o ynni yn well, a dyna sut mae modelu ffyrdd effeithiol o gynhyrchu ynni gwyrdd, mae cynllunio ffyrdd llai niweidiol o deithio o gwmpas yn digwydd drwy dechnoleg ddigidol, ac yn y blaen.

Ond—a hyn dwi am ei gyflwyno heddiw—mae’n rhaid i ni sylweddol lawer mwy bod y defnydd yna o dechnoleg ddigidol ynddo ef ei hun yn cynhyrchu ôl-troed carbon. Dwi’n codi hyn oherwydd y drafodaeth hynod ddifyr gawsom ni ar hyn yn y cyfarfod diwethaf o’r grŵp trawsbleidiol ar ddigidol. A beth glywom ni yn y drafodaeth honno oedd y gallai’r ôl-troed carbon yna fod yn un mawr iawn, iawn, os nad ydym ni’n ofalus. Ac mi ddes i i’r casgliad yma: yn ogystal â datblygu ffyrdd ymarferol o fod yn fwy effeithiol yn ein defnydd ni o ddigidol, y gallem ni hefyd fod yn meddwl rŵan, oes yna le i ddeddfwriaeth newydd.

Mae’r cynnig ei hun yn amlinellu'r math o Fil dwi’n credu gallai fod werth ei ystyried. Dwi’n gofyn i chi ei gefnogi fo, o ran ei gynnwys fel y mae o, neu o ran yr egwyddor bod yn rhaid i ni feddwl ar hyd y llinellau yma, rŵan, er mwyn bod mewn sefyllfa gref i ddelio efo rhai o’r heriau sydd ond yn mynd i dyfu os na wnawn ni fynd i’r afael â nhw. A gyda llaw, dwi’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru'n taclo'r heriau mewn sawl ffordd—nid credu ydw i fod swyddogion yn ddall i’r heriau. Mae cyrff fel y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio yn y maes yma, ond mae angen rywsut i’r heriau gael eu deall yn well gan fwy o bobl. 

Dydy llawer ddim yn deall bod penderfyniadau bob dydd maen nhw’n eu gwneud yn cael effaith amgylcheddol. Faint o drydan all gael ei ddefnyddio, neu faint o ôl troed carbon allai gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gyrru e-bost? Wel, ystyriwch faint o biliynau o e-byst sy’n cael eu hanfon. Efallai fod testun ambell e-bost yn codi’r tymheredd yn eich swyddfa chi, ond ystyriwch fod cadw’r data yn yr e-bost yna yn cyfrannu at boethi peiriannau mewn data centres, bod y gost amgylcheddol o oeri'r data centres yna yn mynd yn fwy ac yn fwy. Ystyriwch fod cynnwys attachment efo’r e-bost yn cynyddu'r angen am le storio data, ac y gall penderfyniad i yrru linc leihau'r ôl troed carbon. Mi allai deddfwriaeth yn gofyn am asesu ôl-troed carbon y defnydd o ddigidol mewn sefydliad anfon at wella arfer da o fewn y sefydliadau hynny.

Ystyriwch hefyd bod llawer ohonom ni'n boddi dan don o gyfathrebiadau junk ar e-bost. Beth os y gallai deddfwriaeth arwain at lai o e-byst yn cael eu hanfon a gwella yr amgylchedd a'n cynhyrchiant ni fel gweithlu ar yr un pryd? 

Rhag ofn nad yw'r neges yn ddigon clir: mae anfon llythyr A4 yn allyrru tua 25g o garbon deuocsid; mae e-bost gydag atodiad yn 50g—dwbl—a heb atodiad, 0.3g. Ac e-byst ac atodiadau sydd i gyfrif am 300 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, meddyliwch yn ofalus am gynnwys yr e-bost neu'r atodiad, neu hyd yn oed am anfon yr e-bost o gwbl. I mi, mae'r cysyniad o fod yn fwy cynhyrchiol drwy feddwl mewn ffordd mwy amgylcheddol yn rhywbeth eithaf cyffrous.

Ac mae penderfyniadau y gallwn ni i gyd eu gwneud yn cynnwys llawer mwy na faint o e-byst a anfonwn. A ydym yn tynnu llun neu fideo ar ein ffonau? Mae llun yn cymryd llai o le storio. Am ba hyd rydym yn storio'r data hwnnw? A ydym yn tynnu dwsinau o luniau ar y tro a byth yn dileu lluniau o'r albwm? Mae hynny'n cael effaith. Nid yw'n cael llawer o effaith ar lefel unigolion, ond dyna'r holl bwynt am fynd i'r afael â newid hinsawdd; mae'n ymwneud â'r effaith gyfunol.

Awgrymodd un arbenigwr yn y maes o barc gwyddoniaeth M-SParc ar Ynys Môn y gallwch edrych arno o safbwynt ein defnydd digidol a'n storio digidol. Mae angen inni feddwl faint rydym yn ei ddefnyddio yn y lle cyntaf—faint o ofod storio sydd angen inni ei greu ar gyfer fideo neu ffeil neu e-bost neu beth bynnag, ac yna i ba raddau y gwawn ddefnydd hirdymor o'r gofod storio hwnnw drwy beidio â chael mesurau cymhennu da ar waith i ddileu pethau mewn da bryd. Unwaith eto, gallai deddfu i gynnal asesiadau gorfodol o olion traed carbon digidol mewn perthynas â storio, er enghraifft, ar gyfer unrhyw sefydliad, annog yr arferion da hynny. Ni allwn barhau i gronni cynnwys digidol a meddwl nad oes canlyniad i hynny.

Ac wrth gwrs mae yna le y mae angen inni ei ddefnyddio yn bendant. Datblygu modelau deallusrwydd artiffisial newydd—hynod ddwys o ran pŵer cyfrifiadurol a gofod storio data. Ond mae angen inni wneud hynny, felly mae angen inni gael gwared ar fwy o'r pethau diangen, ond mae angen inni hefyd fod yn llai drud-ar-garbon yn y ffordd y mae canolfannau data'n cael eu rhedeg i storio'r data hwnnw. Bydd angen i nifer symud i lefydd lle mae'n oerach. Bydd newid i ddefnydd gyda'r nos yn arbed costau ynni ond ni fydd yn helpu'r amgylchedd, ond mae newid i bweru o ffynonellau adnewyddadwy yn mynd i'r afael â hynny. Ac mae yna botensial i Gymru oherwydd bod gennym ddigonedd o ynni adnewyddadwy yma. Ar yr un pryd, mae angen inni ddysgu gwersi gan wledydd fel Iwerddon, sy'n wynebu pryderon cynyddol ynglŷn â faint y mae canolfannau data ynni adnewyddadwy yn ei ddefnyddio. Unwaith eto, gallai deddfwriaeth helpu i ganolbwyntio meddyliau.

Gallwn barhau, ond rwyf am ddod i ben am y tro. Rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud mai dyma'r tro cyntaf i ni gael dadl o'r fath ar y math hwn o bwnc, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau, wrth inni geisio tynnu mwy o sylw at y mater, a chyflwyno deddfwriaeth i'w gefnogi hefyd, gobeithio.

16:20

Hoffwn ddiolch yn fawr i'n cyd-Aelod Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddo. Wrth gwrs, fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn croesawu technolegau newydd oherwydd y ffordd y gallant wella ein systemau lleihau allyriadau, ac mae hwn yn rhywbeth y gall Cymru arwain arno. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn dangos bod 60 y cant o'r holl batentau ynni carbon isel dros y pum mlynedd diwethaf yn gysylltiedig â newid tanwydd a thechnolegau effeithlon o ran ynni, a gall y cynnig hwn ar gyfer Bil ar leihau ôl troed carbon digidol fod yn allweddol i wneud hynny.

Nod rhan (a) yw

'ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd sero net, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol'.

Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gyflymu ein defnydd o seilwaith digidol gwyrdd. Pan fo gennym gymaint o dechnoleg ar flaenau ein bysedd nawr, mae'n rhaid sicrhau bod y ffynonellau sy'n ei bweru mor lân ac adnewyddadwy â phosibl.

Mae rhan (b) yn galw am

'[g]ynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni'.

Ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae'n rhaid cael dull mwy cydgysylltiedig o reoli data. Nid yn unig y bydd hyn o fudd i ddatgarboneiddio, ond bydd yn helpu mewn sectorau eraill fel ein gwasanaeth iechyd, addysg ac adrannau eraill.

Nodaf, yn benodol, ran (c), sydd â'r nod o gefnogi datblygiad sector data gwyrdd yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod hwn yn gyfle gwych i roi hwb i swyddi gwyrdd yng Nghymru. Byddai'n ategu prosiectau adnewyddadwy newydd ar y môr fel môr-lynnoedd llanw a ffermydd gwynt, a amlygwyd gennym yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf.  Byddai'r cyfleoedd addysg a hyfforddiant, yn enwedig i'n pobl ifanc, yn darparu ysgogiad sylweddol i adeiladu gyrfa mewn swydd fedrus sy'n talu'n dda yma yng Nghymru.

Ac yn olaf, nod rhan (e) yw

'annog arloesi i helpu i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd amcanion sero net cenedlaethol'.

Rwy'n cytuno, ac rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn ar sail y DU gyfan, gan ddod â'r meddyliau gwyddonol gorau a mwyaf disglair at ei gilydd o bob cwr o'r wlad. Mae Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar Llywodraeth y DU, neu ARIA, yn enghraifft dda o hyn. Cafodd yr asiantaeth hon ei sefydlu i archwilio'r cyfleoedd gwyddonol enfawr sy'n deillio o ddarganfyddiadau arloesol. Mae gan y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud nawr mewn data a thechnoleg botensial i ddarparu elw economaidd enfawr yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod. Yn y pen draw, os gallwn wella cysylltedd digidol a seilwaith ledled Cymru, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ellir defnyddio'r dechnoleg hon i fonitro ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, mae'n dasg y mae'n rhaid inni ei chyflawni. Rwy'n barod iawn i gefnogi Rhun a'r cynnig deddfwriaethol hwn. Diolch yn fawr.

16:25

Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ddod â'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i drafod mater nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ei fod yn bodoli yn y byd digidol hwn sy'n ehangu'n barhaus. Pan fyddwn yn meddwl am leihau ein hôl troed carbon, yn aml mae yna ragdybiaeth fod mynd ar-lein yn gweithredu fel dewis arall cynaliadwy i wrthsefyll ein heffaith ar yr amgylchedd, er enghraifft drwy weithio gartref yn lle gyrru eich car i'r gwaith, neu drwy fynd yn ddi-bapur i achub coed, gan storio'r holl wybodaeth a data yn y cwmwl. Pan fyddwn yn anfon e-bost, nid ydym o reidrwydd yn meddwl sut mae'r e-bost hwnnw'n cael ei storio a pha effaith y mae storio'n ei chael ar yr amgylchedd.

Ond y gwir amdani yw fod canolfannau data, sef yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno heddiw, yn adeiladau ffisegol sydd angen ynni ar raddfa enfawr i storio data. Cânt eu defnyddio 24/7 ac maent angen cael eu cadw mewn tymheredd cyson o 12 gradd Celsius fel nad ydynt yn dinistrio unrhyw ddata sy'n cael ei storio ynddynt. Maent hefyd angen mwy o ynni a dŵr i atal dirywiad gweinyddion, a dyna pam mae ymchwil yn dangos bod canolfannau data'n defnyddio bron i 3 y cant o ddefnydd trydan y byd ac yn allyrru 2 y cant o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hyn yn ddigon o ynni i bweru gwledydd cyfan ac allyriadau'n debyg i allyriadau'r diwydiant awyrennau byd-eang.

Felly, nid oes unrhyw amheuaeth fod hyn yn creu effaith ar ein hôl troed carbon. Ni allwn gael sefyllfa lle mae un llygrwr yn cymryd lle llygrwr arall, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, nid yw'n ddrwg i gyd, mae arnom ei angen yn sicr, ond mae'n rhaid inni fod yn onest am realiti canolfannau data a rhoi seilwaith yn ei le sy'n ymdrin â dulliau cynaliadwy fel canolfannau data gwyrdd cyn ei bod yn rhy hwyr, a chlywsom ambell awgrym arall gan Rhun nawr.

Rhaid i gwmnïau fel Microsoft, Switch a chwmnïau eraill sy'n prosesu a storio data weithio i chwilio am atebion arloesol gwyrdd i sicrhau'r effeithlonrwydd ynni mwyaf posibl. Ceir enghreifftiau da o hyn, o leihau oeri drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, i ddefnyddio niferoedd bach o weinyddion pan fo traffig data'n isel. Byddwn hefyd yn dadlau na ddylai unrhyw ganolfannau data newydd gael eu hadeiladu ar safleoedd maes glas yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2021, ysgrifennais at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt am eu hasesiad o effeithiau amgylcheddol canolfannau data. Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd wedi gwneud asesiad ac y byddai'n parhau i ymgysylltu â gwledydd eraill a'u canfyddiadau wrth i fwy o dystiolaeth ddod i'r amlwg. Gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud ar gyflymydd cenedl ddata Cymru, lle gall gwasanaethau cyhoeddus ddibynnu ar y gwaith casglu a storio data, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y dystiolaeth gynyddol hon ac nad ydym yn cynhyrchu effeithiau negyddol diangen ar ein hamgylchedd. Felly, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth, byddaf yn cefnogi eich cynnig deddfwriaethol gan Aelod y prynhawn yma, Rhun. Diolch.

Diolch, Rhun, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi cynigion y Bil hwn, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn llawer mwy blaengar yn ein dull o lunio polisi sy'n helpu i leihau ein hôl troed carbon mewn meysydd technolegol, yn enwedig gan y byddwn yn dibynnu'n fwy helaeth ar ddata digidol wrth symud ymlaen. Nid yw ond yn iawn ein bod yn rhoi deddfwriaeth ar waith sy'n helpu i sicrhau ein bod mor effeithlon â phosibl wrth ddefnyddio a storio data a bod gennym brotocolau ar waith, yn enwedig o fewn cyrff cyhoeddus, i rannu data'n well a dileu data nad oes ei angen mwyach.

Fel y byddwch i gyd yn cofio, siaradais yn y Siambr yn ddiweddar am ddata tywyll, a'r gwir amdani yw, er ein bod yn buddsoddi symiau enfawr o arian ar leihau carbon mewn diwydiant, gan annog pobl i newid ymddygiad, yn ogystal â newid y ffyrdd rydym yn cynhesu ein cartrefi ac yn teithio o gwmpas, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r broblem amlwg—sef ein bod yn mabwysiadu arferion ac yn croesawu datblygiadau technolegol yn ein bywydau sy'n arwain at gynhyrchu hyd yn oed mwy o garbon deuocsid. Er enghraifft, mae camera ar bron bob ffôn symudol, sy'n ein galluogi i dynnu lluniau a ffilmiau mewn ffordd na allem ei wneud 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn defnyddio apiau sy'n creu data am hwyl, ac rydym yn storio symiau enfawr na fydd byth yn cael eu defnyddio eto. Er fy mod yn cydnabod y dylem wneud popeth yn ein gallu i wella storio a defnyddio data mewn meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt, y gwir anghyfleus yw y bydd symiau sylweddol o ddata'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru a'u cadw ar weinyddion ar draws y byd, ac felly rydym yn cyfrannu at gynhyrchu carbon deuocsid mewn mannau nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Er enghraifft, mae data o'n ffonau Apple yn cael ei gadw mewn canolfannau data yn UDA. Rydym yn derbyn niferoedd enfawr o e-byst bob dydd yn hysbysebu hyrwyddiadau na fyddwn byth yn eu darllen, ac mae'r rhain yn cael eu cadw mewn gwledydd eraill ar weinyddion sy'n rhaid eu pweru, ac yn fwy allweddol, sy'n rhaid eu hoeri. Rhaid inni hefyd gydnabod maint y broblem. Yn fyd-eang, mae gan fwy na hanner yr holl fusnesau ddata sy'n segur neu ddata nad yw'n cael ei ddefnyddio, ac amcangyfrifir y bydd 6 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol drwy storio'r data hwn yn unig, ac ni fydd byth yn cael ei ddefnyddio.

I gloi, o ran Bil ar ôl troed carbon digidol, rwyf am ddweud bod angen inni feddwl hefyd ynglŷn â sut y cyfrannwn at ein hallyriadau carbon byd-eang gyda data sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a'i storio dramor, a daw hyn o wella ein dealltwriaeth o sut mae data yn llifo drwy sefydliadau a thrwy greu polisïau sy'n sicrhau bod gan ein cwmnïau yng Nghymru brosesau ar waith sy'n gwella amlygrwydd data tywyll ac sy'n rheoli ein prosesau storio data yn well. Gall y polisïau hyn helpu cwmnïau a sefydliadau wedyn i gydymffurfio ymhellach â deddfau preifatrwydd data, megis y rheoliadau cyffredinol ar ddiogelu data. Mae'n beth da ein bod yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted â phosibl a bod Cymru'n gwneud cyfraniad gwerthfawr, oherwydd amcangyfrifir y bydd y swm o ddata tywyll sy'n cael ei storio'n fyd-eang yn cynyddu bedair gwaith i 91 ZB erbyn 2025, ac mae hynny'n bendant yn tynnu sylw at yr heriau sydd o'n blaenau. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn annog pob Aelod yma i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

16:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am godi'r materion pwysig yn y ddadl a'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn gwybod ac yn cytuno bod defnyddio data a thechnoleg ddigidol yn hanfodol wrth ddarparu cyfleoedd sydd o fudd i bobl, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Rydym hefyd yn gwybod y gall ein dibyniaeth gynyddol ar dechnoleg ddigidol gynyddu allyriadau carbon drwy'r ynni a ddefnyddir wrth brosesu a storio llawer iawn o ddata a rhedeg platfformau digidol a thechnoleg—mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau wedi cyfeirio at hyn yn eu cyfraniadau.

Rwy'n cydnabod bwriad polisi'r Aelod yn y cynnig ac yn cytuno â'r teimlad sy'n sail iddo. Mewn gwirionedd, roedd yr Aelod, wrth agor, yn cydnabod bod gwaith eisoes yn digwydd yn y maes hwn. Fodd bynnag, byddai ei gynnwys yn amserlen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn her go iawn, gan ei bod eisoes o dan bwysau sylweddol ac fe allai wynebu mwy o bwysau, yn dibynnu ar ddigwyddiadau allanol.

Mae ein 'Strategaeth Ddigidol i Gymru' eisoes yn mynegi sut y gall technoleg ddigidol helpu i leihau allyriadau carbon yn gyffredinol a chyflawni ein huchelgeisiau sero net drwy gynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, gan ddefnyddio data'n glyfar ac yn agored, a moderneiddio technoleg. Ac wrth gwrs, mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i roi cynaliadwyedd wrth wraidd pob penderfyniad polisi, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn technoleg ddigidol a data.

O safbwynt y sector cyhoeddus, fel y cydnabuwyd, mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu gwasanaethau digidol effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr. Mae hynny'n golygu defnyddio technoleg yn fwy effeithlon, lleihau'r defnydd o garbon a lleihau'r angen i deithio. Yn ddiweddar, cynhaliodd y ganolfan ymarfer darganfod a gwnaeth argymhellion ar sut y gall technoleg ddigidol helpu tuag at sero net. Maent yn cynnwys pwysigrwydd mesur ôl-troed carbon gwasanaethau a symud at wasanaethau a phlatfformau a rennir. Mae'r ganolfan hefyd yn argymell adeiladu cynaliadwyedd i mewn i brosesau caffael digidol. Mae gwerth cymdeithasol yn dod yn rhan gynyddol o'r meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael, ac mae hynny'n cynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd. Mae'r ganolfan yn gweithio ar y camau nesaf i sicrhau bod yr argymhellion pwysig hyn yn cael eu cyflawni.

Uchelgais allweddol yn ein strategaeth ddigidol yw darparu gwell gwasanaethau digidol drwy ddefnyddio data'n well ac yn fwy moesegol. Mae defnydd cyffredin o safonau y cytunwyd arnynt yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Drwy sicrhau bod data'n hawdd i'w gael ac yn cael ei gyhoeddi'n agored, neu ei rannu'n ddiogel, gallwn leihau faint o ddata sy'n cael ei ddyblygu a'i storio, un o'r pwyntiau allweddol a wnaeth yr Aelod. Mae hyn yn lleihau costau ac ôl-troed carbon. Mae adrodd yn agored ar berfformiad amgylcheddol gwasanaethau hefyd yn sicrhau atebolrwydd a thryloywder o ran y defnydd o ynni.

Fel y gwyddom, mae angen data ar gyfer bron bopeth ar hyn o bryd, ac yn fwy felly yn y dyfodol. Mae canolfannau data, fel y crybwyllodd Sarah Murphy, yn chwarae rhan hanfodol yn storio'r data, y feddalwedd a'r caledwedd sy'n sail i'r gwasanaethau rydym i gyd yn eu defnyddio. Maent yn rhan annatod o'r gadwyn gyflenwi ac maent yn defnyddio ynni a phŵer wrth gwrs. Mae cyfrifoldeb mawr ar gwmnïau i leihau effaith carbon y data sydd ganddynt. Rydym yn gwybod bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn lleihau'r defnydd o bŵer, gan newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd, gan gynnwys y defnydd o wres gormodol wrth gwrs, ac unwaith eto, soniodd Sarah Murphy am hyn yn ei chyfraniad.

Mae hyn yn digwydd yng Nghymru hefyd. Rydym yn disgwyl gweld mwy o ganolfannau data yng Nghymru yn y dyfodol ac eisiau iddynt gael eu hadeiladu i safonau amgylcheddol y presennol a'r dyfodol. Mae ein cynllun ar gyfer lleihau allyriadau, Cymru Sero Net, yn gosod targedau cenedlaethol uchelgeisiol i ni'n hunain. Mae'n amlygu'r rôl y gall seilwaith digidol ei chwarae yn datgarboneiddio, yn ogystal â datgarboneiddio'r cyflenwad ynni ei hun. I gefnogi ein huchelgeisiau, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun sgiliau sero net cyn bo hir; bydd hwnnw'n nodi ein hymrwymiad i sgiliau sero net drwy fuddsoddi mewn pobl a thalent fel elfennau hanfodol mewn economi gryfach, decach a gwyrddach. Bydd sgiliau digidol yn un o'r themâu trawsbynciol.

Bydd ein strategaeth arloesi hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â mesur carbon ac yn tynnu sylw at y defnydd o offer digidol i'n helpu i ddeall yn llawn yr effaith a gawn ar leihau allyriadau carbon. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod yna ôl troed digidol wrth gwrs, ac mae ôl troed carbon i'r ôl troed hwnnw.

Rwyf am ddiolch i'r Aelod am y ffordd yr agorodd y ddadl drwy gydnabod ein bod yn gweithredu, ac mae'r grŵp trawsbleidiol yn gefnogol at ei gilydd i'r strategaeth ddigidol. Ond mae yna ôl troed carbon real i weithgaredd digidol, ond hefyd, fel y nodwyd, mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth go iawn fod ôl troed carbon i weithgaredd digidol. Rhan o'n her yw'r hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth a gweithredu i fynd i'r afael â hynny.

Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth ychwanegol yw'r ateb. Fodd bynnag, mae yna gydbwysedd i'w daro bob amser o ran pryd y gall deddfwriaeth a phryd nad yw'n gallu sicrhau'r cynnydd polisi rydym i gyd yn cytuno arno. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn datblygu'r cynnig ymhellach. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig heddiw; byddwn yn ymatal a bydd pleidlais rydd i'r aelodau o'r meinciau cefn sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod mwy i ni ei drafod am y cynigion sydd wedi'u hamlinellu heddiw, am weithredu ymarferol ac am ein parodrwydd i ystyried hynny yn y dyfodol.

16:35

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma, dwi'n credu sydd wedi bod yn un bwysig o ran cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl sydd ddim wedi meddwl am hyn o'r blaen ac atgyfnerthu'r ffaith ein bod ni, fel Senedd, yn barod i gymryd camau i geisio ymateb i broblem sydd ond yn mynd i fynd yn waeth. Dwi'n cydnabod dyw'r Gweinidog ddim wedi'i argyhoeddi bod yn rhaid i hynny gynnwys deddfwriaeth, ac efallai nad oes, ond mae'r ffaith ein bod ni yn barod i ystyried deddfwriaeth fel un o'r opsiynau yn golygu ein bod ni mewn llai o berig o fod mewn sefyllfa lle rydyn ni'n sylweddoli mewn blynyddoedd i ddod y dylem ni fod wedi bod yn cymryd rhywbeth mwy o ddifrif. Mae'n dda clywed Aelodau o'r meinciau cefn Llafur a Cheidwadol yn atgyfnerthu'r hyn oedd gen i i'w ddweud. Mae yna gytundeb clir bod yna fater yn y fan hyn y mae angen rhoi sylw iddo fo. 

Mae dau fater ar waith yma. Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer gwyrddu, sy'n bwysig iawn, fel sydd wedi'i gydnabod yma. Mae technoleg ddigidol yn allweddol i bopeth sydd angen inni ei wneud i wella ein gweithredoedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond ar yr un pryd, rhaid inni roi ein sylw i wyrddu digidol. Byddaf yn dal ati i edrych ar yr opsiynau ar gyfer deddfwriaeth, a gobeithio y bydd pleidlais gadarnhaol heddiw, ac rwy'n weddol hyderus y gallwn ei chael, yn arwydd fod hynny'n rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w gadw ar yr agenda fel Senedd. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Objection.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol—'Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon'

Eitem 7, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell. 

Cynnig NDM8189 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig ar ran y pwyllgor.

Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw am adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn ac sydd wedi rhannu eu profiadau nhw gyda ni fel pwyllgor. Mae hyn yn cynnwys y nifer sylweddol o ymatebion ysgrifenedig a gawsom. Mae hwnna'n dystiolaeth o ba mor bryderus y mae llawer o randdeiliaid am effaith costau byw ar eu gwaith. Hoffwn i ddiolch hefyd wrth gwrs i aelodau'r pwyllgor a’n tîm cynorthwyo am eu gwaith nhw.  

Mae diwylliant a chwaraeon yn arbennig o agored i’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gostau byw uwch. Dydy cymryd rhan mewn gweithgareddau heb ddychwelyd yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn niweidio’r incwm yn y sectorau hyn, ac yn golygu bod llawer o bobl—yn aml y rhai mwyaf difreintiedig—yn colli’r manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan. Ac fel y clywsom ni, nid pethau moethus ydy chwaraeon a diwylliant, ond y pethau sy’n rhoi pwrpas i fywydau pobl, y pethau sy’n ennyn hapusrwydd. Dydy’r colled ddim yn ariannol yn unig.

Ond mae’r pictiwr ariannol ar gyfer y sectorau hyn yn un sy’n achosi pryder. Mae lleoliadau yn y sectorau yn aml yn defnyddio llawer o ynni ac yn gweithredu gyda maint elw cul iawn. Mae pyllau nofio, er enghraifft, yn ddrud i’w gwresogi, ac yn wynebu costau cynyddol mewn meysydd eraill, fel cemegion glanhau. Mae costau uwch a llai o incwm yn golygu bod lleoliadau fel hyn mewn perygl o gau yn barhaol. Unwaith y byddan nhw wedi cau, maen nhw’n annhebygol o ailagor.

Ac mae’r problemau yn ddifrifol gyda diwylliant hefyd. Dywedodd cyngor y celfyddydau ym mis Medi fod yr

'argyfwng sy’n wynebu'r sector mor fawr ag ar unrhyw adeg dros y ddwy flynedd diwethaf.'

Roedd y sectorau hyn dan fygythiad o gau lleoliadau ar raddfa eang yn barhaol yn ystod y pandemig. Fe wnaeth gweithredu cyflym yn ystod COVID, a chyllid hefyd gan Lywodraeth Cymru, dros £140 miliwn, gwnaeth hwnna atal hyn rhag digwydd. Ein pwynt ni fel pwyllgor yw y byddai'r arian hwn wedi cael ei wastraffu pe bai’r lleoliadau hyn yn cael eu cau nawr.

Rydyn ni wedi galw am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu i gynnig achubiaeth i leoliadau a allai gau’n barhaol yn ystod y misoedd nesaf, ond sydd â siwr o fod dyfodol hir a chynaliadwy o’u blaenau fel arall. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi derbyn ein hargymhelliad allweddol ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer y sectorau hyn; mae hwn i'w groesawu, ond mae’r swm sy’n cael ei ddarparu, yn anffodus, yn ffracsiwn o’r hyn y mae’r sector wedi galw amdano.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at £3.75 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23. Wrth gwrs, mae arian ychwanegol yn beth i'w groesawu, ond gellir cymharu hyn â’r £5 miliwn i £10 miliwn ar gyfer y celfyddydau yn unig y mae cyngor y celfyddydau wedi galw amdano. Byddai’n dda gwybod faint o’r £3.75 miliwn y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog ato oedd ar gyfer dyfarniadau cyflog yn y sectorau hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym yn ystod yr ymchwiliad fod y

'twf yng nghostau ynni ynghyd â chwyddiant cynyddol yn peri risgiau i unigolion, aelwydydd, busnesau, sefydliadau a sectorau na welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.'

Ond ein barn ni fel pwyllgor yw nid yw’r ffordd y mae’n ymateb yn cyfateb i’r disgrifiad hwn. Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol gan y sector ddiwylliannol am ba mor gyflym oedd ei hymateb i COVID-19, ond hyd yma, mae ei hymateb i effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon wedi methu â chyd-fynd â pha mor ddifrifol yw’r argyfwng. Roedd y pandemig yn broblem gyffredinol a oedd yn gofyn am ymatebion penodol i’r sector. Mae’r un peth yn wir am yr argyfwng costau byw, ac yn anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers cyhoeddi ein hadroddiad.

Mae gostyngiadau yn y cymorth ar gyfer biliau ynni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ionawr 2023 wedi cynyddu pryderon ynghylch cau busnesau ar draws y sectorau diwylliant a chwaraeon. Dywedodd UK Active y bydd cynllun gostyngiad biliau ynni newydd y Llywodraeth yn methu â rhoi’r cymorth sydd ei angen ar filoedd o byllau nofio, canolfannau hamdden a champfeydd i osgoi cyfyngiadau pellach ar wasanaethau, cau canolfannau a cholli swyddi. Dywedodd y Music Venue Trust fod lleoliadau, ynghyd â’r sector lletygarwch cyfan, wedi’u rhoi mewn categori cyffredinol o gymorth sydd mor annigonol fel ei fod yn anochel yn gorfod arwain at gau lleoliadau yn barhaol.

Rydyn ni wedi dechrau gweld arwyddion sy’n peri pryder y gallwn weld lleoliadau yn cau ar raddfa eang ac yn barhaol, a hynny yn fuan iawn: yng Nghaerdydd, gyda dyfodol Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd; ac mae Cyngor Sir Powys wedi osgoi o drwch blewyn cau pyllau nofio dros dro mewn ymateb i’r argyfwng ynni. Mae un o’r deisebau mwyaf poblogaidd yng Nghymru ar hyn o bryd yn galw am gyllid uniongyrchol i gefnogi pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn ystod yr argyfwng ynni. Wrth gwrs, ym mis Tachwedd, rhybuddiodd UK Active fod 40 y cant o ardaloedd cyngor mewn perygl o golli eu canolfannau hamdden a phyllau nofio o fewn pum mis, neu weld gwasanaethau’n cael eu had-drefnu neu eu cau.

Felly, yn anffodus, dydy’r pictiwr ddim yn un braf; dyw e ddim yn un hawdd ei drafod, ond mae’n angenrheidiol inni ei drafod. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau eraill, ac wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog. Ac rwy’n gobeithio y gallwn ni gynnig gobaith yn yr adeg dywyll iawn yma.

16:45

Hoffwn ddiolch hefyd, fel y gwnaeth Delyth Jewell, i randdeiliaid o'r sectorau chwaraeon a diwylliant yng Nghymru am roi eu hamser i'r pwyllgor a nodi'r materion allweddol sy'n eu hwynebu. 

Fe wnaeth nifer o bethau fy nharo wrth inni gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys ystod enfawr o broblemau y mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu. Er enghraifft, cawsom dystiolaeth a oedd yn dangos bod cynnydd mewn cyflogau yn ffactor mawr mewn perthynas â throsiant staff, yn ogystal â fforddiadwyedd cadw staff. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni, unwaith eto, ddibynnu ar wirfoddolwyr i helpu i gadw ein sector diwylliant bywiog i fynd. Rwy'n gredwr mawr mewn gwirfoddoli, ond yn credu nad rhoi mwy o faich arnynt heb gefnogaeth gadarn yw'r ffordd i fynd. Felly, byddai'n dda clywed gan y Dirprwy Weinidog beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n dilyn gyrfaoedd yn y maes hwn yn cael eu hannog, ond hefyd pa gefnogaeth ychwanegol at hynny sy'n cael ei darparu i wirfoddolwyr yn ogystal.

Mae parodrwydd hefyd yn fater sy'n codi. Nid yw'r arian gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi ystyried cynnydd mewn costau cyn y pandemig. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ei glywed gan y tystion a ddaeth ger ein bron. Yn amlwg, cafodd lleoliadau diwylliannol a chwaraeon eu cefnogi drwy gydol y pandemig gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond mae yna ymdeimlad na cheir gwybodaeth am eu cyllid hirdymor, ac ni fydd cefnogaeth yn y tymor byr, fel yr amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb i'r pwyllgor, yn helpu yn hynny o beth. Felly, dylem fod yn edrych ymhellach i lawr y ffordd a sicrhau bod yr adnoddau cymunedol hanfodol hyn yn cael eu diogelu a'u meithrin. Ac rwy'n teimlo'r pryderon a amlinellir gan randdeiliaid pan ddywedant,

'Mae'r sector yn fregus yn ariannol—llawer o archebion hwyr, diffyg hyder y cyhoedd ac arian parod, niferoedd uchel nad ydynt yn dod felly dim incwm eilaidd yn y bariau ac ati.'

Mae'r breuder hwnnw, ochr yn ochr â chostau ynni cynyddol, yn peri i leoliadau godi eu prisiau, sydd yn ei dro yn prisio llawer o unigolion a theuluoedd yng Nghymru allan o fwynhau'r sector celfyddydau a diwylliant, sydd wedyn yn troi'n gylch dieflig.

Ddirprwy Lywydd, Chwaraeon Cymru a ddarparodd y rhan wirioneddol bryderus o'r dystiolaeth a gawsom, lle nodwyd bod costau cynyddol yn effeithio'n negyddol ar allu dau o bob pump o bobl a bod 30 y cant yn dweud eu bod yn gwneud llai o weithgarwch corfforol o ganlyniad. Dylai hynny ganu larymau ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn sgil ffocws ar leihau gordewdra, yn ogystal â gwerth chwaraeon i atal cyflyrau iechyd hirdymor.

Os caf droi at ateb Llywodraeth Cymru, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn pob un heblaw dau o'r argymhellion. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn argymhelliad 4 ynglŷn â darparu cyllid cyfalaf i'r sector chwaraeon a diwylliant ar gyfer gwyrddu eu defnydd o ynni, ond yn ei hymateb soniodd y byddai'n cael ei ddarparu drwy'r cyllid grant cyfalaf heb ei glustnodi a roddir i gynghorau. A dywedodd y gellid defnyddio'r arian hwn

'a roddir i Awdurdodau Lleol i gynnal eu cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol os yw Awdurdodau o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.'

I mi, rwy'n teimlo bod hwnnw'n gymal osgoi braidd, gan y bydd gan awdurdodau lleol flaenoriaethau sy'n cystadlu, yn amlwg, ac efallai na fydd sicrhau bod lleoliadau diwylliannol a chwaraeon yn gwneud defnydd effeithlon o ynni ar frig y rhestr honno o reidrwydd. Roedd hwn yn bwynt a wnaed yn dda iawn gan Community Leisure UK Cymru yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, felly byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed sut mae'r derbyniad hwn gan y Dirprwy Weinidog yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Siom hefyd oedd gweld o'r argymhellion nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn agor deialog gyda Llywodraeth y DU ar becynnau cymorth chwaraeon a diwylliannol, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Technoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Senedd y DU yn galw am ryddhad treth gwerth ychwanegol ym mis Tachwedd, a allai fod yn help mawr i'r sector cerddoriaeth fyw a'r sector treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer adfer adeiladau a gwerthiant tocynnau. Hefyd, fe glywsom pa mor bwysig oedd y gronfa adferiad diwylliannol i lawer yn y sector celfyddydau yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei ddatblygu.

Ymddengys bod yma thema. Roedd yr argymhelliad arall a wrthodwyd gan y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud â gwella ymgysylltiad â'r sector diwylliannol. Felly, mae'n edrych yn debyg efallai nad yw Llywodraeth Cymru'n dda am chwarae gydag eraill, ac mai perthynas un ffordd yw hi. Os yw'r hanes o ymgysylltu â'r sectorau hyn yn rhagorol fel y dywedwch, Ddirprwy Weinidog, pam mae'r argymhelliad hwnnw wedi ei gynnwys yn y lle cyntaf yn adroddiad y pwyllgor?

Nid yw'n alwad i sicrhau'n unig fod ein diwylliant yn cael ei ddiogelu, ond yn rhesymegol, mae'n rhan o'n heconomi hefyd. Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfleoedd economaidd enfawr, fel gwneud cais i gynnal Eurovision a Gemau'r Gymanwlad, a fyddai wedi arddangos ein talent ar lwyfan rhyngwladol. I gloi felly, dylai fod yn ddyletswydd arnoch chi fel Gweinidog a ninnau fel Aelodau o'r Senedd i ddangos pa mor bwysig yw diwylliant cyfoethog a balchder chwaraeon Cymru, yn enwedig i sicrhau eu bod yn parhau. Yn hytrach, yr hyn na ddylem fod yn euog ohono yw gwylio o'r cyrion yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n wynebu'r sectorau hyn. Diolch.

16:50

Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a diolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol iawn. Mae'n ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad, ac fel Tom Giffard, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn pob un ond dau o'n hargymhellion. Mewn sawl ffordd, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'r hyn a wyddom eisoes—mae'n nodi'r amlwg, fod costau wedi cynyddu—a gwelsom effaith y cynnydd hwnnw mewn costau, a gallwn ddisgrifio mewn ffyrdd gwahanol sut mae'r cynnydd hwnnw wedi effeithio ar y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn ein hetholaethau ein hunain. Ond rwyf eisiau gwneud pwynt ychydig yn wahanol y prynhawn yma. 

Er ei bod yn deg dadlau bod costau uwch yn cael effeithiau tebyg ar draws y wlad—yr un yw'r costau trydan cynyddol yma ag y byddent ym Mlaenau Gwent—yr hyn y byddwn i'n ei ddadlau serch hynny yw bod yr effaith ar bobl a lleoedd yn wahanol. Os mai ymateb Llywodraeth yn syml yw trin pob lle a phobl yn gyfartal, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawsom sgwrs yn y cwestiynau amserol am natur cydraddoldeb yn y byd rygbi, ond y pwynt rwy'n awyddus i'w wneud y prynhawn yma yw bod elfen bwysig a sylfaenol o gydraddoldeb ym mhopeth a wnawn o ran y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, ac ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn methu prawf sylfaenol cydraddoldeb. 

Fe gawsom sgwrs gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru, ac fe wnaeth y Gweinidog yr achos cywir a chlir mai mater i wahanol gyrff, fel Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yw dosbarthu arian yn ôl y llythyr cylch gwaith a osodwyd ar eu cyfer, a bod y llythyr cylch gwaith yn ymdrin â'r pum mlynedd nesaf. Rwy'n derbyn ac rwy'n cytuno â hynny, a dyna'r ateb cywir i'r cwestiwn, ond mae'n methu'r pwynt. Oherwydd bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i osod y llythyr cylch gwaith hwnnw, fel bod yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, a'r etholwyr y mae hi'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful mewn gwirionedd, yn cael eu trin yn gyfartal â'r bobl a gynrychiolir yma gan—Mae Jenny Rathbone bob amser yn dal fy llygad wrth imi edrych ar draws y Siambr, ac nid wyf yn pigo arnoch yn fwriadol, Jenny—ond y bobl y mae Jenny'n eu cynrychioli yng nghanol Caerdydd.

Felly, mae'n bwysig fod pobl nad ydynt yn gallu talu'r costau ychwanegol a godir i gael mynediad at weithgaredd diwylliannol neu chwaraeon yn cael cymorth ychwanegol i wneud hynny. Mae'n bwysig fod y lleoliadau a'r cyfleusterau nad ydynt yn gallu cynnal eu rhaglen weithgareddau na'u horiau agor i'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud hynny, ble bynnag y bônt. Ac mae mwy o ddibyniaeth ar gymorth Llywodraeth a chefnogaeth y Llywodraeth a rôl a lle Llywodraeth mewn llefydd fel Blaenau Gwent na mewn llefydd fel Caerdydd. Felly, os mai'r prawf a osodwn ar gyfer y Llywodraeth yw cydraddoldeb, rwyf am weld y Llywodraeth yn gwneud mwy lle mae'r angen mwyaf a llai lle mae llai o angen. Ac mae hwnnw'n bwynt anodd i'w wneud i'r Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn hoffi dweud wrthym fod pob man yng Nghymru'n cael ychydig bach o jam, ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers y 15 mlynedd y bûm yma. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod rhai pobl yn dal i fod angen mwy o gymorth tra bod eraill yn cael cymorth nad ydynt ei angen yn llawn efallai. Ac rwyf am osod prawf cydraddoldeb i'r Gweinidog wrth ddadlau a thrafod yr adroddiad hwn, oherwydd mae'n bwysig, ac mae'n ymwneud â'r sgwrs a gawsom yn gynharach am gydraddoldeb.

Oherwydd yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yng Nghymru yw newid diwylliannol, newid diwylliannol o ran gweithgaredd chwaraeon, fel bod pobl fel fi, sy'n edrych fel fi—a gadewch inni ei wynebu, rwyf wedi prynu siwt newydd bob blwyddyn am y 15 mlynedd diwethaf—yn gallu colli pwysau ac yn gallu cynyddu eu lefelau ffitrwydd. Ond ni allwch ei wneud os ydych chi'n cloi pobl allan o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd am na allant fforddio'r gost o'u defnyddio. Rydym eisiau gweld newid diwylliannol lle mae pawb yn cael yr un cyfle i fynegi pwy ydynt, eu hunaniaeth ddiwylliannol, eu cefndir eu hunain. Ond os nad ydynt yn mynd i'r lleoliadau diwylliannol sydd eu hangen arnynt i wneud hynny, rydych chi'n eu cloi allan o ddiwylliant ein gwlad.

Felly, os ydym am weld y newid y credaf ein bod i gyd eisiau ei weld, ar bob ochr i'r Siambr fel mae'n digwydd, mae hynny'n golygu na all y Llywodraeth sefyll yn ôl a dweud, 'Ysgrifennais lythyr y llynedd, ac fe ddof yn ôl atoch mewn pum mlynedd arall.' Mae'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn Llywodraeth weithredol, ac ymyrryd yn y materion hyn, fis ar ôl mis ac wythnos ar ôl wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd os yw o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb ac o ddifrif am gyflawni ei huchelgeisiau cydraddoldeb, a dyna rwyf am ei glywed yn eich ateb i'r ddadl hon, Weinidog. Diolch i'r Aelodau.

16:55

A gaf fi hefyd ategu fy niolch innau i'r clercod, fy nghyd-Aelodau a phawb a ddarparodd dystiolaeth? Fel dywedodd y Cadeirydd wrth agor y drafodaeth hon, mae'r sefyllfa yn waeth nag yr oedd hi pan oeddem ni'n cymryd tystiolaeth, ac mi oedd hi yn sefyllfa ddigon tywyll o ran dyfodol diwylliant a chwaraeon ledled Cymru ar y pryd. Ac mae pwynt Alun Davies yn un allweddol bwysig, dwi'n credu, o ran cydraddoldeb, oherwydd dwi'n casáu gweld arolygon gan gynghorau lleol ar y funud sydd yn gofyn, 'Ydych chi eisiau cadw eich llyfrgell neu'ch amgueddfa ar agor, neu ydych chi eisiau cael eich bins wedi'u gwagio yn rheolaidd? Ydych chi eisiau i bobl hŷn yn ein cymdeithas gael gofal neu ydych chi eisiau amgueddfa?' Dydy'r rhain ddim yn ddewisiadau teg, ac mae'n ffaith ein bod ni'n dal i weld diwylliant a chwaraeon fel pethau 'neis i'w cael'—rhai o'r pethau yma sydd jest yn ategu bywyd, yn hytrach na bod yn rhan hollol, hollol hanfodol o ran pawb ohonom ni.

Y gwir amdani ydy, er gwaethaf y ffaith bod gennym ni amgueddfeydd lleol, bod gennym ni lyfrgelloedd, bod gennym ni sefydliadau cenedlaethol, mae yna'n dal gormod o bobl yma yng Nghymru lle dydyn nhw ddim yn gallu cael mynediad ar y funud, fel y mae hi efo'r hyn sydd ar gael. Mae yna bob math o rwystrau i hynny. Rydym ni'n gwybod bod cost trafnidiaeth yn un o'r rhwystrau hynny. Os ydych chi ddim yn ddigon agos i allu mwynhau rhai o'r pethau anhygoel sydd ar gael am ddim, os ydych chi'n methu â'u cyrraedd nhw—. Dwi'n gwybod am amryw o bobl sydd yn byw yn agos iawn at Sain Ffagan ond yn methu â'i gyrraedd gan does ganddyn nhw ddim car neu eu bod nhw'n methu â fforddio bws. Mae honna'n rhwystr. Hyd yn oed pan ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, mae yna rwystrau o allu cyrraedd.

Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych hefyd, pan fo gennych chi'r costau trafnidiaeth, o ran hefyd bod lot o bobl yn dal i deimlo dyw diwylliant ddim iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael y cyfle, ac mae polisïau fel mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol yn rhan allweddol. Ond beth sy'n rhwystro pobl rŵan fydd costau bws i allu dod. Mae nifer o ysgolion yn dibynnu ar fws i allu dod i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Mae honna'n broblem ddirfawr oherwydd byddan nhw'n methu â fforddio'r tripiau yma. Felly, mae'r hyn fydd ar gael yn lleol yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig wedyn.

Rydyn ni'n sôn am wersi nofio; wel, mae cost hynny'n mynd i gynyddu. Mae pobl yn methu â'u fforddio nhw fel y mae hi. Yn lle ein bod ni'n cael ei weld o fel sgìl hollol allweddol, mi fydd yna benderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, gan olygu bod yna lai o gyfleoedd, lle, ar yr un pryd, rydyn ni eisiau bod yn hyrwyddo'r agenda ataliadol, a hefyd, o ran cenedlaethau'r dyfodol, y ffaith ein bod ni eisiau i bawb gael yr un cyfle yng Nghymru, lle bynnag maen nhw'n byw. Felly, mae yna heriau gwirioneddol. Dwi'n meddwl mai un o'r pryderon mawr oedd yn dod allan o'r adroddiad hwn oedd y ffaith bod y cynnydd mewn costau yn mynd i gael yr effaith ar y rhai rydyn ni angen bod yn rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw.

Un o'r pethau y byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog, efallai, i ehangu, ydy pam y gwrthodwyd y degfed argymhelliad o ran cynyddu'r ddeialog o ran y sector diwylliannol. Dwi'n derbyn bod gennych chi berthynas dda, ond gaf i ofyn faint o ddealltwriaeth sydd yna, neu faint o fapio sy'n cael ei wneud, o ran y sefyllfa sy'n wynebu'r sector ar y funud, a hynny ledled Cymru, a beth fydd effaith hynny wedyn o ran cynulleidfaoedd? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd cydweithio efo'r sector addysg ac ati i ddeall beth ydy effeithiau diffyg tripiau ysgol ac ati o ran y mynediad hwnnw. 

Un o'r pethau sydd ddim yn glir i fi o ran yr ymateb ydy sut ydyn ni hefyd yn mynd i fod yn adeiladu ar waith pethau fel yr adolygiad amgueddfeydd lleol a fuodd yn 2015, a oedd yn dangos yn glir effaith toriadau blaenorol o ran y gwasanaethau hyn. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol rŵan. Felly, efallai fod yna ddeialog, ond lle mae'r gweithredu wedi bod? Heb os, mae'n sefyllfa ariannol hollol, hollol anodd i'n cynghorau lleol ni am mai gwasanaethau anstatudol ydy nifer o'r rhain, gan gynnwys o ran chwaraeon, felly. Felly, os ydyn ni'n cymryd hyn yng nghyd-destun hefyd y gwasanaeth iechyd, mi wnes i sôn yn gynharach ynglŷn â phwysigrwydd chwaraeon a diwylliant o ran yr elfen ataliadol hefyd, ein bod ni'n sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb yng Nghymru. Sut ydyn ni felly yn mynd i fod yn edrych yn wahanol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn parhau?

Fe fyddwn i'n hoffi'n gweld neges glir gan y Llywodraeth dydyn ni ddim yn ystyried diwylliant a chwaraeon fel pethau neis i'w cael pan fo amseroedd yn dda, fod hyn yn eithriadol o bwysig o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran pob elfen o'r agenda, o daclo tlodi plant i iechyd y genedl. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, am eich ymateb chi o ran yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru, o ran gweld lleihad mewn gwasanaethau yma ar hyn o bryd, a sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r mynediad cydradd hwnnw i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru?

17:00

Daeth y Llywydd i'r Gadair. 

Hoffwn ddiolch hefyd i staff y pwyllgor a’r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad. Un o’r negeseuon allweddol yma yw, gyda chwyddiant ar ei lefel uchaf ers dros 40 mlynedd, mae llawer o bobl yn torri’n ôl ar wariant ychwanegol. I rai, mae hyn yn cynnwys gwariant ar chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol. Yn 2019-20, roedd 23 y cant o holl bobl a 31 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Y teuluoedd hyn sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ond hefyd mae ymchwil Chwaraeon Cymru yn awgrymu mai hwy yw’r grŵp mwyaf tebygol o fod yn anweithgar, a gall hyn achosi canlyniadau iechyd difrifol.

Mae'n peri cryn bryder mai dim ond 52 y cant o ddisgyblion sy'n symud i'r ysgol uwchradd sy'n gallu nofio, yn ôl Nofio Cymru. Mae nofio'n sgìl bywyd hanfodol y dylid ei dysgu drwy'r ysgolion gan y bydd hynny'n darparu ar gyfer pob plentyn, a gall fod yn rhywbeth na all teuluoedd ei fforddio mwyach pan fyddant yn wynebu pwysau costau byw. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o gyllid ar gyfer nofio am ddim, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac mae'n helpu i gadw pyllau nofio ar agor, ond dylai fod yn fwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn wynebu toriadau mewn termau real oherwydd pwysau chwyddiant, felly rwy'n deall y pwysau ar Lywodraeth Cymru hefyd.

Dywed ysgolion hefyd fod cost gynyddol cludiant ar fysiau ysgol yn afresymol pan fyddant yn wynebu pwysau yn sgil costau eraill. Mae gogledd Cymru ac ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio'n arbennig gan fod angen trafnidiaeth i gyrraedd canolfannau chwaraeon a phyllau nofio, fel y nododd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn gynharach. Gallai gweithredwyr trafnidiaeth ddarparu cludiant am ddim i ysgolion fel rhan o’r contract caffael gwerth cymdeithasol i awdurdodau lleol wrth wneud cais am gontractau cludiant o’r cartref i’r ysgol, ac efallai fod hyn yn rhywbeth y gallai’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ei godi drwy CLlLC.

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai—gwelaf fod y cadeirydd yn bresennol heddiw—wedi mynegi pryder ynghylch gwytnwch llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, gan fod popeth anstatudol ar y bwrdd wedi degawd o gyni, ochr yn ochr â’r pwysau chwyddiant ar hyn o bryd, costau ynni uwch a chyflogau cynyddol. Rwy'n credu bod y pwyllgor hwnnw'n mynd i ymchwilio i hyn hefyd. Mae clybiau tennis yn teimlo’r pwysau hyn yn ogystal, gydag adborth gan leoliadau'r Gymdeithas Tennis Lawnt cyn y Nadolig yn nodi bod 75 y cant yn poeni am gostau ynni, tra bo 92 y cant o leoliadau a chanddynt fwy nag wyth cwrt yn poeni am effaith costau cynyddol. Mae’r sefydliadau hyn oll yn galw am gymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol mwyaf y mae eu cyfranogiad wedi'i effeithio fwyaf gan y pandemig a’r argyfwng costau byw. Mae hwn yn gyfle pwysig i gynorthwyo mwy o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau bywyd a’u cyfleoedd drwy chwaraeon, gan gynnwys drwy wirfoddoli, a chymorth i fynd i’r afael â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu wrth gamu ymlaen drwy lwybrau’r gweithlu.

Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod chwaraeon a diwylliant yn rhan o’r gwasanaethau ataliol mewn perthynas ag iechyd a lles corfforol a meddyliol, fel y nododd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan yn gynharach. Mae’r rhain yn rhan o’r gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym wedi sôn o'r blaen mewn dadleuon nad ymwneud â'r GIG yn unig y mae hyn, mae'n ymwneud â'r holl wasanaethau ataliol hyn, wrth symud ymlaen. Diolch.

17:05

Diolch i’r pwyllgor diwylliant am ymgymryd â’r gwaith hwn a chodi’r mater pwysig hwn.

Lywydd, rwy’n codi i gyfrannu heddiw yn fy rôl fel cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ers dechrau'r flwyddyn hon wedi canolbwyntio ar effaith costau ynni uchel ar byllau nofio a chanolfannau hamdden. Mae’r ddeiseb o’r enw 'Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol' wedi denu dros 4,700 o lofnodion ers iddi agor ar ddiwedd 2022. Mae honno’n ddeiseb sy’n dal i gasglu llofnodion heddiw a hyd at ddiwedd y mis. Rwyf newydd wirio'r offeryn defnyddiol iawn y mae clercod y Pwyllgor Deisebau wedi'i roi i ni i'w ddefnyddio, ac mae llofnodion o bob etholaeth ar y ddeiseb hon. Credaf fod hynny'n arwydd o bwysigrwydd yr hyn y soniwn amdano yma. Mae’r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn:

'Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y genedl. Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac maent yn hanfodol i lesiant y wlad. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.'

Fel y dywedais, Lywydd, mae’r ddeiseb hon yn dal i gasglu llofnodion tan ddiwedd mis Chwefror, felly mae hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei ddweud yn uniongyrchol am y ddeiseb hyd nes y daw ger bron y pwyllgor yn nes ymlaen eleni. Ond os meddyliwn am y llynedd a gwaith y Pwyllgor Deisebau pan wnaethom gyhoeddi dogfen yn seiliedig ar atal boddi, un thema a oedd yn sail i’r gwaith hwnnw oedd pwysigrwydd hanfodol dysgu pobl ifanc i nofio ac i ddeall peryglon dyfroedd. Mae gwersi nofio'n datblygu sgìl bywyd allweddol sy'n agor y drws i fyd o hwyl a gweithgarwch corfforol, ond sydd hefyd yn datblygu diogelwch ac yn meithrin hyder. Mae angen cyfleusterau i ddysgu'r sgiliau hyn ym mhob cwr o'r wlad.

Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnewch ar y Pwyllgor Deisebau, a gwn eich bod yn ymchwilio i gefndir unrhyw ddeiseb. Felly, yn y gwaith y byddwch yn ei wneud, yn ôl pob tebyg, ar ôl i'r ddeiseb gau, a allech ymchwilio i weld a oes unrhyw byllau nofio yng Nghymru yn gweithredu gydag ynni adnewyddadwy? Oherwydd yn amlwg, os nad ydynt, byddant mewn sefyllfa hynod fregus.

17:10

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei hawgrym? Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ymchwilio iddo ymhellach. Mae’n awgrym gwerthfawr gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gwaith y pwyllgor i'w croesawu bob amser.

Lywydd, roedd yr her sy’n wynebu’r rheini sy’n rhedeg pyllau nofio yn fater a godwyd yn ymchwiliad y pwyllgor diwylliant, fel y clywsom heddiw, ac mae i'w gweld yn yr adroddiad rydym yn ei drafod. Clywodd y pwyllgor fod pyllau nofio eisoes yn gostwng eu tymheredd er mwyn arbed arian, ac mewn un ardal, roedd swyddogion yn rhagweld y bydd pyllau nofio’n cau o fewn y 12 mis nesaf. Sylwaf fod trydydd argymhelliad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheini sy’n rhedeg pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn gymwys i gael cymorth i wyrddu eu defnydd o ynni,

'fel yr hyn sydd ar gael gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru'.

Mae ymateb y Gweinidog yn cadarnhau y bydd ymddiriedolaethau hamdden yn gymwys, ond nodaf eto mai benthyciad di-log yw’r unig gymorth ariannol sydd ar gael. Wrth gwrs, mae hynny i’w groesawu’n fawr, ac ni ddylem fychanu'r ffaith honno, ond efallai na fydd hynny’n ddigon i’n cynnal am y 12 mis nesaf. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon ein bod mewn cyfnod arbennig o anodd, a gŵyr pob un ohonom nad oes gennym yr holl arian y byddem ei eisiau i ddiwallu ein hanghenion, ond a yw’r Gweinidog wedi ystyried darparu cymorth ariannol uniongyrchol i dalu'r costau a wynebir gan byllau nofio a chanolfannau hamdden yn awr? Diolch.

A gaf fi ddiolch o galon i Delyth Jewell, Cadeirydd y pwyllgor, a’i chyd-aelodau o’r pwyllgor am yr adroddiad pwysig hwn a gyflwynwyd ger bron y Senedd heddiw? Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn deall bod diwylliant a chwaraeon yn rhan annatod o wead a hunaniaeth bywyd yng Nghymru. Gwyddom mai prin y goroesodd ein sefydliadau diwylliannol a chwaraeon y storm ariannol a ddaeth yn sgil pandemig COVID, a hynny er gwaethaf y £140 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, pan alwodd llawer o bobl am i'r arian hwnnw fynd i rywle arall. Ond wrth iddynt ailafael ynddi mewn byd ôl-bandemig, mae ein sectorau celfyddydol bellach yn wynebu’r argyfwng costau byw aruthrol hwn, a hynny ochr yn ochr â'r colledion sy'n weddill ar ôl COVID-19 o ran capasiti'r gweithlu, wrth i gerddoriaeth fyw wynebu un o’i chyfnodau gwaethaf ers yr ail ryfel byd. Rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddau yn unig o argymhellion adroddiad y pwyllgor, er fy mod yn cydymdeimlo ag argymhelliad 6, â’r symiau sylweddol o arian sydd eu hangen, ond mae hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli’n llawn, ac felly rwy’n deall pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 6.

Yn gyntaf, argymhelliad 7, sef y dylai Llywodraeth Cymru annog gweithgarwch diwylliannol a chwaraeon mewn hybiau cynnes ac ariannu’r darparwyr yn unol â hynny. Rwy’n falch iawn o weld bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i dderbyn yr argymhelliad hwn. Yn Islwyn, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hybiau cynnes dynodedig y mae wedi'u galw'n 'fannau croesawgar' mewn amrywiaeth o leoliadau, megis llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi, clybiau chwaraeon a llawer o leoedd eraill. Un man croesawgar o’r fath yw llyfrgell Trecelyn, sy’n rhan o neuadd goffa Trecelyn, lle mae fy swyddfa etholaethol. Ond mae'r adeiladau cymunedol eiconig hyn—fel Memo Trecelyn, lle perfformiodd Paul Robeson—wedi chwarae rhan ddiwylliannol annatod ym mywyd ein cymunedau, ac mae'n rhaid iddynt barhau i wneud hynny. Yn wir, mae ein treftadaeth lofaol ddiwydiannol yn rhan annatod o gynigion diwylliannol a cherddorol neuaddau gweithwyr. Rwy’n gweld drosof fy hun yn wythnosol pa mor bwysig yw’r adeilad hwn fel hyb diwylliannol, a hefyd ei awditoriwm perfformio, sef calon yr adeilad. Felly, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu hyn, ac wedi darparu swm cychwynnol o £1 filiwn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ac ehangu hybiau cynnes ledled Cymru. Mae’r pandemig, a'r argyfwng costau byw bellach, wedi dangos sut mae angen i ni, yn fwy nag erioed, greu a chynnal canolfannau cymunedol diwylliannol lle gall cymdeithas ddod at ei gilydd, oherwydd gyda’n gilydd, rydym yn gryfach, ac yn ddiwylliannol, rydym yn gryfach.

Yn olaf, hoffwn droi at argymhelliad 8, sef y dylai Llywodraeth Cymru roi arweiniad i’r sectorau diwylliant a chwaraeon yn ystod yr argyfwng costau byw. Roedd yn dda gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, a nodaf fod y Llywodraeth yn datgan ei bod wedi ymrwymo bron i £4 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a sector y celfyddydau, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal ag amrywiaeth o gyrff eraill. Mae gallu’r sectorau diwylliant a chwaraeon i gynyddu eu cymhwysedd i reoli ac arwain yn hanfodol i ddarparu digwyddiadau a chynigion ar lawr gwlad i'r cyhoedd a’n cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Lywydd, credaf fod pob un ohonom wedi cael ein galw yma i Senedd Cymru fel ceidwaid a gwarcheidwaid tapestri cyfoethog a bywiog bywyd Cymru, ac nid yn unig i warchod, ond i gefnogi ein bywyd diwylliannol, i fod yn wyliadwrus, i ddiogelu Cymru ac i ddiogelu ein tirweddau diwylliannol a'n chwaraeon, ac i hybu, llywio ac arwain Cymru i mewn i ddadeni newydd—hunaniaeth, celfyddyd a rhagoriaeth. Diolch.

17:15

Credaf fod hwn yn adroddiad pwyllgor ac yn ddadl bwysig iawn. Mae gan y sector hamdden ran bwysig iawn i’w chwarae yn ein bywydau yng Nghymru, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Maent mor bwysig er mwyn mwynhau bywyd, ar gyfer iechyd a ffitrwydd ac ar gyfer ansawdd bywyd. A diolch byth, credaf ein bod wedi gweld cysylltiadau llawer gwell rhwng y byd chwaraeon a ffitrwydd a byd iechyd, ac yn wir, gofal cymdeithasol. Yng Nghasnewydd, rydym yn lwcus o'n hymddiriedolaeth hamdden, Casnewydd Fyw, sydd, yn fy marn i, wedi dangos enghreifftiau da iawn yn gyffredinol ac o ran cysylltiadau â’r sector iechyd. Felly, maent wedi gwneud llawer o waith gydag atgyfeiriadau ar gyfer ymarfer corff, adsefydlu cardiaidd, ymdrin â COVID hir, defnyddio canolfannau ar gyfer brechu yn ystod y pandemig, ac yn awr, agor canolfan Casnewydd ar gyfer pobl sy'n cysgu allan. Felly, maent yn gweithio i sefydlu cysylltiadau mewn sawl maes, sy'n bwysig tu hwnt yn fy marn i.

Ond fel y clywsom, mae’r gwaith da hwn dan fygythiad enbyd bellach oherwydd costau ynni, yr argyfwng costau byw, chwyddiant, ac wrth gwrs, yr effaith ar gyflogau. Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw, yn gwbl briodol, a bydd hynny ynddo’i hun yn arwain at gynnydd o £350,000 y flwyddyn yn eu bil cyflogau. Felly, credaf mai'r hyn a welwn yw llai o incwm a mwy o alldaliadau, a bydd hynny'n golygu llai o chwaraeon a llai o weithgarwch corfforol. Ac yn anffodus, diswyddiadau posibl i weithluoedd ymroddedig ledled Cymru, gan danseilio ein gwaith ar iechyd a lles, a fydd yn ychwanegu at bwysau hirdymor ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac wrth gwrs, fel rydym eisoes wedi'i glywed, y rhai mwyaf agored i niwed a chymharol ddifreintiedig sy'n debygol o ddioddef fwyaf, gan y byddant yn cael eu prisio allan o'r farchnad, fel petai, ac ni fyddant yn gallu talu'r costau, ac yn wir, y costau uwch y mae'r pwysau hwn ar y sector yn debygol o arwain atynt.

Felly, mae’n gyfnod mor anodd. Ac fel y clywsom, mae’r effaith ar byllau nofio hefyd yn peri cryn bryder, fel rhan o’r darlun cyffredinol. Credaf ein bod yn gwybod, onid ydym, fod angen i lawer mwy o'n pobl ifanc ddysgu nofio, am y rhesymau y clywsom amdanynt eisoes. Rwy’n defnyddio fy mhwll nofio lleol yn rheolaidd, ac yn sicr, rwyf wedi sylwi ar y tymheredd yn gostwng yn y cyfnod diweddar, mae'n rhaid dweud. Ond mae o fudd mawr i oedolion sydd am fanteisio ar un o’r mathau gorau o ymarfer corff, ac mor bwysig hefyd ar gyfer dysgu ein pobl ifanc i nofio.

Rydym yn wynebu’r posibilrwydd o lai o oriau, costau cynyddol, y rhai mwyaf difreintiedig yn dioddef yn anghymesur o gymharu â grwpiau incwm uwch—mae hynny oll yn peri cymaint o bryder mewn perthynas â chynifer o strategaethau a rhaglenni pwysicaf Llywodraeth Cymru. Gwelsom gamau pwysig iawn gan Lywodraeth Cymru ac eraill i gynnal y sector yn ystod y pandemig, a byddai’n gymaint o drasiedi pe bai’r cymorth hwnnw’n cael ei danseilio gan yr argyfwng presennol, a phe na bai cymorth cyffelyb yn cael ei ddarparu yn awr i fynd i’r afael â’r her benodol hon. Fe wyddom, fel bob amser, fod ymateb Llywodraeth y DU yn druenus o ddiffygiol mewn perthynas â chostau ynni a'r ffordd y maent yn gwrthod cefnogi’r sector hamdden yn briodol ar adeg mor dyngedfennol.

A gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, fy mod yn credu mai dyma'r sector sydd wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn? Nid ydynt yn eistedd o gwmpas yn aros am gymorth. Soniodd Jenny Rathbone am y sefyllfa ynni, er enghraifft, a gwn fod Casnewydd Fyw wedi gwneud llawer o waith yn gosod paneli solar ar doeau, a sicrhau effeithlonrwydd ynni; mae ganddynt lawer mwy o gynlluniau i ddefnyddio eu toeau ar gyfer paneli solar ac i ddefnyddio gwres o'r ddaear. Ond bydd angen cymorth arnynt i dalu'r gost gychwynnol os ydynt am allu gwneud hynny, ac mae'n gyfle buddsoddi i arbed gwych y gobeithiaf y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi.

Lywydd, mae gan y sector hamdden, chwaraeon a gweithgarwch corfforol gymaint i’w gynnig, ac mae’r ymddiriedolaethau hamdden hyn mor bwysig ar gyfer cefnogi clybiau chwaraeon lleol a grwpiau cymunedol. Mae hyn oll wedi'i gynnwys yr adroddiad pwysig hwn, ac rwy'n gobeithio y gallwn—Llywodraeth Cymru ac eraill—ymateb i’r heriau hyn i gynnig y cymorth sydd mor bwysig ar gyfer y tymor hir a’r agenda ataliol y mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei chylch.

17:20

Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyfrannu i'r ddadl nawr, Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 17:21:20
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch. A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol am eu hymchwiliad manwl ac ystyriol i effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon, ac am gyflwyno’r ddadl hon yn y Senedd y prynhawn yma?

Mae effaith costau cynyddol yn arbennig o uchel ar draws meysydd diwylliant a chwaraeon yn fy mhortffolio, yn enwedig i sefydliadau a sectorau sydd wedi'i chael hi’n anodd adfer yn ariannol wedi’r pandemig. Ac fel y cydnabuwyd gan sawl cyfrannwr y prynhawn yma, rhoddwyd cymorth sylweddol i’r sectorau hyn drwy’r pandemig i sicrhau y gallent adfer ar ôl y pandemig a bod yn rhan o’n hadferiad ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, yn anffodus, aethom yn syth o'r pandemig i mewn i argyfwng costau byw ac argyfwng ynni nad oeddem wedi'u rhagweld. Mae cynnydd mawr mewn prisiau ynni yn ychwanegu at y pwysau sylweddol ar gyllidebau, fel y clywsom. Mae llai o incwm gwario'n golygu bod yn rhaid i bobl dynhau eu gwregysau a gwario llai ar hamdden ac adloniant. Mae costau byw uwch hefyd yn effeithio ar recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr, wrth i bobl ei chael hi'n anodd fforddio costau teithio a gofal plant, neu ddewis swyddi sy'n talu'n well. Mewn rhai achosion, mae canlyniadau'r heriau hyn gyda'i gilydd yn arwain at gyfyngu rhaglenni gweithgareddau ledled Cymru. Mae cynnydd sylweddol yng nghostau'r gadwyn gyflenwi, yn enwedig mewn perthynas â deunyddiau a llafur, hefyd yn effeithio ar brosiectau cyfalaf a gwaith cynnal a chadw.

Felly, i droi at adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y pwyllgor a’i argymhellion, ac rydym yn falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonynt—wyth o’r 10 argymhelliad—ac rwyf am ymhelaethu ychydig ar y ddau na wnaethom eu derbyn. Felly, ar argymhelliad 6, yr alwad am becyn cymorth ar gyfer y DU gyfan i gefnogi’r sectorau diwylliant a chwaraeon, fel y dywedom, mater i Lywodraeth y DU yw hwn yn gyfan gwbl. Mae effaith y cynnydd mewn costau byw a methiant addewidion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid newydd yn lle cyllid yr UE yn llawn wedi creu heriau sylweddol, ac er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Tom Giffard, ni ddylem adael i Lywodraeth y DU anwybyddu ei chyfrifoldeb am hyn, ac awgrymu bod pobl eraill yn gwneud y gwaith drostynt. Mae hwn yn faes a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl, ac mae’n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fel Llywodraeth Cymru—

Yn fy nghyfraniad, gelwais arnoch i weithio gyda Llywodraeth y DU—

—sy'n rhywbeth na wnaethoch. Nid i adael iddi anwybyddu ei chyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd. Fel y gwyddoch, roeddwn yn rhan o’r pwyllgor a luniodd yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n dal i gredu ynddo'n llwyr. Felly, roeddwn am egluro'r sylw hwnnw.

Rwy'n credu bod yn rhaid ichi ei ddeall o'n safbwynt ni, oherwydd mewn gwirionedd mae gweithio gyda Llywodraeth y DU yn groesosodiad, gan nad ydynt yn gadael ichi weithio gyda hwy; maent yn dweud yr hyn y maent am ei ddweud wrthych, maent yn sathru ar bob maes cymhwysedd datganoledig drwy geisio ein hosgoi'n llwyr a rhoi arian mewn mannau nad ydynt yn rhan o'n rhaglen lywodraethu. Felly, nid hwy yw'r bobl hawsaf i weithio gyda hwy. Felly, fe ddywedaf hynny ar y dechrau.

Ond fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio i flaenoriaethu ein cyllidebau i warchod y rhai mwyaf agored i niwed ac i gynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Yr argymhelliad arall na wnaethom ei dderbyn oedd argymhelliad 10, y dylai Llywodraeth Cymru wella ei gwaith yn ymgysylltu â’r sector diwylliant. Nawr, mae gennym hanes ragorol o ymgysylltu â'n sectorau. Rydym yn gweithio’n agos ac ar y cyd â chyrff y sectorau a sefydliadau unigol i fonitro a deall effaith yr argyfwng costau byw, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy ein gwaith ar y strategaeth ddiwylliant newydd. Byddai derbyn yr argymhelliad hwn wedi bod yn anghyson, felly, gan y byddai wedi golygu derbyn nad oeddem yn gwneud yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yn y maes hwn.

Mewn perthynas â'r argymhellion eraill a gafodd sylw yn y ddadl heddiw, mae ein hymatebion fel a ganlyn: ar weithio gyda’r llyfrgell genedlaethol i ddiogelu ei chasgliadau yn argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymheiriaid yn y llyfrgell genedlaethol ac yn darparu cymorth ychwanegol, lle bo modd, o gofio effaith y costau cynyddol a welsom dros y misoedd diwethaf. Dyfarnwyd £650,000 yn ychwanegol yn 2022-23 i helpu i fynd i’r afael â chost gynyddol cyfleustodau a phwysau costau byw, a £500,000 arall i dalu am system dân newydd i sicrhau diogelwch eu casgliadau. Yn 2024-25, bydd yn cael £1.5 miliwn ychwanegol yn benodol tuag at ei storfa gasgliadau newydd.

Bydd y llyfrgell hefyd yn rhan o brosiect ehangach rydym yn edrych arno mewn perthynas â rheoli casgliadau a'r posibilrwydd o rannu cyfleusterau storio ar draws sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a lleol. Byddai hyn yn archwilio gwelliannau cyfalaf, gan gynnwys y potensial i leihau costau drwy rannu adnoddau a lleihau'r defnydd o ynni, drwy gyfleusterau storio casgliadau a modelau mwy ecogyfeillgar. Disgwylir i gam cychwynnol y gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2024.

Bydd refeniw cymorth grant y llyfrgell genedlaethol hefyd yn cynyddu. Ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi am amser cyfyngedig i gynnal pwysau ychwanegol sy'n ymwneud â chyflogau, costau byw a chyfleustodau. Bydd cyllid ychwanegol pellach yn cael ei ddarparu i gefnogi blaenoriaethau’r cytundeb cydweithio, gan gynnwys cynaliadwyedd ariannol, ac er bod pwysau pellach yn ymwneud â chwyddiant yn parhau i fod yn bryder yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i gefnogi’r llyfrgell genedlaethol yn 2023-24 a 2024-25.

Ar argymhelliad 2, unwaith eto, mae hwn yn cyfeirio at un o gynlluniau Llywodraeth y DU. Menter Llywodraeth y DU yw’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni, ac rydym eisoes wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch cynnwys lleoliadau sy'n defnyddio llawer o ynni, megis pyllau nofio, o fewn y trothwy uchaf ar gyfer cymorth. Rydym yn gweithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru i barhau i ddadlau’r achos hwnnw, oherwydd os bydd prisiau’n codi, bydd yn rhaid i fusnesau dalu’r costau ychwanegol.

Bydd llyfrgelloedd ac amgueddfeydd hefyd yn gymwys i gael cymorth ychwanegol fel diwydiannau ynni-ddwys, ond ni fydd canolfannau hamdden a phyllau nofio yn cael eu hamddiffyn i'r un graddau rhag prisiau ynni uchel. Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys sylwadau am byllau nofio yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar y cynllun rhyddhad ar filiau ynni, ac mae’n parhau i drafod y materion hyn ac i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU. Cyfarfu swyddogion â chynrychiolwyr sector ar 20 Ionawr yn ogystal i gasglu tystiolaeth i ddadlau'r achos cryfaf posibl dros roi’r cymorth a amlinellwyd heddiw i ganolfannau hamdden a phyllau nofio.

Ar argymhellion 3 a 4 ynghylch cymorth i ymddiriedolaethau hamdden wyrddu eu cyflenwad ynni a'u defnydd o ynni, gall awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus gael cymorth technegol ac ariannol drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni eu pyllau nofio a’u canolfannau hamdden, yn cynnwys y rheini a reolir gan ymddiriedolaethau hamdden, gan helpu i leihau allyriadau carbon, a’r cymorth ariannol ar ffurf benthyciadau di-log o raglen ariannu Cymru. Nawr, dylai sefydliadau ystyried eu costau ynni a’u gwytnwch eu hunain yn rhan o’u cynlluniau cyfalaf arferol ar gyfer eu hystadau. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r cyllid cyfalaf heb ei neilltuo a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol gan awdurdodau lleol yn y modd hwn os yw awdurdodau o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, oherwydd, fel y gŵyr Tom Giffard, rydym yn ymwybodol iawn fod yr awdurdodau wedi dweud yn glir nad ydynt yn dymuno cael cyllid wedi'i neilltuo. Felly, mae'r cynnydd ychwanegol y maent wedi'i gael yn eu grant cynnal ardrethi eleni yn eu galluogi i wneud mwy o ddewisiadau ynglŷn â sut y maent yn defnyddio eu harian.

Caiff cyllid cyfalaf penodol ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru hefyd ar gyfer gwaith adnewyddu ac ailwampio ailfodelu ysgolion a cholegau—er enghraifft, drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy. Mae'n ofynnol bellach i brosiectau o'r fath sicrhau statws carbon sero net, ac yn aml, maent yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon. Darperir cyllid hefyd drwy grant cyfalaf adeiladau awdurdodau lleol, a gyflwynir o 2023-24 ymlaen, ac a allai hefyd fod o fudd i adeiladau chwaraeon neu ddiwylliannol yn ystad yr awdurdod lleol. Bydd prosiectau o'r fath hefyd yn gymwys i gael cymorth drwy gynllun cyfalaf trawsnewid yr is-adran ddiwylliant ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Mae’r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru hefyd yn cefnogi’r sector i gyflawni ein disgwyliadau mewn perthynas â chynllun sero net Cymru a meithrin gwytnwch rhag effeithiau newid hinsawdd, gan sicrhau y gallwn ddarparu a pharhau i ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Mewn ymateb i argymhellion 5 ac 8, sy’n canolbwyntio ar ddarparu cymorth ychwanegol a chyllid wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau y mae cyrff hyd braich a sefydliadau sector lleol yn ei wynebu yn sgil chwyddiant eithriadol o ran costau cyfleustodau a chostau byw. Ac i gynorthwyo gyda’r pwysau hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar y cyd i ddarparu £4.175 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y sector chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, yr amgueddfeydd annibynnol a llyfrgelloedd cymunedol yng Nghymru—

17:30

—Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiannau creadigol annibynnol yng Nghymru.

Rwy'n gwrando ar eich araith. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymateb i’r adroddiad; roeddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog hefyd yn ymateb i’r ddadl. Un mater y ceisiais ei godi yn y ddadl oedd mater cydraddoldeb, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny a’r materion y mae cyd-Aelodau eraill wedi’u codi—materion pwysig iawn—yn y ddadl hon y prynhawn yma—credaf ei bod yn bwysig inni glywed ymateb i’r materion hynny, gan ein bod wedi darllen ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad, ac rydym am glywed ymateb i’r ddadl hefyd.

Roeddwn yn dod at rai o’r pwyntiau rydych wedi’u codi’n gynharach.

Wel, mae'n iawn meddwl am ddod atynt, ond rydym eisoes ddwy funud dros amser. Fe roddaf funud neu ddwy ichi gloi.

Iawn. Felly, credaf mai Chwaraeon Cymru yw’r pwynt a gafodd sylw gan Alun Davies, sy’n ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon a darparu mynediad cyfartal. Soniais am hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, am y cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru a’r ffordd y mae ein cyllid wedi’i nodi’n glir iawn—mae ein cyfarwyddyd i Chwaraeon Cymru wedi’i nodi’n glir iawn yn y llythyr cylch gwaith. Mae rhan o’r llythyr cylch gwaith hwnnw’n nodi’n glir iawn ble rydym yn disgwyl i’r cyllid hwnnw gael ei dargedu, a dyna’r pwynt y ceisiwn ei wneud yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Mae’r llythyr cylch gwaith yn nodi’n glir iawn ein bod yn ceisio cyfeirio’r cyllid buddsoddi cyfalaf sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i’w dargedu yn yr ardaloedd hynny lle mae’r angen mwyaf, sef yr ardaloedd o amddifadedd.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, Lywydd, ac nid wyf wedi rhoi sylw i'n hymateb i bob un o'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. Digon yw dweud, wrth gloi, fy mod am ailadrodd ein bod yn cymryd camau ar unwaith ar draws nifer o feysydd i fynd i’r afael â’r materion cymhleth a godwyd gan yr adroddiad hwn, a byddwn yn ceisio rhoi'r argymhellion rydym wedi’u derbyn ar waith gyda’r pwysigrwydd y maent yn ei haeddu, gan gefnogi ein hymdrechion cyfunol i ymateb i’r argyfwng costau byw ac ynni, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn pwyso arnynt i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ganddynt at eu defnydd i ddarparu cymorth ehangach i’r sectorau diwylliant a chwaraeon. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Wel, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Dwi'n meddwl bod hon wedi bod yn ddadl hynod o bwerus. Roedd Tom Giffard wedi sôn am bwysigrwydd y lleoliadau hyn i'n cymunedau ni; roedd e'n sôn am fragility, pa mor fregus ydyn nhw. Ac roedd Alun Davies wedi sôn am fel mae effaith y creisis hwn yn effaith anghymesur, a beth roedd e jest yn sôn amdano yn yr intervention yna hefyd, fel mae pobl, y bobl fwyaf difreintiedig, ond hefyd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, nhw sydd yn dioddef waethaf gyda hyn. Mae hwnna'n bwynt hynod o bwysig, dwi'n meddwl, ac mae wedi codi nifer o weithiau mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y ddadl. Roedd Heledd Fychan hefyd wedi tynnu sylw at yr un pwynt yma am gydraddoldeb. Dydy chwaraeon a diwylliant ddim yn bethau neis i'w cael, fel roedd Heledd yn ei ddweud; maen nhw'n allweddol. Rôn i'n meddwl bod beth roedd Heledd wedi'i ddweud am y costau mwy cudd, fel trafnidiaeth, roedd hwnna'n rhywbeth rili bwysig, a hefyd roedd yr un llinyn wedi codi o ran beth roedd Carolyn Thomas wedi'i ddweud—eto, y costau ar deuluoedd, pethau fel trafnidiaeth, a phwysigrwydd hyn i gyd i iechyd pobl.

Mae hi wastad yn dda clywed gan Aelodau ehangach y Senedd, yn ogystal ag aelodau o'r pwyllgor, wrth gwrs. Diolch i Jack Sargeant am sôn, eto, am y petition yma am byllau nofio. Mae'r sefyllfa yna yn eithriadol o ddifrifol ar gyfer y sector—ar gyfer y boblogaeth hefyd. Fel yr oedd Jack wedi ein hatgoffa ni i gyd, mae nofio yn gallu achub bywydau pobl. Fe wnawn ni ddod yn ôl at beth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud am hyn. Mae hyn yn rhywbeth—bydd y pwyllgor wir eisiau cadw llygad barcud ar beth sy'n digwydd gyda hyn.

Fe wnaethon ni glywed gan Rhianon Passmore am fel y mae lleoliadau hamdden a diwylliannol yn ganolog i hanes ein cymunedau—Paul Robeson ac ati—ond hefyd i'n hiechyd ni nawr, gyda'r warm hubs. Roeddwn i'n meddwl bod y pwynt yna yn eithriadol o bwysig: fel y mae ymgasglu fel cymuned yn rhoi mwy o elw i ni mewn ffordd y mae'n anodd ei diffinio. Dyw e ddim jest yn cael ei ddiffinio'n ariannol; dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth, eto, o ran ein hiechyd ni ac enaid y gymdeithas, efallai. 

Roedd John Griffiths wedi sôn am y ffordd y mae ansawdd ein bywydau ni yn cael ei wella drwy'r canolfannau yna yng Nghasnewydd, ac mae hynny'n wir dros Gymru, wrth gwrs. Dwi'n meddwl yr oedd nifer o linynnau gwahanol yn codi, ac roedden nhw'n cael eu hadleisio—dwi'n cymysgu metaphors nawr, ond dwi'n meddwl bod nifer o bwyntiau a oedd yn rili bwysig yn ystod y ddadl.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei sylwadau. Dwi'n falch, eto, fod y mwyafrif o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn. O ran y rhai sydd ddim wedi cael eu derbyn, rwy'n dal i boeni nad ydy'r Llywodraeth yn ymateb yn ddigonol i'r risgiau i iechyd hirdymor y sectorau diwylliant a chwaraeon, ac, mewn ffordd arall, y risgiau i iechyd y genedl. Nawr, wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddai pecyn ariannu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sbarduno cyllid canlyniadol Barnett y gallai Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ariannu pecyn argyfwng costau byw diwylliant a chwaraeon. Yn sicr, fel pwyllgor, byddwn ni eisiau gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd.

Ond dydy Llywodraeth Cymru, fel dwi'n ei ddweud, ar y cyfan—. Eto gwnaf i ddod nôl at y pwynt am byllau nofio, ond ar y cychwyn dydyn nhw heb gychwyn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r perwyl hwn. Yn ystod y pandemig, ni wnaeth Llywodraeth Cymru aros i Lywodraeth San Steffan weithredu. Ym mis Ebrill 2020, bu'n gweithredu gyda chyngor y celfyddydau i roi pecyn brys ar waith ymhell cyn iddi gael unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a buaswn i'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru nawr efelychu'r teimlad o frys a oedd yn amlwg yn ystod y pandemig. Dwi'n meddwl bod cymaint o bethau sydd wedi cael eu codi yn y ddadl hon y prynhawn yma wedi amlygu pam mae hyn wir yn fater o frys. 

Rydyn ni wedi dysgu, dwi'n meddwl, o'r pandemig ei bod hi weithiau'n well gorymateb yn hytrach nag aros a cheisio datrys problemau mwy yn y dyfodol. Eto, mae pethau wedi gwaethygu cymaint ers inni gyhoeddi'r adroddiad, dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n sôn am orymateb fan hyn. Mae'n wir bod cymaint o leoliadau, maen nhw'n wir o dan risg o gau'n barhaol. Eto, mae yna berygl difrifol o niweidio'r sectorau hyn am gyfnod amhenodol yn y dyfodol. Bydd hyn, yn ei dro, fel rydyn ni wedi'i glywed, yn niweidio incwm sefydliadau yn y sectorau, bydd yn golygu bod llawer o bobl—eto, y rhai mwyaf difreintiedig—ac, fel rydyn ni wedi'i glywed nifer o weithiau, yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, byddan nhw'n colli mas ar gyfleoen a manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â chymryd rhan, yn ogystal â'r pethau mor anodd eu diffinio rydyn ni wedi clywed eto amdanyn nhw o ran enaid ein cymdeithas ni. Buaswn i yn erfyn ar y Llywodraeth i achub ar y cyfle hwn.

Yn olaf, buaswn i'n dweud eto ei fod yn dda clywed bod y Llywodraeth yn gwneud yr achos am byllau nofio yn arbennig i San Steffan; mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu yn sicr. Rydyn ni wedi clywed yn helaeth yn ystod y ddadl am ba mor angenrheidiol ydy'r ymyriad yna. Felly, i gloi, fe wnaf i ddiolch eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac, eto, yn yr ymgynghoriad. Rwy'n gobeithio, dal, y bydd mwy o oleuni ar gyfer y sectorau hynod bwysig i'n cymdeithas: diwylliant a chwaraeon.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn a nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Eitem 8 sydd nesaf: dadl Plaid Cymru yw hon ar leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8188 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.

2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i:

a) datrys anghydfodau cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y GIG yng Nghymru;

b) strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth;

c) rhoi mesurau iechyd ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth;

d) gwella gwytnwch ar y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac

e) gwella gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG, gan gynnwys drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wythnos yn ôl, mi oeddem ni'n trafod cynnig gan Blaid Cymru yn galw am ddatgan creisis iechyd yng Nghymru. Yn yr un modd ag y mae arweinydd Llafur wedi galw sefyllfa'r NHS yn Lloegr yn greisis, a Llafur yn yr Alban yn galw sefyllfa'r NHS yn yr Alban yn greisis, mi oeddem ni'n eiddgar i weld Llafur mewn Llywodraeth yng Nghymru yn cydnabod y creisis yma. Gwrthod hynny wnaeth Gweinidogion Llafur wythnos yn ôl, ac mi ddywedodd y Prif Weinidog eto ddoe pam mae o'n gwrthod defnyddio'r term 'creisis'. Dim ond geiriau ydy hynny, meddai fo; does yna ddim gwerth i eiriau. Wel, yn yr un modd, mi allech chi ddadlau mai dim ond geiriau oedd datgan argyfwng hinsawdd. Ond, wrth gwrs, mae yna werth i eiriau—mae yna gydnabyddiaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae o'n fodd i gynnig ffocws newydd, ac, yn wir, mi eglurais i yn y ddadl honno wythnos yn ôl ein bod ni am i'r cynnig gael ei weld mewn ffordd gadarnhaol, mewn difrif, mewn modd i arfogi'r Llywodraeth. 

Er iddyn nhw wrthod hynny—a dyn a ŵyr, mae'r Llywodraeth angen cael ei harfogi yn hyn o beth—rydyn ni nôl yma heddiw yn gweithredu mewn ffordd gadarnhaol eto. Mae sawl rôl gennym ni fel gwrthbleidiau: ein gwaith ni ydy dal y Llywodraeth i gyfrif; ein gwaith ni ydy asesu pa mor effeithiol ydy'r mesurau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd—yn y cyd-destun penodol yma, ei heffeithlonrwydd wrth wario ei chyllidebau ar wasanaethau iechyd a gofal, wrth lunio polisi, wrth gefnogi staff. Mae hynny'n cynnwys ei dweud hi fel y mae hi, ei dweud hi fel y mae etholwyr yn ei gweld hi, yn bwysicach byth, ac, yn annatod, ydy, mae hynny yn golygu gwrthdaro weithiau. Ond rydyn ni ar y meinciau yma hefyd yn cymryd yn ddifrifol iawn ein rôl ni o fod yn rhagweithiol mewn rhoi cynigion amgen ar y bwrdd, ceisio dylanwadu ar y Llywodraeth i symud i gyfeiriad arbennig, nid dim ond amlinellu beth rydyn ni'n meddwl sydd o'i le efo'r cyfeiriad y maen nhw wedi ei ddewis.

Yng nghyd-destun creisis yn y gwasanaeth iechyd, mae'n rhaid inni i gyd, dwi'n meddwl, rhoi ein hegni i mewn i chwilio am atebion. A beth sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Blaid Cymru yr wythnos yma, ydy cynllun: cyfres o argymhellion rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru eu gweithredu. Y perig, wrth gwrs, ydy bod y Llywodraeth yn dweud, 'Ond rydyn ni wedi gwneud hyn i gyd yn barod.' Wel, sori, ond pe bai Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n effeithiol yn y meysydd yma, yn gwneud hyn i gyd yn barod, fyddai cyfres o gyrff iechyd proffesiynol, colegau brenhinol, cynrychiolwyr staff, ddim wedi gweithio efo ni i lunio'r cynllun yma. Maen nhw, fel ninnau, yn gwbl grediniol bod y Llywodraeth yn syrthio'n fyr iawn o'r hyn dylai fod yn cael ei wneud. Cynnyrch cydweithio ydy'r cynlluniau yma. 

Nid yw’n gyfrinach ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai’r cam cyntaf i greu’r sylfeini ar gyfer GIG cynaliadwy yw talu gweithwyr yn deg. Honnodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai gwneud cynnig cyflog gwell yn golygu mynd ag arian oddi wrth iechyd, ond mae honno’n ffordd mor ffug o edrych ar y sefyllfa, gan mai darparu dyfarniad cyflog credadwy a sylweddol—nid rhywbeth untro, ond rhywbeth credadwy a sylweddol—i weithwyr y GIG yw’r buddsoddiad gorau posibl y gallem fod yn ei wneud i greu gwasanaeth iechyd mwy cynaliadwy a chadarn. Maent yn ddewisiadau anodd; wrth gwrs eu bod yn ddewisiadau anodd. Ond mae'n rhaid gwneud y dewis. Defnyddiais y gair 'sylfeini'. Mae sylfeini'r GIG yn eithaf ansicr ar hyn o bryd. Y gweithwyr yw'r sylfeini. Mae angen inni gryfhau'r sylfeini hynny os ydym am adeiladu GIG cadarn. Rhaid i hynny fod yn gam cyntaf.

Yr ail gam yn ein cynllun yw mynd i’r afael â materion sy'n ymwneud â chadw’r gweithlu. Mae cyflog yn un rhan bwysig o gynllunio'r gweithlu, ond mae mater ehangach yma. Mae angen strategaeth ehangach arnom i gadw'r gweithlu dawnus sydd ar gael i ni drwy wneud y GIG yng Nghymru yn lle mwy deniadol ac apelgar i weithio ynddo—mae 3,000 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru; mae 46 y cant o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru yn adleoli i Loegr gan fod ganddynt fwy o swyddi sylfaen ar gael. Nawr, mae'r Llywodraeth yn dweud bod ganddynt gynllun ar gyfer y gweithlu ar y ffordd, ond nid yw cynllun yn golygu dim heblaw ei fod yn cael ei gyflawni, ac mae angen strategaeth gyflawni glir arnom gyda thargedau a chostau llawn ar gyfer y cynllun newydd hwnnw ar gyfer gweithlu'r GIG, ac un sy'n adlewyrchu'r anghenion yn gywir—a dyna pam ein bod yn sôn am yr angen am ddata ar y sefyllfa a lle mae’r swyddi gwag hynny. Mae arnom angen mesurau ar gyfer cyflawni y gellir eu diffinio'n glir.

Mae'n rhaid inni sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael ar gyfer datblygu gyrfaoedd, i annog myfyrwyr meddygol sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru i aros yng Nghymru, ac annog pobl a'u helpu drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus i allu gweithio ar frig eu cymhwysedd. Pan na chânt eu gwneud yn dda, dyma'r pethau sy'n gwneud i bobl benderfynu, 'Wyddoch chi beth, nid yw'r yrfa hon yr hyn y tybiwn y byddai; ni allaf wthio fy hun hyd yr eithaf’, ac mae’r methiant i gyflawni’r pethau sylfaenol hyn yn llesteirio'r GIG.

Y rhan arall o hyn yw'r taer angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r cynnydd a welsom mewn gwariant ar asiantaethau—£260 miliwn wedi'i wario ar asiantaethau yn 2022. Nid yw hwnnw'n ffigur bychan. Bu cynnydd o 40 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, a golyga hynny fod arian yn llifo o'r GIG i goffrau cwmnïau preifat fel elw. Rydym yn dymuno gweld, ac yn llwyr gefnogi rolau a gaiff eu dwyn i mewn fel goramser, shifftiau ychwanegol, ac mae'r hyblygrwydd hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni ei gynnwys yn y GIG i raddau llawer mwy a dweud y gwir, ond mae angen inni gael gwared ar wneud elw preifat o waith asiantaeth.

Y trydydd cam yn ein cynlluniau yw rhoi mwy o flaenoriaeth i fesurau iechyd ataliol yn gyffredinol, nid yn unig drwy gael cynlluniau ataliol—fel sydd gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs—ond drwy sicrhau mai’r elfen ataliol yw’r elfen bwysicaf yn ein hagwedd at iechyd y genedl yn gyffredinol. Mae'n rhaid i adeiladu Cymru iachach fod yn flaenoriaeth. Cawn glywed mwy gan Sioned Williams ynglŷn â'r ffaith bod hynny’n golygu’r math o dai y mae pobl yn byw ynddynt, y cymorth a roddir i bobl i fyw bywydau iach. Nid yw'n fater o’r Gweinidog yn penderfynu un wythnos, 'Wyddoch chi beth, mae angen i bobl fyw bywydau iachach.’ Mae angen cymorth arnynt gan y Llywodraeth i allu gwneud hynny, a chredaf fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol yn hyn o beth.

Rydym yn tueddu i feddwl am y ddeddfwriaeth honno yn nhermau newid hinsawdd. Credaf fod angen inni ganolbwyntio ar ddefnyddio’r ddeddfwriaeth honno mewn perthynas â'n hiechyd fel cenedl, ac mae angen cyfrifoldeb gweinidogol clir arnom. Yn San Steffan, byddai gennych Weinidog heb bortffolio efallai i ofalu am gyflawni'r agenda ataliol. Dyna syniad. A yw hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei wneud yma, nid fy mod o blaid cael mwy o Weinidogion? A pholisi gennyf fi yma yw hwn yn hytrach na'i fod yn bolisi. Ond dyna'r math o ffordd y mae angen inni feddwl. Mae angen inni feddwl pwy sydd â’r cyfrifoldeb gweinidogol hwnnw o fewn y Llywodraeth.

Mae’n rhaid inni edrych, fel pwynt 4, ar y rhyngweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym newydd fod yn trafod integreiddio. Mae pob un ohonom yn cefnogi integreiddio fel egwyddor, ond rydym hefyd wedi bod yn canolbwyntio llawer dros yr wythnosau diwethaf ar y man cyfarfod rhwng y ddau beth—yr oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae angen inni feithrin capasiti yn y pwynt hwnnw. Gall capasiti fod yn gapasiti ffisegol, gall fod yn gapasiti rhithwir, gall fod yn gapasiti parhaol, gall fod yn gapasiti dros dro. Rydym wedi gweithio'n effeithiol iawn mewn ffyrdd dros dro yn ystod y pandemig COVID. Mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y man cyfarfod hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn methu, ac nid y penderfyniad, sy'n dal i gael ei gwestiynu gan weithwyr meddygol proffesiynol, i ryddhau pobl o'r ysbyty heb y pecynnau gofal priodol ar waith yw'r ffordd ymlaen, a chredaf fod hynny'n dangos camddealltwriaeth o’r math o ymagwedd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei mabwysiadu tuag at hyn.

Yn olaf, mae angen inni greu mecanwaith darparu ar gyfer yr adferiad. Yn fy marn i, a'n barn ni, mae gweithrediaeth newydd y GIG yn darparu model ar gyfer hynny. Mae Gweinidogion y Llywodraeth a Llywodraethau Llafur olynol wedi cael cryn dipyn o amser i greu gwasanaeth iechyd mwy gwydn ac wedi'i arfogi'n well. Credaf y gallai'r Gweinidogion elwa o rymuso gweithrediaeth y GIG mewn ffordd a all sicrhau newid gwirioneddol ar draws y GIG. Os yw'r sefydliad newydd hwnnw ar waith gennym, gadewch inni ei ddefnyddio’n iawn, gan roi dannedd iddo a rhoi grym iddo sbarduno newid.

Un o’r pethau credaf y gallai gweithrediaeth y GIG eu hysgogi yw camau gweithredu i ddarparu hybiau llawdriniaeth ddewisol. Ymwelais ag un yn Clatterbridge ychydig ddyddiau yn ôl. Mae prosiect ar waith yno, sydd wedi costio cyfanswm o oddeutu £25 miliwn i gyd, ac sydd wedi creu pedair theatr, 18 gwely ychwanegol. Mae'n ffatri nad effeithir arni gan bwysau'r gaeaf ac ati. Efallai nad dyna'r union fodel, gan fod hwnnw'n ysbyty triniaeth ddewisol, ond mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni'r math hwnnw o newid yma yng Nghymru. Mae angen gwneud y buddsoddiad, oes, ond mae cynllun busnes ar gyfer hynny'n arbed arian ichi gan y byddai'n rhaid ichi anfon cleifion fel arall i ysbytai preifat i gael triniaeth, ac wrth gwrs, mae trin cleifion yn gyflymach yn atal cyflyrau iechyd sy'n boenus i'r claf, yn anodd i’w teuluoedd, ac yn gostus tu hwnt i’r GIG, rhag gwaethygu.

Felly, dyna ein cynllun pum pwynt. Fel y dywedwn, nid ein syniadau ni ydynt; canlyniad gwrando ar bobl ar y rheng flaen ydynt, a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Mae ein cynllun yn mynd i’r afael â’r pryderon gwirioneddol sydd ganddynt ynglŷn â’r ffordd y caiff y gwasanaeth iechyd ei reoli ar hyn o bryd, ac yn cynnig pum cam cyflawnadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb, fel y gallwn, gyda’n gilydd, ddechrau iachau ein GIG, sef yr hyn y mae pob un ohonom yma yn ei ddymuno. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau heddiw, ac am arwydd eu bod yn derbyn bod angen cyfeiriad newydd, hyd yn oed os nad ydynt yn derbyn y gair 'argyfwng'. Diolch yn fawr.

17:50

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Russell George, felly, i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4. Russell George.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024.

Gwelliant 3—Darren Millar

Yn is-bwynt 3(b), dileu 'dynnu elw o weithio asiantaeth' a rhoi yn ei le 'gapio cyfraddau cyflog asiantaeth'.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon unwaith eto? Rwy'n dweud 'unwaith eto' am ein bod bob amser yn cael dadleuon iechyd. Mae'n debyg iawn i ddadl a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, ac ni chredaf y gallwn gael gormod o ddadleuon iechyd yn y Siambr. Mae'r Gweinidog yn edrych fel pe bai'n dweud, 'Os gwelwch yn dda, rhowch rywfaint o saib i mi', ond o ddifrif, ni chredaf y gallwn gael gormod o ddadleuon ynghylch yr heriau y mae ein gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu. A byddwn yn awgrymu bod GIG Cymru mewn sefyllfa ansefydlog iawn, a byddwn yn cytuno â Chydffederasiwn GIG Cymru a'u hasesiad o'r pwysau, fel yr amlinellwyd yn y cynnig heddiw.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig pwysleisio nad yw’r problemau y mae’r GIG yn eu hwynebu, a rhai o’n heriau, yn fai mewn unrhyw ffordd ar ein gweithwyr proffesiynol gwych sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal ledled Cymru. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau heriol iawn, ac rydym yn diolch iddynt wrth gwrs am bopeth a wnânt. A dyna pam y credaf y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth i leihau’r pwysau ar ein GIG, a byddwn yn awgrymu y byddai peidio â thorri’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn fan cychwyn.

Un peth roeddwn am ei grybwyll yn fy nghyfraniad—unwaith eto, cododd Andrew R.T. y mater gyda'r Prif Weinidog ddoe—oedd cyflwr ein seilwaith, cyflwr ein hysbytai, y cyflwr gwael y maent ynddo a'r amgylcheddau gwaith y mae'n rhaid i lawer o bobl weithio ynddynt. Ac fel y nododd Andrew ddoe, dim ond 62 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n ddiogel yn weithredol, ac nid yw honno'n sefyllfa anghyffredin. Dim ond 72 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i fyrddau iechyd Cymru a gofnodwyd fel rhai sy'n ddiogel yn weithredol. Wel, nid yw'n ormod disgwyl bod gan ein gweithwyr iechyd, ein nyrsys, amodau gwaith da i weithio ynddynt, heb sôn, wrth gwrs, am y materion sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Fel y nododd Conffederasiwn GIG Cymru cyn y ddadl heddiw, os ydym am gael gweithlu ac am wella morâl ein gweithwyr iechyd proffesiynol, ac os ydym am gadw nyrsys a gallu recriwtio mwy o weithwyr iechyd proffesiynol i’n GIG yng Nghymru, mae’n rhaid inni ddechrau drwy sicrhau bod gennym weithle sy’n addas i’r diben. A chredaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael y buddsoddiad hwnnw yn ein hysbytai. Rwy'n siomedig. Clywais y Prif Weinidog ddoe yn pwyntio bys at San Steffan. Wel, arhoswch funud, ond ers 25 mlynedd, chwarter canrif, Llywodraeth Lafur sydd wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru. Nid wyf yn credu ei bod yn rhesymol pwyntio bys at San Steffan pan ydym yn y sefyllfa hon, gyda dim ond 62 y cant o adeiladau yn ardal bwrdd Betsi Cadwaladr yn ddiogel yn weithredol.

Ond y mater arall hefyd yw buddsoddi mewn hyfforddiant, a hyfforddi staff GIG newydd. Rydym wedi cael rhywfaint o gyllid ar gyfer hynny, a chredaf fod hynny i'w groesawu; ni chredaf ei fod yn ddigon, ond credaf ei fod i'w groesawu. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno—rydym wedi sôn cryn dipyn am nyrsio asiantaeth yn y Siambr—rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod hyn oll yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae’r gwariant ar nyrsio asiantaeth wedi cynyddu, fel y nododd Rhun ap Iorwerth, ac ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae’r gwariant ar nyrsio asiantaeth yn cynyddu i’r graddau y mae'n cynyddu ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno un o’n gwelliannau heddiw ar gapio gwariant ar asiantaethau. Nid dyna'r ateb; mae'n un rhan o'r ateb, ond byddwn yn awgrymu bod angen inni sicrhau bod gennym gynllun ariannu cynaliadwy ar waith i recriwtio a hyfforddi staff yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Hoffwn sôn yn gryno hefyd am ddulliau ataliol. Mae atal mor bwysig. Nid yw’n un o flaenoriaethau’r Llywodraeth. Rwy'n sylweddoli na allwch gael gormod o flaenoriaethau, gan na fyddai unrhyw beth yn flaenoriaeth wedyn, ond teimlaf fod atal wedi'i wthio i lawr y rhestr o flaenoriaethau i'r man dadflaenoriaethu. Os ydym am allu cael GIG sy'n goresgyn rhai o'n heriau, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau y ceir ffocws priodol a gwariant priodol ar fesurau ataliol hefyd.

Yn olaf, Lywydd, roeddwn yn awyddus iawn i gefnogi rhan olaf y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw ar weithrediaeth newydd y GIG, a chael pŵer i wneud newid go iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â’r safbwynt hwnnw. Yn sicr, ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn 2021, fe wnaethom addo creu GIG Cymru fel sefydliad ar wahân, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac a fyddai, yn fy marn i, wedi lleihau biwrocratiaeth gan arwain at wneud penderfyniadau'n gyflymach ac wedi arfogi GIG Cymru yn well. Gallaf weld y Gweinidog yn ochneidio, ond efallai y gwnaiff hi fynd i'r afael â hynny yn ei sylwadau clo heddiw. Ond diolch, Lywydd.

17:55

Mae gweithlu'r gwasanaeth iechyd yn gwneud gwaith arwrol bob dydd. Dwi'n siŵr bod pob un ohonom efo llu o resymau i ddiolch iddynt am ofal rydym ni yn bersonol wedi'i dderbyn, neu aelodau o'n teulu, heb sôn am ein hetholwyr. Ond, gallwn ni ddim gwadu'r straen aruthrol sydd arnynt na'r ffaith bod staff hynod o brofiadol yn gadael bob wythnos gan na allant ddelio â'r straen bellach.

Wrth ymweld ag ysbytai, ymweld â llinellau piced, a siarad â gweithwyr y GIG, maent yn disgrifio system sydd mewn argyfwng ac sy'n eu hatal rhag gallu gwneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu. Gwyddant fod pobl y gallent eu hachub yn marw, ac mae hynny’n cael effaith ar eu hiechyd a’u lles, sy’n golygu bod cadw staff yn dod yn bryder cynyddol. Dyna pam mai ail gam ein cynllun pum pwynt yw canolbwyntio’n benodol ar y gweithlu.

Mae'n rhaid imi sôn am rai o’r pethau a godwyd gan y Prif Weinidog ddoe. Wrth gwrs, mae'r GIG yn gwneud gwaith gwych bob dydd, ond os ydym yn siarad â staff a'u bod yn dweud bod yna argyfwng, rwy'n ddig na chaiff hynny mo'i gydnabod. Ond maent am inni wneud mwy na chydnabod bod yna argyfwng; maent am weld camau'n cael eu cymryd. Dyna ddiben y cynllun pum pwynt hwn. Os cawsom ein cyhuddo o godi bwganod neu geisio creu drama wleidyddol gyda’n galwadau yr wythnos diwethaf i gydnabod yr argyfwng, nid dyna oedd y diben. Y diben oedd cydnabod y gwir y mae pawb yn ei wybod, sef bod ein GIG mewn argyfwng a bod yn rhaid inni weithredu os ydym o ddifrif yn gweld ei werth.

Er bod cyflog yn bwysig mewn perthynas â chadw staff wrth gwrs, nid dyma'r unig elfen y mae angen mynd i'r afael â hi. Mae angen inni recriwtio, cadw, ailgynllunio ac ailhyfforddi’r gweithlu iechyd a gofal. O roi'r pedwar cam ar waith, gellir sefydlu gweithlu iechyd a gofal gwydn. Mae arnom angen cynllun wedi’i gostio ar gyfer y gweithlu sy’n nodi ystod o atebion tymor byr, tymor canolig a hirdymor i dyfu, hyfforddi a chadw’r gweithlu, wedi’i gynnal gan y cyllid angenrheidiol ac yn seiliedig ar y data diweddaraf ar swyddi gwag a’r galw a ragwelir gan gleifion. Fis Tachwedd diwethaf, daeth 36 o sefydliadau o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, gan gynnwys colegau brenhinol, elusennau, grwpiau cleifion a chyrff proffesiynol, i lofnodi llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r cynllun gweithredu cenedlaethol hirddisgwyliedig ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal.

Ni ellir diystyru effaith prinder yn y gweithlu ar ofal cleifion, wrth i amseroedd aros gyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru. Mae rhestrau canser ac amseroedd perfformiad ambiwlansys ar y lefelau gwaethaf erioed ar hyn o bryd, ac aeth cyfanswm y niferoedd ar y rhestrau aros dros 750,000 am y tro cyntaf ym mis Hydref 2022. Er hynny, heb fawr ddim data cyfredol dibynadwy ar y gweithlu, dim cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer recriwtio a chadw, dim dull cyson o gasglu data cywir ar swyddi gwag wedi'i gasglu ar draws byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, a dim tryloywder ynghylch prinder staff a bylchau mewn rotâu, dim dull o gymharu’r gwersi a ddysgwyd ar recriwtio a chadw staff, a dim ffordd o wybod pryd y cawn atebion gan Lywodraeth Cymru o’r diwedd, ni wyddom pa mor ddifrifol yw argyfwng y gweithlu. Ond mae’r ymatebion a gawsom gan nifer o sefydliadau gofal iechyd yn nodi bod yna argyfwng staffio amlwg, ac mae arnom angen strategaeth glir ar gyfer cyflawni gyda thargedau ac wedi'i chostio'n llawn i allu llunio cynllun newydd ar gyfer y gweithlu.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd mai dim ond os oes digon o fydwragedd yn gweithio yn y GIG ym mhob rhan o Gymru y gallem ysgogi gwelliant mewn gofal mamolaeth. Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol y Meddygon wedi galw am bwyslais o’r newydd ar y gweithlu. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn galw am gyflwyno cymelliadau i feddygon a meddygon teulu presennol aros yn y gwasanaeth iechyd. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn galw am strategaeth cadw staff. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r broses o gasglu data’n ganolog er mwyn gallu nodi anghenion staffio yn gynt. Yn ogystal ag ehangu a sefydlu llwybrau gwell tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus, bydd hyn yn sicrhau bod gweithwyr iechyd yn gallu gweithio ar frig eu cymhwysedd gan aros yn y GIG.

Rydym hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £260 miliwn ar staff asiantaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hyn yn ddraen ar gynaliadwyedd ein GIG. Dywedwyd wrthyf mewn ysbyty lleol yr ymwelais ag ef yn fy rhanbarth fod staff yn cael eu rhwystro rhag penodi i’r adran honno, ac yn lle hynny, eu bod yn galw staff asiantaeth i mewn yn rheolaidd. A byddai rhai o'r staff asiantaeth hynny'n fodlon gweithio dan gontract. Ond dyna a ddywedwyd wrthyf, ac roeddent yn ddig am eu bod yn ystyried hynny'n wastraff arian—y ffaith bod ganddynt staff asiantaeth yn fodlon gweithio dan contract, ond eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny. Mae’n rhaid edrych ar hyn, gan fod yr orddibyniaeth ar staff asiantaeth yn symptom o gamreolaeth Llywodraeth Cymru o’r GIG yng Nghymru. Byddwn bob amser angen ffyrdd o ddod â staff i mewn ar gyfer shifftiau ychwanegol, ond mae'n rhaid cael gwared ar elw o waith asiantaeth, ac ni allwn wynebu sefyllfa lle nad ydym yn gweld pobl yn cael eu penodi i'r swyddi pan fo prinder, a dibyniaeth wedyn ar staff asiantaeth yn unig. Mae angen inni weld camau gweithredu. Dyma gynllun. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i'w gefnogi, cydnabod bod yna argyfwng, ac yna, gallwn ddod o hyd i atebion i achub ein GIG.

18:00

Anghofiais i ofyn i'r Gweinidog gynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw'r Llywodraeth.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:

a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;

b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;

c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;

d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;

e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;

f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;

g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd ȃ’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;

h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;

i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Wel, mae'n 25 Ionawr heddiw, ac mae'n teimlo fel y pumed fersiwn ar hugain o ddadl gwrthblaid ar yr hyn y dylem fod yn ei wneud ond nad ydym yn ei wneud yn y GIG. Ond mae'n ymddangos nad oes unrhyw fewnwelediad go iawn i'r hyn y dylem fod yn ei wneud. Mae'n ymddangos mai'r un hen stori yw hi bob amser. Felly, roeddwn yn meddwl ei fod yn gyflwyniad gwael iawn gan Rhun ap Iorwerth. Fel y llefarydd iechyd, byddwn wedi disgwyl rhai syniadau newydd. Os nad yw eich cynllun pum pwynt yn cynnwys unrhyw beth mwy na'r hyn rydych wedi'i ddweud wrthym heddiw, nid yw'n ddigon da.

Mae'n ddrwg gennyf os na chafodd ei wneud yn glir mai cynllun yw hwn a gydgynhyrchwyd gyda'r cyrff iechyd proffesiynol sy'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar y rhain.

Wel, nid wyf wedi'i weld, ac nid wyf wedi cael cyfle i edrych arno, ac nid oes unrhyw syniadau newydd yn unrhyw beth a ddywedoch chi, Rhun. Rydych chi eisiau inni dalu mwy i staff y GIG, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod yn haeddu cael mwy o gyflog, ond nid ydych yn dweud o ble rydym yn mynd i'w gael. Ai oherwydd bod gennym ni ryw fath o beiriant Roneo ym Mharc Cathays?

Fe bwysleisiaf eto ein bod wedi cynllunio'n union faint ac o ble y byddai'r arian yn dod—y £175 miliwn y byddem yn ei gyflwyno o gronfeydd heb eu dyrannu ac ailflaenoriaethu. Rydym wedi ei nodi'n glir iawn.

Heb eu dyrannu? Wel, nid wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol parhau ar y llwybr hwnnw, gan nad wyf wedi darllen yr hyn rydych chi wedi'i gynhyrchu a gallwn gael y ddadl honno ar ryw ddiwrnod arall.

Ond y rheswm pam mae gennym swyddi gwag yw—. Mae'r ffaith bod gennym gynifer o swyddi gwag yn ddifrifol, ond yr unig bwynt sydd o ddiddordeb i mi yw archwilio ychydig ymhellach y pwynt a wnaeth Heledd am ysbyty yn rhanbarth Canol De Cymru sydd wedi'i atal rhag penodi i swydd o bwys. Mae hwnnw'n bwynt difrifol ac yn rhywbeth sy'n werth edrych arno. Nawr, mae'n rhaid inni dybio mai'r rheswm am hynny yw bod y bwrdd iechyd hwnnw, ble bynnag y bo, yn ceisio peidio â gorwario ei gyllideb ar gyfer eleni. Rydym ym mis 10 o broses gyllidebol 12 mis. Felly, mae honno'n gyfres wirioneddol gymhleth o amgylchiadau anodd. Rwy'n deall beth sy'n digwydd yno, ac mae'n rhaid ei gwneud hi'n anodd iawn i'r ysbytai dan sylw—

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

18:05

Ymwelais â'r ysbyty dan sylw ym mis Awst, a dyma'r sefyllfa y rhoddwyd gwybod i mi amdani ar y pryd. Ymwelais eto'n ddiweddar, a dyna oedd y sefyllfa o hyd—i roi rhywfaint o gyd-destun.

O'r gorau. Byddai'n ddefnyddiol gwybod pa fwrdd iechyd, ond beth bynnag, rwy'n siŵr y gallwch ddweud wrth y Gweinidog wedi'r ddadl hon. Rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, sy'n dweud eu bod am ddod o hyd i fwy o arian i dalu'r nyrsys, ddweud pa ran o'n cyllideb rydym yn mynd i'w ysbeilio er mwyn gwneud hynny, oni bai bod yna symud gan Lywodraeth y DU sy'n rheoli'r pwrs.

Nawr, cynhaliwyd dadl bwysicach nos Iau diwethaf yma yn y Senedd lle roedd y Gweinidog yn bresennol, fel finnau, a Joyce Watson, a sawl Aelod arall. Roedd honno'n ddadl aeddfed, ac roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod â Katja Empson, sy'n feddyg ymgynghorol mewn meddygaeth frys yn ysbyty'r Heath yma yng Nghaerdydd, am ei fod wedi fy ngalluogi i ddweud wrthi, i ofyn iddi, 'Pam mae Caerdydd wedi gallu atal yr holl ambiwlansys rhag ciwio tu allan i'r ysbyty pan nad yw'n ymddangos bod ysbytai eraill wedi gallu gwneud hynny? Beth a wnaethoch sy'n wahanol?' Rhoddodd ateb gwych iawn i mi ynglŷn â sut oedd hi'n bwysig iawn gweld y bobl a oedd yn aros yn yr ambiwlansys fel rhan o'r cleifion oedd angen iddynt eu trin, a oedd yr un mor bwysig â'r bobl y tu mewn i'r adeilad. Felly, perchnogi'r broblem oedd hynny, sef bod llawer o bobl sâl y tu allan yr oedd angen iddynt ddod i mewn. Felly, beth a wnaethant? Mae'n ddull system gyfan ar draws yr ysbyty i sicrhau bod pobl yn mynd drwodd i mewn i'r wardiau, lle bo hynny'n briodol, ac yna'n eu gadael pan fyddant wedi gorffen eu triniaeth feddygol. Dywedodd fod hynny'n digwydd yng Nghaerdydd ac nad yw'n digwydd mewn llefydd eraill. Felly, pan ofynnais y cwestiwn yn y sesiwn holi ac ateb ar ôl i'r panel siarad—'Pam nad yw ysbytai eraill yn cyflawni'r hyn y mae Caerdydd wedi'i gyflawni?'—cefais fy nhrosglwyddo i Katja Empson eto. Roeddwn yn gwybod yr ateb yn barod a'r hyn a oedd ganddi i'w ddweud. Yr hyn nad oeddwn wedi'i glywed oedd beth fyddai'r lleill i gyd wedi'i ddweud, y rhai a oedd yn dod o Fangor, o Wrecsam ac o ysbyty Tywysoges Cymru a mannau eraill.

Cefais ateb llawer gwell gan bennaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, a ymddangosodd ger bron y pwyllgor iechyd yn Nhŷ'r Cyffredin fore ddoe. Pan ofynnwyd yr un cwestiwn iddo—. Na, nid yr un cwestiwn; gofynnwyd iddo, 'Pam mae cymaint o bobl yn mynd i'r adrannau brys ar draws y DU?' Dywedodd fod llawer gormod o bobl yn cael eu hanfon i'r ysbyty neu'n mynychu adrannau brys heb fod angen iddynt fod yno. Mae hynny'n cyd-daro â rhai o'r pethau rwyf eisiau eu gweld yn digwydd, sef cyflwyno'r timau nyrsio cymdogaeth, a ysbrydolwyd gan Buurtzorg. Rwy'n deall, heddiw ddiwethaf, fod manyleb genedlaethol wedi'i chyhoeddi ar gyfer nyrsio cymunedol, sy'n rhan o raglen strategol ar gyfer ei chyflwyno ledled Cymru. Mae'n digwydd yn rhy araf. Yr unig beth cadarnhaol iawn am hyn—

—os caf orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—yw ein bod ni nawr yn defnyddio'r system amserlennu electronig a gafodd ei phrofi yn y cynllun peilot yng Nghwm Taf ac mewn mannau eraill, fel ein bod yn gwybod yn union pwy sy'n mynd i wneud beth, a'r cyfan yn cael ei wneud drwy algorithm, yn ogystal â chasglu'r llwythi gwaith sy'n cael eu rheoli yn y gymuned honno fel ein bod yn gwybod yn union pa adnoddau sydd angen i ni eu rhoi i fy etholaeth i yng Nghaerdydd, neu ble bynnag y bo. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig tu hwnt, ac rwy'n deall ei fod ond yn digwydd yng Nghymru, ac felly mae'n mynd i fod yn gyfraniad gwirioneddol bwysig i'r system.

Mae gennym lawer o siaradwyr, ac rwy'n ceisio cadw at yr amser i sicrhau ein bod yn cynnwys cynifer â phosibl. Gareth Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Fel rhywun a fu'n gweithio yn y GIG am 11 mlynedd cyn cael fy ethol i'r Senedd, a rhywun sydd â'i wreiddiau'n ddwfn yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, rwy'n teimlo fy mod yn eithaf cymwys i rannu rhywfaint o hanes a gwirioneddau am ofal iechyd yn sir Ddinbych a gogledd Cymru, a'r pwysau ar y gofal hwnnw, yn wir.

Agorwyd Ysbyty'r Royal Alexandra yn y Rhyl, ysbyty a gâi ei galw'n 'yr Alex' yn lleol, ym 1872 a'r rheswm dros ei henwi'n hynny oedd bod y Dywysoges Alexandra o Gymru wedi dod yn noddwr i'r ysbyty ym 1882, a'r gred yn y cyfnod hwnnw oedd bod triniaeth awyr iach ac awyr y môr yn fuddiol i gleifion, yn enwedig cleifion anhwylderau'r frest a thrafferthion anadlu. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, roedd ganddynt falconïau hir er mwyn i'r cleifion anadlu'r awyr iach a gwneud lles mawr i'w hysgyfaint. Ac roedd ganddynt faddonau halen yno hefyd ar yr islawr, sy'n dal i fod yno yn ôl y sôn. A'r dyddiau hyn defnyddir yr ystafell ar gyfer storio offer, ond yn anffodus ni chefais gyfle i fynd i lawr yno i weld drosof fy hun, felly rwyf am ddal i gredu eu bod yno, ychydig bach fel dyfrffyrdd tanddaearol Little Venice, lle roedd gondolas yn ôl y sôn yn adeilad y Frenhines sydd bellach wedi'i ddymchwel.

Nawr, fe neidiaf ymlaen dros lawer iawn o flynyddoedd hyd at ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, a diolch i ymroddiad Margaret Thatcher tuag at Gymru, fe adeiladodd ac fe agorodd Awdurdod Iechyd Clwyd ar y pryd yr Ysbyty Glan Clwyd blaenllaw newydd sbon ym Modelwyddan ym 1980, a chanddo chwe theatr lawdriniaethau, adran ddamweiniau a wardiau niferus, ac a gostiodd oddeutu £16 miliwn—a byddem wrth ein boddau yn gweld ffigurau fel hynny y dyddiau hyn. Ac yn ystod yr 1980au a dechrau'r 1990au, roedd Ysbyty Glan Clwyd yn cael ei ystyried yn un o'r ysbytai a oedd yn perfformio orau nid yn unig yng Nghymru ond ym Mhrydain gyfan, a denodd lawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i'r ardal er mwyn iddynt allu dod yn rhan o'r llwyddiant ysgubol hwn ac er mwyn i bobl canol a dwyrain gogledd Cymru allu elwa o'u harbenigedd. Ac ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, cafodd y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd eu dwylo arno, ac ers hynny, rydym wedi cyrraedd y sefyllfa rydym ynddi heddiw, gydag amseroedd aros cynyddol, cleifion yn aros hyd at 72 awr—ie, 72 awr—am ambiwlansys a thriniaeth frys, ac amseroedd aros hir i fân anafiadau, llawdriniaethau dewisol ac apwyntiadau clinigol i gleifion allanol. Ac rwy'n siŵr y byddai sylfaenwyr yr ysbyty, os ydynt yn dal i fod gyda ni, yn gwingo wrth weld perfformiad presennol Ysbyty Glan Clwyd.

A gadewch imi fod yn glir, nid bai staff gweithgar y rheng flaen yn y GIG yw hyn; hwy yw rhai o'r bobl orau y dowch chi byth ar eu traws. Bai Llywodraethau Llafur olynol yn y lle hwn ydyw, a haenau diddiwedd o reolwyr canol, cyfarwyddwyr, biwrocratiaid di-werth ac ymyrwyr daionus sy'n rhoi eu gyrfaoedd a'u diddordebau eu hunain o flaen iechyd pobl gogledd Cymru. Ac weithiau maent lawn mor ddefnyddiol â blwch llwch ar feic modur. Ond y thema gyffredin yma yn yr holl hanes yw bod ysbytai mawr fel Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn arfer cael cymorth ysbytai cymunedol neu ysbytai bwthyn llai o faint, ac yn y blynyddoedd a fu, roedd un o'r rheini gan bron bob tref. Ac yn araf ond yn sicr, fe luniwyd yr agenda ar gyfer canoli wrth i ysbytai lleol gau ym Mhrestatyn, y Fflint a'r Wyddgrug, i enwi ond ambell enghraifft. Ac un o'r pethau mwyaf gwallgof yn yr agenda hon oedd cau ysbyty cymunedol Conwy yn 2003. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn eich gweld.

18:10

Iawn. Mae'n ymwneud ag ysbyty'r Fflint. Rwy'n credu ei fod yn mynd i fod yn gartref gofal modern o'r radd flaenaf ac addas i'r diben, gyda lle i bobl yn hirdymor ac yn y tymor byr a bydd hefyd yn gallu adsefydlu pobl ar ôl iddynt fod yn yr ysbyty i adfer eu hyder a'u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae'n gyfleuster modern. Ni fyddai rhai o'r hen ysbytai, fel y Fflint o'r blaen, yn addas i'r diben yn eu cyflwr presennol. Onid ydych yn cytuno? Felly, mae'n dda ein bod yn gweld moderneiddio ysbyty'r Fflint yn awr.

Yn bendant, mae'n wych, Carolyn, a byddaf yn crybwyll hynny yn nes ymlaen yn fy araith, a rhai o fanylion hynny.

Un o'r pethau mwyaf gwallgof yn yr agenda hon oedd cau ysbyty cymunedol Conwy yn 2003 i baratoi'r ffordd ar gyfer ehangu Ysbyty Cyffredinol Llandudno, a gafodd ei israddio wedyn i statws cymunedol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n anhygoel. Yna, gwelodd gogledd Cymru gyflwyno Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2009 i gymryd lle'r tri bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Conwy a sir Ddinbych, ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru. Ac ers ffurfio Betsi Cadwaladr, rydym wedi gweld llawer o'r problemau hirdymor yn dwysáu, ac ystyrir yn eang fod maint y bwrdd yn llawer rhy fawr i'w anghenion. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld beth yw barn y Llywodraeth ar y pwynt hwnnw wrth ymateb i'r ddadl, a sut rydym yn rheoli'r broblem hon ac yn gwneud yn siŵr fod gan bobl gogledd Cymru wasanaeth iechyd sy'n cynrychioli anghenion iechyd y bobl leol yn iawn. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am hyn ers cymaint o flynyddoedd i lawr yma yng Nghaerdydd, Weinidog, ac mae'n bryd ichi feddwl o ddifrif am hyn, gan fod bwrdd iechyd gogledd Cymru yn perfformio'n anghymesur waeth na'r un arall yng Nghymru, ac o bosibl yn y DU hyd yn oed. Felly, mae'n bryd inni wneud mwy a wynebu realiti difrifoldeb y problemau yng ngogledd Cymru. 

Un stori lwyddiant oedd agor Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn 2009, gyda wardiau cymunedol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac uned mân anafiadau. A châi hyn ei weld yn eang fel model i'r cynlluniau ar gyfer adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, a addawyd gan wleidyddion Llafur—

Gareth, mae angen ichi orffen cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda. Mae amser yn brin.

O'r gorau. Ond heb unrhyw dystiolaeth bendant a heb raw yn y ddaear, pryd y bydd fy etholwyr yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan, Llanelwy a'r cyffiniau yn cael y cyfleuster hwn i dynnu'r pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd?

Rwy'n gwybod fod fy amser ar ben, ond hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 1, 3 a 4 fel y'u gwelir ar yr agenda. Diolch.

18:15

Wrth agor y ddadl, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yn rhaid inni fabwysiadu ymagwedd ataliol tuag at iechyd, ac rwyf am siarad â'r rhan o'n cynnig sy'n galw am roi mesurau ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth.

Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio dro ar ôl tro wrth drafod iechyd yn ei holl agweddau yr angen i roi gwell amlygrwydd a mwy o flaenoriaeth i fesurau ataliol. Wrth fynd i'r afael â'r argyfwng presennol, siaradodd y Gweinidog iechyd am yr angen i bobl ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a'u llesiant. Rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod atal yn well na gwella. Felly, pam mae ein cynnig yn galw ar bob adran o'r Llywodraeth i fod yn rhan o'r agwedd hon ar ein cynllun ar gyfer y GIG? Yr hyn y methodd y Gweinidog iechyd ei ystyried yn llawn wrth wneud yr alwad honno oedd rôl amddifadedd a thlodi yng ngallu pobl i wneud hynny.

Sut mae pobl i fod i ofalu am eu deiet pan na allant fforddio rhoi'r ffwrn ymlaen, pan fyddant yn torri lawr ar fwyd? Sut y gallant sicrhau nad ydynt yn gwaethygu neu'n achosi cyflyrau iechyd pan fyddant yn byw mewn tai oer, llaith, drafftiog na allant fforddio'u cynhesu? Pan ydych chi'n meddwl o ble y daw'r pryd nesaf, sut y gallwch fforddio'r dŵr poeth i olchi eich hun a'ch dillad, pan fyddwch yn gwneud dwy swydd, yn jyglo gofal plant, yn poeni am y bil y gwyddoch ei fod yn mynd i lanio ond na allwch mo'i dalu, sut fydd gennych fodd—heb sôn am le yn eich pen—i fynychu campfa neu fynd allan i redeg? A sut y gall pobl dalu i fynd i gyfleusterau hamdden a chwaraeon, llyfrgelloedd, theatrau—pethau sy'n allweddol i lesiant—yn ogystal â ffitrwydd, pan fyddant yn wynebu toriadau helaeth i'w cyllid?

Mae'r berthynas rhwng iechyd a thlodi yn un hawdd ei deall: mae amddifadedd yn achosi salwch, yn achosi anghydraddoldeb o ran canlyniadau iechyd, yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd. Mae salwch yn gostus i gymdeithas, yn rhoi pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Ac ar adeg o grebachu economaidd, ar adeg o lefelau tlodi enbyd, mae'r agenda ataliol yn gwbl allweddol, ac yng Nghymru, lle mae dros draean o blant yn byw mewn tlodi—y lefel uchaf yn y DU—a lle mae 45 y cant o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd ac wedi'u caethiwo mewn tlodi tanwydd, mae'r angen i flaenoriaethu'r dull ataliol yn fater brys.

Os ydym o ddifrif am ymgorffori dull ataliol ym maes iechyd, rhaid inni ystyried yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol wrth ddatblygu dull o'r fath. Mae tlodi ac anghydraddoldeb yn faterion trawslywodraethol. Wrth fynd i'r afael ag argyfwng y GIG, mae'n rhaid inni ystyried yn llawn y gwahaniaethau yn y cyfleoedd sydd gan bobl i fyw bywydau iach, ac mae'n rhaid i hynny fod yn gyfrifoldeb trawslywodraethol. Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y Sefydliad Bwyd, 'The Broken Plate', yn gofyn cwestiynau pwysig ynglŷn â pha mor rydd yw pobl i wneud dewisiadau bwyd iach yn eu deiet, gan nodi y byddai angen i'r pumed tlotaf o aelwydydd y DU wario 43 y cant o'u hincwm gwario ar fwyd i dalu cost y deiet iach a argymhellir fwyaf; mae hynny'n cymharu â dim ond 10 y cant o incwm gwario'r pumed cyfoethocaf.

Gall fod cysylltiad hefyd rhwng anghydraddoldebau iechyd a mynediad at ofal neu wasanaethau, ansawdd a phrofiad o ofal, a gwyddom fod hyn yn broblem ers amser maith yng Nghymru. Pwysleisiodd adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Iechyd Cymru o waith atal argyfwng iechyd meddwl, er enghraifft, fod angen cynllunio gwasanaethau yng Nghymru yn well a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. Tynnodd sylw at fwlch yng Nghymru rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, gyda phobl yn disgyn rhwng meini prawf gwahanol wasanaethau a all ddarparu cymorth.

Amlygodd adroddiad Cynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru, 'Cofiwch y bwlch: beth sy'n atal newid?', y dylai mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n achosi salwch yn y lle cyntaf fod yn ffocws canolog i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac eto mae'r bwlch yn parhau o ran gweithredu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd sylfaenol. Mae'r diweddariad diweddar i'r adroddiad hwnnw, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Meddygon, 'Mae popeth yn effeithio ar iechyd', yn nodi'n glir pam eu bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n drawslywodraethol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hynny. Mae'r adroddiad yn rhoi manylion sawl enghraifft ar draws Cymru a byrddau iechyd Cymru ac awdurdodau lleol o fesurau ataliol ar waith, gyda llawer o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector yn helpu i leihau salwch ac anghydraddoldebau iechyd ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond mae'n dameidiog.

Dyma'r bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o ymddygiadau niweidiol fel ysmygu, yfed gormod a defnyddio cyffuriau, neu sydd fwyaf tebygol o fod wedi eu hynysu'n gymdeithasol, mewn tai tlawd neu dros dro, o fod â mynediad gwael at gyfleoedd trafnidiaeth a llesiant, neu wedi eu heithrio'n ddigidol. Casgliad yr adroddiad yw y dylai gweithio traws-sector o'r math yma gael ei gefnogi a'i annog gan Lywodraeth Cymru, gyda chynllun gweithredu trawslywodraethol. Rydym yn cytuno ei bod yn hen bryd cael cynllun cyflawni trawslywodraethol sy'n nodi'r hyn y mae pob adran yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd, sut y byddai llwyddiant yn cael ei fesur a'i werthuso, a sut y gall sefydliadau Cymru gydweithio i leihau salwch. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru—

18:20

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud yn ei adroddiad diweddar 'Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus' nad gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw'r argyfwng costau byw, mae'n fater iechyd cyhoeddus hirdymor sy'n effeithio ar yr holl boblogaeth. Ni fyddwn byth yn cyflawni'r Gymru decach y mae pob un ohonom yn awyddus i'w gweld os yw ein gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn fodd o fynd i'r afael â chanlyniadau tlodi ac anghydraddoldeb sy'n cyfrannu cymaint ac mewn ffordd mor gywilyddus at yr argyfwng yn ein GIG.

Dywedais ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ei bod hi'n bwysig fod pob un ohonom yma yn Senedd Cymru yn onest am yr heriau go iawn sy'n wynebu ein hannwyl wasanaeth iechyd gwladol ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Nid oes unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig sydd heb weld pwysau helaeth ar bob un o rannau cyfansoddol y gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n sefyll ger eich bron fel aelod Llafur Cymru balch. Cafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei greu gan Lywodraeth Lafur Clement Attlee, a honno oedd moment, cyflawniad a gwaddol mwyaf balch y Blaid Lafur i'r bobl y cafodd ei greu i'w gwasanaethu.

Gwn yng Nghymru fod ei geidwaid, Prif Weinidog Cymru a Gweinidog iechyd Cymru, yn deall ac wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn goroesi ac yn cael ei gynnal. Bedair awr ar hugain yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog am ei sicrwydd y byddai ei Lywodraeth yn ymrwymo i barhau â realiti gwasanaeth iechyd cyhoeddus cyffredinol, gwirioneddol genedlaethol, am ddim yn y man lle rhoddir gofal, egwyddor sy'n seiliedig ar brofiad o ddioddef, greal sanctaidd yr ymladdwyd yn erbyn yr hen BMA amdano, a rhywbeth y bu fy nhad-cu fy hun yn ymladd drosto tra oedd ei wraig yn gorwedd ar ei gwely angau wrth roi genedigaeth, pan wadwyd yswiriant cymdeithasol a gofal meddygol dilynol iddynt. Dyna'r math o ofal iechyd nad wyf mo'i eisiau yma yng Nghymru. Rhoddodd y Prif Weinidog ei sicrwydd i mi yn y Siambr hon, a gwn fod fy etholwyr yn Islwyn wedi clywed yn glir nad ydym eisiau hynny.

Ond a yw hynny'n golygu nad yw'r pwysau sy'n wynebu'r GIG heddiw yn real? Nac ydy. Mae yna berygl amlwg wrth ddrws blaen y gwasanaeth iechyd gwladol ym maes gofal sylfaenol. Faint o'n hetholwyr sy'n anfon e-byst atom, yn ein ffonio neu'n ysgrifennu atom fel Aelodau o'r Senedd i fynegi'r ofnau hynny, eu rhwystredigaethau a'u pryderon ynglŷn â gweld meddyg teulu? Ac oes, mae yna ffyrdd newydd o wneud pethau, maent yn gwreiddio, ond mae'r galw ar hyn o bryd yn wirioneddol ddigynsail ers geni'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan, fel mae ein presgripsiynwyr cymdeithasol, ond bydd yn rhaid i bobl Cymru allu cael mynediad dirwystr at feddyg teulu, oherwydd mae'r dewisiadau amgen ar lawr gwlad yn amlwg. Fel y gwelsom cyn y Nadolig gyda'r cynnydd yn nifer yr achosion o strep A, bydd rhieni sydd â phlentyn sâl ac arnynt ofn gwirioneddol yn mynd i adran ddamweiniau ac achosion brys os nad oes dewisiadau amgen. A phwy allai eu beio? Pan fydd rhywun annwyl mewn poen a heb wybod beth sy'n bod, pwy fyddai'n cymryd y risg o golli un eiliad? Rhaid i'r gwasanaeth iechyd gwladol fodoli ar gyfer y bobl y cafodd ei greu ar eu cyfer—ei gleifion, ein dinasyddion.

Mae Wes Streeting, Gweinidog iechyd yr wrthblaid ym Mhlaid Lafur y DU, wedi agor trafodaeth archwiliadol gychwynnol i weld a ddylai meddygon teulu, yn y dyfodol, ddod yn staff GIG cyflogedig. Mae angen y sgyrsiau hyn gyda chymdeithasau sefydledig. Mae amharodrwydd sefydliadol i newid—

Jenny Rathbone a gododd—

Diolch am hynny. Ond a fyddech chi'n cytuno nad oes angen i bob un o'n hetholwyr weld meddyg teulu? Gallant weld y fferyllydd, gallant weld y nyrs, ac os oes ganddynt ddiabetes maent yn llawer gwell eu byd gyda gwasanaeth diabetes. Felly, nid yw'n ymwneud â meddygon teulu sy'n gyflogedig neu fel arall mewn gwirionedd, ond mae honno'n drafodaeth bwysig.

18:25

Rwy'n cytuno'n llwyr, Jenny Rathbone; mae gennym lu o wahanol ffyrdd o gael gofal iechyd. Ond mae hon yn drafodaeth bwysig, ac rwy'n mynd i'w datblygu.

Fe wyddom mai elfen arall hanfodol sy'n rhaid inni fynd i'r afael â hi yw amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru. Ni ddylai neb farw o aros yn rhy hir am ambiwlans. Nawr, fe wyddom fod lleoedd hyfforddiant ambiwlans newydd yn rhai go iawn. Ond mae'n iawn inni herio status quo hyfforddiant meddygon ymgynghorol sydd ers degawdau'n derbyn cymhorthdal gan y wladwriaeth i weithio, weithiau, am dridiau yr wythnos yn y sector preifat. Dylai ffonio 999 mewn argyfwng arwain at ymateb cyflym bob amser. A rhaid i'r olygfa o giw o ambiwlansys yn aros yn segur o flaen ysbytai wrth aros i drosglwyddo cleifion fod yn eithriad ac nid yn norm. Oherwydd mae'r pwysau a'r heriau yn real i'r GIG, ac felly hefyd y canlyniadau.

Ac felly, i'r rhai ohonom ar draws y Siambr yn y Senedd hon sydd wedi ymrwymo i fodel y GIG fel y'i crëwyd gan Aneurin Bevan o'r Blaid Lafur, mae'n bryd inni uno a pheidio â sgorio pwyntiau gwleidyddol ar yr egwyddor gadarn o GIG sydd am ddim yn y man lle rhoddir gofal. Os ydych chi'n credu hynny, a'ch bod eisiau brwydro dros GIG sydd am ddim, ni fu erioed cymaint yn y fantol. Mae'r Torïaid yn rhoi ystyriaeth agored i breifateiddio'r GIG—ac i fod yn onest, maent wedi bod gwneud hynny ers amser hir iawn mewn gwirionedd.

Rwy'n awyddus iawn i orffen, os nad oes ots gennych.

Cafodd hyn ei ddatblygu gan gyn-Weinidog iechyd Lloegr, Sajid Javid. Dyma bolisïau eich plaid. Mae am archwilio'r syniad o bobl yn talu i weld meddyg teulu—gyda phopeth y mae Sioned Williams newydd ei fynegi—ac mae'n credu mewn agor y GIG i'r farchnad rydd. Dyma sydd yn y fantol. Gyda'r Torïaid, mae bob amser yr un peth: maent eisiau crebachu'r wladwriaeth, tynnu cyllid cyhoeddus yn ôl—

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn pleidleisio dros y gwelliant fel y'i cynigiwyd gan Lesley Griffiths. Diolch.

Rôn i allan ar linellau piced y gweithlu ambiwlansys ddydd Llun a dydd Iau diwethaf, yn siarad efo aelodau Unite am eu profiadau, a gofyn pam eu bod nhw wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol. Ac roedd y sgyrsiau efo Fiona, Ludwig, Catrin, Robin a'r gweddill yn werthfawr. Roedd eu hatebion yn drawiadol, a phob un yn dweud yr un peth. Roedd cyflog a'r chwyddiant diweddar yn rhan o'r mix. Roedd amgylchiadau gwaith yn rhan bwysig arall. Ond yr un peth roedden nhw oll yn teimlo'n gryf yn ei gylch oedd gofal y claf—yr angen i sicrhau ein bod ni, y cleifion, yn ddiogel ac yn cael y gofal gorau posib. Maen nhw'n gweld ac yn profi'r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd yn ddyddiol, oherwydd y pryderon yma am ein hiechyd ni, y cleifion. Maen nhw wedi dewis mynd i yrfa o ofal, ac oherwydd y gofal yma sydd yn eu cyflyru, maen nhw'n barod i golli dyddiau o gyflog a'r buddiannau a ddaw yn sgil hynny er mwyn sicrhau ein bod ni'n derbyn y gofal gorau. Dyna i chi solidariti, a diolch amdanyn nhw.

Roedden nhw'n awyddus i ddadansoddi'r argyfwng iechyd, gan adrodd o'u profiadau personol, gan sôn am ddechrau sifft drwy fynd yn syth i ambiwlans a oedd yn segur y tu allan i ysbyty cyffredinol, a gorffen y sifft yn yr un ambiwlans, yn yr un ysbyty, efo'r un claf. Roedden nhw'n sôn am gleifion yn gorwedd ar drolïau nad oedd yn addas i glaf fod arnynt am oriau di-ben-draw. Roedd eu profiad oll yn peintio darlun clir o argyfwng. Ond, roedden nhw'n eithaf clir hefyd ynghylch un o brif wreiddiau'r broblem yma, sef y diffygion sylfaenol yn ein gallu i ddarparu gofal cymdeithasol. Er gwaetha'r ffaith eu bod nhw am weld gwella ar eu telerau a'u cyflogau, roedden nhw'n gwbl glir bod gofalwyr cymdeithasol yn haeddu cynnydd sylweddol, a bod yna ddiffyg parch tuag atyn nhw.

Mae dybryd angen diwygio gofal cymdeithasol a mynd i'r afael â gofal integredig unwaith ac am byth. Oherwydd mae yna un ffaith ddiymwad—mae Cymru yn heneiddio, a byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y ganran o bobl oedrannus dros y blynyddoedd nesaf a fydd angen mwy o ofal yn y gymuned. Mae'n rhaid i ni wynebu hyn a pharatoi ar gyfer hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ysbyty yn y cartref a sicrhau gofal meddygol arbenigol cymunedol ar draws Cymru. Rydym ni eisoes wedi colli nifer o welyau ysbyty cymunedol, sydd wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol ac sydd, yn ei dro, yn arwain at gynnydd yn yr heintiau sy'n cael eu lledaenu yn yr ysbytai—nid C. difficile yn unig ond heintiau fel ffliw a COVID. Ac mae pobl hŷn yn fwy tueddol o ddal y clefydau yma yn eu gwendid. Cofiwch fod canran mawr o'r bobl gafodd COVID, yn enwedig yn yr ail don mwy niweidiol, wedi'i ddal yn yr ysbyty, a bod tua dau o bob pump o'r bobl yma wedi marw. Dyna pam bod yn rhaid datblygu capasiti cymunedol. Ar adeg o bandemig, epidemig, neu hyd yn oed pwysau gaeafol, mae'n angenrheidiol trio cadw'n pobl hŷn allan o'n hysbytai cyffredinol a'u cadw yn y gymuned.

Er mwyn gwella'r sefyllfa, mae'n rhaid ymhelaethu'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol er mwyn galluogi gwasanaeth mwy cyson ar draws Cymru, wedi'i halinio i'r gwasanaeth iechyd. Felly, gadwech inni edrych ar un enghraifft o arfer da: mae tîm gofal canolraddol Caerfyrddin wedi torri tir newydd. Dyma ichi farchoglu yn y gymuned, sydd yn darparu ystod o wasanaethau gofal a iechyd yn arbennig ar gyfer pobl hŷn, eiddil a bregus. Mae'r model yn gweithio yn amlasiantaeth, gan gynnwys cydweithio di-dor rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal, ynghyd ag asiantaethau eraill a'r trydydd sector yn sir Gâr, a'u blaenoriaeth ydy ataliaeth a sicrhau ymyrraeth gynnar. Gall pobl gael mynediad i hybiau cymunedol am asesiadau, am gyngor, cymorth a thriniaethau, neu all y tîm fynd allan i gartrefi pobl. Dyma ichi esiampl o'r egwyddorion craidd ar waith ac arfer da y gellir ei rannu ar draws Cymru, a fydd yn tynnu pwysau oddi ar yr ysbytai cyffredinol.

Os ydyn ni am gael pobl adref ynghynt a lleihau y niferoedd sydd yn mynd i'r ysbyty, yna mae'n rhaid hefyd gwella y ddarpariaeth o adnoddau ar gyfer cleifion sydd ddim angen gofal acìwt. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid hefyd cael gwell cydlynu efo awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod asesiadau gofal amserol yn cael eu gwneud. Heb hyn, yna'r hyn sydd gennym ni ydy rhywbeth sy'n ymdebygu i ddrws sy'n troi drwy'r amser, gyda chleifion yn cael eu gyrru adref cyn gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty eto ychydig wedyn. Mae datrys yr elfen gymunedol yn allweddol os ydyn ni am fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd, neu mi fyddwn ni yn parhau i weld y staff yn digalonni, yn gadael, a'r gwasanaethau iechyd a gofal yn chwalu o dan y pwysau. Diolch.

18:30

Diolch i Blaid Cymru am osod y ddadl yma.

Mae GIG Cymru'n wynebu pwysau 'na ellir ymdopi ag ef', ac nid fi sy'n dweud hynny; Conffederasiwn GIG Cymru sy'n ei ddweud. Ac fe fyddaf yn onest, nid yw'n wahanol yn Lloegr, felly ni allwn dderbyn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr. Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd yma i gydnabod y gallwn ni, fel gwlad fach o ddim ond 3 miliwn o bobl, wneud rhywbeth yn wahanol mewn gwirionedd. Gallwn ddatrys hyn gyda'n gilydd.

Roeddwn yn gwrando ar hyn ac yn myfyrio ar y ddadl yn y Senedd, ac rwy'n teimlo bod hon yn ddadl aeddfed, a dyna yw ein dadleuon. I'r rhai ohonom sydd wedi bod yn y Siambr arall, fel petai, nid oedd hynny byth yn digwydd. Ni fyddem byth yn cael cyfle i wneud pwyntiau ac ymyrryd, lle gallem ofyn cwestiynau. Ac felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd, unwaith eto mae'n debyg, yn teimlo dan warchae, ond mae hwn yn fater pwysig, ac mae angen inni ei drafod, oherwydd mae angen inni glywed syniadau a gallu myfyrio hefyd ar brofiadau ein hetholwyr a'n llefydd a phobl rydym wedi siarad â hwy. Felly, yn yr ystyr honno, gobeithio y caiff y tri phwynt rwy'n eu gwneud heno eu cymryd yn yr ysbryd hwnnw.

Yn gyntaf, mae angen inni wneud mwy am yr argyfwng y clywsom amdano gan Rhun ap Iorwerth yn ein sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae arweinwyr cenedlaethol yn y GIG wedi dweud ar ei ben fod y pwysau yn ein sector gofal cymdeithasol yn cynyddu'r galw am ofal brys. Mae'n digwydd ar y ddau ben. Nid yw'r gwaith ataliol rydym eisiau i'n gofalwyr cymdeithasol ei wneud yn digwydd, a'r gwaith cefnogol, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn cyrraedd pwynt o argyfwng, ac yna, pan ddônt allan, nid oes digon iddynt yno. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn edrych ar y broblem honno—ac rwy'n gwybod fy mod wedi codi hyn gyda'r Gweinidog iechyd o'r blaen.

Hoffem ni yn y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig weld argymhellion comisiwn Holtham yn cael eu gweithredu, a gwaith gyda gweithwyr proffesiynol i gyflwyno'r diwygiadau hynny tuag at greu un gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Oni bai ein bod ni'n symud ac yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd fwy unedig, mae'n mynd i fod yn amhosibl mynd i'r afael â llawer o'r problemau hynny.

Yr ail fater i mi—ac unwaith eto fe wnaeth Rhun ap Iorwerth sôn am hyn—yw edrych ar yr ôl-groniad llawdriniaeth ddewisol. Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ac wedi clywed am eu cynigion ar hybiau llawfeddygol, a gwn fod hynny wedi cael ei grybwyll gan Russell George hefyd a chan y Gweinidog iechyd. Rwyf am weld hyn yn digwydd ar draws Cymru. Mae'n digwydd mewn pocedi, fel rwy'n deall. Fe soniodd y Gweinidog iechyd am ysbyty Abergele, ac mae yna enghreifftiau eraill. Ond mae angen inni weld hyn yn cael ei wneud yn deg ac yn gyson ledled Cymru, fel y gallwn leihau a chael gwared ar y pwysau ar ofal brys yn ein hysbytai cyffredinol.

A'r pwynt olaf rwyf am ei wneud yn fyr yw hwn, a chwestiwn ydyw, sef y rheswm pam y cawn y dadleuon a'r trafodaethau hyn. Nodaf fod gwelliant y Llywodraeth yn ymrwymo i gynllun gweithlu i'w ddarparu erbyn diwedd mis Ionawr. Sylwais mai dim ond chwech neu saith diwrnod sydd ar ôl tan ddiwedd mis Ionawr, felly fy nghwestiwn i, cwestiwn cadarnhaol iawn gobeithio, yw: a allwch chi ddweud wrthym pryd y bydd cynllun y gweithlu'n cael ei ddarparu, oherwydd mae hwnnw mor bwysig ac mae'n cyffwrdd â rhai o'r meysydd sydd wedi cael sylw?

Mae'n debyg fy mod yn dod yn ôl at y pwynt, 'gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd'. Rhianon Passmore, fe wnaethoch chi bwynt dilys, sef bod angen y sgyrsiau hyn, ac rwy'n tybio mai dyna sut rwy'n gweld y dadleuon a'r trafodaethau hyn yn y Siambr. Maent yn ymwneud â ni'n gweithio gyda'n gilydd, yn gwrando ar ein gilydd, nid meddwl bod gennym yr atebion oherwydd, mewn gwirionedd, mae pobl yn dod o lefydd lle nad yw'r pethau hynny'n digwydd. Mae hwn yn fater anodd iawn ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau ar ran y bobl a gynrychiolwn. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Gwyddom o'r dadleuon hyn ac o'n profiad ein hunain, Ddirprwy Lywydd, fod y pwysau ar y GIG yn aruthrol. Yn aml, mae'n wasanaeth adweithiol iawn a hynny o anghenraid mewn sawl ffordd oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i'r GIG ymdopi â'r hyn sy'n dod i'w ran, ac yn aml, mae'r hyn sy'n dod i'w ran yn hynod o heriol ac yn mynnu pob gronyn o'i adnoddau. Ond rydym hefyd yn gwybod, ac fel y dywedodd Jane Dodds, mae angen rhyw faint o gonsensws a chytundeb ynglŷn â rhai o'r ffyrdd o ymdopi â'r heriau hyn. Rydym i gyd yn gwybod bod angen inni fod yn fwy ataliol. Ac er gwaethaf y pwysau o ddydd i ddydd, mae angen mentro ac edrych i weld sut y gallwn fod yn fwy hirdymor ac ataliol, gan ymdrin hefyd â'r pwysau presennol, oherwydd bydd llawer o'r agenda iechyd ataliol yn ymwneud â'r materion presennol yn ogystal â'r tymor hwy.

Hoffwn dynnu sylw at un enghraifft o gysylltiadau y gellir eu gwneud i ymdrin â'r materion hyn, sef sesiynau parkrun. Mae'n ffenomen anhygoel, fyd-eang, rad ac am ddim. Yng Nghasnewydd, am 9 o'r gloch ar fore Sadwrn, bob bore Sadwrn, bydd gennym gannoedd o bobl allan yn rhedeg, rhwng wyth ac 80 oed, pob gradd o ffitrwydd corfforol, yn aml pobl sy'n rhedeg er mwyn adsefydlu sydd wedi, neu yn mynd drwy driniaeth canser, er enghraifft, a gwnaed llawer o gysylltiadau â grwpiau ataliol eraill—couch to 5K, neu weithio gyda Move, sy'n ymwneud yn benodol â sut y gall ymarfer corff helpu gyda chanser yn ystod ac ar ôl triniaeth. Llawer o gysylltiadau gwirioneddol dda.

Mae'n tyfu arnoch, Ddirprwy Lywydd, fel y bydd nifer o rai eraill yn gwybod pan fyddant yn gwneud parkrun. Rwy'n gobeithio gwneud fy sesiwn parkrun rhif 150 ddydd Sadwrn yng Nghasnewydd. Rwyf hefyd yn gobeithio bod ar y parkrun iau fore Sul gyda fy ŵyr, sy'n wyth oed, ac sy'n dwli ar y sesiynau parkrun iau. Yr hyn y mae pobl sy'n helpu i drefnu'r sesiynau parkrun ei eisiau—ac mae gennym oddeutu 47 o grwpiau parkrun yng Nghymru bellach—yw cysylltiad cryfach â'r sector iechyd. Felly, mae gennym gysylltiadau, mae gennym feddygfeydd yn presgripsiynu sesiynau parkrun, ac rwy'n credu bod gan oddeutu 24 y cant o grwpiau parkrun gysylltiadau â phractisau. Ond fe wyddom y gallai llawer mwy o feddygfeydd gael y cysylltiadau hyn. Mae presgripsiynu cymdeithasol mor bwysig, ac mae hyn yn rhan bwysig o hynny. Mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar bob math o bresgripsiynu cymdeithasol, ac rwy'n credu y gallai'r ymgynghoriad ystyried y cydweithio sy'n bodoli rhwng grwpiau parkrun a'u rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys byrddau iechyd cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, cyrff llywodraethu cenedlaethol ac ymarferwyr.

Mae angen inni ddefnyddio pob ffynhonnell o gymorth sy'n bosibl gyda'r agenda ataliol, Ddirprwy Lywydd, ac yn fy marn i, mae sesiynau parkrun yn rhan bwysig o hynny. Mae cymaint o ymrwymiad ac ewyllys da ynghlwm wrth y sesiynau parkrun, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fenter iechyd cyhoeddus anhygoel, ac mae'n un y gallwn ei defnyddio'n llawnach i fynd i'r afael â'r heriau y mae pawb ohonom yn eu cydnabod. 

18:40

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ganiatáu cyfle arall imi nodi'r hyn rydym eisoes yn ei wneud i ddiwygio a chefnogi'r GIG, ar adeg pan fo dan fwy o bwysau nag y bu erioed yn ei hanes. Ac rwy'n falch o weld ein bod yn cyflawni llawer o'r pwyntiau a nodir yn y cynnig drwy gyfres o gamau gweithredu, a gweithredoedd rydym ninnau hefyd wedi'u datblygu gyda grwpiau meddygol, a gweithwyr rheng flaen, a'r mathau o sefydliadau rydych chi'n amlwg wedi bod yn ymwneud â hwy. Felly, mae'n debyg ein bod yn siarad â'r un bobl, a dyna pam ein bod wedi dod i lawer o'r un casgliadau. Ac i fod yn onest, ar y prif benawdau—ac rwy'n credu mai ddoe ddiwethaf y cyhoeddoch chi'r cynllun hwn, felly nid wyf wedi cael cyfle i edrych ar y manylion—ar y prif benawdau, nid yw'n wreiddiol iawn, ond edrychaf ymlaen at ddarllen rhai o'r manylion. 

Nawr, ym mhwynt cyntaf y cynnig, mae Plaid Cymru'n cyfeirio at sylwadau a wnaed gan Gonffederasiwn GIG Cymru, sy'n awgrymu bod GIG Cymru yn wynebu pwysau na ellir ymdopi ag ef. A hoffwn nodi bod 2 filiwn o gysylltiadau'r mis yn digwydd o fewn y GIG mewn poblogaeth o 3.1 miliwn. Felly, mae'r mwyafrif helaeth o'r bobl sy'n cael cysylltiad â'r GIG yn cael gwasanaeth da. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig tu hwnt nad ydym yn colli golwg ar hynny, a dyna pam nad wyf am dderbyn bod y GIG mewn argyfwng. Ond roedd cydffederasiwn y GIG yn cyfeirio at gyfnod penodol o amser dros y Nadolig pan na fu'r galw erioed mor uchel. Ond ar ben hynny, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi, pan wnaethant ddatgan hyn, nad cyfeirio at Gymru'n unig a wnâi eu sylwadau, roeddent yn cyfeirio at y pwysau yn y GIG, a dywedodd y cyfarwyddwr fod y pwysau hwn i'w weld ar draws y DU, yng Ngogledd Iwerddon, yng Nghymru ac yn Lloegr.

Nawr, fe wyddom fod ein gwasanaethau iechyd a gofal o dan bwysau, a mawredd, roedd yn bwysau di-ildio dros y Nadolig. Nid ydym erioed wedi gweld cyfraddau ffliw mor uchel ers y pandemig ffliw moch yn ôl yn 2010. Cyfraddau COVID—roeddwn i'n edrych ar y canlyniadau dŵr gwastraff, ac adeg y Nadolig, roeddent drwy'r to. Ac fe ddaeth y pethau hyn i gyd at ei gilydd, a dyna pam y cawsom amser gwirioneddol anodd dros y Nadolig. Ac wrth gwrs, roedd gennym lawer o rieni'n pryderu am strep A. Felly, mae hynny'n esbonio'r pwysau ac mae'r pwysau wedi lleihau'n sylweddol. Nawr, nid ydym wedi cefnu ar y pethau hyn. Mae tywydd oer yn cael effaith, felly rydym yn cadw gwyliadwriaeth yn barhaus i weld beth sy'n dod nesaf. Ond mae'n amlwg fod y pwysau a welsom dros y Nadolig wedi lleihau'n sylweddol.

Nawr, mae'r ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 400,000 o ymgynghoriadau ysbyty wedi'u cyflawni ym mis Tachwedd, a chafodd dros 110,000 o lwybrau cleifion eu cau. Mae hynny'n gynnydd o 4.7 y cant o'r mis cyn hynny. Ac mae'n bwysig nodi ein bod bellach yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig, sy'n eithaf anhygoel. Peidiwn ag anghofio ein bod yn dal i fod mewn pandemig, ond rydym yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig. Nawr, fe welodd mis Tachwedd ail gwymp yn olynol hefyd yn nifer y cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth. Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar yr arosiadau hiraf, a gostyngodd nifer y llwybrau sy'n aros yn hwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf i gleifion allanol 10.3 y cant—felly, mae hynny am y trydydd mis yn olynol. 

Nawr, roedd y cyfnod y cyfeirir ato gan GIG Cymru yn fis eithriadol, fel y dywedais, gyda'r nifer uchaf erioed o alwadau 111, ac o alwadau coch lle roedd bywyd yn y fantol i'r gwasanaeth ambiwlans. Ond mae'r gwelliannau rydym yn eu gwneud ar fyrder i'r system yn gwneud gwahaniaeth, a heb y gwelliannau hyn mae'n amlwg y byddai'r pwysau ar wasanaethau wedi bod yn fwy byth.

Mae ein gweithwyr yn y sector iechyd a gofal yn parhau i weithio'n ddiflino mewn amgylchiadau eithriadol, a hoffwn ategu sawl un yn y Siambr heddiw i gymeradwyo eu hymdrechion arwrol. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar y gweithlu a hoffwn yn fawr allu talu mwy o arian iddynt. Rydym wedi bod o amgylch y Llywodraeth gyfan i ailflaenoriaethu, i edrych ar ein cyllidebau, i weld a oes mwy y gallwn ei roi ar y bwrdd, ac rydym wedi rhoi arian ar y bwrdd i geisio helpu'r sefyllfa eleni. Ond nid wyf yn gweld neb yn codi llaw o Blaid Cymru i ddweud, 'Rydym yn mynd i ailflaenoriaethu'r cytundebau cydweithio.' [Torri ar draws.] Nac ydych. Nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrech i ailflaenoriaethu eich cyllidebau. Rydym ni wedi gwneud hynny ac nid ydych chi. Ewch i egluro hynny wrth y gweithwyr ambiwlans a'r nyrsys, oherwydd nid ydych chi wedi ei wneud. Nid yw'r cynnig wedi bod yno ac mae angen ichi fynd i egluro hynny wrth yr holl bobl y dywedwch eu bod ar y rheng flaen gyda chi. 

18:45

Na, nid wyf am dderbyn ymyriad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu sydd ei angen ar y GIG er mwyn diwallu'r galw cynyddol. Rydym yn cyflawni hyn drwy fwy o lefydd hyfforddi, annog pobl ifanc i fynd ar drywydd proffesiynau iechyd a recriwtio y tu allan i Gymru pan fo angen. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fuddsoddiad o £281 miliwn—. A wnewch chi roi'r gorau iddi, os gwelwch yn dda? A ydych chi eisiau gwrando? A ydych chi eisiau gwrando ar y ddadl hon?

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais becyn buddsoddi gwerth £281 miliwn i gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Am y nawfed flwyddyn yn olynol, bydd y cyllid yng Nghymru'n cynyddu, gydag 8 y cant ychwanegol ar gyfer 2023-24, a bydd hyn yn cefnogi'r nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nag ar unrhyw adeg o'r blaen yn ei hanes, gan ganolbwyntio ar atal a gofal i aelodau o'r gymdeithas ar draws pob cymuned yng Nghymru. 

Nawr, rwy'n falch iawn fod trafodaeth wedi bod ar y dull ataliol, ac rwy'n credu y gallem wneud gyda thrafodaeth lawer ehangach ar hynny. Felly, nid wyf am geisio mynd i'r afael â hynny heddiw, oherwydd rwy'n credu ei fod mor bwysig. Ddoe, fe glywsoch chi rai o'r pethau y bwriadwn eu gwneud. Rwy'n meddwl ei bod yn ddadl gymhleth, sensitif ac anodd, ond mae'n rhaid inni gael y ddadl honno. Wyddoch chi, nid yw'r penawdau'n helpu pethau mewn gwirionedd. Ond mae angen inni wneud yn siŵr fod yna ddealltwriaeth, fel y dywedodd John—mewn gwirionedd, mae yna bethau y gall pobl eu gwneud nad ydynt yn costio arian. Ond mae angen y sgwrs sensitif ac anodd honno. [Torri ar draws.] Wel, rydym wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny, a Lynne sy'n gyfrifol am 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae llawer iawn o ymchwil wedi mynd i mewn i hynny a'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater. Ni ddaw'r pethau hyn o ddim; rydym yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i wybod beth fydd yn gweithio orau. 

Nawr, rwyf wedi dweud, erbyn diwedd y mis hwn, y byddaf yn lansio cynllun y gweithlu iechyd a gofal. Mae'n barod, rwy'n gwneud ambell i newid bach, dyna i gyd—rwyf wedi gwneud sawl newid bach, gallaf eich sicrhau, wrth iddo ddod yn ei flaen. Cafodd ei brofi gyda nifer o'r sefydliadau y gwn eich bod wedi bod yn siarad â hwy hefyd, ac un o'r pethau yn hwnnw fydd lleihau'r bil am weithwyr asiantaeth. Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn realistig, nid ydym yn mynd i allu rhoi'r gorau i'w defnyddio dros nos, oherwydd byddai'n rhaid inni roi'r gorau i ddefnyddio ysbytai, ac yn sicr, nid wyf yn barod i wneud hynny. 

Nawr, rydym yn gwybod bod rhyddhau cleifion o ysbytai'n cael effaith ar lif cleifion. Mae gwaith yn parhau mewn nifer o feysydd i gryfhau a gwneud gwelliannau fel nad yw pobl yn aros mewn gwelyau ysbyty yn hwy nag y bo angen. Nawr, rwyf i, ynghyd â Julie Morgan, wedi bod yn cadeirio grŵp gweithredu gofal ar y cyd o uwch-arweinwyr y GIG a llywodraeth leol i ysgogi cynnydd, ac rydym wedi sicrhau, y gaeaf hwn, 595 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr. Y gaeaf hwn yw hynny. Mae wedi tynnu pwysau enfawr oddi ar—

—y system. Yn Lloegr fe wnaethant gyhoeddiad eu bod yn mynd i ddarparu 7,000, ond rwy'n credu mai megis dechrau anfon yr arian allan y maent. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n werth ei gydnabod, mae'n debyg, oherwydd ni allaf ddweud wrthych faint o waith oedd hynny—gwaith manwl iawn, gweithio gyda phob awdurdod lleol, pob bwrdd iechyd, gwneud i'r ddarpariaeth honno ddigwydd. Mae wedi bod yn anodd iawn. 

Ac i gloi, oherwydd mae cymaint mwy y gallwn ei ddweud, fy mhrif flaenoriaeth yn fframwaith cynllunio'r GIG a anfonais at fyrddau iechyd yw'r gofyniad i sefydliadau'r GIG ddatblygu perthynas agosach gyda llywodraeth leol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau oedi wrth drosglwyddo gofal ac i wthio mwy o ofal i mewn i'r gymuned. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â Mabon ar hyn: dyna lle mae angen inni ganolbwyntio ein sylw mewn gwirionedd—mae angen inni gael y gefnogaeth allan i'n cymunedau, yn enwedig pan edrychwn ar boblogaeth sy'n heneiddio. Mae cymaint mwy y gallwn ei ddweud. Rwy'n deall ein bod dan bwysau, ond diolch yn fawr iawn ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi ein gwelliant.

18:50

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I bawb ohonom gael ein gwynt atom, fe ddechreuaf drwy roi ychydig o sylw i gyfraniad Gareth Davies, a siaradodd fel y gwnaeth am ymroddiad Margaret Thatcher i Gymru. Mae gennyf well cof am y ffordd y dinistriodd hi Gymru yn ei chyfnod fel Prif Weinidog. Wyddoch chi beth, ar y meinciau hyn, y Blaid Lafur a ninnau, rydym yn rhannu dirmyg tuag at yr hyn a wnaeth hi fel Prif Weinidog. Ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn am gyfraniad Rhianon Passmore—

Rwy'n falch eich bod wedi sôn am Margaret Thatcher, un o'r Prif Weinidogion gorau a gafodd y wlad hon erioed. Yn wahanol i'ch plaid chi a'r Blaid Lafur, ni phleidleisiodd hi erioed dros dorri cyllideb y GIG. O dan ei phrifweinidogaeth hi, cododd cyllideb y GIG uwchlaw a thu hwnt i argymhellion arweinwyr y Blaid Lafur ar y pryd ac eto fe bleidleisioch chi, eich plaid chi a'r blaid sy'n llywodraethu yma yng Nghymru, y Blaid Lafur, dros dorri cyllideb y GIG flynyddoedd yn ôl. A ydych chi'n difaru hynny? 

Rydych chi wedi sicrhau bod hynny'n cael ei gofnodi heddiw. Bydd gwaddol Margaret Thatcher ar gof a chadw am byth gyda'r difrod a achoswyd i gymunedau Cymru.

Yn ôl at gyfraniad Rhianon Passmore, rydym yn rhannu delfryd gyffredin am egwyddorion y GIG, yr egwyddorion y seiliwyd y GIG arnynt, a chyda'n gilydd, rydym eisiau diogelu'r egwyddorion allweddol hynny. Roedd hi'n iawn hefyd i ddweud bod y rhain yn faterion sy'n berthnasol i'r Alban, i Ogledd Iwerddon, i Loegr. Mae Llafur yn dweud ei bod hi'n argyfwng yn yr Alban, mae'n argyfwng yn Lloegr. Dyna pam ein bod ni'n dweud, 'Cyfaddefwch ei bod hi'n argyfwng yng Nghymru.' Felly, rwy'n falch ei bod hi'n ei weld yn yr un ffordd â fi. Dywedodd hefyd fod hon yn ddadl ddifrifol, a hoffwn ddiolch i unigolion—

Gyda'r parch mwyaf, rwy'n cydnabod yr heriau digynsail. Nid wyf yn teimlo, o ran y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ei bod yn ddefnyddiol inni labelu a defnyddio semanteg am rywbeth sydd o ddiddordeb mor fawr i bobl Cymru, ac ni ddywedais hynny.

Yn sylwadau agoriadol y gynhadledd honno, defnyddiwyd y gair 'argyfwng' yn wir, ac rwy'n siŵr y bydd eich cymheiriaid Llafur yn yr Alban a Lloegr yn nodi eich bod yn anghytuno â'u hasesiad o gyflwr y GIG.

Ond fe ddywedoch chi fod angen dadl ddifrifol arnom, ac mae'n ddadl ddifrifol. Clywsom gyfraniadau difrifol gan Jane Dodds, gan John Griffiths, gan Aelodau ar fy meinciau i, Russell George. Mae'n bwysig tu hwnt. Bydd yn rhaid imi wneud sylw am sylwadau Jenny Rathbone, nad oeddent lawn mor ddifrifol—sylwadau sarhaus yn fy marn i. Nid yn sarhaus i mi—dyna yw gwleidyddiaeth, mae hynny'n iawn—ond yn sarhaus i'r cyrff a gyfrannodd tuag at y syniadau hyn, ymosodiad ar gynllun nad oedd hi, yn amlwg, yn gwybod dim amdano, a chynllun y mae ganddi lai fyth o ddiddordeb mewn dysgu amdano.

Edrychais ar fy nghyfryngau cymdeithasol yn ystod y ddadl, ar rai o'r sylwadau a wnaed. Cymdeithas Feddygol Prydain yn ddiolchgar i weld rhai o'u prif alwadau ar gyflogau, y gweithlu a gofal cymdeithasol yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun pum pwynt. Coleg Brenhinol y Bydwragedd:

'Gwych gweld yr angen am dâl teg i staff y GIG ar frig Cynllun 5-Pwynt @Plaid_Cymru.... Da hefyd gweld y cynllun yn blaenoriaethu...cadw staff GIG'.

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon:

'Rydym yn falch o gyfrannu at y gwaith hwn ar hybiau llawfeddygol.'

Fe ymwelais â Clatterbridge gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ddydd Llun. Roeddent yn falch, roeddent yn lansiad ein maniffesto oherwydd eu bod wedi cyfrannu tuag ato. Ac wrth gwrs mae'r Gweinidog yn dweud ei bod hi'n siarad â hwy hefyd, ond efallai eu bod yn gallu siarad yn fwy gonest gyda ni am eu bod eisiau gwneud yn siŵr fod yna bwyslais ar y camau y mae'r Llywodraeth yn dweud—. Nid wyf yn dweud nad yw'r Llywodraeth yn gwneud dim; rwy'n dweud nad yw'r Llywodraeth yn gwneud yr hyn sydd angen ei wneud, ac nid yw'n gwthio'r agenda mor gyflym ag y gall. Er enghraifft, i ymateb i sylwadau'r Gweinidog ar y dull ataliol, fe ddywedodd ei fod yn sensitif, ei fod yn anodd. Wyddoch chi beth, ar y dull ataliol, gwthiwch yn galed—gwthiwch y dull ataliol yn galed: rhowch y dull ataliol ar y blaen ac yn y canol ym mhob dim y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud. Bob tro y byddwch chi'n sôn am iechyd, soniwch am y dull ataliol, gwneud heddiw yr hyn sy'n ein gwneud ni'n iachach yfory—yr yfory ffigurol 10 mlynedd o nawr wrth gwrs, ond yr yfory go iawn hefyd; rydych chi'n paratoi heddiw ar gyfer y llawdriniaeth y byddwch yn ei chael yr wythnos nesaf. Mae gwir angen blaenoriaethu'r holl agenda ataliol.

Felly, ymlaen at sylwadau'r Gweinidog. Rwyf am roi mantais yr amheuaeth iddi pan ddywedodd, 'Diolch am roi cyfle arall imi egluro beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud.' Gellid bod wedi ei ddeall fel sylw sarcastig; fe wnaf ei ystyried yn sylw tafod yn y foch gan Weinidog sy'n gorfod ateb cwestiynau o un dydd i'r llall. Wyddoch chi beth? Nid ydym yn ymddiheuro am ofyn y cwestiynau hynny. Nid ydym yn ymddiheuro am weithio gyda phartneriaid ar draws iechyd a gofal ar lunio cynllun pum pwynt y gallai rhai Aelodau fod eisiau ei wawdio, ond maent yn gwawdio'r cynllun a gyflwynwyd gan y gweithwyr eu hunain. Nid yw 'dim i'w weld yma' yn ddigon da gan Lywodraeth. Roeddwn yn ofni mai, 'Rydym yn gwneud hyn eisoes' fyddai hi.

18:55

Oes. Rwy'n ystyried derbyniad y Llywodraeth ein bod yn gwneud y galwadau cywir fel rhywbeth cadarnhaol, ei bod yn credu ei bod yn symud i'r cyfeiriad cywir ar staff asiantaeth; rydych chi'n dweud pethau nawr nad oeddech chi'n eu dweud wythnos yn ôl ar staff asiantaeth. 

Wel, ydy. Fe wrthododd y Prif Weinidog drafod gweithwyr asiantaeth mewn unrhyw ffordd negyddol yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Ond gadewch inni barhau gyda'r ddadl ddifrifol. Byddwn yn parhau i wthio'r cynllun pum pwynt hwn, fel y bydd ein partneriaid, oherwydd mae angen inni ddod â'n holl syniadau at y bwrdd i ddatrys y problemau sy'n wynebu'r GIG.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Ac rydyn ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Na. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf ar bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais.

Felly, o blaid 34, roedd 16 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol: O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 16

Derbyniwyd y cynnig

Byddwn nawr yn pleidleisio ar eitem 8, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os caiff y cynnig ei wrthod, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, dim yn ymatal, yn erbyn 40. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Lleihau'r pwysau ar y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, yn erbyn 26. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

19:00

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2—galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, yn erbyn 25, felly mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8188 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.

2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

3. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:

a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;

b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;

c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;

d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;

e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;

f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;

g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;

h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;

i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Lleihau'r pwysau ar y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Cefnogi pobl mewn argyfwng costau byw

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, ac os gallai'r Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda.

Galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac wrth agor y ddadl fer heddiw hoffwn roi munud o fy amser i Sioned Williams a Jane Dodds. 

Mae 'argyfwng costau byw' yn ffordd arall o ddweud bod nifer cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Mae'n arwydd o fethiant llunwyr polisi a'r ffordd y caiff ein heconomi ei threfnu. Nid yw'n anochel, ac fe allwn ac fe ddylem geisio gwneud bywydau pobl yn haws a mynd i'r afael â thlodi. Rydym i gyd yn gwybod beth sy'n digwydd os na wnawn hynny.

Mae hon yn sgript gyfarwydd. Rydym wedi darllen y cyfan o'r blaen. Mae tlodi'n cael gwared ar bŵer pobl, ac yn enwedig pan fo'n brofiad plentyndod, mae'n achosi trawma sy'n creithio pobl am oes. Ac rydym yn aml yn sôn am yr angen i farnu pobl yn ôl eu teilyngdod. Wel, sut mae hynny'n bosibl pan fydd nifer cynyddol o gyfleoedd bywyd pobl yn cael eu heffeithio o'r dechrau gan dlodi?

Cysylltwch hyn â'r gost anhygoel o hel y darnau wedi'r trawma y mae tlodi'n ei achosi ac mae'n rhaid ichi ystyried pam mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwneud cyn lleied i atal rhai sefydliadau rhag mynd ati i wneud pethau'n gymaint gwaeth. Un grŵp o'r fath yw'r cyflenwyr ynni. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld yr ymgyrchu y bûm yn ei wneud ac y bu sefydliadau'n ei wneud i alw am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, ac rwy'n ddiolchgar i nifer ohonoch a arwyddodd fy natganiad barn a gyflwynwyd gennyf yr wythnos hon, yn galw am y gwaharddiad hwnnw.

Yn wir, mae pob un Aelod ar feinciau cefn Plaid Lafur Cymru, pob un Aelod ym Mhlaid Cymru, pob un Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi arwyddo'r cynnig. Ond nid oes unrhyw Aelod Ceidwadol wedi gwneud hynny. Lywydd, nid oes gennym un yn y Siambr hyd yn oed. Un yn unig sydd gennym ar-lein. Nid oes un Tori wedi arwyddo'r datganiad barn yn galw am waharddiad. Ac rwy'n galw am waharddiad nid yn unig oherwydd bod y mesuryddion hyn yn sicrhau bod y tlotaf yn ein cymdeithas yn talu mwy na neb arall am eu hynni, ond oherwydd bod sgandal genedlaethol yn ymffurfio o flaen ein llygaid—boed yn llygaid Llafur, llygaid Plaid Cymru, llygaid Democratiaid Rhyddfrydol neu eich llygaid Torïaidd—sgandal sy'n peryglu bywydau. Fe nodaf yn fyr beth sy'n digwydd.

Yng nghanol gaeaf oer a thwf sylweddol mewn tlodi, gyda chwyddiant yn rhemp a chyflogau'n llusgo ar ôl, rydym yn caniatáu i gwmnïau ynni newid pobl i'r ffordd fwyaf drud ac ansicr o dalu am ynni—cannoedd o filoedd o bobl. Ac o'r 500,000 o geisiadau am orchmynion llys i newid preswylwyr yn orfodol, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod, a hynny er gwaethaf y gofyniad honedig i gwmnïau ynni sicrhau bod mesuryddion rhagdalu yn addas ar gyfer cwsmeriaid yr ystyrir eu bod yn fregus—pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor.

Lywydd, mae newid i fesurydd rhagdalu i fod wedi'i wahardd os nad yw'r defnyddiwr eisiau un, ac eto mae gennym adroddiadau am sypiau o orchmynion llys yn cael eu rhoi ar unwaith, a channoedd yn cael eu cyhoeddi ar y tro. A yw hyn yn awgrymu bod y gwiriadau priodol yn digwydd? Mae pobl fregus yn cael eu newid yng nghanol y gaeaf heb fawr o waith, os o gwbl, i weld pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau. Golyga hyn fod llawer o bobl yn byw gyda'r ofn parhaus y bydd eu cyflenwad yn cael ei dorri. Mae Cyngor ar Bopeth wedi dweud bod cyflenwad rhywun yn cael ei dorri bob 10 eiliad am na allant fforddio eu taliad atodol i'w mesurydd rhagdalu. A bod yn hollol onest, mae'n fater o fywyd a marwolaeth.

Mae'n gwbl amlwg nad yw'r rheoleiddiwr, Ofgem, na Llywodraeth y DU wedi dirnad maint y broblem. Bûm yn tynnu sylw at hyn ers rhai misoedd bellach. Pan ysgrifennais at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol, ddiwedd mis Rhagfyr, rhoddodd ateb safonol nad oedd yn mynegi unrhyw bryder o gwbl. Ond o'r diwedd, y penwythnos diwethaf, ar ôl i gannoedd o filoedd gael eu newid eisoes, mae o'r diwedd wedi cydnabod bod hyn yn destun pryder difrifol. Ond mae wedi caniatáu i'r sefyllfa barhau, ac yn hytrach, ysgrifennodd at y cyflenwyr i ofyn am eu cydweithrediad. Wel, yng nghanol y gaeaf hwn, yng nghanol yr argyfwng costau byw hwn, rwy'n sicr na allwn adael hyn i'r llysoedd, na allwn adael hyn i'r cyflenwyr, a dyna pam, unwaith eto, y galwaf ar yr Ysgrifennydd Gwladol ac Ofgem i wahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, neu fan lleiaf un, Lywydd, dylent orchymyn y dylai'r orfodaeth i newid i fesurydd rhagdalu gael ei hatal hyd nes y gall cwmnïau ddangos y tu hwnt i bob amheuaeth eu bod yn cyflawni'r broses yn ddiogel.

Yn ffodus, Lywydd, yn wahanol i Lywodraeth Dorïaidd y DU, nid wyf wedi fy nghyfyngu gan gred ideolegol, er gwaethaf yr holl dystiolaeth, fod yn rhaid gadael pethau i ewyllys da'r cwmnïau hyn. Mae'n bryd i'r Torïaid yn y DU ddangos arweiniad. Gadewch inni fod yn glir: caiff mesuryddion rhagdalu eu gosod oherwydd bod hynny'n fwy cyfleus i'r cyflenwyr ynni. Gobeithio y gallwn i gyd gytuno bod achub bywydau'n llawer pwysicach na hynny. Ac fel y dywedais ar y dechrau, mae a wnelo tlodi â mwy na'r sgandal rhagdalu uniongyrchol, a bydd yn effeithio ar fywydau pobl am byth; bydd yr oerfel a ddaw pan na fydd pobl yn defnyddio ynni neu wrth i'w cyflenwad gael ei dorri yn arwain at gymaint mwy o effeithiau. Bydd yn rhwystro gallu plant i ddysgu. Bydd yn achosi i bobl fynd yn sâl a datblygu cyflyrau cronig. Bydd yn achosi problemau trawma ac iechyd meddwl, ac yn creu cymaint mwy o broblemau y mae'n amhosibl siarad amdanynt i gyd nawr. 

Ond dylai gwres ac ynni fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei gymryd yn ganiataol, ni waeth beth yw ein cefndir. Dylai fod yn egwyddor i seilio ein system gyflenwi ynni o'i chwmpas, ond yn hytrach, mae'n gwbl glir fod buddiannau cyflenwyr ynni'n cael blaenoriaeth dros hynny. A bydd yr argyfwng Torïaidd hwn yn rhygnu yn ei flaen, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth fod yn ystwyth i weld y risgiau a chefnogi pobl. Ac fe ddof i ben gyda hyn, Lywydd: os na all y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wneud hynny, dylent alw etholiad cyffredinol nawr a gadael i'r bobl benderfynu beth ddylai blaenoriaeth y Llywodraeth fod. Diolch yn fawr.

19:10

Diolch i Jack Sargeant am ddod â'r pwnc yma gerbron y prynhawn yma. Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi gwaharddiad ar orfodi cwsmeriaid i dalu am eu hynni drwy fesuryddion talu o flaen llaw, ac fel y codais i gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr y prynhawn yma, mae angen i Lywodraeth Geidwadol San Steffan wneud mwy nag annog cyflenwyr trydan a nwy i atal yr arfer gwbl anniogel ac annheg yma sy'n effeithio'n gwbl anghymesur ac yn andwyol ar aelwydydd mwyaf bregus Cymru. Mae angen gwaharddiad. Ac os nad yw San Steffan yn medru amddiffyn pobl Cymru rhag agwedd farus ac anghyfrifol y cyflenwyr ynni, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio'r grymoedd sydd eu hangen i wneud hynny.

Mae pobl yn datgysylltu eu hunain o'u mesuryddion, o olau, o wres, o'r gallu i ymolchi mewn dŵr twym a chadw eu dillad yn lân. Mae pobl, fel dywedoch chi, yn marw wrth i gyflyrau iechyd gael eu gwaethygu yn sgil byw mewn tai oer. Maen nhw'n marw nawr. Rhaid dwyn Llywodraeth San Steffan i gyfrif am hynny. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i wneud yr hyn y gall hi ei wneud i warchod ei dinasyddion.

Diolch o galon i Jack. Rydych chi'n ddadleuwr ac yn ymgyrchydd diflino dros faterion yn ymwneud â phobl sy'n byw mewn tlodi, fel nifer o rai eraill o gwmpas y Siambr hon. I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod pam yr ymunais â byd gwallgof gwleidyddiaeth, gadewch imi ddweud wrthych. Am 25 mlynedd, bûm yn weithiwr cymdeithasol, yn ymweld â theuluoedd lle roeddem yn gwneud gwaith amddiffyn plant, a gweld bod y teuluoedd hynny ymhlith y tlotaf. Mae'r tlodion yn mynd yn dlotach. Nid oes gan bobl dlawd unrhyw adnoddau i ymdopi â'r hyn sy'n digwydd. Nid oes gan bobl dlawd unrhyw opsiynau, nid oes ganddynt obaith, ac rwy'n gobeithio fy mod i, a phawb yma rwy'n siŵr—ac mae'n ddrwg iawn gennyf na welaf unrhyw un o blith y Ceidwadwyr yma, ddim hyd yn oed ar-lein mwyach—rwy'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau gweld pethau'n newid.

Fe awn gam ymhellach, a byddwn yn dweud y dylem wahardd pob mesurydd rhagdalu, nid y rhai sy'n cael eu gorfodi i'w ystyried, ond pob mesurydd rhagdalu, oherwydd maent yn bethau dieflig pan edrychwn ar sut y gallwn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi. Nid oes ganddynt adnoddau, nid oes ganddynt egni, nid oes ganddynt nerth i wrthsefyll beth sy'n digwydd. Felly, galwaf ar y Gweinidog i ystyried sut y gallwn wahardd y rhain yng Nghymru, sut y gallwn sicrhau na chânt eu gosod yn ein cartrefi yng Nghymru mwyach. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n rhoi cyfle i mi, unwaith eto, i sicrhau pobl ledled Cymru mai ein blaenoriaeth yw eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw hwn. Rwyf wedi siarad yn helaeth yn ystod y misoedd diwethaf am effaith prisiau ynni cynyddol, am effaith chwyddiant, yn enwedig chwyddiant bwyd, am ganlyniadau trychinebus methiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi, sydd wedi dinistrio ein cyllidebau a gwthio pobl i fyw mewn tlodi.

Ond nid yw'r ffeithiau a'r ffigurau hyn yn dweud wrthych beth mae'r argyfwng hwn yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl sy'n byw gyda phwysau o'r fath bob dydd. Nid ydynt yn cyfleu'r gost bersonol i'r fam sy'n mynd heb fwyd er mwyn bwydo'i phlant, y person oedrannus sy'n poeni gormod am eu harian i droi'r gwres ymlaen, neu brofiad dirdynnol y teulu sy'n cael eu gwneud yn ddigartref am na allant fforddio eu rhent mwyach—un o nifer cynyddol o deuluoedd ac unigolion sy'n wynebu bod heb gartref am y tro cyntaf. Yn y bôn, Ddirprwy Lywydd, fwy a mwy, nid yw'r swm o arian sydd gan bobl yn dod i mewn bellach yn ddigon i dalu am hanfodion sylfaenol bywyd fel costau tai, gwresogi a bwyd. Nid oes modd mantoli'r cyfrifon, ac wrth i'r wythnosau fynd heibio, mae eu gallu i dalu'r costau hanfodol hyn yn lleihau ymhellach ac mae lefel eu dyled yn cynyddu.

Ond rwy'n rhannu'r pryderon y mae Jack Sargeant wedi'u nodi heddiw yn y ddadl hon, yn y cwestiwn amserol yn gynharach y prynhawn yma, ac ar bob cyfle'n gyson, am y defnydd cynyddol o fesuryddion rhagdalu gan gwmnïau ynni fel modd o adennill dyledion ynni. Fe wyddom fod talu am ynni ar gynllun rhagdalu yn llawer drytach i rai o'r aelwydydd mwyaf bregus a thlawd yn ein cymdeithas, hyd yn oed lle mae'r cwsmer ar fesurydd clyfar a lle nad oes cynnydd yn y taliadau gweinyddol i'r cyflenwr. Felly, ddydd Llun yr wythnos hon—a nodais hyn eisoes y prynhawn yma—cyfarfûm unwaith eto â chyflenwyr ynni a galwais arnynt i roi eu sicrwydd i mi eu bod yn rhoi camau diwydrwydd dyladwy ar waith ac nad oedd pobl yn cael eu newid i fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys, yn enwedig y rhai sydd eisoes ar fesurydd clyfar. Byddaf yn parhau i gyfarfod â hwy'n rheolaidd i sicrhau, yn sgil yr addewidion a roddasant i mi—ac fe wnaethant addewidion i mi mewn perthynas â'u harferion, gan ddweud un ar ôl y llall mai dewis olaf yn unig oedd hwn—y byddaf yn eu dwyn i gyfrif yn fy ymgysylltiad â hwy ac yn edrych ar y dulliau a nodwyd gan Jack a chyd-Aelodau heddiw, lle gallem ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny mewn gwirionedd.

Er hynny, ceir tystiolaeth erbyn hyn nad yw cyflenwyr yn dilyn y rheolau sylfaenol i ddiogelu pobl mewn amgylchiadau bregus. Unwaith eto, Jack, fe gyfeirioch chi at dystiolaeth Cyngor ar Bopeth. Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd, cafodd dros dair gwaith y nifer o bobl eu newid i fesurydd rhagdalu oherwydd dyled o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae cynghorwyr rheng flaen yn gyson yn gweld tystiolaeth o bobl mewn amgylchiadau bregus yn cael eu newid i fesuryddion rhagdalu, yn groes i reoliadau ar gyfer cyflenwyr ynni. Felly, maent yn tramgwyddo. Mae angen inni edrych ar y rheoliadau hynny, a dyna rwy'n mynd i'w wneud. Parhaodd yr arferion hyn hyd yn oed ar ôl i Ofgem ysgrifennu at gyflenwyr ym mis Tachwedd i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau. Hefyd, ddydd Llun cyhoeddodd Ofgem adroddiad yn amlinellu eu pryderon am y twf sydyn yn nifer y cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ac sy'n cael eu newid i fesuryddion rhagdalu, weithiau heb iddynt wybod hyd yn oed, fel y gwyddom, gan eu gadael heb wres. 

Mae National Energy Action Cymru wedi tynnu sylw at achos llys ynadon a gymeradwyodd 496 o warantau i osod mesuryddion rhagdalu mewn pedwar munud yn unig. Pwy yw'r ynadon hyn? Rhaid inni fynd atynt. Rhaid inni fynd i'r afael â hyn gyda hwy. Mae arferion o'r fath yn peryglu cwsmeriaid bregus, gan gynnwys y rhai sydd â chyflyrau meddygol, drwy eu gorfodi ar fesuryddion rhagdalu pan allai hynny fod yn beryglus. Mae tua 200,000 o gartrefi yng Nghymru'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu am eu prif gyflenwad nwy a thrydan. Mae hyn oddeutu 15 y cant o'n holl aelwydydd. Mae 24 y cant o denantiaid yn y sector rhentu preifat yn defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac mae bron i hanner y tenantiaid tai cymdeithasol yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu.

Roedd aelwydydd Cymru ymhlith y rhai a gafodd eu taro waethaf gan y cynnydd yn y taliadau sefydlog ar filiau aelwydydd er mis Ebrill diwethaf. Roedd y cynnydd mwyaf ym Mhrydain yng ngogledd Cymru, i fyny 102 y cant, gyda de Cymru'n gweld taliadau sefydlog yn codi 94 y cant, y pedwerydd uchaf ym Mhrydain. Mae'r costau ychwanegol hyn ar filiau tanwydd sydd eisoes yn cynyddu wedi cael effaith negyddol anghymesur ar aelwydydd incwm isel a'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn fwyaf arbennig. Mae Cyngor ar Bopeth wedi tynnu sylw at y nifer uchaf erioed o bobl na all fforddio taliad atodol ar gyfer eu mesuryddion rhagdalu, gan gynnwys galw anghymesur gan aelwydydd un oedolyn, menywod ac aelwydydd anabl. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gosod cwsmer ar dariff drytach a hwythau eisoes yn ei chael hi'n anodd talu yn fodd o ddatgysylltu drwy'r drws cefn.

Fe wyddoch am ystod Llywodraeth Cymru o fentrau a gyflwynwyd gennym ac a weithredir gennym i gadw cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn. Yr un yr hoffwn ganolbwyntio'n arbennig arno yw partneriaeth Sefydliad y Banc Tanwydd, sydd hyd yma wedi helpu 14,377 o bobl sy'n ei chael hi'n anodd rhagdalu am eu tanwydd ac a oedd yn wynebu risg o ddatgysylltu eu hunain. Mae'r cynllun talebau tanwydd wedi arwain at roi 5,500 o dalebau i helpu gyda thaliad atodol ar gyfer mesuryddion rhagdalu. Mae pobl sy'n cael trafferth talu am eu tanwydd oddi ar y grid hefyd wedi cael cymorth.

Felly, fel y gwneuthum y prynhawn yma, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i annog Aelodau i ddefnyddio eu cyfryngau cymdeithasol i annog etholwyr sydd â mesurydd rhagdalu traddodiadol i ddefnyddio eu talebau gan gynllun Llywodraeth y DU. Dônt i ben ar ôl 90 diwrnod, ac mae'r nifer sydd eto i'w defnyddio yn bryderus o uchel. Ond cefais sicrwydd gan gyflenwyr ynni ddydd Llun y byddent yn ailddarparu'r talebau hynny. Fe wnaf yn siŵr eu bod yn cadw at hynny, felly byddant yn ailddarparu'r talebau hynny hyd nes y bydd pobl yn cael y talebau hynny. Nid yw ond yn 72 y cant ar hyn o bryd, am y £400, sy'n hanfodol i'r bobl dlotaf yng Nghymru. 

Felly, fe wyddoch fod gennym ein cynllun cymorth tanwydd eisoes yn cyrraedd 310,000 o aelwydydd gyda'r taliad o £200 eleni, gan gynyddu cymhwysedd. Unwaith eto, byddwn yn annog aelwydydd cymwys, y flwyddyn ariannol hon, i sicrhau eu bod yn ymgeisio am y cymorth hanfodol hwn, oherwydd mae'n hanfodol er mwyn cael arian i bocedi pobl. Nid yw ein dyraniad cyllid presennol gan Lywodraeth y DU yn ddigonol inni ailadrodd y cynllun yn 2023-24, ond byddwn yn lobïo Gweinidogion y DU i ddarparu cymorth ariannol pellach i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod ein cronfa cymorth dewisol yno, gyda chynnydd yn y gyllideb ddrafft, fel y gwyddoch, i allu cael cymorth ariannol brys mewn argyfwng.

Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU, sydd â'r prif ysgogiadau at ei defnydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, i roi camau ymarferol ar waith sy'n effeithio'n uniongyrchol a chadarnhaol ar y rhai yr effeithir arnynt gan gost gynyddol ynni, yn enwedig y rhai ar fesuryddion rhagdalu. Ac rydym wedi galw, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi heddiw i alw am ddileu taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu. Fe allai hynny fod yn ddatganiad barn arall, gobeithio. Ers dwy flynedd, rydym wedi galw ar Weinidogion y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. Maent bellach yn dweud y byddant yn edrych ar hyn. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem yn fuan. Roedd y rhan fwyaf o'r cyflenwyr ynni y gwneuthum eu cyfarfod yr wythnos hon yn symud tuag at gefnogi hyn. Mae'n rhaid inni alw am y tariff cymdeithasol gyda'n gilydd.

Felly, yn olaf, diolch i Jack Sargeant, dadleuwr ac ymgyrchydd diflino. Rwy'n talu teyrnged i Jack am ei natur benderfynol. Mae wedi rhoi'r mater hwn yn y penawdau nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn eang ar draws y DU. Rydych chi wedi tynnu sylw at yr effeithiau niweidiol y mae'r newid gorfodol i fesuryddion rhagdalu wedi'u cael ar aelwydydd bregus. Rydych chi wedi ysgogi cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus i gynnal gwiriadau priodol ym mhob achos cyn newid cwsmer i fesurydd rhagdalu. Ac rydych chi wedi ailadrodd galwadau ar Ofgem a Llywodraeth y DU i wahardd gosod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, ac rwyf wedi cefnogi'r holl alwadau hynny, Jack, ac mae mor dda clywed bod ein cyd-Aelodau o Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi'r galwadau hefyd. Felly, fe wnaethoch chi wahaniaeth y penwythnos diwethaf—mae'n rhaid inni gydnabod bod gan Jack Sargeant ddylanwad. Ysgrifennodd Grant Shapps at gyflenwyr ynni'r DU y penwythnos hwn yn datgan eu dyletswydd o dan y rheoliadau i ddiogelu cwsmeriaid bregus sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Ond nid yw hynny'n ddigon cryf, nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid inni edrych ar y rheoliadau hynny i weld beth y gallwn ei wneud, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda'r galwadau hyn a'r ymgyrch hon gyda'n gilydd. Diolch yn fawr iawn, Jack.

19:20

Diolch, Weinidog, a diolch i Jack Sargeant. A daw hynny â busnes heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.