Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/01/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma. Mae'r rheini wedi nodi ar eich agenda chi. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf, felly, yw cwestiynau i Weinidog yr Economi ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Costau Byw

1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio datblygu economaidd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw DU gyfan yng Nghymru? OQ57477

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd, ochr yn ochr â’n strategaeth cyflogadwyedd sydd ar y ffordd, yn nodi ein polisïau i gynyddu sgiliau, cynhyrchiant ac enillion i helpu i godi safonau byw yma yng Nghymru. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lawer o’r ysgogiadau allweddol a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw wrth gwrs, ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn a grant caledi i denantiaid gwerth £10 miliwn, sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae costau byw yn y DU yn cynyddu'n aruthrol. Mae'n destun pryder mai crib y rhewfryn yn unig yw codiadau mewn prisiau ynni gyda'r newyddion heddiw fod chwyddiant wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac yn mynd i ddal i godi. Bydd pwysau ariannol yn dod yn real iawn i lawer iawn o bobl. Bydd miloedd yn rhagor yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi, yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi neu fwyta. Mae gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan yr holl bwerau a’r cyllid i fynd i’r afael â hyn, ond ar adeg pan ddylent fod yn gwneud popeth a allant i ddiogelu pobl, mae'n well ganddynt ddefnyddio mwy o’u hegni i gynnal eu harweinydd. Rwy’n falch o glywed am y mesurau rydych wedi’u crybwyll yma yng Nghymru, Weinidog, ond mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio pob ysgogiad sydd gennym i helpu’r rheini sydd angen cymorth, o gefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol i sicrhau bod gan bobl sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth. A allwch roi sicrwydd inni y byddwch yn gwneud popeth a allwch i ddiogelu trigolion Gorllewin Casnewydd a Chymru drwy'r cyfnod anodd hwn?

Ie, diolch. Yn sicr, gallaf roi’r sicrwydd hwnnw i chi. Rwy’n poeni’n fawr am fy etholwyr fy hun, fel Aelodau etholaethau a rhanbarthau eraill wrth gwrs, yn enwedig yn sgil y rhybudd llym gan Sefydliad Resolution am drychineb costau byw ym mis Ebrill a fyddai'n effeithio ar dros hanner aelwydydd y wlad. Ac wrth gwrs, cyn y pandemig, roeddem wedi gwneud cynnydd pendant. Felly, amlygodd adroddiad Sefydliad Resolution ym mis Tachwedd 2020 fod Cymru, cyn y pandemig, wedi haneru’r bwlch cyflogaeth gyda’r DU dros y cyfnod datganoli a bod gennym fwy o swyddi yn hanner uchaf y sbectrwm incwm nag yn yr hanner gwaelod. Felly, roeddem eisoes yn gwneud cynnydd.

Wrth gwrs, rydym bellach yn cyflawni nifer o fesurau. Felly, o'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol i gefnogi pobl i elwa mwy o'u heconomïau lleol, mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn ehangach ar yr economi sylfaenol, ar gadwyni cyflenwi, yn mynd i greu mwy o swyddi yn nes at adref, yn ogystal, wrth gwrs, â’r warant i bobl ifanc a’r strategaeth cyflogadwyedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu i geisio diogelu dinasyddion Cymru ac i roi gobaith gwirioneddol i bobl ar gyfer y dyfodol fel y gall pobl gynllunio dyfodol llewyrchus yma yng Nghymru.

Weinidog, yr hyn rydym wedi’i glywed dros yr ychydig wythnosau diwethaf gan Aelodau a chithau yw eich bod yn hoffi grwgnach am Lywodraeth y DU â’r mantra arferol o, 'Nid ydym yn cael digon o arian’, ond y gwir amdani yw eich bod wedi cael mwy o arian nag erioed o'r blaen. Darparodd Llywodraeth y DU ffyrlo i weithwyr yn ystod COVID. Mae Llywodraeth y DU yn cynyddu’r cyflog byw cenedlaethol 6.6 y cant ym mis Ebrill eleni. Y broblem go iawn yma yw bod economi Cymru wedi bod yn methu ers dros 20 mlynedd. Incwm gwario gros aelwydydd Cymru yw'r isaf yn y DU. Collodd Cymru 6 y cant o'i busnesau wrth i fusnesau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gynyddu 10 y cant ac 19 y cant. Gennym ni y mae’r twf gwaethaf mewn gwerth ychwanegol gros o bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig ers 1999 ac un busnes yn unig sydd gennym yng nghan cwmni'r FTSE. Felly, Weinidog, gyda’r argyfwng costau byw ar y ffordd, ac mae pob un ohonom yn bryderus ynghylch hwnnw, pa ysgogiadau economaidd pellach y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu defnyddio i sicrhau ein bod, yng Nghymru, yn creu economi sgiliau uwch a chyflogau uchel?

Wel, unwaith eto, gwleidydd Ceidwadol arall sydd am wadu bod gan y Llywodraeth Geidwadol unrhyw gyfrifoldeb dros argyfwng costau byw y DU. Nid yw’r ffigurau chwyddiant uchaf ers bron 30 mlynedd yn faterion sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid bod gennych safbwynt eithriadol ar faterion i ddweud mai ein cyfrifoldeb uniongyrchol ni yw hynny. Ac fel rydych yn ei gydnabod wrth sôn am ymyriadau fel ffyrlo, sy'n un o'r pethau da y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn ystod y pandemig yn fy marn i, Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau mwyaf a'r pwerau mwyaf. Gallent ddatrys problemau'n ymwneud â TAW. Gallent ddatrys problemau i gefnogi teuluoedd yn well yn hytrach na dewis mynd ag arian o bocedi'r teuluoedd sydd wedi’u taro galetaf, fel y gwnaethant wrth dorri credyd cynhwysol. Mae pob dewis a wnaed hyd yn hyn wedi gwneud bywyd yn anoddach i bobl gyffredin sy'n gweithio, a chredaf ei bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU edrych eto ar yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud. Ac fe’ch atgoffaf o’r hyn a ddywedais wrth Jayne Bryant: cyn y pandemig, roedd Cymru wedi haneru’r bwlch cyflogaeth gyda’r DU—mae mwy ar ôl i’w wneud o hyd, ond haneru’r bwlch cyflogaeth—yn ystod y cyfnod datganoli, a mwy o swyddi yn hanner uchaf y sbectrwm incwm nag yn yr hanner isaf. Felly, mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud ac yn dal i gael ei wneud. Fel y clywsoch gennyf ddoe, gallem wneud cymaint yn rhagor pe baem yn gallu cael arian i fuddsoddi mewn sgiliau yn hytrach na’i fod yn cael ei gymryd oddi wrthym. Nid problem yng Nghymru yn unig yw hon; efallai yr hoffech edrych ar waith craffu Pwyllgor yr Economi yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, a dynnodd sylw at y problemau sydd ganddynt oherwydd y bwlch cyllid sylweddol sydd ganddynt hwythau hefyd o ran sgiliau ac arloesi oherwydd yr addewid a dorrwyd ym maniffesto 2019.

13:35

Diolch i'r Gweinidog, ac i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn pwysig yma.

Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn fwyfwy pryderus am y sefyllfa yng Nghymru, ac yn enwedig am y pwysau sy'n wynebu busnesau bach. Mae’r cyfuniad o effeithiau COVID, Brexit, ac erbyn hyn y costau ynni cynyddol, cynnydd mewn yswiriant gwladol a chwyddiant, yn rhoi pwysau aruthrol ar fusnesau bach. Mae ystadegau'r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod chwyddiant yn llawer mwy na'r cynnydd mewn cyflogau, gan arwain at ostyngiad mewn cyflogau gwirioneddol. Canfu arolwg yn 2021 gan y Ffederasiwn Busnesau Bach mai costau ynni yw’r pryder mwyaf sy’n wynebu ei aelodau a rhybuddiodd y gallent fod yn fygythiad difrifol i gwmnïau bach. Hoffwn godi dau bwynt. Weinidog, pa gymorth y gellid ei roi i fusnesau i’w galluogi i fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio? Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer cronfa rhyddhad buddsoddi ardrethi busnes, a thybed a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno rhyddhad ariannol tebyg i gynorthwyo busnesau yn ystod yr argyfwng ynni? Diolch.

Diolch. Rwy'n cytuno—mae heriau’r cynnydd mewn costau ynni, gyda chynnydd pellach i ddod, yn ffactor pwysig iawn yn yr effaith ar yr holl nwyddau eraill hefyd, fwy neu lai, felly, bwyd, ac yna’r cynnydd mewn yswiriant gwladol ar ben hynny. Mae’r rheini oll yn cyfrannu at argyfwng gwirioneddol i gartrefi, yn ogystal ag i fusnesau. Ac mae pob un ohonom wedi gweld y sylw rheolaidd bellach yn y rhan fwyaf o'r cyfryngau prif ffrwd i'r argyfwng costau byw yma, sydd ar fin gwaethygu.

Ar eich pwynt ynglŷn â chronfa rhyddhad ardrethi busnes, mae’r Gweinidog cyllid eisoes wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes sylweddol ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, mae angen inni edrych yn greadigol ar y ddarpariaeth, oherwydd, beth bynnag yw'r honiadau cychwynnol am y setliad cyllideb tair blynedd, nid yw mor hael ag y gallai fod wedi ymddangos yn y penawdau cyntaf. Mewn gwirionedd, bydd gwerth yr arian hwnnw'n llai fyth yn sgil y cynnydd mewn chwyddiant, sydd ar ei uchaf ers bron i 30 mlynedd.

Ac o ran yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud i helpu busnesau i newid i ffyrdd o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, roedd y gronfa fuddsoddi a gyhoeddais cyn i'r pandemig ailymddangos ar ffurf omicron a'r don ddiweddaraf, yn ymwneud yn rhannol â sut y gallwn helpu i fuddsoddi ochr yn ochr â busnesau i wella effeithlonrwydd ynni. Felly, rwy'n awyddus i ddod allan o'r cyfnod hwn yn y pandemig, ac i drafod eto sut y gallwn weithio ochr yn ochr â busnesau a darparu cymelliadau iddynt wneud hynny. Ac mae'n rhan o'r pwynt hwn ynglŷn â rheoli trawsnewid i ddatgarboneiddio ein heconomi. Mae enillion i’w cael o well effeithlonrwydd hefyd, ond bydd angen inni helpu busnesau a theuluoedd drwy’r newid hwnnw.

Y Gronfa Cadernid Economaidd

2. Sut mae'r gronfa cadernid economaidd yn cefnogi busnesau yng Nghymru y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt? OQ57453

Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi sicrhau bod lefelau mwy nag erioed o gyllid ar gael i gefnogi busnesau Cymru drwy’r pandemig, gan gynnwys drwy'r gronfa cadernid economaidd unigryw sydd ar gael i Gymru’n unig. Bydd y pecyn cymorth brys diweddaraf—o'r gronfa cadernid economaidd yn unig—yn darparu hyd at £120 miliwn i'r busnesau y mae'r mesurau diogelu diweddaraf i ddiogelu iechyd y cyhoedd wedi effeithio arnynt.

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi, yn gyntaf oll, am barhau i gefnogi busnesau di-rif a nifer enfawr o weithwyr nid yn unig yn fy etholaeth i ond ledled Cymru yn ystod y pandemig, gan ddarparu arweiniad allweddol hefyd ar genhadaeth economaidd y Llywodraeth? Nawr, mae dau sector penodol wedi cael eu taro’n galed yn ystod y pandemig ac wedi cael cymorth sydd ond ar gael yng Nghymru. Manwerthu nad yw'n hanfodol a gyrwyr tacsi yw'r sectorau hyn. Weinidog, a allwch roi sicrwydd i ni y bydd sectorau o’r fath yn parhau i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru, ac y byddwch yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned fusnes, ac wrth gwrs, ein hundebau llafur i lunio'r pecyn cymorth gorau posibl i fusnesau?

13:40

Gallaf, yn sicr. A dweud y gwir, mae wedi bod yn ddiddorol—dangosodd arolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgol Fusnes Caerdydd fod 85 y cant o'r busnesau a ymatebodd yn cytuno bod cymorth dau gam cyntaf cronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru wedi bod yr un mor bwysig â ffyrlo yn eu cefnogi yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig. Credaf fod hynny'n glod mawr i Lywodraeth Cymru, ac yn wir, i gyn Weinidog yr economi a oruchwyliodd y cynlluniau hynny.

O ran manwerthu nad yw’n hanfodol, mae gwahaniaeth bwriadol rhyngom ni a Lloegr. Ceir mesurau i gefnogi manwerthu nad yw'n hanfodol yma, ond nid yw hynny'n wir dros y ffin. Ac mae hwnnw'n bwynt a wnaed yn rymus i mi gan gynrychiolwyr y sector manwerthu pan gyfarfûm â hwy fel rhan o'r ymgysylltu rheolaidd a wnaf â busnesau, sefydliadau busnes, llywodraeth leol, a'n hundebau llafur wrth gwrs. Ac unwaith eto, gwnaed y pwynt am weithwyr llawrydd, yr hunangyflogedig a gyrwyr tacsi yn ystod ein trafodaethau diweddar. Pan oeddem yn gwybod y byddai'n rhaid inni roi camau pellach ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod math o gymorth ar gael i yrwyr tacsi gan y gwyddom fod y sector hwnnw wedi'i effeithio'n uniongyrchol. Yn ddiweddar, fe wnaethom ddyblu’r cymorth hwnnw i £1,000 wrth gwrs, gan ddangos ein bod yn gwrando ar bobl, yn gweithio gyda hwy ac yn gwneud popeth a allwn gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn parhau i wrando a gweithio gyda’n partneriaid yma yng Nghymru, a chredaf ein bod yn cael canlyniadau gwell drwy weithio yn y ffordd honno.

Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn hefyd. Weinidog, oherwydd y cyfyngiadau pellach dros y Nadolig ac i mewn i’r flwyddyn newydd, mae’r cyhoeddiad am ragor o gymorth ariannol o’r gronfa cadernid economaidd i’w groesawu ar gyfer y busnesau hynny wrth gwrs. Fodd bynnag, oherwydd lefel a hyd y cyfyngiadau diweddaraf hyn, nid yw'n ddigon i lawer ohonynt. Enghraifft o hyn yw Cymdeithas Diwydiannau'r Nos, sydd wedi amcangyfrif bod eu haelodau, ar gyfartaledd, wedi colli oddeutu £45,000 dros gyfnod y Nadolig ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Felly, Weinidog, a yw’r busnesau hynny’n dweud celwydd pan ddywedant nad yw cymorth y maent yn debygol o’i gael gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i wneud iawn am eu colledion?

Rwy'n credu bod pob sector busnes yn awyddus i gael cymaint â phosibl i gefnogi eu busnes, ac rydych yn deall yn union pam. Pan feddyliwch am y cymorth rydym wedi’i ddarparu drwy’r gronfa cadernid economaidd, drwy gymorth mewn perthynas ag ardrethi annomestig—ac unwaith eto, cynllun sy’n fwy hael na Lloegr—a thrwy’r gronfa adferiad diwylliannol hefyd, sy’n cefnogi ystod o bobl yn y sector digwyddiadau, rwy'n credu y gallwch weld ein bod yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni i gefnogi busnesau'n briodol.

Nawr, ni chredaf ei bod yn ddefnyddiol dweud nad yw pobl yn bod yn onest am yr effaith ar eu gwaith. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud â’r cymorth a ddarparwn yw ceisio sicrhau bod busnesau’n gallu goroesi a’u cefnogi i mewn i’r adferiad, ac adferiad sy’n digwydd yn gyflymach yng Nghymru oherwydd y camau gweithredu a roesom ar waith. Ac os ydych am weld y dystiolaeth o hynny yn iechyd y cyhoedd, gallwch weld hynny yn y gwahaniaeth yn y cyfraddau o bobl sy'n mynd i'r ysbyty, a gallwch weld hynny hefyd yn y cyfraddau achosion cyfredol heddiw, lle maent bron â bod ddwywaith cymaint yn Lloegr â'r hyn ydynt yng Nghymru. Golyga hynny ein bod yn llai tebygol o gael yr effaith uniongyrchol y mae'r busnesau hynny hefyd yn ei hwynebu pan nad yw pobl yn gallu dod i'r gwaith oherwydd COVID, ac yn wir, pan nad yw eu cwsmeriaid yn gallu dod i mewn oherwydd COVID yn ogystal. Credaf fod cydbwysedd ein dull o weithredu yn iawn, ac rwy'n hyderus, maes o law, y bydd y data pellach rydym yn disgwyl ei gael yn profi hynny.

Mae'r gronfa, wrth gwrs, wedi bod yn un modd o helpu busnesau, ond mi wnaeth rhai busnesau lwyddo i oroesi drwy fod yn rhan o'r ymateb i COVID. Dwi wedi ysgrifennu at y Llywodraeth a'r Gweinidog o'r blaen ynglŷn â'r angen i gynnal y cadwynau cyflenwi gafodd eu creu yn ystod y pandemig. Mi fu Brodwaith yn fy etholaeth i, yn ogystal â chwmnïau fel Elite, y fenter gymdeithasol yn y de-ddwyrain, yn allweddol yn darparu offer PPE, ond rŵan maen nhw'n ffeindio'u hunain yn colli'r cytundebau PPE y buasen nhw'n dal yn gallu ei gyflenwi i'r NHS. Ac mae rhai o'r busnesau yma, drwy droi at gyflenwi PPE, wedi colli rhai o'r hen gytundebau oedd ganddyn nhw. A wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i edrych ar sut i gynnal y cadwynau cyflenwi yma, a allai fod yn rhywbeth positif i ddod allan o'r pandemig yma?

Gwnaf, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ar draws y Llywodraeth, mae gan Weinidogion ddiddordeb yn nyfodol caffael, a sut y mae gennym brawf chwilio priodol ar bris, ond hefyd, yn bwysicach fyth yn fy marn i, ar werth yr hyn rydym yn ei gaffael hefyd, ac ar effaith gallu cael mwy o’n nwyddau o gadwyni cyflenwi lleol ar economïau lleol, ond yn hollbwysig hefyd, ar gadernid y cadwyni cyflenwi, gan ein bod wedi gweld cadwyni cyflenwi hirsefydlog yn cael eu torri'n gyflym iawn yng nghyfnodau cynnar y pandemig wrth i'r byd i gyd gystadlu ar raddfa lawer cyflymach a mwy ymosodol am wahanol fathau o nwyddau. Felly, ydy, mae hwnnw’n bwnc byw. Ar y mater penodol a godwyd gennych, rwy'n fwy na pharod i edrych am yr ohebiaeth, a gwneud yn siŵr fy mod i, y Gweinidog iechyd a'n swyddogion yn edrych ar hynny'n iawn. Mae'n werth nodi hefyd, wrth gwrs, oherwydd y ffordd y gwnaethom weithio'n llwyddiannus gyda busnesau Cymru, a'r ffordd y gweithiodd ein timau caffael mewn modd agored a thryloyw, nad ydym wedi cael sgandal yn gysylltiedig â llwybr anghyfreithlon i bwysigion yma yng Nghymru. Mae hynny hefyd yn dangos bod gwerthoedd y Llywodraeth yn bwysig yn y dewisiadau y mae llywodraethau’n eu gwneud a’r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario a’i ddiogelu.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, croesawodd busnesau ledled Cymru y cyhoeddiad ddydd Gwener gan Lywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau COVID yng Nghymru yn cael eu llacio dros y pythefnos nesaf. Cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei groesawu’n arbennig gan fusnesau yn y sector lletygarwch a sector y nos sydd wedi wynebu caledi mawr, nid yn unig dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond drwy gydol y pandemig. Mae'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hynny'n dal i fodoli gyda chynaliadwyedd rhai busnesau dan fygythiad o hyd yn ogystal â'r posibilrwydd y bydd swyddi'n cael eu colli. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch a diwydiant y nos yng Nghymru? Pa mor hyderus ydych chi fod y pecyn cymorth presennol gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i dalu’r costau y mae busnesau'n eu hwynebu o ganlyniad i’r cyfyngiadau hyn?

O ganlyniad i’r mesurau diogelu, gwyddom nad oedd nifer o sectorau busnes yn gallu masnachu. Ac wrth gwrs, fe'i gwnaethom yn ofynnol i rai busnesau gau, yn ogystal â mynnu bod rhannau eraill o'r sector lletygarwch a oedd ar agor yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Dyna pam ein bod wedi darparu’r cymorth y gwnaethom ei ddarparu. Fe wnaethom gyhoeddi’r cymorth hwnnw pan oedd y camau diogelu’n cael eu rhoi ar waith a’u cyhoeddi. Rwyf wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector lletygarwch, gan gynnwys diwydiant y nos, ac maent wedi bod yn onest iawn ynghylch yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r effaith uniongyrchol a gânt ar eu busnesau, ar y bobl sy’n rhedeg ac yn rheoli’r busnesau hynny, ac yn wir, ar eu gweithwyr. Mae rhai pobl yn wirioneddol bryderus am y dyfodol, gan ein bod mewn sefyllfa lle mae llawer o fusnesau'n wynebu heriau gyda mynediad at arian parod, yn ogystal â'u gallu i edrych ymlaen at wahanol fath o amgylchedd masnachu. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pryderon a glywaf yn uniongyrchol a’r ymgysylltiad uniongyrchol gan fy swyddogion. Dyna pam ein bod wedi edrych ar y ffordd y gallwn ei gwneud ychydig yn haws i gael gafael ar y mathau o gymorth sydd gennym, a'i wneud ychydig yn fwy hael. Dyna pam ein bod hefyd yn parhau i weithio gyda'r sector i geisio sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau hyfyw wrth i'r amodau masnachu newid, ac wrth i hyder cwsmeriaid newid, gobeithio, ac y bydd pobl yn dod yn ôl i gefnogi busnesau lleol da, y rheini efallai y bydd aelodau iau o garfan oedran wahanol i mi a Mr Davies am eu defnyddio’n fwy rheolaidd, yn ogystal â’r ystod ehangach o fusnesau y gwyddom fod y mesurau angenrheidiol rydym wedi’u rhoi ar waith ar y cam hwn yn y pandemig wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Weinidog, wrth inni edrych ymlaen, mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut yn union y mae’n mynd i gefnogi cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol ar ffurf strategaeth benodol. Fel rhan o’r strategaeth honno, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rai o’r heriau sylfaenol a oedd yn wynebu’r sector cyn y pandemig ac ystyried pa wersi y gall eu dysgu o bandemig COVID, er mwyn sicrhau na chaiff cynaliadwyedd y sector ei fygwth yn y dyfodol. Wrth gwrs, wrth inni gefnu ar y pandemig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried yr angen am basys COVID, a chadarnhau, fan lleiaf, pa feini prawf y bydd angen eu bodloni cyn eu diddymu. Weinidog, o ystyried bod pasys COVID wedi’u profi’n aneffeithiol ar gyfer cadw clybiau nos a lleoliadau tebyg ar agor, sef holl sail y Llywodraeth, gyda llaw, dros gyflwyno’r pasys hyn yn y lle cyntaf, pa gamau rydych yn eu cymryd bellach i ddiddymu pasys COVID, a llunio atebion a gefnogir gan y diwydiant yn lle hynny i gefnogi'r sector lletygarwch a sector y nos yn y tymor byr a'r tymor canolig?

O ran strategaeth ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar yr hyn a allai ddigwydd mewn ystod o sectorau gwahanol. Felly, rydym yn edrych ar strategaeth fanwerthu, ac rydym yn edrych ar y strategaeth—ailedrych arni—ar gyfer yr economi ymwelwyr. Bydd hynny ynddo’i hun yn gwneud gwahaniaeth i amrywiaeth o bobl yn y sector lletygarwch. Mae'r ddau sector yn amlwg yn gysylltiedig iawn. Rwyf hefyd yn gwbl agored i weld a oes angen inni wneud mwy ynghylch y rhan o hynny sy'n ymwneud â digwyddiadau, neu'n wir, economi'r nos yn benodol. Felly, mae gennyf feddwl agored ynglŷn â lle gallwn gael sgwrs ddefnyddiol a chynhyrchiol. Ond rydym yn dechrau o sylfaen dda, gan ein bod yn ymgysylltu'n rheolaidd â phobl sy'n arwain ac yn rhedeg y busnesau hynny, a cheir sgyrsiau gonest ynglŷn â'r heriau yn ogystal â'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i'w cefnogi.

Ar ail ran eich cwestiwn ynglŷn â phasys COVID, rwy'n credu bod nifer o'r honiadau a wnaeth yr Aelod yn anghywir. Cyflwynwyd pasys COVID ar y sail fod hon yn ffordd ddefnyddiol o reoli risg ac y byddai'n helpu i gadw busnesau ar agor am fwy o amser, gan y byddai gwneud fel arall, er mwyn rheoli'r sefyllfa iechyd y cyhoedd, wedi arwain at fwy o darfu a'r perygl o gau mewn sectorau. Roedd yn ymwneud ag osgoi cau busnesau a'u cadw ar agor. Nid yw'r ffaith ein bod, serch hynny, wedi gorfod cymryd camau pellach, gan gynnwys y mesurau diweddar, yn golygu bod pasys COVID wedi methu; mae'n dangos cryfder ac effaith ton omicron, yn enwedig, yn trechu pob un o'r mesurau diogelu hynny. Pan welwch y niferoedd arswydus o uchel o achosion a ddigwyddodd, credaf ei bod yn gwbl anghywir ac yn ddadl braidd yn anonest yn ddeallusol i ddweud bod pasys COVID wedi methu am ein bod er hynny wedi gorfod rhoi camau pellach ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Edrychaf ymlaen at weld y cyngor iechyd cyhoeddus ynglŷn â pha bryd na fydd pasys COVID yn fesur cymesur i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ond nid oes unrhyw dystiolaeth hyd yma eu bod wedi cael effaith sylweddol ar broffidioldeb busnesau lle cawsant eu cyflwyno.

13:50

Weinidog, y gwir amdani yw bod pasys COVID wedi cael effaith enfawr ar economi’r nos, gyda pheth tystiolaeth yn dangos bod cost gweithredu pasys COVID oddeutu £400 yr wythnos ar gyfartaledd. Byddai hyn yn golygu cost o £20,000 y flwyddyn. Ac ni ddylem anghofio bod y lleoliadau hyn wedi cael eu gorfodi i gau er gwaethaf yr addewid y byddai pasys COVID yn eu cadw ar agor. Heddiw, gwneir cais am adolygiad barnwrol ynghylch parhau i gyflwyno pasys COVID yng Nghymru er nad oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn cyflawni eu hamcanion.

Weinidog, mae’r sectorau hyn yn hollbwysig i bob un ohonom. Maent yn asedau diwylliannol pwysig sy'n hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o artistiaid a cherddorion newydd. Maent yn cyflogi cryn dipyn o bobl, yn enwedig llawer o bobl ifanc, ac mae lleoliadau lletygarwch yn aml yn asedau cymunedol pwysig. Fodd bynnag, mae’r pandemig hwn wedi bod yn arswydus i'r sector lletygarwch gyda llawer o fusnesau’n brwydro i oroesi ac yn teimlo bod Llywodraethau wedi gwneud tro gwael â hwy.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei strategaeth ei hun ar gyfer y sector, yn canolbwyntio ar ailagor, adfer a chadernid, ac mae'n hanfodol bellach fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth ar gyfer y sector yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw cynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau hyn ar ôl y pandemig a sut rydych yn hyrwyddo rolau'r sectorau hyn fel hybiau llesiant cymunedol wrth inni gefnu ar y pandemig? A allwch gadarnhau hefyd faint yn union o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu o’r gyllideb i’w fuddsoddi mewn mesurau cadernid ar gyfer y sectorau hyn yn y dyfodol?

Credaf ichi ofyn tri chwestiwn penodol. Ar y rhan gyntaf, nid wyf yn cytuno â barn yr Aelod ynghylch pasys COVID a’u heffaith. Maent yn fesur sydd wedi ein helpu i gadw sectorau ar agor lle byddem fel arall wedi gorfod cyflwyno mesurau diogelu pellach a fyddai wedi effeithio ar eu gallu i fasnachu. Nid ydym yn mynd i gytuno ar hynny.

Ar ddyfodol y sector, rwy'n obeithiol am ddyfodol y sector, oherwydd rydym yn awyddus i ddod allan o'r cam hwn yn y pandemig, gan fy mod yn edrych ymlaen at weld y pandemig yn rhan o hanes yn hytrach na'r realiti dyddiol y mae Gweinidogion yn dal i orfod ei reoli. Ond yn arbennig, pan ddaw'r gwanwyn a’r haf, pan fo’r amodau yn llawer llai difrifol, gallwch edrych ymlaen at adferiad mewn amrywiaeth o weithgareddau. Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi gweld y ffordd y mae'r economi ymwelwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, gyda mwy o bobl yn dod i Gymru, mwy o bobl yn mynd i mewn i wahanol fusnesau. Yr her fwyaf i lawer o’r busnesau hynny fu cael digon o staff i ymdopi â’r galw. Mae hynny'n rhan o’r her ynghylch cael marchnad lafur dynnach nad yw’n ymwneud o gwbl â phasys COVID nac yn wir â'r dewisiadau a wnaed gan y Llywodraeth hon. Rwy’n awyddus i gael sgyrsiau gyda’r sector fel nad wyf yn ceisio gorfodi strategaeth arnynt, a strategaeth sy'n gweithio ochr yn ochr â’r gwaith a wnawn gydag ystod o fusnesau eraill. Rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny, fel yr awgrymais eisoes.

O ran dyrannu cyllid yn y dyfodol, y gwir amdani yw, os byddwn yn wynebu argyfwng arall byddwn yn ystyried mesurau cyllido brys pellach. Byddem yn disgwyl i Drysorlys y DU ysgwyddo ei ddyletswydd a gwneud ei waith pe bai'n rhaid i unrhyw ran o'r DU gymryd camau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel y gŵyr yr Aelod, mae'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan y Gweinidog cyllid yn nodi ystod eang o fesurau gwario ac yn nodi'n glir ein bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni i helpu i roi hwb i'r economi ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at ddadl lawn ar y gyllideb derfynol.

13:55

Diolch, Lywydd. Gwyddom ar hyn o bryd fod pobl a gweithwyr yng Nghymru yn byw drwy argyfwng costau byw sydd ond yn mynd i waethygu. Mae cyfradd chwyddiant y DU yn 5.4 y cant ar hyn o bryd—y gyfradd uchaf ers 30 mlynedd—a disgwylir i’r cynnydd barhau, gan gyrraedd uchafbwynt o 6 y cant yng ngwanwyn 2022. Mae’r cyfraddau chwyddiant uchel hyn yn sylweddol uwch na thwf cyflogau cyfredol, a oedd oddeutu 4 y cant yn ail hanner 2021. Golyga hyn fod cyflogau gwirioneddol yn gostwng a disgwylir iddynt barhau i ostwng o gymharu â phrisiau. Mewn gwirionedd, nid oes disgwyl i gyflogau dyfu'n sylweddol tan ddiwedd 2022, a hyd yn oed erbyn 2025, bydd cyflogau gwirioneddol bron i £800 yn is nag y byddent wedi bod pe bai twf wedi parhau ar yr un lefel â chyn y pandemig. Mae hyn hefyd yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel, gydag incwm bron i draean o aelwydydd incwm isel wedi gostwng ers mis Mai 2021. Crybwyllwyd hyn gan y Gweinidog mewn ateb i gwestiwn blaenorol, ond o ystyried bod gweithwyr yn gweithio'r un faint neu fwy o oriau, o ystyried bod gweithwyr yn ennill llai o arian mewn termau real a bod ganddynt lai o allu i brynu’r hanfodion sydd eu hangen arnynt, a allai’r Gweinidog nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyflogau gweithwyr ar yr isafswm cyflog yn cynyddu yn ystod yr argyfwng costau byw hwn?

Mae’r Aelod wedi tynnu sylw at y pwynt fod cyflogau wedi bod yn gostwng mewn termau real, ac mae hwnnw’n bwynt y tynnodd Jayne Bryant sylw ato yn y cwestiwn cyntaf heddiw wrth gwrs—fod cyflogau gwirioneddol wedi gostwng. Mae'r ffigurau yn y dyddiau diwethaf yn peri cryn bryder. Dylai fod yn destun cryn bryder i bob un ohonom. Rwyf wedi tynnu sylw eisoes at rai o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd mewn meysydd lle credwn y dylai Llywodraeth y DU fod wedi gweithredu ond rydym ni wedi dewis gweithredu i geisio cefnogi teuluoedd. Os caf roi'r enghraifft o £51 miliwn a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans a Jane Hutt, dylai'r cymorth rydym yn ei roi i helpu pobl i dalu hyd at £100 o fil tanwydd eu cartref dros y gaeaf helpu oddeutu 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid yw'n fesur bach; mae'n rhoi cymorth i gryn dipyn o aelwydydd. Felly, rydym yn edrych ar ble mae gennym bwerau a ble mae ein hadnoddau'n ein galluogi i roi cymorth i deuluoedd.

Ar yr isafswm cyflog, rydym wedi dweud yn glir ein bod am i Gymru fod yn economi cyflog uchel. Rydym am weld y cyflog byw yn cael ei fabwysiadu mewn mwy o sectorau. Fe welwch hynny yn y ffordd y gweithiwn drwy'r sector cyhoeddus. Bydd gan y Gweinidog iechyd fwy i’w ddweud, wrth gwrs, am ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i sector sy’n cyflogi nifer fawr o fenywod, yn aml mewn swyddi ar gyflogau isel. Ac wrth gwrs, mae hwnnw'n arian sy'n annhebygol o ddiflannu o'r wlad—mae'n arian sy'n debygol o gylchredeg a chael ei wario ar deuluoedd lleol ac ar swyddi lleol hefyd. Felly, rydym yn ceisio chwarae rôl arweiniol yn sicrhau bod cyflogau'n codi, ac yn sicr, rydym am weld cyflogau gweithwyr yn codi gyfuwch â chwyddiant, fan lleiaf. Ond mae pob un o’r pethau hynny dan fygythiad os bydd Trysorlys y DU yn gwrthod gweithredu. Rwy'n gobeithio y gellir datrys y materion eraill sy'n tynnu eu sylw ar ben arall yr M4, fel y gallwn gael Llywodraeth gyfrifol o’r diwedd gydag arweinwyr cyfrifol a gweddus sy’n cydnabod bod yr argyfwng costau byw wedi cyrraedd a bod angen gweithredu i fynd i'r afael ag ef.

Wrth gwrs. Mae llawer o bethau y gellir eu gwneud i fynd i’r afael, yn benodol, â llesiant a chyflogau gweithwyr yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, ac mae pob un ohonynt yn galw am gamau cyflym a phendant gan y Llywodraeth, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn San Steffan hefyd.

Wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i a nifer o fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol i incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi darllen, gyda chryn ddiddordeb, yr adroddiad a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Deisebau ar dreial incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig yng Nghymru. Mae'r rhai ohonom sy'n cefnogi treial incwm sylfaenol cyffredinol ar raddfa fwy hefyd yn credu y dylai incwm sylfaenol cyffredinol fod yn rhan o becyn polisi. Ddydd Llun, lansiwyd treial wythnos waith pedwar diwrnod gan Autonomy, 4 Day Week UK a 4 Day Week Global. Mae gan yr wythnos waith pedwar diwrnod lawer o fanteision, megis cynnydd mewn cynhyrchiant, gwelliannau i lesiant gweithwyr, a gwelliannau i gydraddoldeb rhywiol yn y gweithle. Treialodd Microsoft yr wythnos waith pedwar diwrnod yn un o'u swyddfeydd a chanfu gynnydd o 40 y cant mewn cynhyrchiant. Canfu arolwg barn a gynhaliwyd gan Lywodraeth yr Alban fod 80 y cant o’r cyhoedd yn yr Alban yn credu y byddai hyn yn gwella eu llesiant.

Yr hyn rydym yn ei weld ym mhob rhan o'r byd yw nifer o dreialon yn mynd rhagddynt, ar incwm sylfaenol cyffredinol a’r wythnos waith pedwar diwrnod, ac er bod gennym ein treial incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig ein hunain yma yng Nghymru, nid ydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried treialu wythnos waith pedwar diwrnod eto. Er fy mod yn deall bod y Llywodraeth yn dymuno gwylio’n ofalus i weld beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill yn gyntaf, rydym yn colli cyfle yma—cyfle i fwrw ymlaen â pholisïau blaengar mewn ffordd sy’n golygu y cânt eu rhoi ar waith yma yng Nghymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno nad oes gennym unrhyw beth i’w golli drwy gynnal ein treial wythnos waith pedwar diwrnod ein hunain yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl?

Ar incwm sylfaenol cyffredinol a'r wythnos waith pedwar diwrnod—ac wrth gwrs, mae gan Jack Sargeant gwestiwn ar dreialon wythnos waith pedwar diwrnod yn nes ymlaen heddiw—mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd. Nid oes gennym unrhyw beth i'w golli drwy adolygu'r dystiolaeth mewn rhannau eraill o'r byd a gweld pa mor gymaradwy ydyw. Mae gennym heriau bob amser ynglŷn â sut rydym yn blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig y Llywodraeth, ac yn cynnal treialon sy’n ystyrlon ac yn werth chweil, sy'n gallu dweud rhywbeth wrthym am yr hyn y gellid ei gymhwyso yn y dyfodol, a pha mor eang y gallai’r cyfle hwnnw fod hefyd. Dyna pam fod y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol yn beilot i ddysgu mwy, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn—mae’n beilot sy’n targedu grŵp o bobl i ddechrau, lle gwyddom nad oes canlyniadau gwych i’r bobl hynny yn yr economi ehangach, i ddysgu mwy ynglŷn â sut y gallwn gefnogi’r grŵp hwnnw o bosibl, ac a ellir rhoi hynny ar waith yn llwyddiannus mewn ardal ehangach wedyn. Ac wrth gwrs, dyna holl bwynt cynlluniau peilot—dysgu beth sy'n gweithio, dysgu weithiau beth nad yw'n gweithio, a gweld a ellir ei gymhwyso ar raddfa ehangach ac yn fwy llwyddiannus. Felly, mae gennyf feddwl agored a diddordeb gwirioneddol mewn dysgu o'r hyn sy'n digwydd yn y wlad hon, ar draws yr ynysoedd hyn, ac ymhellach i ffwrdd hefyd yn wir.

14:00

Mae cwestiwn 3 [OQ57461] wedi'i dynnu nôl, felly cwestiwn 4 nesaf, Jack Sargeant.

Wythnos Waith Pedwar Diwrnod

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cefnogi cyflogwyr sy'n ystyried treialu wythnos waith pedwar diwrnod? OQ57469

Mae ein swyddogion yn parhau i gydweithio ar bob mater, gan gynnwys y pwnc hwn. Lle mae gan gyflogwyr gynigion ymarferol ar gyfer wythnos waith fyrrach, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo drwy ein gwasanaethau cymorth a chyngor i fusnesau.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ateb, Weinidog, ac fel rydym wedi'i drafod y prynhawn yma, mae cynllun peilot pedwar diwrnod yn cael ei lansio yn y DU, mewn partneriaeth â'r felin drafod Autonomy a 4 Day Week Global. A gaf fi bwysleisio pwysigrwydd y treialon hyn ar gyfer dysgu, ac a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'u cael gyda'r felin drafod Autonomy a 4 Day Week Global ynghylch cefnogi cyflogwyr Cymru a allai fod â diddordeb yn y treial hwn? O ystyried eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, Weinidog, a wnewch chi hefyd ymrwymo i edrych ar ganfyddiadau'r treial hwn ac adrodd yn ôl i'r Senedd gyda golwg ar gynnal treial estynedig yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn arwain ar hyn fel maes gwaith polisi, a bydd fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'i swyddogion hi i wneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod gennym ddiddordeb mewn amrywiaeth o wahanol fathau o weithio mwy hyblyg, o ran lle mae pobl yn gweithio, yr oriau y mae pobl yn eu gweithio a sut y maent yn gweithio'r oriau hynny. Nawr, mae rhai busnesau eisoes yn gwneud rhywfaint o hyn. Gwyddom fod rhai gwledydd eisoes yn treialu gwahanol fesurau. Mae rhai pobl yn llwyddo i gywasgu eu horiau i nifer fyrrach o ddyddiau heb golli unrhyw oriau na thâl; mae pobl eraill yn edrych ar weithio llai o oriau, a gweld a allwch gael gweithlu mwy cynhyrchiol mewn gwirionedd o ganlyniad i hynny.

Mae ein swyddogion yn ymwybodol ein bod yn disgwyl adroddiadau pellach ynglŷn â'r wythnos pedwar diwrnod, gan gynnwys y gwaith y mae Autonomy yn ei wneud, a deallaf fod rhywfaint o'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Felly, mae gennym ddiddordeb gweithredol o hyd yn y maes polisi hwn, ond fel y dywedais, os yw busnesau am dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, byddai gennym ddiddordeb mewn cael sgwrs adeiladol iawn ynglŷn â sut y byddai hynny'n cyd-fynd â'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud, gweld a allem eu cefnogi, a sut rydym yn dysgu'r gwersi sy'n deillio o'r rheini wedyn, i weld a ellid ei gymhwyso'n fwy cyffredinol, boed hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus neu'n wir, yn yr economi ehangach, ond gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid i wneud hynny. Dylwn hefyd nodi bod fy swyddogion mewn cysylltiad â Llywodraeth yr Alban gan eu bod hwythau'n edrych ar weithredu cynllun peilot yn y maes hwn hefyd, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr.

Diolch, Weinidog. Gadewch imi fynd ag ef ychydig ymhellach. Weinidog, mae llawer o gyflogwyr eisoes yn cynnig amodau gwaith hyblyg, gan gydnabod y gall sefydliadau elwa'n aml iawn ar drefniadau sy'n ymateb i ffyrdd o fyw pobl, trefniadau teuluol a chyfrifoldebau. A yw'r Gweinidog wedi estyn allan at sefydliadau sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddeall tystiolaeth y manteision hynny, ac os felly, beth y mae'n ei ddweud wrtho? Diolch.

Ie, rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda busnesau a sefydliadau busnes ynghylch yr hyn yr arferid ei alw'n weithio ystwyth ac weithiau fe'i gelwir yn weithio hyblyg. Ond mae'n ymwneud â'r gwahanol batrymau gwaith sy'n gallu gweddu i weithwyr a busnesau. Mae'n werth atgoffa ein hunain hefyd fod hyblygrwydd yn ddim mwy na rhith i rai pobl. Mae llawer gormod o weithwyr Cymru'n gweithio mewn amgylchedd lle nad oes ganddynt y dewisiadau hynny i'w gwneud, felly dylai mwy o hyblygrwydd fod o fudd i bob un ohonom, ac nid—. Pan oeddwn yn ddyn iau ym myd gwaith, roedd gweithio hyblyg bron bob amser yn sgwrs am fenywod a gofal plant, ac mewn gwirionedd, dylem gael sgwrs lawer ehangach am y gweithlu cyfan a sut y gallwn gael gweithlu mwy cynhyrchiol yn sgil y newid sydd wedi'i gyflymu drwy'r pandemig, gyda llawer o bobl, dynion a menywod, yn meddwl eto am y gwerth a gânt o waith a'r gwerth a gânt o rannau eraill o'u bywydau hefyd.

Yn wir, mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yr un mor bwysig i mi ag y mae i bobl eraill yn yr economi yn ogystal. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y gallwn ei wneud ochr yn ochr â busnesau. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn gweld a yw Llywodraeth y DU yn mynd i symud ymlaen gyda rhai o'i haddewidion maniffesto ehangach a mwy gwlanog ynghylch gweithio hyblyg, oherwydd os bydd gweithio hyblyg yn cael ei wneud yn haws ac yn haws ei gyflawni, mae'r gyfraith yn un ffordd o'i wneud. Y ffordd ragorol arall, wrth gwrs, y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohoni, rwy'n siŵr, fel aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain yn y gorffennol, yw bod sectorau undebol iawn yn tueddu i fod â gwell telerau ac amodau ac agwedd lawer gwell a mwy goleuedig tuag at weithio hyblyg, felly os ydych am weithio mwy hyblyg yn eich gweithle, byddai ymuno ag undeb yn lle da i ddechrau. 

14:05

Mae cwestiwn 5 [OQ57475] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 6, Laura Jones. 

Creu Swyddi drwy Fewnfuddsoddi

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen a thargedau ar gyfer creu swyddi drwy fewnfuddsoddi yng Nghymru? OQ57462

Ein nod yw denu mewnfuddsoddiad o ansawdd i Gymru, fel y nodir yn y strategaeth ryngwladol bum mlynedd a'r genhadaeth economaidd yn ein rhaglen lywodraethu. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar hyrwyddo sectorau economaidd penodol lle caiff Cymru ei chydnabod yn rhyngwladol, ynghyd ag atyniadau ac asedau allweddol sy'n ddeniadol i fuddsoddwyr.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae adroddiad y prif economegydd yn 2020 yn nodi bod y twf mewn cynhyrchiant a mewnfuddsoddi wedi bod yn araf iawn yng Nghymru ers cwymp ariannol 2008. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio mwy ar hoff brosiectau, gydag addewidion mawr ond fawr o elw ar ddatblygu economaidd, er enghraifft eich ardaloedd menter trychinebus, methiant i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, a phrosiect Cylchffordd Cymru. Gwnaeth yr hen Awdurdod Datblygu Cymru, er ei holl ddiffygion, gynnydd sylweddol yn tyfu economi Cymru, gan ddenu lefelau mawr o fuddsoddiad i Gymru. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i ailsefydlu corff o'r fath i anadlu bywyd yn ôl i economi Cymru, gan mai wedi i bwerau'r WDA gael eu trosglwyddo'n ôl i Lywodraeth Cymru y dechreuodd y problemau? Mae'r dull o ymdrin â'r economi yng Nghymru wedi newid i 'daro a gobeithio', ac mae gwerth am arian i drethdalwyr wedi dod yn ystyriaeth eilradd, nid oes bwriad i greu seilwaith trafnidiaeth gweddus, ac mae buddsoddwyr bellach wedi edrych ar fannau eraill yn y DU. Mae Cymru'n crefu am fewnfuddsoddiad, Weinidog. Beth a wnewch i hyrwyddo Cymru fel y lle gorau i sefydlu busnes, a fydd yn amlwg yn creu mwy o swyddi yn ei dro mewn lleoliadau o'r radd flaenaf, megis ar hyd yr M4?

Wel, fel erioed, mae barn benodol ar y gorffennol nad yw'n adlewyrchu'n llawn yr hyn a ddigwyddodd yn rhywbeth rwyf wedi dod i'w ddisgwyl. Nid wyf yn derbyn y farn sy'n edrych drwy sbectol binc ar yr WDA o gymharu â lle mae pethau arni yn awr. Ac mewn gwirionedd, y llynedd, gwelodd Cymru gynnydd mewn mewnfuddsoddiad, yr unig wlad yn y DU i wneud hynny. A byddwch wedi gweld—neu os nad ydych wedi gwneud hynny, efallai yr hoffech edrych arni—y dystiolaeth ryngwladol a'r rhagolygon sy'n awgrymu ei bod hi'n annhebygol y bydd mewnfuddsoddi yn y flwyddyn nesaf yn ymadfer yn sylweddol. Rhan o her y pandemig a'i gyrhaeddiad byd-eang yw bod y prosiectau mewnfuddsoddi hynny'n llai tebygol o ran eu nifer a'u maint. Er hynny, mae gennym 1,300 o gwmnïau tramor yng Nghymru sy'n cyflogi dros 165,000 o bobl, yn ôl yr hyn a amcangyfrifwn. Mae amryw o'r rheini'n bartneriaid gwerth uchel a hirdymor. Rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd fy hun ynghylch masnach ac ynglŷn â chefnogi busnesau sy'n allforio ac yn mewnforio, ynghylch cefnogi buddsoddiad uniongyrchol pellach o dramor. Rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda rhai o'r darpar fuddsoddwyr hynny hefyd. A'r pwynt am yr hyn y ceisiwn ei wneud yw bod yn gallach ynghylch y modd y defnyddiwn ein hadnoddau, i gael pobl sydd â diddordeb mewn dyfodol hirdymor yng Nghymru a dyfodol gwerth uchel yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i fynd ar drywydd meysydd i ddenu buddsoddiad yng Nghymru o bob cwr o'r byd, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'r Adran Masnach Ryngwladol hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at barhau i weld Cymru fel lle da i fuddsoddi, boed yn fusnes lleol domestig—ac rydym am gael mwy o'r rheini—yn ogystal â'r potensial ar gyfer mewnfuddsoddiad ochr yn ochr â hynny.

Weinidog, pe baem yn gallu cael gwaith gweithgynhyrchu bysiau trydan yng Nghymru, byddai hynny o fudd mawr i'n heconomi, o ran swyddi ac o ran yr amgylchedd. Yn Nwyrain Casnewydd, mae gennym CAF, fel y gwyddoch, sy'n cyflenwi trenau. Mae ganddynt hefyd allu i weithgynhyrchu bysiau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac rwy'n meddwl tybed a allai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda CAF, gan fy mod yn gwybod bod ganddynt uchelgeisiau i sefydlu ffatri gweithgynhyrchu bysiau trydan ochr yn ochr â'u ffatri drenau ar hen safle Llan-wern yng Nghasnewydd.

14:10

[Anghlywadwy.]—prosiect buddsoddi a enillwyd gan Lywodraeth Cymru, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill. Ac eto, os caf fynd yn ôl at gyfnod blaenorol Ken Skates yn y swydd, pan gredaf fod cryn dipyn wedi'i wneud i gael mewnfuddsoddiad gwerth uchel gyda chwmni sydd bellach wedi ymrwymo i ôl troed yng Nghymru. Rwyf wedi ymweld â safle CAF yn eich etholaeth hefyd. Fel y gwyddoch, mae eu hymrwymiad i'w gweithlu lleol, natur y swyddi ansawdd uchel, wedi creu argraff arnaf ac roedd yn ddiddorol cael cyfarfod yn CAF ochr yn ochr â'r busnes ac yn wir, yr undeb cydnabyddedig, y GMB, pan ymwelais â'r lle. Felly, mae gennyf feddwl agored ynglŷn â buddsoddiadau yn y dyfodol, ac rwy'n hapus i weithio ochr yn ochr â busnesau sydd ag ymrwymiad gwirioneddol i Gymru hefyd. Felly, os oes cynnig ymarferol pellach ynghylch gweithgynhyrchu bysiau trydan, mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gellir gwneud hynny a beth y mae hynny'n ei olygu o ran adnoddau sydd ar gael gennym i helpu i gefnogi hynny. Felly, edrychaf ymlaen at gysylltu â fy swyddogion i weld a ydynt wedi cael yr un sgwrs am y potensial ar gyfer buddsoddiad CAF yng Nghymru yn y dyfodol.

Cymorth i Fusnesau

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau yn Nyffryn Clwyd i adfer o bandemig COVID-19? OQ57464

Diolch. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn darparu adnoddau sylweddol i helpu i adfer. Rydym yn darparu bron i £140 miliwn, pan ystyriwch y gronfa cadernid economaidd gwerth £120 miliwn, y gronfa adferiad diwylliannol gwerth £15.4 miliwn, a'r £3 miliwn cychwynnol a roddwyd i'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Dyna'r cymorth brys i fusnesau rydym wedi'i ddarparu. Ers mis Ebrill 2020, efallai yr hoffai'r Aelod wybod bod busnesau yn sir Ddinbych wedi derbyn dros £65.7 miliwn o gymorth grant. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cynnwys cymorth pecynnau unigol y gronfa adferiad diwylliannol, sy'n cymharu'n dda iawn â'r rhai sydd ar gael dros y ffin, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed hynny.

Ie, rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer fawr o fusnesau yn fy etholaeth yn dibynnu ar y marchnadoedd twristiaeth a hamdden, fel y mae llawer ar draws llain arfordirol gogledd Cymru, ac mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithaf trychinebus, fel y gwyddoch. Nid yn unig y mae angen cymorth parhaus ar y busnesau hyn gyda phethau fel ardrethi busnes er mwyn helpu gyda cholledion mawr a gafwyd dros y cyfnod diweddar, ond mae angen sicrwydd arnynt hefyd mai dewis olaf un fydd cyfyngiadau yn y dyfodol. Felly, Weinidog, gyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion Cabinet ynghylch sicrhau bod Dyffryn Clwyd a Chymru gyfan yn wir, yn gwbl agored i fusnes pan fydd y tymor twristiaeth yn dechrau mewn cwta wythnosau?

A dweud y gwir, ni chredaf fod y ffordd y dywedwch fod pethau wedi bod yn drychinebus ar dwristiaeth a hamdden yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn cyd-fynd yn llwyr â realiti'r hyn sydd wedi digwydd. Mae rhai busnesau wedi dioddef yn fawr, ond mae amryw o rai eraill yn y sector twristiaeth wedi gwneud yn eithriadol o dda mewn gwirionedd, a hynny oherwydd bod llawer o bobl wedi mynd ar wyliau i rannau eraill o'r DU a threulio mwy o amser yn ymweld â hwy. Ac mewn gwirionedd, mae gogledd Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda o ganlyniad i hynny. Rydym wedi gweld y pwysau ar amryw o gymunedau lleol o ganlyniad i lwyddiant eithriadol yr economi ymwelwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae nifer o fusnesau'n dweud eu bod wedi cael blynyddoedd gwell o ganlyniad i hynny nag y byddent wedi'i ddisgwyl yn flaenorol. Ochr yn ochr â hynny, wrth gwrs, mae wedi bod yn llawer mwy heriol i fusnesau eraill, yn enwedig rhai sydd wedi cynnal digwyddiadau ac atyniadau i ymwelwyr, busnesau unigol. Felly, mae'r darlun yn fwy cymysg nag y mae'r Aelod yn ei gyflwyno.

Ac mewn gwirionedd, pan ddaw'n fater o gyflwyno mesurau diogelu iechyd y cyhoedd sy'n effeithio ar y ffordd y gall busnesau weithredu, nid dyma'r opsiwn cyntaf i'r Llywodraeth byth. A phe baech chi erioed wedi gorfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ystyried yr effaith ar iechyd y cyhoedd—effaith gorfforol COVID, effaith COVID ar iechyd meddwl, a'r hyn y mae'n ei olygu i weithredu neu beidio â gweithredu—nid wyf yn credu y byddech mor ddidaro wrth ddisgrifio cyfyngiadau a mesurau diogelu fel rhywbeth y mae Gweinidogion am ei wneud oherwydd ein bod yn hoffi gwneud hynny. Dyna gywair cyffredinol llawer o sylwadau'r Ceidwadwyr. Mae bob amser yn ddull cytbwys o weithredu, i gydnabod y niwed a wneir i'r economi drwy gael mesurau diogelu iechyd y cyhoedd, a'r cydbwysedd o geisio diogelu iechyd a lles pobl, fel bod mwy o bobl yn gallu mynd i'r gwaith, mwy o bobl yn gallu gwario'r arian y maent wedi gweithio'n galed amdano mewn busnesau yma yng Nghymru. A chredaf fod ein dull cymesur yn un sy'n dwyn ffrwyth wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gennym mewn cyflwr gwell na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a Lloegr yn fwyaf amlwg.

Cyflogadwyedd Pobl Ifanc

8. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i wella rhagolygon cyflogadwyedd pobl ifanc yng Ngogledd Cymru? OQ57466

Diolch. Mae'r warant i bobl ifanc wedi dechrau wrth gwrs, a bydd gennyf fwy i'w ddweud amdani wrth symud ymlaen, a'i chydrannau, yn ystod y misoedd nesaf. Rydym hefyd yn adolygu ein strategaeth cyflogadwyedd hefyd. Wrth gwrs, byddem yn gallu diwallu anghenion cyflogadwyedd disgwyliedig pobl ifanc yn well pe baem mewn sefyllfa i gael sicrwydd o gyllid newydd llawn yn lle hen gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a oedd, wrth gwrs, yn cefnogi sgiliau ac ymyriadau eraill i helpu i wella'r rhagolygon i bobl ifanc yng ngogledd Cymru a thu hwnt.

Os gwnewch chi fy esgusodi am eiliad, rwyf am gau'r drws, gan nad oes angen i fy mab ymuno. [Chwerthin.]

14:15

Yn sicr. Gwelais y drws. Mae gennych gefndir aneglur, felly mae hynny'n helpu. [Chwerthin.] Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar ymwelais â chyfleuster cymunedol newydd o'r enw Tŷ Calon yng ngogledd Cymru. Cafodd ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o hyb dysgu. Crybwyllwyd wrthyf fod bwlch y mae angen ei lenwi ar gyfer rhai o'r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi, yn enwedig rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac sy'n aros i fynd i addysg bellach, ond sydd angen help i feithrin hyder, gwydnwch a rhai sgiliau sylfaenol ar gyfer camu ymlaen. A oes unrhyw gyllid ar gael ar gyfer y garfan hon o bobl ifanc?

Oes. Ar gyfer y grŵp hwnnw o bobl ifanc, rwy'n credu mai dyma lle dylai ein rhaglen hyfforddeiaeth allu helpu, ac rydym yn edrych ar sut i fireinio'r ymyriadau hynny. Nod y rhaglen hyfforddeiaeth oedd helpu pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru, a rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar y bobl ifanc hyn i gamu ymlaen ymhellach, naill ai mewn addysg bellach a phrentisiaethau neu gyflogaeth. Mae hefyd yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau meddal, ac yn ceisio darparu hyfforddiant pwrpasol a chyfleoedd profiad gwaith. Felly, byddwn yn fwy na pharod i fy swyddogion gysylltu â chi ynghylch materion yn ymwneud â Tŷ Calon i sicrhau eu bod yn cael mynediad at y math cywir o wybodaeth i helpu Tŷ Calon i lwyddo yn ei genhadaeth.

Busnesau Cymdeithasol

9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhwystrau ariannol sy'n atal dechrau busnesau cymdeithasol yng Nghymru? OQ57451

Diolch. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector mentrau cymdeithasol, a nodwyd bod cyllid yn rhwystr allweddol i fentrau cymdeithasol allu dechrau. Dyna pam y cymeradwywyd cynllun peilot y rhaglen Dechrau Newydd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn 2020. Rwyf hefyd wedi ymrwymo £235,000 pellach i gefnogi'r gwaith o greu mentrau cymdeithasol, gan dargedu newid hinsawdd, i helpu'r sector i sicrhau adferiad economaidd tecach a gwyrddach yma yng Nghymru.

Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae mentrau cymdeithasol ar raddfa fach yn fodel busnes sy'n ei chael hi'n anodd cael troedle yn y farchnad, gyda chyllid yn her fwyaf o bell ffordd, yn enwedig cyfalaf dechrau busnes. Gan mai unigolion yw'r rhan fwyaf o entrepreneuriaid cymdeithasol, daw'r rhan fwyaf o'u cyllid o'u cynilion yn hytrach na mathau traddodiadol o ariannu, megis benthyciadau banc.

Er bod rhai pobl yn barod i dalu mwy am nwyddau a gwasanaethau sy'n dod o fenter gymdeithasol, mae llawer o ddefnyddwyr—yn enwedig rhai sydd ymhlith y tlotaf mewn cymdeithas—yn sensitif i brisiau, a byddant yn ceisio prynu am y pris mwyaf cystadleuol. Y broblem y mae hyn yn ei chreu i fentrau cymdeithasol yw ei fod yn cyfyngu ar eu gallu i ehangu, gan nad yw eu model busnes bob amser yn ddigon proffidiol i gael mynediad at yr arian angenrheidiol.

Yng nghymunedau'r Cymoedd, mae gennym wrthgyferbyniad, yn yr ystyr mai dyma'r cymunedau sydd fwyaf tebygol o elwa ar fentrau cymdeithasol, ac eto hwy yw'r lleiaf tebygol o allu fforddio talu mwy am nwyddau a gwasanaethau. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r cymorth ariannol hirdymor sydd ei angen ar fentrau cymdeithasol yng Nghymru i allu ehangu o fod yn fentrau bach a chanolig? Diolch.

Wel, mae'n her go iawn, a gwn na fydd yr Aelod yn ei hoffi, ond daw'n ôl at rai o'r rhesymau pam ein bod wedi siarad cymaint am hen gronfeydd Ewropeaidd. Mae llawer o'r cymorth a ddarparwyd gennym wedi dod o'r hen gronfeydd Ewropeaidd roeddem yn arfer eu derbyn. Mae peidio â chael y rheini'n golygu bod ein gallu i wneud hynny wedi'i beryglu; rhaid inni gyfeirio adnoddau o rannau eraill o'r Llywodraeth. Hoffwn allu gwneud mwy a rhoi mwy o sicrwydd, ac mewn gwirionedd mae peidio â chael sicrwydd ynglŷn ag o ble y daw'r arian yn broblem wirioneddol. Mae gennym amrywiaeth o bobl sy'n gallu darparu'r cymorth busnes arbenigol sydd ei angen ar fentrau cymdeithasol yn aml i symud i sefyllfa o fod yn gyffredinol broffidiol. Felly, rydym yn cefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru ac eraill i wneud hynny.

Ein her ni, os nad yw'r arian ar gael, fydd ein bod yn gorfod torri'r got yn ôl y brethyn, ac mae honno'n broblem wirioneddol. Rwyf am barhau i gefnogi'r sector hwn. Credaf fod ganddynt rôl fawr i'w chwarae mewn cymunedau ledled y wlad. Byddem mewn sefyllfa well o lawer i roi'r sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen ac y maent yn ei haeddu pe baem yn cael mwy o sicrwydd ynghylch y modd y byddai arian yn lle cronfeydd yr UE yn cael ei ddefnyddio. Byddwn wedi meddwl na ddylai'r pwynt hwnnw, ynddo'i hun, fod yn un sy'n ddadleuol yn wleidyddol mewn gwirionedd, ond byddwn yn gobeithio y gallem gael mwy o gytundeb ar yr angen am sefydlogrwydd o ran y cyllid a ddaw i Gymru i wneud yr hyn y mae'r Aelod yn awgrymu y dylai ddigwydd.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ac felly rŷn ni'n mynd ymlaen nesaf i'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cwestiwn 1 [OQ57459] wedi ei dynnu nôl. Ac felly cwestiwn 2 fydd gyntaf, sef cwestiwn Rhiannon Passmore.

Cleifion yn yr Ysbyty gyda COVID-19

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cleifion sy'n mynd i'r ysbyty gyda COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ57479

Ar 12 Ionawr, roedd 178 o gleifion yn yr ysbyty yn gysylltiedig â COVID ar draws ardal y bwrdd iechyd.

Diolch, Lywydd a Gweinidog. Diolch am y diweddariad hwnnw. Yn anffodus, mae 1,160 o bobl wedi marw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda marwolaethau'n gysylltiedig â COVID-19. Mae dinasyddion Islwyn a Chymru wedi aberthu cymaint yn ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws dieflig hwn yn ystod y pandemig. Dywedodd prif swyddog COVID Sefydliad Iechyd y Byd, David Nabarro, yr wythnos hon:

'O edrych arno o safbwynt y DU, mae'n ymddangos bod golau ar ben draw'r twnnel',

ac nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru. Gyda chyfyngiadau COVID i'w llacio dros yr ychydig wythnosau nesaf, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd a pherswadio pobl sy'n dal heb gael eu hargyhoeddi ynglŷn â gwerth brechiad, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau gwybodaeth cyhoeddus pellach i dargedu rhannau o'n cymdeithas sydd heb eu brechu, naill ai drwy ohebiaeth uniongyrchol, neu drwy negeseuon iechyd cyhoeddus newydd?

Diolch yn fawr, Rhianon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dweud yn gwbl glir nad yw hi byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad i gael brechlyn cyntaf neu ail frechlyn neu ddos atgyfnerthu. Felly, gyda'n byrddau iechyd ac ystod eang o bartneriaid, rydym yn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn, gan ei gwneud mor hawdd â phosibl i'w gael, drwy gynnig gwasanaeth hyblyg iawn sy'n addasu yn ôl amgylchiadau lleol. Felly, yn amlwg, mewn llawer o leoedd ledled Cymru mae gennym ganolfannau brechu torfol. Mae ganddynt oriau estynedig, ar agor gyda'r nos ac ar benwythnosau hefyd. Hefyd, cafwyd cynlluniau teithio a chlinigau dros dro, canolfannau galw i mewn a gwasanaethau symudol. Ac wrth gwrs rydym wedi rhoi cymelliadau ychwanegol i feddygon teulu fynd â'r brechlyn i gartrefi pobl. Ac ar ben hynny, rydym wedi cael clinigau brechu mewn mannau anarferol iawn, i sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus mewn amgylchoedd lle na fyddent wedi dod i gael y brechiad o bosibl pe na baem wedi ei wneud yn y mannau hynny, yn enwedig cymunedau ffydd a chanolfannau diwylliannol a chymunedol.

Mae pob un o'r rheini'n fannau lle rydym wedi ceisio gwneud pwynt o sicrhau bod y wybodaeth a chyfle i gael brechlyn ar gael, ond hefyd fod y mater iaith yn rhywbeth rydym yn ceisio'i oresgyn hefyd. Mae manylion am hyn i gyd ar wefannau'r byrddau iechyd lleol, a hoffwn annog pawb i fanteisio ar y cyfle i gael y brechlyn. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich diogelu.

Weinidog, er fy mod yn deall bod COVID wedi rhoi'r GIG yng Nghymru dan bwysau aruthrol, fel y mae ar hyn o bryd mae'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd COVID yn sefydlog. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog—. Mae etholwyr yn cysylltu â mi bob dydd, fel pawb ohonom mae'n siŵr, gydag etholwyr mewn poen yn meddwl tybed faint yn hwy y gallant ddal ati. Er enghraifft, Weinidog, mae gŵr 83 oed ag osteoarthritis wedi bod yn aros am lawdriniaeth ar y glun ers tair blynedd, ac mae'n byw mewn poen diddiwedd, yn meddwl faint yn hwy y gall ddal ati i fyw fel hyn. Weinidog, ni allwn barhau i oedi; roedd rhestrau aros yn llawer rhy hir cyn i'r pandemig daro. Gan ein bod bellach yn gweld niferoedd COVID yn gostwng a chyfraddau ysbytai'n sefydlog, a allwch bwyso i sicrhau bod llawdriniaeth ddewisol yn ailddechrau, er mwyn rhoi rhywfaint o obaith i bobl? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Laura. Ni allaf ddweud wrthych pa mor ymwybodol rwyf fi o'r miloedd lawer o bobl—nid eich etholwyr yn unig, ond pobl ledled Cymru gyfan—sy'n dioddef yn enbyd ar hyn o bryd ac sydd mewn llawer o boen. Felly, ar ôl COVID, fy mlaenoriaeth gyntaf yw cael y rhestrau aros i lawr. Rydym eisoes yn gweithio'n galed iawn gyda'r byrddau iechyd. Rydym wedi nodi canllawiau clir ynglŷn â'r hyn y disgwyliwn ei weld yn digwydd. Rydym yn aros iddynt adrodd gyda'u cynlluniau tymor canolig integredig, felly byddant yn cyflwyno cynlluniau y byddent yn dymuno eu rhoi ar waith.

Rwyf wedi dweud yn glir wrthynt, er enghraifft, fy mod am weld cyfle yn y cynlluniau hynny inni fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn yn rhanbarthol—felly, nid eu cadw o fewn ôl troed y byrddau iechyd eu hunain yn unig—oherwydd credaf yn gryf, os yw pobl mewn poen, mae'n debyg y byddant yn barod i deithio ychydig ymhellach i ffwrdd os gallant fynd yn ôl a gwella ac ymadfer yn nes at adref. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y math hwnnw o fodel newydd yn cael ei ddatblygu. Rydym yn aros i'r rhain gael eu cyflwyno. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir y bydd yn anodd yn ystod y cyfnod hwn ac roeddem i gyd yn gwybod, wrth i omicron weithio'i ffordd drwy system y GIG, y byddai'n rhaid torri'n ôl ar nifer y llawdriniaethau gofal wedi'i gynllunio a gâi eu cyflawni.

Byddwn yn cael yr ystadegau newydd a diweddaraf ar restrau aros yfory. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad wyf yn disgwyl inni ddychwelyd at y drefn arferol neu gyrraedd man lle rydym yn ceisio mynd i'r afael o ddifrif â'r rhestr aros honno tan y gwanwyn efallai oherwydd y cyfyngiadau sy'n rhaid inni eu rhoi ar waith oherwydd COVID. Felly, nid yw'n opsiwn hawdd. Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r holl bobl sydd mewn poen, a hoffwn annog eich etholwr i gysylltu â'u meddyg teulu i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth a chymorth a chyffur lladd poen i'w cynnal tan y gallwn gynnig y cymorth rydym yn dymuno'n daer iddynt ei gael.

14:25

Un ffactor hollbwysig wrth sicrhau y gall ysbytai ddarparu gofal yw lefel absenoldebau staff. Rydych wedi dweud, Weinidog, fod tua 10,000 o absenoldebau staff yn GIG Cymru yr wythnos diwethaf, a dywedodd 98 y cant o aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru eu bod yn pryderu am lefelau staffio oherwydd yr absenoldebau hynny. Yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Prif Weinidog ynglŷn â darparu masgiau gradd uwch i staff y GIG, a dywedodd wrthyf fod polisi Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gyngor grŵp arbenigol ledled y DU ac ar y pryd, nid oedd yn cynghori y dylid sicrhau bod y masgiau hyn ar gael yn genedlaethol. Yn dilyn y drafodaeth honno, Weinidog, clywais bryderon gan feddygon a oedd yn ofni nad oedd y cyngor hwnnw'n wyddonol gadarn mewn perthynas â sicrhau eu diogelwch. Deallaf fod cyngor y DU bellach wedi'i ddiweddaru ac mae canllawiau newydd yn nodi bod rhaid i staff sy'n gofalu am gleifion yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID arnynt wisgo masgiau FFP3. Felly, a allech gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor newydd hwn, ac os felly, a ydych yn bwriadu ei weithredu, ac os gwnewch hynny, yn olaf, a allech roi syniad inni o'r amserlen ar gyfer pa mor hir y bydd yn ei gymryd i baratoi'r holl staff rheng flaen sy'n weddill, i gael yr anadlyddion hyn i'r mannau lle mae eu hangen, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Rwy'n falch o ddweud bod y lefelau salwch o fewn y GIG wedi gostwng o wythnos yn ôl, felly roedd tua 8.3 y cant o'r staff yn absennol wythnos yn ôl, ac mae bellach i lawr i 7.3 y cant ac o'r rheini, roedd tua 1.7 y cant yn absennol gyda COVID, ac roedd tua 1 y cant ohonynt yn absennol am resymau'n ymwneud â hunanynysu. Felly, roedd y gweddill ohonynt yn dioddef o'r math o salwch arferol sy'n digwydd i lawer o bobl ar yr adeg hon o'r flwyddyn beth bynnag.

Ar y masgiau, nid wyf wedi gweld y cyngor hwnnw. Rwy'n hapus iawn i fynd i weld a oes rhywbeth wedi cyrraedd, ond yn amlwg, ni allaf roi unrhyw ymrwymiad i chi ar hynny nes fy mod wedi gweld y cyngor hwnnw, ond fe wnaf bwynt o fynd i ofyn a ydym wedi derbyn unrhyw ddiweddariad ychwanegol. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth rydym yn edrych arno'n gyson; yn gyson mae'n fater o, 'Edrychwch, a ddylem ni fod yn gwneud hyn?' Ac rydym yn aros i'r cyngor newid. Rydym wedi bod yn aros i'r cyngor newid. Os yw'r cyngor wedi newid, yn amlwg, bydd yn rhaid inni edrych ar hynny eto, ond nid wyf wedi gweld y cyngor hwnnw wedi'i ddiweddaru, ond fe wnaf bwynt o fynd i chwilio amdano yn awr, Delyth.FootnoteLink

Mynediad at Ofal Iechyd i Bobl â Nam ar y Clyw

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhwystrau o ran cael mynediad at ofal iechyd y mae pobl sydd wedi colli eu clyw yn eu hwynebu? OQ57440

Diolch yn fawr iawn, Joel. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG asesu rhwystrau i fynediad at ofal iechyd sy'n effeithio ar bobl sy'n drwm eu clyw yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Cyflwynir adroddiadau blynyddol i'w hasesu, sy'n manylu ar y cyflawniadau a wnaed tuag at weithredu safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau a chyfathrebu â hwy.

Diolch, Weinidog, ac fel y sonioch chi, mae polisi safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau a chyfathrebu â hwy yn rhoi arweiniad clir ar yr hyn y dylai meddygon teulu ac ysbytai ei wneud i sicrhau bod eu gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a'u golwg. Ei nod yw sicrhau bod pobl sydd â nam ar y synhwyrau yn gallu deall y wybodaeth iechyd a roddir iddynt a chael mynediad at ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cymwys neu fathau eraill o gymorth cyfathrebu yn ystod apwyntiadau'r GIG. Mae'n siomedig fod cleifion sydd â nam ar y synhwyrau wedi dweud wrth y grŵp Action on Hearing Loss Cymru nad ydynt yn gweld y cynnydd mewn hygyrchedd a addawyd iddynt.

Yn 2018, nododd cylchlythyr iechyd ar gyfer Cymru fod yn rhaid i'r holl staff perthnasol fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i gofnodi gwybodaeth o'r fath, er mwyn cefnogi unigolion ag anghenion gwybodaeth a/neu gyfathrebu sy'n gysylltiedig â nam ar y synhwyrau neu wedi'u hachosi gan nam o'r fath. Fodd bynnag, canfu arolwg gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth fod mwy na hanner y bobl a holwyd yng Nghymru yn dal i adael eu meddygfa yn aneglur ynglŷn â'u diagnosis neu sut i gymryd eu meddyginiaeth. Yn ogystal, mae 42 y cant o ddefnyddwyr BSL byddar yn dweud bod cyfathrebu yn eu hapwyntiadau yn annigonol gan nad oes ganddynt ddehonglwr a rhaid i 36 y cant o ymatebwyr yr arolwg deithio at eu meddyg teulu i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb am na allant ddefnyddio'r ffôn. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cael hyfforddiant cynefino gorfodol ar nam ar y synhwyrau i staff y GIG? Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod y polisi presennol yn cael ei orfodi? Diolch.

14:30

Diolch yn fawr iawn, Joel, ac mae'n siomedig clywed yr hyn rydych yn ei ddisgrifio. Gwn fod swyddogion ar hyn o bryd yn asesu'r cyflwyniadau diweddaraf yn erbyn y meini prawf a nodwyd gennym yn safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl drwm eu clyw. Yr hyn y mae'r safonau hynny'n ei wneud yw nodi'r hyn y dylai pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth ei ddisgwyl o'r safonau hynny. Ac yn amlwg, rwy'n bryderus os nad ydym yn bodloni'r safonau hynny. Felly, mae'n debyg y daw hynny i'r amlwg pan asesir y cyflwyniadau hynny. Felly, rwy'n aros am y rheini. Yna, byddant yn adrodd eu canfyddiadau i fwrdd gweithredol cenedlaethol GIG Cymru a bwrdd fframwaith cyflawni'r GIG. A'r syniad wedyn yw trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch gweithredu safonau gyda'r sefydliadau priodol hynny, ac os ydych yn dweud bod problem benodol gyda meddygfeydd, byddem yn amlwg yn disgwyl gweld hynny yn yr asesiadau.

Rwy'n tybio y gallai'r symud ar-lein fod o gymorth yn hyn o beth, y dylai proses eConsult fod yn haws i bobl drwm eu clyw ei defnyddio i gysylltu â meddygfeydd. Ond y peth allweddol yw bod angen inni ddysgu o arferion gorau, felly edrychaf ymlaen at weld yr asesiad a'r cyflwyniadau pan ddônt i law.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn ymwybodol fod y ffigurau diweddaraf gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys yn awgrymu bod gan gymaint ag 81 y cant o gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 yng Nghymru BMI o dros 25, pan fo'r ystod iach rhwng 18.5 a 24.9. Rydym eisoes yn gweld bod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru dros bwysau neu'n ordew, gyda chwarter oedolion Cymru yn ordew. Dyma un o'r cyfraddau uchaf yn y DU. Gordewdra sy'n achosi un o'r risgiau mwyaf i'ch iechyd, o glefyd y galon, diabetes, colesterol uchel a phroblemau orthopedig, ac mae hyn yn costio miliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn. Weinidog, a ydych yn credu bod 'Pwysau Iach: Cymru Iach' wedi lleihau ffigurau gordewdra dros y blynyddoedd diwethaf neu a yw ond yn strategaeth arall eto gan Lywodraeth Cymru nad yw'n gweithio?

A all y Dirprwy Weinidog ddadfudo'i meicroffon, os gwelwch yn dda? Lynne Neagle. Ie, dyna ni; mae'n ddrwg gennyf am hynny. Ddirprwy Weinidog.

Diolch. Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Nid wyf wedi gweld yr astudiaeth y cyfeirioch chi ati, er fy mod wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng bod dros bwysau a'r cynnydd yn y risg o gael COVID difrifol. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr â'ch awgrym mai dim ond strategaeth arall gan Lywodraeth Cymru yw ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym yn buddsoddi £6.6 miliwn bob blwyddyn yn y strategaeth hon, sydd ar fin cael ei hail-lansio a byddwn yn ystyried y ffaith bod y pandemig wedi gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu gyda gordewdra. Bydd gennym amryw o fesurau ar waith i leihau lefelau gordewdra, sy'n broblem nid yn unig yng Nghymru, mae'n broblem ledled y DU.

14:35

Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n derbyn nad problem yng Nghymru yn unig yw hi, mae'n broblem ledled y DU. Fe ddywedoch chi wrthyf fi a chyd-aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y byddwch yn cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' rhwng 2022 a 2024 ar 1 Mawrth, a disgwylir i hwnnw fod yn ymdrech drawsadrannol, gyda saith maes blaenoriaeth cenedlaethol. Byddai'n dda gennyf wybod, o gofio bod y cynllun cyflawni blaenorol wedi'i gyhoeddi lai na blwyddyn yn ôl, faint o gynnydd a wnaed ar yr wyth maes blaenoriaeth cenedlaethol yn y cynllun hwnnw. Ac a ydych yn credu bod y £6.6 miliwn yng nghyllideb 2022-24 ar gyfer 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ddigon i gyflawni eich nodau yn y cynllun cyflawni newydd, gan ystyried y cynnydd yn nifer y bobl sydd dros eu pwysau?

Wel, o ran y cynllun cyflawni rydym wedi bod yn ei ddilyn, bu'n rhaid ei addasu oherwydd effaith y pandemig. Heb os, mae'r pandemig wedi cael effaith ar ein gallu i weithredu yn y maes hwn ac fel y dywedais eisoes, mae wedi gwaethygu'r problemau gyda gordewdra a phobl dros bwysau. Nodais y ffigurau rydym yn eu buddsoddi, sy'n sylweddol iawn, yng nghyfarfod y pwyllgor plant yr wythnos diwethaf. Ond rydym yn adolygu'r cynllun cyflawni'n rheolaidd, fel y gallwn addasu ein camau gweithredu i ymateb i'r canlyniadau rydym yn eu gweld. Er enghraifft, cyfeiriais yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf at y buddsoddiad rydym yn ei wneud i'r peilot plant a theuluoedd. Wel, yn amlwg, byddwn eisiau edrych ar effaith y cynlluniau peilot hynny, nodi sut y gallwn ddefnyddio'r hyn a ddysgwn, ac os oes angen, byddwn yn defnyddio cyllid pellach i fwrw ymlaen â hynny. Felly, nid wyf yn ystyried y ddogfen fel rhywbeth digyfnewid o gwbl. Yn amlwg, mae'n rhaid iddi fod yn ddogfen fyw, yn enwedig yng ngoleuni'r effaith y gwelwyd y pandemig yn ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol pobl; rydym i gyd yn symud llai, ac mae hynny'n arwain at heriau mwy sylweddol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ac rwy'n cytuno y dylai'r dogfennau hyn fod yn ddogfennau byw sy'n newid ac yn addasu, ond mae'n braf gweld pa ddarpariaeth sy'n deillio o'r mathau hynny o fesurau sydd yn y dogfennau hynny.

Yn olaf, fe sonioch chi yr wythnos diwethaf fod y rhaglen atal diabetes bellach ar waith yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o weld hynny. Ond rwy'n pryderu bod gennym lawer o waith dal i fyny â'n cymdogion, o gofio bod GIG Lloegr wedi lansio eu rhaglen eu hunain yn 2016, a GIG yr Alban wedi gwneud yr un peth heb fod ymhell ar ôl hynny, yn 2017. Mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu bod un o bob pump o boblogaeth Cymru mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, a bydd hyn yn costio hyd at £500 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru i helpu i reoli diabetes a'r cymhlethdodau sy'n deillio o hynny, felly mae angen inni gael sicrwydd y bydd y rhaglen newydd hon yn llwyddiant. Felly, rwyf eisiau gwybod pa gerrig milltir a thargedau rydych yn gweithio tuag atynt yn y rhaglen, a sut y byddwch yn sicrhau ei bod yn cael ei hadolygu'n onest ac yn rheolaidd. Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr iawn, Weinidog.

Diolch, James. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, rydym wedi bod yn treialu'r rhaglen atal diabetes, a'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ehangu'r rhaglen honno ar draws Cymru. Ond nid dyna'r unig fesur rydym yn ei roi ar waith i atal diabetes math 2. Mae gennym hefyd lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan, sy'n cynnwys plant ac oedolion, a chredaf na ddylem anghofio ein bod, yn anffodus, yn gweld mwy o blant bellach mewn perygl o ddiabetes math 2, sy'n peri pryder mawr. Ond hefyd, o ran yr hyn a wnawn fel Gweinidogion i sbarduno cyflawniad yn y maes, rwyf fi ac Eluned Morgan wedi bod yn glir iawn ein bod yn ystyried y maes hwn yn flaenoriaeth ar gyfer atal. Mae wedi'i nodi yn y mesurau a roddwyd i gyrff y GIG yng Nghymru gan y Gweinidog, ac mae'r ddwy ohonom yn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau gyda'r GIG, yn parhau i bwysleisio'r hyn rydym yn disgwyl iddynt ei gyflawni ar yr agenda hon ac i wneud gwahaniaeth i'r agenda hon. Mae'n heriol gosod targedau yn y maes, yn enwedig wrth inni gefnu, gobeithio, ar y pandemig, oherwydd mae pethau fel y rhaglen mesur plant wedi cael eu heffeithio, ond rydym wedi bod yn glir iawn ein bod yn disgwyl i'r gwasanaethau hynny gael eu hadfer, a bod Gweinidogion yn disgwyl i leihau lefelau gorbwysau a gordewdra fod yn flaenoriaeth i ni, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei fesur wrth symud ymlaen.

14:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal yn byw efo dementia, ac mae cyswllt cymdeithasol, yn enwedig efo teulu neu ofalwyr anffurfiol, yn bwysig iawn iddyn nhw o ran dal gafael ar eu sgiliau cognitive ac ati. Mi oedd mesurau diogelwch y cyfnod clo, wrth gwrs, yn allweddol o ran atal lledaeniad COVID, ond o ystyried tystiolaeth fel ymchwil y Gymdeithas Alzheimer's, sy'n awgrymu bod 82 y cant o bobl efo dementia wedi gweld eu cyflwr yn dirywio yn ystod y clo cyntaf a bod lleihad mewn cyswllt cymdeithasol wedi bod yn ffactor fawr yn hynny, a fyddai'r Gweinidog yn cyd-fynd ag egwyddor yr hyn mae John's Campaign yn galw amdano fo, sef bod yn rhaid canfod ffyrdd o warchod y cyswllt yna, hyd yn oed yn wyneb heriau COVID? Ac ydy'r newid yn y ddeddf i wneud hawliau ymweld yn hawl dynol sylfaenol i gleifion dementia, fel galwodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts amdano fo yn ddiweddar, yn rhywbeth y gallai'r Gweinidog ei gefnogi?

Diolch yn fawr, Rhun. Dwi'n ymwybodol dros ben o'r ffaith bod cymaint o bobl yn dioddef o ddementia ar hyd a lled Cymru, nid jest y rheini mewn cartrefi gofal, ond mae lot o bobl gartref hefyd wedi cael eu hynysu, wedi gweld llai o gysylltiad, ac rŷn ni wedi gweld dirywiad yn ystod y cyfnodau yna ymysg hen bobl yn arbennig. A dyna pam rŷn ni wedi, dro ar ôl tro, gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych yn fanwl ar beth ddylai'r canllawiau fod o ran ymweld â chartrefi gofal. Rŷn ni wedi ceisio cael y balans yn iawn, ac mae yn anodd i gael y balans yn iawn, achos byddai pob un yn dechrau sgrechian pe byddem ni'n gweld system lle byddem ni'n cyflwyno omicron neu COVID mewn i gartrefi gofal. Felly, mae'n rhaid i ni gael y balans yn iawn, ac mae e'n anodd. 

Mae'r canllawiau sydd gyda ni yn glir. Mae hawl gan bobl i fynd i weld eu hanwyliaid nhw yn y cartrefi gofal, ond y drafferth yw, mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn gartrefi preifat sy'n cael eu rhedeg gan bobl sydd yn gorfod talu am yswiriant, ac maen nhw ofn na fyddai eu hyswiriant nhw yn eu diogelu nhw pe bai yna gyflwyniad o COVID i mewn i'r cartref gofal. Felly, o ran newid i'r ddeddf, dwi'n meddwl byddai hwnna'n gam mawr iawn i'w gymryd o ran beth yw hawl dynol. Nawr, mae hawl dynol yn dweud bod hawl gan berson i gael perthynas deuluol neu rywbeth. Felly, mi fyddech chi'n gallu apelio at hynny eisoes, dwi'n cymryd. Felly, y cwestiwn wedyn yw: a fyddai hwnna'n sefyll mewn llys barn? Dwi'n meddwl byddai fe'n anodd iawn i fynd ymhellach na hynny. Dwi ddim yn gwybod os oes yna enghreifftiau mewn llefydd eraill yn y byd, ond mae'r hawl yna eisoes yn bodoli, yr hawl i gael perthynas deuluol.

Diolch am yr ymateb yna. Byddai, mi fyddai fo'n gam mawr, ond yn gam pwysig. A'r holl bwynt o'i roi o mewn deddfwriaeth fyddai sicrhau bod yr egwyddor ddim yn gallu cael ei hanwybyddu; byddai'n rhaid gweithredu.

Yng Nghymru, mae yna gamau addawol iawn wedi cael eu cymryd—yr egwyddor o bartneriaid gofal yng nghynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia, er enghraifft—ond mae yna agendor mawr rhwng beth sy'n cael ei ddisgrifio yn y cynllun hwnnw a realiti. Mae yna leoliadau iechyd a gofal lle dydy'r canllawiau ddim yn cael eu dilyn. Fel y cyfeiriodd y Gweinidog, mae yna broblemau ychwanegol efo'r anhawster mewn cael yswiriant ar gyfer materion yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal erbyn hyn, a dwi'n ategu cais Fforwm Gofal Cymru am gynllun indemnity tebyg i un yr NHS ar gyfer y sector gofal. Ond â ninnau rŵan ym mlwyddyn olaf y cynllun dementia presennol—a dyma'r mater allweddol—sut mae'r Llywodraeth am drio sicrhau bod geiriau cadarnhaol yn troi yn realiti?

14:45

Diolch yn fawr. Rydyn ni wedi rhoi'r canllawiau yn glir. Dwi'n gwybod bod Julie Morgan wedi bod yn sicrhau ei bod hi wedi gwneud popeth mae'n gallu i geisio cael pobl i gael yr access maen nhw ei angen i fynd i weld eu teuluoedd nhw. Mae'r cynllun dementia presennol—. Yn amlwg, rydyn ni'n edrych nawr ar fel y bydd y dyfodol yn edrych, a dwi'n meddwl bod yna gyfle yn fanna i weld pa mor bell rydyn ni'n gallu mynd gyda hawliau. Ond buaswn i'n meddwl y byddai hawliau—. Mae hawl yn gam deddfwriaethol eithaf mawr i'w gymryd. Yn amlwg, fe fyddai angen inni wedyn wneud lle yn yr agenda wleidyddol ar gyfer hynny. Mi fyddai fe'n gam mawr iawn. Felly, dwi'n barod i edrych i weld os byddai fe'n gwneud synnwyr, ond dwi'n meddwl mai'r peth gorau fyddai ceisio parhau i ddarbwyllo'r rheini sydd ddim wedi bod yn dilyn y canllawiau ei bod hi'n rhan o'u cyfrifoldeb nhw i ddilyn y canllawiau. Ac, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r cartrefi gofal yma yn derbyn arian o gynghorau lleol, o'r Llywodraeth, felly mae yna bosibilrwydd yn fanna efallai i geisio gweld pa effaith rydym ni'n gallu ei chael drwy'r contracts rydym ni'n eu rhoi i'r bobl yma. 

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac, i ofyn cwestiwn 4, Natasha Asghar. 

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella gwasanaethau i bobl ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd? OQ57468

Diolch. Mae'n hanfodol fod pob plentyn ac oedolyn sydd â chyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys y rhai sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn gallu cael y gwasanaethau y maent eu hangen. Bydd adolygiad galw a chapasiti o'r holl wasanaethau niwroddatblygiadol yn adrodd ym mis Mawrth, a byddwn yn gweithredu ar yr argymhellion y mae'n eu gwneud ar gyfer gwella ledled Cymru.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog, a hefyd am eich ateb prydlon i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar y mater hwn. Rwy'n falch iawn o glywed bod gennych gynlluniau ar gyfer amserlen newydd i wella mynediad cynnar plant at y cymorth cywir, yn ogystal â chydweithrediad ar draws y Llywodraeth i wella'r gefnogaeth i bobl ag ADHD. Fodd bynnag, fel y dywedais yn ystod datganiad busnes yr wythnos diwethaf, mae llawer o oedolion ledled Cymru ddim yn cael diagnosis yn ystod eu plentyndod, a gwyddom y gall amgylchiadau personol unigolyn arwain at newid difrifol yn eu hiechyd meddwl. Nid yw dioddefwyr yn cael diagnosis nes eu bod yn oedolion, oherwydd mae'r meini prawf diagnostig yn seiliedig ar ymchwil sy'n canolbwyntio ar nodweddion a arddangosir gan fechgyn ifanc. Mae seicolegwyr blaenllaw wedi rhybuddio bod rhagfarn rhyw yn gadael llawer o fenywod ag ADHD heb ddiagnosis, ac amcangyfrifir bod degau o filoedd o fenywod yn y DU heb fod yn ymwybodol fod ganddynt y cyflwr ac nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Synnais weld gyda fy llygaid fy hun fod gwefan GIG 111 Cymru yn datgan, mewn perthynas â'r cyfryw wasanaethau, ac rwy'n dyfynnu, 

'Mae pwy y cewch eich atgyfeirio atynt yn dibynnu ar eich oedran a'r hyn sydd ar gael yn eich ardal leol.'

Weinidog, dechreuodd hyn gydag etholwr a oedd wedi cysylltu â mi i gwyno na allai ei feddygfa atgyfeirio ei wraig, gan nad oes gwasanaeth o'r fath ar gael. Ac ers fy natganiad yn y Senedd yn flaenorol, mae mwy a mwy o bobl yn ysgrifennu ataf o wahanol ardaloedd yng Nghymru yn disgrifio'r rhwystrau y maent wedi'u hwynebu'n bersonol ac ar ran eu hanwyliaid. Felly, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd y fframwaith newydd arfaethedig yn mynd i'r afael â phryderon yr oedolion nad ydynt wedi cael diagnosis yn eu plentyndod ac sydd angen cymorth? Ac a allwch roi gwybodaeth ynghylch pryd y cyhoeddir eich argymhellion? Diolch. 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Natasha, a diolch yn fawr am y gwaith y buoch yn ei wneud i godi proffil ADHD. Credaf ei fod wedi cael cyhoeddusrwydd da, a diolch am hynny. Gwyddom pa mor bwysig yw canolbwyntio ar asesu a chymorth ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, sy'n cynnwys ADHD, ac yn cynnwys oedolion wrth gwrs. A bydd yr adolygiad rwyf eisoes wedi'i grybwyll yn cynnwys plant ac oedolion. Bydd yn adrodd ym mis Mawrth a bydd yn darparu opsiynau ar gyfer gwella gwasanaethau. Bydd yn amlinellu'r llwybr ymlaen, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun cyflawni cyn toriad yr haf. Felly, cyn yr haf, byddwn yn gwybod beth yw'r cynlluniau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfaoedd rydych yn eu disgrifio, ac rwy'n ymwybodol fod llawer o oedolion heb gael diagnosis pan oeddent yn blant a bod yna angen ymhlith y boblogaeth oedolion nad ydym ond yn dechrau ei gydnabod ac nid ydym yn ymwybodol iawn o'i hyd a'i led. Felly, mae angen inni ddarganfod llawer mwy amdano, ac rydym yn edrych ar y data a gasglwn er mwyn gwneud hynny.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r mater y mae Natasha yn ei nodi am fenywod a merched a'r ffaith eu bod, gyda chyflyrau fel ADHD ac awtistiaeth, yn llawer llai tebygol o gael diagnosis na dynion a bechgyn. Credaf fod y rhesymau am hyn yn gymhleth iawn, ond rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid, sy'n cynnwys menywod ag ADHD eu hunain wrth gwrs, i ystyried effaith y gwahaniaeth hwn a sut y gallwn gynyddu arferion da yn y maes.

Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r holl bwyntiau a wnewch ac mae gennym lwybr o'n blaenau, ac fel y dywedais, diolch am y sylw rydych yn ei roi i'r pwnc hwn.

14:50
Lefelau Trosglwyddo COVID-19

5. Pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau trosglwyddo COVID-19? OQ57467

Rydyn ni’n cefnogi pob ardal i leihau lefelau trosglwyddo yn y gymuned. Mae camau diogelu lleol wedi’u targedu at ardaloedd lle mae cyfraddau ar gynnydd. Mae’r feirws yn lledaenu’n haws mewn ardaloedd trefol lle mae dwysedd y boblogaeth yn uwch.

Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r camau rŷch chi wedi'u hamlinellu yn eich ateb. Mae'r pandemig wedi datgelu'n glir yr anghydraddoldebau sosio-economaidd sy'n bodoli yn ein cymdeithas, ac yn wir wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Mae'r anghydraddoldebau hyn hefyd yn rhai iechyd, gyda pherthynas glir yn bodoli rhwng sefyllfa sosio-economaidd rhywun ac effaith COVID arnynt. Mae ffigurau o Loegr yn dangos bod pobl sy'n byw mewn cymunedau sy'n cael eu disgrifio fel rhai left behind 46 y cant yn fwy tebygol o farw o COVID o'i gymharu â rhai nad ydynt yn byw yn y cymunedau hyn, ac fe ddatgelodd adroddiad 'Locked Out' yng Nghymru fod ffactorau sosio-economaidd yn chwarae rhan allweddol yn niferoedd uwch y marwolaethau ymhlith pobl anabl a'r effaith ar eu hiechyd a'u gofal o gymharu â gweddill y boblogaeth o ganlyniad i COVID. Mae'n glir felly fod angen i bolisi iechyd y Llywodraeth i'r dyfodol wneud mwy i unioni'r anghydraddoldebau hyn wrth i ni barhau i fynd i'r afael â lefelau COVID a'i effaith, gan gynnwys COVID hir. A all y Llywodraeth felly sicrhau bod unrhyw gamau newydd i daclo trosglwyddiad ac effaith COVID yn ymgorffori strategaethau clir i daclo'r anghydraddoldebau iechyd hyn? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned. Mae hwn yn dilyn o'r drafodaeth gawsom ni yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n meddwl bod honno'n drafodaeth fanwl a chywir gan bob un oedd wedi cyfrannu. Rŷn ni'n ymwybodol dros ben o'r gwahaniaeth o ran lle mae COVID wedi bwrw, ac mae'n amlwg bod y rheini mewn ardaloedd tlawd, mewn cartrefi tlawd wedi dioddef yn fwy nag ardaloedd eraill. Felly, pan fyddwn ni'n ailgodi ar ôl y pandemig, yn amlwg byddwn ni'n ei ystyried nid jest o safbwynt iechyd ond ar draws y Llywodraeth i gyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd ati i geisio gwneud mwy i sicrhau nad ydym ni'n gweld yr anghydraddoldebau yna yn y dyfodol.

O safbwynt iechyd, dwi wedi ei gwneud hi'n glir iawn i'r byrddau iechyd na fyddwn ni yn gallu—. Byddwn ni'n gweld yr un canlyniad pe byddem ni'n cael pandemig eto os nad ydyn ni'n gwneud rhywbeth yn wahanol. Felly, o'm safbwynt i, dwi wedi bod yn hollol glir gyda'r byrddau iechyd fod rhaid i ni fynd i'r afael gyda prevention. Mae'n rhaid i ni stopio pobl rhag ysmygu. Rŷn ni wedi bod yn trafod gorfwyta. Mae'r holl ffactorau yna yn hollbwysig o ran beth mae iechyd un yn edrych fel yn y dyfodol. Ond, dyw e ddim yn rhywbeth sydd jest wedi'i gyfyngu i fyd iechyd; mae'n hollbwysig ein bod ni'n ystyried addysg, yr economi, a'r holl bethau eraill sydd yn cyfrannu at y ffordd mae pobl yn byw. 

Weinidog, er bod y mesurau mwyaf llym i leihau trosglwyddiad COVID-19 ar waith yma, Cymru sydd â'r cyfraddau heintio uchaf o blith pedair gwlad y DU ac un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. A yw eich Llywodraeth bellach yn derbyn bod yr ymyriadau anfferyllol yn gwneud mwy o ddrwg nag o les erbyn hyn? A chyda dros 90 y cant o boblogaeth Cymru, yn ôl eich prif swyddog meddygol, yn cario gwrthgyrff COVID-19, a ydych yn derbyn bod yn rhaid inni ddysgu byw gyda COVID yn awr, yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sut i'w atal?

14:55

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Roeddwn i bron wedi eich annog ddoe, onid oeddwn, i ofyn y cwestiwn hwn i mi, felly rwy'n falch iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn, oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi ddweud, mewn gwirionedd, fod y data a gawsom hyd yma yn awgrymu bod y cyfyngiadau wedi helpu. Rydym yn sicr wedi gweld gwahaniaeth yn y nifer sy'n mynd i'r ysbyty. Rydym yn aros i'r data hwnnw gael ei brosesu. Yn sicr, roedd gan Loegr gyfraddau uwch o bobl yn mynd i'r ysbyty o'u cymharu â phob un o'r tair gwlad arall a gyflwynodd gyfyngiadau. Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, felly fe arhoswn i'r data terfynol hwnnw gael ei gyhoeddi, erbyn diwedd yr wythnos hon gobeithio.

Rwy'n credu hefyd fod a wnelo hyn â chyfrif, Gareth. Felly, mae'r ffordd rydym yn cyfrif achosion yn wahanol ym mhob un o'r pedair gwlad. Er enghraifft, nid yw Lloegr yn cyfrif ailheintiadau, felly gallai hynny wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae Cymru'n cyfrif ailheintiadau os oes 42 diwrnod rhwng yr heintiadau. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r niferoedd. Newidiodd ein polisi ar brofi, wrth gwrs, felly efallai bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Hefyd, credaf mai'r hyn a welwch yw bod pobl wedi addasu eu hymddygiad yn Lloegr pan glywsant yr hyn a ddywedodd y prif swyddog meddygol, oherwydd, yn amlwg, nid oedd eich Prif Weinidog mewn sefyllfa i ddweud wrth unrhyw un beth i'w wneud oherwydd yr holl bartïon y bu'n eu cynnal. Felly, gwrandawodd pobl ar y prif swyddog meddygol yn Lloegr ac addasu eu hymddygiad. Yr hyn nad oedd ganddynt yn Lloegr oedd y math o gymorth economaidd roeddem yn gallu ei roi i'n busnesau ni oherwydd y mesurau diogelu a roesom ar waith. Rwy'n falch o ddweud bod yr arwyddion hyd yma yn awgrymu bod rhoi'r cyfyngiadau hynny ar waith wedi helpu, ond yn amlwg, bydd angen inni aros am ychydig ddyddiau eto i fod yn gwbl hyderus fod hynny'n wir.

Yn sicr, dengys yr ystadegau a welais hyd yma fod gennym tua 170,000 o bobl â COVID. Pe baem yn yr un sefyllfa â Lloegr, byddem wedi cael 40,000 yn fwy o bobl â COVID, a phe baem yn Llundain, byddem wedi gweld bron i 70,000 yn fwy o bobl â COVID. Byddai hynny'n ddigon i lenwi stadiwm y mileniwm yn ychwanegol at y niferoedd a gawsom. Felly, dyna rai o'r cyfrifiadau cynnar, ond yn amlwg, fe arhoswn i'r data hwnnw fod yn gyflawn.

Presgripsiynu Cymdeithasol

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ57442

Diolch, Buffy. Mae'r hybiau datblygu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf yn enghreifftiau da o brosiectau sy'n ymgorffori egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ers dechrau'r pandemig, gwelsom feddygfeydd meddygon teulu yn newid y ffordd y maent yn gweithredu yn llwyr. Yn y Rhondda, mae hyn wedi golygu cynnydd anferth yn nifer y trigolion y mae meddygon teulu yn eu cynnal. Ni fydd angen cymorth meddygol ar tua 20 y cant o'r trigolion hyn ac yn hytrach byddant yn elwa o bresgripsiynu cymdeithasol. Yn ddiweddar, ymwelais â Men's Shed yn Nhreorci, sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy ar ben uchaf y Rhondda Fawr, ochr yn ochr â meddygfa Forest View a chymdeithas dai leol. Gwyddom fod presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio ac wedi newid bywydau llawer o bobl. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau lluosog i sicrhau bod presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei gyflwyno ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac nid mewn pocedi bach yn unig, fel y gall cymaint o'r trigolion sydd angen y cymorth penodol hwn elwa ohono?

Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, Buffy. Fel y gwyddoch, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod darpariaeth dda ym mhobman mewn gwirionedd, nid mewn pocedi yn unig. Ceir rhai enghreifftiau gwych o bresgripsiynu cymdeithasol, ac rwy'n frwd fy nghefnogaeth i fudiad Men's Shed. Rydym wedi dweud yn glir iawn, wrth inni fwrw ymlaen â'r fframwaith cenedlaethol hwn, mai'r hyn rydym eisiau ei wneud yw ychwanegu gwerth. Nid ydym yn ceisio dyblygu'r hyn sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd; rydym eisiau ychwanegu gwerth ac ymestyn a chefnogi gwasanaethau i sicrhau bod gan bawb fynediad at wasanaethau o ansawdd da. Eleni eisoes, rydym yn buddsoddi £89 miliwn mewn presgripsiynu cymdeithasol drwy'r gronfa gofal integredig, ond wrth symud ymlaen, bydd gan ein cronfa integreiddio rhanbarthol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol gyllid ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol hefyd. Bydd hwnnw'n fodel ariannu pum mlynedd, felly bydd yn darparu mwy o gynaliadwyedd. Rydym yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r fframwaith cenedlaethol. Bydd ymgysylltu'n digwydd â rhanddeiliaid ar fframwaith drafft dros y misoedd nesaf, a byddwn yn ymgynghori wedyn. Felly, mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda iawn. Y nod fydd sicrhau bod gan bob man yng Nghymru gynnig presgripsiynu cymdeithasol da sy'n briodol ar gyfer anghenion lleol.

15:00
Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cynnydd cyflymach a theg o ran gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru? OQ57443

Diolch, Mark. Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn unol â’r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018. Rydym wedi cynyddu buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017 i gefnogi gwelliannau teg i wasanaethau, gan gynnwys cynyddu triniaeth a chymorth cymunedol a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.

Diolch. Nododd adolygiad o wasanaeth anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru yn 2018 weledigaeth uchelgeisiol yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar, triniaethau seiliedig ar dystiolaeth a chymorth i deuluoedd. Chwaraeodd yr elusen anhwylderau bwyta Beat ran allweddol yn yr adolygiad hwn. Canfu adolygiad Beat, 'The Welsh Eating Disorder Service Review: 3 years on', a gyhoeddwyd yr wythnos hon, fod cynnydd tuag at gyflawni’r weledigaeth honno yn amrywio’n fawr ledled Cymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad Beat, gyhoeddi model gwasanaeth neu fframwaith newydd, i gynnwys amserlenni sy’n nodi’r hyn y byddent yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd? Os felly, pryd fyddech yn disgwyl i hyn ddigwydd?

Diolch, Mark. Fel y dywedoch chi, nododd adolygiad 2018 agenda radical ar gyfer newid, ond roeddem yn glir iawn y byddai’n rhaid gwneud hynny fesul cam. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Beat; rydym yn rhoi £100,000 i Beat. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Beat am y cymorth hynod bwysig y maent yn ei ddarparu fel sefydliad trydydd sector. Ni chefais gyfle i gael mwy na chipolwg sydyn iawn ar eu hadroddiad, sydd newydd ei gyhoeddi heddiw, rwy'n credu, ond byddwn yn defnyddio’r adroddiad hwnnw i lywio ein gwaith wrth symud ymlaen. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol iawn mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta—cyllid o £3.8 miliwn ers 2017. O ystyried y cyllid ychwanegol sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y tair blynedd nesaf, gallaf gadarnhau hefyd y byddwn yn defnyddio rhywfaint o’r cyllid hwnnw i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta. Rydych yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at yr angen am gyfeiriad cenedlaethol clir i sicrhau gwasanaethau teg wrth symud ymlaen. Mae'r arweinydd cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta wedi gadael i ymuno â gwasanaeth newydd, felly rydym yn edrych ar fodel newydd ar hyn o bryd i sicrhau bod y gwelliannau rydym am eu gweld yn cael eu gweithredu ar sail genedlaethol. Rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny maes o law.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57470

Diolch. Darperir cymorth iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan y GIG ac amrywiaeth o bartneriaid. Mae rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu manteision pellach.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Dezza's Cabin, elusen a sefydlwyd yn dilyn hunanladdiad trasig Derek Brundrett, disgybl yn Ysgol Harri Tudur, ysgol gyfun Penfro gynt, yn ôl yn 2013. Nod yr elusen yw darparu cymorth i leihau risg o hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith sefydliadau fel Dezza’s Cabin, sy’n darparu gwasanaeth mor werthfawr i’r gymuned leol? Ac a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i ba gymorth sydd ar gael i ddarparu cyllid mwy hirdymor i'r sefydliad hwn, fel y gallant barhau i dyfu ac ehangu eu gwasanaeth?

15:05

Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr unigolyn ifanc y cyfeirioch chi ato. Rwy'n falch iawn o weld unrhyw sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan hunanladdiad neu i atal hunanladdiad. Nid wyf yn gyfarwydd â'r sefydliad hwn fy hun, ond rwy’n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith a wnânt. Yn ddiweddar, caeodd cylch ceisiadau am swm sylweddol o gymorth profedigaeth yng Nghymru—oddeutu £1 filiwn y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn ei gylch cyn bo hir—ond byddwn yn cynghori'r sefydliad i gysylltu â’r bwrdd iechyd a’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol, gan y gallai fod cyfleoedd ariannu ar gael drwy'r llwybr hwnnw. Ond rwy'n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith y maent yn ei wneud ac i gyfeirio at gyfleoedd pellach am gymorth.

Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Gweithwyr Gofal

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y cyfrifoldeb dros ddarparu cyfarpar diogelu personol i weithwyr gofal? OQ57473

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfarpar diogelu personol a argymhellir i weithwyr gofal cymdeithasol, yn rhad ac am ddim, tan ddiwedd y pandemig. Caiff y gwaith hwn ei reoli drwy gyflenwadau rheolaidd i awdurdodau lleol i'w dosbarthu ymlaen i wasanaethau cyhoeddus a phreifat.

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb hwnnw. Mae'n ddifyr iawn, oherwydd mae etholwraig i mi wedi bod mewn cyswllt â'r swyddfa yn sôn ei bod hi bellach, oherwydd problemau anadlu, yn gorfod cael peiriant CPAP yn ei hystafell wely. Oherwydd hyn, mae hi wedi derbyn cyngor gan y tîm anadlu yn yr ysbyty bod angen iddi ddarparu—iddi hi'n bersonol, felly, ddarparu—mygydau FFP3 i'w gofalwyr. Mae hi felly wedi cysylltu â'r meddyg teulu, a'r meddyg teulu wedi dweud wrthi hi mai cyfrifoldeb y gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn. Yna, yn eu tro, mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi dweud wrthi hi mai cyfrifoldeb y meddyg teulu oedd darparu yr offer yma. Mae'n offer drud iawn i unigolion, a dydy hi ddim yn medru fforddio prynu yr offer yma bob tro mae rhywun yn ymweld. Fedrwch chi felly gadarnhau y cymysgedd yma i fy etholwraig, i sicrhau bod pobl yn gwybod sut maen nhw'n cael yr offer a phwy sydd i fod i'w darparu, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mabon, ac yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn i’ch etholwraig. Rwy'n credu efallai mai'r ffordd orau o ymdrin â'r sefyllfa unigol yw drwy ysgrifennu atom ynghylch y sefyllfa honno. Awn ati i edrych ar yr amgylchiadau penodol y cyfeiriwch atynt.

Yn sicr, argymhellir cyfarpar diogelu personol gwell, fel masgiau wyneb FFP3, mewn achosion lle gallai aelod o'r staff iechyd neu ofal cymdeithasol fod yn cyflawni triniaeth sy'n cynhyrchu aerosol. Ac yn sicr, credaf fod angen inni edrych ar ba driniaeth y mae eich etholwraig yn ei chael. Ac yn sicr, drwy gydol y pandemig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfarpar diogelu personol, yn rhad ac am ddim, i ysbytai ac i ofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Ac mewn gwirionedd, ers mis Mawrth 2020, mae 514.6 miliwn eitem o gyfarpar diogelu personol wedi'u darparu. Felly, credaf fod gennym hanes da iawn yn sicr o ddarparu cyfarpar diogelu personol, ond yn amlwg, credaf fod y digwyddiad penodol hwn yn un y dylem edrych arno.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Un cwestiwn heddiw, ac mae'r cwestiwn hwnnw gan Heledd Fychan, ac i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip. Heledd Fychan.

Rhewi Ffi'r Drwydded

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru? TQ592

Member
Dawn Bowden 15:09:51
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Cyfarfûm â’r BBC ddoe, ac rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ffi’r drwydded, sy’n peri cryn bryder, a’r hyn y mae’n ei olygu i wasanaethau a’r sector cyfryngau yng Nghymru.

15:10

Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ffi'r drwydded ddydd Llun yn brawf pellach na fydd anghenion cyfryngol Cymru byth yn cael eu diwallu dan reolaeth San Steffan, ac mae'n nodi dechrau'r diwedd i'r holl syniad o ddarlledu cyhoeddus ym Mhrydain. Mae rhewi'r ffi drwydded am ddwy flynedd yn arwain at ansicrwydd mawr ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymru, yn enwedig ein sianel genedlaethol, S4C, a Radio Cymru, a fydd yn cael eu hariannu yn gyfan gwbl o ffi'r drwydded. Cadarnhaodd Nadine Dorries y bydd y ffi drwydded yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, sy'n cynrychioli toriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y gorfforaeth.

Mae llawer ar feinciau'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi nodi pwysigrwydd darlledu Cymraeg a'r cyllid ychwanegol ar gyfer S4C. Fodd bynnag, a ydynt yn cydnabod y bydd toriad mewn termau real i setliad y BBC yn anochel yn effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg, o gofio bod y BBC yn darparu gwerth tua £20 miliwn o raglenni i S4C bob blwyddyn? Ni all y cynnydd yn y cyllid ar gyfer allbwn digidol S4C wneud iawn am y toriad hwnnw, heb sôn am Radio Cymru. Mae'n gliriach nag erioed bod angen tirwedd cyfryngau iachach yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos gelyniaeth gynyddol tuag at y BBC, tra ar yr un pryd mae allbwn newyddion lleol yn gwanhau. Mae hyn yn gwthio Cymru i mewn i gornel o ran diffyg y cyfryngau yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n niweidio ein democratiaeth.

Gyda sôn pellach am ddileu ffi'r drwydded yn gyfan gwbl ar ôl 2027, rwy'n croesawu mwy nag erioed y bwriad i wthio am ddatganoli darlledu, sydd wedi ei gynnwys yn y cytundeb cydweithredu. A fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno gyda fi bod y datblygiadau diweddar yn tanlinellu pwysigrwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli cyfathrebu a darlledu i Gymru fel nad ydyn ni'n gaeth mewn ras i'r gwaelod lle mae elw'n clodfori darpariaeth o safon?

A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei sylwadau pellach? Rwy’n cytuno at ei gilydd â phopeth a ddywedodd. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ac rydym yn bryderus iawn ynghylch y cyhoeddiad byrbwyll a wnaed gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u dyfodol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru, yn cefnogi ein mynegiant creadigol amrywiol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg. Gallai’r toriad cyllid mewn termau real a gyhoeddwyd yn y dyddiau diwethaf fygwth yr holl elfennau allweddol hynny o’r gwasanaethau presennol, yn ogystal â datblygiad y diwydiant cyfryngau yng Nghymru. Nid yw'r syniad fod Llywodraeth y DU wedi paratoi cynlluniau mwy hirdymor i ystyried y materion hyn yn gredadwy.

Mae'r ffordd y gwnaed y cyhoeddiadau hyn yn dangos yn glir mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Er y cawsom gyhoeddiad gan Nadine Dorries ynghylch diddymu ffi'r drwydded, ymddengys bod Rishi Sunak wedi camu'n ôl ar hynny i raddau dros y dyddiau diwethaf, ar ôl iddynt weld adwaith y cyhoedd i'r cyhoeddiad penodol hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg nad oedd y cyhoeddiad hwnnw'n gredadwy fel unrhyw fath o gynllun cynhwysfawr a oedd yn barod i gael ei gyhoeddi mor fuan ar ôl i Rif 10 wynebu argyfwng gwleidyddol arall wedi'i achosi ganddynt hwy eu hunain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod ehangu gweithgarwch y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant rhyfeddol y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a byddai unrhyw fygythiad i'r cynnydd hwn yn arddangosiad amlwg o fwriad y Llywodraeth hon i iselhau a llesteirio economi Cymru.

Mewn perthynas â datganoli darlledu, fel y gŵyr Heledd Fychan, mae ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i archwilio, ar y cyd, y posibilrwydd o greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gan ddarparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu yn barod ar gyfer datganoli’r pwerau hynny i Gymru. Credaf ei bod yn deg dweud bod consensws eang fod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol. Mae’n llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad, nid yw’n gwasanaethu anghenion nac uchelgeisiau’r Gymraeg, a’i ymosodiad diweddaraf ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yw’r dystiolaeth ddiweddaraf na fydd y system bresennol yn cyflawni hynny.

Rwyf am gloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, sef bod angen brys am glymblaid o gefnogaeth yn awr i amddiffyn cyllid cyhoeddus ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.

15:15

Ddirprwy Weinidog, hoffwn groesawu’r ymrwymiad i ddarlledu Cymraeg sydd wedi’i wireddu gyda’r cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer S4C. Ein plaid ni a sefydlodd y sianel dros 40 mlynedd yn ôl, a byddwn bob amser yn diogelu ei rôl ym mywyd Cymru, ni waeth sut y caiff y BBC ei ariannu a honiadau gwamal gan y gwrthbleidiau. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard a minnau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd i alw am gynnydd yn y setliad cyllid ar gyfer S4C y llynedd, ac rwy’n falch eu bod wedi gwrando ar ein galwadau. Yn wir, roeddwn yn falch o weld bod uwch arweinwyr S4C hefyd wedi croesawu’r cyllid ychwanegol, gyda phrif weithredwr newydd S4C, Siân Doyle, yn dweud

'Mae hyn yn newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt.'

A dywedodd cadeirydd S4C, Rhodri Williams

'Mae'r setliad yma'n adlewyrchu ffydd y DCMS, a'r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf.'

Yn ystod y cyfarfod a gefais gyda’r prif weithredwr newydd yr wythnos diwethaf, roedd yr angerdd dros ddod â’r sianel i’r oes ddigidol yn amlwg. Mae’r cyllid ychwanegol o £7.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi gwasanaethau digidol yn gydnabyddiaeth fod gwasanaethau ffrydio ar-lein bellach yn chwarae rhan enfawr yn y ffordd rydym yn gwylio rhaglenni teledu. Bydd rhoi S4C ar yr un llwyfan â chewri ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime yn creu cynulleidfa newydd a chynyddol i gynnwys Cymraeg. A wnewch chi ymuno nid yn unig gyda mi ond hefyd gydag uwch dîm arwain S4C i groesawu’r cyhoeddiad hwn o gyllid ychwanegol i gefnogi darlledu Cymraeg yma yng Nghymru?

Wel, a gaf fi ddiolch i Samuel Kurtz am ei gwestiwn pellach? Mae’n llygad ei le, cafodd S4C setliad mwy ffafriol na’r BBC, ac mae’r gwaith y mae S4C yn ei wneud ar ddatblygu rhaglenni Cymraeg i’w groesawu ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Fodd bynnag, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud â chyllid y BBC, a'r BBC a'i rôl ehangach yn cefnogi darlledu gwasanaeth cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU ac ar draws y byd. Ni ddylem anghofio’r rhan y mae’r BBC yn ei chwarae yn datblygu a chefnogi’r Gymraeg yng Nghymru gyda BBC Radio Cymru ac ati, a rhai o’r rhaglenni y maent yn eu cynhyrchu ar gyfer S4C hefyd. Felly, er fy mod yn llwyr groesawu'r setliad llawer gwell a gafodd S4C o gymharu â’r BBC, nid wyf yn awgrymu am eiliad fod yr hyn a welsom yma yn y cyhoeddiad ar gyllid y BBC yn agos at ddigon, ac mae'n fygythiad pendant i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus onid eir i’r afael â hyn fel mater o frys.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Dim ond un datganiad heddiw, a hwnnw gan Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau mwyaf diffuant a fy niolch i Wylwyr y Glannau Ei Mawrhydi ar ddathlu dau gan mlynedd o wasanaeth ac ymroddiad i’n cymunedau arfordirol. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol ym 1822 i fynd i'r afael ag osgoi trethi drwy fasnachu nwyddau'n anghyfreithlon, mae Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi wedi datblygu i fod yn sefydliad Prydeinig sy'n sicrhau diogelwch ein pobl ar lannau'r DU. Gan weithio 24 awr y dydd, bellach mae gan y sefydliad arloesol ac ymroddedig 3,500 o wirfoddolwyr a 310 o dimau ledled y wlad, a chânt eu cefnogi gan 10 hofrennydd chwilio ac achub.

Lywydd, byddwn ar fai yn peidio â manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn benodol i dîm gwylwyr y glannau Llandudno sy'n gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, ac y mae eu proffesiynoldeb yn parhau i achub bywydau ar y môr a'n hardaloedd arfordirol lleol, megis Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch. Wrth i’r niferoedd uchaf erioed o bobl dreulio gwyliau ar arfordir Prydain dros y blynyddoedd diwethaf, mae banciau tywod dirodres aber afon Conwy ar y lan orllewinol wedi dod yn fan problemus rheolaidd ar gyfer achub, gyda gwaith cydgysylltu penigamp gwylwyr y glannau a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn parhau i fod yn destun balchder lleol. Ar y deucanmlwyddiant pwysig hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno bod dewrder anhunanol eu haelodau dan yr amodau mwyaf cythryblus, wrth ymateb i'r rheini sydd mewn trybini, yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn parhau i fod yn ddiolchgar amdano.

Wrth inni agosáu at 27 Ionawr, bydd yn achlysur trist gan y bydd blwyddyn ers i'r Nicola Faith suddo, a chollasom dri aelod o’n cymuned—Ross Ballantine, Alan Minard a Carl McGrath. Rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ymuno â mi i gydymdeimlo ag aelodau’r teulu, a diolch unwaith eto i wylwyr y glannau am yr holl waith a’r gweithgarwch chwilio ac achub a ddigwyddodd yno dros ddeuddydd yn y gobaith y gallent ddod â’r pysgotwyr hyn adref. Diolch am eich amser, Lywydd.

15:20
5. Dadl ar ddeiseb P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddeiseb ar adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd, a dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM7887 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1243 'Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' a gasglodd 30,133 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl ar y ddeiseb bwysig hon heddiw.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r newid diweddar yn y trefniadau sgrinio serfigol yng Nghymru wedi bod o gryn ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae'r ddeiseb hon i'r Senedd, 'Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' wedi casglu 30,133 o lofnodion mewn tri diwrnod yn unig, ac mae deiseb debyg ar blatfform change.org wedi derbyn dros 1.2 miliwn o lofnodion hyd yn hyn. Lywydd, i roi hyn mewn persbectif, mae hynny dros 100,000 yn fwy o bobl nag a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd fis Mai diwethaf. Mae hyn yn gwbl ryfeddol ac mae'n dangos cryfder y teimladau a'r pryderon ynghylch iechyd menywod yng Nghymru.

Nid wyf yn esgus bod yn arbenigwr meddygol, ond yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod menywod ledled Cymru eisiau ac yn haeddu atebion. Mae’r deisebydd, Joanne Stroud, yn angerddol ynglŷn â phwysigrwydd sgrinio rheolaidd, ac mae’n falch fod proses ddeisebau’r Senedd wedi sicrhau y bydd ei llais yn cael ei glywed ar lawr y Siambr hon heddiw. Mae ei deiseb yn cynrychioli ofnau, siom a gofid miloedd o fenywod ynglŷn â sut a pham y digwyddodd y newid hwn. Felly, Lywydd, fe wnaethom ofyn i’r deisebydd gau’r ddeiseb ar ôl tridiau yn unig, er mwyn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethant gytuno i ofyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl ar unwaith. Rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd ac aelodau’r Pwyllgor Busnes am ei gwneud hi'n bosibl cynnal y ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig peth o’u hamser yn y trafodion heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd, ar ran y pwyllgor, i Gareth a Mared a’r tîm clercio ehangach am eu holl waith ar y ddeiseb bwysig hon.

Ddechrau mis Ionawr, ymestynnodd Sgrinio Serfigol Cymru y cyfnod sgrinio arferol ar gyfer pobl 25 i 49 oed o dair i bum mlynedd. Argymhellwyd y newid gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019 oherwydd llwyddiant y broses o gyflwyno’r brechlyn feirws papiloma dynol a'r defnydd o, a dyfynnaf, sgrinio serfigol ‘mwy cywir’. Cyhoeddwyd hyn ar 4 Ionawr a ffrwydrodd storm ar y cyfryngau cymdeithasol—yn herio, cwestiynu a cheisio eglurhad ynghylch pam y byddai cyfnod hwy rhwng sgriniadau serfigol sy'n gallu achub bywydau. Dylai penderfyniad a newid mor bwysig fod wedi cael ei esbonio’n ofalus ac yn llawn a’i gyfathrebu'n effeithiol i bob menyw yng Nghymru. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ardderchog ar gyfer llawer o bethau, ond ni ddylid bod wedi'u defnyddio fel y ffordd o gyhoeddi mater mor bwysig.

Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i wrando ar y pryderon sydd gan fenywod yng Nghymru, ac i glywed ffeithiau ynghylch pam fod y newidiadau wedi’u gwneud i’r fframwaith sgrinio. Bydd llawer o fenywod heb gael cynnig y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) hynod effeithiol, a gyflwynwyd yn 2008. Iddynt hwy, y cwestiwn allweddol yw a yw’n bosibl dod i gysylltiad â HPV a bod problemau yn datblygu yn y bwlch pum mlynedd rhwng sgriniadau. Gwn y bydd llawer ohonoch wedi darllen e-byst pryderus tebyg i’r rhai a gefais gan fenywod yn fy etholaeth sy’n teimlo eu bod yn dioddef yn sgil mesurau torri costau ac arbed amser mewn cyfnod o bwysau aruthrol ar ein GIG.

Lywydd, yn ei deiseb, mae Joanne yn datgan ei phryderon fod y newidiadau pwysig hyn wedi’u gwneud heb ymgynghoriad cyhoeddus, gan nodi mai’r ymateb i’r cyhoeddiad ar 4 Ionawr oedd, a dyfynnaf,

'dicter, tristwch a phryderon difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru.'

Mae’n rhannu pryderon a chwestiynau miloedd o bobl yng Nghymru ynglŷn ag a fyddai’r newid hwn yn arwain at ganfod canserau yn hwyrach, gan arwain at driniaeth, a dyfynnaf eto,

'fwy ffyrnig, hir a chostus'

a fydd yn bygwth bywydau yn y pen draw.

Mae’r pryderon hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad ddechrau’r mis. Ac fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb debyg ar change.org, yn pwysleisio’r ofnau gwirioneddol, y pryder gwirioneddol a’r trallod gwirioneddol sy’n deillio o’r cyhoeddiad, a wnaed heb ddigon o eglurder nac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newid.

Rwy’n falch o weld bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod na wnaethant ddigon i egluro’r newidiadau, a greodd gymaint o ddryswch a chymaint o bryder. Ers hynny, maent wedi darparu mwy o wybodaeth i egluro'r penderfyniad ac wedi ceisio tawelu meddyliau menywod. Roedd eu strategaeth gyfathrebu yn amlwg yn ddiffygiol a dweud y lleiaf, a hoffwn alw arnynt i ystyried yn ofalus ac adolygu eu polisi ar gyfer y dyfodol. Mae gwybodaeth glir o ansawdd uchel yn hanfodol wrth rannu gwybodaeth a negeseuon mor bwysig. Wrth gyfathrebu â thrigolion, dylech wneud yn union hynny. Onid yw yn apwyntiadau nesaf pawb? Oni fyddai hynny wedi bod yn llawer haws, ac onid dyna'r adeg i rannu'r neges bwysig hon?

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod hefyd yn siomedig na chafodd newid mor arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lawr ein Senedd cyn y newidiadau.

Drwy gydol eu hoes fel oedolion, mae menywod wedi cael gwybod am beryglon gohirio profion ceg y groth, y gallai ymweliad sydyn â'r meddyg bob tair blynedd wneud byd o wahaniaeth. Ni ddylai fod yn syndod fod cyhoeddi oedi o ddwy flynedd drwy Twitter wedi achosi cymaint o ddicter. Dylem ni, fel Aelodau o’r Senedd, fel eu cynrychiolwyr, fod wedi cael cyfle i drafod eu hofnau a’u pryderon yn agored, ac i’r Gweinidog egluro’r rhesymau sy'n sail i’r newid.

Weinidog, darllenais yr adroddiadau gan weithwyr meddygol proffesiynol gyda chryn ddiddordeb y bore yma, ac roeddent yn tynnu sylw at y brechlyn fel datblygiad hollbwysig, ac rwy’n derbyn hyn. Byddwn yn falch pe baech yn defnyddio eich ymateb i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am ganran y menywod yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu. Hoffwn eich annog hefyd i ddefnyddio eich ymateb i fynd i’r afael â’r gwactod gwybodaeth a ddeilliodd o'r ffordd y cafodd hyn ei gyhoeddi, ac yn y gwactod hwnnw, rwy’n ymwybodol o fenywod ifanc ledled Cymru sydd wedi cael eu targedu gan hysbysebion Facebook yn eu hannog i dalu £500 am y brechlyn. Mae hyn wedi fy mhoeni'n fawr.

Lywydd, cyn imi gloi, hoffwn ddiolch i Joanne am gyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd fel bod y pryderon pwysig hyn ynglŷn ag iechyd menywod yn cael eu trafod yma yn ein Senedd heddiw. Ceir oddeutu 166 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn yn ôl Cancer Research UK. Mae sgrinio i ganfod pwy sydd mewn perygl neu sydd â chanser yn hanfodol. Gall achub bywydau, gan sicrhau bod menywod neu bobl â serfics yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.

Drwy gyd-ddigwyddiad, cynhelir ddadl hon yn ystod Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a manteision sgrinio serfigol. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar gyfleoedd sgrinio am wahanol resymau. Mae angen i bob un ohonom gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac anelu at gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gyfleoedd sgrinio er mwyn diogelu bywydau.

Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog, a hyderaf y bydd yn ateb cwestiynau’r nifer o fenywod a lofnododd y ddeiseb hon, a deisebau tebyg. Diolch yn fawr.

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gael dadl ar hyn yn y Senedd heddiw, yn enwedig yn ystod wythnos ymwybyddiaeth canser, fel y mae Jack Sargeant newydd ei nodi, ac o ystyried cryfder teimladau menywod ynglŷn â hyn, ac i gefnogi menywod, ar y newidiadau arwyddocaol hyn a wnaed. A diolch i Jack Sargeant a'r Pwyllgor Deisebau, y Llywodraeth a'r Llywydd, am ganiatáu i hyn ddigwydd mor gyflym. Mae'r teimladau a fynegwyd wedi bod yn eithriadol o gryf, fel y dangoswyd gan y nifer fawr o lofnodion ar y ddeiseb, fel y nododd Jack yn gynharach, gyda’r ystadegyn rhyfeddol, fel y nododd, fod 100,000 yn fwy o bobl wedi'i llofnodi nag a bleidleisiodd yn etholiadau ein Senedd.

Rwy'n bryderus iawn nad oedd y penderfyniad i ymestyn yr amser rhwng sgriniadau canser ceg y groth o dair i bum mlynedd wedi ei hyrwyddo yn y ffordd gywir a gofalus roedd ei hangen i sicrhau bod hanner poblogaeth Cymru yn cael eu haddysgu'n briodol ar y newidiadau hynod arwyddocaol hyn. Roedd y ffordd y torrwyd y newyddion i fenywod ar hyd a lled ein gwlad yn gywilyddus, gyda phennawd bachog ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at banig. Nid yw hwnnw'n ddefnydd gwael o'r gair; cafwyd panig ymhlith menywod a theuluoedd ledled Cymru oherwydd, fel y nododd Mr Sargeant yn gynharach, cawsom ein dysgu ers blynyddoedd am yr amseru a pha mor bwysig yw yn dal canser ceg y groth cyn gynted â phosibl.

Roedd y diffyg gwybodaeth a ddilynodd y pennawd bachog hwnnw'n rhagdybio bod pawb yn gwybod pam fod hyn yn digwydd, y byddai pawb yn gwybod bod y newid yn digwydd o ganlyniad i ddatblygiad cadarnhaol mewn gwyddoniaeth, yn hytrach nag estyniad brawychus o ddwy flynedd pan na fyddai modd sgrinio menywod fel y caent eu sgrinio'n flaenorol a phan na fyddai celloedd canser yn cael eu canfod. Mae pobl yn gwybod yn iawn, pan fyddwch yn cael diagnosis, y gall hynny olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth—dyna sut y cawsom ein dysgu. Achosodd y diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth hon ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygiad a newid mor bwysig bryder a gofid ar draws ein gwlad, a phryder am ddatblygu canser ceg y groth a pheidio â'i ddal mewn pryd. Ac i deuluoedd hefyd roedd panig, yn enwedig y rhai sydd wedi colli pobl i ganser ceg y groth.

Mae'n dod â rhywfaint o gysur i mi fod Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo a Cancer Research UK yn cefnogi'r newid hwn, fel yr amlinellir heddiw. Ond mae angen tynnu sylw menywod at hyn a'r rhesymau drosto. Oherwydd bod y cyfathrebu mor warthus ar hyn, rhaid imi gyfaddef fy mhanig fy hun i ddechrau wrth glywed y newyddion. A gallaf gofio'r sefyllfa ofnadwy a ddioddefodd Jade Goody, un o gyn sêr Big Brother i'r rhai nad ydynt yn gwybod, tra'n dioddef o ganser ceg y groth. Cafodd amser erchyll o fod wedi methu ei ddal yn ddigon cynnar; nid aeth i'w sgriniadau. Ac o ganlyniad bu farw—o, mae'n fy nhristau—gan adael ei dau fachgen ifanc ar ôl. Roedd yn emosiynol iawn. Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am grio, ond roedd yn ymgyrch a chyfnod emosiynol, a'r hyn a ddigwyddodd o hynny, o ganlyniad, oedd bod nifer fawr o fenywod, nad oeddent hyd yn oed wedi meddwl amdano—nid oedd wedi bod ar eu radar hyd yn oed—wedi mynd i gael eu profi. Roedd yn drawmatig iawn ar y pryd, ac yn amlwg, mae'n dal i fod felly. Ond roedd hi'n ddewr iawn, a defnyddiodd ei statws fel seren er daioni, ac aeth â phawb ar y daith honno gyda hi tan ei marwolaeth drist. Fe barodd i lawer o fenywod weithredu, a chynyddodd y nifer a aeth am brawf ceg y groth yn sylweddol. Roedd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd a ddilynodd yn llwyddiant ysgubol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud rhywbeth tebyg.

Mae'n amlwg fod angen ymgyrch sylweddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn awr, yn enwedig o ystyried y neges glir yn sgil y ffaith bod dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newid hwn. Mae hyn yn dweud wrthyf fod llawer iawn mwy o fenywod allan yno o hyd sydd angen gwybod y rhesymau am y newid hwn o dair i bum mlynedd. Roedd ymddiheuriad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wych, ond bydd llawer o fenywod allan yno na fyddant wedi gweld yr un postiad hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol a byddant yn dal i fethu deall pam y mae'r newidiadau arwyddocaol hyn wedi digwydd a'r hyn a olygant.

Pan gafodd y rhesymau dros newid eu rhoi i mi, daeth â pheth cysur i mi ar y dechrau—nid yn gyfan gwbl, oherwydd ceir enghreifftiau, fel y gwelwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel y mae eraill wedi'u gweld, rwy'n siŵr. Mae yna bobl sy'n dal i lithro drwy'r rhwyd oherwydd, gyda'r newid, bydd rhai pobl yn datblygu celloedd canseraidd na chaiff eu canfod o fewn y ffrâm amser honno. Ond i'r mwyafrif, bydd y datblygiad technolegol hwn yn golygu y bydd celloedd HPV yn cael eu canfod yn gynt, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. A bydd yn golygu i'r rhan fwyaf o bobl y bydd ganddynt fylchau hwy yn awr rhwng sgriniadau, sy'n hollol iawn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau'n bendant nad ymarfer torri costau yw hwn, fel y dywedodd Jack, ac y bydd hi 100 y cant yn ddiogel inni wneud hyn.

Weinidog, mae llawer o bryderon o hyd, oherwydd fel y dywedais yn gynharach, gall y feirws orwedd yn segur am flynyddoedd lawer heb fod unrhyw arwydd na symptom o haint. Ac er fy mod wedi gweld llawer o negeseuon e-bost ynghylch sgrinio canser serfigol gan etholwyr dros y pythefnos diwethaf, daliodd un yn arbennig fy sylw. Daeth gan fenyw 30 oed a oedd wedi datblygu canser ceg y groth cam 1, a oedd, diolch byth, wedi ei ganfod yn ei thrydydd prawf ceg y groth. Pe bai'r prawf hwnnw wedi'i ohirio am ddwy flynedd arall, mae'n debyg y byddai'r canser wedi datblygu a gallai fod wedi ei gwneud yn anffrwythlon neu ei lladd. 

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd—

15:35

—ar wella cyfleoedd bywyd i fenywod sy'n datblygu canser ceg y groth, ac ofnaf na fydd yr estyniad hwn o ddwy flynedd yn cyfrannu at achub mwy o fywydau. Mae cymaint mwy i'w wneud o hyd.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd yn awr y galwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf i'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth hon, ac rwy'n eu hannog yn gryf, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i helpu i hysbysu ein dinasyddion yng Nghymru am y datblygiadau sylweddol sydd wedi digwydd. Mae angen inni fynd ati i annog mwy o bobl i fynd am sgriniad serfigol nag a wnaeth hynny yn ddiweddar. Ni fydd y newidiadau newydd hyn yn gweithio ac ni fyddant yn effeithiol oni bai bod pawb bellach yn mynd am sgriniad newydd gyda'r dechnoleg sgrinio newydd hon. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Ac yn gyntaf, gadewch imi ddweud cymaint rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl, y miloedd lawer, sydd wedi siarad am eu pryderon dwfn am y newid yn y trefniadau sgrinio canser ceg y groth. Mae sgrinio, wrth gwrs, wedi dod yn rhan werthfawr o'r arfogaeth ataliol ym maes iechyd menywod, ac mae llawer o fywydau wedi'u hachub drwy ddiagnosis cynnar yn deillio o'r rhaglen sgrinio. Ac fe achosodd y cyhoeddiad sydyn y byddai profion bob tair blynedd yn newid yn brofion bob pum mlynedd gymaint o ofid a phryder i bobl. A rhaid imi ddweud, fy ymateb i oedd anghrediniaeth: ai dyma ganlyniad y pwysau presennol ar y GIG, canlyniad arall systemau dan straen?

Ond wrth geisio dysgu mwy am y newid, yr hyn a ddaeth yn amlwg yw ein bod yn sôn nid am israddio'r mesur diogelu iechyd amhrisiadwy hwn, ond am fethiant difrifol i gyfathrebu newid sy'n newid cywir mewn gwirionedd, a newid y dylem ei ddathlu fel cam ymlaen mewn gofal iechyd ataliol. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r sefydliadau, Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn benodol, am gamu i mewn gydag esboniadau ynglŷn â pham y mae'n newid cadarnhaol, pam y mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod profi am y feirws HPV, sy'n achosi'r mwyafrif llethol o ganserau serfigol, yn caniatáu inni ganfod yr hyn a allai arwain yn y pen draw at fwy o risg, yn ddigon cynnar mewn gwirionedd i ganiatáu pum mlynedd rhwng profion os na cheir tystiolaeth o HPV. Yn y gorffennol, roedd sgrinio'n edrych am newidiadau mewn celloedd, dechrau canser; yn awr gallwn ddod o hyd i arwyddion cynharach o'r hyn a allai arwain ato yn y pen draw a chaniatáu felly ar gyfer ymyrraeth fwy amserol.

Nawr, a gaf fi dynnu sylw'r Aelodau at y datganiad barn a gyflwynais yr wythnos hon, yn dilyn trafodaeth gydag Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, i nodi ei bod hi'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, a mynegi eto pa mor hanfodol yw sgrinio? Mae'r datganiad yn mynegi gofid fod newidiadau diweddar i'r rhaglen sgrinio serfigol—y ffordd y cawsant eu cyfathrebu—wedi achosi pryder a dryswch, ac yn annog Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i flaenoriaethu gwaith i adfer hyder yn y rhaglen drwy gyfathrebu clir ac uniongyrchol i ateb y pryderon sydd gan gynifer o bobl. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yr wythnos cyn diwethaf, rwy'n credu, i ofyn i'r cyfathrebu uniongyrchol hwnnw ddigwydd. Mae'n rhaid iddo ddigwydd. Mae'r ffordd yr ymdriniwyd â'r newid hwn gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau wedi achosi cryn dipyn o bryder, a mater i'r Llywodraeth a'i hasiantaethau yw unioni hynny. 

Nawr, gobeithio y bydd hon yn wers go iawn ynglŷn â phwysigrwydd cael cyfathrebu'n iawn, ac ar yr un pryd, gobeithio y bydd yn ein hatgoffa ynghylch pwysigrwydd sgrinio. Rhaid inni annog mwy o bobl i ddod i gael eu sgrinio, fel y gallwn fod yn hyderus y gall cynifer o fenywod â phosibl roi cyfle iddynt eu hunain gael diagnosis cynnar. 

Ar 4 Ionawr, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gwelliant pwysig hwn i'r gwasanaeth sgrinio serfigol. Er ei bod yn siomedig na lwyddasant i ddarparu cyd-destun i ddangos pam ei fod yn welliant, yn hytrach na lleihad yn y gwasanaeth, mae'n hawdd edrych yn ôl. A gallaf weld pam na chafodd newid a gyflwynwyd bron i ddwy flynedd yn ôl yn Lloegr a'r Alban ei ystyried yn ddadleuol mewn unrhyw ffordd. Roedd yn dilyn yr hyn roedd yr arbenigwyr wedi dweud wrthym oedd y ffordd orau o weithredu'r gwasanaeth penodol hwn. Yn amlwg, mae'n anffodus iawn fod dros 30,000 o bobl wedi teimlo'n ddigon dig ynglŷn â'r hyn y cawsant eu perswadio ei fod yn doriad i'r gwasanaeth, yn hytrach na gwelliant, i lofnodi'r ddeiseb hon. Ond nid wyf yn credu bod parhau â'r anghywirdeb o unrhyw fudd o gwbl.

Cynhelir y ddadl hon ar y prynhawn pan fo pob un ohonom wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i'n Gweinidog iechyd. Felly, ar flaen ein meddyliau mae gennym y meysydd darpariaeth iechyd lle gallwn i gyd gytuno bod angen inni wneud yn well, boed hynny'n anhwylderau bwyta, ADHD, colli clyw, presgripsiynu cymdeithasol, neu, yn gynharach, mynychais gyfarfod ar ganser yr ofari a gynhaliwyd gan Mark Isherwood. Ar yr holl bethau hyn mae angen inni wneud yn well, ac ni fyddai neb yn y Senedd yn anghytuno â hynny. Felly, rhaid imi ailadrodd nad yw peidio â newid yn opsiwn i ni. Ein dyletswydd yw sicrhau ein bod yn ail-lunio gwasanaethau'n gyson i ddiwallu anghenion ein poblogaeth yn well, a'n bod yn darparu'r gwerth gorau gydag adnoddau cyfyngedig yn gyson. Cefais fy ngeni yn yr oes pan oedd pobl yn cael tynnu eu tonsiliau a'u hadenoidau fel mater o drefn pan oeddent yn saith oed, ac roedd mynd â phlentyn o ofal ei rieni ar gyfer rhywbeth y profwyd ei bod yn ymyrraeth gwbl ddibwrpas, oni bai bod problemau penodol iawn, yn brofiad trawmatig i blentyn.

Felly, fel gyda COVID, mae angen inni ddilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, ac mae'r arbenigwyr yn dweud wrthym yn glir iawn mai HPV sy'n achosi 99.7 y cant o ganserau serfigol. Dyna pam ein bod yn cynnig y brechlyn HPV i rai yn eu harddegau er mwyn difa'r feirws HPV ac fel na all achosi canserau serfigol yn y dyfodol, pan fydd y bobl sydd wedi elwa o'r brechlyn wedi tyfu'n oedolion. Felly, rhaid inni gydnabod bod y sgriniad serfigol wedi newid yn sylweddol. Mae'n llawer mwy sensitif, yn llawer mwy cywir ac mae bellach yn edrych yn gyntaf am bresenoldeb HPV. A thrwy leihau'r cyfnod o amser pan gaiff menywod eu sgrinio, mae'n ei gwneud yn bosibl rhyddhau amser i ganolbwyntio ar y lleiafrif bach o'r boblogaeth fenywaidd sy'n peri pryder, lle mae ganddynt HPV yn bresennol yn eu celloedd a gallant fod yn elwa o sgriniadau gwell byth i sicrhau, pe baent yn datblygu canser serfigol, y bydd yn cael ei ganfod yn gynharach. 

Treuliais flynyddoedd lawer o fy mywyd, cyn imi ddod yn Aelod o'r Senedd, yn ceisio helpu i gynyddu cyfraddau sgriniadau canser ceg y groth. Felly, rwy'n siomedig iawn, er gwaethaf yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, fod Laura Jones wedi penderfynu ei bod am barhau i gyflwyno datganiad barn am y wybodaeth anghywir a roddwyd i bobl. Nid yw hyn yn iawn. Ydy, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos hon, ac mae'n wythnos bwysig iawn, am mai'r bobl y mae angen inni ganolbwyntio arnynt yw'r bobl nad ydynt byth yn dod am sgriniad canser. Y math o bobl rydym yn sôn amdanynt yw pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ac nad oes ganddynt rywun y gallant adael eu plentyn gyda hwy er mwyn mynd am sgriniad, pobl sydd mewn gwaith ar drefniant dim oriau ac felly'n methu cymryd amser o'u gwaith er mwyn mynd am eu hapwyntiad sgrinio.

Felly, un o'r ffyrdd y gallwn elwa o'r ffrwydrad hwn o gyhoeddusrwydd i stori eithaf diangen yw canolbwyntio ar sut y gallwn wella cyfraddau'r menywod ifanc sy'n dod i gael eu sgrinio, neu sy'n cael sgriniad canser. Ac rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y peilot sgrinio yn y cartref sydd wedi bod ar y gweill yng Ngholeg King's Llundain, mewn ardal lle ceir lefelau rhagweladwy o isel o bobl yn mynd i'r apwyntiad sgrinio rheolaidd oherwydd—

15:45

O'r gorau. Hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y mae hynny'n cymharu â sgrinio coluddion sy'n digwydd gyda phobl dros 60 oed, oherwydd yn amlwg unwaith eto, dyma rywbeth sy'n digwydd yng nghartrefi pobl, nid oes angen iddynt fynd am apwyntiad, nid oes angen iddynt deithio i weld y nyrs sy'n mynd i wneud y sgrinio. Mae hon yn ffordd bwysig iawn o sicrhau bod canser ceg y groth yn rhywbeth sydd mor brin fel nad yw'n bodoli, bron iawn.

Wrth inni nodi Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, hoffwn wneud pwynt cyffredinol ar y dechrau, sef nad yw merched bob amser yn cael digon o addysg am eu cyrff—mae'n wir am fechgyn hefyd, wrth gwrs. Gall cyfuniad o embaras, diffyg dealltwriaeth, cywilyddio corfforol hyd yn oed, ymffurfio o'r adeg pan fydd merched yn eithaf ifanc, ac mae'n sicr fod y ffactorau hynny'n cyfrannu at y ffaith nad yw un o bob tair menyw yn mynd i'w hapwyntiad sgrinio serfigol pan gânt eu gwahodd. Clywsom eisoes yn y ddadl am y miloedd o fenywod a fydd yn cael gwybod bob blwyddyn fod ganddynt newidiadau yng nghelloedd ceg y groth, felly rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o siarad am y materion hyn a normaleiddio'r broses o fynd am brawf ceg y groth.

Ar y ddeiseb hon yn benodol, y newidiadau i brofion ceg y groth rheolaidd, dywedwyd eisoes eu bod wedi cael eu cyfathrebu'n wael iawn, a bod hynny wedi achosi pryder y gellid bod wedi ei osgoi. Mae'r esboniad a roddwyd inni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tawelu meddyliau llawer o bobl, ond ers cyhoeddi'r newid hwnnw mae menywod sy'n dal yn nerfus wedi cysylltu â mi. Roeddwn am godi'r pryderon hynny yma fel y gallwn gael atebion adeiladol iddynt gan y Gweinidog. Mae rhai etholwyr wedi codi'r ffaith—mae eisoes wedi'i nodi—y gall haint HPV glirio o fewn blwyddyn neu ddwy, sy'n golygu y gallai haint fod wedi clirio erbyn i brawf gael ei wneud. Mae'r etholwyr hynny wedi holi sut y gallai rhywun sy'n edrych ar y canlyniadau wedyn wybod a yw'r haint wedi achosi newidiadau i gelloedd os nad ydynt yn chwilio am y newidiadau hynny. Cafodd etholwraig arall ddiagnosis o ganser cam 1 yn 30 oed yn 2021 a chafodd y canser ei ganfod yn ystod ei phrawf ceg y groth tair blynedd. Pe bai hi wedi aros am ddwy flynedd ychwanegol, mae hi'n poeni y gallai'r canser fod wedi datblygu llawer mwy ac effeithio ar ei ffrwythlondeb o bosibl, neu rywbeth llawer mwy difrifol.

Nawr, fel y dywedais, dylai'r prawf newydd weithio'n dda iawn i'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi cael y brechlyn HPV, sy'n amlwg yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr, oherwydd bydd hynny wedi lleihau nifer yr achosion o newidiadau celloedd annormal. Ni fydd pawb wedi cael cynnig y brechlyn hwnnw, a gwn y bydd menywod, yn enwedig yn eu 30au, wedi colli'r cyfle hwnnw oherwydd mae hynny'n wir yn fy achos i hefyd. Felly, yn yr un modd, hoffwn glywed mwy am yr hyn y gellid ei wneud i dawelu meddyliau menywod ynglŷn â hynny. Mae pryder arall sydd gan rai o fy etholwyr yn ymwneud â menywod a allai ddatblygu canser ceg y groth nad yw'n gysylltiedig â HPV. Mae'n debyg y byddent yn cael eu gadael heb eu sgrinio, felly pa ddarpariaeth y gellid ei gwneud ar eu cyfer hwy os gwelwch yn dda? Rwyf wedi codi'r pryderon hyn er mwyn cael eglurder i'r etholwyr sy'n dal i deimlo'n anesmwyth ynglŷn â'r newid hwn.

Weinidog, gellid bod wedi osgoi hyn i gyd wrth gwrs pe bai neges wedi mynd allan cyn i'r graffig hwnnw gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Deallaf wrth gwrs y bydd gwersi wedi'u dysgu ynglŷn â hyn, ond ochr yn ochr â'r ymholiadau penodol hynny hoffwn ofyn sut y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw arwydd a allai ddatblygu fod y neges anghywir yn cael ei chyfleu i fenywod—hynny yw, nad yw mor bwysig iddynt fynd i gael prawf ceg y groth. Gwn nad dyna a olygir gyda'r newid hwn mewn unrhyw ffordd, ond unwaith eto gallai gwactod ddatblygu i'r rhagdybiaethau anghywir gael eu gwneud, oni bai ein bod yn llenwi'r gwactod hwnnw. Dywedodd un etholwraig wrthyf ei bod hi'n bwysig mynd hyd yn oed os nad ydych yn credu bod angen i chi fynd, fel ymweld â'r deintydd, ac mae'n bwysig iawn nad yw negeseuon iechyd y cyhoedd yn annog menywod yn anfwriadol i beidio â mynd i gael eu sgrinio. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth y gallai'r Gweinidog ei darparu wrth grynhoi'r ddadl a allai leddfu'r pryderon y soniais amdanynt sydd gan fy etholwyr. 

Ond y pwynt hanfodol y byddwn yn ei wneud wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yw bod angen i ni, unwaith eto, sicrhau bod menywod o bob oed yn teimlo bod profion ceg y groth yn normal, nad ydynt yn rhywbeth i boeni yn eu cylch. Pan oeddwn yn yr ysgol, byddai pobl yn sôn amdanynt o dan eu gwynt, fel pe baent yn bethau i arswydo rhagddynt—nid yr athrawon, dylwn ddweud, ond disgyblion eraill—a chefais yr argraff y byddent yn boenus iawn. Mewn gwirionedd, i'r rhan fwyaf o fenywod, mae'n gwbl ddi-boen; ychydig yn lletchwith—nid oes angen iddo fod yn lletchwith. Ond rwy'n credu bod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r naratif hwn, ac mae'n digwydd am fod gormod o'r pynciau hyn yn cael eu hystyried yn bynciau tabŵ ac am na chânt eu trafod.

Diolch i Jack fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am sicrhau y gellid cynnal y ddadl hon ar fyr rybudd.

Nid yw sgrinio serfigol yn brofiad dymunol a dweud y lleiaf, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig fenyw yng Nghymru i fod wedi gohirio neu gasáu mynychu apwyntiad sgrinio, ond rydym hefyd yn deall mai sgrinio serfigol yw un o'r apwyntiadau pwysicaf y gallwn eu mynychu fel menywod ac yn ddi-os, mae'n achub bywydau. Mae'r camau gwyddonol a wnaed i sicrhau bod y prawf ar gyfer HPV yn fwy cywir yn newyddion gwych a dylid ei ddathlu. Ond roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad yn warthus a gwnaeth i lawer o fenywod deimlo'n bryderus, yn rhwystredig ac yn ddryslyd. Mae'r ffaith bod y ddeiseb hon wedi cyrraedd dros 30,000 o lofnodion dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau yn dyst i gryfder y teimladau. Er y cafwyd yr ymddiheuriad i ddilyn y cyhoeddiad, ymddiheuriad a oedd yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth, mae llawer o fenywod yn dal i deimlo'n ddig, ac rwy'n un ohonynt.

Mae wedi cymryd cenedlaethau a chenedlaethau o fenywod i frwydro i gael rheolaeth dros eu cyrff eu hunain. Dylai menywod gael hawl i benderfynu pryd yr hoffent fynychu eu hapwyntiad sgrinio, boed hynny bob tair blynedd neu bum mlynedd, neu unrhyw adeg yn y canol, beth bynnag am y prawf gwell. I lawer o fenywod, mae bywyd yn mynd yn y ffordd, boed hynny oherwydd gwaith neu ofal plant. Ac os ydym yn onest, yn amlach na pheidio, credaf ein bod yn gadael i fywyd fynd yn y ffordd. Gwyddom fod tair blynedd rhwng apwyntiadau sgrinio wedyn yn mynd yn debycach i bedair neu bump. Os ydym am weld newid o dair i bum mlynedd, i rai menywod gallai hyn ddod yn hyd at 10 mlynedd yn hawdd.

Diben apwyntiadau sgrinio serfigol, yn bennaf oll, yw canfod HPV, ond gwyddom i gyd, pan fyddwch yn mynychu'r prawf ceg y groth hollbwysig, nid y prawf ei hun yw'r unig beth y byddwn yn ei drafod, ond y pecyn llesiant cyfan. Gan ein bod ar ein mwyaf hyglwyf yn ystod y prawf ceg y groth, rydym weithiau'n teimlo'n fwy abl i gael y trafodaethau mwy anghyfforddus sydd fel arfer yn cael eu gohirio. I rai menywod, fel y rhai sy'n profi cam-drin domestig, efallai mai eu hapwyntiad sgrinio serfigol yw'r unig adeg y gallant weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar eu pen eu hunain. Nid ymwneud â sgriniad ar gyfer HPV yn unig y mae'r apwyntiadau hyn, maent yn ymwneud â'r pecyn ehangach o archwiliadau a gofal sydd ar gael iddynt. Byddai cynyddu'r cyfnod rhwng yr apwyntiadau hyn yn niweidiol i fenywod a'u lles. Gadewch inni gydnabod y camau gwyddonol enfawr rydym wedi'u gwneud, ond heb gamu'n ôl ar hawl menywod i benderfynu, yn enwedig mewn materion yn ymwneud â'u llesiant. 

15:50

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw. Gwn ei bod wedi cynhyrchu ymatebion cryf iawn ar draws ein cymunedau, ac mae'r cywair a'r angerdd a welsom yn y ddadl y prynhawn yma yn dangos bod hyn wedi cyffwrdd â llawer iawn o bobl. Felly, hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y sgwrs, ond yn amlwg mae angen dysgu gwersi yma.

Fel y dywedodd pawb, daw hyn yn sgil deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y drefn sgrinio serfigol bob tair blynedd. Cyhoeddwyd hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Ionawr a'r syniad oedd ymestyn y cyfnod sgrinio rheolaidd ar gyfer pobl rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd os na cheir HPV risg uchel yn eu prawf sgrinio serfigol. A bydd hynny'n sicrhau bod y cyfnod sgrinio yn cyd-fynd â'r hyn ydyw i rai rhwng 50 a 64 oed.

Mae nifer wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffordd y cafodd hyn ei gyfathrebu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro a chyfarfûm â hwy yn gynharach yr wythnos hon, ac roeddent yn hynod o awyddus i ddweud wrthyf eu bod wedi dysgu'r gwersi, eu bod yn deall y dicter a'r pryder a deimlai pobl oherwydd eu methiant i gyfathrebu mewn ffordd ddigonol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn adolygu ei ddull o gyfathrebu negeseuon iechyd y cyhoedd yn dilyn yr adborth hwnnw.

Mae'n bwysig nodi na fydd y newid yn y cyfnod yn berthnasol i'r rhai y canfyddir bod ganddynt HPV risg uchel, gyda neu heb newidiadau celloedd, gan y byddant yn cael cynnig sgriniad blynyddol a phrofion pellach yn ôl yr angen. A dyna'r pwynt, yr hyn a wnawn yma yw canolbwyntio'n wirioneddol ar y bobl sy'n wynebu mwy o risg. Fel y mae nifer wedi'i nodi heddiw, cefnogwyd y newid hwn yn llawn gan y prif elusennau canser, ac mae'n rhaid imi bwysleisio nad yw hyn wedi'i wneud i arbed adnoddau. Mae buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, megis sgrinio, a chanfod canserau ar gamau cynharach yn eu gwneud yn haws ac yn fwy costeffeithiol i'w trin.

Nid yw'r newid wedi'i wneud ychwaith oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu HPV mewn ysgolion, er bod honno wedi bod yn llwyddiannus, a gofynnodd Jack beth yw'r cyfraddau. Y cyfraddau yr wythnos diwethaf o ran y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ym mlwyddyn 8, sef pobl ifanc 12 i 13 oed, oedd tua 71 y cant. Felly, mae'n llawer llai nag y byddem wedi'i obeithio, ond byddwn yn ceisio cyflwyno rhaglen imiwneiddio dal i fyny—yn amlwg, bu'n flwyddyn lle cafwyd llawer o darfu ar ein hysgolion. A dim ond yn awr y mae'r bobl sydd wedi cael y brechiad yn cyrraedd y garfan oedran ar gyfer y rhaglen sgrinio, er y disgwylir y dylai'r cyfuniad o frechu a sgrinio arwain at gyfraddau sylweddol is o ganser ceg y groth yn y dyfodol agos.

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a argymhellodd y dylai pob gwlad weithredu'r prawf sgrinio serfigol newydd a'r newid yn y cyfnod rhwng profion oherwydd bod y dull profi newydd yn fwy cywir. Pwyllgor cynghori gwyddonol annibynnol yw Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU sy'n adrodd i bob un o bedwar prif swyddog meddygol y DU, ac mae'n cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei arbenigedd a'i drylwyredd academaidd. Mae'n galw am lefel uchel iawn o dystiolaeth, a seilir ei argymhellion ar flynyddoedd o ymchwil ac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac rwy'n tybio mai dyna yw achos y rhwystredigaeth gyda hyn, y dylai fod wedi bod yn newyddion da a rywsut neu'i gilydd, mae wedi creu teimlad gwirioneddol o bryder yn ein cymunedau.

Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau nifer yr achosion o ganser ceg y groth a'r nifer sy'n marw ohono. Mae'n gwneud hyn drwy ganfod a thrin newidiadau yng ngheg y groth cyn iddynt ddatblygu'n ganser. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud nad prawf am ganser ei hun yw'r prawf newydd a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2018, cyn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae'n helpu i ddiogelu rhag canser ceg y groth drwy ganfod y feirws sy'n ei achosi. Mae sgrinio cyfredol yn chwilio am bresenoldeb feirws papiloma dynol risg uchel, sy'n achosi bron bob canser ceg y groth. Credaf fod y data a nododd Jenny Rathbone yn gywir a dylid ei ystyried. Mae'r prawf newydd gwell yn dilyn yr un drefn â'r sgriniad blaenorol, lle cymerir sampl o geg y groth, ond yn hytrach nag edrych ar gelloedd annormal, profir y sampl am HPV yn gyntaf.

Gan fod heintiad HPV risg uchel yn dod cyn i gelloedd annormal ddatblygu, mae profion sylfaenol HPV yn canfod pobl sydd mewn perygl o ddatblygu canser serfigol yn llawer cynharach. Os canfyddir HPV, caiff y sampl ei archwilio hefyd am newidiadau celloedd a'i ddilyn gan brofion pellach os oes newidiadau'n bresennol. Os nad oes celloedd annormal yn bresennol, gwahoddir yr unigolyn i'w sgrinio eto ymhen blwyddyn. Felly, mae'n bwysig cofio os nad oes gennych HPV, fod system wahanol ar gyfer y rhai y canfyddir eu bod yn wynebu mwy o risg. Os na cheir HPV risg uchel yn y sampl, gwahoddir yr unigolyn i'w sgrinio ymhen pum mlynedd. A bydd y newid yn y cyfnod rhwng apwyntiadau yn berthnasol i bobl y mae eu canlyniad sgrinio rheolaidd nesaf yn dangos nad oes ganddynt HPV risg uchel, a hynny am fod eu risg o ddatblygu canser ceg y groth o fewn y pum mlynedd ar ôl eu sgriniad yn isel iawn.

Nawr, dwi'n deall bod llawer o bobl yn poeni y bydd ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio yn arwain at fethu achosion o ganser ceg y groth. Hoffwn i sicrhau pobl fod feirws papilloma dynol yn achosi newidiadau i'r celloedd yn araf dros sawl blwyddyn. Mae hynny'n golygu os oes newidiadau i'r celloedd, bydd modd eu canfod o hyd yn gynnar yn y prawf sgrinio nesaf. Byddai sgrinio'n fwy rheolaidd na phum mlynedd ar ôl canlyniad HPV negatif yn rhy gynnar fel arfer i unrhyw newidiadau i'r celloedd ddod i'r amlwg. Felly, ni fyddai'r sgrinio yn fuddiol a byddai hefyd yn rhoi'r sicrwydd anghywir i bobl. Dwi'n falch bod Cymru wedi arwain y ffordd, ac mai ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno profion sylfaenol am HPV risg uchel yn 2018. Mae Lloegr a'r Alban bellach wedi cyflwyno profion sylfaenol am HPV, ac yn yr Alban, cafodd y bwlch rhwng profion sgrinio ei ymestyn peth amser yn ôl, ym mis Mawrth 2020.

Byddai gwrthdroi'r bwlch ar gyfer sgrinio serfigol i bobl risg isel yn gam yn ôl. Dwi'n cydnabod yn llawn fod sgrinio mwy rheolaidd yn teimlo fel ei bod yn rhoi mwy o sicrwydd, ond, i bobl risg isel, nid yw'n cynnig y buddion y bydden nhw eisiau eu gweld. Mae ymestyn y bwlch i bobl risg isel yn golygu y gall y rhaglen sgrinio ganolbwyntio wedyn ar bobl risg uchel, a fydd yn cael eu monitro yn fwy agos nag o'r blaen. Rhaid inni sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn dilyn y wyddoniaeth ac yn cael eu darparu dim ond pan fyddan nhw'n cynnig budd go iawn a bod angen clinigol amdanyn nhw. Felly, dyna'r ateb i Buffy o ran defnyddio hwn fel esgus i siarad am bethau eraill. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn ynglŷn â sut rŷch chi'n defnyddio ymyrraeth glinigol. Rhaid inni hefyd leihau niwed posibl drwy beidio â darparu ymyriadau diangen. Rhaid i raglenni sgrinio esblygu o hyd, wrth gwrs, mewn ymateb i faich canser a datblygiadau gwyddonol. Jest i ymateb i Jenny Rathbone—.

Roedd hi'n holi am y cynllun peilot yn Lloegr. Rydym yn gwylio'r cynllun peilot yn Lloegr gyda diddordeb. Gwyddom ein bod wedi gweld ymateb gwell i sgrinio coluddion ers i brawf FIT gael ei anfon allan i bobl. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio hwnnw o 60 y cant i 65 y cant. Rydym eisiau gwybod ai dyna fydd yr ymateb mewn perthynas â sgrinio serfigol ar gyfer yr ardaloedd penodol hynny lle nad yw pobl yn mynd am brawf. Felly, rydym eisiau gweld bod y dystiolaeth yn ddiogel ac yn effeithiol cyn inni ystyried cyflwyno hwnnw yng Nghymru.

Bydd cyflwyno profion sylfaenol am HPV yn ein galluogi ni i wneud mwy o welliannau—

16:00

Ocê. Diolch yn fawr. Dylai hwn fod yn stori newyddion da i Gymru. Rŷn ni'n gallu atal mwy o achosion o ganser a chanfod rhai sydd yn datblygu yn gynharach. Mae'n bwysig i nodi, fel mae llawer wedi gwneud, y ffaith nad yw chwarter y bobl sy'n cael gwahoddiad yn mynychu eu hapwyntiadau sgrinio serfigol. Felly, os ydym ni am ddefnyddio'r broblem rŷn ni wedi'i gweld, a'r poeni mae pobl wedi'i wneud, mae'n rhaid inni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddweud wrth bobl i ddod ymlaen am eu gofal sgrinio nhw, ac annog mwy o bobl i gymryd y cyfle hwnnw. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl heddiw, yn arbennig am nodi peth o'r wyddoniaeth y tu ôl i benderfyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac am ateb rhai o'r cwestiynau gan yr Aelodau. Ac wrth gwrs, diolch i'r Aelodau.

Credaf ei bod yn iawn dweud, yn anffodus, na fydd canlyniad heddiw bob amser yn foddhaol i rai pobl. Bydd miloedd o fenywod ledled Cymru wedi cael eu siomi. Maent yn teimlo'n ddryslyd, ac wrth gwrs, byddant yn dal i deimlo'n rhwystredig o ganlyniad i ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf. Felly, teimlaf ei bod yn iawn, a'i bod yn bryd i'r Llywodraeth, i swyddogion, ac i'r gwasanaeth iechyd, fyfyrio a dysgu gwersi o'r broses sydd wedi digwydd, a hefyd i feddwl sut y gallwn ailadeiladu'r ymddiriedaeth a gollwyd i sicrhau na cheir methiant mor fawr eto.

Ddirprwy Lywydd, bûm yn myfyrio ar sut y mae'r broses ddeisebau yn gyfrwng i gyflwyno materion sy'n bwysig i bobl ledled Cymru. Mae'n cynnig cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth, amlygu heriau ac ymdrechu i sicrhau newid cadarnhaol. Mae'n dod â'r materion hyn at galon ein democratiaeth ac yn sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed.

Credaf inni glywed gan bob Aelod ar draws Siambr y Senedd heddiw am bwysigrwydd sgrinio, pwysigrwydd addysg, pwysigrwydd diagnosis cynnar. Clywsom Laura Anne Jones yn galw'n benodol unwaith eto am ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Teimlaf ei bod yn llygad ei lle i alw am hynny, a byddaf yn ymuno â hi yn y galwadau hynny. Clywsom Aelodau'n cyfeirio at yr elusennau canser, Ymddiriedolaeth Canser y Groth Jo a Cancer Research UK, a groesawodd y newyddion, ond wrth gwrs mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ledaenu'r neges hon i fenywod ledled Cymru.

Fel y cawsom ein hatgoffa gan Buffy Williams yn briodol, mae wedi cymryd cenedlaethau a chenedlaethau o fenywod i frwydro i gael rheolaeth dros eu cyrff, ac ni ddylent hwy, ac ni ddylem ni, ganiatáu i gamu'n ôl ddigwydd. Mae Buffy Williams yn llygad ei lle pan ddywed hynny, ac rwy'n ei chanmol am hynny. A'r gwir amdani yw bod bywyd yn mynd y ffordd weithiau—mae'n rhaid inni gofio hyn pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ar iechyd y cyhoedd. Felly, er ein bod wedi cael dadl heddiw, ac er fy mod yn falch fod Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi gallu hwyluso hyn, teimlaf ei bod hi'n amlwg fod angen gwneud gwaith i argyhoeddi pobl a menywod Cymru mai dyma'r penderfyniad sydd angen bwrw ymlaen ag ef. Edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd yn y dyfodol.

Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i Joanne Stroud a phawb sydd wedi cefnogi'r ddeiseb hon, a diolch i'r Gweinidog ac i'r holl Aelodau am eich cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau COVID. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7891 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:

a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;

b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;

c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Cyflwynwyd y cynnig hwn, wrth gwrs, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ychydig cyn i'r Llywodraeth wneud ei chyhoeddiad ar lacio'r cyfyngiadau. Rwyf bob amser yn falch pan fydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i'n cynigion ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwadau gennym ni ein hunain a chan eraill i amlinellu map ffordd ar gyfer llacio cyfyngiadau. A boed eich bod yn ei alw—. Gallaf weld y Gweinidog yn chwerthin, ond rwy'n falch, Weinidog; rwy'n bod yn bositif yma. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi rhoi sylw i'n galwadau.

Russell, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae Huw Irranca-Davies eisiau gwneud ymyriad.

Russell, diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rwyf fi, fel llawer o bobl, yn dilyn cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae'r ffaith eich bod yn cymryd y clod am hyn—. Chwarae teg i chi. Ond sylwodd un person, mewn ymateb i hynny, ei fod yr un peth â gweiddi, am 25 munud yn ddi-stop, o res Z yn y stand, 'Rhowch y bêl i Shane, rhowch y bêl i Shane' ac yna mae Biggar yn sgorio gôl adlam i ennill yn y funud olaf, ac rydych chi'n curo eich cefn eich hun ac yn dweud 'Da iawn'. Nid ef oedd yr unig un, Russell.

Diolch, Huw. Rwy'n falch eich bod yn dilyn ac yn ymddiddori yng nghyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n falch o glywed hynny. Credaf mai'r hyn rwyf am ei amlinellu, efallai, yn ystod y ddadl hon, yw nid yn unig ein bod yn curo ein cefnau ein hunain oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi talu sylw i'n galwadau, ond y rhesymau pam ein bod wedi cwestiynu pam fod y cyfyngiadau ar waith yn y lle cyntaf. Roeddwn am ddweud, Huw, hefyd, fy mod yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gael map ffordd allan o'r cyfyngiadau. Mae hyn bob amser yn bwysig. Boed eich bod yn ei alw'n gynllun neu'n fap ffordd, nid oes ots gennyf beth rydych yn ei alw, ond mae angen i'r cyhoedd a busnesau wybod lle mae'r pen draw pan gaiff cyfyngiadau eu gosod.

Gyda rhai o'r rheoliadau hyn, Huw, ac eraill, a'r Gweinidog, byddwn yn dweud bod llawer o rannau i'r rheoliadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan rydym yn eu cefnogi. Roedd rhai ohonynt yn gytbwys. Roedd rhai ohonynt yn gymesur. Felly, nid ydym yn awgrymu o gwbl ein bod yn anghytuno â'r holl reoliadau a roddwyd ar waith. Yr hyn rydym yn ei ddweud yw, ar ôl i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith, ac ar ôl iddynt ddigwydd, fod yn rhaid inni graffu ac mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn a oedd yn gytbwys a'r hyn a oedd yn synhwyrol. Dyna pam ein bod yn edrych yn arbennig ar rai o'r rheoliadau dryslyd ac anghyson a oedd yn rhan o'r rheoliadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan.

Credaf ein bod ni i gyd yn ymwybodol—mae wedi'i ddweud yn y Siambr—o'r mater a gododd yng nghlwb rygbi Caerffili, lle caniatawyd i 50 o bobl fynd tu allan i wylio gêm rygbi, ond caniatawyd i 140 ei gwylio ar ffrwd fyw yn y clwb ar fyrddau o chwech. Felly, mae'n rhaid inni gwestiynu hyn, onid oes? Onid yw'n iawn cwestiynu cyfyngiadau sy'n cyfyngu'n arbennig ar weithgarwch awyr agored? Ac mae arnaf ofn fod y rheol chwech, wrth gwrs, a gyflwynwyd yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn i letygarwch yn niweidiol iawn i lawer o fusnesau, yn anffodus. Mae llawer o'r busnesau hyn yn defnyddio'r cyfnod hwn—fel y gwyddom ni i gyd, maent yn defnyddio'r refeniw i'w cario drwy'r misoedd tawelach sydd i ddod. Cofiaf yn ôl i'r Nadolig diwethaf pan welsom lawer o siopau'n cau ychydig ddyddiau cyn Dydd Nadolig.

Yng Nghymru, nid wyf yn credu bod y pecyn busnes wedi bod yn ddigon. Ac nid fi yn unig sy'n dweud hynny, na'r Ceidwadwyr Cymreig; dyma farn busnesau ledled Cymru. Dywedodd prif swyddog gweithredol y Grŵp Lletygarwch Creadigol hyn—ac rwy'n ei ddyfynnu yma:

'O safbwynt fy musnes fy hun, efallai y bydd gan y Grŵp Lletygarwch Creadigol hawl i £90,000 dros y naw wythnos. Ni fydd hyn hyd yn oed yn talu fy nghostau talu staff, rhent ac ad-dalu benthyciadau am un wythnos. Mae angen mwy o gymorth arnom, mae angen mwy o eglurder ac yn bwysicaf oll mae angen y dystiolaeth sy'n dangos pam fod ein sector wedi'i dargedu mor llym.'

Clywsom hefyd gan brif weithredwr cymdeithas gwrw Cymru, sydd wedi amcangyfrif y bydd pob tafarn ledled Cymru yn colli £16,000 yr un ar gyfartaledd oherwydd y cyfyngiadau presennol, ac ni fyddant yn ei adennill; dyna'r pwynt pwysig yma. Unwaith eto, mae busnesau Cymru wedi cael eu siomi gan y diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Os ydych yn cyflwyno cyfyngiadau, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r cymorth cywir i fusnesau. Ac wrth gwrs, dywedaf hyn mewn cyd-destun lle mae busnesau yn economi Lloegr yn parhau i gael agor yn rhydd.

Pan fyddwch yn cyflwyno cyfyngiadau, mae'n rhaid ystyried y cydbwysedd cywir. Yr hyn rwy'n ei ddweud a'r hyn rydym yn ei ddweud fel Ceidwadwyr Cymreig heddiw yw bod Llywodraeth Cymru y tro hwn wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n anghywir. Pan gyflwynir cyfyngiadau, rhaid ichi feddwl am y canlyniadau i fusnesau, yn enwedig ar hyd y ffin. Mae llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn mynd dros y ffin am letygarwch, ac yn ne Cymru maent yn mynd i rannau eraill o Loegr. Yn fy etholaeth i, maent yn teithio ychydig funudau i fyny'r ffordd am letygarwch yn yr Amwythig ac i mewn i swydd Amwythig. Felly, unwaith eto, rhaid i chi feddwl am yr effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei chael ar fusnesau pan fyddwch yn gwneud y dewisiadau cytbwys hynny.

Mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod wedi bod yn dilyn y wyddoniaeth a'r cyngor ar y cyfyngiadau hyn, ond gwyddom fod cyngor gan Goleg Prifysgol Llundain a gyflwynwyd i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ym mis Rhagfyr yn awgrymu bod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema lle nad oedd cyfyngiadau ar waith. Sylwaf hefyd, yn yr Alban, fod y cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol wedi dweud, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, nad oedd cyfyngiadau'r Alban ar letygarwch a digwyddiadau chwaraeon wedi gwneud fawr o wahaniaeth i niferoedd yr achosion o'r coronafeirws yr Alban o'i gymharu â'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn Lloegr. Wrth gwrs, unwaith eto, mae'n rhaid ystyried cydbwysedd, ond y tro hwn, roedd y cydbwysedd yn anghywir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n ymwneud â mwy na chaniatáu i bobl fynd i dafarndai a bwytai a chymysgu'n rhydd, mae'n ymwneud â mwy na ph'un a ydych yn mynd i wylio gêm bêl-droed neu rygbi; mae'n ymwneud â'r pethau y dylai fod gennym hawl gyfreithiol i'w gwneud. Mae'n ymwneud â'n llesiant corfforol a meddyliol. Cafodd gwirfoddolwyr ledled Cymru eu siomi am na roddwyd ystyriaeth briodol i sesiynau parkrun ledled Cymru. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ac eraill o'r blaen—y gall sesiynau parkrun barhau o dan y rheoliadau. Ond yn ymarferol, ni allent barhau. Golygai ystyriaethau ymarferol na allent barhau fel yr awgrymwyd. Unwaith eto, mae pobl yn derbyn cyfyngiadau pan fo'u hangen, yng nghyd-destun y cydbwysedd cywir, ond unwaith eto, roedd y cydbwysedd yn anghywir gyda'r cyfyngiad penodol hwn hefyd.

Ar basys COVID, unwaith eto, rydym yn dal i aros am y dystiolaeth. Dywed y Llywodraeth, 'Byddwn yn gweithio ar y data, byddwn yn darparu'r data'; nid ydym wedi gweld y data ar basys COVID a lle mae'r effaith yn llwyddiannus neu lle nad yw'n llwyddiannus. Mae'n rhaid inni gwestiynu pam nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno'r data hwnnw hefyd. Mae yna gost enfawr, wrth gwrs. Ni wnaf ailadrodd fy marn a barn y Ceidwadwyr Cymreig ar y pasys COVID; maent wedi'u cofnodi'n dda. Ond rhaid inni hefyd ystyried y gost i'r trethdalwr wrth i her gyfreithiol gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pasys COVID.

Yn bersonol, ac fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn croesawu'r ffaith bod Gweinidogion wedi llacio'r cyfyngiadau. Rydym wedi croesawu'r map ffordd, i fod yn gadarnhaol. Rwy'n dweud yn glir fy mod yn falch fod gennym fap ffordd allan o'r cyfyngiadau. Ond wrth gwrs, byddwn yn dweud bod y cyfyngiadau presennol, y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar Ŵyl San Steffan, yn orymateb. Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi newid ei safbwynt ar lacio'r cyfyngiadau yn awr, ond mae'n rhaid inni asesu ar ba gost y cyflwynwyd cyfyngiadau hyn. A byddai'n braf pe bai'r Gweinidog yn derbyn efallai nad oedd rhai o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn briodol, ac efallai na fyddai'n gwneud hynny eto pe baem yn yr un sefyllfa eto. Credaf y byddai'n braf pe gallai'r Gweinidog roi rhyw syniad o leiaf a yw'n credu bod rhai o'r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn mynd gam yn rhy bell. Diolch, Lywydd.

16:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gynnig yn ffurfiol y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Dawn Bowden.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Dawn Bowden 16:16:05
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Sylwadau digon byr, dwi'n meddwl, sydd eu hangen gen i heddiw. Mae'n amlwg bod y cynnig yma wedi dyddio braidd. Mae o'n galw am gyfres o bethau sydd eisoes yn digwydd, felly ymatal byddwn ni heddiw. Mae hindsight yn rhyfedd o beth, onid ydy? A gwrando ar Russell George yn fanna rŵan yn dyfarnu ar rywbeth wythnosau lawer wedi'r dystiolaeth oedd yn cael ei chyflwyno inni ar y pryd ynglŷn â'r bygythiad yr oedd y gwyddonwyr sydd yn cynghori'r Llywodraeth yn meddwl yr oedden ni yn ei wynebu ar y pwynt hwnnw, ac yn dod i gasgliadau yn seiliedig ar yr hyn roedd ganddyn nhw o'u blaenau nhw—. Ac mae'r awgrym efallai y dylai Cymru ddim fod wedi cymryd camau oherwydd bod Lloegr yn cymryd agwedd mwy cavalier yn od iawn i mi. Gwarchod pobl Cymru a gwasanaeth iechyd Cymru ydy gwaith Llywodraeth Cymru, ac, yn gyffredinol hefyd, mae'n rhaid nodi bod pobl yn mynd i ffeindio hi'n anodd iawn cymryd gwersi gan blaid y partïon yn Downing Street ynglŷn â sut i—

—i fod yn—[Anghlywadwy.]—ynglŷn â'n hymateb ni i COVID.

Diolch, Rhun. Rwy'n llwyr dderbyn eich pwynt ynghylch ffurfio barn wrth edrych yn ôl, ond fel Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno hefyd nad ydym eisiau bod â barn wrth edrych yn ôl ar y rheoliadau hyn; rydym eisiau gallu pleidleisio arnynt pan gânt eu cynnig. Ac nid oes unrhyw reswm pam na all hynny ddigwydd yn awr. Gyda'r cyfarfodydd rhithwir, gellir cynnig hynny'n hawdd. Gellid bod wedi'i gynnig dros gyfnod y Nadolig. Felly, os gwelwch yn dda, ystyriwch hynny. Nid ydym eisiau siarad am y pethau hyn wrth edrych yn ôl; byddem wedi gallu mynegi ein barn yn gyhoeddus iawn yn y Senedd pe bai'r rheoliadau hyn wedi cael eu cynnig ar yr adeg y cawsant eu rhoi mewn grym.

Ac mae hwnnw'n bwynt rwyf wedi'i wneud fy hun: mae'n bwysig i ddemocratiaeth ein bod yn cael pethau'n iawn ac yn gwneud pethau yn y drefn gywir. Ond mae dadlau yn awr fod yr hyn y cafwyd tystiolaeth briodol ar y pryd ei fod yn briodol yn anghywir yn enghraifft dda iawn o gamddefnyddio ôl-ddoethineb, rwy'n credu.

Mi fyddwn ni'n pleidleisio dros welliant y Llywodraeth achos y cwbl mai o yn ei wneud, dwi'n meddwl, ydy gosod allan y broses o godi mesurau gwarchod sydd eisoes wedi cael ei chyhoeddi a'n wir wedi dechrau cael ei gweithredu.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth amlinellu eto'r egwyddorion dwi a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi cael ein harwain ganddyn nhw dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae eisiau mesurau gwarchod a rheoliadau mewn lle sydd yn ddigon tyn a digon cryf i ymateb i'r risg iechyd dŷn ni'n ei wynebu, ond mae eisiau sicrhau nad oes yna fwy na sydd ei angen mewn lle chwaith, oherwydd yr impact maen nhw yn eu cael ar lesiant, ar iechyd meddwl, ar yr economi, ar letygarwch, ac yn y blaen. Dwi wedi annog y Llywodraeth i wthio y ffiniau o'r hyn mae'n bosib ei ganiatáu a'r normalrwydd mae pawb ohonon ni'n dyheu amdano fo wedi'r cyfan. Wythnos i ddoe, dwi'n meddwl, cyn i'r cynnig yma gael ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr, mi oeddwn innau'n galw ar y Gweinidog i ganolbwyntio ar beth roedden ni'n ei obeithio oedd yn arwyddion addawol iawn yn yr ystadegau—mi drodd hi allan eu bod nhw'n addawol iawn—ac i baratoi i allu codi'r rheoliadau mor fuan â phosib. A dwi'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny mewn difri ar yr achlysur yma.

Rhun, a wnewch chi aros eiliad, os gwelwch yn dda? Janet, rydych chi wedi codi eich llaw. A ydych eisiau ymyrryd? Rhun, a ydych yn barod i dderbyn ymyriad arall?

Diolch. Rhun, rwyf mewn penbleth, oherwydd hyd y gwn i, a'r ddadl rydym wedi'i gwneud fel Ceidwadwyr Cymreig yw nad oeddem wedi gweld cell cyngor technegol ar y pryd—ni welsom unrhyw dystiolaeth ar y pryd. Felly, os gwelwch yn dda, cofnodwch y dystiolaeth a oedd yno nad ydym ni fel Aelodau etholedig, rywsut, wedi cael gwybod amdani.

16:20

Wel, yn fy mhrofiad i ac o brofiad cyd-Aelodau i chi, gwn fod yna ddeialog agored y gallwch ei chael gyda chynghorwyr i'r Llywodraeth, ac rydym yn ei chael drwy'r pwyllgor iechyd ac yn y blaen. Hefyd, roeddem yn sôn am don fyd-eang a thystiolaeth fyd-eang o don o amrywiolyn newydd nad oeddem yn gwybod dim amdano, ac er eich bod efallai'n meddwl eich bod yn gwybod popeth amdano yn awr, Janet, ond nid oeddech ar y pryd. Ac roedd hwn yn ymateb i sut i gadw'n ddiogel, ac rwy'n argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud a chredaf ei fod hefyd wedi'i gadarnhau yn yr ystadegau rydym wedi'u gweld ar y niferoedd a aeth i'r ysbyty yng Nghymru ac yn y blaen. Nid oes neb eisiau unrhyw un o'r rheoliadau hyn; gadewch inni atgoffa ein hunain o hynny. Ond ar adegau, drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf, bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith, a chredaf fod y rhain yn fesurau rhesymol i fod wedi'u rhoi ar waith mewn ymateb i'r bygythiad roeddwn i yn sicr yn bendant ei fod yn cael ei gyfathrebu i ni mewn gwahanol ffyrdd, er, yn bendant, rwy'n cytuno bod angen inni fod yn pleidleisio arnynt mor agos at yr adeg y byddant yn cael eu gweithredu—yn ddelfrydol cyn eu gweithredu wrth gwrs, ond weithiau, rhaid i ymateb y Llywodraeth fod yn gyflym iawn.

Mi wnaf i ddirwyn fy sylwadau i ben drwy edrych ymlaen at y camau nesaf. Mae eisiau cadw at yr un egwyddorion—dwi wedi sôn amdanyn nhw—o ran gwneud digon ond dim gormod. Mae'n wir am yr amser ynysu: dowch â fo lawr gymaint â phosib, ond dim ond pan fo'r dystiolaeth yn caniatáu y gallwn ni wneud hynny, a dwi'n gobeithio y gall hynny ddigwydd yn fuan, wrth gwrs. Rhaid cofio ein bod ni'n dal yn byw mewn pandemig a bod cryfhau'r elfennau hynny, efallai lle mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhy araf yn gweithredu arnyn nhw o bryd i'w gilydd, yn bwysicach nag erioed—cyflwyno offer glanhau awyr fel bod unrhyw donnau yn y dyfodol yn cael llai o impact, bod yn gwbl gadarn mewn canllawiau awyr iach mewn ysgolion ac ati. Dŷn ni'n amlwg mewn lle llawer mwy addawol, rŵan, fel mae'r penderfyniad cywir, dwi'n meddwl, i lacio'r rheoliadau wedi'i ddangos. Ond drwy fod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, cario ymlaen i baratoi, rhoi camau ataliol mewn lle ac ymateb yn gyflym a phriodol i sefyllfa sy'n newid o hyd—dyna sut mae ein galluogi ni i fod mor wydn â phosib wrth wynebu problemau eraill a all godi yn y dyfodol.

Rwy'n falch o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon, gan ein bod wedi dioddef cylch arall o gyfyngiadau niweidiol ac afresymol.

Mae dull y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd o rannu negeseuon ers i'r amrywiolyn omicron gyrraedd Cymru wedi bod yn anhrefnus ac yn anghyson. Mae wedi codi ofn a gellid dadlau ei fod yn benderfyniad gwleidyddol mewn rhai ffyrdd. Yn fwyaf pryderus, nid oedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'r penderfyniadau hyn yn seiliedig ar wyddoniaeth, gyda diffyg tystiolaeth amlwg i ategu unrhyw benderfyniadau a wnaed. Mae cydbwysedd anodd i'w daro wrth bwyso a mesur gwahanol fathau o niwed, pan fyddwn yn gwneud y penderfyniadau anodd hyn ac maent yn benderfyniadau anodd—mae pawb yn cydnabod hynny. Ond pan fyddant yn benderfyniadau sydd â goblygiadau mor enfawr i fywydau a bywoliaeth pobl, mae angen rhywfaint o esboniad ynghyd â thystiolaeth i egluro pam eich bod, mewn rhai achosion, yn dinistrio busnes rhywun drwy wneud penderfyniad penodol.

Unwaith eto, ymateb uniongyrchol Llywodraeth Cymru i'r amrywiolyn newydd oedd cau busnesau'n frysiog a chyfyngu ar ryddid. Nid yw'n syndod i mi gan fod gennym Brif Weinidog sydd wedi treulio ei yrfa'n damcaniaethu am sosialaeth yn hytrach na rhedeg busnes neu orfod poeni am dalu staff. Fe wnaeth y penderfyniad i symud yn ôl i reoliadau lefel 2 orfodi digwyddiadau chwaraeon gwylwyr awyr agored i gau eu drysau i gefnogwyr unwaith eto, a chyfeiriwyd at gynulliadau a digwyddiadau chwaraeon cymunedol eraill fel 'digwyddiadau lle heintir llawer', er na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth, ac yn ddealladwy, fe greodd hynny gryn ddicter. Roedd y cyfyngiadau hyn yn atal mwy na 50 o bobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored, ac eto roedd yr un cyfyngiadau'n caniatáu i fwy na 50 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiad dan do, ar yr amod eu bod yn eistedd, lle byddai awyru ar lefel lawer is. Nid yw'n syndod fod pobl yn ddig ac wedi cael llond bol ar y cyfyngiadau disynnwyr hyn ar ein bywydau.

Ddirprwy Lywydd, ni allwn ddeall pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w penderfyniad, ond o weld y data drosof fy hun ac edrych ar sut y bu i Loegr ymdopi heb gyfyngiadau, gallaf weld pam yn awr. Ni all pobl a busnesau Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol na byw eu bywydau tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi—

[Anghlywadwy.]—heb ryddhau unrhyw dystiolaeth. Gwnaf.

16:25

Wel, na, mewn gwirionedd, oherwydd, Laura, rydym i gyd wedi cael llond bol ar y mesurau mewn ymateb i COVID. Mae pob un ohonom wedi cael llond bol, oherwydd yr effaith ar ein teuluoedd, ar fusnesau ac yn y blaen. Ond oni fyddech yn cytuno mai un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu o donnau cynharach o'r pandemig hwn yw'r angen i symud ymlaen yn ofalus, a hefyd, rhaid imi ddweud, i wneud ymyriadau'n gynnar, er mwyn atal canlyniadau gwaeth? Ac a gaf fi eich cyfeirio at ddata arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr wythnos diwethaf, sy'n dangos bod nifer yr achosion yn awr yng nghymunedau Cymru yn un o bob 25, o'i gymharu ag un o bob 20 yn Lloegr a gweddill y DU? Os yw hynny wedi arbed pwysau ar y GIG, wedi achub bywydau, ac yn awr yn caniatáu inni agor busnesau'n gynharach, a yw hynny, wrth edrych yn ôl, yn rhywbeth a allai'n sicr fod yn werth rhywbeth, hyd yn oed gydag anhawster hyn, ac yn rhywbeth nad oedd yn ddisynnwyr, ond a oedd, mewn gwirionedd, yn benderfyniad da a'r penderfyniad cywir, yn ôl pob tebyg?

Na, rwy'n derbyn bod y rhain yn benderfyniadau anodd, fel yr amlinellais yn gynharach, ac mae'n anodd—mae'n anodd gwneud y penderfyniadau hyn a chydbwyso'r gwahanol fathau o niwed. Ond roedd yn amlwg o'r ffigurau, Huw, fod y nifer a oedd yn mynd i'r ysbyty yn is a bod y ffigurau'n mynd y ffordd honno. Pe baech yn edrych ar y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd yn Llundain gyda'r un amrywiolyn, ac yn Ne Affrica, roedd tuedd amlwg o'r hyn a oedd yn debygol o ddigwydd, a bellach, gwelwn mai dyna ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Mae'r sector lletygarwch wedi bod dan warchae'n gyson gan Lywodraeth Cymru, gyda diffyg cefnogaeth ac ailgyflwyno'r rheol chwech. Amcangyfrifir bod 86,000 o swyddi wedi'u colli o'r diwydiant nos diwylliannol, ac roedd cost gyfartalog o £45,000 i fusnesau dros gyfnod yr ŵyl yn sgil y mesurau newydd hyn.

Dangosodd ymchwil ym mis Rhagfyr gan Goleg Prifysgol Llundain fod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema. Ni ellir cyflwyno cyfyngiadau heb reswm, ac yng ngoleuni'r ffaith bod amrywiolyn omicron yn llawer ysgafnach, ochr yn ochr â chynnydd y broses o gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu, mae'n rhaid imi gwestiynu'r sail resymegol dros benderfyniadau Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fo'r dystiolaeth yn dal i fod yn absennol.

Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y Ceidwadwyr Cymreig, fel y dywedodd Russell yn gynharach, ac wedi gwrando ar ein galwadau i lacio'r cyfyngiadau, rydym yn dal i orfod aros wythnosau am y newidiadau hyn, a hynny i gyd am fod Mark Drakeford eisiau arbed wyneb a pheidio â chyhoeddi unrhyw dro pedol. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl i iechyd meddwl a llesiant, nac i economi Cymru. Mae'n bryd inni edrych tua'r dyfodol a dechrau ailadeiladu ein bywydau ac economi Cymru. Mae arnom angen map ffordd manwl ar gyfer adfer yn awr, nid yr ansicrwydd cyson y mae Llywodraeth Cymru wedi'i greu drwy gydol y pandemig.

Mae angen inni gynllunio i ddysgu byw gyda COVID, mae angen inni gadw plant yn yr ysgolion a'u cynorthwyo i fynd yn ôl ar y trywydd cywir. Mae angen inni gael gwared ar basys COVID, ac mae angen inni gefnogi ein GIG a'n staff wrth iddynt fynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y rhestrau aros. Bydd yr adferiad yng Nghymru yn cymryd amser, ac rwy'n deall hynny, ond mae angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli ei bod yn bryd inni fyw gyda COVID a chanolbwyntio ar ddiogelu ein dyfodol economaidd. Os oes tystiolaeth yn datgan bod angen cyfyngiadau penodol arnom, iawn, ond mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn anghywir gyda'r cyfyngiadau diweddaraf hyn.

Mae'n dda gweld pethau'n newid o'r diwedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn clywed mwy yfory ar fasgiau mewn ystafelloedd dosbarth a mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio yn gynt. Yn syml iawn, mae'n bryd ceisio dechrau rhoi sicrwydd yn hytrach na mwy o fygythiadau o gyfyngiadau sy'n arwain at golli swyddi. Mae angen inni ddysgu byw gyda COVID. Roedd hon yn ddadl bwysig i'w chael heddiw er ei bod wedi dyddio mewn ffordd. Byddai'n dda gallu trafod cyfyngiadau a phleidleisio arnynt cyn iddynt ddigwydd yn y dyfodol. Diolch.

Mae cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ddadleuol, yn anghyson ac yn llawn o fylchau sydd wedi achosi niwed di-ben-draw i economi ein gwlad, yn ogystal â'n diwydiant lletygarwch hanfodol, unigolion, busnesau a sefydliadau, sydd i gyd wedi cael eu taro'n galed gan y gyfres hon o gyfyngiadau. Ar ôl wythnosau o alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i lacio'r cyfyngiadau hyn, ac fel y dywedodd Huw Irranca, hyd yn oed os oedd o'r 12 rhes uchaf yn stadiwm y mileniwm, rwy'n falch fod Cabinet Llywodraeth Lafur Cymru o'r diwedd wedi rhoi cynllun ar waith ar 14 Ionawr. Fodd bynnag, mae arnom angen mwy na hyn a mwy o sicrwydd wrth symud ymlaen.

Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru geisio atal y cyhoedd rhag ymweld â'n lleoliadau lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac eto roedd y cymorth a ddarparodd yn druenus. Gwariodd tafarndai a bwytai filoedd o bunnoedd ar fwyd ac roedd ganddynt stociau da ar gyfer cyfnod yr ŵyl, ac mae llawer ohono wedi'i wastraffu gan greu cost i'r gadwyn gyflenwi ehangach. Yr hyn sydd hyd yn oed yn anos i'r unigolion a'r busnesau a gafodd eu dal gan y cyfyngiadau hyn yw dysgu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i eistedd ar gronfa o arian parod, arian parod sydd i fod yno i gefnogi ein busnesau lleol a'r diwydiannau cysylltiedig sydd wedi cael eu taro gan y cyfyngiadau hyn. O'r gronfa gwerth £500 miliwn, £120 miliwn yn unig sydd wedi'i ddarparu i fusnesau. Mae'r ffigur hwn yn annigonol iawn, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar adeg pan fo'r busnesau hyn yn brysur fel arfer.

Dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, aeth miliynau o bunnoedd allan o Gymru, gydag unigolion yn teithio i Loegr i fwynhau dathliadau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd, i gyd ar adeg pan oedd rhai busnesau yng Nghymru, megis clybiau nos, ar gau ac eraill dan gyfyngiadau llym. Cyflwynwyd y cyfyngiadau hyn gan ddarogan gwae, a'r cyfan y maent wedi'i wneud yw darogan gwae i economi ein gwlad. Mae'n bryd dysgu byw gyda COVID yn awr, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i nodi heddiw, wrth inni ddechrau dychwelyd i normalrwydd. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn nodi'n eglur beth fydd llwybr Llywodraeth Cymru yn ôl i fel oedd hi cyn y pandemig.

Oherwydd llwyddiant cyflwyno'r pigiad atgyfnerthu, mae 90 y cant yn llai o gleifion wedi cael eu derbyn i ysbytai'r DU. Yng Nghymru, mae dwy ran o dair o bobl wedi cael pigiad atgyfnerthu, sy'n dangos, oherwydd ymdrechion diflino staff y GIG, meddygon teulu a fferyllwyr a pharodrwydd y cyhoedd, y dylai Cymru allu cefnu ar gyfyngiadau bellach, ac nid yw ond yn iawn inni ganmol Llywodraeth Cymru ar y modd y cyflwynwyd y pigiadau atgyfnerthu. Mae COVID wedi dwyn llawer o fywydau ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid a ffrindiau. Rhaid inni ddysgu o gamgymeriadau'r pandemig. Rhaid inni gael ymchwiliad COVID penodol yng Nghymru a chredaf y dylai Llywodraeth y DU newid ei safbwynt yma ac annog Cymru a Phrif Weinidog Cymru i gynnal ein hymchwiliad cyhoeddus ein hunain yma yng Nghymru. 

Gobeithio ein bod bellach yn cefnu ar COVID. Rydym wedi gwneud yr aberth i gadw'r cyhoedd yn ddiogel, ond mae'n rhaid inni roi gobaith i bobl yn awr. Rhaid i'r wasg roi'r gorau i godi bwganod ac mae'n rhaid i bob Llywodraeth ddechrau'r broses o lywodraethu'r wlad a mynd i'r afael â materion heblaw COVID. Mae gennym ddyletswydd i roi eu rhyddid yn ôl i bobl, a rhoi gobaith yn ôl i bobl, ledled Cymru ac ar draws y wlad. Hoffwn annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:30

Hoffwn gyfeirio’r Aelodau at fy ffurflen ddatgan buddiant fy hun. Wel, rwy'n sicr yn croesawu'r diweddariad a gafwyd bellach i'r cyngor technegol, gyda'r gwaith modelu i'w weld yn dangos yn fwy cadarnhaol y gallai brig y don omicron hon fod y tu ôl i ni bellach. A chredaf fod pob un ohonom yn croesawu hynny. Gyda chyfanswm nifer y cleifion yn yr ysbyty yn gostwng a chyfanswm y derbyniadau i ysbytai yn gostwng am fwy nag wythnos, credaf mai yn awr yw’r amser i Lywodraeth Cymru edrych yn fwy rhagweithiol ar gyflwyno map ffordd ar gyfer adferiad hirdymor.

Yn anffodus, mae Cymru'n dal i fod yn allanolyn gyda'i pholisi iechyd cyhoeddus. Er gwaethaf y dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae’n parhau i beri pryder i lawer o fusnesau fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn eu barn hwy, wedi gorymateb i omicron, ac mae hyn wedi achosi cryn dipyn o boen i deuluoedd a llawer o ofid i’n busnesau. Mae’r amserlen a argymhellir ar hyn o bryd yn golygu y bydd gan ein busnesau lletygarwch dan do bythefnos arall o gyfyngiadau, a bydd hynny'n gyrru'r bunt Gymreig dros y ffin i Loegr, a gŵyr pob un ohonom am achosion lle digwyddodd hyn nos Calan.

Mae prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru wedi amcangyfrif bod tafarndai, ar gyfartaledd, wedi colli £16,000 yr un dros gyfnod y cyfyngiadau presennol. Euthum i salon trin gwallt y diwrnod o'r blaen, ac roedd dwy gadair nad oeddent yn cael eu defnyddio, gyda thâp drostynt, oherwydd y cyfyngiad cadw pellter o 2m. A chredwch fi, roedd perchennog y salon trin gwallt yn ddigalon iawn pan ddywedodd wrthyf faint o arian yr awr roedd hi'n ei golli ar y ddwy gadair hynny.

O ystyried gwaith ymchwil Coleg Prifysgol Llundain, a gyflwynwyd i'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ym mis Rhagfyr, a awgrymai fod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa, o gymharu â bod mewn tafarn neu sinema, pan nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar waith, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymddiheuro i'r diwydiant lletygarwch am wneud camgymeriad gyda chyfyngiad y rheol chwech? A pham ar y ddaear na wnaeth y Prif Weinidog ddiddymu'r mesur 2m yr wythnos diwethaf fel y gall busnesau wneud cymaint o incwm ag y gallant? Mae ton o ganslo trefniadau yn parhau i amharu ar hyfywedd ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Nawr, er ei bod yn ddealladwy fod ymddygiad cwsmeriaid wedi newid, mae'r straen digynsail y mae busnesau'n ei deimlo yn peryglu eu bywoliaeth eu hunain, eu hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain, a chyfleoedd cyflogaeth i rai.

Mewn sgyrsiau â llawer o fusnesau lleol, mae’n amlwg fod angen eglurder o hyd ynghylch pam ei bod yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth fod incwm wedi gostwng 50 y cant, pan wyddom y gall gostyngiad llai o lawer fod yn hynod niweidiol. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio y gall cyfnod y Nadolig ddarparu oddeutu 20 y cant o drosiant blynyddol busnes. Ceir pryderon dilys hefyd gan berchnogion busnesau llety hunanddarpar bach am eu cymhwystra, gyda Llywodraeth Cymru wedi atal awdurdodau lleol rhag gallu dewis rhoi unrhyw grantiau i fusnesau hunanddarpar sy'n darparu ar gyfer 29 o bobl neu lai, ac rwy'n falch fod y Prif Weinidog o ddifrif ynghylch y pwynt a godais ddoe, ac y bydd yn edrych ar hynny. Hoffwn ofyn hefyd i chi ystyried darparu mwy o arian ar gyfer y busnesau sydd wedi dioddef oherwydd eu hymateb i omicron, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU wedi darparu £270 miliwn ychwanegol ym mis Rhagfyr, ar ben y swm a gyhoeddwyd yng nghyllideb yr hydref.

Mae sut y bydd Cymru’n dechrau byw gyda COVID-19 yn y dyfodol yn parhau i fod ar feddwl y cyhoedd, fel yr amlinellodd Syr Keir Starmer ac Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid eu hunain. Roedd yn rhaid i’r DU ddysgu byw gyda COVID er lles ein plant. Mae’r Athro John Watkins, sy'n uwch epidemiolegydd, hefyd wedi dweud y dylai Cymru geisio alinio â Lloegr—

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Janet ydy'r trydydd siaradwr efo'r Ceidwadwyr sydd wedi sôn am ddysgu byw efo'r haint yma. Pa lefel o farwolaethau sydd yn dderbyniol i chi?

Yn y pen draw, mae unrhyw farwolaeth yn peri gofid i bob un ohonom, Mabon. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli bellach, yn unol â gwledydd eraill—. Os edrychwch ar Loegr a'r hyn y maent yn ei wneud, maent yn gallu cadw'r economi i fynd gan ddiogelu bywydau pobl ar yr un pryd. Felly, mae'n rhaid inni roi'r gorau i fod eisiau gwneud pethau'n wahanol, am ddim rheswm heblaw ei fod i'w weld yn well. Ni chafwyd unrhyw gyngor na thystiolaeth pan gafodd y cyfyngiadau hyn eu cyflwyno, ac rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelodau y dylem fod wedi cael lleisio barn ar hyn. Gallem fod wedi gwneud hynny ar Zoom dros gyfnod y Nadolig. Ond mae arnaf ofn fod hyn oll yn rhy hwyr yn bellach.

Gyda dros 1.8 miliwn o bigiadau atgyfnerthu a thrydydd dosau wedi’u rhoi yng Nghymru, nawr yw’r amser i roi hwb i hyder busnesau a’r cyhoedd ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau. Mae trigolion yn gofyn i mi beth oedd pwynt y brechlynnau hyn—

—pan fo Llywodraeth Cymru yn dal i fod eisiau cadw mesurau llym ar waith, gan ddwyn ein rhyddid. Gofynnaf i’r Prif Weinidog fod yn ddewrach yn ei gyhoeddiad nesaf a chaniatáu i bobl Cymru fyw eu bywydau. Diolch.

Member
Dawn Bowden 16:39:07
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu ymateb heddiw i'r ddadl hon, a hoffwn ddweud ar y cychwyn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig cyffredinol sydd ger ein bron heddiw. Ond rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn cefnogi ein cynllun i newid i lefel rhybudd 0, fel y nodir yn ein gwelliant. O safbwynt personol, edrychaf ymlaen yn arbennig at weld digwyddiadau chwaraeon yn dychwelyd yn y ffordd arferol, ac fel y mae Gweinidogion wedi'i nodi'n glir drwy gydol ein gwaith ymgysylltu â'r sectorau yr effeithir arnynt, nid oes unrhyw un yn Llywodraeth Cymru yn dymuno parhau gyda mesurau diogelwch pandemig am yn hwy nag y bo'u angen, ac mae'n gywilyddus fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i awgrymu fel arall. Mae eu dadleuon yn aml yn llithro i mewn i awgrymiadau fod penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu llywio gan gymhellion cudd, sy'n arwydd eu bod yn gwyro tuag at ffurf baranoiaidd, negyddol a mwyfwy amherthnasol o wleidyddiaeth adain dde, ac roedd cyfraniad Laura Jones y prynhawn yma'n enghraifft glir o hynny.

Lywydd, mae eu crebwyll gwael yn golygu eu bod yn diystyru'r aberth gyfrifol a wnaed gan bobl Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Cyn y Nadolig, cyflwynwyd tystiolaeth bryderus iawn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â phob un o Lywodraethau eraill y DU, ynglŷn â lledaeniad a chyflymder heintiau amrywiolyn newydd omicron a oedd yn sgubo drwy ein cymunedau. Roedd y dystiolaeth honno ar gael drwy adroddiadau'r Gell Cyngor Technegol a'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a gyhoeddir yn rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru ac a oedd yn dod gyda'r cyhoeddiadau a gâi eu gwneud ar y pryd. Yn wir, cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, at gyngor TAC a SAGE wrth gyfeirio at y ffaith bod y cyfraddau heintio'n gostwng erbyn hyn. Janet, dyna'r un cyngor TAC ac adroddiadau SAGE ag a ddefnyddiwyd gennym i wneud y penderfyniadau ar gyfyngiadau yn ôl ym mis Rhagfyr.

Mae’r consensws iechyd cyhoeddus, nid yn unig—

16:40

Y pwynt rwyf wedi'i wneud yw, ar y pryd, ni chawsom unrhyw dystiolaeth ac ni chawsom wybod—. Soniodd Rhun yn gynharach amdanom yn cyfarfod â swyddogion iechyd y cyhoedd. Gwnaethom gyfarfod â swyddogion iechyd y cyhoedd—yr wythnos diwethaf. Nid yw hyn yn ddigon da, a dylem fod wedi cael llawer mwy o ran yn hyn. Dylem fod wedi cael pleidlais arno dros gyfnod y Nadolig. Nid oedd unrhyw esgus, gan y gallem fod wedi ei wneud drwy ddulliau rhithwir, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi. Efallai nad yw eich etholwyr chi, Dawn, yn gandryll ynglŷn â phwysigrwydd hyn i chi, ond gallaf ddweud wrthych fod y gweddill ohonom yma—

Janet, rydych wedi gwneud eich araith; ymyriad yw hwn. Felly, rydych yn gofyn cwestiwn iddi, y Dirprwy Weinidog.

Yr ateb yw'r hyn rwyf wedi'i roi eisoes. Roedd cyngor TAC a chyngor SAGE ar gael pan oeddem yn gwneud y penderfyniadau hynny. Fel y dywedais, y consensws iechyd cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, oedd ei bod yn annhebygol y byddai rhaglen y brechlynnau atgyfnerthu ar ei phen ei hun yn atal llawer iawn o niwed uniongyrchol yn gysylltiedig â COVID yn y cyfnod yn syth ar ôl y Nadolig a bod angen inni wneud mwy wrth inni ddwysáu'r rhaglen frechu ac atgyfnerthu. Yn wir, roedd y dystiolaeth a oedd gennym ar y pryd yn dweud wrthym y dylai'r cyfyngiadau y dylem eu cyflwyno fynd ymhellach na'r lefel rhybudd 2 a gyflwynwyd gennym. Roedd yn awgrymu—yn wir, yn argymell—y dylem ystyried lefel rhybudd 4. Y rheswm nad oedd modd inni fynd i lefel rhybudd 4 oedd am na fyddai Llywodraeth y DU yn ariannu'r cynllun ffyrlo a fyddai'n angenrheidiol er mwyn inni allu rhoi lefel rhybudd 4 ar waith, oherwydd, fel y gwyddom, pan fydd ei angen yn Lloegr yn unig y mae Llywodraeth y DU yn cynnig lefelau o gymorth ac nid pan fydd ei angen yn y gwledydd datganoledig, eraill.

Fe wnaeth cyflwyno mesurau amddiffynnol ar lefel rhybudd 2 ym mis Rhagfyr ein helpu i wneud hynny. Fe wnaethant helpu i wastatáu cromlin yr heintiau a rhoddodd fwy o amser inni frechu pobl, gan gadw cymaint o fusnesau â phosibl ar agor ac atal y GIG rhag cael ei orlethu.

Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau, Ddirprwy Lywydd.

Felly, mae'r ddadl na chafodd y camau a gymerwyd gan bobl Cymru unrhyw effaith ar drosglwyddiad omicron nid yn unig yn sarhaus, ond ni chaiff ei chadarnhau gan y ffeithiau. Yn wir, gwelwn bellach fod ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau heintiadau yng Nghymru yn is o lawer nag yn Lloegr, gyda chyfraddau heintio Cymru yn 3.7 y cant ar hyn o bryd, o gymharu â 5.7 y cant yn Lloegr, a hynny er gwaethaf y ffaith ein bod, yn wahanol i Loegr, yn cyfrif pobl sydd wedi cael eu hailheintio yn ein hystadegau. Felly, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn ei ymyriad, golyga hynny fod un o bob 25 wedi'u heintio yng Nghymru, o gymharu ag un o bob 20 yn Lloegr. Felly, os gwelwch yn dda, gadewch inni roi diwedd ar y nonsens nad yw'r mesurau a roddwyd ar waith gennym wedi cael unrhyw effaith ar ein cyfraddau heintio.

Lywydd, er gwaethaf y newyddion da heddiw am gyfraddau heintio—

Esgusodwch fi am eiliad. Mae'n rhithwir, felly—. Mae Darren Millar yn gofyn, ac mae’r Gweinidog eisoes wedi nodi na fydd yn derbyn rhagor o ymyriadau.

Na, nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, nac ydw.

Lywydd, er gwaethaf y newyddion da heddiw am gyfraddau heintio, mae teuluoedd wedi colli anwyliaid i COVID dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl ym mhob cymuned ledled Cymru wedi parhau i aberthu'n fawr er mwyn helpu i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod Cymru’n dod allan o’r don omicron hon mewn sefyllfa gryfach. A thrwy gydol yr amser, rydym wedi gweld canlyniadau'r dull amgen o weithredu, a ffafrir gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd ar waith yn Lloegr.

Fe’i nodweddwyd gan ddryswch—cyfarwydd bellach—Llywodraeth y DU nad yw’n gallu gweithredu. Trodd y sioe o gynadleddau i'r wasg a ganslwyd ar ôl cyfarfodydd y Cabinet oherwydd methiant i wneud penderfyniadau yn ddewis yn y pen draw i beidio â gweithredu. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, yr hyn a welsom a'r hyn rydym yn parhau i’w weld yw Llywodraeth y DU sydd wedi’i pharlysu gan rwygiadau yn ei rhengoedd, sy'n golygu bod Lloegr yn allanolyn yn y DU pan ddaw'n fater o ddiogelu ei dinasyddion. Nid am y tro cyntaf, cafodd gwleidyddiaeth fewnol y Blaid Geidwadol ei thrin fel blaenoriaeth bwysicach na lles gwlad. Ac onid yw'n rhyfeddol, ar ôl digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, fod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu o ddifrif y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn arweiniad ac esiampl Prif Weinidog y DU? Prif Weinidog y DU a dorrodd y rheolau, a dorrodd y gyfraith, a ddywedodd gelwyddau wrth Senedd y DU a phobl Prydain, Prif Weinidog y DU a fu'n cael partïon wrth i'r wlad aberthu, pan na allai pobl weld eu hanwyliaid, a phan oedd pobl yn marw.

Gallai’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, ddewis argymell eu dull eu hunain o weithredu, a gallent wneud hyn heb ofni cynhyrfu eu meistri yn Llundain, oherwydd, fel y gwyddom bellach, nid yw eu meistri yn Llundain yn gwybod pwy ydynt hyd yn oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn codi'r cwestiwn: os nad yw eich arweinwyr eich hun yn eich cymryd o ddifrif, pam y dylai’r Senedd hon, y Llywodraeth hon, neu bobl Cymru eich cymryd o ddifrif? Neu gallent ddilyn esiampl Christian Wakeford AS, yr AS dros Dde Bury, a groesodd y llawr heddiw i ymuno â phlaid sydd o ddifrif ynghylch y mater hwn. Neu gallent ymuno â’r AS Torïaidd, David Davis, a galw ar Brif Weinidog y DU, sydd wedi gwneud cam mor druenus â'r wlad hon, i roi’r gorau i'w swydd, neu i’w ddyfynnu’n fwy cywir,

'Yn enw Duw, ewch.'

Byddai unrhyw un o'r gweithredoedd hyn yn well na'r seboni rydym wedi'i weld ganddynt hyd yn hyn.

Lywydd, mae ein dull gweithredu wedi’i arwain yn gyson gan y dystiolaeth, felly mae’n ddrwg gennyf siomi Russell a James a Laura a phawb arall sydd wedi siarad o blith y Torïaid y prynhawn yma nad eich safbwyntiau chi oedd y safbwyntiau a ystyriwyd gennym wrth wneud ein penderfyniad—ond y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni. A phan oeddem yn credu bod Lloegr wedi dilyn y llwybr anghywir, ni wnaethom ochel rhag rhoi camau pendant a gwahanol ar waith i gadw Cymru’n ddiogel. Ar brofi ac olrhain a chyfarpar diogelu personol, rydym wedi sicrhau canlyniadau gwell am lai o gost. Caniataodd y dull hwn inni ailgyfeirio cannoedd o filiynau o bunnoedd tuag at gymorth i fusnesau drwy’r gronfa cadernid economaidd, nad yw’n bodoli yn Lloegr.

16:45

Mae canfyddiadau interim arolwg a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod 85 y cant o ymatebwyr yn cytuno bod cymorth o’r gronfa cadernid economaidd yr un mor bwysig â ffyrlo.

Felly, i fod yn glir, ni wnaethom y penderfyniadau diweddaraf i newid i lefel rhybudd 2 heb ystyried y canlyniadau i fusnes neu'r canlyniadau i'n sectorau diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno gwerth £120 miliwn o becynnau ar gyfer busnesau, £15.5 miliwn ar gyfer y sector diwylliannol, a £3 miliwn o gymorth ar gyfer chwaraeon yr effeithiwyd arnynt. Ac roedd y cronfeydd hynny hefyd yn cydnabod effaith ymddygiad mwy gofalus y cyhoedd a ddechreuodd cyn i'r mesurau gael eu cyflwyno. Felly, bydd y cymorth ar gyfer 13 Rhagfyr ymlaen, cyn i’r mesurau hynny gael eu cyflwyno. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae omicron yn dal i fod gyda ni, ac mae lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn eithriadol o uchel, ond rwy’n falch fod y Llywodraeth hon wedi cymryd y camau pendant a gymerwyd gennym ar y pryd, a oedd yn caniatáu inni gadw Cymru’n ddiogel a symud ar ein llwybr tuag at lefel rhybudd 0.

I gloi, Lywydd, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau â’i dull gofalus o reoli’r pandemig hwn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna sydd wedi gwneud ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn arweinydd gwleidyddol mwyaf poblogaidd y DU, sy'n parhau i ennyn cefnogaeth a hyder y rhan fwyaf o bobl Cymru o hyd. Ond fel pawb arall, edrychaf ymlaen at ddychwelyd yn raddol at fwy o normalrwydd dros yr wythnosau nesaf ac edrychaf ymlaen at fynd i wylio’r Scarlets a’r Bristol Bears yn chwarae ddydd Sadwrn. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. O bosibl, yr hyn y gallai’r Dirprwy Weinidog fod wedi’i anghofio yw bod un Ceidwadwr Cymreig arall i siarad i gloi’r ddadl, felly byddaf yn ymateb i rai o’r pwyntiau a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach yn fy araith glo.

Felly, yr wythnos nesaf fe fydd hi'n ddwy flynedd ers i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod yr achosion o goronafeirws newydd ar dir mawr Tsieina yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol, a'r Swyddfa Dramor yn cynghori yn erbyn teithio i dalaith Wuhan yn Tsieina. Ers hynny, rydym wedi gweld y cyfyngu mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch ar hawliau a rhyddid sifil, mewn ymdrech i atal lledaeniad yr hyn rydym bellach yn ei alw'n COVID-19. Er bod cyfiawnhad i hyn ar y dechrau, pan oeddem yn aros i driniaethau a brechlynnau gael eu datblygu er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, bellach, wrth inni ddechrau ar ein trydedd flwyddyn o gyfyngiadau, a chyda dros 90 y cant o’r boblogaeth oedolion wedi’u brechu yn erbyn COVID, a allwn ni barhau i ddweud bod cyfyngiadau o'r fath yn angenrheidiol? A allwn ni o ddifrif gyfiawnhau cyfyngiadau llym ar ein rhyddid?

Gwyddom yn iawn fod mesurau fel y rhai a roddwyd ar waith unwaith eto yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn gwneud niwed, niwed gwirioneddol, i bobl Cymru. Byddai'n anodd dod o hyd i unrhyw un a all ddweud yn onest nad yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio ar eu lles meddyliol. Faint o blant sydd byth yn mynd i ddod dros y niwed a wnaed i'w haddysg a'u datblygiad o ganlyniad i gau ysgolion? Faint o deuluoedd a orfodwyd i fyw mewn tlodi am fod cyfyngiadau wedi gorfodi busnesau i roi’r gorau i fasnachu? Faint o genedlaethau a gaiff eu gorfodi i fyw gyda'r dyledion sydd wedi cronni er mwyn mynd i'r afael ag effaith y cyfyngiadau symud? Rydym wedi gwario, ac rydym yn parhau i wario, symiau syfrdanol o arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn cau rhannau helaeth o'n heconomi. Meddyliwch sut y gallai'r biliynau hynny fod wedi cael eu gwario. Gallem fod wedi cael sector gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf, i ddechrau. Ni allwn barhau i wneud hyn am byth ac nid yw feirws SARS-CoV-2 yn mynd i ddiflannu. Mae'n rhaid inni ddysgu byw gydag ef, ac efallai mai fi yw’r pedwerydd neu’r pumed Ceidwadwr Cymreig i ddweud hynny yn awr, felly efallai yr hoffech nodi hynny hefyd ar feinciau Plaid Cymru.

Gallwn ddiogelu pobl agored i niwed drwy sicrhau eu bod wedi’u brechu’n llawn a bod ganddynt fynediad uniongyrchol at driniaeth COVID os ânt yn sâl. Ond mae'n rhaid i'r gweddill ohonom fwrw ymlaen â'n bywydau. Ni allwn gael cyfyngiadau symud bob tro y cawn dymor ffliw gwael. Ydy, mae COVID yn waeth na'r ffliw, ond dim ond i rai heb eu brechu a'r rhai mwyaf agored i niwed. I bawb arall, nid oes llawer o wahaniaeth.

Nid yw'r cyfyngiadau symud diweddar wedi atal y clefyd rhag lledaenu, felly pam fod Llywodraeth Cymru yn mynd am yr opsiwn niwclear ar unwaith bob tro y daw amrywiolyn newydd i'r amlwg? Digon yw digon, ac mae'n bryd inni ddysgu byw gyda COVID. Mae arnom angen map ffordd tuag at adferiad a—

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi ffieiddio, a dweud y gwir, ag agwedd y Ceidwadwyr yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dyma'r enghraifft waethaf imi ei chlywed erioed o wadu COVID, y fwyaf diystyriol o realiti colledion y blynyddoedd diwethaf. A ydych yn teimlo cywilydd fod arweinydd eich plaid yn gwneud hwyl am ein pennau drwy ddiystyru'n ddifrifol yr holl aberth y bu'n rhaid i bob un ohonom ei gwneud? A ydych chi o ddifrif yn meddwl mai’r hyn y dylem fod yn ei wneud bellach yw dymuno rywsut na fyddai hyn erioed wedi digwydd? Ai dyna’r gorau sydd gan y Ceidwadwyr Cymreig asgell dde i’w gynnig bellach?

A dweud y gwir, rwy'n ffieiddio at farn yr Aelod dros Ynys Môn a Phlaid Cymru ar y mater yn ei gyfanrwydd, gan eu bod wedi penderfynu ymatal rhag pleidleisio ar hyn. Maent yn dweud mai edrych yn ôl yw'r cyfan ac nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth, ond yn syth ar ôl hynny, maent yn dweud, 'O, rydym yn dal i fyw gyda COVID ac rydym yn ymdrin â phethau mor berthnasol.' Felly, credaf fod gennych frwydr fewnol braidd o ran pa lwybr rydych yn ei ddewis. Felly, credaf ei bod braidd yn rhagrithiol i’r Aelod dros Ynys Môn alw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn ffiaidd pan nad ydynt yn barod i arddel eu safbwynt eu hunain ar y mater.

Ar y penwythnos, datgelodd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, gynllun 10 pwynt ei blaid ar gyfer byw gyda COVID, a mynnu diwedd ar gyfyngiadau symud. Siaradodd cyfres o Weinidogion yr wrthblaid ar y cyfryngau, gan feirniadu cynllun B y DU fel un diangen. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru yn rhoi mesurau llymach ar waith ar bob cyfle. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun 10 pwynt ei hun ar unwaith a diystyru unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol.

Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod Russell George wrth agor y ddadl, fe ganmolodd Lywodraeth Cymru am gyflawni galwad y Ceidwadwyr Cymreig am fap ffordd allan o gyfyngiadau symud, ac rydym yn croesawu map ffordd tuag at fwy o ryddid. Soniodd am rai o’r effeithiau ar fusnesau ac y bydd pob tafarn yng Nghymru yn colli £16,000, a rhai o’r materion a oedd yn codi ger y ffin, gyda phobl yn teithio i’r Amwythig o’i etholaeth ei hun, ac i Gaer o fy etholaeth innau, er mwyn cael noson allan a rhywfaint o ryddid am benwythnos. Ni chredaf fod hynny’n ormod i'w ofyn pan fo’r dystiolaeth yn ei gefnogi.

Soniodd Laura am yr anhrefn, ochr wleidyddol y penderfyniadau nad ydynt yn seiliedig ar wyddoniaeth, y ffaith eu bod mor llym, cydbwyso niwed a rhai o’r manylion wrth godi rhai o’r cyfyngiadau—

16:55

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Ac yna, Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn siomedig iawn o weld Llywodraeth Cymru yn gwleidyddoli’r holl fater ac yn creu rhaniadau ar hyd y ffin, gan ddweud mai bai Llywodraeth y DU yw’r cyfan. Chi yw Llywodraeth Cymru, mae gennych y pwerau datganoledig. Ers y cychwyn cyntaf, rydych wedi bod eisiau i hwn fod yn fater datganoledig i Gymru, ac eto rydych yn penderfynu ymateb i ddadl am COVID-19 a gwleidyddoli'r holl beth a siarad am raniadau. Ac mae hynny mor wir am Lywodraeth Cymru, y ffordd y maent wedi ymdrin â'r pandemig cyfan a pham fod angen inni gael ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.

Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru ac i gefnogi ein cynnig heno. Mae angen inni sicrhau bod Cymru ar agor ac ar y llwybr tuag at adferiad, a rhoi’r ddwy flynedd ddiwethaf y tu ôl i ni. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru: costau byw. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig. 

Gallaf, fe allaf ei gweld.

Cynnig NDM7890 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys o ran costau byw i fynd i'r afael â'r pwysau a achosir gan y broblem ddeublyg o gostau’n cynyddu a diffyg twf mewn cyflogau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n bwrw teuluoedd Cymru. Mae'n argyfwng sy'n pwyso ar aelwydydd ar draws y Deyrnas Gyfunol ond Cymru fydd, a sydd, yn cael ei bwrw waethaf gan y storm economaidd a'r niwed cymdeithasol enbyd fydd yn deillio ohoni yn sgil y ffaith mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol a'r lefel uchaf o dlodi plant o'i gymharu â phob ardal arall yn y Deyrnas Gyfunol. Mae un ym mhob pedwar person yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Pobl Cymru, Dirprwy Lywydd, sydd yn llygad y storm.

Mae Plaid Cymru wedi adrodd ac ailadrodd yr ystadegau brawychus a chywilyddus am lefelau tlodi a'i effaith ar deuluoedd Cymru dro ar ôl tro yn y Siambr. Pan gawsom ddadl ar gostau byw a dyledion cyn y Nadolig, nodais sut yr oedd nifer yr aelwydydd oedd yn cael trafferth talu am gost eitemau pob dydd yn cyfateb i nifer yr aelwydydd yn Abertawe gyfan, a dim ond cynyddu mae'r ffigwr yma, gyda Sefydliad Bevan yn adrodd bod bron i 40 y cant o aelwydydd Cymru yn methu â thalu am unrhyw beth y tu hwnt i hanfodion bywyd. Nawr mae'n ymddangos na fydd modd i ormod o bobl hyd yn oed fforddio gwneud hynny, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu roi bwyd yn eu boliau, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'r ffeithiau yn hysbys inni gyd erbyn hyn ac, erbyn hyn, mae corff sylweddol o ymchwil a thystiolaeth gan wahanol fudiadau yn cadarnhau'r rhagolygon a rhybuddion. Mae adroddiad newydd Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi yn cadarnhau mai teuluoedd Cymru sy'n mynd i ddioddef y caledi a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw waethaf. Ac mae'r darlun yn dal i waethygu wrth i brisiau tanwydd saethu yn sydyn i lefel gwbl anfforddiadwy i ormod o bobl, ac yn debyg o aros ar lefel uchel am gyfnod hir; wrth i lefel chwyddiant godi i'r lefel uchaf ers degawd, a'r disgwyl yw y bydd yn codi'n uwch eto; wrth i gostau byw fod ar eu huchaf ers 30 mlynedd; wrth i gyflogau ar gyfartaledd aros yn eu hunfan, ond gostwng i'r rhai ar y lefelau incwm isaf; wrth i ddyledion aelwydydd gynyddu; wrth i yswiriant cenedlaethol gynyddu; ac rŷm ni wedi trafod droeon sut mae penderfyniad gwarthus Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i dorri'r cynnydd o £20 i'r taliad credyd cynhwysol wedi bod yn drychineb i aelwydydd Cymru. Mae'n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi clywed straeon torcalonnus gan deuluoedd yn eich cymunedau chi sydd wedi'i cael hi'n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd. Y neges dwi'n ei chlywed yn aml yw, 'Byddwn i'n hoffi eu gweld nhw yn trio byw yn ein byd ni.'

Ydyn, mae llawer o'r grymoedd sydd eu hangen i warchod pobl Cymru rhag yr argyfwng yma yn gorwedd yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwy'n gwybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn erfyn arnynt i weithredu, ond bod sefyllfa pobl Cymru yn cael ei hanwybyddu gan San Steffan. Yr hyn mae Plaid Cymru yn galw amdano heddiw yw modd newydd o weithredu gan Lywodraeth Cymru, a chydnabyddiaeth glir bod y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni yn un nas gwelwyd ei thebyg ers degawdau, ac y bydd ei heffeithiau yn rhai a fydd yn creithio cymunedau Cymru nid yn unig heddiw ac yfory, ond ymhell i'r dyfodol, ac felly bod angen gweithredu ar frys.

Mae rhai mesurau yn barod wedi'u cynnwys yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, fel ymestyn cinio ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, ac ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy flwydd oed, ond mae mwy y gellid ei wneud, mwy y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig. Byddai cynnal uwchgynhadledd i ddadansoddi'r dystiolaeth a chynnig datrysiadau polisi posibl i'r argyfwng costau byw yn gam cyntaf, a allai gynhyrchu strategaeth bwrpasol drawslywodraethol i fynd i'r afael â'r argyfwng yn y tymor byr a'r tymor canolig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00

Rhaid inni wrando a gweithredu ar frys ar y dystiolaeth a'r awgrymiadau a argymhellir ar gyfer ffyrdd y gallwn ni yng Nghymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Byddai uwchgynhadledd frys, fel y dywedais, yn gam cyntaf a allai helpu i lywio cynllun gweithredu costau byw brys. Mae angen mentrau i gefnogi rhentwyr, er enghraifft, sydd wedi bod ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cap ar rent cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn i ddod, i gyd-fynd â lefel chwyddiant ym mis Medi, sef 3.1 y cant. Mae hwn yn gam i'w groesawu o'i gymharu â'r cynnydd uwch na chwyddiant a ganiateir eleni ar gyfer Lloegr. Ond a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i wneud hwn yn bolisi parhaol, a pheidio â llithro'n ôl i'r cynnydd uwch na chwyddiant y mae'n eu caniatáu fel arfer? A fyddant hefyd yn ystyried galwadau Sefydliad Joseph Rowntree ac eraill i sefydlu model rhent byw, o gofio ein bod yn gwybod mai rhent ac ôl-ddyledion rhent yw un o'r costau mwyaf sy'n wynebu aelwydydd? 

Gellid ymestyn y grant caledi i denantiaid, fel y gellid rhoi cymorth mwy parhaol i fwy o denantiaid tai cymdeithasol nad ydynt yn gymwys i gael credyd cynhwysol neu fudd-dal tai. Gellid cyflymu'r gwaith o adeiladu ac ôl-osod tai cymdeithasol ymhellach. Mae awgrymiadau eraill y gellid eu harchwilio yn cynnwys mwy o fuddsoddiad yn y gronfa cymorth dewisol, y gellid ei hymestyn a'i gwneud yn fwy hyblyg yn barhaol. Gellid cynyddu ac ymestyn y lwfans cynhaliaeth addysg. Gellid mynd ati'n gyflym i ddatblygu'r syniad o goelcerthi dyledion, a argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Faint yn rhagor o syniadau y gallai uwchgynhadledd frys eu cynhyrchu? Faint o frys a gweithredu cydgysylltiedig strategol y gallai cynllun argyfwng ei sicrhau, gan roi blaenoriaethau clir i ni a gweithredu effeithiol cydgysylltiedig? Y rhai sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol yn ein cymdeithas sy'n ysgwyddo baich yr argyfwng hwn: rhentwyr, pobl ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, pobl hŷn, rhai sy'n gadael gofal ac aelwydydd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae'r grwpiau hyn eisoes yn wynebu mwy o gostau na'r rhan fwyaf, felly mae unrhyw gynnydd mewn costau byw yn gwaethygu'r anghydraddoldeb a'i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd.   

Wrth drafod mynd i'r afael â'r pandemig, mae'r Llywodraeth wedi sôn yn aml am bwysigrwydd gweithredu'n gynnar ac yn galed. Dyna'r union agwedd sydd ei hangen gyda'r argyfwng yma. Rhaid darparu cysgod, oes, ond mae hefyd angen ceisio atal y storm rhag cyrraedd ei hanterth ddinistriol. Nid sioc economaidd fer yw hon. Fel y pandemig, bydd ei heffeithiau yn para am flynyddoedd. Rhaid dangos arweiniad, penderfyniad ac arloesedd os am warchod a chynnal ein pobl rhag niwed a dioddefaint difrifol. Diolch.

17:05

Diolch, Lywydd. Rhaid bod pawb yn ymwybodol o'r argyfwng costau byw sydd bellach yn bygwth taro llawer o'n hetholwyr, ac eithrio deiliaid Rhif 10 efallai. Mae chwyddiant wedi neidio i 5.4 y cant, ei lefel uchaf mewn bron i 30 mlynedd. Caiff ei yrru gan gostau uwch dillad, bwyd ac esgidiau, dodrefn a nwyddau'r cartref, ac oedi mewn cadwyni cyflenwi ym mhorthladdoedd Prydain. Mae Banc Lloegr yn disgwyl iddo godi ymhellach, yn enwedig os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod wedi'i pharlysu, tra'n wynebu argyfwng ynni cydamserol, a allai arwain at gynnydd blynyddol o £500 neu fwy i aelwydydd. Er bod cyflogau'n codi i rai, mae'r cynnydd mewn costau byw, ynghyd â mesurau fel toriadau i gredyd cynhwysol, yn llawer mwy gan olygu bod y gweithiwr cyffredin yn waeth ei fyd.

Mae Canghellor y DU yn dweud ei fod yn gwrando. Credaf mai'r neges gan y cyhoedd fyddai dechrau gweithredu'n bendant cyn i bobl rewi yn eu cartrefi neu fynd yn llwglyd neu golli eu tenantiaethau neu'n wir, y cartrefi y maent yn berchen arnynt. Mae llawer o'r ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, mae'n destun gofid mawr fod Llywodraeth y DU, ac yn enwedig Prif Weinidog y DU ei hun, yn canolbwyntio cymaint ar gadw eu bachau ar allweddi Rhif 10 doed a ddelo fel na allant ganolbwyntio o gwbl ar yr argyfwng costau byw. Ni allaf wneud yn well na chyfeirio Aelodau Ceidwadol y Senedd at eiriau un o aelodau meinciau cefn y Prif Weinidog ei hun—a chyn Weinidog ac un o'r rhai a ymgeisiodd am yr arweinyddiaeth, yn wir—yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pan ddywedodd wrth y Prif Weinidog, gan ddyfynnu anerchiad Cromwell i'r Senedd hir:

'Yn enw Duw, ewch.'

Wrth i Lywodraeth y DU encilio i fyncer, y tu allan mae'r gwyntoedd oer yn brathu. Maent yn brathu'n galed mewn llefydd fel Bury South. Wrth inni groesawu Christian Wakeford, AS Llafur newydd Bury South, heddiw, nodwn pa mor berthnasol yw ei eiriau ar adael y Blaid Geidwadol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd hyn:

'Rwy'n poeni'n angerddol am bobl Bury South ac rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw polisïau'r Llywodraeth Geidwadol dan arweiniad Boris Johnson yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl yr etholaeth ac yn wir nid ydynt ond yn gwneud y trafferthion y maent yn eu hwynebu bob dydd yn waeth.'

Mae ei eiriau'n mynd i adleisio mewn llawer o ardaloedd llai cefnog yn y DU, gan gynnwys rhai a gynrychiolir ar hyn o bryd gan Aelodau Ceidwadol yn y Senedd hon a'u cymheiriaid ymhlith Aelodau Seneddol San Steffan. Yng Nghymru hefyd, gwyddom fod effaith Johnson yn dweud llawer. Er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur Cymru, mae fel nofio i fyny'r afon yn erbyn llanw o ddifaterwch ac anfedrusrwydd Johnsonaidd.

Dywed Cyngor ar Bopeth yng Nghymru wrthym fod cynnydd o 17 y cant eisoes wedi bod yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth gyda dyledion. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymholiadau a oedd yn ymwneud â dyledion ynni, sydd bellach 150 y cant yn uwch fis Tachwedd diwethaf nag yn yr un cyfnod yn 2019. Mewn ymchwil ledled y DU, maent yn adrodd bod un o bob pump o bobl yn torri'n ôl ar siopa bwyd a gwresogi er mwyn arbed arian. Maent yn rhagweld cynnydd enfawr mewn anghenion dyled a chaledi pan gaiff y cap ynni ei godi, gan arwain at gynnydd o £500, £600, £700 neu fwy ar filiau bob blwyddyn. Weinidog, gwyddom fod Cyngor ar Bopeth ac eraill yn gofyn am bethau penodol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys grant cymorth ynni untro wedi'i dargedu at aelwydydd incwm isel a chynnydd mwy yng ngwerth budd-daliadau y gwanwyn hwn. Wel, gadewch inni weld a yw'r Canghellor yn gwrando mewn gwirionedd. Ond yn y cyfamser, gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gyflwyno'r mesurau hyn a mesurau brys eraill yn y DU.

Ond maent yn gofyn am bethau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i ddileu ôl-ddyledion y dreth gyngor na ellir eu hadennill, a gododd 42 y cant y llynedd, ac ehangu cynllun ôl-ddyledion y dreth gyngor. Gallwn wneud gwahaniaeth yma yng Nghymru—gwahaniaethau fel yr hyn a wnaed gan y gronfa cymorth i aelwydydd, i helpu'r teuluoedd sydd wedi'u taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, i dargedu cymorth tuag at aelwydydd incwm is, gyda chymorth uniongyrchol i bobl sy'n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn. Darparwyd mwy na £1.1 miliwn i gefnogi ac i gryfhau banciau bwyd a phartneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod eang o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y gorau o'u hincwm. Ac yn lleol yn fy ardal i, mae cyngor bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur yn argymell rhewi lefel y dreth gyngor am y flwyddyn i ddod, i helpu trigolion sy'n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw, a hynny diolch i'r cynnydd mwyaf erioed yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac maent hefyd yn mynd i ddarparu £2.5 miliwn ychwanegol i sicrhau bod pob gweithiwr gofal lleol yn cael codiad cyflog i'r cyflog byw fan lleiaf. Ac mae mwy.

Weinidog, nid yng Nghymru y ceir rhai o'r ysgogiadau mwyaf pwerus, ond rhaid inni ddefnyddio pob arf sydd ar gael inni i helpu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, ac i fynd i'r afael â syrthni a difaterwch Llywodraeth Johnsonaidd y DU. Mae angen inni ddangos y gwahanol flaenoriaethau a gwerthoedd a gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn lleol. Felly, mae'r cynnig a drafodwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun argyfwng i leihau'r pwysau a achosir gan y cynnydd mewn costau byw ar y naill law a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan ar y llaw arall. Beth bynnag am barlys Llywodraeth y DU yn wyneb y storm sydd ar y gorwel, gadewch inni wneud popeth yn ein gallu yng Nghymru. Rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig hwn.

17:10

Mae argyfwng fel arfer yn digwydd ar unwaith. Mae'n gyfnod o anhawster dwys, a pherygl weithiau. Ond pan fyddwn yn meddwl am argyfyngau, rydym yn tueddu i'w cysylltu â sydynrwydd, â rhywbeth annisgwyl, na chynlluniwyd ar ei gyfer, ac na ellir ei osgoi. Fodd bynnag, mae'r cyfuniad hwn o ymosodiadau ar gostau byw pobl yn rhywbeth a ragwelwyd yn llwyr. Mewn rhai ffyrdd fel y toriad i gredyd cynhwysol, Llywodraeth sydd wedi'i achosi. Mae hyd yn oed y cynnydd yn y biliau ynni sydd ar y gorwel wedi bod yn dod ers misoedd, ac yn hwy na hynny, gellid dadlau. Ac mae'r anghysondeb hwnnw, y gwrthdaro rhwng argyfyngau arferol a'r hyn sy'n digwydd yn awr, yn gythryblus ar lefel gysyniadol; mae iddo effeithiau yn y byd go iawn. Yn seicolegol, bydd pobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â biliau, â phrisiau bwyd, wedi bod yn darllen penawdau ers misoedd a'u rhybuddiai fod pethau'n mynd i waethygu, gyda'r ymdeimlad hwnnw o arswyd rhag yr hyn sydd i ddod yn pwyso arnynt, ac ni fyddant yn gweld digon yn cael ei wneud i'w atal—yr ymdeimlad o argyfwng disgwyliedig a thrawma disgwyliedig. Mae'n mynd i greu panig a gofid tawel i deuluoedd, ac nid wyf yn siŵr fod digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pwysau iechyd meddwl sy'n cael ei deimlo gan bobl ar hyd a lled Cymru. Mae pobl eisoes mewn argyfwng.

Dywedodd un fenyw wrth Newsnight yr wythnos hon ei bod yn bwyta Weetabix dair gwaith y dydd oherwydd mai torri ei bil bwyd yn sylweddol oedd yr unig ffordd y gallai fforddio gwresogi ei chartref. Dywedodd un arall wrth Newyddion nad oedd hi'n gallu cysgu am ei bod yn poeni. Roedd yr arian a roddai yn ei mesurydd yn diflannu mewn dim o dro, gyda gwres ei thŷ yn dianc drwy ffenestri drafftiog. Dywedodd fod ei mab yn sâl drwy'r amser. Nid profiadau ynysig yw'r rhain, fel y clywsom. Yng ngwanwyn 2021, bu'n rhaid i 16 y cant o aelwydydd Cymru dorri'n ôl ar wres, trydan neu ddŵr, a thorrodd 15 y cant yn ôl ar fwyd. Dywedir wrthym—unwaith eto, cawn ein rhybuddio ymlaen llaw—y bydd y ffigurau hyn yn tyfu wrth i gostau barhau i godi. Felly, bydd y bwlch rhwng sut y dylai pobl allu byw eu bywydau a'r realiti'n tyfu'n fwy. Bydd y bwlch cywilyddus hwnnw'n agor rhwng byw'n iawn a dim ond goroesi. Ar 1 Ebrill, bydd y cap ar brisiau ynni yn codi. Mae Sefydliad Resolution yn amcangyfrif y bydd hyn yn ychwanegu £600 at filiau ynni blynyddol pobl. Yr un wythnos, daw'r cynnydd i yswiriant gwladol i rym, gan wneud yr aelwyd gyfartalog £600 y flwyddyn yn waeth ei byd. Gyda'i gilydd, yr effaith flynyddol fydd £1,200, neu £100 bob mis.

O ran biliau ynni, mae yna ymyriadau y gellid eu gwneud, ac fe gânt eu gwneud gan wladwriaethau eraill yn wir. Mae Ffrainc yn gorfodi EDF i werthu ynni am brisiau isel. Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyflwyno treth ffawdelw ar gynhyrchwyr trydan a chynhyrchwyr nwy. Mae'r Almaen wedi torri gordal ar filiau a ddefnyddir i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy, a fydd yn lle hynny'n cael cymorthdaliadau gwladwriaethol ychwanegol o drethi carbon uwch. Gallai'r rhain fod yn addas, neu'n wir yn bosibl, yng nghyd-destun y DU, neu efallai na fyddant yn addas, ond fe allai ac fe ddylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU edrych ar ymyriadau fel atal TAW ar filiau ynni dros dro, ôl-osod tai cymdeithasol yn gyflymach a dod o hyd i ffyrdd gwell o ddiogelu'r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu. A ellid rhoi cerdyn Llywodraeth Cymru iddynt, er enghraifft, i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd argyfyngus, gyda'r opsiwn o ad-dalu dyled yn hirdymor heb ddim llog? Byddai hynny'n ddrud, ond mae'n ymddangos mai'r dewis arall yw pobl yn dioddef a hyd yn oed yn marw oherwydd salwch a achosir gan yr oerfel; sefyllfa lle mae teuluoedd o dan bwysau ariannol sy'n gallu achosi straen a phryder acíwt a all lethu pobl a'u gorflino, ac eto drwy'r amser, argyfwng nad yw'n debyg i sioc fer, sydyn, ond rhwymyn sy'n tynhau'n araf, sy'n clymu pobl yn y gofid a'r dioddefaint sy'n eu caethiwo mewn trawma y maent wedi'i weld yn dod.

Dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad fod argyfwng fel arfer yn sydyn a dwys, ond daw ystyr y gair 'argyfwng' mewn gwirionedd o'r Groeg am 'benderfyniad', a dyna'n sicr sydd ei angen yma ar y pwynt tyngedfennol hwn, y funud hon o ddisgwyliad cyn i'r argyfwng waethygu. Mae angen diwygio'n sylfaenol, ac mae angen inni ailystyried y ffordd rydym yn modelu ein cymdeithas fel nad yw'n dibynnu ar bobl yn goddef sefyllfa lle maent prin yn llwyddo i oroesi.

17:15

Rydym yn falch o gefnogi'r cynnig hwn. Fel y dengys ffigurau heddiw, mae costau bwyd sy'n codi i'r entrychion a'r argyfwng biliau ynni yn codi prisiau i ddefnyddwyr yn gynt nag mewn 30 mlynedd, gyda chwyddiant prisiau defnyddwyr y DU yn 5.4 y cant y llynedd. Wrth gwrs, nid yw hyn wedi'i gyfyngu i'r DU, ac mae chwyddiant wedi codi mewn economïau ym mhob cwr o'r byd; er enghraifft, credaf ei fod yn 6.2 y cant yn yr Unol Daleithiau fis Hydref diwethaf. Fel y dywedodd prif economegydd Banc Lloegr dri mis yn ôl, mae chwyddiant wedi bod yn codi'n gyflym am lawer o 2021 oherwydd yr adferiad economaidd cryf o'r argyfwng coronafeirws, prisiau ynni cynyddol ac aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Mae'r rheini ohonom sy'n cofio chwyddiant a'i ganlyniadau yn y 1970au a'r 1980au yn gwybod ei fod yn lladd yr economi a swyddi, gydag effeithiau dinistriol ar gyllidebau aelwydydd, ac yn deall bod yn rhaid mynd i'r afael ag ef, na fydd chwistrelliadau enfawr o hylifedd i'n pweru drwy ddyfroedd geirwon ar gael mwyach, a bod polisi cyllidol tynnach fel arfer yn dilyn, gan gynnwys rhagor o godiadau yng nghyfraddau llog y banc canolog, er y bydd angen ymatebion byd-eang hefyd i bwysau ar gyflenwadau.

Er y disgwylir i chwyddiant y DU ostwng yn ei ôl yn ddiweddarach eleni, ni ddisgwylir iddo ostwng i darged Banc Lloegr o 2 y cant tan 2023. Gwn fod Canghellor y DU wedi datgan heddiw ei fod yn deall y pwysau y mae pobl yn ei wynebu ac y bydd yn parhau i wrando ar bryderon pobl, fel y gwnaeth drwy gydol y pandemig, gan ychwanegu bod Llywodraeth y DU eisoes yn darparu cymorth gwerth £12 biliwn y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf i helpu teuluoedd i ymdopi. Mae eisoes wedi darparu dros £407 biliwn o gymorth economaidd ers i'r pandemig ddechrau, wedi'i gefnogi gan becyn pellach o £1 biliwn i sectorau allweddol er mwyn lliniaru effeithiau omicron, ac mae hefyd yn darparu £4.2 biliwn o gymorth i helpu gyda chostau byw; cadw'r cap ar brisiau ynni i ddiogelu defnyddwyr rhag y cynnydd byd-eang ym mhrisiau nwy, neu helpu hynny; darparu toriad treth o £1,000 i deuluoedd sy'n gweithio; drwy dorri cyfradd tapr y credyd cynhwysol, sy'n costio £2.2 biliwn; cynyddu'r cyflog byw cenedlaethol i £9.50 yr awr; rhewi cyfraddau tollau ar danwydd ac alcohol i helpu gyda chostau byw; a galluogi Llywodraeth Cymru i lansio ei chronfa cymorth i aelwydydd drwy gyfrannu £25 miliwn tuag at hyn o'i chronfa £0.5 biliwn i helpu aelwydydd mewn angen i brynu eitemau hanfodol.

Ond yn anffodus, roedd pobl yng Nghymru eisoes yn arbennig o agored i niwed. Ymhen pedwar mis, bydd Llafur wedi bod yn rhedeg Cymru ers chwarter canrif. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ym mis Rhagfyr 2018 ar dlodi yn y DU: o bedair gwlad y DU, Cymru sydd wedi bod â'r gyfradd tlodi uchaf yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yng Nghymru fis Tachwedd diwethaf mai Cymru sydd â'r cyflogau isaf i bobl ym mhob sector o gymharu â gweddill y DU, a hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi. Canfu ymchwil a wnaed ar gyfer cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU ac a gyhoeddwyd fis Mai diwethaf mai Cymru oedd â'r cyfraddau tlodi plant gwaethaf o holl wledydd y DU, ac mae ystadegau swyddogol yn dangos bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o Gymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU, er eu bod wedi gwario biliynau a roddwyd iddynt i fynd i'r afael â hyn ar raglenni o'r brig i lawr na lwyddodd i wneud hynny. Pe baent wedi gwneud hynny, wrth gwrs, byddent wedi anghymhwyso eu hunain rhag gallu cael cyllid pellach. Hyd yn oed ddoe, roeddent yn siarad fel pe na bai'r cyllid hwn wedi'i fwriadu bob amser i fod dros dro. Er eu bod yn beirniadu cyrff eraill sy'n buddsoddi cyllid dros dro mewn costau refeniw parhaus, maent wedi gwneud yr un peth. Fel y dywedodd Canghellor y DU hefyd:

'Y ffordd orau o helpu pobl i gamu ymlaen mewn bywyd, a chodi safonau byw ledled y DU, yw helpu pobl i gael gwaith a chamu ymlaen ar ôl iddynt gael gwaith.'

Ond mae rhethreg adweithiol a dirywiol barhaus Llywodraeth Cymru yn cuddio'r ffaith bod cysylltiad anorfod rhwng agweddau cydraddoldeb a chymdeithasol pwysau costau byw a'r economi.

Yn ogystal â chynnwys camau i helpu aelwydydd bregus sy'n wynebu costau uwch, yn enwedig pan godir y cap ar brisiau ynni, dylai cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru fanylu hefyd ar sut y bydd o'r diwedd yn gweithio law yn llaw â busnes i greu'r amodau ar gyfer economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a sut y bydd o'r diwedd yn datblygu strategaeth systemig a arweinir gan y gymuned ar gyfer mynd i'r afael ag amddifadedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Rydym wedi aros yn rhy hir.

17:20

Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar ddau beth hanfodol sydd eu hangen arnom i gyd er mwyn gallu byw: bwyd a dŵr—nid moethusrwydd, nid pethau braf i'w cael, ond hanfodion. Soniodd Mark Isherwood am helpu pobl i gael gwaith, ond yma yng Nghymru heddiw, y realiti yw na all pobl sy'n gweithio fforddio'r hanfodion hyn.

Yn ystod dadl Plaid Cymru ar 8 Rhagfyr ar dlodi bwyd, rhannodd llawer ohonom ystadegau arswydus o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ar y defnydd o fanciau bwyd a pham nad yw'n dderbyniol fod ansicrwydd a chwant bwyd yn realiti o ddydd i ddydd i gynifer o'r bobl a gynrychiolwn. Yn anffodus, yn hytrach na gwella, mae'r sefyllfa'n parhau i waethygu, a dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw fel bod cynllun gweithredu costau byw brys yn cael ei ddatblygu a'i weithredu cyn gynted â phosibl.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd prisiau bwyd cyfartalog tua 28 y cant yn 2021 i'r lefel uchaf mewn 10 mlynedd. Achoswyd hyn yn rhannol gan brisiau ynni uwch sydd wedi effeithio ar gost rhai gwrteithiau, a chostau trafnidiaeth cynyddol, ac mae'r ddau wedi effeithio'n negyddol ar gadwyni cyflenwi bwyd. Mae mwy na hanner yr aelwydydd yng Nghymru wedi wynebu costau bwyd uwch ac fel y clywsom, mae chwech o bob 10 wedi gweld cost eu cyfleustodau'n codi, megis eu biliau dŵr ac ynni. 

Y llynedd, roedd bron i 10 y cant o aelwydydd Cymru eisoes yn profi lefelau isel o ddiogelwch bwyd, ac roedd un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y deuai eu bwyd i ben cyn y gallent fforddio prynu mwy. Roedd y ffigur hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer teuluoedd â phlant. Roedd traean o'r bobl a oedd yn ennill llai na'r cyflog byw yn gorfod mynd heb brydau bwyd, fel y dangosodd Delyth Jewell, a dywedodd bron i 60 y cant o'r bobl sy'n byw ar aelwydydd â'r incwm isaf yng Nghymru eu bod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol. Gan fod disgwyl i brisiau ynni godi ymhellach, rydym yn debygol o weld mwy o gynnydd ym mhrisiau bwyd, yn ogystal â phobl yn gorfod dewis rhwng angenrheidiau sylfaenol, megis gwresogi, bwyd a chynhyrchion hylendid, gan gynnwys cynhyrchion mislif—unwaith eto, nid moethusrwydd. Dyma bethau rydym yn ddigon ffodus i allu eu cymryd yn ganiataol, er efallai nad oedd hynny'n wir i rai ohonom yn y gorffennol.

Nid yn unig y mae pobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi bwyd, yn ei chael hi'n anodd prynu bwyd ac yn wynebu mwy o bwysau ariannol wrth geisio cynnal deiet cytbwys, ond mae tlodi dŵr yn dod yn broblem gynyddol yng Nghymru, gyda biliau dŵr yn cyfrannu'n sylweddol at broblemau dyled pobl. Ar ôl ôl-ddyledion y dreth gyngor, ôl-ddyledion bil dŵr oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o ddyled roedd cleientiaid a gysylltodd â StepChange yn ymrafael â hi. Amcangyfrifir bod 175,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, ond 35 y cant yn unig o'r aelwydydd hynny sy'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt o dan y trefniadau presennol. Mae ymchwil gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi dangos bod aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, gyda chartrefi'n gorfod torri'n ôl ar hanfodion eraill er mwyn talu eu bil dŵr. Ac mae cymorth i rai mewn tlodi dŵr yn dameidiog, gydag aelwydydd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn cael lefelau sylweddol wahanol o gymorth neu heb fod yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Byddai darparu mwy o gymorth ar gyfer costau bwyd a dŵr yn rhan o gynllun gweithredu yn helpu pobl yng Nghymru sy'n wynebu pwysau ariannol o fannau eraill, megis costau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan.

Ddydd Llun, fel y mae llawer ohonoch wedi'i weld rwy'n siŵr, rhyddhaodd Oxfam ddatganiad i'r wasg yn nodi bod 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi mwy na dyblu eu harian o £700 biliwn i £1.5 triliwn yn ystod dwy flynedd gyntaf y pandemig. Ar yr un pryd, mae 99 y cant o'r ddynoliaeth wedi gweld eu hincwm yn gostwng ac mae dros 160 miliwn yn fwy o bobl ar draws y byd wedi cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Dylai hyn gythruddo pawb ohonom a bod yn achos pryder i bob un ohonom a'n sbarduno i weithredu, gan nad yw'n dderbyniol mai dyma'r realiti i bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Mae rhywbeth wedi torri yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, oherwydd mae'n gwneud cam â gormod o bobl. Nid yw'n iawn ac nid oes modd ei gyfiawnhau'n foesol ac mae angen i bob Llywodraeth weithredu ar frys. Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.

17:25

Mae argyfwng costau byw Llywodraeth Dorïaidd y DU yn taro pobl Cymru'n galed. Mae'n argyfwng, ac ydy, mae'n un a welwyd yn agosáu. Ond mae'n rhaid inni gydnabod mai'r Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau ardrethiannol a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Ac eto, mae'r un sy'n dymuno etifeddu'r goron Dorïaidd, y prentis eglur, Rishi Sunak, wedi bod ar goll. Roedd ar goll ddydd Mercher diwethaf pan oedd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn ymladd am ei fywyd gwleidyddol yn Nhŷ'r Cyffredin—roedd yn brysur ac ni wnaeth drydar ei gefnogaeth i'r Prif Weinidog tan yn hwyr yn y nos.

Ac fel y dywedwyd yn gynharach nid yw'r argyfwng costau byw hwn yn ymwneud â chwrw neu nosweithiau allan, mae'n ymwneud ag anemia, mae'n ymwneud â'r llechau ac mae'n ymwneud â chlefyd anadlol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn cydlynu ei sylwadau i Lywodraeth Dorïaidd y DU, ochr yn ochr â'n cymheiriaid yng Nghaeredin a Belfast. Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, yn llygad ei lle pan ddywedodd yn bendant fod aelwydydd Cymru

'am weld y Trysorlys yn cymryd camau brys i helpu pobl sy’n wynebu biliau a chostau byw cynyddol.' 

Mae'n siŵr y bydd consensws eang o amgylch y Siambr fod biliau ynni cynyddol yn achosi pryder enfawr a thrallod meddyliol a chorfforol go iawn, gyda gormod o deuluoedd yn byw mewn tlodi tanwydd a chwyddiant yn codi i 5.1 y cant ac y rhagwelir y bydd yn codi eto. Ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi mwy na £50 miliwn yn ceisio lliniaru'r mater. Mae hwn yn argyfwng costau byw ar ben argyfwng COVID. Ac mae'r pŵer, os nad yr ewyllys wleidyddol, yn nwylo'r Prif Weinidog gwarchaeëdig a llegach, Boris Johnson, a'i Weinidogion, gydag ynni, lles a chodi'r gwastad i enwi rhai meysydd yn unig. Byddai'n dda gennyf glywed gan ein Gweinidog ni beth y llwyddodd Simon Clarke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, i'w gynnig iddi hi a'i chyd-Weinidogion. A gobeithio bod gwŷr mawr y Ceidwadwyr sy'n eistedd yn nhyrau Whitehall yn adnabod R.T. Davies erbyn hyn.

Heddiw yn y ddadl hon rwyf am ddweud hyn yn gryf, ac wrth Dorïaid y Senedd hon: rwy'n erfyn arnoch i wneud eich dyletswydd a sefyll o'r diwedd dros Gymru yn lle Boris. Mae Age UK eisoes wedi rhybuddio y gallai'r cynnydd a ragwelir o 50 y cant mewn biliau ynni o fis Ebrill ymlaen sbarduno argyfwng cenedlaethol yn y DU i filiynau o bobl hŷn. Mae cap prisiau Llywodraeth y DU ar yr hyn y gall cyflenwyr ei godi yn £1,277 ar hyn o bryd, ond mae dadansoddwyr eisoes yn damcaniaethu y gallai hyn godi hyd at bron £2,000 ar 1 Ebrill. Rhaid inni liniaru canlyniadau'r codiadau mwyaf yn y prisiau byd-eang, ac wrth inni ddechrau ar drydedd flwyddyn y pandemig COVID-19, ni allwn ganiatáu i ragor o ddioddefaint diangen gael ei orfodi ar y genedl Gymreig. Ni ddylai dinasyddion, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed yn feddygol, orfod dogni eu defnydd o ynni yn yr unfed ganrif ar hugain oherwydd pwysau ariannol. Ac mae mynd ag £20 yr wythnos oddi wrth y bobl dlotaf un yn ein cymdeithas ar hyn o bryd yn gwbl anfaddeuol. Mae dewis rhwng gwresogi a bwyta yn rhywbeth y gobeithiaf na ddylai'r un ohonom yma yn y Senedd hon ei dderbyn i unrhyw un a gynrychiolwn. Rwy'n herio'r Ceidwadwyr yn y lle hwn i fagu rhywfaint o ddewrder. Sefwch yn erbyn eich meistri gwleidyddol, sefwch dros Gymru yn y Trysorlys, a sefwch dros eich etholwyr. Diolch.

17:30

Rydym yn wynebu storm berffaith: mae anghydraddoldeb a thlodi, a oedd ar lefelau digynsail cyn y coronafeirws, wedi'u chwyddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae bywyd eisoes yn frwydr i gynifer o bobl, ac eto mae pethau'n mynd i fod yn waeth—yn llawer gwaeth. Mae disgwyl i'r cap ar brisiau ynni godi ym mis Ebrill. Fel pe na bai hynny'n ddigon drwg, mae prisiau cyfleustodau'n mynd i godi eto chwe mis wedyn. Y rhagolygon yw y bydd y bil ynni cyfartalog yn codi i tua 75 y cant yn uwch na'r prisiau presennol. Nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r caledi a'r dinistr y bydd hyn yn ei achosi i gynifer o deuluoedd yn ein cymunedau.

Mae llawer o bobl mewn sefyllfa ariannol ansicr fel y mae pethau; prin y gallant fforddio'r hyn sy'n mynd i'n taro eleni. O, rwy'n gweld, Lywydd, fod Rhun, rwy'n credu, am ddod i mewn.

Diolch am wneud fy ngwaith ar fy rhan, Peredur. A ydych chi'n fodlon i Rhun wneud ymyriad? O'r gorau. Rhun ap Iorwerth.

Diolch. Dim ond ymyriad byr iawn. Mae llawer o etholwyr i mi wedi lleisio pryderon penodol ynghylch prisiau ynni cynyddol. Rydym yn sôn am bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. A yw'r Aelod yn cytuno mai un broblem rydym yn debygol o'i hwynebu fwy a mwy yw nad yw pobl yn gallu coginio neu wresogi bwyd am na allant fforddio'r prisiau ynni? A gwyddom pa mor niweidiol fydd hi os yw pobl yn methu cael pryd poeth rheolaidd.

Ydw, dwi'n cytuno'n llwyr efo Rhun yn fanna. Mae gorfodi pobl i ddewis rhwng gwresogi'r tŷ neu fwyd cynnes yn ofnadwy, ac mae'r niwed i bobl sydd yn methu â chael bwyd cyson yn frawychus ac yn anfaddeuol.

I waethygu pethau, mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sydd y tu hwnt i barodi. Tra bod miliynau o bobl yn poeni sut y gallant fforddio eu biliau cyfleustodau dros y 12 mis nesaf, mae diffyg ateb cydlynol gan Lywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn annerbyniol. Pe baent yn rhoi cymaint o amser ac ymdrech ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ag y maent yn ei wneud ar drefnu partïon sy'n mynd yn groes i'r cyfyngiadau symud, byddem mewn gwell sefyllfa. Efallai fod y difaterwch ynghylch yr argyfwng yn deilio o'r ffaith na fydd Johnson a Sunak yn gorfod talu'r prisiau cynyddol, oherwydd y cap ar y cyfraniadau a wnânt am eu fflatiau yn Stryd Downing. Mae'r Prif Weinidog a'r Canghellor yn cael llety gras a ffafr yn ddi-rent, gyda biliau cyfleustodau a chostau'r dreth gyngor yn cael eu talu gan y Llywodraeth. Tybed a fyddent yn gweithredu gydag ychydig mwy o frys pe baent yn cael eu tynnu allan o'u ffordd o fyw faldodus a'u gorfodi i fyw mewn tlodi am beth amser. Efallai fod Johnson wedi anghofio ei fod wedi addo rhoi diwedd ar y TAW ar filiau tanwydd mewn erthygl a gyd-ysgrifennodd ar gyfer papur newydd The Sun fis cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Gan ein bod eto i weld y polisi hwn yn cael ei gyflawni sawl blwyddyn i mewn i'w brif weinidogaeth, mae'n debyg y gellir ei ddileu fel addewid Brexit arall a dorrwyd.

Mae cost gynyddol ynni wedi arwain at fwy nag 20 o gyflenwyr yn mynd i'r wal. Mae wedi golygu bod eu sylfaen gwsmeriaid wedi dychwelyd i ddwylo'r chwe chwmni mawr. Ceir achos cryf bellach dros gyfeirio cyllid tuag at ynni diogel wedi'i genedlaetholi, yn enwedig ynni adnewyddadwy. Mae'r gobaith o weld rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol fel hyn gan Lywodraeth y DU sy'n gwrthwynebu mesurau o'r fath ar sail ideolegol yn denau a dweud y lleiaf.

Bydd yr argyfwng costau byw hwn yn taro pobl hŷn yn arbennig o galed. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud bod angen mwy o arian ar bobl hŷn ar incwm isel i helpu gyda biliau tanwydd sy'n codi. Gyda chynnydd yn y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gall pensiynwyr wynebu dewis rhwng bwyd neu danwydd, fel y nododd Rhun yn ei sylw yn gynharach. Roedd pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu heffeithio yn eu swyddi gan y coronafeirws. Roedd chwarter y gweithwyr rhwng 60 a 64 oed ar ffyrlo, wedi colli oriau neu dâl, neu wedi colli eu swyddi'n gyfan gwbl yn ystod y pandemig. Efallai na fydd y rhai a gollodd eu swyddi yn yr oedran hwn yn ystod y pandemig byth yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Gwyddom hefyd fod y defnydd o gredyd yn disgyn gydag oedran i rai dros 50 oed, oherwydd bod llawer o fenthycwyr yn gwrthod rhoi benthyg i bobl dros oedran penodol.

Mae Plaid Cymru am i'r Llywodraeth hon fuddsoddi mewn ymgyrch wedi'i thargedu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Yn 2018-19 yn unig, roedd cyfanswm y credyd pensiwn heb ei hawlio gymaint â £214 miliwn. Mae credyd pensiwn nid yn unig yn darparu cymorth ariannol, mae hawlio'r credyd hefyd yn datgloi amryw o hawliau eraill, megis gostyngiadau'r dreth gyngor, gofal deintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai. Dyma pam y mae'r ddadl hon mor bwysig. Ni allwn aros am weithredu gan Lywodraeth yn Llundain sydd â chyn lleied o gysylltiad â phobl o gymunedau dosbarth gweithiol. Os oes unrhyw un yn credu bod ewyllys wleidyddol yn Rhif 10 Stryd Downing i gyflawni dros bobl gyffredin sy'n byw yng Nghymru, nid ydynt wedi bod yn talu llawer o sylw i hanes. Mae angen help a sicrwydd ar bobl yng Nghymru, ac maent ei angen yn fuan. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym. Diolch yn fawr.

17:35

Y peth rhwystredig i gynifer ohonom yw bod hwn yn argyfwng rydym wedi'i weld yn dod. Rydym yn gwybod bod prisiau ynni'n codi i'r entrychion, rydym wedi gwybod bod chwyddiant yn codi, ac eto beth a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol hon yn y DU? Fe wnaethant dorri credyd cynhwysol, gan ddileu achubiaeth hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fe wnaethant ddewis codi yswiriant gwladol, a fydd yn taro cynifer o bobl, ac yna, y bore yma, clywsom heddiw eu bod wedi gadael i chwyddiant gyrraedd y lefel uchaf mewn 30 mlynedd. Wrth imi siarad, mae trychineb diweddaraf Stryd Downing yn tynnu sylw'r Ceidwadwyr yn San Steffan ormod iddynt allu mynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Dyna pam rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr heddiw, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig.

Er bod y rhan fwyaf o'r ysgogiadau i fynd i'r afael â chostau byw yn nwylo Llywodraeth San Steffan, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud beth bynnag y gall i liniaru effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn. Rhaid canmol Llywodraeth Cymru am y pecyn £51 miliwn a dynnodd Llywodraeth Cymru o'i chronfeydd wrth gefn ym mis Tachwedd i helpu i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol drwy'r gaeaf. Ar adeg pan fo Ceidwadwyr Llywodraeth y DU yn gwrthod cymryd camau ystyrlon ar yr argyfwng costau byw, camodd Llywodraeth Cymru i mewn, ac rwyf fi a llawer o drigolion yn ddiolchgar am hynny. Drwy'r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau da: cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y gronfa cymorth tanwydd gaeaf a'r gronfa caledi i denantiaid. Bydd y rhain i gyd yn gwneud gwahaniaeth, ond wrth inni fynd drwy'r misoedd nesaf, rhaid inni ystyried a oes lle i wthio ymhellach.

Yn gyntaf, o ran y gronfa caledi i denantiaid, yn aml daw dyledion eraill gydag ôl-ddyledion rhent. Mae'r canolfannau cyngor ar bopeth wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw am eu gwasanaethau cyngor ar ddyledion. Yn draddodiadol, mae'r rhan fwyaf o'r pryderon yn canolbwyntio ar ôl-ddyledion y dreth gyngor, pobl sy'n cael trafferth gyda dyledion cynyddol, ffioedd ychwanegol a bygythiadau beilïaid. Fodd bynnag, yn anffodus, a bron yn anochel, roedd y cynnydd mwyaf i'w weld yn nifer y bobl sydd â dyledion ynni, a oedd 150 y cant yn uwch ym mis Tachwedd na'r un cyfnod yn 2019, gyda biliau'n mynd i godi eto yn nes ymlaen eleni, gan achosi pryder i fwy byth o bobl sy'n poeni sut y bydd hyn yn effeithio arnynt hwy.

A dyma lle gall cyngor ar ddyledion helpu. Yng Nghasnewydd, gyda chyngor dan arweiniad Llafur, rydym yn ffodus iawn o gael swyddogion cynhwysiant ariannol yn y tîm cymorth tai, ochr yn ochr â swyddfa leol ein canolfan cyngor ar bopeth. Er bod gan y ddau grŵp lwyth gwaith trwm, maent yn darparu gwasanaeth rhagorol ac yn enghraifft dda o arferion da y gellir eu cyflwyno ledled Cymru—

Jayne, mae Mabon ap Gwynfor yn nodi ei fod am ymyrryd. Nid wyf yn gwybod a ydych yn fodlon derbyn hynny.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Aelod. Mae'n peintio darlun llwm iawn ac yn sôn am y tenancy hardship fund. Onid un ffordd arall o sôn am y cost-of-living crisis ydy cyfeirio ato fo yr un fath ag unearned income boon, oherwydd bod rhentwyr preifat yn fwy tebygol o wario dros draean o'u hincwm ar rhentu, felly? Ydych chi felly'n Aelod sy'n cytuno efo fi bod angen gweld y Llywodraeth yn ymyrryd yn y farchnad dai a sicrhau rhent fforddiadwy i bobl ar lawr gwlad?

Diolch yn fawr, Mabon, ac rwy'n dod at bwynt lle credaf efallai y gall Llywodraeth Cymru wneud ychydig mwy ar y math hwn o faes.

Mae bod mewn dyled yn aml yn teimlo fel cylch diddiwedd trallodus a rhaid rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo trigolion i ddod allan o'r cylch hwnnw, yn hytrach na rhoi ateb dros dro yn unig i'w pryderon. O fewn yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, pe gellid rhoi system ar waith i'r rhai sy'n gwneud cais am y grant caledi i denantiaid gael eu hatgyfeirio am gyngor ar ddyledion, efallai y byddwn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gyflawni hynny a gallem wneud gwahaniaeth gwirioneddol a phendant.

Maes arall lle gallai Llywodraeth Cymru wneud gwaith pellach yw'r gronfa cymorth tanwydd gaeaf, cynllun a gyhoeddwyd pan oedd Canghellor Ceidwadol y DU yn gwneud dau beth, sef torri cymorth a chyhoeddi codiadau treth. Ar hyn o bryd, pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd penodol yn unig sy'n gymwys i wneud cais. Nid yw hyn yn cynnwys llawer o bobl sydd ar incwm isel ac mewn tlodi tanwydd. Er enghraifft, mae'r rhai ar y lwfans cyflogaeth a chymorth newydd sy'n seiliedig ar gyfraniadau yn cael yr un swm â phobl ar lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n seiliedig ar incwm, ond nid ydynt yn gymwys i hawlio o'r gronfa hon. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog edrych ar hyn a gweithio gyda Gweinidogion eraill i weld a oes ffyrdd o ehangu'r meini prawf cymhwysedd yn debyg i'r grwpiau ehangach ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Clyd, neu a oes unrhyw ffordd y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio disgresiwn wrth wneud dyfarniadau o'r gronfa. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn creu gwaith ychwanegol i staff gweinyddol awdurdodau lleol, sy'n gweithio'n eithriadol o galed yn cefnogi trigolion. Mae eu gwaith yn amhrisiadwy ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac mae eu cefnogi hwythau hefyd yn hanfodol.

Mae Llywodraeth San Steffan yn anwybyddu'r argyfwng sydd ar y gorwel drwy roi eu holl egni tuag at amddiffyn eu harweinydd aflwyddiannus. Gall cyflogau sy'n aros yn eu hunfan, chwyddiant serth a phrisiau ynni cynyddol fod yn gyfuniad gwenwynig a fydd yn taro'r bobl dlotaf yn galetach na neb. Yn y pen draw, ar adegau fel hyn, mater i'n Llywodraeth Lafur yng Nghymru yw gwneud y pethau nad yw'r Ceidwadwyr yn eu gwneud. Rhaid inni ddefnyddio pob llwybr posibl i atal dyledion rhag cronni a chefnogi pobl sy'n cael eu gorfodi i ddyled drwy'r pwysau real iawn ar gostau byw. Diolch yn fawr.

17:40

Clywais y Ceidwadwyr yn dweud yn y Senedd eu bod yn credu mai'r ffordd allan o dlodi yw drwy weithio eu ffordd allan, ond mae llawer o bobl sy'n gweithio yn byw mewn tlodi neu'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith gweddus sy'n cyd-fynd â gofal plant. Yn aml, mae oriau hir disgwyliedig o waith a phatrymau shifft yn erchyll, a bu'n ras i'r gwaelod ar safonau cyflogaeth, cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar draul y gweithiwr. Yng Nghymru, y gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf, gyda gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu a phorthorion ysbytai, ond torrwyd cyllid gwasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn am 10 mlynedd o 2010 ymlaen gan effeithio ar hynny, ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus.

Gyda'r rhagfynegiadau'n dangos y bydd prisiau ynni'n codi 50 y cant pan godir y cap ym mis Ebrill, ychydig o aelwydydd ledled Cymru fydd yn osgoi teimlo'r pwysau eleni. Ni allai'r toriad i'r credyd cynhwysol ddod ar adeg waeth, pan fo eisoes yn anodd iawn cydbwyso cyllid y cartref. Diolch i ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, mae llawer o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn cael achubiaeth i ymdrin â phwysau uniongyrchol, ond mae angen atebion mwy hirdymor.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Cyngor ar Bopeth yn sir Ddinbych i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud ar gynorthwyo teuluoedd i gynyddu incwm, ymdrin â dyled a lleihau biliau'r cartref, a hoffwn rannu heddiw rai o'r heriau y nododd Cyngor ar Bopeth y gellid mynd i'r afael â hwy fel rhan o gynllun argyfwng costau byw wrth symud ymlaen. Yn gyntaf, mae angen inni fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb o ran mynediad at ynni fforddiadwy. Ar hyn o bryd, mae sgôr effeithlonrwydd ynni stoc tai awdurdodau lleol yn amrywio'n fawr. Clywais gan un o'r trigolion y mae ei wresogyddion stôr hen ffasiwn yn costio £8 y dydd iddo allu cadw'n gynnes. Mae'r rhai sy'n byw mewn llety rhent preifat hefyd yn aml yn wynebu gorfod talu mwy na'u siâr i wresogi cartrefi wedi'u hinswleiddio'n wael â systemau gwresogi aneffeithlon. Mae angen mynd i'r afael â materion fel hyn ar frys, a gobeithio y bydd y broses o gyflwyno'r rhaglen ôl-osod yn parhau'n gyflym.

Ar ben hyn, mae llawer o denantiaid yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, sydd i bob pwrpas yn ychwanegu premiwm tlodi at gost ynni, gan stigmateiddio pobl mewn llety rhent. O ystyried y datblygiadau yn nhechnoleg mesuryddion, mae'n ymddangos yn gwbl anghyfiawn y dylai rhywun ar fesurydd rhagdalu dalu mwy am yr hyn y maent yn ei ddefnyddio.

Mae angen inni sicrhau hefyd fod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth Advicelink a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor am ddim ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys lles, ond hoffwn weld mwy o arian ar gyfer ymgyrchoedd rhagweithiol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Ym mis Hydref 2019, gweithiodd y comisiynydd pobl hŷn yn agos gyda Trafnidiaeth Cymru i gynnwys taflen wybodaeth am gredyd pensiwn gyda phob gohebiaeth adnewyddu pasys bws consesiynol a gâi eu hanfon at bawb yng Nghymru dros 60 oed. Yn dilyn yr ymgyrch honno, roedd nifer yr hawlwyr newydd 26 y cant yn uwch na'r cyfartaledd fesul chwarter dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn yn croesawu ymestyn ymgyrch fel hon, er enghraifft drwy hysbysebu ar fagiau fferyllol, a allai gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth y mae gan bobl yng Nghymru hawl iddo.

Yn San Steffan y mae llawer o'r pwerau sy'n effeithio ar gostau byw, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i osgoi cynnydd trychinebus ym mhrisiau ynni, ond mae'n bwysig cofio'r gwahaniaeth y mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn ei wneud ac y gall ei wneud i aelwydydd ledled Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am fod fy nghi yn chwyrnu ac yn griddfan yn y cefndir?

17:45

Iawn, nid wyf yn siŵr ai'r ffaith bod eich ci'n chwyrnu oedd yn gyfrifol am golli fy sain am ran o'r cyfraniad hwnnw. Hyderaf fod y cyfan yn ddilys. Ni welais unrhyw wynebau rhuslyd o fy mlaen. Galwn ar y Gweinidog yn awr i gyfrannu at y ddadl. Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n gwbl amserol ac yn ddadl bwysig iawn wrth inni weithredu fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, sy'n effeithio mor ddifrifol ar y bobl rydym i gyd yn eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu yng Nghymru, a chafodd hynny ei gyfleu'n gadarn yn y ddadl.

Fel Llywodraeth, rydym yn dwyn ynghyd ein cynlluniau ac yn defnyddio ein pwerau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, fel y galwyd arnom i'w wneud yn y ddadl hon, ond rwyf am gymeradwyo'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau heddiw fod y pwerau a'r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chostau biliau ynni a chostau byw cynyddol yn nwylo Llywodraeth y DU yn bennaf. Felly, mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle inni uno heddiw i gefnogi'r sylwadau rydym yn eu gwneud fel Gweinidogion Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU, oherwydd y pwerau a'r ysgogiadau cyllidol sydd ganddynt, ond hefyd i fwrw ymlaen â'n cynlluniau a'n blaenoriaethau y galwyd amdanynt heddiw yn y cynnig hwn a chan yr Aelodau.

Fel y nodwyd, cyfarfu'r Gweinidog cyllid â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf, gyda chymheiriaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon, i alw am weithredu ar frys i leihau'r baich ar aelwydydd sydd dan bwysau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a minnau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryder mawr am y cynnydd ym mhrisiau ynni domestig, gan bwyso am weithredu ar frys i ddiogelu aelwydydd sy'n fregus. Byddwch wedi gweld y llythyr a ysgrifennwyd gennym.

Yr wythnos hon hefyd, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu cyfraddau taliadau budd-dal lles ym mis Ebrill eleni, yn unol â'r cynnydd yn y mynegai prisiau defnyddwyr, oherwydd fel y byddwch wedi gweld, adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yr wythnos diwethaf eu bod yn disgwyl iddo gyrraedd 6 y cant. Gyda'r cynnydd hwnnw, byddai hyn yn arbed ein cartrefi incwm isaf rhag wynebu gostyngiad o £290 mewn incwm budd-daliadau termau real o un flwyddyn i'r llall, gan helpu i leddfu'r ychydig lleiaf ar yr argyfwng costau byw y maent yn ei wynebu.

Pan wnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad cywilyddus i ddod â'r cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol i ben ym mis Hydref y llynedd, er gwaethaf rhybuddion ynglŷn â'r effaith y byddai'n ei chael yn gwthio mwy o aelwydydd i fyw mewn tlodi, anogasom  ac rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wrthdroi ei phenderfyniad. Arweiniodd at y toriad dros nos mwyaf i gyfraddau talu nawdd cymdeithasol ers sefydlu'r wladwriaeth les fodern. A'r gwir amdani yw, nid yw adolygiad o wariant yr hydref Llywodraeth y DU yn ateb maint yr her rydym yn ei hwynebu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn—y storm berffaith hon, fel y dywedwyd—a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru.

Ond lle mae San Steffan wedi methu cefnogi teuluoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i gefnogi ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn, ac i symud ymlaen, gyda'n pwerau a'n polisïau, a chyda'r cyfraniadau a wnaed y prynhawn yma, a gweithio'n bendant iawn ar sail trawslywodraethol i fwrw ymlaen â hyn. Rydym wedi cyflwyno mesurau brys—cawsant eu cydnabod heddiw—i wrthbwyso effaith colli'r cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol: ein cronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn; £2 filiwn a ddyrannwyd ar gyfer atal digartrefedd; a'r gronfa cymorth tanwydd gaeaf gwerth £38 miliwn, sy'n darparu'r taliad arian untro o £100 i helpu aelwydydd cymwys gyda'u biliau tanwydd. Eto ddoe, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod hyd at 100,000 o geisiadau am hwnnw eisoes yn eu lle. Ceir £1.1 miliwn ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys £0.5 miliwn i gefnogi banciau bwyd, ac ateb y galw cynyddol, a £657,000 i helpu i sefydlu 25 yn rhagor o brosiectau Bocs Bwyd Mawr mewn ysgolion yn ardal tasglu'r Cymoedd.

Diolch i'r Aelodau am nodi'r rôl y gall ac y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae. Maent yn hanfodol i'n helpu yn y cynlluniau gweithredu hyn y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru, nid Llywodraeth Cymru yn unig, ond gan weithio gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector hefyd. Mae cyhoeddiadau pellach ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru ar ein grant cymorth i aelwydydd.

Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar ein cronfa cymorth dewisol gyda'r £14.7 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ac fel y galwyd amdano, rydym yn gweithredu i barhau â'r hyblygrwydd hwnnw, gan ganiatáu mwy o daliadau a thaliadau mwy mynych i bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng costau byw a diddymu'r codiad o £20 i'r credyd cynhwysol. Ond rydym hefyd wedi ailsefydlu ein cymorth tanwydd gaeaf o'r gronfa cymorth dewisol ar gyfer cartrefi oddi ar y grid, grantiau trwsio boeleri tan ddiwedd mis Mawrth 2022, ac fel y galwyd arnom i'w wneud, rydym yn cynnal ymgyrch genedlaethol i chwyddo'r niferoedd sy'n cael budd-daliadau cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Unwaith eto, fel y soniwyd, credyd pensiwn, mae'n hanfodol fod gennym yr ymgyrch honno, gan weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Mewn gwirionedd, arweiniodd ein hymgyrch ym mis Mawrth y llynedd at gynnydd enfawr o £651,000 a mwy yn yr hyn a hawliwyd gan y rhai sydd â hawl i gael budd-daliadau. Rwy'n annog Llywodraeth y DU yn gryf i gynnal ymgyrch debyg, fel y mae Gweinidogion yr Alban wedi'i wneud hefyd, i leddfu'r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu.

Hoffwn ddweud 'diolch' yn gyflym iawn i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roedd eich adolygiad o ddyled yn hollbwysig—ac fe wnaethom ymateb iddo'n gadarnhaol yr wythnos diwethaf—ac mae gennych ymchwiliad ar y ffordd i dlodi tanwydd. Mae uniondeb eich gwaith wedi helpu i lywio a llunio ein hymateb i'r materion hollbwysig hyn, a chredaf fod hynny'n rhan o'r hyn y mae cynnig Plaid Cymru yn galw amdano, ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd fel hyn i wneud y gwahaniaeth y gallwn ei wneud yng Nghymru. Oherwydd mae gennym gyflog cymdeithasol mwy hael yng Nghymru, drwy fentrau fel ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, presgripsiynau am ddim, effaith gadael arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. A chrybwyllwyd y gronfa cymorth i denantiaid—y gronfa cymorth i denantiaid sy'n werth £10 miliwn—sydd bellach nid yn unig yn cefnogi'r sector preifat, ond tenantiaid tai cymdeithasol hefyd sy'n ei chael hi'n anodd ad-dalu ôl-ddyledion rhent sylweddol. Unwaith eto, wrth wrando ar yr holl bwyntiau a wnaed yn y ddadl hon y prynhawn yma, ein cronfa gynghori sengl, gwasanaethau integredig yn ystod chwe mis cyntaf eleni, i helpu pobl unwaith eto i hawlio incwm ychwanegol. A rhaid inni beidio ag anghofio ein cynllun cymorth hunanynysu, sydd wedi helpu pobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol iddynt hunanynysu, ac mae bron i £29 miliwn wedi'i hawlio hyd yma.

Hoffwn gydnabod yn olaf fod ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi ein galluogi i ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim. Soniwyd am hynny yn y ddadl hon, ond mae gweld 196,000 ychwanegol o blant oed cynradd yn elwa o'r cynnig o bryd ysgol iach am ddim yn hollbwysig o ran y ffordd y mae Cymru'n ymateb i'r argyfwng costau byw. Rydym hefyd yn symud ymlaen mewn perthynas â chyllid ar gyfer gofal plant i fwy o deuluoedd, pan fydd rhieni mewn addysg, ac yn edrych hefyd ar ymestyn cymorth drwy addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae gennym fesurau eraill. Mae gennym y warant i bobl ifanc, mae gennym y cyflog byw go iawn, yr ymrwymiad i ymestyn hwnnw gyda'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ysgrifennu at bob corff cyhoeddus i'w hannog i arwain drwy esiampl, ac mae ein rhaglen Cartrefi Clyd yn creu budd ers 2010-11 i 67,100 o aelwydydd a llawer mwy.

Felly, fy mhwynt olaf yw bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau aelwydydd incwm isel, ond wrth i brisiau ynni godi a chwyddiant gynyddu, rydym yn ymwybodol fod angen inni wneud mwy. Felly, rwy'n trefnu cynhadledd bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol, gan ddwyn ynghyd yr holl randdeiliaid a chyd-Weinidogion ar 17 Chwefror, gan ymateb yn bendant iawn i alwadau yn y cynnig hwn heddiw i benderfynu beth arall y gallwn ei wneud gyda'r ysgogiadau polisi sydd ar gael i ni, a datblygu'r cynllun gweithredu a fydd yn cefnogi aelwydydd ledled Cymru sydd mewn perygl gwirioneddol o niwed ariannol.

Ond mae'n rhaid inni barhau i wneud y sylwadau cryfaf ochr yn ochr â'r Alban a Gogledd Iwerddon i Lywodraeth y DU, sydd wedi profi pa mor greulon o ddifater yw hi ynglŷn â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Felly, a wnaiff y Ceidwadwyr Cymreig, os ydynt yn cefnogi'r cynnig hwn, ymuno â ni i gefnogi'r sylwadau a gyflwynwn i Lywodraeth y DU? Eich cyfrifoldeb chi yn awr, os ydych yn cefnogi ein cynnig, yw gwneud hynny, ymuno â ni a chefnogi ein sylwadau i Lywodraeth y DU. Cefnogwch hwy i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi cymorth ychwanegol i gynlluniau fel y gostyngiad cartrefi cynnes—

17:55

Weinidog, pe baech yn y Siambr, byddai'r cloc wedi hen droi'n goch bellach, felly os gallwch ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y dywedodd National Energy Action yn glir, mae gan Lywodraeth y DU y pwerau a'r adnoddau cyllidol i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond fe wnawn yr hyn a allwn gyda'n pwerau a'n polisïau ni yma yng Nghymru i gefnogi'r cynnig hwn a bwrw ymlaen â hyn. Diolch yn fawr, Lywydd.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r Gweinidog am ymateb. 

Wrth inni gloi'r ddadl hon, credaf ei bod yn werth nodi ac ailadrodd pwynt a wnaeth Jayne Bryant, nad yw'r brwydrau dyddiol oherwydd costau byw yn rhywbeth newydd, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bodoli ers degawd neu fwy. Ond yr hyn a welwn yn awr yw chwyddo'r trafferthion hynny, brwydr na ddylai byth fodoli yn y lle cyntaf. Bydd y chwyddo hwnnw'n arwain at lefelau Fictoraidd o dlodi, ac mae'n werth oedi i feddwl am hynny am eiliad—lefelau Fictoraidd o dlodi yng Nghymru heddiw.

Clywsom gan Huw Irranca-Davies, Rhianon Passmore a Peredur Owen Griffiths am yr effaith y mae costau tanwydd cynyddol yn ei chael. Mae teuluoedd a oedd prin yn ymdopi cyn hyn yn cael eu gwthio dros yr ymyl heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Gwelsom y stori ar newyddion BBC Wales am Judith, mam-gu sydd ond yn rhoi'r gwres ymlaen pan ddaw ei hwyron ar ymweliad, a hyd yn oed wedyn nid yw'n gallu fforddio ei roi ymlaen am fwy nag awr. Os nad yw hynny'n eich deffro i realiti'r sefyllfa, nid wyf yn gwybod beth fydd—sefyllfa sy'n cadarnhau'n union yr hyn a nododd Peredur ar effaith cost tanwydd ar bobl oedrannus. 

Clywsom gan Heledd Fychan sut y mae cost bwyd a dŵr wedi codi, gan wthio mwy o bobl i fyw mewn tlodi bwyd. Ac fel y nododd Heledd, y llynedd, roedd bron i 10 y cant o aelwydydd Cymru yn profi lefel isel o ddiogelwch bwyd, ac roedd un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y byddai eu bwyd yn dod i ben cyn y gallent fforddio prynu mwy. Roedd y ffigur hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer teuluoedd â phlant. A bydd pob un ohonom wedi gweld y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd gyda'n llygaid ein hunain. Nid moethusrwydd yw bwyd a dŵr, maent yn hanfodol i fywyd dynol. Ni allwn fyw na goroesi hebddynt. 

Clywsom hefyd gan Sioned Williams a Carolyn Thomas ynglŷn â'r modd nad yw cyflogau'n codi cymaint â chostau. Cyn yr argyfwng, roedd pobl eisoes yn gweithio mwy nag un swydd i gael dau ben llinyn ynghyd. Ac mae hyn i gyd, wrth gwrs, fel y nododd Sioned Williams, Rhun ap Iorwerth a Delyth Jewell, yn golygu bod hyd yn oed mwy o deuluoedd bellach yn dewis rhwng gwresogi a bwyta. Ac i'r rhai sydd eisoes wedi gorfod dewis, mae'n siŵr eu bod yn poeni eu hunain yn sâl ynglŷn â lle bydd hyn i gyd yn eu gadael. Yn y cyfamser—a gwn fod yna Aelodau a hoffai ganu clodydd y grŵp penodol hwn—tra bod 163 miliwn o bobl wedi cael eu gwthio i fyw mewn tlodi yn ystod y pandemig, arweiniodd cynnydd ym mhrisiau cyfranddaliadau ac eiddo at gynyddu cyfoeth byd-eang y 10 unigolyn cyfoethocaf yn y byd i $1.5 triliwn. Mae Oxfam yn rhagweld y bydd 3.3 biliwn o bobl yn byw ar lai na $5.50 y dydd erbyn 2030. Gadewch imi roi hynny mewn ffordd wahanol: yn ystod y pandemig, mae 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi gweld eu cyfoeth yn dyblu, wrth i'w hincwm gynyddu bron i $1 biliwn y dydd, tra bod gweddill y byd wedi gweld eu hincwm yn gostwng. Felly, gofynnaf y cwestiwn eto, fel rwyf wedi'i wneud yn y Siambr o'r blaen: ar ba bwynt y penderfynwn fod crynhoi cymaint o gyfoeth yn anfoesol, oherwydd credaf ein bod wedi hen basio'r cam hwnnw yn awr?

Ac un pwynt olaf, Lywydd. Nid oes unrhyw beth yn dangos dynoldeb neu ddiffyg dynoldeb unigolyn yn fwy eglur na phan ddywedant, 'Wel, dyna'r ffordd y mae pethau', neu 'Nid ydym yn byw mewn byd delfrydol.' Y rheswm pam fod pethau y ffordd y maent, y rheswm pam nad ydym yn byw mewn byd delfrydol yw oherwydd diffyg ewyllys wleidyddol i fynd i'r afael â thlodi. Mae mor syml â hynny. Nid yw hyn yn anochel. Unwaith eto, cawn ein hunain mewn argyfwng lle mae gennym Lywodraeth y DU nad yw'n gymwys i lywodraethu, Llywodraeth sy'n poeni mwy am ymgyrch 'achub y ci mawr' na mynd i'r afael ag argyfwng a fydd yn dinistrio teuluoedd nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Tynnodd Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, sylw at y gwahaniaeth amlwg rhwng y lle hwn a San Steffan. Yr her fwyaf sy'n wynebu teuluoedd gyda chodiad o 50 y cant ym mhrisiau ynni, gan wneud ynni'n anfforddiadwy i filiynau, wedi'i sgubo o'r neilltu mewn un cwestiwn yn ystod cwestiynau i Brif Weinidog y DU. Nawr, rwyf am ddweud bod y ffaith bod llawer o amser wedi'i roi heddiw i gostau byw, nid yn unig yn y ddadl hon ond yng nghwestiynau llefarwyr yn y Senedd hon, yn rhoi rywfaint o obaith i mi. Ac mewn gwirionedd, roedd yr ymateb gan y Gweinidog yn gadarnhaol iawn, ond mae angen inni weithredu yn awr. Fel pob Aelod yma, rwy'n ymdrin â llawer iawn o faterion ar ran etholwyr, ond yr argyfwng sydd ger ein bron yw'r un sy'n fy nghadw'n effro'r nos. Rydym yn sôn am fy ffrindiau, fy nheulu, a'r bobl y cefais fy magu gyda hwy, y bobl sy'n byw yn fy nghymuned, ac sy'n byw ym mhob un o'n cymunedau, a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan hyn.  

Mae cynnig Plaid Cymru

'yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu costau byw brys'. 

Os caiff ei basio, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom, nid Aelodau Plaid Cymru yn unig, ond Aelodau Llafur ac Aelodau Ceidwadol ac Aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol o bob rhan o'r Siambr, sicrhau bod pa gynllun bynnag a gynhyrchir yn werth y papur y bydd wedi'i ysgrifennu arno, a'i fod yn gweithio i bobl. Ac rwy'n herio'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd i fynd i San Steffan a thynnu sylw at y ffaith bod pobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd iawn yn awr. Mae angen iddynt ysgwyddo eu cyfrifoldeb yma. Mae gormod o gynigion a dadleuon yn pasio yn y Senedd hon ac yn cael eu dilyn gan oedi cyn gweithredu neu weithredu gwael. Wel, ni all y cynnig hwn fod yn un ohonynt. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig.  

18:00

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr er mwyn cynnal y pleidleisiau sydd eu hangen. Byddwn ni'n cymryd toriad byr iawn i baratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:02.

18:05

Ailymgynullodd y Senedd am 18:05, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r pleidleisiau hediw ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau COVID. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 11 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cyfyngiadau COVID, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 28, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 1, wedi'i gyflwyno gan Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.  

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf, y bleidlais olaf, ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM7891 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymeig—cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am y prynhawn yma. Felly, rŷn ni'n mynd i symud ymlaen at y ddadl fer.

9. Dadl Fer: Teithio o gwmpas: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc

Mae'r ddadl fer heddiw gan Jane Dodds. Felly, dwi'n galw ar Jane Dodds i gyflwyno'r ddadl yn ei henw hi. Jane, drosodd i chi.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gynnal y ddadl yma heddiw ac i dynnu sylw at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. A dwi'n falch o'r diddordeb gan Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor a Jayne Bryant yn y ddadl yma, ac rwyf wedi cytuno i roi peth amser er mwyn i Carolyn, Mabon a Jayne gyfrannu at y ddadl. Dwi'n ddiolchgar iawn; mae'n fyd unig i fod yn rhyddfrydwr yn y Senedd ar hyn o bryd.

Gwyddom ni i gyd fod pobl ifanc wedi cael eu taro'n galed gan bandemig COVID, a byddant yn parhau i gael eu heffeithio ymhell ar ôl risgiau uniongyrchol COVID-19 i iechyd y cyhoedd. A gwn y bydd yn flaenoriaeth a rennir ar draws y Siambr i ddileu rhwystrau i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau, gwaith a chyfleoedd, a chredaf  fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy fod yn rhan allweddol o gyflawni hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Dyna pam y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig ein bod yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus—teithio ar fysiau a threnau—yn rhad ac am ddim i bawb dan 25 oed yng Nghymru, fel elfen allweddol o'r rhaglen adfer honno i bobl ifanc.

Mae tri maes rwyf am dynnu sylw atynt yn fyr. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn ystyried record fy mhlaid yn y maes hwn. Yn y bedwaredd Senedd, gwnaeth cyd-Aelodau o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sicrhau bod teithio consesiynol i bobl ifanc 16 i 18 oed yn rhan allweddol o'r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, gan ymestyn y cynllun i bobl ifanc 21 oed yn ddiweddarach. Roedd hwn, mewn gwirionedd, yn bolisi a gyflwynwyd gan aelodau ifanc o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yng nghynhadledd ein plaid. Ac mae wedi bod yn llwyddiant, onid yw? Ar ddiwedd mis Hydref 2020, roedd tua 32,000 o gardiau Fy Ngherdyn Teithio gweithredol wedi'u dosbarthu a chyn y pandemig, gwnaed mwy nag 1.3 miliwn o deithiau am bris gostyngol. Mae menter TrawsCymru sy'n cynnig teithio am ddim ar benwythnosau, a oedd yn weithredol rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, hefyd yn dangos y gall prisiau gostyngol weithio, gyda chynnydd o fwy nag 81,000 o deithiau. Felly, os yw'r cynlluniau hynny'n gweithio i annog pobl i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus, credaf y dylem edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus ac i leddfu pwysau ariannol. Rwy'n croesawu gwarant y Llywodraeth i bobl ifanc a byddwn yn ailadrodd sylwadau a wneuthum yn ystod datganiad y Gweinidog ynghylch sicrhau ei fod nid yn unig yn gynnig ystyrlon ond yn un y gall pobl ifanc ei gyrraedd.

Yn ail, mae gennym yr agwedd amgylcheddol. Mae trafnidiaeth yn allyrru 17 y cant o allyriadau carbon Cymru, y sector gwaethaf ond dau. Mae ceir preifat yn unig yn allyrru 7.7 y cant o'r ffigur hwnnw. A Chymru sydd â'r gyfran uchaf yn y DU o hyd o bobl sy'n teithio i'r gwaith mewn car, ac mae'r ffigurau hynny wedi aros yn sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf. Felly, gwyddom fod angen inni annog cynifer o bobl â phosibl i roi'r gorau i ddefnyddio cerbydau preifat. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwir angen cyllid ychwanegol i'n galluogi i ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yn wahanol i'r Alban, heb gronfa bwrpasol i gynorthwyo gweithredwyr bysiau i lanhau eu fflydoedd bysiau yn gyflym, bydd hon yn dasg anodd i weithredwyr. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog daflu rhywfaint o oleuni ar ba waith sy'n cael ei wneud i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer cyflawni hyn. Ond heb ymdrech ar y cyd, newid dulliau teithio ac agendâu datgarboneiddio, bydd gennym ffordd hir i fynd, gyda darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mor amrywiol ledled Cymru.

Felly, mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â chymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Nid ydym eisiau iddynt gael eu gadael ar ôl pan fo buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Ar y mater hwn, rwy'n ddiolchgar i'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr am roi eu hamser yn gynharach y mis hwn i drafod yr heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant bysiau. Teithiau bws oedd tair o bob pedair taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn 2019, ond rydym yn dal i fod wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y teithiau bws rhwng 2008 a 2019. Mae llawer o resymau dros hynny, ond mae prydlondeb, amlder, llwybrau, ansawdd a chost i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu, ac mae'r rhain yn waeth mewn ardaloedd gwledig. Mae'n bwysig edrych ar arferion da ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, yn y DU a thramor, megis y gwasanaeth Ring a Link yng nghefn gwlad Iwerddon, yr asiantaeth symudedd yn yr Eidal, ac—rwy'n hoff o hwn—y Bürgerbus yn yr Almaen. Nid yw'n golygu yr hyn rydych yn ei feddwl.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynlluniau teithio lleol fod â dannedd ac adnoddau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb—un rhwydwaith teithio cyhoeddus cydlynol ac ymatebol. A chan gyffwrdd ar drenau mewn ardaloedd gwledig, gallent fod yn opsiwn, ond mae cost ac effeithlonrwydd yn her. Eleni, gwelwyd y cynnydd mwyaf serth ym mhrisiau tocynnau trên yn y DU ers 2013, sy'n digwydd, fel y gwyddom ac fel y clywsom heddiw, wrth i gost biliau cartref hanfodol barhau i godi. Felly, argymhellwn y dylid cynnig teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobl ifanc pan fo teithiau'n dechrau ac yn dod i ben yng Nghymru—hynny yw, y rheini o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru.

Felly, i orffen, i grynhoi, argymhellwn ein bod yn gwneud teithio ar fysiau a threnau yn rhad ac am ddim i rai dan 25 oed yng Nghymru, a gofynnwn i'r Llywodraeth edrych ar sut y gellid cyflawni hyn a pha mor fuan. Edrychaf ymlaen at yr ymateb ac at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.

18:10

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds am y ddadl fer hon? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater sy'n agos at fy nghalon innau hefyd. Cyn imi gael fy ethol i'r Senedd, cyflwynais ddeiseb gyda mwy na 3,500 o lofnodion arni, a oedd yn galw am wasanaethau bysiau i bobl yn hytrach nag er elw. Roedd y rhain i gyd yn bobl a oedd yn poeni'n fawr ac yn pryderu am golli eu gwasanaethau bws cyhoeddus. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, clywais dystiolaeth yn ddiweddar am yr angen i wella marchnata i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus eto, gan roi hyder i'r cyhoedd ddychwelyd at ddefnyddio bysiau a threnau. Ar hyn o bryd, mae 15 y cant o bobl yn disgwyl y byddant yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i raddau llai ar ôl y pandemig, ac nid yw 23 y cant wedi penderfynu. Fel y mae pethau, mae defnyddio cerbydau preifat yn ffordd fforddiadwy a mwy effeithlon o deithio i lawer o bobl, sy'n golygu y bydd angen newidiadau mawr i gyrraedd targedau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r camau allweddol ar gyfer adfer y sector trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys yr angen i dawelu meddyliau teithwyr.

Bydd cerdyn teithio am ddim yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o oedran ifanc, gan roi hyder iddynt ei bod yn ffordd normal a gwell na'r un o deithio wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion. Ledled Ewrop, rydym yn dechrau gweld manteision trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, ac o ddiwedd y mis hwn yn yr Alban, bydd unrhyw un rhwng pump a 21 oed yn gallu gwneud cais am gerdyn Young Scot, a fydd yn caniatáu iddynt deithio ar fws am ddim. Yn Tallinn yn Estonia, mae'r holl drafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i drigolion y ddinas, ac yn ninas Dunkirk yn Ffrainc, arweiniodd trafnidiaeth gyhoeddus am ddim at lai o allyriadau carbon a helpodd i adfywio'r hen borthladd diwydiannol, gyda nifer y teithwyr yn cynyddu 60 y cant yn ystod yr wythnos. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol i unrhyw ymgais ddifrifol i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Senedd i greu system drafnidiaeth ar gyfer heriau ein dyfodol. Diolch.

18:15

Diolch i Jane am ddod â’r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Mae’n ddadl andros o bwysig i bob rhan o Gymru, mewn gwirionedd, ond dwi eisiau canolbwyntio yn y munud sydd gen i ar Gymru wledig ac edrych yn benodol ar Ddwyfor Meirionnydd. Dwi'n cydnabod ac yn diolch i Jane am gyfeirio at Gymru wledig yn ei chyfraniad. Wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros y degawdau diwethaf ydy canoli gwasanaethau i ffwrdd o’n cymunedau ni, gwasanaethau yn mynd i'r dinasoedd a'r trefi—yn achos gogledd Cymru, yn mynd ymhellach i'r arfordir, oddi wrth ein pentrefi bach gwledig ni. Felly, mae pobl yn methu â chael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Meddyliwch os ydych chi'n berson ifanc yn byw yn rhywle fel Trawsfynydd ac eisiau mynd i chwarae pêl-droed a does dim pitsh 3G yn gyfagos; os ydych chi eisiau cael triniaeth, a ddim eisiau i bobl wybod am hynny, ond mi ydych chi'n ddibynnol ar drafnidiaeth breifat, yn ddibynnol ar gyfaill neu deulu i fynd â chi i'r ysbyty neu'r clinig.

Dwi eisiau cyfeirio'n benodol at un enghraifft er mwyn dangos pwysigrwydd hyn. Dwi wedi bod yn siarad efo'r elusen GISDA; dwi wedi cyfeirio at hyn o'r blaen. Mae GISDA yn elusen rhagorol yn y gogledd-orllewin yn helpu pobl ifanc ddifreintiedig. Fe ddaru nhw wneud ymgynghoriad efo defnyddwyr yr elusen, a’r brif her oedd yn wynebu’r bobl ifanc hynny oedd iechyd meddwl, a’r diffyg cyfleusterau a gwasanaethau iechyd meddwl, a'r her o ran y gwasanaethau hynny oedd diffyg gallu i gyrraedd y gwasanaethau. Felly eto, os ydych yn byw yn rhywle fel Harlech neu Meirionnydd neu ym mhen draw Llŷn, rydych chi'n gorfod teithio oriau er mwyn mynd i Fangor neu Fae Colwyn neu ymhellach, hyd yn oed. Felly mae hyn yn dangos pwysigrwydd trafnidiaeth, yn enwedig i'r bobl ifanc yn ein cymunedau ni. Mae angen rhoi’r pwys mwyaf arno fe a rhoi'r buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl yma'n derbyn y gwasanaethau angenrheidiol. Felly, diolch yn fawr iawn, Jane, a gobeithio y byddwn ni'n cael ymateb cadarnhaol gan y Dirprwy Weinidog.

Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan Jane Dodds yn fawr, a hoffwn ddiolch i Jane am gytuno i roi munud o'i hamser i mi. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a gododd heddiw. Y mater yr hoffwn ganolbwyntio arno yw cludiant i'r ysgol. Yn fwyaf arbennig, hoffwn weld cludiant bws ysgol am ddim yn cael ei gyflwyno, efallai i ddechrau, er mwyn annog mwy o blant i deithio ar fws i'r ysgol, gan normaleiddio'r ymddygiad hwnnw, ond hefyd i helpu teuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio costau cludiant ysgol, gyda llawer ohonynt yn teimlo bod yn rhaid iddynt yrru eu plant yn lle hynny. Bob blwyddyn, rwy'n derbyn negeseuon e-bost gan rieni pryderus sy'n ei chael yn anodd fforddio costau bws ysgol. Ar adeg pan wyddom fod teuluoedd yn wynebu argyfwng costau byw enbyd, byddai'n lleddfu'r baich tra'n annog math llawer mwy cynaliadwy o drafnidiaeth i'n plant a'n pobl ifanc, gan helpu i ymgorffori'r ymddygiad hwn. Mae rhieni sy'n danfon eu plant i'r ysgol yn cyfrannu at brysurdeb ein strydoedd bob bore a phrynhawn, felly gadewch i ni fynd i'r afael â hynny drwy gynnig dewis amgen deniadol: system cludiant bws ysgol am ddim sy'n fwy hygyrch i ategu ein llwybrau diogel i'r ysgol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Jane Dodds am y ddadl bwysig hon heddiw.

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau gan Aelodau. Fel erioed, pan fyddwn yn trafod trafnidiaeth gyhoeddus yn y Senedd hon, ceir diddordeb a chefnogaeth drawsbleidiol i fod yn fwy uchelgeisiol, ac ni ellir gwadu'r ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn syniad deniadol. Er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a chyrraedd y targed nad yw'n agored i drafodaeth o sicrhau allyriadau carbon sero net erbyn 2050, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud llai o deithiau car ac yn newid i ddulliau trafnidiaeth a rennir ac i deithio llesol. Y cwestiwn rydym i gyd yn ceisio ei ateb yw: sut y gwawn hynny? Sut y mae newid ymddygiad teithio ac agweddau a sut y mae ailwampio'r peirianwaith a'r seilwaith trafnidiaeth i helpu i sicrhau hynny?

Nid oes amheuaeth y bydd cymhellion a datgymhellion yn chwarae rhan allweddol. Fel y mae Julie James a minnau wedi bod yn ei ddweud ers inni gael ein penodi'n Weinidogion newid hinsawdd fis Mai diwethaf, mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud yn beth hawsaf i'w wneud. Ond mae ein system drafnidiaeth a chynllunio wedi'i llunio mewn ffordd sy'n golygu mai neidio i mewn i'r car yw'r peth hawsaf i'w wneud, a beicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llai hawdd, ac mae'n rhaid i hynny newid. Yn amlwg, mae gan bris rôl i'w chwarae yn y ffordd rydym yn cymell y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, nid dyma'r unig ffactor, serch hynny. Mae gweithredwyr bysiau wedi bod yn dweud wrth bwyllgorau'r Senedd ers blynyddoedd mai'r rhwystr mwyaf i ddenu mwy o deithwyr yw'r effaith y mae tagfeydd yn ei chael ar amseroedd teithio a dibynadwyedd. Mae diffyg integreiddio rhwng bysiau a threnau yn rhwystr arall, yn ogystal â newid arferion. Nid yw 50 y cant o bobl byth yn mynd ar y bws. O ganlyniad, mae gan lawer ohonom farn wyrgam o realiti teithio ar fysiau, pa mor hawdd a chyfleus yw gwneud hynny. Felly, mae llawer y mae angen inni ei newid, ond ble mae dechrau a sut y talwn amdano? Dyna'r cwestiynau sy'n ein hwynebu.

Yn ninas Dunkirk yn Ffrainc, maent yn sicr wedi gweld bod defnydd am ddim o fysiau wedi bod yn llwyddiant. Ym mis Medi 2018, cynyddwyd y dreth fusnes leol i ariannu defnydd am ddim o fysiau ac maent wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu 60 y cant yn ystod yr wythnos a dwbwl ar benwythnosau. Rydym eisoes wedi'i dreialu ein hunain gyda theithio am ddim ar benwythnosau ar ein rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, ac roedd yn llwyddiannus o ran cynyddu defnydd hefyd. Roedd tua chwarter y teithwyr bws yn bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, a phan gawsant eu holi, dywedodd 73 y cant o bobl ifanc wrthym y byddai teithio am ddim yn eu hannog i wneud mwy o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a newid o ddefnyddio'r car. 

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganmol cynghorau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd—cynghorau Llafur—sydd wedi cynnig mentrau tocynnau bws am ddim a thocynnau bws rhatach dros y flwyddyn ddiwethaf. O ganlyniad i hynny, gwelodd pob un ohonynt fwy o bobl yn defnyddio bysiau, ac rydym yn edrych yn ofalus gyda hwy ar yr adroddiadau gwerthuso. Felly, unwaith eto, nid oes amheuaeth nad yw defnydd am ddim o fysiau yn opsiwn deniadol. Ond wrth gwrs, mae cost ynghlwm wrtho a rhaid i bob Llywodraeth flaenoriaethu. Gwn nad yw Jane Dodds yn dadlau dros ddefnydd am ddim o fysiau i bawb, ond ei dargedu yn hytrach at bobl ifanc. Ac mae cynsail i hyn: rydym yn darparu teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym i gyd yn cydnabod bod pobl ifanc yn arbennig wedi cael amser caled yn ystod y pandemig, a bod llawer o wahanol garfannau heb fod yn cael yr un cyfleoedd ag y cafodd fy nghenhedlaeth i neu fy rhieni.

Rydym yn cynnig rhywfaint o help yn barod. Gan ddechrau gyda'r ieuengaf, mae pob plentyn o dan 6 oed yng Nghymru yn cael teithio am ddim, mae pobl ifanc 16 i 21 oed yn cael gostyngiad o draean ar docynnau bws gyda chymorth cynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru, fel y nododd Jane Dodds, ac mae rhai pobl ifanc yn gymwys i deithio am ddim gyda chymorth ein cynllun teithio consesiynol gorfodol. Ar y trên, gall plant dan 11 oed deithio am ddim pan fyddant gydag oedolyn, a gall rhai dan 16 oed elwa o deithio am ddim ar adegau tawel gyda Trafnidiaeth Cymru. I rai rhwng 16 a 17 oed, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cerdyn rheilffordd sy'n cynnig gostyngiad o 50 y cant ar lawer o docynnau. Ac wrth gwrs, yng Nghymru, rydym wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n rhoi cymorth ariannol gwerthfawr i fyfyrwyr tuag at gostau byw, gan gynnwys tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus.

I fod yn glir, rydym eisiau gwneud mwy, ond mae hefyd yn deg nodi ein bod wedi ein cyfyngu. Bydd ein cyllideb ar ddiwedd tymor y Senedd hon bron i £3 biliwn yn llai na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi dros dymor Llywodraeth y DU ers 2010. Ac nid ydym yn cael ein cyfran deg o adnoddau trafnidiaeth y DU. Dylem i gyd uno ar hyn; nid oes angen i hwn fod yn fater pleidiol. Pe bai gennym gyfran o'r gwariant ar raglen HS2, byddem yn cael £5 biliwn ychwanegol y gallem ei ddefnyddio i wella trafnidiaeth yng Nghymru yn sylweddol. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, y gallwn ddod at ein gilydd ar draws y pleidiau i alw ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hyn.

O ganlyniad i hynny, ni allwn wneud popeth yr hoffem ei wneud, ond rydym yn benderfynol o wneud mwy. Yn wir, mae ein hymrwymiadau hinsawdd yn mynnu ein bod yn gwneud mwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys addewidion i adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio consesiynol i bobl hŷn ac i edrych ar sut y gall prisiau teg annog defnydd o drafnidiaeth integredig. Yn ail, rydym wedi ymrwymo i archwilio estyniadau i gynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc. Rwy'n ymwybodol fod dros 100 o drefi a dinasoedd ledled y byd wedi cyflwyno cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob dinesydd, ac rydym yn edrych ar y rhain i weld beth fydd yn gweithio orau yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y gwaith yn yr Alban, a gafodd sylw yn y ddadl, ar gyflwyno teithio am ddim ar fysiau i rai dan 22 oed.

Er bod prisiau tocynnau'n ffactor pwysig, soniais fod y diwydiant bysiau yn rhoi mwy o bwyslais ar brydlondeb a dibynadwyedd. Yn ddiddorol, dangosodd ymchwil y llynedd gan Passenger Focus fod hon yn farn a rennir gan bobl ifanc yn enwedig; maent yn rhoi mwy o bwys na grwpiau oed eraill ar brydlondeb a dibynadwyedd, darpariaeth Wi-Fi am ddim mewn safleoedd bysiau, ynghyd â phrisiau sy'n cynnig gwerth am arian a'r gallu i gael sedd. Felly, Ddirprwy Lywydd, nid yw'r rhain yn ystyriaethau syml; nid oes amheuaeth nad yw pris yn ffactor pwysig wrth geisio cael mwy o bobl ar fysiau, ond nid yw ond yn un o amrywiaeth o gymhellion ac mae'n rhaid inni ystyried yn ofalus sut y defnyddiwn ein hadnoddau cyfyngedig i sicrhau'r newid dulliau teithio rydym i gyd wedi ymrwymo iddo.

Nid wyf mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau i'r Senedd heno, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fod Julie James a minnau'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gweithredu strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru a lansiwyd gennym y llynedd, er mwyn rhoi Cymru ar lwybr newydd. Diolch.

18:25

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Daw ei gyfraniad â ni at ddiwedd y trafodion am heno. Felly, diolch i bawb, a gobeithio y cewch daith ddiogel adref i ble bynnag y byddwch yn mynd adref. Mae'n rhaid i mi deithio adref.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.