Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/05/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig? OQ57979
Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y gall technoleg ddigidol eu cynnig. Ac mae dros 91,000 o bobl wedi cael cymorth gyda sgiliau digidol sylfaenol, cymhelliant a hyder, a all eu helpu i gael cyflogaeth, cyrchu gwasanaethau a chefnogi llesiant.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru'n byw mewn cymunedau gwledig sy’n aml yn cael eu gwasanaethu’n wael gan y seilwaith digidol presennol, ac er bod rhai bellach yn cael cynnig gwell gwasanaethau, gall fod yn anodd gwneud y penderfyniadau cywir o ran darparwyr, mathau o fand eang a newid llinellau ffôn. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i'r argyfwng costau byw barhau a gall gwella cysylltedd digidol cartref fod yn ddrud. Pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i arwain pobl mewn cymunedau gwledig drwy’r broses o wella cysylltedd digidol fel nad ydynt yn cael eu hallgáu o fyd lle mae bod ar-lein bellach yn hanfodol?
Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, am eich cwestiwn pwysig fel yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru. Mae gwefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru/band-eang-yng-nghymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i helpu i arwain pobl drwy’r broses o wella cysylltedd digidol, gan gynnwys yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Mae'n hanfodol yn awr ein bod yn cynyddu ein dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o hynny, fel y dywedwch, yn enwedig mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, ond hefyd er mwyn croesawu'r ffaith bod gan lawer o awdurdodau lleol swyddogion ymgysylltu band eang sy'n helpu pobl a chymunedau i wella eu cysylltedd digidol, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, sir y Fflint, sir Ddinbych a Wrecsam yn y gogledd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau y gwneir y mwyaf o hyn ac estyn allan at eich dinasyddion a’ch etholwyr.
Weinidog, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig nad ydynt ar-lein fel arfer wedi'u hallgáu oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Carolyn. Gyda gwasanaethau band eang symudol a llinell sefydlog, mae'n aml yn wir fod y ddau fath yn broblem i etholwyr. Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o’r defnyddwyr mwyaf o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan ddatblygiadau diweddar sydd wedi golygu bod gwasanaethau, fel gwneud apwyntiadau, gwneud ceisiadau am bresgripsiynau ac ymgynghoriadau wedi symud ar-lein. O gofio bod llai o bobl yng Nghymru'n defnyddio’r rhyngrwyd i reoli eu hiechyd na gweddill y Deyrnas Unedig, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—a gwn o’ch ateb blaenorol, ichi sôn am y wefan a’r gwasanaethau cymorth, ond beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud—i sicrhau nad yw pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl a'u hallgáu o fanteision cyrchu gwasanaethau iechyd ar-lein? Diolch.
Diolch, Natasha Asghar. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn hefyd. Yn ddiddorol, gwyddom drwy arolwg cenedlaethol Cymru nad ardaloedd gwledig a threfol o reidrwydd yw achos sylfaenol allgáu digidol—mae 93 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol yn defnyddio'r rhyngrwyd. Ond fel y dywedwch, o ran cynhwysiant digidol a mynediad at iechyd, mae'n bwysig cydnabod hefyd fod £2 filiwn y flwyddyn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno—y rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant—ers mis Gorffennaf 2019. A dweud y gwir, cefais gyfarfod am hyn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Cwmpas, sy'n gweithio i hyrwyddo rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, yr wythnos diwethaf, a buom yn edrych ar y materion penodol hyn mewn perthynas â mynediad at iechyd. Mae'n ddiddorol hefyd, er enghraifft, fod byrddau iechyd yn mabwysiadu cyfrifoldebau. Mae bwrdd Hywel Dda'n gweithio’n agos gyda Cymunedau Digidol Cymru i ystyried sut i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu cynlluniau ac maent hefyd yn ymrwymo i’r siarter cynhwysiant digidol. Ond yn olaf ar y pwynt hwn, rydym yn awyddus iawn i weithio ar safon ofynnol Cymru ar gyfer bywyd digidol, ac mae hynny bellach yn mynd rhagddo—rydym wedi comisiynu Prifysgol Lerpwl i barhau â'r gwaith hwn.
Diolch yn fawr iawn i Carolyn am y cwestiwn yma. Mae gen i drigolion yn Nwyfor Meirionnydd, yn Islaw'r-dref, er enghraifft, sy'n methu â chynnal eu busnes ar-lein ac sy'n gorfod symud i ffwrdd neu gau'r busnes i lawr. Mae gen i blant bach sy'n cael eu heithrio o sgyrsiau yn yr ysgol achos eu bod nhw'n methu â gweld y fideo diweddaraf ar YouTube, neu'n methu â chael mynediad i Netflix, er mwyn medru cymryd rhan yn y sgyrsiau efo'u cyd-ddisgyblion nhw. Mae eraill yn methu â gwneud gwaith cartref ar-lein, neu'n methu â chofrestru stoc oherwydd diffyg cysylltedd. Dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith dwi wedi cael cyfarfod efo'r awdurdodau, boed yn Openreach neu'n rhywun arall, a hwythau'n dweud efo balchder eu bod nhw'n mynd i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth o fewn rhai blynyddoedd. Y gwir ydy, ni ddylid anelu i gyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth; dylid anelu i gyrraedd 100 y cant o'r boblogaeth, a dim llai. Beth ydy'r pwynt hefyd i drigolion gwledig gael mynediad i dechnoleg heddiw mewn pum mlynedd, pan fydd y dechnoleg mewn pum mlynedd wedi symud ymlaen a hwythau'n cael eu heithrio o'r dechnoleg newydd yna? Felly mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. A wnewch chi, felly, sicrhau bod cael mynediad i'r we i bawb yng Nghymru—nid canran o'r bobl, ond i bawb—yn flaenoriaeth i chi fel Llywodraeth?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mewn gwirionedd, mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi prosiect adfywio cymunedol Dinasyddion Ar-lein—mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ohono, Mabon—sef Gwynedd Ddigidol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl â sgiliau digidol sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Hefyd, gan gydnabod nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru—gwnaethom sylwadau ar hynny ddoe—rydym yn parhau i sicrhau gwelliannau mewn cysylltedd digidol, yn benodol ar draws gogledd Cymru i ymateb i’ch cwestiwn, ond wrth gwrs, ar gyfer Cymru gyfan. Felly, ar gyfer y gogledd, o dan ein cynlluniau gwerth £56 miliwn i gyflwyno band eang ffeibr llawn, rydym eisoes wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 8,869 o adeiladau yn chwe sir gogledd Cymru, a chan weithio'n agos iawn gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu campysau a phrosiectau coridor.
2. Pa fentrau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan i integreiddio â chymunedau Cymru? OQ57961
Diolch am eich cwestiwn, Joel. Drwy ein hymagwedd tîm Cymru, mae gwasanaethau ar waith i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan. Ac mae ein cynllun cenedl noddfa yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i integreiddio pawb sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd o’r grŵp Alltudion ar Waith, sy’n dadlau bod gennym gyfle i helpu ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yng Nghymru i ennill sgiliau a fydd yn eu helpu i integreiddio yma ac a fydd yn ddefnyddiol os a phan fyddant yn gallu dychwelyd adref. Enghraifft sydd eisoes wedi’i chrybwyll yn y Siambr fyddai rhoi’r cyfle i ffoaduriaid o Affganistan—y mae gan lawer ohonynt brofiad milwrol blaenorol—hyfforddi fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Roeddent hefyd yn argymell y dylai sefydliadau ffoaduriaid gael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig gyda gorbenion a chostau rheoli, a chael cyllid iddynt allu cynnal prosiectau sy'n darparu gwasanaethau perthnasol. Credaf fod hynny’n bwysig i ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yn benodol sy'n agored i gael eu targedu gan bobl ddiegwyddor i weithio am arian parod ac islaw’r isafswm cyflog, neu hyd yn oed i gael eu gorfodi i weithio o dan amodau caethlafur. Weinidog, fel yr arweinydd ar faterion o’r fath yng Nghymru, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i gael mynediad at anghenion hirdymor a setiau sgiliau presennol ffoaduriaid o Affganistan a Wcráin yng Nghymru, a pha lwybrau a gynigiwyd i’w hatal rhag cael eu targedu? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn defnyddiol iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cynghori ac eirioli hollbwysig i bobl sy’n ceisio noddfa. A dweud y gwir, yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid i gonsortiwm a arweinir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gyfer y gwasanaeth cymorth i geiswyr noddfa, ac mae hwn yn wasanaeth olynol i'r rhaglen hawliau lloches, a ariannwyd gennym dros y tair blynedd diwethaf. Ond mae gennym hefyd ein gwefan noddfa, y byddwch yn ymwybodol ohoni rwy'n siŵr, sy'n darparu gwybodaeth yn benodol ar gyfer pobl a ddaw yma drwy gynlluniau Wcráin, ac Affganistan yn wir. Fel y dywedwch, yn gwbl gywir, y sgiliau sydd yno, y sgiliau sy'n dod, yn enwedig o fis Awst, gyda ffoaduriaid o Affganistan, y sgiliau hynny—cyfieithu, a llawer o setiau sgiliau eraill—. A dweud y gwir, cyfarfûm â rhai o’r ffoaduriaid o Affganistan a oedd gyda ni yn yr Urdd, ac roedd menywod â sgiliau hefyd yn y sector iechyd, yn ogystal â sgiliau busnes. Felly, mae'n hanfodol, ar gyfer integreiddio, fod modd gwneud y cyfraniadau hynny. Felly, rydym yn darparu’r wybodaeth am fynediad at iechyd, addysg a chyflogaeth, ac mae gan y wefan hefyd feddalwedd cyfieithu testun i leferydd er mwyn sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bobl sy’n ceisio noddfa ac sy'n ymuno â ni yng Nghymru yn awr, gan integreiddio, a chyfrannu mewn cynifer o ffyrdd wrth gwrs. Mae angen inni ddefnyddio eu sgiliau.
Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cefnogi meddygon sy’n ffoaduriaid hefyd, sydd bellach yn rhan o’n GIG. Ond byddai'n rhaid imi ddweud bod yr hawl i weithio'n fater allweddol a godais droeon gyda Gweinidogion mewnfudo Llywodraeth y DU, ar y cyd, yn wir, â fy swyddogion cyfatebol o Lywodraeth yr Alban. Mae’n hanfodol ein bod yn galluogi ein ffoaduriaid i weithio a defnyddio'u set sgiliau, yn ogystal â chael mynediad at sgiliau newydd yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn cytuno â dadansoddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ddyfarniadau diweddar yr Uchel Lys ar brofi mewn cartrefi gofal yn ystod COVID-19?
Mae hwn yn gwestiwn sydd—. Yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog i’r cwestiynau hyn ddoe, ac wrth gwrs, bydd yr ymchwiliad annibynnol yn mynd i'r afael â’r holl faterion hyn.
Diolch. Mae’n drueni, Weinidog, eich bod yn parhau i ailadrodd llinellau eich Prif Weinidog, a’r cyn-Weinidog iechyd, sydd fel pe baent yn meddwl na ddylai gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod COVID-19 arwain at unrhyw ganlyniadau o sylwedd. Dylid cofio bod Cymru bythefnos gyfan ar ôl Lloegr cyn i’ch Llywodraeth gyflwyno profion cyffredinol mewn cartrefi gofal, ac rwy'n atgoffa'r Senedd fod y comisiynydd pobl hŷn wedi dweud yn ddiweddar fod dyfarniad yr Uchel Lys yn tanlinellu’r angen am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru er mwyn archwilio effaith y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a darparu atebion mawr eu hangen i'r bobl sy'n chwilio amdanynt. Mae eich penderfyniad i wrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru yn awgrymu eich bod yn fodlon â'r sefyllfa bresennol. A wnewch chi sefyll dros hawliau pobl hŷn a chefnogi galwad y comisiynydd pobl hŷn?
Wel, rwy’n falch iawn o gael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r comisiynydd pobl hŷn. A dweud y gwir, cyfarfûm â’r comisiynydd pobl hŷn ychydig wythnosau’n ôl yn unig, a’r pynciau yr oedd hi am eu codi gyda mi oedd ffyrdd y gallem wella hawliau pobl hŷn yng Nghymru, a buom yn trafod amrywiaeth o ffyrdd y gallwn wneud hynny. Roedd yn falch iawn ein bod wedi dweud y byddem nid yn unig yn hybu’r ymgyrch mynediad at gredyd pensiwn, sy’n hollbwysig i hawliau pobl hŷn yng Nghymru, ond hefyd yn edrych ar faterion fel sicrhau er enghraifft fod ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd yn mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â cham-drin pobl hŷn.
Mae'n hollbwysig fod y comisiynydd pobl hŷn yn sefyll dros hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae hi'n gomisiynydd annibynnol. Ac yn fy rôl i, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym nid yn unig yn gwrando ar faterion a godir gan y comisiynydd pobl hŷn, yn benodol ynghylch y meysydd polisi y gwyddom amdanynt, fel costau byw, y mae’r Llywodraeth Dorïaidd, wrth gwrs, yn eu gwneud mor anodd i bobl hŷn, rydym hefyd yn ymateb i'r materion allweddol y mae'n eu codi.
Diolch am eich sylwadau, Weinidog, ond credaf y bydd llawer o bobl yn dal yn siomedig â’r ymateb a roesoch.
Gan droi at bwnc arall, yn y newyddion, rydym wedi clywed dro ar ôl tro pa mor brin o arian yw cyllideb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei thyb hi. Ond fe’i gwelwn wedyn yn gwastraffu arian ar astudiaethau o ddichonoldeb incwm sylfaenol cyffredinol ac ymchwil i wythnos waith pedwar diwrnod. Roeddwn yn sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar pan welais fideo cerddoriaeth am gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol a’r gwaith y mae ei swyddfa'n ei wneud. Ni fyddwn yn hoffi dychmygu faint o arian a wariwyd ar hynny, a gwnaeth y fideo i mi wingo, mae'n rhaid imi ddweud. Weinidog, yng ngoleuni sylwadau’r comisiynydd ynglŷn â bod yn brin o arian, a ydych yn cytuno nad gwario arian mawr ar fideo cerddoriaeth yw’r defnydd gorau o’i chyllideb, fideo y talwyd amdano gan drethdalwyr Cymru? Diolch.
Wel, rwy’n falch iawn o’r ymateb a gaf i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac yn wir, i benodi comisiynydd annibynnol cryf. Ac roeddwn yn meddwl tybed a hoffech ystyried hefyd y pwyntiau a wnaeth yn gynharach yr wythnos hon, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn i bob un ohonom yma yn y Siambr. Dros y dyddiau diwethaf, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sophie Howe, ac yn wir, Laura Ann-Jones, wedi rhannu eu straeon eu hunain am rywiaeth mewn bywyd cyhoeddus. Gwn, yn anffodus, y bydd gan lawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon eu henghreifftiau eu hunain i’w rhannu. Ac roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a chyd-Aelodau ar draws pob plaid yn y Siambr hon yn wir, yn ddewr iawn i sôn am hyn. Rwy’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyflawniad y comisiynydd. Mae agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn treiddio ac yn ysgogi gwelliant parhaus yn y ffordd y mae’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Mae a wnelo hyn â chenedlaethau'r dyfodol yn disgwyl ansawdd bywyd gwell ar blaned iach. Mae hon yn ddeddfwriaeth arloesol, sydd bellach yn cael ei hadlewyrchu ledled y byd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r cwmnïau olew a nwy yn gwneud mwy o elw nag erioed, biliynau a biliynau o bunnoedd anweddus. Mae'n anodd iawn ei stumogi, ac yn sicr, mae'n teimlo'n annerbyniol wrth inni brofi argyfwng costau byw yng Nghymru ar raddfa sy'n anodd ei hamgyffred. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn amcangyfrif na fydd gan fwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru ddigon o arian yn weddill ar ôl talu biliau hanfodol i dalu am y cynnydd pellach a ragwelir ym mhrisiau ynni ym mis Hydref. Mae’r amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf yn dangos bod 98 y cant o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd, a dywedir bod nifer syfrdanol o aelwydydd incwm isel, 41 y cant, yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Roedd yn anghredadwy, ac a dweud y gwir, yn ffiaidd clywed Boris Johnson yn dweud ddoe nad oes ateb hud ar gael i deuluoedd mewn angen, pan fo Llywodraeth y DU wedi methu defnyddio’r pŵer a’r adnoddau sydd ganddynt i roi cymorth i bobl ar yr adeg y maent ei angen fwyaf.
Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i liniaru’r argyfwng hwn, gyda mesurau fel cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, i’w croesawu. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod y taliadau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cyrraedd pob cartref cymwys. Felly, a allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda, am y nifer sydd wedi manteisio ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Pa wersi a ddysgwyd ar gyfer cyflwyno’r cynllun yn y dyfodol, wedi iddi gyhoeddi y bydd yn cael ei lansio yn yr hydref? Ac ai bwriad y Gweinidog yw gwneud taliadau cyn mis Hydref i helpu i atal pobl rhag mynd heb wres a thrydan yn ystod y misoedd oeraf?
Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig, Sioned Williams. Rwy’n siŵr y byddech yn ymuno â mi, fel y mynegwyd gennych eisoes, i ffieiddio at y ffordd yr ymatebodd Prif Weinidog y DU ddoe—ffieiddio at y ffordd y siaradodd am bobl heb unrhyw ddealltwriaeth o fywydau pobl mewn gwirionedd. Ni allai ateb y cwestiwn pan ofynnwyd iddo, 'Beth yw eich barn am rywun sydd ond yn gallu cael un pryd y dydd ac sy'n teithio mewn bws er mwyn cadw'n gynnes gyda'u tocyn bws am ddim?' Ond mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn yn Llywodraeth Cymru.
Ar ein cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, mae gennym yr etholiadau llywodraeth leol ar hyn o bryd, a chyn gynted ag y bydd y rheini wedi bod, byddwn yn edrych ar y ffigurau diweddaraf ar y nifer sydd wedi manteisio ar gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rydym am ymestyn cymhwysedd, ac wrth gwrs—rydym newydd fod yn siarad am bensiynwyr—byddwn yn edrych nid yn unig ar bobl sydd ar gredyd pensiwn, ond ar gymhwysedd ehangach o ran y nifer sy'n manteisio ar y cynllun. Oherwydd mewn perthynas â thlodi tanwydd, rwy'n awyddus i sicrhau y gallwn roi'r cyllid hwnnw’n syth ym mhocedi’r rheini sydd ei angen drwy’r argyfwng ofnadwy hwn.
Hefyd, yr wythnos nesaf, byddaf yn cael cyfarfod—cyfarfod bord gron—ar drechu tlodi bwyd hefyd, gan fod hyn oll yn rhan o'r argyfwng costau byw, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac i ddeall y ffyrdd y mae banciau bwyd a’r sefydliadau sy’n ceisio trechu tlodi bwyd hefyd yn ceisio trechu tlodi tanwydd, ac yn edrych ar ffyrdd y gall talebau tanwydd hefyd, er enghraifft, fod yn rhan o’r ffordd y byddwn yn eu cefnogi. Ar Cyngor ar Bopeth, rwyf am ddweud eu bod mor bwysig, y rôl y maent yn ei chwarae gyda Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi ar gyfer pob budd-dal, sy'n ymwneud â hawlio budd-daliadau'r DU. Ond rydym yn pwyso arnynt.
Diolch, Weinidog. Un o nodau cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol y Llywodraeth yw gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal mewn ymgais i drechu tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae mesurau arloesol a radical, fel incwm sylfaenol cyffredinol, yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ond mae Barnardo’s Cymru, er eu bod yn croesawu’r cynllun, wedi codi rhai cwestiynau mewn perthynas â thai cynaliadwy. Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn aml yn cael mynediad at lety lled-annibynnol, fel fflatiau mewn cyfadeilad, ond mae’r math hwn o lety lled-annibynnol yn ddrud i’w redeg, ac o'r herwydd, gall rhenti fod yn uchel. I lawer o bobl sy'n gadael gofal, byddai rhent yn cael ei dalu'n uniongyrchol i landlordiaid y math hwn o lety drwy fudd-dal tai. Fodd bynnag, bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol yn cael llai o fudd-daliadau o ganlyniad i'w hincwm. Felly, Weinidog, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rheini sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael cymorth ariannol i gael y gefnogaeth a’r llety gorau posibl. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r rheini sy’n rhan o'r cynllun yn cael eu datgymell yn ariannol rhag cael mynediad at dai â chymorth?
Rwy’n ddiolchgar iawn, fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, am eich cefnogaeth ac am gefnogaeth eich plaid i’n cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cwmpasu'r cynllun peilot, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc eu hunain, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn gywir mewn perthynas â'u hanghenion a'u disgwyliadau. Yr hyn sy’n bwysig iawn am y cynllun peilot yw ei fod yn ddiamod. Byddant yn cael eu cyllid ond hefyd yn cael cymorth o ran y ffordd y gallant gael mynediad yn sgil hynny at dai, at swyddi, hyfforddiant ac addysg. Mae'r cynllun peilot incwm sylfaenol yn canolbwyntio, wrth gwrs, ar rai sy'n gadael gofal o 18 oed ymlaen. Bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd yn darparu £1,600 y mis i'r garfan honno am gyfnod o 24 mis. Dylai hyn wneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol i fywydau'r rheini sy'n cymryd rhan. Hefyd, mae angen inni nodi'r hyn y mae'n ei olygu i'w gallu i gael cyllid a budd-daliadau eraill—budd-daliadau tai, er enghraifft. Ond byddaf yn edrych ar y pwynt penodol a grybwyllwyd gennych, gan fod hon yn adeg hollbwysig wrth inni fwrw ymlaen i gwmpasu ein gwerthusiad o'r cynllun peilot incwm sylfaenol, a fydd yn hollbwysig i weld pa wersi a ddysgwyd.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau hawliau cyfartal i blant ag anableddau? OQ57955
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo hawliau plant drwy ein hymrwymiad ymarferol i’r egwyddorion a ymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ein nod yw sicrhau bod anghenion unigol pob plentyn yn cael eu diwallu, gan eu galluogi i gael cyfle cyfartal.
Diolch. Ar 9 Chwefror eleni, nodais wrth ein Senedd, er bod gan bob plentyn hawl i chwarae fel y’i hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac er bod adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion plant sy’n anabl mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, fod llawer o feysydd chwarae ledled Cymru o hyd, Weinidog, heb unrhyw gyfleusterau addas ar gyfer plentyn ag anabledd. Fe ddywedoch chi ar y pryd:
'yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol'.
Dri mis yn ddiweddarach, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gafwyd gyda’r Dirprwy Weinidog, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa gamau ychwanegol a gymerir i sicrhau nad oes unrhyw blant yn cael eu hamddifadu o’u hawl i chwarae yng Nghymru? Diolch.
Diolch, Janet. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae hawliau plant wedi’u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Golyga hynny, pryd bynnag y byddwn yn defnyddio unrhyw un o’n pwerau i wneud penderfyniad, fod yn rhaid inni ystyried yr effaith ar blant. Wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys hawl pob plentyn i chwarae yn ogystal â chydnabod yr hawliau hynny mewn perthynas â'u datblygiad corfforol, gwybyddol ac emosiynol. Mae hyn yn ymwneud â pharhau â’n hymrwymiad i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae’n ddiogel—
Pa drafodaeth?
Wrth gwrs, y neges—os caf barhau—yw ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn yn unol â darpariaethau adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, darpariaeth benodol ar gyfer anghenion plant anabl, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys gofyniad clir y dylid darparu mannau hamdden a chwarae. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn edrych ar asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eich awdurdod lleol bob blwyddyn. Mae disgwyl un ddiwedd mis Mehefin eleni.
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Cymru'n cyflawni ei dyletswyddau i'r rheini sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin? OQ57947
Diolch, Altaf Hussain. Gwneuthum ddatganiad llafar ddoe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am ein dull o gefnogi ceiswyr noddfa o Wcráin. Rydym yn parhau i arddangos ein gweledigaeth cenedl noddfa fel uwch-noddwr drwy roi cymorth ar waith ac annog gwelliannau i brosesau Llywodraeth y DU.
Diolch. Weinidog, mae Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos unwaith eto ein bod yn wlad sy’n croesawu’r rheini sy’n ffoi rhag gwrthdaro. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn ogystal â'r troseddau rhyfel echrydus a gyflawnwyd gan wladwriaeth Rwsia, wedi dadleoli miliynau o bobl ac mae arnynt angen cartref. Mae Cymru’n iawn i groesawu cymaint ohonynt ag y gallwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl y gobeithiwn eu helpu a pha ddarpariaeth a wnaed gennym i gartrefu a chefnogi’r rheini a fydd yn ein gofal cyn bo hir? Diolch, Weinidog.
Diolch yn fawr iawn. Yn fy natganiad ddoe, nodais yn glir yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ffurfiol gan y pedair gwlad, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, ddydd Iau diwethaf, a byddant yn cael eu diweddaru yfory. Erbyn dydd Iau diwethaf, roedd 2,300 o fisâu wedi'u rhoi lle'r oedd y noddwr yn dod o Gymru, gyda 1,650 wedi'u noddi gan unigolion, a 670 wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru fel uwch-noddwr. Rydym eisoes wedi dweud—yn fy natganiad agoriadol, rwy'n credu—ein bod yn barod i groesawu yn ein canolfannau croeso. Mae gennym ganolfannau croeso yn barod ac ar agor, i roi lloches i ffoaduriaid o Wcráin. Diolch hefyd i’r holl aelwydydd sy’n noddi drwy gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae llawer o rai eraill hefyd wedi dod drwy’r cynllun teuluoedd, ac fel y dywedais ddoe, yn anffodus, ni all y Swyddfa Gartref roi unrhyw wybodaeth i ni ynglŷn â faint ohonynt, pwy ydynt, o ran teuluoedd â chysylltiadau â’r DU, ond gwyddom eu bod wedi cyrraedd yma yn gyntaf mewn perthynas â chael fisâu. Nid oes cyllid ar gyfer rhoi cymorth i bobl yn y cynlluniau hynny, ac yn wir, mae llawer o bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ond maent yn fodlon ac yn abl ac yn camu i'r adwy er mwyn cyrraedd a chefnogi'r holl ffoaduriaid o Wcráin sy'n ymuno â ni yma yng Nghymru. Ond mae’r oedi'n annerbyniol; mae’n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r diffyg cyllid.
Weinidog, hoffwn ddiolch i chi eto am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y mater hwn a’ch ymrwymiad i helpu’r noddwyr sydd wedi bod o dan gymaint o bwysau ac mor awyddus i sicrhau bod eu gwesteion yn cyrraedd yma’n ddiogel, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru’n genedl noddfa. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU wedi sefydlu system sy’n rhoi'r cyfrifoldeb ar bawb arall heblaw'r rheini sydd yn San Steffan. Mae noddwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar eu pen eu hunain ar ôl ymrwymo i gynllun Llywodraeth y DU. Mae elusen leol, cynllun mentora Pen-y-bont ar Ogwr a chanolfan gymunedol y Zone yn bwriadu cydlynu caffi galw heibio er mwyn i westeion o Wcráin a noddwyr lleol ddod ynghyd a chael mynediad at wasanaethau a chymorth. Ond mae angen y cyllid ar fudiadau trydydd sector a grwpiau cymorth cymunedol i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Felly, Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd i sicrhau bod y trydydd sector a grwpiau cymunedol yn cael eu cynorthwyo i redeg y gwasanaethau hyn yn llwyddiannus?
A gaf fi ddiolch eto i Sarah Murphy am y ffordd y mae wedi ymgysylltu a chefnogi’r teuluoedd a’r aelwydydd yn ei hetholaeth sydd, unwaith eto, wedi estyn allan a chroesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin? Clywais straeon ysbrydoledig gan eich etholwyr. Drwy ein gwefan cenedl noddfa hefyd, mae gennym ganllawiau i noddwyr, mae gennym ganllawiau i awdurdodau lleol. Hefyd, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd, ac rwy’n cyfarfod eto yr wythnos nesaf, â’r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a Neil Gray, y Gweinidog, fy swyddog cyfatebol, o Lywodraeth yr Alban. Y tri mater yr ydym yn eu codi gyda hwy yw oedi gyda’r fisâu, diogelu, ond cyllid hefyd. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y diffyg cyllid sy'n cael ei ddarparu. Yn wir, mae llai o arian yn dod drwy gynllun Wcráin nag a ddaeth drwy gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan. Nid oes unrhyw gyllid ar gyfer cymorth gwasanaeth iechyd, nac unrhyw gyllid cymorth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, nac unrhyw gyllid ar gyfer y cynllun teuluoedd. A hefyd, ar y llwybr uwch-noddwyr, fel y dywedais, gwyddom fod hon yn ffordd y gall pobl ddod yn syth i'n canolfannau croeso heb orfod wynebu cymhlethdod a biwrocratiaeth, a phroblemau diogelu hefyd. A gaf fi ddweud bod cysylltiadau cryf yn y trydydd sector eisoes â’r sefydliad cymunedol, sydd wedi sefydlu cronfa newydd Croeso? Mae £1 filiwn wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn mynd i gefnogi mudiad trydydd sector sy’n integreiddio unrhyw geiswyr noddfa yng Nghymru. Felly, byddaf yn rhannu hynny eto ar gyswllt â chronfa newydd cenedl noddfa'r sefydliad cymunedol.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl sefydliadau'r trydydd sector o ran sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru? OQ57968
Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol ac unigryw yn creu Cymru deg a chyfiawn, ac wrth inni weithio i osgoi cynnydd mewn anghydraddoldebau yn ein cymunedau oherwydd y pandemig, rydym wedi cydgynhyrchu cynllun adfer COVID gyda'r sector sy'n canolbwyntio ar gymorth, cysylltiadau a gwirfoddoli.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru i gael ystod mor amrywiol o wasanaethau a chymorth wedi'i ddarparu gan y trydydd sector. Yn y Rhondda yn unig mae gennym gyn-filwyr Rhondda, Plant y Cymoedd, Men's Sheds, y Ffatri Gelf a Cymorth i Fenywod RhCT, ymhlith cannoedd o rai eraill. Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael cyfle i ymweld â Dyfodol Gwell Barnardo's, Ambiwlans Awyr Cymru a Voices from Care. Mae pob un o'r elusennau a'r grwpiau cymunedol hyn yn darparu cymorth pwrpasol i deuluoedd ac unigolion, ac mae gan bob un ohonynt eu perthynas unigryw eu hunain â Llywodraeth Cymru—gyda rhai angen cymorth ariannol, eraill angen cyngor ac arweiniad, a bydd rhai'n elwa'n fawr o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y trydydd sector.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi nodi cynnydd yn y galw am gymorth gan y trydydd sector ledled Cymru, a cheir ymchwil sy'n awgrymu y bydd 20 y cant o bobl sy'n cysylltu â meddygon teulu yn elwa o bresgripsiynu cymdeithasol yn hytrach na chymorth meddygol. Gan wybod hyn, sut y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â sefydliadau, grwpiau ac elusennau'r trydydd sector wrth symud ymlaen? Ac a fyddwn yn gweld cynllun mwy cynhwysfawr ar sut y gallwn gefnogi'r sector yn well yn y dyfodol, gan gwmpasu cymorth ariannol, cyngor ac arweiniad, a chymorth i wneud partneriaethau ystyrlon?
Diolch i Buffy Williams. Fel yr Aelod o'r Senedd dros y Rhondda, rydych yn ymwneud cymaint â'ch cymuned, ac mae hynny wedi dod i'r amlwg yn glir yn eich cwestiwn am eich cysylltiadau a'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad â sefydliadau lleol—sefydliadau fel sydd i'w cael mewn etholaethau ledled Cymru, sy'n gwneud cyfraniad enfawr yn y gymuned. Rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos hyd yn oed yn gliriach beth yw cyfraniad a rôl y trydydd sector a gwirfoddolwyr, ac yn wir, mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth, o ran y ffordd ymlaen gyda'n cyllid, oherwydd mae gennym grant Cymru ar gyfer cefnogi'r trydydd sector sy'n darparu'r cyllid craidd hwnnw, nid yn unig i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ond hefyd i'n cynghorau gwirfoddol sirol. Bydd gan bob Aelod o'r Senedd hon gyngor gwirfoddol sirol y byddant yn gwybod amdano—Interlink RhCT yn eich ardal chi wrth gwrs—sy'n helpu i gefnogi'r sefydliadau lleol.
Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol a wnewch, o ran y ffordd ymlaen i'r trydydd sector—mae cynllun adfer y trydydd sector yn allweddol i hynny. Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor ariannu a chydymffurfiaeth, gyda'r trydydd sector, i sicrhau y gallwn gael mwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd ariannu, blaenoriaethau ar gyfer y trydydd sector. A hoffwn ddweud, yn olaf, fod y flaenoriaeth yn awr wedi canolbwyntio ar sut y gallant helpu, fel y maent yn ei wneud, fel cymorth i gymunedau a phobl fregus gyda'r argyfwng costau byw. Rhaid inni gofio, yn eich etholaeth chi a ledled Cymru, fod gennych Cyngor ar Bopeth, fod gennych fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal ag undebau credyd, sy'n helpu i gefnogi teuluoedd ac aelwydydd a chymunedau gyda'r argyfwng costau byw.
Rwyf wedi eistedd yma ers 19 mlynedd yn gwrando ar Weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyf sut y maent yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydgynhyrchu gyda sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n noddwr elusen sy'n cefnogi pobl anabl ledled gogledd Cymru, ond er bod y mwyafrif o'r dros 100 o atgyfeiriadau newydd y maent yn eu derbyn yn wythnosol yn dod gan gyrff cyhoeddus yng ngogledd Cymru, nid ydynt yn cael arian cyhoeddus gan unrhyw un ohonynt. Yn wythnosol, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cysylltu â mi i ddweud eu bod yn brwydro i gefnogi pobl y mae cyrff cyhoeddus wedi gwrthod rhoi llais iddynt ynghylch eu gofal a'u cymorth, sef eu hawl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pan holais Age Cymru yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf ynghylch ymgysylltu â byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynglŷn â chymorth iechyd a gofal cymdeithasol integredig, fe wnaethant ateb:
'Yr hyn a glywn yn ôl gan rai o'r sefydliadau rhanbarthol yw nad yw lefel ymwneud cynrychiolwyr pobl hŷn gystal ag yr hoffent iddi fod, a thrwy ddatblygu byrddau partneriaeth rhanbarthol hoffem weld ymgysylltu mwy ystyrlon â mwy o bobl hŷn, a bod eu cynrychiolwyr yn rhan o'r datblygiadau hynny'.
Wrth gwrs, maent wedi bod yn dweud hynny ers i fyrddau partneriaethau rhanbarthol ddechrau. Felly, sut a phryd y byddwch chi'n troi geiriau'n weithredoedd drwy gynllunio'r system am yn ôl, gyda phobl a sefydliadau'r trydydd sector?
Wel, wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer rydym wedi trafod y materion hyn, Mark Isherwood, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru bartneriaeth gyda'r trydydd sector, a fy mod yn cadeirio cyngor partneriaeth y trydydd sector. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr, fel y gwyddoch yn iawn, o bob sector, sy'n codi materion gyda ni nid yn unig ynghylch polisi, ond hefyd ynghylch cyllid. Dyna pam y mae gennym bwyllgor ariannu a chydymffurfiaeth, a dyna pam y gwnaethom ymateb—. Mae'n ymateb o ganlyniad i gydgynhyrchu ein bod bellach wedi newid i roi ymrwymiad grant tair blynedd. Rwy'n gwybod y byddech yn croesawu'r ymrwymiadau grant tair blynedd yr ydym yn eu rhoi i'r trydydd sector. Mae'n eu galluogi i gynllunio'n hirdymor, gan gadw staff a sgiliau, ond mae hefyd yn eu helpu i ddatblygu partneriaethau hirdymor hanfodol gyda byrddau rhanbarthol a chonsortia, gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd.
Gallaf eich sicrhau bod y cyllid ar gael, ac o ran ariannu nid yn unig y cynghorau gwirfoddol sirol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a chymorth diogelu, cronfa newid y trydydd sector, cymorth i wirfoddoli, cronfa meithrin gallu partneriaeth—mae'r rhain i gyd yn symiau sylweddol o arian sy'n dod drwy ein cynllun grant trydydd sector. Hefyd, rwy'n credu bod y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn bwysig iawn i'r trydydd sector ac i lawer o'r rheini yr ydych yn eu cynrychioli, rwy'n siŵr, oherwydd roedd honno'n werth £4.8 miliwn yn 2020-21, ac fe arhosodd ar agor drwy gydol y pandemig, ac mae ar agor yn awr yn wir.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar bobl sy'n byw ar incwm isel? OQ57954
Bydd y cynnydd mewn chwyddiant ynghyd â threthi uwch yn arwain at ostwng safonau byw a bydd yn rhoi pwysau sylweddol pellach ar gyllidebau aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu, gyda'r pwerau sydd ganddi, i ddarparu cymorth i'n haelwydydd mwyaf bregus yng Nghymru.
Rwy'n dyfynnu Jack Monroe:
'Fe brynais werth £10 o fwyd yn 2012... a phrynu'r un peth yn union'
yn 2022,
'ac fe gostiodd £17.11.'
Dyna gynnydd o dros 70 y cant. Nid yw'r isafswm cyflog na budd-daliadau wedi codi'n agos at y lefel honno. Hyd yn oed gyda'r newid gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y ffordd y mae'n casglu data chwyddiant, nid yw'r cynnydd enfawr mewn prisiau bwyd yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn y cyfraddau chwyddiant. Mae mwy a mwy o bobl dlawd yn gorfod defnyddio banciau bwyd. Mae gan saith o'r wyth ward yn fy etholaeth fanc bwyd erbyn hyn. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fanciau bwyd?
A gaf fi ddweud fy mod yn parchu rôl a chyfraniad yr ymgyrchydd cyfiawnder bwyd, Jack Monroe, am dynnu sylw at hynny, a chydnabod effaith Brexit ar gostau bwyd cynyddol hefyd, rhywbeth y gwnaethom ymateb iddo a'i grybwyll ddoe yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog—yr effaith, a'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU wedi cael effaith mor andwyol ar fywydau pobl, gan arwain at yr argyfwng costau byw hwn? Ond yr ateb i'ch cwestiwn yw bod y ffigurau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell yr wythnos diwethaf wedi dangos rhwydwaith o fanciau bwyd, a bod 1,341,000 o barseli bwyd brys wedi'u dosbarthu i bobl sy'n wynebu caledi ariannol rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae'n fater o fwyta neu aros yn gynnes, o golli'r £2 filiwn o gyllid pontio'r UE, cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol, a 40 o ddyfarniadau grant sydd bellach yn mynd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, grwpiau'r trydydd sector, ysgolion ac eglwysi.
Diolch hefyd i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, fe fynychais un o weminarau Prifysgol Caerdydd, ac roedd Aelodau eraill o'r Senedd yno hefyd, lle'r oeddent yn rhannu eu gwerthusiad o'r ymateb polisi i'r her costau byw. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith mai un o'r heriau anghymesur sy'n wynebu'r rheini ar incwm is yw pwysau chwyddiant costau ynni wrth gwrs, ac fel y gwyddom yng Nghymru mae gennym stoc dai hŷn a llai effeithlon o ran ynni o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Cefnogir hynny gan ddata dadansoddi cyllidol Cymru, a ganfu mai 45 y cant o eiddo yng Nghymru sydd wedi'u graddio o A i C o ran effeithlonrwydd ynni, o'i gymharu â 52 y cant o eiddo mewn mannau eraill, sydd â'r lefel uchaf honno o effeithlonrwydd ynni. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud tai'n fwy effeithlon yng Nghymru, i helpu gyda phwysau chwyddiant costau ynni ar y rheini sydd â'r incwm isaf?
Diolch ichi am y cwestiwn adeiladol iawn hwnnw, Sam Rowlands. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cynnal uwchgynhadledd argyfwng costau byw ym mis Chwefror. Fe'i cadeiriais, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a siaradodd am heriau tai ac effeithlonrwydd ynni a'r buddsoddiad yn y gyllideb eleni i gefnogi effeithlonrwydd ynni a hybu ynni adnewyddadwy, ond hefyd o ran ffynonellau ynni. Ac roedd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sy'n Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yno hefyd. Felly, rydym yn trafod y materion hyn. Mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ein rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n dod i ben yn awr wrth gwrs yn sgil yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Mae'r rhain i gyd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw'r arian i'n cefnogi i wneud hynny, a dyna lle rwy'n gobeithio y byddwch yn galw ar Lywodraeth y DU yn arbennig i gael yr arian hwnnw o dreth ffawdelw i sicrhau y gallwn fuddsoddi mwy mewn effeithlonrwydd ynni a hefyd i leihau biliau tanwydd y rhai sy'n mynd i gael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.
7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn? OQ57962
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn ariannu Age Cymru i weithio gyda phobl hŷn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau gan ddefnyddio ein canllawiau a gydgynhyrchwyd, 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn'. Mae Age Cymru hefyd yn cynhyrchu pecyn cymorth fideo ac yn cyflwyno ymgyrch hawliau pobl hŷn, sydd ar y gweill tan fis Mehefin.
Weinidog, mae credyd pensiwn yn daliad ychwanegol i'n pensiynwyr mwyaf bregus ac mae'n werth £3,300 ar gyfartaledd. Yn ogystal ag ychwanegiad ariannol at bensiwn y wladwriaeth, mae'n bont i gael mynediad at lawer o fudd-daliadau eraill, megis cymorth gyda chostau tai, biliau gwresogi, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Amcangyfrifir nad yw tua chwarter y bobl a allai hawlio'r cymorth ychwanegol hwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi lansio ymgyrch fawr i annog pensiynwyr cymwys, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu am bobl hŷn ac yn eu cefnogi, i gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r comisiynydd pobl hŷn i godi ymwybyddiaeth o'r credyd pensiwn sydd ar gael i bobl hŷn agored i niwed yng Nghymru sydd â hawl i gael y cymorth ariannol ychwanegol hwn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n dilyn yn dda iawn o'r pwyntiau cynharach yr oeddwn yn eu gwneud am fy nghyfarfodydd gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Ac yn wir, rwy'n gwybod bod galwadau o bob rhan o'r Siambr—rwy'n credu bod Peredur hefyd wedi'i godi—ynglŷn â sut y gallwn gynyddu'r nifer sy'n manteisio—budd-dal Llywodraeth y DU ydyw—ar gredyd pensiwn yn benodol, ond ceir mynediad at fudd-daliadau eraill hefyd. Rydym yn gweithio, wrth gwrs, gyda'r comisiynydd pobl hŷn, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ymuno â ni, gyda'r Alban, mewn ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ledled y DU, ac rydym yn cael rhywfaint o ymateb i hynny yn awr. Ond rwyf am ddweud bod 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn', a gyhoeddwyd gennym y llynedd, ac a gydgynhyrchwyd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chydag Age Cymru, hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl hŷn yn ymgysylltu ac yn dweud wrthym am y ffordd orau o gyfleu'r neges fod y rhain yn bethau y mae ganddynt hawl iddynt a'n bod eisiau iddynt fanteisio arnynt, i sicrhau nad ydynt yn dioddef cymaint yn yr argyfwng costau byw, oherwydd mae hefyd yn taro pensiynwyr yn galed iawn.
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei pholisi Rwanda ar gyfer ceiswyr lloches? OQ57977
Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Joyce Watson. Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud yn glir fod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, gan gynnwys symud y gwaith o brosesu ceiswyr lloches i wlad arall, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, confensiwn y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo. Mae cynllun Rwanda yn warthus, ac rwy'n gwneud fy marn yn glir i'r Gweinidog mewnfudo.
Diolch am y diweddariad hwnnw, Weinidog. Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn foesol ffiaidd, am yr holl resymau a drafodwyd gennym ddoe yn y ddadl ar hawliau dynol, ond mae'n anghyfiawn o ddrud. Ac o ystyried rhwymedigaeth Prydain o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig a'r cyfreithiau hawliau dynol, mae'n edrych yn anymarferol beth bynnag, fel y mae'r heriau cyfreithiol a welsom yn y dyddiau diwethaf yn dangos. A dweud y gwir, mae'r cynllun yn llanastr. Felly, a ydych yn rhannu fy nicter a fy rhwystredigaeth mai'r unig beth sy'n sicr am y polisi hynod gywilyddus hwn gan y Torïaid yw y bydd yn mynd ag arian o bocedi trethdalwyr Cymru ac y bydd ffoaduriaid yn fwy bregus nag y buont erioed?
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, Joyce Watson. Ddoe, galwodd un elusen—Care4Calais—gynllun Rwanda yn ddim ond un arall mewn rhes hir o bolisïau ataliaeth a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd hon dros y blynyddoedd diwethaf. Care4Calais—mae gennyf etholwyr yn ymwneud â Care4Calais sydd wedi bod yn Calais ar sawl achlysur. Oherwydd maent yno; maent yn gweithio gyda phobl sy'n byw mewn anobaith, sydd wedi dianc rhag erchyllterau'r bywydau y maent wedi dianc rhagddynt. Ac roedd yn ddiddorol gweld bod yr aelod dros Calais yng nghynulliad cenedlaethol Ffrainc yn dweud, 'Pan fyddwch yn gadael eich gwlad o ganlyniad i lifogydd, o ganlyniad i newyn, oherwydd nad oes arnoch ofn cael eich dal a chael eich hel yn ôl i wlad arall, o leiaf mae gennych obaith, fe rowch gynnig arni.' Mae'n gwbl warthus fod ein gwlad, fod Llywodraeth y DU, yn mynd ar drywydd Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a chynllun Rwanda. A gadewch inni obeithio y bydd yr her gyfreithiol yn ei atal, ac mae'n edrych yn anymarferol beth bynnag. Ond mae gennym bryderon mawr. Rydym yn un o'r gwledydd cyfoethocaf, Rwanda yw un o'r gwledydd tlotaf, ac rwyf wedi ysgrifennu hefyd i ddweud bod hyn yn rhywbeth sy'n gwbl groes nid yn unig i'r confensiwn ffoaduriaid, ond wrth gwrs, i'n moesoldeb a'n hysbryd a'n moeseg fel cenedl noddfa.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ei statws uwch noddwr i helpu pobl o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru? OQ57966
Diolch, Peter Fox. Rwyf wedi annog Gweinidog Ffoaduriaid y DU i fabwysiadu ein model uwch-noddwr i'w ddefnyddio ledled y DU er mwyn osgoi'r risgiau diogelu annerbyniol a achosir gan gynllun ehangach Cartrefi i Wcráin. Ac fe roddais ffigurau a gwybodaeth wedi'u diweddaru yn fy natganiad llafar ddoe.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi bwriad y Llywodraeth i helpu cynifer â phosibl o'n cyfeillion o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru, ac mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'r ffaith bod Cymru wedi'i dynodi yn genedl noddfa. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i noddi pobl i ddod i mewn i'r DU, yn hytrach na dibynnu ar gael eu cysylltu â theulu a all gynnig llety iddynt. Caiff yr unigolion hyn eu gosod mewn canolfannau croeso i ddechrau. Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael nifer o e-byst gan etholwyr a hoffai gynnig llety i'r rhai sydd mewn canolfannau croeso ar hyn o bryd, ond nid ydynt wedi gallu dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu'r teuluoedd hyn â theuluoedd a all gynnig llety iddynt. Weinidog, a wnewch chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn â pha gamau a gymerir gennych i helpu teuluoedd sydd wedi cael eu noddi gan y Llywodraeth i ddod o hyd i lety mwy hirdymor? A yw eich cynllun yn cysylltu â theuluoedd sydd wedi cofrestru eu diddordeb drwy gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, neu a fyddwch chi hefyd yn edrych ar ddarparu llwybr i bobl wirfoddoli i helpu i gynnig llety i'r rhai sydd wedi cyrraedd y DU drwy'r cynllun uwch-noddwr? Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi, ac mae hwnnw'n gwestiwn gweithredol ymarferol iawn ac i'w groesawu, oherwydd ar hyn o bryd—. Mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod i'w drafod y bore yma, cyfarfod gweinidogol o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, lle buom yn diweddaru'r camau nesaf ar gyfer pobl o ganolfannau croeso. Wrth gwrs, mae pob awdurdod lleol yn edrych ar y camau nesaf mewn perthynas â theuluoedd sy'n cynnig llety neu lety arall a fydd ar gael. Er eglurder, mae'r cynllun uwch-noddwr yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin—. Felly, dyna lle mae pobl yn cael eu cysylltu. Dyma ein pryder yn ei gylch, nid yw wedi'i reoleiddio'n iawn, ond mae'r cysylltu'n digwydd. Mae gennym noddwyr aelwydydd ledled Cymru, ac fe fyddwch yn gwybod amdanynt yn lleol, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu cysylltu ac mae rhai ohonynt yn dal i aros i'w teuluoedd gyrraedd, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn. Ond rydym yn edrych ar yr opsiynau hynny, a gallaf ddweud wrthych fod hyn, unwaith eto, yn ymwneud â gweithio gyda Llywodraeth y DU, gyda'r Swyddfa Gartref. Byddaf yn cwrdd â'r Gweinidog Ffoaduriaid eto yr wythnos nesaf i sicrhau y bydd y llwybrau hynny ar gael.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, Rhys ab Owen.
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill ynghylch rôl swyddogion prawf o ran sicrhau diogelwch cymunedol? OQ57965
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar bob agwedd ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ac rwy'n cwrdd â Phrif Arolygydd Prawf Ei Mawrhydi ar 18 Mai ac yn parhau i drafod gyda'r holl bartneriaid, datganoledig ac a gadwyd yn ôl, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i sicrhau bod cymunedau'n ddiogel yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n deg dweud eu bod—ac rwy'n siŵr y gall pawb gytuno â hyn—oherwydd tanariannu ac ad-drefnu'r gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr dros y 12 mlynedd diwethaf, wedi wynebu cyfnod anodd iawn. Yn aml, gall hyn arwain at ganlyniadau real a thrasig. Ar hyn o bryd, mae dros 700 o swyddi gwag ledled Cymru a Lloegr. A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch lefelau staff a pha effaith y mae hynny'n ei chael ar ddiogelu aelodau o'r cyhoedd yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n gwerthfawrogi eich diddordeb yn y gwasanaeth prawf. Yn wir, dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda phartneriaid cyfiawnder allweddol a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn pan ddaethom yn rhan gyntaf y DU—y wlad gyntaf—lle'r oedd y gwasanaeth prawf wedi'i ail-wladoli, os mynnwch, i fod yn wasanaeth prawf cenedlaethol ar ôl y preifateiddio diffygiol a gwarthus a ddigwyddodd o dan Chris Grayling fel Gweinidog.
Felly, mae'n rhaid inni—. O ran sicrhau bod ein gwasanaeth prawf yn diwallu anghenion pobl yng Nghymru, rwy'n credu ei fod yn allweddol i'n glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a throseddu benywaidd—enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth—ac i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Ond gwelwn fod cyfleoedd gwirioneddol wrth inni symud ymlaen ar gyfiawnder yng Nghymru i edrych ar rôl y gwasanaeth prawf ac i sicrhau, felly, ei fod yn sector lle bydd pobl eisiau gweithio a gwneud cyfraniad. Ac rwy'n credu y byddant, oherwydd y ffocws sydd gennym ar gyfiawnder wrth edrych ar rôl y gwasanaeth prawf.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
1. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â thribiwnlys rhyngwladol i erlyn troseddau rhyfel Vladimir Putin yn Wcráin? OQ57978
Diolch am y cwestiwn. Cyfarfûm â swyddogion y gyfraith o Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ynghylch y cymorth y gellir ei ddarparu i erlyn troseddau rhyfel. Byddwn yn parhau i gysylltu â Llywodraethau tair gwlad arall y DU i ddarparu unrhyw gymorth posibl er mwyn dwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i'n Senedd yma yn y Siambr am y ffordd y mae'r Cwnsler Cyffredinol—yn rhinwedd ei swydd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn bersonol—y ffordd y mae wedi hyrwyddo achos pobl Wcráin, nid yn unig yn ddiweddar, ond ers blynyddoedd lawer?
Lywydd, dylai'r holl ddynoliaeth siarad ag un llais, a dweud y dylai'r rhai sydd wedi achosi'r rhyfel hwn a'r erchyllterau cysylltiedig wynebu cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ragweithiol yn codi llais dros gyfiawnder?
Wel, diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mae'n eithaf gwarthus mewn sawl ffordd, onid yw, ein bod mewn byd lle'r ydym yn trafod troseddau rhyfel ac erlyn y troseddwyr. A gaf fi ddiolch i'r Aelod? Wrth gwrs, fe godoch chi fater troseddau rhyfel a Putin yn eich cwestiwn brys ar 1 Mawrth.
Mae gennym gryn dipyn o unigolion wedi cyrraedd o Wcráin, sydd wedi gweld rhai o'r erchyllterau mwyaf gwarthus o fewn cof. Bydd y tîm troseddau rhyfel, gyda gwasanaeth gwrth-derfysgaeth yr Heddlu Metropolitan, yn cynorthwyo'r ymchwiliad i droseddau rhyfel, ac maent yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Llys Troseddau Rhyngwladol. Yn amlwg, dylid adrodd am unrhyw dystiolaeth o droseddau o'r fath wrth y tîm troseddau rhyfel yn yr Heddlu Metropolitan.
Nawr, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Weinidog yn wir, ynglŷn â'n hymagwedd tuag at hynny. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen i bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin fod yn ymwybodol o'r cyfle i gyflwyno tystiolaeth a allai fod yn uniongyrchol berthnasol i droseddau rhyfel y gallent fod wedi'u profi. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir gwneud hyn yn ymarferol mewn canolfannau croeso, a thrwy'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i unigolion a theuluoedd. Rhaid inni sylweddoli, wrth gwrs, fod rhai o'r bobl hyn wedi'u trawmateiddio a bod hwn yn fater y mae'n rhaid ei drin yn sensitif iawn.
Ar fater ehangach troseddau rhyfel, wel, wrth gwrs, o dan ymchwiliad y Llys Troseddau Rhyngwladol, byddai unrhyw erlyniadau fel arfer yn cael eu dwyn gerbron gan Lywodraeth Wcráin. Yn y trafodaethau a gawsom, rydym wedi rhoi cefnogaeth lawn i weld y Deyrnas Unedig yn rhan o ymdrech ryngwladol i ddarparu'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen i alluogi'r hynny. Rhaid i fater troseddau rhyfel beidio â bod yn rhywbeth y gellir ei gyfnewid am drafodaethau ynghylch sancsiynau, ac mae'n rhaid mynd ar eu trywydd ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, ac wrth gwrs, maent yn faterion allweddol yn y pen draw wrth ddechrau ar y broses o wneud iawn i Wcráin am ganlyniadau gweithredoedd Rwsia.
2. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyflwyno prentisiaeth cyfreithiwr lefel 7, fel sy'n bodoli yn Lloegr, i helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol i'r proffesiwn cyfreithiol? OQ57964
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gwneud cynnydd da ar brentisiaethau cyfreithiol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd fframwaith prentisiaeth gennym ar gyfer dau gymhwyster newydd gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, paragyfreithiol lefel 3 a pharagyfreithiol uwch lefel 5. Dylai hyn helpu i ehangu mynediad economaidd-gymdeithasol at y proffesiwn cyfreithiol.
Yn naturiol, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am lefel 3 a lefel 5 newydd y proffesiwn gwasanaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach i gyflwyno prentisiaethau cyfreithwyr lefel 7 yng Nghymru. Rwy'n siŵr bod y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y byddai swydd o'r fath yn helpu i fynd i'r afael â mater mynediad at y proffesiwn cyfreithiol, ac wrth gwrs, gallai helpu gyda'r anialdiroedd cyngor cyfreithiol presennol. A ydym yn mynd i weld prentisiaethau lefel 7 yma yng Nghymru, fel sydd i'w gweld yn Lloegr?
Diolch am y cwestiwn atodol, ac wrth gwrs mae hwn yn gwestiwn a godwyd hefyd yn fy nhrafodaeth fisol gyda Chyngor Cyfraith Cymru, sydd, efallai eich bod yn gwybod, wedi sefydlu gweithgor addysg a hyfforddiant cyfreithiol, a fydd yn bwysig iawn i hyn yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod wedi cymryd y camau cyntaf, ac rwy'n credu bod angen inni fynd ymhellach, felly rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector cyfreithiol, gan gynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr, yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr—y cyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn—a chyda'r bar, i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y sector. Ac wrth gwrs, rwy'n credu y bydd rôl Cyngor Cyfraith Cymru yn hyn yn eithriadol o bwysig.
Wrth gwrs, rydym am annog a chefnogi mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol, a chynyddu mynediad i'r rhai na fyddent fel arfer yn gallu cael cymhwyster o fewn y proffesiwn cyfreithiol fel cyfreithwyr. Felly, mae prentisiaethau ar y lefel honno'n bwysig. Mae'n rhywbeth—. Mae ymchwil ar y gweill, ac mae'r gwaith a'r trafodaethau'n mynd rhagddynt. Wrth gwrs, yr hyn yr hoffem ei wneud, os dilynwn y trywydd hwn, yw sicrhau y caiff yr amcanion eu cyflawni ac nad ydym yn disodli cyllid sydd eisoes yn bodoli o fewn y proffesiwn cyfreithiol i gefnogi'r cymwysterau hynny, a bod hyn nid yn unig yn annog yr amrywiaeth a grybwyllais ond hefyd yn cefnogi cwmnïau yn ardaloedd y Cymoedd, er enghraifft, ac mewn ardaloedd gwledig, sydd o dan fwy o bwysau economaidd, lle bydd y cymorth hwn yn annog pobl i fynd i mewn i'r proffesiwn cyfreithiol ac i weithio yn y cymunedau hynny a chyfrannu at gynyddu mynediad at gyfiawnder.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y DU ynghylch eu cyhoeddiad ar 15 Mawrth y bydd £135 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar y sector cymorth cyfreithiol bob blwyddyn i gyd-fynd â'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol o'r system, dan oruchwyliaeth Syr Christopher Bellamy CF, a fydd, ar ben y £200 miliwn ychwanegol blynyddol i gyflymu'r system llysoedd, yn golygu bod cyfanswm cyllid y trethdalwr ar gyfer amddiffyn troseddol yn £1.2 biliwn y flwyddyn?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n faes pwysig, cymorth cyfreithiol, ac yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr hon droeon, oherwydd ei bwysigrwydd mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw gynnydd yn y cyllid sy'n mynd tuag at gymorth cyfreithiol, ac rwy'n croesawu hefyd y cynigion ychwanegol ar gyfer newid y trefniadau prawf modd i wneud mynediad at gymorth cyfreithiol yn haws.
Wedi dweud hynny, mae ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ac mae cryn bryder nad yw Llywodraeth y DU, mewn cryn nifer o rannau o'r argymhellion gan yr Arglwydd Bellamy, wedi gwneud yr ymrwymiadau yr oedd disgwyl iddi eu gwneud eto. Ac wrth gwrs, mae hyn wedi arwain at—. Rwy'n credu mai'r awgrym gan aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol yw y byddant yn rhoi camau cyfreithiol ar waith.
Rwyf wedi codi'r mater hwn ar bob cyfle a gefais gyda'r Gweinidog cyfiawnder perthnasol, sydd, wrth gwrs, wedi ymddiswyddo yn ddiweddar. Felly, er fy mod yn croesawu peth gwelliant, rwy'n credu bod llawer i'w wneud eto ac mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth y DU. Yn fy marn i, nid oedd argymhellion Bellamy hyd yn oed yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r anialdiroedd cyngor sydd gennym. Mae'n amlwg fod cymorth cyfreithiol yn tanariannu'n sylweddol y cwmnïau hynny sy'n gweithio'n fwyaf arbennig gyda chymorth a chyngor cyfreithiol mewn cymunedau. Ond mae hwn yn fater y byddaf yn dod yn ôl ato ac yn ei godi yn y Senedd hon ar gam diweddarach pan fyddwn yn gwybod canlyniad llawn ymgynghoriad Llywodraeth y DU a'r argymhellion y mae'n bwriadu eu cyflwyno.
Diolch. Wel, fe gyfeirioch chi, ymhlith pethau eraill, at groesawu dileu'r prawf modd, ond sut rydych yn ymateb i'r ffaith eich bod wedi'i gynnwys yng nghyhoeddiad mis Mawrth am gyllid i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu talu'n well am y gwaith y maent yn ei wneud mewn gwirionedd, a helpu i ryddhau capasiti yn y llys; cynyddu tâl cyfreithwyr sy'n cynrychioli pobl a ddrwgdybir mewn gorsafoedd heddlu; rhoi cyfle i fwy o bobl ddilyn gyrfa mewn cyfraith trosedd, beth bynnag fo'u cefndir; mynediad agored at gymorth cyfreithiol sifil i tua 2 filiwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr, a chael gwared ar y prawf modd, fel y dywedoch chi, yn gyfan gwbl i rai ymgeiswyr, yn enwedig er budd dioddefwyr cam-drin domestig sy'n dadlau ynghylch perchnogaeth tai; dileu'r cap ariannol ar gymhwysedd ar gyfer diffynyddion Llys y Goron; darparu mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol i 3.5 miliwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr yn y llys ynadon; ac am y tro cyntaf erioed, darparu cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i bob plentyn dan 18 oed ac i rieni sy'n herio meddygon ynghylch rhoi diwedd ar driniaeth cynnal bywyd i'w plentyn, a chymorth cyfreithiol am ddim i deuluoedd mewn cwestau lle gallai hawliau dynol fod wedi'u torri?
Wel, diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Wrth gwrs, mae'n cyflwyno cymorth cyfreithiol o fewn cyd-destun nad yw'n bodoli mewn gwirionedd, oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o bobl, ac yn sicr nid oes gan rai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas, fynediad at lawer o feysydd cyfiawnder y dylent gael mynediad atynt.
Mae'n debyg, fel man cychwyn, fod unrhyw welliant yn welliant, ond mae'n rhaid gosod hyn yng nghyd-destun y toriadau enfawr mewn cymorth cyfreithiol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010, i'r graddau bod y system cymorth cyfreithiol wedi'i thanariannu'n aruthrol; mae llawer o feysydd hawliau cyfreithiol nad ydynt yn bodoli mwyach; ac mae llawer o gwmnïau yn ddi-os yn anhyfyw'n fasnachol bellach oherwydd eu dibyniaeth ar gymorth cyfreithiol. Mae argymhellion yr Arglwydd Bellamy yn ceisio gwella hynny. Felly, mae unrhyw welliant yng nghyfraddau cyflogau cyfreithwyr sy'n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol, unrhyw ehangiad, unrhyw welliant mewn perthynas â hawliau cymorth cyfreithiol a'r prawf modd, yn welliant, ond plastr yn unig ydyw o hyd o ran darparu cynllun cymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol ac nid yw'n gwneud iawn mewn unrhyw fodd am y toriadau difrifol iawn a welwyd mewn cymorth cyfreithiol dros y 12 mlynedd diwethaf, sydd, i raddau helaeth, wedi cyfyngu ar hygyrchedd cymorth cyfreithiol a'r hawl i gael cyngor cyfreithiol i lawer o rannau o'n cymunedau sy'n dibynnu arno fwyaf.
Wel, yn ôl fy ngeiriadur i, credaf eich bod yn cyfeirio at 'gyni', sy'n cael ei ddiffinio fel bod heb ddigon o arian, ac fel y cyfryw, etifeddiaeth ydoedd, nid dewis, ond mae penderfyniadau anodd wedyn wedi galluogi'r gwelliannau sy'n cael eu cyhoeddi yn awr. Ac rwy'n cytuno â chi, gobeithio y bydd gwelliannau pellach, wrth inni edrych ymlaen at y blynyddoedd i ddod.
Ond roedd ôl-groniad y llysoedd yn uwch ym mlwyddyn olaf Llywodraeth Lafur y DU na'r hyn ydoedd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU cyn dechrau'r pandemig. Sut rydych wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â chyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 21 Ebrill y bydd llysoedd yn parhau i weithio ar gapasiti llawn am ail flwyddyn i gyflymu cyfiawnder i ddioddefwyr, gyda'r cap ar y diwrnodau y cynhelir achosion yn cael ei godi am flwyddyn arall? Mae hyn yn rhan o lu o fesurau i leihau ôl-groniadau yn y llysoedd, lle bydd y buddsoddiad yn golygu y gellir cynnal mwy o dreialon, gan sicrhau cyfiawnder yn gynt a lleihau'r ôl-groniad o achosion, a gododd yn sylweddol yn ystod y pandemig—[Torri ar draws.]—lle'r oedd yr un penderfyniad y llynedd yn golygu bod achosion wedi'u cynnal ar bron i 17,000 yn fwy o ddiwrnodau yn Llys y Goron nag yn y flwyddyn cyn y pandemig. Ac mae hyn ochr yn ochr â'r gwaith i ymestyn 30 o lysoedd Nightingale tan fis Mawrth 2023—byddwn yn derbyn ymyriad pe na bai'n sesiwn gwestiynau, ond rhaid imi gadw at y cwestiynau—gwrandawiadau digidol, a'r buddsoddiad sylweddol uwch ar gyfer cymorth cyfreithiol troseddol.
Diolch ichi am y gyfres bellach honno o gwestiynau. Mae ôl-groniadau yn y llysoedd yn sicr yn rhywbeth sydd, yn ystod y degawd diwethaf, wedi dirywio'n sylweddol. Fel y dywedaf, yn yr un modd, mae'r mynediad at gyfiawnder, argaeledd cyfreithwyr mewn rhai ardaloedd, wedi dod yn fwyfwy anodd hefyd. Diau hefyd fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gau llysoedd, a'r llysoedd ynadon yn enwedig, wedi gwaethygu'r mater penodol hwnnw.
Mewn perthynas ag ôl-groniadau yn ystod cyfnod COVID, yn sicr yng Nghymru, o'r holl adroddiadau rwyf wedi'u cael—gan gyfreithwyr, gan y farnwriaeth, a chan y rhai sy'n gweithio yn y llysoedd—hwn oedd un o'r meysydd mwyaf llwyddiannus, a hynny'n rhannol oherwydd gallu'r llysoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y llysoedd ac yn eu defnyddio i gydweithio yng Nghymru er mwyn sicrhau bod achosion yn parhau i gael eu clywed.
Nawr, o ran achosion troseddol difrifol, ceir nifer sylweddol iawn o ôl-groniadau y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd. Mae llawer o'r rhain na ellir mynd i'r afael â hwy drwy ddigideiddio; mae materion moesegol arwyddocaol iawn yn codi ynghylch digideiddio. Ond yn sicr yn system y tribiwnlysoedd, sydd o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, mae cael gwrandawiadau digidol, gwrandawiadau ar-lein, yn sicr wedi bod yn llwyddiannus iawn er mwyn sicrhau bod y tribiwnlysoedd hynny'n parhau i weithredu. Ac rwy'n sicr yn cymeradwyo pawb sydd wedi gweithio o fewn y system benodol honno.
Credaf fod y broblem gydag ôl-groniadau mewn llysoedd yn deillio o danariannu sylweddol mewn perthynas â chyfiawnder, yn mynd yn ôl ddegawdau lawer, ac rwy'n cyfaddef y pwynt penodol hwnnw. Credaf ei fod wedi'i waethygu'n arbennig dros y 10 mlynedd diwethaf, a chredaf y byddwch yn ymwybodol—ni sonioch chi amdano, ond fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs—fod materion pwysig yn codi yn awr mewn perthynas ag ystad llysoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a safon honno, addasrwydd ein llysoedd, ac nid yw'n llai pwysig nag ystad y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd, sy'n rhywbeth y mae taer angen mynd i'r afael ag ef.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddiwedd mis Mawrth, cafodd datganiad Llywodraeth Cymru ar fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru ei dynnu'n ôl. Pryd y gwneir y datganiad yn awr, ac a all y Cwnsler Cyffredinol warantu i mi y bydd y datganiad yn darparu cerrig milltir allweddol, gydag arweiniad a chyfeiriad clir ac atebol? Diolch.
Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. A gallaf ddweud wrthych fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar ystod eang o faterion cyfiawnder ar draws ein dau bortffolio—nid yn unig ym maes cyfiawnder deddfwriaethol, ond hefyd ym maes cyfiawnder economaidd-gymdeithasol. Oherwydd rwy'n meddwl ein bod yn credu'n gryf iawn fod cyfiawnder economaidd-gymdeithasol a chyfiawnder cyfreithiol yn mynd law yn llaw. Credaf y bydd rhai o'r problemau'n ymwneud â datganoli cyfiawnder yn cael sylw mewn gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ei gyhoeddi'n fuan. Felly, nid yw'n barod eto, ond nid yw'n bell o fod. Rwy'n credu y bydd hwnnw hefyd yn cyfeirio'n benodol iawn at argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd, a gallaf eich sicrhau bod diwygio tribiwnlysoedd yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried i raddau helaeth a bydd yn rhan o'r cyflwyniad eang ar gyfiawnder y gobeithiwn ei wneud o fewn ychydig wythnosau.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar Dribiwnlysoedd Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael sawl adroddiad yn awr sy'n argymell gwahanu uned Tribiwnlysoedd Cymru oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gymeradwyo gennych chi a Llywodraeth Cymru. Ond yn hytrach na sefydlu adran anweinidogol, pam fod uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi'i symud o swyddfa'r Prif Weinidog i adran yr economi, masnach a'r cyfansoddiad? Ac ar gyfleusterau, fe sonioch chi am ddiffyg cyfleusterau mewn perthynas â'r llys. Mae prydles yr unig gyfleuster ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig, Oak House, yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru?
Mae hwnnw'n bwynt teg iawn. Fel rhan o'r broses o ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, rydym eisiau sicrhau bod gwahaniad barnwrol ac annibyniaeth briodol i'r system honno, ond hefyd fod gan y tribiwnlysoedd y cyfleusterau priodol sy'n angenrheidiol iddynt gael eu hystyried yn llysoedd priodol, i ennyn parch llysoedd priodol, ac i gael y cyfleusterau priodol i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt. Mae hynny'n cael ei ystyried a'i adolygu, a bydd yn rhan o'r hyn y cyfeiriais ato'n gynharach gyda ein hadolygiad ehangach o'r system gyfiawnder gyffredinol yng Nghymru, argymhellion comisiwn Thomas a materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder.
3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU am y frwydr barhaus dros gyfiawnder i deuluoedd Hillsborough? OQ57981
Wel, diolch am eich cwestiwn ar y mater pwysig hwn. Cyn ei ymddiswyddiad egwyddorol, gohebais a chefais drafodaethau rheolaidd gyda'r Arglwydd Wolfson am amrywiaeth o bryderon difrifol fel y rhain. Rydym yn aros, unwaith eto, i Lywodraeth y DU benderfynu pwy fydd y Gweinidog newydd i arwain y gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb a'i ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi teuluoedd trychineb Hillsborough. Gwyddoch fy mod wedi codi'r mater hwn o'r blaen, fod angen cyfraith Hillsborough arnom yn awr i gefnogi'r ymgyrch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ymwybodol o'r galwadau diweddar, unwaith eto, gan y meiri metro Llafur, Andy Burnham a Steve Rotheram, am gyfraith Hillsborough. A wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU frysio, a phenderfynu pwy fydd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, oherwydd mae hon yn ddeddfwriaeth hollbwysig? A wnewch chi drosglwyddo'r neges honno i'ch Gweinidog cyfatebol pan gaiff ei benodi, a gofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch yn ogystal â gweithredu yn awr a chyflwyno cyfraith Hillsborough?
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am godi mater diwygio cyfraith pwysig iawn yn fy marn i. Ac mae'n werth atgoffa pobl beth yw cyfraith Hillsborough mewn gwirionedd, o dan, mae'n debyg, yr enw Bil Awdurdod Cyhoeddus (Atebolrwydd), y cyfeirir ato fel cyfraith Hillsborough. Mae'n ymwneud â darparu siarter i deuluoedd sy'n colli anwyliaid drwy drasiedi gyhoeddus, sy'n rhwymo mewn cyfraith i bob corff cyhoeddus; dyletswydd o onestrwydd i weision cyhoeddus; cyfranogiad priodol teuluoedd galarus mewn cwestau, drwy gynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus, ac eiriolwr cyhoeddus i weithredu dros deuluoedd yr ymadawedig yn sgil digwyddiadau mawr.
Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n mynd at wraidd cyfiawnder sylfaenol. Rwyf wedi gwneud y pwynt o'r blaen, wrth gwrs, o gofio bod llysoedd crwneriaid yng Nghymru'n cael eu hariannu'n gyfan gwbl gan arian cyhoeddus, ei bod yn ymddangos i mi ei fod yn fater y dylid ei ddatganoli i Gymru, yn ogystal â darparu cyllid cyhoeddus priodol ar gyfer cynrychiolaeth mewn cwestau. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn wendid ac yn anghysondeb mawr erioed nad yw hynny wedi bodoli.
Ni ddylai neb fynd drwy'r mathau o brofiadau y mae teuluoedd Hillsborough wedi bod drwyddynt, y camau y bu'n rhaid iddynt eu cymryd er mwyn cael cyfiawnder, gyda llawer o'r teuluoedd hynny'n rhoi rhan fawr o'u bywydau, a bywydau eu teuluoedd, i gael y cyfiawnder hwnnw. Ac nid dyna'r unig gamweddau cyfiawnder. Ceir mannau eraill lle gwelwyd camweddau cyfiawnder sylweddol; heb fod yn hir yn ôl, fe wnaethoch chi sôn am Horizon a'r swyddfeydd post, ac wrth gwrs, mae nifer o farwolaethau'n gysylltiedig â hynny ynddo'i hun.
Felly, y sicrwydd y gallaf ei roi i chi yw bod hyn yn rhywbeth a fydd ar yr agenda o faterion y byddwn yn eu codi gyda'r Gweinidog newydd pan gaiff ei benodi, a byddaf yn adrodd yn ôl eto ar ganlyniad y trafodaethau hynny.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni cynllun Llywodraeth y DU i brosesu ceisiadau am loches o'r glannau hyn yn Rwanda? OQ57950
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch fod Cymru'n genedl noddfa i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru ac yn ceisio trafod y cynigion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ni rannodd Llywodraeth y DU ei chynigion parthed Rwanda gyda Llywodraeth Cymru cyn eu cyhoeddi.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n synnu neb. Mae cynllun Rwanda, wrth gwrs, yn annynol, yn anymarferol ac yn debygol iawn o fod yn anghyfreithlon hefyd. Fe'i hysgogwyd gan fuddiannau tymor byr Llywodraeth Dorïaidd asgell dde yn hytrach nag unrhyw ymgais wirioneddol i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu pobl mewn argyfwng sy'n dianc rhag rhyfel, dioddefwyr masnachu pobl neu ateb sy'n mynd i'r afael o ddifrif â methiannau ein system fewnfudo doredig. Cafodd ei gondemnio gan bawb, o Oxfam i Theresa May. Mae'n warthus ac mae'n warthus i bob un ohonom yn y Deyrnas Unedig fod hyn wedi cyrraedd y pwynt hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru yn cael eu diogelu hyd eithaf gallu'r Llywodraeth hon ac i sicrhau graddau llawn yr holl bwerau cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion, Llywodraeth Cymru a hefyd y lle hwn, ac y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn parhau i lywio ein hymagwedd fel cenedl noddfa i ddarparu cartrefi, diogelwch a chymorth i bobl sydd eu hangen a'u bod yn gwneud mwy na cheisio bachu penawdau papurau newydd ddydd ar ôl dydd, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bob golwg?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau hynny. Maent yn sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud, yn sylwadau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi'u gwneud hefyd, ac mae llawer o Aelodau eraill wedi gwneud y sylwadau hynny yn y Siambr hon. Credaf mai ddoe ddiwethaf y gallais gyfeirio at bennaeth Eglwys Loegr a gyfeiriodd at y cynigion hyn fel rhai sy'n groes i natur Duw. Nid wyf yn grefyddol fy hun, ond pan fydd pennaeth eglwys fawr yn cael ei ysgogi gan gynigion i'r fath raddau nes eu bod yn dweud eu bod yn annuwiol, mae'n rhaid i lywodraeth nodi hynny. Ac roedd yn eithaf eironig, mewn gwirionedd, pan oedd Boris Johnson yn Kyiv yn siarad am hawliau dynol, fod Priti Patel yn cael ei bygwth â chamau cyfreithiol am dorri hawliau dynol ar lefel y DU.
Ar wahân i hynny, mae'r cynigion yn debygol o fod yn hynod o ddrud ac aneffeithlon. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl y byddant yn cyflawni unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddant yn ei gyflawni. Maent yn sicr yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, yn enwedig erthyglau 31 a 32. Rwy'n monitro'n agos iawn y camau cyfreithiol y deallaf eu bod yn cael eu dwyn gerbron i herio'r cyfreithlondeb, ac mae'n ymddangos i mi fod cwestiwn pwysig iawn yn codi ynglŷn ag a yw'r cynigion hyn yn torri cyfraith ryngwladol ai peidio. Ond byddaf yn monitro hynny'n agos iawn, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i gefnogi cyfreithlondeb rhyngwladol.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch datblygu polisi etholiadau sy'n mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd mewn rhai wardiau yng Nghymru? OQ57971
Diolch am eich cwestiwn. Mae diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd yn ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu, ac rwy'n trafod materion o'r fath yn rheolaidd gyda fy nghyd-Weinidogion.
Diolch. Nawr, yfory, fel y gwyddom i gyd, dylai pobl ym mhob cymuned yng Nghymru fod yn mynd i ethol cynrychiolwyr i hyrwyddo eu cymuned ar faterion sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol—y dreth gyngor, priffyrdd, gofal cymdeithasol, i enwi rhai yn unig. Fodd bynnag, mae 72 o seddi cyngor yn rhai diwrthwynebiad. Yr enghraifft fwyaf eithafol yw Gwynedd, lle mae 28 o 69 sedd y cyngor, ychydig dros 40 y cant, ag un unigolyn yn unig yn ymgeisio amdanynt. Dim ond 1 y cant o holl seddi cyngor yr Alban sydd eisoes wedi'u llenwi, ond mae'r ffigur yn 6 y cant yma yng Nghymru. Bydd y ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer cynghorau tref a chymuned, a chofiaf godi hyn gyda'r Gweinidog ar y pryd, ynglŷn â'r nifer enfawr o seddi diwrthwynebiad yn ein cynghorau tref a chymuned. Yn sir Conwy yn unig, dim ond chwech o'r cynghorau tref a chymuned sydd ag o leiaf un ward yn wynebu etholiad. Wrth gwrs, gallem leihau nifer y seddi a newid ffiniau'r wardiau, ond unwaith eto gallem ddal i wynebu'r un broblem. A ydych yn cytuno â mi fod angen adolygu a datblygu polisi etholiadol yn awr er mwyn inni allu nodi'r rhwystrau sydd yno i enwebu ac felly annog etholiadau o'r fath i ddigwydd? Diolch.
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedoch chi mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon droeon ynghylch iechyd democrataidd Cymru, ac mae'n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu ei fod bob amser yn destun pryder pan nad oes digon o ymgeiswyr ar gyfer rhai seddi. Rwy'n ystyried bod cynghorau cymuned yn rhan eithriadol o bwysig o'n democratiaeth, felly pan nad oes ymgeiswyr neu pan nad yw seddi wedi'u llenwi—. Rwy'n ymwybodol o ddau gyngor cymuned penodol lle nad oes digon o ymgeiswyr i gael cworwm. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod cryn nifer o seddi gydag un ymgeisydd yn unig. Wrth gwrs, mae rhywfaint o hynny'n berthnasol hefyd ar lefelau eraill y cynghorau, ond mae'n bryder.
Rwyf hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod llawer o bobl, ac rwyf wedi dod ar draws unigolion sydd â diddordeb mawr yn eu cymuned a'u gwaith cymunedol ond sydd wedi penderfynu na fyddant yn sefyll mewn etholiadau oherwydd y gamdriniaeth y byddant yn ei hwynebu mewn gwirionedd—fel pobl mewn swyddi cyhoeddus. Rwy'n meddwl am y difrïo a welwyd. Credaf yn sicr fod hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Gwn am un cynghorydd cymuned mewn gwirionedd a gafodd eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol yr eiliad y dywedasant eu bod yn bwriadu sefyll, ac fe wnaethant newid eu meddwl a dweud nad oeddent am sefyll. Felly, credaf fod problem wirioneddol yno o ran sefyll dros uniondeb y rhai sy'n ymgeisio am swydd gyhoeddus. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Ar ôl yr etholiadau, rwy'n credu bod angen inni edrych ar ddau fater. Un ohonynt yw statws cyffredinol cyfranogiad mewn etholiadau, yn ddemograffig efallai, ledled Cymru gyfan. Mae angen inni edrych ar ganlyniad y cynlluniau peilot a gawsom sy'n edrych ar wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn etholiadau. Rwyf finnau hefyd, fel y gwyddoch, eisoes wedi gwneud datganiad ein bod yn bwriadu cyflwyno Bil diwygio a gweinyddu etholiadol gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn tri, a gobeithio y bydd yr holl sylwadau a'r safbwyntiau rydych wedi'u mynegi yn bethau a fydd yn ymddangos o ran sut yr awn ati mewn gwirionedd i edrych ar ddiwygio, gwella, a gwneud ein system etholiadol yn fwy hygyrch. Mae rhai o'r sylwadau a wnaed yn y cyfryngau yn ddiweddar wedi gwneud argraff arnaf, pethau y buom yn eu hystyried mewn gwirionedd mewn perthynas â diwygio etholiadol, sef pobl ag anabledd a'u gallu i gymryd rhan briodol yn y system etholiadol.
Felly, credaf fod llawer o bethau'n codi yno, ond mae'n debyg mai fy mhwynt olaf yw hwn: credaf fod iechyd ein democratiaeth yn dibynnu'n rhannol ar gyfranogiad dinasyddion o fewn hynny, ac os yw'r cyfranogiad hwnnw wedi'i wanhau mewn rhyw ffordd neu os nad yw'n cael ei gyflawni fel y dylai, caiff ein cymdeithas gyfan ei gwanhau. Dyna rywbeth y byddwn yn ei drafod eto a byddwn eisiau gweld beth y gallwn ei wneud i'w unioni, ond hefyd i wella a gwneud ein system etholiadol ein hunain yn fwy hygyrch. Wrth gwrs, rydym wedi sicrhau bod pobl ifanc 16 i 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf, sy'n estyniad o'r fasnachfraint, ond dim ond un mesur yw hwnnw.
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws apêl Llywodraeth Cymru i Oruchaf Lys y DU ar ei her gyfreithiol i Ddeddf marchnad fewnol y DU? OQ57956
Diolch am y cwestiwn. Cafodd cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn y Llys Apêl, ynghyd â chais am ystyriaeth gyflym, ei gyflwyno i'r Goruchaf Lys ar 7 Mawrth. Nid yw'r cais wedi'i ystyried hyd yma. Felly, rydym yn aros am benderfyniad gan y Goruchaf Lys.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol.
Cytunaf yn llwyr â'r sylwadau rydych wedi'u gwneud o'r blaen fod y Ddeddf hon yn tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli. Ceir uwchfwyafrif clir yn y Senedd hon sydd eisiau ymestyn a gwella ein pwerau. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth San Steffan i wneud iddynt sylweddoli o'r diwedd mai ewyllys pobl Cymru a Senedd Cymru yw cael mwy o bwerau ac nad ydynt yn gwadu'r mwyafrif hwnnw a'r mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru?
Diolch ichi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaethoch. Credaf fod y Ddeddf marchnad fewnol, os caiff ei dehongli fel y mae Llywodraeth y DU eisiau iddi gael ei dehongli, yn tanseilio rhan o'n setliad cyfansoddiadol. Wrth gwrs, rydym yn anghytuno â'r ddeddfwriaeth honno; credwn ei bod yn anghyfansoddiadol, ac mae camau cyfreithiol wedi'u cymryd o'r herwydd. Mae'n werth dweud ar y cam hwn, wrth gwrs, nad ymdriniwyd â rhinweddau ein dadleuon mewn gwirionedd. Y cwestiwn yw, beth yw'r mecanwaith gorau ar gyfer gwneud hynny, boed hynny drwy ddehongli deddfwriaeth y Ddeddf ei hun, neu a yw'n well gwneud hynny drwy gyfrwng deddfwriaeth a gaiff ei phrofi drwy ei chyfeirio at y Goruchaf Lys. Felly, fel y dywedais, rydym wedi gwneud y cais am ganiatâd i apelio. Ni chafodd ei ystyried gan banel o ustusiaid eto, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod y canlyniad.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am rôl y comisiwn cyfansoddiadol yn y broses o ystyried maint y Senedd a'r system bleidleisio a ddefnyddir i ethol Aelodau o'r Senedd? OQ57972
Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi pennu amcanion cyffredinol y comisiwn. Gan fod y comisiwn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, mater iddynt hwy yw'r materion y maent yn eu hystyried o fewn y cylch gwaith hwnnw.
Diolch. Wrth gwrs, gwyddom fod Cymru'n dal i fod yn ei babandod democrataidd, ac mae honno'n sefyllfa unigryw i fod ynddi wrth inni geisio gwella lles Cymru yma ym Mae Caerdydd—neu yno ym Mae Caerdydd—ac ar draws y wlad. Fodd bynnag, mae dyfalu yn y cyfryngau a sgyrsiau ymysg cyd-Aelodau wedi peri pryder ynglŷn â sut y bydd dyfodol y Siambr hon yn edrych a'r broses etholiadol a ddefnyddir i ethol ei Haelodau. Fel y gobeithiaf y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno, mae angen cynnal trafodaethau ar ddyfodol Cymru mewn modd tryloyw ac agored iawn, lle gall pob dinesydd, os dymunant, graffu'n barhaus ar waith y comisiwn cyfansoddiadol a rhoi eu mewnbwn ar sut y maent yn rhagweld y bydd Cymru ddemocrataidd fodern yn edrych. Ni ddylid naddu dyfodol y wlad hon y tu ôl i ddrysau caeedig. Felly, wrth ddarparu safbwynt adeiladol i'r ddadl ar gynyddu nifer yr Aelodau yma ym Mae Caerdydd, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha fodelau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gynyddu nifer yr Aelodau a pha system bleidleisio a ffafriwch ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch ichi am y cwestiwn. Gallaf ateb rhan ohono, ac mae'n debygol na allaf ateb rhan arall ohono. A gaf fi ddweud am y comisiwn cyfansoddiad fy mod i a'r Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, wedi cyfarfod â'r comisiwn ar 28 Ebrill am adroddiad diweddaru ar y cynnydd sy'n cael ei wneud? Credaf fod yr adroddiad hwnnw wedi'i osod yn y llyfrgell a'i fod ar gael i chi. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod llawer o waith wedi'i wneud ar gael tystiolaeth gan amrywiaeth eang o gyrff, sefydliadau ac unigolion, a'u bod ar gam nesaf y gwaith o ddechrau datblygu proses ymgysylltu. Mae'n amlwg fod proses ymgysylltu yn rhan sylweddol iawn o'u gwaith. Ond ar faint y Senedd, wrth gwrs, mater i'r Senedd ei hun yw hwn, ac wrth gwrs, mae pwyllgor diben arbennig wedi'i sefydlu sydd i fod i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd mis Mai. Wrth gwrs, mae gennych Darren Millar yn gynrychiolydd ar y pwyllgor diben arbennig hwnnw. Rwy'n siŵr ei fod wedi clywed y pwyntiau a wnewch a bydd yn sicrhau bod y pwyntiau hynny'n cael eu codi yn ystod trafodion y pwyllgor penodol hwnnw.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Jenny Rathbone.
8. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â chanolfan gyfiawnder newydd i Gaerdydd? OQ57958
Diolch am eich cwestiwn. Ers imi gyfarfod ag uwch aelodau o’r farnwriaeth yng nghanolfan cyfiawnder sifil Caerdydd fis Medi diwethaf, rwyf wedi parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr angen cynyddol i gael gwared ar y ganolfan cyfiawnder sifil a chael un yn ei lle sy’n addas ar gyfer prifddinas yn yr unfed ganrif ar hugain.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae’r adeilad presennol, sydd yn fy etholaeth, wedi dyddio ac yn gwbl annigonol. Mae’n anniogel i deuluoedd ac nid yw’n lle da i’r farnwriaeth, ei staff a’i chyfreithwyr fod yn gweithio ynddo. Gan mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw datrys y broblem hon, tybed sut nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd ers eich cyfarfod ym mis Medi. Oherwydd mae peidio â buddsoddi yn ein system gyfiawnder yn effeithio ar ansawdd cyfiawnder, ond hefyd ar y canfyddiad o bwysigrwydd cyfiawnder yng Nghymru, ac yn atal unrhyw un sydd am ddod i weithredu o’r eiddo hwn, sy'n amlwg yn amharu ar ddatblygiad economi gyfreithiol ffyniannus yng Nghymru. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa gwbl annerbyniol hon?
Rydych yn codi pwyntiau pwysig iawn. Wrth gwrs, rwyf wedi gweithio o'r ganolfan cyfiawnder sifil ac mae Aelodau eraill o'r Senedd hon yn gyfarwydd iawn â'r cyfleusterau hynny. Tynnwyd sylw at gyflwr y llys gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ddwy flynedd a hanner yn ôl. A phan fyddwch yn cymharu’r cyfleuster a’r llys â’r rheini sy’n bodoli yn Llundain, Caeredin a Belfast, credaf fod y sefyllfa yng Nghaerdydd yn gwbl annerbyniol. Codais y mater hwn gyda’r Arglwydd Wolfson, ac mewn gwirionedd, roeddwn wedi gwahodd yr Arglwydd Wolfson i ddod i ymweld â’r llys. Mae ei ymddiswyddiad, wrth gwrs, wedi rhoi diwedd ar hynny, ond mae'n rhywbeth rwy'n bwriadu ei wneud gyda phwy bynnag a ddaw yn ei le.
Cododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'r mater hwn gyda’r Arglwydd Ganghellor, Dominic Raab. Ni chawsom ymateb boddhaol o gwbl. Mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedwyd wrthym oedd na fyddem yn cael canolfan cyfiawnder sifil newydd. Efallai y byddai rhai mân welliannau, ond nid oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill ar gyfer llys newydd.
Mae hyn yn arwyddocaol am nifer o resymau. Yn gyntaf, nid yw canolfan cyfiawnder sifil Caerdydd yn addas i'r diben. Nid yw’n addas ar gyfer y teuluoedd, y dinasyddion sy’n defnyddio’r llys hwnnw, nid yw’n addas ar gyfer y cyfreithwyr sydd angen ei ddefnyddio ac nid yw'n addas nac yn ddiogel ychwaith ar gyfer y farnwriaeth eu hunain. Credaf y bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r llys yn llwyr gytuno â'r sylwadau hynny. Felly, mae’n fater cyfiawnder nad yw wedi ei ddatganoli sydd o’r pwys mwyaf, ond lle nad oes cyfleuster priodol ar gyfer llawer o’r canlyniadau a llawer o’r materion yr ydym ni'n ymwneud â hwy, ac y mae’n rhaid ymdrin â hwy yn y llys penodol hwnnw.
Mae hyn hefyd yn tanseilio’r economi gyfreithiol yng Nghymru gan ei fod yn atal cyfle i ddatblygu’r arbenigedd, y math o waith masnachol a fyddai’n bwysig iawn i economi Cymru ac y byddwn i'n sicr yn hoff o'i weld. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld economi gyfreithiol Cymru yn ehangu ac yn tyfu. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid ichi gael llys priodol, mae'n rhaid ichi gael cyfleusterau priodol ac mae'n rhaid ichi gael rhywbeth sy'n sefyll ar ei draed ei hun ac sy'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n ennyn parch. Ni chredaf fod gennym unrhyw un o'r rheini. Credaf mai ymagwedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar hyn o bryd yw esgeuluso eu rhwymedigaethau mewn perthynas ag ystad y llysoedd yng Nghymru. Mae’n rhywbeth rwy'n bwriadu ei godi, a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bwriadu ei godi, a byddwn yn gwneud hynny ar bob lefel. A dweud y gwir, mae'n ddadl arall eto lle na fyddai’r llys yn y cyflwr hwnnw pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac ni fyddai’n rhaid inni oddef y cyfleusterau hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 2 yn gyntaf, Jenny Rathbone, i'w ateb gan Janet Finch-Saunders.
2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i leihau'r defnydd o ynni yn adeiladau ystâd y Senedd? OQ57959
Diolch i’r Aelod, Jenny Rathbone AS, am ofyn y cwestiwn hwn, gan ei fod yn rhywbeth rwy’n ei drafod yn eithaf aml â phobl sy’n gweithio yn ein Comisiwn. Mae gan y Senedd hanes hir o leihau’r defnydd o ynni, gyda’n hôl troed allyriadau ynni yn lleihau fwy na 50 y cant dros ein dwy strategaeth garbon flaenorol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y camau gweithredu a ddisgrifir yn strategaeth garbon niwtral newydd y Senedd, sy’n ymrwymo i fuddsoddi a gwella’r ystad. Mae mesurau effeithlonrwydd ynni a newid ymddygiad, ynghyd â gwelliannau i'r seilwaith ac ynni adnewyddadwy, oll yn rhan o'n cynlluniau i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae prosiectau a gwblheir eleni'n cynnwys darparu goleuo mwy effeithlon o ran ynni ar gyfer swyddfeydd drwy ddefnyddio deuodau allyrru golau, yn ogystal â chynyddu parthau ardaloedd gwresogi Tŷ Hywel ar gyfer arbedion gwresogi yn y dyfodol yn unol â lefelau defnydd. Rydym yn dechrau ystyried pa mor ymarferol yw paneli solar ffotofoltaig ar yr ystad ac rydym hefyd wedi ymrwymo i ymuno â rhwydwaith gwres Caerdydd, a fydd yn cael gwared ar gydran fawr o ôl troed gwresogi'r ystad.
Diolch. Mae angen i'r mesurau ymddygiad hyn ddechrau gyda'r ffordd y mae'r system oleuadau trydanol yn gweithio. Er enghraifft, fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, mae'r goleuadau ymlaen yn barhaol yn ei swyddfa, ond bu'n rhaid imi wneud ymdrech enfawr i gael y bobl fusnes yn y Senedd i newid y system oleuadau fel na fyddai'n cynnau'n awtomatig. Nid oes angen y golau arnoch mewn swyddfa sy'n wynebu'r de os yw'r haul yn tywynnu. Os ydym yn disgwyl i bobl eraill gymryd camau i leihau eu defnydd o ynni er mwyn arbed carbon, mae angen inni sicrhau bod ein hadeiladau’n gweithio'n briodol. Felly, hoffwn graffu ar y cynllun gweithredu hwn y mae'r Comisiwn yn dweud sydd ganddo er mwyn lleihau'r allyriadau carbon yn sylweddol, inni allu bod yn esiampl i eraill yn hytrach nag ar ei hôl hi gyda'r mater pwysig hwn.
Rwy’n derbyn eich pwynt, ac mewn gwirionedd, rwy’n cytuno ag ef, i raddau. Mae'n rhaid imi ddweud, pan oedd gennyf swyddfa a oedd yn wynebu’r gogledd yn ystod y tymor diwethaf, gyda’r mecanweithiau newydd a gyflwynwyd i arbed ynni, roeddem yn cael problemau gyda goleuadau ein swyddfa, ac roedd angen inni symud llawer er mwyn cynnau'r goleuadau yn y swyddfa. Rwyf bellach mewn swyddfa sy'n wynebu'r de, lle rydym yn cael llawer o haul, ac mae'n rhaid imi fod yn onest, nid oes gennyf broblem, ymddengys eu bod yn gweithio'n eithaf da yn awtomatig. Ond wrth inni agosáu at yr haf, byddwn hefyd yn annog defnyddwyr yr adeilad i chwarae eu rhan drwy agor ffenestri lle bo modd er mwyn awyru a rheoli'r tymheredd yn naturiol cyn cynnau'r system aerdymheru. Drwy gydol y pandemig, golygai'r ffaith bod niferoedd bychain o staff wedi'u gwasgaru drwy'r adeilad nad yw’r defnydd o ynni wedi’i leihau cystal ag y gallai fod, ac mae’r rhain oll yn faterion rwyf wedi’u codi gyda’r cyfarwyddwr.
Gadewch imi eich sicrhau bod y defnydd o ynni ar draws ystad y Senedd wedi lleihau dros y pandemig. Ond mae angen inni fod yn ddyfalbarhaus. Ar y pwyntiau a wnewch ynglŷn â'r cynllun, credaf y cewch rywfaint o sicrwydd pan fyddwch yn craffu ar y cynllun hwnnw. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i wneud, a'r unig beth y byddwn yn ei ddweud yw ei fod yn rhywbeth yr ydym yn gyson—. Roeddwn yn yr adeilad yr wythnos o'r blaen ac roedd y coridorau, yn fy marn i, yn rhy gynnes. Mae’r rhain oll yn faterion rwy'n eu codi, ond mae’n bwysig fod pob un ohonom ni fel Aelodau—ac rwy’n falch eich bod wedi tynnu sylw at hyn heddiw—. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel Aelodau, nid fel Comisiynwyr yn unig, i chwarae ein rhan er mwyn sicrhau nad ydym yn gwastraffu ynni mewn unrhyw ffordd. Diolch.
Nôl i gwestiwn 1. Bydd y cwestiwn yn cael ei ateb gan Ken Skates. Heledd Fychan.
1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i ganfod a yw unrhyw rai o'i gontractwyr yn defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi? OQ57963
Diolch. Mae gennym fesurau diogelu ar waith a ddylai ddiogelu rhag arferion diswyddo ac ailgyflogi, ac mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod arferion cyflogaeth teg a thryloyw ar waith ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer ein contractau. Er mwyn cael ein busnes, mae'n rhaid i'n contractwyr ddangos safonau uchel o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y cam tendro, ac mae gennym gymalau yn ein contractau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau dynol ac arferion cyflogaeth teg. Pan fyddant yn llwyddiannus, rydym yn cynnal cyfarfodydd adolygu contractau rheolaidd lle mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn eitem sefydlog ar yr agenda, ac yn rhan o hyn, rydym yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau arferion cyflogaeth teg. Gan weithredu’n rhesymol, rydym hefyd yn cadw’r hawl i ofyn am newidiadau i unrhyw un o’r arferion hynny yr ystyriwn eu bod yn annheg.
Diolch yn fawr iawn ichi. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Mi ydym ni, finnau a Mike Hedges, drwy ein rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS, wedi clywed gan PCS bod rhai sefydliadau a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn defnyddio diswyddo ac ailgyflogi, wedyn mae o'n beth da i weld bod y Comisiwn felly yn cael dylanwad o ran hyn o beth. Fyddech chi yn cytuno efo fi, o ran contractwyr, ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau a gyrru neges glir iawn nad yw'r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn rhywbeth rydyn ni yn cytuno â fo yn y Senedd hon?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am godi’r mater pwysig hwn? Byddaf yn sicr yn addo archwilio pob contract i sicrhau nad yw’r arfer ffiaidd o ddiswyddo ac ailgyflogi yn rhan o’r contractau y bu modd i ni ymrwymo iddynt fel Comisiwn. Byddwn hefyd yn parhau i edrych i weld a oes mwy y gallwn ei wneud i wella amddiffyniadau yn erbyn arferion diswyddo ac ailgyflogi, ac fel y dywedais, mae gennym gymalau ar waith, yn ein contract ar arferion cyflogaeth teg, ac rydym yn cadw'r hawl i newid unrhyw arferion yr ystyriwn eu bod yn annheg. Rydym yn sicrhau bod ein contractwyr, er enghraifft, yn talu eu staff yn unol â’r gyfradd gychwynnol ar gyfer staff y Comisiwn—sef £10.78 yr awr—sy’n fwy na’r cyflog byw gwirioneddol, sef £9.50 yr awr ar hyn o bryd o fis Ebrill eleni ymlaen. Credaf fod hynny’n dangos sut rydym yn gosod y bar yn uchel iawn o ran y contractau yr ydym yn ymrwymo iddynt gyda busnesau.
A wnaiff y Comisiwn gondemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi yn llwyr, ac a wnaiff y Comisiwn ddweud na fydd unrhyw gontractwr a ariennir gan y Comisiwn sy'n defnyddio dull o’r fath i leihau telerau ac amodau gweithwyr yn cael tendro a bod yn rhan o’r Comisiwn ac yn gyflogedig gan y Comisiwn mwyach, p'un a ydynt yn gwneud hynny gyda rhannau eraill o'r sefydliad, neu'n gwneud hynny gyda'r bobl y maent yn eu cyflogi yn y Comisiwn? Ac a wnewch chi gytuno â mi hefyd nad oes lle i ddiswyddo ac ailgyflogi yn unman yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Rwy'n cytuno â’r Aelod nad oes unrhyw le i’r arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi yn ein barn ni. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd Fychan, byddwn yn parhau i edrych i weld a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r amddiffyniadau yn erbyn yr arfer hwn. Mae'n annerbyniol, nid yw’n rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn monitro contractau a gweithgarwch i sicrhau nad yw’n rhan o’r busnes yr ydym yn ei gefnogi.
I'w ateb gan Joyce Watson, cwestiwn 3, Mabon ap Gwynfor.
3. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn lle sy'n ystyriol o feigryn? OQ57960
Diolch am eich cwestiwn. Mae’r Comisiwn yn sicrhau bod hygyrchedd ystad y Senedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithredu fel esiampl yn unol â datblygiadau ac arferion gorau a ddaw i’r amlwg. Mae cynllun adeilad y Senedd yn cael gwared ar oleuadau annaturiol, sy'n rhy llachar, yn cyflwyno mannau mawr agored, yn lleihau sŵn, ac mae cyfforddusrwydd thermol yn cael ei reoleiddio, gan leihau amrywiadau eithafol mewn tymheredd. Mae nifer o orsafoedd dŵr ar gael am ddim ar ystad y Senedd, ynghyd ag amrywiaeth o fyrbrydau iach. Mae ystafelloedd tawel yn hygyrch, ac mae swyddogion cymorth cyntaf cymwys wrth law. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau, wrth iddo barhau i ddatblygu'r ystad, fel lleoliad i ymwelwyr a gweithle, fod ymrwymiadau'r Comisiwn i gynhwysiant a hygyrchedd yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o'r cynllun hwnnw.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Bydd y Migraine Trust yn darparu pecyn cymorth, toolkit, i Aelodau'r Senedd y mis yma er mwyn ein helpu ni i roi cymorth i bobl sy'n dioddef o feigryn, gan gynnwys y staff sy'n gweithio efo ni ac yn wir holl staff y Senedd a'r Llywodraeth. A wnaiff y Comisiwn gymryd camau i sicrhau bod staff y Senedd yn teimlo eu bod nhw'n gallu datgelu bod ganddyn nhw'r cyflwr yma, cyflwr sy'n cael ei stigmateiddio yn llawer rhy aml, a'u bod nhw'n medru gofyn am addasiadau rhesymol, gan rannu arfer da am sut mae cefnogi staff sy'n byw efo meigryn orau? Diolch.
Rwy'n croesawu'r pecyn cymorth hwnnw’n fawr iawn ac edrychaf ymlaen at ei dderbyn. O ran absenoldeb o’r gwaith, mae’r broses ar gyfer cofnodi absenoldeb yn cynnwys cod meigryn yn benodol er mwyn cefnogi cofnodi cywir yn ogystal â lleihau’r stigma yr ydych newydd ei grybwyll. Mae’r nyrs iechyd galwedigaethol ar gael yn rheolaidd ar gyfer apwyntiadau unigol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, ac mae nifer o fannau tawel ar gael yn ôl yr angen. Mae'r holl offer cyfrifiadurol newydd sy'n cael ei brynu, yn liniaduron a sgriniau, wedi'u hardystio gan TÜV Rheinland, a lle caiff rhai newydd eu prynu, byddant yn bodloni'r gofyniad hwnnw. Bydd yr un peth yn digwydd gyda'r setiau teledu newydd a osodir ar draws yr ystad. Nid yw rhai ohonynt, wrth gwrs, yn bodloni'r safon honno am nad oes rhai newydd wedi'u gosod yn eu lle, ond rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda chi a'r Migraine Trust i sicrhau ein bod yn gyflogwr ac yn ofod yma sy'n sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus os ydynt yn dioddef o'r meigryn. Diolch.
Diolch, bawb.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5: datganiadau 90 eiliad. Unwaith eto, un datganiad yn unig sydd gennym yr wythnos hon, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am dynnu sylw'r Senedd at Reilffordd Llyn Tegid, sy'n teithio o Lanuwchllyn i'r Bala ac sydd yr wythnos yma yn dathlu 50 mlwyddiant ers gosod y traciau cyntaf ar gyfer y rheilffordd bresennol. Roedd y rheilffordd wreiddiol yn rhan o rwydwaith a oedd yn teithio o Riwabon i'r Bermo, ond fel cynifer o reilffyrdd Cymru, fe ddioddefodd o dan fwyell Beeching nôl ym 1965. Ond efo gweledigaeth George Barnes a chefnogaeth y Cynghorydd Tom Jones bryd hynny, sefydlwyd cwmni newydd, cwmni Rheilffordd Llyn Tegid, y cwmni cyntaf i gael ei gofrestru trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda llaw. Dechreuodd y cwmni weithredu 50 mlynedd yn ôl ym 1972, gan newid y trac o un maint safonol i un maint cul, gan weithredu fel atyniad ymwelwyr.
Mae nifer fawr o bobl wedi rhoi oriau dirifedi i sicrhau llwyddiant y rheilffordd, ac mae angen diolch i bob un o'r gwirfoddolwyr yma. Rŵan mae'r rheilffordd yn edrych i ymestyn y traciau ymhellach i mewn i'r Bala a datblygu gorsaf newydd yn y dref fydd yn denu miloedd yn rhagor o ymwelwyr i'r ardal. Dwi'n edrych ymlaen, felly, i weld y datblygiad newydd cyffrous yma er mwyn sicrhau 50 mlynedd lwyddiannus arall i'r rheilffordd fach odidog yma yn hyfrydwch Meirionnydd.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw: cymunedau lleol. Rwy'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7992 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn cyflwyno'r cynnig heddiw yn enw Darren Millar? Am y tro olaf y tymor hwn, yn sicr, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda fy 14 mlynedd o fod yn gynghorydd tref a bwrdeistref sirol yn dod i ben, yn anffodus. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn siomedig o glywed hynny.
Fel y mae ein cynnig heddiw'n ei nodi, mae
'Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau lleol i lawr.'
Am adeg i fod yn cael y ddadl bwysig hon, gyda phobl ledled ein gwlad yn mynd i'r blwch pleidleisio yfory a chyda chymaint eisoes wedi pleidleisio drwy'r post i benderfynu pwy fydd eu cynghorydd lleol nesaf. Rwy’n siŵr fod pob Aelod o bob rhan o’r Siambr yn rhannu’r brwdfrydedd sydd gennyf dros yr etholiad yfory, gan ei bod yn adeg mor bwysig i’n cymunedau. Mae cynghorwyr mor bwysig yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi, hwy yw’r gwir hyrwyddwyr lleol sydd â’r grym a’r dyhead i sicrhau newid yn ein cymunedau pan fyddant wedi’u grymuso’n briodol i wneud hynny.
Wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes lle credaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael ein cymunedau i lawr. Y maes cyntaf yr hoffwn ganolbwyntio arno yw cyllid. Fel y gwyddom, mae’r Llywodraeth hon yng Nghymru, yn hanesyddol, wedi tanariannu ein cynghorau, ac mae hynny'n parhau i’w gorfodi i godi’r dreth gyngor i ddarparu’r gwasanaethau y mae galw cynyddol amdanynt. Ers i Lafur fod mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, mae’r dreth gyngor wedi codi bron i 200 y cant ledled y wlad, gan ychwanegu £900 at fil cyfartalog cartrefi. Dyma pam fod gwelliant y Llywodraeth yn ddiddorol i mi, gan eu bod yn datgan nad yw Llywodraeth y DU wedi bod o ddifrif ynghylch yr argyfwng costau byw—yr un Llywodraeth Cymru a orfododd drigolion i dalu treth gyngor uwch drwy gyllido is, gan orfodi'r penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd hyn ar ein cynghorau a'n cynghorwyr. Mae'n bryd i lywodraeth leol gael y cyllid go iawn y mae'n ei haeddu—cyllid sy'n deg ledled Cymru. Byddai hyn yn rhyddhau ein hyrwyddwyr lleol ac yn eu galluogi i wneud gwaith hyd yn oed yn well nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn ail, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i esgeuluso ein cymunedau lleol drwy beidio â chefnogi ac ymddiried mewn pobl sy’n cael eu hethol yn lleol. Fel y gŵyr Aelodau o bob rhan o’r Siambr hon yn iawn, cyflwynwyd datganoli, wrth gwrs, i ddod â grym mor agos â phosibl at y bobl, a’n cynghorwyr lleol sydd agosaf at bobl leol a materion lleol. Serch hynny, gyda Llywodraeth Lafur Cymru, mae’n amlwg nad ydynt am i ddatganoli fynd ymhellach na Bae Caerdydd. Ac fel y nodais wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf, mae cynghorau a chynghorwyr yn parhau i fod yn rhwystredig ynghylch yr haenau o fiwrocratiaeth a’r haenau o lywodraethiant, byrddau a chyrff sy’n cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth Lafur hon. Gellir gweld hyn drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau arweinyddiaeth rhanbarthol, cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd oll yn glastwreiddio grym a rheolaeth y bobl a etholwyd yn lleol. Enghraifft arall o’r diffyg ymddiriedaeth mewn pobl a etholir yn lleol yw’r cyllid ôl-UE. Dro ar ôl tro, rydym yn clywed Llywodraeth Cymru yn ymosod ar Lywodraeth y DU am roi arian a chyllid yn uniongyrchol i’n cynghorau. Yn wahanol iddynt hwy, y Ceidwadwyr sy’n ymddiried mewn pobl a etholir yn lleol i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y cymunedau, yn hytrach na bod mamlong Bae Caerdydd yn ceisio llywio’r hyn y mae cynghorau'n ei wneud dro ar ôl tro. Nawr yw’r amser i’n cynghorau ffynnu drwy ymddiried ynddynt i wneud yr hyn sy’n iawn i gymunedau yng Nghymru.
Y trydydd maes, a’r maes olaf lle mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i adael ein cymunedau lleol i lawr yw balchder yn y lleoedd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'n hanfodol ein bod yn grymuso ein cymunedau ymhellach gyda chynlluniau cymdogaeth, gan alluogi pobl leol i arwain ar ble y dylid adeiladu a datblygu tai a gwasanaethau newydd, ynghyd â chyflwyno cronfeydd perchnogaeth gymunedol i helpu cymunedau i reoli a llywio eu cyfleusterau a'u gwasanaethau lleol. Y pethau hyn sy'n creu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt, gan roi'r grym hwnnw i bobl leol iawn.
Mae taer angen gwella llawer o’n cymunedau, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â phethau sylfaenol iawn. Mae angen inni sicrhau bod biniau’n cael eu casglu’n brydlon, fod tyllau yn y ffordd yn cael eu llenwi, fod palmentydd peryglus yn cael eu hatgyweirio, a bod pobl yn cael yr addysg a’r gofal cymdeithasol y maent yn eu haeddu. A phan welwn bethau y gellid eu hystyried yn faterion bach yn cael sylw, rydym hefyd yn gweld busnesau’n ffynnu, gyda mwy o swyddi i bobl leol, balchder yn cael ei adfer yn ein trefi a’n pentrefi, a phobl leol ar y blaen wrth wneud penderfyniadau.
Wrth gloi’r sylwadau agoriadol hyn, Ddirprwy Lywydd, mae 23 mlynedd wedi bod ers i rym gael ei ddatganoli i Gymru, ac ers hynny, o dan Lywodraethau Llafur olynol a gafodd eu cynnal gan Blaid Cymru, prin y mae ansawdd bywyd wedi gwella i lawer o gymunedau Cymru. Mae cynghorau’n darparu’r gwasanaethau hollbwysig y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt, ond mae’r degawdau o danariannu gan y Llywodraeth hon wedi golygu bod eu gallu i wella gwasanaethau cyhoeddus wedi’i lesteirio a’i ddal yn ôl. Nawr yw’r amser i gefnogi ein cymunedau a busnesau lleol, i ymddiried mewn pobl leol, ac i weithio gyda phob sector i wella cymunedau lleol a gwasanaethau lleol. Ers gormod lawer o amser, mae’r Llywodraeth hon wedi cymryd Cymru’n ganiataol ac yn credu mai hwy sy’n gwybod orau yn hytrach nag ymddiried mewn pobl leol. Dim ond drwy bleidleisio dros hyrwyddwyr lleol y Ceidwadwyr Cymreig y gall pobl adfer rheolaeth ar ddyfodol eu cymunedau a darparu cymunedau cryfach a mwy diogel. Galwaf ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig a gwrthod y gwelliannau ger ein bron. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod polisïau anflaengar llywodraethau olynol San Steffan—o dan y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr—a diffyg uchelgais Llywodraethau Llafur Cymru wedi gadael cymunedau Cymru i lawr.
2. Yn credu bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn sicrhau nifer o bolisïau trawsnewidiol a fydd o fudd i bobl a chymunedau Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw Siân Gwenllian.
Bydd llawer o bobl mewn cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn credu ei bod braidd yn rhagrithiol i'r Torïaid gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw yn y Senedd. Rwy'n cynrychioli llawer o hen bentrefi a threfi glofaol ledled Dwyrain De Cymru. Bydd pobl sy’n byw yn y lleoedd hyn yn cofio’n iawn mai’r Torïaid a wnaeth eu gorau i ddinistrio calon y cymunedau hyn yn y 1980au. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae gwleidyddiaeth cyni, a gefnogwyd yn y blynyddoedd cynnar yn San Steffan gan wrthblaid Lafur ddof, wedi gwaethygu cenedlaethau o esgeulustod a thanariannu mewn cymunedau sy’n dal i ddioddef yn sgil cau'r pyllau glo.
Os yw’r Torïaid yn dymuno sôn am adael cymunedau i lawr yng Nghymru, dylent edrych yn ofalus arnynt eu hunain yn y drych yn gyntaf. A beth am y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru? Wel, er yr hyn y byddai rhai o’r Aelodau yn y Siambr am i'w hetholwyr gredu, mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd a ddinistriodd gymunedau yn 2020. Dim ond rhai o’r lleoedd yr effeithiwyd arnynt yn fy rhanbarth i oedd Llanhiledd, Ystrad Mynach a Machen. Mae angen fforwm llifogydd Cymru hefyd i roi llais i’r cymunedau sydd mewn perygl er mwyn darparu cymorth ymarferol yn ogystal ag eirioli ar eu rhan. Byddai ymchwiliad annibynnol a fforwm llifogydd yn rhoi rhywfaint o gysur mawr ei angen i’r bobl na allant gysgu yn y nos pan fydd hi’n bwrw glaw, rhag ofn i hanes ailadrodd ei hun.
Mae’r diffyg gweithredu ar lygredd aer gan Lywodraeth Lafur nid yn unig yn syndod, ond mae hefyd yn addewid a dorrwyd. Bydd yn rhyddhad mewn lleoedd fel Hafodyrynys, lle bu’n rhaid dymchwel stryd oherwydd llygredd aer, pan fydd y polisi hirddisgwyliedig yn cael ei gyflwyno o’r diwedd, diolch i rôl Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Mae gwir angen y ddeddfwriaeth hon oherwydd yr hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol, sydd wedi gwneud llawer o bobl yn ein cymunedau yn agored i lygredd aer. Amcangyfrifir y gall yr aer a anadlwn gyfrannu at ostyngiad mewn disgwyliad oes a marwolaethau, gan achosi rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Y gost i GIG Cymru yw oddeutu £1 biliwn y flwyddyn.
Yn olaf, hoffwn sôn am dlodi plant yng Nghymru. Mae'r ffaith bod traean o’n plant yn byw mewn tlodi yn warth cenedlaethol, ac mae wedi’i waethygu gan y ffaith bod yr ystadegyn ofnadwy hwn ar fin gwaethygu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae gan Lywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan lawer i ateb drosto, ond mae mwy y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, mwy o lawer. Mae diffyg rhaglen wrthdlodi yn y pum mlynedd diwethaf ers i Lafur gael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf yn siomedig. Diolch i’r cytundeb cydweithio, sydd wedi rhoi llawer o ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru ar agenda’r Llywodraeth, ceir llygedyn o obaith mewn darlun tywyll. Bydd yr ymrwymiad i warantu pryd ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn wirioneddol drawsnewidiol i filoedd o deuluoedd. Bydd y camau beiddgar i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cynyddol yng Nghymru hefyd yn mynd i’r afael â’r doreth o ail gartrefi a thai anfforddiadwy. Mae’r cytundeb cydweithio hefyd yn cadarnhau bygythiad Llywodraeth y DU i genedligrwydd Cymreig gyda’r datganiad cryfaf hyd yma fod ein Senedd yma i aros. Mae’r ymrwymiad i ddiwygio etholiadol, ac o ganlyniad, i Senedd fwy, sy'n gryfach ac yn addas i’r diben, yn ymateb uniongyrchol i’r cyfrifoldebau cynyddol sydd gan y Senedd.
Yn olaf, mae ein cynllun i archwilio ffyrdd o gyflawni sero net erbyn 2035 yn hwb mawr ei angen i’r argyfwng hinsawdd, sef yr her a’r bygythiad mwyaf sy'n ein hwynebu am genedlaethau i ddod, yn sicr ddigon. Mae ein cymunedau wedi dioddef o dan bolisïau anflaengar Llywodraethau olynol yn San Steffan—ie, rhai Llafur a Cheidwadol—ac mae Cymru ar hyn o bryd yn dioddef canlyniadau diffyg gweithredu ar feysydd allweddol, megis llifogydd, llygredd aer a thlodi. Mae’r diffyg uchelgais hwn yn gadael cymunedau ledled Cymru i lawr, ac mae cymaint mwy y dylai’r Llywodraeth hon fod yn ymdrechu tuag ato. Diolch yn fawr.
Cynsail y ddadl hon heddiw yw cynnig gan y Ceidwadwyr sy’n cadarnhau bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn gadael cymunedau lleol i lawr, neu dyna a ddylai fod. Mae fy nghymunedau'n gymunedau gwych. Maent wedi wynebu sawl her dros sawl degawd, maent wedi plygu weithiau, ond nid ydynt byth wedi cael eu curo, ac maent yn llawn o bobl wych. Rwy’n teimlo weithiau nad yw pobl o’r tu allan i’r Cymoedd byth yn deall yr ymdeimlad dwfn o berthyn a gwreiddiau sy’n ein cadw ni yno ac yn ein cadw gyda'n gilydd, doed a ddelo. Ac rydym wedi bod drwy adegau anodd iawn ac rydym wedi goroesi. Ond methiant Llywodraeth y DU i ddeall a chydymdeimlo â’r cymunedau hyn ac ymateb yn gadarnhaol i'w heriau yw'r methiant a welwn ar hyn o bryd.
Ac o ran yr Aelodau Ceidwadol yma yn y Siambr heddiw, ar y meinciau gyferbyn, yn draddodiadol, nid yw Llywodraethau Ceidwadol wedi bod yn gyfaill i fy nghymunedau i. Cawsom ein disgrifio unwaith, yn wir, fel 'y gelyn oddi mewn' gan Margaret Thatcher. Ac nid y glowyr yn unig oedd y gelyn oddi mewn, wrth gwrs, ond eu teuluoedd hefyd, eu cymunedau, y bobl a oedd yno. Ac mae'n anghofio, wrth gwrs, fod hyn bob amser, hyd yn oed bryd hynny, yn ymwneud â phobl yn chwilio am degwch a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd. Ond wrth gwrs, mae hynny'n hen hanes, onid yw? Mae amseroedd wedi newid, mae pethau wedi symud ymlaen, mae'n adeg arall, ac yn wir, yn ganrif arall.
Felly, gadewch inni symud ymlaen. Efallai fod yr wynebau wedi newid, ond cafodd yr ymagwedd ei datgelu ddoe, yn anffodus, yn y cyfweliad gyda Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson—yr un hen stori. Roedd ei ymddangosiad ar GMTV ddoe, ar ôl pum mlynedd o absenoldeb, yn addysgiadol. Gofynnodd y sawl a oedd yn ei gyfweld gwestiwn syml iawn i Brif Weinidog y DU, ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud i helpu Elsie, sy’n dewis teithio ar y bws drwy’r dydd i gadw’n gynnes am na all fforddio gwresogi ei chartref a bwyta hefyd—nid oes ganddi unrhyw arian ar ôl. 'Beth arall y gellir ei wneud?', gofynnodd y cyfwelydd. Ei ateb—ar ôl ymbalfalu a baglu i ddod o hyd i ateb plaen, mewn eiliad o hunanaddoliad llwyr, fe gymerodd y clod am gyflwyno’r tocyn bws am ddim y gall Elsie ei ddefnyddio. Mae'n rhaid bod Elsie wrth ei bodd fod ganddi Prif Weinidog y DU sy'n darparu bysiau cynnes, rhad ac am ddim i ofalu amdani wrth i'w chartref rewi.
Ar ôl hyn, fe wnaeth y cyfwelydd, a oedd wedi'i syfrdanu gan yr ymateb hwn, holi Prif Weinidog y DU eto ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud ar gyfer Elsie, sydd wedi dihysbyddu'r holl opsiynau eraill sydd ar gael iddi. 'A fyddai'n werth cael gwared ar y TAW ar wresogi?’, gofynnodd, 'Beth am dreth ffawdelw ar elw syfrdanol y cwmnïau ynni tanwydd ffosil, sy'n defnyddio eu henillion i fantoli eu cyfrifon a thalu difidendau yn hytrach na helpu Elsie?' Unwaith eto, perfformiodd Prif Weinidog y DU yr hyn y gallai fod wedi cyfeirio ato, mewn gwirionedd, fel tric Chauceraidd, yr hyn y gallai Chaucer fod wedi cyfeirio ato fel torri gwynt ar lafar. Bustachodd a phaldaruodd, gan esbonio nad oedd unrhyw beth arall y gallai ef neu ei Lywodraeth ei wneud.
Mae Elsie yn byw ym mhob un o’n cymunedau yn awr. Pan ddywedwn fod pobl yn gwneud y dewis heddiw rhwng gwresogi a bwyta, nid dyfais rethregol mo honno, mae'n ffaith. Mae bellach yn dod yn fwyfwy cyffredin. Pan ddywedwn fod pobl yn mynd i fanciau bwyd mewn siwtiau ac mewn iwnifformau ar ôl bod yn y gwaith, nid yw hynny'n anarferol, dyma'r normal newydd. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU bellach yn creu, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, cenhedlaeth newydd o bobl yr ydym wedi’u gweld yn ein cymunedau o’r blaen o dan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol—cenhedlaeth o dlodi mewn gwaith yn ogystal â thlodi ymhlith pobl ddi-waith. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Cenhedlaeth o ddyled gynyddol, a’r genhedlaeth gyntaf, Darren, o lawer y mae eu rhagolygon bellach yn waeth na rhai eu mamau a’u tadau a’u neiniau a'u teidiau. Yn ystadegol, yn ffeithiol, mae'n wir. Beth sy'n digwydd, Darren?
Wel, os yw eisiau sôn am ragolygon i bobl, mae angen inni ddatrys ein system addysg yng Nghymru, y mae eich Llywodraeth yn gyfrifol amdani, a hon yw'r system addysg waethaf, yn anffodus, yn y Deyrnas Unedig. O ran yr hyn y mae'r Deyrnas Unedig yn ei wneud i helpu pobl ar hyn o bryd gyda'r sefyllfa costau byw yn ein gwlad, gwyddom fod y cyflog byw cenedlaethol wedi codi i'r lefel uchaf erioed—hwb o £1,000 y flwyddyn i'r rhai sy'n cael y cyflogau isaf.
Ymyriad ydyw.
Gwyddom fod cyfradd tapr y credyd cynhwysol—
Credaf fod yr ymyriad—[Anghlywadwy.]
—wedi'i leihau, i roi £1,000 arall ym mhocedi'r 2 filiwn o bobl ar y cyflogau isaf ledled y DU.
A gaf fi ofyn—
Treth tanwydd—
Darren, a gaf fi ofyn ichi—[Anghlywadwy.]
—wedi'i rewi am 12 mlynedd yn olynol.
Darren. Darren.
A ydych yn gresynu—
Mae wedi mynd â munud yn barod.
A ydych yn gresynu at y cynnydd pitw yn y pensiwn—
Rwy'n credu ei fod wedi siarad yn rhy hir yn awr.
—y rhoddodd Llywodraeth Lafur flaenorol y DU i'n pensiynwyr, nad oedd hyd yn oed yn talu am becyn o gnau bob blwyddyn?
Cyn i chi ateb—
[Anghlywadwy.]—munud. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd.
Mae'r Aelod yn gwybod y byddaf yn gwirio'r amseroedd, iawn. Cyn ichi ateb, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai diben ymyriadau yw gofyn cwestiynau, nid i wneud eich areithiau eich hun, o'r gorau?
Gofynnais gwestiwn.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae ein cymunedau, Darren, bellach wedi wynebu degawd o gyni yn y maes cyhoeddus hanfodol a thoriadau i nawdd cymdeithasol, sydd wedi bwyta i mewn i wasanaethau cyhoeddus ledled y DU ac sydd wedi gwneud pobl a oedd eisoes yn dlawd yn dlotach. O'r dreth ystafell wely i'r toriadau credyd cynhwysol, mae'r Llywodraeth Geidwadol bresennol hon yr un mor gyfarwydd i'n cymunedau ag yr oedd difaterwch tuag at gyflogaeth fyrhoedlog a threth y pen i Lywodraeth Thatcher. Yr un hen Lywodraeth yw hi. Felly, ar ôl degawd o gyni, mae ein cymunedau'n wynebu argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr, sy'n cael ei waethygu gan brisiau ynni cynyddol ac amharodrwydd Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU i weithredu, ond mae'n cael ei waethygu gan benderfyniadau'r Ceidwadwyr.
Felly, wrth ddirwyn i ben—ar ôl yr ymyriad a barodd am funud—mae cymorth diweithdra bellach wedi gostwng i'w werth isaf mewn termau real mewn mwy na thri degawd. Mae gennym werth pensiynau a budd-daliadau, Darren, gyda thaliadau sydd wedi gostwng i'r pwynt isaf mewn 50 mlynedd. Mae gennym Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud bod pensiynwyr a hawlwyr budd-daliadau wedi gweld gwerth eu taliadau'n gostwng mewn termau real mewn wyth o'r 10 mlynedd diwethaf. Maent yn dweud, Darren, o ran eu gwerth—faint o fara a llaeth y gallwch ei brynu yn y siopau—mai dyma'r gostyngiad mwyaf yn eu gwerth ers 1972. Daeth y cynnydd o £20 yr wythnos mewn credyd cynhwysol, a gyflwynwyd i helpu derbynwyr y dioddefodd eu hincwm o ganlyniad i'r pandemig, i ben ym mis Medi. Mae pobl wedi colli mwy na £1,000 o ganlyniad. Hyd yn oed gyda'r newidiadau—hyd yn oed gyda'r newidiadau—i fudd-daliadau mewn gwaith, megis lleihau'r gyfradd tapr a chynnydd o £500 yn y lwfans gweithio, bydd tri chwarter yr aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn cael llai yn awr na'r hyn a gaent flwyddyn yn ôl, a bydd derbynwyr nad ydynt yn gweithio o gwbl yn colli'r ychwanegiad COVID i gyd, sy'n cyfateb i dros £1,000 y flwyddyn. Ac yn awr mae gennym godiadau treth, codiadau yswiriant gwladol—
Rwyf wedi rhoi mwy na digon o amser i'r Aelod am yr ymyriad.
Yn wir, rwyf am ddweud, Ddirprwy Lywydd, gwrthwynebwch gynnig y Ceidwadwyr, a chefnogwch gynnig y Llywodraeth. Mae'r Ceidwadwyr yn gwneud cam â'n cymunedau.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau y byddaf yn neilltuo amser ar gyfer yr ymyriadau? Felly, nid oes angen imi gael fy atgoffa i wneud hynny, ond gofynnaf hefyd i'r Aelodau, pan fyddant yn ymyrryd, i ofyn cwestiynau a pheidio â gwneud datganiadau. Peter Fox.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n datgan buddiant hefyd fel cynghorydd yn sir Fynwy, a hynny am y tro olaf, gan orffen, fel Sam, gyrfa hir o 25 mlynedd mewn awdurdodau lleol. [Torri ar draws.] Ie. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn iawn ar gynifer o lefelau, boed hynny ar deuluoedd a chymunedau, ar yr economi, ar y diffygion mewn cyrhaeddiad addysgol, ac wrth gwrs, fel y gwyddom i gyd yma, ar faterion pwysig sy'n wynebu ein GIG yng Nghymru. Pe bai—. Oherwydd bod pawb eisiau siarad am nawr, am y misoedd diwethaf hyn, yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond pe bai Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gwneud mwy dros y 23 mlynedd diwethaf i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn, byddai'r cymunedau hynny mewn sefyllfa well o lawer i oresgyn yr heriau sy'n wynebu llawer ohonynt heddiw.
Yn yr un modd, pe bai mwy o ffocws wedi'i roi i gryfhau ein heconomi, drwy leihau rhwystrau i fewnfuddsoddi, hyrwyddo Cymru'n fyd-eang, drwy fwy o ymchwil a datblygu, gallai'r Llywodraeth fod wedi galluogi'r gwaith o greu llawer o ddiwydiannau newydd, gyrfaoedd newydd, gwell swyddi, gyda manteision enfawr i Gymru a'i chymunedau. Mae'r pethau hyn yn creu cyfleoedd bywyd i bobl a'u teuluoedd ac yn creu gobaith a dyhead ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ond na, nid oes digon wedi'i gyflawni o dan Lafur Cymru.
Nid yw nifer y plant o Gymru sy'n byw mewn tlodi, fel y nodwyd ar yr ochr arall i'r Siambr, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw diweddar, ond wedi lleihau'n gymedrol mewn 20 mlynedd—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwyf am orffen y pwynt hwn, os caf, Huw. Er bod Llafur Cymru wedi dweud na fyddai unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi—Tony Blair—erbyn 2020.
A fyddai'r Aelod yn cydnabod, yn Llywodraeth 1997 i 2010, gyda Llafur Cymru yma a Llafur y DU yn Llywodraeth y DU, fod 1 filiwn o blant wedi'u codi allan o dlodi absoliwt—nid tlodi cymharol, tlodi absoliwt? Bydd ffigurau annibynnol yn dangos bod hynny'n wir. Bydd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei ddangos. A yw'n cytuno â'r ffigurau hynny, a beth a wnaeth y gwahaniaeth yn ei farn ef?
Ffocws y ddadl hon yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros 20 mlynedd, ac nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi codi ychydig iawn o blant allan o dlodi. Mae gennym yr un faint yn byw mewn tlodi yn awr ag a oedd gennym 20 mlynedd yn ôl.
Felly, yn yr un modd, pe bai mwy o ffocws wedi bod ar—. O, rwyf wedi siarad am y rhan honno. [Chwerthin.] Mae'r pethau hyn yn creu cyfleoedd bywyd. Ac rwyf wedi sôn am y rhan honno hefyd, ond nid yw nifer y plant o Gymru sy'n byw mewn tlodi wedi lleihau, ac mae hynny'n gondemniad trist o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi llwyddo i'w gyflawni. Ac ydw, rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hi i gynifer o ddinasyddion Cymru ar hyn o bryd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw y gellid bod wedi gwneud mwy dros y blynyddoedd. Gellid bod wedi rhoi mwy o obaith ac arfau i fwy o deuluoedd gyflawni'r hyn y maent yn anelu ato. Felly, yn y cyswllt hwn, mae'r Blaid Lafur wedi gadael cymunedau lleol i lawr.
Unwaith eto, rwyf wedi ailadrodd yn y Siambr hon fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cam â llywodraeth leol, ac yn sicr mae awdurdodau gwledig wedi gorfod darparu'r cannoedd lawer o swyddogaethau a gwasanaethau i'n dinasyddion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac rwy'n siarad fel rhywun sydd â phrofiad sylweddol yn y maes hwn, o gofio fy mod wedi arwain yr unig gyngor dan reolaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru ar hyn o bryd am dros 13 mlynedd. Sir Fynwy yw'r cyngor sydd wedi cael y swm lleiaf o arian yng Nghymru ers creu'r awdurdod lleol, ond er hynny, mae'n darparu nifer o'r gwasanaethau gorau yng Nghymru, gan gynnwys modelau gofal cymdeithasol arloesol a arweinir gan bobl, a darparodd lawer o ysgolion cynradd newydd, ysgolion cyfun newydd—dwy newydd yn ddiweddar, dwy arall i ddod—a chanolfannau hamdden newydd. Rydym wedi diogelu ein gwasanaethau diwylliannol, ac yn wir rydym wedi buddsoddi yn Theatr y Fwrdeistref yn y Fenni. Ac rydym hefyd wedi bod yn talu'r cyflog byw go iawn ers sawl blwyddyn, tra bo eraill ond yn siarad amdano. A flynyddoedd cyn i COVID daro, roeddem eisoes wedi gweithredu gweithio ystwyth, gan ganolbwyntio ar gydbwysedd bywyd a gwaith ein staff, a ddenodd gynghorau o bob rhan o'r DU i weld sut y gwnaethom hynny. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o Weinidogion—a'n Gweinidog yma heddiw yn wir—dros y blynyddoedd, ac maent yn gwybod beth y mae Cyngor Sir Fynwy wedi'i gyflawni dan reolaeth y Ceidwadwyr. Yn y pen draw, yr hyn sy'n gwthio cynghorau a reolir gan y Ceidwadwyr i weithredu yw'r sylweddoliad ein bod yn atebol i'r etholwyr, a chyda hynny mewn golwg, nid ydym byth yn cymryd ein trigolion yn ganiataol.
Felly, er mai sir Fynwy yw'r cyngor sy'n cael y lleiaf o arian yng Nghymru a hynny o bell ffordd, mae'n dal i lwyddo i gyflawni mwy na llawer o gynghorau sy'n cael eu rheoli gan Lafur. Yn rhyfedd iawn, mae cynghorau a reolir gan Lafur yn gyffredinol yn torri gwasanaethau hanfodol—ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd—er gwaethaf y ffaith eu bod yn eistedd ar symiau enfawr o gronfeydd wrth gefn, fel y clywsom ddoe yn y Siambr hon. Nid yw'r Ceidwadwyr yn sir Fynwy wedi tynnu allan o bethau fel gwasanaethau a rennir, megis Cerdd Gwent neu Addysg Awyr Agored Gwent, fel y mae ein cymdogion wedi'i wneud. Rydym yn gwybod gwerth y pethau hyn ac rydym yn parhau'n ymrwymedig iddynt. Lle mae cynghorau Ceidwadol yn cyflawni dros gymunedau, mae fy mhrofiad i'n dweud wrthyf fod cynghorau Llafur yn gadael eu cymunedau hwy i lawr yn rhy aml. Ond mae mwy o waith da i ddod. O dan arweiniad deinamig y Cynghorydd Richard John a'i gydweithwyr galluog, ceir cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer sir Fynwy, sy'n cynnig y dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc, gan rymuso pobl i fyw'n annibynnol, a chan ddarparu cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n well. Dyma ymrwymiadau beiddgar y Cynghorydd John a'i gydweithwyr. Mae Cyngor Sir Fynwy yn dempled i eraill edrych arno a dysgu ohono.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae arnaf ofn fod y cynnig fel y mae'n sefyll yn dangos yn gywir fod Llywodraeth Lafur Cymru, a Llafur ar bob lefel yn wir, wedi gadael eu cymunedau lleol i lawr. Diolch.
Cyn imi alw'r siaradwr nesaf, hoffwn groesawu esgobion Catholig Cymru a Lloegr, sydd yn yr oriel. Rwy'n ymwybodol eu bod yng Nghaerdydd ar gyfer eu cynhadledd. Felly, croeso. Ac rwy'n siŵr, ar wahân i'r ymgyrchu etholiadol rwy'n ei glywed, fod mater y ddadl mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gadewch inni fod yn onest, nid dadl yw hon mewn gwirionedd; ymgais enbyd yw hi gan yr Aelodau gyferbyn i gael clipiau cyfryngau cymdeithasol yn barod ar gyfer yr etholiad yfory, ond gadewch inni fwrw yn ein blaenau er hynny.
Mae Cymru yn gymuned o gymunedau. Dyna oedd ac ydy cri rhai o arweinwyr blaenllaw'r mudiad cenedlaethol, a hynny wedi bod dros y 100 mlynedd diwethaf, ac mae'n glir yr ydw innau, ac eraill, yn parhau i'w chanu heddiw. Felly, dwi yn ddiolchgar am y cyfle i drafod y mater yma sydd o'n blaen ni. Ond y gwir ydy nad y Blaid Lafur yng Nghymru, neu yn wir y Blaid Geidwadol yn y Deyrnas Gyfunol, sydd yn gadael cymunedau Cymru i lawr, ond, yn hytrach, y syniadaeth neo-ryddfrydol sy'n dra arglwyddiaethu ar eu meddylfryd sydd yn ein gadael ni i lawr. Dyma'r meddylfryd arweiniodd at y Ceidwadwr nodedig, Norman Tebbit, yn dweud, 'Get on your bike', heb gonsérn o fath yn y byd am bobl yn ein cymunedau ni. Yn yr un modd, wrth drafod ail dai a'r ymgyrch 'Hawl i fyw adra', mae aelodau'r blaid Geidwadol oddi draw yma wedi gofyn pa hawl sydd gan bobl i fyw yng nghymuned eu magwraeth.
Felly, beth ydy cymuned? Yn ôl y meddylfryd yma, dydy cymuned yn golygu dim byd. Casgliad o adeiladau yn unig ydyn nhw, efo pobl yn mynd ac yn dod. Rydym ni'n gweld hyn yn gynyddol heddiw, onid ydym, wrth i bentrefi a threfi bach ddatblygu yn ddim mwy na satellites ar gyfer dinasoedd mwy: commuter towns, ble mae pobl yn rhoi eu pennau lawr gyda'r nos er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gweithle. Ond pobl sy'n gwneud cymuned, boed yn gymuned ddaearyddol fach neu'n genedl, neu yn wir yn gymuned ar-lein. Pobl a pherthynas pobl a'i gilydd ddylai fod wrth wraidd pob dim yr ydym ni yn ei drafod yma: y sgyrsiau bach yna rhwng rhieni wrth giât yr ysgol am 3.00 y prynhawn, y plant yn chwarae yn y parc ar ddiwrnod braf, yr ymholiad yna, 'Sut mae dy fam neu dy dad?' wrth ichi daro mewn i rywun yn prynu bara yn y siop, y dathlu neu'r gwgu wrth ichi weld yr hogiau neu'r merched yn llwyddo ar y maes chwarae ar ddydd Sadwrn neu'r Sul, y capel neu'r eglwys, y dafarn, y cyfarfod cyhoeddus, y gyngerdd, y bingo, y clwb cerdded. Hyn oll a llawer iawn mwy ydy'r gwead cymdeithasol cyfoethog sy'n creu cymuned. Ond, heb hyn, heb yr ysgol gymunedol, heb y dafarn, y capel, y neuadd, y maes chwarae, y parc, y siop, y bws, y bingo, heb y pethau yma nid cymuned sydd gennym ni, ond yn hytrach creisis iechyd meddwl wrth i bobl fyw mewn seilos unig. Mae'r drefn neo-ryddfrydol yn trin ein cymunedau fel chwareli, yno i gael eu hecsbloetio er mwyn dwyn cyfoeth, ond yna'n cael eu hamddifadu pan fo'r cyfoeth yno yn dirwyn i ben.
Mae pob elfen o bolisi cyhoeddus neu fuddsoddiad preifat yn ddibynnol ar niferoedd pobl, nid anghenion pobl, a dyna i chi neo-ryddfrydaeth yn ei grynswth. Oherwydd, wrth wraidd hyn, y ffon fesur ydy gwerth am arian, nid safon byw, nid gwerth cymunedol. Dyna sy'n cyflyru cymdeithas heddiw yn anffodus; dyna neo-ryddfrydaeth.
Mae yna sawl enghraifft o hyn, ond dwi am gyfeirio at un enghraifft i gloi. Ystyriwch gynllunio: heddiw, gall cwmni adeiladu mawr wneud cais i adeiladu stad fawr o dai. Does dim rhaid i'r stad yma gynnwys ysgol na feddygfa, hyd yn oed. Gall yr adran gynllunio geisio gorfodi rhyw barc chwarae bach neu ffordd gyswllt a gofyn am geiniogau i fynd tuag at yr ysgol leol, ond yn elfennol gall datblygwr gael prosiect fydd yn dwyn elw mawr iddo ar draul y gymuned.
Os ydy'r datblygiad yn cael ei wrthod, yna gall y datblygwr apelio i'r arolygydd cynllunio. Ond, os ydy'r datblygiad yna'n cael ei ganiatáu, ble mae hawl i'r gymuned i apelio? Does gan y gymuned ddim hawl i apêl o gwbl. Mae hyn yn un enghraifft o'r system a'r drefn neo-ryddfrydol yn rhoi elw ac anghenion cyfalafol o flaen anghenion cymunedol, ac mae'n dangos mai'r drefn neo-ryddfrydol bresennol sydd yn milwrio yn erbyn cymunedau.
Dyna pam dwi'n gofyn i chi bleidleisio yn erbyn y cynnig—[Torri ar draws.] Wel, wrth fy mod i'n gorffen, wrth gwrs, Sam.
Diolch, Mabon. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn, yn enwedig ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol a'r diffiniad o gymunedau. Felly, a fyddech yn cytuno â mi ar y pwyntiau a godais yn gynharach mai'r hyn a welwn ar hyn o bryd yw'r diffyg ymddiriedaeth yn y berchnogaeth gymunedol honno, a bod rhai rhwystrau yn y ffordd nad ydynt yn caniatáu i gymuned gael ymdeimlad o berchnogaeth ar rai o'r asedau cymunedol a phethau eraill a allai fod ar gael iddynt ar hyn o bryd, a bod angen i hynny newid?
Yn wir, dyna oedd un o'r ychydig bethau roeddwn i yn cytuno efo yn dy gyfraniad di, Sam. Mae'r angen i gael perchnogaeth leol yn fwy nag erioed, a dwi'n gobeithio'n sicr y byddwn ni'n gwthio i weld mwy o hynny yn ystod y Senedd yma, ac mi ydyn ni'n barod yn gweld cefnogaeth drawsbleidiol i'r cysyniad yna o gael perchenogaeth leol ar asedau cymunedol. Diolch yn fawr iawn.
Fy natganiad i yw na fyddaf yn ymladd unrhyw etholiadau ar ôl 10 mlynedd fel cynghorydd cymuned etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Nawr, gadewch imi siarad am Ben-y-bont ar Ogwr. Rwyf am ei wneud yn syml. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer bod yn dref fywiog, yn llawn bywyd, busnesau a siopwyr. Mae llawer o bobl bellach yn siopa ar-lein, neu'n mynd i Gaerdydd neu Abertawe. Mae'r dirywiad yn wirioneddol drist. Y cyfyngiadau symud oedd yr hoelen olaf yn yr arch i lawer o fusnesau a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd, ac i'r rhai sy'n dal ar agor, nid yw masnach wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID. Dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu ein busnesau i ffynnu wrth inni ailgodi ar ôl y pandemig. Rydym eisiau iddynt ffynnu, nid goroesi'n unig. Ond y realiti trist yw bod y Llywodraeth Lafur hon yn cosbi ein busnesau yng Nghymru drwy fod â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain.
Mae canol trefi fel Pen-y-bont ar Ogwr mor bwysig i fywydau cymdeithasol pobl a'u lles cyffredinol. Dyna pam y dylai pobl leol chwarae rôl ganolog yn nyfodol canol eu tref a'u cymuned. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel ac adfywio canol ein trefi a'n strydoedd mawr. Ac nid yn unig hynny, rydym hefyd eisiau rhoi grym yn ôl yn nwylo pobl leol fel y gallant arwain y ffordd o ran penderfynu lle dylid adeiladu tai a sefydlu gwasanaethau newydd. Rydym eisiau gweld trigolion yn prynu cyfleusterau lleol sydd mewn perygl, megis y dafarn, y siop a'r llyfrgell leol, sy'n aml yn ganolbwynt i'n cymunedau. Gall cynlluniau cymdogaeth lleol a'r gronfa perchnogaeth gymunedol ddatgloi'r potensial sydd wedi bod yn glir ond sydd wedi ei golli o dan y Blaid Lafur, yn anffodus.
Dychmygwch yr hyn y gallai tref fywiog ei wneud i iechyd ei chymunedau cyfagos. Gallem dynnu'r pwysau oddi ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd a gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn dref y gall ei thrigolion fod yn falch ohoni eto. Er mwyn i Ben-y-bont ar Ogwr ffynnu, mae angen inni wneud canol y dref yn lle deniadol i fuddsoddi ynddo unwaith eto, drwy ostwng y costau i fusnesau bach a gweithio gyda Heddlu De Cymru i leihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n codi ofn ar gynifer o bobl ac yn eu hatal rhag mynd i mewn i'r dref.
Yn ogystal â'r codiadau arfaethedig yn y dreth gyngor, gofynnir i bobl Pen-y-bont ar Ogwr ddioddef bil ynni cyfartalog o bron £700 y cartref. Yn y DU, amcangyfrifir bod 12 y cant o aelwydydd mewn tlodi tanwydd wrth iddynt orfod dewis rhwng bwyd, gwres a hyd yn oed y dreth gyngor. Mae angen gwneud mwy i ddarparu ynni o ffynonellau diogel ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Chwefror eleni, cwympodd tyrbin gwynt ar fferm sy'n darparu trydan ar gyfer tua 18,000 o gartrefi. Nid yn unig y mae hyn yn beryglus i unrhyw un sy'n agos at y tyrbin ei hun, ond mae'n rhoi pobl sy'n agored i niwed mewn perygl, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar drydan i gadw gwasanaethau hanfodol yn weithredol.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun i roi bywyd newydd i ganol trefi yn Lloegr. Bydd y gyfraith newydd yn gorfodi landlordiaid i osod unedau manwerthu sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy. Gall awdurdodau lleol gynnal arwerthiannau rhent, gan roi cyfle i fusnesau newydd lesio eiddo am gost fforddiadwy a rhoi cyfle iddynt lwyddo. Byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal wych ar gyfer strategaeth o'r fath yng Nghymru, gyda chymaint o eiddo gwag. Rwy'n annog y Prif Weinidog i ystyried y cynllun hwn ac ystyried Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer hyn.
Nid canol y dref yw'r unig ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n cael ei hesgeuluso. Nid oes gan Ben-y-Fai unrhyw lwybrau cerdded na beicio. Ni allwn gerdded i Ben-y-bont ar Ogwr, sydd ond 2 filltir i ffwrdd. Ni all ein plant gerdded i'w hysgolion am nad oes llwybrau cerdded na beicio diogel iddynt eu defnyddio. Am drueni. A hyn er bod Pen-y-Fai yn cael cymorth o dan y cynllun teithio llesol. Mae trigolion Pen-y-Fai yn gaeth ym Mhen-y-Fai oni bai eu bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n gyrru. A pheth arall: nid oes croesfan i gerddwyr ger yr orsaf betrol ar Heol Tondu, gan ynysu pobl ymhellach am na allant groesi'r ffordd yn ddiogel. A fydd angen i rywun gael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol cyn y rhoddir camau ar waith i unioni hyn?
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Rwyf am wneud un pwynt olaf, syr.
Mae pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn haeddu gwell, a rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod ganddynt fan lle gallant fagu teulu a chael cymuned a chartref sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch.
A gaf fi ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint, am y diwrnod olaf?
Pan fyddwch yn cerdded o amgylch y gymuned rwy'n falch o fod yn rhan ohoni, gallwch weld beth sydd wedi'i gyflawni diolch i bolisïau a buddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda chyngor sir y Fflint o dan arweiniad Llafur: ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, darpariaeth feithrin newydd estynedig, buddsoddiad mewn adeiladau cymunedol, tai cymdeithasol newydd, cynnydd hyd at 500 yn nifer y tai cyngor, cynlluniau amlenni, paneli solar ar fyngalos pensiynwyr yn lleihau'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei dalu, cyfleusterau chwarae—rydym wedi cadw'r holl gyfleusterau chwarae ac rydym yn ailfuddsoddi yn y rheini—llwybrau beicio, croesfannau i gerddwyr—felly, beth sy'n digwydd gydag Altaf yno—ac mae'r rhestr yn parhau.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, yn ogystal â bod yn gynghorydd sir, rwyf hefyd wedi bod ar ddau gyngor cymuned, pwyllgor neuadd bentref, pwyllgor Hafan Deg, pwyllgor yr eglwys a phwyllgor y cylch chwarae. Rwyf wedi trefnu gwyliau, carnifalau, sioeau ffasiwn, digwyddiadau codi arian a thrafnidiaeth gymunedol, ac wedi helpu i adnewyddu neuadd y pentref a sawl man chwarae. Mae'n ymwneud â phobl. Mae'n ymwneud â darparu pethau i bobl, i'r gymuned. Y bobl yw'r gymuned.
Nid yw'r gronfa datblygu gwledig, a oedd yn arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru ac asiantaethau datblygu gwledig—roeddwn ar un o'r rheini hefyd—yn bodoli mwyach ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno unrhyw beth tebyg ar ôl Brexit, ac mae angen ei hailgyflwyno. Roedd yn darparu cyllid sbarduno ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau cymunedol, bwrsariaethau i fusnesau newydd—rwyf wedi clywed rhai'n sôn am hynny yn y newyddion yn ddiweddar hefyd, pa mor bwysig ydoedd ac roedd yn ddefnyddiol iawn—gwelliannau cymunedol i greu ymdeimlad o le, megis gwefannau ac arwyddion, ac i greu cymunedau. Mae mesur canlyniad anhygoel y gwelliannau bach hyn i adeiladu cymunedau cryf bob amser wedi bod yn anodd, ond mae'r buddsoddiad yno i'w weld. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau a ariennir gan y ffrwd ariannu hon yn cynnwys Gŵyl Eirin Dinbych, y mae Gareth yn sôn yn aml amdani—rwy'n gweld Gareth ar y sgrin; Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug a phabell y cyflenwyr bwyd yn sioe Fflint a Dinbych.
Mae grant rhaglen cyfleusterau cymunedol presennol Llywodraeth Cymru wedi helpu i adnewyddu neuaddau pentref a chyfleusterau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r cylch ariannu diweddaraf wedi dyfarnu cyfran o £1.78 miliwn i 24 o grwpiau cymunedol, gan gynnwys Sefydliad Enbarr yn sir y Fflint, tuag at atgyfodi hen adeilad John Summers i alluogi'r gymuned leol i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth. Cyn hynny, cafodd Clwb Rygbi y Rhyl a'r Cylch, Gareth, £490,000 gan Lywodraeth Cymru o dan yr un cynllun, a welodd y clwb yn symud o'r tu allan i'r dref gyda llwybrau trafnidiaeth cyfyngedig i ganol ardal ddifreintiedig lle'r oedd y gyfran o bobl a oedd yn berchen ar geir yn isel, gyferbyn ag ysgol uwchradd ac wrth ymyl llwybr beicio, gan alluogi mynediad hawdd i ysgolion lleol ac ardaloedd preswyl. Ac ers agor, er gwaethaf y pandemig, mae bellach yn cyflogi 20 o staff amser llawn, mae ganddo 26 o grwpiau'n defnyddio'r cyfleusterau, gan gynnwys corau, grwpiau ymarfer corff, Knit and Natter, a disgo wythnosol i bobl ag anableddau. Maent bron â dyblu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn rygbi—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Rwyf wedi cael cais am ymyriad gan Gareth Davies.
Gwnaf siŵr, Gareth.
Gareth Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am glwb rygbi y Rhyl. Mae'n ymddangos bod llwyddiant clwb rygbi y Rhyl yn parhau ac mae'r asedau cymunedol yno'n wych. A fyddech yn cytuno bod angen cyflymu'r cyllid ar gyfer canol y dref a chyllid Llywodraeth Cymru i adeiladau'r Frenhines er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad y stryd fawr a hefyd i wella'r potensial sydd gan y Rhyl fel tref?
Roeddwn yn cyfeirio at y clwb rygbi, felly rwy'n gwybod amdano, ond gwn am adeiladau'r Frenhines hefyd. Mae'r holl gyllid hwn yn bwysig iawn, boed yn arian Ewropeaidd, yn arian gan Lywodraeth Cymru, neu'n gyllid gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae'n bwysig iawn sicrhau cyfleusterau i'n trigolion, felly gallaf gytuno â chi.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu hybiau dysgu. Ymwelais â Tŷ Calon yn Queensferry yn ddiweddar, cyfleuster chwaraeon a chymunedol cyfunol arall a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae drws nesaf i ganolfan gofal dydd i oedolion ag anableddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Hwb Cyfle, a'r uned cyfeirio disgyblion. Caiff ei gynnal gan elusennau a sefydliadau amrywiol sy'n rhedeg cyfleusterau a dysgu cymunedol. A bydd y ganolfan iechyd a lles gyntaf o'i bath yn cael ei hadeiladu ym Mhen-y-groes, ar safle hen ddepo bysiau, gan weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a'r bwrdd iechyd. Bydd yn hyb modern a fydd yn cynnig mynediad at wasanaethau iechyd, deintyddol, fferylliaeth a gwasanaethau ataliol, gwasanaethau cymdeithasol, gofal i'r henoed, swyddfeydd, cyfleuster crèche a lle celf ar y safle i'r gymuned leol, gyda chyllid o gronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru.
Nawr, mae hyn i gyd er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, a byddai Cymru £3 biliwn yn well ei byd pe bai cyllid gan Lywodraeth y DU wedi codi yn unol â'r economi. Ac yn awr rydym wedi colli cyllid Ewropeaidd, yr oedd Cymru'n fuddiolwr net ohono. O'r ffrwd ariannu newydd yn y DU, y gronfa adfywio cymunedol, cafwyd 26 o geisiadau aflwyddiannus o Gymru a channoedd o bob rhan o'r DU. Gwiriais hyn, ac roedd 21 tudalen ohonynt. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gadael cymunedau Cymru i lawr; mae Brexit a'r cyllid newydd cwbl anaddas i'r diben wedi golygu bod llai o gyfleoedd buddsoddi i gymunedau—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr.
—ac mae angen i Lywodraeth Dorïaidd y DU gamu i'r adwy a darparu'r cyllid sydd ei angen ar fyrder i wasanaethau cyhoeddus, nid eu torri. Diolch.
Fel y mae pawb arall wedi'i wneud, hoffwn ddatgan fy mod yn gynghorydd—dim ond am ychydig ddyddiau eto. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am agor y ddadl ac i fy holl gyd-Aelodau eraill am eu sylwadau hyd yn hyn. Er ein bod wedi sôn am y gwahanol faterion sy'n wynebu ein cymunedau, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i siarad am y system o gynllunio canolog gan y Llywodraeth sydd gennym yma yng Nghymru, a sut y bydd bob amser yn methu deall anghenion a dymuniadau cymunedau lleol ar gyfer y dyfodol yn ddigonol. Felly, bydd bob amser yn methu darparu'n effeithiol ar eu cyfer. Mae rhai o'r methiannau a welwn heddiw yn ein cymunedau yn deillio o'r ffaith na wnaeth Llywodraeth Cymru ragweld y newidiadau mewn cymunedau bum, 10 neu hyd yn oed 15 mlynedd yn ôl, ac felly ni wnaeth ddatblygu polisi priodol.
At hynny, mae'r broses gymharol araf o ddeddfu yn golygu ei bod yn cymryd sawl blwyddyn i ddata gael ei gasglu'n ddigonol, i bolisi gael ei ysgrifennu a chael ei basio wedyn drwy'r Siambr, sy'n golygu bod cydlyniant cymunedol yn aml yn cael ei golli neu ei niweidio ymhell cyn i gamau gael eu cymryd yn y pen draw. Mae hyn wedyn yn golygu bod y Llywodraeth bob amser yn gorfod dal i fyny i adfer yr hyn a gollwyd, ac mae pobl yn mynd yn ddi-hid ynghylch y system hon o Lywodraeth.
Credaf mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu ein cymunedau lleol yw'r gallu iddynt benderfynu'n fwy effeithiol beth sy'n gweithio orau iddynt hwy, ac yna i'r Llywodraeth eu cefnogi mewn modd amserol, sy'n caniatáu ar gyfer ymateb cymunedol ystwyth i fygythiadau dirfodol. Gallai'r cymorth hwn fod yn system o ddeddfwriaeth dros dro a roddir mewn grym er mwyn atal problemau rhag gwaethygu, ac sy'n para hyd nes y cesglir mwy o dystiolaeth neu hyd nes y caiff gweithdrefn ddeddfwriaethol lawnach ei phasio.
Beth am ddefnyddio felodrom Maendy fel enghraifft ymarferol. Mae Ysgol Uwchradd Cathays eisiau ehangu i'r safle, ac wrth wneud hynny, byddant yn dinistrio ased cymunedol lleol a hanesyddol. Felly, mae'r gymuned wedi'i chornelu gan Gyngor Caerdydd, oherwydd os nad ydynt yn cytuno i ildio eu felodrom poblogaidd, ni wneir unrhyw waith uwchraddio i Ysgol Uwchradd Cathays, neu ddim ond gwaith uwchraddio cyfyngedig. Credaf ei bod yn anghywir rhoi cymuned mewn sefyllfa o'r fath, oherwydd mae'n creu rhaniadau hirdymor, gan y bydd rhai pobl yn brwydro i achub y felodrom ac eraill yn ymladd dros uwchraddio'r ysgol. Mae'r rhaniadau hyn hefyd yn bersonol dros ben. Er enghraifft, nid oes amheuaeth y bydd y rhai sy'n brwydro i achub y felodrom yn cael eu cyhuddo'n annheg o fod eisiau amddifadu plant o addysg well.
Mater arall yw'r ffaith nad oes gan gymunedau lleol bŵer i gydnabod yn ffurfiol ac atal datblygiadau y maent yn ystyried eu bod yn cael effaith negyddol. Enghraifft arall yw ysgol ferched y Bont-faen, ac mae cefnogaeth leol aruthrol i achub yr adeilad hwn. Mae'r gymuned ei eisiau ond nid yw'n ticio'r blychau cywir i Cadw. Mae'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol yn credu bod yn rhaid i'r gymuned leol wynebu colli treftadaeth leol sy'n bwysig iddynt. Mae'n sylfaenol anghywir nad oes gan y gymuned hon bŵer i achub y darn hwn o dreftadaeth leol, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru eu grymuso i addasu'r adeilad hwn at ddibenion gwahanol, a chefnogi eu prosiect yn hytrach na throi ei cefnau.
Felly, rydym angen grymuso cymunedau lleol yn well i achub yr hyn sy'n bwysig iddynt, a defnyddio pŵer y Llywodraeth, yn lleol neu fel arall, i'w orfodi. Felly, yn hytrach na bod y Llywodraeth yn dweud wrth gymunedau beth y maent hi'n credu y maent ei eisiau, mae gan y Llywodraeth ddyletswydd gofal i ymateb i'r hyn y mae'r gymuned ei eisiau mewn gwirionedd. Os ydym yma i helpu cymunedau lleol i aros yn hyfyw, yn iach ac yn ddeinamig, rhaid iddynt gael gallu i atal newidiadau nad oes mo'u heisiau rhag cael eu gorfodi arnynt gan y Llywodraeth a dylanwadau allanol eraill. Dylid rhoi mecanweithiau ar waith y gellir eu gweithredu'n gyflym i ddiogelu'r gymuned pan gaiff problem ei nodi, ac ni ddylai cymunedau orfod brwydro mor galed i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Credaf fod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu gadael i lawr gan Lywodraeth Cymru am nad yw'n eu grymuso. Yn hytrach, mae'n rhoi cymaint o rwystrau yn eu ffordd nes eu bod yn cael eu hannog i beidio â thrafferthu, neu i roi'r gorau iddi. Weithiau, nid y ffordd fwyaf effeithlon yn ariannol i gyngor yw'r ffordd orau i'r gymuned bob amser, a rhaid inni dderbyn hyn os ydym eisiau diogelu cymunedau lleol ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Sam Rowlands, a agorodd y ddadl, a phawb sydd wedi datgan eu bod yn camu i lawr yfory, ar eich gwasanaeth gwych mewn llywodraeth leol fel arweinwyr a chynghorwyr? A minnau wedi bod yn gynghorydd fy hun, rwy’n gwbl angerddol am bwysigrwydd llywodraeth leol a rôl cynghorau lleol. Ond a gaf fi ddweud bod Carolyn Thomas yn fodel rôl rhagorol yn y ffordd y daeth yn gynghorydd lleol o lawr gwlad? Rydych wedi chwarae rôl wych, a bellach, rydych yma'n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru gyfan fel Aelod o'r Senedd.
A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall y Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno'r cynnig hwn ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw'n dinistrio bywydau pobl yma yng Nghymru yn y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli? Bydd pobl y tu allan i'r Siambr hon—yn wir, yn ein horiel gyhoeddus, rwy'n siŵr—yn clywed eu geiriau ac yn meddwl tybed pa realiti amgen y maent yn bodoli ynddo. Byddant yn meddwl tybed pam fod y Ceidwadwyr Cymreig yn poeni gymaint am lesiant cymunedau ledled Cymru. Maent wedi methu sefyll o'u plaid ar yr adegau pwysicaf.
Nid yw’r realiti yr ymddengys eu bod ynddo yn realiti lle maent wedi annog Boris Johnson i gymryd camau ar gostau byw. Nid yw'n realiti lle maent wedi mynd ati'n frwd i gadw'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Nid yw’n realiti lle maent wedi brwydro'n galed i sicrhau setliad ariannol teg i Gymru. Yn hytrach, mae'n realiti lle maent wedi ymateb i'r argyfwng costau byw drwy ganiatáu mwy o amser rhwng profion MOT. Ble mae eu dyhead i amddiffyn cymunedau Cymru? Nid ydynt wedi mynnu'r £3 biliwn sy'n ddyledus i'n cyllideb a'n cymunedau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn amlwg, Ddirprwy Lywydd, mae pobl ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw digynsail. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—[Torri ar draws.]
A wnaiff y Gweinidog ildio i Aelod?
Gwnaf. [Anghlywadwy.] Jack.
Diolch am ildio, Weinidog. Clywsom yr hyn a ddywedoch chi yno am weithredoedd gwarthus Llywodraeth y DU, ond clywsom gan feinciau’r Ceidwadwyr eu bod am gael lleisiau cryf i gynrychioli cymunedau. A ydych yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o gael cynrychiolaeth gref yn eich cymuned yw drwy bleidleisio dros Lafur Cymru yfory?
A chredaf y gwelwch ganlyniad hynny, pan ddaw democratiaeth leol i'r brig yfory. Ond y pwynt difrifol am y ddadl yr ydym yn ei chael heddiw yw’r straeon yn y newyddion, o ddydd i ddydd, am brisiau’n codi i’r entrychion: bwyd, tanwydd, dillad, costau teithio, rhent, cynnydd o 54 y cant yn y cap ynni yn unig. Dyma’r cynnydd mwyaf ym miliau ynni’r DU ers dros 20 mlynedd. Bydd y bil tanwydd cyfartalog yn codi i bron i £2,000 y flwyddyn. Beth oedd ymateb y Torïaid i hyn? Ad-daliad untro o £200 y mae'n rhaid ei dalu'n ôl.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na dwywaith yr hyn a gawsom mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Mae ein cronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn ym mis Rhagfyr yn targedu cymorth at y bobl sydd ei angen fwyaf. Yn ganolog i hyn, mae ein taliad cymorth tanwydd y gaeaf—taliad arian parod o £100. Gwnaethom ddyblu hwnnw i £200. Hefyd, mae £1.1 miliwn ar gael i gefnogi banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol.
Ond ar ôl i Ofgem gyhoeddi’r codiadau i’r cap ynni, fe wnaethom roi pecyn cymorth costau byw gwerth £330 miliwn ar waith, ymhell y tu hwnt i’r hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Roedd yn cynnwys y taliad costau byw o £150, sy’n cefnogi dros filiwn o aelwydydd, a £25 miliwn arall—ac mae'n hollbwysig i awdurdodau lleol fod ganddynt y gronfa ddewisol honno hefyd, i ddiwallu anghenion y rheini y gwyddant sydd ei hangen fwyaf.
Mae £21.4 miliwn wedi’i ddyrannu i ymestyn prydau ysgol am ddim drwy’r Pasg, y Sulgwyn a’r haf, ac yn hollbwysig, ac fel y bu galw amdano yn y Siambr hon, rydym yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol—£100 miliwn yn ychwanegol ar ei chyfer—ac yn ymestyn cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i'r flwyddyn nesaf. Y taliad hollbwysig hwnnw—dim benthyciadau. Taliad. Dyma £200 o arian sy'n mynd i bocedi'r rheini sydd ei angen, yn wahanol i ad-daliad Llywodraeth y DU, y mae'n rhaid ei dalu'n ôl. Nid ad-daliad yw hwnnw. Dim ond benthyciad.
Felly, dyma sut y mae'n edrych pan fyddwn ni, Lywodraeth Llafur Cymru, yn sefyll o blaid cymunedau Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, Darren.
Wrth gwrs, nid dyna’r unig beth a wnaeth Llywodraeth y DU i gefnogi pobl gyda’r sefyllfa costau byw. Fe wnaethant hefyd roi gostyngiad o £150 yn y dreth gyngor i aelwydydd, er mai yn Lloegr y digwyddodd hynny. Fe gawsoch chi gyllid canlyniadol. Gallech fynd 20 y cant ymhellach na hynny yma yng Nghymru oherwydd, wrth gwrs, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar wasanaeth datganoledig yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Pam na wnaethoch roi gostyngiad mwy hael yn y dreth gyngor i berchnogion tai a thalwyr y dreth gyngor yng Nghymru, sydd wedi gorfod ymdopi â chynnydd o hyd at 300 y cant yn y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol ers 1999, ers i'r Blaid Lafur fod mewn grym yng Nghymru?
Wel, wrth gwrs, Darren, rydych chi'n anghofio ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n werth £244 miliwn. Mae hwnnw ynddo’i hun yn helpu dros 270,000 o aelwydydd, ac mae 220,000 wedi’u heithrio’n gyfan gwbl rhag talu'r dreth gyngor, ond maent yn dal i gael y taliad costau byw o £150. Mae hwnnw'n dal i gael ei dalu i'r aelwydydd hynny yng Nghymru.
Ond mae hefyd yn hanfodol bwysig ein bod yn edrych ar y ffyrdd eraill o sefyll dros awdurdodau lleol: y £0.75 biliwn ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol, a chyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol, y cyflog byw gwirioneddol. Mae'n hanfodol bwysig i weithwyr gofal cymdeithasol—y £43 miliwn a ddyrannwyd i fyrddau iechyd i'w weithredu—a'r cyfraniadau rhyfeddol a wnaethant, o ran y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i ofal cymdeithasol.
Ond hefyd, mae’n bwysig fod y rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi’i chrybwyll: £42 miliwn ar gyfer bron i 300 o brosiectau, o Ynys Môn i sir Fynwy. Rwy'n siŵr y gwelwch hynny ym mhob un o’ch etholaethau. Ond rydym hefyd wedi diogelu swyddi a busnesau ar draws ein holl—
Mae'n ddrwg gennyf wneud ymyriad arall mor fuan, ond hoffwn ddweud rhywbeth am y rhaglen cyfleusterau cymunedol. A gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am y rhaglen honno? Mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn llawer o gyfleusterau cymunedol yn fy ardal i, gan gynnwys mannau addoli, sydd wedi’u haddasu ac sydd bellach yn hybiau i’w cymunedau, fel y buont erioed, ond bellach mae ganddynt gyfleusterau sydd wedi’u huwchraddio’n sylweddol. A allwch gadarnhau y byddwch yn parhau i ymrwymo i’r gronfa honno, gan gynyddu’r buddsoddiad hwnnw yn nhymor y Senedd hon?
Ein hymrwymiad oedd y £42 miliwn a mwy, y 300 o brosiectau, drwy gydol y pandemig, gan ei ymestyn, mewn gwirionedd, i sicrhau y gallai ddiwallu anghenion y pandemig. Ond mae'n bwysig inni gydnabod bod hwn yn fater sy'n ymwneud â chymunedau lleol yn dylanwadu ar yr hyn y maent yn dymuno ei gael, fel canolfan addysg ddiwylliannol Al-Ikhlas yng Nghaerdydd—cawsant £0.25 miliwn i drawsnewid dau eiddo cyfagos yn hyb cymunedol. Ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau y dylid mabwysiadu ymagwedd ryng-ffydd wrth estyn allan at ein cymunedau Mwslimaidd, cymunedau Hindŵaidd, a chymunedau Cristnogol hefyd. Ac rydym wedi diogelu swyddi a busnesau ar draws ein holl gymunedau.
Felly, i gloi, ar yr holl gyllid a ddarparwyd gennym i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, £1 biliwn mewn cyfalaf ar gyfer addysg, Dechrau'n Deg—. Gallem barhau, Ddirprwy Lywydd, gyda phob portffolio yn rhoi llu o enghreifftiau o sut y mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda chefnogaeth mewn llawer o feysydd gan Blaid Cymru, yn sefyll o blaid y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac yn cyflawni ein rhaglen lywodraethu. Felly, y gwir amdani, Ddirprwy Lywydd, yw ei fod yn gam beiddgar yn wir, hyd yn oed ym myd gwleidyddiaeth, i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno cynnig o'r fath a hwythau'n gwneud cymaint o anghymwynas â'r bobl sydd ein hangen fwyaf. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gyflawni. Byddwn yn parhau, gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, i amddiffyn i'r eithaf y rheini a wasanaethwn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch i Sam Rowlands am agor y ddadl. Fel y dywedodd, mae cynghorau mor bwysig yn ein dinasoedd, ein trefi a’n cymunedau, pan gânt eu grymuso’n briodol i fod felly. Fel y dywedodd, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cymunedau i lawr mewn tri maes allweddol.
Cyllid: mae angen cyllid teg ar gynghorau ledled Cymru gyfan, gan gynnwys sir y Fflint. Gwn fod Carolyn Thomas wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd lleol i dynnu sylw at fethiant polisi cyllido Llafur i ariannu’r sir yr oedd yn gynrychiolydd ynddi yn briodol. Peidio â chefnogi ac ymddiried mewn pobl a etholwyd yn lleol: mae arnom angen datganoli mor agos at y bobl â phosibl, ond yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn cipio grym i Fae Caerdydd. A grymuso pobl leol i arwain ar benderfynu lle mae angen tai, cyfleusterau a gwasanaethau—lle dylid eu datblygu, gan ymddiried yn y bobl leol.
Cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths at y modd y mae'n cynrychioli llawer o hen drefi a phentrefi glofaol, sy’n dal i ddioddef—a chan ddefnyddio rhywfaint o ryddid barddol yma—ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur barhaus yng Nghymru. Ac efallai y dylwn ddatgan: rwy'n or-ŵyr i löwr, y dywedwyd wrth ei fab, fy nhaid, na fyddai'n mynd i weithio i'r pwll; roedd yn mynd i dorri'r cadwyni a oedd wedi bodoli ers cymaint o genedlaethau. Cyfeiriodd at y diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Lafur ar lifogydd a llygredd aer, a’r lefelau uchel o blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi—rhywbeth y bûm yn tynnu sylw ato yma ers 19 mlynedd, ymhell cyn y daeth newidiadau'r Llywodraeth i ymyrryd, yn dilyn hynny. Fel y dywedodd, mae’n warth cenedlaethol, fel y mae'r ffaith nad oes gan Lafur strategaeth wrthdlodi.
Dywed Huw Irranca-Davies fod ei gymunedau'n llawn o bobl wych, ac wrth gwrs, maent yn llawn o bobl wych, ond o hynny ymlaen, clywsom osgoi cyfrifoldeb a gwadu atebolrwydd gan Aelod o'r blaid sydd wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yng Nghymru ers 25 mlynedd, ac a adawodd gyni—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf, mae gennych Aelod y tu ôl i chi sy'n gofyn.
Fe dderbyniaf un ymyriad byr.
Diolch. Cafodd fy enw ei grybwyll yn gynharach. A wnewch chi ailadrodd yr hyn a ddywedoch, gan fy mod am egluro hynny, os gwelwch yn dda, ar gyfer y cofnod?
Rydych wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd trawsbleidiol cynghorwyr sir y Fflint i newid fformiwla gyllido llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, fel nad yw sir y Fflint yn parhau i fod yn un o’r cynghorau a ariennir waethaf yng Nghymru.
Nid dyna a ddywedoch chi. Fe ddywedoch chi fy mod yn erbyn polisi Llafur Cymru. Felly, diolch am gywiro hynny. Mae hynny'n iawn.
Wel, polisi Llywodraeth Cymru oedd cefnogi’r fformiwla gyllido llywodraeth leol honno. [Torri ar draws.]
Byddwn yn gwirio'r Cofnod yn nes ymlaen i sicrhau bod yr hyn a ddywedwyd yn glir.
Mae'n ddrwg gennyf, ond mae gyda CLlLC hefyd. Diolch. Nid Llafur Cymru.
Bydd y Cofnod yn cael ei wirio yn nes ymlaen i gadarnhau beth a ddywedwyd.
Ac mae'r blaid—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf.
Mae gennym ymyriad arall. A wnewch chi dderbyn un arall, Mark?
Mae'n ddrwg gennyf?
Mae gennym ymyriad arall. A wnewch chi dderbyn un arall?
Wel, rydym braidd yn brin o amser.
Fe roddaf yr amser i chi, Mark.
Yn fyr iawn, os gwelwch yn dda.
Byr iawn yn wir. Rwy’n ceisio cael ateb i’r cwestiwn a ofynnais yn gynharach: pan oedd gennym Lywodraeth Lafur yma a Llywodraeth Lafur mewn grym yn y DU hefyd, pam y gwelsom filiwn o blant yn cael eu codi allan o dlodi? Beth y llwyddodd y gynghrair ryfedd honno i'w wneud lle mae Llywodraeth y DU wedi methu ei wneud, cyn ac ar ôl y Llywodraeth honno?
Yn ystod y blynyddoedd llwyddiannus, yn seiliedig ar ddyled anghynaliadwy, fe gafwyd llai o dlodi, ond yna, dechreuodd godi eto cyn 2010, ac erbyn 2010—. Edrychwch ar y Cofnod o areithiau a wnaeth fy nghyd-Aelodau a minnau yn y Siambr yma yn 2010 yn tynnu sylw at y broblem honno ac yn galw am weithredu i fynd i’r afael â hi. Gwiriwch y Cofnod.
A all yr Aelodau ar feinciau’r Ceidwadwyr dawelu, os gwelwch yn dda, gan yr hoffwn glywed ymateb Mark i’r ddadl?
Ac mae'n amddiffyn ei blaid, a adawodd gyni yn etifeddiaeth i Lywodraeth newydd y DU yn 2010, cyni a fyddai wedi arwain at orfodi toriadau mwy o lawer pe na bai Llywodraeth y DU wedi cymryd y camau a wnaethant. Dim ond dau o Aelod-wladwriaethau’r UE—ac yn amlwg, roeddem yn yr UE bryd hynny—a oedd mewn sefyllfa waeth, sef Iwerddon a Gwlad Groeg. Gwnaeth Iwerddon orfodi toriadau mwy na'r DU i gael gwared ar eu cyni hwy. Ni wnaeth Gwlad Groeg hynny, a gorfodwyd toriadau mwy o lawer arnynt hwy. Pa un a fyddai wedi bod orau gennych chi?
Peter Fox: mae ein cynnig, meddai, yn gywir ar gymaint o lefelau: teuluoedd, yr economi, addysg a GIG Cymru. O na bai Llywodraethau Llafur olynol Cymru ond wedi gwneud mwy, meddai, dros y 23 mlynedd diwethaf i adeiladu cymunedau cryf, gwydn ac economi gref, gan roi gobaith ac uchelgais i genedlaethau’r dyfodol. Dywedodd y gallai eu methiant i wneud hyn roi diwedd ar gyfleoedd bywyd, ac er bod sir Fynwy, dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, yn cael y lefel isaf o gyllid yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, maent wedi darparu rhai o'r gwasanaethau gorau a pheth o'r arloesi gorau yng Nghymru. Dywedodd fod y cynghorau a reolir gan Lafur fel arfer yn torri gwasanaethau hanfodol er bod ganddynt gronfeydd wrth gefn enfawr y maent yn eu cario ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. A dywedodd fod cynghorau Ceidwadol yn cyflawni dros gymunedau; mae cynghorau Llafur, yn gyffredinol, yn eu gadael i lawr.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod Cymru’n gymuned o gymunedau—yn sicr—sydd wedi'i gadael i lawr, meddai, gan ideoleg neoryddfrydol. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall beth y mae hynny'n ei olygu. Mewn geiriau eraill, mae plaid asgell chwith eithafol, Plaid Cymru, yn condemnio ymagwedd nad yw'n hoff o eithafion, sy'n cydnabod manteision rhoi llais a rheolaeth i bobl leol a’r gymuned, sy'n cynhyrchu menter sy’n gwella ffyniant ac yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac yn hyrwyddo newid esblygiadol gan gydnabod bod newid chwyldroadol bron bob amser yn taro'r gwannaf galetaf.
Dywedodd Altaf Hussain y dylem wneud popeth a allwn i helpu ein busnesau i ffynnu wrth inni ailgodi wedi'r pandemig ac i roi rôl ganolog i bobl leol wrth adeiladu cymunedau cryfach, mwy diogel.
Dywedodd Carolyn Thomas, pan fydd yn cerdded o gwmpas y gymuned y mae'n perthyn iddi, y gallwch weld yr hyn sydd wedi'i gyflawni. Wel, rwy’n perthyn i’r un gymuned—rydym yn byw'n agos iawn at ein gilydd—ac rwy’n gweithio gyda llawer o’r sefydliadau y soniodd amdanynt ac yn noddwr i rai ohonynt, ac rwy’n cymeradwyo’r bobl wych, yr ymladdwyr a’r entrepreneuriaid cymunedol hynny, sydd wedi hybu cymaint o'r newid hwnnw. Ond rwyf hefyd yn cael llond bwced o e-byst bob dydd gan bobl yn sir y Fflint sy'n dweud wrthyf, er eu bod yn agored i niwed, fod gwleidyddion Llafur neu gyngor Llafur wedi dweud wrthynt beth sy'n dda iddynt, yn hytrach na'u holi beth y maent am ei gyflawni. [Torri ar draws.] Ac wrth gwrs, hoffwn pe na bai’r gwaith achos mor enfawr, yn enwedig pobl anabl ac eraill, ac wrth gwrs, mae ffyniant y pen yn sir y Fflint, a oedd ar yr un lefel â lefel y DU ym 1999, bellach yn llusgo ar ôl.
Joel James—dywedodd nad yw system ganolog o gynllunio Llywodraethol yng Nghymru, neu’r system ganolog yng Nghymru, yn deall anghenion cymunedau lleol, gyda chydlyniant yn cael ei niweidio wrth i bobl ddod yn ddi-hid ynghylch y system Lywodraethol hon. Mae arnom angen i gymunedau lleol gael eu grymuso i raddau mwy, ac ni ddylai cymunedau orfod ymladd mor galed i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Gan Jane Hutt, y Gweinidog, clywsom ddarllediad gwleidyddol yn seiliedig unwaith eto ar osgoi—[Torri ar draws.]—osgoi cyfrifoldeb am eu methiant erchyll ac ysgytwol yn Llywodraeth Cymru ers 1999. Hefyd, rhoddodd restr i ni unwaith eto o sut y maent wedi dosbarthu'r cyllid y maent wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU. Wedi'i lansio yn 2001, Cymunedau yn Gyntaf oedd rhaglen flaenllaw Llywodraeth Lafur Cymru i wella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Fodd bynnag, nododd adolygiad archwilio Cymru o Cymunedau yn Gyntaf fod y rhaglen wedi deillio o anhrefn, nad oedd wedi'i chynllunio a bod diffyg cynllunio ariannol ac adnoddau dynol sylfaenol cyn lansio'r rhaglen. Pan gafodd ei dileu, roedd £0.5 biliwn wedi’i wario arni pan gyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn ei dirwyn i ben yn raddol, ar ôl methu lleihau’r prif gyfraddau tlodi na chynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan:
'Ni wnaeth Cymunedau yn Gyntaf ostwng y prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth drwy Gymru gyfan.'
Wel, ar ôl 23 mlynedd o Lywodraeth Cymru Lafur sy'n llywodraethu o’r brig i lawr, sy’n cadw pobl mewn tlodi, yn gorchymyn a rheoli, mae taer angen dull y Ceidwadwyr Cymreig o alluogi, grymuso a rhyddhau ein cymunedau lleol. A bydd hyn yn galw am chwyldro o ran polisi a darparu gwasanaethau yng Nghymru, gan alluogi pobl a chymunedau i nodi eu cryfderau ac i fynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu hatal rhag cyflawni eu potensial.
Fel y dywed Ymddiriedolaeth Carnegie, mae ymagwedd gwladwriaeth sy'n galluogi yn ymwneud â chydnabod
'y dylai'r Llywodraeth, ynghyd â hybu perfformiad gwasanaethau cyhoeddus, alluogi cymunedau i wneud yr hyn a wnânt orau',
lle mae cymunedau yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni cyfunol i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Fodd bynnag, fel y canfu ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau,
'Mae pobl yng Nghymru yn teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol.'
Rhoddodd Deddf Lleoliaeth 2011 gan Geidwadwyr y DU hawliau a phwerau newydd i gymunedau ac unigolion ddatganoli grym ac annog mwy o arloesi a hyblygrwydd lleol. Fodd bynnag, methodd Llywodraeth Lafur Cymru gyflwyno’r rhan fwyaf o’i darpariaethau allweddol yng Nghymru. Wel, drwy fabwysiadu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru o’r diwedd, gallwn symud grym oddi wrth y Llywodraeth ganolog yng Nghaerdydd tuag at gymunedau, gan greu cymdeithas sy’n ymgysylltu mwy ac sy’n fwy ymatebol. Mae’n bryd chwalu hualau Llywodraeth Cymru sy’n llywodraethu o’r brig i lawr, yn bryd galluogi ein cymunedau ac yn bryd rhyddhau Cymru i anelu at adferiad bywiog sydd wedi’i bweru gan bobl.
Ers dechrau datganoli bron i chwarter canrif yn ôl, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn fwy a mwy awyddus i ddinistrio ei beirniaid drwy wawd, malais ac osgoi cyfrifoldebau, heb gynnig fawr ddim dadleuon gwleidyddol difrifol. Drwy gydol fy amser yma ers 2003, rwyf wedi gwrando arnynt yn brolio am allbynnau yn hytrach na chanlyniadau, faint sy’n cael ei wario yn hytrach na pha mor dda, gan fethu monitro a gwerthuso eu rhaglenni a’u gwariant yn effeithiol. Bob tro y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi argymell cynigion, deddfwriaeth a gwelliannau i ddeddfwrieth yn seiliedig ar hawliau dynol a hawliau cymunedol, maent wedi pleidleisio yn eu herbyn.
Mark, rwyf wedi rhoi’r amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau. Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Y frawddeg olaf, felly. Gan eu bod yn credu na allant golli grym, mae Llywodraeth Lafur gyfeiliornus Cymru wedi bod yn gadael cymunedau lleol Cymru i lawr ers llawer gormod o amser.
A gaf fi atgoffa’r Aelodau—? Rwy’n gwbl ymwybodol fod etholiad yfory, fel y mae’r cyhoedd, ond mae’n deg ein bod am wrando ar y cyfranwyr, p’un a ydynt yn cau’r ddadl, yn agor y ddadl neu’n cymryd rhan yn y ddadl. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai pob Aelod o bob plaid sicrhau eu bod yn caniatáu i'r cyfraniadau hynny gael eu clywed, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7993 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
Yn gresynu at stiwardiaeth wael economi Cymru gan Lywodraethau olynol Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heddiw, mae ein cynnig yn adlewyrchu’r ffaith bod economi Cymru, yn ôl llawer o ddangosyddion allweddol, yn dal ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae'n ffaith mai Cymru, o blith holl wledydd y DU, sydd â'r twf gwaethaf mewn gwerth ychwanegol gros ers 1999. Ni hefyd sydd â'r allbwn cynnyrch domestig gros y pen isaf, sef £24,586. Ni a gododd y swm lleiaf o refeniw y pen yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020, a phobl sy’n byw yng Nghymru sydd â’r incwm gwario gros isaf yn y DU, sef £17,263. Nid yw’r rhain yn ystadegau newydd, ac nid ydynt yn deillio o bandemig COVID neu am fod pobl y DU wedi dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ym 1997, roedd pecynnau cyflog wythnosol gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yr un fath yn union, ar £301 yr wythnos. Ond erbyn 2021, roedd pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £562, tra bo pecyn cyflog wythnosol yn yr Alban yn cynnwys £60 yn rhagor, sef £622. Yn wir, drwy gydol fy amser fel Aelod o’r Senedd o 2007 ymlaen, cafwyd cymaint o ddadleuon am gyflwr economi Cymru a’r angen i wneud pethau’n wahanol, ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ein heconomi wedi aros yn eu hunfan ac ar waelod y tabl mewn perthynas â llawer o ddangosyddion allweddol. A dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd, er gwaethaf uchelgais a phenderfyniad clir busnesau, mae rhywbeth nad yw'n gweithio. Ac felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ystadegau difrifol hyn ac yn ceisio cyflwyno atebion arloesol a gefnogir gan ddiwydiant.
Nawr, gwelaf fod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’n cynnig sy’n datgan eu barn mai dim ond drwy annibyniaeth y bydd busnesau Cymru yn cyrraedd eu potensial llawn. Rwy’n siŵr na fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon y prynhawn yma glywed na fyddwn ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Yn wir, credwn mai ein haelodaeth o’r DU yw’r union beth sydd wedi diogelu economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a phe baem yn annibynnol, byddai ein heconomi mewn sefyllfa lawer gwannach. Amlygwyd hyn yn ystod y pandemig pan wnaeth ein haelodaeth o’r DU ein helpu i oroesi storm pandemig byd-eang, gyda biliynau o bunnoedd o gymorth yn cael ei ddarparu i Gymru er mwyn mynd i’r afael ag effaith COVID-19. Mae’n gwbl amlwg fod bod yn rhan o’r DU wedi helpu i fynd i’r afael â’r pandemig, gyda Llywodraeth y DU yn darparu brechlynnau, profion COVID a chymorth y lluoedd arfog yng Nghymru, yn ogystal â mesurau ariannol arloesol sydd wedi diogelu bywoliaeth oddeutu 500,000 o bobl yng Nghymru. Felly, credwn y byddai Cymru annibynnol yn peryglu economi Cymru ac yn ei gwneud yn llai gwydn yn wyneb pandemigau a siociau byd-eang.
A ydych yn derbyn yr ymyriad?
Fe wnaf dderbyn yr ymyriad gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Ac ydy, mae'n iawn fod y pandemig wedi'i gefnogi ar lefel y DU, ond yr hyn y mae gennyf ddiddordeb eich clywed yn ei egluro yw p'un a ydych yn credu na ddylai hynny fod wedi digwydd. Oherwydd, yn sicr, mewn pandemig, dyletswydd Llywodraeth San Steffan, corff trosfwaol y pedair gwlad, yw amddiffyn ei holl ddinasyddion. Roeddwn braidd yn ansicr o’r pwynt yr oeddech yn ei wneud.
Wel, nid wyf yn siŵr a ydych yn unoliaethwr ai peidio, Joyce, a bod yn hollol onest, ar ôl eich ymyriad. Rwy’n unoliaethwr, rwy'n credu yn y Deyrnas Unedig a dylech chithau hefyd os ydych yn aelod o’r blaid Lafur honedig unoliaethol.
Nawr, un o’r beichiau mwyaf ar fusnesau yng Nghymru yw ardrethi annomestig, ac mae hynny wedi bod yn broblem i fusnesau ers tro byd. Ar ddiwedd y trydydd Cynulliad, cafwyd dadl gan yr wrthblaid ar economi Cymru, yn debyg iawn i hon, ac wrth agor y ddadl honno yn 2011, dywedodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, fod gennym yr amgylchedd ardrethi busnes lleiaf cystadleuol yn y Deyrnas Unedig gyfan. Wel, ewch ymlaen i 2022, ac mae hynny'n wir o hyd. Mae busnesau Cymru yn talu 53.5c, mewn cyferbyniad llwyr â Lloegr, lle mae busnesau bach yn talu 49.9c a busnesau mawr yn talu 51.2c, ac yn yr Alban, lle mae busnesau bach yn talu 49.8c a busnesau mawr yn talu 52.4c. Mae busnesau Cymru yn parhau i dalu’r ardrethi busnes uchaf, ac o’r sgyrsiau a gefais gyda busnesau yn fy etholaeth, gwn fod ardrethi busnes yn parhau i fod yn faich gwirioneddol ar fusnesau, yn enwedig busnesau bach.
Nawr, rwy’n sylweddoli—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn munud, Mike. Rwy'n sylweddoli bod cymorth ar gael i fusnesau bach cymwys a chanddynt werth ardrethol o hyd at £6,000 a rhyddhad graddedig i fusnesau a chanddynt werth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000, ond mae mwy y mae angen ei wneud o hyd. Yn wir, roedd adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach, ‘A Vision for Welsh Towns’ hefyd yn galw ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel i leddfu a mynd i'r afael â’r pwysau uniongyrchol y mae busnesau manwerthu bach presennol a chanol trefi yn eu hwynebu o ran costau, gan gynnwys ardrethi busnes, parcio a chymorth uniongyrchol i fusnesau. Nawr, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud yn glir yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i symud tuag at gylch ailbrisio tair blynedd er mwyn i fusnesau Cymru fod ar yr un lefel â rhannau eraill o'r DU, ond rydym eto i glywed pryd yn union y bydd y ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno. Ac felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y maes hwn ac ar ddiwygio ardrethi busnes yn ehangach. Ac fe ildiaf i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe.
Diolch yn fawr iawn am wneud hynny. A ydych yn cytuno mai un o’r pethau eraill sydd gennym yw gwerthoedd ardrethol is yng Nghymru fel bod y swm gwirioneddol a delir yng Nghymru yn aml iawn yn llai nag y byddai yn Lloegr neu’r Alban?
Ie, ond mae’r ystadegau’n glir iawn, Mike: busnesau Cymru sy’n talu’r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae hynny’n ffaith, ac yn ffaith na allwch ddianc rhagddi.
Wrth gwrs, dim ond un darn o’r pos jig-so yw ardrethi busnes o ran creu’r amodau ar gyfer twf a gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes. Mae angen inni harneisio potensial ein tirwedd gyfan, o ganol ein dinasoedd i’n hardaloedd gwledig, i’n porthladdoedd a’n harfordiroedd. Nid oedd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnig dadansoddiad trwyadl o anghenion y Gymru wledig ac unrhyw gamau i ddatblygu’r economi wledig neu harneisio’i manteision. Yn yr un modd, mae angen mwy o gymorth a buddsoddiad yn ein porthladdoedd, a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd i ddod.
Nawr, yr wythnos diwethaf, dywedodd un busnes yn glir iawn wrthyf eu bod wedi’u dal yn ôl gan ddiffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith y porthladdoedd, a allai helpu i ddenu cyfleoedd busnes byd-eang. Mae’n rhaid i hynny newid. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod ein maniffesto wedi addo cronfa datblygu porthladdoedd Cymru gwerth £20 miliwn at yr union ddiben hwn—cefnogi cynnydd mewn allforion o Gymru, helpu i greu mwy o swyddi a helpu i ddenu cyfleoedd busnes byd-eang.
Daw hynny â mi at fuddsoddi mewn seilwaith yn fwy cyffredinol. Gwyddom fod busnesau hefyd yn galw am fuddsoddiad a chymorth taer ei angen mewn seilwaith ar ffurf seilwaith trafnidiaeth, seilwaith gwyrdd a seilwaith i helpu busnesau i ddatgarboneiddio. Wrth i fusnesau Cymru ymdrechu i ddatgarboneiddio eu busnesau, mae’n hanfodol fod cymorth ar gael i’w helpu i lywio'r ffordd drwy hynny a deall yn union—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—pa gamau y gallant eu cymryd. Ac rwyf am dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Islwyn.
Diolch yn fawr iawn. A ydych yn cydnabod bod lefel gwariant y DU ar seilwaith yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol a phryd y mae eich plaid yn mynd i sefyll dros Gymru?
Wel, Lywydd, nid wyf am wrando ar unrhyw bregeth gan y Blaid Lafur ar sut i redeg yr economi. Gadewch inni beidio ag anghofio mai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a ddywedodd—a dyma a ddywedodd—
'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar yr economi—a'r gwir amdani yw nad ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar yr economi. Nid oes unrhyw un yn gwybod beth y maent yn ei wneud ar yr economi.'
Dyna farn un o aelodau eich Llywodraeth eich hun, felly nid wyf am wrando ar unrhyw wersi gan eich plaid chi ar sut i redeg yr economi.
Nawr, wrth inni ymadfer ar ôl y pandemig COVID, mae gennym gyfle i wneud pethau'n wahanol ac un maes y gobeithiaf y bydd yn cael ei flaenoriaethu'n well yw entrepreneuriaeth a datblygu busnesau newydd. Mae peth newyddion addawol yma, gan fod nifer y busnesau newydd yng Nghymru wedi codi fwy na'u hanner ers mis Rhagfyr y llynedd, sy'n golygu bod pobl yn amlwg yn credu y gall y farchnad gynnal busnesau newydd. Mae angen inni adeiladu ar hyn a sicrhau bod busnesau newydd yn cael y gefnogaeth, yr arweiniad a'r mynediad at gyllid sydd ei angen arnynt. Yn ddiweddar cafwyd galwadau ar y banc datblygu i gynnig mwy o gymorth i fusnesau ac mae'r Athro Jones-Evans yn iawn i ddweud y gallai banc Llywodraeth Cymru chwarae mwy o ran yn y farchnad microgyllid.
Nawr, mae angen inni hefyd weld mwy o weithredu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng ngweithlu Cymru, felly mae angen rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Cymru sydd wedi dioddef y toriad nominal mwyaf ym mhedair gwlad y DU i gyllid ymchwil a datblygu, ac nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef o'r diwedd ac wedi cadarnhau nad yw bellach yn gweithredu argymhellion Reid yn llawn erbyn hyn. Ac mae'r Athro Richard Wyn Jones yn iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar strategaeth a oedd â'r nod o drawsnewid y dirwedd ymchwil ac arloesi yn hirdymor. Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni edrych tua'r dyfodol a buddsoddi mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, ond ni all hynny ddigwydd os nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil a datblygu'n ddigonol.
Lywydd, rydym ar bwynt hollbwysig wrth inni lywio drwy'r normal newydd ar ôl COVID, a rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi i ysgogi a datblygu economi Cymru. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi cyfres o strategaethau a chynlluniau yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'n hanfodol fod y gweithgarwch hwnnw'n cael ei gydlynu, ei symleiddio a'i fonitro er mwyn sicrhau nad yw'n dyblygu gwaith nac yn ychwanegu mwy o reolaeth a biwrocratiaeth, ond yn hytrach yn sicrhau canlyniadau go iawn i fusnesau. Ac mae angen inni glywed mwy ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn meithrin ac yn annog busnesau newydd a hefyd yn gweithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Felly, i gloi, Lywydd, mae gennym gyfle i newid y ffordd y meddyliwn am bolisi economaidd Cymru ac rwy'n gobeithio y gwnawn hynny er mwyn ein busnesau ac er mwyn ein heconomi. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ac at glywed eu syniadau ar sut y gallwn ysgogi a chefnogi ein busnesau yma yng Nghymru ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Cefin Campbell i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod stiwardiaeth economi Cymru gan lywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i chyfyngu o ganlyniad i beidio â chael ysgogiadau economaidd ac ariannol llawn gwlad annibynnol, sef yr unig ffordd gynaliadwy o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei photensial economaidd llawn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn fy mod i'n mynd at y cyfraniad, dwi eisiau gwneud datganiad o ddiddordeb am y tro olaf, gan fy mod i'n gynghorydd sir am un diwrnod arall.
Mae braidd yn eironig bod y Torïaid wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, gan fod eu plaid, nid yn unig yn erbyn caniatáu i Gymru gael y levers economaidd ac ariannol priodol sydd eu hangen arnom ni i wir drawsnewid a datblygu'n heconomi mewn ffordd radical, ond mae eu polisïau nhw hefyd yn tanseilio economi Cymru dro ar ôl tro.
Ers degawdau, mae adnoddau Cymru wedi cael eu hechdynnu—hynny yw, yr extractive economy rŷch chi wedi clywed cymaint ohonom ni'n sôn amdano fe—gan San Steffan. Ar un adeg, roedd Cymru'n ganolbwynt i'r chwyldro diwydiannol, gyda'n glo a'n dur yn tanio'r economi. Ond, yn anffodus, gadawodd y cyfoeth a grëwyd yng Nghymru i gryfhau economi de-ddwyrain Lloegr. Ecsbloetiwyd ein hadnoddau, gan adael ychydig ar ôl i Gymru. Erbyn hyn, mae gennym ni waddol o dlodi—un o bob tri o'n plant yn byw islaw y llinell dlodi, a salwch hirdymor a iechyd gwael. Hyd yn oed heddiw, rŷn ni'n allforio mwy o drydan a dŵr nag sydd angen arnom ni, ond nid ydym yn cael ceiniog mewn refeniw; mae'r elw'n arllwys i goffrau cwmnïau preifat dros y ffin. Rydym hefyd yn cynrychioli 6 y cant o filltiroedd y trac rheilffordd ym Mhrydain tra'n derbyn dim ond 1 y cant o gyllideb bresennol Network Rail, heb sôn am effaith HS2, sy'n costio £5 biliwn i drethdalwyr Cymru, heb fod un modfedd o'r trac hwnnw yng Nghymru. Bu'r diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith gan San Steffan yn warthus.
Mae poblogaeth Cymru yn 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond yn 2020, 2 y cant yn unig o gyllideb ymchwil a datblygu'r DU a gawsom, cyllideb sy'n hanfodol ar gyfer twf ein heconomi. Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi gweld tanfuddsoddi cronig yn hanesyddol, gan olygu nad ydym wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer argyfwng fel yr argyfwng costau byw presennol, ac yn methu rheoli'r sefyllfa drosom ein hunain. Yn nwylo San Steffan y mae 45 y cant o wariant Cymru o hyd, heb unrhyw sicrwydd y caiff ei wario yn unol ag anghenion Cymru.
Os edrychwn ar yr argyfwng costau byw diweddar er enghraifft, mae wedi effeithio'n anghymesur ar gymunedau tlotach, sy'n golygu ei fod wedi cael effaith enfawr ar Gymru o'i chymharu â rhannau eraill mwy llewyrchus o'r DU. Rydym eisoes wedi mynd i mewn i'r argyfwng costau byw gyda'r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol a'r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU. Ond yn hollbwysig, mae'r arfau sydd ar gael i ni i ymdrin â'r argyfwng yn adweithiol i raddau helaeth yn hytrach nag yn ataliol. Er enghraifft, nid oes gennym reolaeth dros les yma yng Nghymru, ac nid oes gennym reolaeth dros ein trethi ychwaith. Ni chaem weithredu treth ffawdelw, er enghraifft, ar yr elw anllad a wneir gan gwmnïau olew a nwy, ac ni chaem geisio ailddosbarthu cyfoeth ychwaith i helpu'r rhai yr effeithir arnynt waethaf. A allwch chi ddychmygu Cymru annibynnol nad yw'n darparu cymorth lles i deuluoedd incwm isel, yn wahanol i dorri'r ychwanegiad i'r credyd cynhwysol mewn modd mor greulon gan y Torïaid yn San Steffan? A gadewch inni edrych ar yr argyfwng costau byw: mae ymdrechion Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn wedi bod yn druenus. Y gorau y gall y Torïaid ei gynnig yw newid profion MOT ceir o bob blwyddyn i bob dwy, gan arbed £23 pitw y flwyddyn i deuluoedd sydd ag un car. Waw, am syniad radical.
Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i'r cynllun cymorth ar gyfer biliau ynni, gan olygu bod y teuluoedd mwyaf difreintiedig mewn sefyllfa fregus iawn. Ac mae'n debyg y bydd y cyfweliad trychinebus ddoe ar Good Morning Britain yn dod yn foment arwyddocaol yn hanes ofnadwy'r Llywodraeth Dorïaidd hon mewn grym, pan gydnabu Boris Johnson nad oedd ganddo atebion i'r trafferthion costau byw yn y bôn. Y llun o Elsie, a miloedd o Elsies eraill ar draws yr ynysoedd hyn, sy'n teithio ar fws i gadw'n gynnes, yw'r darlun sy'n mynd i bara o Lywodraeth aflwyddiannus a phwdr.
Gadewch inni daflu—i gloi, Llywydd—Brexit i'r pair. Gwnaeth y Prif Weinidog sicrhau cytundeb Brexit gwan iawn i'r gwledydd hyn, sydd wedi golygu bod Cymru ar ei cholled o dros £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf, ac mae effaith hyn ar ein sector amaethyddol a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol iawn, iawn.
Ie, yn sicr, gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i dyfu economi Cymru, ond maen nhw wedi cael eu llesteirio yn eu gallu i wneud hynny yn wirioneddol oherwydd cyfyngiadau San Steffan. Gallen ni wneud cymaint yn well na hyn yng Nghymru pe baem ond yn cael y levers ariannol yna i amddiffyn ein pobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a thyfu ein heconomi i'w llawn botensial. Cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr.
Mae'n ffaith drist iawn, o dan Lafur Cymru, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ardrethi busnes, y cyflogau wythnosol isaf a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Gadewch imi fod yn onest—nid yw'n rhoi unrhyw lawenydd imi ddweud hyn—fod stiwardiaeth Llafur Cymru ar economi Cymru wedi'i nodweddu gan ddiffyg uchelgais a chefnogaeth sydd wedi llesteirio busnesau rhag cyrraedd yr un potensial ag a welir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n fy nhristáu'n fawr, gan fy mod bob amser wedi bod eisiau gweld Cymru'n chwaraewr byd-eang ym mhob agwedd ar bethau'r byd, fel y mae llawer o fy ymgeiswyr Ceidwadol—cyd-Aelodau, mae'n ddrwg gennyf, sy'n eistedd yma—
Ymgeiswyr oeddech chi'n ei olygu.
Byddaf yn sôn amdanynt hwy maes o law, Mike, peidiwch â phoeni; nid wyf am eu hepgor. Ond fel y mae llawer o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yma, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd, yn teimlo ac yn credu, gan gynnwys bellach, Mike, byddwch yn falch o wybod, ein hymgeiswyr cyngor Ceidwadol gwych sy'n sefyll ledled Cymru yn yr etholiad yfory—. Rwyf wedi siarad am y mater hwn droeon yn y Siambr, am y modd y mae esgeulustod Llafur Cymru, yn enwedig yn ein seilwaith trafnidiaeth, wedi niweidio ein heconomi'n ddifrifol, ac nid yw fy nheimlad ynghylch y diffyg symud ar hyn yn gyfrinach ymysg y rhai ohonoch sy'n eistedd yma o fy nghwmpas heddiw.
Ar ôl gweithio yn y Senedd cyn dod yn Aelod, mae'n aml yn teimlo fel pe baem yn clywed geiriau, ond nad ydym yn gweld llawer o weithredu. Rydym i gyd wedi clywed yr ymadrodd, 'Peidiwch â chael eich dal yn cysgu.' Wel, heddiw, hoffwn godi mater yn eich plith i gyd heddiw ac rwyf am ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi prosiect uchelgeisiol a hanfodol a fydd yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru ac yn enwedig i economi Cymru gyfan.
Porthladd Caergybi yw'r ail borthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU. Mae'n darparu cyswllt hollbwysig rhwng y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon a'r UE. Amcangyfrifir y bydd gwerth y nwyddau a gludir ar fferis gyrru i mewn ac allan sy'n mynd drwy Gaergybi yn codi i £794 miliwn erbyn 2030. Fodd bynnag, mae dyfodol porthladd Caergybi mewn perygl oherwydd dirywiad y morglawdd Fictoraidd. Mae morglawdd Caergybi yn diogelu gweithgarwch y porthladd. Hebddo, byddai'r tonnau'n rhy arw i wasanaethau allu rhedeg ac yn y pen draw, byddai hyn yn gorfodi'r porthladd i gau. Ers ei adeiladu yn 1873, mae'r twmpath rwbel a adeiladwyd ar wely'r môr sy'n sylfaen i'r morglawdd wedi erydu'n raddol, ac mae'n fwyfwy tebygol y bydd stormydd yn chwalu'r strwythur wrth i'r stormydd hynny waethygu yn sgil newid hinsawdd.
Oherwydd y modd y cafodd ei gynllunio, mae'r morglawdd bob amser wedi galw am waith cynnal a chadw rheolaidd gan ei berchennog, Stena, er mwyn cynnal cyflwr yr uwchstrwythur ac ail-godi'r twmpath rwbel. Mae'r drefn gynnal a chadw hon wedi mynd yn fwyfwy costus, ac nid yw bellach yn gallu ymdopi â maint yr erydiad i'r twmpath rwbel. Mae'n amlwg fod angen ateb hirdymor mwy hyfyw yn y pen draw i sicrhau sefydlogrwydd y morglawdd.
Nawr, amcangyfrifir bod y gost o adnewyddu rhwng £90 miliwn a £100 miliwn ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod bod hynny i'w weld yn llawer. Fodd bynnag, os na wneir unrhyw beth, credir y gallai'r costau ddyblu o fewn y tair i bum mlynedd nesaf, sy'n golygu, os na chymerir camau yn awr, y bydd yn costio llawer mwy i ni a threthdalwyr y dyfodol os na wneir rhywbeth yn awr. Mae Stena wedi cadarnhau eu bod wedi dyrannu £30 miliwn ar gyfer y gwaith adnewyddu. Maent yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda'r gost, o ystyried pwysigrwydd strategol y porthladd i Gymru.
Nawr, hoffwn dalu teyrnged yn y cyfraniad hwn i'n Haelod Seneddol lleol gweithgar iawn, Virginia Crosbie, sydd wedi bod yn wych am hyrwyddo buddiannau Ynys Môn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol ac yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol porthladd Caergybi i economi Cymru, ac wrth symud ymlaen, y bydd yn dod o hyd i ateb gwych i bawb yma yng Nghymru. Diolch.
Rwy'n credu bod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb yn cyflwyno'r ddadl hon, sy'n rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru am stiwardiaeth wael ar economi Cymru. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri cyllid i wasanaethau cyhoeddus o dan bolisïau cyni. Gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru.
Creodd ymgyrch bresennol Llywodraeth gyfredol y DU dros Brexit fynydd o fiwrocratiaeth a chost yn ei sgil i fusnesau a ffermwyr Cymru sydd am allforio ac mae wedi'i gwneud yn anodd iawn i weithwyr mawr eu hangen barhau i ddod yma i weithio, gan arwain at brinder gweithwyr yn ogystal ag amddifadu Cymru o gyllid hanfodol yn lle'r arian Ewropeaidd a olygai fod Cymru ar ei hennill. Ac mae cost deunyddiau wedi codi 50 y cant, 70 y cant, 90 y cant mewn rhai meysydd. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi erydu hawliau gweithwyr mewn ras i'r gwaelod, gyda chontractau dim oriau neu oriau cyfyngedig, diswyddo ac ailgyflogi, a phatrymau gwaith shifft afrealistig.
Un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru yw gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cyflogi pobl leol ar draws ardaloedd trefol a gwledig sy'n gwario yn eu cymunedau lleol. Yng Nghymru, y cyfartaledd yw 30.1 y cant, ond yn y gogledd mae'r ffigur hwn yn uwch, gyda 38 y cant yn Ynys Môn a 35.4 y cant yng Ngwynedd yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae effaith y Llywodraeth Geidwadol yn torri cyllid y sector cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan bolisïau cyni wedi cael effaith ar y swyddi a'r gwasanaethau pwysig hyn, ac yn anffodus mae cynghorau'n cael y bai ar garreg y drws.
Ac yn awr, mae Llywodraeth y DU am barhau ag agenda preifateiddio a thoriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus ar ben yr argyfwng costau byw a phrisiau tanwydd cynyddol. Gallai'r swyddfa basbort a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau gael eu taro nesaf, Mike, o dan Jacob Rees-Mogg, y Gweinidog Cyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth—mae'r teitl yn dweud y cyfan. Drwy breifateiddio cwmnïau cyhoeddus, yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yw y bydd gennych nifer o bobl ar y brig ar gyflogau enfawr a'u prif weithlu ar lai o arian gydag amodau gwaith gwael. Edrychwch ar beth a ddigwyddodd i'r gwasanaeth prawf a drafodwyd yn gynharach. Mae rhywbeth tebyg yn digwydd gyda'r Post Brenhinol ers preifateiddio. Cefais wahoddiad i gyflwyniad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sut y bydd y Post Brenhinol yn sicrhau gwasanaeth gwych saith diwrnod yr wythnos i'n hetholwyr, ond beth am y gweithlu sy'n etholwyr i ni? Mae rowndiau'n cynyddu—yn ddwywaith eu maint mewn rhai ardaloedd; roeddent eisoes ar 12 milltir y dydd mewn rhai ardaloedd, sy'n afrealistig, a bellach maent yn edrych ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar gyfer rheolwyr.
Mae pobl angen incwm sylfaenol gweddus y byddant yn ei wario ac yn ei fuddsoddi yn yr economi, a byw bywydau iach. Gall y straen o boeni am arian fod yn llesteiriol, gan arwain at broblemau iechyd meddwl a chorfforol hefyd. Yn y grŵp trawsbleidiol ar fenywod yn ddiweddar, dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, sydd ar-lein yn y fan honno, rwy'n credu, cawsom gyflwyniad yn ddiweddar ar adferiad a arweinir gan ofal, gan gyflogi pobl leol yn y gwasanaeth gofal a fydd yn gwario yn eu cymunedau lleol. Mae'n wyrddach nag adeiladu ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i fenywod.
Y cyfan a welsom gan y Ceidwadwyr yw ras i'r gwaelod ym maes hawliau ac amodau gweithwyr, lle nad yw cyflogau wedi codi yn unol â'r economi; mae cynhyrchiant ac effeithlonrwydd wedi'u gwthio y tu hwnt i'r terfynau, lle disgwylir i bobl weithio patrymau shifft hurt nad ydynt yn gydnaws â bywyd teuluol, gan effeithio ar blant a pherthnasau'r gweithlu blinedig. Roeddwn yn edrych ar rai swyddi a gâi eu hysbysebu yn ddiweddar, i fy ngŵr mewn gwirionedd: saith diwrnod yr wythnos, roeddent yn shifftiau 12 awr, saith diwrnod yr wythnos, ac yna fe gewch wythnos i ffwrdd ac yna'n ôl ar y shifftiau 12 awr saith diwrnod yr wythnos. Sut y gallwch chi fagu plant fel hynny a chael bywyd teuluol? Mae'n hurt. Mae angen edrych ar hyn i gyd. A hefyd, mae'r newid i gredyd cynhwysol o gredydau treth gwaith a phlant yn golygu bod pobl yn waeth eu byd. Rhowch arian i bobl yn eu pocedi ac incwm sylfaenol i fyw arno—Jack; crëwch gymunedau iach a hapus ledled Cymru a thyfwch yr economi yn y ffordd honno.
Ffaith: mae stiwardiaeth wael Llafur Cymru ar yr economi wedi golygu mai gan Gymru y mae'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau wythnosol isaf, a'r lleiaf o incwm gwario aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru wedi hwyluso safbwynt gwrth-fusnes, gan arwain at lefelau isel o fuddsoddiad a chyfleoedd twf ers dau ddegawd.
Yn ddiweddar, canfu baromedr Banc Lloyds fod hyder busnesau Cymru wedi gostwng 34 pwynt i -5 y cant, gan olygu mai dyma'r unig ardal o'r rhai a arolygwyd a gafodd sgôr negyddol. O'i gymharu, roedd hyder yn ne-orllewin Lloegr yn 8 y cant, a'r Alban yn 17 y cant. Dangosodd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod incwm gwario gros aelwydydd y pen yn 2019 ar gyfer Cymru yn £17,263. Dyna'r swm lleiaf o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, gyda'r cyfartaledd yn £21,443.
Nawr, er ein bod yn fach o ran poblogaeth a maint, mae gwledydd bach eraill ar y cyfandir wedi dangos mwy o benderfyniad i fod yn weithredol iawn ym maes twf busnes a diwydiant. Cydnabyddir yn eang fod Denmarc yn arweinydd yn yr economi werdd fyd-eang, mae'n meddu ar y seithfed cyfernod Gini isaf—mesur o anghydraddoldeb economaidd—ac mae'n fodel economaidd y gallai Cymru ymdrechu i'w efelychu a chystadlu ag ef. Mae Copenhagen yn gartref i ddyffryn Medicon, ac mae wedi denu cwmnïau rhyngwladol mawr sydd wedi defnyddio'r ddinas fel porth i farchnadoedd y gwledydd Nordig, yr Almaen a Benelux. Yn 2017, roedd 78.8 y cant o'r holl bobl ifanc 15 i 64 oed yn Nenmarc yn weithgar yn y farchnad lafur—y chweched ffigur uchaf o holl wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Yn wahanol i Ddenmarc, fodd bynnag, mae Cymru'n gyfoethog o ran datblygu ynni adnewyddadwy. Yn yr un modd, mae gennym ddiwydiant amaethyddol hir a balch, rhywbeth sydd wedi bod yn dirywio yn Nenmarc ers blynyddoedd lawer. Yma yng Nghymru, mae angen inni roi hwb i'r sector drwy ddarparu cynllun cymorth amaethyddol sy'n cefnogi ein ffermwyr gweithgar ac yn cynyddu cynhyrchiant bwyd, ac yn oedi targed o 180,000 hectar o goed hyd nes y gall Llywodraeth Cymru ein sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gyrru allan gan brynwyr tramor. Gan ganolbwyntio ar brosiectau yn y wlad hon, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r Prif Weinidog—ie, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS—a'i ymrwymiad i Wylfa dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a'r swyddi a ddaw yn ei sgil i ogledd Cymru.
Fel yr awgrymodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, beth amser yn ôl, mae gwir angen ei dyffryn diwydiant technoleg a gwyrdd ei hun ar Gymru, lle mae rhwystrau'n cael eu gostwng i gwmnïau mawr allu buddsoddi, a lle caiff pecynnau deniadol eu creu i lansio ardal fancio ac ariannol fawr yn y brifddinas, yn ogystal â chreu gwasanaethau newydd yma yng ngogledd Cymru. Wrth edrych ar draws môr Iwerddon ac at ein cyfeillion yng ngogledd-orllewin Lloegr, gwelwn tua 25 y cant o weithwyr yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwaith. Yn 2019, symudodd 1.9 miliwn o bobl a 5.3 miliwn tunnell o nwyddau drwy borthladd Caergybi, i ac o ynys Iwerddon i Gymru. Mae'r rhain yn gyfleoedd y gallwn eu hehangu ac a fydd yn sicr yn gwella ein cymunedau lleol.
Ond er hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i oedi a llusgo'i thraed cyn ymrwymo i wneud Caergybi yn borthladd rhydd, a llusgo buddsoddiad ar hyd rifiera gogledd Cymru o'r dwyrain i'r gorllewin. Bydd diffyg cyfeiriad ac ymdeimlad o ddatblygiad a phwrpas economaidd yn parhau i wneud cam â phobl Cymru, fel y mae wedi gwneud dros y 22 mlynedd diwethaf. Ni waeth pwy y maent hwy na chithau fel Llywodraeth Cymru yn ceisio'i feio, nid oes esgus o gwbl dros beidio â bod yn hyb ffyniannus, arloesol yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym adnoddau i adeiladu hyb cyfalaf byd-eang ac economi ffyniannus, arbenigol sy'n seiliedig ar ddiwydiant. Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i syniadau, mae yna lwyddiannau i'w cael yn fyd-eang, a chredaf y dylech edrych ar y rheini.
Ond yfory, bydd ein pleidleiswyr yn ethol eu hymgeiswyr yn yr awdurdodau lleol, ac os caf ddweud, cymharwch 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur aflwyddiannus yng Nghymru, gwelwch hynny fel rydym ni wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer mewn awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd â mwy o ymgeiswyr nag erioed o'r blaen, yn darparu'r cyfle hwnnw i'n pleidleiswyr ddod allan yfory a phleidleisio'n gadarn dros y Ceidwadwyr Cymreig. Mae arnom angen newid yng Nghymru, a gallwn ddechrau drwy i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yfory. Diolch, Llywydd.
Dro ar ôl tro, dywedwyd wrthym fod Cymru'n rhy fach i fod yn annibynnol ac na allem oroesi yn economaidd. Dyna fu'r mantra ers cyhyd fel ein bod wedi dod i'w gredu heb ei gwestiynu hyd yn oed. Ond mae pethau'n newid, ac mae pobl bellach yn deffro i'r syniad y gallai Cymru oroesi yn economaidd fel cenedl-wladwriaeth annibynnol yn ein hawl ein hunain. Yn wir, gallai Cymru annibynnol fod ymhlith y cenhedloedd cyfoethocaf, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol.
Ar draws y byd, gwelwn mai'r gwledydd hapusaf yw'r gwledydd lleiaf. Edrychwch ar y gwledydd Norden—Gwlad yr Iâ, Sweden, Norwy, Denmarc a'r Ffindir, er enghraifft. Nawr, mae cynnyrch domestig gros yn ffon fesur wael, ond dyna sydd wedi'i ddefnyddio i fesur economïau ledled y byd ers degawdau, a chyda chynnyrch domestig gros o tua £80 biliwn, mae ein cynnyrch domestig gros ni eisoes yn fwy nag un Bwlgaria, Estonia, Croatia, Lithwania, Latfia, Slofenia a llawer o wledydd eraill. Felly, dyma ein sylfaen isaf. Dychmygwch yr hyn y gallem ei wneud gydag ysgogiadau economaidd ac ariannol i weddnewid ein heconomi.
Dywed gwrthwynebwyr wrthym nad oes gennym ddigon o adnoddau i fod ag economi lwyddiannus, felly gadewch inni feddwl am hynny am eiliad. Yn gyntaf, mae gennym fwy o adnoddau naturiol na'r Swistir, dyweder, un o wledydd cyfoethocaf y byd. Nawr, meddyliwch am rai o'r rhanbarthau cyfoethocaf yn y byd—dyffryn Silicon, Monaco, Llundain hyd yn oed. Pa adnoddau naturiol sydd ganddynt i fanteisio arnynt yn y rhanbarthau hynny i ddod mor gyfoethog? Yn sicr, nid glo, nid gwynt, nid pren, nid unrhyw nwydd. Yr adnodd mwyaf gwerthfawr y gall unrhyw wlad neu ranbarth ei gael i ddatblygu ei heconomi yw pobl. Pobl sy'n creu cyfoeth. Pobl sy'n gyrru'r economi. Nawr, os credwch fod pobl Cymru'n rhy dwp i redeg eu heconomi eu hunain, dywedwch hynny. Ond nid wyf i'n meddwl bod pobl Cymru yn dwp. Mae gennyf ffydd a hyder llwyr yn fy nheulu, yn fy ffrindiau, yn fy nghymdogion, yn fy nghydwladwyr. Mae'r bobl sy'n byw yng Nghymru mor alluog ag unrhyw un arall i redeg economi lwyddiannus.
Yn wahanol i rannau cyfansoddol eraill o'r DU a newidiodd, 40 mlynedd yn ôl, i fod yn ddibynnol ar y sector gwasanaethau, rydym yn dal i greu pethau yng Nghymru. Mae ein heconomi wedi'i hadeiladu ar weithgynhyrchu ac mae hynny'n darparu sylfaen lawer mwy sefydlog ar gyfer economi gref na chael llafur rhad tramor i gynhyrchu ar ein rhan. Ond mae rheswm pam y mae ein heconomi wedi aros yn ei hunfan ers 50 mlynedd, ac yn y bôn, mae wedi gwneud hynny am fod de-ddwyrain Lloegr, a Llundain yn benodol, yn gweithredu fel twll mawr du sy'n sugno buddsoddiad ac yn gadael fawr ddim ar ôl i bawb arall.
Dyma lle bydd Paul Davies a minnau'n cytuno: diffyg buddsoddiad mewn seilwaith. Rwyf wedi dyfynnu Adam Smith o'r blaen, ond mae'n werth ei ddyfynnu eto. Mae economi lwyddiannus, meddai, yn dibynnu ar adeiladu a chynnal seilwaith. Mae gwariant seilwaith yn lluosydd. Mae'n creu cyfoeth, gan ddod ag arian newydd i mewn, ond yn hanesyddol yr hyn a welsom yw bod gwariant ar seilwaith yng Nghymru yn gyfran fach iawn o'r gwariant yn Lloegr, a de-ddwyrain Lloegr yn enwedig. Rydym newydd glywed cadarnhad heddiw fod £18 biliwn yn cael ei roi i Crossrail yn Llundain yn unig, heb wariant hafal yma yng Nghymru.
Ac nid problem rhwng Cymru a Llundain yn unig yw hon: mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn brysur yn efelychu'r model Llundain-ganolog yma yng Nghymru. Rydych yn ceisio mynd â'ch nwyddau i'r farchnad o gefn gwlad gogledd, canolbarth neu orllewin Cymru, heb gludo unrhyw nwyddau ar y rheilffyrdd, gyda seilwaith ffyrdd gwael, a Brexit bellach yn dinistrio morgludiant. Ydy, mae'r DU wedi dyrannu rhywfaint o wariant ar seilwaith yma yng Nghymru, ond mae'r mwyafrif helaeth yn ymwneud â phrosiectau ynni, a fydd ond yn mynd â chyfoeth allan o Gymru ac nad ydynt o fudd i'n cymunedau i'r graddau y dylent fod.
Yn olaf, mae'n werth nodi mai Llundain sy'n gosod y polisïau economaidd ac ariannol sy'n ein llywodraethu yma yng Nghymru. Mae ein heconomi wedi'i hadeiladu ar weithgynhyrchu, ac eto mae Llundain yn rhoi cytundebau rhwng cariadon i gwmnïau—[Torri ar draws.] Ie, Darren.
Roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros yr economi pan oedd y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am yr economi, Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd eich plaid, yn gyfrifol am gynhyrchu strategaeth weithgynhyrchu, strategaeth y methodd ei chynhyrchu yn y pum mlynedd y bu wrth y llyw. A ydych yn gresynu na lwyddodd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog i lunio strategaeth weithgynhyrchu, a fyddai'n cael effaith yn awr pe bai wedi tynnu ei fys allan a'i wneud?
Na, rwy'n credu mai'r hyn a welwch yw bod Ieuan Wyn Jones wedi buddsoddi yn seilwaith Cymru ac wedi sicrhau bod gogledd, canolbarth a de Cymru wedi'u cysylltu, sy'n golygu y gallem fynd â nwyddau i bob rhan o Gymru, a chysylltu cymunedau yng Nghymru, sydd wedi bod yn hanfodol i'n cymunedau. Byddwn yn barhaol ddiolchgar i Ieuan Wyn Jones am y gwaith hwnnw.
Ond mae'r polisïau cyllidol sy'n deillio o Lundain—pethau fel cytundebau rhwng cariadon i Goldman Sachs ac eraill yn y sector ariannol—mae'r cytundebau hyn wedi'u llunio ar sail cryfderau economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Nid ydynt yn deall economi Cymru. Mae economi Cymru yn wahanol i economi Llundain. Dyna pam y byddai annibyniaeth yn cryfhau ein heconomi. Byddem yn penderfynu ar ein polisïau cyllidol ein hunain yn seiliedig ar gryfderau a gwendidau ein heconomi ein hunain. Dyna pam fy mod yn galw ar bob un ohonoch yma sy'n bresennol i gefnogi ein gwelliant. Diolch yn fawr iawn.
Fel yr amlinellodd Paul Davies, a agorodd y ddadl heddiw wrth gwrs—dadl wirioneddol bwysig ar stiwardiaeth ar economi Cymru—rydym yn gweld stiwardiaeth wael ar economi gan y Blaid Lafur sydd mewn grym yma yng Nghymru, gyda'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau wythnosol isaf, a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y DU. Mae'r ystadegau hyn yn wirioneddol frawychus.
Felly, yn fy nghyfraniad heddiw, Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes byr y carwn eu hamlinellu lle gwelaf y Llywodraeth Lafur yma yn gwneud cam ag economi Cymru.
Mae'r maes cyntaf yn benodol i fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru ac mae'r modd y mae'r Llywodraeth wedi esgeuluso fy rhanbarth wedi arwain at raniad rhwng y gogledd a'r de. Pa ystadegau economaidd bynnag y gallem edrych arnynt, mae economi'r gogledd yn parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill Cymru. Mae un enghraifft yn ymwneud â gwerth ychwanegol gros. Mae gan Gaerdydd tua dwbl gwerth ychwanegol gros y pen rhai o'r ardaloedd yng ngogledd Cymru. Ar drafnidiaeth, mae prosiect metro Llywodraeth Cymru yn enghraifft wych arall lle'r ydym yn gweld diffyg buddsoddiad, buddsoddiad wedi'i glustnodi, yng ngogledd Cymru. Soniodd Mabon ap Gwynfor—o, mae newydd ddiflannu—am bwysigrwydd seilwaith a'r gwahaniaeth y gall hynny ei wneud i'r economi, ac nid ydym yn gweld y buddsoddiad hwnnw yng ngogledd Cymru ar y raddfa y dylem. Mae £750 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y metro yn ne Cymru, a £50 miliwn ar gyfer y gogledd.
Maes arall lle gwelwn raniad rhwng y gogledd a'r de a chyfle mawr a gollwyd, yn fy marn i—efallai eich bod yn ysgwyd eich pen, Weinidog, ond mae'n gyfle mawr a gollwyd—yw buddsoddiad mewn chwaraeon. Mae'r economi sy'n ymwneud â chwaraeon a photensial chwaraeon yn enfawr. Ar hyn o bryd rydym yn gweld un tîm chwaraeon proffesiynol yn ffynnu yng ngogledd Cymru, sy'n wych i'w weld, ond nid yw hynny'n agos at beth o'r buddsoddiad a welwn yn ne Cymru, gyda'r digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol yn cael eu cynnal yn bennaf yn y de. Mae cyfle gwych i Lywodraeth Cymru hyrwyddo chwaraeon yn y gogledd a hyrwyddo'r rhan honno o'r economi.
Yr ail faes y credaf fod angen rhoi sylw parhaus iddo yw pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am fwriadu mynychu'r grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn ddiweddarach y mis hwn, a chyfrannais at y ddadl yr wythnos diwethaf, a amlinellai pa mor hanfodol yw twristiaeth i economi Cymru, gyda chymaint o bobl yn mwynhau ein hatyniadau, yn gwario eu harian—mae hyn i gyd yn cynnal tua 140,000 o swyddi. Weinidog, mae'n debyg y byddwch yn clywed gan y rhai a fydd yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol yr wythnos nesaf am yr her a wynebwyd ganddynt drwy'r pandemig. Ac maent yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsant drwy'r adeg honno, ond maent hefyd yn edrych tua'r dyfodol, ar y gefnogaeth y maent am ei chael, a'u dathlu fel sector a'r gwaith a wnânt yn y wlad hon. Nid ydynt eisiau mwy o drethiant; nid ydynt eisiau mwy o gyfyngiadau rhag gallu gwneud y gorau o'u busnesau a chyflogi mwy o bobl yma yng Nghymru.
Mae'r trydydd maes, y maes olaf yr hoffwn gyfeirio ato'n fyr, Lywydd, wedi'i grybwyll eisoes, sef y safbwynt gwrth-fusnes sy'n peri i rai busnesau ei chael hi'n anodd yng Nghymru, ac mae'n cael effaith andwyol ar ein heconomi. Mae eisoes wedi'i grybwyll, enghraifft o hyn, yn ymwneud ag ardrethi busnes. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei weld yw ardrethi busnes yn gostwng, nid ardrethi busnes yng Nghymru sy'n uwch nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicr yn cyfrannu at y ffaith bod siopau Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. A fyddech chi'n cydnabod bod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn mynd i daro'r bobl dlotaf, pro rata, yn fwy na neb arall, a'i bod yn dreth lechwraidd?
Fel y gŵyr yr Aelod, mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cefnogi'n briodol. Ac o ran busnesau, mae busnesau sy'n cyflogi yn creu swyddi, sy'n rhan sylfaenol o'n heconomi; mae'r ardrethi busnes hyn, y clywn amdanynt gan fusnesau ledled Cymru, yn eu taro hwy galetaf. Ac enghraifft o hyn yw ein bod, yng Nghymru, yn gweld y nifer leiaf o ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig â'r siopau hynny a'r busnesau hynny. Nid yw'r ardrethi busnes hyn yn helpu o gwbl.
Wrth gloi, Lywydd, mae'n amlwg fod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i wneud cam ag economi Cymru a phobl Cymru, gyda'r cyflogau wythnosol isaf a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd. Mae'n bryd darparu mwy o swyddi, gobaith a sicrwydd i bawb yng Nghymru. Mae'n bryd ailadeiladu ac ailgydbwyso economi Cymru a chodi'r gwastad yng Nghymru gyfan gyda thechnoleg newydd a buddsoddiad newydd. Yng ngoleuni hyn, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthod y gwelliannau o'n blaenau. Diolch yn fawr iawn.
Nid yw economi Cymru wedi perfformio'n dda cyn nac ar ôl datganoli. Pan agorodd y Cynulliad ym 1999, roedd hi'n ddyddiau cynnar ar fanwerthu ar-lein, byddai'n wyth mlynedd cyn yr iPhone cyntaf, yn bum mlynedd cyn i YouTube ddod ar-lein, nid oedd gemau cyfrifiadurol ond yn cynhyrchu cyfran fach iawn o'r incwm y mae'n ei gynhyrchu heddiw, a byddai'n flwyddyn eto cyn lansio'r Sega Dreamcast, consol cyntaf y byd ar gyfer y rhyngrwyd. Nid oedd swyddi fel dylanwadwyr, chwaraewyr gemau cyfrifiadurol proffesiynol a gyrwyr Uber yn bodoli. Ers hynny, mae cyflogaeth wedi dod yn llai sicr a dibynadwy. Ym 1999, parhaodd Llywodraeth Cymru â pholisi Awdurdod Datblygu Cymru o ddefnyddio grantiau i ddenu buddsoddwyr o'r dwyrain ac America yn bennaf, gan gynnig swyddi medrus a chyflogau cymharol isel o gymharu â gwledydd diwydiannol datblygedig eraill, a mynediad at farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd pob ymgais i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn llwyddiannus—a gwn fod hyn cyn datganoli, ond yr un yw'r egwyddor—gydag LG yn enghraifft glasurol. Er gwaethaf grant o £200 miliwn, tua £30,000 am bob swydd, ni ddaeth y swyddi disgwyliedig i fodolaeth.
Mae'r rheswm nad yw unrhyw economi'n llwyddiannus yr un fath—dim digon o swyddi medrus a chyflogau uchel, yn rhy ddibynnol ar swyddi tymhorol ar gyflogau isel ac ar gynhyrchu sylfaenol, nid ar ychwanegu gwerth. Ar ôl gwrando ar y Ceidwadwyr ar yr economi am 11 mlynedd, y ffordd orau o grynhoi eu strategaeth yw cynnyrch amaethyddol, twristiaeth a dod o hyd i fewnfuddsoddiad i ddenu ffatrïoedd cangen i mewn. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os gall rhywun ddweud wrthyf am economi lwyddiannus yn seiliedig ar y strategaeth honno. Unwaith eto, rwy'n dweud hyn: os oes angen ichi roi cymhelliant ariannol sylweddol i gwmnïau ddod â ffatri gangen yma, ni fyddant am ddod. Nid oes rhaid i leoedd llwyddiannus fel Palo Alto, swydd Gaergrawnt a Mannheim wobrwyo cwmnïau i'w denu; maent yn darparu'r gweithlu addysgedig, y seilwaith a'r cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi a busnesau newydd. Unwaith eto, yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw llai o fuddsoddiadau tebyg i un LG a mwy o Admiral Insurance. Byddai polisi annibyniaeth Plaid Cymru yn arwain at dorri traean oddi ar economi Cymru a gwariant Llywodraeth Cymru. Mae economïau gwledydd sydd wedi dod yn annibynnol yn ddiweddar fel De Sudan, Gogledd Macedonia a Bosnia yn gwneud yn waeth na'r gwledydd y maent yn torri'n rhydd oddi wrthynt.
Mae angen i leoedd llwyddiannus allu denu busnesau a'u cadw wedyn, a rhaid i hyn fod yn seiliedig ar ddeall eu gofynion. Mae dadansoddiad o leoedd llwyddiannus a llai llwyddiannus yn awgrymu mai'r pedwar ffactor canlynol yw'r allwedd i lwyddiant economaidd: diwylliant o fentergarwch ac arloesedd, lle mae lleoedd yn addasu'n gyflym i gyfleoedd newydd a lle gall pawb rannu yn y posibilrwydd o lwyddiant busnes a'i wobrwyo, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r cyfleoedd a gyflwynir gan y chwyldro mewn gwyddor bywyd, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, deallusrwydd artiffisial, ac un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf, sef gemau cyfrifiadurol; mynediad at fuddsoddiad, gan gynnwys cyfalaf menter, sy'n hanfodol i fusnesau allu dechrau, tyfu a darparu swyddi a chyfleoedd i bawb; pobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, yn ogystal â chymhelliant a chyfleoedd i weithio; diwylliant o ddysgu gydol oes, gan alluogi pobl i gyflawni eu potensial a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth, a galluogi ymateb hyblyg i gyfleoedd sy'n newid ac annog cwmnïau i ddod i'n trefi a'n dinasoedd ac i aros ynddynt; system drafnidiaeth effeithlon a dibynadwy, sy'n ei gwneud hi'n bosibl darparu deunyddiau crai yn effeithlon i ddiwydiant a nwyddau i'r farchnad—a phan ddywedaf drafnidiaeth, rwy'n golygu'r rhyngrwyd fel rhan o'r drafnidiaeth, oherwydd os ydych yn gwmni ar-lein, y rhyngrwyd yw'r hyn y byddwch yn cludo gwybodaeth ohono, a dyna'r hyn y byddwch yn anfon eich gemau cyfrifiadurol a'ch cerddoriaeth ar hyd-ddo; a darparu mynediad at swyddi, gwneud trefi a dinasoedd yn lleoedd gwell i fyw ynddynt, a helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.
Mae angen i gynllunio'r economi a thrafnidiaeth fod yn seiliedig ar ranbarthau Cymru. Mae angen inni adeiladu ar gryfderau'r prifysgolion i'w gweld fel sbardunau economaidd. Mae gormod o fyfyrwyr, gan gynnwys llawer a fagwyd yn yr ardal, yn symud i ffwrdd ar ôl graddio ac yn aml, ni fyddant yn dychwelyd. Mae arnom angen parciau gwyddoniaeth yn gysylltiedig â phrifysgolion er mwyn inni allu eu defnyddio fel hybiau arloesi, ac arbenigo mewn sectorau economaidd allweddol megis—unwaith eto, fel y dywedais—gwyddorau bywyd, deallusrwydd artiffisial a TGCh. Hefyd, mae arnom angen canolfan entrepreneuriaeth ac arloesi a all ddarparu llwyfan sefydlu a deor i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Rwy'n gwybod hyn am ei fod yn gweithio yn Mannheim. Mae arnom angen mynediad at gyfalaf, nid yn unig ar y cam cychwyn, ond ar y ddau gam twf pwysig o fach i ganolig eu maint ac yna o ganolig i fawr eu maint. Mae gormod o gwmnïau sy'n symud o fod yn ganolig i fawr eu maint yn cael eu prynu gan gwmnïau mwy o leoedd eraill naill ai ym Mhrydain neu Ewrop, ac yna bydd y manteision economaidd yn diflannu. Bydd angen i waith mewn prifysgolion ac addysg bellach edrych ar uwchsgilio ein poblogaeth; ni ddylai addysg ddod i ben yn 16, 18 neu 21 oed.
Yn olaf, nid yw'n fformiwla gyfrinachol—mae arnom angen i wleidyddion Cymreig o bob lliw ei mabwysiadu fel ffordd o symud ymlaen. Hoffwn ddweud wrth Janet Finch-Saunders am Ddenmarc, gwlad yr wyf wedi'i hastudio'n eithaf manwl, mae gan Ddenmarc ddiwydiant mawr o'r enw Lego, y credaf eich bod i gyd wedi clywed amdano, mae'n debyg, ond efallai mai'r allwedd o gymharu â ni yw eich bod wedi clywed am gaws Castello, rydych wedi clywed am Arla, rydych wedi clywed am Lurpak. Maent yn troi eu prif gynnyrch amaethyddol yn nwyddau eilaidd lle maent yn gwneud yr elw. Mae angen i ni wneud yr un peth.
Y Gweinidog yn awr i gyfrannu at y ddadl. Vaughan Gething.
Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'n ddrwg gennyf na fyddaf yn gallu ymateb yn fanwl i bob un ohonoch a'r pwyntiau a wnaed. Fodd bynnag, ar y dechrau, dylwn egluro bod Llywodraeth Cymru, er syndod i neb, yn gwrthwynebu'r cynnig. Ac ar y gwelliant, er fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a oedd gan Cefin Campbell i'w ddweud, nid ydym yn cytuno mai annibyniaeth yw'r ateb. Mae arnaf eisiau, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau, undeb diwygiedig sy'n gweithio i Gymru ac sy'n parchu datganoli. Ers dechrau datganoli, rydym wedi mwy na haneru'r bwlch yn y cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae hwnnw'n gam hanesyddol sy'n bwysig iawn i ganlyniadau economaidd ac aneconomaidd, gan gynnwys iechyd a llesiant.
Ar ddiweithdra, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn 3 y cant, o'i gymharu â chyfradd y DU o 3.8 y cant. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael gwaith o ansawdd da drwy Twf Swyddi Cymru. Yn fwy cyffredinol, Cymru sydd â'r twf ail gyflymaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau'r DU dros y cyfnod rhwng y dirwasgiad yn 2008 a'r data diweddaraf sydd ar gael. Dim ond Llundain a wnaeth yn well na Chymru, a hynny o drwch blewyn yn unig.
Fel yr adroddodd Sefydliad Resolution cyn y pandemig, mae cyfran y gweithwyr sydd ar gyflogau isel yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Ar gyflog yr awr, y clywsom lawer amdano, mae'r cyflog canolrifol yr awr yng Nghymru bellach yn uwch na gogledd-ddwyrain Lloegr, dwyrain canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a Humber. Nid oedd hynny'n wir ar ddechrau datganoli.
Ym mis Chwefror eleni, awgrymodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ei bod yn ymddangos bod rhannau o Gymru, ynghyd â Llundain a Gogledd Iwerddon, wedi cael adferiad cryfach o'r pandemig na rhannau eraill o'r DU. Rwy'n falch o'r hyn a wnaethom yn ystod y pandemig, drwy gefnogi busnesau Cymru yn llwyddiannus gyda mwy na £2.6 biliwn, gan ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru, a allai fod wedi'u colli fel arall, a mynd y tu hwnt i'r symiau canlyniadol Barnett a gawsom gan Lywodraeth y DU.
Ond rydym bellach yn wynebu argyfwng costau byw, lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cefnogi pobl Cymru yn iawn. Er gwaethaf galwadau eang cyn ei ddatganiad yn y gwanwyn, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o ddim ond £27 miliwn—toriad mewn termau real, gyda chynnydd chwyddiant—i gyllideb Llywodraeth Cymru. Ac mewn neges glir i deuluoedd a busnesau sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, mae'r Canghellor hyd yn oed wedi dweud y byddai'n wirion rhoi mwy o gefnogaeth ar gyfer biliau ynni i deuluoedd a busnesau. Dyna yw ymagwedd y Torïaid.
Mewn cymhariaeth, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £380 miliwn o gymorth i deuluoedd, i helpu gyda'u biliau cartref cynyddol. Rwy'n dal i bryderu'n fawr am yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau lleiaf cefnog yma yng Nghymru. Ni chânt eu datrys gan ateb George Eustice, sef troi at gynhyrchion brand y siop sydd eu hunain, mewn rhai archfarchnadoedd, wedi codi'n gyflymach na chyfradd chwyddiant. Mae'n dangos o ddifrif pa mor bell ohoni yw'r Torïaid.
Mae'r argyfwng costau byw yn taro ein busnesau hefyd. Dyna pam ein bod yn dal i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno treth ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cynhyrchwyr nwy ac olew yn ei fwynhau. Fel y dywedodd pennaeth BP, ni fyddai treth ffawdelw yn eu hatal rhag gwneud unrhyw un o'r dewisiadau buddsoddi y maent eisoes wedi ymrwymo iddynt. Mae angen inni roi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a newid yn gyflymach i ynni adnewyddadwy a gwell effeithlonrwydd ynni, gyda phontio teg. Bydd hynny'n effeithio'n sylweddol ar leihau costau ynni i ni, ac ar draws y byd yn wir.
Dylwn atgoffa'r Aelodau hefyd y rhagwelir y bydd effaith cytundeb masnach a pharhad Llywodraeth y DU â'r UE yn brifo economi'r DU hyd at ddwbl effaith y pandemig. Mae busnesau eisoes yn ei chael hi'n anodd masnachu gyda gwledydd yr UE ac yn wynebu costau sylweddol uwch a phrinder staff. Ac fel y clywsom sawl gwaith dros y dyddiau diwethaf, mae'r ymchwil diweddaraf yn dangos bod Brexit wedi ychwanegu 6 y cant at filiau bwyd Prydain.
Mae hynny'n fy arwain at y gronfa ffyniant gyffredin, ateb Llywodraeth y DU i bob gwae, a'r arian y mae llawer o sôn amdano yn lle unrhyw gyllid blaenorol gan yr UE. Hoffwn atgoffa'r Aelodau ei bod yn amlwg ac yn annerbyniol fod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni addewid ei maniffesto i ddarparu arian yn lle cyllid yr UE yn llawn. O ganlyniad uniongyrchol i hynny, bydd Cymru dros £1 biliwn yn waeth ei byd. Ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon, o unrhyw blaid, groesawu na cheisio gwadu'r brad hwnnw.
Mae datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig. Cafodd cyllid rhanbarthol ei reoli gan Lywodraeth Cymru a bu'n destun craffu gan y Senedd hon ers dros 20 mlynedd. Mae dull Llywodraeth y DU o weithredu yn parhau i amharchu ein setliad datganoli. Mae datganoli, wrth gwrs, wedi'i gymeradwyo gan ddau refferendwm a sawl etholiad. Er hynny, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio'r Ddeddf marchnad fewnol i fynd â chyllid a'r hawl i benderfynu o ddwylo Llywodraeth a Senedd Cymru.
Ar gyllid arloesi, y soniwyd amdano droeon, wrth gwrs, ceir diffyg ariannol yn deillio o'r gronfa ffyniant gyffredin, a bydd hynny'n brifo, nid yn helpu, ein huchelgais cyffredin i fuddsoddi mwy mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Rwy'n ymwybodol iawn o'r straen a'r pwysau aruthrol y mae'r ansicrwydd a'r diffyg ariannol yn eu rhoi ar fuddiolwyr presennol sy'n defnyddio'r cyllid hwnnw o'r UE: y bobl a'r busnesau sy'n ei ddefnyddio i helpu i wella economi Cymru.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, bydd economi gryfach, tecach a gwyrddach Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar ein gwerthoedd, sef newid blaengar, cydweithredu nid cystadleuaeth, a pheidio â rhannu yn erbyn ei gilydd. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, yn y byd busnes ac mewn undebau llafur. Byddwn yn adeiladu ar ein seilwaith economaidd ar gyfer swyddi da hirdymor a chynaliadwy wedi'u creu yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, fel rhan o'r pontio teg i sero net, gyda'n huchelgais cyffredinol wedi'i grynhoi mewn strategaeth buddsoddi mewn seilwaith gwerth £8.1 biliwn. Yn hollbwysig, rydym am i fathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth gael eu darparu i fwy o bobl, gan roi mwy o ddewis ynghylch y modd y gallwn symud o gwmpas, yn ogystal â gosod sylfeini ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Rydym ar daith £5 biliwn i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd dros y 15 mlynedd nesaf, ac etifeddodd Trafnidiaeth Cymru waddol heriol, ond mae cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru erbyn hyn, gyda gostyngiadau ym mhrisiau tocynnau i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ledled Cymru.
Yma yng Nghymru, rydym wedi sefydlu'r banc datblygu cyntaf erioed, gyda thros £1 biliwn o gyllid i gefnogi economi ehangach Cymru. Rydym wedi buddsoddi a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch modern. Ac yn erbyn cefndir ariannol anodd iawn, gan gynnwys colli £1 biliwn o hen gronfeydd yr UE, mae ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd yn darparu cynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf er mwyn buddsoddi yn ein pobl.
Ni fydd y dyfodol y mae pobl Cymru am ei gael i'w ganfod mewn symiau bach o arian wedi'u gwasgaru'n denau i amrywiaeth o brosiectau heb gysylltiad rhyngddynt drwy benderfyniad Gweinidogion y DU. Fe'i ceir yn y dull partneriaeth gymdeithasol o weithredu a welir gan Lywodraeth Cymru, dull sy'n dod â phobl ynghyd i hyrwyddo gwaith teg a swyddi gwell, i weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, busnesau ac undebau llafur. Bydd ein dull 'tîm Cymru' o weithredu yn cyflawni dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu i greu Cymru sy'n fwy gwyrdd, yn fwy teg ac yn fwy ffyniannus.
Mark Isherwood nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch i Paul Davies am agor y ddadl hon, gan ddweud bod economi Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU gyda'r gwerth ychwanegol gros gwaethaf—sy'n golygu gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir y pen—ers 1999. Fel y dywedodd, rydym wedi cael cynifer o ddadleuon am yr angen i wneud pethau'n wahanol, ond mae'r economi wedi llusgo ar waelod cynifer o ddangosyddion allweddol oherwydd bod rhywbeth ddim yn gweithio—Llywodraeth Lafur Cymru. Dywedodd fod aelodaeth o'r DU wedi galluogi Cymru i oroesi storm y pandemig, ac mae angen gwneud llawer mwy i gynorthwyo busnesau a chreu amodau ar gyfer twf, a gwneud Cymru'n lle deniadol i wneud busnes, gan gynnwys. ac yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig a'r porthladdoedd, sydd wrth gwrs yn agos at ei galon. Soniodd am yr angen am seilwaith trafnidiaeth gwyrdd a chymorth i fusnesau lywio'r dyfroedd hynny, a dywedodd, wrth inni ymadfer ar ôl y pandemig, fod gennym gyfle i newid ein meddylfryd a gwneud pethau'n wahanol.
Soniodd Cefin Campbell, fel y gallech ddisgwyl cyn etholiad, am y prif reswm dros fodolaeth ei blaid, sef ymwahanu—gan anwybyddu'r realiti hanesyddol efallai fod Cymreig yn golygu Prydeinig mewn gwirionedd. Yna nododd rai pwyntiau—. Dyfynnaf enghraifft: 6 y cant o'r trac rheilffordd yng Nghymru, dim ond 1 y cant o'r gyllideb. Pan gyflwynasom hynny i Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd mewn pwyllgor ychydig flynyddoedd yn ôl, dywedasant fod Cymru wedi cael 9.6 y cant o gyllid net y Llywodraeth ar gyfer gweithredwyr trenau'r fasnachfraint a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm cyllid net y Llywodraeth ar gyfer llwybrau rheilffyrdd cenedlaethol.
Dywedodd Natasha Asghar ei bod yn aml yn teimlo fel pe baem yn clywed geiriau ond nad ydym yn gweld unrhyw weithredu, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi porthladd Caergybi. Diolch ichi am gefnogi gogledd Cymru a gwaith gwych Virginia Crosbie AS, wrth gwrs.
Wrth gwrs, mae ein cynnig heddiw'n ymwneud â stiwardiaeth wael ar economi Cymru gan Lywodraethau Llafur Cymru olynol. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n llongyfarch Carolyn Thomas ar ei hyfdra'n dargyfeirio'r bai am fethiant Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n llusgo Cymru o waelod y pentwr economaidd a rhyddhau ei hysbryd entrepreneuraidd mawr.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at stiwardiaeth wael ar economi Cymru gan Lafur, a adawodd Gymru gyda'r lefel isaf o incwm gwario yn y DU. Cyfeiriodd at ymrwymiad y Prif Weinidog i Wylfa Newydd ar Ynys Môn, lle mae 23 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael lefelau ffyniant ar eu hisaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner y lefelau yng Nghaerdydd. Dywedodd nad oes esgus i Gymru beidio â bod yn rhan uchelgeisiol, arloesol o'r Deyrnas Unedig.
Mabon ap Gwynfor: mwy o'r mantra cenedlaetholgar—dealladwy, ond efallai'n bradychu gwir hanes ac etifeddiaeth ein pobl, y Prydeinwyr hanesyddol a'u tynged i uno tiroedd Prydain. Darllenwch Y Mabinogi. Fel y dywedodd, fodd bynnag, pobl sy'n creu cyfoeth, ac nid yw pobl Cymru'n dwp; maent mor alluog ag unrhyw un arall i redeg economi sefydlog—sy'n gwbl gywir. Fodd bynnag, dywedodd fod economi Cymru yn wahanol i economi Llundain. Mae'n wir, ond nid yw'n wahanol i economi nifer o ranbarthau mewn rhannau eraill o'r DU.
Tynnodd Sam Rowlands sylw at y ffaith bod Llafur yn methu yng ngogledd Cymru, gan greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de, gydag economi'r gogledd ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill Cymru, ac fel enghraifft, soniodd am y diffyg buddsoddi ym metro gogledd Cymru—dim ond £50 miliwn o'i gymharu â £750 miliwn ym metro de Cymru. A soniodd am yr angen i hyrwyddo chwaraeon yn y gogledd a phwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, drwy gynnal 140,000 o swyddi, a beirniadodd eto y safbwynt gwrth-fusnes, sy'n achosi i rai busnesau ei chael hi'n anodd yng Nghymru.
Mike Hedges—dylech fod draw yma, Mike. Roeddwn wrth fy modd gyda'ch araith; byddwn yn cytuno â 90 y cant ohoni—pwysigrwydd mynediad at fuddsoddiad a chyfalaf menter a diwylliant o ddysgu gydol oes a systemau trafnidiaeth effeithlon, annog cwmnïau i ddod i'n trefi a'n dinasoedd. Rydych chi'n llygad eich lle.
Y Gweinidog, Vaughan Gething: rwy'n cytuno ag ef pan ddywedodd nad yw'n cytuno mai annibyniaeth yw'r ateb. Dywedodd wedyn fod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfradd y DU ond methodd nodi bod lefel cyflogaeth yng Nghymru yn is na Lloegr, yr Alban a'r Deyrnas Unedig. Nododd sut yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gwario'r arian a gafodd gan Lywodraeth y DU, ond yna dywedodd ei fod am gael mwy—gan wario bob amser ar beidio â datrys y problemau sy'n effeithio ar Gymru, a mynnu mwy drwy'r amser. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael biliynau o arian yr UE, a oedd i fod i gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, mae'r bylchau hyn wedi dyfnhau. Fodd bynnag, er mai dros dro yn unig y bwriadwyd i'r cyllid hwn fodoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei ddefnyddio i sybsideiddio yn hytrach na thargedu achosion dwfn tangyflawniad economaidd, ac amddifadedd cymdeithasol yn ei sgil, mewn rhannau helaeth o Gymru, gan ei chamddisgrifio fel ffynhonnell barhaol o gyllid, a chadw'r bobl i lawr ac yn ddibynnol.
Mae gan Gymru 5 y cant o boblogaeth y DU, ond ar ôl 23 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, dim ond 3.4 y cant o gyfoeth y DU y mae'n ei gynhyrchu o hyd. Cymru sydd â'r allbwn isaf y pen ac mae'n codi llai o refeniw y pen nag unrhyw wlad arall yn y DU—
Rwy'n mynd i'ch atgoffa am yr amser. Rwyf wedi bod yn eithaf hael yn barod.
O, nid oeddwn yn sylweddoli.
Na, mae'n iawn. Os gallwch ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr, Mark.
Cymru sydd â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a dim ond un busnes yn y FTSE 100.
Rwy'n dod i ben: mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu rhybuddion gan lais unedig y diwydiant twristiaeth allweddol yng Nghymru nad yw ei chynigion ar eu cyfer wedi bod yn seiliedig ar astudiaeth lawn o'r effaith economaidd ac y byddant yn arwain at gau llawer o fusnesau lleol. Eu hunig bolisi economaidd effeithiol yw bod yn ddarbodus gyda'r gwirionedd. Ni fydd dim yn newid oni fydd Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn rhoi'r gorau i bennu polisi ac yn dechrau gweithio gyda busnesau ac arweinwyr diwydiant mewn partneriaeth wirioneddol gyfartal i sbarduno'r newid cynaliadwy y mae cymaint o'i angen, yn hytrach na'u condemnio i berthynas wasaidd a'u gweld yn rhy aml yn dadfuddsoddi ac yn mynd i rywle arall.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly byddwn ni'n cymryd y bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y cynnig yna.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad technegol byr i baratoi ar gyfer y bleidlais.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:24.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:26, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymunedau lleol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 10 yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau Lleol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 15, Ymatal: 10
Derbyniwyd y gwelliant
Mae gwelliant 2, felly, yn cael ei ddad-ddethol.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Ac mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7922 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru rhag methiant Llywodraeth y DU i gymryd yr argyfwng costau byw o ddifrif a'i gwrthodiad i wrthdroi’r toriad niweidiol i gredyd cynhwysol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cymunedau Lleol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar economi Cymru. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi cael ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Economi Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod, a'r gwelliant wedi'i wrthod, ac felly does yna ddim pleidlais arall. Ac felly, dyna ni'n dod at ddiwedd y pleidleisio a diwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:29.