Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/10/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

E-sigarennau

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i hyrwyddo e-sigarennau i annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau i ysmygu? OQ58468

Llywydd, mae ein dull o weithredu o ran e-sigaréts wedi'i nodi yn ein strategaeth rheoli tybaco a'i chynllun cyflawni, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni. Fel y nodir yn y cynllun, byddwn yn comisiynu adolygiad ar sail tystiolaeth o'r defnydd o e-sigaréts yng Nghymru.

Diolch Prif Weinidog. Yn fy ardal i yn y de-ddwyrain, mae'r gyfradd smygu uchaf ym Merthyr Tudful mewn gwirionedd, lle mae 23 y cant o oedolion yn smygwyr. Mae hyn yn uwch na chyfartaleddau Cymru a'r DU. Os yw Cymru am gyrraedd ei tharged di-fwg erbyn 2030, yna bydd angen i gyfradd y rhai sy'n rhoi gorau i smygu gynyddu 40 y cant. Canfu astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol y Frenhines Mary, a gefnogir gan Cancer Research UK, y gallai defnyddio e-sigaréts fod ddwywaith mor effeithiol â thriniaethau disodli nicotin traddodiadol wrth helpu smygwyr i roi'r gorau iddi. Mae sawl adolygiad, gan gynnwys y rhai gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Choleg Brenhinol y Meddygon y DU, wedi canfod nad oes unrhyw risgiau i iechyd pobl yn smygu e-sigaréts yn oddefol yng nghyffiniau smygwyr. Felly, nid yw'r dystiolaeth bresennol yn cyfiawnhau gwahardd smygu e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol bod smygwyr yn deall bod newid i e-sigaréts yn debygol o leihau eu risg o niwed yn sylweddol o'i gymharu â smygu sigaréts confensiynol, a beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog y GIG yng Nghymru i weithio gyda chwmnïau e-sigaréts i gyflenwi'r rhai sy'n dymuno rhoi'r gorau i smygu â'u cynnyrch er mwyn eich helpu i gyrraedd eich targed o Gymru ddi-fwg erbyn 2030?

Wel, Llywydd, gadewch i mi yn gyntaf oll dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrchoedd rhoi'r gorau i smygu yng Nghymru yn ddiweddar. Yn 2012, fe wnaethom osod targed ar gyfer lleihau smygu yng Nghymru—pa mor gyffredin yw smygu—i 20 y cant erbyn 2016. Fe wnaethom ragori ar hynny; fe wnaethom gyrraedd 18 y cant erbyn 2015. Yna fe osodom ni darged arall i gyrraedd 16 y cant erbyn 2020. Fe wnaethom ragori ar hwnnw eto, a'r lefel bresennol o nifer yr achosion o smygu yng Nghymru yw'r isaf y mae wedi bod erioed ers i'r cofnodion hyn ddechrau, sef 13 y cant. Felly, heb os, rydym wedi cael llwyddiant sylweddol iawn. Mae'n un o newidiadau cymdeithasol mawr fy oes, rwy'n credu, fy mod wedi gweld y ffordd y mae nifer yr achosion o smygu wedi lleihau. 

Pan fo pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio tybaco ac yn smygu e-sigaréts, yna, heb os, mae e-sigaréts yn llai niweidiol na sigaréts confensiynol. Yn anffodus, y dystiolaeth yw, bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio e-sigaréts yn ogystal â sigaréts confensiynol, nid yn eu lle nhw. Mae 85 y cant yn ôl astudiaethau diweddar yn achosion o ddefnydd deuol, ac nid yw defnydd deuol, mae gennyf ofn, yn cael gwared ar y niwed a ddaw yn sgil smygu sigaréts confensiynol. Mewn gwirionedd, mae'n achosi niwed ychwanegol, yn enwedig mewn cysylltiad â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Felly, yn y termau a ddefnyddiodd yr Aelod, rwy'n cytuno â hi—os gallwn ni berswadio pobl i newid o sigaréts confensiynol i e-sigaréts, maen nhw'n bendant yn llai niweidiol. Y dystiolaeth yw nad ydym yn llwyddo i wneud hynny, ac mae pobl sy'n credu bod ychwanegu un sigarét at y repertoire gan gredu bod hynny yn eu helpu, wel rwy'n ofni bod y dystiolaeth a geir yn dangos yn bendant nad yw'n helpu dim. 

Rwy'n cofio, Prif Weinidog, eich bod wedi ymdrechu i reoli'r arfer o ddefnyddio e-sigaréts pan wnaethoch chi gyflwyno'r Bil yn 2015, ond doedd dim cefnogaeth gan y meinciau Ceidwadol ar gyfer y mesur hwn felly bu'n rhaid tynnu'n ôl. Felly, rwy'n falch o weld bod y strategaeth rheoli tybaco yn cydnabod bod e-sigaréts yn borth i smygu, ac mae gennym epidemig gwirioneddol erbyn hyn ymhlith pobl ifanc o smygu e-sigaréts. Tybed pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd hyn mewn ysgolion a cholegau, oherwydd, heb os, mae'r cwmnïau tybaco yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael pobl i smygu, a gwyddom ei fod mor niweidiol. 

Wel, Llywydd, mae Jenny Rathbone yn hollol iawn—un o'r prif gymhellion ar gyfer y Bil Iechyd Cyhoeddus a fethodd â phasio yn 2016 oedd yr awydd i amddiffyn plant rhag y porth i gaethiwed nicotin sy'n cael ei gynrychioli gan fygythiad e-sigaréts i blant a phobl ifanc. Ac, yn drist iawn, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch hynny yn siomedig iawn. Ar lefel y DU, cynyddodd nifer y plant a phobl ifanc a nododd eu bod yn defnyddio e-sigaréts o 4 y cant yn 2020 i 7 y cant yn 2022, ac roedd hynny ymhlith pobl ifanc 11 i 17 oed. Ac mae llanw ar draws y byd sy'n llifo hyd yn oed yn gyflymach na hynny. Bydd Aelodau yma wedi gweld, mae'n siŵr, gyngor Llawfeddyg Cyffredinol yr Unol Daleithiau, yn rhoi cyngor iechyd cyhoeddus i wladwriaethau ar draws America sef bod yn rhaid i ni gymryd camau ymosodol—camau ymosodol—i amddiffyn ein plant rhag y cynhyrchion hynod rymus hyn. Mae e-sigaréts yn cynnwys nicotin; mae nicotin yn gaethiwus iawn. Mae nicotin yn arbennig o niweidiol i ymennydd pobl ifanc sydd wrthi'n datblygu; yn wir, mae'n parhau i achosi niwed i'r ymennydd hyd at 25 oed. Felly, pa bynnag gamau y gallem eu cymryd i gael y manteision iechyd cyhoeddus sy'n deillio o oedolion sydd wirioneddol yn defnyddio e-sigaréts i roi'r gorau i sigaréts confensiynol, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn plant rhag y ffordd y mae defnyddio e-sigarét yn dod yn offeryn caethiwus, sydd wedyn yn arwain at ganlyniadau gwaeth fyth.

13:35
Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl ym Mlaenau Gwent? OQ58496

Llywydd, bydd y newidiadau treth heb eu hariannu yn y datganiad cyllidol yn ehangu anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd yr effaith fwyaf niweidiol ar ardaloedd fel Blaenau Gwent, sydd eisoes yn wynebu heriau economaidd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Ar un lefel, wrth gwrs, mae modd gwawdio'r anhrefn sy'n bodoli yn San Steffan ar hyn o bryd: Prif Weinidog sy'n modelu ei hun ar Margaret Thatcher—mae'r wraig nad yw am droi, yn troelli fel top, a na, dydi hi ei hun ddim yn gwybod pa benderfyniad y mae hi'n mynd i'w wneud yfory. Gwyddom fod effaith ei chwpl o wythnosau anhrefnus yn y Llywodraeth eisoes wedi gwneud i'r bunt blymio, Banc Lloegr yn cael ei orfodi i addo gwario £65 biliwn dim ond i gynnal yr arian. Rydym yn gwybod eu bod eisoes yn sicrhau bod costau i fusnesau, i'r Llywodraeth ac i berchnogion tai yn saethu i fyny. Dywedodd y Canghellor, mewn eiliad o hunan-drueni, ei fod wedi cael amser caled. Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, mae'r bobl sydd wedi gweld eu cyfraddau morgais yn saethu i fyny yn cael amser caletach. Ac rydym ni'n gwybod bod y bobl yma, ar ddiwedd y dydd, yn dal eisiau talu am doriadau treth i'r cyfoethog drwy dorri gwasanaethau cyhoeddus i'r tlawd a'r rhai agored i niwed. Prif Weinidog, mae pobl Blaenau Gwent wastad wedi ysgwyddo baich Llywodraethau Torïaidd yn Llundain. Maen nhw wastad wedi ysgwyddo'r baich o doriadau i wasanaethau cyhoeddus, toriadau i fudd-daliadau a diffyg buddsoddiad mewn economi. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru sefyll ac amddiffyn pobl Blaenau Gwent, a phobl Cymru, yn erbyn y llywodraeth anhrefnus hon yn Llundain?

Llywydd, wrth gwrs fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, ond dylai'r Senedd gyfan hon wneud hynny. Mae cwestiynau go iawn i'r Ceidwadwyr yn y Siambr y prynhawn yma. Ydyn nhw'n amddiffyn dymuniad y Prif Weinidog i beidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant? Beth fydd hynny yn ei olygu i bobl ym Mlaenau Gwent, sydd eisoes yn byw ar esgyrn sychion o fudd-daliadau, pan fo hi'n barod i godi'r cap ar fonysau bancwyr ond ddim yn barod i roi gwarant bod y maniffesto, yr etholwyd yr ASau hynny arno, sef yr addewid maniffesto, na fydd hi'n gwarantu y bydd yn ei barchu? [Torri ar draws.] Rwy'n edrych tuag atoch chi y prynhawn yma—edrychaf ymlaen at glywed gan arweinydd yr wrthblaid pan ddaw ei gyfle i sefyll ar ei draed yn hytrach na gweiddi o le mae'n eistedd. Gadewch iddo ddweud wrthym y prynhawn yma y bydd y Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn ategu geiriau Penny Mordaunt, ac ASau Ceidwadol eraill, gan wrthod cefnogi dyhead y Prif Weinidog i dorri budd-daliadau pobl sydd eisoes â bron dim i fyw arno. Llywydd, a fyddan nhw'n dweud hynny y prynhawn yma? Fe fyddwn ni'n ei ddweud, a bydd pobl eraill yn y Siambr hon yn ei ddweud. A fyddan nhw'n dweud y prynhawn yma nad ydyn nhw'n barod—nad ydyn nhw'n barod—i gost ariannu toriadau treth heb eu hariannu ddod o doriadau i wasanaethau cyhoeddus—. Ydych chi'n barod i ddweud y prynhawn yma, ar gyfer pobl Cymru sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, athrawon yn yr ystafell ddosbarth, nyrsys ar y wardiau, pobl sy'n aros ar restrau tai, ydych chi'n barod i ddweud y prynhawn yma y byddwch chi'n ychwanegu eich llais i'w diogelu? Rwy'n gweld nad ydych chi. Rwy'n gweld nad ydych chi. Alun Davies, fe ddywedaf i hyn wrthych chi: bydd y Llywodraeth hon yn codi ein llais i sicrhau bod y bobl hynny'n cael eu hamddiffyn—pobl ym Mlaenau Gwent a phobl ledled Cymru. Fe fyddan nhw'n edrych i weld a oes unrhyw gyfle i'r Ceidwadwyr yng Nghymru eu trin yn deg, ond gallaf weld yn barod y prynhawn yma eu bod yn debygol o aros yn hir iawn cyn y bydd unrhyw arwydd o hynny. 

13:40

Rwy'n credu bod hynny braidd yn rhagrithiol, Prif Weinidog—rydych chi'n sefyll yna ac yn dweud hynny, gyda'ch hanes chi o ran cyflawni yng Nghymru—[Torri ar draws.]

Dydw i ddim yn credu bod yr Aelod hyd yn oed wedi dechrau ei chwestiwn eto. Laura Anne Jones.

Prif Weinidog, ydych chi, fel fi a gweddill fy mhlaid, yn croesawu'r pecyn ynni enfawr y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi a fydd o fudd uniongyrchol i bobl, ein hetholwyr ni, ym Mlaenau Gwent? Sut ydych chi'n mynd i gefnogi busnesau yn eu brwydr i oroesi dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod?

Wel, Llywydd, bythefnos yn ôl, roeddwn yn croesawu'r ffaith bod yna gymorth i bobl gyda chostau ynni. Yr hyn nad ydw i'n ei groesawu—dywedais hynny bryd hynny, a dywedaf hynny eto nawr—yw'r ffaith y bydd pris pecyn y Blaid Geidwadol yn cael ei dalu gan y dyledion a ddaw i ran ein plant a'n wyrion, pan oedd dewis i gymryd yr elw chwyddedig enfawr a wneir gan gwmnïau a fydd nawr yn gweld yr holl elw hwnnw'n cael ei warchod, wedi'i ddiogelu gan y cyhoedd y bydd cost canlyniad penderfyniadau'r blaid honno'n disgyn ar eu hysgwyddau nhw. Rwy'n falch o'r ffaith bod help i'w gael; rwy'n credu ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd hollol anghywir.

Mae pobl Blaenau Gwent ac ar draws y Cymoedd wedi dioddef yn anghymesur o gamlywodraethu'r Torïaid. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i fethiant neu, yn hytrach, i bolisïau bwriadol Llywodraethau olynol y DU sy'n parhau i sianelu cyfoeth a buddsoddiad i Lundain tra bod cymunedau yn ne Cymru yn cael y nesaf peth i ddim. Mae'n debyg mai Llywodraeth Truss yw'r gwaethaf eto. Enillodd y Torïaid fandad yn seiliedig ar gelwydd ffyniant bro, ac erbyn hyn maen nhw'n gwneud y gwrthwyneb yn ddigydwybod. Mae pobl ym Mlaenau Gwent a Chymoedd Gwent nawr yn wynebu biliau ynni anferth, prisiau uwch, gyda morgeisi a rhent yn saethu i fyny, fel yr ydym ni wedi'i glywed. Mae bod dan reolaeth San Steffan yn golygu distryw i Gymru. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi bopeth o fewn eich gallu i sicrhau pob pŵer y mae ei angen ar Gymru, y Cymoedd a Blaenau Gwent nid yn unig i amddiffyn ein hunain nawr, ond rhag Llywodraethau Torïaidd y dyfodol hefyd? A fyddwch chi'n galw ar Keir Starmer am hynny os daw yn Brif Weinidog, ac a ydych chi'n cytuno bod y pwerau sydd eu hangen ar Gymru yn cynnwys rhai dros dreth, lles, cyfiawnder a phlismona?

Wel, Llywydd, mae Delyth Jewell yn gwneud pwynt pwysig. Gwyddom o ddadansoddiad annibynnol y bydd Llundain a'r de-ddwyrain yn elwa yn sgil y newidiadau a gyflwynodd Llywodraeth Liz Truss, deirgwaith yn fwy na fydd Cymru a gogledd Lloegr yn elwa. Gadewch i ni fod yn glir, Llywydd: Llywodraeth yw hon sy'n credu mewn ailddosbarthu; mae'n credu mewn cymryd arian oddi wrth y tlawd a'i roi i'r cyfoethog. Mae'r syniad bod dosbarthu—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, mae'r ffigurau mor blaen ag y gallant fod, Llywydd, ac nid yw gweiddi, yn eistedd draw yn fan yna, yn newid y ffaith y bydd y 5 y cant uchaf—mae hyn ar ôl i Liz Truss gael ei gorfodi i gefnu ar ei phenderfyniad i ddiddymu'r gyfradd dreth 45c—o'r boblogaeth yn dal i gael chwarter yr holl enillion arian parod o ganlyniad i agweddau'r pecyn cyllideb sy'n weddill. Bydd 5 y cant o'r aelwydydd cyfoethocaf yn cael 40 gwaith yn fwy—a allwch chi ddychmygu hynny, Llywydd: y cyfoethocaf, bydd y 5 y cant uchaf yn ennill 40 gwaith yn fwy—na'r un rhan o bump isaf o'r boblogaeth. Mae hi mor warthus fel nad yw'n syndod fod y gefnogaeth i'r blaid honno'n plymio yn yr arolygon barn. Ac, wrth gwrs, byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd gennym a'r gallu sydd gennym i amddiffyn pobl yma yng Nghymru rhag yr ymosodiad hwn.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch Llywydd. Mae'n braf gweld y Dirprwy Weinidog yn gweiddi o'i sedd. Rwy'n gobeithio ei fod yn siarad mor uchel ar ran ei gleifion sy'n sownd ar restrau aros hanesyddol yn ei etholaeth, oherwydd dydw i byth yn ei glywed yn dweud dim am hynny, dydw i ddim. Ond unrhyw bryd yr ydych chi eisiau dadl arno, Dirprwy Weinidog, fe gaf i'r ddadl honno gyda chi.

Prif Weinidog, fe deithioch chi i'r Alban ddydd Mawrth diwethaf i gwrdd â Nicola Sturgeon. Mae Nicola Sturgeon wedi cytuno i gael ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r rheoliadau a'r rheolau COVID a gafodd eu gwneud yn yr Alban. Pam y mae hi'n anghywir a chithau'n iawn, oherwydd rydych chi'n rhwystro un yma yng Nghymru?

Llywydd, rwyf wedi egluro droeon yma pam yr wyf yn credu bod yr atebion y mae cleifion a'u teuluoedd yng Nghymru yn haeddu eu cael wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r pandemig, mai'r ffordd orau i sicrhau'r atebion hynny yw drwy gyfranogiad Cymru mewn ymchwiliad y DU.

Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith heddiw fod y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice yma yng Nghymru wedi sicrhau statws cyfranogiad craidd ger bron ymchwiliad y DU. Roeddwn i wedi ysgrifennu atyn nhw yn gynharach eleni yn cefnogi eu cais am statws cyfranogiad craidd. Bydd hynny'n golygu y byddan nhw'n gallu sicrhau y bydd llais y bobl hynny sy'n aelodau o'u grŵp yn cael ei glywed yn yr ymchwiliad hwnnw. Rwy'n credu o'r cyfarfodydd yr wyf i wedi eu cael gyda nhw—rwyf wedi cwrdd â nhw bum gwaith—eu bod, yn wahanol i arweinydd yr wrthblaid, yn symud ymlaen o barhau i ofyn am rywbeth sydd ddim yn mynd i ddigwydd. Gadewch i mi fod yn glir am hynny. Rwyf wedi dweud wrthych dro ar ôl tro, ni fydd ymchwiliad o'r math yma yng Nghymru. Maen nhw'n symud ymlaen i roi eu hegni a'u hymdrechion i wneud yn siŵr, fel yr wyf eisiau ei weld, bod eu cwestiynau'n cael eu hailadrodd yn briodol, a'r atebion gorau yn cael eu rhoi o flaen ymchwiliad y Farwnes Hallett.

Peidiwch â chamfynegi eu barn, Prif Weinidog. Dim ond heddiw maen nhw wedi ailadrodd y cais am ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru, ac oherwydd i chi beidio â chaniatáu i ymchwiliad o'r fath ddigwydd, maen nhw wedi gorfod derbyn mai llwybr y DU yw'r llwybr gorau iddyn nhw ar gyfer archwilio'r rhain. Ond rwy'n gofyn i chi eto, Prif Weinidog, oherwydd ni wnaethoch chi ymdrin â'r cwestiwn cyntaf: pam mae Nicola Sturgeon yn anghywir yn eich barn chi, a chithau'n iawn? Oherwydd y mae hi wedi edrych ar y llwybr y bydd ymchwiliad y DU yn ei ddilyn, ac mae'n gywir y bydd yn ystyried mai ar sail pedair gwlad y cafodd rhai penderfyniadau eu gwneud, ond fe geisioch chi fantais wleidyddol o'r ffaith eich bod wedi gwneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Felly, dylid edrych ar y penderfyniadau hynny drwy chwyddwydr ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru. Felly, fel y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth COVID, pam nad ydych chi'n caniatáu i ymchwiliad o'r fath ddigwydd? Ac os na wnewch chi, wnewch chi ateb fy nghwestiwn cyntaf i chi: pam mae Nicola Sturgeon yn anghywir, a chithau'n iawn?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod y penderfyniad wedi ei wneud, ni fydd ymchwiliad ar wahân yng Nghymru ac, yn hytrach, bydd yr atebion i'r cwestiynau y mae pobl, yn gwbl briodol eisiau eu gweld yma yng Nghymru, yn cael eu hateb orau, yn briodol, yn llawn gan yr ymchwiliad a sefydlwyd gan ei Brif Weinidog ef, ac fe lwyddais i drafod hyn â Downing Street ar nifer o achlysuron i wneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli'n llawn yn y cylch gorchwyl ac yn y modd y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal. Bydd hynny'n sicrhau mai'r atebion gorau posibl sy'n cael eu rhoi. Dyna pam yr wyf yn credu mai dyna'r camau cywir. Mae'n rhaid i Brif Weinidog yr Alban siarad drosti hi ei hun. Gwelaf fod Lady Poole, cadeirydd ymchwiliad annibynnol yr Alban, wedi ymddiswyddo. Ni fyddai unrhyw syniad bod popeth yn yr Alban yn gwbl wych oherwydd eu bod wedi cytuno i ymchwiliad yn dal dŵr am eiliad.

Byddwn i'n troedio'n ofalus wrth ddweud ei bod hi wedi ymddiswyddo gan geisio defnyddio hynny mewn fforwm gwleidyddol. Rwy'n deall ei bod hi wedi ymddiswyddo am resymau personol, sy'n digwydd, Prif Weinidog, a dydw i ddim yn ceisio dweud unrhyw beth i'r gwrthwyneb am onestrwydd unrhyw ymchwiliad. Rwy'n digwydd credu y byddai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru, ond ar lefel y DU hefyd, yn cyflymu'r broses o gael yr atebion y mae'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth COVID eu hangen, yn hytrach na'i wthio o'r neilltu. Nawr, gallech weithio'n bositif gyda'r teuluoedd, gyda'r holl bartïon â budd yma yng Nghymru, wrth ganiatáu ymchwiliad o'r fath. Ond oherwydd eich bod yn dweud 'na', mae'n rhaid i ni ei dderbyn? Wel, ar y meinciau hyn, ni fyddwn yn ei dderbyn, oherwydd, yn y pen draw, mae angen craffu ar y penderfyniadau a wnaeth yr holl Weinidogion, yn eistedd o gwmpas y fainc yna. Felly, er y gallech chi orchymyn na fydd ymchwiliad COVID yng Nghymru, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi fod pwysau'r farn gyhoeddus a phwysau'r farn broffesiynol yma yng Nghymru eisiau gweld yr ymchwiliad annibynnol hwnnw. Ni fyddaf yn gorffwys nes y cawn ni'r ymchwiliad annibynnol hwnnw, er gwaethaf yr hyn y byddwch yn ei ddweud i'r gwrthwyneb, Prif Weinidog.

13:50

Wel, Llywydd, dyna i chi anallu'r wrthblaid. Gall arweinydd yr wrthblaid fynd ati wrth gwrs i bledio'i achos cyhyd ac mor uchel ag y mae'n ei ddymuno. Yn y cyfamser, mae'r byd wedi symud ymlaen. Mae ymchwiliad, ymchwiliad wedi ei gyfansoddi'n llawn, a sefydlwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan pryd y bydd cleifion a theuluoedd yng Nghymru yn cymryd rhan lawn, pryd y bydd holl weithredoedd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru—[Torri ar draws.]

Gadewch i ni ganiatáu i'r Prif Weinidog orffen ei ateb, os gwelwch yn dda? O, dyna oedd y diwedd. Mae'n ddrwg gen i. Iawn. Rwy'n credu nad oeddwn i'n ei glywed yn iawn, a dweud y gwir, oherwydd roedd yna dipyn o sŵn.

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Yn eich trafodaethau gyda Phrif Weinidog yr Alban yr wythnos diwethaf, adroddwyd eich bod yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Mae'n dda gweld eich bod chi, o leiaf, Prif Weinidog, yn barod i siarad â'r SNP hyd yn oed os nad yw Keir Starmer yn gwneud hynny. Nawr, ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth yr SNP ddeddfwriaeth frys i rewi rhenti ar draws yr Alban, wedi'i ôl-ddyddio i 6 Medi, gan redeg, i ddechrau, tan ddiwedd mis Mawrth, gyda'r potensial i'w ymestyn. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn gwahardd troi allan denantiaid sydd ag ôl-ddyledion, y ddau syniad wedi eu cynnig yn wreiddiol gan y Blaid Lafur, sy'n codi'r cwestiwn: os ydyn nhw'n ddigon da i Lafur fel gwrthblaid yng Nghymru, pam nad yw'r mesurau hyn yn ddigon da, hyd yn hyn o leiaf, i Lafur mewn Llywodraeth yma?

Wel, Llywydd, byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion yn yr Alban, wrth gwrs. Rwyf wedi cael cyfle i edrych arnyn nhw'n frysiog y bore 'ma. Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â beth yw'r cynigion mewn gwirionedd. Maen nhw'n rhewi rhent ar gyfer tenantiaid sy'n rhentu'n gymdeithasol yn yr Alban. Mae hynny eisoes yn bodoli yma yng Nghymru. Mae'r rhenti hynny i gyd yn sefydlog ac ni fyddant yn codi cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, felly nid oes gwahaniaeth rhyngom yn hynny o beth.

Mae'r rhewi rhent yn yr Alban yn berthnasol i denantiaid presennol yn unig, felly o ran unrhyw fflat sy'n dod yn wag ac sy'n cael ei osod i denant newydd, does dim rhewi rhent o gwbl, ac nid oes rhewi costau y gall landlordiaid eu hawlio'n gyfreithlon. Felly, os gall landlord ddangos bod yn rhaid iddo gwrdd â chyfraddau morgais uwch, bydd yn gallu cynyddu rhenti ar gyfer tenantiaid presennol. Os gall ddangos bod ganddo gostau yswiriant ychwanegol, bydd yn gallu eu trosglwyddo i denantiaid presennol. Os yw taliadau gwasanaethau y mae landlordiaid yn gorfod eu talu yn codi, byddant yn gallu pasio'r rheiny ymlaen i denantiaid presennol hefyd. Felly, gadewch i ni fod yn glir beth yw'r rhewi rhent hwn mewn gwirionedd. Mae'n achos o rewi rhent nad yw'n cynnwys unrhyw un sy'n cymryd tenantiaeth, ac ar gyfer tenantiaethau presennol mae nifer o ffyrdd o godi'r rhenti hynny beth bynnag.

Ac yna gwaharddiad—gwaharddiad ar droi allan. Wel, nid ar gyfer tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent sylweddol; nid ar gyfer pobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol; nid pan fo landlordiaid yn gallu dangos eu bod yn dioddef caledi ariannol; ac nid yw'r gwaharddiad ar droi allan chwaith yn atal landlord rhag gwerthu ei eiddo.

Pan oeddwn yn yr Alban yr wythnos diwethaf, cefais wybod am ddau bryder mawr ynghylch y darn hwn o ddeddfwriaeth cyn iddo gael ei gyhoeddi. Yn gyntaf oll, y rhuthr i droi tenantiaid presennol allan, er mwyn i landlordiaid allu osgoi'r newidiadau yn y gyfraith yn y ffordd yna, ac yn ail, y risg y bydd gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael yn y sector rhentu preifat, gyda landlordiaid yn penderfynu gwerthu yn hytrach na rhentu, a hynny wedyn yn gwaethygu newidiadau sydd ar fin digwydd yn y farchnad dai. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn mai canlyniad y pecyn Ceidwadol yw bod cyfraddau morgeisi yn debygol o godi i 6 y cant, a bod prisiau tai yn debygol o ostwng hyd at 15 y cant. Mae creu sefyllfa lle mae nifer fawr o eiddo yn cael eu rhoi ar y farchnad sy'n cwympo yn y ffordd honno yn annhebygol o fod er budd pobl sy'n chwilio am eiddo i'w rhentu.

Felly, byddaf yn edrych yn fwy gofalus nag yr wyf wedi gallu ei wneud hyd yma ar gynigion yr Alban, ond mae unrhyw syniad eu bod yn ateb i bob problem y dylem ni eu mabwysiadu a'u rhoi ar waith yma yng Nghymru, wel dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n cael ei dderbyn o bell ffordd.

13:55

Does neb, Prif Weinidog, yn dadlau eu bod nhw'n ateb i bob problem; mae angen eu gweithredu ochr yn ochr ag ystod gyfan o fesurau. Mesurau dros dro ydyn nhw am ein bod yn wynebu argyfwng. Mae'r gaeaf bron yma. Pam ydych chi'n meddwl, Prif Weinidog, fod Shelter yng Nghymru yn galw am rewi rhent, yn galw am foratoriwm? Pam ydych chi'n meddwl bod comisiwn Kerslake, dan arweiniad cyn-bennaeth y gwasanaeth sifil, sy'n gefnogwr i'ch plaid, fod eu comisiwn ar ddigartrefedd wedi galw am waharddiad ar droi allan yn ystod y gaeaf? Yn Ffrainc, maen nhw'n gwahardd troi allan bob gaeaf fel arwydd o gymdeithas wâr.

O ran yr hyn ddywedoch chi, gyda llaw, mae cap; hyd yn oed mewn amgylchiadau eithriadol lle gall landlordiaid ofyn am rywfaint o gynnydd, mae cap o 3 y cant. A dim ond uchafswm o 50 y cant o'r gost benodedig y cânt ofyn amdano. Felly, gadewch i ni fod yn glir ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn galw amdano. Ac os yw'r Prif Weinidog yn dadlau y dylem fynd ymhellach yng Nghymru o ran y pwyntiau y mae wedi eu gwneud, yna yn sicr gadewch i ni gael y drafodaeth honno, ond heb os nac oni bai dylem ni fod yn cyflwyno camau i rewi rhent a chael moratoriwm er mwyn diogelu tenantiaid y gaeaf hwn yng Nghymru.

Wel, Llywydd, nid yw Shelter yn galw am rewi rhent yng Nghymru, a'r rheswm nad ydyn nhw'n galw am rewi rhent yw eu bod yn cydnabod, rwy'n credu, y canlyniadau anfwriadol posibl i denantiaid pan fydd hynny'n digwydd. Rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru newydd gyfaddef nad yw cynigion Llywodraeth yr Alban gyfystyr â rhewi rhent yn hollgynhwysfawr yn y modd yr adroddir amdano efallai. Ar 1 Rhagfyr, byddwn yn cyflwyno rhybudd 'dim bai' chwe mis ar gyfer tenantiaethau newydd, cyn belled ag y mae troi allan yn y cwestiwn. Rydym ni'n ymgynghori ar ymestyn hynny i gyd i denantiaethau sy'n bodoli eisoes, a byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn, fel yr ydym wedi addo dan ein cytundeb cydweithredu, i edrych ar sut y gellid cyflwyno rheolaethau rhent yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n arwain at y posibilrwydd anfwriadol y bydd yn achosi i'r cyflenwad o eiddo rhent yng Nghymru leihau ar yr union adeg pan na ellir cwrdd â'r galw am eiddo yng Nghymru eisoes gyda'r cyflenwad presennol. 

Mae'n codi'r cwestiwn: pam wnaethom ni gyflwyno moratoriwm yn ystod COVID ar droi allan? Mae rhai amgylchiadau—argyfyngau, pan fo angen cyflwyno mesurau dros dro, ac rwy'n ofni bod llawer iawn o bobl yn gwneud y dadleuon hyn yn y sector tai, nid yn unig yn yr Alban, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws Ewrop gyfan. 

A gaf i droi at un o'r toriadau treth Torïaidd heb ei ariannu sy'n weddill? Wrth gwrs, mae gwrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn golygu rhoi'r gorau i'r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol newydd arfaethedig, a oedd i fod i ddarparu sail gynaliadwy i ariannu gofal cymdeithasol i'r dyfodol. Rwy'n siŵr eich bod yn credu bod y methiant dros ddegawdau gan San Steffan i wynebu'r problemau yn y sector gofal cymdeithasol wedi gadael gwaddol enfawr o argyfwng yn y sector hwnnw. Ond, onid yw hyn yn gosod cyfrifoldeb nawr arnom ni yng Nghymru eto i ddod o hyd i ateb ar gyfer Cymru? Yn benodol, a yw'r ffaith bod San Steffan yn ymwrthod â chyfrifoldeb yn golygu y dylem ni edrych eto ar y cynigion a gyflwynwyd gan Gerry Holtham ar gyfer sefydlu ardoll gofal cymdeithasol ar gyfer Cymru?

Wel, Llywydd, mae'n rhaid bod bron i ddegawd nawr ers i mi drafod gyda Gweinidogion Ceidwadol y DU am y tro cyntaf eu cynlluniau i weithredu'r adolygiad Dilnot. Ni ddigwyddodd hynny erioed. Aeth mwy o flynyddoedd heibio. Roedd yn ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd pwynt o dan y Prif Weinidog diwethaf pryd yr oedd ardoll benodol i fod i gael ei chyflwyno er mwyn creu, fel yr oedd y Prif Weinidog ar y pryd yn honni, ddyfodol cynaliadwy ar gyfer gofal cymdeithasol ac i ymdrin â'r canlyniadau ariannol ym mywydau unigolion. Nawr mae hynny wedi mynd hefyd. Felly, rwy'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru: mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fynd yn ôl ac ailedrych ar rywfaint o'r gwaith gafodd ei wneud yma yng Nghymru i weld a oes ateb Cymru yn unig i'r mater hwn.

Mae'n gymhleth iawn. Gwn y bydd yn gwybod hyn yn dda iawn. Mae'r rhyngwyneb rhwng y pwerau sydd gennym ni yng Nghymru a'r taliadau y gallem ni eu codi yn erbyn y pwerau sydd yn San Steffan, ac yn arbennig y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng nghyswllt y system fudd-daliadau, yn golygu bod cynllunio ardoll yng Nghymru nad yw'n arwain at ddinasyddion Cymru yn talu ddwywaith, talu ardoll yng Nghymru a dod o hyd i'r arian yna sydd wedi ei dynnu o Gymru yn sgil penderfyniadau a wnaed yn San Steffan, mae cynllunio system a all gynnig gwarant i ni na all hynny ddigwydd, ei hun yn gymhleth ofnadwy. Ond mae llawer o waith wedi ei wneud yn barod, ac yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin, ac yn arbennig yng ngoleuni'r hyn rwy'n credu nawr sy'n debygol o fod yn doriadau pellach sylweddol i wariant cyhoeddus yma yng Nghymru, wrth gwrs mae angen i ni fynd yn ôl ac ailedrych ar y gwaith yr ydym ni eisoes wedi ei wneud.

14:00
Aelwydydd Gwledig

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn gwneud i sicrhau cymorth digonol i aelwydydd gwledig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth iddynt wynebu heriau'r argyfwng costau byw? OQ58509

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1.6 biliwn eleni mewn cymorth wedi'i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cymorth i'r rhai nad ydynt ar y grid nwy i brynu LPG neu olew mewn swmp.

Diolch yn fawr iawn. Fel ŷch chi’n gwybod, mae cartrefi ledled y canolbarth a’r gorllewin yn dibynnu yn fwy ar danwydd off-grid megis olew a biomas na rhannau eraill o Gymru. Yn sir Gâr, mae 39 y cant o gartrefi heb gyswllt â’r grid nwy, 55 y cant ym Mhowys, a 74 y cant yng Ngheredigion. Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 19 y cant ar draws Cymru. Yn wahanol i nwy, does dim cap wedi ei roi ar gost y tanwydd hwn. Mae un etholwr wedi cysylltu â fi yn dweud bod pris ei olew e wedi codi. Fe dalodd e, am 1,000 o litrau o olew, rhyw £269 flwyddyn yn ôl; mae hwnna wedi codi i £939 eleni. Ac yn y mini-gyllideb cwbl drychinebus wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y Torïaid rhyw £100 fel swm pitw sydd ddim yn mynd i wneud mwy na chrafu'r wyneb ar gyfer y math yma o aelwydydd. Brif Weinidog, er ein bod ni'n croesawu'r £200 ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi, dwi'n gobeithio eich bod chi'n sylweddoli nad yw hyn chwaith yn ddigonol ar gyfer ardaloedd gwledig. Felly ydych chi'n ymrwymo i edrych ar ba gymorth ychwanegol ŷch chi'n gallu ei roi i gefnogi'r aelwydydd hyn?

I ddechrau, dwi'n cydnabod popeth mae'r Aelod wedi'i ddweud am y sefyllfa yn y gorllewin a faint mae pobl yn dibynnu ar y ffordd i gynhesu tai sydd ddim yn cael cymorth o gwbl nawr oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan. Mae nifer o bethau rŷn ni'n eu gwneud. Yn barod, rŷn ni wedi ymestyn y gronfa cymorth dewisol i roi mwy o help i bobl sy'n dibynnu ar brynu ynni yn y ffordd mae Cefin Campbell wedi setio mas. Mae cynllun newydd gyda ni, ac roedd hwn wedi cael ei agor ar ddiwedd mis Medi—£4 miliwn o bunnoedd i'r Fuel Bank Foundation. Mae hwnna'n mynd i roi help i bobl sy'n dibynnu ar prepayment meters, ond hefyd i roi help i bobl sy'n prynu olew yn y ffordd roedd yr Aelod yn awgrymu. A hefyd, wrth gwrs, rŷn ni wedi rhoi arian i awdurdodau lleol, ar ben yr arian maen nhw wedi'i gael i ddosbarthu i bob aelwyd sy'n talu'r dreth gyngor, arian maen nhw'n gallu ei ddefnyddio yn y ffordd sy'n addas i'w hardaloedd nhw. Roeddwn i'n falch i weld yn y cynllun mae Cyngor Sir Powys newydd ei gyhoeddi eu bod nhw'n mynd i ddefnyddio'r arian ychwanegol yna i helpu plant ac i helpu pobl anabl, ond hefyd, maen nhw'n mynd i roi—. Mae e yn Saesneg gyda fi fan hyn.

Fe fyddan nhw'n rhoi £150 i'r holl breswylwyr sy'n byw mewn cartrefi sydd â chyflenwad tanwydd oddi ar y grid.

Mae hwnna'n rhywbeth arbennig o dda i weld, a bydd hwnna'n help i'r bobl sy'n byw ym Mhowys yn ardal yr Aelod. Rydym ni'n fodlon, wrth gwrs, ystyried os oes mwy y gallwn ni ei wneud, ond rydym ni yn trial gwneud nifer o bethau'n barod.

14:05

Prif Weinidog, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn gwario 10 y cant yn fwy o'u hincwm ar danwydd ar gyfer eu ceir, felly a wnewch chi ddweud wrthyf beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig fel nad oes rhaid i bobl ddibynnu ar danwydd ffosil?

Mae cyfres gyfan o bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud dros nifer o flynyddoedd i fuddsoddi mewn cynlluniau o'r fath ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y Gymru wledig. Bydd pobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod yn poeni llai am y pethau y mae wedi eu codi gyda fi heddiw nag am y cwestiwn a fydd ganddyn nhw lai i fyw arno y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef ar fin eu gwneud.

Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog.

Diolch hefyd i Cefin Campbell am godi'r mater yma, a diolch ichi hefyd am siarad am gyngor Powys.

Bellach cyngor Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gwneud penderfyniadau synhwyrol ar ran ei bobl, yn wahanol i'r weinyddiaeth flaenorol, y weinyddiaeth Geidwadol ac annibynnol. A gaf i ganolbwyntio ar un agwedd, os gwelwch yn dda, ar ein stoc tai gwledig? Mae llawer ohonyn nhw'n hen iawn ac wedi'u hinsiwleiddio'n wael, felly roeddwn i eisiau canolbwyntio ar insiwleiddio. Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi yn araf iawn. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd hi'n cymryd tua 135 o flynyddoedd i inswleiddio cartrefi ar draws Cymru sydd mewn tlodi tanwydd. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd ar draws Cymru fel bod etholwyr fel y rhai sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi eu diogelu mewn gwirionedd rhag y sefyllfa erchyll hon maen nhw'n eu hwynebu? Diolch yn fawr iawn.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yn iawn y sefyllfa y mae Jane Dodds yn ei nodi. Mae bob amser wedi bod yn her i'r rhaglen Cartrefi Clyd ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o insiwleiddio eiddo nad oes ganddyn nhw y nodweddion sydd gan y rhan fwyaf o eiddo lle gallwch chi roi deunydd insiwleiddio mewn waliau ceudod ac ati. Rydym yn ailwampio'r rhaglen Cartrefi Clyd, yn fuan byddwn yn chwilio am y rownd nesaf o geisiadau gan bobl a fydd yn cyflawni'r rhaglen honno ar lawr gwlad, ac fe all hi fod yn sicr y bydd anghenion pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru, lle mae'r dulliau adeiladu a ddefnyddir yn y cartrefi hynny yn creu heriau penodol, yn hysbys iawn ac yn cael eu hamlygu'n gryf i'r rhai a fydd yn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru i redeg y cynllun ar ein rhan. 

Adeiladu Cartrefi Newydd

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at gyrraedd ei tharged ar gyfer adeiladu cartrefi newydd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58500

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol, gan ddarparu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i wneud hynny. Disgwylir y datganiad ystadegol cyntaf sy'n dangos cynnydd tuag at y targed hwn yn ddiweddarach eleni.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, Prif Weinidog, ei bod yn bwysig iawn bod pobl, yn enwedig pobl iau, yn gallu mynd ar yr ysgol dai a fforddio prynu eu cartref eu hunain. Un symptom o brisiau tai uwch a all ei gwneud yn amhosibl eu fforddio yw'r diffyg cyflenwad yn y farchnad yn y lle cyntaf. Addawodd Cyngor Abertawe, yn 2019-20, adeiladu 1,360 o gartrefi; fe adeiladwyd 397. Yn 2020-21, fe wnaethant addo adeiladu 1,654; fe adeiladon nhw 446. Clywais o'i ateb wrth Adam Price yn gynharach ei fod yn hoffi beio eraill am y problemau yn y farchnad dai. Wel, yr hyn y mae ganddo reolaeth drosto yw'r nifer o dai sy'n cael eu hadeiladu, a phan rydych chi ddim ond yn adeiladu chwarter y nifer yr ydych chi wedi'i addo, does dim rhyfedd fod prisiau tai yn ddrud yng Nghymru. Felly sut mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau fel Cyngor Abertawe i afael ynddi ac adeiladu'r tai a addawyd?

Yn gyntaf oll, mae prisiau tai yng Nghymru'n rhatach nag yn y rhan fwyaf o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid yn ddrytach fel yr ymddengys yr oedd Mr Giffard yn ei gredu. Mae nifer o resymau pam y mae rhwystrau newydd yn atal adeiladu nifer y tai y mae angen i ni eu gweld yma yng Nghymru, tai i'w rhentu'n gymdeithasol a thai sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer gwerthu masnachol. Mae Brexit yn golygu bod—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n gwybod. Mae'n gymaint o ochenaid, onid yw e, oherwydd bob tro yr ydych chi'n dweud y gwir wrth y bobl hyn, maen nhw eisiau rholio eu llygaid fel petai'r gwir yn golygu dim iddyn nhw o gwbl. Mae'n wirionedd syml, o ran y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw ym maes adeiladu, caewyd y tap ar lif y bobl hynny a oedd yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig gan Brexit. Dyna pam mae eich Llywodraeth—eich Llywodraeth chi, tro pedol arall—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod. Gwrandewch yn ofalus; rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd cadw i fyny â nhw. Tro pedol arall ar ran eich Llywodraeth yw gwrthdroi'r hyn y maen nhw wedi'i ddweud ar reoli mewnfudo i'r wlad hon. Pam y maen nhw'n gorfod gwneud hynny? Oherwydd bod y penderfyniadau a lifodd o benderfyniad Brexit yn golygu bod gennym brinder gweithwyr yn y diwydiant adeiladu.

Mae gennym gyfyngiadau ar yr ochr gyflenwi yn y diwydiant adeiladu. Mae 80 y cant o bren sy'n cael ei ddefnyddio wrth adeiladu cartrefi Cymru yn dod o Ewrop. O ganlyniad i'ch polisïau, mae rhwystrau newydd yn atal y pethau hynny, ac mae problemau yn y gadwyn gyflenwi y mae adeiladwyr yn eu hwynebu. Ac maen nhw ar fin wynebu'r ergyd fwyaf oll. Mae adeiladwyr tai yn benthyg arian er mwyn adeiladu eu cartrefi. Maen nhw nawr yn mynd i fod yn gwario 6 y cant i fenthyg yr arian hwnnw, pryd, flwyddyn yn ôl, roedden nhw'n gallu ei fenthyg am 1 y cant. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Mr Giffard ar y dechrau: mae angen cyflenwad mwy o gartrefi yma yng Nghymru. Pam felly y byddai pobl yn teimlo'n garedig tuag at Lywodraeth sy'n codi rhwystr ar ôl rhwystr ar ôl rhwystr rhag i ni gyrraedd y nod hwnnw? 

14:10

Nid oedd Cyngor Abertawe erioed yn mynd i godi 1,600 o dai ei hun. Byddai hynny'n fwy nag y mae wedi'u hadeiladu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Yr hyn yr oedden nhw'n dibynnu arno oedd y sector preifat yn adeiladu, ac mae'r sector preifat yn adeiladu dim ond pan all wneud elw. Y broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, gyda chyfraddau llog yn codi, ni all y sector preifat wneud elw ar y tai yma, felly maen nhw wedi lleihau nifer y tai y maen nhw'n eu hadeiladu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r hyn sydd ei angen arnom yw cyfraddau llog is, a bod angen sefyllfa economaidd lle bydd gennym ni bobl sy'n gallu fforddio prynu tai? Roedd Andrew Davies yn iawn: wrth gael gwared ar gynllunio a gadael i bobl adeiladu, bydd tai yn cael eu hadeiladu. Fe fydd Bro Morgannwg yn llawn tai o'r Bontfaen i lawr. Bydd Dyffryn Clwyd yn llawn o dai yn yr ardaloedd mwy cyfoethog. Bydd Gŵyr yn llawn tai. Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un ar ein meinciau ni eisiau gweld hynny.

Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno â'r pwyntiau am sefydlogrwydd economaidd a wnaeth Mike Hedges. Dyna'r ffordd y bydd modd sicrhau'r buddsoddiad hirdymor y byddwch ei angen os ydych chi'n adeiladu tai. Ond mae'n gwneud pwynt olaf pwysig iawn. Yn fy etholaeth fy hun yng Ngorllewin Caerdydd, mae tref o'r un maint â Chaerfyrddin yn cael ei hadeiladu yng ngogledd-orllewin Caerdydd. Roedd hynny'n cael ei wrthwynebu pob cam o'r ffordd gan aelodau Ceidwadol Cyngor Caerdydd. Dydw i ddim yn cofio areithiau ganddyn nhw yn dweud wrthym ni am rwygo'r rheolau cynllunio er mwyn codi'r tai hynny'n gynt. Ond, y prynhawn yma, mae'n ymddangos bod gennym rai cynigion ar y bwrdd. Mae'n ymddangos bod gennym ni gynnig gan yr Aelod dros Aberconwy y byddai hi'n hapus i rwygo rheolau cynllunio yn ei hetholaeth hi fel bod modd codi tai mewn pob math o leoedd—rwy'n edrych ymlaen at ei chlywed yn amddiffyn hynny—ac, fel y dywedodd Mike Hedges, llais o Fro Morgannwg yn edrych ymlaen at ffrwydrad o godi tai heb unrhyw gyfyngiadau cynllunio yno ychwaith.

Awdurdodau Iechyd Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o allu awdurdodau iechyd Cymru i reoli rotas staff yn effeithiol? OQ58502

Mae byrddau iechyd yn cynllunio, defnyddio a rheoli eu gweithlu i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Mae atebion e-amserlennu wedi'u gweithredu ledled GIG Cymru i gefnogi'r defnydd effeithiol o staff. 

Diolch, Prif Weinidog. Yn wahanol i lawer o broffesiynau eraill, mae'n rhaid i'r rhai sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd ac sy'n cael cyswllt uniongyrchol â chleifion fod yn ymwybodol o'r effaith y mae eu gwyliau blynyddol yn ei chael ar y rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, yn aml maen nhw'n gorfod cynllunio a threfnu gwyliau blynyddol fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd o flaen llaw. Yn wir, mae'r angen i gymryd cyfnod o absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol ar fyr rybudd yn aml iawn yn golygu bod apwyntiadau cleifion yn cael eu canslo. Mae hyn nid yn unig yn rhwystredig i gleifion sydd efallai wedi cymryd gwyliau blynyddol eu hunain i fynd i'r apwyntiad a nawr yn gorfod mynd yn ôl ar y rhestr aros, ond mae hefyd yn golygu nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn mwynhau unrhyw hyblygrwydd ac yn gorfod gwneud penderfyniadau teuluol anodd—gorfod colli dramâu ysgol neu ddiwrnodau chwaraeon, er enghraifft. Mae hyn yn amlygu ei hun naill ai mewn amgylcheddau gwaith tlotach o'u cymharu â phroffesiynau eraill neu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dewis swyddi locwm sydd â'r hyblygrwydd angenrheidiol, yn hytrach na swyddi cyflogedig y GIG. Mae hyn, yn y pen draw, yn fwy costus i'r GIG. Er y gallai fod yna adrannau sydd â systemau rota da, rwy'n gwybod am lawer lle nad yw hynny'n wir, ac mae hwn yn fater sydd wedi'i godi'n barhaus gyda mi gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n ei chael yn anodd cael digon o hyblygrwydd mewn gwaith i gwrdd â gofynion bywyd. A wnewch chi gytuno â mi, Prif Weinidog, fod hyn yn dangos nad yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei chymhwyso'n effeithiol a bod angen gwneud mwy i helpu i ddarparu gwell amodau gwaith ar gyfer ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol? Diolch.

14:15

Llywydd, rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae Joel James newydd ei ddweud. Fel yr wyf wedi esbonio sawl gwaith ar lawr y Siambr, mae'r GIG yn parhau i orfod ymdrin ag effaith COVID, gydag ychydig o dan 1,000 o aelodau staff i ffwrdd o'r gwaith heddiw; mae tua 600 i 700 ohonyn nhw mewn gwirionedd yn sâl gyda COVID eu hunain ac nid yw tua 300 yn gweithio oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun. Mae hynny i gyd yn digwydd ar fyr rybudd. A phan ydych chi'n ymdrin â 1,000, mae anallu sydyn pobl i fod yn y gweithle heb os yn gwneud y busnes o reoli'r gweithlu, a'r effaith ar gleifion yn sgil hynny, yn her.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud am rai o'r ffactorau sy'n denu pobl i weithio fel gweithwyr locwm neu drwy drefniadau asiantaeth oherwydd yr hyblygrwydd ychwanegol y mae hynny'n eu gynnig o gymharu â phobl sydd ar gontractau tymor penodol. Yn ystod y pandemig, roeddem ni'n gallu cyflwyno ambell hyblygrwydd tymor byr i'r ffordd yr oedd pobl yn rheoli eu gwyliau blynyddol, gyda mwy o drefniadau cario drosodd a thalu pobl am ddyddiau gwyliau blynyddol pryd nad oedden nhw'n gallu eu cymryd. Ond, fe ofynnaf i fy swyddogion edrych yn ofalus ar y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma rhag ofn bod unrhyw beth arall y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw efallai.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon yn ddiweddar ynglŷn â staffio yn Ysbyty Gwynedd, ac mae'n amlwg fod y rotas yno yn parhau i fod yn broblem. Mae un e-bost diweddar gan staff yn cyfeirio at uned iechyd meddwl Hergest, gyda morâl staff yn is nag erioed, recriwtio a chadw gwael, nifer mawr o achosion o salwch ac amodau gwaith gwael. Canlyniad hyn: mwy a mwy o ddefnydd o staff asiantaeth. Pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r orddibyniaeth anghynaladwy a drudfawr yma ar weithwyr asiantaeth a thrafferthion rota a ddaw yn sgil hynny? Dyma adnodd y dylid ei wario ar gefnogi a gwella amodau gwaith i staff yn Ysbyty Gwynedd ac ysbytai ar hyd a lled Cymru.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno y byddai'n well gennyf i gael pobl yn gweithio'n uniongyrchol fel gweithwyr y GIG, neu mewn trefniadau banc o dan reolaeth y GIG, na phobl sy'n gweithio mewn trefniadau asiantaeth. Yn y diwedd, unigolion yn gwneud penderfyniadau yn eu bywydau eu hunain yw'r rhain. Ni allwch gyfarwyddo pobl o ran sut y bydden nhw eu hunain yn dewis rhoi trefn ar eu trefniadau cyflogaeth eu hunain.

Y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwneud gwahaniaeth yw newid y rheolau—mae gennym system reolau newydd sy'n ei gwneud yn fwy deniadol i bobl gymryd rhan mewn trefniadau banc ac yn ei gwneud hi'n llai deniadol i bobl fod mewn asiantaethau—a thrwy gynyddu nifer y staff sydd ar gael. Mae twf o 44 y cant wedi bod ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yma yng Nghymru dros gyfnod datganoli; mae angen i ni gynyddu hynny ymhellach. Am bob un o'r saith mlynedd diwethaf, rydym ni wedi cynyddu'r nifer o nyrsys a bydwragedd sy'n hyfforddi yma yng Nghymru. Pan fyddwn yn llwyddo i gael y bobl hynny i'r gweithle, yna byddwn mewn sefyllfa lle gallwn wneud trefniadau gwaith yn y GIG yn effeithiol fel y bydd yr atyniadau o symud i fod yn weithiwr asiantaeth yn cael eu lleihau a byddwn yn gallu lleihau ein dibyniaeth ar y trefniadau hynny hefyd.

Darpariaeth Gofal Plant

6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi darpariaeth gofal plant yng Nghwm Cynon? OQ58501

Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Gan roi hwb i'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, fe gyhoeddom ni bron i £100 miliwn yr wythnos diwethaf i gefnogi'r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi buddsoddiadau mewn gwelliannau a chynnal a chadw adeiladau a chyllid gofal plant i gefnogi darpariaeth Gymraeg gwell. Bydd trigolion Cwm Cynon yn cael budd o bob agwedd ar y pecyn hwn.

14:20

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ar draws Cwm Cynon, mae etholwyr yn dweud wrthyf yn aml pa mor bwysig yw darparu gofal plant o ansawdd da ac yn hygyrch yn lleol, er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain a chyfrannu at gyllid teuluol. Bydd y cyllid ychwanegol sylweddol o £100 miliwn ar gyfer lleoliadau gofal plant a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn cael ei groesawu'n gynnes gan deuluoedd a darparwyr gofal plant fel ei gilydd, fel tystiolaeth bellach bod ein Llywodraeth Lafur Cymru ar ochr pobl gyffredin, dosbarth gweithiol, yn wahanol i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Prif Weinidog, sut fydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod gwybodaeth am y cyllid sy'n cael ei gynnig yn cael ei gyfleu i leoliadau gofal plant fel bod modd sicrhau y bydd nifer yn manteisio arno?

Diolch i Vikki Howells am y pwynt pwysig yna mae hi'n ei wneud. Mae dros 200 o leoliadau gofal plant yn etholaeth Cwm Cynon yn unig. Y newyddion da yw, oherwydd ein bod wedi ymestyn y rhyddhad ardrethi 100 y cant ar gyfer eiddo gofal plant cofrestredig hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025, mae gennym linell gyfathrebu uniongyrchol â'r lleoliadau hynny, oherwydd eu bod yn cael budd o'r cynllun hwnnw hefyd. Felly, rydym mewn sefyllfa dda i allu sicrhau bod y lleoliadau hynny'n ymwybodol, yn enwedig o'r £70 miliwn mewn cyllid cyfalaf, sy'n golygu y gellir ymestyn neu wella safleoedd, oherwydd y mae gennym uchelgais ar y cyd, a nodir yn y cytundeb cydweithredu, i gynyddu'r cyflenwad a dod â'r ystod oedran ar gyfer y cynnig gofal plant yn is, fel bod plant o ddwy oed ymlaen yn gallu cael budd ohono yma yng Nghymru. Os ydym am lwyddo yn yr uchelgais honno, yn ogystal â dod o hyd i'r arian ar ei chyfer, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r staff i'w gweithredu, ac mae hynny'n arbennig o wir wrth edrych ar y twf mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr ydym eisiau ei weld, ac mae'n rhaid i ni gael safleoedd lle gellir cynnal darpariaeth ychwanegol ynddynt. Dyna pam, o'r £100 miliwn a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf, bydd £70 miliwn ohono mewn grantiau cyfalaf, mae £26 miliwn yn refeniw, i gefnogi'r lleoedd ychwanegol, ac fe neilltuir bron i £4 miliwn yn benodol i wella'r ddarpariaeth Gymraeg. Fe fydd hynny i gyd er budd trigolion yn etholaeth yr Aelod. 

Cysylltiadau Rhynglywodraethol

7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol? OQ58483

Llywydd, rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru am y mater hwn a materion eraill.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Prif Weinidog, gwnes i ddarllen y bore yma eich bod chi'n dal heb gael galwad ffôn oddi wrth Brif Weinidog Prydain, ond dwi'n gwybod ei bod hi wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar, onid yw hi, yn gwneud ei throeon pedol hi, trwy ddinistrio'r economi, trwy fygwth torri budd-daliadau, ac yn delio gydag aelodau amlwg y Cabinet fel eich cyfaill newydd, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dweud yn gyhoeddus heddiw ei fod e'n anghytuno â nifer o'i pholisïau hi. Ym mis Ionawr, Prif Weinidog, gwnaethoch chi gyhoeddi cytundeb rhynglywodraethol newydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn hyderus iawn y byddai hyn yn gwella'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dŷn ni ddim wedi gweld unrhyw arwydd o hynny hyd yn hyn. Pryd fydd y cynllun yma yn cael ei weithredu?

Llywydd, mae'r hyn y dywedodd Rhys ab Owen yn dal i fod yn wir. Dwi ddim wedi clywed dim byd oddi wrth y Prif Weinidog newydd, dim galwad ffôn, dwi ddim wedi cael e-bost—dim byd o gwbl. Mae cynllun newydd gyda ni, cynllun roeddem ni wedi'i gytuno gyda Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r Llywodraeth yn San Steffan. Yn y galwad ffôn olaf y cefais i gyda Boris Johnson, pan oedd e'n Brif Weinidog, roedd e'n siarad am wahoddiad a oedd yn mynd i ddod atom ni i gwrdd yn Llundain gyda'n gilydd dan y cynllun newydd rŷn ni wedi'i gytuno. So, dwi'n edrych ymlaen at gael y cyfle i siarad gyda'r Prif Weinidog newydd.

Yn y cyfamser, dwi wedi cael, fel y dywedais i, nifer o gyfleoedd i siarad gyda Syr Robert Buckland, a dwi'n edrych ymlaen at adeiladu ar y perthynas adeiladol rŷn ni eisiau'i weld gyda fe. 

14:25
Y Bwlch Rhwng Y Rhywiau Ymhlith Myfyrwyr Addysg Uwch

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ymhlith myfyrwyr addysg uwch? OQ58490

Llywydd, er bod y prif ddata yn datgelu bwlch rhwng y rhywiau, mae'r rhaid yn cuddio sefyllfa fwy cymhleth ar lefel pwnc. Ymrwymiad y Llywodraeth hon yw sicrhau bod gan bob person yng Nghymru ddyheadau uchel a chyfle teg a chyfartal i gyrraedd eu potensial llawnaf, drwy ddarparu cyfres o lwybrau gwahanol a hygyrch i ddysgu.

Prif Weinidog, yn ddiweddar, cafodd adroddiad ei ryddhau yn llyfrgell Tŷ'r Cyffredin sy'n dangos mai gwrywod gwyn, dosbarth gweithiol sy'n lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol yn y DU. Ar ôl ymchwilio ychydig i ffigurau Cymru, gwelais i fod y ffigurau'n dangos bod y bwlch rhwng y rhywiau yng Nghymru yn hyn o beth, ar gyfartaledd, yn waeth na chyfartaleddau'r DU a Lloegr. Ac o fewn y bwlch hwn, myfyrwyr gwyn sy'n wynebu'r anghyfartaledd mwyaf rhwng y rhywiau wrth fynychu'r brifysgol, yng Nghymru a'r DU gyfan. Mae anghyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru 6 y cant yn ehangach na'r cyfartaledd cenedlaethol. Prif Weinidog, mae mwy o fyfyrwyr yn ennill lleoedd mewn prifysgolion ym mhob demograffeg yn y DU ac eithrio dynion gwyn, sydd wedi gostwng 10 y cant yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae'n hanfodol bellach ein bod ni'n taflu rhywfaint o oleuni ar y mater hwn ac yn edrych i achosion sylfaenol pam mae un grŵp penodol o bobl yn y gymdeithas yn cael eu gadael ar ôl. Ni allwn ni ac ni ddylem ni anfon cenhedlaeth o ddynion gwyn ifanc, dosbarth gweithiol i fin sbwriel hanes yn enw amrywiaeth, neu unrhyw beth arall, a dweud y gwir. Felly, Prif Weinidog, beth mae'ch Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw'r anghydraddoldeb hwn yn gwaethygu yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac a fyddwch chi'n cytuno i sefydlu ymchwiliad i achosion sylfaenol yr argyfwng hwn?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, Llywydd, rwy'n anghymeradwyo parodrwydd yr Aelod i droi pob un mater, waeth pa mor ddifrifol, yn fath o ryfel diwylliant. Yn wir, nid oes angen gwneud hynny o gwbl; mae'n fater difrifol—roedd yn haeddu gwell cwestiwn nag y gwnaethoch chi lwyddo i'w ddarparu'r prynhawn yma. Ac, fel y dywedais i, y tu ôl i benawdau'r ffigurau hyn mae llawer mwy o gymhlethdod nag yr oedd yr Aelod yn barod i gyfaddef. Mae cyfres gyfan o bynciau lle mae mwy o ddynion ifanc, gan gynnwys dynion ifanc, gwyn, na menywod yn astudio'r pynciau hynny mewn prifysgolion. Wnaeth hi ddim llwyddo i sôn am hynny. Yn sicr nid yw'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma, Llywydd, yn teimlo fel gwrando, on'd yw? Mae'n meddwl mai'r ffordd i guddio'u chwithdod dwfn yw dal ati i siarad, er gwaethaf yr atebion sy'n cael eu darparu iddyn nhw. Rwy'n ceisio esbonio—[Torri ar draws.]

Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn clywed atebion y Prif Weinidog, a hoffwn i eu clywed nhw hefyd, os gwelwch yn dda.

Rwy'n ceisio egluro i'r Aelod bod y mater y mae hi wedi'i nodi yn un iawn; mae'n haeddu ystyriaeth briodol a pheidio ceisio ei droi yn rhyw fath o ryfel diwylliant ffôl. Oherwydd, o dan y pennawd, mae'r darlun dipyn yn fwy cymhleth nag yr awgrymodd hi. Mae gan rai pynciau fwy o ddynion yn eu hastudio, mae gan rai pynciau fwy o fenywod yn eu hastudio; mae'n dibynnu ar yr hyn yr ydych chi'n ei chynnwys fel gradd israddedig cyn i chi gyrraedd y canrannau, ac nid yw hynny'r un fath mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Felly, nid yw ei chymariaethau rhwng gwahanol lefydd yn dal dŵr pan ydych chi'n dechrau edrych arno, ac nid yw'n ystyried cyfleoedd eraill sydd gan bobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Ni fydd ein rhaglen prentisiaethau gradd yn cael ei chyfri yn y ffigurau y mae'r Aelod wedi'u hawgrymu y prynhawn yma, ac eto, rydym ni wedi llwyddo yno i ddenu pobl o gymunedau difreintiedig i astudio drwy'r llwybr prentisiaeth nad yw ar gael mewn rhannau eraill o'r wlad. Cytunaf â hi fod hwn yn fater difrifol sy'n haeddu ystyriaeth ddifrifol, ond nid yw ystyriaeth ddifrifol yn golygu ei leihau i'r sloganau y gwnaeth hi eu cynnig i ni y prynhawn yma.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:29:02
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ddatblygu economaidd rhanbarthol wedi cael ei ymestyn i 45 munud. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar fioamrywiaeth, ac yfory, mae cwestiynau i Gomisiwn y Senedd wedi eu gostwng i 10 munud. Mae busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Heddiw, Trefnydd yw dechrau Wythnos Llyfrgelloedd ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i ddiolch i'r staff a phawb sy'n ymwneud â chefnogi'n llyfrgelloedd lleol ledled Cymru am bopeth maen nhw'n ei wneud. Ymwelais â llyfrgell Bae Colwyn ddoe; cwrddais â'r staff yno, Morag Wight ac Eunice Roberts, ac rwyf i eisiau estyn fy niolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud yn y gymuned, ac, wrth gwrs, i gyfleu'r pwynt bod llyfrgelloedd yn llawer mwy na dim ond llyfrau'r dyddiau hyn. Yn y llyfrgell benodol honno, mae hyb bancio i Barclays, maen nhw'n helpu pobl i wneud eu ffurflenni cais bathodyn glas a gyda phethau eraill sydd angen iddyn nhw eu codi â'r awdurdod lleol, ac, wrth gwrs, maen nhw'n darparu ar gyfer plant yn yr haf gyda gweithgareddau darllen, a phobl hŷn yn y gaeaf sydd ond angen mynd allan a gallu cymdeithasu ychydig gyda'u clybiau. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'n ei wneud i hyrwyddo gwaith llyfrgelloedd ledled Cymru, fel y gallwn ni gael mwy o bobl i fanteisio ar yr asedau cymunedol gwych hyn sydd ar stepen eu drws?

Yn ail, a gaf i alw am ddiweddariad gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am gyn-filwyr, y Dirprwy Weinidog, sydd, diolch byth, yn eistedd yn y Siambr i glywed yr alwad hon? Rwy'n gwybod ein bod ni fel arfer yn cael datganiad gan y Gweinidog adeg Wythnos y Cofio, ac rydym ni bob tro'n ddiolchgar iawn am hynny. Ond rwy'n credu, o ystyried penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn gynharach eleni, y gallwn ni, mae'n debyg, bwyso a mesur yn gynt nag yng nghanol mis Tachwedd i gael golwg ar yr ymgysylltu sydd wedi bod yn digwydd rhwng swyddfa comisiynydd y cyn-filwyr ac yn wir, ein Gweinidog cyn-filwyr newydd, sef ein AS Cymru dros Wrecsam, Sarah Atherton, cyn-filwr ei hun, sydd heb os yn mynd i ddod â brwdfrydedd a phrofiad mawr i'r rôl arbennig honno. Felly, a fyddai modd i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog, yn ei chyfrifoldebau o ran y gymuned gyn-filwr, ar yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwnnw?

14:30

Diolch. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i ddathlu ein llyfrgelloedd ar draws Cymru gyfan. Dylen nhw gael eu trysori'n fawr, rwy'n credu, ac maen nhw'n parhau i gael llawer o defnydd. Ac fel yr ydych chi'n ei ddweud, maen nhw'n darparu gymaint mwy nag oedden nhw'n arfer pan—roeddwn i'n mynd i ddweud 'pan oeddem ni'n ifanc', ond yn sicr pan oeddwn i'n ifanc a dim ond llyfrau oedd hi, ac maen nhw'n amlwg yn gwneud cymaint ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, iawn yn ein cymunedau. 

O ran eich ail gwestiwn, rwy'n credu mai mis nesaf mae'n debyg fydd y tro cyntaf—8 Tachwedd mae'r Dirprwy Weinidog yn dweud wrthyf i—bydd hi'n cyflwyno datganiad o ran ein cyn-filwyr, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cwrdd â'r comisiynydd newydd. 

Prynhawn da, Trefnydd. Rwy'n amau eich bod chi'n gwybod beth fydda i'n ei ofyn i chi, ond mae'n ymwneud â'r cynllun lles anifeiliaid. Tybed a allech chi gyflwyno datganiad, yn enwedig yn ystyried mater milgwn. Byddwch chi'n gwybod y bu farw 2,000 o filgwn mewn rasio rhwng 2018 a 2021. A byddwch chi'n gwybod bod hyn yn fater y mae llawer ohonom ni ar draws y Siambr wedi bod yn ei godi. Y datblygiad arall yw, dim ond yr wythnos diwethaf, gwnaeth tair elusen bwysig iawn ym maes lles anifeiliaid, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, yr Ymddiriedolaeth Cŵn a'r Groes Las, ar ôl ymgynghoriad hir, gyhoeddi o'r diwedd eu bod wedi ymrwymo i wahardd rasio milgwn. Felly, Trefnydd, tybed a allwch chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ni ynghylch yr amserlen pryd yr ydych chi'n mynd i fod yn dod â'r cynllun hwnnw ymlaen, a hefyd beth yw'ch syniadau ynghylch a allwn ni symud yng Nghymru i wahardd rasio milgwn. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Wel, rydw i wedi derbyn llythyr gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn, y Groes Las a'r RSPCA yn amlinellu eu polisi diwygiedig ar rasio milgwn, ac yn nodi y bydden nhw'n croesawu'r cyfle i gwrdd â mi, ac yn sicr byddaf yn hapus iawn i gwrdd â nhw i drafod y polisi. Fel y gwyddoch chi, rwy'n cytuno â chi; mae llawer o rasio milgwn yn greulon iawn, iawn. Rwy'n synnu na wnaethoch chi sôn am eich Arthur chi, ond, fel y dywedwch chi, mae'n rhywbeth—ac rwy'n gweld bod Luke Fletcher yn ei sedd—eich bod chi'ch dau wir wedi bod yn fy ngwthio i ymlaen. 

Fel y gwyddoch chi, mae gennym ni gynllun lles anifeiliaid Cymru. Mae hynny'n nodi sut y byddwn ni'n cyflwyno mesurau eraill. Rwy'n dal i aros am ymateb i fy llythyr yr ysgrifennais i nôl ym mis Mawrth at berchennog newydd y Valley Greyhound Stadium, yr unig un sydd gennym ni yma yng Nghymru; nid yw ef wedi bod yn ddigon cwrtais i ymateb, er i mi fynd ar ôl y llythyr hwnnw. 

Yn dilyn y cwestiwn gan Natasha Asghar ar ddefnyddio e-sigaréts, roeddwn i'n meddwl tybed a yw'n bosibl cael datganiad wedi'i adnewyddu yn deillio o'r strategaeth newydd ar reoli tybaco, oherwydd rydym ni wedi clywed yn glir iawn gan y Prif Weinidog bod nifer y bobl ifanc 11 i 17 oed sy'n defnyddio e-sigaréts wedi codi'n sylweddol, a bod hyn yn cael effaith fawr ar ddatblygiad yr ymennydd hyd at 25 oed. Ac os ydym ni'n mynd i ymdrin â phobl ifanc, mae angen gweithredu cyfunol gan iechyd, addysg a gwasanaethau rheoleiddio. Felly, tybed a fyddai'n bosib cael datganiad o'r fath gan rywun yn y Llywodraeth, oherwydd mae tair adran wahanol yn rhan o'r broses. Ond mae'n ymddangos i mi na allwn ni ganiatáu i bobl ifanc gael eu tynnu i fynd yn gaeth i ddefnyddio e-sigaréts fel ffordd o'u cael i ysmygu. Mae angen i ni fod yn mynd i'r cyfeiriad arall.

14:35

Diolch. Fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, rhoddodd y Prif Weinidog ateb manwl iawn i Natasha Asghar o ran defnyddio e-sigaréts. Ac rydych chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y pryderon sydd gennym ni, yn enwedig gyda phobl ifanc yn defnyddio'r e-sigaréts hynny. Rwy'n credu i'r Prif Weinidog gyfeirio at ein strategaeth dybaco newydd, sef 'Cymru Ddi-fwg'; cafodd hynny ei gyhoeddi nôl ym mis Gorffennaf, felly mae'n debyg ei bod hi ychydig yn fuan i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad. Rwy'n gwybod ei bod hi'n ymwybodol o'r dystiolaeth ddiweddar bod yr elusen Action on Smoking and Health wedi'i chyflwyno, ac mae hynny'n dangos bod defnydd e-sigarét gan bobl ifanc yn y DU yn cynyddu. Gwnaethoch chi sôn am 11 i 17 oed; mae wedi codi o 4 y cant yn 2020 i 7 y cant mewn dwy flynedd yn unig, o ran e-sigaréts.

Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adfer gwasanaethau bysiau sydd wedi dod i ben, yn dilyn penderfyniad cwmni bysus Easyway i roi'r gorau i fasnachu. Yn fy marn i, mae gan y Cyngor ddyletswydd i'w breswylwyr i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl sy'n byw yn Oaklands, Broadlands a Phen-y-fai, yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd angen trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i Ysbyty Glanrhyd. A fydd y Gweinidog yn trefnu datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i amlinellu pa drafodaethau mae Gweinidogion yn eu cael gyda llywodraeth leol ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus i'r cymunedau hynny sydd nawr yn ddibynnol ar eu ceir yn unig, ac ar gyfer gwarchod ein hamgylchedd, sy'n dibynnu arnom ni'n bod yn fwy uchelgeisiol ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus? Diolch.

Diolch. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig iawn i lawer o'n hetholwyr, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn cael llawer iawn o waith achos o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau, oherwydd dyna'r math o deithio sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf gan etholwyr. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cwrdd yn rheolaidd â phartneriaid, yn amlwg, gan gynnwys awdurdodau lleol, o ran darparu gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Hoffwn i eich annog chi i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y lle cyntaf.

Trefnydd, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ysgrifenedig am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella'r cyfle i fanteisio ar addasiadau tai i bobl sy'n byw gyda chlefyd motor niwron a chyflyrau dirywiol eraill? A diolch i'r Aelodau a aeth i'r digwyddiad MND yn gynharach heddiw a gwrando ar bobl a oedd yn dioddef a'r pwysau sydd arnyn nhw. Fel y dywedais i eisoes, rwy'n croesawu'r ymgysylltu yr wyf i wedi'i gael gyda Gweinidogion ynglŷn â sut y gallwn ni gefnogi pobl sy'n byw gydag MND yn well yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod fod parodrwydd i wneud newidiadau er gwell, fel yr arweinydd clinigol newydd sydd wedi cael ei recriwtio. Ond, o ran addasiadau tai, rydym ni dal eto i weld y cynnydd sydd angen ei wneud. Mae llawer o bobl sydd ag MND yn anffodus yn marw cyn y gallan nhw gael yr addasiadau a fyddai'n gwella ansawdd eu bywydau yn sylweddol, ac felly byddwn i'n gwerthfawrogi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru am yr effaith y mae newidiadau i'r broses addasu yn ei chael ar amseroedd aros, yn ogystal â'r newyddion diweddaraf ynghylch a yw pob cyngor wedi mabwysiadu polisi o beidio defnyddio profion modd, sef y nod y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu'n llawn yn gynnar yn y flwyddyn. Diolch.

Diolch. O ran eich pwynt olaf, nid wyf i'n siŵr o'r cynnydd yno, ond yn sicr, gwnaf i ofyn i'r Gweinidog perthnasol ysgrifennu atoch chi os oes cynnydd wedi bod o ran y polisi hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n tynnu sylw—. Mae MND yn gyflwr mor greulon; Rwy'n credu ei fod yn un o'r cyflyrau creulonaf y mae'n rhaid i bobl fyw gyda nhw, ac mae'n dda iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at hynny gyda'r digwyddiad yma heddiw. Ac wrth gwrs, os oes rhywun sydd â chlefyd fel MND neu lawer o gyflyrau niwro-gyhyrol eraill, sydd wrth gwrs yn gymhleth iawn, yn gofyn am addasiadau tai, yna maen nhw eu hangen arnyn nhw fwy neu lai yn syth, onid ydyn nhw? Felly, rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ond gwnaf i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi os oes cynnydd ar y pwynt olaf.

Diolch yn fawr. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch sicrhau tryloywder ac atebolrwydd mewn awdurdodau lleol? Tipyn o gefndir i'r rheswm pam yr wyf i'n gofyn y cwestiwn yma yw oherwydd, yn ward Ynysddu yng Nghaerffili, mae dwy chwarel wenwynig, o'r enw Tŷ Llwyd, sy'n diferu tocsinau heibio i dai pobl. Ym mis Mai 2022, cafodd ward Ynysddu ei hennill gan ddau ymgeisydd annibynnol, y Cynghorwyr Janine Reed a Jan Jones, ar addewid i adfer pwyllgor chwarel Tŷ Llwyd, oedd yn cynnwys aelodau o gabinet y cyngor, cynghorwyr a thrigolion lleol. Cytunodd arweinydd lleol cyngor Caerffili i ymweld â'r safle, ond gwrthododd ef ganiatáu i'r cynrychiolwyr lleol fynd gydag ef ar yr ymweliad. Ar ddiwrnod yr ymweliad, cafodd caniatâd ei wrthod i Gynghorwyr Reed a Jones, ynghyd â thrigolion lleol i fynd gydag arweinydd y cyngor ar yr ymweliad. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau atebolrwydd a thryloywder mewn llywodraeth leol yng Nghymru? Hefyd, pa ganllawiau sydd ar waith i warchod hawliau cynghorwyr rhag grwpiau lleiafrifol? A beth y mae modd ei wneud i atal arweinwyr cynghorau Llafur Cymru rhag ceisio cau dadl drwy dawelu'r wrthblaid? Diolch.

14:40

Rydych chi'n amlwg yn codi mater lleol sy'n benodol iawn. Rwy'n credu y byddai hi'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol

Nesaf mae datganiad gan Weinidog yr Economi, datblygu economaidd rhanbarthol. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle hwn i roi diweddariad ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol sy'n fwy cadarn mewn amgylchiadau sy'n hynod heriol. Dirprwy Lywydd, ein gweledigaeth ni ar gyfer buddsoddi yn rhanbarthol yw rhoi cefnogaeth i swyddi a thwf mewn cymunedau ledled Cymru. Fe wyddom ni fod y twf cynhwysol a chynaliadwy sy'n ofynnol yn hyn o beth yn ddibynnol ar wneud penderfyniadau yn rhanbarthol sy'n cysylltu blaenoriaethau cenedlaethol â chyfleoedd lleol. Cafodd ein fframweithiau economaidd rhanbarthol eu cynllunio ar y cyd â phartneriaid ym mhob un o'r rhanbarthau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol. Maen nhw ar sail tystiolaeth, gyda blaenoriaethau eglur yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd.

Mae cysoni lles economaidd rhanbarthol, trafnidiaeth a chynllunio mewn cyd-bwyllgorau corfforedig newydd yn rhoi cyfle o'r newydd i fanteisio ar y gyd-ddibyniaeth sy'n bodoli rhyngddyn nhw. Fe fydd hynny'n cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau rhanbarthol, i ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf yn lleol. Yn wir, mae'r pedair bargen ddinesig a thwf yn adlewyrchu'r ymgyrch gyfredol ar gyfer twf cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth arloesol ymhlith partneriaid rhanbarthol. Er bod y cytundebau hyn yn parhau i fod ym more eu hoes i raddau, mae fy swyddogion i, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yn parhau i weithio yn agos gyda'r pedwar partner cyflenwi rhanbarthol i asesu'r cyfleoedd yn yr achosion busnes a ddatblygwyd dros gyfnod parhad y bargeinion.

Dirprwy Lywydd, mae ein hymrwymiad ni i weithio rhanbarthol yn fuddsoddiad mewn darparu sgiliau mwy integredig hefyd. Gyda llywodraeth a rennir, fe fydd partneriaethau sgiliau rhanbarthol mewn sefyllfa well i ddylanwadu ar fuddsoddiad a darpariaeth sy'n cyfateb i'r galw amdani mewn ffordd sy'n ymateb i gyfleoedd lleol i ehangu gwaith teg.

Mae ein gwaith ni ar draws pob rhanbarth ymhlyg â'r nod cyffredin o sicrhau buddsoddiad yn niwydiannau'r dyfodol, a fydd yn annog swyddi sgiliau uchel sy'n talu yn well. Yn y de-ddwyrain rydym ni'n gweithio gyda Thales i greu campws seibergadernid yng Nglyn Ebwy trwy ein rhaglen Cymoedd Technoleg. Ynghyd â'n partneriaid lleol ni a Phrifysgol Caerdydd rydym ni'n buddsoddi yn ein cryfderau ac yn cefnogi busnesau newydd newydd ym maes seiberddiogelwch. Yfory, fe fyddaf i mewn seremoni arloesol ar gyfer y buddsoddiad diweddaraf yn y diwydiant lled-ddargludyddion, sy'n creu cannoedd ar gannoedd o swyddi newydd sy'n talu yn dda.

Yn y gogledd, rydym ni wedi sefydlu Cwmni Egino i ddilyn datblygiadau newydd uchelgeisiol yn Nhrawsfynydd, yn cynnwys adweithyddion modiwlar bychain i gynhyrchu trydan carbon isel ac adweithydd ymchwil meddygol i helpu gyda diagnosis a thriniaeth canser a mwy.

Yn y canolbarth, fe lwyddodd gweithio ar y cyd ein helpu ni i sicrhau mwy na 100 o swyddi gyda chymorth i wneuthurwr partiau modurol, y Marrill Group yn Llanfyllin ym Mhowys. Ac ym Mharc Ynni Baglan, fe welsom ni pa mor llwyddiannus y bu gweithio mewn partneriaeth gadarn sy'n ymblethu o ran lliniaru'r bygythiad gwirioneddol o ddifrod ofnadwy i fusnesau a theuluoedd. Yn ogystal â chyhoeddi achos cyfreithiol, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, Dŵr Cymru a busnesau lleol i sicrhau pŵer i'r parc ynni ac achub cannoedd o swyddi.

Rydym ni'n bwrw ymlaen hefyd ag ymrwymiad ein cytundeb cydweithredu ni i gyd-gynhyrchu cam 2 y rhaglen Arfor ochr yn ochr â phartneriaid yn yr awdurdodau lleol. Fe gaiff hyn ei gefnogi gan adnoddau ychwanegol, gyda £11 miliwn ar gyfer cyfnod o dair blynedd hyd at 2024-25. Rhagwelir cyhoeddiad pellach yn y dyfodol agos.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n parhau i weithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar bolisïau rhanbarthol. Yng nghyd-destun y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, fe fydd yr OECD yn canolbwyntio ar gefnogi Arfor a'r Cymoedd drwy eu prosiect cyfredol nhw. Bydd yr OECD yn edrych ar fodelau dyluniad ar gyfer cydweithio rhwng llywodraethau lleol, sy'n cynnwys cyfleoedd i ddatblygu cydweithio mewn rhanbarthau gyda chymunedau'r Cymoedd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio tuag at fodel sy'n dod â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a deiliaid y gyllideb at ei gilydd yn barhaol ar gyfer gwneud y gorau o'n gallu ni gyda'n gilydd i ddiogelu canlyniadau economaidd cryfach, hirdymor ledled cymunedau'r Cymoedd.

Ledled ein rhanbarthau ni i gyd, mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn helpu i ysbrydoli unigolion i ymgymryd â mentrau a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn gallu cael gafael ar gefnogaeth. Rwyf i wedi ymrwymo i ddarparu £20.9 miliwn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, gan ymestyn asgwrn cefn gwasanaeth Busnes Cymru y tu hwnt i ddiwedd nawdd gan yr UE yn 2023. Mae hyn yn cynnwys cyngor a chefnogaeth ymroddedig i'n sector mentrau cymdeithasol ni. Wrth gynnig siop-un-stop ar gyfer cefnogaeth, rwy'n cydnabod na all Busnes Cymru gyflawni'r holl gymorth busnes lleol y mae entrepreneuriaid, busnesau micro a busnesau bach a chanolig yn gofyn amdano yng Nghymru. O'r herwydd, bwriad y gwasanaeth yw adeiladu ar ei gryfderau o ran bod yn gynnig a estynnir yn genedlaethol sy'n ategu darpariaeth leol a chyfleoedd ariannu sydd ar gael i'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus yn fwy eang.

Dirprwy Lywydd, fel gwyddoch chi, mae porthladdoedd Cymru yn ased cenedlaethol anhygoel ac yn rhan gynhenid o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd ni o fyw. Rydym ni wedi cytuno â Llywodraeth y DU o ran darparu rhaglen o borthladdoedd rhydd yng Nghymru, a ddylai gefnogi ein cenhadaeth economaidd i ddatblygu'r nod sylfaenol o sicrhau twf cynhwysol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau uchelgeisiol ac arloesol sy'n cynnig y posibilrwydd o fanteision cynaliadwy, yn economaidd a chymdeithasol i Gymru. Mae ein neges ni'n eglur yn y prosbectws: mae'n rhaid i'r rhaglen porthladdoedd rhydd gyfrannu at ein hamcanion ehangach ni yng Nghymru, nid dwyn oddi arnyn nhw, ar gyfer llunio Cymru gryfach, tecach, gwyrddach. Dyna enghraifft arwyddocaol o sut y gall Llywodraethau gydweithio mewn partneriaeth gydradd.

Dirprwy Lywydd, mae perfformiad economaidd ein rhanbarthau ni'n cael ei effeithio gan yr amgylchiadau macro-economaidd eithafol a wynebwn ni ar hyn o bryd, wrth gwrs. Yn ogystal â her ddeuol ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a phandemig COVID, rydym ni'n wynebu bygythiadau byd-eang i'n diogelwch ni o ran ynni a'r sioc o ran telerau masnachu sydd wedi cyfuno i achosi codiadau dramatig mewn prisiau i bawb. Anfonodd datganiad cyllidol atchweliadol heb ei ariannu gan Lywodraeth y DU donnau sioc drwy ein heconomi ni, gan sbarduno ymateb o'r farchnad a fydd yn diddymu llawer o'r gefnogaeth a gafodd ei gadarnhau i gartrefi a busnesau. Bydd effaith barhaol y datganiad yn golygu costau uwch ar bob haen o lywodraeth ac mae ein setliad ni yn £4 biliwn yn llai o werth na'r hyn yr oedd pan gafwyd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Mae'r gwrthodiad o bolisi diwydiannol ar lefel y DU yn cosbi rhanbarthau a gwledydd y tu hwnt i Lundain a'r de-ddwyrain yn benodol. Yn hytrach, mae hynny'n rhoi argraff amlwg nad yw Llywodraeth newydd y DU yn eu hystyried nhw—ni—yn hanfodol i lwybr twf y DU. Nid yw cynlluniau ffyniant bro, fel maen nhw, yn gwneud cyfiawnder â'r broblem hon mewn unrhyw ffordd, gan achosi dyblygu a chanlyniadau gwael o ran cael gwerth am arian gwael wrth danseilio datganoli hefyd. Mae'r arian sy'n cefnogi agenda ffyniant bro fel y'i gelwir yn golygu colled i Gymru o £1.1 biliwn erbyn 2025, o'i gymharu ag addewid maniffesto Llywodraeth y DU i gyfateb maint cronfeydd yr UE i Gymru. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio'r cronfeydd hyn i gefnogi ei blaenoriaethau ei hun mewn meysydd datganoledig lle nad oes mandad ganddi hi. Mae'n amlwg bod maes canolbwyntio Multiply, er enghraifft, yn rhy gyfyng ac y bydd yn dyblygu darpariaeth ddatganoledig, gan arwain at wastraff y gellir ei osgoi a chynnig gwerth gwael am arian. Mae'r gronfa ffyniant a rennir o'r pen i'r gwaelod yn cynrychioli heriau tebyg, ac fe gafodd ei nodweddu gan oedi o fewn dull didoreth a feirniadir yn eang gan leisiau annibynnol arbenigol ar lefel Cymru a'r DU. Fe fydd y gronfa ffyniant a rennir yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol hefyd gan nad yw hi'n cael ei dyrannu ar sail angen. Yn hytrach, mae swm cyffredinol llai yn cael ei wyro i ffwrdd oddi wrth ein cymunedau mwyaf difreintiedig ni yn yr amser gwaethaf posibl.

Dirprwy Lywydd, mae Gweinidogion y DU sy'n gyfrifol am yr arian newydd hwn yn gwybod eu bod nhw'n wynebu problemau sylweddol o ran cyflenwi. Ni fu unrhyw ymgynghori â llywodraeth leol Cymru ynglŷn â'r arian ac fe'u cadwyd nhw yn y tywyllwch wrth i'r cyhoeddiadau oddi wrth Whitehall gael eu gohirio yn aml. Yn y bôn, mae hyn yn tanseilio gallu pob un o'r partneriaid i gynhyrchu cynlluniau cydgysylltiedig sy'n diwallu anghenion ein cymunedau ni. Mae hi'n dod yn gynyddol amlwg bod Gweinidogion y DU yn awyddus i grafangu pwerau yn ôl ond heb ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw. Mae hi'n hanfodol fod y gwersi cywir yn cael eu dysgu o'r ymosodiad milain hwn ar ddatganoli, ac fe fyddwn ni'n herio unrhyw ymgais a wneir gan Weinidogion y DU i symud y bai am eu camgymeriadau costus ar awdurdodau lleol Cymru. Dirprwy Lywydd, bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn rhanbarthau cryfach a neilltuol i gefnogi economi Gymreig decach a gwyrddach. Rwy'n edrych ymlaen at ddiweddaru Aelodau wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ni i'w cyflawni nhw ar draws y pedwar rhanbarth i gyd.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma? Roedd creu fframweithiau rhanbarthol ym mis Rhagfyr yn gam pwysig ymlaen o ran cydnabod gwerth economaidd rhanbarthau unigol ac yn gyfle hefyd i adeiladu i'r dyfodol drwy ffrwyno posibiliadau'r rhanbarthau mewn gwahanol sectorau a diwydiannau. Er enghraifft, yn y de-orllewin, mae sectorau fel twristiaeth, amaethyddiaeth ac ynni yn feysydd o bwys strategol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer twf, a, thrwy ddatblygu fframwaith rhanbarthol, fe ellir magu cryfder yn y farchnad lafur ac fe ddaw arfer gorau yn rhan annatod o'r gadwyn gyflenwi. Wrth gwrs, mae pob fframwaith yn adlewyrchu'r cyfleoedd arbennig ar gyfer pob rhanbarth ond yn mynd i'r afael hefyd â rhai o'r heriau arbennig y mae'r rhanbarthau hynny'n eu hwynebu nhw o ran sgiliau, datblygu seilwaith a chysylltedd. Mae sicrhau bod y fframweithiau y mae partneriaid yn cydweithio i ddatblygu'r seiliau sgiliau cywir ar gyfer eu gweithlu yn y dyfodol yn allweddol i lwyddiant y fframweithiau. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym ni pa waith a wnaethpwyd eisoes yn gyfochrog â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i ddatblygu'r seiliau sgiliau hynny a sicrhau eu bod nhw'n gweddu i flaenoriaethau datblygu economaidd pob rhanbarth.

Mae cydweithio strategol yn hanfodol wrth gynyddu twf economaidd rhanbarthol hyd yr eithaf, ac mae'n bwysig bod rhanddeiliaid lleol yn teimlo y gallan nhw roi mewnbwn i'r fframweithiau arbennig hyn. Mae'n rhaid i fusnesau'r stryd fawr, busnesau yn y cartref, masnachwyr unigol a rhai eraill i gyd fod â chyfran yn y fframweithiau hyn er mwyn i leisiau'r rhai sydd ar y rheng flaen gael eu clywed mewn difrif. Nawr, rwy'n deall bod rhywfaint o gydweithio wedi digwydd mewn rhai mannau eisoes, fel crybwyllodd ef yn ei ddatganiad, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod busnesau yn cael ymgynghori ym mhob rhanbarth ac yn rhan o'r mentrau sy'n digwydd ym mhob rhanbarth mewn gwirionedd.

Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru'n ehangu'r cyllid ar gyfer Busnes Cymru tan fis Mawrth 2025, ac mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw at y gefnogaeth y mae'r gwasanaeth yn ei gynnig. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod rhai sefydliadau busnes wedi galw ar Busnes Cymru i gynnwys llinell gyngor ar gynaliadwyedd a datgarboneiddio, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gafodd ei swyddogion ac yntau gyda Busnes Cymru ynghylch rhoi cefnogaeth i fusnesau yn y maes arbennig hwn.

Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at y bargeinion dinesig a thwf a'r gwaith rhyng-lywodraethol da a wnaethpwyd i hwyluso twf economaidd rhanbarthol. Mae'r cytundebau buddsoddi tair ffordd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol yn gyfrwng pwysig arall o roi'r arian i ranbarthau i sbarduno twf economaidd yn eu hardaloedd nhw. Wrth gwrs, mae angen adolygu'r bargeinion dinesig a thwf trwy'r amser i brofi a mantoli eu heffeithiolrwydd nhw, ac felly fe fyddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo er mwyn gallu sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn effeithiol ac nid, er enghraifft, yn golygu mwy o fiwrocratiaeth.

Mae datganiad heddiw yn sôn hefyd am agenda ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin, ac, yn ei ffordd arferol ef, roedd yn dilorni ymagwedd Llywodraeth y DU yn y materion hyn. Nawr, rwy'n rhannu rhai o'i rwystredigaethau ef, ond yn syml, rwyf i am atgoffa'r Gweinidog bod gan Gymru ddwy Lywodraeth ac mae hi'n bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd er lles busnesau ac er mwyn aelwydydd ledled Cymru. Nawr, fel dywedodd y Gweinidog eisoes, mae'r bargeinion dinesig a thwf a'r rhaglen porthladdoedd rhydd yn ddwy enghraifft o'r cynnydd a all ddigwydd pan fydd Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd. Ac rwyf i am sicrhau'r Gweinidog y byddaf i'n parhau i wneud yr hyn a allaf i eiriol dros ddull o gyllido rhanbarthol sy'n gweithio ar bob haen o lywodraeth ledled y DU.

Nawr, gan edrych i'r dyfodol, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn derbyn bod angen i wneud mwy i fuddsoddi mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig ym meysydd cynhyrchu ynni, y gwyddorau a meddygaeth, a thechnoleg gyfrifiadurol. Yn wir, mae pob un o'r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn cydnabod pwysigrwydd gallu academaidd ac ymchwil, ac ni allaf innau bwysleisio gormod pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi, wrth symud ymlaen. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi diweddariad i ni ar safbwynt Llywodraeth Cymru o ran cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi a pha gynlluniau sydd ganddi i gynyddu cyllid i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg.

Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw at yr amgylchiadau hynod heriol y mae busnesau ac aelwydydd yn eu hwynebu. Dyna pam mae hi'n bwysicach fyth fod Llywodraeth Cymru yn creu'r amodau cywir i fusnesau i greu swyddi o well ansawdd, swyddi â chyflogau uwch a chyfleoedd eraill i weithio. Mae sawl mater allweddol i'w cael ym mhob un o'r fframweithiau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys yr angen am welliannau seilwaith, creu'r seiliau sgiliau cywir, a chryfhau'r economi sylfaenol i feithrin cadernid yn yr economi ranbarthol. Mae hi'n hanfodol bod y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu a chefnogi economïau rhanbarthol yng Nghymru yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau economaidd Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, fe allai'r fframweithiau gydnabod y swyddogaeth a allai fod gan barthau menter wrth gefnogi economïau rhanbarthol hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad inni ar waith parthau menter ledled Cymru a dweud ychydig wrthym am sut y maen nhw'n gwneud eu gwaith ochr yn ochr â rhaglenni economaidd rhanbarthol eraill, er mwyn i ni gael darlun mwy eglur o ymarferiad uchelgeisiau economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru a bod â gwell dealltwriaeth o'u rheolaeth nhw a'r hyn y maen nhw'n ei gyflawni.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef heddiw a dweud fy mod i'n cefnogi ei ymdrechion ef i hwyluso model sydd ar sail lleoliadau o ddatblygu economaidd lle bydd gan bartneriaid lleol gyfran ynddyn nhw? Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am y gwaith hwn maes o law. Diolch i chi.

14:55

Diolch am y cwestiynau, ac rwyf i am geisio ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i yn yr amser, Dirprwy Lywydd. O ran parthau menter, rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ar adnewyddu parthau menter eisoes, mae rhai ohonyn nhw wedi dod i ben, a rhai ohonyn nhw'n parhau. Felly, nid wyf i am fynd drwy hynny eto.

O ran seilwaith a'r pwynt a wna'r Aelod, mae gan y Llywodraeth hon allu i fuddsoddi mewn seilwaith. Wrth gwrs, fe gaiff hynny ei ddinoethi gan y gwirionedd ein bod ni wedi gweld toriadau yn yr arian yn ein cyllideb gyfalaf ni. Mae gwneud hynny'n heriol iawn. Mae gennym ni fwy o gyfle i gael budd nag y mae ein cyllideb yn caniatáu i ni wneud. Mae hyn yn golygu bod y dewisiadau yn anodd, ond mae hynny'n golygu ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod yn gwneud dewisiadau sy'n gallu sicrhau budd sylweddol mewn gwirionedd. Ac rwy'n croesawu troedigaeth gymharol ddiweddar y Ceidwadwyr Cymreig i ddadlau'r achos y dylai fod canlyniadol uniongyrchol iawn o HS2. Fe fyddai hynny'n rhoi cryn dipyn o le i ni wneud buddsoddiadau priodol yn ein seilwaith ni. Ac ar y pwynt hwnnw, o leiaf, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ymuno â mi i fod yn awyddus i weld safbwynt presennol Llywodraeth y DU yn newid yn llwyr.

O ran ymchwil ac arloesi, rydym ni allan i ymgynghoriad. Fe ddaeth yr ymgynghoriad ynglŷn â'n strategaeth arloesi ni i ben, felly fe fyddaf i'n gallu adrodd yn ôl ar ddiwedd hwnnw, pan fydd y farn wedi dod i mewn, ar strategaeth newydd a'n dull ni o weithredu. O ran yr adnodd ar gyfer hynny hefyd, fe dynnais i sylw yn fy natganiad i fod ein cyllideb ni werth £4 biliwn yn llai erbyn hyn nag yr oedd pan gafwyd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid ydych chi'n gallu anwybyddu hynny. Mae pwysau gwirioneddol nid yn unig ar draws fy adran i, ond ar draws y Llywodraeth i gyd, o ran sut y byddwn ni'n gallu dod o hyd i arian ar gyfer pob maes. Felly, ni fydd yr adnoddau uniongyrchol gennym ni i gyd y byddem ni'n hoffi eu cael nhw ym mhob un maes yn yr economi. Mae'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth, ac mae wir yn tynnu sylw at yr her o fod wedi colli arian yr UE a wnaethom i wneud ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Mae hynny'n tynnu sylw hefyd at y ffaith ein bod ni, gyda'n gilydd ledled Cymru—busnesau a phrifysgolion hefyd—ag angen bod yn well am nid dim ond cael mwy o'r ymchwil a'r arloesedd sy'n digwydd o fewn addysg uwch ac addysg bellach a sut bydd hynny'n arwain at fyd busnes, ond, mewn gwirionedd, bydd angen i ni fod yn fwy medrus o ran ennill mwy o gronfeydd arloesi ledled y DU. Un o'r pethau sydd i'w croesawu yn fy marn i yw bod Llywodraeth y DU wedi neilltuo swm eithaf sylweddol o arian i fynd at ymchwil ac arloesedd yn y dyfodol—mwy na £20 biliwn. Ein her ni yw, mewn degawdau a aeth heibio, nad ydym ni wedi gwneud cystal ag y dylem ni fod yng Nghymru o ran denu arian o gronfeydd i'r DU gyfan. Felly, mae de-ddwyrain Lloegr yn gwneud yn weddol dda, ac mae rhannau o'r Alban yn gwneud yn weddol dda; ond gwneud yn wael y mae Cymru, yn fy marn i, 2 y cant i 3 y cant o gronfeydd ledled y DU. Mewn gwirionedd, fe fydd angen i ni wneud yn llawer iawn gwell na hynny, a rhan o'r hyn y bydd angen i'r strategaeth arloesi honno ei wneud yw dod â ni at ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein harfogi i wneud hynny'n llwyddiannus.

O ran Busnes Cymru a'r cyngor ar ddatgarboneiddio y maen nhw'n ei roi eisoes, mae honno'n rhan o'r daith yn barod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cofio fy natganiadau ysgrifenedig a llafar ni yn hyn o beth. Un o'r tri nod yn y dyfodol mewn gwirionedd fydd cefnogi cynhyrchiant, cadernid, twf a datgarboneiddio. O ran datgarboneiddio a chynaliadwyedd busnesau micro, busnesau bach a chanolig, mae'r cyngor ar gael yn barod, ac rydym ni'n gobeithio gwneud mwy o hynny wrth adnewyddu Busnes Cymru.

O ran sefydliadau busnes mewn bargeinion twf a chydweithio, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod, mewn gwirionedd, ein bod ni'n dymuno cysylltiadau gwirioneddol effeithiol rhwng y busnesau yn y rhanbarthau hynny gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo. O ran sefydliadau busnes, mae perthynas ganddyn nhw â'r rhanbarthau hynny. Yn bendant, mae ganddyn nhw berthynas â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n bodoli hefyd, ac mae hi'n ddefnyddiol—yn un o'r ychydig bethau a oedd yn gwneud synnwyr a gwahaniaeth gyda'r gronfa ffyniant a rennir—ein bod ni wedi perswadio Llywodraeth y DU i gael yr un rhanbarthau ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yr oeddem ni wedi ei chreu hi eisoes. Ein her ni fydd o ran parhau â'r cydweithio hwnnw o ystyried rhai o'r rhwystrau eraill sydd. Er hynny, rwy'n cael fy nghalonogi gan y cyfranogi sydd gan arweinyddiaeth ein hawdurdodau lleol ni, cyn yr etholiadau diweddar ac wedi hynny. Rydych chi'n gweld arweinyddiaeth drawsbleidiol ym mhob rhanbarth yng Nghymru sy'n awyddus i wneud i hyn weithio.

Er hynny, mae yna her o ran y gyllideb sgiliau, oherwydd, eto, fe gaiff honno heffeithio yn uniongyrchol gan golli arian o'r UE a'r gair na chafodd ei gadw o ran cyfateb hwnnw i'r geiniog olaf. Mae hynny'n rhoi pen tost mawr i ni, ond o ran y ffordd y mae'r sefydliadau hynny'n gweithio, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa weddol dda, ond bob amser, wrth gwrs—rwy'n credu y byddai pob rhanbarth yn cydnabod hyn—mae yna fwy y gallen nhw ei wneud.

Yn olaf, ynghylch eich pwynt ehangach chi ynglŷn â gweithio gyda Llywodraeth y DU, fe roddais i enghreifftiau i chi yn y datganiad o sut yr ydym ni wedi llwyddo i wneud hynny. Ond mae hynny wedi gofyn bod Llywodraeth y DU yn barod i weithio gyda ni, oherwydd o ran y meysydd lle nad ydym ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ni ddigwyddodd hynny oherwydd ein bod ni wedi dweud, 'Nid ydym ni'n dymuno siarad â chi.' Ni chafwyd cytundeb ar y gronfa ffyniant gyffredin oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dwyn ein pwerau ni a chymryd dros £1 biliwn o'r arian a addawyd i Gymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rwy'n dal i siarad â Gweinidogion y DU mewn meysydd lle gallwn ni gydweithio ynddyn nhw, ac fe fyddaf i'n parhau i geisio ymddwyn mewn ffordd adeiladol yn y sgyrsiau hynny. Nid oes unrhyw ddiffyg parodrwydd o'n hochr ni i gael sgwrs, ond yr hyn a ddywedwn ni yw, 'Gweithiwch gyda ni,' ac nid, 'Penderfynwch drosom ni,' nid, 'Cymerwch ein pwerau ni a'n cyllideb ni oddi wrthym ni.' 'Gweithiwch gyda ni ac fe gawn ni ffordd ymlaen sy'n llesol,' ond nid wyf i am ymddiheuro am restru'r achlysuron hynny a fu yn y gorffennol pe bydden nhw'n digwydd eto yn y dyfodol, lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod bod yn bartner sy'n awyddus i feithrin economïau rhanbarthol a chenedlaethol yma yng Nghymru a ledled y DU.

15:00

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.

Mewn ymateb i ddatganiad diwethaf y Gweinidog ar ddatblygu economaidd rhanbarthol ym mis Ionawr eleni, fe wnes i fynegi fy mhryderon i ynglŷn â'r diffyg sydd o ran nodi prosiectau ynni yn rhai o'r fframweithiau, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw a'r tlodi tanwydd cynyddol sy'n bodoli yng Nghymru. Ac megis dechrau oedd yr argyfwng bryd hynny. Mae ein hardaloedd ôl-ddiwydiannol ni'n cael eu taro yn wirioneddol; mae'r ardaloedd hyn yn uwch ar raddfa bregusrwydd ariannol Lowell, ac fe geir nifer fwy o fannau problemus o ran argyfwng ynni yno, yn ôl Cyfeillion y Ddaear.

Oherwydd gwasgariad anghyson y prosiectau ynni yn y dogfennau fframwaith economaidd rhanbarthol, a wnaiff y Gweinidog fynegi unwaith eto sut y mae ef am sicrhau y gall pob rhanbarth o Gymru elwa ar fwy o ddatblygiadau prosiectau ynni gwyrdd, gyda'r nod o wneud biliau ynni yn fwy rhesymol, yn enwedig wrth i ni barhau i wynebu argyfwng costau byw cynyddol? Mae hi'n amlwg ei bod hi'n rhaid i ni arbed i'r dyfodol fel na fyddwn ni'n gweld argyfwng arall fel hwn eto, a gaiff, yn fy marn i, ei gyflawni drwy fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a sicrhau bod y diwydiant hwn yn cael ei wladoli a'i fod yn mynd yn eiddo'r cyhoedd.

Y tro diwethaf i mi godi'r angen i symud tuag at ynni gwyrdd o fewn y fframweithiau hyn, ymatebodd y Gweinidog drwy godi pryderon am drawsnewid cyfiawn, felly rwyf i am ddweud unwaith eto, felly, a gofyn i'r Gweinidog ystyried sefydlu comisiwn pontio cyfiawn, fel gallwn ni ddechrau pontio cyn gynted â phosibl yn wyneb yr argyfwng hwn a rhwystro argyfyngau ynni eraill neu niwed i'r hinsawdd.

Roedd yna sôn hefyd am borthladdoedd rhydd yn natganiad y Gweinidog heddiw. Ni chaiff porthladdoedd rhydd eu crybwyll yn aml, os o gwbl, yn unrhyw un o'r cyhoeddiadau ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen porthladd rhydd gyda Llywodraeth y DU. Nid yw porthladdoedd rhydd yn newydd ac fe geir cryn gronfa o feirniadaeth yn eu cylch nhw. Mae myrdd o dystiolaeth yn dangos bod porthladdoedd rhydd yn mynd law yn llaw â chreu swyddi cyflog isel, adleoli swyddi tebygol, yn lle creu, a'r posibilrwydd o weithgarwch anghyfreithlon tra bydd unigolion a busnesau gwerth net cyfoethog ar eu hennill. Wrth gwrs, mae ei ddatganiad ef yn mynegi dyhead y Llywodraeth i greu swyddi gwell sy'n talu ac â sgiliau uchel, ac fe nododd y Gweinidog, yn y datganiad, ei bod hi'n rhaid i'r rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru gyfrannu at ein hamcanion ehangach ni, a pheidio â gwanio ein hamcanion ehangach ni i lunio Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Ond mae'n fy nharo i nad yw porthladdoedd rhydd yn cyd-fynd ag uchelgais y Llywodraeth yn hynny o beth.

Mae hi'n syml: ni allwn fod yn barod i gyd-fynd â hyn os yw hyn yn golygu erydu hawliau ac amodau gweithwyr, yn ogystal â thandorri safonau amgylcheddol. Ni allwn ni gyfaddawdu o ran ein hegwyddorion ni. I'r perwyl hwnnw, a wnaiff y Gweinidog amlinellu ei resymeg ef sy'n egluro cefnogaeth y Llywodraeth i borthladdoedd rhydd? Ac a fyddai'r Gweinidog yn cytuno y gallai problemau mewn ardaloedd sydd heb eu datblygu gael eu datrys gan fuddsoddiad a strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol heb unrhyw angen am borthladdoedd rhydd o gwbl?

Yn olaf, yn ei ddatganiad olaf ar y fframwaith datblygu economaidd rhanbarthol, fe godais i fater draen dawn gyda'r Gweinidog, ac yn benodol sut y dylid integreiddio'r fframwaith gyda'r warant i bobl ifanc i gadw doniau a gwella'r broses o greu swyddi yng Nghymru. Sut mae hyn yn cydweddu erbyn hyn â chefnogaeth y Gweinidog i borthladdoedd rhydd ar gyfer gwella datblygiad economaidd rhanbarthol?

15:05

Diolch i chi am y cwestiynau. O ran prosiectau ynni, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod cynigion am brosiectau ynni gwyrdd ym mhob un o'r pedwar rhanbarth. Nid y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yn unig sydd i'w gweld yn y canolbarth; fe fydd yna fwy yn cael ei wneud yn y fan honno. Ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau yn ddiweddar bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn cynhyrchu mwy o ynni gwynt ar y tir hefyd. Mae hynny'n gymharol rad o gymharu â mathau eraill o gynhyrchu ynni, ond fe welwch chi gyfraddau sylweddol o gynhyrchu ynni gwynt oddi ar y môr yn y gogledd ac o amgylch bae Abertawe yn y môr Celtaidd hefyd. Felly, fe geir llawer o gyfle ac, wrth gwrs, mae'r brifddinas-ranbarth wedi prynu Aberddawan i fod yn safle ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd. Ac nid datgarboneiddio ein cyflenwad ynni ni yw'r unig bwynt yn fy marn i; fe geir y gweithgaredd economaidd a'r lles sy'n dod yn ei sgil.

Rwy'n meddwl am Ddenmarc yn aml, ac nid yn unig am fod fy mrawd hŷn a'i deulu yn byw yno, ond, mewn gwirionedd, fe lwyddon nhw i gyrraedd pwynt gyda gwynt ar y tir yn benodol, gan ddechrau yn gynnar, a manteisio ar symud yn gyntaf, fe gawson nhw lawer iawn o fudd economaidd, nid dim ond o ran cynhyrchu ynni, ac rwy'n awyddus nad ydym ni'n colli golwg ar y cyfleoedd economaidd. Nid wyf i'n dymuno i ni ddim ond adeiladu llawer o brosiectau ynni yn agos atyn nhw a'u defnyddio nhw a dim ond eu cynnal nhw wedyn, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i ni wneud llawer iawn mwy. Ac eto, mae honno'n enghraifft arall o'r hyn a allem ni ei wneud pe bai yna ddull parod gan Lywodraeth y DU, fe allem ni wneud mwy o ran buddsoddi, oherwydd fe allai rhywfaint o'r buddsoddiad o amgylch HyNet yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru gael ei ymestyn; fe allem ni weld mwy hefyd ar draws y clwstwr diwydiannol ar draws dwyrain, gorllewin a de Cymru, ac fe fyddai hynny er ein lles ni i gyd.

O ran eich pwynt chi am drawsnewid cyfiawn, mae honno'n rhan allweddol o'n cynllun Cymru Sero Net ni. Rydym ni'n chwilio am drawsnewid sy'n rhoi cyfiawnder, ac nid dim ond troi ein cefnau ar ardaloedd a pheidio â bod â chynllun ar gyfer trosglwyddo o un math o gyflogaeth i'r llall. Ac nid yw hynny'n rhwydd o reidrwydd, ond fe geir cyfle gwirioneddol i wneud hynny. Mae llawer o'r sgiliau yn annhebygol o fod—. Fe fydd llawer o'r swyddi y mae hi'n annhebygol y bydd eu hangen nhw mewn 20 i 30 mlynedd yn parhau i ofyn sgiliau a fydd yn trosglwyddo i swyddi sy'n fwy newydd, a rhan o'n her ni yw sut rydym ni am ailsgilio pobl sydd ym myd gwaith eisoes. A dyna ran o'r rheswm pam mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn cyfrifon dysgu personol, er enghraifft—felly, dysgu yn y gwaith. Ac rwyf i'n gwneud y pwynt yma'n rheolaidd, ac fe ges i sgwrs fore heddiw ynglŷn â hyn: mae gweithlu'r dyfodol gennym ni yma i raddau helaeth iawn. Y bobl a fydd yn gweithio ymhen 10 mlynedd, mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn y gweithlu eisoes. Felly, oes, mae angen newydd-ddyfodiaid yn dod i mewn—ni ddylem ni fyth ag ymddiheuro am ganolbwyntio ar y newydd-ddyfodiaid hyn a fydd yn dysgu sgiliau newydd, sy'n dod i mewn heddiw, yfory ac yn y blynyddoedd nesaf hyn—ond mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn dwyn ein gweithlu presennol gyda ni ac yn darparu cyfleoedd iddyn nhw feithrin sgiliau newydd.

O ran llawer o'ch cwestiynau chi ynghylch porthladdoedd rhydd, ni wnaf i ddim ond dweud nad oes angen i'r Llywodraeth beidio â chanolbwyntio ar ennill cyfoeth cymunedol, ac mae honno'n rhan fawr o'n heconomi ni bob dydd a'r dull economi sylfaenol hefyd: sut rydym ni'n ceisio cadw cyfoeth yn y cymunedau; beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer caffael lleol, nid yn unig yn y ceisiadau, ond yn y ffordd y mae pobl yn ymddwyn wedyn pan eu bod nhw wedi sicrhau'r contractau caffael hefyd—eu bod ni'n cadw at yr hyn ddywedon nhw y bydden nhw'n ei wneud. Mae honno'n rhan fawr o'r hyn y bydd angen i ni ei weld yn y rhaglen porthladdoedd rhydd hefyd.

Edrychwch, menter gan Lywodraeth y DU oedd hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi negodi hyd at y sefyllfa lle gallwn ni gytuno i ddefnyddio porthladd rhydd ar delerau y gwnaethom ni eu mewnosod. Ac mae tebygrwydd yn yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno arno a'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi cytuno arno hefyd. Felly, mae gennym amodau ynglŷn â gwaith teg yn y prosbectws, ac fe fyddech chi'n disgwyl i mi, nid yn unig yn gyn-undebwr llafur ac yn Aelod Llafur Cymru, ond fe fyddech chi'n disgwyl i mi, yn Weinidog mewn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i Gymru sy'n genedl gwaith teg, i weld y rheidrwydd i borthladdoedd rhydd fod yn rhan o hynny ac nid ar wahân i hynny. Felly, dyna sydd yn y prosbectws, ac ni fyddaf i'n cytuno ar unrhyw gais sy'n dod ymlaen ar sail crebachu telerau ac amodau i bobl, ar sail lleihâd mewn rheoliadau amgylcheddol, nac ar sail lleihâd o ran hawliau llafur. Ac fe fydd hwnnw'n benderfyniad didwyll, y ni sy'n gwneud y penderfyniad, yn ogystal â Llywodraeth y DU. Rwy'n barod i wrthod ceisiadau na fydd yn bodloni'r safonau hyn.

Yn ogystal â gweld yr hyn sydd yn y cais, rwy'n awyddus i weld sut y bydd hynny'n cael ei fonitro a'i reoli. Dyna pam y gwnaethom ni sefydlu peth o'r bensaernïaeth ar yr hyn sy'n cael ei alw yn ei hanfod yn bwyllgor y gweithwyr. Bydd rhai pobl yn gyfarwydd â chyd-bwyllgor undeb fel hwnnw mewn gweithleoedd eraill, lle mae gennych chi ffordd i undebau llafur fod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd ar safle'r gwaith, ar safle aml-gyflogwr hefyd. Nid yw hynny'n rhywbeth mor anarferol â hynny o ran ynni, dur a mannau eraill hefyd.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y ceisiadau, ond at y gweithgarwch hefyd. I mi, nid y prawf fydd a fyddwch chi'n gweld mwy o weithgarwch economaidd yn yr ardal honno, ond yn hytrach a fyddwch chi'n gweld mwy o weithgaredd yn gyffredinol, yn hytrach na gweithgarwch yn cael ei ddadleoli. Mae honno'n rhan o her a ddaeth o enghreifftiau blaenorol o ymyrraeth fel hyn: a allwn ni feithrin gweithgarwch economaidd sy'n wirioneddol gyffredinol ac nid dim ond ei symud o un rhan o'r wlad i'r llall?

15:10

Diolch i chi, Gweinidog, am roi'r datganiad hwn i ni heddiw. Dim ond ar gyfer mynd ar drywydd eich pwyntiau chi nawr a'ch cwestiynau chi, Luke, am borthladdoedd rhydd, fe fyddwn i'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n golygu na fyddai Llywodraeth Cymru byth yn gwneud unrhyw gytundeb â DP World, sef perchnogion P&O Ferries a ddiswyddodd 800 o'u staff. Nid syndod, ond siomedig, yw bod y ddau borthladd mwyaf sydd gan Lywodraeth y DU yn cael eu rhedeg gan DP World, a leolir yn Dubai, ac maen nhw wedi rhoi £50 miliwn iddyn nhw am wneud hynny.

Yn ogystal â hynny, fe hoffwn i ddweud bod cynrychiolydd seneddol y DU yn fy nghymuned i'n dal ati i bwyso mai ym Mhorthcawl y dylai hwnnw fod. Fe hoffwn ddweud nad wyf wedi clywed neb o gwbl yn fy nghymuned i'n galw am borthladd rhydd o 44 km yn ein marina ni ym Mhorthcawl, er y byddem ni, wrth gwrs, yn hoffi elwa arno, fel roeddech chi'n dweud, er lles y gymuned, a'r swyddi a phopeth a fyddai'n dod yn ei sgil; er enghraifft, mae gennym ni berthynas glos iawn gyda Phort Talbot erioed. Felly, ie, dim ond ar gyfer dweud hynny ar ran fy nghymuned i.

Roeddwn i'n awyddus hefyd i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn safle gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar ym Mrocastell, ac mae buddsoddiad pellach yn y seilwaith i gyd-fynd â'r safle newydd, gyda llwybr teithio llesol gwerth £2 filiwn. Dyna newyddion rhagorol o ran yr economi leol a chyfleoedd ar gyfer swyddi. Eto i gyd, rydym ni'n gwybod y gellir gwneud mwy, ac mae safle Ford yn parhau i'n hatgoffa ni o'r cyfle sydd i fuddsoddi yn ein cymunedau ni. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gweithio yn galed iawn i gael trefn ar hynny.

Mae'n ddrwg gen i. Felly, ardderchog o beth fyddai cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny, os yn bosibl. Hefyd, fe hoffwn i ofyn, Gweinidog: a ydych chi'n cytuno bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwerth etholaeth Pen-y-Bont ar Ogwr a chymunedau eraill fel mannau i fuddsoddi ynddyn nhw a meithrin ein heconomïau lleol ni?

Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â'r pwynt ynglŷn â phorthladdoedd rhydd yn gyntaf, a dweud cyn dechrau fy mod i am osgoi rhoi ateb uniongyrchol i chi, oherwydd y fi fydd y Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniadau, felly nid wyf i'n gallu dweud wrthych chi'n bendant nad wyf i am dderbyn cais gan unrhyw un, oherwydd fe fydd yn rhaid i mi ystyried hynny'n wrthrychol.

Fe glywais i'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud am Borthcawl a Phort Talbot, ac rwy'n siŵr y bydd yna geisiadau o bob cwr o'r wlad. Rwy'n gweld Aelodau yn y Siambr hon sydd â diddordeb o ran porthladdoedd eraill, y bydden nhw'n pwyso arnaf i nawr efallai i gytuno y bydd hynny'n digwydd yn eu hardal leol nhw. Ond, fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i'r ceisiadau i gyd ac fe fyddaf i'n gwneud yr hyn y mae'r prosbectws y byddwn ni'n ei wneud; felly, o leiaf, nid oes unrhyw un nad yw'n ymrwymo i waith teg am gael cytundeb i fod yn borthladd rhydd yng Nghymru.

O ran eich pwynt ehangach chi ynglŷn â Brocastell, mae hynny'n ddiddorol, oherwydd dyma un o'r pethau y bydd angen i ni wneud mwy ohono a rhoi ystyriaeth yn ei gylch: sut ydym ni nid yn unig am gael sefydlu safleoedd mawr sy'n cynnig cyflogaeth a bod â chyflogaeth o ansawdd da yno, ond, mewn gwirionedd, sut fydd pobl yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith hefyd. Felly, ystyr hyn yw'r dyluniad a'r cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus, ond ystyr hyn hefyd yw teithio llesol a dewisiadau o ran ystyried sut, os na allwch chi ddatgarboneiddio'r daith i'r gwaith ar ei hyd, a allwch chi wneud unrhyw beth ynglŷn â'r filltir olaf neu'r elfen olaf ohoni. A allwch chi wneud unrhyw beth a fydd yn lleihau ôl troed y gweithwyr wrth deithio i'r gwaith hwnnw? Ond, rwy'n obeithiol iawn ynglŷn â Brocastell. Bu hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru wrth feithrin y safle hwnnw. Fe ddylem ni weld nifer fawr o swyddi ar y safle hwnnw, ac, unwaith eto, swyddi gyda dyfodol gwirioneddol.

O ran Ford, mae fy swyddogion a minnau wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni i egluro pa mor sylweddol yw'r safle hwnnw o ran cyflogaeth. Mae yna gyflogaeth â chyflog da o ansawdd da wedi bod arno yn y gorffennol hynny am gyfnod maith. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw bod y safle hwnnw'n cynnig cyfres o swyddi eraill â chyflogau sy'n llawer is. Mae angen i'r cwmni benderfynu—nid ydym ni mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad drostyn nhw—ond rwyf i o'r farn mai, yn bendant, cyfleoedd â chyflogau uchel a sgiliau uchel y byddem ni'n dymuno eu gweld nhw'n cael eu cynnig ar y safle hwnnw, a dyna'r hyn yr ydym ni'n dal ati i'w ddweud wrth y cwmni ei hun.

Rwy'n ystyried Pen-y-bont ar Ogwr yn hynod bwysig, nid yn unig o ran mai honno yw etholaeth yr Aelod, ond am nifer y cyfleoedd sydd yno o fewn y cyflogaethau amrywiol sydd ar gael, gyda llawer ohonyn nhw'n talu cyflog da a swyddi o sgiliau uchel, ond ein cyfraniad ni i'r dyfodol; er enghraifft, y buddsoddiad newydd hefyd yn y coleg, i sicrhau y bydd y cyfarpar priodol i'r dyfodol gan bobl ac mewn amryw o wahanol oedrannau. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r etholaeth gyda'r Aelod ryw dro, gan ei bod hi wedi gofyn i mi fynd yno sawl gwaith; rhywbryd, rwy'n siŵr y bydd ein dyddiaduron ni'n cyd-daro â'i gilydd.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod pa mor allweddol yw cludiant yn hyn o beth. Mae'r angen i ail-lunio'r systemau trafnidiaeth ledled Cymru yn bwysig, ac mae hi'n amlwg yn eglur iawn mhob un o'r pedwar fframwaith economaidd rhanbarthol, pan welsom ni gyhoeddi'r rhain yn ddiweddar. 

Os caf i ganolbwyntio ar gynllun metro de Cymru, mae gan hwnnw'r potensial, fel gwyddoch chi, i wella cyfleoedd economaidd a ffyniant ledled y de-ddwyrain gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Mynwy. Ond, rwy'n credu bod cwestiynau ynglŷn â'r cynnydd a'r camau a welir o ran newid moddol, fel teithio ar fysiau cyflym, ar gyfer annog y twf economaidd sy'n angenrheidiol yn ein golwg ni. Trafnidiaeth Cymru sy'n arolygu'r metro, ac nid yw hi yng nghwmpas y fargen ddinesig i oruchwylio hwnnw, ond efallai y dylid ystyried hynny. Sut ydych chi am ymgysylltu â'r cabinetau rhanbarthol amrywiol i sicrhau y bydd anghenion cymunedau ac economïau lleol yn cael eu hymgorffori yn eich cynlluniau chi'n llawn?

Rwyf i eisiau cyffwrdd yn fyr ar y pwynt a gododd Paul hefyd. Roeddwn i'n falch eich bod chi wedi sôn y bydd y Llywodraeth yn ceisio chwilio am fuddsoddiad pellach, sy'n gwbl hanfodol. Rydym ni wedi cael datblygiadau arloesol gwych yn y de-ddwyrain, fel y lled-ddargludyddion cyfansawdd, a'r clystyrau eraill hynny sy'n esblygu, ond mae hyn yn ddibynnol ar argaeledd parhaus buddsoddiad a sgiliau i sbarduno cynnydd ar raddfa sy'n fwy effeithiol. Felly, rwyf i am rygnu ymlaen ynglŷn â'r pwynt hwnnw eto, sef y ffaith nad ydym ni'n gweithio yn ddigon agos ag UKRI neu Innovate UK i ddenu'r cronfeydd hynny. Rydym yn parhau i siarad strategaeth, strategaeth, strategaeth; pryd fyddwn ni'n cael gweithredu, gweithredu, gweithredu, ac yn denu'r arian fel mae'r Alban wedi gwneud, a llwyddo i yrru pethau ymlaen? Rydym ni'n cael ein gadael ar ôl.

15:15

Rwy'n credu bod dau gwestiwn bras yma. O ran cronfeydd arloesi, rwy'n awyddus, fel dywedais i, i weld llawer mwy o allbynnau o ran cyllid ymchwil yn cael ei ddyfarnu, a chanlyniadau wedyn o ran yr hyn y bydd yr arian hynny'n caniatáu i ni ei wneud. Mae gennym ni enghreifftiau da iawn o ymchwil gymhwysol a'r gwahaniaeth y gall honno ei wneud. Mae'r partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth sydd gennym ni'n enghraifft dda iawn ar gyfradd fechan, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld hynny yn eich etholaeth eich hun, ac yn eich gyrfa flaenorol yn arweinydd awdurdod lleol—y gwahaniaeth a all hynny ei wneud i gynhyrchiant a phroffidioldeb busnes. Ein her ni, gyda'r newid mewn cyllid, yw sut ydym ni am dynnu mwy o gronfeydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Mae angen newid yma yng Nghymru, nid yn unig o fewn y Llywodraeth a'r hyn a fydd y strategaeth yn ei nodi, ond mewn gwirionedd gyda phob un o'n partneriaid amrywiol ni. Oherwydd ni all y Llywodraeth ysgrifennu ceisiadau ar ran AU nac ar ran busnesau sy'n awyddus i gael yr arian hwnnw. Yr hyn sy'n angenrheidiol i ni yw nid dim ond efelychu'r hyn y mae rhanbarthau eraill bod yn llwyddo gydag ef yn unig, ond rhoi ystyriaeth i'r cynnig penodol sydd gennym ni a lle y gallem ni ac y dylem ni fod yn gweld arian yn cael ei fuddsoddi yn nyfodol ymchwil ac arloesi.

Bydd yn rhaid i ni gael newid ymagwedd gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer yr ail ran. Rwyf i wedi gwneud y pwynt hwn yn rheolaidd. Nid wyf i'n ceisio ergydio yn bleidiol wleidyddol yn hyn, ond roedd George Freeman, y Gweinidog gwyddoniaeth blaenorol—nid wyf i'n gwybod pwy yw'r Gweinidog gwyddoniaeth presennol mewn gwirionedd; hyd at wythnos neu ddwy yn ôl nid oedd yr un i'w gael—yn rhywun a oedd wedi dod o'r sector hwnnw i fyd gwleidyddiaeth, ac roedd ef yn awyddus iawn i weld arloesi yn digwydd mewn modd priodol ledled y DU. Roedd ef yn deall bod meysydd o gyfle yng Nghymru lle byddai ef wedi dymuno gweld arian yn mynd. Pe byddai gennym ni Weinidog gwyddoniaeth yr un mor ymroddedig a oedd yn deall y tirlun, rwy'n credu y byddai cyfle i gael trafodaeth ddeallus a fyddai'n arwain at wneud rhai dewisiadau gwahanol hefyd. Fel rwy'n dweud, fe geir cyfle gwirioneddol i wneud rhywbeth o werth ar gyfer Gymru a ledled y DU.

Ynglŷn â'ch pwynt chi am y metro a newid yn y patrwm, rwyf i'n siarad â chabinetau o'r gwahanol ranbarthau yn rheolaidd, ac rydych chi'n gwybod rhywbeth am hyn, o gofio i chi fod ar gabinet y brifddinas-ranbarth ar un adeg. Rwyf i wedi cyfarfod â nhw'n ddiweddar. Rwyf i wedi cwrdd â phobl o amgylch y cytundeb ym mae Abertawe yn ogystal â'u cabinet rhanbarthol. Rwyf i wedi cyfarfod â grŵp y gogledd hefyd, ac rwy'n disgwyl eu gweld nhw eto'n fuan iawn. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o waith yn cael ei wneud ar fargen y canolbarth, sydd mewn sefyllfa wahanol oherwydd eu bod nhw wedi dod i'w cytundeb nhw'n fwy diweddar na'r tri rhanbarth arall yng Nghymru. Ond rwyf i am barhau i gadw mewn cysylltiad â nhw fel partneriaid—nid yn un ag awdurdod i ddweud wrthyn nhw beth sy'n rhaid iddyn nhw ei wneud, ond yn bartneriaid yn yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, y swyddogaeth sydd ganddyn nhw mewn datblygiad economaidd rhanbarthol a'r swyddogaeth sydd gennym ninnau ochr yn ochr â nhw, a dewisiadau na ellir eu gwneud ond ar lefel genedlaethol yn unig, yn ogystal â hynny.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n ddiolchgar hefyd am eich ymrwymiad parhaus chi i'r Cymoedd Technoleg a'ch ymrwymiadau blaenorol i'r rhaglen a'i chyllideb hi i'r blynyddoedd i ddod. Mae'r sefyllfa yn ei chyfanrwydd yr ydym ni'n ei hwynebu ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill yn llawer mwy anodd na'r un a fu yn y gorffennol. Rydym ni wedi gweld Brexit trychinebus sydd wedi ein ni cloi allan o farchnadoedd sylweddol, a lle mae Llywodraeth y DU i weld â mwy o ddiddordeb ym marchnadoedd arian Dinas Llundain nag amaethyddiaeth na'r economïau rhanbarthol yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweld y Prif Weinidog newydd yn diarddel ffyniant bro, ac rydym ni wedi gweld ymdriniaeth anniben o'r economi sy'n golygu y bydd unrhyw fusnes sy'n awyddus i fuddsoddi yn benthyca llawer mwy, ac ar gyfraddau llawer uwch nag ychydig wythnosau yn ôl hyd yn oed. Felly, mae hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithredu i ddiogelu economïau rhanbarthol fel honno sydd ym Mlaenau'r Cymoedd. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i greu mecanwaith cyflenwi ym Mlaenau'r Cymoedd i sicrhau y gallwn ni gyfeirio cyllid a dod â gwahanol raglenni at ei gilydd i gael yr effaith fwyaf posibl o ran buddsoddiad yn ein heconomi? Fe wnes i groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Lyn Ebwy yn ystod yr haf, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i'w groesawu ef eto i Flaenau'r Cymoedd ac i Flaenau Gwent i weithio gydag ef a gweithio gydag eraill, gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac â chithau, i sicrhau casglu pob gallu sydd i'w gael at ei gilydd i fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau.

15:20

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Yn fy natganiad i, pan oeddwn i'n cyfeirio at y newid yn nhelerau busnes, dyma'r union beth yr ydym ni'n siarad amdano—telerau busnes ar gyfer mewnforwyr ac allforwyr. Gyda'r cwymp diweddar yn y bunt ac yna'r adferiad rhannol, mae'r cyfraddau llog yn parhau i fod ynghlo, ac mae'r pigyn yn wahanol iawn yn y DU i'r hyn a geir mewn rhannau eraill o'r byd sy'n wynebu'r pwysau byd-eang fel hyn. Ein her ni yw ei bod hi'n llawer anoddach erbyn hyn; mae yna fwy o gostau, ni ellir eu hosgoi nhw, i fusnes sy'n mewnforio neu allforio. Yr her, er hynny, yw ei bod hi'n dal i fod yn bosibl gwneud hynny, ond mae angen mwy o gymorth a mwy o gefnogaeth ar bobl. Maen nhw hefyd wedi cydnabod eisoes bod angen iddyn nhw fod â mwy o bobl i ymdrin â'r gwaith papur y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud erbyn hyn ar gyfer deall sut i symud nwyddau i wahanol fannau, ond y fframiau amser estynedig hefyd o ran amseroedd i gludo nwyddau, sydd, a dweud y gwir, yn llai dibynadwy hefyd.

O ran benthyciadau busnes a'r cynnydd yn y cyfraddau, dyma un o'r pethau y mae sefydliadau busnes wedi bod yn awyddus iawn i ddweud wrthyf i amdano yn ddiweddar. Maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn barod yn y cyfraddau y bydd angen iddyn nhw eu talu. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, y bydd llai o fuddsoddi, ac, ar ben hynny, mae yna rai yn ailfeddwl ynglŷn â buddsoddi ar hyn o bryd. Rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi rheswm da i bobl fuddsoddi yn nyfodol economi Cymru.

Mae hyn dod â mi at eich pwynt chi am waith yn y Cymoedd. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weld gwelliannau gwirioneddol, nid dim ond siarad gwag. Un o'r blaenoriaethau mawr sydd gennyf i nawr yn yr adran yw diogelu strwythur yn y dyfodol a fydd, fel dywedais i yn y datganiad, yn dod â deiliaid cyllideb a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau at ei gilydd. Bwriad y Sefydliad dros Gydweithio a Datblygu Economaidd, o fewn y cytundeb presennol, yw cyflawni hynny, gan edrych ar y strwythurau sydd gennym nawr ac ystyried sut mae cael rhywbeth sy'n gweithio orau yn wyneb yr heriau arbennig sy'n bodoli yng nghymunedau'r Cymoedd. Roeddwn i'n siarad â'ch cydweithwraig chi Vikki Howells yn gynharach, ac mae hi'n awyddus i Aelodau Etholaeth y Cymoedd gael sgwrs bellach â mi. Fe fyddwn i'n hapus iawn i hwyluso hynny, cyn egwyl yr hanner tymor yn ddelfrydol, i wneud yn siŵr y gallwn ni gael nid dim ond sgwrs yn unig ond eich diweddaru ynglŷn â manylion y gwaith yr ydyn ni'n bwriadu ei wneud a sicrhau bod gwaith yr OECD yn gweithio ar gyfer eich cymunedau chi a chymunedau eraill y Cymoedd hefyd.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol. Wrth gwrs, nid yw rhanbarthau economaidd na ffiniau economaidd yn cyfateb yn aml i ffiniau neu ranbarthau gweinyddol. Rydych chi, wrth gwrs, Gweinidog, yn ymwybodol bod hyn yn bwysig iawn i'r trigolion sydd gennyf i yn y gogledd, oherwydd bob 24 awr, mae 200,000 o bobl yn symud rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gan fynd yn ôl ac ymlaen dros y ffin economaidd hynod bwysig honno. Dyna pam, Gweinidog, rwy'n awyddus iawn i gefnogi gwaith Cynghrair Mersi Dyfrdwy a gweld eu gwaith nhw'n mynd rhagddo ar gyfer gweld datblygiad y rhanbarth economaidd hwnnw dros flynyddoedd i ddod. Gweinidog, fy nghwestiwn i yw: beth ydych chi'n ei ystyried yw dyfodol Cynghrair Mersi Dyfrdwy, a sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth fel Gweinidog ac fel Llywodraeth Cymru ar gyfer gweld llwyddiant Cynghrair Mersi Dyfrdwy a'r rhanbarth economaidd gwirioneddol bwysig hwnnw?

Rwy'n galonnog iawn o ran Cynghrair Mersi Dyfrdwy yn dilyn sgyrsiau a gefais â nhw o'r blaen, ond â'r bwrdd uchelgais ledled gogledd Cymru hefyd, eto, rwy'n siŵr eich bod chi'n gyfarwydd ag ef oherwydd eich swydd flaenorol cyn dod i'r fan hon. Ond, mewn gwirionedd, mae'r cynllun sy'n bodoli yno, a gwneud yn siŵr bod Cynghrair Mersi Dyfrdwy yn ategu hwnnw heb fod mewn cystadleuaeth ag ef neu'n dyblygu rhywfaint o'r gwaith efallai, yn bwysig iawn. Felly, y ddau awdurdod yng Nghymru, sir y Fflint a Wrecsam, a'r ddau awdurdod yn Swydd Gaer—. A dweud y gwir, fe wnes i gyfarfod â nhw wythnos diwethaf mewn cyfarfod dan gadeiryddiaeth Ken Skates, oedd wedi dod â nhw at ei gilydd. Mewn gwirionedd roedd hynny'n wirioneddol adeiladol o ran y sgyrsiau yr ydyn ni'n ceisio eu cynnal ynglŷn â sut y gallwn ni weld mwy yn mynd i ardal Mersi Dyfrdwy. Yr her barhaus yw sicrwydd y bydd yr adnodd ar gael i'w helpu nhw i wireddu eu cynlluniau.

Mae ganddyn nhw amryw o brosiectau a fyddai'n gweithio ac o fudd ar y ddwy ochr i'r ffin, ac fe geir cydnabyddiaeth o'r ardal fawr teithio i'r gwaith fawr yno sy'n llifo ar y ddwy ochr i'r ffin. Rydym ni wedi gweld rhai digwyddiadau chwithig yn y gorffennol pryd y dywedodd Gweinidogion y DU eu bod nhw'n ymweld ag Airbus yn Swydd Gaer. Wrth gwrs, nid yn Swydd Gaer y mae Airbus—ar ein hochr ni o'r ffin y maen nhw—ond mae llawer o bobl sy'n gweithio yno'n byw ar yr ochr arall i'r ffin, felly nid oes lawer o syndod. Yr her yw y byddwn ni'n cyrraedd pwynt o sefydlogrwydd yn y fframwaith i lunio polisïau, dealltwriaeth o'r adnodd sydd ar gael, ac yna rhai dewisiadau gwirioneddol o ran buddsoddiad a wneir i helpu i ddatblygu uchelgeisiau Cynghrair Mersi Dyfrdwy. Rwy'n obeithiol yn hynny o beth.

Fodd bynnag, rwy'n pryderu ynglŷn â'r ymgais bosibl i dorri'r garw o ran y parthau buddsoddi. Nid oes unrhyw newid wedi bod yn y safbwynt hwn, o leiaf. O'r 38 parth buddsoddi dichonadwy, un o'r rhai posibl oedd yng ngorllewin Swydd Gaer. Pe byddai parth buddsoddi yng ngorllewin Swydd Gaer, beth mae hynny'n ei olygu i Gynghrair Mersi Dyfrdwy? A fyddai hynny'n cynhyrfu'r dyfroedd? Nid yw hynny'n eglur i mi. Nid yw hynny'n eglur i mi o ran y rhyddhadau a'r cymhellion ac a fyddai hynny'n dadleoli gweithgaredd yn hytrach na'i feithrin. Mae'r ffordd gydweithredol y mae'r pedwar awdurdod yn gweithio ynddi hi'n enghraifft dda o'r hyn y gellir ei wneud mewn gwirionedd pan fydd pobl yn cydnabod bod diddordeb cyffredin ganddyn nhw.   

15:25

Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud hefyd bod economi'r gogledd a gwaith trafnidiaeth yn croesi'r ffin. Fe es i i ddigwyddiad ymylol Growth Track 360 yr wythnos diwethaf. Buom yn siarad am bwysigrwydd cyllid HS2 yn dod i ranbarth y ffin a, gydag Awdurdod Lleol Gorllewin Swydd Gaer a Chaer o bosibl yn bod yn ardal fuddsoddi, yr effaith y gallai ei chael ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, a pharthau menter. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn siarad â Llywodraeth y DU, fel yr ydych chi wedi'i wneud am y statws porthladd rhydd, fel ein bod yn amddiffyn amodau gwaith ac amodau amgylcheddol.

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud ei bod eisiau adeiladu'r economi drwy greu swyddi. Mae gennym ni lawer o swyddi yng Nghymru, swyddi yn y sector gyhoeddus, na allwn eu llenwi, sy'n bwysig iawn. Ydych chi'n cytuno gyda mi fod busnesau, fel y maen nhw'n dweud, angen addysg ar gyfer sgiliau i gyflogi pobl, bod angen ffyrdd heb dyllau ynddyn nhw, a bod angen trafnidiaeth gyhoeddus dda a chynllunio ar waith fel eu bod yn gallu adeiladu tai a chymunedau iach? Gweinidog, beth allwn ni ei wneud i hyrwyddo'r swyddi hyn yn ogystal â helpu i adeiladu ein cymunedau, yn ogystal â hybu adeiladu'r sector preifat? Diolch.

Rwy'n glir iawn y dylem ni barhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai gennym y gallu i wneud hynny, yna, yn wahanol iawn i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, rwy'n credu y byddem yn gweld manteision uniongyrchol i'r sector preifat. Mae nifer y bobl, ansawdd yr addysg y mae pobl yn ei chael, ac ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r holl bethau hynny. Mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economïau lleol, lle mae pobl yn gwario eu harian yn lleol. Mae'n rhan o'r hyn yr oeddwn i'n sôn amdano'n gynharach gyda'r economi bob dydd ac, mewn gwirionedd, os gallwn gadw mwy o'r arian hwnnw o ran yr hyn sy'n mynd i mewn i gaffael a gwariant lleol ar gyfer gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, bydd yn gwneud gwahaniaeth.

Rwy'n wirioneddol bryderus am ganlyniadau'r toriad o £18 biliwn a adroddwyd i wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'i awgrymu gan Weinidogion y DU. Creu oes newydd o gyni ar yr un pryd â rhyddhau'r cap ar fonysau bancwyr a throsglwyddo arian yn uniongyrchol i'r 5 y cant cyfoethocaf mewn cymdeithas fyddai'r penderfyniad cwbl anghywir i'w wneud. Bydd yna lawer o bobl sy'n cydnabod annhegwch uniongyrchol y dewis hwnnw. Dydy hi byth yn rhy hwyr i feddwl eto, ac rwyf i yn sicr yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog a'r Canghellor yn ailystyried y llwybr y maen nhw wedi ei osod.

Ar eich pwynt ehangach am HS2, rwy'n sicr yn cytuno y byddai symiau canlyniadol yn gwneud gwahaniaeth, nid yn unig mewn ardaloedd ar y ffin, yn fwy na hynny o ran buddsoddiad y gallem ei wneud yn ein seilwaith. Ac ar barthau buddsoddi, rwyf wedi cael cyfarfod rhagarweiniol gyda Simon Clarke. Mae e wedi ysgrifennu ataf i a'r Gweinidog Cyllid. Pan gwrddais ag e, fe wnes i ei gwneud hi'n glir bod Llywodraeth Cymru yn barod i siarad am beth mae parthau buddsoddi yn ei olygu. Ond, mewn gwirionedd, rydyn ni hefyd yn glir iawn na all olygu dirywiad safonau amgylcheddol neu waith teg, fel y gwnaethom ni ei nodi gyda phorthladdoedd rhydd. Os mai dyna maen nhw'n chwilio amdano, fyddwn ni ddim yn dod i gytundeb. Byddai angen i mi ddeall hefyd, os bydd newidiadau i drethi datganoledig, beth mae hynny'n ei olygu i'n sefyllfa gyllidol, o ystyried yr heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu. Felly, mae yna amrywiaeth o gwestiynau yr wyf eto i gael atebion iddyn nhw. Efallai y bydd modd i ni ddod i gytundeb. Efallai y bydd modd i ni fod â chynllun a fydd yn gyffredinol yn ychwanegu at dwf economaidd, nid ei ddadleoli. Ond os na chawn ni hynny, yna rwy'n barod i ddweud 'na' a pheidio â chytuno i gael parthau buddsoddi yng Nghymru. Felly, mae yna drafodaeth sy'n dechrau. Rwy'n gobeithio y bydd yn adeiladol ac fe welwn ar ba bwynt y bydd yn dod i gasgliad.  

Gweinidog, rwyf wedi cael cais munud olaf. Rwyf mewn hwyliau hael y prynhawn 'ma. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod hefyd yn gryno. Rhun ap Iorwerth.

Diolch am adael i mi sleifio i mewn, a diolch am y datganiad. Mi wnaf i'r achos, yn ogystal â lledaenu ffyniant drwy weithio rhanbarthol yn gyffredinol, rwy'n annog Llywodraethau ar bob lefel i feddwl yn is-ranbarthol; nid dim ond y gogledd, ond mae Ynys Môn yn teimlo ei fod yn cael cyfle, ac o fewn Ynys Môn, llefydd fel Amlwch, sydd wedi dioddef cymaint, yn teimlo eu bod nhw'n cael eu blaenoriaethu hefyd. 

Ond yn gyflym iawn, roeddwn i eisiau archwilio eich cyfeiriad at borthladdoedd rhydd. Rydych chi'n gwybod fy mod i bob amser wedi chwilio am onestrwydd, a gonestrwydd am yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn y lle cyntaf—£8 miliwn i Gymru, £25 i Loegr. Fe wnaethon ni ddal ein tir ac fe gawson ni hynny. Fe wnaethon ni ofyn am onestrwydd ynglŷn â sicrwydd ar hawliau gweithwyr ac ar reoliadau amgylcheddol. Ond mae yna gyd-destun ideolegol yma; llithrodd y mwgwd, oni wnaeth, gyda'r polisi economaidd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU—toriadau treth ar y brig ar draul pobl ar y gwaelod. Nawr, dyna'r cyd-destun y mae'r polisi porthladdoedd rhydd yn bodoli ynddo. Felly, wrth edrych ar sut y gallwn ni wneud y buddion mwyaf posibl o Ynys Môn—y cais a arweinir gan Gyngor Sir Ynys Môn—a cheisio ei wneud y cais gorau a ddaw o'ch blaen, mae angen inni sicrhau mai'r gweithwyr fydd yn elwa. Sut allwch chi roi sicrwydd ein bod yn delio yma mewn pobl, mewn cymunedau, ac nid dim ond mewn elw, mewn arwyddion punt na welwn ni fawr ddim ohonyn nhw yn lleol mae'n debyg? 

15:30

Bydd angen i'r gofynion ar gyfer porthladdoedd rhydd fod wedi'u cefnogi gan yr awdurdod lleol sy'n eu cynnal ac yn wir eu rhanbarth economaidd. Mae hynny'n rhan o'r amod ar gyfer y cynigion i gael eu cyflwyno. Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu hasesu gan y ddwy Lywodraeth, ac, fel rwyf wedi dweud, ac rwy'n fwy na pharod i ailadrodd eto, mae'n rhaid bod ag ymrwymiad i bob agwedd ar hynny. Mae hynny'n cynnwys agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru, mae'n cynnwys ein safonau amgylcheddol hefyd. A ni fydd cynigion nad ydynt yn bodloni'r prawf hwnnw yn llwyddiannus. A dydw i ddim yn datgelu gormod; dydw i ddim yn niweidio fy sefyllfa fel gwneuthurwr penderfyniadau oherwydd dyna sydd yn y prosbectws, ac mae'n golygu beth mae'n ei ddweud. Ac mae gen i ddiddordeb yn y ffordd yr ydym ni wedyn yn mesur, wrth i ni fynd ymlaen, a yw pobl yn gwneud yr hyn ddywedon nhw y bydden nhw'n ei wneud ar y cam cynnig, os a phan ddaw porthladd rhydd yn weithredol yma yng Nghymru, yn wir ble bynnag y gallai'r porthladd rhydd hwnnw fod. 

Rwy'n gwybod y bydd gan yr Aelod farn benodol am ble y dylai fod, ond nid wyf i eto wedi derbyn y cynnig. A phan ddaw yr adeg honno, mi fyddaf wrth gwrs yn dychwelyd i'r lle yma i esbonio nid yn unig y penderfyniad, ond byddaf yn fwy na pharod i ateb cwestiynau gan Aelodau. Rwy'n siŵr, er y gallai rhai fod yn bositif am ba bynnag benderfyniad a ddaw, y bydd eraill yn gofyn cwestiynau eraill. Rwy'n gobeithio, beth bynnag fydd yn digwydd, y cawn gynlluniau buddsoddi difrifol a fydd yn caniatáu inni edrych eto ar ddyfodol buddsoddiad mewn porthladdoedd a chreu twf a gweithgarwch economaidd ychwanegol gwirioneddol. 

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar adroddiad blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22. A galwaf ar Jeremy Miles. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Ar ddechrau'r chweched Senedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein rhaglen waith pum mlynedd ar gyfer gweithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod 2021-26. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, felly, yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y rhaglen honno ac ar ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Roedd y pandemig yn parhau i gael effaith ar ein ffordd o weithio yn ystod y cyfnod hwn. Er y bu llai o sôn am adael yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy o drafod effaith costau byw cynyddol arnom ni. Er gwaethaf pob newid, ein gwaith ni, doed a ddelo, yw ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg ac, yn bwysicach fyth, cynyddu'r defnydd dyddiol o'n hiaith ni.

Roedd hon yn flwyddyn brysur arall ym maes polisi iaith wrth i ni weithio ar draws y Llywodraeth a chydag amrywiol bartneriaid ar hyd a lled y wlad a thu hwnt. Ac mae heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gyfle i mi ddiolch i bawb a fu'n cydweithio â ni gydol y flwyddyn. Rhaid sôn am y partneriaid grant a fu wrthi'n ddiflino, ac yn llawn egni a chreadigrwydd, er mwyn ein cefnogi ni i wireddu 'Cymraeg 2050'. Yn dilyn cyfnod prysur o gynnig cyfleoedd i ni ddefnyddio'n Cymraeg o bell, mae pob un wedi bod yn gweithio i adfer ac ailadeiladu, ac wedi parhau i arloesi a chadw rhai o arferion gorau'r cyfnodau clo. Cewch fanylion lawer o'r gwaith yn yr adroddiad.

Nawr, dyma droi at rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn dan sylw. Fe wnaethom ni ymgynghori ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg—cynllun uchelgeisiol sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth gyfan, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â pholisïau newydd eraill ym maes cynllunio a threthi.

Yr wythnos nesaf, byddaf i'n lansio'r cynllun terfynol, a byddaf i'n rhannu'r manylion gyda chi bryd hynny. Ond teg dweud ei fod e'n gynllun arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i gymunedau, ac, yn wir, i'n hiaith ni, ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y comisiwn cymunedau Cymraeg newydd yn ein herio ni wrth i ni weithredu'r cynllun ac yn ein cefnogi er budd yr ardaloedd hynny sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg.

Daeth y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd newydd i rym yn ddiweddar. Dirprwy Lywydd, nid ar chwarae bach y digwyddodd hyn. Bu cryn baratoi yn ystod y flwyddyn adrodd wrth i ni gynnal sesiynau i gefnogi awdurdodau lleol, i gydweithio â nhw i fireinio eu cynlluniau drafft, a chyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dim ond y cam cyntaf yw cyhoeddi'r cynlluniau; byddwn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn eu cefnogi nhw i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein bwriad i gynnig arian o'r newydd er mwyn gallu, yn gyntaf, cynnig gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25 oed ac i'r gweithlu addysg, er mwyn rhoi ail gyfle i bobl. Bydd rhai yn dysgu o'r newydd ac eraill yn magu hyder yn eu Cymraeg. Gwnaed hyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio, a bydd pob un yn cyfrannu at y miliwn ac at ddyblu defnydd iaith. Yn ail, cafodd cyllid ei neilltuo i ehangu darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn adrodd ac wedi hynny. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gymaint mwy o blant ddod yn rhan o'n system addysg Gymraeg ni.

Fe wnes i gyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg fis Mai eleni, a bu gwaith paratoi manwl gydol y flwyddyn adrodd. Mae hwn yn faes anodd, heriol. Mae'r cynllun, felly, yn galw am weithredu radical ac arloesol gan nifer ohonom ni. Tua diwedd y cyfnod adrodd, fe wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant, o'r enw Adnodd. Bydd y cwmni'n gweithio i sicrhau bod digon o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi'r cwricwlwm newydd.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaed gwaith manwl i baratoi safonau ar gyfer rheoleiddwyr y sector iechyd. Canlyniad hyn oedd cyflwyno'r rheoliadau gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf eleni er mwyn iddyn nhw ddod i rym ar ddiwedd mis Hydref. Fe fues i hefyd yn trafod y Gymraeg ar lefel y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gyda chyd-Weinidogion, a hefyd gydag arweinwyr yr aelod-wladwriaethau mewn uwch-gynhadledd yn Sain Ffagan. Roedd clywed penaethiaid gwlad yn trafod y Gymraeg, ac yn wir yn defnyddio'r Gymraeg a'u hieithoedd nhw ar y lefel uchaf bosib, yn bwysig ac yn bleser.

Ym mis Chwefror, ar Ynys Môn, fe wnes i draddodi 'Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd', lle bues i'n gosod fy ngweledigaeth ar gyfer y Gymraeg i nodi 60 mlynedd ers darlith 'Tynged yr Iaith', Saunders Lewis, yn 1962. Dyma flas ar y prif negeseuon. Dwi am i ni gofio bod y Gymraeg, a'r cyfrifoldeb dros weithredu er mwyn ei gwarchod, yn perthyn i ni i gyd. Mae gan bawb ei rôl, waeth ble maen nhw'n byw na faint o Gymraeg sydd ganddyn nhw. Dwi am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith hefyd. Mae ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog yn un ffordd o wneud hyn. A byddwn ni fel Llywodraeth gyfan yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng ngwaith pob tîm ac adran ar draws y sefydliad, bob tro. Dwi wedi sefydlu cyfres o gyfarfodydd Cabinet tymhorol ar hyd oes y Senedd hon i drafod gyda fy nghyd-Weinidogion beth mwy y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at 'Cymraeg 2050' yn eu meysydd polisi nhw.

Ddirprwy Lywydd, gan edrych tua'r dyfodol, rŷn ni'n aros i glywed canlyniadau cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg—cyn y Nadolig, gobeithio. Byddwn ni'n craffu ar y canlyniadau cyn bwrw ati i adolygu'n cynlluniau a'r taflwybr tuag at y miliwn, yn ôl y galw. Dwi wedi sôn am yr heriau byd-eang sy'n effeithio ar Gymru yn gynharach, felly nawr, yn fwy nag erioed, dwi'n galw ar bobl i dynnu ynghyd. Rhaid i ni gydweithio, cynnig help llaw pan ddaw heriau a chyfleoedd, a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rhaid inni estyn croeso, Ddirprwy Lywydd, i bawb o bob cefndir ddod gyda ni ar y daith tua'r miliwn. Yn bwysicach na dim, rhaid inni gofio bod gan bob un ohonom ni'r cyfrifoldeb a'r gallu—yn unigolion ac yn sefydliadau—i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

15:40

Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ei adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ac hefyd y datganiad y prynhawn yma.

O'r dechrau, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy mhryderon am atebolrwydd y rhaglen hon. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, mae'n bosibl na fydd ef na minnau yn y Siambr hon ymhen 28 mlynedd, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: pwy fydd yn atebol os na fydd y targed uchelgeisiol hwn yn cael ei gyrraedd? Wedi dweud hynny, mae'r camau sydd wedi eu cymryd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn adlewyrchu'r uchelgais a'r bwriad sydd ei angen arnom i gyrraedd y targed pwysig hwnnw.

Rwy'n ymwybodol ein bod yn dal i aros am gyhoeddi data cyfrifiad 2021—cyn y Nadolig, dwi'n credu—ond heb neidio o flaen hynny, hoffwn glywed, ac mae gen i ddiddordeb gwybod, os yw'r Gweinidog yn gwybod mwy am y cyfanswm o siaradwyr Cymraeg ym yng Nghymru. Yn ganolog i hybu niferoedd, wrth gwrs, mae addysg Gymraeg, yn benodol o oedran cynnar. Er gwaethaf y cynnydd yn y cyfleoedd i'r Mudiad Meithrin, rwy'n pryderu bod nifer y plant sydd yn mynd i gylch meithrin yn parhau i fod yn llawer is na'r lefelau cyn y pandemig. O ystyried hyn, pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod presenoldeb yn uwch yn erbyn yr adroddiad nesaf?

Yn olaf, mae addysgu dosbarthiadau Mudiad Meithrin— addysg Gymraeg yn gyffredinol—wrth gwrs yn holl bwysig i lwyddiant eich rhaglen 'Cymraeg 2050'. A allwch amlinellu pa gamau a gymerir i recriwtio mwy o athrawon sy'n gallu addysgu'n rhugl yn y Gymraeg, ac a yw'r niferoedd hyn wedi cynyddu ers lansio rhaglen 'Cymraeg 2050'? Beth yw'r KPIs a thargedau i sicrhau bod gennym ddigon o athrawon yn gallu addysgu yn yr iaith Gymraeg i gyflawni'r galw y bydd rhaglen y Llywodraeth, gobeithio, yn ei greu? Os ydym am wireddu'r polisi hwn, yna mae'n rhaid i 'Cymraeg 2050' fod yn rhan o raglen ehangach sydd nid yn unig yn cryfhau ein hunaniaeth yma yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ymgorffori ein lle unigryw o fewn y Deyrnas Unedig.

Ac rŷch chi'n iawn, Weinidog; mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, beth bynnag eich cefndir, eich hunaniaeth neu eich gwleidyddiaeth, mae ganddi'r gallu i'n clymu ni gyda'n gilydd, gan sicrhau bod ein diwylliant, ein cymunedau a'n traddodiadau yn gallu tyfu a ffynnu. Felly, mae dyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr yma i sicrhau bod gan y rhaglen hon bob cyfle o fod yn llwyddiannus. Diolch.

Diolch i Sam Kurtz am ei gwestiynau. Gaf i ategu ac uniaethu fy hun gyda'r sylwad olaf yn ei gyfraniad ef yn fanna? Mae gan bawb gyfle ond hefyd cyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas dros yr iaith ac mae gennym ni gynllun yn fan hyn sydd yn gosod y seiliau ar gyfer hynny.

Fe wnaeth e agor ei gyfraniad drwy ofyn am atebolrwydd. Doeddwn i ddim cweit yn gwybod os oedd e'n datgan ei gobaith y byddwn i'n Weinidog y Gymraeg yn 2050—doeddwn i ddim cweit yn gwybod os dyna beth yr oedd yn ei ofyn. Ond ar y thema honno, mae lot o gyfleoedd o ran—. Mae'r profiad hwn yn un o'r ffyrdd rŷn ni'n atebol am gynnydd yn y maes polisi hwn. Mae ffigurau yn cael eu cyhoeddi yn gyson am ble ŷm ni o ran defnydd yr iaith. Wrth gwrs, gan ein bod ni wedi dewis y cyfrifiad fel y ffordd o fesur cynnydd yn siaradwyr yr iaith, mae hynny wrth gwrs yn digwydd bob 10 mlynedd, ond byddwn ni'n gweld yn hwyrach eleni beth yw'r ffigurau. 

Ac o fewn cynllun ehangach 2050, roedd e'n sôn yn ei gyfraniad pa mor bwysig mae gweld y rhaglen hon fel rhan o'r ystod ehangach o raglenni sy'n ymwneud â ffyniant yr iaith. Ym mhob un o'r rheini, mae meini prawf er mwyn ein bod ni fel Gweinidogion, fel Senedd ac fel cenedl ehangach yn gweld lle rŷn ni ar y llwybr. Er enghraifft, fe wnaeth e ofyn cwestiwn ynglŷn â lle rŷn ni o ran recriwtio. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd. Rydyn ni wedi cyhoeddi beth rŷn ni'n darogan sydd ei angen o ran nifer athrawon ac rŷn ni'n cyhoeddi hefyd faint o athrawon sy'n cymhwyso, felly mae'r ffigurau hynny'n gyhoeddus ac ar gael i bobl fel ein bod ni'n atebol am hynny. Ond byddaf hefyd yn datgan bob dwy flynedd, o fewn y cynllun 10 mlynedd, ddiweddariad ar le rŷn ni o ran beth yw impact y cynllun penodol hwnnw, a gobeithiaf wneud hynny ar lefel llywodraeth leol fel ein bod ni'n gweld dosbarthiad y cynnydd, gobeithio, yn yr hyn rŷn ni'n gallu recriwtio trwy'r cynllun hwnnw. Felly, rwy'n cytuno gyda fe; mae wir yn bwysig sicrhau bod cyfleoedd i fod yn atebol, ac rwy'n sicr bod y cyfleoedd hynny'n bodoli. 

O ran y buddsoddiad mewn blynyddoedd cynnar, rwy'n cytuno gyda fe ei bod hi'n bwysig inni sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cymryd y cyfle i gael addysg blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Rŷn ni wedi cyrraedd y targed o sefydlu 40 o grwpiau newydd yn ystod tair blynedd gyntaf rhaglen Sefydlu a Symud, a hynny er gwaethaf impact COVID. Cafodd 12 darpariaeth newydd eu sefydlu yn ystod 2021-22 fel rhan o'r targed ehangach o 60 darpariaeth yn ystod y tymor Seneddol hwn. Felly, rŷn ni ar drac i sicrhau ein bod ni'n ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar hefyd.  

15:45

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Hoffwn ategu hefyd eich diolch chi i bawb sydd ynghlwm efo'r ystadegau o fewn yr adroddiad yma. Mae'n dangos ôl partneriaeth ledled Cymru, ac mae hynny i'w ymfalchïo ynddo. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gallu cytuno hefyd bod gan Gymru hanes hir a balch a bod ein hiaith yn ffynnu heddiw, a'i bod yn rhan ganolog o’n hunaniaeth ac wedi goroesi er gwaethaf y rhwystrau sydd wedi ei hwynebu dros y canrifoedd. Mae’r iaith, ac mi ydyn ni, 'yma o hyd', chwedl Dafydd Iwan, ac, fel rydych chi wedi dweud eisoes, mae’r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, p’un ai a ydyn nhw yn ei siarad neu beidio. 

Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, i'w dathlu yn yr adroddiad. Mae nifer yr unigolion sy’n parhau i ddysgu Cymraeg tu hwnt i lefel mynediad yn codi; mae’r rhaglen Cymraeg i Blant a’r Mudiad Meithrin yn ehangu. Mae'n wych gweld bod mwy o bobl yn dysgu Cymraeg ac yn chwilio am gyfleoedd i'w defnyddio. Mae dyfodol yr iaith yn obeithiol, er, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, mae yna heriau mawr yn parhau os ydym am wireddu’r targed o filiwn o siaradwyr a chynyddu defnydd bob dydd. 

Fel y gwnaethoch hefyd sôn yn y datganiad, mae’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau o ran y Gymraeg er mwyn cryfhau ein hiaith a’n diwylliant, ac yn benodol mynediad at a defnydd o'r iaith. A dyma’r adroddiad cyntaf, wrth gwrs, i gynnwys cyfeiriad at y cytundeb a nodi cynnydd cychwynnol. Drwy’r ffaith ein bod ni'n cydweithio, dwi'n gobeithio ein bod ni'n medru gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig am fywyd y cytundeb a thu hwnt, gan greu amodau ffafriol i'r iaith. Yn bellach, mae gwaith ar y gweill i gryfhau safonau’r Gymraeg, sydd mor bwysig, a bwysicach fyth, wrth gwrs, yw Bil addysg y Gymraeg—Bil fydd yn penderfynu dyfodol yr iaith am genedlaethau i ddod.  

Fel sy’n amlwg yn yr adroddiad hefyd, os ydym am wireddu’r weledigaeth o ran y Gymraeg, mae gan bob adran o’r Llywodraeth gyfraniad pwysig i'w wneud, ynghyd ag unigolion a sefydliadau ledled Cymru. Ac rydych yn nodi yn eich datganiad eich bod am weld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith. Rhanddeiliad pwysig, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei grybwyll, ydy arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru, a rhaid cyfaddef, er gwaethaf y ffaith bod peth cynnydd i'w weld yn y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae rhai cynghorau yn parhau i fod, yn fy marn i, â diffyg uchelgais neu gamau gweithredu pendant o ran sut maen nhw’n mynd i chwarae eu rhan. Mae hyn yn arbennig o wir mewn rhai ardaloedd lle rydym yn parhau i weld cynlluniau ar waith ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion Saesneg, gan ddiystyru ceisiadau lleol i gyflwyno ffrwd Gymraeg yn yr ysgolion newydd hyn. Byddwch yn ymwybodol o enghraifft arfaethedig o hyn yn fy rhanbarth, lle mae dal pwyslais ar ateb y galw yn hytrach na chreu neu gefnogi’r galw. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr am ddiweddariad gennych chi a’r aelodau dynodedig o Blaid Cymru wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar y Bil addysg y Gymraeg. Rhan greiddiol o hyn, wrth gwrs, bydd defnydd y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a symud yr ysgolion hyn ar y continwwm iaith. Ac mi fydd y degawd nesaf yn hanfodol os ydym am wireddu hyn. 

Hoffwn eich holi am ddwy elfen benodol, os gwelwch yn dda: yn gyntaf, trochi hwyr. Mae’r cynnydd heb os i'w groesawu a da gweld y bydd buddsoddiad pellach. Mae’r pwyslais yn yr adroddiad o ran trochi hwyr neu drochi i hwyrddyfodiaid, ond un peth sydd wedi ei godi gyda mi yw’r angen am lefydd ar gyfer trochi ar gyfer plant sydd efallai ar ei hôl hi o ran y Gymraeg yn sgil COVID, ac sydd ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 erbyn hyn gyda’u rhieni unai wedi—neu yn ddwys ystyried—eu symud i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan ofni nad yw eu plant yn cyflawni fel y dylent. Oes trochi ar gael iddyn nhw, ac yw hyn yn cael ei gynnig ledled Cymru os yw rhieni neu ofalwyr yn gwneud cais i symud eu plant o addysg Gymraeg i addysg Saesneg? Ac oes gwaith yn cael ei wneud i ddeall pam bod newid yn digwydd ac os yw diffyg darpariaeth o ran trochi neu wrth gwrs anghenion dysgu ychwanegol yn ffactor? 

Croesawaf hefyd yn yr adroddiad y pwyslais ar bwysigrwydd addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Heb os, mae ehangu defnydd y Gymraeg yn y sector hwn yn hanfodol. Rydych yn cyfeirio at gyllideb o ran prentisiaethau Cymraeg yn yr adroddiad, neu rai dwyieithog. Gaf i ofyn pa ganran o’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau yw hyn, os gwelwch yn dda, Weinidog, ac oes bwriad cynyddu’r buddsoddiad hwnnw?

Fel chithau, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at ganlyniadau’r cyfrifiad, er hefyd fy mod yn betrusgar. Beth sy’n glir o’r adroddiad hwn yw ein bod ni'n dal heb ddeall llawn effaith COVID chwaith ar y Gymraeg, boed yn gadarnhaol neu ddim, na chwaith beth fydd effaith yr argyfwng costau byw o ran mynediad cydradd i'r Gymraeg. Yr hyn y gallaf warantu ichi, Weinidog, yw ein bod ni fel Plaid yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif o ran yr iaith, a’r targed o filiwn o siaradwyr, ac yn barod iawn i barhau i gydweithio â chi ar hyn.

15:50

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r croeso mae hi wedi ei ddatgan i'r datganiad heddiw, ac i'r adroddiad ar gyfer y flwyddyn adrodd gyntaf.

O ran y cynlluniau strategol, byddwn i'n dweud, a dweud y gwir, fod llawer o uchelgais wedi cael ei ddangos gan bob un awdurdod, a dweud y gwir, felly dwi ddim yn cytuno gyda'r disgrifiad wnaeth hi ddefnyddio yn ei chwestiwn fod diffyg uchelgais wedi bod. Ond mae hefyd yn gwbl sicr nid dim ond uchelgais o ran datganiad a'r cynllun sydd ei angen; mae angen uchelgais o ran gwireddu hynny hefyd, fel ein bod ni'n gweld y cynnydd yn digwydd ar lawr gwlad, nid jest yn unig o ran uchelgais. Felly, mae hynny'n sicr yn wir. Mae gyda fi fwriad dros yr wythnosau nesaf i gael cyfarfodydd gyda phob arweinydd yng Nghymru ac aelodau cabinet dros addysg a'r Gymraeg i sicrhau ein bod ni'n deall beth sydd yn digwydd o ran gwireddu'r cynlluniau sydd gyda nhw, a fy mod i'n cael cyfle fel Gweinidog i ddatgan beth yw fy nisgwyliadau i o fewn y cynllun sydd wedi cael ei gytuno. Yn sicr, bydd y trafodaethau hynny yn rhai adeiladol a phositif.

O ran buddsoddiad yn yr ystâd Gymraeg, dwi eisoes wedi dweud yn y Siambr hon fy mod i'n disgwyl gweld cynnydd o ran cynlluniau strategol ar y cyd gyda'r cynllun buddsoddi ehangach mewn ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru, ac felly bydd hwnna'n un o'r meini prawf byddaf i'n eu defnyddio fel Gweinidog i sicrhau bod ni'n cymeradwyo'r cynlluniau hynny sydd yn cymryd llawn ystyriaeth o gyfrifoldebau ac ymrwymiadau cynghorau lleol o fewn y cynlluniau strategol yn addysg Gymraeg. Mae e'n bwysig bod pob un ohonom ni, ond ein partneriaid ni mewn llywodraeth leol hefyd, yn hyrwyddo manteision addysg Gymraeg—nid jest ateb y galw, ond helpu i greu'r galw ar gyfer addysg Gymraeg hefyd.

Mae llawer o'r ffocws o ran y cynlluniau strategol wedi bod ar nifer yr ysgolion Cymraeg newydd gaiff eu hagor dros y ddegawd, ond mae llawer hefyd o ysgolion yn sôn eu bod nhw'n bwriadu symud ar hyd y continwwm ieithyddol o ran categoreiddio, felly mae hynny hefyd yn bwysig, fel roedd yr Aelod yn cydnabod yn ei chwestiwn hi.

O ran y pwyntiau penodol, gwnaeth hi sôn am drochi. Mae pob un awdurdod yng Nghymru wedi cynnig am gyllideb trochi. Mae £2.2 miliwn eisoes wedi ei ddyrannu ac mae £6.6 miliwn yn ychwanegol wedi ei ymrwymo tan ddiwedd tymor y Senedd hon. Mae pob un awdurdod wedi danfon cais. Wrth gwrs, fel byddech chi'n disgwyl, mae hynny'n edrych yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae pob awdurdod mewn man gwahanol ar eu llwybr tuag at drochi, ond rwy'n rhannu gyda hi fy nghefnogaeth o ddull trochi dysgwyr yma yng Nghymru. Mae'n ffordd unigryw i ni yma yng Nghymru o wneud yr hyn rŷn ni'n ei wneud. Mae'n rhywbeth i ni ei ddathlu. Mae hefyd yn sicr yn wir fod gan amryw o lefydd yng Nghymru le i ddysgu wrth ardaloedd eraill sydd efallai wedi bod yn paratoi a darparu trochi ers cyfnodau hirach. Felly, rwy'n ffyddiog bydd awdurdodau lleol yn moyn manteisio ar y cyfle i wneud hynny, a hefyd gwnes i gytuno gyda hi mor bwysig yw buddsoddi mewn cyfleoedd Cymraeg ôl-16. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'r ddeddfwriaeth a wnaethom ni ei phasio fel Senedd ar ddiwedd tymor yr haf a hefyd yn rhan bwysig o'r cytundeb cydweithio, gan gynnwys y buddsoddiad pellach yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn gwneud llawer o waith da ym maes ôl-16, gan gynnwys prentisiaethau.

15:55

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma, a diolch hefyd i'r Gweinidog am ei arweinyddiaeth yn y maes polisi yma. Rôn i wedi treulio rhywfaint o amser yn yr Eisteddfod dros yr haf ac rôn i'n impressed iawn gyda'r ffordd roeddech chi'n arwain y drafodaeth a hefyd y tôn dŷch chi wedi ei gymryd wrth y llyw fan hyn. Ambell i waith, mae tôn y drafodaeth yn gallu bod yr un mor bwysig â'r polisïau dŷch chi wedi bod yn arwain arnyn nhw. Felly, dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig.

Mae wedi bod rhyw dipyn o drafodaeth y prynhawn yma ynglŷn â'r cyfrifiad, a dwi'n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau fel y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Beth dŷch chi'n disgwyl ei weld pan fydd e'n cael ei gyhoeddi? Beth yw eich disgwyliadau chi?

Yr ail gwestiwn sydd gen i yw ynglŷn â'r pwyslais rhwng rheoleiddio a hyrwyddo'r Gymraeg. Mi ydych chi'n gwybod fy mod i'n meddwl bod y safonau sydd gyda ni yn adlewyrchu gormod o fiwrocratiaeth a bod yr iaith ambell i waith yn cael ei defnyddio fel rhywbeth dŷn ni'n rheoleiddio yn lle rhywbeth dŷn ni'n siarad a defnyddio. I fi y peth pwysig i ni ei wneud yw hyrwyddo'r Gymraeg. Sut ydych chi'n gweld y cydbwysedd, felly, a sut ydych chi'n bwriadu hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn lle mynnu does yna ddim defnydd o'r Gymraeg trwy ormod o fiwrocratiaeth?

Diolch i Alun Davies am y cwestiynau hynny ac am ei gyfraniad e at yr hyn rŷn ni'n ei drafod heddiw. Fydden ni ddim yn cael y drafodaeth hon oni bai am y gwaith wnaeth e pan oedd e'n Weinidog y Gymraeg. O ran disgwyliadau ar gyfer canlyniadau'r cyfrifiad, rhaid inni aros, wrth gwrs, i weld beth fydd y canlyniadau. Mae ychydig yn gynnar inni ragdybio beth fyddan nhw un ffordd neu'r llall. Byddwn i'n disgwyl, gobeithio, gweld hyn cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yn rhaid asesu gyda gofal a phwyll.

Mae'n bum mlynedd ers i'r strategaeth newydd fod yn ei lle, fel mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gwybod, sef hanner y cyfnod ers y cyfrifiad diwethaf cyn hwn. Am hanner y cyfnod mae'r strategaeth wedi bod yn ei lle, rŷn ni wedi bod yn byw dan amgylchiadau COVID, felly dyna'r cyd-destun o ran impact polisi ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld yn yr wythnosau sydd i ddod. Ond, o ganlyniadau'r cyfrifiad rŷn ni eisoes wedi eu gweld wedi eu cyhoeddi, rŷn ni wedi gweld bod lleihad wedi bod ym mhoblogaeth y rhannau o Gymru sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg—Gwynedd a Cheredigion, er enghraifft—ac, yn amlwg, byddwn i'n disgwyl bod hynny'n cael impact ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld cyn diwedd y flwyddyn—gobeithio taw dyna pryd y cân nhw eu cyhoeddi. 

Beth gallaf i ei ddweud yn gwbl glir yw rŷm ni wedi ymrwymo yn llwyr i'r strategaeth ac i sicrhau nid jest ein bod ni'n cynyddu’r nifer sy'n gallu medru'r Gymraeg, ond defnydd y Gymraeg hefyd.

O ran y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, mae'n sicr yn wir wnawn ni ddim rheoleiddio'n ffordd at ffyniant y Gymraeg. Mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng y ddau. Mae gan safonau rôl i chwarae ond mae rhan bwysig iawn gan hyrwyddo'r Gymraeg, a'i gwneud yn hawdd i bobl gael mynediad at y Gymraeg a chael cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Diolch iddo fe am gydnabod yr hyn roedd e'n sôn amdano o ran tôn. Dwi'n gwbl glir wnawn ni ddim llwyddo yn yr uchelgais sydd gennym ni os yw'r Gymraeg yn destun dadl a chynnen rhwng pobl. Mae pawb yn y Siambr hon yn ymrwymedig i'r syniad bod y Gymraeg yn berthyn i bawb, ac mae hynny wir yn bwysig. Dyna'r feddylfryd sy'n sicrhau, pa bynnag faint o Gymraeg sydd gennych chi, defnyddiwch hi cymaint ag y gallwch chi mor aml ag y gallwch chi. Ac mae hynny'n creu cyd-destun sydd yn annog pobl eraill i ddysgu ac, yn bwysig, yn annog pobl eraill i'w defnyddio.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n cytuno gyda fy ffrind Alun Davies ar y pwynt am y tôn ac ar y neges hefyd. Weinidog, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw ac ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i greu iaith fyw yng Nghymru sy'n rhan o fywyd bob dydd—yn ein gwaith, yn ein horiau hamdden ac o'n cwmpas ym mhob man. Rhan o'r prawf o lwyddiant yn y maes hwn fydd helpu mwy a mwy o ddisgyblion yng Nghymru i gael mynediad at addysg Gymraeg fel dewis naturiol a hwylus. Yn Ogwr, sydd â dau gyngor lleol, bydd angen mwy a mwy o gydweithio trawsffiniol ynghylch teithio i'r ysgol, cydweithio ar leoliadau ysgolion uwchradd a sicrhau bod ein hysgolion Cymraeg mor fodern ac mor rhagorol ag unrhyw ysgol arall, a hynny fel rhan o raglen twenty-first century schools. Felly, Weinidog, a gaf i ofyn: sut y gallwch chi helpu cynghorau lleol i gydweithio'n well gyda'i gilydd fel y gallwn sicrhau bod addysg Gymraeg yn ymestyn yn ddyfnach ac yn ddyfnach i'n holl gymunedau?

16:00

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw ac am yr esiampl mae e'n dangos i ddysgwyr y Gymraeg hefyd wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr heddiw, fel mae e wedi'i wneud. Mae'r pwynt mae'n ei wneud yn bwynt pwysig iawn o'r angen i gydweithio yn rhanbarthol er mwyn sicrhau ffyniant y cynlluniau strategol. Mae enghraifft, er enghraifft, ym Merthyr, lle mae Merthyr a'r cynghorau cyfagos yn cydweithio o ran feasibility ar gyfer ysgol uwchradd, felly mae enghreifftiau eisoes yn y cynlluniau strategol.

Mae'r pwynt wnaeth e ddweud am drafnidiaeth yn bwysig iawn rwy'n credu, oherwydd, mewn lot o lefydd yng Nghymru, dyw'r ysgol Gymraeg agosaf ddim yn y sir rydych chi'n byw ynddi—mae'n digwydd. Es i ysgol Ystalyfera ac roedd lot o blant o Gwmtwrch yn dod, o Bowys, dros y ffin, achos mai dyna oedd yr ysgol, ac mae'n rhaid sicrhau nad ŷn nhw'n cael eu hamddifadu o'r cyfle i gael addysg Gymraeg oherwydd y ffiniau hynny sy'n bodoli. Felly, byddaf i eisiau trafod gydag arweinwyr yn ystod yr wythnosau nesaf lle mae'r enghreifftiau hynny. Maen nhw yn enghreifftiau penodol. Rŷn ni'n gwybod lle mae'n digwydd. Dyw e ddim yn digwydd ym mhob man. Mae'n benodol i gymunedau mewn rhannau o Gymru. Dwi eisiau trafod gyda nhw beth mwy allwn ni ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn y cymunedau hynny—bod hawl hafal gan bobl i fynd i addysg Gymraeg lle bynnag maen nhw'n byw.

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yn y Gogledd-orllewin

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar dreftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 16:02:40
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, ymunodd Aelodau'r Senedd â chymunedau ar draws y gogledd-orllewin i ddathlu arysgrif tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru, ar restr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO. Llwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ein rhaglen yn llwyddiannus ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi'r arysgrif  safle treftadaeth y byd tirwedd llechi. Roedd yn foment o ddathlu a oedd yn nodi penllanw blynyddoedd lawer o waith caled gan bartneriaeth dan arweiniad Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Llywodraeth Cymru.

Mae'r bartneriaeth honno'n nodedig am ei ystod. Mae'n cynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â dau gorff treftadaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru—sef Amgueddfa Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru—ochr yn ochr â chynrychiolwyr o ddiwydiant a'r sector preifat, gan gynnwys perchnogion chwareli, gweithredwyr twristiaeth ac, wrth gwrs, grwpiau cymunedol lleol.

Mae arysgrif yn gyflawniad sy'n nodi dechrau her newydd: rheoli a gofalu am safle treftadaeth y byd ar ran cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae blwyddyn yn ddiweddarach yn amser da i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni a'r hyn mae treftadaeth y byd yn ei olygu i Gymru. 

Mae hi'n 50 mlynedd ers i UNESCO sefydlu confensiwn safle treftadaeth y byd, sy'n cydnabod bod ambell i dreftadaeth mor bwysig nes ei bod yn pontio ffiniau cenedlaethol i siarad â'r ddynoliaeth gyfan. Mae'r adeiladau, henebion a'r tirweddau hyn yn dweud rhywbeth sylfaenol amdanom ni, ynglŷn ag o le yr ydym ni'n dod a'r byd yr ydym ni'n byw ynddo. Mae dros 190 o wledydd wedi cymeradwyo'r confensiwn, yn cynnwys mwy na 1,000 o safleoedd ac mae miliynau o bobl yn ei gydnabod. Mae gwarchod, cadw a diogelu ein safleoedd treftadaeth y byd, a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, yn ddyletswydd bwysig i gymdeithas heddiw.

Rydym ni'n falch o fod yn gyfrifol am bedwar safle treftadaeth y byd yng Nghymru, gyda dau yn y gogledd-orllewin: y dirwedd lechi a chestyll Edward I. Mae tri o'r safleoedd hynny'n cydnabod ein swyddogaeth ganolog yn y chwyldro diwydiannol, cyfnod pan brofodd ein gwlad gyfnod digynsail o drawsnewid gyda'n haearn, dur a llechi, yn ogystal â'n harbenigedd mwyngloddio a pheirianneg, yn cyfrannu at adeiladu dinasoedd a threfi ledled y byd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:05

Heddiw, mae treftadaeth y byd yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi dwristiaeth, gan ddenu miloedd o ymwelwyr yma bob blwyddyn. Ond ni ddylem anwybyddu ei fuddion ehangach; yn benodol, balchder cymunedol, llesiant ac ymdeimlad o le.

Roedd yr enwebiad tirwedd llechi yn nodedig am gynnwys y gymuned. Fe wnaeth y prosiect LleCHI, a ariannwyd gan Dreftadaeth y Loteri, gefnogi pobl ifanc o'r rhanbarth i chwarae rhan flaenllaw wrth ymchwilio a dehongli eu treftadaeth a chymryd rhan yn yr asesiad arysgrif ffurfiol. Mae'r cyfranogiad hwnnw'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

Felly, beth sydd wedi digwydd ers yr arysgrif? Wel, yn gyntaf, mae'r cynllun rheoli partneriaeth yn cael ei roi ar waith. Mae'r ddau awdurdod cynllunio lleol wedi mabwysiadu canllawiau cynllunio atodol ac wedi cyhoeddi canllawiau arddull cymunedol yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynorthwyo trigolion, datblygwyr a'r diwydiant adeiladu i chwarae eu rhannau wrth reoli eiddo hanesyddol yn gynaliadwy o fewn y safle.

Mae partneriaid yn parhau i chwarae rhan weithredol. Mae gwaith dynodi Cadw bron wedi gorffen, a'i bwyslais bellach wedi troi at gadwraeth. Mae grantiau Cadw yn cefnogi gwaith yn y tŷ injan yn chwarel Dorothea, a'r llynedd cyhoeddodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol grant gwerth £3.1 miliwn i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, un o'r partneriaid craidd sydd yn y safle, i adfer ei adeiladau yn Boston Lodge.

Cyfrifoldeb pwysig i reolwyr treftadaeth y byd yw trosglwyddo gwerthoedd y safleoedd trwy addysg a dehongli, ac yma hefyd gwnaed cynnydd da. Mae grant o £150,000 gan Lywodraeth Cymru wedi ariannu arwyddion a deunydd dehongli unedig ar draws y safle treftadaeth y byd. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun ymgysylltu cymunedol, dehongli a rheoli ymwelwyr cynhwysfawr, wedi’i gefnogi gan £128,000 o arian datblygu gan y Loteri Genedlaethol. Ochr yn ochr â hyn, mae Amgueddfa Cymru yn datblygu cynigion ar gyfer ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, gydag amgueddfa gogledd Cymru yn ffurfio rhan o hyn.

Dechreuais drwy ein hatgoffa bod yna ddau safle treftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin. Cestyll a muriau trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd oedd y safleoedd treftadaeth y byd cyntaf i gael eu harysgrifio yng Nghymru ac maen nhw'n ddarluniad diddorol o amcanion ehangach treftadaeth y byd, nad ydyn nhw, fel mae rhai pobl yn tybio, yn syml i ddathlu treftadaeth, ond yn hytrach i gydnabod safleoedd o bwys hanesyddol ac i ddarparu cyfleoedd i ddysgu ohonyn nhw.

Mae hanesion cymhleth i'r pedwar castell sy'n rhan o safle treftadaeth y byd sy'n codi cwestiynau pwysig am ddigwyddiadau a luniodd ein cenedl. Cestyll Seisnig oedd y rhain yn wreiddiol, a adeiladwyd gan Edward I i reoli pobl oedd wedi’u llorio yn sgil colli eu tywysog, Llywelyn ap Gruffudd, ac yn anorfod maen nhw'n codi llawer o emosiynau pwerus. Mae'r cyfeddiannu canoloesol hwnnw wedi atseinio ers canrifoedd ac mae'n bwysig bod y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn cyflwyno’r cestyll hyn, yn arbennig castell Caernarfon, yn cydnabod pob agwedd ar yr hanes hwnnw a beth mae'n ei olygu i bobl heddiw.

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn ymweld â Chaernarfon i agor prosiect newydd Porthdy’r Brenin y mae Cadw wedi'i gyflawni. Mae hwn yn fuddsoddiad o £5 miliwn a fydd yn galluogi ymwelwyr i brofi ystafelloedd o fewn y castell na fu modd eu cyrraedd ers canrifoedd ac i gael mynediad i lawr uchaf y porthdy drwy ddefnyddio lifft. Am y tro cyntaf, bydd pob ymwelydd yn cael mynediad i'r neuadd ganoloesol ar y lefel uchaf, a gynlluniwyd, ond na chafodd ei chwblhau erioed. Ochr yn ochr â hyn mae dehongliad newydd sy'n adlewyrchu hanes heriol y castell yn onest, gan ddefnyddio cyfuniad o naratif a cherfluniau i helpu ymwelwyr i ystyried ei swyddogaeth yn y gorffennol a heddiw. Yn ogystal â bodloni ein rhwymedigaeth i warchod ein treftadaeth y byd, bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi'r rhanbarth.

Rwy'n gorffen trwy gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl sefydliadau, unigolion a chymunedau sy'n rheoli ein safleoedd treftadaeth y byd ar ein rhan ni i gyd. Drwy eu hymdrechion nhw rydym ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau o dan y confensiwn i ofalu am y safleoedd hyn ar ran cenedlaethau'r dyfodol, yma yng Nghymru ac ar draws y byd. 

16:10

Allaf i ddiolch i’r Dirprwy Weinidog am ei datganiad? Rydyn ni i gyd yn gwybod am bwysigrwydd a natur hanesyddol ein safleoedd treftadaeth ar draws gogledd-orllewin Cymru. O’r pedwar safle treftadaeth y byd yng Nghymru, mae dau ohonyn nhw wedi cael eu lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Rydw i a fy mhlaid i yn falch o hanes diwylliannol cyfoethog Cymru.

Y ddau safle treftadaeth y byd sydd wedi eu lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru, fel eich bod chi wedi dweud, yw tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru a chestyll a muriau trefi Edward I. Gall ymwelwyr a phobl leol sydd yn dod i’r ardaloedd ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 50 yn ôl ym mis Mai, yn chwarel Dinorwig, i ddysgu hanes anorchfygol, tra bod rheilffordd Ffestiniog yn cludo ymwelwyr ar hyd lein 200 mlwydd oed.

Rwy’n croesawu’r £150,000 sydd wedi ariannu arwyddion a dehongliadau unedig ar draws y safle treftadaeth y byd, ond allai’r Dirprwy Weinidog amlinellu sut mae’r £128,000 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer ymgysylltu ac ar gyfer y cynllun rheoli ymwelwyr yn cael ei roi ar waith? Sut bydd hyn yn cael ei fesur, ac a oes targed y mae i'w gyrraedd ar lefelau ymwelwyr â’r ardal? O ystyried hanes y safle, sut mae’r arian ar gyfer ymgysylltu cymunedol o’r cyllid hwn yn cael ei wario i sicrhau bod teuluoedd, ysgolion ac ymwelwyr â’r ardal yn deall arwyddocâd diwylliannol gogledd-orllewin Cymru?

Erbyn hyn, mae gwifren wib gyflymaf y byd wedi'i lleoli dros chwarel Penrhyn, gydag atyniadau wedi'u lleoli o fewn y pyllau llechi ym Mlaenau Ffestiniog—atyniadau o fewn safle treftadaeth y byd yn dod â miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Ers creu ZipWorld yn 2013, mae dros 400,000 o ymwelwyr wedi ymweld â'r atyniadau yn flynyddol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2019. Bu buddsoddi sylweddol yn yr ardal hon, a chredir bod ZipWorld wedi dod â dros £250 miliwn i economi'r gogledd. Yn ôl adolygiad Twristiaeth Gogledd Cymru yn 2018 o effaith yr atyniad, gwelwyd mai yn yr atyniad ogof y cafodd ymwelwyr y profiad gorau. Yn yr un flwyddyn, roedd 152,903 o ymweliadau, yn union, ag Amgueddfa Lechi Cymru sydd wedi ei lleoli yn chwarel Dinorwig. Denodd cestyll y Brenin Edward I bron i 600,000 o ymwelwyr rhyngddyn nhw yn 2019. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, sut fyddwn ni'n sicrhau bod lefelau ymwelwyr yn aros mor uchel â hynny, ac mor uchel ag y gallan nhw fod? Beth mae Croeso Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r ardaloedd penodol hynny?

Wrth i chi siarad am dreftadaeth y gogledd-orllewin, roeddwn i’n siomedig na chlywais unrhyw sôn na chyfeiriad at ein treftadaeth chwaraeon yn y gogledd-orllewin, gyda mabolgampwyr enwog fel Wayne Hennessey a George North yn meithrin eu sgiliau yn y gogledd-orllewin—ac maen nhw wedi mynd ymlaen i gynrychioli ein gwlad gyda rhagoriaeth yn eu priod gampau. Felly, roeddwn i wedi gobeithio y byddem ni wedi clywed rhywbeth gan y Gweinidog heddiw i gydnabod eu heffaith wrth ysbrydoli sêr chwaraeon y dyfodol yn y gogledd-orllewin. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gydnabod eu cyfraniadau i dreftadaeth chwaraeon Cymru, a hefyd i wella cyfleusterau'n lleol i sicrhau sêr chwaraeon y dyfodol?

Fel y soniodd y Dirprwy Weinidog, mae'n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol bod ein cestyll yn wirioneddol fyd-enwog, ac mae hynny'n sicr yn wir i'r rhai yn y gogledd a'r gogledd-orllewin. Mae castell Gwrych yn sir Conwy wedi dod yn enwog dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan iddo fod yn gartref i raglen ITV I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! Mae miloedd o ymwelwyr ychwanegol, gan gynnwys Sam Rowlands, rwy'n credu, wedi ymweld â chastell Gwrych yn ei holl ogoniant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y Dirprwy Weinidog, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o'r ffaith na allwn ni siarad am dreftadaeth ein hardaloedd heb siarad am dwristiaeth. Defnyddiwyd castell Caernarfon gan y frenhiniaeth ym 1911 a 1969 ar gyfer arwisgiad Tywysogion Cymru, a gwelwyd yr un ym 1969, ar gyfer y Brenin Charles erbyn hyn, gan 19 miliwn o bobl ledled Prydain Fawr a 500 miliwn arall ledled y byd. Roedd hynny'n gwerthu ein gwlad i'r byd ynghyd â'n treftadaeth y byd. Pleidleisiwyd mai rheilffordd hanesyddol Blaenau Ffestiniog yw’r rheilffordd olygfaol orau yn Ewrop yn gynharach eleni, a daeth tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru yn bedwerydd safle treftadaeth i ni ym mis Gorffennaf 2021, yn dilyn ymdrech wych a oedd yn ymestyn dros ymgyrch 15 mlynedd.

Dyna rai o'r ardaloedd sydd â phwysigrwydd sylweddol, ond beth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin? Maen nhw'n dibynnu ar ymwelwyr o bedwar ban byd. Ond yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod treth dwristiaeth ar yr ardaloedd hyn—treth dwristiaeth fyddai’n lladd y diwydiant. Dyna'r gwir fygythiad mae'r safleoedd hyn a safleoedd treftadaeth pwysig eraill ar draws y gogledd orllewin a thu hwnt yn ei wynebu. Felly, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda naill ai'r Gweinidog cyllid neu Weinidog yr Economi am yr effaith y bydd y dreth hon fyddai’n lladd y diwydiant yn ei chael ar y safleoedd hyn a'r diwydiant treftadaeth ar draws y gogledd-orllewin? Diolch.

16:15

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Os wnaf i gychwyn gyda'i sylwadau cyntaf ynglŷn â'r rhaglen ymgysylltu a rheoli ymwelwyr, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n amlwg yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol yn ei gylch, gydag amgueddfa gogledd Cymru a sefydliadau rheoli tirwedd lechi, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, parc cenedlaethol Eryri ac ati. Felly, bydd ymgysylltu parhaus â'r sefydliadau hynny a fydd yn cyflawni'r ymgysylltu hwnnw, a byddwn yn gobeithio gallu dod yn ôl atoch chi rywbryd yn y dyfodol agos gyda diweddariad ar sut mae hynny wedi gweithio'n ymarferol a beth fu lefel yr ymgysylltu ag ymwelwyr ar gyfer hynny.

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau eraill am dreftadaeth a thwristiaeth yn yr ardal, ac rydych chi'n hollol briodol yn cyfeirio at y ffaith bod gennym ni ddau safle treftadaeth y byd o bwys—nid yn unig y tirweddau llechi, ond cestyll y Brenin Edward ac ati. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod y safleoedd hynny'n denu tua 500,000 i 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn sicr yr hyn yr ydym ni’n gobeithio yw y bydd y datblygiad yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yng nghastell Caernarfon yn gweld nifer yr ymwelwyr hynny'n cynyddu. Rhan o bwrpas y datblygiad hwnnw yw dod â mwy o ymwelwyr i'r rhan honno o Gymru, ond hefyd i sicrhau nad ydym chwaith yn anghofio’r stori yr ydym eisiau i gastell Caernarfon ei hadrodd. Mae rhan o'r buddsoddiad hwnnw'n ymwneud â dweud y stori honno ac er mwyn i bobl weld y stori honno gyda'i holl ffaeleddau, yn ei holl onestrwydd, a thrwy holl gyfnodau cythryblus hanes y castell hwnnw. Ond, rhaid i ni gofio, uwchben y castell hwnnw heddiw mae baner Cymru yn cyhwfan, ac, wrth gwrs, dyna'r swyddogaeth olaf bwysig yn hanes castell Caernarfon.

O ran y sylwadau am y wifren sip, yn amlwg mae hwn yn atyniad twristaidd enfawr eto yn yr ardal honno. Mae o fewn y dirwedd dreftadaeth, felly rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda pherchnogion y wifren sip er mwyn iddyn nhw allu gweithio i ddatblygu eu cynnig a'u safle gydag agwedd gydymdeimladol tuag at yr hyn sy'n atyniad sy'n eistedd yng nghanol yr hyn sydd yn awr yn dirwedd dreftadaeth y byd.

Rydych chi'n hollol gywir yn cyfeirio at y materion sy'n ymwneud â threftadaeth chwaraeon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands, sydd â dweud y gwir, yn cyflwyno dadl yfory ar hynny, a byddaf yn ymateb i honno. Felly, efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr ydych chi wedi’u codi yn cael eu hateb yn yr ymateb i'r ddadl honno. Ond, rydych chi'n hollol gywir: mae ein treftadaeth chwaraeon yn un y dylem ni fod yn falch iawn ohoni, ac mae llawer o bethau ynghylch treftadaeth chwaraeon y gogledd yn arbennig y dylem fod yn falch iawn ohonyn nhw. Fe ddywedaf fwy am hynny yfory mewn ymateb i ddadl Sam. Roedd fy natganiad heddiw yn benodol am y tirweddau llechi ac am gastell Caernarfon.

O ran yr ardoll dwristiaeth, rwy'n codi fy het i Tom ac i'w holl gyd-Aelodau Ceidwadol sy'n ceisio codi'r mater hwn ynghylch yr ardoll dwristiaeth bob cyfle a gânt. Dyna yr ydych chi’n ei wneud; chi yw'r wrthblaid, ac rwy’n deall mai dyna sydd angen i chi ei wneud. Yn amlwg, rydym ni eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus, wrth gwrs, ac rydym ni eisiau gweld yr adferiad cryf yna ar ôl y pandemig. Mae angen ei bwysleisio dro ar ôl tro—oherwydd dywedwyd lawer gwaith—bydd yr ardoll ymwelwyr yn ardoll ddewisol er mwyn i awdurdodau lleol benderfynu drostyn nhw eu hunain p’un a ydyn nhw'n teimlo y dylai cyfran fach iawn o wariant ymwelwyr yn eu hardal gael ei chymryd mewn ardoll dwristiaeth a fydd yn helpu i ddatblygu twristiaeth yn yr ardal honno.

Rydw i wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar. Es i i'r Eidal ar wyliau yn yr haf, ac roeddwn i'n ffodus iawn i gyrraedd tirwedd winllan treftadaeth y byd, sef Piedmont yng ngogledd yr Eidal. Roedd hi'n anodd iawn llusgo fy hun oddi yno—roedd yn brydferth—ond roeddwn i'n hapus i dalu ardoll dwristiaeth pan oeddwn i yno, fel yr ydw i’n ei wneud yn unrhyw un o'r lleoliadau gwyliau y byddaf yn mynd iddyn nhw. Fel y bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol, bydd Cwpan Rygbi'r Byd Merched yn dechrau'r wythnos nesaf yn Seland Newydd, ac, fel Gweinidog chwaraeon, byddaf yn mynd allan i Seland Newydd er mwyn cynnig cefnogaeth y Llywodraeth a chenedl Cymru i'n menywod sy'n chwarae rygbi allan yna. Rydw i newydd orfod gwneud cais am fisa i fynd i mewn i Seland Newydd ac wele, wrth wneud cais am y fisa hwnnw roedd yn rhaid i mi dalu ardoll dwristiaeth o £18 hefyd. Dyna fel mae hi. Mae gan fwy na 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd ardoll ymwelwyr, ac rwy'n credu pe bai'r ardoll ymwelwyr mor ddinistriol ag yr ydych chi’n awgrymu y gallai fod, byddai'r rhan fwyaf o'r gwledydd hynny wedi cefnu arni erbyn hyn.

16:20

Diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw.  

Os caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf, dwi'n cytuno gyda'r Dirprwy Weinidog—rwy’n credu mai camsyniad yw parhau i ddweud y bydd y dreth dwristiaeth yn atal pobl rhag dod i Gymru. Mewn gwirionedd, y gwir fygythiad i dwristiaeth yn y gogledd ac yng Nghymru yn gyffredinol yw costau ynni sy'n effeithio ar fusnesau a'r argyfwng costau byw sy'n golygu na fydd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Oherwydd, fel y gwyddom, mae gwyliau o fewn Cymru yn bwysig iawn, ac rydym ni’n gweld y caledi mae teuluoedd yn ei ddioddef. Hefyd, rydym ni'n gwybod yr effeithir ar awdurdodau lleol. Mae cyfle i ddefnyddio'r dreth hon i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol er mwyn i ni allu cefnogi twristiaeth. Roeddwn i eisiau cofnodi fy mhwynt.

Fel yr ydych chi wedi sôn, Gweinidog, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n pwyso a mesur, oherwydd y 15 mlynedd o baratoi ar gyfer y cais llwyddiannus hwnnw flwyddyn yn ôl, a bod cymaint i'w ddathlu. Oherwydd pan fyddwch chi’n ystyried yr hanes, cloddiwyd llechi yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd, ac yn ystod y chwyldro diwydiannol roedd cynnydd mawr yn y galw ac roedd llechi o Wynedd yn cael eu defnyddio a'u cludo'n helaeth ar draws y byd. Mae eu safon yn dal i gael ei gydnabod hyd heddiw. Mae'n dal i fod yn ddiwydiant byw ac, yn wahanol i'r hyn yr ydym ni’n ei weld yn y Pwll Mawr ac yn y blaen, lle mae'n ddiwydiant o'r gorffennol, yn amlwg, mae hwn yn ddiwydiant sy'n dal i gynnal yr economi leol. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych arno yn y cyd-destun hwnnw. Yn amlwg, mae hynny'n cyflwyno heriau i'r awdurdod lleol yn benodol, o ran sut yr ydych chi'n cefnogi diwydiant wrth gynnal y dirwedd ddiwydiannol honno.

Sylwais fod Tom Giffard hefyd yn sôn bod Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu 50 mlynedd eleni. Roeddwn i'n falch o weld, ddoe ar Twitter, eu bod nhw wedi cyflawni dros 4 miliwn o ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Gallai fod yn gymaint mwy na hynny, ond nid yw'r seilwaith yn ei le ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn ymwneud â'r pwynt ynghylch y cestyll yn y gogledd. Wrth edrych ar ymwelwyr i Gaernarfon ar hyn o bryd, i gastell Caernarfon yn enwedig, mae llawer yn dod ar fws. Maen nhw'n teithio o amgylch y DU, ac efallai mai dim ond am ddiwrnod y byddan nhw’n dod i ogledd Cymru. Felly, un o'r pethau yr hoffwn i ei ofyn yw: sut ydych chi'n buddsoddi er mwyn i ni gael y seilwaith yno yn lleol i sicrhau bod mwy o ymwelwyr yn aros ac yn gwario arian yn yr ardal, a hefyd yn cael cyfle i ymgolli yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg—nad yw’n rhywbeth maen nhw'n ei gael drwy ymweld â'r castell neu ba bynnag atyniad arall yn unig, ond eu bod nhw wir yn cael y cyfle hwnnw i ymgolli mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi busnesau lleol?

Hoffwn hefyd ofyn i chi yn benodol a wnewch chi egluro beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Mae'n ymddangos i mi, o eiriad eich datganiad, fod hyn yn rhywbeth gwahanol i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Mae rhywfaint o ddryswch ymhlith rhanddeiliaid lleol a hefyd y sector amgueddfeydd yn ei gyfanrwydd o ran beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ddweud 'amgueddfa gogledd Cymru'. Ydy hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu fel gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y safle, neu rywbeth ar gyfer Amgueddfa Cymru? Oherwydd, wedi'r cyfan, stori'r llechi yw stori'r llechi, felly rwy’n awyddus ein bod ni'n gallu gweld ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru o ran y cyd-destun cenedlaethol hwnnw. Rwy'n mynegi pryder am y defnydd hwnnw o 'amgueddfa gogledd Cymru' yn hytrach na chael y stori genedlaethol honno. Yn yr un modd, tybed a wnewch chi amlinellu pa gymorth ariannol sy'n cael ei roi i Amgueddfa Cymru er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r ailddatblygiad hwnnw.

Mae cymaint o bethau y mae'n rhaid i ni eu croesawu o ran y statws treftadaeth y byd hwnnw, ond yn amlwg yr her fydd sicrhau bod y cyllid ar gael i'r awdurdod lleol a phartneriaid lleol, yn sgil yr argyfwng costau byw. Felly, a gaf fi ofyn beth yw'r weledigaeth strategol a’r cynllun i sicrhau ein bod ni’n defnyddio pob mantais bosibl? Dwi'n gweld bod yna beth datblygu, ond a yw hyn yn mynd i fod yn sgwrs barhaus gyda chefnogaeth a strategaeth gan Lywodraeth Cymru?

16:25

Diolch, Heledd. A gaf i ddechrau drwy gytuno'n llwyr gyda'ch sylwadau agoriadol sef mai'r bygythiad i dwristiaeth a'r economi ymwelwyr ar hyn o bryd yw'r argyfwng costau byw? Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o'n partneriaid twristiaeth a'n rhanddeiliaid yn dweud hynny wrthym ni. Rydw i a Gweinidog yr Economi yn cwrdd yn rheolaidd â rhanddeiliaid twristiaeth, ac mae hwnnw'n un o'r materion y maen nhw'n sôn amdano, nid yn unig o ran eu busnesau a'r costau ychwanegol a'r bygythiadau i'w busnesau, ond mewn gwirionedd y gost i ymwelwyr i ddod yma, oherwydd dyna un o'r pethau sy'n cael ei fwrw oddi ar y rhestr pan fydd pobl yn meddwl am wariant hanfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny.

O ran y dreftadaeth lechi, eto rwy'n cytuno. Mae'r diwydiant llechi wedi cael ei ddisgrifio fel y diwydiant mwyaf Cymreig. Roedd bron pob un o'r gweithwyr yn frodorol i'r rhanbarth, roedden nhw’n dod o Gymru, roedd Cymraeg yn cael ei defnyddio'n gyson ar bob lefel o'r gweithlu a'r rheolwyr, ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw. Felly, rwy'n credu'n gryf bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i'w gydnabod ac mae'n bwysig ei ymgorffori yn yr arlwy i ymwelwyr. Mae'n rhaid i'r arlwy i ymwelwyr fod â Chymraeg yn ganolog iddo fel ei bod yn rhan o'ch profiad chi wrth deithio i'r rhan honno o'r gogledd-orllewin ac wrth ymweld â hi. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Cyngor Gwynedd a pharc cenedlaethol Eryri, sy'n bartneriaid yn natblygiad y dirwedd, yn awyddus iawn i sicrhau y bydd yn digwydd, ac mae'n rhan o'u cynlluniau datblygu nhw.

O ran y seilwaith, eto, does dim y byddwn i'n dadlau gyda chi yn ei gylch o ran hwnnw. Mae'r seilwaith yn llawer ehangach nag unrhyw beth yn fy mriff i, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn enfawr, sy'n cynnwys fy nghydweithwyr mewn gweinidogaethau eraill, ond un o'r pethau a allwn i ddweud yw bod hynny'n rhywbeth mawr y gallai ardoll twristiaeth gynorthwyo ag ef, o ran y seilwaith—byddai'n helpu i ddatblygu ardal ar gyfer twristiaeth. Ond mae'r seilwaith o ran sut mae'r atyniadau twristaidd hynny'n cael eu datblygu yn gyfrifoldeb mawr ar yr awdurdod lleol, ac am wn i mae hwn yn un o'r pethau y byddan nhw'n rhoi sylw iddo ac fe fyddan nhw'n ystyried pryd y byddan nhw'n penderfynu a fydden nhw eisiau cyflwyno ardoll dwristiaeth yn yr ardal honno ai peidio.

I ddod yn ôl at eich pwynt am iaith a diwylliant Cymru, roedd enwebiad Safle Treftadaeth y Byd—nid o reidrwydd nawr ynglŷn â'r atyniad twristaidd, ond yr enwebiad safle Treftadaeth y Byd—yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae'r bwrdd llywio a'r cyfarfodydd bwrdd ar gyfer y safle treftadaeth i gyd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, ac mae'r iaith yn parhau'n ganolog o ran y cynlluniau ymgysylltu a llysgenhadon cymunedol. Ni fyddwn yn ofni unrhyw fygythiad na phryder ynghylch datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal honno.

I ddod yn ôl, felly, at eich pwynt olaf, sy'n bwynt dilys iawn yn fy marn i, am amgueddfa gogledd Cymru a'r amgueddfa lechi a'u rhyngweithio a'u perthynas nhw, roedd datblygiad amgueddfa gogledd Cymru, fel y gwyddoch chi, yn ymrwymiad sylweddol yn rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth, fel mae ailddatblygu safle Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Er mwyn bod yn glir, Heledd, oherwydd efallai nad oedd yn glir yn fy natganiad, bydd ailddatblygu'r amgueddfa yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau croeso newydd, gwell i ymwelwyr, cyfleusterau addysg a chyfleusterau cymunedol i gefnogi'r proffil rhyngwladol a ddaw yn sgil safle treftadaeth y byd UNESCO. Ond bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu yn dod yn bencadlys gogledd Cymru ar gyfer Amgueddfa Cymru. Felly, bydd yn gartref i arddangosfeydd o gasgliadau helaeth o gelf, gwyddoniaeth naturiol, hanes ac archaeoleg o'r rhanbarth sy'n cael eu cadw mewn rhannau eraill o Gymru ar hyn o bryd. Felly, mae'n golygu trosglwyddo'r rheiny i'r gogledd. A'r gobaith yw y bydd yr amgueddfa wedi ei hailddatblygu wedyn yn dod yn ganolbwynt ar gyfer cynigion diwylliannol a threftadaeth eraill ar draws y rhanbarth.

O ran ble awn ni gyda hynny, mae gwaith ar droed ar astudiaeth dichonoldeb, a fydd yn cynnwys cyflwyno cynigion ar gyfer sut y bydd amgueddfa gogledd Cymru a swyddogaeth well i Amgueddfa Lechi Cymru yn cael eu cyflawni. Mae Amgueddfa Cymru wedi sefydlu grŵp llywio mewnol nawr i ddatblygu'r prosiect hwnnw, ac mae cyfarwyddwr prosiect wedi'i benodi'n ddiweddar i arwain ar hynny. Ac rwy'n gwybod bod Amgueddfa Cymru wedi ymgysylltu â'r gymuned leol ac ymwelwyr â'r safle, yn ogystal ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ledled Cymru, ac maen nhw'n parhau i gasglu adborth ar sut y dylid datblygu'r safle hwnnw, yr amgueddfa lechi ac amgueddfa gogledd Cymru.

16:30

Rwy'n croesawu'r datganiad a'r buddsoddiad yn yr ardal, ac rwy'n falch o ddweud bod gan y gogledd bellach dri safle treftadaeth y byd, gan gynnwys dyfrbont Pontcysyllte, sy'n wych. Ac rwy'n edrych ymlaen at weld parc cenedlaethol newydd yn cael ei greu hefyd. Dynodwyd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ardal o harddwch naturiol eithriadol oherwydd ei threftadaeth adeiledig, ei chestyll a'i bryngaerau o oes yr haearn a'i habaty hefyd. Felly, mae llawer o dreftadaeth yn y gogledd, sy'n wych. 

Rwy'n credu eich bod chi wedi ateb rhai o'r cwestiynau yr oeddwn i'n mynd i'w gofyn, oherwydd mae Heledd wedi eu codi nhw'n barod, ond rwy'n pryderu am y wasgfa ar ariannu cyhoeddus. Rydych chi wedi gweithio gyda phartneriaid ar hyn, ond wrth symud ymlaen gyda'r rhaglen lywodraethu a'r holl bethau sydd ynddi, fel yr amgueddfa genedlaethol ar gyfer y gogledd—sydd newydd ei grybwyll—Theatr Clwyd, yr AHNE yn cael ei dynodi'n barc cenedlaethol, yr holl bethau hyn sy'n dod o dan ddiwylliant a threftadaeth yn eich portffolio, rydw i'n poeni ychydig ynghylch a fyddwch chi'n gallu parhau i'w cyflawni nhw gyda'r wasgfa hon ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Diolch. 

Diolch, Carolyn, am y cwestiynau yna. Rydych chi'n hollol iawn, nid yw'r wasgfa ar arian cyhoeddus a'r her i ni yn ddibwys, mae'n berygl gwirioneddol. Yr hyn y gallaf fi ei ddweud wrthych chi yw ein bod wedi ymrwymo i gyflawni'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau llywodraethol yr ydym ni wedi eu gwneud yn yr ardaloedd yr ydych chi wedi eu hamlinellu—felly, amgueddfa genedlaethol Cymru, datblygiad yr amgueddfa genedlaethol honno, Theatr Clwyd, yr amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, wrth gwrs, sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd, a'r holl ymrwymiadau diwylliannol eraill hynny yn ein rhaglen lywodraethu.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod gwerth ein cyllideb bellach yn sylweddol llai nag yr oedd, oherwydd ar yr adeg y dyrannwyd ein cyllideb, roedd chwyddiant ar lefel isel iawn, iawn. Erbyn hyn mae chwyddiant yn agosach at 10 y cant, a does dim rhaid i chi fod yn economegydd i wybod bod hynny'n golygu am yr un faint o arian, mae gennych chi lai o bunnoedd i brynu stwff. Felly, mae gwerth ein cyllideb yn llawer llai nag yr oedd pan gafodd ei ddyrannu, a bydd hynny'n cyflwyno heriau, does dim dwywaith. Ac rydym ni'n gwybod bod Theatr Clwyd yn profi heriau gyda chostau adeiladu cynyddol yn ymwneud â'u hailddatblygiad a sut mae hynny i gyd yn mynd i gael ei gyflawni. Ond yr hyn y gallaf fi ei ddweud wrthych chi'n sicr o'r fan hon heddiw yw bod ein hymrwymiad i'r addewidion ar gyfer rhaglenni'r llywodraeth, yr addewidion maniffesto a meysydd y portffolio diwylliant a gafodd eu cynnwys yn dal i fod ar y trywydd iawn. Diolch.  

Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw am dreftadaeth y byd yn y gogledd-orllewin wrth gwrs, un hanner o ranbarth gwych yn y gogledd. Fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, mae'n galonogol iawn gweld tirwedd lechi y gogledd-orllewin wedi'i harysgrifio ar restr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r holl sefydliadau, unigolion a chymunedau sydd wedi helpu i wneud i hyn yn bosibl. Ac, fel sydd wedi'i amlinellu eisoes, mae'r statws newydd hwn yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd ein diwydiant llechi, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed yn siarad am y swyddogaeth bwysig y mae treftadaeth yn ei chwarae yn ein heconomi dwristiaeth, gan ddod â nifer o fanteision, denu mwy o ymwelwyr, hybu buddsoddiad, creu swyddi ac, yn bwysig iawn, dweud rhan bwysig o'n stori fel pobl y gogledd. Dyma'r stori yr wyf i eisiau canolbwyntio arni am eiliad yn unig, oherwydd mae'r stori hon yn bwysig i ymwelwyr ond mae hefyd yn bwysig iawn bod ein trigolion lleol a'n cymunedau lleol yn deall pam y mae'r dirwedd yn edrych fel y mae hi. Ac rydw i'n myfyrio ar fy magwraeth, yn byw ym Mhenygroes yn blentyn hyd at naw mlwydd oed, gyda Dyffryn Nantlle ar fy stepen drws, ac efallai nad oeddwn i'n deall nac yn gwerthfawrogi beth oedd hynny i gyd yn ei olygu. Felly, tybed, Dirprwy Weinidog, sut y byddwch chi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau bod ein plant yn ein cymunedau lleol, lle mae'r statws treftadaeth y byd hwn nawr, hefyd yn deall pwysigrwydd eu treftadaeth. Ac ie, i ymwelwyr ei ddeall yn dda, ond hefyd, ein cymunedau lleol, ac yn enwedig ein plant yn y cymunedau hynny.

16:35

Diolch, Sam, am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, iawn yr ydych chi'n ei godi: mae ein hanes, ein treftadaeth, sut rydym ni wedi esblygu, a pham ein bod ni fel yr ydym ni heddiw, yn hynod bwysig, ac mae'n rhywbeth y mae angen i blant ei ddeall a dysgu amdano o oedran cynnar iawn. A dyna un o'r manteision y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi i ni; mae'n rhoi'r hyblygrwydd hwnnw i ni allu cyflwyno'r mathau hynny o bethau i'r cwricwlwm cenedlaethol. Ac fe wnaf i roi un enghraifft i chi. Roeddwn i'n falch iawn o gael gwahoddiad i ddigwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan yn ddiweddar, lle roedd amrywiaeth fawr o ysgolion wedi bod yn rhan o brosiectau am eu cymunedau lleol, ac roedd hynny'n enghraifft dda iawn o sut y byddwch chi'n ennyn diddordeb plant ifanc iawn i ddysgu am eu hardal eu hunain a'i dod yn fyw, ac fe ddaethon nhw â'u prosiectau gyda nhw, ac fe enillodd rhai ohonyn nhw wobrau ac ati. A, wyddoch chi, yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli, wrth gwrs, hen ddiwydiant glofaol a haearn, rydym ni'n gweld hynny'n hynod o bwysig i ddiwylliant yr ardal. Felly, nid oes gennyf i amheuaeth, pan fydd ysgolion yn edrych ar yr hyn y bydd y cwricwlwm cenedlaethol yn gallu ei gyflawni yn y meysydd hynny, y bydd hanes lleol, y diwylliant lleol hwnnw, boed yn iaith, boed yn ddiwydiant, boed yn dopograffi, beth bynnag ydyw mewn ardal sydd wedi gwneud yr ardal honno yr hyn yw hi heddiw, y bydd yn cael ei gynnwys mewn addysg plentyn. Byddai peidio â gwneud hynny'n warthus, ac mae gen i bob ffydd y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i ni wneud hynny.

Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad yma. Mae hyn yn newyddion arbennig o dda, onid ydy? Mae’n rhoi statws, mae'n cydnabod pwysigrwydd ardal, tirlun, technoleg a phobl yr ardal yna o Gymru, nid yn unig i hanes Cymru, ond i hanes y byd, ac mae’n dangos hanes ardal yn teithio o ardal amaethyddol i fod yn un diwydiannol, ac wrth gwrs, heddiw yn un, yn rhannol yn ôl-ddiwydiannol. A dwi'n edrych ar Ddwyfor Meirionnydd a hanes chwarel Bryn Eglwys yn Abergynolwyn a rheilffordd Talyllyn sydd ynghlwm â hwnna, y ddinas llechi Blaenau Ffestiniog a rôl Bro Ffestiniog, ac, wrth gwrs, y porthladd a gariodd y llechi i’r byd, i Awstralia, i'r Unol Daleithiau, i Ddenmarc, ac yn y blaen—Porthmadog, a rôl Port yn yr hanes hwnnw. Mae’n rhywbeth i’w ddathlu a sicrhau ein bod ni'n rhoi ar gof a chadw ac yn cymryd pwynt Sam ynghynt o ran sut mae plant yn mynd i elwa, ac mae eisiau i ni roi ar gofnod fan hyn y gwaith rhagorol ddaru'r prosiect yma wneud efo Lle-CHI, a sicrhau bod plant yn cael budd yn dysgu, a phobl ifanc yr ardal.

Felly, ar hynny, o ran pwy sy’n cael budd o’r statws yma, gaf i ofyn ichi beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau—o ran yr incwm sy'n mynd i ddod ac o ran y budd twristiaeth, beth fyddwch chi’n gwneud i sicrhau mai’r cymunedau yma fydd yn cael budd economaidd o’r buddsoddiadau ac o’r statws UNESCO newydd yma?

Diolch, Mabon, am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt hynod bwysig, datblygu'r safleoedd hyn, cael safle treftadaeth y byd ar stepen drws, safle treftadaeth y byd arysgrifedig—wel, nid un yn unig, ond pedwar yng Nghymru—dau yn y rhan honno o Gymru, a phopeth a ddaw yn sgil hynny. Felly, ydy, mae'n ymwneud â chydnabod ac arddel ein hanes a phwysigrwydd yr hanes hwnnw, nid yn unig i Gymru ond i'r byd, fel yr ydych chi wedi'i nodi yn gwbl briodol, ond mae datblygu economi'r ardaloedd hynny'n bwysig, gan fod y rhain yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd wedi dioddef yn drwm o ganlyniad i golli'r diwydiannau hynny. Ac, unwaith eto, rwy'n cyfeirio at yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ar ôl i'r diwydiannau glo a haearn fynd—ac mae gan fy nghyd-Aelod yma o Flaenau Gwent sefyllfa debyg—rydym ni'n dal i ymdrin â gwaddol dirywiad ôl-ddiwydiannol, felly os gallwn ni ddatblygu twristiaeth mewn ardal fel y gogledd orllewin sy'n taflu goleuni ar ei hanes ac sy'n dod â phobl yno i ddathlu'r hanes hwnnw gyda ni, yna mae'n rhaid i hynny fod yn dda i'r economi leol, ac os yw'r economi leol yn datblygu, yna mae pawb yn elwa. Yr hyn na allaf fi ei ddweud wrthych chi yw mewn punnoedd, sylltau a cheiniogau, faint mae pawb yn ei gael o ganlyniad i hynny. Ond os yw economi leol yn ffynnu, yna dylai'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno fod yn cael budd o'r economi lewyrchus honno, a dyna'r nod cyffredinol.

16:40

Dirprwy Weinidog, ymwelodd y pwyllgor diwylliant â Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru yn y gwanwyn, a chawsom gyflwyniadau gan bobl yno am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gefnogi'r statws treftadaeth y byd a sut byddant yn adeiladu ar hynny. Fe gafodd y gwaith hwnnw a'r cyflwyniadau a gawsom argraff fawr arnaf fi. Fe gafodd y ffordd yr oedd Dafydd Wigley yn sbarduno ac yn arwain llawer o'r gwaith hwn argraff arbennig arnaf i, ac fe roddodd gyflwyniad ardderchog i ni ar y strwythurau yr oedden nhw wedi eu creu, ond hefyd ar sut yr oedden nhw'n dod â phobl at ei gilydd ac wedyn yn cyflawni uchelgais a gweledigaeth gyffredin. Y cwestiwn amlwg a ddaeth i fy meddwl i yn ystod y cyflwyniad hwnnw oedd, 'Pam na allwn ni wneud hyn yn rhywle arall?' Rydych chi eisoes wedi cyfeirio mewn ateb blaenorol at ein hanes cyffredin ym Mlaenau'r Cymoedd, y gylchran ddiwydiannol fawr o Flaenafon ar draws i Ddowlais. Ac rwy'n gofyn y cwestiwn eto: os yw'r model yn gweithio yn y gogledd, pam na all weithio mewn mannau eraill? Ac efallai sut y gallwn ni wedyn ddod â phobl at ei gilydd i fanteisio i'r eithaf ar botensial ein treftadaeth gyffredin a'n hanes cyffredin mewn rhannau eraill o'r wlad.

Rydw i'n credu, unwaith eto, bod hwn yn bwynt dilys iawn, Alun. Roeddwn i ar fin dweud bod gennych chi safle treftadaeth y byd yn eich etholaeth chi, ond, wrth gwrs, nid chi sy'n gyfrifol am hwnnw, un Lynne Neagle yw e—mae yn Nhorfaen, ym Mlaenafon. Ond serch hynny, mae gennym ni safle treftadaeth y byd yn y Cymoedd gogleddol.

Ond rwy'n credu os af yn ôl at y pwynt yr oedd Mabon yn ei godi—rydym ni'n cyfeirio at y prosiect LleCHI a oedd â chysylltiad agos â datblygiad arysgrif y dirwedd dreftadaeth yn y gogledd-orllewin. Roedd y plant hynny'n rhan mor bwysig o'r ffordd yr oedd y stori honno'n mynd i gael ei hadrodd a sut mae'r safle hwnnw i'w ddatblygu, ac os ydym ni am ddysgu gwersi arysgrifau treftadaeth y byd llwyddiannus, yna, ie, dylem ni fod yn cyflwyno hynny mewn mannau eraill. Does dim rhaid iddo fod mewn safleoedd treftadaeth y byd yn unig. Rydym ni'n gwybod am y math o dreftadaeth a hanes a thirweddau gwych sydd gennym ni yr holl ffordd ar draws y Cymoedd—mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn enghraifft. Felly, mae angen i ni ddefnyddio'r enghreifftiau gorau gallwn ni ar gyfer datblygu atyniadau hanesyddol i ymwelwyr a thirweddau hanesyddol yng Nghymru a'r hyn sy'n gweithio a chyflwyno hynny ar draws safleoedd eraill. Ac yn hynny o beth, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud.

Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno eich datganiad. Mae'n ddiddorol iawn, ond o ystyried bod yr hen fater yna o ardoll dwristiaeth wedi codi—neu dreth dwristiaeth yw e mewn gwirionedd—oni fyddech chi'n cytuno â mi—? Fe sonioch chi eich bod yn mynd i Seland Newydd ac rydych chi wedi bod i'r Eidal ac ni wnaeth y ffaith eich bod chi'n talu ardoll dwristiaeth eich poeni chi na chael effaith arnoch chi, ond gadewch i ni fod yn onest, mae pobl Cymru wedi bod yn wynebu argyfwng costau byw ers cryn amser, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r cyflog canolrif cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol llai na'r hyn a geir yn Lloegr. Nawr, mae llawer o'n twristiaeth ni yng Nghymru yn dwristiaeth ddomestig pryd mae pobl o un rhan o Gymru yn hoffi mynd i ran arall. Felly, sut mae gwneud synnwyr o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud? Gadewch i ni fod yn onest, rydym ni'n Aelodau o'r Senedd sydd â lwfans sy'n sylweddol uwch na'r cyflog canolrif, felly sut mae pobl, er enghraifft, sy'n byw ym Mlaenau Gwent, ac sy'n penderfynu efallai i ddod i Aberconwy—sut ydych chi'n meddwl eu bod nhw, gyda'r argyfwng costau byw newydd, newydd hwn—? [Torri ar draws.] Arhoswch eiliad, rwy'n siarad â'r Dirprwy Weinidog. Wedi'i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw yr ydym ni wedi'i weld ers blynyddoedd yng Nghymru ac un arall yn ymwneud â phroblemau ynni, sut ydych chi'n meddwl bod pobl ar incwm sefydlog neu isel, wir yn mynd i allu fforddio treth dwristiaeth? Diolch.

Janet, eto, dwi'n codi fy het i chi, dwi wir yn gwneud hynny. I Aelodau Ceidwadol sefyll i fyny a sefyll acw a siarad am ba mor flin y maen nhw'n teimlo dros bobl sy'n cael eu taro gan yr argyfwng costau byw, mae'n hollol anghredadwy. Ydych chi wedi anghofio'r difrod mae eich Llywodraeth chi wedi'i wneud dros y dyddiau diwethaf, heb sôn am y 12 mlynedd ddiwethaf? Felly, pan ydym ni eisiau siarad am argyfwng costau byw, gadewch i ni siarad am y datganiad cyllidol bach a gyhoeddwyd ddydd Gwener, yr ydych chi bellach wedi gorfod gwneud tro penodol yn ei gylch oherwydd ei fod mor amhoblogaidd, am sut yr oeddech chi—[Torri ar draws.]—sut mae eich Llywodraeth chi—sut mae eich Llywodraeth chi—wedi benthyg miliynau—[Torri ar draws.]—wedi benthyg miliynau—i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng ynni, yn hytrach na threthu'r cwmnïau ynni sydd wedi gweld yr elw mwyaf erioed sy'n gannoedd o biliynau o bunnau. Yn hytrach, yr hyn mae eich Llywodraeth yn y DU wedi'i wneud yw rhoi pobl Prydain mewn dyled am flynyddoedd i ddod. Felly, dydw i ddim yn mynd i sefyll yma a chymryd unrhyw wersi gan Geidwadwyr am—[Torri ar draws.] Dydw i ddim yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan unrhyw wleidydd Ceidwadol am effeithiau'r argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru. Diolch.

16:45

Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad hwnnw. Ac a gaf i ofyn i chi weiddi, ar ran pob un o'r 60 o Aelodau yn y fan yma, yn uchel iawn i gefnogi tîm merched rygbi Cymru pan ewch chi i Seland Newydd ymhen ychydig ddyddiau neu wythnosau? Pob lwc. [Torri ar draws.] Pan fyddan nhw'n cyrraedd y rowndiau terfynol—a dywedais 'pan' nid 'os', Joyce—fe ofynnwn ni i'r Dirprwy Weinidog weiddi drostyn nhw hefyd.

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth

Eitem 6 sydd nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fioamrywiaeth. Julie James i wneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Llywydd. Mae colli bioamrywiaeth a chwymp ecosystemau yn brif fygythiad i'r ddynoliaeth. Mae'r amgylchedd naturiol yn sail i'n lles a'n ffyniant economaidd, ond eto mae ein perthynas ag ef yn gwbl anghynaladwy. Er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau ein treftadaeth naturiol hardd, mae angen i ni gyflymu'r camau yr ydym yn eu cymryd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Dros yr haf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol i ymgymryd ag archwiliad dwfn bioamrywiaeth i ddatblygu set o gamau gweithredu ar y cyd y gallwn eu cymryd yng Nghymru i gefnogi adferiad natur. Cynhaliwyd yr archwiliad dwfn cyn Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig, neu COP15, yng Nghanada ym mis Rhagfyr, lle bydd arweinwyr byd-eang yn cwrdd i gytuno ar dargedau am y 10 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r argyfwng natur.

Trwy'r archwiliad dwfn, nodwyd argymhellion allweddol gennym i sicrhau bod y targed yn cael ei gyflawni'n ystyrlon, targed a elwir yn 30x30: diogelu a rheoli o leiaf 30 y cant o'n tir, dŵr croyw a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030. Dyma un o'r targedau byd-eang i'w cytuno yn COP15. Mae'r argymhellion hyn yn ategu'r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd fel Llywodraeth, gan gynnwys y cynllun gweithredu diweddar i fynd i'r afael â llygredd ffosfforaidd yn ein hafonydd, a gweithredu targedau natur statudol.

Blaenoriaeth fydd trawsnewid ein cyfres o safleoedd gwarchodedig fel ei bod yn well, yn fwy, ac wedi'i chysylltu yn fwy effeithiol. Y safleoedd gwarchodedig hyn yw'r elfennau mwyaf gwerthfawr ar gyfer bioamrywiaeth ac fe'u dynodwyd i warchod rhai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau pwysicaf yng Nghymru. Byddwn yn ehangu ac yn cyflymu ein rhaglen rhwydweithiau natur i wella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig ac adfer cyflwr cynefinoedd allweddol er mwyn sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid mewn sefyllfa well i wrthsefyll newid hinsawdd. Bydd dynodi rhagor o safleoedd yn arf pwysig hefyd o ran helpu i ddiogelu ein safleoedd mwyaf agored i niwed, ynghyd â rheoli'n briodol. Byddaf hefyd yn codi uchelgais ein rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir, fel y bydd y rhaglen, erbyn 2030, yn cyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero-net 2050 o 45,000 hectar o fawndir wedi'u hadfer.

Er mwyn cefnogi dulliau partneriaeth cydweithredol lleol, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn darparu £3.3 miliwn yn ychwanegol i bartneriaethau natur lleol dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn cydnabod bod y partneriaethau hyn yn allweddol o ran dod â sefydliadau, busnesau a chymunedau ynghyd i gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol. 

Mae ein hamgylchedd morol yn cynnwys rhai o'r moroedd mwyaf biolegol amrywiol yn y DU, a bron i 50 y cant wedi'u diogelu o fewn y rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, er bod gennym gynefinoedd a rhywogaethau allweddol a warchodir fel y dolffin trwynbwl, mae ychydig dros hanner y rheiny mewn cyflwr anffafriol. Fel blaenoriaeth, byddwn yn cyflymu camau i gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod y diffygion o ran gwarchod cynefinoedd a nodweddion yn cael sylw. Cyn bo hir, byddaf yn lansio'r broses o ddynodi parthau cadwraeth morol fel rhan o'n camau i gwblhau'r rhwydwaith. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o asesu rhyngweithio gêr pysgota posibl â nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall pa ddifrod y mae'r rhain yn ei wneud i nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig a pha fesurau rheoli y gallai fod eu hangen i atal hyn.

Rwyf hefyd yn dymuno datgloi potensial tirweddau dynodedig parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i gyflawni mwy ar gyfer natur. Rwy'n credu bod ganddynt swyddogaeth hanfodol wrth wyrdroi dirywiad natur, yn ogystal â chyfrannu at y targed 30x30 yn rhai o'n tirweddau mwyaf annwyl ac eiconig. Byddwn ni'n cefnogi parciau cenedlaethol ac AHNE i ddatblygu cynlluniau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur, gan ymwreiddio'r rhain mewn cynllunio strategol.

Llywydd, rydym hefyd yn dymuno sefydlu cyfres o ardaloedd enghreifftiol sy'n adfer natur—naill ai cydweithrediadau presennol neu newydd ar raddfa dirwedd o weithredwyr cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol a all ddod at ei gilydd i reoli ac adfer natur mewn ardaloedd gwarchodedig a'r dirwedd ehangach.

Rydym hefyd yn dymuno archwilio swyddogaeth statws ddiffinedig newydd mesurau cadwraeth effeithiol eraill sy'n seiliedig ar ardal, OECMs, yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, wrth gydnabod ardaloedd y tu allan i safleoedd gwarchodedig a all gyfrannu at 30x30. Byddaf yn sefydlu gweithgor arbenigol i nodi ardaloedd enghreifftiol adfer natur ac OECMs posibl, gan gynnwys y cyfryngau rheoli a'r dulliau cyllido sydd eu hangen i sefydlu'r rhain.

Llywydd, byddwn ni'n parhau i ddiwygio rheoli a chynllunio tir a morol, gan gynnwys cynllunio gofodol, i gyflawni mwy ar gyfer safleoedd gwarchodedig a thirluniau a morluniau ehangach. Byddwn ni'n dilyn trywydd gofodol strategol, a ategir gan dystiolaeth gadarn, i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir yn y lle cywir. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ganllawiau cryfach, fel polisi 9 'Cymru'r Dyfodol', prif ffrydio bioamrywiaeth, cadernid ecosystemau a seilwaith gwyrdd.

Rydym yn dymuno buddsoddi mewn cynghorwyr arbenigol i weithio gyda rheolwyr tir a ffermwyr i reoli cynefinoedd allweddol a sicrhau bod y cymhellion cywir wedi'u cynllunio'n rhan o gynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol. 

Bydd mynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth erbyn 2030 yn gofyn i'r ddarpariaeth bresennol fod yn fwy effeithiol a chael ei chyflwyno ar raddfa fwy. Rydym yn cydnabod bod angen i ni ddatgloi cyllid ychwanegol i gyflawni ar gyfer natur ar raddfa a chyflymder llawer mwy. Fel deiliaid cyllideb allweddol, mae gennym ran yn hyn hefyd; mae angen i ni sicrhau bod ein holl gyllidebau yn ceisio cyfrannu neu gyflawni camau cadarnhaol sy'n gadael bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell.

Mae angen monitro effeithiol i gofnodi cynnydd tuag at ddarparu 30x30. Byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl monitro a thystiolaeth i barhau â'r gwaith sydd ei angen i sefydlu fframweithiau monitro a thystiolaeth cadarn a phriodol.

Mae angen dull ar draws y gymdeithas i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae angen i ni adeiladu sylfaen gref ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol drwy feithrin capasiti, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau, cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a natur, a helpu pobl i ddeall a gallu cymryd camau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Llywydd, mae angen ymdrech tîm Cymru i ysgogi degawd o weithredu penderfynol er mwyn i ni allu rhoi'r brêcs ar ddirywiad bioamrywiaeth. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw i arwain drwy esiampl fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r amgylchedd naturiol, fel yr ydym ni wedi ei wneud. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn fy archwiliad dwfn, yn enwedig y grŵp craidd, yr is-grwpiau arbenigol a'r trafodaethau bwrdd crwn, gan helpu i'n rhoi ar lwybr i gyflawni ar gyfer dyfodol sydd wedi'i gyfoethogi gan natur. Diolch.

16:50

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, y rhan olaf, pan ddywedoch chi, 'Mae angen dull tîm Cymru arnon ni'—wyddoch chi, allaf i ddim anghytuno â hynny.

Nawr, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur y cynnydd tuag at y targed 30x30 ac arwain blaenoriaethu camau gweithredu. Ond mae yna ddiffyg, ac nid yw'r targed 30x30 wedi'i roi mewn cyfraith. Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi rhoi'r targed 2050 mewn rheoliadau. Rydych chi, hyn yn oed, yn nodi yn eich datganiad ysgrifenedig:

'Mae'n hanfodol gweithredu nawr ac mae angen i Gymru sicrhau degawd o weithredu os ydym am fod yn bositif dros natur.'

Felly, nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam, fel Llywodraeth, nad ydych chi'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.

Wrth sôn am amgylcheddau morol, fi yw hyrwyddwr balch ein llamhidyddion yng Nghymru, felly rydw i wir yn awyddus i weld yr holl famaliaid morol yn cael eu gwarchod yn well. Efallai na fyddwch yn synnu ychwaith o glywed hefyd fy mod i'n croesawu'r penderfyniad i godi'r uchelgais a nodwyd yn eich rhaglen weithredu mawndir genedlaethol fel y bydd y rhaglen yn cyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd targed sero-net 2050 o 45,000 hectar o adfer mawndir erbyn 2030.

Fel y gwyddoch chi, rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy gyda pholisi morol. Mae'n dda eich bod chi'n mynd i gyflymu camau i gwblhau'r rhwydwaith MPA, ond nid yw'n ddigon. Dylem weithredu ar gynigion deddfwriaethol a chreu dyletswydd gyfreithiol i ffurfio cynllun datblygu morol cenedlaethol a'i adolygu'n rheolaidd.

Roeddwn yn croesawu'r sylwadau a wnaethoch am gynllunio gofodol a'r morlun, a gwn, trwy ein pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Llyr Gruffydd, bod llawer o her a chraffu wedi bod ynglŷn â pham nad yw hynny ar waith nawr. Mae'r ddau ohonom yn gwybod mai polisi statudol yw'r hyn sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a deddfwriaeth allweddol.

Ond gyda diddordeb y darllenais am eich ymrwymiad i ddatgloi potensial tirweddau dynodedig i gyflawni mwy ar gyfer natur. Er fy mod yn cytuno bod prosiectau fel adfer cors mawn ac adfer cyrsiau afonydd naturiol, fel yr un a welir yn nyffryn Machno, yn cynnig cyfle gwych i natur a bioamrywiaeth, rwyf eisiau i ni fod yn glir o'r cychwyn cyntaf bod hefyd, ynghyd â hyn, yn gorfod mynd law yn llaw—. Sef cynhyrchu bwyd. Mae cynhyrchu bwyd mewn tirweddau dynodedig hefyd yn allweddol i'n dyfodol.

Fel y dywedodd Dr Kate Williams o Brifysgol Aberystwyth, mae gan ddiadellau ar yr ucheldir sy'n cael eu rheoli'n ofalus ac sy'n pori'n ddwys y potensial i gefnogi ein hecosystemau, ein bioamrywiaeth a byddant yn helpu i reoli'r dirwedd eiconig. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech gadarnhau a oes gennych unrhyw fwriad i gyflawni dros fyd natur drwy leihau nifer y da byw mewn tirweddau dynodedig. Oherwydd, gyda'r targedau coed rydych chi wedi'u pennu, er fy mod i'n gwybod eich bod chi'n dweud bod yn rhaid i ffermwyr wneud cais am y rhain, mae ffermwyr yn pryderu—roedd hyd yn oed ar y teledu neithiwr, pan oeddwn i'n gwylio'r rhaglen hon—mae ffermwyr yn poeni'n fawr iawn am y ffaith, wrth geisio gwneud eu rhan dros yr amgylchedd drwy blannu'r coed ychwanegol, bod hyn mewn gwirionedd yn mynd i roi pwysau arnyn nhw o ran cynhyrchu bwyd. O ystyried y sefyllfa yn Wcráin, o ystyried y sefyllfa yn ystod COVID, pan mai ein ffermwyr ni, mewn gwirionedd—maddeuwch y chwarae ar eiriau—wnaeth gamu i fyny i'r plât a'n bwydo ni, mewn gwirionedd, yn ystod y problemau a gawsom gyda COVID, mae'n amlwg nawr yn fwy nag erioed. Ac rwy'n gwybod fod fy niweddar gyfaill a chydweithiwr Brynle Williams yn arfer, lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, codi yn y Siambr hon pa mor bryderus yr oedd am brinder bwyd yn y dyfodol.

Rwy'n pryderu braidd y gallech fod yn mynd ar drywydd peryglus gan y sylwadau yn y datganiad ysgrifenedig eich bod yn cefnogi'r syniad o

'ffermwyr yn mynd ati i reoli o leiaf 10% o'u tir i gynnal a gwella cynefinoedd lled-naturiol...a chreu nodweddion cynefinoedd newydd'.

Felly, da o beth fyddai cael gwell esboniad ar hynny. Ffermwyr i fod â'r gallu i ddynodi 10 y cant o'u tir fferm o ansawdd uchel sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cig eidion a llaeth i fod yn nodweddion cynefin newydd—sut ydych chi'n mynd i weithredu hynny ac yn dal i fod yn dweud ein bod ni'n cefnogi ein ffermwyr i'r nfed radd wrth eu helpu i gynhyrchu cymaint o gynnyrch Cymreig o ansawdd da â phosib?

Yn 2021, rhyddhaodd NFU Cymru ei strategaeth 'Tyfu Gyda'n Gilydd', ac mae honno'n amlinellu cynllun ar gyfer cynyddu coed mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru, gan integreiddio coed mewn systemau ffermio presennol, yn hytrach na disodli'r systemau hynny. Mae NFU Cymru wedi mynnu mai plannu coed mewn modd sensitif fydd yr allwedd i alluogi amaethyddiaeth yng Nghymru i gyrraedd targedau carbon Llywodraeth Cymru gan amddiffyn y manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach sy'n cael eu darparu gan ffermio yng Nghymru.

16:55

Gaf i eich atgoffa bod eich amser ar ben nawr? Rwyf wedi bod yn eithaf hael yn barod. Os oes gennych chi un pwynt olaf i'w wneud, gwnewch hwnnw nawr.

Iawn. A fyddwch chi'n ymrwymo i gefnogi strategaeth 'Tyfu Gyda'n Gilydd' NFU Cymru, ac a fyddwch chi'n creu dyletswydd gyfreithiol i ffurfio cynllun datblygu morol cenedlaethol a'i adolygu'n gyson? Diolch. Diolch, Llywydd.

Diolch, Janet. Felly, ar y 30x30 a'r targedau a roddwyd yn y gyfraith, rwyf wedi dweud yn ddiddiwedd yn y Siambr hon, a byddaf yn ei ailadrodd eto: rydym yn disgwyl i COP15, sydd bellach yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr yng Nghanada, ac rwyf yn gobeithio'n fawr y byddaf yn mynd iddi, i bennu targedau byd-eang. Mae'n hynod o bwysig fod ein targedau yn cyrraedd y targedau hynny ac yn rhagori arnyn nhw. Felly, rwyf wedi dweud yr holl ffordd drwodd, rydyn ni yn sicr yn bwriadu rhoi'r targedau yn y gyfraith. Rhan o waith y grŵp wrth symud ymlaen—. Felly, mae gennym ni'r gyfres gyntaf o argymhellion gan grŵp yr archwiliad dwfn. Fe fyddan nhw nawr yn ffurfio tîm gweithredu a fydd yn bwrw ymlaen â hynny. Maen nhw'n awyddus iawn i weithio gyda ni ac yn parhau i wneud hynny. Ni allaf fynegi fy niolch ddigon am yr oriau hir, hir y mae pobl wedi'u treulio am ddim gwobr heblaw am fod wedi gwneud y peth iawn. Wedi gweithio gyda ni, maen nhw'n mynd i barhau. Maen nhw i gyd wedi cytuno i barhau i weithio gyda ni—mae hynny'n cynnwys cymdeithasau ffermwyr gweithredol ac ati—i sicrhau bod gennym gynllun gweithredu ar waith nawr i fod â'r targedau penodol iawn.

Felly, rwy'n cytuno â chi, Janet, ond allwch chi ddim ysgrifennu'r targedau i lawr mwy nag y gallaf i. Y broblem yw, mae'n ddigon hawdd dweud eich bod chi eisiau'r targedau yn y gyfraith, ond dydw i ddim yn gwybod beth ydyn nhw. Felly, 30x30, iawn, gallwn ni wneud hynny. Ond, petawn i eisiau, gallwn i ddweud wrthych fod 30 y cant o'r tir yng Nghymru yn cael ei warchod yn barod—mae hynny wedi ei gyflawni. Ond rydych chi'n gwybod ac rydw i'n gwybod nad dyna sydd ei angen. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw camau gweithredu penodol iawn, a bydd y grŵp arbenigol yn ein helpu i weithio arnynt. Mae gennym y grwpiau bord gron a rhanddeiliaid ehangach yn cyfrannu at hynny, ac fe gawn dargedau sy'n ystyrlon, sy'n rhoi pwysau arnom, ac sydd, yn wir, yn y gyfraith. Ond, mae angen i mi wybod beth ddylai'r targedau hynny fod. Nid oes diben i mi fod eu heisiau nawr pan nad ydym wedi eu datblygu, ac mae angen i mi hefyd wybod beth fydd COP15 yn ei wneud. Rwyf wedi bod yn gyson o ran dweud hynny yr holl ffordd drwodd, felly byddwn ni'n cyflawni hynny. Byddwn ni'n rhoi Bil drwodd yn nhymor y Senedd hwn sy'n rhoi'r rheiny yn y gyfraith, ond mae angen i mi allu gwneud hynny gan wybod beth yw'r trefniadau byd-eang ar gyfer hyn. Ac, fel y dywedais i, rydym yn bwriadu cymryd rhan weithredol iawn yn COP15 hefyd, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, gan gyfrannu at bob un o'r cynghreiriau Under2 a'r gweddill.

Ar rai o'r pethau eraill, ar y cynllun datblygu morol, dydw i ddim eisiau dargyfeirio adnoddau prin iawn. Mae'n ddrwg gen i, Janet, ond rydych chi'n Geidwadwr yn y pen draw—felly, gyda'r ymosodiad parhaus ar wasanaethau cyhoeddus a faint o adnoddau sydd gennym, nid yw dargyfeirio adnoddau i wneud cynllun arall eto, pan mai'r hyn yr wyf i ei eisiau mewn gwirionedd yw bod â'r cynllun wedi'i weithredu, yn rhywbeth yr wyf yn barod i'w wneud. Felly, rwy'n cytuno â chi y dylai fod elfen strategol i hyn—byddwn ni'n cynnwys hynny. Rydym wedi sefydlu grŵp llywio rheoli rhwydwaith MPA. Byddwn ni'n gweithio gyda nhw i lunio'r cynllun gweithredu. Ond rwyf eisiau bwrw ati a'i wneud. Dydw i ddim eisiau dargyfeirio fy adnoddau prin i wneud cynllun arall eto—rydyn ni yn sicr iawn yn ffatri strategol fel y mae, a dydw i ddim eisiau gwneud hynny. Ond rwy'n cytuno â chi bod angen ei ddyrannu'n ofodol, felly byddwn yn gweithio gyda hwnnw ar y cynllun gweithredu.

Ac yna, dim ond i ddweud ei bod yr un mor bwysig gweithio gyda'r pysgotwyr ar y cynlluniau morol ag y mae i weithio gyda'r ffermwyr ar y rhai tirol. Felly, byddwn yn dymuno ymgynghori â phobl ein diwydiant pysgota, byddwn yn dymuno ymgynghori, yn amlwg, gyda'r holl sefydliadau anllywodraethol, a byddwn yn dymuno trafod hyn gyda'n harbenigwyr. Roedd gennym arbenigwyr morol ar yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth yn eithaf bwriadol oherwydd mae hyn yn ymwneud â phob ardal—tir, dŵr croyw a'r môr. Felly, fe fyddwn ni'n gwneud hynny.

Ac yna, ar y ffermwyr, mae gen i ofn bod yna lawer o chwalu chwedlau y mae angen ei wneud o ran yr hyn yr ydym ni wedi gofyn i ffermwyr ei wneud. Yn amlwg, rydyn ni eisiau i ffermwyr gynhyrchu'r bwyd gorau posib, yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl, a'r math o fwyd yr ydym ei eisiau, wrth symud ymlaen, ond rydyn ni hefyd eisiau iddyn nhw gefnogi'r bioamrywiaeth gwbl hanfodol, y mae ein bwyd yn amhosib hebddo. Os nad oes peillwyr, does dim bwyd. Os nad oes cynefinoedd i'r peillwyr hynny, does dim bwyd. Felly, mae'n rhaid i ni fod â chymysgedd cynaliadwy rhwng y math iawn o goedwigaeth, y math iawn o laswelltir agored—heb ei aredig, heb ei ffermio—adfer mawndir ac ati, a chynhyrchu bwyd. Mae'n rhaid i ni gael y cymysgedd yna'n iawn, a'r gwir yw nad yw'n iawn ar hyn o bryd, a dyna pam mae gennym ni ein bioamrywiaeth yn cael ei dinistrio, oherwydd mae ein harferion ffermio blaenorol yn yr ugeinfed ganrif wedi cyfrannu ato. Nid nhw yn unig sy'n gyfrifol amdano ond maen nhw wedi cyfrannu'n fawr at golli'r fioamrywiaeth honno. Felly, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cael ei gyflwyno, yn gwobrwyo ffermwyr am greu'r cymysgedd iawn. Ac wrth gwrs, byddwn ni'n eu helpu i wneud hynny, ac wrth gwrs rydyn ni'n gwerthfawrogi'r bwyd y maen nhw'n ei gynhyrchu, ond maen nhw hefyd yn cynhyrchu'r aer yr ydym yn ei anadlu a'r planhigion yr ydym yn dibynnu'n llwyr arnyn nhw i aros yn fyw, a'r rhywogaethau sydd mewn gwirionedd yn ein helpu i reoli'r hinsawdd. Rydyn ni wedi gweld beth sy'n digwydd i'r hinsawdd. Mae'n rhaid i ni gael mwy o allu i wrthsefyll hynny.

17:00

Diolch, Gweinidog. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr, rwy'n gobeithio, yn symud tuag at agenda mwy uchelgeisiol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng natur. Mae'r dadleuon am y maes hwn yr ydyn ni wedi eu cael yn y Siambr, rwy'n credu, wedi dangos bod pob un ohonom ni wedi cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwarchod ac adfer bioamrywiaeth i Gymru, ond y byd ehangach hefyd. Ac rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi arwain y ffordd wrth alw ar y Senedd i ddatgan argyfwng natur ac i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol a chau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol hwnnw. Ni oedd y wlad gyntaf i ddatgan argyfwng natur yn ffurfiol, sy'n beth cyffrous a phwysig iawn, ond heddiw rydym yn dal i aros am nodau'r polisi ynghylch hynny er mwyn iddo ddwyn ffrwyth. Mae'r ymrwymiadau yn ein cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, yn sicr yn gamau tuag at Gymru fwy positif o ran natur. Edrychwn ymlaen at barhau â gwaith cydweithredol ar hynny. Nawr, ar yr heriau yn y maes hwn, yn cael eu cydnabod—er gwaethaf unrhyw un o'r rheiny—rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â'r ffaith bod cynnydd, yn anffodus, wedi bod yn araf o ran gwarchod byd natur, oherwydd mae natur yn parhau i ddirywio a bydd yn dal i wynebu sawl bygythiad.

Gweinidog, byddwch chi'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi nodi manylion Bil newydd sy'n bygwth diwygio neu ddileu cyfreithiau amgylcheddol hanfodol. Mae rhai o'r deddfau hyn a allai gael eu dileu yn amddiffyn rhai o'n bywyd gwyllt a'n mannau gwyrdd mwyaf agored i niwed—maen nhw'n amddiffyn dŵr glân, aer glân, traethau glân ac afonydd. Byddai unrhyw un o'r gweithredoedd hyn yn digwydd yn drychineb; gyda'i gilydd, yn gyflym un ar ôl y llall, fyddai hyn yn ddim llai nag yn ymosodiad ar fyd natur. Nawr, rydw i wir yn cydnabod bod yr archwiliad dwfn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sydd i'w croesawu tuag at roi ei nodau ar gyfer adfer byd natur ar waith a chryfhau'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yng Nghymru. Rwy'n nodi i'r Prif Weinidog ddweud ym mis Gorffennaf bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol yr UE. Felly, a gaf ofyn i chi, Gweinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau posibl Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a chynllun twf ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru, a pha sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ei chynlluniau yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu a chyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol ein hunain, os gwelwch yn dda?

Mae'r archwiliad dwfn yn cynnwys argymhelliad i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol—mae hyn wedi codi'n barod—i sefydlu targedau adfer natur cyffredinol, ac y byddai hynny'n cael ei osod mor gynnar â phosibl yn nhymor y Senedd hwn. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr oherwydd mae angen y targedau cyfreithiol hynny sy'n gyfreithiol rwymol ar frys. Rwy'n credu, yng Nghymru, fod gennym y cyfle hwn yma i fod yn well wrth osod, ie, nodau uchelgeisiol ac olrhain cynnydd tuag at y nodau hynny. Allwn ni ddim fforddio degawd arall o fusnes-fel-arfer ar gyfer natur. Rwy'n credu y byddai pawb—wel, gobeithio y byddai pawb—yn cytuno ar y pwynt hwnnw. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd hyn yn cynnwys targedau ar gyfer lluosogrwydd a dosbarthiad rhywogaethau, ynghyd â maint ac ansawdd cynefinoedd, fel rhan o'r gyfres hon o dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, hirdymor a dros dro?

Yn olaf, Gweinidog, ydych chi'n cytuno, yn sgil cynlluniau Llywodraeth y DU, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i sicrhau'r ddeddfwriaeth hanfodol hon i Gymru a fydd yn cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol presennol? Ac a wnewch chi gadarnhau bod gwaith i ddatblygu'r targedau a'r trefniadau llywodraethu—yr holl bethau hynny sydd eu hangen mor hanfodol—yn mynd i ddechrau cyn gynted â phosibl wrth ragweld y ddeddfwriaeth hon sydd i ddod os gwelwch yn dda? Diolch. 

17:05

Ie, diolch, Delyth. Gallwn ni i ddim yn cytuno mwy; mae angen i ni gyd, yn amlwg, chwarae ein rhan. Mae datgan yr argyfwng yn un peth; mewn gwirionedd, mae cymryd y camau anodd iawn, iawn sydd eu hangen i wneud iddo ddigwydd yn beth arall. Rwy'n ofni bod yn rhaid i mi ddweud drwy'r amser wrth y Ceidwadwyr gyferbyn â'i bod hi'n ddigon hawdd dweud eich bod yn cytuno â'r pethau hyn, ond yna mae gwrthwynebu pob un mesur sy'n ein symud ar hyd y llwybr hwnnw yn beth anodd iawn. Dydy'r rhain ddim yn bethau hawdd i'w gwneud neu fe fydden ni wedi eu gwneud nhw. Byddai pobl wedi eu gwneud yn awtomatig pe baen nhw'n hawdd. Maen nhw'n anodd. Maen nhw'n newid y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau—dyna'r gwir amdani. Ac mae'n rhaid i ni wneud hynny neu fydd gennym ni ddim planed ar ôl. Ac nid pethau hawdd i'w gwneud yw'r rhain. Mae pob un sector o'n cymdeithas yn mynd i orfod edrych yn ofalus ar yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, a meddwl yn ofalus iawn am beth fydd ei angen o'r sector hwnnw o gymdeithas neu'r unigolyn hwnnw neu'r busnes hwnnw i gyfrannu at hyn, neu fyddwn ni ddim yn cyrraedd yno. Alla i ddim pwysleisio hynny digon. Mae angen hynny o bob maes o'n cymuned. Mae angen inni weithio gyda'n cymunedau ar newidiadau ymddygiad, ar wneud y peth iawn—rydych chi'n fy nghlywed i'n dweud hyn drwy'r amser—yn haws i'w wneud, gan wneud y peth anghywir yn anoddach ac yn anoddach ac yn anoddach i'w wneud. Ac, yn amlwg, mae angen i ni symud pobl ar hyd y continwwm hwnnw. Dydyn nhw ddim yn mynd i fynd o ofnadwy iawn i fod yn gwbl ardderchog mewn un naid. Mae'n rhaid i chi gael pobl yno, ond mae'n rhaid i ni eu cael nhw i symud ar hyd y continwwm hwnnw. A'r math o ystyfnigrwydd a,'Nid fi; pawb arall ond nid fi', mae'n rhaid i ni beidio â gwneud hynny. Ac roedd bobl yr archwiliad dwfn yn chwyrn am hynny ym mhob rhan o'r gwaith, felly mae'n rhaid i ni wneud hynny.

Yn sicr, mae'n rhaid i ni gael y targedau hyn i mewn i ddeddfwriaeth. Alla i ddim cytuno gyda chi beth fyddan nhw oherwydd dyna rwyf wedi ei ofyn i'r arbenigwyr ei wneud. Felly, rwyf eisiau gweld beth sy'n digwydd yn COP ac rwyf eisiau gweld sut olwg sydd ar y rhai byd-eang. Rwyf wedi dweud hyn wrthoch chi'n ddiddiwedd, on'd ydw i? Rydw i eisiau bod â'r targedau ar waith hefyd; mae'n rhwystredig i mi. Ond dydw i ddim eisiau gosod targedau sy'n rhy hawdd neu sydd heb gysylltiad â'r gwaith byd-eang sydd wedi bod yn digwydd. Rydw i wedi bod a'r arbenigwyr archwiliad dwfn hyn—maen nhw wedi bod yn anhygoel i eistedd wrth eu hochr; mae'n brofiad arbennig iawn—ond dydyn nhw ddim yn cytuno ymysg ei gilydd bob amser ynglŷn â sut olwg y dylai fod arnynt. Felly, mae angen i ni gael barn gonsensws ynglŷn â sut olwg sydd ar y targedau hyn, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gyraeddadwy, oherwydd mae targedau sy'n cael eu gosod ac yna maen nhw wedi mynd dim ond yn cynyddu sinigiaeth ac, 'O, beth yw'r pwynt?' Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gyraeddadwy, ond mae'n rhaid iddyn nhw ein hymestyn ni, on'd ydyn nhw? Mae'n rhaid iddyn nhw fod ond y dim i fod yn gyraeddadwy. Felly, mae'n bwysig cael hynny'n iawn, ac rwy'n benderfynol o'i wneud. Ac rwyf eisiau bod pwysau arnaf o ran hynny. Rydyn ni eisiau adrodd—mae'n rhaid i mi ddod yma ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi beth rydw i wedi'i wneud amdano, ac ati. Rydw i eisiau'r pethau yna. Ond mae'n hanfodol cael y targedau'n iawn. Felly, byddwn yn gwneud llawer o waith nawr yn y cyfnod cyn COP, ac yna yn syth ar ôl COP, i sicrhau bod y targedau hynny wedi'u cytuno ar draws y sectorau cyfan, ac yna i'w gweithredu. Ond, gallwch fod yn sîwr iawn, mae hynny i gyd yn iawn, ond bydd y targedau hynny'n golygu bod yn rhaid i ni i gyd wneud pethau'n wahanol ac mewn amgylchiadau lle gallai hynny fod yn anodd iawn. Efallai y bydd penderfyniadau anodd. Felly, nid llwybr hawdd i'w gymryd yw hwn, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn neu ni fydd gennym blaned ar ôl. Doeddwn i ddim yn gallu cytuno mwy. 

Wedyn, o ran cynllun Llywodraeth y DU, rwy'n anobeithio a dweud y gwir. Felly, mae gennym y system gynllunio yn cael ei chwalu. Fe welsoch chi ymateb yr RSPB i hynny—eu bod wedi mapio'r ardaloedd gwarchodedig yn erbyn y parthau buddsoddi honedig. Mae'n drychineb—yn drychineb llwyr. Wrth gwrs fe fyddwn ni'n brwydro yn eu herbyn nhw. Wrth gwrs fe fyddwn ni'n ceisio cadw ein safonau UE cymaint ag y gallwn. Nid mater i mi yw hyn; byddai angen i chi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Ond fy ofn mawr i yw, wrth ddargyfeirio adnoddau i ymladd y frwydr honno, ein bod ni'n colli hyd yn oed mwy o dir o ran gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud. Rwy'n credu bod y Torïaid yn gwadu'n llwyr yr effaith ar ein hadnoddau cyfyngedig o orfod brwydro yn erbyn ymosodiad hurt a chwbl diangen ar rywbeth y maen nhw'n dweud eu hunain eu bod nhw eisiau ei wneud. Felly, dydw i ddim yn gwybod ble i roi fy hun dros ba mor grac ydw i am hynny i gyd, ond gallaf eich sicrhau chi y byddwn yn ei ymladd, byddwn yn cadw gafael ar ein system a arweinir gan gynllun yr ydym wedi gweithio mor galed arni ac sy'n bwysig iawn i bobl, ac fe glywsoch chi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog dim ond prynhawn yma bod pobl eisiau coelcerth o ddeddfau cynllunio ond nid yn eu hardal eu hunain, sy'n ymateb eithaf clasurol.

17:10

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr. Ni allwn barhau i golli rhywogaethau. Byddwn i'n cymryd mwy na fy munud i restru'r rhywogaethau yng Nghymru sydd dan fygythiad, ond mewn bioamrywiaeth, wrth gwrs, mae angen ecwilibriwm arnon ni. Ni allwn fforddio colli ysglyfaethwyr y pen uchaf. Os ydyn ni'n colli ysglyfaethwyr y pen uchaf, yna mae anifeiliaid yn is i lawr y gadwyn fwyd yn lluosi'n aruthrol, gan roi pwysau ar anifeiliaid ymhellach i lawr y gadwyn fwyd. Rydym wedi gweld hynny, er enghraifft, gyda llygod mawr; mae'r anifeiliaid a oedd yn arfer eu bwyta wedi cael eu lleihau ac felly o ganlyniad yr hyn yr ydyn ni'n ei weld yw llawer iawn mwy o lygod mawr nag a oedd yn arfer bod gennym. Beth mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'w wneud i gefnogi ysglyfaethwyr y pen uchaf sy'n bwysig iawn i fioamrywiaeth? 

Ar afonydd a'r môr, ni allwn barhau i'w orlifo â charthion heb eu trin a llygredd amaethyddol. Rydym wedi gweld tyfiant algâu yn Afon Gwy a achosir gan lygredd amaethyddol. Gwnaeth CNC waith ymchwil a ysgogwyd gan dyfiant gormodol o algâu, a achosir yn aml gan lefelau ffosffad uchel yn y dŵr. Trodd rhannau o'r afon yn wyrdd yn ystod tywydd heulog a phan oedd llif y dŵr yn isel, gan achosi niwed posibl i ecosystemau a bioamrywiaeth. Ond nid yn yr afon yn unig y ceir y llygredd; mae'n rhedeg i'r môr. Felly, pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio i atal llygredd afonydd a'r môr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cred y gallech bwmpio unrhyw beth i'r môr a byddai'n diflannu. Rydym ni nawr yn gwybod nad yw hynny'n wir, felly gobeithio y gallwn ni gymryd rhywfaint o gamau.

Ie, diolch, Mike. Ar y pwynt ysglyfaethwr pen uchaf, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Wn i ddim a yw'r Aelodau wedi gweld y ffilm am barc Yellowstone yn ailgyflwyno'r bleiddiaid. Os nad ydych chi wedi ei gwylio, gwyliwch hi—dim ond chwilio am, 'Yellowstone park reintroduction of wolves' ar Google. A dyna'r cyfan wnaethon nhw. Roedd ganddyn nhw bioddiraddiad go iawn, roedd ganddyn nhw gorbori gan bob math—roedd ganddyn nhw bob math o bethau, i fod yn onest, mae'n gwneud i chi grio i wylio. Fe wnaethon nhw roi'r ysglyfaethwr pen uchaf yn ôl i mewn, rheoli niferoedd y pethau eraill ac fe adfywiodd y parc. Roedd yn syfrdanol i'w wylio, a dyna sy'n digwydd pan fyddwch chi'n ymyrryd ag ecosystemau heb ddeall beth fydd y canlyniad. Mae'n werth gwylio os nad ydych chi wedi ei gwylio. Mae'n gwneud i chi fynd yn oer a chrynu—mae hynny wedi digwydd i mi dim ond wrth feddwl am hynny nawr. 

Felly, mae deall mewn gwirionedd—dyma'r pwynt, Mike, on'd yw e—o'r arbenigwyr sut olwg ddylai fod ar yr ecosystem honno, beth mae'r ysglyfaethwr pen uchaf hwnnw mewn gwirionedd yn ei wneud a'i rôl wrth gynnal yr ecosffer yr ydym yn siarad amdano yn beth pwysig iawn yr ydym yn bendant yn gweithio arno. Rydym wedi bod yn ystyried, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, a fyddai ailgyflwyno afancod yn syniad da yn rhai o'n hafonydd. Does gen i ddim syniad eto—neb i fynd i banig. Dydyn ni ddim wedi penderfynu eto. [Chwerthin.] Ond, rydyn ni'n ystyried hynny—

Rwyf i'n mynd i fwy o banig am fleiddiaid, a dweud y gwir. [Chwerthin.]

A'r bleiddiaid. Mae'n bwysig iawn deall sut olwg sydd ar yr ecosystem yr ydych chi'n edrych arni nawr a beth sy'n rheoli honno ar hyn o bryd. Beth yw'r amnewidyn ar gyfer yr ysglyfaethwr pen uchaf? Mae'n fwy cymhleth, on'd yw e, na hynny, oherwydd bydd methodolegau eraill. Mae pethau'n symud i'r gofod sydd wedi ei wacáu gan ysglyfaethwr pen uchaf, er enghraifft. Ond mae'n ddiddorol iawn—gwyliwch y rhaglen Yellowstone—oherwydd, rydym wedi tynnu'r holl ysglyfaethwyr pen uchaf o ran helaeth o'n bywyd gwyllt, felly beth sy'n mynd i reoli ffrwydrad poblogaeth y pethau a fyddai fel arall wedi cael eu hysglyfaethu? Mae honno'n broblem go iawn.

Y mater arall, lle rydyn ni'n ceisio amddiffyn rhywogaeth sydd wedi cael ei gor-ysglyfaethu, yw bod yna sgwrs anodd iawn am sut i wneud hynny. Mae rheolaeth farwol, fel y'i gelwir yn llednais—lladd yr ysglyfaethwr pen uchaf am ei fod yn bwyta cywion adar sy'n nythu ar y ddaear, ac yn y blaen—yn ddadleuol iawn. Rydyn ni'n gwneud hynny mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, mae edrych i weld a oes gennym yr ateb cywir i broblem yn rhywbeth yr wyf i'n awyddus iawn i'w wneud, ac nid wyf i'n arbenigwr ar hynny. Mae angen i mi ofyn i bobl am gyngor ar hynny. Mae amrywiaeth o safbwyntiau am hynny. Rydym wedi cael trafodaethau tanbaid yn y grwpiau hyn, gallaf ddweud wrthych chi. Ond mae ceisio taro ar ateb mae'r rhan fwyaf o bobl ar draws y byd, nid dim ond yng Nghymru, yn cytuno yw'r ateb yn bwysig mewn gwirionedd, Mike. Felly, rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud hynny. Ac mae'n rhaid i ni wneud hynny gyda'n rheolwyr tir a'n tirfeddianwyr, on'd oes? Mae'n rhaid i ni ddeall sut byddai hynny iddyn nhw. Felly, mae yna lawer o bobl yn gweithio ar hynny. 

Fe wnes i lansio'r adroddiad hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddoe. Mae ganddyn nhw—alla i ddim cofio beth maen nhw'n ei alw nawr—raglen Hebogiaid yno, er nad dyna maen nhw'n ei galw, ond rhaglen adar ysglyfaethus yno. Mae'n anhygoel, ac os ydych chi'n siarad â nhw am sut maen nhw'n ailgyflwyno'r rheiny i'r tirlun, mae hynny hefyd yn anhygoel. Felly, maen nhw'n gwybod faint o erwau o dirwedd fydd yn cefnogi un dylluan frech, er enghraifft. Felly, maen nhw'n gwybod lle maen nhw'n gallu ac yn methu cyflwyno mwy, oherwydd bydden nhw yn ymladd neu'n llwgu neu beth bynnag. Felly, mae'n ddiddorol iawn, ac mae llawer o waith ledled Cymru a ledled y byd yn cael ei wneud ar hynny.

Ar y pwynt arall a wnaethoch, am lygryddion afon, yn sicr. Dydw i ddim eisiau bod yn rhagweld dinistr drwy'r amser, er hynny. Gallen ni fynd yn gyflymach, peidiwch â fy nghamddeall, a gallen ni wneud yn well, ond yn araf bach maen nhw'n dal i wella. Dydw i ddim eisiau i bobl gael y syniad bod afonydd mewn gwirionedd yn dad-wella yng Nghymru. Mae rhai o'n hafonydd mewn argyfwng, argyfwng go iawn, ond mewn gwirionedd, o ran y darlun cyfan yng Nghymru, mae yna welliant araf. Yr hyn y gofynnwyd i mi ei wneud fel rhan o'r archwiliad dwfn yw cyflymu hynny, deall pam mae hynny wedi gweithio mewn rhai ardaloedd a'i gyflymu, a'i gael allan i'r ardaloedd lle mae gennym argyfwng go iawn fel afon Gwy ac afon Wysg, er enghraifft, neu'r hyn a elwir yn uwchddalgylch Brycheiniog. Felly, y pwynt rwy'n ei wneud, Mike, yw ein bod ni'n gwybod beth sy'n gweithio mewn rhai ardaloedd; mae angen i ni ei gyflymu ar draws y maes. Ac rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Delyth, Llywydd: ni all hynny ddigwydd oni bai bod pob un rhan o'n cymuned yn chwarae ei rhan. Does dim pwynt pwyntio bys at bobl a dweud, 'Eich bai chi yw hyn', neu 'Eich bai chi yw hyn'; mae'n rhaid i bawb chwarae ei ran wrth leihau ei gyfraniad i'r llygredd hwnnw.

17:15

Rwy'n croesawu eich pwyslais ar fioamrywiaeth a'ch angerdd. Mae'n hyfryd bod yn Aelod o'r Senedd a chlywed bioamrywiaeth yn cael ei thrafod gymaint. Roeddwn i'n taro fy mhen ar wal frics, yn y bôn, fel cynghorydd am 12 mlynedd fel hyrwyddwr bioamrywiaeth, ond mae clywed eich angerdd yn wych. Mae'r ddealltwriaeth o'r argyfyngau natur a hinsawdd yn gwbl groes i Lywodraeth y DU, sy'n mynnu dadreoleiddio a gwaredu rheoliadau cynllunio o dan y parthau buddsoddi, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn gynharach. Rwy'n poeni'n fawr eu bod nhw'n mynd i gyrraedd y targedau maen nhw wedi'u gosod. Felly, dull tîm Cymru amdani, ac mae gwaith partneriaethau natur lleol yn wych iawn a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod wedi darparu cyllid cyfalaf iddyn nhw. A fyddwch chi'n gallu ymrwymo i gyllid cyfalaf wrth symud ymlaen hefyd, dros y blynyddoedd nesaf, i'w helpu i barhau â'u gwaith da? Diolch.

Ie, diolch, Carolyn. Felly, roedd gennym y cwmnïau dŵr yn cymryd rhan fawr yn ein hymchwiliad dwfn ac yn ein bord gron ehangach, a'n rhanddeiliaid. Rwyf i, yn bersonol, wedi cwrdd ag Ofwat—rydw i bob amser yn cymysgu'r Ofs; Ofwat yn yr achos hwn—i siarad am y strwythur prisio newydd, oherwydd i Dŵr Cymru yn benodol, nid yn gymaint i Hafren Dyfrdwy, mae'n gwmni nid-er-elw, felly mae angen i ni gael y strwythur yn iawn fel y gall y buddsoddiad fynd i mewn yn y ffordd gywir. Ac mewn gwirionedd rydyn ni dan anfantais oherwydd hynny. Felly, rydyn ni wedi cael sgwrs eithaf cadarn gyda Ofwat am wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ystyried, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Ac roedd Dŵr Cymru yn y grŵp craidd hefyd, o ran peth o hyn. Ond, yn bendant, mae'n rhaid i ni gael y pethau hynny'n iawn. Rydym ni'n dal i ddefnyddio system garthffosiaeth o Oes Fictoria ar draws y rhan fwyaf o'r DU, ac nid yw'n addas i'r diben o gwbl. Felly, mae'n rhaid i ni wneud llawer o bethau. Felly, mae gen i rai pethau cyfochrog yn mynd ymlaen i'r archwiliad dwfn. Felly, rydym wedi gwneud ymchwiliad ac adolygiad i'r systemau draenio cynaliadwy, a ddylen ni fod yn cyflymu hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at bawb ac wedi atgoffa pob cyngor bod deddfau eisoes ar waith yn eich atal rhag rhoi gorchudd anathraidd ar eich gardd flaen ac ar eich dreif. Rwyf wir yn teimlo y dylai pobl wybod hynny a pheidio â gwneud  hynny; mae'r dŵr ffo i mewn i'r gwteri yn ofnadwy o hynny. Joyce, rydych chi wedi sôn am hynny ers i mi eich adnabod, rwy'n credu. Mewn gwirionedd rydym wedi rhoi'r ddeddfwriaeth yn ei lle ac mae angen i'n partneriaid awdurdod lleol gamu i'r adwy, ac rwy'n credu bod ond angen i unigolion wybod amdano.

O ran y cyllid, Carolyn, ydw, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi rhoi'r cyllid mewn cylch tair blynedd fel bod pobl yn gallu cynllunio ar gyfer rhaglen llawer hirach, er mwyn iddyn nhw ddeall sut i ledaenu'r camau sydd ganddyn nhw ac y gallan nhw gynllunio ar gyfer dyfodol tymor canolig. Ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, o flwyddyn i flwyddyn, ymestyn y rhaglen tair blynedd wrth fynd ymlaen. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'r tynnu ynghyd o'r holl wahanol ysgogwyr, cymuned, y mudiadau anllywodraethol, y Llywodraeth, cynghorau ac ati wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Rwy'n edrych ymlaen at y bleiddiaid ym mharc Singleton, Mike. [Chwerthin.]

Mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch chi ar yr adeg hon, Huw, bod yna rai pobl a fyddai'n dweud bod yna fleiddiaid eisoes ym mharc Singleton. [Chwerthin.]

Gwrandewch, rwy'n mynd i fynd yn gyflym trwy rai pethau. Yn gyntaf oll, da iawn ar hyn a da iawn i'r bobl a roddodd hyn at ei gilydd a'r archwiliad dwfn bioamrywiaeth. Mae hyn yn arwyddocaol—mae pob gair yn y datganiad hwn yn ein cario ar ffordd arwyddocaol. Nawr mae'r manylion yn mynd i fod yn bwysig iawn, ond a gaf i groesawu hyn yn fawr iawn, croesawu'r ffaith eich bod wedi ailddatgan heddiw, mewn ymateb i'r datganiad hefyd, eich ymrwymiad i gyflwyno targedau a rhai statudol sy'n ymestynnol ac yn uchelgeisiol? Ac mae'n rhaid iddyn nhw fod y rhai iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi glynu at hyn ers tro; mae hynny'n wych, ond rydyn ni'n edrych ymlaen atyn nhw ac fe fyddwn ni'n eich dal chi atyn nhw o ran bod yn ymestyn ac yn uchelgeisiol. Mae'r arwyddion ar gyfer hyn yn bwysig o o ran tîm Cymru; mewn cyferbyniad llwyr â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, yr hyn yr ydyn ni'n ei weld; mae'n rhaid i ni i gyd dynnu hyn at ei gilydd. Ac a fyddech chi'n cadarnhau i mi, mewn gwirionedd, fod llawer o ffermwyr wedi bod yn rhan o'r archwiliad dwfn, llawer wedi cyfrannu? Nid yn unig yr oedden nhw eisiau hyn, roedden nhw eisiau i ni fynd ymhellach. Ac a fyddech chi hefyd yn dweud wrthym ni sut rydyn ni'n mynd i wneud y cyllid? Oherwydd fe wnaethoch chi sôn tua diwedd y datganiad yn y fan yna—mae'n dweud:

'Rydym yn cydnabod bod angen i ni ryddhau cyllid ychwanegol er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy.'

Rwy'n cytuno. Pryd a sut?

17:20

Oedd, felly roedd gennym amryw o grwpiau ffermwyr yn rhan o'r archwiliad dwfn ac yn y grŵp rhan—. Felly, mae yna ryw fath o brif grŵp ac is-grwpiau; dyna sut y gwnaethon ni e. Fe benderfynon ni na allen ni gael trafodaeth adeiladol gyda mwy na tua 12 o bobl yn y grŵp craidd, felly cawsom fath o fodel prif grŵp ac is-grwpiau, felly roedd aelodau o'r grŵp craidd hefyd yn eistedd ar y bordiau crwn a'r grwpiau rhanddeiliaid ac yn cyfrannu atynt. Roedd gennym ryw fath o is-strwythur mawr yn cyfrannu at argymhellion y grŵp craidd. Mae hynny i gyd yn y parth cyhoeddus, felly gallwch weld sut olwg sydd ar hynny.

Felly, ie, yn sicr iawn. Y consensws absoliwt ar draws y maes oedd, 'Mae'r hyn yr ydych chi'n ei wneud yn iawn, ond mae angen i chi ei wneud yn fwy, yn well, yn fwy cysylltiedig ac yn gyflymach', yn y bôn. Felly, doedd neb eisiau ei weld yn mynd yn arafach. A bu rhywfaint o drafod ynghylch a oedd y '30 y cant o'r tir' erbyn 2030 yn ddigon uchelgeisiol, ond y farn gonsensws oedd, pe byddem yn llwyddo i wneud hynny, byddem wedi gwneud newid sylweddol yn y ffordd y mae pethau'n digwydd yng Nghymru, oherwydd mewn gwirionedd, nid oes gennym unman yn agos i 30 y cant o'n tir mewn statws cadwraeth da, felly, mewn gwirionedd, mae'n ofyniad eithaf mawr, mewn gwirionedd; er hynny ei bod yn drist i ddweud hynny. Hefyd, y farn gonsensws oedd, pe bai chi'n cyrraedd 30 y cant o'r tir mewn statws cadwraeth da, byddech chi—. Oherwydd yr unig ffordd o wneud hynny yw gwneud hyn. Rwyf wedi gwneud yr holl berfeddwlad hefyd, oherwydd rhan o'r broblem gyda'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a'r gwahanol dirweddau dynodedig eraill yw bod yr hyn sy'n digwydd o amgylch ymyl y rhain yn cael effaith fawr iawn ar yr hyn sy'n digwydd y tu mewn iddyn nhw, felly byddai'r 30 y cant yn ei ledaenu allan beth bynnag, sy'n dda i'w wybod.

Ond mae'n ymwneud â gwneud y pethau anodd hyn y bydd pobl—. Rydyn ni i gyd yn cytuno nawr, oherwydd rwy'n siarad mewn pethau strategol uchel, ond pan fo'n dod i'r pethau unigol, nid yw'n mynd i fod yn hawdd deall sut mae'r pethau hyn yn edrych. Bydd yn rhaid i bob sector newid. Bydd yn rhaid i bob un sector newid, Huw.

Ac yna ar ysgogi cyllid, mae gennym ni waith arloesol yn digwydd ar hynny. Mae gennym ni ddewisiadau anodd i'w gwneud a rhai sgyrsiau anodd i'w cael. Felly, er enghraifft, a ddylen ni fod yn annog y cynlluniau gwrthbwyso carbon i ddod i Gymru gyda'u llawer iawn o arian mawr? A'r ateb i hynny yw, 'Dim ond os allwn ni sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud wedyn yng Nghymru yn llesol ac yn unol â'n polisïau.'

Felly, nid wyf yn cael cynllun, dim ond ryw blanhigion, beth bynnag, dros y lle; a hefyd, nid wyf yn cael cynllun sy'n golygu nad yw'r bobl sy'n ei wrthbwyso yn gwneud unrhyw beth am leihau eu carbon, mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i hyn fod yn gynllun o'r dewis olaf, lle mae'r gweithredwyr eisoes wedi gwneud popeth y gallant ei wneud, a lle rydyn ni'n rheoli—ochr yn ochr â'n rheolwyr tir a'n ffermwyr ac yn y blaen—sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddenu i mewn a'r hyn y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Mae honno'n llinell goch, yn sicr iawn, i ni. Felly, mae honno'n drafodaeth yr ydyn ni'n ei chael ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU a gyda nifer o weithredwyr.

Ond buaswn i'n hoffi cael fy nwylo ar yr arian yna, dyna'r gwir amdani, felly, mae'n bwysig i ni; allwn ni ddim gwneud hyn gyda dim ond arian cyhoeddus yn unig. Felly, mae yna bot o arian yna, felly rydym ni'n gweithio'n galed iawn i drio gwneud hynny. Ond hefyd, mae gennym grŵp cyfan o bobl yn gweithio ar gyllid arloesol, gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus i'w ysgogi, gan helpu ffermwyr i ysgogi arian iddyn nhw eu hunain, ac ati. Felly, mae honno'n sgwrs hollol newydd. Mae'r Llywydd yn mynd i wneud i mi ddod yn ôl rhyw dro arall i wneud hynny, felly does gen i ddim amser ar hyn o bryd.

Ni fyddai'n ddatganiad bioamrywiaeth pe na bawn i'n sôn am y wiwerod coch bach fflwffog, hyfryd yr wyf yn hyrwyddwr rhywogaethau ar eu cyfer. Fel mae'n digwydd, 10 i 16 Hydref yw Wythnos Ymwybyddiaeth Gwiwerod Coch, a hoffwn ddweud 'diolch' i Lywodraeth Cymru am y ffaith eich bod wedi gwrando ar bryderon y Red Squirrel Survival Trust, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, ac eraill a gododd y pryderon hynny ynghylch prosesau'r drwydded torri coed. Rwy'n gallu gweld bod gwelliannau yn mynd i gael eu gwneud nawr i'r gyfraith drwy Fil Amaethyddiaeth (Cymru), ac mae hynny'n beth gwych. Felly, rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Lywodraeth Cymru am wneud y newidiadau deddfwriaethol hynny pan fydd gennym Ddeddf o'n blaenau yn y pen draw.

Ond un achos o bryder sydd gen i yn eich datganiad heddiw oedd y sôn am gysylltedd gwahanol ardaloedd bioamrywiaeth, ac nid oherwydd nad ydw i'n deall risgiau ynyseiddio, os mynnwch chi, ar gyfer rhywogaethau, ond o ganlyniad i'r ffaith bod gennym ni ynyseiddio y mae gennym ni boblogaeth o wiwerod coch yng Nghymru o hyd. Felly, weithiau mae rhai manteision o ynyseiddio y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt. A allwch chi fy sicrhau, Gweinidog, pan ddaw hi at y wiwer goch fel rhywogaeth, sydd mewn perygl yma yng Nghymru, y byddwch yn ystyried risgiau cysylltedd sy'n eu cysylltu â'u gelyn gwaethaf, y wiwer lwyd?

17:25

Diolch, Darren. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwrando ar hynny ac edrych ar y ffordd mae'r trwyddedau coedwigaeth yn cael eu caniatáu, felly rwy'n gobeithio'n fawr y caiff ei gyflwyno cyn gynted a phosibl, fy hun, hefyd.

O ran cysylltedd, dyma oedd testun trafodaeth hir yn yr archwiliad dwfn, oherwydd, rydych chi'n hollol iawn, i rai rhywogaethau gwarchodedig, ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl neu ba bynnag rywogaethau eiconig, mae cael eu cysylltu â'u gelyn gwaethaf yn broblem wirioneddol. Ond i'r rhan fwyaf o rywogaethau, mae bod â chysylltedd yn bwysig, oherwydd fel arall ni allwch chi gymysgu cronfeydd genynnau ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae'n broblem fawr i rywogaethau ymledol hefyd. Mae'r wiwer lwyd, mewn gwirionedd, yn rhywogaeth ymledol, fel y gwyddoch chi, ac mewn gwirionedd mae'n broblem wirioneddol o ran planhigion sy'n rywogaethau ymledol. Felly, mae casbeth fi a Mike, canclwm Japan, yn hapus i deithio i lawr ein hafonydd ac ati. Felly, bu trafodaeth hir am sut y byddem yn llunio cysylltedd mewn ffordd a oedd yn ystyried y mathau hyn o rywogaethau ymledol a sut y gallem ni gyfyngu arnynt, felly rwy'n gwbl hapus i roi sicrwydd i chi ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n croesawu eich datganiad, Gweinidog, ac yn enwedig y prif ymrwymiad i adfer mawndir triphlyg. Mae'n wych. Ar gyfer y cofnod, rwy'n aelod o'r RSPB ers talwm, felly rwy'n arbennig o falch am beth mae hynny'n mynd i'w olygu i rywogaethau sy'n nythu ar y ddaear fel y grugiar a'r grugiar ddu a'r bod tinwen, pe baen nhw'n goroesi. Ond yn ogystal â bod yn gynefin unigryw, mae mawndiroedd yn hanfodol i'n cyflenwad dŵr yfed, ac mae 70 y cant o ddŵr yfed y DU yn dod o ucheldiroedd mawnog, sy'n atal llifogydd ac yn atal tanau gwyllt hefyd. Fel plannu coed, mae adfer mawndir yn allweddol i ddal a storio carbon, felly mae llawer o ganlyniadau da yma o ran ein hinsawdd ehangach.

Un o argymhellion hyn, ac mae newydd gael ei drafod, yw'r cysylltedd hwnnw, felly rwyf eisiau gofyn i chi, Gweinidog, a ydym yn edrych ar holl gyfleoedd y cysylltedd hwnnw, gan gynnwys yr ymylon ar hyd ein traffyrdd ac ardaloedd eraill, fel y gallwn greu'r coridorau hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o hynny'n cael ei gyflawni yn lleol iawn, ond ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd y cysylltedd hwnnw i'n peillwyr.

Yn bendant, Joyce. Felly, ar y rhaglen Mawndir, roeddwn i'n falch iawn o allu cyhoeddi, ochr yn ochr â Lesley, gyflymiad prosiect adfer y mawndir. Mae'r prosiectau yr wyf wedi ymweld â nhw eisoes yng Nghymru wedi bod yn galonogol, mewn gwirionedd, yn anhygoel o ran ymroddiad y bobl sy'n eu gwneud ac mewn gwirionedd wrth drawsnewid y tirlun. Felly, roeddwn i wrth fy modd i wneud hynny.

Rwy'n bwriadu lobïo Gweinidog newydd Llywodraeth y DU—dydw i ddim wedi cael cyfle i gwrdd eto, ond rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud fy mod yn ei gwrdd ar 24 Hydref. Hoffwn weld mawn yn cael ei wahardd ar gyfer defnyddio mewn unrhyw leoliad domestig. Nid oes gennym ni'r pŵer i wneud hynny, ac mae'n un o'r pethau yr wyf yn bryderus iawn amdano ac rwy'n mynd i fod yn cael sgwrs gyda sawl Gweinidog y DU amdano. Rwy'n credu bod yna broblem labelu mawr. Felly, rwy'n siŵr eich bod chi'n arddwr brwd, Joyce, ac rydw i hefyd, ond mae'n anodd iawn gwneud yn siŵr nad yw'r planhigyn yr ydych chi'n ei brynu o'r ganolfan arddio neu dyfwr mewn mawn. Mewn gwirionedd, hyd yn oed os gofynnwch chi, fyddan nhw ddim yn dweud wrthych chi'n aml, ac rwy'n credu y dylai fod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthych chi mai dyna beth yw'r cyfrwng tyfu. Felly hoffwn weld Llywodraeth y DU yn newid y gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion fel mawn.

Fe fydd amgylchiadau lle bydd cymuned leol, am resymau treftadaeth ac yn y blaen, yn dal i dorri mawn, ond, ar y cyfan, dylid atal torri mawn masnachol. Felly, rwyf am lobïo Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hynny, ond yn y cyfamser, rwy'n hapus iawn ein bod ni'n adfer ein mawndiroedd ein hunain mor gyflym ag y gallwn ni, ac mae hyn yn newid sylweddol.

Wrth gwrs, y rheswm ein bod ni'n gallu ei gyfiawnhau, ar wahân i'r ffaith mai dyma'r peth iawn i'w wneud, yw oherwydd, mewn gwirionedd, os na wnawn ni hyn, ni fyddwn yn cyrraedd sero net erbyn 2050, oherwydd y secwestriad carbon a ddaw yn sgil y mawndiroedd, yn ogystal â'r holl fuddion natur y gwnaethoch chi eu crybwyll, Joyce. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwneud hyn, rhyngom ni. Fel rwy'n dweud, dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyma ddechrau ei wneud yn fwy, yn well ac yn gyflymach, mewn gwirionedd.

Yna, ar y cysylltedd, gweithiodd Carolyn gyda ni i siarad gydag awdurdodau lleol am beidio â thorri glaswellt, Mai Di-dor, a'r math yna o beth. Un peth sy'n fy nharo i, mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n ystyried o ddifrif am wneud hyn, rwy'n meddwl tybed a ddylwn ni ganfasio barn—yw fy mod yn dymuno i'r rhaglenni garddio hyn ar y teledu, yr wyf yn ofnadwy o gaeth iddynt, ddangos ychydig mwy o erddi blêr gyda phentyrrau o bren, ac nid glaswellt wedi'i dorri'n fyr a dec. [Torri ar draws.] Wel, ie, oherwydd mae'n debyg bod eich un chi'n llawn infertebratau. Rwy'n cael ffrae fawr yn fy mhentref i drwy'r amser. Mae fy ngardd i mor flêr ag sy'n bosib bod—pwy feddylia bod bod hynny'n mynd i fod yn ffasiynol, ond beth bynnag—ond mae fy ngardd i'n llawn pryfed. Mae'n llawn o bryfed oherwydd mae ganddyn nhw lefydd i fynd a phethau i'w bwyta ac ati. Ac o ganlyniad mae hefyd yn llawn adar, oherwydd mae ganddyn nhw bethau i'w bwyta. Mae gen i gymdogion y mae eu lawntiau'n cael eu torri gyda siswrn ewinedd bob bore Mawrth a does ganddyn nhw ddim bywyd gwyllt yn eu gardd o gwbl.

Rwy'n credu bod yr obsesiwn yma gyda taclusrwydd yn gorfod cael ei ddileu. Mae hynny'n wir am ein hawdurdodau lleol a'n gwrychoedd a'n hymylon. Fe wnes i ysgrifennu at y weinyddiaeth sydd i ddod yn Nhrefynwy yn ddiweddar i ddweud fy mod i'n siŵr nad oedden nhw wedi ei wneud yn arbennig ar gyfer Gweinidog yn ymweld ond roeddwn i ar y pryd yn dilyn torrwr gwrychoedd i lawr y ffordd, a oedd yn torri pob un pen hadau yr hyd yr holl ffordd. Nid oeddwn yn hapus iawn â hyn fel polisi, a danfonais lun i fynd gydag ef. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n eu hargyhoeddi nhw i ddweud, 'Pam ydych chi'n gwneud hyn? Peidiwch â gwneud hyn.'

Mae rhai llefydd lle, am resymau diogelwch priffyrdd, mae angen torri rhai o'r gwrychoedd yn ôl. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddoch chi, cystal ag yr wyf i, pob un ohonoch chi, bod gyrru i lawr un o'r lonydd hynny gyda'r canopi harddaf uwchben yn ogoneddus, on'd yw e? Rydych chi'n cael pob math o fywyd gwyllt a phlanhigion a blodau i lawr yno nad ydych yn eu gweld yn unman arall. Felly, mae ceisio newid barn ein hawdurdodau cyhoeddus, ac, a dweud y gwir, barn ein  garddwyr hirsefydlog, ar yr hyn sy'n edrych yn dda mewn gwirionedd, yn bwysig iawn. Rwy'n disgwyl i chi i gyd fynd allan yna a bod yn efengylaidd amdano, ac rwy'n bwriadu ymweld â chi i weld a yw eich gardd yn ddigon blêr.

17:30

Rwy'n gefnogol iawn o flerwch. Fel hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y wennol ddu, roeddwn i wrth fy modd eich bod wedi ysgrifennu at yr holl awdurdodau cynllunio i'w cyfarwyddo i sicrhau bod yna flychau ar gyfer y wennol ddu mewn adeiladau tal newydd ac nad ydym yn cau'r blychau ar gyfer y wennol ddu na'r craciau yn yr adeiladau sy'n cael eu hadfer mewn rhyw ffordd. Oes gennych chi unrhyw syniad a yw wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar ddirywiad 50 y cant o'r wennol ddu yn ystod y 15 mlynedd diwethaf? Mae'n gwbl ofnadwy, ac rydyn ni'n wynebu difodiant oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth am y peth. 

Yn ail, roedd gen i ddiddordeb mawr eich bod chi'n mynd i gael golwg ar ryngweithiadau gêr pysgota a llusgrwydo am gregyn bylchog, rhywbeth y mae Joyce Watson a finnau'n teimlo'n gryf iawn amdano. Pam ar y ddaear ydyn ni'n caniatáu hynny yn nyfroedd Cymru? Pan fyddwch chi'n mynd i COP 15, a fyddwch chi'n cefnogi galwad Greenpeace a wnaed y llynedd i gychod a llongau treillio mawr sy'n llusgo offer trwm ar hyd gwaelod y môr i gael eu gwahardd o bob ardal forol warchodedig sydd dros 12 milltir o'r lan? Y cwestiwn mawr i ni yw sut ddiawl y byddem yn ei orfodi.

Diolch, Jenny. Dydw i ddim yn gwybod yr ateb i flychau'r wennol ddu, ond fe wnaf ofyn nawr eich bod chi wedi gofyn cwestiwn. Fe wnaethon ni hynny, fedra i ddim cofio'n iawn, o leiaf un tymor yn ôl, felly dylen ni fod â rhywfaint o wybodaeth am yr effaith. Byddaf yn sicr yn gofyn.

Ar y gêr pysgota diwedd oes—aethoch chi i ymweld hefyd, oni wnaethoch chi, yn Abertawe, Mike—rydyn ni wedi gwneud rhai treialon, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr un yn Abertawe. Mae Mike a minnau'n rhannu afon rhwng ein hetholaethau; ni allaf gofio a oedd ar eich ochr chi neu fy un i, ond beth bynnag. [Torri ar draws.] Ydy, mae'n un o'r dadleuon hynny, on'd ydy? Roedd yn brosiect diddorol iawn, ac roedd yn ymwneud, nid yn unig a allem adennill y deunydd yma o'r môr, ond sut y gallem ni ei ailgylchu a sut y gallem ni wneud ychydig o arian i'r pysgotwyr ohono yn y bôn fel ei fod o fudd iddyn nhw i beidio â gadael iddo fynd gyda'r llif i'r môr. Rydyn ni i gyd wedi gweld y lluniau ofnadwy hynny o grwbanod gyda phethau o'u cwmpas ac ati. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyflwyno hynny. Mae gennym ni ychydig o ddata o hynny ynglŷn â'r ffordd orau i'w wneud. Dyna beth yr ydyn ni'n ei ystyried, ac roedd hynny'n cael ei gefnogi'n fawr gan yr archwiliad dwfn.

Fi yw hyrwyddwr rhywogaeth yr wystrys brodorol, fel mae'n digwydd, felly rwy'n frwd iawn dros organebau sy'n tyfu o'r gwaelod. Yr wystrys yw'r caneri yn y pwll glo mewn gwirionedd; fyddan nhw ddim yn tyfu os nad yw'r ecosystem yn dda. Rwy'n falch iawn o ddweud bod bae Abertawe wedi cael ei ailhadu, ar ôl bod yn ardal warchodedig ers peth amser. Pan oeddwn i'n blentyn, os oeddech chi'n disgyn ym mae Abertawe, roedd yn rhaid i chi gael eich stumog wedi'i bwmpio—rydw i newydd ddangos fy oedran—ac erbyn hyn mae'n draeth baner las. Rheoliadau'r UE wnaeth ysgogi hynny—rwy'n credu ein bod ni'n colli golwg ar hynny. Ni oedd dyn budr Ewrop, ac mae wedi digwydd yn ystod fy oes i. A dydw i ddim mor hen â hynny. Mae'n hyfryd gweld y gwelyau hynny wedi'u hailhadu ac yn tyfu, ac rydyn ni'n gobeithio mewn pum mlynedd y bydd modd cymryd cynnyrch oddi yno. Roedd yr wystrys yn rhan allweddol o ddeiet y dosbarth gweithiol o amgylch arfordir Cymru am flynyddoedd lawer iawn. Dim ond yn ddiweddar y daeth yn hyfrydbeth y bobl cyfoethog. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Ar y môr, mae Lesley a minnau'n rhannu'r cyfrifoldeb hwn. Dim ond i fod yn glir, hi yw'r gwneuthurwr penderfyniadau ar gyfer peth o hyn, ac rydyn ni'n ei rannu. Rydyn ni'n cael golwg ar yr holl sefyllfa ynghylch llusgrwydo, pysgota, sut mae hynny'n cael ei wneud. Rwy'n awyddus iawn, yn union fel rydyn ni'n dweud am y ffermwyr, i ddod â'n pysgotwyr gyda ni. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw golli eu modd o gynnal busnes a dydw i ddim eisiau iddyn nhw beidio â gallu gwneud bywoliaeth, ond dydw i ddim ychwaith eisiau iddyn nhw ddinistrio bioamrywiaeth y môr. A dydyn nhw ddim eisiau hynny ychwaith, oherwydd maen nhw'n deall yn llwyr bod angen iddyn nhw fod â methodoleg gynaliadwy ar gyfer gwneud hyn. Felly, mae gennym weithgor, rydym newydd ei adnewyddu, rydym ni newydd ailbenodi pobl a phenodi pobl newydd iddo, Jenny. Ac un o'r pethau y byddan nhw'n gweithio arno yw'r holl fusnes yma am bysgota cynaliadwy, diwydiant pysgota cynaliadwy, sut olwg sydd ar hynny i Gymru, a sut ar y ddaear y byddem yn ei orfodi pe byddem ni'n ei wneud. Dydi Rhun ddim yn y Siambr, ond glywsoch chi ef yn mynd ymlaen, rwy'n credu mai wythnos diwethaf rhyw dro oedd hi, am y llong allan o Fangor. Mae gennym ni rai llongau o'r math hwnnw o amgylch arfordir Cymru, felly rydym yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i ddefnyddio'r llongau hynny yn y ffordd gywir.

17:35

Diolch i'r Gweinidog. Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw. Diolch yn fawr, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.