Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/07/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Vikki Howells. 

Gwaith yng Nghwm Cynon

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o bobl yng Nghwm Cynon i gael gwaith? OQ58336

Llywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ym mis Medi, byddwn yn estyn y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant. Bydd hwnnw'n cefnogi mwy o fenywod yng Nghwm Cynon yn arbennig i gael gwaith, ochr yn ochr â holl ymyriadau eraill Llywodraeth Cymru yn y farchnad lafur.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae hefyd yn gadarnhaol iawn gweld yr ystod o ymyriadau posibl o dan ReAct+ i gefnogi pobl i gael gwaith. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'r cyfleoedd a grëir mewn economi werdd wrth i ni symud tuag at sero net, fel y gall pobl yng Nghwm Cynon hyfforddi ac ailhyfforddi ar gyfer y swyddi y mae arnom eu hangen yn awr ac yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, byddwn ni'n cyflwyno cynllun sgiliau sero net Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio'n agos gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phartneriaeth sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym ymdeimlad mor agos â phosibl o'r union fath o sgiliau y mae Vikki Howells yn cyfeirio atyn nhw, a'r angen sy'n bodoli am y sgiliau hynny yng Nghwm Cynon yn benodol. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, Llywydd, am ailhyfforddi pobl, ac mae rhaglen cyfrifon dysgu personol Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, wedi bod yn llwyddiant sylweddol iawn, oherwydd mae'n caniatáu i bobl sy'n cael eu cyflogi eisoes uwchsgilio, i ailsgilio a sicrhau eu bod yno ar gyfer swyddi'r dyfodol. Byddwn yn buddsoddi £54 miliwn dros dair blynedd yn awr yn y rhaglen honno. Dyrannwyd £10 miliwn ychwanegol i'r rhaglen yn gynharach eleni, yn enwedig i ddiwallu anghenion meysydd lle mae prinder sgiliau. Cyfeiriwyd £4 miliwn o'r £10 miliwn hwnnw i gefnogi hyfforddiant mewn ynni gwyrdd, cerbydau hybrid a thrydan, ac adeiladu sero net, yr union fath o feysydd y mae Vikki Howells wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma. A gwn y bydd yn falch bod Coleg y Cymoedd wedi cael £2.3 miliwn ar gyfer cyfrifon dysgu personol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf i sicrhau y bydd y bobl hynny yng Nghwm Cynon sy'n dymuno ailhyfforddi ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn gallu manteisio ar yr union fathau o gyfleusterau sgiliau ac addysg a fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny. 

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, gall pobl sy'n ei chael yn anodd cael gwaith weithiau ddioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â hunanhyder isel, ac mae cael eu gwrthod dro ar ôl tro am swyddi, heb wybod hyd yn oed y rhesymau pam mewn rhai achosion, yn gallu bod mor niweidiol i rai pobl fel eu bod yn rhoi'r gorau i geisio, er eu bod yn aml yn fwy na chymwys i wneud ystod eang o swyddi. Un o'r ffyrdd o oresgyn hunanhyder isel yn y gweithle yw drwy ddefnyddio cynlluniau mentora, gan baru'r rhai sy'n dymuno cael gwaith gyda phobl sy'n gweithio mewn meysydd perthnasol. Gall mentoriaid helpu pobl i wireddu eu potensial llawn, ac maen nhw mewn gwell sefyllfa i allu gwerthuso pam mae eu mentoreion yn ei chael hi'n anodd cael gwaith. Diolch.

Llywydd, diolch i'r Aelod am hynny, a bydd yn falch o wybod bod amrywiaeth o gynghorwyr a mentoriaid arbenigol yn gweithredu yng Nghwm Cynon, i wneud yn union yr hyn y mae Joel James wedi'i ddweud, i helpu'r bobl hynny sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, i lywio eu ffordd o'r man lle maen nhw heddiw i'r swyddi sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd yn gweithredu o Aberdâr. O fis Medi ymlaen, bydd ym Mhontypridd hefyd, yn helpu pobl sy'n byw yng nghwm Cynon isaf i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio allan o Barc Gwledig Cwm Dâr ar hyn o bryd. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn enghraifft dda iawn o ymateb i'r union faterion y mae Joel James wedi'u crybwyll, Llywydd. Mae yna bobl sydd â'r ymrwymiad, sydd â'r sgiliau weithiau, i gael y swydd y byddai ei hangen arnyn nhw, ond nid oes ganddyn nhw yr hyder. Ac yn enwedig os ydyn nhw wedi cael y mathau o brofiadau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—gwneud cais am swyddi a pheidio â'u cael, peidio â chael adborth ynghylch pam mae hynny'n wir—yna mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch, ar lawr gwlad, i drwsio'r diffyg hyder hwnnw ac i roi syniadau a chefnogaeth newydd i bobl ar hyd y daith honno, sicrhau, mewn cyfnod sy'n agos iawn at gyflogaeth lawn yng Nghymru, lle mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am bobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith y maen nhw'n ei chael yn anodd eu llenwi, y gallwn ddod â'r ddau beth hynny at ei gilydd.

13:35
Gorsafoedd Pŵer Niwclear

2. Sut mae'r Llywodraeth yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ58372

Llywydd, mae Cwmni Egino wedi cael ei sefydlu i ailddatblygu cyn-safle gorsaf bŵer Trawsfynydd. Fel y nodir yn llythyr cylch gwaith y cwmni, bydd gofynion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o'i asesiad o bob prosiect posibl.

Diolch am yr ateb hynny, Brif Weinidog. Pe bai'r bobl gyntaf ddaru adael cyfandir Affrica 80,000 o flynyddoedd yn ôl wedi cloddio am wraniwm a datblygu ynni niwclear, yna mi fyddem ni'n parhau i ddelio efo'r gwastraff heddiw, oherwydd mae gan thoriwm-230, sydd i'w ganfod yn tailings y gweithfeydd wraniwm, hanner bywyd o 80,000 o flynyddoedd. Mae gan plwtoniwm-239, o bosib yr elfen fwyaf peryglus i ddynoliaeth, hanner bywyd o 24,000 o flynyddoedd. Bydd dynoliaeth wedi esblygu i fod yn species arall, a byddwn ni'n parhau i dalu am y gwaith cynnal a chadw i ddiogelu gwastraff niwclear sy'n cael ei gynhyrchu heddiw. Os mai ni sy'n cynhyrchu'r gwastraff yma, onid ein cyfrifoldeb ni ydy delio efo'r gwastraff, yn hytrach na gadael 140 tunnell o wastraff ymbelydrol, y storfa fwyaf yn y byd, i sefyll heb fodd i'w waredu, yn Sellafield Cumbria? Ac a fyddech chi'n hapus i gael atomfa a chanolfan wastraff yma yng Nghaerdydd?

Llywydd, mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn bwysig. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i unrhyw bosibiliadau am y dyfodol i'r diwydiant niwclear ddelio â'r problemau sy'n codi gyda gwastraff niwclear. Ond dydy honno ddim yn mynd i fod yn broblem newydd i Drawsfynydd, onid yw hi? Rŷn ni wedi cael diwydiant niwclear yn Nhrawsfynydd am flynyddoedd, so mae'r broblem honno wedi codi yn barod—dŷn ni ddim yn creu problem newydd drwy'r posibiliadau y mae Cwmni Egino yn eu trafod nawr am y safle. Ac mae mwy nag un posibiliad yn codi yng nghyd-destun Trawsfynydd hefyd. Dwi'n awyddus i weld y cynllun i greu cyfleuster isotopau meddygol—yr unig un yn y Deyrnas Unedig—yn cael ei sefydlu yn Nhrawsfynydd. So, dwi ddim yn siŵr a yw'r Aelod jest yn erbyn popeth rŷn ni'n trio'i wneud yn Nhrawsfynydd mewn egwyddor, neu a yw e'n awgrymu, fel dwi'n gweld pethau, mai'r peth pwysig yw meddwl am y posibiliadau, am bobl sy'n byw yn yr ardal, i fod yn ofalus pan fyddwn ni'n symud ymlaen â'n syniadau, ond i weithio ar y pethau ymarferol sy'n codi pan fyddwch chi'n trio ail-greu posibiliadau ar safle sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer pŵer niwclear dros y blynyddoedd yn barod.

Ar nodyn llawer ysgafnach o optimistiaeth, hoffwn gytuno â nodau craidd Cwmni Egino, sef helpu i fanteisio ar fuddion economaidd adweithyddion modiwlaidd bach a thechnolegau cysylltiedig yn Nhrawsfynydd. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Prif Weinidog, fy mod wedi bod yn amheus ynghylch cynnydd hyn. Fe'i cyhoeddwyd ar 30 Medi 2020, ac eto, ni osodwyd targedau cerrig milltir ymarferol ar unwaith. Ac yna bu'n rhaid i ni aros 18 mis arall cyn i brif weithredwr hirdymor, Alan Raymant, gael ei benodi. Fodd bynnag, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymuno â mi i gymeradwyo ei nod o sicrhau mai Trawsfynydd yw'r safle adweithydd modiwlaidd bach cyntaf yn y DU. Fel y mae'r prif weithredwr wedi dweud ei hun, mae hyn yn cael hwb drwy gael Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi niwclear yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae costau a chyllid yn allweddol, ac maen nhw wedi bod yn rhan o brosiectau blaenorol yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Deddf Ynni Niwclear (Ariannu) 2022 a Great British Nuclear, a all helpu gyda chyllid, ond a wnewch chi amlinellu, Prif Weinidog, pa gymhellion ariannol y mae Llywodraeth Cymru a Chwmni Egino yn ystyried eu darparu i helpu i sicrhau y bydd gwaith yn dechrau ar adweithydd modiwlaidd bach yn Nhrawsfynydd? Diolch. 

13:40

Wel, Llywydd, rwyf innau'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio defnyddio safle Trawsfynydd, ac i fanteisio ar dechnolegau newydd a allai fod yn ddefnyddiol i ni yn y dyfodol. Nid oes dim o hynny yn mynd i wthio o'r neilltu y pwyntiau pwysig a gododd Mabon ap Gwynfor am waddol gwastraff niwclear a sicrhau, wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, ein bod yn ystyried hynny i gyd yn briodol. Mae gan adweithyddion niwclear bach gyfres wahanol o bosibiliadau a hawlir ar eu cyfer. Nid yw'n dechnoleg sy'n barod i'w defnyddio heddiw, ac efallai nad yw'n dechnoleg a fydd yn barod i'w defnyddio am beth amser eto, ac mae Trawsfynydd, beth bynnag, yn safle lle mae'n rhaid cwblhau'r gwaith y mae angen ei wneud i ymdrin â gweithgaredd niwclear blaenorol cyn y gellir cadarnhau defnyddiau newydd ar gyfer y safle hwnnw. A dyna y mae Cwmni Egino yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd, gan sicrhau ei fod yn gweithio gyda'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i greu amgylchiadau lle gellir cyflwyno defnyddiau ar gyfer y safle hwnnw yn y dyfodol yn briodol, ac, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, nid yw'r rheini wedi'u cyfyngu i faes yr adweithyddion modiwlaidd bach. Nid oes gan y DU gyfleuster isotopau meddygol ein hunain. Nid oedd o bwys tra yr oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd; mae'n bwysig iawn i ni yn awr. Mae defnyddio'r arbenigedd sydd ar gael a'r cyfleoedd y mae'r safle'n eu cynnig i wneud mwy yn y maes hwnnw, a rhoi cydnerthedd i'r DU yn y maes hwnnw, yn gyfle gwirioneddol i'r rhan honno o Gymru.

Cytunaf, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y ffaith bod problemau yn y gorffennol o ran cost a chyllid wedi bod yn endemig yn y maes hwn. Gwariodd y cwmni o Japan, Hitachi, a weithiodd i ddod â'r ail safle yn Ynys Môn i fodolaeth, £2 biliwn cyn i'w fwrdd benderfynu na allai barhau i fuddsoddi heb unrhyw obaith y byddai'r datblygiad hwnnw'n dwyn ffrwyth. Felly, mae'n iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU hanes nad yw'n galonogol i unrhyw fuddsoddwr yn y maes hwn, a phan gawn Lywodraeth y DU o'r diwedd sy'n gallu gwneud penderfyniadau o'r math hwn, yna gobeithio y cawn well bargen ganddyn nhw na'r hyn a welsom hyd yn hyn. 

Prif Weinidog, mae niwclear yn rhan fach o'n rhagolygon o ran cynhyrchu ynni yng Nghymru. Gyda'n hadnoddau naturiol, gallwn gynnig potensial mawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o wynt, tonnau a llanw. Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mor siomedig oedd gweld dim ond pedwar prosiect o Gymru yn llwyddo yng nghylch ariannu diweddaraf Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, ac, o'r pedwar, dim ond un prosiect ffrwd llanw llwyddiannus? 

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â phob rhan o gwestiwn atodol Joyce Watson. Rwy'n cytuno'n llwyr fy hun mai ynni adnewyddadwy ddylai fod y prif gyfrannwr at ddyfodol ynni Cymru, ynghyd â defnyddio'r holl adnoddau naturiol gwych sydd ar gael i ni yng Nghymru. Ac yr oedd yn siomedig clywed, yn gynharach y mis hwn, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ganlyniad rownd 4 ei Chontractau ar gyfer Gwahaniaeth, mai dim ond pedwar prosiect a gadarnhawyd yng Nghymru yn y cylch ceisiadau hwnnw. Pedwar ar hugain i'r Alban, llawer mwy i Loegr, a dim ond pedwar yma yng Nghymru. Ac fel y dywed Joyce Watson, o'r pedwar a gymeradwywyd, dim ond un oedd yn ymwneud â thechnoleg forol, yr oedd y tri arall mewn technolegau sefydledig. Roeddem yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn mynd i ddarparu rhywfaint o arian ychwanegol yn y maes hwn, ond nid oedd £20 miliwn byth yn mynd i fod yn ddigon i wneud y pethau y mae angen i ni eu gweld yma yng Nghymru. Rwyf yn falch, wrth gwrs, fod un prosiect ffrwd llanw wedi bod yn llwyddiannus, i fyny ym Morlais, ond gwyddom fod prosiectau eraill yn y maes arloesol hwnnw a fyddai'n creu ynni adnewyddadwy'r dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn dilyn y cyhoeddiad, i weld pam na chafodd y prosiectau eraill hynny eu hariannu yn y ffordd y byddem ni eisiau ei gweld ac annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mwy yn y maes hwn, oherwydd byddwn yn cael llawer mwy yn ôl yn sgil y buddsoddiad hwnnw ac yn llawer cyflymach na rhai o'r prosiectau aflwyddiannus y maen nhw wedi buddsoddi ynddyn nhw heb unrhyw elw yn y gorffennol.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i wneud sylw ar dei'r Prif Weinidog? Mae'n edrych yn llachar iawn heddiw, gyda chwlwm ar y top, anarferol i'r Prif Weinidog, a bod yn deg. Efallai mai rhyw deimlad diwedd tymor sydd ganddo. [Chwerthin.]

Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog, os caf i, am amseroedd aros y GIG. Pe baem yn sefyll yma yr adeg hon y llynedd, y ffigur aros dwy flynedd ar gyfer pobl yn y GIG yng Nghymru fyddai 7,600. Heddiw, mae'r ffigur dwy flynedd hwnnw bron yn 70,000 o bobl yn aros. Mae angen i ni roi gobaith i bobl y gallan nhw symud ymlaen oddi ar restr aros a thrwy'r GIG yn ôl i ryw fath o normalrwydd yn eu bywydau. Nid yw pobl ar restrau aros oherwydd eu bod yn dewis bod yno, maen nhw'n aros am driniaethau meddygol, Prif Weinidog. Felly, a allwch chi roi'r gobaith hwnnw wrth i ni fynd tuag at doriad yr haf y bydd y niferoedd hyn yn dechrau gostwng ac na fyddwn yn sefyll yma yr adeg hon y flwyddyn nesaf yn siarad mewn termau tebyg?

Diolch i arweinydd yr wrthblaid. Cynigiaf esboniad byr i chi ynghylch fy nhei, sef ei fod yn dei a gafodd ei wau i mi gan wraig oedrannus iawn a ddaeth i'r wlad hon yn union ar ôl yr ail ryfel byd yn ffoadur o Wcráin. Mae'r cwlwm hwn o batrwm Wcreinaidd y mae hi wedi'i wau a'i anfon i gydnabod y gwaith sydd, ledled Cymru, yn mynd ymlaen i groesawu pobl o Wcráin, fel y trafododd ef gyda mi ychydig wythnosau'n ôl, yma i Gymru. Ar ein sesiwn olaf cyn yr egwyl, Llywydd, roeddwn yn meddwl y byddwn yn ei wisgo i gydnabod ei dymuniad i ddangos hynny. Felly, diolch i chi am hynny.

O ran amseroedd aros y GIG, rwy'n credu bod rhesymau pam y gall pobl ddechrau gweld gwelliant. Yn y ffigurau diwethaf a oedd ar gael, gwellodd ein hamseroedd ambiwlansys, gwellodd amseroedd aros mewn adrannau achosion brys, roedd yr amseroedd yr oedd pobl yn aros am therapïau wedi gostwng 10.5 y cant o'i gymharu â'r mis blaenorol, ac roedd amseroedd aros hir yn dechrau gwella. Edrychwch, mae'n ddechrau taith hir yma, oherwydd mae'r GIG yn parhau i ymdrin bob dydd â gwaddol cyfnod y pandemig ond hefyd gydag effaith coronafeirws yma yng Nghymru heddiw. Mae gennym 1,900 o staff a fyddai fel arall mewn gwaith yn y GIG heddiw nad ydyn nhw yn y gwaith oherwydd eu bod nhw eu hunain yn sâl gyda choronafeirws. Mae un o bob 20 o bobl yng Nghymru yn arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf yn sâl yn yr un ffordd. Gwelsom, ddydd Gwener, dros 1,000 o bobl eto mewn gwelyau'r GIG yn sâl gyda choronafeirws. Cynyddodd nifer y bobl mewn gofal dwys gyda choronafeirws eto yr wythnos diwethaf. Ac ar ben y 1,900 o bobl sy'n sâl gyda choronafeirws, nid yw dros 600 o bobl eraill yn y gwaith am eu bod yn hunanynysu ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun. Felly, dyna 2,500 o bobl a allai fod yn y gwaith heddiw, yn darparu'r triniaethau hynny, yn cael yr amseroedd aros hynny i lawr, nad ydyn nhw yno oherwydd bod y coronafeirws yma yng Nghymru o hyd. Felly, mae'r system yn gweithio mor galed ag y gall i gynyddu'r cyflenwad o driniaethau, er mwyn gwneud iawn am yr ôl-groniad, ond mae'r anawsterau sy'n ei hwynebu yn sylweddol iawn ac nid ydyn nhw wedi diflannu. 

13:50

Diolch i chi am yr esboniad ynghylch y tei, Prif Weinidog. Mae bob amser yn dda cael ychydig o newyddion da yn y Siambr hon. Ond mae ffordd arall, oherwydd fel yr ydym ni wedi gweld yn Lloegr gydag arosiadau dwy flynedd, uchafbwynt y ffigurau hynny oedd 23,000 yn aros dwy flynedd neu fwy allan o boblogaeth o 57 miliwn; maen nhw bellach yn 12,000, neu ychydig dros 12,000. Rwy'n derbyn bod pwysau ar y GIG ac ar staff yn arbennig ar ôl yr hyn a fu'n ddwy i ddwy flynedd a hanner heriol iawn, a'r achosion parhaus o COVID a'r effaith a gaiff hynny ar y gweithlu, ond, yn amlwg, os gall un rhan o'r Deyrnas Unedig sydd â phoblogaeth fawr iawn ostwng yr arosiadau dwy flynedd hynny, ac eto, yn anffodus yma yng Nghymru, lle mae gennym boblogaeth o 3 miliwn, rydym yn gweld ychydig o dan 70,000 o bobl yn aros, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model canolfan lawfeddygol y mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi sôn amdano, sy'n amlwg wedi gweithio yn Lloegr, lle mae 91 o ganolfannau? Mae angen mwy, rwy'n derbyn hynny, ond nid yw'r ffigurau'n dweud celwydd, Prif Weinidog. Mae eu niferoedd nhw yn gostwng, mae ein niferoedd ni yn codi. Fel y dywedais i, mae angen i ni gynnig gobaith i bobl. Felly, a allwch chi roi map i ddangos i ni y ffordd allan o'r anobaith y mae llawer o bobl yn ei deimlo ar hyn o bryd o fod yn sownd ar y rhestr aros hon sydd, i bob golwg, yn mynd i un cyfeiriad?

Wel, Llywydd, nid yw'n mynd i un cyfeiriad yn unig, fel yr eglurais i yn fy ateb gwreiddiol, ac mae'r cynllun eisoes yno ac wedi'i gyhoeddi. Fe'i cyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd, sy'n dangos cerrig milltir dros y cyfnod sydd i ddod o ran sut y byddwn yn lleihau'r amseroedd aros hynny, ac mae ein map yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau a bennwyd ar gyfer Lloegr hefyd.

Mae'r GIG ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi cael amser anodd ac mae'n parhau i gael amser anodd ym mhobman. Dydw i ddim yn mynd i gyfnewid ffigurau gydag ef. Mae mwy na dwywaith poblogaeth Cymru bellach ar restr aros yn Lloegr. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn Weinidog iechyd, ateb cwestiynau yn y fan yma ar y diwrnod pan aeth nifer y bobl ar restr aros yn Lloegr, am y tro cyntaf, yn uwch na phoblogaeth Cymru. Nawr, mae'n fwy na dwywaith y lefel honno. Nid beirniadaeth ar y GIG yn Lloegr yw hynny, oherwydd mae'n wynebu'r un mathau o frwydrau ac anawsterau yn union ag a wynebwn ni yma. Mae nifer yr arosiadau hir yn gostwng yng Nghymru, fel y maen nhw yn Lloegr. Rydym eisiau iddyn nhw ddod i lawr yn gyflymach, wrth gwrs.

Gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi, serch hynny, Llywydd: yr hyn na fydd byth yn dod â rhestrau aros i lawr yn Lloegr neu yng Nghymru yw rhai o'r syniadau ffantasi y gwelwn wleidyddion eich plaid yn eu brolio yn Llundain. Sut bydd amseroedd aros yn y GIG yn gostwng yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig os caiff eich Canghellor y Trysorlys presennol ei ffordd gan leihau cyllideb yr adran iechyd 20 y cant, oherwydd dyna a ddywedodd ei fod yn bwriadu ei wneud os caiff ei ethol? Gostyngiad o 20 y cant yn nifer y meddygon, gostyngiad o 20 y cant yn nifer y nyrsys, gostyngiad o 20 y cant yn nifer y gweithwyr cymdeithasol, gostyngiad o 20 y cant yn nifer yr athrawon—i ble y bydd hynny'n arwain gwasanaethau yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig? Ac eto, mae'n ymddangos mai dyna'r unig ddadl sydd gan eich plaid i'w chynnig pan ddaw'n fater o ddewis y diweddaraf mewn cyfres hir o Brif Weinidogion sydd wedi'u diarddel y mae eich plaid wedi'u cynnig i ni dros y chwe blynedd diwethaf.

Prif Weinidog, os ydych eisiau trafod cystadleuaeth arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, byddaf yn hapus i roi ffurflen aelodaeth i chi a gallwch ddod i'r hustyngau. Byddaf hefyd—[Torri ar draws.] Byddaf hefyd yn ddigon bodlon eistedd ar unrhyw lwyfan teledu a dadlau gyda chi ynghylch rhinweddau hynny. A gallaf glywed y fainc flaen yn gweiddi. Mae'r ffigurau yr wyf wedi'u cyflwyno i'r Prif Weinidog, sef bod 68,500 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy yng Nghymru—mae hynny'n ffaith. Dyna'ch ffigur eich hun, y fainc flaen. Yn Lloegr mae'n 12,500, allan o boblogaeth o 57 miliwn. Rwy'n cydnabod bod pwysau ar y GIG, ond gallaf ddeall pam nad yw'r Prif Weinidog eisiau trafod y ffigurau pan fydd ei ffigurau yma mor erchyll. Nawr, ni chynigiodd unrhyw gynlluniau, dim atebion ac nid yw wedi cynnig ffordd allan i lawer o'r bobl hyn sy'n sownd ar yr amseroedd aros, ac eithrio siarad am yr amseroedd aros yn Lloegr, sydd â phoblogaeth, fel y dywedais i, o 57 miliwn o bobl. I gael yr amseroedd aros cyfatebol yma yng Nghymru, byddai angen i chi fod â 13 miliwn o bobl a mwy ar y rhestrau aros yn Lloegr. Nawr, Prif Weinidog, mae angen i chi wneud yn well na hynny. Mae gennych chi'r ysgogiadau i gynnig gobaith mewn gwirionedd, a dyna lle y dechreuais fy nhrywydd o ran eich holi chi ynghylch yr amseroedd aros hyn. Nid ydych wedi cynnig unrhyw obaith nac atebion y prynhawn yma, felly am y tro olaf gofynnaf i chi eto: a fyddwn ni'n trafod y niferoedd hyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, oherwydd mae eich Llywodraeth wedi methu ag ymdrin â nhw a mynd i'r afael â nhw, neu a wnewch chi gynnig rhai atebion fel y gall pobl wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r haf fod yn ffyddiog na fyddant yn wynebu gaeaf mor llwm ar restr aros unwaith eto?

13:55

Llywydd, arweinydd yr wrthblaid a ddechreuodd ei gwestiwn cyntaf drwy gyfeirio at amseroedd aros yn Lloegr, nid fi; ef oedd y person a gyflwynodd hynny yn ei gwestiwn gwreiddiol. A dywedaf hyn wrtho: os ydych chi eisiau gofyn i bobl y tu allan i'r Siambr hon a fyddai'n well ganddyn nhw fyw o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru neu yng nghanol llanastr ei blaid yn Lloegr, fe gaiff yr ateb, ac ni fydd yn cymryd llawer o amser i bobl ei roi iddo ychwaith. Nid oes angen y ffurflen gais aelodaeth arnaf—[Torri ar draws.]—Nid oes angen y ffurflen gais aelodaeth arnaf er mwyn canfod beth mae pobl yn eich plaid yn ei feddwl o'i gilydd, oherwydd gallaf ei ddarllen mewn unrhyw bapur newydd unrhyw ddiwrnod. Mae'n annhebygol y bydd ffuredau mewn sach yn llunio cynllun ar gyfer y GIG yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rhaglen gynllunio, y rhaglen ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn y GIG yng Nghymru, wedi'i chyhoeddi. Mae ganddi gyfres fesul blwyddyn o—[Torri ar draws.] Llywydd, nid wyf yn mynd i ildio iddo ar hynna.

Rwy'n credu y gall y Prif Weinidog ymateb i'r cwestiwn yn awr cyn i ni symud ymlaen.

Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod eto: os nad yw wedi cael cyfle i'w ddarllen oherwydd ei fod wedi bod yn rhy brysur yn darllen maniffestos pobl sy'n ceisio arwain ei blaid, gallwn roi copi iddo. Mae'n nodi cyfres o ffyrdd fesul blwyddyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros yng Nghymru yn dilyn yr un amserlen ag y mae ei blaid wedi'i phennu ar gyfer Lloegr. Dyna yw ein huchelgais a dymunwn y gallem wneud mwy a hynny'n gyflymach. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae canlyniadau cyntaf y cyfrifiad wedi cael eu cyhoeddi; ffigurau pennawd hyd yma. Mae'r boblogaeth yn lleihau mewn sawl ardal—Ceredigion yn gweld y cwymp mwyaf o bron i 6 y cant. Mae yna awgrym o boblogaeth yn heneiddio hefyd, sy’n pwysleisio’r angen i ddal gafael ar ein pobl ifanc ni, ac mae hynny’n golygu gwneud iddyn nhw fod eisiau aros yma yng Nghymru. Rŵan, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc edrych ar lawer mwy na chynnig swyddi yn unig, i gynnwys pob agwedd ar anghenion pobl ifanc—tai, amgylchedd, adnoddau, cymunedau llawn bywyd—ac mai dyna sut mae eu hannog nhw i benderfynu byw a ffynnu yma yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn, wrth gwrs, a dwi wedi gweld canlyniadau’r sensws sydd wedi dod mas ar hyn o bryd. Mae lot mwy o wybodaeth i’w dynnu mas o’r ffigurau dros y misoedd sydd i ddod. Un o’r rhesymau pam roeddwn i ac Adam Price wedi sefyll gyda’n gilydd yng nghynhadledd y wasg yr wythnos diwethaf i setio mas y cynllun sydd gyda ni ar gartrefi i bobl yng nghefn gwlad oedd i drial creu posibiliadau am y dyfodol i bobl ifanc sydd eisiau byw yn y cymunedau lle roedden nhw wedi cael eu geni, ac i aros yno i weithio, i godi eu plant ac, wrth gwrs, i gael rhywle i fyw. A thrwy bopeth rŷn ni yn gwneud, wrth gwrs rŷn ni eisiau creu cyfleon lle mae pobl sydd eisiau aros yn y cymunedau lleol yn gallu gwneud hwnna, a gallu gwneud hwnna'n llwyddiannus. Mae’r ffigurau’n dangos ei fod yn bwysig inni wneud mwy na hynny i dynnu pobl i mewn i Gymru sy'n fodlon bod yn rhan o’n dyfodol ni yma, a bydd hwnna'n rhywbeth pwysig i ni yn y dyfodol hefyd.

Heb os, dŷn ni eisiau denu’r ymenyddiau gorau i Gymru hefyd, yn ogystal â chadw ein talent ni yma. Mae’r wasgfa ariannol bresennol, y raddfa chwyddiant fwyaf ers 40 mlynedd, yn effeithio'n drwm ar bobl ifanc. Does dim ond eisiau gweld ymchwil diweddar gan yr NUS i weld hynny: mwy o fyfyrwyr nag erioed yn ddibynnol ar fanciau bwyd neu yn benthyg pres na allan nhw fforddio i'w fenthyg. Mae lefel cyflog prentisiaid yn broblem—mor isel â £4.81 yr awr; mae dod o hyd i le i aros i fyfyrwyr yn argyfwng i lawer; ac mae'r swm sy'n cael ei dalu gan fyfyriwr wedi codi mewn tair blynedd o ryw £4,768 i dros £6,000. Mae eisiau rhoi mwy o gefnogaeth ariannol i bobl ifanc, ac mae eisiau rheoli'r prisiau rhent anghynaladwy yma, achos, yn ogystal â bod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw, mae caledi ariannol yn eu hatal nhw rhag cyrraedd eu potensial yn addysgol. Sut mae'r Prif Weinidog felly yn bwriadu gweithredu camau o'r fath er mwyn trio stopio'r brain drain, achos mae ffactorau ariannol rŵan yn risg go iawn o gloi pobl allan o addysg ac felly eu hatal nhw rhag cyrraedd eu llawn botensial? 

14:00

Wel, Llywydd, Cymru sydd â'r math mwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac ni chlywais unrhyw gydnabyddiaeth o hynny yn yr hyn yr oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Wrth gwrs, mae'r argyfwng presennol o ran costau byw yn effeithio ar bobl ifanc a phobl mewn prifysgolion, yn ogystal ag unrhyw un arall, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfres o fesurau ym maes iechyd meddwl, er enghraifft, i sicrhau bod gwasanaethau ychwanegol ar gael i bobl ifanc, sydd wedi wynebu cyfnodau anodd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac sydd bellach yn bwriadu ailsefydlu eu hunain ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n tybio bod gennyf farn sylfaenol wahanol i'r Aelod ar y mater hwn o ddraen dawn. Y patrwm a welwn yng Nghymru yw ein bod yn gweld pobl yn gadael Cymru wrth iddyn nhw gwblhau eu haddysg, ac fe'u gwelwn yn dod yn ôl i Gymru hefyd ddegawd yn ddiweddarach. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Rwy'n amau rywsut ei fod ef a'i blaid yn arddel yr un farn. Credaf y dylai pobl ifanc sy'n cael eu magu yng Nghymru fod â phob cyfle o'u blaenau, y dylen nhw feddwl am y byd fel rhywle lle gallan nhw weld eu dyfodol. A gwyddom y byddan nhw yn cyrraedd pwynt yn eu bywydau pan fyddan nhw eisiau dod yn ôl i Gymru, lle byddan nhw eisiau magu teuluoedd yma yng Nghymru, a byddan nhw'n dod â'r holl brofiadau y maen nhw wedi'u cael mewn mannau eraill yn ôl i Gymru. Credaf fod hynny o fantais i ni, nid yn anfantais. Nid wyf yn credu mai ceisio sefydlu system gyda'r nod o gadw pobl ifanc yma yng Nghymru, yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw eu gweld eu hunain fel dinasyddion ehangach y byd, fydd y ffordd orau o sicrhau ein dyfodol.

Doeddwn i ddim yn chwilio am raniad yma heddiw; roeddwn yn chwilio am gonsensws, a dweud y gwir. Mae bod â merch ym Mharis ar hyn o bryd, wedi graddio o Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, ar ôl byw yn yr Eidal fy hun, ar ôl treulio amser yn byw yn Llundain fy hun—. Nid ydym yn arddel cau'r drysau i'n pobl ifanc a dweud wrthyn nhw am beidio â gadael, ond y gwir amdani yw bod gormod ohonyn nhw yn dewis peidio â dod yn ôl i Gymru. Ac mae'r rhai sydd yn dod, wel, gwrandwch, rydym eisiau iddyn nhw gyrraedd eu potensial er eu mwyn eu hunain ac er mwyn ein heconomi hefyd, gan ddenu'r gorau i Gymru, fel y dywedais i. 

Nawr, ym mis Mawrth, roedd prifddinas-ranbarth Caerdydd yn brolio am lefelau cyflog cymharol isel graddedigion yng Nghaerdydd o'u cymharu â rhannau eraill o'r DU. Dywedon nhw fod graddedigion yng Nghaerdydd yn cael eu talu tua 20 y cant yn llai, £6,000 yn llai y flwyddyn, na'r rhai yn Glasgow. Nid wyf yn siŵr a ydyn nhw'n disgwyl i ni fod yn falch o hynny rywsut, ond yr oedd yn sarhaus i'n talent ifanc—dewch i Gaerdydd, mae ein graddedigion yn rhad. Maen nhw'n mynd drwy ddigon o gyfnodau caled fel y mae, wedi bod drwy COVID ac yn awr yn wynebu'r argyfwng costau byw. Rhaid i raddedigion o Gymru gael eu gwerthfawrogi'n fwy na llafur rhad os yw draen dawn Cymru i'w wrthdroi. Ac mae yna ddraen dawn, ac os ydych chi'n ddidaro ynghylch colli ein talent, talent efallai na ddaw yn ôl, sy'n digwydd yn aml, mae gwir angen i chi feddwl eto. A yw'r Prif Weinidog yn credu mai hyrwyddo economi cyflog isel yw'r ffordd orau o hybu dyheadau pobl ifanc yng Nghymru, oherwydd nid ydym ni ar y meinciau hyn yn gwneud hynny?

Wel, Llywydd, fe geisiaf fod yn gydsyniol hefyd, oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod gwerthu Cymru fel economi cyflog isel yn bolisi aflwyddiannus o gyfnod Thatcher, ac nid ydym yn bwriadu ail-greu hynny heddiw. Mewn gwirionedd, cynhyrchodd prifddinas-ranbarth Caerdydd restr o ddinasoedd lle mae cyflogau graddedigion yn wahanol—mannau lle mae Cymru'n cynnig mwy na rhai dinasoedd a mannau lle mae Caerdydd yn cynnig llai. Dyna'r gwir amdani. A dwi ddim yn credu y dylem ni gasglu o hynny eu bod nhw'n ceisio denu pobl yma oherwydd ein bod ni'n lle rhad i fyw. Y darlun o'r brifddinas-ranbarth yw bod Cymru'n lle gwych i ddod i fyw, nid yn unig am ein bod yn cynnig swyddi a chyfleoedd ar lefel graddedigion i bobl wneud gyrfaoedd, ond am ein bod yn cynnig cymaint mwy na hynny hefyd.

Nawr, byddwn ni'n anghytuno ar y mater sylfaenol o ran a yw'n dda i Gymru fod ein pobl ifanc yn cael profiadau mewn mannau eraill, ac nid wyf i'n credu ei fod yn ffeithiol gywir, ychwaith, i ddweud nad ydym yn gwneud yn dda o ran denu pobl yn ôl i Gymru ar yr adeg y maen nhw yn dymuno dychwelyd a'u bod yn dymuno gwneud y cyfraniad hwnnw i'n heconomi. Rwyf eisiau i Gymru fod yn rhywle sy'n edrych tuag allan ac yn hyderus fel cenedl—lle mae pobl eisiau dod, eisiau setlo, eisiau byw ac eisiau gweithio am yr holl resymau sy'n gwneud y lle hwn mor arbennig. A chredaf ei bod yn bosibl llwyddo i wneud hynny, ac nid wyf yn credu bod y sôn am ddraeniau dawn a phobl yn gadael ac ati yn ein helpu ni mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Nid yw'n ein helpu ni pan gaiff ei bortreadu fel pe bai Cymru rywsut yn rhywle lle mae pobl yn methu â chael y math hwnnw o ddyfodol, oherwydd nid dyna'r math o Gymru sydd gennym nac y dymunwn ei gweld yn y dyfodol.

14:05

Pa gefnogaeth y mae—[Chwerthin.] Mae'n ddrwg gen i. Roedd Alun Davies yn bod yn wirion iawn yn y fan yna; fe wnaeth i mi chwerthin.

Ie. [Chwerthin.] Ac yn hollol fwriadol felly, NoContextSenedd. 

Costau Ynni Uwch

3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau i amsugno costau ynni uwch? OQ58368

Llywydd, nid oeddwn wedi cyfeirio'n fwriadol iawn at gynlluniau'r Aelod dros Ynys Môn ei hun i fod yn rhan o ddraen dawn. Felly—[Chwerthin.] Dim ond i fod yn siŵr; roeddwn i wedi gwneud yn siŵr nad oeddwn i'n gwneud hynny.

Mae busnesau yng Nghymru yn wynebu prisiau ynni uchel iawn, nad ydyn nhw, yn wahanol i filiau domestig, wedi'u capio. Cyfarfu Gweinidog yr Economi â chyngor busnes Cymru yn gynharach heddiw i drafod y materion hyn. Rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gymryd camau pellach ar brisiau ynni domestig a busnes.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna, Prif Weinidog. Ar 24 Mehefin, ymwelais ag Aber Hotel yn Abertridwr yn fy etholaeth, ac mae'n fusnes teuluol lleol sydd wedi neilltuo tair o'i ystafelloedd i ddarparu banc bwyd i gymuned Abertridwr. Mae'n fusnes hanfodol ac yn rhan o rwydwaith a gwe o fusnesau ar draws rhannau gogleddol fy etholaeth sy'n darparu ffordd o fyw a chyflogaeth hanfodol i bobl yn y rhan honno o'r etholaeth. Ychydig fisoedd yn ôl, cawsant gynnydd mewn costau ynni gan SSE Energy Supply Limited a gynyddodd yr hyn a oedd yn fil trydan cyfartalog o £650 y mis i fwy na £4,100 y mis. Mae'r cynnydd anhygoel hwnnw mewn costau yn ei gwneud yn anodd iawn cynnal busnesau teuluol fel Aber Hotel. Ac rydym yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU gymryd camau sylweddol yma. Rwyf wedi bod yn edrych ar grantiau creu lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac rydym yn awyddus i ddod â'r rheini i leoedd fel Senghennydd, Abertridwr a Bargoed hefyd. Ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, efallai mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, i gefnogi'r busnesau hynny sy'n wynebu'r cyfnod anodd hwn?

Diolch i Hefin David am y cwestiwn yna. Rwy'n ymwybodol o'r cwmni y soniodd amdano a'r gwaith y mae'n yn ei wneud. Bydd cwmnïau fel hynny, Llywydd, sy'n wynebu'r cynnydd syfrdanol mewn prisiau ynni, yn dilyn yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan yn ofalus iawn ac rwy'n siŵr y bydd eu pryder yn cynyddu gan mai'r gystadleuaeth i leihau faint o adnoddau sydd ar gael i helpu cwmnïau a'r economi gyfan yw'r unig gystadleuaeth sy'n cael ei chynnal i bob golwg.

Yr hyn a wnawn yma yng Nghymru, Llywydd, yw defnyddio'r pwerau sydd gennym; nid nhw yw'r prif bwerau, yn anochel, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdanyn nhw. Mae gennym gynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau arbenigol sy'n gweithio gyda Busnes Cymru sy'n gweithio gyda chwmnïau i gynnig yr atebion ymarferol hynny a all eu helpu i liniaru—a dim ond lliniaru, a deall—effaith codiadau ynni o'r math y mae Hefin David wedi'i grybwyll. Ond maen nhw'n gweithio gyda chwmnïau i leihau'r defnydd o gerbydau, cynyddu effeithlonrwydd dŵr ac ynni, darparu insiwleiddio a goleuadau LED, er mwyn sicrhau bod oergelloedd a rhewgelloedd yn cael eu defnyddio'n effeithlon ac ati. Mae'r gwaith a wnawn fel Llywodraeth hefyd yn cynnal pŵer prynu defnyddwyr. Un o'r pethau mwyaf heriol sy'n digwydd i fusnesau bach o'r math y mae Hefin David wedi'i grybwyll yw cwsmeriaid yn tynnu'n ôl o wariant dewisol. Yn wynebu biliau eu hunain, nid yw pobl yn prynu pethau mewn ffordd sy'n caniatáu i'r busnesau hynny barhau i gael eu cynnal. Wrth gwrs ein bod yn helpu gyda chostau eraill hefyd—bydd dros 85,000 o eiddo yng Nghymru eleni yn cael cymorth gyda'u hardrethi busnes. Bydd yn costio £116 miliwn i Lywodraeth Cymru—mae hynny'n £20 miliwn yn fwy na'r swm canlyniadol a gawn ni gan Lywodraeth y DU—er mwyn gallu gwneud hynny.

Yn y tymor hirach, Llywydd, mae'r cwestiwn a ofynnodd Joyce Watson yn gynharach y prynhawn yma yn allweddol: rhaid i ni allu sicrhau ffynonellau ynni adnewyddadwy nad ydyn nhw yn ein gadael yn agored i'r math o ergydion byd-eang sydd wedi arwain at y cynnydd mewn prisiau ynni, a gallu gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau bach na fyddan nhw'n wynebu'r math hwn o sioc i'w model busnes eto yn y dyfodol.

14:10

Prif Weinidog, mae ymchwil yn awgrymu bod bron i ddwy ran o dair o fusnesau yn y DU yn gwario rhwng 5 y cant ac 20 y cant o gyfanswm eu gwariant ar ynni. Mae hyn yn gyfran sylweddol o gyfanswm eu costau rhedeg, sy'n golygu y bydd codiadau mawr mewn prisiau yn cael effaith sylweddol ar eu gallu i weithredu gydag elw. Nid yw busnesau bach mewn sefyllfa cystal i lyncu cynnydd mewn costau ynni oherwydd elw tynn a llif arian cyfyngedig ac felly maen nhw'n fwy tebygol o orfod trosglwyddo'r codiadau hyn i ddefnyddwyr.

Yn yr Alban, Prif Weinidog, mae Business Energy Scotland yn darparu cymorth diduedd am ddim i helpu busnesau bach a chanolig i arbed ynni, carbon ac arian. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, mae'n darparu arbenigedd a benthyciadau di-log, diwarant i helpu i dalu am uwchraddio ynni ac arbed carbon, yn ogystal â chynnig grantiau arian-yn-ôl o hyd at £20,000. Prif Weinidog, felly, a wnewch chi edrych ar Business Energy Scotland, sy'n honni ei fod eisoes wedi dod o hyd i dros £200 miliwn o arbedion i sefydliadau'r Alban, i weld a allai cynllun tebyg weithio yma yng Nghymru ac a fyddai'n gweithio? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n credu imi ddweud yn fy ateb diwethaf fod gennym eisoes, drwy Busnes Cymru, sy'n ffynhonnell cyngor diduedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yma yng Nghymru, ymgynghorwyr arbenigol ar effeithlonrwydd adnoddau. Maen nhw eisoes yn gwneud y pethau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw sy'n digwydd mewn mannau eraill. Nid oes angen i ni ailddyfeisio pethau pan fyddwn ni eisoes yn eu gwneud nhw. Ac mae sicrhau bod benthyciadau di-log a mathau eraill o gymorth ar gael i fusnesau sy'n dymuno cymryd rhai o'r camau ymarferol hynny a all liniaru effaith costau ynni sy'n codi'n gyflym yn rhan o'r dirwedd yma yng Nghymru hefyd.

Cynllun Dychwelyd Ernes

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun dychwelyd ernes? OQ58360

Llywydd, ein nod yw datblygu'r cynllun fel partneriaeth â Llywodraethau'r DU a Gogledd Iwerddon. Mae absenoldeb Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon a'r cythrwfl yn San Steffan ill dau'n effeithio ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi ffurf terfynol y cynllun. Mae'n ymddangos bod hynny bellach yn debygol o gael ei ohirio ymhellach i'r hydref.

Gweinidog, rwyf wedi adolygu eich ateb i'r cwestiynau a ofynnodd Joel James i chi ym mis Mai, ac nid wyf yn gofyn fy nghwestiwn i drafod a ddylid cynnwys poteli gwydr yn y cynllun ai peidio; y gwir amdani yw bod pedair gwlad y DU bellach yn debygol o fabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol. Ac felly, rwy'n awyddus i archwilio sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar unrhyw anfantais gystadleuol neu'n rhoi mesurau lliniaru ar waith i gefnogi busnesau bragu bach yng Nghymru yn benodol. Sylwaf, o'ch ateb i Joel, y sonioch y gallai'r Llywodraeth siarad â'r diwydiant am lefel y ffi gofrestru flynyddol, ond, o dan yr opsiynau presennol, byddai'n ofynnol i fragwyr bach brynu offer newydd i argraffu labeli a chyflogi staff ychwanegol i hwyluso prosesau ychwanegol. A dywedir wrthyf y byddai cost yr offer hwnnw i bob pwrpas yn golygu na fyddai'r busnesau hynny'n gallu parhau i weithredu. Felly, a gaf i ofyn i chi am sicrwydd y byddai cymorth a phroses liniaru'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer busnesau Cymru, fel nad ydyn nhw o dan anfantais gystadleuol? A byddwn yn ddiolchgar pe baech yn nodi eich asesiad o ba un a oedd y cynllun dychwelyd ernes yng Nghonwy yn llwyddiannus.

14:15

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna, Llywydd. Rydym yn wir yn cynnig mesurau i gyfyngu ar yr effaith ar fusnesau llai, ac mae hynny'n cynnwys y ffi gofrestru flynyddol. Byddwn yn edrych ar ofynion labelu gorfodol, byddwn yn edrych ar sut y gellid cynllunio rhwymedigaethau dychwelyd ar-lein i weld a all hynny liniaru rhai o'r effeithiau ar y cwmnïau, ond mae'r egwyddor yn syml. Dyma'r un rwy'n cofio ei amlinellu i Mr James: rhaid i'r llygrwr dalu. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw rhwymedigaethau newydd ar y bobl hynny sy'n cynhyrchu gwastraff o'r math hwn i sicrhau ein bod yn gallu ymdrin ag ef yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Mae'r cynllun dychwelyd ernes yn rhywbeth yr ydym, fel y dywedais i, wedi gweithio arno gyda Llywodraeth y DU a Gogledd Iwerddon. Roedd y bwriad i gynnwys poteli gwydr yno yn ein cynllun cyffredinol tan y diwedd bron, pan benderfynodd Llywodraeth y DU dynnu'n ôl o'r hyn a gynigiwyd. Bydd yr Alban yn bwrw ymlaen i gynnwys poteli gwydr, felly bydd gwahanol gynlluniau mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn ceisio gweithio gyda'r sector i'w helpu gyda hynny.

Cynhaliwyd y cynllun treialu yng Nghonwy, Llywydd, flwyddyn yn ôl—roedd ym mis Gorffennaf y llynedd. Roedd yr adborth gan y rhai a gymerodd ran yn y cynllun treialu yn gadarnhaol, ac mae'r system a ddefnyddiwyd yno, cod cyfresol unigryw a ychwanegwyd at botel ddiod, yn golygu bod gan y system y potensial i ddefnyddio'r casgliad presennol wrth ymyl y ffordd ochr yn ochr â mannau dychwelyd manwerthu. Felly, roeddwn yn falch iawn bod y cynllun treialu wedi digwydd yn y ffordd y gwnaeth ef ddigwydd. Rydym wedi dysgu oddi wrtho, ac rydym wedi dysgu'n arbennig fod awydd gwirioneddol ymhlith y cyhoedd i sicrhau y gallwn wneud yn well yn y maes hwn, ac nid yn unig yr ydym yn llwyddo i ailgylchu mwy o'r deunyddiau a ddefnyddiwn, ond rydym hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y sbwriel sydd fel arall yn anharddu lleoedd hardd fel Conwy pan fydd y pethau hyn y gellid eu hailgylchu'n iawn yn cael eu gadael, gan greu'r difrod amgylcheddol hwnnw.

Y Sector Rhentu Tymor Hir

5. Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i warchod y sector rhentu tymor hir yn wyneb twf yn y sector rhentu tymor byr? OQ58338

Llywydd, rydym yn sicrhau bod mecanweithiau cadarn ar waith ar gyfer y sectorau rhentu tymor hir a thymor byr. Mae'r mesurau yn cynnwys cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety gwyliau, a sicrhau bod rhyddhad ardrethi busnes yn canolbwyntio ar yr eiddo gwyliau hynny sy'n cael eu rhentu am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

Nawr, yn ychwanegol at y tai sy'n cael eu gwerthu fel cartrefi gwyliau neu lety gwyliau, rwyf wedi dod yn ymwybodol yn ddiweddar o'r arfer o droi tenantiaid hirdymor allan fel y gellir troi eu cartrefi'n lletyau gwyliau tymor byr. Mae etholwyr yn dweud wrthyf ei fod yn digwydd ar draws ein cymunedau arfordirol.

Mae gweithredoedd un landlord yn peri pryder arbennig. Drwy fraint hanesyddol, mae ystad Bodorgan yn landlord pwysig iawn, efallai ein landlord mwyaf adnabyddus o'r adeg pan oedd Dug a Duges Caergrawnt ar Ynys Môn. Mae'r ystad yn berchen ar lawer o dai, ond rwyf wedi siarad â thenantiaid sy'n dweud y dywedwyd wrthyn nhw i adael fel y gellir troi eu cartrefi'n lletyau haf. Nawr, yn yr Alban, pori dwys a arweiniodd at Gliriadau'r Ucheldiroedd gwarthus yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar Ynys Môn, yn yr unfed ganrif ar hugain, twristiaeth ydyw, ond yr un yw'r egwyddor. O raddfa'r hyn rwy'n ei glywed, rwy'n ofni y byddwn yn colli rhannau helaeth o'r boblogaeth barhaol.

Drwy ein cytundeb cydweithio, cyhoeddwyd nifer o fesurau i ddechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys y cynlluniau hynny ar gyfer system drwyddedu cyn y gellir troi cartref yn llety gwyliau tymor byr. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na ellir oedi, a pha gamau y gallai eu cymryd yn awr i geisio atal yr arfer o droi pobl allan sydd eisoes ar waith?

14:20

Wel, Llywydd, mae 10 elfen wahanol yn y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gennym gyda'n gilydd ar 4 Gorffennaf, ac mae'r rheini'n fesurau y byddwn ni'n eu datblygu gyda'r brys sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth o ran ailgydbwyso, fel y dywedais i, y sectorau rhentu tymor byr a thymor hir. Rwy'n pryderu am yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud y prynhawn yma, a bydd gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes ganddo unrhyw dystiolaeth bellach. Ni ellir troi pobl allan drwy ofyn iddyn nhw adael; mae rheolau a gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i landlordiaid gadw atyn nhw ym mhob sector, a bydd gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn darganfod mwy o'r enghreifftiau penodol y mae Rhun ap Iorwerth wedi'u hamlinellu.

Llywydd, nid oes tystiolaeth—hyd y gwn i—o encilio ar raddfa eang o rentu hirdymor yng Nghymru. Rwy'n credu mai'r ffigurau diwethaf a welais oedd bod dros 207,000 o eiddo wedi'u cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru fel eiddo hirdymor i'w rhentu, ac oherwydd ei bod hi bellach yn bum mlynedd ers Rhentu Doeth Cymru, a bod landlordiaid yn gorfod ailgofrestru, roedd 810 o landlordiaid wedi'u cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ym mis Mehefin yn unig. Ond, yr hyn y bydd y rhaglen weithredu yr ydym wedi cytuno arni yn ei wneud bydd sicrhau bod mwy o gydraddoldeb rhwng rhwymedigaethau tymor hir a thymor byr. Os ydych chi'n rhentwr tymor hir, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru; rhaid i chi ddangos bod gennych gyfres o bethau ar waith—trefniadau yswiriant, trefniadau diogelwch ac ati. Bydd ein cynllun trwyddedu ar gyfer rhenti tymor byr yn codi safonau yn y rhan honno o'r farchnad hefyd a bydd yn gwneud y rhwymedigaethau hynny, fel y dywedais i, yn fwy cyfartal â'i gilydd. A bydd pethau eraill sy'n rhan o becyn o fesurau a luniwyd gennym, gan sicrhau bod busnesau rhentu tymor byr yn fusnesau go iawn, gan rentu eu heiddo am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, hefyd yn arwain at fwy o gydraddoldeb rhwng y ddwy agwedd hynny, y marchnadoedd rhentu tymor byr a thymor hirach. Byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth, ac os oes pethau eraill y mae angen i ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r mathau o faterion y mae Rhun ap Iorwerth wedi'u codi y prynhawn yma, yna wrth gwrs gellir ymestyn y pecyn hwnnw o fesurau ymhellach.

Darpariaeth Iechyd Drawsffiniol

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth iechyd drawsffiniol i gleifion rhwng Lloegr a gogledd Cymru? OQ58373

Llywydd, mae'r llif cleifion rhwng gogledd Cymru a Lloegr yn cael ei reoli rhwng y cyrff iechyd ar ddwy ochr y ffin. Mae'r egwyddorion ar gyfer darparu gofal iechyd trawsffiniol wedi eu nodi yn y datganiad gwerthoedd ac egwyddorion trawsffiniol sydd wedi eu cytuno rhwng y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Yng ngoleuni problemau blaenorol gyda chyllido gwasanaethau gofal iechyd trawsffiniol—a dwi'n meddwl yn benodol am broblemau a gododd gydag Ysbyty Countess of Chester rai blynyddoedd yn ôl ac ychydig yn fwy diweddar gydag ysbyty Gobowen—ydych chi'n hyderus bod y cyllido ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol mewn ysbytai fel Walton yn ddigonol i sicrhau nad yw cleifion o Gymru yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Oherwydd fy nealltwriaeth i yw nad ydyn nhw'n medru cael eu trin o fewn 26 wythnos am resymau ariannol.

Wel, dwi ddim wedi clywed hynny, Llywydd. Dwi'n cydnabod y ffaith, yn y gorffennol, fod rhai problemau wedi cael eu codi, ond nawr mae system newydd gyda ni ac mae uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr yn dod at ei gilydd. Roedden nhw'n cwrdd ddydd Gwener ddiwethaf, ac maen nhw'n gweithio trwy unrhyw broblemau, lawr at lefel unigolion, os oes problemau yn codi. Ces i ryw fath o adborth mas o'r cyfarfod ar ddydd Gwener, ac fel dwi wedi clywed, doedd neb wedi codi'r pwynt bod arian wedi bod yn broblem yn y system sydd gyda ni, yn Lerpwl neu unrhyw ysbyty arall lan a lawr y ffin.

14:25
Gwella Gofal Orthopedig

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drawsnewid gwasanaethau i wella gofal orthopedig ar draws y GIG? OQ58350

Llywydd, mae'r bwrdd orthopedig cenedlaethol wedi cynnal adolygiad o'r gwasanaethau orthopedig ledled Cymru. Mae'r bwrdd wedi defnyddio'r wybodaeth o'r adolygiad hwn i gynnig glasbrint ar gyfer dyfodol gwasanaethau orthopedig. Dosbarthwyd y strategaeth a'r glasbrint yn eang yr wythnos diwethaf.

Diolch, Prif Weinidog, a chyn i mi ofyn gweddill fy nghwestiwn atodol, hoffwn groesawu rhai o'r gofalwyr ifanc yn yr oriel y gwnes i gyfarfod â nhw'n gynharach, a'r gwaith gwirioneddol ysbrydoledig y maen nhw'n ei wneud wrth gefnogi eu teuluoedd.

Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf clywais yn uniongyrchol, ynghyd â nifer o fy nghyd-Aelodau o bob rhan o'r Senedd, gan Cymru Versus Arthritis a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon am y newidiadau trawsnewidiol sydd eu hangen i wella canlyniadau i gleifion yng Nghymru. Fel y dywedoch chi, cyhoeddwyd y glasbrint orthopedig cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru yr wythnos diwethaf. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am yr adroddiad ac mae ei ddarllen yn peri gofid. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau orthopedig a thrawma dewisol yng Nghymru mewn cyflwr enbydus ac y bydd methu â bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad hwn yn gyflym yn anochel yn arwain at y casgliad na all Cymru ddarparu gofal orthopedig dewisol diogel. Mae'n argymell newidiadau trawsnewidiol i wasanaethau ar gyfer orthopedeg yng Nghymru.

Nid wyf yma i feio neb, Prif Weinidog; rwyf yma i ddod o hyd i atebion i'r broblem, i'w datrys ar gyfer pobl sydd mewn poen sy'n gwanychu bywyd. Felly, mae'n amlwg bod angen i bethau newid. Gofynnodd eich Llywodraeth am yr adroddiad hwn, felly a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithredu holl argymhellion yr adroddiad ac amlinellu amserlen ar gyfer eu cyflawni, gweithio ochr yn ochr â'r cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio, a rhoi rhywfaint o oleuni ar ddiwedd y twnnel i bobl mewn poen? Diolch, Llywydd.

Wel, Llywydd, roeddem yn falch o gael yr adroddiad, wrth gwrs, ar ôl ei gomisiynu, a byddwn eisiau ystyried ei argymhellion yn ofalus iawn. Bydd uwchgynhadledd orthopedig ym mis Awst y bydd y Gweinidog yn ei harwain, a bydd hynny'n dod â phobl, nid yn unig o Lywodraeth Cymru, ond o'r gymuned glinigol ehangach, o gwmpas y bwrdd i ystyried yr argymhellion a llunio cynllun gweithredu.

Mae cyfres o bethau yn yr adroddiad y credwn y byddwn yn gallu eu symud ymlaen yn y tymor byr: camau gweithredu ar unwaith mewn cysylltiad â gweithdrefnau lefel uchel a chymhlethdod isel, er enghraifft, ffurfio rhwydwaith cyflawni achosion dydd, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i greu mwy o gapasiti, capasiti wedi'i ddiogelu ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel canolfan lawfeddygol ar gyfer Cwm Taf Morgannwg, yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am gapasiti estynedig a gwarchodedig yno, a gwaith sydd wedi digwydd yn y gorffennol yn Ysbyty'r Tywysog Philip i sicrhau y gellir cynnal llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn y ffordd honno. Nawr, pan gyfarfu'r Gweinidog â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yr wythnos diwethaf, cydnabuwyd mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yng Nghymru yw canolbwyntio yn y dyfodol agos ar well defnydd o'r capasiti a'r cyfleusterau presennol, fel y gallwn weithio ar y cynigion y mae'r glasbrint a'r strategaeth yn eu darparu.

Gwella Ansawdd Aer

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yn etholaeth Mynwy? OQ58365

Llywydd, mae astudiaethau yng Nghas-gwent a'r cyffiniau wedi'u cynnal, ac mae cyngor sir Fynwy yn ystyried cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy. Bydd y Bil aer glân sydd ar ddod yn cynnwys cynigion i wella ansawdd aer ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth Mynwy.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb, a diolch i chi am gydnabod y materion sy'n ymwneud â Chas-gwent. Dyna un o fy mhrif faterion, oherwydd llygredd aer ar yr A48, ac yn enwedig Rhiw Hardwick, y byddwch yn ymwybodol ohono, sef un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru. Mae trigolion wedi bod yn pwyso am ffordd osgoi ers rhai blynyddoedd i helpu i leddfu'r broblem. Fel y gwyddoch chi eisoes, mae'n siŵr, Prif Weinidog, mae proses canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn a mesurau eraill ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae Cyngor Sir Fynwy a phartneriaid, yn wir gyda Llywodraeth Cymru, wedi gwario bron i £500,000 yno—cyfrannwyd £300,012 gan Lywodraeth Cymru. Mae'n siomedig wedyn clywed bod gweinyddiaeth newydd bresennol y cyngor yn ystyried tynnu'n ôl o waith pellach ar y cynllun hwn, ni waeth faint yw'r angen amdano. Nawr, deallaf mai polisi eich Llywodraeth yw ystyried adeiladu ffyrdd newydd pan fyddai gwneud hynny'n gwella ansawdd aer. Prif Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth barhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu ffordd osgoi Cas-gwent i leihau llygredd aer mewn ardaloedd lle ceir tagfeydd, a sut y mae'r Llywodraeth yn cyflawni argymhellion comisiwn Burns i wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn yr ardal i ddarparu trafnidiaeth fwy gwyrdd hyfyw ar gyfer y dyfodol agos? Diolch. 

14:30

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd, a chydnabod y gwaith a gafodd ei wneud gan weinyddiaeth Geidwadol flaenorol cyngor Mynwy, a gyflwynodd dri datrysiad posibl i'r anawsterau sydd wedi'u cydnabod y mae rhannau o Gas-gwent yn eu hwynebu. Mae'r cyngor sir presennol wedi rhannu'r tri datrysiad posibl hynny ac maen nhw wrthi'n ymgynghori ar y ddau gyntaf—cynllun teithio llesol yng Nghas-gwent a'r cyffiniau ac, yn rhan 2, cyfnewidfa ganolfan drafnidiaeth yng ngorsaf reilffordd Cas-gwent. Rwy'n credu ei bod yn iawn, cyn ystyried dewis y ffordd osgoi ymhellach, ein bod ni'n dihysbyddu potensial rhannau 1 a 2 i wneud eu cyfraniad at ddatrys y materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer sy'n wynebu'r rhan honno o Gymru. Nid yw hynny'n golygu nad oes rhinwedd yn y cynnig o ffordd osgoi, ond cyn i ni benderfynu ar y ffordd osgoi, rydym ni eisiau sicrhau bod ymgynghori priodol wedi bod ar y pethau eraill hynny a bod pob effaith y mae modd ei chael ohonyn nhw yn cael ei rhoi ar waith. 

O ran comisiwn Burns, rydym ni'n parhau i weithio ar yr holl bethau hynny sydd o fewn dwylo Llywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r camau sydd wedi'u cymryd, er enghraifft, i weithio gyda chyngor bwrdeistref Casnewydd i gynyddu'r fflyd o fysiau trydan sydd ar gael yn y ddinas honno, am resymau ansawdd aer ac i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'r car. Roedd cynnig sylfaenol comisiwn Burns, fel y gwn i y bydd Peter Fox yn cofio, ar gyfer buddsoddi o dan adolygiad cysylltedd yr undeb. Bydd yn rhaid i ni aros nawr nes bydd gennym ni Lywodraeth yn San Steffan sy'n gallu ymateb i'r cynigion a gafodd yr adolygiad cysylltedd yr undeb. Rwy'n dal i fod—. Wel, nid wyf i eisiau defnyddio'r gair 'optimistaidd', Llywydd, ond yr wyf i'n dal yn gadarn o'r farn ei bod yn brawf mawr ar Lywodraeth y DU ei bod yn dod o hyd yr arian i gyd-fynd â'r cynigion y gwnaeth ei hadolygiad ei hun gyflwyno, yn enwedig yn y rhan o Gymru y mae'r Aelod dros Fynwy yn ei chynrychioli

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:33:14
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r cynnig i gytuno ar Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 wedi'i dynnu'n ôl o'r agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar effaith twristiaeth ar wasanaethau iechyd, yn enwedig yn y gogledd? Fel y gwyddoch chi, mae'r gogledd yn lle hardd i bobl ymweld ag ef, ac mae gennym ni filoedd lawer o bobl sy'n dod i fwynhau popeth sydd gennym ni i'w gynnig ar stepen ein drws, ond un o'r pethau y mae'n rhoi pwysau arno yw ein gwasanaeth iechyd, oherwydd, wrth gwrs, bydd angen gofal heb ei gynllunio ar rai pobl yn ystod eu hymweliad. Gwyddom ni fod gennym ni fwrdd iechyd sydd o dan bwysau, yn enwedig yn Ysbyty Glan Clwyd, sy'n union yng nghanol yr ardal dwristiaeth yn y gogledd, a tybed a yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried yn briodol o ran a oes digon o adnoddau'n cael eu rhoi i'n byrddau iechyd er mwyn gallu ymdopi â'r niferoedd sylweddol o ymwelwyr yr ydym ni'n eu cael. Fel y dywedais i, rydym ni eisiau eu croesawu nhw, ond mae angen i ni hefyd sicrhau eu bod yn cael profiad da, yn enwedig os ydyn nhw'n mynd yn sâl. 

Diolch yn fawr iawn. Ddydd Iau diwethaf, roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y gogledd, y gwnes i ei gadeirio, ac yr oedd cynrychiolwyr—y cadeirydd a'r prif weithredwr—o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bresennol. Roedd mewn gwirionedd yn bwnc y gwnaethom ni ei drafod, ac yn sicr, cafodd ei godi gyda'r Gweinidog gan y prif weithredwr. Nid wyf i'n credu bod angen datganiad ysgrifenedig ar hyn o bryd, oherwydd, yn sicr, o'r trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael, yr oedd yn amlwg gan y bwrdd iechyd fod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n ei ystyried.

14:35

Nid rhywbeth y gallwn ni fod yn dystion iddo fel gwylwyr yn unig yw'r anhrefn yn San Steffan—bydd yn cael effaith ddofn ar y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu yng Nghymru. Byddwn i'n gofyn am ddadl yn syth ar ôl y toriad fel y gallwn ni benderfynu sut i ddiogelu datganoli a buddiannau pobl Cymru. Erbyn hynny, bydd Prif Weinidog newydd yn y DU, ac yr wyf i eisiau cael cynllun fel y gall Prif Weinidog Cymru wneud galwadau ar y Prif Weinidog hwnnw, fel atal ymosodiadau ar hawliau dynol, tynnu'n ôl y bygythiad i ddeddfwriaeth Cymru, ac y dylai San Steffan roi'r biliynau i ni sy'n ddyledus i Gymru ar gyfer HS2 a chronfeydd newydd yr Undeb Ewropeaidd nad ydyn nhw wedi dod i'r fei. A allwn ni fynnu Deddf Cymru newydd, sy'n datganoli seilwaith rheilffyrdd, Ystad y Goron, darlledu, unrhyw beth y mae angen ei ddiogelu rhag y chwalwyr hynny yn San Steffan? Ni allwn ni ganiatáu i'n tynged gael ei benderfynu'n ddiofyn neu'n ddifater; mae angen i ni wneud y galwadau hyn, a hoffwn i gael dadl, os gwelwch yn dda, fel y gallwn ni wneud y penderfyniadau hynny fel Senedd.

Diolch. Yn sicr, nid wyf i'n anghytuno â'ch sylwadau ynghylch yr anhrefn yr ydym ni'n ei weld yn San Steffan. Yn amlwg, mae wedi bod yn Llywodraeth wedi'i pharlysu'n fawr, ac mae'n parhau felly. Ond yr wyf i eisiau'ch sicrhau, fel Gweinidogion—ac yn amlwg, y Prif Weinidog yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU—ein bod ni'n parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod materion sydd o bwys mawr iawn yma a hefyd i bobl Cymru yn cael eu hystyried ar bob cyfle. Fel y dywedwch chi, erbyn i ni ddod yn ôl ar ôl toriad yr haf, bydd Prif Weinidog newydd ar gyfer y DU. Rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog Cymru yn gofyn am gyfarfod brys, ac, os oes diweddariad, byddaf i'n sicrhau bod hynny'n digwydd.

Rwyf i eisiau gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cyfrifiad, ac mae'r rhan gyntaf yn ymwneud â newidiadau yn y boblogaeth yng Nghymru. Mae newid yn y boblogaeth yn ddirprwy da ar gyfer cyfoeth cymharol, gan fod gan yr ardaloedd mwy llwyddiannus gyfradd twf poblogaeth uwch, a bod gan yr ardaloedd tlotach ostyngiad cymharol neu wirioneddol yn y boblogaeth. Hoffwn i'r datganiad gynnwys sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twf yn yr ardaloedd sy'n colli poblogaeth. Byddai ail ran y datganiad yn ymwneud â thwf a dirywiad yn yr iaith Gymraeg fesul ardaloedd cynghorau. Rwy'n rhagweld y bydd gan sir Fynwy ei phoblogaeth fwyaf erioed sy'n medru'r Gymraeg, ond bydd Ynys Môn yn parhau i ddangos gostyngiad gwirioneddol ac yng nghanran y siaradwyr Cymraeg. Hoffwn i'r datganiad drafod nifer yr ardaloedd sydd â dros 70 y cant o siaradwyr Cymraeg.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar glymog a'r cyfrifoldeb dros ei ddileu. Cafodd un o fy etholwyr yr ateb hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru: 'Mae gan dirfeddianwyr gyfrifoldeb i atal clymog rhag lledaenu ar eu tir eu hunain. Os yw wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n lledaenu ar dir cyfagos, mae gan y cymydog y gallu i gysylltu â'u cyngor a'u heddlu lleol ar 101 i'w cael i orfodi hysbysiad ar y landlord, i'w orfodi i atal yr ymlediad'. Mae'r cyngor yn gwadu bod ganddo'r pwerau. A oes modd gwneud datganiad clir am gyfrifoldeb?

Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch clymog, gwn i fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taflen wybodaeth gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yn ddiweddar, yn benodol ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, gyda chyngor ar weithredu ar dir y maen nhw'n ei reoli lle mae clymog Japan. Felly, yr ydym ni'n ymwybodol iawn o'r problemau y mae'n eu hachosi, a'r problemau y mae'n eu hachosi ledled Cymru. Ac fel y dywedwch chi, y tirfeddiannwr sy'n gyfrifol amdano bob amser. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid, ac mae hynny'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn amlwg mae pob un o'n hawdurdodau lleol, y trydydd sector, ac ati, yn gallu ei reoli a'i ddileu yma yng Nghymru.

Mewn ymateb i'r cyfrifiad, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig yn croesawu canlyniadau cyntaf cyfrifiad 2021, a gwn i fod y canlyniadau hefyd wedi'u gosod gerbron y Senedd. Mae'r Gweinidog yn edrych ymlaen at gyhoeddi data arall ym mis Hydref eleni, a bydd hynny'n cynnwys mwy o fanylion am y boblogaeth mewn ardaloedd penodol o Gymru, a phynciau newydd pwysig fel hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, cyn-filwyr lluoedd arfog y DU, yn ogystal â gwybodaeth am faint o bobl sy'n siarad Cymraeg.

Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Cyngor Abertawe fod menter newydd wedi'i lansio fel bod pobl yn gwybod bod gan weithredwyr hamdden ar draeth Caswell y sgiliau a'r profiad i ddarparu gweithgareddau diogel a hwyliog, wedi'u cyflwyno i'r safon uchaf. Mae'r bartneriaeth hon gyda'r RNLI a Ffederasiwn Syrffio Cymru yn syniad gwych, a gyda'r twf yn nifer y bobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau dŵr fel syrffio, padlfyrddio a cheufadu, gobeithio y bydd y siarter hon yn rhoi hyder i bobl ynghylch sgiliau'r rhai sy'n cynnal gweithgareddau ar y traeth. Wrth i chi gynllunio busnes y Llywodraeth ar gyfer y cyfnod ar ôl y toriad, a fyddech chi'n cytuno i ddadl yn amser y Llywodraeth i'r Senedd fyfyrio ar gyfnod yr haf eleni, yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, a beth y gallwn ni ei wneud i wella'n cynnig twristiaeth ymhellach, ac, yn benodol, sut y gall y mathau hyn o fentrau wella diogelwch a mwynhad ein traethau i bawb sy'n eu defnyddio? Diolch. 

14:40

Diolch. Mae'n sicr yn dda clywed am fenter o'r fath gan Abertawe gyda'r RNLI, ac rwy'n credu ei bod yn gyfle da iawn i atgoffa pobl o bwysigrwydd diogelwch dŵr, yn enwedig mewn tywydd poeth. Yn anffodus, rydym ni'n gweld gormod o lawer o ddamweiniau a marwolaethau yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, mae'n sicr yn werth tynnu sylw ato yn y Siambr heddiw, rwy'n credu, ac mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu beth sydd wedi gweithio ac yn sicrhau ein bod ni'n rhannu arfer gorau. 

Mi leiciwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu gweithwyr gofal yn sgil y cynnydd mawr mewn costau tanwydd. Roeddwn i'n trafod y mater efo swyddogion undeb Unsain ddoe. Mae gweithwyr gofal mewn ardaloedd gwledig yn arbennig yn gorfod gyrru cryn bellter rhwng tai'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dydy'r arian maen nhw'n ei gael yn ôl, erbyn hyn, ddim yn ddigon i dalu costau'r tanwydd i'w ceir a chynnal a chadw. A'r gwir amdani ydy eu bod nhw mewn gwirionedd yn sybsideiddio eu cyflogwyr rŵan, ac yn gorfod torri arian o'u cyllideb deuluol er mwyn gwneud hynny. Dwi'n gwybod mai yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae'r prif lifers o ran gostwng prisiau a chaniatáu hawlio mwy o arian yn ôl yn ddi-dreth ac ati, ond mi hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried fel camau, o daliadau uniongyrchol i drio annog talu'r gweithwyr yma fesul wythnos i gael eu harian yn ôl, neu ganiatáu buddsoddi gan eu cyflogwyr nhw mewn pool cars, ceir trydan hyd yn oed. Rydym ni'n sôn yn y fan hyn am sefyllfa lle mae'r caledi wir yn brathu, ac rydym ni'n sôn am weithwyr sydd yn ofalgar ac yn gwbl, gwbl allweddol. 

Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol yn ymwybodol o'r pryder ynghylch hyn, ac mae'n amlwg bod cost tanwydd yn rhywbeth, fel y dywedwch, lle mae'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn parhau i gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, ond hefyd gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU. 

Tybed a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig ar ba gyfraniad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i bontio byd-eang teg. Mae Bangladesh wedi cael ei ddistrywio'n llwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf gan lifogydd ofnadwy iawn yn Sylhet, lle mae o leiaf 100 o bobl wedi'u lladd ac, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 7 miliwn o bobl wedi'u dadleoli. Daw'r rhan fwyaf o'r diaspora Bangladeshaidd yng Nghaerdydd o Sylhet, a gwn i fod rhai wedi colli aelodau o'r teulu sydd wedi boddi. Ychydig iawn o sylw y mae'r wasg wedi'i roi i hyn, naill ai ei fod wedi'i foddi gan y drasiedi yn Wcráin neu gan y seicodrama sy'n mynd ymlaen yn Downing Street. Mae ffotograff gwych, sy'n siarad cyfrolau, yr wyf i newydd ei drydar. Mae'n disgrifio, 'Nid ydym ni ar yr un cwch #AnghydraddoldebNewidHinsawdd' a 'Byddwn wedi marw erbyn COP27'. Mae hyn yn ein hatgoffa ni'n fawr o anghyfiawnder y tlawd, sy'n dioddef yr anghydraddoldebau o ran effaith yr argyfwng hinsawdd wedi'i greu gan wledydd cyfoethog y byd. Ein rhwymedigaeth ni, yn sicr, yw cynorthwyo gwledydd y de, y mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio fwyaf arnyn nhw. Mae gennym ni raglen wych Cymru o Blaid Affrica. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch sut y gallem ni ystyried ehangu ein gwaith rhyngwladol ni i ystyried yr anghyfiawnderau ofnadwy sy'n cael eu creu gan yr argyfwng hinsawdd yn rhannau tlotaf y byd? 

Diolch. Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn. Fel y dywedwch chi, nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw eang iawn yn y cyfryngau. Mae'r llifogydd ym Mangladesh yn peri pryder mawr, ac mae ein meddyliau gyda'r genedl, ac, fel y dywedwch chi, gyda'r gymuned Bangladeshaidd yma yng Nghymru, rhaid ei bod yn poeni'n fawr am ffrindiau a theulu y mae'r digwyddiad hinsawdd trychinebus hwn wedi effeithio arnyn nhw.

Mae'r cyllidebau ar gyfer ein datblygu cynaliadwy rhyngwladol wedi cynyddu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae'r rhain yn parhau i ganolbwyntio'n sylweddol ar ein gwaith datblygu cynaliadwy yn Affrica, ac, fel y dywedwch chi, mae gennym ni raglen Cymru o Blaid Affrica wych yma. Gwn i, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw gynlluniau i ehangu'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica honno i gynnwys cenhedloedd eraill y tu allan i'r cyfandir.

O ran y pwynt ehangach y gwnaethoch chi ei godi ynglŷn â'r her o ymdrin â'r argyfwng hinsawdd, gan ei gwneud yn ofynnol i bawb gydweithio ar draws ffiniau daearyddol a sectoraidd, gwn i eich bod chi'n ymwybodol iawn, fel rhan o'n cyfrifoldeb byd-eang yma yng Nghymru, yr oeddem ni'n un o sylfaenwyr y Gynghrair Dan2. Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld sut y mae'r gynghrair honno wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd; mae hi nawr yn dwyn ynghyd 260 o Lywodraethau, ac maen nhw'n cynrychioli 1.75 biliwn o bobl, 50 y cant o'r economi fyd-eang. Rydym ni'n parhau i ddarparu cyllid i Gronfa'r Dyfodol Grŵp yr Hinsawdd, a rhan allweddol y grŵp hwnnw yw sut y gallan nhw rymuso rhanbarthau sy'n datblygu ac sy'n dod i'r amlwg i gyflymu'r broses o leihau allyriadau, er enghraifft, mewn ffordd gyfiawn, i adael neb nac unrhyw le ar ôl.

14:45

Gweinidog, gwnes i gyfarfod yn ddiweddar â'r Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd, a chaiff ei galw hefyd yn RHA, ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru, rhai gweision sifil, ac ochr yn ochr â grwpiau a sefydliadau eraill, i siarad am y prinder sgiliau enfawr yn y diwydiant a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ran recriwtio a chadw staff, yn ogystal â'r diffyg parch y maen nhw'n ei gael yn eu diwydiant. Roeddwn i'n gwybod bod pethau'n ddrwg, ond credwch chi fi pan ddywedaf i nad oeddwn i'n sylweddoli pa mor wael oedd y sefyllfa ar hyn o bryd. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill eleni, yr oedd 1.3 miliwn o swyddi gwag yn y diwydiant logisteg, ac nid yw'r nifer hwnnw ond yn mynd yn fwy o ddydd i ddydd. Yr oedran cyfartalog yn y diwydiant yw 49, gyda llawer ar fin ymddeol yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, ac mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i lenwi'r lleoedd gwag. Mae angen i ni annog pobl o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y diwydiant. Nid yw gweithio ym maes cludo nwyddau neu logisteg yn golygu bod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm yn unig. Mae amrywiaeth eang o swyddi a chyfleoedd yn y sector, ac mae angen gwneud popeth i godi ymwybyddiaeth o hyn, ac mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb. Mae sawl ffordd o ddenu pobl ifanc i mewn i'r diwydiant, Gweinidog, fel prentisiaethau a hyfforddeiaethau, ond yn Lloegr mae dau lwybr gwych arall, sef bŵt-campau sgiliau a lefelau T. Yn ôl yr RHA, mae'r bŵt-camp sgiliau wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda chyrsiau'n cael eu gordanysgrifio, ac mae'r lefelau T yn ffordd wych o roi logisteg ar y cwricwlwm. Mae lefelau T yn ddewis amgen i Safon Uwch ac yn helpu myfyrwyr i gael cyflogaeth sgil uchel. Mae pob lefel T yn cynnwys lleoliad cynhwysfawr yn y diwydiant, gan roi profiad amhrisiadwy i fyfyrwyr a'u cynnwys i ddiwallu anghenion y diwydiant. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa mewn logisteg a chludo nwyddau, a pha drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael yma yng Nghymru ynghylch cyflwyno lefelau T yma i bobl Cymru. Diolch.

Diolch. Gwn i fod y Gyweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cael trafodaethau penodol ynghylch lefelau T gyda Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn rhyw lawer o help yn y maes hwn. 

Gwnaethoch chi sôn am y sector logisteg. Gallwch chi drosi hynny i nifer o sectorau gwahanol eraill sy'n cael trafferth wirioneddol gyda maint y prinder sgiliau, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu mewn unrhyw ffordd.

Trefnydd, mae teulu sy'n byw ym Mhontypridd sy'n croesawu teulu sydd newydd gyrraedd o Wcráin i'w cartref wedi cysylltu â mi y bore yma. Er bod popeth yn mynd yn dda, maen nhw wedi clywed y bydd nifer o wythnosau cyn y bydd eu gwesteion yn cael unrhyw faint o'r cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo y tu hwnt i'r £200 cychwynnol. Er bod y teulu lletyol wedi cynnig prynu'r hyn sydd ei angen arnyn nhw, mae'r gwesteion yn naturiol yn awyddus i fod yn annibynnol yn ariannol cyn gynted â phosibl ac maen nhw wedi cysylltu â'r banc bwyd lleol am gymorth gan fod eu harian cychwynnol nawr wedi dod i ben. A fyddai'n bosibl, felly, i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau drwy ddatganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw drafodaethau sy'n digwydd gyda Llywodraeth y DU o ran yr oedi wrth brosesu ceisiadau am gymorth ariannol a sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda banciau bwyd i sicrhau eu bod mewn sefyllfa i gefnogi unrhyw deuluoedd o Wcráin sy'n troi atyn nhw am gymorth? Diolch.

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am ffoaduriaid sydd nawr yma yng Nghymru o Wcráin. Gwn i y bu’r Gweinidog mewn cyfarfod ar y mater hwn y bore yma. Byddaf i'n sicr yn gofyn iddi, os oes unrhyw wybodaeth ddiweddaraf i roi i'r Aelodau amdano dros doriad yr haf, ei bod hi'n gwneud datganiad ysgrifenedig.

O ran eich cwestiwn penodol ynghylch banciau bwyd, gwn i fod fy manc bwyd fy hun yn Wrecsam ddydd Gwener diwethaf wedi helpu nifer o deuluoedd a oedd yma o'r Wcráin, ac ymwelodd y Gweinidog ei hun â banc bwyd Wrecsam tua mis yn ôl yn benodol i weld beth y byddai modd ei wneud i'w cefnogi. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud bod rhywfaint o arweiniad wedi'i roi i fanciau bwyd, ond byddaf i'n cadarnhau hynny, ac, fel yr wyf i'n ei ddweud, gofynnaf i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni os bydd angen.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: treth gyngor decach. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

14:50

Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ymrwymo i wneud diwygiadau i'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach ac yn fwy blaengar. Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddais i y byddwn i'n ymgynghori eleni ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i fod yn fan cychwyn ar daith tuag at gyflawni'r nodau hynny. Fe ddaeth ein gwaith cyhoeddedig ni'r llynedd i'r casgliad, ar gyfer cyflawni'r nodau hynny yn y tymor byrrach, y byddai angen i ni ystyried ailbrisio i ganiatáu i ni newid y bandiau a'r cyfraddau treth. Fe dynnodd hynny sylw hefyd at yr angen i ni wella ein cynllun cymorth cenedlaethol ni ac archwilio'r fframwaith ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n parhau i weithio ar ffyrdd amgen o godi trethi lleol a allai rannu'r baich gyda mwy o degwch i'r dyfodol, fel treth leol ar werth tir.

Rwy'n mynd ati'n raddol i gynllunio system newydd oherwydd rwy'n awyddus fod gan bawb y cyfle i gyfrannu at y gwaith hwn. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn nodi map ffordd. Mae'n cynrychioli cam 1 o sgwrs aml-lwyfan, gan geisio barn mewn ffordd sy'n agored a chydweithredol. Fe fyddaf i'n ystyried popeth a fyddwn ni'n ei ddysgu o'r cam hwn, ac yn gobeithio bod mewn sefyllfa i lansio ymgynghoriad ar gynigion manwl yng ngham 2 y flwyddyn nesaf. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn anelu at system deg a blaengar sy'n cydbwyso baich y dreth o'r newydd ar aelwydydd, yn ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, a bod yn dreth sy'n cysylltu pobl â chymunedau, ac sydd wedi cael ei llunio i gael ei diweddaru yn rheolaidd er mwyn iddi barhau i fod yn deg yn y dyfodol.

Rwyf i wedi gweithio yn agos gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, ar y flaenoriaeth hon a rennir gennym ni. Rwyf i wedi parhau i gwrdd ag arweinwyr llywodraeth leol i gasglu safbwyntiau o bob rhan o Gymru. Rwyf i wedi sefydlu trefniadau llywodraethu, ac rydym ni'n ymgysylltu â phartneriaid sy'n allweddol i gyflawni'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Rydym ni wedi parhau i weithio gyda sefydliadau arbenigol uchel eu parch yn y maes hwn, gan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

Mae yna lawer iawn o bethau cadarnhaol ynglŷn â'r system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw. Mae hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac mae hi'n cynrychioli democratiaeth leol ar waith. Yn gyffredinol, mae hi'n dreth effeithlon a sefydlog iawn, sy'n codi £2 biliwn yn flynyddol ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol—gwasanaethau na allwn ni wneud hebddyn nhw. Mae ei chostau gweinyddol hi'n isel hefyd, mae trethdalwyr yn ei deall hi'n dda, ac mae ei sail sylfaenol hi, sef gwerth tai, yn gallu bod yn effeithiol wrth ddangos yn fras faint o arian sydd gan bobl o'u cymharu nhw ag eraill. Serch hynny, rwy'n cydnabod nad yw hi'n berffaith. Mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi baich treth cymesur uwch ar bobl sydd â lefelau is o gyfoeth. Fel gŵyr yr Aelodau, mae pob eiddo yng Nghymru sy'n atebol am y dreth gyngor yn cael ei roi mewn un o naw band, yn seiliedig ar werth eiddo ym mis Ebrill 2003. Mae hyn yn golygu bod y dreth wedi dyddio ar ôl bron i 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a dalwn ni'n adlewyrchu ein hamgylchiadau ni erbyn hyn. Mae swm y dreth gyngor a godir am eiddo band I dair gwaith a hanner cymaint â band A, ond fe allai cartrefi yn y band uchaf fod yn werth mwy na naw gwaith cymaint â'r rhai yn y band isaf. Mae'r Llywodraeth hon o'r farn y dylid cynnal ailbrisiad, ac fe ddylem ni anelu at weithredu strwythur newydd ar gyfer y dreth gyngor yn seiliedig ar brisiadau mwy cyfredol. Pe byddem ni'n gwneud felly, mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar wneud hynny o fis Ebrill 2025.

Er bod prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol ers 2003, rwy'n awyddus i egluro nad yw hyn yn golygu y bydd y dreth gyngor yn cynyddu i bawb. Fe fydd y system a fyddwn ni'n ei chynllunio hi'n parhau i fod yn un sy'n gymharol. Mae ymchwil flaenorol yn awgrymu y byddai hyd at 75 y cant o aelwydydd naill ai'n gweld dim effaith neu y bydden nhw'n gweld eu biliau nhw'n gostwng. Rwy'n dymuno bod yn eglur hefyd nad diben ailbrisio yw cynyddu'r cyfanswm a godir oddi wrth y trethdalwyr, ond ar gyfer ailddosbarthu'r baich i sicrhau cyfiawnder a chywirdeb y system. Fe fyddai'r ymarfer hwn yn rhoi cyfle i ychwanegu bandiau at ben uchaf neu at waelod y raddfa, ac fe allai hynny helpu i greu cyfraddau treth sy'n fwy blaengar. Fe fydd yna bwyntiau pellach pan fyddwn ni'n gallu ystyried y ffordd orau o ailgynllunio'r system. O 2025 ymlaen, ac am y tro cyntaf yn hanes y dreth gyngor, rydym ni'n awyddus i gyflwyno ailbrisiadau treigl i osgoi'r afluniadau o ran biliau yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ddigwydd pan gaiff diweddariadau eu gohirio dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n dymuno cyflwyno cylch ailbrisio nid yn unig i roi eglurder i drethdalwyr a chyrff cyflenwi, ond i sicrhau bod baich y dreth gyngor yn cael ei ailddosbarthu gyda thegwch a hynny'n rheolaidd.

Gan symud ymlaen at ein system ni o roi cymorth gyda'r dreth gyngor i aelwydydd ar incwm isel, o heddiw ymlaen byddaf yn gofyn am farn ar wella ein cynllun cenedlaethol ni i leihau'r dreth gyngor. Rwy'n falch ein bod ni wedi parhau i gynnal yr hawliau i ostyngiadau ar gyfer tua 270,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed ac ar incwm isel. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae cefnogaeth o'r math hwn hyd yn oed yn fwy allweddol i filoedd o aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Ond fe ellid gwella'r nifer sy'n elwa ar y cynllun. Mae'r rheoliadau yn gymhleth, ac rydym ni'n cael ein rhwystro rhag gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn pan fo angen. Wrth i'r broses o gyflwyno graddfeydd credyd cynhwysol ddatblygu, mae hynny'n cymhlethu pethau ymhellach o ran y ffordd y mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd y caiff maint eu taliadau eu cyfrifo. Rwy'n awyddus i gasglu barn ymarferwyr ymysg eraill ynglŷn â sut y gallwn ni symleiddio neu foderneiddio'r cynllun i'w gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael gafael arno.

Elfen allweddol arall o'r ymgynghoriad yw canolbwyntio ar ostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor. Mae llawer o'r trefniadau presennol wedi bodoli ers 1993. Mae rhai yn helpu i gydnabod amgylchiadau'r cartref a gallu pobl i dalu, ac mae rhai yn gwneud synnwyr ymarferol o safbwynt casglu trethi. Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein penderfyniadau ni'n rhai teg ac yn rhai sy'n addas ar gyfer system fodern. Mae angen iddi fod yn hawdd i ymarferwyr ei gweinyddu hi ac yn eglur i bobl ei deall hi. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau yn hyn o beth drwy ein hymgynghoriad ni. Mae'r ymgynghoriad y gwnes i ei lansio heddiw yn chwilio am farn o ran llwybr uchelgeisiol tuag at newid. Dyna pam mae angen i'r diwygiadau hyn fod yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Fe hoffwn i sicrhau'r Aelodau a'r cyhoedd heddiw, os byddwn ni'n ymgymryd â'r diwygiadau yr ydym ni'n gofyn am farn ynglŷn â nhw, y byddem yn ystyried trefniadau trosiannol a anelir ar gyfer y rhai y gallai fod angen amser arnyn nhw i ymgyfarwyddo ag unrhyw newidiadau.

Yn olaf, rwy'n dymuno bod yn eglur iawn: ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau yn syth i'w biliau nhw o ganlyniad i'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw. Mae llawer iawn o waith gennym ni i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Fe fydd y diwygiadau hyn yn ymrwymiadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnyn nhw a chefnogaeth gan Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau ar gam 1 ein hymgynghoriad, ac fe fyddaf i'n rhoi gwybod i'r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.

14:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ynglŷn â threth gyngor decach, un yr wyf i wedi bod yn edrych ymlaen ato ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi bod yn edrych ymlaen ato hefyd? A gaf i hefyd groesawu cydbwysedd eich sylwadau chi o ran cydnabod rhai o elfennau cadarnhaol y dreth gyngor fel mae hi ar hyn o bryd? Rwy'n credu i chi ddweud y ceir llawer iawn o bethau cadarnhaol yn y system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw, a'i bod hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac yn cynrychioli democratiaeth leol ar waith, ac rwy'n siŵr y byddai'r ddau ohonom ni'n awyddus i weld hynny'n parhau. Yn ogystal â hynny, rwy'n cydnabod eich pwynt chi wrth dynnu sylw at rai gwelliannau yn y system a allai ac a ddylai ddigwydd hefyd.

Wrth ymateb i'ch datganiad chi heddiw, Gweinidog, fe hoffwn i groesawu'r ffaith hefyd eich bod chi'n ymgynghori ar ddyfodol y dreth gyngor yma yng Nghymru. Fel gwyddom ni, mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob aelwyd ar hyd a lled Cymru, ac mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n annog cynifer o bobl â phosibl i ymgysylltu ag unrhyw broses o newid, gan gynnwys un sy'n ymwneud â'r dreth gyngor. Ond, un pryder sydd gennyf i o ran ymgynghoriadau, Gweinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi yn hyn o beth o bryd i'w gilydd, yw nad ydym ni'n aml yn cael ymateb sy'n ddigon cynhwysfawr, gyda llawer o rannau o'n cymuned ni'n dal yn ôl. Felly, yng ngoleuni hyn, tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr ymgynghoriad hwn yn sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu cynnwys a bydd eu llais yn cael ei glywed.

Yn ail, Gweinidog, fel gwyddom ni o'ch datganiad chi heddiw, bydd cynnig y dreth gyngor yn arwain at ailbrisiad llwyr o bob un o'r 1.5 miliwn o dai sydd yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau bod prisiadau yn gyfredol a bod pobl yn talu'r swm priodol o dreth gyngor. Yn sicr, fe fyddem ni'n dymuno gweld yr wybodaeth fwyaf cyfredol bosibl. Rwyf innau'n cytuno â hynny. Wrth gwrs, yr ailbrisio hwn fydd y cyntaf ers 2003 yng Nghymru, ac roedd hwnnw'n ddadleuol ar y pryd, oherwydd fe gafodd un o bob tair aelwyd fil uwch nag yr oedden nhw'n ei dalu o'r blaen. Mae hi'n hanfodol bwysig bod unrhyw newid yn arwain at newid teg i dalwyr y dreth gyngor ac na fydd yn gorfodi unrhyw un i ddioddef colled ariannol ddirfawr. Felly, yn ogystal â hynny, mae hi'n hanfodol bod y rhai sydd ar incwm sefydlog, fel pensiynwyr, nad oes ganddyn nhw incwm sylweddol o bosibl yn gymesur â gwerth eu tai nhw, yn cael eu hystyried mewn ffordd briodol hefyd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau na fydd unrhyw ailbrisio yn gweld yr un camgymeriadau ag yn 2003, ac na fydd teuluoedd sy'n gweithio'n galed a'r rhai ar incwm sefydlog yn cael eu taro gyda biliau uwch fel hyn?

Ac yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi o ddatganiad heddiw eich bod chi'n defnyddio'r term 'treth gyngor decach' nawr, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gefnogol i'r syniad hwnnw, ond roeddech chi'n sôn o'r blaen am ddiwygio'r dreth gyngor, roeddech chi'n bwriadu cyflawni mwy yn eich datganiadau blaenorol, efallai. Ac rwy'n meddwl tybed ai'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru o'r farn erbyn hyn nad yw eich cynigion chi'n golygu digon o newid i alw hynny yn ddiwygio gwirioneddol. Gweinidog, rwy'n sicr yn gallu derbyn bod angen rhywfaint o adolygu ar y system dreth gyngor bresennol. Eto i gyd, nid wyf i'n siŵr a yw eich cynigion presennol chi'n ddiwygiadau gwirioneddol. Felly, yng ngoleuni eich ymgynghoriad chi, tybed a ydych chi'n gweld unrhyw ddewisiadau eraill yn hytrach nag ailbrisio, ac ychydig o fandiau ychwanegol a gynigir hefyd. Er enghraifft, yn yr ymgynghoriad, fe allem ni weld awgrymiadau fel treth eiddo gyfrannol, y gwn i y byddai rhai Aelodau yn y Siambr hon yn ei chefnogi, neu dreth incwm leol, er enghraifft, neu hyd yn oed treth gyngor sy'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni eich cartref chi efallai i helpu i gymell pobl i wneud eu tai nhw'n fwy effeithlon o ran ynni.

Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch chi o ddewisiadau amgen gwirioneddol y gellir eu tynnu nhw o'r ymgynghoriad, ac os felly, a fyddech chi'n ymrwymo i archwilio'r rhain eto fel gall yr ymgynghoriad fod mor benagored â phosibl? Ac rwy'n siŵr, Gweinidog, yr ydych chi'n gwybod ar yr ochr hon i'r meinciau, fod gennym ninnau syniadau rhagorol ar gyfer diwygio—efallai na fyddech chi'n cytuno â nhw bob amser—ac rwyf innau, wrth gwrs, yn hapus i weithio gyda chi i ystyried y rhain, ac yn edrych ymlaen at yr ymgysylltiad parhaus hwnnw. Diolch yn fawr iawn i chi.

15:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad ef y prynhawn yma, a'i awydd i gydweithio ar agenda sydd mor bwysig o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Mae'n debyg mai'r rheswm pam rydym ni wedi cyfeirio at ein hymgynghoriad fel ymgais i wneud y dreth gyngor yn decach, yn hytrach na diwygio'r dreth gyngor ynddi ei hun, yw oherwydd mai 'mwy o degwch' yw'r hyn yr ydym ni'n ei geisio, a'r 'diwygio', os mynnwch chi, yw'r ffordd yr ydym ni'n ymgyrraedd at hynny.

Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, mewn gwirionedd, o ran edrych ar ffyrdd eraill o sicrhau gwelliant o ran tegwch yn y dreth gyngor. Wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom ni lawer iawn o ymchwil a oedd yn edrych yn gyfan gwbl ar hynny, mewn gwirionedd, o ran gwahanol ddewisiadau ar gyfer diwygio. Fe wnaethom ni ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes drwy'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd ymysg eraill, ac fe edrychwyd ar nifer o ffyrdd y gallem ni fwrw ymlaen â'r agenda hon. Un ohonyn nhw oedd y dreth incwm leol yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi, ac fe wnaethom ni ddiystyru honno am nad oedd ganddi rai o'r manteision y dechreuodd Sam Rowlands sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad ef, yn yr ystyr bod y dreth gyngor yn seiliedig ar eiddo, sy'n ased sefydlog, sy'n syml ei deall, mae hi'n anodd cuddio eich eiddo ac ati. Felly, rwyf i o'r farn fod rhai manteision yn bendant i'w cael drwy system sydd ar sail eiddo.

Rydym ni wedi ystyried treth gwerth tir bosibl hefyd, ac fe wnaeth Prifysgol Bangor rywfaint o ymchwil i ni yn y cyswllt hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i edrych ar y syniad hwnnw, nid yn unig i ddisodli'r dreth gyngor ond ar gyfer ardrethi annomestig hefyd, er fy mod i o'r farn ei bod hi'n dra chydnabyddedig ei bod hi'n anos gwneud hynny ar gyfer ardrethi annomestig. Ond rydym ni'n parhau â'r gwaith hwnnw, gan archwilio sut ffurf allai fod i raglen hirdymor i ddiwygio o bosibl, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y byrdymor o ran yr agenda i ddiwygio'r dreth gyngor.

Rydym ni hefyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ailbrisio a'i effaith. Fel dywed Sam Rowlands, mae tua 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru yn agored i'r dreth gyngor ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei roi yn un o'r naw band hynny. Fe fydd ailbrisio yn diweddaru band treth pawb, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl sy'n cymryd diddordeb yn hyn eisoes gydnabod nad yw'r ffaith fod gwerth eich eiddo chi wedi cynyddu ers yr ailbrisiad diwethaf yn golygu, o reidrwydd, y bydd eich treth gyngor chi'n codi, oherwydd ni fydd y defnydd cyffredinol o'r dreth gyngor yn cynyddu; nid hynny yw pwrpas yr ymarfer hwn—mae'n ymwneud ag ailddosbarthiad ledled y bandiau sy'n golygu mwy o degwch.

Rwy'n credu, unwaith eto, fod Sam Rowlands yn iawn o ran cydnabod effaith trefniadau trosiannol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod yr ailbrisiad diwethaf, pan ddaeth i rym yn 2005, i ni fod yn rhy hwyr, mae'n debyg, wrth gyflwyno'r syniad o drefniadau trosiannol. Rydym ni'n gwneud hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf nawr i ystyried sut ffurf y dylai fod i'r trefniadau trosiannol hynny, oherwydd dyna un o'r gwersi a ddysgwyd gennym ni'n sicr o'r ymarfer ailbrisio diwethaf.

Rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n ystyried ychwanegiadau at fandiau a chynnal yr ymarfer ailbrisio yn bwysig, ond nid wyf i o'r farn y dylem ni golli golwg ar bwysigrwydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran adolygu ein proses o ddiystyru ac eithrio, oherwydd fe fydd hyn yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod ni'n estyn y gyfradd gywir o gymorth i'r rhai sydd ei angen, ochr yn ochr â'r adolygiad o'n cynllun ni i gynnig gostyngiadau yn y dreth gyngor, oherwydd rydym ni'n awyddus i barhau i gefnogi'r aelwydydd hynny y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw.

O ran yr ailbrisio blaenorol, fe gawsom ni'r ffigurau gan Sam Rowlands o ran sut yr effeithiwyd ar aelwydydd yn y gorffennol. Fe wyddom ni o'r gwaith a wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid pe byddem ni'n ailbrisio gan gadw'r naw band sydd gennym ni ar hyn o bryd, y byddai tua chwarter yn symud i fandiau uwch, byddai chwarter yn symud i fandiau is ac fe fyddai tua hanner yn aros yr un fath. Ond fe gynhaliwyd yr ymchwil hwnnw cyn y pandemig, ac felly rydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wneud darn arall o ymchwil i ddiweddaru hwnnw er mwyn i ni fod â gwell dealltwriaeth o'r goblygiadau yn hyn o beth.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n dda gweld yn y datganiad nifer o brif elfennau polisi diwygio treth gyngor Plaid Cymru, wrth gwrs—yr hyn oedd gennym ni yn ein maniffesto—yn enwedig o gwmpas ailbrisio; cynyddu nifer y bandiau, yn enwedig ar ben uchaf gwerthusiadau tai; a hefyd, wrth gwrs, sicrhau nawr fod y dreth gyngor yn dod yn fwy cymesur â gwerth eiddo.

Mae'r cymhelliad i ddiwygio yn glir, onid yw e? Mae'r system bresennol wedi dyddio; i bob pwrpas, mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Hon yw'r dreth fwyaf regressive yn yr ynysoedd yma, sy'n codi bron i bedair gwaith cymaint o gyfran o gyfoeth ar y tlotaf o gymharu â'r cyfoethocaf. Felly, mae'n hen bryd ailddosbarthu'r baich yna yn decach ar draws cymdeithas a sicrhau bod y rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn cario ychydig mwy o'r baich hwnnw.

Jest i bigo lan ar rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, wrth gwrs, mae'n dda gweld y pwyslais, fel roeddech yn ei ddweud, Weinidog, ar wella'r cynllun cefnogi cenedlaethol ac edrych ar y fframwaith ar gyfer y disgowntiau ac eithriadau, oherwydd mi fydd nifer o bobl yn poeni, wrth gwrs, yn enwedig, efallai, pobl mewn oed, fod gwerth eu heiddo nhw ddim o reidrwydd yn adlewyrchu eu gallu nhw i dalu. Felly, y cwestiwn cyntaf gen i yw: pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r rheini y bydd eu hamgylchiadau nhw yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o'r ymgynghoriad yma? Ond hefyd, wrth gwrs, ar y llaw arall, beth yw'ch neges chi i awdurdodau lleol lle mae yna ddiboblogi a lle mae yna boblogaeth sy'n heneiddio, sydd, wrth gwrs, yn ffactorau all effeithio yn sylweddol ar y dreth a fydd yn cael ei chasglu yn yr ardaloedd hynny? Tra'n derbyn bod hwn yn ymarferiad a fydd, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn refeniw niwtral, mae angen hefyd sicrhau bod awdurdodau lleol unigol ddim yn colli allan pan fo'n dod i sicrhau'r refeniw i gynnal y gwasanaethau allweddol rŷn ni gyd eisiau eu gweld.

Mae pobl yn cwyno bod y system bresennol yn annheg, ac mae hynny'n gywir, oherwydd mae pobl yn gweld hefyd amrywiaeth amlwg ym miliau'r dreth gyngor ledled Cymru, ac mae'r system yn anghyson. Dwi wedi cyfeirio yn y Siambr hon o'r blaen am lefydd fel pentrefi Ystradowen a Chwmllynfell, sydd tua 100 llath oddi wrth ei gilydd ond mae yna wahaniaeth o gannoedd o bunnoedd rhwng eu biliau priodol. Felly, mae rhywun yn ymwybodol bod yna anghysondeb ac annhegwch. I ba raddau ydych chi'n rhagweld y bydd y broses yma o bosib yn trio mynd i'r afael ag ychydig o hynny, wrth gwrs yn amddiffyn integriti awdurdodau lleol i godi'r refeniw y maen nhw ei angen drwy'r dreth gyngor? Does dim dianc o'r ffaith bod yna densiynau o safbwynt yr amrywiaeth y mae pobl yn ei weld o un rhan o'r wlad i'r llall.

Wrth gwrs, mae'r polisi a'r newid arfaethedig yma yn fwy amserol nag erioed wrth inni wynebu'r creisis costau byw. Fe all diwygiadau i'r dreth gyngor—. Y bil treth gyngor, wrth gwrs, yw un o'r biliau mwyaf sylweddol y mae cartrefi yn ei wynebu bob blwyddyn. Mi all y diwygiadau fod yn gam radical i helpu llawer o'n haelwydydd ni i ymdopi'n well â'r hyn maen nhw'n ei wynebu. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod ôl-ddyledion treth gyngor wedi profi i fod yn un o elfennau mwyaf dyled cartref.

Roeddech chi'n sôn, wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth rŷch chi'n ei rhoi, ynglŷn â'r hyn roeddech chi'n ei alw'n targeted transitional arrangements, ac rŷch chi wedi ymateb i hynny, i raddau, yn barod, ond sut fyddwch chi'n delio, efallai, ag ôl-ddyledion yn benodol wrth symud o un gyfundrefn i'r gyfundrefn newydd? Ac, wrth gwrs, yn y tymor hirach, i ba raddau all unrhyw gynlluniau newydd, neu ddull newydd o gwmpas y dreth gyngor, osgoi sefyllfaoedd lle mae'r ôl-ddyledion yma yn adeiladu i fyny i'r fath raddau yn y lle cyntaf? 

15:10

Rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr Gruffydd am ei sylwadau ef heddiw, a thrwy Llyr fe hoffwn i ddiolch i Cefin Campbell am y gwaith rhagorol, a wnaethom ni, rwy'n credu, gyda'n gilydd, o ran y maes penodol hwn o'n cytundeb cydweithio ni, ac am ei ymagwedd wirioneddol adeiladol ef a'r syniadau a'r her a gyflwynodd i'r gwaith hyd yn hyn. Fe wn i fod llawer mwy i'w wneud gennym ni eto yn hyn o beth, oherwydd, fel dywedais i, dim ond y cam cyntaf o'n hymgynghoriadau yw hwn, a dyna pam mae hi mor bwysig ein bod ni'n edrych ar draws ystod eang o faterion, a ddisgrifiodd Llyr Gruffydd heddiw, a'r cyntaf yw cynllun ar gyfer gostyngiadau i'r dreth gyngor ac archwilio beth yw ein cynlluniau ni ar gyfer diwygio hwnnw. Rwyf i o'r farn y byddai gwneud cynllun ehangach y dreth gyngor yn rhywbeth mwy blaengar yn lleihau'r galw am gymorth drwy ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor, ond rydym ni'n dal i ddisgwyl y bydd angen parhaus i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'u biliau treth gyngor nhw, sef un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n ymholi o ran pa newidiadau y gallai fod eu hangen i'r cynllun yn y dyfodol.

Ein nod ni, wrth gwrs, yw cefnogi'r rhai sydd â'r angen amdano, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr amodau ehangach, fel cyflwyno credyd cynhwysol, sydd wedi cael effaith fawr ar y dreth gyngor a'r cymhwysedd i gael cymorth, a hefyd, wrth gwrs, y newidiadau i'r economi ehangach. Rydym ni'n awyddus i fanteisio ar y cyfle i wella dyluniad y cynllun i'w gwneud hi'n haws i'w weinyddu ef ac yn amlwg ei gwneud hi'n symlach i bobl gael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn cefnogi 270,000 o aelwydydd gyda'u biliau nhw ac mae dros 210,000 ohonyn nhw'n talu dim o gwbl tuag at y dreth gyngor oherwydd y cymorth yr ydym ni'n gallu buddsoddi ynddo. Mae tua 20 y cant o aelwydydd, felly, yn cael rhywfaint o help gyda'u biliau nhw, ond fe wyddom ni fod y dirwedd yn newid trwy'r amser yn hyn o beth, ac felly mae angen i ni roi ystyriaeth i hyn yn rhan o'n hymgynghoriad ni. Mae rhai cwestiynau penodol ar hyn yn yr ymgynghoriad, a fydd yn ein helpu i ddeall y ffordd orau ymlaen.

Yna, hefyd, fe soniwyd am ostyngiadau ac eithriadau. Mae'r dirwedd bresennol yn gymhleth iawn yn hyn o beth, ac mae'r gostyngiadau a'r eithriadau wedi tyfu yn raddol ers sefydlu'r dreth gyngor yn 1993, felly rwy'n credu bod yr adolygiad hwn o'r materion hyn yn hynod amserol, yn fy marn i, o ran deall pa newidiadau y gallem ni fod yn awyddus i'w gwneud. Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth allai'r newidiadau hynny fod. Mae'n rhaid i ni ymgymryd â'r gwaith sydd gennym ni. Mae'n rhaid inni wrando ar bobl drwy gyfrwng yr ymgynghoriad. Ond rydym ni wedi sefydlu gweithgor o swyddogion ac ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol dan arweiniad arbenigwyr i helpu i ystyried yr agwedd benodol hon ac ystyried yr adolygiad o'r trefniadau cyfredol. Ar hyn o bryd, mae tua 37 y cant o anheddau yn gallu cael un neu ragor o ostyngiadau ar hyn o bryd, ac mae 4 y cant o anheddau wedi cael eu heithrio, felly dyna gyfanswm o bron i 600,000 o'n 1.5 miliwn ni o dai yng Nghymru, felly mae hi'n amlwg bod llawer o waith eto i ni ei wneud i sicrhau cywirdeb yr eithriadau a'r gostyngiadau yn y dyfodol. Fe fydd rhai o'r newidiadau hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol; er enghraifft, pe byddem ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r gostyngiad un oedolyn, fe fyddai hynny'n gofyn deddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft.

Rwyf i o'r farn y gwnaethpwyd y pwyntiau ynglŷn â dyledion ac ôl-ddyledion yn effeithiol iawn hefyd. Rydym ni wedi cyflwyno protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru, sy'n ffordd i ni geisio adeiladu'r arfer da hwnnw wrth gasglu'r dreth gyngor mewn llywodraeth leol. Lluniwyd hwnnw ar y cyd â llywodraeth leol ac fe'i cymeradwywyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd pob un o'r 22 awdurdod arno. Ond erbyn hyn rydym ni wedi dechrau adolygu a gwerthuso rhai o'r camau allweddol y gwnaethom ni eu cymryd yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf i geisio sicrhau bod pobl yn gallu ymdrin â dyledion a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, mae honno'n rhan bwysig o'r ymgynghoriad, ac, unwaith eto, fe geir materion ynglŷn â dyled ac ôl-ddyledion.

Yn olaf, rwy'n credu bod y pwyntiau yn wirioneddol bwysig ynglŷn â'r awdurdodau lleol a'r effaith arnyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, mae natur y sylfaen drethi yn wahanol ledled Cymru, ac mae ein hymgynghoriad ni'n cydnabod ac yn rhoi ystyriaeth i hynny. Felly, fe fyddwn ni'n dadansoddi effeithiau ailbrisio ar awdurdodau lleol ar ôl i ni gael yr wybodaeth ychwanegol honno, y cyfeiriais i ati, am Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn diweddaru'r ffigurau, gan wneud hynny cyn y pandemig, ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i gael golwg manylach ar Gymru a'r goblygiadau posibl. Ond mae hi'n wir, yn fy marn i, y byddai'r diwygiadau a amlinellir yn newid natur y sylfaen drethi yn anochel ym mhob ardal, ac felly mae'r ymgynghoriad yn cynnig wedyn y byddai cyllid ar gyfer awdurdodau drwy'r grant cynnal refeniw yn cael ei ailddyrannu yn ôl y sylfaen dreth ddiweddaraf. Rwy'n credu mai honno yw'r ffordd decaf o wneud hyn. Ond, unwaith eto, mae angen i ni ystyried pa drefniadau trosiannol y gallai fod eu hangen nhw ar lywodraeth leol yn y cyswllt hwn.

Felly, maes pwysig arall o'r ymgynghoriad lle yr ydym ni'n awyddus i glywed oddi wrth lywodraeth leol ac eraill, ac rwy'n credu na wnes i ymateb i'r pwynt a wnaeth Sam Rowlands yn gynharach am bwysigrwydd ehangder yr ymgynghoriad, felly mae'n amlwg y bydd gan lywodraeth leol farn gref ynglŷn â'r elfen arbennig honno o'r ymgynghoriad, ond fe gyfeiriodd Llyr Gruffydd wedyn at bobl hŷn o bosibl, felly fe fydd sefydliadau pobl hŷn yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac fe fydd yna bobl o bob math â diddordeb yn hyn, yn amlwg, oherwydd mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob un ohonom ni.

Ond rwy'n awyddus i egluro nad oes yn rhaid i bobl ateb y cwestiynau i gyd, felly os oes gan breswylydd farn gref ac yn dymuno ei rhannu gyda ni, nid oes yn rhaid teimlo rheidrwydd i ateb y cwestiynau am lywodraeth leol ac ati—dim ond ymgysylltu â ni i'r graddau y mae pobl yn dymuno gwneud hynny, er mwyn i ni allu clywed cymaint o leisiau amrywiol ag y gallwn ni.

15:15

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Fe wyddom ni fod angen ailbrisiadau sy'n fwy rheolaidd arnom ni. Nid yw pob 20 mlynedd yn dderbyniol. Fe wyddom ni ddau beth arall: mae treth incwm leol yn cael ei ffafrio gan y cyfoethogion oherwydd mae honno'n arbed arian iddyn nhw drwy gynlluniau gostyngiadau treth. Ond fe wyddom ni hefyd, o dan y system bresennol, fod y rhai sydd â'r lleiaf o fodd i dalu yn gwario cyfran fwy o'u cyfoeth nhw ar y dreth gyngor. Mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £100,000 yn talu tua phum gwaith cymaint o dreth gyngor o'i gymharu â gwerth yr eiddo ag y mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £1 miliwn. Nid yw tŷ gwerth £420,000 ond yn talu ddwywaith cymaint â thŷ gwerth £120,000. I mi, mae hynny'n annheg, oherwydd nid yw'r taliad yn gymesur â gwerth yr eiddo ac mae gwerth eiddo yn ddangosydd da o gyfoeth personol.

Fy argymhelliad i yw bod band ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y gwaelod a bod o leiaf ddau fand uwch yn cael eu hychwanegu ar y pen uchaf, ac addasiadau wedyn ar y lluosyddion sy'n cael eu defnyddio i sicrhau cyfiawnder. Dyma'r cwestiynau: a ddylai pobl sengl ar fand G ac uwch gael gostyngiad un person? Pwy sy'n elwa ar y gostyngiad i fyfyrwyr, myfyrwyr ynteu landlordiaid? Ac yn olaf, a ddylid hollti'r bandiau yn eu hanner, gan adlewyrchu gwerth y tŷ yn llawer gwell?

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y cyfraniadau yna ac am ei ymgysylltiad parhaus ar fater y dreth gyngor, ac rwyf innau hefyd yn pryderu am bwysigrwydd ailbrisio mwy rheolaidd. Rwyf i o'r farn yr aeth llawer gormod o amser heibio ers yr ailbrisiad diwethaf. Er fy mod i'n deall pa mor anodd ydyn nhw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach ein bod ni'n eu gwneud nhw'n fwy rheolaidd, ac yna ni fydd y newidiadau mor eithafol mewn rhai achosion. Felly, rwy'n credu bod ailbrisio rheolaidd fel hyn yn bwysig ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ymgynghori yn ei gylch yn ein hymgynghoriad ni sy'n cael ei lansio heddiw—felly, yn awyddus i fynegi'r safbwyntiau hynny'n ffurfiol drwy'r ymgynghoriad hefyd.

Ac yna, gan edrych i'r dyfodol, fe allwn ni ystyried pa dechnoleg a allai fod ar gael i ni. A allwn ni gynnal ailbrisiadau treigl? Beth fyddem ni'n ei wneud gyda gwybodaeth wrth iddi ddod drwodd o ran gwerthu tai? Sut allwn ni fod yn siŵr nad ydym ni'n cael ein camarwain gan gynnydd mawr dros dro o ran gwerthiant tai ar yr adeg honno? Felly, mae llawer o bethau amrywiol i ni eu hystyried o ran amlder yr ailbrisiadau. Ond dyna'n hollol yw ein bwriad ni, i ailbrisio yn llawer mwy aml.

Rwy'n credu bod Mike Hedges wedi disgrifio yn gwbl gywir sut y gall y dreth gyngor fod yn dreth atchweliadol; nid yw hi'n dreth flaengar, fel y byddem ni'n awyddus fel arfer i dreth fod. Mae'n golygu bod y bobl sydd â lleiaf o fodd ac sydd leiaf abl i gyfrannu yn gorfod cyfrannu mwy. Felly, dyma un o'r pethau y mae ein dull ni o gael mwy o degwch o ran y dreth gyngor yn bwriadu ymdrin ag ef hefyd—ail-gydbwyso'r dreth gyngor y mae awdurdodau lleol yn ei chasglu.

Ac rwyf i wedi clywed dadleuon Mike o ran y ffordd yr hoffai ef weld y bandiau ychwanegol, a hollti'r bandiau o bosibl er mwyn i ni fod â bandiau â gwahaniaethau mwy cynnil rhyngddyn nhw hefyd, felly, yn amlwg, fe fyddwn ni'n ystyried hynny yn rhan o'n hymgynghoriad cyffredinol ni. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried hefyd, yn rhan o hynny, y system apeliadau ac i ba raddau yr ydym ni'n creu system lle yr ydym ni'n taro'r cydbwysedd cywir o ran peidio â chreu gormod o ddryswch neu debygolrwydd o apeliadau, ond bod ag apeliadau sy'n wirioneddol debygol neu o bosibl yn newid y band y mae pobl ynddo. Felly, mae llawer i ni ei ystyried. Rwy'n credu bod y cyfraniadau hyd yn hyn wedi bod o gymorth mawr ac rwy'n credu eu bod nhw wedi rhoi cychwyn da iawn i'n hymgynghoriad ni.

15:20

Mae manteision treth ar werth tir yn eglur iawn—fe allai ddisodli system dreth gyngor atchweliadol, nad oes unrhyw gyswllt rhyngddi hi ag incwm aelwydydd, gyda system sy'n creu llawer mwy o gydraddoldeb wrth ddosbarthu cyfoeth, gan ostwng costau tai i lawer o aelwydydd ledled Cymru. Byddai treth ar werth tir yn helpu i roi terfyn ar hapfuddsoddiadau tir hefyd, yn annog dyrannu tir yn fwy effeithlon ac yn cynnig ffynhonnell gynaliadwy a gwell o gyllid llywodraeth leol. Rwy'n deall mai un o'r prif rwystrau rhag cyflwyno treth ar werth tir yw prinder mapiau cadastrol. Byddai cronfa ddata gadastrol fel hon nid yn unig yn fuddiol at ddibenion trethiant, ond o ran cynllunio ac amaethyddiaeth hefyd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw gynnydd o ran sefydlu cronfa ddata gadastrol i Gymru? Diolch i chi.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniad yna, ac fe hoffwn i sicrhau Carolyn Thomas ein bod ni'n parhau i weithio ar y syniad o dreth leol ar werth tir. Y prif amcan sylfaenol ar gyfer treth leol yw codi'r refeniw cyson sydd mor bwysig ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf bosibl. A phan fyddwn ni'n gweld manteision eraill, fel defnyddio tir mewn ffordd amgen, rwy'n credu yn bendant y dylem ni fod yn ceisio gwasgu cymaint o werth o'r pethau hyn ag y gallwn ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ymchwil gan Brifysgol Bangor, ac mae hwnnw'n asesu dichonoldeb treth ar werth tir yn lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Roedden nhw'n dod i'r casgliad y gallai treth leol ar werth tir yng Nghymru godi digon o refeniw i ddisodli'r trethi lleol presennol, a hefyd y gallai dosbarthu atebolrwydd fod yn llawer mwy blaengar. Felly, rwy'n credu i'r ymchwil fod yn gadarnhaol iawn yn hynny o beth, ond mae'n tanlinellu bod rhaid i ni wneud rhywfaint o waith pellach i asesu gyda mwy o fanylder a fyddai treth ar werth tir gymaint â hynny'n well na'r trefniadau sydd gennym ni nawr, neu'r trefniadau y byddwn ni'n eu rhoi ar waith yn dilyn y gwaith diwygio, sy'n mynd rhagddo.

Felly, yng nghwmpas yr ymchwil, llwyddodd Prifysgol Bangor i lunio model ystadegol rhagarweiniol i amcangyfrif set o werthoedd tir. Nid ydym ni erioed wedi rhoi cynnig ar y math hwnnw o waith yng Nghymru o'r blaen, ac roedd yn galluogi Prifysgol Bangor wedyn i bennu cyfraddau treth posibl lle byddai angen codi treth leol ar werth tir i godi refeniw sy'n cymharu yn weddol â'r system bresennol. Felly, mae hwnnw'n waith cyffrous iawn. Ond rwy'n credu mai un o'r gwersi allweddol a ddysgwyd gennym ni oedd ei bod hi'n llawer mwy heriol i ni amcangyfrif gwerthoedd tir ar gyfer defnyddiau annomestig nag ydyw gwneud hynny ar gyfer eiddo domestig. Felly, rydym ni'n parhau ar hyn o bryd â'r gwaith o ymchwilio i hynny, ond mae'r pwynt ynglŷn â bod â'r gronfa ddata gadastrol honno'n gwbl allweddol. Ni allem ni gyflwyno treth ar werth tir heb gronfa o'r fath.

Fe wn i fod gwaith pwysig yn mynd rhagddo mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru o ran MapDataCymru, ac mae hynny'n ymwneud yn bennaf â chasglu gwybodaeth ledled Cymru mewn fformat y gellir ei ddefnyddio. Ac rwy'n cael trafodaethau diddorol iawn gydag Awdurdod Cyllid Cymru hefyd, oherwydd maen nhw'n arwain ar lawer o'r ffyrdd cyffrous yr ydym ni'n eu hystyried fel y ffyrdd posibl o ddefnyddio technolegau digidol a data, ac felly mae hwn yn faes arall lle rydym ni'n gwneud gwaith diddorol. Oherwydd fe fyddai bod â chronfa fel honno o ddata yn ein helpu ni gyda llawer o bolisïau eraill, mewn gwirionedd. Fe fyddai hi'n ein helpu ni o bosibl yn y dyfodol gyda chyfraddau treth trafodiadau tir lleol. Felly, fe fydd angen cronfa data fel hyn arnom ni. Felly, mae'r gwaith yn sicr yn mynd rhagddo. Rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Carolyn ar unrhyw gyfle a gawn ni.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Warant i Bobl Ifanc—Sicrhau dyfodol gwell i’n pobl ifanc

Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog yr Economi: y warant i bobl ifanc, sicrhau dyfodol gwell i'n pobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething. 

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni lansio ein gwarant uchelgeisiol i bobl ifanc ym mis Tachwedd y llynedd, gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed i gael gwaith, addysg, hyfforddiant neu gymorth dechrau busnes. Fe wnaethom ni'r ymrwymiad hwn fel na fyddai neb yn cael ei adael ar ôl, ac rydym ni wedi ymrwymo £1.4 biliwn y flwyddyn i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru. Yn wyneb y fath gyfnewidioldeb economaidd aruthrol, mae'r perygl o ddirwasgiad wedi cynyddu, ac mae'r angen yn parhau i helpu i osgoi cenhedlaeth yn mynd ar goll, wedi ymddieithrio o ganlyniad i'r pandemig. Dyna pam yr ydym ni'n estyn cymorth i dros 300,000 o bobl ifanc yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Llywodraeth hon.

Mae tystiolaeth eang bod yr aflonyddwch y mae'r pandemig wedi'i achosi wedi effeithio'n arbennig ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Bydd y warant i bobl ifanc yn ein helpu i atal anghydraddoldebau rhag lledu ymhellach, wrth i genhedlaeth newydd symud tuag at y farchnad lafur. Drwy ganolbwyntio ar bobl sydd wedi'u tangynrychioli, ar y bobl ifanc hynny sy'n wynebu anfantais ac anghydraddoldeb o ran cael gwaith, byddwn yn creu Cymru fwy cyfartal ac economi gryfach. Nid yw 14 y cant o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r gyfradd honno'n rhy uchel, ac mae ein cefnogaeth yn dibynnu ar yr uchelgais hirdymor i leihau'r gyfradd hon i o leiaf 10 y cant. Mae hyn yn golygu cyrraedd a chynnal 13,600 o bobl ifanc ychwanegol drwy raglenni fel y warant i bobl ifanc dros y degawdau nesaf. Mae hyn yn rhan o'r llwybr at economi gryfach a thecach yng Nghymru, pryd y mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Ac rydym yn cymryd camau eang, wedi'u teilwra i anghenion pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag gwaith.

Ers i'r warant i bobl ifanc gael ei lansio, rydym wedi gwella'r ffordd y mae pobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel. Pryd yr oedd amrywiaeth ddryslyd o opsiynau, cyfleoedd a systemau cynghori ar un adeg, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio bellach yn darparu un llwybr i gefnogi, ynghyd â chyngor ac arweiniad gyrfaoedd. Mae gwasanaeth paru swyddi Cymru'n Gweithio hefyd yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i'r cyfle cyflogaeth cywir. Ers 1 Tachwedd y llynedd, mae 4,729 o bobl ifanc wedi defnyddio'r gwasanaeth hwn, ac roedd 2,249 ohonynt yn y categori NEET.

Fis diwethaf, lansiais hefyd ein grant dechrau busnes newydd i bobl ifanc, gan gynnig hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain. Ategir y cymorth hwn gan gyngor a mentora busnes un i un—cymorth ymarferol i entrepreneuriaid ifanc sy'n cymryd y camau cyffrous cyntaf hynny i ddechrau busnes. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gwella mynediad i'n rhaglen brentisiaethau a chymorth arall sy'n canolbwyntio ar waith. Er enghraifft, rwyf wedi lansio dwy raglen newydd yn ddiweddar: Twf Swyddi Cymru+, a fydd yn helpu i gefnogi 5,000 o bobl ifanc 16 i 18 oed bob blwyddyn sy'n ei chael yn anodd cael hyfforddiant. Bydd y rhaglen ReAct+ newydd hefyd yn cefnogi hyd at 5,400 o bobl ifanc bob blwyddyn, gan ddarparu cymorth ymarferol gyda chostau gofal plant a thrafnidiaeth. Rydym hefyd wedi cymryd camau i ymestyn cymorth i'n cymunedau i helpu pobl ifanc i ddechrau eu taith cyflogaeth a gyrfa, gan gynnwys darparu mentoriaid cymunedol drwy'r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy. Eisoes, mae 1,700 o bobl wedi defnyddio'r rhaglen i gael cymorth ers mis Tachwedd y llynedd.

Mae'r cynnig addysg, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r warant i bobl ifanc. Yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, rydym wedi buddsoddi £98.9 miliwn yn chweched dosbarth ysgolion, £271.8 miliwn mewn addysg bellach, gyda £4.7 miliwn ychwanegol ar gyfrifon dysgu personol i bobl ifanc. Er mwyn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i'r cwrs iawn, rydym hefyd wedi sefydlu llwyfan chwilio cyrsiau hawdd ei ddefnyddio newydd o'r enw 'cyrsiau yng Nghymru', gyda gwybodaeth hawdd ei defnyddio am dros 13,500 o gyrsiau.

Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Nid yw'r warant i bobl ifanc yn gynnig statig ac ni fydd yn gynnig statig. Rydym yn gwrando ar bobl ifanc i adeiladu ar ein cynnydd a dysgu gwersi wrth i ni symud ymlaen i'r hyn sy'n dal yn ansicr iawn. Byddwn yn parhau i gynnal cyfres o sgyrsiau cenedlaethol ac yn datblygu bwrdd cynghori ieuenctid i ddod â lleisiau pobl ifanc yn uniongyrchol i'r broses o gynllunio gwarant i bobl ifanc. Penodwyd rhanddeiliaid fel Plant yng Nghymru yn hwyluswyr sgyrsiau cenedlaethol a byddant yn parhau i'n helpu i gynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy gyfres o ddigwyddiadau cydgysylltiedig tan fis Medi eleni. Mae tystiolaeth a gasglwyd eisoes o sgyrsiau cynnar gyda phobl ifanc yn helpu i lywio ein camau nesaf. Dyna pam yr ydym wedi creu haf o gyfleoedd i bobl ifanc sy'n canolbwyntio ar bynciau allweddol, fel iechyd a lles, cyflogadwyedd a sgiliau bywyd, gan roi'r hyder iddyn nhw symud ymlaen i'w camau nesaf.

Bydd addysg bellach hefyd yn darparu canolfannau cyflogaeth a menter newydd a fydd yn cefnogi dysgwyr i chwilio am waith, profiad gwaith ac anogaeth i fod yn hunangyflogedig drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym hefyd yn bwriadu gwella'r cynnig hunangyflogaeth drwy ddarparu allgymorth ychwanegol a phecyn cymorth gwell i bobl ifanc, gan gynnwys grant ariannol.

Bydd y prosiect adnewyddu a diwygio yn gweithio i gefnogi dysgwyr gyda'u haddysg a'u lles. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen profiad gwaith wedi'i theilwra a arweinir gan Gyrfa Cymru sydd â'r nod o ailymgysylltu â dysgwyr blwyddyn 10 ac 11. Gan weithio gyda'r warant i bobl ifanc a'r fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, dylem wneud ein gorau i sicrhau bod pobl ifanc yn trosglwyddo'n gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Rydym yn bwriadu profi rhai ffyrdd newydd o weithio drwy ein cynlluniau treialu cenhedlaeth Z, gan helpu dioddefwyr ifanc caethwasiaeth fodern; cyflwyno gweithdai ar y model cymdeithasol o anabledd ac ymrwymiadau yn ein cynllun gwrth-hiliol; yn ogystal â mynd â'r warant i bobl ifanc i mewn i'r ystad ddiogel. Caiff hyn ei ategu gan welliannau ar draws y system i systemau data ac olrhain ar gyfer y bobl ifanc hynny nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Dirprwy Lywydd, bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd yn ariannu'r rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach i ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac uwchradd, ac oedolion 21 oed a hŷn nad oes ganddyn nhw gymwysterau addysg uwch.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod y warant i bobl ifanc yn esblygu ac yn parhau i fynd i'r afael â'r cyfnod economaidd heriol a newidiol hwn, wrth i ni ymdrechu i gefnogi'r bobl a fydd yn penderfynu ar lwyddiant hirdymor economi Cymru.

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel yr wyf wedi dweud droeon o'r blaen, rwy'n croesawu'n gyffredinol fwriad Llywodraeth Cymru i roi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac mae'r datganiad heddiw yn rhoi diweddariad defnyddiol i ni ynghylch rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn.

Bu rhywfaint o gynnydd i'w groesawu o ran cefnogi pobl ifanc sydd eisiau sefydlu eu busnes eu hunain, ac mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at y grant dechrau busnes i bobl ifanc, sy'n cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi galw am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain, felly rwy'n falch o weld y cyllid hwn, a gobeithio y bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol maes o law.

Wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod cymaint o gydweithio â phosibl gyda'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach, ac er bod y datganiad heddiw'n rhoi ychydig o wybodaeth i ni yn y maes hwn, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymhelaethu ar y pwyntiau a amlygwyd yn y datganiad hwn, a dweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau Llywodraeth Cymru i feithrin rhagor o gydweithio yn y dyfodol.

Mae'r datganiad heddiw'n atgyfnerthu pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo, ac mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu manteisio ar gyfleoedd. Eglurodd y Gweinidog ar ddechrau'r Senedd hon y byddai sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc i sicrhau bod eu barn yn ganolog i gyflawni'r rhaglen, ac rwy'n falch o glywed o'r datganiad heddiw bod hynny'n digwydd dros yr haf. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am sut y bydd yr ymgysylltu hwnnw'n parhau i ddigwydd ar ôl mis Medi, fel eu bod yn parhau i chwarae rhan yn y gwaith o lunio'r rhaglen hon.

Mae'n bwysig nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a bod pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft, hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn dweud mwy wrthym am y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau yn cael cyfleoedd cyflogaeth a dysgu o dan y warant i bobl ifanc, yn ogystal â sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn manteisio ar gyfleoedd, yn enwedig drwy gynlluniau treialu cenhedlaeth Z.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at y rhaglen ReAct+, sy'n adeiladu ar y rhaglen ReAct bresennol ac yn helpu i rymuso pobl sy'n chwilio am waith yng Nghymru gyda phroses ymgeisio uniongyrchol, cymorth ariannol a chyngor gyrfaoedd am ddim. Mae'n wych clywed bod hyd at 5,400 o bobl ifanc bob blwyddyn yn cael eu cefnogi gyda chostau ymarferol fel costau gofal plant a thrafnidiaeth, ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa gynlluniau sydd ganddo i adeiladu ar y gwaith pwysig iawn hwn. 

Dirprwy Lywydd, mae gan y warant i bobl ifanc y pŵer i helpu i godi dyheadau, ac mae darparu prentisiaethau o ansawdd uchel hefyd yn bwysig. Fel y dywedodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, mae mwy na chwarter busnesau Cymru yn ystyried prentisiaethau'n uwch nag unrhyw gymhwyster arall, a gwyddom eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu llif o dalent yn y dyfodol, ac yn cynnig cyfle i brentisiaid gael profiad gwerthfawr wrth barhau â'u hastudiaethau. Mae'r Gweinidog, a hynny'n briodol, wedi buddsoddi mewn prentisiaethau yn y gorffennol, ac efallai y gall ddweud ychydig mwy wrthym am unrhyw gynlluniau i gynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael, a dweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prentisiaethau i fusnesau a sefydliadau ym mhob rhan o Gymru, fel y gall pobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyn ym mha ran bynnag o Gymru y maen nhw'n byw.

Wrth i'r warant i bobl ifanc ddechrau datblygu mewn gwirionedd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cerrig milltir cadarn ar waith i sicrhau ei bod yn cyflawni'r hyn y mae fod i'w wneud, ac i sicrhau bod unrhyw arian a ddyrennir i'r rhaglen yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu'r warant i bobl ifanc, fel y gallwn fod yn ffyddiog nid yn unig bod ganddi'r adnoddau y mae arni eu hangen, ond bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio i greu'r effaith mwyaf.

Ac yn olaf, gall Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi oddi wrth weinyddiaethau eraill ledled y DU, fel gwarant i bobl ifanc Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd wedi bod yn bwrw ymlaen â chyflwyno rhaglen debyg yno. Ac felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi estyn allan at Weinidogion yr Alban i glywed mwy am y gwaith sydd wedi'i wneud yn yr Alban ar y warant i bobl ifanc, ac os bu unrhyw adborth defnyddiol o'r trafodaethau hynny a allai helpu i lywio'r gwaith o gyflawni'r rhaglen yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch eto i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac ailddatgan fy ymrwymiad i weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda hon, er mwyn i bob unigolyn ifanc yng Nghymru gael mynediad at gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant? Diolch.

15:35

Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau, a natur adeiladol naws a chynnwys y rhain. O ran y grant dechrau busnes, mae'n werth sôn bod y cyfnod ymgeisio wedi mynd yn fyw heddiw ar wefan Syniadau Mawr Cymru. Felly, os oes yna bobl ifanc yn gwylio'r trafodion hyn, mae'n ddigon posibl nad oes rai, ond, os oes, yna gallan nhw fynd i wefan Syniadau Mawr Cymru i ddod o hyd i ragor o wybodaeth nid yn unig am sut i wneud cais am y cymorth hwnnw, ond, yn hollbwysig, y cyngor, y cymorth a'r mentora cyn dechrau ac ar ôl dechrau sy'n rhan o'r cynnig hwnnw.

Roedd nifer o gwestiynau am ymgysylltu â phobl ifanc. Rwy'n falch iawn o gael mwy o gwestiynau am hyn, i ehangu ychydig ymhellach. Felly, yn y digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal hyd at fis Medi, mae gennym ystod o waith sy'n mynd i ddigwydd dros yr haf hwn. Ond, fel y nodais yn y datganiad i ddechrau, rydym eisoes wedi gwneud rhai newidiadau ac wedi myfyrio ar rai heriau i ni gyda'n hymgysylltiad cychwynnol. Rydym wedi cael 10 digwyddiad gwahanol fel rhan o ddechrau'r sgwrs genedlaethol honno, gan gynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o bobl sydd â mwy o heriau.

Soniodd yr Aelod am bobl ifanc anabl; gwyddom fod canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl yn llawer llai breintiedig na gweddill y boblogaeth, gan eu bod yn llawer llai tebygol o fod mewn gwaith ac yn llawer llai tebygol o fod mewn gwaith da hefyd. Felly, yn fwriadol rydym wedi gweld rhan o'r ymgysylltu hwnnw â phobl ifanc anabl. Rydym hefyd wedi edrych ar amrywiaeth o bobl sy'n wynebu rhwystrau, fel, er enghraifft, pobl ifanc ddigartref, ac rydym wedi gallu cydweithio â llywodraeth leol, mewn gwirionedd, ar hynny, gyda'u cydgysylltwyr gwasanaethau i'r digartref. Felly, mae gwaith yn cael ei wneud gydag amrywiaeth o bartneriaid yn gyffredinol, i geisio deall yr heriau penodol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Un o'r materion allweddol, mewn gwirionedd, oedd diffyg ymwybyddiaeth o hyd ynghylch ble i fynd am gymorth. Felly, mae rhai rhwystrau ymarferol o ran cael pobl i ymgysylltu â'r gwasanaeth, ond hyd yn oed os ydyn nhw eisiau ymgysylltu, mae angen i ni wneud swyddogaeth Cymru'n Gweithio yn fwy gweladwy fel un porth unigol. Felly, rydym wedi gwneud y peth iawn wrth leihau nifer y drysau ffrynt gwahanol, a sicrhau un drws ffrynt i bobl fynd drwyddo, ond mae angen i bobl ddeall o hyd ble a sut i wneud hynny, fel y bydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ond rwy'n credu, er enghraifft, y bydd y gwaith yr ydym yn ei wneud mewn addysg bellach yn ddefnyddiol i hynny, sef ynghylch pwynt mynediad newydd lle mae llawer o'n pobl ifanc ni eisoes, i'w cael nhw i'r lle iawn ar gyfer eu dyheadau yn y dyfodol.

Pan fyddwn yn mynd drwodd, nid yn unig y ddarpariaeth a'r ymgysylltu parhaus a gawn gyda phobl ifanc yn y rhaglen, ond eich pwynt ynghylch o fis Medi ymlaen, rydym yn bwriadu sefydlu bwrdd pobl ifanc ynghylch hyn. Mae gennym amrywiaeth o randdeiliaid yn ein helpu ni i wneud hynny, a dylai hynny ein helpu ni i sicrhau ein bod yn parhau i ymgysylltu â grŵp o bobl ifanc, i ddeall a yw'r cynnig yn bodloni'r nodau a'r amcanion sydd gennym fel Llywodraeth, ond, yn hollbwysig, anghenion y bobl ifanc eu hunain.

Credaf y bydd hynny nid yn unig yn bwynt pwysig ar gyfer yr adborth uniongyrchol, ond bydd y niferoedd a'r ffigurau y byddwn yn parhau i'w cyhoeddi a'u darparu i Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach yn rhan bwysig o ddeall pa mor llwyddiannus fydd y warant i bobl ifanc. Mae rhai agweddau ar hynny, er enghraifft, y ffigur prentisiaeth, mae rhifau o fewn hwnnw, i weld a lwyddwn i gyrraedd y ffigurau dechrau prentisiaethau hynny. Bydd ffigurau hefyd ynghylch a fyddwn yn gallu gweld gwelliant parhaus yn nifer y bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, fe welwch chi nifer o feysydd lle byddwn yn gallu asesu a diweddaru pa mor llwyddiannus yw'r warant ym mhob un o'r gwahanol raglenni gwaith.

O ran eich pwynt am hyrwyddo prentisiaethau, rydym yn parhau i hyrwyddo prentisiaethau i bobl ifanc eu hunain, fel cyfleoedd, ond hefyd i fusnesau. Efallai nad yw Aelodau wedi sylwi ar hyn, oherwydd ni fydd pob Aelod yn rhedeg busnes, ond mae'r ymgyrch Dewis Doeth wedi cael ei defnyddio'n eithaf da gan fusnesau mewn gwirionedd, ac mae wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o werth cyflogi prentis, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod pob busnes yn ymwybodol y gallan nhw wneud hynny. Ac yn llythrennol, cyfarfûm â busnes canolig ei faint ddoe, ac roedden nhw'n holi am y cyfleoedd i brentisiaid ac interniaid. Felly, hyd yn oed mewn busnesau cymharol sefydledig, o sawl dwsin o bobl, nid oes bob amser ymwybyddiaeth o ble i fynd i gael cymorth i gyflogi prentisiaid newydd.

Ac, o ran ein hymgysylltiad â Llywodraeth yr Alban, rydym yn ymgysylltu â—. Mae gennym flaenoriaethau gwleidyddol gwahanol ar wahanol adegau, ond rhwng swyddog a swyddog mae gennym ymgysylltiad, ac rydym wedi edrych ar rywfaint o'r hyn y maen nhw wedi'i wneud, ac, yn yr un modd, fy nealltwriaeth i yw eu bod yn mynd i geisio ailganolbwyntio eu gwaith ar bobl ifanc sydd bellaf o'r farchnad lafur yn y ffordd yr ydym ni wedi'i wneud hefyd. Felly, yno, nid proses un ffordd yn unig ydyw; maen nhw'n edrych ar eu rhaglenni eu hunain ac yn ceisio eu gwella drwy edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud hefyd.

Ac, yn olaf, ynglŷn â'ch pwynt am ariannu, soniais am ReAct+ a Chymunedau am Waith a Mwy, y gwaith y maen nhw'n ei wneud i helpu i ddileu rhwystrau rhag gwaith, cyflogaeth, addysg, hyfforddiant a dechrau busnes. Nid diffyg ewyllys da ar ran y Gweinidog cyllid yw'r her o ran cynnal yr arian, ond y realiti o reoli gyda sefyllfa wirioneddol anodd o ran y gyllideb, a'r realiti bod gennym lai o arian yr UE, oherwydd nid yw'r cronfeydd newydd i gymryd eu lle nhw yno. Roedd y rheini yn arfer ariannu darnau sylweddol o'r holl raglenni yr wyf newydd eu crybwyll, a gwasanaeth cymorth prif ffrwd Busnes Cymru hefyd, ac yna mae gennych chi fel cefnlen y ffaith bod cyllideb ein Llywodraeth yn werth £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Hydref y llynedd. Felly, mae pwysau gwirioneddol, ond er gwaethaf hynny, mae gennym brif ymrwymiad i'r warant i bobl ifanc yn ei gwahanol ffurfiau, a byddwn yn parhau i wneud dewisiadau anodd yn y Llywodraeth i sicrhau y gallwn gyflawni ein chwe phrif addewid a gweddill y rhaglen lywodraethu cyn belled ag y gallwn. Ond, fel y dywedais i, rwyf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd yr ydym yn ei wneud.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn sicr, mae'n dda i weld bod cynnydd yn y maes hwn.

O'r cychwyn cyntaf, hoffwn ailadrodd cefnogaeth Plaid Cymru i'r warant i bobl ifanc, a'n hawydd, yn debyg i un y Ceidwadwyr Cymreig, i weithio'n adeiladol gyda'r Llywodraeth ar hyn. Yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, credaf ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn teimlo bod cyfle yng Nghymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn chwarae rhan i sicrhau hynny. Wrth gwrs, rydym ar hyn o bryd yn gweld gweithwyr ledled y wlad yn mynnu cyflog tecach a gwell amodau yn y gweithle. Pobl ifanc yn aml yw'r rhai mwyaf tebygol o fynd i waith ansicr, ansefydlog a chyflog isel. Felly, i'r perwyl hwnnw, byddai gennyf ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut mae'r warant i bobl ifanc yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau yn y gweithle. A oes lle, er enghraifft, i greu ymgyrch 'Gwybod eich hawliau'?

Nawr, cyhoeddodd Chwarae Teg adroddiad yn ddiweddar o'r enw 'Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid'. Cafwyd nifer o ganfyddiadau diddorol ar brentisiaethau yn benodol. Er enghraifft, mae prentisiaethau, er eu bod yn llwybr allweddol i lawer o ddiwydiannau, yn parhau i wahanu'n sylweddol ar sail rhyw, a hyd yma, ni roddwyd unrhyw dargedau ar ddarparwyr ychwaith i helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau, ac mae'r cynnydd tuag at gau'r bylchau hyn yn parhau'n araf. Cydnabuwyd rhai o'r heriau hyn yn eich datganiad, ond, o ystyried yr anghysondebau amlwg rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ddewisiadau prentisiaeth a ddatgelwyd gan Chwarae Teg, sut mae'r warant i bobl ifanc yn gweithio i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried gosod gofynion ar ddarparwyr prentisiaethau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn?

Wrth gwrs, elfen bwysig i'w hystyried hefyd, wrth i ni fynd i'r dyfodol, yw'r risgiau a achosir gan awtomeiddio. Amcangyfrifir y bydd 25 y cant o swyddi'n newid oherwydd awtomeiddio a bydd 10 y cant o swyddi'n cael eu hawtomeiddio'n llawn. Ac mae hyn yn gysylltiedig ag adroddiad Chwarae Teg, oherwydd bod menywod yn cyfrif am 70.2 y cant o'r gweithlu mewn swyddi sydd mewn perygl mawr o gael eu hawtomeiddio, 50.3 y cant mewn risg canolig a 42.6 y cant mewn risg isel. Ar ben lleihau anghysondebau rhwng y rhywiau o ran dewis cyrsiau addysgol, pa systemau sydd ar waith i sicrhau bod menywod a merched yn cael cyfle teg i gael eu cynrychioli yn y chwyldro diwydiannol nesaf o awtomeiddio a diwydiannau gwyrdd?

Elfen bwysig i'w hystyried ymhellach yw'r rhai sy'n hunangyflogedig. Mae hunangyflogaeth wedi cynyddu yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae bellach yn cyfrif am bron i un o bob saith gweithiwr ledled Cymru, ac mae i'w groesawu bod y grant dechrau busnes newydd i bobl ifanc yn cynnig hyd at £2,000, yn ogystal â'r cymorth ychwanegol drwy'r mentora un i un. O ystyried adroddiad diweddar Sefydliad Bevan a ganfu fod incwm cyfartalog person hunangyflogedig yn llai na dwy ran o dair o incwm cyflogai, a nododd hefyd fod ganddo risgiau o ansicrwydd ariannol a thlodi, pa rwydi diogelwch sydd ar waith i gefnogi'r bobl ifanc hynny sy'n ei chael yn anodd bod yn hunangyflogedig, yn enwedig yn ystod cyfnod mor ansicr, wrth i ni adfer ar ôl y pandemig a bod yng nghanol argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen, y tu hwnt, wrth gwrs, i'r hyn yr ydych chi eisoes wedi'i amlinellu? Bydd cymorth hirdymor yn allweddol i'w llwyddiant.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae cyfran y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru wedi cynyddu o 18.4 y cant yn 2011 i 21.3 y cant yn 2021. Mae dros un rhan o bump o'n poblogaeth bellach dros 65 oed. Yn y cyfamser, mae cyfran y bobl ifanc 15 i 24 oed yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 wedi gostwng. O ystyried canlyniadau'r cyfrifiad, sut y byddwn yn monitro effeithiolrwydd y warant, nid yn unig ar gyfer gwell canlyniadau i bobl ifanc, ond o ran yr effaith ar economi Cymru, er enghraifft cadw talent yng Nghymru yn gyffredinol ac yn ein cymunedau gwledig i fynd i'r afael â draen dawn? Diolch.

15:45

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol dweud bod nifer o'r cwestiynau a ofynnwyd gennych yn ymwneud mewn gwirionedd â pha mor effeithiol fydd yr agweddau cymorth ac arweiniad ar yr amrywiaeth o raglenni yr ydym wedi'u rhoi ar waith.

O ran y pwynt am wybod eich hawliau, am ddeall yr hyn y mae gennych hawl iddo mewn gweithle ar lefel sylfaenol pan ddaw'n fater o gyflog, ond yna byddwch yn dod ar draws heriau eraill, a dweud y gwir, wrth i chi fynd drwy gyfnod gweithio eich bywyd a deall sut mae eich cyflog yn cymharu â rhai pobl eraill, mae'n rhan o'r rheswm pam mae'r Llywodraeth hon yn gadarnhaol ynghylch aelodaeth o undebau llafur. Mae gweithleoedd undebau llafur yn fwy diogel, yn fwy cynhyrchiol ar gyfartaledd, ac yn talu'n well na gweithluoedd nad ydyn nhw yn aelodau o undeb. Dylwn i, wrth gwrs, nodi fy mod yn gyn-stiward undeb llafur fy hun, yn ogystal â chyn-gyfreithiwr undeb llafur. Ond, mae pwynt difrifol yma ynghylch gwybod eich hawliau a'r hyn y gallech ac y dylech chi ei ddisgwyl yn y gweithle hefyd. Ond mewn gwirionedd, mae llawer o'r warant i bobl ifanc yn ymwneud â phobl sy'n agos at y farchnad lafur neu'n barod am waith. Mae rhai prentisiaid yn gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud ac nid ydyn nhw'n cael trafferth gyda'r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud. Mae gan lawer o bobl ifanc mewn addysg bellach lwybr gyrfa sydd wedi'i fapio ar eu cyfer. Mae llawer o'r gwaith arall yr ydym ni'n sôn amdano, serch hynny, yn perswadio pobl i fynd yn agosach at y farchnad lafur, i fod yn barod, a dyna lle mae llawer o'r gefnogaeth ar gael.

Mae Twf Swyddi Cymru+, er enghraifft, yn ymwneud â phobl ifanc nad ydyn nhw efallai'n barod am waith. Mae'n ymgymryd â'r gorau o Twf Swyddi Cymru a'r hyfforddeiaethau. Mae cymhorthdal cyflog i helpu pobl i wneud pethau hefyd. Ein her yw ein bod yn ymdrin â mwy nag un garfan o bobl ifanc o ran pa mor barod am waith y maen nhw a'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw. Felly, bydd angen ystod wahanol o gymorth ar wahanol bobl. Yn ddiddorol, mae hynny wedi bod yn bwysig iawn yn adborth pobl ifanc eisoes, eu bod eisiau cael cymorth mwy personol sy'n eu deall nhw, pa mor barod ydyn nhw, ac a ydyn nhw mewn gwirionedd yn barod i gynllunio eu dyfodol tymor hirach ai peidio. Mae cryn ansicrwydd o hyd, ac nid ydym yn siŵr o hyd faint o hynny sy'n gysylltiedig â'r pandemig neu wahaniaeth ehangach rhwng y cenedlaethau y gallech fod yn nes ato na mi, ond mae her o ran deall sut y bydd y cymorth yr ydym eisiau ei ddarparu yn ddefnyddiol i'r bobl yr ydym eisiau gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer.

Mae hynny'n cynnwys eich pwynt am risgiau awtomeiddio. Mae cyfleoedd mewn awtomeiddio ac AI, a llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud. Yn wir, mae gan lawer o bobl ifanc sy'n dod drwy eu haddysg heddiw farn hollol wahanol am y ffordd y mae'r byd eisoes yn gweithio a sut y dylai weithio, a dyna pam mae llawer o'r heriau'n ymwneud â mynd drwy addysg mewn gwirionedd yn y ffordd yr ydym yn ceisio helpu i addysgu pobl ifanc, nid yn unig i allu defnyddio technoleg, ond i'w ddylunio a'i adeiladu. Rwy'n myfyrio'n rheolaidd ar y darlithoedd yr wyf wedi'u cael gan fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd ar bwysigrwydd codio a gwneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar gyfer bechgyn a merched, oherwydd nid yw'r dalent yn cael ei dosrannu i un rhyw yn unig ac nid i'r llall. Fe welwch fod llawer o gefnogaeth ragweithiol gennym i geisio sicrhau bod bechgyn a merched yn gweld cyfleoedd mewn ystod eang o yrfaoedd. Mae'n aml yn ymwneud â chael menywod i ddilyn gyrfaoedd sy'n dal i gael eu hystyried yn rhai sy'n cael eu dominyddu gan ddynion yn draddodiadol. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam y mae'r gefnogaeth a'r cyngor hwnnw'n bwysig. Byddaf yn parhau i fyfyrio ar y pwyntiau ynghylch beth arall y gallwn ei wneud gyda darparwyr yn ogystal ag annog pobl eu hunain i gael barn ehangach ar yr hyn y gallan nhw ac y dylen nhw ei wneud gyda'r dalent sydd ganddyn nhw.

O ran eich pwynt am hunangyflogaeth, yr wyf yn cydnabod bod risgiau o ran hunangyflogaeth, ond yna mae cyfleoedd hefyd o wneud hynny. Dyna pam mae cymorth ymarferol yn cyd-fynd â'r arian yr ydym yn ei ddarparu yn y grant dechrau busnes. Yn ddiweddar cefais noson ysbrydoledig ond mawr ei sŵn gydag amrywiaeth o fusnesau newydd yng Ngwobrau Dechrau Busnes Cymru. Roedd yn ysbrydoledig iawn gweld llawer o bobl dros y tair blynedd diwethaf sydd wedi dechrau eu busnesau ac wedi bod yn llwyddiannus. Yn yr ystafell, roedd llawer o bobl yr un oed â mi, ond roedd y mwyafrif helaeth o bobl yn llawer iau. Mae llawer o bobl ifanc wedi bod yn entrepreneuriaid llwyddiannus yn un o'r cyfnodau anoddaf i sefydlu eu busnes eu hunain. Rwy'n falch iawn o ddweud mai bragwyr di-alcohol oedd yr enillwyr, dwy fenyw yn rhedeg cwmni, ac edrychaf ymlaen at samplo mwy o'u cynnyrch—ni fydd yn fy atal rhag gweithio.

Mae gennym lawer o dalent. Mae'n ymwneud â myfyrio ar hynny ac mae'n ymwneud â gallu tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn bosibl, a dyna pam mae cymorth ar gael. Buom yn siarad o'r blaen am her ein proffil oedran; mae angen i ni fod yn well wrth berswadio pobl i symud i Gymru, mae angen i ni fod yn well wrth berswadio pobl y gallan nhw gynllunio i gael eu dyfodol yma, gyda'r cyfleoedd addysgol a gwaith, ond ei fod yn lle gwych i dyfu eich busnes ac i edrych ymlaen at ddyfodol. Mae hynny'n rheidrwydd economaidd, nid yn her i wasanaethau cyhoeddus yn unig.

15:50

Diolch yn fawr am eich datganiad a'ch disgrifiad o'r holl bethau amrywiol yr ydych chi'n eu gwneud i geisio dal yr holl bobl ifanc hyn. Oherwydd, rwy'n cytuno â chi fod 13,600 o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ystadegyn sy'n peri pryder gwirioneddol, oherwydd mae angen i bawb wneud rhyw fath o gyfraniad i gymdeithas, ac os ydych chi rhwng 16 a 24 oed ac nad ydych yn gwneud dim, mae'n amlwg bod llawer o bobl ifanc yn mynd yn agoraffobig, yn sâl yn feddyliol neu'n cael eu llusgo i weithgareddau sy'n niweidiol, p'un a ydyn nhw'n gyfreithlon neu'n anghyfreithlon. Felly, mae popeth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i'w rhoi nhw ar ben ffordd i'w groesawu'n fawr iawn, yn enwedig gan fod pobl ifanc anabl wedi cael amser heriol iawn yn ystod y pandemig, oherwydd maen nhw wedi'i chael yn llawer anoddach parhau â'u dysgu ar-lein, ac mae rhai ohonyn nhw, gan gynnwys rhai o fy etholwyr, yn teimlo eu bod yn syrthio rhwng y craciau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu eu codi nhw.

Rwyf wedi cael trafodaethau'n ddiweddar gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a Cartrefi Cymunedol Cymru am y rhaglen hyfforddiant sgiliau ôl-osod y mae'n amlwg bod ei hangen arnom er mwyn datgarboneiddio ein holl gartrefi. Mae'n sefyllfa'r iâr a'r wy i raddau, a byddwn yn croesawu eich barn ar sut yr ydym yn mynd i ymdrin â hyn. Oherwydd ni allwn fod yn hyfforddi pobl os nad yw'r gwaith yno, ond yn yr un modd, os yw Cartrefi Cymunedol Cymru yn dweud na allant ddod o hyd i'r bobl sydd â'r sgiliau i wneud y math o waith sydd ei angen, mae'n sefyllfa anodd iawn. Felly, tybed sut yr ydych yn ymdrin â hynny, a faint o bobl sydd wedi dechrau, os nad ydyn nhw wedi cwblhau cyrsiau hyfforddi sgiliau ôl-osod, fel bod gennym ni ryw syniad o'r rhaglen y mae angen i ni ei chyflawni dros gyfnod o flynyddoedd.

Ni allaf roi ffigur i chi ar gyfer eich cwestiwn olaf, Jenny, am nifer y bobl sydd wedi dechrau cwrs ar gyfer rhaglen ôl-osod, ond mae hon yn ddarpariaeth weithredol, ymarferol gennyf i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, nid pwnc trafod yn unig. Dylai'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio olygu ein bod yn gwella ansawdd y stoc tai, yn ei gwneud yn fwy cynaliadwy ac mewn gwirionedd yn rhoi help llaw i bobl tuag at yrfa a fydd yn fwy defnyddiol wrth i ni barhau i'r dyfodol ac, a dweud y gwir, yn fwy a mwy disgwyliedig. Fe wyddoch chi fod stoc tai'r dyfodol wedi'i hadeiladu i raddau helaeth. Byddwn yn parhau i adeiladu tai newydd, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwella'r stoc o dai sydd gennym. Mae hynny'n rhywbeth a gaiff ei ystyried yn fwriadol yn y cynllun sgiliau sero net yr wyf i fod i'w gyflwyno yn yr hydref, a bydd digon o heriau, o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r tu allan, ynghylch sut y bydd hynny'n edrych. Oherwydd, fel y dywedais i, mae rheidrwydd economaidd gwirioneddol yn ogystal ag ystod eang o bethau sy'n mynd ar draws y rhaglen lywodraethu, fel y gallwch ddisgwyl i fwy nag un Gweinidog ddangos diddordeb. Rwy'n ffyddiog y byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau gennych chi, yn y Siambr a'r tu allan iddi, am y cynnydd ymarferol yr ydym yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd y materion.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynlluniau strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn addysg. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sef cynlluniau ein hawdurdodau lleol i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

O ganlyniad i ganllawiau a rheoliadau newydd ar gyfer y cynlluniau strategol, mae awdurdodau lleol wedi paratoi cynlluniau newydd, mwy uchelgeisiol sy'n darparu cyfleoedd i fwy o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, i fanteisio ar gyfleoedd addysg a dysgu cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i adolygu a diwygio cynlluniau drafft, ac rwy'n falch o ddweud wrthych fod y broses o gymeradwyo'r cynlluniau strategol wedi dechrau. Er bod y gwaith yn parhau gydag awdurdodau lleol, dwi’n disgwyl bod mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cynlluniau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Dwi’n edrych ymlaen at weld pob cynllun yn weithredol o fis Medi, ac yn hyderus iawn y bydd pob sir mewn sefyllfa i gychwyn ar eu cylch CSCA 10 mlynedd nesaf ar y cyd.

Mae’n bleser gen i ddweud wrthych fod pob un o'n 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i'w targedau 10 mlynedd uchelgeisiol o gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r targedau hyn yn cyfateb i gerrig milltir ein strategaeth iaith Gymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr'. Mae rhai awdurdodau wedi mynd ymhellach hyd yn oed ac wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Rŷn ni am i 26 y cant o ddysgwyr blwyddyn 1 gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2026, gyda hynny’n codi i 30 y cant erbyn 2031. Mae hwn yn darged y mae gen i bob hyder y gallwn ni ei gyrraedd gyda'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg hyn ar waith. 

Dwi am dynnu sylw at rai o'r ymrwymiadau a nodir yn y cynlluniau hyn. Mae datblygiadau cyffrous ar y gorwel. Mae pwyslais clir ar gynyddu’r nifer o leoliadau ysgol cynradd ar draws Cymru gydag ymrwymiadau i sefydlu 23 ysgol gynradd Cymraeg newydd ac ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf. Mae’r cynlluniau diwygiedig yn dangos bod canran uchel o’r datblygiadau hyn i’w gwireddu yn ystod pum mlynedd cyntaf y CSCA a’u bod yn amlach na pheidio yn cael eu cefnogi gan gefnogaeth cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gymraeg, Ddiprwy Lywydd, yn perthyn i ni i gyd, ac mae'n bwysig cydnabod bod gan bawb eu taith iaith eu hunain o ran dysgu a defnyddio'r iaith. Mae gweithio gyda'n gilydd i gynhyrchu'r cynlluniau strategol wedi cynnig cyfleoedd gwych i weld beth yn union y gellir ei gyflawni. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, sy’n galluogi ysgolion a lleoliadau i gyflwyno’r Gymraeg o dair oed, wedi rhoi cyfle i ni gynllunio'n wahanol ac mae'n wych gweld cynifer o awdurdodau lleol yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Un enghraifft o hyn yw'r 10 awdurdod lleol sy’n canolbwyntio ar symud eu hysgolion ar hyd continwwm iaith drwy gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael.  

Wedi dweud hyn, rhaid i ni gofio mai fframwaith cynllunio yw'r cynlluniau strategol a ni ellir eu gweithredu heb gymorth ar draws y sectorau. Dwi’n gwybod bod byddin o unigolion yn cynrychioli ysgolion, rhieni, sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi bod wrthi’n ddiwyd dros y flwyddyn diwethaf yn trafod ac ymateb i gynlluniau drafft yr awdurdodau lleol. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am y gwaith hwnnw, a hefyd diolch i chi ymlaen llaw am y gwaith sydd o'n blaenau i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynlluniau newydd o fis Medi ymlaen. Mae eich ymrwymiad yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Hoffwn hefyd gydnabod a chymeradwyo swyddogion yr awdurdodau lleol. Mae eich ymrwymiad a'ch dyfalbarhad drwy un o'r cyfnodau mwyaf heriol yr ydym wedi'u hwynebu ers degawdau wedi bod yn ganmoladwy. Mae eich ymgysylltiad parhaus gyda’ch gilydd a gyda ni wedi sicrhau bod cynlluniau i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf mor uchelgeisiol ag y gallant fod. Diolch i chi hefyd.

Ar yr ochr wleidyddol, dwi'n cydnabod yr angen i gael cefnogaeth pob cabinet yng Nghymru i wireddu uchelgais 'Cymraeg 2050', a dyna pam y byddaf i’n manteisio ar y cyfle i gwrdd â holl arweinwyr y cynghorau yn ystod tymor yr hydref i drafod cyfleoedd a heriau sy'n gysylltiedig â chynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, dwi hefyd wedi rhoi camau yn eu lle i gefnogi gweithrediad effeithiol y CSCA. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi ers 2018 £76 miliwn mewn grantiau cyfalaf cyfrwng Cymraeg penodedig sydd yn creu dros 3,700 o lefydd gofal plant ac ysgol ychwanegol a 285 o lefydd mewn canolfannau neu unedau trochi hwyr ychwanegol; ymrwymo i fuddsoddi £2.2 miliwn yn flynyddol hyd nes diwedd cyfnod y Senedd hwn i gefnogi darpariaethau trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru; cefnogi Mudiad Meithrin i agor mwy o ddarpariaethau meithrin cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn er mwyn cyrraedd 150 o ddarpariaethau newydd erbyn 2026; cyhoeddi cynllun gweithlu Cymraeg 10 mlynedd gyda chyllid ychwanegol i'w wireddu; sicrhau gwersi Cymraeg am ddim i'r gweithlu addysg drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o fis Medi eleni; ymgynghori ar fframwaith drafft Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg—bydd y deunyddiau ategol hyn yn cael eu mireinio a'u cyhoeddi ym mis Medi eleni; cynyddu’r cyllid i gynllun e-sgol i £600,000 er mwyn ehangu'r rhaglen e-ddysgu i bob ardal o Gymru erbyn 2023.

Dwi wedi bod yn ffodus fy mod i wedi gallu ymweld â nifer o'r prosiectau rŷn ni wedi buddsoddi ynddyn nhw. Mae cymaint o enghreifftiau arloesol a straeon ysbrydoledig o Fôn i Fynwy, o ddarpariaethau trochi hwyr yn Ysgol Dyffryn Conwy i brosiectau arloesol sy'n digwydd yn ysgol Pen y Dre ym Merthyr i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg.

Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, rhaid inni gydnabod sgileffeithiau pandemig COVID-19, effeithiau rŷn ni'n dal i brosesu'n llawn. Rhaid cael cyfnod i fyfyrio, yn enwedig o ran cefnogi teuluoedd a chynyddu dealltwriaeth o'r hyn y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig. Byddwn yn parhau i fonitro'n ofalus oblygiadau tymor hwy'r pandemig ar ddewisiadau rhieni a gofalwyr o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae fy neges i yn glir: rwyf am i addysg cyfrwng Cymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwyf am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.

Bydd rhai fydd yn dweud nad yw'r cynlluniau strategol yn ddigon uchelgeisiol, ond rhaid cofio'r siwrnai rŷn ni wedi bod arni, beth rŷn ni wedi'i ddysgu. Rŷn ni wedi cyflawni llawer, ond dwi'n gwybod bod mwy y gellir ac y mae angen ei wneud i sicrhau gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd lle mae ei angen fwyaf. Mae gormod o rwystrau o hyd i addysg cyfrwng Cymraeg ac mae gormod o blant yn colli cyfleoedd i gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dod yn siaradwyr dwyieithog hyderus a mwy. Rŷn ni wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd gwelliannau pellach i’r fframwaith hynny yn cael eu hystyried fel rhan o waith cwmpasu ar Fil addysg y Gymraeg.

Cyn cloi, gaf i ddiolch i bawb eto, a thanlinellu'r pwysigrwydd o weithio gyda'n gilydd, i fod yn agored gyda'n gilydd, i gefnogi ein gilydd? Mae'n ddegawd dyngedfennol, ond yn gyfle cyffrous i'r Gymraeg ac i Gymru. 

16:00

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno hyn heddiw, ac am roi golwg ymlaen llaw i ni ar y datganiad. A allaf ddechrau drwy groesawu cyfeiriad cyffredinol y cyhoeddiad heddiw? Fel disgybl a elwodd o addysg ddwyieithog, mae'n dda gweld bod addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion cynradd yn flaenoriaeth, gan ei bod yn bwysig dal plant yn ifanc i ddatblygu'r iaith.

Byddwn yn awyddus i ddeall sut y bydd y 23 ysgol newydd yn cael eu dosbarthu ledled y wlad. Ydyn nhw'n canolbwyntio ar leoliadau lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? Hefyd, pa amserlen ydyn ni'n edrych arni er mwyn i'r projectau hyn fynd i dender a chael eu hadeiladu? A wnewch sicrhau bod y gyllideb hon yn chwyddiannol? Os nad yw projectau'n digwydd am ychydig flynyddoedd, a bod chwyddiant yn parhau i godi, sut allwn ni sicrhau nad yw hyn yn mynd dros y gyllideb?

Rydych yn sôn am ehangu 25 o ysgolion eraill. Sut y gallwn fod yn siŵr y bydd yr ehangiadau hyn yn ddigonol? Rydych yn nodi'r nod o gael 26 y cant o ddysgwyr blwyddyn 1 i dderbyn eu haddysg yn Gymraeg o 2026. A ydym ar y trywydd iawn ar hyn o bryd ar gyfer hyn, neu a oes angen i rai o'r ysgolion newydd yma gael eu hadeiladu i gyrraedd y targed hwnnw?

Rwyf wedi codi'r mater nesaf yma o'r blaen. Os yw'r ysgolion newydd hyn i gael eu hadeiladu, bydd angen eu staffio hefyd. Gan gymryd y 23 o adeiladau newydd, ac anwybyddu'r 25 o ehangiadau, yn ogystal â gofynion newydd y Cwricwlwm i Gymru i gynyddu addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd angen cannoedd o athrawon newydd sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Sut y cyflawnir hyn, a sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ystod dda o athrawon o wahanol gefndiroedd a chyda gwahanol brofiadau bywyd? A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i sut i ddenu myfyrwyr aeddfed i addysgu?

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r newid o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwch. Er bod twf addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd i'w groesawu, mae'n anos cyflawni'r un twf mewn addysg uwchradd oherwydd y niferoedd a dalgylchoedd dan sylw. Pa ddarpariaeth sydd ar waith i alluogi pontio llyfn rhwng disgybl sy'n gadael blwyddyn 6 ar ôl cael ei addysgu yn Gymraeg a dechrau ym mlwyddyn 7 mewn ysgol cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog? Roeddem ni i gyd yn wynebu heriau wrth inni bontio rhwng ein haddysg gynradd ac uwchradd, ac mae angen inni sicrhau bod unrhyw rwystrau sy'n bodoli oherwydd y newid yn yr iaith y caiff disgyblion eu haddysgu ynddi yn cael eu lleihau a'u datrys.

Diolch am y datganiad unwaith eto, Gweinidog. Fel yr ydym wedi sôn o'r blaen, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bob un ledled Cymru. Diolch.

16:05

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am ei gefnogaeth i'r datganiad yn gyffredinol, ac mae'r cwestiynau'n rhai teilwng iawn. O ran lleoliadau yr ysgolion newydd, bydd y 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn cael eu dosbarthu ymhlith 15 o'r cynghorau lleol, ond mae'r rheini yn ymestyn o Benfro i Ferthyr i'r Fro, felly ar draws Cymru benbaladr. Ac mae hefyd 10 awdurdod lleol yn ffocysu ar symud ysgolion presennol ar hyd y continwwm ieithyddol. Felly, pan fydd cynlluniau'n cael eu cyhoeddi maes o law, wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo'n swyddogol, bydd yr Aelod yn gallu gweld yn fanwl beth yw'r cynlluniau ymhob rhan o Gymru, ac mae'r darlun yn edrych yn wahanol, wrth gwrs, ymhob awdurdod, yn dibynnu lle maen nhw eisoes ar eu llwybr tuag at gynyddu darpariaeth. Bydd rhai, o ran y cwestiwn gweithlu, fel roedd e'n gofyn ar y diwedd, angen, wrth gwrs, recriwtio athrawon ychwanegol. Mi wnaiff e weld yn y cynlluniau fod dadansoddiad o'r gofyniad fydd ei eisiau i sicrhau er mwyn llwyddo yn y cynllun. Mae hynny hefyd wedi ei gynnwys yn y cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd, a byddwn ni'n edrych bob dwy flynedd ar beth yw'r sefyllfa gyfredol, fel ein bod ni'n cadw trac mewn amser go iawn ar y llwyddiant i recriwtio rhifau mwy. Ond i rai awdurdodau lleol eraill, lle mae'r pwyslais ar symud ysgolion ar hyd y continwwm, cwestiwn o ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol, efallai, yw e iddyn nhw. Felly, mae cymysgedd o anghenion, a bydd e'n gwybod y bydd y cynllun 10 mlynedd yn cyfrannu'n sylweddol tuag at recriwtio i mewn i'r sector.

O ran amserlenni, mae'n gynllun 10 mlynedd, ond mae angen gweld cynnydd ymhob blwyddyn, ac mae amryw o'r amcanion ar draws Cymru yn seiliedig ar gyfnod o bum mlynedd, efallai, fel ein bod ni'n gweld cynnydd penodol yn y cyfnod cyntaf, ac wedyn camau sy'n cael eu cymryd yn y tymor hirach o fewn y degawd hwnnw. Mae disgwyl i bob awdurdod lleol gyflwyno cynllun gweithredu  ar gyfer y pum mlynedd gyntaf a bydd y rheini'n cael eu monitro'n flynyddol. Felly, byddan nhw'n cyhoeddi'r rheini ar ôl cyhoeddi'r cynlluniau strategol.

Ac roedd e'n gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â rôl cynllun cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, sef ein cynllun buddsoddi ni yn yr ystâd addysgiadol yn gyffredinol. Rwyf eisiau ystyried sut y gallwn ni wneud y defnydd gorau o'r rhaglen gyfalaf honno i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'n huchelgais ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mi wnes i sôn yn y datganiad am y gronfa o £76 miliwn sydd wedi'i wario neu ei ddyrannu ar gyfer ysgolion newydd ac ehangu ysgolion, ond byddaf eisiau gweld hefyd beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod cynnydd yn y cynlluniau strategol yn digwydd ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gan ein partneriaid ni mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru.  

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n croesawu dau beth yn benodol, sef eich gonestrwydd yn y datganiad hwn—eich gonestrwydd ynglŷn â'r heriau gwleidyddol dŷch chi'n eu hwynebu o ran sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo'n llawn i'r cynlluniau hyn, a hefyd eich gonestrwydd o ran yr heriau sydd yn parhau, yr her wirioneddol ein bod ni ddim jest yn trio ateb y galw ond yn creu a chefnogi'r galw, a beth dŷn ni'n ei olygu o ran mynediad gwirioneddol gyfartal i addysg Gymraeg, oherwydd dydy'r ffaith bod ysgol Gymraeg efallai ar gael ddim yn golygu bod hynny yn opsiwn pan fo yna ysgolion Saesneg newydd mewn cymunedau, a bod plant wedyn yn gorfod teithio milltiroedd i ffwrdd i gyrraedd addysg Gymraeg. Dydy hynny ddim yn fynediad cydradd. Dydy o chwaith ddim yn fynediad cydradd pan fo gennych chi ysgolion newydd Saesneg ac ysgolion Cymraeg sydd mewn dirfawr angen o fuddsoddiad a ddim yn derbyn y buddsoddiad hwnnw.

Felly, mae yna heriau gwirioneddol, a dŷn ni wedi bod yn trafod hyn. Un o’r pethau sydd fy mhryderu i ydy, o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a fy mhrofiad i ohonyn nhw pan oeddwn i’n gynghorydd hefyd, y ffaith eich bod chi’n gallu cael y cynllun mwyaf uchelgeisiol, y cynllun gorau yn y byd, ond mae o ynglŷn â chyrraedd y targedau hynny. Dyna dŷn ni ddim wedi’i weld hyd yma, a dyna’r pryder sy’n parhau o ran gweld adroddiadau gan rai cynghorau sir sydd yn dweud nad ydyn nhw wedi cyrraedd targedau yn barod, a dydy’r cynlluniau ddim yn dangos yn union sut maen nhw’n mynd i greu hynny.

Maen nhw’n beio dro ar ôl tro nad ydy’r galw yna, heb fod yn gofyn pam nad ydy’r galw yna. Oherwydd os nad ydy anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, os nad ydy'r mynediad yn gyfartal o ran trafnidiaeth, os nad ydy’r ysgol yna o fewn cerdded i’r cymunedau yna, yna nid yw’r galw yn mynd i fod yna, oherwydd mae’n mynd i fod yn frwydr barhaus. Dwi’n meddwl bod yn rhaid inni fynd nôl at yr awdurdodau lleol hynny. Dwi’n meddwl ei fod yn warthus bod rhai o'r awdurdodau lleol efo dim bwriad creu ysgol gynradd Gymraeg newydd o gwbl dros y degawd nesaf yma. Beth ydyn ni’n mynd i fod yn ei wneud am hynny? Dŷch chi newydd ddweud bod 15 cyngor lleol sydd yn ymrwymo; mae hyn yn newyddion trychinebus i'r Gymraeg, a dwi wedi fy nhristáu yn fawr o ran hyn os ydyn ni o ddifri am gyrraedd y miliwn o siaradwyr.

Byddwn i’n hoffi cael tryloywder o ran lle yn union mae’r 23 ysgol yma. Hefyd, dŷn ni wedi gweld Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, yn ymrwymo bod 10 ysgol Saesneg yn mynd i newid i ysgolion Cymraeg. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, ond beth am y llefydd lle nad oes mynediad hawdd i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg ar y funud?

Mae yna gymaint i’w groesawu, wrth gwrs. Dwi ddim eisiau bod yn hollol feirniadol. Mae pethau fel y buddsoddiad efo’r cylchoedd meithrin—mae hynny’n gam mawr ymlaen. Fel y dywedwyd wrthyf yn ddiweddar, mae yna ysgol feithrin newydd yn cael ei sefydlu yng Nghilfynydd yn sgil colli Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton yn yr ardal honno o Bontypridd. Mae hi’n mynd i fod yn llawn o fis Medi ymlaen, ond ble mae’r ysgol gynradd Gymraeg i’r plant yna fynd ymlaen iddi, oherwydd mae yna beryg, wedyn, o golli disgyblion i addysg Gymraeg os nad ydy’r llwybr yn un teg a chydradd?

Felly, fe hoffwn holi yn benodol: beth ydyn ni am ei wneud os nad ydy’r cynghorau hyn yn cyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod? Sut ydyn ni’n mynd i fod nid yn unig yn monitro, ond beth fydd yr oblygiadau i’r cynghorau hynny sydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn, ddim yn cyrraedd y targedau hynny? Sut fydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau eu bod nhw nid yn unig yn cydweithio ond yn sicrhau’r buddsoddiad teg ac angenrheidiol hwnnw, oherwydd os ydyn ni o ddifri yn mynd i sicrhau’r mynediad dwi’n gwybod bod y Gweinidog eisiau ei weld, fel finnau, o ran bod addysg Gymraeg yn agored i bawb ac yn wirioneddol agored, mae’n rhaid i’r cynghorau sir ddeall nad opsiynol ydy hyn, a beth mae mynediad cydradd yn ei olygu?

Fe ddywedoch chi ar y diwedd ei bod hi’n ddegawd dyngedfennol—yn sicr, felly. Dŷch chi hefyd wedi pwysleisio’r heriau sydd yn sgil COVID. Ond yr her gwirioneddol ydy, yn yr ardaloedd hynny lle nad yw’r uchelgais yn bodoli—. A dwi’n meddwl mai un o’r pethau, o ddarllen rhai o’r cynlluniau drafft ar wefannau cynghorau sir, ydy nad ydy pob un yn uchelgeisiol, a dwi’n meddwl bod yn rhaid herio hynny. Dwi’n falch o weld eich bod chi’n mynd trwyddyn nhw yn fanwl mewn munud, a dwi’n gobeithio eich bod chi’n herio’r cynghorau hynny, ond beth ydyn ni’n mynd i’w wneud? Dŷch chi wedi dweud bod cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn mynd mor bell ag sy’n bosib ar y funud, ond onid oes yna ffyrdd y gallem ni gryfhau hynny drwy ddeddfu, drwy fod yn cosbi’r awdurdodau hynny lle mai geiriau gwag ydy eu hymrwymiadau i’r Gymraeg, nid ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau mynediad cydradd?

16:10

Y peth hawsaf yn y byd yw dweud bod pethau ddim yn ddigon uchelgeisiol, ond dyw e jest ddim yn wir. Dyw e jest ddim yn wir, beth mae’r Aelod wedi’i ddweud. Beth yw’ch diffiniad chi o uchelgais os nad cydnabod mai dyma’r cynlluniau strategol cyntaf ers 2014 sydd wedi’u gyrru gan darged wedi’i gyfrifo gan y Llywodraeth, nid gan y cynghorau lleol? Felly, os nad yw hynny’n arwydd o uchelgais, a’n bod ni wedi nodi beth rŷn ni’n credu yw’r nod, ac mae pob un awdurdod wedi derbyn y nod hwnnw—. Os gwnaiff pob un awdurdod gyrraedd rhan isaf yr ystod maen nhw’n derbyn, byddwn ni’n ar y trac i gyrraedd y nod yn 2050.

Felly, dwi ddim yn cytuno o gwbl nad oes digon o uchelgais yn y cynlluniau. Mae gwaith wedi bod yn digwydd er mwyn sicrhau eu bod nhw yn uchelgeisiol. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai teclyn, os hoffwch chi, ar gyfer cynllunio yw hwn, ac mae'n rhaid gwireddu'r amcanion sydd yn y cynlluniau hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl wir. Dwi ddim yn derbyn dŷn ni ddim wedi cael llwyddiant mor belled; mae'r llwyddiant wedi digwydd ar draws Cymru, ond dyw e ddim yn digwydd ym mhob awdurdod, dwi'n derbyn hynny hefyd. Ac mae angen sicrhau bod y cynlluniau sydd yn cael eu cytuno hefyd yn cael eu gwireddu. A byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i sicrhau hynny.

Dwi wedi sôn yn barod yn fy ymateb i Sam Kurtz am un o'r pethau rydyn ni'n bwriadu ei wneud, sef sicrhau sut mae'r cynllun buddsoddi yn gallu adlewyrchu nid jest y cynlluniau ehangach sydd gan gynghorau ond sicrhau bod twf yn digwydd o ran y cynlluniau strategol ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gyda nhw, fel bod y sefyllfa'n hafal yn hytrach nag un lle mae un yn cael ei flaenoriaethu o flaen y llall. Ond rwy'n derbyn hefyd nad yw'r mesurau deddfwriaethol ar gael inni allu gorfodi rhai o'r canlyniadau yma. Dyna pam rydyn ni wedi cael y drafodaeth gyda chi fel plaid ar y cyd, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, i sicrhau beth mwy gallwn ni ei wneud o fewn deddfwriaeth i gryfhau'r fframwaith statudol sydd tu cefn i'r cynlluniau yma.

Rŷch chi'n iawn i ddweud hefyd bod yr elfen ddaearyddol yn gallu bod yn fwy heriol. Mae'r cynlluniau strategol presennol yn digwydd ar sail ardal awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag ar lefel is na hynny, ar lefel gymunedol, os hoffwch chi. Felly, beth mwy gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein gallu i gynllunio ar y sail honno? Ond mae gogwydd daearyddol wedi bod yn y trafodaethau sydd wedi digwydd eisoes. Rwy'n sicr, pan welith yr Aelod y cynlluniau terfynol, bydd hi'n gallu gweld hynny.

Gwnaethoch chi sôn am gwestiwn pam nad yw pob awdurdod lleol yn agor ysgol newydd. Wel, mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu i 90 y cant a mwy o'u plant i fynd i ysgolion Cymraeg eisoes. Felly, mae hynny'n gwestiwn o ddemograffeg. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'r feirniadaeth honno'n ei awgrymu. Ond mae'n bwysig i sicrhau ein bod ni'n cadw llygad barcud i sicrhau bod cynnydd yn digwydd, ac felly dwi wedi bod yn glir bod angen cynnydd ym mhob blwyddyn. Felly, bydd monitro blynyddol ar sail y cynlluniau gweithredol bydd yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdodau ar ôl y cynlluniau strategol, a bydd hynny ar gael inni i gyd graffu arno a sicrhau bod cynnydd yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.

16:15

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch o'r record o gyflawniad sydd gan fy awdurdod lleol am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon a'r ffyrdd y maen nhw wedi manteisio ar gyllid Llywodraeth Cymru i gynyddu'r ddarpariaeth, gydag, er enghraifft, y gwaith gwerth £12.5 miliwn o ehangu Ysgol Gyfun Rhydywaun sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a'r cylch meithrin pwrpasol newydd gwerth £4 miliwn a fydd yn agor yr wythnos nesaf yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Mae hyn i gyd yn hanfodol os ydym ni o ddifrif ynghylch cyrraedd ein nod heriol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â grŵp Ti a Fi sydd newydd ei ffurfio yng Nghilfynydd, a fydd hefyd yn agor ei gylch meithrin ei hun ymhen ychydig wythnosau. Y mater allweddol a godwyd gyda mi oedd yr her o ddod o hyd i staff gofal plant cymwys sy'n siarad Cymraeg, a gwn o'n trafodaethau blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hi. Fel rhan o hyn, codwyd y mater penodol o ddiffyg parhad rhwng y cymwysterau sydd eu hangen i fod yn weithiwr gofal plant sy'n siarad Cymraeg a'r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd addysgu Cymraeg eu hiaith gyda mi, y ddau yn gyrsiau cwbl ar wahân heb unrhyw ffordd hawdd o symud o'r naill i'r llall. Wrth dderbyn bod angen dilyniant rhwng y cyrsiau hyn, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ehangu'r rhyngwyneb hwn i weld a ellir gwneud mwy i symleiddio'r broses a'i gwneud yn haws i gynorthwywyr gofal plant cymwys sy'n siarad Cymraeg ddod yn gynorthwywyr addysgu ac i'r gwrthwyneb?

Diolch o galon i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod mae hi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch e; rydyn ni wedi trafod hyn un-wrth-un y tu allan i'r Siambr hon hefyd. Ac mae'n iawn i ddweud bod hi'n bwysig iawn sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gyda ni ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn caniatáu ac yn annog rhieni i ddewis addysg ym mhob cyfnod i'w plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae buddsoddiad sylweddol yn digwydd er mwyn ehangu'r nifer o ddarpariaethau Cymraeg dros dymor y Senedd hwn—rhyw 150 ychwanegol. Ond dwi, yn sicr, yn derbyn yr her mae hi'n ei roi, fod angen sicrhau bod y llwybr yn esmwyth i gymhwyso i ddysgu ym mha bynnag gyfnod o addysg, statudol a blynyddoedd cynnar. Un o'r cwestiynau rŷn ni'n edrych arno ar hyn o bryd yw'r continwwm ieithyddol o ran cymhwyso, a'n bod ni i gyd yn deall lle ar y llwybr cyffredin hwnnw mae cymwysterau ieithyddol yn disgyn, fel bod dealltwriaeth fwy eglur o'r hyn sydd ar gael er mwyn hyfforddi athrawon, hyfforddi oedolion yn gyffredinol, i addysgu'r Gymraeg, a hefyd y cymwysterau hynny sydd ar gael yn yr ysgol. Felly, mae'r gwaith hwnnw yn waith cymhleth, mae'n waith sydd, yn ein cyd-destun ni yma yng Nghymru, yn arloesol, ond mae e newydd ddechrau. Bydd gyda fi fwy, gobeithio, i'w ddweud am hynny maes o law. 

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ddyfalu beth yr wyf ar fin tynnu ei sylw ato. Codais gyda chi yr wythnos diwethaf fy mhryderon ynghylch cyflymder Pen-y-bont ar Ogwr o fynd ati o ran addysg cyfrwng Cymraeg. O edrych ar gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, maen nhw'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod y targed o gynyddu nifer y dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref o 8 y cant i 14 i 18 y cant dros gyfnod o 10 mlynedd. Byddwn i wedi hoffi gweld targed uwch. Rwy'n siŵr ei fod, mae'n debyg, yn disgwyl i mi ddweud hynny, ond rwyf yn credu bod rhai pryderon dilys ymhlith ymgyrchwyr ynghylch pa mor ddifrifol y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran cyrraedd ei dargedau.

Nid oes ond angen i chi edrych ar y sefyllfa yn awr: buddsoddiadau sylweddol mewn ehangu ysgolion cyfrwng Saesneg, un ysgol yn cael £900,000; mae fy hen ysgol gynradd i yn symud i safle newydd, ond mae ei safle presennol yn cael ei droi'n ysgol cyfrwng Saesneg arall. Heb fod ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr yn gwthio'n galetach ac yn gyflymach, yna bydd y Llywodraeth yn ei chael yn anodd cyrraedd ei thargedau. Byddai'n dda gen i glywed gan y Gweinidog pa gymhellion sydd ar gael i awdurdodau lleol wella'r sefyllfa, ond, yn bwysicach na hynny, beth fydd yn digwydd os na fydd awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau, oherwydd, ers gosod y targedau cyntaf un, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr.

Ac mae'n debyg eich bod yn meddwl tybed pam rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn Saesneg—mae i wneud y pwynt bod yr iaith ar gyfer pawb. Dewisodd fy nheulu fy anfon i ysgol Gymraeg; rwyf wedi dod o deulu di-Gymraeg. Rwyf i eisiau i bob rhiant gael y dewis hwnnw, os byddan nhw'n dymuno, i wneud hynny. Ond dim ond os ydyn nhw'n gallu cael mynediad i addysg Gymraeg yn y lle cyntaf y gall hynny ddigwydd. 

Wel, rwy'n cytuno ag ymdeimlad olaf yr Aelod, yn sicr, a dyna'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i'r fenter gyfan yr ydym ni'n ymwneud â hi o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Rwy'n sylwi bod yr Aelod wedi nodi ei siom yn gynnar. Rwy'n credu efallai mai'r ffordd arall o edrych ar hyn yw bod pob awdurdod, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cytuno i gynllun uchelgeisiol. Ond, fel y soniais yn fy ateb i Heledd Fychan yn gynharach, mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod—mae hynny'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, ond pob awdurdod arall hefyd—i ymrwymo i gyflawni'r cynlluniau hynny, ac mae gennym—. Rwyf wedi disgrifio'r monitro aruthrol a fydd yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn i sicrhau bod hynny'n digwydd, o safbwynt staff ond hefyd o safbwynt buddsoddi, a byddaf yn edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud gyda'n cynllun cymunedau dysgu cynaliadwy i sicrhau ein bod yn gweld cynnydd o ran cyflawni Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ochr yn ochr ag uchelgeisiau ehangach unrhyw awdurdod ynghylch addysg yn eu hardal benodol eu hunain.

Ond rwy'n derbyn—er fy mod i wedi derbyn eisoes—fod terfyn ar yr ystod o bwerau sydd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd lle nad yw'r cynlluniau hynny'n cael eu bodloni. Felly, rwy'n awyddus, fel y gwn ei fod ef a'i blaid, i edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw os na welwn ni'r cynnydd yr ydym ni eisiau ei weld. Ond rwy'n ei wahodd i gychwyn ar y daith dros y 10 mlynedd nesaf gydag ymdeimlad o optimistiaeth, ac i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i weld bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd.  

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n ddrwg gen i.

Dim ond eisiau dod i mewn ydw i yn dilyn sylwadau Luke yn y fan yna, oherwydd bod y Gweinidog wedi mynegi cryn hyder ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hefyd yn ardal Rhondda Cynon Taf yn fy etholaeth i, yn eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen. Ond fe wnes i gyfarfod â Meurig, y pennaeth arobryn, y diwrnod o'r blaen, ac rwy'n credu y byddai'n croesawu ymweliad yn wirioneddol, ynghyd â Huw David, arweinydd y cyngor, hefyd i siarad am y cynlluniau a sut y maen nhw'n datblygu, nid yn unig yn y 12 mis, pum mlynedd nesaf, ond y 10 mlynedd nesaf, fel y gallwn ni wireddu'r uchelgais hwnnw mewn gwirionedd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y rhain i gyd yn flociau adeiladu. Mae'n daith. Roedd yn wych dros y flwyddyn ddiwethaf gweld dau Mudiad Meithrin newydd yn agor yn y fwrdeistref, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi eu cynllunio gyda'r gymuned Gymraeg leol, gyda'r awdurdod lleol hefyd. Ond mae'n daith. Ond byddai'n wych eich cael chi yno rywbryd i drafod gyda phob un ohonom ni fel Aelodau a'r awdurdod lleol sut y gallwn ni gyflawni'r targedau hyn. 

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw a'r gwahoddiad hwnnw, a byddwn yn hapus i'w dderbyn. Roedd Meurig yn ei sylwadau yn y gwobrau ddydd Sul yn glir iawn ynglŷn â'r angen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru a hoffai gael mynediad i addysg Gymraeg yn cael hynny, ac rwy'n sicr yn rhannu'r uchelgais hwnnw, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies hefyd. 

Diolch i'r Gweinidog.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 6, 8 a 9, rheoliadau 2022 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Tynnwyd eitem 7 yn ôl. 

Unrhyw wrthwynebiadau? [Torri ar draws.] Na, ydych chi eisiau siarad amdanyn nhw i gyd gyda'i gilydd? [Torri ar draws.] Ydych. Felly, dydych chi ddim yn gwrthwynebu'r grwpio. Dim gwrthwynebiad i'r grwpio. 

16:25
6., 8. & 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022; Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 a Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

Cynnig NDM8058 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynnig NDM8056 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynnig NDM8059 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae tair set o reoliadau'n cael eu trafod o dan y cynnig hwn heddiw. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi cyflwyno cyfres o welliannau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol yn wreiddiol fel rhan o'r pecyn hwn o is-ddeddfwriaeth, ond, o ystyried nifer y pwyntiau adrodd a gafwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rydw i wedi tynnu'r offeryn statudol hwnnw'n ôl fel y gellir gwneud y cywiriadau angenrheidiol. Byddaf yn ei ail-gyflwyno, yn ddiweddarach yr wythnos hon gobeithio, fel y gellir ei drafod cyn gynted ag y byddwn yn dychwelyd ym mis Medi.

Gan droi at y tri offeryn statudol yr ydym ni’n eu hystyried heddiw, fe wnaf i gymryd ychydig funudau i esbonio mor gryno ag y gallaf ddiben ac effaith pob un o'r rhain, er y bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi, fel sy'n digwydd yn aml gydag is-ddeddfwriaeth, fod rhai o'r darpariaethau'n eithaf cymhleth a thechnegol, felly nodwch os oes unrhyw beth sy'n aneglur ac fe ngwnaf fy ngorau i'w egluro.

Fe wnaf i ddechrau gyda Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithasau Tai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022. Bydd yr OS hwn yn sicrhau y bydd tenantiaethau cymdeithasau tai sy'n elwa ar hyn o bryd o ddiogelu rhent yn cadw'r amddiffyniad rhent hwnnw pan fydd yn cael ei droi'n gontractau meddiannaeth.

Nesaf, Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022. Mae Atodlen 12 yn nodi'r trefniadau ar gyfer tenantiaethau a thrwyddedau cyfredol a fydd yn trosi'n gontractau meddiannaeth pan ddaw Deddf 2016 i rym. Diben Atodlen 12 yw sicrhau bod y newid hwn mor ddi-dor â phosibl a bod y partïon i denantiaethau a thrwyddedau presennol yn cael eu trin yn deg pan fydd eu tenantiaeth neu eu trwydded yn troi'n gontract meddiannaeth, gyda'r cydbwysedd cywir yn cael ei daro mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau'r ddau barti. I'r perwyl hwn, mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan yr OS hwn yn cynnwys diogelu hawliau presennol pobl ifanc 16 a 17 oed sydd â mathau penodol o denantiaeth neu drwydded ar hyn o bryd; darpariaethau sy'n sicrhau, ymhlith pethau eraill, y bydd tenantiaethau a thrwyddedau cyfredol sy'n ymwneud â llety â chymorth yn trosi'n gontractau meddiannaeth ac na all unrhyw denantiaeth neu drwydded sy'n ymwneud â llety â chymorth sydd eisoes wedi bod ar waith am fwy na chwe mis droi'n gontract â chymorth safonol; darparu i denantiaethau cychwynnol droi'n gontractau safonol rhagarweiniol yn awtomatig; sicrhau nad yw landlord ond yn atebol i dalu iawndal mewn perthynas ag unrhyw fethiant i roi gwybodaeth i ddeiliad y contract am ddiogelu unrhyw flaendal a dalwyd mewn perthynas â chontract wedi'i drosi a oedd, cyn ei drosi, yn denantiaeth fyrddaliol sicr; sicrhau, pan oedd contract wedi'i drosi, cyn ei drosi, yn denantiaeth fyrddaliol sicr a oedd yn cynnwys cyfnod amrywio rhent, y caiff y tymor hwnnw ei drosglwyddo i'r contract a addaswyd ac na chaiff ei ddisodli gan y tymor amrywio rhent yn adran 123 o Ddeddf 2016; diogelu, cyn belled ag y bo modd, hawliau unrhyw ddeiliad presennol meddiannaeth amaethyddol sicr; a sicrhau, ar gyfer tenantiaethau cyfnod penodol, pan fo'r cyfnod penodol yn dod i ben ar ôl 1 Rhagfyr a phan ddaw'r contract yn gyfnodol, y bydd hysbysiad y landlord di-fai chwe mis yn gymwys i'r contract hwnnw.

Yn olaf, Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022. Mae'r rhain yn gwneud cyfres o welliannau i sicrhau nad yw mathau penodol o lety sy'n gysylltiedig â mechnïaeth neu brawf, neu i fewnfudo a lloches, yn gontractau meddiannaeth. Mae hyn i bob pwrpas yn cynnal y trefniadau presennol ar gyfer y mathau hyn o lety.

Rydw i wedi nodi'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â phob un o'r tri OS hyn, ac mae fy swyddogion wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol lle bo angen. Rwyf hefyd wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r pwyllgor ar y pwyntiau hynny mae angen ymateb gan y Llywodraeth arnynt. A gaf i roi fy niolch, fel erioed, i'r pwyllgor a'i staff cymorth am eu hymagwedd ddiwyd a chyfeillgar, sydd wedi cael ei gwerthfawrogi'n fawr?

Dirprwy Lywydd, mae hynny'n cloi fy sylwadau agoriadol. Fe fyddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb i unrhyw bwyntiau mae Aelodau am eu codi, a byddaf yn dweud ychydig mwy am yr hyn a fydd yn digwydd nesaf, cyn gweithredu'r Ddeddf ym mis Rhagfyr, yn fy sylwadau cloi. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog. Gwnaethom ystyried y gyfres hon o reoliadau yn ystod ein cyfarfod ddoe a gosod ein hadroddiadau yn syth ar ôl hynny.

Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau caredig am y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud a'r ymgysylltu rydych chi wedi'i gael gyda ni ar hyn. O ran eich sylwadau agoriadol, rydym ni'n dwlu ar 'technegol a chymhleth'. Mae'r gyfres o reoliadau heddiw yn rhan o'r drydedd gyfran o is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Roedd ein pwynt adrodd technegol ar draws y tri rheoliad yn ymwneud â deunydd drafftio sy'n ymwneud â Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022, sef bod darpariaeth y Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i reoliadau fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol wedi'i hepgor o'r rhagarweiniad a'r prif nodyn. Nodwn fod ymateb Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwynt hwn ac yn nodi, gan fod y gwall yn dechnegol ei natur, y defnyddir fersiwn wedi'i gywiro wrth wneud.

Fe wnaethom nodi nad oedd pob set o reoliadau yn destun ymgynghoriad a chodwyd y rhain fel pwyntiau rhinweddau. Esboniodd y Gweinidog, mewn ymateb, mai'r rheswm am hyn oedd bod y gwelliannau eto'n dechnegol eu natur. Yn benodol, o ran y rheoliadau diwygio a diwygio rheoliadau Atodlen 12, dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod hyn hefyd oherwydd nad oes yr un o'r gwelliannau maen nhw'n eu cynnwys yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i sefyllfa polisi a nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol. Fe wnaeth ein hadroddiad dynnu sylw hefyd at y ffaith bod nifer o faterion a gafodd sylw gan y gwelliannau wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru gan randdeiliaid allanol yn gofyn am eglurhad ar gymhwyso'r ddeddfwriaeth ac yn cael eu trafod gyda nhw.

Mae'r rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r ddadl heddiw i gyd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau Harri VIII, gan eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Wrth godi hwn fel pwynt rhinweddau ar gyfer y rheoliadau diwygio a diwygio rheoliadau Atodlen 12, tynnwyd sylw at adroddiad Cyfnod 1 ein pwyllgor blaenorol yn y pumed Senedd ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a oedd yn gofyn am eglurhad ar y cyfiawnhad dros gynnwys pwerau Harri VIII yn y Bil hwnnw. Mae'r eglurhad a roddwyd gan y Gweinidog bryd hynny wedi'i gynnwys yn yr adroddiadau perthnasol.

Rydym ni hefyd wedi cyflwyno adroddiad ar Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022, a chododd ein hadroddiad nifer sylweddol o bwyntiau. Er fy mod yn cydnabod, fel y dywedodd y Gweinidog yn wir yn ei sylwadau agoriadol, eu bod wedi'u tynnu'n ôl o'r agenda heddiw ac na fydd pleidlais arnyn nhw heddiw, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog egluro a oes unrhyw effaith ar y gyfres hon o reoliadau a gweithredu Deddf 2016 o ganlyniad i dynnu'n ôl. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddaf yn cyfeirio'r Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant fy hun o ran perchnogaeth eiddo. Diolch.

Fe wnaf i ddechrau drwy gyfeirio at ddarpariaethau sylfaenol tenantiaethau cymdeithasau tai. Nawr, er fy mod yn nodi nad oedd unrhyw faterion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rydw i’n eithaf siomedig na fu llawer o ymgynghori â'n cymdeithasau tai gwerthfawr. Ar y naill law, rydw i’n cydnabod mai dim ond gwelliannau technegol canlyniadol yw'r rhain, ond byddan nhw'n cael effaith uniongyrchol ar gymdeithasau tai.

Fodd bynnag, bydd y Gweinidog yn falch o glywed nad ydym yn gwrthwynebu is-adran 2A. Byddwn yn ymatal ar y rhain. Yn wir, rwy’n credu ei bod yn rhesymol disgwyl, pan fo tenantiaeth cymdeithas tai yn gontract safonol diogel neu gyfnodol, y gellir cynyddu'r rhent sy'n daladwy i'r landlord o ddechrau unrhyw gyfnod rhentu drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r dyddiad heb fod yn hwyrach na phedair wythnos.

Ni allaf weld sut mae is-adran 2B yn deg. Os edrychwn ni ar eiddo cymdeithasau tai, yn fy etholaeth i, yn Aberconwy, mae gan Cartrefi Conwy bortffolio eang ei gwmpas, ond mae rhai fflatiau a thai yn union yr un fath. Felly, er fy mod i’n cydnabod mai dim ond dros dro y byddai effaith is-adran 2B, sy'n golygu nad yw hysbysiad o gynnydd yn dod i rym os bydd deiliad y contract, cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yn rhoi hysbysiad i ddod â'r contract i ben, pe bai'r tenant yn dal i fod yn preswylio am gyfnod ar ôl y dyddiad y dylai'r rhent fod wedi cynyddu, Rwy’n credu, ar bwynt o degwch, y dylai'r tenant barhau i fod yn atebol am y rhent uwch, neu byddwch chi’n cael y bobl sy'n aros ymlaen yn talu mwy o rent nag unrhyw un sy'n rhoi eu rhybudd. Felly, o gofio bod elfennau o'r tenantiaethau cymdeithasau tai rydw i’n cytuno â nhw ac yn anghytuno â nhw, byddwn yn ymatal ar y rheoliadau hyn heddiw.

Gan droi at y ddau reoliad arall, diwygiad a diwygiad i Atodlen 12, rydw i’n pryderu am y diwygiad i Atodlen 8A. Mae Atodlen 8A yn rhestru'r mathau hynny o gontractau safonol y gellir eu terfynu gyda dau fis o rybudd o dan hysbysiad neu gymal terfynu landlord, yn hytrach na'r cyfnod rhybudd o chwe mis sy'n gymwys mewn perthynas â phob contract meddiannaeth safonol arall. Rwy’n credu mewn gwirionedd y dylai landlordiaid allu dod â chontractau meddiannaeth safonol i ben o fewn dau fis, nid chwech, felly ni allwn gefnogi'r diwygiad i Atodlen 8A. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn, ond rwy’n credu mewn gwirionedd fod angen dybryd arnoch chi, Gweinidog, i fod yn ehangach efallai—.

Byddaf yn cydnabod i ni gael cyfarfod da iawn yr wythnos diwethaf gyda Propertymark ac asiantau eraill, ond mae gennym ni rai landlordiaid sector preifat gwerthfawr iawn, landlordiaid tai cymdeithasol cofrestredig, sy'n darparu eiddo, a'r peth olaf rydw i am ei weld yw pobl yn fy etholaeth i a ledled Cymru ar eu colled oherwydd bod landlordiaid preifat yn penderfynu mynd i sector gwyliau mwy proffidiol, colli allan a mynd i lety dros dro. Mae gennym ni ormod o lawer o bobl yn awr mewn llety dros dro, ac nid am ychydig wythnosau'n unig, ond am rai misoedd, ac mae gwthio pobl allan o'r sector rhentu yn mynd i wneud pethau'n waeth. Fe wnes i siarad â rhanddeiliad heddiw, hyd yn oed, gyda 250 o eiddo yng Nghymru, 100 yn Lloegr, sydd bellach yn ystyried cael gwared ar y portffolio yng Nghymru a symud drosodd i Loegr, oherwydd mae'n gweld bod y rheoliadau yng Nghymru bellach mor drwm fel ei fod yn—. Gallant ei wneud mewn mannau eraill yn y DU a darparu tai o ansawdd da.

Felly, nodir yn un o'r memoranda esboniadol:

'Oherwydd natur dechnegol y ddau OS hyn a'r ffaith nad oes yr un o'r gwelliannau a gynhwysir ynddynt yn gwneud newid sylweddol i’r safbwyntiau polisi a nodir yn y ddeddfwriaeth sylfaenol, nid oes ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal.'

Ac mae hynny'n fy mhoeni i: nid oes ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal. Fodd bynnag, mae'n mynd ymlaen i egluro:

'Mae trafodaethau manwl wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid perthnasol i archwilio'r materion hyn ac maent wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r gwelliannau.'

Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni yma heddiw pwy rydych chi wedi ymgysylltu â nhw ac a ydych chi’n credu bod angen mwy o ymgysylltu ar draws y sector ehangach? Y diffyg tryloywder hwn rydw i’n pryderu amdano, yw bod trafodaethau manwl wedi'u cynnal gyda rhai rhanddeiliaid a ddewiswyd ac maen nhw'n amlwg wedi helpu i ddylanwadu ar y rheoliadau. Byddai'n braf datod hynny ychydig a darganfod pam na fu ymgynghori ffurfiol. Rhaid i ni weld tryloywder llwyr yn y diwydiant hwn o ran pa randdeiliaid y gwnaethoch chi eu cyfarfod. A ydych chi wedi gwneud hynny ar sail Cymru gyfan? Oherwydd, yn amlwg, fel Aelod o'r gogledd—.

Felly, Gweinidog, diolch i chi am gyflwyno'r rheoliadau hyn, ond byddwn yn ymatal ar eitem 6 ac yn pleidleisio yn erbyn eitemau 8 a 9. Diolch.

16:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi am ddatgan buddiant sydd ar y record gyhoeddus hefyd. 

Daw'r drafodaeth hon ar adeg pan fo'r argyfwng tai yn gwaethygu, o ddydd i ddydd. Mae rhentwyr a landlordiaid fel ei gilydd yn poeni am yr argyfwng cynyddol hwn, gyda landlordiaid yn ofni y bydd llawer yn gwerthu ac yn rhoi'r gorau i rentu cartrefi oherwydd y rheoliadau newydd, a thenantiaid sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu troi allan. Felly, gadewch i ni feddwl o ddifrif am hyn.

Ar hyn o bryd, gellir symud tua 500 o bobl y mis i lety parhaol. Gyda ffoaduriaid o Wcráin hefyd, mae tua 10,000 o bobl yn ceisio dod o hyd i gartref parhaol mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Yn wir, awgrymodd ymchwil gan Sefydliad Bevan yn ddiweddar fod nifer cynyddol o bobl yng Nghymru mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd prinder tai fforddiadwy. Dangosodd data a gasglwyd o 1,775 o hysbysebion rhent ledled Cymru mai dim ond 24, neu ddim ond 1.4 y cant, oedd am bris a gwmpaswyd yn llawn gan y lwfans tai. Credwyd fod 130,000 o landlordiaid yn flaenorol, ond er gwaethaf ymateb y Prif Weinidog yn gynharach i gwestiwn heddiw, dywed Rhentu Doeth Cymru mai dim ond 90,000 yw'r ffigur go iawn. Mae'r sector rhentu preifat mor wael, mae nifer yr eiddo sydd ar gael yn gostwng drwy'r amser. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn gweld rhenti'n codi cymaint; y cyflenwad a'r galw sy'n gyfrifol am hyn.

Mae taith y Ddeddf rhentu cartrefi drwy'r Senedd wedi'i profi oedi ar ôl oedi, tra bod rhentwyr wedi cael eu gadael i ofalu amdanyn nhw eu hunain mewn hinsawdd sy'n fwyfwy gelyniaethus. Mewn ymateb i'r oedi cyn gweithredu, dywedodd Shelter Cymru fod yr oedi wedi bod yn syndod mawr gyda throi allan heb fai yn dyblu dros y 12 mis diwethaf, yn bennaf oherwydd gwerthiant tai. Yn hyn o beth, gallai'r cyfuniad gwenwynig o swigen prisiau tai yn y DU a rheolau mawr fod yn ysgogiad ychwanegol i rai landlordiaid sydd eisoes yn ystyried gadael y maes, dyma beth sy’n cael ei ddweud wrthym ni.

Er y byddwn ni’n pleidleisio o blaid y rheoliadau heddiw, oherwydd rydym ni’n sicr yn cefnogi'r Ddeddf ac am ei gweld yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus, mae angen i ni hefyd fod yn glir nad yw'r Ddeddf yn mynd yn ddigon pell. Rydym ni’n croesawu'r ymrwymiadau mewn perthynas â thai yn y cytundeb cydweithredu ac yn benderfynol o gydweithio i ddarparu ar gyfer tenantiaid ledled Cymru. Rydym ni’n symud, er yn araf, i'r cyfeiriad iawn yng Nghymru, a mater i'r Llywodraeth yw sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf cyn gynted ag y bo modd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio i wahardd gofynion enfawr ar gyfer rhentwyr, megis blaendaliadau enfawr, neu'r angen am warantwyr cyfoethog, sy'n eu hatal rhag sicrhau llety. Yn ogystal â hyn, dylai'r Llywodraeth helpu i sefydlu undebau tenantiaeth ar gyfer gwybodaeth a chymorth i helpu rhentwyr, gan alluogi pobl i wybod eu hawliau a chael gafael arnynt. Yn bennaf oll, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â materion cyflenwi a fforddiadwyedd. Mae angen i ni adeiladu degau o filoedd o gartrefi cymdeithasol. Er bod gwaith hanfodol ar y gweill i reoleiddio lefelau ffosffad mewn afonydd, un canlyniad anfwriadol yw ei fod i bob pwrpas wedi dod â datblygiadau tai cymdeithasol i stop mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio.

Nid yw 25 o gynlluniau tai cymdeithasol a gynlluniwyd i ddarparu cyfanswm o 666 o gartrefi yn mynd rhagddynt. Dylent fod wedi cymryd rhwng 12 a 24 mis i'w cwblhau, ond erbyn hyn mae rhai cymdeithasau tai yn rhagweld y bydd y datblygiadau'n cymryd tair i bedair gwaith cyhyd. Rhybuddiodd rhai cymdeithasau tai ei bod yn bosibl y bydd yn rhaid rhoi'r gorau i'r cynlluniau gyda'i gilydd. Wrth i gostau barhau i gynyddu yn ystod y cyfnod oedi, gall rhai cynlluniau fod yn anymarferol. Ar draws y cynlluniau hyn, mae cyfanswm o £22 miliwn naill ai eisoes wedi'i wario neu mewn perygl. Mewn un gymdeithas dai yn unig, mae'n debygol iawn y bydd y cynllun cyntaf yn cael ei erthylu yn y flwyddyn ariannol hon gyda gwariant o bron i £50,000.

Mewn ymateb i'r ddadl hon, dylai'r Gweinidog egluro sut mae'r Llywodraeth yn ceisio rhoi terfyn ar y sefyllfa hon a chyflawni targedau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol gan ddiogelu'r hinsawdd. Yn ogystal â hyn, dylai'r Gweinidog amlinellu sut y caiff tenantiaid eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan yn y cyfamser tan y gaeaf. Ac yn olaf, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r duedd gynyddol o landlordiaid yn gwerthu eiddo ar rent, sy'n ysgogi prinder eiddo sydd ar gael ac yn cynyddu costau rhentu. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch, Llywydd. I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth, gobeithio, wrth bleidleisio dros y rhain. Rwyf i’n siomedig iawn, ond nid yn synnu, nad yw'r Torïaid yn gweld yn dda cefnogi gwelliannau a gynlluniwyd i ddiogelu hawliau tenantiaid—dim syndod yn y fan yna, mewn gwirionedd. Er ei bod yn siomedig na allwn gael consensws ar hyn.

Llywydd, rydym ni nawr bron iawn yno o ran gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi. Cyn bo hir, byddaf yn gwneud tri Dangosydd Perfformiad gweithredu pellach, sydd, unwaith eto, yn dechnegol eu natur, ac sy'n cael eu gwneud drwy weithdrefn negyddol y Senedd, felly ni fyddant yn destun dadl yn y Senedd, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach yn esbonio diben ac effaith y rhain. 

Fel y soniais i yn gynharach, byddaf hefyd yn trosglwyddo'r OS diwygiadau canlyniadol cyn bo hir gyda'r cywiriadau angenrheidiol a wnaed i'r offeryn hwnnw, yn ddiweddarach yr wythnos hon gobeithio, fel y gallwn drafod yr OS diwethaf hwnnw ym mis Medi. A dim ond cadarnhau na fydd unrhyw effaith ar y dyddiad gweithredu o ganlyniad i dynnu'r rheoliadau diwygiadau canlyniadol yn ôl, ac nid oes unrhyw effaith ychwaith ar y tri sydd yma heddiw, oherwydd eu bod yn Offerynnau Statudol annibynnol sy'n gweithredu gwahanol rannau o'r Ddeddf rhentu cartrefi.

Ac yna, dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r materion mae Aelodau wedi'u codi'n benodol ar yr Offerynnau Stadudol hyn: mae rheoliadau tenantiaeth cymdeithasau tai yn ymwneud ag is-set gymharol fach o denantiaethau, ac mae'r rheoliadau'n ymwneud â chadw'r trefniadau presennol, Janet, ac nid â'u newid. Byddwn ni wedi meddwl y byddech chi’n croesawu hynny, mewn gwirionedd. Mae'r diwygiadau penodol hyn yn ymwneud â chadw'r trefniadau presennol, a pheidio â bod â'r Ddeddf rhentu cartrefi yn amharu ar y trefniadau presennol hynny.

O ran hysbysiadau chwe mis, ein hegwyddor yw y dylai rhywun nad yw ar fai gael o leiaf chwe mis o rybudd o feddiant. Mae Atodlen 8A yn nodi rhai eithriadau cyfyngedig, er enghraifft, pan fo meddiannaeth gwasanaeth at ddibenion cyflogaeth yn unig. 

O ran landlordiaid preifat sy'n bygwth gadael y sector, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei godi gyda mi bob tro y byddwn yn trafod tai. Nid yw'n waeth yma nag y mae yn unman arall. Yn ddiddorol, mae cyfryngau'r DU yn adrodd am ymadawiad tebyg a ragwelir o landlordiaid preifat yn Lloegr o ganlyniad i'r cynnydd ym mhrisiau tai yno, er, wrth gwrs, yn Lloegr mae'n amhosibl gwybod, oherwydd nid oes ganddyn nhw yr hyn sy'n cyfateb i Rhentu Doeth Cymru mewn gwirionedd. Ac felly, rydym ni mewn sefyllfa well yma, oherwydd mae gennym ni gysylltiad â'n holl landlordiaid, a gwyddom ble maen nhw.

O ran y rhanddeiliaid rydym ni wedi ymgysylltu â nhw, maen nhw’n cynnwys y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol, Propertymark a Chartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli cymdeithasau. Mae fy swyddogion yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cyrff hynny, ac yn amlwg, mae NRLA a Propertymark yn y sector rhentu preifat. O ran y pwynt ymgynghori, mae'r rheoliadau'n canolbwyntio'n bennaf ar gynnal a diogelu hawliau presennol, felly mae'r ymgynghoriad ar y Ddeddf ehangach.

Nid yw data Rhentu Doeth Cymru yn dangos bod landlordiaid yn gadael y farchnad mewn niferoedd sylweddol mewn gwirionedd. Mae gostyngiad bach, ond nid yw'n fwy na'r hyn a ragwelwyd gan Rhentu Doeth Cymru yr adeg hon o'r flwyddyn. Maen nhw’n credu ei fod yn ymwneud â rhai landlordiaid yn hwyr yn cofrestru, ac yn y blaen. Mae gostyngiadau mwy sylweddol mewn ychydig o fannau poblogaidd i dwristiaid, ond ni allwn fod yn siŵr iawn a ydyn nhw wedi troi at osodiadau gwyliau tymor byr, felly yn amlwg rydyn ni’n cadw llygad barcud ar hynny.

Roedd cyfraniad Mabon yn eang iawn am yr argyfwng tai yn fwy cyffredinol, yn hytrach nag ar yr OS hyn yn benodol, ac yn amlwg, holl bwynt y Ddeddf rhentu cartrefi yw mynd i'r afael â rhai o'r materion yno. Wrth gwrs, mae gennym ni darged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i ragweld y broblem o ran y cyflenwad a'r galw. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r mater ffosffad a bydd uwchgynhadledd ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn yr haf i weld a allwn ni ddod i gyfaddawd ar draws yr holl faterion anodd iawn sy'n effeithio ar hynny. Ond nid yw'r rheini'n benodol i'r OS hyn, Llywydd, dim ond pwyntiau mwy cyffredinol ydyn nhw.

Wrth ddirwyn hyn i ben, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau. Maen nhw’n dechnegol eu natur i raddau helaeth. Fel y dywedais i, byddaf yn gwneud yr OS gweithredu pellach cyn bo hir, sef y trafodion cychwyn, ac felly nid effeithir ar weithredu'r Ddeddf ar 1 Rhagfyr. Diolch.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, rwy'n gohirio'r bleidlais unwaith eto. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A'r cwestiwn olaf am nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] 

Dim os nad yw'n gyson, Darren Millar.

Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar eitem 9 hefyd.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Eitem 10 sydd nesaf. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yw'r rhain, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8052 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022, ynghyd â llond llaw o fân offerynnau statudol ategol a gaiff eu gosod cyn bo hir, yn cynrychioli'r gyfran sylweddol olaf o ddeddfwriaeth i sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y Pwyllgorau Cyfiawnder Troseddol. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am iddynt ystyried y rheoliadau hyn a'r tair cyfran flaenorol o ddeddfwriaeth sydd wedi darparu ar gyfer y cyrff cyhoeddus newydd pwysig hyn.

Mae'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Maen nhw hefyd yn ymdrin â'u trosolwg a'u gwaith craffu. Ddiwedd mis Mehefin, dechreuodd dyletswyddau'r cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n cael effaith fawr ar awdurdodau lleol a phobl sy'n byw yn eu hardaloedd. Mae'n ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig baratoi cynllun datblygu strategol a chynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn gallu arfer pŵer i wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo lles economaidd eu hardaloedd. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl dod â threfniadau llywodraethu'r fargen ddinesig a thwf ochr yn ochr â chynllunio strategol arall ar gyfer y rhanbarth. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn fecanwaith cyson ac atebol i gefnogi cydweithredu rhanbarthol lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny. Bydd y ffordd mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn cyflawni ei swyddogaethau ac yn gweithredu yn cael ei benderfynu i raddau helaeth gan ei aelodau. Mae'r hyblygrwydd yn galluogi cyd-bwyllgorau corfforedig i amrywio rhwng ardaloedd daearyddol i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau penodol eu rhanbarth. Cyn bo hir, byddaf yn cwrdd â phob un o gadeiryddion ac aelodau'r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig i glywed am y cynnydd y maen nhw wedi'i wneud ac i ddeall eu huchelgais ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. Diolch.

O ran y rheoliadau hyn a gyflwynwyd ar y cyd-bwyllgorau corfforedig, rydym ni'n sicr yn cefnogi'r cysylltiad agosach hwnnw ag awdurdodau lleol, ac felly, o'n hochr ni o'r meinciau heddiw, byddwn yn cefnogi'r cynnig.

Dim ond i ddweud diolch yn fawr iawn i'r Ceidwadwyr Cymreig am eu cefnogaeth heddiw. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu diddordeb yn hyn. Gan mai dyma'r gyfran sylweddol olaf o ddeddfwriaeth i sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cyd-bwyllgorau corfforedig, rwyf i am gydnabod yr holl waith sydd wedi'i wneud gan swyddogion i'n cael ni i'r pwynt hwn, a hefyd i'r rhanddeiliaid sydd wedi ein helpu gymaint ar y daith. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Eitem 11 fydd nesaf, y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.

16:50

Cynnig NDM8054 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn darparu

'Ni fydd yn gyfreithlon i berson yrru cerbyd modur ar ffordd gyfyngedig yn gyflymach na 30 milltir yr awr.'

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 82 ac 84(3) o'r Ddeddf,

'mae ffordd yn ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf hon os (a) yng Nghymru a Lloegr, darperir system o oleuadau stryd wedi'u dodrefnu arni drwy lampau a osodir heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân.'

Mae adran 81(2) o'r Ddeddf yn galluogi'r awdurdod cenedlaethol, sef Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru, yn unol ag adran 142(1) o'r Ddeddf, drwy Orchymyn, i gynyddu neu ostwng cyfradd y cyflymder a bennir gan adran 81(1), naill ai fel y'i deddfwyd yn wreiddiol neu fel y'i hamrywiwyd o dan yr is-adran honno. Mae adran 81(3)(aa) o'r Ddeddf yn darparu bod Gorchymyn o'r fath,

'os caiff ei wneud gan Weinidogion Cymru, i'w wneud drwy offeryn statudol a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.'

Cyn i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn o dan adran 81(2) o'r Ddeddf, mae adran 81(5) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol, sydd wedi'i wneud. Pan ddaw'r Gorchymyn i rym ar 17 Medi 2023, fel y bwriadwyd, bydd y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30 mya i 20 mya ar gyfer Cymru. Nid yw darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu diwygio fel arall gan y Gorchymyn.

Felly, bydd yr awdurdod traffig ar gyfer ein priffordd, Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chefnffyrdd a ffyrdd arbennig a'r cyngor sir neu fwrdeistref sirol perthnasol mewn perthynas â ffyrdd eraill, yn cadw'r pŵer o dan adran 82(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i gyfarwyddo

'y bydd ffordd sy'n ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf hon yn peidio â bod yn ffordd gyfyngedig at y dibenion hynny' 

gyda'r canlyniad na fyddai terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn berthnasol i ffordd o'r fath. Yn ogystal â hyn, er bod Gorchymyn o dan adran 81(a) o'r Ddeddf sy'n gosod terfyn cyflymder ar ffordd mewn grym, ni fydd y ffordd honno'n ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o'r Ddeddf, sy'n golygu y byddai'r terfyn cyflymder a osodir gan y Gorchymyn hwnnw yn gymwys o dan unrhyw amgylchiadau o'r fath. Yn amodol ar y darpariaethau hyn, bydd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn gostwng o 30 mya i 20 mya.

Mae'r Gorchymyn yn ceisio mynd i'r afael â materion diogelwch ar y ffyrdd ac effeithiau cerbydau a ffyrdd ar yr amgylchedd a chymunedau. Mae'n ceisio gwella diogelwch ar y ffyrdd, annog newid i ddulliau teithio mwy llesol, a gwella'r economi a'r amgylchedd lleol yng nghymunedau Cymru. Bwriad yr oedi cyn i'r Gorchymyn ddod i rym yw galluogi awdurdodau traffig i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd, rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynigion a galluogi gwneud diwygiadau priodol i ddeddfwriaeth arwyddion traffig. Mae'r cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder arafach hefyd yn cyd-fynd â nodau llesiant Cymru a blaenoriaethau strategol eraill, megis gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon.

Mae tystiolaeth lethol bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac anafiadau llai difrifol, a thystiolaeth gyson bod nifer yr anafusion yn cael eu lleihau pan gyflwynir terfynau 20 mya. Ar gyfartaledd, mae 80 o bobl y flwyddyn yn marw ar ffyrdd Cymru, 80 o deuluoedd na fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Mae ystadegau damweiniau 2021 newydd gael eu cyhoeddi, ac yn ystod y flwyddyn hon, digwyddodd dros hanner yr holl ddamweiniau ffordd—53 y cant—ar ffyrdd 30 mya. Mae cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd ar 30 mya o'i gymharu ag 20 mya, a lladdwyd 52 y cant o'r holl anafusion ar ffyrdd 30 mya yn ystod 2019. Symud i—[Torri ar draws.] Ie wrth gwrs.

Fe wnes innau hefyd edrych ar yr ystadegau heddlu hynny. A wnaethoch chi sylwi bod 3 y cant o'r damweiniau'n digwydd ar ffyrdd 20 mya, ond dim ond 2.5 y cant o ffyrdd Cymru sy'n rhai 20 mya? Felly, mewn gwirionedd, mae'r gyfradd ddamweiniau yn uwch o 0.5 y cant ac yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r gyfradd ddamweiniau ar ffyrdd 30 mya.

Mae rhai materion yn ymwneud â sut rydych chi'n defnyddio ystadegau, yn amlwg, Mark, ond mewn gwirionedd, os byddwch chi'n defnyddio milltiroedd y ffordd o'i gymharu â hynny, nid yw hynny'n wir yn llwyr.

Mae'r dystiolaeth yn dangos i ni y byddai symud i derfyn cyflymder cenedlaethol o 20 mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn eu gwneud yn fwy diogel, yn achub bywydau ac yn annog mwy ohonom i gerdded a beicio. Mae ymchwil wedi dangos y bydd barn y cyhoedd yn cefnogi'r newid, a lle mae terfyn cyflymder o 20 mya wedi'i roi ar waith, mae cymorth wedi tyfu. Mae tystiolaeth hefyd bod terfynau 20 mya yn arwain at fwy o gerdded a beicio, sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd cyflwyno terfyn cyflymder arafach lle mae pobl yn byw yn ein helpu ni i gyd i wneud cerdded a beicio y ffordd fwyaf naturiol o deithio am bellteroedd byrrach a diddyfnu ein hunain oddi ar ddibynnu ar geir preifat. Bydd mwy o gerdded a beicio ynghyd â chyflymder traffig arafach yn creu cymunedau mwy cydlynol a diogel i bobl fyw, gweithio a chymdeithasu ynddyn nhw ac felly mae'n fuddiol i iechyd meddwl pobl yn ogystal â'u hiechyd corfforol.

Nid yw hwn yn newid cyffredinol o 20 mya, ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi ffyrdd posibl lle bydd terfynau cyflymder yn gostwng i 20 mya a'r rhai a ddylai aros ar 30 mya. Mae'r rhagdybiaeth i derfyn cyflymder preswyl diofyn o 20 mya yn un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu.

Rwy'n credu fod hynny'n—. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n siŵr eich bod chi am fwrw ymlaen â phethau, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—[Chwerthin.] Y ffordd roedd hi'n edrych arna i oedd hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn bod trigolion yn cael eu clywed, ac rwy'n rhoi croeso gofalus iawn i'r cynigion hyn. Rwy'n credu, ar y cyfan, y bydd trigolion Caerffili, mewn rhai ardaloedd fel Rhydri, Bargoed a Castle View, yn eu croesawu. Ond rhaid gwrando ar breswylwyr, ac os gallech chi gadarnhau y bydd y cynigion hyn yn dal i roi cyfle i drigolion gael eu clywed os ydyn nhw'n teimlo nad yw 20 mya yn briodol ar gyfer ffyrdd penodol.

16:55

Ie, yn wir; byddaf yn dod at hynny cyn bo hir. [Chwerthin.]

Mae'r rhaglen 20 mya yn cefnogi 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, drwy ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio. Mae'r broses mae'n rhaid i awdurdodau lleol fynd drwyddi i gyflwyno terfynau is, y Gorchmynion rheoleiddio traffig, yn araf, yn gymhleth ac yn ddrud. Er gwaethaf miliynau o bunnoedd a fuddsoddwyd yn flaenorol, dim ond tua 2.5 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd sy'n destun terfyn cyflymder o 20 mya ar hyn o bryd. Rydym ni’n amcangyfrif y bydd hyn yn codi i 35 y cant pan gaiff y polisi ei weithredu. Yn hytrach na'i gyflwyno fesul stryd, fesul awdurdod, rydym ni’n bod yn feiddgar ac yn dewis y ffordd gallach, i'w gyflwyno i bawb ar yr un pryd. Mae'r newid hwn yn y terfyn cyflymder diofyn drwy ddeddfwriaeth yn cynnig dull cyson ledled Cymru o'i gyflwyno ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Nid ystyrir bod pob ffordd gyfyngedig yn addas i'w lleihau i 20 mya a gall awdurdodau priffyrdd ddefnyddio proses eithriadau a ddatblygir fel canllawiau i'w cynorthwyo i nodi pa ffyrdd neu ddarnau o ffordd ddylai aros ar 30 mya. Rydym ni’n parhau i ddatblygu'r eithriadau hyn ar y cyd wrth i ni symud drwy'r broses drwy weithio gydag awdurdodau lleol. Rydym wedi mireinio'r cynnig gwreiddiol gan y grŵp tasglu ar gyfer setliadau'r cam cyntaf, ac rydym ni bellach yn gweithio gydag ardaloedd treialu i adolygu eu profiad cyn i'r canllawiau gael eu cyflwyno'n genedlaethol, ond, yn y pen draw, bydd gwybodaeth leol yn allweddol, a bydd gan drigolion lleol lais, wrth gwrs, yn y ffordd y dylai eu stryd fod.

Mae dyfodol ein trefi a'n dinasoedd yn dibynnu ar ein gallu i symud o gwmpas yn gynaliadwy ac ar atebion sy'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a chymunedau. Dyna pam, Llywydd, y byddwn yn defnyddio'r egwyddor bod yn rhaid i gerdded, beicio a theithio llesol barhau i fod yr opsiynau gorau ar gyfer teithiau trefol byr, a bydd terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn helpu i gyflawni hyn. Byddai cyflwyno terfyn cyflymder cenedlaethol o 20 mya yn bolisi pwysig a phellgyrhaeddol. Pe bai'n cael ei basio, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid.

Rydym ni’n gofyn i chi i gyd fod yn rhan o'r newid hwn a gwneud i'n cymunedau ddeall manteision ehangach 20 mya. Mae'r newid hwn yn un sy'n pontio'r cenedlaethau a bydd angen amser arno i ymwreiddio. Bydd angen ymgyrch gyfathrebu a marchnata bwysig a mentrau newid ymddygiad i gyd-fynd â hi. Mae sicrhau newid mewn ymddygiad yn heriol, ond mae Cymru wedi dangos o'r blaen y gallwn ni wneud hynny'n llwyddiannus gyda pholisïau fel rhoi organau, gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a chyfyngu ar y defnydd o fagiau plastig. Fodd bynnag, mae'n gofyn am ymdrech gydweithredol rhwng asiantaethau, awdurdodau lleol a gan gymunedau. Mae angen i ni leihau cyflymderau fel bod terfynau is a gyrru arafach yn cael eu normaleiddio. Diolch.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Yn hytrach na'r materion polisi pwysig yma, mae gennym ni rai pwyntiau technegol a rhinweddau i'w codi o ran gwneud cyfraith Cymru yn hygyrch yn gyntaf. Gwneir y Gorchymyn drwy arfer y pŵer yn adran 81(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn yn darparu bod y cyfeiriad yn adran 81(1) o'r Ddeddf at '30 milltir yr awr' i'w ddehongli fel cyfeiriad at '20 milltir yr awr'. Felly, pan ddaw'r Gorchymyn i rym, bydd angen i berson leoli'r Ddeddf a'r Gorchymyn er mwyn deall y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru a oedd wedi ystyried defnyddio'r pŵer yn adran 81(2) i wneud diwygiad testunol yn lle hynny i'r terfyn cyflymder yn adran 81(1), a fyddai'n helpu i wneud cyfraith Cymru yn y maes hwn mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr y ffordd.

Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn derbyn bod angen gwneud cyfraith Cymru mor hygyrch â phosibl, ond mae'r dull drafftio wedi'i lywio gan faterion yn ymwneud â feirysau. Dywedwyd wrthym nad yw geiriad y pŵer yn adran 81 yn glir o ran addasu'r gyfradd cyflymder yn destunol wedi'i awdurdodi. At hynny, nid oes pŵer atodol penodol i wneud newidiadau canlyniadol i'r adran i ddelio â gwahaniaethu yng nghyfradd y cyflymder ledled Cymru, yr Alban a Lloegr. Felly, mae Llywodraeth Cymru o'r farn pe bai Senedd y DU wedi bwriadu cael pwerau ategol o'r fath, y gallai fod wedi'u cynnwys ar unrhyw un o'r adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle mae diwygiadau wedi'u gwneud i adran 81 o Ddeddf 1984, gan gynnwys drwy Ddeddf Cymru 2017.

Er mwyn gwneud y dull addasu testunol yn hyfyw ar lefel ymarferol, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai angen i Lywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU gytuno ar y dull gweithredu a rhoi gwybod i'w gilydd am unrhyw newidiadau pan fyddan nhw'n digwydd, y mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai'n anodd eu cyflawni'n ymarferol. O ystyried mai bwriad y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd y cytunwyd arnynt yn ddiweddar yw darparu ar gyfer gwell gwaith rhynglywodraethol, byddem yn ddiolchgar am fwy o eglurder ar y pwynt hwn, o ran pam na allai hyn weithio. Nawr, mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'n pwynt rhinweddau, wedi cadarnhau bod yr Adran Drafnidiaeth a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi cael eu briffio'n llawn am gynlluniau Llywodraeth Cymru, a bod cynlluniau ar waith ar gyfer gofynion profion gyrru a'r cod priffyrdd wedi'i argraffu i'w ddiwygio yn unol â hynny.

Mae ein trydydd pwynt rhinweddau yn nodi na chynhaliwyd asesiad ffurfiol o'r effaith ar gyfiawnder ar gyfer y Gorchymyn hwn. Mae'r cyfiawnhad dros hyn wedi'i nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n dod i'r casgliad mai dim ond ychydig o effaith a gaiff ar y system cyfiawnder troseddol. Fel y mae ein hadroddiad yn tynnu sylw ato, mae'r asesiad yn nodi bod nifer o ffactorau wedi dylanwadu ar gasgliadau Llywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau i ni ei bod wedi ystyried y ffaith bod gofynion cymhwysedd pellach ar gyfer cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder heblaw am y cyflymder a gofnodwyd yn unig, a bod gwahaniaethau rhwng terfyn cyflymder is a roddwyd ar waith mewn ardal dreialu ddiffiniedig a therfyn cyflymder diofyn cenedlaethol a allai gael effaith ar y nifer a'r math o droseddau goryrru a gyflawnir.

I gyfnewid hetiau am eiliad, Llywydd, o Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a gwisgo fy het fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar deithio llesol, a gaf i nodi'r gefnogaeth bwysicaf gan aelodau'r grŵp hwnnw, gan gynnwys Living Streets, Sustrans Cymru, 20's Plenty for Us, Ramblers Cymru, y Rhwydwaith Gweithredu Trafnidiaeth a llawer o rai eraill sy'n gweld hyn fel ffordd, gan ddefnyddio'r eithriadau sydd wedi'u hamlinellu hefyd, o sicrhau bod gennym ni strydoedd glanach, llai o dagfeydd, llai llygredig, mwy gwareiddiedig?

17:00

Gadewch i mi ddweud o'r cychwyn cyntaf wrth bawb yma fy mod 100 y cant o blaid cymryd camau i wella diogelwch ar y ffyrdd yma yng Nghymru. Nid oes gan grŵp Ceidwadwyr Cymreig unrhyw broblem o ran gweld cyfyngiadau cyflymder is ar ffyrdd lle mae gweithgarwch mawr i gerddwyr, fel y tu allan i addoldai prysur, ysgolion, meysydd chwarae a strydoedd mawr lle caniateir ceir. Fel y dywedodd Edmund King, llywydd yr AA,

'Mae terfynau 20 mya yn gweithio orau lle mae eu hangen—y tu allan i ysgolion neu ysbytai, neu leoedd lle y gellir dod ar draws defnyddwyr ffyrdd eraill sy'n agored i niwed.'

Diwedd y dyfyniad. Fodd bynnag, yr wyf i, ochr yn ochr â’r Ceidwadwyr Cymreig, yn credu'n gryf y dylai'r terfyn cyflymder aros ar 30 mya yma yng Nghymru. Mae'n amlwg o'r nifer fawr o lythyrau a negeseuon e-bost yr wyf i a fy nghyd-Aelodau wedi cael eu llethu ganddyn nhw dros yr wythnosau diwethaf fod treialu'r cyfyngiadau cyflymder 20 mya yn achosi problemau mawr ar ffyrdd prysur i gymudwyr, ac yn ddiamheuol mae'n broblem a wynebir gan gymunedau ledled Cymru. O Fwcle a'r Wyddgrug yn y gogledd i Gil-y-coed a'r Fenni yn y de, mae pobl wedi cysylltu â mi yn eu heidiau i fynegi eu pryderon. Mae'r terfyn cyflymder o 20 mya wedi achosi tagfeydd traffig, rhwystredigaeth i yrwyr, a theimlad gwael ymhlith trigolion—i'r gwrthwyneb i'r hyn yw’r bwriad y tu ôl i'r polisi hwn. 

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth adroddiad ar derfynau cyflymder 20 mya yn 2018. Daethant i'r casgliad nad yw'r parthau cyflymder 20 mya wedi cael unrhyw effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd, a bod gyrwyr ond wedi lleihau eu cyflymder 0.7 mya yn y parthau hyn. Hefyd, nid cyflymder oedd y ffactor mwyaf cyffredin a oedd yn gysylltiedig â damweiniau ffyrdd. Y ffactor a gyfrannodd fwyaf at ddamweiniau, mewn gwirionedd, oedd methiant i arsylwi ar ran modurwyr a cherddwyr. Mae perygl ychwanegol posibl hefyd y bydd gyrwyr sy'n cael eu rhwystro gan dagfeydd traffig a chyflymder araf yn fwy na'r terfynau ac yn gyrru heb ofal priodol cyn gynted ag y byddant yn gadael y parthau 20 mya hyn.

Mae Sustrans wedi dweud y gallai terfyn cyflymder diofyn o 20 mya arbed tua chwe bywyd y flwyddyn, ond gallwn ni wneud mwy. Gadewch imi ddweud wrthych chi sut: mae'n ffaith mai yng Nghymru bod gennym ni’r ganran uchaf o anafusion sy'n yfed a gyrru ym Mhrydain, yn ôl ffigurau'r Adran Drafnidiaeth. Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod yfed a gyrru wedi codi o 110 i 130 yng Nghymru rhwng 2019 a 2022. Yn bersonol, rwy'n ei chael hi'n anodd iawn ystyried unrhyw ystadegau yn ystod cyfnod clo COVID gan nad yw'n wir gynrychiolaeth o sut mae ein ffyrdd wedi edrych mewn gwirionedd dros y blynyddoedd. Felly, Gweinidog, cymaint ag y credaf fod pob bywyd yn bwysig, nid oes rhaid i chi fod yn athrylith fathemategol i weld faint o fywydau fyddai'n cael eu hachub pe bai Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o gyllid, mwy o adnoddau a mwy o arweiniad i gefnogi a mynd i'r afael ag yfed a gyrru.  Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi bron i £20 miliwn yn yr ymgyrch yfed a gyrru THINK! ers 2007, gan helpu i achub bron i 1,000 o fywydau. Beth am fuddsoddi rhywfaint o'r arian hwnnw, er enghraifft drwy rewi'r rhaglen gwella ffyrdd, i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Hoffwn weld sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi'r terfyn cyflymder cyffredinol hwn o 20 mya pan fydd ar waith. Mae hyd yn oed adroddiad grŵp y tasglu yn cadarnhau y bydd gweithredu'r terfyn cyflymder 20 mya diofyn yn gymhleth, yn ddrud ac yn gofyn am ymrwymiad parhaus sylweddol ar gyfer plismona yn ogystal â chostau newydd arwyddion ffyrdd a chamerâu cyflymder. Nawr, bydd y parth 20 mya penodol hwn, er enghraifft, yn hunllef i'r heddlu a sefydliadau diogelwch ar y ffyrdd ei gorfodi. Tra ein bod ni ar bwnc cost, faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i weithredu'r rhaglen hon? Dydw i ddim yn deall sut na allai'r cynghorau fod wedi cael eu disgresiwn eu hunain i'w cyflwyno lle mae eu hangen yn y bôn, ac yn y pen draw gallem ni fel Llywodraeth fod wedi'u cefnogi a'u hannog mewn unrhyw ffordd y gallem er mwyn eu rhoi yn y bôn lle mae eu hangen fwyaf. Fe wnaethoch chi sôn am amgylchiadau eithriadol, Gweinidog. Pam na allem ni fod wedi cael amgylchiadau eithriadol ar gyfer y terfyn cyflymder o 20 mya, yn hytrach na'i gael yn ei le pan fydd y 30 mya yn gostwng?

Nawr, Gweinidog, pa ystyriaeth, hoffwn wybod, sydd wedi'i rhoi i effaith amseroedd teithio hirach ar deithwyr a busnesau trafnidiaeth gyhoeddus? P'un a yw'r bobl hynny'n ceisio cyrraedd y gwaith neu rieni sy'n ceisio codi eu plant o ysgolion, neu hyd yn oed hyfforddwyr gyrru sydd wedi cysylltu â mi yn eu heidiau, i dwristiaid sy'n ymweld â Chymru, yn y pen draw, bydd eu hamseroedd teithio yn hirach. Felly, yn hytrach nag annog mwy o bobl i ddod allan o'u ceir a defnyddio'r bws, mae'r polisi hwn yn mynd i gael yr effaith groes, gan nad oes gennym ni seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf yma yng Nghymru eto. Rydym ni wedi clywed llawer iawn yn y Senedd hon, a hynny'n briodol, am yr argyfwng costau byw gan Aelodau yn gyffredinol. Ni all yr un ohonom ni wadu ei fod yn peri pryder i bob un ohonom. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y bydd y gost o gyflwyno'r cynllun hwn o 20 mya ledled Cymru yn £32.5 miliwn. A dweud y gwir, gallaf feddwl am lu o ffyrdd a phethau gwell i wario arian trethdalwyr arnyn nhw yma yng Nghymru na hyn. Mae busnesau sy'n dibynnu ar faniau cludo a dosbarthu ar y ffyrdd, sydd eisoes wedi'u taro'n wael gan y cynnydd yng nghost tanwydd, yn wynebu costau diangen pellach oherwydd y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru.

17:05

Ac rwy'n methu'n wirioneddol â gweld sut y bydd ansawdd aer yn cael ei wella drwy orfodi mwy o danwydd, a thrwy hynny, creu mwy o allyriadau. Mae cerbydau heddiw wedi'u cynllunio ar gyfer yr economi effeithlonrwydd a thanwydd uchaf ar gyflymder penodol, ac ni fydd o fudd i'r amgylchedd os yw ceir yn sownd ar ffyrdd prysur yn pwmpio llygredd ddydd ar ôl dydd.

Llywydd, mae mwy o bobl yn marw ar ffyrdd o yfed a gyrru, felly byddwn i 100 y cant y tu ôl i Lywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun effeithiol i annog pobl i beidio â gwneud hynny ac yn y pen draw rhoi'r gorau i yrru'n ddi-hid unwaith ac am byth. Mae amheuaeth ers tro byd fod cynllun treialu y Dirprwy Weinidog yn ffals ac yn llen fwg ar gyfer cynlluniau a oedd eisoes wedi'u gwneud. Sut y gall unrhyw un fod yn sicr bod canlyniadau'r cynllun hwn hyd yn oed yn gywir pan gawson nhw eu cynnal yn ystod y cyfnod clo?

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru heddiw a phawb yma sy'n mynd i fwrw eu pleidlais i wrando ar bryderon trigolion a busnesau lleol, perchnogion gwahanol eiddo yn ogystal â'r rhai sydd ar y ffyrdd yn gyson cyn gosod y terfynau niweidiol a gwrthgynhyrchiol hyn o 20 mya ar gymunedau ledled Cymru yn barhaol a meddwl yn hir ac yn galed. Nid yw 20 yn ddigon. Gweinidog, os ydych chi o ddifrif am ddiogelwch ar y ffyrdd, yna dewch â'r 20 mya i mewn mewn i ardaloedd lle mae gwir eu hangen a gwariwch yr arian ar gadw gyrwyr meddw oddi ar ein ffyrdd unwaith ac am byth. Diolch.

Rwy'n croesawu'r cynlluniau hyn. Bydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 20 mya ar y ffyrdd dŷn ni'n sôn amdanynt yn gwneud ein cymunedau'n saffach ac yn llefydd mwy glân ac iach i fyw iddynt. Bydd hyn hefyd yn achub bywydau. Mae pob bywyd sy'n cael ei achub yn rhywbeth pwysicach nag unrhyw beth dŷn ni'n gallu mesur neu werthuso. Mae osgoi unrhyw brofedigaeth yn beth mawr a pheth da.

Nawr, bydd y mesurau hyn hefyd yn ein helpu ni i leihau dominyddiaeth ceir ar ein bywydau a'n cymunedau. Bydd ein strydoedd yn fwy deniadol, bydd yr awyrgylch yn saffach ar gyfer beiciau a phobl sy'n cerdded, heb sôn am bobl gydag anableddau a phlant ifanc. A bydd y mesurau hyn yn siŵr o helpu ein hamgylchfyd. Bydd llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio, bydd llai o dagfeydd ar y strydoedd, bydd hyn hefyd yn gwella lefelau o lygredd aer a llygredd sŵn.

Wedi dweud hyn, mae rhai pryderon wedi cael eu crybwyll am y ffaith bod blanket approach yn cael ei ddefnyddio. Mae yna lefydd sydd â chyfyngiadau cyflymder o 30 mya ar hyn o bryd, sydd ddim yn llefydd preswyl, fel heolydd sy'n cysylltu stadau tai neu lefydd ar gyrion pentrefi a threfi. Buaswn i'n hoffi gwybod mwy am yr eithriadau all gael eu rhoi ar gyfer rhesymau teilwng a hefyd am yr adnoddau fydd ar gael i greu yr eithriadau yna, wrth gadw'n agos at yr egwyddor yma o leihau cyflymderau yn y llefydd lle mae pobl yn byw a phlant yn chwarae. Mae rhai cymunedau sy'n byw ar trunk roads yn poeni na fyddan nhw'n cael eu dal o dan yr un warchodaeth yma, fel y rhai ar hyd yr A470 a'r A487. Gweinidog, maen nhw angen yr un lefel o ddiogelwch. Mae hyn yn wir dros Gymru gyfan. A fyddech chi'n gallu rhoi gwybodaeth i ni yn ymateb i'r pryder hwn, os gwelwch yn dda?

Nawr, dwi'n gwybod bod yr Institute for Welsh Affairs yn cynnig y bydd y cyfyngiadau newydd, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, yn lleihau anghyfartaleddau rhanbarthol ac yn gwella cynhwysiad neu inclusion mewn cymunedau. Allwch chi roi mwy o wybodaeth i ni am hyn, plis? Dwi wedi clywed gan etholwyr ym Mynwy, lle mae'r rheolau newydd yma wedi bod mewn lle ers peth amser, a buaswn i'n gwybod os gall gwersi gael eu dysgu o'r pilot. Mae rhai gyrrwyr yn dal i ddod i arfer â'r terfyn newydd; ydy e'n bosibl i amser fod mewn lle cyn bydd cosb yn cael ei gyflwyno er mwyn helpu pobl i ddod i'r arfer â hyn? Ydy e'n bosibl i arwyddion fod yn glir? Mae rhai llefydd ym Mynwy lle mae'r arwyddion yn gwrthddweud ei gilydd; ar un heol, mae yna rai arwyddion yn dweud 20 mya, rhai eraill yn dweud 30 mya o hyd.

Ac yn olaf, Gweinidog, pan dŷch chi'n ymateb, allech chi ddweud pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i annog pobl gyffredin i ddeall pam mae'r newid yma yn cael ei gyflwyno? Dwi'n gwybod eich bod chi wedi sôn, pan oeddech chi'n siarad yn gynharach am behaviour change, am ba mor bwysig ydy hwnna, fel bod pobl yn teimlo bod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd er eu mwyn nhw, a ddim jest yn rhywbeth sy'n digwydd iddyn nhw. So, byddwn i'n rili gwerthfawrogi clywed mwy gennych chi am hwnna. Fel dwi'n dweud, rhai pryderon, ond yn gyffredinol, wrth gwrs, dŷn ni'n croesawu hyn yn fawr. Diolch yn fawr iawn.

17:10

Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rwy'n cynrychioli cymuned Bwcle sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun treialu ar gyfer y newidiadau arfaethedig hyn, a'r hyn sy'n bwysig i mi, Gweinidog, yw ein bod yn dysgu'r gwersi o'r treial hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o Fwcle a'r ardaloedd eraill ledled Cymru. Ond mae'n rhaid iddo ymwneud â pherthynas aeddfed rhwng awdurdodau lleol, sy'n deall eu cymunedau lleol a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu—yn yr achos penodol hwn, Cyngor Sir y Fflint—a Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn ymestyn llawer pellach na Bwcle ei hun yn unig, mae'n ymestyn ar draws cymuned Alun a Glannau Dyfrdwy, yr wyf i'n ei chynrychioli. Nawr, mae gan fy nhrigolion i bryderon gwirioneddol am lawer o'r prif ffyrdd. Mae llawer yn cefnogi 20 mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd, gan gynnwys ystadau tai, ger ysgolion ac ati, ond maen nhw eisiau bod ag eithriadau ar gyfer y priffyrdd a'r prif lwybrau hynny, ac rwy'n deall ac yn rhannu'r pryderon hyn. Mae'n rhaid i mi fod yn onest am hynny. Felly, Gweinidog, os ydym ni am wneud 20 mya yn sefyllfa ddiofyn—nid sefyllfa gyffredinol, ond sefyllfa ddiofyn—mae angen i ni ddod o hyd i ffordd lle mae gan awdurdodau lleol y grym i nodi'r ffyrdd penodol hyn. Enghraifft o ffordd benodol yw Ffordd Lerpwl ym Mwcle yn fy etholaeth i. Mae ganddyn nhw'r pwerau hynny, maen nhw'n cymhwyso'r eithriadau hynny, lle maen nhw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol. Felly, a wnewch chi gadarnhau'n glir ac ar y cofnod heddiw yma yn y Siambr y bydd gan awdurdodau lleol y pŵer i wneud hyn gyda'r cymunedau lleol sydd â'r wybodaeth leol honno, a thrwy gyfathrebu â nhw? Diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu at y cynnig heddiw ar Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, lle gallai Cymru, wrth gwrs, ddod y genedl gyntaf yn y byd i fabwysiadu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar strydoedd preswyl. Rwy'n dweud 'gallai', ond rwy'n siŵr bod chwip Llafur mor gryf â phosibl i'r holl feincwyr cefn ar yr ochr honno o'r Siambr hefyd.

Yn gyntaf, hoffwn i amlinellu fy siom llwyr, Llywydd, mai dim ond 30 munud a roddwyd i'r cynnig heddiw ar y papur trefn. Am newid mor sylweddol yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd, nid yw 30 munud, yn fy marn i, yn agos at fod yn ddigon.

Os na wnewch chi dynnu gormod o sylw at hynny, mae'n ddigon posibl y byddaf yn ymestyn yr amser, dydych chi byth yn gwybod. 

Hael iawn ohonoch chi, Llywydd. Ni soniaf amdano eto. [Chwerthin.]

Felly, fel y soniodd Natasha Asghar, rydym yn sicr yn cefnogi gadael i'n cynghorau roi terfynau cyflymder o 20 mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill, ac rwy'n sicr wedi gweld yr effaith honno ar yr ysgol y mae fy merched yn mynd iddi, lle rwyf wedi gweld bod diogelwch iddyn nhw y tu allan i'r ysgol honno, yn enwedig ar adegau prysur o'r dydd, yn bwysig. Ond mae'r dull cyffredinol hwn ar draws ein cymunedau, ar draws ffyrdd trefol yng Nghymru, heb gydnabod y gwahaniaethau enfawr yn ein cymunedau, yn ymddangos i mi fel ymateb difeddwl. Efallai y bydd hyn yn gweithio yng nghanol dinasoedd lle mae seilwaith da, trafnidiaeth gyhoeddus dda ar waith, ond nid oes gan lawer o'n pentrefi a'n trefi sy'n gysylltiedig â ffyrdd 30 mya ar hyn o bryd yr un system drafnidiaeth, yr un cysylltedd, yr un seilwaith—nid yw'n ddim byd tebyg i Gaerdydd, nid yw'n ddim byd tebyg i Abertawe, Gweinidog. Mae'r pentrefi a'r trefi gwledig hyn yn mynd i fod yn dioddef oherwydd hyn.

Fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n treialu'r cynllun hwn ar draws ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys, fel y nododd yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ym Mwcle yn y gogledd, lle cefais y pleser o gyfarfod â thrigolion a chynrychiolwyr lleol yr wythnos diwethaf. Wrth gyfarfod â'r trigolion hynny ym Mwcle sydd wedi bod â'r treial cyflymder yno, gwnaethon nhw dynnu fy sylw at nifer o faterion y maen nhw'n credu eu bod wedi eu nodi gyda'u llygaid a'u nodi o'u cwmpas. Maen nhw'n credu eu bod yn gweld lefel uwch o lygredd, maen nhw wedi gweld mwy o ddamweiniau a mwy o oedi. Ac maen nhw hefyd yn credu nad yw'r Llywodraeth wedi bod yn gwrando arnyn nhw ac ar eu pryderon drwy'r broses hon. Ac maen nhw'n poeni am lefel y llygredd, oherwydd yr hyn maen nhw'n sylwi arno yw ceir a gyrwyr yn gorfod gyrru mewn gêr is, gan gynhyrchu mwy o fwg. Maen nhw'n credu eu bod nhw wedi gweld mwy o ddamweiniau, oherwydd eu bod nhw'n credu eu bod wedi gweld mwy o yrwyr a'u sylw wedi ei dynnu wrth orfod ceisio byw o fewn y terfyn cyflymder newydd hwn. Ac maen nhw hefyd wedi gweld rhai risgiau sylweddol—fe wnaf ildio mewn eiliad, Jenny Rathbone—maen nhw hefyd wedi gweld risgiau sylweddol yn eu hymwneud â beicwyr hefyd, oherwydd eu bod nhw bellach yn gweld beicwyr yn goddiweddyd ceir, sy'n ymddangos braidd yn hurt. Jenny. 

17:15

Fel beiciwr, rwy'n cytuno ei bod yn berffaith bosibl mynd ar 20 mya fel beiciwr, ond mae hynny'n rheswm da dros fod ag 20 mya ar gyfer ceir. Siawns eich bod yn deall y bydd yn cymryd dros flwyddyn cyn i hyn fod yr opsiwn diofyn, ac mae hynny'n rhoi digon o amser i ni addysgu pobl y bydd yn 20 mya diofyn, ac eithrio lle'r ydym yn dynodi 30 mya.

Rwy'n derbyn y rhesymeg honno yn sicr ac yn deall hynny'n llwyr, ond yr hyn sydd wedi digwydd yma yw nad yw'r Llywodraeth wedi gwrando ar drigolion o ran y pryderon y maen nhw wedi eu codi drwy gydol y treial hwn. Fel y mae'r Aelod wedi sôn draw yn y fan yna, mae'n dreial, rydych chi'n iawn, ond byddech chi'n disgwyl i'r pryderon a'r wybodaeth a godir gan drigolion gael eu hystyried—[Torri ar draws.] Wel, mae wedi ei gyflwyno heddiw, yn y cynnig hwn yma heddiw. Gadewch i ni symud ymlaen.

O ran y gost, Llywydd—rydym ni'n sôn am £33 miliwn, fel y crybwyllwyd eisoes—rwy'n siŵr y byddai'n well gwario hwnnw ar gyflogi mwy o athrawon, meddygon a nyrsys yma yng Nghymru. Ynghyd â hyn, mae pryder gwirioneddol y bydd effaith enfawr ar fusnes a'r economi hefyd, oherwydd ni fydd yn caniatáu i bobl gyffredin fwrw ymlaen â'u gweithgareddau bywyd arferol ar yr un cyflymder, er enghraifft cyrraedd y gwaith, gollwng y plant yn yr ysgol. Bydd pobl yn treulio mwy o amser yn eu car, yn hytrach na bwrw ymlaen â'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. 

Yn ogystal â hyn, pryder mawr ynghylch cyflwyno terfyn cyflymder o 20 mya yw a fydd pobl yn gallu cadw at hyn a'r broses o orfodi hyn hefyd. Felly, dim ond y bore yma, cysylltodd un o fy etholwyr â mi o Fwcle gan ddweud y canlynol: 'Dim ond y bore yma, wrth i mi fynd ar Ffordd Lerpwl, bron i mi gael fy nharo gan gar a oedd yn goddiweddyd chwe char arall. Yn ffodus, gwasgais ar fy mrêcs mewn pryd, ond, pe bai traffig yn dod y ffordd arall, byddai wedi bod yn angheuol.' Nid oes gorfodaeth ar waith yno ar hyn o bryd, ac rwy'n deall na fydd gan yr heddlu y capasiti i roi rhagor o orfodaeth ar waith yno. 

Ysgrifennodd etholwr arall ataf a dweud, a dyfynnaf, 'Bydd gyrwyr sy'n gwirio eu cyflymder yn gyson, heb roi eu sylw llawn i amodau ffyrdd, yn ogystal â gyrwyr diamynedd sy'n ceisio goddiweddyd yn gwneud y ffyrdd yn fwy peryglus, nid yn llai.' [Torri ar draws.] Dim ond rhannu gwybodaeth ydw i; dydyn nhw ddim yn hoffi clywed beth sydd gan etholwyr neu breswylwyr i'w ddweud. Rwy'n rhannu gwybodaeth y maen nhw'n ei rhannu â mi.

Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n briodol â'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r treial hwn. Mae wedi achosi dicter gwirioneddol ar draws llawer o'n cymunedau. Yn ogystal â hyn, mae'n amlwg, i'r rhai hynny sydd wedi bod yn rhan o'r treial, nad yw wedi gweithio ac na fydd yn gweithio. Felly, o ystyried hyn, galwaf ar holl Aelodau'r Senedd i wrthod y Gorchymyn heddiw, a allai gael effaith beryglus ac sy'n gam yn ôl yn y ffordd yr awn ati i fyw ein bywydau bob dydd yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. 

Hoffwn groesawu'r newid hwn yn fawr iawn. Ydw, rwyf i hefyd wedi cael negeseuon e-bost di-rif ynglŷn â hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y mwyafrif wedi cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n deall y pryderon a godwyd, ac rwy'n falch o weld y bydd deialog rhwng awdurdodau lleol ac yn y blaen lle mae'n gwneud synnwyr i optio allan. Ond y gwir amdani nawr yw bod pobl yn cysylltu â ni sy'n poeni am oryrru mewn cymunedau ac ni ellir gwneud dim oherwydd na fu marwolaeth eto. Ac mae hynny'n aml yn wir yn y cymunedau hyn, ei fod yn seiliedig ar rywun yn gorfod marw cyn i'r cyflymder gael ei ostwng, ac nid yw hynny'n golygu na fu damweiniau neu fethiannau agos ac ati.

Rwy'n croesawu hyn yn fawr, oherwydd y gwir amdani yw nad yw llawer o rieni'n caniatáu i'w plant gerdded neu feicio i'r ysgol ar hyn o bryd gan nad yw ffyrdd yn ddiogel. Os oes gennym 20 mya a bod pobl yn glynu wrth hynny a bod dealltwriaeth mai 20 mya yw hynny—. Gan nad yw 20 mya dim ond y tu allan i ysgol yn ddigon. Rydym ni wedi bod yn siarad yn y fan yma am y ffaith bod yn rhaid i rai plant feicio neu gerdded tair milltir i'r ysgol gan nad oes bysiau ysgol ar gael. Felly, mae angen i ni feddwl am yr holl ardal gyfagos honno, ac mae hynny'n cynnwys ysbytai ac yn y blaen. Nid yw pobl yn teimlo'n hyderus—nid wyf i'n feiciwr hyderus ac yn y blaen—a thraffig sy'n goryrru yw un o'r problemau hynny sy'n atal llawer o bobl rhag gallu teithio'n llesol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Ac nid wyf i'n cytuno â dweud nad yw 20 yn ddigon yn y cymunedau hyn. Ni allwch chi ddweud ar y naill law eich bod yn ei groesawu y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai, ond peidio â meddwl am y seilwaith yn gyffredinol, a dyna sy'n cael sylw yma. Rwy'n credu y bydd yn llawer haws o ran negeseuon a chyfathrebu bod gennym y dull hwn, oherwydd yn fy nghymuned fy hun mae arwyddion ffyrdd 20 mya wedi bod yn rhan o'r treial yma y tu allan i ysgol, ac ni chafwyd y gostyngiad hwnnw sy'n ofynnol o ran goryrru y tu allan i'r ysgol gan nad yw wedi mynd law yn llaw â'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth honno. Mae'n ymddangos yn chwerthinllyd bod angen dweud wrth bobl neu eu hatgoffa i beidio â goryrru y tu allan i ysgolion, ond dyna'r realiti.

Rwy'n cytuno ag un pwynt a godwyd o ran gorfodi, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno: beth yw'r mesurau eraill y mae angen iddyn nhw fod ar waith i leihau goryrru? Gall hynny fod yn ddrud iawn yn aml, ac nid oes gan awdurdodau lleol y gefnogaeth honno, ac mae angen i ni feddwl amdano o ran seilwaith, drwy ehangu palmentydd ac yn y blaen—yr holl bethau hynny sy'n cefnogi teithio llesol, oherwydd ni fydd lleihau cyflymder yn datrys pethau lle nad oes gennym ni groesfannau i gerddwyr ac yn y blaen, yr holl bethau sy'n gwneud teithio llesol yn gynaliadwy ac yn opsiwn amgen. 

Rydym wedi cael negeseuon e-bost di-rif gan gymunedau—bydd Jane Hutt yn adnabod cymuned dwyrain Aberddawan yn dda, lle mae goryrru'n broblem enfawr. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned honno i deimlo y gallan nhw deithio'n ddiogel o amgylch eu pentref eu hunain. Gwyddom o gymunedau yng Nghaerdydd sydd wedi bod yn ymladd ac yn ceisio sicrhau hyn bod ofn arnyn nhw ar ran eu plant o ran llwybrau, a'r un peth ledled Rhondda Cynon Taf. Felly, oes, mae yna bethau y mae angen rhoi trefn arnyn nhw. Oes, mae angen i ni feddwl am effaith cefnffyrdd ac ati, a allai ddod—wyddoch chi, gallai goryrru waethygu yn yr ardaloedd hynny wrth i bobl geisio osgoi'r parthau 20 mya. Ond mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r dull ehangach hwnnw o wneud teithio llesol yn ddeniadol i bobl, i wneud ein cymunedau'n fwy diogel, ac rwy'n credu bod cymaint i'w groesawu o 20 mya.

Rwy'n credu drwy fod â'r neges honno, bod â'r ymgyrch hon, y byddwn yn gobeithio ei bod yn ffordd dda o wario arian i wneud ein cymunedau'n fwy diogel i'r rhai hynny—. Nid oes gan bawb gar chwaith, ac rwy'n credu bod angen i ni atgoffa. Mae rhywbeth am—. Ni all pobl fforddio rhoi petrol a diesel yn eu ceir, hyd yn oed, nawr. Rydym ni'n sôn am fwy o bobl sydd eisiau teithio llesol, a bydd hyn yn helpu hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at bleidleisio o blaid a chefnogi hyn, ond yn amlwg fel rhan o'r pecyn ehangach hwnnw, mae angen i ni edrych arno o ran y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen ag ef i wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Diolch.

17:20

Rwy'n gefnogwr cryf o 20 mya, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn troi ar ei phen y sefyllfa bresennol, fel mai 20 mya yw'r terfyn diofyn yn lle 30 mya a bod cynghorau'n gorfod bwrw ymlaen â gorchmynion eithrio er mwyn rhoi 20 mya ar waith, 20 mya yn dod y terfyn diofyn a 30 mya fyddai'r eithriad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ddiogelwch ar y ffyrdd, fel y clywsom ni, ond hefyd yn bwysig iawn o ran annog teithio llesol, beicio a cherdded, ac adennill ein strydoedd i blant ifanc chwarae ynddyn nhw ac i bobl hŷn deimlo'n fwy cyfforddus pan fyddan nhw'n cerdded o gwmpas. Mae'n rhan o'r agenda ehangach honno, rwy'n credu, i atal y car modur rhag rheoli ein cymunedau a chaniatáu mwy o le ac amser i fodau dynol wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud yn eu cymdogaethau eu hunain.

A bydd yn mynd law yn llaw â'r gwelliannau a welwn ni i system drafnidiaeth integredig, gyda darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus well o lawer, sydd, fel y gwyddom ni i gyd, yn rhan mor bwysig o berswadio modurwyr i adael eu cerbydau â'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny—ansawdd yr amgylchedd a'r aer, sydd mor bwysig i iechyd a'r amgylchedd. Rwy'n credu bod llawer iawn o blaid y polisi hwn.

Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost, fel y soniodd Aelodau eraill, ie, mae rhai ohonyn nhw'n codi pryderon, ond mae llawer ohonyn nhw'n cefnogi'n fawr. Ac mae cynllun treialu a ddatblygwyd gan y weinyddiaeth Geidwadol yng Nghyngor Sir Fynwy cyn yr etholiadau lleol diwethaf—mae bellach yn weinyddiaeth Lafur, wrth gwrs—ac mae'r treial hwnnw wedi bod yn ddadleuol. Yr hyn yr wyf i wedi ei glywed gan bobl leol yw bod llawer ohonyn nhw'n cefnogi'r polisi yn gyffredinol, ond bod ganddyn nhw bryderon yn enwedig ynglŷn â'r ffordd osgoi sy'n osgoi canol tref Cil-y-coed. Ac er clod i'r weinyddiaeth Lafur newydd, maen nhw wedi gwrando ar drigolion lleol, ac, wrth gwrs, awdurdodau lleol yw'r awdurdodau priffyrdd o hyd. Felly, maen nhw wedi edrych ar y pwerau sydd ganddyn nhw a'r treial, ac maen nhw bellach, mewn gwirionedd, yn mynd i gael gwared ar rywfaint o'r ffordd osgoi honno yng Nghil-y-coed o'r treial, ar ôl gwrando ar bryderon trigolion lleol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos bod awdurdodau lleol yn gallu gweithredu, yn gallu gwrando ac yn gallu ymateb i bryderon.

Gyda hynny i gyd yn y cefndir, rwy'n credu y bydd llawer o bobl, pan gaiff y polisi hwn ei gyflwyno ledled Cymru, yn gweld y manteision ac yn gefnogol, a pho fwyaf y bydd yr amser hwnnw'n mynd ymlaen, y cryfaf y bydd y gefnogaeth honno. Edrychaf ymlaen at weld cymunedau'n adennill eu strydoedd ar gyfer teithio llesol, ar gyfer chwarae, er cysur ac amwynder. 

17:25

Doeddwn i ddim yn mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon—

—ond ar ôl gwrando ar y dadleuon, roeddwn i eisiau gwneud cyfraniad byr. Edrychwch, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers 15 mlynedd, a dros y 15 mlynedd hynny rwyf wedi ymgyrchu dros barthau 20 mya mewn rhai rhannau o fy etholaeth i. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau rhai ohonyn nhw, ac mae'r Gweinidog yn llygad ei lle: mae'n cymryd gormod o amser i'w sicrhau. Ond mae'n cymryd gormod o amser oherwydd canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae pethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn cael gwared ar y rhwystrau heb orfod newid y terfyn cyflymder diofyn ym mhob ardal adeiledig i 20 mya.

Rwyf wedi gweld yr effaith y gall ei chael ar gymunedau lleol pan fydd gostyngiad yn y terfyn cyflymder; gall roi hyder i bobl allu bod yn fwy egnïol yn y ffordd y maen nhw'n teithio, ac rwy'n cytuno bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni geisio ei gynnwys. Ond rwy'n credu bod pethau doethach y gallwn ni eu gwneud gyda'r adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu defnyddio yma er mwyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn newydd hwn.

Byddwch chi'n deall y cyfeiriad hwn. Roeddwn i braidd yn amheus o ran y polisi hwn. Rwyf wedi newid fy meddwl yn llwyr. Stopio pan fyddwch chi'n gyrru 30 mya—chwe hyd car; mae stopio ar 20 mya yn dri hyd car. Fel tad i blentyn 20 mis oed, a byddwch chi'n gwybod hyn, gan fod gennych chi sawl plentyn eich hun—mae plant yn rhedeg. Gallwch chi eu dal nhw gymaint ag y dymunwch chi, ond maen nhw'n rhedeg, ac maen nhw'n rhedeg i draffig. Mae'n llawer mwy diogel—mae'n llawer mwy diogel, Darren—a byddwch chi'n cytuno â hyn: pan fydd y terfyn yn gostwng, mae meddylfryd pobl yn newid. Gwelsom hynny gydag yfed a gyrru. Mewn cenhedlaeth, newidiodd meddylfryd pobl ar yfed a gyrru. [Torri ar draws.] Mae gwregysau diogelwch yn enghraifft arall. Mae angen i ni newid ein meddylfryd o ran cyflymder, oherwydd bod plant yn cerdded ar bob palmant mewn ardaloedd canol dinas, nid dim ond o flaen ysgolion ac ysbytai.

Mae hynny'n iawn, ac, wrth gwrs, gallech chi leihau'r terfyn cyflymder i 15 mya neu 10 mya a hyd yn oed bod â therfyn stopio byrrach. Nid wyf yn credu mai'r ffaith o reidrwydd yw bod hwn yn gynnig 20 mya sy'n broblem, oherwydd, fel y dywedais i, rwyf wedi cefnogi 20 mya mewn rhai mannau. Mae'n ymwneud â ph'un ai dyma'r defnydd cywir o adnoddau er mwyn gwella diogelwch ar ein ffyrdd ac er mwyn bod pobl yn fwy egnïol.

Nawr, gwyddom ni fod angen mwy o fuddsoddi arnom mewn llwybrau beicio, er enghraifft, a llwybrau teithio llesol a rennir yn ein cymunedau. Gwyddom hefyd fod lle i derfynau cyflymder deallus, lle maen nhw'n newid ar adegau penodol o'r dydd, boed hynny'n amser codi a gollwng y tu allan i ysgolion, sydd gennym mewn rhai rhannau o Gymru, gyda pharth 20 mya sy'n dechrau am gyfnod byr ac yna mae'n mynd yn ôl i fyny i 30 mya, neu hyd yn oed derfynau cyflymder tymhorol. Wyddoch chi, mewn mannau prysur lle mae gennych chi lawer o dwristiaid yn yr haf, mae hi weithiau'n fwy priodol lleihau'r terfyn cyflymder ar gyfer y tymor twristiaeth cyfan—y Pasg a'r haf a beth bynnag.

Ond dydw i ddim yn siŵr mai dyma'r dull cywir. Rwy'n mynd i fod yn pleidleisio yn ei erbyn. Fel y dywedais i, rwyf wedi cefnogi'r pethau hyn lle y bo'n briodol mewn mannau yn fy etholaeth i, ac mae gen i rai brwydrau ar fy nwylo o hyd. Ond yr hyn y byddwn i'n pledio gyda chi i'w wneud, Gweinidog, a byddai'r gost yn ffracsiwn i chi o'r tua £30 miliwn yr ydych chi eisiau ei daflu at y cynllun penodol hwn, yw defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw yn lle hynny i newid y canllawiau i ddileu'r rhwystrau hynny er mwyn, pan fydd mater yn cael ei nodi—. Ac nid oes rhaid i chi gael marwolaeth, mewn gwirionedd, er mwyn lleihau'r terfyn cyflymder i 20 mya; ni chawsom farwolaethau yn fy etholaeth fy hun a gwnaethom ni lwyddo i wneud hynny, felly nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn cael y cyngor hwnnw, Heledd Fychan, gan yr awdurdodau lleol yn eich rhanbarth chi. Ond os byddwch chi'n dileu'r rhwystrau hynny, os byddwch chi'n ei gwneud yn broses amserlen fyrrach, lle mae pawb yn cytuno bod terfyn o 20 mya yn briodol, yna gallwn ni fwrw ymlaen a gallwn gyflwyno'r pethau hyn.

Rwy'n credu mai'r hyn y byddwch chi'n ei gael yw llwyth o bobl sy'n dymuno gwneud llwyth o eithriadau i'r 20 mya diofyn newydd hwn, ac mae hynny'n mynd i arafu popeth fel na fyddwn yn cael y dull strategol priodol o ymdrin â'n ffyrdd a'n priffyrdd. Mae'n mynd i fynd â'r bobl hynny oddi wrth wneud y pethau teithio llesol yr ydym ni hefyd am iddyn nhw fod yn gweithio arnyn nhw—datblygu'r llwybrau beicio newydd, rhoi'r croesfannau i gerddwyr lle mae angen iddyn nhw eu rhoi, mynd i'r afael â'r problemau eraill yn ein systemau ffyrdd a thrafnidiaeth—eu tynnu nhw oddi wrth annog pobl i wneud y newid moddol hwnnw i fathau eraill o drafnidiaeth yn hytrach na'r car, ac rwy'n credu y bydd llawer o ganlyniadau anfwriadol i hynny.

Dysgwch o'r cynlluniau treialu hyn. Mae pobl wedi codi pryderon yn yr ardaloedd treialu. Rwy'n sylweddoli na fydd rhai pobl byth am weld parth 20 mya—eu problem nhw yw hynny. Dydw i ddim yn cytuno â hynny, iawn? Ond mae'n rhaid i chi wrando ar bobl pan fyddan nhw'n codi pryderon, ac yn yr ardaloedd treialu hyn mae llawer o bryderon wedi eu codi. Felly, ni ddylem fod ar frys i gyflwyno hyn. Dylem ni fynd i mewn gyda'n llygaid yn gwbl agored. Bydd canlyniadau anfwriadol os byddwn yn gwneud y penderfyniad hwn heddiw, felly byddwn i'n annog pawb i feddwl yn ofalus. Rwy'n cytuno bod angen i ni arafu cyflymderau. Mae angen i ni orfodi'n well yn erbyn y terfynau cyflymder presennol, ond nid dyma'r dull cywir, Gweinidog.

17:30

Wrth ddarllen yr adroddiad, gwelais fod 80 y cant o bobl o blaid 20 mya i ddechrau, ond dangosodd ymgynghoriad y llynedd fod canlyniadau cymysg gyda 47 y cant o blaid bryd hynny. Daeth eithriadau bwrdd gwaith yn broblem pan gawson nhw eu cyflwyno mewn gwirionedd, yn dilyn y cynlluniau treialu a gynhaliwyd ym Mwcle yn Sir y Fflint, ac ni chaniatawyd i swyddogion wneud eithriadau lleol i ddileu prif lwybrau allweddol, gan nad oedden nhw'n cyd-fynd â thempled Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod angen y canllawiau cenedlaethol ar gyfer cysondeb, ond mae angen i swyddogion cynghorau fod â hyblygrwydd a ganiateir ar gyfer gwneud penderfyniadau lleol, a gobeithio, wrth wrando ar y trafodaethau, gan mai nhw yw'r awdurdod priffyrdd, y bydd hynny'n digwydd ac y byddan nhw'n diystyru. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog a oes unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i'r templed meini prawf eithriadau a fydd yn caniatáu i gynghorau wneud y penderfyniad lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru, fel y gellir gwneud prif lwybrau fel Ffordd Lerpwl ym Mwcle yn ôl i fyny i 30 mya.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am eu cyfraniad i'r gyfres hon o reoliadau? I ateb un neu ddau o'r cwestiynau a godwyd gan Huw yn ei rôl fel Cadeirydd, roeddem ni'n awyddus i osgoi unrhyw her ddiangen i'r rheoliadau, felly mae gan y pwynt am vires gryn bwysau gyda ni. Ac yna o ran yr effaith ar orfodi a'r system cyfiawnder troseddol, bydd GoSafe, yr heddlu, Speedwatch Cymunedol a chamerâu gorfodi yn gorfodi. Bydd y gwasanaethau tân ac achub yn cymryd rhan, neu wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu rhaglen addysg, felly gellir cynnig cwrs i'r rhai hynny sy'n torri'r terfyn cyflymder ond nid yn ormodol os nad ydyn nhw eisiau cael dirwy, yn debyg iawn i'r sefyllfa ar hyn o bryd. Yn amlwg, bydd modurwyr sy'n diystyru'r terfyn cyflymder yn llwyr yn cael dirwy yn y ffordd arferol ac yn y pen draw byddan nhw'n mynd i'r llys, ond nid ydym yn credu bod effaith enfawr felly ar y system cyfiawnder troseddol, ac rydym yn credu y bydd yn lleihau dros amser beth bynnag. Felly, dim ond i ateb y pwyntiau hynny.

Gan droi at y cyfraniadau, yn arbennig, gan Natasha Asghar a phobl ar feinciau'r Torïaid, beth allaf i ei ddweud? Yr un hen Dorïaid. Rydych chi'n cytuno ag ef mewn egwyddor, ond nid ydych chi eisiau gwneud y peth penodol hwn. Rydych chi'n cytuno â newid hinsawdd mewn egwyddor, ond nid ydych chi eisiau gwneud y peth penodol hwn. Rydych chi'n cytuno ag iechyd mewn egwyddor, ond nid ydych chi eisiau gwneud y peth penodol hwn. Dydych chi byth eisiau gwneud unrhyw beth penodol. Rydych chi eisiau cytuno arno mewn egwyddor, ond byth yn cymryd unrhyw gamau o gwbl, ac nid yw hynny'n ddigon da.

Rydych chi'n siarad â mi am wastraff adnoddau. Ble'r oeddech chi pan dynnodd Llywodraeth San Steffan filiynau o bunnoedd oddi ar y Llywodraeth hon i brynu arfau i Wcráin? Achos teilwng, ond mater sydd wedi ei gadw yn ôl yn llwyr. Dydw i ddim yn cofio corws o gwynion gan feinciau'r Torïaid am y defnydd o adnoddau ar yr adeg honno. Dywedodd un o'ch Aelodau eich hun wrthyf, yn y Siambr hon, nad ei waith ef oedd poeni am adnoddau—cyfraniad hurt i'r ddadl honno. Ni fyddaf yn cymryd unrhyw wersi gennych chi am y defnydd o adnoddau; nid oes gennych chi ddim syniad am beth yr ydych chi'n siarad. Mae hynny'n nonsens llwyr, ac rydych chi'n gwybod hynny.

Darren Millar, rwy'n ofidus iawn amdanoch chi. Rydych chi wedi bod yn gefnogwr i hyn ar hyd eich oes. Gwnaeth Sam Rowlands yn ddigywilydd ddweud bod fy meincwyr cefn yn dilyn chwip lem. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych nad ydyn nhw. Maen nhw o blaid hyn yn llwyr. Ond chi, Darren Millar, nid wyf i mor siŵr amdanoch chi. Efallai y bydd yn rhaid i ni gael sgwrs am hynny wedyn. Ond nid yw'r syniad mai chwip llym yw hwn yn dderbyniol. Dydw i ddim yn derbyn hynny. Nonsens llwyr yw hynny.

Felly, fe wnaf ailadrodd y pwyntiau yr oeddwn i'n eu gwneud yn gynharach. Ar gyfartaledd, mae 80 o bobl y flwyddyn—80 o bobl y flwyddyn—yn marw ar ffyrdd Cymru; 80 o deuluoedd na fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Pedwar ugain. Mae symud i derfyn cyflymder cenedlaethol o 20 mya ar gyfer ffyrdd preswyl yn eu gwneud yn fwy diogel. Mae'n achub bywydau; mae'n atal bywydau'r teuluoedd hynny rhag cael eu difetha ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid yn unig teuluoedd y bobl hynny sy'n cael eu lladd, ond y gyrwyr eu hunain, y mae eu bywydau nhw hefyd yn aml yn cael eu difetha hefyd. Felly, bydd hyn yn achub bywydau, bydd yn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, bydd yn annog mwy ohonom ni i gerdded a beicio ac adennill y strydoedd ar gyfer ein plant.

Nid ydym o dan unrhyw gamargraff nad yw hyn yn newid ymddygiad enfawr, ac rwyf yn ddigon hen i gofio'r newid i wregysau diogelwch, fel y mae'n digwydd. Rwy'n cofio'r honiadau o ddicter am atal rhyddid a pha mor warthus ydoedd fod yn rhaid i chi wneud hynny; doeddech chi ddim yn cael rhoi wyth o blant yn y sedd gefn ac ati. Ni fyddai'r un ohonom ni'n breuddwydio gwneud hynny yn awr; rydym ni i gyd yn gwisgo ein gwregysau diogelwch oherwydd ein bod yn gwybod ei fod yn achub ein bywydau ac mae'n achub bywydau pobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd. Bydd hyn yr un fath yn union; mae'n newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae'n edrych yn anodd nawr. Erbyn y bydd fy wyres sydd bron yn ddwy oed mor hen â fi, bydd hyn mor arferol fel na fydd neb byth yn meddwl amdano.

Ac nid newid cyffredinol yw hwn. Mae'r gwahaniaeth rhwng newid cyffredinol a diofyn yn wirioneddol bwysig, ac rwy'n gwybod eich bod chi yn gwybod hynny. Rydych chi ond yn defnyddio hynny fel platfform. Felly, diofyn yw hyn. Mae system o eithriadau y byddwn ni'n gweithio arnyn nhw gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod ganddyn nhw yr adnoddau a'r dystiolaeth i wneud i'r eithriadau gyfrif, a bod yr awdurdod lleol yn ystyried barn ei gynghorwyr a'i drigolion lleol, ond bod ganddo sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny, a fydd yn caniatáu i ni fod â'r terfyn cyflymder iawn ar gyfer y ffordd iawn gyda 20 mya yn ddiofyn. Felly, y dybiaeth o 20 mya ac yna'n ddiofyn. Ie, Darren.

17:35

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Felly, fel y dywedais yn gynharach, un o'r problemau gyda'r system bresennol lle gallan nhw wneud y newid i 20 mya yw'r amser y mae hynny'n ei gymryd. Os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn—ac rwy'n eich annog i beidio â gwneud hynny—ond os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn a'ch bod yn llwyddo i gael y pleidleisiau i wneud hynny heddiw, a wnewch chi ein sicrhau y bydd gennych chi broses gryno, amserlen fer i allu caniatáu'r eithriadau hyn, lle y gallai fod angen eithriad ar gyfer 30 mya neu 40 mya neu beth bynnag y bo, yn y mannau hynny lle mae'n briodol?

Yn wir, yn sicr. Felly, bydd proses eithriadau. Nid yw'r broses eithriadau—. Mae'n rhaid i mi gywiro fy nghyd-Aelod Carolyn Thomas: nid yw'r broses eithriadau yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Datblygwyd y broses eithriadau gan grŵp sy'n gweithio gyda ni a'n hawdurdodau lleol i ganfod y ffordd fwyaf effeithlon o wneud y broses eithriadau, i ystyried beth yw'r sylfaen dystiolaethol sydd ei hangen, beth yw barn y bobl leol a'r cynghorwyr lleol, a sut y gall yr awdurdod hwnnw wneud y dyfarniad heb fygythiad adolygiad barnwrol a her wrth gwrs—bod ganddo'r sylfaen dystiolaethol gywir—ac fel nad oes gennym feini prawf eithriadau gwahanol iawn ledled Cymru. Ond yn y pen draw, yr awdurdod lleol fel yr awdurdod trafnidiaeth sy'n gwneud y broses honno.

Felly, nid wyf i'n sefyll yma i ymddiheuro am wneud ffyrdd yng Nghymru yn fwy diogel. Mae cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd ar 30 mya o'i gymharu ag 20 mya, fel y nodwyd; digwyddodd 52 y cant o'r holl achosion ar ffyrdd 30 mya yn ystod 2019; ac fel y nododd Mark Isherwood mewn gwirionedd, mae 2.5 y cant o'r holl ffyrdd yn 20 mya. Darren, rydych chi eich hun wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gynyddu'r nifer hwnnw. Mae hyn yn ein gwneud ni i gyd yn fwy diogel, ond mae'n amlwg nad yw'n ddull cyffredinol. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn. Ewch chi, Sam.

A fyddech chi'n derbyn, felly, y rhesymeg yr ydych yn ei ddefnyddio yn y fan yna, os ewch chi ag ef i'w ben rhesymegol, o ran cyflymder llawer llai, llai o berygl o farwolaeth ac anaf, a allai fod yn wir yn sicr, y dylai gyrru ar 1 mya fod yn ddiofyn felly?

Na, oherwydd y dystiolaeth yw, Sam, ar gyfer y daith gyfartalog yng Nghymru, mai'r amser ychwanegol y bydd yn ei gymryd i chi yw un funud i achub yr holl fywydau hynny. Mae'n werth gwneud hynny, onid yw e? Dyna'r sylfaen. Mae pobl yn arafu; rydych chi wedi ei weld eich hunain. Maen nhw'n goddiweddyd tri char ar ffordd wledig ac yna rydych chi y tu ôl iddyn nhw wrth y goleuadau traffig. Mae'n beryglus iawn; dydyn nhw ddim yn gallu gweld o gwmpas y corneli. Rwy'n gwybod eich bod yn gwybod hyn. Roeddech chi'n gwybod hyn o'ch amser chi yng Nghonwy. Russell.

Gweinidog, roedd gen i gryn gydymdeimlad â'r treialon a gynhaliwyd, ond fe wnaethoch chi sôn am y gost hefyd, ac yna cyfiawnhau'r gost. Ond cefais lythyr y bore yma gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a'i enw oedd 'Faint yw gwerth eich bywyd chi a'ch anwyliaid?' Ac mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud os oes gennym ni fwy o nyrsys, os oes gennym ni gyfradd gyflog uwch, bydd yn denu mwy o nyrsys, bydd gennym ni fwy o nyrsys a bydd hynny'n achub bywydau. Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud, bob awr, drwy gydol y dydd, fod nyrsys yn gwneud penderfyniadau sy'n achub bywydau. Felly, mae meysydd eraill y gallem ni wario arian arnyn nhw a fyddai o bosibl yn achub llawer iawn o fywydau. Onid ydych chi'n derbyn yr egwyddor honno?

Wrth gwrs, mae meysydd a fydd yn achub llawer iawn o fywydau, ond fe wyddoch chi gystal â minnau, os oes damwain traffig ar y ffordd yn agos at ganolfan drawma, fod yr oriau aros yn codi ar gyfer y cleifion yn yr adran damweiniau ac achosion brys wrth i'r achosion trawma hynny ddod i mewn o ddamweiniau traffig ffordd. Felly, nid yw hynny—. Mae honno'n sylfaen gwbl anghywir i'w seilio arni. Mae hyn yn achub bywydau. Mae hyn yn arbed adnoddau'r GIG, wrth gwrs. Dylai'r 80 o bobl hynny gael eu hachub rhag marwolaeth ac anafiadau difrifol, a'u cadw allan o'r GIG. Anwiredd llwyr yw hynny, y ffordd yr ydych chi'n troi hynny o gwmpas. Rwyf newydd ddweud fy marn ar y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â chyllidebau, ac rwyf yn ei ailadrodd yn awr.

Mae cyflymderau is yn golygu bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio. Mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol, ac mae pobl hŷn hefyd yn teimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol ac yn ddiogel. Mae gen i derfyn o 20 mya yn agos iawn ataf i, ac mae'r gwahaniaeth yn y pentref hwnnw wedi bod yn gwbl ryfeddol, ac mae pobl allan ar eu strydoedd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, yn gallu cerdded o gwmpas yn ddiogel a pheidio â bod yn edrych dros eu hysgwydd drwy'r amser. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cymunedau mwy diogel. Mae'n eu gwneud yn lleoedd brafiach i fyw a gweithio ynddyn nhw. Ac mae'r syniad nad yw hyn yn wir mewn ardaloedd gwledig hefyd yn anwiredd.

Rwy'n gwybod eich bod chi i gyd yn credu bod eich mewnflwch eich hun yn rhyw fath o arbrawf gwyddonol mewn poblogrwydd a'r hyn y mae'r polisi hwn yn ei olygu, ond, mewn gwirionedd, rydym wedi cynnal ymchwil helaeth ar hyn, ac mae mor boblogaidd mewn ardaloedd gwledig ag ydyw mewn ardaloedd trefol. Nid yw pobl mewn ardaloedd gwledig yn teimlo'n ddiogel ar lonydd gwledig cul gan fod pobl yn mynd yn rhy gyflym. Dydyn nhw ddim. Dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel i feicio, dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel i gerdded. Nid rhaniad trefol/gwledig yw hwn, ni waeth faint yr ydych chi eisiau ei wneud yn hynny. Ac mewn ardaloedd trefol, byddai 20 mya yn ymddangos fel—. Wel, dydw i ddim yn gwybod pryd oedd y tro diwethaf i mi allu mynd dros tua 6 mya mewn unrhyw ardal drefol. Felly, nonsens yw'r syniad bod 20 mya rywsut yn cyfyngu ar amseriad trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen. Mae'n debyg y bydd yn cyflymu nifer y ceir sy'n teithio ar ein ffyrdd mewn gwirionedd. Felly, nonsens llwyr yw hynny.

Mae gennym ni ddyletswydd i bobl Cymru i gyflwyno'r mesur hwn. Bydd yn un o'r pethau y byddwn yn eu gwneud yn gyntaf y cawn ein beirniadu amdano gan y Torïaid ac yna byddwch chi'n dilyn ein hesiampl yn fuan. Gallaf eu rhestru eto os mynnwch chi: y bagiau plastig, rhoi organau. Gadewch i ni obeithio, un diwrnod, y bydd presgripsiynau am ddim dros y ffin hefyd, fel y gallwch chi ddilyn ein harweiniad. [Torri ar draws.] Rwy'n credu eich bod chi wedi cael cryn dipyn o ymyriadau, Darren. Dydw i ddim yn cymryd un arall.

17:40

Roeddwn am gywiro'r cofnod. Roedd cyfeiriad yn y fan yna at y bagiau plastig. Doeddem ni ddim yn erbyn hynny. Yn wir, ni wnaeth gynnig y tâl am fagiau plastig.

Na, dim ond tynnu sylw at y ffaith mai Cymru a aeth gyntaf, ac yna dilynodd Lloegr oeddwn i.

Na, fe wnaethoch chi ddweud ein bod wedi gwrthwynebu.

Ac roeddwn i'n gwneud y pwynt y bydd hyn yn wir—

Fe wnaethoch chi ddweud ein bod ni wedi gwrthwynebu.

Naddo, wnes i ddim. Dywedais i mai Cymru a aeth gyntaf, a Lloegr yn dilyn.

Fe wnaethoch chi ddweud ein bod ni wedi gwrthwynebu. Gwiriwch y Cofnod.

A Lloegr yn dilyn, a bydd hyn yn digwydd yn y fan yma. Felly, Llywydd, rwy'n llwyr argymell y cynnig hwn i'r Senedd, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a fydd yn gwneud pobl Cymru'n fwy diogel ac yn falch iawn o'u cymunedau. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022

Eitem 12 yw'r eitem nesaf. Rhain yw'r Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i godi ar ei thraed i gyflwyno'r rheoliadau yma eto. Julie James.

Cynnig NDM8051 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018. Mae rheoliadau 2018 yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd planhigion ac, yn benodol, ffioedd penodol sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwirio mewnforion planhigion a chynhyrchion planhigion. Mae'r ffioedd hyn yn adennill cost gwaith yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghymru. Diben y gwiriadau hyn yw diogelu Cymru rhag lledaenu plâu a chlefydau niweidiol mewn planhigion sy'n cael eu tyfu ac yn yr amgylchedd ehangach.

Mae'r rheoliadau'n cyflwyno ffi cyfradd safonol tymor byr o 22 Gorffennaf ar gyfer planhigion i'w plannu, ac eithrio hadau a bylbiau segur, a thoriadau. Mae hyn yn adlewyrchu amlder newydd y gwiriadau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022. Gyda'i gilydd, mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu trefn arolygu newydd wedi ei thargedu gan risg ar gyfer llwythi o blanhigion a fewnforiwyd. Mae'r diwygiadau arfaethedig hefyd yn adfer ffioedd ar gyfer samplau heintiedig tybiedig a gymerwyd ar fewnforion. Mae hyn yn sicrhau y gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion adennill costau ar gyfer profion labordy i gadarnhau presenoldeb pla planhigion rheoledig. 

Ac yn olaf, mae'r rheoliadau'n ymestyn y cynllun cymorth symud tan fis Rhagfyr 2023. Mae'r cynllun yn cefnogi masnachwyr sy'n symud llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu nwyddau eraill o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Bydd yn cynorthwyo masnachwyr gyda chyngor ac arweiniad i gydymffurfio â rheolau iechydol a ffytoiechydol newydd. Mae'r gwelliant hwn yn adleisio newidiadau sy'n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r DU. Mae'n hanfodol sicrhau nad yw busnesau a mewnforwyr planhigion a chynhyrchion planhigion yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r DU. Diolch.

Diolch, Llywydd, ac am y tro olaf heddiw, Gweinidog. [Chwerthin.]

Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn brynhawn ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt adrodd am rinweddau. Nid ydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb i'r pwyntiau hynny, ond mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn gwneud sylw am fater pwysig y mae’n werth ei amlygu ar gyfer y Senedd.

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, sy'n pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio. Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn nodi:

Mae'r ffioedd ar gyfer archwiliadau iechyd planhigion a bennir gan Reoliadau 2018 yn cael eu diwygio yn yr offeryn hwn i adlewyrchu amlder y gwiriadau a sefydlwyd o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022'.

Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi gwneud rheoliadau ynghylch amlder gwiriadau ac maen nhw'n dod i rym yr wythnos nesaf. Fel y mae'r Gweinidog wedi ei wneud yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei chydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau amlder gwiriadau. Y rheswm rwy'n codi hyn heddiw i'r Senedd yw dangos, gan ddefnyddio'r enghraifft hon, gymhlethdod cynyddol deddfu i Gymru—dwy Lywodraeth a dwy Senedd sy'n gwneud darnau o'r gyfraith ar yr un mater, ar yr un pryd.

Rydym ni'n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch cydsyniad Llywodraeth Cymru i'r rheoliadau amlder gwiriadau, oherwydd bod gennym ni bryderon nad yw materion pwysig, fel y cysylltiadau â fframweithiau cyffredin, ymwahanu oddi wrth gyfraith yr UE, a'r ffaith ei bod yn ymddangos bod y rheoliadau'n darparu ar gyfer dull polisi newydd posibl, wedi eu hystyried yn llawn eto yn yr wybodaeth y mae'r Gweinidog wedi ei darparu i'r Senedd. Er enghraifft, mae graddau yr ymgynghori â rhanddeiliaid yng Nghymru yn benodol cyn eu cyflwyno hefyd yn aneglur. Gofyn ydw i i'r Gweinidog ystyried y pwyntiau hyn yn ei sylwadau cloi. Gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol, wrth godi hyn heddiw, i ddangos i'r Senedd, unwaith eto, y cymhlethdod cynyddol yn y meysydd hyn gyda dwy Lywodraeth yn deddfu ar yr un mater ar yr un pryd.

17:45

Nid oes gen i unrhyw siaradwyr eraill. Y Gweinidog i ymateb.

Yn fyr iawn, rydym yn diolch i'r pwyllgor am ei waith. Ni wnaethom ymateb gan na wnaeth y pwyllgor ofyn am un, ond dim ond i ddweud bod Lesley Griffiths a minnau wedi codi'r un mater mewn llawer o gyfarfodydd rhyng-weinidogol, ac yn wir, rydym ni wedi ysgrifennu am y ffordd y mae'r cytundebau fframwaith yn gweithio mewn modd tebyg iawn. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 12 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Eitem 13 sydd nesaf, sef y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.

Cynnig NDM8050 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig.

Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio'r rheoliadau presennol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a rheoliadau sy'n deillio o'r Ddeddf honno.

Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn gam arall tuag at wireddu ein nod o broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, parhau i wella ansawdd y gofal a sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maen nhw'n eu haeddu. Mae cofrestru yn cydnabod cyfrifoldeb proffesiynol gweithwyr gofal cymdeithasol, sy'n darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl yn ein cymunedau. Bydd y rheoliadau hyn yn cyflwyno gofyniad bod cyflogeion a gweithwyr mewn gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd wedi eu cofrestru gyda rheoleiddiwr y gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru. Os cânt eu pasio heddiw, byddan nhw'n dod i rym ar 1 Hydref.

Mae'r diwygiadau hyn yn dilyn y broses orfodol o gofrestru gweithwyr gofal cartref yn orfodol ac maen nhw bellach yn ceisio symud y sector o gyfnod cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal oedolion presennol a gweithwyr gwasanaeth canolfannau preswyl i deuluoedd. Mae cofrestru'n helpu i ddarparu mwy o fesurau diogelu i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn fel y gallan nhw fod yn hyderus, fel y gall eu teulu a'u ffrindiau, fod gan weithwyr gofal cymdeithasol sy'n darparu eu gofal a'u cymorth gymwysterau priodol a'u bod yn gallu cael eu dwyn i gyfrif yn erbyn cod ymarfer proffesiynol a nodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r rheoliadau'n darparu ar gyfer darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd i gyflogi dim ond yr unigolion hynny sydd wedi eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i ddechrau gweithio. Roedd hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â chontract gyda'r darparwyr gwasanaeth hyn, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n helaeth gyda'r sector er mwyn cefnogi'r gweithwyr hyn i gofrestru erbyn y dyddiad cau ym mis Hydref. Diolch.

Does gen i ddim cyfranwyr i'r ddadl, felly dwi'n cymryd—. 

Nid wyf yn gwybod a yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb iddi hi ei hun. Fe gymeraf yn ganiataol nad ydych chi. Nid oes gen i unrhyw siaradwyr eraill yn y ddadl.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

17:50

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Eitem 14 yw'r eitem nesaf, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.

Cynnig NDM8053 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n symud y cynnig ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r rheoliadau'n caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar naw corff Prydeinig o'r sector iechyd, sef wyth corff rheoleiddio proffesiynol a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae dros 120 o gyrff eisoes yn dod o dan y safonau, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Bydd cynnwys y cyrff rheoleiddio o dan y drefn safonau yn symud mwy o gyrff iechyd o'r hen drefn cynlluniau iaith i'r drefn safonau ac yn cryfhau hawliau unigolion wrth ddelio â'r sector. Mae'r rheoliadau wedi'u paratoi yn benodol ar gyfer y cyrff hyn, gan ffocysu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu i'r cyhoedd. Mae'r safonau hefyd yn rhoi hawliau i weithwyr iechyd os ydyn nhw'n destun cwyn neu wrandawiad addasrwydd i ymarfer.

Rhan o'r jig-so yw'r rheoliadau hyn er mwyn gwireddu'r nod o gynyddu defnydd—a dyna sy'n bwysig—o wasanaethau Cymraeg. Bydd angen cefnogi'r cyrff i adeiladu capasiti i gynnig mwy o wasanaethau Cymraeg. Bydd swyddfa'r comisiynydd ar gael i gynnig arweiniad i'r cyrff wrth iddyn nhw fynd ar eu taith iaith. Bydd partneriaid eraill fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd ar gael i gynnig help i'r cyrff a'u staff, os byddan nhw'n dymuno dysgu Cymraeg, i allu cynnig gwell gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Mae'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn ymrwymo i gyflwyno'r camau rwy'n eu datgan heddiw.

Yn olaf, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am gyflymu'r broses o adrodd ar y rheoliadau hyn wedi inni eu hailosod? Fe wnaeth cydweithrediad y pwyllgor sicrhau fod y ddadl hon yn gallu mynd yn ei blaen heddiw.

Diolch, Weinidog. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu o ran y safonau yma heddiw. Oherwydd, wedi'r cyfan, dyma'r set gyflawn gyntaf o reoliadau safonau i ddod gerbron y Cyfarfod Llawn ers 20 Mawrth 2018, sef dros bedair blynedd yn ôl. Ac mae sawl rheswm dros yr oedi, gan gynnwys penderfyniad y Llywodraeth flaenorol i roi rhaglen safonau ar stop yn ystod y cynigion a dadleuon i gyflwyno Bil y Gymraeg newydd ac, yn ddiweddarach, y pandemig, wrth gwrs.

Wrth groesawu hyn heddiw, sy'n nodi ailddechrau cyflwyno'r rhaglen safonau, hoffwn edrych ymlaen nid yn ôl, oherwydd mae cyflwyno dyletswyddau iaith yma yn gam pwysig ymlaen ar sawl ystyr fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol. Mae'n hanfodol bwysig bod y Gymraeg wrth galon y gwaith ailgodi yn y sector iechyd wrth inni ddechrau adfer gwasanaethau wedi'r pandemig. Bydd rheoliadau rhif 8, o'u cymeradwyo heddiw, yn golygu bod pawb yn y sector o dan yr un drefn ac yn cywiro'r sefyllfa bresennol, sydd yn golygu bod y gwaith ar ei hanner: y byrddau iechyd dan safonau tra bo'r cyrff yma, sy'n gyfrifol yn bennaf am oruchwylio'r gweithlu iechyd, dan gyfundrefn cynlluniau iaith Deddf 1993, a ninnau wedi deddfu yma ers 2011 i greu cyfundrefn bwrpasol i hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg i Gymru.

Yn ogystal â thanlinellu'r trywydd ehangach o symud y gwaith o weithredu Mesur y Gymraeg yn ei flaen, mae hawliau iaith penodol newydd a phwysig yn cael eu creu yn sgil y rheoliadau. Fe gyfeiriodd y Gweinidog at rai, ond, wrth gwrs, y rhai pwysig ydy: yr hawl i'r cyhoedd yng Nghymru wneud cais am swydd yn Gymraeg gyda'r cyrff dan sylw, ac i weithiwyr y cyrff allu cael gwersi Cymraeg am ddim; yr hawl i ymarferwyr a'r proffesiynau iechyd sy'n wynebu cwynion yn eu herbyn i gael ymwneud yn Gymraeg â'r broses drwyddi draw, ar lafar ac yn ysgrifenedig; a'r hawl i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru allu gweld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu hymwneud â'r cyrff. 

Cyn dyfodiad y Mesur, doedd dim cyfundrefn effeithiol i orfodi'r ymrwymiadau oedd yn cael eu gwneud gan gyrff i siaradwyr Cymraeg, a dim corff gyda dannedd i wrando ar gwynion. Bellach, mae'n rheidrwydd ar y comisiynydd i ystyried cwynion o'r fath, yn golygu bod unigolion sy'n profi rhwystrau i gael gofal yn Gymraeg yn cael eu trin gydag urddas a pharch—rhywbeth sy'n hollbwysig o ystyried y gall pobl sâl a bregus orfod troi at y cyrff dan sylw lle bo ganddynt gŵyn neu bryder am eu gofal dan law ymarferydd iechyd.

Mewn unrhyw faes cydraddoldeb, mae newid deddfwriaethol yn cymryd amser. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hyd yma yn cadarnhau gwerth safonau wrth greu'r newid hwnnw. Bydd dyletswydd hefyd ar y rhai fydd yn destun y safonau yma i ystyried effaith eu penderfyniadau ar y Gymraeg wrth ddatblygu polisïau newydd, er enghraifft cynllunio yn rhagweithiol i sicrhau bod yr egwyddor o beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn tywys gwaith cynllunio’r sector i’r dyfodol.

Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r ffaith na ellir gwahanu pwysigrwydd cael seilwaith gadarn mewn lle oddi wrth y dyhead i greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac i weld defnydd y Gymraeg yn cynyddu o ganlyniad. Am y rheswm hwnnw, dwi’n falch iawn bod y Llywodraeth ar y cyd efo Plaid Cymru yn ymrwymedig i ymestyn y ddyletswydd i ddefnyddio’r Gymraeg i sectorau eraill o bwys sy’n cyffwrdd bywydau dinasyddion Cymru, megis y diwydiant dŵr, maes trafnidiaeth, cyrff cyhoeddus newydd sydd tu allan i’r gyfundrefn safonau a’r cymdeithasau tai, ynghyd â’r ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i ddatblygu amserlen i gwblhau gweithredu’r Mesur yn ei gyfanrwydd.

Mae’n bwysig rŵan bod y gwaith yn symud ymlaen gyda momentwm ac egni newydd er mwyn ymestyn gwaelodlin y ddarpariaeth sylfaenol y dylai’n dinasyddion allu disgwyl mewn cenedl gyda dwy iaith, a fydd yn elwa unigolion, cymunedau a lles cyffredinol y Gymraeg ledled Cymru gyfan.

17:55

Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau yma'n caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried ble mae'r cyrff ar eu taith iaith cyn gosod safonau terfynol arnyn nhw, hynny yw ystyried beth sy'n resymol i gorff ei wneud ond hefyd herio i wella gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Y nod ar ddiwedd y dydd, y prif nod, yw sicrhau defnydd ymarferol bob dydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni.

Mae'r cyrff yma wedi bod yn paratoi ar gyfer dod o dan y drefn safonau ers rhai blynyddoedd ac yn barod i fwrw ymlaen i'w gweithredu. Mae'r cyrff wedi cydweithredu'n llawn gyda ni wrth inni baratoi'r rheoliadau, ac mae ganddyn nhw agwedd iach tuag at y Gymraeg. Rwy'n gobeithio felly bydd Aelodau'n cefnogi'r rheoliadau hyn fel rhan o'n huchelgais ni i gynyddu defnydd ymarferol bob dydd o'n hiaith.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Eitem 15 sydd nesaf, sef y ddadl ar Gyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8067 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyflwyno Bil Deddfau Treth Cymru etc (Pŵer i Addasu) i'r Senedd i'w gymeradwyo. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r holl swyddogion sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros flynyddoedd lawer ar y Bil hwn. Fel y gwyddom ni, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Mae arnom ni, Lywodraeth Cymru, felly, angen, fel pob gweithrediaeth, cyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac, yn hollbwysig, i ddiogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus yn effeithiol. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'r dulliau hynny'n gryf ac yn gadarn. Mae'r Bil yn sicrhau hyn oherwydd mai dim ond gyda chydsyniad y Senedd ar ôl iddi roi ystyriaeth briodol y gellir gwneud y newidiadau neu sicrhau effaith barhaol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam cyntaf pwysig tuag at y system gydlynol a thryloyw sydd ei hangen arnom ni i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i bawb yn y Senedd a thu hwnt sydd wedi helpu i lunio a gwella'r Bil sydd gerbron yr Aelodau heddiw. Rydym ni wedi gwrando ac wedi diwygio'r Bil yn sylweddol er mwyn ymateb i'r adborth a gafwyd i'r Bil. Rwyf wastad wedi ceisio deall a myfyrio ar y sylwadau a wnaeth Aelodau'r gwrthbleidiau ac yn enwedig yr hyn y mae ein pwyllgorau craffu wedi'i ddweud pan fyddan nhw wedi edrych ar y Bil. Mae canlyniadau'r trafodaethau hynny wedi newid y Bil yn sylweddol mewn ffordd gadarnhaol.

Mae'r Bil yn ceisio sicrhau y gall Gweinidogion Cymru ymateb yn gyflym i newidiadau y mae angen eu gwneud i'n deddfwriaeth dreth o ganlyniad i amgylchiadau allanol na allwn eu rheoli, megis ymateb i newidiadau polisi treth Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein refeniw yng Nghymru. Gwnaed diwygiadau sylweddol i'r Bil hwn, gan gynnwys darparu cymal machlud a phroses adolygu, yn ogystal â chyfyngiadau pellach ar ddefnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol. Mae'r newidiadau a wnaed yn golygu bod y Bil hwn bellach yn wahanol iawn i'r un a gyflwynwyd gyntaf i'r Senedd ac yn un gwell oherwydd y craffu hwnnw.

Mae hefyd yn werth adlewyrchu fy mod wedi addasu cryn dipyn ers amlinellu'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Ymatebais i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy gyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys y profion pedwar diben, gostyngiad sylweddol yn yr amgylchiadau lle gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer. Yn bwysig, rwyf hefyd wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Senedd hon ac wedi ymrwymo i gymryd camau, ynghyd â'r Senedd a'i phwyllgorau, tuag at ddod o hyd i ateb deddfwriaethol priodol, tymor hirach i'r materion y mae Aelodau wedi'u codi, ond, yn hollbwysig, sicrhau y caiff ein trethdalwyr a'n cyllideb eu diogelu yn y cyfamser.

Yn syml, nid yw'n bosibl, ac ni fyddai'n iawn ychwaith, i gyflwyno'r trefniadau hyn dros nos heb ymgymryd â'r gwaith trylwyr sydd ei angen o ddatblygu'r polisi ac ymgysylltu yn ei gylch. Bydd pasio'r Bil hwn yn helpu i ddiogelu trethdalwyr a chyllideb Cymru. Bydd yn golygu, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, y caiff cyllideb Cymru a'n trethdalwyr eu gwarchod oherwydd byddwn yn gallu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd sy'n debyg i gyfraddau uwch y dreth dir ar gyfer anheddau ychwanegol, yna, gyda'r Bil hwn, gallwn ddiogelu'r safbwyntiau polisi pwysig yr ydym ni wedi'u datblygu ar ail gartrefi. Neu, pe bai Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cyflwyno newid a fyddai o fudd arbennig i'r rhai sy'n ceisio sefydlu busnesau ffermio newydd, yna gallem gyflwyno math tebyg o newid yn gyflym er mwyn sicrhau nad yw ein trethdalwyr dan anfantais.

Gwyddom i gyd nad yw Llywodraeth bresennol y DU yn gyfaill i ddatganoli. Mae'n amlwg o'r dyddiau diwethaf fod newidiadau sylweddol i'n system dreth ar y gorwel, a gwyddom o brofiad yn y gorffennol na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw ffafrau arbennig neu ystyriaeth arbennig inni os nad oes gennym ni'r pwerau i amddiffyn ein hunain. Bydd y Bil hwn yn rhoi amddiffyniad hanfodol arall inni i drethdalwyr Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru mewn cyd-destun o'r fath, felly ni allaf dderbyn y ddadl bod unrhyw beth yn flaengar am ddewis pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth hon heddiw.

Gobeithio y gallwch chi weld yr ewyllys da fu'n gysylltiedig â datblygu'r Bil hwn. Os caiff ei basio, hoffwn weithio yn yr un ysbryd ag Aelodau'r Senedd i sefydlu'r bensaernïaeth hirdymor ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.

18:00

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil ac i ddiolch ar goedd am y gefnogaeth a'r cyngor a gynigiwyd gan y tîm clercio a chyfreithiol drwy gydol y broses hon. Hoffwn ddiolch hefyd i chi, Gweinidog, am y ffordd yr ydych chi a'ch swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol â mi a chyd-Aelodau yn ystod y broses ddiwygio. Diolch ichi am hynny.

Yn hyn o beth, rwyf yn credu fod y Bil sydd ger ein bron heddiw ychydig yn gryfach na'r Bil gwreiddiol a gyflwynwyd gerbron y Senedd y llynedd. Eglurodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor cyllid fod angen cryfhau'r Bil gwreiddiol i gyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o ran deddfwriaeth ar bolisi trethiant, felly rwy'n croesawu rhai o'r gwelliannau yr ydym ni wedi'u gweld, megis cyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau o fewn adran 1 o'r Bil mewn perthynas ag ymchwiliadau troseddol, newidiadau i'r defnydd o bwerau ôl-weithredol a chyflwyno cymal machlud. Fodd bynnag, mae'n anffodus nad fu i'r Gweinidog dderbyn unrhyw un o'm gwelliannau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn unol â nifer o argymhellion y pwyllgor, y Pwyllgor Cyllid a chan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Credaf y byddai'r rhain wedi cryfhau'r Bil ymhellach ac wedi sicrhau y gallai'r Senedd graffu'n ddigonol ar weithrediad y Ddeddf.

Fel y mae ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr o hyd bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn darparu digon o fesurau diogelu rhag defnyddio pwerau a allai fod yn eang eu cwmpas. Nid oedd gwelliannau'r Gweinidog yn mynd mor bell ag y byddwn wedi dymuno. Fodd bynnag, Llywydd, fy mhrif bryder gyda'r Bil hwn yw'r un a soniais yn ei gylch ar ddechrau'r broses: nad yw'n briodol defnyddio is-ddeddfwriaeth yn gyfrwng i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethiant sylfaenol. Mae'n codi cwestiynau sylfaenol am y Senedd fel deddfwrfa a'i pherthynas â'r Weithrediaeth. Fel y dadleuodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi datblygu pecyn mwy strategol, cydlynol a hirdymor o fesurau deddfwriaethol i gyflawni ei chynigion a'i hamcanion mewn perthynas â threth. Mae'n bwysig bod y Senedd yn parhau i fonitro'r Bil yn ofalus wrth iddo gael ei weithredu i sicrhau y caiff y pwerau sydd ynddo eu defnyddio fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog yn ystod y broses graffu ac nad ydynt yn mynd y tu hwnt i gylch gwaith y Senedd. Felly, Llywydd, yn anffodus ni allaf gefnogi'r Bil hwn heddiw, ac felly bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Diolch.

Mi gychwynnais i, fel bob tro, y broses yma yn agored fy meddwl ynglŷn â'r ddeddfwriaeth yma ac yn cydnabod bod yna amgylchiadau weithiau lle mae angen medru ymateb i ddigwyddiadau pan fydd hi'n dod i faterion fel hyn, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, mi wnaeth tystiolaeth roddwyd i'r pwyllgorau perthnasol oedd yn craffu ar y Bil yma, yn enwedig yng Nghyfnod 1, gan ffigurau cyfreithiol mwyaf nodedig Cymru amlygu sawl elfen wnaeth beri gofid yn sicr i fi o safbwynt y Bil yma.

Rhoddodd Syr Paul Silk dystiolaeth pur gadarn inni pan ddywedodd fod y Bil, a dyfynnaf,

'yn esiampl i mi',

dywed

'o bryder mwy cyffredinol sydd gennyf am y ffordd y mae'r Weithrediaeth yn ymgymryd â swyddogaethau sydd, yn fy marn i, yn perthyn yn briodol i'r ddeddfwrfa',

gan adlewyrchu rhai o'r sylwadau yr ydym ni eisoes wedi'u clywed. Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei hun yn ei adroddiad yn myfyrio ar hynny, a dyfynnaf eto,

'Mae'n... hynod siomedig bod yr ail ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn Fil galluogi sydd, yn ei hanfod, yn gadael i'r holl waith datblygu a gweithredu polisi sylweddol gael ei benderfynu gan is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn golygu y bydd y Senedd a'i Haelodau etholedig yn wynebu pleidleisio ar faterion o'r fath ar sail "popeth neu ddim", oherwydd nid yw is-ddeddfwriaeth yn destun craffu llinell wrth linell ac ni ellir ei diwygio.

Gan ddod i'r casgliad yn y pen draw,

'mae'r dull hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn groes i arferion ac egwyddorion seneddol sefydledig sy'n gysylltiedig â deddfu da.'

18:05

Gwnaf, os gwnaiff y Llywydd ganiatáu mwy o amser imi.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n codi pwynt pwysig a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond, mewn gwirionedd, roeddem yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gwneud gwelliannau i'r darn hwn o ddeddfwriaeth nawr er mwyn gallu ymdrin â materion sydd eisoes wedi'u datblygu yn Senedd y DU ac yn y blaen o ran materion treth, ond fe ddywedsom ni hefyd, 'Edrychwch ar y dyfodol o ran yr hyn y gellir ei wneud.' A dim ond i gymeradwyo'r Gweinidog, mae wedi cydnabod y rheini ac wedi dweud y bydd yn gweithio ar hynny ar gyfer fersiynau yn y dyfodol pan fyddwn yn ailgyflwyno hyn i'r Senedd. Credaf fod arnom ni i gyd eisiau gweld hynny. Felly, hoffwn gymeradwyo'r dull a fabwysiadwyd gan y Gweinidog. Dydy hi ddim wedi dweud 'na'; mae hi wedi dweud, 'Allwn ni ddim gwneud hynny'n awr—bydd yn rhaid inni wneud hynny yn y dyfodol.'

A dwi'n dod at hynny mewn munud, achos dwi yn cydnabod hynny, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod pwysau y dystiolaeth roddwyd yn y cyfnod yna, i fi, yn sicr, wedi gwneud i mi gamu'n ôl ac edrych ar hwn drwy lens gwahanol a dwi yn gobeithio—. Dwi'n siŵr bod nifer o Aelodau wedi darllen yr adroddiadau, ond mi wnaethoch chi fel Cadeirydd y pwyllgor yn nadl Cyfnod 1 ddweud bod y pwyllgor wedi dod i'r casgliad nad yw'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i ddeddfau trethi Cymru, a bod y pwyllgor o'r farn bod lefel y pŵer dirprwyedig yn y Bil yn amhriodol ac yn y blaen ac yn y blaen.

Nawr, yr elfen bositif yw fy mod i yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i rai agweddau ar y Bil yma dros y cyfnod craffu, neu'r cyfnodau craffu, a dwi'n diolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am eu parodrwydd i wneud hynny, yn bennaf, wrth gwrs, drwy gyflwyno'r cymal machlud sy'n gwneud y ddeddfwriaeth yma, i bob pwrpas, yn ddeddfwriaeth dros dro, ond yn ddeddfwriaeth gall fod gyda ni tan 2031. Felly, pa mor dros dro yw hynny, dwi ddim yn siŵr. Ond mi wnaeth y Gweinidog ymateb i welliannau Plaid Cymru yng Nghyfnod 2 drwy gyflwyno gwelliannau ei hunan. Mi wnaeth hi hefyd dderbyn fy ngwelliannau i yng Nghyfnod 3 oedd yn cynnig dau beth, sef sicrhau bod yr adolygiad o'r ddeddfwriaeth yn cynnwys y gwaith ehangach o edrych ar drefniadau deddfwriaethol amgen, a hefyd y bydd Aelodau o'r Senedd yn rhan fwy ystyrlon o'r adolygiad hwnnw ac y byddwn ni efallai i gyd, os ydym ni yma adeg hynny, yn cael cyfle i ddweud ein dweud.

Ond, mae yna fater mwy sylfaenol, fel clywon ni, yn y fantol fan hyn, sef gogwyddo gormodol y grym o safbwynt deddfwriaeth gynradd o'r ddeddfwrfa, sef y Senedd, i'r Weithrediaeth, sef y Llywodraeth. Er bod yna welliannau wedi bod, ar sail hynny fedrwn ni ddim caniatáu i'r Ddeddf yma gael ei phasio, felly fe fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i'ch cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Rwy'n falch bod cydnabyddiaeth bod y Bil yn ganlyniad i gorff sylweddol o waith gan lawer o bobl, a hoffwn gofnodi fy niolch i bob un ohonyn nhw, ac rwy'n siŵr bod y ffordd gydweithredol o weithio yr wyf wedi ceisio'i mabwysiadu wedi helpu i gryfhau'r berthynas bresennol, a fydd, gobeithio, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.

Mae arnaf i eisiau mynd i'r afael â'r pwynt penodol ynghylch deddfwriaeth sylfaenol o'i gymharu ag is-ddeddfwriaeth ac, wrth gwrs, mewn amgylchiadau cyffredin o ran deddfu, lle gwneir cyfraith o ganlyniad i ddatblygu polisi ystyriol yn hytrach na'i bod yn ofynnol ar frys neu mewn ymateb i ddigwyddiadau allanol, mae'n briodol, wrth gwrs, i'r Senedd benderfynu pwy sy'n cael eu trethu a sut y cânt eu trethu, yn unol â'r egwyddorion cyfansoddiadol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, bwriedir i'r Bil hwn a'r pŵer yn y Bil ymdrin ag amgylchiadau eithriadol a rhai sy'n gwbl unigryw i ddeddfwriaeth treth. Er enghraifft, cafwyd llawer o achosion lle mae elfennau treth newydd o dreth tir y dreth stamp wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn syth neu'n fuan iawn ar ôl gwneud cyhoeddiad, ac mae hynny'n gyffredinol, wrth gwrs, i atal trethdalwyr rhag achub y blaen. Ond rwy'n credu bod Senedd y DU wedi cydnabod natur unigryw deddfwriaeth treth pan roddodd y pŵer i Weinidogion y DU yn adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 allu gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth treth tir y dreth stamp sy'n hwylus er budd y cyhoedd. Rhoddodd Senedd yr Alban lawer o bwerau i Lywodraeth yr Alban wneud rheoliadau yn ei Deddf trethi datganoledig, gan gynnwys pennu cyfraddau a bandiau drwy gyflwyno rheoliadau gweithdrefn gadarnhaol. Wrth gwrs, rhoddodd y Senedd, yn dilyn y cynsail a osodwyd gan Senedd yr Alban, gyfres debyg o bwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan gynnwys pennu cyfraddau drwy reoliadau gweithdrefn gadarnhaol. Felly, mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y cynseiliau hynny, gan ddatblygu'r mecanwaith hyblyg ac ystwyth hwnnw i ymateb i amgylchiadau allanol sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, i ddiogelu trethdalwyr Cymru a diogelu cyllideb Cymru.

18:10

Diolch, Gweinidog, am ildio. Un sicrwydd y gallai'r Gweinidog ei roi i'r Senedd heddiw, yn y ffordd gydweithredol y mae hi wedi bwrw ymlaen â'r newidiadau hyn i'r ddeddfwriaeth a'r cynigion presennol ar gyfer yr hyn a gyflwynir—. Yn y cynigion hynny o'r hyn a ddaw nesaf, a wnaiff hi roi'r sicrwydd i'r Senedd heddiw y bydd yn gweithio gyda'r pwyllgorau perthnasol a gydag Aelodau'r Senedd yma, ond hefyd gyda'r randdeiliaid allanol hynny? Nid oes rhaid i ni ailadrodd yn union yr hyn sy'n digwydd mewn Seneddau eraill. Efallai y gallwn ddarparu ffordd well o'i wneud sy'n addas i Gymru. A wnaiff roi'r ymrwymiad hwnnw i wneud y gwaith hwnnw mewn cydweithrediad ag eraill sydd ag arbenigedd yma yng Nghymru?

Rhoddaf yr ymrwymiad hwnnw'n llwyr i gydweithio â'r arbenigwyr yn y maes. Os nad yw fy nghyd-Aelodau am wrando arnaf heddiw, gadewch inni wrando ar yr arbenigwyr yn y maes, oherwydd pan oedd fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore yn gofyn i'r Sefydliad Siartredig Trethu yn y pwyllgor a fyddai'n fecanwaith priodol i ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, fe wnaethon nhw ymateb, rwy'n credu, o dan yr amgylchiadau—yn enwedig o dan amgylchiadau gweinyddiaeth ddatganoledig, â'r ffordd y mae'r setliad datganoledig yn gweithio—ei fod yn rhesymol, ydy. A gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr a oedd angen y ddeddfwriaeth, ac fe ddywedon nhw,

'Byddwn yn dweud, yn sicr o ran y gallu i ymateb i newidiadau ar lefel y DU, ac osgoi trethi o bosibl, yn enwedig o ystyried rhai o'r newidiadau yr ydym yn eu gweld, neu rai o'r anawsterau penodol gyda threth dir treth stamp y DU, ar gyfer y sbardunau hynny, mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau angenrheidiol i wneud newidiadau, os oes angen, ar fyr rybudd. Felly, "ie" gofalus.

Ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad at yr Athro Emyr Lewis a Syr Paul Silk, a phan ofynnwyd, unwaith eto, gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd y Bil yn gwbl angenrheidiol, dywedodd yr Athro Emyr Lewis,

'Dwi'n meddwl bod angen deddfwriaeth er mwyn galluogi newidiadau cyflym i ddigwydd. Dwi'n credu bod y syniad o roi'r grym i ddiwygio er mwyn cyd-fynd â dyletswyddau rhyngwladol yn un da, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n debyg i bwerau eraill er mwyn diwygio deddfwriaeth gynradd er mwyn gwneud y ddeddfwriaeth honno'n gyfreithlon. Mae angen rhywbeth, rwy'n credu, i ddelio â'r broblem sy'n deillio o sut mae Cymru'n cael ei hariannu, sut mae'r fformiwla yn y cytundeb rhwng Llywodraethau yn tynnu arian i ffwrdd oddi wrth Gymru os oes newidiadau treth yn digwydd yn Lloegr er mwyn ein bod ni'n gallu cadw i fyny gyda Lloegr',

a chytunodd Syr Paul Silk.

Ond os nad oes arnoch chi eisiau gwrando arnaf i, ac nad oes arnoch chi eisiau gwrando ar yr arbenigwyr hyn, gwrandewch ar ein cyd-Aelod Llyr Gruffydd. Pan gyflwynais i'r Bil, dywedodd yma yn y Senedd—ac mae wedi bod yn gyson ynghylch hyn o'r dechrau un—mai ei ddewis ef fyddai cael Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol. Ond yna aeth ymlaen hefyd i ddweud ei fod yn cytuno

'efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw.

'Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru.'

O weld eich bod yn fy nyfynnu'n uniongyrchol, gobeithio y gwnewch chi dderbyn ymyriad byr. Eglurais yn fy nghyfraniad agoriadol—

Iawn, o'r gorau. Wel, ar sail pwysau'r dystiolaeth gan y bobl y clywsom ni ganddyn nhw, newidiais fy meddwl. Rwy'n newid fy meddwl; byddai'n dda weithiau pe bai eraill yn gwneud hefyd. 

Mae'n amlwg fy mod i wedi newid fy meddwl, pan edrychwch chi ar y ffyrdd y mae'r Bil wedi'i ddiwygio'n ddramatig. Ac mae'r syniad y tu ôl i'r Bil wedi'i ddiwygio o bŵer eang iawn pan ymgynghorwyd yn gyntaf i rywbeth sy'n gul a phenodol iawn nawr. Ond y pwynt yr oeddwn i'n mynd ymlaen i'w wneud yw fy mod yn cydnabod yr hyn a ddywedoch chi am y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i'r dystiolaeth yr ydych chi wedi'i chlywed, ond, er hynny, gyda'r holl welliannau a newidiadau sydd wedi'u gwneud, credaf ein bod fwy na thebyg wedi symud yn agosach at ein gilydd ar y daith hon, a gobeithio y gallwn ni symud ymlaen gyda'n gilydd ar y daith gyda'r hyn a ddaw nesaf.

Fe wnaf i gloi, Llywydd, oherwydd rwyf yn sylweddoli fy mod dros fy amser, drwy ddiolch i chi a'ch staff am eich holl gefnogaeth yn y broses hon. A gofynnaf i Aelodau'r Senedd, wrth ystyried eu pleidlais heddiw a sut y maen nhw'n pleidleisio, gymryd y foment hon a chymryd y cyfle hwn i amddiffyn trethdalwyr Cymru ac i ddiogelu cyllideb Cymru. Ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r Bil heddiw.

18:15

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C bydd rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais ar yr eitem yma yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23

Eitem 16 sydd nesaf—y ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2022-23 yw hynny. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig yma. Rebecca Evans. 

Cynnig NDM8037 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth 21 Mehefin 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cyllideb atodol gyntaf 2022-23 yw'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddaf yn darparu ymateb manwl i'w 12 argymhelliad maes o law.

Mae'r prif newid yn y gyllideb atodol gyntaf hon yn ymwneud ag ailddosbarthu cyllidebau'n dechnegol i adlewyrchu gweithredu'r safon adrodd ariannol ryngwladol, neu IFRS 16, fel y'i gelwir yn gyffredin, ar brydlesi. Nid yw'r newidiadau sy'n ymwneud ag IFRS 16 yn effeithio ar bŵer gwario Llywodraeth Cymru ond maent yn adlewyrchu'r cynlluniau gwariant presennol ar drefniadau prydlesu yn fwy priodol fel buddsoddiad cyfalaf. Yn ogystal, mae'r gyllideb hon yn rheoleiddio nifer fach o ddyraniadau o gronfeydd wrth gefn, gan gynnwys dyraniad o £20 miliwn i gefnogi ein hymateb i'r rhyfel yn Wcráin. Bydd y dyraniad hwn yn cefnogi cynlluniau fel y rhaglen noddi, ein canolfannau croeso a chynyddu'r ddarpariaeth o gartrefi dros dro o ansawdd da gyda'u costau cysylltiedig.

Fel sy'n arferol ar gyfer cyllidebau atodol, mae'r newidiadau hefyd yn cynnwys addasiadau bach i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol sy'n deillio o newidiadau yng ngwariant adrannol y DU. Mae'r gyllideb hon hefyd yn rheoleiddio trosglwyddiadau cymeradwy o fewn a rhwng portffolios gweinidogion.

Er ei fod yn gyfyngedig o ran cwmpas, mae'r gyllideb atodol, serch hynny, yn rhan bwysig o'r gyllideb a'r system graffu. Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn adeiladu ar y cynlluniau a nodir yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, gan ganolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn.

Ers cyhoeddi'r gyllideb derfynol, mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn golygu bod ein cyllideb yn werth £600 miliwn yn llai dros y cyfnod hwn o dair blynedd. Rwy'n monitro'r sefyllfa'n agos gyda'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet, a'r effaith y mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn ei chael ar gyflawni ein cynlluniau gwariant.

Byddaf yn cyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o gronfeydd wrth gefn eleni eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol a chynhwysir unrhyw newidiadau canlyniadol pellach i Gymru sy'n codi o ganlyniad i newidiadau i wariant adrannol Llywodraeth y DU. Felly, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 30 Mehefin, a diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol.

Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gerbron y Senedd ddoe ac mae'n gwneud 12 o argymhellion. Yn gyntaf oll, mae'r pwyllgor yn pryderu'n fawr am yr effaith y bydd pwysau chwyddiant yn ei chael ar fforddiadwyedd cynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru.  O gofio y bydd y pwysau eithriadol hwn yn parhau ac y gallai waethygu, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu asesiad o effaith hyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gofynnwn hefyd i'r Gweinidog ystyried cyflwyno'r ail gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon fel y gellir darparu cyllid i feysydd blaenoriaeth cyn gynted â phosibl, os oes angen gweithredu ar frys.

Gan droi at ardaloedd penodol, cyn imi sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel yn Wcráin, a gaf i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel a'r ymdrechion anhygoel a wnaed gan awdurdodau lleol, unigolion a gwasanaethau ledled Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin yn cael lloches a lle diogel i aros? Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig nad yw'r cyllid a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl, fel bod cyllid ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny'n parhau i gael ei ddarparu. Wrth i'r cymorth a ddarperir gyrraedd gwahanol feysydd o fewn y gyllideb, teimlai'r pwyllgor hefyd ei bod yn dod yn fwyfwy anodd deall faint o arian oedd yn cael ei wario mewn meysydd penodol. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r cyllid sydd wedi'i neilltuo i gefnogi ffoaduriaid Wcrainaidd mewn cyllidebau yn y dyfodol.

Ar y mater hwn, cafodd y pwyllgor ei ddychryn gan y diffyg ymgynghori ystyrlon rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfraniadau a wnaed o gyllidebau datganoledig tuag at yr £1 biliwn a ddarparwyd mewn cymorth milwrol i Wcráin. Cytunwn â'r Gweinidog na ddylid gwario cyllidebau datganoledig ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Mae hon yn egwyddor sylfaenol, ac mae'r camau hyn yn gynsail beryglus. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog godi'r pryderon hyn gyda chydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU i sicrhau y diogelir cyllidebau datganoledig rhag cael eu defnyddio i ariannu meysydd nad ydynt wedi'u datganoli.

Dirprwy Lywydd, hoffwn droi'n gyflym yn awr at feysydd polisi eraill.  Mae'r pwyllgor yn croesawu graddau'r cyllid a roddwyd i'r GIG i gefnogi ei adferiad ar ôl y pandemig, ac yn arbennig i ymdrin ag amseroedd aros a'r rhestr hir o ofal cynlluniedig sydd wedi ymffurfio. Fodd bynnag, mae ar y pwyllgor eisiau mwy o eglurder ynghylch sut y caiff yr arian ei wario. Rydym hefyd yn bryderus o glywed nad oedd nifer o fyrddau iechyd yn gallu defnyddio'r arian ychwanegol a ddyrannwyd. Er bod y pwyllgor yn derbyn yr effaith sylweddol amrywiolyn omicron ar gynllunio'r gwasanaeth iechyd, mae'n destun pryder na wariwyd cyfran fawr o'r dyraniadau hyn. Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu'n fawr am y straen cynyddol ar staff y GIG sydd, yn ôl adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, wedi blino, yn gwneud gormod ac o dan bwysau. Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ymdrech i ddatblygu cynllun gweithlu tymor hirach fel y gellir lliniaru'r pwysau hyn ac osgoi sefyllfa lle gallai staff ddiffygio.

O ran prydau ysgol am ddim, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cyflwyno'r polisi hwn fel ei fod ar gael i ddisgyblion o fis Medi ymlaen. Wedi dweud hynny, mae'r pwyllgor yn ymwybodol y bydd ysgolion unigol mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn o ran a oes ganddynt y seilwaith i weithredu'r fenter hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog egluro'r cyllid penodol a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi'r polisi hwn. Fel Cadeirydd, mae arnaf eisiau gweithio gyda phwyllgorau eraill ar faterion lle mae diddordeb cyffredin, a dyna pam, ar y materion penodol hyn, yr wyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fel y gellir parhau i graffu yn y meysydd allweddol hyn.

Yn olaf, mae’r pwyllgor yn nodi â phryder y cynlluniau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil, ac yn nodi ymhellach y byddai cyfran Barnett o’r swyddi hynny yn gyfystyr â thua 6,000 o swyddi’n cael eu colli yma yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn pryderu y gallai toriadau o’r fath gael effaith anghymesur ar Gymru. O ganlyniad, hoffem gael rhagor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y maes hwn, yn ogystal â sicrwydd nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir ar y lefel Brydeinig yn cael effaith andwyol ar weithlu sector cyhoeddus Cymru.

Dirprwy Lywydd, rwy’n falch o fod wedi cael siarad yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae’r pwyllgor yn croesawu llawer o’r nodau canmoladwy a fynegir drwy’r gyllideb hon, ond mae’n awyddus i sicrhau bod sefyllfa ariannol Cymru yn gadarn ac yn wydn yn wyneb pwysau economaidd cynyddol. Diolch yn fawr.

18:20

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac rwy'n croesawu cyfraniad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth ynghylch awdurdodau lleol a'r gwaith a wnaethant. Rwy'n cyfrannu at y ddadl hon fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, ac o'r dechrau'n deg hoffwn gadarnhau y byddwn yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron, yn ôl arferiad y grŵp ar gyllidebau atodol. Yn ystod y pandemig, gwelsom gyfres o gyllidebau atodol eithriadol lle dyrannwyd cannoedd o filiynau yn ogystal â'r gyllideb derfynol, i gydnabod yr ymateb enfawr yr oedd ei angen i fynd i'r afael â COVID-19.

Mae'r gyllideb atodol hon yn llawer agosach at yr hyn yr ydym ni'n disgwyl ei weld—mae'r rhan fwyaf o'r dyraniadau'n ymwneud â newidiadau technegol—ond, yn anffodus, mae'r gyllideb hon wedi'i phennu, unwaith eto, yn erbyn cefndir o amseroedd mwy eithriadol fyth. Rwy'n deall yn iawn bod y gyllideb wedi'i chynhyrchu ar ddechrau ymosodiad Rwsia ar Wcráin a'r argyfwng costau byw, ac felly nid yw'n ystyried y pwysau hyn yn llawn. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, mae bron yn sicr y bydd angen mwy o gymorth i helpu i leddfu'r baich ar bobl, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddarparu, yn enwedig i'r bobl hynny nad ydynt yn gymwys i gael budd-daliadau ond sydd angen cymorth ariannol ar hyn o bryd. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda chydweithwyr o bob rhan o'r DU ynglŷn â'r posibilrwydd o gefnogaeth yn y dyfodol? A pha gynllunio ydych chi wedi'i wneud o ran y math o gymorth sy'n benodol i Gymru y gallai fod ei angen yn ystod cyfnodau'r hydref a'r gaeaf? At hynny, mae'r gyllideb yn dyrannu £20 miliwn o gronfeydd wrth gefn fel cymorth ariannol brys i lywodraeth leol i helpu gyda'r cynllun ailsefydlu ar gyfer ffoaduriaid Wcrainaidd, fel y clywsom ni. Er fy mod, wrth gwrs, yn croesawu hyn, rwy'n nodi gyda pheth siom bod Llywodraeth Cymru wedi oedi ei chynllun uwch-noddwyr y mis diwethaf. Gweinidog, pa mor effeithiol, yn eich barn chi, y mae'r cyllid hwn wedi bod o ran sefydlu rhwydwaith cymorth digonol?

Mae mater hefyd ynghylch sut yr ydym yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae pwysau chwyddiant yn rhoi llawer iawn o straen ar ariannu gwasanaethau, tra bydd angen talu costau pethau fel codiadau cyflog posibl yn y sector cyhoeddus. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i ddadansoddi iechyd ariannol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â pha adnoddau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol fel na fydd defnyddwyr gwasanaethau, llywodraeth leol na gwasanaethau eu hunain yn ysgwyddo costau ychwanegol?

O ran GIG Cymru yn benodol, pa waith ydych chi'n ei wneud i ddeall yn well y rhwystrau y mae sefydliadau'r GIG yn eu hwynebu wrth wario'r arian ychwanegol a ddarperir iddyn nhw mewn gwirionedd? Fel y gwyddoch chi, nododd Archwilio Cymru fod cyrff y GIG wedi dychwelyd £12.8 miliwn o'r £200 miliwn a ddyrannwyd yn 2021-22. Siawns, o ystyried y straen enfawr sydd ar y GIG, fod angen inni sicrhau y gwerir yr holl arian a ddarperir ar y rheng flaen i fynd i'r afael ag amseroedd aros a rhestrau cynyddol o bobl sy'n aros am driniaeth. Diolch.

18:25

Dechreuaf gan gyfeirio at y gor-ddyrannu yn erbyn y gyllideb gyfalaf gyffredinol. Yn amlwg, oherwydd pwysau chwyddiant, mae hynny'n dod o dan bwysau sylweddol, a adlewyrchir yn ôl pob tebyg yn y ffaith bod y gor-ddyraniad yn y gyllideb atodol sydd ger ein bron yn £68 miliwn, neu ychydig dros £68 miliwn—i lawr £7.5 miliwn o'r gyllideb derfynol. Byddwn yn gofyn, efallai, i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am ble rydych chi'n debygol o fod yn dadfuddsoddi, neu o leiaf pa broses a ddefnyddiwyd gennych i flaenoriaethu neu ddadflaenoriaethu'r gwariant penodol hwnnw.

Hoffwn ailadrodd rhai o'r sylwadau ynghylch cymorth i bobl o Wcráin. Rwy'n croesawu'n fawr y dyraniad o £20 miliwn ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth ariannol brys i lywodraeth leol i gefnogi'r ymateb i'r argyfwng yn Wcráin. Gallwn i gyd fod yn falch iawn o ymateb Cymru a'r ffaith bod gwariant Llywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Mae'n destun pryder mawr, yn hynny o beth, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi ysbeilio cyllidebau datganoledig i dalu am wariant milwrol nad yw wedi'i ddatganoli, a meddwl ydw i tybed pa effaith a gaiff hynny—colli'r £30 miliwn hwnnw—ar y gyllideb ar gyfer eleni, yn enwedig o ran buddsoddi mewn iechyd, addysg a meysydd allweddol eraill. Onid yw hyn yn gosod cynsail beryglus, gan y gallai ddigwydd yn amlach? Yr hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw tynnu sylw at ba mor fregus a pha mor wan yw'r setliad datganoli mewn gwirionedd, pan all Llywodraeth y DU dynnu arian oddi wrthym sy'n arian sy'n ddyledus inni mewn gwirionedd.

Gallwn ailadrodd sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y siom nad yw'r cyllid a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r hurtyn o Brif Weinidog sydd gennym ni yn San Steffan, sydd yn ei swydd ond nid mewn grym, yn dweud wrthym y bydd y DU yn cynorthwyo am amser hir yn Wcráin. Wel, mae'n amlwg nad yw hynny'n wir o ran cefnogi ffoaduriaid o Wcráin, a gofynnaf ichi ein sicrhau, p'un a yw Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ai peidio, y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i barhau â'i chefnogaeth i'r rheini o Wcráin sydd ei hangen.

Gofynnwyd y cwestiwn am iechyd. Rydym yn ymwybodol—. O gofio nad oedd byrddau iechyd yn gallu gwario eu dyraniadau cyllid ychwanegol y llynedd, a allwch chi roi sicrwydd inni y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd i helpu i fynd i'r afael ag amseroedd aros a'r ôl-groniad gofal a gynlluniwyd eleni yn cael ei ddefnyddio'n llawn?

Yn olaf, yn wyneb yr argyfwng costau byw, wrth gwrs, mae galw cynyddol ar i gyflogau'r sector cyhoeddus gadw i fyny â chwyddiant. Nawr, polisi Llywodraeth y DU yw claddu ei phen yn y tywod, a allai arwain at haf o anfodlonrwydd. Rwy'n gobeithio, yn amlwg, fod Llywodraeth Cymru'n mabwysiadu ymagwedd wahanol, ac efallai y gallech chi ddweud ychydig wrthym ni ynghylch pa bosibilrwydd sydd yn eich cyllideb eleni i wneud unrhyw gynnydd posibl yng nghyflogau'r sector cyhoeddus, oherwydd mae'n gwbl annerbyniol bod ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cael eu gwasgu ar hyn o bryd, tra bod Llywodraeth di-glem y DU yn cymryd arnynt eu bod mewn grym. 

18:30

Mae'r gyllideb atodol gyntaf fel arfer wedi bod yn achlysur bach, gan wneud mân newidiadau, ac mae hyn yn gwneud hynny. Ond daw'r gyllideb atodol ar adeg o chwyddiant uchel, sydd ar hyn o bryd yn 9.1 y cant—yr uchaf ers 40 mlynedd—ac efallai'n uwch yn awr na phan ysgrifennais i hyn. Mae hwn yn brofiad unigryw i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Bydd chwyddiant yn effeithio ar gyllidebau cyfalaf a refeniw. Mae chwyddiant oherwydd nwyddau wedi'i waethygu gan ddirywiad yng ngwerth y bunt. Mae'r rheini'n ddau fater nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drostynt o gwbl.

O ran gwariant cyfalaf, amcangyfrifwyd bod cost adeiladu yn codi rhwng 20 a 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn, a gyda phrinder llafur a deunyddiau adeiladu, adroddwyd y bydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi a chost cynhyrchu uchel parhaus yn parhau i fod yn her i ddiwydiant adeiladu Prydain eleni, sy'n arwain at gynnydd mewn costau deunyddiau—brics, plastrfwrdd, sment, concrit ac ati. Yr hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu yw naill ai y bydd angen benthyca ar adeg pan fo cyfraddau llog yn codi, neu bydd y rhaglen gyfalaf yn llithro. Pa raglenni sy'n cael eu rheoli fel bod gwariant yn symud i'r flwyddyn ariannol nesaf? Un o'r triciau bach braf y gall pobl ym myd cyllid ei wneud bob amser yw arafu pethau a'u symud i'r flwyddyn ariannol nesaf. Rydym ar gam cynnar iawn yn y flwyddyn ariannol a gallai pethau wella, ond nid wyf yn credu bod hynny'n debygol iawn.

O ran gwariant refeniw, lle mai cyflog gweithwyr y sector cyhoeddus yw'r prif gost, yna yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gwahanol gyrff adolygu cyflogau ac mewn trafodaethau uniongyrchol â'r undebau llafur mae dwy risg. Gallai gweithwyr y sector cyhoeddus gael toriadau cyflog sylweddol mewn termau real, gyda'r perygl y bydd lefelau cyflog yn y sector cyhoeddus yn disgyn y tu ôl i'r sector preifat, gan arwain at ymadawiad nifer fawr o staff medrus sydd â sgiliau gwerthfawr y gellir eu marchnata. Fel arall, gallai codiadau cyflog ddod i gyd-fynd â'r gyfradd chwyddiant, ond mae hynny'n achosi problemau cyllidebol i'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru ac, yn y pen draw, i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad mwyaf tebygol fydd rhywle yn y canol, gan arwain at y gwaethaf o'r ddau fyd.

Er ein bod wedi cael dwy gyllideb atodol yn draddodiadol, a gaf i ailadrodd fy ngalwad yn y Pwyllgor Cyllid am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref? Bydd hynny ddau fis neu dri mis yn gynharach nag a gawn ni fel arfer, ond credaf fod angen ail gyllideb atodol, oherwydd y sefyllfa ariannol yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yna bydd gennych eich ail gyllideb atodol arferol fel trydedd gyllideb atodol ar yr adeg arferol.

Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am y sefyllfa ariannu yn ystod y flwyddyn a'i heffaith ar wariant. Gellir gwneud hyn naill ai drwy adroddiadau i'r Pwyllgor Cyllid neu ddatganiadau rheolaidd i'r Senedd. Fel un sydd o hyd yn gweld ochr orau pethau, efallai y bydd arian canlyniadol i Gymru o gynyddu gwariant yn Lloegr. Mae'r un problemau'n wynebu'r sector cyhoeddus yn Lloegr, sy'n dechrau o sefyllfa waeth nag yr ydym ni yng Nghymru, oherwydd dau beth—mantais fformiwla Barnett a rheolaeth dda ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd angen i Lywodraeth Cymru adrodd ar unrhyw incwm canlyniadol yn seiliedig ar wariant San Steffan. Rwy'n croesawu'n fawr y darn o ddeddfwriaeth IFRS 16, sy'n golygu bod prydlesi'n cael eu cynnwys mewn cyfrifon. Arferai prydlesi fod yn dric a ddefnyddiwyd gan gyfrifwyr er mwyn cadw gwariant cyfalaf oddi ar y gyllideb. Nid wyf yn credu ei fod yn syniad da iawn, ac rwy'n falch iawn o weld na ellir gwneud hynny mwyach, ac mae'r Llywodraeth wedi dweud na fydd hyn yn arwain at unrhyw newidiadau sylweddol yn yr hyn y mae'n rhaid inni ei wario, ond mae'n golygu y bydd yr holl wariant ar y llyfrau, heb fod elfennau ohono wedi ei guddio oddi ar y llyfrau.

Swyddi'r gwasanaeth sifil—os nad oedd ond cyn waethed ag y soniodd Peredur. Wrth gwrs, mae gennym ni ganran uwch o'n poblogaeth yng Nghymru a gyflogir yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gweision sifil a delir gan San Steffan, felly, os yw'r gostyngiad i'r graddau y maent yn sôn amdani, yna bydd gennym ni fwy na'n cyfran Barnett o golli swyddi, a fydd yn dinistrio etholaethau fel fy un i, lle cyflogir nifer sylweddol iawn o weision sifil.

Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon wedi'i gosod mewn cyfnod economaidd cythryblus ac, yn awr, gwleidyddol. Felly, a gaf i ailadrodd fy ngalwadau am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref, sef bod y Senedd, naill ai'n uniongyrchol drwy ddatganiadau'r Llywodraeth i'r Cyfarfod Llawn neu'n anuniongyrchol drwy'r Pwyllgor Cyllid, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i'r sefyllfa ariannol, a bod y Senedd yn cael ei diweddaru, unwaith eto naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar y rhaglen gyfalaf ac unrhyw lithriad yn y rhaglen gyfalaf? Nid ceisio cystwyo'r Llywodraeth na beirniadu'r Llywodraeth yw hyn; mae fel ein bod i gyd yn ymwybodol o ble yn union mae'r problemau.

18:35

Er bod y rhan fwyaf o'r newidiadau a nodwyd yn y gyllideb atodol yn dechnegol eu natur, fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwariant diwygiedig mewn ymateb, yn bennaf, i'r rhyfel yn Wcráin. Mae'r gyllideb atodol hefyd yn nodi £20 miliwn ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel. Mae'n ddatganiad beiddgar gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi dymuniadau'r Cymry ac yn mynegi dymuniad y genedl Gymreig ein bod yn sefyll mewn undod gyda'n gilydd â phobl Wcráin.

Erbyn 9 Gorffennaf, roedd bron i 600 o bobl wedi cyrraedd y DU o dan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ac, ar 30 Mehefin, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid, yr wyf yn Aelod ohono, y bydd y gyllideb yn werth £600 miliwn yn llai dros y cyfnod gwariant tair blynedd hwn nag yr oeddem yn ei ddeall ar adeg ei gytuno. Felly, gyda chwyddiant yn cyrraedd man lle na fu ers 40 mlynedd, a Banc Lloegr ar hyn o bryd yn disgwyl iddo gynyddu i fwy nag 11 y cant, bydd y pwysau presennol hyn yn sicr yn effeithio ar gost darparu gwasanaethau.

Yna, Dirprwy Lywydd, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth hon yn y DU a'i Thrysorlys yn ceisio cefnogi'r gwledydd datganoledig a'r fan yma yn llawer mwy systemig yn hyn o beth. Ac wrth i chwyddiant godi mor affwysol, mae angen iddynt wneud mwy wrth i bobl ddioddef a sicrhau cynnydd blynyddol mewn cyllidebau i helpu'r Llywodraeth hon i gyflawni ei hagenda ddemocrataidd. Felly, heddiw, Gweinidog, rydym yn dioddef, fel y gwyddoch chi, y cyfnod ariannol mwyaf eithriadol a digynsail. Mae'n niweidio ein heconomi, mae'n niweidio ein hetholwyr, yn gorfodi pobl i wresogi neu fwyta, ac mae'n niweidio bywydau, yn niweidio lles ac iechyd meddwl y DU. Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu gyd a hyn mewn golwg nawr er mwyn gwneud i ddatganoli weithio.

Diolch. Fel y mae nifer o gyd-Aelodau wedi sylwi y prynhawn yma, mae'r gyllideb atodol hon yn mynd â ni'n ôl at y math o gyllidebau atodol yr arferem ni eu hadnabod cyn y pandemig, yn yr ystyr bod symudiadau bach iawn, dyraniadau bach, a'i fod yn dechnegol ei natur yn bennaf. Felly, nid yw llawer o'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma a llawer o'r hyn y byddaf i'n ymateb iddo yn ymwneud yn benodol â'r gyllideb atodol, ond credaf ei bod yn gyfle pwysig i gofnodi rhai o'r materion pwysig a thyngedfennol hyn. Mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio at chwyddiant ac wedi gofyn sut mae hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ac amlinellodd Rhianon Passmore sut mae ein cyllideb bellach yn werth mwy na £600 miliwn yn llai nag a ragwelwyd gennym ni wrth lunio ein cynlluniau gwariant yn 2021. Rydym yn asesu'n gyson y tueddiadau macroeconomaidd ehangach a'u heffaith ar Gymru, ond, o gofio mai dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cytuno ar y cynlluniau gwariant aml-flwyddyn hyd at 2025, nid ydym yn cynnig adolygiad sylfaenol o'r cynlluniau hyn ar hyn o bryd, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yw deall effaith chwyddiant ar y cynlluniau hynny'n well, a chredaf fod Mike Hedges yn llygad ei le yn yr ystyr y bydd yn anochel, Credaf y bydd yn arwain at rai penderfyniadau anodd ynghylch sut yr ydym yn proffilio rhai o'n buddsoddiadau cyfalaf, yn enwedig, ond gwn y bydd fy nghyd-Aelodau'n ystyried hynny wrth inni ddechrau ar ein cyfnod cyllideb nesaf, ac rydym yn gwneud llawer o waith ar hynny yn ystod yr haf.

Roedd rhai cwestiynau am gyflogau'r sector cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae'n fater hynod o bwysig. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod cyflogau'r sector cyhoeddus yn codi tua 1.5 y cant dros gyfnod o dri mis, 8 y cant yn y sector preifat, a dyna'r bwlch mwyaf yr ydym ni wedi'i weld o ran twf cyflog rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac, yn anochel, mae hynny'n mynd i gael effaith, meddyliwch, ar ddarparu gwasanaethau pan fydd pobl yn edrych i'r sector preifat am gyflogaeth wahanol bosibl. Felly, mae arnom angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy i'r gofod hwn ac ymrwymo i ddarparu codiad cyflog teilwng i bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus i gydnabod y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ac i gydnabod gwerth gwasanaethau cyhoeddus.

Mae sawl cyd-Aelod wedi cyfeirio at y cyllid sydd o fewn y gyllideb atodol ar gyfer Wcráin ac, fel y gofynnodd y pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ar flynyddoedd 2 a 3. Ar hyn o bryd, dim ond yr eglurder hwnnw sydd gennym ni o ran y flwyddyn gyntaf o gyllid i bobl sy'n dod o Wcráin, a dim byd o gwbl ynghylch blynyddoedd dau a thri. A fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd yn ganiataol, oherwydd bod pobl yn gymwys i gael cymorth drwy fudd-daliadau, eu bod yn gymwys i weithio, na fydd angen cymorth pellach arnynt, ac na fydd angen cymorth pellach ar lywodraeth leol i gefnogi'r unigolion hynny. Ond byddaf yn sicr yn parhau i ddwyn sylw Trysorlys y DU at y pwyntiau hyn—pwyntiau yr wyf eisoes wedi'u gwneud o ran Wcráin gyda'r CST mewn cyfarfod pedrochrog y Gweinidogion cyllid yn ddiweddar. Ac roeddwn hefyd yn pwyso ar y pwynt bod angen i'r cynllun teuluol gael tegwch â'r cynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd mae gwahaniaeth rhwng y ddau gynllun hynny a'r cyllid a'r gefnogaeth y mae'r aelwydydd sy'n darparu'n garedig eu cartrefi i deulu neu ddieithriaid eu derbyn. Felly, mae hwnnw'n faes arall sy'n peri pryder.

Cytunaf yn llwyr â'r cyd-Aelodau hynny sydd wedi amlinellu na ddylid gwario cyllidebau datganoledig ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau cefnogi Wcráin, ond mater i Lywodraeth y DU yw gweithredu yn y meysydd hyn nad ydynt wedi'u datganoli. Ac rwyf yn poeni ei fod yn gosod cynsail, oherwydd mae'r sefyllfa'n mynd ymlaen yn hirach nag a ragwelwyd efallai, felly efallai mai Llywodraeth y DU a ddaw atom ni eto ar gyfer y cyllid pellach hwn. Rwy'n gallu gweld bod fy amser ar ben. Gallwn i siarad drwy'r dydd am y gyllideb atodol a'r craffu, ond nid wyf yn credu y gwnaf, a fe wnaf arbed fy nghyd-Aelodau rhag hynny. Ond ymatebaf i bob un o'r 12 o argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid. 

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni ein hamcanion llesiant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian.

Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, cyflawni ein hamcanion llesiant. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8049 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2021-2022;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, wythnos diwethaf cafodd adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon ei gyhoeddi. Mae'n nodi'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant. Cafodd rhaglen llywodraethu'r Llywodraeth hon ei chyhoeddi llai na chwe wythnos ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2021. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fynd ati'n gyflym i daclo'r heriau sy'n wynebu Cymru ac i ddechrau gweithredu ein rhaglen polisi radical. Fe ddywedon ni y byddai ein Llywodraeth wedi'i selio ar ymddiriedaeth ac uchelgais, ac y byddai'n canolbwyntio ar ffyniannau cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Roedd ein rhaglen llywodraethu'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni 10 amcan llesiant yn nhymor y Llywodraeth hon.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni lofnodi cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru—cytundeb pwrpasol sy'n cynnwys 46 o feysydd lle mae gennym ffyniannau yn gyffredin. Mae rhai o'r mesurau hyn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol hwn, ond fe fydd adroddiad llawn am yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd yn y flwyddyn gyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. 

Dirprwy Lywydd, ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni wedi wynebu cyfres o heriau digynsail—rhai yn gyfarwydd a rhai yn newydd. Rydyn ni'n dal i wynebu canlyniadau Brexit. Mae wedi lleihau maint ein heconomi. Mae wedi creu prinder gweithwyr ym mhob rhan o'r gymuned. Mae wedi arwain at y sefyllfa gywilyddus lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ddiddymu cytundeb rhyngwladol y gwnaeth hi ei negodi a'i lofnodi. Efallai fod y Prif Weinidog Johnson wedi cyflawni Brexit—'Get Brexit done', fel y dywedodd—ond wnaeth e'n sicr ddim ei gyflawni'n llwyddiannus, a dyw e erioed wedi gwneud i Brexit weithio i bobl Cymru. 

Rydyn ni wedi parhau i ddelio ag effaith pandemig byd-eang y coronafeirws. Mae'r feirws hwn yn dal gyda ni. Yn yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau, ac erbyn hyn, unwaith eto, mae ein hysbytai o dan bwysau. Mae 2,000 o aelodau o staff i ffwrdd o’u gwaith oherwydd salwch. Mae ychydig dros 1,000 o gleifion COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, ac mae cynnydd hefyd wedi bod yn y nifer o bobl sydd angen gofal dwys.

Ac yna, ar ben yr heriau hyn, ym mlwyddyn gyntaf y chweched Senedd, rydym ni wedi wynebu argyfwng costau byw digynsail, ac, wrth gwrs, y gwrthdaro sydd yn parhau yn Wcráin ac sydd wedi creu trychineb dyngarol ar ein carreg drws. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd. Mae’n gwneud bywyd beunyddiol yn her i bobl ar draws Cymru wrth i brisiau gynyddu.

Yn y cyd-destun hwnnw, Llywydd, gwnawn ni bopeth o fewn ein gallu ni i gefnogi pobl drwy'r argyfwng hwn. Mae polisïau ar draws 20 mlynedd o ddatganoli wedi rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl: teithio am ddim ar fysiau i nifer cynyddol o ddinasyddion Cymru; presgripsiynau am ddim i bawb; brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd ac yn awr, cinio ysgol am ddim hefyd; rydym ni wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; rydym ni wedi parhau â'r budd-dal treth gyngor; mae gennym ni'r system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig; ac, ym mis Medi, byddwn ni'n ehangu eto'r cynnig gofal plant mwyaf hael gan unrhyw wlad yn y DU. Nawr, Llywydd, mae llawer mwy o bethau y gallwn i gyfeirio atyn nhw, ond gwnaf i'r pwynt cyffredinol hwn yn lle hynny: mae pob un o'r mesurau hyn yn gadael arian ym mhocedi teuluoedd Cymru i'w helpu nhw i ymateb i'r argyfwng costau byw. A nawr, rydym ni'n mynd ymhellach eto. Rydym ni'n darparu £380 miliwn i helpu aelwydydd, gan gynnwys ein taliad cymorth tanwydd gaeaf—taliad o £200 i aelwydydd sy'n cael budd-daliadau cymwys a rhwydwaith newydd o fanciau tanwydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Llywydd, yn dilyn yr ymosodiad digymell ar bobl sofran ac annibynnol Wcráin, mae haelioni a charedigrwydd pobl Cymru wedi bod yn gadarn. Mae bron i 3,700 o bobl o Wcráin nawr wedi cyrraedd, wedi'u noddi gan bobl ledled Cymru a thrwy ein cynllun uwch-noddwyr, ac mae'r nifer hwn yn tyfu bob dydd. Ar yr un pryd, rydym ni wedi rhoi noddfa i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Afghanistan ac yn Syria. Mae bod yn genedl noddfa yn uchelgais sy'n sôn yn uniongyrchol am y fath o wlad yr ydym ni eisiau i Gymru fod. Mae gwireddu'r uchelgais hwnnw'n cymryd gwaith caled bob dydd, ond mae'n waith yr ydym ni, fel Llywodraeth, yn benderfynol o'i wneud.

Nawr, Llywydd, rydym ni wedi wynebu heriau eraill hefyd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r argyfwng hinsawdd a natur wedi parhau heb ei ddatrys, ac rydym ni, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â'r her o weithio gyda llywodraeth y DU sy'n benderfynol o roi'r cloc yn ôl ar ddatganoli ar bob cyfle. Ond er gwaethaf hyn i gyd, rydym ni wedi parhau i gyflawni dros Gymru ac rydym ni wedi parhau i sefyll dros Gymru.

Llywydd, yn yr etholiad fis Mai diwethaf, rhoddodd fy mhlaid chwe addewid allweddol gerbron yr etholwyr. Cafodd y cyntaf o fewn 12 wythnos i ddiwrnod yr etholiad, pan wnaethom ni gadarnhau cyllid llawn gennym ar gyfer 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol gan yr heddlu—swyddogion sy'n gwneud cymaint i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n mynd i'r afael â'r amseroedd aros hir sydd wedi cronni yn ystod y pandemig ac rydym ni wedi sefydlu rhaglen dal i fyny uchelgeisiol, gyda chefnogaeth gwerth £1 biliwn o gyllid. Ac rydym ni nawr yn dechrau gweld gostyngiadau yn yr amseroedd aros hir hynny am driniaeth, ar gyfer profion diagnostig ac ar gyfer therapïau.

Ym maes addysg, gwnaethom ni nodi ein cynllun adnewyddu a diwygio uchelgeisiol i sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn cael ei adael ar ôl oherwydd effaith y pandemig ar eu bywydau. Gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n ariannu 1,800 yn fwy o staff ysgol i gefnogi dysgwyr ac rydym ni wedi penodi a chadw mwy na'r nifer hwnnw i ddarparu'r cymorth hanfodol sydd ei angen ar ein plant. Gwnaethom ni addo gwarant i bobl ifanc, ac ym mis Tachwedd, cafodd y rhaglen feiddgar hon ei lansio gennym ni, gan ddarparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac o fewn pedwar mis yn unig, Llywydd, mae dros 2,700 o bobl eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw.

Llywydd, yr oeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud cynnydd mor gyflym i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol. Gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gwaith i wella telerau ac amodau'r gweithwyr hynny ledled y sector cyfan.

Yn nhymor y Senedd hon, am y tro cyntaf, mae gennym ni weinidogaeth newid hinsawdd, sy'n dwyn ynghyd popeth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym ni wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ym mis Hydref, gwnaethom ni gyhoeddi Sero Net Cymru, yn nodi sut y byddwn ni'n cyrraedd ein targedau cyllidebu carbon. Ac yn y mis hwnnw, gwelodd y gynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 Weinidogion Cymru yn cymryd rhan ac yn ymrwymo i weithio gydag eraill, er enghraifft, drwy'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, gan ddangos ein hymrwymiad rhyngwladol i ymdrin â'r argyfwng hwnnw.

Yn nes at adref, rhaid i ni blannu mwy o goed i wrthbwyso'r difrod sydd eisoes yn cael ei achosi i'n hinsawdd. Byddwn ni'n sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru, byddwn ni'n creu tri choetir coffa yn y gogledd, y gorllewin a'r de i gofio pawb, gwaetha'r modd, a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig. A byddwn ni'n gwobrwyo ffermwyr sy'n plannu'r coed sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. A, Llywydd, mae'r coed sydd eu hangen arnom ni'n cynnwys coedwigoedd masnachol, fel y bydd modd adeiladu ein tai yn y dyfodol o bren sydd wedi'i dyfu yma yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni wedi dyblu'r gyllideb ar gyfer y grant tai cymdeithasol eleni i £250 miliwn ac wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol arall yn y gyllideb ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf, i'n helpu ni i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu.

Nawr, Llywydd, mae ein hamcanion llesiant yn ein hymrwymo ni i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb, ac ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, rydym ni wedi cymryd camau breision tuag at y nod hwnnw. Rydym ni wedi sefydlu tasglu hawliau anabledd, rydym ni wedi ymgynghori ar ein cynllun gweithredu LGBTQ+, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gyda'n strategaeth newydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r mis diwethaf, gwnaethom ni gyhoeddi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', gan ein rhoi ni ar y llwybr at fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Ac wrth i'n Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, byddwn ni'n sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei gydnabod, wrth i addysgu hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ddod yn orfodol yma yng Nghymru.

Llywydd, mae cymaint mwy wedi'i gynnwys ar dudalennau'r adroddiad blynyddol hwn na allaf wneud cyfiawnder ag ef y prynhawn yma. Ein camau i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, y cwricwlwm newydd yn ein hysgolion, ein camau gweithredu i ehangu addysg y blynyddoedd cynnar a'r defnydd o'r Gymraeg, y gwasanaeth cerdd cenedlaethol, y cynllun treialu incwm sylfaenol, y rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol y gwnes i ei hamlinellu'r wythnos diwethaf. Dyma rai o'r cyflawniadau niferus sydd wedi'u hamlygu yn adroddiad blynyddol cyntaf y tymor hwn. Mae'r adroddiad hwnnw'n dangos, er gwaethaf yr heriau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ein bod ni wedi parhau i ddarparu llywodraeth sefydlog, benodol a moesegol i bobl Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn ni'n parhau i weithio tuag at ein hamcanion llesiant, er mwyn sicrhau'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno.

18:50

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau mawr o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau cyson sydd ar y systemau iechyd ac addysg.

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflogau mynd adref rhwng pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a chynigiaf y gwelliant yn ffurfiol yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. A chyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn i hefyd gofnodi, yn ystod y 12 mis diwethaf, ddiolch diffuant fy ngrŵp i'r holl weithwyr GIG a'r gweithwyr cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino yn y pandemig COVID yr ydym ni'n parhau i'w wynebu heddiw. Gwn i y byddwn ni'n anghytuno ar bolisi o dro ar ôl tro, y Prif Weinidog a minnau—democratiaeth yw hynny—ond roeddwn i bob amser yn ddiolchgar iawn am y papurau briffio a roddodd ef i mi, ac rwy'n credu, yn y dull gweithredu ar y cyd hwnnw, gyda phleidiau eraill yn y Senedd, fod posibilrwydd y gallem ni gydweithio ar wahanol agweddau yr oedd pobl yn wirioneddol bryderus yn eu cylch, ac roeddwn i wedi defnyddio'r geiriau 'ofnus', yng ngoleuni rhai o'r dyddiau dwys, tywyll yr ydym ni wedi mynd drwyddyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, hoffwn i gofnodi'n ffurfiol fy niolch diffuant i bawb a wynebodd her COVID ac sy'n parhau i wynebu her COVID.

Ond hoffwn i ddechrau gyda'r sylwadau y codais i gyda'r Prif Weinidog yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog y cawsom ni'r prynhawn yma. Y naratif pwysicaf sydd wedi dominyddu'r 12 mis diwethaf yw amseroedd aros y GIG, ac mae maint yr her honno wedi mynd yn fwy ac yn dywyllach wrth i bob wythnos a phob mis fynd heibio, gyda 700,000 o bobl ar restr aros heddiw yma yng Nghymru—un o bob pump o'r boblogaeth—a 68,000 o'r 700,000 o'r bobl hynny'n aros dwy flynedd neu'n fwy. Mae honno'n her enfawr nad yw datganiad y rhaglen lywodraethu hon heddiw, na'r ddadl heddiw, yn gwneud cyfiawnder â hi yn y ffordd y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati, nid wyf i'n credu.

Gallwch chi gyfeirio at rannau eraill o'r DU sydd wedi wynebu'r un heriau COVID ag sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac sydd wedi troi'r gornel yn eu niferoedd. Fel y dywedais i yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, yn Lloegr aeth hi mor uchel â 23,000, yr aros am ddwy flynedd, ond mae wedi gostwng i 12,000 erbyn hyn. Felly, mae angen cynllun mwy cydlynol ymlaen arnom ni gan Lywodraeth Cymru ar y mater allweddol hwn. Mae angen i ni fod yn hyderus bod gan y Prif Weinidog a'i Lywodraeth y cynlluniau recriwtio ar waith i adfywio gweithlu'r GIG. Fel yr wyf i wedi codi gydag ef o'r blaen, fel meddygon a recriwtio meddygon, er enghraifft, gyda lleoedd hyfforddi sy'n ofynnol gan amcangyfrif Cymdeithas Feddygol Prydain ei hun o 200 lle y flwyddyn, a'r Prif Weinidog yn cydnabod y gallai hynny, o bosibl, fod yn ffigur gwirioneddol, pan fydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ariannu unrhyw beth o 150 i 160 lle ar gyfer hyfforddi meddygon. Felly, nid yw'r adroddiad hwn yn cynnig map ffordd i ni yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â'r diffygion difrifol sy'n bodoli yn ein GIG.

A dim ond yr wythnos diwethaf, tynnais i sylw'r Prif Weinidog at ymrwymiad Llafur ar ofal plant a phlant mewn gofal yn cael eu cartrefu mewn gwely a brecwast ac amgylcheddau heb eu rheoleiddio, lle'r oedd adroddiad y BBC yn tynnu sylw at y ffaith bod 50 o blant yn agored i risg a bod 270 o blant mewn lleoliad llety heb ei reoleiddio, er bod hwn wedi bod yn ofyniad allweddol i Lywodraeth Lafur, i gael gwared arno'n raddol mor bell yn ôl â 2015. Mae bron i saith mlynedd yn ôl ers bod yr ymrwymiad hwnnw wedi'i sefydlu. Rwy'n deall mai ymrwymiad y Llywodraeth heddiw yw gwneud hynny, ond mae'r sefyllfa honno'n dal yn bodoli.

Ac yna pan edrychwn i ar y materion cladin ar dai, p'un ai yng Nghaerdydd, Abertawe, yn y gogledd, ledled Cymru gyfan, mae trigolion wedi teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r mater allweddol hwn. Nid wyf yn amau ymrwymiad personol y Gweinidog ei hun i hyn, ond pan edrychwch chi ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n wynebu'r datblygwyr ac mewn gwirionedd yn defnyddio'r dulliau deddfwriaethol sydd ganddyn nhw i ddod â'r datblygwyr at y bwrdd, fel eu bod yn cyfrannu at yr hyn sy'n fai arnyn nhw—nid bai'r trigolion, nid bai'r lesddeiliaid—a rhoi'r mesurau adferol ar waith, nid yw'r ddadl hon y prynhawn yma'n sôn am y pryderon gwirioneddol hynny y mae pobl yn byw gyda nhw o ddydd i ddydd, bob diwrnod o'r wythnos, ac mae hynny'n ddiffyg cynnydd yn gorwedd yn uniongyrchol wrth ddrws Llywodraeth Cymru.

Rwy'n llwyr ategu ac yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran y rhyfel yn Wcráin, ac mae'r statws uwch-noddwr a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill yn rhywbeth i'w ganmol. Fodd bynnag, fel y dywedais i wrth y Prif Weinidog bythefnos yn ôl, gyda'r Prif Weinidog yn atal y ceisiadau presennol i'r cynllun, lle mae tua 3,000 o hyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, ffoaduriaid sy'n aros i ddod i Gymru, mae angen rhywfaint o gyflymder i'w gyflwyno i'r cynllun fel y mae modd ei ailagor, ailgychwyn, a lle gallwn ni gartrefu a chysgodi a chynnig y blanced gysur honno o ddiogelwch, dylem ni fod yn gwneud hynny. Fel y dywedais i, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud ar yr eitem benodol hon ar yr agenda, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n rhoi'r cynllun hwnnw ar waith a bod egni'r Llywodraeth yn cael ei gyfeirio at wneud hynny.

Gallwn siarad llawer mwy, ond rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond pum munud sydd gennyf i wneud hynny, nad yw ynddo'i hun yn gwneud cyfiawnder â dadl ar raglen lywodraethu gyfan. O ran y datganiad deddfwriaethol, dywedais i wrth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yr hoffem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, fod wedi gweld Bil awtistiaeth a hoffem ni fod wedi gweld Bil Iaith Arwyddion Prydain—dau beth a fyddai wedi grymuso pobl drwy'r broses ddeddfwriaethol yn ein cymunedau ni i gael gwarantau a sicrwydd gwirioneddol, ac iawndal cyfreithiol pan fyddan nhw'n teimlo nad yw gweithredoedd y darparwr wedi'u cyflawni. Yn anffodus, nid ydym ni'n gweld hynny yn y datganiad deddfwriaethol, ac felly mae'n amlwg na allem ni gefnogi na chymeradwyo'r cynnydd y mae'r cynnig hwn yn sôn bod gan y datganiad deddfwriaethol. Felly, cynigiaf y gwelliannau'n ffurfiol yn enw Darren Millar ar y papur trefn heddiw, a gobeithiaf y byddan nhw'n cael eu cefnogi ar draws y Cyfarfod Llawn.

19:00

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod nifer o bolisïau trawsnewidiol yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu.

Gwelliant 3—Sian Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru ac mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau dyfodol gwirioneddol gryfach, gwyrddach a thecach i bobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna gymaint y gallwn i, ac yr ydw i yn aml, yn beirniadu’r Llywodraeth yn ei gylch. Dwi’n cymryd fy rôl o ddifri fel llefarydd iechyd a gofal fy mhlaid, yn dal Llywodraeth i gyfrif ar y gwasanaeth iechyd, ac mi barhaf i wneud hynny tan y byddaf i’n gweld bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd a gofal y maen nhw’n ei haeddu. Ond, yn ysbryd diwedd tymor fel hyn, gwnaf i ddechrau, o leiaf, ar nodyn positif iawn. Mae’r adroddiad blynyddol yma'n cyfeirio at raglen lywodraethu sy’n adeiladu cenedl, a dwi’n meddwl, diolch i gyfraniad Plaid Cymru, bod yma raglen a all ddod â buddion gwirioneddol a phendant i bobl Cymru.

Efo’r sentiment hwnnw, dwi’n cynnig gwelliant cyntaf Plaid Cymru, sy’n croesawu a chydnabod effaith y cytundeb cydweithio ar y rhaglen lywodraethu. Mae’r adroddiad blynyddol yn rhoi ffocws ar sut all y Llywodraeth weithredu mewn ffordd ataliol, ac mae hynny’n arbennig o berthnasol ym maes gofal iechyd. Ond er mwyn gweld y dull ataliol yma yn cael effaith go iawn, fel bod llai o bobl yn y pen draw yn dibynnu ar wasanaethau iechyd, yn dibynnu ar y system gyfiawnder, er enghraifft, dydy cael syniad neu gael bwriad ddim yn ddigon. Mae’n rhaid cael cyllid, mae’n rhaid cael polisi radical hefyd, a diolch i'r cytundeb cydweithio, mae ymyriadau ataliol radical ac allweddol, fel prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, a darpariaeth gofal plant, wedi’u hehangu yn sylweddol, ac wedi cael blaenoriaeth o’r diwedd. Ydyn, maen nhw’n gostus, ond mi fyddwn ni’n elwa fel cenedl yn y blynyddoedd i ddod pan fyddwn ni wedi rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’r genhedlaeth ieuengaf.

Efo dim ond chwe mis o’r cytundeb y tu ôl i ni, mae yna sawl cerrig milltir rydyn ni wedi'u cyrraedd yn barod—y broses o gyflwyno prydiau ysgol am ddim ar waith, rydyn ni’n disgwyl deddfwriaeth am ddiwygio’r Senedd y flwyddyn nesaf, pecyn o fesurau ar y gweill i drio taclo’r argyfwng tai, sy’n prisio pobl allan o’u cymunedau eu hunain, a heddiw mi gafodd ymgynghoriad ei lansio fel cam tuag at dreth gyngor decach. Mae pob un o’r polisïau yma yn gwneud ei gyfraniad ei hun—cyfraniad pwysig at lunio dyfodol sy’n canolbwyntio ar les y genhedlaeth nesaf. Mae’n rhaid i ni rŵan sicrhau, wrth gwrs, bod y polisïau uchelgeisiol yma yn cael eu mabwysiadu ar bob lefel o lywodraeth—fan hyn, llywodraeth leol, lle bydd cynghorau o blaid y Prif Weinidog a fy mhlaid innau yn gyfrifol am gyflawni llawer o’r mentrau.

Wrth gwrs, mae yna gyfyngiadau mawr i’r Llywodraeth, sy’n cael eu hadlewyrchu yn ail welliant Plaid Cymru. Fel un sydd wedi credu gydol fy oes mewn annibyniaeth, dwi wastad yn rhwystredig o feddwl beth allai fod. Trafod rheilffyrdd oedd Laura McAllister dros y penwythnos, pan ddywedodd hi,

'Mae'n ymddangos yn amlwg y gall gwneud pethau'n well o fewn y system bresennol nad yw wedi'i datganoli arwain at welliannau ymylol yn unig'.

Er ein bod ni yn gwneud ein gorau dros bobl Cymru yn y Senedd yma, mae’r methiant i integreiddio penderfyniadau polisi a phenderfyniadau cyllid ar y lefel uchaf yn atal newid gwirioneddol drawsnewidiol. Yng nghyd-destun rheilffyrdd, efallai bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, ond tra y bydd San Steffan yn dal y pŵer dros seilwaith rheilffyrdd, mi fyddwn ni'n parhau i ddioddef gwerth biliynau o bunnau o danariannu a diffyg buddsoddiad mewn unrhyw seilwaith newydd, mewn unrhyw ddarn o drac newydd. Allwn i ddim ei roi yn well na beth sydd yn yr adroddiad blynyddol ei hun:

'Yng Nghymru, ni sy’n gwybod orau beth sy’n gweithio i Gymru.'

Ond pan ydyn ni’n cael y blaenoriaethau’n iawn, dyw’r gallu, yn y pen draw, ddim yna i ddelifro. Rydyn ni eisiau gwarchod gweithwyr. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau dileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017. Rydyn ni’n ariannu cymorth i’n cyfeillion o Wcráin, ac rydyn ni yn arloesi yn ein cynlluniau i groesawu ffoaduriaid. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd arian heb ofyn tuag at gymorth milwrol. Nid gwneud sylw am beth mae'r arian yn cael ei wario arno fo ydw i, ond y ffaith ei fod yn cael ei gymryd heb ofyn oddi ar gyllidebau iechyd, cyllidebau addysg a newid yn yr hinsawdd, pan fo trethi Cymru eisoes wedi cyfrannu at gyllid amddiffyn y Deyrnas Unedig. 

Rydyn ni eisiau arloesi mewn ynni adnewyddol, ond mae Gweinidogion yn San Steffan yn gwadu y gallu i ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i greu refeniw drwy ddatganoli Ystad y Goron, rhywbeth maen nhw wedi ei wneud i'r Alban. Ac er gwaethaf addewid penodol gan y Prif Weinidog na fyddai Cymru geiniog yn waeth o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Prydain yn pocedu gwerth £1 biliwn o arian ddylai fod wedi dod i Gymru. Po fwyaf mae Llywodraeth San Steffan yn torri ei haddewidion, y mwyaf mae o'n chwalu y Deyrnas Unedig, ond yn yr un modd, po hiraf mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwadu hynny, y pellaf fydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl ym mha bynnag weddillion o'r hen Deyrnas Unedig fydd yn weddill.  

19:05

Mae fy nghyfraniad yn mynd i fod yn fwy technegol ei natur, rwy'n credu. Yn gyntaf, Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn, y cyntaf o'r Senedd hon? Mae adroddiad blynyddol yn rhywbeth y dylem ni edrych ymlaen ato. Mae'n rhoi cyfle i ganmol llwyddiant, ond dylai hefyd roi cyfle i ddangos lle mae pethau'n anghywir. Dylai ddangos hunanymwybyddiaeth y Llywodraeth i wybod ble mae pethau ar raddfa pethau.

Mae 10 amcan llesiant i'w croesawu. Roeddwn i'n edrych ymlaen at ddarllen drwy'r adroddiad, ac roeddwn i'n edrych ymlaen at gyrraedd y gwerthusiad yr wyf i mor gyfarwydd ag ef fel cyn arweinydd cyngor, yn gorfod paratoi ar gyfer rheoleiddwyr, ar gyfer cynulleidfaoedd a allai fod yn arolygu fy nghynlluniau blynyddol yr oeddwn i'n eu cyflwyno. Ond, roeddwn i'n siomedig o weld nad oedd unrhyw ffordd o werthuso'r stori sy'n cael ei hadrodd wrthym ni. Er bod llawer o bethau da yn yr adroddiad, rwy'n siŵr bod llawer o feysydd lle mae angen i'r bobl ddeall ychydig mwy am yr hyn sydd wedi mynd o'i le, beth sydd ei angen i unioni pethau, a sut y byddai'r pethau hynny'n cael eu mesur. Mae rheoli perfformiad yn allweddol mewn unrhyw sefydliad, ac ni ddylem ni ond ei gymryd yn ganiataol pan gaiff ei gyflwyno gydag adroddiad blynyddol. Dylem ni allu craffu ar hynny fel Senedd a herio, a deall beth sydd angen digwydd i wella pethau. 

Rwyf i wedi arfer edrych ar dablau RAG—rwy'n siŵr bod llawer ohonoch yn gwybod am y rheini; tablau coch, oren, gwyrdd sy'n cyd-fynd ag adroddiadau. Llywydd, sut y mae'r Senedd wir yn gwerthuso'r mathau hyn o adroddiadau, neu sut y bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol? Rwy'n gwybod fy mod i, mae'n debyg, yn bod yn naïf wrth ddisgwyl pethau o'r fath, ond rwy'n credu ei bod yn arfer da i ni allu edrych ar sut mae pethau'n mynd rhagddynt, a sut mae'r Llywodraeth ei hun yn gwerthuso cynnydd yn erbyn ei hamcanion. A oes targedau? Pa dargedau sy'n cyd-fynd â'r 10 nod llesiant hyn, a sut yr ydym ni'n gwerthuso'r rheini? Heb herio data'n gadarn, siawns nad yw'r Llywodraeth mewn perygl o gredu safbwyntiau nad ydyn nhw bob amser yn gywir. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n darllen amcan 1, 

'Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel',

gallech chi gael eich camarwain i deimlo nad yw pethau'n rhy ddrwg—y gallai pethau fod yn oren, yn ffiniol wyrdd. Fodd bynnag, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gadarn y bore yma ac eto heddiw, ac mae llawer o rai eraill yn adrodd hyn i ni bob dydd—. Yn wir, eisteddais i mewn cyfarfod neithiwr lle y gwnaethom ni glywed am berfformiad ofnadwy yn ein bwrdd iechyd. Felly, y gwir sefyllfa yw, ar sail sgôr RAG, yw y byddai hyn yn goch—coch sylweddol—a byddwn i'n cael fy nwyn i gyfrif os mai fy sefydliad i ydoedd, gan y Gweinidog llywodraeth leol bryd hynny, ac rwyf wedi cael fy herio droeon yn y gorffennol. 

Mae llawer o feysydd sy'n haeddu cydnabyddiaeth, ond rwyf i'n apelio arnoch chi, Prif Weinidog, yn y dyfodol, bod gennym ni'r darlun llawn mewn adroddiadau blynyddol, y cyfle i herio cyfeiriad y Llywodraeth hon yn gadarn, a sut y mae pethau'n cael eu cyflawni, oherwydd ar hyn o bryd, rwy'n teimlo ei bod yn anodd deall. Mae'n rhaid i mi ei gymryd yn ganiataol mai dyma beth yr ydym ni'n ei wneud. Sut ydw i'n gwybod sut yr ydym ni'n mynd i wneud yn well? Diolch yn fawr, Llywydd.  

19:10

Llywydd, diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am yr hyn y dywedodd ef am y gallu i gydweithio pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny? Bydd cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod hefyd i barhau i wneud hynny pan fo gennym rai agendâu ar y cyd. Gwaith y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu, Llywydd, felly rwy'n deall, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn gafael mewn un ystadegyn o rywle arall ac yn ceisio seilio adeiladwaith cyfan arno, ei fod yn gwneud y gwaith y mae disgwyl iddo'i wneud. Ni ddylai hynny ymestyn i beidio â rhoi cydnabyddiaeth briodol i bethau lle mae'r clod hwnnw'n haeddiannol. Gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â datblygwyr tai a datblygwyr adeiladau ddoe ddiwethaf er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau yma yng Nghymru, yn union fel y mae disgwyl iddyn nhw ei wneud mewn mannau eraill.

O ran plant sy'n byw mewn llety dros dro, mae hi dal yn amcan y Llywodraeth hon i ddileu'r defnydd hwnnw, ac edrychaf ymlaen at allu cydweithio ar rai o'r polisïau heriol y bydd angen i ni eu cyflwyno er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni'r amcan hwnnw.

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn y dywedodd ef am y camau a gafodd eu cymryd i gefnogi pobl sy'n dod o Wcráin. Bydd ef wedi gweld bod yr Alban heddiw hefyd wedi gorfod atal ei llwyfan uwch-noddwyr, a hynny oherwydd bod y cyflymder y mae pobl yn cyrraedd Cymru a'r Alban yn awr yn golygu, er mwyn gallu parhau i ofalu am bobl yn y ffordd y byddem ni'n ei ddymuno, fod yn rhaid i ni gael cydbwysedd yn y system, lle bo'r bobl sy'n gadael ein canolfannau croeso yn gytbwys yn fras â'r bobl sy'n cyrraedd. Gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud hynny'n gyflymach, ond mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn. Pan fyddwn ni'n cynnig cyfle i bobl symud i'r trefniadau tymor hirach hynny, rydym ni eisiau gwneud hynny ar y sail orau bosibl a gyda'r risg leiaf posibl y bydd y trefniadau hynny'n chwalu. 

Diolch i Rhun ap Iorwerth. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau cydweithio gyda Plaid Cymru ar bopeth sydd yn ein cytundeb. Fel y dywedodd e, rydyn ni wedi dechrau ar hwnna yn gyflym yn barod, a dwi'n edrych ymlaen at fis Rhagfyr pan fydd cyfle i ni adrodd ar bopeth sydd yn y cytundeb yn llawn. Rydyn ni wedi bod yn siarad heddiw, Llywydd, am nifer o bethau lle rydyn ni wedi cydweithio yn barod—diwygio'r treth gyngor; dim ond heddiw mae'r Gweinidog cyllid wedi cyhoeddi nifer o bosibiliadau heriol a radical. Ond, os ydyn ni'n mynd i wneud pethau sy'n radical, bydd rhaid i ni wneud pethau sy'n heriol hefyd. Dyna bwrpas cydweithio, i fwrw ymlaen gyda pethau fel yna. Wrth gwrs, dydy taith datganoli ddim ar ben. Ond, pan ydych chi'n gweithio tu fewn i'r Llywodraeth, mae'n rhaid i chi ffocysu ar y pethau y gallwn ni eu gwneud ac y gallwn ni eu gwneud heddiw, ac nid jest siarad am bethau na allwn ni eu gwneud. Gwaith y Llywodraeth yw, fel rydyn ni wedi dangos yn yr adroddiad blynyddol, i ddefnyddio'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gyda ni yn barod.

Diolch i Peter Fox am yr hyn y dywedodd ef. Byddaf i'n meddwl yn ofalus am yr hyn y dywedodd. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae gennym ni fôr o ddata. Rydym ni'n cyhoeddi mynydd o ddata fel Llywodraeth. Nid yw'n broblem o fod heb ddigon o ddata, yr hyn nad ydym ni bob amser yn ei wneud gymaint ag y byddem ni eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar yr esboniad sydd y tu ôl i'r data hynny, y ddealltwriaeth ohono. Os oes mwy y gallwn ni ei wneud mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol i adlewyrchu hynny, fel y dywedais i, byddaf i'n rhoi ystyriaeth ofalus i'r hyn y dywedodd ef.

Yn y cyfamser, Llywydd, dyma adroddiad blynyddol cyntaf tymor y Senedd hon. Mae'n dangos, rwy'n credu, y dechrau cryf sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcanion llesiant hynny, er gwaethaf y ffaith eich bod chi, mewn unrhyw fath o lywodraeth, yn treulio llawer iawn o'ch amser yn ymdrin â phethau nad oedden nhw'n rhan o'ch cynllun ac yn wir ymhell y tu hwnt i'ch cwmpas eich hun. Felly, p'un ai yw hi'n Brexit neu'n COVID, neu'r argyfwng costau byw, neu ryfel yn Ewrop, mae'r holl bethau hynny'n pwyso ar y Llywodraeth bob dydd. Ac eto, mae'r adroddiad blynyddol yn dangos ein bod ni wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol, gan nodi'r sylfeini ar gyfer y blynyddoedd i ddod, i gyflawni'r mandad y gwnaeth pobl Cymru ei roi i'r Llywodraeth hon. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny.

Ni fyddwn ni'n gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Darren Millar. Byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant cyntaf a gafodd ei gyflwyno gan Siân Gwenllian. Ni fyddwn ni'n gallu cefnogi'r ail un. Ac, felly, gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n barod i gefnogi'r cynnig diwygiedig, os mai dyna sydd o'n blaenau ni i'w benderfynu. Diolch yn fawr. 

19:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i welliant 1 ac, felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, fe gymerwn ni doriad byr er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais hynny yn dechnegol. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:16

Ailymgynullodd y Senedd am 19:18, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

18. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma fydd eitem 6. Eitem 6 yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig yna, dan eitem 6, wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 8 yw'r bleidlais nesaf, y Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, un yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi ei gymeradwyo.

19:20

Eitem 8. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 sydd nesaf. Y rhain yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn o dan eitem 9.

Eitem 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 11 sydd nesaf. Yr eitem yma yw'r Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022: O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 15 fydd nesaf. Hon yw'r bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 16 sydd nesaf, sef y ddadl ar gyllideb atodol gyntaf 2022-23. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna, o dan eitem 16, wedi ei dderbyn.

Eitem 16. Dadl: Cyllideb atodol gyntaf 2022-23: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 17 fydd y bleidlais nesaf, ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyflawni ei hamcanion llesiant. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 17. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 17. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 fydd nesaf, felly, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

Eitem 17. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dwi'n galw nawr, yn derfynol, am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM8049 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2021-2022;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol;

c) yn croesawu'r ffaith bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod nifer o bolisïau trawsnewidiol yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 17. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—cyflawni ein hamcanion llesiant. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 19:24.