Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/02/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Cwestiynau i Weinidog yr Economi yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Parc Bryn Cegin

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor? OQ57667

Gwnaf. Dros y 12 mis diwethaf, mae cryn ddiddordeb wedi'i fynegi yn ein tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu â’r awdurdod lleol a nifer o bartïon eraill sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud cynigion i brynu plotiau datblygu ym Mryn Cegin.

Diolch yn fawr iawn am y diweddariad yna. Y gwir plaen ydy nad oes yna'r un swydd wedi’i chreu ym Mharc Bryn Cegin ers i’r safle gael ei brynu a’i addasu gan Lywodraeth Cymru, er gwaetha'r arian sylweddol sydd wedi'i wario arno fo ac er gwaetha'r addewidion. Drws nesaf i'r safle mae stad Maesgeirchen ac o fewn tafliad carreg mae dinas Bangor. Mae mawr angen swyddi parhaol o ansawdd a chyfleon busnes a chyfleon hyfforddiant er mwyn cryfhau’r economi leol er budd y bobl sy’n byw yma. Dwi'n falch o gael y diweddariad, ond pryd fydd y swydd gyntaf yn ymddangos ym Mharc Bryn Cegin yn fy etholaeth i?

Wel, ni allaf roi union ddyddiad i chi pan fydd y swydd gyntaf ar y safle, gan ein bod yn dal i drafod gyda'r partneriaid hynny ac ni allwn gael pob un o'r sgyrsiau hynny yn gyhoeddus gyda phartïon a enwir, ond rwyf wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan fy swyddogion a chredaf fod rheswm da dros ddisgwyl newyddion yn y dyfodol gweddol agos ynglŷn â swyddi ar y safle hwnnw. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol nid yn unig ei fod o fewn tafliad carreg i ddinas Bangor ac ystad Maesgeirchen, ond mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cwblhau cyfleuster parcio a rhannu, parcio a theithio drws nesaf i'r ystad i'w gwneud yn haws byth i bobl gyrraedd cyfleoedd gwaith. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf ddweud cyn bo hir nid yn unig pryd rwy’n disgwyl i'r swyddi fod yno, ond pryd fydd y swyddi yno ar y safle, yn gwasanaethu etholwyr yr Aelod a busnesau sydd naill ai’n adleoli yno neu sy'n ehangu eu busnesau ar y safle penodol hwn.

Diolch i’r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, ac yn cydnabod efallai, fod y ffaith bod Parc Bryn Cegin yn dal i fod yn wag ar ôl 20 mlynedd yn destun pryder mawr. Ac rwy’n derbyn y sylwadau rydych wedi’u gwneud ar ddatblygiadau yn y dyfodol, ond rydym wedi cael 20 mlynedd o gyfleoedd a gollwyd, efallai, i gael swyddi o safon ym Mangor ac ar draws gogledd Cymru i helpu’r economi leol.

Y tro diwethaf i’r mater hwn gael ei godi yn y Siambr, nodaf fod Gweinidog gogledd Cymru wedi dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru hefyd, felly edrychaf ymlaen at glywed sut yr aeth y trafodaethau hynny. Ond yng ngoleuni'r mater hwn, Weinidog, tybed pa wersi rydych chi yn Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd swyddi yn y dyfodol mewn datblygiadau fel hyn yn cael eu colli eto.

Wel, nid oes unrhyw awgrym fod cyfleoedd swyddi wedi'u colli ar y safle. Byddem wedi dymuno gweld mwy o swyddi ar y safle hwn, ond nid oes tystiolaeth nad yw'r swyddi a fyddai wedi dod i ogledd Cymru wedi dod yno. Edrychaf ymlaen at gael swyddi ar y safle a chael swyddi o safon uchel, ac mae sgyrsiau'n mynd rhagddynt gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru yn rhan o'r gyfres o sgyrsiau sydd eisoes yn mynd rhagddynt. Os edrychwch ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn mentrau ar y cyd ac ar ei phen ei hun i ddatblygu safleoedd cyflogaeth, mae gennym hanes da o ddatblygu safleoedd sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth. Mae Parc Bryn Cegin yn anarferol yn yr ystyr, ar ôl y cyfnod datblygu yn 2008, nad oes swyddi ar y safle o hyd, ond rwy’n disgwyl i'r sefyllfa honno gael ei hunioni mewn ffordd y disgwyliaf y bydd Aelodau o bob plaid am ei dathlu pan fydd swyddi'n dod i'r safle a’r agweddau ehangach ar yr uchelgais sydd gennym ar gyfer y gogledd a’i ddyfodol economaidd.

13:35
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o arian a ddaw i Gymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf? OQ57664

Yn seiliedig ar ddyraniad Cymru o'r gronfa adfywio cymunedol eleni, sydd fel y gwyddoch, yn rhagflaenydd i’r gronfa ffyniant gyffredin, gallai Cymru dderbyn oddeutu £90 miliwn o’r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn amlwg yn llai o lawer nag addewidion mynych Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr addewid maniffesto penodol yn 2019, i ddarparu arian yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, a oedd yn werth £375 miliwn y flwyddyn i Gymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r ffaith bod cwestiynau o hyd ynglŷn â hyn a ninnau mor agos at pan ddylem fod yn cael gwybod am hyn yn dweud y cyfan, onid yw, o ran y modd y mae San Steffan yn trin yr holl broses hon? A gwyddom beth yw cyfanswm yr ydym wedi ei golli'n barod, oni wyddom? Rydym wedi colli £375 miliwn o gyllid strwythurol yr UE ac yn ei le, cawsom £46 miliwn gan San Steffan, colled o £329 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. A heb sôn am y cwestiwn, Weinidog, ynglŷn ag a fydd San Steffan yn addef faint o arian y byddwn yn ei gael drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'r ffordd y bydd yn cael ei wario yn peri cryn bryder, onid yw, gan fod a wnelo hyn â mwy na'r swm o gyllid yn unig? Mae trosolwg strategol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi’i ddisodli gan broses pot mêl, gyda San Steffan yn dewis cynlluniau penodol yn seiliedig ar feini prawf amwys. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, nad oes unrhyw gyfiawnhad economaidd dros wario arian fel hyn, ac mai’r unig ffordd o ddehongli’r ffaith bod y Torïaid wedi dewis y broses hon yw eu bod yn dymuno gallu pwyntio at rai cynlluniau penodol sydd wedi derbyn arian er mwyn ceisio ennill pleidleisiau?

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir iawn fod ymddygiad Llywodraeth y DU yn bell iawn o'r addewidion a wnaed ganddynt dro ar ôl tro ar sawl ffurf, ac rydym yn mynd i golli £1 biliwn. Dyna faint y bydd Cymru'n ei golli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—£1 biliwn. Ac ni allaf weld sut y gallai unrhyw unigolyn rhesymol amddiffyn hynny, ni waeth beth fo'u gwleidyddiaeth. Ni chredaf fod unrhyw un wedi dod i'r lle hwn i geisio cyfiawnhau Cymru'n colli £1 biliwn. Ac wrth gwrs, rydym hefyd yn gweld rhanbarthau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon yn cael eu trin yn yr un modd, gan fod Llywodraeth y DU wedi dewis tanariannu'r hen raglenni UE hynny yn fwriadol er gwaethaf addewidion clir na fyddai unrhyw un yn colli'r un geiniog.

Ac mae pryder wedyn ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario. Nid oes dealltwriaeth strategol o sut y caiff yr arian hwnnw ei wario. Nid yw’r symiau bach iawn o arian nad ydynt wedi’u cysylltu’n strategol yn y cynlluniau rhagflaenol yn rhoi llawer o obaith ar gyfer y dyfodol, pe byddem yn parhau ar y llwybr hwnnw. Ac ni ellir gwadu bod cael Aelod Seneddol Ceidwadol yn y DU yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gael arian drwy'r ffordd y mae'r arian wedi'i ddyrannu. Ac nid yw hynny'n cyfateb i fap o angen yng Nghymru, Lloegr, yr Alban nac unrhyw ran arall o'r DU.

Felly, mae her amlwg yma. Serch hynny, mae ffordd o sicrhau nad yw hyn yn digwydd, sef drwy gael dealltwriaeth lawn, gyda meini prawf cyhoeddedig, o sut y caiff yr arian ei ddefnyddio—fframwaith DU gyfan, gyda rôl briodol i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Dyna sut y dylai hyn weithio, a sut y gallai weithio. Nid yw’n rhy hwyr i Michael Gove newid cyfeiriad am ba bynnag reswm, ond fel rydym wedi’i weld gyda phorthladdoedd rhydd yn yr Alban, mae'n bosibl dod i gytundeb os yw Llywodraeth y DU mewn sefyllfa lle y credant fod hynny'n wirioneddol bwysig. Bydd y llwybr presennol yn golygu y bydd gan Gymru lai o lais ynghylch llai o arian, ac ni all hynny fod yn ganlyniad da i unrhyw Aelod yn y lle hwn.

Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei bod yn bwysig nad yw Cymru ar ei cholled o ganlyniad i’r newid o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i’r gronfa ffyniant gyffredin, ac rwy’n siŵr y bydd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gryn ddiddordeb yn y mater penodol hwn maes o law. Nawr, ddoe, dywedodd y Prif Weinidog nad yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU gydweithredu â Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cyllid y gronfa ffyniant gyffredin, ac rydym wedi gweld sut y mae ymgysylltu rhynglywodraethol cadarnhaol wedi sicrhau manteision ar ffurf bargeinion dinesig a bargeinion twf, er enghraifft. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau diweddaraf gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r gronfa ffyniant gyffredin, yn enwedig yng ngoleuni adroddiad diweddar pwyllgor dethol Tŷ’r Arglwyddi ar y cyfansoddiad?

Wel, dylwn longyfarch yr Aelod. Dyna’r tro cyntaf i Aelod Ceidwadol yn y lle hwn ddweud na ddylai fod yn dderbyniol fod Cymru’n colli arian yn sgil y newid o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae hwnnw'n ddatganiad i'w groesawu'n fawr. Y drafferth yw bod cynllun y Canghellor yn dangos y bydd Cymru, heb os, yn colli arian yn y dyfodol, gan na fydd cronfa ffyniant gyffredin y DU gyfan, sef yr arian y mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir iawn y bydd yn olynu cronfeydd yr UE, ond yn cynnwys £400 miliwn yn unig ar gyfer y DU gyfan y flwyddyn nesaf. Nawr, nid ydym byth yn mynd i gael £375 miliwn ar gyfer Cymru yn unig o'r arian hwnnw. Rydym wedi ceisio cael sgyrsiau gweinidogol uniongyrchol am hyn fwy nag unwaith. Hyd yn hyn, bu rhywfaint o ymgysylltu rhwng swyddogion, ac mae hynny wedi gwella dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond nid ydym mewn sefyllfa o hyd lle cafwyd cynnig ystyrlon i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru fel partneriaid i wneud penderfyniadau ar sut i ddefnyddio cyllid y gronfa ffyniant gyffredin. Yr un thema gyson a glywyd oedd mai Gweinidogion yn Whitehall a fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau. Nawr, ni all hynny fod yn iawn ychwaith. Nid oes unrhyw ffordd i chi a'r pwyllgor a gadeiriwch graffu ar unrhyw ddewis a wnaf, nac yn wir, i graffu ar un o Weinidogion y DU am y dewisiadau a wnânt ynghylch lle y caiff arian ei wario yng Nghymru, ac ni all hynny fod yn iawn pan fo Aelodau o bob plaid yn y lle hwn wedi craffu ar sut y cafodd y cronfeydd hynny eu defnyddio ers 20 mlynedd, a gwn fod yr Aelod, a bod yn deg, Lywydd, wedi bod yn rhan o'r broses o roi cyngor i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ar sut i ddefnyddio’r arian hwnnw’n effeithiol i sicrhau newid ystyrlon er budd economi Cymru. Hoffwn pe bai'r DU yn ystyried y cyngor y mae’r Aelod wedi’i roi yn y gorffennol ynghylch sut y dylid defnyddio’r cronfeydd hynny’n briodol, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â’r lle hwn.

13:40

Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu geiriau’r Aelod dros Breseli Sir Benfro y prynhawn yma, yn yr un modd ag y mae Aelodau ar draws y Siambr wedi cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei dadl i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled o ganlyniad i’r gronfa ffyniant gyffredin. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, fod cryfder ein dadl yng nghryfder ein hesiampl. Rydym bellach bum mlynedd i mewn i raglen y Cymoedd Technoleg, bron i hanner ffordd drwy’r rhaglen honno, a lansiwyd gan eich rhagflaenydd. A allwch sicrhau yn awr, Weinidog, ein bod ni, ym Mlaenau Gwent, yn derbyn y swm llawn o £100 miliwn a warantwyd gan Ken Skates pan lansiodd y rhaglen honno, ac y byddwn yn parhau i fuddsoddi i sicrhau bod Blaenau Gwent yn cael yr arian a addawyd iddynt, a bod Blaenau Gwent yn parhau i fod wrth wraidd gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio a datblygu economaidd ym Mlaenau’r Cymoedd?

Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs uniongyrchol gyda’r Aelod am ddyfodol y Cymoedd Technoleg, am yr heriau a’r cyfleoedd i ardaloedd Blaenau’r Cymoedd. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo rhwng pum awdurdod lleol ar sut i sicrhau'r cyfleoedd buddsoddi a chyflogaeth mwyaf posibl, gan mai dyma’r ardal â'r crynodiad uchaf o anfantais yng Nghymru gyfan, ac ni fyddwn yn llwyddo yn ein cenhadaeth economaidd ar gyfer y wlad os na chynhyrchwn ganlyniadau cyflogaeth gwell i bobl sy’n byw yn y rhan honno o Gymru. Felly, rwy'n fwy na pharod i siarad gydag ef am hynny. Mae hefyd wedi codi'n rheolaidd yn y sgwrs rwyf wedi’i chael gyda’r brifddinas-ranbarth, gan drawsffurfio'n gyd-bwyllgor newydd, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r pum awdurdod lleol a’r brifddinas-ranbarth ehangach i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau cyflogaeth gwell y gwn fod yr Aelod yn dymuno'u gweld. Rwy'n fwy na pharod i drefnu sgwrs ddilynol gydag ef i drafod hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, i'w hateb i gyd y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon. Yn gyntaf, felly, llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, o edrych ar eich portffolio, a fyddech yn dweud bod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant?

Member
Dawn Bowden 13:43:37
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn. Credaf fod y pasys COVID wedi gwneud yr hyn y bwriadwyd iddynt ei wneud. Pan gyflwynwyd y pasys COVID, wrth gwrs, roeddem ar ganol cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o COVID. Wedi hynny, cawsom y don omicron, a bu’n rhaid inni wneud rhywbeth i geisio adfer rhywfaint o hyder yn y sector. Felly, yn yr ardaloedd lle y gwnaethom ddefnyddio pasys COVID, cawsant eu defnyddio at y diben penodol hwnnw—cadw busnesau ar agor ac adfer hyder ymhlith y cynulleidfaoedd y byddai'n ofynnol iddynt ddangos pàs COVID mewn digwyddiadau dan do. Felly, yn hynny o beth, byddwn yn dweud eu bod wedi bod yn llwyddiant.

Rydych yn dweud eu bod wedi gwneud yr hyn y bwriadech iddynt ei wneud. Nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno, gan y credaf mai bach iawn oedd effaith pasys COVID ar ddiogelu iechyd y cyhoedd. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei hun fod yr effaith 'yn eithaf bach yn ôl pob tebyg', a'r cyngor gan y gell cyngor technegol i Lywodraeth Cymru oedd bod

'lefel uchel o ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiolrwydd y Pàs COVID yn lleihau heintiau yn absenoldeb asesiad cadarn o'r ymyriadau hyn.'

A dywedodd y gell cyngor technegol hefyd fod sawl adolygiad yn awgrymu bod perygl i basys COVID greu niwed yn ogystal â budd. Daw'r unig dystiolaeth fod pasys COVID yn gweithio o wledydd lle mae’r nifer sydd wedi cael y brechlyn yn isel iawn, sydd, diolch i lwyddiant brechu ledled y DU, yn wahanol iawn i'r sefyllfa yma yng Nghymru. Nid yn unig hyn, ond mae wedi cael effaith negyddol ar ein heconomi, fel y mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, wedi’i nodi o'r blaen. Roedd cost gyfartalog gweithredu pasys COVID oddeutu £400 yr wythnos. Mae busnesau nid yn unig wedi gorfod ysgwyddo costau ariannol sylweddol y pasys, maent hefyd wedi wynebu lleihad sylweddol yn nifer cwsmeriaid, gyda rhai busnesau'n colli hyd at 50 y cant o'u refeniw. Felly, Ddirprwy Weinidog, gofynnaf i chi unwaith eto: pa dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru fod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant?

13:45

Credaf fod angen ichi ystyried y mater yng nghyd-destun yr hyn yr oeddem yn ei wneud. Roedd hwn yn un o gyfres o fesurau. Nid oedd cyflwyno pasys COVID yn fesur ar ei ben ei hun. Fe'i cyflwynwyd, fel y dywedwch, ochr yn ochr â'r rhaglen frechu. Roedd yn rhan o—. Roedd cael pàs COVID yn annog pobl i gael y brechlyn. Fe'i cyflwynwyd ochr yn ochr â mesurau eraill hefyd, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau lliniaru eraill a gyflwynwyd oddeutu'r un pryd. Felly, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy ateb cyntaf am yr hyn y bwriadwyd iddynt ei wneud, sef ennyn hyder yn y sectorau a rhoi hyder i'r gynulleidfa. Ac yn sicr, cafwyd tystiolaeth anecdotaidd sylweddol fod hynny'n wir, gan fod nifer o leoliadau digwyddiadau yn enwedig wedi gweld cwymp yng ngwerthiant tocynnau, fel y gwyddoch, ond roedd pobl hefyd yn dweud y byddent yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad dan do ac i leoliad dan do pe byddent yn defnyddio pàs COVID, gan fod hynny wedi ennyn rhywfaint o hyder, pan oeddent yn y lleoliad hwnnw, eu bod yn gwybod bod pobl eraill gyda hwy naill ai wedi cael eu brechu neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol. Felly, ni chredaf y gallwch ystyried y peth ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid ei ystyried yn rhan o gyfres o fesurau a oedd yn weithredol ar y pryd.

Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hateb, ond ni chredaf imi glywed unrhyw dystiolaeth fod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant. Ac felly, gan dybio nad oes tystiolaeth fod pasys COVID wedi llwyddo i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac mai’r unig dystiolaeth sydd ar gael, i bob golwg, yw eu bod wedi cael effaith economaidd hynod negyddol ar nifer o ddiwydiannau—lletygarwch, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, y diwydiant twristiaeth, a phob un ohonynt yn eich portffolio chi, Ddirprwy Weinidog—yr unig ffordd y credaf y gwnawn ni ddarganfod a oedd pasys COVID yn llwyddiant yng Nghymru ai peidio, neu’n wir, a wnaeth Llywodraeth Cymru fynd yn llawer rhy bell yma a chostio llawer o incwm i fusnesau, yw asesu’n briodol ai hwn oedd y penderfyniad cywir mewn ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Ond ymddengys eich bod chi a Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn amharod i gynnal un ac yn cuddio y tu ôl i ymchwiliad COVID Lloegr yn lle hynny.

Wrth gwrs, defnyddiwyd pasys COVID yn Lloegr hefyd, a dim ond am 44 diwrnod y buont yn weithredol yno, o gymharu â 130 yma, ac roeddent yn targedu llai o lawer o ddiwydiannau hefyd. O ystyried bod Cymdeithas Diwydiannau’r Nos wedi dweud y bu gostyngiad o 26 y cant mewn masnach yn sgil cyflwyno’r pasys COVID hynny, mae’r diwydiannau hyn, Ddirprwy Weinidog, y mae cymaint o’n heconomi yma yng Nghymru yn dibynnu arnynt, yn haeddu gwybod y gwir. Felly, a gaf fi ofyn, a ydych wedi cael sicrwydd penodol y bydd effaith eich pasys COVID yng Nghymru yn rhan ganolog o'ch ymchwiliad COVID ar gyfer Lloegr?

Y peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw bod hyn yn ddiddorol iawn, onid yw, clywed hyn gan y blaid unoliaethol sydd bellach yn sôn am ymchwiliad Lloegr? Nid ymchwiliad Lloegr yw hwn, ymchwiliad y DU yw hwn, ymchwiliad y bydd Cymru’n rhan ohono, a bydd elfen Gymreig benodol iawn i’r ymchwiliad hwnnw y mae’r Prif Weinidog wedi sôn amdani sawl gwaith yn y Siambr hon, ac wedi dweud yn benodol iawn mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU fod yr agwedd Gymreig benodol honno ar yr ymchwiliad yn hanfodol bwysig er mwyn archwilio ac ymchwilio i’r holl bethau rydych eisoes wedi tynnu sylw atynt.

Rwyf wedi cyfarfod â rhai o’r teuluoedd mewn profedigaeth yn fy etholaeth, a gwn pa mor gryf y maent yn teimlo ynglŷn â hyn, a gwn ein bod wedi—. Ac roedd gennyf bob cydymdeimlad â'u safbwyntiau. Ni allai unrhyw un sydd wedi colli perthynas neu ffrind neu rywun annwyl o unrhyw fath drwy'r pandemig hwn beidio â theimlo empathi a chydymdeimlad â'r bobl hynny. Ond nid ymchwiliad penodol i Gymru, yn ein barn ni, yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw. Bydd yr ymchwiliad DU gyfan, gyda’r cylch gorchwyl y byddwn yn cytuno arno ac a fydd yn destun ymgynghoriad ehangach, yn caniatáu i'r holl deuluoedd hynny a’r holl faterion rydych wedi’u codi gael eu harchwilio’n llawn, a’u harchwilio yng Nghymru, gan y bydd gwrandawiadau'r ymchwiliad yn mynd rhagddynt yng Nghymru hefyd ar gyfer yr elfennau penodol hynny o'r ymchwiliad.

Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr—. Sori.

Fe ddechreuaf eto, ac fe arhosaf amdanoch.

Cawsoch eich drysu gan fy mrawddeg fach yn y Gymraeg y bore yma, oni chawsoch?

Do, roeddwn yn meddwl eich bod yn rhugl. [Chwerthin.]

Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, fel rhan o'r cyhoeddiad ynglŷn â'r ffi drwydded, eu bod yn cau'r gronfa cynnwys cynulleidfaoedd ifanc, sef y young audiences content fund. Mae 5 y cant o'r gronfa wedi ei thargedu ar gyfer creu cynnwys mewn ieithoedd brodorol, gan gynnwys y Gymraeg, ac wedi cefnogi nifer o gynyrchiadau o safon i blant yng Nghymru, gan gynnwys cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu cyn hir, Bex, fydd â ffocws ar iechyd meddwl.

Gwn eich bod chi, Ddirprwy Weinidog, yn pryderu fel finnau am effaith y toriadau i'r BBC ar ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg yma yng Nghymru. Bydd torri'r gronfa hon hefyd yn cael effaith niweidiol pellach. Ac o ystyried pwysigrwydd darlledu o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i leihau effaith y golled hon mewn cyllid a buddsoddiad mewn darlledu yn y Gymraeg, ac yn benodol o ran darpariaeth i blant a phobl ifanc? 

13:50

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu pryderon yr Aelod yn llwyr ynghylch y sefyllfa bresennol gyda ffi'r drwydded. Rwyf wedi cyfarfod â BBC Cymru Wales ac S4C ac wedi trafod setliad y ffi, a fy mhryder bryd hynny—pan godoch chi'r cwestiwn hwn ar y pryd, rwy'n credu—oedd yr effaith uniongyrchol y byddai hyn yn ei chael ar raglenni Cymraeg. Gwyddom fod y BBC yn darparu llawer o fewnbwn ar gyfer S4C hefyd, ac er bod setliad S4C ychydig yn fwy hael nag un y BBC, ni chredaf y gellir bychanu'r effaith gyffredinol ar raglenni a chynyrchiadau Cymreig. Ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn nodi pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad a’r adolygiad o fodel ariannu’r BBC. Ac mae’r llythyr hwnnw’n atgyfnerthu’r angen i’r DU weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig fel rhan o unrhyw benderfyniadau ar y fframwaith ariannu yn y dyfodol.

Felly, credaf fod angen inni barhau â’r sgyrsiau hynny gyda’r BBC ac S4C i weld beth fydd effaith hynny mewn gwirionedd, ond gallaf roi fy ymrwymiad llwyr ein bod ni, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn dal yn ymrwymedig i gyflawni’r amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny’n digwydd, boed hynny gyda chefnogaeth y BBC, S4C ac unrhyw gwmnïau cyfryngol eraill.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yng ngeiriau Raymond Williams, mae diwylliant yn gyffredin a gwn eich bod chi a minnau, Ddirprwy Weinidog, yn rhannu’r gred gyffredin y dylid cael mynediad teg at gyfranogiad diwylliannol. Er ein bod wedi gweld rhai prosiectau diwylliannol digidol gwych ac arloesol yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig, mae ymchwil wedi dangos bod y newid i brofiadau diwylliannol digidol dros gyfnod y pandemig wedi methu sicrhau cynulleidfaoedd diwylliannol mwy amrywiol, gan ymgysylltu’n bennaf â’r rheini a oedd eisoes yn ymwneud â gweithgareddau diwylliannol. Yn ychwanegol at hyn, bu gostyngiad mwy yn nifer yr oriau o gyfranogiad gan fenywod a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig o gymharu â dynion gwyn.

Er bod gan arloesi digidol rôl i’w chwarae, heb os, wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ni fydd hyn ond yn gweithio pan fydd wedi’i ymgorffori mewn strategaeth hirdymor o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac ysgolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i benderfynu pa wersi a ddysgwyd ynghylch ehangu ymgysylltiad drwy’r gweithgareddau diwylliannol digidol a ariannwyd ganddynt yn ystod y pandemig, a sut y bwriadwch sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn diwylliant?

Iawn. Wel, diolch am eich cwestiwn. Byddwch wedi gweld ein bod, yn yr is-adran ddiwylliant, wedi dyrannu £600,000 ychwanegol yn y gyllideb yn benodol er mwyn buddsoddi ym maes mynediad cyfartal, boed hynny drwy ddulliau digidol neu unrhyw ddulliau eraill, ac rydym yn bwriadu creu rhaglenni arloesol o hyfforddiant a chymorth i amgueddfeydd lleol, er enghraifft, ddatblygu eu rhaglenni digidol a datblygu’r ffordd y caiff eu harddangosfeydd a’u holl arteffactau eu harddangos a’u cynrychioli ac ati.

Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes o dan y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i geisio cyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol gyda nifer o grwpiau rhanddeiliaid yn y cymunedau. Rydym wedi cymryd y camau cyntaf ond hollbwysig wrth ailystyried y dehongliadau o gasgliadau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a chynhaliwyd sesiynau drwy gydol mis Tachwedd ac maent yn parhau drwy fis Ionawr, gydag adborth ardderchog ar nifer o’r rhaglenni rydym yn ceisio sicrhau cyfranogiad ynddynt. Mae gennym brosiectau eraill yr ydym yn gweithio arnynt gyda Race Council Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, Cadw a'r cyrff diwylliannol a noddir gennym—mae'r holl waith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac mae swyddogion yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ym maes cydraddoldeb, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid y sector, i ddatblygu ein nodau terfynol, yn dilyn yr ymgynghoriad ar y drafft o'r cynllun gweithredu cydraddoldeb. Ac mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y prynhawn yma i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y gwaith a wnawn ar draws y portffolio yn y maes penodol hwn.

13:55
Yr Argyfwng Costau Byw

3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau fod polisi Llywodraeth Cymru ar yr economi yn cynnwys strategaeth i daclo'r argyfwng costau byw? OQ57644

Mae ein polisïau economaidd yn cwmpasu'r holl gyfrifoldebau gweinidogol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ynni, tai a chyfiawnder cymdeithasol. Rwy’n parhau i weithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod pob punt sydd ar gael yn darparu ar gyfer y rheini sy'n wynebu effeithiau gwaethaf argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr.

Diolch, Weinidog. Mae incwm mwy na thri o bob 10 aelwyd ag incwm net o lai na £40,000 wedi gostwng ers mis Mai 2021, ac ar gyfer aelwydydd ag incwm net o fwy na £40,000, mae incwm mwy nag un o bob pump wedi cynyddu. Arhosodd twf cyflogau yn ei unfan ym mis Hydref, gostyngodd ym mis Tachwedd, ac mae'n annhebygol o ddechrau tyfu eto tan chwarter olaf eleni, gan effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm isel. Erbyn diwedd 2024, disgwylir y bydd cyflogau real £740 y flwyddyn yn is nag y byddent wedi bod pe bai twf cyflogau wedi parhau ar yr un lefel â chyn y pandemig. Mae hwn yn amlwg yn argyfwng sy'n gwaethygu gwahaniaeth economaidd a oedd eisoes yn sylweddol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ein bod yn wynebu'r lefelau uchaf erioed o chwyddiant, sy’n fwy na chyflogau ac sy'n gwthio costau byw yn uwch byth. Mae maint y broblem yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed fod strategaeth economaidd Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Felly, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â hyn, a pha bwerau economaidd pellach y mae’n credu y dylid eu datganoli i Gymru, fel y gallwn fynd i’r afael yn iawn â’r argyfwng hwn a lliniaru ei effeithiau negyddol ar ein cymdeithas? Diolch.

Diolch am y pwyntiau a’r gyfres o gwestiynau. Credaf fod y pwynt am dwf cyflogau yn ddiddorol, oherwydd hyd yn oed ar ddechrau’r wythnos hon, roedd awgrym y byddem yn gweld ffigurau twf cyflogau sylweddol, ond dangosodd y ffigurau nad oedd cyflogau wedi codi gyfuwch â chwyddiant. A chredaf fod sylwadau blaenorol Llywodraethwr Banc Lloegr ynglŷn â’r angen i atal cyflogau i geisio cadw rheolaeth ar chwyddiant—roedd sylwebwyr ac economegwyr ar y chwith a’r dde, fel petai, yn credu eu bod yn sylwadau braidd yn rhyfedd, ac ni chânt eu cadarnhau gan yr hyn sydd mewn gwirionedd yn achosi chwyddiant ar hyn o bryd: nid cyflogau sy'n gwneud hynny.

Dywedodd Sefydliad Resolution y gallwn ddisgwyl trychineb costau byw ym mis Ebrill oni roddir camau pellach ar waith. Nawr, dyna ran o'r rheswm pam y cyhoeddodd Rebecca Evans becyn gwerth £330 miliwn i Gymru ddoe. Mae’n mynd y tu hwnt i becyn Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr, ond wrth gwrs, mae hwnnw wedi’i gyflwyno yma yng Nghymru heb unrhyw arian ychwanegol yn dod i Gymru.

Ar eich pwynt ynglŷn â phwerau, credaf mai adnoddau sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd i allu mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a pharodrwydd Llywodraeth y DU hefyd i wneud rhywbeth yn ei gylch. I fusnesau yn ogystal ag i aelwydydd, credaf fod meddwl bod y datrysiad presennol a gyhoeddwyd hyd yma yn mynd i'n cynnal hyd at ddiwedd mis Ebrill braidd yn obeithiol. Credaf y bydd llawer o deuluoedd a busnesau'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â'r cynnydd sydd i ddod yn y costau. Ac i lawer o fy etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru, mae hynny’n golygu mwy byth o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Mae'n golygu mwy byth o rieni'n mynd yn llwglyd er mwyn ceisio sicrhau bod eu plant yn cael eu bwydo. Felly, mae yna newidiadau rydym am eu gweld: rydym am weld y toriad i gredyd cynhwysol yn cael ei adfer, rydym am weld camau gweithredu pellach. Ac rydym yn cefnogi'r achos dros godi ardoll ffawdelw ar gwmnïau ynni sy'n gwneud symiau syfrdanol o arian. Pan fo Shell a BP yn sôn am eu busnesau fel peiriannau gwneud arian, ac yn dweud na allant wario’r arian yn ddigon cyflym, ni chredaf fod hyn yn rhywbeth lle y gall Llywodraeth y DU ddweud y byddant yn gwrthod gweithredu a gadael pobl i'w tynged. Rwy’n sicr yn gobeithio bod y Canghellor yn gwrando, gan fy mod yn sicr wedi cael y sgyrsiau hynny gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yn wir, y Gweinidog cyllid ac eraill, am yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud yma yng Nghymru gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni.

Weinidog, elfen hanfodol o unrhyw strategaeth i helpu i fynd i’r afael â chostau byw yw sicrhau bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau, gan ganiatáu iddynt gadw pobl mewn swyddi. Mae’r arolwg tracio diweddaraf o fentrau bach a chanolig yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, yn dangos bod dros draean o fusnesau bach a chanolig Cymru yn obeithiol ynghylch uchelgeisiau twf dros y chwe mis nesaf. Fodd bynnag, Weinidog, nid yw 81 y cant o fusnesau bach a chanolig Cymru yn ymwybodol o’r opsiynau cyllid sydd ar gael iddynt. Felly, Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i oresgyn y pwysau presennol ar eu llif arian? Diolch.

14:00

Wel, mae'n dibynnu lle mae busnesau arni, ym mha sector y maent yn gweithredu, a’r pwysau penodol sydd arnynt, ond bydd pawb yn wynebu rhai o'r heriau gyda'r cynnydd ym mhrisiau ynni, er enghraifft. Felly, mae yna her sylweddol iawn.

Gan ein bod ni, gobeithio, yn dod allan o gyfnod argyfyngus y pandemig, mae busnesau sydd wedi goroesi yn edrych i'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael sgyrsiau mwy rheolaidd gyda rhanddeiliaid o'r grwpiau busnes hynny, boed ym maes manwerthu, yr economi ymwelwyr, neu weddill yr economi, am yr hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi gyda’u cynlluniau ar gyfer tyfu eu busnesau a beth y mae hynny’n ei olygu o ran y swyddi a chadw’r staff sydd ganddynt, oherwydd un o’r heriau mawr, unwaith eto, y mae pob sector yn eu hwynebu yw her llafur. Wrth i'r farchnad lafur dynhau, mae mwy o bremiwm ar sgiliau, mae mwy o bremiwm ar gadw staff da a phrofiadol, oherwydd mae busnesau eraill eisiau recriwtio’r bobl hynny. Mewn sawl ffordd, mae llawer o’r cynnydd yn y cyflogau a welsom yn y sectorau lle mae wedi bodoli wedi digwydd oherwydd y gystadleuaeth am bobl sydd eisoes mewn gwaith, gyda chwmnïau eraill yn awyddus i dalu premiwm i gael y bobl hynny i symud atynt. Ond gallwch ddisgwyl y byddaf yn cael y sgyrsiau rheolaidd hynny gyda grwpiau busnes a busnesau unigol i weld beth y gallwn ei wneud i'w helpu i ddod o hyd i'r ffynonellau cymorth busnes a chyfalaf a allai eu helpu i gynnal eu busnesau yn y dyfodol.

Gwn pa mor brysur yw’r Gweinidog, felly nid wyf yn siŵr a gafodd gyfle i wylio’r clip ar Channel 4 News yr wythnos diwethaf, a oedd yn sôn ynglŷn â sut y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar drigolion mewn cymunedau fel Pen-rhys yn fy etholaeth. O’r e-byst a’r negeseuon a gefais ddoe yn unig, gwn fod y pecyn cymorth gwerth £330 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi wedi’i groesawu â breichiau agored ac y bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i rai o’r teuluoedd mwyaf anghenus yn y Rhondda. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi methu defnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael iddynt yn effeithiol, gan gynnig benthyciad o £200 yn unig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, ddoe, nid y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw yw’r rhai sydd ar fai yma. A yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU gamu i’r adwy a chefnogi trigolion ledled Cymru, yn hytrach na’n hanwybyddu ni?

Rwy'n cytuno'n llwyr, a gwelais beth o’r adroddiad ar Channel 4, ac roedd yn peri gofid mawr, nid yn unig am fod pobl yn wynebu’r sefyllfa honno, oherwydd gwn y bydd gennyf etholwyr yn rhan ddeheuol dinas Caerdydd sydd hefyd yn wynebu her sylweddol iawn o ran sut y byddant yn rheoli incwm a gwariant eu haelwyd eu hunain ac sy’n wirioneddol ofnus am eu dyfodol. Ac nid yw hynny heb reswm, oherwydd, i lawer o deuluoedd, mae’n fater o bunnoedd a cheiniogau. I lawer o deuluoedd, bydd y cynnydd sy'n dod i filiau ynni yn her wirioneddol i nifer hyd yn oed yn fwy o bobl. Dyna pam y mae'r codiadau pellach y disgwyliwn eu gweld ym mis Ebrill yn newyddion mor ddrwg, ac mae pobl yn gwybod eu bod yn dod hefyd.

Mae angen i Lywodraeth y DU edrych eto, oherwydd bydd y benthyciad y maent yn ei ddarparu yn ychwanegu at filiau’r dyfodol i'r bobl sydd leiaf tebygol o allu eu fforddio. Mae angen iddynt edrych eto hefyd ar y cymorth y maent wedi’i ddarparu, oherwydd mae’r cynllun yng Nghymru yn becyn llawer mwy hael, gyda phawb sy’n cael budd-dal gostyngiad y dreth gyngor hefyd yn cael rhan o’r pecyn a gyhoeddwyd gennym, ond nid wyf yn credu y bydd y pecyn presennol yn ddigonol mewn unrhyw ffordd, ac mae’n brawf i weld a yw’r Llywodraeth yn barod i wneud y peth iawn a gwario arian ar deuluoedd nad oes bai arnynt am yr argyfwng costau byw, neu a fyddant yn eu gadael i'w tynged. Gwn beth y byddai’r Llywodraeth hon yn ei wneud pe bai gennym fodd o ddarparu mwy o gymorth, a gwn beth y byddai Llywodraeth dan arweiniad ein plaid yn y DU yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael i’w tynged ond yn hytrach yn cael eu cefnogi’n briodol drwy argyfwng nad oes unrhyw fai arnynt hwy amdano.

Helpu Pobl Ifanc i Gael eu Cyflogi

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc i gael eu cyflogi? OQ57632

Rydym yn buddsoddi £1.7 biliwn yn y warant i bobl ifanc dros y tair blynedd nesaf. Cymru'n Gweithio yw'r porth ar gyfer mynediad i'r warant, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy a phrentisiaethau. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn treialu gwasanaeth paru â swyddi newydd i helpu i sicrhau cyflogaeth.

Wel, diolch ichi, Weinidog. Mae'n uchelgeisiol iawn, yn enwedig targed Llywodraeth Lafur Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon, ond wrth gwrs, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar sicrhau arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd, ac felly a allech chi ddarparu asesiad o'r effaith y gallai colli arian yr UE  ei chael ar hyfforddiant sgiliau yma yng Nghymru, a graddau'r cyllid y mae Cymru wedi'i golli ac y mae'n debygol o'i golli o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd?

14:05

Ie. Wel, credwn y byddwn wedi colli tua £1 biliwn hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2024, £1 biliwn a ddylai fod wedi dod i Gymru i'w wario yng Nghymru, ac wrth gwrs, o'r blaen, byddai Gweinidogion yma wedi bod yn gyfrifol am wneud y dewisiadau hynny a byddem wedi bod yn atebol i Aelodau a etholwyd i'r Senedd hon am y dewisiadau hynny. Gwyddom na fydd yr arian yn cael ei wario ac na fydd Gweinidogion yma sy'n gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau ynghylch y symiau llai o arian a ddaw yn lle'r arian hwnnw, ac y byddant yn mynd drwy awdurdodau lleol, gan adael addysg bellach ac addysg uwch allan, gan adael y trydydd sector allan, ac yn hollbwysig, gan danseilio'r ffordd yr ydym yn ariannu rhaglenni sgiliau a hyfforddiant. Er enghraifft, disgwyliwn y byddwn wedi colli £16 miliwn o gyllid Ewropeaidd i gefnogi'r rhaglen brentisiaethau yn unig hyd at ddiwedd 2024. Mae hynny'n golygu, yn y £366 miliwn a gyhoeddais yr wythnos ddiwethaf i gefnogi'r rhaglen brentisiaethau am y tair blynedd nesaf, fy mod wedi gorfod mynd â'r arian hwnnw o flaenoriaethau eraill. Am fod dyfodol y targed prentisiaeth hwnnw o 125,000 mor bwysig ar gyfer dyfodol ein heconomi, ar gyfer dyfodol pobl ifanc yn enwedig, i sicrhau bod ganddynt obaith ar gyfer y dyfodol, mae'n rhaid imi ddod o hyd i hwnnw drwy ddadflaenoriaethu meysydd gwariant eraill, ac mae hynny'n broblem i'r economi. Nid wyf yn credu bod neb wedi pleidleisio dros hynny, naill ai yn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd neu yn yr etholiad diwethaf. Ni ddywedodd yr un blaid, 'Rydym eisiau gweld llai o arian yn cael ei wario yng Nghymru a llai o gefnogaeth i ddyfodol ein heconomi', ond dyna'r dewis sy'n ein hwynebu. Ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd sgiliau ar gyfer y dyfodol a'n buddsoddiad a'n cefnogaeth barhaus i'r rhaglen brentisiaethau. 

A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am godi'r mater? Weinidog, ddiwedd y llynedd, codais fater yn ymwneud â'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ar ôl i etholwr ysgrifennu ataf yn tynnu sylw at eu pryderon ynglŷn â'r prinder prentisiaethau a phrentisiaethau gradd sydd ar gael i'w plant. Mae cyfleoedd o'r fath yn bwysig, fel y dywedwyd yn awr, i helpu'r bobl ifanc hynny i ddod o hyd i waith. Roeddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb i fy llythyr, a gwn ichi gyfeirio at y warant i bobl ifanc, a lansiwyd yn swyddogol, fe wyddom, ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae'n cynnwys rhagor o gefnogaeth i brentisiaethau. Mae hyn yn ychwanegol at fentrau fel y gronfa sgiliau a swyddi, a ddarparai gyllid i gymell cyflogwyr i recriwtio ac ailhyfforddi prentisiaid. Er bod y cynlluniau hyn i'w croesawu, mae'n hanfodol eu bod nid yn unig yn arwain at gyfleoedd prentisiaeth, ond yn gwella canlyniadau i bobl ifanc, megis arwain at hyfforddiant pellach a swyddi o ansawdd da. Felly, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o effaith y cynlluniau hyn ar argaeledd prentisiaethau yng Nghymru, yn ogystal â'r canlyniadau a sicrhawyd o ganlyniad i'r cyfleoedd a grëwyd gan y cynlluniau? Oherwydd mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig—mae'n ymwneud â chanlyniadau'r hyn y gwerir yr arian hwnnw arno.

Byddwn yn hapus iawn i roi nodyn pellach i'r Aelodau ar hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, bob tro y gwnaethom edrych yn y gorffennol, yn sicr ers imi ddod yn Aelod yn y lle hwn, rydym wedi canfod bod canlyniadau prentisiaethau i bobl yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol iawn â rhannau eraill o'r DU, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr. Gallwch weld mwy o bobl yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn mynd rhagddynt i gael gwaith. Ac i fod yn deg, mae'r holwr blaenorol, yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Weinidog, pan oedd ganddo gyfrifoldeb dros sgiliau, ac yna yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog yr economi, wedi goruchwylio dros ran sylweddol o'r llwyddiant hwnnw. Byddwn yn fwy na pharod i ddarparu nodyn yn nodi'r canlyniadau a gyflawnwyd a'r budd y mae prentisiaethau'n eu darparu i unigolion a'r economi yma yng Nghymru. 

Mewn diweddariad ar y farchnad lafur yn ddiweddar, roedd y ffigurau diweithdra ar gyfer Gorllewin Abertawe tua thair gwaith y cyfartaledd cenedlaethol, sef 10.3 y cant. Mae un o bob 10 o bobl yn ein hail ddinas fwyaf heb waith ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa hon hyd yn oed yn fwy llwm pan ystyriwch fod diweithdra ymysg pobl ifanc fel arfer yn uwch na diweithdra yn gyffredinol. Mae'r gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn 12 y cant ar hyn o bryd, gyda'r ffigur ar gyfer Abertawe yn sicr o fod yn uwch na hyn os rhagdybiwn fod ffigurau diweithdra ymysg pobl ifanc yn dilyn yr un duedd â'r ffigurau diweithdra cyffredinol ar gyfer Gorllewin Abertawe. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'n benodol sut y bydd y warant swyddi i bobl ifanc a chynlluniau cyflogaeth eraill i bobl ifanc yn ceisio mynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc, nid yn unig yn Abertawe, ond ar draws Gorllewin De Cymru? A phryd y mae'n disgwyl y bydd y cynlluniau cyflogadwyedd hyn yn dwyn ffrwyth?

Wel, dylai rhai o'r cynlluniau y byddwn yn eu darparu ddwyn ffrwyth yn fwy uniongyrchol. Er enghraifft, mae gennym gyfle i barhau i gefnogi entrepreneuriaid ifanc drwy Syniadau Mawr Cymru—gallwch weld y bobl hynny'n dechrau eu busnesau, gallwch weld y gronfa rhwystr at waith rydym yn ei darparu. Felly, fe welwch y bydd rhai ohonynt yn cael effaith fwy uniongyrchol a bydd eraill yn cymryd mwy o amser, oherwydd, yn y cymorth cyflogadwyedd a ddarparwn, er enghraifft, yng nghynllun Twf Swyddi Cymru+, mae amrywiaeth o'r cynlluniau cymorth yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn barod ar gyfer swyddi, gan edrych ar y problemau sgiliau sydd ganddynt, a cheisio eu cefnogi gydag ystod bersonol o gymorth, felly byddwch yn gweld effaith fwy hirdymor yn hynny o beth.

Ac mewn gwirionedd, rwy'n disgwyl cyhoeddi'r cynllun cyflogadwyedd newydd yn yr wythnosau nesaf, a bydd hwnnw eto'n nodi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y byddwn yn defnyddio'r cyfrifoldebau a'r adnoddau sydd gennym i ategu'r hyn y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud yn awr, ac mae'n debyg y bydd hynny'n golygu y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â heriau pobl sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, mae'n debygol o gostio mwy na chynlluniau'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan helpu pobl sy'n barod i weithio yn y bôn, ond hefyd efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i baratoi'r bobl hynny. Ond wrth inni gyhoeddi'r strategaeth cyflogadwyedd, edrychaf ymlaen at allu rhoi mwy o fanylion am y pwyntiau a wnewch a sut y byddwn wedyn yn asesu'r canlyniadau y credwn y gallwn eu cyflawni gyda phobl ac ar gyfer pobl, boed yn bobl ifanc neu'n bobl hŷn, o ran y canlyniadau cyflogaeth rydym eisiau eu gweld ym mhob cymuned ledled Cymru.

14:10
Busnesau Newydd yng Nghwm Cynon

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau newydd yng Nghwm Cynon? OQ57659

Diolch. Mae gennym gyfres o gynhyrchion cymorth busnes ar gael drwy wasanaeth Busnes Cymru i gefnogi busnesau newydd gydag amrywiaeth o bynciau, o logi staff i nodi cyllid priodol. Mae darparu cyfleoedd dechrau busnes hefyd yn elfen allweddol o gynnig y warant i bobl ifanc.

Diolch, Weinidog. Fel y nodwch, mae llawer o gefnogaeth ar gael i fusnesau newydd, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, gyda'i ganolfan naw tan bump ar gyfer entrepreneuriaid newydd. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan yn awgrymu bod angen o leiaf 1,000 o fusnesau newydd yng Nghwm Cynon er mwyn cyrraedd cyfartaledd Cymru. Sut y gall Llywodraeth Cymru weithio i gyflymu'r gyfradd o fusnesau newydd yng Nghwm Cynon a helpu i gau'r bwlch hwn sy'n peri pryder?

Dyna ran o'r rheswm pam ei bod mor bwysig ceisio cynnal y buddsoddiad nid yn unig mewn sgiliau, ond hefyd yn y gwasanaeth cymorth busnes a ddarparwn drwy Busnes Cymru, oherwydd gallwn ddarparu pecyn cymorth pwrpasol, ar gyfer unigolion neu ar gyfer ardaloedd penodol. Nawr, credaf y byddai hynny'n rhywbeth y byddai'n werth ei archwilio rhwng fy swyddogion a RhCT fel yr awdurdod lleol, fel y sonioch chi amdano, sydd eisoes â rhaglenni gweithredol yn ardal y sir. Ond gan eich bod wedi nodi Cwm Cynon yn benodol, efallai y byddai'n gwneud synnwyr imi gysylltu â'ch swyddfa i weld a allwn gael sgwrs am yr hyn y gallem ei wneud yn benodol o amgylch Cwm Cynon gyda chi a'r awdurdod lleol a fy swyddogion yn gweithio gyda Busnes Cymru.

Treth Twristiaeth

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith treth twristiaeth ar economi Gogledd Cymru? OQ57634

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith economaidd bosibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a fyddant yn codi ardoll ar ymwelwyr. Cânt eu grymuso mewn awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Gwn eich bod eisiau trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol mewn perthynas â'r dreth hon, ond y gwir amdani yw mai'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru sy'n gosod y ffordd ymlaen ac yn hwyluso cyflwyno treth a allai ddinistrio economi gogledd Cymru. Mae twristiaeth yn werth biliynau i'n gwlad, ac mae degau o filoedd o bobl ar draws rhanbarth y gogledd yn cael eu cyflogi mewn swyddi twristiaeth ac yn ogystal, mae llawer o siopau yng nghanol ein trefi, busnesau fel caffis, bwytai, a phopeth arall yn goroesi ar yr incwm blynyddol a ddaw o bocedi ymwelwyr. A ydych yn derbyn y gallai cyflwyno treth twristiaeth yng ngogledd Cymru ddinistrio'r diwydiant ac achosi i dwristiaid sy'n sensitif i brisiau, yn hytrach nag ymweld â Bae Colwyn, Tywyn a Bae Cinmel, y Rhyl, Prestatyn, Llandudno a'r cyrchfannau gwych eraill sydd gan ogledd Cymru i'w cynnig, heidio i leoedd fel Blackpool, Morecambe a mannau eraill, lle bydd eu heconomïau'n ffynnu a'n heconomïau ni'n dioddef o ganlyniad?

Gwn fod Darren Millar yn hoffi cyffroi yn rheolaidd—

—a thaflu geiriau o gwmpas, ond edrychwch, credaf efallai y dylai oedi a chymryd hoe fach ar fainc yr eilyddion tra bod y mater hwn yn cael ei benderfynu gan yr oedolion. Pan edrychwch ar draws Ewrop a gogledd America, pan edrychwch ar lefydd lle mae ardoll yn rhan reolaidd o'u diwydiant twristiaeth, ni welwch unrhyw beth i gefnogi'r codi bwganod a'r rhagfynegiadau diwedd-y-byd y mae'n cyffroi wrth eu gwneud. Nid oes unrhyw fath o sail dystiolaethol o gwbl i'r syniad y bydd hyn yn dinistrio'r economi ymwelwyr. Os edrychwch ar yr hyn a drafodwn, mae'n ymwneud â sut y gallai awdurdodau lleol ddeall yr hyn y gallent ei wneud i gymunedau sy'n arwain at elwa o weld ymwelwyr yn dychwelyd, ond hefyd rhai o'r heriau a ddaw yn sgil hynny, a sut y byddent yn penderfynu, gyda'r pwerau a fyddai ganddynt, a fyddent eisiau cyflwyno ardoll, ac os felly, ar ba sail. Nawr, dyna yw'r ymgynghoriad yr ydym yn ei gael.

Os oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol, yn hytrach na gormodiaith, gan yr Aelod a'i gyd-Aelodau y byddai ardoll yn cael unrhyw fath o effaith andwyol, byddem eisiau gweld hynny yn rhan o'r ymgynghoriad cyn inni wneud penderfyniadau. Credaf y gallwn wneud rhywbeth i fuddsoddi yn ein heconomi ymwelwyr, ac mae gennym sail dda, oherwydd mae gennym ystod mor wych o atyniadau i ymwelwyr i ddenu pobl yma i Gymru, ac mae gennyf obeithion da ac optimistaidd iawn wedi'u hadeiladu ar dystiolaeth ar gyfer dyfodol ein heconomi ymwelwyr, ni waeth beth fo canlyniadau'r ardoll ymwelwyr mewn gwahanol rannau o Gymru yn y pen draw.

14:15
Busnesau Bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57672

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi mentrau micro, bach a chanolig ym mhob rhan o Gymru. Gall busnesau bach a chanolig gael gafael ar ystod eang o wybodaeth, cyngor a chymorth drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, a Banc Datblygu Cymru wrth gwrs.

Diolch, Weinidog. Busnesau bach a chanolig eu maint, fel y dywedoch chi, sydd i gyfrif am 62.4 y cant o gyflogaeth a 37.9 y cant o drosiant, gwerth tua £46 biliwn ar gyfer economi Cymru. Yr wythnos diwethaf, siaradais â pherchennog bwyty yn fy rhanbarth sy'n ystyried cau oherwydd nad ydynt yn gallu recriwtio staff. A gaf fi ofyn beth yw'r mecanwaith ar gyfer cysylltiad rhwng y warant i bobl ifanc a'r busnesau bach sy'n wynebu'r heriau recriwtio hynny, gan alluogi pobl ifanc i gael gwaith ac i feithrin sgiliau a chefnogi busnesau bach i dyfu? Diolch yn fawr iawn.

Wel, ceir amryw o elfennau yn y warant i bobl ifanc a allai fod o gymorth, ond ceir amryw o heriau eraill y gallai busnesau eu hwynebu. Felly, er enghraifft, ceir gwasanaeth paru â swyddi i ddeall sut y gallwch baru pobl â chyfleoedd gwaith sy'n bodoli, ceir gwaith gwasanaeth ReAct+, a fydd yn wasanaeth newydd, pwrpasol, sydd unwaith eto'n ceisio cwmpasu'r hyn sydd ei angen ar unigolion i'w helpu i fanteisio ar gyfleoedd gwaith, ac fel y trafodais yn flaenorol wrth ateb Luke Fletcher, y cyfleoedd y bydd Twf Swyddi Cymru+ yn eu darparu i gael pobl i mewn i'r byd gwaith.

Fodd bynnag, ceir heriau eraill y tu hwnt i'r warant i bobl ifanc. Mae'r rheini'n deillio o rai o'r heriau sydd gennym gyda mynediad at gyllid a'r gwahaniaeth yn y ffordd y defnyddiwyd arian Ewropeaidd a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio yn awr—er enghraifft, maent yn sicr yn rhan o'r ffordd yr ydym yn ariannu Banc Datblygu Cymru, felly mae yna her yno mewn perthynas â'i gyllid yn y dyfodol. Mae yna her o ran sgiliau hefyd, oherwydd ym mhob rhan o'r economi, mae gan fusnesau ddiddordeb mewn parhau i allu buddsoddi mewn sgiliau. Mae cynllun presennol y ffordd y mae cronfeydd ffyniant cyffredin i fod i weithio yn golygu ei bod yn anodd iawn dod o hyd i ffordd o gael pecyn cymorth sgiliau sy'n briodol gynhwysfawr o gofio bod traean o'n pecynnau sgiliau a phrentisiaethau yn y gorffennol wedi'u hariannu gan hen arian Ewropeaidd. Ac wrth gwrs mae gennych rai o'r heriau sy'n deillio o fod rhai pobl wedi gadael y farchnad lafur yma yng Nghymru a'r DU—gweithwyr hŷn, a gweithwyr Ewropeaidd, wrth gwrs, y mae llawer ohonynt wedi dychwelyd i'w gwledydd cartref ac yn annhebygol o ddychwelyd. Ceir amrywiaeth o heriau i fynd i'r afael â hwy, a dyna'r heriau rwy'n eu trafod gyda chynrychiolwyr busnesau bach yn fy sgyrsiau rheolaidd â hwy, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud mwy o hynny wyneb yn wyneb yn y dyfodol.

Cymorth Ariannol i Fusnesau

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol a roddwyd i fusnesau yn ystod y gyfres ddiweddaraf o gyfyngiadau COVID-19? OQ57665

Roedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ochr yn ochr â'r gronfa adferiad diwylliannol a'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Hyd yma, mae dros £66.8 miliwn wedi'i gynnig drwy'r cronfeydd hyn. Yn ogystal, mae llawer o fusnesau'n dal i elwa o'r rhyddhad ardrethi 100 y cant, sy'n parhau am y flwyddyn ariannol gyfan, yn wahanol i fusnesau yn Lloegr, wrth gwrs, dros ffin eich etholaeth.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r pecyn cymorth COVID diweddaraf wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd. Clywais gan nifer o fusnesau yn fy etholaeth nad oeddent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth, beth bynnag fo'r rheswm, ac maent bellach mewn sefyllfa beryglus, yn wynebu colled ariannol sylweddol sy'n peryglu eu dyfodol hirdymor. Felly, Weinidog, pa gymorth hirdymor y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig o fewn y setliad datganoli sydd gennym ar hyn o bryd i helpu busnesau a helpu economi Cymru i ffynnu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod? Ac mewn perthynas â'r rownd ddiwethaf o gymorth COVID, a allwch chi wneud sylwadau ar y nifer o fusnesau a gafodd y cymorth hwnnw a'r ardaloedd daearyddol lle'r oedd y busnesau hynny wedi'u lleoli? Diolch, Lywydd.

14:20

Felly, yn y tymor hwy, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi nodi y bydd rhyddhad ardrethi y flwyddyn nesaf. Bydd yn cyfateb i'r pecyn sydd ar gael yn Lloegr. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol ein bod yn cael sgyrsiau ynglŷn â sut y cefnogwn ddyfodol yr economi, ond mae honno'n sefyllfa fwy heriol oherwydd y setliad cyllideb sydd gennym ac oherwydd y realiti y bydd cronfeydd ffyniant cyffredin yn gweld diffyg o £1 biliwn i Gymru dros y blynyddoedd nesaf.

O ran sut y darparwyd y cymorth hwnnw drwy'r rownd ddiweddaraf o gymorth brys COVID a ddarparwyd gennym, fel gyda rowndiau eraill, pan fydd y cymorth wedi'i gyfrifo a'r arian wedi mynd allan, rydym yn cyhoeddi'n rheolaidd lle mae busnesau wedi'u lleoli a lle maent wedi derbyn yr arian. Mae'n amod o'i dderbyn ein bod yn cyhoeddi sut y defnyddiwyd yr arian cyhoeddus hwnnw. Felly, bydd pob Aelod yn gallu gweld pa fusnesau sydd wedi cael cymorth a lle maent wedi'u lleoli hefyd. Rwy'n ceisio sicrhau bod hwnnw ar gael ar sail haws ei ddarllen, a allai fod ar sail awdurdod lleol, i nodi nifer y busnesau a'r swm o arian sydd wedi mynd i mewn. Ac mae'n dibynnu ar fusnesau'n gwneud cais, ac yn gwneud cais llwyddiannus.

Ond rwy'n ddiolchgar—ac rwy'n dod i ben yma, Lywydd—rwy'n ddiolchgar iawn i awdurdodau lleol am y ffordd y maent wedi gweithredu ledled Cymru yn darparu'r rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau mewn modd llwyddiannus a chyflym. Rwyf wedi cwrdd â busnesau yn fy etholaeth fy hun sy'n canmol cyflymder y gwasanaeth hwnnw a'r gwahaniaeth a wnaeth iddynt hwy ac i sicrhau bod eu busnesau'n goroesi ac yn edrych tua'r dyfodol. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.  

Gofal Meddygol Arbenigol yn y Gymuned

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal meddygol arbenigol yn y gymuned? OQ57660

Diolch yn fawr, Vikki. Rydym wedi datgan ein huchelgais i'r GIG yng Nghymru fod yn wasanaeth sy'n cael ei arwain gan ansawdd, lle y darperir y gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ofal yn nes at y cartref lle y bo hynny'n bosibl, ac mewn canolfannau arbenigol lle y bo'n briodol.

Diolch, Weinidog. Mae 'No place like home', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon, yn adeiladu achos brys dros fuddsoddi mwy mewn gofal canolraddol a ddarperir yng nghartref y claf. Gall hyn wella ansawdd y gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty, a chael pobl allan o'r ysbyty ac yn ôl adref yn gyflymach. Byddwn yn croesawu eich ymateb i'r adroddiad hwn yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu mynediad at y gofal hwn yn wyneb y pandemig coronafeirws.

Diolch yn fawr, Vikki, a darllenais yr adroddiad 'No place like home', gyda diddordeb, ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r argymhellion ac yn falch iawn o ddweud ein bod eisoes yn cyflawni mewn llawer o'r meysydd sydd wedi'u nodi yno. Nid wyf yn credu bod neb yn fwy awyddus na mi i gael pobl yn ôl i'w cartrefi pan fyddant yn barod i gael eu rhyddhau o ysbytai. Rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen o ddifrif â'r rhaglen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Ac yn amlwg, o gofio bod gennym dros 1,000 o bobl yn ein hysbytai yn aros i gael eu rhyddhau ac yn barod i fynd adref, mae'n amlwg fod angen inni roi camau ar waith i sicrhau bod hynny'n bosibl.

Rwy'n falch iawn o ddweud, fel rhan o'r camau a gymerwyd gennym ar hyn dros fisoedd y gaeaf, ein bod wedi bod yn cynnal cyfarfodydd wythnosol, y Dirprwy Weinidog Julie Morgan a minnau, gyda llywodraeth leol a byrddau iechyd i geisio hwyluso'r broses o ryddhau pobl o ysbytai. Ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi £144 miliwn o gyllid yn ddiweddar ar gyfer y gronfa integreiddio rhanbarthol dros bum mlynedd, ac mae rhai o'r themâu allweddol yn hynny yn mynd i'r afael â'r problemau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, sy'n edrych, yn y bôn, ar ofal yn y gymuned, gofal gartref o'r ysbyty, gofal sy'n seiliedig ar leoedd ac wrth gwrs, yn ogystal â hynny, mae gennym y chwe nod ar gyfer y llawlyfr gofal brys a gofal mewn argyfwng a nodwyd yr wythnos ddiwethaf, ac mae hwnnw'n edrych ar ddewisiadau amgen diogel yn lle derbyn i'r ysbyty, dull cartref yn gyntaf ac ymgais i leihau'r perygl o ddychwelyd i'r ysbyty. Felly, mae gennym eisoes enghreifftiau o wardiau rhithwir, wrth gwrs, y soniwyd amdanynt yn yr adroddiad hwnnw, a'r gwasanaeth ysbyty yn y cartref, ac rwy'n awyddus iawn i weld y modelau hynny'n cael eu cyflwyno'n fwy helaeth ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030 fan bellaf. Fodd bynnag, yng ngwledydd eraill y DU, mae Llywodraethau wedi gosod llwybrau i'w galluogi i osod dyddiad targed i'w ddileu cyn 2030. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, 2025 yw'r dyddiad, a 2024 yn yr Alban. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu dyddiad ei tharged i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030 fan bellaf ac wrth wneud hynny, a wnaiff hi ddweud sut y bydd yn mynd i'r afael â galwadau i ddatblygu arferion gorau yng Nghymru a gwledydd eraill y DU, megis micro-ddileu yng ngharchar Abertawe a rhaglenni cefnogaeth gan gymheiriaid ag iddynt ffocws, i'w harneisio i ddatblygu atebion sy'n caniatáu ar gyfer amrywiadau rhanbarthol a chymunedol o ran y dull o weithredu, gyda hyblygrwydd lleol i weithredu gwasanaethau atal, profi a thrin pwrpasol yn y gymuned—sef hanfod y cwestiwn hwn—a lleoliadau anghlinigol eraill, megis gwasanaethau triniaeth cyffuriau, canolfannau caethiwed a fferyllfeydd cymunedol?

14:25

Diolch yn fawr iawn, Mark, ac yn sicr, mae gennyf ddiddordeb mawr ym mater hepatitis C, sydd, wrth gwrs, yn gyflwr hirdymor y mae'n rhaid i lawer o bobl fyw gydag ef. Rwy'n falch iawn o gytuno i ystyried a oes unrhyw bosibilrwydd o newid y dyddiad targed hwnnw. Yn amlwg, gorau po gyntaf y gallwn ddileu'r clefyd hwn, felly rwy'n ymrwymo i gael golwg arall i weld a oes unrhyw ffordd o bennu dyddiad cynharach.FootnoteLink

Gweinidog, cyn i fi holi fy nghwestiwn i, welais i'r bore yma ar Politico ei bod hi'n ben-blwydd arnoch chi a Peter Hain, felly pen-blwydd hapus iawn i chi. Pa ffordd well i ddathlu nag ateb cwestiynau fan hyn yn y Senedd?

Gweinidog, un o gonglfeini gofal meddygol yn ein cymunedau yw meddygon teulu, a dwi'n gwybod bod chi'n ymwybodol iawn o gonsérn nifer o gymunedau fel Pentyrch yng ngogledd y ddinas, sy'n pryderu eu bod nhw'n colli'r feddygfa leol. Ac un o'r dadleuon sy'n cael eu defnyddio gyda’r cymunedau yma yw y bydd yna ganolfan newydd, sawl milltir i ffwrdd, yn gallu cynnig y gwasanaethau arbenigol y maen nhw eu hangen. Ond ydych chi'n cytuno â fi, Gweinidog, cyn bod unrhyw gymuned yn colli'r ddarpariaeth iechyd lleol, fod angen ymgynghoriad llawn, tryloyw a manwl, a bod angen rhesymau clir a chadarn i wneud hynny? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr. Ydy, mae'n ben-blwydd arnaf i a Peter Hain, a John Taylor o Duran Duran hefyd. [Chwerthin.] Ac Amanda Holden dwi'n deall hefyd, so dwi mewn cwmni da. 

Jest o ran yr ymgynghoriad ar y feddygfa ym Mhentyrch, dwi wedi derbyn referral ar 17 Ionawr yn sôn am y sefyllfa yma, a dwi wedi derbyn llythyr gan y BILl ynglŷn â hyn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system yn un dryloyw. Bydd y broses yn cario ymlaen nes bod gan Weinidogion Llywodraeth Cymru y wybodaeth i gyd fel ein bod ni'n gallu dod i benderfyniad sydd yn glir ac yn deg. Wrth gwrs, mae grwpiau cymunedol yn yr ardal hefyd wedi cael gwybod bod cyfle ganddyn nhw hefyd i wneud unrhyw fath o representations sydd eisiau arnyn nhw.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol? OQ57631

Diolch yn fawr. Cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ynghyd â gofalu am gleifion sydd wedi eu heffeithio gan COVID-19, a gweithio hefyd tuag at gyflenwi gwasanaethau ehangach, mwy rheolaidd, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, yw'r flaenoriaeth wrth gyflenwi gwasanaethau iechyd yn ardal Hywel Dda.

Weinidog, y tro diwethaf imi ddwyn darpariaeth y gwasanaethau iechyd i'ch sylw, fe wnaethoch ymateb drwy refru gwleidyddol, ond mae gan y bobl rydych chi a minnau'n eu cynrychioli bryderon gwirioneddol am wasanaethau iechyd lleol, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch yn dewis ymateb mewn ffordd lawer mwy pwyllog y tro hwn.

Nawr, fel y gwyddoch, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno cynigion yn ddiweddar sy'n cynnwys addasu Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg at ddibenion gwahanol neu ei ailadeiladu, beth bynnag y bo hynny'n ei olygu, a gwn eich bod chithau hefyd wedi bod yn cael negeseuon e-bost yn ddiweddar ar y mater hwn gan drigolion pryderus yn sir Benfro. Mae pobl yn poeni y bydd yn rhaid iddynt deithio ymhellach am wasanaethau sy'n achub bywyd ac fel y gwyddoch, mae'r awr aur yn hanfodol i achub bywydau pobl. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei wasanaethau brys ac nad yw'r ysbyty'n cael ei israddio yn y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda mi, a chydag eraill yn wir, i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn aros yn sir Benfro ar gyfer y dyfodol? 

Lywydd, rwy'n fwy na pharod, wrth gwrs, i wrando ar bryderon gwirioneddol pobl leol mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiadau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac wrth gwrs, penderfyniad i Hywel Dda yn y pen draw yw'r cyfluniad a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael gair bach gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i dawelu ei rethreg. Rydych yn sôn wrthyf am rethreg wleidyddol, ac mae arnaf ofn, pan fo'n anfon llythyrau at bobl, yn corddi teimladau, yn dweud wrth bobl fod gan y Gweinidog iechyd swyddfa yn yr ardal leol, nid wyf yn credu mai dyma'r lle cywir na'r amser cywir i hynny, pan ydym mewn sefyllfa lle mae'r awyrgylch yn eithaf gorffwyll ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn iddo dawelu ei rethreg wleidyddol.

Y gwir amdani yw mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau hanfodol yn Llwynhelyg yn unol â'r cyngor gan glinigwyr ac arbenigwyr. Hoffwn ei gwneud yn glir unwaith eto nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gael gwared ar unrhyw wasanaeth o Llwynhelyg cyn agor unrhyw ysbyty arfaethedig newydd, boed yn ofal brys neu'n ofal wedi'i gynllunio, yng ngorllewin Cymru. Nid fy mhenderfyniad i fydd y penderfyniad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn deall hynny hefyd. Bydd hwnnw'n benderfyniad i rywun arall, oherwydd, yn amlwg, rwy'n cynrychioli'r ardal honno. Ond hoffwn eich atgoffa bod y gwasanaethau wedi newid dros y blynyddoedd, oherwydd dyna oedd argymhelliad y colegau brenhinol ar y pryd.

Gadewch inni beidio ag anghofio hefyd pa mor fregus yw rhai o'r gwasanaethau hynny yn Llwynhelyg wedi bod dros y blynyddoedd. Mae mater recriwtio a chadw staff, oherwydd y marchnadoedd llafur newidiol a dyheadau clinigwyr, sy'n dewis gweithio mewn ysbytai mwy o faint yn aml iawn, wedi effeithio ar ysbytai gwledig wrth gwrs. Y Llywodraeth hon sydd wedi darparu miliynau o bunnoedd o gymorth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, pan oedd y bwrdd iechyd yn dibynnu'n llwyr ar staff asiantaeth i lenwi'r rotas hynny. Ar un adeg, hon oedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys ddrutaf yng Nghymru gyfan. Felly, nid wyf yn credu y gallwch gyhuddo'r Llywodraeth Lafur o beidio â chefnogi'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. Ni throdd Llywodraeth Cymru ei chefn ar Llwynhelyg bryd hynny, ac fel y dywedais dro ar ôl tro, bydd Llwynhelyg yn parhau i fod yn ased pwysig i ddarparu gofal iechyd i boblogaeth sir Benfro. Ond mae'n rhaid inni hefyd edrych tua'r dyfodol. Felly, mae ailadrodd yr un hen ofnau, ailadrodd dadleuon llwythol a gosod sir Benfro yn erbyn sir Gaerfyrddin yn gwneud cam â chleifion. Rwy'n siŵr y bydd ei etholwyr ef, a fy rhai innau, yn disgwyl ac yn haeddu'r gofal iechyd gorau y gallwn ei ddarparu.

14:30

A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod angen trafodaeth onest ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yn ein rhanbarth, ac y dylai gwleidyddion helpu i ddatrys heriau systematig, megis sut i ddenu a chadw staff a sut i ddarparu cymaint o’r gwasanaethau mor agos i'r cartref a lle mae pobl yn byw â phosibl? Yn hytrach na rhwystro'r newid a'r buddsoddiad y mae ein hetholwyr yn ei haeddu, byddai’n fwy defnyddiol ymgysylltu a chael sgwrs ddefnyddiol ac adeiladol â phawb dan sylw, gan gynnwys y bwrdd iechyd lleol, y darparwyr, ac yn wir, yn bennaf oll, y bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau iechyd parhaus a dibynadwy. Rydych eisoes wedi amlinellu rhai o’r heriau a wynebir yn flynyddol yn ardal y bwrdd iechyd lleol. Mae’n bryd bod yn realistig yn awr a chael trafodaeth onest am ein sefyllfa ar hyn o bryd, i ba gyfeiriad yr awn iddo a beth sydd ei angen ar bobl. Rwy’n mawr obeithio, Weinidog, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, y bydd pobl yn cymryd rhan mewn trafodaeth bwyllog yn hytrach na chyfeirio pobl at eich swyddfa, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni—mae'n arfer peryglus iawn.

Diolch yn fawr, Joyce. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae arnom angen sgwrs gyhoeddus fwy dwfn o lawer am ein dymuniadau a sut y bydd yr ystod gyfan o wasanaethau iechyd yn gweithio, nid yn unig i bobl sir Benfro, ond i bobl sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn y blynyddoedd i ddod. Nid ydym wedi cael y sgwrs fwy dwfn honno dros y blynyddoedd, am fod rhai pobl wedi canolbwyntio ar leoliad adeiladau yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod gennym cymaint â phosibl o adnoddau er budd cleifion. Mae athroniaeth gwbl newydd yn cael ei datblygu yma. Mae'n ymwneud â gofal yn y gymuned cyn belled ag y bo modd. Wrth gwrs, nid yw Ysbyty Llwynhelyg yn bodoli ar ei ben ei hun. Mae'n rhan, a bydd yn parhau i fod yn rhan, o rwydwaith o ysbytai sy’n darparu iechyd a gofal i’n cymunedau, boed achos busnes y rhaglen honno’n mynd rhagddo ai peidio.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.  

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus iawn i’r Gweinidog iechyd. Nid oeddwn yn gwybod nes i’r Aelod dros Ganol De Cymru grybwyll y peth yn gynharach. Felly, rwy'n dymuno pen-blwydd hapus iawn i chi yn un ar hugain. [Chwerthin.]

Ond mae fy nghwestiynau ar gyfer y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, felly fe ddechreuaf drwy ofyn i’r Dirprwy Weinidog: sut y mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn edrych i chi?

Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n galed iawn i’w gyflawni. Rydym yn rhoi hyn ar waith yn ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, lle mae gennym yr awdurdodau iechyd a’r awdurdodau llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd ar lunio cynigion sy’n gwbl integredig. Mae hefyd yn bwysig iawn cofio, pan fyddwn yn sôn am wasanaeth integredig, fod yna wasanaethau eraill pwysig iawn hefyd. Er enghraifft, ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ceir cynrychiolaeth o'r maes tai, caiff dinasyddion eu cynrychioli, a chaiff gofalwyr di-dâl eu cynrychioli. Mae fy ngweledigaeth am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn un lle y gallwch symud yn ddi-dor rhwng y ddau wasanaeth, a lle y ceir sefydliadau fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol sy’n gallu cynllunio ar sail integredig.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n cytuno i raddau, mewn byd delfrydol, mai dyna fyddai’r sefyllfa, ond yn anffodus, mae gennym lawer o ffordd i fynd o hyd. Efallai mai’r prif reswm dros integreiddio iechyd a gofal yw sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant gorau i ddinasyddion Cymru, oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn methu cyflawni’r nod hwnnw yn llwyr. Mae pob un ohonom yn boenus o ymwybodol o'r argyfwng mewn gofal cymdeithasol a'r effaith y mae'n ei chael nid yn unig ar y sector gofal ond ar draws iechyd a gofal. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn golygu bod llai o welyau ar gael ar gyfer cleifion newydd, ac mae hynny'n creu straen i system sydd eisoes dan ormod o bwysau. Fel y mae'r dystiolaeth i’r pwyllgor iechyd wedi’i amlygu, yn anffodus, mae hyn yn arwain at farwolaethau. Yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fe allai cyfnodau o oedi dros wyth awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fod wedi cyfrannu at hyd at 2,000 o farwolaethau diangen. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod dull integredig o ryddhau cleifion ar waith ar bob ward ysbyty ledled Cymru?

Mae Gareth Davies yn tynnu sylw at bwynt hollbwysig. Nid oes unrhyw ffordd y bydd y gwasanaeth iechyd yn ffynnu oni bai fod y system gofal cymdeithasol yn gweithredu hyd eithaf ei gallu. I raddau helaeth, y rheswm pam nad oes modd rhyddhau dros 1,000 o bobl sy’n ffit yn feddygol o'r ysbyty yw nad oes cymorth cartref yn eu cartrefi eu hunain iddynt allu ymdopi gartref, ac nid oes digon o lefydd ar gael mewn cartrefi gofal, lle nad oes digon o staff i ofalu amdanynt. Oherwydd hynny, maent yn gwbl gysylltiedig â’i gilydd, a dyna pam ein bod yn cydweithio mor agos, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau fel y Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol—gan fod y ddwy elfen yn gwbl gysylltiedig â'i gilydd, ac mae’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn cael effaith ar yr ysbytai.

Rydym wedi bod yn cyfarfod bob wythnos mewn pwyllgor gweithredu, gyda’r byrddau iechyd lleol a chyda’r awdurdodau lleol, ac rydym wedi llunio ystod enfawr o gynigion er mwyn sicrhau bod pobl yn mynd adref yn gynt, i geisio sicrhau eu bod yn cael cymorth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd pan fyddant yn mynd adref. Rydym hefyd, fel y gwyddoch o’r cyhoeddiad a wneuthum ddoe, wedi gwneud ymdrech fawr i gynyddu maint y gweithlu gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau gwelliant, ac mae’n gwneud pwynt pwysig ynghylch pa mor gysylltiedig yw’r ddau faes gwasanaeth hyn.

Diolch eto, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â rhyddhau pobl o’r ysbyty, mae angen inni fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Nid yn unig y mae angen inni sicrhau bod iechyd a thai yn tynnu i'r un cyfeiriad, ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ddeall yn iawn beth yw maint y broblem, ac mae'r data'n dameidiog ar y gorau. Roedd felly cyn y pandemig, ac mae wedi mynd yn waeth byth. Gall gwahanol adrannau yn yr un ysbyty ddefnyddio meini prawf gwahanol ar gyfer yr hyn sy'n oedi wrth drosglwyddo gofal. Gwyddom gan y Gweinidog fod GIG Cymru yn credu bod oddeutu 1,000 o gleifion yn feddygol ffit i gael eu rhyddhau, ond yn parhau i fod mewn gwelyau ysbyty acíwt, ond nid ydym yn gwybod yn iawn ai pigyn y rhewfryn yn unig yw hynny ai peidio. Ddirprwy Weinidog, sut y bwriadwch gael iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gennym ddata cywir a chyfredol am achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a’r rhesymau dros oedi wrth ryddhau cleifion?

14:40

Rydym yn datblygu data ein gwasanaethau ac yn dadansoddi pam fod y mwy na 1,000 o bobl hynny’n cael eu cadw yn yr ysbyty pan na ddylent fod yno. Yn y rhan fwyaf o achosion, y rheswm am hyn yw nad ydynt yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae rhesymau eraill hefyd. Er enghraifft, mae cyfathrebu'n broblem fawr. Mae oedi weithiau ar gyfer pethau fel meddyginiaeth. Ceir llawer o oedi, ac rydym wrthi’n dadansoddi’r data hwnnw. Ond unwaith eto, credaf fod Gareth Davies yn gwneud pwynt pwysig fod angen yr wybodaeth honno arnom er mwyn cynllunio mewn ffordd gynhyrchiol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi digalonni eto heddiw yn edrych ar ddata amseroedd aros iechyd. Ffigurau aros am apwyntiad cyntaf CAMHS welais i heddiw, yn dangos mai dim ond 22 y cant sy'n cael apwyntiad o fewn pedair wythnos, y lefel isaf erioed, pan oedd o'n 75 y cant flwyddyn yn ôl. Yfory, rydym ni'n disgwyl ffigurau iechyd ehangach, yn cynnwys amseroedd aros ambiwlans, sy'n dangos fwy nag unrhyw beth o bosib sut mae llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal wedi arafu i stop, mae'n ymddangos, bron. Mae targed y gwasanaeth ambiwlans o gyrraedd y cleifion mwyaf sâl o fewn wyth munud mewn 65 y cant o achosion wedi cael ei fethu ers blwyddyn a hanner. Pa bryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans allu cyrraedd y targed? Achos mae bob diwrnod, bob wythnos, bob mis o fethu â chyrraedd y targed yn rhoi bywydau mewn peryg. 

Diolch yn fawr, Rhun. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi yn garedig i fi heddiw, ar fy mhen-blwydd i, ond mae hwnna'n gwestiwn teg ac mae'n gwestiwn anodd, ac mae yn gwestiwn dwi'n poeni'n fawr ynglŷn ag e. Mae amseroedd aros ambiwlansys lot yn rhy araf, a dyna pam ges i gyfarfod ddoe gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Dwi wedi cael cyfarfod heddiw gyda phennaeth EASC, sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith rhwng y gwasanaeth ambiwlans a'r byrddau iechyd a'r sector gofal i gyd yn cydweithio, achos mae'n rhaid inni ddeall bod hwn yn system. Felly, rydym ni wedi taflu lot o arian at y gwasanaeth ambiwlans, rydym ni wedi rhoi lot mwy o adnoddau iddyn nhw ac maen nhw wedi recriwtio lot fawr yn fwy o bobl. Mae e wedi gwneud gwahaniaeth. Rydym ni wedi gweld bod tua 11 y cant o bobl nawr ddim yn cael eu cymryd i'r ysbyty o ganlyniad i'r triage gwell sy'n digwydd.

Ond dyw hi ddim yn ddigon, ac mae'r amseroedd aros yn anfaddeuol. Dyna pam dwi wedi bod yn gofyn heddiw a ddoe ynglŷn â beth mwy gallwn ni ei wneud. Achos os rydym ni jest yn rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth ambiwlans, beth welwn ni efallai yw mwy o ambiwlansys tu fas i'r ysbytai. Wel, dyw hwnna ddim yn helpu. Efallai ei fod yn ein helpu ni i gyrraedd pobl yn ein cymunedau, ond dyw e ddim yn helpu'r llif. Felly, mae'n rhaid inni gael hefyd y byrddau iechyd i gymryd eu cyfrifoldeb nhw o ddifrif. Maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau gweld pobl yn dod mas o'r ambiwlansys o fewn pedair awr. Dyw hynny ddim yn digwydd, ac felly mae angen mwy o bwysau arnyn nhw. Beth rydym ni'n trio ei weld nawr yw beth yn union yn fwy gallwn ni wneud i efallai creu incentive neu rywbeth fel ein bod ni ddim yn cario ymlaen yn y sefyllfa yma, achos mae'r rhestrau lot yn rhy hir. 

Yn sicr, maen nhw'n rhy hir, ac mae yna bobl tu ôl i bob ystadegyn, wrth gwrs. Rydw i, a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma, wedi bod yn casglu tystiolaeth am effaith y creisis ambiwlans. 

Mae’r straeon a glywn yn ddychrynllyd: gwraig 89 oed yn llewygu ac yn gorwedd ar y llawr am chwe awr; damwain ffermio heb unrhyw ambiwlans o gwbl ar gael, felly caiff claf sydd wedi torri ei gefn ei gludo mewn car; claf sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ac sydd wedi torri asgwrn yn clywed bod angen aros tri diwrnod gan nad yw'n achos brys; menyw yr ystyrid bod ei symptomau'n galw am ymateb brys yn aros am naw awr, ac ambiwlans yn cyrraedd wrth i'w chalon stopio. Nawr, fel y dywed y Gweinidog, nid argyfwng ambiwlans yw hwn, o bosibl, mae'n argyfwng system gyfan, system wedi'i llethu, ac nid oes unrhyw un yn fwy dig ynghylch y sefyllfa na pharafeddygon a staff ambiwlans, ac mae ein diolch iddynt hwy yn anfesuradwy. Ond gadewch imi ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd uwch feddyg teulu wrthyf yn ddiweddar. 'Pe bai gennyf aelod o'r teulu a oedd angen gofal brys,' meddai, 'ni fyddwn hyd yn oed yn ystyried ffonio 999, byddent yn mynd i mewn i'r car yn syth. Pe baem angen ambiwlans yng Nghymru heno, mae’n debyg na fyddai un ar gael. Nid yw hon yn teimlo fel gwlad ddatblygedig'. Pa fath o wlad ydym ni, a phryd y deellir yr angen i ddatrys y broblem os yw hyd yn oed meddygon teulu yn dweud na allwn helpu'r rheini sydd fwyaf o angen cymorth?

14:45

Rwy'n derbyn bod problem. Mae'r galw ar y gwasanaeth wedi bod yn aruthrol. Mae’r cynnydd yn y galw ar y gwasanaeth yn fwy nag unrhyw beth a welsom o’r blaen, felly yn amlwg, mae rhan o hyn yn ymwneud â'r galw ac mae angen ystyried hynny hefyd. Credaf hefyd fod yn rhaid inni ddeall bod dros hanner y bobl yn cael eu gweld o fewn y ffrâm amser, felly nid yw'n ddrwg i gyd, ond wrth gwrs, nid ydym yn cyrraedd y targedau y dylem fod yn eu cyrraedd o bell ffordd. Un o'r pethau sydd wedi digwydd yr wythnos hon yw y cynhaliwyd uwchgynhadledd risg genedlaethol i edrych ar y mathau o niwed sy'n digwydd o ganlyniad i hyn, fel bod pobl yn dechrau deall nad yw'n rhywbeth lle nad oes unrhyw ganlyniadau; mae canlyniadau difrifol, ac felly mae angen i bobl ddeall bod angen iddynt dderbyn mwy o gyfrifoldeb. Felly, digwyddodd hynny yr wythnos hon hefyd. Bydd canlyniadau yn sgil yr uwchgynhadledd honno, felly rwy’n aros i glywed beth yn union sy’n digwydd. Felly, mae angen ffocws ar y sefyllfa wrth gwrs, a dyna pam rwy'n rhoi'r ffocws hwnnw iddi. Rydym wedi buddsoddi £5 miliwn. Bydd 127 o staff ambiwlans rheng flaen ychwanegol yn dod ar gael yn y misoedd nesaf. Maent wrthi'n cael eu hyfforddi yn awr, byddant yn gweithio ar y rheng flaen, ac wrth gwrs, mae mwy o bobl yn helpu gyda brysbennu yn y canolfannau galwadau hefyd.

Gwasanaethau Ambiwlans

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru? OQ57652

Diolch yn fawr iawn. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, fel comisiynwyr y gwasanaethau ambiwlans, gynllunio a sicrhau gwasanaethau diogel ac amserol sy’n ymateb yn nhrefn angen clinigol. Mae hynny’n golygu dull gweithredu system gyfan, gan sicrhau bod criwiau ambiwlans ar gael i ymateb pan fo angen.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf weithiau fod yr amseroedd ymateb ambiwlans gwaethaf i'w gweld yn yr ardaloedd gwledig oherwydd eu bod yn aml ymhellach i ffwrdd ac yn anos eu cyrraedd. Dyma’r sefyllfa i drigolion yn fy rhanbarth i, ym mhenrhyn Gŵyr. Daeth llawer ohonynt ynghyd rai blynyddoedd yn ôl a chodi £65,000 tuag at gerbyd ymateb cyflym, i’w leoli yn Reynoldston, a olygai y gellid cyrraedd digwyddiadau difrifol yn gynt o lawer nag aros i ambiwlansys ddod o rywle arall. Yn 2017, cafodd y criw yn Reynoldston eu galw allan 207 o weithiau, ond erbyn 2018, roedd wedi gostwng i 61, ac mae’r gostyngiad wedi parhau yn y flwyddyn ers hynny. Ar adegau, bu pobl yn aros am oriau yn llythrennol i ambiwlansys gael eu galw o Bort Talbot pan fo'r cerbyd ymateb cyflym yn llythrennol o fewn dwy funud i’r alwad. Mae pobl yn aros am gyfnodau sylweddol o amser am barafeddygon neu ambiwlansys o filltiroedd i ffwrdd pan fo pobl hyfforddedig ar garreg eu drws, pobl a allai ddod i roi gofal interim tan i'r gweithwyr proffesiynol amser llawn gyrraedd. Mae hon yn sefyllfa y mae angen mynd i’r afael â hi ar frys ac ymddengys y gellid ei datrys yn hawdd drwy well cyfathrebu o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru a chanolfannau trin galwadau 999, yn enwedig y rheini sy’n trin galwadau yng ngogledd Cymru ac a allai fod yn anghyfarwydd â daearyddiaeth de Cymru a phenrhyn Gŵyr yn enwedig. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno i gyfarfod â mi a grwpiau lleol sy’n ymwneud ag uned ymateb cyflym Reynoldston i drafod hyn ymhellach, i hyrwyddo’r gwasanaeth hwn yn well yn y Gŵyr ac yn y gwasanaeth ambiwlans ehangach?

Diolch yn fawr, Tom. Treuliais benwythnos braf iawn yn y Gŵyr. Anaml iawn yr af i'r Gŵyr, ac roedd yn wych gweld faint o’r gymuned leol sy’n dangos diddordeb ym maes iechyd—mae'n dda gweld bod y math hwnnw o ysbryd cymunedol yn ymestyn i hyn. Ond wrth gwrs, mae gennym gyfrifoldeb fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth y dylem fod yn ei ddarparu yn yr ardaloedd hynny. Rwyf wedi bod yn bryderus ynghylch sefyllfa ambiwlansys mewn ardaloedd gwledig, oherwydd yr adolygiad hwnnw o restrau gwaith a gynhaliwyd—a ddigwyddodd o ganlyniad i adolygiad galw a chapasiti 2018. Roeddent yn dweud pe byddem yn ad-drefnu'r ffordd y trefnwn wasanaethau ambiwlans, gallem gael mwy am ein harian, i bob pwrpas. Felly, cychwynnwyd yr adolygiad o restrau gwaith, ac yna fe darodd COVID. Felly, mae hynny bellach yn ôl ar y gweill. Ond rwyf wedi dweud yn glir wrth y gwasanaeth ambiwlans nad ydym am weld unrhyw leihad yn y ddarpariaeth i ardaloedd gwledig. Felly, mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd yn digwydd o ganlyniad i'r ymyrraeth honno a wneuthum.

14:50

Cwestiwn 4 nawr, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Peter Fox.

Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty? OQ57663

Diolch. Mae canllawiau gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty ar waith er mwyn rheoli llif cleifion, yn enwedig yn ystod y pandemig. Gwnaethom ddiweddaru’r canllawiau hyn yn ddiweddar, gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf a mwy cadarnhaol o ran COVID, er mwyn parhau i ddarparu mecanwaith diogel ar gyfer rhyddhau pobl o ysbytai yn dilyn eu triniaeth.

Diolch am eich datganiad, Ddirprwy Weinidog. Lywydd, yn ddiweddar, mae fy swyddfa wedi cael gwybod am ddigwyddiad yn ysbyty’r Faenor, lle cafodd etholwr sy’n 92 oed eu rhyddhau o’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn oriau mân y bore. Fe wnaethant gyrraedd adref am 4 a.m. Cyn iddynt gael eu rhyddhau, derbyniodd partner yr etholwr, sydd hefyd yn 92 oed, alwad ffôn gan yr ysbyty oddeutu 3 a.m., gan achosi iddynt godi o'r gwely ar frys, er eu bod mewn perygl o gwympo eu hunain. Er fy mod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r ymateb gan brif weithredwr y bwrdd iechyd yn egluro’r sefyllfa o'u safbwynt hwy, nid yw hyn yn lleddfu fy mhryderon ynghylch y gweithdrefnau rhyddhau yn yr ysbyty hwnnw. Dywedodd fy etholwr a’u partner nad oeddent yn cael digon o gymorth, a bod yn rhaid i’w partner eu gwthio, gan ddefnyddio ffrâm gerdded, i’w rhoi yn y gwely.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar Cynghrair Henoed Cymru, a nododd annigonolrwydd yn y gweithdrefnau, ac nid yw hynny’n dderbyniol. Deallaf fod ysbytai o dan bwysau sylweddol o hyd a bod pandemig COVID-19 wedi golygu bod gweithdrefnau rhyddhau wedi’u newid fel bod mwy o welyau ar gael ac i leihau’r risg o haint. Ond beth sydd wedi digwydd i’r egwyddorion sylfaenol, megis caredigrwydd a thosturi? Ni ddylai'r GIG droi'n ffatri. Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn GIG Cymru i sicrhau nad yw digwyddiadau annerbyniol o’r fath yn digwydd a bod gweithdrefnau rhyddhau'n cydnabod yn well pa mor agored i niwed yw pobl fel fy etholwr?

Ie, diolch i Peter Fox am ei gwestiwn, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am yr hyn a ddigwyddodd i’w etholwr a gŵr yr etholwr. Mae'n ymwneud â llawer o'r hyn y buom yn sôn amdano'r prynhawn yma—sut y mae sicrhau gwell cydgysylltu a gwell cydweithio rhwng y systemau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn amlwg, roedd angen cymorth ar y teulu hwn—angen cymorth gofal cymdeithasol ar ôl iddynt gyrraedd adref—ac roedd angen i hynny gael ei nodi yn yr ysbyty. Felly, mae'r cyswllt hwn mor bwysig. Yn amlwg, mae’r hyn a ddigwyddodd gyda’i etholwr yn rhywbeth na fyddem am iddo ddigwydd i unrhyw un. Ond rydym yn cynllunio ac yn gweithio i wella’r cysylltiadau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, mae’r chwe nod ar gyfer gofal brys yn cynnwys nod 5, sef yr arfer gofal ysbyty a rhyddhau gorau posibl, o’r adeg y caiff claf ei dderbyn, a nod 6, sef dull cartref yn gyntaf a lleihau’r risg o orfod dychwelyd i'r ysbyty. Bwriad y nodau hyn—pump a chwech—yw cyflawni’r canllawiau rhyddhau cenedlaethol. Rydym wedi darparu £25 miliwn mewn cyllid cenedlaethol cylchol i gefnogi hyn—er, yn amlwg, rwy’n derbyn na ddigwyddodd hynny yn achos ei etholwr. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn arno. Felly, rydym yn gwneud hynny, ac rydym yn buddsoddi’r arian hwnnw.

Yn ogystal â hynny, rydym yn darparu £2.6 miliwn ar gyfer cludiant cleifion nad ydynt yn achosion brys, a hynny mewn ymdrech i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans—ac rydym newydd gael nifer o gwestiynau am y gwasanaeth ambiwlans. Rydym yn darparu £40 miliwn i gefnogi adferiad gwasanaethau gofal cymdeithasol, a dyrennir £9.8 miliwn i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu cynlluniau i leddfu pwysau’r gaeaf, ynghyd â £32.92 miliwn ar gyfer pwysau gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n credu y gallwch weld ein bod yn buddsoddi llawer iawn yn y gwasanaeth ac rydym yn gweithio’n galed iawn i gael y bartneriaeth yn iawn rhwng yr ysbyty a’r system gofal cymdeithasol, ond hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad unwaith eto â'r hyn a ddigwyddodd i'w etholwyr.

14:55

A fyddech yn cytuno â mi mai un o’r pethau allweddol yn hyn o beth yw sicrhau bod gennym ofal cymdeithasol o safon yn y gymuned i alluogi pobl i gael eu rhyddhau’n gyflym?

Ydw, mae'n gwbl hanfodol fod gennym ofal cymdeithasol o safon, ac fel y gŵyr pob un ohonom, mae gofal cymdeithasol wedi bod dan bwysau aruthrol, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i roi hwb i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Ddoe, cyhoeddais ffyrdd yr ydym yn gweithio tuag at ddenu mwy o weithwyr gofal cymdeithasol i’r gwasanaeth, gan ein bod yn brin iawn o staff, drwy gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, ynghyd â thaliad ychwanegol. Rydym yn gweithio'n galed i edrych ar delerau ac amodau, gan y credaf mai'r hyn sy'n allweddol yw cael y staff—y staff cywir, o ansawdd uchel—yn y gymuned, a fydd yno i weithio gyda phobl agored i niwed i helpu i'w hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty, a phan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty, i fod yno i'w hatal rhag gorfod dychwelyd yno. Felly, ydw, rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone.

Darpariaeth Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth iechyd yng nghanolbarth Cymru? OQ57641

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'w boblogaeth. Rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd ar achosion busnes ar gyfer datblygiad llesiant gogledd Powys, a gwaith adnewyddu yn ysbyty Llandrindod.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy’n derbyn ei bod yn ben-blwydd arnoch heddiw, ac fel arfer, bydd pobl yn rhoi anrhegion i chi, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi anrheg i fy etholwyr drwy eich ateb heddiw. Weinidog, mae cryn dipyn o gefnogaeth gymunedol a chefnogaeth drawsbleidiol i gynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Powys a bwrdd iechyd Powys ar gyfer ysbyty cymunedol a chanolfan iechyd a llesiant newydd yn y Drenewydd, ac fel y gwyddoch, byddai’r cynllun yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf i wasanaethu gogledd Powys ac i wella canlyniadau iechyd. Byddai’n golygu, wrth gwrs, na fyddai’n rhaid i bobl deithio allan o’r sir am apwyntiad. Gallent gael gofal iechyd ac apwyntiadau ac ymgynghoriadau yn lleol yn hytrach na mynd allan o Bowys. Nawr, rwyf wedi codi hyn eisoes gyda chi a'r Prif Weinidog hefyd. Rhoddodd y Prif Weinidog ateb cadarnhaol iawn i mi fis Gorffennaf diwethaf a dywedodd wrthyf fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect hwn. Fodd bynnag, mae wedi bod yn eistedd ar ddesg Llywodraeth Cymru ers misoedd bellach. Rwy’n derbyn ei fod yn gorgyffwrdd â chyfrifoldebau amryw Weinidogion—addysg, awdurdod lleol, cyllid—felly, a gaf fi ofyn ichi gysylltu â’ch cyd-Aelodau a Gweinidogion ar draws y Llywodraeth er mwyn cael y golau gwyrdd i'r prosiect hwn cyn gynted â phosibl, gan fy mod yn siŵr eich bod chi, fel finnau, yn gwybod, os rhown y golau gwyrdd i'r prosiect hwn, y bydd yn helpu i leihau'r ôl-groniad iechyd yr ydych chi a minnau am ei weld yn lleihau?

Diolch yn fawr, Russell. Yn sicr, rwyf wedi bod ar safle datblygiad llesiant newydd arfaethedig gogledd Powys, ac yn sicr, mae’n edrych fel datblygiad cyffrous. Mae achos busnes y rhaglen ar gyfer y datblygiad yn mynd drwy'r broses graffu derfynol ar hyn o bryd, ond rwyf am weld a allaf gael gwell ymdeimlad o ba bryd yn union y gwneir y penderfyniad. Yr hyn y bydd yn rhaid i mi eich rhybuddio yn ei gylch, mae arnaf ofn, yw bod pwysau sylweddol ar raglen gyfalaf y GIG ac y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol, ac felly yn sicr, byddwn yn gobeithio gweithio gyda'r cyngor ac ardaloedd eraill i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu rhaglenni fel hon a rhaglenni eraill.

Prynhawn da, Gweinidog, a phen-blwydd hapus hefyd. Diolch i Russell am godi'r mater yma. Dwi'n hynod o falch i glywed bod y cynlluniau yma yn symud ymlaen, a hoffwn i ddiolch i Russell, sydd wedi gweithio mor galed ar y prosiect yma—a thipyn bach o gydweithio, dwi'n gobeithio, dros ogledd Powys. Jest yn dilyn yr ateb i Russell, a gaf i ofyn pa fath o broses fydd yn ei lle i gario ymlaen i gysylltu efo pawb dros y prosiect yma? Diolch yn fawr iawn.

15:00

Diolch yn fawr. Dŷn ni ddim yn y sefyllfa yna eto lle rŷn ni wedi cael y golau gwyrdd. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai efallai fwy o arian ar gael ar gyfer cyfalaf y tu mewn i raglen yr NHS, felly, ar hyn o bryd, rŷn ni'n mynd ati i weld ble mae'n bosibl inni gario ymlaen â'r datblygiadau rŷn ni'n awyddus i'w gweld, ac, yn sicr, byddem ni'n awyddus i weld hwn yn datblygu, os yn bosibl. Felly, arian, dwi'n siŵr, fydd y peth fydd yn cyfyngu unrhyw symudiad tuag at symud ymlaen yma, felly dyna pam rŷn ni angen mynd trwy'r sgrwtini olaf yna, a gobeithio y gallaf i ddod nôl ag ateb i chi cyn bo hir ar y mater yma.

Gwasanaethau Fasgwlaidd

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i hefyd gymryd y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Gweinidog drwyddoch chi, Llywydd? Diolch.

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar wasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru? OQ57656

Diolch yn fawr. Yn amlwg, roeddwn i'n siomedig iawn i weld yr adroddiad o'r Royal College of Surgeons ynglŷn â'r gwasanaeth fasgiwlar yng ngogledd Cymru. Roedd rhestr hir o broblemau oedd wedi cael eu nodi yn yr adroddiad yna, ac mae'r Betsi teaching board yn gyfrifol am roi gwasanaethau i'w boblogaeth. 

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Wel, ar ôl tair blynedd o sefydlu grwpiau gwella, grwpiau tasg a gorchwyl, newid personél arweinyddol, ac, yn y pen draw, gomisiynu adroddiad annibynnol, o'r diwedd mae yna gydnabyddiaeth bod yna gamgymeriadau sylweddol wedi cael eu gwneud efo'r gwasanaeth. Oes rhywun yn mynd i gael eu dal i gyfrif am hyn, Weinidog? Fedrwch chi gadarnhau a oes unrhyw un a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y camgymeriadau yn parhau mewn rôl weithredol arweinyddol ar y bwrdd? Ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn fod pobl a wthiodd hyn drwyddo yn parhau i fod mewn swyddi cyfrifol yn y maes iechyd, ac a wnewch chi rŵan roi'r gwasanaeth fasciwlar yn y gogledd yn ôl i mewn i fesurau arbennig er mwyn adennill hyder pobl gogledd Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Mabon. Dwi'n meddwl y gwnaeth y Prif Weinidog roi eglurhad eithaf trylwyr yr wythnos yma ynglŷn â'r sefyllfa. Yn amlwg, rŷn ni mewn sefyllfa lle roedden ni yn dilyn y canllawiau. Y Royal College of Surgeons, wrth gwrs, oedd wedi argymell bod pethau yn cael eu canoli yn y lle cyntaf, felly dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn edrych ar yr arweiniad maen nhw'n awyddus i'w roi hefyd.

Dwi wedi rhoi rhybudd yn awr i'r bwrdd yn Betsi. Os nad yw'r argymhellion yn yr adroddiad wedi cael eu symud ymlaen yn ystod y tri mis nesaf, mi fydd yna consequences i'w cael. Mi fydd e'n glir, os na fyddwn ni'n gweld gwelliant yn y tri mis nesaf, mi fydda i'n gofyn i'r grŵp tripartite gynnal cyfarfod ychwanegol i roi mwy o wybodaeth i fi ynglŷn ag escalation pellach.

Rhagoriaeth yn GIG Cymru

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhagoriaeth yn GIG Cymru? OQ57633

Mae pobl Cymru yn haeddu gwasanaethau iechyd o'r safon uchaf a'r canlyniadau gorau. Dylai ymdrechu am ragoriaeth fod yn ganolog yng nghynlluniau pob bwrdd iechyd, a dylid eu hymgorffori ar bob lefel o'r GIG. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau hyn drwy ein dulliau gwella ansawdd a thrawsnewid cydweithredol.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r dyheadau yr ydych newydd eu lleisio, Weinidog, ond rwy'n bryderus iawn ar ôl gweld eich datganiad heddiw mai tri mis yn unig y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i gael cyn y gallai fod yn destun mesurau arbennig unwaith eto. Mae'r rheini ohonom sy'n cynrychioli etholaethau yn y gogledd yn siomedig. Teimlwn ein bod wedi cael ein siomi, ie, gan Lywodraeth Cymru am fethu gwella'r sefyllfa mewn cyfnod o dros bum mlynedd pan oedd y sefydliad yn destun mesurau arbennig, sy'n peri imi gwestiynu pa mor effeithiol y gallant fod os cânt eu hailgyflwyno oni bai eu bod yn newid o ddifrif, ond yn ail, teimlwn siom ynghylch arweinyddiaeth y bwrdd iechyd hwnnw yn y gorffennol. Un o'r cynigion a gyflwynwyd gennym i'w drafod yn y Siambr—ac rwy'n gobeithio y gallwn eich denu ato—yw sefydlu cofrestr o arweinwyr GIG Cymru, ac felly pan fydd pobl yn methu yn eu swyddi, pan fydd pobl yn achosi niwed yn eu swyddi oherwydd penderfyniadau a wnânt fel rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd, nid clinigwyr y gellir eu tynnu oddi ar gofrestri, os ydynt yn nyrsys neu'n feddygon, rwy'n sôn am reolwyr yma, dylid eu dwyn i gyfrif am y gweithredoedd hynny a dylid eu tynnu oddi ar gofrestr fel na allant roi pobl mewn perygl eto yn y dyfodol. A yw hwnnw'n rhywbeth y byddwch yn ei ystyried, a sut y gallwch ddangos y bydd pethau'n wahanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y dyfodol, yn dilyn eich datganiad gweinidogol heddiw?

15:05

Diolch yn fawr iawn, Darren. Wel, yn sicr, rydym yn pryderu am sefyllfa gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd. Mae'r ffaith mai bwrdd Betsi ei hun a ofynnodd i Goleg Brenhinol y Meddygon edrych ar y sefyllfa yn gysur i mi. Dyna'r peth iawn iddynt ei wneud. Rwy'n gobeithio y byddant yn ymateb yn gyflym i'r adolygiad hwnnw. Maent wedi ymrwymo i gyflwyno'r camau hynny. Byddwn yn monitro'r camau fel Llywodraeth yn fisol. Rwy'n falch iawn o weld y byddant yn gweithio gydag ysbyty Lerpwl i sicrhau bod goruchwyliaeth a dealltwriaeth gan wasanaeth o safon i'w weld yno. Ac wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i weld y panel ansawdd hwnnw'n cael ei sefydlu. Mae gennych chi ddiddordeb mewn ansawdd, mae gennym ni ddiddordeb mewn ansawdd. Dyna maent am ei wneud: sefydlu cynllun ansawdd i gryfhau'r arweinyddiaeth glinigol yn lleol. 

O ran eich cwestiwn, wrth gwrs, mae hyn—. Rydym eisoes wedi cael cynllun gweithredu manwl gan Betsi ac maent wedi ymrwymo i weithredu hwnnw ar unwaith.

Ar eich cwestiwn arall ynglŷn ag arweinyddiaeth, gallaf weld eich pwynt. Rwy'n credu bod enghreifftiau wedi bod yn y gorffennol lle y gwelsom bobl yn symud o un bwrdd i'r llall. Gadewch imi fynd yn ôl i ystyried hynny, Darren.FootnoteLink

Gwasanaethau Deintyddol Brys

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cleifion at wasanaethau deintyddol brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ57671

Mae'r bwrdd iechyd wedi buddsoddi £840,000 arall ym maes deintyddiaeth, gan gynnwys ar gyfer darparu mynediad brys. O ganlyniad, mae'r ddarpariaeth a gynigir wedi cynyddu o 157 i 300 o apwyntiadau brys yr wythnos. Mae'r mynediad at ofal mwy rheolaidd yn dal i fod yn gyfyngedig o ganlyniad i'r mesurau rheoli heintiau angenrheidiol sydd ar waith. Wrth flaenoriaethu, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ôl anghenion y claf.

Diolch ichi, Weinidog. Dwi'n gwerthfawrogi hynny.

Wrth gwrs, mae argyfwng arall gyda mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, nad yw'n ganlyniad i'r pandemig yn unig, sef canlyniad diffyg gwasanaethau deintyddol y GIG. Mae hyn yn effeithio ar sawl rhan o'r wlad, ond mae'n broblem benodol ar hyn o bryd yng Nglyn Ebwy, lle nad yw fy etholwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG. Mae'n destun pryder mawr nad oes gan blentyn sy'n tyfu i fyny yng Nglyn Ebwy yr un mynediad at ddeintyddiaeth sylfaenol â phlentyn sy'n tyfu i fyny mewn mannau eraill. Nid yw pobl hŷn yn gallu fforddio mynd i weld y deintydd. Nid dyma yw ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd gwladol ac nid dyma y dylai fod ychwaith. A allwch chi fy sicrhau, Weinidog, y byddwch yn ymyrryd i sicrhau bod fy etholwyr yn gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, eu bod yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau y mae pawb ohonom wedi talu amdanynt ar y cyd a'r gwasanaethau y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn sicrhau eu bod ar gael i bawb yn gyfartal, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus ein bod yn gofalu amdanynt hwy a'u teuluoedd?

Wel, diolch yn fawr iawn, Alun. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi bod yn bryderus iawn am y sefyllfa, nid yn unig yn eich etholaeth chi, ond mewn etholaethau eraill ledled Cymru. Oherwydd y pandemig, rydym wedi gweld gostyngiad enfawr. Ac nid oherwydd y pandemig yn unig, rwy'n derbyn hynny, ond yn sicr, mae hwnnw wedi lleihau'r capasiti oddeutu 50 y cant. Felly, ni allwch anwybyddu hynny. Mae honno'n broblem fawr. Dyna pam fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi £3 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, a'i gynyddu wedyn i £2 filiwn yn rheolaidd y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Mae yna broblemau, ac rwy'n awyddus iawn i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwn. Nid yw'n syml, oherwydd gallwn hyfforddi pobl ar gyfer y GIG ac yna maent yn gadael ac yn mynd i weithio i'r sector preifat. Nid oes ateb syml a hawdd i hyn. Nawr, un o'r pethau a wnawn yw diwygio contractau gan ddechrau ym mis Ebrill, lle byddwn yn mesur ac yn cymell ansawdd ac atal. Byddwn yn cael pobl i edrych nid yn unig ar gleifion sydd yno eisoes, ond cleifion newydd, a hefyd byddwn yn eu hannog i ddefnyddio'r sgiliau fel tîm cyfan, oherwydd nid deintyddion yn unig sy'n gallu eu defnyddio—mae gan dechnegwyr deintyddol sgiliau clinigol rhagorol iawn ac mae angen inni eu defnyddio. Felly, mae'n faes lle mae angen inni wneud mwy o waith. Mae'n anodd iawn, oherwydd rydym yn arllwys arian i mewn ac mae pobl yn gadael y sector. Mae'n anodd iawn. Felly, os oes gennych chi unrhyw syniadau da, Alun, rwy'n glustiau i gyd.

15:10

Diolch i'r Gweinidog, a gobeithio y caiff hi gyfle i ymlacio tamaid bach nawr am weddill ei phen-blwydd hi. Bues i bron â dechrau canu ar un adeg yn ystod yr holl ddymuniadau yna, ond penderfynais i taw gwell fyddai peidio â gwneud. [Chwerthin.]

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiwn amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn hynny i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac i'w ofyn gan Janet Finch-Saunders.

Y Prosiect i Gael Gwared ar Gylchfannau'r A55

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i roi'r gorau i'r prosiect i gael gwared ar gylchfannau'r A55? TQ598

Gwnaf. Argymhellodd y panel adolygu ffyrdd, yn hytrach na bwrw ymlaen â'r prosiect ar ei ffurf bresennol, fod achos cryf dros ystyried adolygiad o goridor gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd, fel yr argymhellwyd yn adroddiad terfynol adolygiad cysylltedd yr undeb Llywodraeth y DU. Derbyniais yr argymhellion hynny, a'r wythnos diwethaf sefydlais gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns.

Diolch. Lywydd, a gaf fi gofnodi fy siom nad yw'r Dirprwy Weinidog yn y Siambr i ateb cwestiwn amserol?

Na, ni chewch wneud hynny, mae arnaf ofn. Rwy'n dweud ar ddechrau pob cyfarfod o'r Senedd hon y gall pob Aelod gymryd rhan yn rhithwir neu fynychu'r Cyfarfod Llawn ac y dylid eu trin yn gyfartal a'u parchu ni waeth pa ffordd y byddant yn cyfrannu. Ewch ymlaen at eich cwestiwn.

Ewch ymlaen at eich cwestiwn. Os yw'n bwysig i chi, gofynnwch y cwestiwn.

Iawn. Ni fydd yn syndod, Ddirprwy Weinidog, fy mod yn codi i herio eich penderfyniad i roi'r gorau i'r cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar gyffyrdd 15 ac 16 yr A55. Mae'r cynlluniau hyn wedi bod ar y gweill ers 2017, ac wedi bod yn destun llawer o asesiadau costus. Yn wir, hyd yma, mae'r prosiect wedi costio tua £9 miliwn i'n trethdalwyr. Roedd bwriad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus fis Medi diwethaf tan imi ofyn i chi am eich adolygiad eich hun, oherwydd roedd y broses ymgysylltu wedi ei chynllunio. A phan dynnais eich sylw ato, fe wnaethoch roi'r gorau i hynny wedyn.

Nawr, mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad yw cyffyrdd yn cydymffurfio â'r safonau dylunio presennol; oedi traffig o ganlyniad i ddiffyg cadernid y rhwydwaith; diffyg llwybrau gwyro addas pan fo angen cynnal a chadw twneli, trwsio ffyrdd a damweiniau ar yr A55, a gwyddom fod pob un ohonynt yn digwydd yn llawer rhy aml; dewisiadau teithio cynaliadwy gwael; mynediad gwael at yr arfordir a diogelwch—diogelwch—i gerddwyr a beicwyr. Fel rhan o'r cynlluniau, ystyriwyd dymchwel tai newydd a adeiladwyd yn ddiweddar, gan adael llawer o drigolion mewn limbo dros yr holl flynyddoedd hyn. Er gwaethaf honiadau mynych gennych chi ynglŷn â diddymu cynlluniau eraill, rydych wedi bod yn nodi bod hyn i gyd yn enw amcanion newid hinsawdd.

Wel, gadewch imi ddweud wrthych, nid yw hyn yn wir yma. Bydd y ciwiau ar y ffyrdd sy'n ymuno â'r cylchfannau yn parhau. Ceir yn segur, yn rhyddhau carbon monocsid, sy'n effeithio ar ansawdd yr union aer a anadlwn—a phan ddywedaf 'ni', fy etholwyr. Ddirprwy Weinidog, efallai y gwnewch egluro i'r Senedd a fy etholwyr pam eich bod wedi gwastraffu £9 miliwn cyn gwneud tro pedol. Pa atebion y byddwch yn eu rhoi ar waith yn awr i leddfu'r holl broblemau cyfredol, problemau a nodwyd yn eich adroddiadau asesu cynllun eich hun mewn gwirionedd? Diolch, Lywydd.

Wel, Lywydd, nid oes pedwar mis wedi bod ers i mi ymuno â Janet Finch-Saunders ar risiau'r Senedd i anfon neges gref at arweinwyr y byd yng Nghynhadledd y Partïon ar yr angen i roi camau dramatig ar waith i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae Janet Finch-Saunders wedi pregethu yn y Siambr droeon nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell, nad yw'n symud yn ddigon cyflym i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Hoffwn ddweud wrthi, gyda'r parch mwyaf, nad oes diben cefnogi datganiadau os ydych am droi cefn ar y camau sy'n dilyn o hynny.

Er mwyn cyrraedd ein targed ar gyfer 2050, mae angen inni leihau allyriadau carbon 63 y cant yn ystod y degawd nesaf. Mae hynny'n cynnwys sicrhau ein bod yn newid dulliau teithio. Mae gennym darged a nodir yn strategaeth drafnidiaeth Cymru i gyflawni 45 y cant o deithiau drwy drafnidiaeth gynaliadwy erbyn 2045, i fyny o 32 y cant yn awr. Mae hynny'n golygu bod angen inni wneud pethau'n wahanol. Dyna pam y sefydlais y panel adolygu ffyrdd, ac maent yn edrych yn amyneddgar ar bob un o'r 50 cynllun sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, a chytuno, oherwydd yr ymchwiliad cyhoeddus—a byddwn yn nodi nad oedd angen iddi ddweud wrthyf fod yna ymchwiliad cyhoeddus imi nodi'r ffaith honno—ond oherwydd bod ymchwiliad cyhoeddus, fe wnaethom gyflymu'r cynllun hwn, ac un cynllun arall, drwy'r broses fel y gellid gwneud penderfyniad cynnar. Mae'r panel annibynnol bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad llawn, ac mae hwnnw ar gael i bawb ei ddarllen, ac maent yn nodi eu rhesymau yn fanwl ynddo. A daethant i'r casgliad, ar fater diogelwch, na fyddai'r cyffyrdd aml-lefel arfaethedig a fyddai'n cymryd lle dwy gyffordd gylchfan, yn arwain at fawr o welliant i'r nifer o ddamweiniau Mae'n dweud, yn gywir, fod problemau capasiti penodol ar yr A55 ar adegau prysur, ond eu bod wedi'u cyfyngu i'r tymor twristiaid. Dywedodd yr adroddiad hefyd, ac rwy'n dyfynnu:

'Nid yw nod y cynllun yn gydnaws â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, y targedau o ran cyfrannau dulliau teithio, na'r nod o gynyddu cyfran y nwyddau a gludir drwy ddulliau cynaliadwy.'

Nawr, mae hynny yno mewn du a gwyn, yng nghasgliad yr adroddiad, a gomisiynwyd oherwydd fy mod yn gwneud fel y gofynnodd hi i mi ei wneud, sef ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chydnabod effaith trafnidiaeth yn hynny—mae 17 y cant o'n hallyriadau yn deillio o drafnidiaeth.

Nawr, rwy'n cydnabod y bydd rhai pobl yn siomedig, a bydd eraill yn lleol a wrthwynebodd y cynllun yn llai siomedig. Ar fater y gost, do, mae arian wedi'i wario ar hyn na ellir ei adfer. Ni fydd yn wastraff llwyr. Bydd yr astudiaethau a'r gwaith sy'n sail iddynt yn werthfawr i gomisiwn Burns yn ei waith yn y gogledd. Ac ni welaf lawer o bwynt parhau i wario ar brosiect a oedd i fod i gostio mwy na £75 miliwn am ddim rheswm gwell na bod y gwaith o edrych ar asesiadau wedi dechrau—nid yw hynny'n gwneud synnwyr i mi o gwbl. A diben ein gwaith yw symud cyllid oddi wrth gynlluniau sy'n ychwanegu at ein hallyriadau carbon er mwyn ariannu cynlluniau sy'n ein helpu i leihau ein hallyriadau carbon.

Ac os ydym eisiau creu dewisiadau amgen go iawn i'w hetholwyr hi, rhaid inni fuddsoddi ynddynt, a dyna mae comisiwn Burns yn bwriadu ei wneud. Bydd yn sefydlu llif ymarferol o brosiectau o bob math—ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol—i ymdrin â'r problemau ar hyd yr A55 ac ar draws gogledd Cymru gyfan gyda thagfeydd ac ansawdd aer gwael, yn ogystal ag edrych ar ein targedau carbon. A bydd yn nodi, yn union fel y gwnaeth yn ne Cymru—. A chofiwch, er yr holl sylwadau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn beirniadu ein penderfyniad ar yr M4, edrychodd adolygiad cysylltedd yr undeb a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU—gyda Phrif Weinidog y DU yn dweud y byddai'r adolygiad yn ei gefnogi ef drwy awgrymu y dylai cynllun yr M4 fynd rhagddo a sut y byddai'n diystyru datganoli; yr holl ddatganiadau ymffrostgar arferol yr ydym yn eu disgwyl bellach gan y Prif Weinidog—edrychodd adroddiad cysylltedd yr undeb ar yr opsiynau, edrychodd ar argymhellion Burns ar gyfer y de, edrychodd ar yr M4, a daeth i'r casgliad mai'r ffordd gywir ymlaen oedd argymhellion Burns ar gyfer y de. Rwy'n hyderus y byddant, dros y flwyddyn nesaf, yn gwneud gwaith tebyg yn y gogledd i greu llif o gynlluniau a fydd yn gwneud pethau'n well, a gallwn i gyd ymrwymo wedyn i gydweithio er mwyn eu gweithredu.

15:15

Yn hytrach na gofyn sut y mae atal ceir rhag segura, dylai'r Ceidwadwyr fod yn gofyn sut y mae atal ceir rhag mynd ar y ffordd yn y lle cyntaf. Ac mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn. Y cwestiwn ehangach yma yw: a ydym o ddifrif ynglŷn â newid hinsawdd? Ac os ydym, a ydym o ddifrif ynghylch newid dulliau teithio a lleihau gorddibyniaeth pobl ar geir? A ydym o ddifrif fod hynny'n rhan o'r ateb? Ac os ydym, mae'n golygu bod yn rhaid i bethau newid, a bydd llai o gynlluniau ffordd mawr, drud. Ond yr un mor bwysig, wrth gwrs, gan droi at y Dirprwy Weinidog, mae angen inni hefyd weld buddsoddiad yn digwydd yn y dewisiadau amgen hynny. Felly, yn hytrach na gofyn beth y gallwn ei wneud i adfywio'r cynlluniau arfaethedig hyn, dylem ofyn beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r un materion mewn ffordd wahanol. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y comisiwn yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Burns, ac mae'n debyg mai ar ddiwedd y broses honno y byddwn yn penderfynu ai dyma'r penderfyniad cywir ai peidio, am mai ar ddiwedd y broses yn unig y byddwn yn gweld ac yn deall beth yw'r dewisiadau amgen.

Felly, hoffwn ofyn: a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn gwbl allweddol, fel rhan o'r broses hon a phroses barhaus ehangach y prosiect adolygu ffyrdd, fod tryloywder ac eglurder llwyr ynghylch y modd y gwneir y penderfyniadau hyn a bod cysondeb llwyr hefyd mewn perthynas â'r meini prawf a'r ffactorau a ystyrir o brosiect i brosiect, er o fewn eu cyd-destunau unigol eu hunain, oherwydd, fel arall, bydd pobl yn iawn i fod yn bryderus ac yn amheus ynglŷn â beth yw'r cymhellion go iawn? 

15:20

Wel, hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am ei sylwadau cefnogol a'i gymeradwyaeth i'r dull gweithredu cyffredinol yr ydym yn ei fabwysiadu. Ac mae'r ffaith y bydd yna rôl i herio a chraffu ar hyn i gyd yn iawn, ac mae'n bwysig fod comisiwn Burns yn gweithredu yn y modd hwnnw, fel y gwnaeth yn y de, fel y mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn wir. Mae'r adolygiad ffyrdd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd er mwyn i bobl weld ei resymeg, er mwyn inni graffu arno. Bydd comisiwn Burns yn cyhoeddi adroddiad interim, a fydd ar gael, i ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn union fel y gwnaethant yn eu gwaith o amgylch Casnewydd. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau gydag arweinwyr y tri chyngor yn yr ardal yr effeithir arni yn y gogledd i gael eu barn ar hyn, i ofyn iddynt am awgrymiadau ynghylch pwy a ddylai wasanaethu ar y comisiwn a siarad â hwy am y ffordd ymlaen. Felly, rwy'n cytuno bod tryloywder a chysondeb yn bwysig, ond mae'r un mor bwysig ein bod yn barod i gefnogi ein geiriau â gweithredoedd. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad heddiw gan Jane Dodds.

Diolch, Lywydd. Y dydd Gwener hwn, 18 Chwefror, yw Diwrnod Gofal Rhyngwladol, sy'n dathlu plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Yn rhy aml, mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn cael eu gwneud i deimlo nad ydynt yn perthyn, felly y thema eleni yw 'Gyda'n gilydd, rydym yn creu cymuned,' gan ddathlu cryfder y gymuned sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac amlygu pwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.

I nodi Diwrnod Gofal Rhyngwladol ddydd Gwener, bydd pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal o bob cwr o Gymru yn cyfarfod yn rhithwir i greu capsiwl amser, a thros y flwyddyn nesaf, bydd Voices from Care Cymru a'u partneriaid yn gwahodd holl Aelodau'r Senedd i gwrdd â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain, er mwyn inni ddod i'w hadnabod, er mwyn iddynt hwy ddod i'n hadnabod ninnau hefyd, ac er mwyn inni allu chwarae ein rhan yn adeiladu'r ymdeimlad o berthyn y mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn dweud wrthym eu bod ei angen. Bydd y capsiwl amser yn cofnodi'r hyn y teimlant fod angen ei newid i'w galluogi hwy a phlant a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ffynnu, a byddant yn agor y capsiwl ymhen pum mlynedd er mwyn iddynt hwy a ninnau weld beth sydd wedi newid.

Yn olaf, rwy'n mawr obeithio y bydd y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol gwych a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn trawsnewid bywydau'r rhai sy'n gadael gofal sy'n gallu cymryd rhan yn y peilot. Felly, ddydd Gwener, dangoswch eich cefnogaeth i'n cymuned ofal; wedi'r cyfan, plant yn ein gofal ni ydynt. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr am y datganiad yna, a nawr byddwn ni'n cymryd toriad byr er mwyn paratoi ar gyfer ambell i newid yn y Siambr. Toriad, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:23.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:31, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar etholiadau llywodraeth leol. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM7881 Rhys ab Owen, Llyr Gruffydd, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Cefin Campbell, Heledd Fychan, Luke Fletcher, Mabon ap Gwynfor, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;

b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr ichi, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, bawb yn y Siambr hon, gair Groegaidd yw 'democratiaeth'. Gwraidd y gair yw'r geiriau 'demos' a 'kratia' sy'n golygu 'rheolaeth gan y bobl'. Ond meddylfryd 'winner takes all' sy'n dra arglwyddiaethu yng Nghymru ac yn enwedig yn Lloegr ar hyn o bryd—system lle mae un blaid yn dueddol o ennill popeth, a'r lleill yn dueddol o golli'r cwbl. Mae hyn yn arwain felly at y mwyafrif o bobl yn teimlo mai gwastraff amser llwyr yw eu pleidlais ac nad yw taro'r groes yn y blwch yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.

I ddangos nad ydw i'n ceisio gwneud pwynt pleidiol fan hyn, gadewch inni ddechrau gyda Chyngor Gwynedd nôl yn 2017. Yn yr etholiad yna, enillodd Plaid Cymru 55 y cant o'r seddi drwy dderbyn dim ond 39 y cant o'r bleidlais. Yn sir Fynwy, enillodd ein cyfaill Peter Fox a'r Torïaid 58 y cant o'r seddi gydag ond 46 y cant o'r bleidlais. Ac yma yng Nghaerdydd, enillodd Llafur 52 y cant o'r seddi gyda 39 y cant o'r bleidlais. Ac er mwyn i fi gynnwys pawb yn y Senedd yma, fe aeth y tair sedd yn y ward lle ces i fy ngeni, ym Mhen-y-lan yng Nghaerdydd, i’r Rhyddfrydwyr—pob un o'r seddi, ond dim ond 25 y cant o'r bleidlais.

Term sydd wedi ei drwytho ynom ni, y Cymry, yn ein ideoleg ni ac yn ein ieithwedd ni, yw 'chwarae teg'.

Fe fyddwch yn clywed pobl ddi-Gymraeg, wrth siarad Saesneg, yn defnyddio'r term 'chwarae teg'. Yn sicr, nid oes chwarae teg yn y system bresennol. Mae gennym bleidiau yng Nghymru heddiw sy’n ennill llai o lawer na hanner y bleidlais, ond sy’n ennill rheolaeth ar 100 y cant o’r weithrediaeth. Rwy’n hyderus fod pob Aelod o’r Senedd hon yn llawer mwy o ddemocrat nag unrhyw deyrngarwch pleidiol. Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu yng Nghymru, ac er mwyn ymgysylltu â phobl Cymru, mae angen iddi fod yn llawer mwy cynrychioliadol o'n cymunedau, a'u hadlewyrchu'n well.

Fel dywed yr hen ddihareb Cymraeg, cymuned o gymunedau yw Cymru, ond er mwyn i ddemocratiaeth fod yn gadarn yn ein gwlad ni, mae'n rhaid i gymunedau deimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli a bod eu lleisiau yn cael eu clywed a'u gwrando.

Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.

Diolch, Rhys. Wrth edrych ar fanylion y cynnig, mae’n dweud,

'lleihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth'.

Sut y byddai newid y system bleidleisio yn cyflawni hynny pan fo pwy sy'n llenwi pa seddi yn fater i'r aelodau neu'r pleidiau ei benderfynu fel arfer?

Os gwrandewch am ychydig eto, Gareth Davies, fe gewch wybod—rwyf ar fin dod at hynny.

Fel dywed yr hen ddihareb, cymuned o gymunedau, ond mae'n rhaid bod eu lleisiau nhw yn cael eu gwrando.

Un enghraifft arall o etholiadau lleol 2017: yn ward yr Eglwys Newydd a Thongwynlais yng ngogledd Caerdydd, enillodd y Blaid Geidwadol y pedair sedd, er na phleidleisiodd 60 y cant o’r pleidleiswyr dros y Ceidwadwyr. Pob un sedd, 40 y cant yn unig o'r bleidlais, cafodd 4,092 o bleidleisiau yn yr un ward honno eu gwastraffu. Ni ddylai hyn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, ni ddylai hyn ymwneud ag ennill pŵer, dylai ymwneud â thegwch. Os ydym yn galw ein hunain yn ddemocratiaid, dylem fod eisiau i fwyafrif helaeth y papurau pleidleisio gyfrif. System gyfrannol yw'r unig ffordd o gyflawni hyn. Mae'n caniatáu i luosogaeth ffynnu, lluosogaeth o ran dewis, lluosogaeth o ran pleidleisiau a lluosogaeth o ran canlyniadau.

Dwi'n falch bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi system fwy cyfrannog i gael ei defnyddio mewn etholiadau lleol o fis Mai yma ymlaen. Ond mae angen arweiniad cenedlaethol arnom ni neu fe ddaw yr hen cliché diflas Saesneg, turkeys voting for Christmas i'r meddwl. 

Yr Alban—ac rwy’n dod at eich pwynt cyn bo hir, Gareth—cyflwynodd yr Alban system y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn 2007 ar draws pob awdurdod lleol, ac mae’r newid wedi bod yn ddramatig. Mae consensws wedi dod yn rhywbeth arferol, gyda chynghorwyr yn gweithio ar y cyd er budd eu hetholwyr. Yn ogystal â hynny, mae democratiaeth leol wedi’i chryfhau. Yn 2003, yn yr Alban, roedd 61 sedd ddiymgeisydd, a beth yw’r ffigwr bellach, Gareth? Chwe deg un sedd ddiymgeisydd yn 2003; yr ateb nawr, Gareth, yw dim un. Mae pob sedd yn yr Alban, ers cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol, wedi cael ei hymladd.

Nawr, yng Nghymru, yn 2017—maddeuwch i mi am eiliad, Sam—safodd bron i 100 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad yma yng Nghymru, gydag un cynghorydd ym Mhowys yn parhau'n ddiwrthwynebiad ers 37 mlynedd. Mae’r dyn hwnnw bellach wedi bod yn gynghorydd ers bron i 40 mlynedd, heb wynebu'r un gwrthwynebydd. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.

15:35

Diolch, Rhys. Ar y pwyntiau ynglŷn â'r Alban a chyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, roeddech yn iawn i dynnu sylw at y newid mewn seddi diymgeisydd. Ond hefyd, ers cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae'r ganran sy'n pleidleisio wedi bod yn sylweddol is. Felly, yn y ddwy flynedd cyn y bleidlais sengl drosglwyddadwy, roedd oddeutu 54 y cant yn pleidleisio, ac ers hynny, mae oddeutu 46 y cant yn pleidleisio. Felly, sut y byddech yn cefnogi hynny mewn perthynas ag ymgysylltu â democratiaeth leol, sydd mor hanfodol bwysig, ac sy'n dechrau gyda phobl yn dod allan i bleidleisio?

Rwy'n falch eich bod eisoes yn darllen eich holl ymyriadau a baratowyd ymlaen llaw. Gadewch imi ateb: mae'r syniad hwn fod y ganran sy'n pleidleisio yn is mewn system gynrychiolaeth gyfrannol yn gwbl chwerthinllyd. Yn Awstralia, mae bron yn 100 y cant; yn Wcrain, mae dros 90 y cant; ym Malta, mae dros 90 y cant. Nid yw'r ganran sy'n pleidleisio yn gostwng ar ôl cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.

Mae pleidleisio cyntaf i'r felin yn arwain at bleidleisio tactegol, ac mae hynny yn ei hanian yn beth gwael, yn beth niweidiol i ddemocratiaeth. Pleidleisio i gadw rhywun mas, yn hytrach na phleidleisio dros bwy maen nhw wirioneddol ei eisiau. Pleidleisio dros blaid sy'n fwy yn aml, yn hytrach na phleidleisio dros blaid maen nhw'n wirioneddol eisiau ei chefnogi, fel y Gwyrddion er enghraifft.

Rydym yn cyfyngu ar ryddid pobl i ddewis drwy gadw system hynafol y cyntaf i’r felin, sydd bellach bron yn 150 mlwydd oed. Nid yn unig fod dadl foesol dros gyflwyno system gyfrannol, ceir rhesymau ymarferol cryf dros wneud hynny hefyd. Mewn llawer o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, mae un blaid yn llenwi dros 75 y cant o'r seddi. Gall hyn roi rhwydd hynt i gynghorau a gweinyddiaethau mewn perthynas â busnes swyddogol. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at lai o atebolrwydd, sy’n effeithio ar gaffael cyhoeddus, sydd yn ei dro yn effeithio ar y ffordd y gwerir arian trethdalwyr.

Mae cynghorau un blaid yn fath modern o faenoriaeth, lle na cheir fawr ddim craffu ar bwyllgorau craffu sy’n adolygu gwerth miliynau o bunnoedd o gontractau llywodraeth. Canfu’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, yn 2015, fod cynghorau un blaid yn gwastraffu cymaint â £2.6 biliwn y flwyddyn oherwydd diffyg craffu. Yn aml, caiff penderfyniadau yn y cynghorau hyn eu gwneud ymlaen llaw, mewn cyfarfodydd preifat gyda grwpiau mwyafrifol y tu ôl i ddrysau caeedig, cyn eu taflu at weddill y cyngor ar fyr rybudd. Nid yw eu pleidlais, eu barn, eu syniadau yn cyfrif.

Edrychodd astudiaeth y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ymhellach ar filoedd o gontractau'r sector cyhoeddus a chanfu fod y cynghorau un blaid hyn oddeutu 50 y cant yn fwy tebygol o ymroi i arferion llwgr na chynghorau gwleidyddol gystadleuol. Mae hynny'n ddrwg i ddemocratiaeth, yn ddrwg i bleidleiswyr ac yn ddrwg i bwrs y wlad. Mae dwsinau o wledydd wedi gwneud y newid, ac nid oes unrhyw un wedi newid yn ôl. Awstralia, Seland Newydd, Wcrain: mae pob un ohonynt wedi newid o system y cyntaf i'r felin i system fwy cyfrannol.

A dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad fy nghyfaill Heledd Fychan mewn ychydig, o'i phrofiad hithau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Pam does neb wedi symud yn ôl i'r system cyntaf i'r felin? Wel, oherwydd dyw'r system yna ddim yn ffit i ddemocratiaeth fodern. Mae'n rhaid inni symud o'r syniad bod gwleidyddiaeth yn frwydr, bod gan wleidyddiaeth enillwyr a chollwyr. Yn y teyrngedau hyfryd i Aled Roberts ddoe, gwnaeth pawb ei ddisgrifio fel gwleidydd trawsbleidiol, gwleidydd oedd yn barod i gydweithio ag eraill, a hynny sydd yn iawn, oherwydd proses, nid brwydr yw gwleidyddiaeth. Proses o rannu syniadau, proses o gydweithio, proses o adeiladu consensws rhwng grwpiau a phobl er mwyn ffeindio'r tir cyffredin yna er mwyn gwella bywydau pobl ein cymunedau ni.

Ac mae cydweithrediad, fel rwy’n falch o weld, wedi bod yn ganolog i'r Senedd hon o’r dechrau. Ni fu mwyafrif yn y Senedd hon erioed, gyda chlymbleidiau a chydweithredu yn rhan o'r patrwm arferol. Ac rwy’n falch o weld mai cytundeb cydweithio Plaid Cymru a Llafur yw’r ymgorfforiad diweddaraf o hynny. Yn ystod yr etholiad yn 2021, gwn fod llawer o sylwebwyr a llawer o wleidyddion yn Lloegr yn synnu at hyn, ond mae hon yn broses normal mewn gwirionedd. Mae cydweithredu'n broses normal mewn llawer o wledydd ar yr ynysoedd hyn, ledled Ewrop ac ar draws y byd. Mae'n arwain at lywodraethau gwell.

Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy’n ymwybodol iawn y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael dewis mabwysiadu system wahanol os ydynt yn dymuno gwneud hynny ar ôl yr etholiad ym mis Mai eleni. Ond bydd hyn yn creu system ddwy haen rhwng cynghorau, gyda rhai yn fodlon mabwysiadu a diwygio ac eraill yn dweud 'na'. Mae'n debyg fod rhai ohonoch yn y Senedd hon yn ddigon hen bellach i gofio pan oedd yn rhaid i bobl groesi ffiniau sirol i gael peint ar ddydd Sul. Roedd pobl o'r Hendy yn arfer croesi pont Llwchwr i gael peint ym Mhontarddulais. Wel, bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto yn awr. Bydd gennych un pentref lle mae'r papur pleidleisio yn cyfrif, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a phentref draw acw lle nad yw'n cyfrif i'r un graddau.

Rydym ni'n aml yn clywed yn y lle hwn am y diffyg sy’n pleidleisio, ac mae apathi gwleidyddol yn amlwg yn ein gwlad. Mae Sam Rowlands yn aml yn sôn am y diffyg pobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Ond un ffordd o ddelio â hynny yw sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei hadlewyrchu llawer yn well yn ein llefydd grym ni.

Mae democratiaeth dda yn adlewyrchu dewisiadau ei phleidleiswyr, nid 40 y cant ohonynt yn unig, ond cymaint ohonynt â phosibl. Os ydym am frwydro yn erbyn difaterwch gwleidyddol, mae angen inni helpu pobl i wneud y gorau o'u pleidleisiau a'u lleisiau.

Dywedodd John Stuart Mill—.

Dywedodd John Stuart Mill, yn ôl ym 1861, mai egwyddor gyntaf democratiaeth yw hyn: cynrychiolaeth yn gyfrannol â’r niferoedd. Heddiw, gadewch i ni, yn y Senedd hon, beidio â chaniatáu syniadau hen ffasiwn, peidio â chaniatáu rhagfarnau, peidio â chaniatáu i’r uchelgais am bŵer rwystro’r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol hon. Diolch yn fawr.

15:40

Diolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i Llyr Gruffydd a Jane Dodds am ei chyd-gyflwyno. Byddai'n well imi ddatgan buddiant yn awr fel cynghorydd sir presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, rwy’n frwd fy nghefnogaeth i lywodraeth leol, ac rwy’n falch iawn fod y maes pwysig hwn wedi’i godi yn y Senedd yma heddiw. A bod yn onest serch hynny, nid oeddwn lawn mor frwdfrydig pan welais gynnwys y ddadl o'n blaenau. Fel y dywed y cynnig, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno pa mor hanfodol yw hyn—gweld llawer o bobl yn cymryd rhan. Ac nid wyf wedi clywed o eto sut y mae gostyngiad yn y ganran sy’n pleidleisio yn yr Alban ers cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn beth da i ddemocratiaeth leol. Ond efallai y bydd yr Aelod am egluro hynny ychydig yn ddiweddarach.

Fe dderbyniaf ymyriad, Lywydd, os oes ganddo ddiddordeb.

15:45

Nid oes gan y ffaith bod y bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi'i chyflwyno yn yr Alban unrhyw beth i'w wneud â'r ffaith bod nifer y bobl sydd wedi pleidleisio wedi gostwng. Nid oes cysylltiad rhyngddynt o gwbl.

Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn, os felly, Lywydd, cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn fod y ganran sy'n pleidleisio wedi gostwng yn ddramatig ar yr adeg honno.

O ran mynd i'r afael â seddi diymgeisydd, sy’n rhan bwysig o’r cynnig hyd y gwelaf, ac sy'n sicr yn rhywbeth y credaf fod angen mynd i’r afael ag ef, credaf mai fy mhryder mwyaf gyda’r cynnig heddiw yw ei fod yn ymddangos fel pe bai’n ceisio mynd i'r afael â'r symptom yn hytrach na'r achos. Mae’n rhaid inni ddeall pam y ceir seddi diymgeisydd yma yng Nghymru. Ni chredaf mai'r ffaith bod gennym system y cyntaf i'r felin sydd ar fai. Ai'r system sy'n atal pobl rhag sefyll etholiad? Nid wyf yn siŵr am hynny o gwbl. Pe cynhelid arolwg o bobl Cymru yn gofyn beth yw rôl y cyngor, rwy'n siŵr y byddai llawer o bethau yno lle nad yw pobl yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r cyngor yn ei wneud ac yn gallu ei wneud drostynt a thros eu cymunedau. Y cynghorau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ac os gallwn ysbrydoli pobl i fod eisiau sefyll a chynrychioli eu cymuned, dyna fydd yn atal seddi diymgeisydd. Felly, yn fy marn i, yn hytrach nag edrych ar system etholiadol gwbl newydd yng Nghymru, dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar annog pobl i sefyll a gwneud gwahaniaeth i'w cymuned—pobl o bob cefndir. Dylem sôn am y rôl y gall unigolion a etholir yn lleol ei chwarae yn rhedeg eu hysgolion, yn sicrhau bod y rheini sy'n fwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi a sicrhau bod gan bobl fynediad gwych at fannau agored hyfryd. Bydd ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned yn lleihau nifer y seddi diymgeisydd.

Yn ogystal â hyn, rwy’n pryderu am rywfaint o’r gwrthddweud yn y cynnig heddiw, gan fod rhan o’r cynnig yn galw am system genedlaethol unffurf i ethol aelodau. Mae honno'n bodoli eisoes. Mae gennym system genedlaethol unffurf ar gyfer ethol cynghorwyr, sef system y cyntaf i'r felin. Mae pwynt 2 yn y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorwyr newydd a etholir ym mis Mai 2022. Mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig er mwyn caniatáu i gynghorau gael y trafodaethau iawn gyda Llywodraeth Cymru, ac yn sicr, byddwn yn cefnogi’r ymgysylltu parhaus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r cynnig yn sôn wedyn am sicrhau dull cynrychioliadol, a oedd braidd yn ddryslyd i mi, a dweud y gwir. Hoffwn ddeall sut nad yw ein dull etholiadol yn gynrychioliadol ar hyn o bryd. Mae ein system etholiadol yn caniatáu i bobl o bob cefndir sefyll etholiad yn eu ward leol ac yn ardal eu cyngor lleol. Yn ogystal â hyn, mae system bresennol y cyntaf i'r felin yn sicrhau atebolrwydd clir. Mae pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio. Gallai newid etholiadol atal pobl ymhellach rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol. Rwy’n sicr yn cytuno bod angen gwneud mwy i sicrhau ein bod yn gweld pobl o bob cefndir mewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â'n system etholiadol. Yn hytrach, fel rwyf eisoes wedi'i nodi, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb gwirioneddol a rôl bwysig y cynghorau, a'r boddhad y gall cynrychioli eich cymuned leol ei gynnig.

I gloi, Lywydd, mae'r cynnig hwn yn ymdrin â symptomau yn hytrach nag achos rhai o’r heriau a welwn mewn democratiaeth leol. Nawr yw’r amser i ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb a chyfleoedd cynghorau a’r gwaith ardderchog y maent yn ei wneud ac y gallant ei wneud. Felly, mae angen inni annog pob rhan o gymdeithas i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a’r boddhad o gynrychioli eu cymunedau lleol. Yng ngoleuni hyn, Lywydd, ar yr ochrau hyn i’r meinciau, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r system bresennol yn golygu wardiau cymharol fach ar y cyfan a mwy o gyswllt rhwng yr etholwyr a'r etholedig. Mae'n golygu, pan fyddwch yn mynd allan i brynu eich papur newydd, yn mynd i siopa, yn ymweld â chlwb chwaraeon lleol, neu'n cerdded ar hyd y stryd, eich bod yn rhyngweithio â phleidleiswyr. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system etholiadol a hyrwyddir gan lawer sydd o blaid math o gynrychiolaeth gyfrannol. Fe'i defnyddir ar gyfer etholiadau cyngor yr Alban ac etholiadau Senedd Iwerddon, y Dáil. Wrth ethol mwy nag un ymgeisydd, mae system y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn mynd yn gymhleth, ond un ymgeisydd yn unig sy'n cael ei ethol yn system y bleidlais amgen. Gwendid mwyaf y bleidlais sengl drosglwyddadwy i bleidiau gwleidyddol yw bod yn rhaid ichi ddyfalu faint o seddi y gallwch eu hennill wrth enwebu ymgeiswyr.

Mae gan y dewis olaf y bydd pleidleisiwr yn ei wneud, os caiff eu holl ddewisiadau uwch eu diystyru, yr un gwerth â dewis cyntaf pleidleisiwr arall. A yw'n gweithio fel system gyfrannol? Wel, yn etholiad cyffredinol Iwerddon yn 2020, ni wnaeth Sinn Féin ennill mwyafrif o'r seddi er iddynt gael y nifer fwyaf o bleidleisiau dewis cyntaf ledled y wlad. Er iddynt guro Fianna Fáil o 535,995 i 484,320, cawsant un sedd yn llai yn y pen draw. Cymerodd 12,745 o bleidleisiau i ethol pob Aelod o Fianna Fáil, ond 14,476 i ethol Aelod o Sinn Féin. Disgrifiodd y newyddiadurwr Gwyddelig, John Drennan, y sefyllfa fel 11 sedd a adawyd ar ôl gan Sinn Féin am nad oedd ganddynt ddigon o ymgeiswyr. Fe wnaethant ddyfalu'n anghywir faint o seddi y gallent eu hennill, ond pe byddent wedi dyfalu'n anghywir y ffordd arall, gallent fod wedi cael llai o seddi yn y pen draw.

Felly, mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn fwy o gêm ddyfalu gelfydd na system gyfrannol, lle mae gwneud pethau'n anghywir yn gallu golygu llai o seddi nag y dylech eu cael yn gyfrannol. A oes unrhyw syndod fod yr Alban yn ei defnyddio ar gyfer etholiadau cyngor ond wedi penderfynu peidio â'i defnyddio ar gyfer Senedd yr Alban? Os ewch i wefannau cynghorau'r Alban, gallwch weld pa mor fawr yw seddi cyngor o ran arwynebedd a phoblogaeth. O'r 21 ward yn ardal Cyngor yr Ucheldir, Wester Ross, Strathpeffer a Lochalsh yw'r enghraifft orau o faint y wardiau cyngor sydd eu hangen mewn ardaloedd gwledig o dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Dyma'r ward etholiadol fwyaf yn y DU, ac mae hefyd yn fwy ar ben ei hun o ran arwynebedd na 27 o'r 32 o gynghorau yn yr Alban. Mae'n bron yn un rhan o bump o holl arwynebedd Cyngor yr Ucheldir, ac mae oddeutu'r un maint â Trinidad a Tobago.

Yn lle ucheldiroedd yr Alban, meddyliwch am Bowys, meddyliwch am Geredigion, meddyliwch am Wynedd. Meddyliwch am rai o'r ardaloedd hyn—a sir Benfro—lle mae'r boblogaeth yn wasgaredig, ac yna am y boblogaeth sydd ei hangen yn y wardiau hyn i alluogi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy i weithredu'n effeithiol. Mae gan ward 1 Glasgow, Linn, boblogaeth o 30,000, sef oddeutu dwy ran o dair o boblogaeth etholaeth Aberconwy yn y Senedd. Yn Glasgow Govan, etholwyd pedwar ymgeisydd, gyda Llafur yn dod i'r brig yn weddol gyfforddus gyda 1,520 o bleidleisiau, a'r SNP yn dod yn ail ac yn drydydd gyda 1,110 a 1,096 o bleidleisiau yr un. Curodd ymgeisydd y blaid Werdd yr ail ymgeisydd Llafur, a gafodd 572 o bleidleisiau dewis cyntaf, i ennill y bedwaredd sedd. Er bod yr SNP, yn effeithlon, wedi cael y dewis cyntaf ar gyfer y ddau ymgeisydd yn agos iawn at ei gilydd, ni lwyddodd Llafur i wneud hynny, ac felly, er iddynt dod i'r brig yn gyfforddus, un o'r pedair sedd yn unig a gawsant yn y pen draw.

Mae'r system yn golygu bod aelodau o'r un blaid yn ymladd yn erbyn ei gilydd, neu bleidiau'n derbyn un sedd yr un mewn wardiau tri aelod. Nid democratiaeth yw hynny. Mae hyn yn wir am etholiadau cyngor ledled yr Alban. Mae'n rhaid penderfynu 'ble y gallwn ennill un neu ddwy sedd?', ond os ydych yn mynd am ddwy neu dair, mae'n bosibl y gallech gael un neu ddim yn y pen draw, oni bai bod eich pleidleiswyr yn pleidleisio’n effeithlon, fel a ddigwyddodd gyda'r SNP yn Govan.

I grynhoi, mae angen i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy gwmpasu ardal ddaearyddol fawr, mae angen poblogaeth fawr arni, mae'n golygu dyfalu nifer y seddi yr ydych yn mynd i'w hennill, pleidleiswyr yn pleidleisio'n effeithlon dros y blaid, ac mae'n ei gwneud yn llawer anos i etholwyr adnabod yr ymgeiswyr. O ran wardiau bach, cynrychiolais ward sirol o ychydig dros 4,000 o etholwyr ac roeddwn yn adnabod eu chwarter, mae'n debyg. Pan fydd gennych wardiau o 30,000, nid oes unrhyw un yn mynd i gyrraedd y lefel honno. Mae gennych sedd yn yr Alban, ac nid yr un a grybwyllais—un arall—lle mae'n cymryd tair awr i fynd o'r orsaf bleidleisio bellaf i leoliad y cyfrif, ac mae'n cynnwys un daith ar gwch hefyd. Credaf fod hynny'n chwerthinllyd. Rydym eisiau system sy'n gweithio, ac sy'n gweithio i ni. Mae'n bwysig iawn ei gwneud yn anos i etholaethau fethu cael ymgeiswyr—mae ymgeiswyr yn bwysig. Nid dim ond cario baner y pleidiau y maent yn ei wneud.

Yn olaf, fel y mae Iwerddon wedi'i ddangos, nid yw'n gyfrannol â'r bleidlais. Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands, a ydych yn cofio pan gawsom ostyngiad mawr yn y ganran a bleidleisiodd? Roedd hynny ar gyfer etholiadau Ewrop pan aethom o system etholaethau i system Cymru gyfan. Yn fy ardal i, roedd pobl yn adnabod Dai Morris. Cyrhaeddodd bwynt cyn iddo orffen lle nad wyf yn credu y gallai unrhyw un fod wedi enwi pob un o bedwar cynrychiolydd Cymru oni bai eu bod yn hynod weithgar yn wleidyddol.

15:50

Credaf mai’r cwestiwn allweddol i mi yn y ddadl hon yw: a yw ein democratiaeth yn gweithio yn awr? [Torri ar draws.] Byddwn yn dadlau nad ydyw, gan nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth. Credaf fod angen inni ofyn beth y mae’r system yn ei olygu os yw'n atal pobl rhag sefyll. Sam, rydych wedi siarad yn nhermau 'a fyddai hyn yn gwneud gwahaniaeth?' Wel, mewn gwirionedd, pan ofynnwch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol pam nad ydynt yn teimlo'n ddigon cyfforddus i sefyll, mae hynny'n aml oherwydd y dull ymosodol o gynnal ymgyrchoedd etholiadol, neu oherwydd eu bod yn credu nad oes diben iddynt sefyll. Oherwydd bob tro y gwelwn y math o ddull cyntaf i’r felin, mae’n ymwneud â dychryn pobl i geisio pleidleisio mewn ffordd benodol drwy ddweud, 'Nid oes diben pleidleisio dros y blaid honno. Pleidleisiwch fel hyn.' Mae'n ddull gwahanol iawn o ymgyrchu os oes angen ichi frwydro am yr ail, y trydydd, a'r pedwerydd dewis.

Hefyd, i ymateb i’ch pwynt, ar etholiadau’r Alban a’r ganran sy'n pleidleisio, fe fyddwch yn gwybod na allwn ddewis a dethol ein ffeithiau. Cynhaliwyd etholiad 2007 ar yr un pryd ag etholiadau seneddol yr Alban, felly roedd bob amser yn mynd i fod yn is, ac roedd hynny i’w ddisgwyl. Mewn gwirionedd, roedd y ganran a bleidleisiodd yn uwch na’r disgwyl, a gallwn weld o nifer y pleidleisiau a ddifethwyd yno fod pobl yn deall y system, gan ei bod yn llawer haws deall y gallwch roi eich dewis cyntaf i’r blaid, hyd yn oed os yw’n annhebygol o ennill, fel arfer—y gallwch bleidleisio â'ch calon a'ch cred, yn hytrach na cheisio dyfalu pa ganlyniad y gallai'r system arwain ato.

Fel y soniodd Rhys ab Owen wrth agor y ddadl hon, mi gefais brofiad o system fwy cyfrannol pan oeddwn i'n byw yn Iwerddon ac yn sefyll mewn etholiadau yno ar gyfer etholiadau swyddogion sabothol undeb myfyrwyr fy mhrifysgol a hefyd undeb myfyrwyr cenedlaethol Iwerddon. System STV oedd honno, oedd yn golygu bod yn rhaid ymgyrchu mewn modd hollol wahanol i sut rydym yn arfer ymgyrchu mewn system cyntaf i'r felin. Roedd yn rhaid gweithio'n galed am bob un bleidlais, ac nid dim ond y bleidlais gyntaf ond hefyd pob un arall ar ôl hynny. Mae hi'n arddull hollol wahanol o ymgyrchu ac yn gorfodi rhywun i fod llawer mwy cadarnhaol oherwydd mae'n rhaid ichi berswadio hyd yn oed pobl sydd ddim yn mynd i roi'r bleidlais gyntaf yna ichi eich bod chi'n haeddu'r ail.

Mewn system cyntaf i'r felin, yn aml—ac mae pob plaid yn euog o hyn—mae yna duedd i drio pwyso'r bobl i beidio â gwastraffu'r un bleidlais sydd ganddynt, gan geisio eu hannog neu eu dychryn i bleidleisio dros blaid sydd yn fwy tebygol o atal y blaid maen nhw'n anghytuno gyda fwyaf rhag cael eu hethol. Rydyn ni i gyd wedi gweld y posteri, 'Only the Lib Dems, Labour or Plaid Cymru can win here to keep the Tories out', er enghraifft. Mae pob plaid yn gwneud hyn. Rydyn ni i gyd wedi eu gweld nhw. Ac mae hyn, yn aml, yn gweithio, yn anffodus, neu'n golygu—a dyma'r pwynt pwysig—nad yw pobl yn trafferthu pleidleisio oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld pwynt pleidleisio dros y blaid maen nhw'n teimlo'n agosaf ati. Maen nhw'n meddwl ei bod hi'n done deal a bod yna ddim diben pleidleisio. Ydy hyn yn ddemocrataidd? Nac ydy. Os ydym o ddifrif o ran creu democratiaeth sy'n fwy cynrychioliadol ac sy'n ysgogi pobl i fod eisiau pleidleisio ac yn gweld pwynt pleidleisio ac sydd eisiau sefyll i fod yn ymgeisyddion, yna byddai hyn yn gam enfawr ymlaen. A heb os, os yw am weithio, mae angen system genedlaethol unffurf fel bod cysondeb ledled y wlad. 

Mae cysondeb yn bwysig. Wedi'r cyfan, fe welsom anghysondeb mawr o ran y niferoedd o bobl ifanc oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ym Mai 2021, yn amrywio o 68.6 y cant ym Mro Morgannwg i 31.73 y cant yn Abertawe, gan olygu nad oedd 54 y cant o bobl ifanc wedi pleidleisio. Anogaf fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw am y rhesymau hyn. Dydy'r system bresennol ddim yn gweithio. Mae gennym ni gyfle i wneud system sy'n fwy cyfrannol, yn dod â mwy o bobl i mewn i'n gwleidyddiaeth ni ac yn gwneud i bobl fod eisiau pleidleisio. Diolch i Rhys am ddod â'r mater gerbron y Senedd. 

15:55

Rydym wedi clywed llawer o ddadleuon, ond credaf fod angen inni fynd yn ôl. Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021 am y tro cyntaf, ac eleni, wrth gwrs, fydd y tro cyntaf y byddant yn gallu pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Os edrychwch ar y ffigurau, o'r 65,000 o bobl ifanc 16 i 17 oed a oedd yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ychydig llai na'u hanner a gofrestrodd i bleidleisio, ac mae hynny’n hynod siomedig. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain ein bod yn dal i fod, a'n bod bryd hynny, ynghanol pandemig byd-eang, a byddai hynny, wrth gwrs, wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc a gofrestrodd ac a bleidleisiodd wedi hynny. Yn ogystal, roedd cyfyngiadau ar waith a'i gwnaeth yn anos, yn ddealladwy, i ymgysylltu â phobl ifanc. Felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i annog pobl ifanc i gymryd rhan ac i bleidleisio yn yr etholiad penodol hwn, yr un cyntaf y mae ganddynt gyfle i i wneud hynny.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig fod ein negeseuon yn glir iawn eu bod yn pleidleisio ar eu dyfodol eu hunain, a bod eu llais yr un mor bwysig â llais eu rhieni neu eu neiniau a'u teidiau. Dywedwyd yma heddiw eisoes fod llywodraeth leol yn rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, ac mae hynny oll yn effeithio ar bobl ifanc yn uniongyrchol. Mae'n bwysig eu bod yn cael dweud eu barn ar sut y caiff y cyllidebau hynny a'r materion hynny eu blaenoriaethu ar lefel leol, ac yn anad dim, eu bod yn gallu cyfrannu at hynny drwy fynegi barn yn y blwch pleidleisio.

Rwyf am drafod y rhesymau pam nad yw pobl yn pleidleisio. Felly, yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, ysgrifennwyd adroddiad Prifysgol Nottingham Trent, ‘Making Votes-at-16 Work in Wales’, ac roedd yn awgrymu nifer o argymhellion i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc, mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd. Ac un ohonynt oedd cael gwared ar y rhwystrau ymarferol i bleidleisio sy’n benodol i bleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais, a’i gwneud yn haws i’r bobl ifanc hynny bleidleisio. Er enghraifft, meddent, treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, osgoi trefnu etholiadau yn ystod cyfnodau arholiadau, a lleoli gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion neu golegau. Felly, rwy'n awyddus i wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r argymhellion penodol hynny.

Ond credaf ei bod yn bwysig crybwyll Bil Etholiadau Llywodraeth y DU 2021-22 hefyd, gan ein bod yn sôn am etholfreinio pobl, nid eu difreinio. Ac os yw'r Bil hwnnw'n llwyddo, byddant yn sicrhau bod yn rhaid i bobl gael cerdyn adnabod â llun er mwyn pleidleisio, ac mae'n mynd i 'helpu i gael gwared ar dwyll pleidleiswyr'. Wel, credaf fod hynny ychydig yn anghymesur o ystyried, o'r 58 miliwn o bobl a bleidleisiodd—58 miliwn—mai dim ond 33 o honiadau o bersonadu mewn gorsafoedd pleidleisio a gafwyd yn 2019. Ni allaf feddwl am enghraifft well o ddefnyddio morthwyl i dorri cneuen. Felly, ni fydd y Bil hwnnw’n berthnasol, wrth gwrs, yn yr etholiadau llywodraeth leol neu etholiadau’r Senedd, ond bydd yn berthnasol i Gymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Felly, rydym yn sôn yma heddiw am etholfreinio pobl. Mae angen inni edrych ar beth sy’n eu difreinio, ac rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y system bleidleisio. Ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw gan fy mod am gael—[Torri ar draws.] Wel, rwyf am gael trafodaeth bellach yn ei gylch, ond hoffwn ddweud yn glir fy mod yn agored i’r trafodaethau pellach hynny, ac nid yw bob amser yn wir y bydd un system yn cynhyrchu canlyniad gwahanol. Ac mae’n wir fod rhai pobl yn teimlo eu bod wedi’u difreinio’n llwyr rhag sefyll, ac mae menywod yn brin, fel y mae pobl ifanc, mewn llywodraeth leol. Ac mae angen inni edrych ar y rhesymau am hynny.

Fel y gwyddoch, roeddwn yn gynghorydd yn sir Benfro, a fi oedd yr unig fenyw am y ddau dymor cyntaf—naw mlynedd—ym Mhreseli Sir Benfro. Ac rwy'n cofio curo ar y drws a dynes yn dweud wrthyf, 'Roeddwn yn aros i'r dyn alw', a dywedais wrthi, 'Wel, fi sydd gennych chi.' [Chwerthin.] A chefais lwyddiant mewn etholiad agos. Felly, gadewch inni newid y ddadl.

16:00

Diolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r cynnig yma heddiw. Ni fydd yn synnu neb fy mod i'n siarad o blaid y cynnig yma. 

Nid oes yr un ohonom am gael system etholiadol sy'n gwarantu seddi diogel, yn gwarantu mwyafrifoedd enfawr am lai na 50 y cant o'r bleidlais, a system sy'n meithrin rhaniadau gwleidyddol a diffyg diddordeb mewn pleidleisio. Mae pawb ohonom am sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif. Ac rydym i gyd yn gweithio'n galed i gael pobl i sefyll, ac i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn etholiadau ac yn pleidleisio. Felly, rwy'n herio pwyntiau Sam Rowlands. Rydym yn gweithio'n galed iawn, ac rydym wedi gwneud hynny ers blynyddoedd, er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb pobl.

Ac fel rydych wedi clywed ar yr ystadegau, nid yw'n helpu mewn gwirionedd. Yn syml, mae trefn y cyntaf i'r felin yn amddifadu pleidleiswyr o gynrychiolaeth ystyrlon go iawn, a hefyd yn eu difreinio rhag pleidleisio. Gall system fwy cyfrannol ar gyfer pob etholiad, gan gynnwys etholiadau cyngor, feithrin mwy o gydweithio, mwy o atebolrwydd a bydd yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Credwn fod diwygio etholiadol, newid i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, yn rhan hanfodol o'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn cymryd mwy o ran yn ein democratiaeth. Ac nid pleidleisiau mewn blwch pleidleisio yn unig sy'n gwneud democratiaeth. Gallwn fynd ymhellach. Beth am gynulliadau a rheithgorau dinasyddion, a chyllidebu cyfranogol hefyd? Gallant ddod â phobl yn nes at gymryd rhan mewn democratiaeth. 

Gadewch inni gyd wneud yn siŵr bod pob pleidlais yn cyfri.

Rydym i gyd am weld pob pleidlais yn cyfrif, a sicrhau bod pobl yn fwy hyderus yn eu democratiaeth. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol nawr i gyfrannu at y ddadl—Rebecca Evans.

Diolch, Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl ragorol iawn, ac rwyf wedi mwynhau gwrando ar y gwahanol safbwyntiau. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i siarad am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei olygu i ddemocratiaeth leol yma yng Nghymru, gan ddarparu, fel y gwna, ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu.

Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Ddeddf yn seiliedig ar alluogi, annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol, ac i roi mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal. Byddai'r hyn sy'n cael ei awgrymu yma heddiw yn gosod un system etholiadol ar brif gynghorau, beth bynnag y bo barn y cyngor hwnnw neu'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Felly, yn y cyd-destun hwn, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn nodi'r darpariaethau sy'n ymestyn y bleidlais mewn etholiadau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Dyma ddau o'r newidiadau pwysicaf y mae'r Ddeddf wedi'u cyflwyno. Gall rhai 16 ac 17 oed adael cartref ac ymuno â'r fyddin, ac felly mae'n gywir ac yn gyfiawn ein bod yn rhoi llais iddynt ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn rhoi cyfle gwerthfawr inni osod unigolyn ifanc ar ddechrau'r daith ddemocrataidd gyda'r offer cywir.

Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai pobl sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymunedau gael llais yn nyfodol y gymuned honno. Credwn mai'r prawf i ddangos a yw rhywun yn cael cymryd rhan mewn etholiadau lleol yw a ydynt yn preswylio'n gyfreithlon yma yng Nghymru, ac eisiau cyfrannu at ein cymdeithas. Nid oes angen i ddamweiniau dinasyddiaeth fod yn ystyriaethau perthnasol i'r prawf hwn.

Yn bwysig, am y tro cyntaf, cyflwynodd Deddf 2021 ddyletswydd ar lywodraeth leol hefyd i annog y cyhoedd i gyfrannu eu safbwyntiau ar benderfyniadau i'w cynghorau, gan gynnwys y broses o ddatblygu polisi. Mae democratiaeth yn fwy nag etholiadau, ac mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad rhwng y canfyddiadau o allu cyfyngedig i ddylanwadu ar ganlyniadau a nifer isel o bleidleiswyr. Nod y Ddeddf yw mynd i'r afael â hyn drwy osod dyletswyddau penodol ar brif gynghorau a fydd yn cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol ac yn gwella tryloywder.

Fel y dywedais, mae'r Ddeddf yn seiliedig ar egwyddorion hwyluso cyfranogiad a dewis mewn democratiaeth. Yn unol â hyn, mae'n galluogi prif gynghorau i newid y system bleidleisio y maent yn ei defnyddio. Prif gynghorau, pobl leol a chymunedau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu orau i anghenion eu cymunedau. Mae cyflwyno dewis lleol yn cefnogi'r egwyddor o wneud penderfyniadau ar lefel fwy lleol, ac yn caniatáu i gynghorau adlewyrchu'r gwahanol anghenion a demograffeg ar draws rhannau o Gymru.  

Ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2022, bydd prif gynghorau'n cael dewis pa system bleidleisio y maent am ei defnyddio—naill ai'r cyntaf i'r felin, neu system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd pob cyngor yn parhau i ddefnyddio system y cyntaf i'r felin oni bai eu bod yn penderfynu newid. Byddai newid o'r fath yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair, sydd yr un fath â'r hyn sy'n ofynnol i newid system bleidleisio'r Senedd. Yna, byddai angen i unrhyw gyngor sy'n dewis newid ddefnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy rownd nesaf o etholiadau arferol, ac ar ôl hynny gallai benderfynu a ddylid newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol.

Byddai'r gweithdrefnau a nodir yn Neddf 2021 hefyd yn gymwys pe bai'r cyngor yn argymell newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol. Mae'n bwysig nodi y byddai'n rhaid i brif gyngor ymgynghori â'r bobl yn eu hardal sydd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad llywodraeth leol, pob cyngor cymuned yn yr ardal, a phobl eraill y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, cyn y gall arfer ei bŵer i newid systemau pleidleisio.

Rydym yn credu mewn dewis lleol. Ar ôl rhoi'r gallu i brif gynghorau, gan weithio gyda'u cymunedau, ddewis pa system bleidleisio sy'n gweithio orau iddynt, byddai'n amhriodol i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a phenderfynu pa system bleidleisio sy'n gweithio orau, a gosod y system honno ledled Cymru heb ystyried safbwyntiau lleol. 

16:10

Diolch. Ar y pwyntiau yr ydych newydd eu codi am yr ymgynghoriad hwnnw, gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau pwysig iawn ynghylch pa mor denau eu poblogaeth y gallai rhai o'r ardaloedd hyn fod, ac felly'r risg, gyda chynrychiolaeth gyfrannol, o golli'r cyffyrddiad lleol hwnnw, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ardal mor fawr ei chwmpas, ac mae hanfodion cynghorau a chynghorwyr mewn gwirionedd yn ymwneud â bod mewn cysylltiad â'u cymunedau. A fyddech yn derbyn bod honno'n risg gyda'r cynigion a glywsom heddiw?

A yw honno'n risg gyda'ch sedd chi, Sam—yn rhanbarth Gogledd Cymru?

Lywydd, rwy'n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i siarad yn fy ymateb am y manteision neu'r anfanteision a welaf gyda'r naill system bleidleisio neu'r llall, oherwydd credaf yn wirioneddol mai mater i awdurdodau lleol yw penderfynu drostynt eu hunain, ond wrth gwrs, bydd y materion y mae Sam Rowlands wedi'u disgrifio ym meddwl yr awdurdodau lleol hynny, fel y bydd y materion eraill a godwyd y prynhawn yma.

Mae'r cynnig yn gwneud sylw ar y system etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yr Alban, ac wrth gwrs, gwnaeth Senedd yr Alban eu dewis, a byddem yn parchu hynny wrth reswm, ond rydym wedi deddfu yma yng Nghymru i ganiatáu i bob awdurdod lleol bwyso a mesur y dadleuon hynny drostynt eu hunain a dewis a yw'n well ganddynt y bleidlais sengl drosglwyddadwy neu system y cyntaf i'r felin, a chredaf fod y dewis lleol hwnnw'n hollbwysig yma. 

Felly, i gloi, drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer mwy o amrywiaeth a dewis mewn democratiaeth leol, ac mae hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau lleol, cyflwyno dyletswydd ar lywodraeth leol i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a rhoi'r dewis i bob prif gyngor pa system bleidleisio sy'n gweddu orau i anghenion eu cymunedau. Byddai ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu am gadw'r dewis hwnnw, a chredaf y byddai'n gwbl groes i'n hegwyddorion diwygio etholiadol i geisio hyrwyddo neu osod un system sengl ledled Cymru gyfan. Diolch i fy nghyd-Aelodau am ddadl ragorol iawn.

Gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, braidd, ond fe wnaf i drio ymateb i rai o'r pwyntiau sydd ddim wedi cael ymateb iddyn nhw.

Mae'n dda gweld bod Gareth Davies wedi dod nôl i'r Siambr ar ôl gadael am y rhan fwyaf o'r drafodaeth ar ôl gwneud ei ymyriad. Mi fyddai wedi bod yn handi ichi fod yma i glywed y ffaith, wrth gwrs, taw dim ond tair sedd sydd wedi cael eu hymladd yn ddiwrthwynebiad—wel, dydych chi ddim yn ymladd seddi, ond rŷch chi'n gwybod beth dwi'n meddwl—yn yr Alban ers 2007. Pymtheg mlynedd—tair sedd ddiwrthwynebiad. Cawsom ni bron i 100 o seddi diwrthwynebiad yng Nghymru dim ond yn yr etholiad diwethaf. Felly, mae e yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan fo'n dod i hynny, ac mae hi yn siomedig bod Sam Rowlands wedi trio camddehongli, efallai, dywedwn ni, ie, y cwymp yn y bleidlais, fel esboniodd Heledd Fychan. Fe allaf i rannu dadansoddiad gan yr LSE os ydy e eisiau—

Sam Rowlands a gododd—

Mae'n ddrwg gennyf am ymyrryd eto, ond rwyf am fod yn glir: roedd y niferoedd a rannais ar gyfer cyfnod o bedair blynedd. Nid oeddwn yn dewis blynyddoedd unigol. Felly, y gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd flaenorol, neu'r ddau etholiad cynt a'r ddau etholiad wedyn oedd y niferoedd y dyfynnais 8 y cant ar eu cyfer.

Wel, gallaf ddyfynnu Ysgol Economeg Llundain yn ôl atoch, ond fe rannaf y ddolen â chi, ac mae'n eithaf clir mai'r honiad cyntaf a wneir yn aml yw bod y defnydd o'r bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi arwain at nifer isel o bleidleiswyr, ac mae hynny'n gwbl anghywir. Felly, mae'n debyg ei fod yn fater o gelwyddau, celwyddau melltigedig, ac ystadegau yn ein hachos ni'n dau, felly, onid yw?

Clywaf yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am faint wardiau, ond wyddoch chi beth, edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ynys Môn? Nawr, gwn nad yw'n gynrychiolaeth gyfrannol, ond oherwydd y sefyllfa yr oedd Ynys Môn ynddi flynyddoedd yn ôl, gyda wardiau un aelod ac yn y blaen, a'r math o faenoriaethau a oedd yn llesteirio'r cyngor mewn gwirionedd, y Llywodraeth Lafur hon a ymyrrodd. Ni roesant ddewis iddynt symud neu newid. I bob pwrpas, cawsant eu rhoi dan drefn mesurau arbennig fel cyngor, ac fe'u gorfodwyd i gyflwyno wardiau aml-aelod ar ôl troed llawer mwy. A wyddoch chi beth? Mae'r cyngor wedi'i drawsnewid o ran democratiaeth. Mae wedi'i drawsnewid. Mae wedi gwella ychydig o ran cynrychiolaeth—nid yw lle mae angen iddo fod. Ac mae gennych chi wardiau tri aelod. Maent yn fwy, ond mae Ynys Môn yn ardal eithaf gwledig hefyd, felly nid wyf yn credu bod angen i hynny fod yn unig reswm dros beidio â symud tuag at fath gwahanol o ôl troed, a chredaf efallai fod angen inni ystyried rhai o'r penderfyniadau a wnaeth Llywodraethau Llafur blaenorol yn y ddadl hon hefyd.

Dechreuodd Jane Dodds drwy ofyn, 'Nid oes yr un ohonom am gael system sy'n gwarantu seddi diogel.' Mae'n swnio yn debyg i hynny i mi ar adegau, braidd, ond—.

Mi basiwyd Deddf Llywodraeth—

Mike Hedges a gododd—

Na, mae'n ddrwg gennyf, Mike—rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn. 

Mi basiwyd y Ddeddf, sy'n caniatáu symud i gynrychiolaeth gyfrannol, dwi'n deall hynny, ond y cwestiwn dwi'n ei ofyn, a beth dwi ddim wedi'i glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb, yw: so beth sy'n mynd i yrru'r newid yna? Ble mae'r cymhelliad i gynghorau i fynd i'r afael â hyn go iawn? Mi glywyd y term 'twrcis a Nadolig', ac mae’n wir, ond yw e? Opsiwn yw e, a dwi'n ofni ei bod hi'n annhebygol o ddigwydd, a lle mae e'n digwydd, bydd e'n digwydd yn ynysig; mi fydd e'n golygu bod un rhan o, efallai, rai cymunedau yn defnyddio un system a rhan arall yn defnyddio system arall.

Ac un peth rŷn ni yn gwybod, os oes shifft yn digwydd i gyfundrefn arall, mae yna broses, ac mae angen gwaith addysgu pobl i sicrhau bod pobl yn deall beth yw'r broses newydd. Wel, os oes un rhan yn gwneud un peth a rhan arall yn gwneud rhywbeth arall, mae'n gwneud hynny lawer iawn yn anoddach, sy'n golygu bod y broses i raddau yn cael ei thanseilio ychydig cyn ei bod hi'n cychwyn, ac mae hynny'n mynd i olygu bod awdurdodau lleol hyd yn oed yn llai parod i newid.

Felly, mi ellid fod wedi annog a sicrhau bod awdurdodau lleol yn symud i’r model yna, ond mi fethwyd, ac rŷn ni yn gorffen, wrth gwrs, gyda sefyllfaoedd—fel y mae sawl siaradwr wedi dweud—lle mae pleidlais mewn un gymuned yn cyfrif mwy na phleidlais mewn cymuned arall, ac mae pobl yn mynd i bleidleisio nid o blaid yr ymgeisydd A y maen nhw eisiau ei gefnogi, ond o blaid ymgeisydd B, oherwydd mae hynny'n golygu dyw ymgeisydd C ddim yn mynd i ennill. Felly, maen nhw'n pleidleisio yn erbyn rhywun, yn hytrach nag o blaid rhywun arall. Mi gollwyd cyfle gyda'r Ddeddf.

A jest i gloi, felly, dwi eisiau gweld ambell i beth yn dod o gyfeiriad y Llywodraeth nawr, achos, yn amlwg, dŷch chi ddim yn mynd i gefnogi'r cynnig yma. Mae angen cefnogi a chreu cymhelliad i gynghorau i newid eu system bleidleisio. Mae angen i’r Llywodraeth yrru'r sgwrs a'r drafodaeth yma, yn hytrach na jest gadael e i ddrifftio. Mae angen hefyd wedyn ymrwymo i gefnogi’r gofynion gweinyddol fydd yn dod yn sgil y newid a’r costau fydd yn dod yn sgil y newid yn y lle cyntaf, nes eu bod nhw wedi cael eu 'embed-o' mewn i fod yn rhan o broses ehangach, a hefyd mae yna job o waith i’w wneud i gyfathrebu i etholwyr lle mae yna newid yn digwydd. A man lleiaf, ar gefn y ddadl yma, mi fyddwn i'n gobeithio bod y Llywodraeth yn barod ymrwymo i hynny.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel

Eitem 6 yw'r eitem nesaf, y ddadl ar ddeiseb i arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y Bont-faen rhag ei dymchwel. Galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM7924 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-05-949 'Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel' a gasglodd 5,522 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon ym mis Mawrth 2020 gan Sara Pedersen, ar ôl casglu 2,080 o lofnodion ar-lein a 3,442 o lofnodion ar bapur, ac rwy'n siŵr bod egin fathemategwyr ar draws y Siambr eisoes wedi cyfrifo'r cyfanswm o 5,522 o lofnodion. Lywydd, mae testun y ddeiseb yn dweud:

'Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y Bont-faen, Bro Morgannwg. Hon oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i gael ei hadeiladu yn benodol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru (a Lloegr), ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w dymchwel. Byddai methu ei gwarchod yn arwain at golli adeilad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol.'

Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r Pwyllgor Deisebau yn ymyrryd mewn materion cynllunio, ond roedd y cwestiwn a ddylai'r adeilad fod wedi'i restru gan Cadw a galwad y deisebydd am adolygiad annibynnol o'r penderfyniad hwnnw yn un y gallem weithredu arno. Yn ystod y pumed Senedd, cytunodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd flaenorol, o dan arweiniad rhagorol fy rhagflaenydd yn y gadair, Janet Finch-Saunders, i ofyn am ddadl, ond gan fod busnes y Senedd wedi'i gyfyngu oherwydd y pandemig, nid oedd yn bosibl cynnal y ddadl honno.

Mae cefnogwyr y ddeiseb yn dadlau bod yr ysgol, a gynlluniwyd gan y pensaer Robert Williams, yn

'[d]ystiolaeth amlwg a deniadol o gyfnod pwysig yn hanes Cymru pan ddarparwyd cyfleoedd cyfartal i ferched difreintiedig yr oes'.  

Lywydd, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at Weinidogion diwylliant olynol, sydd wedi amddiffyn penderfyniad Cadw a'u proses. Ysgrifennodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 2020, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:

'Mae fy swyddogion wedi ystyried yr holl ddadleuon a gyflwynwyd ar gyfer rhestru'r adeilad yn ofalus iawn ond mae arnaf ofn nad yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ei restru ar y lefel genedlaethol.'

Yn dilyn ceisiadau pellach gan yr ymgyrchwyr am adolygiad o benderfyniad gwreiddiol Cadw, fe wnaeth y Gweinidog, 

'ofyn am gyngor annibynnol gan Richard Hayman, hanesydd adeiladau ac archeolegydd sydd ag arbenigedd penodol mewn adeiladau hanesyddol yng Nghymru'.

Aeth y Gweinidog rhagddo i gefnogi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad. Yn y Senedd hon, ysgrifennodd y pwyllgor newydd at y Gweinidog presennol, Dawn Bowden, a fydd yn ymateb i'r ddadl heddiw, i weld a fyddai'n newid unrhyw beth fel Gweinidog. Atebodd Dawn Bowden, y Gweinidog diwylliant, a dywedodd

'ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth newydd a fyddai'n gwrthdroi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad.'

Gwn am Aelodau o bob rhan o'r Siambr sy'n fwy cyfarwydd â'r adeilad penodol dan sylw heddiw, a'r ardal dan sylw, a byddant am siarad mwy am ei werth pensaernïol a hanesyddol, ac unwaith eto, yr honiadau a wnaed ynglŷn â'i arwyddocâd y tu hwnt i'r ardal leol. Ond Lywydd, os caf, rwyf am ddod at bwynt ehangach yn fy nghyfraniad heddiw: rhaid bod mwy y gallwn ei wneud yn y Senedd hon i gynorthwyo cymunedau i gadw adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr. Nid ysgol y Bont-faen yw'r unig achos. Fel pwyllgor, yn ddiweddar gwelsom ymgyrchwyr yn y gogledd yn deisebu i gadw Coleg Harlech—P-05-1130, 'Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech'—adeilad addysgol arall sy'n galw am ddiben newydd. Gwn fod tîm clercio'r Pwyllgor Deisebau yn gwrthod deisebau eraill yn rheolaidd lle mae pobl leol yn ceisio herio penderfyniadau cynllunio a fydd yn arwain at ddymchwel adeiladau lleol a'r atgofion a'r ystyr sydd ynghlwm wrthynt. Edrychaf o gwmpas y Siambr ac ar y rheini ar-lein ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain adeilad sy'n amlwg yn cyd-fynd â'r patrwm hwn, adeilad nad yw'n gwneud digon o arian neu adeilad sydd wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond adeilad ag iddo le pwysig ynghanol ein trefi a'n pentrefi ac yng nghalonnau'r bobl sy'n byw yno.

16:20

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Gwyddom hefyd, o'r gwaith y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud ar y ddeiseb P-05-1112, 'Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011' fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddod o hyd i ffyrdd o'i gwneud yn bosibl i gymunedau gael meddiant ar adeiladau a chyfleusterau cymunedol. Nawr, rwy'n cydnabod na fydd hynny'n ateb i ymgyrchwyr ysgolion y Bont-faen, ond rwy'n gobeithio, yn hirdymor, y gallai hyn greu llwybr arall i gymunedau allu cadw a chynnal yr adeiladau nodedig sydd mor werthfawr iddynt.

Lywydd dros dro yn y Gadair yn awr, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr, ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ynghylch cadw adeiladau o bwys mewn cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr.

Rwy'n siarad heddiw i gefnogi achub yr hen ysgol i ferched y Bont-faen rhag cael ei dymchwel, ac i siarad ar ran pawb sydd am weld yr adeilad hwn yn cael ei adfer. Mae'r mater yn un cymhleth gan fod adeilad yr ysgol yn eiddo i berchennog sydd am ei werthu a rhyddhau ei werth, sy'n golygu ei ddymchwel mae'n debyg, cymuned leol sydd am ei gadw, a Cadw, sy'n gwrthod rhoi unrhyw statws gwarchodedig iddo. 

Fel y clywsom, yr ysgol oedd yr ysgol uwchradd gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru a Lloegr, ac fel y cyfryw, credaf fod iddi gryn dipyn o berthnasedd hanesyddol. Hefyd, mae'r gymuned leol yn gweld ei gwerth fel adeilad treftadaeth, gyda phensaernïaeth sydd wedi ennyn llawer o barch ac arwyddocâd lleol. Ac yn hyn o beth, gallaf weld yn glir pam y mae'r ddeiseb wedi ysgogi ymateb mor fawr yn lleol. Mae'r adeilad hefyd yn gartref i'r cyfleuster labordy cyntaf erioed yn y DU ar gyfer addysgu sgiliau gwyddoniaeth ymarferol i ferched. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud achub yr adeilad hwn hyd yn oed yn bwysicach, oherwydd mae'n adlewyrchu trobwynt yn ein gwlad pan ddechreuwyd cydnabod cydraddoldeb, gwerth a photensial menywod mewn gwyddoniaeth—egwyddorion sydd bellach yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar 11 Chwefror. Yn anffodus, cymhlethir y mater gan y ffaith bod Cadw yn gwrthod rhoi statws rhestredig, yn bennaf am fod yr adeilad gwreiddiol wedi'i newid, yn helaeth yn eu barn hwy, ac oherwydd bod sawl enghraifft arall well o ysgol uwchradd a adeiladwyd yn y cyfnod hwn eisoes wedi'u rhestru. I bawb sy'n gysylltiedig â'r mater, mae angen penderfyniad, neu fel arall bydd yr adeilad yn dadfeilio ymhellach, caiff mwy o arian ei ddefnyddio i gynnal yr eiddo a gallai'r adeiladwaith ddirywio nes ei fod yn anniogel, sy'n golygu y collir ei botensial presennol i gael ei addasu at ddibenion gwahanol a'i adfywio.

Clywn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 awydd Llywodraeth Cymru i weld cymunedau mwy cydlynol ac iddynt gael mwy o lais yn yr hyn sy'n effeithio arnynt. Credaf yma fod gennym enghraifft o sut y mae'r system yn gwneud cam â'r gymuned hon. Os yw'r Llywodraeth am gael mwy o gydlyniant cymunedol, mae angen iddi annog cymunedau i gael mwy o lais dros yr adeiladau a'r mannau y maent yn eu gweld fel rhan o'u cymuned, a'u cefnogi pan fyddant yn codi llais i achub eu treftadaeth leol.

Roedd dros 5,500 o lofnodion ar y ddeiseb, sy'n cyfleu cryfder y teimlad lleol ynghylch yr adeilad hwn. Mae cyfle i'r Gweinidog weithredu'n bendant yma a galw'r cais am adolygiad i mewn, ac a dweud y gwir, os ydynt yn dewis peidio â gweithredu i achub yr adeilad hwn, mae'n dangos yn fwy na dim y dirmyg sydd ganddynt yn erbyn y gymuned sy'n ceisio gwneud safiad ac achub rhywbeth sy'n amlwg yn bwysig iddynt.

Yn fy marn i, Cadw sydd ar fai yn llwyr am y sefyllfa bresennol. Yn y pen draw, gallai diffyg pryder Cadw ynghylch cadwraeth yr adeilad hwn am ei fod yn methu ticio digon o flychau arwain at ddinistrio’r hen ysgol hon a'i cholli i genedlaethau'r dyfodol. Dylai Cadw fod yn fwy cydymdeimladol i roi statws gwarchodedig i adeiladau sydd ag arwyddocâd lleol, ac nid arwyddocâd cenedlaethol yn unig, oherwydd mae'n peri gofid i gymunedau weld pensaernïaeth, adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr, adeiladau y maent wedi tyfu i fyny gyda hwy ac adeiladau sy'n adlewyrchu eu hanes lleol yn cael eu dinistrio'n unig am mai dyna'r peth mwyaf proffidiol i'w wneud. Yn fy marn i, byddai dymchwel yr hen ysgol i ferched y Bont-faen yn dangos methiant llwyr y wlad hon i ddiogelu treftadaeth leol arwyddocaol a chyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw yn ymuno â mi i gefnogi'r ddeiseb hon. Diolch.

16:25

Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon nid am fod gennyf ddiddordeb arbennig yn yr adeilad pwysig yn y Bont-faen y cyfeiriwyd ato, ond oherwydd fy mod am wneud rhai pwyntiau mwy cyffredinol am yr effaith sylweddol y mae peidio â rhestru adeiladau sy'n bwysig o ran treftadaeth leol a chenedlaethol yn ei chael mewn rhannau eraill o'r wlad. 

Yn fy etholaeth i, mae eiddo art déco amlwg iawn ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos yn debygol o gael ei ddymchwel, yn anffodus, yn sgil gohebiaeth debyg â Cadw, a'r Gweinidog yn wir. Gwn fod rhywfaint o gydymdeimlad gan y Gweinidog ac eraill yn y Siambr hon i geisio ailwampio'r system er mwyn sicrhau y gallwn roi'r warchodaeth y mae yn ei haeddu i eiddo fel 57 Marine Drive yn Llandrillo-yn-Rhos. Ac nid yr eiddo hwnnw'n unig sy'n fy annog i siarad heddiw ychwaith. Rwyf hefyd yn gysylltiedig—ac rwy'n datgan buddiant—ag elusen, elusen fach, o'r enw Sefydliad Evan Roberts. Fe wnaethom gaffael—. Ac rwy'n ymddiriedolwr i'r sefydliad; rwyf am gofnodi hynny er mwyn datgan buddiant. Rydym wedi caffael capel yng Nghasllwchwr yn ne Cymru o'r enw Pisgah. Nawr, nid oes unrhyw rinwedd pensaernïol o gwbl yn perthyn i Pisgah, ond mae'n eithriadol o bwysig i bobl Cymru oherwydd ei hanes ac oherwydd ei gysylltiad â'r diwygiwr Evan Roberts. A phe na byddem wedi gallu caffael yr adeilad, byddai'r adeilad hwnnw wedi'i ddymchwel a byddai byngalo wedi ei godi yn ei le erbyn hyn.

Ac mae arnaf ofn fod problem gyda Cadw o ran y ffordd y mae'n rhestru ein hadeiladau. Nid yw bob amser yn edrych ar y pwysigrwydd hanesyddol; mae'n edrych yn hytrach ar gynllun yr adeilad, a oes unrhyw nodweddion unigryw, a'r bensaernïaeth yn hytrach na'r hanes a'r pethau sy'n gysylltiedig ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n drasiedi, oherwydd yn y dyfodol rydym yn mynd i golli mwy a mwy o rannau pwysig o'r hyn y mae Cymru wedi codi ohono, os mynnwch, yr hyn sydd wedi esgor ar y Gymru fodern yr ydym yn ei charu. [Torri ar draws.] Iawn, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.

Fel ymyriad yno, ar y pwynt a wnewch, cyfarfu Darren Millar, Samuel Kurtz a minnau ag Undeb Bedyddwyr Cymru yr wythnos diwethaf, a'r problemau y mae capeli'n eu cael gyda Cadw, o ran methu adnewyddu'r adeiladau o gwbl ac yna mae'r capel yn cau ac mae popeth yn mynd a'r adeilad yn cael ei ddymchwel. Nid yw'r system yn addas i'r diben ar hyn o bryd.

Nid yw'n addas i'r diben, a gwn y bydd y Gweinidog, mae'n debyg, yn cyfeirio at y ffaith y gall rhestru lleol ddigwydd drwy awdurdodau lleol, ond nid oes gan lawer o awdurdodau lleol amser, egni na chapasiti, yn anffodus, i ddatblygu eu rhestrau lleol. Felly, credaf mai'r hyn y gallem wneud ag ef mewn gwirionedd yw cael Cadw i gyflwyno categori rhestru arall, rhestr gradd III efallai, sy'n rhoi'r ychydig bach o warchodaeth ychwanegol y maent yn ei haeddu i'r adeiladau hyn. Ac mae'r ddau eiddo penodol y cyfeiriais atynt yn y ddadl hon wedi'u rhestru ar wefan Coflein, sef cronfa ddata ar-lein cofnodion henebion cenedlaethol Cymru, wrth gwrs. Os ydynt yn ddigon pwysig i fod ar y rhestr honno, dylid rhoi rhywfaint o warchodaeth iddynt. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech chi, yn eich cyfraniad i'r ddadl hon, roi ystyriaeth ddifrifol i gyflwyno rhestr gradd III efallai, fel sy'n digwydd yn yr Alban, ond nid yw'n digwydd yma yng Nghymru, a chredaf y byddai'n rhoi'r warchodaeth sydd ei hangen arnom.

16:30

Rwy'n falch iawn o ddilyn fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ac rwy'n cytuno i raddau helaeth â phopeth a ddywed y tro hwn, fel yn wir gyda Joel James, oherwydd credaf fod hwn yn fater pwysig iawn ac mae'n wych fod y ddeiseb hon wedi ein galluogi i'w drafod.

Rwy'n cytuno bod rhai materion cymhleth iawn yma, ond fel gyda Darren Millar a'r capel yng Nghasllwchwr, mae gennyf dafarn benodol yn fy etholaeth i, y Roath Park Hotel, sef y dafarn Fictoraidd olaf ar Heol y Ddinas—yr olaf o wyth. Yn anffodus, nid yw'r system gynllunio yn cyd-fynd yn ddigonol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i alluogi awdurdodau lleol i wrthod caniatâd i ddymchwel er mwyn creu adeilad modern hyll yn ei le. Mae wedi digwydd mor aml o amgylch Caerdydd, ein bod wedi colli ein pensaernïaeth hanesyddol gynhenid, ac at ei gilydd nid yw adeiladau modern, yn anffodus, hanner mor gain nac wedi'u hadeiladu cystal.

Nid yw hynny'n golygu ein bod yn philistiaid—nad ydym am weld newid—ond credaf fod yr adeilad hwn yn arbennig mor bwysig am ei fod yn un o ddim ond pump sy'n weddill o 95 enghraifft o ysgol i ferched a adeiladwyd yn bwrpasol at y diben hwnnw. Rwyf wedi bod yn ceisio darganfod ychydig mwy am Robert Williams, y pensaer a'i hadeiladodd. Oherwydd dysgais o'r ddeiseb fod yr adeiladau yr aeth rhagddo i'w hadeiladu yn Llundain ac yn yr Aifft wedi'u cadw ac eto, yma yng Nghymru, rydym yn ystyried dymchwel yr enghraifft wych hon o'i waith. O ystyried ei fod yn arloeswr ym maes cadwraeth adeiladau a thai cymdeithasol, a'i fod wedi sefydlu ysgol bensaernïaeth Cymru, a'r angen i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddatblygu penseiri'r dyfodol, mae hwn yn hanes cyfoethog iawn yr ydym mewn perygl o'i golli. Nid yw Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyfleu pwysigrwydd yr holl ffeithiau perthnasol hyn, oherwydd rydym mewn perygl o gael system sy'n seiliedig ar gost popeth a gwerth dim. Ac felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni newid pethau o ddifrif.

Nid oes rhaid i'r penderfyniadau cynllunio, er enghraifft, roi unrhyw ystyriaeth i'r allyriadau carbon sydd ynghlwm wrth y broses o ddymchwel yr adeilad cwbl ddefnyddiadwy hwn y gellid yn hawdd ei droi'n dai cymdeithasol eithriadol o dda a mawr eu hangen, oherwydd, wedi'r cyfan, dyma adeilad a oedd yn cynnig llety o'r diwrnod cyntaf i ferched na allent deithio mor bell â'r Bont-faen yn ddyddiol. Felly, credaf fod rhesymau enfawr pam y mae angen inni ailedrych ar hyn fel mater o frys, oherwydd mae allyriadau carbon yn broblem sylweddol iawn yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond mae hefyd yn cyffwrdd ar bwysigrwydd diwylliannol yr adeilad hwn, ar gyfraniad Robert Williams i hyrwyddo'r Gymraeg mewn pensaernïaeth. A chredaf nad yw'r system yn iawn o gwbl, nad yw'n addas i'r diben ar hyn o bryd, ac fel arall byddwn yn cael mwy o drychinebau fel hyn.

Rwy'n cytuno hefyd, fel Jenny Rathbone, â'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod, eiliad hanesyddol: y tro cyntaf i mi ddweud y geiriau hynny. [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod hyn yn dangos y gallwn fod yn unedig pan fydd pethau'n bwysig, ac mae gormod o'n treftadaeth wedi diflannu.

Mae adeiladau hardd ledled Cymru wedi cael eu gadael i bydru tan y bydd datblygwyr, yn anochel, yn dweud wrth awdurdodau cynllunio lleol na ellir eu hachub. Ac mae pwynt Jenny Rathbone yn eithriadol o bwysig am yr allyriadau carbon hefyd. Dylem fod yn ail-ddychmygu'r adeiladau hardd a hanesyddol hyn i roi bywyd newydd iddynt. Hefyd, rwyf wedi cael llond bol ar weld adeiladau pwysig yn cael eu rhestru, ond heb gael eu hachub a'u gwarchod wedyn, ac yn cael eu gadael i bydru. Nid yw hyn yn dderbyniol.

Pryd bynnag y byddaf yn teithio i'r Bont-faen, mae harddwch yr adeiladau dan sylw bob amser yn creu argraff arnaf, adeiladau sy'n atgoffa o ysgol Coed-y-Lan ger fy nghartref ym Mhontypridd, sydd hefyd wedi'i gadael i ddadfeilio. Mae'n sefyllfa drist iawn, ac yn enwedig pan fyddwch yn meddwl am hanes yr adeilad penodol hwn. Nid af i ailadrodd yr ystadegau hynny, ond rwy'n cytuno â chi, Joel: mewn perthynas â rôl menywod mewn gwyddoniaeth, mae hwn yn adeilad o bwys. Ac yn amlwg, nid fi yw'r unig un sy'n gweld gwerth yr adeilad a'i arwyddocâd hanesyddol. Yn wir, ar y wefan a sefydlwyd gan y grŵp ymgyrchu, ceir rhestr o 20 o arbenigwyr blaenllaw ar adeiladau hanesyddol, haneswyr a phenseiri, a phob un ohonynt yn cefnogi rhestru'r adeilad a'i drawsnewid yn sensitif. Mae'r rhain yn cynnwys Dr Eurwyn Wiliam, arbenigwr ar adeiladau hanesyddol yn Amgueddfa Cymru yn flaenorol, cyn-aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru a chyn-gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy'n aml wedi cynghori Cadw ar faterion o'r fath. Eto i gyd, mae'n ymddangos bod eu barn hwy a barn trigolion lleol wedi'u diystyru, gan arwain at Cadw yn gwrthod rhestru'r adeilad.

Deallaf yn iawn yr angen am dai cymdeithasol fforddiadwy yn y Bont-faen—pwynt a wnaed gan yr un llythyr a gefais sy'n cefnogi dymchwel yr adeilad. Ond fel y dangosir yn y degau o lythyrau a gefais yn cefnogi achub yr adeilad, nid yw'n fater o naill ai/neu, ac mae yna ffordd y gallwn gyflawni'r gorau o'r ddau fyd: achub yr adeilad a'i addasu at ddiben gwahanol. Mae Save Britain's Heritage, sy'n gweithio gyda'r pensaer Philip Tilbury, wedi cynhyrchu cynllun amgen, sy'n dangos digon o le i greu 23 o fflatiau o fewn yr ysgol, yn ogystal â 12 o fflatiau newydd a dau dŷ newydd ar y tir cyfagos. Rwy'n annog y Dirprwy Weinidog i ofyn i'w swyddogion ymchwilio ymhellach i'r mater hwn, yn ogystal â'r cynlluniau amgen a gyflwynwyd.

Mae gan Historic Scotland a Historic England weithdrefnau sefydledig pan geir anghydfodau tebyg i hyn, sy'n caniatáu ar gyfer adolygiad annibynnol gan gymheiriaid allanol mewn amgylchiadau o'r fath—rhywbeth y credaf y byddai o fudd yn yr achos hwn. Dyma gyfle i ail-ddychmygu adeilad hanesyddol i ddiwallu anghenion lleol. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb yn bendant iawn ac yn diolch i'r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ar y mater hwn.

16:35

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog celfyddydau a chwaraeon, Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 16:37:37
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac am dynnu sylw at gryfder y teimlad ynghylch yr hen ysgol hon? Ac rwy'n deall cryfder y teimlad a fynegwyd, ac wedi cael achos tebyg fy hun, yn fy etholaeth, gydag adeilad Hoover, sy'n hynod bwysig i Ferthyr Tudful am yr holl resymau y bydd unrhyw un sy'n gwybod am hanes Merthyr Tudful yn eu deall. Ond nid yw hwnnw erioed wedi ei restru am yr holl resymau y dof atynt yn awr.

Felly, rwy'n llwyr gydnabod diddordeb hanesyddol yr ysgol, ac rwy'n cytuno y bydd yn drueni mawr ei gweld yn cael ei dymchwel. Fodd bynnag, i'w restru gan Lywodraeth Cymru, rhaid i adeilad ddangos rhinweddau pensaernïol a hanesyddol o arwyddocâd cenedlaethol. Felly, rhaid iddo fodloni'r ddau faen prawf hynny, fel y nodir yn y meini prawf rhestru cenedlaethol. Mae'r adeilad hwn i bob pwrpas wedi'i asesu yn erbyn y meini prawf rhestru dair gwaith: yn gyntaf, fel rhan o ailarolwg cenedlaethol o restru cymunedol y Bont-faen ym 1999, yna gan arbenigwyr adeiladau hanesyddol Cadw mewn ymateb i gais yn 2018, ac eto gan arbenigwr annibynnol yn 2020. Roedd yr asesiadau diweddarach yn cynnwys craffu gofalus ar yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr ymgyrchwyr. Y casgliad oedd, yn anffodus, nad yw'r meini prawf wedi eu bodloni yn yr achos hwn. Yr asesiad—[Torri ar draws].

Tybed a gaf eich herio, Weinidog, drwy ddweud bod hyn yn methu'r pwynt. Oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cynaliadwyedd, sef arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu. Felly, mae angen i fframwaith Cadw newid, neu mae angen i'r system gynllunio newid, er mwyn cynnwys hynny.

O'r gorau. Os caf barhau, efallai y byddaf yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau hynny.

Ond yn anffodus, y casgliad oedd nad yw'r meini prawf yn cael eu bodloni yn yr achos hwn. Roedd yr asesiad—yn groes i'r pwynt a godwyd gennych chi, Darren—yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol cyflwyno ysgolion canolradd i ferched, ond yn bensaernïol, mae'r adeilad wedi newid yn helaeth, yn hanesyddol ac yn fwy diweddar. Y gorau y bydd adeilad wedi'i gadw yn bensaernïol, gorau oll y gall ddangos ei hanes a chyfrannu at ein stori genedlaethol. Nid yw'r adeilad hwn bellach yn goroesi yn y ffordd y'i hadeiladwyd, mae ei ffurf wedi ei newid gan newidiadau ar raddfa fawr yn 1909 ac yn fwy diweddar, mor ddiweddar ag ychydig flynyddoedd yn ôl, pan gafodd ffenestri UPVC eu gosod.

Nawr, er fy mod yn nodi'r alwad am gategori rhestru newydd, nid wyf yn rhannu'r farn fod gostwng y trothwy ar gyfer rhestru i gynnwys adeiladau fel ysgol y Bont-faen yn briodol. Byddai hyn yn tanseilio uniondeb yr adeiladau y nodwyd eu bod eisoes o bwysigrwydd cenedlaethol. Ceir 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru eisoes, mwy nag unrhyw wlad arall yn y DU yn ôl maint ei phoblogaeth.

16:40

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Onid yw'r ffaith bod llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu rhestru ar Coflein, y gronfa ddata genedlaethol o henebion hanesyddol, yn dweud wrthym fod lle arbennig i'r adeiladau hyn yn ein gwlad a'u bod yn haeddu lefel o warchodaeth sy'n gwneud inni feddwl ddwywaith, dair gwaith, bedair gwaith cyn inni benderfynu eu dymchwel? Dyna pam y mae gosod gradd arall—. Mae gennym adeilad rhestredig gradd I, sef y goreuon os mynnwch, y rhai y mae'n rhaid inni wneud popeth i'w gwarchod a pheidio byth â gadael iddynt fynd â'u pen iddynt; gradd II, safon ychydig yn wahanol, ond bod pethau yn eu lle i'w gwarchod. Gallai Gradd III fod yn lefel wahanol o warchodaeth. A ydych yn derbyn bod hynny'n rhywbeth y gallech edrych arno?

Rwy'n credu bod angen inni—. Unwaith eto, mae angen ichi wrando ar weddill yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud, oherwydd rwy'n trafod sut y teimlaf fod angen ymdrin ag adeiladau fel hyn.

Rwy'n cydnabod nad yw'r hyn a ddywedais hyd yma yn ateb y mae'r ymgyrchwyr am ei glywed, a gwn eu bod wedi gofyn am adolygiad cymheiriaid gan sefydliadau treftadaeth yn Lloegr a'r Alban, ond mae adolygiad pellach yn amhriodol am fod penderfyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith wedi'i wneud bellach. Yn ôl y gyfraith, mae'r adeilad wedi'i wrthod ar gyfer ei restru, a'r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu'r penderfyniad hwnnw oedd drwy'r llysoedd mewn cais am adolygiad barnwrol. Felly, oni cheir tystiolaeth newydd, nid oes sail i newid y penderfyniad hwn.

Prif amcan yr ymgyrch, wrth gwrs, yw gweld yr adeilad hwn yn cael ei gadw a'i ailddefnyddio, sef y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone, ac er nad yw'r adeilad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru cenedlaethol, nid yw hynny'n golygu nad oes gwerth iddo ar sail ei gyfraniad i'r ardal leol. Mae gan Gyngor Bro Morgannwg restr leol o drysorau sirol, ac er nad yw'r hen ysgol wedi'i chynnwys, byddwn yn annog pob awdurdod lleol yn gryf i lunio rhestr leol a'i diweddaru'n aml.

Yn anffodus, nid yw'r ysgol hon ar restr Bro Morgannwg, ac nid wyf yn gwybod pam. Clywaf yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, nad oes gan awdurdodau lleol gapasiti i'w wneud, ond hoffwn awgrymu bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am adeiladau o ddiddordeb lleol y gallant eu hychwanegu at eu rhestrau lleol. Gall yr awdurdod lleol reoleiddio gwaith i ddymchwel adeiladau sydd wedi'u cynnwys ar restr leol gan wneud cyfarwyddyd erthygl 4 o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, ac mae Cadw wedi rhoi arweiniad defnyddiol i awdurdodau lleol ar hyn, ac mae ar y wefan.

Bydd y cais cynllunio i ddymchwel yr adeilad ar gyfer datblygiad preswyl yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg ar 2 Mawrth. Efallai y bydd o ddiddordeb ichi wybod bod cynllun datblygu'r awdurdod lleol yn gofyn am gynigion datblygu i warchod neu wella rhinweddau pensaernïol a hanesyddol adeiladau. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i adeiladau a restrir yn statudol neu'n lleol, ond pob adeilad. Felly, mae gwarchod yr adeilad yn ystyriaeth berthnasol ac yn rhywbeth y mae'n rhaid rhoi sylw iddo cyn i'r cyngor wneud ei benderfyniad.

Mae ystyried safbwyntiau cymunedau lleol yn sylfaen bwysig i'n system gynllunio, felly byddwn yn annog pawb sy'n pryderu am golli'r adeilad hwn i gyflwyno eu sylwadau i'r cyngor ar frys os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Mae mater rhestru'r adeilad ar lefel genedlaethol wedi gorffen. Mae tynged yr adeilad bellach yn nwylo'r cyngor wrth iddynt benderfynu ar y cais cynllunio, ond mae hefyd yn agored i'r ymgeisydd newid y cynllun, ac addasu'r adeilad, yn hytrach na'i ddymchwel. Diolch yn fawr.

16:45

Galwaf yn awr ar Jack Sargeant fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i ymateb. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Credaf fod heddiw wedi bod yn ddadl dda a phwysig, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a'r Gweinidog am ei hymateb. Fe wnaethom ddechrau gyda chyfraniad pwerus gan Joel James, a gefnogodd y ddeiseb yn ei chyfanrwydd, rwy'n credu, ac a dynnodd sylw at addysgu gwyddoniaeth i fenywod a merched yn yr ysgol—digwyddiad hanesyddol a phwysig.

Aethom ymlaen at Darren Millar, a ailadroddodd y pwynt yr oeddwn yn ceisio'i wneud, rwy'n credu, am bwysigrwydd ehangach adeiladau ledled Cymru. Fe gyfeirioch chi at eiddo art déco yn Llandrillo-yn-Rhos ac fe sonioch chi am yr eglwys a'r elusen yr ydych yn ymwneud â hi, ac fe wnaeth y cyd-Aelod, Rhys ab Owen, ymyriad hefyd a dynnai sylw at ei brofiadau gyda'r capeli ledled Cymru.

Ac yna, rhaid imi ddweud, cawsom olygfeydd syfrdanol yn y Senedd, lle cytunodd Jenny Rathbone a Heledd Fychan â'u cyd-Aelodau, Joel James a Darren Millar—mae'n ddiwrnod hanesyddol i'r Senedd, rwy'n dweud hynny wrthych. Ond clywsom gan Jenny Rathbone am dafarn Fictoraidd, tafarn Roath Park yn ei hetholaeth hi, ac y dylai'r penderfyniadau a wneir fod yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Honnodd Heledd Fychan y dylem edrych ar adfywio—nid dim ond achub adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol, ond eu hadfywio, ail-ddychmygu adeiladau, a mynd ymhellach nag a wnawn eisoes o bosibl.

Ac yna, i ddod at ymateb y Gweinidog, dywedodd y Gweinidog ar y dechrau ei bod yn cydnabod y teimladau cryfion nid yn unig o'r ddeiseb hon ond deisebau tebyg ledled Cymru. Fe gyfeirioch chi at eich etholaeth eich hun yn yr ymateb hwnnw. Ac aethoch ymlaen i nodi ei bod yn annhebygol y byddai'r deisebwyr yn croesawu'r ymateb oherwydd efallai nad dyma'r canlyniad yr oeddent am ei gael, ond fe wnaethoch annog y deisebwyr a'r rhai sy'n teimlo'n gryf am hyn i gysylltu â'u hawdurdod lleol a chyflwyno sylwadau iddynt.

Rwy'n credu—unwaith eto, af yn ôl at fy man cychwyn—fod hon yn ddadl bwysig heddiw. Rwy'n credu mai dyma yw hanfod y Pwyllgor Deisebau: rydym yn trafod ac yn codi'r pwyntiau sy'n flaenoriaethau i bobl yn eu Senedd, Senedd Cymru. Felly, byddwn yn annog pawb sydd am siapio neu ddylanwadu ar ein Senedd, eu Senedd hwy, i ddechrau neu lofnodi deiseb. Mae'r broses yn gymharol hawdd a syml, ac yn amlwg mae'r tîm clercio a phobl eraill sydd y tu ôl i'r llenni ac sy'n gwneud yr holl waith caled—a diolch iddynt am bopeth a wnânt—yn barod ac yn aros i helpu.

Wrth gloi ac i orffen, Lywydd dros dro, ar ran pwyllgor y Senedd, hoffwn ddweud diolch yn olaf i Sara Pedersen am gyflwyno'r ddeiseb hon, pawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, a'r cyfraniadau hynny heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cynnig felly yw cytuno i nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Iawn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7923 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.

2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.

3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig a gyflwynwyd heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ynghylch ariannu llywodraeth leol. Unwaith eto, rwy'n datgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.

Fel y mae dechrau'r cynnig hwn yn ei nodi, ac fel y soniais dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn parhau i'w godi, drwy gydol y pandemig COVID-19 aeth y cynghorau y tu hwnt i'r galw. Mae llawer ohonom yn gwybod am aberth, gwaith caled ac ymroddiad staff y cynghorau ac maent yn haeddu cael eu canmol am eu gwaith caled, o'n gweithwyr gofal cymdeithasol i'n cynorthwywyr addysgu, o lyfrgellwyr i griwiau ailgylchu, mae pob un ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'r galw. Yng ngoleuni hyn, roeddwn yn falch o weld na wnaeth y Llywodraeth ddileu pwynt 1 ein cynnig yma heddiw, sy'n diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod y pandemig. Mae'n wych gweld y gallwn ni fel Senedd gytuno ar hyn. Serch hynny, Lywydd dros dro, mae'n hanfodol bwysig cydnabod bod cynghorau wedi bod yn gwneud gwaith eithriadol ymhell cyn y pandemig a byddant yn parhau i wneud hynny wedyn. Fel y bydd llawer o bobl yn cytuno, y cynghorau yn aml sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli anghenion pobl leol, wrth gwrs.

Cyflwynwyd datganoli, mewn gwirionedd, i ddod â phwerau mor agos â phosibl at y bobl, a dyna y gallai ac y dylai cynghorau ei wneud. Ond er mwyn i gynghorau wneud y mwyaf o'u potensial, maent angen i gyllid addas fod ar gael i wneud hyn, ac fel y dywed pwynt 2 o'n cynnig, rhaid i gynghorau gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y maent yn anelu atynt. Maent angen cyllid digonol i'w galluogi i wneud y mwyaf o'u potensial, ac mae'r Llywodraeth yn cytuno â hynny heddiw. Fodd bynnag, yn rhwystredig, ac fel yr amlinellir ym mhwynt 3 ein cynnig yma, nid yw'r fformiwla bresennol ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn addas i'r diben. Byddaf yn trafod pam yn benodol y credaf fod hynny'n wir mewn munud, yn hytrach na gwneud sylwadau bachog yn unig.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol y cyfrannu oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar eu gwasanaethau a'u darparu, sy'n golygu bod yr arian hwn yn pennu'r rhan fwyaf o'r hyn y gall cynghorau ei gyflawni. Fel yr amlinellwyd yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw, ac fel rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau ar feinciau Llafur yma am ei nodi, rwy'n derbyn y bydd y setliad arfaethedig i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn codi 9.4 y cant. Mae hyn i'w groesawu wrth gwrs. Serch hynny, daw ar ôl blynyddoedd maith o danariannu ac nid yw'n mynd i'r afael o hyd â'r ffaith bod y fformiwla ariannu bresennol wedi dyddio ac nad yw'n addas i'r diben.

Gwyddom hefyd fod cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol wedi gostwng tua 17 y cant mewn termau real drwy'r degawd diwethaf, ac mae'n amlwg bod y degawd o ddirywiad wedi cael effaith enfawr ar wasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae tanariannu cynghorau'n gyson dros flynyddoedd lawer wedi gadael llawer ohonynt mewn sefyllfa wan i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Gwelir hyn yn arbennig gyda chynghorau yn y gogledd—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sydd â phoblogaeth hŷn ac ardaloedd gwledig—sydd, i bob golwg, ar eu colled o'r fformiwla ariannu.

Dywedais y byddwn yn siarad am rai pethau manwl. Rwyf am dynnu sylw at dri mater sydd, yn fy marn i, yn cyfiawnhau'r alwad am adolygiad. Y cyntaf yw ansawdd y data a ddefnyddir i ddangos faint o arian y dylid ei roi i gefnogi cynghorau. Ceir rhywbeth a elwir yn asesiad gwariant safonol, rhywbeth rwy'n siŵr ein bod i gyd yn mwynhau ei ddarllen o bryd i'w gilydd, ac mae'r data yn yr asesiad gwariant safonol yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer ariannu cynghorau. Ond yn anffodus, mae nifer o'r pwyntiau data yma dros 20 oed, ac rwyf am dynnu sylw at un neu ddau o'r rheini sy'n bwydo i'r drefn hon o ariannu awdurdodau lleol. Mae'r un cyntaf yma yn defnyddio data o 2001, ac mae'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol. Yn gyntaf oll, data 20 oed sy'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol—nid oes yr un o'r plant hynny'n blant yn awr. Felly, mae'r fformiwla ariannu honno'n gwbl wallgof. Mae'r nesaf, pensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn cartrefi, unwaith eto'n defnyddio data o 2001. Unwaith eto, mae pensiynwyr sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn defnyddio data o 2001. Mewn byd sy'n cael ei yrru gan ddata, gyda chymaint ar gael i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, mae'n gwbl amhriodol defnyddio gwybodaeth sydd dros 20 oed. Ceir manylion eraill yma ers 1991. Nid wyf yn siŵr os oedd pob un o'r Aelodau wedi'u geni pan ddefnyddiwyd rhai o'r pwyntiau data hynny.

Yn ail, nid yw'r fformiwla ariannol bresennol yn adlewyrchu ein poblogaeth sy'n heneiddio yn briodol a'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod ein pobl hŷn yn gallu byw eu bywydau gorau. Enghraifft amlwg o hyn, o edrych ar y fformiwla ariannu, yw ei bod yn rhagdybio bod y gost i gynghorau sy'n cefnogi rhai dros 85 oed oddeutu £1,500 y pen, a allai ymddangos fel swm digonol. Yn y categori oedran nesaf, sef pobl rhwng 60 ac 84 oed, mae'r fformiwla'n rhagdybio y byddai'n costio £10.72 i ariannu a chefnogi'r bobl hynny. Felly, yn sydyn, yn 85 oed, mae'n £1,500 y pen, ond am nifer o flynyddoedd cyn hynny, mae'n costio £10. Mae'n anghysondeb enfawr, ac yn camddeall yr hyn y mae'n ei gymryd i gefnogi ein poblogaeth sy'n heneiddio yn y ffordd orau. Ac wrth gwrs, mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn mynd i ddod yn rhan fwy a mwy sylweddol o'r boblogaeth y bydd angen inni eu cefnogi, a'u cefnogi'n dda, dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn 2038, bydd chwarter ein poblogaeth dros 65 oed ac ar hyn o bryd, mewn ardaloedd fel Conwy, mae 28 y cant o'r trigolion yno dros 65 oed, o'i gymharu â Chaerdydd, sydd â thua 14 y cant. Felly, gallwch weld bod yna feysydd lle nad yw'r fformiwla ariannu yn adlewyrchu'n briodol y cymorth sy'n ofynnol i gefnogi ein pobl hŷn. Mae'r ardaloedd hynny'n mynd i'w chael hi'n anodd gyda'r cyllid a ddaw gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â data, ac mae angen ei adolygu. Yr ail faes yw sut y caiff y cymorth i bobl hŷn ei ariannu'n briodol. A'r trydydd mater a welaf yw meithrin hyder yn y broses o ariannu. Gallwn weld o welliant 4 Llywodraeth Cymru heddiw nad yw'r Llywodraeth am gynnal adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol, ac eto yn y ddadl heddiw, rwy'n siŵr y byddwn yn clywed gan lawer ar feinciau'r Llywodraeth pa mor dda yw'r fformiwla ariannu. Ond hoffwn ofyn: os yw mor dda, ac os yw mor gywir, beth sydd o'i le ar gynnal adolygiad annibynnol? Beth am gynnal adolygiad annibynnol i ddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn? Beth sy'n peri pryder i chi ynglŷn â chael adolygiad annibynnol? Os yw mor dda, gadewch inni gynnal yr adolygiad a phrofi'r pwynt yr ydych am ei wneud, ei fod yn hollol iawn.

I gloi, Lywydd dros dro, mae cynghorau'n gwneud gwaith anghredadwy gyda'r cyllid a gânt. Pe bai pob cyngor yn cael arian teg a chywir, gallent ffynnu hyd yn oed yn well nag a wnânt heddiw. Gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a chael adolygiad annibynnol o ariannu cynghorau. Gadewch inni ryddhau'r potensial sydd gan gynghorau i'w gynnig wrth iddynt gefnogi eu cymunedau lleol. Wrth orffen, edrychaf ymlaen at wrando ar bob cyfraniad o bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol heddiw ar y mater pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn.

16:55

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.

Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig.

Rwy'n falch iawn fod gennym, yn etholiad diwethaf y Senedd, nifer mawr o gynghorwyr a fu'n arweinwyr cynghorau, fel Sam Rowlands, dirprwy arweinwyr ac aelodau cabinet wedi eu hethol i'r Senedd—pobl sy'n gwybod yn uniongyrchol am bwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol a'r arian sydd ei angen i'w rhedeg. Nid wyf bob amser yn cytuno â hwy, ond rwy'n parchu eu gwybodaeth a'u profiad o lywodraeth leol. Rwy'n cytuno y dylem ddiolch i gynghorwyr ac awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am y rôl yn ystod y pandemig coronafeirws. Chwaraeodd cynghorwyr a chynghorau eu rhan yn rhyfeddol. 

I drafod un mater unigol, mater digartrefedd, darparodd Llywodraeth Cymru gronfa o £10 miliwn a alluogodd awdurdodau lleol i gysylltu â phawb a oedd yn cysgu ar y stryd, a sicrhau bod ganddynt ffordd o gael llety diogel ac addas i gydymffurfio â chyfyngiadau'r pandemig. Ond yr awdurdodau lleol a'u staff a wnaeth y gwaith. O fewn pythefnos gyntaf y cyfyngiadau symud, roedd awdurdodau lleol wedi cartrefu neu ail-gartrefu dros 500 o aelwydydd a oedd naill ai wedi bod yn cysgu ar y stryd neu mewn llety a oedd yn anaddas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Cododd y ffigur hwn yn y pen draw i dros 1,000. 

Ad-drefnodd awdurdodau lleol dimau ac adleoli staff i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol a hefyd, daethant o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid. Daeth system cell gydgysylltu ganolog ym mhob cyngor â phartneriaid megis iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yr heddlu a'r gwasanaeth prawf, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill at ei gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau ar y cyd—enghraifft o lywodraeth leol Cymru ar waith. Cawsom dân difrifol yn Abertawe sawl blwyddyn yn ôl, a'r awdurdod lleol oedd yr unig bobl a allai gymryd rheolaeth a sicrhau ei fod yn cael ei drin, tra bod pawb arall, gan gynnwys y gwasanaeth tân, yn ceisio dod o hyd i resymau pam nad oedd yn gyfrifoldeb iddynt hwy mewn gwirionedd, ac na ddylent orfod talu amdano. Camodd yr awdurdod lleol i mewn a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei drin. Mae hynny wedi digwydd mewn awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n siŵr y gallai cyd-Aelodau yma siarad am yr hyn a wnaed yn eu hawdurdodau lleol eu hunain. 

Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau sylfaenol sydd eu hangen ar bobl. Nod y fformiwla ariannu, neu gyllid allanol cyfanredol, a elwid gynt yn grant cynnal ardrethi cyn i ardrethi busnes gael eu canoli, yw darparu adnoddau i gefnogi awdurdodau lleol yn ariannol uwchlaw incwm y dreth gyngor yn lleol. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol yn pennu faint o'r arian a ddarperir i Gymru a roddir i bob awdurdod lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys y grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig, ac fe'i dosberthir ar sail fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Rwy'n un o'r bobl sy'n credu y dylid dychwelyd ardrethi annomestig cenedlaethol i awdurdodau lleol. Rydym yn sôn yn aml am ddatganoli; mae datganoli'n golygu bod yn rhaid i rai pethau fynd i lawr o'r fan hon i awdurdodau lleol a lleoedd eraill. Ni ddylai datganoli ddod i ben yng Nghaerdydd a'r Senedd.

Gall awdurdodau lleol godi arian eu hunain yn lleol—nid y dreth gyngor yn unig, ond, yn dibynnu ar ble'r ydych chi, pethau fel parcio ceir, ffioedd a thaliadau. Ond os edrychwch arno, mae dosbarthiad eiddo ym mhob band yn amrywio'n fawr. Mae nifer yr eiddo ym mhob band treth gyngor yn amrywio. Mae gan rai, fel Blaenau Gwent, dros hanner eu heiddo ym mand A, ac ychydig iawn o eiddo sydd yn y ddau fand uchaf. Mewn cymhariaeth, dim ond ychydig dros 1 y cant o'i heiddo sydd gan sir Fynwy ym mand A ac mae 6 y cant o'i heiddo yn y ddau fand uchaf. Mae gan sir Fynwy, gyda mwy o eiddo uchel ei werth, fwy o allu i godi arian drwy drethiant lleol.

I ddychwelyd at yr hyn yw cyllid Llywodraeth Cymru i fod, mae'n golygu, os ydym yn bwriadu bod yn deg, y dylai cynghorau fel Mynwy gael llai y pen na chynghorau fel Blaenau Gwent gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dau beth: dychwelyd ardrethi busnes i gynghorau lleol, rhywbeth a fyddai'n cael effaith enfawr, a system decach o dreth gyngor gyda bandiau ychwanegol neu, yn well na hynny, treth gyngor yn seiliedig ar werth absoliwt yr eiddo. Gallwch fynd ag eiddo ychydig bach dros fand, ac yn sydyn iawn, mae pobl yn talu llawer mwy. Ond fe wyddom hefyd, os ydych ym mand A, eich bod yn talu tua hanner—dwy ran o dair, mae'n ddrwg gennyf—o fand D, ond os ydych ym mand G neu H, rydych yn talu tua dwywaith cymaint? Felly, nid yw'n seiliedig ar werth yr eiddo, fel y cyfryw, ac mae'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ag eiddo gwerth is. 

Mae'r dreth gyngor yn atchweliadol, ond nid oes rhaid iddi fod. Gall fod yn seiliedig ar werth absoliwt eiddo, ac mae gennym sefyllfa hefyd—rhywbeth y mae angen inni feddwl amdano—sef sut y gallwn sicrhau bod pawb yn cael yr un lefel o wasanaeth? Nawr, dywedwyd bod gan Flaenau Gwent lawer mwy o eiddo band D ar gyfer y dreth gyngor, ac mae gan sir Fynwy lawer llai, ond mae hynny oherwydd y dosbarthiad. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely ym Mlaenau Gwent, rydych chi'n lwcus i fod ym mand A. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely yn rhywle fel Cas-gwent, mae'n debyg eich bod ym mand D. Felly, mae'r gwahaniaeth hwnnw yno hefyd. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod y dreth gyngor yn deg, mae angen ei newid, ac mae angen sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael yr hyn y mae'n ei haeddu. 

17:00

Yn gyntaf, a gaf fi ddatgan diddordeb fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy, am y tro, yn sicr? A Mike, a gaf fi ddiolch ichi am eich geiriau, ond hefyd hoffwn gydnabod eich profiad mewn llywodraeth leol, wrth eich bod yn gyn-arweinydd Abertawe. A diolch i chi am eich dealltwriaeth ddofn ac am siarad dros lywodraeth leol mor aml ag y gwnewch, ac y gwnaethoch ers blynyddoedd lawer. 

Mae awdurdodau lleol yn rhan ganolog o'n cymunedau, yn helpu teuluoedd a chefnogi teuluoedd, ac yn darparu'r gwasanaeth cyhoeddus bywiog yr ydym i gyd yn gwybod amdano, ond mae'r pandemig newydd bwysleisio a thanlinellu pa mor bwysig ydynt. Ac am y cyfan y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud, rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt. Ond os ydym yn eu gwerthfawrogi—yn eu gwerthfawrogi go iawn—mae angen inni eu hariannu'n ddigonol, ond yn fwy felly, yn y ddadl hon, yn deg. A gwn o fy mhrofiad fy hun fel arweinydd cyngor ers sawl blwyddyn nad yw hyn wedi bod yn wir i lawer o gynghorau. Yn rhannol, deillia hyn o'r fformiwla ariannu, a nododd Sam yn glir iawn rai o'r diffygion sy'n perthyn iddi.

Nawr, lluniwyd y fformiwla bresennol—a bydd Mike yn gwybod yn well na mi—25 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, ar ôl y newid i 22 awdurdod unedol cyn datganoli, ac nid oedd yn broses soffistigedig bryd hynny, yn ôl yr hyn a ddeallwn. Yn wir, cafwyd llawer o gyfeiriadau ysgafn ei fod wedi'i roi at ei gilydd ar gefn pecyn sigaréts i ymdrin â'r sefyllfa ar y pryd. Yn amlwg, rwy'n amau mai felly y digwyddodd, ond fe wyddom nad yw bellach yn addas i'r diben. Tra bod y fformiwla'n cael ei chyfrifo ar sail anghenion a'i bod yn cynnwys pethau fel poblogaeth, lefel amddifadedd, nifer y disgyblion ysgol a hyd rhwydweithiau ffyrdd, ynghyd â llawer o ystadegau eraill 20 oed nad ydynt yn golygu rhyw lawer iawn bellach mewn gwirionedd, byddwn yn dadlau nad oes digon—neu'n sicr nid oes digon yn awr—o gydnabyddiaeth i natur wledig ardaloedd a theneurwydd poblogaeth, a chost uned darparu gwasanaethau mewn awdurdod gwledig mawr o'i gymharu ag un trefol.

Er enghraifft, rhaid bod cost uned rhedeg gwasanaeth sbwriel neu wasanaeth gofal cymdeithasol ym Mhowys yn llawer mwy nag y byddai, dyweder, yn Nhorfaen. Mae'r anghysondebau o fewn y fformiwla wedi arwain at ddosbarthu cyllid yn annheg, gan arwain at senario enillydd a chollwr. I ailadrodd y pwynt fod gwahaniaeth mawr rhwng y cynghorau sy'n cael y lefel uchaf a'r cynghorau sy'n cael y lefel isaf o gyllid—mae Mike eisoes wedi tynnu sylw at hyn a gwyddom y rhesymeg dros hynny—yn sir Fynwy, bydd tua £1,176 y pen yn cael ei ddyrannu y tro nesaf, a thua £1,881 ym Mlaenau Gwent. A gwyddom fod y gwahaniaethau hyn, fel y nododd Mike, yn cael eu gyrru gan lefelau bandio tai ym mhob awdurdod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau fel sir Fynwy ddod o hyd i 40 y cant o'i gyllid gan dalwyr y dreth gyngor, a llai na hanner hynny, mae'n debyg, ym Mlaenau Gwent. Yn wir, pe bai sir Fynwy yn cael ein hariannu ar lefel Blaenau Gwent, byddai gennym £40 miliwn yn ychwanegol. Wel, gwyddom nad yw hynny'n mynd i ddigwydd oherwydd y gwahaniaeth enfawr yn y bandio. Ond mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le ar fformiwla sy'n cyfiawnhau newid mor enfawr.

Mae gwahaniaethau ariannu o'r fath hefyd yn cael effaith ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan rai cynghorau, lle y ceir bwlch syfrdanol unwaith eto rhwng yr enillwyr a'r collwyr, gyda'r bylchau'n lledu. Er enghraifft, roedd Conwy'n ei chael hi'n anodd cadw cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy o tua £14 miliwn ar ddechrau 2020, i lawr dros £4 miliwn ers y flwyddyn flaenorol. Cymharwch hyn â Chaerffili, gyda chronfa wrth gefn o £140 miliwn ar ddechrau 2020—cynnydd o £21 miliwn ar gyfer yr un cyfnod. Maent yn gynghorau o wahanol faint, ydynt, ond yn amlwg, mae rhywbeth o'i le ar fformiwla sy'n gweld cronfeydd wrth gefn yn lleihau mewn rhai awdurdodau tra bônt yn cynyddu'n sylweddol mewn awdurdodau eraill.

Felly, Lywydd dros dro, rhaid imi fod yn glir: nid wyf yn dadlau yma ynglŷn â'r swm. Rwyf wedi gweld y gwelliant, ac mae'n sôn am y swm—'Rydym yn rhoi mwy ichi.' Fe wyddom eich bod yn rhoi mwy inni, ond nid yw hyn yn ymwneud â'r swm. Nid yw o bwys os oedd yn llai o arian. Bydd y fformiwla'n gweithredu yn yr un ffordd. Felly, nid wyf yn dadlau am y swm. Rwy'n dadlau ynglŷn â sut y caiff y gacen ei thorri a'i rhannu.

Nawr, yr ateb parod gan Weinidogion—ac rwy'n tybio y byddwn yn ei glywed eto wedyn—ar adolygu'r fformiwla, yw eu bod yn hapus i gynnal adolygiad os bydd arweinwyr lleol yn gofyn am hynny. Nawr, wrth edrych yn gyflym ar lefelau ariannu a chronfeydd wrth gefn mewn gwahanol gynghorau, yn ogystal â deall lle mae'r dylanwad gwleidyddol—. Mae'n hawdd dod i'r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r arweinwyr allweddol hynny'n gofyn am adolygiad. Daw'r hen ddywediad am dwrci'n pleidleisio dros y Nadolig i'r meddwl. Ond y ffaith amdani yw bod angen newid. I rai cynghorau gwledig a chynghorau yng ngogledd Cymru, mae'r pwysau ariannol, er gwaethaf y setliad cadarnhaol eleni, yn mynd yn anghynaliadwy, ac mae cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn disgyn i lefelau isel iawn oherwydd y pwysau.

Lywydd dros dro, wrth drafod ariannu cynghorau, mae hefyd yn bwysig edrych ar rôl y dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, am ymgynghori ar adolygiad o'r dreth gyngor, gan ei bod yn cael ei hystyried yn atchweliadol ac wedi dyddio. Dyma safbwynt a gefnogir yn gyffredinol gan y rhan fwyaf ohonom. Ond am fod y fformiwla ariannu'n cael ei gyrru o'r sylfaen dreth gyngor a gynhyrchir gan bob cyngor, byddwn yn dadlau bod y ddwy—y dreth gyngor a'r fformiwla ariannu—

17:05

Mae eich amser ar ben yn awr. A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben yn awr?

O, mae'n ddrwg gennyf. Dim ond brawddeg neu ddwy sydd gennyf ar ôl. 

Maent wedi'u cysylltu'n sylfaenol, yn gynhenid. Felly, llywodraeth leol—mae'n hanfodol bwysig iddo gael dyfodol cynaliadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ar frys. Os nad yw'n gallu, neu os nad yw'n cytuno i wneud hynny, dylent o leiaf agor ymgynghoriad ar y fformiwla ariannu, yn yr un modd ag y maent yn adolygu'r dreth gyngor. Diolch.

Cofiwch fod y bobl sy'n mynd dros yr amser yn mynd ag amser oddi wrth y lleill sydd am gyfrannu. Galwaf ar Carolyn Thomas yn awr.

Diolch, Lywydd dros dro. Rhaid imi ddatgan fy mod yn gynghorydd sir yn sir y Fflint. Felly, gwn fod gan awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru rôl hynod bwysig, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau rheng flaen, gan anelu at sicrhau cymunedau diogel, glân a chysylltiedig.

Rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y maent yn dyheu i'w cael. Ar ôl bod yn gynghorydd sir a chymuned am y 14 mlynedd diwethaf, rwyf wedi byw drwy flynyddoedd poenus o gyni, polisi a gyflwynwyd gan George Osborne o'r Llywodraeth Dorïaidd, torri gwasanaethau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys cyllidebau cyhoeddus ac iechyd cynghorau mewn termau real, gan ddiogelu neoryddfrydiaeth a phreifateiddio cynyddol.

Fel cynghorwyr, bu'n rhaid inni ymdrin â thoriadau poenus o flwyddyn i flwyddyn—ailstrwythuro, ad-drefnu a lleihau nes i gyllid cynghorau gael ei dorri i'r asgwrn. Aeth sir y Fflint i lawr o chwe depo i un, a chofiaf Philip Hammond, a oedd ar y pryd yn cymryd yr awenau gan George Osborne, yn dweud bod yn rhaid inni dynhau ein gwregysau ychydig rhagor. Rwy'n cofio gweiddi ar y teledu, oherwydd nid oedd unman arall i dorri.

Bu'n rhaid inni edrych ar geisio codi incwm, gyda phenderfyniadau anodd megis codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd, cynyddu taliadau parcio ceir a gofyn i adrannau dorri 30 y cant arall, wrth i swyddi gwag gael eu cymryd fel arbedion cost. Gallwch weld y canlyniadau yn awr wrth edrych ar gyflwr y priffyrdd ledled y DU, cynghorau nad ydynt yn gallu ymateb yn gyflym i gwynion, yn cymryd mwy o amser gyda cheisiadau cynllunio, gylïau wedi blocio a llifogydd, goleuadau stryd yn cymryd ychydig yn hwy i'w hatgyweirio, ac yn awr, methu recriwtio i swyddi hanfodol.

Gallwn weld hefyd, yn rhan o'r agenda cyni, sut yr oedd y toriadau i nawdd cymdeithasol, yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol, yn effeithio ar bobl. Roedd cynghorau'n ceisio camu i mewn dro ar ôl tro i helpu'r rhai agored i niwed, yn union fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Wrth i wasanaethau cynghori a ariennir yn gyhoeddus gael eu lleihau neu eu torri, mae'n rhaid i hyd yn oed elusennau gael cyllid craidd.

Roeddwn am ddweud hynny oherwydd dyna'r man cychwyn y maent arno ar hyn o bryd. Ac mae'n aml yn codi bod angen mynd i'r afael â'r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Fe'i gwneuthum yma yn y Siambr bythefnos yn ôl, ac rwy'n ymwybodol fod y ddadl wedi troi mewn cylchoedd dros y blynyddoedd diwethaf, gydag arweinwyr cynghorau yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth Cymru yn dweud wedyn fod angen i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gytuno ar hynny ar y cyd, ac mae ganddynt oll safbwyntiau gwahanol. Fel y dywedwch, mae'n dibynnu pwy sydd â'r darn o'r gacen.

Ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, ac yn sir y Fflint, er gwaethaf y lleihad yn y gweithlu, mae'r cyngor yn dal i gyflogi 5,500 o bobl. Pobl leol yw'r rheini—athrawon, gweithwyr gofal cymdeithasol, glanhäwyr, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr gwastraff. Ac mewn sawl ardal, fel Ynys Môn, y cyngor yw'r cyflogwr mwyaf. Nid yn unig eu bod yn darparu gwasanaethau pwysig, maent hefyd yn cyflogi pobl leol sydd wedyn yn gwario eu harian yn yr economi leol ac yn anfon eu plant i ysgolion lleol.

Roedd eleni'n setliad da i gynghorau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ar gyfartaledd o 9.4 y cant o'i gymharu â setliad cynghorau Lloegr o 6.9 y cant, ond gall yr amrywiant y pen a fesul cyngor fod yn sylweddol iawn, gyda'r bwlch rhwng y cyngor sy'n cael fwyaf o arian a'r cyngor sy'n cael leiaf yn lledu o flwyddyn i flwyddyn. A chlywsom y dystiolaeth hon yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Gall yr effaith gronnol olygu bod y llinell sylfaen, i rai, yn parhau'n isel. Gall y gwahaniaeth rhwng awdurdodau cyfagos fod yn £650 y preswylydd a £50 miliwn neu fwy y flwyddyn. Felly, er enghraifft, gall grant cynnal a chadw priffyrdd o £20 miliwn drwy'r fformiwla olygu £1.2 miliwn i un awdurdod, a £850,000 i un arall. Ac os yw hyn yr un fath, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae un yn parhau i wneud yn dda tra bo'r llall yn cael trafferth. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Credaf mai dyma'r amser i'w adolygu. Fel y gwn i, mae gan rai cynghorau gronfeydd wrth gefn mawr ac maent yn gallu gosod treth gyngor isel, ac wedi cadw adnoddau ac arbenigedd i dynnu arian grant i lawr, megis cyllid teithio llesol. Wyddoch chi, mae gennych chi swyddogion technegol—nid oes gan rai awdurdodau swyddogion technegol mwyach. Ac mae'n anodd iawn prynu'r gwasanaethau hynny o'r tu allan. Fe allwch eu prynu o'r tu allan, ond nid oes ganddynt yr wybodaeth leol i ymdrin â materion lleol, felly mae'n broblem wirioneddol. Ac mae hyn yn effeithio ar fy ardal i yng ngogledd Cymru, lle mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd yn gyffredinol.

Bythefnos yn ôl, pan godais yr angen fynd i'r afael â'r fformiwla ariannu yn y Siambr, gofynnais i'r Gweinidog a allai'r pwyllgor dosbarthu sydd islaw'r pwyllgor cyllid ymchwilio i'r fformiwla ariannu neu edrych ar gael cyllid gwaelodol. Credaf y byddai hynny'n help mawr hefyd, oherwydd rydym wedi cyrraedd y llinell sylfaen honno yn awr i rai awdurdodau sy'n ei chael hi mor anodd. Ac ymatebodd y Gweinidog i ddweud y byddai'n gofyn i'r pwyllgor cyllid ystyried hyn, ac roeddwn yn fodlon ar hynny. Felly, mae'r pwyllgor dosbarthu yn dod o dan y pwyllgor cyllid, ac—. Rwy'n hapus ynglŷn â hynny, a chredaf fod rhai arweinwyr yn aelodau o'r pwyllgor hwnnw hefyd. 

Rwyf hefyd wedi gofyn am bapur i ddod i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Credaf fod angen edrych arno a'i ddadansoddi i weld a yw'n dal yn addas i'r diben. Os canfyddir ei fod yn deg ac yn gyfredol, yn ôl y fformiwla, mae hynny'n iawn, ond rwy'n credu bod angen ei adolygu. Diolch.

17:10

Hoffwn ddatgan buddiant, fel aelod presennol o Gyngor Sir Ddinbych dros ward wych De Orllewin Prestatyn. Felly, siaradwch ag unrhyw gyngor yng ngogledd Cymru, hyd yn oed Cyngor Sir y Fflint sy'n cael ei redeg gan Lafur, ac y mae Carolyn Thomas yn aelod ohono, a byddant yn dweud yr un peth wrthych—eu bod yn cael cam gan Fae Caerdydd. Yn hanesyddol, rydym ni yn y gogledd ar ein colled oherwydd bod y fformiwla ariannu yn blaenoriaethu Cymoedd de Cymru.

Er bod croeso mawr i'r ffaith bod sir Ddinbych i gael un o'r setliadau gyda'r cynnydd mwyaf eleni, nid yw'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol nac yn rhoi unrhyw sicrwydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae hon yn loteri flynyddol ac mae'n rhaid iddi ddod i ben, ac mae'n hen bryd inni gael fformiwla ariannu sy'n deg i bob rhan o Gymru. Yn anffodus, mae fy etholaeth yn gartref i ddwy o'r ardaloedd tlotaf yn y wlad, ac mae ganddi un o'r canrannau uchaf o bobl wedi ymddeol. Mae tua chwarter poblogaeth sir Ddinbych dros 65 oed, ac eto nid yw'r fformiwla ariannu bresennol yn adlewyrchu'r angen ychwanegol am wasanaethau i ddarparu ar gyfer y boblogaeth hon sy'n heneiddio. Mae cynghorau'n cael £1,500 ychwanegol am bob person dros 85 oed, ond fawr ddim am unrhyw un rhwng 65 ac 84 oed. Sut y mae cynghorau i fod i ddarparu gofal cymdeithasol digonol pan fyddant yn parhau i fod ar eu colled? I leoedd fel sir Ddinbych, nid yw'r rhagolygon yn wych.

Bydd newidiadau demograffig dros y degawdau nesaf yn rhoi straen pellach ar gyllid sydd eisoes mewn trafferthion. Mae gwasanaethau allweddol wedi'u torri i'r asgwrn neu wedi'u diddymu'n gyfan gwbl yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd setliadau gwael gan Lywodraeth Cymru, gan orfodi cynghorau i godi'r dreth gyngor—biliau treth gyngor na all y cyhoedd eu fforddio. Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa, gyda chwyddiant yn codi ym mhob cwr o'r byd, gan godi prisiau bwyd a thanwydd, a rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau cartrefi. Ac unwaith eto gofynnir i fy etholwyr dalu'r diffyg yng nghyllid llywodraeth leol. Bydd biliau'r dreth gyngor yn codi i'r entrychion unwaith eto eleni wrth i gynghorau sydd dan bwysau geisio mynd i'r afael â bylchau enfawr yn eu cyllid, gan ei chael hi'n anodd cadw gwasanaethau i redeg, a bydd yr ymagwedd gibddall hon gan Lywodraeth Cymru yn arwain at ganlyniadau dinistriol. Rydym eisoes yn gweld y straen y mae diffyg gofal cymdeithasol yn ei roi ar ein GIG. Faint o bobl a fydd yn marw am na all ein hawdurdodau lleol fforddio darparu digon o becynnau gofal? A dyna realiti'r sefyllfa hon. Cost gymdeithasol ariannu llywodraeth leol yn wael—

17:15

Mae'n rhaid iddynt ddarparu gofal; mae'n ofyniad statudol. Os na wnânt hynny, maent yn torri'r gyfraith—dyfarniad Gloucester, fel y bydd Sam yn dweud wrthych.

Diolch am yr ymyriad, Mike. Felly, faint o bobl sydd bellach yn teimlo'n unig ac wedi eu hynysu oherwydd bod y ganolfan ddydd ar gau, neu am fod y llyfrgell leol newydd gau ei drws? Beth fydd yn digwydd i'r cymunedau y mae eu canolfannau cymunedol wedi cau a sut y bydd cynhwysiant digidol yn dioddef wrth i fwy a mwy o wasanaethau gael eu gorfodi ar-lein oherwydd mesurau arbed costau? Ein cynghorau sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae'r cyhoedd yn dibynnu arnynt, ac eto hwy sy'n wynebu'r dewisiadau anodd i dorri'n ôl neu drosglwyddo'r baich ariannu i'r cyhoedd sydd eisoes yn talu gormod. Mae arnom angen cyllid tecach i lywodraeth leol, cyllid sy'n deg i drethdalwyr ond ar yr un pryd yn caniatáu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heno. Diolch.

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hyd yma. Dwi'n meddwl ei bod hi yn ddadl werthfawr, a dwi'n siŵr bod Mike yn teimlo bod Nadolig wedi dod yn gynnar. Mae e'n cael dadl ar gynrychiolaeth gyfrannol, dadl ar ariannu awdurdodau lleol; dim ond dadl ar glwb pêl-droed Abertawe sydd ei heisiau nawr, ac mi fyddwch chi'n byw'r freuddwyd. [Chwerthin.]

Ond, ar nodyn mwy difrifol, dwi eisiau ategu'r diolch mae pawb wedi ei roi i weithwyr cyngor a chynghorwyr eu hunain, wrth gwrs, am fynd y filltir ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf yma, ac a fydd yn parhau i wneud, wrth gwrs, fel rŷn ni'n gwybod, wrth inni geisio adfer gwasanaethau yn y cyfnod nesaf yma.

Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei gasglu drwy fod yn edrych ar y dreth gyngor, felly dwi yn meddwl ei bod hi yr un mor ddilys inni fod yn gofyn i edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei rannu. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae consern yn cael ei godi; mae rhai yn colli allan, rhai yn teimlo eu bod nhw'n cael eu tan-ariannu, ac rŷch chi'n edrych ar y ffigurau global a'r gynghrair ariannu, ac mae’r ffigwr y pen, wrth gwrs, yn dangos stori arall eto, onid yw hi, ynglŷn â pa mor drawiadol yw rhai o’r gwahaniaethau.

Ond dwi'n ddigon pragmataidd, dwi'n ddigon ymarferol, i ddeall y byddai unrhyw fformiwla yn cynhyrchu enillwyr a chollwyr. Fydd yna ddim un fformiwla yn plesio pawb. Ond dwi hefyd yn deall y ddadl, wrth gwrs, dim ots sut rŷch chi'n torri'r gacen, dyw'r gacen ddim yn ddigon mawr; fydd hi byth yn ddigon mawr, mae'n debyg. Ond gwneud yn siŵr ei bod hi'n cael ei thorri mor deg â sy'n bosib, dim ots beth yw ei maint hi, yw pwynt y ddadl yma, yntefe? Ac mae e yn deimlad cryf ymhlith y cynghorwyr a'r arweinyddion dwi wedi siarad â nhw fod y fformiwla wedi dyddio, a bod angen edrych eto. Ac efallai all pobl ddadlau bod y fformiwla yn dda, ond dyw hynny ddim i ddweud na all y fformiwla fod yn well.

Ac nid dim ond edrych ar y fformiwla chwaith ar ei phen ei hun, in isolation, os caf i ddweud; mae angen edrych ar y darlun ehangach o ariannu cynghorau, oherwydd y pwynt sy'n cael ei godi gyda fi gan gynghorwyr yw bod yna gyfrifoldebau newydd wedi cael eu cyfeirio at gynghorwyr sydd i fod i fod yn cost neutral, ond sydd ddim yn cost neutral mewn gwirionedd. Mae yna gostau ychwanegol yn disgyn arnyn nhw, a byddai hynny yn beth da i'w ystyried.

A beth am adroddiad Luke Sibieta ar wariant ysgolion, hefyd, a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn 2020? Mae hwnnw'n dangos bod gwahaniaethau sylweddol mewn gwariant fesul dysgwr ar draws ysgolion yng Nghymru, a hynny'n rhannol yn adlewyrchu’r gwahanol fformiwlâu ariannu sy'n cael eu defnyddio, fformiwlâu sy'n gallu bod yn gymhleth iawn, yn cynnwys nifer helaeth o ffactorau gwahanol, sy’n creu cymhlethdod, wrth gwrs. Ac mae'r awgrym yn yr adroddiad yna fod angen rhywbeth mwy cyson ar draws y gwahanol ardaloedd, rhywbeth fyddai hefyd yn cynyddu tryloywder ac yn lleihau gwahaniaethau ariannu ar draws yr ysgolion.

Felly, mi fyddai hi'n amserol, dwi'n meddwl, i edrych yn ehangach, ac, fel glywon ni ar gychwyn y ddadl yma, i ddefnyddio data mwy cyfoes. Rŷn ni ar fin gweld data'r cyfrifiad diweddaraf. Beth am ystyried efallai dod i bwynt lle mae yna ryw adolygiad yn digwydd bob 10 mlynedd? Bob tro mae yna ddata cyfrifiad newydd yn dod, bod yna broses yn cael ei rhedeg fel ein bod ni'n gallu bod yn hyderus dyw e ddim wedi dyddio a'i fod e'n dal i fod yn addas i bwrpas.

Mae yna ddadl hefyd ynglŷn â lle llawr ariannu, bod yna gyllid gwaelodol. Dwi'n gwybod efallai fod hynny'n gallu bod yn ddadleuol, ond dyma neu dyna fyddai'r cyfle i wyntyllu hynny go iawn. Ac efallai fyddai modd dadlau bod angen rhoi hynny'n ei le tra bod adolygiad yn cael ei gyflawni er mwyn ceisio lleihau'r siom neu'r baich a fydd ar rai o'r cynghorau sydd ddim yn cael cymaint ag a fydden nhw yn ei obeithio.

O ran gwelliant y Llywodraeth, wrth gwrs, mae pawb yn cydnabod bod y cynnydd o 9.4 y cant yn y setliad cyfan yn well na'r disgwyl, ond eto y pwynt ynglŷn â nid maint y gacen efallai yw'r drafodaeth heddiw, ond sut mae'r gacen yn cael ei rhannu. Ac rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, tra ei fod e'n edrych yn dda ym mlwyddyn 1 yn y cylchdro ariannol, mae blwyddyn 2 a 3 yn mynd i fod yn heriol iawn. Ac, wrth gwrs, pan fo'r esgid honno yn gwasgu, yna dyna pryd fydd y dadlau mwyaf ffyrnig ynglŷn â'r fformiwla yn digwydd. Felly, mae angen inni fod ar y blaen i hynny yn ceisio gwneud yn siŵr bod beth sydd gyda ni yn addas.

Felly, i gloi, mae'r Ceidwadwyr yn iawn—ac, eto, dŷn ni ddim yn dweud hynny'n aml. Mae hwn yn fformiwla ariannu sydd wedi dyddio. Dyw e ddim yn addas i bwrpas. Mi grëwyd e ar fympwy ddegawdau yn ôl gyda dim bwriad iddo fe bara mor hir â hyn. Ond ŷch chi'n gwybod beth? Gallwn ni ddweud hwnna am fformiwla Barnett hefyd, a dwi'n siŵr mai dyna fydd y ddad byddwch chi'n dod ger ein bron yr wythnos nesaf.

17:20

Mae'n swnllyd iawn acw. Galwaf yn awr ar y siaradwr olaf, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd dros dro. Rhwng 2010-11 a 2019-20, gostyngodd cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol 17 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn ogystal, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi bod gostyngiad o 19 y cant yn niferoedd staff llywodraeth leol yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2010 a 2020. Mae'r ffigurau llwm a brawychus hyn yn rhoi cipolwg bach inni o'r diffyg cefnogaeth i awdurdodau lleol cyn y pandemig. Maent wedi bod ar flaen y gad yn ymateb i COVID-19 ac wedi ysgwyddo baich sylweddol drwy gydol y pandemig. Cafodd staff eu secondio i adrannau gwahanol ac fe wnaethant helpu i sefydlu rhwydweithiau cymorth a darparu bwyd i breswylwyr agored i niwed hyd yn oed. Yn sicr fe wnaeth hyn ymestyn hyd yr eithaf eu hadnoddau a'u gwasanaethau, a oedd eisoes wedi'u disbyddu.

Mewn ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth a gefais gan awdurdodau lleol, rwyf wedi cael cryn sioc o weld, rhwng 2018-19 a 2020-21, fod tua £10 miliwn neu gynnydd o 118 y cant yn y gwariant ar gartrefu unigolion mewn llety dros dro. A siaradwch ag unrhyw arweinydd awdurdod lleol neu aelod cabinet a byddant yn dweud wrthych fod y gyllideb digartrefedd yn straen difrifol iawn yn awr, ac mae'n rhywbeth nad yw'n llacio. Os edrychwch ar hyn mewn ffordd strategol, mae'r cynnydd hwn, heb os, yn deillio'n rhannol o fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i adeiladu'r tai newydd sydd eu hangen ar ein cymunedau. Ac fe'i gwnaed yn glir i mi gan o leiaf un aelod fod y gwariant wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy yn y flwyddyn ariannol hon.

Yn anffodus, nid dyma'r unig enghraifft o'r cynghorau'n cael eu gadael i ysgwyddo'r baich am fethiannau Llywodraeth Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i wneud iawn am ddiffygion cyllidebol drwy ddulliau eraill. Ym mis Hydref y llynedd, adroddodd y BBC fod dyled gyhoeddus cyngor dinas Caerdydd yn mynd i godi oddeutu 70 y cant, gyda'r rhagolwg y byddai'r cyngor yn benthyca dros £1.4 biliwn erbyn 2023-24. Mae'r sefyllfa hon wedi dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru yn cilio rhag rhoi'r holl gamau angenrheidiol ar waith i ariannu a chefnogi awdurdodau lleol. Yn hytrach, maent yn trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol, gan orfodi cynghorwyr lleol i dorri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, sy'n cael effaith andwyol ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn cynyddu trethi cyngor, yn mygu twf economaidd lleol ac yn ychwanegu pwysau ariannol ychwanegol ar drigolion sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw yng Nghymru. Yr adrannau rheoleiddio hynny sydd wedi gweld eu staff yn lleihau, a bellach mae gan ein hawdurdodau cynllunio ôl-groniadau o sawl cais cynllunio. Lywydd—Lywydd dros dro—ni ddylent orfod bod o dan y fath bwysau. Fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU yn ddiweddar, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i gynnydd o £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i gyllideb Llywodraeth Cymru ar ben y cyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn y flwyddyn, ac eto, Lywodraeth Cymru, rydych yn cwyno drwy'r amser am ddiffyg adnoddau.

Fel y dywedwyd yma heddiw, nid yw'r fformiwla ariannu bresennol yn addas i'r diben. Ac roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros lywodraeth leol am saith mlynedd yma, ac yn 2010 roeddem yn cael yr un dadleuon. Ac roedd y Gweinidog ar y pryd, gan bwyntio bys ataf i, yn dweud, 'Ond yr arweinwyr, dyna mae'r arweinwyr ei eisiau.' Wel, rwy'n dweud wrthych yn awr, mae gwir angen edrych arni, oherwydd wrth godi heno a gofyn yr un cwestiynau, mae'n debyg i déjà vu, ac mae gwir angen ichi fynd i'r afael â hyn yn awr a chael golwg ar y fformiwla ariannu. Cefais gyfarfod unwaith â gweision sifil yma, neu swyddogion y Llywodraeth yma, ac roeddent yn dweud, 'Janet, gallwn wneud newidiadau bach iddo, ond byddai'n amhosibl adolygu'r fformiwla ariannu.' Ond nid yw'n iawn yn awr, yn enwedig pan edrychwch ar fy etholaeth i yn Aberconwy. Mae gennyf bobl yn symud allan o'r sir i ardaloedd eraill lle nad oes ganddynt rwydwaith teulu na ffrindiau, am nad oes pecynnau gofal cymdeithasol ar gael yng Nghonwy. Nid bai'r awdurdod yw hynny, diffyg arian yw hynny.

Ni all fod yn iawn eich bod yn caniatáu i rai awdurdodau lleol gronni arian trethdalwyr, tra bod fy Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fy hun yn gorfod cynyddu'r dreth gyngor 3.9 y cant. Soniodd Peter Fox yn rhagorol am y cannoedd o filoedd y mae rhai awdurdodau lleol—awdurdodau Llafur yn bennaf—yn ne Cymru, sut y caniateir iddynt ddal eu gafael, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar £120,000, £130,000, a £1.3 miliwn mewn rhai achosion. Ni all fod yn iawn pan fydd ffigur Conwy—

17:25

Ewcs, gwnaf yn wir [Chwerthin.] Fe wnaf. Diolch, Lywydd dros dro. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud yw: dewch, mae gennym draean o Aelodau newydd yn y Senedd yn awr, mae gennym dalent newydd, sydd wedi cael profiad mewn awdurdodau lleol. Os nad ydych am wrando arnaf i, gwrandewch arnynt hwy. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans. 

Diolch. Rwy'n croesawu rhan gyntaf y cynnig. Mae pob un ohonom wrth gwrs yn dymuno diolch i staff llywodraeth leol ac aelodau etholedig am y gwaith y maent wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae wedi bod yn gyfnod eithriadol ac mae ymateb llywodraeth leol wedi bod yn eithriadol. Edrychaf ymlaen at barhau'r berthynas waith gref iawn yr ydym wedi'i datblygu yn ystod yr amser mwyaf heriol, heb os, y gall neb ei gofio i lywodraeth leol. Fodd bynnag, nid yw'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol ar ben a rhaid inni yn awr wynebu heriau pellach gyda'n gilydd, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a'r argyfwng hinsawdd, a gwn fod ein hawdurdodau lleol yn benderfynol o ymateb i'r heriau hynny.

Rwyf hefyd yn croesawu ail ran y cynnig. Mae awdurdodau lleol sydd wedi eu hariannu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da i bawb ac sy'n cefnogi'r rhai sydd eu hangen yn ganolog yn ein cynllun ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Hyd yn hyn, drwy'r pandemig, rydym wedi cefnogi awdurdodau lleol â thros £860 miliwn drwy'r gronfa galedi i gydnabod costau ychwanegol, colli incwm a'r cynlluniau cymorth y maent yn eu gweinyddu ar ein rhan, ac mae cynghorau wedi cyflawni dros fusnesau bach, unigolion a chymunedau. Ac fel y clywsom, roeddwn yn falch o gyhoeddi, ar 16 Rhagfyr, y cynnydd o 9.4 y cant yng nghyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 dros y flwyddyn ariannol gyfredol. Ac mae hyn yn golygu bod £437 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i barhau i gynorthwyo llywodraeth leol i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Roeddwn wedi gobeithio cadw fy ymateb a fy sylwadau yn y ddadl hon yn gadarnhaol ac yn ddefnyddiol, ond bobol bach, rhaid imi wrthwynebu'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr yn cwyno am yr hyn y maent yn ceisio'i ddisgrifio fel degawd o danariannu ar ran Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ddegawd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n awgrymu'n barchus mai'r Ceidwadwyr yn y lle hwn a ddylai gallio ac mae'n hen bryd iddynt ddechrau ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am effeithiau dewisiadau eu plaid yn San Steffan.

Ond rwyf am symud ymlaen i ddweud bod y cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla sefydledig, wedi'i chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol a'i chytuno'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Ac mae'r fformiwla hon yn rhydd o agenda wleidyddol ac yn cael ei gyrru gan ddata, a chaiff y setliad ei ddosbarthu drwy fformiwla sy'n defnyddio dros 70 o ddangosyddion o angen i wario. Mae'n cael cefnogaeth gyfunol gan lywodraeth leol ac mae'n seiliedig yn briodol ar egwyddorion allweddol cydraddoli ar gyfer angen cymharol i wario a gallu cymharol i godi incwm yn lleol. Mae'r fformiwla wedi'i chreu a'i llywodraethu yn—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:30

A gaf fi wneud ymyriad byr yma? Diolch. Fe ddywedoch chi fod y fformiwla'n cael ei gyrru gan ddata. A fyddech yn derbyn, er hynny, fel y dywedais, fod rhai o'r pwyntiau data—cryn dipyn o'r pwyntiau data mewn gwirionedd—yn amlwg wedi dyddio cryn dipyn? Ac mewn gwirionedd, mae angen gwneud rhywfaint o waith o leiaf i sicrhau bod y data a ddefnyddiwch, ac y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio, i ariannu cynghorau yn gywir ac mor gyfredol â phosibl.

Ac rwyf ar fin dod at yr union bwynt hwnnw. Mae'r fformiwla'n cael ei chreu a'i llywodraethu yn y fath fodd fel na ellir ei chamddefnyddio'n annheg gan unrhyw awdurdod neu grŵp o awdurdodau, neu gan wleidyddion, boed yn gynghorwyr a etholwyd yn lleol neu'n Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae galwadau wedi bod erioed am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla, ac chefais alwadau mor ddiweddar â'r wythnos ddiwethaf. Ond prin yw'r galwadau hyn ac nid ydynt yn unedig, ac rydym bob amser wedi cydnabod y risgiau a'r heriau y byddai adolygiad o'r fath yn eu hachosi. Ond nid yw hynny'n golygu bod y fformiwla yn sefydlog wrth gwrs.

A fyddech yn cytuno â mi—? Fe welwch o dystiolaeth y Pwyllgor Cyllid fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod llawer o gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn crebachu, ar adeg, er hynny, pan fo cronfeydd wrth gefn gwirioneddol CLlLC, ym mhot y teulu llywodraeth leol, wedi cynyddu £0.5 biliwn yn ystod y pandemig. Sut y gellir cyfiawnhau'r ffaith bod fformiwla yn caniatáu i'r gwahaniaethau enfawr hynny barhau? Oherwydd bydd hynny'n peri i rai awdurdodau ddisgyn oddi ar ymyl clogwyn, os caniateir iddo barhau. Nid yw hyn yn ymwneud â'r swm; mae'n ymwneud â'r dosbarthiad.

A chredaf y byddech yn cytuno â mi, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn llywodraeth leol, mai cipolwg yn unig ydyw, a bod gan lawer o gynghorau gynlluniau, ac maent wedi clustnodi arian o fewn y cronfeydd wrth gefn ar gyfer cynlluniau. Felly, nid yw ond yn adlewyrchu cipolwg ar yr adeg honno. Ac wrth gwrs, gwelsom ychydig o flynyddoedd eithriadol, felly nid wyf yn credu y bydd cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol eleni o reidrwydd yn adlewyrchu'r hyn y byddech yn ei weld mewn blynyddoedd arferol. Gwn y byddwn yn mynd ymlaen i drafod cronfeydd wrth gefn, ond rwyf eisiau parhau i siarad am y fformiwla a dweud nad yw'n sefydlog.

Mae'n cael ei adolygu'n gyson, drwy waith yr is-grŵp dosbarthu, a oruchwylir gan yr is-grŵp cyllid. Trafodais addasrwydd y fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid i lywodraeth leol gydag arweinwyr llywodraeth leol yr wythnos diwethaf, yng nghyfarfod yr is-grŵp cyllid, ac yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaethom ystyried effaith newidiadau i fudd-daliadau lles a buom yn siarad am y cyfrifiad ac amseroldeb peth o'r data yn y fformiwla.

Felly, fel y cytunwyd gydag arweinwyr llywodraeth leol, mae'r is-grŵp dosbarthu ar fin cychwyn ar raglen waith i ystyried diweddariadau posibl i'r fformiwla, gan ddefnyddio allbynnau o'r cyfrifiad diweddaraf, a fydd yn darparu gwybodaeth lawer mwy cyfredol a pherthnasol i ni. A chredaf fod hyn yn bwysig iawn, ac mae hefyd yn un o'r rhesymau pam nad oeddwn ond yn gallu darparu dyraniadau setliad ar lefel Cymru ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 y setliad aml-flwyddyn, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r data mwyaf cywir a chyfredol.

Yn ddiddorol, mae'r rhan fwyaf o'r data yn y fformiwla, sy'n berthnasol i 72 y cant o'r cyllid, yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r is-grŵp dosbarthu wedi argymell newidiadau i'r ffordd yr ymdrinnir â nifer o setiau data, o ganlyniad i'r diwygiadau i'r system les yn ogystal ag effaith y pandemig. Ac yna, y mater ar wahân a godwyd y prynhawn yma, ac a godwyd hefyd yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y mis diwethaf, yn ymwneud â'r pwysoliad a gymhwyswyd i wahanol garfanau oedran yn y fformiwla, rwyf eisiau cadarnhau y bydd swyddogion yn trafod y mater penodol hwn gyda'r is-grŵp dosbarthu yn eu cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth.

Fel y mae cyd-Aelodau wedi cydnabod, rydym wedi ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac fel rhan o'r gwaith hwn, bydd angen inni ystyried sut y mae angen i'r fformiwla ariannu ymateb i hyn, a newidiadau eraill i amgylchiadau, gan barhau i ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i awdurdodau. Wrth gwrs, fel y clywsom, mae unrhyw newid i'r fformiwla yn anochel yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai'r rhain fod yn sylweddol. A dyna pam ein bod wedi dweud o'r blaen, os oes awydd cyfunol gan lywodraeth leol i gynnal adolygiad sylfaenol o fformiwla ariannu setliadau llywodraeth leol, byddwn yn gweithredu ar hynny, ac y byddwn yn gwneud hynny gyda'n gilydd.

Ond er bod gwelliannau bob amser i'w cynllunio a'u gwneud, ni allaf gytuno bod y fformiwla bresennol yn anaddas i'r diben. Mae'n darparu tryloywder a sefydlogrwydd, gan ymateb i anghenion ac amgylchiadau sy'n newid, ac mae ein cefnogaeth barhaus i lywodraeth leol, a ddangoswyd drwy gydol y pandemig a chyda'r cynigion ariannu tair blynedd diweddaraf, yn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau lleol o'r radd flaenaf ledled Cymru. Diolch.

17:35

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddatgan yn gyntaf fy mod yn dal i fod yn gynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar a'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Weinidog, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma.

Lywydd dros dro, a chithau fel finnau wedi eistedd mewn llawer o Seneddau a Chynulliadau, fe fyddwch chi hefyd yn gwybod nad yw'r hyn a glywsom heddiw yn ddim byd newydd. Rydym wedi clywed dadleuon drosodd a throsodd gan Aelodau ledled Cymru, dro ar ôl tro, fel y dywedodd Carolyn Thomas a Janet Finch-Saunders, ac fel y dywedodd Sam Rowlands, fod y fformiwla honno wedi dyddio ac yn sylfaenol annheg. Ac eto, nid oes unrhyw beth wedi newid.

Mae'n drueni, ac mae'n drueni arbennig gan fod gennym chweched Senedd sy'n ymfalchïo mewn tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Senedd sy'n honni ei bod eisiau gofalu am bob person mewn angen yng Nghymru. Ac eto, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru sy'n benderfynol o beidio â newid fformiwla sy'n pennu cyllid llywodraeth leol mewn ffordd sy'n golygu y bydd rhai o'r bobl fwyaf anghenus o dan anfantais.

Mae gwahaniaeth enfawr rhwng gwneud y peth iawn a gwneud y peth iawn i'ch plaid. Mae'n siomedig gweld yr agweddau pleidiol a welsom yn y Siambr hon heddiw. Weinidog, mae safbwynt Llafur yn amlwg yn benderfyniad gwleidyddol i gadw fformiwla sy'n golygu y gallai rhai o'r teuluoedd incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru orfod mynd heb y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, neu orfod ymdopi â chodiadau i'r dreth gyngor am eu bod yn digwydd byw mewn ardal wledig, lle maent yn gweithio, sy'n cael ei hystyried yn gyfoethog.

Mae'n ffodus, fel y nododd Peter Fox, fod gennym gynghorau yn yr ardaloedd hyn a gafodd eu taro'n galed, fel yn ei etholaeth ei hun yng Nghyngor Sir Fynwy, sydd ar waelod y tabl yn gyson pan gaiff yr arian ei ddosbarthu, ac sydd mor dda am reoli arian ac mor arloesol wrth lunio cynlluniau i'w trigolion fel nad oes rhaid i'r cymorth mawr ei angen i'w pobl fwyaf agored i niwed a'r rhai llai cefnog ddioddef oherwydd y fargen eithriadol o annheg y maent wedi'i chael gan Lywodraeth Cymru.

Nid yw'n iawn, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders a Gareth, fod yn rhaid i gynghorau mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru, y rhai sydd â phoblogaeth sy'n heneiddio o faint sylweddol neu sydd â phocedi difrifol o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, ystyried codi'r dreth gyngor fel yr unig ffordd o achub eu gwasanaethau hanfodol i'w trigolion. Nid yw'n iawn, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, ein bod yn peryglu ein pobl fwyaf agored i niwed.

Fel y dywed Sam Rowlands, Mike Hedges a Llyr Gruffydd, mae llawer o'n cynghorau wedi bod yn rhagorol. Mae'r ffordd y mae ein cynghorau wedi ymateb i'r pandemig yn dangos pa mor werthfawr ydynt, a hoffwn innau ddiolch iddynt hefyd. Roedd yn drawiadol gweld sut y llwyddodd cynghorau i ad-drefnu, addasu i wneud y pethau yr oedd eu hetholwyr eu hangen fwyaf; sut y daethant yn garthen i'r rhai mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng cenedlaethol hwn; sut y mae cynghorau'n ymateb i lifogydd. Beth bynnag sy'n cael ei daflu atynt, fel y dywedodd Mike Hedges, maent bob amser ar y rheng flaen, yn cyflawni ar gyfer ein hetholwyr. Mae arnom angen ein cynghorau, pob cyngor, ledled Cymru gyfan, ni waeth pa blaid sy'n eu harwain. Maent yn chwarae rhan allweddol yn cyflawni nodau ein Senedd a'ch Llywodraeth.

Fel y dywed Peter Fox, os byddwn yn parhau i'w tanariannu, gan roi mwy o bwysau arnynt yn barhaus, efallai y gwelwn rai cynghorau'n methu. Daw hyn gan rywun sydd wedi bod yn arweinydd cyngor ers 13 mlynedd, sydd wedi gweld yn uniongyrchol sut y mae newid canrannol bach yn y fformiwla ariannu yn effeithio ar sut y caiff cyngor ei redeg o ddydd i ddydd a sut y mae'n darparu ei wasanaethau hanfodol, a'r sefyllfa anodd y mae tanariannu cyson yn gallu rhoi cyngor ynddi.

Fel y dywed Gareth Davies, ni all yr annhegwch barhau. Mae gennym fformiwla sy'n defnyddio data sydd wedi dyddio, fel y mae Sam Rowlands wedi'i nodi dro ar ôl tro yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae enillwyr a chollwyr mewn unrhyw fformiwla, ond mae angen inni ddod o hyd i fformiwla sy'n deg, y fformiwla decaf bosibl y gallwn ei chael. Mae hefyd yn codi pethau pwysig y mae angen inni eu hystyried mewn unrhyw adolygiad o ddefnyddio data'r cyfrifiad neu gyllid gwaelodol.

Ers dau ddegawd bellach, ers sefydlu'r fformiwla, mae natur wledig ardaloedd wedi cael ei anwybyddu. Fel y mae Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi dweud heddiw yn y ddadl hon, mae angen ystyried natur wledig ardaloedd. Mae eu hardaloedd enfawr yn galw am fwy o arian. Yn syml iawn, Weinidog, fel y dywedodd Peter Fox, bydd y gost o gasglu sbwriel o 100 o dai teras o'i gymharu â 100 o ffermydd gwasgaredig yn wahanol iawn mewn amser a chostau tanwydd. Nid yw fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn ystyried hyn; mae'n sylfaenol ddiffygiol ac nid yw'n cydnabod yr heriau o ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.

Ni all cynghorau gwledig gyflawni rhai o'r arbedion effeithlonrwydd y gellir eu cyflawni mewn ardaloedd bach yn ddaearyddol yn y ffordd y gall cynghorau dinasoedd a chynghorau'r Cymoedd. Erbyn hyn mae gan Gasnewydd un ganolfan gwastraff cartref ac ailgylchu; darperir addysg ôl-16 cyfrwng Saesneg yn Nhorfaen o un campws, sef parth dysgu Torfaen. Mae hynny'n wych, ond mae'r rhain yn ddwy enghraifft o arbedion effeithlonrwydd na ellir eu cyflawni mewn ardal wledig denau ei phoblogaeth lle mae angen ysgolion a gwasanaethau llai, mwy hygyrch arnoch o fewn pellteroedd teithio rhesymol.

Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Fel y dywedodd Gareth, rydym ar fin wynebu argyfwng yn ein cynghorau oherwydd y pwysau ychwanegol enfawr a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, yn enwedig yng nghyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cynghorau. Fel y dywedodd Sam Rowlands, mae'n broblem ac yn bwysau ariannol a fydd yn gwaethygu.

Clywsom gan y Gweinidog heddiw sut y mae cynghorau fel sir Fynwy wedi cael y setliad gorau hyd yma. Er bod hyn yn rhannol wir ac i'w groesawu'n fawr, fel rydym wedi'i ddweud, nid yw'n gwbl wir. Pe bai Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arian yn y modd hwnnw flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai'n sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, ond nid yw'n mynd i wneud hynny. Mae'n swm da, Weinidog, yn y flwyddyn gyntaf hon o gipio'r pennawd ac 'mae etholiad yn dod', ond beth am y blynyddoedd i ddilyn? Mae'n gyllid a fydd yn gostwng, yn enwedig ar ôl y pandemig. Mae angen i gyllid, yn enwedig ar ôl y pandemig, ac yn enwedig pan fyddwn yn wynebu argyfwng costau byw, godi o flwyddyn i flwyddyn i wrthbwyso'r cynnydd mewn chwyddiant fan lleiaf. Dyna'r realiti. Felly, mae rhywfaint o gamliwio'n digwydd yma heddiw, os ydych chi'n onest, Weinidog.

Fel y mae Sam Rowlands a'n holl Aelodau Ceidwadol wedi'i ddweud yma heddiw, rydym yn croesawu'r arian, ond nid dyna'r ateb ac yn sicr nid yw'n bopeth yr ydych yn honni ei fod. Fel y dywedodd Peter, ei etholaeth yn sir Fynwy yw'r cyngor sy'n cael leiaf o arian yng Nghymru, ar ddim ond £1,176 y pen, ac eto mae rhai cynghorau trefol cyfagos yn cael cymaint â £1,881 y pen. Mae hyd yn oed yr ail a'r trydydd cyngor isaf, Bro Morgannwg a sir y Fflint—£1,372 a £1,476 yn y drefn honno—yn cael llawer mwy na sir Fynwy. Fel y dywed fy nghyd-Aelod, Peter, pe bai sir Fynwy yn cael ei hariannu yn ôl cyfartaledd Cymru, byddai'r cyngor yn cael £40 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i'w wario ar wasanaethau rheng flaen. Mae'r bwlch rhwng y cynghorau a ariennir orau ac a ariennir waethaf yng Nghymru wedi mynd yn rhy fawr, ac mae'n effeithio ar y gwaith o redeg y cyngor a llwyddiant ceisiadau, fel y dywed Carolyn Thomas. Hyd yn oed eleni, gyda sir Fynwy yn cael y cynnydd canrannol mwyaf, sef 11.2 y cant, yn dilyn blynyddoedd o danariannu, mae'r bwlch rhwng sir Fynwy a chynghorau eraill yn parhau i dyfu. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy ac mae'n siarad cyfrolau am agweddau'r Llywodraeth hon tuag at y Gymru wledig.

Mae arweinwyr trawsbleidiol CLlLC i gyd wedi mynegi eu prif bryderon am y fformiwla annheg, gyda rhai eithriadau amlwg, oherwydd mae fel tyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig. Mae arnom angen adolygiad allanol annibynnol o drefn ariannu llywodraeth leol ar frys i sicrhau ei bod yn darparu cyllid teg i bob rhan o Gymru. [Torri ar draws.] Sir Fynwy hefyd, ie. Ar ôl dau ddegawd o fformiwla ariannu llywodraeth leol sydd wedi cosbi gogledd Cymru—fel y dywedodd Janet, Gareth, Sam a Carolyn—sydd wedi cosbi ardaloedd gwledig, nad yw'n ystyried poblogaeth sy'n heneiddio na phocedi o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, mae'n bryd bellach inni gael Senedd sy'n cadw at ei haddewid i wneud Cymru'n Gymru gyfartal, i gael Llywodraeth a fydd yn sefydlu adolygiad annibynnol, neu rywbeth tebyg yn unol â'r hyn a wnewch gyda'r dreth gyngor, a cheisio newid y fformiwla ariannu annheg sydd wedi dyddio a'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu unwaith ac am byth.

Diolch, unwaith eto, i bawb, am eich cyfraniadau ac i Blaid Cymru am eich cefnogaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw yn pleidleisio o blaid ein cynnig ac yn gwneud yr hyn sy'n iawn i Gymru gyfan, nid dim ond i'ch plaid chi.

17:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Byddwn ni'n cymryd toriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly.

17:45

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:45.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:49, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar etholiadau llywodraeth leol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Rhys ab Owen, Llyr Gruffydd a Jane Dodds. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dwy yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Etholiadau llywodraeth leol, cyflwynwyd yn enwau Rhys ab Owen, Llyr Gruffydd a Jane Dodds: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

17:50

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw'r bleidlais nesaf, ar ariannu llywodraeth leol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1 nesaf, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i dderbyn. 

Eitem 7, Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Pleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan y gwelliant. 

Cynnig NDM7923 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.

2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.

3. Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.

4. Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: Ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio

Mae yna un eitem arall, sef eitem 9, y ddadl fer. Dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gyflwyno'r ddadl fer. 

Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Peter Fox, James Evans, Janet Finch-Saunders a Samuel Kurtz.

Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heddiw, 'Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio'. Erbyn hyn, mae'n bwysicach nag erioed i drafod y materion hyn ar ôl i'r ddwy flynedd ddiwethaf achosi niwed aruthrol i ganol trefi a dinasoedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod y materion allweddol sy'n wynebu canol trefi a dinasoedd a chynnig atebion ymarferol i ddiogelu ein hetholwyr a'n cymunedau wrth symud ymlaen.

Mae'r heriau sy'n wynebu Cymru yn dilyn COVID-19 yn debyg i adfywiad Prydain ar ôl y rhyfel ym 1945. Mae angen i lywodraeth genedlaethol a lleol ddarparu atebion integredig a gwneud penderfyniadau dewr wrth symud ymlaen, gan ddarparu arweinyddiaeth onest, gref a deinamig. Yn anffodus, yn fy ardal i yn Nwyrain De Cymru a gweddill Cymru, mae'r rhagolygon i lawer o ganol trefi a dinasoedd yn llwm. O bob ardal ym Mhrydain, credir mai yng Nghasnewydd y ceir y nifer mwyaf o siopau wedi cau, gyda mwy na thraean o siopau yng nghanol y ddinas wedi cau'n barhaol. Mae hyn yn dangos maint yr her a wynebwn yma yng Nghymru. 

Mae'n peri pryder fod COVID-19 wedi costio mwy na thraean eu hincwm posibl i fusnesau mewn dinasoedd a chanol trefi mawr, ac wedi cau miloedd ers mis Mawrth 2020. Nododd yr adroddiad 'City centres: past, present and future' gan The Centre for Cities fod dinasoedd fel Casnewydd wedi dioddef heriau sylweddol oherwydd diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd gan fusnesau tra-medrus. Mae'r cwmnïau hyn yn ffafrio lleoliad yng nghanol y ddinas fwyfwy gan fod yr amgylchedd busnes dwys yn eu galluogi i rannu syniadau a gwybodaeth yn hawdd. Os yw canol dinas yn methu denu'r mathau hyn o gwmnïau, bydd y ddinas gyfan yn colli'r buddsoddiad hwn, ac yn ei dro bydd hyn yn effeithio ar gyflogau a'r gallu i gamu ymlaen mewn gyrfa a chyfleoedd yn lleol. 

Mae'r diffyg mewnfuddsoddiad wedi cael effaith ganlyniadol ddinistriol ar yr economi leol ac economi Cymru yn gyffredinol. Collwyd cyfleoedd i ddenu swyddi tra-medrus a swyddi ar gyflogau uwch i'r ardal, sy'n bwydo'n ôl i broblem arallgyfeirio y soniais amdani o'r blaen. Mae hon yn enghraifft wych o pam y dylai porthladdoedd rhydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, gael eu hyrwyddo a'u dwyn i leoedd fel Casnewydd, i annog y mewnfuddsoddiad hwnnw. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos pa mor wael yw'r sefyllfa yn fy ardal i bellach, gyda chyfradd siopau gwag yn 24 y cant yng Nghasnewydd, o'i gymharu â Brighton a Birmingham, sydd â chyfradd siopau gwag o rhwng 8 a 10 y cant.

Fodd bynnag, ni ellir rhoi'r bai i gyd ar y pandemig; yn bendant nid oedd pethau'n fêl i gyd cyn y pandemig. Ers dros ddegawd, cafodd ein strydoedd mawr eu taro gan storm berffaith dirwasgiad, ardrethi busnes cynyddol a mwy o gystadleuaeth ar-lein. Gwelwn ganlyniadau hyn gyda'r canlynol: rhwng 2012 a 2020, cafwyd gostyngiad o 28.8 y cant yn nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu, gan ostwng o 695 i 495; mae nifer y peiriannau ATM wedi gostwng 18 y cant yn ystod y tair blynedd diwethaf; mae niferoedd swyddfeydd post wedi gostwng 3.9 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Ers mis Ionawr 2020, mae 64 o gwmnïau manwerthu wedi methu, gan arwain at gau 6,882 o siopau, ac effeithio ar 133,600 o weithwyr ym Mhrydain. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle mae un o bob saith siop ar strydoedd mawr yng Nghymru yn wag. Fodd bynnag, mae'n llawer uwch, fel y dywedais, mewn ardaloedd fel Casnewydd. Yr her yn awr fydd denu cwsmeriaid yn ôl i siopau ar ôl cyfnod hir o ddibynnu ar werthiannau ar-lein.  

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau ar yr hyn y gallai ac na allai manwerthwyr ei werthu, fe wnaeth hyn orfodi mwy o bobl i ddibynnu ar siopa ar-lein, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn llawer mwy effeithlon gyda danfoniadau rhad neu am ddim a'r gallu i ddychwelyd eitemau yn golygu nad oes angen mynd i siop yn y cnawd. Mae'n gwbl glir i mi fod angen strategaeth ar Gymru i ddenu ystod fwy amrywiol o ddarparwyr gwasanaethau i'n trefi a'n dinasoedd. Rydym i gyd yn gwybod y gall canol trefi fod yn fywiog a chynaliadwy, cyhyd â bod penderfyniadau dewr yn cael eu gwneud a bod ganddynt arweinyddiaeth uchelgeisiol yn sbarduno datblygiad. Yn anffodus, nid yw Cymru wedi cael y math hwn o arweinyddiaeth gyda Lafur Cymru wrth y llyw. Rydym wedi gweld rhai awdurdodau lleol, fel sir Fynwy, yn gorfod mynd ati eu hunain i ddiogelu canol trefi, ac maent wedi bod yn ei wneud gydag un fraich wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen inni weld syniadau radical a sylfaenol iawn yn cael eu rhoi ar waith a fyddai'n chwyldroi lleoedd fel Casnewydd, megis: darparu buddsoddiad drwy Busnes Cymru i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i gael presenoldeb ar-lein i gystadlu â busnesau mwy; lle mae unedau ac adeiladau mwy yn parhau i fod yn wag, creu mannau manwerthu a rennir i roi pwyslais ar greu ardaloedd bwyta sy'n hyrwyddo bwytai bach annibynnol o ansawdd da; rhoi camau llymach ar waith yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis cyflogi mwy o wardeiniaid diogelwch cymunedol a phwyso ar yr heddlu i gynyddu eu presenoldeb yng nghanol y ddinas fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu trefi a'u dinasoedd eto; a gostwng ardrethi busnes fel ei fod yn rhyddhau'r baich treth ar fanwerthwyr, gan ganiatáu i'r potensial ehangu, ailfuddsoddi a chreu mwy o swyddi'n lleol. Yn ogystal, byddai'n helpu i adfywio canol trefi, gan greu ysgogiadau i ddenu busnesau i ganol trefi.

Mae angen inni asesu a lleihau taliadau parcio. Er enghraifft, mae'n well gan bobl fynd i Gwmbrân yn fy ardal yn hytrach na chanol dinas Casnewydd, oherwydd yr amrywiaeth o fusnesau a'r cyfleoedd parcio am ddim. Nid yw'n gymhleth. Mae ffyrdd ymarferol a hawdd o adfywio canol ein trefi i sicrhau eu bod yn ffynnu unwaith eto. Arferai dinas fy ardal i, Casnewydd, fod yn lle bywiog; dyna oedd y lle i fynd yn arfer bod, a byddai nifer yn teithio'n bell o Ddwyrain De Cymru i fynd yno i siopa. Nid oes unrhyw reswm pam na all fod felly eto. Yn syml iawn, mae angen inni greu lle fel bod pobl eisiau ymweld â chanol trefi a dinasoedd eto. Mae angen inni sicrhau bod pobl, yn hytrach na chael trên o Gwmbrân i Gaerdydd neu Gas-gwent i Fryste, yn canfod rhesymau dros ddod i leoedd fel Casnewydd.

Ni allwn feddwl am ein strydoedd mawr fel siopau yn unig mwyach. Mae angen inni fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar gyda'r gofod sydd gennym i'w gynnig, gan greu profiad siopa sy'n wahanol i unrhyw beth y gallwch ei gael ar-lein. Mae angen i ganol trefi fod yn fannau lle mae pobl yn dod i ddysgu, i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus, i fyw ac i rannu amser. Mae'n rhaid iddynt gael y cymysgedd cyfan, ac mae angen iddo barhau i symud gyda'r oes. Mae'n rhaid i symud gyda'r oes olygu hefyd fod yn rhaid i wasanaethau ar-lein ac all-lein ddod ynghyd. Dylai pob manwerthwr, ni waeth pa mor fach, allu cynnig llwyfan e-fasnach sylfaenol fel y gall cwsmeriaid siopa ym mha ffordd bynnag sy'n gyfleus iddynt. Byddai hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu gweld beth sydd yn y siop cyn mynd ar daith i'w stryd fawr, neu'n gallu dewis archebu'n uniongyrchol o'r siop. Unwaith eto, mae'n dechrau gyda bod yn ddyfeisgar a chynnig y cymorth cywir i fusnesau lleol er mwyn iddynt allu ffynnu.   

Fodd bynnag, ni fydd dim o hyn yn bosibl oni bai bod cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa fath o wlad yr ydym eisiau byw ynddi, ac ymyrryd i ddiogelu'r seilwaith cymdeithasol. Gan fod arbenigwyr diwydiant wedi rhybuddio ers tro fod ardrethi busnes cynyddol yn rhan o'r rheswm dros unedau siopau gwag Cymru, mae angen inni fynd yn ôl at y pethau sylfaenol a chreu amgylchedd treth isel, deniadol i fusnesau newydd ffynnu'n hyderus. Bydd mentrau syml fel cynnig gostyngiadau ardrethi busnes i fusnesau annibynnol ac entrepreneuriaid, gwrthod cymeradwyo ceisiadau cynllunio y tu allan i'r dref a chael gwared ar daliadau parcio yn gwneud llawer i helpu ein strydoedd mawr.

I gloi, rydym angen i'r Llywodraeth hon ddarparu mwy o gefnogaeth a rhoi mwy o bwyslais ar ganol trefi a dinasoedd, gan nad yw'r polisi 'canol y dref yn gyntaf' a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ddim byd ond methiant llwyr. Ni ellir caniatáu iddynt ddihoeni a chael eu gadael i lusgo ar ôl Caerdydd mwyach. Mae angen cymorth arnynt ar unwaith i atal y dirywiad araf. Byddai rhai o'r syniadau y tynnais sylw atynt yma heddiw nid yn unig yn rhoi ein trefi a'n dinasoedd yn ôl ar y llwybr cywir, Lywydd, byddent hefyd yn creu amgylchedd cyffrous ar gyfer mewnfuddsoddi a chyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda. Edrychaf ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau yn y Siambr hon heddiw am eu meddyliau a'u syniadau ar sut y gallwn adfywio canol trefi a dinasoedd sydd wedi'u taro'n galed, gan na fydd mwy o'r un peth yn ddigon.

18:00

Diolch, Lywydd, a diolch, Laura, am roi munud o'ch amser i mi. Mae'n siŵr y bydd rhai pethau'n cael eu hailadrodd yn y cyfraniadau. Mae dwy flynedd o bandemig a'r duedd gynyddol o siopa ar-lein wedi ychwanegu at y newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein trefi. Mae hyn wedi creu heriau enfawr i'n strydoedd mawr a'u busnesau. Ond ni all busnesau wynebu'r dyfodol ar eu pen eu hunain. Mae angen cynyddu ymdrechion Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdodau lleol, ledled Cymru. Gallwn weld, drwy edrych ar y Fenni, sut y gall stryd fawr fywiog edrych. Cydnabyddir yn gyffredinol, er mwyn ail-egnïo ein strydoedd mawr a'n trefi, fod angen inni eu trawsnewid yn rhywbeth mwy na chanol trefi traddodiadol yn unig, fod angen inni eu newid yn gyrchfannau bywiog a phoblogaidd i ymwelwyr. Awyrgylch y dref, yr amrywiaeth eang o brofiad y mae'n ei chynnig, ei sector lletygarwch amrywiol, ei phrofiadau siopa arbenigol a'r siopau coffi yw'r cynhwysion i wneud atyniad llwyddiannus i ymwelwyr. Ond mae angen cymhellion tymor byr i helpu'r safleoedd hyn, megis rhyddhad parhaus i ardrethi busnes sy'n llyffetheirio. Rydym yn croesawu'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru, ond mae angen parhau â hynny, ac edrych ar bethau, fel y nodais yma yn y Siambr wrth Weinidog yr Economi, fel y cynllun talebau stryd fawr, lle y gallwn alluogi pobl i fuddsoddi a gwario ar eu stryd fawr leol. Fodd bynnag, y flaenoriaeth uniongyrchol yw cael cymorth ariannol digonol i'r busnesau sydd wedi cael eu taro waethaf. Os bydd Gweinidogion yn methu gwneud hyn mewn ffordd sy'n cydnabod o ddifrif yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, fe gollir yr union wead sy'n gwneud ein trefi yr hyn ydynt. Rhaid inni warchod rhag creu trefi anghyfannedd yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i chi, Laura Anne, am roi munud o'ch amser i mi. Mae canol trefi mewn cymunedau yn fy etholaeth wych ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn ganolog i gymunedau. Dyma lle y bydd pobl yn ymgynnull mewn siopau coffi, tafarndai, bwytai a siopau ar gyfer nwyddau hanfodol, lle maent yn cydnabod gwaith gwych ein stryd fawr. Mae'r Gymru wledig yn gartref i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled y wlad. Gwerth ychwanegol gros canolbarth Cymru yw'r isaf o ranbarthau economaidd y DU, sef £17,628 y pen yn 2019. Mae adfywio canol ein trefi yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a chynyddu cyfoeth teuluoedd mewn mannau fel canolbarth Cymru. Rhaid gwneud hyn drwy fuddsoddi'n briodol i gefnogi mentrau preifat ac entrepreneuriaeth. Pe bai'r Llywodraeth yn rhoi benthyciadau busnes i entrepreneuriaid ifanc yn yr un modd ag y mae'n rhoi benthyciadau i fyfyrwyr, rwy'n siŵr y byddai'r wlad hon mewn sefyllfa economaidd wahanol iawn. Diolch, Lywydd, a diolch, Laura.

Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones am ei chyfraniad rhagorol, ac nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am hyn. Cydnabu werth ein strydoedd mawr, a sut y mae'r mentrau—. Gallem edrych ar ardrethi busnes, taliadau parcio, mentrau newydd. Mae'n ffaith—. O, rhaid imi ddatgan buddiant fel perchennog eiddo masnachol. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Roeddwn wedi ysgrifennu yma fod yn rhaid imi ddatgan buddiant, ac anghofiais wneud hynny.

Felly, mae'r stryd fawr yn newid, ond rhaid inni groesawu'r newidiadau hynny. Nawr, rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth hardd Aberconwy, lle mae gennym strydoedd mawr gwych. Ond mae gennym broblem, Ddirprwy Weinidog, sef yr amser y mae'n ei gymryd i newid meddiant unedau siopau. Mae gennyf lawer o asiantau gosod sy'n dod ataf, mae gennyf lawer o denantiaid sydd am symud i safleoedd, ac mae gennyf lawer o landlordiaid. Os ydych am newid o ddosbarth A1 i ddosbarth A3—os ydych am newid busnes penodol—a bod angen caniatâd cynllunio arnoch, gall gymryd hyd at naw mis neu hyd yn oed 12 mis i gael y caniatâd cynllunio hwnnw. Felly, fy apêl syml i chi yw: a allwch wneud rhywbeth yn ein hadrannau cynllunio sydd dan bwysau i sicrhau bod ganddynt gapasiti i droi ceisiadau cynllunio o gwmpas yn gyflym iawn, fel nad yw'r eiddo'n wag ar y stryd fawr, gan wneud i'n strydoedd mawr edrych, fel y dywedoch chi, Peter, yn debycach i drefi anghyfannedd? Mae'n hanfodol fod gennym broses gynllunio garlam a chyflym ar waith. Diolch, Lywydd.

18:05

Felly, os edrychwn yn ôl ar 2010, roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol, dim ond cwrw oedd Corona, a chroesawodd pobl Caerfyrddin Debenhams i ganol eu tref yn Rhodfa'r Santes Catrin. Fodd bynnag, gwta 11 mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Mai y llynedd, fe gaeodd, gan adael twll 6000 metr sgwâr yng nghanol y dref. Ond diolch byth, oherwydd gwerth £18.5 miliwn o fuddsoddiad—£15 miliwn gan Lywodraeth y DU—mae hen siop Debenhams yn cael ei hailddatblygu'n gampfa, yn gartref i rai o gasgliadau amgueddfeydd y sir, ac yn ganolfan groeso i dwristiaid i dref hynaf Cymru. Caiff y prosiect ei ddatblygu gan y bwrdd iechyd lleol a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fodd bynnag, fel y dywedodd Dr Edward Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, 

'Mae'n mynd i fod yn stryd fawr wahanol iawn i'r hyn yr ydym wedi arfer ei weld.'

Felly, gadewch inni beidio â bod ofn y newid hwn. Gan fod prosiectau fel hyb Caerfyrddin yn arwain at ddenu'r nifer angenrheidiol o ymwelwyr i ganol ein trefi, ac ar ein strydoedd mawr unwaith eto, gadewch inni ei groesawu a chofleidio'r newid a ddaw yn ei sgil. Diolch.

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, nawr, i ymateb i'r ddadl—Lee Waters

Diolch am gyflwyno'r cynnig ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau. Er bod consensws clir ynghylch y broblem, credaf fod y cyfraniadau'n dangos nad oes consensws clir go iawn ynghylch yr ateb, oherwydd mae hyn yn gymhleth. Mae ystod eang o rymoedd yn dod at ei gilydd. Mae'n ymwneud yn sylfaenol â marchnad sy'n newid, ac roedd James Evans yn ei gyfraniad yn cefnogi rôl y farchnad yn cyflymu newid, a dylem hefyd gydnabod bod y farchnad wedi arwain at lawer o'r symptomau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau. Credaf mai'r cynnydd mewn archfarchnadoedd yw un o'r grymoedd mwyaf sylweddol sydd wedi siapio canol ein trefi, pan feddyliwch fod archfarchnadoedd bellach yn gwerthu bron bopeth yr arferid ei werthu mewn siopau tua 30 mlynedd yn ôl yng nghanol y dref. Mae symud i'r tu allan i'r dref felly, a symud ar-lein wedyn, i gyd wedi dod at ei gilydd i wneud canol trefi ar draws y DU yn llawer llai atyniadol na'r hyn yr arferent fod. A phe bai mor syml ag y nododd Laura Anne Jones yn ei haraith, yn fater o arweinyddiaeth wleidyddol leol, byddech yn disgwyl gweld darlun gwahanol iawn ledled y DU, ond nid ydym yn gweld hynny. Ceir tueddiadau tebyg iawn ledled y DU, ac ar draws y byd gorllewinol mewn gwirionedd, wrth i'r grymoedd hyn oll donni trwodd.

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar, un gan Archwilio Cymru ac un arall a gomisiynais gan yr Athro Karel Williams o brifysgol Manceinion, 'Small Towns, Big Issues', sy'n nodi'r her ond hefyd yn dweud bod angen ymyrraeth gymhleth, gydgysylltiedig arnom i fynd i'r afael â'r ystod o ffactorau sydd ar waith yma, ac rydym yn gweithio drwyddo yn awr. Rwyf wedi galw grŵp o arbenigwyr ynghyd i fynd drwy'r adroddiad hwn yn fanwl, i ddeall sut y gallwn weithredu hyn, ac mae Janet Finch-Saunders yn nodi un o'r problemau, sy'n ymwneud ag adnoddau ar gyfer adrannau cynllunio. Mae'n siŵr bod hynny'n ffactor. Nid oes ateb syml i hynny, oherwydd mae'r adnoddau'n gyfyngedig. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi cefnogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i allu cyfuno adnoddau ac arbenigedd ar draws rhanbarth, i helpu gyda gwasanaethau cyffredin. Maent hefyd yn edrych ar rôl landlordiaid a rhenti, sy'n amlwg yn cyfyngu ar lawer o bobl.

Mae ffurf newidiol canol tref a'r ffaith bod canol trefi, yn aml, wedi'u hamgylchynu gan 'doesen', fel y mae Karel Williams yn ei ddisgrifio, o gymdogaethau incwm isel, yn gyrru llif arian gwahanol i mewn i ganol y dref, tra bod y tu allan i'r dref yn denu cwsmeriaid incwm uwch, sydd yn ei dro yn gyrru'r mathau hynny o siopau ac yn creu dirywiad cynyddol. Ac rydym yn gweld niferoedd cynyddol o unedau gwag yn y canolfannau siopa y tu allan i'r dref bellach, ledled America ac Ewrop, felly nid yw'r rhain yn rymoedd yr ydym yn eu hwynebu ar ein pen ein hunain. A chredaf fod angen inni ailystyried rôl manwerthu, y tu allan i'r dref ac yn y dref, ac fel y dywedodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, esiampl y dull 'canol tref yn gyntaf' a hyrwyddwyd gennym yng Nghaerfyrddin, a dod â gwasanaethau cyhoeddus i ganol trefi er mwyn cynyddu niferoedd ymwelwyr a chynnig gwasanaethau yn hytrach na manwerthu'n unig ynghanol y mannau lle mae'r siopau a chanol trefi'n gweld eu rôl.

Felly, mae deinameg newidiol ar waith yn bendant. Mae llawer o'r rhain yn gymhleth. Ni cheir ateb syml i lawer ohonynt, ac fel y dywedaf, rydym wedi nodi, drwy ddadansoddiad gan academydd annibynnol, ac yn awr, drwy greu'r hyn y maent yn ei alw'n gynghrair dros newid, ymrwymiad i weithio drwy'r rhain. Ond rwy'n credu bod ychydig o le i optimistiaeth, ac rwy'n meddwl bod enghraifft Casnewydd yn un. Credaf fod Laura Anne Jones yn rhy llym ar Gasnewydd; mae'n siŵr ei bod wedi ei chael hi'n anodd, fel y mae llawer o drefi wedi ei chael hi'n anodd. Cafwyd oddeutu £30 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yng Nghasnewydd. Ond rwy'n credu bod y farchnad newydd sydd wedi'i hadfywio yn enghraifft o lle mae'r cyngor wedi gweithio'n ddeinamig ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a'r sector preifat, ac rydym yn gobeithio gweld agor marchnad newydd Casnewydd y mis nesaf, gyda dros 100 o fasnachwyr, llys bwyd, bar, gweithleoedd, campfa a gardd ar y to, a chredaf y bydd hynny'n creu deinameg cadarnhaol a fydd yn denu pobl i mewn ac yn arwain at effaith ganlyniadol, gobeithio.

Ond nid oes diben twyllo ein hunain fod atebion pleidiol neu syml wrth law, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd i geisio cydweithio i nodi rhai pethau y gellir eu gwneud. Pe bai mor syml ag ail-lunio ardrethi busnes yn unig, byddem wedi gweld ymateb cyn hyn, oherwydd rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i ardrethi busnes ledled Cymru ers peth amser ac nid yw wedi gwneud llawer o wahaniaeth, a bod yn onest. Felly, rwy'n credu mai ofer yw chwilio am atebion syml; mae angen inni gydnabod cymhlethdod hyn, cydnabod y grymoedd lluosog sydd ar waith a cheisio cydweithio drwy adeiladu cynghreiriau ar gyfer newid ym mhob sector ledled y wlad er mwyn sicrhau pwrpas newydd i ganol ein trefi.

18:10

Diolch i’r Dirprwy Weinidog. Diolch am y ddadl fer, a dyna ddod â ni at ddiwedd ein gwaith heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.