Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/05/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a phrynhawn da, Brif Weinidog.

Gwaith Cynnal a Chadw Ystadau Tai Newydd

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol? OQ58078

Prynhawn da i'r Aelod.

Llywydd, mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r ffordd y codir taliadau ystadau am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau. Mae'r trefniadau presennol yn rhy gymhleth ac yn rhy aml yn annheg. Byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio, ar gyfer ystadau newydd a phresennol.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r mater penodol hwn yn dod o ardal yr ydych chi yn ei hadnabod yn dda iawn, mae'n debyg, ac mae'n debyg i chi dreulio peth amser yno yn ystod yr etholiadau diweddar—ystad y Felin yn Nhreganna. Nawr, mae'n rhaid i'r trigolion yno dalu ffi flynyddol o £102 am gynnal a chadw parc sy'n ffinio â'r ystad, priffyrdd a mannau gwyrdd heb eu mabwysiadu ac ati. Ac, wrth gwrs, mae hyn ar ben y dreth gyngor y mae angen iddyn nhw ei thalu. Nawr, rwy'n gwybod bod fy nghyfaill Hefin David wedi gwneud llawer o waith ar hyn dros y blynyddoedd, oherwydd nid yw'r trigolion hyn hyd yn oed yn cael manylion am yr hyn y mae angen iddyn nhw ei dalu, ac, wrth gwrs, maen nhw'n talu am wasanaethau y mae pobl eraill sy'n byw yn Nhreganna yn eu cael, i bob pwrpas, am ddim drwy'r awdurdod lleol. 

Nawr, cafodd y Felin ei chydnabod yn enghraifft o arfer da, a hynny'n gwbl briodol, gan Lywodraeth Cymru, sef ystad gymysg gyda thai fforddiadwy a phrynu rhydd-ddaliadol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddod â'r arfer gwael ac annheg hwn i ben drwy annog a hwyluso'r broses o fabwysiadu gwaith cynnal a chadw gan awdurdodau lleol? Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol. 

Llywydd, rwy'n falch iawn o safle'r Felin; rwyf wedi ymweld â hi droeon. Bydd yn creu 800 o gartrefi newydd yng nghanol Caerdydd ar safle tir llwyd. Mae'n deyrnged mewn sawl ffordd i'n cyn gyd-Aelod Edwina Hart, a lwyddodd i greu cyfundrefn ariannu arloesol sy'n golygu nad yw'r 400 o dai fforddiadwy ar y safle yn cynnwys unrhyw grant tai cymdeithasol o gwbl, ac mae Tirion yn goruchwylio hynny, cymdeithas budd cymunedol nid-er-elw sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cartrefi cymdeithasol hynny y mae eu hangen yn ddirfawr. Mae'r safle'n gymhleth oherwydd ei ddeiliadaeth gymysg. Bydd tai sy'n eiddo preifat wedi'u gwerthu ar sail taliadau ystad a nodwyd adeg eu gwerthu. Tirion sy'n gyfrifol am yr amwynderau cymunedol sydd ar gael i'r holl ystad.

Mae gennyf newyddion gwell i'r Aelod oherwydd rwy'n gweld bod Tirion wedi ysgrifennu at drigolion yn y dyddiau diwethaf, gan ostwng y tâl o £102 i £80, gan roi bil wedi'i eitemeiddio i bob preswylydd. Ac nid ar gyfer cynnal a chadw man chwarae yn unig y mae'r taliadau, fel yr honnwyd weithiau. Yn hollbwysig, mae hefyd ar gyfer cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer y safle cyfan hwnnw. Fe'i gelwir yn 'glan afon', Llywydd; mae'r cliw yn yr enw, fel y dywedir. Mae'n ardal, yn anochel, lle mae llifogydd yn bosibilrwydd, a lle mae amddiffynfeydd rhag llifogydd felly'n bwysig iawn.

Yn y cwestiwn gwreiddiol gan yr Aelod, ac yn ei gwestiwn dilynol, gofynnodd a fyddem ni'n rhoi sicrwydd y byddai awdurdodau lleol yn talu costau cynnal a chadw ystadau tai newydd. Ni fyddwn yn gwneud hynny, Llywydd. Byddai hynny'n creu perygl moesol i ddatblygwyr o fath a fyddai'n gwbl annymunol. Pe bai datblygwr yn credu, ni waeth pa mor wael yw'r gwaith, ni waeth pa mor wael yw safon y cyfleusterau cymunedol, byddai sicrwydd y byddai'r pwrs cyhoeddus yn talu am hynny ac yn ei gywiro, nid oes cymhelliad o gwbl iddyn nhw wneud y gwaith yn y ffordd yr ydym eisiau iddo gael ei wneud. Byddwn yn diwygio'r system ar gyfer ystadau tai newydd a phresennol, ond mae'r costau'n debygol o barhau i gael eu rhannu. Yr awdurdodau lleol i wneud mwy, rwy'n cytuno â hynny—mae mwy y dylai awdurdodau lleol ei wneud. Ond o ran y syniad y dylen nhw yn unig ddod yn gyfrifol, pan fo gan gwmnïau gyfrifoldebau a phan fo gan drigolion gyfrifoldebau, rwy'n credu mai system driphlyg o hyd fydd y ffordd o gynllunio system well ar gyfer y dyfodol.

13:35

Diolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater, ac, fel y mae'r Aelod newydd ei ddweud, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i symud ymlaen gyda mabwysiadu ystadau tai. Ond rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog, fod cyfrifoldeb ar y datblygwyr i gwblhau'r gwaith mewn modd priodol. Mae hefyd yn bwysig bod datblygwyr yn chwarae eu rhan hefyd, ac mae llawer o enghreifftiau o gwmnïau cyfrifol yn cyfrannu at ystadau tai newydd, yn ôl y disgwyl—drwy barciau chwarae, cyfleusterau cymunedol, ac ati. Fodd bynnag, Llywydd, mae gormod o enghreifftiau o awdurdodau lleol nad ydyn nhw'n cael y swm llawn sy'n ddyledus iddyn nhw drwy gyfraniadau adran 106. Rwy'n siŵr y gall llawer o Aelodau, ar draws y Siambr, gofio enghreifftiau o hyn yn eu hetholaethau eu hunain. Ceir achosion hefyd pan nad yw datblygwyr yn darparu'r nifer o dai cymdeithasol a addawyd yn ystod y cam ceisiadau cynllunio, ond yn hytrach yn ail-werthuso nifer yr anheddau sydd i'w hadeiladu ar y tir yn ystod y broses adeiladu ei hun, gan ddyfynnu'n aml yr angen i wneud hynny ar sail hyfywedd. Ac mae hyn yn arwain at restrau aros cynyddol am dai cymdeithasol. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o roi hwb i'r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau bod pob datblygwr tai yn chwarae ei ran lawn wrth ddatgloi potensial ein cymunedau? A sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda datblygwyr i annog adeiladu seilwaith cymdeithasol pwysig, yn ogystal â'r tai newydd? Diolch.

Llywydd, mae pob un o'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn y mae Peter Fox yn eu gwneud, a gwn y bydd yn siarad o brofiad o orfod negodi'r cytundebau hyn. Mae'n iawn—mae llawer o gwmnïau adeiladu cyfrifol ar gael, gyda Tirion y cyfeiriais ato yng nghyd-destun safle'r Felin yng Nghaerdydd yn un ohonyn nhw. Ond mae gormod o enghreifftiau, y bydd yn eu hadnabod, a gallem ni i gyd ddyfynnu o'n cyfrifoldebau etholaethol ein hunain, pan nad yw datblygwyr yn cwblhau'r fargen y maen nhw eu hunain wedi ymrwymo iddi gydag awdurdodau lleol. Mae fy nghyd-Aelod Julie James yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod cytundebau a wneir yn wirfoddol, a chaniatâd cynllunio a ddarperir ar sail y cytundebau hynny, yn cael eu hanrhydeddu, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer tai fforddiadwy a chymdeithasol yma yng Nghymru. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd rhan uniongyrchol a gweithredol iawn wrth lunio'r llwyfan polisi ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny'n cael eu cyflawni'n briodol.

Os caf ddod yn ôl at gynsail y cwestiwn, sef rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau, nid yw'r cwmnïau hyn yn cael eu rheoleiddio'n dda—mewn gwirionedd, prin eu bod yn cael eu rheoleiddio o gwbl. Nid oes unrhyw gap ar y taliadau y mae pobl yn eu hwynebu, ac, yn aml iawn, mae'r gwaith yn wael, a lle nad yw tir yn cael ei fabwysiadu, caiff ei werthu i'r cwmni rheoli ystadau, sydd wedyn yn codi tâl ar breswylwyr ar ben eu treth gyngor. Mae'r tâl yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn £162, sy'n uwch nag yng Nghaerdydd, ar gyfer ardaloedd o dir gwyrdd y gallai'r cyngor, mewn gwirionedd, ei wneud. Cefais gyfarfod gyda'r Gweinidog Julie James a dywedodd ei bod yn aros i Lywodraeth y DU weithredu, ac yna bydd yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i fynd i'r afael â'r bylchau a allai fod yn y ddarpariaeth honno. Mae gwir angen gweithredu yma. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried gweithredu drwy bwerau deddfu Llywodraeth Cymru os bydd Llywodraeth y DU yn methu â mynd i'r afael â hyn mewn da bryd?

Llywydd, diolch i Hefin David am godi'r pwyntiau hynny ac am y dyfalbarhad y mae wedi'i ddangos wrth ddilyn y mater hwn yn ystod tymor y Senedd flaenorol ac i mewn i hon. Mae'n iawn i ddweud y gwelir arferion annerbyniol ac annheg mewn rhannau o Gymru, sy'n bosibl oherwydd natur anrheoleiddiedig cwmnïau rheoli ystadau a'r taliadau y gallant eu codi. Gall Llywodraeth Cymru geisio mynd i'r afael â'r materion hyn mewn dwy ffordd. Yr ydym, yn wir, yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Dywedir wrthym y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno'n ddiweddarach yn y Senedd bresennol er mwyn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio cyfraith lesddaliad, a bydd hynny'n darparu hawliau cyfartal i rydd-ddeiliaid, sy'n cyfateb i'r rhai y mae lesddeiliaid yn eu mwynhau ar hyn o bryd, a fydd yn rhoi'r hawl iddyn nhw wneud cais i dribiwnlys i herio tegwch taliadau ystadau neu i benodi rheolwr newydd i reoli'r ddarpariaeth o wasanaethau a gwmpesir gan daliadau rent ystadau. Ond, ar yr un pryd, byddwn hefyd, yn ein deddfwriaeth diogelwch adeiladu ein hunain, y bwriadwn ei chyflwyno yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon, yn cynnwys cwmnïau rheoli ystadau yn y cynllun cofrestru a thrwyddedu arfaethedig ar gyfer cwmnïau rheoli eiddo preswyl, a bydd hynny'n helpu i ddileu rhai o'r achosion o gamddefnyddio'r system bresennol y cyfeiriodd Hefin David ati. 

13:40
Hawliau Plant Anabl

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth i gefnogi hawliau plant anabl yng Ngorllewin De Cymru? OQ58096

Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Llywydd, ers dechrau datganoli, mae’r Senedd wedi arwain y ffordd drwy hybu hawliau pob plentyn. Rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn golygu sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu bodloni a’u bod yn cael eu trin yn gyfartal bob un. 

Diolch, Prif Weinidog. Mae rhieni i ddau blentyn anabl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â fi yn sgil eu hanhawster i sicrhau gofal plant cymwys. Mae'r plant wedi bod yn mynychu meithrinfa Dechrau'n Deg, ble mae cefnogaeth gymwys ar gael, ond nawr eu bod dros bedair oed roedd disgwyl i'w rhieni dalu tair gwaith yn fwy am ofal dros wyliau'r ysgol na'r hyn fyddai plant heb anghenion ychwanegol yn ei dalu. Yn lle £44, roedd y gofal yn costio £146 y plentyn, cyfanswm o £292 y dydd, cwbl anfforddiadwy. Yn dilyn pwysau gan fy swyddfa i a'u gweithiwr cymdeithasol, maen nhw wedi clywed y bydd cymorth o ryw fath ar gael gan banel blynyddoedd cynnar aml-asiantaeth Castell-nedd Port Talbot. Ond mae'r wybodaeth am gefnogaeth wedi bod yn anodd iawn i'w chanfod, ac mae grwpiau sy'n cefnogi plant anabl yn fy rhanbarth yn dweud wrthyf fod diffyg gofal cymwys a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirhoedlog sy'n creu anghydraddoldeb mawr. Rwy'n falch o weld bod adolygu'r gwasanaethau ar gyfer plant a nodi'r rhwystrau o ran cefnogaeth yn flaenoriaeth yn strategaeth anabledd dysgu newydd y Llywodraeth, ond sut byddwch chi'n sicrhau bod cefnogaeth sydd yn ddirfawr ei hangen yn hygyrch ac ar gael nawr i rieni plant ag anableddau? 

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. Os yw hi eisiau ysgrifennu ataf i am yr achos mae hi wedi codi, wrth gwrs, byddwn yn fodlon edrych mewn i beth sydd wedi digwydd yno. Yn fwy cyffredinol, dwi wedi gweld ffigurau sy'n dangos bod bron 600 o blant gydag anableddau yn ei rhanbarth hi yn cael gwasanaethau nawr yn y maes gofal plant, ac mae'r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae'n cynyddu achos bod Llywodraeth Cymru yn ariannu'r sector, yn rhoi mwy o arian i'r sector, i greu mwy o gyfleoedd i blant â'r anableddau i gael y gwasanaethau sydd eu hangen iddyn nhw eu cael, ac rydym ni'n gwneud hynny drwy'r partneriaethau sydd gyda ni gyda'r awdurdodau lleol a gyda'r sector hefyd. Y ffordd i gynyddu nifer y plant sy'n gallu cael cymorth yw gwneud mwy gyda'r adeiladau i'w troi nhw i fod yn addas i'r plant, ond hefyd i hyfforddi'r bobl sy'n gweithio yn y maes er mwyn iddyn nhw gael y sgiliau sydd angen iddyn nhw eu cael i roi gwasanaethau i blant ag anableddau. Rydyn ni'n dal i weithio yn y maes yna. Os oes mwy o syniadau ar gael i wneud mwy yn y dyfodol, rydym ni'n awyddus i wneud e. 

Mae pobl ag anabledd dysgu yn dioddef ynysigrwydd mwy sylweddol oherwydd camddealltwriaeth rhwng lleoliadau gofal preswyl a gwasanaethau byw â chymorth pan fo pobl yn cael cymorth o fewn eu tenantiaethau eu hunain. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffyrdd y bydd pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr yn ganolog i'r gwaith o gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw? Diolch.

13:45

Llywydd, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd fy nghyd-Aelod Julie Morgan yn gwneud datganiad llafar ar y cynllun gweithredu ar anabledd dysgu y pnawn yma. Lluniwyd y cynllun hwnnw gydag ymgysylltiad uniongyrchol a llawn y rhai sy'n gweithio yn y sector, y rhai sy'n darparu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu, ac yn enwedig y sefydliadau hynny sy'n siarad ar ran pobl ag anabledd dysgu. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan y Dirprwy Weinidog i'w ddweud ac mae'n siŵr y bydd ganddo gwestiynau iddi os yw'n credu bod mwy y gellid ei wneud o dan yr amgylchiadau penodol y mae wedi cyfeirio atyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn amserol a gyflwynodd fy nghyd-Aelod James Evans, Prif Weinidog, dywedodd Gweinidog yr Economi fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £4.25 miliwn yn prynu fferm yn y canolbarth, yn ei eiriau ef, i sicrhau cartref parhaol yng Nghymru ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Drannoeth, dywedodd yr ŵyl nad oes unrhyw gynlluniau i symud Gŵyl y Dyn Gwyrdd o ystad Glan Wysg i Fferm Gilestone. Mae'r ddau ddatganiad hyn yn gwbl groes i'w gilydd. Pa un sy'n gywir, Prif Weinidog?

Mae'r ddau ohonyn nhw yn gywir, Llywydd, oherwydd yn sicr nid ydyn nhw'n gwbl groes i'w gilydd. Nid oes bwriad i symud yr ŵyl ei hun o'i safle llwyddiannus presennol, ond mae mwy y mae'r rhai sy'n gyfrifol am yr ŵyl yn credu y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at economi'r rhan honno o Gymru, gan adeiladu ar lwyddiant eu busnes. Er mwyn gwneud hynny, mae angen mwy o le arnyn nhw i allu datblygu'r posibiliadau eraill hynny. Dyna sydd y tu ôl i'r trefniadau. Darllenais drawsgrifiad o ymryson fy nghyd-Aelod Vaughan Gething ar y llawr yma yr wythnos diwethaf. Dyna sy'n ysgogi hynny i gyd—mae'n adeiladu ar un o'r busnesau mwyaf llwyddiannus sydd gennym yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n synnu, Llywydd, o weld y Ceidwadwyr Cymreig mor bendant yn gwrthwynebu busnes llwyddiannus.

Dim o gwbl. Dim o gwbl, Prif Weinidog. Yn wir, os bydd y model yn llwyddiannus, ni fydd y cyntaf i'ch canmol chi am wneud hynny. Ond mae'n rhaid i lawer o fusnesau yng Nghymru sy'n gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ddarparu cynlluniau busnes, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu amcanestyniadau ariannol cadarn, ac, yn y pen draw, maen nhw naill ai'n cael bawd i fyny neu'n cael eu gwrthod o ran yr arian hwnnw sydd ar gael. Yr hyn a ganfuwyd gennym yr wythnos diwethaf oedd nad oes cynllun busnes oherwydd nad yw hwnnw wedi'i gyflwyno; mae'n cael ei lunio, fel y dywedodd y Gweinidog ar y Cofnod yr ydych wedi'i ddarllen, Prif Weinidog. Felly, sut y gall Gŵyl y Dyn Gwyrdd sicrhau gwerth £4.25 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth heb gynllun busnes, pan fyddai'n rhaid i unrhyw fusnes arall yma yng Nghymru gyflwyno'r darn angenrheidiol hwnnw o wybodaeth i gael hyd yn oed ffracsiwn o'r arian hwnnw i gefnogi ei gynlluniau busnes?

Llywydd, wrth gwrs, nid yw Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cael £4.25 miliwn o gwbl. Yr hyn sydd yma yw ased sydd gan Lywodraeth Cymru sy'n werth mwy na'r swm hwnnw o arian ac sydd, am y tymor byr, yn cael ei brydlesu'n ôl i'r perchennog gwreiddiol er mwyn iddo allu cwblhau'r archebion sydd ganddo yn ei fusnes lletygarwch twristiaeth a sicrhau bod y cnydau sydd wedi'u plannu ar y fferm honno'n cael eu cynaeafu eleni. O'r cychwyn cyntaf, gwyddem y byddai'r cynllun busnesau gan y rhai sy'n gyfrifol am yr ŵyl yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni, a dyna yr ydym ni'n dal i ddisgwyl bydd yn digwydd. Rydym yn gweithio, Llywydd, gyda phartner y gellir ymddiried ynddo. Rydym yn gweithio gyda chwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi'i adnabod ac wedi gweithio ochr yn ochr ag ef dros gyfnod estynedig, gan fod yr ŵyl wedi tyfu i fod y bumed ŵyl fwyaf llwyddiannus o'i math yn unman yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn dal y tir yn erbyn y cynllun busnes a byddwn yn parhau i graffu ar y cynllun busnes i weld a ellir cyflawni'r amcanion y mae'r cwmni wedi'u trafod gyda ni, drwyddo. Yn y cyfamser, mae gan y cyhoedd ased, y gall ei waredu, naill ai yn y ffordd yr ydym yn gobeithio, drwy gefnogi'r busnes hwnnw i wneud mwy, neu, os na allwn wneud hynny yn y ffordd honno, mae'r ased hwnnw'n aros a gellir ei wireddu mewn ffyrdd eraill.

13:50

Prif Weinidog, roedd yr ymateb a roddodd Gweinidog yr Economi yr wythnos diwethaf yn dangos bod y Dyn Gwyrdd yn denant neu'n brynwr unigryw—roedd yn dibynnu ar y cynllun busnes a ddaeth drwodd. Dyna oedd ei eiriau, ac maen nhw wedi'u cofnodi. Felly, nid oedd proses dendro gystadleuol arall, nid oedd unrhyw un arall yn mynd i'r farchnad i gynnig cyfleusterau eraill i weithredwyr eraill yn y canolbarth—darparwyd £4.25 miliwn i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, i bob pwrpas i sicrhau cartref parhaol iddyn nhw. Nawr, rwy'n credu bod yr ŵyl yn ŵyl lwyddiannus, ac rwyf eisiau ei gweld yn ffynnu. Ond pan fydd busnesau eraill sydd wedi dod i chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru yn cysylltu â mi—cymorth ariannol—ac mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r wybodaeth honno'n briodol gyda chynlluniau busnes i sicrhau'r cymorth hwnnw, mae'n rhaid i mi holi nawr: a yw cylch gwaith Llywodraeth Cymru wedi newid, ac os ydych yn cael eich ystyried yn gwmni neu'n ŵyl y gellir ymddiried ynddi, byddwch yn cael yr arian hwnnw? Oherwydd dyna'r argraff yr ydych chi wedi'i rhoi yma heddiw, os ydych chi'n fusnes neu'n drefnydd gŵyl dibynadwy, byddwn yn rhoi miliynau ar y bwrdd i chi ac yn caniatáu i chi gyflwyno'r cynllun busnes yn ddiweddarach. Allwch chi mo'i chael hi bob ffordd, Prif Weinidog. Pa ffordd felly?

Wel, Llywydd, rwyf wedi hen arfer, dros yr wythnosau lawer o wneud hyn, â'r ffaith mai anaml iawn y bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwrando ar unrhyw ateb a roir, gan rygnu ymlaen gyda pha gwestiwn bynnag sydd ganddo wedi'i baratoi ymlaen llaw o'i flaen, oherwydd dywedais yn union i'r gwrthwyneb i'r hyn y mae newydd ei awgrymu. Fe wnes i fy ngorau glas i egluro wrtho—fe geisiaf eto—nad oes arian o gwbl wedi mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Ond oes rhaid i mi ddweud hynny wrthych chi eto, fel nad ydych yn ei gamddeall am y trydydd tro? Does dim arian o gwbl wedi mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Felly, Llywydd, a yw hynny'n ddigon clir, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n helpu arweinydd yr wrthblaid i ddatrys ei gamddealltwriaeth?

Ar sail cynllun busnes, yr oeddem wedi cytuno arno o'r cychwyn cyntaf ac a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin eleni, byddwn yn craffu ar y cynllun busnes ac yn penderfynu a ellir sicrhau bod y safle hwnnw ar gael i'r busnes hwnnw ar gyfer ei gynlluniau ehangu yn y dyfodol. Os gwnaiff hynny, yna bydd sail gyfreithiol i'r cwmni ddefnyddio'r safle hwnnw, a'r seiliau amgen oedd y rhai yr oedd fy nghyd-Aelod yn eu nodi i chi yr wythnos diwethaf. Nid yw'r naill na'r llall wedi'u cytuno, oherwydd, fel y dywedodd, mae proses i'w chwblhau o hyd. Yn y cyfamser, nid oes arian wedi mynd i'r cwmni, nid oes tir wedi mynd i'r cwmni, nid oes unrhyw drefniant wedi'i gwblhau gyda'r cwmni. Nawr, gobeithio, Llywydd—gobeithio; nid wyf yn credu bod y grŵp Ceidwadol yma'n gobeithio—gobeithio y bydd modd cwblhau hynny yn llwyddiannus, oherwydd mae hwn yn llwyddiant mawr i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r llwyddiant hwnnw, ac ni fyddwn yn goddef y rhai sy'n ceisio ei danseilio drwy geisio awgrymu bod cytundeb wedi'i wneud, pan fyddaf wedi gwneud fy ngorau glas i nodi i'r Aelod y prynhawn yma y sail wirioneddol ar gyfer cyflawni'r trefniadau.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu'n rhaid i Raheem Bailey, bachgen 11 oed a ddylai fod yn teimlo'n ddiogel yn ei ysgol ei hun, gael triniaeth i dynnu ei fys yn dilyn achos o fwlio. Mae ei fam, Shantal, wedi esbonio sut y bu Raheem yn dioddef cam-drin hiliol a chorfforol. Nawr, er bod achos Raheem, yn naturiol, wedi ein syfrdanu ni i gyd yng Nghymru ac wedi arwain at lif o gefnogaeth iddo o bob cwr o'r byd, yn anffodus nid yw ei brofiad yn unigryw o bell ffordd yng Nghymru. Canfu adroddiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ar ragfarn yn system addysg Cymru yn 2020 fod 25 y cant o athrawon wedi gweld, ymateb i, neu wedi cael cwyn gan ddisgybl am wahaniaethu ar sail hil yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd 63 y cant o ddisgyblion eu bod nhw neu rywun yr oedden nhw'n ei adnabod wedi bod yn darged hiliaeth. A yw'n bryd cael y math o ymchwiliad eang i hiliaeth yn ysgolion Cymru a awgrymodd yr adroddiad hwnnw, gan adolygu, er enghraifft, hyfforddiant gwrth-hiliaeth, adnoddau i addysgwyr, casglu data, polisïau bwlio a rhan Estyn yn y gwaith o fonitro?

13:55

Llywydd, rwy'n cytuno ag Adam Price fod yr achos, fel yr ydym wedi clywed amdano, wedi bod yn un brawychus, ac mae ein meddyliau wrth gwrs gyda'r bachgen ifanc hwnnw a'i deulu. Nid oes unrhyw achosion o fwlio, beth bynnag fo'u cymhelliant, yn dderbyniol mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae Heddlu Gwent bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad ei hun, gyda chymorth yr awdurdod lleol ac eraill, a rhaid i ni ganiatáu i'r broses honno gael ei chwblhau.

Yn ogystal â meddwl am y bachgen ifanc hwnnw a'i amgylchiadau, rwy'n credu ei bod yn iawn i ni feddwl am y gymuned ysgol ehangach honno hefyd. Mae pobl ifanc yn sefyll arholiadau yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri heddiw; bydd pobl ifanc eraill eisiau dychwelyd at y gyfres honno o drefniadau ar gyfer eu haddysg. Mae'n gymuned ddysgu, Llywydd, lle mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi ymgysylltu'n weithgar iawn yn ddiweddar iawn drwy sicrhau bod yr hyfforddiant, yr ymwybyddiaeth, yr adnoddau ac ati—rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am hynny—yn hysbys a'u bod yn cael eu dilyn yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.

Bydd ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol yn cael ei gyhoeddi fis nesaf. Bydd yn cynnwys adran sylweddol sy'n ymdrin â gweithredu gwrth-hiliol yng nghyd-destun addysg. Mae gennyf i fy hun fwy o ddiddordeb mewn sicrhau y gallwn ni gymryd y camau hynny—y camau yr ydym wedi cytuno arnyn nhw, gyda chymaint o leisiau â phrofiad bywyd sydd wedi ein helpu ni i greu'r cynllun hwnnw—nag yr oes gennyf mewn ymchwiliad arall eto.

Pan ofynnwyd iddyn nhw beth yw'r heriau wrth addysgu disgyblion am wrth-hiliaeth yn yr adroddiad, ymatebodd 51 y cant o athrawon mai eu diffyg hyder nhw oedd yr her, a honnodd 61 y cant mai diffyg amser yn yr ystafell ddosbarth ydoedd. Mae addysgwyr o dan bwysau eithafol, ac mae llwyth gwaith wedi'i godi fel problem, er enghraifft o ran cadw athrawon. Mae addysg gwrth-hiliaeth yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd drwy'r math o weithdai a geir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio atyn nhw. Ond gyda hanner yr ysgolion uwchradd bellach yn oedi cyn gweithredu'r cwricwlwm newydd tan fis Medi 2023, a yw pryderon ehangach ynghylch llwyth gwaith a straen athrawon hefyd yn dechrau cael effaith ar lesiant nid yn unig athrawon ond hefyd disgyblion nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth a'r math o amgylchedd hapus, cefnogol ac, yn wir, diogel y maen nhw'n ei haeddu, o ganlyniad?

Llywydd, rwy'n deall yn iawn pan fydd athrawon yn dweud efallai nad oes ganddyn nhw hyder i wybod sut i ymateb yn yr hyn sy'n feysydd cymhleth, a phryd y gallech fod yn pryderu y byddech yn dweud y peth anghywir yn anfwriadol ac ymateb yn anghywir, a bod angen i chi gael gwell gwybodaeth a hyfforddiant er mwyn sicrhau y gallwch wneud hynny. Mae'n rhan o'n bwriad fel Llywodraeth i sicrhau y gall yr holl staff rheng flaen, nid yn unig mewn addysgu ond mewn mannau eraill, gael hynny, fel y gellir mynd i'r afael â'r mater o hyder.

Rwy'n ymateb â llai o gydymdeimlad i fater amser. Nid yw ymdrin ag ymddygiad hiliol neu ymddygiad bwlio yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn ychwanegol, yn ogystal â'ch swydd arferol, a bod angen awr arall arnoch ar ddiwedd y dydd i wneud hynny; mae'n rhan o'r hyn y mae athro yn ei wneud drwy'r amser ym mhob ystafell ddosbarth bob dydd yng Nghymru. Rhaid iddo fod yn rhan o'r ffordd y byddem yn disgwyl i unrhyw un sy'n wynebu rhywbeth sy'n amlwg yn annerbyniol ac na ddylai fod yn digwydd—rhaid iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle gallen nhw ymateb iddo fel y bydd yn digwydd o'u blaenau nhw. Dyna'r math o hinsawdd yr ydym eisiau ei chreu yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru, pryd y mae pawb yn gallu cael yr amgylchedd diogel a chefnogol hwnnw, lle mae ein holl bobl ifanc yn teimlo'n hyderus i fod yno, lle mae athrawon yn barod i ymyrryd pan fo angen iddyn nhw wneud hynny, er mwyn unioni pethau pan fyddan nhw'n gweld pethau'n mynd o chwith. Dylai hynny gael ei ymgorffori drwy'r diwrnod ysgol cyfan o'r dechrau i'r diwedd, ac nid wyf yn credu ei bod yn bosibl cael dadl ynghylch cael digon o amser i'w wneud.

14:00

Prif Weinidog, mae achos cyntaf o'r frech mwnci yn yr Alban ddoe yn dod â chyfanswm niferoedd y DU i fyny i 57. Er bod arbenigwyr iechyd wedi pwysleisio bod y risg yn parhau'n isel ac y gellir rheoli'r clefyd, i rai, bydd y lluosi anarferol hwn o'r feirws yn gyfarwydd ac yn ymddangos fel adlais o ddechrau 2020. Mae asiantaeth Cyd-raglen y Cenhedloedd Unedig ar HIV/AIDS wedi mynegi pryder bod rhywfaint o'r adroddiadau a'r sylwebaeth ar y frech mwnci wedi defnyddio iaith a delweddau sy'n wahaniaethol, gan atgyfnerthu stereoteipiau homoffobig a hiliol sydd nid yn unig yn anghywir, ond sydd hefyd yn tanseilio ein gallu i ymateb. A wnewch chi nodi'r mesurau cyhoeddus yr ydych yn eu cymryd fel Llywodraeth, gan bwysleisio, er y gall unrhyw un gael y clefyd, na ddylid atal neb rhag dod ymlaen i gael y cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw a'n helpu ni i atal trosglwyddiad oherwydd eu bod yn ofni cael eu beio neu eu stigmateiddio? Mae'n rhaid i ni wrthod rhagfarn ym maes iechyd, yn sicr, mor gadarn ag y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes addysg.

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud yna, Llywydd. Nid ydym wedi cael unrhyw achosion wedi'u cadarnhau eto yng Nghymru, ond, pan drafodais i hyn ddoe gyda'r Gweinidog iechyd a'r dirprwy brif swyddog meddygol, yr oedd yn glir iawn mai dim ond mater o amser oedd hyn. Nid yw Cymru'n ddiogel rhag clefyd o'r math hwn. Rydym yn y sefyllfa ffodus, os mai dyna'r ffordd gywir o'i roi, ein bod, gydag achosion yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ein bod wedi gallu rhoi ein hymateb ar waith cyn i achosion ddod i Gymru, a dyna'n union yr oeddem ni yn ei drafod ddoe: y camau sy'n cael eu cymryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ein byrddau iechyd, ysgogi ymateb iechyd y cyhoedd i ymdrin ag achosion o'r frech mwnci os a phan fyddan nhw'n codi yng Nghymru. Pan fyddan nhw'n gwneud hynny, nid yw'r ffaith y gall y rhan fwyaf o achosion godi mewn un rhan o'r boblogaeth yn gwarantu o gwbl na fyddan nhw'n codi mewn rhannau eraill o'r boblogaeth, ac ni ddylai neb deimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag dod ymlaen i gael y cymorth y bydd ei angen arnyn nhw ar gyfer yr hyn sydd, fel y dywedir wrthym, yn brin ac nid fel arfer yn gyflwr eithriadol o ddifrifol, ond yn un annymunol ac annifyr iawn. Ni ddylai unrhyw un gael ei atal rhag dod ymlaen i gael cymorth gan unrhyw adroddiadau gwael. 

Cyfraddau Ailgylchu

3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach? OQ58108

Llywydd, gan adeiladu ar lwyddiant Cymru hyd yma, ein blaenoriaethau yw cyflawni'r targed o 70 y cant erbyn 2024-25, i gyflwyno'r rheoliadau i gynyddu ailgylchu gan fusnesau a'r sector cyhoeddus, cynyddu ailgylchu deunyddiau allweddol a gweithio gyda phartneriaid i gyflymu'r broses o symud i economi gylchol.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae ystadegau diweddar yn dangos mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU i gynnal ei chyfraddau ailgylchu rhagorol yn ystod y pandemig, a hoffwn ddiolch i bob dinesydd a gweithiwr cyngor yng Nghymru a wnaeth ei ran i wneud hynny'n bosibl. Cyflawniad hynod arall yw'r ffaith bod gwastraff bwyd yma yng Nghymru yn cael ei drosi drwy dreulio anaerobig, i greu digon o bŵer i 12,000 o gartrefi yng Nghymru. Prif Weinidog, gwn eich bod yn rhannu fy uchelgais i wneud yr hyn sy'n dda hyd yn oed yn well, yn enwedig drwy leihau gwastraff bwyd yn y lle cyntaf. Felly, a gaf i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau a chyrff yn y sector cyhoeddus ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi i leihau gwastraff bwyd?

Wel, Llywydd, mae Vikki Howells yn gwneud pwynt pwysig yn y fan yna. Yn yr hierarchaeth wastraff a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, y peth cyntaf yr ydym yn bwriadu ei wneud yw lleihau gwastraff yn y lle cyntaf, cyn i ni fynd ymlaen i ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu, ac mae gan leihau gwastraff bwyd bob math o fanteision eraill y tu hwnt i'r amgylchedd yn unig.

Yn ystod y pandemig, Llywydd, roeddem yn gallu gwneud mwy o waith gyda FareShare Cymru i gynyddu cwmpas eu gwaith gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd ac felly i ailgyfeirio bwyd dros ben. O ganlyniad, maen nhw bellach yn cyflenwi dros 200 o sefydliadau, ac rydym yn ehangu'r ddarpariaeth ymhellach i Gymru gyfan. Yn ystod mis Ebrill, yr oeddwn yn gallu ymweld, gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt, â phrosiect gwych yn nhref y Barri lle mae bwyd a sicrhawyd drwy FareShare Cymru ar gael i bobl, sydd, yn anffodus iawn, yn yr argyfwng costau byw sy'n ein hwynebu, angen defnyddio'r cyfleusterau hynny hyd yn oed yn fwy nag yn y gorffennol.

Yn ystod y 12 mis blaenorol, Llywydd, drwy weithio gyda FareShare Cymru, maen nhw wedi gallu ailddosbarthu 882 tunnell o fwyd, sy'n cyfrannu at bron i 900,000 o brydau bwyd—bwyd a fyddai fel arall wedi'i wastraffu. Ac mae'n enghraifft dda iawn, rwy'n credu, o'r ffordd, yma yng Nghymru, yr ydym ni'n ysgogi sefydliad trydydd sector blaengar iawn a'r partneriaethau sydd ganddyn nhw gydag archfarchnadoedd a busnesau eraill a gwirfoddolwyr lleol, ond yn ei wneud o fewn fframwaith a gefnogir gan yr awdurdod lleol a chan Lywodraeth Cymru.

14:05

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n ymuno â mi i ddiolch i'r 7,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn y Cyfrif Plastig Mawr. Bydd eu hanhunanoldeb a'u hymdrechion nawr yn rhoi cipolwg cenedlaethol o'r broblem gwastraff plastig sy'n plagio ein cymunedau mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid oes gwadu bod angen cymryd camau pellach i fynd i'r afael â'r pla plastig. Gweithiodd WRAP Cymru gyda Chyngor Sir Fynwy yn ddiweddar i adolygu eu dewis o newid o boteli llaeth plastig untro i boteli llaeth gwydr y gellir eu hailddefnyddio. Canfuwyd bod newid i wydr wedi arwain at arbedion costau o 39 y cant i'r awdurdod lleol a gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ailgylchodd Rhondda Cynon Taf yn unig 750 tunnell o wydr y llynedd—digon i wneud poteli i gynnwys 2.7 miliwn peint o laeth. Nawr, rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn i'w dilyn. Felly, Prif Weinidog, wrth siarad am archfarchnadoedd, a fyddech yn ystyried gweithio gyda nhw mewn ymdrech i weld a fydden nhw yn newid i fwy o ddefnydd o wydr yn lle plastig? Diolch.

Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud. Ymunaf â hi i longyfarch y bobl hynny sydd wedi ymuno â'r Cyfrif Plastig Mawr. Rwy'n cofio, Llywydd, fy hun yn mynd â grŵp o bobl ifanc ar draws y traeth, traeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, yn y flwyddyn 2000 fel rhan o gyfrif plastig mawr y mileniwm, ac mae ei ailadrodd fel y gallwn weld lle mae patrymau'n newid, lle mae cynnydd yn cael ei wneud a lle mae tir yn cael ei golli, yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn gynllunio i wneud yn well yn y dyfodol.

Gwyddom fod pobl ifanc mewn ysgolion wedi arwain y ffordd o ran chwilio am boteli gwydr ailgylchadwy ar gyfer llaeth, a gwellt papur yn lle gwellt plastig. Mae'r bobl ifanc eu hunain wedi bod yn eiriolwyr gwych dros hynny. A gwneud mwy gyda'r archfarchnadoedd—mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, yn cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Ac fel y dywedais i, mae nifer o archfarchnadoedd eu hunain yn wirioneddol awyddus i fod yn flaengar wrth wneud mwy o ran y deunydd pacio y maen nhw'n ei ddefnyddio, wrth ailddefnyddio deunydd a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi, a gallwn yn sicr fanteisio ar y syniad y mae'r Aelod wedi'i grybwyll y prynhawn yma.

Diolch, Llywydd. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer—? Mae'n ddrwg gennyf i, cwestiwn anghywir—Rhif 3 oedd hwnna.

Y Sector Twristiaeth

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru? OQ58074

Diolch i Russell George am hynna, Llywydd. Rydym yn cefnogi'r sector drwy hysbysebu Cymru gartref a thramor, drwy gymorth refeniw a'n cronfa buddsoddi mewn twristiaeth gwerth £50 miliwn yng Nghymru. Bydd ein ardoll ymwelwyr yn cefnogi'r sector drwy gynyddu buddsoddiad awdurdodau lleol yn llwyddiant y diwydiant yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwyf eisiau codi'r mater ynghylch llawer o fusnesau gwyliau yn y canolbarth a fydd, yn fy marn i, yn mynd yn anhyfyw os bydd cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu'r trothwy i 182 diwrnod y flwyddyn yn dod i fodolaeth. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi cyngor i Mr Paul Martin, un o fy etholwyr, sydd wedi amlinellu ei achos i mi droeon a hefyd wedi amlinellu ei achos i raglen y BBC, The Politics Show ddydd Sul yr wythnos hon. Addasodd Mr Martin dai allan ar safle ei lety gwely a brecwast. Ni fu neb yn byw yn y bythynnod erioed. Yn wir, mae'r cyfleustodau ar draws yr holl fythynnod yn cael eu huno ac nid yw caniatâd cynllunio yn caniatáu i'r eiddo gael ei ddefnyddio fel anheddau preswyl. Mae tymor y gwyliau, wrth gwrs, yn fyrrach mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys yng Ngheri lle mae busnes Mr Martin, felly byddai bron yn amhosibl i Mr Martin osod pob un o'i bedwar eiddo am 182 diwrnod y flwyddyn. O dan eich newidiadau, byddai'n rhaid i Mr Martin roi ei eiddo yn system y dreth gyngor. O dan system y dreth gyngor, byddai taliadau uwch yn gwneud y busnes yn anhyfyw a byddai'n rhaid i'r busnes, yn anffodus, gau. Fodd bynnag, ar ôl i'r busnes gau, byddai'n rhaid i Mr Martin dalu'r gyfradd uwch o hyd am eiddo gwag, ac ni ellid trosi'r bythynnod a bydden nhw'n parhau i fod yn faich ar Mr Martin a'i fusnes. A allwch chi gynghori Mr Martin ar sut y dylai fynd yn ei flaen?

14:10

Wel, Llywydd, fe wnaf i ymateb i'r pwynt cyffredinol, oherwydd ni ellir disgwyl i mi roi cyngor i rywun ynghylch eu hamgylchiadau penodol. Yn gyffredinol, dyma'r sefyllfa: pan fo busnesau'n fusnesau, yna wrth gwrs dylen nhw gael eu rheoleiddio o dan system fusnes, a dylen nhw fanteisio, pan gallan nhw, ar unrhyw ryddhad o ardrethi busnes. Os nad ydych yn gosod eiddo am hanner y flwyddyn, yna nid wyf yn credu eich bod yn cael eich ystyried yn fusnes go iawn. Gallwch barhau i weithredu, wrth gwrs y gallwch chi. Nid oes neb yn dweud nad yw'r busnes yn parhau; yn syml, o dan yr amgylchiadau hynny, dylech dalu'r dreth gyngor a gwneud hynny'n rhan o'ch cynllun busnes. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd deg i bobl symud ymlaen. Mae'n ffordd o wahaniaethu rhwng busnesau sy'n fusnesau yn yr ystyr lawn y term hwnnw, a busnesau sydd, fel y clywsom ni droeon ar lawr y Senedd hon, yn trefnu eu busnes mewn ffordd i fanteisio ar ryddhad ardrethi i fusnesau bach a pheidio â chyfrannu at gronfeydd awdurdodau lleol sy'n angenrheidiol i'w cefnogi yn eu gweithrediad ehangach.

Prif Weinidog, mae chwaraeon a diwylliant yn amlwg yn ddau sbardun allweddol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru ac, yma yn y gogledd, mae gennym ni rai cyfleoedd euraid i hyrwyddo twristiaeth drwy chwaraeon a diwylliant dros yr wythnosau nesaf. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi a'ch Llywodraeth gyfan yn cynnig cefnogaeth lawn ac eithaf tanbaid i Glwb Pêl-droed Wrecsam yn gemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol a hefyd i bobl bwrdeistref sirol Wrecsam yn yr ymgyrch i ennill cystadleuaeth statws Dinas Diwylliant y DU?

Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'n mynd â mi'n ôl at delerau'r cwestiwn gwreiddiol, yn gofyn i ni beth a wnawn i gefnogi'r sector twristiaeth, ac un o'r pethau a wnawn yw cefnogi'r sector i ymestyn yr ystod o bethau sydd ganddo ar gael ac ymestyn y tymor y mae'n gweithredu ynddo. A phan ddaw Wrecsam, fel y gobeithiaf yn sicr, yn ddinas ddiwylliant, pan gyhoeddir hynny, fel y credwn, ar yr unfed ar ddeg ar hugain o'r mis hwn, yna caiff gefnogaeth y Llywodraeth gyfan. Ysgrifennodd y Gweinidog ddiwylliant at yr awdurdod lleol yn ddiweddar iawn, gan nodi'r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chynnig—cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth—fel y gellid cyfleu hynny i'r pwyllgor sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad, fel y bydden nhw'n gwybod hynny. Os bydda nhw'n dewis Wrecsam, fel y gwnânt, gobeithio, yna gallan nhw wneud hynny gan wybod y bydd Llywodraeth Cymru yn gadarn y tu ôl i'r cais a'r flwyddyn o weithgareddau a fyddai'n dilyn.

Llywydd, nid wyf yn brin o gyngor ynghylch ffawd dda Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam. Mae ffynhonnell nad yw'n bell iawn o'r lle yr wyf yn sefyll yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, ac, ychydig cyn i gwestiynau'r Prif Weinidog gyrraedd heddiw, roeddem yn trafod rhinweddau cymharol Grimsby a darpar wrthwynebwyr eraill Wrecsam a ble yr oedden nhw yn y gynghrair a phwy oedd wedi chwarae yn eu herbyn nhw a beth oedd eu canlyniadau. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam. Maen nhw wedi cael tymor gwych, a gobeithio y bydd yn dod i ben gyda'r llwyddiant y mae'r clwb yn ei haeddu.

Mae cwestiwn 5 [OQ58081] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 6, Carolyn Thomas.

Costau Byw

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl yng ngogledd Cymru? OQ58086

Llywydd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ar draws y gogledd. Bydd chwyddiant, codiadau treth a methiant i ddiogelu incwm yn arwain at ostyngiad mewn safonau byw ac yn rhoi pwysau sylweddol ar aelwydydd sy'n agored i niwed. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, o fewn y pwerau sydd gennym ni, i roi cymorth iddyn nhw.

14:15

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae aelwydydd yn y gogledd yn wynebu argyfwng costau byw na welwyd mo'i debyg o'r blaen heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae costau o ddydd i ddydd yn codi wrth i chwyddiant godi. Gyda chwyddiant ar ei lefel uchaf ers mis Mawrth 1982, pan oedd yn 9.1 y cant, mae'r atebion a gynigiwyd gan ASau Ceidwadol wedi bod yn sarhaus. Dywedwyd wrthym am gael gwell swyddi, rydym wedi clywed AS Torïaidd yn dweud na all pobl goginio na chyllidebu'n iawn, ac mae gennym Brif Weinidog yn San Steffan wrth ymateb i bensiynwraig yn teithio ar y bws i gadw'n gynnes, drwy'r dydd, oherwydd na all fforddio droi ei gwres ymlaen, yn ein hatgoffa ni ei fod ef wedi cyflwyno'r tocyn bws rhyddid 24 awr. Dydw i ddim yn credu eu bod yn byw yn y byd go iawn, na'u bod nhw erioed wedi gwneud. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn bryd i'r Torïaid yn San Steffan gymryd yr argyfwng hwn o ddifrif a chynnig amddiffyniad i bawb sy'n dioddef?

Dywedodd Canghellor y Trysorlys wrthym y byddai'n 'wirion'—dyna'r gair a ddefnyddiodd—byddai'n 'wirion' iddo gynnig cymorth pellach i bobl sy'n wynebu'r argyfwng costau byw. Fel y dywedodd Carolyn Thomas, rydych chi weithiau'n meddwl—wel, nid ydych yn meddwl, fe wyddoch—nad yw'r bobl hyn yn byw yn yr un byd â'r bobl sy'n wynebu'r dewisiadau ofnadwy hynny rhwng fforddio bwyta a bodloni angenrheidiau sylfaenol eraill. Dywedodd Carolyn Thomas, Llywydd, fod chwyddiant wedi codi i 9.1 y cant. Ar gyfer y 10 y cant isaf o'r boblogaeth, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif bod chwyddiant eisoes yn 10.9 y cant, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw wario 11 y cant o gyfanswm eu cyllideb ar nwy a thrydan. Dyna realiti bywyd i lawer gormod o aelwydydd yng Nghymru, ac mae'n haeddu'r math o ymateb dim ond Llywodraeth y DU, gyda'i chyfrifoldebau, gyda'i phŵer cyllidol, sy'n gallu ei gynnig.

Yma yng Nghymru, rydym ni'n mynd ati i ychwanegu at y repertoire o bethau y gallwn ni eu defnyddio o'n hadnoddau ein hunain. Anghofir weithiau, Llywydd, nad yw COVID wedi diflannu a bod hynny wedi cael effaith anghymesur ar bobl o gartrefi incwm isel hefyd. Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym wedi gwneud 4,073 o daliadau o dan ein cynllun hunanynysu—cynllun a gafodd ei ddileu yn Lloegr, gyda llaw—gan roi £2.5 miliwn ym mhocedi pobl sydd, drwy ddiffiniad, y rhai sydd ei angen fwyaf. Yn yr un wythnos, fe wnaethom ni 3,653 o daliadau COVID—taliadau COVID yn unig—o'n cronfa cymorth dewisol, sydd, unwaith eto, yn gronfa nad yw ar gael dros y ffin yn y Deyrnas Unedig, gyda £260,000 arall yn mynd i gyllidebau aelwydydd sydd ei angen fwyaf. Os gallwn ddefnyddio'r ystod o bethau sydd ar gael i ni, nid oes esgus o gwbl i Lywodraeth y DU fethu darparu treth ffawdelw, methu darparu tariff cymdeithasol, methu dod o hyd i ffyrdd y mae trethiant cyffredinol yn hytrach na biliau tanwydd yn talu'r costau cymdeithasol ac amgylcheddol hynny, methu gwneud cymaint o'r pethau hynny y mae cwmnïau ynni ac eraill eu hunain yn annog Llywodraeth y DU i'w gwneud.

Bragwyr Bach, Annibynnol

7. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymrd â hwy i helpu bragwyr bach, annibynnol? OQ58070

Cefnogir bragwyr bach, annibynnol drwy ystod eang o gyngor a chyllid sydd ar gael i fusnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Daw'r cymorth hwnnw, er enghraifft, drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'r Llywodraeth hon yn cyflwyno system ddigidol yn ei chynllun dychwelyd ernes a fydd yn anghydnaws â'r cynlluniau dychwelyd ernes sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd yr anghydnawsedd hwn yn creu rhwystrau i fasnachu, yn cynyddu costau cynhyrchu ac, yn benodol, yn lleihau'r dewis o gwrw a faint o gwrw fydd ar gael yma. Mae bragwyr annibynnol yng Nghymru yn cynhyrchu tua 19 miliwn peint ar gyfer marchnad y DU, a bydd costau uwch ar gyfer y gofynion labelu newydd, yn ogystal â ffioedd cofrestru a chynhyrchu blynyddol, a bydd effaith cynwysyddion dychwelyd yn debygol o fwyta eu helw i gyd, sydd fel arfer yn llai nag 8 y cant y botel. Mae newid llinellau cynhyrchu i gynhyrchu eitemau neu unedau cadw stoc sy'n benodol i wlad yn gostus iawn, felly, mae'n debygol na fydd bragwyr bach yn gallu gwerthu ym marchnadoedd Cymru a Lloegr mwyach, gan leihau eu gwerthiant cyffredinol yn aruthrol. Mae'r gwasanaeth cymryd yn ôl ar-lein hefyd yn debygol o fod yn amhosibl i gynhyrchwyr bach ei gyflawni, a bydd hyn yn rhoi diwedd ar allu bragwyr bach, annibynnol i fforddio gwerthu yma yng Nghymru. Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r farchnad gwrw yn eithriadol o gystadleuol, ac mae bragwyr annibynnol eisoes yn ei chael yn anodd cystadlu â chynhyrchwyr rhyngwladol mawr. Beth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ac na fydd bragwyr Cymru o dan anfantais oherwydd y gwahanol gynlluniau dychwelyd ernes? Diolch.

14:20

Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi rhywfaint o gefndir y mater y mae'r Aelod yn ei amlygu. Roeddem wedi cytuno ar gyfres ar y cyd o gynigion ar gyfer cynllun dychwelyd ernes gyda Llywodraeth y DU. Gwnaethom gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y cyd ar y gyfres o gynigion ar y cyd hynny gyda nhw, a dim ond yn y cynllun ar ôl yr ymgynghoriad y penderfynodd Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr i symud oddi wrth gwmpas y deunyddiau yr oeddem wedi cytuno arnyn nhw gyda nhw a fyddai'n cael eu cynnwys yn y cynllun. Felly, pan fo'r Aelod yn gofyn i mi beth yr ydym yn ei wneud i sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig, mae angen i'w gwestiwn gael ei gyfeirio at ei gyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU, oherwydd nhw, nid ni, a newidiodd eu meddyliau ynghylch cynllun yr oeddem wedi cytuno arno ar y cyd.

Ac ar gyfer y rheini nad oedden nhw yn dilyn manylion y cwestiwn atodol yn fanwl, dylwn i dynnu sylw at y ffaith mai'r hyn y mae'r Aelod yn cwyno amdano yw y byddwn ni'n cynnwys poteli gwydr yn ein cynllun, fel y gwnânt yn yr Alban, ond yn Lloegr maen nhw bellach wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Efallai y gallai Janet Finch-Saunders, o gofio'r ffordd rymus y soniodd am bwysigrwydd poteli gwydr heddiw, helpu Llywodraeth y DU i ddod i gasgliad gwahanol ar y mater hwnnw.

Bydd yn rhaid i gwmnïau o Gymru gael labeli gwahanol nawr gan fod Llywodraeth Lloegr wedi penderfynu peidio â chael cynllun cyffredin rhwng yr Alban, Cymru a Lloegr. Gan y bydd yn rhaid iddyn nhw gydymffurfio â rheoliadau'r Alban, mae'r rhain yn anochel i fusnesau Cymru. Nid yw'n fater o ddweud, 'Pe baem yn mynd i mewn gyda Lloegr, ni fyddai angen iddyn nhw wneud hynny.' Byddan nhw'n gwerthu i farchnad yr Alban, a bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hyn ar eu cyfer nhw.

Yn y cyfamser, mae rhai mesurau lliniaru y byddwn ni'n eu trafod gyda'r sector ac yn gweithio gyda nhw. Gallwn siarad â nhw am lefel y ffi gofrestru flynyddol; byddwn yn trafod gyda nhw gynllun agweddau ar-lein y cynllun; a byddwn yn siarad â nhw am ddull o ymdrin â gofynion labelu, fel y gallwn liniaru'r anawsterau y mae Llywodraeth y DU bellach wedi'u hachosi i fragwyr bach, annibynnol yma yng Nghymru.

Ond, yn y pen draw, Llywydd, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y system dychwelyd ernes yn fath o gyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr. Rhaid i fusnesau sy'n rhoi cynnyrch ar y farchnad dalu costau rheoli gwastraff y cynhyrchion y maen nhw'n eu gwerthu, ac mae hynny'n cynnwys ailgylchu ar ddiwedd eu defnydd bwriadedig, a byddwn yn parhau i ddilyn y nod hwnnw yma yng Nghymru.

Buddiannau Cymunedol a'r Broses Gynllunio

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod buddiannau cymunedol yn y broses gynllunio? OQ58114

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Mae sicrhau ein bod ni'n datblygu ar sail cynlluniau yn golygu bod cymunedau yn cael y tai, y swyddi a'r seilwaith sydd eu hangen arnyn nhw. Drwy fynd ati fel hyn, y cymunedau eu hunain sy'n penderfynu pa ffordd sy'n gywir iddyn nhw.

A gaf i dynnu sylw'r Prif Weinidog at stad o dai Parc Del Fryn ym Mrynteg yn fy etholaeth i? Mae o'n ddatblygiad dwi wedi tynnu sylw ato fo droeon dros y blynyddoedd, ac mae o wedi denu sylw eto rŵan wrth i ragor o dai gael eu codi yno. Mae'n bentref braf iawn—dwi ddim yn gwybod os ydy'r Prif Weinidog yn ei nabod o—ac mae'r rhain yn edrych fel tai delfrydol i gwpwl ifanc eu prynu neu eu rhentu am y tro cyntaf, i fagu teulu ynddyn nhw. Ond y gwir amdani ydy bod trigolion lleol sydd angen tŷ wedi'u gwahardd rhag prynu'r rhain oherwydd datblygiad gwyliau ydy o, ac mae'r prisiau ymhell o'u cyrraedd nhw beth bynnag. Mae'r sinig ynof i hyd yn oed yn gweld yr enw, 'Parc Del Fryn', er yn Gymraeg, yn atseinio o enwau gwyliau tramor.

Ond, beth bynnag, mi roddwyd caniatâd i'r datblygiad yma dros 10 mlynedd yn ôl, felly mae dwylo y cyngor presennol wedi'u clymu. Ond beth all y Prif Weinidog ei wneud, ar frys, i sicrhau, drwy reolau cynlluniau cenedlaethol, fod datblygiadau fel hyn ddim yn cael digwydd? Achos, a siarad yn blaen, mae o'n sarhad ar y cymunedau lleol, yn enwedig felly pan ydym ni'n wynebu argyfwng tai.

14:25

Wel, Llywydd, jest i ddweud, dwi wedi cael cyngor oddi wrth ein swyddogion ni yn y Llywodraeth, a beth maen nhw wedi'i ddweud wrthyf i am yr enghraifft benodol mae'r Aelod yn sôn amdano, beth maen nhw wedi'i ddweud wrthyf i yw bod y caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi'i roi yn benodol ar gyfer cartrefi gwyliau. So, dydyn nhw ddim yn gallu eu gwerthu nhw i bobl sydd eisiau byw yna drwy'r flwyddyn achos dim ond fel cartrefi gwyliau oedd y caniatâd a gafwyd y tro cyntaf. Pe bai'r cais wedi bod am dai parhaol ar y safle hwnnw, efallai na fyddai wedi cael ei ganiatáu. Dyna beth dwi wedi ei glywed.

Nawr, mae gan Ynys Môn a Gwynedd gynllun datblygu lleol ar y cyd, ac maent ar fin cynnal adolygiad llawn ohono. Edrychaf ymlaen at drafod yr holl faterion hyn mewn cyfarfod yr wyf yn ei gynnal ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru yfory. Dwi'n hollol hapus i gydweithio â'r awdurdodau lleol os oes mwy rŷn ni'n gallu ei wneud i'w helpu nhw, yn enwedig yng nghyd-destun Ynys Môn nawr, gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig unwaith eto wedi codi posibilrwydd dyfodol Wylfa Newydd. Dwi'n cofio'r tro diwethaf pan oeddem ni'n siarad am yr effaith ar dai ar yr ynys pe bai'r datblygiad hwnnw yn mynd yn ei flaen.

So, y pwyntiau mae Rhun ap Iorwerth wedi'u codi y prynhawn yma, Llywydd, maen nhw'n mynd i fod yn fwy pwysig yn y dyfodol os bydd hynny'n mynd yn ei flaen, a dwi'n fodlon trafod sut y gallwn ni fel Llywodraeth, yn cydweithio â'r awdurdodau lleol, wneud mwy i helpu yn y cyd-destun mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad amdano y prynhawn yma.

Argyfwng Hinsawdd

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ58111

Llywydd, wrth wraidd y gyllideb tair blynedd a gymeradwywyd gan y Senedd hon, mae buddsoddiad cyfalaf o £1.8 biliwn ar gyfer creu coedwig genedlaethol, cynnal bioamrywiaeth, datgarboneiddio tai, blaenoriaethu ynni adnewyddadwy ac atal llifogydd. Mae'r rhain ymhlith y camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu, Prif Weinidog, os ydym ni am fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni ddiogelu ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn iawn, ac rwy'n diolch yn fawr i chi am eich ymrwymiad, ac yn wir ymrwymiad eich cyd-Aelod Julie James, i'r gwastadeddau hynny, ac yn wir rwyf wedi bod yn falch iawn o gadeirio gweithgor gwastadeddau Gwent. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod llawer iawn o waith da eisoes wedi'i wneud drwy'r bartneriaeth Lefelau Byw, sydd wedi ymgysylltu'n effeithiol â'r gymuned leol, busnesau, awdurdodau lleol ac amrywiaeth o sefydliadau'r trydydd sector i ganfod y syniadau a'r camau sydd eu hangen i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma, a hefyd ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael y canllawiau cynllunio a'r systemau cynllunio'n iawn os ydym am gynnal a diogelu gwastadeddau unigryw Gwent yn briodol ar gyfer y dyfodol?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i John Griffiths am y gwaith y mae wedi'i wneud wrth gadeirio'r grŵp hwnnw, ac mae gan y grŵp gyflawniadau eisoes, er clod iddo, o ran adfer a rheoli cynefinoedd, ac yn enwedig yn y pwyntiau a wnaeth John Griffiths o ran ymgysylltu â'r gymuned. Ynghyd â fy nghyd-Aelod Julie James, mae mwy y gwyddom y gallwn ni ei wneud i gefnogi gwaith y grŵp ac i gefnogi'r gwaith o gadw gwastadeddau Gwent mewn cyflwr sy'n eu gwneud yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y gwaith o ddatblygu canllawiau cynllunio strategol ar gyfer yr ardal. Dyma fydd y tro cyntaf i ni weithredu dull polisi 'Cymru'r Dyfodol' ar gyfer prif ffrydio bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau mewn polisïau cynllunio mewn ardal fel gwastadeddau Gwent. Bydd yn gynllun treialu o'r dull gweithredu cyfan hwnnw ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu ei wneud yn y dirwedd bwysig iawn honno. Mae'r Gweinidog hefyd wedi rhoi bron i £3 miliwn o gyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru i adnewyddu a chynyddu'r sylw a roddir i gytundebau rheoli tir. Gwyddom fod cytundebau rheoli tir yn gwbl hanfodol i wastadeddau Gwent, i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo i reoli'r cynefin yno ac i wella bioamrywiaeth y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae'n ei gynrychioli.

Yn drydydd, ac yn olaf, Llywydd, fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â Julie James i adolygu addasrwydd tir a gafodd ei gaffael ar gyfer ffordd liniaru'r M4, fel y bydd nawr, yn hytrach na bod o dan goncrit a tharmac, yn gallu cyfrannu at welliannau bioamrywiaeth ar draws y gwastadeddau, er mwyn sicrhau, fel y dywedais, eu bod yn mynd ymlaen i genedlaethau'r dyfodol fel yr enghraifft ragorol honno o'r math o dirwedd y mae pobl wedi'i mwynhau dros genedlaethau. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i'w mwynhau'n llawn a gyda chalon lawen ar gyfer y dyfodol. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:31:39
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i'r agenda heddiw. Rwyf i wedi ymestyn hyd datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar gyfiawnder yng Nghymru i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar fanteisio i'r eithaf ar botensial statws dinas Wrecsam sydd newydd ei gyhoeddi. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi mor falch ag yr oeddwn i o glywed y cyhoeddiad y bydd Wrecsam nawr yn ddinas yn dilyn dathliadau Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Wrth gwrs, Gweinidog, mae llawer o bethau gwych yn digwydd ledled Wrecsam, fel y gwyddoch chi, ac, fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, o amgylch Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, a fydd unwaith eto'n chwarae yn Wembley y penwythnos hwn am y cyfle i gael dyrchafiad i'r gynghrair bêl-droed. Yn ogystal â hyn, Gweinidog, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol o lawer o fusnesau'n ffynnu ledled Wrecsam, ar yr ystad ddiwydiannol. Rwy'n credu y gall y statws newydd hwn godi proffil Wrecsam a'i helpu i fynd o nerth i nerth. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pawb a wnaeth hi'n bosibl i hyn ddigwydd, ond hefyd i ganiatáu datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y gallwn ni sicrhau bod y gorau posibl yn cael ei wneud o'r statws dinas newydd hwn? Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Rydych chi'n hollol gywir; mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn fy etholaeth i yn Wrecsam ar hyn o bryd. Ni wnawn ni sôn am y canlyniad ddydd Sul, ond rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ddydd Sadwrn. Rwy'n credu bod cael statws dinas i Wrecsam yn gadarnhaol, ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wir yn manteisio ar y cyfleoedd, y cyfleoedd economaidd yn enwedig, yr oedden nhw'n sicr yn credu y byddai ceisio statws dinas yn eu cynnig. Yn sicr, rydw i wedi edrych ar drefi eraill a gafodd statws dinas— 20 mlynedd yn ôl Casnewydd ydoedd, rwy'n credu, 10 mlynedd yn ôl, Llanelwy ydoedd, y byddwch chi'n ei hadnabod yn dda iawn—ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr uchelgais hwnnw yno i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd hynny. 

Trefnydd, wythnos diwethaf rhyddhawyd datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi £750,000 o fuddsoddiad i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Wrth gwrs, dwi'n croesawu hyn yn fawr, ac mae'n dda gweld llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ledled Cymru yn derbyn buddsoddiad. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, cyn yr haf, yn rhoi gwybodaeth bellach o ran gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer amgueddfeydd lleol, ac, yn benodol, y cynnydd ar ddatblygu strategaeth genedlaethol newydd i amgueddfeydd. Wedi'r cyfan, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu strategaeth genedlaethol i amgueddfeydd yn 2010. Bu gwaith i ddatblygu un newydd yn 2017 a 2018—mi ddylwn i ddatgan fy mod i wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn yn fy sydd flaenorol—ond ni chwblhawyd y gwaith. Byddai'n fuddiol gwybod, yn arbennig gan nad yw amgueddfeydd yn wasanaethau statudol, sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector, a pryd bydd strategaeth newydd, ynghyd â derbyn diweddariad ar weithredu argymhellion adolygiad amgueddfeydd lleol 2015.

Diolch. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog diwylliant a'r celfyddydau yr wythnos diwethaf, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mewn datganiad ysgrifenedig. Nid wyf i'n credu y bydd cyfle i gael datganiad llafar cyn toriad yr haf, ond rwy'n siŵr, wrth i ni fynd drwy flwyddyn nesaf y tymor hwn o Lywodraeth, os oes gan y Dirprwy Weinidog ragor o wybodaeth am y strategaeth, y gall hi ei chyflwyno.

14:35

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar anhwylderau bwyta. Cyflwynodd adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta 2018 weledigaeth uchelgeisiol, yn seiliedig ar y mynediad cynharaf at driniaeth a chymorth effeithiol ym mhob rhan o Gymru. Mae adroddiad newydd Beat yn canfod bod y cynnydd o ran ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta wedi bod yn anwastad iawn. Er bod mynediad at driniaeth wedi gwella mewn rhai ardaloedd, mewn ardaloedd eraill, y mae dal yn gyfyngedig iawn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ac iddi gyhoeddi cynllun gydag amserlenni ar gyfer cyflawni gweledigaeth adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta 2018, fel y gall pawb y mae'r rhain yn effeithio arnyn nhw gael cymorth effeithiol yn gyflym?

Diolch. Rydym ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddi ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac, er 2017, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, mae byrddau iechyd wedi cael £4.1 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau yn y gwasanaethau hynny, ac yn enwedig o ran amseroedd aros. Byddwn ni'n targedu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta o'r cyllid iechyd meddwl sydd wedi cynyddu ac wedi'i sicrhau ar gyfer 2022-23. Mae cyllid wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd yn benodol i ad-drefnu gwasanaethau er mwyn cael ymyriadau cynharach, i weithio tuag at gyflawni safonau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar anhwylderau bwyta o fewn y ddwy flynedd nesaf, a hefyd i ddatblygu cynlluniau i sicrhau amser aros o bedair wythnos ledled y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, fel y gwnaeth yr adolygiad ei argymell.

Arweinydd y tŷ, a gaf i i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllun y bathodyn glas anabledd? Mae etholwr wedi cysylltu â mi'n ddiweddar y mae ei blentyn, sydd o dan dair oed, wedi'i gofrestru'n ddall, ac mae ganddo barlys yr ymennydd ac mae angen ffisiotherapi cyson arno. Mae'r rheoliadau fel y maen nhw wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru, y mae awdurdodau lleol yn gweithio iddyn nhw, yn rhagnodol iawn—a gallaf i ddeall pam y maen nhw'n rhagnodol—ond mae'n ymddangos eu bod yn gwbl amherthnasol os ydych chi yn y categori o dan dair oed hwnnw, i blentyn. Ac yn achos penodol fy etholwr, yn anffodus, cafodd bathodyn glas ei wrthod, er ei bod yn amlwg bod angen iddyn nhw fynd am sesiynau ffisiotherapi rheolaidd, a gyda phlentyn dall hefyd—gallwch chi ddychmygu'r straen a'r gofid y mae hyn yn ei achosi i'r teulu.

Rwy'n sylweddoli na allwch chi siarad am y manylion, oherwydd mae angen i chi gael manylion llawnach—a byddaf i'n ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol ar hyn—ond byddwn i'n ddiolchgar o ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw adolygiad o'r cynllun bathodyn glas. Os byddai modd cael datganiad, a fyddai'n gallu sôn am sut y byddai modd cynnal yr adolygiad hwnnw a'r cylch gorchwyl, fel y gallwn ni gynnwys plant ifanc yn arbennig o dan fanteision y cynllun, sydd yno i wneud bywyd yn haws i bobl sydd angen bod, yn amlwg, yn agos at neuaddau cymunedol, meddygfeydd neu unrhyw lefydd eraill lle y gallai lle parcio i bobl anabl fod ar gael?

Diolch. Rwy'n credu mai'r ffordd fwyaf priodol i chi nawr yw ysgrifennu at Weinidog yr Economi ynghylch eich etholwr penodol a'r profiadau y mae wedi'u cael. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw adolygiad, ond, fel y dywedais i, os ysgrifennwch chi at Weinidog yr Economi, bydd e'n gallu eich cynghori chi.

Byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r ymgyrch Mai Di-dor, a hoffwn i ofyn am ddatganiad yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn mynd â hyn ymhellach, i ailgysylltu pobl ledled Cymru â'r byd naturiol ar garreg eu drws. Rwy'n falch o fod yn hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinllais, y cacwn sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru a Lloegr. Wir fe hoffwn i pe bai mwy o bobl, o bob oed, yn dysgu mwy am sut y gall prosiectau cadwraeth fel Natur am Byth helpu i osgoi'r argyfwng natur yr ydym ni ynddo, ond hefyd i gryfhau'r ymdeimlad o berthyn y gall pobl ei deimlo gyda'r cynefinoedd sydd o'n cwmpas ni i gyd. Gwyddom ni fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu. Os na wnawn ni unrhyw beth, bydd cymaint o gacwn a gloÿnnod byw a chreaduriaid yn darfod. Ond y newyddion gwych yw y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ac mae ffyrdd y gall pobl gymryd rhan. Felly, a all datganiad nodi sut y gall pobl ddod o hyd i lawenydd yn y byd naturiol, cael hwb i'w hiechyd a'u llesiant, a dod o hyd i ymdeimlad o ryfeddod mewn cynifer o greaduriaid, fel y gardwenynen feinllais? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn yr ymgyrch Mai Di-dor—rwy'n credu bod fy ngardd yn ei werthfawrogi'n fawr, ac yn sicr, yr wyf i hefyd. Mae'n wych mai chi yw hyrwyddwr y rhywogaethau hyn, fel y dywedwch chi. Roedd hefyd yn Ddiwrnod Gwenyn y Byd ddydd Gwener diwethaf; roeddwn i'n falch iawn o ymweld â rhai cychod gwenyn yn Llanfair ym Muallt ddydd Iau diwethaf i hyrwyddo hynny. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn—mae'n bwysig iawn ein bod ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n rheoli ein glaswelltiroedd. Rwy'n credu bod yr ymgyrch Mai Di-dor gan Plantlife yn ymgyrch ragorol. Mae hynny'n helpu pobl i ystyried sut y maen nhw'n ymdrin â natur, drwy newid eu hymddygiad yn unig, er enghraifft. Fory, rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymateb i ddadl fer, ac mae hynny'n mynd i ystyried pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a glaswelltir amwynder. Rwy'n gwybod bod Carolyn Thomas wir wedi ymgymryd â swyddogaeth hyrwyddwr ymylon glaswellt a glaswelltir amwynder i gefnogi'r gwaith rheoli gwell. Mae'n dangos y gallwn ni i gyd wneud newidiadau bach i wir helpu ein bioamrywiaeth. 

14:40

A gawn ni ddatganiad am y mesurau y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog Llywodraeth y DU i godi gwerth talebau Cychwyn Iach i dalu am gost remp chwyddiant? Gwnaeth Llywodraeth y DU godi gwerth y talebau Cychwyn Iach y tro diwethaf cyn i'r argyfwng costau byw daro, ac roedd hynny dim ond ar ôl, rhaid i mi ddweud, cryn dipyn o bwysau gan Marcus Rashford gyda'i ymgyrchu, elusennau bwyd ac, yn wir, y Blaid Gydweithredol a'r mudiad cydweithredol. Byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn anfon neges glir iawn o gefnogaeth i godi gwerth y talebau Cychwyn Iach hyn, ac, a dweud y gwir, yn osgoi sefyllfa pan fo babanod a phlant ifanc yn mynd heb fwyd.

A gawn ni ddadl ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfiawnder bwyd ac ar ymdrin â'r broblem tlodi bwyd sydd ar y gorwel ledled Cymru, yn ogystal â'r DU yn ehangach? Yr amcangyfrif yw, ledled y DU, y chweched wlad gyfoethocaf ar y ddaear, y gallai cynifer ag 8 miliwn o bobl fod yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd ac mae 500,000 wedi defnyddio banciau bwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Felly, gallai datganiad hyrwyddo'r achos dros gydnabod yr hawl i fwyd gan y Llywodraeth, er mwyn llunio strategaethau bwyd, ar gyfer dynodi hyrwyddwyr bwyd mewn llywodraeth leol, strategaeth fwyd ar lefelau lleol a mwy. Rydym ni'n wynebu storm gynyddol sy'n rhwygo drwy ein cymunedau, felly mae angen i Lafur Cymru mewn Llywodraeth a'r Blaid Gydweithredol anfon arwyddion cryfach y byddwn ni yno ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i'r storm hon ym mhob ffordd bosibl. 

Diolch yn fawr iawn. Mae'r cynllun Cychwyn Iach yn gynllun bwyd lles, nad yw, fel y gwyddoch chi, wedi'i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at yr Ysgrifennydd Gwladol, ddiwedd y llynedd, rwy'n credu, ac mae hefyd wedi ysgrifennu eto i ofyn a gwthio'n wirioneddol am gynnydd yn y cynllun. Onid yw honno'n un ffordd y gallai Llywodraeth y DU helpu gyda'r argyfwng costau byw? Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog yn awyddus iawn i weld cymhwysedd Cychwyn Iach tan y bydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd—rwy'n credu y byddai hynny'n helpu—gan gynyddu trothwy incwm aelwydydd er mwyn creu cysondeb â'r trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Byddai hynny'n helpu i gefnogi ein plant mwyaf agored i niwed. Felly, mae llawer o bethau y byddai modd eu gwneud. A bod yn deg, rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi caniatáu i'w swyddogion ymgysylltu â swyddogion y Dirprwy Weinidog i geisio gweld lle y gallan nhw wneud mwy, a gwn i fod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd wedi gofyn i'w swyddogion ystyried datganoli bwydydd lles, ac yr ydym ni'n bwriadu cynnal adolygiad annibynnol o'r cynllun Cychwyn Iach yma yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, yn yr hydref.  

O ran cyfiawnder bwyd, unwaith eto, mae 8 miliwn o bobl ledled y DU wir yn ffigur erchyll. Arweiniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod bwrdd crwn ar dlodi bwyd, yr oeddwn i'n falch iawn o ymuno ag ef, yr wythnos cyn yr wythnos diwethaf, a gwnaethom ni drafod argyfwng parhaus costau byw ac effaith prisiau cynyddol, ac, wrth gwrs, yr effaith y mae prisiau ynni uchel hefyd yn ei chael ar dlodi bwyd. Clywodd y Gweinidog a minnau gan gynrychiolwyr rhai o'n banciau bwyd, a oedd yn dweud eu bod wedi gorfod ailystyried yn llwyr pa fwyd y maen nhw'n ei roi mewn parseli bwyd, oherwydd ni all pobl fforddio gwresogi bwyd, sydd wir yn warthus. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried y cyllid. Rydym ni wedi dyrannu £3.9 miliwn i gefnogi camau gweithredu sydd wir yn ymdrin ag achosion sylfaenol tlodi bwyd, gan ddatblygu llwyddiant gwaith blaenorol y mae hi wedi'i gyflwyno, a bydd cyhoeddiad yn fuan ynghylch sut y caiff yr arian ei ddosbarthu eleni. 

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Y cyntaf ar yr anawsterau a'r gwahaniaethau sy'n dal i wynebu llawer o weithwyr anabl. Yn ôl ymchwil a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill y llynedd, dim ond 52.3 y cant o bobl anabl sydd mewn gwaith. Mae hyn o’i gymharu ag 82 y cant o'r boblogaeth abl. Yng Nghymru, yn syfrdanol, mae'r bwlch cyflog i bobl anabl yn 18 y cant, ac mae'r effaith fwyaf ar fenywod anabl, sy'n ennill 36 y cant yn llai ar gyfartaledd na'u cymheiriaid eraill. A gawn ni, os gwelwch yn dda, ddatganiad ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i beidio ag anwybyddu gweithwyr medrus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw anabledd, ac i gefnogi'r manteision mawr y gall gweithwyr anabl eu cynnig i fusnes neu i faes diwydiant?

Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines? Gwn i fod llawer o bobl wedi sôn amdano heddiw yn y Siambr. Yn benodol, hoffwn i wybod a oes unrhyw gynghorau yng Nghymru wedi cael arian ychwanegol ar gyfer digwyddiadau neu brosiectau dathlu Jiwbilî lleol, a pha ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. O ran eich pwynt olaf, rwy'n ymwybodol bod gan fy awdurdod lleol fy hun, yn sicr, arian i'w ddyfarnu i grwpiau lleol os oedden nhw eisiau cymryd rhan mewn dathliadau Jiwbilî neu drefnu parti stryd, ac ati. Felly, rwy'n tybio bod hynny wedi digwydd ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y ddadl nesaf yn cael ei harwain gan y Prif Weinidog mewn cysylltiad â'r Jiwbilî.

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau i sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu dod o hyd i waith. Byddwn i wedi ystyried mai Remploy oedd un o'r pethau gorau a gawsom ni erioed yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn anffodus iawn bod Llywodraeth y DU wedi'i gau.

14:45

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gennych chi, Trefnydd, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig. Gyda'r gwrthdaro creulon ac anghyfreithlon yn Wcráin yn parhau i rygnu ymlaen, rwyf i wedi bod wrth fy modd yn gweld Llywodraeth y DU yn arwain yr argyfwng ffoaduriaid, gyda channoedd o deuluoedd nawr yn cael y cyfle i ailgydio yn eu bywydau yma yng Nghymru a ledled y DU. Fodd bynnag—a gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ei godi’r wythnos diwethaf—mae gennym ni sefyllfa lle nad oes mecanwaith nawr i ganiatáu i anifeiliaid anwes sy'n cyrraedd o Wcráin gwblhau eu cyfnod ynysu gartref gyda'u perchnogion. Mae hyn hyd yn oed ar ôl i'r holl archwiliadau a'r brechiadau angenrheidiol gael eu cyflawni. Cododd fy nghyd-Aelod Russell George hyn yma yr wythnos diwethaf, ac rwyf i wedi clywed am fwy o achosion lle mae anifeiliaid anwes nawr yn gaeth yn Lloegr ac yn cael eu symud o amgylch gwahanol leoedd yn Lloegr. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau'i weld, mewn gwirionedd, yw eich bod chi'n gwneud datganiad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ganiatáu i'r anifeiliaid anwes annwyl hyn gael eu dychwelyd at eu perchnogion ar frys, gan ddarparu rhywfaint o ymdeimlad bach o'u cartref eu hunain i deuluoedd sy'n dymuno ailgydio yn eu bywydau yma yng Nghymru. Diolch.

Diolch. Nid yw'r Aelod wedi cael y sefyllfa'n hollol gywir—[Torri ar draws.]—ond wrth gwrs, rwy'n deall yn iawn fod pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin eisiau cael eu hanifeiliaid anwes yn agos. Dyna'n union yr ydym ni'n bwriadu'i wneud. Y gwahaniaeth yma yng Nghymru yw nad oes gennym ni ynysu gartref. Bydd yn rhaid i anifeiliaid anwes fynd i gwarantîn os nad ydyn nhw'n bodloni'r holl feini prawf. Felly, os yw anifail anwes wedi'i frechu rhag y gynddaredd, bod ganddo basbort anifeiliaid anwes, bod ganddo'r holl waith papur cywir a'i fod wedi'i ficrosglodynnu, bydd yn gallu mynd gyda'r teulu neu gyda'r unigolyn ar unwaith. Mae'n anodd iawn monitro'r cartref ac mae'n anodd iawn ei orfodi, felly rydym ni'n cadw at yr unedau cwarantin cymeradwy sydd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer. Rhaid i mi sicrhau bod ein hanifeiliaid yma yng Nghymru yn cael eu diogelu, bod iechyd yr anifail sy'n dod o Wcráin yn cael ei ddiogelu ac, wrth gwrs, bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu hefyd. Felly, rydym ni'n ehangu ein cyfleusterau cwarantin oherwydd ein bod ni'n sylweddoli nad oes gennym ni ddigon. Roeddwn i'n dweud wrth Lywodraeth y DU yn ôl ym mis Chwefror na fyddai ganddyn nhw ddigon, ac wrth gwrs mae APHA, yr wyf yn amlwg yn gweithio'n agos iawn ag ef, yn chwarae rhan bwysig. Ond, gall pethau fynd o chwith, ac er fy mod i'n gwerthfawrogi ei fod yn risg isel iawn, mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd 1,800 o achosion o gynddaredd yn Wcráin y llynedd. Nid ydym ni wedi cael y gynddaredd yn y wlad hon ers 100 mlynedd. Er bod y risg yn isel, byddai effaith cael clefyd anifeiliaid o'r fath yn y wlad hon yn sylweddol iawn. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar atal y defnydd o iaith heb rywedd wrth ddrafftio deddfwriaeth i atal menywod rhag cael eu dileu'n anghyfiawn ac yn beryglus mewn polisi a chyfraith. Rydym ni wedi gweld iaith heb rywedd yn sleifio i'n deddfu, ac mae hyn wedi cael ei gydnabod eto gan Weinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd True, sydd nawr wedi rhyddhau datganiad ar y mater. Maen nhw wedi dod i'r casgliad bod nifer o ddulliau drafftio ar gael i gyflawni'r canlyniad polisi a ddymunir wrth ddal i ddefnyddio iaith ryw-benodol. Un dull yw defnyddio iaith ryw-benodol i gyfeirio at y prif achos—er enghraifft, menywod—gan ychwanegu geiriad arall fel bod gan y ddarpariaeth hefyd y canlyniad polisi a ddymunir ar gyfer yr achosion llai cyffredin. Gall defnyddio iaith sy'n niwtral o ran rhywedd arwain at ddileu menywod yn y gyfraith ac, mewn rhai achosion, achosi niwed sylweddol a llechwraidd. Rwy'n gobeithio gweld datganiad gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda, Trefnydd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd am y dull y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei fabwysiadu o ran drafftio deddfwriaeth i atal menywod rhag cael eu dileu er mwyn atal dadwneud yr holl waith caled a gafodd ei wneud dros ddegawdau i amddiffyn menywod. Diolch.

Yn sicr, rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi arwain y ffordd yn llwyr. Os ydych chi'n ystyried ein Deddf rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ar y pryd yr oedd yn gwbl arloesol. Rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn gweithio ar hygyrchedd o ran cyfraith Cymru ac eglurhad, ac mae ef yn y Siambr ac wedi'ch clywed chi, ac yr wyf yn siŵr y gall edrych ar hynny fel rhan ohono. 

14:50

Diolch i'r Trefnydd. Na, mae'n ddrwg gyda fi. 

Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i ychydig yn rhy gynnar nawr—mae un person arall rwyf wedi anghofio'i alw ar fy rhestr i yma. Ken Skates. Efallai bydd hyn yn ymwneud â Wrecsam.

Diolch, Llywydd. Ydy yn wir. Roeddwn i wrth fy modd o glywed ymateb y Prif Weinidog i fy nghwestiwn i ychydig yn gynharach, ond byddwn i'n ddiolchgar hefyd pe byddai datganiad yn dod pe byddai Wrecsam yn ennill y cais i fod yn ddinas diwylliant, yn amlinellu manylion y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac fel arall, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth na fydd y cyngor lleol yn dibynnu yn fawr iawn ar yr uned digwyddiadau mawr ragorol Llywodraeth Cymru am gymorth a chyngor.

Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y cynnydd ar y cynlluniau ar gyfer gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Ac a gaf i ofyn am ddatganiad arall gan y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau y bydd pencadlys corff llais y dinesydd yn y gogledd? Mae cadeirydd y corff, wrth gwrs, yn gyfarwydd iawn â'r de-orllewin a'r canolbarth, ac mae pencadlys y rhan fwyaf o'r GIG yn y de-ddwyrain, ac felly wrth reswm, dylai corff llais y dinesydd fod â'i bencadlys yn y gogledd, lle mae'r bwrdd iechyd mwyaf sydd gennym ni a lle mae'r GIG, fe ellid dadlau, yn wynebu ei her fwyaf. Diolch.

Diolch. Roedd nifer o gwestiynau yno, ond rwy'n sicr yn falch o glywed bod y Prif Weinidog yn gwrando arnaf wrth i mi fwydro am Glwb Pêl-droed Wrecsam gyda'r fath sylw a'i fod mor wybodus erbyn hyn. O ran y cais i fod yn ddinas diwylliant, fel dywedodd y Prif Weinidog, fe ddaw'r cyhoeddiad ddydd Mawrth nesaf, ac rydym yn gobeithio yn fawr y bydd Wrecsam yn ennill, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog celfyddydau a diwylliant yn hapus iawn i wneud datganiad os mai dyna fydd yr achos.

O ran eich dau gwestiwn ynghylch iechyd, o ran sefydlu'r corff llais dinasyddion, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud hyd yma ynghylch lleoliad unrhyw un o'i safleoedd. Rwy'n credu pan fydd y broses o recriwtio i gorff llais y dinesydd wedi ei chwblhau, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno strategaeth leoli ar sail y penderfyniadau a wnaed.

Rydych chi'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i wella Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac, fel gwyddoch chi, yn ystod tymor blaenorol y llywodraeth, yn ôl ym mis Mawrth 2021, fe gyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth yn amlinellu'r fframwaith ymyraeth wedi'i thargedu ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn amlwg, yn ei fonitro yn ofalus iawn. Rwy'n ymwybodol bod rhagor o drafodaethau yn mynd rhagddyn nhw, a bydd y Gweinidog yn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn diweddaru ei wefan, oherwydd nid wyf i'n credu bod hynny wedi ei wneud ers rhai misoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gwneud hynny. Rwy'n gwybod bod eu hasesiad sylfaenol nhw wedi ei gwblhau, ond mae hi'n bwysig iawn bod y wefan yn cael ei diweddaru er mwyn i'r Aelodau allu ei weld. Ond os bydd unrhyw beth arall yn deillio o gyfarfod y Gweinidog, byddaf yn gofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

3. Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y Jiwbilî Blatinwm, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM8006 Lesley Griffiths

Cefnogwyd gan Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 70 mlynedd ddiwethaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, 70 mlynedd yn ôl, ni ddechreuodd y flwyddyn 1952 yn dda yng Nghymru. Ar y 10fed o Ionawr, fe gwympodd un o awyrennau Aer Lingus a oedd yn hedfan o Ddulyn i Lundain yn Eryri, gan ladd y 22 o deithwyr a'r tri aelod o'r criw. Lai na mis yn ddiweddarach, bu farw'r Brenin Siôr VI, ac fe ddechreuodd yr hyn a alwodd y Prif Weinidog ar y pryd, Winston Churchill, yn 'oes Elisabeth newydd'. Yn y cydblethu rhwng y ddau fywyd hynny—Prif Weinidog tua diwedd ei yrfa waith a brenhines ar ddechrau ei theyrnasiad hi—rydym yn gweld llinyn rhyfeddol yn cysylltu ein bywydau ni heddiw, yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain, yr holl ffordd yn ôl drwy'r ugeinfed ganrif gyfan hyd at chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn i Brif Weinidog Churchill fod y cyntaf o 14 o Brif Weinidogion sydd wedi cyfarfod yn wythnosol â'r Frenhines erbyn hyn, fe allai ef edrych yn ôl ar ddianc o wersyll carcharorion rhyfel yn ystod rhyfel y Boer yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Roedd yn aelod o'r Llywodraeth Ryddfrydol a fu'n gyfrifol am y diwygio mawr ym 1906 pan oedd y Brenin Edward VII ar yr orsedd. Bu'n Ganghellor y Trysorlys am dymor seneddol cyfan pan oedd Siôr V yn frenin. Bu'n arweinydd plaid y Brenin yn ystod teyrnasiad byr y Brenin Edward VIII, ac yn Brif Weinidog i Siôr VI, ac yn awr ail Frenhines Elisabeth. Yn ystod y flwyddyn honno, ym 1952, roedd yn ben ar adeg ddiddymu'r cardiau adnabod a gyflwynwyd yn ystod yr ail ryfel byd, a chyflwyno taliadau am bresgripsiynau—5c am bob eitem, a diddymu dogni te, a pherfformiad cyntaf The Mousetrap gan Agatha Christie.

Nawr, dim ond unigolyn eofn iawn a fyddai wedi edrych ymlaen gydag unrhyw sicrwydd at y 70 mlynedd o barhad a newid a oedd i ddod, oherwydd bod cyflymder y newid yn ystod y 70 mlynedd hynny wedi bod yn enfawr, yn sicr. Yma yng Nghymru, mae diwydiant trwm wedi ildio i raddau helaeth i wasanaethau ariannol a gwasanaethau eraill. Mae'r Deyrnas Unedig ei hun yn wahanol iawn i honno ym 1952. Nid oes un wladwriaeth unedol ganolog erbyn hyn; mae diwygiadau cyfansoddiadol wedi meithrin cymdeithas fwy lluosog, lle caiff pŵer ei ddyrannu i Seneddau eraill ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae symudiadau i mewn ac allan o'r Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt wedi creu poblogaeth fwy amrywiol ac amlddiwylliannol.

Wedi dweud hynny, Llywydd, nid yw rhai pethau wedi newid. Yn ystod 70 o flynyddoedd o newid mawr, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn bresennol bob amser ym mywydau pobl Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n meddwl am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i wneud ei dyletswydd. Mae hi wedi bod mor ffyddlon i'r llw a gymerodd hi adeg ei choroni. Rydyn ni'n meddwl hefyd am yr urddas a'r hwyliau da y mae hi'n eu dangos bob amser wrth iddi wneud ei dyletswydd. 

Y llynedd, buasai wedi bod yn anodd i beidio â chael eich cyffwrdd wrth iddi alaru ar ôl marwolaeth ei gŵr. Ymunodd hi â miloedd ar filoedd o'i dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith a glynu at y cyfyngiadau yr oedd eu hangen i gadw pobl eraill yn ddiogel. Mae'r Frenhines wedi treulio cymaint o adegau preifat ei bywyd yn llygaid y cyhoedd, ond bydd y ddelwedd honno yn arbennig yn para am byth.

Dros y blynyddoedd, mae'r Frenhines wedi ymweld â Chymru yn aml, o'i hymweliad cyntaf fel tywysoges ifanc a thaith y coroni ym 1953, i agor y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd yn swyddogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dros y 70 o flynyddoedd hynny, mae'r Frenhines wedi ymweld â phob cwr o Gymru. Ambell dro, roedd yn amser i ddathlu, dro arall roedd yn amser i ymuno mewn adegau dwys o alaru ac o gofio, er enghraifft pan oedd hi'n ymweld ag Aberfan. 

Nawr, wythnos nesaf, Llywydd, fe fydd llawer ledled Cymru yn defnyddio cyfle'r gwyliau cyhoeddus estynedig i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm—o gyngerdd yng nghastell Caerdydd i bicnic yn Llantrisant, te parti ym Mhorth Tywyn a regatta ym mae Tremadog. Llywydd, rhan o'r cyfrifoldeb o fod yn Brif Weinidog yn y Senedd hon yw bod yn aelod o Gyfrin Gyngor y Frenhines ac, fel y cyfryw, ar yr ail o Fehefin, fe fyddaf i'n cynrychioli'r Llywodraeth a'r bobl yma yng Nghymru yn y saliwt gynnau brenhinol a'r ŵyl gerddoriaeth ym Mae Caerdydd, ynghyd â miloedd o ddinasyddion eraill o Gymru, rwy'n siŵr. Drannoeth, byddaf yn y gwasanaeth diolchgarwch am y Jiwbilî Blatinwm yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Ac, ar y 4ydd o Fehefin, byddaf i ym Mhalas Buckingham ar gyfer uchafbwynt dathliadau'r penwythnos.

Ond, ymhell y tu hwnt i'r digwyddiadau mwy ffurfiol hynny, fe fydd yna lawer mwy o gyfleoedd eraill, wrth gwrs, i nodi'r Jiwbilî Blatinwm. Fe fydd ffaglau yn cael eu cynnau ledled Cymru—yng Nghasnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Aberhonddu, Trefaldwyn, Llanidloes a'r Rhyl—gan ymuno â dros 1,500 o ffaglau o'r fath ledled y Deyrnas Unedig ac ymhell y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, ledled y Gymanwlad. Mewn araith ar ddiwrnod ei choroni, fe wnaeth y Frenhines ei hadduned, ar ôl iddi neilltuo ei bywyd i wasanaeth ei phobl,

'Drwy gydol fy mywyd a gyda fy holl galon fe ymdrechaf i fod yn deilwng o'ch ymddiriedaeth.'

Ac nid oes amheuaeth, Llywydd, i'r ymddiriedaeth honno gael ei hennill dros y 70 mlynedd sydd wedi dilyn ers hynny. Fe fydd dathliadau a digwyddiadau'r wythnosau nesaf yn arwydd o'r parch mawr sydd i'r Frenhines, ac yn fynegiant o'r diolchgarwch am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth diarbed. Ar y sail honno rwy'n gwahodd holl Aelodau'r Senedd i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, ein bod ni'n llongyfarch y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu teyrnged i'w chefnogaeth gadarn hi i Gymru dros y 70 mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr.

15:00

A minnau'n un a oedd yn rhan o orymdaith gwisg ffansi yn ein pentref lleol i ddathlu'r Jiwbilî Arian yn ôl ym 1977—ni ddyweda i beth oeddwn i'n ei wisgo—[Torri ar draws.]—prin yr oeddwn i'n meddwl y byddwn i, yn 2022, yn sefyll mewn siwt a thei yn myfyrio ar deyrnasiad 70 mlynedd o hyd sydd wedi ennyn anwyldeb i'w Mawrhydi'r Frenhines ym mhob sector o gymdeithas, byddwn i'n ei awgrymu. Rwy'n deall y gallai fod gweriniaethwyr a brenhinwyr mewn democratiaeth, ond ni all neb ddweud mewn gwirionedd nad yw'r Frenhines wedi ennill parch y wlad hon at y ddyletswydd gyhoeddus a'r gwasanaeth cyhoeddus y mae hi wedi ei rhoi ar hyd ei theyrnasiad cyfan. Ac mae hi'n ffaith, fel crybwyllodd y Prif Weinidog, ei bod hi wedi cael gwasanaeth 14 o Brif Weinidogion, wedi gweld 13 o Arlywyddion yn UDA—dim ond un Arlywydd ni wnaeth hi ei gyfarfod; sef Lyndon Johnson—ac mae 10 Arlywydd Ffrainc wedi cwrdd â'i Mawrhydi'r Frenhines. Mae hi wedi bod ar 152 o ymweliadau gwladwriaethol. Bu pum Pab yn ei hamser hi, ac yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y Senedd hon, mae hi wedi dod ar bedwar achlysur ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd.

Bydd llawer o'r Aelodau yn cydnabod nad oeddwn i yma ym mis Hydref pan ddaeth hi i agor y Senedd ar gyfer tymor mandad cyfredol y Senedd, ond wrth ei gwylio ar y teledu, i weld ei hwyneb a'r pleser gwirioneddol yr oedd hi'n ei gael—ac rwy'n credu y byddai'r Llywydd yn eilio hyn—y pleser gwirioneddol yr oedd hi'n yn ei gael drwy fynd o gwmpas yn cyfarfod nid yn unig â'r Aelodau, ond y grwpiau cymunedol a oedd wedi ymgynnull i fyny'r grisiau—nid sioe oedd hynny, roedd yna gynhesrwydd a phleser gwirioneddol o fod yma yng Nghymru ac yn y lle hwn yng nghartref democratiaeth Cymru, i'w agor am ei dymor ei swydd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono, fod gennym ni frenhines sy'n cydnabod bod y wlad yn newid a bod y frenhiniaeth yn newid gyda'r wlad er mwyn bod yn berthnasol.

Mae hi'n ffaith, pan aned y Frenhines ym 1926, nad hi oedd yr etifedd, nad hi oedd y dewis naturiol i'w chodi i deyrnasu, ond drwy ymddiorseddiad 1937, fe newidiodd ei bywyd cyfan a bywyd ei theulu y tu hwnt i bob rheswm. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel bu'n gwasanaethu'n weithredol gyda'r Gwasanaeth Tiriogaethol Atodol, ac yna yn y pen draw, ar ôl cyfnod byr, byr gyda'i gŵr ym Melita, arweiniodd afiechyd ei thad—y Brenin Siôr VI, yn amlwg—at farwolaeth gynamserol Ei Fawrhydi a'r Frenhines yn dod i'r orsedd ym 1952.

Rydym yn edrych yn ôl ar gyfnod pan fyddai'n rhaid trosglwyddo newyddion o'r fath drwy gyfrwng y telegraff, yn hytrach na phwyso botwm yn gyflym a'r rhyngrwyd, neu godi eich ffôn a chael y newyddion drwy glicio swits. Rydym ni hefyd yn gweld y trenau stêm yn gwibio o gwmpas yn yr hen ffilmiau du a gwyn ac erbyn hyn mae gennym ni drenau trydan. Rydym ni hefyd yn gweld y byd ar adeg pan oedd hi'n beth mawr i hedfan o amgylch y byd. Heddiw mae'r byd ar agor i bob dyn, menyw a phlentyn, os ydyn nhw'n dymuno mynd o'i gwmpas, ac yn y pen draw rydym yn gwthio'r ffiniau i'r gofod. Ac mae yn bwysig myfyrio bod hyn i gyd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad o 70 mlynedd.

Mae hi'n werth myfyrio ar y ffaith bod gan y Frenhines le mawr yn ei chalon i Gymru, yn enwedig o ran y nawdd y mae hi wedi ei roi i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i Undeb Rygbi Cymru, a nifer o elusennau a sefydliadau, y mae hi wedi helpu i godi eu proffil, ac wedi dangos diddordeb brwd yn y sefydliadau hynny. Ac fel y crybwyllodd y Prif Weinidog, un drasiedi ymysg eraill oedd trychineb Aberfan a welodd hi ei hun ac mae hi wedi dangos diddordeb mawr yn y ffordd y mae'r cymunedau hynny wedi eu hadfer, heb anghofio am friwiau'r damweiniau a'r trychinebau hynny sydd wedi digwydd i'r cymunedau hynny, lle bynnag y bônt yng Nghymru.

Mae hefyd yn werth myfyrio ar ei chysylltiad cryf â'r lluoedd arfog, yn gadlywydd yn bennaf, ac, yn amlwg, mae Cymru wedi bod â rhan weithredol wrth anfon mwy, yn gymesur, na'i phoblogaeth i'r lluoedd arfog hynny, boed yn y fyddin, y llynges neu'r Awyrlu Brenhinol, a'r cysylltiad cryf y mae llawer o bobl yn ei deimlo â'r teulu brenhinol sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, o ba gymunedau bynnag y maen nhw'n dod. Ac fel crybwyllodd un o'r Aelodau y prynhawn yma, ac y tynnodd yr Aelod dros Orllewin Clwyd sylw ato, un o nodweddion hirhoedlog y Jiwbilî hon fydd Wrecsam yn dod yn ddinas, a dyna rywbeth y gallwn ni uniaethu ag ef fel achos arall i ddathlu, â'r holl ddinasoedd eraill a gafodd eu sefydlu mewn Jiwbilîs eraill, megis y Jiwbilî Aur, y Jiwbilî Arian ac yn amlwg y Jiwbilî Blatinwm yr ydym ni'n ei dathlu yn 2022.

Mae hi hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod ffydd yn rhan fawr o gyfansoddiad y Frenhines, ac er mai hi yw Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Loegr, mae hi yn cydnabod nad y wlad yr oedd y Deyrnas Unedig yn y 1950au yw'r wlad yn 2022, a'n bod ni'n gymdeithas aml-ffydd, sy'n rhywbeth y mae hi ac eraill yn ei ddathlu yn helaeth. A'r cyfansoddiad hwn o Brydain gyfoes yr ydym ni'n ei ddathlu bob dydd.

I mi, rhywbeth sy'n amlwg iawn yn ystod yr argyfwng COVID diweddar oedd anerchiad Ei Mawrhydi i'r wlad ym mis Ebrill 2020, pan ddywedodd hi, 'Fe wnawn ni gyfarfod eto.' Yn y pen draw, ar yr adeg honno, pan oedd tywyllwch gwirioneddol, ac roedd pobl yn edrych dros y dibyn yn ôl ym mis Ebrill 2020, siaradodd yn ddidwyll a theimladwy am ei chred y byddai'r wlad hon yn dod drwy'r argyfwng hwnnw ac y byddem ni'n gweld amseroedd gwell. Diolch byth, rydym ni wedi dod drwy'r argyfwng ac rydym ni yn gweld amseroedd gwell, ond nid ydym yn anghofio'r rhai a gollodd anwyliaid a'r aberth enfawr y mae llawer wedi gorfod ei wneud.

Mae hi'n ffaith hefyd fod y teulu brenhinol eu hunain wedi gorfod dioddef llawer o drychinebau, a llawer iawn o darfu ar ei bywydau. Ond rydym ni yn credu yn angerddol bod y Frenhines a'r profiad y mae hi wedi ei ennill dros y 70 mlynedd wedi cofio yr hyn sydd orau am Gymru a'r hyn sydd orau am Brydain ym mhob penderfyniad y mae hi wedi eu gwneud dros y wlad hon, ein cenedl unedig ni, gan sefyll yn dalsyth yn y byd.

Rwy'n ymuno â'r Prif Weinidog i gymeradwyo'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod yn iawn y bydd y penwythnos o ddathlu sydd ar ddod yn cael ei nodi mewn sawl cwr o'r wlad hon, nid yma yng Nghymru yn unig, nid yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, ond ar draws y Gymanwlad yn y cenhedloedd y mae'n hi'n ben arnyn nhw ac yn eu harwain gyda'r fath falchder ac angerdd. Ac nid oes gen i unrhyw betruster, ar ran fy ngrŵp i a'r blaid, wrth gymeradwyo'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw.

15:05

Gyda'r perygl o ddechrau tuedd, fe wnes i ennill gwobr am 'y wisg orau yn y carnifal' yng ngharnifal Jiwbilî Llanwnnen ym 1977—ac mae lluniau ar gael. 

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch. [Torri ar draws.] Ie, dilynwch hynny, ie. Ymhlith ei rhagflaenwyr, ni all Elisabeth II honni mai hi sydd wedi treulio'r cyfnod hwyaf yng Nghymru—fe all dau Harri ac un Edward, a aned yma mewn gwirionedd, frwydro am y goron benodol honno—ond y hi, yn ddi-os, yw'r frenhines Brydeinig sydd wedi ymweld â Chymru amlaf, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai o'r achlysuron hynny. Hyd yn oed ar y dechrau, roedd ein cenedl ni yn bwysig ym mywyd y Frenhines anfwriadol hon. Yn ystod y rhyfel, mae haneswyr yn dweud wrthym y lluniwyd cynlluniau i dawelu cenedlaetholdeb Cymreig drwy feithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru ag Elisabeth. Fe wrthodwyd ei phenodi hi'n gwnstabl castell Caernarfon am fod hynny'n anymarferol yn ddaearyddol, ac roedd ei gwneud hi'n noddwr i'r Urdd yn cael ei ystyried yn ddewis rhy radical, felly bu'n rhaid iddi hi wneud y tro â chael ei sefydlu i'r Orsedd, yn 20 oed, gan yr archdderwydd ar y pryd, Crwys.

Cynhaliwyd ymweliad swyddogol cyntaf Elisabeth â Chymru ar 28 Mawrth 1944. Fe ddigwyddodd hyn ar y diwrnod y pleidleisiodd ASau yn San Steffan i dalu'r un faint i athrawon, boed yn ddynion neu fenywod, carreg filltir bwysig yn y mudiad tuag at gydraddoldeb sydd wedi bod yn un o'r edau niferus a fu'n rhan o dapestri bywyd a theyrnasiad hir Elisabeth II. Roedd hi'n ddarpar frenhines, oedd, ond fe wrthodwyd yr union gydraddoldeb hynny iddi hi ar y dechrau; yn y dyddiau cyn ei hymweliad â Chymru, roedd deiseb gan awdurdodau lleol Cymru, yn yr hyn a elwid yn Blaid Seneddol Cymru, i'w chyhoeddi hi'n Dywysoges Cymru. Ond fe wrthodwyd yr hawl honno iddi, oherwydd ar y pryd ni allai menyw fod yn ddim mwy nag etifedd tebygol, ac nid yn etifedd gweladwy.

Mewn ymateb i gael rhyddid dinas Caerdydd, mynegodd y Dywysoges Elisabeth fod ganddi hi gysylltiad personol iawn â Chymru serch hynny. Mae'n ddigon posibl ei bod hi'n dwyn i gof y Bwthyn Bach—model cwbl weithredol o dŷ oedd hwnnw a gyflwynwyd iddi hi oddi wrth bobl Cymru ym 1932, ar ei phen-blwydd yn chwech oed. Roedd wedi'i leoli yn Windsor Great Park, ac roedd yn cynnwys cegin gyda stôf ac oergell, ac ystafell fyw â'r enw Siambr Fach, gyda goleuadau trydan a ffôn a oedd yn gweithio, dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi yn cynnwys dŵr poeth ac oer a hyd yn oed rheil gwres ar gyfer tyweli. O dan amgylchiadau'r cyfnod hwnnw gartref yng Nghymru, fe fyddai'r model hwn o fwthyn wedi ymddangos yr un mor balasaidd â Windsor ei hun.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, a hithau newydd ei choroni'n Frenhines Elisabeth, ad-dalodd ein haelioni ar y cyd drwy agor y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yn ffurfiol, lle'r oedd ei thad-cu, y Brenin Siôr V, 44 mlynedd yn gynharach, wedi gosod y garreg sylfaen; rhywbeth araf a thrafferthus y bu adeiladu cenedl yng Nghymru erioed. Fe ddisgrifiodd hi fod y llyfrgell wedi cadw

'cymeriad unigryw aelod bach ond unigol o fy nheulu i o genhedloedd',

teulu a oedd, o dan ei stiwardiaeth hi, yn trawsnewid ei hun yn gyflym o fod yn Ymerodraeth i fod yn Gymanwlad o wledydd annibynnol—statws yr ydym ni'n gobeithio, yn ein plaid ni, y bydd Cymru yn ei fwynhau hefyd ryw ddiwrnod.

Efallai mai'r cysylltiad mwyaf arwyddocaol a hirhoedlog a fu rhwng Cymru a'r Frenhines oedd yr un a dyfodd o'i chydymdeimlad, fel cyfeiriwyd ato eisoes, yn dilyn trychineb Aberfan. Roedd hwnnw'n achlysur prin pan adroddwyd ei bod deigryn wedi llifo ohoni yn gyhoeddus. Dywedodd un fam wrth ohebydd teledu:

'Rwy'n cofio'r Frenhines yn cerdded trwy'r mwd. Roedd hynny'n teimlo fel ei bod hi wedi bod gyda ni o'r dechrau.'

Nid anghofiodd y Frenhines Elisabeth Aberfan erioed. Fe ymwelodd hi ym 1973 i agor y ganolfan gymunedol newydd, ac eto ym 1997 i nodi deng mlynedd ar hugain ers y trychineb.

Llywydd, mae gennym ni yn y Senedd reswm arbennig dros gydnabod swyddogaeth y Frenhines ym mywyd Cymru. Roedd ei hagoriad cyntaf hi o'n Senedd yn dilyn yr etholiadau cyntaf ym 1999 yn tanlinellu, drwy ei phresenoldeb hi, arwyddocâd y dechreuad newydd hwnnw ar ein taith ddemocrataidd genedlaethol—yn groes i ddymuniadau Prif Weinidog y DU ar y pryd, mae'n ymddangos. Nawr, ar drothwy dod i amlygrwydd fel cenedl gwbl hunanlywodraethol, mae Cymru wedi trawsnewid y tu hwnt i bob disgwyl o'i chymharu â'n hamgylchiadau ym 1952—gwlad heb gyfalaf, heb sôn am Senedd. Wedi ei naddu yn y Jiwbilî hon, felly, y mae ein taith ninnau hefyd o'r Siambr fach i Siambr fwy, oherwydd ein hanes ni, yn rhannol o leiaf, yw ei stori hi hefyd.

15:10

Ni ellir gwadu bod Ei Mawrhydi'r Frenhines yn ddynes ryfeddol sydd wedi gwasanaethu'r wlad hon a'r Gymanwlad gyda ffyddlondeb ac ymroddiad mawr. Mae hi'n fraint fawr i mi sefyll yma yn y Siambr hon heddiw, yn eich plith chi i gyd, yn talu teyrnged i'w Mawrhydi wrth i'r wlad uno i ddathlu ei Jiwbilî Blatinwm.

Mae Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi torri recordiau di-rif ers iddi esgyn i'r orsedd 70 mlynedd yn ôl ac erbyn hyn hi yw'r frenhines sydd wedi bod yn teyrnasu am y trydydd cyfnod hwyaf yn y byd. Yn ystod ei theyrnasiad o 70 mlynedd, mae'r Frenhines a gweddill y teulu brenhinol wedi ymweld â Chymru droeon, fel yr ydym wedi'i glywed eisoes, gan gryfhau eu cysylltiadau cryf iawn â'n gwlad. Y llynedd, roedd Ei Mawrhydi yn yr union Siambr hon yn ein plith ni i gyd ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd, gyda thorfeydd yn sefyll ar y strydoedd y tu allan, yn gobeithio cael cipolwg o'n brenhines wych. Ac a gaf i ddweud, fe gefais i'r anrhydedd mawr o gwrdd â'i Mawrhydi pan ddaeth hi i'r fan hon, fel y cafodd, rwy'n gwybod, llawer o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yng Nghymru hefyd?

Dros y blynyddoedd, mae'r Frenhines wedi agor ei drysau, nid yn unig i'r rhai ohonom ni o'r DU ond o bob rhan o'r Gymanwlad, i grwpiau, unigolion a sefydliadau i fynychu ei phartïon gardd blynyddol, ac mae hi wedi anrhydeddu pobl ddi-rif am eu cyfraniadau yn eu meysydd proffesiynol ac am eu gwaith elusennol hefyd. Mae'r Frenhines wedi bod ar fwy na 325 o ymweliadau tramor mewn 130 o wledydd yn bersonol, wedi cyfarfod â mwy na 100 o benaethiaid gwladwriaethau, a bod yn deyrn cyntaf mewn 100 can mlynedd i ymweld â Gweriniaeth Iwerddon. Yn syml iawn, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth, yn batrwm o ymddygiad di-sigl i filiynau o bobl yma yng Nghymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn fyd-eang.

Nid yw hi wedi gwyro hanner cam drwy gydol ei theyrnasiad, ac mae wedi bod yn ffigwr cyson i'r DU yn ystod cyfnodau o newid enfawr. Rwyf wedi dweud hyn yn y Siambr o'r blaen, ond un o gyflawniadau mwyaf teyrnasiad y Frenhines fu trawsnewid yr Ymerodraeth yn Gymanwlad. Yn cynnwys 53 o wledydd annibynnol, gyda phoblogaeth gyfunol o 2.4 biliwn, mae gennym ni i gyd nodau a rennir i hyrwyddo democratiaeth, datblygiad ac, yn y pen draw, heddwch. Er bod rhai gwledydd yn cael eu diarddel neu'n gadael dros y blynyddoedd, heddiw mae'r Gymanwlad yn cydsefyll fel modd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, democratiaeth a hawliau dynol.

Un o'r pethau yr wyf i'n eu hoffi fwyaf am Ei Mawrhydi yw ei hangerdd am anifeiliaid a'r gwaith gwych y mae hi wedi ei wneud drostyn nhw. Amcangyfrifir bod y Frenhines wedi bod yn berchen ar dros 30 o gorgwn, yn arbennig—ac rwy'n siŵr y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau yn hapus i glywed—corgwn Cymru Penfro, ochr yn ochr â cheffylau di-rif a rhai anifeiliaid mwy egsotig, fel slothiau a haid o ystlumod. Mae Ei Mawrhydi yn noddwr i fwy na 30 o elusennau anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, Clwb Cŵn Labrador a Chymdeithas Frenhinol Rasio Colomennod. Mae'n amlwg ei bod hi'n hoff iawn o anifeiliaid drwyddi draw.

Mae hi wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i'w Mawrhydi a'i theulu yn dilyn colled drasig ei hannwyl briod, Dug Caeredin yn ddiweddar. Wrth i ni i gyd ddod at ein gilydd i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm, boed hynny mewn digwyddiad yn eich cymuned neu dim ond nodi'r achlysur gyda ffrindiau a theulu, fe ddylem ni gymryd eiliad i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a'r holl les y mae hi wedi'i wneud ledled y byd. Yr wythnos nesaf, rwy'n gobeithio y bydd pawb y tu mewn i'r Siambr hon a'r tu allan i'r Senedd hon yng Nghymru yn codi gwydryn i'w Mawrhydi ac yn anrhydeddu'r Tywysog Philip, a oedd wrth ochr y Frenhines am flynyddoedd lawer ac nad yw yn ein plith bellach. Nid oes amheuaeth nad yw Ei Mawrhydi yn parhau i fod wrth galon ein cenedl, a bydded iddi hi barhau i deyrnasu arnom am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch i chi.

15:15

Yn groes i'r duedd, ni enillais i erioed gystadleuaeth am y wisg orau, ond rwy'n gobeithio y gallai hynny newid yr wythnos nesaf yn nathliadau'r Jiwbilî Blatinwm yn Rhiwabon. Hoffwn i ddechrau, serch hynny, drwy ddweud cymaint o bleser yw cyfrannu at y ddadl hon a chefnogi'r cynnig, a diolch i bob sefydliad yn Ne Clwyd sydd wedi trefnu ystod mor amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer dathlu'r Jiwbilî Blatinwm. Rwyf i o'r farn, p'un a ydych chi'n frenhinwr neu'n weriniaethwr neu, yn wir, yn ddifater, mae'r foment arbennig hon yn ein hamser ni'n cydnabod rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno: rydym ni'n dathlu gwaith caled di-baid, ymrwymiad diflino, teyrngarwch, urddas a pharch at ddyletswydd sydd gan y frenhines sydd wedi teyrnasu am y cyfnod hwyaf yn hanes Prydain erioed. Ac mae hwn yn amser i ni i gyd ddod at ein gilydd i gydnabod y priodoleddau anhygoel hyn a mynegi ein parch ni i'w Mawrhydi'r Frenhines. Fe fydd y Jiwbilî Blatinwm yn cynnig cyfle prin i ni i'r genedl roi ymraniadau o'r neilltu a chymryd amser i werthfawrogi cymuned, gwasanaeth cyhoeddus a theyrngarwch i eraill.

Nawr, nid yw'r Frenhines erioed wedi mynegi safbwyntiau eithafol; yn hytrach mae hi wedi bod yn rhyfeddol wrth roi undod a lles ei phobl yn gyntaf wrth gyflawni dyletswydd mor anhygoel o anodd. Ac mewn byd lle mae ymraniad wedi dod yn fwyfwy amlwg ar lefel ryngwladol a chenedlaethol a rhanbarthol, mae'r Frenhines wedi ymdrechu i sicrhau bod y Gymanwlad yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed. Mae hi wedi gosod undod cenhedloedd, undod rhyngwladol ac undod rhanbarthau wrth galon ei gwaith bob amser.

Nawr, efallai na fydd rhai pobl yn dewis dathlu teyrnasiad y Frenhines Elisabeth II yn ystod yr wythnos i ddod, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb yn canmol cyfraniad digyffelyb a chadarnhaol iawn y Frenhines at ein hanes ni. Ac wrth i ni ymlwybro tua 2023 a 2024 wedi hynny, gadewch i ni obeithio y bydd y Frenhines yn mynd ymlaen nid yn unig i fod felly i Brydain, ond yn frenhines hwyaf ei theyrnasiad yn y byd i gyd. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae hi'n anrhydedd i mi gael cyfrannu at y ddadl hon heddiw a thalu teyrnged i'n brenhines hwyaf ei theyrnasiad, Ei Mawrhydi'r Frenhines. Fe ellir crynhoi bywyd a theyrnasiad Ei Mawrhydi'r Frenhines ag un gair: dyletswydd. Yn 19 oed, ymrestrodd Ei Mawrhydi yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Ategol y menywod, a dim ond dechrau bywyd o ymrwymiad i'n gwlad a'i phobl oedd hynny. Cafodd ei hymrwymiad gydol oes i'r wlad ei ragfynegi yn ei haraith enwog yn Cape Town, De Affrica, lle dywedodd hi:

'Rwyf yn datgan yn eich gwŷdd chi y bydd fy oes gyfan, boed yn un hir neu'n un fer, wedi ei neilltuo i'ch gwasanaeth'.

Gyda'r teyrnasiad hwyaf yn hanes Prydain, mae hi wedi parhau i fod yn ddylanwad sefydlog a thawel ar y wlad. Mae hi wedi teyrnasu, fel y dywedodd fy arweinydd yn gynharach, dros gyfanswm o 14 o Brif Weinidogion yn ei hamser, sy'n gyflawniad anhygoel. Mae hi wedi moderneiddio'r frenhiniaeth a'i throi'n sefydliad poblogaidd fel y mae heddiw, gyda chyrhaeddiad byd-eang sy'n denu llawer o ymwelwyr i Brydain bob blwyddyn.

Mae Ei Mawrhydi'r Frenhines yn eicon i mi a menywod ledled y byd—y ffordd y mae hi'n ei chario ei hun, ei chryfder a'i hymrwymiad cadarn i'w swydd. Fe ellir gweld ei hymdeimlad o ddyletswydd yn glir drwy ei hymroddiad i'w helusennau di-rif, a hithau'n noddwr neu'n llywydd i dros 600 o elusennau yn ei hamser. Nid dim ond ei hymroddiad i'w gwlad y dylem ni i gyd fod yn rhyfeddu ato; mae'r Frenhines wedi parhau i hyrwyddo'r Gymanwlad yn fawr, fel dywedwyd yn awr, dros y blynyddoedd, gan weithio i feithrin cydberthnasau a chadw ei haelodau gyda'i gilydd ers 1952. Pan goronwyd Ei Mawrhydi, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth; heddiw, mae 54 ohonyn nhw. Mae'r Frenhines wedi goruchwylio proses lle mae'r ymerodraeth Brydeinig gyfan, yn ymarferol, wedi ei thrawsffurfio yn gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sofran yn gweithio gyda'i gilydd, law yn llaw. Yn syml iawn, mae'r Frenhines wedi bod yn bennaeth a theyrn cadarn i'r wladwriaeth. Fe fyddwn ni yn ei dyled hi am byth. Ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Siambr gyfan pan ddywedaf i: hir oes iddi; Duw gadwo'r Frenhines.

15:20

Rwyf i wrth fy modd heddiw am ein bod ni'n cael y cyfle unwaith mewn oes hwn i ddathlu bywyd o wasanaeth a roddir i bobl Prydain Fawr a'r Gymanwlad gan unigolyn anhygoel, rhywun sydd wedi rhoi dyletswydd a gwasanaeth ac ymroddiad uwchlaw pob peth arall. Yr unigolyn hwnnw yw Ei Mawrhydi, y Frenhines Elisabeth II.

Am 70 o flynyddoedd, mae'r Frenhines wedi ein gwasanaethu â theilyngdod, a bydd fy etholwyr i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a minnau'n ddiolchgar am byth am wasanaeth Ei Mawrhydi ac ymweliadau Ei Mawrhydi â fy etholaeth i, fel yr ymweliad â Chwm Elan ym 1952 neu'r ymweliad â Dolau yn 2002 ar gyfer Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi, ac, yn fwy diweddar, fe ymwelodd Ei Mawrhydi â Glan Wysg ger Crucywel yn 2012 ar gyfer ei Jiwbilî Ddiemwnt. Diwrnod budr oedd hwnnw, rwy'n ei gofio yn dda, a'r hyn a wnaeth hi oedd bwrw ymlaen â'r gwaith o gwrdd â phobl a gwneud i bawb deimlo yn arbennig, ac rwy'n credu i Ddug Caeredin ar y pryd wneud y dewis callaf ac eistedd yn y car a chyfarch pobl trwy'r ffenestr. Rwyf i, ynghyd â llawer o fy etholwyr i, yn ddiolchgar iawn am yr ymweliad â Brycheiniog a Maesyfed.

Drwy gydol teyrnasiad hir Ei Mawrhydi, mae'r Frenhines wedi cysylltu â'r Cymry mewn amseroedd o lawenydd ac adfyd fel ei gilydd. Fe welwyd hyn yn y negeseuon a roddwyd yn ystod agoriad Senedd Cymru, ac, yn fwy diweddar, yn ystod pandemig y coronafeirws. Bob blwyddyn, mae'r teulu brenhinol yn cynnal dros 2,000 o ddigwyddiadau brenhinol, yn y DU a thramor. Mae'r Frenhines wedi cynnal dros 325 o ymweliadau tramor mewn 130 o wledydd yn bersonol, ac, ar ben hynny, mae'r Frenhines wedi cyfarfod â phenaethiaid gwladwriaethau o bob lliw gwleidyddol, a 14 o Brif Weinidogion. Fel y dywedodd y diweddar Ddug Caeredin, mae'n rhaid i Frenhines fod â digonedd o amynedd. Mae hynny'n dangos mai hi yw'r llysgennad gorau a welodd ein gwlad erioed.

Yn 18 oed, ymunodd â'r gwasanaeth ategol a mynnodd y Frenhines ei bod hi'n ymuno, ac fe sicrhaodd y diweddar Frenin Siôr VI nad oedd hi'n cael unrhyw driniaeth arbennig oherwydd pwy oedd hi; roedd hi'n awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith o wasanaethu ei gwlad. Mae hoffter Ei Mawrhydi o'r awyr agored wedi bod yn nodwedd o'i theyrnasiad, ac fe welais i hynny'n uniongyrchol pan siaradodd Ei Mawrhydi a minnau am ffermio wrth agor y Senedd, ac fe allaf i gadarnhau ei bod hi'n wybodus iawn o ran arferion ffermio a'i bod hi hyd yn oed wedi dysgu un neu ddau o bethau nad oeddwn i'n gwybod dim amdanyn nhw.

Mae ei gwaith hi dros ein cenedl wedi bod yn doreithiog ac amrywiol. Ar ôl marwolaeth drist ei gŵr o flynyddoedd lawer, Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin, mae'r Frenhines wedi parhau i wasanaethu pobl Cymru a'r byd, gan ddangos nad oes unrhyw arwyddion o arafu. Fe welsom ni hynny ddoe, pan aeth Ei Mawrhydi i Sioe Flodau Chelsea'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol mewn bygi golff gyda'r llysenw 'Queenmobile'. Felly, fe fydd hi'n cadw at ei datganiad y bydd angen ei gweld hi i'w chredu bob amser. Hyd yn oed ar oedran pan fyddai llawer o bobl yn ystyried ymddeol a byw bywyd tawel, mae'r Frenhines yn parhau i fod yn flaenllaw yn ein cenedl, yn gwasanaethu fel arwyddlun brenhinol ac yn gweithredu fel ffigur sy'n uno. Fe dyngais fy llw i'w Mawrhydi wrth ymuno â'r Senedd hon, ac mae hi'n bleser mawr gen i ddweud: Duw a gadwo'r Frenhines, a Jiwbilî Blatinwm hapus, Eich Mawrhydi.

A minnau'n Aelod a etholwyd dros Aberconwy, mae hon, yn wir, yn anrhydedd ac yn fraint i mi fod yn achub ar y cyfle hwn i longyfarch Ei Mawrhydi ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm, a mynegi diolch hefyd am y gwasanaeth amhrisiadwy y mae hi'n parhau i'w roi yma yng Nghymru.

Rydym ni wedi cael y fraint o'i phresenoldeb yn y gogledd ar sawl achlysur. Yn wir, fe wnaeth fy nhref enedigol, Llandudno, ei chroesawu ym 1963, 1977, a 2010. Cymaint yw'r parch at ei Mawrhydi a'r teulu brenhinol fel bod parc yn ein tref ni o'r enw Mountbatten Green a chartref gofal o'r enw Queen Elizabeth Court. Yn wir, rwy'n gwybod y bydd dathliadau ar draws Llandudno a gweddill yr etholaeth, oherwydd bod yr awdurdod lleol eisoes wedi derbyn wyth cais i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd Jiwbilî. Wrth gwrs, fe fydd llawer mwy yn cynllunio partïon te yn eu gerddi ac yn gwylio'r dathliadau o gysur eu soffas. Ond gofynnaf i gynifer o bobl â phosibl neilltuo munud i gymryd rhan yn y Cinio Jiwbilî Mawr. Ddydd Sul, byddwn ni'n cael ein hannog i ddathlu cysylltiadau lleol a dod i adnabod ein cymdogion ychydig bach yn well. P'un a yw'n hynny'n golygu cwpanaid o de ar garreg y drws neu barti mwy yn y stryd, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Ni all yr un ohonom ni fyth anghofio bod Ei Mawrhydi wedi eistedd ar ei phen ei hun wrth ffarwelio â'r diweddar Ddug Caeredin. 'Alone in her grief' oedd pennawd y Sunday People. 'Sitting alone, the Queen bids her final farewell', oedd pennawd y Sunday Telegraph, a'r Sunday Mirror yn adrodd 'The loneliest goodbye'. Mae 57 y cant o bobl hŷn yn dweud eu bod nhw'n teimlo yn unig o bryd i'w gilydd. Felly, gadewch i ni ddilyn esiampl Ei Mawrhydi a meddwl beth allwn ni ei wneud i gefnogi eraill sy'n llawer llai ffodus na ni.

Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain oed, mewn araith a ddarlledwyd ar y radio o Cape Town, ymrwymodd Ei Mawrhydi ei bywyd i wasanaeth y Gymanwlad. Dywedodd,

'Rwyf yn datgan yn eich gŵydd chi y bydd fy oes gyfan, boed yn un hir neu'n un fer, wedi ei neilltuo i'ch gwasanaeth.'

Ac mae hi'n cadw at yr addewid honno. Er enghraifft, er budd ein cenedl, mae Ei Mawrhydi yn noddwr brenhinol neu'n llywydd ar 600 o elusennau. Er budd ein cenedl a chysylltiadau rhyngwladol, mae Ei Mawrhydi wedi cynnal 152 o ymweliadau swyddogol â gwladwriaethau, gan gynnwys 13 o Arlywyddion Unol Daleithiau America a phum Pab. Ac er budd pobl yn fyd-eang, gwasanaethodd Ei Mawrhydi yn bennaeth y Gymanwlad. Rydym ni'n ffodus o fod â brenhines sydd wedi arloesi arloesedd. Ei choroni oedd y cyntaf i gael ei ddarlledu yn llawn, er bod llawer o swyddogion yn gwrthwynebu hynny. Ei Mawrhydi oedd y frenhines gyntaf i gyhoeddi neges Nadolig fyw ar y teledu a'r frenhines Brydeinig gyntaf i drydar. Yn wir, rwy'n credu ei bod yn ganmoladwy bod Ei Mawrhydi wedi gwneud ymdrech deg i barhau i fod yn gyfoes a bod yn ymwybodol o heriau ein cyfnod. Nid yw hyn yn syndod, o gofio ei bod hi eisoes wedi gweld 14 o Brif Weinidogion a phedwar Prif Weinidog Cymru. Hyd yn oed yn ddiweddar iawn, mewn ymateb i argyfwng ffoaduriaid o Wcráin, mae'r palas wedi dweud eu bod nhw'n cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd.

Byddem ni i gyd yn sicr yn disgwyl i rywun neu unrhyw un sy'n 96 oed ddechrau ymlacio. Serch hynny, mae'r Jiwbilî Blatinwm hon, fel y dywedodd Andrew Marr, yn 'nodi 70 mlynedd o fod yn ddirwgnach wrth wasanaethu ei phobl.' Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i fynegi'r gobaith y bydd Ei Mawrhydi yn parhau i wasanaethu ein cenedl, ein byd, ac yn llenwi ein calonnau. Llongyfarchiadau a Duw a'ch bendithio, Eich Mawrhydi.

15:25

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymateb i'r ddadl.

Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i ychwanegu at y teyrngedau sydd wedi eu talu i'r Frenhines heddiw. Mae'r thema gyson ym mhob un o'r areithiau heddiw yn un gyfarwydd i ni. Mae'n un yr ydym ni'r gwleidyddion yn ei ystyried o bwys mawr. Gwasanaethu'r cyhoedd yw hynny. Mewn byd o gyfryngau cymdeithasol, o newyddion ar unwaith, yr un thema sy'n atseinio yw gwasanaethu'r cyhoedd, a, beth bynnag yw safbwynt unrhyw un o ran y frenhiniaeth, beth bynnag fo gwleidyddiaeth unrhyw un, beth bynnag yw ei gredoau, mae yna un farn, rwy'n credu, sy'n croesi'r holl wahaniaethau hyn, sef ei bod hi, ar hyd ei hoes, wedi bod yn batrwm o amlygu pwysigrwydd dyletswydd gyhoeddus.

Yr hyn na ellir ei wadu ychwaith yw'r anwyldeb mawr a'r parch y mae hi'n eu hennyn, ar draws y Siambr hon ac ymhlith llawer iawn o'r rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac nid yw'r anwyldeb na'r parch wedi eu cymryd yn ganiataol. Byddai hi wedi bod yn demtasiwn, a hithau wedi ei geni i safle breintiedig, i hawlio teyrngarwch ac awdurdod yn rhinwedd hynny, fel y mae'n bosibl y gwnaeth ei rhagflaenwyr yn yr oesoedd canol. Ond, drwy ei gweithredoedd, mae hi wedi ymdrechu bob amser i haeddu ymddiriedaeth y bobl, fel y dangoswyd yn y straeon a'r hanesion yr ydym ni wedi eu clywed heddiw.

Yn ein brenhiniaeth gyfansoddiadol, yn gwbl briodol, nid yw'r frenhines yn trafod materion gwleidyddol yn gyhoeddus. Serch hynny, mae yn ymddangos ei bod hi'n mynegi ei barn weithiau mewn ffyrdd sy'n fwy cynnil, yn fwyaf diweddar, wrth arddangos blodau yn lliwiau baner Wcráin yn y cefndir wrth gyfarfod â Phrif Weinidog Canada yn gynharach eleni. Ac ychydig iawn a fydd yn anghofio neu'n anghytuno â'r sylwadau a glywyd ganddi wrth agor y Senedd yn ddiweddar, wrth drafod COP26 gyda'n Llywydd ni, rwy'n cofio, sut roedd hi'n cael ei chythruddo gan bobl—rwy'n amau mai sôn am wleidyddion oedd hi—sy'n siarad ond yn gwneud dim.

Rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Mae hi'n iawn ein bod ni wedi cymryd rhywfaint o amser i fyfyrio ar gymeriad a chyfraniad ein brenhines fwyaf hirhoedlog a hwyaf ei theyrnasiad. Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu gyda'r Frenhines yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi unwaith eto i fynegi cydnabyddiaeth ein cenedl o'i hymroddiad a'i gwasanaeth, a'n llongyfarchiadau ar achlysur cyrraedd carreg filltir mor bwysig. Diolch.

15:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu anableddau dysgu. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. 

Diolch. Mae'n bleser gennyf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am un o'r meysydd gwaith hanfodol y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ef, i hyrwyddo hawliau rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed sy'n cael eu hesgeuluso'n aml yn ein cymunedau: pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Yn dilyn ein rhaglen arloesol Gwella Bywydau, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud nawr i fanteisio ar y cynnydd yr ydym ni wedi'u wneud. Er ein bod ni'n cydnabod y cynnydd yr ydym wedi'i wneud o ran diwallu anghenion a dyheadau pobl ag anabledd dysgu, rhaid i ni hefyd gydnabod bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur o niweidiol ar eu bywydau bob dydd. Nid yw hyn ond wedi amlygu'r anghydraddoldebau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas a'r rhwystrau i'w goresgyn os yw pobl ag anabledd dysgu eisiau byw'r bywydau y maen nhw eisiau eu byw a chael eu cydnabod fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, cael cymorth i fyw, gweithio a datblygu fel unigolion, yn eu cymunedau eu hunain, ac yn agos at y bobl sydd bwysicaf iddyn nhw.

Rwy'n cyhoeddi ein cynllun gweithredu anabledd dysgu, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i bobl ag anabledd dysgu. Byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y camau y byddwn ni'n eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau a'r anfanteision y mae llawer yn eu hwynebu bob dydd o'u hoes. Mae'r cynllun gweithredu, yn bwysig iawn, wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad ac ymgynghoriad â phobl ag anableddau dysgu, grŵp cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu, a phartneriaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Gwnaethom ni hefyd gynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid chwe wythnos wedi'i dargedu.

Mae'r cynllun yn blaenoriaethu'r meysydd, y camau gweithredu a'r canlyniadau allweddol yr ydym ni eisiau eu cyflawni. Mae'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys: lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau y mae modd eu hosgoi; lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty ac i unedau arbenigol drwy wella mynediad at wasanaethau yn y gymuned ac atal argyfwng; lleihau arosiadau hir mewn ysbytai, ac yn arbennig, lleihau lleoliadau y tu allan i'r sir a'r wlad; gwella mynediad at ddarpariaeth gofal cymdeithasol; cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl drwy gynyddu mynediad at sgiliau a gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu; sicrhau mynediad i addysg sy'n diwallu anghenion unigolion; darparu gwell cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sgiliau; cynyddu tai priodol sy'n agos i'w cartrefi gyda gwasanaethau cymorth integredig; gwella'r cymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddatblygu dull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau plant ledled maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac yn benodol, gwella'r ffordd y mae gwasanaethau'n cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.

Yn ogystal â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg a thrafnidiaeth, mae'n bleser gennyf i gyhoeddi ein bod ni'n buddsoddi £3 miliwn yn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf o'n cronfa diwygio gofal cymdeithasol newydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae datrysiadau cymunedol ataliol a datblygu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn barhaus, yn elfennau hanfodol i alluogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu cefnogi a byw mor annibynnol â phosibl. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill, yn darparu £144 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd i sbarduno'r cymorth integredig hwn y mae ei angen yn ddirfawr. Rydym ni wedi sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn un o'r grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth sydd wedi'u nodi ar gyfer cyllid y gronfa integreiddio rhanbarthol.

Bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi mis Awst a bydd yn cynnwys y camau gweithredu penodol a fydd yn sail i gyflawni'r camau blaenoriaeth hyn yn llwyddiannus. Bydd yn ddogfen fyw a chaiff ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i flaenoriaethau ac amgylchiadau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r cynllun gweithredu strategol a'r cynllun cyflawni yn hyblyg ac yn cynnwys camau gweithredu sy'n realistig ac yn gyraeddadwy, o ystyried y canolbwyntio parhaus ar adfer pandemig, y pwysau digynsail parhaus ar wasanaethau cyhoeddus a chyfyngiadau ar yr adnoddau sydd ar gael ar lefel genedlaethol a lleol.

Bydd y cynllun gweithredu yn helpu i gyflawni ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r heriau sy'n ein hwynebu ni a gwella bywydau pobl ledled Cymru, gan adlewyrchu ein gwerthoedd o ran cymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a'n hamcan llesiant datganedig i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gyflawni ein nodau llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru ffyniannus, fwy cyfartal a chymunedau cydlynol. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gymhwyso'r ffyrdd cynaliadwy o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y meysydd blaenoriaeth sy'n ceisio dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau'n well.

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ethos y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gan fod llawer o'r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn adlewyrchu ein nodau cyffredin o leihau'r anghydraddoldebau y mae llawer o bobl Cymru yn eu hwynebu. Mewn ymrwymiad i sicrhau cydweithio a chyd-gynhyrchu diffuant, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, i nodi a chytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'r anghenion mwyaf dybryd yn y cynllun a byddwn ni'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i'r blaenoriaethau hyn.

Bydd ein grŵp cynghori gweinidogol yn monitro'r modd y caiff y cynllun ei gyflawni a byddaf i'n cael adroddiadau cynnydd yn rheolaidd. Caiff adolygiad ffurfiol ei gynnal hefyd ar ddiwedd blwyddyn 2, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol ac yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl ag anableddau dysgu. Byddaf i'n rhoi adroddiad cynnydd i'r Aelodau bryd hynny. Diolch.

15:35

Diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac, er fy mod i'n croesawu'r datganiad a chyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar anabledd dysgu, mae arnaf i ofn bod y cynllun unwaith eto'n gyfres o ddyheadau a geiriau cynnes, nid cynllun yn unrhyw wir ystyr y gair. Yr hyn y mae'r ddogfen yr ydych chi wedi'i chyhoeddi yn ei ddangos yw bod Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai o'r heriau y mae'r rheini sy'n byw gydag anableddau dysgu yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, ac er bod hynny i'w groesawu'n fawr, yr hyn y mae ei angen arnom ni yw manylion ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i wella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu, ac rwy'n derbyn mai dim ond rhan o'r cynllun yw hyn ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y cynllun cyflawni pan gaiff ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Fodd bynnag, dyma'r cynllun strategol, felly ble mae'r strategaeth?

Dirprwy Weinidog, sut y caiff cynnydd o'i gymharu â bob un o'r blaenoriaethau hyn ei fonitro, ac, yn bwysicach, ei asesu? Heb fonitro a thargedau clir, sut y byddwn ni'n gwybod ein bod ni'n gwneud y peth cywir yn y ffordd gywir? Er bod croeso i'r arian ychwanegol sydd wedi'i amlinellu yn eich datganiad, sut y bydd yn cael ei ddyrannu? A sut y byddwch chi'n asesu gwariant effeithiol? Er enghraifft, bydd y £3 miliwn o'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o gyflawni adran 3 o'r cynllun, sy'n cynnwys 15 o gamau gweithredu penodol. Pa mor bell bydd y cyllid yn mynd i gefnogi adolygiad o ddarpariaeth gwasanaethau dydd awdurdodau lleol, gan ddatblygu haenau 2 a 3 o fodiwlau Sefydliad Paul Ridd, yn ogystal â datblygu cynlluniau hyfforddi a recriwtio ar gyfer nyrsys anabledd dysgu? 

Dirprwy Weinidog, rwy'n rhannu eich uchelgais i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu, a rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu ni i chwalu rhwystrau a dileu anghydraddoldebau, ond nid ydym ni'n gwneud hynny, ac ni fydd y cynllun hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn newid pethau. Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i'r adnoddau hawdd eu darllen ar gyfer archwiliadau iechyd blynyddol gael eu cynhyrchu. Nid yw'r adnoddau hyn, a gafodd eu datblygu o dan y cynllun blaenorol, ar gael yn gyffredin o hyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn well, a chymaint yn well o ran hynny. Dyna pam y mae angen monitro'r cynllun hwn yn briodol a'r canlyniadau y mae'n eu cyflawni.

Ai grŵp cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu yw'r cyfrwng cywir i fonitro'r cynllun o gofio ei fod yn ddarostyngedig i'r cynllun? Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn anhryloyw ar hyn o bryd ac nid yw pobl ag anableddau dysgu a grwpiau sy'n eu cynrychioli yn gweld y grŵp yn hygyrch. Rwy'n croesawu'r bwriad i wneud y grŵp yn fwy cynhwysol—mae angen hynny. Os edrychwch chi ar y grŵp ar wefan Llywodraeth Cymru, byddech chi'n credu bod y grŵp wedi cyfarfod ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2019. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir, ond sut mae pobl sy'n byw gydag anableddau dysgu i fod i wybod? Mae'r grŵp hwn i fod i eiriol drostyn nhw.

Dirprwy Weinidog, gobeithio y byddwch chi'n defnyddio'r amser rhwng nawr a chyhoeddi'r cynllun cyflawni i'w gryfhau, ac edrychaf i ymlaen at weithio gyda chi i wella'r canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu. Diolch.

15:40

Diolch yn fawr am y gymeradwyaeth lwyr honno i'r cynllun hwn. Rwy'n credu eich bod wedi ymateb fel arfer, ond, beth bynnag, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi eisiau gweithio gyda ni ar hyn.

Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi fy nghlywed i'n dweud y bydd y cynllun gweithredu manwl yn cael ei gyflwyno ym mis Awst, felly rwy'n credu efallai y byddai'n well iddo aros i weld hynny cyn iddo fynd ymhellach o lawer yn ei feirniadaeth o'r Grŵp Cynghori, yn benodol, y grŵp cynghori'r gweinidog ar anabledd dysgu, na allaf i ei ganmol yn ormodol. Caiff ei arwain ar y cyd, gydag un ohonyn nhw'n fenyw ag anableddau dysgu, ac mae'n gynrychioliadol iawn o wahanol grwpiau yn y byd anabledd dysgu ac yn y gymdeithas yn gyffredinol. Maen nhw wedi pwyso arnaf i'n gryf, wedi llunio rhestr enfawr o argymhellion, yn brwydro dros fwy o gydraddoldeb, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni grŵp mor wych ac rydym ni eisiau ei wneud hyd yn oed yn fwy cynhwysol. Felly, rwy'n credu na fyddan nhw'n fodlon iawn o glywed eich bod chi wedi bod yn feirniadol iawn ohonyn nhw, yn enwedig gan eu bod wedi cynhyrchu'r cynllun hwn ar y cyd â grwpiau eraill.

Ond, fodd bynnag, o ran y £3 miliwn, mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr arian arall yr ydym ni'n ei roi i faes anabledd dysgu. Ond, mae gen i fanylion o sut y caiff y £3 miliwn hwnnw ei wario. Nid wyf i'n siŵr a ydym ni eisiau ei ystyried geiniog wrth geiniog nawr heddiw, ond yn sicr un o'r pethau pwysig yw edrych ar sut yr ydym ni'n lleihau marwolaethau y mae modd eu hosgoi oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae pobl ag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o fod yn sâl. Gwnaethoch chi sôn am fater archwiliadau iechyd. Roedd hyn yn rhan bwysig iawn o'r rhaglen Gwella Bywydau, sef y dylai pobl ag anableddau dysgu, sy'n dioddef yn anghymesur o rai afiechydon, gael archwiliad iechyd blynyddol. Yn anffodus, cyrhaeddodd y pandemig ac ataliodd hynny'n llwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, cawsant eu canslo. Rydym ni nawr yn dechrau hynny eto. Yn wreiddiol, cafodd £600,000 ei roi ar ei gyfer yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yr ydym ni'n rhoi £350,000 arall i mewn. Yn amlwg, caiff hynny ei fonitro'n ofalus gan fod yr archwiliadau iechyd yn un o'r pethau pwysig iawn yr ydym ni eisiau'i wneud. 

Gwnaethoch chi sôn am Sefydliad Paul Ridd, yr addysg, ac mae'r cam cyntaf wedi'i gyflawni. Hoffwn i dalu teyrnged i Sefydliad Paul Ridd ac i'w deulu sydd wedi ymgyrchu'n ddi-baid fel y bydd gwell dealltwriaeth o bobl ag anableddau dysgu, fel eu bod yn cael y driniaeth mewn ysbytai sydd ei hangen arnyn nhw. Yn y £3 miliwn hwnnw mae arian er mwyn sicrhau bod yr ail a'r trydydd cam yn mynd yn eu blaenau. Felly, gallaf i gyfrif yn llwyr am y £3 miliwn hwnnw a sut y mae'n cael ei wario.

Y pwynt arall y soniaf amdano o'r hyn a gafodd ei grybwyll gan yr Aelod yw'r gwasanaethau dydd. Mae hwnnw'n fater yr wyf i'n pryderu'n fawr amdano, oherwydd gwn i fod llawer o'r gwasanaethau dydd—bron pob un ohonyn nhw—wedi cau yn ystod y pandemig ac nid yw pob un ohonyn nhw wedi agor eto. Felly, rwy'n awyddus iawn i ni edrych ar hyn. Rydym ni'n adolygu'r sefyllfa hon, ond yr ydym eisiau, pan fyddan nhw'n agor eto, fod yn gwbl sicr mai dyma y mae pobl ag anableddau dysgu eisiau'u cael a'u bod yn cael eu cynnwys wrth gynllunio'r gwasanaethau dydd hynny.

Mae hwn yn gynllun sy'n tynnu sylw at y materion allweddol, y materion pwysig, yr heriau, wrth gwrs, sy'n wynebu pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a gofalwyr cyflogedig. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn anodd anghytuno â'r dyheadau, ond lle mae diffyg manylion mewn elfennau o weithredu, credaf i ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwthio'r Llywodraeth am y manylion hynny. Un o'r elfennau sydd wir yn bwysig yw eglurder ynghylch sut y bydd cynnydd yn cael ei fonitro a'i werthuso. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ni heddiw y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn monitro'r ddarpariaeth. Edrychaf ymlaen at yr adroddiad cynnydd y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei addo i ni cyn diwedd y flwyddyn, ond rwy'n credu bod angen mwy o dryloywder ynghylch yr hyn yn union yr ydym ni'n ei fesur yma fel ein bod ni'n gwybod pa ganlyniadau yr ydym ni'n ymdrechu i'w cael.

O ran cyllid, rydym ni wedi cael y cyhoeddiad am y £3 miliwn ar gyfer cyflawni camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae elfennau eraill o'r cynllun y bydd angen cyllid sylweddol ar eu cyfer, ac rwy'n credu bod bylchau o hyd yn yr union ymrwymiadau ariannu hynny y gallwn ni eu disgwyl gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r dyheadau. Efallai y gall y Dirprwy Weinidog roi mwy o syniad i ni heddiw o'r elfennau hynny o gyllid y mae Llywodraeth Cymru, efallai, yn dal i geisio'u mesur, ond o leiaf rhoi syniad i ni o'r cyfeiriad y gallem ni fod yn mynd iddo. A siarad am deithio, dim ond un cam gweithredu sydd gan drafnidiaeth yn y cynllun, ac mae cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â hyfforddiant teithio yn bwysig iawn i bobl ag anabledd dysgu. A gaf i ofyn pa gynllun sydd ar waith i wella hygyrchedd trafnidiaeth i'r sawl ag anableddau dysgu?

Rydym ni wedi trafod droeon bwysigrwydd nyrsys o fewn y gweithlu gofal iechyd yn gyffredinol, wrth gwrs. Mae'n destun pryder mawr nad yw'r cynllun hwn yn cyfeirio o gwbl at nyrsys cyswllt anabledd dysgu, sy'n chwarae rhan mor bwysig. A yw Llywodraeth Cymru yn adolygu'r anghysondeb penodol hwnnw a pha welliannau sy'n cael eu gwneud?

Cwestiwn cyffredinol i orffen efallai yn ymwneud â'r pandemig. Wrth gwrs, mae'r pwysau a ddaeth yn sgil y pandemig ar wasanaethau yn hysbys iawn. Cafodd llawer o strwythurau cymorth eu dileu neu'u lleihau'n sylweddol. Roedd sefyllfaoedd gofal heriol a chymhleth eisoes yn waeth, ond yr ydym ni'n siarad yn awr am ddychwelyd at y drefn arferol. A yw Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried effeithiau tebygol y pandemig yn y tymor hwy, yr hyn y gallen nhw fod ar bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr a pha gamau y gallai fod angen eu cymryd a pha fuddsoddi y gallai fod angen ei wneud i liniaru yn y tymor hwy?

15:45

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y pwyntiau yna. Rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw wedi'u gwneud yn dda iawn. O ran y manylion, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, o ran cynllun gweithredu, a fydd â'r manylion, y bydd cyfle i Aelodau weld hynny. Caiff ei fonitro gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog, sydd, fel y dywedais i, â chynrychiolaeth dda o bobl ag anableddau dysgu sydd â phrofiad bywyd. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl allweddol. Yn amlwg, byddan nhw'n adrodd i mi hefyd, ac ar ddiwedd y flwyddyn, cewch chi'r cyfle hwnnw i weld sut y mae'r gweithredu'n mynd rhagddo. Yn amlwg, bydd cynnydd yn cael ei werthuso. Bydd rhai o'r meysydd yr ydym ni eisiau'u gweld yn gwella yn hawdd eu gwerthuso, er enghraifft yr archwiliadau iechyd sydd mor hanfodol. Daeth y pandemig a thorri'r rheini i ffwrdd, ond byddwn ni'n sicr yn gallu gweld sut mae'r archwiliadau iechyd blynyddol hynny'n dechrau a hefyd a ydyn nhw'n cyflawni wrth nodi rhai o'r afiechydon sy'n gysylltiedig ag anabledd dysgu yn gynharach er mwyn galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach, yn y bôn.

Mae rhai o'r mesuriadau'n gymharol hawdd eu mesur, ac eraill yn fwy anodd, ond, yn amlwg, bydd pobl ag anableddau dysgu yn manteisio ar yr holl strategaethau eraill i bawb mewn cymdeithas a dylen nhw fod yn manteisio arnyn nhw. Yn hyn o beth, rydym ni'n anelu cymorth penodol ar gyfer bobl ag anableddau dysgu, ond os oes gennym ni gymdeithas wirioneddol integredig a chyfartal, dylen nhw fod yn manteisio ar bopeth yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru. Mae llawer o ymrwymiadau ariannu eraill ar wahân i'r £3 miliwn y gwnes i ei grybwyll; dyna'r darn newydd diweddaraf sy'n nodi pethau penodol i'w datblygu.

Yn ogystal â'r £3 miliwn hwnnw, yn amlwg, mae'r gronfa fuddsoddi ranbarthol gwerth £144 miliwn lle mae anabledd dysgu yn flaenoriaeth. Felly, rydym ni'n gobeithio gweld rhai prosiectau yn dod o hynny. Mae cyllid craidd o £700,000 ar gael i fyrddau iechyd ac i Gwelliant Cymru o gyllideb anabledd dysgu pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl. Felly, mae'r £700,000 hwnnw hefyd. Ac yna, wrth gwrs, mae'r arian yr wyf i eisoes wedi'i grybwyll sydd wedi'i roi i ddatblygu'r archwiliadau iechyd—£600,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a £350,000 yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, mae amrywiaeth eang o fanteision ariannol yn dod i'r amlwg, ond hoffwn i wir ddweud, ein bod ni eisiau bod yn siŵr bod pobl ag anableddau dysgu yn manteisio ar yr holl bethau yr ydym ni'n eu hariannu yn Llywodraeth Cymru. 

Yn sicr, mae nyrsys yn rhan bwysig iawn o'r ffordd ymlaen, ac rwy'n credu i mi grybwyll eisoes yr hyn yr oedd cronfa Paul Ridd yn ei wneud mewn ffordd ehangach o ran addysgu pobl yn y system iechyd er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth gorau posibl.

Rwy'n credu bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar bawb, ac, rwy'n credu, ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl ag anableddau dysgu. Felly, rhaid i ni ystyried unigrwydd ac ynysigrwydd yn benodol, oherwydd rwy'n credu y cafwyd effaith anghymesur, gyda phobl ag anableddau dysgu'n teimlo'n unig ac yn ynysig ac yn cael problem fawr o ran ymdopi. Mae hi wedi bod yn arbennig o anodd i'w gofalwyr, oherwydd mae'n amlwg bod y gofalwyr wedi cael anawsterau mawr hefyd. Felly, rwy'n credu, yn y modd yr ydym ni'n ystyried sut y mae'r pandemig wedi cael effaith hwy ar blant a phobl hŷn, rhaid i ni gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn hynny. 

15:50

Hoffwn i dynnu sylw pawb yn gyntaf at adroddiad Estyn Teilo Sant, a ddywedodd fod anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu'n eithriadol o dda. Yn wahanol i rai ysgolion, mae disgyblion sydd angen cymorth pwrpasol yn cael cymorth pwrpasol i ffynnu a chyflawni hyd eithaf eu gallu. Gwnes i weld hynny yr wythnos diwethaf pan ymwelais i â nhw.

Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n eithriadol o ran y gefnogaeth y maen nhw'n ei rhoi i bobl ifanc i'w galluogi i bontio o'r ysgol i fyd gwaith. Mae rhai'n mynd ymlaen i ragori yn eu maes dewisol, ond yn anffodus mae'n ymddangos bod eraill o allu llai yn gweld bod dod o hyd i gyfleoedd eraill ar gyfer twf a gwneud cyfraniad i gymdeithas yn crebachu'n esbonyddol, ac mewn ffordd wir frawychus mewn rhai achosion. Felly, hoffwn i ddeall yn well sut yr ydym ni'n mynd i wella'r cyfleoedd cyflogaeth i bobl a allai fod â gallu deallusol cyfyngedig ond sydd yn sicr eisiau gwneud cyfraniad. Os oes gennym ni gynlluniau addysg unigol ar gyfer disgyblion, beth am gynlluniau cyflogaeth unigol ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu?

Yn ogystal, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydych chi'n datblygu tai priodol yn agos i gartref, gyda gwasanaethau cymorth integredig, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod hynny'n hanfodol i ofalwyr, yn enwedig wrth i ofalwyr fynd yn hŷn a bod angen iddyn nhw ofalu amdanyn nhw eu hunain.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am y cyfraniad yna. Mae'n wych clywed am Sant Teilo ac am Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Rwyf i wedi cael etholwyr o fy ardal i fy hun sydd wedi mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac, yn wir, rwy'n credu ei fod yn lle rhagorol. Rwy'n credu mai pryder ac ofn pob teulu yw'r hyn sy'n mynd i ddigwydd ar ôl i'r colegau ddod i ben, ac un o'r blaenoriaethau sydd wedi'i rhestru yma yw gwneud rhywbeth ynghylch gwell cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu, a dyna un o'r meysydd yr ydym ni'n bwriadu ei ddilyn yn y cynllun gweithredu manwl. Yn sicr, mae pobl ag anableddau dysgu wedi tynnu sylw ato fel un o'r meysydd pwysig iawn y mae'n rhaid eu cynnwys. Mae ymdrechion wedi bod i gysylltu â chyflogwyr i gyflogi pobl ag anableddau dysgu, ac yr oeddwn i'n falch iawn ddoe pan ymwelais i â phrosiect a chwrdd â dyn ifanc â syndrom Down a oedd yn gweithio mewn garej un diwrnod yr wythnos. Roedd wrth ei fodd. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthyf i pan gefais i fy nghyflwyno iddo oedd, 'Rwy'n gweithio mewn garej un diwrnod yr wythnos.' Rwy'n credu bod llawer iawn o le i ymestyn y math hwnnw o ddull o ymdrin â chyflogwyr a datblygu'r cynllun sydd eisoes yn bodoli o ran cysylltu â chyflogwyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

O ran tai a gofal, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad yn ddiweddar yma yn y Siambr ynghylch yr arian ychwanegol sy'n mynd i sefydlu systemau tai a gofal, ac yr ydym ni'n gobeithio y bydd y Gronfa'n cynnig £144,000 yno. Rydym ni'n gobeithio y bydd yn cyflwyno rhai cynlluniau arloesol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Rwy'n gwybod bod gan yr Aelod rieni yn ei hetholaeth sy'n mynd yn hŷn ac sy'n pryderi, fel y maen nhw yn fy etholaeth i, am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r bobl ifanc hynny. Mae'n bryder enfawr, a gobeithio, gyda'r cynllun hwn, y byddwn ni'n gallu ymdrin â'r materion hynny. Yn sicr, mae'r ewyllys a'r ymrwymiad yno i wneud hynny, ac mae'n cael ei fonitro'n ofalus iawn gan bobl sydd â'r profiad bywyd hwnnw.

15:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu newydd i wella bywydau pobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu i'w groesawu. Mae pobl ag anableddau dysgu yn aml yn wynebu heriau bywyd ychwanegol. Maen nhw'n fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd ychwanegol, megis awtistiaeth, epilepsi a phroblemau deintyddol, i enwi dim ond rhai. Nid bob tro, ond gallan nhw fod mewn mwy o berygl o fyw bywyd anweithgar a all arwain at gymhlethdodau iechyd eraill. Gwnaethom ni sôn am COVID-19. Fel ym mron pob rhan o'n gwlad, mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar wasanaethau anableddau dysgu. Mae'r gwasanaethau hyn yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a rhaid iddyn nhw fod yn un o'r blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Mae hyn wedi'i waethygu gan y ffaith eu bod yn fwy tebygol o fod yn agored i dlodi, amodau tai gwael a diweithdra. Yn 2006, cyflwynodd Llywodraeth Cymru archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn canfod yn gynharach anhwylderau sy'n datblygu. Ond nid yw llawer o feddygon teulu yn cynnig y gwasanaeth hwn oherwydd diffyg tystiolaeth am y manteision iechyd hirdymor. Rwy'n credu bod angen i chi edrych—

Roeddwn i eisiau gofyn am y pethau hyn a ddylai ddigwydd. Rwy'n credu y dof i ben nawr.

Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Yn sicr, mae unigolion ag anableddau dysgu yn dueddol o gael clefyd anadlol a chlefyd y galon, diabetes, problemau cyhyrysgerbydol a chyflyrau'r ystumog, gan gynnwys rhai mathau o ganser, ynghyd â'r hyn y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Mae unigolion sydd â syndrom Down yn debygol o ddatblygu dementia yn ifanc—tua 30 mlwydd oed. Felly, mae'r archwiliadau iechyd hyn yn gwbl hanfodol. Roedd hynny'n rhan o'r rhaglen Gwella Bywydau, sef ein cynllun blaenorol ni, a oedd yn cynnwys yr archwiliadau iechyd. Ond daeth pob un ohonyn nhw i ben pan ddechreuodd y pandemig, yn yr un modd â bron pob math o archwiliad—daeth pob un ohonyn nhw i ben. Felly, mae cam mawr yn ôl wedi bod oherwydd y pandemig. Ond rydym ni'n ailfuddsoddi £350,000 eleni nawr i ddechrau'r archwiliadau hynny, a fydd yn cael eu monitro. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pa mor agored i niwed y mae pobl ag anableddau dysgu i effaith iechyd gwael, ac mae'r archwiliadau iechyd hyn yn gwbl hanfodol.

16:00

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei holl waith uniongyrchol a'i hymgysylltiad â phobl sydd ag anableddau dysgu, a hefyd gyda'r rhai sy'n eiriol ar eu rhan. Rwy'n gwybod ei bod wedi cynnal cyfarfodydd ledled Cymru gyda phobl o'r fath.

Mae'r cwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â'r sylw a wnaiff am wasanaethau cydgysylltiedig rhwng addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn enwedig sut bydd y cynllun gweithredu'n mynd i'r afael â'r hyn a alwais yn y ddadl yr wythnos diwethaf yr effaith pinbel, pan fyddwch yn sboncio rhwng iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Gall olygu eich bod yn aros yn hwy nag efallai—. Efallai y byddwch yn aros am weithiwr gofal iechyd am gyfnod byr, ond yna mae'r effaith gronnol honno'n golygu eich bod yn aros yn hir am y canlyniad terfynol. Hoffwn ofyn sut y caiff hynny ei ystyried yn y cynllun gweithredu, a allai fod yna ffyrdd o liniaru ac a allai prosesau cyfochrog, efallai, i leihau'r amseroedd aros hynny fod yn fesur effeithiol. Ar hyn o bryd, dim ond holi barn y Gweinidog ynghylch hynny yr hoffwn ei wneud. 

Diolch i Hefin David am y cyfraniad yna ac am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ac mewn meysydd cysylltiedig eraill. Gyda'r llwybrau cyfochrog, mae hynny yn achosi problemau ac mae'n achosi oedi, felly mae'r cynllun gweithredu eisiau datblygu gwasanaethau anabledd dysgu gwell ac integredig i blant a phobl ifanc yn holl feysydd dysgu cynnar, ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys trosglwyddo i wasanaethau oedolion hefyd. Rydym ni wedi neilltuo £175,000 o'r £3 miliwn y soniais amdano i fapio gwasanaethau'n fanwl er mwyn nodi bylchau ac anghenion. Un o'r materion hefyd yw ein bod ni wirioneddol eisiau gwella'r broses o drosglwyddo i wasanaethau oedolion, oherwydd yn ogystal â'r llwybrau cyfochrog, mae yna rwystr mawr pan fyddwch yn trosglwyddo i wasanaethau oedolion. Felly, diolch yn fawr iddo am y sylw pwysig yna, ac mae hynny'n sicr yn un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried yn y cynllun gweithredu. 

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg

Eitem 5 sy'n nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg—gweithlu'r Gymraeg mewn addysg. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er mwyn gwireddu'n huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, rhaid gwneud newidiadau a chymryd camau sylweddol. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r Gymraeg wrth galon dysgu yng Nghymru, ond os ydym ni am greu cenedl lle mae pobl yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, mae cynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae angen gweithlu cryf a medrus arnom.

Rwy'n falch iawn, felly, o allu cyhoeddi'r cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg heddiw, sy'n amlinellu'r camau y byddwn ni yn eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf, mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid. Mae'r cynllun yn nodi ein camau gweithredu yn erbyn pedwar prif nod: cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, neu drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr; datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg; a sicrhau bod y wybodaeth a'r sgiliau gan ein harweinwyr i gynllunio a datblygu'r Gymraeg yn strategol yn ein hysgolion.

Rŷn ni eisoes wedi gosod sylfeini cryf gyda datblygiadau yn y blynyddoedd diwethaf, sy'n cynnwys: cyflwyno cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, sy'n rhoi hyd at £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'r Gymraeg fel pwnc; cefnogi athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg i newid i addysgu yn y sector uwchradd—hyd yma, mae 24 o athrawon wedi bod yn rhan o'r rhaglen beilot ar draws Cymru; ac ehangu amrywiaeth o gyrsiau'r cynllun sabothol iaith Gymraeg. Cam nesaf y daith fydd gwella a sefydlu rhai o'n polisïau allweddol a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ein hamcanion.

Mae athrawon, arweinwyr a staff cymorth gwych gennym ni yn ein hysgolion. Fodd bynnag, gall recriwtio staff fod yn heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn arbennig. Ar hyn o bryd rwy'n adolygu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yr awdurdodau lleol. Bydd y rhain yn ein galluogi i ddeall a chynllunio yn well ar gyfer gofynion y gweithlu, i fodloni'r twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Yn y cyfamser, does dim amser i'w wastraffu. Rŷn ni eisoes wedi cychwyn datblygu'r camau byrdymor a hirdymor er mwyn cynyddu nifer yr athrawon. Rwyf wedi gwahodd ysgolion i geisio am grantiau i greu mwy o gapasiti mewn rhai rhannau o'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Rwy'n gobeithio y bydd ysgolion yn gallu datblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau o ran recriwtio staff.

Mae ymgyrch i annog mwy o'n pobl ifanc i ddewis y Gymraeg fel pwnc lefel A hefyd ar waith. Mae'r ymgyrch yn rhan allweddol o'r llwybr i sicrhau y bydd gyda ni ddigon o athrawon y Gymraeg fel pwnc yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion ystyried sut gallai taliadau cymell a bwrsariaethau ddenu mwy o bobl i ddewis addysgu mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg fel gyrfa.

Rhaid inni hefyd barhau i geisio datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg, er mwyn gwella'r addysg Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Roeddwn yn falch o gyhoeddi ym mis Chwefror y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu cyrsiau am ddim i ymarferwyr o fis Medi ymlaen. Bydd y cyrsiau hyn, yn ogystal â chyrsiau'r cynllun sabothol a'r dysgu proffesiynol sy'n cael eu darparu gan ein consortia rhanbarthol a'n hawdurdodau lleol, yn darparu amrywiaeth o ddarpariaeth i'n hymarferwyr.

Mae sicrhau bod gyda ni ddigon o arweinwyr ar gyfer y twf yn nifer o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau y gall ein harweinwyr gefnogi'n gweledigaeth i bob dysgwr allu defnyddio'r iaith pan fydd yn gadael yr ysgol.

Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf er mwyn rhoi'r cynllun ar waith. Fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft, mae £1 filiwn arall yn cael ei ddyrannu yn 2022-23, gyda chynnydd dangosol pellach o £500,000 yn 2023-24 a £2 filiwn yn 2024-25. Mae'r cyllid newydd yn ychwanegol at gyllid presennol, sydd yn cynnwys £785,000 ar gyfer Iaith Athrawon Yfory, £6.35 miliwn ar gyfer y cynllun sabothol a chymorth rhanbarthol neu leol ar gyfer dysgu proffesiynol yn Gymraeg, £700,000 ar gyfer y rhaglen drosi, a £145,000 i gefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc. Mae hyn yn dod â'r cyfanswm i bron i £9 miliwn yn 2022-23, sydd yn fuddsoddiad sylweddol.

Rŷn ni wedi trafod yn helaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn deall y materion yn llawn, ac i ddatblygu'r atebion sydd eu hangen arnon ni. Hoffwn i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn, yn enwedig y grŵp gorchwyl a gorffen sydd wedi gweithio gyda ni i awgrymu, datblygu a gwella'r camau gweithredu.

Mae llawer iawn o waith i'w wneud. Rŷn ni am barhau i ddenu a chefnogi'r athrawon, y cynorthwywyr a'r arweinwyr gorau ar gyfer ein hysgolion. Mae ymroddiad, brwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cyflawni'r camau a nodir yn y cynllun er lles cenedlaethau'r dyfodol.

16:05

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad o flaen llaw. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod y prynhawn yma, mae strategaeth Cymraeg 2050 yn uchelgeisiol, ond, er mwyn diogelu dyfodol ein hiaith, rhaid inni sicrhau bod ein polisïau yn flaengar a bod ein harweinyddiaeth yn atebol.

Yn y flwyddyn dwi wedi bod yn Aelod, dwi wedi dod i sylweddoli pa mor bwysig yw chwalu'r rhwystrau a sicrhau bod ein hiaith yn un y gall pawb ei rhannu a'i dysgu, sy'n rhannol pam y croesewir y datganiad y prynhawn yma. Ond i fod yn seriws am ddatblygu ein hiaith, bydd rhaid sicrhau bod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud yn ddigonol i gynyddu poblogaeth siaradwyr Cymraeg Cymru, nid cynnal y niferoedd presennol yn unig. Dyna fy mhryder mwyaf gyda'r polisi hwn—na fydd yn cyflawni'r hyn y mae yn bwriadu ei wneud.

Pwrpas y datganiad heddiw yw, fel y dywedodd y Gweinidog, i ddatblygu addysgu Cymraeg drwy bob lefel o addysg, a chefnogi'r addewidion uchelgeisiol a wnaed bum mlynedd yn ôl. Yn wir, yng nghynllun pum mlynedd y Gweinidog ar y pryd, yr Aelod o Flaenau Gwent, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon ysgolion cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg 7 y cant. Byddai hyn wedi gweld nifer yr athrawon yn cynyddu o 2,903 i 3,100. Ond, bum mlynedd ar ôl cyflwyno Cymraeg 2050, rydyn ni wedi mynd yn ôl.

Yn unol â'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd 2,871 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg—diffyg o 7.4 y cant mewn lefelau staffio. Ond nid dyma'r unig duedd; mae lefelau recriwtio athrawon uwchradd wedi cwympo trwy'r llawr. Ym mlwyddyn academaidd 2020-21, roedd 2,395 o'r athrawon uwchradd yn addysgu yn y Gymraeg. Y targed ar gyfer y cyfnod hwn oedd 2,800—14 y cant yn is na'r targed gwreiddiol. Wrth gwrs, bydd targed uchelgeisiol fel yr un yma yn dod â'i heriau ei hun—heriau a nodwyd gyntaf bum mlynedd yn ôl. Pan lansiwyd y strategaeth hon gyntaf, rhybuddiwyd eich Llywodraeth bod ein sector addysg cyfrwng Cymraeg yn wynebu argyfwng recriwtio anodd, sefyllfa a gafodd ei chwyddo gan eich rhaglen uchelgeisiol i dyfu ein poblogaeth Gymraeg. A dyma ni, bum mlynedd yn hwyrach, gyda chynllun i fynd i'r afael â gwella'r sefyllfa. A gymerodd y Llywodraeth ei sylw oddi ar y sefyllfa?

Bum mlynedd yn ôl, rhybuddiodd pwyllgor diwylliant y Senedd fod angen 70 y cant yn fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Fe wnaeth y cyn Weinidog, Alun Davies, chwalu'r pryder. A yw'r Gweinidog yn cytuno â'r sylw hwn, ynteu a yw e'n gresynu bod ei Lywodraeth wedi methu â chamu i mewn yn gynt i fynd i'r afael â'r diffygion hyn? Os ydym am fynd o ddifrif ynghylch diogelu'r iaith wych yma, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth ei diogelu. Ni allwn barhau i fynd i'r afael â'r pryderon pum mlynedd oed, bum mlynedd ar ôl iddynt gael eu nodi'n gyntaf. Nid yw'r dull hwn o lywodraethu yn gynaliadwy, ac er fy mod yn fwy na chroesawu llawer o'r datganiad heddiw, rwy'n pryderu y gallai'r datganiad heddiw fod yn rhy hwyr.

Mae'n amlwg bod y pum mlynedd diwethaf wedi gweld oedi, ac os na weithredwn yn awr, mae perygl y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn llithro allan o'n dwylo, a chyda hynny, mae'r perygl y byddwn yn peryglu dyfodol ein hiaith yn y dyfodol.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwrando ar ein sector addysg cyfrwng Gymraeg. Rwyf bob amser wedi dweud nad oes gan neb fonopoli ar syniadau da, ac eto dyma ni'n croesawu datrys problemau 2017. Ond rydych chi wedi gwrando ar ein staff addysg, Weinidog—diolch—a dyma ni nawr, dim ond pum mlynedd yn hwyr.

Rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth Gymraeg am gyflwyno'r datganiad hwn, ond peidiwch ag oedi cyn gweithredu'r newidiadau hyn. Gadewch inni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn cael y gefnogaeth sylfaenol honno y mae ei hangen arnynt i ffynnu. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:10

Diolch i Samuel Kurtz am y cwestiwn hwnnw. Fel dywedodd e yn ei gyfraniad, does gan neb fonopoli ar syniadau da. Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth gwaith y Llywodraeth, yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws amryw o sectorau, ond os oes gennych chi awgrymiadau pellach, cadarnhaol i'w cynnig, wrth gwrs y byddwn ni'n hapus iawn i'w hystyried nhw. Fel rŷch chi'n dweud, mae gan bawb gyfraniad tuag at sicrhau ffyniant y Gymraeg a sicrhau y rhifau rŷn ni eisiau gweld yn ei siarad hi. Felly, mae gyda ni yma ystod o gamau sydd yn ymestyn o ffyrdd o ysbrydoli a denu pobl i ddewis addysgu yn y Gymraeg, neu addysgu'r Gymraeg fel opsiwn o ran gyrfa, camau i esmwytho'r broses o gymhwyso i addysgu yn y Gymraeg, a hefyd cyfres o fesurau i geisio annog pobl i aros yn y proffesiwn, ac i gynnal ac i gadw pobl yn y proffesiwn, sydd mor bwysig hefyd.

O ran atebolrwydd ac o ran cynnydd yn erbyn y strategaeth, yn erbyn y cynllun, bydd yr Aelod yn gweld bod cyfres o dablau yng nghefn y ddogfen sydd yn disgrifio, fesul awdurdod lleol, y galw fydd ganddyn nhw i sicrhau cynnydd yn eu staff o ran gweithlu sydd yn gallu dysgu trwy'r Gymraeg. Mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd eleni am y tro cyntaf, sef y cynlluniau strategol addysg Cymraeg mewn addysg sydd yn para am ddegawd yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, felly mae’r cynllun 10 mlynedd yn cyd-fynd â'r cynlluniau strategol 10 mlynedd, ond nid yw'r bwriad, yn sicr, fod y camau yn cael eu cymryd dros y 10 mlynedd mewn ffordd hamddenol; bydd yr Aelod yn gweld bod dyddiadau penodol wedi’u nodi yn erbyn y camau sydd yn cael eu cynnig fan hyn, a’r bwriad sydd gen i yw edrych ar y tablau a’r data sy'n cael eu cyhoeddi yn erbyn y cynllun bob dwy flynedd a chyhoeddi diweddariad, fel bod cynnydd yn erbyn y cynllun yn glir a’n bod ni'n atebol i’r Senedd am hynny.

16:15

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a'r buddsoddiad hefyd. Rydym yn croesawu’n fawr fod yna gydnabyddiaeth bod angen cynllun 10 mlynedd ar gyfer datblygu gweithlu addysgu yn y Gymraeg. Ond hoffwn ategu nifer o bryderon a fynegwyd gan Samuel Kurtz hefyd, oherwydd, fel y mynegodd o, dengys y data sy’n cyd-fynd â’r cynllun fod y sefyllfa fel y mae yn bryderus tu hwnt, gyda’r targedau a osodwyd ar gyfer 2021 heb eu cyrraedd o ran ysgolion cynradd ac uwchradd. Felly os ydym ni o ddifrif eisiau cyrraedd targedau 'Cymraeg 2050', mae'n rhaid gwneud mwy, a hynny ar fyrder. Fel arall, sut mae gobaith cyrraedd targedau 2031?

A hoffwn ofyn yn gyntaf, felly: pam y methodd y Llywodraeth gyrraedd targedau 2021, a pha wersi a ddysgwyd o hynny sydd wedi dylanwadu ar y cynllun 10 mlynedd? Dwi'n meddwl ein bod ni angen dysgu'r gwersi hynny os ydyn ni i ddeall sut mae'r cynnydd hwnnw yn mynd i gael ei wireddu.

Y pryder sydd gen i, ac amryw o bobl eraill, megis Cymdeithas yr Iaith, yw nad yw’r cynllun yn ddigon uchelgeisiol neu bellgyrhaeddol i sicrhau’r newid sydd ei angen, gyda’r ieithwedd yn eithaf gwan o ran y disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ddarparwyr. Tra bod y cynllun yn cydnabod bod her yn y sector uwchradd, mae’n fy mhryderu i ei fod yn rhoi’r argraff nad oes problem mewn gwirionedd yn y sector cynradd, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth yn dangos bod angen hyfforddi 273 o athrawon cynradd newydd bob blwyddyn, ac oddeutu 300 o athrawon uwchradd. Gyda dim ond tua 250 y flwyddyn yn hyfforddi i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod yn mwy na dyblu’r nifer sydd eu hangen?

Ac mi oeddech chi'n sôn rŵan yn eich ymateb i Samuel Kurtz y byddwch chi'n monitro pa mor effeithiol yw'r cynllun hwn bob dwy flynedd. Ond, os nad yw’r cynnydd yn digwydd fel sydd ei angen, ydych chi’n ymrwymo i addasu’r cynllun i fod yn fwy radical a phellgyrhaeddol os bydd y niferoedd ddim yn cynyddu? Mi fydd hi'n rhy hwyr i wyrdroi hyn os ydym yn parhau i fethu targedau.

A beth ydy'r goblygiadau o ran awdurdodau lleol sydd ddim yn cyrraedd eu targedau? Rydym ni'n aml yn gweld, efo'r cynlluniau dros y blynyddoedd diwethaf yma, targed ar ôl targed yn cael eu methu. Sut byddwch chi'n sicrhau nad yw hynny'n digwydd, fel bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd y targed fel y dylen nhw, a'n bod ni'n deall wedyn pam nad ydyn nhw, a'n bod ni'n gallu ymyrryd fel sydd ei angen?

Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi ydy’r hyn wnaeth UCAC ei godi heddiw mewn ymateb i gyhoeddi’r cynllun, a hynny o ran a yw'r proffesiwn bellach yn denu. Fel gwnes i godi gyda chi wythnos diwethaf, gwyddom fod problem o ran cynnal a chadw athrawon a’u bod dan bwysau aruthrol o ran pwysau iechyd meddwl, biwrocratiaeth, pwysau cyllid, a’r newidiadau mawr sy’n dod i’r system addysg, er enghraifft efo diwygio, anghenion dysgu ychwanegol a’r cwricwlwm newydd, ac mae hyn yn effeithio ar nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio a’r nifer sy’n aros yn y gweithlu. Gwyddom hefyd nad yw pob awdurdod lleol yn gydradd o ran sut maen nhw’n buddsoddi mewn addysg Gymraeg, a ddim yn deall—neu ddim eisiau deall—eu rôl o ran creu'r galw, nid dim ond darparu yn ôl y galw. Gwn am athrawon sydd yn gallu’r Gymraeg sydd wedi gadael dysgu mewn ysgolion Cymraeg i fynd i ddysgu mewn ysgolion newydd Saesneg gan fod y cyfleusterau i fyfyrwyr a staff yn well, yn hytrach na cheisio dysgu mewn adeilad anaddas sy'n cwympo i ddarnau.

Felly, pa ymchwil sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth i ddeall pam fod addysgwyr sy’n gallu’r Gymraeg yn gadael y proffesiwn neu’n dewis peidio â dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Onid yw deall hyn yn allweddol bwysig os ydym eisiau sicrhau mynediad cydradd i ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru?

Fel y dywedoch yn eich datganiad, does dim amser i'w wastraffu ac mae llawer o waith i'w wneud. Rwyf yn falch iawn eich bod yn hyderus y byddwn yn gallu cyflawni’r camau, ond yr her yw os bydd y camau hyn hefyd yn arwain at gyrraedd y targedau. Dyna fydd mesur llwyddiant.

16:20

Wel, ie, dyna'n union fydd mesur llwyddiant. Ac fel y gwnes i wahodd Samuel Kurtz, os oes gan yr Aelod gamau penodol i'w hawgrymu sydd ddim yn y cynllun, byddwn i, wrth gwrs, yn barod i'w clywed nhw.

Mae dau brif bwynt, dwi'n credu, yn y cwestiwn wnaeth yr Aelod ei ofyn. Hynny yw, y peth cyntaf yw rôl awdurdodau lleol a sicrwydd bod cynnydd yn digwydd o ran eu cyfrifoldebau nhw i ddarparu ar gyfer addysg Gymraeg, a'r llall yw'r dadansoddiad o beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol sydd wedi golygu dŷn ni ddim wedi gallu cyrraedd y targedau. Rwy'n credu bod y ddau yn gwestiynau cymhleth.

O ran y cyntaf, bwriad cyhoeddi'r data a'r cynlluniau yma, ynghyd â'r cynlluniau strategol, yw bod cydberchnogaeth rhyngom ni a'r sector ehangach a'r awdurdodau lleol o'r cyfrifoldeb penodol i nid jest diwallu'r angen sydd yn bodoli, ond, wrth gwrs, i gynyddu'r galw am addysg Gymraeg hefyd, a bod yn rhagweithiol wrth sicrhau bod y staff ar gael i allu cyrraedd y galw hwnnw sydd wedi cael ei greu a'i ysgogi. Felly, mae'r elfen honno yn elfen newydd; mae'n elfen bwysig, rwy'n credu.

Mae'r cynlluniau strategol yn rhai uchelgeisiol ar y cyfan. Rwyf wrthi yn edrych ar rai elfennau o reini ar hyn o bryd. Ond mae pob awdurdod lleol wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod iddyn nhw o ran cynnydd o ran y nifer sydd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, felly mae hynny'n gam ymlaen. Ac mae hynny wrth gwrs yn golygu patrwm o fuddsoddi yn ystâd ac adeiladau ysgol sydd yn caniatáu i hynny ddigwydd—hynny yw, bod cydbwysedd ar draws y portffolio fel bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael yr un sylw ag addysg cyfrwng Saesneg er mwyn sicrhau bod yr her mae'r Aelod yn ei gosod yn cael ei hateb. Mae'n iawn: ddylen ni ddim gweld sefyllfa lle mae diffyg cydbwysedd, os hoffech chi, mewn buddsoddiad yn y ffordd mae hi'n awgrymu sydd yn gallu bodoli o bryd i'w gilydd.

O ran yr heriau sydd wedi digwydd mor belled, rwy'n credu bod mwy i ddysgu o allu ceisio gwneud mwy i ysgogi pobl i edrych ar yrfa dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynharach. Mae mwy o waith y gallwn ni ei wneud ac sydd yn y cynllun o ran sicrhau bod mynediad at lefel A yn y Gymraeg yn haws. Hynny yw, mae elfennau o ran ariannu hynny'n bosib; mae elfennau o ran darparu hynny pan nad oes niferoedd mawr mewn un ysgol, o ran y gwaith gallwn ni ei wneud gydag e-sgol ac ati. Mae ambell beth efallai sydd yn fwy creadigol oherwydd bod yr her yn amlycach, os hoffech chi. Felly, un o'r pethau byddwch chi wedi'i gweld yn y cynllun yw'r bwriad i weithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu cysylltiadau gyda myfyrwyr efallai sydd wedi gadael Cymru sy'n medru'r Gymraeg sydd yn meddwl am ddysgu a'u hannog nhw i ddod yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghymru—felly pethau sydd, byddwn i'n awgrymu, yn greadigol ac yn arloesol yn y ffordd honno.

Mae heriau wedi bod, dwi'n credu, o ran y llwybr i gymhwyso. Felly, mae cynigion yn y cynllun o ran ehangu'r ddarpariaeth ran-amser o ran hyfforddi a hyfforddi tra'n gyflogedig, a hefyd edrych eto ar y cymwysterau TGAU sydd eu hangen er mwyn cymhwyso yma yng Nghymru a'u cysoni nhw, os hoffech chi, gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol. Felly, os ewch chi i unrhyw ysgol, byddwch chi'n clywed penaethiaid yn aml yn dweud, 'Pam fod angen B arnaf mewn mathemateg i ddysgu Ffrangeg neu i ddysgu'r Gymraeg?' Felly, mae trafodaeth a review o hynny yn amserol hefyd.

A'r pwynt diwethaf—a dyma'r pwynt roedd UCAC yn ei wneud, rwy'n credu ichi gyfeirio ato fe, a diolch iddyn nhw ac eraill am eu cyfraniad i'r cynllun hwn, wrth gwrs, hefyd—yw bod y pwysau ar y sector, wrth gwrs, yn ehangach na'r sector addysg Gymraeg, ond efallai bod her ychwanegol, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn. Rŷn ni'n edrych ar amryw o bethau yn y maes hwn. Un yw beth yw rôl bwrsariaethau i allu cynnal pobl yn dysgu drwy'r Gymraeg. Beth yw'r cyfle inni allu denu pobl yn ôl i ddysgu sydd wedi gadael y proffesiwn? Rŷn ni'n edrych ar ffyrdd creadigol o wneud hynny. Dwi wedi gofyn hefyd i'r corff sy'n ein cynghori ni ar delerau, tâl ac amodau'r proffesiwn i edrych ar yr her benodol i addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhannau o Gymru i weld a oes achos i adlewyrchu hynny yn y math o gyngor maen nhw'n ei roi i ni o ran telerau a thermau'n fwy cyffredinol. Felly, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw roi'r cyngor hwnnw i mi maes o law.

16:25

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n galonogol iawn eich gweld yn canolbwyntio ar recriwtio athrawon sy'n siarad Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysgu presennol.

Os ydym ni am gyflawni ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae buddsoddi yn ein gweithlu addysgu yn gwbl hanfodol. Gweinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun yn ddiweddar i hybu'r broses o recriwtio gweithwyr gofal plant proffesiynol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer ein rhwydwaith cynyddol o gylchoedd meithrin. A gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried cynllun tebyg er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gwaith allweddol o fod yn gynorthwywyr addysgu ar gyfer ein hysgolion cyfrwng Cymraeg? 

Yn ail, gan droi at fater darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, cyhoeddodd cyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar y byddai ei ddosbarth anghenion dysgu ychwanegol ar wahân cyfrwng Cymraeg cyntaf yn agor. Mae hwn yn gam pwysig iawn i sicrhau mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg, ond deallaf y gall recriwtio athrawon arbenigol anghenion dysgu ychwanegol Cymraeg eu hiaith fod yn her. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y caiff mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg eu hyfforddi mewn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, neu y caiff mwy o athrawon anghenion dysgu ychwanegol eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant iaith Gymraeg i ddod yn hyfedr wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Ac yn olaf, gan droi at y mater o drosglwyddo o ofal plant Cymraeg i leoliad addysg, yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae gwaith cylch meithrin ffyniannus yn rhannu gwybodaeth allweddol gyda'r ysgol gynradd Gymraeg leol a chynnal digwyddiadau pontio trefnus iawn wedi arwain at gynnydd cyson yn nifer y rhieni sy'n penderfynu cymryd y cam nesaf hwnnw a chofrestru eu plant ar gyfer darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ehangu'r arferion gorau hyn a bod staff o gylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd Cymraeg yn cael eu hannog i gydweithio'n agos er mwyn i fwy o rieni ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Rwy'n credu bod y berthynas rhwng lleoliadau'r Mudiad Meithrin a'r blynyddoedd cynnar yn arbennig ynghylch defnyddio a recriwtio cynorthwywyr addysgu sy'n gallu darparu eu gwasanaethau a'r gwaith pwysig a wnânt drwy gyfrwng y Gymraeg yn bosibilrwydd cyffrous iawn, mewn gwirionedd. Felly, mae'n faes eithaf cymhleth ac mae'n un lle mae yna ddarpariaeth sector preifat, mae'n amlwg bod yna ddarpariaeth awdurdod lleol ac mae darpariaeth Mudiad Meithrin, pob un yn cyflogi staff. A'r hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ei gyflawni drwy'r cynllun yw i ni ystyried a oes cyfleoedd i recriwtio gyda'n gilydd, ar ryw fath o gyd-gontract, rhwng gwahanol leoliadau ac ysgolion fel y gall fod yn fwy deniadol, efallai, i bobl ymuno â'r proffesiynau cymorth drwy edrych ar hynny fel math o fenter ar y cyd, os hoffech chi. Mae'n eithaf cymhleth, ond rydym ni wedi bod yn siarad â'n partneriaid ynghylch sut y gallem ni archwilio'r posibilrwydd o wneud hynny. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n cefnogi'r sylw yr oedd yn ei wneud yn ei chwestiwn am drosglwyddo o leoliadau meithrin i'r blynyddoedd cynnar ac yna i'r ysgol gynradd yn y ffordd ddi-dor honno.

Rhan bwysig o'r cynllun hwn, fel yr oedd yn nodi yn ei chwestiwn, yw edrych hefyd ar recriwtio cynorthwywyr addysgu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig edrych ar y sefyllfa recriwtio yn ei chyfanrwydd, oherwydd mae un rhan yn effeithio ar y llall. Ac roeddwn gyda Huw Irranca-Davies mewn ysgol yn ei etholaeth y bore yma yn siarad â'r pennaeth am hyn yn union, ynghylch pa mor bwysig yw canolbwyntio ar recriwtio staff cyfrwng Cymraeg ar draws holl weithlu'r ysgol, os mynnwch chi.

Ac mae yna rai—rwy'n credu—rwy'n gobeithio, awgrymiadau creadigol yn y cynllun y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw. Mae un yn ymwneud â darparu profiad gwaith i ddysgwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn ysgolion fel cynorthwywyr addysgu, a'r llall yw syniad yr ydym ni'n arbrofi gydag ef ar hyn o bryd ynghylch ariannu blwyddyn i ffwrdd i'r rhai sy'n gadael y chweched dosbarth cyn iddyn nhw fynd ymlaen i ba bynnag gam y gallen nhw ei ystyried nesaf i roi cyfle iddyn nhw gael blwyddyn i ffwrdd wedi'i hariannu, os mynnwch chi, rhwng cyfnodau eraill yn eu gyrfaoedd i'w hannog, efallai, i ystyried addysgu, bod yn gynorthwyydd addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy'n credu bod cynnydd sylweddol yn y dysgu proffesiynol sydd ar gael i gynorthwywyr addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel y gallant sicrhau bod eu sgiliau iaith yr hyn yr hoffent iddyn nhw fod. Felly, rwy'n credu ein bod yn ceisio meddwl yn ddychmygus am yr amryfal ffyrdd y gellir recriwtio'r rhan bwysig hon o weithlu'r ysgol.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Weinidog, gobeithio dy fod wedi mwynhau'r ymweliad i Ysgol Llanhari heddiw, a gobeithiaf y gwnaethoch chi fwynhau'r plant yn canu cymaint ag y gwnaethant hwy a'r athrawon fwynhau eich dawnsio yn y maes chwarae. [Chwerthin.] Yn wir, yn ystod yr ymweliad heddiw, cyfarfuoch â dau athro ifanc sy'n dechrau eu gyrfaoedd ym myd addysg. Pa neges sydd gennych chi iddyn nhw, ac i bobl ifanc eraill ledled Cymru, sydd efallai heb feddwl am ddilyn gyrfa ym myd addysgu yn y Gymraeg eto, ar ôl eich cyhoeddiadau gwych heddiw? A hefyd, beth yw eich barn am y ffordd y mae Ysgol Llanhari wedi croesawu a chofleidio'r cwricwlwm newydd hefyd? Diolch.

16:30

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn ac am roi'r spoiler am raglen Newyddion S4C heno. [Chwerthin.] Dwi'n siŵr y bydd y viewing figures yn mynd trwy'r to yn sgil yr awgrym hwnnw.

Wel, roedd e'n brofiad arbennig i fod yn Ysgol Llanhari y bore yma. Diolch iddyn nhw am eu croeso ac am eu gwahoddiad i fod yno gyda chi hefyd, Huw. Ces i'r cyfle, fel gwnaethoch chi ddweud, i gael sgwrs gyda dau athro oedd wedi cymhwyso yn y blynyddoedd diwethaf ac yn mwynhau eu gyrfaoedd cynnar yn Ysgol Llanhari. Gwnes i ofyn iddyn nhw beth oedd wedi'u hysgogi nhw i ddewis gyrfa fel addysgwyr, a chlywed ganddyn nhw y brwdfrydedd yma, y gallu maen nhw'n ei gael i gael cymaint o impact ar fywydau pobl ifanc ac i sicrhau eu bod nhw'n cael yr addysg orau bosib. Ac i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn gyfle mor gyffrous i ychwanegu hefyd at ddealltwriaeth ein pobl ifanc ni, yn aml iawn o gefndiroedd lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd, yn amlach na pheidio, ond hefyd agor eu gorwelion nhw i ddiwylliant y Gymraeg hefyd, ac roedd eu clywed nhw'n sôn am hynny yn ysgogiad i fi hefyd. Felly, petaswn i'n cael y sgwrs gydag unrhyw berson arall yng Nghymru, buaswn i'n adleisio beth a glywais i ganddyn nhw y bore yma. Mae e'n ddewis pwysig, un o'r dewisiadau mwyaf pwysig gall unrhyw un ei wneud, dwi'n credu, dewis gyrfa mewn ysgol a dysgu.

A hefyd, roedd e'n brofiad arbennig i weld cymaint o waith roedden nhw wedi'i wneud fel ysgol arloesol, yn arwain y ffordd ar lawer o'r approaches cwricwlwm pwysig hynny. Ac rwy'n gwybod gwnaeth e fwynhau cystal ag y gwnes i, y cyfle i ganu, ac roedd e'n dawnsio yn arbennig iawn hefyd. Felly, os bydd unrhyw un yn edrych ar Newyddion heno, fe gân nhw'r cyfle i weld Huw Irranca-Davies yn dawnsio hefyd. [Chwerthin.]

6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gyfiawnder yng Nghymru, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad. Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae system gyfiawnder deg ac effeithiol a rheolaeth y gyfraith yn hanfodol i'n democratiaeth seneddol. Fel gwleidyddion, rydyn ni'n gwneud deddfau, ond rhaid i'r broses o ddyfarnu'r deddfau hynny bob amser fod yn annibynnol ar wleidyddiaeth. Heddiw, hoffwn wneud datganiad am y ffordd orau o sicrhau y system gyfiawnder deg, effeithiol, annibynnol honno, ac mae cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i hynny. Er bod llawer o waith gweithredu'r system gyfiawnder wedi'i gadw yn ôl, mae gan gyrff datganoledig rannau hanfodol i'w chwarae yn y gwaith hwn. Mae'n wasanaeth cyhoeddus fel unrhyw un arall, ond mae'n gorfod gweithio law yn llaw ag addysg, iechyd, gwasanethau cymdeithasol, tai ac eraill. Mae ei weithrediad effeithiol yn dibynnu ar ansawdd a chysondeb y cydweithio a'r cynllunio tymor hir yn y gwasanaethau hyn i gyd.

Fel cadeirydd is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder, rwy'n gweld faint o waith sy'n cael ei wneud i geisio cyflawni hyn. Mae arnom ni ddyled o ddiolch i'n heddlu, y rhai sy'n gweithio yn ein llysoedd, ein carchardai, ein gwasanaethau prawf, yn ogystal â'n proffesiwn cyfreithiol, y farnwriaeth, yr undebau llafur cyfiawnder a llawer o rai eraill.

Fe hoffwn i hefyd grybwyll ymdrechion personol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy'n eistedd gyda mi ar is-bwyllgor y Cabinet, ac sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau gwaith partneriaeth cryf a hanfodol dros y blynyddoedd. Roeddem yn arbennig o falch o'r gwaith partneriaeth eithriadol dros COVID-19, pan oedd cydweithio yn elfen hanfodol o gadw'r llysoedd yn weithredol ac yn ddiogel rhag COVID.

16:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ond er gwaethaf hyn i gyd, gwyddom y gallai ein system gyfiawnder fod gymaint yn well. Ni fydd neb yma wedi anghofio geiriau'r Arglwydd Thomas fod pobl Cymru'n cael eu siomi gan y system gyfiawnder yn ei chyflwr presennol. Roedd comisiwn Thomas, wrth gwrs, yn archwiliad digynsail o gyfiawnder yng Nghymru. Er bod llawer wedi'i wneud gennym ni mewn ymateb i hynny, mae llawer mwy i'w wneud.

Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi dogfen o'r enw 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â'r presennol, y dyfodol agos a'r tymor hwy. Diben y cyhoeddiad yw tynnu llinell o dan gecru plwyfol cyfansoddiadol y gorffennol a rhoi'r gorau i ofyn y cwestiwn, 'Pwy ddylai redeg y system gyfiawnder?' Yn hytrach, gofynnwn beth y mae angen i ni ei wneud i sicrhau gwell cyfiawnder yng Nghymru. 

Felly, does arnaf i ddim eisiau ailadrodd methiannau'r gorffennol, ond mae angen i ni gydnabod maint yr heriau sy'n ein hwynebu: epidemig o drais yn erbyn menywod; diffyg gwasanaethau cymorth cyfreithiol pan fo taer angen amdanyn nhw, a gwarafun i lawer o bobl, y rhai mwyaf agored i niwed yn aml, fynediad i'r cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu; cymunedau lleiafrifoedd ethnig y mae eu perthynas â'r heddlu yn aml yn fregus; a rhannau o'n proffesiwn cyfreithiol yn ei chael hi'n anodd goroesi a rhai o'r rhannau tlotaf o Gymru yn troi yn ddiffeithwch o ran gwasanaethau cyngor cyfreithiol. Yr her i ni yw: beth rydym yn ei wneud yn ei gylch? 

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith cydweithredol da sy'n digwydd nawr. Hyd yn oed o fewn y trefniadau cyfyngol presennol, mae meysydd lle yr ydym ni wedi llwyddo i ymgorffori ein dull o ymdrin â chyfiawnder sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae sefydliadau partner wedi ymateb i'r her lle gallan nhw, megis y gwaith ar y glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n croesawu'r cyhoeddiad am safle ar gyfer treialu canolfan breswyl i fenywod—y tro cyntaf y byddwn yn gallu lletya menywod sy'n cael dedfrydau o garchar yng Nghymru. Dylai Cyngor Cyfraith Cymru sydd newydd ei sefydlu fod yn enghraifft arall o waith partneriaeth cryf, i nodi cyd-flaenoriaethau ar gyfer y sector cyfreithiol yn ei gyfanrwydd, ac i weithredu fel corff i fynd i'r afael â nhw.

Mae'r cyhoeddiad hefyd yn nodi'r pethau yr ydym yn bwriadu eu gwneud gyda'n pwerau presennol, megis deddfu i greu gwasanaeth tribiwnlys un haen sy'n annibynnol yn strwythurol. Bydd hon yn garreg filltir bwysig ym maes cyfiawnder Cymru, gan gynnwys ein haen apeliadol gyntaf erioed a rhan gynyddol i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Hoffem i'r cyhoeddiad sbarduno sgwrs ac ymgysylltiad â phobl sydd ag arbenigedd mewn unrhyw agwedd ar gyfiawnder, boed yn wleidyddion, academyddion, ymarferwyr, sefydliadau anllywodraethol neu bobl sydd â phrofiad personol o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Dylwn ddweud ein bod wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU i drafod yr argymhellion niferus hynny o gomisiwn Thomas sydd wedi'u cadw'n ôl ar hyn o bryd, ond roedd y sgyrsiau hynny'n araf yn dechrau, ac maen nhw, unwaith eto, wedi arafu. Mae'n ymddangos bod ymadawiad Robert Buckland yn gyntaf fel Yr Arglwydd Ganghellor ac yna'r Arglwydd Wolfson wedi dileu pob ysgogiad. Ac felly, yn anffodus, deuwn i'r casgliad unwaith eto fod angen newid strwythurol er mwyn sicrhau maint y diwygiadau angenrheidiol.

Yn bwysicaf oll efallai, mae'r cyhoeddiad heddiw'n dangos sut na ellir gwella'r system gyfiawnder draddodiadol yn ystyrlon heb ddarparu cyfiawnder cymdeithasol. Mae hynny'n golygu mynd i'r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan gynnwys tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y cenedlaethau. Mae'n golygu mynd i'r afael â chasineb, hiliaeth, casineb at fenywod a gwahaniaethu. Mae'n gofyn am ymyrraeth gynnar ac ymateb yn gyflym, yn gynhwysfawr ac yn dosturiol i drawma plentyndod a phrofiadau niweidiol. Dim ond drwy gydgysylltu polisi ar gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru y gallwn ni ganfod ffyrdd gwirioneddol effeithiol o leihau troseddu, neu yn wir leihau nifer y teuluoedd sy'n chwalu, neu'r holl achosion eraill sy'n rhoi pwysau aruthrol ar ein system gyfiawnder. Mae hwn yn fodel sylfaenol wahanol i wella'r system gyfiawnder ac mae angen ei gydgysylltu. Mae'r polisi dedfrydu presennol, sy'n cael ei redeg o Whitehall, sy'n rhoi pwyslais sylweddol ar gosbi, atal troseddau a charcharu pobl, yn wrthgynhyrchiol ac yn methu. Felly, credwn fod datganoli cyfiawnder nid yn unig yn angenrheidiol, ond mae'n anochel ac mae gennym ni ddyletswydd i baratoi ar ei gyfer. Dyna ail ran y sgwrs yr hoffem ei sbarduno heddiw.

Gwyddom y gallai'r system gyfiawnder, wedi'i chyfuno â'r holl wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, sicrhau gwell canlyniadau i Gymru. Gwyddom yr egwyddorion a fyddai'n ein harwain, ac rydym ni wedi nodi yn y cyhoeddiad rai o elfennau craidd y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, ond does gennym ni ddim yr atebion i gyd. Rhaid i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol gael eu cyd-gynhyrchu gyda'r holl elfennau hynny o wasanaethau cyhoeddus a'r system gyfiawnder. Felly, dyma ddechrau sgwrs newydd ar gyfer newid, diwygio a gwella yr hoffem ddechrau arni gyda'r cyhoeddiad heddiw. Gobeithiaf y bydd pob Aelod yn ymddiddori yn y cyhoeddiad hwn, a gobeithio y gallwn i gyd ymdrin â hynny yn yr ysbryd a fwriedir. Credwn nad yw datganoli cyfiawnder yn nod ynddo'i hun, ond ei fod yn ddiwygiad angenrheidiol. Nid sgwrs am bwerau ydyw; mae'n sgwrs am yr hyn a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Mae gennym ni gyfrifoldeb i'w gyflawni cystal ag y gallwn ni i'n cymunedau ac i bobl Cymru. Diolch, Llywydd.

16:40

Wrth sôn am ei hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ddoe, disgrifiodd Llywodraeth Cymru,

'polisi cyfiawnder penodol i Gymru sy'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu'

a chyferbynnu hyn â 'dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar gosbi' gan Lywodraeth y DU—thema sy'n parhau yn y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed, ond na chawsom ni ymlaen llaw. Pam ydych chi wedi honni hyn pan fo Llywodraeth y DU wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi sy'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu? Sut ydych chi'n ymateb i 'Bapur Gwyn Strategaeth Carchardai' newydd Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU i adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddau, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr? Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â strategaeth dioddefwyr Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU i gysoni cymorth i ddioddefwyr â sut mae troseddu yn newid?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed o ddedfrydau byr o garchar pryd bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a sefydlu pum canolfan breswyl arbrofol i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, fel yr ydych chi wedi dweud, ysgrifennodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y fan yma at yr Aelodau yn dweud y bu'n gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, a dywedodd y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn y de, yn ôl pob tebyg oherwydd ei chyfraniad. Sut y bydd hyn yn helpu troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn nes at eu cartrefi?

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ei chynllun gweithredu, gyda £300 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi pob cyngor ledled Cymru a Lloegr i ddal ac atal troseddwyr ifanc yn gynt nag erioed, gan helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn yn eu harddegau rhag symud ymlaen i droseddu pellach, mwy difrifol. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n gadarnhaol â hyn?

Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod datganoli wedi newid y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi i blismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac wedi sefydlu math o ddatganoli gweinyddol drwy swyddfeydd, unedau neu gyfarwyddiaethau yng Nghymru yn seiliedig ar gydweithredu, ar gydweithio, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi Cymru. Felly, sut ydych chi'n ymgysylltu'n gadarnhaol â'r rhain wrth fynd ar drywydd agendâu cyffredin? Mae'n amlwg o'ch datganiad fod eich cyd-Weinidog, yn sicr y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac, rwy'n tybio, chi eich hun yn gwneud hynny.

Wrth sôn ddoe, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallwn ni ganfod ffyrdd gwirioneddol effeithiol o leihau troseddu drwy gydgysylltu'r system gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru. Fodd bynnag, pa mor ffyddiog allwn ni fod y bydd cysoni polisïau a phenderfyniadau am gyfiawnder ag agenda polisi datganoledig Llywodraeth Cymru yn gwella pethau, pan fo gan Gymru'r gyfran uchaf o blant yn y DU mewn gofal, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal gan unrhyw wladwriaeth yn y byd? Mae troseddau trefn gyhoeddus yng Nghymru yn 132 y cant o ffigur Cymru a Lloegr—y gyfradd uchaf o wyth rhanbarth; troseddau treisgar yng Nghymru 106 y cant o ffigur Cymru a Lloegr, hefyd y gyfradd uchaf o wyth rhanbarth; dangosodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hyd at fis Mehefin diwethaf fod gan ogledd Cymru un o'r cyfraddau uchaf o drais yn erbyn pobl a throseddau rhywiol fesul 1,000 o bobl yn y DU; canfu arolwg barn o 2,000 o oedolion ar draws 15 o ddinasoedd mawr yn y DU fis Medi diwethaf mai Caerdydd yw dinas fwyaf peryglus y DU lle mae pobl leol yn teimlo lleiaf diogel; ac adroddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn 2019 mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er i gyfanswm nifer y dedfrydau o garchar godi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, bu gostyngiad o 16 y cant yn Lloegr. Dywedodd awdur yr adroddiad fod angen ymchwil ehangach i geisio esbonio'r gyfradd garcharu uchel sydd gan Gymru. Onid yw'n wir felly bod cymaint o wahaniaeth yn y ddarpariaeth o fewn system cyfiawnder troseddol ar y cyd yn dangos pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol?

Wrth sôn ddoe, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid cael datganoli fel y gellir ailfuddsoddi'r holl arian hwn i ddiwallu anghenion brys Cymru. Mewn gwirionedd, byddai creu awdurdodaethau ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr yn anghyfiawn o gostus ac yn arwain at ddyblygu swyddogaethau'n sylweddol. Pam felly ydych chi wedi anwybyddu'n gyfleus amcangyfrif comisiwn Silk y byddai datganoli plismona a chyfiawnder yn costio'r swm anhygoel o £100 miliwn y flwyddyn? Yn hytrach, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith fis Hydref diwethaf gan yr Arglwydd Wolfson—ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad—a oedd ar y pryd yn un o Weinidogion cyfiawnder y DU, ac, fel y dywedoch chi, nad yw yn y swyddogaeth honno mwyach? Dywedodd:

'rydym ni'n rhannu'r un awydd i barhau i wella'r ffordd y caiff cyfiawnder ei ddarparu yng Nghymru.'

Bu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn archwilio adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder i weld beth y gellir ei ddatblygu i wella cyfiawnder yng Nghymru, ac yn wir mae eisoes yn gwneud gwaith mewn cysylltiad â rhai o argymhellion y comisiwn. Ychwanegodd fod bod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr wedi bod o fudd i Gymru, gan ei gwneud yn lle poblogaidd i wneud busnes yn rhyngwladol. Gan nodi eich sylwadau bod cyfathrebu, rydych chi'n honni, wedi methu, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan lefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddoe ddiwethaf, a ddywedodd:

'Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y cydweithio i gefnogi menywod a phobl ifanc, a bwrw ymlaen â rhai o argymhellion Comisiwn Thomas'?

I gloi, o gofio i uwch swyddogion yr heddlu ddweud wrthyf yn ystod fy ymweliad ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru: mae'r holl gynllunio am argyfyngau yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru wedyn yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn, pam ydych chi'n credu mai dim ond un cyfeiriad at unrhyw droseddu trawsffiniol yng nghyd-destun llinellau cyffuriau y mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn ei gynnwys, ac mai'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond dim cyfeiriad at bartneriaid dros y ffin, gyda phwy y mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn gwirionedd?

16:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y nifer sylweddol iawn o gwestiynau a phwyntiau mae wedi'u codi? A gaf i ddechrau efallai drwy ddweud fy mod i’n gobeithio, wrth gwrs, pan fydd wedi cael cyfle i ystyried yr hyn sy'n adroddiad manwl iawn, iawn, y bydd trafodaeth lai difeddwl am rai o'r materion ehangach sy'n ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru yn cael ei hagor.

Ond a gaf i ddiolch i'r Aelod yn benodol am gryn nifer o'i sylwadau? Fel yr oeddech chi’n cyrraedd diwedd eich cyfraniad a'ch cwestiynau, roedd yn ymddangos yn glir i mi eich bod mewn gwirionedd yn dadlau'r achos dros ddatganoli cyfiawnder. Rwy'n credu pan fyddwn ni’n sôn am rai o'r pwyntiau sydd y tu ôl i hynny, a rhai o'r materion sydd, wrth gwrs, wedi effeithio cymaint ar gyfiawnder, a pham mae'r holl faterion sy'n ymwneud â darparu cyfiawnder yn yr ystyr ehangach mor bwysig i ni o ran diwygio a newid, gadewch i ni grynhoi lle mae llawer o'r system gyfiawnder.

Rydym ni wedi cael toriadau sylweddol yn niferoedd yr heddlu, ac mae niferoedd a chyllid yr heddlu yn dal yn isel mewn gwirionedd, ac yn is na'r hyn yr oedden nhw yn 2010. Mae 600 o lysoedd ledled y DU wedi cau, a nifer fawr o lysoedd yng Nghymru, sydd bron â dod â'r cysyniad o gyfiawnder lleol i ben. Bu toriadau enfawr mewn cymorth cyfreithiol—a hyd yn oed yn awr nid oes gennym ni ymrwymiad llawn i weithredu hyd yn oed argymhellion cyfyngedig yr Arglwydd Bellamy—sy'n cyfyngu ar fynediad i gyfiawnder.

Rydym ni wedi cael toriadau yn y buddsoddiad mewn llysoedd. Fe wnaethoch chi sôn ychydig am yr economi gyfreithiol ryngwladol—a gaf i ddweud nad yw'r trafodaethau rydw i ac eraill wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd wedi cyrraedd unman o gwbl? Mae cyflwr y llys hwnnw, mewn prifddinas, mewn amgylchedd lle'r ydym ni eisiau gweld yr economi gyfreithiol yng Nghymru yn tyfu, yn gwbl warthus, ac ni fyddai methiant llwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi unrhyw sylw o gwbl i gyfiawnder yn y brifddinas, yn y ganolfan cyfiawnder sifil, a'r buddsoddiad sydd ei angen, yn digwydd mewn system gyfiawnder ddatganoledig, oherwydd ni fyddem yn cael maddeuant am hynny. Mae anialwch cyngor yn cael ei greu, cynnydd ym mhoblogaeth carchardai, y lefelau cynyddol o droseddau treisgar a throseddau cyllyll, y pwysau cynyddol ar y system gyfiawnder. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fod ei ymateb, i ryw raddau, mewn gwirionedd yn ymateb pen-yn-y-tywod—un nad yw'n mynd i'r afael â'r holl faterion sy’n cael eu codi yn y papur.

Rydym ni’n credu nad yw datganoli cyfiawnder neu'r angen am ddiwygio a newid mewn cyfiawnder yn ymwneud â phwy sy'n rheoli beth, ond sut y gallwn ni ei gyflawni'n well. Pan fyddwch chi’n ei osod yn erbyn y cefndir hwnnw o fethiant llwyr o fewn y system gyfiawnder—system gyfiawnder sy'n dadfeilio—yna rhaid i ni edrych ar ddiwygio. Mae un peth yn glir iawn, os meddyliwn ni am yr enghreifftiau o gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig, mae'r angen i'w hintegreiddio â'r holl gyfrifoldebau polisi datganoledig hynny sydd gennym ni yn rhesymegol. Mae'n gwneud synnwyr llwyr.

Rydw i’n croesawu'n fawr y cydweithrediad sy'n digwydd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder—cydweithredu anghyson. Dydyn ni byth yn gwybod o un flwyddyn i'r llall lle y gallem fynd. Ond diolch i'm cyd-Aelod Jane Hutt mae’r ganolfan breswyl i fenywod yng Nghaerdydd yn dwyn ffrwyth. Nid yw hyn wedi digwydd o ganlyniad i rywfaint o barodrwydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder; mae wedi digwydd diolch i Jane Hutt, ac mewn gwirionedd i gyn-Weinidogion eraill Llywodraeth Cymru. Felly, ydym, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn, ac rydym ni’n cydweithredu, ond y mater sy'n deillio o'r papur hwn, fel y byddwch chi’n cytuno, rwy’n siŵr, unwaith y byddwch chi wedi cael y cyfle i gymryd y cyfan i mewn, yw y gallem ni wneud cymaint yn well, ac rydym ni angen diwygio radical.

16:50

Cwnsler Cyffredinol, hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru am gynhyrchu eu gweledigaeth o sut y dylai system gyfiawnder edrych yng Nghymru. Rwy’n gwybod bod gennym ni yn y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac ynoch chi fel Cwnsler Cyffredinol ddau eiriolwr cryf dros system gyfiawnder well i bobl Cymru. Fodd bynnag, mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â fy nghyfaill Mark Isherwood am ddefnyddio'r un hen ddadleuon ag yr ydyn ni’n ei glywed ef yn eu defnyddio bob tro. Weithiau mae fel bingo, onid yw e? Roeddwn i’n aros iddyn nhw ddod allan. Oherwydd a bod yn deg, mae'n ddogfen hir iawn, ac a gaf i awgrymu efallai ychydig yn rhy hir, Cwnsler Cyffredinol? Roeddwn i’n falch o weld eich bod yn gwahodd sylwadau ac ymgysylltiad gan y proffesiwn a'r cyhoedd yn y ddogfen, ond a gaf i awgrymu, efallai mewn dogfen 161 tudalen o hyd, na fyddwch chi’n cael llawer o ymgysylltu gan y cyhoedd, ac efallai nad oes angen iddo fod mor hir â hynny? Er enghraifft, mae tudalen lawn ar Dechrau'n Deg, rhaglen 16 mlwydd oed, mewn dogfen am gyfiawnder; ydym ni wir angen dogfen mor hir?

Yn bersonol, roeddwn i’n gobeithio cael mwy o lasbrint ar sut y gallwn ni gyrraedd yno, sut fyddwn ni’n llwyddo i ddatganoli cyfiawnder, ac amserlen gadarn ar sut i wella'r meysydd hynny sydd eisoes wedi'u datganoli. Er gwaethaf ei rethreg gwrth-ddatganoli bresennol, rydym ni’n gwybod nad yw Boris Johnson mewn gwirionedd yn gwrthwynebu datganoli. Roedd am gael mwy o bwerau dros y system cyfiawnder troseddol tra'r oedd yn Faer Llundain. Nid oes ideoleg y tu ôl i hynny. Rydym ni i gyd yn gwybod os y byddai’n siwtio Boris Johnson yn y dyfodol i ddatganoli cyfiawnder, yna bydd yn ei ddatganoli ar unwaith, ni waeth beth a ddywed Mark Isherwood dro ar ôl tro. A gobeithio y bydd yr ailddarganfod hwn o Gymreictod y Ceidwadwyr yn eu cynhadledd plaid ddiweddar yn mynd y tu hwnt i ofyn am ŵyl banc ychwanegol yn unig, a bydd yn cynnwys cydraddoldeb datganoli ar draws y Deyrnas Unedig. Ni allwn ond gobeithio, beth bynnag. 

Gallai cyfiawnder gael ei ddatganoli'n gynt nag yr ydym ni’n ei feddwl. Gallai pethau ddigwydd yn gyflym iawn. Pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli cyfiawnder? Yn yr adroddiad, fel y soniais, nid oes amserlen wedi'i hawgrymu ar gyfer datganoli cyfiawnder; mae'n dweud hyn: 

'Bydd y broses o greu'r weledigaeth...yn digwydd fesul cam.'

Wel, beth mae hynny'n ei olygu? Sut hoffech chi weld cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, Cwnsler Cyffredinol? 

Rwyf wedi gorfod dysgu llawer o bethau yn fy mlwyddyn gyntaf yn y lle hwn, ac rwyf wedi dysgu'r holl eiriau newydd gwych hyn—roedd 'opteg', er enghraifft, yn golygu rhywbeth hollol wahanol i mi flwyddyn yn ôl, ac nid oedd gen i syniad beth oedd 'archwiliad dwfn' cyn dod yma. Wel, yn ffodus, nid yw'r geiriau hynny wedi'u cynnwys yn y dogfennau hyn, ond mae gennym ni rai geiriau ffasiynol hyfryd eraill yma. Mae gennym ni 'archwilio' yn codi, ac 'edrych' yn codi. Nid yw'n rhoi dadansoddiad manwl o pryd na phwy fydd yn gwneud i bethau ddigwydd, ond rydym ni’n cael 'archwilio' o leiaf 21 o weithiau, mae 'edrych' wedi'i gynnwys 14 gwaith. Ac ymadrodd fel 'archwilio diwygio radical', wel, mae'n swnio'n wych, onid yw, ond beth mae 'archwilio diwygio radical' yn ei olygu mewn gwirionedd? Sut y byddwn ni’n cyrraedd y diwygiad radical hwnnw?

Gair arall a oedd yn codi yn aml yn y ddogfen, a achosodd rywfaint o bryder i mi, oedd y gair 'partneriaeth'. Rwy'n gwybod bod 'partneriaeth' yn air ffasiynol arall o ran Llywodraeth Cymru; cododd 65 o weithiau yn y ddogfen hon. Ac, wrth gwrs, mae partneriaeth yma'n golygu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn hytrach na phartneriaeth fel arfer gyda Llywodraeth Cymru. Ond, a ydym ni mewn gwirionedd eisiau canolbwyntio ar bartneriaeth â Llywodraeth y DU? Nid yw'n cyfrannu dim at ddatrys cymhlethdod y system gyfiawnder. Nid yw'n datrys yr ymyl garw hwn. Oni ddylem ni fod yn pwysleisio dro ar ôl tro ein bod ni angen cyfiawnder wedi’i ddatganoli yma, yn hytrach na'r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth y DU? 

Rydw i’n llongyfarch y cyhoeddiad am y ganolfan i fenywod, ond mae'n peri pryder i mi na fydd yn weithredol tan o leiaf 2024. Mae'n gynllun treialu pum mlynedd yn cynnwys menywod yn ardal Abertawe yn unig, ac rydw i’n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn ddewis amgen i'r ddalfa—bod menywod a fyddai wedi cael eu hanfon i'r ddalfa yn cael eu hanfon yno, yn hytrach na chael gorchymyn cymunedol arall. Enghraifft arall y gwnaethoch chi ei rhoi am bartneriaeth oedd Cyngor y Gyfraith Cymru y mae mawr ei angen. Fodd bynnag, rwyf i’n pryderu am y cyngor ac fe wnes i ei godi pan ddaeth yr Arglwydd Lloyd-Jones o flaen ein Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Nid yw'n derbyn unrhyw gyllid o gwbl, ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr prysur iawn a haelioni Cymdeithas y Cyfreithwyr. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau y gall cyngor y gyfraith barhau â'i waith pwysig? 

Ac yn olaf, roeddwn i’n siomedig i beidio â gweld unrhyw amserlen gadarn ar weithredu adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru. Roedd yr argymhellion eang a chyffredinol yn hysbys i bob un ohonom ni ers mis Rhagfyr 2020, ac rwy’n gwybod eich bod chi’n cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, fod gennym ni, drwy dribiwnlysoedd Cymru, gyfle gwirioneddol i adeiladu system gyfiawnder deg a hygyrch yma yng Nghymru. Mae hyn o fewn ein pŵer a phŵer Llywodraeth Cymru a'r lle hwn. Mae mor gyffrous gallu creu'r system apeliadau gyntaf yma yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Felly, pryd fyddwn ni’n gweld argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru yn cael eu rhoi ar waith? Diolch yn fawr. 

16:55

Diolch i'r Aelod, unwaith eto, am yr amrywiaeth o sylwadau. Doeddwn i chwaith ddim yn gwybod beth oedd ystyr 'archwiliad dwfn' pan wnes i ddod yma, a llwyddais i gymryd arnaf fy mod i'n gwybod am ychydig ac yn y pen draw fe wnes i ddarganfod beth oedd hyn. Hefyd, pan fo'r term 'heriol' yn cael ei ddefnyddio, mae'n golygu'n eithaf amhosibl. [Chwerthin.] Roedd yn fy atgoffa ychydig o'r adeg pan ddaeth y Tywysog Philip i un o agoriadau'r Senedd, ac roedd sgwrs a gofynnodd rhywun iddo sut y llwyddodd i gael sgyrsiau gyda phawb a gwybod beth i'w ddweud. Dywedodd, 'Wel, rwy'n gweld cyn belled â fy mod yn taflu "cymuned" a "chynaliadwyedd" i'r sgwrs mae'n ymddangos ei fod yn gwneud y tric.' Felly, mae hwnnw'n bwynt dilys iawn.

Rwy’n credu mai un o'r mannau cychwyn, wrth gwrs, yw—fe wnaethoch chi godi hyn—mae'n ddogfen hir iawn, ac rwy’n cytuno â hynny. Gallai fod wedi bod yn llawer hirach, mewn gwirionedd, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelod wedi gweld y 'Cyflawni Cyfiawnder i Gymru: Crynodeb a Rhaglen Waith' hefyd, sy'n llawer byrrach. Rwy’n credu mai’r hyn y gwnaethom ni ei benderfynu oedd yn bwysig iawn oedd bod angen i ni gyflwyno darlun o bopeth sydd wir yn digwydd. Os ydym ni am siarad am gyfiawnder, cyfiawnder deddfwriaethol, y system gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol, roedd angen i ni allu cyflwyno darlun cynhwysfawr i gymryd rhan mewn dadl ddilynol sy'n digwydd, oherwydd mewn sawl ffordd mae hyn yn ymwneud â chalonnau a meddyliau, ac mae'n ymwneud â chael dadl briodol. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen ymgysylltu â'r holl wahanol rannau hynny o'r system cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder, fel y mae cymdeithas ddinesig yn wir. Ac rwy'n cytuno â chi. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn darllen y peth llawn, ond gallan nhw ddarllen y darnau sy'n berthnasol iddyn nhw, a bydd y rheini mae'n bwysig iddyn nhw gael y darlun cyffredinol.

Felly, rydw i’n meddwl, am y tro cyntaf, fod gennym ni ddarlun o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ym maes cyfiawnder yng Nghymru. Mae gennym ni ddarlun o'r meysydd hynny lle rydw i, gan weithio ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod yn ymwneud ag ystod eang o feysydd, ac er clod i'r Aelod, mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud a phwysigrwydd hynny'n rhywbeth na allwn ei anwybyddu. Felly, mae'r cydweithredu hwnnw'n berthnasol iawn, iawn ac yn rhywbeth y mae'n rhaid iddo fynd rhagddo, ac mae wedi arwain at welliannau. Y broblem yw, mae'r gwelliannau hynny'n gyfyngedig. Rydym ni’n gweithio mewn system lle mae bron fel petaech chi’n cael eich dal yn ôl rhag gwneud y pethau a chyflawni'r pethau rydych chi am eu gwneud. Felly, mae'r llys cyffuriau ac alcohol, rydym ni’n ei noddi neu'n cyfrannu ato, yng Nghaerdydd—yn ddatblygiad pwysig iawn o lys datrys problemau—mae'n ddigon posibl y byddwn ni am gyflwyno hynny a'i gyflwyno'n gyflym. Dydyn ni ddim am orfod aros am benderfyniad yn Llundain ynghylch a yw'n briodol ac a yw'n cyd-fynd â chynllun yno, oherwydd mae'n debygol ei fod yn cyd-fynd yn union oddi mewn i’r mathau o fesurau rydym ni’n eu cymryd, mewn cyfrifoldebau datganoledig o ran tai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen.

Y mater arall, wrth gwrs, yw—. Pam ydw i'n dweud 'calonnau a meddyliau'? Y rheswm am hynny yw nad yw datganoli cyfiawnder, fel y cyfryw, yn broses hawdd. Rwy'n credu, i ryw raddau, y bydd yn gynyddrannol, ac nid yw ei amserlennu o reidrwydd o fewn ein dwylo. Mae'n ymwneud â dangos ffordd o sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu yng Nghymru yn well, ac rwy’n credu bod gwersi yma, yn yr un modd, sy'n berthnasol i Loegr. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Lundain—mae hynny'n hollol gywir. Mae manteision gwirioneddol i ddiwygio'r system gyfiawnder a'r ffordd mae’n cael ei chyflwyno a'i chydlynu yn Lloegr hefyd.

Nawr, o ran tribiwnlysoedd, wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog maes o law yn gwneud datganiad o ran y rhaglen ddeddfwriaethol, ond rwy’n gobeithio yn y papur hwn ein bod wedi'i gwneud yn eithaf clir bod argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn rhai rydym ni’n bwriadu ddeddfu arnyn nhw a’u rhoi ar waith, ac, wrth gwrs, o ran y rôl gynyddol rydyn ni’n ei rhagweld ar gyfer llywydd tribiwnlysoedd. Felly, rwyf am erfyn i ofyn am ychydig o amynedd yn ei gylch, ond byddwn yn mynd i’r afael ag ef, ac rydych chi’n llygad eich lle, dyma fydd y newid mwyaf arwyddocaol a hanesyddol yn system gyfiawnder Cymru, ers canrifoedd mae'n debyg—y tro cyntaf y byddwn ni erioed wedi cael strwythur apeliadol, a'r potensial i hynny ddod yn fan cychwyn ar gyfer newid ac yn y blaen.

O ran Cyngor y Gyfraith Cymru, wel, wrth gwrs, yn gyntaf, mae newydd gael ei sefydlu. Rwyf i’n croesawu'n fawr y gefnogaeth a roddwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, sy'n ei galluogi i ddigwydd. Wrth gwrs, mae'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi mynychu'r tri chyfarfod cyntaf, oherwydd rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig ei gefnogi, siarad am yr holl faterion hyn a'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwy’n credu y bydd cyngor y gyfraith ei hun rywbryd yn penderfynu beth sydd ei angen arno i fynd i'w gam datblygu nesaf. Byddaf i’n bendant yn gwrando’n ofalus iawn ar unrhyw beth maen nhw’n ei ofyn neu unrhyw argymhellion maen nhw’n eu gwneud, ond mae'n bwysig iawn ei fod yn dod oddi wrthyn nhw, yn hytrach nag yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru ei hun. Gobeithio i mi ateb y rhan fwyaf o'ch pwyntiau. Diolch.

17:05

Yr unig ffordd gynaliadwy o wella'r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ef. Dyna wnaethoch chi di ei ddweud, Mick Antoniw, ac rydw i’n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae angen i ni ddechrau gyda phlant, oherwydd mae gennym ni bron i 18,000 o blant o hyd bob blwyddyn yn profi trawma eu mam yn cael ei hanfon i'r carchar, sef 'cwbl drychinebus'—geiriau'r Farwnes Corston, a ysgrifennodd yr adroddiad arloesol y cytunodd pawb arno ar y pryd oedd y ffordd ymlaen i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, a dyma ni, yn dal i siarad amdano. Ond diolch yn fawr iawn i Jane Hutt ac eraill, sydd wir yn ceisio gwneud cynnydd ar hyn, mae gennym ni ganolfan dreialu i fenywod yn Abertawe, ac os yw'n gweithio, yna bydd gennym ni un yn y gogledd a'r gorllewin hefyd. Ond yn sicr ni allwn ni barhau fel yr ydym ni ar hyn o bryd, oherwydd mae'r system wedi torri'n llwyr. Mae'n warth cenedlaethol, lefelau atgwympo, a ddylem ni synnu? Mae adsefydlu'n amhosibl os yw carcharorion yn cael eu cloi am 23 awr y dydd ac bob tro mae Gweinidog yn mynegi llygedyn o ymgais i ddiwygio, maen nhw’n cael eu symud ymlaen. Dyna hefyd fy mhrofiad i o'r gwasanaeth carchardai pan wnes i geisio gweithio gyda nhw mewn bywyd blaenorol.

Felly, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd ac mae'n siomedig clywed yn y drafodaeth yr ydych chi eisoes wedi'i chael gydag Aelodau eraill y bydd hi’n 2024 cyn y byddwn ni’n gweld unrhyw newid, oherwydd mae'r dystiolaeth yn llethol bod y mwyafrif dirfawr o fenywod wedi dioddef trawma ac angen cymorth ac adsefydlu i roi eu bywydau'n ôl at ei gilydd eto, a pheidio profi’r tarfu o gael eu gwahanu oddi wrth eu plant a cholli eu cartrefi. Ac mae angen i ni ddysgu o wledydd eraill Sgandinafia lle mae pobl yn mynd i'r carchar a'u teuluoedd yn mynd gyda nhw: mae'r teuluoedd yn parhau gyda’u bywydau arferol, yn mynd i'r ysgol, yn mynd i'r gwaith, ac mae'n rhaid iddyn nhw eu hunain weithio yn ystod yr wythnos, ac yna maen nhw yn y carchar dros y penwythnos. Dyna yw eu cosb, ac mae hynny'n ymddangos i mi'n ffordd lawer mwy effeithiol o sicrhau bod pobl yn cael eu cosbi pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth o'i le, ond nad ydyn nhw’n profi gymaint o darfu fel na fyddan nhw byth yn llwyddo i roi eu bywydau'n ôl at ei gilydd.

Felly, dywedodd cyfamod 2021 y byddai llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y byddai ystad y menywod a phawb a ddaeth i gysylltiad â menywod yn cael eu hysbysu am drawma. Ac fe wnes i feddwl: cafodd y terfyn amser ei bennu ar gyfer Ionawr 2022 bryd hynny; allech chi ddweud wrthym ni pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar hynny?

Yn gyntaf, diolch am y sylwadau hynny. Maen nhw’n cytuno'n llwyr â'r holl deimladau rydych chi wedi'u mynegi ac, wrth gwrs, pwysigrwydd y datblygiadau sydd wedi bod yn digwydd a'r ymrwymiadau sydd yno, ond hefyd faint ymhellach mae'n rhaid i ni fynd.

O ran eich pwynt olaf, o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud, yr hyn y gallaf i ei ddweud yw fy mod i’n ymgysylltu'n rheolaidd iawn â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac rydym ni’n gweithio drwy'r rhain o ran ein portffolios priodol. Fe wnaf ddod yn ôl atoch chi o ran mwy o fanylion efallai am hynny. Ond hefyd i ddweud, wrth gwrs, mai rhan o bwrpas y papur hwn yw nad yw hyn yn fath o 'ddiwedd y ffordd' neu 'dyma lle'r ydym ni' ac ati. Dyma lle'r ydym ni’n cychwyn o ran ble rydym ni am fynd.

A gaf i ychwanegu un peth na wnes i sôn amdano'n iawn, mae'n debyg, mewn ymateb i Mark Isherwood, unwaith eto, ond sydd i ryw raddau'n berthnasol, ac mae hynny o ran mater plismona? A gaf i ddweud cymaint rydw i’n croesawu'r gwaith cydweithredol gwirioneddol sydd wedi bod yn digwydd rhwng yr heddlu a Llywodraeth Cymru ac asiantaethau, a rhwng comisiynwyr yr heddlu a throseddu, oherwydd mae llawer o'r ymdrechion ar y cyd sy'n digwydd, y cydweithio, a rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud, wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol i'r cydweithredu hwnnw? Felly, mae'n dangos pethau sy'n digwydd mewn gwirionedd.

Ac a gaf i ddweud hefyd, rydw i’n croesawu'n fawr y datganiad sydd wedi dod gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu heddiw mewn ymateb, sydd mewn gwirionedd yn cefnogi datganoli cyfiawnder, ac yn wir yn gefnogol i ddatganoli plismona? Mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig, swydd a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol i adlewyrchu a chyfrannu at blismona mewn cymunedau, 100 y cant o blaid y cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo, rwy’n meddwl. Rwy’n credu fod y ddadl o ran trawsffiniol—nid yw wedi effeithio o ran Gogledd Iwerddon, nid yw wedi effeithio o ran yr Alban, nid oes rheswm pam na ddylai'r materion hynny fod yr un mor berthnasol yng Nghymru. Mae gweithio trawsffiniol yn digwydd ym mhob math o feysydd, wedi'u datganoli a heb eu datganoli. Mae'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, sydd wedi'i ddatganoli ar draws ffiniau, felly dydw i ddim yn credu bod y rheini'n faterion dilys. Ond rwy'n credu y dylem ni roi sylw, i bob pwrpas, i lais etholedig democrataidd y comisiynwyr heddlu a throseddu, a hefyd i groesawu'r ffaith nad yw ffederasiwn yr heddlu eu hunain yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid datganoli cyfiawnder. Mae eu sefyllfa wedi datblygu dros y blynyddoedd ac eto, rwy’n credu, mae'n un gadarnhaol iawn.

17:10

Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'r datganiad a hefyd y 160 a mwy o dudalennau cysylltiedig? Dydw i heb gyfrif unrhyw eiriau yna, ond rydym ni’n edrych ymlaen, fel pwyllgor, at gael ein dannedd i mewn i hyn hefyd. Rydw i’n croesawu'r pwyslais yr ydych chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei roi i hyn nawr; mae'n cael ei groesawu'n fawr yn wir.

Dim ond i gyffwrdd ag un neu ddau o faterion. Wrth ystyried materion cyfiawnder o fewn ein cylch gwaith eang, rydym ni wedi clywed tystiolaeth sy'n berthnasol i ddatganoli pwerau ar gyfiawnder ymhellach yng Nghymru ac, yn wir, plismona. Rwy’n nodi’r sylwadau rydych chi wedi’u gwneud ond hefyd y siaradwyr blaenorol o Blaid Cymru a meinciau'r Ceidwadwyr a wnaeth, mewn ffyrdd gwahanol, yr achos dros ddatganoli cyfiawnder. Ond ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, cyn-gadeirydd y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru ddwyn nifer o feysydd i’n sylw lle gallai gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru gael ei wella. Pwysigrwydd, er enghraifft, cael seilwaith sefydliadol ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a datblygu gwahanol gyrff i Gymru gyfan, yn enwedig byrddau cyfiawnder troseddol Cymru gyfan a byrddau cyfiawnder teuluol Cymru gyfan, gan fod materion troseddu a theuluol mor bwysig yng Nghymru. Felly, os gallai'r Gweinidog ymhelaethu ar hynny.

Pwynt allweddol arall a wnaeth oedd bod y cydlynu agosach hwn rhwng cyfiawnder a rhannau eraill o'r Llywodraeth, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio ato yn ei ddatganiad heddiw, yn enwedig ym maes iechyd ac addysg. Dywedodd y byddai'n haws sicrhau'r cydlynu hwnnw pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru, ond yn absenoldeb hyn, Gweinidog, beth arall y gellir ei wneud—y cydweithio ymarferol hwnnw yr oeddech chi’n sôn amdano ar gyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod, a hefyd pethau fel y llys cyffuriau ac alcohol hefyd?

Un o'r sylwadau olaf a wnaeth yr Arglwydd Thomas yn ystod ein sesiwn oedd cyfiawnder sifil. Nododd nad oes canolfan llys sifil briodol yng Nghymru. Teimlai fod Canolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd yn is na'r safon, a gobeithiai y gall Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder weithio i roi’r hyn rydym ni ei angen yn briodol yn hyn o beth a'r hyn mae'r brifddinas yn ei haeddu mewn gwirionedd hefyd.

Cwnsler Cyffredinol, rydym ni’n edrych ar faterion cyfiawnder ehangach. Cawsom sesiwn dystiolaeth ddiweddar gyda Chyngor y Gyfraith Cymru. Rydym ni’n ymgysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol ar yr heriau sy'n eu hwynebu. Byddwn ni’n cyhoeddi crynodeb o'n hymgysylltiad yn fuan iawn, a allai fod o gymorth i chi, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ymgysylltu â chi hefyd, a'r Prif Weinidog, ar y gwariant sy'n gysylltiedig â chyfiawnder. Felly, i droi at ychydig o bethau yma. Ydych chi’n hyderus bod gennych chi’r gallu i gyflawni rhai o'r canlyniadau hyn yma yng Nghymru, yn enwedig os oes angen deddfwriaeth hefyd mewn perthynas â'r system tribiwnlysoedd un haen, er enghraifft? Sut fyddwch chi’n gwerthuso eich canlyniadau ar gyfer eich gwaith cyfiawnder yn erbyn gwariant? Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi cyfeirio ato mewn gohebiaeth. Ac yn olaf, sut rydych chi’n mynd i adrodd yn ôl yma i symud ymlaen ar y materion hyn hefyd? Ond rydym ni’n croesawu'n fawr y pwyslais yr ydych chi wedi'i roi i'r materion hyn—yn hir-ddisgwyliedig ac i’w groesawu’n fawr.

Wel, diolch am nifer o'r cwestiynau hynny. Darllenais gyda diddordeb sesiwn dystiolaeth yr Arglwydd Thomas gyda'ch pwyllgor, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, oherwydd mae'n rhywbeth sydd o ddiddordeb uniongyrchol. Rwy’n credu mai'r un peth sy'n bwysig, wrth gwrs, yw'r cyrff Cymru gyfan a drafodwyd beth amser yn ôl gan gomisiwn Thomas. Wrth gwrs, mae llawer o'r rheini ym meysydd troseddu a chyfiawnder teuluol, mewn gwirionedd, bellach yn cael eu datblygu, eu sefydlu neu eu gweithredu. Felly, mae symud eisoes a senario newid o fewn y system gyfiawnder. Felly, mae newid wedi bod yn digwydd.

Rydych chi’n codi'r mater o ran yr angen i gydlynu iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tai ac yn y blaen yn barhaus, ac, wrth gwrs, mae hynny'n digwydd i raddau. Y pwynt yr ydym ni’n dal i'w wneud, wrth gwrs, yw nad yw'n rhan integredig o system gyfiawnder gynhwysfawr. Mae'n cynnwys dewis a dethol darnau y gallwn ni geisio ymyrryd ynddyn nhw, yn hytrach nag edrych yn gynhwysfawr dros y tymor hir a chynllunio, yn hytrach na mympwyon llywodraethau sy'n newid neu Weinidogion sy’n newid o bryd i'w gilydd. Ac, wrth gwrs, yr ardaloedd cliriach o ran meysydd prawf, yr heddlu, llysoedd datrys problemau—y pethau y byddem ni am eu gwneud i geisio adfer cyfiawnder lleol, ond hefyd, yn gynyddol, i roi mynediad i gyfiawnder.

Mater y ganolfan cyfiawnder sifil—fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor. Rwy’n credu mai'r gorau a gawsom allan o drafodaethau rydym ni wedi'u cael yw bod lifft y ganolfan cyfiawnder sifil yn mynd i gael ei atgyweirio ac o bosibl y bydd yn cael ffynnon ddŵr. A dweud y gwir, rwy’n credu bod yr ymagwedd at y ganolfan cyfiawnder sifil, pan fyddwn ni’n edrych ar bwysigrwydd llysoedd, gwaith masnachol a gwaith eiddo i'r economi gyfreithiol, pan fyddwn ni’n edrych ar ganolfannau cyfiawnder fel Bryste, Manceinion, a phan fyddwn ni’n edrych ar Lundain ac yn edrych ar Gaeredin ac, yn wir, yn edrych ar Ogledd Iwerddon, y cyfan y gallwch chi ei ddweud yw bod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn warthus, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw gymhelliant na bwriad i wneud dim yn ei gylch. Roedd yr Arglwydd Wolfson yn cydymdeimlo, ond roedd yn gwbl glir nad oedd dim yno. Ac fe wnaf i ddweud hyn: pan fyddwn ni’n edrych ar y biliynau o bunnoedd sy'n debygol o gael eu gwario ar adnewyddu San Steffan, wyddoch chi, wel, efallai byddai ychydig bach o rywbeth felly’n dod i gael canolfan gyfiawnder dda ym mhrifddinas un o genhedloedd y DU yn eithaf pwysig.

O ran y ddeddfwriaeth ar dribiwnlysoedd, wrth gwrs, mae gwaith Comisiwn y Gyfraith wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Yn amlwg, mae'n dal i gael ei ddadansoddi a'i ystyried yn ofalus iawn ac, wrth gwrs, bydd datganiadau pellach maes o law ar y rhaglen ddeddfwriaethol yno. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth mae'n rhaid i ni ei wneud, a dyna pam yr oedd yn bwysig ei fod o fewn hynny.

O ran y gwerthusiad, mae'n amlwg bod angen i bethau rydym ni am eu gwneud fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae materion gwirioneddol, sy'n cael eu cydnabod drwyddi draw, o ran dadgyfuno data, cael data priodol y gallwn ni seilio polisi arno fel ei fod yn berthnasol i Gymru, ac onid yw'n warthus nad yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd, bod yn rhaid i ni yn y bôn chwilio am wahanol ffynonellau o geisio cael data er mwyn asesu a gwerthuso polisïau cyfiawnder? Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn ofalus iawn o ran sut y gellir gwella hynny, ac mae mesurau eisoes yn datblygu o ran caffael y data hwnnw, ond ni ddylai fod yn wir ei fod yn fath o bosibilrwydd ychwanegol, yn hytrach na rhywbeth sy'n mynd at wraidd polisi.

Ac wrth adrodd yn ôl, fel rydw i wedi’i ddweud, mae'r papur yn ymwneud â sgwrs. Nid yw hyn yn diflannu ac mae'n rhywbeth rydw i’n gobeithio y byddaf yn adrodd arno'n rheolaidd iawn, yn enwedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

17:15

Rydw i’n croesawu'r datganiad hwn heddiw, wrth gwrs. Rydw i eisiau canolbwyntio'n benodol ar dri maes sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i unrhyw system gyfiawnder. Y cyntaf yw sicrhau bod y system gyfiawnder yn cael ei gwahanu oddi wrth unrhyw ymyrraeth neu ddylanwad gwleidyddol. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n digwydd yn San Steffan, fel rydym ni’n siarad. Mae hynny'n eithriadol o bwysig os yw pobl yn mynd i fod â ffydd yn y system: yn gyntaf wrth sefydlu'r system honno ac, yn ail, wrth gael mynediad i'r system os oes angen.

Yn ail, sicrhau mynediad cyfartal i gyfiawnder, ac rydw i’n sôn am ddau fath o fynediad yma: (1) o ran fforddiadwyedd—. Rydym ni’n gwybod beth wnaeth ddigwydd i gymorth cyfreithiol ac rydym ni’n gwybod beth wnaeth ddigwydd, felly, i hawl pobl, ac rwy’n credu ei bod yn hawl ddynol, i gael mynediad at gyfiawnder, yn cael ei wrthod dim ond am nad oedd ganddyn nhw'r cyllid i wneud hynny. Ac yn yr un modd, rhaid i fynediad cyfartal fod o ran mynediad corfforol, y gallu i gael mynediad at gyfiawnder yn agos i'r cartref, pe bai ei angen arnoch chi. Ac eto, o dan hawliau dynol, mae pobl wedi ymgorffori mewn hawliau dynol yr hawl i gael mynediad at gyfiawnder. A gwyddom—sonioch chi amdano—nifer y llysoedd sydd wedi'u cau. Dydw i ddim yn dychmygu y byddan nhw’n cael eu hailagor, felly mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill i bobl gael mynediad at gyfiawnder, ac mae posibiliadau technegol yno mae angen buddsoddi ynddyn nhw.

Ac yn olaf gen i, rhaid i ni ddilyn llwybr sy'n benodol i'r Gymru. Rhaid i ni ganolbwyntio ar pam mae pobl yn cael eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol—ac rydych chi wedi sôn am gyfiawnder cymdeithasol—yn y lle cyntaf, ac wedi rhoi rhywfaint o waith atal yn gynnar iawn. A soniodd Jenny yn gwbl briodol am blant; byddwn i wedi sôn am blant o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n chwarae rhan hollbwysig, ac maen nhw yno mewn niferoedd mawr o fewn y system cyfiawnder troseddol. Felly, mae atal hefyd yn rhan enfawr o hyn. Felly, atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf, a rhag cyflawni troseddau yn ail.

Felly, rwy’n croesawu hyn. Mae llawer i'w wneud. Roeddwn i’n mynd i ofyn y cwestiwn y gwnaeth Huw ei ofyn—a oes gennym ni’r gallu i gyflawni hyn o ran popeth fyddwn ni ei angen wrth symud ymlaen—felly, ni wnaf ail-adrodd hynny. Ond, wyddoch chi, fe wnaethom ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd os nad ydych chi’n cymryd y system cyfiawnder troseddol ac os byddwch chi’n dechrau tynnu rhywfaint ohono allan o degwch—a dim ond edrych ar y gwasanaeth prawf a phreifateiddio hynny sydd rhaid i ni ei wneud i weld beth oedd trychineb. Felly, dyna pam y gwnes i ddechrau ble wnes i, a dyna pam rwy'n gorffen lle rwy'n gorffen. Diolch.

17:20

Diolch i'r Aelod am y sylwadau. Mae'r pwynt cyntaf yr ydych chi’n ei godi mewn gwirionedd yn un sylfaenol iawn ac efallai, o ystyried, y dylwn i fod wedi rhoi mwy o bwyslais arno. Mae'n gwbl hanfodol ac yn angenrheidiol ein bod ni’n cefnogi ac yn cynnal annibyniaeth Llywodraeth y farnwriaeth a'r system lysoedd, a bydd unrhyw system Gymreig ac agweddau ar system Gymreig yn cynnal yr egwyddorion hynny. Un o'r materion allweddol, unwaith eto o fewn datblygu tribiwnlysoedd, fydd sicrhau hynny, nad yw ein system tribiwnlysoedd, ein system cyfiawnder embryonig, yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, ond ei bod yn gorff sy'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth yn y ffordd mae'n gweithredu. Nid yw hynny'n gwrth-ddweud y cysyniad a'r rôl o ran sut mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd a sut mae cyfiawnder yn ymgysylltu mewn gwirionedd.

Rydych chi’n codi pwyntiau dilys o ran cymorth cyfreithiol, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ceisio lleddfu effaith y toriadau mewn cymorth cyfreithiol gyda'r gronfa gynghori sengl. Ond rydych chi yn llygad eich lle, mae dwy agwedd arno: un yw mynediad at gyngor cyfreithiol a chymorth cyfreithiol i'r rhai sydd ei angen; y llall yw argaeledd y cyfreithwyr a'r gweithwyr cynghori hynny sy'n gallu rhoi'r cymorth hwnnw mewn gwirionedd. A'r ffaith yw, yn rhai o'n cymunedau tlotaf a'n cymunedau gwledig, fod anialwch cynyddol o ran argaeledd, a dyna pam mae datblygu economi gyfreithiol Cymru mor bwysig a pham rydym ni’n edrych ar bethau fel prentisiaethau a'r ffordd y gallem ni roi cymorth pellach i'r cwmnïau penodol hynny, oherwydd bod ganddyn nhw rôl hanfodol i wneud hefyd. Ac, mewn gwirionedd, mae rôl y cyfreithwyr cymorth cyfreithiol hynny mewn cymunedau yn cael ei thanbrisio a'i thangynrychioli'n aruthrol pan fyddwn ni’n sôn am y system gyfiawnder.

Fe wnaethoch chi sôn am lysoedd rhithwir, ac, wrth gwrs, i ryw raddau rydym ni wedi datblygu hynny yn ystod sefyllfa COVID. Dydyn nhw ddim yn addas i bawb, a rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o'r anghydraddoldebau posibl sy'n codi. Rydym ni’n gwybod nad oes gan rywbeth fel saith y cant o bobl dros 16 mlwydd oed fynediad digidol. Nid oes gan 25 y cant o lawer o'n cymunedau sgiliau digidol digonol. Felly, rhaid i ni sicrhau, pan fo'n briodol, a lle y gall llysoedd rhithwir ddigwydd—. Ac mae hynny wedi'i ddatblygu, i ryw raddau, o fewn ein system tribiwnlysoedd—mae hynny'n beth da ac yn beth blaengar, ond nid yw'n rhywbeth a all, ar ei ben ei hun, ddatrys problemau mynediad. Felly, rhaid ystyried y mater cydraddoldeb yn ofalus iawn, iawn o fewn y datblygiad hwnnw, ac rwy’n gwybod bod yr Aelod wedi siarad am hynny yn y gorffennol. Rydych chi yn llygad eich lle o ran y mater yr ydych chi’n ei godi o ran ymyrraeth gynnar a phwysigrwydd hynny o fewn y system gymdeithasol a chyfiawnder ehangach.

Ac o ran adnoddau, gadewch i ni ddweud hyn: onid yw'n hen bryd i ni roi'r gorau i fuddsoddi mewn methiant a dechrau buddsoddi mewn atal, ymgysylltu a chydweithredu? Yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yw symiau enfawr o arian yn cael ei wario ar system sy'n methu, ar system carchardai nad yw'n gweithio, nad yw'n cyflawni ac yn y blaen. Meddyliwch faint yn fwy effeithiol y gellid defnyddio'r adnoddau hynny gyda chyfeiriad gwahanol o ran polisi cymdeithasol a chyfiawnder. Diolch.

Diolch yn fawr i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad yna. A dyna ni, dyna ddiwedd ein gwaith am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:24.