Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/05/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae'r cyfarfod yma yn cael ei gynnal ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau deintyddiaeth GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ58013
Diolch yn fawr. Rŷn ni'n gweithio ar ddiwygio’r system ddeintyddiaeth ac yn symud ymlaen ar y cyd gyda'r rhaglen ddiwygio gofal sylfaenol yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda’r proffesiwn deintyddol i wella mynediad at ofal deintyddol, gwella'r profiad a gwella ansawdd y gofal.
Diolch, Weinidog. Mae adroddiad newydd cyngor iechyd cymuned bae Abertawe, 'Cael Mynediad at Ofal Deintyddol y GIG: Mynd at Wreiddyn y Broblem', yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n pwysleisio bod y materion hyn yn bodoli cyn i'r pandemig eu gwaethygu. Mae cleifion wedi gorfod aros am flynyddoedd i weld deintydd, a llawer heb lwyddo i gael apwyntiad o gwbl. Canfu’r adroddiad fod 70 y cant o bobl yn teimlo o dan bwysau i geisio gofal deintyddol preifat er mwyn cael apwyntiad. Ni allant gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, gan gynnwys menywod beichiog a phlant. Ac mae apwyntiadau hanfodol yn cael eu gwrthod i gleifion â phroblemau meddygol difrifol sydd angen archwiliadau rheolaidd. Dywedodd un claf: 'Syrthiodd fy mhont ddeintyddol allan ar ddechrau 2020, rwyf hebddi o hyd. Mae'n effeithio ar fy hyder. Ni allaf wenu. Ni allaf chwerthin.' Mewn achos arall, bu'n rhaid i ddyn dynnu ei ddant ei hun o'i geg, a gwyddom fod achosion o hyn wedi'u cofnodi. A chlywais adroddiadau tebyg gan gannoedd o fy etholwyr mewn ymateb i arolwg a gynhaliais. Dywedodd un claf wrthyf hefyd ei fod wedi cael ei ddatgofrestru’n awtomatig gan nad oedd deintydd wedi’i weld ers dwy flynedd, er ei fod wedi bod ar y rhestr warchod am y rhan fwyaf o’r ddwy flynedd hynny. Felly, rwy'n croesawu cynllun y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wella gofal deintyddol, ond hoffwn wybod sut y bydd diwygio’r contract yn mynd i’r afael yn ddigonol ac ar fyrder â’r holl bryderon a adlewyrchir yn yr adroddiad, sy’n codi ledled Cymru, ac sydd wedi’u codi gan lawer o Aelodau yn y Siambr hon. A oes cyllid digonol i gynyddu capasiti'r GIG i ddod â’r loteri cod post anghyfiawn hon i ben, a sicrhau bod y rheini na allant fforddio talu, neu na allant ddod o hyd i ddeintydd GIG, yn cael y gofal y mae ganddynt hawl iddo?
Diolch yn fawr, Sioned. Ac fe fyddwch yn ymwybodol y bu problem benodol mewn perthynas â deintyddiaeth oherwydd yr angen am fesurau rheoli heintiau i sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel, gan gynnwys cleifion a deintyddion eu hunain. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad o 50 y cant yn nifer y bobl sydd wedi gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i geisio lliniaru hyn, wrth gwrs, gan gynnwys buddsoddiad sylweddol i helpu deintyddion i sicrhau gwell llif aer yn eu deintyddfeydd.
Rwy’n siŵr y byddwch yn falch o glywed, oherwydd y contract deintyddol newydd a gyflwynwyd gennym, fod 88 y cant o bractisau ym mwrdd iechyd bae Abertawe wedi optio i mewn i’r system newydd honno. Felly, rydym yn gobeithio gweld trawsnewidiad yn awr oherwydd y ffordd y caiff yr unedau deintyddol hynny eu cyfrif. Felly, arferent gael eu cyfrif fel unedau deintyddol. Bellach, byddwn yn symud ymhellach i faes atal, a bydd rhan o'r contract hefyd yn ymwneud â gofyn i bobl newydd a sicrhau eu bod yn cael gweld pobl newydd mewn deintyddiaeth.
Rydym wedi darparu cronfa ychwanegol o gyllid rheolaidd—£2 filiwn. Fel y gwyddoch, yr hyn na allwn ei wneud yw creu deintyddion newydd dros nos. A dyna pam mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau ein bod yn hyfforddi hylenwyr a therapyddion, a gallaf eich sicrhau bod oddeutu 20,000 o bobl yn cael eu gweld bob wythnos yng Nghymru.
Prynhawn da, Weinidog. Mae’n ffaith sy'n peri pryder fod llawer o bractisau deintyddol wedi'i chael hi'n anodd dychwelyd i normalrwydd wrth inni gefnu ar y pandemig. Nid yw archwiliadau arferol yn cael eu cynnig. Mae pobl yn gyndyn o drafferthu eu deintyddion am apwyntiadau gan eu bod yn teimlo efallai na fyddai archwiliad yn cael ei ystyried yn ddigon pwysig. Ac mae llawer o bobl yn methu cael mynediad at wasanaethau digonol y tu allan i oriau ar gyfer cyngor ac apwyntiadau brys. Fodd bynnag, mae archwiliad yn hanfodol i'r claf: mae modd nodi problemau'n gynharach ac mae deintydd yn gymwys i roi cyngor ar gwestiynau ehangach ynghylch iechyd y geg. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ynglŷn â chapasiti ein gwasanaethau deintyddol, a pha gynlluniau sydd ganddi i sicrhau bod gennym y nifer cywir o ddeintyddion yn gweithio yng Nghymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Altaf, a hoffwn eich sicrhau, os oes angen triniaeth ddeintyddol ar frys neu os yw’r claf mewn poen, disgwylir y bydd gan fyrddau iechyd ddarpariaeth ar waith i ddarparu gofal yn gyflym. Ac un o'r pethau rwy'n eu gwneud ar hyn o bryd yw mynd drwy fanylion y cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer pob un o'r byrddau iechyd a sicrhau bod gan bob un ohonynt gynnig a chynllun digonol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau mewn perthynas â deintyddiaeth.
Fe fyddwch yn falch o glywed, rwy’n siŵr, ein bod wedi penodi prif swyddog deintyddol newydd yn ddiweddar. Rwy’n ymwybodol iawn fod hwn yn fater sy’n peri pryder i lawer o’r cyhoedd yng Nghymru, ac rwyf bellach wedi gofyn am gyfarfodydd misol i sicrhau ein bod yn cyflymu'r system. Cawsom gyfnod o amser pan nad oedd gennym brif swyddog deintyddol yng Nghymru, ac felly rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi penodi rhywun ac y bydd y ffocws hwnnw, gobeithio, yn cael ei roi ar y system.
Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle gallai offer sy'n cynhyrchu aerosol achosi heintiau, ac felly mae’n rhaid inni ddeall bod cyfyngiadau ar waith o hyd mewn deintyddiaeth nad ydynt efallai yn union yr un fath ag yng nghyfleusterau eraill y GIG.
2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ58017
Mae mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Fis diwethaf, lansiais y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio sy’n nodi ein dull o leihau amseroedd aros yng Nghymru fel bod cleifion yn cael y gofal a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, ac mae hynny wedi’i ategu gan fuddsoddiad rheolaidd ychwanegol o £170 miliwn.
Diolch, Weinidog. Mae gennyf lawer o negeseuon e-bost yn fy mewnflwch, fel sydd gan bawb arall, rwy'n siŵr, yn ymwneud â'r ffaith bod amseroedd aros yn dod yn frawychus o hir bellach. Cefais e-bost yn ddiweddar hefyd gan etholwr sy'n athro ac a fu mewn damwain yn y gwaith, gan arwain at anaf i'r pen. Oherwydd salwch a phoen yn ei phen, dywedwyd wrthi am fynd i Ysbyty'r Faenor. Cyrhaeddodd Ysbyty'r Faenor am 5.00 p.m. a gadawodd heb gael ei thrin am 5.00 a.m. y bore trannoeth. Dywedodd wrthyf na allai ond disgrifio’r olygfa y tu mewn fel traed moch: cleifion a oedd yn amlwg yn sâl; pobl oedrannus ac agored i niwed yn aros dros 16 awr am ofal; defnyddwyr cadeiriau olwyn yn methu cael mynediad i'r adran yn ddiogel; cleifion oedrannus a sâl wedi'u gwasgu yn erbyn drysau'r toiled; cwpanau plastig budr yn sbwriel dros y lle a pheiriannau dŵr gwag; rhes o ambiwlansys yn y maes parcio yn methu dod â'u cleifion i mewn. Dywedodd wrthyf fod diffyg cyfathrebu llwyr yn yr adran achosion brys, ac ar brydiau, diffyg empathi at eraill. Hyn oll gydag amseroedd aros, i'r rhan fwyaf o gleifion gwirioneddol sâl, o fwy na 12 i 14 awr.
Ni all hyn byth fod yn dderbyniol, Weinidog. Dywedodd fy etholwr wrthyf ei bod yn teimlo bod y system yn amlwg yn methu a bod y sefyllfa bellach yn dod yn beryglus. Mae Ysbyty'r Faenor yn amlwg ar fin methu. Rydym yn ymwybodol o'r heriau, ond mae’r cyhoedd wedi cael llond bol ar esgusodion. Mae angen cynllun brys ac rydym wedi cyrraedd pwynt bellach lle mae angen inni gael ein diweddaru ar frys yn y Siambr hon yn rheolaidd ynghylch yr hyn a gyflawnwyd. Mae staff y GIG yn Ysbyty'r Faenor yn gweithio'n ddiflino mewn amgylchiadau hynod o anodd. Maent yn anhygoel, ond mae angen iddynt wybod hefyd fod newid ar y gweill. Ymddengys bod hwn yn ysbyty mewn argyfwng llwyr, a thra bo pawb yn parhau i ymddiheuro, nid oes unrhyw un yn gwrando o ddifrif ar adborth pwyllog y gymuned, ac yn wir, y staff.
Fy nghwestiwn—
Cwestiwn, ie. Diolch.
Felly, Weinidog, pa gamau y mae’r Llywodraeth hon yn eu cymryd i atal hyn rhag dod yn argyfwng llwyr yn fy rhanbarth, i leihau amseroedd aros afresymol, ac a allwch ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y cynnydd sy’n cael ei wneud, wrth symud ymlaen?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau aruthrol y mae cleifion yn ei wynebu, yn ein hadrannau achosion brys yn enwedig. Rydym yn amlwg mewn sefyllfa lle mae’r pwysau hynny’n dod yn ormod mewn rhai mannau, ac un o’r pethau y bûm yn eu gwneud yw cynnal ymweliadau dirybudd â rhai o’n hadrannau damweiniau ac achosion brys er mwyn gweld y pwysau sydd arnynt drosof fy hun. Rwyf eisoes wedi ymweld ag Ysbyty'r Mynydd Bychan, Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Treforys, lle bûm yn siarad â phobl ar y rheng flaen—felly, yn cael golwg uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd. A chredaf mai'r hyn sy'n amlwg i mi yw bod cynnydd aruthrol yn y galw. Ac os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Ysbyty'r Faenor, rydym wedi gweld cynnydd o 14 y cant yn y nifer sy'n ei fynychu'n ddyddiol o gymharu â mis Mawrth. Dim ond y mis hwn yw hynny. Felly, mae hwnnw’n gynnydd sylweddol. Felly, yn amlwg, pan ydym yn dal mewn sefyllfa lle, gadewch inni wynebu'r peth, mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud wrthym fod COVID ar un o bob 25 o bobl o hyd, a'u bod yn dioddef ohono, mae hynny’n effeithio ar y staff sy’n gweithio yn yr adrannau brys hynny. Felly, mae hynny i ryw raddau'n esbonio pam fod y pwysau mor fawr—oherwydd ein bod yn dal i fyw gyda COVID. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fod gennym gynlluniau ar waith. Mae gennym gynlluniau brys, mae gennym gynllun chwe phwynt blaenoriaeth, ac rwy'n fwy na pharod i anfon copi o hwnnw atoch os hoffech ei weld, lle'r ydym yn nodi ac yn sicrhau bod pobl yn deall mai'r hyn yr ydym yn sôn amdano yma yw dull system gyfan y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. A byddwn yn trafod y mater gofal wedi'i gynllunio yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac yn amlwg, mae croeso ichi wrando ar y ddadl honno.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, a'r cwestiynau yma i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi ac eraill yn y Siambr hon i gydnabod pwysigrwydd yr wythnos hon i godi proffil y rheini sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ac i'w cynorthwyo i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt gan sefydliadau y maent angen iddynt wrando, fel nad oes gennym bobl ledled Cymru yn dioddef yn dawel. Weinidog, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae’r Llywodraeth wedi’i roi i sefydliadau trydydd sector i’w helpu i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r wythnos hon, a pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â thema eleni, sef unigrwydd?
Diolch am eich cwestiwn, James. Ac rwy'n falch iawn hefyd o gydnabod ar goedd y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o weithgareddau'n cael eu cynnal ac ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn darparu cyllid i gryn dipyn o sefydliadau trydydd sector—rhai’n uniongyrchol, eraill drwy’r cyllid a ddarparwn i fyrddau iechyd. Mae’n debyg eich bod hefyd yn ymwybodol inni gyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer Amser i Newid Cymru ychydig fisoedd yn ôl. Ni, bellach, yw’r unig ran o'r DU sy'n ariannu Amser i Newid. Felly, rydym yn buddsoddi cryn dipyn o arian—£1.4 miliwn oedd y swm a gyhoeddwyd gennym—i'w galluogi i barhau â'u gwaith gwrth-stigma hynod bwysig. Ac wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl ac i ofyn am gymorth. Ac mae ein dull gweithredu yng Nghymru wedi bod yn seiliedig ar sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth hwnnw’n gyflym iawn, heb fod angen eu hatgyfeirio drwy bethau fel llinell gymorth CALL, drwy SilverCloud, ac i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael cyn gynted â phosibl.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae dysmorffia'r corff yn broblem enfawr y mae llawer o bobl ledled y wlad yn ei hwynebu. Mae llawer o bobl ifanc yn nodi'r broblem o gael eu peledu'n gyson ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddelweddau sydd wedi’u golygu â ffilteri, gan roi syniad camystumiedig o beth yw'r gwirionedd i lawer o bobl ifanc. Y gobaith yw y bydd y Bil diogelwch a niwed ar-lein a gynigir gan Lywodraeth y DU yn gwneud rhywfaint i fynd i’r afael â’r materion hyn. Gwn nad yw materion digidol yn faes lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ond mae’r holl wasanaethau cymorth ar gyfer pobl ifanc wedi eu datganoli. Felly, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl ifanc sy'n dioddef o ddysmorffia'r corff, ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil diogelwch a niwed ar-lein sy'n mynd drwy Senedd y DU?
Diolch, James. Yn amlwg, mae'r Bil diogelwch a niwed ar-lein yn gyfrwng pwysig i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y cyfeirioch chi atynt, ac y gwn eich bod wedi eu codi eisoes yn y Siambr hon. Rydych yn llygad eich lle nad yw materion digidol wedi’u datganoli i ni, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a swyddogion yn San Steffan, ac rwy’n edrych yn benodol ar y cyfleoedd y gallwn eu hadeiladu ar y Bil hwnnw i wella ein gwaith mewn perthynas â phethau fel atal hunanladdiad. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael cymorth mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy—er enghraifft, ein pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, sydd wedi’i ddiwygio’n ddiweddar, ac sy’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad at gymorth mewn ffordd sy'n addas iddynt, sef ar-lein. Rydym hefyd yn edrych ar ymyriadau gan wylwyr gyda phethau fel bwlio, ac mae ein holl ymatebion wedi’u hanelu at sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ifanc lle mae angen iddynt gael eu cefnogi, ac wrth gwrs, mae gan ein cwricwlwm newydd rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hynny o beth. Mae gennym faes dysgu iechyd a lles yn y cwricwlwm a fydd yn cael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm cyfan, ochr yn ochr â'r gwaith a wnawn i roi addysg rhyw a chydberthynas i blant a phobl ifanc, a chredaf ei bod yn bwysig iawn mynd i'r afael â'r materion hynny fel rhan o hynny ar draws y cwricwlwm cyfan, ac o oedran iau hefyd, gobeithio. Ond fel y dywedwch, nid yw wedi'i ddatganoli, yr hyn sy'n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi pobl ifanc a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cymorth, fel eu bod yn gwybod nad yw'r pethau a welant ar y cyfryngau cymdeithasol yn bethau go iawn.
Yn sicr, a diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog addysg ar hynny er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu haddysgu ar hynny mewn ysgolion. Ac fe sonioch chi am gael mynediad at gymorth, ac mae llawer o’r bobl ifanc hynny sy’n ei chael hi'n anodd angen y cymorth priodol i ymdopi â'u trafferthion, ond mae llawer o hynny, Weinidog, yn brin ledled Cymru. Ni all llawer o bobl ifanc gael mynediad at asesiadau cychwynnol gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed: mae 60 y cant o blant sydd angen llwybrau CAMHS arbenigol yn aros dros bedair wythnos am asesiad cychwynnol; mae wedi dyblu bron ers mis Mawrth 2020. A gwn eich bod chi a minnau'n cytuno nad yw hynny'n ddigon da. Fel y dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar, Ddirprwy Weinidog, 'Mae angen ichi fod ar fin gwneud rhywbeth hynod o wirion i gael y cymorth sydd ei angen arnoch'. Gwn fod hynny'n rhywbeth nad ydych am ei glywed, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth nad wyf i am ei glywed. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi amlinellu sut rydych yn mynd i weithio i gyflymu atgyfeiriadau CAMHS, a sut rydych yn mynd i sicrhau, pan fydd unigolyn ifanc yn ei chael hi'n anodd ac yn dangos arwyddion o'u problemau iechyd meddwl ar y camau cynnar hynny, eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac nad ydynt yn cael eu gadael hyd nes eu bod mewn argyfwng? Diolch, Lywydd.
Diolch, James. Ac mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn bwysig iawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym am i broblemau pobl ifanc waethygu. Dyna pam fod ein holl bwyslais yn Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth yn gynnar, yn ddelfrydol yn yr amgylcheddau lle maent yn byw eu bywydau, fel yr ysgol. Felly, mae gennym ddull ysgol gyfan yr ydym yn parhau i fuddsoddi symiau sylweddol iawn o arian ynddo, ac sy'n cael ei hybu gennyf fi a'r Gweinidog addysg. Rydym yn bwrw ymlaen â'n fframwaith NYTH, sef ein mecanwaith cymorth cynnar a chefnogaeth ychwanegol, ledled Cymru. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen i blant sydd angen cymorth arbenigol gael mynediad cyflym at wasanaethau CAMHS arbenigol.
Yn amlwg, mae’r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd aros CAMHS, ac rydym yn ymwybodol o hynny ac yn gweithio’n agos iawn gyda byrddau iechyd i wella amseroedd aros. Dylwn ddweud, fel y nodais yn fy nghwestiynau diwethaf, fod pedwar o bob pump o’r plant a’r bobl ifanc sy’n aros am apwyntiadau CAMHS yng Nghymru yng Nghaerdydd a’r Fro. Felly, mae hynny’n ystumio’r sefyllfa ychydig. Ond i dawelu eich meddwl, rydym wedi cyhoeddi, o'r £50 miliwn ychwanegol a sicrhawyd gennym ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y gyllideb, fod £10 miliwn o gyllid gwella gwasanaethau yn mynd i'r byrddau iechyd. Mae pob un ohonynt wedi cael gwybod bod gwella amseroedd aros CAMHS yn flaenoriaeth, a bydd disgwyl i bob un ohonynt nodi eu cynigion ar gyfer lleihau'r amseroedd aros hynny.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi gofyn i'r uned gyflawni gynnal adolygiad o CAMHS arbenigol yng Nghymru, a fydd yn edrych ar CAMHS arbenigol yn gyffredinol, ac i edrych yn benodol ar y data hefyd, gan mai'r hyn a welwn yw nad ydym yn mesur yr un pethau. Mae gan wahanol fyrddau iechyd strwythurau gwahanol, ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gwybod beth yn union sy’n digwydd er mwyn inni gael dull gweithredu cyson yng Nghymru. Ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod sicrhau nad oes angen i bethau ddod yn argyfwng yn un o fy mhrif flaenoriaethau.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod y Nyrsys yfory, a dwi eisiau diolch i nyrsys ymhob cwr o Gymru am eu gofal a'u hymroddiad. Ond dwi am dynnu sylw'r Gweinidog at bryderon sydd wedi eu codi efo fi gan nyrs, sy'n dweud ei bod hi'n cynrychioli nifer sylweddol o staff nyrsio Ysbyty Gwynedd. Mi gefais fy nhristau o wrando ar y nyrs yn disgrifio'r awyrgylch gwaith, yn disgrifio bwlio, y pwysau ac oriau gwaith afresymol, gorfodaeth i weithio'n gyson dros oriau arferol, perthynas wael efo matrons ac uwch reolwyr; mae morâl yn isel meddan nhw, niferoedd uchel yn gadael—allan o 20 nyrs wedi'u hyfforddi'n llawn mewn un adran, mi ddywedwyd wrthyf i bod pump wedi gadael yn y tri mis diwethaf. Un pryder penodol oedd bod nyrsys yn cael eu symud yn gyson o'r adrannau maen nhw wedi arbenigo ynddyn nhw i adrannau eraill, a hynny'n rhoi straen ar nyrsys, sydd ofn gwneud camgymeriadau, ac maen nhw'n bryderus bod hyn yn groes i ganllawiau'r NMC. Pam eu bod nhw'n symud? Oherwydd bod nyrsys asiantaeth yn gwrthod symud. Mae yna'n amlwg ormod o ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth. Weinidog, mi ysgrifennaf i atoch chi am hyn, ac at y bwrdd iechyd. Pam dwi'n codi hyn yn fan hyn yn y lle cyntaf? Wel, er mwyn trio rhoi hyder i'r nyrsys y bydd eu pryderon nhw'n cael eu cymryd o ddifrif. Does ganddyn nhw ddim hyder yn y broses whistleblowing. Allaf i gael sicrwydd, felly, y bydd y Gweinidog yn dilyn yn fanwl y ffordd y bydd y bwrdd iechyd yn ymateb i'r pryderon yma?
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed hynny. Yn amlwg, mae hynny'n codi pryder. Mi wnes i gwrdd ag aelodau undeb yn y gogledd yn ddiweddar—aelodau o'r RCN ac aelodau o Unison—a doedd hwn ddim yn rhywbeth gwnaethon nhw godi gyda fi. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna ffyrdd eraill iddyn nhw godi pryderon fel hyn. Dwi yn meddwl ei fod yn bwysig bod pob un yn gallu bod yn agored. Os nad ydyn ni'n gallu bod yn agored, allwn ni ddim gwella'r sefyllfa. Yn sicr, dwi'n barod i siarad gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud fel eu bod nhw yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy hyderus ynglŷn â chodi materion fel hynny. Rydyn ni yn gwneud lot, fel rydych chi'n ymwybodol, i drio recriwtio nyrsys, ac wedi gweld 76 y cant o gynnydd yn nifer y nyrsys rydyn ni'n eu hyfforddi. Ond does dim iws gwneud hynny os ydyn ni'n colli pobl ar ochr arall y system. Felly, yn sicr, mi wnaf i godi'r mater yma gyda'r cadeirydd.
Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mi oedd y nyrs yma yn sicr yn poeni am lefelau staffio yn gyffredinol, ac yn amlwg y gor-ddibyniaeth ar staff asiantaeth. Mi ddywedwyd wrthyf i bod y rhan fwyaf o'r nyrsys ddaeth o Sbaen ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl ymgyrch recriwtio, wedi dychwelyd i Sbaen erbyn hyn. Mae yna dyllau mawr yn y gweithlu. Mi fydd y Gweinidog, dwi'n gwybod, wedi cael copi o'r adroddiad diweddar yma gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar y lefelau staffio. Dau o'r argymhellion yn hwnnw: (1) bod angen strategaeth recriwtio nyrsys rhyngwladol, sydd yn ategu beth roedd y nyrs yma yn ei ddweud; a hefyd bod angen datblygu strategaeth cadw staff, ac mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth. Ond, at yr argymhelliad cyntaf dwi'n troi efo cwestiwn syml: mae'r coleg brenhinol yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ystod y tymor seneddol yma, ymestyn adran 25B o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i nyrsio cymunedol a wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn bod hynny'n ofyniad sydd wedi cael ei glywed dro ar ôl tro; rydyn ni'n gwybod bod lefelau staffio rhy isel yn peryglu lles cleifion. A gawn ni'r ymrwymiad yna gan y Gweinidog heddiw?
Diolch yn fawr. Yn sicr, dyw Brexit ddim wedi helpu'r sefyllfa o ran nifer y nyrsys sy'n gweithio yn ein cymunedau ni ac yn ein hysbytai ni. Wrth gwrs, byddai'n well gyda ni weld pobl yn gweithio'n llawn amser i'r NHS a ddim yn gweithio i asiantaethau, felly mae'n rhaid inni fwrw ati yn gyson i sicrhau ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa yna, a'r ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod mwy o bobl yn yr NHS. Ond y drafferth yw, wrth gwrs, pan fo pobl yn mynd yn sâl—ac mae lot o nyrsys yn mynd yn sâl ar hyn o bryd achos COVID—wedyn mae'n rhaid ichi alw nyrsys asiantaeth i ddod mewn hefyd. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed bod cyhoeddiad yn mynd i ddod yfory ynglŷn â recriwtio nyrsys rhyngwladol. Yn sicr, dwi'n ymwybodol iawn o ofyniad yr RCN, ac rydyn ni'n cael trafodaethau yn gyson gyda nhw, ac mae hwn yn fater sy'n cael ei godi ar bob achlysur dwi'n cwrdd â nhw. Yn amlwg, rŷn ni wedi'i wneud yn glir iddyn nhw beth rydyn ni'n meddwl sydd angen ei wneud yn y maes yma cyn ein bod ni'n mynd i'r cam nesaf.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddelio â'r ôl-groniad o lawdriniaeth ddewisol yng Ngogledd Cymru? OQ58010
Diolch yn fawr iawn. Mae mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Fis diwethaf, lansiais y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio, sy’n nodi ein dull o leihau amseroedd aros yng Nghymru fel bod cleifion yn cael y gofal a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, ac mae hynny wedi’i ategu gan fuddsoddiad rheolaidd ychwanegol o £170 miliwn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae preswylydd sydd wedi bod yn aros i weld meddyg ymgynghorol orthopedig ers bron i ddwy flynedd wedi cysylltu â mi, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae eu harthritis wedi datblygu o fod yn gymedrol i fod yn ddifrifol. Mae'n ddealladwy fod y preswylydd yn bryderus y bydd amseroedd aros hwy am lawdriniaeth ddewisol yn golygu y bydd eu cyflwr yn parhau i waethygu. Maent wedi cael cyngor anghyson gan eu bwrdd iechyd ynglŷn ag a yw'r GIG yng Nghymru yn dal i gynnig llawdriniaethau drwy dystysgrif S2. A wnaiff y Gweinidog egluro i’r preswylydd p'un a yw tystysgrif S2 yn dal i fod yn opsiwn sydd ar gael i drigolion yng Nghymru, a rhoi sicrwydd iddynt fod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i wella amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ddewisol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed bod unigolyn arall eto yn dioddef ac yn ei chael hi'n anodd oherwydd y rhestrau aros. Yn sicr, rwy’n bryderus iawn, yn enwedig, am bobl y gwn eu bod yn aros am lawdriniaethau cluniau. Rwy’n adnabod rhywun yn y Siambr hon y mae eu mam wedi cael clun newydd yn ddiweddar ac a fu'n sicr mewn llawer o boen cyn hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn cyn gynted â phosibl. Yn amlwg, ni allaf sôn am unrhyw achosion unigol, ond os hoffech ysgrifennu ataf am yr achos hwn, byddaf yn sicr yn ymchwilio iddo.
Rydym wedi cyhoeddi cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio, ac mae targedau allweddol iawn yr ydym nid yn unig yn gobeithio ond yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cyflawni. Felly, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd bellach gyda fy swyddogion i sicrhau ein bod yn rhoi pwysau ar y byrddau iechyd o ran yr hyn y disgwyliwn iddynt ei gyflawni, gan sicrhau eu bod yn aros ar y trywydd iawn.
Mewn perthynas â thystysgrif S2, gall cleifion yng Nghymru wneud cais o hyd i’w bwrdd iechyd lleol am driniaeth wedi’i chynllunio yn yr UE ac yn y Swistir o dan lwybr S2, ond yn amlwg, mae'n rhaid iddynt gael caniatâd gan eu bwrdd iechyd cyn y gallant ddisgwyl i’r bwrdd iechyd danysgrifennu hynny ar eu cyfer. Mae yna broses i fynd drwyddi, ac rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ynglŷn â'r manylion os yw hynny o ddefnydd.FootnoteLink
Weinidog, hoffwn groesawu eich sylwadau heddiw ar beth o’r buddsoddiad ychwanegol a wnaed i leihau amseroedd, ac fe gyfeirioch chi at eich cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio hefyd, a fyddai o fudd i rai o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru, gobeithio. Yn sicr, mae hyn yn amserol iawn, gan ein bod yn parhau i weld gweinyddiaeth sydd â rhai o'r ffigurau gwaethaf a welsom yn ein gwasanaeth iechyd, gydag un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros, o gymharu ag un o bob naw dros y ffin, a disgwyl i un o bob pedwar o bobl aros dros flwyddyn am driniaeth o gymharu ag un o bob 20 dros y ffin. Unwaith eto, mae hyn yn annog diffyg ymddiriedaeth, efallai, ymhlith llawer o fy nhrigolion, o ran gallu gweld targedau’n cael eu cyflawni, gan fod cymaint o dargedau heb eu cyflawni yn y gorffennol. Wrth gwrs, y tu ôl i bob un o'r ystadegau yr wyf newydd eu darllen yn gyflym mae unigolyn mewn poen ac sydd angen cymorth ar frys. Cyfeiriodd Carolyn Thomas at un achos, ac mae gan lawer ohonom achosion tebyg iawn yn ein mewnflychau bob dydd. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallaf ei roi i fy etholwyr heddiw sy’n aros ar y rhestrau aros hynny y bydd y targedau hynny’n cael eu cyflawni, ac y gellir ailadeiladu’r ymddiriedaeth honno er mwyn iddynt allu cael y llawdriniaeth ddewisol honno cyn gynted â phosibl?
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethom ddatblygu’r cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio gyda chlinigwyr a chyda’r byrddau iechyd. Maent yn dargedau uchelgeisiol ond realistig, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cadw atynt. Hoffwn eich cywiro ar un peth, sef yr honiad cyson hwn fod 20 y cant o boblogaeth Cymru yn aros am driniaeth. Wel, dyna nifer y bobl ar lwybrau, ac weithiau, mae pobl ar fwy nag un llwybr ar yr un pryd. Credaf mai'r peth arall, pan fyddwch yn cymharu Cymru a Lloegr, yw ei bod yn bwysig iawn deall nad ydym yn cymharu pethau gwahanol. Rydym yn ceisio bod yn dryloyw yng Nghymru yn y ffordd yr ydym yn cyfrif, felly rydym yn cyfrif, er enghraifft, amseroedd aros am driniaethau diagnostig, ac mae nifer enfawr o bobl yn aros am driniaethau diagnostig—mewn gwirionedd, mae 60 y cant o'r bobl hynny sy'n aros yn aros am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Nawr, mae gennym darged ar hynny. Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i unrhyw un aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd eleni. Felly, dyna’r sicrwydd y gallwch ei roi. A’r sicrwydd arall, wrth gwrs, yw ein bod yn gwneud popeth a allwn i gynyddu capasiti, i flaenoriaethu diagnosteg a thriniaeth, ac rydym yn trawsnewid y ffordd y darparwn ofal wedi’i gynllunio ac yn helpu hefyd i sicrhau bod y claf yn cael gwybodaeth a chefnogaeth tra byddant yn aros.
Cwestiwn 4, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. John Griffiths.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus cryf gyda chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru? OQ58026
Mae camau i dargedu negeseuon iechyd cyhoeddus cryf at gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi'u hymgorffori yn ein gwaith atal ar gyfer iechyd y cyhoedd, i helpu pobl i gynnal pwysau iach, rhoi'r gorau i ysmygu, a chefnogi eu lles meddyliol. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd y gwyddom fod y cymunedau hyn yn eu profi.
Diolch am hynny, Weinidog. Yn ystod y pandemig, rwy'n credu iddi ddod yn fwyfwy amlwg fod anghydraddoldebau iechyd sylweddol iawn yn ein cymunedau lleiafrifol ethnig. Roedd problemau gyda chyfleu negeseuon mewn perthynas â chyfraddau brechu a llu o amodau economaidd a chymdeithasol. A diolch byth, Weinidog, camodd Muslim Doctors Cymru i'r adwy—ac roedd un o fy etholwyr, Dr Kasim Ramzan, yn rhan o hynny—i helpu i gyfleu negeseuon mewn ieithoedd cymunedol, i godi ymwybyddiaeth, i gynnal clinigau brechu mewn mosgiau, i gynnal cyfarfodydd Zoom, i gysylltu gweithwyr proffesiynol perthnasol â'i gilydd. Fe wnaethant lawer iawn o waith, Weinidog, fel y gwn eich bod yn gwybod. Gan ein bod bellach, gobeithio, yn cefnu ar y pandemig, hoffwn gael sicrwydd gennych y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda Muslim Doctors Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd parhaus yn ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, oherwydd mae llawer o waith i'w wneud o hyd.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, John. Fel yr ydych wedi nodi, mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a dyna pam y sefydlodd y Prif Weinidog y grŵp i edrych ar yr anghydraddoldebau iechyd hynny, sy'n flaenoriaeth inni. Rwy'n ddiolchgar iawn i Muslim Doctors Cymru am y gwaith a wnaethant. Rwy'n gwybod eu bod wedi ein helpu gyda gweminarau, eu bod wedi cynnal sesiynau holi ac ateb gyda'r gymuned a'u bod wedi bod yn weithgar tu hwnt. Felly, rwy'n hapus iawn i gofnodi fy niolch iddynt am yr hyn y maent yn ei wneud.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, fel rhan o'n hymateb COVID-19, wedi sefydlu rhwydwaith o 11 o weithwyr allgymorth cymunedol i geisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n ymwneud ag ymgysylltu mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Ac er bod ffocws profi, olrhain, diogelu bellach yn newid, bydd y gweithwyr allgymorth cymunedol hynny'n parhau i weithio gyda chymunedau lleiafrifol ethnig i geisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hynny. A chredaf ei bod yn bwysig iawn, wrth symud ymlaen, pan fyddwn yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hynny, ein bod yn gwneud hynny drwy gydgynhyrchu gyda'r union gymunedau yr ydym yn ceisio'u cyrraedd.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yma yn y Siambr heddiw. Ddirprwy Weinidog, nid oedd yn gyfrinach, fel y dywedodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, fod pobl, yn enwedig o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, yn wynebu anghydraddoldebau iechyd difrifol yn ystod COVID-19, ac roedd hynny'n eithaf cyffredin ac ar gyfradd lawer uwch i bobl o grwpiau ethnig Bengali, Indiaidd a Phacistanaidd, sy'n fwy tebygol o fyw mewn cartrefi aml-genhedlaeth sydd â chysylltiad uchel â'r feirws oherwydd natur eu swyddi a hefyd eu ffordd o fyw.
Canfu astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, pan ddaw'n fater o ddeall negeseuon iechyd y cyhoedd, fod pobl o grwpiau lleiafrifol ethnig yn wynebu rhwystrau penodol a oedd yn eu hatal rhag ymddwyn mewn ffordd a oedd yn eu hamddiffyn rhag y feirws. Weinidog, cyn cael fy ethol, fy swydd o ddydd i ddydd oedd gweithio i asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus o'r enw Mediareach, a gafodd ei llogi gan Lywodraeth y DU, a fy rôl i oedd goruchwylio'r gwaith o greu a chynhyrchu 20 hysbyseb mewn mwy na 15 iaith, megis Wrdw, Hindi, Pwnjabeg, Mandarin, Arabeg—i enwi rhai'n unig. Nawr, cafodd pob un o'r rhain eu darlledu ar nifer o sianeli Asiaidd amrywiol, neu sianeli lleiafrifol ethnig, gydag wynebau cyfarwydd ac enwogion yn cynrychioli'r sianeli hyn. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi gwaith Dr Kasim Ramzan o Ddwyrain Casnewydd, yn ogystal ag aelodau eraill o'r cymunedau lleiafrifol ethnig a wnaeth bopeth yn eu gallu, cafwyd ymateb anhygoel o dda i'r tair ymgyrch a gafodd eu harwain gan Lywodraeth y DU ymhlith lleiafrifoedd ethnig ar draws y sbectrwm. Felly, gan fod iechyd yn fater sydd wedi'i ddatganoli yma yng Nghymru, a ydych yn cytuno, Weinidog, fod angen datblygu a darparu mynediad at ddeunyddiau addysgol clir, cywir, pwrpasol a gweledol ar gyfer y grwpiau lleiafrifol ethnig sy'n byw yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael negeseuon pwrpasol. Roedd ein hymgysylltiad drwy'r pandemig yn rhagweithiol iawn yn hynny o beth. Fe wnaethom gontractio asiantaeth ymgysylltu arbenigol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Cafodd deunyddiau ar gyfer cymunedau penodol eu cydgynhyrchu gydag unigolion o'r cymunedau hynny, gyda lluniau cardiau dyfyniadau o arweinwyr cymunedol yn esbonio am bethau fel brechu. Rydym eisoes wedi trafod gwaith Muslim Doctors Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwn mewn ystod o ieithoedd, gan ddefnyddio tîm stryd amlieithog, dogfennau a gwybodaeth allweddol wedi'i chyfieithu i fwy na 35 o ieithoedd. Ac mae'r holl weithgaredd grwpiau ffocws a wnaethom wedi cynnwys grŵp yn benodol o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. Felly, mae hwn yn fater yr ydym o ddifrif yn ei gylch, ac rydym yn gwneud hynny ar draws yr arena iechyd y cyhoedd, oherwydd rydym yn cydnabod bod heriau penodol drwyddi draw gyda phethau fel hyrwyddo pwysau iach, iechyd meddwl, cadw pobl mewn gwaith, ac rydym yn ymrwymedig iawn i sicrhau ein bod yn cyrraedd y cymunedau y mae gwir angen inni eu cyrraedd.
5. Pa ganran o gysylltiadau gorfodol ag ymwelwyr iechyd drwy raglen Plant Iach Cymru a gynhaliwyd yn y cnawd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OQ58025
Nid ydym yn cadw'r data ar ganran y cysylltiadau a ddigwyddodd wyneb yn wyneb. Drwy gydol y pandemig, cynhaliwyd y rhan fwyaf o gysylltiadau ymwelwyr iechyd gan ddefnyddio telefeddygaeth i helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo. Cyhoeddir data ar raglen Plant Iach Cymru bob chwarter, yn fwyaf diweddar ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2021.
Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Amenedigol. Gall problemau iechyd meddwl amenedigol heb eu trin gael effaith ddinistriol ar fenywod, eu teuluoedd a'u plant, ac mae'n parhau i fod yn brif achos marwolaeth ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar un o bob pump o famau ac un o bob 10 tad, ac yn anffodus mae hyn wedi cynyddu o ganlyniad i COVID. Yn ystod y cyfnod amenedigol, ymwelwyr iechyd yw'r rhai sydd mewn sefyllfa unigryw i nodi menywod sy'n profi problemau iechyd meddwl ymhlith mamau, a babanod nad ydynt yn cyrraedd eu cerrig milltir datblygiadol. Maent hefyd yn sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael y gofal sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. O ystyried hyn, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gyrraedd sefyllfa lle mae gennym ymwelydd iechyd arbenigol mewn iechyd meddwl amenedigol a babanod ym mhob ardal bwrdd iechyd, a pha gynnydd sydd wedi'i wneud ar benodi hyrwyddwyr mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru?
Diolch yn fawr, Buffy. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl wedi ymrwymo'n llwyr i'r mater hwn, yn sicr pan oedd hi'n Gadeirydd y pwyllgor o'r blaen, ac yn amlwg mae'n gyfrifol yn awr am sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu yn ymarferol. Credaf iddi ymweld â chanolfan newydd Tonna a agorwyd yn ddiweddar iawn, y gyntaf o'i bath yng Nghymru lle gallwn roi'r cymorth iechyd meddwl amenedigol y mae pobl yn chwilio amdano. Nawr, mae hynny'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr—. Rwy'n credu y bydd y Dirprwy Weinidog yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch diweddariad yn erbyn argymhellion y pwyllgor hwnnw a'r ymchwiliad a gafodd y pwyllgor i iechyd meddwl amenedigol.
Ac mewn perthynas â'r rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, rydym yn cwblhau cytundebau ar hyn o bryd gyda Gwelliant Cymru er mwyn recriwtio i swyddi'r rhaglen ar lefel genedlaethol ac ar lefel byrddau iechyd i ddechrau'r gwaith ar gam diagnostig y rhaglen honno. Felly, mae mwy i ddod.
Weinidog iechyd, yn amlwg, un o'r pethau allweddol am gymorth cymunedol gan y proffesiwn iechyd yw cael niferoedd cywir o staff o'r ansawdd cywir yn y gymuned. Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yfory, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac un o'r mesurau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru flaenorol oedd cyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 sy'n benodol ar gyfer lleoliadau wardiau ysbytai. A ydych yn ystyried cefnogi ymestyn y Ddeddf honno i'r gymuned, fel y gallwn fod yn hyderus, gyda'r materion a godwyd gan yr Aelod dros y Rhondda, fod gan staff cymorth cymunedol, a nyrsys yn arbennig, ddigon o adnoddau a'u bod yn eu lle i gynghori teuluoedd pan fyddant yn wynebu'r sefyllfaoedd tyngedfennol hyn pan gaiff baban newydd ei eni i'r teulu?
Diolch yn fawr. Wel, roeddem yn falch iawn ein bod wedi cyflwyno lefel ddiogel o staff nyrsio yng Nghymru—y cyntaf yn y DU i wneud hynny—ac rydym yn falch iawn fod hynny'n cael ei asesu a'i ystyried ar hyn o bryd. Yn amlwg felly, rydym yn edrych i weld beth arall y mae angen inni ei wneud ynglŷn â hyn. Nawr, rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac maent yn codi hyn yn rheolaidd; mae bob amser ar frig eu hagenda. Mae'n fwy cymhleth sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni o fewn y gymuned, oherwydd sut rydych chi'n asesu hynny? Nid yw cymuned yr un peth â ward, felly mae pethau gwahanol iawn i'w mesur. Mae'n sefyllfa lawer mwy cymhleth ar gyfer asesu beth fyddai'n lefel ddiogel o staff nyrsio. Felly, rydym wrthi'n cynnal trafodaethau pellach drwy'r amser ar y mater hwn, ond mae'n llawer mwy cymhleth na'r hyn ydoedd, o'i gymharu â'i gyflwyno mewn sefyllfa ysbyty.
6. Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan y Llywodraeth i fyrddau iechyd i'w galluogi i roddi presgripsiynu cymdeithasol ar waith? OQ58008
Rydym yn datblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi gweithredu lleol i gynyddu'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid ar y model arfaethedig, a gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad y mis nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog, a dwi'n falch o'ch clywed yn cyfeirio at y fframwaith, sydd wrth gwrs yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Dwi'n siŵr gall nifer ohonom ni gyfeirio at brosiectau rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sydd yn dangos gwerth presgripsiynu cymdeithasol o ran iechyd a lles pobl rydym yn eu cynrychioli, ac nid dim ond y rhai sy'n teimlo'n ynysig, fel y cyfeirir ati yn y rhaglen lywodraethu. Ond yn amlwg, nid dim ond byrddau iechyd sydd yn rhan o'r gwaith hwn. Mae gan sefydliadau megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Theatr Clwyd ac ati, brosiectau a phartneriaethau gwych yn y maes hwn. Ac felly, gaf i holi, wrth ichi ddatblygu'r fframwaith yma, pa mor ganolog fydd y cyrff tu hwnt i'r sector iechyd, megis rhai diwylliannol, o ran gwireddu llawn botensial presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Heledd. Fel y nodwyd gennych, mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd dda iawn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol wedi ei leoli yn y gymuned, ac mae angen i hynny fod yn ddull cyfannol sy'n cydnabod bod ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn dylanwadu ar iechyd pobl, ac fel y nodwyd gennych, nid yw hynny'n ymwneud yn unig â mynd i'r afael ag unigrwydd. Felly, fel rhan o'r fframwaith yr ydym yn ei ddatblygu, ein bwriad yw nodi beth fyddai'n fodel derbyniol o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, ond ni fyddwn yn pennu sut y caiff ei ddarparu mewn gwahanol gymunedau. Ac mae'r gweithgor gorchwyl a gorffen ar bresgripsiynu cymdeithasol a gadeirir gennyf yn gweithio gyda gofal sylfaenol, byrddau iechyd, y trydydd sector, ynghyd â sectorau diwylliannol a chwaraeon, rwy'n falch o ddweud, i ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol hwnnw, a bydd yn cynnwys model y cytunwyd arno o bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer Cymru ac yn nodi sawl thema graidd lle y gallwn ni yn Llywodraeth Cymru a'n partneriaid roi camau ar waith i gefnogi'r broses o'i weithredu. Ond i fod yn glir iawn, nid wyf yn credu y dylai'r fframwaith bennu sut beth fyddai hynny mewn gwahanol gymunedau, oherwydd mae pob cymuned yn wahanol, a bydd yn ystyried anghenion ac yn manteisio ar gryfderau cymunedau penodol, ond gan sicrhau bod gennym gynnig da yn gyson ledled Cymru.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghaerdydd a'r Fro? OQ58003
Dwi'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd iechyd, ac yn ystod y cyfarfodydd hyn rydym ni'n trafod mynediad at wasanaethau meddyg teulu. Mae fy swyddogion hefyd yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr y byrddau iechyd, meddygon teulu a chleifion i drafod gwasanaethau meddygon teulu. Dwi'n gwybod bod meddygon teulu yn ymateb i alw cynyddol gan gleifion, er gwaethaf y cyfraddau absenoldeb uwch.
Diolch yn fawr, Weinidog. Nawr, wythnos diwethaf, fe gadarnhawyd cynlluniau i droi meddygfa Corporation Road yn Grangetown i fod yn dai annedd, heblaw bod modd ffeindio meddyg i gymryd y practis yno drosodd. Gyda chau'r feddygfa yna ac eraill, mae dros 1,200 o bobl ychwanegol wedi ymuno â'r feddygfa yn Ninas Powys. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i hyfforddi'r gweithlu iechyd yng Nghymru, ond yn ôl y BMA, bydd hwnna dim ond yn cynnal y nifer 160 newydd bob blwyddyn ac nid y 200 ychwanegol bob blwyddyn sydd eu hangen i ddiwallu yr anghenion ar hyn o bryd. Felly sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynyddu y nifer o feddygon teulu yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Ar wahân i agor ysgol feddygol yn y gogledd, a oedd yn rhan o'n maniffesto ni, un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yw sicrhau bod yna bosibilrwydd i bobl sydd efallai yn dod o dramor i hyfforddi yma i gario ymlaen i weithio. Tan nawr, mae yna broblem wedi bod o ran cael certificate of completion training, ac felly beth roedden ni'n gofidio oedd y bydden ni'n gweld, yn ystod y tair blynedd nesaf, 174 o bobl sydd i fod i orffen eu hyfforddiant oedd efallai ar gael i ni, ond eu bod nhw ddim yn cael caniatâd i aros, ac mae proses eithaf hirfaith i fynd drwyddo o ran cael fisa ac ati. Ond rŷn ni'n mynd ati nawr i helpu'r meddygon teulu yma, i helpu recriwtio'r bobl yma, ac mi fyddwn ni'n rhoi system mewn lle i sicrhau eu bod nhw'n cael yr help i fynd drwy’r broses yna o gael fisa yn rhwydd.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014? OQ57996
Rydym yn monitro gweithrediad y Ddeddf drwy ystod o fecanweithiau. Rydym yn casglu data fel rhan o'r fframwaith perfformiad a gwella ac yn cynnal gwerthusiad o'r Ddeddf. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso terfynol yn ddiweddarach eleni.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Fodd bynnag, bron yn ddyddiol, rwy'n cael achosion lle mae cyrff cyhoeddus wedi pennu sut y byddant yn cyfathrebu â phobl awtistig a niwroamrywiol a'u teuluoedd a'u gofalwyr, ni waeth beth fo'u hanghenion cyfathrebu a phrosesu unigol.
Sylwaf hefyd fod yr adroddiad yn dilyn uwchgynhadledd gofalwyr Cymru ym mis Chwefror yn nodi bod y themâu allweddol yn ymdrin â'r angen am welliannau cyffredinol yn y ffordd y bydd gofalwyr yn cael mynediad at eu hawliau ac yn cael budd ohonynt o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a bod gofalwyr wedi dweud wrthym, mewn ymateb i ddatganiad, eu bod yn aml yn cael eu hanwybyddu neu eu hystyried yn ddibwys gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, er mai hwy sy'n darparu'r rhan fwyaf o ofal yng Nghymru a bod ganddynt hawliau o dan y Ddeddf. Roedd prif weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod bod gweithredu'r Ddeddf yn heriol a dywedodd fod rhaglen waith ar y gweill hefyd ar ddulliau sy'n seiliedig ar gryfderau a chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i geisio ymgorffori dyheadau'r Ddeddf.
Yn ymarferol felly, sut a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau monitro gweithrediad y Ddeddf gan gyrff cyhoeddus yn unol â hynny, er mwyn sicrhau bod dyheadau'r Ddeddf yn rhan annatod o hyn, wyth mlynedd wedi'r adeg pan oedd llais y bobl dan sylw i fod i ddod yn ganolog i hyn?
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y dywedais yn fy ymateb, rydym wedi comisiynu gwerthusiad ar raddfa fawr o Ddeddf 2014 a gynhelir gan Brifysgol De Cymru. Cafwyd sawl adroddiad eisoes am y broses a'r profiad o weithredu, ac rwy'n credu mai'r casgliad o'r holl waith sydd wedi'i wneud yw bod yr egwyddorion a'r hyn sydd y tu ôl i'r Ddeddf yn gwbl gywir. Mae pawb yn cytuno bod gennym y ddeddfwriaeth gywir, a bod y gweithredu'n digwydd yn effeithiol.
Ond fel y nododd Mark Isherwood, o ran gweithredu'r Ddeddf a phrofiadau pobl ar lawr gwlad, rwy'n credu bod gennym ffordd i fynd o hyd, ac rwy'n credu mai'r hyn y byddai'n rhaid inni ei ddweud yw nad yw'r broses o weithredu'r Ddeddf yn llawn wedi'i chwblhau eto. Felly, bydd y camau nesaf a'r argymhellion ar gyfer gwella yn cael eu darparu yn yr adroddiad effaith terfynol, ac fe gaiff hwnnw ei gyhoeddi tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Rydym yn monitro effeithiolrwydd y Ddeddf yn ofalus iawn, yn ogystal ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Archwilio Cymru, ac rydym yn derbyn yn llwyr nad yw profiad gofalwyr, er enghraifft, ar lawr gwlad, fel y dylai fod eto. Fodd bynnag, mae cynnydd yn cael ei wneud. Gyda llaw, ychydig cyn y cyfarfod Senedd hwn, roeddwn yn falch iawn o gwrdd â phrif weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU, sydd wedi dod i ymweld â Chymru, ac roedd yn ganmoliaethus iawn am yr ymdrechion yr ydym yn eu gwneud i geisio helpu gofalwyr di-dâl yng Nghymru, ac mae'n awyddus iawn i weithio gyda ni fel Llywodraeth.
Diolch i'r ddwy Ddirprwy Weinidog a'r Gweinidog am yr atebion a'r sesiwn yna.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.
Cwestiwn cyntaf. I Weinidog yr Economi. A ydych chi angen unrhyw gliwiau eraill?
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddenu buddsoddiad economaidd sylweddol i Gasnewydd? OQ58016
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OQ58000
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n deall, Lywydd, eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 ac 8 gael eu grwpio.
Mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol drafft yn tynnu sylw at sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i ddenu buddsoddiad mawr i ardal Casnewydd. Yn ogystal, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chyngor Casnewydd a'r prifddinas-ranbarth i ddarparu'r seilwaith a'r cymorth i fusnesau er mwyn datblygu economi Casnewydd ymhellach.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae dinas Casnewydd wedi bod yn galw am fewnfuddsoddiad yn awr ers llawer gormod o amser. Yn anffodus, o dan flynyddoedd o gamreoli gan Lafur, maent wedi llywodraethu dros gyfnod o ddiffyg twf yn yr ardal. Dim ond yn awr, gyda'r gronfa ffyniant gyffredin, y gronfa perchnogaeth gymunedol, ac eraill, y mae lleoedd fel Casnewydd yn cael cyfle teg. Boed yn borthladd rhydd neu'n ailddatblygu morglawdd afon Casnewydd, mae llu o syniadau newydd, a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Geidwadwyr Casnewydd, yn aros i gael eu datblygu a'u gwireddu er mwyn denu buddsoddiad economaidd i Gasnewydd a chreu'r swyddi llewyrchus hynny y mae'r bobl yn ein dinas, a'r Aelod o Gasnewydd draw yno, yn galw'n daer amdanynt. Ac maent wedi bod yn galw'n daer amdano ers blynyddoedd. [Torri ar draws.] Os gall yr Aelod eistedd yno a dweud bod gan ddinas Casnewydd y buddsoddiad y mae ei angen, fod canol y ddinas yn ffynnu, fod swyddi niferus i bawb yn y ddinas, byddwn yn croesawu ei glywed, oherwydd nid yw hynny'n wir. Byddai hynny'n gelwyddog. Mae'r ddinas yn galw'n daer am fewnfuddsoddiad, ac unrhyw fath o fuddsoddiad. Mae'n aml yn ddinas sy'n cael ei hanwybyddu. Rydych yn canolbwyntio ar Gaerdydd, rydych yn canolbwyntio ar Abertawe, ond mae Casnewydd bob amser ar ei cholled. Weinidog, beth rydych chi'n ei wneud i edrych ar ôl pobl Casnewydd ac i sicrhau bod Casnewydd yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arni?
Mae gennyf berthynas dda ac adeiladol iawn gydag arweinydd cyngor Casnewydd, Jane Mudd, sydd newydd ei hail-ethol, ac a arweiniodd dîm Llafur Cymru i fuddugoliaeth gyda chefnogaeth pobl Casnewydd. Ac yn wir, fe wnaethant wrthod amryw o'r awgrymiadau diddorol ond cwbl anghyraeddadwy a heb eu hariannu ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, gan gynnwys y morglawdd wrth gwrs, a oedd yn gynnig flynyddoedd lawer yn ôl, ac a wrthodwyd gan weinyddiaeth Geidwadol y DU ar y pryd.
Rwy'n credu bod gwir angen i'r Ceidwadwyr Cymreig feddwl yn hir ac yn galed cyn iddynt ddathlu'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae'n ostyngiad o fwy nag £1 biliwn yn y cyllid i Gymru. Mae'n syfrdanol eich bod yn parhau i ddod i'r lle hwn a honni y dylai fod yn achos dathlu. Rydym wedi colli £1 biliwn mewn achos syml o dorri addewid maniffesto. Ac rwy'n credu bod mynnu ein bod yn gwneud iawn am danseilio bwriadol y gronfa honno a'r hyn y gallai hynny ei wneud i economi nid yn unig Casnewydd ond ardaloedd ehangach o Gymru yn siarad cyfrolau ynghylch lle mae'r Torïaid yn sefyll. Ar y llaw arall, ceir lefel o uchelgais ac adnewyddiad dan arweiniad cyngor Casnewydd, mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y rhanbarth, a Llywodraeth Cymru yn wir.
O ran buddsoddiad mawr, wrth gwrs, mae'n wybodaeth gyhoeddus fod Microsoft yn buddsoddi yng Nghasnewydd. Mae gennym obeithion mawr am fuddsoddiad a chynnydd pellach gyda'r clwstwr lled-ddargludyddion, sy'n unigryw nid yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, ond ar lefel fyd-eang. Rwy'n credu bod y rhagolygon ar gyfer Casnewydd yn dda, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau etholedig yng Nghasnewydd, gan gynnwys y Cynghorydd Jane Mudd wrth gwrs.
Cwestiwn—. Jayne Bryant, mae'n ddrwg gen i. Cwestiwn—. Na, dim cwestiwn. Jayne Bryant. Ffocws, Elin. Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Yng Nghasnewydd, rydym newydd weld prosiect adfywio marchnad dan do mwyaf Ewrop dan arweiniad Simon Baston o LoftCo, marchnad dan do sy'n adeilad rhestredig gradd II a agorodd gyntaf yn 1854, ac sydd, unwaith eto, yn ffynnu ar ei newydd wedd. Ochr yn ochr â datblygiadau eraill yng nghanol y ddinas, megis y gwesty Mercure newydd yn Nhŵr y Siartwyr, sydd i fod i agor yn fuan iawn, hen swyddfa ddidoli'r Post Brenhinol, arcêd y farchnad, a chanolfan hamdden newydd ar y ffordd, mae llawer i edrych ymlaen ato. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau cyffrous a arweinir gan gyngor Llafur—cyngor Llafur sy'n deall nad dibynnu ar fanwerthu'n unig yw'r unig ffordd ymlaen mwyach, a chyngor Llafur sydd newydd gael ei ailethol yn unfrydol. Mae Casnewydd yn falch o'n cynnig diwylliant, celfyddyd a chwaraeon cyfoethog, ac fe wnaeth digwyddiadau fel arddangosfa oriel Ffoto ddydd Sadwrn, gyda'r ffotograffydd enwog David Hurn, helpu i ddod â phobl i ganol ein dinas. Gallaf sicrhau'r holl Aelodau, fel rhywun a oedd yng nghanol y ddinas, gallwn weld ei bod yn ffynnu. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu a chefnogi'r cynlluniau presennol i adfywio canol dinas Casnewydd, a sut y gallwn fanteisio ar y budd economaidd drwy wella cynnig diwylliannol a hanesyddol unigryw Casnewydd?
Rwyf wedi ymweld ag amryw o'r prosiectau y mae Jayne Bryant wedi sôn amdanynt. Yn wir, ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn gyda'r Cynghorydd Mudd a Jayne Bryant yn y farchnad dan do, ac mae'n gynnig newydd gwych—yn llawn iawn gyda mwy i ddod. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr Aelod yn agor ei swyddfa ei hun yn rhan o'r datblygiad hwnnw hefyd. Credaf fod rhesymau da dros fod yn gadarnhaol ynglŷn â dyfodol Casnewydd, nid yn unig y sîn gerddoriaeth y gwnaethom ymweld â hi ac a gafodd ei chynorthwyo gennym i oroesi drwy'r pandemig, ond yn amlwg, ceir sîn cyfryngau creadigol gadarnhaol iawn o amgylch Casnewydd hefyd. Wrth gwrs, un o sêr Sex Education fydd y Doctor Who newydd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn dod yn ddoctor newydd.
Ond rhagor am Gasnewydd. Rwy'n credu bod gennym lawer o gynlluniau. Rwy'n meddwl am yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i mewn o gwmpas y bont gludo a chanolfan ymwelwyr newydd, rwy'n meddwl am yr ymrwymiad a'r bartneriaeth gyda'r cyngor ar ddatblygiadau gwestai newydd, a gwaith pellach i ddatblygu ac adfywio canol y ddinas. Mae'r cyngor yn cydnabod yr her. Un o'r cryfderau sydd gan Gasnewydd yn fy marn i yw ei hamgylchedd adeiledig a llawer o hanes o amgylch hynny, er mwyn rhoi teimlad unigryw o sut olwg fydd ar ganol dinas Casnewydd yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod a chyngor Casnewydd i gyflawni hynny.
2. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi undebau credyd? OQ58023
Diolch ichi am y cwestiwn. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, cyfrifoldeb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bennaf yw undebau credyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £0.5 miliwn y flwyddyn mewn undebau credyd. Yn ystod y pandemig, darparwyd £2 filiwn o gyllid cyfalaf gennym i sicrhau y gallai undebau credyd barhau i gefnogi'r rhai sy'n fregus yn ariannol. Ers mis Rhagfyr y llynedd, rydym wedi darparu £680,000 ychwanegol i helpu gyda marchnata, ehangu aelodaeth a chynyddu benthyca.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Fel Aelod sydd wedi'i ethol dros y Blaid Gydweithredol, roeddwn i'n meddwl y buasai gennych ddiddordeb penodol yn y maes undebau credyd. Ond, mae yna bwrpas economaidd i'r cwestiwn hefyd. Mae gan undebau credyd botensial aruthrol, wrth gwrs, i wyrdroi economi Cymru. Eisoes, mae ganddyn nhw bron i 80,000 o aelodau yma yng Nghymru, gan fenthyg allan £23 miliwn y flwyddyn. Ond dydy hyn ddim yn agos i gymharu ag Iwerddon, ble mae 61 y cant o boblogaeth y wlad honno yn aelodau o undebau credyd. O ganlyniad, yn Iwerddon, maen nhw'n medru defnyddio grym yr undebau credyd i symbylu'r economi. Yno, mae cynghrair yr undebau credyd wedi cyfrannu biliynau o ewros i helpu'r Llywodraeth adeiladu miloedd o dai, gan sicrhau swyddi yn y diwydiant am chwe mlynedd. Ydych chi, felly, yn gweld bod gan yr undebau credyd yma rôl i'w chwarae wrth symbylu ein heconomi ni? A pha gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n chwarae rhan mwy canolog wrth ddatblygu economi Cymru?
Dylwn ddweud fy mod yn aelod o Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro fy hun, yn ogystal â bod yn Aelod balch o Lafur Cymru a'r Blaid Gydweithredol. Rwyf wedi bod â chyfrifoldeb gweinidogol dros undebau credyd o'r blaen, ac maent yn darparu mynediad ychwanegol at wasanaethau ariannol i unigolion a theuluoedd bregus, ond yn fwy na hynny, maent hefyd yn darparu cyfleusterau i fusnesau. Maent yn rhan o'r seilwaith sydd gennym, ond nid yw wedi'i ddatblygu na'i ymgorffori cystal ag yn Iwerddon, lle maent yn rhan brif ffrwd o wasanaethau ariannol arferol. Yn y rhan fwyaf o drefi, gallwch ddisgwyl dod o hyd i undebau credyd gyda swyddfeydd a chyfleusterau ledled y Weriniaeth, sefyllfa rwy'n gyfarwydd iawn â hi drwy ochr arall fy nheulu.
Serch hynny, rwy'n credu mai rhan o'n her yw sut yr awn ati i barhau i gefnogi undebau credyd gyda'r bwriad o helpu i ddarparu gwasanaethau ariannol i bobl sy'n aml wedi'u heithrio o fancio traddodiadol, ochr yn ochr â'r hyn a wnawn yn creu banc cymunedol newydd i sicrhau bod llinellau credyd hyfyw ar gael at ddefnydd unigolion, cymunedau a busnesau. Dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y gwaith a wnawn i gyflawni hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Cwestiynau llefarydd y Ceidwadwyr, i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog celfyddydau a chwaraeon ac i'w gofyn gan Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da i chi, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn am ddechrau drwy dynnu eich sylw at sylwadau cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, David Moffett, a ddywedodd mewn cyfweliad â'r BBC ddoe fod rygbi Cymru yn destun sbort. Ef yw'r dyn a oedd yn gyfrifol am ranbartholi'r strwythur rygbi yng Nghymru a dywedodd hefyd nad oedd y cysyniad wedi gweithio, ac fe alwodd am dorri un o'r pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru, sy'n amlwg yn adlewyrchu adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd rygbi proffesiynol, a oedd hefyd yn argymell cael gwared ar un o'r rhanbarthau. Deallaf y bydd cyfarfod nesaf y bwrdd rygbi proffesiynol yn cael ei gynnal heddiw, lle bydd yr adroddiad hwnnw dan ystyriaeth. Felly, tybed pa drafodaethau a gawsoch gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â hyn. A ydych chi'n credu bod rhanbartholi rygbi yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant? A all Cymru gynnal pedwar tîm rygbi, ac os felly, pa gamau sydd ar y gweill gennych i sicrhau y gall y model hwnnw fod yn llwyddiannus yn y dyfodol?
A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am y cwestiwn hwnnw? Yn sicr rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau yn y wasg fod Undeb Rygbi Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer newid eu strwythur. Fe fyddwch yn sylweddoli fy mod i a fy swyddogion yn cwrdd ag Undeb Rygbi Cymru yn weddol rheolaidd ac un o'r pethau y byddwn yn siarad â hwy amdano yw cynaliadwyedd ariannol parhaus Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau. Ond fel y dywedoch chi eisoes, mae'r adroddiadau yn y wasg yn seiliedig ar adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd rygbi proffesiynol ac nid yw wedi'i ystyried eto gan y bwrdd rygbi proffesiynol nac Undeb Rygbi Cymru. Felly, mater i Undeb Rygbi Cymru yn unig, fel y corff llywodraethu ar gyfer y gêm, yw gweithio gyda'r bwrdd rygbi proffesiynol a gwneud y penderfyniadau hynny er budd y gêm yng Nghymru.
Fel y gwyddoch, rydym wedi rhoi benthyciad sylweddol i Undeb Rygbi Cymru i helpu i reoli effaith COVID ac i gefnogi ein timau rhanbarthol, ac ni fydd unrhyw drafodaethau ynghylch newidiadau yn y strwythur neu nifer y rhanbarthau yn effeithio ar y trefniant hwnnw. Ond yn sicr, byddaf eisiau cael trafodaethau pellach gydag Undeb Rygbi Cymru pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniadau a phan fyddant wedi ystyried yr adroddiad hwnnw, ynglŷn â hyfywedd ariannol y rhanbarthau yn y dyfodol, sydd mor bwysig i ddyfodol y gêm yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Os caf droi at bwnc arall, ers y tro diwethaf i chi a minnau wneud cwestiynau'r llefarwyr gyda'n gilydd, rydym wedi gweld y newyddion da am benodi prif weithredwr newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gydag Ashok Ahir yn camu i'r rôl newydd. Ac fel rhan o'r broses honno, daeth gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yr wyf yn aelod ohono, am wrandawiad cyn penodi, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi ei gefnogi i'r swydd newydd honno. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddo gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ynglŷn â sefydlogrwydd ariannol y llyfrgell yn y dyfodol, dywedodd, er ei fod yn cydnabod bod angen i gyrff cyhoeddus ofalu am eu harian eu hunain, dywedodd hefyd:
'gallwch bob amser ddisgwyl i Drysorlys Cymru... achub eich croen o bryd i'w gilydd'.
A yw'n gywir?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais ran olaf eich cwestiwn. Mae'n ddrwg gennyf.
Dywedodd:
'gallwch bob amser ddisgwyl i Drysorlys Cymru... achub eich croen o bryd i'w gilydd'.
A yw'n gywir?
Wel, wyddoch chi—. Achub ei groen? Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau cynaliadwyedd ein sefydliadau cenedlaethol, ein sefydliadau diwylliannol, ac un o'r pethau yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw y byddwn yn gwneud hynny. Mae'r llyfrgell genedlaethol yn un o'r sefydliadau yr ydym yn awyddus i sicrhau y bydd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, nid wyf yn edrych arno fel achub croen neb. Yr hyn y bwriadwn ei wneud yw gweithio gyda'n holl gyrff cenedlaethol a noddir a chyrff llywodraethu i sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol. Ac mae ein buddsoddiad yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf yn rhoi arwydd clir ein bod yn bwriadu gwneud hynny ac yn bwriadu gwneud hynny gyda'r llyfrgell genedlaethol.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn fod y sefydliadau hyn yn solfent yn ariannol, ond mae'n destun pryder mai dyna yw agwedd rhai o'r sefydliadau hyn, ac mae'n debyg mai chi sy'n gyfrifol am gyflwyno newid diwylliant yn hynny o beth, fel y Dirprwy Weinidog.
Yn olaf, os caf droi at sefydliad arall yr ydych yn gyfrifol amdano, roeddwn eisiau gofyn am y sefyllfa barhaus gydag Amgueddfa Cymru. Ddeufis yn ôl, dywedodd WalesOnline fod yr uwch dîm rheoli yn rhanedig iawn. Dywedwyd bod y berthynas rhwng llywydd a chyfarwyddwr cyffredinol y sefydliad wedi cyrraedd isafbwynt a bod hynny'n cael effaith wirioneddol ar allu Amgueddfa Cymru i weithredu'n briodol, gyda'r archwilydd cyffredinol hefyd yn nodi pryderon sylweddol yn ei gylch yn ei adroddiad ariannol. Ond ers cyhoeddi'r erthygl honno ddeufis yn ôl, nid wyf wedi gweld unrhyw eglurhad gan y sefydliad fod unrhyw un o'r honiadau'n anghywir ac ni chafwyd datganiad ysgrifenedig na llafar gennych chi, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol. Pam nad yw hynny wedi digwydd? A rhaid eich bod yn cytuno bod hon yn sefyllfa sy'n galw am eich ymyrraeth.
A gaf fi sicrhau'r Aelod fy mod yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn Amgueddfa Cymru a fy mod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion a chyda'r amgueddfa ei hun? Fodd bynnag, byddwch hefyd yn deall na fyddai'n briodol i mi ddod â materion staffio mewnol sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd i lawr y Senedd hon. Mae amryw o brosesau cyfreithiol ar waith ac mae prosesau mewnol yn cael eu dilyn. A thra bo'r rheini ar y gweill, ni fyddai'n briodol imi ddod â hynny i lawr y Senedd na gwneud unrhyw ddatganiad, ond fe wnaf hynny maes o law pan gaiff y materion hynny eu datrys.
O ran materion llywodraethu ehangach Amgueddfa Cymru, rydym yn gweithio'n agos gyda hwy i bennu cwmpas yr adolygiad pwrpasol sydd ar y ffordd, adolygiad y nododd yr archwilydd cyffredinol ei fod yn angenrheidiol. A phan gaf yr argymhellion terfynol ar gyfer hynny, dof â'r wybodaeth honno i lawr y Senedd, a dylai hynny ddigwydd yn yr haf fan bellaf.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Flwyddyn yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Senedd, a'ch penodi i'ch rôl, gofynnais sut y byddech yn sicrhau rôl fwy canolog i'r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o'i gymharu â'r bedwaredd a'r bumed Senedd, a sut y bwriadech fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi a welwyd ers dros ddegawd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio fy mod yn meddwl, ac yn dal i feddwl, fod eich portffolio yn haeddu swydd weinidogol, nid swydd Dirprwy Weinidog yn unig. Fe wnaethoch ymateb drwy nodi y byddech yn gweithio ochr yn ochr â Gweinidog yr economi i sicrhau bod y sector diwylliannol yn cael ei ariannu'n ddigonol, a bod y sector diwylliannol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfer yr economi. Fodd bynnag, ers hynny, credaf ein bod wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gwthio'r portffolio diwylliannol a'r sector diwylliannol yng Nghymru i'r cyrion, er gwaethaf eich ymdrech bersonol. Er enghraifft, ers etholiad y Senedd yn 2021, hyd at 6 Mai eleni, dim ond 46 o gyhoeddiadau ar gelfyddyd, diwylliant a chwaraeon a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, a dau yn unig ohonynt a gyflwynwyd ar lafar yn y Siambr hon—y nifer isaf o'r holl bortffolios, yn ôl dadansoddiad o'r holl gyhoeddiadau a datganiadau. Pam?
Yn gyntaf oll, Heledd, diolch am y cwestiynau hynny. Ac rwyf am ddweud nad 'dim ond' y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon wyf fi, fi yw'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon ac mae gennyf rôl annatod yn Llywodraeth Cymru, ac mae fy marn a fy mewnbwn i'r Llywodraeth lawn mor werthfawr ag unrhyw Weinidog arall. Ond o ran y cyhoeddiadau diwylliannol, gallaf eich sicrhau nad yw diwylliant yn cael ei wthio i'r cyrion. Ond mae pethau y mae'n rhaid inni eu gwneud—rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau gweithredol ar gyfer ein holl gyrff llywodraethu cenedlaethol a'n cyrff cenedlaethol a noddir. Ac felly, rhan o'r trafodaethau hynny yn awr fydd ein bod yn aros—. Maent i gyd wedi cael eu llythyrau cylch gwaith, maent yn gwybod beth sy'n rhaid iddynt ei wneud, ac rydym bellach yn aros am eu cynlluniau gweithredol. A bydd pethau arwyddocaol yn y cynlluniau gweithredol hynny a fydd yn dod allan ac yn cael eu cyhoeddi ar lawr y Senedd hon. Ond eto, mae llawer o'r gwaith a wnawn yn parhau ar sail ddyddiol. Mae'n fater o waith fel arfer, busnes fel arfer, dyma'r pethau yr ydym yn eu gwneud. Ac rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau, ar sgiliau creadigol a materion eraill, a byddaf yn parhau i wneud cyhoeddiadau, gan gefnogi'r sector diwylliannol, sy'n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru, ac i mi yn sicr.
Diolch yn fawr, Weinidog. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed mwy o gyhoeddiadau dros y flwyddyn nesaf. Ond mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain ar hyn o bryd, pan fyddwn yn cymharu â'r portffolios eraill. Yn amlwg, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym wedi gweld 301 o gyhoeddiadau ar y coronafeirws, ond 51 ar gymunedau ac adfywio. Mae diwylliant a chwaraeon a'r celfyddydau yn haeddu cael eu clywed yma, ac os nad ydym yn llafar ac yn eu trafod yma, ni chânt eu gweld fel pethau canolog i dwf ac adferiad ar ôl y pandemig, fel y gwn eich bod yn credu eu bod.
Roeddwn yn ddigon ffodus y bore yma i ymweld â stiwdios Bad Wolf a Chynghrair Sgrin Cymru. Roedd yn wych clywed am yr holl waith sy'n cael ei wneud i ddarparu porth rhwng y diwydiant ffilm a theledu a'i weithlu, ochr yn ochr â darparu llwybrau amgen. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel Cynghrair Sgrin Cymru, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru, ac o bob cefndir, weithio yn y diwydiannau creadigol a'r sector diwylliannol?
Mae hynny'n gwbl gywir ac yn bwysig iawn hefyd, oherwydd dyna'n union yw hanfod sefydlu'r bwrdd sgiliau creadigol. Bydd y bwrdd sgiliau creadigol yn gweithio gyda'r holl ddiwydiannau creadigol ledled Cymru—ac mae Cynghrair Sgrin Cymru yn un o'r cyrff hynny sy'n ymwneud yn fawr â hynny—er mwyn inni estyn allan at bobl ledled y wlad, a'u hannog i ystyried diwydiannau creadigol fel dewis gyrfaol posibl. Un o'r pethau a nodais pan siaradais â Chynghrair Sgrin Cymru ddiwethaf oedd y modd y maent yn annog pobl ifanc i feddwl am y diwydiannau creadigol fel dewis gyrfaol, nid yn unig fel actor neu fel technegwyr goleuo a ffotograffiaeth ac yn y blaen, ond fel plastrwyr, seiri coed, plymwyr—yr holl bobl hyn. Mae gwaith set ffilm, fel y gwyddoch mae'n siŵr, fel tref fach. Ac mae gennym ddiwydiant ffilm gwych yma yng Nghymru, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru—y drydedd ardal gynhyrchu ffilmiau fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'r holl waith hwnnw'n ymwneud ag estyn allan ar draws y wlad, i geisio denu mwy o bobl i'r diwydiannau creadigol—un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac sy'n cyflogi tua 56,000 o bobl ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw ar frig fy rhestr yn bendant iawn hefyd.
Cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. A chyfeiriaf yr Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effaith bosibl Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ar y sector twristiaeth yng Nghymru? OQ58006
Cynhaliodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyfarfod bord gron gyda'r holl Weinidogion sydd â diddordeb portffolio ym mis Chwefror, ac eto yn gynharach yr wythnos hon, i drafod canlyniad y ddau ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad technegol cyn bo hir.
Diolch yn fawr, Weinidog. A gallaf ddweud fy mod wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. Ond rwy'n pryderu'n fawr fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, ond gadewch inni fod yn onest, sy'n cael ei chynnal gan Blaid Cymru, yn anwybyddu pob gwrthwynebiad rhesymol i'r Gorchymyn hwn. Nawr, os ydych yn amharod i wrando ar Aelodau yma ac yn wir, y bobl hynny—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? [Torri ar draws.] Rwyf wedi datgan buddiant. Rhag eich cywilydd.
Janet Finch-Saunders, parhewch â'ch cwestiwn.
Diolch.
Mae gennych berffaith hawl i wneud hynny.
Felly, os nad ydych yn fodlon gwrando ar yr holl leisiau hynny yn y sector twristiaeth, a fyddech yn ystyried canfyddiadau cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, cadeirydd Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU a chyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru? Disgwylir i'r newid i 182 diwrnod orfodi llawer iawn o fusnesau bach cyfreithlon i gau. Er enghraifft, mae un busnes dilys yn Aberconwy wedi datgan:
'Bydd y trothwy 182 diwrnod arfaethedig yn cael effaith drychinebus ar ein busnesau. Rydym ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond gan nad ydym ar y llwybr twristiaeth arferol, ni allwn sicrhau defnydd am chwe mis, hyd yn oed pan fyddwn yn cynnig gostyngiadau.'
Felly, Weinidog, gan y bydd hyn yn effeithio ar fwy na'r busnesau hyn yn unig, bydd yn effeithio ar economi Cymru mewn gwirionedd, a wnewch chi gamu i mewn yn awr ac achub y sector allweddol hwn o'r economi, ac ymuno â mi, ac Aelodau eraill a phobl eraill yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru, a gosod y trothwy mwy rhesymol o 105 diwrnod? Diolch, Lywydd.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Fel y gwyddoch, etholwyd y Llywodraeth hon gan bobl Cymru, ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae gennym gytundeb cydweithio agored a gyhoeddwyd gennym gyda Phlaid Cymru ar amrywiaeth o sectorau, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud o fewn y cytundeb hwnnw. Rydym wedi cael ymgynghoriad. Cafodd yr ymgynghoriad gwreiddiol, yr hydref diwethaf, bron i 1,000 o ymatebion, ac nid oes unfrydedd yn y sector hwn. Fel erioed, rhan o'r her wrth wneud dewisiadau, os ydych yn ceisio cael barn unfrydol, yw mai anaml iawn y llwyddwch i wneud unrhyw beth. Rydym wedi gorfod gwrando ar y bobl sydd o'r farn y mae Janet Finch-Saunders wedi'i rhannu, a'r rhai sydd hefyd yn dweud bod yna lefel wahanol o gystadleuaeth nad yw'n rhoi chwarae teg i bobl sydd ag ystod lawer llai o eiddo i'w osod drwy'r flwyddyn. Ac felly, rydym yn bwriadu cael ateb i hynny, a bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cadarnhau'r ymateb i'r ymgynghoriad yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf i roi eglurder i'r sector, oherwydd er mwyn i'r newid ddigwydd ar 1 Ebrill mae'n bwysig rhoi amser i bobl ddod i arfer â'r meini prawf newydd. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi yn ogystal â'r camau nesaf i'w cymryd.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd de Cymru? OQ57997
Diolch am y cwestiwn. Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-25', yn gosod ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector ledled Cymru. Mae Cymoedd de Cymru yn amlwg iawn yng ngweithgareddau hyrwyddo Croeso Cymru, ac yn wir yn ein rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer twristiaeth.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers dros 70 mlynedd bellach, cynhaliwyd rasys ffyrdd cenedlaethol byd-enwog i feiciau modur ym mharc Aberdâr. Mae'r rasys hyn yn eithriadol o bwysig i Aberdâr ac i Gwm Cynon, gan chwistrellu miloedd lawer o bunnoedd i'r economi a denu tua 5,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ffigur a allai ddyblu mewn rhai blynyddoedd. Weinidog, gwn eich bod chi a'ch Llywodraeth mor awyddus â minnau i weld twristiaeth yng Nghymoedd de Cymru yn ffynnu, felly a wnewch chi drefnu i swyddogion o'ch adran gyfarfod â chyfarwyddwyr y digwyddiad pwysig hwn i drafod y ffordd orau i Lywodraeth Cymru barhau i'w gefnogi?
Gallaf, mae'n gwestiwn penodol, a byddaf yn fwy na pharod i weithio gyda swyddfa'r Aelod i sicrhau bod fy swyddogion yn gwneud hynny. O ystyried ei bod wedi gofyn y cwestiwn, byddwn yn rhoi gwybod iddi am ddatblygiadau sy'n digwydd pan fydd cyfarfod wedi'i drefnu. Ond fel y dywedais, byddaf yn fwy na pharod i sicrhau bod y trefniadau hynny'n digwydd.
Weinidog, cefais y profiad gwych o ymweld â phrosiect twnnel y Rhondda ym Mlaen-cwm yn ddiweddar a dysgu am hanes a chyfraniad y twnnel i fywyd yng Nghymoedd Rhondda. Efallai eich bod yn ymwybodol fod trafodaeth barhaus ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynghylch trosglwyddo'r twnnel i ddwylo Llywodraeth Cymru, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod eich barn am y posibilrwydd o'i agor fel atyniad mawr i dwristiaid i'r Rhondda ac i Gymoedd de Cymru pe bai'n cael ei drosglwyddo yn y pen draw. Mae gan y twnnel botensial i ddarparu llwybr beicio a cherdded helaeth, a deallaf mai hwnnw fyddai'r llwybr hiraf yn Ewrop pe bai'n agor, yn ogystal â'r potensial i gartrefu nifer o atyniadau twristiaeth annibynnol. Gallai'r twnnel hefyd fod yn ganolbwynt i atyniadau twristiaeth eraill y gellid eu sefydlu yn yr ardal, megis beicio mynydd, a byddai pob un ohonynt yn creu swyddi mawr eu hangen. Weinidog, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth hon i helpu i sefydlu busnesau twristiaeth yng Nghymoedd Rhondda a de Cymru, a pha gynlluniau cymorth y gellid eu darparu'n benodol i ddatblygu atyniadau i dwristiaid i gefnogi prosiect twnnel y Rhondda? Diolch.
Fel y gŵyr Aelodau ar draws y pleidiau, mae hwn wedi bod yn destun trafodaeth a llawer o sylwadau dros gyfnod o flynyddoedd a mwy nag un Senedd. Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y mater. Fel y mae wedi'i nodi, Llywodraeth y DU sy'n berchen arno ar hyn o bryd a chaiff ei reoli gan National Highways. Disgwyliwn i achos busnes cadarn gael ei gyflwyno ar gyfer arian y loteri ac fe'i harweinir gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys, wrth gwrs, y ddau gyngor, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, ynghyd â Chymdeithas Twnnel y Rhondda, ac edrychwn ymlaen at weld yr achos busnes i weld pa rôl y gallai Llywodraeth Cymru ei chwarae. Mae hwn yn faes lle rydym eisiau i'r achos busnes hwnnw gael ei wneud a lle'r ydym eisiau eglurder gan Lywodraeth y DU am eu rôl eu hunain, yn ogystal â'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w gefnogi, ond mae cydnabyddiaeth eang y gallai hwn fod yn brosiect twristiaeth sylweddol i'r rhanbarth yn y dyfodol.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i achub a chreu swyddi ar hen safle Alwminiwm Môn? OQ58028
Diolch am y cwestiwn. Mae fy swyddogion, ynghyd â swyddogion o'r awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn gweithio gyda'r gweinyddwyr enwebedig i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn gallu diogelu buddiannau pawb, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y safle yn y dyfodol.
Mae'n anodd iawn gorbwysleisio pwysigrwydd y safle. Darparodd Alwminiwm Môn swyddi da iawn i filoedd o bobl dros bedwar degawd. Rhaid inni sicrhau bod gweithgarwch economaidd cynaliadwy—cyfnod newydd o swyddi da, os hoffech—yn dod i'r safle. Yn gwbl briodol, blaenoriaeth pob un ohonom ar ôl methiant Orthios oedd cefnogi'r rhai a gollodd eu swyddi, ac mae'n rhaid i'r gefnogaeth honno fod yn barhaus, ond rhaid inni edrych arno'n hirdymor. Mae'r potensial yn enfawr, efallai i ddatblygu plastigau-i-olew ymhellach. Mae'n dda gweld gwir ddiddordeb yn hynny, ond hefyd amrywiaeth o sectorau eraill ochr yn ochr â hynny—hydrogen, er enghraifft, a allai, yn fy marn i, fod yn un o'r sectorau pwysicaf o'r holl sectorau diwydiannol yn Ynys Môn yn y blynyddoedd i ddod. Dyma fy apêl i'r Gweinidog: a wnaiff ei gwneud yn glir mai un o flaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru fyddai sicrhau uniondeb y safle hwn? Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu, dangos parodrwydd i gael cyfran ecwiti yn y safle, hyd yn oed, gyda darpar ddatblygwyr, er enghraifft, gan ddod ag asiantaethau lleol eraill i mewn hefyd efallai. Mae'n rhaid i'r safle hwn lwyddo ac rydym angen rheolaeth dros ei ddyfodol er mwyn sicrhau hynny.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a gwn fod ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn nyfodol y safle. Mae'n safle cyflogaeth sylweddol mewn gwirionedd, nid yn unig i Ynys Môn ond i'r rhanbarth ehangach hefyd. Y sefyllfa yw nad oes gennym reolaeth dros y safle, ond rydym eisiau ceisio dylanwadu gymaint ag y gallwn i sicrhau bod y potensial economaidd hwnnw, gyda chyflogaeth mewn niferoedd gweddus ac ar gyfraddau cyflog da, yn cael ei ddarparu. Mae'r gweinyddwr wedi cael amrywiaeth eang o ymchwiliadau, sy'n newyddion da, ac maent yn edrych ar broses i weithio drwy'r rhai sy'n dybiannol a'r rhai sy'n fwy difrifol. Gallaf gadarnhau eu bod yn disgwyl cael pobl sydd â diddordeb go iawn ac y bydd rownd gyntaf o geisiadau priodol yn cael ei nodi a'i darparu ar eu cyfer yng nghanol mis Mehefin. Felly, rydym yn disgwyl gwybod mwy am hyn, ond mae fy swyddogion yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd nid yn unig â'r tasglu ynghylch cael swyddi i bobl sydd wedi colli swyddi, ac mae llawer o'r rheini bellach mewn gwaith, sy'n beth da, ond hefyd mewn sgwrs barhaus â'r gweinyddwr ar ddyfodol y safle, a byddwn yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Hoffwn gofnodi hefyd, a chytuno â llawer o'r hyn y mae'r Aelod dros Ynys Môn wedi'i ddweud, ynghylch pwysigrwydd hen safle Alwminiwm Môn nid yn unig i Ynys Môn, ond hefyd i ardal gogledd Cymru yn ei chyfanrwydd. Gall wneud llawer iawn o wahaniaeth os caiff y safle hwnnw ei ddatblygu'n iawn, ac rwyf wedi crybwyll hynny sawl gwaith yn y Siambr hon o'r blaen, ac mae'n ofid nad ydym wedi'i weld yn cael ei wireddu eto, am bob math o resymau gwahanol, rwy'n deall. Yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ynys Môn, mae rhai o'r adnoddau sydd gennym yng ngogledd Cymru a'r cyfleoedd sydd gennym gydag ynni, yn enwedig ynni gwynt, ynni'r haul, ynni'r môr, niwclear, prosiectau ynni, a phrosiectau gweithgynhyrchu posibl a fyddai'n cefnogi economi fwy gwyrdd ac yn creu swyddi sy'n talu'n dda, yno'n barod fel cyfleoedd y gellir manteisio arnynt, ac yn fy marn i gallai'r safle hwn chwarae rhan allweddol yn y datblygiad hwnnw yn y dyfodol. Felly, yng ngoleuni hyn, ac yng ngoleuni'r sylwadau a wnaethoch eiliad yn ôl, Weinidog, ynghylch datblygu'r safle yn y dyfodol, tybed pa gamau yr ydych yn eu cymryd i amlygu a hysbysebu cyfleoedd y safle hwn i fuddsoddwyr a datblygwyr, i'w hannog i ddod draw i Ynys Môn a'u gweld yn datblygu hen safle Alwminiwm Môn.
Mewn gwirionedd, fel y nodais mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, mae diddordeb sylweddol eisoes wedi bod yn y safle, gyda'r dwsinau o ymholiadau sydd wedi'u gwneud am y safle. Ac fel y dywedaf, y gwir bwynt yw pan ddown at y bobl hynny nad ydynt yn gwneud ymholiadau tybiannol ond sydd o ddifrif ac yn barod i gyflwyno ceisiadau priodol am yr hyn y gallai'r safle fod yn y dyfodol, byddwn yn cadw diddordeb, oherwydd, fel y dywedaf, mae hwn yn safle cyflogaeth sylweddol i'r rhanbarth, nid i Ynys Môn yn unig, ac mae gennym uchelgais mawr ar gyfer ein dyfodol economaidd ac o ran sicrhau bod yna swyddi sydd â dyfodol hirdymor ar y safle hwn.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiad SA1 yn Abertawe? OQ57991
Gwnaf. Mae dros 60 y cant o'r datblygiad SA1 bellach wedi'i ddatblygu, ac mae 90 y cant o'r tir datblygu sy'n weddill wedi'i werthu. Mae'r holl seilwaith cyhoeddus mawr wedi'i osod, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda dwy gymdeithas dai leol ar gyfer datblygiadau preswyl pellach, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn parhau â'i champws newydd yng nghanol y ddinas gyda datblygiad cydweithredu newydd o'r enw Matrix, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr.
Ydw, rwy'n ymwybodol iawn ohono. Mae datblygiad SA1 yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig mewn perthynas â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a thai, ond hefyd nifer o gwmnïau uwch-dechnoleg newydd, yn bennaf cwmnïau newydd sydd wedi datblygu o amgylch y brifysgol. Fel bro Abertawe, mae hon yn enghraifft wych o ddatblygiad cymysg, ac rwy'n gobeithio gweld datblygiadau tebyg ledled Cymru, oherwydd mae hon yn sicr yn ffordd o greu datblygiad economaidd a swyddi gwerthfawr. Ond y cwestiwn ar hyn o bryd yw: a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo'r cyfrifoldeb am briffyrdd, parcio a llwybrau cerdded yn SA1 o ddwylo Llywodraeth Cymru i Gyngor Abertawe?
Ie, mae'r Aelod yn iawn, rwy'n credu—mae hon yn enghraifft dda o ddatblygiad cymysg llwyddiannus, gydag amrywiaeth o ddefnyddiau a chanlyniad cadarnhaol iawn i Abertawe a'r ardal ehangach. Mae'n iawn—mae swyddi da'n cael eu creu ar y safle hwn, a bydd pobl o ardal ychydig yn ehangach yn teithio yno ac oddi yno. Felly, credaf ei fod yn enghraifft dda o sut y byddem eisiau gweld datblygiadau pellach yn digwydd yn y dyfodol.
O ran rhai o'r heriau sy'n dod gydag unrhyw safle, rydym yn gweithio drwy'r rheini, ac mewn gwirionedd, mae sefyllfa adeiladol rhwng fy swyddogion a dinas a sir Abertawe, unwaith eto gyda chanlyniad cadarnhaol, gyda sefydlogrwydd yn arweinyddiaeth y cyngor—ac rwy'n llongyfarch Rob Stewart a'i dîm. Rydym yn cael sgyrsiau adeiladol, a byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod, ac i eraill sydd â diddordeb, ynglŷn â'n sefyllfa yn y pen draw, oherwydd credaf fod potensial i gael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â'r meysydd y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt, a dyna rwy'n gobeithio y gallwn gytuno arno ar y cyd â'r cyngor.
Weinidog, beth yw eich asesiad o'r cyfraniad economaidd cyffredinol i Abertawe a rhanbarth ehangach datblygiad SA1, a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddyblu ein hymdrechion ar dwf economaidd rhanbarthol i adeiladu allan o'r pandemig hwn?
Wel, fel y dywedais wrth ymateb i'r Aelod, ac fel y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol, rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad llwyddiannus. Mae rhywfaint o dir heb ei ddatblygu o hyd yn SA1 sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ceisio sicrhau bod hwnnw'n cael ei ddatblygu a'i gwblhau'n llawn, mewn partneriaeth â'r cyngor, fel y dywedaf—rydym yn ceisio datrys rhai o'r materion eraill. Mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y rhanbarth ac ar uchelgais y cyngor, rwy'n credu bod ganddynt nifer o feysydd. Rydym wedi sôn llawer am dwristiaeth yn ystod y cwestiynau heddiw, ac mewn gwirionedd, mae gan y cyngor uchelgais mawr mewn amrywiaeth o feysydd a fydd yn brosiectau nid yn unig ar gyfer Abertawe ond yn ehangach—hen waith copr Morfa, er enghraifft, sydd â chynigion buddsoddi sylweddol yno y disgwyliwn iddynt ddwyn ffrwyth. Felly, credaf, mewn gwirionedd, fod Abertawe'n enghraifft dda arall o awdurdod lleol sydd o ddifrif ynghylch datblygu economaidd, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys y sector preifat, a chymdeithasau tai yn wir, i wneud hynny.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd treth dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ58001
Rydym yn ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith ardoll dwristiaeth, gan gynnwys tendro am waith ymchwil economaidd annibynnol. Bydd awdurdodau lleol unigol yn cael pŵer i benderfynu a fyddant yn codi ardoll yn eu hardaloedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r cynnig y mae'r Aelod yn ymwybodol ohono, ac y mae, yn wir, wedi gofyn cwestiynau blaenorol yn ei gylch.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod llawer iawn o bryder yng ngogledd Cymru am effaith yr argymhellion hyn ar gyfer treth dwristiaeth ar yr economi. Mae degau o filoedd o swyddi ledled y rhanbarth yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth a gwariant ymwelwyr. Un o'r pethau rhyfedd y mae pobl wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru wrando arno yw'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r gwariant yn deillio o arosiadau dros nos. Mae'r rhai sy'n aros dros nos yn gwario mwy yn economi Cymru. Yr hyn y bydd eich argymhellion yn ei wneud mewn gwirionedd fydd cosbi pobl sydd eisiau aros dros nos. Ni fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i'r farchnad ymwelwyr dydd. A ydych yn derbyn y gallai trethu unigolion sydd eisiau ymweld â Chymru dros nos i wario yn ein heconomi wneud llawer o niwed i'n sector twristiaeth, ac os yw'r asesiadau economaidd yr ydych yn eu comisiynu yn dangos y bydd hynny'n digwydd, a wnewch chi wrthdroi'r penderfyniad hwn i gyflwyno'r trethi gwarthus hyn ar sector sy'n rhan bwysig iawn o'r economi yn fy etholaeth a'r rhanbarth?
Fel y gŵyr yr Aelod, roedd y mater hwn yn rhan o'n maniffesto y pleidleisiodd pobl Cymru arno gwta flwyddyn yn ôl. Mae hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru, a Cefin Campbell, yn wir, yw'r Aelod arweiniol dynodedig ar hyn. Rydym yn manteisio ar brofiad rhyngwladol yn ogystal ag ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth lleol, academyddion ac arbenigwyr i gefnogi datblygiad yr ardoll. Fel a drafodwyd gennym o'r blaen, ac yn eich cwestiynau blaenorol, rwy'n gwybod, mae ardollau o'r math hwn yn gyffredin mewn amrywiaeth o ardaloedd y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon wedi ymweld â hwy, ledled Ewrop a Gogledd America. Mae'n annhebygol y byddwch yn gwybod eich bod yn cyfrannu at ardoll leol a bod honno wedyn yn cael ei defnyddio i fuddsoddi yn y cymunedau lleol hynny, er mwyn gwella profiad yr ymwelydd ymhellach yn ogystal â gwella'r effaith ar y gymuned ei hun.
Bwriedir cynnal ymgynghoriad llawn ar y cynnig yn yr hydref er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed i lywio'r gwaith o gynllunio a gweithredu ardoll dwristiaeth. Nid wyf yn derbyn rhagfynegiadau brawychus mynych yr Aelod mewn perthynas ag ardoll dwristiaeth a'i heffaith ar yr economi. Mae gennyf lawer mwy o ffydd ac optimistiaeth am ddyfodol ein heconomi dwristiaeth a'r gallu i gael economi dwristiaeth a fydd yn parhau i gyflogi pobl ar gyfraddau da, ac nid wyf yn credu y bydd yn cael effaith sylweddol neu niweidiol ar y gymuned lle mae twristiaeth yn digwydd.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau'r stryd fawr? OQ58024
Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae nifer o'r ymyriadau'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig a gwag—clywsom rywfaint am hynny mewn cwestiynau blaenorol ynghylch Casnewydd—gan gynyddu amrywiaeth a mynediad at gyfleusterau hamdden, gwasanaethau a lleoliadau gweithio hyblyg, gofod defnydd cymysg a gwell seilwaith gwyrdd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, rwy'n croesawu'r ffigurau diweddar a ddarparwyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, a ddangosodd fod nifer yr unedau manwerthu gwag yng Nghymru wedi gostwng 2.3 y cant dros y 12 mis diwethaf. Dyma'r gostyngiad mwyaf yn y DU, sy'n wych. Fodd bynnag, nid yw'n newyddion cadarnhaol drwyddo draw. Er gwaethaf y gostyngiad, Cymru sydd â'r gyfradd adeiladau gwag uchaf ond un yn y DU, ac er nad yw'r adferiad wedi bod yn gyson, gyda rhai strydoedd mawr yn gwneud yn well nag eraill, ceir heriau pellach, megis pwysau costau byw yn ogystal ag ailgyflwyno ardrethi busnes yn rhannol. Weinidog, pa ymyriadau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu i ddenu busnesau yn ôl i'r stryd fawr? A yw'r Llywodraeth yn ystyried rhoi hwb i'r cymorth ariannol sydd ar gael i ficrofusnesau a busnesau bach yng Nghymru ac a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru i annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau lleol, ac yn arbennig i'r bobl sydd am ddechrau busnes ond a allai ei chael yn anodd cael gafael ar y cyllid a ddarperir gan fanciau'r stryd fawr? Yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd i gynlluniau i rymuso cynghorau lleol i sicrhau bod eiddo a fu'n wag yn hirdymor, sy'n falltod ar lawer o gymunedau, yn cael ei ddefnyddio unwaith eto? Diolch.
Diolch. Bydd Banc Datblygu Cymru yn parhau i sicrhau bod cyfalaf ar gael i fusnesau a microfusnesau newydd, fel y mae'r Aelod wedi nodi. Efallai ei fod hefyd yn ymwybodol ein bod wedi darparu arian penodol i helpu busnesau newydd mewn amrywiaeth o sectorau, nid yn unig yng nghanol trefi ond mewn amrywiaeth o sectorau eraill hefyd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny. O ran her ehangach y stryd fawr a chanol trefi ac ardaloedd—i'r rheini ohonom sydd â diddordeb mewn dinasoedd, ceir llawer o ganol ardaloedd sydd mewn sawl ffordd yn cyfateb i ganol trefi mewn rhannau eraill o'r wlad—mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi sefydlu grŵp cyflawni canol y dref ac mewn cyfarfod diweddar rydym wedi sicrhau ein bod yn cydgysylltu'r gwaith y mae'n arwain arno yn y maes a'i gyfrifoldebau dros adfywio â lansio strategaeth fanwerthu sy'n dwyn ynghyd undebau llafur, a busnesau eu hunain yn wir. Felly, mae manwerthu'n rhan o'r ateb ond nid yr unig ateb i sicrhau bod gennym ganol trefi ac ardaloedd bywiog, a dyna pam y mae egwyddor 'canol y dref yn gyntaf' yn ystyriaeth bwysig yn hyn o beth. Felly, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth fod peth newyddion da ynghylch hyn, ond credaf fod mwy i'w wneud i sicrhau dyfodol bywiog i'n trefi a'r cymunedau o'u cwmpas.
10. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ardal fenter yng nghefn gwlad canolbarth Cymru? OQ58019
Ar 2 Mawrth, amlinellais ymagwedd y Llywodraeth hon at ardaloedd menter yng Nghymru. Er nad oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno ardal yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, mae ein hymrwymiad i ddatblygu economaidd sy'n seiliedig ar leoedd wedi'i nodi'n glir yn y fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer canolbarth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb. Byddai llawer o gymunedau a threfi ar draws cefn gwlad canolbarth Cymru—sef ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, sir Drefaldwyn ac yng Ngheredigion—yn elwa'n wirioneddol o ardal fenter er mwyn iddynt allu cael gwell cyfleoedd twf i'r busnesau sy'n bodoli yno, gwell penderfyniadau cynllunio i'r bobl sydd yno, amgylchedd busnes gwell, a gallem hyd yn oed ystyried cael bwrdd twristiaeth i annog pobl i ddod yno. Felly, Weinidog, a wnewch chi edrych eto ar hyn a cheisio cyflwyno ardal fenter yng nghanolbarth Cymru er budd y busnesau hynny fel na chaiff canolbarth Cymru ei hesgeuluso eto?
Wel, nid wyf yn derbyn bod canolbarth Cymru wedi'i hesgeuluso. Mewn gwirionedd, mae'r fframwaith economaidd rhanbarthol a ddatblygwyd gan y ddau awdurdod lleol ac a gymeradwywyd nid yn unig gan y Llywodraeth yn waith sydd wedi'i arwain gan awdurdodau lleol a'r partneriaid hynny sy'n deall eu cymunedau lleol. Wrth gwrs, mae hwnnw'n ategu bargen twf canolbarth Cymru y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddi. Rwy'n credu y gallwn fod yn llawer mwy optimistaidd am ddyfodol economaidd canolbarth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid i sicrhau ein bod yn darparu dyfodol economaidd gwell i ganolbarth Cymru. Nid wyf wedi fy narbwyllo y byddai darparu ardal fenter yn cynnig yr holl ganlyniadau economaidd y byddai'r Aelod a minnau am eu gweld ar gyfer canolbarth Cymru, ond wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb yn yr hyn sy'n gweithio, gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid, busnesau a chymunedau.
11. Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yng Nghanol De Cymru? OQ58007
Mae cynorthwyo a datblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol ledled Cymru i ddatblygu a thyfu yn allweddol i gyfrannu at greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth penodol i'r sector ac yn darparu arian cyfatebol tuag at wasanaeth busnes cymdeithasol Cymru.
Diolch, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn anrhydedd cyfarfod â chynifer o fentrau cymdeithasol ledled y rhanbarth a gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud o ran adfywio ein cymunedau, cefnogi pobl o bob oed a datblygu'r economi leol. Gaf i ofyn pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill i sicrhau bod mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yn bethau sy'n cael eu hyrwyddo ar draws portffolios Llywodraeth, megis drwy'r cwricwlwm newydd?
Nid trafodaethau ar yr elfen addysg yn unig a gefais ond trafodaethau ymarferol, er enghraifft, gyda Julie James, y Gweinidog tai, am effaith cymdeithasau tai fel gweithredwyr economaidd pwysig mewn ardaloedd lleol, yn ogystal â'r ymgysylltiad uniongyrchol a gaf ag eraill. O gofio bod Jane Hutt wrth fy ymyl, dylwn sôn, wrth gwrs, am ei diddordeb parhaus yn y trydydd sector, a'i chefnogaeth iddo fel gweithredwyr economaidd yn ogystal. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae gan amryw o Weinidogion ddiddordeb ynddo, er mai fi sydd â'r prif gyfrifoldeb, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y sector a'r cymorth busnes pwrpasol sydd ar gael. Wrth ateb y cwestiwn hwn, wrth gwrs, dylwn dynnu sylw'r Aelodau nad ydynt yn ymwybodol ohono at ailwampio, newid enw a chenhadaeth, neu ailfywiogi cenhadaeth, Canolfan Cydweithredol Cymru, a elwir bellach yn Cwmpas Cymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy i barhau i gynorthwyo'r sector yn ymarferol i dyfu a datblygu yn y dyfodol fel rhan brif ffrwd o'r hyn y disgwyliwn i Gymru fod yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd eitem 4, heddiw, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i alw ar y Senedd i ddathlu deng mlwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hoffwn, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, eu llongyfarch ar eu degawd cyntaf o gynllunio a datblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n creu cyfleon gwerthfawr i gymaint o fyfyrwyr yn ein prifysgolion, colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau.
Tan yn rhy ddiweddar—yn wir, pan oeddwn i'n fyfyriwr—dim ond trwy hap oedd hi, os oedd eich darlithydd yn digwydd bod yn medru'r Gymraeg, yr oeddech chi'n medru astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, diolch i gytundeb Llywodraeth Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, fe ddechreuwyd ar y gwaith o ffurfio'r coleg ffederal, fel y galwyd y cynllun, a arweiniodd at sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011.
Roeddwn i'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar y pryd, a chofiaf yn glir y cyffro a'r llawenydd wrth i'r gwaith o gynllunio a buddsoddi mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg fynd rhagddo. Bellach mae 4,700 o fyfyrwyr bob blwyddyn yn astudio elfen o'u cwrs gradd drwy'r Gymraeg. Ac mae gwaith diweddar y coleg mewn colegau addysg bellach yr un mor bwysig a chyffrous. A diolch i gytundeb cydweithio y Llywodraeth gyda Phlaid Cymru, bydd y coleg yn buddsoddi ym maes prentisiaethau hefyd.
Pen-blwydd hapus felly i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phob hwyl ar y gwaith sydd mor bwysig i ddyfodol ein cenedl.
Hoffwn ddymuno'n dda i ddigwyddiad deuathlon aml-chwaraeon ColegauCymru sydd yn cael ei gynnal heddiw ym Mharc Gwledig Pen-bre, ger Llanelli, a hynny yn dilyn absenoldeb o dair blynedd, wrth gwrs, yn sgil y pandemig. Bydd y digwyddiad yn gweld dros 250 o ddysgwyr a staff addysg bellach o wyth coleg o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i'r digwyddiad cynhwysol hwn, gyda chyfranogwyr yn mentro unai tri-duathlon 6 km neu deuathlon llawn 27 km.
Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu gan ColegauCymru, gan hefyd dderbyn cefnogaeth gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Coleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r digwyddiad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector addysg bellach er mwyn hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio yn andwyol o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.
A hithau, wrth gwrs, yr wythnos yma, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, carwn ddymuno'n dda felly i'r digwyddiad yma, yn ogystal â phawb sy'n cymryd rhan ym Mhen-bre heddiw ac, ar ran y Senedd gyfan, cydnabod y rôl y mae digwyddiadau o'r fath yn medru eu chwarae wrth hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Nesaf yw cynnig i ethol aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.
Cynnig NNDM8000 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhys ab Owen (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn lle Cefin Campbell (Plaid Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, yr Holodomor. Galwaf ar Alun Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7994 Alun Davies, Rhun ap Iorwerth, Samuel Kurtz, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Mark Isherwood, Peter Fox, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.
2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.
3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i Jane Dodds a Sam Kurtz, sy'n cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, ac i Rhun ap Iorwerth, a fydd yn crynhoi'r ddadl a gawn y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Janet Finch-Saunders, i Jenny Rathbone, i Mark Isherwood, i Peter Fox ac i Vikki Phillips—Vikki Howells—a gefnogodd y cynnig hwn yn ogystal.
Mae'n bwysig trafod, ac mae'n bwysig dadlau. Mae'n bwysig cofio, ac mae'n bwysig addysgu a dysgu. Ond mae hefyd yn bwysig peidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol ac ail-fyw erchyllterau'r gorffennol. I lawer ohonom, ac efallai fy mod yn siarad ar fy rhan fy hun, gan imi gael fy ngeni 20 mlynedd ar ôl D-day, cefais fy magu yng nghysgod yr ail ryfel byd. Fe'm magwyd yng nghysgod gwrando ar oroeswyr yn siarad am yr Holocost. Cawsom ein dysgu yn uniongyrchol beth yw ystyr hil-laddiad. Ni feddyliais erioed y byddem yn gweld hil-laddiad eto, ond mae wedi digwydd. Bûm yn dyst iddo yn Rwanda ac yn yr hen Iwgoslafia. Rydym yn gweld llofruddiaeth dorfol, llofruddiaeth ar raddfa ddiwydiannol, ar ein sgriniau heddiw, heno, yn ddyddiol. Nid yn unig y mae'n anghredadwy, ond mae'n gwbl annerbyniol ein bod yn parhau i wrando ac i gofio, ond byth i ddysgu. Y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y gallwn ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd yn Wcráin 90 mlynedd yn ôl, ond hefyd, wrth ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl, mae gweithredoedd a chanlyniadau'r hyn a ddigwyddodd yr adeg honno'n adleisio ar hyd y blynyddoedd ac yn atseinio heddiw. Mae'r hyn a ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl yn digwydd heddiw.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gorfododd Stalin lawer o bobl Wcráin, miliwn o bobl Wcráin, i adael eu cartrefi a'u pentrefi, a chawsant eu cludo, eu gorfodi drwy rym, i fynd o Wcráin i Rwsia. Mae hynny'n digwydd heddiw. Mae'n digwydd eto. A phan siaradwn am hil-laddiad, a phan siaradwn am ddioddefaint dynol, gadewch inni gofio hefyd nad oedd yr un o'r pethau hyn yn ddamweiniol. Canlyniad i ddewis bwriadol oeddent. Penderfynodd Stalin y byddai'n cyflawni hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Roedd y cynhaeaf yn dda. Nid oedd argyfwng gyda'r cynhaeaf yn y blynyddoedd hynny, 90 mlynedd yn ôl. Nid oedd prinder grawn, prinder hadau, prinder cyflenwadau. Roedd ganddynt ddigon o fwyd i fwydo eu hunain ac i gael eu hadnabod fel basged fara Ewrop a'r byd. Digwyddodd yr argyfwng a bu farw miliynau o bobl oherwydd bod Stalin wedi ceisio dileu gwlad Wcráin a phobl Wcráin, a gwyddom nad ef oedd yr unig un a gyflawnodd lofruddiaeth dorfol, oherwydd, sawl mil cilometr oddi wrtho, roedd unben arall yn cynllunio'r un weithred yn erbyn Ewropeaid, yn erbyn Iddewon Ewrop. Rydym wedi gweld hil-laddiad yn Ewrop, a rhaid inni ddysgu, ac nid cofio'n unig, a dysgu na ddylai byth ddigwydd eto.
Pan edrychwch ar y ffordd systematig y gweithiodd y Llywodraeth Sofietaidd i sicrhau bod pobl yn newynu—cafodd pentrefi eu rhwystro, cafodd pentrefi eu hatal rhag cael y bwyd a oedd ym mhobman o'u cwmpas. Gwelsom fod newyn yn cael ei ddefnyddio fel gweithred fwriadol gan Lywodraeth i godi arswyd ar bobl, ac yna meddyliwch am yr hyn sy'n digwydd ar yr arfordir heddiw, arfordir deheuol Wcráin heddiw, lle defnyddir meddylfryd gwarchae a gwarchae yn erbyn pobl heddiw. Unwaith eto, clywn atsain ar draws y blynyddoedd.
Y nod oedd chwalu gwrthsafiad pobl Wcráin yn erbyn cyfunoliad, a hefyd yn erbyn cael eu hymgorffori'n llwyr yn rhan o Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd—difodiant cenedl Wcráin. A châi pawb a wrthwynebai Stalin eu diddymu, eu llwgu i farwolaeth fel gweithred fwriadol gan Lywodraeth. Ac mae'n bwysig ein bod yn agor ein llygaid i hil-laddiad o'r fath ac yn siarad y gwir am yr hyn sy'n digwydd. Cofiwn hynny yr wythnos hon, yma yn ein Senedd. Roedd gwaith Gareth Jones yn datgelu'r hyn a ddigwyddodd yn ganolog i addysgu'r byd am yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau hynny, a chredaf ein bod i gyd yn ddiolchgar i'r llyfrgell genedlaethol ac i Martin Shipton am ysgrifennu ac am sicrhau bod pobl yn clywed geiriau Gareth Jones eto ar draws y blynyddoedd. Gwelodd y newyn â'i lygaid ei hun. Gwelodd bobl mewn newyn enbyd, ac adroddodd am ddioddefaint dynol yn ei helaethder.
'Cerddais drwy bentrefi a 12 fferm gyfunol. Ym mhobman, y gri oedd, "Nid oes bara. Rydym yn marw"',
ac ymledodd y geiriau hynny ar draws y byd, nid yn unig ar draws Ewrop, ond draw i'r Unol Daleithiau hefyd, felly daeth pobl i wybod am yr hyn a ddigwyddodd. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud nad oeddwn yn gwybod fawr ddim am y newyn ofnadwy hwn a achoswyd gan y gyfundrefn Sofietaidd yn Wcráin tan yn weddol ddiweddar, pan gefais gyfle i wylio'r ffilm, Mr Jones, a oedd yn darlunio'n dda iawn y sefyllfa ofnadwy a ddioddefodd pobl, y marwolaethau, y dioddefaint, ond hefyd ymdrechion arwrol Cymro o'r Barri a ddefnyddiodd ei newyddiaduraeth i wneud yn siŵr fod y neges yn cael ei chlywed. A ydych yn cytuno â mi mai un peth y mae angen inni ei sicrhau yma yng Nghymru ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol yw hyrwyddo gwaith newyddiadurwyr da fel Gareth Jones a sicrhau nad yw ein plant, cenedlaethau'r dyfodol, yn cael cyfle i fethu gweld pwysigrwydd y mathau hyn o ddigwyddiadau yn ein hanes y mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu ohonynt? Oherwydd yn sicr nid oeddwn yn gwybod dim amdano. Euthum drwy system addysg Cymru ac ni chlywais ddim. Rhaid inni beidio â gadael i hynny ddigwydd eto.
A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud? Ac wrth gwrs, nid damwain yw hynny, gan mai'r hyn a wnaeth Stalin, ar ôl cyflawni hil-laddiad, oedd gwahardd gwybodaeth a chuddio ei weithredoedd yn Wcráin. Ac arhosodd y gwaharddiad ar wybodaeth a gychwynnwyd gan y Llywodraeth Sofietaidd yn 1933, rwy'n credu, yn ei le tan 1987. Ac nid yw'n syndod, pan fydd pobl yn ceisio cyflawni'r gweithredoedd arswydus hyn yn erbyn poblogaeth, eu bod wedyn yn ceisio cuddio eu gweithredoedd a chuddio eu rhan yn y gweithredoedd hynny. Gwelsom yr un peth yn digwydd ar draws Ewrop yn 1944 a 1945. Ac roedd yn bwysig—[Torri ar draws.]
Hoffwn ddweud bod rôl newyddiadurwyr yn datgelu'r gweithredoedd hil-laddol ofnadwy hyn yn gwbl allweddol. Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod marwolaeth Shireen Abu Akleh ym Mhalesteina, gan luoedd Israel yn ôl pob tebyg, yn enghraifft arall o'r modd y mae newyddiadurwyr yn peryglu eu bywydau er mwyn adrodd ar beth sy'n digwydd? Ac yn amlwg, mae'n digwydd bob dydd ymhlith newyddiadurwyr o bob cwr o'r byd yn Wcráin.
Mae'r hawl sydd gennym heddiw i drafod y materion hyn mewn diogelwch a rhyddid yn hawl na ddylem byth ei chymryd yn ganiataol. Mae ein gallu i gael y ddadl hon wedi'i wreiddio yn ein gwybodaeth, ac un o'r ofnau mawr a deimlaf heddiw—er ein bod bob amser wedi anghytuno weithiau ar draws y Siambr mewn gwahanol bleidiau a mannau am ein dehongliad o hanes a'n gwybodaeth am hanes, rydym bob amser wedi cytuno ynglŷn â lle mae hanes yn dechrau a beth yw hanes. Yr hyn a welwn heddiw yw gwyrdroi hanes mewn pob math o wahanol ffyrdd, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i gytuno ar y ffeithiau o leiaf yn y Siambr hon, ac yn dehongli'r ffeithiau hynny mewn ffyrdd gwahanol o bosibl. Ond mae rôl newyddiaduraeth ar hyd y blynyddoedd bob amser wedi bod yn ganolog i'n dealltwriaeth o hanes a'n dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd. Ac mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, yn y rhannau o'r byd lle mae unbenaethau a lle y ceir ymosodiadau ar y boblogaeth sifil.
Fe geisiaf ddod â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. Yn 2006, datganodd Senedd Wcráin mai hil-laddiad oedd hyn. Roedd yn ymgais fwriadol i ddinistrio gwlad a chenedl. Dilynwyd y newyn gan yr alltudiaethau, a oedd yn ymgais, unwaith eto, i ddinistrio pobl Wcráin. Rwy'n gobeithio heddiw y gallwn gofio'r gweithredoedd hynny, cofio'r dioddefaint, a gobeithio, drwy wneud hynny, y gallwn unwaith eto adnewyddu ein hymrwymiad i bobl Wcráin. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi siarad yn angerddol ac yn deimladwy am ei deulu a'u profiad dros y misoedd diwethaf. Gwn y bydd yn parhau i ddweud wrth ei deulu ac eraill yn Wcráin am ein cefnogaeth i'w brwydr heddiw. A gobeithio mai'r hyn a allai ddeillio o'n sgwrs y prynhawn yma ac o'n profiad ar yr adeg hon yw cyswllt o'r newydd rhwng ein pobl, ac ymrwymiad o'r newydd i gofio, ac nid yn unig i gofio, ond i ddysgu hefyd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon, gan ei bod yn digwydd mewn wythnos pan fo Rwsia wedi dathlu diwrnod buddugoliaeth ar 9 Mai, y diwrnod y sicrhaodd Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd fuddugoliaeth dros yr Almaen Natsïaidd a diwedd yr ail ryfel byd gyda'r gwledydd cynghreiriol eraill. Mae'r arddangosiad hwn o rym milwrol drwy orymdeithiau yn ffordd o ddangos cryfder yn erbyn y Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd, ac fel ymarfer curo'r frest i dawelu meddwl ei dinasyddion ei hun fod y fam Rwsia'n dal i allu gweithredu'n ddilyffethair.
Yn y cyfnod Sofietaidd, defnyddiwyd y diwrnod buddugoliaeth i nodi trechu ffasgaeth, a chryfder a rhinweddau canfyddedig comiwnyddiaeth. Diolch byth, cyn diwedd yr ugeinfed ganrif, canfuwyd bod comiwnyddiaeth yn ideoleg beryglus a dyna sut y mae llawer yn ei gweld erbyn hyn, ideoleg a adawodd filiynau o'r bobl Sofietaidd yn byw o dan reolau didostur, wedi colli eu rhyddid a miliynau'n fwy wedi marw, ar ôl cael eu hanfon i'r gwlagau. Mae rhai ohonom yn y Siambr hon yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi byw drwy flociau dwyreiniol a gorllewinol Ewrop—yn wir, fe'm ganwyd tua 12 diwrnod cyn diddymu'r Undeb Sofietaidd—ond pan ddigwyddodd yr hyn a ddisgrifiodd Churchill fel hyn:
'O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adriatig, mae llen haearn wedi disgyn ar draws y cyfandir',
rhaid inni gofio'r adeg honno.
Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau yn Wcráin ar hyn o bryd, digwyddiadau y mae'r gorllewin wedi rhybuddio yn eu cylch ers tro byd, yn sicr yn gwneud inni sylweddoli'r perygl y mae gwladwriaeth amheus gydag arweinydd anwadal yn ei greu i'r heddwch y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol ers cenhedlaeth, ac y cyfeiriodd yr Aelod dros Flaenau Gwent ato. Naw deg mlynedd yn ôl, dangosodd yr Holodomor yr effaith ddinistriol y gall arweinydd sy'n awchu am bŵer, sy'n ysu i ddal ei afael ar bŵer, ei chreu os na chaiff ei rwystro. Mae'r Aelod dros Flaenau Gwent eisoes wedi sôn am yr effaith ddinistriol a gafodd y newyn hwn ar y bobl a oedd yn byw yn Wcráin Sofietaidd yn y 1930au.
Os nad ydym yn unedig yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Putin yn y rhan honno o'r byd, bydd llawer yn Wcráin a thu hwnt mewn perygl eto. Wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi dangos ei hymrwymiad clir i sefyll gydag Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn un o'r gwledydd gorllewinol a arweiniodd ar arfogi a chefnogi lluoedd milwrol Wcráin, ac fe wnaeth y Senedd hon yn iawn i annog Llywodraeth y DU i fynd ymhellach i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae gweld Prif Weinidog Prydain yn cerdded strydoedd Kyiv wrth ochr yr Arlywydd Zelenskyy, ac yn arweinydd gorllewinol cyntaf i annerch Senedd Wcráin, yn dangos bod y gefnogaeth y mae ein gwlad wedi'i rhoi i Wcráin a'i phobl sofran wedi cael croeso.
Fel eraill yn y Siambr hon a ledled Cymru, mae gennyf berthnasau a anwyd y tu allan i'r ynysoedd hyn, a gwn ganddynt hwy yn uniongyrchol am y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Dyna pam y mae'n hanfodol nad yw'r un camgymeriadau a wnaed yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn cael eu hailadrodd lai na 100 mlynedd yn ddiweddarach. Fe ddylem ac fe allwn ddechrau gwneud yn well drwy'r iaith a ddefnyddiwn. Yn rhy aml, defnyddir yr ymadroddion 'asgell dde eithafol' ac 'asgell chwith eithafol' wrth gyfeirio at y rhai yr ydym yn anghytuno â hwy. Mae defnyddio'r disgrifiadau hyn mewn modd mor ddifeddwl yn gwneud anghymwynas â'r rhai a fu farw o dan reolaeth cyfundrefnau ac unbenaethau awdurdodaidd asgell dde eithafol ac asgell chwith eithafol go iawn. Yr asgell dde eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Almaen Natsïaidd ac yn Sbaen yn ystod y 1930au a'r 1940au. Yr asgell chwith eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Undeb Sofietaidd, lle'r arweiniodd camau bwriadol at yr Holodomor erchyll neu'r newyn arswydus, gan arwain at farwolaeth tua chwe miliwn o bobl Wcráin. Llofruddiodd y cyfundrefnau hyn filiynau lawer o'u pobl eu hunain, pobl a oedd yn euog o ddim byd mwy na methu cydymffurfio ag ideolegau gwyrdroëdig eu harweinwyr.
Gyda'r iaith a ddefnyddir ar y cyfryngau cymdeithasol yn dal i ddigwydd heb ei hatal a lledaeniad casineb a chamdriniaeth yn dod yn llawer rhy gyffredin, mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion yn gwneud yn well ac yn ymrwymo i ddod yn fwy ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn. Mae rhai wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i gwestiynu pam y mae'r Senedd yn trafod hyn heddiw. Fel cyd-noddwr y ddadl hon, dywedaf wrthynt yma nawr ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn well, i fod yn well. Drwy gydnabod yr Holodomor a'r ffordd warthus yr aeth yr Undeb Sofietaidd ati i lofruddio eu pobl eu hunain, rydym yn cadw troseddau ddoe yn agos at flaen ein meddyliau, gan fod y rhai na allant gofio'r gorffennol wedi'u condemnio i'w ailadrodd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Alun Davies am ddod â'r ddadl bwysig hon i Senedd Cymru a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r drasiedi sy'n datblygu ar hyn o bryd yn Wcráin, ac rydym wedi trafod hyn droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig inni fyfyrio ar adegau yn y gorffennol pan wnaed pethau a danseiliodd ein dynoliaeth gyffredin.
Rydym yn coffáu profiadau o hil-laddiad ac erchyllterau yn y Siambr hon a ledled Cymru yn rheolaidd, ond ni wnaethom neilltuo amser sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i siarad am Holodomor. Ond wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, wedi tynnu ein sylw ar sawl achlysur at ddioddefaint pobl Wcráin yn ystod yr Holodomor, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol gref i'r cynnig hwn heddiw, a'r cyfraniadau i'r ddadl.
Mae naw deg mlwyddiant yr erchyllterau hyn a'r ffocws presennol ar Wcráin yn ysgogiad pwysig inni daflu goleuni ar anghyfiawnderau'r gorffennol a cheisio osgoi ailadrodd hanes—fel y dywedodd Alun Davies, nid gwrando a chofio yn unig, ond dysgu hefyd.
Un o'r ychydig newyddiadurwyr gorllewinol a adroddodd ar y newyn yn Wcráin a'i achosion oedd y Cymro, Gareth Jones. Roedd yn dod o'r Barri ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Merthyr Dyfan. Cafodd ei anrhydeddu'n lleol, dan arweiniad Cyngor Tref y Barri, a bydd plac yn cael ei osod uwchben ei fedd neu yn y cyffiniau. Mae'n dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin a rhaid inni ddechrau codi ymwybyddiaeth o'i rybuddion heddiw.
Roedd Gareth Jones yn dyst i'r dioddefaint yn Wcráin, ac fe ddywedodd y gwir am yr arswyd a ganfu. I ddechrau, cyhoeddwyd ei straeon yn eang, ond yn ôl y sôn cafodd ei wrthod yn gyflym a'i anfon i'r anialwch newyddiadurol, ac mae llawer y byddwn yn ei ddysgu am hynny a'r rhesymau pam, rwy'n siŵr, yn y digwyddiad yma yn y Senedd yfory, i goffáu Gareth Jones, a noddir gan Mick Antoniw, a digideiddio hollbwysig yr archifau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n bresennol, i ddysgu mwy am un o'n harwyr o Gymru sy'n aml heb gael y sylw y dylai fod wedi'i gael.
Mae'r cyfryngau rhyngwladol wedi newid yn ddramatig ers yr adeg yr oedd Gareth Jones yn newyddiadurwr, ac mae'n llawer haws inni weld â'n llygaid ein hunain y gweithredoedd barbaraidd y mae Putin wedi'u cyflawni yn Wcráin. Fodd bynnag, mae'n dal yn hanfodol ein bod yn tystio i galedi pobl Wcráin, ac yn gwneud popeth a allwn i warchod eu hawliau. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud llawer i estyn llaw cyfeillgarwch i Lywodraeth Wcráin, ac rydym yn eu cefnogi'n llwyr yn hynny o beth. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £4 miliwn at apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, wedi darparu cymorth meddygol ymhlith ymdrechion eraill yn Wcráin a'r rhanbarth, ac rydym yn cefnogi Wcreiniaid eu hunain i ddod i ddiogelwch ein cenedl noddfa.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn a wnawn i gefnogi deiliaid fisâu o Wcráin, oherwydd coffáu'r gorffennol a wnawn heddiw, ond rwyf am ddweud ein bod yn meddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y gallwn gynorthwyo Wcreiniaid sy'n cyrraedd yma i gofnodi'r hyn y maent wedi'i brofi yn rhan o'r ymchwiliadau i droseddau rhyfel. Ni fyddwn yn troi cefn ar y rhai sydd wedi dioddef, fel a ddigwyddodd yn ystod Holodomor.
Mae'n amlwg fod gweithredoedd bwriadol yr Undeb Sofietaidd, wrth gyfunoli tir ac atafaelu adnoddau, wedi chwarae rhan allweddol yn achosi'r newyn. Fel y dywedodd Gareth Jones ar y pryd:
'Edrychwn ar y plant â'u coesau a'u breichiau afluniedig a theimlo trychineb y newyn a grëwyd gan ddynion a afaelodd am y wlad.'
Mae'r cysylltiad Cymreig â phobl Wcráin yn mynd yn ôl yn bell. Ymhell cyn Holodomor, teithiodd John Hughes i Donetsk i sefydlu gwaith haearn a glofeydd, yn rhan o'r hyn a elwid ar y pryd yn Hughesovka. Yn awr, gwelwn y ddinas honno sydd â dros 1 filiwn o drigolion yn cael ei bomio, ac mae ein calonnau'n gwaedu dros ei thrigolion. Mae hanes teulu Gareth Jones yn berthnasol yma. Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, yn athrawes gartref i blant John Hughes yn Donetsk, a'i straeon am Wcráin a ysbrydolodd Gareth Jones, ei mab, i ymweld pan oedd yn ddigon hen. Graddiodd hithau o Brifysgol Aberystwyth fel ei mab, ac roedd yn ynad ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch, ac mae'n cael ei hanrhydeddu'n fawr, fel ei mab, yn nhref y Barri. Hyd yn oed wrth sefydlu'r Siambr hon, ceir cysylltiadau ag Wcráin yn Calon Cymru, sydd yn y llawr yng nghanol ein Senedd. Fe'i crëwyd gan Alexander Beleschenko, artist o Abertawe a anwyd i rieni o Wcráin.
Syfrdanwyd pawb ohonom gan ddewrder pobl Wcráin yn ystod y gwrthdaro presennol. Yn ystod yr Holodomor, mae'n rhaid bod y dioddefaint yn aruthrol, ond adroddodd Gareth Jones am ddewrder y bobl, a ofynnodd am beidio â chael neb yn tosturio wrthynt am fod pobl mewn rhannau eraill wedi dioddef hyd yn oed yn waeth. Mae Wcreiniaid wedi dangos dro ar ôl tro fod ganddynt hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain, a byddwn yn sefyll gyda hwy yma yng Nghymru.
Cyn y gwrthdaro hwn, roedd Cymru'n gartref i oddeutu 500 o Wcreiniaid, ond cyn bo hir disgwyliwn fod yn gartref i fwy na 10 gwaith y nifer hwnnw. Byddwn yn eu croesawu ac yn dysgu o'u profiadau i gryfhau ein cymunedau. Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a achoswyd gan Stalin, megis yr Holodomor, mor gyfarwydd i bobl. Rwy'n hapus i ymrwymo Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a chofio'r drasiedi a ddigwyddodd yn Wcráin 90 mlynedd yn ôl. Fe gofiwn y dioddefwyr ac annog mwy o undod â'r bobl o Wcráin sydd bellach yn cael noddfa yng Nghymru.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi gwneud sylwadau mor feddylgar heddiw, a diolch am yr ymrwymiad yna gan y Gweinidog. Dwi'n falch ein bod ni fel Senedd yn gallu mynegi mewn ffordd mor unedig ein cydymdeimlad a'n solidariaeth ni efo pobl Wcráin wrth inni nodi 90 mlynedd ers yr Holodomor, sy'n cael ei alw'r 'newyn mawr' yn aml, ond, wrth gwrs, mae'r defnydd o'r gair 'newyn' yna'n awgrymu rhywbeth naturiol, pan ydyn ni'n gwybod yn iawn mai canlyniad i bolisi oedd hyn, y polisi o gyfunoleiddio neu collectivisation, a phenderfyniadau gwleidyddol a'u hanelwyd un ai'n bennaf neu yn llwyr at Wcráin.
Pan orchmynnodd Stalin gyfunoleiddio, Wcráin oedd y lle y daeth o ar draws y gwrthwynebiad mwyaf iddo fo, a'r lle y cafodd y polisi wedyn ei orfodi fwyaf ynddo fo yn fwyaf llym. Er bod newyn eang mewn ardaloedd eraill o'r Undeb Sofietaidd hefyd, yn Wcráin oedd y nifer uchaf o farwolaethau, wrth i'r wladwriaeth Sofietaidd gymryd miliynau o dunelli o rawn oddi arnyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwybod faint yn union o bobl fu farw yn ystod yr Holodomor. Fel cyfaddefodd Khrushchev yn ei hunangofiant o, doedd na neb yn cyfri—no-one was keeping count. Ond mae'r hanesydd Robert Conquest yn defnyddio data o'r cyfrifiad Sofietaidd, yn amcangyfrif bod efallai 5 miliwn o bobl Wcráin wedi marw o ganlyniad. Mae'n amhosib dirnad y peth. Mi gafodd pentrefi cyfan eu dileu, fel rydyn ni wedi clywed, dinasoedd a ffyrdd yn frith o gyrff y rhai a adawodd eu pentrefi i chwilio am fwyd ond fu farw ar eu taith. Mi gafodd cefn gwlad Wcráin, gwlad y ddaear ddu, oedd yn cael ei ystyried yn un o'r tiroedd mwyaf ffrwythlon yn y byd, ei droi yn dir diffaith, tawel.
Swyddog Sofietaidd oedd Victor Kravchenko, a gafodd ei orchymyn i gymryd rhan yn y cyfunoliad. Mi wnaeth o ffoi i'r gorllewin yn ddiweddarach yn sgil yr hyn roedd e wedi'i weld ac effeithiau yr hyn welodd o yn rhanbarth Donbas yn ei Wcráin enedigol. Dyma sut ddisgrifiodd o be welodd e ym mhentref Petrovo:
'Roedd yr hyn a welais y bore hwnnw... yn anhraethol o erchyll. Ar faes y gad, mae dynion yn marw'n gyflym, maent yn ymladd yn ôl, cânt eu cynnal gan eu cyfeillion ac ymdeimlad o ddyletswydd. Yma, gwelais bobl yn marw'n araf ar eu pen eu hunain, yn marw'n erchyll, heb yr esgus eu bod yn aberthu dros achos. Roeddent yn sownd ac wedi'u gadael i newynu, pob un yn ei gartref ei hun, gan benderfyniad gwleidyddol a wnaed mewn prifddinas bell o amgylch byrddau cynadledda a gwledda.'
Ond, wrth gwrs, doedd hon ddim yn stori oedd yn gallu cael ei hadrodd yn gyhoeddus. Mi wnaeth y wasg Sofietaidd, fel rydyn ni wedi clywed, wadu bod unrhyw newyn wedi digwydd o gwbl. Yn anffodus, mi oedd yna ddigon yn y wasg orllewinol yn barod i gredu hynny hefyd.
Un dyn, wrth gwrs—rydym ni wedi clywed ei enw o droeon yma heddiw—wnaeth geisio tynnu sylw at y sefyllfa go iawn oedd y newyddiadurwr Gareth Jones o'r Barri. Mi oedd ganddo fo ddiddordeb yn Rwsia, fel rydym ni wedi ei glywed gan y Gweinidog, ers clywed hanesion ei fam pan oedd hi'n byw yn Hughesovka, bellach Donetsk. Mi ymwelodd ag Wcráin am y tro cyntaf yn 1930, dychwelyd sawl tro ar ôl hynny, yn penderfynu crwydro ar ei ben ei hun yn hytrach na chael ei arwain, fel cymaint o newyddiadurwyr tramor eraill, ar dripiau Potemkin gan swyddogion yr Undeb Sofietaidd, i weld beth roedden nhw eisiau iddyn nhw ei weld. A thrwy deithio ei hun, mi wnaeth o brofi yn uniongyrchol sgil-effeithiau'r newyn enbyd ar y trigolion. Mi oedd o'n gwerthfawrogi ei rym fel newyddiadurwr, ac, fel newyddiadurwr fy hun, dwi mor falch o'r hyn a wnaeth y Cymro yma dros Wcráin a thros newyddiaduraeth.
Mi adroddodd yn ôl am yr hyn welodd o drwy erthyglau papur newydd ym Mhrydain, America a'r Almaen. Mi esboniodd ei fod o wedi gorfod gadael oherwydd y dioddef a'r ffaith nad oedd bwyd yno. 'Mae cymaint o Rwsiaid yn rhy wan i weithio', meddai. Mi ddywedodd ei fod o wedi gweld pobl yn ymladd dros ddarn o groen oren a oedd ar lawr y trên. 'Wnes i ddim ymweld ag un pentref lle nad oedd nifer wedi marw', meddai fo. Ond drwy geisio datgelu i'r byd y pethau erchyll yr oedd Stalin yn ei wneud i'w bobl, mi ddenodd ddiddordeb heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd. Mi gafodd ei wahardd rhag mynd i'r wlad honno eto, a, fwy na thebyg, am ei newyddiaduraeth, mi gollodd o ei fywyd yn pen draw.
Hyd yn oed ymysg ei gyfoedion yn y gorllewin, mi gafodd o ei gyhuddo o ddweud anwiredd. Mi awgrymodd un newyddiadurwr uchel ei barch efo The New York Times, Walter Duranty, oherwydd bod y Kremlin, pencadlys y Llywodraeth Sofietaidd, yn gwadu'r peth, bod stori Gareth Jones ddim yn wir. Yn ei ymateb iddo fo, mi ysgrifennodd Gareth Jones:
'A gaf fi… longyfarch Swyddfa Dramor yr Undeb Sofietaidd ar ei medrusrwydd yn cuddio’r sefyllfa go iawn yn Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd? Nid Rwsia yw Moskva (Moscow), ac mae gweld pobl sy'n cael eu bwydo'n dda yno yn tueddu i guddio'r Rwsia go iawn'.
Mi wnaeth y Llywodraeth Sofietaidd wadu bodolaeth y newyn yma tan ddiwedd y 1980au, ond mae o wedi ei selio ar gof pobl Wcráin ers 90 mlynedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio hefyd.
I gloi, y tristwch, wrth gwrs, y tu hwnt i eiriau, ydy nad rhywbeth sydd wedi ei gladdu am byth yn hanes ydy hyn. Dyma ni yn 2022. Yr wythnos diwethaf, mi adroddodd swyddog o'r Cenhedloedd Unedig bod lluoedd Rwsia yn dwyn a dinistrio grawn yn Wcráin a allai arwain eto at brinder bwyd yno. Ac wrth gwrs, mae miloedd ar filoedd yn marw dan law'r gormeswr heddiw, a miliynau lawer yn dioddef. Rydym ni'n gofyn heddiw am raglen goffáu. Mae'n rhaid i bobl gael dysgu beth ddigwyddodd, ac, wrth wneud hynny, gadewch i ni fod yn gwbl ddiamwys ein bod ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd efo pobl Wcráin heddiw, wrth iddyn nhw gofio'r bennod erchyll yma yn eu gorffennol ac aildeimlo'r galar o 90 mlynedd yn ôl, tra, ar yr un pryd, yn brwydro am eu dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Nesaf mae eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar restrau aros y GIG. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7997 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ffôl—dyna a ddywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd ynglŷn â chael cynllun i fynd i’r afael â’r ôl-groniadau yn y GIG yng Nghymru cyn i’r pandemig ddod i ben. Ac at beth y mae hynny wedi arwain? Fel y saif pethau, mae Cymru’n gweld yr amseroedd aros gwaethaf a gofnodwyd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd aros hiraf am driniaeth, a'r amseroedd ymateb ambiwlansys nesaf at yr arafaf erioed. Mae nifer y bobl sy’n aros dros ddwy flynedd bellach dros 60,000, ac mae un o bob pedwar claf o Gymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs, wedi bod yn codi'r ôl-groniadau cynyddol yn y GIG ers tro, ac mae'n rhwystredig, pan fyddwn yn lleisio pryderon am yr angen am gynllun adfer, cael clywed bod hynny'n ffôl. Rwy’n derbyn yn llwyr, wrth gwrs, fod y pandemig wedi achosi pwysau aruthrol ar ein GIG yng Nghymru, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith bod yna broblemau dwfn, gan gynnwys bylchau yn y gweithlu, prinder gwelyau ac ystad y GIG sy'n gwegian, a digwyddodd hynny ymhell cyn y pandemig. Yn anffodus, roedd hyn oll yn digwydd ymhell cyn i’r pandemig ein taro.
Fel y saif pethau, hyd yn oed cyn y pandemig, roedd miloedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Mewn gwirionedd, dyblodd y ffigur hwnnw yn y flwyddyn cyn y pandemig. Roedd adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans eisoes yn teimlo’r pwysau bob gaeaf, ac roedd gweithlu’r GIG eisoes yn wynebu heriau sylweddol a phrinder staff. Felly, erbyn hyn yn anffodus, mae gennym yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o boblogaeth Cymru ar restr aros. Mewn gofal brys, disgwylir i un o bob tri chlaf, sy’n nifer uwch nag erioed, aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adran damweiniau ac achosion brys, ac nid yw targedau amser ymateb ambiwlansys wedi’u cyrraedd ers bron ddwy flynedd. Mae’r rhain, wrth gwrs, yn ystadegau torcalonnus, ond y tu ôl i bob ystadegyn, wrth gwrs, mae pobl go iawn sydd angen i gynllun adfer diweddaraf y Llywodraeth weithio, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio. Mae'n bwysig, fel gwrthblaid, ein bod yn tynnu sylw at fethiannau'r Llywodraeth, ond hefyd yn cyflwyno ein hatebion ein hunain, a dyna y byddaf yn ei wneud yn ddiweddarach yn y ddadl hon heddiw.
Un o’r problemau mawr y mae angen mynd i’r afael â hwy ar frys yw oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn ddiau, wrth gwrs, mae hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, ond roedd problemau hirsefydlog yn bodoli ymhell cyn y pandemig. Unwaith eto, nid ystadegau yn unig yw'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal; y tu ôl i bob achos o oedi wrth drosglwyddo gofal, ceir unigolyn nad yw wedi cael y gofal a’r cymorth y mae eu hangen i’w alluogi i ddychwelyd adref neu fynd i lety priodol. Mae aelodau’r teulu a gofalwyr di-dâl yn cael eu rhoi yn y sefyllfa amhosibl o adael eu hanwyliaid yn yr ysbyty am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol, neu ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu pellach nad ydynt o reidrwydd yn gallu ymdopi â hwy, yn aml ar draul eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae'n gwbl annerbyniol fod 1,000 o bobl mewn gwelyau ysbyty pan allent fod wedi cael eu rhyddhau.
Wrth gwrs, mae’n dra hysbys fod aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen yn niweidiol i’r claf, yn enwedig cleifion hŷn, a bod rhyddhau cleifion heb gymorth priodol yn ei le yn creu galwadau afresymol ar deuluoedd ac yn creu risgiau i ddiogelwch yr unigolyn, gan gynyddu'r tebygolrwydd o fynd yn ôl i'r ysbyty—felly, nid yw'n torri’r cylch hwnnw. Mae gennym bwysau digynsail, wrth gwrs, ar y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl hefyd, ac wrth gwrs, rwy'n credu y dylid diolch iddynt am bopeth a wnaethant ac y maent yn parhau i'w wneud. Problem arall yma hefyd, serch hynny, yw’r cyfathrebu gwael, y diffyg integreiddio a gweithio cydgysylltiedig, ymhlith rhai o’r problemau eraill y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am sicrhau gwelliannau i lif cleifion drwy ein hysbytai yng Nghymru.
Yn gwbl warthus, mae perfformiad cenedlaethol yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer amseroedd aros canser yn parhau i fod gryn dipyn yn is na’r hyn y dylai fod, a chyn y pandemig, roedd gan Gymru amseroedd aros gwael eisoes ar gyfer triniaethau rheolaidd. Mae’n destun pryder nad yw targedau amseroedd aros canser wedi’u cyrraedd ers 2008. Yn ychwanegol at hyn, mae amseroedd aros ar gyfer targedau diagnosis canser allweddol yn dal i fod yn hir iawn, er gwaethaf cynnydd yn y misoedd diwethaf, ac mae targedau Llywodraeth Cymru na ddylai cleifion aros am fwy nag uchafswm o wyth wythnos am ddiagnosis, yn dal heb eu cyrraedd.
Mae yna rai meysydd rwy'n croesawu rhywfaint o gynnydd gan y Llywodraeth arnynt. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi dechrau ar hybiau llawfeddygol rhanbarthol, rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, wrth gwrs. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith inni gael y cynllun adfer ym mis Ebrill. Ond hyd yn hyn—rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthyf fy mod yn anghywir ynglŷn â hyn—manylion ar gyfer cyflwyno'r hybiau llawfeddygol hynny yn ne Cymru yn unig a welsom. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi amserlen i ni ynghylch pryd y byddwn yn gweld yr hybiau llawfeddygol hynny'n cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru? Pryd y byddant ar waith yn llawn? Mae hyn yn bwysig iawn, wrth gwrs, i'r rheini sy'n dioddef o gyflyrau eraill a COVID hir, ac wrth gwrs, unwaith eto, bydd yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar ysbytai.
Dywedais y byddwn yn darparu rhai atebion fy hun hefyd. Yn sicr, mae angen inni wella mynediad at apwyntiadau gofal sylfaenol a newid y canllawiau presennol ar frysbennu dros y ffôn. Bydd hyn yn lleihau nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio parafeddygon yn gyflym. Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 136 o recriwtiaid newydd, a bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i recriwtio 127 arall eleni. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddi bod yn allweddol fod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer recriwtio cyflym i lenwi unrhyw fylchau posibl. Ysgogwch aelodau o’r cyhoedd a chyn-weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymuno â’u tîm GIG lleol fel staff wrth gefn rhan-amser i gefnogi’r GIG mewn cyfnodau o alw mawr. Sefydlwch lwybrau cymorth i staff y GIG a gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma yn ystod y pandemig. Lluniwch gynllun ac amserlen i godi cyflogau gweithwyr gofal. Bydd hyn, wrth gwrs, yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar weithwyr gofal, a bydd hefyd, o bosibl, yn cadw mwy o weithwyr yn y sector i helpu gyda rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae honno’n elfen allweddol sy'n rhaid rhoi sylw iddi. Hefyd, cyfathrebu clir a rheolaidd â chleifion ynglŷn â rhestrau aros, yn ogystal â’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael ac ymgyrch iechyd y cyhoedd i sicrhau diagnosis cynt o ganserau.
Ni allwn edrych ar y tymor byr yn unig. Dyma pam y byddwn yn awgrymu cynlluniau ar gyfer y tymor hir, a fyddai’n cynnwys canolbwyntio ar yr amser ar gyfer triniaethau, fel bod ambiwlansys ac ysbytai'n gweithio’n agosach i ddarparu gofal amserol. Byddwn hefyd yn awgrymu datblygu cynllun clir, dan arweiniad clinigol, ar gyfer GIG Cymru i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros, a defnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol hefyd. A heb anghofio COVID-19, dylem anelu at sefydlu clinigau COVID hir i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19. Credaf hefyd fod angen inni adeiladu ar gynllun 10 mlynedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyflwyno cynllun recriwtio, hyfforddi a chadw staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan. Mae angen inni gynyddu nifer y meddygon a nyrsys a gweithwyr gofal yn sylweddol, er enghraifft drwy gynllun prentisiaeth nyrsio. Dyna sut y gwnawn hynny.
Ond rwy'n credu bod angen i’r Llywodraeth Lafur yma gael trefn ar y GIG, rhoi’r gorau i dorri’r holl reolau anghywir ac yn torri'r mathau anghywir o record, a hoffwn awgrymu bod y Llywodraeth Lafur yn canolbwyntio ar dorri'r mathau cywir o record ac yn cael trefn ar y GIG, mewn gwirionedd, wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gobeithio y cawn atebion gan y Gweinidog heddiw, ond gwnaf y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy.
2. Yn nodi ymhellach y bydd manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG sydd wrthi’n cael eu hadolygu.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae yna gynnig digon syml o'n blaenau ni heddiw. Dwi a'r meinciau yma'n sicr yn cytuno nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dŷn ni newydd, yn yr wythnosau diwethaf, weld y cynllun, ac mae yna elfennau, wrth gwrs, sydd yn bositif. Un, bod gennym ni gynllun o'r diwedd, ar ôl aros yn rhy hir amdano fo, ac mae yna gynlluniau mewn rhai meysydd sydd yn mynd i helpu, does yna ddim amheuaeth am hynny, ac, yn bwysig, mae gennym ni dargedau sydd yn ein galluogi ni i fesur llwyddiant neu fel arall yr hyn mae'r Llywodraeth yn bwrw ati i'w gyflwyno, er bod yna dyllau yn y targedau yna, ac mi ddown ni yn ôl at hynny yn y man.
Am lawer yn rhy hir, mae'r NHS yng Nghymru wedi cael ei gloi mewn rhyw fath o gylch dieflig lle mae o'n gwegian o dan y pwysau o ddydd i ddydd, a Gweinidog ar ôl Gweinidog yn methu â sicrhau bod y camau cywir yn cael eu rhoi mewn lle i ostwng y pwysau yna, yn gyntaf drwy gyfres o gamau ataliol, ac wedyn, yn ail, i sicrhau cynaliadwyedd yn y ffordd mae'r gwasanaeth yn gweithio o ran gweithlu, yn fwy na dim byd arall, efallai. Felly, mae'r pwysau'n mynd yn fwy, a'r anghynaliadwyedd yn dwysáu.
Os oes yna un pwynt sydd wir yn bwysig i'w wneud ar ddechrau fy nghyfraniad i, y pwynt hwnnw ydy fod hyn i gyd yn wir cyn i'r pandemig daro, dipyn dros ddwy flynedd yn ôl. Beth mae'r pandemig wedi'i wneud ydy amlygu fwy nag erioed o'r blaen y diffyg cynaliadwyedd yna, ac amlygu mewn ffordd fwy graffig nag erioed yr anghydraddoldebau sydd yn gyrru pwysau mor drwm ar wasanaethau iechyd. Y canlyniad, wrth gwrs, ydy bod rhestrau aros rŵan yn fwy nag y maen nhw erioed wedi bod o’r blaen. Mae bron i chwarter y boblogaeth, bron i 700,000 o bobl, ar restr aros—60 y cant o’r rheini’n aros am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Mae’r oedi yma yn gynnar yn y daith drwy’r system iechyd, yr oedi mewn apwyntiadau diagnostig a llawdriniaethau wedyn wedi cael effaith gatastroffig ar gymaint o’r rheini sydd yn aros. Dŷn ni'n gwybod gymaint mwy sy’n canfod canser yn hwyr erbyn hyn, ac yn cael diagnosis ar ôl mynd i'r adran frys, yn hytrach na bod wedi gallu cael diagnosis cynnar fel rhan o lwybr, y math o lwybr canser sydd ei angen. Mae'r gobaith goroesi canser, wrth gwrs, gymaint llai wrth gyflwyno yn hwyr.
Yn ôl at y ffigur yma: y 700,000 o bobl sydd ar y rhestrau aros. Ydy, mae o'n gynnydd o 50 y cant ers cyn y pandemig, oherwydd y pandemig, ond mi oedd yn 450,000 cyn y pandemig, felly allwn ni ddim meddwl am unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth fel rhywbeth sydd i fod i fynd â ni nôl i le'r oedden ni ddwy flynedd yn ôl. Mae’r Llywodraeth yn dweud bod eu cynllun nhw yn uchelgeisiol, ond dwi'n ofni bod yna sawl elfen yn fan hyn sydd yn codi cwestiynau difrifol am ba mor uchelgeisiol ydy o mewn gwirionedd. Yn gyntaf, mae rhaid i gynllun fy mherswadio i fod y Llywodraeth yn mynd i drawsnewid ei hagwedd tuag at waith ataliol er mwyn tynnu pwysau oddi ar yr ysbytai.
Ydy, mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau gwthio'r agenda ataliol, a dwi'n credu'r Llywodraeth, ond dwi ddim yn gweld hynny yn y cynlluniau. Dwi angen cael fy mherswadio bod yna agwedd newydd a chodi gêr fel erioed o’r blaen mewn perthynas â hyfforddi, denu a chadw staff iechyd. Ond dwi ddim yn gweld y codi gêr hwnnw, er, eto, dwi ddim yn amau bod y Gweinidog eisiau ei weld o, ac mi ddylwn i fod yn dweud 'iechyd a gofal' yn fan hyn, wrth gwrs.
Dwi ddim yn gweld chwaith yng nghynlluniau'r Llywodraeth yr ymrwymiad cwbl hanfodol yma i wneud integreiddio iechyd a gofal yn rhan ganolog o'r datrysiad i'r ôl-groniad. Oes, mae yna waith yn mynd rhagddo fo ar hyn o bryd ar greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Dwi'n hyderus bod y gwaith sy'n digwydd yn sgil y cytundeb cydweithio yn mynd i ddwyn ffrwyth yn y pen draw, ond mae diffyg cyfeiriad digonol at ofal yn y cynllun gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar gan y Llywodraeth yn rhywbeth sy'n fy mhoeni i yn fawr.
Ac o ran y targedau, wel, mae amser yn brin. Fel y dywedais i yma yn ddiweddar, dwi'n bryderus iawn fod y targedau newydd yma yn mynd i eithrio rhai arbenigeddau—orthopaedics, er enghraifft, sydd mor broblematig, dŷn ni'n gwybod. Beth dŷn ni hefyd yn gwybod ydy bod y gweithlu orthopaedics yng Nghymru wedi darparu cynllun ar gyfer Llywodraeth Cymru, a bod y cynllun hwnnw ddim yn cael ei weld yn y cynllun sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Gwrandewch ar y rheini sydd ar y rheng flaen mewn iechyd yng Nghymru; wedyn, o bosib, y bydd gennym ni gynlluniau a all ddwyn ffrwyth yn y pen draw.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi profi y tu hwnt i bob amheuaeth mai iechyd da yw conglfaen ein cymdeithas. Mae COVID wedi peri cymaint o alar a cholled, ac nid oes unrhyw agwedd ar ein bywydau heb ei heffeithio. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae’r GIG yn sefydliad y gallwn oll fod yn falch ohono. Ond mae Llywodraeth Cymru yn methu cynhyrchu cynllun sy'n targedu'r rhestrau aros cynyddol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £2,402 y pen, mwy na Lloegr a’r Alban, ond mae ganddi’r ffigurau perfformiad gwaethaf ond dau. Mae un o bob pedwar claf yn aros dros 52 wythnos am driniaeth, ac mae 64,000 wedi bod yn aros am ddwy flynedd. Mae'n rhaid bod rhywbeth difrifol o'i le. O ganlyniad i hyn, mae pwysau’n cynyddu ar staff y GIG ac mae gofal cleifion yn dioddef, a cheir ymdeimlad fod y GIG yn colli’r frwydr i ddarparu'r gofal o safon y mae pobl yn ei haeddu.
Dair wythnos ar ôl imi gael fy mrechiad COVID ym mis Chwefror 2021, dechreuais gael poen difrifol ym mlaen fy mrest. Ar ôl siarad â 999, cefais fy nghynghori i gymryd pedair asbirin wrth aros am y parafeddygon. Ar ôl cyfnod o amser, ffoniodd fy ngwraig 999 eto, a chyrhaeddodd y parafeddygon 40 munud yn ddiweddarach. Aethpwyd â mi i Ysbyty’r Mynydd Bychan lle cefais ofal rhagorol am bum niwrnod. Ar ôl dychwelyd adref am dair wythnos, dechreuais gael poen difrifol unwaith eto yn fy abdomen, ac aethpwyd â mi i'r ysbyty, a threuliais 10 diwrnod arall yn yr unedau gofal dwys. Bûm yn ddigon ffodus i wella’n llwyr, a dylid rhoi’r math o driniaeth a gofal yr oeddwn yn ddigon ffodus i’w cael yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty’r Mynydd Bychan i bawb. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir, a bydd llawer o bobl eraill yn cael profiadau ofnadwy.
Ar ôl arhosiad arall yn yr ysbyty yn ddiweddar, rwyf i, fel llawer o bobl eraill, wedi cael profiad o'r her sy’n wynebu GIG Cymru. Dylai'r llawdriniaeth a gefais y tro hwn fod wedi'i chyflawni o fewn chwe mis; yn lle hynny, cymerodd chwe mis arall, ar ôl iddi gael ei gohirio bedair gwaith, ddwywaith ar ôl cael fy nerbyn i'r ysbyty ac unwaith ar y diwrnod yr oeddwn i fod i fynd i'r theatr—yn lle hynny, cefais fy rhyddhau i fynd adref. Gall y gohiriadau hyn effeithio ar lesiant cleifion, ac maent yn gwneud hynny.
Ceir ymdeimlad fod y GIG yn colli'r frwydr i ddarparu'r gofal o safon y mae cleifion yn ei haeddu. Y farn gyffredinol yw bod y GIG mewn cyflwr truenus. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn seiliedig ar brofiad personol, fel fy mhrofiad i. Yn ystod fy arhosiad, gwelais bobl ar drolïau a chadeiriau oherwydd diffyg capasiti mewn wardiau asesu, staff yn siarad â chleifion heb fawr o gydymdeimlad na thosturi, ac yn rhy aml o lawer, nid oedd gan gleifion fawr o syniad pwy oedd yn siarad â hwy. Mae'n amlwg fod gennym lawer i'w wneud i gyrraedd y safonau uchel yr ydym yn ymdrechu i'w cyrraedd.
Mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ceir llawer o dystiolaeth fod amseroedd aros cleifion yn eithriadol. Dim ond 65 y cant o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn y targed o bedair awr—y ffigur isaf erioed. Gan nad oes capasiti yn y gwasanaeth i ateb y galw, mae rhai wedi aros mewn cadair am ddyddiau i dderbyn triniaeth am nad oedd gwelyau ar gael. Mae rhai wedi wynebu anawsterau cyfathrebu, gydag aelodau staff sy'n ymddangos fel pe baent yn anwybyddu eu pryderon a'u hanes meddygol, sy'n hanfodol i'w triniaeth a'u prognosis. Mae pob un ohonynt yn galw eu hunain yn ymarferwyr. Yn ogystal, mae rhai aelodau staff yn gwisgo iwnifform las tywyll, ac yn edrych ac yn ymddwyn fel siryfion neu farsialiaid, yn atgoffa pobl i ymddwyn yn dda, neu wynebu'r canlyniadau. Mae'r aelodau staff hyn yn amlwg yn anghofio eu moeseg a hawliau dynol y cleifion.
Ar ôl cwymp difrifol wrth ymarfer corff yn ystod y pandemig, roedd angen triniaeth ar ddynes yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd wedi torri sawl asgwrn. A hithau'n amlwg mewn poen, arhosodd am chwe awr heb fawr ddim meddyginiaeth lleddfu poen, cafodd ei hanfon adref gan nad oedd meddyg ar gael. Gŵyr pob un ohonom fod hwn yn gyfnod anodd i’n GIG, ond hyd yn oed cyn y pandemig, roedd GIG Cymru yn ei chael hi’n anodd. Ychydig iawn o gynnydd a wnaed dros 20 mlynedd, ers ffurfio Llywodraeth Cymru. Mae’n hen bryd inni weld newid, ac mae’n hanfodol newid er mwyn gwneud GIG Cymru yn addas at y diben. [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. Bydd yn cymryd—. Mae wedi bod yn 70 mlynedd; gall hanes siarad. Rhowch funud neu ddwy arall i mi, syr.
Mae'n ddrwg gennyf, mae gennych yr amser a neilltuwyd i chi, ac fe wyddoch hynny. Felly, mae'n rhaid ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Gadewch imi orffen, felly. Mae cyflwr presennol y GIG yn golygu bod angen mesurau unioni ar frys. Rydym yn dal i fethu nodi’r problemau sylfaenol yn y GIG, a dyna pam yr ymddengys nad yw ein mesurau unioni byth yn dwyn ffrwyth. Gadewch imi gael y gair olaf, syr. Wrth i’r system iechyd a gofal symud yn ei blaen, ac wrth i’r ffocws newid i ailsefydlu gwasanaethau a chefnogi iechyd a llesiant parhaus pobl, sydd wedi bod yn aros, ac ar eu pen eu hunain, bydd cyfleoedd ar gyfer dysgu pellach ac arloesi, ac mae'n rhaid inni barhau i ailadeiladu ein ffordd yn ôl at iechyd. Diolch.
Gwn fod llawer o fy etholwyr wedi cael yr un profiad ag Altaf Hussain, rwy’n siŵr, ond nid yw hynny’n mynd â ni’n bell iawn mewn gwirionedd, yn yr ystyr y gallwn gydnabod bod y gwasanaeth dan bwysau enfawr ar hyn o bryd, yn anad dim y galw enbyd wedi dwy flynedd o gyfyngiadau symud, ond hefyd y ffaith bod llai o gapasiti mewn ysbytai o ganlyniad i'r mesurau iechyd cyhoeddus ychwanegol sydd eu hangen. Nid oes unrhyw ddiben rhoi llawdriniaeth i rywun i fynd i'r afael â chwyn benodol a'u bod yn cael COVID yn ystod yr ymyrraeth honno, oherwydd yn amlwg, mae’r canlyniadau iechyd yn sgil hynny yn annhebygol o fod yn dda iawn. Ac mae hefyd yn wir fod staff iechyd yn dal COVID hefyd, ac yn sicr, nid ydym am iddynt ddod i'r gwaith pan fydd ganddynt COVID, ac mae hynny'n lleihau capasiti staff proffesiynol. Ac nid yw'r rhain yn bobl y gallwn ddod o hyd iddynt yn gweithio yn yr archfarchnad a gofyn iddynt ddod i wneud gwaith yn yr ysbyty yn lle hynny; mae'r rhain yn bobl hyfforddedig sydd angen blynyddoedd o hyfforddiant er mwyn gallu gwneud eu swyddi.
Felly, credaf fod yn rhaid inni gydnabod y poen y mae pawb yn ei ddioddef, ac mae'r Gweinidog iechyd yn gwneud hynny'n rheolaidd, ond mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion sy'n gydlynol ac sydd hefyd yn bosibl. Oherwydd dim ond pythefnos a diwrnod sydd ers i'r Gweinidog iechyd gyhoeddi'r cynllun adfer ar ôl COVID, ac mae braidd yn gynnar ar hyn o bryd i ddweud, 'Beth sy'n digwydd, a pham nad yw'n gweithio?' Felly, credaf fod angen inni feddwl yn graff i weld beth sydd angen inni ei wneud a sut i'w wneud.
Yn sicr, roedd gennym eisoes system a oedd wedi torri. Os oes rhwng 20 y cant a 25 y cant o'r boblogaeth yn aros am apwyntiad ysbyty—ac roedd braidd yn aneglur o gyfraniad Russell pa un ydyw, ond nid oes ots mewn gwirionedd, gadewch inni ddweud ei fod yn un ym mhob pump—mae hwnnw'n ffigur syfrdanol. Ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag achos y broblem, yn ogystal â thrin y symptomau, felly mae'n rhaid inni fwrw iddi gyda'r agenda atal. Ac mae fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, yn eistedd wrth fy ymyl; ni allai unrhyw un fod yn well Dirprwy Weinidog iechyd y cyhoedd na Lynne Neagle, ac rydym yn sicr yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gefnogi pobl â’u hiechyd meddwl, o fynd i’r afael â’r argyfwng gordewdra sydd gennym yn ogystal â mynd i’r afael ag ysmygu, sy’n amlwg yn un o brif achosion canser a llawer o broblemau eraill, yn ogystal â gordewdra. Mae'r achosion afiechyd hyn heb os yn achosi problemau enfawr i’r unigolyn ac i system y gwasanaeth iechyd. A’r adeg orau i ymyrryd ar hynny, os caf ymateb i Rhun ap Iorwerth, yw ar ddechrau’r daith, sef pan fydd menywod yn feichiog. Dyna pryd y maent yn dymuno newid, dyna pryd y maent yn rhoi'r gorau i ysmygu, dyna pryd y maent yn newid eu deiet. Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr arian y gallant ei gael pan fyddant yn feichiog i sicrhau eu bod yn bwyta deiet iach. Felly, mae llawer iawn o bethau y mae angen inni eu gwneud ar hynny, ond ni allwn beidio â'u gwneud, gan fod parhau ar y ffordd yr ydym arni ar hyn o bryd yn gwbl anghynaliadwy.
Un o'r pethau sydd gennym yw—. Nid oes unrhyw ddiben gofyn am fwy o welyau—nid dyna'r broblem; os oes gennych welyau, bydd pobl yn eu llenwi. Mae angen inni wneud ymyriadau’n wahanol, yn fwy effeithiol, yn fwy medrus, yn union fel llawfeddygon orthopedig gogledd Cymru sy’n gwneud llawdriniaethau dydd ar y pen-glin, gan gynnwys y claf a’u teulu yn y broses o baratoi ar gyfer y llawdriniaeth honno er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl.
Diolch, Jenny. Cytunaf â'ch sylwadau ynglŷn ag atal. Credaf fod angen mwy o welyau arnom, ond rwy'n cytuno â chi ar yr egwyddor gyffredinol, serch hynny, oherwydd fel y dywedais yn fy nghyfraniad, mae gennym eisoes 1,000 o welyau gyda phobl nad oes angen iddynt fod ynddynt. Felly, y broblem fawr yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Os gallwn fynd i'r afael â hynny, bydd yn datrys cyfran fawr o'r problemau sydd gennym.
Rwy'n cytuno. Ac roedd hynny ar fy rhestr fach. [Chwerthin.]
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £43 miliwn mewn gofal cymdeithasol, sef prif achos oedi wrth drosglwyddo gofal, drwy gynnig y cyflog byw gwirioneddol i'w gwneud yn fwy deniadol i fynd i weithio ym maes gofal cymdeithasol a hefyd drwy gael y gofal cofleidiol sydd ar gael drwy'r cynlluniau nyrsio cymdogaeth. Mae'r rhain yn bendant yn bethau y mae angen eu cyflwyno. Ond mae angen inni hefyd ddatblygu gwasanaeth teg a chynlluniau'r Gweinidog i ddod â gwasanaethau'n nes at y cartref. Oherwydd, cofiwch nad yw 90 y cant o'r boblogaeth yn mynd yn agos at ysbyty; mae'r nifer sydd angen bod yn yr ysbyty lawer iawn yn llai. Ond mae angen inni gydnabod hefyd fod gennym broblemau gyda lefelau staffio ac na chaiff y rhain eu datrys yn hawdd. Dyna pam y cawsom y cyhoeddiad fod dwy uned geni dan arweiniad bydwragedd wedi eu cau yn Aneurin Bevan, sy'n golygu ein bod yn gorfod canoli ysbytai ar nifer llai o unedau sydd ymhellach i ffwrdd o lle mae pobl yn byw, ac mae hynny'n achosi problemau ychwanegol. Ond caiff y broblem ei gwaethygu gan Brexit hefyd. I'r rheini ohonoch sy'n credu bod Brexit yn syniad da, gadewch imi ddweud wrthych fod un bwrdd iechyd—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—wedi cael offthalmolegydd o Wlad Groeg—. Roedd offthalmolegydd o Wlad Groeg—. Cynigiodd y bwrdd iechyd y swydd i unigolyn priodol, a phan ddywedodd y Swyddfa Gartref wrthynt na allent ganiatáu i'w teulu ddod gyda hwy, dyfalwch beth a ddigwyddodd? Penderfynodd nad oedd eisiau derbyn y swydd honno. Felly, mae'r broblem yn cael ei gwaethygu i'r holl weithwyr iechyd proffesiynol eraill y gwnaethom roi caniatâd mewn cyfnod blaenorol iddynt ddod o wledydd eraill yn Ewrop i gefnogi ein gwasanaethau.
Jenny, mae angen i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Felly, mae'n rhaid inni newid, a chredaf fod y cynllun adfer yn gynllun cydlynol ar gyfer newid. Ond yn sicr, nid yw gwneud pethau fel y maent wedi arfer cael eu gwneud yn opsiwn.
Gadewch inni ei dweud hi fel y mae: nid COVID-19 sydd wedi achosi'r argyfwng rhestrau aros. Mae wedi gwaethygu problemau, ydy, ond roedd y problemau hynny eisoes yn bresennol o fewn GIG Cymru o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2020—2020—roedd 12,428 o lwybrau triniaeth yn aros dros 36 wythnos am driniaeth yng ngogledd Cymru. Mae'r ffigur hwnnw, a oedd eisoes yn arswydus, bellach wedi cyrraedd 58,988 ym mis Chwefror 2022. Dyma'r nifer uchaf erioed ac mae 250 y cant yn uwch na'r pwynt isaf o 17 ym mis Mai 2012. Yn amlwg, mae'r oedi syfrdanol sy'n gwaethygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o dros ddegawd o ddirywiad a gorganoli mewn tri ysbyty mawr—Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd. Edrychwch ar ysbyty Llandudno: cyn y pandemig, roedd yno wardiau gwag eisoes, ac yna penderfynodd tîm rheoli'r bwrdd gau'r uned triniaethau dydd yn 2021, uned a agorwyd o'r newydd i leihau'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd a hyd yn oed Ysbyty Maelor Wrecsam. Er bod ganddynt uned mân anafiadau ardderchog, lle roedd 98.4 y cant o gleifion yn treulio llai na'r amser targed o bedair awr yn yr adran achosion brys, mae cyfrifoldebau'r adran honno bellach wedi gostwng i tua naw categori o anafiadau. A hyn—. Ar ôl cau'r adran ddamweiniau ac achosion brys, dywedwyd wrthym y byddai gennym uned mân anafiadau sy'n gwneud y cyfan, ac unwaith eto, un a fyddai'n tynnu pwysau oddi ar y tri phrif ysbyty. Ac eto, wrth inni siarad, mae'r gwasanaethau yno'n cael eu lleihau. O ganlyniad, mae hyd yn oed trigolion sy'n byw yn y dref yn dewis mynd yn syth i Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Gwynedd rhag ofn mai eu cyfeirio yno y bydd yr uned mân anafiadau yn ei wneud beth bynnag. Mae hyn yn dwysáu'r pwysau ar yr adran ddamweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf yn y wlad. Yn Ysbyty Glan Clwyd, mae mwy nag un o bob dau glaf yn aros dros bedair awr, ac mae un o bob pedwar claf yn aros dros 12 awr.
Nawr, rwyf wedi bod yn arwain fy ymgyrch fy hun i geisio lleihau'r pwysau ar y tri phrif ysbyty. Mae'r bwrdd iechyd yn cyflawni gwasanaeth pontio am chwe mis—dyma lle mae gennych bobl mewn gwelyau yn y tri ysbyty mawr a ddylai fod yn y system gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Felly, wyddoch chi, oherwydd credaf eich bod wedi'i groesawu, y gwasanaeth pontio hwn—. Ond oherwydd y gost, ni fydd ond ar agor am chwe mis. Mae angen i hwnnw fod yn wasanaeth mwy hirdymor. Mae'r rhain yn bobl sy'n ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau ac mae ganddynt becyn gofal addas ar waith, ac mae'r rhain yn cael eu trosglwyddo i ward Aberconwy a gyfluniwyd yn arbennig yn Llandudno. Ond ni ellir barnu gwerth unrhyw fenter ar sail chwe mis.
Gobeithio y byddwch yn cytuno bod cynyddu rôl ein hysbytai llai yn gyfrwng allweddol sydd ar gael inni. A byddaf bob amser yn parhau i sefyll ac ymladd yn galed i weld gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio yn ysbyty Llandudno, oherwydd rydych wedi addo imi, fel y gwnaeth cyn brif weithredwyr y bwrdd iechyd, a Gweinidogion blaenorol, fod gan Ysbyty Cyffredinol Llandudno ran annatod i'w chwarae. Felly, wyddoch chi, mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau.
Ar hyn o bryd, mae rheolaeth Llywodraeth Cymru o GIG Cymru wedi achosi sefyllfa lle mae'r Gymdeithas Strôc yn rhybuddio bod oedi wrth drosglwyddo gofal yn achosi nifer o broblemau mewn gofal brys i gleifion strôc. Mae Cancer Research UK wedi datgan nad oes digon o fanylion ac atebolrwydd yn y datganiad ansawdd. Nid yw'n gosod y weledigaeth sydd ei hangen i gynorthwyo gwasanaethau i wella o effaith y pandemig gan wella cyfraddau goroesi canser ar yr un pryd. Yn sicr, mae gennym argyfwng gyda gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Er i'r Dirprwy Weinidog honni y byddai iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn brif flaenoriaeth, dim ond 38.1 sy'n cael eu hasesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn y gogledd o fewn 28 diwrnod, ac roedd hynny ym mis Rhagfyr. Cymharwch hynny â Chaerdydd, fodd bynnag, lle mae'r ffigur yn 91.3.
Ac mae'n gwaethygu. Mae tîm iechyd meddwl cymunedol Nant y Glyn ym Mae Colwyn yn gwneud cam â'n trigolion. Mae gennyf etholwyr sydd mewn argyfwng iechyd meddwl, a phan fyddant angen cymorth y clinig hwn yn Nant y Glyn, ni allant fynd drwodd i'r ganolfan ar y ffôn, heb sôn am gael unrhyw gymorth penodol. Rwyf wedi gofyn i Fleur Evans gyfarfod â mi a Mr Kenny Burns, rheolwr y ganolfan honno, oherwydd nid yw'n ddigon da. Mae pobl yn dod i fy swyddfa i chwilio am gymorth iechyd meddwl brys, mae pobl hefyd yn dod i fy swyddfa yn bygwth hunanladdiad am na allant gael y cymorth hwn. Rwyf wedi codi hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn yma, a gallwch droi, Weinidog, gyda phob dyledus barch—ac mae gennyf lawer o barch tuag atoch; ond rwy'n teimlo ein bod yn dod yma wythnos ar ôl wythnos, rydym yn codi'r un pryderon, rydych yn gwrando ac rydych yn ymateb, ond nid wyf eisiau geiriau, rwyf eisiau camau gweithredu i fy nhrigolion—
Ar y pwynt hwnnw, mae eich amser wedi dod i ben.
Mawredd, iawn. [Chwerthin.] Rydym o leiaf 100 o feddygon ymgynghorol yn brin ledled Cymru. Ni fu unrhyw gynnydd i'r 309 o leoedd mewn ysgolion meddygol a hysbysebwyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallwn barhau—
Na, ni allwch.
—ond ni chaf wneud hynny, ond mae hwn yn bwnc difrifol iawn, a diolch i fy ngrŵp fy hun a Darren Millar a Russell George am gyflwyno'r mater. Byddwn yn cyflwyno'r dadleuon hyn wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis—nid flwyddyn ar ôl blwyddyn gobeithio. Gwrandewch arnom, Weinidog, ac ewch ati i wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r ddadl hollbwysig hon heddiw ac wrth gwrs, i Russell George am agor y ddadl heddiw ar restrau aros y GIG. Hoffwn ddechrau heddiw yn gyntaf drwy gofnodi fy niolch i'r holl bobl wych ac ymroddedig sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd, sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau yn y gwaith y maent yn ei wneud. Fel rhywun sydd â brawd a chwaer yn nyrsys yn y GIG, rwy'n deall yn uniongyrchol yr ymroddiad a'r gwaith y mae cynifer yn ei wneud—[Torri ar draws.] Galwad ffôn bwysig, rwy'n siŵr.
Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, y Llywodraeth hon yng Nghymru sy'n parhau i wneud cam â'n gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, fel y disgrifiodd cynifer ohonoch yn huawdl eisoes, mae hon yn broblem a oedd yn amlwg ymhell cyn i bandemig COVID-19 ddechrau. Mae hyn wedi bod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth yma yng Nghymru ers 23 mlynedd bellach, a chyda phob dyledus barch i gyfraniad Jenny Rathbone, clywaf yr hyn a ddywedwyd, ond 23 mlynedd i ddatrys llawer o'r materion a godwyd yma ac y byddaf innau hefyd yn eu codi mewn munud—.
Rydym yn gweld cyfran sylweddol o arian trethdalwyr yng Nghymru, dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, yn cael ei wario ar iechyd, a rhaid inni sicrhau ein bod yn gweld gwerth am arian.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Rydym wedi sôn am—. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld toriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus, a effeithiodd ar yr arian a oedd ar gael i ofal cymdeithasol drwy'r cynghorau. Rydym wedi sôn am fethu symud pobl ymlaen—[Torri ar draws.] Na, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus dan 10 mlynedd o gyni, sydd wedi effeithio ar—
A wnewch chi adael i'r Aelod wneud yr ymyriad os gwelwch yn dda?
—sydd wedi effeithio nid yn unig ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ond ar wasanaethau y gellir eu darparu drwy awdurdodau lleol, gwasanaethau ataliol, pob math o bethau a chymorth i bobl. Onid ydych yn cytuno â hynny, Sam Rowlands?
Wel, rydych yn gwneud pwynt ynglŷn â dyraniad y gyllideb yma yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ond mae'n rhaid ichi ofyn y cwestiwn: mae pwysau ar draws y Deyrnas Unedig ar gyllidebau ac ymdrin â dyledion y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei ysgwyddo, ond rydym yn dal i weld amseroedd aros gwaeth yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig—. Mae Darren Millar eisiau ymyrryd.
Ydw, rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'n ffaith nad oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb y GIG. Yr unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd erioed wedi torri cyllideb y GIG yw Llywodraeth Lafur Cymru. Eich plaid chi, Carolyn Thomas—eich plaid chi, Carolyn—sydd wedi torri'r gyllideb mewn gwirionedd.
A gaf fi atgoffa'r Aelod fod ymyriad yn cael ei gyfeirio at y siaradwr ac nid at rywun arall?
Rwy'n derbyn ymyriad yr Aelod a chymerais fod hynny wedi'i gyfeirio'n uniongyrchol ataf fi.
Fe gafodd ei gyfeirio'n uniongyrchol atoch chi.
Diolch yn fawr iawn. Felly, yn fy nghyfraniad, os caf barhau, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar amseroedd aros brys i ddechrau a sut, yn wir, y gwelwn y maes hwn yn parhau i fethu. Mae'r ystadegau'n frawychus. Fel yr amlinellwyd eisoes heddiw, gwelwn un o bob pump ar restr aros; un o bob pedwar yng Nghymru yn aros dros 52 wythnos am apwyntiad; ac yn ogystal â hyn, ers mis Awst rydym wedi gweld bod nifer y rhai sy'n aros dros ddwy flynedd wedi mwy na threblu ledled Cymru.
Nawr, wrth edrych ar fy rhanbarth yn y gogledd, mae gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru fwy o bobl ar restrau aros nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru, ac mae arnaf ofn fod yr ystadegau hyn yn parhau i waethygu wrth edrych ar y rheini mewn unedau damweiniau ac achosion brys. O fewn pedair awr, gwelwn rai o'r amseroedd aros gwaethaf mewn unedau damweiniau ac achosion brys—o fewn pedair awr—yng Nghymru nag yn unman arall ledled Prydain. Maent yn ystadegau sy'n peri pryder mawr. Unwaith eto, os caf ddychwelyd at fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, er enghraifft yn Ysbyty Glan Clwyd, un o'r prif ysbytai yn y gogledd, bu'n rhaid i un o bob pedwar claf aros yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am dros 12 awr. Wrth edrych ar amseroedd ymateb ambiwlansys, mae amseroedd ymateb gogledd Cymru ymhlith y gwaethaf yng Nghymru. Rwyf wedi sefyll yma o'r blaen ac wedi siarad am y rhaniad rhwng y gogledd a'r de, ac unwaith eto, gyda chanlyniadau iechyd a pherfformiadau iechyd, gwelwn raniad rhwng y gogledd a'r de. Nid yw iechyd yn perfformio agos cystal yn y gogledd ag mewn mannau eraill yng Nghymru. Dof yn ôl at y pwynt hwn: 23 mlynedd i ddatrys rhai o'r materion hyn. Rydym yn anghofio weithiau, yn anffodus, fod pobl yn talu am y gwasanaeth hwn. Mae pobl yn talu drwy eu trethi i eistedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am dros 12 awr, mae pobl yn talu i aros am oriau di-ben-draw i ambiwlans ddod i'w helpu. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl.
Yr ail faes i ganolbwyntio arno, rwy'n credu, yw'r amseroedd aros canser. Yn frawychus, cyn y pandemig, nid oedd y targed ar gyfer amseroedd aros canser wedi'i gyrraedd ers 2008. Yn ogystal â hyn, mae data uned gwybodaeth canser Cymru'n dangos, yn anffodus, mai Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser a'r ail isaf ar gyfer tri math o ganser yn y DU gyfan. Wrth gwrs, mae'n peri pryder mawr i gleifion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru. Mae'n amlwg i mi nad yw'r cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru yn gweithio.
Wrth edrych ar rai o'r ystadegau diweddaraf, gallwn weld bod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu ar dargedau canser. Ym mis Chwefror eleni, dim ond 59 y cant o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a ddechreuodd eu triniaeth benodol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth gyntaf o ganser—ymhell islaw'r targed o 75 y cant. Unwaith eto, mae'n destun pryder i gleifion a theuluoedd ledled Cymru fod y targedau hyn yn cael eu methu. Soniais amdano yn fy nghwestiwn yn gynharach, Weinidog. Fy mhryder mewn perthynas â llawer o hyn—a byddwn yn sefyll yma a byddwn yn tynnu sylw at y materion hyn—yw'r ffaith bod hyn yn erydu ymddiriedaeth yn y gwasanaeth iechyd a'r targedau a'r camau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i wella'r gwasanaeth iechyd. Os bydd yr ymddiriedaeth honno'n diflannu, byddwn yn ei chael hi'n anodd tu hwnt i ddod â'n trigolion gyda ni.
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr.
Rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd. Nawr, wrth gwrs, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif ynghylch y materion hyn. Mae bywydau pobl yn y fantol, ac rwy'n gwybod ein bod i gyd yn ymwybodol o hynny. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru ailadeiladu ymddiriedaeth trigolion ledled Cymru ar frys drwy wella ein gwasanaeth iechyd, cyrraedd y targedau y mae'n eu gosod, a gwella ein gwasanaeth iechyd i bawb. Yng ngoleuni hyn, galwaf ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig a gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau, gobeithio, gan siarad ar ran y Siambr gyfan, drwy ddweud fy mod yn falch o weld Altaf Hussain yn ôl yn ei sedd. Rwy'n falch iawn ei fod wedi cael triniaeth dda gan y GIG, ynghyd â 200,000 o bobl eraill o Gymru bob mis sy'n cael triniaeth gan y GIG. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau gyda hynny. A gawn ni gydnabod, os gwelwch yn dda, nad yw'r GIG wedi torri, fod 200,000 o bobl y mis, er gwaethaf y pandemig, yn dal i gael eu gweld ac yn cael triniaeth dda?
Hoffwn ddiolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon. Cyhoeddais yr adroddiad ar ofal wedi'i gynllunio ar 26 Ebrill. Datblygwyd hwnnw, wrth gwrs, ar y cyd â'n clinigwyr, felly nid yw hwn yn gynllun a grëwyd gan weision sifil, mae'n un sydd wedi'i ddatblygu gyda chlinigwyr, gyda'n GIG. A'r hyn yr oeddem eisiau ei wneud oedd sicrhau bod gennym rywbeth a oedd yn heriol ac yn gyraeddadwy. Felly, gallwch ddweud, 'Rydym am glirio'r ôl-groniad cyfan o fewn blwyddyn', ond mae'n afrealistig meddwl y bydd hynny'n digwydd, ac roedd fy rhagflaenydd yn glir iawn y bydd yn cymryd tymor cyfan y Senedd hon i glirio'r ôl-groniad sydd wedi datblygu.
Fe wyddoch ein bod wedi addo buddsoddi £1 biliwn i glirio'r ôl-groniad. Rwy'n falch o weld y Gweinidog cyllid yma i fy nghlywed yn dweud hynny. Ac rwy'n tybio, pe bai gennym fwy, y gallem wneud mwy, ond rydym wedi ein cyfyngu oherwydd yr arian a gawn gan San Steffan. A gadewch imi ddweud wrthych, os ydych yn rhoi iechyd a gofal at ei gilydd—ac rydych chi i gyd wedi sôn am ba mor bwysig yw'r berthynas honno heddiw—rydym yn gwario 4 y cant yn fwy nag y maent yn ei wario yn Lloegr ar iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ac mae'n rhaid imi ddweud, o ran Plaid Cymru, fod hwn yn un o'n blaenoriaethau ni, ond nid oedd yn un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennych yn y cytundeb partneriaeth. Felly, rhaid inni ymdrin â'r arian sydd gennym yma.
Nawr, rwy'n gwybod drwy gyfarfod â'n staff GIG ymroddedig, er gwaethaf yr hyn y maent wedi bod drwyddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf, eu bod yn barod am yr her. Rwyf wedi siarad â llawfeddygon ac anesthetyddion sydd wedi dweud wrthyf am eu rhwystredigaethau o fethu gweithredu ar y cyfraddau y maent eu hangen ar gyfer eu cleifion. Ac rydych yn iawn, Rhun, rydych yn clywed Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn dweud, 'gwnewch hyn', ond rydych yn siarad â Choleg Brenhinol y Meddygon, ac maent yn dweud rhywbeth gwahanol. Felly, gadewch inni fod yn glir nad oes gan y GIG un safbwynt cyffredinol ynglŷn â sut y dylid mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn. Ac mae'n gwbl glir fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Mae wedi ymestyn y GIG i'w eithaf, a chyn y pandemig, yn 2019, dim ond 9,000 o bobl a oedd gennym yn aros am 36 wythnos am driniaeth.
Gogledd Cymru—soniodd llawer ohonoch am ogledd Cymru—mae angen rhoi sylw iddo, ac rwy'n rhoi llawer o sylw iddo. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi ymweld â bwrdd iechyd y gogledd yn amlach nag unrhyw fwrdd iechyd arall, ond mewn gwirionedd, a gawn ni ddechrau sôn am yr hyn sy'n dda am y gogledd hefyd? Mae triniaethau canser yn well nag yn unman arall yng Nghymru. Nawr, nid ydym yn cyrraedd y targedau ac mae gennym ragor i'w wneud, ond gadewch inni ganmol yr holl weithwyr GIG sy'n gweithio'n galed iawn i glirio'r ôl-groniad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ofalus iawn ynglŷn â difrïo Betsi Cadwaladr drwy'r amser oherwydd, a dweud y gwir, mae'n ei gwneud yn anos denu a recriwtio pobl. Felly, a gawn ni fod yn sensitif yn y ffordd y siaradwn amdano? Wrth gwrs y gallwch fy nwyn i i gyfrif, wrth gwrs bod angen inni ddwyn y bwrdd iechyd i gyfrif, ond dylech ddeall bod canlyniadau i'r beirniadu cyson hwn.
Rydym yn ymwybodol iawn, Weinidog, o bwysigrwydd canmol y pethau da, ond dylid taflu goleuni ar y drwg. Rhaid inni gael trafodaethau gonest, ac mae hynny'n golygu dweud pan fydd y bwrdd iechyd yn methu. Ac mae rhai agweddau ar wasanaethau yn y gogledd, yn anffodus, yn methu, a dyna rydych wedi'i glywed yn cael ei ddweud heddiw. Rydym yn dwli ar staff gweithgar ein GIG yn y gogledd. Rydym yn eu canmol yn gyson. Fel Aelodau lleol o'r Senedd, gwn ein bod yn ymweld â meddygfeydd ac ysbytai lleol drwy'r amser ac yn rhyngweithio'n aml â'n bwrdd iechyd, ond ni allwch ddisgwyl inni gadw'n dawel a pheidio â thynnu sylw at arferion gwael—
Nid dyna a ddywedais—. Roeddwn yn ofalus iawn o'r hyn a ddywedais yn y fan honno.
—oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny er mwyn i chi allu mynd i'r afael ag ef.
Gallaf eich sicrhau nad wyf yn dweud wrthych am gadw'n dawel.
Diolch.
A gaf fi ei gwneud yn glir hefyd ein bod wedi clywed, yn uchel ac yn glir, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun gofal wedi'i gynllunio, nad oedd ganddynt gynllun ar gyfer y gweithlu ochr yn ochr ag ef? Wel, rydym yn ymwybodol iawn na allwn gyflawni hyn heb weithlu gweithgar iawn, ac rydym wedi recriwtio 8,000 yn fwy o staff i'r GIG nag a oedd gennym ym mis Medi 2019. Mae hwnnw'n gynnydd o tua 54 y cant yn nifer y staff i'r GIG yn yr 20 mlynedd diwethaf. Mae hwnnw'n gynnydd sylweddol. Nid yw'n ddigon, mae mwy i fynd o hyd. Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau yma. Bydd angen mwy o staff arnom mewn swyddi clinigol a gweinyddol, bydd angen inni ddefnyddio'r staff sydd gennym yn effeithiol, a byddwn yn gwneud defnydd llawer ehangach a gwell o sgiliau ac arbenigedd ein staff, gan gynnwys ein staff nyrsio a'n gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, i gefnogi pobl tra byddant yn aros am eu hapwyntiadau. [Torri ar draws.] Os nad oes ots gennych—. Ewch chi, Altaf.
Hoffwn siarad am un mater bach iawn. Mae'r hyn a ddywedoch chi am y staff clinigol, y nyrsys, pawb, yn wych. Ond rwyf wedi ysgrifennu'r paragraff hwn: mae rheolwyr wedi'u penodi heb ddisgrifiad swydd, neu ar y gorau, gyda disgrifiad swydd sy'n disgrifio'r agweddau rheoli. Maent wedi dod yn ymgorfforiad o hunan-ffocws, hunan-ddatblygu, hunan-gynnydd, hunan-warchod, hunan-ymestyn a hunan-ledaenu mewn ffordd sydd wedi eithrio buddiannau ehangach y GIG. Gall y duedd hon israddio a thanseilio ein GIG yn sylfaenol. Mae angen ymchwilio i hynny, os gwelwch yn dda.
Altaf, gadewch i mi ddweud wrthych beth rwy'n ei wneud a beth nad wyf yn ei wneud. Yr hyn nad wyf yn ei wneud yw rheoli'r GIG. Nid dyna yw fy swydd i.
Mae angen i rywun wneud.
Arhoswch funud—nid fy nghyfrifoldeb i fel gwleidydd yw gwneud hynny. Nid dyna fy swydd i. Gwaith byrddau iechyd y GIG yw hynny, a fy ngwaith i yw eu dwyn i gyfrif, a fy ngwaith i yw gosod targedau iddynt a'u gwneud yn atebol am y targedau hynny a'r canlyniadau hynny, a dyna rwy'n ei wneud. Ond ni fyddaf yn cymryd rhan yn y gwaith o ysgrifennu contractau i bobl, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall lle mae'r ffiniau.
Mae llawer o bobl wedi tynnu sylw at yr angen i wneud rhywbeth am yr oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rydym mewn sefyllfa anodd iawn yma. Gadewch imi ddweud wrthych fod tua 43 y cant o'n cartrefi gofal ar gau yng Nghymru ar hyn o bryd o ganlyniad i COVID. Nid yw hon yn sefyllfa yr ydym wedi'i chreu. Dyma'r amgylchiadau yr ydym ynddynt ar hyn o bryd. Nawr, ni allaf gymryd cyfrifoldeb llawn am hynny. Mae gan un o bob 25 o bobl yng Nghymru COVID ar hyn o bryd, felly mae hwn yn bwysau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef. Gallem fod wedi cyhoeddi ein cynllun flwyddyn yn ôl, ond beth fyddai pwynt hynny? Oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallwch ymateb os ydych yn gwybod y byddwch yn wynebu ton ar ôl ton o COVID, lle na allwch weld y symudiad a'r cynnydd yr ydym eisiau ei weld.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall bod COVID yn dal i fod gyda ni. Mae 700,000 o lwybrau agored, ac rydym yn ymwybodol iawn o hynny, a gallaf ddweud wrthych ei fod yn fy nghadw'n effro bob nos, ond llwybrau ydynt—nid ydynt i gyd yn bobl unigol. Mae yna lawer o bobl ar fwy nag un llwybr. Roeddwn yn glir y byddai'n cymryd tymor llawn y Senedd a llawer o waith caled i adfer o effaith y pandemig, ac roedd gennyf ddiddordeb—. Mae Rhun a Jenny bob amser yn siarad am bwysigrwydd yr agenda atal. Roedd hon yn bendant yn rhaglen gofal wedi'i gynllunio, a gallaf ddweud wrthych nad wyf yn tynnu fy llygaid oddi ar yr agenda gofal wedi'i gynllunio, oherwydd, a bod yn onest, byddant yn dal i ddod i mewn i'r system oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth gyda'r agenda atal. Cyfarfûm â Sefydliad Iechyd y Byd y bore yma, ac mae ganddynt ddiddordeb mawr yn ein hagenda atal, ac mae'n bwysig iawn nad ydym yn tynnu ein troed oddi ar y sbardun mewn perthynas â hynny. Pe baech yn y Siambr ddoe, byddech wedi clywed am ein fframwaith canlyniadau sydd ynghlwm wrth yr agenda ataliol mewn gwirionedd.
Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n cynyddu capasiti'r gwasanaeth iechyd, ein bod ni'n blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth, ein bod ni'n trawsnewid y ffordd rŷn ni'n darparu gofal dewisol, a hefyd mae'n bwysig ein bod ni'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth well i bobl. Rŷn ni wedi rhoi miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gweld theatrau ac adnoddau endosgopi ychwanegol, ac mae hwnna eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Felly, mae ein cynllun adfer yn cydnabod bod angen i'r system gyfan weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r cynllun hwn, o'r sector gofal sylfaenol yn gweithio yn wahanol iawn gyda'r sector gofal eilaidd, mae gwasanaethau i gefnogi cleifion i reoli eu hiechyd yn eu cartrefi eu hunain ac mae angen i ni leihau'r angen am ofal yn yr ysbyty. Mae'n bwysig bod y sector gofal a'r sector cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'n hysbytai ni yn ddiogel. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn mynd i weithio gyda'n gilydd i adfer ar ôl y pandemig yma.
Galwaf ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb yn y Siambr sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r ddadl o bwys enfawr i bobl Cymru. Gwn yn bersonol am y rhestr aros hon, oherwydd roedd fy mam wedi bod yn aros am bedair blynedd am lawdriniaeth ar ei chlun, mewn poen difrifol, ond rwy'n falch o ddweud ei bod bellach wedi cael triniaeth.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelodau, Russell George, Rhun ap Iorwerth, Janet Finch-Saunders ac eraill, mae rhestrau aros y GIG bellach yn hwy nag erioed o'r blaen. Mae un o bob pump o bobl ar restr aros. Mae hyn yn effeithio ar bobl o bob oed a phob cefndir ac mae'r ôl-groniadau hyn yn effeithio'n negyddol ar bob un ohonynt. Fel y dywedodd Rhun, roedd y GIG yn gwegian o dan y pwysau cyn i'r pandemig ddechrau. Mae oedi cynnar, a grybwyllwyd, wedi achosi problemau yn y GIG ehangach ac mae wedi gwneud cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes yn llawer iawn gwaeth, yn enwedig yng nghyd-destun diagnosis canser.
Roeddwn yn falch iawn o weld mwy o fuddsoddiad yn mynd i mewn i'r GIG. Fodd bynnag, mae angen inni fod yn sicr y caiff y buddsoddiad ychwanegol hwnnw ei wario ar reng flaen y GIG ac na chaiff ei golli mewn biwrocratiaeth. Nid oes arnom angen rhagor o reolwyr; yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen i fynd i'r afael â'r broblem. Mae mwy o arian yn mynd i'r GIG yng Nghymru nag yn Lloegr. Felly, nid yr arian yw'r broblem, ond y ffordd y caiff y GIG ei reoli. Roedd hi'n wych clywed cyfraniad pwerus iawn Altaf Hussain i'r ddadl hon. Rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn gwybod am eich profiad, Altaf, ac mae gan bobl barch mawr tuag atoch, nid yn unig yma, ond ledled y byd am eich profiad yn y GIG a'r hyn yr ydych wedi'i wneud.
Yn fy etholaeth i, mae trigolion yn wynebu cyfnodau hir o oedi. Yn gyffredinol, nid oes ganddynt fynediad at ysbyty cyffredinol dosbarth. Rydym yn gweld cymorth cymunedol yn cael ei leihau. Mae gwasanaethau wedi cael eu torri yn Ysbyty Tref-y-Clawdd yn fy nghymuned i. Rydym yn gweld wardiau lleol yn cau. Gwnaeth Janet Finch-Saunders y pwynt am iechyd cymunedol lleol, ac os ydym am ddatrys problem oedi wrth drosglwyddo gofal, mae angen inni sicrhau bod gennym welyau yn ein hysbytai cymunedol i drosglwyddo pobl iddynt.
Rydym eisoes wedi trafod yr adroddiad damniol 'Aros yn iach?', a oedd yn nodi effaith yr ôl-groniad o amseroedd aros. Galwodd am roi cynlluniau cadarn ar waith. Er bod y Gweinidog wedi cyhoeddi cyfres o fesurau i fynd i'r afael â hyn, ac rwyf fi a llawer o rai eraill yn croesawu'r datganiad fod ymrwymiadau yn eu lle, mae'n hanfodol bwysig fod y Llywodraeth a'r Senedd hon a phwyllgorau perthnasol yn gallu craffu ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn cyflawni eu targedau a bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif.
Dywedodd Jenny Rathbone nad yw'r cynllun hwn ond wedi bod ar waith ers pythefnos. Ond hoffwn eich atgoffa bod y Llywodraeth hon wedi bod ar waith ers dros 20 mlynedd, ac roedd yn gwegian o dan y pwysau o'r blaen, felly ni allwch feio'r pandemig am bopeth. Roedd pethau'n mynd wysg eu cefnau o'r blaen, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog ystyried hynny a pheidio â beio popeth ar y pandemig. Gwnaf, Jenny, fe wnaf dderbyn ymyriad.
Ie, dim ond ers pythefnos y mae wedi bod yno. Beth sy'n annigonol am hyn yn awr? Fe ddywedoch chi nad yw'n gynllun digonol, felly beth fyddai'n ei wneud yn ddigonol yn eich barn chi?
Yr hyn yr ydym am ei weld yw amserlenni. Nid ydym yn gweld amserlenni digonol ar gyfer cyflawni'r pethau hyn. Rydym yn gweld yr hybiau llawfeddygol nad oes gan rai ohonom mohonynt; nid ydym yn gweld pryd y bydd hybiau llawfeddygol yn cael eu hagor ledled Cymru. Nid oes amserlen ar gyfer hynny—mae yn y cynllun. Nid ydym yn gweld lle mae'r holl arian hwn yn mynd i gael ei fuddsoddi. Rydym am weld hynny er mwyn inni allu craffu arno’n briodol.
Oherwydd rydym yn croesawu hybiau llawfeddygol, Weinidog. Mae hynny'n rhywbeth rydych chi a minnau, a Russell George a fy mhlaid, wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer, gan ein bod am weld nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r GIG yn cynyddu. Ond pan fydd y bobl hynny'n mynd i mewn, mae angen inni sicrhau bod digon o staff yno i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld. Rwyf wedi dweud wrthych, ac fe'i dywedaf eto: rwy'n credu bod angen inni feddwl yn radical sut y cawn bobl i mewn i'r GIG, boed hynny drwy radd-brentisiaethau neu drwy ailwampio'n sylweddol y ffordd y daw pobl yn nyrsys neu'n feddygon.
Mae llawer o bobl wedi sôn yn y Siambr hon—[Torri ar draws.] Fe wnaf ychydig o gynnydd, Carolyn, a dof yn ôl atoch. Mae atal yn well na gwella. Mae llawer o bobl wedi dweud hynny. Ac rwy'n parchu safbwynt y Dirprwy Weinidog yma o geisio mynd i'r afael â hynny, ond mae angen inni wthio hyn yn gyflymach, yn gynt, i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni. Nid ydym am weld pobl sy’n dioddef o ordewdra ar restrau aros, gan fod hynny’n rhoi pwysau ar y GIG gydag oedi cyn rhyddhau. Mae angen blaenoriaethu iechyd y cyhoedd ac mae hynny’n golygu integreiddio'n agosach â’n hawdurdodau lleol.
Hoffwn sôn am ryddhau o'r ysbyty. Nid yw gofal cymdeithasol a'r sector iechyd yn gweithio gyda'i gilydd yn gweithio ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld gormod o bobl yn eistedd mewn ysbytai yn blocio gwelyau, ac mae angen i’r cysylltiad rhwng y byrddau iechyd a’n cynghorau fod yn fwy integredig. Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn dweud bod gennym y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar waith erbyn hyn i helpu i gyflawni hynny, ond gyda 1,000 o bobl yn dal i aros mewn gwelyau, fel y mae Russell George wedi dweud, nid wyf yn siŵr fod yr integreiddio hwnnw’n gweithio. A hoffwn bwyso arnoch i sicrhau bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni hynny.
Weinidog, nid wyf am ichi ystyried y cynnig yn ymosodiad. Credaf fod cryn dipyn o gynnwrf yn gynharach mewn perthynas â hyn. Cyflwynodd Russell George, fy nghyd-Aelod, bwyntiau da iawn ynglŷn â sut yr hoffem weld pethau’n gwella ledled Cymru, a dyna yr hoffwn i ni ei wneud yma. Nid yw'r GIG yn eiddo i Lafur, nid yw'n eiddo i'r Ceidwadwyr, nid yw'n eiddo i Blaid Cymru, nid yw'n eiddo i'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r GIG yn eiddo i'r cyhoedd. Maent yn talu eu trethi, maent yn disgwyl gwasanaeth addas, a dyna pam y byddwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar hyn. Dyna pam ein bod ni yma, a dyna pam fy mod yn annog pob Aelod i gefnogi’r cynnig hwn sydd ger eu bron heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7996 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.
2. Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru, sy'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol o fewn cynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tafarndai wedi bod yn rhan o gyfansoddiad bywyd cymunedol yng Nghymru ers canrifoedd. Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at gynnydd mewn safleoedd trwyddedig, gyda llawer o glybiau cymdeithasol yn agor yn y cymunedau newydd a grëwyd i roi llety i'r gweithwyr a oedd yn rhan o'r ymchwydd yn y boblogaeth yng Nghymru. Roedd y lleoliadau hyn yn lleoedd y gallai pobl fynd ar ôl shifft anodd i dorri eu syched. Roeddent hefyd yn fan cyfarfod i'r gymuned ddod at ei gilydd a threfnu. Ers cael fy ethol, rwyf wedi bod yn darparu cymorth i grŵp cymunedol yn y rhanbarth sy'n ceisio ailagor tafarn a fu'n wag ers peth amser. Rwy’n cydnabod yr hwb enfawr y byddai hyn yn ei roi i’r gymuned hon.
Cyn y chwyldro diwydiannol, gwyddom fod alcohol yn rhan o fywyd ers canrifoedd lawer. Mae’n wir dweud nad oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n yfed alcohol unrhyw broblem o gwbl. Gallant fwynhau ychydig beintiau neu wydraid o win yn gyfrifol, gallant gadw o fewn yr unedau alcohol a argymhellir bob wythnos, gallant fynd am wythnosau neu hyd yn oed am fisoedd heb ddiod alcoholaidd. Nid bwriad y ddadl hon yw condemnio neu annog pobl i beidio ag yfed yn gymedrol, mae’n ymwneud â sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini na allant gael un neu ddau yn unig. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn adnabod neu wedi adnabod rhywun a chanddynt broblem yfed, boed yn ffrindiau neu’n deulu.
Mae’r ystadegau sydd ar gael i ni'n tanlinellu pa mor gyffredin yw camddefnyddio alcohol yn ein gwlad. Yn 2018, cafwyd 54,900 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol, a 14,600 o dderbyniadau a achoswyd gan alcohol yn benodol yng Nghymru. Mae mwy na chwarter yr oedolion sy’n yfed alcohol yn yfed yn amlach ers y cyfyngiadau symud. Efallai mai’r peth mwyaf niweidiol oll yw ein bod, yn 2020, er gwaethaf amryw bolisïau a mesurau gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y nifer uchaf ers 20 mlynedd o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae'r ffigurau hyn yn ddigalon ac maent yn arswydus. Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio'r bywydau y tu ôl i’r ystadegau hyn sydd wedi'u dinistrio a'u colli cyn pryd, gan achosi trallod aruthrol i’r rheini sy’n camddefnyddio alcohol, eu teulu a’u ffrindiau a’u cymuned ehangach.
Gall aelodau teuluoedd alcoholigion ddioddef problemau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a chywilydd oherwydd caethiwed eu hanwyliaid. Mae perygl hefyd y gallant ddioddef yn sgil colli tymer oherwydd meddwdod. I oddeutu 200,000 o oedolion yng Nghymru, arweiniodd alcohol at fwy o densiwn neu wrthdaro yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd mwy nag un o bob 13 o bobl fod eu hyfed eu hunain neu yfed rhywun arall wedi gwaethygu'r tensiwn yn eu cartrefi ers y cyfyngiadau symud. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch mewn aelwydydd â phlant.
Yn ogystal â chost ddynol sylweddol, mae alcohol yn arwain at gost ariannol i’n gwasanaethau lleol, ein GIG a’r system cyfiawnder troseddol hefyd. Mae'n effeithio ar bawb yn ddiwahân. Yn 2015, credid bod camddefnyddio alcohol yn costio mwy na £109 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, ffigur sy’n debygol o fod wedi codi ers hynny. Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2019-22, ond credwn fod rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â phroblem gynyddol camddefnyddio alcohol yng Nghymru yn effeithiol. Mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd flaengar, nid mewn ffordd gosbol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r darlun wedi newid ers llunio'r cynllun hwn. Mae gan y Llywodraeth gyfle i ymateb i’r bygythiad cynyddol y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi i’n cymunedau. Mae arnom angen adnoddau gwell a thargedau mesuradwy i wrthsefyll niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghynllun cyflawni'r Llywodraeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Rwy'n gobeithio y gall pawb gytuno ar hynny. Rwy'n gwneud y cynnig. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw, felly, ar y Dirprwy Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.
2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.
4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Dwi nawr yn galw ar James Evans i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn pryderu bod nifer y triniaethau a ddechreuwyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi gostwng 15 y cant dros y pum mlynedd diwethaf.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Rwy’n hynod ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon ar fater pwysig y mae pob un ohonom yn ei wynebu yma yng Nghymru. Roedd y cyfraniad diwethaf yn bwerus iawn a diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Mae’r ddadl hon ar farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn tynnu sylw at nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae ar ei lefel uchaf ers 20 mlynedd, gyda chynnydd o 19 y cant ers 2019, ac mae'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa. Nid yw'n ddigon da. Mae gormod o bobl yn colli eu bywydau'n ddiangen o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol.
Mae achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru yn effeithio’n anghymesur ar bobl o gymunedau tlotach, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, wneud mwy i helpu’r bobl hynny yn ein cymunedau tlotach, a darparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i’r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yma yng Nghymru. Rwy’n bryderus iawn ynghylch y ffigurau o’r gronfa ddata cyfnodau gofal cleifion yn 2019-20, a ddangosodd fod bron i 14,749 o dderbyniadau i’r ysbyty yn ymwneud â chyflwr a achoswyd gan alcohol yn benodol. Mae hwn yn ffigur hollol syfrdanol a ddylai beri syndod i bawb yn y Siambr hon, ac mae'n dangos cymaint y mae camddefnyddio alcohol yn rhoi pwysau ar ein GIG ar adeg pan na all gymryd rhagor o bwysau.
Yn ychwanegol at hynny, amcangyfrifir bod alcohol yn ffactor mewn bron i 49 y cant o’r holl droseddau treisgar yng Nghymru, o gymharu â 39 y cant yn Lloegr, a bod 18 y cant o oedolion Cymru wedi dweud eu bod yn yfed mwy na’r canllawiau wythnosol. Efallai y bydd cael un neu ddau wydraid o win yn iawn, ond i rai pobl, nid yw'n ddigon. Ni all rhai pobl ddal eu diod, ac mae hyn yn cynyddu achosion o drais domestig ac achosion o drais eithafol ar ein strydoedd. Os gallwn liniaru hyn, gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r problemau ehangach yn ein cymdeithas.
Pan fyddwn yn ymwybodol o broblem fel hon, a bod gennym yr offer a'r gallu i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu, mae gennym ddyletswydd i weithredu lle bynnag y bo modd, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Rwy’n gwbl ymwybodol o gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Rydym wedi trafod hyn yn y Siambr hon eisoes, ond mae'n rhaid inni wneud mwy mewn perthynas â hynny i roi cymorth go iawn i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol.
Nid wyf am ychwanegu llawer mwy gan y credaf fod y sawl a agorodd y ddadl hon wedi gwneud cyfraniad mor dda. Byddwn ni ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma, gan y credaf fod angen dull blaengar, beiddgar a chydweithredol o fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae pobl yn colli gormod o anwyliaid yn llawer rhy fuan, a hoffwn annog pob un o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, hyd yn oed aelodau’r Llywodraeth, i gefnogi’r cynnig hwn heddiw er mwyn sicrhau nad ydym yn colli unrhyw un cyn eu hamser. Diolch, Lywydd.
Mae'r nifer gynyddol o achosion o gamddefnydd alcohol, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae o'n rhywbeth ddylai boeni pob un ohonom ni. Y gred ydy mai yfwyr risg uchel sydd wedi bod yn gyrru'r cynnydd diweddar mewn yfed alcohol, a hynny wedi arwain at y lefel uchaf ers 20 mlynedd o gamddefnydd alcohol. Rydyn ni'n gwybod am yr effaith niweidiol y gall camddefnydd alcohol ei gael ar ein hiechyd corfforol, yn ogystal â'n hiechyd meddwl ni. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, rydyn ni'n gwybod bod y cyfnod clo yn arbennig wedi cael effaith ar faint mae pobl yn ei yfed, a hynny yn ei dro wedi cael effaith andwyol ar iechyd. Mi ddywedodd y British Liver Trust wrthyf i mewn digwyddiad Love Your Liver y tu allan i'r Senedd yn ddiweddar—dwi'n gwybod bod nifer o Aelodau wedi bod draw i hwnnw—fod yna gynnydd o 20 y cant wedi bod mewn marwolaethau o afiechydon yr iau yn gysylltiedig ag alcohol yn ystod y pandemig. Hynny ydy, mae'r niwed wedi cael ei ddangos yn nifer y marwolaethau yn barod mewn cyfnod mor gyfyngedig â dwy flynedd.
Mae yfed trwm, hirdymor hefyd yn gallu achosi newidiadau i'r ymennydd, yn achosi anawsterau rhesymu, cofio a deall. Mae o'n gallu hefyd arwain at niwed go iawn i'r ymennydd—brain damage, felly—sy'n gysylltiedig ag alcohol, ARBD, alcohol-related brain damage. Ac mae o'n gyflwr y mae'n bosib ei atal o rhag mynd yn waeth, os ydy claf yn gallu rhoi'r gorau i yfed alcohol, ac efo'r cymorth priodol ar yr amser iawn, mae'r mwyafrif o bobl yn gallu gwella rhywfaint hefyd. Ond er gwaethaf hynny, mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud wrthym ni mai dim ond ryw 16 y cant o ddioddefwyr sy'n cael diagnosis, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr, ac agwedd anghyson, dywedwn ni, at driniaeth oherwydd absenoldeb y math o fodel triniaeth fyddai'n ddigonol i ateb y galw amdano fo. Maen nhw'n awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi a chyflwyno pecyn ymwybyddiaeth ARBD—pecyn sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru—a hynny ar frys.
Rŵan, mae'r berthynas rhwng alcohol ac iechyd meddwl yn un gwybyddus ond cymhleth iawn hefyd. Mae alcohol, wrth gwrs, yn cael ei ddefnyddio, weithiau, gan bobl i geisio—maen nhw'n meddwl—helpu rheoli symptomau gorbryder neu symptomau iselder. Ond, wrth gwrs, y gwir ydy bod yfed gormod yn debyg o waethygu'r symptomau hynny, ac mae gan iselder ac yfed yn drwm berthynas glos efo'i gilydd, a pherthynas sy'n atgyfnerthu ei gilydd hefyd, sy'n golygu, os ydy rhywun yn dangos arwyddion o un ai iselder neu yfed yn drwm, mae o'n debyg o gynyddu'r siawns y bydd person yn profi'r llall hefyd. Mae hi'n gydberthynas bryderus, ac mae rheoli yfed a chael y gefnogaeth gywir yn hanfodol i iechyd meddwl da.
Rŵan, mae'r cysylltiad clir rhwng y cyfnod clo a'r cynnydd mewn ffigurau camddefnydd alcohol yn dangos sut mae teimlo'n unig, bod ar wahân, a newidiadau mewn trefn, os liciwch chi, yn gallu effeithio yn ddifrifol ar unigolion a'u cyflwr meddwl nhw. Ac o fod wedi dysgu o'r profiad yma, dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn ceisio darparu cymorth i bobl. A dŷn ni'n sôn yn fan hyn am roi cymorth i bobl i atal ei hunain rhag niweidio eu hunain. Dyna ydy hyn, a dyna pam roeddem ni wedi dymuno, wrth i'r Bil isafswm pris alcohol fynd drwy'r Cynulliad, fel oedd o ar y pryd, gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth, ac ymdrech yn cael ei wneud yn sgil y ddeddfwriaeth honno er mwyn taclo camddefnydd alcohol hefyd. Nid gosod er mwyn gosod pris oedd hyn; gosod deddfwriaeth mewn lle efo'r bwriad o newid perthynas pobl efo alcohol, ac mae'n bwysig iawn fod y camau hynny yn digwydd yn sgil y ddeddfwriaeth honno, i wneud yn siŵr bod pobl yn sylweddoli ac yn profi cefnogaeth, fel, yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi gallu cael gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol.
Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon. Mae'n bwnc pwysig iawn. Mae'n cael effaith ddifrifol ar fywydau cymaint o bobl. Mae niwed alcohol yng Nghymru, ac yn wir, yn y DU, yn broblem sylweddol. Pan gymerwch gam yn ôl ac edrych ar ba mor aml y caiff ei wthio arnom ar bob cyfle gan hysbysebion, mae'n anodd iawn ei anwybyddu. Pe baech yn credu hysbysebion a'r brolio ynghylch alcohol, byddech yn credu na allem fyw hebddo. Rydym yn cael clywed y neges fod arnom ei angen mewn digwyddiadau chwaraeon, ar noson allan neu noson i mewn gyda ffrindiau, mewn dathliadau, digwyddiadau trist neu hyd yn oed i fagu plant o ddydd i ddydd. Gyda gwthio di-baid o'r fath, nid yw'n syndod fod niwed alcohol yn broblem gynyddol, yn enwedig pan ystyriwch fod alcohol yn un o'r sylweddau mwyaf caethiwus sydd ar gael yn rhwydd ac yn gyfreithlon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf yn y diwylliant gwin mam, fel y'i gelwir. Mae hyn yn cynnwys memynnau ar y cyfryngau cymdeithasol, placardiau i'w hongian yn y cartref a chardiau pen-blwydd yn dweud wrth famau fod angen gwin neu jin arnynt i ymdopi â'r gwaith o fagu plant. Gwelais un yn ddiweddar a oedd yn dweud, 'Fi yw'r rheswm pam fod fy mam yn yfed'. Rwy'n gwybod eu bod i fod yn ddoniol, ond nid wyf yn credu mai dyna'r brif neges. Pa fath o neges y mae'n ei rhoi i rieni a'u plant? Mae negeseuon tebyg yn cael eu targedu at dadau hefyd, ond nid ydynt ar yr un raddfa â'r rhai ar gyfer menywod.
Mae niwed alcohol ymhlith menywod wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac eto nid oes digon o sôn amdano. Credaf fod hynny’n destun pryder difrifol. Nid wyf yn beio'r holl gynnydd hwnnw ar ddiwylliant gwin mam yn unig; mae'r rhesymau'n amlweddog. Mae effaith y cynnydd hwn yn y defnydd o alcohol ymhlith menywod yn cael effaith ddinistriol ar eu hiechyd a'u llesiant. Mae ymchwil wedi dangos bod menywod yn dechrau cael problemau iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn gynt, ar lefelau yfed is na dynion. Mae hynny'n bennaf oherwydd y gwahaniaethau biolegol. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd y galon, clefyd yr afu, canser y fron a niwed i'r ymennydd. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn wybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywbeth penodol i dargedu niwed alcohol ymhlith menywod. Gwyddom y gall defnyddio alcohol achosi llu o afiechydon ymhlith dynion a menywod, ond ble mae'r rhybuddion i amlygu hynny ar y poteli neu’r caniau? Yr hyn a welwch fel arfer yw neges sy’n dweud, 'Yfwch yn gyfrifol’, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu, a llun o fenyw feichiog â chroes drwyddi. Hoffwn weld hyn yn newid, ac rwy’n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda’r diwydiant alcohol ynglŷn â diffyg rhybuddion iechyd ar eu cynnyrch.
Ceir negeseuon dryslyd hefyd am gryfder alcohol a’r unedau, nad ydynt yn cael eu dangos yn glir ac yn amlwg ar y cynnyrch, ac rwy’n edrych i weld—ac fel y gŵyr llawer ohonoch, rwyf cystal â bod yn llwyrymwrthodwr—beth yw cryfder alcohol ar gynnyrch yn eithaf aml. Ac weithiau, fe fyddwch yn lwcus os llwyddwch i ddod o hyd iddo o gwbl. Fe fydd yno, ond os gallwch ddod o hyd iddo, fe fyddwch wedi chwilio'n hir. Felly, rwy'n credu bod rhaid inni wneud dau beth: rhaid inni ddangos y rhybuddion yn glir, ond mae’n rhaid inni atal yr hysbysebu—a lleihau ei niwed—sy'n dweud bod rhaid ichi gael diod i ymdopi â'ch diwrnod. Pan ewch chi adref a gwylio'r teledu, rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonoch yn sylwi ar yr hysbysebion, os ydych yn cael pryd o fwyd neu beth bynnag a wnewch, a'r nifer o weithiau y byddwch yn gweld alcohol ym mhob un hysbyseb. Ac mae gennym yr un broblem, wrth gwrs, gyda gamblo, os ydych yn gwylio chwaraeon.
Felly, rwy'n credu mai dyna’r negeseuon y mae'n rhaid inni fynd i’r afael â hwy, a helpu pobl i beidio â dod yn gaeth yn y lle cyntaf. Nid yw'n iawn i yfed gormod, mae'n niweidiol, ac mae'r niwed yn sylweddol. Diolch.
Yr hyn sy'n fwyaf trasig am farwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol, derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol a chanlyniadau dibyniaeth ar alcohol yw eu bod yn gwbl ataliadwy. Yr hyn sy’n anfaddeuol, efallai, yw bod dibyniaeth ar alcohol yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Ar gyfartaledd, mae pobl ar incwm isel yn yfed llai na phobl ar incwm uwch. Mae’r mesur isafbris uned a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ceisio ymateb i’r ffaith bod fforddiadwyedd yn un o'r prif ffactorau sy'n cynyddu lefelau yfed. Fodd bynnag, mae'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dal i fod mewn mwy o berygl o niwed ac afiechyd a achosir gan alcohol. Drwy fethu mynd i’r afael ag achosion tlodi, a methu cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn well, rydym yn rhoi gormod o bobl mewn perygl o ganlyniadau peryglus dibyniaeth ar alcohol. Mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Yng Nghymru, mae cyfradd y derbyniadau i’r ysbyty a achoswyd gan alcohol yn benodol 3.3 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae oddeutu 45 y cant o bobl sy’n cael triniaeth alcohol yn byw yn y 30 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae gan 10 y cant o bobl sy’n cael triniaeth alcohol broblemau tai. Mae bron i 30 y cant o bobl yn y DU sy'n cael triniaeth alcohol yn dweud bod ganddynt ryw fath o anabledd. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i atal cynnydd pellach yn y ffigurau brawychus hyn. Mae’r ffigurau, fodd bynnag, yn adlewyrchu anghydraddoldebau iechyd sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymdeithas, anghydraddoldebau a adlewyrchwyd yn y cyfraddau marwolaeth uchel yn sgil COVID mewn cymunedau difreintiedig.
Mae effaith y storm economaidd, yr argyfwng costau byw sy’n taro’r cymunedau hyn galetaf, ar ddibyniaeth ac iechyd meddwl yn y dyfodol yn gwneud camau gweithredu wedi’u targedu yn awr i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny yn bwysicach fyth. Mae angen inni fabwysiadu agwedd gyfannol at leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy gefnogi’r bobl fwyaf agored i’r niwed hwnnw. Mae tlodi'n effeithio ar iechyd. Dengys ymchwil fod pobl sy'n byw mewn tlodi'n fwy tebygol nid yn unig o fyw bywyd afiach, ond hefyd i gael eu niweidio o ganlyniad i dai gwael a straen yn gysylltiedig â'u hamgylchiadau materol a chymdeithasol. Gwyddom fod tlodi'n lleihau gallu pobl i wrthsefyll clefydau, sydd, yn ei dro, wrth gwrs, yn eu gwneud yn fwy agored i fathau gwaeth o niwed i iechyd y mae alcohol yn eu hachosi. Mae sawl astudiaeth wedi dangos y gall alcohol chwyddo a gwaethygu effeithiau niweidiol tlodi. Pan gyfunir alcohol a deiet gwael, er enghraifft, mae’r risg o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn cynyddu’n sylweddol mewn cymunedau tlotach.
Yn Araith y Frenhines, unwaith eto dangosodd Llywodraeth San Steffan fuddiannau pwy sydd agosaf at ei chalon, ac roedd yn amlwg eto nad y bobl sy’n byw mewn angen, sy’n ymrafael bob dydd â phwysau ariannol, safonau byw gwael, anableddau ac incwm annigonol yw'r rheini. Pe bai lles a threthi’n cael eu datganoli'n llawn i ni, er enghraifft, gallem lunio a gweithredu system fudd-daliadau dosturiol, ariannu cymorth wedi’i dargedu, yn hytrach na chodi ein hysgwyddau a derbyn ein bod ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd ddideimlad ac esgeulus yn San Steffan. Gallem ddarparu cymorth anabledd addas i bobl, er enghraifft, i godi safonau byw pobl a'u helpu i ymdopi'n well â'r argyfwng costau byw hwn.
P’un a yw'r isafbris uned yn gwneud rhywfaint i fynd i’r afael ag yfed ai peidio, mae’r anghydraddoldebau a fydd bob amser yn gwneud rhai o’n dinasyddion yn fwy agored i niwed alcohol yn parhau ac yn gwaethygu. Mae deall rôl anghydraddoldebau cymdeithasol yn achosi niwed alcohol a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny i atal niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn hollbwysig. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig.
Hoffwn ddatgan buddiant gan fy mod yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Adsefydlu Brynawel. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a diolch i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn i’w drafod ar lawr y Senedd.
Ceir llawer o agweddau ar y ddadl hon y mae pob un ohonom yn cytuno â hwy. Mae niwed, dibyniaeth, ac yn anffodus, marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn heriau mawr yma yng Nghymru, fel y maent ledled y Deyrnas Unedig. Nid ydym ar ein pen ein hunain gyda'n pryderon am y defnydd cynyddol o alcohol fel modd o ymdopi â heriau bywyd bob dydd. Mae’n bwysig cofio bod modd atal marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac mae’r boen y maent yn ei hachosi yn ataliadwy yn wir, a chyda’r cynnydd mewn dibyniaeth, effeithiau cyfyngiadau symud COVID-19 a’r pryderon ynghylch lles meddyliol y boblogaeth, mae'n glir fod yn rhaid inni weithredu ar fwy o frys, yn ystod tymor y Senedd hon, i ddechrau atal a gwrthdroi’r duedd a welwn.
Rwy'n falch o fod yn un o ymddiriedolwyr Brynawel, gwasanaeth adsefydlu cyffuriau ac alcohol yn ne Cymru sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi dod yn ddibynnol. Yr hyn a wyddom yw bod llawer o bobl ledled Cymru sy'n gallu byw bywydau normal, gweithredol, ond sydd, ar yr un pryd, yn cynnal ffordd o fyw sy'n dibynnu fwyfwy ar alcohol fel rhan allweddol o'u bywyd cymdeithasol a theuluol. Mae llawer yn cynnal y ffordd hon o fyw cyn mynd yn sâl yn gorfforol a chyn eu bod angen cymorth gwasanaethau acíwt y GIG. Mae llawer yn llithro i ddibyniaeth yn rhy hawdd o lawer, ac yn anffodus, o'r fan honno mae'r newid parhaol ar i lawr tuag at gam-drin alcohol yn gyson yn cael ei normaleiddio.
Hoffwn ganolbwyntio ar gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn hanfodol i'r ffordd y mae'r wlad hon yn ymateb i her gynyddol; ar adeg pan ydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y rhai a gaiff eu trin dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn uwch nag y bu ers 20 mlynedd. Hoffwn nodi nifer o bryderon sydd gennyf, a gobeithio y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hwy.
Er bod angen inni fynd i'r afael ag achosion y broblem, ac mae hyn yn eithriadol o heriol, hoffwn dalu teyrnged i'r holl weithwyr proffesiynol ar draws y sector iechyd a'r trydydd sector sy'n chwarae rhan mor bwysig yn cefnogi'r rheini sy'n gaeth. Mae dewisiadau ffordd o fyw, y modd yr ydym yn byw ein bywydau, yn ychwanegu'n aruthrol at y pwysau ar y GIG, boed yn ddefnydd o gyffuriau ac alcohol, yn ysmygu neu'n ordewdra. Felly, gweithredu'n ymatebol i'r her gynyddol hon y mae'r GIG yn ei wneud i raddau helaeth, ac nid wyf am danbrisio'r effaith arnynt hwy a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Wrth gwrs, ceir amrywiaeth o opsiynau inni eu dilyn, ac nid y GIG yw'r unig gorff sy'n darparu gwasanaethau.
Mae sicrhau darpariaeth briodol ac effeithlon o wasanaethau yn allweddol, ac er fy mod wedi fy nghalonogi wrth weld ffocws ar bartneriaethau a llwybrau i ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn bob amser yn digwydd yn eu profiad hwy o wasanaethau. Mae partneriaethau rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a'r trydydd sector yn hollbwysig, fel mewn meysydd eraill o'n system iechyd a gofal. Nid yw bob amser yn gweithio'n effeithiol. Gall llwybrau rhwng gwasanaethau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl fod yn aneglur, gyda llawer o fyrddau iechyd yn methu dangos sut y maent yn darparu llwybrau di-dor i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Rhaid bod achos i'w wneud dros sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau dibyniaeth yn mabwysiadu dull 'dim drws anghywir' o ddarparu gwasanaethau.
Mae hefyd yn bwysig i Gymru sefydlu cynllun adfer i Gymru gyfan ar gyfer y rheini sydd ar restrau aros hir am bresgripsiynu cymunedol a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbyty. Wrth inni gefnu ar effeithiau'r pandemig ar y boblogaeth ehangach, rwy'n sylweddoli ein bod yn gwybod bod gwasanaethau'n ei chael yn anodd camu ymlaen i gyrraedd lle'r oeddent cyn mis Mawrth 2020. Mae hyn yn effeithio ar lawer o bobl, ond oni weithredwn yn ddigon cyflym, mae'n destun pryder y bydd effaith ein methiant yn anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
Os bydd eu cyflwr yn gwaethygu, bydd llawer o bobl sy'n ddibynnol ar alcohol angen cymorth aelodau o'r teulu, sy'n aml yn ysgwyddo cyfrifoldeb gofalu. Hoffwn wybod sut y bydd gwasanaethau'n dangos tystiolaeth fod cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwyr ac aelodau o'r teulu, o ystyried y nifer gymharol isel o asesiadau gofalwyr a gynigir gan wasanaethau camddefnyddio sylweddau haen 2 a haen 3. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar gyfer y grŵp hwn o bobl. Mae llawer o aelodau o deuluoedd pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn methu gweld eu hunain fel gofalwyr yn yr un ffordd â rhai sy'n gofalu am bobl â dementia er enghraifft. Nid ydynt yn ymwybodol o'r budd-daliadau, cymorth ymarferol fel asesiadau gofalwyr, na'u hawliau yn y gwaith mewn perthynas ag absenoldeb hyblyg a diogelwch rhag gwahaniaethu.
Hoffwn i'r Gweinidog nodi sut yr awn i'r afael ag achosion y broblem, gan gynnwys diffyg cymorth iechyd meddwl priodol, a allai leihau'r perygl o fynd yn ddibynnol ar alcohol, ac archwilio pa gapasiti sydd ei angen i ddyblu ein hymdrechion i gefnogi'r rheini sydd wedi cyrraedd y gwaelod. Fe gymeraf funud. Mae amser yn allweddol, Weinidog, os ydym am osgoi argyfwng mawr o ran iechyd y cyhoedd a darparu gwasanaethau.
Yn olaf, er bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r fframwaith triniaethau ar gyfer rhai â niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, cyfyngedig yw'r cynnydd y mae'r byrddau iechyd yn ei wneud. Diolch yn fawr iawn.
Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu at y ddadl yn awr. Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am
'ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy.'
Fel y mae ein gwelliant yn cydnabod, nid ydym yn hunanfodlon, ond mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i atal a mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio alcohol a hanes cadarn o gyflawniad.
Yn wahanol i fannau eraill yn y DU, rydym wedi diogelu a neilltuo ein cyllid dros flynyddoedd lawer. Caiff hyn ei gydnabod ymhellach gan ein buddsoddiad cynyddol mewn atal a thrin camddefnyddio sylweddau, sydd wedi codi o bron £55 miliwn y llynedd i bron £64 miliwn yn 2022-23. Yn rhan o ddyraniad Llywodraeth Cymru i fyrddau cynllunio ardal i gefnogi'r gwaith o gomisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol, rydym wedi sicrhau cynnydd o £1 filiwn yn y dyraniadau a neilltuwyd ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer adsefydlu preswyl yn 2022-23 i £3.75 miliwn a £2 filiwn. Gan gydnabod cynnydd yn y galw am gymorth, ceir cynlluniau hefyd i gynyddu'r dyraniad a neilltuwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
O ran targedau, mae gennym dargedau ar waith i fesur atgyfeiriadau, mynediad a chanlyniadau triniaeth. Mae ein cyflawniad ar fynediad a thriniaeth yn galonogol, gydag ystadegau'n parhau'n uwch na 80 y cant. Ym mis Mawrth eleni, cododd i ychydig dros 90 y cant. Mae atgyfeiriadau'n achosi mwy o bryder, a byddwn yn mynd i'r afael â hynny, ond yn sicr mae'r pandemig wedi effeithio arnynt. Mae cael targedau ystyrlon ar gyfer mesur lefelau'r defnydd o alcohol yn llawer anos, yn enwedig gan fod y data'n hunangofnodedig. Yn hytrach, mae arnom angen i'n negeseuon iechyd cyhoeddus helpu pobl i ganfod a oes ganddynt broblem gydag alcohol a chael y cymorth a ddarperir gennym cyn gynted â phosibl. Gwyddom fod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd â'r anghenion a'r gwendidau mwyaf cymhleth. Felly, rydym hefyd wedi dyblu ein cyllid ar gyfer gwasanaethau i bobl ag anghenion tai ac anghenion cymhleth i £2 filiwn. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cynyddu dros y ddwy flynedd nesaf i gyfanswm o £4.5 miliwn yn 2024-25.
Mae mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn rhan allweddol o'n hagenda camddefnyddio sylweddau. Nod cyffredinol ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau, a ddiweddarwyd mewn ymateb i COVID-19, yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod lle y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Ac er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni cynllun presennol 2019-22, gydag amryw o randdeiliaid eleni, rydym yn bwriadu archwilio'r angen i adnewyddu ac ailffocysu'r camau gweithredu ar gyfer unrhyw gynllun cyflawni newydd ar ôl 2022. Fodd bynnag, mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid hyd yma yn awgrymu bod llawer o'r blaenoriaethau presennol yn parhau'n berthnasol.
Mae'r ffactorau sy'n sail i'r cynnydd yn nifer y marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol yn gymhleth, a bydd y niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae pob un o'r marwolaethau hyn yn drasiedi, ac rydym yn cydnabod yn llwyr fod mwy o waith i'w wneud. Cydnabyddir bod amddifadedd yn ffactor pwysig, a dengys data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pobl yn y 10 y cant uchaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru bron deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty am gyflyrau a achoswyd gan alcohol yn benodol na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Bydd lleihau anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig wrth inni gefnu ar y pandemig, yn faes blaenoriaeth yn ein gwaith wrth symud ymlaen.
Gwyddom hefyd mai dod o hyd i'r swydd gywir yw un o'r ffactorau pwysicaf wrth helpu pobl sy'n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau. Mae ein gwasanaeth y tu allan i'r gwaith a ariennir gan Ewrop, sy'n dod i ben ym mis Awst 2022, wedi helpu dros 18,000 o gyfranogwyr i wella o broblemau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl ers iddo ddechrau ym mis Awst 2016; mae dros 46 y cant o'r rhain yn gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau yn unig, neu ar ôl camddefnyddio sylweddau ynghyd ag afiechyd meddwl. Er gwaethaf addewidion lu na fydd Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu arian yn lle'r cyllid hwn. Ond gwyddom fod bod mewn gwaith mor bwysig i iechyd a lles cyffredinol llawer o bobl, gan fod hynny'n rhoi diben yn ogystal ag incwm a gall chwarae rhan yn atal problemau iechyd corfforol a meddyliol. Felly, mae cefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn y gwaith ac i ddychwelyd i'r gwaith yn hollbwysig. Dyna pam y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth, gan gynnwys ymestyn y gwasanaeth cymorth di-waith tan 2025.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol addysg ac atal i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rydym yn gweithio i hyrwyddo canllawiau yfed risg isel prif swyddogion meddygol y DU, gyda'r nod o gynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hyfed. Roedd negeseuon cyhoeddus ynghylch lleihau risgiau alcohol i iechyd hefyd yn rhan allweddol o'n hymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi ac anogent bobl i leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed a pha mor aml y maent yn ei yfed.
Cyn y pandemig, galwodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth genedlaethol atal camddefnyddio alcohol ynghyd i ddatblygu blaenoriaethau ar y cyd ar gyfer lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn ailddechrau yn 2022-23, gan ddechrau gyda ffocws ar leihau nifer y bobl ifanc oedran ysgol yng Nghymru sy'n yfed alcohol yn rheolaidd.
Rydym hefyd yn falch o'n gwaith ar weithredu isafbris uned, a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau niwed alcohol. Mae hwn yn faes lle'r ydym wedi manteisio i'r eithaf ar ein pwerau datganoledig i weithredu ar gyngor Sefydliad Iechyd y Byd fod camau i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cynnwys edrych ar fforddiadwyedd, hygyrchedd ac argaeledd. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 2 Mawrth 2020, a'n nod yw y bydd ei chyflwyno'n gwneud cyfraniad pwysig tuag at fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol. Yr effaith a fwriedir ar gyfer y ddeddfwriaeth yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol a marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol y mae yfwyr peryglus a niweidiol yn ei yfed.
Yn olaf, mae ein fframwaith trin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ddatblygiad allweddol. Mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol allu rhoi arweiniad ar sut y dylent ymateb i'r rhai y mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn effeithio arnynt.
Felly, fel y dywedais, rydym wedi dangos ymrwymiad parhaus i'r agenda hon ers blynyddoedd lawer, o ran cymorth a chyllid, fel y mae'r cynnydd diweddar o £9 miliwn yn y cyllid eleni yn ei ddangos. Ond fel y dywedais, nid ydym yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar yr agenda atal a thrwy gynorthwyo gwasanaethau i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn hefyd yn gweithio ar ymrwymiad ein cynllun cyflawni i ddatblygu fframwaith canlyniadau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys adolygu dangosyddion perfformiad. Er bod yn rhaid inni gydnabod bod llawer o ffactorau cymhleth wrth wraidd y trasiedïau hyn, rwy'n gobeithio y bydd yr adnoddau a'r ffocws ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer ein gwasanaethau yn helpu i leihau nifer y marwolaethau a achosir gan alcohol yn benodol yn y dyfodol. Rwy'n eich annog i gyd i gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Diolch.
Galwaf ar Peredur Owen Griffiths nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae wedi bod yn ddadl ddifyr ac efo syniadau diddorol ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Clywon gan—.
Roedd James yn sôn am fesurau a thargedau gwell, ac mae angen y rheini arnom.
Roedd Rhun yn siarad am y niferoedd sydd yn mynd ymlaen a'r lefel uchaf mewn 20 mlynedd, ond bod alcohol a iechyd meddwl yn mynd vice versa. Mae'r ddau yn gylch dieflig yn cydweithio â'i gilydd.
Soniodd Joyce am hysbysebu a phresenoldeb alcohol ym mhob agwedd ar fywyd a hefyd niwed cynyddol alcohol ymhlith menywod yn arbennig; Sioned, yr anghydraddoldebau trasig ac yn aml, yr anghydraddoldebau iechyd sy'n achosi'r problemau. Maent wedi ymwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y rhain. Ac Altaf yn sôn am alcoholigion gweithredol yn troi'n anweithredol ac yna'r pwysau ar y GIG, ond hefyd fe wnaeth bwynt da ynglŷn â'r dull 'dim drws anghywir' o gael gafael ar gymorth.
Diolch i'r Gweinidog am ei hymrwymiad personol i symud hyn yn ei flaen a pheidio â bod yn hunanfodlon a'r ymrwymiad hirsefydlog yno. Rydym yn ymwybodol fod y Llywodraeth—yn awr, gennych chi eich hun—yn archwilio ac yn adnewyddu'r cynllun ar ôl 2022 a byddwn yn hapus iawn i weithio gyda chi ar y pethau hynny gan ei fod mor bwysig i gynifer o bobl yn ein cymdeithas.
Yn fy marn i, dangosodd y ddadl bod rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fwy radical yn eu hatebion er mwyn mynd i'r afael â'r problemau y clywsom amdanynt heddiw. Mae gennym system ar waith ar gyfer atal a chefnogi nad yw'n cael yr effaith a ddymunir eto. Heb newid cyfeiriad a pholisïau mwy radical, teimlaf y gallai'r ffigurau barhau i godi. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod nad yw'r polisïau'n cyrraedd y nod yn llwyr a gwneud newidiadau yn unol â hynny, a chlywsom am y diweddariad ar gyfer y dyfodol.
Gyda'r argyfwng costau byw'n niweidio cynifer o deuluoedd ac ar fin gwaethygu, mae angen gweithredu ar frys ar y mater hwn. Heb newid, byddwn yn colli mwy o fywydau, a bydd mwy o unigolion, mwy o deuluoedd a mwy o gymunedau yn parhau i ddioddef. Mae angen mwy o arian ar gyfer therapi triniaeth ataliol iechyd meddwl fwy helaeth, yn ogystal â'r triniaethau sydd eu hangen pan fydd rhywun eisoes yn ymrafael ag alcoholiaeth. Mae angen mesurau ataliol gwell y gellid eu defnyddio gyda theuluoedd sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu alcoholiaeth. Gall hyn fod ar ffurf cadw mewn cysylltiad â pherthnasau pobl y gwyddys bod ganddynt anhwylderau camddefnyddio alcohol neu atal alcoholiaeth enetig ac etifeddol mewn teuluoedd. Ochr yn ochr â hyn mae angen darparu cymorth i rai a allai fod wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ar ôl cyfarfod eto heddiw gydag Ymgyrch 70/30, mae targedau pendant y gellid eu gosod ynghylch hynny.
Fel y gwelwyd yn y ddadl hon, rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i gymunedau sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol ac sy'n ei chael hi'n anodd, fel nad oes neb yn cael ei adael i deimlo nad yw'n cael cyfle ac yn ddiobaith. Gan fod camddefnyddio alcohol yn effeithio cymaint ar ein cymunedau, mae'n werth inni gael y ddadl hon yma yn ein Senedd genedlaethol. Sefydlais y grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth er mwyn annog mwy o ddeialog ynglŷn â phrofiadau pobl sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcoholiaeth. Gobeithio y gall fod yn gyfrwng i rannu arferion da a chryfhau'r gwasanaethau a ddarparwn i bobl sy'n ceisio cael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwy'n gobeithio heddiw y gall pawb yn y Siambr gefnogi ein dadl, sydd nid yn unig yn galw am gryfhau a chefnogi, ond am ddarparu adnoddau wedi'u neilltuo hefyd er mwyn helpu pobl i ddianc o afael alcoholiaeth. Mae angen inni roi gobaith o well yfory i bobl sydd â phroblem yfed, heb sôn am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pledleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig nesaf yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Dwi'n galw ar Hefin David i wneud y cynnig hynny'n ffurfiol er mwyn caniatáu i eitem 9 gael ei thrafod. Hefin David.
Cynnig NNDM7999 Hefin David
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.73 i ganiatáu i NDM7998 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Mai 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Nòd oedd hwnna. Rwy'n credu mai—
Rwy'n cynnig.
Do, cafodd y cynnig ei gynnig yn ffurfiol.
Nid wyf am siarad ar y cynnig.
Ardderchog. Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw un yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, fe dderbynnir y cynnig yna i atal y Rheol Sefydlog.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n caniatáu i ni symud ymlaen yn awr i'r cyfnod pleidleisio ei hunan. Byddwn ni'n cymryd toriad byr yn gyntaf er mwyn cynnal y bleidlais a gwneud y trefniadau technegol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:19.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda’r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar restrau aros y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r y bleidlais nesaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM7997 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy.
2. Yn nodi ymhellach y bydd manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG sydd wrthi’n cael eu hadolygu.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 6, Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Rhestrau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Cynnig heb ei ddiwgio: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Fe ddylwn i fod yn gwybod erbyn hyn. Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-dethol.
Eitem 7, Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7996 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.
2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.
4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Yn symud ymlaen i eitem 9, eitem 9 fydd y ddadl fer, a dwi'n galw ar Hefin David i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis i siarad amdano. Hefin David.
Diolch, Lywydd.
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n gadael yn dawel—
Fe arhosaf yn amyneddgar.
—os oes rhaid iddynt adael. Nid oes angen i chi glirio'r gwydrau, Joyce Watson.
Dyna 'iechyd da' gan Joyce Watson yno. Diolch, Lywydd. Fe ddechreuaf os gallwch osod fy amserydd yn awr, os gwelwch yn dda. Rwy'n falch o roi munud o fy amser i Laura Anne Jones ac i Mark Isherwood ar eu cais, felly rwy'n meddwl y bydd hynny'n fy ngadael gydag oddeutu 12 munud, felly rwy'n cymryd bod hynny'n gywir. Ni allaf byth gofio'r amser iawn.
Pan fyddwn yn sefyll etholiad, rydym yn sefyll er mwyn cefnogi'r bobl yn ein cymuned a'r achosion y credwn yn gryf ynddynt, a phan oeddwn i'n sefyll etholiad, awtistiaeth oedd un o'r pethau yr oeddwn yn awyddus i sefyll drosto, ac ni freuddwydiais erioed y byddai'n effeithio'n uniongyrchol arnaf fi a fy nheulu, oherwydd cefais fy ethol yn 2016, ac ni chafodd fy merch ddiagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig tan 2018. Ac fel rhiant, mae'n rhyw lun o sleifio i fyny arnoch chi—yn sicr fel rhiant i blentyn cyntaf, heb linell sylfaen ar gyfer cymharu—fy rhieni mewn gwirionedd a ddywedodd wrthyf, ar wyliau, 'Rwy'n credu y gallai Caitlin fod yn awtistig', oherwydd oedi sylweddol gyda'i lleferydd ac iaith. Ac yn sicr ddigon, dyna oedd y diagnosis a gawsom.
Felly, rwy'n rhyw fath o fyw'r llwybr y mae rhieni yn fy etholaeth yn ei fyw hefyd, ac ymhell o fod yn hunanol yn cyflwyno'r ddadl hon, yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yw ei chodi ar ran y rhieni y gweithiais gyda hwy yn sgil fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd dros etholaeth, ac rwy'n credu bod cael mewnwelediad fy hun wedi bod yn bwysig iawn imi allu eu cynrychioli'n effeithiol am fy mod ar yr un daith. Bu'n rhaid i Caitlin aros am flwyddyn am ddatganiad, ac ni ddylai fod wedi gorfod gwneud hynny. Bu am flwyddyn yn y brif ffrwd pan ddylai fod wedi bod mewn canolfan adnoddau, felly rwyf wedi cael y profiad, y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo am yr oedi sy'n digwydd oherwydd natur amlddisgyblaethol awtistiaeth a gofyn i gynifer o bobl mewn cynifer o rannau o'r sector cyhoeddus gytuno ar yr hyn sydd ei angen.
Felly, ceir heriau enfawr, heriau enfawr, er ein bod yn cael hwyl hefyd. Yn fy nghymuned i, mae gennym lawer o grwpiau gwirfoddol. Mae dau yn arbennig yn dod i'r meddwl: Valleys Daffodils, sy'n cyfarfod yn YMCA Gilfach, yn union o dan fy swyddfa. Maent yn cyfarfod bob bore Sadwrn ac yn gwneud gwaith gwych. Rydym wedi bod yno. A hefyd y grŵp anghenion dysgu ychwanegol, Sparrows, sy'n weithgar ar draws fy etholaeth, ac sy'n cael ei redeg gan Nana Deb. Roedd Nana Deb yn mynd i fynd i Balas Buckingham i weld y Frenhines, ond yn anffodus nid oedd yn ddigon iach i fynd, ac rwy'n tybio mai dyna pam na fydd y Frenhines yn mynychu'r arddwest eleni. Rydym yn mynychu pwll nofio Cefn Fforest bob dydd Sadwrn. Ar y dechrau, arferai Caitlin ddweud wrthyf, 'Ta-ta, nofio. Ta-ta, nofio.' Ac rwy'n falch o ddweud nawr, bob bore Sadwrn, mae'n dweud, 'Helo nofio. Helo nofio', sy'n golygu ei bod hi eisiau mynd. Ni allwn fyw heb y gefnogaeth sy'n bodoli yn yr etholaeth. Mae cwrdd â rhieni sydd â phroblemau tebyg iawn i fy rhai i a chlywed eu straeon yn bwysig iawn, ac mor debyg—er bod effeithiau'r cyflwr i'w gweld mewn ffyrdd gwahanol, mae'r problemau y mae rhieni'n eu hwynebu ar y daith i ddod o hyd i gymorth ar gyfer awtistiaeth mor debyg.
Mae gennym hefyd ysgol arbennig Trinity Fields, ac rwy'n llywodraethwr arni, ond cymaint yw'r galw, rwy'n credu ein bod angen ysgol arbennig arall yn y fwrdeistref. A byddaf yn gwthio hynny gerbron arweinwyr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydym hefyd yn ddigon ffodus i gael hyb Autistic Minds, sy'n sefydliad elusennol, ac maent yn gadael imi gynnal cymorthfeydd yno yn nhref Caerffili. Unwaith bob deufis, byddaf yn cynnal cymhorthfa yno ac rwy'n cwrdd â rhieni ac oedolion ag awtistiaeth ac yn ceisio eu helpu drwy rai o'r adegau anodd hyn a welwch pan fydd naill ai aelod o'r teulu, neu chi eich hun, wedi cael diagnosis o awtistiaeth.
Un peth yr oeddwn am ei grybwyll oedd effaith y cyfyngiadau symud. Rwy'n falch iawn fod Lynne Neagle yma heddiw. Roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr oeddwn yn aelod ohono y tymor diwethaf, ac fe fydd yn cofio ein bod ar ben ein tennyn yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, lle'r oedd y diffiniad cul o 'blant sy'n agored i niwed' yn golygu bod llawer o blant ag awtistiaeth a chyflyrau anghenion dysgu ychwanegol eraill gartref pan ddylent fod mewn hybiau, oherwydd roedd plant a âi i hybiau yn agored i niwed yn yr ystyr y gallent gael eu niweidio gartref, yn hytrach na phlant a oedd yn agored i niwed gyda chyflyrau fel anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Cefais fy nghyflwyno gan Lynne Neagle i'r bartneriaeth Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, a'r cadeirydd, Carol Shillabeer. Ac fel grŵp o rieni o Gaerffili, cawsom gyfarfod â Carol Shillabeer. Yn yr ail a'r trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud, aeth y plant hynny yng Nghaerffili i'r ysgol ac roeddent i'w gweld mewn hybiau ac mewn ysgolion. Diolch, Lynne Neagle, am wneud i hynny ddigwydd, a diolch i Carol Shillabeer yn ogystal am wrando a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y diffiniad hwnnw'n ehangach. Roedd yn wirioneddol bwysig i bobl yng Nghaerffili. A sylwais yn ein grŵp Facebook, roeddent yn dweud, 'Er syndod i mi, cafodd fy mab neu fy merch le y tro hwn.' Ac nid wyf yn credu y gallwch ddod yn agosach at ddemocratiaeth a gwneud i ddemocratiaeth weithio i chi na hynny.
Ond ceir heriau o hyd, ac mae diagnosis a chymorth parhaus yn un ohonynt. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi bod yn ddigon caredig i roi papur i mi sy'n briffio ar rai o'r pethau sydd eu hangen, ac maent yn tynnu sylw at adroddiad y comisiynydd plant ar gyfer 2022, 'Gwneud Cymru'n Genedl Dim Drws Anghywir—i ba raddau rydyn ni'n llwyddo?' Maent yn tynnu sylw at ran ohono:
'Mae’r amserau aros ar gyfer asesiad o gyflwr niwroddatblygiadol (yn achos plant yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau eraill tebyg) yn eithriadol o hir, ac yn y cyfamser gall plant a’u teuluoedd dderbyn ychydig iawn o gefnogaeth, os o gwbl... Pan fydd gan blant o bosib gyflwr niwroddatblygiadol yn ogystal â iechyd meddwl gwael, maen nhw’n aml yn derbyn gwasanaeth darniog iawn, er bod y cyfuniad hwn yn un cyffredin iawn.'
Y rheswm am hynny yw nifer y gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses. Profais hynny, wrth fynd o'r elfen lleferydd ac iaith i'r elfen seicolegydd plant, i'r athrawon, i gynhwysiant yn yr awdurdod lleol. Mae cymaint o wahanol bobl yn rhan o'r broses fel ei bod yn anodd i riant fapio eich ffordd drwy'r broses honno. Dyna pam y mae'r syniad o 'ddim drws anghywir' yn un da. Ac mae'r amrywiaeth o symptomau bob amser yn wahanol. I Caitlin, nid yw'n cael pyliau mawr o chwalfa oherwydd ysgogiadau allanol; os rhywbeth, nid yw'r amgylchedd yn ei hysgogi ddigon. I blant eraill a welaf yn Sparrows, cânt eu gorysgogi, a dyna pam y gallech weld plant yn gwisgo myffiau clustiau neu glustffonau i geisio boddi'r sŵn allanol—er bod Caitlin wedi dechrau eu gwisgo, ond credaf ei fod yn fwy o ddatganiad ffasiwn ar ei rhan, oherwydd ei bod yn gweld pawb arall yn ei wneud. [Chwerthin.]
Hefyd ceir prinder o seiciatryddion plant a phobl ifanc yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, sy'n broblem allweddol o ran cefnogi plant ac oedolion ag awtistiaeth, oherwydd mae hynny'n rhan allweddol o'r hyn sydd ei angen. Gallaf weld Paul Davies yn y Siambr, a chawsom gryn dipyn o drafodaeth pan gyflwynodd ei Fil awtistiaeth. Daethom at bwynt lle'r oeddem yn anghytuno ar hynny mewn gwirionedd. Bûm mor hy â mynd at wraidd nodau'r Bil, ac un ohonynt oedd cyflwyno strategaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion â chyflyrau anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Yn bennaf oll, roedd yn ymwneud â sicrhau llwybr clir at ddiagnosis o awtistiaeth mewn ardaloedd lleol.
Fy mhroblem i, a'r broblem a welais mor aml, yw ei fod yn ymwneud gormod â cheisio diagnosis a thrin y symptomau wedyn, yn hytrach na'r darn cyntaf, sy'n edrych ar yr hyn sydd yno—beth yw'r ymddygiadau sy'n bresennol, beth yw'r ymddygiadau a welwn, sut y gallwn eu cefnogi a'u trin. Mae diagnosis bron—nid yn hollol, ond bron—yn eilradd i hynny. Ni ddylem ruthro i gael diagnosis. Yn wir, yn achos anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), nid yw rhai pobl ag ADHD am gael diagnosis o awtistiaeth, oherwydd nad ydynt yn ystyried eu hunain yn awtistig; mae ganddynt ADHD. Os byddwn yn gorddiagnosio, fe allant geisio diagnosis o awtistiaeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau, ac ni fyddai hynny'n iawn. Felly, gyda'r parch mwyaf—ac nid gwahaniaeth ar sail bleidiol wleidyddol ydyw—nid oeddwn yn cefnogi'r Bil awtistiaeth am y rhesymau hynny. Credaf fod y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn anghywir ynglŷn â hynny, a bod yn onest. Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu mai hen hanes yw hynny erbyn hyn ac rydym wedi symud ymlaen o'r fan honno.
Un peth yr hoffwn ei ddweud am lawer o'r achosion sy'n cyrraedd fy nesg a chan bobl rwy'n eu cyfarfod yn y cymorthfeydd, pobl rwy'n cwrdd â hwy yn Sparrows, yw ysgolion, a phrofiad eu plant o ysgolion. Mae gwahardd yn beth enfawr. Anfonodd Steffan Davies, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yr adroddiad hwn ataf, ac mae'n bosibl fod llawer ohonoch wedi'i gael, sef 'Addysg Disgyblion Awtistig yng Nghymru'. Mae'n werth ei ddarllen oherwydd dyma ganfyddiadau rhagarweiniol ei astudiaeth PhD, ac ynddo mae yna ystadegyn syfrdanol y credaf fod angen inni fod yn ymwybodol ohono, sef bod 76 y cant o blant a phobl ifanc awtistig yn yr arolwg wedi dweud wrthynt eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol. Ac nid yn unig hynny, dywedodd 20 y cant o rieni wrth yr arolwg fod eu plentyn wedi'i wahardd dros dro yn allanol. Ac mae rhieni hanner y bechgyn a brofodd waharddiadau cyfnod penodol yn dweud mai'r rheswm a roddwyd gan yr ysgolion oedd na allent reoli ymddygiad y plentyn, gydag ymddygiad aflonyddgar yn ail reswm mwyaf cyffredin.
Dyma un o'r problemau y mae plant yn eu hwynebu gydag awtistiaeth. Cânt eu gwahardd o'r ysgol am fod eu hymddygiad yn cael sylw, yn hytrach na'u hanghenion. Rhaid mynd i'r afael â'u hangen. Cefais y pleser o weithio gydag arweinydd cynhwysiant Caerffili, Sarah Ellis—cyfarfûm â hi heddiw, y prynhawn yma—a Claire Hudson, y mae ei mab Jack yn y sefyllfa hon. Dywedodd mai'r hyn y mae ysgolion yn tueddu i'w wneud yn rhy aml yw edrych ar ymddygiad aflonyddgar a chymryd camau yn erbyn yr ymddygiad. Yn hytrach, mae yna reswm dros yr ymddygiad bob amser. Beth yw'r rheswm hwnnw? Dyna'r cwestiynau y mae angen eu hateb. Cefnogwch yr angen, nid yr ymddygiad.
Daw hynny â mi at ADHD a Tourette's, dau gyflwr sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth. Mae fy merch yn defnyddio ymddygiad hunanysgogol geiriol. Mae'n swnio fel ticiau geiriol. Weithiau, fe gewch hynny gydag awtistiaeth. Weithiau, nid awtistiaeth ond Tourette's a fydd gennych ac mae gennych ADHD yn gyfan gwbl ar wahân, a dyma lle y gall pobl ddisgyn drwy'r bylchau braidd. Heddiw siaradais â Helen Reeves-Graham, sydd wedi adrodd am ei phlentyn ei hun gyda Tourette's, a dywedodd nad yw'n ymddangos bod llwybrau ar gael ar gyfer plant nad oes ganddynt anhwylderau'r sbectrwm awtistig fel cydafiachedd. Rwy'n credu bod honno'n her wirioneddol i'r sector ei goresgyn, ac mae adroddiad ar wefan y BBC ar hynny. Gan fy mod yn sôn am Tourette's, rwyf hefyd am sôn am Lucy-Marie, sydd wedi ysgrifennu llyfr—mae hi'n 12 oed—i blant â Tourette's yn esbonio rhai o'r heriau y mae'n eu hwynebu er mwyn i blant eu deall. Mae darn ar wefan y BBC hefyd gyda fideo ohoni'n siarad. Mae hi'n un o blant ein grŵp Sparrows. Rydym yn eu galw'n 'fledglings' ac mae hi'n rhan o'r grŵp hwnnw.
Felly, am beth y gofynnaf? Wel, mae rhai argymhellion allweddol yr hoffwn eu gweld. Yn gyntaf oll, pwynt allweddol yw mynd i'r afael ag anghenion, nid ymddygiadau, a lleihau nifer y plant yr effeithir arnynt gan anhwylderau'r sbectrwm awtistig, Tourette's ac ADHD yn yr ysgol sy'n cael eu gwahardd—lleihau'r nifer hwnnw. Mae angen i ddiagnosis fod yn amlddisgyblaethol ac nid yn ar wahân i bopeth, felly mae arnom angen i bobl weithio gyda'i gilydd yn drawsddisgyblaethol, nid yn unig ar gyfer awtistiaeth, ond ar gyfer ADHD, a dealltwriaeth gynyddol o Tourette's hefyd. Ac mae angen inni gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r risg sy'n gysylltiedig pan fo cyflyrau niwroddatblygiadol a phroblemau iechyd meddwl yn cyd-ddigwydd. Mae angen i hynny fynd y tu hwnt i bolisi ac arferion. Gwyddom fod problemau gydag aros am CAMHS yn rhan o hynny, a gwn ein bod wedi cael sgyrsiau am hynny hefyd. Fe gofiwch yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'; mae'r cyfan yn hwnnw—y gwaith a wnaeth Lynne Neagle ac y mae Julie Morgan yn ei wneud.
Yn y fan honno, rwy'n mynd i roi amser i Laura Anne Jones a Mark Isherwood, felly rwy'n mynd i ddod i ben yn awr a dweud nad dyma ddiwedd y ddadl. Rwy'n credu bod y Pwyllgor Deisebau yn mynd i gyflwyno dadl arall ar Tourette's. Cyfle i grafu'r wyneb yn unig a gefais heddiw, ond rwy'n gobeithio dod â mwy i'r ddadl honno hefyd.
Daw awtistiaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr gwasanaethau awtistiaeth gael eu deall a bod addasiadau'n cael eu gwneud ar eu cyfer, gan fod pob un ohonynt yn unigolion unigryw a chanddynt anghenion unigol, yn union fel pawb arall. Fodd bynnag, er nad yw cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth yn gyflyrau iechyd meddwl, rwy'n dal i glywed yn ddyddiol gan bobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol gydol oes, gan gynnwys awtistiaeth, neu eu teuluoedd, fod cyrff cyhoeddus wedi methu deall anghenion unigol a gwneud addasiadau yn unol â hynny, gan achosi mwy o bryder a phyliau o chwalfa. Er enghraifft, yn sir y Fflint, cafodd plant a gafodd eu derbyn i ofal lle'r oedd y rhieni ar fai adroddiad arbenigol yn nodi bod ymddygiad y plant yn gyson ag awtistiaeth, ond mae'r cyngor yn gwrthod eu hatgyfeirio i gael diagnosis. Yn sir Ddinbych, ysgrifennodd un fam fod ei mab wedi bod yn aros am brawf diagnostig ar gyfer awtistiaeth ers 18 mis, ond gan nad yw wedi cael ei asesu, nid yw'r ysgol yn gallu cael cymorth fel seicoleg addysg ac allgymorth awtistiaeth. Ac un enghraifft olaf yn sir y Fflint: teulu y cafodd eu mab, sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth, chwalfa ddifrifol iawn, ac ar ôl hynny ysgrifennodd gweithrediaeth gyfreithiol y cyngor, 'Byddai'n amhriodol i'r awdurdod lleol ragdybio cyflwr iechyd meddwl eich mab heb ddiagnosis iechyd.' Yn anffodus, hyd nes y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu darparu a'u monitro'n iawn gyda phobl niwroamrywiol, eu teuluoedd a'u gofalwyr, bydd bywydau'n parhau i gael eu niweidio fel hyn.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Hefin David am ddod â'r ddadl bwysig hon i'n Siambr heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y gwrandewir ar ei brofiadau personol gyda'i ferch brydferth, a'r wybodaeth sydd ganddo bellach. Am y rhan fwyaf o'r hyn a ddywedoch chi, rydych wedi cael y profiad hwnnw, yn wahanol i'r rhan fwyaf ohonom yma, ac rydych yn gwybod beth sydd ei angen i unioni camweddau'r system. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld rhestr aros o ddwy flynedd a mwy i blant weld arbenigwr tîm niwroddatblygiadol, sy'n crynhoi problemau mawr ar gyfer y dyfodol ac yn fy marn i, yn rhoi dysgu a chyfleoedd bywyd plant mewn perygl sylweddol. Heb y penodiadau tîm niwroddatblygiadol, mae gennym bellach blant nad ydynt yn cael eu hadnabod yn glinigol fel rhai awtistig neu ag ADHD, gan arwain at lefelau gwael o ddealltwriaeth a darpariaeth, a chreu sefyllfa lle nad yw plant yn cael digon o gymorth i ffynnu. Dywedwyd wrthyf hefyd am achos un rhiant a allai orfod mynd i ddyled i ariannu atgyfeiriad preifat ar gyfer eu plentyn. Dywedwyd wrthyf hefyd y gall penaethiaid ac athrawon roi mesurau ar waith eu hunain i gefnogi llythrennedd a rhifedd—nid dyna'r broblem—ond yr hyn y maent wedi'i bwysleisio a'r hyn y maent yn ymrafael ag ef yw nad yw penaethiaid nac athrawon wedi cael hyfforddiant ac nid oes ganddynt gapasiti i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar ddysgwyr sy'n agored i niwed, gan arwain yn aml at waharddiadau, am na allant ymdrin â'r ymddygiad hwnnw. Gan fod gennym system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn dod yn weithredol yn awr, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn destun archwiliadau manwl a rheolaidd a rhoi mesurau diogelu ar waith, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn lleddfu ein holl bryderon yma heddiw, ac nad ydym yn gadael i ragor o blant lithro drwy'r bylchau. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Julie Morgan.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin, am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Gwn fod llawer o ddiddordeb yn y Siambr yn y pwnc. Yn amlwg, mae hyn mor bersonol iddo, a hoffwn ddiolch yn fawr iddo am rannu ei brofiadau personol gyda phob un ohonom yma heddiw. Diolch, Hefin.
Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu unigolion sy'n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, a chlywais am brofiadau'n uniongyrchol gan rieni plant ag awtistiaeth ac ADHD. Cyfarfûm hefyd â rhieni plant ag anhwylderau tic a syndrom Tourette's—cyfarfod lle'r oedd fy nghyd-Aelod dros Gaerffili yn gallu ymuno â mi. Credaf fod cael y cyfarfodydd hynny gyda rhai o'r lleisiau mwyaf pwerus yn pwysleisio'r angen am yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud ac mae'r cyfarfodydd lle mae rhieni wedi dweud wrthyf am y trafferthion y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth ar flaen fy meddwl wrth inni ymdrechu i wneud newidiadau cadarnhaol.
Felly, yn gyntaf, gadewch imi ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn niwroamrywiol, ynghyd â'u rhieni a'u gofalwyr, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae llawer i'w wneud, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond rydym wedi cymryd camau breision i symud ymlaen, ac mae hyn yn cynnwys llwyddiant y gwasanaeth awtistiaeth integredig sy'n darparu gwasanaethau asesu a chymorth i oedolion a chymorth i deuluoedd, a chefnogir hyn gan £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Cyflawnwyd ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflwyno cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth hefyd, cod a ddaeth yn weithredol ar 1 Medi y llynedd, ac rydym yn gweld ymrwymiad clir gan sefydliadau statudol i groesawu'r cod a gwella gwasanaethau a chymorth yn rhagweithiol. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol yn gweithio'n uniongyrchol gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i'w helpu i ddatblygu seilwaith awtistiaeth a phenodi hyrwyddwr awtistiaeth ym mhob ardal. Mae'r cod wedi rhoi sylfaen inni allu gwneud newid gwirioneddol a gwella gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill.
Wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid pan oeddem yn datblygu'r cod, fe wnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym, er gwaethaf y cynnydd a wnaed mewn gwasanaethau awtistiaeth, fod llawer o bobl â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn dal i'w chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, er bod eu hanghenion yn aml yn debyg neu'n cyd-ddigwydd ag awtistiaeth. Adleisiwyd y sefyllfa hon yn fy nghyfarfod â rhieni plant ag ADHD a syndrom Tourette's.
Felly, dyma pam ein bod yn ehangu ein dull o weithredu, o ganolbwyntio ar awtistiaeth i geisio gwelliannau ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, felly mae gennym dîm polisi pwrpasol bellach sy'n gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes addysg. Mae ein tîm awtistiaeth cenedlaethol hefyd yn ehangu ei gylch gwaith a'i arbenigedd i ddarparu cyngor ar draws y cyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym am sicrhau bod y cynnydd a wnaed gydag awtistiaeth yn cael ei ymestyn i'r cyflyrau eraill a'u bod i gyd yn gweithio gyda'i gilydd, a chredaf fod hwnnw'n ddatblygiad pwysig iawn. Fe wyddom, ac mae nifer o'r Aelodau wedi crybwyll hyn yn y ddadl heddiw, fod gwasanaethau asesu'n profi galw cynyddol gydag amseroedd aros hir ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion, ac mae angen llwybrau gwasanaeth newydd ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, er mwyn deall y maes cymhleth hwn yn well a nodi opsiynau ar gyfer gwella, comisiynwyd adolygiad gennym y llynedd o'r galw a chapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol ac mae'r awduron bellach wedi cyflwyno eu canfyddiadau i mi. Rwy'n ystyried adroddiad terfynol yr adolygiad ar hyn o bryd, adolygiad sydd wedi darparu tystiolaeth gref o'r angen am raglen wella i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy sy'n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. A chredaf fod Hefin wedi sôn am bwysigrwydd y gefnogaeth sydd ei hangen wrth i chi aros am ddiagnosis, a theimlaf fod hynny'n gwbl allweddol.
Fe ddof yn ôl at fy nghyd-Aelodau'n fuan pan fyddwn yn cyhoeddi'r adolygiad a byddaf yn gwneud cyhoeddiad am y camau gweithredu tymor canolig a hirdymor y byddwn yn eu cymryd i gefnogi gwelliannau. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar frys i leihau'r pwysau ar wasanaethau asesu a rhoi cymorth a chefnogaeth gynnar ar waith i deuluoedd sydd angen cymorth yn awr.
Mae'n bwysig cydnabod y bydd diwygio gwasanaethau niwroddatblygiadol yn adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a'i ffrwd waith niwroddatblygiadol, sy'n dod i ben ddiwedd mis Medi eleni. Rhaid imi ddiolch i bawb a fu ynghlwm wrth hynny am bob dim y maent wedi'i wneud. Rydym yn gweithio i sicrhau pontio llyfn o'r rhaglen i sicrhau bod yr holl arferion da yn cael eu cofnodi a bod y cysylltiadau cryf a ffurfiwyd gan dîm y rhaglen yn cael eu cynnal a'u cryfhau ymhellach.
Caiff polisi a darpariaeth yn y dyfodol eu cydgynllunio gydag unigolion a theuluoedd sydd â phrofiad byw o gyflyrau niwroddatblygiadol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd arolwg gennym drwy ein rhwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol i gasglu profiadau cyfredol y rhai sy'n ceisio cael asesiad a chymorth ar restr aros neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau. Roedd yr arolwg yn fyw am dros wyth wythnos a chawsom dros 370 o ymatebion. Rydym yn adolygu'r adborth a ddaeth i law ar hyn o bryd, ac mae un thema gynnar a nodwyd yn atgyfnerthu'r angen am well cymorth cyn ac ar ôl diagnosis, rhywbeth a gaiff ei adlewyrchu yng nghanfyddiadau'r adolygiad o'r galw a chapasiti.
Maes allweddol arall yn yr adborth gan rieni yw cymorth mewn ysgolion, a soniwyd am hynny, a soniodd Hefin am hynny'n rymus iawn heddiw. Gwnaeth y ffigurau argraff fawr arnaf: 76 y cant o blant awtistig yn cael eu bwlio yn yr ysgol; 20 y cant o waharddiadau. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae rôl addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn gwbl allweddol. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes addysg sy'n cyflawni gwelliannau drwy'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc niwroamrywiol yn cael eu cydnabod, a bod gan staff wybodaeth a sgiliau i'w cefnogi. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd y rhieni yn y grŵp y cyfarfûm â hwy a oedd â phlant ag ADHD gryn argraff arnaf, a'r sôn hefyd am ba mor allweddol yw'r ffordd y mae'r ysgol yn ymateb i'r plant hynny, a'r gwahaniaeth a wnâi i'w bywydau.
Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â dwy ysgol yr wythnos nesaf yn ardal sir Gaerfyrddin sy'n gweithio'n galed i gefnogi disgyblion niwroamrywiol i wneud y gorau o'u potensial ac ehangu'r cyfleoedd iddynt. Mae un o'r ysgolion wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan y Sefydliad ADHD am ei gwaith, ac rydym am rannu profiad yr ysgol honno, oherwydd credaf fod llawer o ffyrdd y gallai ysgolion symud tuag at fod yn ystyriol o ADHD; byddai'n gwneud cymaint o wahaniaeth.
Ac rwyf hefyd am gydnabod rôl y trydydd sector, sydd wedi bod yn allweddol yn y cynnydd a wnaethom gyda'r cod ymarfer awtistiaeth, a bydd iddo rôl ganolog yn ein diwygiadau niwroddatblygiadol, yn enwedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau cymorth cyn ac ar ôl diagnosis.
Felly, i gloi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym am lwyddo i leihau'r pwysau sy'n effeithio ar wasanaethau niwroddatblygiadol, a sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gynnar yn gyflym, yn ogystal ag asesiadau amserol. Felly, rydym am i blant, pobl ifanc ac oedolion niwroamrywiol deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u harfogi i ymateb i heriau bywyd bob dydd yn awr ac yn y dyfodol. Hoffwn orffen eto drwy ddiolch i Hefin am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gyfraniadau Laura Anne a Mark. Diolch.
Diolch yn fawr. Dyna ddiwedd ar ein gwaith am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.