Y Cyfarfod Llawn
Plenary
26/01/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma'r prynhawn yma. Mae'r rheini wedi nodi ar eich agenda chi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd gan storm Christoph? OQ57516
Diolch, Gareth. Bu Sir Ddinbych yn llwyddiannus gyda'u cais am werth £440,000 o waith atgyweirio asedau llifogydd a draenio o ganlyniad i storm Christoph mewn gwahanol leoliadau. Cafodd y gwaith atgyweirio ar ôl y storm ei ariannu 100 y cant, ac roedd dyfarniad y grant ar gyfer y gwaith yn amodol ar arfarniad technegol, gan sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid llifogydd wedi'u bodloni.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Er fy mod yn deall bod prosesau i’w dilyn, y gwir amdani, flwyddyn ar ôl y dinistr, yw bod fy etholwyr yn dal i fod heb gysylltiad ffordd hanfodol rhwng Trefnant a Thremeirchion, ac mae dwy gymuned leol yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd i bob pwrpas ac nid oes unrhyw arwydd y daw hynny i ben cyn bo hir, sy'n hynod o rwystredig. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod unrhyw geisiadau am gyllid yn cael eu blaenoriaethu a bod prosesau’n cael eu cyflymu a’ch bod yn gwneud popeth a allwch i sicrhau bod pont hanesyddol Llannerch yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl?
Ie, diolch, Gareth. Rwy'n deall yr anawsterau a achoswyd i'r rhwydwaith ffyrdd lleol, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnal a sicrhau cydnerthedd yr asedau hynny. Nid ydym wedi cael cais am gyllid gan Sir Ddinbych eto mewn perthynas â phont Llannerch. Dyfarnwyd swm o £18,491,000 o’r gronfa ffyrdd cydnerth yn 2021-22 i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer gwaith i fynd i’r afael ag effaith tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd, yn enwedig y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ac roedd hynny’n cynnwys £5.3 miliwn ar gyfer cynlluniau yng ngogledd Cymru.
Mae awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i wneud cais am arian o’r gronfa ffyrdd cydnerth yn 2022-23 ar gyfer cynlluniau i fynd i’r afael ag effaith tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd. Felly, yn y bôn, yr ateb byr yw: nid ydym wedi cael cais am gyllid gan y cyngor eto. Rwy’n fwy na pharod, wrth gwrs, i edrych ar hynny cyn gynted ag y gallwn ar ôl inni gael y cais hwnnw. Nid ydym wedi’i gael eto, felly byddwn yn eich annog i gysylltu â’r awdurdod lleol i weld beth yn union sy’n digwydd gyda hynny.
Mae’r seilwaith ar draws sawl man yng ngogledd Cymru wedi’i effeithio gan stormydd diweddar, gan gynnwys y bont y soniwyd amdani eisoes yn Nhremeirchion yn Sir Ddinbych. Mae Newbridge yn Wrecsam yn cael ei grybwyll yn aml ac mae tirlithriad hefyd yn Ffrith yn Sir y Fflint, yr amcangyfrifir ei fod wedi costio £3.8 miliwn. Pan fydd digwyddiadau naturiol o’r fath yn digwydd, maent yn aml yn digwydd heb fawr o rybudd ac yn arwain at ganlyniadau dinistriol iawn, a all fod yn ddrud i un awdurdod lleol eu hatgyweirio. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cronfa gyfalaf frys ar gyfer atgyweiriadau o’r fath yn dilyn trychineb naturiol?
Wel, Carolyn, y ffordd y mae hynny’n gweithio ar hyn o bryd, yn amlwg, yw ein bod yn dyrannu grant cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol fel rhan o’u setliad cyllid cyffredinol. Rydym yn ymdrechu’n galed iawn i beidio â neilltuo cyllid yn y ffordd yr awgrymwch, oherwydd yn amlwg, yr hyn a fyddai’n digwydd yw y byddai’n cael ei dynnu oddi ar y grant cyffredinol heb ei neilltuo a’i gadw’n ganolog. Nid ydym o'r farn mai dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Mewn gwirionedd, rydym wedi cynorthwyo, fel y dywedais wrth Gareth, awdurdodau lleol gyda bron i £18.5 miliwn mewn atgyweiriadau difrod storm dros y gaeaf diwethaf. Hefyd, o ran refeniw, mae gennym y cynllun cymorth ariannol brys, sef y cyllid refeniw sy'n cael ei ddarparu mewn amodau hinsoddol arbennig o ddifrifol. Felly, mae gennym nifer o gynlluniau ar gael i gynorthwyo gyda refeniw a chyfalaf, ond credaf mai'r awdurdodau lleol fyddai'r cyntaf i ddweud nad oeddent am weld mwy o neilltuo o fewn system grantiau cyfalaf gyfyngedig.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol? OQ57498
Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi codi ymwybyddiaeth fel rhan o’n digwyddiadau COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo cymunedau i ddeall a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol o waith prosiect CHERISH, tîm o archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr sy’n astudio effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol yng Nghymru, ac yn wir, yn Iwerddon. Mae’r prosiect yn cynnal arddangosfa ar hyn o bryd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi yn fy etholaeth, sy'n edrych ar effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn yr ardal leol, rhwng nawr a diwedd mis Chwefror. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y math hwn o weithgarwch mor bwysig i egluro effaith y newid yn yr hinsawdd ar ein hardaloedd lleol. Ac felly, a allwch ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o brosiectau penodol fel hyn ledled Cymru?
Diolch, Paul. Rwy’n ymwybodol o’r arddangosfa sydd gennych gan fy mod yn aelod balch o restr bostio Oriel y Parc—lle rwy’n ymweld ag ef yn aml ar fy ngwyliau—felly roeddwn yn ymwybodol ohoni. Rwy'n gobeithio mynd i weld yr arddangosfa cyn bo hir. Rydym yn awyddus iawn i gynorthwyo gyda phob arddangosfa o'r fath wrth gwrs ac i roi cyhoeddusrwydd iddynt—ac rwy'n falch iawn o ymuno â chi i roi cyhoeddusrwydd i'r un honno—ledled Cymru, wrth inni weithio gyda grwpiau cymunedol mewn nifer o ffyrdd, a thynnu sylw at ddigwyddiadau o bob cwr o’r byd y gellir dod â hwy yn ôl yma i Gymru, a chynorthwyo gwyddonwyr a grwpiau cymunedol o Gymru i fynd â'u rhai hwythau dramor yn wir, yn rhithwir ar hyn o bryd wrth gwrs, ond i fynd dramor gyda’u syniadau da iawn hwythau. Ac un o’r pethau roeddwn yn arbennig o falch ohonynt gyda COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru oedd nifer y cyfranwyr a gawsom o bedwar ban byd o ganlyniad i’n haelodaeth o gynghrair Under2, gyda’r hyn a elwir yn wladwriaethau is-genedlaethol. Felly, roedd gennym bobl yn cyfrannu at hynny o bob cwr o’r byd, ac yn wir, bu modd inni arddangos ymdrechion cymunedol Cymru, fel yr un rydych newydd sôn amdani, yno hefyd. Felly, rwy'n falch iawn o ymuno â chi i'w chymeradwyo ac i roi cyhoeddusrwydd iddi.
Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn sôn am wresogi mewn cartrefi domestig. Gwyddom mai cartrefi sy’n gyfrifol am 27 y cant o’r holl ynni a ddefnyddir a 9 y cant o’r holl allyriadau yng Nghymru. A chyda 10 y cant o gartrefi yn unig wedi'u hadeiladu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon yn Ewrop. Gan ganolbwyntio ar gartrefi mewn ardaloedd gwledig yn unig, ac yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a’r rhai sy’n cael eu gwresogi ag olew, gwyddom fod mwy na 33 y cant o gartrefi yng Ngheredigion yn ddibynnol ar olew i gynhesu eu cartrefi. Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y sir yn wynebu’r cynnydd mwyaf mewn biliau tanwydd o bob ardal ar dir mawr y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn ddiwethaf—£863 ar gyfartaledd. Heb reoleiddio prisiau, fel y gwyddom, a heb ddewis amgen gwyrddach, mae'r rheini sy'n dibynnu ar olew yn wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng ynni a chostau byw hwn. Tybed a allwch amlinellu pa fesurau sydd wedi’u hystyried i gefnogi’r cartrefi sy’n dibynnu ar olew ar hyn o bryd, ac i gefnogi’r aelwydydd a’r busnesau hynny i edrych ar drosglwyddo i ynni gwyrddach yn fwy hirdymor? Diolch.
Diolch, Jane. Rydym yn gwbl ymwybodol o’r argyfwng costau byw, yn enwedig i bobl ar olew oddi ar y grid, fel y dywedwch. Dylwn ddweud ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd—felly, i annog pawb i ymateb iddo. Mae hynny er mwyn cefnogi aelwydydd i drosglwyddo i wres carbon is, ond hefyd i gynorthwyo gyda'u biliau cartref domestig. Yn amlwg, rydym yn cydnabod y broblem rydych newydd ei hamlinellu, a’r anawsterau y mae’r cynnydd mewn prisiau ynni wedi’u hachosi i aelwydydd sy’n ddibynnol ar olew yn benodol. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn ein cynllun ymdopi â thywydd oer, sy’n cynnwys camau gweithredu i gefnogi cartrefi’n well a gweithio gyda chyflenwyr olew i wella gallu aelwydydd incwm isel i ymdopi â thywydd oer.
Hoffwn bwysleisio bod aelwydydd gwledig yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y gronfa gymorth i gefnogi cartrefi cymwys oddi ar y grid gyda chost tanwydd ac atgyweirio boeleri. Yn aml, mae'n rhywbeth nad yw pobl yn ymwybodol ohono—eu bod yn gymwys i wneud cais am grant o'r gronfa cymorth dewisol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl, fel ein bod yn sicrhau bod mwy o bobl agored i niwed yn cael y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y cymorth sydd ar gael. A hefyd wedyn, ar y pwynt mwy hirdymor, rydym yn amlwg yn cyflwyno'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan ein bod yn llwyr gydnabod bod rhywfaint o'n stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac nad yw cynllun ôl-osod 'un ateb addas i bawb' yn gweithio. A holl ddiben y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, fel rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud o'r blaen, yw arbrofi â'r hyn a fydd yn gweithio, i godi safonau inswleiddio a gwresogi domestig y tai hynny i'r lefelau rydym yn eu disgwyl, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r agenda tlodi tanwydd a ddaw yn sgil byw mewn cartref oer ac aneffeithlon.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth Senedd Cymru ddatgan argyfwng newid hinsawdd a natur. Gwnaethom bleidleisio o blaid cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Bum mis yn ddiweddarach, fodd bynnag, ym mis Tachwedd, y gorau y gallech chi, Weinidog, a Phlaid Cymru ei wneud oedd ailadrodd yr hyn rydym wedi cytuno arno eisoes, sef fod gan dargedau rôl i’w chwarae yn helpu i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth. Nawr, anfonodd Cyswllt Amgylchedd Cymru lythyr atoch chi a’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn nodi nad yw'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yn ddigon mawr nac yn ddigon cyflym. Nawr, rwyf fi ac eraill yn cytuno â Cyswllt Amgylchedd Cymru fod angen i Gymru, fel un o’r gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd, arwain y ffordd ar osod targedau a fydd yn ysgogi camau gweithredu ac yn atal degawd arall o golled i fyd natur. Yn ogystal ag ymateb i Cyswllt Amgylchedd Cymru, a wnewch chi egluro i’r Senedd heddiw pam nad ydych wedi gosod targedau adfer natur mewn cyfraith eto, ac a ydych wedi ymateb i Cyswllt Amgylchedd Cymru eto ynghylch eu llythyr o bryder?
Diolch, Janet. Felly, pan wnaethom ddatgan yr argyfwng natur, dywedais yn hynod o glir ein bod yn aros i weld beth oedd canlyniad COP15 cyn inni osod y targedau statudol sylfaenol ar gyfer adfer natur—felly, atal dirywiad natur ac yna adfer natur, gan fod angen inni gyflawni'r ddau beth. Rydym hefyd wedi dweud y byddwn yn ymrwymo, wrth gwrs, i'r targedau o 30 y cant erbyn 2030, er ein bod yn gobeithio eu gwella o ganlyniad i drafodaethau COP15. Rwyf wedi dweud hynny'n glir bob amser, felly nid yw fel pe na baem wedi gwneud unrhyw beth; rydym bob amser wedi dweud yn glir mai dyna roeddem yn dibynnu arno er mwyn gweld beth y dylai'r targedau fod.
Cyfarfûm â Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ddiweddar; rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn yn wir. Yn sicr, rydym ar yr un dudalen â hwy. Mae angen inni osod targedau uchelgeisiol sy'n gyraeddadwy. Mae angen inni ddeall nad oes a wnelo hyn â’r targedau’n unig; mae'n ymwneud â rhoi'r holl adnoddau ar waith ynghyd â'r camau gweithredu angenrheidiol i gyflawni'r targedau hynny. Felly, nid yw fel pe baech yn dewis targed mympwyol ac yn dweud 'Dyma ni felly.' Felly, mae gennym gryn dipyn o waith i'w wneud i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni'r targedau.
Ychydig ar ôl hanner tymor mis Chwefror, byddaf yn cynnal astudiaeth at wraidd y mater o fioamrywiaeth, atal a gwrthdroi ei dirywiad, er mwyn inni gael adferiad, fel y gallwn ddeall nid yn unig beth y dylai’r targedau fod, ond beth y dylai'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn gwneud hynny fod, a byddaf yn gwneud hynny ar y cyd â’n partneriaid statudol, awdurdodau lleol a sefydliadau anllywodraethol ledled Cymru. Felly, rydym yn sicr yn gweithio tuag at hynny. Fel y dywedaf, rydym yn cymryd rhan ym mhroses y COP15, ac yn sicr, nid oes unrhyw oedi wedi bod o ran yr amserlen a nodais pan wnaethom ddatgan yr argyfwng natur.
Diolch. Nawr, un maes a fyddai’n elwa’n fawr o dargedau mwy uchelgeisiol yw eich addewid i adfer 800 i 900 hectar o fawndiroedd y flwyddyn. Nawr, yn y grŵp trawsbleidiol ar fioamrywiaeth, cafwyd consensws cyffredinol fod yn rhaid inni ariannu gwaith adfer mawndiroedd yn ddigonol fel rhan o’r ymyriadau gwledig a nodir yn eich rhaglen lywodraethu. Mae'n destun gofid, fodd bynnag, fod cynrychiolwyr ymddiriedolaethau natur Cymru wedi dweud yn glir, pe baem yn parhau ar eich trywydd presennol, y byddai’n cymryd dros 100 mlynedd inni adfer ein holl fawndiroedd yng Nghymru. Felly, yn y pwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf, ar ôl imi godi pryderon y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gwario llai na 3 y cant o’u cyllideb llifogydd ar atebion naturiol, ymatebodd CNC y byddant yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i ehangu’r gwaith hwn. Weinidog, pa ymrwymiad y gallwch ei roi i ni heddiw y byddwch yn rhoi unrhyw gais am waith rheoli llifogydd drwy adfer mawndiroedd gan CNC ar lwybr carlam? Ac o ystyried yr angen i annog ac ymgysylltu â dinasyddion gwyddonol, a allwch gadarnhau hefyd pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gydweithio â’r trydydd sector i gynnwys mwy o'r gymuned yn hynny? Diolch.
Felly, unwaith eto, Janet, rydym yn awyddus iawn i weithio gyda grŵp o wyddonwyr i ddeall beth yn union y mae adfer yn ei olygu. Felly, unwaith eto, nid oes a wnelo'r rhain â'r targedau yn unig; mae’r rhain yn ymwneud â’r prosesau y mae angen inni eu rhoi ar waith er mwyn eu cyflawni. Rydym ar hyn o bryd—fel y gwyddoch, gan eich bod yn y pwyllgor pan oeddwn yn rhoi tystiolaeth hefyd—yn cynnal adolygiad sylfaenol gyda CNC am eu cyllid yn gyffredinol, a sicrhau ei fod yn symlach ac yn addas i’r diben drwy gynnal adolygiadau proses o'r dechrau i'r diwedd gyda hwy. Yn sicr, byddaf yn gweithio'n galed iawn gyda CNC i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau iawn yn y lle iawn i wneud yr holl waith hwn, ac wrth gwrs, byddant yn rhan hollbwysig o'r astudiaeth at wraidd y mater o fioamrywiaeth y soniais amdani. Ac fel rhan o hynny, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar adferiad nifer fawr o wahanol fathau o gynefinoedd ledled Cymru, gan gynnwys mawndiroedd.
Diolch. Gan fod mawn bum gwaith yn fwy effeithiol na choed am storio carbon, nid oes unrhyw esgus bellach dros beidio â chynyddu a chyflymu buddsoddiad er mwyn diogelu ac adfer ein mawndiroedd. Mae pob un ohonom yn cytuno ar yr angen i ddiogelu’r amgylchedd, ond ymddengys eich bod wedi methu cyflawni Brexit gwyrdd i Gymru hyd yma, Weinidog. Mae Deddf Amgylchedd y DU 2021 a Deddf Ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad) (Yr Alban) 2021 yn cynnwys egwyddorion amgylcheddol a threfniadau llywodraethu gyda’r bwriad o sicrhau cydymffurfiaeth ac atebolrwydd yn Lloegr a’r Alban. Ac unwaith eto, gan ddyfynnu Cyswllt Amgylchedd Cymru, cymharol ychydig y mae Cymru wedi'i gyflawni. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf y bydd yn rhaid i amseriad unrhyw waith ar strwythurau llywodraethu amgylcheddol hirdymor aros tan ar ôl y trafodaethau cymhleth gyda'ch partneriaid clymblaid newydd, Plaid Cymru. Felly, yn hytrach na gadael i blaid wleidyddol arall yn y Senedd ohirio Brexit gwyrdd yn yr argyfwng natur hwn, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd yr amserlen ar gyfer gwaith paratoadol ar lywodraethu amgylcheddol yn cael ei roi ar lwybr carlam, a chadarnhau pa randdeiliaid rydych yn gobeithio eu gweld yn rhan o'r trafodaethau hynny ac y cyflawnir hynny gyda'r cyrff a sefydlwyd yn Lloegr a’r Alban?
Diolch, Janet. Unwaith eto, rydych wedi cyfuno oddeutu pum peth gwahanol, felly nid wyf am geisio datod yr hyn a ddywedoch. Y Brexit gwyrdd y soniwch amdano, wrth gwrs, pe baem wedi aros o fewn y trefniadau llywodraethu Ewropeaidd, ni fyddem wedi gorfod gwneud unrhyw beth ychwanegol, ac un o'r pethau mawr i ni fydd cynnal safon debyg i'r cyfreithiau Ewropeaidd yn y dyfodol, a pheidio â chael y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn mynd ati eisoes i ddileu llawer o'r amddiffyniadau sydd gennym mewn nifer o feysydd yn Lloegr. Felly, rwy'n anobeithio ynghylch y syniad mai Brexit gwyrdd yw'r hyn rydym yn sôn amdano. Mae'n eithaf amlwg, o'r amrywiol ddeddfau a gyflwynwyd eisoes, nad hynny rydym yn sôn amdano. Yma yng Nghymru, mae gennym drefniadau interim ar waith ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Byddwn yn deddfu, wrth gwrs, i roi hynny ar sail statudol. Rwy'n dymuno gwneud hynny ar yr un pryd ag y byddwn yn rhoi’r targedau ar gyfer atal dirywiad ac adfer bioamrywiaeth ar waith, ac felly byddwn yn cyflwyno’r rheini pan fydd y trefniadau hynny ar waith gennym. Yn y cyfamser, mae gennym drefniadau interim gweithredol ar waith i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, cynhyrchodd Ystad y Goron yng Nghymru £8.7 miliwn o refeniw y llynedd, ac mae prisiad portffolio morol yr ystad yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Mae’r rhain yn adnoddau a allai alluogi Cymru i ddatblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy a chadw cyfoeth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn hytrach na gwerthu asedau gwerthfawr i’r cynigydd tramor uchaf. Y mis hwn, arwerthodd yr Alban 17 opsiwn gwely’r môr, cyfanswm o 25 GW, drwy Ystad y Goron yr Alban, ac arweiniodd hynny at £700 miliwn ychwanegol o gyllid cyhoeddus i'r Alban, yn seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy. Ni all Cymru wneud hyn, gan nad yw Ystad y Goron wedi’i datganoli. Felly, rydych wedi dweud yn y gorffennol, Weinidog, eich bod yn cefnogi ei datganoli, ond mae angen mynd ati i wneud hyn, neu rydym mewn perygl o lesteirio ein hymdrechion i ddatblygu diwydiant ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy alltraeth, sydd wrth gwrs, yn elfen allweddol o gyflawni'r targed sero net. A allwch nodi pa gamau rydych yn eu cymryd i geisio datganoli Ystad y Goron i Gymru, a rhannu eich barn hefyd am ba broses a ddylai fod ar waith i sicrhau, lle mae meysydd y mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn cytuno y dylid eu datganoli, eu bod yn cael eu datganoli, fel ein bod yn cyflawni dymuniadau democrataidd pobl Cymru?
Yn sicr, Delyth. Cytunaf yn llwyr y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Mae'n gwbl warthus ei bod wedi'i datganoli i'r Alban ac nid i ninnau, a bod enillion Ystad y Goron yn mynd yn syth yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi. Nid ydynt hyd yn oed yn mynd drwy drefniant fformiwla Barnett. Felly, rwy'n sicr wedi ysgrifennu i ddweud ein bod am i Ystad y Goron gael ei datganoli, a'n bod am iddi gael ei datganoli ar yr un sail ag y mae wedi’i datganoli yn yr Alban. Fodd bynnag, yn y cyfamser, ac yn absenoldeb Llywodraeth ar lefel y DU sy’n edrych yn debygol o wneud hynny yn y dyfodol agos, yn y cyfamser, rydym hefyd wedi ceisio datblygu perthynas dda iawn ag Ystad y Goron. Felly, mae Lee Waters a minnau wedi cyfarfod ag Ystad y Goron i drafod y potensial amrywiol yn y môr Celtaidd ac o amgylch arfordir Cymru mewn perthynas â thir Ystad y Goron, ac ar y tir hefyd, mewn gwirionedd. Felly, mae Ystad y Goron yn berchen ar rywfaint o dir yng Nghymru hefyd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â hwy i sicrhau bod gennym yr un faint o berchnogaeth gymunedol, budd cymunedol, yn yr arwerthiannau y maent yn eu cynnal, er bod yr arian, fel y dywedwch, yn mynd yn ôl i’r Trysorlys. Hyd yn hyn, rydym wedi cael ymateb ymgysylltiol a rhesymol ganddynt, er nad yw hynny'n gwneud y tro yn lle datganoli'r mater i ni, rwy’n cytuno’n llwyr.
Diolch, Weinidog. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau ar hyn wrth i hynny fynd rhagddo.
Roeddwn am godi mater gwahanol gyda chi y prynhawn yma, ond amser cinio heddiw, roedd nifer o'r Aelodau yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar aer glân, a chlywsom gyflwyniad pwerus iawn gan rywun o’r enw Rosamund y bu farw ei merch, a oedd yn byw yn Llundain, rwy'n credu, a chanfuwyd bod llygredd aer wedi cyfrannu’n sylweddol nid yn unig at y ffaith ei bod wedi marw, ond hefyd at y rheswm pam fod asthma arni yn y lle cyntaf.
Ymddengys ein bod yn gwybod mwy bob blwyddyn am yr effaith wirioneddol niweidiol y mae llygredd aer yn ei chael ar lefelau dementia hyd yn oed, ond yn sicr ar iechyd plant, ar iechyd anadlol. A allwch roi unrhyw ddiweddariad i ni os gwelwch yn dda ynglŷn â pha amserlen rydych yn ei dilyn er mwyn cyflwyno Deddf aer glân i Gymru?
Lywydd, y Dirprwy Weinidog yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am aer glân, felly tybed a ellid dadfudo ei feicroffon.
Diolch yn fawr iawn.
Diolch am godi eich llaw, Ddirprwy Weinidog.
O, o'r gorau. Iawn.
Ie, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn aros i ganllawiau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ar aer glân gael eu cyhoeddi er mwyn seilio deddf y Senedd ar y safon honno, a dim ond yn ddiweddar y cawsant eu cyhoeddi. Rydym bellach yn cwblhau hynny, ac mae sawl cam o ymgynghori a chynllunio y mae angen iddi fynd drwyddynt i sicrhau ei bod yn gadarn. Ond yn amlwg, nid darpariaeth y gyfraith yw’r unig beth a fydd yn ysgogi cynnydd ar aer glân, ac rydym wedi ymrwymo i weithredu eleni, yn hytrach nag aros i’r ddeddf gael ei chyflwyno.
Felly, er enghraifft, mae aer glân yn elfen allweddol o ganllawiau ein cronfa teithio llesol. Mae hynny, unwaith eto, yn un o'r camau gweithredu sydd gennym o dan strategaeth trafnidiaeth Cymru i newid dulliau teithio, felly mae hynny'n £75 miliwn eleni i annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio ceir. Yn yr un modd, mae ein strategaeth fysiau, ac rydym yn gobeithio cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf, hefyd yn ymwneud â newid dulliau teithio er mwyn cael llai o geir sy'n llygru ar y ffyrdd. A hefyd, mae ein cynllun gweithredu ceir trydan, yn yr un modd, yn ymwneud â datgarboneiddio’r fflyd geir fel nad oes allyriadau o bibellau mwg, sydd eto’n achosi’r tocsinau peryglus sy’n cael eu rhyddhau ac sy'n lladd pobl.
Felly, rydym wedi ymrwymo i roi cyfres o gamau gweithredu ar waith eleni a’r flwyddyn nesaf i fynd i’r afael ag aer glân, gan weithio ar yr un pryd ar sicrhau Deddf aer glân mor gadarn â phosibl. Nawr, rwyf wedi rhoi'r gwahoddiad i’r grŵp trawsbleidiol, a gwnaf hynny i’r Aelodau eto; rydym am weithio’n drawsbleidiol ar hyn. Yr her rwyf wedi'i gosod i'r grŵp trawsbleidiol yw nodi'r set fwyaf cadarn o fesurau a all ennyn cefnogaeth drawsbleidiol y gallwn ei chyflwyno i'r Senedd yn sgil hynny.
Anghofiais fy rheol fy hun yno; roeddwn yn disgwyl trydydd cwestiwn. Rwy'n ymddiheuro. Cwestiwn 3, Samuel Kurtz.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect creu coetiroedd Llywodraeth Cymru? OQ57523
Gwnaf. Nododd yr adroddiad at wraidd y mater ar goed a phren y camau y byddwn yn eu cymryd i greu mwy o goetiroedd, gan gynnwys cynllun ariannu newydd a newidiadau i’r ffordd y caiff prosiectau eu dilysu. Caiff y rhain eu gweithredu a’u goruchwylio gan banel cyflawni a gadeirir gennyf fi.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd cyffredin sy'n effeithio ar lawer iawn o goed ynn Cymru, y drydedd goeden fwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rydym wedi gweld pa mor niweidiol y gall y clefyd hwn fod. Ar Ystad Ystangbwll yn unig—y cefais y pleser o ymweld â hi ddydd Llun i blannu coeden fel rhan o ymgyrch gwledd y gwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol—bydd yr ymddiriedolaeth yn torri dros 900 o goed ynn y gaeaf hwn, ar gost o £30,000. Ledled Cymru, mae 6,500 o goed ynn wedi’u rheoli oherwydd clefyd coed ynn ers 2020, ac mae 20,500 o goed eraill wedi’u dynodi fel rhai sydd angen gwaith diogelwch. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi fel Dirprwy Weinidog fod ein strategaeth blannu coed bresennol yn plannu mwy o goed nag sy’n cael eu difa oherwydd y clefyd hwn, ac a fydd ffigurau creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu cyfanswm y coed yng Nghymru yn gywir, gan gynnwys y rhai a dorrwyd, yn hytrach na nifer y coed newydd a blannwyd yn unig? Diolch yn fawr.
Wel, mae Sam Kurtz yn llygad ei le fod clefyd coed ynn yn fygythiad difrifol i’n coed. Amcangyfrifir fod oddeutu 97 y cant o goed ynn y DU yn agored i gael eu heintio gan glefyd coed ynn. Yr wythnos hon yn unig, cyfarfu grŵp strategol Cymru ar glefyd coed ynn ag amrywiaeth o randdeiliaid i roi adborth ar ganllawiau drafft i gynorthwyo perchnogion tir i reoli eu coed ynn, a byddwn yn cyhoeddi'r rheini yn y gwanwyn. Felly, gwyddom fod angen inni sicrhau hefyd fod y coed rydym yn eu plannu yn gallu gwrthsefyll afiechydon yn y dyfodol. Mae’n debygol, o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, y bydd ein coed yn wynebu ystod ehangach o fygythiadau, a dyna pam ei bod yn bwysig hefyd, pan fyddwn yn plannu coed, nad ydym yn plannu ungnydau. Felly, mae safon coedwigaeth y DU, er enghraifft, y mae’n rhaid i’r holl waith plannu coed rydym yn ei ariannu gydymffurfio â hi, yn ei gwneud yn ofynnol i blannu o leiaf bum math gwahanol o goed i warchod yn rhannol rhag y math hwn o fygythiad.
Fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer plannu mwy o goed, wedi’u harwain gan gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ar nifer y coed sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ac wrth gwrs, maent hefyd yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur. Felly, nododd yr adroddiad at wraidd y mater a gynlluniwyd i gael gwared ar rwystrau fod angen inni blannu mwy nag 80 miliwn o goed o fewn y naw mlynedd nesaf. Ac mae angen inni blannu amrywiaeth o goed, coed ar gyfer cnydau, fel y gallwn greu diwydiant pren Cymreig, ond hefyd coed ar gyfer bioamrywiaeth, a choed collddail hefyd, ond coed ar dir fferm yn bennaf. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda ffermwyr, a hwy sy'n arwain y gwaith hwn. Pe bai pob ffermwr yn plannu coed ar hectar o'u tir, byddem yn cyflawni ein targed. Felly, nid ydym am weld planhigfeydd enfawr fel rheol, ond rydym am weld pob ffermwr a phob perchennog tir, yn ogystal â chymunedau, yn croesawu plannu coed fel rhywbeth sy’n dda ar gyfer newid hinsawdd ond sydd hefyd yn dda ar gyfer iechyd a llesiant yn eu cymunedau.
Ymddiheuriadau—problemau technolegol. Weinidog, dwi'n clywed adroddiadau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu ffermydd teuluol yng Nghymru er mwyn plannu coed, efo pryderon bod y tir yma felly yn cael ei dynnu allan o dir cynhyrchu bwyd ac yna'r pris, gwerth y tir, yn cynyddu. Mae hyn nid yn unig yn niweidiol i amaethyddiaeth, ond yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yma. Ydy hyn yn rhan o gynllun coedwigaeth y Llywodraeth, ac a ydych chi'n credu ei fod yn iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn prynu tir at y dibenion yma, os mai dyna'r achos? Diolch.
Wel, credaf fod pob un ohonom yn cytuno bod angen inni blannu mwy o goed, felly golyga hynny fod angen mwy o dir i blannu'r coed hynny arno. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn amcangyfrif bod arnom angen oddeutu 10 y cant o newid mewn defnydd tir o gynhyrchu bwyd i blannu coed, fel cnwd ar gyfer cynhyrchu pren, fel y dywedais, ond hefyd ar gyfer dal a storio carbon. A nodaf hefyd, fel rhan o'n cytundeb partneriaeth â Phlaid Cymru, ein bod yn bwriadu bod yn fwy uchelgeisiol na'r targed sero net erbyn 2050 ac edrych ar yr hyn y byddai'n ei gymryd i gyflawni sero net erbyn 2035, a gallaf ddyfalu bod y gwaith hwnnw'n mynd i ddangos bod angen inni blannu mwy byth o goed. Felly, byddwn yn gobeithio bod Mabon ap Gwynfor yn gefnogol i’n hymdrechion i blannu mwy o goed, a bydd angen rhywfaint o newid mewn defnydd tir er mwyn gwneud hynny. Ond fel y dywedais yn yr ateb i Sam Kurtz, os gwneir hyn ar raddfa fawr gan yr holl berchnogion tir a ffermwyr, nid oes ond angen ychydig o newid ar y tir y maent yn ei ffermio ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Coed Cadw, ac mae ganddynt fenter ragorol i annog ffermwyr i blannu perthi ac ymylon caeau. Mae gan bob ffermwr ran o’u ffermydd y byddent yn barod i’w defnyddio i blannu coed, a dyna’r sgwrs rydym am ei chael gyda phob un ohonynt fel rhan o’r cynllun ffermio cynaliadwy, i nodi’r tir hwnnw a’i gwneud yn haws iddynt blannu ar y tir hwnnw. Nid yw'n ddefnyddiol cwestiynu'n barhaus a yw plannu coed yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud ai peidio a dod o hyd i resymau dro ar ôl tro dros rwystro'r cynnydd. Rhaid ei wneud mewn modd sensitif, rhaid ei wneud gyda'r cymunedau. Rwyf am i ffermwyr Cymru arwain y gwaith, ond mae’n mynd i olygu ychydig bach o newid defnydd tir.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar dir y mae'n ei reoli? OQ57507
Diolch, Vikki. Gwnaed penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ystad goed Llywodraeth Cymru yn dilyn canlyniad achos llys yn erbyn un o uwch arweinwyr Cymdeithas y Meistri Cŵn Hela ac mewn ymateb i'r achos hwnnw.
Diolch, Weinidog. Rwyf am ofyn cwestiwn yn sgil fy nghwestiwn i’r Gweinidog materion gwledig cyn y Nadolig, ac yn benodol, ei hateb y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystyried gwaharddiad parhaol ar hela trywydd gan y rhai sy’n gyfrifol am dir cyhoeddus yng Nghymru. Gwyddom fod hela trywydd yn cael ei ddefnyddio fel ffug-esgus dros hela anifeiliaid byw. O ystyried bod CNC a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwahardd hela trywydd, a wnewch chi geisio cyflwyno gwaharddiad cyffelyb fel mater o frys i sicrhau na chaiff ein tir cyhoeddus ei ddefnyddio ar gyfer yr arfer creulon, anghyfreithlon a hynaflyd hwn?
Ie, Vikki, rwy'n croesawu'n llwyr y penderfyniad a wnaed gan CNC. Wrth gwrs, mae CNC yn gwneud y penderfyniad ar ran Llywodraeth Cymru ar ei thir cyhoeddus, felly mae llawer iawn o dir cyhoeddus bellach yn dod o dan y penderfyniad i beidio â chaniatáu hela trywydd ar y tir hwnnw. Byddwn yn sicr yn gweithio gyda deiliaid tir cyhoeddus eraill—awdurdodau lleol, ac yn y blaen, ledled Cymru—lle ceir tir a ddefnyddir ar gyfer hela trywydd. Rydym o'r farn nad yw'n bosibl gwneud hynny ar ganran fawr iawn o'r tir hwnnw, oherwydd mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwneud rhywbeth tebyg iawn. Ond rwy'n cytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud. Byddwn yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddiogelu unrhyw dir arall sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, ac mae gennym ddiddordeb mawr hefyd mewn gweld sut y mae Llywodraeth yr Alban yn mynd i gyflawni eu hymrwymiad i wahardd hela trywydd ar draws yr holl dir cyhoeddus yn yr Alban yn y tymor seneddol hwn, oherwydd rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Felly, cytunaf yn llwyr â byrdwn eich cwestiwn. Credaf ein bod wedi cyflawni hynny i raddau helaeth gyda'r cyfuniad o dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a CNC, a byddaf yn sicr yn gweithio gyda phartneriaid eraill sy'n ddeiliaid tir cyhoeddus i weld beth y gellir ei wneud.
Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi dangos bod bron i 10 y cant o bobl Cymru yn cymryd rhan mewn gweithgaredd beicio oddi ar y ffordd a beicio mynydd, ac mae cryn dipyn o dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu ar gyfer y gweithgaredd hwn. Er fy mod yn cytuno bod beicio oddi ar y ffordd yn beth da ar y cyfan, yn darparu cyfle ar gyfer ecodwristiaeth ac yn helpu gydag iechyd a lles, rhaid inni fod yn ymwybodol ei fod hefyd yn achosi niwed hirdymor i'r tir.
Rwy'n meddwl am goedwig Ty'n-y-coed yng Nghreigiau yng Ngorllewin Caerdydd, sydd wedi'i difrodi'n helaeth gan ddefnyddwyr beiciau mynydd sydd, drwy greu eu llwybrau heb awdurdod, nid yn unig wedi difrodi topograffeg y tir, ond wedi achosi difrod parhaol i goed, cynefinoedd a llystyfiant arall. Mae trigolion hefyd wedi mynegi pryder am y peryglon y mae'r beicwyr mynydd hyn yn eu hachosi i ddefnyddwyr eraill y goedwig, megis cerddwyr sy'n defnyddio'r llwybrau a hawliau tramwy cyhoeddus, yn bennaf oherwydd y cyflymder y maent yn teithio. O fy nhrafodaethau gyda CNC, ac os cofiaf yn iawn, ni chaniateir beicwyr mynydd yn y goedwig hon, ond mae'n amlwg nad yw CNC yn gallu gorfodi hyn.
Mae llwybrau wedi'u hadeiladu a'u cynnal a'u cadw'n briodol gyda strategaeth reoli ragweithiol wedi profi'n hynod gynaliadwy, a nodwyd arferion gorau ar gyfer lliniaru tarfu ar fywyd gwyllt a llystyfiant. Gyda hyn mewn golwg, ac o gofio'r angen digynsail i ddiogelu ein coedwigoedd, a all y Gweinidog egluro pa gamau y mae CNC a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod strategaethau llunio a rheoli llwybrau priodol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer yr holl ddefnyddwyr coedwigoedd yng Nghymru? Diolch.
Er bod y cwestiwn yn cyfeirio at goedwigoedd, mae'r cwestiwn yn ymwneud yn bennaf â hela ar dir coedwigaeth, ond os gall y Gweinidog gynnig rhyw ymateb, gallai hynny fod yn ddefnyddiol, ond byddwn yn deall os nad yw hynny'n bosibl o ystyried natur y cwestiwn gwreiddiol.
Rwy'n hapus i ymateb yn rhannol, Lywydd. Yn wir, nid yw'n ymwneud yn llwyr â phwynt y cwestiwn gwreiddiol, ond Joel, rwy'n gwbl ymwybodol o'r materion sy'n codi ynghylch beicio oddi ar y ffordd, yn enwedig sgramblo ac yn y blaen, yn ogystal â beicio mynydd. Yr ateb byr yw fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn inni sefydlu ardaloedd arbennig lle gall pobl gymryd rhan mewn gweithgaredd beic-neidio ac yn y blaen. Mewn gwirionedd, mae gennym bencampwyr byd yng Nghymru yn fy etholaeth i yn y gamp honno, ond mae hefyd yn bwysig iawn sicrhau bod y llwybrau yn y goedwig yn cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd ar eu cyfer, ar gyfer cerdded lle'u bwriadwyd ar gyfer hynny, ar gyfer beicio lle'u bwriadwyd ar gyfer hynny, ac yn y blaen, ac nid ar gyfer defnydd cymysg yn y ffordd a nodwyd gennych. Rydym yn gweithio gyda CNC i ddeall pa negeseuon gorfodi—'mesurau', mae'n ddrwg gennyf; ni allaf siarad gyda fy annwyd heddiw—pa fesurau gorfodi a allai fod yn bosibl, a hefyd, gyda'r heddluoedd lleol i sicrhau bod is-ddeddfau ar waith ac yn cael eu gorfodi'n briodol, ac yn y blaen. Rwy'n fwy na pharod i drafod y mater gyda chi ymhellach, gan ei fod yn fater sydd o ddiddordeb ledled Cymru.
Cwestiwn 5, Rhun ap Iorwerth, ac i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog.
Gan ddymuno'n dda i'r Gweinidog efo'i hannwyd. Mi ofynnaf i'r dirprwy felly.
5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wneud ffyrdd sy’n llifogi’n gyson yn fwy gwydn? OQ57514
Nodaf na ddymunwyd yn dda i mi wrth i mi wella o fy annwyd i, ond fe anwybyddaf hynny.
Mae gan Lywodraeth Cymru fesurau ar waith i reoli cefnffyrdd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau tywydd, gan gynnwys llifogydd. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw'r rhwydwaith ffyrdd lleol wrth gwrs, a chânt arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynnal a sicrhau cydnerthedd eu ffyrdd.
Mae fy nymuniadau gorau i'r Dirprwy Weinidog yn dibynnu ar ei ateb i'r cwestiwn canlynol, wrth gwrs. Pan fydd glaw a gwynt neu lanw uchel yn dod at ei gilydd, mae'r ffordd i'r dwyrain o Fiwmares wrth safle Laird yn llifogi. Mae o'n digwydd yn amlach ac yn amlach, ac er nad oes yna dai dan fygythiad o lifogydd uniongyrchol, mae miloedd o gartrefi yn ardaloedd Llangoed a Phenmon yn cael eu hynysu, cartrefi gofal yn methu cael eu cyrraedd, llwybrau gwasanaethau brys yn cael eu torri, ac mae o'n risg gwirioneddol. Dwi'n gwybod bod yna ddim ateb hawdd, ond mae'n rhaid ei wneud o, a dwi'n gwybod bod swyddogion y cyngor sir yn rhannu fy mhryderon i yn dilyn fy sgyrsiau i efo cynghorwyr. Un broblem mae awdurdodau lleol yn ei hwynebu ydy diffyg capasiti i roi cynlluniau at ei gilydd, ac mi fyddwn i'n croesawu ymrwymiad i helpu awdurdodau lleol i greu'r capasiti yna. Ond fy mhrif gwestiwn i: yn allweddol, gaf i ofyn am ymrwymiad hir dymor i'r gronfa ffyrdd cydnerth, er mwyn sicrhau y bydd yna gyllid ar gael am y blynyddoedd sydd i ddod, er mwyn dod o hyd i ateb i'r broblem benodol yma, problemau eraill fel yr A5 ym Mhentre Berw er enghraifft, hefyd—hynny ydy, lle dydy tai ddim dan fygythiad, ond lle mae risg i wydnwch trafnidiaeth ac i ddiogelwch cymunedau yn risg gwirioneddol?
Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae hyn yn real iawn, a gwyddom y bydd yn gwaethygu wrth i'r newid yn yr hinsawdd ddwysáu ac mae gwella gallu ein ffyrdd i wrthsefyll bygythiadau stormydd ac effaith gwres eithafol hefyd yn un o'r pethau y mae angen inni ei wneud wrth inni addasu i newid hinsawdd, sy'n rhan o'n strategaeth sero net. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu'r adolygiad o ffyrdd, felly rydym yn symud cyllid oddi wrth adeiladu ffyrdd newydd yn barhaus i gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym yn well, yn rhannol er mwyn gwrthsefyll bygythiad cynyddol newid hinsawdd. A chyda hynny mewn golwg, gwnaethom greu'r gronfa ffyrdd cydnerth ac rydym yn gwario £18.5 miliwn eleni i awdurdodau lleol wneud cais i gyflawni cynlluniau fel yr un y mae Rhun yn sôn amdano. Ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd awdurdodau'n gallu parhau i wneud cais am gyllid ar gyfer cynlluniau y maent eisoes wedi'u dechrau. Mae gennym ddewisiadau anodd i'w gwneud ar y gyllideb—nid oes pwrpas esgus fel arall—ac ni allwn wneud popeth rydym eisiau ei wneud. Rydym yn gobeithio y caiff adroddiad y panel adolygu ffyrdd ei gyhoeddi yn yr haf, a bydd hynny'n rhoi cyngor i ni ar sut y gallwn wneud y dewisiadau hyn yn y blynyddoedd y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o broblem y B5605 yn Wrecsam, a godwyd yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gyfarwydd â'r problemau yno. Fe'i codwyd hefyd yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU y prynhawn yma gan fy nghyd-bleidiwr, Simon Baynes AS. Ac mae cau'r ffordd hon ers mwy na blwyddyn bellach wedi cael effaith enfawr ar bobl leol, sydd bellach yn gorfod gwneud teithiau pellach. Mae hwn yn fater o bwys iddynt, gan ei fod yn ychwanegu 15 milltir a hyd at 30 munud at eu taith, tra'n ychwanegu at eu hôl troed carbon wrth gwrs. Ysgrifennais at y Gweinidog ar 23 Tachwedd ynghylch y difrod i'r B5605 rhwng Cefn Mawr a Newbridge, a achoswyd gan storm Christoph. Ysgrifennais eto yr wythnos diwethaf, ond nid wyf wedi cael ymateb i unrhyw lythyr hyd yma. Disgwylir i'r gwaith atgyweirio ar y ffordd gostio tua £1 filiwn, a 12 mis ar ôl y storm, yr unig gynnydd sydd i'w weld wedi'i wneud yw bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo arian i gynnal asesiad rhagarweiniol. Felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu ei bod yn dderbyniol fod y ffordd hon yn aros ar gau, ac os nad ydych, pa gamau brys rydych yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn ailagor cyn gynted â phosibl?
Ie. Sylwais ei fod wedi'i godi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU gan Simon Baynes—yn wallus, oherwydd mae'n beio Llywodraeth Cymru am rywbeth sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Rwy'n deall y demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth ar hyn, ond dylai wneud ei waith cartref ychydig yn well cyn bwrw sen. Rydym mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol. Rydym am eu helpu i ddatrys y broblem hon, ond mater iddynt hwy yw cyflwyno'r cais cywir, i'r gronfa gywir, yn y ffordd gywir. Rwy'n credu ei bod yn anffodus fod Sam Rowlands yn mynd i ganlyn y llif a'n beio ni pan nad yw'n fater sy'n ymwneud â ni yma. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y broblem y mae hyn yn ei achosi i'r gymuned leol ac rydym am helpu i ddod o hyd i ateb. Gan lywodraeth leol y ceir arweiniad priodol ar hyn—fel cyn-arweinydd cyngor, fe fydd yn cydnabod hynny—a gobeithiwn weithio gyda hwy i geisio dod o hyd i'r ateb cyn gynted â phosibl.
Soniais innau am hyn yn gynharach hefyd, rwy'n credu, yn y cwestiynau, fel cwestiwn atodol i gwestiwn Gareth Davies. Adeiladwyd ein seilwaith priffyrdd, gan gynnwys system ddraenio ffosydd, cwlferi a gylïau, flynyddoedd lawer yn ôl ac mae'n ei chael hi'n anodd ymdopi â faint o law sy'n aml yn disgyn y dyddiau hyn. Mae llawer o eiddo ar yr un lefel â ffyrdd ac mae peth eiddo hŷn yn is na lefel y ffordd. Mae llawer o ddŵr yn draenio oddi ar y tir ar y briffordd, a phan fydd yn ormod i gylïau priffyrdd allu ei gymryd, mae dŵr yn llifo wedyn oddi ar y ffordd ac i mewn i eiddo. Gwyliais un diwrnod wrth i law ddisgyn mor drwm fel na allai'r gylïau gymryd mwy a dechreuodd dŵr lifo i lawr tuag at eiddo a oedd wedi gosod bagiau tywod, ond diolch byth, wrth i'r glaw lacio, dechreuodd y gylïau ei gymryd, llaciodd grym y dŵr a dechreuodd ostwng. Oherwydd newid hinsawdd, mae mwy o achosion o lawiadau tebyg i law monsŵn o'r fath. Felly, beth sy'n cael ei wneud i ddal glawiad gan ddefnyddio atebion naturiol i helpu gyda chapasiti'r systemau draenio a lliniaru effaith glawiad trwm ar ffyrdd sy'n dioddef llifogydd yn rheolaidd? Diolch.
Fel y soniais yn yr ateb i Rhun ap Iorwerth, rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd yn golygu y bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd yn amlach ac maent yn peri problem i'n seilwaith hanfodol, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â hynny.
Mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn benodol am atebion draenio naturiol yn un pwysig iawn, oherwydd credaf ein bod yn orddibynnol weithiau ar beirianneg, pan fyddwn am geisio defnyddio dulliau gwahanol, oherwydd gallwn sicrhau canlyniadau'n gyflymach ac yn rhatach yn ogystal â gwella bioamrywiaeth wrth inni wneud hynny. Fe fydd hi'n gwybod, ers mis Ionawr 2019, fod pob datblygiad arwyddocaol newydd, gan gynnwys ffyrdd, wedi gorfod gweithredu rhyw fath o gynllun draenio cynaliadwy i ddal y glawiad a'r dŵr ffo o'r prosiectau hynny. Mae hynny bellach yn rhywbeth sy'n rhan annatod o'n dull o weithredu mewn perthynas â gwaith adeiladu mawr, ac wrth gwrs, rydym yn chwilio am gyfleoedd i liniaru lle y gallwn.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod natur ar draws parth 200 milltir forol Cymru? OQ57494
Diolch, Janet. Rwyf wedi ymrwymo i amgylchedd morol gwydn sy'n cwmpasu holl barth morol Cymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i raglen adfer a gwella ecosystemau morol. Mae'r broses ddynodi ar gyfer parthau cadwraeth morol alltraeth yn bennaf a'r camau rheoli ar gyfer ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cefnogi'r nod hwn.
Diolch. Rhaid imi ddweud fy mod wedi fy siomi yn ystod y pwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf pan wrthododd y Dirprwy Weinidog y ffaith ei fod, yn ystod ei adroddiad at wraidd y mater ar gadwraeth natur, fwy neu lai wedi anwybyddu'r ffaith pan ddywedais fy mod yn pryderu ynglŷn ag a fu unrhyw gysylltiad ag unrhyw un o'r sefydliadau anllywodraethol ynghylch chadwraeth natur. Os edrychwch ar yr adroddiad at wraidd y mater, nid oes cyfeiriad at yr un ohonynt, felly dyna rywbeth yr hoffwn i chi edrych ymhellach arno.
Ond rwyf wedi tynnu sylw yn ystod y pwyllgor newid hinsawdd at y ffaith bod anghysondeb o hyd rhwng diffiniad adran 158 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sydd, wrth gwrs, yn rhoi cyfrifoldeb i Cyfoeth Naturiol Cymru hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol hyd at 12 milltir forol, a chyfrifoldeb cyfreithiol ehangach Llywodraeth Cymru dros gadwraeth natur ledled parth 200 milltir forol Cymru. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, fe ddywedoch chi y bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd dilynol, ac mewn llythyr at y Prif Weinidog, anogodd Cyswllt Amgylchedd Cymru y weinyddiaeth hon i wneud adfer bywyd gwyllt morol yn flaenoriaeth uwch, gan gynnwys mesurau i ddiogelu teulu'r morfil i gydnabod eu rôl yn rheoleiddio ecosystemau. Weinidog, a allwch egluro pa ymgysylltiad a gawsoch i sicrhau amserlen gadarn i ddiwygio'r anghysondeb hwn, fel y gallai'r Siambr hon a Senedd Cymru fod mewn gwell sefyllfa i graffu ar weithredoedd CNC a'u monitro mewn perthynas â chadwraeth natur y dyfnfor? Diolch.
Diolch, Janet. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r ddeddfwriaeth. Cafodd y ddeddfwriaeth ei phasio, wrth gwrs, cyn inni gael y parth 200 milltir forol, felly rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd cyfle addas i'w roi mewn Bil perthnasol rywbryd yn nhymor y Senedd hon; rydym yn bendant yn awyddus i wneud hynny. Yn y cyfamser, rydym yn ymddwyn fel pe bai Deddf yr amgylchedd yn dweud y parth 200 milltir, oherwydd dyna'n amlwg yr hoffem iddi ei ddweud, ac rydym yn sicrhau ein bod o ddifrif ynglŷn â'r cyfrifoldeb hwnnw.
Wrth gyflawni adroddiad at wraidd y mater ar fioamrywiaeth, soniais eisoes y byddaf yn cynnwys bioamrywiaeth forol yn hynny wrth gwrs; mae'n rhan bwysig iawn o'n bioamrywiaeth, fel yn wir y mae'r rhan rynglanwol o Gymru. Felly, mae'r holl fioamrywiaeth enfawr yn y parth rhynglanwol yn eithriadol o bwysig hefyd. Felly, gallaf eich sicrhau y byddwn yn edrych ar fioamrywiaeth forol ar yr un pryd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys rhaglenni diogelu teulu'r morfil a rhywogaethau eraill. Mae llawer iawn o waith i'w wneud yma i sicrhau statws cadwraeth da o fewn y parthau morol gwarchodedig ac yn yr ardaloedd cadwraeth morol, ac i sicrhau bod gennym y rhwydwaith cywir o amgylch y glannau i gyd. Rwy'n eich sicrhau'n bendant fy mod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cefnforoedd iach ar gyfer bioamrywiaeth a hinsawdd, ond hefyd, wrth gwrs, ar gyfer ein diwydiant twristiaeth, sy'n dibynnu'n drwm iawn ar ein cefn gwlad hardd a'n harfordir a'n moroedd hardd. Felly, rwy'n sicr o ddifrif ynglŷn â hyn. O'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddar, gwyddom fod gennym heriau sylfaenol go iawn i'r amgylchedd morol, gan gynnwys bygythiad newid hinsawdd, felly byddwn yn cynnwys hynny yn y rhaglen wrth inni ei chyflwyno.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghaerffili? OQ57528
Rydym yn cefnogi llwybrau teithio llesol yng Nghaerffili drwy roi dyraniad craidd i'r cyngor o'n cronfa teithio llesol bob blwyddyn, a thrwy gynnig cyfle i wneud cais am gyllid ychwanegol drwy amrywiaeth o grantiau. Yn y flwyddyn ariannol hon, dyrannwyd dros £1.4 miliwn i Gaerffili.
Mae'r cyllid hwnnw i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi gweld ledled yr etholaeth, a thrwy'r fwrdeistref yn wir, yr effaith y mae hynny wedi'i chael, yn fwyaf diweddar yng Nghwm Calon, lle mae'r llwybr beicio wedi'i agor am y tro cyntaf ac wedi cael croeso mawr gan drigolion. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ran benodol o'r etholaeth. Mae pont droed Ty'n-y-graig dros reilffordd cwm Rhymni yn Llanbradach wedi bod ar gau ers mis Ebrill 2020 ar ôl i'r bont gael ei difrodi ac yna cafodd ei symud wedyn gan Trafnidiaeth Cymru am resymau diogelwch. Yn anffodus, mae aelodau etholedig lleol wedi gwneud rhai sylwadau maleisus sy'n awgrymu nad oes gan Trafnidiaeth Cymru unrhyw fwriad i osod pont arall yn lle'r bont honno. Nid yw hynny'n wir. Hoffwn ddweud fy mod wedi cael cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru ac maent wedi dweud yn gwbl glir mai eu bwriad yw gosod pont arall—y bydd hynny'n digwydd. Fodd bynnag, mae'r amserlen yn weddol hir. Roeddent yn mynd i gyflwyno pont dros dro, ond canfuwyd wedyn y byddai hynny'n ymyrryd â'r gwaith sydd ei angen i gyflwyno pont barhaol, sy'n siomedig. Fodd bynnag, fe gaiff pont newydd ei chodi. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff ymrwymo i weithio gyda swyddogion Trafnidiaeth Cymru i wneud popeth yn ei allu i gwtogi'r amserlen sy'n weithredol ar hyn o bryd ar gyfer codi pont newydd barhaol. Byddai croeso mawr i unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Trafnidiaeth Cymru yn yr amgylchiadau hyn.
Gallaf gadarnhau'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud: yn sicr, fe gaiff pont ei chodi ac rydym yn gobeithio y bydd yn ei lle ymhen blwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a mis Ebrill 2023. Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Fel y dywedodd Hefin David, cafodd ei difrodi'n ddifrifol gan lori ac yna bu'n rhaid ei chwalu. Mae'r broses y bu'n rhaid mynd drwyddi, gyda chynllun pwrpasol ar gyfer y lleoliad penodol hwn, wedi bod yn gymhleth, ac yn amlwg cawsom ein taro gan COVID ar yr un pryd. Rwy'n ymddiheuro i'r trigolion am yr oedi y maent wedi gorfod ymdopi ag ef, ond mae pob bwriad gan Trafnidiaeth Cymru i godi pont newydd yn lle'r bont hon.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau rheilffordd yn Islwyn? OQ57511
Rydym wedi darparu benthyciad o £70 miliwn i gyngor Blaenau Gwent i weithio gyda Network Rail er mwyn gallu gweithredu gwasanaeth bob awr o Gasnewydd i Lynebwy o fis Rhagfyr 2023 ymlaen. Ein huchelgais mwy hirdymor yw darparu pedwar gwasanaeth yr awr ar y rheilffordd.
Diolch. Ar 12 Rhagfyr y llynedd, yn dilyn y buddsoddiad o £1.2 miliwn i uwchraddio rheilffordd Glynebwy, ailddechreuodd gwasanaeth teithwyr uniongyrchol bob awr rhwng Crosskeys a Chasnewydd ar ôl bwlch o 60 mlynedd. Weinidog, cyfarfûm â chynrychiolwyr Network Rail a Trafnidiaeth Cymru gyda chyd-Aelodau yn ddiweddar i drafod cynlluniau ehangu pellach y rheilffordd tua'r gogledd drwy Drecelyn i Lynebwy. Gyda'r Adran Drafnidiaeth o'r diwedd yn uwchraddio'r rheilffyrdd lliniaru rhwng Casnewydd a Chaerdydd, pa drafodaethau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'n hasiantaethau partner ynglŷn â'r posibilrwydd pellach o wasanaethau ddwywaith yr awr ar y rheilffordd drwy Islwyn, gyda'r ddau wasanaeth yn aros yng Nghasnewydd a Chaerdydd?
Dyna'n sicr yw ein huchelgais ninnau hefyd, ond rydym yn dal i aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r cyllid a gyflwynwyd o dan gynllun Adfer Eich Rheilffordd, a fydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i ailagor rheilffordd gangen Abertyleri. Bydd Rhianon Passmore yn gwybod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru, ond Llywodraeth Cymru a ailagorodd reilffordd Glynebwy yn 2008, Llywodraeth Cymru a estynnodd y rheilffordd i Dref Glynebwy yn 2016, a Llywodraeth Cymru a'i gwnaeth yn bosibl cynnig gwasanaeth ychwanegol newydd sbon ar y rheilffordd rhwng Crosskeys a Chasnewydd ym mis Rhagfyr. Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo £70 miliwn o gyllid mewn benthyciad hirdymor i'r gwasanaeth estynedig i Dref Glynebwy yn 2023, ynghyd â chyflwyno cerbydau newydd sbon ar y rheilffordd a fydd yn helpu i ddiogelu ar gyfer y dyfodol ein dyhead hirdymor i gael pedwar trên yr awr ar y rheilffordd a fydd o fudd i tua 59,000 o bobl sy'n byw mewn cymunedau ar hyd rheilffordd gangen Glynebwy. Felly, rwy'n credu ein bod wedi gwneud mwy na'n cyfran deg i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn ei le. Nid yw wedi'i ddatganoli ac mae angen i Lywodraeth y DU wneud ei rhan.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog ac i'r Gweinidog hefyd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Paul Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Benfro? OQ57499
Mae sir Benfro, fel pob awdurdod lleol, wedi bod yn brysur yn paratoi'r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg newydd. Mae'r cynllun yn nodi sut y maen nhw'n bwriadu cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg 10 i 14 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at gael eu cynllun drafft ddiwedd y mis hwn.
Diolch am yr ymateb yna, Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, ddoe, fe ddathlodd yr Urdd 100 mlwydd oed, ac fel rŷch chi hefyd yn gwybod, mae'r sefydliad yn gwneud gwaith rhyfeddol o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n siŵr y byddwch yn ymuno â fi i ddiolch i'r gwirfoddolwyr a'r staff di-ri ar hyd y blynyddoedd sydd wedi cyfrannu cymaint dros blant Cymru.
Byddwch yn ymwybodol bod y galw am addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol, cymaint felly nes bod cynghorwyr lleol yn fy ardal i wedi nodi ei fod yn fwy na'r nifer o leoedd sydd ar gael. Mae yna blant nawr sy'n cael eu troi i ffwrdd, ac o ganlyniad, mae rhieni'n poeni'n fawr iawn bod yna loteri cod post yn cael ei chreu yn sir Benfro. O ystyried yr amgylchiadau, pa gymorth y gall Lywodraeth Cymru ei gynnig i fynd i'r afael â'r diffyg sylweddol o leoedd cyfrwng Cymraeg yn sir Benfro ar hyn o bryd, a pha drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Chyngor Sir Penfro i ddatblygu strategaeth hirdymor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal?
Diolch i'r Aelod am y cyfle i ategu ei longyfarchiadau e i'r Urdd am eu gwaith aruthrol nhw dros ganrif i ddarparu gwasanaethau ieuenctid i'n pobl ni yma yng Nghymru. Byddaf, rwy'n siŵr, yn rhannu gyda fe atgofion melys iawn o ba mor bwysig oedd yr Urdd i fi fel crwtyn yn tyfu i fyny. Felly, rwy'n hapus iawn i ategu llongyfarchiadau'r Aelod.
Mae'r awdurdod lleol yn sir Benfro yn rhannu ein barn ni fel Llywodraeth bod y ffaith nad oes digon o lefydd ar gael yn un o bwys, ac maen nhw wedi bod yn gweithio ar eu cynllun strategol gyda hynny mewn golwg. Rwy'n gwybod hefyd bod y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi bod yn gweithio gydag amryw o deuluoedd yn sir Benfro i'w cefnogi nhw mewn apeliadau ynglŷn â phenderfyniadau o ran mynediad at ysgolion penodol. Mae'r ystod y mae'r cyngor yn ei ddatgan yn y cynllun drafft yn un sydd yn golygu y bydd cynnydd o hyd at 14 y cant, fel y gwnes i ddweud. Mae hefyd cynlluniau gan yr awdurdod i sefydlu ysgol newydd ac i edrych ar gategoreiddio ysgolion a symud categoreiddio ysgolion i sicrhau mwy o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â'r angen i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar. Felly, mae elfen o uchelgais yng nghynlluniau'r cyngor er mwyn darparu darpariaeth ehangach.
Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod bod cynllun cyfalaf wedi'i ddatgan y llynedd o ryw £30 miliwn ar gyfer darparu buddsoddiadau yn seilwaith addysg Gymraeg yma yng Nghymru, ac mae llawer iawn o'n hawdurdodau lleol ni wedi datgan diddordeb yn hwnnw. Mae'r broses yn digwydd ar hyn o bryd o edrych ar y cynigion hynny a'u cymharu nhw gyda'r lefel o uchelgais sydd yn y cynlluniau strategol, a byddaf i'n gallu dweud mwy am hynny ym mis Chwefror.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch mewn ysgolion ac o'u hamgylch? OQ57506
Mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae diogelwch dysgwyr yn hollbwysig, ac mae ein canllawiau statudol, 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', yn nodi'r camau gweithredu a'r disgwyliadau a osodir ar ysgolion i sicrhau diogelwch plant.
Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Dyma'n union y byddwn wedi disgwyl i chi ei ddweud. Un peth rwy'n pryderu amdano yw'r ffocws sydd gennym yng Nghymru ar ddiogelu plant iau sy'n mynd i mewn ac allan o safle'r ysgol yng nghyd-destun llwybrau mwy diogel i'r ysgol a'r llwybrau teithio llesol sy'n cael eu datblygu. Rwyf wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y rheini yn y blynyddoedd diwethaf yn fy etholaeth i, ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan gynnwys yma yn nhref Abergele. Fodd bynnag, ni fu'r un math o ffocws ar ddiogelwch o amgylch ysgolion uwchradd, a tybed i ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ystyried ceisio cyflwyno cynlluniau sy'n hyrwyddo diogelwch disgyblion iau yn enwedig wrth fynd i mewn ac allan o ysgolion uwchradd. Felly, er enghraifft, os caf gyfeirio at y sefyllfa yn Abergele, bu rhai gwelliannau a buddsoddiadau sylweddol mewn llwybrau teithio llesol a llwybrau cymunedol mwy diogel i gael plant yn ôl ac ymlaen o dair ysgol sy'n rhannu'r un safle. Ond ar draws y ffordd, mae yna ysgol uwchradd sydd â llawer o draffig yn mynd i mewn ac allan o gwmpas amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol, ac ni roddwyd unrhyw sylw i wella'r sefyllfa honno. A allwch ddweud wrthym pa waith y gallech ei wneud gyda chyd-Weinidogion Cabinet i ystyried cyflwyno cynlluniau sy'n mynd i'r afael â'r pryderon hyn? Diolch.
Mae Darren Millar yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hyn, ac mae'n bwnc a drafodais gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn y cyd-destun hwn hefyd. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud teithio llesol i ac o ysgolion mor gyfleus ac mor ddiogel â phosibl i gynifer o ddysgwyr â phosibl, am resymau y gwn y bydd yn eu rhannu. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn amlwg yn darparu ar gyfer y gofynion sylfaenol mewn perthynas â hyn, ac mae'r canllawiau cynllunio yn nodi safonau y disgwylir i lwybrau eu bodloni. Wrth gwrs, fel rhan o hynny, mae argaeledd mannau gollwng a chasglu diogel, er enghraifft, yn ogystal â threfniadau eraill, yn ganolog i hynny. Ond byddaf yn trafod ymhellach gyda'r Dirprwy Weinidog beth arall y gallem ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod maes o law.
Weinidog, yr wythnos ddiwethaf, trefnodd fy nhîm i gyfarfod diddorol iawn rhwng trigolion Gwaelod-y-garth yng ngogledd-orllewin Caerdydd â Rod King—rŷch chi'n siŵr yn gyfarwydd â'r arbenigwr diogelwch ar y ffyrdd a sylfaenydd y mudiad llwyddiannus iawn 20's Plenty for Us. Er tegwch, roedd Mr King yn llawn canmoliaeth i bolisïau diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru, ond un pwynt roedd e'n ei wneud oedd angen i yrwyr fod yn fwy ymwybodol pryd maen nhw'n gyrru mewn i gymuned, eu bod nhw'n gweld ardal fel cymuned gyda phobl yn hytrach na jest tai yn unig. Yn union tu fas i'r ysgol yng Ngwaelod-y-Garth, mae yno barth 20 milltir yr awr. Consérn mawr trigolion Gwaelod-y-Garth yw bod gweddill y pentref ddim yn y parth 20 mya a bod cerbydau'n tueddu i gyflymu yn y parthau hynny. Pa drafodaethau ŷch chi'n eu cael gyda'ch cydweithwyr, ac efallai y Dirprwy Weinidog sy'n dal ar y sgrin, a Chyngor Caerdydd, i sicrhau bod parth 20 mya yn cael ei gyflwyno yn y pentref cyfan, fel y gall y plant sy'n cerdded ac yn seiclo nôl ac ymlaen o'r ysgol wneud hynny yn ddiogel? Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys ab Owen am hynny. Dwi ddim fy hunan wedi cael trafodaethau ynglŷn â'r sefyllfa benodol honno mae e'n ei disgrifio. Fel rŷch chi'n dweud, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwrando ar y drafodaeth yn astud, rwy'n sicr, a gallaf i gael trafodaethau pellach gyda fe ynglŷn â hyn. Ond dyma yn union pam bod y cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfyngiadau o ran cyflymder mor bwysig, fel ein bod ni'n diogelu cymaint â phosib o'r cymunedau sydd gyda ni, lle mae'r ysgolion, wrth gwrs, yn cael eu gwarchod. Ond fel mae e'n dweud, mae angen gwneud hynny'n ehangach hefyd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yr wythnos yma, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Weinidog, hoffwn ddechrau drwy groesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil newydd i gadernid profion gwybyddol GIG Cymru, yn enwedig o ran gofal dementia a'r defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf â dementia yn aml yn anghofio eu bod yn gallu siarad Saesneg er yn cadw eu gwybodaeth o'u hiaith frodorol. Mae hyn yn caniatáu i linell gyfathrebu bwysig aros tra hefyd yn cael gwared ar y risg o ynysu unigolion trwy fethu â darparu gwasanaethau yn eu dewis iaith.
O ystyried hyn, cefais fy siomi o glywed nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddata swyddogol ar ganran eu gweithlu gofal cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog weithio gyda'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol i gynnal archwiliad iaith Gymraeg llawn o'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru a nodi pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella gofal cymdeithasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Efallai ei fod yn gwybod bod y Gweinidog iechyd eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cloriannu'r polisïau sydd gyda ni ym maes y Gymraeg o fewn y system addysg a gofal cymdeithasol yn barod. Mae'r pwynt mae e'n ei wneud yn bwysig iawn yng nghyd-destun dementia ac mewn cyd-destun ehangach na hynny hefyd. Beth sy'n wir yn bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rheini efallai pan fo'r iaith ar ei phwysicaf iddyn nhw. Felly, mae'r sialens mae'r Aelod yn ei ddatgan yn un teilwng iawn ond mae gwaith eisoes ar waith gan y Gweinidog iechyd i gloriannu'r polisïau sydd yn digwydd ar lawr gwlad ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog. Yn ei adroddiad blynyddol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dangos llawer iawn o rwystredigaeth gyda'r cynnydd ar reolau safonau’r Gymraeg ac arafwch yn y newid mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn wir, dywedodd yr Aelod Llafur dros Flaenau Gwent yn y pwyllgor:
'Un o'r siomau ym mholisi iaith Llywodraeth Cymru yn ystod y rhai blynyddoedd diwethaf yw y diffygion o ran hyrwyddo'r Gymraeg.'
Aeth yr Aelod ymlaen wedyn i gwestiynu ymrwymiad y Llywodraeth i 'Cymraeg 2050' drwy adleisio pryderon y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Mae sylwadau Alun Davies yn peri cryn bryder yn enwedig o'u cyplysu â galwad y comisiynydd am ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd llwyr wrth rybuddio na fydd strategaeth Cymraeg 2050 yn cael ei chyflawni. Os gall Aelod Seneddol Llafur, cyn-Brif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg weld problem trywydd presennol 'Cymraeg 2050', ydych chi'n cytuno gyda nhw?
Nac ydw. Roedd yr Aelod yn y pwyllgor i glywed y drafodaeth ac fe wnaeth e glywed fy ateb i i'r pwynt a godwyd hefyd—rwy'n sicr o hynny.
Mae'r cwestiwn yma o ran hyrwyddo yn un diddorol rwy'n credu. Rwy'n credu ei fod e'n—. Mae'r gair 'hyrwyddo' yn gallu golygu lot fawr o bethau. Mae polisi iaith yn datblygu dros amser ac rŷn ni'n dysgu i wneud pethau'n wahanol ac yn well. A'r hyn sydd gyda ni nawr yw ystod o bolisïau mewn meysydd y byddem ni wedi galw, yn gyffredinol, yn 'hyrwyddo' yn y gorffennol.
Felly, un o'r pethau rŷn ni'n gwneud yw edrych ar y cynllun grantiau hyrwyddo i weld yn union beth maen nhw'n ei wneud—dŷn nhw ddim wedi cael eu cloriannu a'u hasesu ers inni gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun grantiau. Felly, rŷn ni'n edrych eto ar bob un o'r ymyraethau yna rŷn ni'n eu gwneud i weld a ydyn nhw'n gwneud y gorau y gallan nhw er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg. Buaswn i'n annog Aelodau i feddwl amdano fe fel cyfle pellach i graffu ar waith y Llywodraeth, yn hytrach na fy mod i'n gallu esbonio ar lefel gyffredinol y gwaith hyrwyddo rŷn ni'n ei wneud. Mae camau penodol ar waith a gallwch chi edrych ar y rheini a'u hasesu nhw'n benodol. Mae hynny, rwy'n credu, yn ffordd fwy ymarferol o wneud cynnydd ym maes y Gymraeg yn gyffredinol.
O ran sylwadau'r comisiynydd, ac unrhyw un arall sydd yn annog y Llywodraeth i wneud cymaint ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg, gewch chi ddim rhywun sydd yn fwy o eiriolwr dros hynny na minnau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni wneud cymaint ag y gallwn ni mor gyflym ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Rwy eisiau gweld ein bod ni'n sicrhau bod mynediad hafal ymhob rhan o Gymru i unrhyw un sydd yn moyn addysg Gymraeg. Yn ffodus, mae gyda ni ymrwymiad eisoes i ddarparu deddfwriaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n gallu, yn ystod y Senedd hon, sicrhau bod sail statudol gryfach gyda ni er mwyn darparu addysg Gymraeg. Ond fel clywsoch chi eisoes, mae'r cynlluniau strategol y mae ein hawdurdodau lleol ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn rhai rwy'n disgwyl iddynt fod yn uchelgeisiol. Dwi ddim wedi eu gweld nhw ond mewn drafft ar hyn o bryd, ac rwy'n credu eu bod nhw'n darparu cyfle i ni fynd ymhellach dros y ddegawd nesaf.
Diolch, Weinidog.
Cyn fy nghwestiwn olaf, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Penfro, ac mae'n fater rwyf wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr. Mae'n ymwneud ag Ysgol Cosheston, sy'n ysgol wirfoddol a reolir, yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, sydd wedi wynebu anawsterau parhaus yn ymwneud â diffyg lle, anawsterau sydd wedi gwaethygu oherwydd COVID-19. Yn dilyn mater a godais yn y Siambr hon, mae Cyngor Sir Penfro wedi darparu toiledau caban symudol ychwanegol i'r disgyblion, a swyddfa caban symudol i'r pennaeth. Mae trafodaethau'n parhau rhwng yr ysgol a'r cyngor ynglŷn â gwelliant mwy parhaol ar gyfer yr ysgol, yr athrawon, ac yn bwysicaf oll, y disgyblion. Fodd bynnag, mae'r pennaeth wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynghylch y diffyg eglurder ynglŷn â pha gyllid sydd ar gael i'w hysgol naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r awdurdod lleol, i dalu am y gwaith sydd ei angen yn ddybryd. Felly, Weinidog, a allwch roi gwybod inni a fydd eich cyhoeddiad ynghylch £100 miliwn o gyllid yn gynharach eleni yn agored i ysgolion fel Ysgol Cosheston, sydd, oherwydd COVID, angen lle ychwanegol, naill ai mewn ystafelloedd dosbarth newydd neu ystafelloedd dosbarth mewn cabanau symudol, ac a allwch chi gadarnhau sut y gall ysgolion fynd ati i fynegi eu diddordeb a gwneud cais am y cyllid hwn? Diolch.
Yn sicr. Nid wyf yn gwybod am amgylchiadau penodol Ysgol Cosheston, felly ni fyddaf yn gallu gwneud sylw ar honno yn benodol, ond os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf, gallaf ymateb yn benodol mewn perthynas â hynny. Mae yna nifer o ffyrdd y gall ysgolion gael mynediad at gyllid cyfalaf i wneud addasiadau—mae cyllidebau awdurdodau lleol yn un ohonynt, ond hefyd y cyllid y mae Llywodraeth Cymru, o bryd i’w gilydd, yn ei ddatgan, gan gynnwys y cyllid rwyf newydd ei ddatgan yn ddiweddar. Felly, os yw'r Aelod yn penderfynu ysgrifennu ataf am rai ysgolion yn benodol, gallaf roi cyngor penodol iddo.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe fe wnaethoch yn glir mai'r bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni, ac roeddwn yn falch o'ch gweld yn cydnabod yr aflonyddwch y mae dysgwyr a staff wedi ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ein hysgolion a'n colegau. Fe wnaethoch annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â'u hysgolion a'u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni. Ond mae hyn dal yn amwys iawn, ac yn rhoi'r baich yn ôl ar y dysgwyr i geisio cael cefnogaeth, yn hytrach na bod y cymorth yn cael ei gynnig iddynt. Yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd o ran coronafeirws, er bod yr arwyddion yn galonogol. Os bydd amharu pellach ar addysg, gan gynnwys absenoldebau uchel o ran staff a dysgwyr, pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith rhag ofn na ellir bwrw ymlaen â'r arholiadau?
Wel, o ran y cyngor i fyfyrwyr a disgyblion yn y datganiad ddoe, mae llythyr wedi mynd at benaethiaid—ddoe, dwi'n credu—o'r adran, yn esbonio, yn eu hatgoffa nhw, a dweud y gwir, ble mae'r holl adnoddau sydd ar gael er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y blynyddoedd arholiad, fel y gwnes i sôn. Roeddwn i jest hefyd yn annog dysgwyr i gynnal y sgyrsiau hynny, ond wrth gwrs bydd y ddarpariaeth yn dod drwy law'r ysgol, felly mae hynny i gyd eisoes yn hysbys, ond mae e wedi ei grynhoi mewn llythyr eto ddoe i benaethiaid. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny o ddefnydd ymarferol yn ein hysgolion ni.
O ran y cynlluniau ehangach ar gyfer arholiadau, wrth gwrs, mae Cymwysterau Cymru wedi datgan eisoes beth yw'r trefniadau wrth gefn. Maen nhw ar gael ar eu gwefan nhw ac ati. Felly, beth ro'n i eisiau ei sicrhau bod pobl yn ei ddeall ddoe yw bod y Llywodraeth yn parhau i ddweud mai arholiadau fydd gyda ni yr haf sy'n dod, oni bai ei bod hi, fel dŷch chi'n ei ddweud, yn amhosib o ran logistics ac ati i'w cynnal nhw, ond dydyn ni ddim yn disgwyl mai hynny fydd yn digwydd.
Mae'n bwysig, dwi'n credu, ein bod ni'n edrych ar arholiadau'r haf yma mewn cyd-destun penodol. Maen nhw'n cael eu teilwra'n benodol ar gyfer yr amgylchiadau, i gymryd mewn i ystyriaeth yr aflonyddwch sydd wedi bod. Bydd y graddio yn wahanol, i gymryd hynny mewn i ystyriaeth; bydd cynnwys yr arholiadau yn llai, er mwyn cymryd hynny mewn i ystyriaeth.
Yr hyn sy'n bwysig iawn, dwi'n credu, yw ein bod ni'n ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi dilyniant myfyrwyr sy'n gwneud TGAU. Beth bynnag yw'r opsiynau sy'n dod nesaf, dŷn ni eisiau eu cefnogi nhw i wneud hynny. Mae'r gyllideb y gwnes i ei datgan cyn y Nadolig yn cefnogi ysgolion a cholegau i gael trafodaethau personol gyda myfyrwyr yn y blynyddoedd hynny, fel bod gyda nhw ystod o opsiynau sy'n gweddu i'w hamgylchiadau personol nhw. A hefyd, dwi eisiau sicrhau bod pobl sy'n gwneud arholiadau lefel A, er enghraifft, yn cael yr un cyfle ag unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Mae hynny'n sefyllfa gystadleuol, onid ydy, wrth edrych ar lefydd prifysgol—os taw dyna y maen nhw'n bwriadu ei wneud. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod ganddyn nhw gyfle teg, ac mae'r newidiadau i arholiadau yng Nghymru—rŷn ni wedi gallu mynd ymhellach, rwy'n credu, nag unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol oherwydd y ffordd rŷn ni'n strwythuro arholiadau yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio bydd hynny o gysur i fyfyrwyr hefyd.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddatgan, cyn y cwestiwn nesaf, fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf.
Hoffwn droi rŵan at fater anghenion dysgu ychwanegol, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn benodol. Rwyf yn croesawu'n fawr y £18 miliwn ychwanegol y gwnaethoch gyhoeddi yn gynharach y mis hwn ar gyfer rhoi rhagor o gymorth i blant a phobl ifanc y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt, ac i helpu lleoliadau addysgol wrth i ddysgwyr ddechrau symud i'r system ADY newydd.
Fodd bynnag, er bod arian ar gael, a bod angen i'r awdurdodau ddarparu cymorth yn yr iaith y gofynnir amdani yn y Ddeddf, mae yna brinder dirfawr o athrawon arbenigol sy'n siarad Cymraeg i ddiwallu'r anghenion. Yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, er enghraifft, tynnwyd fy sylw i'n ddiweddar at y ffaith nad oes un dosbarth ADY arbenigol yn Rhondda Cynon Taf drwy gyfrwng y Gymraeg ar y funud, tra bod mwy na 40 yn y Saesneg. Hyd yn oed yn yr ymgynghoriad presennol, dim ond un dosbarth uwchradd mae'r cyngor yn bwriadu ei sefydlu ar gyfer yr holl sir.
Felly, hoffwn ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ymarferol i sicrhau bod y ddarpariaeth ADY angenrheidiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gwarantu i'r rhai sy'n gofyn amdani lle bynnag y byddant yn byw yng Nghymru?
Wel, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, hynny yw, ynghyd â darparu sail gyfreithiol newydd ar gyfer y diwygiadau, mae angen sicrhau bod yr adnoddau ar gael ar lawr gwlad i allu diwallu'r angen ac i baratoi ac i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, a bod hynny hefyd yn elfen sydd yn golygu hyfforddiant ar gyfer athrawon i ddarparu'r gwasanaethau hynny.
Rŷn ni mewn proses ar hyn o bryd o ehangu ar yr adnoddau sydd ar gael i athrawon er mwyn hyfforddiant personol, ac er mwyn diwallu gofynion y ddeddfwriaeth yn ehangach. Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd eisoes o ran hyfforddiant proffesiynol yn y maes hwnnw ar gyfer athrawon sydd yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a darparu gwasanaethau ehangach yn y Gymraeg. A byddwn i eisiau sicrhau bod yr adnoddau hynny i gyd ar gael, fel maen nhw eisoes yn Saesneg, ac yn y Gymraeg, ond, yn sicr, mae hwn yn faes sydd yn bwysig iawn i ni, a byddaf yn edrych i weld ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ddiwallu'r angen, nid yn unig yn y Saesneg ond yn Gymraeg hefyd.
Cwestiwn 3, Peredur Owen Griffiths.
3. A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd? OQ57510
Ie, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Rhagfyr, yn amlinellu’r gweithgareddau a’r blaenoriaethau sy’n gysylltiedig â chyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, gan adlewyrchu’r cytundeb a wnaethpwyd gyda Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Mae ein ffocws pendant yn awr ar weithio gyda'n partneriaid i gynyddu gallu ysgolion i gyflwyno'r ddarpariaeth estynedig hon.
Diolch, Weinidog. Un o brif rannau’r cytundeb cydweithredu oedd y polisi prydau ysgol am ddim, a fydd o fudd i gymaint o deuluoedd. Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi helpu i wireddu hyn o fis Medi eleni ymlaen. Mae gan y polisi hwn oblygiadau mawr a chadarnhaol i gadwyni cyflenwi lleol a'r frwydr yn erbyn tlodi plant. Bydd hefyd yn golygu cost cyfalaf i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn gallu darparu ar gyfer y galw ychwanegol o baratoi a gweini prydau ysgol ychwanegol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y cronfeydd cyfalaf yn eu lle i baratoi ffreuturau ysgolion, a’n bod ar y trywydd cywir i hwyluso’r polisi blaenllaw hwn yn y cytundeb cydweithio?
Rydym eisoes wedi darparu pecyn cychwynnol o gyllid—nid y pecyn mwy y mae’n ei ddisgrifio—i awdurdodau lleol, i ddechrau ar y gwaith cynllunio ar gyfer cyflwyno’r lefel newydd o hawl, sydd, fel y mae’n amlwg yn gwybod, yn estyniad sylweddol iawn i’r cymhwysedd presennol, a bydd hynny’n galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda ni dros y misoedd nesaf.
Mae rhywfaint o’r gwaith hwnnw’n ymwneud â gweithio gyda’u partneriaid eu hunain, y partneriaid cyflenwi, ac eraill y mae wedi cyfeirio atynt yn ei gwestiwn, ond hefyd archwilio’r gweithlu, i archwilio’r seilwaith presennol, a beth arall sydd angen ei wneud wedyn mewn ysgolion penodol er mwyn cyflwyno’r ddarpariaeth estynedig, ac yn gyffredinol, i ystyried y goblygiadau ymarferol sy’n gysylltiedig â newidiadau yn y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Byddem i gyd yn hoffi i hwnnw fod ar waith cyn gynted â phosibl, ond fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, mae yna gyfres o bethau ymarferol y mae angen iddynt ddigwydd er mwyn i hynny gael ei gyflwyno'n ddidrafferth. Fel y gŵyr, bydd peth o’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud rhwng nawr a mis Medi, gan alluogi’r gyfran gyntaf i gael ei chyflwyno bryd hynny, a bydd ysgolion yn amlwg yn gwneud gwaith parhaus i sicrhau bod y capasiti yno yn y system i gyflawni’r gyfran nesaf yn y flwyddyn ganlynol, ond mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol dros yr wythnosau nesaf i fapio’r hyn y mae hynny’n ei olygu ar lawr gwlad o ran capasiti ychwanegol a threfniadau ychwanegol mewn perthynas â gweithlu a seilwaith.
Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar ag aelodau o Undeb Amaethwyr Cymru ym marchnad da byw Mynwy. Yn ystod y cyfarfod, mynegwyd pryderon ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng ngoleuni datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y dylem fwyta llai o gig. Dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies, fod gwerthoedd cynaliadwyedd uchel cig coch a llaeth Cymru yn golygu y gall defnyddwyr barhau i fwynhau'r cynhyrchion hyn gan wybod nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Weinidogion i sicrhau bod gwerth maeth uchel i brydau ysgol, gyda'r flaenoriaeth i gynnyrch lleol o ansawdd da o ffermydd Cymru? Diolch.
Wel, mewn gwirionedd, mae gan lawer o'n hawdurdodau lleol drefniadau ar waith eisoes i gaffael cynnyrch lleol yn y ffordd y mae'n ei bwysleisio, ac mae ei chwestiwn mor bwysig i lawer o'n cynhyrchwyr bwyd, ac rydym eisiau adeiladu ar yr arferion hyn ledled Cymru. Felly, os gall ysgolion ac awdurdodau lleol sefydlu trefniadau caffael costeffeithiol gyda chynhyrchwyr bwyd lleol, byddwn yn sicr yn eu hannog i wneud hynny. Rwy'n credu bod manteision gwneud hynny'n amlwg i ni i gyd, onid ydynt. Byddwn i gyd yn rhannu'r flaenoriaeth honno. Rwy'n credu y bydd meithrin arferion ac agweddau bwyta'n iach yn ifanc yn esgor ar fanteision helaeth. Mae dewisiadau bwyd a ffurfir pan ydym yn ifanc yn para dros weddill ein taith drwy fywyd, a chredaf y bydd cynnig pryd ysgol iach i bob plentyn oedran cynradd yn rhad ac am ddim yn dileu'r stigma sydd weithiau'n gysylltiedig â chael prydau ysgol am ddim, a chredaf y bydd hynny, ochr yn ochr â'r gallu i ddarparu mwy byth o fwyd lleol yn ein hysgolion, yn gyfle gwych.
Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi prydau ysgol am ddim ers amser maith mewn ysgolion cynradd gwladol, nid yn unig i gefnogi ffermwyr lleol, ond yn bwysicach i mi, i wella iechyd plant a gwella cyrhaeddiad addysgol. Nid yw plant llwglyd yn perfformio'n dda iawn. Ond fy nghwestiwn yw: beth yw'r gwariant cyfalaf amcangyfrifedig sy'n angenrheidiol i gynyddu capasiti ceginau ysgol a neuaddau bwyta? Ac oddeutu faint o staff cegin ychwanegol y bydd eu hangen? Rwy'n gwybod na fydd hyn i gyd yn digwydd mewn blwyddyn, ond os ydych yn gobeithio ei wneud dros y pedair blynedd nesaf, am faint rydych chi'n sôn?
Dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol i fapio'r angen mewn perthynas â seilwaith a hefyd mewn perthynas â'r gweithlu, a bydd hynny'n ein galluogi i grisialu'r niferoedd hynny wedyn. Ond mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, ac rydym wedi darparu cyllideb i'n partneriaid awdurdodau lleol i'w cefnogi i weithio gyda ni i wneud hynny.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol ar gyfer addysg bellach? OQ57521
Gwnaf, yn sicr. Mae cyllideb 2022-23 yn gweld cyllid ôl-16 ar ei lefel uchaf ers peth amser ac yn cynrychioli’r cynnydd mwyaf, mewn gwirionedd, yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cydnabod, i bob pwrpas, y cynnydd yn y niferoedd sy’n aros mewn addysg ôl-16, y cyllid adnewyddu a diwygio ôl-16 parhaus, ac yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cynnig y cymorth gorau posibl yn dilyn effaith y pandemig.
Weinidog, mae addysg bellach yn parhau i ddarparu addysg ac hyfforddiant o'r radd flaenaf ledled Cymru ac yn fy marn i, mae'n rhoi gwerth da am arian cyhoeddus. Cyfarfûm â Choleg Gwent yn ddiweddar gyda Jayne Bryant i drafod eu cynlluniau i adleoli eu campws yn ninas Casnewydd i ganol y ddinas, ochr yn ochr â champws Prifysgol De Cymru, a fyddai'n annog cydweithredu da a dilyniant, a byddai hefyd yn rhoi addysg a hyfforddiant yng nghanol y ddinas, ac yn fy marn i, yn gwneud pawb yn ymwybodol o'r posibiliadau a'r cyfleoedd sydd ar gael ar gampws o'r radd flaenaf. Felly, byddai'n dda iawn i ddysgwyr lleol ac yn dda iawn i gyflogwyr lleol. Felly, Weinidog, a wnewch chi barhau i weithio'n agos gyda Choleg Gwent i wireddu'r prosiect pwysig hwn, o gofio'r holl fanteision y byddai'n eu cyflawni?
Diolch i John Griffiths am hynny. Mae Coleg Gwent yn enghraifft dda iawn o'r hyn roeddwn yn ei ddweud am ba mor bwysig yw addysg bellach, ac mae'r cyfraniad y mae colegau fel Coleg Gwent yn ei wneud i'n tirwedd addysg ac i ddiwallu ein hanghenion economaidd ehangach yn gwbl anhepgor. Roedd yn awgrymu yn ei gwestiwn y bydd trafodaethau gyda phrifysgolion ynghylch cydweithio, a bydd yn gwybod mai bwriad y ddeddfwriaeth rydym yn ceisio ei thywys drwy'r Senedd ar hyn o bryd mewn perthynas ag addysg ôl-16 yn gyffredinol yw dileu rhai o'r rhwystrau, os mynnwch, i gydweithio mewn pob math o wahanol ffyrdd, rhwng addysg uwch ac addysg bellach, rhwng addysg bellach a mathau eraill o ddarparwyr, fel y gallwn annog ein sefydliadau i gydweithio fel y maent yn dewis gyda sefydliadau eraill er budd ein dysgwyr.
Weinidog, mae nifer yr athrawon addysg bellach wedi gostwng dros 2 y cant rhwng 2020 a 2021. Weinidog, gyda'r arian newydd a gyhoeddwyd, sydd i'w groesawu, pa strategaeth sydd gennych ar waith i wrthdroi'r duedd hon?
Rydym eisiau sicrhau bod y gweithlu'n gallu diwallu anghenion ein dysgwyr, fel y mae ein holl golegau. Mae'r cyllid—[Anghlywadwy.]—eleni, fel y dywedais, wedi ein galluogi i adfer, efallai, rhai o'r cyllidebau mwy heriol rydym wedi'u gweld yn y gorffennol. Mae'n adlewyrchu'r galw cynyddol am addysg bellach, y byddwn i gyd yn ei groesawu, ac wrth gwrs yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r gweithlu fel bod y gofynion hynny'n cael eu bodloni. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr yn y dirwedd ôl-16 mewn amrywiaeth o ffyrdd, a gobeithio y bydd setliad y gyllideb yn cynorthwyo colegau addysg bellach i wneud hynny.
Cwestiwn 5, Janet Finch Saunders.
Rwy'n credu ein bod yn cael trafferth eich clywed. Iawn, ewch ymlaen.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y pandemig ar y bwlch cyrhaeddiad?
Y—. Maddeuwch imi.
Nid wyf yn credu mai dyna'r cwestiwn sydd wedi'i gyflwyno yma.
A allwch chi ofyn cwestiwn 5, Janet Finch-Saunders?
Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r cwestiwn hwnnw.
O'r gorau, popeth yn iawn. Mae'r cwestiwn ar yr agenda ac wedi'i gyflwyno yn eich enw chi.
Ni ofynnwyd cwestiwn 5 [OQ57493].
Symudwn at gwestiwn 6, Joel James. Iawn, nid wyf yn credu fy mod yn gweld Joel James yma. Felly, ni ellir gofyn cwestiwn Joel James. Ydw, gallaf eich gweld yn awr, Joel James. Nid wyf yn gwybod beth ddigwyddodd.
Nid oeddwn yn gallu dadfudo fy meicroffon, mae'n ddrwg gennyf, ac yna sylweddolais fod fy nghamera wedi'i ddiffodd. Mae'n ddrwg gennyf.
O'r gorau, iawn. Gofynnwch eich cwestiwn, Joel.
Diolch, Lywydd.
6. Sut y bydd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gwella cynwysoldeb i bob dysgwr? OQ57519
Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod pedwar diben y cwricwlwm newydd yn datblygu i fod yn weledigaeth a dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth gyflawni'r dibenion hyn, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys ni waeth pa rwystrau i ddysgu y maent yn eu hwynebu.
Diolch. Fel y gwyddoch, ac fel rydych wedi'i esbonio, Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yw'r ddeddfwriaeth sy'n nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac ar yr wyneb mae ganddo nodau cynhwysol iawn, gan nodi er enghraifft yn adran 28:
'Rhaid gweithredu r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—
'(a) sy n galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
'(b) sy n sicrhau addysgu a dysgu sy n cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl,
'(c) sy n addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,
'(d) sy n ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac
'(e) sy n sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.'
Yn rhan gyntaf y Ddeddf, mae'n cyfeirio at bob dysgwr ac yn nodi y bydd anghenion dysgwyr yn cael sylw o fewn y cwricwlwm. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn mynd rhagddi wedyn i ddweud, ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, nad yw'r adrannau hyn, 27 i 30, yn berthnasol iddynt hwy. O ganlyniad, mae'r ddeddfwriaeth sy'n anelu at fod yn berthnasol i bob dysgwr, ac sy'n sôn yn benodol am ADY, yn dod yn amherthnasol wedyn neu'n cael ei haddasu ar gyfer dysgwyr ag ADY, gyda'r perygl o fod yn waharddol a datgelu gwerth diffygiol i'r dysgwyr hyn. Gyda hyn mewn golwg, a all y Gweinidog egluro pam nad yw adrannau 27 i 30, sy'n amlinellu sut y mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob dysgwr arall, yn berthnasol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? Diolch.
Mae ganddo'r fantais o fod â'r ddeddfwriaeth o'i flaen gydag adrannau penodol, rwy'n tybio. Ond yn amlwg, lluniwyd y ddeddfwriaeth i weithio law yn llaw gyda'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ac felly mae'r ddwy Ddeddf yn dod at ei gilydd i ddarparu mynediad at y cwricwlwm, a chredaf fod y ffocws ar y pedwar diben a'r cynnydd sy'n sail i'r syniad o'r cwricwlwm yn cynnig yr hyblygrwydd ychwanegol i allu diwallu anghenion pob dysgwr unigol. Rydym wedi gweithio gydag ystod eang o bartneriaid o bob sector addysg, gan gynnwys rhwydwaith o arbenigwyr ADY yn amlwg i ddatblygu fframwaith cwricwlwm rydym yn hyderus ei bod yn gwbl gynhwysol ac yn caniatáu i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, gymryd rhan ynddo, i fwynhau eu dysgu a gwneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
Wel, nid yw'r Ddeddf gennyf finnau o fy mlaen ychwaith, ond rwyf o'r farn fod yma gyfle gwych i bob dysgwr—y cwricwlwm newydd yn ogystal â'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Roeddwn eisiau gofyn i chi pa gynlluniau sydd gennych i gyd-leoli pob ysgol arbennig ar safleoedd ysgolion prif ffrwd yn y dyfodol fel y gall pobl ag ADY, o bob lliw a llun, elwa o'r adnoddau ychwanegol a gewch mewn ysgolion prif ffrwd, yn enwedig yn y sector uwchradd, a galluogi'r rhai sydd ag anghenion penodol i gael budd llawn o addysg gron yn unol â'u galluoedd.
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni allu cyd-leoli lle bynnag y gallwn a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar yr ystod ehangaf o brofiadau, adnoddau a chyfleusterau. Fe fydd hi'n gwybod, drwy'r rhaglen adeiladu ysgolion, y rhaglen adeiladu colegau, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd bellach wedi'i hailenwi'n gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, fod cyfleoedd yn codi o bryd i'w gilydd i allu darparu, er enghraifft, ar gyfer cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol penodol ar y campws, ochr yn ochr â darpariaeth prif ffrwd. Felly, mae yna gyfleoedd rydym yn awyddus i fanteisio arnynt am y rhesymau y mae hi'n eu hamlinellu yn ei chwestiwn.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y Gymraeg mor hygyrch â phosibl yng Nghaerdydd? OQ57508
Mae'r fenter iaith a'r Urdd yn weithgar iawn yn y brifddinas drwy gynnig cyfleoedd i ddefnyddio, dathlu a mwynhau'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen i Tafwyl ddychwelyd i'r castell ym Mehefin. Mae hyn oll yn bwysig i gefnogi twf addysg Gymraeg a bod pawb yn gweld y Gymraeg fel iaith fyw.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel un o blant y brifddinas, mae wedi bod yn wych gweld y twf yn y defnydd a chlywed y Gymraeg o'n hamgylch ni wrth gerdded strydoedd y ddinas. Fel dywedoch chi, un o uchafbwyntiau'r calendr cymdeithasol yng Nghaerdydd yw gŵyl Tafwyl, ac roedd e'n golled mawr i beidio â'i gweld hi yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ond roedd hi'n grêt i'w chael hi y llynedd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ati eto eleni. Mae'n denu miloedd ar filoedd bob blwyddyn. Dwi'n ei chofio hi pan oedd hi'n cwrdd ym maes parcio'r Mochyn Du; nawr mae hi'n cwrdd yn y castell ac mae hi wedi mynd yn ŵyl fawr. Ond, gyda llwyddiant, gyda'r 39,000 o bobl sydd nawr yn mynychu Tafwyl, mae yna gostau ychwanegol, ac rŷn ni'n clywed yn gyson, onid ŷn ni, yn y Senedd yma am gostau yn gyffredinol yn cynyddu. Mae Menter Caerdydd yn meddwl y bydd cost cynnal Tafwyl eleni rhyw 20 y cant yn ddrutach o'i chymharu â 2019. Mae'n rhaid i Fenter Caerdydd sicrhau'r arian hwnnw trwy ymgeisio bob blwyddyn am wahanol grantiau, ac mae hynny yn ei hunan yn creu ansicrwydd. Mae'r ffaith bod mynediad am ddim i Tafwyl yn gwneud yr ŵyl mor hygyrch, gyda nifer o rieni a thrigolion di-Gymraeg a phobl o gefndiroedd ethnig Caerdydd yn mynychu'r ŵyl. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod Tafwyl yn parhau yn hygyrch ac yn cael ei hariannu yn addas? Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys ab Owen am y pitsh penodol hwnnw am gyllid pellach i Tafwyl. Rŷn ni'n darparu dros ryw £200,000 y flwyddyn i fenter iaith Caerdydd a menter Bro Morgannwg i'w galluogi nhw i gynnig arlwy o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghaerdydd i deuluoedd ac i blant ac i bobl ifanc ac i'r gymuned gyfan, ac mae hynny i'w ddathlu. Mae'n ffantastig eu bod nhw'n gwneud y gwaith hwnnw ac i weld impact cadarnhaol hynny yn ffyniant yr iaith yn y brifddinas. Fel gwnes i ddweud, rwy'n edrych ymlaen at weld Tafwyl yn dychwelyd i'r castell, nid i faes parcio'r Mochyn Du, fel gwnaeth e ein hatgoffa ni. Mae'n gyfraniad pwysig iawn nid yn unig i'r Gymraeg yn y brifddinas, ond, byddwn i'n awgrymu, yn ehangach na hynny hefyd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Buffy Williams.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y pandemig ar y bwlch cyrhaeddiad? OQ57489
Rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn y misoedd nesaf. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn hollbwysig i’n dyheadau ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr, yr effeithiwyd yn andwyol arno gan COVID. Mae’r cynllun adnewyddu a diwygio, ar y cam hwn, wedi’i gefnogi yn y flwyddyn ariannol hon gan £232 miliwn mewn ymateb i’r pandemig ei hun.
Weinidog, nid yw’r pandemig hwn wedi effeithio’n gyfartal ar ddisgyblion mewn ysgolion. Mae’r cannoedd o filiynau o bunnoedd rydych wedi’i ddyrannu i wneud ysgolion yn ddiogel mewn perthynas â COVID wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond mae grwpiau penodol o ddisgyblion o hyd sydd wedi bod dan fwy o anfantais nag eraill. Rydym wedi gweld galw digynsail am wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau mewn ysgolion gyda disgyblion blwyddyn 11 a disgyblion ôl-16. Mae dychwelyd i’r ysgol wedi bod yn anos i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Bu effaith anghymesur ar addysg disgyblion sy’n byw mewn lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, o ddiffyg offer TG i lefelau uwch o absenoldeb ymhlith athrawon a disgyblion. Deallaf fod y rhain yn broblemau anodd i fynd i’r afael â hwy. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad ydym yn parhau i weld y bwlch cyrhaeddiad yn cynyddu o ganlyniad i’r pandemig, a sut y byddwch yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau bod disgyblion sy’n sefyll arholiadau eleni yn cael chwarae teg?
Wel, i adleisio pwynt yr Aelod, rwy’n rhannu ymrwymiad personol clir iawn i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gau’r bwlch cyrhaeddiad. Rydym wedi gwneud cynnydd yn y gorffennol, ond fel y dywedodd yn ei chwestiwn, ni fydd ein holl ddysgwyr yn ein hysgolion a’n colegau wedi teimlo effaith COVID yn gyfartal, ac felly mae’n ddyletswydd arnom oll i wneud popeth a allwn i gefnogi dysgwyr sydd angen y cymorth mwyaf i gau’r bwlch hwnnw. Rydym wedi cydnabod ers peth amser fod hynny'n debygol o fod yn broblem, yn debygol o fod yn ganlyniad, ac yn wir, mae tystiolaeth yn dweud wrthym bellach ei bod yn debygol iawn mai dyna sydd wedi digwydd. Mae’r cyllid rydym wedi’i ddarparu wedi’i bwysoli’n benodol tuag at ysgolion, gan adlewyrchu, yng nghyd-destun y cwestiwn hwn, nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fel bod y cyllid hwnnw’n cael ei gydbwyso yn y modd hwnnw, i ddarparu cymorth ychwanegol.
Bydd yn gwybod bod y—. Soniodd am yr her ddigidol yn ei chwestiwn. Bydd yn gwybod ein bod wedi darparu cynnydd eithaf sylweddol nid yn unig o ran argaeledd offer cyfrifiadurol ond hefyd y cysylltedd sy’n hanfodol i allu cyflawni hynny. Unwaith eto, mae hynny wedi bod yn her i deuluoedd sy'n byw dan anfantais ac felly rydym wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau bod y gwaith a wnawn yn adlewyrchu hynny. Mae’r Sefydliad Polisi Addysg, wrth gymharu gwaith pedair Llywodraeth y DU, nid yn unig wedi dweud ein bod ni yng Nghymru wedi buddsoddi mwy yn ein disgyblion, ond ein bod wedi gwneud hynny mewn ffordd sy’n fwy blaengar ac yn adlewyrchu anghenion disgyblion difreintiedig neu agored i niwed yn well.
Mewn perthynas ag arholiadau a’i chwestiwn, rwy’n gweithio gyda Cymwysterau Cymru. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda CBAC a hwythau. Mae fy nghyfarfod nesaf gyda hwy yr wythnos nesaf, i drafod beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi dysgwyr yn benodol drwy’r broses asesu, ac adlewyrchu, fel y dywed yn ei chwestiwn, y ffaith nad yw pawb wedi cael yr un profiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd ffiniau graddau'n adlewyrchu’r tarfu a welsom yn ein hysgolion, ond hoffwn sicrhau, yn ogystal â hynny, er enghraifft, fod proses apelio deg a hygyrch ar gael hefyd i gyd-fynd â’n canlyniadau arholiadau er mwyn sicrhau y gellir ystyried y materion hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Does dim cwestiynau amserol heddiw.
Ac felly'r eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf o'r rheini heddiw gan Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Ddydd Llun yr wythnos hon oedd Diwrnod Rhyngwladol Addysg, diwrnod sy’n dathlu rôl addysg o ran hyrwyddo heddwch a datblygu ar draws y byd. Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg eleni unwaith eto'n disgyn yng nghanol pandemig COVID-19 ac, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch y sector yng Nghymru am barhau i gydweithio ar lefel ryngwladol er gwaethaf heriau'r pandemig. Mae ColegauCymru er enghraifft yn cefnogi colegau addysg bellach, fel Coleg Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i, i integreiddio gweithgareddau a phartneriaethau rhyngwladol i fywydau beunyddiol dysgwyr a staff, a'r rhaglen gyfnewid ryngwladol i Gymru ar gyfer dysgu yn rhoi pwyslais cadarn ar werth rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn y sector addysg bellach yn ogystal ag addysg uwch a chynnig cyfleon sy'n ehangu gorwelion ac yn newid bywydau yma ac ar draws y byd.
Wrth inni ddod mas o'r pandemig, rhaid sicrhau bod pobl o bob oed yn medru gwella eu cyfleon drwy uwchraddio sgiliau neu ail hyfforddi a newid cwrs. Mae'n sector addysg bellach ni a'n haddysg gymunedol yn arbenigwyr ar hyn, ac maen nhw angen y gefnogaeth iawn i gyflawni hyn.
Yn ogystal â COVID, mae gormod o wledydd hefyd yn delio â rhyfeloedd, newyn a thlodi—problemau y mae gwledydd gorllewinol fel Prydain yn aml wedi chwarae rhan ynddynt. Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Addysg felly, dylwn herio ein hunain ac arweinwyr cenhedloedd grymus y byd i sicrhau bod yr amgylchiadau gorau posib ar gyfer addysg—amgylchiadau sy'n hyrwyddo heddwch a chyfiawnder cymdeithasol—yn cael eu meithrin a'u datblygu. Diolch.
Nesaf, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Ddoe, fel y nodwyd gan nifer o fy nghyd Aelodau, roedd y genedl yn dathlu canmlwyddiant yr Urdd. Ac fel y clywsom drwy ganu gwych ein Llywydd, fel rhan o'r dathliadau, bu pobl o bob oed yn rhan o her lwyddiannus yr Urdd i dorri dwy record y byd gan ganu 'Hei Mistar Urdd'.
Imi, roedd yr her yn crynhoi yn berffaith cryfder mawr yr Urdd, sef rôl y sefydliad o ran hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw, hwyliog sy'n perthyn i bawb, rhywbeth sydd yr un mor berthnasol a phwysig heddiw ac yr oedd pan sefydlwyd y mudiad yn ôl yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Fel y nododd mewn rhifyn o Cymru'r Plant yn 1922:
'Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae'r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.'
Nod y mudiad felly oedd amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle roedd y Saesneg yn fwy fwy dominyddu bywydau plant Cymru. Dros y degawdau a ddilynodd, aeth y mudiad o nerth i nerth, gan arwain at sefydlu Eisteddfod yr Urdd a gwersylloedd Llangrannog, Glan Llyn a bellach Caerdydd, ynghyd a llu o weithgareddau, gan gynnwys clybiau chwaraeon, cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith dyngarol. Yn fwy diweddar, chwaraeodd ran blaenllaw o ran cefnogi ffoaduriaid o Afghanistan ynghyd a sicrhau mynediad i bawb i'r Urdd drwy gynnig aelodaeth am £1 i blant a phobl ifanc sy’n derbyn cinio ysgol am ddim.
Wrth i'r mudiad esblygu, mae miliynau o blant a phobl ifanc Cymru wedi elwa o waith y mudiad. Ac oherwydd yr esblygu hwn, mae'r mudiad yr un mor bwysig a pherthnasol heddiw ac yr oedd yn 1922. Dymunwn pob llwyddiant i'r mudiad ar gyfer y 100 mlynedd i ddod.
Ac ar yr un thema, Carolyn Thomas.
Diolch. Wrth inni ddathlu 100 mlynedd o’r Urdd, hoffwn ddarllen detholiad byr o hanes Urdd Gobaith Cymru Treuddyn, sy'n dathlu 100 mlynedd. Ychydig dros 100 mlynedd yn ôl, ysgrifennodd Ifan ab Owen Edwards, o ger y Bala, yn angerddol am gyflwr yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Roedd yn pryderu bod llawer o blant yn darllen ac yn chwarae yn Saesneg. Roeddent yn anghofio eu bod yn Gymry, ac felly cynigiodd sefydlu mudiad newydd i bobl ifanc gyda'r nod o gadw'r iaith yn fyw a gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau iddi. Gwahoddodd Ifan ddarllenwyr Cymru'r Plant, cylchgrawn misol a gynhyrchai i blant, i ymuno â'i fudiad newydd, Urdd Gobaith Cymru, a bu'r ymateb yn well na'r disgwyl. Erbyn diwedd 1922, roedd enwau 720 o aelodau newydd wedi ymddangos yn y cylchgrawn, gyda channoedd yn rhagor yn aros i ymuno.
Merch oedd eu cadfridog cyntaf—cofiwch, roedd hyn yn adlewyrchu arddull yr oes, ychydig ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Marian Williams oedd hi, ac nid oedd, fel y byddai rhywun yn disgwyl, yn dod o galon y Gymru Gymraeg, ond o fferm, Fferm y Llan, yn Nhreuddyn, Sir y Fflint. Marian oedd y gyntaf i drefnu ei haelodau rhestredig yn grŵp a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd unwaith yr wythnos, ac felly, heb unrhyw bwysau, na hyd yn oed unrhyw awgrym gan y sylfaenydd, daeth cangen, neu adran gyntaf yr Urdd i fodolaeth.
Roedd Marian, yn un ar bymtheg oed, yn gerddor dawnus ac yn awdur a oedd wrth ei bodd yn ysgrifennu dramâu i blant. Roedd hi'n angerddol am y mudiad, ac arferai feicio o dŷ i dŷ yn recriwtio aelodau. Cadwai hwy'n brysur yn ymarfer caneuon, dawnsio a llefaru. Ysgrifennodd ddramâu iddynt eu perfformio hefyd. Diolch.
Da iawn, Marian, a phawb arall o aelodau'r Urdd ar hyd y ganrif.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus i Gymru, a dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i'w wneud y cynnig hwnnw—Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM7893 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn benodiad y Goron a wneir ar enwebiad y Senedd o dan Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r Pwyllgor Cyllid, fel y pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â’r ombwdsmon, wedi chwarae rhan lawn drwy gydol y broses o recriwtio'r ombwdsmon newydd, ac mae manylion llawn am hyn wedi’u hamlinellu yn adroddiad y pwyllgor.
Rwy’n falch o ddweud bod y broses recriwtio wedi denu llawer o ymgeiswyr rhagorol ac mae’n bleser mawr gennyf wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i enwebu’r ymgeisydd a ffefrir, Michelle Morris, i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nesaf Cymru gan Ei Mawrhydi.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’r ombwdsmon presennol, Nick Bennett. Roedd Nick i fod i gwblhau ei gyfnod yn y swydd ar 31 Gorffennaf 2021, ond fe’i penodwyd i barhau yn y rôl ar sail dros dro am wyth mis arall tan 31 Ionawr eleni. Hoffwn ddiolch i Nick am ei gyfraniad gwerthfawr yn ystod ei gyfnod fel ombwdsmon, ac am barhau yn y rôl ar sail dros dro, ac yn arbennig, am ei waith ar ddatblygiad Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, sy’n yn rhoi pwerau i'r ombwdsmon ymchwilio i gwynion ar eu liwt eu hunain a phennu gweithdrefnau cwyno enghreifftiol. Bydd hyn, heb os, yn gadael gwaddol parhaol.
Mae’n werth nodi hefyd mai'r ombwdsmon nesaf fydd y cyntaf i gael eu penodi ers i Ddeddf 2019 ddod i rym. Hoffwn ddiolch i’n Pwyllgor Cyllid blaenorol yn y pumed Senedd, a oedd yn cynnwys Aelodau o’r Senedd bresennol, am ei chyflwyno a sicrhau ei thaith lwyddiannus. Mae’n enghraifft o’r Senedd yn arwain y ffordd a defnyddio dull ‘gwnaed yng Nghymru’ o wella gwasanaethau ac mae'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono fel pwyllgor ac fel deddfwrfa.
Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae’n hanfodol bod proses ddethol y pwyllgor yn bodloni disgwyliadau pobl Cymru o ran cadernid a thryloywder. Mae hefyd yn hanfodol bod y broses yn cael ei chynnal mewn ffordd sy’n ei datgysylltu oddi ar unrhyw awgrym o ymyrraeth wleidyddol. O’r herwydd, gwnaethom sicrhau bod dau grŵp plaid yn cael eu cynrychioli ar y panel penodi. Yn ymuno â mi oedd fy nghyd-aelod o’r Pwyllgor Cyllid ac aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Rhianon Passmore. Ymunodd Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Manon Antoniazzi, a Peter Tyndall, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Gwybodaeth a Chomisiynydd Gwybodaeth Amgylcheddol Iwerddon â ni hefyd.
Ar ôl y cyfweliadau a dewis Michelle Morris fel yr ymgeisydd rydym yn ei ffafrio, aeth Michelle gerbron y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol ar gyfer gwrandawiad cyhoeddus cyn-enwebu ar 16 Rhagfyr 2021.
Mae’r pwyllgor yn credu’n gryf fod gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau craffu agored a thryloyw ar yr ymgeisydd a nodir fel yr un mwyaf addas o’r broses recriwtio. Mae hefyd yn rhoi hyder ychwanegol i’r pwyllgor, ac yn y pen draw, i'r Senedd, fod yr ymgeisydd a ffefrir yn addas i’w enwebu i’w penodi gan Ei Mawrhydi.
Yn ystod y gwrandawiad cyn enwebu, roedd aelodau’r pwyllgor yn awyddus i holi’r ymgeisydd a ffefrir am ei phrofiad blaenorol a’i dyheadau ar gyfer datblygu gwaith yr ombwdsmon yng Nghymru. Daeth y pwyllgor i’r casgliad unfrydol mai Michelle yw’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd hon.
Gofynnaf felly i’r Senedd dderbyn y cynnig i enwebu Michelle Morris i’w phenodi gan Ei Mawrhydi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y cynnig yna. Does neb wedi datgan diddordeb i gyfrannu i'r ddadl. Dwi'n cymryd, felly, nad yw'r Cadeirydd eisiau ymateb gydag unrhyw sylwadau cloi, felly fe wnaf i ofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36. A gaf i ddymuno pob llwyddiant i'r ombwdsmon yn ei gwaith wrth i'r cynnig fynd yn ei flaen?
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enwau Alun Davies, Hefin David, Jack Sargeant, Rhys ab Owen a chefnogwyd gan Carolyn Thomas.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, a dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig yma. James Evans.
Cynnig NDM7880 James Evans, Jack Sargeant, Samuel Kurtz, Natasha Asghar, Rhys ab Owen, Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor
Cefnogwyd gan Paul Davies, Peter Fox
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018-19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004-05.
2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.
3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;
b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;
c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, a hoffwn wneud y cynnig yn enwau fy nghyd-gyflwynwyr a minnau.
Mae’r ddadl hon yn fater y mae pob Aelod o'r Senedd yn ymwybodol iawn ohono. Mae trigolion yn ein hetholaethau yn cysylltu â ni drwy’r amser ynglŷn â'u trafferthion mewn perthynas â thrafnidiaeth leol ac yn gofyn inni beth y gallwn ei wneud i wella’r gwasanaethau. Roeddwn wedi syfrdanu gyda'r gefnogaeth eang, drawsbleidiol i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n dangos aeddfedrwydd y Senedd hon, ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd er lles pawb yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig o weld gwelliant i’r cynnig hwn, ac fe soniaf am hynny yn nes ymlaen. Gobeithiaf y gallwn rannu syniadau gyda’n gilydd heddiw er mwyn mynd ati i wella bywydau a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae byw yng nghefn gwlad Cymru, fel rwyf finnau a llawer o bobl eraill, yn sicr yn fendith. Mae'n lle sydd heb ei gyffwrdd gan lawer o gymdeithas fodern, ac mae'n dirwedd y mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod i'w hedmygu. O harddwch Bannau Brycheiniog a chwm Elan yn fy etholaeth i arfordir Sir Benfro, hyd at fynyddoedd Eryri ac ar hyd arfordir prydferth gogledd Cymru, mae ein gwlad yn un wledig iawn, ac mae'n rhaid i wleidyddion o bob lliw gofio bod gan y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghenion tra gwahanol i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd mwy trefol.
Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched ymgyrch o'r enw 'Get on Board' i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau bysiau lleol. Fe wnaethant gomisiynu adroddiad i archwilio effeithiau’r toriadau sylweddol i wasanaethau bysiau lleol rydym wedi’u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n dangos mai oddeutu un o bob pump o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig sy'n gallu defnyddio gwasanaeth bysiau aml a dibynadwy; dywedodd 25 y cant o’r ymatebwyr fod toriadau i wasanaethau bysiau wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig; a dywedodd 19 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi'i effeithio'n negyddol. Mae toriadau i wasanaethau bysiau gwledig hefyd wedi golygu lleihad yn y gallu i gysylltu â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, dywedodd 72 y cant fod eu dibyniaeth ar ddefnyddio car a’u dibyniaeth ar deulu a ffrindiau wedi cynyddu, a hynny ar draul ein hinsawdd fregus.
Yn 2004-05, gwnaed 129 miliwn o deithiau bws yng Nghymru, o gymharu â 101 miliwn yn unig yn 2018-19. Mae hyn yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau am hyn: gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth, mwy o fynediad at geir a thrafnidiaeth breifat, ac amharodrwydd, weithiau, i aros am drafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau. Ond mae pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus fel eu hunig ddull teithio yn haeddu gwasanaeth rheolaidd, cryf sydd wedi'i ariannu'n dda. Nid oes gan oddeutu 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, ac nid oes gan 23 y cant o bobl Cymru gar neu fan at eu defnydd. Felly, mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy yn hollbwysig.
Mae cymunedau fel Trecastell yng ngorllewin fy etholaeth wedi gweld eu gwasanaeth bysiau'n lleihau'n wasanaeth tacsis cyn COVID, a dim gwasanaeth o gwbl bellach, a hynny ar un o gefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm ag aelodau Sefydliad y Merched yn Llanddewi-yn-Hwytyn, lle daeth y gwasanaeth bysiau i ben yn 2015, ar ôl i ysgol leol gau. Maent bellach wedi eu hynysu mewn ardal wledig, yn dibynnu ar ffrindiau a chymdogion i'w cludo i'r dref agosaf i siopa a chael y pethau arferol o'r siopau.
Mae’r data’n glir: gŵyr pob un ohonom fod cymdeithasu a gallu cyfarfod â phobl yn cadw ein hiechyd meddwl yn gryf ac yn atal teimladau o fod yn ynysig ac yn unig. Mae’r bobl yn y cymunedau hynny’n haeddu cael gwasanaeth sicr sy’n gynaliadwy yn hirdymor, a dylai cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy’n dra chyfarwydd â'r maes hwn gan fy mod yn arfer bod yn aelod cabinet o'r cyngor mwyaf gwledig yng Nghymru. A phe gellid gwarantu cyllid ar gyfer hirdymor, byddai’n rhoi ymdeimlad gwirioneddol o sicrwydd i’r cyngor a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac yn eu helpu i gynllunio'n hirdymor, ac yn ein helpu ar y llwybr tuag at sero net.
Rydym hefyd yn gweld moderneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig. Mae cerbydau allyriadau sero yn cael eu cyflwyno ar gyfer amryw o feysydd trafnidiaeth sector cyhoeddus. Mae’r newid yn hanfodol i sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ag aer glân i’n dinasyddion ledled y wlad.
Sylwais fod fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ac eraill wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n drueni, gan ei fod yn gwneud y cynnig yn rhy wleidyddol pan nad oes angen iddo fod felly. Maent yn beio Margaret Thatcher a'r Llywodraeth Geidwadol am ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau amser maith yn ôl ym 1986, sydd bron i 40 mlynedd yn ôl. Os oedd dadreoleiddio mor ofnadwy, pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown wrthdroi’r penderfyniadau hyn rhwng 1997 a 2009? Ac rwy'n gobeithio y gall y bobl sydd wedi cyflwyno’r gwelliant ateb hynny pan fyddant yn gwneud eu cyfraniadau.
I gloi, edrychaf ymlaen at glywed y ddadl o bob rhan o’r Siambr heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac mae angen iddo fod uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb ledled Cymru. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Alun Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ef ac enwau Hefin David, Jack Sargeant a Rhys ab Owen. Alun Davies.
Gwelliant 1—Alun Davies, Hefin David, Jack Sargeant, Rhys ab Owen
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma, er bod yn rhaid imi ddweud wrtho fod dau beth rwy'n anghytuno â hwy yn ei gyflwyniad. Mae'r cynnig ei hun yn un y credaf y bydd y rhan fwyaf ohonom, a llawer ohonom, yn cytuno yn ei gylch, ond nid oes pwynt—ac fel Ceidwadwr, wrth gwrs, fe fyddwch yn cytuno â mi—arllwys arian i mewn i wasanaeth cyhoeddus nad yw'n gweithio. Mae angen diwygio, yn ogystal â mwy o arian. Ar hyn o bryd, mae cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru gyfan, a’r un peth y mae pob un ohonom yn cytuno yn ei gylch yw na fyddai’r arian hwnnw, pe baem yn ei ddyblu, yn ddigon o hyd, ac ni fyddai'n gweithio.
Pan oeddwn yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o’r pethau a welais oedd bod pobl, ni waeth ble yn y rhanbarth hwnnw roeddent yn byw, eisiau yr un pethau, nid pethau gwahanol. Nid yw rhywun yng nghefn gwlad Cymru eisiau gwasanaeth cyhoeddus gwahanol i rywun sy'n byw yng nghanol Caerdydd. Yr hyn sy'n digwydd yn rhy aml o lawer yw nad ydynt yn cael y gwasanaethau cywir. Fel y gwelsom dro ar ôl tro—. Cyflwyniad gwych i’r lle hwn, pan gefais fy ethol gyntaf, oedd ymchwiliad a wnaethom ar amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru, a’r hyn a welsom, yn union fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, oedd bod problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn golygu nad oeddent yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus mewn pob math o wahanol ffyrdd, ond roedd pobl eisiau yr un gwasanaethau, y gwasanaethau rwy'n siarad â phobl amdanynt heddiw ym Mlaenau Gwent. Ac ni chredaf mai ceisio creu gwrthdaro rhwng pobl mewn gwahanol rannau o'r wlad yw'r ffordd iawn o ymdrin â'r pethau hyn. Mae angen inni gytuno ar y gwasanaethau y mae pobl am eu gweld yn cael eu darparu, boed eu bod yn byw yn y pentref lleiaf ym Mhowys neu ynghanol ein prifddinas. Mae'n rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny, a'r ffordd rydych yn darparu'r gwasanaethau hynny yw'r pwynt hollbwysig dan sylw yma, nid y gwasanaethau eu hunain.
A’r hyn a wnaeth Thatcher ym 1986 oedd torri’r cysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Aelod ei hun wedi’i ddisgrifio fel gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny, gan mai'r hyn a ddigwyddodd gyda phreifateiddio—. Ni ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, a dyna’r pwynt allweddol: pe bai hwn yn bolisi mor bwysig ac yn ddatblygiad mor arloesol mewn polisi cyhoeddus, byddai Llundain wedi profi'r un peth â mannau eraill, ond ni wnaethant hyn yn Llundain am eu bod yn gwybod na fyddai'n gweithio, ac nid yw wedi gweithio ers hynny. Gwelsom y tarfu a'r toriadau i wasanaethau o ganlyniad i hynny.
Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ariannu awdurdodau lleol yn iawn, a chredaf fod hwn yn un maes polisi lle gallai'r cyd-bwyllgorau corfforaethol weithio'n dda iawn mewn gwirionedd, gydag awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau ar draws rhanbarth ehangach. Yn sicr, credaf y gallai hynny fod yn wir yn y rhan o Gymru rwy'n ei chynrychioli yn awr yng Ngwent. Ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar strwythur y diwydiant, gan ein bod yn rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd i mewn i ddiwydiant nad yw’n gweithio. Nid yw'n synhwyrol parhau i ariannu diwydiant nad yw'n gweithio, mewn ffordd, ac ariannu gwasanaethau heb eu diwygio. Ac i mi, mae ailreoleiddio bysiau'n gwbl allweddol. Mae’r Gweinidog yn y maes hwn wedi gwneud ymrwymiadau dro ar ôl tro nid yn unig i gynnig gwasanaethau cyhoeddus mwy cynhwysfawr, ond gwasanaethau cyhoeddus aml-ddull hefyd. Yr unig ffordd y gallwch gyflawni hynny yw drwy reolaeth gyhoeddus a rheoleiddio cyhoeddus ar y gwasanaethau hynny.
Felly, mae angen inni allu gwneud hynny. Mae arnom angen yr offer, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn dweud eu bod yn gweithio gyda llywodraeth leol a chyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod gennym yr offer ar gael i ni i sicrhau bod y pentrefi a gynrychiolir gan yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a’r trefi a gynrychiolir gennyf fi yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ar yr adegau y mae angen y gwasanaethau hynny arnynt, ond mae hyn yn ymwneud hefyd ag ansawdd y gwasanaethau a gynigir. Gŵyr pob un ohonom, yn aml iawn—. Ac rwyf wedi gweld i lawr yng Nghaerdydd yn ddiweddar fod fflyd gyfan o fysiau trydan newydd yno. Mae'n wych. Mae'n wych i bobl Caerdydd. Rwyf am weld hynny ym Mlaenau Gwent, a pham na allaf weld hynny ym Mlaenau Gwent? A pham na ddylech gael hynny yng Ngheredigion neu Frycheiniog a Sir Faesyfed neu Gonwy? Pam na ddylech gael mynediad at wasanaeth o'r un safon ym mhob rhan o Gymru ag sydd gennych ynghanol Caerdydd? Dyna ddylai fod yn uchelgais i'r Llywodraeth.
A’r hyn y dylem ei wneud, y prynhawn dydd Mercher yma, wrth gyflwyno’r dadleuon hyn a chraffu ar y Llywodraeth, yw dweud: pa offer polisi rydych yn mynd i’w defnyddio i gyflawni hynny? Ac nid oes offeryn polisi ar gael i'r Llywodraeth, ac eithrio ailreoleiddio, ac eithrio rheolaeth gyhoeddus, sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, y mae'r Aelod yn dweud ei fod am eu sicrhau.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, ond un peth y gŵyr pob un ohonom am wasanaethau cyhoeddus da o ansawdd uchel yw nad ydynt yn gwneud arian i bobl nad ydynt yn eu defnyddio. Golyga hynny fod angen inni gael rheolaeth gyhoeddus ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod yr ansawdd ar gael i bobl, ac yna, cydgysylltu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny i ddarparu’r gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru y mae’r Aelod wedi’u disgrifio. Ac rwy'n gobeithio, cyn i’r Senedd hon fynd i mewn i’r etholiad nesaf, y bydd gennym Ddeddf bysiau ar y llyfr statud a fydd yn ailreoleiddio’r gwasanaethau ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer y math o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel y gallwn i gyd fod yn falch ohono. Diolch.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, James Evans, am gychwyn y ddadl hon. Mae’n ffaith bod 85 y cant o dir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu fel tir comin, ac mae'r ffigur hwn yr un fath â Lloegr. Fodd bynnag, tra bo 18 y cant o boblogaeth Lloegr yn byw mewn ardaloedd gwledig, y ffigur yng Nghymru yw 35 y cant. Gwyddom ei bod yn anodd darparu trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol a fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig, ond ni allaf ddeall pam fod hyn yn wir yn 2022. Treuliais dros 10 mlynedd yn Llundain, lle mae bws yn dod bob pump i 10 munud, ac er fy mod yn sylweddoli nad oes gennym yr un nifer o drigolion yng Nghymru ag yn Llundain, ni allaf ddeall pam, mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, ei fod yn un bws yr awr a llawer hirach na hynny mewn rhai achosion. Nid oes amheuaeth fod pobl sy’n byw yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar geir—
Natasha, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ar y diwedd, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd, os yw hynny'n iawn. Nid oes amheuaeth fod pobl sy’n byw yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar geir, gan fod gwasanaethau bysiau yn annigonol, yn anaml neu heb fod yn bodoli. Mae’n ffaith bod diffyg gwasanaeth trafnidiaeth digonol yn tanseilio economïau ardaloedd gwledig, sy'n ei gwneud yn anoddach felly i bobl gael mynediad at swyddi a gwasanaethau. Ceir canlyniadau amgylcheddol hefyd, gyda lefel uchel y defnydd o geir o gymharu ag ardaloedd trefol yn achosi mwy o allyriadau carbon y pen. O’r hyn a welais fy hun i’r hyn a glywaf gan etholwyr ledled de-ddwyrain Cymru, ac o’r llythyrau a gaf o rannau eraill o Gymru, mae dirywiad wedi bod mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae nifer y teithiau bws lleol wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Mae gwasanaethau bysiau gwledig wedi dioddef yn arbennig gan eu bod yn cludo llai o bobl y filltir ac yn llai diogel yn economaidd. O ganlyniad, maent mewn mwy o berygl, boed yn cael eu gweithredu'n fasnachol neu'n cael cymorth.
Cyn y pandemig, roedd cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru i’r rhwydwaith bysiau yn canolbwyntio’n bennaf ar y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn 2014, gwnaethant sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn lle'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau, gyda £25 miliwn o gyllid. Nid yw'r gronfa benodedig hon o £25 miliwn wedi newid ers hynny. Pam? Mae'n amlwg fod y cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn annigonol, ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd.
Gyda dirywiad gwasanaethau bysiau gwledig, mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol wedi ceisio llenwi’r bwlch. Mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn ddarparwyr trafnidiaeth pwysig mewn ardaloedd gwledig, ac ni ellir gwadu bod eu gwybodaeth fanwl am eu marchnad leol a’u brwdfrydedd i wasanaethu eu cymunedau lleol yn amhrisiadwy. Fodd bynnag, ni all trafnidiaeth gymunedol fod yn hunangynhaliol mewn ardaloedd gwledig ac mae'n ddibynnol ar gymorth. Mae llawer o weithredwyr yn fach ac nid oes gan y sector fawr o gapasiti i ateb y galw cynyddol heb fuddsoddiad. Er bod darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn aml yn diwallu anghenion penodol i wasanaethu grwpiau penodol, ni allant ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus wledig gynhwysfawr.
Mae ar Gymru angen strategaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus wledig. Mae poblogaethau ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn hŷn, a bydd y cludiant preifat sydd ar gael at ddefnydd pobl fregus eraill yn gyfyngedig neu heb fod yn bodoli o gwbl. Ni ellir eu gadael i ymdopi â'u sefyllfa ar eu pennau eu hunain. Mae effaith ynysigrwydd cymdeithasol ar iechyd a lles pobl yn sylweddol fel y gwelsom yn ystod y pandemig. Byddai’r strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn cychwyn o’r sail y dylai pob ardal wledig gael gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n darparu mynediad at gyflogaeth, addysg, gwasanaethau iechyd, siopau a gweithgareddau hamdden. Ar sail yr egwyddor hon, mae cyfle i ailfeddwl y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau gwledig, i gydnabod eu pwysigrwydd, a rhoi cyfle i holl drigolion cefn gwlad gael mynediad at wasanaethau.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau gwledig, a darparu’r fframwaith a’r cyllid sydd eu hangen ar gyfer eu cynorthwyo. Mae dros saith mis wedi bod ers i'r Dirprwy Weinidog rewi prosiectau ffyrdd newydd, ac ni allwn eistedd ac aros i rywbeth ddigwydd. Mae angen i rywbeth ddigwydd yn awr i roi sylw i anghenion y cyhoedd, boed yn fwy o gydweithredu â Llywodraeth Llundain, neu'n rhywbeth a grëir gan Lywodraeth Cymru ei hun. Mae angen dull gweithredu cyson a hirdymor, sy'n ystyried yr anghenion presennol ac anghenion y dyfodol, ac sydd nid yn unig yn darparu ar gyfer marchnad sy’n dirywio, ond sy’n caniatáu i drafnidiaeth gyhoeddus dyfu a ffynnu. Diolch yn fawr iawn. Fe gymeraf unrhyw gwestiynau neu ymyriadau yn awr.
Na, nid wyf yn credu bod galw am ymyriadau mwyach gan—. Mae'r Aelod wedi gorffen ei chyfraniad yn awr; nid ydych yn gofyn am ymyriadau ar ddiwedd cyfraniadau.
Ddirprwy Lywydd, mae'n gwbl hanfodol fod y system yn cael ei diwygio cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Credaf fod teithwyr ar hyd a lled Cymru wedi aros yn rhy hir o lawer am ddiwygiadau i system doredig, ac mae'n anffodus na fu modd inni fynd ar drywydd y diwygiadau hynny yn nhymor blaenorol y Senedd. Rwy'n croesawu'n fawr y cynnig fel y'i diwygiwyd, os caiff ei ddiwygio gan fy nghyd-Aelodau. Credaf ei bod yn gwbl gywir a phriodol inni achub ar y cyfle hwn i drafod pwnc mor bwysig, sy'n cael ei godi'n rheolaidd gan etholwyr pob un ohonom. Mae'r gallu i fynd o A i B, boed o adref i'r gwaith, boed o adref i wasanaeth hanfodol fel ysbyty neu feddygfa, yn gwbl hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd boddhaol i bobl. Mae llawer o bobl yn methu fforddio cerbyd preifat, ac mae nifer cynyddol o bobl yn dewis peidio â defnyddio cerbyd preifat, er lles yr amgylchedd naturiol. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o gyfraniadau gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr.
Diolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n falch o weld y drafodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau, ar ôl fy nadl yr wythnos diwethaf. Maen fater hollbwysig am nifer o resymau, ac yn hollbwysig i'r cymunedau hynny rydw i'n eu cynrychioli yma yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei ymateb i fy nadl yr wythnos diwethaf, ac am gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol i gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob person ifanc o dan 25.
Rwy'n cytuno gyda James fod trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i ddod o dan bwysau. Oni bai bod buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, bydd cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig, yn cael eu gadael ar ôl. Ers 2009, collwyd tua thraean o'r gwasanaethau â chymhorthdal yng Nghymru, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y siwrneiau ar fws rhwng 2008 a 2019. Rhaid i bolisi a strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol fynd i'r afael â chyllid cynaliadwy, cost a hygyrchedd, a chymorth ariannol ar gyfer datgarboneiddio a newid dulliau teithio.
Fodd bynnag, ni fydd yn llwyddiannus os na chaiff atebion eu cynllunio ar sail lle a chymuned, ac oni fyddant yn edrych ar atebion unigol sy'n cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ledled Cymru gyfan. Mae arnom angen atebion sy'n cael eu datblygu o fewn cymunedau gwledig a chyda chymunedau gwledig, fel eu bod yn gweithio i'r cymunedau hynny. Gall hynny gynnwys trefniadau bws ar alw, defnyddio bysiau bach i gyrraedd cymunedau, gwasanaethau trên amlach ac o ansawdd da. Mae digon o syniadau wedi'u profi a allai helpu i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus wledig—rhai fel y gwasanaeth Ring a Link yng nghefn gwlad Iwerddon, yr asiantaeth symudedd yn yr Eidal, a'r Bürgerbus yn yr Almaen; nid wyf yn siŵr fy mod wedi dweud hynny'n iawn, ac nid yr hyn a feddyliwch ydyw.
Er mwyn newid y tueddiadau a welwn, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynlluniau teithio lleol gael dannedd ac adnoddau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb. Fel y dywedais, gelwais am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc dan 25 oed er mwyn sicrhau ei bod yn fforddiadwy i bobl ifanc ac i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a sefydlu arferion hirdymor, gobeithio. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd James am unigrwydd yn benodol, pwynt sydd wedi ei gynnwys yn y cynnig. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wael yn gadael rhai sydd heb gar yn bell o feddygfeydd neu apwyntiadau ysbyty, gwaith a hyfforddiant, neu gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu. Mae wedi gadael llawer iawn o bobl o bob oed wedi'u hynysu, ac yn enwedig i bobl hŷn, mae wedi erydu eu hannibyniaeth a'u hyder.
Rhannodd yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well hanes un gyrrwr trafnidiaeth gymunedol a oedd yn cofio enghreifftiau o unigolion, pobl hŷn yn bennaf, nad oedd wedi gadael eu cartrefi am wythnosau neu fisoedd oherwydd cyfuniad o dywydd gwael a thrafnidiaeth gyhoeddus wael. A minnau bellach yn cynrychioli ardal wledig enfawr canolbarth a gorllewin Cymru, rwyf innau hefyd yn clywed straeon trist o'r fath, megis y rhai a nodwyd gan James Evans. Mae hon yn sefyllfa enbyd i bobl gael eu gadael ynddi ac mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn. Rwy'n poeni nad ydym yn rhoi'r sylw y dylem ei roi i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn enwedig polisi bysiau, ac felly rwy'n gobeithio gweld polisi a dulliau gweithredu newydd yn cael eu cyflwyno'n gyflym fel y gallwn ni, holl Aelodau'r Senedd hon, weithio'n well i gefnogi system drafnidiaeth gyhoeddus fwy effeithiol. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, ac yn enwedig i James Evans am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? Fel y dywedodd Aelodau eraill, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i atal pobl rhag teimlo'n unig ac yn ynysig, yn ogystal ag i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig gwasanaethau iechyd ar yr adeg hon. Mae annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach hefyd yn gam pwysig y mae'n rhaid inni ei gymryd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Ac eto, mewn etholaethau gwledig fel Mynwy, yn rhy aml mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd cael system drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol at eu defnydd sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'r olaf yn bwynt arbennig o bwysig. Mae angen bysiau i bobl eu defnyddio, ond yn fwy na hynny mae angen iddynt fod ar gael ar yr adegau cywir ac aros yn y lleoliadau y mae angen i bobl fynd iddynt. Er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, cysylltodd etholwr â mi'n ddiweddar a oedd yn dibynnu ar wasanaeth bws penodol i gyrraedd apwyntiadau ysbyty yn ysbyty'r Faenor. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i dorri'n sylweddol, ac nid yw'n mynd yn uniongyrchol at ysbyty'r Faenor mwyach, sy'n golygu bod yn rhaid i bobl ddal gwasanaeth sy'n cysylltu. Mae'r enghraifft hon yn dangos sut y mae diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu gwasanaethau bysiau gwledig yn effeithio'n ddramatig ar fywydau pobl.
Gwn fod problemau pwysig yn effeithio ar wasanaethau, ac mae Aelodau eraill wedi cyfeirio atynt heddiw, megis cyllid, ac rwy'n falch fod cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddiogelu llwybrau bysiau gymaint â phosibl yn ei ymgynghoriad ar gyllideb 2022-23, er gwaethaf y pwysau ariannol parhaus y mae'n eu hwynebu oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, ceir problemau strwythurol ac ymarferol ehangach y mae angen edrych arnynt yn ofalus er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y maent yn eu disgwyl.
Fel y dywedais, rwy'n croesawu llawer o'r ymrwymiadau ynghylch gwasanaethau trafnidiaeth wledig a amlinellir yn strategaeth 'Llwybr Newydd' Llywodraeth Cymru. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Dirprwy Weinidog ddweud mwy ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd yn helpu i leihau anghydraddoldebau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig. Credaf hefyd y byddai'n ddefnyddiol cael strategaeth drafnidiaeth wledig benodol i gefnogi'r llwybr gwledig sy'n rhan o 'Lwybr Newydd'. Yn ogystal, credaf fod etholwyr yn fy etholaeth yn dal i feddwl tybed sut yn union y byddant yn elwa o gynllun metro de Cymru a phryd y byddant yn gweld gwelliannau i wasanaethau bysiau sydd wedi'u hamlinellu mewn cynlluniau ar gyfer y metro.
I orffen, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw, a gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Fel cynghorydd sir yn Sir y Fflint sy'n cynrychioli ward wledig, gwn yn rhy dda pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau fel fy un i. Anaml iawn y mae llwybrau bysiau gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth i lawer o bobl. Er bod ardaloedd poblog iawn yn tueddu i gael gwell gwasanaethau bws am mai dyna lle maent yn fwyaf proffidiol, cymunedau gwledig sydd heb fynediad at amwynderau yn lleol ac sydd angen y drafnidiaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cwmnïau bysiau ledled y DU yn mynd i'r wal neu'n torri llwybrau nad ydynt bellach yn fasnachol hyfyw. Gwnaeth un gweithredwr bysiau yn Sir y Fflint 14 newid i'w wasanaethau mewn blwyddyn, cymaint fel bod y cyngor yn ei chael hi'n anodd diweddaru amserlenni bysiau, a chollodd preswylwyr hyder yn y gwasanaeth, a dyna pam y mae angen mwy o reoleiddio arnynt. Tynnodd un arall allan o lwybr rhwydwaith craidd, a mynnodd gymhorthdal 10 gwaith yr hyn a delid yn flaenorol. Yn y pen draw, roedd yn anfforddiadwy a chafodd ei ddirwyn i ben. Gan ei fod yn llwybr craidd, roedd yn effeithio'n fawr ar lawer o drigolion. Roedd yn anodd inni ddeall pam nad oedd yn fasnachol hyfyw, gan ei fod yn brysur, ac roedd y ffaith na wnaeth unrhyw weithredwr arall gais am wasanaethau yn dangos bod prinder gweithredwyr i greu marchnad. Byddai'n gyfle da i awdurdodau lleol allu camu i mewn gyda'u gwasanaeth eu hunain.
Mae trigolion wedi bod yn ofidus, yn ddig ac yn rhwystredig pan dorrwyd gwasanaethau, ac yn briodol felly. Fe wnaethant anfon deisebau at y cyngor, a mynnu ein bod yn mynychu cyfarfodydd cymunedol, a oedd yn drawmatig iawn, ond gyda chyllid a phwerau cyfyngedig roeddem yn gyfyngedig o ran ble y gallem helpu. Mewn un achos, fe wnaethom lunio amserlen newydd o amgylch yr oriau a oedd yn gweddu orau i drigolion er mwyn sicrhau bod bws yn llawn, ond ni ddaeth cais gan weithredwr am y gwasanaeth. Heb fysiau ar gael, fe wnaethom logi bws mini tacsi a thacsi i sicrhau na fyddai trigolion yn cael eu hynysu. Er bod croeso iddynt, achosodd broblemau i aelod anabl o'r gymuned a oedd angen mynediad gwastad, ac weithiau nid oedd digon o seddi i bawb. Buan y gwelsom fod bysiau mini yn broblem. Mae trafnidiaeth â mynediad gwastad mor bwysig i bobl â phramiau, cymhorthion cerdded, beiciau, troliau siopa, pengliniau a chluniau blinedig hyd yn oed. Yn y pen draw, camodd gweithredwr i mewn i redeg bws a oedd wedi'i gaffael gan y cyngor, diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w groesawu'n fawr.
Yn y digwyddiadau ymgynghori a fynychwyd gennym, roedd y rhan fwyaf o'r bobl yn 60 oed a throsodd. Nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac roeddent am gael gwasanaeth wedi'i drefnu, nid un a oedd yn ymateb i'r galw; nid oeddent yn hoffi newid. Roeddent yn poeni am ynysigrwydd cymdeithasol, methu cyrraedd apwyntiadau meddygol neu fynd i siopa. Roeddent eisiau dibynadwyedd a sefydlogrwydd, sy'n bwysig iawn. Roedd yn dorcalonnus gweld rhai pobl yn eu dagrau, yn dweud y bydd yn rhaid iddynt symud i'r dref. Mae darparu gwasanaeth bws yn helpu pobl i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser. Dyma pryd y cyflwynais ddeiseb nid yn unig i Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, ond hefyd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Galwai ar Lywodraeth Cymru i reoleiddio gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i awdurdodau lleol redeg y gwasanaethau sy'n gweddu orau i angen pobl leol gan mai hwy sy'n eu hadnabod orau. Roeddwn yn falch o glywed bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn.
Dylid rhedeg llwybrau bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Gellid grwpio llwybrau masnachol i gynnwys elfen o werth cymdeithasol, gyda chontractau sefydlog am gyfnod i roi sefydlogrwydd. Dyna pam y byddaf yn cefnogi'r gwelliant heddiw, sy'n cydnabod y niwed y mae preifateiddio wedi'i achosi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad hon. Mae angen inni nodi hefyd fod trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn gymhleth iawn ac yn gysylltiedig â chludiant i'r ysgol, sy'n rhoi cymhorthdal gogyfer â gweddill y diwrnod. Yn Sir y Fflint, ceir 450 o gontractau trafnidiaeth, ac mae 350 o'r rheini'n gontractau ysgol sydd wedi'u hintegreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn hyfyw. Mae 25 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus fel yr unig ddull o deithio. Mae arnom angen system lawer gwell, sy'n eu cysylltu hwy a holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus â'r cymunedau ehangach, gyda dibynadwyedd, sefydlogrwydd a thocynnau integredig i feithrin hyder. Diolch.
Mae gan wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da rôl ganolog i'w chwarae yn cefnogi iechyd a lles, yn dileu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn adeiladu ein cymunedau yn gyffredinol. Ond mae ganddynt hefyd rôl ganolog i'w chwarae yn cyflawni sero net 2050. Trafnidiaeth ffyrdd sy'n gyfrifol am 10 y cant o allyriadau byd-eang, ac mae'r allyriadau hynny'n codi'n gyflymach nag unrhyw sector arall. Roeddwn yn eithaf balch o glywed sylwadau Alun Davies heddiw, ac rwy'n llwyr gefnogi'r mentrau y siaradai amdanynt mewn perthynas â bysiau trydan.
Nawr, gwnaed cynnydd sylweddol ar ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus i gefn gwlad Aberconwy, diolch i'r gwasanaeth bws Fflecsi. Gwn fy mod wedi sôn amdano o'r blaen, ond mae'n fodel llwyddiannus iawn. Mae wedi'i brofi felly, ac rwyf wedi annog y Dirprwy Weinidog o'r blaen i ledaenu'r model hwn ar draws y Gymru wledig, gan gynnwys i'r gogledd o Eglwys Fach, fel y gall cymunedau ynysig eraill elwa ar gysylltiadau gwell â chanolfannau trefol. Byddai ei gyflwyno'n cyd-fynd â'r cynllun mini ar gyfer bysiau, ac yn arbennig yr addewid i ddarparu gwasanaethau bws arloesol a mwy hyblyg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector.
Lle ceir darpariaeth, oherwydd nad oes digon o wasanaethau bysiau dibynadwy ar gael, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud fod diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus erbyn hyn. Mae pobl hŷn yn dewis teithio i'w hapwyntiadau iechyd mewn cerbydau preifat, a hynny ar draul bersonol sylweddol. Ac mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, mae diffyg cyfleusterau sylfaenol fel cysgodfannau, seddi a gwybodaeth am amserlenni yn gwneud teithio ar ein bysiau yn brofiad mwy anghyfforddus ac anodd nag sydd angen iddo fod.
Gallaf ddweud hyn gan fy mod wedi gweld drosof fy hun lawer o drigolion yn sefyll yn y glaw i ddal bws wrth ymyl yr A470 ym Maenan, ond ymhellach i'r gogledd ym mhentref Glan Conwy, ceir sgrin ddigidol mewn safle bws. Felly, mae'n dangos sut y mae modelau da i'w cael ond mae angen mwy ohonynt. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn gallu darparu rhestr o safleoedd bysiau sy'n brin o gyfleusterau sylfaenol ac enghreifftiau o'r gwrthgyferbyniad rhwng y buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a'r rhai yn ein hardaloedd gwledig. Mae gan 'Llwybr Newydd' ymrwymiad i fuddsoddi mewn gorsafoedd bysiau a safleoedd bysiau, felly byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurder ynghylch faint o arian sy'n cael ei fuddsoddi ar wella safleoedd bysiau gwledig.
Soniais o'r blaen am y broblem sydd gennym gyda'r bws olaf o Landudno i ddyffryn Conwy yn gadael am 6.40 gyda'r nos, sy'n golygu nad yw'r ddwy ardal wedi'u cysylltu gan drafnidiaeth gyhoeddus am weddill y nos. Ar ôl cysylltu â darparwyr gwasanaethau, fe'i gwnaed yn glir i mi nad yw pobl yn awyddus bellach i weithio'r sifftiau mawr eu hangen hyn yn hwyr y nos. Felly, mae angen cynllun gweithredu clir i gynorthwyo cwmnïau bysiau i recriwtio gyrwyr a dod o hyd i fentrau rywsut ar gyfer annog staff i weithio sifftiau hwyrach. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r flaenoriaeth yn 'Llwybr Newydd' i wella atyniad y diwydiant i fwy o yrwyr bysiau.
Yn olaf, yn ogystal â hwyluso'r gwaith o symud pobl leol, mae gan drafnidiaeth gyhoeddus rôl allweddol i'w chwarae yn lleddfu'r pwysau ar ardaloedd gwledig yn sgil y don o ymwelwyr a welwn yn flynyddol, diolch byth. Er enghraifft, er bod Eryri yn gartref i dros 26,000 o bobl, mae tua 10 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Tref Llandudno, gyda phoblogaeth o tua 22,000—sy'n tyfu i tua 60,000 y flwyddyn. Mae'r anhrefn traffig a pharcio a achosir wedi'i ddogfennu'n dda, ond mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn dal i fod yn brin o synnwyr cyffredin. Er eu bod yn gwybod bod y miliynau hyn yn heidio i'n parc cenedlaethol bob blwyddyn, rydych chi'n dal i fod heb gytuno i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o borthladd Caergybi a Maes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog. Byddai hynny'n llacio'r straen, ac yn ychwanegu at brofiad ein hymwelwyr. Byddai camau o'r fath yn galluogi Eryri i gael pyrth trafnidiaeth gyhoeddus gwirioneddol ryngwladol sy'n cysylltu un o ardaloedd mwyaf trawiadol y Gymru wledig â gweddill y byd.
Rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau gweld y Dirprwy Weinidog yn gweithredu'n rhagweithiol. Soniwyd am gymaint o syniadau da yma heddiw—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog yn awr, rydym wedi cael digon o siarad, gadewch inni weld rhywfaint o weithredu. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill ar yr ochr arall i'r Siambr, James Evans, am gyflwyno'r ddadl heddiw, a chredaf yn wirioneddol fod gwasanaethau bws a thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o biler allweddol ehangach y fenter ehangach i greu'r fargen newydd werdd y mae angen inni ei gweld a'i chyflawni a'i gweithredu yma yng Nghymru, ac mae'r cynnig ei hun yn gynnig da, ond credaf y byddai unrhyw un sydd â rhywfaint o wybodaeth am y diwydiant bysiau yn cydnabod bod y gwelliant gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn gwneud y cynnig gymaint yn gryfach. Ac rwyf mewn sefyllfa, Ddirprwy Lywydd, lle rwy'n gorfod pleidleisio yn erbyn cynnig a gyd-gyflwynwyd gennyf, ac un rwy'n ei gefnogi, a phleidleisio dros y gwelliant mewn gwirionedd, i wneud y cynnig yn gryfach a chyrraedd calon y broblem yma yng Nghymru. A gadewch inni fod yn glir: mae'r gwelliant yn ymwneud â dileu Deddf Trafnidiaeth 1985, sy'n rhan o ddogma dadreoleiddio, ac mae'n rhan o ddogma dadreoleiddio sy'n perthyn i fin hanes, ac mae'n bryd inni gymryd y camau hynny'n awr.
Lywydd, Deddf Trafnidiaeth 1985 oedd y foment waethaf un i wasanaethau bysiau ledled y Deyrnas Unedig, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig. Ac mae'n dal i reoleiddio ein diwydiant yn ein gwlad yma heddiw, a dyna rydym yn sôn amdano. Ac os edrychwn ar yr hyn y mae'r Ddeddf wedi ei chynllunio i'w gyflawni, mae'n ceisio sicrhau mai gwneud elw yw'r unig reswm—yr unig reswm—y dylai llwybr bws fodoli. A golyga hyn ein bod yn cynllunio ein rhwydwaith bysiau bron yn gyfan gwbl o amgylch llwybrau proffidiol. Mae Aelodau wedi awgrymu bod cynghorau'n gallu rhoi cymhorthdal i lwybrau, ac maent yn gwneud hynny, ond daw hyn o gyllidebau sy'n crebachu ac ar ôl blynyddoedd lawer o gyni, nad awn i'w drafod heddiw. Gallwch ddyfalu beth a ddigwyddodd, ac edrychaf yn ôl at Ddeddf 1985 a'r amser hwnnw, ac roedd y cysyniad o les cyhoeddus mor sarhaus i'r Llywodraeth honno yn fy marn i fel eu bod wedi pasio'r ddeddf hon i wahardd ymdrechion o'r fath i sicrhau lles y cyhoedd. Fe'i cyflwynwyd ar fecanweithiau cymhleth rydym yn dal i'w gweld heddiw.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am grybwyll bod yr Aelod a gyflwynodd y cynnig wedi dweud yn gywir ar y dechrau y dylem geisio ateb rhai o'i gwestiynau, ac roeddwn am fynd yn ôl: rwy'n beio Margaret Thatcher a bydd yn gwybod fy mod yn beio Margaret Thatcher am lawer o bethau, na allaf ac nad oes gennyf amser i fynd i'w trafod heddiw. Ond dywedaf wrth yr Aelod a dywedaf wrth yr Aelodau ar draws y Siambr: rwy'n sefyll wrth fy nghredoau fel y mae llawer o fy etholwyr yn ei wneud. Ond os edrychwn ar ganlyniadau cynifer o'i phenderfyniadau ofnadwy, ond yn sicr y penderfyniad ofnadwy hwn, arweiniodd y nonsens a oedd yn sail iddo at lai o wasanaethau, tâl ac amodau gwaeth i'n gyrwyr gwych, a llai o arian i fuddsoddi mewn bysiau newydd, bysiau rydym wedi sôn amdanynt, bysiau dim allyriadau, bysiau trydan, fel rydym i gyd am eu gweld yn ein cymunedau o Flaenau Gwent i Alun a Glannau Dyfrdwy.
Felly, rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw sydd â diddordeb go iawn mewn trafnidiaeth bysiau i bleidleisio dros y gwelliant. Unwaith eto, cymeradwyaf yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ond rhaid inni wneud mwy na dioddef y sefyllfa rydym ynddi, felly cymeradwyaf y cynnig, ond galwaf ar Aelodau o bob plaid wleidyddol i gydnabod pwysigrwydd y cynnig, cydnabod pwysigrwydd y cynnig diwygiedig a phleidleisio dros y cynnig diwygiedig pan ddaw'n amser i bleidleisio yn ddiweddarach heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel Aelod o Gyngor Sir Penfro a hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, gan fy mod yn gwybod y bydd o ddiddordeb mawr i lawer o fy etholwyr.
Fel llawer sy'n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roeddwn yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus anaml a thymhorol, cael fy nghludo gan rieni neu hyd yn oed beicio boed law neu hindda i geisio cyrraedd fy swydd ran-amser pan oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol. Felly, nid yw'n fawr o syndod fy mod wedi sefyll fy mhrawf gyrru cyn gynted â phosibl ar fy mhen blwydd yn 17 i roi rhyddid ac annibyniaeth i mi, ac roeddwn yn ffodus i wneud hynny. Fodd bynnag, i lawer o fy etholwyr, mae'r gwasanaeth bws lleol neu'r gwasanaeth trên lleol sydd hyd yn oed yn fyw anaml yn achubiaeth. Boed ar gyfer cymudo i'r gwaith, ymweld â ffrindiau a theulu neu er mwyn mynd i siopa, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfrannwr mawr i les a safon byw unigolyn, fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir.
Un o'r cyfarfodydd cyntaf a gefais ar ôl fy ethol fis Mai diwethaf oedd un i drafod yr her sy'n wynebu busnesau yn y sector lletygarwch o ran gallu llenwi bylchau cyflogaeth. Un o'r prif wersi a ddysgwyd o'r cyfarfod hwnnw oedd na allai gweithiwr a oedd yn gweithio oriau y tu allan i'r naw awr arferol o naw tan chwech yn Ninbych-y-pysgod, ac eto'n cymudo o Hwlffordd, ddychwelyd adref ar fws, gan fod y gwasanaeth olaf yn gadael cyn iddi dywyllu. Os ystyriwch nifer y swyddi sy'n gwasanaethu'r economi nos a'r diwydiant lletygarwch mewn tref fel Dinbych-y-pysgod, gallwch ddeall faint o her y mae hyn yn ei chreu.
Mae rhai o'r cyflogwyr mwy fel Bluestone ger Arberth wedi dechrau llogi eu cludiant eu hunain i helpu staff i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn opsiwn i'r rhan fwyaf o fusnesau bach. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol, megis Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, i helpu i gynorthwyo'r sector lletygarwch i alluogi staff i gymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus y tu allan i'r oriau gwaith mwy traddodiadol.
Hefyd, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y gwasanaeth trên yn ne Sir Benfro. Ymunodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, â mi yr haf diwethaf i gyfarfod â grŵp o etholwyr yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod. Fe wnaethant egluro'r heriau a wynebent wrth deithio ar y brif reilffordd tuag at ddwyrain Cymru, a mynegwyd pryderon ynghylch capasiti'r trenau a'r amserlennu. Tynnodd y grŵp sylw hefyd at y problemau a wynebir wrth deithio ar drên rhwng de a chanolbarth Sir Benfro. Byddai'r daith gymudo syml 20 milltir, 30 munud mewn car o Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod ar fore o'r wythnos yn cymryd dwy awr a 15 munud ar y trên, neu dros awr a hanner ar fws yn y bore. A hynny i rai nad ydynt angen amser teithio ychwanegol i gyrraedd Hwlffordd yn y lle cyntaf.
Yn ôl yn yr hydref, cyhoeddwyd cynlluniau gan y Dirprwy Weinidog i wella seilwaith a chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gyda newyddion am welliannau i orsafoedd yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Hendy-gwyn ar Daf, yn ogystal ag awydd i ychwanegu capasiti ar lwybr Caerfyrddin i Aberdaugleddau. Er bod hyn yn newyddion gwych i Paul Davies yn yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y llwybr rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf wedi'i anghofio. Y rheswm pam rwy'n canolbwyntio ar Ddinbych-y-pysgod y prynhawn yma yw am mai gorsaf drenau'r fan honno yw'r brysuraf yn Sir Benfro a dyna'r porth i un o'n cyrchfannau glan môr gorau. Ar yr un rheilffordd mae Doc Penfro, lleoliad allweddol i deithwyr sy'n teithio i ac o Iwerddon, ac eto ni fydd y rhain a gorsafoedd llai eraill ar hyd llwybr rheilffordd de Sir Benfro yn gweld unrhyw fanteision o sylwedd o'r buddsoddiad ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog.
Mae system drafnidiaeth gydgysylltiedig ledled Cymru yn arf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond cyn annog pobl allan o'u ceir, rhaid cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus barod sy'n gallu cyflawni ar gyfer anghenion y bobl. Fel yr esboniais, mae teithio rhwng gogledd a de Sir Benfro ar drafnidiaeth gyhoeddus yn heriol dros ben. Mae'n bwysig i economi'r sir fod de Sir Benfro yn cael ei thrin yn gyfartal â gogledd Sir Benfro wrth ddatblygu metro gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod y cynlluniau wedi anwybyddu'r Sir Benfro sy'n bodoli i'r de o Afon Cleddau.
Yfory, rwy'n cynnal cyfarfod bord gron gyda chynghorwyr a sefydliadau lleol i ystyried cryfder y teimlad ynghylch gwasanaethau trên i wasanaethu eu cymunedau. Yn dilyn y ddadl heddiw, Ddirprwy Weinidog, byddai'n wych pe gallwn fynd â neges yn ôl gennych chi nad yw Llywodraeth Cymru wedi anghofio am dde Sir Benfro ac y bydd yn darparu'r cymorth a'r cyllid nid yn unig i uwchraddio'r cyfleusterau, ond hefyd i gynyddu amlder gwasanaethau sy'n defnyddio'r rheilffordd hon. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn cysylltu ein cymunedau gwledig ac yn lleihau ein hôl troed carbon. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rhaid i'r gwasanaethau ymateb i anghenion teithwyr. Diolch yn fawr.
Nid wyf yn credu mai diben dadl Aelodau bob amser yw dangos unfrydedd ymhlith aelodau meinciau cefn ar draws y Siambr, oherwydd bydd gwahaniaethau bob amser rhwng unigolion. Nid wyf am ymddiheuro i James Evans am gefnogi'r gwelliant gan Alun Davies ac yn wir, am ei gyd-lofnodi, oherwydd mae'n tynnu sylw at fater hanfodol.
Mae'r holl enghreifftiau a ddarparwyd—ac rwy'n edrych ar draws y sgrin yn awr a gallaf weld Aelodau Ceidwadol, gallaf weld Democrat Rhyddfrydol, Aelodau Llafur—yn dangos methiant y farchnad, ac mae methiant y farchnad yn digwydd oherwydd nad yw'r farchnad wedi'i rheoleiddio. Dyna'r rheswm am y problemau hyn a dyna pam y mae'r gwelliant yn rhoi asgwrn cefn gwleidyddol i'r cynnig. Wrth wrando ar Carolyn Thomas, rwy'n credu mai dyma lle gallech deimlo'r wobr i rywun sydd wedi ymladd y brwydrau hyn i gael gwasanaethau bws yn eu cymuned, fel aelod o gabinet, i gael y gwasanaethau bysiau hyn yn weithredol. Gallwch weld a chlywed rhwystredigaeth Carolyn wrth iddi geisio sicrhau bod hyn yn digwydd, a dyna'n union pam rwy'n cefnogi'r gwelliant hwn. Ac rwy'n ddig iawn, James Evans—edrychwch arnaf, James Evans, edrychwch i fyny ar y cyfrifiadur—rwy'n ddig iawn am yr hyn a ddywedoch chi pan ddywedoch chi fod dadreoleiddio wedi digwydd 40 mlynedd yn ôl, fel pe bai hynny'n amser pell i ffwrdd yn y gorffennol pell. Wel, rwy'n 45 eleni ac roeddwn i'n dal y bysiau hynny, James Evans; roeddwn yn dal y bysiau a gâi eu rhedeg gan gyngor dosbarth Cwm Rhymni. Ac roeddent yn ddibynadwy, roeddent yn mynd ar lwybrau nad ydynt yn cael eu rhedeg mwyach, a chaent eu rhedeg gan wasanaeth cyhoeddus. Yn 1986, ar ôl y Ddeddf y soniodd Jack Sargeant amdani, crëwyd Inter Valley Link fel cwmni lled braich—rwy'n gwybod oherwydd roedd fy nhad, fel cynghorydd, yn gyfarwyddwr ar y sefydliad. Ac ar ei ben ei hun, byddai'r cwmni wedi bod yn llwyddiannus, ond y broblem oedd bod llwyth o newydd-ddyfodiaid eraill wedi ymddangos yn y farchnad a dechrau rhedeg gwasanaethau rhatach ar yr un llwybrau. Ac yn 1990, aeth Inter Valley Link i'r wal. Nawr, y rheswm pam yr aeth Inter Valley Link i'r wal oedd oherwydd bod cwmnïau a oedd yn codi prisiau is wedi ymdreiddio i'r farchnad. Ond a ydych chi'n gwybod beth a ddigwyddodd wedyn? Gwnaethant roi'r gorau i redeg y llwybrau hynny. Gwnaethant roi'r gorau i redeg y llwybrau hynny, a gwelsom yr holl lwybrau hynny'n diflannu.
Nawr, drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a thrwy fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus, rydym wedi gweld rhywfaint o bontio ar y bylchau hynny yn y farchnad. James, a ydych chi am ymyrryd? A ydych chi am ymyrryd? Iawn. Ewch amdani.
Diolch, Hefin. Nid wyf wedi digio. Rwy'n falch eich bod yn arfer defnyddio'r bysiau hynny; hoffwn pe bai mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i'n helpu i leihau'r argyfwng hinsawdd. Ond un cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i chi: a ydych yn cytuno felly fod y Llywodraeth Lafur wedi methu bryd hynny, rhwng 1997 a 2009, drwy beidio ag ail-reoleiddio'r gwasanaeth bws, a bod Gordon Brown a Tony Blair wedi methu yn hyn o beth?
Ydw, yn sicr, rwy'n cytuno. Ac rwy'n credu fy mod wedi digio mwy am y ffaith eich bod chi'n iau na fi na dim byd arall. Ydw, rwy'n credu ei fod yn gyfle a gollwyd—yn sicr. Rwy'n credu bod y Llywodraeth rhwng 1997 a 2007 wedi gwneud pethau gwych, ond hefyd ni wnaethant bethau y gallent fod wedi'u gwneud, a chredaf fod hwn yn un o'r pethau y gallent fod wedi'i wneud ac na wnaethant ac y dylent fod wedi'i wneud. Ond mae gan y Dirprwy Weinidog yno heddiw gyfle i'w wneud a gwn ei fod yn bwriadu ei wneud. Mae arnom angen yr ail-reoleiddio hwnnw.
Felly, gan droi'n ôl at yr enghreifftiau, y cynllun argyfwng bysiau—a gallaf weld Ken Skates, a sefydlodd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (BES)—a achubodd y diwydiant bysiau. Achubodd hwnnw y diwydiant bysiau fel y mae ar hyn o bryd, yn dilyn y pandemig. Heb BES a BES 2, ni fyddai gennych ddiwydiant bysiau i adeiladu arno ar hyn o bryd, a hynny oherwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, gallwn edrych ar ein rhagflaenwyr gwleidyddol a dweud, 'Dylent fod wedi gwneud hyn' ond nid yw hynny'n ein hatal ni rhag gwneud pethau heddiw a bod yn feiddgar.
Felly, pan edrychwch ar y llwybrau sydd gennym—. Rwyf wedi cael llond bol ar negodi, ar erfyn ar ddarparwyr sector preifat, fel y dywedodd Carolyn Thomas, i ddarparu llwybrau nad ydynt yn broffidiol. Rwyf wedi cael llond bol ar hynny; rwy'n ei wneud o hyd. Rydym eisiau i ddarparwyr preifat ddarparu llwybr i Ysbyty Brenhinol Gwent o Bontypridd drwy Nelson ac Islwyn a Chwmbrân. Rydym eisiau gwneud hynny. Fe allwn ei wneud; fe allwn weithio'n galed i'w gyflawni. Ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw gwasanaeth a ddarperir yn gyhoeddus i lenwi'r bylchau hynny i ni, a chredaf y byddai ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau yn caniatáu hynny a dyna y mae angen i'r Bil hwnnw ei wneud.
Felly, dywedaf wrth James Evans, ni allwch help eich bod yn iau na mi, ond gallwch wneud iawn am hynny drwy gefnogi ein gwelliant. A hoffwn ddweud hefyd wrth Mabon ap Gwynfor, sef yr unig Aelod arall a lofnododd y gwelliant nad yw'n Aelod Ceidwadol, rwy'n credu—credaf ei fod yn cloi'r ddadl heddiw—[Torri ar draws.] Do, Rhys, ond cefnogi'r gwelliant a wnaethoch chi. Hoffwn ofyn i Mabon: dewch i gefnogi'r gwelliant hwnnw hefyd. Yr unig reswm pam ein bod yn gwrthwynebu'r cynnig yw er mwyn pleidleisio dros y gwelliant. Mae'n bwysig iawn fod y gwelliant hwnnw'n cael ei dderbyn, oherwydd credaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, edrychwn ymlaen at gefnogaeth ar draws y Siambr.
Cyn imi alw ar y Dirprwy Weinidog, a gaf fi atgoffa pawb, yn ogystal ag enghreifftiau o blith Aelodau Ceidwadol a Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, fod Aelodau Plaid Cymru hefyd yn y ddadl hon a gallaf eu gweld ar y sgrin, i fod yn deg â phawb?
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi siarad a diolch iddynt am gyflwyno'r ddadl hon. Unwaith eto, credaf ein bod wedi dangos yn y Siambr hon fod yna gefnogaeth a phryder trawsbleidiol am drafferthion trafnidiaeth gyhoeddus ac ewyllys i'w gwella. Credaf ei fod yn beth gwerthfawr y dylem ei feithrin. Mae'n siŵr y byddwn yn anghytuno ar rai o'r manylion ac rydym wedi treulio llawer o'r ddadl yn ceisio penderfynu pwy sydd ar fai am fethiannau yn y gorffennol. Ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno mai drwy weithredu ar y cyd y gallwn wella pethau, a gallaf sicrhau'r Aelodau bod y Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud hynny.
Dywedodd Jane Dodds ei bod yn poeni nad yw polisi bysiau'n cael ei drin â'r brys angenrheidiol, a gallaf ei sicrhau nad yw hynny'n wir. Byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn ar fysiau, 'Bws Cymru', yn ystod y misoedd nesaf, ac rydym yn cymryd ychydig o amser i'w wneud, oherwydd rydym yn gweithio'n wirioneddol gydweithredol ag awdurdodau lleol a chyda gweithredwyr i gynllunio rhywbeth a fydd yn gweithio.
Gofynnodd James Evans, yn ei ymyriad ar Hefin David, ac yn ei gyfraniad gwreiddiol: pam na wnaeth y Llywodraeth Lafur ar ddiwedd y 1990au gael gwared ar y system dameidiog? Credaf fod yr hyn a wnaethant yn ymgais wirioneddol i ddefnyddio dull partneriaeth gyda gweithredwyr i ddatblygu ffordd wahanol o'i wneud. Ond rwy'n credu y gallwn ddweud nad yw dull partneriaeth wedi gweithio. Gallwn weld yn awr ym Manceinion, bedair blynedd ar ôl cyflwyno system masnachfraint partneriaeth, eu bod yn dal i fethu rhoi gwynt o dan ei hadain.
Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol inni ddweud ein bod wedi rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol i gyflawni amcan a rennir, ac rydym yn dysgu drwy'r amser am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Ac yn amlwg, mae budd i'r sector masnachol a breifateiddiwyd o danseilio rhai o'r cynlluniau hyn—gadewch inni fod yn glir am hynny. Yn aml, daw gweithredwyr preifat ag achos cyfreithiol yn erbyn ymdrechion i wneud hyn. Maent yn aml yn lobïo a llunnir cynlluniau amrywiol i awgrymu nad oes angen masnachfreinio'n briodol gan y gall partneriaethau weithio, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y dylem fynd o'i chwmpas. Dyna'r hyn rydym yn ei wneud yn y Llywodraeth hon sy'n wahanol i'r hyn a fu o'r blaen: edrych ar fodel cyfandirol o fwrdd goruchwylio yn hytrach na bwrdd partneriaeth lleol, dull Cymru gyfan, gyda Trafnidiaeth Cymru yn ganolog iddo, ond gan weithio'n iawn drwy'r gwahanol rannau o lywodraeth leol, lefel y cyngor sir, lefel y cyd-bwyllgor corfforaethol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, i geisio llunio system rhyngom sy'n mynd i weithio, sy'n mynd i ganiatáu masnachfreinio ar sail ardal gyfan. Oherwydd y system bresennol sydd wedi'i phreifateiddio yw gwraidd y broblem mewn gwirionedd, a dyna lle rwy'n cytuno â'r gwelliant. Yn amlwg, mae Gweinidogion y Llywodraeth yn draddodiadol, yn y dadleuon hyn, yn ymatal ar y cynigion, am mai cynigion y meinciau cefn ydynt, a byddwn yn parhau â'r traddodiad hwnnw heddiw. Ond rydym yn sicr yn cefnogi ysbryd yr hyn y dadleuir yn ei gylch y prynhawn yma, ac mae angen inni newid i sylfaen fwy cydlynol sydd wedi'i chynllunio'n well.
Nawr, fel y dywedodd Carolyn Thomas yn ei chyfraniad, a oedd yn bwerus iawn yn fy marn i, anaml iawn y mae gwasanaethau bws gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth. Ac mae hynny'n gwbl gywir. A soniodd am enghraifft o weithredwr yn rhoi'r gorau i lwybr ac yna'n mynnu cymhorthdal 10 gwaith yn fwy nag a roddwyd yn flaenorol, a dengys hynny sut y mae gweithredwyr masnachol yn chwarae'r system, a dyna sy'n digwydd mewn marchnad onid e? Ac nid wyf yn beirniadu'r gweithredwyr unigol wrth ddweud hynny; dyna y mae'r farchnad yno i'w wneud. Ond fel y dywedodd Hefin David yn ei gyfraniad da, mae methiant amlwg yn y farchnad, oherwydd nid yw'r farchnad yn gwasanaethu budd y cyhoedd. Felly, yr hyn a welwn yn aml yw gweithredwyr yn cystadlu am nifer fach o lwybrau proffidiol ac yna'n peidio â rhedeg llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.
Nawr, roedd yna adeg pan oedd digon o arian cyhoeddus i allu cynnig cymorthdaliadau ar gyfer y llwybrau hyn sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ond ar ôl 10 mlynedd o gyni, nid yw'r cyllid disgresiynol hwnnw yno. Ac yn aml, rwy'n credu—. Rydym wedi gweld Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â gwasanaethau masnachol yn unig bellach; nid oes cyllid ar gael ar gyfer rhoi cymhorthdal i lwybrau, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu yn natur y rhwydwaith bysiau sydd ar ôl yn yr ardal honno erbyn hyn. Nid ydym eisiau gweld hynny. Rydym eisiau gweld gwasanaeth bws rheolaidd a dibynadwy, fel y gallwn weld mewn llawer o systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i'n cymdogion agos. Sylwaf ar yr hyn a ddywedodd Sam Kurtz am enghraifft o weithiwr rhan amser yn ceisio dychwelyd adref o shifft hwyr yn Ninbych-y-pysgod lle nad yw'r system yn ddigon da ar hyn o bryd. Rydym angen iddi fod yn ddibynadwy, rydym angen iddi fod yn rheolaidd, ac rydym angen iddi fod yn fforddiadwy. A wyddoch chi beth? Mae'n gwbl bosibl. Ceffyl da yw ewyllys. Nid yw hyn yn rhy gymhleth i'w wneud; ond nid ydym wedi bod yn barod i wario'r arian angenrheidiol, na rhoi'r strwythur rheoleiddio cywir ar waith er mwyn gwneud iddo ddigwydd, a dyna rydym eisiau ei wneud. Ac rwy'n credu mai dyma lle daw'r ffocws penodol ar ardaloedd gwledig i mewn iddi, oherwydd mae llawer o'r hyn rydym wedi'i ddisgrifio yn berthnasol i bob rhan o Gymru.
Mewn ardaloedd gwledig, mae yna gyfres ychwanegol o heriau. Nawr, gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl weithredol mewn ardaloedd gwledig. Os edrychwch ar yr Almaen wledig, neu'r Swistir wledig, sydd yr un mor denau ei phoblogaeth, os nad yn fwy tenau, â rhannau o gefn gwlad Cymru, mae ganddynt bentrefi yno, pentrefi bach, gyda gwasanaeth rheolaidd bob awr, am mai dyna maent wedi ei flaenoriaethu, a dyna maent wedi'i wneud yn eu systemau masnachfraint, lle maent yn defnyddio gwasanaethau gwneud elw mewn trefi i draws-sybsideiddio gwasanaethau sy'n gwneud colled mewn ardaloedd gwledig, gan gydnabod bod angen cymdeithasol yma.
Credaf fod yr achos dros system fysiau briodol yn ymwneud lawn cymaint â chyfiawnder cymdeithasol ag y mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ac rwy'n teimlo'n angerddol am hynny, fel Aelodau eraill, yn wir, ar draws y rhaniad. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i feddwl am rywbeth a fydd yn sefyll prawf amser. Felly, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn, ac fel y dywedais, rydym yn ymgynghori ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phan gaiff hwnnw ei gyflwyno i'r Senedd, gadewch inni weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol i weld a allwn ei gryfhau a sicrhau ei fod yn addas i'r diben. A byddaf yn sicr yn addo gwrando er mwyn gweithio gyda chi i weld a ellir ei wneud hyd yn oed yn gryfach. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, rydym yn ei drin gyda'r brys mwyaf, ond rydym eisiau ei gael yn iawn.
Nawr, gwnaeth Natasha Asghar y ddadl nad oes digon o arian ar gyfer bysiau, ac mae'n sicr yn wir, er ein bod yn rhoi swm sylweddol o arian—. Yn ystod y 15 mis diwethaf, rydym wedi blaenoriaethu mwy na £108 miliwn i gefnogi'r diwydiant bysiau drwy COVID. Fel y nododd Hefin a Jack Sargeant yn gywir, oni bai am y cyllid hwnnw, byddai'r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal. Mae hynny ar ben y £90 miliwn rydym eisoes yn ei wario'n flynyddol ar ddarparu gwasanaethau bysiau, ond nid yw hynny'n ddigon i gael y math o wasanaeth bws rydym ei eisiau a'r math a welir ar y cyfandir. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno'r adolygiad ffyrdd. Ac rwy'n sylweddoli nad yw pob Aelod wedi cefnogi hwnnw, ond y rheswm dros wneud hynny yw oherwydd ein bod eisiau rhyddhau cyllid i wneud buddsoddiad, i flaenoriaethu buddsoddiad, mewn trafnidiaeth gyhoeddus. A hoffwn ddweud mor garedig ag y gallaf wrth Aelodau ar draws y Siambr nad oes pwynt cefnogi ymrwymiadau lefel uchel o ran newid hinsawdd os nad ydych yn barod i ddilyn y camau angenrheidiol i wireddu'r ymrwymiadau hynny. Mae'n rhaid symud arian oddi wrth adeiladu ffyrdd a thuag at wella trafnidiaeth gyhoeddus os yw'r holl deimladau a glywsom yn y ddadl hon heddiw am gael eu trosi'n system fysiau sy'n gweithio'n iawn. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar hynny.
Dywedodd Natasha Asghar ei bod wedi bod yn saith mis ers yr adolygiad ffyrdd ac na allwn aros a gwneud dim. Wel, efallai ei bod hi'n aros a gwneud dim, Ddirprwy Lywydd, ond yn sicr nid wyf fi'n gwneud hynny ac nid yw bwrdd y panel adolygu ffyrdd yn gwneud hynny, oherwydd maent yn cyfarfod yn rheolaidd ac maent yn rhoi ystyriaeth ddwys i'r dasg. Maent ar fin cyhoeddi adroddiad dros dro ac adroddiad llawn erbyn yr haf, felly maent yn gweithio'n gyflym.
Gwnaeth Peter Fox y pwynt am ddull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau bysiau, ac roeddwn yn falch o gyfarfod â'r Cynghorydd Richard John, arweinydd Sir Fynwy, ddydd Llun i siarad am drafferthion penodol Sir Fynwy, nad yw'n cael ei gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus—ei olynydd ef—i ddeall y pryderon sydd ganddynt. Ac rwy'n credu—. Rwy'n cytuno â'i her fod gan gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, drwy'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, rôl hanfodol i'w chwarae yn gwneud i'r system fasnachfreinio weithio.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod fy amser wedi dirwyn i ben, ond hoffwn ailadrodd fy niolch i'r holl Aelodau am gytuno ar beth yw'r broblem. Nawr, rwy'n credu mai'r her i bob un ohonom yw dod at ein gilydd i ganfod yr ateb. Diolch.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma heddiw ac i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb. Diolch yn arbennig, wrth gwrs, i James Evans, yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed, am gyflwyno'r ddadl mewn modd trawsbleidiol fel hyn.
Mae hi'n ddadl hynod o bwysig oherwydd nid yn unig ei bod hi'n cyflwyno datrysiad syml a pharod i'r broblem o sut mae cysylltu pobl rhwng pwynt A a phwynt B, ond mae'n gwneud cymaint yn fwy na hynny. Mae sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a llyfn yn ein cymunedau gwledig hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r trafferthion sylfaenol eraill sydd yn ein hwynebu, megis twf economaidd, sicrhau gwaith, sicrhau iechyd corfforol a meddyliol, addysg a llawer iawn yn fwy.
Ddaru ni glywed nifer fawr o gyfraniadau gan nifer o bobl. Fyddaf i ddim yn medru mynd drwy bob un ohonyn nhw, ond, wrth gwrs, ddaru James agor y drafodaeth wrth sôn am ei sgyrsiau efo'r corff arbennig yna sy'n cynrychioli menywod yma yng Nghymru, y WI, a sut mae aelodau o'r WI yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aml iawn, ac, yn benodol, y ffordd maen nhw wedi edrych ar unigrwydd yn ein cymunedau ymhlith y bobl hŷn a sut mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio arnynt hwythau.
Ddaru Jane Dodds sôn am ei chynnig hi ddaru gael ei drafod o'r blaen a'r ffaith bod angen trafnidiaeth am ddim ar fysus i bobl o dan 25 oed, a chynnig datrysiadau amgen i'r broblem yma. Ddaru Carolyn sôn yn rymus iawn am ei phrofiad personol hi ar y cabinet yn Fflint a sôn am sut mae cwmnïau bysus erbyn hyn ond yn edrych i wneud elw ond bod yna angen mwy gan wasanaethau bysus, a bod y galw am wasanaethau bysus er mwyn cysylltu cymunedau a sicrhau bod gan bobl fynediad i wasanaethau yn bwysicach nac elw—pobl dros elw oedd hi'n ei ddweud.
Ac yna, dyma ni'n gweld cyfraniadau pwerus iawn gan Jack Sargeant a Hefin David yn sôn am y dadreoleiddio a fu yn ystod cyfnod Margaret Thatcher a sut roedd hwnna wedi bod yn niweidiol, ac mi fyddaf i yn sicr, felly, yn cefnogi'r gwelliant.
Roedd Sam Kurtz yn sôn am y ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl angenrheidiol i bobl mewn cymunedau gwledig er mwyn cael swyddi, er enghraifft, a'i brofiad personol o. Ac yna, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, ac yntau, wrth gwrs, yn sôn am yr adolygiad ffyrdd. Rwyf innau, yng nghyd-destun Llanbedr, yn boenus o ymwybodol o hynny, a hoffwn i gymryd y cyfle yma, felly, i wahodd y Dirprwy Weinidog i ddod i Lanbedr efo fi er mwyn ein bod ni'n medru ceisio canfod datrysiad amgen i'r broblem yno.
Ond ta waeth am hynny, os ydyn ni o ddifrif, felly, am fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan, yna mae'n rhaid i ni leihau ein gorddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, fel mae nifer fawr yma wedi sôn heddiw. Fel y saif pethau, does yna ddim dewis gan bobl yn ein cymunedau gwledig ond defnyddio car.
Rhwng 2010 a 2018, fe ddisgynnodd y gwariant cyhoeddus ar fysiau o £10 miliwn. Yn ôl ffigurau Campaign for Better Transport, gwelwyd cwymp o bron i 70 y cant yn y pres cyhoeddus a roddwyd i fysiau yn y cyfnod yma ar draws Cymru. Mae sir Fynwy yn gweld cwymp o dros 65 y cant o doriadau; sir y Fflint yn gweld cwymp o 51 y cant; ac, yn wir, mewn rhai siroedd efo ardaloedd gwledig, gwelwyd toriad o 100 y cant yn y sybsidi cyhoeddus, er enghraifft yn Wrecsam a Chastell Nedd Port Talbot. Dydy hyn, felly, ddim yn gynaliadwy, a'r bobl dlotach a mwyaf bregus sydd yn dioddef. Ceir un o'r gwasanaethau gorau, wrth gwrs, yn Llundain, lle, fel rydyn ni'n gwybod, ni welwyd y dadreoleiddio yno o dan Thatcher, ac mae'r achos yna wedi cael ei roi.
Dros yr haf diwethaf yma yn Nwyfor Meirionnydd, gwelwyd busnesau lletygarwch yn gorfod cau yn ystod brig y tymor twristiaeth. Pam hynny? Oherwydd, wrth i ni yn ein swyddfa ffonio'r busnesau yna, yr hyn a ddywedon nhw oedd bod pobl yn methu â chyrraedd eu gweithle. Roedd yna fwytai yn methu agor oherwydd roedd pobl yn byw ymhell i ffwrdd heb drafnidiaeth. Ddaru fi fynd i siarad efo'r ganolfan waith ym Mhorthmadog, a hwythau'n sôn mai'r her fwyaf sydd yn wynebu eu cleientiaid nhw wrth chwilio am waith oedd y gallu i gyrraedd gwaith a'r diffyg gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'w cymryd nhw yna.
Rwyf innau wedi sôn erbyn hyn sawl gwaith am y gwaith rhagorol mae elusen Gisda wedi'i wneud. Mae elusen Gisda wedi cynnal ymgynghoriad efo pobl ifanc yn edrych ar iechyd meddwl, a phobl ifanc Gwynedd yn dweud mai'r her fwyaf i'w iechyd meddwl ydy'r diffyg i gael mynediad i'r gwasanaethau oherwydd eu bod nhw mor bell i ffwrdd a methu â chael trafnidiaeth.
Mae'r achos wedi cael ei wneud yn glir, felly, ac mae nifer o bobl yma wedi rhoi nifer o atebion. Buaswn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, wrth ei fod o'n paratoi'r Papur Gwyn—a chwarae teg i'r Dirprwy Weinidog am sôn am ardaloedd gwledig—i ystyried cynnig Peter Fox fod yna ystyriaeth benodol yn cael ei rhoi i ddatblygu strategaeth wledig yn y Papur Gwyn yna. Felly, diolch yn fawr iawn unwaith eto i James Evans am ddod â'r ddadl yma gerbron ac i bawb am eu cyfraniad. Dwi'n ddiolchgar iawn am hynny. Mi fyddaf i'n cefnogi'r gwelliant ac yn annog pawb i gefnogi'r gwelliant, ac, felly, y cynnig. Mae'r achos wedi'i wneud a dwi'n edrych ymlaen i'r bleidlais. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: effaith COVID ar addysg. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7895 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys:
a) dysgwyr yng Nghymru yn colli mwy o ddyddiau o'u haddysg na dysgwyr mewn rhannau eraill o'r DU yn ystod y pandemig;
b) casgliad Estyn bod holl sgiliau mathemateg, darllen, iaith Gymraeg a chymdeithasol dysgwyr wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion.
2. Yn nodi'r diffyg parhaus o ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru er mwyn sicrhau y gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial, drwy:
a) gwarantu y bydd ysgolion yn aros ar agor;
b) cael gwared ar y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau cyn gynted â phosibl;
c) cyflymu'r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu;
d) codi'r gwastad o ran cyllid ysgolion ledled Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg yng Nghymru o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i agor y ddadl hynod bwysig hon ar adeg dyngedfennol i addysg yng Nghymru. Mae'n destun pryder fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfod defnyddio eu dyraniad amser i siarad am addysg gan mai dyma'r unig gyfle rydym wedi'i gael i ddwyn pryderon i sylw'r Gweinidog addysg sydd, ar wahân i'r cwestiynau yn gynharach, wedi bod yn cuddio y tu ôl i ddatganiadau ysgrifenedig hyd yn hyn eleni.
Gyda'r cyfyngiadau'n parhau yn ein hysgolion yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, gellid dadlau ei bod yn hollbwysig ein bod ni, fel Senedd, yn cael cyfle i graffu ar y cyfyngiadau a'r pryderon presennol mewn perthynas ag un o gyfrifoldebau pwysicaf y Llywodraeth hon, gellid dadlau, os nad y pwysicaf. Nod y cynnig yw tynnu sylw at yr effeithiau andwyol y mae COVID-19 a chyfyngiadau wedi'u cael ar blant a phobl ifanc ledled Cymru a'r diffyg parhaus mewn cyllid fesul disgybl yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Yn hollbwysig, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru.
Ddirprwy Lywydd, a oes problem?
Oes, nid yw'r Gweinidog yn bresennol, felly byddai'n well gennyf aros nes y bydd y Gweinidog yn bresennol.
Peidiwch â phoeni. Gallwn weld ar eich wyneb fod rhywbeth o'i le.
Ie, nid yw'n ymddangos bod y Gweinidog ar fy sgrin, felly rwyf eisiau sicrhau ei fod yma i glywed y ddadl lawn. A, dyma fe'n dod. Felly, Laura, rwyf am ofyn i chi ddechrau eto. Mae'n ddrwg gennyf, ond credaf ei bod yn bwysig eich bod yn dechrau o'r dechrau fel bod y Gweinidog yn clywed y cyfan, o'r gorau.
Yn sicr. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i agor y ddadl hynod bwysig hon ar adeg dyngedfennol i addysg yng Nghymru. Mae'n destun pryder fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfod defnyddio eu dyraniad amser i siarad am addysg gan mai dyma'r unig gyfle rydym wedi'i gael i ddwyn pryderon i sylw'r Gweinidog addysg sydd, ar wahân i'r cwestiynau yn gynharach, wedi bod yn cuddio y tu ôl i ddatganiadau ysgrifenedig hyd yn hyn eleni.
Gyda'r cyfyngiadau'n parhau yn ein hysgolion yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, gellid dadlau ei bod yn hollbwysig ein bod ni, fel Senedd, yn cael cyfle i graffu ar y cyfyngiadau a'r pryderon presennol mewn perthynas ag un o gyfrifoldebau pwysicaf y Llywodraeth hon, gellid dadlau, os nad y pwysicaf. Nod y cynnig yw tynnu sylw at yr effeithiau andwyol y mae COVID-19 a chyfyngiadau wedi'u cael ar blant a phobl ifanc ledled Cymru a'r diffyg parhaus mewn cyllid fesul disgybl yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Yn hollbwysig, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru, er mwyn sicrhau y gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial llawn a chael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Er nad yw wedi'i gynnwys yn y cynnig ger eich bron, yn anffodus, un o effeithiau andwyol mwyaf sylweddol y pandemig fu'r effaith ar y parodrwydd ar gyfer y newid mwyaf aruthrol mewn addysg ers cenhedlaeth, y Cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn cael ei lansio ymhen ychydig fisoedd. Yn dilyn sgyrsiau rwyf wedi'u cael gyda llawer o arweinwyr ysgolion ac athrawon, maent yn pryderu'n fawr am y diffyg cefnogaeth a gawsant yn ystod y camau paratoi terfynol hyn, yn enwedig oherwydd yr holl bwysau ychwanegol sydd arnynt ar hyn o bryd, a hefyd y diffyg esboniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y cynhelir arholiadau yn y dyfodol, i'w galluogi i baratoi'n briodol ar gyfer eu gwersi yn unol â hynny.
Er bod mwy o hyblygrwydd i'w groesawu'n fawr, mae'n ffordd gwbl newydd o weithio sy'n wahanol iawn i'r ffordd rydym wedi bod yn addysgu ers degawdau lawer. Nid oes amheuaeth bellach fod angen mwy o eglurder yn ystod y camau terfynol hyn o baratoi fel y gall staff addysgu eu hunain deimlo'n barod, a sicrhau bod disgyblion yn cael y sgiliau a'r wybodaeth y byddant eu hangen ar gyfer yr arholiadau hynny. Heb unrhyw eglurder ynghylch dyfodol cymwysterau, ni all ysgolion uwchradd yn arbennig, a chyda rheswm da, ymroi'n llawn i broses gynllunio a datblygu'r cwricwlwm—sydd eisoes yn anodd i lawer oherwydd pwysau'r pandemig. Yn sicr, mae'n rhaid cael nod terfynol, ac mae angen inni weld y nod clir hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae athrawon yn crefu am y cyfarwyddyd hwn, ac mae angen sicrhau bod yna gynnig dysgu proffesiynol cydlynol a chenedlaethol ar gael i staff ysgolion yng Nghymru.
Hefyd, nid oes dealltwriaeth glir ar hyn o bryd ynglŷn ag i ba raddau y gellir ymestyn sybsidiaredd, sylfaen y cwricwlwm newydd hwn, ar lefel yr ysgol. Mae angen mynd i'r afael â phethau sylfaenol fel y gellir rhoi cynlluniau ar waith cyn gynted â phosibl, yn enwedig oherwydd bod amser cynllunio wedi'i golli heb unrhyw fai ar y Llywodraeth hon na staff addysgu. Efallai eich bod yn meddwl fy mod wedi gwyro oddi ar y pwynt o ran sut y mae COVID wedi effeithio ar blant a phobl ifanc Cymru. Ond na, mae'r ffaith nad yw paratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru yn brif flaenoriaeth yn peri pryder mawr ac mae'n un o effeithiau pryderus y pandemig hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae pawb eisiau i'r cwricwlwm newydd lwyddo, ond mae'n rhaid i'r Gweinidog sylweddoli, yn ogystal â thaflu arian ychwanegol ato, fod angen mwy o gyfeiriad yn awr. Gyda holl bwysau'r pandemig hwn, absenoldebau staff, absenoldebau disgyblion, y cynnydd mewn addysg yn y cartref ac addysg a gollwyd, mae angen i'r Llywodraeth hon yn awr daflu popeth sydd ganddynt at addysg i sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac addysg sy'n rhoi cyfleoedd iddynt ar yr un lefel â gweddill y DU fan lleiaf, a gwell, gobeithio.
Yn anffodus, nid ydym yn dechrau gyda llawer o fantais. Mae dysgwyr yng Nghymru wedi colli mwy o ddyddiau o'u haddysg y llynedd nag unrhyw le arall yn y DU—66 diwrnod, dros draean o'r flwyddyn ysgol. Yn anorfod, mae hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar ein dysgwyr. Mae hyn yn amlwg o gasgliadau diweddar adroddiad Estyn, a nododd fod sgiliau dysgwyr yng Nghymru wedi dioddef mewn mathemateg, darllen, y Gymraeg a sgiliau cymdeithasol—y cyfan o ganlyniad i gau ysgolion. Mae hyn yn peri pryder mawr. Yn anffodus, mae Cymru wedi bod ymhell y tu ôl i weddill y DU o ran addysg ers degawdau bellach, ac er i'r Gweinidog addysg fynegi peth hapusrwydd yn y gorffennol fod Cymru wedi cyrraedd lefel gyfartalog y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn darllen a llafaredd, i mi, mae hyn ymhell o fod yn iawn. Mae cyn wledydd y bloc Sofietaidd ar yr un lefel. Dylem fod ymhell uwchlaw hynny, ac ar yr un lefel â'r Alban a Lloegr fan lleiaf. Nid oes esgus dros beidio â bod mewn gwirionedd.
Nid yw diffyg fesul disgybl parhaus Cymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU yn ddigon da ychwaith. Ond nid yw'n syndod gan blaid sydd wedi sicrhau mai ni yw'r unig wlad yn y DU i fod wedi torri cyllideb addysg erioed. Tan y gyllideb ddiweddar, am bob £1 a werir yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. O ganlyniad, dylai gwariant ar addysg fesul disgybl yng Nghymru fod o leiaf £1,000 yn fwy o'i gymharu â Lloegr.
Mae plant wedi dioddef llawer yn ystod y pandemig hwn, gyda'u haddysg, eu hiechyd meddwl a newidiadau cerrig milltir pwysig. Collodd fy mhlentyn dwy flwydd oed gyfle i gyfarfod â phlant newydd ei oedran ef yn lleol oherwydd bod dosbarthiadau i fabanod wedi cael eu canslo. Ni chafodd fy mab arall ddathlu ei flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Collwyd llawer o gerrig milltir a dramâu'r geni ac achlysuron pwysig—efallai y byddwch yn meddwl bod y rhain yn ddibwys, ond mae colli'r rhain oll wedi cael effaith ar y plant a'r rhieni.
Mae diffyg dyfeisiau electronig a band eang gwael hefyd yn broblemau a rhwystrau mawr i ddysgu a ddaeth yn amlwg yn sgil y pandemig, ymhlith llawer o anghydraddoldebau eraill ledled y wlad. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at broblemau mawr o ran diogelwch plant, ac at ansawdd yr addysg y gall plant ei derbyn gartref. Hefyd, mae'r pandemig wedi gwneud i bawb ohonom sylweddoli pa mor bwysig yw ysgolion a bywyd ysgol, nid yn unig o ran addysg, ond ar gyfer iechyd meddwl ein plant.
Mae llawer o blant sy'n cael eu haddysgu gartref yn gwneud yn dda, ac mae'n gweithio i rai teuluoedd, gan gynnwys cyd-Aelod i mi, ond erbyn hyn mae cynnydd pryderus yn nifer y rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref, ac rwy'n dweud 'pryderus' oherwydd yn ddiweddar mae rhieni'n aml yn ei wneud mewn ymateb i'r ffaith bod yn rhaid gwisgo masgiau mewn ysgolion, neu oherwydd pryderon am y feirws, nid fel dewis ynglŷn â'r hyn sydd orau i'w plant, eu haddysg, eu teulu a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y duedd hon, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ystadegau gan y Gweinidog ynghylch sut y mae'r Llywodraeth hon yn mesur pa mor gymwys yw'r rhieni hyn sydd eisiau addysgu eu plant gartref, pa mor rheolaidd y ceir arolygiadau, sut y caiff cynnydd ei fonitro, ac a fydd unrhyw beth yn cael ei wneud i annog ailgofrestru mewn ysgolion. Fel y mae data diweddar yn ei ddangos, roedd 4,000 o blant pump i 15 oed yn cael eu haddysgu gartref yn 2021, sy'n gynnydd o 60 y cant ers 2018-19. Mae'n amlwg bod hwn yn gynnydd enfawr, felly edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y bydd yn mynd i'r afael â hyn ar frys.
Rwy'n croesawu'r cynnydd yn y gyllideb addysg eleni, ond rwy'n dal i feddwl tybed a fydd yn ddigon mewn gwirionedd i wneud iawn am yr amser a gollwyd ac i ymdrin â'r holl newidiadau niferus ac enfawr a welwn mewn addysg ar hyn o bryd, sef y cwricwlwm newydd, y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), addasiadau awyru, iechyd meddwl, a gallwn barhau. Rydym yn croesawu'r arian ar gyfer addasiadau awyru, ond mae angen iddynt gael eu gwneud ar gryn dipyn o frys gan ein bod yn dal i weld plant yn eistedd mewn cotiau a siacedi mewn tymereddau rhewllyd, gyda'r holl ffenestri a drysau ar agor yn ein hysgolion a'n colegau. Nid yw hyn yn iawn—nid yw'n iawn ar gyfer eu llesiant, ac nid yw'n gynaliadwy.
Mae'r cynnydd yn yr amseroedd aros i blant gael eu gweld gan arbenigwr triniaeth niwroddatblygiadol yn peri pryder mawr ac yn enghraifft arall o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael. Ar hyn o bryd mae rhestr aros o ddwy flynedd a mwy i blant weld arbenigwr niwroddatblygiadol, sy'n creu problemau sylweddol ar gyfer y dyfodol, ac yn fy marn i, yn creu risg sylweddol i gyfleoedd dysgu a chyfleoedd bywyd plant. Heb yr apwyntiadau niwroddatblygiadol, mae gennym blant y nodwyd yn glinigol eu bod yn awtistig neu ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd gan arwain at lefelau is o ddealltwriaeth a darpariaeth, gan greu senario lle nad yw plant yn cael eu cefnogi'n ddigonol i ffynnu, a gwn fod athrawon yn teimlo'n rhwystredig iawn ynglŷn â hyn. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da yn yr oes sydd ohoni. Mae'n rhaid inni gael y pethau sylfaenol hyn yn iawn cyn inni edrych ar gynlluniau sy'n bachu penawdau.
Rwy'n croesawu'r arian a roddwyd tuag at hyn yn ddiweddar, a'r newidiadau i'r system ar gyfer canfod y cyflyrau hyn, ond ni allwn adael i fwy o blant ddisgyn drwy'r rhwyd. Mae hwn yn fater o frys mawr, yn enwedig ar gyfer plant sy'n agored i niwed, fel y dywedwyd yn y cwestiynau addysg yn gynharach. Mae'r pandemig yn gwaethygu eu problemau, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth ar waith a bod hyn yn cael ei gyflymu i blant.
Un o'r prif bryderon rydym i gyd yn eu rhannu, fel sy'n amlwg o'r gwelliant, yw iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a staff hefyd. Er bod ysgolion yn gallu defnyddio'r arian Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi plant drwy faterion llesiant wedi'u targedu, mae'r pryder ehangach yn ymwneud â lle mae ysgolion yn mynd o'r fan honno, oherwydd heb y cymorth clinigol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl sylweddol, dim ond gosod plastr dros glwyf agored a wnawn. Mae angen adolygiad gwraidd a brig o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Nid problem 'yn awr' yw hon, ond un a fydd yn arwain at ganlyniadau i genedlaethau.
Mae'n destun pryder i mi fod ffocws y Llywodraeth hon wedi bod yn gwbl anghywir yn ddiweddar: addysg rhywioldeb newydd sy'n dileu menywod, ailwampio asgell chwith ein hanes sydd ar fin cael ei gyflwyno i'n plant, a chwricwlwm newydd nad oes gan athrawon ganllawiau clir ar sut i'w gweithredu o hyd.
Effaith bryderus arall ar ein plant mewn perthynas â'r cyfyngiadau presennol yma yng Nghymru yw masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Mae tystiolaeth Llywodraeth y DU a hyd yn oed cynghorwyr gwyddonol Cymreig wedi dweud nad ydynt yn gwneud fawr o wahaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth. Ond oherwydd bod y Llywodraeth hon yn rhy ofnus i wrthsefyll yr undebau a gwrando ar gyngor gwyddonol, mae ein plant yn dal i orfod gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth drwy'r dydd. Gall hyn effeithio'n andwyol ar ddysgu ac ar ddysgwyr, gan ei fod yn cyfyngu ar gyfathrebu rhwng athrawon a disgyblion a chyfathrebu rhwng disgyblion. Mae hefyd yn hynod anghyfforddus ac yn gyfyngus i'w gwisgo am oriau maith.
Mae angen dull sy'n cydbwyso gwahanol fathau o niwed yma gyda'r penderfyniad yn dod o'r brig, gan y bydd yn rhoi ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd fel arall. O ystyried cryfder y teimlad ynghylch masgiau ar y naill ochr a'r llall, credaf y dylid gwneud y penderfyniad hwn yn genedlaethol. Ar ôl mabwysiadu llawer o ddulliau gwahanol, ni fydd o fudd i ddisgyblion a bydd yn creu rhaniadau ar draws y wlad, yn peri gofid yn ogystal â dryswch. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod angen atebion lleol ar rai pethau, ond mae materion fel masgiau wyneb yn galw am ddull gweithredu cenedlaethol mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, bydd atebion lleol gan ysgolion unigol i lawer o bethau, fel rwyf wedi'i ddweud, ond yr adborth rwy'n ei gael yw bod angen i'r Llywodraeth hon ddangos mwy o arweiniad, mwy o fanylion ynghylch yr hyn y gofynnir i ysgolion a phlant ei wneud, mwy o ymdrech i gyflymu'r cymorth ar gyfer pryderon pwysig ynghylch iechyd meddwl plant, a mynd i'r afael â'r amseroedd aros ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, i'r rhai sy'n aros yn awr i gael eu hanghenion wedi eu nodi cyn gynted â phosibl fel eu bod yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys.
Rydym bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae angen mwy nag ymrwymiad yn unig; mae arnom angen cynlluniau manwl ar gyfer diwygio a chymorth. Mae angen i ysgolion wybod y paramedrau y maent yn gweithio ynddynt ac mae angen i ddarpariaeth addysg fod yn gyfartal. Mae angen gweithredu yn awr yn fwy nag erioed i osgoi tarfu pellach ar addysg ein dysgwyr ac i osgoi'r argyfwng iechyd meddwl yn ein hysgolion, gydag effaith mwy o gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â llawer o ffactorau eraill yn ystod y cyfnod clo, yn dechrau dangos yn awr. Mae'r effaith ar iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yn un a fydd yn para am ddegawdau.
Rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a diolch i bob un ohonoch ymlaen llaw am gyfrannu at y ddadl bwysig hon. Mae'n bwysig ein bod yn cael cyfle i drafod y pryderon addysgol hollbwysig hyn sydd gennym i gyd. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data.
3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig.
4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU.
5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar:
a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru;
b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 2 a 3.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw effeithiau y mae'r pandemig COVID-19 parhaus yn eu cael ar blant a phobl ifanc yn y dyfodol, yn enwedig o ran dysgu ac iechyd meddwl, yn cael eu lleihau drwy fuddsoddi mewn:
a) technoleg hidlo aer i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw ysgolion yn agored ac yn ddiogel;
b) darpariaeth iechyd meddwl i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Fel sydd yn amlwg o’r cynnig a’r ddau welliant, rydym fel tair Plaid yn gytûn ein bod yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gyfnod o ansicrwydd mawr iddynt oll ac mae’n bwysig ein bod yn blaenoriaethu a sicrhau y gefnogaeth angenrheidiol iddynt. Ond er bod COVID wedi dod â heriau ychwanegol, mae’n bwysig heddiw hefyd cydnabod nad oedd pethau’n berffaith cyn y pandemig. Roedd cyllidebau ysgolion wedi cael eu gwasgu, ac fel rydym i gyd yn gwybod, mae tlodi plant yn broblem enbyd sydd hefyd yn effeithio ar ddysgwyr. A rhaid cyfaddef, wrth wrando ar Laura Jones yn sôn am blant yn oer yn y dosbarth oherwydd yr angen am awyru ac ati, beth am rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig rŵan o ran y ffaith eu bod nhw'n oer gartref hefyd? Rydym wedi gweld y diffyg o ran cadw'r £20 ychwanegol yma o ran y credyd cynhwysol a'r costau byw cynyddol. Mae hon yn broblem ehangach. Dydy o ddim jest oherwydd COVID, ac mae yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran cefnogi ein plant ni yma yng Nghymru hefyd.
Credaf fod angen herio rhai o’r honiadau yng nghynnig y Ceidwadwyr hefyd. Mae’r cynnig yn nodi
'diffyg parhaus o ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU.'
Yn 2018, daeth dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i’r casgliad nad oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, ac eithrio Llundain, o ran cyllid fesul disgybl. O ran cyllid adfer, gadewch inni gael y ffeithiau’n iawn: mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £38 miliwn pellach yn 2022-23 ar gyfer ymateb y sector addysg i’r pandemig, sy’n dilyn oddeutu £190 miliwn yn 2021-22 a £220 miliwn yn 2020-21. Er bod y lefel hon o gyllid yn llai na’r hyn y mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio sydd ei hangen, amcangyfrifodd y Sefydliad Polisi Addysg ym mis Ebrill 2021 fod angen i Lywodraeth Cymru wario rhwng £600 miliwn a £900 miliwn. Nododd y Sefydliad Polisi Addysg hefyd ym mis Mehefin 2021 mai'r cyllid ar gyfer adferiad addysg ar ôl COVID fesul dysgwr yng Nghymru yw’r uchaf o bedair gwlad y DU. Yn hyn o beth, ysgrifennodd y Sefydliad Polisi Addysg mai
'yng Nghymru y mae'r gwariant a gynlluniwyd uchaf ar hyn o bryd ar adferiad addysg fesul disgybl (£400 y disgybl), ac yna Lloegr (£310 y disgybl), tra'i fod oddeutu £230 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.'
Felly, mae rhai o’r honiadau a wneir yng nghynnig y Ceidwadwyr yn ffug. Er y gallai Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, fynd ymhellach o lawer, mae’r cyllid i’w groesawu.
Hoffwn nawr droi at welliannau Plaid Cymru. Gwyddom mai un o'r ffyrdd allweddol y gallwn leihau lledaeniad COVID-19, gan gynnwys yr amrywiolyn omicron, mewn ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar yw sicrhau eu bod wedi'u hawyru'n dda. Mae awyru da yn atal y feirws rhag aros yn yr aer a heintio pobl. Mae nifer o ardaloedd mewn ysgolion eisoes wedi'u hawyru'n dda gyda digon o symudiadau awyr, a rŵan gallwn hefyd fonitro’r ardaloedd eraill gan ddefnyddio'r monitorau carbon deuocsid y mae Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi buddsoddi ynddynt. Ond beth ddylai ysgol ei wneud pan fydd yn dod o hyd i ardal sydd ddim wedi'i hawyru'n dda? Wel, mae canllawiau a synnwyr cyffredin yn nodi mai’r peth syml yw camau syml fel agor drysau a ffenestri, ond a yw hyn yn bosibl i bob ysgol?
Os na ellir datrys y mater yn hawdd, cynghorir ysgolion i edrych ar ba waith y gellid ei wneud i wella awyru. Gallai hyn gynnwys buddsoddi mewn fentiau, drysau neu ffenestri. Yn hyn o beth, felly, croesawaf y £50 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar i awdurdodau lleol drwy'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu i helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru. Bydd ysgolion hefyd yn elwa o fuddsoddiad sy'n anelu at eu gwneud yn amgylcheddau mwy creadigol, personol, cynhesach a chroesawgar. Ond yn y tymor hir, mae angen inni hyrwyddo awyru da, gwell ansawdd aer, a blaenoriaethu golau dydd naturiol gan fod pob un ohonynt yn effeithio'n sylweddol ar berfformiad mewn lleoliadau ysgol, ynghyd ag ansawdd aer.
Nid yw'r pandemig ar ben eto, ac mae COVID yn dal i fod yn berygl clir a chyfredol. Pwy sydd i ddweud pryd y bydd yr amrywiolyn nesaf, neu hyd yn oed pandemig arall, yn bygwth ein poblogaeth, gan gynnwys ei haelodau ieuengaf? Mae angen inni sicrhau bod ein hysgolion mor ddiogel â phosibl, nid dim ond rŵan ond hefyd ar gyfer y dyfodol.
Mae’r pandemig a chau ysgolion yn sgil hynny wedi cael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae rhieni wedi dweud bod meddwl am hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, ymarfer corff gormodol a gorbryder wedi dechrau ymhlith plant a phobl ifanc o ganlyniad i ansicrwydd ynglŷn â bywyd ysgol, gwaith ysgol, arholiadau ac ofn yn ystod y pandemig. Bellach, mae angen cymorth iechyd meddwl proffesiynol ar blant ond cânt eu rhwystro gan restrau aros hir am apwyntiadau gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Gwyddom fod y data’n dangos bod yr amseroedd aros yn rhy hir o lawer.
Felly, heddiw, hoffwn ofyn i bob un ohonom anghofio unrhyw bwyntiau gwleidyddol y gallai’r cynnig gwreiddiol a gwelliant y Llywodraeth fod yn ceisio'u sgorio, ac uno y tu ôl i welliannau Plaid Cymru sy’n cydnabod yr argyfwng ac yn ymrwymo pob un ohonom i gydweithio i ddod o hyd i atebion yn y tymor byr ac yn hirdymor i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Fel rhiant, rwy'n gwbl ymwybodol o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar genedlaethau iau, ond diolch byth, mae fy mab yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi dioddef unrhyw niwed mawr i'w addysg. Ond nid yw plant hŷn a phobl ifanc mor ffodus â hynny. Fel rhieni, rydym bob amser yn poeni am ddyfodol ein plant, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu'r pryder hwnnw'n helaeth. Er bod plant ifanc yn llai tebygol o ddal neu ledaenu COVID, a bod y plant sy'n dal y feirws yn fwy tebygol o fod heb symptomau, mynnodd Llywodraethau gau ysgolion am gyfnodau hir, cafodd arholiadau eu canslo a dysgu wedi'i gyfyngu, gan darfu ar addysg a datblygiad plant ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau ifanc.
Er bod rhywfaint o gyfiawnhad dros fesurau o'r fath ddwy flynedd yn ôl pan nad oeddem yn gwybod fawr ddim am COVID, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros hynny erbyn hyn. Mor gynnar â mis Gorffennaf 2020, roedd astudiaethau meddygol yn dangos bod plant yn llawer llai tebygol o gael eu heintio nag oedolion. Pan fyddent yn dal COVID, roeddent yn fwy tebygol o gael haint llai difrifol yn y system anadlu uchaf, heb ledaenu llawer o'r feirws. Parhaodd y data i dyfu wrth i fwy a mwy o astudiaethau gael eu cynnal, ac erbyn canol y llynedd, roedd y dystiolaeth yn glir nad yw plant dan 10 oed yn fectorau sy'n lledaenu COVID.
I blant hŷn a phobl ifanc, roedd y sefyllfa'n fwy cymysglyd. Er y gallant ledaenu COVID, maent yn fwy tebygol o fod yn asymptomatig, ac eto fe wnaethom barhau i gau ysgolion i atal plant rhag lledaenu'r feirws, heb fawr o sylw i'r effaith roedd hyn yn ei chael ar eu datblygiad. Er bod y rhai mwyaf agored i’r clefyd eisoes wedi cael eu brechu, collodd ein plant draean o’u haddysg yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i orymateb i’r pandemig. Bydd eu methiannau a’u diffyg arweiniad wedi gwneud cryn dipyn o niwed i genhedlaeth gyfan o blant a phobl ifanc.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynllun ar gyfer ysgolion, ond yn hytrach na gadael i ysgolion fynd yn ôl i fel roeddent cyn y pandemig, maent wedi penderfynu petruso, oedi a thaflu'r baich. Cafwyd ansicrwydd pellach yn lle'r eglurder y mae rhieni a phlant ei eisiau a'i angen. Gellir crynhoi eu datganiad fel hyn: 'Bydd pethau'n parhau fel y maent am y tair wythnos nesaf a byddwn yn taflu'r baich ar ysgolion ac awdurdodau addysg; gallant hwy benderfynu pa gyfyngiadau sy'n angenrheidiol'. Nid oes amheuaeth pa benderfyniad sy’n rhaid ei wneud. Mae'n rhaid cael gwared ar yr holl gyfyngiadau'n gyfan gwbl, ac mae'n hen bryd inni ddysgu byw gyda'r feirws hwn.
Mewn tymor ffliw gwael, yn anffodus gwelwn gymaint o farwolaethau ag y gwnawn gyda COVID, ond nid ydym yn mynd i banig ac yn cau ysgolion, yn gorfodi plant i eistedd mewn ystafelloedd dosbarth rhewllyd neu sefyll y tu allan yn y glaw am awr. Mae'n bryd rhoi diwedd ar gyfyngiadau diangen ac annheg, mae'n bryd i addysg ein plant fynd yn ôl i normal ac mae'n bryd rhoi'r gorau i orymateb. Diolch.
Hoffwn wybod a yw hon yn ddadl am effaith COVID ar bobl ifanc a'u haddysg, neu'n gyfle i'r Ceidwadwyr refru am y darnau o'r cwricwlwm nad ydynt yn eu hoffi, gan y credaf fod rhywfaint o ddryswch yn fy meddwl i, neu yn hytrach, ym meddwl Laura Jones, ar y mater.
Cytunaf yn llwyr ei bod yn siomedig fod dysgwyr yng Nghymru wedi colli mwy o ddiwrnodau o’u haddysg nag mewn mannau eraill yn y DU yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, fel yr amlygwyd gan y Ganolfan ar gyfer Perfformiad Economaidd. Ond mae’r adroddiad hwnnw hefyd yn cadarnhau mai’r dysgwyr mwyaf agored i niwed a gafodd y golled fwyaf o ran dysgu. Ni chlywais yn y cyfraniad blaenorol gan Gareth Davies beth y byddai ef wedi'i wneud i ddiogelu dysgwyr agored i niwed, gan y cofiaf yn glir iawn i'r hybiau ysgol a sefydlwyd gennym ar ddechrau’r argyfwng weithio’n dda ar gyfer gweithwyr allweddol yn y gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys pobl ym maes iechyd, bwyd a manwerthu, a’u bod, heb os, wedi’u lleoli yn y lleoedd iawn i alluogi’r gweithwyr allweddol hynny i fynd i’r gwaith wrth i'w plant barhau i ddysgu mewn ysgol.
Ond pwy feddyliai y byddai dysgwyr agored i niwed yn dod i hyb gweithwyr allweddol? Nid oedd byth yn mynd i ddigwydd. Un diffiniad o amddifadedd yw amharodrwydd i adael y gymuned lle rydych yn byw o un flwyddyn i’r llall, ac mae angen sicrwydd lle ac athrawon y maent yn ymddiried ynddynt ac yn gyfarwydd â hwy ar blant agored i niwed a chanddynt fywydau problemus. Nid oeddent byth yn mynd i ddod i leoliad lle nad oeddent yn adnabod unrhyw un. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi dadlau a phwyso ar ei ragflaenydd ar hyn, a chwarae teg i Kirsty Williams, fe newidiodd y rheolau, ac mewn cyfnodau o gyfyngiadau symud ar ôl y cyfnod cyntaf, cafodd pob ysgol aros ar agor i holl blant gweithwyr allweddol a'r holl blant agored i niwed.
Am ail flwyddyn y pandemig, rwy'n gobeithio y bydd y Ganolfan ar gyfer Perfformiad Economaidd yn ailadrodd eu dadansoddiad fel y gallwn weld darlun eithaf gwahanol. Oherwydd er mai Cymru oedd y wlad fwyaf llwyddiannus o bell ffordd yn rheoli omicron, mae dull laissez-faire Llywodraeth y DU wedi gadael i omicron fynd yn rhemp yn Lloegr, ac yn anecdotaidd, mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar bresenoldeb ysgolion, ac nid ar bresenoldeb disgyblion yn unig. Mae hefyd wedi cadw nifer enfawr o athrawon allan o’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys fy merch, a gafodd brawf COVID positif y bore yma. Os yw eich swydd yn cynnwys cysuro plant nad ydynt yn teimlo’n dda ac sydd wedyn yn profi’n bositif, mae'n anochel fod eich tebygolrwydd o ddal COVID yn—
Jenny, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Gareth. A ellir dadfudo Gareth Davies, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf, Jenny. A ellir dadfudo Gareth Davies, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A allai Jenny Rathbone brofi’r honiad fod omicron rywsut yn rhemp yn Lloegr o gymharu â Chymru? A oes gennych unrhyw wyddoniaeth neu ystadegau i gefnogi eich honiad?
Credaf ei bod braidd yn gynnar am ystadegau. Rwy'n dweud wrthych am brofiad ysbyty Preston a'r holl ysgolion yn Essex, gan mai dyna ble mae fy merch yn addysgu. Gallaf ddweud wrthych nad yw’r asiantaethau athrawon cyflenwi yn gallu cyflenwi’r bobl sydd eu hangen ar ysgolion. Maent yn mynd ati fel lladd nadroedd i ffonio pawb i weld a wnaiff unrhyw un weithio oriau ychwanegol neu ddiwrnodau ychwanegol gan nad oes digon o bobl i gadw athrawon o flaen disgyblion yn y dosbarth. Felly, mae'n sicr wedi cael effaith aruthrol, ar blant a hefyd ar eu hathrawon.
Ac yna, rwy'n eich clywed yn dweud—. Credaf mai chi, neu eich cyd-Aelod a ddywedodd na ddylem fod yn gofyn am basys COVID mewn ysgolion, fod yn rhaid i hynny ddod i ben. Mae gennym rwymedigaeth i gynnal—. Mae'n ddrwg gennyf: gwneud masgiau'n ofynnol yn yr ysgol, fod yn rhaid i hynny ddod i ben ar unwaith, fod yn rhaid i'r holl gyfyngiadau—chi oedd hynny—gael eu codi ar hyn, gan fod rhwymedigaeth gennym i athrawon. Os ydynt yn barod i beryglu eu hiechyd drwy fynd i mewn i leoedd lle gwyddom nad ydym yn mynd i gael pasys COVID ar waith, am resymau moesegol amlwg, mae gennym rwymedigaeth i sicrhau ein bod yn cadw'r gweithle yn yr ysgol mor ddiogel â phosibl, ac mae masgiau wyneb yn un o'r pethau y maent yn eu defnyddio i wneud hynny, yn ogystal â swigod grwpiau blwyddyn a phopeth arall. Felly, ni allaf ddeall pam fod Laura Anne Jones, unwaith eto, wedi ailadrodd mantra laissez-faire y libertariaid eithafol i lawr yn San Steffan sy'n gwrthwynebu unrhyw gyfyngiad ar ryddid personol, hyd yn oed pan fyddant yn disgwyl cyfyngiadau gwahanol ar gyfer pobl eraill. Mae'n ddyletswydd arnom i gadw gorchuddion wyneb er lles ein hathrawon. Hyd nes y bydd y data’n dweud wrthym nad yw hynny’n angenrheidiol mwyach, rydym yn seilio ein rheolau ar hynny, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod y nifer fwyaf sy'n bosibl o blant yn yr ysgol, a’n bod yn gwneud popeth a allwn i atgyweirio’r holl ddifrod, felly—
Jenny, mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr.
Iawn. Dylwn ddweud ei bod yn gwbl anghywir fod gan Gymru lai o gyllid. Fel y mae cynnig Llafur yn ei nodi, rydym yn gwario mwy o arian o lawer ar geisio atgyweirio’r niwed anochel a ddigwyddodd ymhlith ein plant, a dylai hynny fod yn destun gofid i bob un ohonom. Ond mae'r pethau sydd angen inni eu gwneud, sef cyflogi mwy o weithwyr ieuenctid, cyflogi mwy o gwnselwyr a sicrhau ein bod yn hyrwyddo chwarae fel ffordd o wella yn sgil COVID yn ffyrdd hynod bwysig o helpu pobl ifanc a phlant i wella ar ôl y pandemig echrydus.
O’r cychwyn cyntaf, mae'n rhaid nodi bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi tanariannu ein hysgolion a’n system addysg yn ddifrifol. Am bob £1 a werir yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. O ganlyniad, dylai gwariant addysg fesul disgybl yng Nghymru fod o leiaf £1,000 y flwyddyn yn fwy, o gymharu â Lloegr. Fodd bynnag, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae pob unigolyn ifanc yng Nghymru yn derbyn £100 yn llai na’u cyfoedion yn Lloegr, yn bennaf oherwydd biwrocratiaeth Llywodraeth Cymru. Fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb ddiweddar y DU, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i gynnydd o £2.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i gyllideb Llywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf. Dyma’r cynnydd mwyaf yn y setliad cyllid blynyddol ers dechrau datganoli, a hynny ar ben cyllid sylfaenol ychwanegol o £1.9 biliwn, a gadewch inni obeithio y bydd yr arian hwnnw’n mynd i mewn i’n hysgolion.
Gan droi at y cyfyngiadau presennol sydd ar waith yn ein sefydliadau addysg, mae diffyg paratoi gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith negyddol ar addysg ein plant a’n pobl ifanc yng Nghymru. Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cael gwared ar fasgiau wyneb gorfodol yn ein hysgolion. Mae masgiau mewn ystafelloedd dosbarth yn atal plant a phobl ifanc yng Nghymru rhag mwynhau profiad normal yn yr ystafell ddosbarth. Maent yn parhau i lesteirio eu datblygiad. Mae iechyd meddwl plant wedi dioddef digon—
James, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Jenny Rathbone?
Iawn, dwy eiliad. Mae plant Cymru yn haeddu byw mewn amgylchedd agored a chynhwysol. Fe dderbyniaf ymyriad gan Jenny Rathbone, gwnaf.
Diolch, James. Oni wnaethoch fy nghlywed pan ddywedais yn gynharach: mae angen masgiau wyneb arnom er mwyn atal COVID rhag lledaenu yn yr ystafell ddosbarth, i gyd-ddisgyblion a hefyd i ddiogelu staff? Fel arall, bydd gennym y sefyllfa sydd gennym mewn rhannau o Loegr lle mae nifer enfawr o blant a staff gartref gyda COVID.
Hoffwn ddiolch i Jenny am ei hymyriad. Fodd bynnag, mae angen inni ddechrau dysgu byw gyda COVID. Nid ydym yn gwisgo masgiau yn yr ysgol ar gyfer unrhyw fath arall o haint neu glefyd, felly ni chredaf fod angen gwneud hynny ar hyn o bryd. Ac rwy'n adleisio geiriau Gweinidog addysg yr wrthblaid, Laura Jones, sydd wedi dadlau yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth Lafur hon i wneud i blant ysgol barhau i wisgo masgiau wyneb tan fis Mawrth. Mae’r Llywodraeth hon yn taflu baich y cyfrifoldeb ar ein hysgolion ac yn creu gwahaniaethau ledled Cymru, lle mae masgiau mewn rhai ysgolion ond nid mewn ysgolion eraill. Mae'n rhaid i’r Llywodraeth hon ysgwyddo'r cyfrifoldeb a rhoi’r gorau i drin plant yn wahanol i weddill y boblogaeth. Rydym yn gweld y ffigurau iechyd meddwl gwael ymhlith pobl ifanc, ac nid yw gorfodi plant i wisgo masgiau yn helpu’r sefyllfa. Rydym eisoes wedi clywed am amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; mae hyn oll yn digwydd am fod ein plant dan bwysau o hyd ac o hyd.
Mae Gweinidogion Llafur Cymru wedi gorymateb i omicron. Ni allwn barhau i gael cyfyngiadau pan fo rhannau eraill o'r DU yn agor. Ac yn anffodus i bobl Cymru, mae penderfyniad diweddar Llafur Cymru wedi ymwneud â gwleidyddiaeth yn hytrach na'r wyddoniaeth. Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i leihau cyfnodau ynysu i bum niwrnod; rhywbeth i’w ddathlu, ond wythnosau ar ei hôl hi, sydd wedi achosi problemau i bobl ifanc yn ogystal â'r bobl hynny sy’n gweithio yn Lloegr. A'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sy'n galw am ryddid, rhyddid ac agwedd agored yn y Senedd hon, wrth i eraill yn y Senedd barhau i ddilyn Llywodraeth Lafur Cymru.
James, a wnewch chi dderbyn ymyriad arall gan Heledd Fychan?
Gwnaf, pam lai?
Diolch. A oes gan James Evans unrhyw bryderon ynghylch effaith COVID hir ar blant? Nid wyf yn siŵr a glywsoch chi Adam Price yn datgan ddoe fod ymchwil yn amcangyfrif bod rhwng 10 ac 20 y cant o blant sy'n dal COVID-19 wedi datblygu COVID hir pediatrig. A ydych mor ddi-hid gydag iechyd ein plant fel nad oes ots gennych, a dweud bod yn rhaid inni fyw gyda hyn?
Mae'r awgrym nad oes ots gennyf am ddyfodol ac iechyd ein plant yn fy ngwneud i'n ddig. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn poeni am iechyd a lles ein plant, a dyna pam ein bod wedi galw dro ar ôl tro yn y lle hwn ar Lywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu iechyd meddwl ac iechyd ein plant.
A hoffwn drafod gwelliant Plaid Cymru yn gyflym, Ddirprwy Lywydd. Mae’r gwelliant yn sôn am effeithiau yn y dyfodol, ond mae effeithiau negyddol COVID a chyfyngiadau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yma yn awr. Mae plant yng Nghymru eisoes wedi colli mwy o addysg nag unrhyw wlad arall yn y DU ac mae’r gofyniad parhaus am fasgiau wyneb yn parhau i lyffetheirio plant yn eu hamgylcheddau dysgu. Nid anghytuno'n unig â Llywodraeth Lafur Cymru a wnawn, rydym yn cynnig dewisiadau eraill. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi’r hyn y credwn y dylid ei wneud yn glir iawn. Dylai’r Gweinidog roi rhai o’n mesurau ar waith, gan warantu bod ysgolion yn aros ar agor, cael gwared ar y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb, cyflymu’r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell yn ein hamgylcheddau dysgu, a chodi'r gwastad ar gyllid ysgolion ledled Cymru i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU.
Ddirprwy Lywydd, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir, cynllun y dylai Llywodraeth Lafur Cymru ei fabwysiadu, ac rwy'n annog pob un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon heddiw i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Gobeithio nad oes ots gennych os dechreuaf fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr am eu geiriau caredig a’u dymuniadau da yn ystod fy arhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar. Roedd yn golygu llawer i mi, ac mae'n dda iawn bod yn ôl heddiw.
Mae hefyd yn dda bod yn ôl i gymryd rhan yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar effaith COVID ar addysg. Mae rhieni, disgyblion, ac yn arbennig, staff addysgu wedi ymateb yn wych i’r her o weithio’n wahanol a chystadlu â rheolau a rheoliadau sy’n newid yn barhaus i daro’r cydbwysedd anodd rhwng darparu addysg ragorol a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Ac mae cymunedau wedi gwneud hynny hefyd. A hoffwn achub ar y cyfle i ganmol gwaith gwirfoddolwyr lleol a grwpiau cymunedol yn helpu ar fyr rybudd pan darodd y pandemig gyntaf i sicrhau bod dysgu rhithwir yn mynd rhagddo. Enghraifft allweddol fyddai grŵp gweithredu COVID-19 Porthcawl yn fy rhanbarth i a gasglodd gyfrifiaduron a gliniaduron a’u rhoi i ddisgyblion oedran ysgol a fyddai wedi methu cael mynediad at ddosbarthiadau ar-lein fel arall o bosibl. Felly, diolch yn fawr iddynt hwy ac i'r grwpiau eraill y gwn amdanynt ledled Cymru a helpodd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg, er gwaethaf y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y pandemig.
Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar effaith cau ysgolion. Oherwydd mae pob un ohonom yn ymwybodol o werth un diwrnod ysgol. Mae’r gwersi a ddysgir, boed ar y cwricwlwm ai peidio, yn amhrisiadwy ac yn ddigyffelyb, a’r llynedd yng Nghymru, fel y dywedodd Laura Anne Jones, collodd disgyblion 66 o’r dyddiau hynny oherwydd y mesurau COVID-19 a oedd ar waith yng Nghymru, sy’n fwy o amser wedi'i golli o'r ystafell ddosbarth nag unrhyw ran arall o'r DU. Ac fel y dywedasom yn ein cynnig, mae Estyn wedi nodi’n glir fod hynny’n golygu bod sgiliau mathemateg, darllen, Cymraeg a chymdeithasol dysgwyr oll wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion. Ond y gwir amdani yw nad ydym yn gwybod eto pa mor sylweddol fydd yr effaith yn hirdymor. Oherwydd er gwaethaf ymdrechion gwych rhieni, athrawon a disgyblion, nid yw dysgu rhithwir yr un peth â bod mewn ystafell ddosbarth.
Rhagwelodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y byddai dysgwyr presennol yn debygol o ennill llai o gyflog, gan amcangyfrif y gallai’r gwahaniaeth fod cymaint â £40,000. Mae'r dysgu coll hwn ar draws y 66 diwrnod wedi arwain at effaith sylweddol ar ragolygon hirdymor plant. Maent hefyd wedi rhagweld y byddai'r gost ariannol o sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn dal i fyny’n ddigonol â’r addysg y maent wedi’i cholli oddeutu £1.4 biliwn, ond hyd yn oed wedyn, mae’n debygol y byddai hynny’n arwain at fyfyrwyr yn cael eu gorlwytho â gwaith a’r pwysau angenrheidiol i ddal i fyny â'r sgiliau a gwaith na chawsant gyfle i'w dysgu yn y lle cyntaf.
Nawr, ni allwch roi pris ar ddylanwad athro da yn yr ystafell ddosbarth a'r ffyrdd y gallant nid yn unig addysgu, ond siapio bywyd a dyfodol mewn ffordd nad yw'n bosibl dros Zoom. Ac er bod y rhan fwyaf o rieni wedi camu i'r adwy drwy helpu eu plant cystal ag y gallant i sicrhau nad ydynt ar eu colled drwy beidio â bod yn yr ysgol, y gwir amdani yw mai dyma'r un bobl sy'n aml iawn yn ymdopi â nifer o newidiadau a heriau eraill yn eu bywyd proffesiynol a’u hymrwymiadau cymdeithasol a theuluol o ganlyniad i effeithiau ehangach COVID. Er bod llawer o rieni a gofalwyr wedi llwyddo i gydbwyso gweithio gartref gyda gofal plant ac addysg a fyddai fel arall wedi cael ei ddarparu gan ysgolion cyn y pandemig, nid oedd pob dysgwr ifanc mor ffodus â hynny. Ac yn aml, y dysgwyr hynny a fyddai'n elwa fwyaf o ddiwrnod ysgol rheolaidd a dylanwad athro da.
Ond mae'n ymwneud â mwy na dysgu'r sgiliau cymdeithasol. Yn aml, ysgolion yw'r unig fannau lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Rydym wedi trafod manteision chwaraeon ac ymarfer corff sawl gwaith yn y Siambr, o ran iechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd o ran datblygiad a phwysigrwydd pethau fel gwaith tîm a bondio. Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam fod hyn mor bwysig wrth symud ymlaen. Mae angen inni sicrhau nad ydym byth yn cyrraedd sefyllfa lle caiff ysgolion eu gorfodi eto i gau oherwydd COVID. Mae datblygiadau mewn triniaethau a'r gwaith aruthrol o gyflwyno brechlynnau ledled y DU wedi lliniaru effaith COVID, ac mae llawer o staff addysgu bellach yn dymuno addysgu disgyblion yn eu hystafell ddosbarth, gan eu bod hwythau hefyd yn sylweddoli faint o effaith y mae cau ysgolion wedi’i chael.
Ond hefyd i’n cenhedlaeth bresennol, i’r disgyblion sydd eisoes wedi’u heffeithio, ni allwn fforddio cael cenhedlaeth o blant COVID y mae eu haddysg wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bwysau’r coronafeirws. Dyna pam fod arnom angen cynllun gan Lywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r effaith y mae’r pandemig eisoes wedi’i chael ar ddysgwyr Cymru, a dyna pam fy mod yn gofyn i Aelodau o bob rhan o’r Siambr gefnogi ein cynnig heddiw.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n gwbl sicr bod ysgolion a dysgwyr wedi wynebu aflonyddu sylweddol yn sgil y pandemig, ac mae wedi bod yn sefyllfa andros o anodd mewn nifer o ysgolion ac i nifer o'n pobl ifanc ni. Mae'r penderfyniadau cenedlaethol, y rheoliadau cenedlaethol a'r canllawiau cenedlaethol rŷn ni wedi'u cymryd fel Llywodraeth yma yng Nghymru wedi bod yn seiliedig ar ddata ac ar gyngor gwyddonol a meddygol.
Mae hynny’n cynnwys defnyddio gorchuddion wyneb, ac rwy’n poeni mai barn Laura Anne Jones ar hynny mor aml yw, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr’. Mae hyrwyddo agwedd y Llywodraeth ar gyfer Lloegr mewn perthynas â gorchuddion wyneb i'w weld yn arbennig o ddi-hid ar ddiwrnod pan fo absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID yn ysgolion Lloegr ar eu huchaf ers dechrau’r flwyddyn academaidd. Rydym am i ddisgyblion fod mewn ysgolion ac rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ysgolion, colegau a lleoliadau addysg yn lleoedd diogel i ddysgu ac i weithio ynddynt. Rydym wedi darparu'r canllawiau a'r cyllid i helpu lleoliadau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch ar gyfer dysgu, boed hynny gartref, neu wyneb yn wyneb pan fo angen.
Ein nod drwyddi draw oedd gwneud y mwyaf o ddysgu a lleihau tarfu ar ein pobl ifanc, ac nid ydym wedi gwneud hynny ar ein pen ein hunain, wrth gwrs. Rwyf am ddiolch i'n holl bartneriaid, yr holl staff addysg yng Nghymru, am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig. Rydym yn deall yn iawn y pwysau ychwanegol y mae ysgolion yn ei wynebu ar hyn o bryd. Darparais ddiwrnodau cynllunio ar ddechrau'r tymor hwn i helpu i ystyried y mesurau y byddai eu hangen yn ystod yr wythnosau hyn i gadw ein pobl yn ddiogel.
Rydym yn ymwybodol o'r pwysau y mae COVID wedi'i greu ar staffio; Ddirprwy Lywydd, rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflenwi i helpu i leddfu hyn. Yn nhymor yr hydref, gwnaethom ddarparu 400 o athrawon newydd gymhwyso mewn swyddi cyflogedig mewn ysgolion ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ymestyn hynny y tymor hwn hefyd. Rydym wedi cynorthwyo ysgolion a lleoliadau eraill i ymateb i'r pwysau uniongyrchol hwn, ond mae angen inni edrych ar yr effeithiau hirdymor hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn enwedig ar les a chynnydd dysgwyr, pethau y mae rhai o'r Aelodau wedi sôn amdanynt. Felly, mae ein cynllun adnewyddu a diwygio yn canolbwyntio ar gefnogi system addysg wedi'i hadfywio a'i diwygio, system wydn ag iddi ffocws sy'n rhoi iechyd a lles corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei dull o weithredu. Ac mae'r dull hwnnw'n gwbl ganolog i'n cwricwlwm newydd.
Mae'r gwaith paratoi ar gyfer y cwricwlwm yn parhau, boed yn waith y rhwydwaith cenedlaethol ar gynllunio a chynnydd, yn fwyaf diweddar yr adnoddau newydd ar asesu, y buddsoddiad sylweddol mewn dysgu proffesiynol—. Mae mwy i'w wneud i sicrhau bod hynny mor hygyrch â phosibl i'n gweithlu, yn bendant, a byddwn yn gweithio gyda hwy ar hynny. Ac rwy'n edrych ymlaen at y gynhadledd y byddaf yn ei chael gyda phenaethiaid ymhen ychydig wythnosau ar baratoi ar gyfer y cwricwlwm.
Ond gwyddom hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod llawer o ddysgwyr, yn enwedig y rhai mewn blynyddoedd arholiadau, yn profi gorbryder—a hynny am resymau y byddem i gyd yn eu deall—ac mae rhai'n teimlo eu bod wedi ymddieithrio oddi wrth addysg. Mae'r cyllid o £24 miliwn a gyhoeddais cyn y Nadolig yno i gynorthwyo dysgwyr mewn blynyddoedd arholiad i gael y cyngor ychwanegol a'r cymorth personol y bydd eu hangen arnynt. Rydym eisoes wedi ymrwymo, yn ystod y flwyddyn ariannol hon—. Mewn gwirionedd, y ffigur yw gwerth £230 miliwn o gyllid ychwanegol i ymdrin â COVID, yn ogystal â ffigurau cyfatebol o gyllid yn y flwyddyn cyn hynny.
Rydym wedi clywed nifer o'r Aelodau heddiw yn gwneud pwyntiau am fesurau diogelwch mewn ysgolion. Fel y clywsoch chi fi'n dweud ddoe, ein cyngor clir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod angen ychydig wythnosau eto arnom i allu bod yn sicr o'r patrwm. Rydym wedi bod yn gwbl glir mai dyna yw ein blaenoriaeth. Rwyf wedi clywed mwy nag un Aelod yn dweud heddiw fod dysgwyr yng Nghymru wedi colli mwy o amser ysgol nag mewn rhannau eraill o'r DU. Er enghraifft, credaf mai dadansoddiad teg o'r data yng Nghymru yn erbyn y data yn Lloegr, os mynnwch, yw bod y darlun yn debyg ar y cyfan a bod pob rhan o'r DU yn wynebu her weddol debyg o ran ei maint. Y gwir amdani, Ddirprwy Lywydd, yw na ellir dadansoddi'r darlun yn fanwl. Yn Lloegr, adroddir am absenoldebau disgyblion mewn arolwg gwirfoddol ac maent yn cael tua 50 y cant, 60 y cant, o'r wybodaeth yn ôl fel mater o drefn. Yng Nghymru, cawn 100 y cant fel mater o drefn, felly mae ein dealltwriaeth yn llawer cliriach yng Nghymru.
Fel y clywsoch chi fi'n dweud ddoe, Ddirprwy Lywydd, ar 10 Chwefror, pan ddaw'r pwynt adolygu nesaf, rydym yn gobeithio cadarnhau y bydd ysgolion yn gallu dechrau symud tuag at eu fframweithiau lleol—dull cenedlaethol sy'n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Ac rwy'n gofyn i ysgolion yn y cyfamser weithio gyda'u hawdurdodau lleol, gyda'u cynghorwyr iechyd cyhoeddus, i baratoi ar gyfer y pwynt hwnnw.
Gwnaeth nifer o'r Aelodau bwynt am awyru, gan gynnwys Heledd Fychan wrth gyflwyno gwelliant Plaid Cymru. Rwy'n falch y dylai fod gan bob ystafell ddosbarth yng Nghymru fonitor carbon deuocsid bellach, sy'n helpu staff i nodi mannau a allai fod wedi eu hawyru'n wael. Rydym wedi darparu cyllid sylweddol ar ddechrau'r flwyddyn hon i gefnogi gwaith cynnal a chadw ysgolion i ymateb i rai o'r heriau hynny, boed yn hidlyddion aer newydd ac unedau trin aer ac yn y blaen. Mae'r cyngor gan y gell cyngor technegol ar ddechrau'r wythnos hon yn pwysleisio mai awyru yw'r ymyrraeth bwysicaf, a bod rôl i ddyfeisiau glanhau aer mewn amgylchiadau penodol ochr yn ochr â hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd camau syml fel gwella'r systemau mecanyddol neu osod offer awyru yn helpu i gylchdroi'r aer, ond mewn achosion lle nad yw hynny'n ddigon, mae'r cyngor newydd gan y gell cyngor technegol yn cefnogi'r defnydd o'r hidlyddion aer ychwanegol hynny. Ond byddwn yn cyhoeddi canllawiau dros y dyddiau nesaf i gynorthwyo ein hawdurdodau lleol i fuddsoddi yn y rheini lle mae angen.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ar fater ariannu, dyma fyth y mae'r Blaid Geidwadol yn ei lledaenu'n barhaus, a chysylltaf fy hun â'r pwyntiau a wnaeth Heledd Fychan am y modd y mae buddsoddiad fesul disgybl yn gymharol debyg at ei gilydd rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r ffigurau y mae'r blaid Dorïaidd wedi bod yn dibynnu arnynt i wneud y ddadl hon oddeutu degawd oed neu fwy erbyn hyn—degawd. Bydd Aelodau a fu yma dros y cyfnod hwnnw yn cofio bod y Blaid Geidwadol, bryd hynny, yn dadlau dros doriad o 12 y cant yn y gyllideb addysg. Mae'r ffigurau'n deillio o'r dyddiau hynny; nid ydynt yn gyfredol o bell ffordd. Mae'r Sefydliad Polisi Addysg wedi dweud wrthym ein bod ni yng Nghymru yn buddsoddi'n fwy a mwy blaengar yn yr ymateb i COVID.
Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud ein bod ni yng Nghymru yn hynod ffodus o gael gweithlu addysg proffesiynol ac ymroddedig iawn, sydd wedi ymrwymo i les a chynnydd ein pobl ifanc, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gweithio gyda ni, ac sy'n parhau i weithio gyda ni, i gadw Cymru'n dysgu ac i gadw Cymru'n ddiogel.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr rithwir y prynhawn yma a gyfrannodd at y ddadl bwysig hon, ac wrth gwrs i'r Gweinidog hefyd am eich ymateb. Hoffwn ymuno â chi, Weinidog, i ddiolch i'n hathrawon, staff ysgolion a staff awdurdodau addysg lleol, pawb sy'n cymryd rhan drwy'r cyfnod anodd hwn, i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu ac yn dal i gael eu haddysgu heddiw.
Mae'r cyfraniadau trawsbleidiol hynny a glywsom heddiw wedi nodi'n glir fod pob plaid wleidyddol ac Aelod yn nodi'r effaith fawr y mae'r pandemig COVID-19 wedi'i chael ar y genhedlaeth iau—mae hynny'n rhywbeth y soniodd Heledd Fychan amdano yn ei chyfraniad ar y dechrau—a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu haddysg drwy'r cyfnod hwn. Fel yr amlinellwyd gan nifer o fy nghyd-Aelodau, fodd bynnag, mae plant Cymru wedi colli mwy o ddysgu nag unrhyw wlad arall yn y DU, a gallai hynny lesteirio eu datblygiad. Credaf fod Jenny Rathbone yn iawn i dynnu sylw at rai o'r heriau y byddai hynny'n eu hachosi i'r rheini sy'n bendant yn fwy agored i niwed yn ein cymunedau, a'r rhai y mae angen mwy o gymorth arnynt. Ac mae'r diffyg mynediad at ddysgu wedi cael effaith bryderus ar gynnydd llawer o ddisgyblion. Fel tad i dair merch ifanc yn yr ysgol gynradd, gwelais beth o hyn drosof fy hun dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ar y pwyntiau a nododd yr Aelodau, roedd Tom Giffard, sy'n edrych yn hynod o iach, yn iawn yn fy marn i i dynnu sylw at rai o'r pethau da, fod dysgu ar-lein wedi gweithio i lawer o ddysgwyr, ond hefyd i dynnu sylw at y ffaith, mewn gwirionedd, nad oes dim i guro dysgu wyneb yn wyneb a manteision cael athrawon a disgyblion yn yr un ystafell ddosbarth. A chredaf fod Heledd Fychan wedi nodi rhai o'r effeithiau, efallai, y gall dysgu ar-lein yn unig eu cael ar iechyd meddwl, ac roedd hynny'n rhywbeth a grybwyllwyd gan eraill hefyd yn ein dadl.
Ar fasgiau wyneb, tynnodd nifer o'r Aelodau sylw at y problemau neu rai o'r problemau y gall masgiau wyneb eu cael yn yr ystyr eu bod yn rhwystr i gyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth. Tynnodd James Evans sylw at hyn yn arbennig, yn enwedig i blant sy'n dysgu darllen ac ysgrifennu. Fel y gwyddom eisoes, bydd hyn wedi gwaethygu rhai o'r methiannau a welwn mewn addysg yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ategu'r hyn a ddywedodd yr Aelodau, a gorau po gynharaf y gellir diosg masgiau wyneb, er mwyn caniatáu i bobl ddysgu yn y ffordd orau bosibl.
Ar yr elfen adeiladol—. Gallaf weld bod Rhun ap Iorwerth am ymyrryd yma, Lywydd.
Ydy. A ydych chi'n barod i'w dderbyn, Sam?
Ydw, o'r gorau.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd ymyriad. Credaf fod cywair Sam Rowlands yn llawer mwy rhesymol mewn gwirionedd, a chytunaf yn llwyr â chi. Mae pob un ohonom am gael gwared ar fasgiau wyneb mewn ysgolion, ac ym mhobman arall cyn gynted â phosibl, a chredaf y bydd peth o'r mantra a glywyd gan rai o'i gyd-bleidwyr yn destun embaras i Sam Rowlands yn ôl pob tebyg, sef 'dysgu byw gyda COVID'. Rwy'n ofni mai'r Ceidwadwyr yn dysgu anghofio am COVID yw hynny. Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy, ac a yw Sam Rowlands yn cytuno â mi nad gwleidyddion diofal fydd yn penderfynu pryd y byddwn yn symud i'r cam endemig yn awr, ond y feirws ei hun, ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth weithio gydag ef?
Yn sicr, nid yw sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelodau yn destun embaras i mi, ac rydych yn llygad eich lle, dylem fod yn gweld cyfyngiadau'n cael eu dileu cyn gynted â phosibl, ac wrth gwrs, mae gan wyddoniaeth a gwybodaeth rôl allweddol i'w chwarae yn y broses o wneud y penderfyniadau hynny.
Ar yr eitemau adeiladol y credaf fod yr Aelodau wedi'u nodi heddiw y gallwn, gobeithio, barhau i gytuno arnynt, credaf fod Gareth Davies wedi tynnu sylw at bwynt pwysig iawn ynghylch dewis rhieni a rôl rhieni a llais rhieni'n cael eu clywed drwy gydol adegau fel hyn. Nid wyf yn siŵr y gwrandawyd mor astud arni ag y gellid bod wedi ei wneud fod drwy'r amser hwn. Ac yn ail, maes arall sydd wedi cael sylw ac efallai y gellid dysgu gwersi adeiladol ohono yw'r ystwythder o fewn y system addysg i allu ymateb ar adegau o argyfwng. Ar ddechrau'r pandemig, credaf ei bod yn deg dweud nad oedd yr ystwythder yno, ac efallai y bydd y Gweinidog eisiau meddwl ynglŷn â sut y gellid cynnwys hynny yn y system yn y dyfodol, oherwydd dywedir wrthym nad yw sefyllfaoedd fel hyn yn dod ar eu pen eu hunain, ac efallai y bydd yn rhaid inni ei ystyried yn y dyfodol eto.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd—rwy'n sylweddoli bod yr amser yn brin—mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliant 'dileu popeth a rhoi yn ei le' yma heddiw, yn hytrach na gweithio gyda'n cynnig ni ac ystyried yr hyn y gobeithiwn ei fod yn adborth adeiladol, gan geisio cyflawni'r atebion ymarferol rydym wedi'u hamlinellu yn y ddadl heddiw. Rydym i gyd yn cydnabod bod y pandemig wedi bod yn heriol dros ben i bob sector. Ni chafwyd unrhyw benderfyniad hawdd. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, mae camau gweithredu penodol gan Lywodraeth Cymru a amlinellwyd yn y ddadl heddiw wedi cael effaith andwyol ar ddatblygiad ein dysgwyr, gan ychwanegu at yr ystadegau addysg sy'n peri pryder yma yng Nghymru. Felly, diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidog am gyfraniadau adeiladol, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig Ceidwadol yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Gallaf weld y Gweinidog yn codi ei law.
Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru, Bil Etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7894 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr.
2. Yn condemnio Llywodraeth y DU am gyflwyno'r Bil Etholiadau a fydd yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau a gadwyd yn ôl, gan gynnwys ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno dulliau adnabod ffotograffig i bleidleisio.
3. Yn cefnogi ymgyrch #HandsOffOurVote sy'n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw bleidleisiwr cyfreithlon ei droi i ffwrdd o'r blwch pleidleisio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r mesurau a gyflwynwyd gan y Bil Etholiadau ar bob cyfle gyda Llywodraeth y DU a chodi pryderon yn eu cylch.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. O'r Siartwyr i'r Syffragetiaid, mae pobl yn llythrennol wedi rhoi eu bywydau i sicrhau bod hawl gennym ninnau i bleidleisio ar yr ynysoedd hyn, ac ar hyd y canrifoedd y frwydr fawr oedd i ennill mwy o hawliau, a digwyddodd hynny eto yn ddiweddar yng Nghymru wrth ehangu'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. Mae unrhyw ymgais i gyfyngu ar yr hawl i bleidleisio yn tanseilio'n hawliau ni oll, yn tanseilio'n ffordd ni o fyw ac yn tanseilio'r ddemocratiaeth yr ydym ni'n ei mwynhau heddiw oherwydd ymdrechion ac aberthoedd eraill.
Pleidleisio yw sylfaen ein democratiaeth, Ddirprwy Lywydd. Dyna lle mae posibiliadau eithriadol yn dod yn realiti drwy osod croes mewn bocs. Mae wedi arwain at sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, at greu'r wladwriaeth les a sefydlu ein Senedd genedlaethol. Y blwch pleidleisio yw lle y daw breuddwydion a dyheadau'n wir. Dyna lle y gwneir penderfyniadau am ddyfodol ein gwledydd gan eu dinasyddion. Dyna hefyd yw'r offeryn mwyaf effeithiol i'n dwyn ni i gyfrif fel gwleidyddion.
Mae angen craffu manwl iawn i ddigwydd cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl i bleidleisio, fel cyflwyno ID. Mae eisiau tystiolaeth gadarn sydd wedi ei dadansoddi yn ofalus. Yn sicr, does dim lle i ideoleg ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau. Bydd y Torïaid yn ceisio portreadu hyn fel penderfyniad rhesymol, ond, wrth annerch rheithgor mewn llys barn, byddwn i wastad yn dweud wrthynt i edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfarwydd.
Edrychwch ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, ar gamau gweithredu'r Llywodraeth Dorïaidd yn eu cyfanrwydd. Maent am gyfyngu ar brotest, maent am gael gwared ar ddinasyddiaeth pobl heb roi unrhyw gyfiawnhad. Maent am atal ein llysoedd rhag diddymu is-ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â hawliau dynol. Maent am fynd i'r afael â 'chwyddiant hawliau' fel y'i gelwir—sef gormod o hawliau dynol, i chi a minnau. Maent am gyfyngu'r hawl i adolygiad barnwrol o benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Maent am ddadariannu'r BBC a thrwy hynny, ein S4C annwyl. Ac maent eisiau ei gwneud hi'n anos i bobl bleidleisio. Byddai'r Ceidwadwyr heddiw yn dal i arestio'r Siartwyr a'r Swffragetiaid am fod yn rhy swnllyd yn eu protest. Byddai fy mam-gu'n dal i fynd i'r carchar am brotestio dros S4C a hawliau'r Gymraeg. Byddent wedi atal fy nhad rhag teithio ar ei feic modur o Gaerdydd i greu cymaint o drafferth a sŵn â phosibl yn ystod seremoni agoriadol gywilyddus argae Tryweryn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Gall yr Aelodau Torïaidd yma siglo eu pennau gymaint ag y maen nhw eisiau. Gallwch ddadlau mai amddiffyn pobl a democratiaeth yw nod Boris Johnson a'i griw, ond mawr obeithiaf fod digon o synnwyr a digon o integriti gyda chi i sylweddoli pa mor ddianghenraid yw cyflwyno ID i bleidleisio. Mae'r achosion o dwyll pleidleisio mor fach.
Un euogfarn am ddynwared pleidleisiwr yn 2017; dim un yn 2018; dim un yn 2019. Maent yn barod i ddifreinio miliynau o'n dinasyddion ein hunain, eu pleidleiswyr eu hunain, i atal un achos o dwyll pleidleisio. Os oes unrhyw wirionedd yn y dywediad treuliedig ynglŷn â defnyddio gordd i dorri cneuen, mae'n wir yn yr achos hwn. Nid oes cyfiawnhad o gwbl dros yr ymateb llawdrwm hwn.
Bydd y Ceidwadwyr yn eistedd yma, byddant yn dal eu trwynau, bydd eu cefnogwyr yn galw'r Prif Weinidog yn unben pot jam am gyflwyno pasys COVID am gyfnod penodol o amser yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus, ond Lywydd, onid ydynt yn deall yr union ddiffiniad o eironi? Pleidleisiodd 99 o ASau Ceidwadol yn San Steffan—y gwrthryfel mwyaf yn erbyn y Llywodraeth hon—yn erbyn pasbortau COVID. O'r 99, pleidleisiodd 85 ohonynt dros gyflwyno dulliau adnabod pleidleiswyr am gyfnod amhenodol. Nid wyf yn cytuno â'i safbwynt, ond o leiaf mae David Davis AS yn gyson yn ei wrthwynebiad i'r pasys COVID a dulliau adnabod pleidleiswyr. Nododd un AS Torïaidd yn Lloegr ei fod yn gwrthwynebu pasys COVID rhag i'r gymdeithas fynd i ddibynnu'n ormodol ar bapur ar gyfer pob dim. Wel, beth am gymdeithas lle mae'n rhaid cael llun adnabod i bleidleisio?
'Rwy'n casáu’r syniad ar egwyddor. Nid wyf am gael fy ngorchymyn, gan unrhyw elfen o'r wladwriaeth Brydeinig, i gynhyrchu tystiolaeth o fy hunaniaeth.
Mae cardiau adnabod yn
'ryseitiau nid yn unig ar gyfer gwastraff ond yn ryseitiau ar gyfer gormes a gorthrwm hefyd'.
Nid fy ngeiriau i, Lywydd, ond geiriau Boris Johnson, yr union ddyn sydd bellach am gyflwyno dulliau adnabod pleidleiswyr, dyn sy'n newid ei farn gyda'r gwynt.
Neu, i aralleirio Gerallt Lloyd Owen, 'gwymon o ddyn heb ddal tro'r trai.'
O leiaf mae Ceidwadwyr yr Alban wedi cwestiynu eu harweinwyr yn San Steffan, ond nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud dim. Maent yn eistedd ar eu dwylo, heb gŵyn na gwrthwynebiad, ac yn parhau'n gwbl ddienw ac yn gwbl amherthnasol yng ngolwg eu meistri yn San Steffan.
Dyma eich cyfle chi, gyfeillion, i ddweud, 'Digon yw digon.'
Neu ai dim ond pan ddywed Boris, 'Cyfarthwch' y gwnewch chi gyfarth? Anghofiwch Dilyn, ci Rhif 10 Stryd Downing, am eiliad; eu harweinydd yn y Senedd yw pwdl Johnson, er nad ydynt yn gwybod ei enw. Ond o leiaf cafodd wobr ddoe am fod yn fachgen da.
Bydd fy nghyfeillion Heledd Fychan, Peredur Owen Griffiths a Sioned Williams yn trafod impact y Bil yma ar ddinasyddion ein gwlad. Hoffwn i ganolbwyntio ar yr effaith ar ein Senedd ni. Er nad yw'r Bil yn effeithio'n uniongyrchol ar etholiadau datganoledig, mae'r impact anuniongyrchol yn hollol blaen i bawb. Yn gyntaf, bydd y Bil yn golygu bod angen ID ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu. Fel y gwelon ni fis Mai diwethaf, mae etholiadau gwahanol yn gallu digwydd ar yr un pryd, ac mae'n hollol gredadwy i feddwl y byddai pleidleiswyr yn gadael yr orsaf bleidleisio heb bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau lleol oherwydd diffyg ID pleidleisio—eu bod nhw'n gweld bod angen ID pleidleisio ac yna'n troi i ffwrdd. Mae'n cymhlethu'r sefyllfa, mae'n cymhlethu system mewn ffordd sy'n hollol ddianghenraid.
Ar ben hyn, mae'n erydu annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol. Mae cymal 12 yn nodi bod angen i'r comisiwn ddilyn strategaeth a datganiad polisi Llywodraeth San Steffan. Mae hwn yn nodi blaenoriaethau ar faterion etholiadol ac egwyddorion y disgwylir i'r comisiwn eu gweithredu a chael mesur eu perfformiad wedyn yn erbyn y datganiad a grëwyd gan Lywodraeth San Steffan. Yn wir, caiff y Comisiwn Etholiadol ei ariannu, a chaiff ei ddwyn i gyfrif yn ffurfiol, gan bob Senedd ar yr ynysoedd hyn. Ni ddylai Llywodraeth San Steffan allu dweud wrth y comisiwn beth y mae'n cael, a beth nad yw'n cael ei wneud.
I blaid a sefydlwyd ar egwyddorion Llywodraeth gyfyngedig, mae'n ymddangos bod gwladwriaeth sy'n tresmasu fwyfwy ar gyrff cyhoeddus yn rhan o'r egwyddor Dorïaidd fodern a Johnsoniaeth. Gwelaf fod gwelliant y Torïaid yn honni bod y Comisiwn Etholiadol yn cefnogi dulliau adnabod pleidleiswyr. Nid yw hynny'n wir. Maent yn dweud yn glir mai mater i'r Llywodraeth, nid iddynt hwy, yw cyflwyno polisi newydd.
Hefyd, mae'r gwelliant yn sôn am y Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol. Wel, gadewch inni edrych ar bwy sy'n aelodau o'r swyddfa honno. Disgrifir 28 o'r gwladwriaethau sy'n cymryd rhan fel rhai nad ydynt yn rhydd yn wleidyddol, gyda rhai gwledydd ag achosion cyfarwydd o dorri hawliau dynol, megis Belarws. Belarws, a ddisgrifir fel unbennaeth olaf Ewrop, Kazakhstan a Rwsia, dyma'r bobl y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn cydsefyll gyda hwy.
Mae arbrofion gydag ID pleidleisio wedi dangos bod e'n arwain at lai o bobl yn pleidleisio. Ym mheilot San Steffan yn 2019, o'r 1,000 gafodd eu gwrthod oherwydd diffyg ID, ni ddychwelodd 338—un traean heb ddychwelyd. Mewn peilot arall, ble roedd modd dangos ID ffotograffig neu ddau ddarn o ID penodol heb lun, cafodd 2,000 eu gwrthod. Y tro yma, ni ddychwelodd 750. Nid fy ffigurau i, nid ffigurau'r Electoral Reform Society nac unrhyw grŵp arall, ond ffigurau'r union Lywodraeth sydd eisiau cyflwyno ID pleidleisio.
Ar adeg pan fo'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn isel, gydag etholiadau cyffredinol oddeutu 60 y cant, a chyda'r Senedd yn ei chael hi'n anodd cyrraedd 50 y cant, pam y byddem am gyfyngu ar nifer y bobl a'u hatal rhag rhannu eu lleisiau a'u barn gyda ni? Ni ddylai unrhyw un sy'n cefnogi'r Bil hwn—ac rwy'n edrych ar fy ffrindiau sy'n eistedd gyferbyn â mi yn y Siambr fel arfer—feirniadu'r Senedd hon byth eto nac unrhyw etholiad arall o ran hynny am nifer isel y pleidleiswyr, os ydynt yn cefnogi, drwy hyn, y dulliau adnabod pleidleiswyr a fydd yn troi pobl ymaith ac yn annog pleidleiswyr rhag pleidleisio. Mae democratiaethau'n cynrychioli lleisiau eu dinasyddion. Nid yw democratiaeth sy'n methu cynnwys ei holl ddinasyddion neu sy'n eu hatal rhag lleisio eu barn yn ddemocratiaeth go iawn. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw nawr ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant yn ei enw ef. Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu Bil Etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb etholiadau ledled y Deyrnas Unedig.
Yn nodi bod cyflwyno ID pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a bod Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi datgan bod ei absenoldeb yn risg diogelwch.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn fy enw i.
Rhaid imi ddweud, roeddwn braidd yn siomedig ynghylch cywair araith Rhys ab Owen yno, ac mae'n teimlo ychydig fel pe baem wedi bod yma o'r blaen oherwydd, wrth gwrs, cawsom yr un ddadl yn y bôn ychydig fisoedd yn ôl, wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Ond wrth gwrs, ni ddylai fy synnu mwyach fod Plaid Cymru, fel y—. Roedd yn ein cyhuddo ni o fod yn gŵn bach i Rif 10, ond Plaid Cymru yw cŵn bach Llafur Cymru wrth gwrs. Mae gennych gytundeb cydweithio gyda Llafur Cymru ac i bob pwrpas, rydych mewn clymblaid â hi. Felly, mae gennych wyneb, a dweud y gwir, Rhys ab Owen, yn ein cyhuddo ni o fod yn gŵn bach i bobl eraill, a ninnau wedi gweld digon o dystiolaeth yn y Siambr heddiw mewn gwirionedd, yn y Siambr rithwir hon, mai dyna'n union ydych chi a'ch cyd-Aelodau i'r Blaid Lafur.
Er gwaethaf y sioe a wnaethoch ynglŷn â darpariaethau Bil Etholiadau Llywodraeth y DU, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn rhyfeddu at y ffaith eich bod yn gwrthwynebu'r hyn sy'n fesurau cwbl synhwyrol i gyflwyno mesurau diogelwch yn erbyn twyll pleidleisio a fydd yn cryfhau diogelwch ein hetholiadau ledled y DU. Ac yn hytrach na gwrthwynebu'r mathau o ddarpariaethau sydd yn y Bil Etholiadau hwn, gan gynnwys dulliau adnabod pleidleiswyr, y deuaf atynt mewn munud, pam ar y ddaear y byddech am wrthwynebu mesurau yn erbyn dylanwad gormodol? Pam ar y ddaear y byddech am wrthwynebu mesurau yn erbyn bygwth pleidleiswyr? Oherwydd dyma rai o'r darpariaethau eraill rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu yn y Bil ar hyn o bryd. Gwyddom i gyd fod twyll etholiadol yn drosedd anfad y mae pob person yn y Siambr hon a'r wlad hon wedi dioddef yn ei sgil.
A gaf fi dorri ar draws, Darren Millar? A ydych chi'n fodlon derbyn ymyriad gan Rhianon Passmore?
Fe dderbyniaf un mewn munud, os caf, Lywydd.
O'r gorau. Gadawaf i chi ddweud wrthym pryd fydd hynny.
A'r realiti yw ei bod yn drosedd y byddwn i gyd yn dioddef yn ei sgil dro ar ôl tro os na fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater.
Fe gyfeirioch chi, Rhys ab Owen, at y nifer gymharol ychydig o achosion o dwyll pleidleisio a nodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'r ffaith nad oes mwy wedi'u nodi yn golygu nad yw'n digwydd, oherwydd wrth gwrs natur twyll yw ei fod yn aml iawn yn digwydd heb ei nodi, heb ei ganfod a heb ei gofnodi. Ond lle mae wedi'i ddarganfod, weithiau mae wedi bod ar raddfa enfawr. Rydym wedi gweld achosion ofnadwy o dwyll yn Tower Hamlets, Slough, Birmingham ac mewn mannau eraill, ac mae wedi amlygu gwendidau mewn trefniadau etholiad y byddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol am fynd i'r afael â hwy. Dyna y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud gyda'i Bil Etholiadau.
Mae hyn yn mynd i atal pobl rhag dwyn pleidleisiau pobl eraill drwy ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr gyflwyno llun adnabod pan fyddant yn cyrraedd gorsaf bleidleisio. Bydd yn mynd i'r afael â gwendidau yn y trefniadau pleidleisio drwy'r post a phleidlais drwy ddirprwy. Ac ar fater dulliau adnabod pleidleiswyr, gwn eich bod yn gwrthwynebu'r ddarpariaeth hon, a'r Llywodraeth Lafur hefyd, ond wrth gwrs Llywodraeth Lafur a gyflwynodd ddulliau adnabod pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'n gweithio'n dda, ac yn aml iawn, yng nghyfarfodydd y blaid Lafur, rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud wrth fy nghyd-Aelodau Llafur yn y Senedd rithwir hon y prynhawn yma, yn aml iawn rhaid i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth er mwyn pleidleisio.
Rwyf bellach wedi cael ail gais i ymyrryd gan Aelod Llafur arall, Jenny Rathbone.
O'r gorau, fe dderbyniaf y ddau ymyriad.
Iawn, Rhianon Passmore yn gyntaf, a Jenny Rathbone, ac yna gall Darren ymateb i'r ddau ymyriad.
Diolch, Lywydd, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae'n gwestiwn syml iawn, ac mae'n mynd at wraidd rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd, Darren Millar. Sut y mae'n dda i ddemocratiaeth os yw'n anos cofrestru i bleidleisio ac felly'n anos pleidleisio?
Jenny Rathbone.
Sylwaf nad ydych wedi dweud wrthym faint sydd yng Nghymru. Nid wyf erioed wedi dod ar ei draws yng Nghymru o gwbl. Felly, sut y byddech yn ymateb i fy etholwr a ddywedodd na fydd ei rhieni'n gallu pleidleisio am nad oes ganddynt basbort ac nad ydynt yn gyrru?
Felly, dulliau adnabod pleidleiswyr—fe wnaf ymateb i'r ddwy ohonynt, oherwydd yr un pwynt ydyw i bob pwrpas—nid yw dulliau adnabod pleidleiswyr yn fygythiad. Mae gan 98 y cant o'r etholwyr ddulliau adnabod ffotograffig addas eisoes y byddent yn gallu eu defnyddio er mwyn pleidleisio, a bydd y rhai nad oes ganddynt ddulliau adnabod ffotograffig o'r fath ar hyn o bryd yn gallu cael cardiau adnabod pleidleiswyr am ddim gan eu hawdurdod lleol. Mae hynny'n wir yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'r system yn gweithio'n dda iawn heb unrhyw broblemau, a bydd hynny'n wir yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU hefyd. Ac yn wir, nid oes rhaid ichi gymryd fy ngair i am hynny, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud yn glir iawn, ac rwy'n dyfynnu,
'ers cyflwyno cerdyn adnabod â llun yng Ngogledd Iwerddon, na chafwyd unrhyw achosion o ddynwared. Mae ffydd pleidleiswyr bod etholiadau'n cael eu cynnal yn dda yng Ngogledd Iwerddon yn gyson uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU'.
Felly, nid oes a wnelo hyn ag ideoleg, mae'n ymwneud â mesurau synhwyrol. Y realiti yw bod angen llun adnabod yn y rhan fwyaf o wledydd democrataidd y gorllewin. Bron ym mhobman yn Ewrop, mae'n ofynnol i bobl ddangos llun adnabod er mwyn pleidleisio. Mae pob gwlad yn Ewrop, ac eithrio Denmarc, lle mae'n rhaid i chi ei ddarparu os gofynnir i chi wneud hynny. Felly, y DU yw'r eithriad ar hyn o bryd.
Fe sonioch chi am Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop ac roeddwn yn siomedig ynglŷn â'ch sylwadau dilornus am y swyddfa a'r sefydliad hwnnw. Mae eisoes wedi nodi bod diffyg dulliau adnabod pleidleiswyr yn peri risg diogelwch i'n hetholiadau. Nawr, rwyf am weld y risg i ddiogelwch yn cael ei dileu, a dylai pob Aelod o'r Senedd hon ac unrhyw un arall sy'n cael ei ethol gan bobl Cymru fod eisiau hynny hefyd.
Mae Plaid Cymru a Llafur yn aml yn dadlau eu bod yn gwrthwynebu dulliau adnabod pleidleiswyr oherwydd eu bod yn honni y byddai lleiafrifoedd dan anfantais am eu bod yn llai tebygol o fod â dulliau adnabod yn eu meddiant. Rwyf wedi clywed hynny'n cael ei ddweud, nid gennych chi heddiw, Rhys ab Owen, ond rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud mewn mannau eraill. Nid oes unrhyw dystiolaeth yn sail i'r honiad hwn. Yn wir, mae data'n dangos bod gan 99 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig ffurf ar lun adnabod a fyddai'n eu galluogi i bleidleisio, o'i gymharu â 98 y cant o bobl sy'n nodi eu bod yn wyn. Felly, mae braidd yn siomedig fod rhai pobl yn dal i wneud y pwynt hwnnw.
Cawsom ein cyhuddo o ragrith yn gynharach, ond mae'n eithaf syfrdanol fod Llafur a Phlaid Cymru yn parhau gyda'u gwrthwynebiad i ddulliau adnabod pleidleiswyr a chithau wedi bod yn ei gwneud yn ofynnol i bobl wirio eu hunaniaeth yn y misoedd diwethaf er mwyn cael pasys COVID i wylio ffilm yn eu sinema leol. Os ydych chi'n hapus i osod gofynion adnabod i wylio'r ffilm Spider-Man ddiweddaraf, pam y mae gennych broblem gyda'i gwneud yn ofynnol i bobl ddangos dull adnabod er mwyn pleidleisio? Mae'n rhaid i bobl ddangos tocyn bws gyda'u henw arno er mwyn neidio ar fws i deithwyr; pam na ddylai fod yn ofynnol i bobl gynhyrchu dull adnabod er mwyn cymryd rhan yn y mandad democrataidd pwysig y gofynnwn iddynt ei wneud o bryd i'w gilydd yma yng Nghymru yn yr etholiadau?
A gair cyflym i gloi ynglŷn ag ymgyrch Hands Off Our Vote. Dyna'n union y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cadw dwylo pobl oddi ar bleidleisiau pobl eraill. Mae'n ceisio diogelu pleidleisiau pobl rhag pobl eraill sydd am eu dwyn. Ac mae awgrymu bod Llywodraeth y DU yn rhyw fath o weithredwr ysgeler yn camliwio'r ffeithiau yn ofnadwy. Felly, yn hytrach na chwyno am Fil Etholiadau Llywodraeth y DU, yr hyn y dylai'r glymblaid Llafur-Plaid Cymru fod yn ei wneud yn lle hynny yw ei gwneud yn flaenoriaeth i fabwysiadu'r darpariaethau yn y Bil penodol hwn a sicrhau eu bod yn berthnasol i bob etholiad sy'n digwydd yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'r Senedd yn gyfrifol amdanynt, oherwydd mae angen inni sicrhau y gall pleidleiswyr yma fod yn hyderus pan fyddant yn bwrw eu pleidlais, eu bod yn gwneud gwahaniaeth a bod yr etholiadau hynny'n rhydd, yn deg ac yn ddiogel. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig ac i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gennym ni. Diolch.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siomi Darren Millar heno gyda fy nghyfraniad. Gadewch i ni gwestiynu rhai o'i ystadegau ar y dechrau, gan y gallaf innau hefyd ddyfynnu'r Comisiwn Etholiadol. Fel y gwyddoch, nid oes gan y DU gerdyn adnabod cenedlaethol, yn wahanol i wledydd eraill, ac nid oes gan 3.5 miliwn o bleidleiswyr cofrestredig unrhyw fath o lun adnabod, ac nid oes gan 11 miliwn drwydded yrru na phasbort. Felly, gallwch ddyfynnu'r ystadegau hyn, ond bydd hyn yn difreinio miliynau o bobl.
Ers i’r cynlluniau gael eu gwyntyllu ar gyfer ei gwneud yn orfodol i bawb orfod cyflwyno dull o ID fel hyn i bleidleisio, mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu hyn, a byddwn yn parhau i wrthwynebu hyn. Yn 2019, fe wnaethon ni lofnodi llythyr ar y cyd gan y gwrthbleidiau yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu'r polisi, ac, fel rydym wedi clywed, fe wnaethon ni wrthwynebu'r LCM, gan anfon neges gref gan y Senedd hon i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn cefnogi hyn yma yng Nghymru.
Mae ID pleidleiswyr gorfodol yn gam a fydd yn difreinio yn benodol pleidleiswyr iau a phobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n llai tebygol o fod â'r dogfennau gofynnol i bleidleisio. Mae'r gwahaniaeth cynyddol rhwng etholiadau y Deyrnas Unedig a rhai datganoledig Cymru yn peri pryder, o gofio bod hawliau pleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru wedi'u hymestyn i bawb dros 16 oed, gan gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru. Er bod etholiadau Cymru yn dod yn fwy cynhwysol a democrataidd, nid yw’r un peth yn wir am etholiadau San Steffan, sydd yn mynd ar drywydd cwbl groes i hynny.
Mae ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hunan yn dangos y gallai 2 filiwn o bobl, gan gynnwys bron i 100,000 o bobl yng Nghymru, golli'r gallu i bleidleisio o ganlyniad i'r cynlluniau hyn. Ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn nifer o rybuddion gan grwpiau ymgyrchu am broblemau'r polisi a'u bod yn gorymateb i broblem twyll pleidleiswyr, sy'n digwydd yn anaml iawn. Ble mae'r ffeithiau o ran hynny? Mi oedd Jenny Rathbone yn iawn i godi hynny o ran Cymru. Yn wir, canfu dadansoddiad gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn 2019 o’r 266 honiad a ymchwiliwyd gan yr heddlu yn etholiadau lleol 2018 mai dim ond wyth oedd yn ymwneud gyda dynwared pleidleiswyr, sef y broblem honedig mae ID pleidleiswyr yn ceisio ei thaclo. O'r wyth achos, ni chymerwyd unrhyw gamau mewn saith, a chafodd un ei ddatrys yn lleol. Roedd 140 o'r honiadau yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Yn 2020, ymchwiliodd yr heddlu i 15 achos o dwyll pleidleiswyr, a dim ond tri sy'n parhau i gael eu harchwilio.
Mae cenedl wirioneddol ddemocrataidd yn un sy'n grymuso ei dinasyddion i gymryd rhan mewn prosesau democrataidd. Yn etholiad y Senedd ym mis Mai, gwyddom nad oedd o leiaf 35,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi manteisio ar y cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf. Methodd 54 y cant o'r braced oedran hwn â chofrestru. Yn wir, 76.4 y cant yw cyfradd cofrestru'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; mae cyfrifoldeb arnom oll i wella hyn. Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, nid yw 25 y cant o Brydeinwyr du wedi cofrestru i bleidleisio. Parwch hyn gyda data'r Llywodraeth ei hun nad oes gan 48 y cant o bobl ddu drwydded yrru.
Gwyddom bod cysylltiad cryf rhwng bod yn rhan o’r broses ddemocrataidd a chyflawniad, a dylai fod yn amlwg felly i bawb y dylai’r gwaith o ddiwygio'r bleidlais fod yn edrych yn benodol ar gynhwysiant, yn hytrach na’i gwneud yn anos i bobl bleidleisio. Mae democratiaeth iach yn amhrisiadwy, ond mae’r newidiadau hyn yn awgrymu bod yna gost ynghlwm â bod yn wlad ddemocrataidd, sef £34 os ydych yn gwneud cais ar-lein neu £43 drwy'r post, sef y ffi am drwydded yrru gyntaf, neu £75.50 ar-lein neu £85 drwy’r post am basport. Yng Nghymru, mae pobl yn wynebu prisiau ynni a thanwydd uchel, toriadau i gredyd cynhwysol, trethi uwch a chwyddiant cynyddol. Ydyn ni wir yn meddwl bod gan bawb yr arian i dalu am drwydded yrru neu basport, yn arbennig os nad oes ganddynt gar na bwriad i fynd dramor? [Torri ar draws.] Grêt, Darren, hapus iawn i gymryd—
Heledd, a wnewch chi gymryd ymyriad oddi wrth Darren Millar?
Ie, grêt.
Diolch. Diolch, Heledd, am dderbyn yr ymyriad. Bydd y lluniau adnabod y bydd pobl yn gallu eu cael os nad oes ganddynt basbort neu drwydded yrru yn rhad ac am ddim. Felly, nid wyf yn siŵr pam eich bod yn honni y bydd baich ariannol ar unigolion nad oes ganddynt lun adnabod eisoes. Fe'u darperir yn rhad ac am ddim yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r Bil yn nodi'n benodol nad oes rhaid i unigolion dalu amdanynt.
Ond nid oes eglurder ynghylch pryd y bydd hyn ar gael, na sut. Mae'n ychwanegu rhwystr arall rhag gallu cymryd rhan. Mae yna gost hefyd i awdurdodau lleol ei ddarparu. A phan gynhaliodd y Llywodraeth gynllun peilot dulliau adnabod pleidleiswyr yn 2018, cafodd dros 1,000 o bleidleiswyr eu troi i ffwrdd am nad oedd ganddynt ddull adnabod o'r math cywir. Ac ar gyfartaledd, ni ddychwelodd 338 o bleidleiswyr i bleidleisio, felly cafodd 32.6 y cant o'r rheini eu troi i ffwrdd. Felly, nid mater o gael y dull adnabod yn unig ydyw—mae'n ymwneud â rhoi'r rhwystrau hynny ar waith.
Er bod Gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi addo'r ID am ddim, fel roeddwn i'n sôn rŵan, dydy’r manylion ynglŷn â hyn ddim ar gael eto, ac onid ydy o’n rhoi un rhwystr arall i atal pobl rhag pleidleisio?
Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn mynd i'r afael â'r materion sydd yn wirioneddol broblematig yn ein gwleidyddiaeth, a’i gwneud yn haws i bawb bleidleisio a bod yn rhan o’n democratiaeth. Dydyn ni ddim yn gynrychioladol fel Senedd, ac mae rhoi mwy o rwystrau yn mynd i stopio mwy o bobl rhag bod yn rhan o'r broses ddemocrataidd hon. Mae gennym system etholiadol anghyfartal. Bydd cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud sefyllfa wael yn waeth. Rhaid gwneud popeth i atal hyn rhag digwydd yma yng Nghymru.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae ein democratiaeth wedi'i hadeiladu ar sylfaen o etholiadau teg, agored a hygyrch. Ein swyddogaeth yn y Senedd yw grymuso pobl Cymru, ac yn eu tro, rydym ni fel eu cynrychiolwyr etholedig yn cael ein grymuso gan y ffydd y maent yn ei rhoi ynom yn y blwch pleidleisio. Gwn y bydd llawer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi ymuno â mi i fanteisio ar gyfleoedd i gyfarfod â disgyblion ysgol yn ein hetholaethau, a thrafod gyda hwy pa mor bwysig yw pleidleisio a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar adeg etholiad. Gwnawn hyn oherwydd bod annog cyfranogiad yn ein democratiaeth yn ganolog i'n rôl fel cynrychiolwyr etholedig. Democratiaeth iach yw un lle mae'r etholwyr yn teimlo y gallant ymwneud â hi, un sydd mor dryloyw â phosibl ac yn rhydd o rwystrau diangen i gyfranogiad. Er ein bod wedi gweld yn yr wythnosau diwethaf nad yw tryloywder yn uchel ar restr blaenoriaethau'r Llywodraeth Dorïaidd, mae'r Bil Etholiadau yn brawf nad yw annog pobl i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd yn uchel ar y rhestr honno ychwaith.
Nid oes sail dystiolaethol i gyflwyno llun adnabod gorfodol ar gyfer pleidleisio. Mae'n datrys problem nad yw'n bodoli ar raddfa sy'n agos at fod yn angenrheidiol i ddylanwadu ar etholiad, a hynny ar gost eithriadol. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw y bydd yn gwneud pleidleisio'n llai hygyrch, yn enwedig i'r rhai o gymunedau difreintiedig. Mae'n ffaith bod y rhai lleiaf tebygol o fod â dull adnabod ffotograffig yn dod o aelwydydd tlotach. Ni ddylid byth ystyried ei bod yn dderbyniol gosod rhwystrau artiffisial i gyfranogiad sy'n effeithio'n anghymesur ar rai cymunedau. Mae'n peri pryder mawr imi glywed y rheini ar feinciau'r Ceidwadwyr yn amddiffyn cam o'r fath, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod gennym Lywodraeth Lafur Cymru, a Chwnsler Cyffredinol yn enwedig sy'n ymroddedig i ddiogelu hawliau democrataidd holl bobl Cymru. Hyderaf y bydd yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddwyn y pryderon hyn i sylw Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf amheuaeth nad yw'r Bil Etholiadau yn bygwth lefelau cyfranogiad ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Dylai Aelodau yma yn y Senedd ac yn San Steffan, o bob plaid wleidyddol, ganolbwyntio eu hegni ar ysbrydoli pob darpar bleidleisiwr i gymryd rhan yn ein democratiaeth, yn hytrach na chreu ffyrdd o'u cymell i beidio â gwneud hynny. Diolch yn fawr.
Rwy'n dychmygu bod y rhan fwyaf ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon wedi treulio cryn dipyn o amser yn cerdded strydoedd ein hardaloedd, yn curo ar ddrysau ac yn siarad gwleidyddiaeth â dieithriaid. Mae'n un agwedd ar fod yn aelod o blaid wleidyddol rwy'n ei mwynhau'n fawr. O bryd i'w gilydd, gall wneud i chi deimlo braidd yn ddiobaith pan ddowch ar draws rhywun nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Nid ydynt yn ystyried pleidleisio o gwbl am na allant weld sut y gall gwleidyddiaeth effeithio ar eu bywydau. Ar adeg pan ddylem wneud popeth yn ein gallu i ymgysylltu â phobl a'u hannog i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, dyma rywbeth a allai wneud y gwaith yn llawer anos drwy amddifadu cannoedd o filoedd o bobl o bleidlais.
Mae'r rhesymeg dybiedig sy'n sail i'r Bil, yr angen i leihau twyll pleidleiswyr, yn eithriadol o annoeth a diangen ar y gorau. Ar ei gwaethaf, mae'n ymgais amlwg i wrthod pleidlais i bobl sydd efallai'n fwy tebygol o bleidleisio yn erbyn y Torïaid a'u polisïau. Pam y dywedaf nad oes sail i'r Bil hwn? Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, cafwyd cyfanswm o dri erlyniad am dwyll pleidleisio ledled y DU. Fe wnaf ailadrodd hynny: tri erlyniad mewn wyth mlynedd. Mae Boris Johnson wedi cael mwy o bartïon sy'n groes i'r cyfyngiadau symud na hynny yn ystod y pandemig. Yn lle'r Bil hwn, efallai y dylem fod yn cyflwyno Bil sy'n cwtogi ar weithgareddau anghyfreithlon honedig y Prif Weinidog diegwyddor hwn.
Beth bynnag, fel llefarydd Plaid Cymru dros bobl hŷn, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael ar bobl hŷn. Bydd hanner y bobl yr effeithir arnynt dros 50 oed, gyda mwy nag un o bob 25 o bobl dros 50 oed heb fathau derbyniol o ddulliau adnabod. Mae'r duedd i symud gwasanaethau ar-lein hefyd yn berthnasol i gardiau adnabod. Yn 2016, canfu Age UK fod mwy na chwarter y bobl rhwng 65 a 74 oed heb fod yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Mae'r ffigur yn codi i bron i ddwy ran o dair o bobl dros 75 oed. Mae allgáu digidol ymhlith pobl hŷn yn broblem go iawn, ac yn awr gallai olygu nad fyddant yn cael pleidleisio. Rwy'n gobeithio y bydd y rheini sydd o blaid y Bil hwn yn y Senedd hon yn ystyried y pwynt hwnnw'n ofalus cyn iddynt fwrw eu pleidlais y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys am y ddadl bwysig yma.
Gadewch i ni gymryd cam yn ôl a meddwl am yr hyn y gallai'r Bil hwn fod wedi ymwneud ag ef. Gallai fod wedi ymwneud â chryfhau ein democratiaeth drwy gefnogi ymdrechion i adeiladu gwell gwleidyddiaeth gyda system etholiadol decach. Gallai fod wedi ceisio ehangu'r etholfraint, grymuso pleidleiswyr a chymunedau, cynyddu nifer y pleidleiswyr sy'n pleidleisio, ac ailadeiladu ymddiriedaeth yn ein system etholiadol. Yn hytrach, mae Gweinidogion Ceidwadol wedi pleidleisio dros ei gwneud yn anos i bobl bleidleisio, dros fynd ati i ddifreinio pobl a gwneud ein system etholiadol yn llai cynrychioliadol.
Rwy'n ddiolchgar am waith ymgyrchwyr fel Maddy Dhesi, sy'n arwain ymgyrch Hands Off Our Vote. Mae'n ymgyrch sy'n cael ei harwain gan bobl ifanc i gadw etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr. Ac maent yn gwneud y pwynt yn glir iawn: ar adeg pan fo nifer y pleidleiswyr sy'n pleidleisio yn parhau i ostwng a difaterwch cyhoeddus yn parhau i godi, mae mesurau sy'n ei gwneud yn anos i bobl gymryd rhan yn tanseilio ein democratiaeth, a'n cymdeithas hefyd yn y pen draw. Nid yn unig y mae cynigion ar gyfer dulliau adnabod pleidleiswyr yn wahaniaethol ond fel y clywsom, maent yn amlwg yn tanseilio ein hawliau democrataidd, ac mae'r cynlluniau hyn yn gwbl anghymesur.
Felly, rwyf am gloi fy araith fer gyda phwynt gwleidyddol, gan siomi Darren Millar eto. Y rheswm am hyn yw mai dadl ynglŷn â gwerthoedd yw hon, boed mewn perthynas â'r Bil hwn, bygythiadau lled eglur i'n darlledwr cenedlaethol neu waharddiad llym ar brotestiadau, mae Boris Johnson a'i Lywodraeth yn benderfynol o osgoi atebolrwydd ar bob gafael; nid yw'n syndod, o ystyried eu hymddygiad diweddar. Felly, prin ei bod hi'n syndod fod y Ceidwadwyr yn awyddus i ymwreiddio o fewn system sy'n magu'r ymdeimlad o hawl a'r ymddygiad hunanlesol rydym wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf. Mae hwn yn fesur cywilyddus ac anghymesur i danseilio democratiaeth gan y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.
Yn eu cyfraniadau i'r ddadl prynhawn yma, mae fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru wedi tynnu sylw at bryderon sy'n cael eu rhannu gan nifer o fudiadau, elusennau a sefydliadau eraill. Y bobl sydd mewn mwyaf o risg o golli eu llais democrataidd yn sgil y Bil hwn yw'r rheiny o grwpiau sydd eisoes wedi'u difreinio. Ddoe, fe soniais i mewn perthynas â Diwrnod Cofio'r Holocost mor wyliadwrus sydd angen inni fod fel gwleidyddion ac fel dinasyddion i warchod hawliau sifil, yn enwedig o ran sicrhau nad oes gan ddeddfwriaeth unrhyw fath o effaith anghymesur ar leiafrifoedd, effaith a fyddai'n eu hanfanteisio, eu hesgymuno o gymdeithas, eu tawelu, ac mae tystiolaeth ryngwladol yn profi bod mesurau fel mynnu ID ffotograffig penodol er mwyn bwrw eich pleidlais yn gwneud yn hynny. Ac ar adeg—diolch i ymddygiad gwarthus, llwgr, celwyddog Llywodraeth Boris Johnson a'u sgandalau niferus—pan fo ymddiriedaeth pobl yn y drefn wleidyddol yn plymio, mae angen grymuso llais etholwyr, nid eu cau mas o'r system ddemocrataidd a chreu mwy o ddrwgdybiaeth a dadrithiad.
Hoffwn ganolbwyntio ar sut mae'r Bil yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau penodol. Mae pobl LHDTC+ deirgwaith yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyffredinol o fod heb unrhyw lun ID, gyda 38 y cant o bobl draws a 35 y cant o bobl anneuaidd yn mynegi eu bod wedi cael problemau yn cael eu ID wedi'i dderbyn.
Canfu ymchwil gan Stonewall fod 34 y cant o bobl draws ac anneuaidd y cafodd eu dulliau adnabod eu hamau neu eu gwrthod yn y gorffennol yn nodi mai'r broblem oedd gwahaniaeth rhwng lluniau ac ymddangosiad. Dywedodd 32 y cant nad oedd eu dulliau adnabod yn cyd-fynd â'u henwau a roddwyd. Dywedodd 20 y cant nad oedd y dynodwr rhywedd yn cyfateb i'w hymddangosiad. Nododd 16 y cant elyniaeth a thrawsffobia. Dywedodd dros hanner y pleidleiswyr traws ac anneuaidd eu bod yn llai tebygol o bleidleisio pe bai'n rhaid iddynt gyflwyno dull adnabod.
Allwn ni ddim ar un llaw ddweud ein bod ni'n cefnogi hawliau grwpiau fel pobl draws ac anneuaidd mewn meysydd polisi fel iechyd ac addysg, ond yna ganiatáu amharu ar eu gallu sylfaenol i fynegi eu barn ddemocrataidd.
Bydd y Bil hwn hefyd yn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc, fel dŷn ni wedi clywed yn barod. Mae ein holl ymdrechion yma i sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd drwy ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed drwy sefydlu ein Senedd Ieuenctid, drwy'r gwaith ardderchog mae'r Senedd yn ei wneud wrth ymgysylltu â cholegau ac ysgolion oll yn brawf o'r ffaith ein bod yn deall bod angen meithrin a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y broses etholiadol, ac fe glywsom ni'r ystadegau gan Heledd Fychan sy'n profi hyn. Bydd y gofynion ID yn gwneud y gwrthwyneb. Un enghraifft o sut y bydd yn gwneud hyn yw bod cardiau teithio i'r rhai dros 60 oed yn cael eu derbyn fel mathau cyfreithlon o ID ffotograffig y gellid eu defnyddio i bleidleisio, ond ni fydd cardiau adnabod myfyrwyr na chardiau teithio pobl ifanc yn cael eu derbyn, ac mae pobl ifanc lawer yn fwy tebygol o fod heb basbort neu drwydded yrru na phobl hŷn. Ac mae'r ffaith bod nifer o oedolion ifanc yn fwy tebygol o fod yn newid cyfeiriad yn aml yn ei gwneud hi'n llawer anoddach iddyn nhw gadw eu dogfennau adnabod yn gyfredol ac felly'n dderbyniol i'w defnyddio wrth bleidleisio.
Mae pobl ddall a rhannol ddall yn profi cyfres unigryw o heriau wrth bleidleisio. Mae'r weithred ymarferol o bleidleisio, rhoi croes mewn lle penodol ar ddarn o bapur, yn ymarfer gweledol yn y bôn. Mae'n galw am allu i leoli'r blychau, darllen enwau'r ymgeiswyr a gwneud marc ar y papur. Mae'r darpariaethau presennol a ddarperir ym mhob gorsaf bleidleisio i ganiatáu i bobl ddall a rhannol ddall bleidleisio yn cynnwys papur pleidleisio print bras y gellir ei ddefnyddio i gyfeirio ato a dyfais bleidleisio gyffyrddadwy. Ond yn ymarferol, oherwydd yr anallu hwn i ddarllen enwau'r ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, mae'r rhan fwyaf o'r 350,000 o bobl ddall a rhannol ddall yn y DU ar hyn o bryd yn ei chael yn amhosibl pleidleisio heb orfod rhannu eu pleidlais gyda chydymaith neu swyddog llywyddu yn yr orsaf bleidleisio, ac yn aml gwelant fod yn rhaid iddynt ddweud yn uchel pwy yw'r ymgeisydd y maent eisiau pleidleisio drosto. O ganlyniad, er ei bod yn 150 mlynedd yn 2022 ers i Ddeddf Bleidleisio 1872 sicrhau'r hawl i bleidleisio'n gyfrinachol, nid yw'r mwyafrif llethol o bobl ddall a rhannol ddall yn gallu arfer yr hawl hon. Ond yn hytrach na datblygu ffordd newydd o bleidleisio'n annibynnol, mae'r Bil Etholiadau hwn yn gwanhau'r gwarantau sydd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall, gan ganiatáu i swyddogion canlyniadau unigol, yn hytrach na'r Llywodraeth, wneud y penderfyniad ynghylch yr hyn sydd i'w ddarparu, a chreu loteri cod post o'r ddarpariaeth.
Ni ddylid tanseilio hawl neb i bleidleisio. Mae pawb sy'n gymwys i bleidleisio yn haeddu cael gwneud hynny, ond hefyd dylent allu disgwyl i'w Llywodraethau eu hannog i wneud hynny, eu galluogi i wneud hynny a dileu unrhyw rwystrau a allai eu hatal rhag gwneud hynny. O dan yr wyneb, nid yw'r Bil yn ddim mwy na dull ymosodol o atal pleidleiswyr rhag pleidleisio; tacteg adweithiol, warchodol, gyfarwydd i dawelu dadleuon, i ddifreinio'r rhai a allai bleidleisio dros wahanol fathau o gynrychiolaeth a pholisïau a phŵer cynhaliol y breintiedig. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu yng Nghymru i rwystro'r Bil hwn rhag cael ei weithredu. Diolch.
Rwy'n credu fy mod, fel fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn profi déjà vu, oherwydd cawsom yr union ddadl hon ychydig wythnosau cyn toriad y Nadolig. Gwn fod gan Blaid Cymru gytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, ond nid oeddwn yn gwybod ei fod yn golygu ailadrodd dadleuon anfynych y Llywodraeth. Yn amlwg, nid oes gan Blaid Cymru na'u pypedfeistri unrhyw syniadau newydd. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, ac yn hytrach na thrafod ffyrdd o ddatrys yr argyfwng, byddai'n well gan Blaid Cymru, unwaith eto, drafod dadleuon cyfansoddiadol neu etholiadol. Mae'n ymddangos mai dulliau adnabod pleidleiswyr yw eu bwgan newydd, ymgais arall i ledaenu ofn, ansicrwydd ac amheuaeth. Lledaenu ofn na fydd pobl yn gallu pleidleisio, lledaenu ansicrwydd ynghylch dilysrwydd etholiadau yn y dyfodol, lledaenu amheuaeth ynglŷn â'r angen am newidiadau o'r fath. Mae'r rhain i gyd yn ddadleuon cyfeiliornus, ac mae dulliau adnabod pleidleiswyr yno i atal pleidleiswyr twyllodrus, nid rhai cyfreithlon. Mae hyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad gan Heledd Fychan, Gareth Davies?
Na, ddim ar hyn o bryd. Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen.
Iawn. Eich dewis chi. Parhewch.
Diolch. Ni ddaeth y cynigion hyn gan y Llywodraeth. Y Comisiwn Etholiadol a awgrymodd yr angen am ddulliau adnabod pleidleiswyr, ac nid plot Torïaidd i atal pleidleiswyr adain chwith rhag cymryd rhan mewn etholiadau ydyw. Nid oes angen cynllwynion Maciafelaidd o'r fath, oherwydd mae'r Blaid Lafur yn dda iawn am droi pleidleiswyr i ffwrdd ar eu pen eu hunain. Nid oes ond angen i chi edrych ar gwymp y wal goch yn 2019. Ond o ddifrif, nid yn unig fod rheswm da dros wneud y newidiadau hyn i'n systemau pleidleisio, maent yn hanfodol os ydym am gynnal ffydd yn y system. Mae Plaid Cymru a Llafur yn credu nad oes angen newid. Maent yn honni na fu unrhyw achosion o dwyll pleidleiswyr yng Nghymru erioed, felly nad oes angen dulliau adnabod pleidleiswyr yn etholiadau Cymru. Ond nid ydym erioed wedi dioddef ymosodiad gan derfysgwyr ar ystad y Senedd, felly pam y trafferthwn gael swyddogion diogelwch a heddlu arfog? Ac nid oes neb wedi torri i mewn i fy nhŷ erioed, felly pam rwy'n trafferthu cloi fy nrysau a chael larwm lladron?
Rydych wedi cynhyrchu mwy o geisiadau—tri, mewn gwirionedd—am ymyriadau.
Gallaf ddychmygu fy mod. [Chwerthin.]
Gallaf ddweud wrthych pwy ydynt a gallwch chi benderfynu a ydych am eu derbyn: Rhianon Passmore, Jack Sargeant, Jane Dodds a Heledd Fychan. Rydych chi'n boblogaidd iawn, Gareth Davies.
Rwy'n credu bod hynny'n ormod braidd, felly rwyf am barhau. Mae amser yn brin.
Iawn, eich dewis chi yw bwrw ymlaen. Mae gennych ddigon o amser ac rwy'n rhoi mwy o amser ar gyfer ymyriadau, ond parhewch.
Iawn, mae'n dda gwybod hynny. Diolch.
Byddem yn rhoi mesurau ar waith i atal ymosodiadau o'r fath. Efallai nad yw ein system bleidleisio yma yng Nghymru wedi profi twyll pleidleisio eang, ond rydym yn defnyddio'r un system ag y maent yn ei defnyddio ar yr ochr arall i Glawdd Offa. A chafwyd nifer o enghreifftiau o dwyll pleidleiswyr yn Lloegr; rwy'n credu mai sgandal Tower Hamlets yn 2014 sy'n dod i'r cof. A Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop, sefydliad sy'n arsylwi ar etholiadau ledled y byd, a fynegodd bryderon ynghylch yr anallu i wrthsefyll twyll a welsant yn systemau pleidleisio'r DU. Felly, yn sicr, rydym angen y newid, a diolch byth, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu newid ar gyfer etholiadau San Steffan; maent wedi diogelu eu hetholiadau, ond rydym ni'n gadael y drws ar agor led y pen. Yn anffodus, bydd gelyniaeth Llafur yn golygu bod ein hetholiadau yng Nghymru yn parhau i fod yn agored i dwyll eang. Ac os yw'r Aelodau yn poeni o gwbl am ddiogelwch a dilysrwydd etholiadau Cymru yn y dyfodol, hoffwn eu hannog i gefnogi ein gwelliant heno. Diolch.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad nawr i gyfrannu i'r ddadl—Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Mae'r hawl i bleidleisio a chymryd rhan mewn prosesau pleidleisio yn hanfodol i'n democratiaeth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod etholiadau yng Nghymru yn deg, yn ddiogel ac yn hygyrch. Credwn mewn ehangu'r cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd, a byddwn yn gwrthsefyll unrhyw ymdrechion i danseilio etholiadau a'i gwneud yn anos i bobl fwrw eu pleidleisiau. Felly, dyna pam rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc hwn.
Lywydd, rwyf eisoes wedi mynegi fy mhryderon difrifol ynghylch darpariaethau ym Mil Etholiadau Llywodraeth y DU, sy'n ymgais ddigywilydd i atal pleidleiswyr. Drwy'r gofyniad am ddulliau adnabod pleidleiswyr, mae'r Blaid Geidwadol yn mynd ati'n haerllug i gyfyngu ar gyfranogiad mewn etholiadau a newid y gyfraith er mantais bleidiol. Mae eironi yn y trywydd a fabwysiadwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y ddadl hon, onid oes? Ar y naill law, maent yn dadlau yn erbyn pasys COVID am eu bod yn credu y gallai hynny ennill rhywfaint o boblogrwydd iddynt, ond os nad yw hynny'n gweithio, maent yn cefnogi pasys pleidleisio i gyfyngu ar eu amhoblogrwydd yn y blwch pleidleisio drwy ei gwneud yn anos i bobl fynd ati i bleidleisio yn y lle cyntaf. Nid oes unrhyw dystiolaeth na sail resymegol o gwbl dros ei gyflwyno ar wahân i atal pleidleiswyr.
Fel y dywedwyd eisoes, mae data gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos mai dim ond un unigolyn a gafwyd yn euog yn 2019 o ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio. Ac eto, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen beth bynnag ac ar bob gafael mae wedi anwybyddu'r pryderon dilys a godwyd gan lu o sefydliadau dinesig. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol eisoes wedi rhybuddio y bydd gofynion dulliau adnabod pleidleiswyr yn cael effaith anghymesur ar bobl hŷn, pobl ag anableddau a phobl o gymunedau lleiafrifol ethnig—
A gaf fi dorri ar draws y Cwnsler Cyffredinol? Mae yna gais am ymyriad gan Darren Millar.
Iawn, fe wnaf dderbyn yr ymyriad.
Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Gwnsler Cyffredinol. A allwch chi ddweud wrthym—? Mae llawer o bobl wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o geisio troi'r fantol i'w mantais ei hun mewn perthynas â'r system etholiadol yng Nghymru ar sail rhai o'r cynlluniau peilot rydych yn gobeithio eu rhoi ar waith yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, ac mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonynt yn targedu demograffeg unigolion y credwch y gallent fod yn fwy tebygol o bleidleisio dros y Blaid Lafur. Onid yw hynny'n wir?
Na, mae hynny'n gwbl anghywir, ac yn bendant nid yw hynny'n wir; mae'n ymwneud â mesurau eraill a gymerwyd i wneud yr hyn rwyf wedi'i ddweud erioed, sef bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog unrhyw un a phawb i allu pleidleisio ac i sicrhau bod eu pleidlais gael ei chyfrif.
Nawr, dywedais yn gynharach fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhybuddio am effaith gofynion dulliau adnabod pleidleiswyr, ac mewn gwirionedd, mae'r cyn-Dwrnai Cyffredinol Ceidwadol, Dominic Grieve, wedi dweud bod y rheolau newydd hyn yn bygwth creu etholaeth ddwy haen ac annog y rhai mwyaf difreintiedig rhag chymryd rhan. Ac mae cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Senedd y DU, William Wragg—mae wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar—wedi crynhoi canfyddiadau ei bwyllgor, gan ddweud,
'Teimlwn nad oes gan gynigion y Bil Etholiadau sylfaen dystiolaeth ddigonol.'
Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn ymgais i arfer cyfrwystra gwleidyddol, oherwydd nid yw'r Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop wedi cymeradwyo na gwneud sylwadau hyd yn oed ar gynigion cyfredol y Llywodraeth sy'n destun dadl heddiw. A dywedodd y Comisiwn Etholiadol yn ei werthusiad yn 2018 o gynlluniau peilot dulliau adnabod pleidleiswyr
'nad oes digon o dystiolaeth eto i fynd i'r afael yn llawn â phryderon ac ateb cwestiynau am effaith gofynion adnabod ar bleidleiswyr.'
Lywydd, er bod rhai elfennau ar wahân o'r Bil y gallem fod eisiau mynd ar eu trywydd yn ein deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain, rydym wedi bod yn glir na fyddwn yn cyflwyno mesurau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig. Ond rydym yn pryderu am oblygiadau ehangach eu defnydd ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru a'r dryswch y gallai ei achosi i bleidleiswyr o ganlyniad i ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU. Byddai'n arbennig o heriol pe bai etholiadau datganoledig ac etholiadau heb eu datganoli yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod. Felly, mae'n sefyllfa rydym eisiau ei hosgoi yn y dyfodol, ac mae'r rhain yn bwyntiau rwyf wedi'u cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth y DU, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Nid oes amser hyd yn oed i roi ystyriaeth lawn i'r agweddau niweidiol niferus eraill ar y Bil hwn. Yr ymosodiad ar ymgyrchu rhydd a theg mewn etholiadau, yn ogystal â'r bygythiad bwriadol i'n democratiaeth drwy ganiatáu i roddion gwleidyddol tramor orlifo i'n system. Mae hynny yr un mor berthnasol i hanfod y Bil Etholiadau hwn.
Mae dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn cyferbynnu'n fawr â dull Llywodraeth y DU o weithredu. Rydym eisiau sicrhau bod etholiadau mor agored a hygyrch â phosibl, ac rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phleidleiswyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. A dyna pam y gwnaethom gefnogi rhoi'r bleidlais i rai 16 oed a dinasyddion tramor cymwys—pobl sy'n cyfrannu at fywyd ein cymunedau a'n gwlad ac sy'n haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed yn ein democratiaeth.
Er mwyn cefnogi ymestyn yr etholfraint, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, addysg a'r trydydd sector i ddarparu ymgyrch gynhwysfawr o ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd set gyntaf Cymru o gynlluniau peilot etholiadol yn digwydd yn rhan o'r etholiadau ym mis Mai, cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol, o bosibl, yn etholiadau'r Senedd yn 2026. Bydd y rhain yn edrych ar gynyddu'r cyfleoedd i bobl bleidleisio, gan adlewyrchu bywydau prysur pobl. Rydym wedi cyhoeddi manylion pedwar cynllun peilot pleidleisio ymlaen llaw—ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen. Rydym wedi llunio'r cynlluniau peilot i ddarparu tystiolaeth ar gyfer y gwahanol fathau o bleidleisio ymlaen llaw, boed hynny mewn gorsaf bleidleisio bresennol neu un ganolog newydd, ac agor y rhain ar ddiwrnodau gwahanol.
Bydd pob cynllun peilot yn wahanol, gan ein helpu i weld beth sy'n gweithio orau yng Nghymru, ac rwy'n arbennig o gyffrous ynglŷn â'r cyfleoedd pleidleisio ym Mharth Dysgu Glynebwy ac Ysgol Gyfun Cynffig. Am y tro cyntaf mewn unrhyw ran o'r DU, bydd myfyrwyr mewn sefydliadau addysg yn gallu pleidleisio yn y sefydliad hwnnw. Mae'r cynlluniau peilot yn cynnig hyblygrwydd newydd i'r etholwyr yng Nghymru, a byddwn yn annog pobl i wneud defnydd ohonynt, yn enwedig y rhai na fyddent wedi bwriadu pleidleisio'n wreiddiol o bosibl. Yn amodol ar ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio gweithio gyda phartneriaid ar fersiwn ddiwygiedig o'r datganiad pleidleisio drwy'r post i'w dreialu yn etholiadau 2022.
Bydd canfyddiadau'r cynlluniau peilot yn llywio ein gwaith ar ystyried diwygio etholiadol yn y dyfodol sy'n addas i'r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod etholiadau datganoledig yng Nghymru mor gynhwysol â phosibl. Byddwn yn ystyried ein cynigion ein hunain ar gyfer sut i gyflawni hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau yn y Senedd ar hyn maes o law. Diolch yn fawr, Lywydd.
A nawr Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Credaf i Darren Millar ddweud bedair gwaith ei fod yn siomedig ynghylch fy nghyfraniad. Cefais fy atgoffa am fod yn blentyn pedair oed eto, yn ôl yn swyddfa'r brifathrawes. Ar faterion cyfansoddiadol, os wyf yn siomi Darren Millar, rwy'n credu fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn yn ôl pob tebyg. Yn sicr, ni chefais fy siomi gan eich cyfraniad chi, Darren Millar; nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth arall gennych chi. Yn gryno, eich safbwynt chi yw, 'mae pasys COVID am gyfnod byr i ddiogelu bywydau pobl yn beth drwg; mae dulliau adnabod parhaol i bleidleiswyr er mwyn datrys problemau nad ydynt yn bodoli yn beth da.' Fe sonioch chi am y DU fel eithriad o'i chymharu ag Ewrop. Roeddwn yn meddwl, Darren Millar, eich bod wedi cefnogi'r syniad o eithriadoldeb Prydeinig. Gwelsom Andrew R.T. yn parhau â'r myth o Brydain ar ei phen ei hun yn gynharach yr wythnos hon. Mae'n cyd-fynd yn llwyr â'ch naratif Brexit, onid yw, Darren Millar?
Wrth ymyrryd yng nghyfraniad Heledd Fychan, fe ddywedoch chi y bydd dulliau adnabod pleidleiswyr ar gael am ddim. Wel, mae'n rhaid i rywun dalu am ddulliau adnabod pleidleiswyr, Darren. Mae'r cynlluniau peilot eu hunain yn costio £3 miliwn, neu a ydych yn ymwybodol o goeden arian hud yn rhywle i dalu am ddulliau adnabod pleidleiswyr? Mae'r gwelliant yn eich enw chi, Darren, yn anghywir—nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn cefnogi dulliau adnabod pleidleiswyr. Pam y byddai unrhyw un yn pleidleisio dros eich gwelliant pan fo'n anghywir?
Gareth Davies, fe sonioch chi am déjà vu, wel, fe'ch clywn yn gwneud yr un ddadl o un wythnos i'r llall yn y Senedd pan gawn unrhyw drafodaeth am y cyfansoddiad. Ni wneuthum eich clywed yn dweud gair am y newid cyfansoddiadol mwyaf yn y cyfnod modern: Brexit. Rydych bob amser yn mynnu bod gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, ond mae papurau Swyddfa'r Cabinet yn dweud y bydd costau gweithredu dulliau adnabod pleidleiswyr yn costio rhwng £4.3 miliwn ac £20.4 miliwn ar gyfer pob etholiad. A yw hynny'n werth da am arian pan fo gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, Gareth Davies?
Mae Heledd, Peredur a Sioned wedi gosod yn glir ffeithiau—ffeithiau swyddogol, ffeithiau y Llywodraeth yn San Steffan, yr ystadegau clir sy'n dangos y bydd pobl yn colli eu hawl i bleidleisio. Dwi'n eilio'r hyn a ddywedodd Jane Dodds yn canmol gwaith Maddy a'r criw ifanc sy'n brwydro yn erbyn y Bil yma, yn brwydro dros eu hawliau i bledleisio.
Pan fydd pobl ag anableddau'n cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr dosbarth gweithiol yn cael eu difreinio, mae angen inni boeni. Dyna pam y dylai'r Senedd hon a phob Aelod wrthwynebu'r Bil hwn a gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddifreinio ein dinasyddion. Ni ddylai'r Senedd hon fod yn bartner iau yn y broses o ddileu hawliau democrataidd a hawliau dynol ein dinasyddion. Mae'n tanseilio pob ffurf ar lywodraeth ddemocrataidd, ac mae'n ein tanseilio ni fel pobl.
Gadewch inni orffen ein dadl heddiw gyda dyfyniad arall gan Boris Johnson:
'Byddaf yn tynnu'r cerdyn hwnnw o fy waled ac yn mynd ati i'w fwyta ym mhresenoldeb pa elfen bynnag o'r wladwriaeth sydd wedi mynnu fy mod yn ei ddangos.'
Wel, Lywydd, mae Boris yn amlwg yn erbyn dulliau adnabod, felly rwy'n siŵr y bydd Darren Millar a chyd-Aelodau ei blaid yn ymuno â ni i gefnogi cynnig Plaid Cymru heno. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, rydym ni'n cyrraedd nawr y cyfnod pleidleisio ac fe fyddaf i'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:08.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:10, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd yr amser nawr i gynnal y pleidleisiau'r prynhawn yma. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd wledig. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw James Evans ac Aelodau eraill. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, 13 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, dyw'r cynnig ddim wedi cael ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig: O blaid: 16, Yn erbyn: 24, Ymatal: 13
Gwrthodwyd y cynnig
Fe fyddwn ni'n pleidleisio nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Alun Davies ac Aelodau eraill. Agor y bleidlais. O blaid 26, 13 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 14, Ymatal: 13
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, rŷn ni'n pleidleisio nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7880 fel y'i diwygiwyd:
1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018-19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004-05.
2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.
3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;
b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;
c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.
e) Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.
Agor y bleidlais. O blaid 28, 13 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Cynnig wedi'i ddiwygio : O blaid: 28, Yn erbyn: 12, Ymatal: 13
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith COVID ar addysg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod, felly.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Effaith COVID ar addysg, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i bleidlais ar welliant 1, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Mae gwelliant 2 a gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7895 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data.
3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig.
4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU.
5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar:
a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru;
b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.
Agor y bleidlais. O blaid 28, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar Fil etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid 39, yn ymatal neb, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Bil Etholiadau llywodraeth y DU. Cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, felly—dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am y dydd heddiw.
Fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer, a heddiw mae'r ddadl fer yn enw Russell George, felly fe wnaf i gyflwyno'r eitem nesaf i Russell George i gyflwyno'i ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch hefyd o roi munud o fy amser i James Evans a Jane Dodds. Dylwn hefyd ddatgan buddiant, gan fy mod yn aelod o Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn.
Roedd camlas Trefaldwyn ar un adeg yn ddarn 35 milltir o ddyfrffordd a weai ei ffordd o ffin Lloegr i ganol canolbarth Cymru yn y Drenewydd. Mae gwirfoddolwyr ac amrywiaeth o grwpiau cymunedol wedi bod, ac wrthi, yn gweithio'n galed iawn i adfer y gamlas i'w statws fel coridor drwy gymunedau Sir Drefaldwyn ar gyfer ymwelwyr, cerddwyr, ecoleg a masnach o dwristiaeth. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys partneriaeth camlas Trefaldwyn, Glandŵr Cymru, Cyfeillion Camlas Trefaldwyn, Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn, Cymdeithas Camlas Shropshire Union a Twristiaeth Canolbarth Cymru.
Rwyf am archwilio hanes y gamlas yn gryno cyn symud ymlaen i siarad am rai o fanteision y gamlas i ganolbarth Cymru. Roedd camlas Trefaldwyn ar ei hanterth yn gwasanaethu cymunedau fel Llanymynech, y Trallwng, Garthmyl a'r Drenewydd, ac adeiladwyd y gamlas fesul cam, o ganol y 1790au hyd at 1819, ar gyfer cludo deunyddiau gan fusnesau lleol, gan gynnwys amaethyddiaeth. Drwy'r 1920au a'r 1930au, gwelodd y gamlas gyfraddau cludo nwyddau yn lleihau, ac fe'i gorfodwyd i gau i gychod ym 1936.
Mae pobl leol wedi bod yn angerddol ynglŷn â'r gamlas a'i chadwraeth ers degawdau. Yn 1960, ymladdodd y gymuned gynigion ar gyfer defnyddio ei llwybr ar gyfer ffordd osgoi—nid ffordd osgoi'r Drenewydd, dylwn ychwanegu—ac maent wedi gweithio'n galed iawn byth ers hynny i adfer y gamlas i ddefnydd gweithredol. Roedd gwirfoddolwyr yn allweddol yn y gwaith o adfer darn 12 milltir o hyd o'r gamlas sy'n rhedeg drwy'r Trallwng, ac mae darlun o hynny y tu ôl i mi, os edrychwch yn fanwl. Ac ail-agorwyd y darn hwnnw gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar y pryd. Mae gwirfoddolwyr, wrth gwrs, wedi bod yn allweddol i'r gwaith cadwraeth ar y lociau a nifer sylweddol o adeileddau rhestredig ar hyd llwybr y gamlas.
Yna, yn hwyr y llynedd, yn 2021, sicrhaodd cais gan Gyngor Sir Powys i gronfa godi'r gwastad Llywodraeth y DU gyllid ar gyfer adfer darn 4.4 milltir o hyd o'r gamlas ger Llanymynech, a bydd yr arian hwn yn creu dau ddarn wedi'u hadfer o'r gamlas a wahenir gan hanner milltir lle mae angen gosod dwy bont ffordd newydd yn lle'r rhai sydd yno. Felly, dyna oedd y rhwystr ddiwedd y llynedd. Ond rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, drwy weithio gyda'i gilydd, wedi llofnodi bargen twf canolbarth Cymru y mis hwn, a dylai'r fargen hon helpu i adfer y gamlas ymhellach, ac mae'n debygol o ariannu'r gwaith o ailadeiladu'r ddwy bont ffordd sydd eu hangen i gysylltu'r ddau ddarn sydd wedi'u hadfer. Bydd hyn wedyn yn dod ag agoriad y darn o'r gamlas yn agos at ffin Lloegr, ble mae angen adfer darn 2 filltir o hyd yn unig i'w gysylltu â'r rhwydwaith cenedlaethol. Mae'r tir hwn sydd ei angen ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wrth gwrs.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Weithiau, gall manteision adfer y gamlas fod yn anodd eu gwerthfawrogi, oherwydd caiff effeithiau ariannol a llesiant eu lledaenu ar draws unigolion a busnesau lleol amrywiol. Mae llawer o fanteision eisoes, wrth gwrs, i'r darn lle'r adferwyd y gamlas eisoes o amgylch y Trallwng. Mae Ymddiriedolaeth Heulwen yn gwneud gwaith anhygoel sy'n cynnig teithiau camlas i rai na fyddent yn gallu eu defnyddio fel arall o bosibl, ar gwch cyntaf y DU a addaswyd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed. Cynigir y teithiau hyn yn rhad ac am ddim diolch i ymdrechon codi arian lleol ac maent yn helpu pobl mewn amgylchiadau anodd i ddathlu pen blwyddi a mwynhau amser gydag anwyliaid, ac wrth gwrs gallant ddefnyddio a mwynhau'r manteision y mae llawer ohonom yn eu mwynhau ar y dyfrffyrdd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â hwy fy hun ar gyfer taith ar gwch Heulwen II—unwaith eto, efallai y gallwch weld llun y tu ôl i mi ar fy wal.
Bydd pobl leol yn elwa mewn nifer o ffyrdd o adfer y gamlas. Bydd mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn deillio o fusnesau newydd ac ehangu busnesau yn yr ardal, ac rwy'n hyderus y bydd llawer o gyfleoedd menter a buddsoddi preifat yn codi o'r gwaith adfer. Mae'r gwaith adfer yn gyfle adfywio enfawr ac rwy'n awyddus iawn i Gyngor Sir Powys gyflwyno prif gynllun yn sgil buddsoddiad y sector cyhoeddus.
O ganlyniad i'r pandemig, wrth gwrs, mae ymarfer corff, fel y gwyddom, hyd yn oed yn bwysicach i ni nag erioed o'r blaen. Bydd y rhai sydd â chamlesi mewn etholaethau eraill yn gwybod pa mor boblogaidd y gallant fod ymhlith pobl leol sy'n cerdded a mynd â chŵn allan neu wneud ymarfer corff arall. Roeddwn yn falch iawn rai blynyddoedd yn ôl o ymweld â'r camlesi yn yr Alban, gyda nifer o Aelodau eraill y Senedd, i ddeall y manteision yno, ac fe'm perswadiwyd yn gyflym, fel yr holl Aelodau ar y daith honno, fod dyfrffyrdd yn annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff a gwella lles, fel y dengys nifer o adroddiadau. Mae'r gamlas yn lleol eisoes yn cynnal triathlon camlas Trefaldwyn, sy'n dod â 200 o gystadleuwyr o bob rhan o'r DU a 90 o wirfoddolwyr at ei gilydd. Mae'r gamlas hefyd, wrth gwrs, yn rhan o'n hanes a'n diwylliant lleol. Bydd ei gwarchod, gyda'i hystod wych o adeileddau rhestredig, yn gwasanaethu ac yn achub rhan bwysig o'n gorffennol cyffredin i genedlaethau'r dyfodol.
Felly, beth fydd y dyfodol yn ei gynnig? Dros 10 mlynedd ar ôl ei hadfer, amcangyfrifir y bydd yr incwm ychwanegol gan ymwelwyr a gynhyrchir gan y gamlas dros £23 miliwn, yn ôl yr astudiaethau dichonoldeb gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn. Wrth gwrs, bydd hyn o fudd i siopau, caffis ac atyniadau, a thrwy adfer y gamlas a rhoi hwb i'r busnesau hynny, gellir cadw mwy o gyfleusterau i bobl leol a thwristiaid yn ein trefi a'n pentrefi. Bydd y gamlas hefyd yn rhoi brand i ganolbarth Cymru allu hyrwyddo ei hun i ddarpar ymwelwyr. Wrth gwrs, mae gan Sir Drefaldwyn atyniadau gwych i ymwelwyr, fel castell Powis a Rheilffordd Fach y Trallwng a Llanfair, a bydd y gamlas yn ychwanegu at y rheini.
Mae cadwraeth ac ailagor y gamlas yn gynaliadwy ac yn sensitif yn ganolog i ethos pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect cyffrous hwn, ac rwy'n falch iawn fod Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, rwyf yn aelod ohoni hefyd, wedi cyfrannu'n weithredol at y prosiect hwn, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Ceir uchelgais mawr iawn yn yr ardal i ddatblygu'r prosiect o adfer y gamlas yn llwyr. Bydd y momentwm a welwn yn awr yn sicrhau bod rhan sylweddol o'r gamlas wedi'i chwblhau. Dylem fod yn edrych wedyn, wrth gwrs, ar fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer rhan y Drenewydd, fel y bydd egni, ymdrech a chyllid yn parhau gyda'r gwaith adfer pan fydd y gwaith adeiladu wedi gorffen ar y camau presennol. Mae Cyngor Tref y Drenewydd wedi bod yn gefnogwyr brwd i'r prosiect a gwn eu bod yn awyddus iawn i gefnogi peth o'r gwaith sydd ei angen ar gyfer y cam hwn.
Hefyd, rwy'n arbennig o falch o weld bod adfer y gamlas wedi ennyn cefnogaeth mor eang o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Gwn y bydd Jane Dodds a fy nghyd-Aelod, James Evans, yn siarad i gefnogi'r gwaith o adfer y gamlas heddiw hefyd. Ond o fy mhlaid fy hun, mae fy AS fy hun, Craig Williams, wedi bod wrthi'n ymgyrchu dros y gamlas ac wedi ei gwneud yn un o'i flaenoriaethau ers cael ei ailethol. Yn ôl yn 2020, siaradodd y Prif Weinidog yn ffafriol iawn am y prosiect pan ofynnais iddo ynglŷn â'r ymdrechion i hyrwyddo treftadaeth wych canolbarth Cymru, a gwn fod cyn Weinidog yr economi, Ken Skates, yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn i'r cynllun, ac mae'n sicr wedi mynegi ei farn ehangach fod y camlesi'n hanfodol i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Rwy'n cytuno'n llwyr wrth gwrs, ac rwy'n gobeithio y bydd parhad y prosiect hwn yn gweld canolbarth Cymru yn mwynhau'r un manteision ag ardaloedd eraill yng Nghymru sydd â chamlesi gweithredol, cydgysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn hefyd pan ymunodd yr Arglwydd Elis-Thomas â mi ar daith ar ran y Trallwng o'r gamlas, yn ôl ym mis Hydref 2018. Bydd yn rhaid bod gennych olwg da iawn i weld y llun bach y tu ôl i mi ohonof fi a Dafydd ar y gamlas yn ôl yn 2018. Ac roedd Dafydd, fel y Gweinidog twristiaeth ar y pryd, yn arbennig o awyddus i weld y gamlas wedi ei hadfer.
Felly, mae llawer eisoes wedi'i gyflawni yn y gwaith o adfer y gamlas, ac mae nifer o gyhoeddiadau arwyddocaol ynghylch cyllid wedi rhoi hwb sylweddol i hyn yn ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am annog pob adran ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sefydliadau sy'n adfer y gamlas wrth iddynt edrych am ragor o gyfleoedd ariannu ar gyfer y prosiect hwn, sy'n cysylltu ein cymunedau â'i gilydd. A dylem ddathlu potensial pellach y gamlas i roi hwb i'n lles, ein heconomi a'n treftadaeth yn lleol, a diolch i'r gwirfoddolwyr niferus hynny sydd, dros ddegawdau lawer, wedi gwneud cymaint eisoes ar ran ein cymuned. Diolch yn fawr.
Ni chymeraf fwy na munud o amser, ac mae llawer ohono i ganmol y gwaith da y mae fy nghyd-Aelod, Russell George, wedi'i wneud. Gwn o fywyd blaenorol, pan oeddwn yn aelod cabinet dros yr economi ar Gyngor Sir Powys, faint o lobïo a wnaeth Russell, Craig Williams AS a'r AS blaenorol a oedd yn y lle hwn amser maith yn ôl, Glyn Davies, i geisio cael arian i adfer camlas Trefaldwyn, ac rwyf am dalu teyrnged i chi, Russell. Heb eich dyfalbarhad, nid wyf yn credu y byddai'r prosiect gwych hwn wedi digwydd, oherwydd, yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae gennym gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a'r budd y mae honno'n ei ddarparu i'r economi ehangach yma yn Sir Frycheiniog ac yn ehangach i etholaeth Peter Fox yn Sir Fynwy. Mae'n anhygoel cymaint o bobl sy'n dod i'r rhan hon o'r byd i ddefnyddio'r gamlas, a phan wneir y gwaith adfer ar eich camlas chi yn Sir Drefaldwyn, gwn faint o fudd a wnaiff hynny i'ch economi ac economi ehangach canolbarth Cymru. Ac mae'n braf fod pob Llywodraeth wedi gweithio gyda'i gilydd, o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod gennym ymrwymiad i fuddsoddi yng nghanolbarth Cymru er mwyn hybu'r economi. Felly, diolch yn fawr iawn, Russell, am eich holl ddyfalbarhad ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Russell, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl hon ac am ganiatáu imi ddweud ychydig iawn o eiriau. Diolch, hefyd, am ei waith yn cefnogi camlas Trefaldwyn—dyfrffordd hardd sy'n rhedeg trwy Sir Drefaldwyn ac yn meithrin mwynder Maldwyn, ysbryd Sir Drefaldwyn.
Rwyf am ddweud ychydig eiriau am Ymddiriedolaeth Heulwen, y deuthum innau ar ei thraws hefyd, fel Russell. Mae'n bodoli i ddod â heulwen a gwên i fywydau'r rhai sy'n agored i niwed ac i ddod â phobl lai abl ar fwrdd y cwch, gyda'r tripiau cwch camlas sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar gamlas Trefaldwyn. Dechreuodd ym 1975, pan drefnodd Pwyllgor Tywysog Cymru, mewn partneriaeth â'r Variety Club of Great Britain, i brentisiaid Cammell Laird adeiladu cwch camlas 70 troedfedd wedi'i gynllunio'n arbennig i gludo plant anabl. Credir ei fod y cyntaf o'i fath yn y byd. Fe'i galwyd yn Heulwen, ac fe'i lansiwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Sefydlwyd y cynllun i bara 10 mlynedd, ac ar ôl hynny byddai pobl leol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o barhau'r gwaith da.
Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Heulwen, fel y clywsoch, ym 1985. Mae'n parhau i gael ei rhedeg yn frwdfrydig gan dîm o wirfoddolwyr. Ac fel Russell, hoffwn ddiolch iddynt hwy am yr hyn a wnânt yn staffio'r cychod yn ogystal â chodi arian i barhau'r gwaith a wnânt. Rwy'n cefnogi parhad y gwaith o ddatblygu camlas Trefaldwyn, ac unwaith eto, diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, i ymateb i'r ddadl, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Russell George am ddod â phrosiect camlas Trefaldwyn i'n sylw ni heddiw? Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn hyrwyddo'r prosiect hwn ers tro, ac unwaith eto mae wedi tynnu sylw at lwyddiannau'r gwirfoddolwyr lleol brwdfrydig niferus sy'n rhoi cymaint o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau i brosiect adfer y gamlas, prosiect a fu ar y gweill bellach ers degawdau lawer, fel y clywsom. Mae'n sicr yn llafur cariad ac yn deyrnged i ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig ag ef.
Roedd camlesi ar un adeg yn wythiennau byw'r chwyldro diwydiannol, gan gysylltu chwareli a gwaith diwydiannol â marchnadoedd a phorthladdoedd lle cludwyd cynnyrch o Gymru i ddinasoedd ledled y byd. Heddiw, mae ein camlesi'n parhau i fod yn bwysig i ni fel symbolau o'n treftadaeth ddiwydiannol, ysgogwyr cynhyrchiant economaidd, ac fel mannau lle gall natur ffynnu. Maent hefyd yn ffynonellau hamdden poblogaidd, gan gynnig cyfleoedd i gymunedau gymryd rhan mewn ymarfer corff drwy gerdded, rhedeg a beicio ar hyd y milltiroedd lawer o lwybrau tynnu a adferwyd, yn ogystal â mwynhau gweithgareddau ar y dŵr ei hun.
Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn falch o'r cyfle i ymweld â thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte, un o'n pedwar safle treftadaeth y byd, a thra oeddwn yno, dysgais gan y rhai a oedd yn gyfrifol am ei rheoli am y manteision niferus a ddaw yn sgil y gamlas i'r rhanbarth. Mae 12 mlynedd bellach ers i Bontcysyllte gael ei wneud yn safle treftadaeth y byd, ac mae ei boblogrwydd fel cyrchfan i ymwelwyr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn i'r pwynt, cyn COVID, pan oedd yn gweld dros 300,000 o ymwelwyr yn ymweld â'r brif draphont ddŵr yn unig. Mae camlas Llangollen ei hun yn un o'r darnau prysuraf o gamlas yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Mae camlas Trefaldwyn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn hanes diwydiannol canolbarth Cymru, ac rwy'n falch o weld ei bod yn parhau i chwarae rhan bwysig heddiw. Mae'r gamlas yn rhan o dreftadaeth fyw'r rhanbarth, ynghyd â thrysorau eraill fel rheilffordd fach y Trallwng a Llanfair, castell Powis ac amgueddfa Powysland sy'n rhoi cymeriad unigryw i ganolbarth Cymru, ac sy'n helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac er y gallai cerddwr sy'n pasio drwy'r rhanbarth ar lwybr troed enwog Clawdd Offa feddwl am y rhanbarth fel un gwledig yn bennaf, mae'r gamlas a'i cheiau a'i hodynau calch cysylltiedig yn ein hatgoffa mai ychydig o rannau o Gymru sydd heb eu cyffwrdd gan ledaeniad diwydiant yn y gorffennol diweddar.
Mae'r nifer gynyddol o ymwelwyr a defnyddwyr y gamlas yn dangos cymaint o atyniad y gall camlesi hanesyddol fod, oherwydd mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi ranbarthol, fel y cydnabyddir yn ein fframwaith economaidd rhanbarthol, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae sicrhau bod twristiaeth yn gweithio ar lefel leol, tra'n sicrhau y gall Cymru gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, yn elfennau allweddol o'r strategaeth pum mlynedd 'Croeso i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020. Mae 'Croeso i Gymru' yn gosod y fframwaith ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr, gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru: ei thirweddau, ei diwylliannau a'i lleoedd. Mae'r strategaeth yn tynnu sylw at ddau brif syniad o bro a byd, 'bro' sy'n golygu cymuned leol, ymdeimlad o bwrpas a lle, a 'byd' sy'n golygu lefelau rhyngwladol o ansawdd, safonau ac uchelgais.
Wrth wraidd y polisi twristiaeth mae'r tri maes allweddol sy'n sail i'r holl weithgarwch: cynaliadwyedd, cynwysoldeb a hygyrchedd. Mae cytundeb twf canolbarth Cymru yn cynnwys elfen benodol ar gyfer twristiaeth, lle mae adfer camlas Trefaldwyn yn un o'r prosiectau sydd dan ystyriaeth ar gyfer cyllid, o ganlyniad i'r cais gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn, y gwn iddo gael ei gefnogi gan Russell George. Un o'r cyfleoedd penodol a gyflwynir gan y camlesi yw eu bod yn cysylltu lleoedd a phobl a all fod yn gatalyddion ar gyfer partneriaethau cynhyrchiol. Mae twristiaeth yn elwa o gysylltu safleoedd gyda'i gilydd, a gall hefyd fod yn ffordd gynhyrchiol o rannu profiad a sgiliau cadwraeth.
Un yn unig o'r pethau mwy gweladwy sy'n ein hatgoffa o'n treftadaeth ddiwydiannol yw camlesi, ond i'w deall a'u mwynhau'n llawn, mae hefyd yn bwysig ystyried y lleoedd y maent yn eu cysylltu ac yn rhedeg drwyddynt. Ac mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar wrth baratoi cynllun rheoli safle treftadaeth y byd traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau a gweithio mewn partneriaeth, ac mae hyn yr un mor bwysig i gamlesi eraill.
Rwy'n falch o glywed bod camlas Trefaldwyn yn elwa o bartneriaeth gref sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sydd â diddordebau amrywiol yn y gamlas. Mae Croeso Cymru yn parhau i weithio gyda'r bartneriaeth, gan roi cyngor a chefnogaeth iddynt a hyrwyddo'r gamlas ochr yn ochr ag atyniadau treftadaeth rhanbarthol eraill. Mae Croeso Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau i wella llwybrau tynnu a mynediad cyhoeddus.
Rwyf wedi canolbwyntio ar werthoedd treftadaeth y gamlas, ond wrth gwrs mae rhan o'i statws rhyngwladol yn seiliedig ar gadwraeth natur fel ardal cadwraeth arbennig ar gyfer fflora dyfrol, ac rwy'n ymwybodol fod llwyddiant hyn wedi elwa o grant Natura 2000 o bron i £250,000 i sicrhau bod yr adnodd natur pwysig hwn yn cael ei reoli'n barhaus.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod a chymeradwyo gwaith y gwirfoddolwyr y soniasom amdanynt yn gynharach. Ers imi ymgymryd â fy rôl fel Dirprwy Weinidog, mae wedi bod yn bleser gennyf gyfarfod â llawer o grwpiau ac unigolion sy'n angerddol ynglŷn â'u treftadaeth ac sy'n gweithio'n ddiflino i warchod a diogelu safleoedd hanesyddol o bob cyfnod a'u rhannu gyda'u cymunedau. Mae gwybodaeth, sgiliau ac angerdd cyfunol grwpiau ac unigolion fel y rhain yn helaeth, nid yn unig o ran eu cyfraniadau at dreftadaeth neu ymchwil hanesyddol, ond o ran yr hyn y maent yn ei ddarparu ar gyfer eu cymunedau. Ceir dealltwriaeth dda o fanteision corfforol a chymdeithasol gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli, ac mae prosiectau fel hwn yn dangos sut y mae ein hamgylchedd hanesyddol a'n hasedau treftadaeth yn cynnig cyfleoedd gwych i roi hyn ar waith. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Ac edrychaf ymlaen at weld sawl un ohonoch yr wythnos nesaf.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:36.