Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

13:30
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Anghydraddoldebau Gydol Oes

1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau gydol oes? OQ57234

Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2020-24 yn nodi cynlluniau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hirdymor, wedi'u hategu gan gynlluniau ar wahân sy'n gysylltiedig ag anabledd, rhywedd, hil a'r gymuned LHDTC+. Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hefyd yn rhywbeth sydd wedi'i ymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu a thrwy ein dull o brif ffrydio cydraddoldebau.

Yn ddiweddar, rydym wedi cael rhai cyhoeddiadau rhagorol iawn am y ffordd y gallem fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae plant yn eu hwynebu: mae darparu addysg y blynyddoedd cynnar i blant dwy oed ymlaen a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd yn gyhoeddiadau hynod o bwysig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar hynny.

Hoffwn ganolbwyntio ar y mis cyntaf o fywyd babi ac yn benodol ar raglen y 1,000 diwrnod cyntaf. Felly, tybed pa ddadansoddiad y gallech fod wedi'i wneud o effeithiolrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf, o gofio ei fod yn gyfnod mor allweddol wrth sefydlu anghydraddoldebau iechyd gydol oes yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a chanlyniadau dysgu. Yn fwyaf arbennig, rwy'n awyddus iawn i ddeall y canlyniad gorau posibl i famau beichiog a'u babi newydd, y cerrig milltir datblygiadol i blant dwy oed a chyfyngu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y 1,000 diwrnod cyntaf hanfodol hynny.

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone, a diolch hefyd am ddechrau drwy gydnabod y gwir ragolygon o'n blaenau o ran mynd i'r afael â'r materion hyn drwy ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim ac ehangu gofal plant, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn cyflawni mewn perthynas â'ch cwestiwn hollbwysig. Oherwydd, yn amlwg, mae'r blynyddoedd cynnar, yn enwedig y 1,000 diwrnod cyntaf, fel y cydnabu Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r gwaith y maent wedi'i wneud, gyda rhaglen gydweithredol y 1,000 diwrnod cyntaf, sydd, wrth gwrs, yn galw am weithredu gan bob partner ym mhob rhan o'r Llywodraeth—.

Nawr, yr hyn sy'n hanfodol i hynny yw'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pob beichiogrwydd i'r fam a'r plentyn, a chyflawni eu canlyniadau datblygiadol, fel y dywedwch, pan fyddant yn ddwy oed. Ac wrth gwrs, bydd hyn yn cael ei wella drwy ehangu gofal plant i'n plant dwy oed, ond hefyd, fel y dywedwch, bydd llai o blant yn agored i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf. Gwyddom fod gan Dechrau'n Deg ran hanfodol i'w chwarae mewn perthynas â'r ymyrraeth honno. Mae'n rhaid iddi ymwneud â chydweithio â'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, datblygu a galluogi'r plant hynny, ac yn wir, gydag ymgysylltiad rhieni, y cyfle i ddatblygu sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol yn ystod plentyndod cynnar. Oherwydd bydd hynny'n cael effaith gydol oes, fel y dywedwch, o ran cyrhaeddiad addysgol, cyflogaeth ac incwm, pan fyddant yn oedolion.

Weinidog, ym mhapur ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf, 'Gweithredu'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol—Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau', mae pobl sy'n cael profiad o amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ac o ganlyniad, mae hynny'n arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth a chyfraddau marwolaeth uwch.

Un o'r prif feysydd sydd angen gwaith yn fy marn i yw'r pocedi o amddifadedd difrifol mewn ardaloedd gwledig—dyma'r rhai sy'n cael eu hanwybyddu amlaf, ac er eu bod wedi'u hamgylchynu gan gyfoeth, maent yn brin o gyfleusterau. Felly, mae'r plant hynny'n llai tebygol o ymgymryd â chwaraeon, gan nad oes ganddynt fawr ddim mynediad at gyfleusterau os o gwbl, ac un o'r prif rwystrau yw cost teithio i gymryd rhan yn y gweithgareddau chwaraeon hyn, fel y soniais wrth Dawn Bowden y bore yma, ac roedd hi'n cytuno ac yn cydnabod hyn hefyd. Weinidog, sut rydych yn gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog Chwaraeon, Dawn Bowden, a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i sicrhau mynediad cyfartal go iawn at gyfleusterau a gweithgareddau chwaraeon ym mhob rhan o Gymru? Mae cryn dipyn o arian wedi'i fuddsoddi mewn ardaloedd trefol difreintiedig ac rydym yn croesawu hynny, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn bryd nodi a buddsoddi yn y pocedi o amddifadedd difrifol mewn rhannau gwledig o Gymru. Diolch.

Diolch, Laura Anne Jones. I ddychwelyd at y dystiolaeth sydd gennym—yr adolygiad o dystiolaeth ar gyfer y 1,000 diwrnod cyntaf—mae'r adolygiad o dystiolaeth yn dangos bod statws economaidd-gymdeithasol unigolion yn cael mwy o effaith ar ganlyniadau unigolion na mesurau ar lefel cymdogaeth. Felly, mae'n bwysig ein bod yn ystyried pob agwedd ar y mater, ond yn amlwg, fe ganolbwyntioch chi ar faterion ac anghenion a oedd yn ymwneud yn benodol â mynediad at chwaraeon a pholisi chwaraeon mewn ardaloedd gwledig. Nawr, mae hyn yn rhywbeth lle mae trechu tlodi'n ymrwymiad trawslywodraethol drwy ein rhaglen lywodraethu. Gwnaed trechu tlodi'n flaenoriaeth yn y broses o gynllunio'r gyllideb, ac mae'n rhaid ei integreiddio i'r gwaith o ddatblygu a chyflawni ein rhaglen. Byddaf yn gweithio'n agos gyda phob Gweinidog, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am bolisi chwaraeon, i sicrhau y gallwn ehangu'r cyfleoedd hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn ystyried ac yn ymgysylltu â phobl sydd wedi cael profiad o dlodi, er mwyn deall y problemau sy'n eu hwynebu yn well. Un o'r pethau da am fy nghronfa cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn a gyhoeddais yr wythnos diwethaf yw ein bod yn mynd i roi rhywfaint o arian i'r diwrnod ysgol hefyd, gan y gwyddom fod llawer o blant a phobl ifanc dan anfantais am na allant fanteisio ar rai o'r cyfleoedd y gall yr ysgol a'r diwrnod ysgol eu cynnig.

13:35

Ie, mae'n ddrwg gennyf—dyna pam y cefais syndod yno, Lywydd. [Chwerthin.]

Gwnaeth y syndod ar eich wyneb imi ailfeddwl fy mhenderfyniad, ac rwyf newydd sylweddoli fy mod wedi anghofio gofyn am y cwestiwn cyntaf, sef cwestiwn 2, Russell George. [Chwerthin.]

Sut yn y byd y gallech ddrysu rhyngof fi a Rhys ab Owen? [Chwerthin.] Diolch, Lywydd.

Diogelwch Cymunedol

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol? OQ57222

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Drwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â materion y stryd,mae'n debyg, o ran y briffordd gyhoeddus. Yn aml, mae fy mewnflwch yn llawn o bryderon gan etholwyr ynglŷn â cherbydau'n gyrru'n rhy gyflym ar rai o'n priffyrdd a'n cefnffyrdd. Mae'n parhau i fod yn broblem gyson, ac wedi bod felly drwy gydol fy holl amser yn Aelod o'r Senedd. Yn amlwg, mae rhieni'n poeni am blant ifanc yn enwedig, ar y ffyrdd hynny, am ddiogelwch eu plant, ac mewn cymunedau penodol hefyd. Yn aml, yr hyn y mae cymunedau'n ei wneud yw cyflwyno'r atebion eu hunain, ac yn aml, maent yn gofyn am arwyddion sy'n fflachio i nodi cyflymder cerbydau. Nawr, credaf fod y rhain yn arbennig o effeithiol hefyd, gan eu bod yn ennyn rhywbeth ynoch wrth ichi agosáu at yr arwyddion hyn, yr arwydd sy'n dweud wrthych pa mor gyflym rydych yn teithio. Mae'n peri ichi ofyn, 'A wyf fi'n gyrru ar y cyflymder priodol?' Nodaf fod amrywio rhwng awdurdodau lleol ledled Cymru o ran sut y maent yn gosod rhai o'r arwyddion hyn mewn ardaloedd awdurdodau lleol ar ffyrdd y mae'r gyfarwyddiaeth briffyrdd yn gyfrifol amdanynt. Ond gwelir amrywio ar gefnffyrdd hefyd. Credaf fod canran uwch o'r arwyddion hyn mewn rhai rhannau o Gymru, yn ôl pob golwg, nag mewn rhannau eraill o Gymru. Ond beth yw eich cyngor i gymuned—ac i'r Aelodau yma—sy'n dymuno lobïo am arwydd ar gyfer eu cymuned sy'n fflachio i nodi cyflymder ar ddarn penodol o ffordd? Rwy'n derbyn bod hyn yn gyfrifoldeb i nifer o'ch cyd-Aelodau—nid eich cyfrifoldeb chi yn unig ydyw, Weinidog—ond pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau ar hyn?

Diolch am eich cwestiwn, Russell George. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn ymwneud ag ef, rwy'n siŵr, mewn ymgyrchoedd diogelwch ar ffyrdd lleol—yn sicr, rwy'n ymwneud â hyn yn fy etholaeth. Mae a wnelo i raddau helaeth nid yn unig â'r awdurdod lleol,gyda'u pwerau a'u cyfrifoldebau diogelwch ar y ffyrdd, ond yr heddlu hefyd, o ran gorfodi ac ymgysylltu, â'r mentrau GanBwyll y soniwch amdanynt, lle mae trigolion a chymunedau'n gweithio i geisio cymryd y cam cyntaf, gan weithio ar y cyd â'r heddlu ac awdurdodau lleol. Ond hefyd, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, nid yn unig gyda'r grant diogelwch ar y ffyrdd blynyddol i awdurdodau lleol, sy'n un o gyfrifoldebau fy nghyd-Aelod, Lee Waters, fel y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried ar bob ochr i'r Senedd—cefnogaeth i'r trefniadau diofyn 20 mya a fydd gennym ar gyfer ardaloedd preswyl yn 2023.

Ond hoffwn ddweud mewn perthynas â fy nghyfrifoldebau i fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu'n chwarae rhan bwysig iawn wrth gysylltu â chymunedau, ac mae Llywodraeth Cymru nid yn unig wedi ariannu ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru, ond rydym yn cynyddu eu nifer, ac roedd hynny'n rhan o ymrwymiad ein maniffesto. Rydym yn darparu 100 o swyddogion ychwanegol, gan mai swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yw llygaid a chlustiau eu cymunedau—credaf fod pob un ohonom yn gwybod hynny—gyda'u dull ataliol o ddatrys problemau er mwyn mynd i'r afael â phroblemau yn eu hardaloedd lleol, a gwn eu bod yn arwain llawer o'r ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd hyn.

13:40

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n falch o weld y glasbrintiau o'r cynlluniau gweithredu ar gyfer troseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid. Roedd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru'n feirniadol o'r ffaith nad oedd amserlen wedi'i chytuno. Roeddwn hefyd yn falch o gael eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach y mis hwn a grybwyllai wasanaeth Ymweld â Mam—plant yn ymweld â'u mamau yn y carchar; mae mor bwysig cadw'r cyswllt hwnnw. Fodd bynnag, rydym eisiau byw mewn gwlad lle nad oes unrhyw fam yn cael ei hanfon i'r carchar. Mae'r ffaith bod 86 y cant o'r menywod sydd yn y carchar yng Nghymru yno am droseddau di-drais yn sgandal genedlaethol, gyda llawer ohonynt yn ddioddefwyr eu hunain. Yr hyn sydd ar goll yn y glasbrintiau o hyd, Weinidog, yw'r atebolrwydd clir a'r newid gwirioneddol sydd ei angen yn y system gyfiawnder yng Nghymru. A ydych yn cytuno â mi mai'r unig ffordd effeithiol o wneud ein cymunedau'n fwy diogel yw alinio'r system gyfiawnder yn llawn ag iechyd, addysg, a thai? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Cwestiwn pwysig iawn. Yn wir, y bore yma, bu'r Cwnsler Cyffredinol a minnau'n trafod pwysigrwydd glasbrint y strategaeth ar gyfer troseddwyr benywaidd. Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid imi ddweud ein bod wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid yw wedi'i ddatganoli, ond rydym yn gyfrifol, fel y dywedwch, am gynifer o'r gwasanaethau—atal ac yna cefnogi—ac mae'n rhaid bwrw ymlaen yn y dyfodol drwy alinio, alinio'r gwasanaethau hynny, a'r cyfrifoldebau, byddwn yn dweud. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn mynd i dreialu canolfan breswyl i fenywod yma fel opsiwn gwahanol i garchar. Rydym wedi dweud yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru o blaid carchardai menywod. Nid ydym eisiau carchar menywod yng Nghymru, ond rydym am dreialu canolfan breswyl i fenywod.

Ac rwyf wedi ymweld â menywod yn y carchar y tu allan i Gymru, gan mai dyna ble mae'n rhaid iddynt fynd, ac mae'r rhain yn fenywod sydd yn y carchar am ddedfrydau byr o ganlyniad i dlodi, o ganlyniad i drawma yn eu bywydau. Ac o'm rhan i, credaf fod adroddiad Jean Corston flynyddoedd yn ôl, efallai y byddwch yn cofio, wedi nodi'n glir iawn na ddylai menywod fod yn y carchar, yn enwedig oherwydd eu cyfrifoldeb yn gofalu am eu plant a'u teuluoedd. Felly, mae gennyf obeithion mawr mewn perthynas â'r strategaeth ar gyfer troseddwyr benywaidd, nid yn unig y ganolfan breswyl i fenywod, ond popeth y gallwn ei wneud drwy'r holl asiantaethau y mae angen iddynt ymwneud â hyn.

A gaf fi groesawu sylwadau agoriadol y Gweinidog mewn ymateb i gwestiwn Russell ar drais yn erbyn menywod, ac yn enwedig, a hithau'n Wythnos Rhuban Gwyn, yr angen i ddynion hefyd godi llais yn erbyn trais yn erbyn menywod—rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd holl Aelodau'r Senedd yma yn awyddus i'w wneud—a chymeradwyo'r gwaith a wnaed gan ymgyrchwyr ar y tu allan, ond hefyd, o fewn y Senedd, gan ein cyd-Aelod, Joyce Watson, ar sail drawsbleidiol?

Ond Weinidog, a gaf fi groesawu'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu? Mae Llywodraeth Cymru bellach yn darparu dros £22 miliwn, gyda'r £3.7 miliwn cyntaf wedi'i ddyrannu wrth symud ymlaen yn nhymor y Senedd hon. Ond maent wedi'i chael hi'n anodd ymgysylltu â grwpiau, oherwydd COVID wrth gwrs. Nid ydynt wedi gallu eu cyrraedd, ac fel y sonioch chi, bod yn llygaid a chlustiau yw'r hyn y maent yn dda am ei wneud, drwy fod allan yn y gymuned. Felly, a wnewch chi gysylltu â'n prif gwnstabliaid heddlu, a chydag Alun Michael yn ne Cymru, ac eraill, er mwyn sicrhau eu bod yn ôl yn y gymuned, yn gwneud yr hyn y maent yn ei wneud yn dda iawn, sef ymgysylltu â'r gymuned ac atal pethau rhag mynd allan o reolaeth ar y cam cynnar iawn hwnnw?

Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies. A gaf fi ddweud bod yr wylnos a gynhaliwyd gennym nos Lun, a drefnwyd gan Joyce Watson, wrth gwrs, ac mae hi wedi bod yn ei threfnu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, yn bwysig dros ben? Sefydliad y Merched oedd yn arwain, fel y gwnaethant yn y grŵp trawsbleidiol—y grŵp rhanddeiliaid—yn gynharach yn y dydd. Hoffwn achub ar y cyfle i ddweud bod nifer o'r heddlu hefyd yn bresennol, a chadetiaid Heddlu Gwent, asiantaethau arbenigol, a chafwyd cyfraniad grymus iawn gan rywun a oedd wedi goroesi trais gwrywaidd parhaus am flynyddoedd lawer, gan effeithio arni hi a'i phlant.

A gaf fi ddiolch hefyd i'r Aelodau trawsbleidiol a siaradodd? Credaf ei bod yn werth rhoi eiliad i ddiolch iddynt. Diolch i James Evans o Frycheiniog a Sir Faesyfed, a siaradodd yn dda iawn, diolch i Rhun ap Iorwerth, sydd bob amser yn siarad yn y gwylnosau hyn, diolch i Jack Sargeant hefyd, a diolch i Jane Dodds. Mae'n wych fod llawer ohonoch yma heddiw i ddweud pa mor bwerus y gallwn fod pan ddown at ein gilydd. Dywedodd pob un ohonom fod hyn yn rhywbeth y credaf fod y Senedd gyfan wedi ymrwymo iddo, gan nad yw Cymru am gadw'n dawel mewn perthynas â thrais a cham-drin. Hefyd, byddwn yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo recriwtio llysgenhadon gwrywaidd, dynion a bechgyn, gan fod ganddynt rôl mor hanfodol i'w chwarae yn datgan yn glir fod trais yn erbyn menywod yn annerbyniol, a dywedodd pob un ohonoch hynny nos Lun.

Ond rwy'n derbyn y pwyntiau cadarnhaol hynny, Huw Irranca-Davies, am swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cynyddu'r cyllid i'r maes hwn. Maent wedi chwarae rôl mor bwysig yn ystod y pandemig a hwy yw wyneb plismona ar ein strydoedd. Rwy'n cadeirio cyfarfod y bwrdd plismona a phartneriaeth ar 2 Rhagfyr. A dweud y gwir, yn y cyfarfod hwnnw, byddwn yn trafod camddefnyddio sylweddau a chasineb at fenywod, sy'n allweddol. Mae'r rhain yn bwyntiau hanfodol y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu a'r prif swyddogion, y prif gwnstabliaid, yn awyddus i'w trafod. Maent yn rhoi'r mater ar yr agenda. Byddaf yn siarad am rôl hanfodol swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Joel James. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gwyddoch, Weinidog, drwy gydol y pandemig presennol, mae sgamwyr creulon wedi bod yn targedu pobl agored i niwed drwy anfon negeseuon testun yn honni eu bod yn cynrychioli’r Post Brenhinol. Yn y sgamiau hyn, anfonwyd negeseuon testun ffug, a ymddangosai fel pe baent yn dod oddi wrth y Post Brenhinol, yn rhoi gwybod i'r bobl y maent yn ceisio'u twyllo fod parsel neu lythyr yn aros i gael ei ddosbarthu iddynt, ond bod angen talu ffi weinyddol fach cyn y gellir gwneud hyn. Yn y pen draw, mae'r negeseuon hyn, a elwir yn negeseuon SMS-rwydo, yn casglu ac yn dwyn manylion personol y bobl sy'n cael eu twyllo, ac mewn rhai achosion, mae pobl wedi colli miloedd o bunnoedd o'u cyfrifon banc. Dangosodd adroddiad gan Which? ym mis Mehefin eleni fod 61 y cant o’r bobl a holwyd wedi cael y negeseuon SMS-rwydo hyn a oedd naill ai’n honni eu bod yn dod oddi wrth y Post Brenhinol neu gwmni dosbarthu arall. Y sgamiau yr adroddir amdanynt amlaf i wasanaeth rhannu sgamiau Which? yw negeseuon testun ffug sy'n honni eu bod yn dod oddi wrth y Post Brenhinol. Mae'n bryder fod rhai dioddefwyr hefyd yn derbyn galwadau ffôn dilynol gan y sgamwyr hyn, sydd weithiau o natur ymosodol, i geisio eu darbwyllo i anfon mwy fyth o arian. Yn ffodus, mae cyfraddau llwyddiant y sgamiau hyn yn gymharol isel, gyda phedwar o bob pump o bobl a holwyd yn sylweddoli bod y negeseuon hyn yn rhai ffug. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n cael eu dal, gall yr effaith ariannol ac emosiynol fod yn ddinistriol. A all y Gweinidog nodi pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â'r negeseuon ffug hyn, ac a ydynt wedi cytuno ar flaengynllun gweithredu ai peidio? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n sicr yn sôn am ffenomen annifyr iawn. Bydd pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd efallai wedi cysylltu â ni yn ein hetholaethau i godi pryderon nid yn unig am sgamiau o'r natur hon, ond sgamiau eraill, a dyna pam fod pob un ohonom yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i gefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o sgamiau. Rwyf i fod i gyfarfod â'r Post Brenhinol yn yr ychydig wythnosau nesaf, a byddaf yn sicrhau bod hynny ar yr agenda hefyd yn y cyfarfod hwnnw. Ac rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar hynny.FootnoteLink

Diolch, Ddirprwy Weinidog, a diolch am achub y blaen gyda hynny a chyfarfod â'r Post Brenhinol ynglŷn â'r mater.

Fel y gwyddoch, mae ymchwiliad diweddar gan bapur newydd cenedlaethol wedi dangos bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm y Post Brenhinol wedi bod yn cofnodi hawliadau goramser ffug, gan gytuno'n rheolaidd i shifftiau goramser pell a phroffidiol o hir ar benwythnosau a gwyliau banc. Fodd bynnag, honnir bod y gyrwyr hyn wedyn yn ymgymryd â dyletswyddau ysgafnach a llawer byrrach, sy'n cynnwys tasgau gweinyddol yn y swyddfa yn unig, gan adael i staff asiantaeth gyflawni siwrneiau hirach. Yn ôl y papur newydd, mae’n ymddangos bod yr arfer hwn wedi bod yn digwydd ers peth amser, ac mae rhai o weithwyr y Post Brenhinol wedi bod yn ffugio eu taflenni amser a’u horiau gwaith ers ymhell dros ddau ddegawd, gan ganiatáu i rai ohonynt ennill dwywaith eu cyflog blynyddol. Mae gweithwyr yn sawl un o swyddfeydd y Post Brenhinol wedi tynnu sylw at ba mor gyffredin yw'r arfer hwn, a'r ffaith hefyd fod goramser yn aml yn cael ei dalu cyn iddo gychwyn er mwyn osgoi honiadau o dwyll. Fel y Dirprwy Weinidog sydd â'r prif gyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru, pa gamau rydych wedi'u cymryd i ymchwilio i'r honiadau hyn a mynd i'r afael â hwy?

13:50

Lywydd, rwyf bob amser yn cymryd yr hyn rydym yn ei ddarllen yn y papurau newydd gyda phinsiad mawr o halen, ac nid fy lle i yw gwneud sylwadau ar arfer honedig o'r fath. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ei godi mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'r cyflogwyr a chyda'r undebau llafur, ond ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau ar hynny heb wybod y manylion.

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich sylwadau, a byddwn yn eich annog i ymchwilio ymhellach i hyn a chael mwy o fanylion felly, oherwydd os caiff yr honiadau eu profi, credaf ei fod yn fater difrifol y mae angen ymchwilio iddo.

Fel rhywun sydd, heb os, yn darllen The Socialist, corn siarad y Blaid Sosialaidd, a elwid gynt yn Militant, byddech wedi bod â diddordeb mewn erthygl am weithiwr post yn Llanelli a ddiswyddwyd am chwythu'r chwiban wrth dîm ymchwiliadau mewnol y Post Brenhinol ynglŷn â sgam oriau gwaith ffug a oedd yn debyg iawn i'r un a ddisgrifiwyd yn fy nghwestiwn blaenorol. Yn ôl pob tebyg, yn ôl yr unigolyn hwn, mae uwch reolwyr wedi bod yn talu goramser nad ydynt wedi'i weithio i staff dosbarthu er mwyn ffugio eu rhagolygon cyllidebol ac i ddadlau dros gyllidebau adrannol uwch dros fisoedd yr haf.

Yn ôl adroddiadau, diben y twyll oedd caniatáu i depos gronni arian wrth gefn a fyddai wedyn yn cael ei wario yn ystod y tymhorau brig, gyda rheolwyr yn dadlau ei fod yn caniatáu iddynt reoli unrhyw ymchwydd yn niferoedd parseli yn well. Honnir bod y chwythwr chwiban wedi cael ei orchymyn gan eu rheolwyr i dalu staff yn dwyllodrus am oramser nad oeddent wedi'i weithio, a diswyddwyd y chwythwr chwiban wedi hynny ar ôl i archwiliad mewnol ddarganfod eu bod wedi rhoi gwybod i'r tîm ymchwiliadau mewnol am y gweithgaredd.

Diolch byth, ar ôl streic a drefnwyd gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, mae'r unigolyn dan sylw bellach wedi cael ei swydd yn ôl. Ond Weinidog, mae hyn yn ein cymell i ofyn sawl cwestiwn hanfodol a sylfaenol. Yn gyntaf, o gofio bod polisïau chwythu'r chwiban yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu pobl, pam y cafodd enw'r unigolyn dan sylw ei ddatgelu fel y gellid ei ddiswyddo? Yn ail, o ystyried bod yr arfer hwn i'w weld yn eithaf cyffredin, pam nad aeth Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i'r afael â'r mater hyd nes ar ôl i'r unigolyn gael ei ddiswyddo? Mae'n sicr y byddent wedi gwybod am yr arferion hyn ac wedi mynd ati'n weithredol i'w gwrthwynebu. Ac yn drydydd ac yn olaf, pa sicrwydd sydd gennym nad yw'r gweithgarwch twyllodrus hwn yn digwydd mwyach yn nepos y Post Brenhinol ledled Cymru?

Lywydd, mae angen imi gyfeirio'r Aelod at fy ateb cynharach—nad yw'n briodol imi wneud sylwadau ar faterion unigol heb ystyried a bod yn gwbl ymwybodol o'r manylion ynglŷn â hynny. Ond er mai fi sy'n bennaf gyfrifol yn Llywodraeth Cymru am faterion sy'n ymwneud â'r Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol, hoffwn fachu ar y cyfle, efallai, i atgoffa’r Aelod nad ydynt wedi’u datganoli.

Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, yfory fydd Diwrnod Rhuban Gwyn eleni, y Diwrnod Rhyngwladol ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod a dyddiad lansio 16 diwrnod o weithredu gyda'r bwriad o atal a diddymu trais yn erbyn menywod a merched ledled y byd, drwy alw am weithredu byd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth, hyrwyddo eiriolaeth a chreu cyfleoedd i drafod heriau ac atebion.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2018, ymrwymodd y Llywodraeth hon i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod. Ers hynny, amheuir bod o leiaf 23 o fenywod wedi cael eu lladd yn sgil trais gan ddynion. Mae hyn yn drasiedi, ac ni all pethau newid hyd nes y caiff gwasanaethau i atal trais a chefnogi goroeswyr adnoddau llawn i ddiwallu'r angen cynyddol. Rydym wedi gweld y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos cynnydd ledled Cymru a Lloegr yn nifer y troseddau sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymorth i Fenywod Cymru adroddiad 'Cyflwr y Sector', ac mae'n datgelu, o gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, y gwelwyd cynnydd o 22 y cant yn nifer y goroeswyr na ellid eu cynnig lloches iddynt oherwydd diffyg capasiti neu adnoddau. Golyga hyn fod o leiaf 692 o oroeswyr heb gael y cymorth roeddent ei angen. Mae'r adroddiad yn nodi'r camau angenrheidiol ar gyfer datblygu model mwy cynaliadwy ar gyfer y sector, gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyllid cyfredol yn ddigon i dalu am y dyletswyddau presennol yn unig ac nad oes unrhyw arian dros ben ar gyfer argyfyngau a'r cynnydd disgwyliedig mewn capasiti fel yr hyn a welsom drwy gydol y pandemig, neu'r angen i fod yn hyblyg wrth gynnig cymorth, neu ffocws gwell ar atal ac ymyrraeth gynnar.

Gyda'r strategaeth a'r cynllun gweithredu newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu datblygu, a chyda golwg gliriach yn awr ar sefyllfa gyllidebol Cymru dros y tair blynedd nesaf ar ôl adolygiad o wariant y DU, nawr yw'r cyfle perffaith i gyflawni'r ymrwymiadau hyn. A all y Gweinidog gadarnhau pa gamau sydd ar y gweill mewn perthynas â diogelwch a chynaliadwyedd i oroeswyr yng Nghymru? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hwn yn gwestiwn dilynol pwysig iawn wedi'r cwestiynau a'r drafodaeth gynharach y prynhawn yma yng nghwestiynau llafar y Senedd i mi. Mae'n amlwg yn gywilyddus ein bod yn dal i fod yn y sefyllfa hon, lle rydym yn gwybod bod trais yn erbyn menywod ar gynnydd, a'r ffaith bod gennym gynnydd syfrdanol—cawsom yr ystadegyn gennych—o 22 y cant.

Y goroeswyr yw'r rhai rydym yn edrych arnynt yn awr, yn enwedig i helpu i'n llywio ar y ffordd ymlaen, gyda'n hasiantaethau arbenigol. Felly, yr hyn sy'n allweddol i Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a'r sefydliadau a oedd gyda ni nos Lun yn yr wylnos yw sut rydym yn datblygu pum mlynedd nesaf ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym yn ei ddatblygu gyda'r heddlu wrth gwrs, y sector arbenigol a goroeswyr, a byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor hwn ar yr ymgynghoriad rydym yn ei gynnal ar y strategaeth ddrafft ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Ond mae'r ffordd rydym yn cefnogi'r gwasanaethau hynny i'w galluogi i ymdopi â'r her a'r anghenion, fel y dywedwch, yn hanfodol bwysig. Felly, y gyllideb refeniw ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eleni yw £6.825 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys cyllid afreolaidd o £1.575 miliwn, ac mae'n gynnydd o £1.575 miliwn ar y flwyddyn flaenorol. Mae hynny wedi helpu sefydliadau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ateb y galw cynyddol a nodwyd gennych, wrth gwrs, o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ond rydym hefyd wedi sicrhau cynnydd o 4 y cant yn y dyraniad i sefydliadau'r trydydd sector.

Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn yw ein bod wedi edrych ar gynaliadwyedd cyllid ac wedi dod â'r holl wasanaethau arbenigol ynghyd i'n helpu i symud ymlaen yn y ffordd rydych chi, yn gwbl briodol, wedi galw arnom i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn rhywbeth lle mae pob sefydliad yn gweithio gyda'u hawdurdodau lleol yn lleol ac yn rhanbarthol, ond hefyd gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n gyfrifol am gryn dipyn o arian arloesi. Ac mae'n cynnwys cyllid cyfalaf yn ogystal â chyllid refeniw i gryfhau'r seilwaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

13:55

Diolch, Weinidog. Dylai'r ddyletswydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd ddarparu addysg o ansawdd uchel yn unol â dull addysg gyfan o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Felly, all y Gweinidog amlinellu sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cynorthwyo gyda'r nod o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben? Diolch.

Mae hyn hefyd yn hanfodol bwysig, gan gydnabod bod mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfrifoldeb trawslywodraethol. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ar ddiogelu pobl ifanc, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle gwych i fynd i'r afael â hyn. Credaf ei fod yn rhywbeth lle mae'n rhaid inni gydnabod hefyd ein bod wedi cael gwybodaeth syfrdanol yn ddiweddar oddi ar wefan Everyone's Invited am aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, ac mae'n rhywbeth y mae'r Gweinidog addysg a minnau'n cydweithio arno, gan gydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef drwy'r elfen addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghwricwlwm newydd Cymru. Mae hynny'n mynd i fod yn statudol. Mae'n hanfodol nad yw'n rhan ddewisol o'r cwricwlwm, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd iach o'r blynyddoedd cynnar ymlaen. Ond hefyd, gwnaed gwaith parhaus pwysig iawn eisoes gyda phrosiect Sbectrwm mewn ysgolion, sy'n cael y math hwnnw o effaith. Rwyf wedi siarad â phrif gwnstabliaid yr heddlu yn ogystal â chomisiynwyr heddlu a throseddu ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio eu rhaglen ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd.

Diolch. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn cofio'r dystiolaeth bwerus a gawsom, a'r pwyntiau pwysig a wnaed yma yn y Siambr yn ddiweddar, yn y ddadl a gynhaliwyd ar atal sbeicio. Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol o blaid y cynnig, yn benodol mewn perthynas â chefnogi mentrau sy'n mynd ati'n weithredol i herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i aflonyddu ac ymosod rhywiol ddigwydd, pa gynnydd a wnaed, a beth yw'r camau nesaf i'r Llywodraeth, ar gynhyrchu strategaeth gynhwysfawr ar atal ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol yn economi'r nos yng Nghymru, a cheisio eglurder gan Lywodraeth y DU ar eu cynlluniau i ddosbarthu casineb at fenywod fel trosedd gasineb? Diolch.

Diolch am y cwestiwn hwnnw hefyd, gan inni gael dadl bwerus iawn yma ynglŷn â sbeicio, a chredaf mai'r hyn a ddywedais yn y ddadl honno yw bod rôl ddifrifol iawn gan yr heddlu mewn ymateb i sbeicio—mae ganddynt rôl allweddol—a'r holl heddluoedd yng Nghymru, yn ogystal â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, a'u bod yn cofnodi digwyddiadau a darparu hyfforddiant ychwanegol ac yn sicrhau ymateb cadarn er mwyn dwyn cyflawnwyr i gyfrif. Credaf fod cyfrifoldebau gan lywodraeth leol ac iechyd hefyd er mwyn sicrhau ymateb cydgysylltiedig a chydlynol. Nawr, dyma rydym yn gweithio arno gyda'r strategaeth newydd hon ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar drais yn y cartref, ond rydym bellach yn ymestyn hynny i fannau cyhoeddus, ac yn cynnwys economi'r nos.

Rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith, a chredaf fod y Prif Weinidog wedi dweud hyn ddoe, fod mynd i'r afael â chasineb at fenywod yn bwnc a fydd yn cael ei drafod yn uniongyrchol yng nghyfarfod nesaf y bwrdd partneriaeth plismona a bod rhai arferion da mewn mannau eraill y gallwn ddysgu ohonynt o ran sut y mae heddluoedd yn mynd i’r afael â hyn, ond hefyd adolygiad Comisiwn y Gyfraith a chydnabod casineb at fenywod fel trosedd. Yr hyn y gofynnwn amdano yw ein bod yn cael canlyniad yr adolygiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae'n rhaid inni gydnabod bod hon yn drosedd gasineb, a chasineb at fenywod, ac yna rydym am i Lywodraeth y DU weithredu gyda deddfwriaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob un o'n cyd-Aelodau'n cefnogi honno pan ddaw.

14:00
Y Cyflog Byw Go Iawn

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r cyflog byw go iawn ledled Cymru? OQ57240

Rydym yn defnyddio ein holl ddylanwad i wella lefelau mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, gan gynnwys arwain drwy esiampl ein hunain fel cyflogwr cyflog byw go iawn, datblygu ein hymrwymiad i'r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol, ac annog cyflogwyr i fynd ati i archwilio manteision y cyflog byw go iawn.

Diolch am hynny, Weinidog, ac roeddwn yn falch o weld cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am y cyflog byw go iawn newydd yng Nghymru—y cyhoeddiad hwnnw ar ugeinfed pen-blwydd sefydlu'r mudiad cyflog byw. Yn ôl y Living Wage Foundation, mae 360 o gyflogwyr cyflog byw achrededig yng Nghymru bellach. Felly, mae'n dda gweld cynnydd, ond wrth gwrs mae'r hyn sy'n ffurfio cyflogaeth deg yn ehangach na'r cyflog ei hun. Felly, rwy'n bryderus iawn o glywed bod etholwyr i mi wedi profi agweddau eraill ar driniaeth annheg a gwael yn y gwaith, megis tactegau diswyddo ac ailgyflogi, gan gynnwys pobl sydd wedi gweithio i'r cyflogwr dan sylw ers cryn dipyn o amser, ers nifer o flynyddoedd, wedi gweithio'n ffyddlon i'r cyflogwr hwnnw, ac mae'n ymddangos nad oes llawer y gallant ei wneud pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'r arfer didostur hwn. Felly, tybed, Weinidog, a allech chi amlinellu pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, wrth hyrwyddo'r cyflog byw go iawn, i annog a hyrwyddo agweddau eraill ar waith teg yng Nghymru hefyd?

Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn dilynol, ac rydych yn llygad eich lle fod y cyflog byw yn bwysig ac yn allweddol, ond dylid bob amser ei ystyried yn llinell sylfaen yn hytrach na meincnod, ac mae'r pethau eraill a restrwyd gennych ynghylch telerau ac amodau, diogelwch cyflogaeth a chamu ymlaen yn eithriadol o bwysig hefyd. Mae defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo—rydym wedi clywed am gyflogwyr yn diswyddo ac yn ailgyflogi i osgoi telerau ac amodau y cytunwyd arnynt yn ddidwyll—yn enghraifft o gamddefnyddio pŵer cyflogwr, ac rydym yn glir nad yw arferion diswyddo ac ailgyflogi yn gyson â'n gwerthoedd yma yn Llywodraeth Cymru o waith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Felly, ochr yn ochr â'r gwaith rydym yn ei wneud i chwalu rhai o'r rhwystrau y gallai rhai cyflogwyr eu hwynebu o ran symud tuag at fabwysiadu cyflog byw ac achredu cyflog byw, mae hefyd yn ymwneud â sut y gallwn ddefnyddio'r holl fecanweithiau hynny yn ein dull partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg o wella llesiant pobl mewn gwaith ond hefyd i ddangos y manteision i'r gweithlu o ddefnyddio'r holl ysgogiadau hynny sydd gennym drwy gaffael a thrwy gyllid grant hefyd.

Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, hoffai fy etholwyr weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar hybu economi Cymru a denu busnesau a fydd yn talu mwy na'r isafswm cyflog. Bydd Lidl yn awr yn talu £10.10c yr awr i weithwyr siop—ymhell uwchlaw'r cyflog byw go iawn. Weinidog, mae enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru yn llawer is na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw Cymru yn aros ar waelod y tabl enillion, a beth rydych yn ei wneud i ddenu busnesau sy'n talu cyflogau o ansawdd da i leoedd fel y Rhyl yn fy etholaeth, un o rannau tlotaf y DU?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn? Gwyddom ei bod yn bwysig i bob un ohonom, ac mae talu'r cyflog byw go iawn—. [Torri ar draws.] Dyna'r heclo rhyfeddaf i mi ei gael yma hyd yma. [Chwerthin.] Nid yw talu'r cyflog byw go iawn, mewn gwirionedd, yn ymwneud yn unig â sicrhau buddion i'r unigolyn; mae'n sicrhau manteision i'r cyflogwyr hynny hefyd, oherwydd rydych yn fwy tebygol o gael gweithlu mwy cynaliadwy ac o gynyddu cynhyrchiant. Felly, rydym yn gweithio drwy ein contractau economaidd, drwy ein gwaith partneriaeth gymdeithasol, gan weithio gyda chynrychiolwyr o'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i weld sut y gallwn fabwysiadu'r dull sectoraidd hwnnw yn ogystal â chreu cynaliadwyedd mewn lleoedd fel y Rhyl, ac rwy'n adnabod y Rhyl yn dda iawn fy hun, ar ôl tyfu i fyny i lawr y ffordd. Yn wir, swydd gyntaf fy nhad oedd gweithio yn y ffair yn y Rhyl, pan oedd yn dal i fod yno. [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod sectorau fel lletygarwch a manwerthu yn allweddol, felly er nad oes gennym gyfrifoldeb dros hawliau cyflogaeth yma yng Nghymru—maent yn dal i fod wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU at ei gilydd—ond yr hyn y gallwn ei wneud o ran dull gweithredu ar draws sectorau cyfan i greu gwaith teg, nid yn unig mewn meysydd fel gofal cymdeithasol ond mewn lletygarwch a manwerthu hefyd.

14:05
Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru'n genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches? OQ57217

Rydym yn parhau i wneud cynnydd tuag at ein gweledigaeth o wneud Cymru'n genedl noddfa. Ac er gwaethaf y pandemig, rydym wedi parhau i weithredu camau ein cynllun 'Cenedl Noddfa' a chefnogi ceiswyr lloches i integreiddio â chymunedau Cymru o'r diwrnod y maent yn cyrraedd.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Addysg Oedolion Cymru a ddywedodd wrthyf am y rhwystrau y gall ceiswyr lloches eu hwynebu wrth geisio manteisio ar gyfleoedd addysg, megis gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gael gafael ar ofal plant. Gwn fod un cam gweithredu yng nghynllun 'Cenedl Noddfa' yn ymrwymo i weithio tuag at newidiadau i'r lwfans cynhaliaeth addysg a'r gronfa ariannol wrth gefn i wneud ceiswyr lloches yn gymwys, a gall hyn ddileu'r rhwystrau hynny. Felly, a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn os gwelwch yn dda?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw, ac rydych wedi nodi ymrwymiad yng nghynllun 'Cenedl Noddfa'. Nid yw'r ymrwymiad hwnnw wedi newid. Rydym wedi cael amgylchiadau heriol gyda'r pandemig, sydd wedi arwain at oedi wrth symud ymlaen gyda hynny, ond rydym yn mynd i dreialu cynllun newydd yn y flwyddyn newydd a fydd yn darparu'r un lefel o gymorth o'r lwfans cynhaliaeth addysg a'r gronfa ariannol wrth gefn i geiswyr lloches ifanc. Felly, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynllun peilot hwn yn y flwyddyn newydd, a'i gyflwyno yn 2022, ond yn y cyfamser, yn fy nghyhoeddiad am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn yr wythnos diwethaf, rwy'n falch ein bod yn dechrau ar gynllun peilot trafnidiaeth gyhoeddus am bris gostyngol tymor byr i geiswyr lloches, a dylai hynny helpu i leddfu heriau gyda chael mynediad at gyfleoedd addysg yn y tymor academaidd nesaf.

Roeddwn yn falch o noddi a siarad yn ail ddigwyddiad Noddfa yn y Senedd gyda chynghrair ffoaduriaid Cymru bum mlynedd yn ôl yn awr, ond fel y dywedais yma ym mis Ionawr 2019, mae integreiddio'n allweddol i wneud Cymru'n genedl noddfa, gan nodi, oni allwn chwalu rhwystrau dealltwriaeth gartref, ni waeth pa mor dda rydym yn ceisio integreiddio ein cymdogion newydd, bydd y rhwystrau hynny'n parhau, felly mae'n broses ddwyffordd yn sicr. Mae mudwyr o Dde Asia i'r DU wedi dod am wahanol resymau, gan gynnwys y rhai sy'n dianc rhag rhyfel cartref neu fudo gorfodol. Fel llywydd Rhwydweithio dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio Amlddiwylliannol (NWAMI), siaradais yn eu dathliad o Fis Treftadaeth De Asia yr haf hwn. Wedi'i lansio yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Gorffennaf 2019, nod Mis Treftadaeth De Asia, 18 Gorffennaf i 17 Awst bob blwyddyn, yw codi ymwybyddiaeth o broffil hanes treftadaeth Prydain-De Asia yn y DU, a helpu i wella cydlyniant cymdeithasol ledled y DU a'i gwledydd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi mentrau o'r fath yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Credaf fod eich cefnogaeth a'ch ymwneud wedi bod yn gryf drwy'r blynyddoedd yn hyrwyddo a chyflawni 'Cenedl Noddfa', a hoffwn sôn fy mod i wedi mynychu digwyddiad nos Sadwrn gyda'ch cyd-Aelod, Natasha Asghar, i lansio cymdeithas treftadaeth De Asia yng Nghymru. Roedd hwnnw'n ddigwyddiad pwerus, a ganolbwyntiai ar lawer o'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud. Ond credaf fod y ffordd rydym wedi ymateb yng Nghymru i anghenion y ffoaduriaid o Affganistan, a drafodwyd gennym nos Sadwrn, wedi bod yn enghraifft hollbwysig o'r ffordd rydym wedi cefnogi ffoaduriaid sy'n symud i Gymru. Ac mae dull Tîm Cymru, sy'n cynnwys yr Urdd a chymunedau a'r awdurdodau lleol hefyd—mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cytuno i gefnogi'r ffoaduriaid sy'n dod o Affganistan, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ar draws y wlad sy'n dod i Gymru hefyd yn wir. Mae'n rhaid imi ddweud bod gennym bryderon ynghylch materion capasiti'r Swyddfa Gartref o ran y ffyrdd rydym yn cefnogi ffoaduriaid o Affganistan yn enwedig, sy'n symud i Gymru. Hefyd, mae gennym bryderon am y cynllun trosglwyddo cenedlaethol yn ogystal, ond gwn fod hwn yn rhywbeth lle byddwn yn gweithio i gefnogi plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yn enwedig; mae mor bwysig ein bod yn eu croesawu i Gymru yn y modd y maent ei angen ac yn ei haeddu.

14:10

Prynhawn da, Weinidog, a diolch yn fawr iawn i Vikki hefyd am y cwestiwn hwn. Fel y dywedasom, mae Cymru wedi rhoi croeso cynnes ers tro i bobl o bob cwr o'r byd sy'n chwilio am noddfa, gan gydnabod bod croesawu pobl i'n cymunedau yn cryfhau ein gwead diwylliannol a chymdeithasol. Rwy'n siŵr y cytunwch â mi, Weinidog, fod gweithredoedd Priti Patel a Llywodraeth Geidwadol y DU yn gywilyddus. Nid yw'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn cadw pobl yn ddiogel ac mae'n diawleiddio'r rheini sy'n ceisio noddfa.

Hoffwn droi at y mater rydych newydd sôn amdano, sef y plant sydd wedi'u gwahanu oddi wrth ofal eu teuluoedd, ac rwy'n pryderu'n benodol am eu sefyllfa hwy. Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2021, derbyniodd y Deyrnas Unedig—ac nid yw wedi'i rannu ar gyfer Cymru—2,756 o geisiadau am loches gan blant sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol y bydd plant sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, ac nid oes taliad, hyd yma, i awdurdodau lleol am bob diwrnod y mae plentyn yn eu gofal. A gaf fi ofyn pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y plant hynny'n cael y gofal a'r cymorth y maent eu hangen, yn enwedig mewn perthynas â'r taliadau ychwanegol a'r anghenion ychwanegol sydd ganddynt? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. A gaf fi ymateb i'ch pwynt am y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau? Mae'n rhaid imi ddweud y bydd hyn yn achosi effeithiau nas rhagwelwyd ac anghyfartal i bobl sy'n cyrraedd Cymru, y cydnabyddir eu bod wedi dianc rhag yr ofn o gael eu herlid, ac mae'r Bil yn gwbl wrthwynebus i'n nod o fod yn genedl noddfa sy'n cefnogi Cymru fwy cyfartal. Felly, bydd y Bil ei hun yn effeithio ar ddarparu cymorth integreiddio, a godwyd gan Mark Isherwood yn gynharach. Gallai waethygu amddifadrwydd a chynyddu ecsbloetio mudwyr a gweithio anghyfreithlon yn ein cymunedau. Felly, rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at hyn yn y Siambr, oherwydd mae'n rhywbeth y byddem yn annog pob Aelod i weithio arno gyda'u cymheiriaid ar lefel y DU er mwyn deall effaith andwyol y Bil hwn, yn enwedig ar bolisïau ac arferion datganoledig.

Felly, mewn perthynas â phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi plant yn yr amgylchiadau hyn, fel y gwyddoch; maent yn cael eu cefnogi'n effeithiol gan ein hawdurdodau lleol ac maent yn chwarae rhan lawn yn y cynllun trosglwyddo cenedlaethol. Ond rydym yn pryderu, fel y dywedais, am y cynlluniau diweddaraf hyn i orfodi pob awdurdod lleol i gymryd rhan. Nid ydym yn credu bod hynny er budd gorau'r plant dan sylw. Mae'r cynllun trosglwyddo cenedlaethol yn gweithredu ar sail wirfoddol yma, ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo iddo fel bod y rhai sy'n gallu darparu cymorth arbenigol i'r plant a'r bobl ifanc hynny yn cael cymorth i wneud hynny. Ac nid oes unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref, gwaith gwirfoddol ydyw mewn gwirionedd, a darperir £500,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant yn yr amgylchiadau hyn. Felly, mae'n fater pwysig iawn, fel rwyf wedi'i ddweud, ynghyd â phroblemau capasiti'r Swyddfa Gartref yng Nghymru hefyd. Rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Kevin Foster am hyn, gyda Julie Morgan, yn gynharach yr wythnos hon, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ei ddwyn i sylw'r Siambr.

Cyhwysiant Ariannol

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cynhwysiant ariannol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57225

14:15

Yn ne-ddwyrain Cymru, helpodd ein cronfa gynghori sengl dros 27,400 o bobl i ymdrin â materion lles cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan arwain at dros £9.7 miliwn o incwm budd-dal lles ychwanegol. Hefyd, mae ein prosiectau a ariennir gan undebau credyd ledled y rhanbarth yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at gredyd fforddiadwy.

Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y bu gostyngiad dramatig yn nifer y canghennau banc ar draws de-ddwyrain Cymru. Merthyr Tudful a Blaenau Gwent sydd â'r nifer leiaf o ganghennau banc, gyda thua phump yr un, tra bod Casnewydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn nifer y canghennau ers 2010, gan ddechrau gyda 90, i lawr i oddeutu 10. O fis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae Barclays yn cau canghennau yng Nghas-gwent a Threfynwy. O ganlyniad, bydd cangen agosaf Barclays i bobl Cas-gwent naill ai yng Nghasnewydd neu Westbury-on-Trym, a'r agosaf at Drefynwy fydd Y Fenni neu Henffordd.

Mae Age Cymru wedi dweud bod cau banciau yn effeithio ar bobl hŷn i raddau mwy na grwpiau oedran eraill, gan nad oes gan dros hanner y bobl 75 oed a hŷn fynediad at y rhyngrwyd, a llai byth â mynediad at fancio ar y rhyngrwyd. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i wella cynhwysiant ariannol pobl hŷn yn ne-ddwyrain Cymru sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn sgil colli eu canghennau banc lleol? Diolch.

Wel, wrth gwrs, mae'n—[Torri ar draws.] Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn difrifol. Mae'n fater sydd heb ei ddatganoli, ac rwy'n siŵr eich bod yn tynnu sylw Llywodraeth y DU at y pryderon hyn sy'n effeithio ar eich etholwyr i sicrhau bod gwasanaethau bancio yng Nghymru yn cael eu cadw. Byddwn yn cwrdd â'r banciau. Yn wir, bydd y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a minnau'n cyfarfod â rhai o'r prif fanciau er mwyn cyflwyno'r achos parhaus dros fynediad at wasanaethau arian a bancio am ddim, ac i atal rhagor o wasanaethau rhag cael eu colli.

Mae'n gwbl glir fod arnom angen presenoldeb o'r fath ar y stryd fawr i bawb, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Hefyd, rydym yn parhau i weithio tuag at ddatblygu ein banc cymunedol, gan gydnabod ein bod yn cael ein siomi gan y banciau, a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU yn wir i fynd i'r afael â cholli'r banciau hyn, gan amharu ar fywydau cynifer o'n hetholwyr yn ein cymunedau.

Cyfiawnder Cymdeithasol

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cyrff cyhoeddus i ystyried egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gyflawni eu dyletswyddau? OQ57231

Disgwylir i bob corff cyhoeddus gyflawni eu dyletswyddau sylw dyledus fel y maent wedi'u cynnwys yn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Goruchwylir y gwaith o fonitro'r rhain gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n rhoi diweddariadau cynnydd rheolaidd i Weinidogion Cymru.

Diolch, Weinidog. Fel cyn-arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ac rwy'n datgan buddiant i'r perwyl hwnnw, Lywydd, nôl yn 2017 roeddwn yn falch o benodi'r aelod cabinet cyntaf i fod yn llwyr gyfrifol am gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol. Roeddwn wrth fy modd ein bod, gyda'n gilydd, wedi cyflawni strategaeth cyfiawnder cymdeithasol gyntaf y cyngor.

Nod y strategaeth hon, sy'n cael ei hadolygu'n barhaus ac sydd wedi'i diweddaru'n ddiweddar, yw sicrhau mai un o ddibenion craidd y cyngor yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sir Fynwy. Mae'n helpu i wella cydnerthedd cymunedau lleol, yn ogystal â chefnogi llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol—rhywbeth a fyddai'n uchelgais i bob corff cyhoeddus, rwy'n siŵr, a gobeithiaf fod hynny'n wir.

Weinidog, a ydych yn cytuno bod angen i fwy o gynghorau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru ddilyn cyfeiriad Cyngor Sir Fynwy a chynllunio a chyflawni strategaeth cyfiawnder cymdeithasol i helpu i greu cymunedau tecach a mwy cyfartal? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyrff cyhoeddus i roi egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnânt? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at waith cyngor Mynwy a'r gwaith a wnaethoch yn eich rôl fel arweinydd hefyd. Gwn fod nifer o enghreifftiau, o bob rhan o'r wlad, o wahanol fentrau y mae cynghorau ac awdurdodau lleol yn eu gwneud i hyrwyddo gwerth cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol a'u cynnwys wrth wraidd yr hyn a wnânt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i adeiladu ar hyn a'i gryfhau.

Bydd y dyletswyddau caffael yn y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar ganlyniadau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus. Bydd hefyd yn rhoi gwaith teg wrth wraidd hynny, a'r hyn a olygwn wrth gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yw sicrhau, fel y dywedwch, llesiant economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ar draws popeth a wnawn. Mae'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo i'w wneud ac rydym wedi ymrwymo i ddeddfu er mwyn adeiladu arno hefyd.

Tlodi

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57238

14:20

Diolch yn fawr. Bydd y rhanbarth yn elwa ar y pecyn cymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, helpodd y gronfa gynghori sengl dros 8,000 o bobl i hawlio £6.4 miliwn o incwm budd-daliadau lles ychwanegol. Yn y flwyddyn ariannol hon, derbyniodd y rhanbarth £237,742 i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb manwl yna. Fel rŷch chi'n gwybod, mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae tlodi gwledig yn arbennig, sydd yn berthnasol i'r rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, yn aml iawn yn mynd o dan y radar: tlodi tanwydd yn arbennig; ardaloedd gyda chyflogau a lefel gwerth ychwanegol gros yn is na chyfartaledd Cymru; a phellter o wasanaethau cwbl hanfodol. Fel rŷch chi'n ei wybod, o ran costau byw, mae disgwyl y bydd y rheini'n codi rhyw 5 y cant erbyn y gwanwyn nesaf, ac rŷn ni yn gresynu, wrth gwrs, fod y Torïaid yn San Steffan yn gwrthod newid eu meddwl ar ddileu'r £20 yr wythnos ychwanegol yna ar gredyd cynhwysol.

Rôn i'n falch iawn o glywed am yr ymrwymiad rŷch chi wedi'i nodi yn barod—y £51 miliwn—i helpu teuluoedd sydd ag argyfwng costau. Mae'r Sefydliad Bevan, yn ddiddorol iawn, wedi nodi yn ddiweddar fod 10 y cant o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi o ran talu biliau, a'r elusen StepChange yn dweud bod 21 y cant o boblogaeth Cymru yn profi anawsterau ariannol. Felly, allwch chi ddweud wrthyf i, Weinidog, o safbwynt y manylion arbennig yna, sut ydych chi'n bwriadu ymateb i'r her dlodi o ran biliau ynni? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Hyn hefyd, fel y dywedwch, yw canlyniad syfrdanol y toriad o £20 i gredyd cynhwysol, diwedd ffyrlo, prisiau'n codi, bwyd, tanwydd, ac yn wir, cyfarfu'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau â'r Asiantaeth Ynni Genedlaethol y bore yma, lle buom yn trafod y materion hyn. Cyfarfûm â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru fore Llun. Roeddent yn croesawu'r ffaith ein bod wedi defnyddio'r cyllid hwnnw. Rydym wedi dyrannu £51 miliwn ar gyfer cronfa cymorth i aelwydydd, ac rwy'n manteisio ar y cyfle i hyrwyddo—a gobeithiaf y byddwch chi'n hyrwyddo—y £38 miliwn i gefnogi aelwydydd gyda'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Bydd aelwydydd cymwys, a chredwn y bydd dros 300,000 yn gymwys i'w gael, yn gallu cael y cyllid hwn, os bydd nifer dda o bobl yn manteisio arno, a gobeithiwn y byddwch chi i gyd yn helpu gyda hynny. Mae'n daliad untro o £100 gan eu hawdurdod lleol, i'w ddefnyddio tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf.

Ond £25 miliwn yn unig a gawsom o'r gronfa cymorth i aelwydydd fel y'i gelwir, sy'n werth £500 miliwn. Roedd yn chwerthinllyd ac nid yw'n gwneud iawn am yr arian a gollwyd gan 270,000 o deuluoedd yng Nghymru, gan gynnwys yn eich etholaeth chi. Felly, byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi pobl yng Nghymru gyda'r argyfwng costau byw i deuluoedd, nid yn unig gyda'r taliad o £100 o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, ond hefyd gyda chyllid ychwanegol ar gyfer sefydliadau bwyd cymunedol, undebau credyd ynghyd â phrosiectau eraill ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallwn wneud yr hyn a allwn i roi cymorth yn ystod misoedd anodd y gaeaf sydd i ddod.

Tlodi Plant

8. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru tlodi plant? OQ57218

Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Yr wythnos diwethaf, fel y dywedais, cyhoeddasom becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel; bydd £38 miliwn ar gael drwy'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf; £1.1 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys ymestyn prosiect llwyddiannus Big Bocs Bwyd; a bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys cymorth i leihau cost y diwrnod ysgol, yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Diolch, Weinidog. Mae'r ymateb a gefais gan deuluoedd yn y Rhondda i'r pecyn cymorth gwerth £51 miliwn wedi bod yn ysgubol. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol y gaeaf hwn i blant a'u teuluoedd. Mae hefyd yn wych clywed bod cyllid wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymestyn prosiect Big Bocs Bwyd.

Bydd angen gweithio mewn partneriaeth os ydym am roi diwedd ar dlodi plant yng Nghymru. Mae cannoedd ar gannoedd o grwpiau cymunedol, prosiectau ac elusennau fel fy un i ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o roi diwedd ar dlodi plant. Mae llawer ohonynt yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol fel rhan o fwrdd partneriaeth rhanbarthol. A wnaiff y Gweinidog adolygu effaith byrddau partneriaeth rhanbarthol ar dlodi plant ac archwilio pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol i helpu i liniaru ac, yn y pen draw, i roi diwedd ar dlodi plant?

14:25

Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, ac rydych yn gwybod sut beth ydyw, onid ydych, o'ch etholaeth chi a'ch cymuned a'r hyn rydych wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi enbyd. Gwyddom am y prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bwerau dros drethi a systemau lles, ond rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau effaith tlodi a chefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Dyna pam y mae dysgu oddi wrth Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn y cyfarfod a gefais gyda hwy ddydd Llun mor bwysig, a pham y gwneuthum gyhoeddi'r £51 miliwn, yn ogystal â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ein rhaglen Cartrefi Clyd a phresgripsiynau am ddim—mae'r rhain i gyd yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sydd mewn tlodi enbyd. Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â sicrhau bod mwy o arian ym mhocedi ein dinasyddion yng Nghymru fel rhan o'r agenda gwaith teg. Felly, mae partneriaeth yn hollbwysig.

Mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dwyn ynghyd y partneriaid allweddol a all edrych ar anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn eu cymunedau ac integreiddio gwasanaethau hefyd. Maent ar hyn o bryd yn edrych ar eu poblogaethau lleol mewn perthynas ag asesiadau o anghenion y boblogaeth, ac maent hefyd yn cydnabod eu bod—. Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym yn rhoi sylw i gefnogi cydweithrediad y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a'u cysylltu'n agos â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus lleol, oherwydd eu bod yn gyfrifol am fynd i'r afael ag anghenion llesiant y boblogaeth leol. Felly, partneriaeth, ond mae'r bartneriaeth honno'n digwydd gyda'r trydydd sector, mae'n digwydd rhwng llywodraeth leol a'r byrddau iechyd, ac mae'n digwydd gyda'r sefydliadau ymgyrchu hynny a'r melinau trafod ymchwil a pholisi hynny, fel Sefydliad Bevan, sy'n rhoi cymaint o arweiniad i ni wrth lunio polisïau.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Incwm Sylfaenol Cyffredinol

1. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol? OQ57245

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dreialu cynllun incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru. Bydd y cynllun peilot yn helpu i lywio unrhyw benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys a ddylid dod â deddfwriaeth gerbron y Senedd.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun peilot ar yr incwm sylfaenol cyffredinol, syniad yr ysgogwyd diddordeb ynddo yn sgil y ddadl a arweiniais yn llwyddiannus yn y Senedd ddiwethaf. Ond mae'n bwysig inni gael treial llwyddiannus yma yng Nghymru, oherwydd gallai hynny ychwanegu at yr achos y sonioch chi amdano yn eich ateb cyntaf. Ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno i weithio'n adeiladol gyda Gweinidogion Cymru, gan mai hwy sydd â'r cymhwysedd o safbwynt lles. Gwnsler Cyffredinol, a ydych wedi sôn wrth Weinidogion Cymru am bwysigrwydd sgwrs adeiladol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, a pha gamau y gellir eu cymryd i sicrhau'r cytundeb hwn?

Wel, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae'n ei wneud i sicrhau bod y fenter bolisi bwysig hon yn aros ar ein radar ni a sylw Llywodraeth Cymru? Ac yn sicr, mae wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o ddatganiad y Prif Weinidog—y datganiad a wnaeth beth amser yn ôl pan ddywedodd:

'O ran incwm sylfaenol cyffredinol, yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yw'r hyn a ddywedasom yn ein maniffesto, sef arbrawf a chynllun peilot. Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol'—

sef y pwynt rwy'n credu y mae'r Aelod yn cyfeirio ato—

'heb sôn am yr holl arian a fyddai’n angenrheidiol i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru gyfan, ond credaf fod gennym y gallu i lunio arbrawf craff a fydd yn caniatáu inni brofi'r honiadau a wneir am incwm sylfaenol cyffredinol.'

Gallaf ddweud wrthych fod amryw o drafodaethau wedi bod gyda chymheiriaid, a bod cysylltiad wedi'i wneud â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Nid wyf yn gwybod beth yw'r ymateb, ond yn amlwg caiff hwnnw ei rannu pan fydd gennym fwy o wybodaeth am hynny. Ond rydych yn llygad eich lle: er mwyn gwneud cynnydd gyda'r mater hwn, mae'n rhaid i'r rhai sy'n dal awenau grym eraill yn y maes hwn ymgysylltu o ddifrif â ni hefyd.

Mae llawer i'w groesawu gyda threial incwm sylfaenol arfaethedig, a chyfeiriodd Jack Sargeant at fater rwyf wedi bod yn ymwybodol ohono ac wedi gofyn cwestiynau yn ei gylch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr hon. Y gwir amdani yw, oni bai bod cytundeb yn cael ei daro gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n bosibl y bydd y cynllun peilot hwn yn gadael y rhai a fydd yn derbyn incwm sylfaenol yn waeth eu byd, sy'n rhywbeth nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon am ei weld.

Wrth gwrs, un peth a allai ganiatáu inni osgoi mater yr Adran Gwaith a Phensiynau yw datganoli gweinyddu lles. A allai'r Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â lle mae'r Llywodraeth arni ar geisio datganoli'r pwerau hyn? Ac wrth gwrs, bydd cael y pwerau hyn yng Nghymru yn fanteisiol o ran incwm sylfaenol cyffredinol, ond byddant hefyd yn caniatáu inni lunio system les sy'n llawer mwy cydymdeimladol ac yn llawer mwy cyfiawn na'r system sydd gennym ar hyn o bryd.

14:30

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Credaf ei fod yn anghywir: nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â datganoli pwerau; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â datganoli pwerau gyda'r adnoddau i gyd-fynd â hynny, oherwydd cafodd ein bysedd eu llosgi droeon, lle mae pethau wedi'u datganoli i ni, weithiau heb ein cefnogaeth, ond nid ydym wedi cael y cyllid sy'n angenrheidiol ar gyfer hynny wedi'i ddatganoli'n llawn i ni.

Ond rydych yn llygad eich lle fod y rhyngweithio rhwng y system fudd-daliadau a'r cysyniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd law yn llaw. A'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw cynllun peilot i archwilio, ac i ddangos hefyd yn fy marn i, y cyfleoedd y gellir eu creu. Credaf fod y Prif Weinidog, ar sawl achlysur, wedi dweud bod datganoli budd-daliadau lles, neu hyd yn oed rai budd-daliadau lles, yn faes y mae'n awyddus i'w archwilio, ond mae bob amser wedi rhoi'r cafeat fod yn rhaid i chi gael yr adnoddau i'w alluogi i ddigwydd ac mae'n rhaid i'r adnoddau hynny fod yn ddigonol hefyd.

Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol, a diolch i Jack Sargeant am godi'r mater hwn a hefyd am barhau i chwifio'r faner dros incwm sylfaenol cyffredinol, achos rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol yma gyda'r incwm sylfaenol cyffredinol i drawsnewid bywydau go iawn. Nid yn unig y gall incwm sylfaenol cyffredinol fynd i'r afael â phroblem barhaus a chynyddol tlodi, ond gallwn weld o dreialon ym mhob cwr o'r byd y goblygiadau cadarnhaol a gafwyd i iechyd meddwl a lles a rhyddid yr unigolyn.

Rwyf am symud oddi wrth y materion sy'n ymwneud â pha bwerau sydd wedi'u datganoli a'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli, a chanolbwyntio ar yr amserlenni sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Rydym wedi clywed am hyn ers ychydig fisoedd bellach, ac rwy'n meddwl tybed a allem sefydlu rhai amserlenni. Diolch yn fawr iawn.

Wel, gwrandewch, diolch am eich sylwadau a ac rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau amrywiol a wnaethoch, ac wrth gwrs, un o'r heriau allweddol yw beth yn union yw incwm sylfaenol cyffredinol a'r hyn a olygwn wrtho. Ac fel polisi mae'n gyfle, onid yw, i ailystyried sut y mae'r wladwriaeth les wedi gweithredu, ac wedi gweithredu'n llwyddiannus iawn tan y degawdau mwy diweddar. Ond mae'n ffordd o edrych ar gyfleoedd i leddfu a dileu tlodi yn ein cymdeithas.

Mewn perthynas â dyddiad, rwy'n credu mai gan Weinidogion eraill y mae'r cyfrifoldebau portffolio ar gyfer bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n siŵr y ceir datganiadau maes o law ac mae eich sylwadau wedi'u clywed mewn gwirionedd. Gallaf eich sicrhau nad diddordeb dros dro ydyw i Lywodraeth Cymru; mae hwn yn ymrwymiad maniffesto difrifol. Bydd yn cael ei ddatblygu. Nid wyf mewn sefyllfa i roi dyddiad i chi, ond rwy'n siŵr y cewch gyfle i ofyn yn fwy penodol i'r Gweinidogion portffolio perthnasol ynglŷn â hyn maes o law.

Cyngor ar Gyfraith Gyhoeddus

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am fynediad at gyngor ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru? OQ57230

Diolch i'r Aelod am ei ail gwestiwn. [Chwerthin.] Mae cwmnïau cyfreithiol a'r bar yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor ar gyfraith gyhoeddus, a dylai cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gefnogi mynediad at gyngor o'r fath. Mae hynny'n cynnwys edrych ar sut y mae'r sector cyhoeddus yn comisiynu gwasanaethau cyfreithiol, a lansio Cyngor Cyfraith Cymru yn ddiweddar wrth gwrs.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ail ateb. [Chwerthin.] Gwnsler Cyffredinol, ceir corff cynyddol o gyfraith sy'n benodol i Gymru ac mae llawer ohono wedi'i gynllunio i rymuso trigolion yng Nghymru i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. Nawr, nid yw'r cyngor sydd ar gael ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru wedi dal i fyny'n ddigon cyflym. Deallaf nad oes unrhyw gwmnïau cyfraith gyhoeddus yng Nghymru ac mae hyn yn rhwystr gwirioneddol i bobl Cymru ac i bobl yng Nghymru sy'n ceisio mynediad at gyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, gyda hynny mewn golwg, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn a helpu trigolion i gael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu mor enbyd?

Wel, mae'n gwestiwn pwysig iawn ac mae'n un rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Cyngor Cyfraith Cymru yn mynd i'r afael ag ef. A rhaid inni hefyd gydnabod pwysigrwydd economaidd, yn ogystal â phwysigrwydd cymdeithasol, y sector cyfreithiol yng Nghymru. Ac rwyf wedi gweld cwmnïau o Loegr, er enghraifft, yn mynd ar drywydd adolygiadau barnwrol ar faterion Cymreig. Ac rwy'n gofyn weithiau pam nad nad oes cymaint mwy ohono wedi'i leoli yng Nghymru, gan ddefnyddio'r sgiliau a'r galluoedd sy'n bodoli yma.

Nid wyf yn credu ei bod yn wir nad oes gennym unrhyw gwmnïau cyfraith gyhoeddus. Yn sicr, mae gennym gwmnïau, ac mae gan nifer ohonynt arbenigedd sylweddol ym maes cyfraith gyhoeddus, ond mae'n debyg fod y lledaeniad daearyddol ac argaeledd a mynediad yn rhan o'r broblem y credaf eich bod yn cyfeirio ati. Rydym wedi cymryd nifer o gamau a ddylai helpu i adeiladu gallu cyfraith gyhoeddus y sector cyfreithiol yng Nghymru, er mwyn gwella mynediad.

Yn dilyn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gwnaethom adolygu'r trefniadau ar gyfer panel Llywodraeth Cymru o gwmnïau cyfreithiol a chwnsleriaid sy'n darparu cyngor ar gyfraith gyhoeddus. Mae'r panel presennol o gwnsleriaid cymeradwy, a adnewyddwyd ym mis Mawrth 2021, yn cynnwys 47 y cant o gwnsleriaid sy'n gweithio yng Nghymru, sy'n sicr yn gynnydd ar y sefyllfa yn 2011, pan oedd 30 y cant ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru. Rydym yn trafod gydag arweinydd cylchdaith Cymru a Chaer ynglŷn â sefydlu gweithgor i ystyried camau i ddatblygu capasiti a gallu cyfraith gyhoeddus y bar Cymreig ymhellach.

Cafwyd cynlluniau eraill, ond credaf fod y pwynt a wnewch yn un sydd wedi'i gydnabod yn dda ac mae'n cyd-fynd â'r angen a'r awydd, yn sicr, i weld twf y proffesiwn cyfreithiol a'r gwasanaeth cyfreithiol yng Nghymru—yn economaidd, ond o ran ei bwysigrwydd cymdeithasol hefyd.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Yn eich datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi—y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r system gyfiawnder a'r sector cyfreithiol yng Nghymru—fe ddywedoch chi, er bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod argymhelliad canolog adroddiad comisiwn Thomas ynghylch datganoli cyfiawnder a phlismona,

'bod nifer fawr o argymhellion eraill y gellid eu cyflawni o dan y trefniadau datganoli presennol, neu sy'n cynnwys rhyw elfen o ddatganoli heb drosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyfiawnder yn ei gyfanrwydd.'

Yn y cyd-destun hwn, pan ymwelais ag uned troseddau rhanbarthol y gogledd-orllewin yn gynnar y llynedd—cydweithrediad rhwng chwech o heddluoedd cyfagos, gan gynnwys gogledd Cymru—dywedwyd wrthyf fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru wedi'i hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn.

Ond yn eich datganiad ar 30 Medi, fe ddywedoch chi hefyd eich bod yn disgwyl i drafodaethau rhwng y ddwy Lywodraeth ar ystod o bynciau ddechrau cyn bo hir, gan gynnwys data cyfiawnder wedi'i ddadgyfuno ar gyfer Cymru; archwilio'r posibilrwydd o ddatrys problemau llysoedd yng Nghymru; cymorth i ddarparwyr gwasanaethau cynghori; ansawdd a lleoliad adeiladau llysoedd; darpariaeth Gymraeg yn y system gyfiawnder; a threfniadaeth yr uwch farnwriaeth, gan gynnwys cynrychiolaeth yng Ngoruchaf Lys y DU. Beth felly yw'r sefyllfa ar hyn o bryd gyda'r trafodaethau hyn?

Diolch am y cwestiwn. Ac mae'n wir, yn amlwg, ein bod yn parhau i fynd ar drywydd y materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder—nid af i fanylu ar hynny, rydym wedi trafod y rheini droeon. Ond nodwyd llawer o feysydd eraill hefyd yn adroddiad comisiwn Thomas, sydd wedi arwain, ac sy'n parhau i arwain, at ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y meysydd lle gallwn gydweithredu a lle gallwn gyfrannu at wella'r trefniadau sydd eisoes ar y gweill.

Roeddwn i fod i gyfarfod a thrafod gyda'r Arglwydd Ganghellor, Robert Buckland. Yn anffodus, y diwrnod cyn y cyfarfod, cafodd Llywodraeth y DU ei had-drefnu a chollodd ei swydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Dominic Raab, a ddaeth i'r swydd wedyn, i ofyn am gyfarfod. Credaf fod y cyfarfod hwnnw yn y broses o gael ei drefnu, ond yn y cyfamser, cyn bo hir rwyf i fod i gyfarfod â'r Arglwydd Wolfson, sydd â chyfrifoldeb gweinidogol yn y maes hwn hefyd, i drafod y meysydd hyn, i drafod ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd yn well, i drafod rhai o'r materion rydych wedi'u codi. Ac maent yn faterion sy'n ymwneud â gweithrediad y llysoedd teulu, llysoedd cyffuriau ac alcohol, a'r cynlluniau peilot, materion yn ymwneud â menywod, data, digideiddio, ac yn y blaen. Felly, mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo.

Diolch. Dair blynedd yn ôl, mynychais y digwyddiad a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', lle mae'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru yn rhan o'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ers y llynedd. Byddai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyriadau a gwneud iawn â'r gymuned; byddent yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig, ac ar bartneriaethau lleol llwyddiannus sy'n bodoli eisoes, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.

Yn eich datganiad ym mis Medi eleni, fe ddywedoch chi eich bod yn

'gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd, gan gynnwys sefydlu Canolfan Breswyl i Fenywod yng Nghymru'—

y cyfeiriodd y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol ati'n gynharach—

'a datblygu model cyflenwi newydd i ystad ddiogel Cymru ar gyfer cyfiawnder a phlant sy’n derbyn gofal.'

Beth felly yw'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â hyn?

14:40

Diolch ichi am hynny. Ac yn amlwg, mae'r gwasanaeth prawf wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd, ac unwaith eto mae'n faes lle mae gwaith ar y gweill i edrych ar y ffordd y gellid ei gydgysylltu'n well â'r gwahanol wasanaethau integredig yng Nghymru. Ac yn amlwg, mae hwn yn faes sydd, yn fy marn i, yn barod iawn ar gyfer ei ddatganoli. Mae iddo le naturiol iawn ymhlith y llu o wasanaethau datganoledig sydd oll yn cydgysylltu â'r gwasanaethau prawf.

Ond o ran yr holl feysydd eraill, a'r ganolfan breswyl i fenywod, mae'r Gweinidog eisoes wedi esbonio'r cynnydd a wnaed yno ar y modelau cyflawni. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar y gweill a'r gwaith hwnnw'n dal i fynd rhagddo.

O'r gorau. Diolch. Fy nghwestiwn olaf, i newid cyfeiriad ychydig, mae adroddiad blynyddol diweddaraf Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dangos mai dim ond 21 o'r 149 o geisiadau a oedd yn dal heb gael sylw ar adeg ei gyhoeddi a gafodd eu gwrthod, gan awgrymu bod gweithrediad y system AAA wedi torri. Wrth gloi fy ymateb i chi yn y ddadl ddoe ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, dywedais fod yr adroddiad yn cyfeirio at Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, gan gyfeirio at yr angen clir i sicrhau nad yw addysg plant sy'n agored i niwed yn cael ei pheryglu, ac at y newid o Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru i'r tribiwnlys addysg. Yn y cyd-destun hwn, mae'n peri pryder mawr i'r teuluoedd a gynrychiolwyd gennyf na all Tribiwnlys Anghenion Addysgol Cymru na'r corff a'i holynodd, gymryd unrhyw gamau gorfodi pellach pan fydd y cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu cyflawni'r hyn y cawsant eu gorchymyn i'w wneud.

Mae hon wedi bod yn thema reolaidd yn fy ngwaith achos yn y gorffennol a'r presennol. Mae'r tribiwnlys wedi cadarnhau nad yw'r ddeddfwriaeth newydd yn newid y modd yr ymdrinnir â chydymffurfiaeth â gorchmynion tribiwnlys. Er bod y gorchmynion yn rhwymo mewn cyfraith, nid oes gan y tribiwnlys bwerau gorfodi o hyd. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw weinyddiaeth gyhoeddus, gellid dwyn adolygiad barnwrol yn erbyn yr awdurdod lleol yn yr Uchel Lys, sy'n amlwg y tu hwnt i allu'r mwyafrif llethol o deuluoedd yr effeithir arnynt. Pa gamau, os o gwbl, rydych chi'n eu hargymell felly i fynd i'r afael â hyn?

Wel, diolch ichi eto am y sylw hwnnw, a'r cyfeiriad at y pwyntiau a godwyd gan Syr Wyn Williams yn ei drydydd adroddiad wrth gwrs. Ac rydych yn gwneud yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn gryf iawn ac rwy'n cymeradwyo hynny.

Credaf y bydd y materion sy'n ymwneud â'r tribiwnlysoedd, trefniadaeth y tribiwnlysoedd, a phenderfyniadau'r tribiwnlysoedd yn fater i'r hyn y credaf y bydd yn Fil tribiwnlysoedd, lle bydd yn rhaid edrych ar yr holl faterion hyn, oherwydd mewn gwirionedd yr hyn a wnawn mae'n debyg yw creu rhan newydd strwythuredig o  system farnwrol Cymru a fydd yn ymgorffori'r tribiwnlysoedd a bydd yn rhaid inni edrych nid yn unig ar weithrediad y tribiwnlysoedd eu hunain, eu hannibyniaeth, ond hefyd y ffordd y gellir gorfodi neu weithredu'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud.

Diolch yn fawr, Lywydd. Gallai Cymru fod yn genedl annibynnol ffyniannus—geiriau'r gwir anrhydeddus Michael Gove. Edrychaf ymlaen at ei weld yn rali nesaf Yes Cymru. Nawr, er tegwch iddo, a gallaf fod yn deg â'r Torïaid hefyd, aeth ymlaen i ddweud bod pobl yng Nghymru yn elwa o gael dwy Lywodraeth, ac mai datganoli yw'r gorau o'r ddau fyd i Gymru. Nid wyf fi, wrth gwrs, yn cytuno â hynny, ond er mwyn i ddatganoli weithio, mae angen parch a chydweithrediad rhwng Llywodraethau. A dro ar ôl tro, gwelwn y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwalu. Mae hynny'n glir o sawl memorandwm cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Gyda llefarydd Rhif 10 yn dweud ddoe am brifweinidogaeth Boris Johnson,

'Mae llawer o bryder y tu mewn i'r adeilad... Nid yw'n gweithio',

a chydag ASau Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn ac yn ymatal dro ar ôl tro mewn pleidleisiau yn San Steffan, mae'n hen bryd, onid yw, i Boris Johnson roi'r gorau i siarad gwag a dechrau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraethau'r ynysoedd hyn. Ac roedd yn siomedig darganfod unwaith eto ddoe nad oedd Boris Johnson wedi mynychu uwchgynhadledd Prydain ac Iwerddon. A oes gennych y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol, yn enwedig mewn perthynas â gweithredu cymrodeddu annibynnol sy'n fawr ei angen i ddatrys anghydfodau rhynglywodraethol?

14:45

Wel, diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae'n debyg mai un cafeat i ddechrau yw bod yn rhaid ichi fod yn ofalus iawn wrth ystyried sylwadau Mr Michael Gove, oherwydd dywedodd hefyd yn yr un datganiad fod Mark Drakeford yn un o'i ffrindiau gorau [Chwerthin.]—ac achosodd hynny i mi fod braidd yn amheus ar unwaith. Pan ddywed mai mantais cael dwy Lywodraeth—. Gyda fy nghefndir i, mae'n debyg fy mod wedi clywed cryn dipyn o hynny gan Vladimir Putin, am y berthynas â'r Wcráin—cymaint yn well eu byd y byddent o fod â dwy Lywodraeth, ac wrth gwrs, yno, mae'n rhyfel a thanciau ar y ffin.

Ond ar y pwynt difrifol am y trafodaethau rhynglywodraethol, gwelwyd cynnydd sylweddol i gyrraedd yr hyn a fydd, rwy'n credu, yn femorandwm neu'n gyfres o drefniadau a fydd yn caniatáu ar gyfer proses anghydfod o gyfarfodydd gweinidogol rhwng Prif Weinidogion yn rheolaidd a threfniant rhyngweinidogol hefyd. Yr anhawster gyda'r holl bethau hyn, wrth gwrs, yw eu bod yn ddibynnol iawn ar ewyllys da ac ymddiriedaeth, ac mae hynny wedi bod yn brin ar adegau yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, ac nid oes iddo'r un grym â statws cyfansoddiadol, sef yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd. Ond os yw'n gweithio, mae'n sicr yn gam ymlaen, mae'n garreg gamu. Cefais drafodaethau gyda fy swyddogion cyfatebol yng ngwledydd eraill y DU, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud iddo weithio, oherwydd ei bod o fudd i bobl Cymru ac yn fwy cyffredinol i wneud iddo weithio, ond bydd yn rhaid inni weld sut y mae hynny'n datblygu.

Diolch. Yn ddiweddarach heddiw, cynhelir dadl am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac rwy'n falch, oherwydd rwy'n credu'n gryf fod angen i Ddeddfau Seneddol fod yn orfodadwy, yn hytrach nag uchelgeisiol yn unig. Rwy'n ymwybodol o dri achlysur pan fu'r Ddeddf hon gerbron y llysoedd lle ceisiwyd ei defnyddio mewn adolygiad barnwrol, ac ym mhob achos wrth gael ei herio, dadleuodd yr awdurdod cyhoeddus yn llwyddiannus fod y ddyletswydd llesiant y mae'r Ddeddf yn ei gosod ar gyrff yn rhy gyffredinol ac yn rhy uchelgeisiol i fod yn orfodadwy. Mae tri arbenigwr yn dweud hyn am y Ddeddf: dywed Dr Sarah Nason o Fangor nad yw'n rhoi hawliau sy'n orfodadwy yn gyfreithiol i unigolion yn erbyn cyrff cyhoeddus; dywedodd yr Arglwydd Thomas ddydd Llun wrth bwyllgor cyfiawnder y Senedd,

'un o'r problemau gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw nad yw'n ddigon penodol a thynn. Nid yw'n gwneud gwleidyddion yn atebol.'

Ac yna, yr arbenigwr olaf yw chi, Gwnsler Cyffredinol. Fe ddywedoch chi yma yn 2014 fod egwyddorion y Bil yn llawer rhy llac ac yn llawer rhy niwlog. Argymhellodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid ymgysylltu'n gynnar wrth ddrafftio deddfwriaeth gyda'r farnwriaeth. Nawr, mae hynny'n arfer cyffredin ar draws y byd. A yw hynny'n digwydd yng Nghymru? Ac onid yw'n bryd diwygio'r Ddeddf mewn ymgynghoriad â'r barnwyr i roi dannedd iddi a'i gwneud yn orfodadwy?

Diolch. Rydych yn codi cyfres o bwyntiau sydd bob amser wedi bod yn rhan o'r drafodaeth ar ddeddfwriaeth arloesol iawn. Credaf fy mod yn rhan o'r pwyllgor a oedd yn craffu ar y ddeddfwriaeth a aeth drwodd. Ac roedd yn arloesol iawn, a chredaf ei bod yn dal i fod yn arloesol iawn, ac mae hefyd yn arwyddocaol iawn o ran y newid diwylliant a oedd gysylltiedig â hi. Rydych yn iawn—mae yna ddadl ynghylch deddfwriaeth, ynglŷn â pha mor orfodadwy yw pwerau penodol, yn hytrach na'r rhan uchelgeisiol o'r ddeddfwriaeth, sy'n ceisio creu fframweithiau ar gyfer newid a newid diwylliant. Gyda'r holl ddeddfwriaeth, pan fydd wedi bod mewn grym am gyfnod, rwy'n credu bod angen ei hadolygu, mae angen ei hasesu, ac nid y ddeddfwriaeth benodol hon yn unig. Mae'r ddeddfwriaeth yn dal i gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o'r deddfwriaethau mwyaf datblygedig, modern a blaengar, ac mae gwledydd eraill wedi ceisio ei hefelychu. Ond rydych yn iawn, ac edrychwn ymlaen at yr adroddiad gan y comisiynydd a'r sylwadau y bydd yn eu gwneud, a bydd y sylwadau hynny'n cael ystyriaeth ddifrifol, a byddwn yn eu hystyried hefyd yng nghyd-destun darnau eraill o ddeddfwriaeth, lle nad yw'n ddigon i basio'r ddeddfwriaeth yn unig, rydych am wybod beth yw canlyniad y ddeddfwriaeth honno a bod y ddeddfwriaeth honno'n effeithiol. Rwy'n cyfaddef, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, rwy'n siŵr y bydd llawer o bethau a ddywedais o'r blaen yn cael eu taflu'n ôl ataf ar ryw adeg neu'i gilydd, felly diolch am y rhybudd. [Chwerthin.]

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Cwnsler Cyffredinol, dyw e ddim yn anodd sylwi ar y diffyg deddfwriaeth gynradd y tymor yma yn y lle hwn. Wedi chwe mis o'r chweched Senedd, dwi ond yn ymwybodol o un Bil Llywodraeth sydd wedi ei gyflwyno yn y Senedd. Yn wir, roedd Bil Peter Fox yn cael ei wrthwynebu gan y Llywodraeth yn rhannol oherwydd diffyg amser. Yn y pumed Senedd, dim ond 32 o Filiau basiwyd fan hyn, o'u cymharu ag 85 yn Senedd yr Alban. Dro ar ôl tro, rŷn ni'n gweld y ddadl am ddiffyg capasiti, diffyg arbenigedd a diffyg amser yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rheswm i ddefnyddio Biliau yn San Steffan yn hytrach na phasio Biliau Cymreig, ac roedd y ddadl am amser hefyd yn cael ei defnyddio yn erbyn Bil Peter Fox. Wrth gwrs, rwyf i wedi dweud e fel tôn gron: mae defnyddio Biliau San Steffan yn cymhlethu'r setliad datganoledig, mae'n sicrhau nad yw'r Biliau'n ddwyieithog, ac mae'n gwneud hygyrchedd lot yn anoddach, a hefyd bod dim craffu go iawn yn digwydd yn y fan hon. Os yw capasiti, os yw arbenigedd, os yw amser yn broblem wirioneddol, pa gamau ydych chi'n eu cymryd er mwyn i ni allu gwneud ein gwaith go iawn fan hyn fel Senedd a phasio Deddfau Cymreig?

A gaf fi ddiolch iddo am y sylwadau? Maent yn codi materion difrifol iawn ynglŷn â'r ddeddfwriaeth, y ffordd yr ymdrinnir â deddfwriaeth ac mae'n debyg, y llwybr rydym wedi bod yn ei ddilyn ers 10 mlynedd wrth inni ddysgu dod yn ddeddfwrfa effeithiol. Ceir llawer o feysydd, wrth gwrs, lle'r hoffem ddeddfu a rhaid inni edrych ar y flaenoriaeth o ran cyflawni'r ddeddfwriaeth honno, a'r ffordd rydym yn cyflwyno Biliau, ac a ydym yn edrych ar y math Rolls-Royce o Fil sy'n ymdrin â phopeth a fydd yn berthnasol i bwnc penodol, neu a oes gennym faes mwy blaenoriaethol a mwy penodol mewn Deddfau deddfwriaethol penodol. Mae hynny'n rhywbeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd ac edrych ar y ffordd y mae'r broses ddeddfwriaethol yn digwydd.

Mae hefyd yn deg dweud, wrth gwrs, ac mae hyn yn un o'r anghysonderau yn ein cysylltiadau rhynglywodraethol presennol ac yn y blaen, fod maint rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i feysydd, y materion y mae hynny'n eu codi o ran uniondeb datganoli, y meysydd niwlog mewn anghydfodau ynglŷn â hynny, yr amseriad a'r diffyg gwybodaeth ymlaen llaw am ddeddfwriaeth ac yn y blaen yn creu galwadau enfawr o ran y rheini, oherwydd mae'n rhaid inni drin y rheini fel darnau o ddeddfwriaeth y gallai Cymru elwa ohonynt neu lle mae'n rhaid inni dynnu'r llinellau datganoli ac yn y blaen. Felly, mae hynny'n fater o bwys, ac rwy'n sicr yn edrych ar y rheini mewn perthynas â throsolwg o'r effaith, nid yn unig o ran uniondeb datganoli, ond hefyd o ran yr effaith a'r graddau rydym yn gorfod troi at agenda Llywodraeth arall ar sawl achlysur. Felly, mae materion yn codi yno sy'n galw am sylw. Hefyd, mae materion sylweddol yn gysylltiedig â Brexit a COVID yno o hyd.

Gwneuthum y datganiad mewn perthynas â blwyddyn gyntaf y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd ac yn ymgysylltu â chyd-Aelodau a swyddogion ac yn y blaen, i edrych ar raglenni blynyddoedd 2 a 3. Gallaf eich sicrhau bod cryn dipyn o ddeddfwriaeth sylfaenol dan ystyriaeth, yn enwedig ymrwymiadau'r maniffesto. Efallai y bydd ymrwymiadau eraill neu agweddau arnynt a fydd yn deillio o'r cytundeb cydweithredu diweddar ac yn y blaen, a byddaf yn hapus i ymgysylltu ag Aelodau dros y rhaglen honno maes o law pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau pellach arni. Ond gallaf eich sicrhau y bydd cryn dipyn o ddeddfwriaeth sylfaenol yn dod drwodd.

A gaf fi wneud un pwynt ychwanegol yn ogystal? Deillia'n rhannol o ganlyniad i'r Senedd ddiwethaf a sefyllfa COVID a Brexit, mae'n debyg, sef nad yw'n ddigon pasio'r ddeddfwriaeth yn unig; rhaid inni sicrhau hefyd, o fewn cyfnod mor effeithlon â phosibl o amser, ein bod yn gweithredu'r ddeddfwriaeth yn ogystal, ac mae pob darn gweithredu yn cyfateb bron i ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol, fel y gŵyr yr Aelod, yn ei hawl ei hun, ac mae nifer enfawr o'r rheini, yn enwedig ym maes addysg, ond mewn meysydd eraill hefyd.

14:55
Cymryd Rhan mewn Etholiadau

3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru? OQ57249

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn, ac am y cwestiwn. Cyhoeddais ddatganiadau ysgrifenedig ar 29 Gorffennaf a 9 Tachwedd am ein rhaglen ddiwygio etholiadol. Byddwn yn defnyddio'r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai i brofi gwahanol ffyrdd o bleidleisio a sicrhau bod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch â phosibl ac y gall pawb sydd am bleidleisio wneud hynny, ac y bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, fel llawer o Aelodau'r Senedd, roeddwn yn falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio, ond ar yr un pryd, credaf fod gennym gyfeiriad teithio anffodus gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'i hargymhellion ynghylch cardiau adnabod pleidleiswyr, a fydd yn lleihau'r nifer sy'n pleidleisio ac yn fwyaf arbennig yn difreinio aelodau o rannau mwy ymylol o'n poblogaeth.

Y set nesaf o etholiadau i ni yma yng Nghymru, fel y sonioch chi, Gwnsler Cyffredinol, yw'r etholiadau lleol y flwyddyn nesaf. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, gyda chefndir cyffredinol yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ond gyda phryder hefyd ynglŷn ag argymhellion Llywodraeth y DU, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol hynny yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Diolch am y sylwadau, a chredaf ei bod yn deg dweud hefyd—credaf fod yr Aelod wedi cyfeirio at y cynlluniau sydd ar y gweill, y cynlluniau peilot—maent wedi bod yn anhygoel o boblogaidd. Credaf fod y sylwadau'n rhai cadarnhaol, gyda phobl yn dweud, 'Ie, mae'r rhain yn syniadau synhwyrol', ac mae hynny'n wir. Dim ond cynlluniau peilot ydynt—maent yno i brofi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth etholiadol y gobeithiwn ei chyflwyno i ddiwygio ac i foderneiddio ein system etholiadol ac i ddod â hi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud hefyd, am argymhellion Llywodraeth y DU, na fwriedir iddynt gael eu defnyddio yn etholiadau Cymru, a beth bynnag, mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn annhebygol o ddod i rym cyn etholiadau'r cynghorau ym mis Mai 2022, neu fod wedi ei chwblhau erbyn hynny hyd yn oed.

Felly, mae'r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai yn rhoi cyfle inni weithio i wella hygyrchedd, ac wrth gwrs, mae gwaith ar y gweill yn rhan o'r cynlluniau peilot hynny. Mae rhywfaint o'r gwaith hefyd yn ymwneud â chofrestru a'r cymorth rydym wedi'i roi'n ariannol i fater cofrestru etholiadol, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau cymaint o gofrestriadau etholiadol ag sy'n bosibl, oherwydd nid oes gan unrhyw ddemocratiaeth ddilysrwydd os nad oes nifer sylweddol o bobl naill ai wedi'u cofrestru i gymryd rhan neu os nad ydynt yn cymryd rhan mewn gwirionedd. Felly, rhaid inni weld hyn fel rhan o iechyd democrataidd Cymru a gobeithio, fel Llywodraeth, ein bod yn Llywodraeth sy'n gyfan gwbl o ddifrif ynghylch iechyd democratiaeth.

Fe gyfeirioch chi hefyd, rwy'n credu, at bryderon sylweddol ynglŷn â'r effaith y gallai cardiau adnabod pleidleiswyr ei chael, ac wrth gwrs, cafwyd nifer o adroddiadau a sylwadau, yn enwedig gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, sydd wedi mynegi pryderon difrifol iawn am yr effaith y byddai'n ei chael ar leiafrifoedd ac maent wedi tynnu sylw at y pwynt nad oes sylfaen dystiolaeth amlwg i hyn.

Felly, rydym hefyd yn edrych ar sut y gallem wella mecanwaith etholiadau, symleiddio'r ffurflenni, y ffurflenni pleidleisio drwy'r post, cofrestru ar-lein, ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod llai o gamgymeriadau'n digwydd pan fydd pobl yn pleidleisio, a phan fydd pobl yn bwrw eu pleidlais fod y bleidlais honno'n cael cyfle i sicrhau ei bod yn cael ei chyfrif mewn gwirionedd. Felly, mae'r pethau hynny'n cael eu hystyried hefyd, a phan fydd yr etholiadau llywodraeth leol wedi bod, credaf y byddwn wedi dysgu llawer mwy a gobeithio y bydd hynny'n cyfrannu'n sylweddol at ddiwygio'r system etholiadol yn llawer ehangach a mwy radical.

Weinidog, mae bob amser yn braf clywed Gweinidogion yn sôn am bwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiadau, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod hyder ac ymddiriedaeth mewn unrhyw lywodraeth yn dechrau gyda'r bleidlais, a'r bleidlais yw sylfaen democratiaeth wrth gwrs. Ac er mai yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai y gwelwyd y nifer uchaf erioed o bleidleiswyr ar gyfer Senedd Cymru, dim ond 46.6 y cant a bleidleisiodd er hynny, o'i gymharu â 63.5 y cant yn etholiadau Holyrood ym mis Mai yn yr Alban a 67.3 y cant yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019. Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn rhannu fy mhryderon ynghylch y nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd o ystyried pwysigrwydd ein Senedd a'r cyfrifoldeb sydd ganddi. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda swyddogion cyfatebol yn Senedd y DU a Senedd yr Alban i ddeall pam y mae cymaint mwy o bobl yn pleidleisio yn yr etholiadau hynny nag a wnânt mewn etholiadau yma ar gyfer y Senedd?

15:00

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol, gan ei fod yn bwynt pwysig iawn, ac ni chredaf fod unrhyw fwled arian i'w gael ar gyfer y ganran sy'n pleidleisio. Mae'n amlwg ei bod yn broblem fod llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi'u heithrio oddi wrth y Llywodraeth, oddi wrth y prosesau deddfu, neu oddi wrth y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Credaf mai dyna pam fod gwaith y comisiwn cyfansoddiadol a sefydlwyd gennym, sydd i'w gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, mor bwysig, gan ei fod yn mynd i wraidd ein democratiaeth.

Fe wnaethoch bwynt hefyd sy'n cadarnhau fy marn ynglŷn â rhai o'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU a fyddai'n creu rhwystrau diangen i bobl rhag cymryd rhan a phleidleisio mewn etholiadau. Cefais lawer o drafodaethau gyda fy swyddogion cyfatebol ledled y pedair gwlad a chyda Llywodraeth y DU; yn anffodus, maent wedi ymwneud yn bennaf â'r materion sy'n gysylltiedig â'r Bil Etholiadau, a chredaf fod hynny'n siomedig, gan y gallai'r Bil Etholiadau fod wedi bod yn rhywbeth a allai fynd i'r afael â'r materion hynny mewn ffordd arall. Mewn gwirionedd, credaf ei fod yn gwneud i'r gwrthwyneb yn ôl pob tebyg. Yr hyn y byddwn yn ei obeithio yw y bydd y cyfeiriad y byddwn yn mynd iddo gyda’r ddeddfwriaeth ddiwygio etholiadol y byddwn yn ei chyflwyno hefyd yn ceisio gwella a chynyddu cyfranogiad, osgoi rhwystrau diangen, a bod yn seiliedig ar egwyddorion cynwysoldeb yn ogystal â chadernid o ran yr hyder yn y system etholiadol.

Cymorth i Deuluoedd

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth a roddir i deuluoedd gan y system gyfiawnder yng Nghymru? OQ57227

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Gall teuluoedd wynebu ystod o broblemau cyfreithiol a allai alw am gymorth gan wahanol wasanaethau a ddarperir gan weithwyr proffesiynol preifat, sefydliadau gwladol a sefydliadau'r trydydd sector. Yn rhy aml, serch hynny, mae bylchau yn y cymorth hwnnw, yn anad dim oherwydd y gostyngiad dramatig yn argaeledd cymorth cyfreithiol yn y llysoedd teulu.

Diolch. Gwnsler Cyffredinol, ym mis Medi, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau y byddai cyfiawnder teuluol yn ffocws allweddol yn eich cyfnod yn y swydd, ac fe rannoch chi lawer o bryderon dilys ynghylch nifer y plant yng Nghymru sy'n cael eu derbyn i ofal. Yn gynharach eleni, cadarnhawyd bod 7,170 o blant bellach yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r holl blant. Mae hynny'n uwch na chyfartaledd cyfredol y DU, sef 0.72 y cant o blant. Rwy'n ymwybodol fod bwrdd cyfiawnder teuluol lleol gogledd Cymru yn un o ddwy ardal fraenaru sy'n cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi a gwerthuso rhaglen ddiwygiedig ar gyfer trefniadau plant. Nod y gwaith hwn yw hyrwyddo dulliau anwrthwynebus o ddatrys problemau ac ymdrin ag achosion, a helpu i leihau ôl-groniadau. A allwch gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch wrth ymwneud â'r gwaith hwn ac a fydd cynlluniau peilot o'r fath yn cael eu hefelychu yn unrhyw le arall yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng plant sy'n derbyn gofal, lle bynnag y bônt?

Diolch, a diolch am eich sylwadau. Yr ateb i hynny yw 'byddant'. Mae nifer o gynlluniau peilot ar waith ac mae llysoedd datrys problemau yn fater penodol hefyd. Fel rhywun â llawer o brofiad o faes gofal plant, rwy'n croesawu'r newidiadau sydd wedi bod yn digwydd. Rwyf wedi ymweld â rhai o'r llysoedd i edrych arnynt. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda nifer o aelodau o’r farnwriaeth ynglŷn â sut y mae hynny’n gweithredu, ac am y cymorth sy’n barhaus. Rwyf hefyd yn cysylltu’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd hefyd yn gwneud cryn dipyn o waith yn y maes penodol hwn. Credaf fod rhai o'r cynlluniau peilot hyn yn bwysig iawn. Maent hefyd yn un o'r meysydd lle rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sut i'w datblygu a sut i wneud ein gorau i sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cael eu cadw gyda'u mamau, a llai ohonynt yn cael eu derbyn i ofal. Rydych yn codi'r anomaleddau sy'n bodoli, ac wrth gwrs, mae'n fater a godwyd gan yr Arglwydd Thomas, a'i cododd yn ddiweddar yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rwy'n credu, yn ogystal â'r angen i edrych yn gyffredinol yng Nghymru ar y data, yr ystadegau sy'n bodoli, i weld pam fod yr amrywiadau hyn yn digwydd a beth y gellir ei wneud i'w datrys ac ymdrin â'r mater cymdeithasol pwysig hwn. Credaf fod angen cyfeirio gweddill y cwestiwn at yr Aelod portffolio priodol.

15:05

Rwy'n deall y byddwch chi, Gwnsler Cyffredinol, yn cymryd rhan mewn cynhadledd ar gyfiawnder a'r heddlu yr wythnos nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd gyda Liz Saville Roberts. Bydd yn canolbwyntio ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a oedd wedi argymell datganoli cyfiawnder ddwy flynedd yn ôl. Wrth gwrs, fel rydyn ni wedi clywed, mae datganoli cyfiawnder nawr yn bolisi Llywodraeth Cymru, ac roedd yn ffurfio rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth sydd wedi cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, hefyd. Ond wrth edrych ymlaen at y gynhadledd, felly, yng nghyd-destun hynny, hoffwn i ofyn ynglŷn â dau beth mewn cysylltiad â'r mater o gefnogi teuluoedd. Yn gyntaf, buaswn i'n hoffi cael diweddariad am y peilot llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Beth yw'r cynnydd hyd yn hyn, os gwelwch yn dda, a beth yw'r camau nesaf? Ac yn olaf, hoffwn glywed eich barn, Gwnsler Cyffredinol, am sylwadau'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ddydd Llun. Roedd e wedi argymell sefydlu bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru gyfan yn ogystal â bwrdd cyfiawnder teuluol Cymru gyfan. Beth fyddai eich sylwadau chi ar hynny, os gwelwch yn dda?

Yn gyntaf, edrychaf ymlaen yn fawr at y gynhadledd ar-lein y cyfeiriwch ati, sy'n ddigwyddiad trawsbleidiol, ac yn un sydd hefyd yn cynnwys yr Arglwydd Thomas, ond sydd hefyd yn cynnwys yr undebau llafur, y bobl sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder. Credaf y bydd llawer i'w ddysgu o hynny, ond nid oes unrhyw amheuaeth gennyf, ac unwaith eto, i ailadrodd sylwadau'r Arglwydd Thomas, nad yw'n gwestiwn o os yw datganoli cyfiawnder yn digwydd, ond pryd.

Ar y sylwadau, gwrandewais yn astud iawn ar dystiolaeth yr Arglwydd Thomas i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac ar yr argymhellion neu'r awgrymiadau penodol a wnaeth. Mae'n debyg mai'r gorau y gallaf ei ddweud yw bod gennyf gryn ddiddordeb mewn edrych ar sut y gallwn eu harchwilio a'u datblygu ymhellach.

Cyfrifoldeb am Ddifrod yn Sgil Llifogydd

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsel Cyffredinol wedi'i roddi i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfrifoldeb am ddifrod yn sgil llifogydd? OQ57252

Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ym mis Hydref y llynedd ac mae'n nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau. Nid yw'r rhain bob amser yn hollol syml, a dyna pam fod gennym fesur yn y strategaeth sy'n gofyn i'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o egluro'r ddeddfwriaeth.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ddatgan fy mod yn gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf. Fel y gwyddoch, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi pedwar adroddiad adran 19 hyd yn hyn ar y llifogydd a gafwyd ledled y fwrdeistref sirol o ganlyniad i storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Canolbwyntiodd un o'r adroddiadau ar y llifogydd ym Mhentre, lle bu mwy o lifogydd wedi hynny wrth gwrs. A all y Cwnsler Cyffredinol nodi beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol pe bai pobl yn ceisio iawndal gan Cyfoeth Naturiol Cymru o gofio ei fod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru? A fyddai gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru fel ariannwr y corff unrhyw atebolrwydd posibl? Fe gyfeirioch chi at gymhlethdodau o safbwynt atebolrwydd mewn perthynas â'r strategaeth, felly credaf y byddai eglurder ar hyn yn ddefnyddiol.

A gaf fi ddweud nad yw'n briodol imi roi cyngor fel Cwnsler Cyffredinol ynghylch hawliau cyfreithiol unigolion ac yn y blaen? Os ydynt yn credu bod problemau, dylent o reidrwydd eu codi gyda'u cynghorwyr cyfreithiol eu hunain.

15:10

Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol. Gŵyr pob un ohonom fod y newid yn yr hinsawdd yn achosi digwyddiadau tywydd eithafol yn fwyfwy aml, digwyddiadau tywydd eithafol sy'n achosi difrod a dinistr enfawr—digwyddiadau tywydd eithafol fel storm Christoph, a achosodd ddinistr ar draws fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn. Mae'r digwyddiadau hyn y tu hwnt i allu cynghorau lleol i baratoi ar eu cyfer, y tu hwnt i'w gallu i ddiogelu yn eu herbyn. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno felly na ddylai fod yn rhaid i'r cynghorau dalu'r bil am lanhau ar ôl y dinistr, ac os ydych yn cytuno â mi, a wnewch chi annog eich cyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i Gyngor Sir Dinbych ar gyfer ariannu'r gwaith o ailadeiladu pont hanesyddol Llannerch, a ddinistriwyd yn stormydd 2021? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gwn fod cyllid ychwanegol ar gael i gynghorau mewn perthynas â difrod llifogydd ac atgyweirio seilwaith. Ond rwy'n croesawu'r egwyddor y mae'n ei chrybwyll yn fawr iawn, gan mai dyma'r union egwyddor rydym wedi'i chrybwyll wrth Lywodraeth y DU mewn perthynas â thomenni glo. Mater o ddifrod hinsawdd yw hwn. Ceir cyfrifoldeb moesol, gwleidyddol a moesegol dros waddol ein pyllau glo a'r risgiau sy'n bodoli bellach, a'r gost bosibl a fydd yn wynebu llawer o'n cynghorau mewn perthynas â'r ansefydlogrwydd sy'n datblygu yn y tomenni glo hynny o ganlyniad i newid hinsawdd. Rwy'n ddiolchgar am eich sylwadau, oherwydd yn sicr, maent yn sylwadau y gallwn eu trosglwyddo i Lywodraeth y DU mewn perthynas â'u methiant i ddarparu'r cyllid y credaf fod gennym hawl iddo.

Deunyddiau Cladin Llosgadwy

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y gwaharddiad ar ddeunyddiau cladin llosgadwy a weithredwyd gan Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019? OQ57232

Diolch am eich cwestiwn. Rhoddwyd Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ar waith gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd fel ymateb uniongyrchol i adroddiad Hackitt, yn dilyn yr ymchwiliad annibynnol i drasiedi Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ysgogiadau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i wneud gwelliannau pellach i ddiogelwch adeiladau.

Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Senedd ddiwethaf wedi ysgrifennu at y Gweinidog tai gan dynnu sylw at y ffaith nad oedd y gwaharddiad ar ddeunyddiau cladin llosgadwy yn berthnasol i adeiladau o dan 18 metr. A oedd rheswm cyfreithiol am hynny? Fe wnaethant hefyd godi pryderon ynghylch cymorth i lesddeiliaid. Pa gyngor diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi mewn perthynas â diogelwch tân, ac onid yw'n hen bryd inni gael gwared ar system hynafol lesddeiliadaeth yng Nghymru?

Diolch am eich pwynt atodol. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Aelod wedi bod yn weithgar iawn ar y mater penodol hwn. Mae'n debyg mai'r man cychwyn, pan ddown at wraidd y mater, yw mai'r datblygwyr yn y pen draw yw'r bobl a ddylai fod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Fel sy'n digwydd yn aml, cyrff cyhoeddus a chyrff gwladol sydd wedyn yn ysgwyddo'r gwaith o fynd i'r afael â methiannau'r sector preifat mewn perthynas â'r meysydd hynny. Rydym wedi bod o'r farn ers tro nad lesddeiliaid a greodd y problemau a nodwyd, ac y dylai datblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau moesol ac unioni'r materion hyn heb godi tâl ar y lesddeiliaid. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dweud hyn yn glir wrth ddatblygwyr ac wrth lesddeiliaid yn gyson.

Mae rhywfaint o gyllid ar gael, ac ers 30 Medi mae modd i bobl sy'n gyfrifol am adeiladau preswyl canolig ac uchel yng Nghymru gyflwyno datganiadau o ddiddordeb am arian o gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Bydd y cam cyntaf hanfodol hwn yn darparu cyllid ar gyfer arolygon diogelwch tân a'r gwaith o greu pasbortau adfer adeiladau. Bydd y rhain yn nodi pa fesurau a chamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod adeilad amlbreswyl mor ddiogel â phosibl, ac yn diogelu bywydau ac eiddo os bydd tân. Ac wrth gwrs, mae'r Aelod ei hun wedi dweud yn glir iawn, yn gwbl gywir, nad yw'r mater yn ymwneud â chladin yn unig—mae'r materion mewnol yn hynod bwysig hefyd.

Rydym yn bwriadu cynnig pecyn cymorth i lesddeiliaid a phreswylwyr a fydd yn caniatáu iddynt deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, ac yn caniatáu iddynt wneud penderfyniadau am y dyfodol. Felly, mae diogelwch adeiladu'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a phan fydd gennym eglurder ynghylch dyraniadau cyllid, byddwn mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau ynglŷn â'r cyllid yn y dyfodol i gefnogi'r gwaith o adfer diogelwch adeiladau.

Ar fater y 18 metr, dyma'r tro cyntaf imi gael fy holi'n benodol pam ei fod yn 18 metr. Efallai y dylwn anfon ymateb at yr Aelod yn benodol ynglŷn â hynny. Yn ôl pob tebyg, credaf y gallwn roi fy marn ynglŷn â pham fy mod yn credu ei fod yn 18 metr, ond credaf ei bod yn bwysig bod yn fanwl gywir gyda'r pethau hyn.FootnoteLink

15:15
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd ar gyfer hawliau sifil yng Nghymru? OQ57247

Diolch unwaith eto am godi mater pwysig iawn. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar y darpariaethau ar gyfer y drefn gyhoeddus a geir yn Rhan 3 o Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd wedi'i nodi yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd gerbron y Senedd ar 28 Mai 2021.

Gwnsler Cyffredinol, rwy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar hil a chydraddoldeb a chyfarfu’r grŵp ddoe i drafod Rhan 4 o’r Bil, a fydd, fel y gwyddoch, yn argyhuddo teuluoedd sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ar sail eu ffordd o fyw. Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol hwnnw ddoe, a fynychwyd gan dros 60 o bobl, clywsom gan ystod o gynrychiolwyr o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys Teithio Ymlaen, lleisiau cymunedol a’r Gymdeithas Gwaith Cymdeithasol Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a mynegodd pob un ohonynt bryder a dicter ynghylch y ddeddfwriaeth arfaethedig hon. Byddai'n ei gwneud yn anoddach fyth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr fyw mewn ffordd nomadaidd, sy'n ddigon anodd yn barod, o ystyried y diffyg safleoedd swyddogol parhaol a dros dro.

Felly, yn yr amgylchiadau hynny, Gwnsler Cyffredinol, a allwch amlinellu'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu hawliau cymunedau o'r fath, sydd o dan gryn fygythiad yn sgil y ddeddfwriaeth gyfredol hon gan Lywodraeth y DU?

Diolch am eich cwestiwn atodol. Wrth gwrs, y Bil penodol hwn—mewn gwirionedd, mae'n dri darn o ddeddfwriaeth wedi'u rhoi at ei gilydd, a dyna pam ei fod mor gymhleth. Ac mae eironi yn y ffaith bod rhai eitemau ynddo sy'n sicr yn werth eu hystyried, ac yn amlwg, mae llawer o welliannau'n cael eu trafod ar hyn o bryd. Mae un gwelliant sy'n ymwneud â thrais difrifol dan ystyriaeth ar hyn o bryd y gellid ei gynnwys yn y categori hwnnw. Ond wrth gwrs, mae'r Bil yn cynnwys cryn dipyn o'r hyn y byddem yn ei alw, rwy'n creu, yn ddarpariaethau cul—sy'n groes i hawliau sifil—ac sy'n gwbl ddiangen. Y cyfyngiadau y byddai'n eu gosod ar orymdeithiau cyhoeddus, cynulliadau cyhoeddus, ar brotestiadau gan unigolion—a buom yn siarad yn gynharach, oni fuom, am bobl yn cymryd rhan mewn democratiaeth ac yn teimlo'n rhan o ddemocratiaeth—. Mae hon yn enghraifft arall o ddeddfwriaeth sy'n gwahanu pobl oddi wrth y prosesau democrataidd.

Ac wrth gwrs, yr un y mae'r Aelod yn arbennig o bryderus yn ei gylch—a gallaf ddeall hynny; gwn ei fod yn bryder a rennir o ddifrif gan Jenny Rathbone, ac yn sicr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a ​​llawer o bobl eraill yma, rwy'n tybio—yw'r pwerau troseddoli mewn perthynas â'r hyn a elwir yn wersylloedd diawdurdod. Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn yn dymuno rhoi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Credwn ei fod yn cael effaith aruthrol ar faes datganoledig; mae gennym agenda bolisi wahanol ar ymgysylltu â phobl ac ymgysylltu â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn dymuno ei barhau. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i adrodd maes o law. Ac wrth gwrs, rwy'n tybio y bydd memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach maes o law pan fydd y mater hwn yn codi ac yn cael ei drafod yn y Siambr hon eto.

Ymestyn yr Etholfraint i Garcharorion

8. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru o ran ymestyn yr etholfraint i garcharorion? OQ57235

Wel, diolch. Mae'n fater pwysig ar ein hagenda diwygio etholiadol. Oherwydd y pandemig, ni wnaethom ddiwygio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fel roeddem wedi bwriadu'i wneud, i ganiatáu i rai carcharorion o Gymru bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Byddwn yn dychwelyd at y mater yn nhymor y Senedd hon.

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Gwnsler Cyffredinol, gan fod cymaint o'i le gyda'r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig y methiant i gael unrhyw effaith ar adsefydlu carcharorion, oherwydd bod y gwasanaeth carchardai wedi'i danariannu ac oherwydd y ffordd gwbl annigonol rydym yn trin carcharorion. Maent yno i gael eu cosbi, ond maent yno hefyd i gael eu hadsefydlu. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod carcharorion—neu'r rhan fwyaf o garcharorion, o leiaf—yn cael y bleidlais, er mwyn sicrhau bod annigonolrwydd y gwasanaeth cyhoeddus a ddarparwn drwy ein carchardai, sy'n eithriadol o ddrud, yn cael ei godi a'i drafod a'i ystyried yn briodol gan unrhyw un sy'n Aelod etholedig.

15:20

Wel, diolch am eich sylwadau atodol a'ch cwestiwn. Mae'n deg dweud bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â dyfarniad Hirst yn 2005 yn Llys Hawliau Dynol Ewrop, a ganfu fod y DU yn torri'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, am fod y rhan mwyafrif llethol o garcharorion a gafwyd yn euog ac sy'n bwrw dedfryd o garchar wedi'u difreinio ar gyfer etholiadau'r DU.

Nawr, credwn ei bod yn iawn diwygio'r gyfraith yn y maes hwn. Gwnaethom ymgynghori ar y mater yn 2017. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno y dylem roi'r bleidlais i rai carcharorion o leiaf. Fel y gŵyr yr Aelod, yn ystod y Senedd ddiwethaf, argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylid ymestyn yr etholfraint i garcharorion a phobl ifanc sydd yn y ddalfa ac sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd ar gyfer etholiadau datganoledig Cymru.

Nid oedd ymgynghoriad 2017 yn cynnwys cwestiwn penodol ar ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed sydd yn y ddalfa. Felly, cyn y gallem ystyried hynny, byddai'n rhaid inni ymgynghori eto. Ond byddwn hefyd yn ystyried ymhellach a ddylai carcharorion allu pleidleisio yn etholiadau nesaf y Senedd. Byddwn yn ymgynghori ar hyn, a gallaf eich sicrhau bod y rhain yn faterion y byddwn yn eu hystyried mewn perthynas â'r agenda diwygio etholiadol sydd gan Lywodraeth Cymru.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a fydd yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1—John Griffiths.

Digwyddiadau Allanol

1. Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio ystâd y Senedd ar gyfer digwyddiadau allanol? OQ57241

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar ystâd y Senedd am amrywiaeth o resymau. Maen nhw'n helpu'r Aelodau i ymgysylltu â'r cyhoedd, ac yn rhoi cyfle inni gyd wrando a thrafod yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru. Mae'r rheolau sy'n llywodraethu defnyddio'r ystâd ar gyfer digwyddiadau yn egluro na ddylid ei defnyddio am resymau sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, nac er budd masnachol, ac ni ddylent gynnwys deunydd a allai beri tramgwydd. Cyfrifoldeb yr Aelodau sy'n noddi'r digwyddiadau hynny yw sicrhau eu bod yn glynu wrth y polisïau yma.

Diolch, Lywydd. Lywydd, yr wythnos diwethaf, defnyddiwyd ystâd y Senedd ar gyfer digwyddiad gyda Japan Tobacco International ar fynd i’r afael â gwerthu tybaco'n anghyfreithlon. Ceir cryn bryder ynghylch y digwyddiad hwn. Mae Ash Cymru, er enghraifft, yn bryderus iawn. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd gonfensiwn fframwaith ar reoli tybaco, sy'n amlinellu sut y mae'n rhaid cadw pellter rhwng y broses wleidyddol, polisïau iechyd cyhoeddus a buddiannau masnachol yn y diwydiant tybaco.

Lywydd, rwy'n credu ei bod wedi dod yn fwyfwy amlwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod y diwydiant tybaco yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraethau a deddfwrfeydd a gwleidyddion ac agenda iechyd y cyhoedd, drwy ddigwyddiadau a thrwy gyswllt o'r fath. O ystyried y niwed ofnadwy y mae tybaco yn parhau i'w wneud i iechyd a lles pobl yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r byd, credaf ei bod yn iawn ein bod yn ystyried polisïau Sefydliad Iechyd y Byd yn ofalus, a gweld a yw caniatáu defnydd o ystâd y Senedd at y dibenion hyn yn groes i'r hyn yr hoffai Sefydliad Iechyd y Byd ei weld.

Mae'r materion hyn yn esblygu ac yn newid, Lywydd. Mynychais ddigwyddiad fy hun ddwy flynedd yn ôl gyda'r un cwmni ar ystâd y Senedd. Ond gwnaed cryn dipyn o ymchwil ers hynny—er enghraifft, gan Brifysgol Caerfaddon—a chredaf ei bod yn dod yn fwyfwy eglur sut y mae'r diwydiant tybaco'n tueddu i weithredu er mwyn ceisio hyrwyddo ei fuddiannau masnachol. Lywydd, tybed a allwch roi rhywfaint o ystyriaeth i'r materion hyn. Rwy'n siŵr eich bod yn parhau i adolygu'n gyson sut y dylid a sut na ddylid defnyddio ystâd y Senedd. Tybed a fydd digwyddiadau penodol, fel yr un yr wythnos diwethaf, yn cael eu hystyried ymhellach.

Wel, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae gennym weithgareddau na chaniateir eu cynnal ar ystâd y Senedd ar hyn o bryd, sef digwyddiadau at ddibenion masnachol a busnes, gweithgareddau pleidiol wleidyddol ac unrhyw ddigwyddiad sy'n arddangos deunyddiau a all beri tramgwydd. Rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad yr wythnos diwethaf a pheth o'r sylw a roddwyd iddo yn y wasg, a'r safbwyntiau a fynegwyd gennych. Ein dealltwriaeth ni oedd mai amcan y digwyddiad oedd addysgu Aelodau ar y fasnach dybaco anghyfreithlon yng Nghymru, ac felly nid oedd, fel y cyfryw, yn mynd yn groes i'r meini prawf.

Ond rydych wedi codi'r pwynt ynghylch yr angen i barhau i adolygu'r defnydd o'n hystâd a'r hyn rydym yn ei ystyried yn ddefnydd priodol o'n hystâd. Ac fel Comisiwn, rwy'n siŵr ein bod yn barod i wneud hynny bob amser. Efallai na fydd yn ymwneud â materion unigol o’r math hwn, na chwmnïau unigol yn wir, ond os oes yna egwyddorion y mae unrhyw Aelod yn teimlo y dylai'r Comisiwn eu hystyried wrth ddiwygio unrhyw godau sydd gennym ar gyfer defnyddio’r ystâd, byddwn yn fwy na pharod i fynd â'r materion hynny o egwyddor at y Comisiwn.

15:25
Offer TG

2. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud gydag offer TG nad yw bellach yn addas i'r diben? OQ57236

Mae'r Comisiwn yn defnyddio busnes lleol yn y Barri sy'n arbenigo mewn gwastraff trydanol. Mae'r data ar yr offer yn cael eu dileu i'n safonau gofynnol cyn y caiff yr offer eu hanfon i'w hailddefnyddio neu eu hailgylchu fel sy'n briodol. Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n hwyluso rhodd dorfol o offer dechnoleg gwybodaeth, yr offer hynny oedd yn cael eu defnyddio gan Aelodau ac a gafodd eu hadnewyddu yn dilyn yr etholiad yn gynharach eleni, a bydd y pecyn yma o offer yn mynd i achosion teilwng ar hyd a lled Cymru.

Wel, diolch yn fawr. Mae'n dda gwybod y bydd yr offer hwn sy'n ddiangen o'n safbwynt ni yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag achosion teilwng ledled Cymru. A yw'r Comisiwn wedi ystyried rhoi rhywfaint ohono i wledydd sy'n datblygu y mae gennym berthynas agos â hwy, drwy raglen Cymru ac Affrica? Oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o'r gwledydd hyn fawr ddim offer TG, ac er mwyn ymgysylltu â'r byd ehangach, ac yn sicr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd, mae angen gliniadur arnoch i allu ei wneud yn effeithiol.

Mae'n ddigon posibl fod hyn wedi cael ei ystyried yn y gorffennol; nid wyf yn gwybod yr union ateb i'r cwestiwn a ofynnwch. Y polisi ar hyn o bryd, a’r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw ceisio ailddefnyddio ac ailgylchu’r offer, gan ddefnyddio amrywiaeth o gwmnïau yng Nghymru a all wneud defnydd priodol o'r offer. Nid wyf yn gwybod a oes rhywfaint ohono'n mynd i wledydd sy'n datblygu wedyn; rwy'n siŵr y gallem wneud ychydig o ymchwil i ganfod yr ateb. Fe ofynnaf y cwestiwn i'r swyddogion ynglŷn â pha weithgareddau rydym wedi'u cyflawni i weld a oes modd cysylltu'n uniongyrchol ag elusennau a sefydliadau eraill sy'n gweithio mewn gwledydd sy'n datblygu, er mwyn gweld a oes potensial i ailddefnyddio ein hoffer TG diangen yng nghyd-destun gwledydd sy'n datblygu. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny i chi.

A dweud y gwir, rwy'n siomedig faint o offer TGCh, sy'n gymharol ifanc yn fy marn i, sy'n cael ei symud a faint o offer newydd sy'n cael ei brynu. Mae uwchraddio a phrynu'n barhaus yn anhygoel o ddrud. A gaf fi ofyn ichi adolygu eich rhaglen adnewyddu offer TGCh? Ac a gaf fi ofyn hefyd ichi ofyn i'r Aelodau a ydynt yn fodlon gyda'r offer sydd ganddynt cyn mynd ag ef oddi arnynt?

Wel, rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, yn dilyn yr etholiad ac yn dilyn y cylch pum mlynedd o ddarpariaeth TGCh, fod offer TG wedi cael ei adnewyddu ar gyfer yr Aelodau, fod offer newydd wedi'i brynu ar gyfer yr Aelodau, ac maent wedi gallu dewis pa offer y maent yn dymuno'i ddefnyddio. Credaf mai'r pwynt pwysig i'w wneud yma yw bod angen inni sicrhau bod ein hoffer yn addas at y diben bob amser—mae addas at y diben yng nghyd-destun TG bellach yn golygu bod yn rhaid inni fod yn seiberddiogel, ac i fod yn seiberddiogel, mae angen ichi gael yr offer mwyaf diweddar a'r caledwedd a'r meddalwedd mwyaf diweddar. Dyna'r cyngor proffesiynol a roddwyd i ni gan arbenigwyr TGCh ac arbenigwyr seiber, ac nid wyf yn credu y byddem yn dymuno peryglu diogelwch TGCh y Senedd er mwyn galluogi un Aelod, dau Aelod, i gadw hen liniadur y gallent fod wedi dod yn hoff iawn ohono. Credaf fod angen inni sicrhau bob amser ein bod yn seiberddiogel. Mae angen inni barhau â'n busnes; mae hynny'n bwysig i bobl Cymru.

15:30
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Luke Fletcher.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 15 Tachwedd, cefais y pleser o fynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol Baobab Bach, cwmni buddiannau cymunedol a sefydlwyd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r nod o ddarparu bwyd o ansawdd uchel i unrhyw un sydd ei eisiau—dim profion modd, dim cwestiynau, dim stigma. Am £5, gallwch ddod i'r pantri cymunedol a chymryd cymaint ag sydd ei angen arnoch. Mae Baobab Bach yn cynnal rhwydwaith o bantrïau cymunedol, gydag 11 ar draws y sir ar hyn o bryd, ac uchelgais i sefydlu mwy, ac mae pob un ohonynt yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr. O Bencoed i Nant-y-moel i Borthcawl, mae'r pantrïau cymunedol hyn wedi bod yn achubiaeth i'n cymunedau. Ers mis Hydref 2020, gyda'i gilydd, mae'r pantrïau cymunedol wedi dosbarthu 6,469 bag o fwyd, sy'n cyfateb i 1.45 tunnell yr wythnos. Ac o ble y daw'r bwyd hwn? O'r archfarchnadoedd: M&S, Tesco, Co-op. Maent yn cymryd y bwyd sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio, gan ein helpu ni i gyd i arbed gwastraff bwyd; mae'n dda i'r boced, ac mae'n dda i'r blaned hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld i ble mae Baobab Bach yn mynd nesaf, a hoffwn ddweud wrth y tîm cyfan, John ac Alison a'r gwirfoddolwyr ymroddedig, pob lwc, a diolch.

James Evans. Mae angen i James agor ei feicroffon. A all rhywun agor meicroffon James Evans?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos nesaf, bydd ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal yn Llanelwedd ar ôl dwy flynedd o absenoldeb. Wedi'i sefydlu ym 1990, mae'r ffair aeaf bellach yn un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr sioeau amaethyddol Prydain fel un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, ac mae'n arddangos y gorau o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae'r digwyddiad hefyd yn arddangos y bwyd a diod gorau, gan ganiatáu i bobl flasu a mwynhau'r cynnyrch Cymreig gorau. A hithau wedi'i chanslo ers 2019 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae'n wych gweld y gymdeithas yn croesawu arddangoswyr ac ymwelwyr yn ôl i faes y Sioe Frenhinol. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan a'r Aelodau ar-lein yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer ffair aeaf lwyddiannus iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn, a dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:33.

15:40

Ailymgynullodd y Senedd am 15:44, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil diogelwch cladin

Croeso nôl. Wrth symud ymlaen, mae gennym y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil diogelwch cladin. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7828 Rhys ab Owen, Mike Hedges, Peter Fox

Cefnogwyd gan Jane Dodds, Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau'r ddadl hon drwy ddyfynnu Non a Gwenallt Rees, sy'n byw nid nepell o'r fan hon: 

'Pam ŷn ni, perchnogion fflatiau, yn gyfrifol am wynebu costau anferthol datrys problemau cladin a grëwyd gan eraill?'

A dwi'n credu bod modd i ni, bob un ohonom ni, gytuno gyda hynny. Dim lan iddyn nhw yw e i dalu am gamgymeriadau eraill. 

Heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, mae cannoedd, os nad miloedd, fel Gwenallt a Non Rees, yn wynebu costau yswiriant enfawr, taliadau gwasanaeth a biliau i ymdrin â'r sgandal cladin. Mae llawer yn dioddef straen meddyliol oherwydd eu bod yn poeni y gallent fod yn byw mewn adeilad anniogel ac na allant symud. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r trigolion hyn yn ystod fy chwe mis yma yn y Senedd, ac mae'r straen yn amlwg ar wynebau cynifer ohonynt. Dywedodd un wrthyf ei fod yn gorwedd yn y gwely yn y nos nid yn unig yn poeni am gostau ariannol enbyd, ond hefyd yn arswydo am ddiogelwch ei anwyliaid.

Felly, diolch o galon i'r Aelodau hynny yn drawsbleidiol sydd wedi cyd-gyflwyno'r ddadl yma gyda mi, sef Peter Fox a Mike Hedges, ac i'r Aelodau hefyd sydd wedi cefnogi'r ddadl, sef Mabon ap Gwynfor a Jane Dodds. Mae hyn yn dangos yn glir fod yna gefnogaeth amlwg fan hyn, yn drawsbleidiol, yn y Senedd i gefnogi Gwenallt a Non a'r miloedd eraill sydd yn yr un sefyllfa. Hoffwn i hefyd ddiolch i ddau arall: diolch i David Melding ac i Leanne Wood, dau wnaeth godi'r mater yma yn gyson yn y pumed Senedd. Ac rwy'n hynod o falch bod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys diogelwch adeiladu. Mae yna egwyddorion hollbwysig yn y cytundeb yma. Rwy'n falch bod diwygio sylweddol ar y system diogelwch adeiladau yn rhan o'r cytundeb. Fel mae'r cytundeb yn ei ddweud, mae'r system bresennol wedi caniatáu, dro ar ôl tro,  diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd.

Rwyf hefyd yn falch i glywed am gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru, ac edrychaf ymlaen at ddarllen y manylion yn fuan. Pryd, felly, Gweinidog, y bydd preswylwyr yn clywed am fanylion yr ail gam? A phryd fydd arian y cam cyntaf yn cael ei ryddhau? Ac a fydd yr arian hynny yn cynnwys costau archwilio sydd wedi cael eu talu yn barod?

Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn gam positif ymlaen, ond mae angen datrysiad buan i hyn. Mae dros bedair blynedd o boen meddwl, o ddiffyg cwsg, o bwysau ariannol, yn gadael eu hôl ar breswylwyr. Mae'n rhaid i hyn ddirwyn i ben. Roeddwn yn siarad ag un person heddiw gyda'i wraig yn dioddef o ganser; dylen nhw ddim fod yn gorfod poeni am hyn hefyd.

Hoffwn gydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i geisio am rymoedd i gyflwyno treth ar hap ar enillion datblygwyr mawr. Byddai'r arian hynny yn y dyfodol yn gallu talu am ganlyniadau adeiladu gwael, am adeiladwyr yn torri corneli, yn hytrach na gadael i breswylwyr i ymladd brwydr hir a chostus ar eu pennau'u hunain.

Mae'r sgandal cladin yn enghraifft berffaith o sut y mae'r setliad datganoli yn gwneud cam â phobl Cymru ar hyn o bryd. Mae'r trigolion yn teimlo fel pe baent yn rhan o gêm ping-pong rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru. Maent yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Rydym eisiau sicrwydd y bydd yr arian a gyhoeddwyd gan Robert Jenrick, pan oedd yn Weinidog tai yn gynharach eleni, y £3.5 biliwn, yn cael ei ystyried yn wariant y DU, ac felly y byddwn ni, yng Nghymru, yn cael cyfran ohono. A yw Gweinidog Cymru wedi cael ateb i hynny eto? Ond os bydd yn fater i Lywodraeth Cymru, yn y grant bloc ychwanegol o £2.3 biliwn, o ganlyniad i'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, gyda swm canlyniadol a yw'r Gweinidog yn meddwl y bydd yn ddigon i ddatrys y sgandal cladin yma yng Nghymru?

Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn dilyn model Awstralia—dull Awstralia—lle mae'r Llywodraeth yn ad-dalu eu costau i lesddeiliaid yn gyntaf ac yna'n hawlio'r costau hynny'n ôl gan gyflogeion. Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth bŵer, mae ganddi ddylanwad, nad oes gan lesddeiliaid.

Yn olaf, mae'r sgandal wedi taflu goleuni ar holl fater hawliau lesddeiliaid. Onid yw'n hen bryd inni roi diwedd ar y crair hwn o'r gorffennol, y system hynafol hon, fel y maent wedi'i wneud yn yr Alban, Iwerddon ac ar draws y byd? Edrychaf ymlaen at Fil Cymru a fydd yn dod â'r sgandal cladin hon yng Nghymru i ben o'r diwedd. Diolch yn fawr.

15:50

A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am fy ngwahodd i gefnogi ei gynnig deddfwriaethol? Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a chredaf fod hyn yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r mater hwn i bob un ohonom ar draws y Siambr.

Mae fy nghyfraniad i'r ddadl yn canolbwyntio ar faterion sy'n wynebu nifer o fy etholwyr ac y maent wedi'u dwyn i fy sylw. Wrth ddweud hyn, hoffwn nodi'r holl waith a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, sy'n arwain ar ddiogelwch adeiladau ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Fel rwyf wedi sôn, Ddirprwy Lywydd, mae nifer o etholwyr sy'n berchen ar eiddo yn natblygiad Celestia ym Mae Caerdydd wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi eu pryderon ynghylch maint y problemau cladin sy'n wynebu preswylwyr. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gofynnwyd yn ddiweddar i rai preswylwyr dalu tâl gwasanaeth o hyd at £20,000 y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau gwaith atgyweirio ar y datblygiad. Bydd angen y lefel hon o gymhorthdal am nifer o flynyddoedd er mwyn cyflawni'r gwaith parhaus y bydd ei angen i sicrhau diogelwch yr adeilad. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno bod hyn yn eithriadol o annheg. Bydd llawer o'r preswylwyr yn methu fforddio talu unrhyw beth yn debyg i'r lefel honno o dâl gwasanaeth, ac ni ddylent orfod talu'r bil am rywbeth nad yw'n fai arnynt hwy. Yn y cyfamser, mae etholwr arall wedi dweud nad ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo oherwydd y problemau hyn, ac mae wedi cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ymddeol. Mae eu harian wedi'i glymu yn yr hyn y maent yn eu galw'n 'gartrefi diwerth'.

Nawr, deallaf fod hwn yn fater cymhleth sy'n galw am gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, felly rwy'n credu y byddai'r Aelodau'n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau diweddar y gallai'r Gweinidog fod wedi'u cael gyda'i swyddogion cyfatebol ar draws y DU ar y mater hwn. Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf fod angen sefydlu cronfa adeiladu yng Nghymru ar frys, fel y gall datblygiadau fel Celestia ddechrau gweithio i fynd i'r afael â'u diffygion tân ac adeiladu. Weinidog, a allwch gadarnhau a yw'n fwriad gennych i ddarparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i breswylwyr i'w cynorthwyo i dalu costau parhaus a phryd y bydd y cymorth hwn ar gael?

Yn y pen draw, fodd bynnag, mae angen gweithredu i atal y pethau hyn rhag digwydd eto. Mae gwir angen inni weld deddfwriaeth newydd sydd nid yn unig yn tynhau'r rheolau ynghylch defnyddio cladin ond sydd hefyd yn sicrhau bod y datblygwyr yn cadw'r cyfrifoldeb cyfreithiol dros fynd i'r afael â diffygion o ganlyniad i gynllun ac adeiladwaith adeilad.

I gloi, hoffwn nodi geiriau etholwr sydd wedi rhoi caniatâd imi ddyfynnu eu teimladau ar y mater hwn. Maent yn dweud,

'Mae iechyd meddwl preswylwyr yn cael ei niweidio. Ym mis Ionawr 2022, bydd niwed i'n waledi hefyd o ganlyniad i gynnydd o 200 y cant yn y tâl gwasanaeth. Mae'r cais chwyddedig hwn yn debygol o barhau am oddeutu pum mlynedd. Y canlyniad: bydd pobl yn colli eu cartrefi, bydd pobl yn colli eiddo a brynwyd i ddarparu pensiwn, a chofiwch mai'r unig bobl sy'n dioddef yw'r rhai diniwed.'

Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig pwysig hwn. Diolch.

Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth a ddywedodd Rhys na Peter, ond bu farw 72 o bobl o ganlyniad i drychineb Tŵr Grenfell. Adroddwyd yn gynharach eleni fod arolygon o adeiladau uchel ledled y DU, yn dilyn y tân, wedi dangos bod cladin llosgadwy a diffygion diogelwch tân yn achosi problemau mewn adeiladau uchel eraill—mewn llawer o adeiladau uchel eraill. Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y gallai fod angen gwaith adfer ar draean o adeiladau uchel ledled y wlad, gyda diffygion yn amrywio o fod yn rhai mân i fod yn rhai sylweddol. Ar hyn o bryd ceir 148 o adeiladau preswyl uchel ledled Cymru.

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd y digwyddiad yn Nhŵr Grenfell wedi datgelu mai un o'r prif resymau pam y lledaenodd y tân oedd y math o gladin a ddefnyddiwyd ar du allan yr adeilad. Yn fy etholaeth i, dywedir wrthyf y bydd taliadau gwasanaeth preswylwyr South Quay yn SA1 yn cynyddu mwy na £450,000 rhyngddynt i dalu am waith cladin ac yswiriant. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd y bydd y gost o unioni pob problem ar draws y safle yn y blynyddoedd i ddod yn fwy na £3 miliwn.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Gweinidog yn flaenorol, sef mai'r datblygwyr sydd wedi gwneud miliynau ar filiynau o bunnoedd o'r adeiladau hyn a ddylai dalu. Yn anffodus, adeiladwyd rhai ohonynt gan Carillion, sydd wedi mynd i'r wal erbyn hyn, ac efallai fod eraill wedi'u hadeiladu gan gwmnïau eraill neu gwmnïau cyfrwng un diben nad ydynt yn bodoli mwyach.

Mewn dau le yn fy etholaeth i, datblygiadau'r Copper Quarter ac SA1, mae pryder difrifol ynglŷn â chladin. Mae pobl sy'n berchen ar eiddo yn pryderu am eu diogelwch a'r gostyngiad trychinebus yng ngwerth eu heiddo, y prynwyd llawer ohono ar forgais ac sy'n mynd yn anodd iawn eu gwerthu, os nad yn amhosibl. I lawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt, problem cladin yw'r broblem fwyaf yn eu bywydau.

Nid problem i Gymru'n unig yw hi, a bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r heriau cymhleth sy'n wynebu adeiladau amlfeddiannaeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae hon yn broblem drwy Brydain gyfan, a bydd yn rhaid i'r cyllid ddod gan Lywodraeth San Steffan. Ers gormod o amser, mae preswylwyr adeiladau yr effeithiwyd arnynt wedi colli'r hawl i deimlo'n hyderus yn niogelwch eu cartrefi a'r gallu i symud ymlaen, i werthu eu cartrefi, i symud i rywle arall; rhywbeth y mae'r gweddill ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ac os oes gennym dŷ neu adeilad, gallwn ei werthu, gallwn brynu rhywle arall wedyn; gallwn naill ai brynu rhywle mwy neu rywle llai. Ni all y bobl hyn wneud hynny; maent yn methu symud, ac maent yn teimlo'n ddiflas iawn, a gallaf ddeall pam eu bod yn teimlo'n ddiflas. Ac mae pobl yn siarad llawer am iechyd meddwl yma. A allwch chi feddwl am unrhyw beth a fyddai'n effeithio ar eich iechyd meddwl yn waeth na bod mewn sefyllfa lle mae gennych ddyled enfawr, dyled rydych yn ei thalu, ond ni allwch wneud unrhyw beth â hi? Ni allwch ddatrys problem y ddyled, mae gennych ecwiti negyddol sylweddol ac ni allwch weld ffordd allan, ond mae biliau ychwanegol yn debygol o ddod i chi. Rwyf wedi cael dynion a menywod mewn oed yn crio ar y ffôn oherwydd yr effaith y mae hyn yn ei chael arnynt. Mae'n broblem go iawn sy'n effeithio ar bobl go iawn. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Rydym angen cyllid gan San Steffan a chodi tâl ar gwmnïau adeiladu i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi, neu fel arall bydd llawer o bobl mewn cyflwr gwael iawn.

15:55

Diolch yn fawr iawn i ti, Rhys, os caf i, Ddirprwy Lywydd, ddiolch iddo fo am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i Mike Hedges a Peter Fox am gefnogi'r ddadl.

Mae gennym ni yma, yn syml, fater o gyfiawnder sylfaenol, onid oes? Pwy ddylai dalu am y gwaith o arbrofi ac ail-wneud yr adeiladau mawr yma sydd yn bygwth iechyd a diogelwch y bobl sy'n byw ynddyn nhw? Ai'r preswylwyr, y tenantiaid i berchnogion, ddylai dalu drwy gynnydd yn eu rhent? Ai'r deilwyr les, pobl a brynodd y fflatiau yn ddiarwybod o'r problemau cyn bod y problemau hynny'n dod yn hysbys? Ai perchnogion yr adeiladau? Beth amdanom ni drethdalwyr, drwy'r Llywodraeth? Ynteu ai’r rheini a adeiladodd yr adeiladau yn y lle cyntaf ddylai dalu am hyn? Bedair blynedd ar ôl trychineb Grenfell, rydyn ni'n dal i ymrafael â'r cwestiwn yma.

Rŵan, yn anffodus, mae trachwant a hunanoldeb rhai yn golygu nad ydyn nhw'n fodlon cydnabod bai a chymryd cyfrifoldeb am y gwendidau sylweddol yma sydd yn bygwth iechyd a bywyd pobl. Heddiw, mae yna gannoedd os nad miloedd o bobl yn dioddef poen meddwl aruthrol wrth iddyn nhw feddwl am ddiogelwch eu cartrefi, neu wrth boeni am sut maen nhw am dalu'r gost o addasu eu cartrefi a hwythau heb fai o fath yn y byd am ganfod eu hunain yn y sefyllfa yma.

Ar ben hyn, does gan y Llywodraeth ddim data clir am faint o adeiladau yn union sydd angen gweithio arnyn nhw, heb sôn am faint o bobl sy'n cael eu heffeithio. Ond o ran manylion unrhyw ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â diogelwch cladin, mae’n werth nodi nad oes yna fesurau statudol i asesu system waliau allanol nac ychwaith ddogfen er mwyn cadarnhau diogelwch tân adeilad cyn belled ag y mae cladin yn y cwestiwn. Dydy hynny ddim yn bodoli ar hyn o bryd. Dyma fethiannau sylfaenol y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â nhw heb orfod dibynnu ar San Steffan i'w hysgogi. Mae'n resyn bod yna bedair blynedd wedi mynd heibio ers trychineb Grenfell ac nad ydy'r Llywodraeth wedi dod â Bil gerbron y Senedd eto, a bod y Llywodraeth bellach yn dibynnu ar Geidwadwyr San Steffan i'w gwthio i weithredu. Mae gan Gymru'r hawl i weld ei deddfwriaeth ei hun efo llais rhanddeiliaid Cymreig yn ganolog i lunio'r ddeddfwriaeth honno. Dyna pam fy mod i'n cefnogi'r cynnig yma gan Rhys ab Owen heddiw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Rhys a phobl eraill sy'n cefnogi hyn.

A gadewch i ni ddechrau gyda'r unigolion, oherwydd hwy sy'n bwysig ynghanol hyn i gyd. Fel y mae Rhys, Mike a Peter wedi'i ddweud, mae'n ymwneud â phobl, pobl fel y lesddeiliaid yn South Quay yn Abertawe, sy'n wynebu cynnydd o hyd at £4,000 y flwyddyn yn eu tâl gwasanaeth; pobl fel y lesddeiliaid yng Nghaerdydd, sy'n wynebu costau o hyd at £8,000 y flwyddyn, ac mae'r ffigur hwnnw'n debygol o godi yn anffodus; pobl sy'n teimlo eu bod yn aros i rywun weithredu wrth i'r costau godi, ac sy'n teimlo bod eu bywydau ar stop. Nawr, dychmygwch y straen a'r effaith ar iechyd meddwl y bobl hynny. Mae'n sicr y tu hwnt i fy nychymyg i.

Yn fyr iawn, hoffwn ddweud fy mod yn deall bod Llywodraeth Cymru yn dweud mai datblygwyr sy'n gyfrifol am hyn ac nid y pwrs y wlad, ond nid yw hynny'n help o gwbl i'r bobl y gwyddom amdanynt—y bobl yn y fflatiau sydd mewn sefyllfa ansicr iawn. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y model sydd gan Awstralia ar hyn o bryd a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Rhys, oherwydd mae hon yn broblem mewn gwledydd heblaw Cymru a'r DU. Gallwn ddysgu, gallwn edrych ar yr hyn sy'n gweithio yno. Gadewch inni sicrhau ein bod yn meddwl am y bobl hynny a'r unigolion hynny. Gadewch inni fabwysiadu model Awstralia—rhoi'r arian, adennill y costau'n ddiweddarach—oherwydd dyna y dylem ei wneud. Mae angen inni ddiogelu'r bobl hynny a'u hiechyd meddwl. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Mae dros bedair blynedd a phum mis wedi mynd heibio ers y trychineb anffodus a dinistriol yn Nhŵr Grenfell, lle bu farw 72 o bobl. Nawr, mae trigolion ledled Cymru yn byw mewn ofn mewn fflatiau hyd heddiw. Felly, bedair blynedd ers y drasiedi, tra'n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu arolygon diogelwch tân ar gyfer adeiladau aml-feddiannaeth dros 11 metr, sut y gallai'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddatgan

'ni wyddom eto faint yn union o adeiladau yr effeithiwyd arnynt ac i ba raddau'?

Credaf fod hynny'n sgandal. Ar y nawfed ar hugain, ailadroddodd y Gweinidog, a dyfynnaf,

'ni wyddom eto faint yn union o adeiladau y mae diffygion diogelwch tân yn effeithio arnynt ac i ba raddau.'

Rydych chi'n dal i'w wthio i'r naill ochr. Yn fy marn i, dyma'n union a ddywedoch chi, Jane, ac mae eraill wedi'i fynegi'n huawdl yma heddiw. Nid yw'r sefyllfa hon yn mynd i ddiflannu yn sgil rhethreg gan Weinidog Llywodraeth Cymru, ac mae'n ofid mawr imi feddwl y gallai hyn gael ei ddefnyddio'n wleidyddol hyd yn oed drwy ddweud, 'Rydym yn aros am Lywodraeth y DU.' Mae angen gwybodaeth o'r fath yn awr i roi strategaeth effeithiol ar waith. Felly, byddwn yn falch pe bai'r Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud ar gael y ffigurau a'r manylion ynglŷn â graddau'r diffygion.

Mae hyn, i mi, bron fel ailadrodd sgyrsiau a gawsom yn y Senedd hon yn ystod y tymor diwethaf pan siaradais am faterion o'r fath. I'r holl Aelodau newydd sydd yma, mae'n eithaf trist ein bod yn ailadrodd yr angen inni wneud hyn. Ar gyfer un bloc, amcangyfrifwyd mai cyfanswm cost y gwaith atgyweirio, gan gynnwys ailosod cladin, yw £60,000 y fflat. Rwyf wedi siarad â phobl sy'n byw yn yr adeiladau hyn, ac maent yn dweud eu bod yn mynd i'r gwely'n ofni am eu bywydau ac ni allant gysgu, sydd eto'n cadarnhau'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, Jane, am broblemau iechyd meddwl. Gwyddom fod consensws trawsbleidiol ynglŷn â'r angen i sicrhau nad yw'r baich ariannol yn disgyn ar y preswylwyr. Mae osgoi canlyniad o'r fath yn fater cymhleth, ond rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog wedi cael cyfarfod bord gron gyda datblygwyr y mis diwethaf, felly byddai manylion am y canlyniad hwn yn ddefnyddiol, Weinidog. 

Byddai'r cynnig deddfwriaethol hwn yn gyfle allweddol inni allu deddfu i sicrhau bod y baich hwn, i sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau, yn gyfrifoldeb ar y datblygwr yn hytrach na'r lesddeiliad. Gallai hefyd fod yn fodd o archwilio ymhellach y cynnig o gynllun prynu allan i gefnogi lesddeiliaid yr effeithir arnynt gan ddiogelwch adeiladau ac y byddai'n well ganddynt werthu eu heiddo. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd Rhys, Mike, Peter a Jane hefyd yn cytuno bod angen i ddeddfwriaeth fynd ymhellach eto a rhoi sylw i faterion diogelwch megis rhannu'n unedau ar wahân. Dechreuodd y Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau y broses hon, ond er bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben ar 12 Ebrill eleni, mae gwefan Llywodraeth Cymru yn adrodd heddiw ddiwethaf

'Mae’r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb ohonynt ac ymateb y Llywodraeth yn ystod hydref 2021.'

Rydych yn cael fy nghefnogaeth, ond tybed a ellid ymgorffori'r cynnig ar gyfer y Bil diogelwch cladin yn y gwaith parhaus ar ddiogelwch adeiladau. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae adfer adeiladau preswyl uchel sy'n anniogel yn sicr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae cladin llosgadwy yn un rhan o hynny. [Anghlywadwy.]

16:05

Weinidog, rydym wedi colli eich sain. Mae wedi'i adfer. A ydych am—? Clywsom y frawddeg gyntaf, ond dyna ni.

O'r gorau. Nid wyf yn gwybod beth sy'n digwydd yno. A allwch chi fy nghlywed i yn awr?

O'r gorau. Felly, dechreuais drwy ddweud bod adfer adeiladau preswyl uchel sy'n anniogel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae cladin llosgadwy yn un rhan o hynny. Rydym yn gyson—[Anghlywadwy.]—ac mae'n iawn—. A yw wedi mynd eto?

Mae rhywbeth yn bod. Roedd yn dod yn iawn ac yna fe wnaethom eich colli eto. Rwy'n credu nad yw eich meicroffon uwch eich pen yn helpu.

Nid yw uwch fy mhen, mae yn y fan hon. Beth bynnag, fe dynnaf fy nghlustffonau a gweld a allaf wneud unrhyw wahaniaeth gyda hynny. A yw hynny'n well neu'n waeth?

Iawn, fe roddaf gynnig arni fel hynny. Mae safle adeiladu ychydig y tu allan i fy ystafell yma, felly rwy'n gobeithio nad oes gormod o sŵn yn y cefndir. 

Felly, roeddwn yn dweud ein bod wedi dweud yn gyson nad lesddeiliaid a greodd y problemau a nodwyd, ac mae'n iawn i'r rhai sy'n gyfrifol dalu i'w hunioni. Ym mis Hydref 2020 ysgrifennais lythyr agored at ddatblygwyr i'r perwyl hwnnw, ac ym mis Hydref eleni cyfarfûm â nifer o ddatblygwyr, gyda chynghorau lleol, i drafod eu cynlluniau ar gyfer adfer adeiladau sydd â diffygion diogelwch. Rydym yn falch iawn fod nifer o ddatblygwyr Cymreig wedi neilltuo arian ers hynny i ailosod cladin a mynd i'r afael â gwaith diogelwch tân arall ar eiddo yng Nghymru. Mae'n galonogol gweld bod yr ymrwymiad, mewn rhai achosion, yn ymestyn y tu hwnt i'r cladin yn unig lle bo angen er mwyn gwneud yr adeiladau hynny'n ddiogel, a'u bod hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am adeiladau o dan 18 metr. Fodd bynnag, mae'n destun gofid nad yw rhai o'r datblygwyr mawr sy'n gyfrifol am yr adeiladau hyn wedi cymryd rhan yn y broses honno ac nad ydynt eto wedi ymateb i hynny, felly byddaf yn cysylltu â hwy eto i geisio eu gorfodi i ddod at y bwrdd, er nad oes gennym bwerau ar hyn o bryd i allu eu gorfodi i wneud hynny.

Rhoesom Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ar waith hefyd, a daethant i rym ym mis Ionawr 2020. Mae'r rheini'n gwahardd gosod deunyddiau llosgadwy ar y tu allan i adeiladau preswyl uchel, ysbytai a chartrefi gofal. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas ag ACM nad yw'n cydymffurfio, fel y'i gelwir—cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm—fel yr hyn a welwyd ar Dŵr Grenfell. Rydym eisoes wedi gweld yr holl ACM anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y rhan fwyaf o adeiladau uchel yng Nghymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar yr adeiladau sydd ar ôl.

Ond gwyddom nad cladin yw'r unig fater sy'n codi o ran diogelwch adeiladau. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir fod angen i'n dull o weithredu fod yn gwbl gyfannol, gan ymdrin â llu o faterion fel rhwystrau tân, rhannu'n unedau ar wahân, llwybrau dianc rhag tân, ac yn y blaen. Gwyddom fod yr effeithiau'n sylweddol ar lesddeiliaid a phreswylwyr. Rwyf wedi cyfarfod y bersonol â nifer fawr iawn ohonynt dros fisoedd lawer, a gwyddom fod hyn yn cael effaith yn ariannol ac ar les, fel y dywedodd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr a lesddeiliaid ac rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu'r opsiynau hynny. Agorwyd ein datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar 30 Medi. Rydym wedi cael ymhell dros 100 o ymatebion i hynny hyd yma. Byddant yn nodi'r mesurau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud yr adeiladau amlbreswyl mor ddiogel ag y gallant fod, a diogelu bywydau ac eiddo. Nid ydym wedi cyfyngu hynny i adeiladau dros 18 metr; rydym wedi tynnu hynny i lawr islaw hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys yr holl bobl yr effeithir arnynt, ac rydym yn bwriadu cynnig pecyn cymorth i lesddeiliaid a phreswylwyr a fydd yn caniatáu iddynt deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a gwneud penderfyniadau am y dyfodol. 

Rydym hefyd yn awyddus iawn i wneud cyhoeddiadau pellach ar gam nesaf y gronfa pasbort diogelwch adeiladu, ond fel y gwyddoch i gyd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. O ran y symiau canlyniadol, ni wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn glir fod swm canlyniadol yn deillio o sylwadau Robert Jenrick cyn iddo gael ei ddiswyddo o'r Cabinet, ac wrth gwrs cafwyd adolygiad cynhwysfawr o wariant bellach, felly mae hynny i gyd wedi'i aildrefnu, ac mae'n amhosibl bwrw ymlaen â hynny. O ystyried faint o arian a gawsom drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, gwyddom yn sicr nad ydym wedi cael y lefel o arian canlyniadol y byddem wedi'i ddisgwyl.

Serch hynny, rydym yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau diogelwch adeiladau. Rydym yn gobeithio cael syrfewyr ar safleoedd ym mis Ionawr ar gyfer yr holl adeiladau sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant adeiladu a'r diwydiant yswiriant i sicrhau bod gennym syrfewyr sy'n gallu gwneud yr arolygon hyn a'r ffrwd waith yn ei lle a'r contractwyr ar gael. Wrth inni ddeall beth yw maint y gwaith adfer sy'n angenrheidiol ar gyfer yr adeiladau hyn, byddwn yn gallu edrych ar faint o gyllid sydd gennym. Rydym wedi dyrannu rhywfaint o arian ar ei gyfer, ond y gwir yw nad ydym yn gwybod beth yw maint yr anhawster ym mhob un o'r adeiladau, ac yn anffodus, ni cheir un ateb sy'n addas i bawb; bydd gan bob adeilad ei set gwbl wahanol a chymhleth ei hun o broblemau'n galw am eu hunioni. Rydym hefyd yn gweithio i gwblhau manylion cynllun prynu allan i helpu'r rhai sydd yn yr amgylchiadau anoddaf o ganlyniad i'r problemau hyn. Rwy'n gobeithio cyhoeddi hynny'n fuan i'r Senedd.

Mae maint y broblem yn enfawr. Mae pob adeilad yn wahanol, ac yn syml iawn, nid wyf yn gwybod a yw'r cyllid yn ddigon. Nid oes unrhyw ddiben i Janet Finch-Saunders fy meirniadu am y peth—ni allaf greu ffigur o ddim—ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid wyf yn cyhoeddi pethau er mwyn gwneud iddo ymddangos yn well heb wneud dim byd yn ei gylch mewn gwirionedd. Mewn adolygiadau o wariant yn unig y cawn glywed beth yw cyfanswm y newid o setliadau adrannau Whitehall, felly nid oes gennyf unrhyw fanylion am newidiadau unigol i raglen y DU. Byddaf yn codi hynny gyda fy Ngweinidogion cyfatebol yn y DU cyn gynted ag y gallaf gyfarfod â hwy.  

O ran diwygio cyfraith lesddaliad, bydd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd yn lleihau rhenti tir ar brydlesoedd newydd i fod yn daliad hedyn pupur, ac rydym yn gweithio ar Fil i'w gyflwyno yn nes ymlaen yn Senedd y DU i weithredu'r diwygiadau eang i lesddaliadau a gynigir gan Gomisiwn y Gyfraith, diwygiadau y mae rhai ohonynt wedi'u datganoli mae'n wir, ond dim ond rhai, ac mae angen newid y pethau nad ydynt wedi'u datganoli hefyd er mwyn helpu lesddeiliaid.

Ar y dreth ffawdelw, cawsom anhawster gwirioneddol i gael Llywodraeth y DU i gytuno â ni am dreth ar dir gwag hyd yn oed, felly nid oes wybod pa mor hir y bydd yn cymryd iddynt wneud hyn. Ac ar yr un pryd, mae'n rhaid inni fod yn siŵr, drwy osod treth ffawdelw ar ddatblygwyr yng Nghymru, nad ydym yn eu gyrru dros y ffin i Loegr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymorth ariannol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn ffordd sy'n deg i'r lesddeiliaid ac i drethdalwyr, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar dreth ffawdelw ar draws y diwydiant adeiladu yng Nghymru, gyda'r arian yn dod i Gymru.

Y peth olaf roeddwn am ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, yw y bydd y Bil diogelwch adeiladu rydym yn ei gyflwyno yn unioni'r holl broblemau o'r pwynt hwnnw ymlaen. Rydym yn gweithio gyda chynghorau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi, a bod gennym yr amddiffyniadau a'r diogelwch tân cywir yn ei le ar eu cyfer. Ond fel y dywedais droeon yn y Siambr hon ac rwy'n ei ailadrodd un tro olaf, nid lle i fyw yn unig yw cartref ym Mhrydain—mae'n aml yn fuddsoddiad, a'r anhawster yw adfer yr adeiladau mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel heb iddynt golli eu buddsoddiad, oherwydd mae gennyf bob cydymdeimlad â'r sefyllfa y maent ynddi. Ac mae hynny, ni waeth beth fydd unrhyw un yn ei ddweud wrthych i'r gwrthwyneb, yn beth anodd a chymhleth iawn i'w wneud, ac rydym yn gweithio'n gyflym i weithio ein ffordd drwy'r materion cymhleth hynny. 

Rwy'n falch iawn fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn, ac rwy'n falch iawn o fod wedi cael y ddadl hon yn y Siambr. 

16:10

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n falch o glywed am y Bil diogelwch adeiladau a gyflwynir yn y Senedd hon. Gobeithio y gellir gwneud hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rwyf hefyd yn falch o glywed y bydd syrfewyr ar safleoedd ym mis Ionawr, ond rwy'n siomedig iawn ynglŷn â dau beth—un yw'r ffaith nad yw'r datblygwyr mawr yn barod hyd yn oed i ystyried trafod gyda chi, Weinidog. Mae hynny'n siomedig iawn, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cadw hynny mewn cof wrth ystyried polisi caffael, oherwydd os nad ydynt yn fodlon trafod hyd yn oed, dylid bod cosbau am hynny gan nad hwy yw'r math o ddatblygwyr y dylem fod yn gweithio gyda hwy. 

Yr ail siom enfawr sy'n amlwg o'ch atebion yw'r ffordd y mae'r berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi chwalu, ac edrychaf ar fy nghyd-Aelodau yma a chyd-Aelodau ar y meinciau Llafur. Mae angen datrys hyn, oherwydd dim ond un grŵp sydd ar eu colled, sy'n dioddef oherwydd hyn, sef y lesddeiliaid eu hunain. Mae angen inni ddatrys hyn. Gweithiwch gyda'ch gilydd, er mwyn dyn.

Peter Fox, diolch am eich cefnogaeth. Diolch am godi'r mater hwn cyn hyn yn y Senedd. Gwn fod y preswylwyr yn hapus iawn, a chytunaf na ddylai datblygwyr gael osgoi cyfrifoldeb. Fe sonioch chi am gyfarfod â phobl o Celestia; cyfarfûm â hwy eto heddiw. Roedd ganddynt degell gyda hwy. 'Pam ar y ddaear fod ganddynt degell gyda hwy?' meddyliais. Y rheswm am hynny yw eu bod o'r farn glir fod gan berson sy'n prynu tegell fwy o hawliau defnyddiwr, mwy o amddiffyniad, na lesddeiliad. Wel, mae hynny'n hollol frawychus.

Fel y dywedodd Mike Hedges, mae bywydau pobl ar stop. Ni all teuluoedd ifanc, teuluoedd sy'n tyfu, symud. Ni all pensiynwyr sydd ar yr wythfed llawr symud. Nid yw'n ddigon da.  

Gofynnodd Mabon ap Gwynfor, 'Pwy sy'n gyfrifol?' Wel, ie, trachwant rhai yn creu poen meddwl i eraill. Ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddeddfwriaeth Gymreig mae'r Gweinidog wedi sôn amdani cyn gynted â phosib. 

Soniodd Jane Dodds hefyd am fywydau pobl ar stop, ac fe wnaeth ein hatgoffa eto mai pobl sydd yn y canol yn hyn i gyd.

Cytunaf â Janet Finch-Saunders—mae angen inni wybod beth yw'r nifer. A chytunaf fod diogelwch tân yn llawer mwy na chladin yn unig, fel y soniodd y Gweinidog hefyd.

Dwi'n gobeithio—dwi'n gweld bod yr amser yn fy nghuro i, ond dwi'n gobeithio’n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ddadl hon. Diolch yn fawr.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith

Yr eitem nesaf yw eitem 7, dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol 2015: craffu ar y broses o roi’r Ddeddf ar waith. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM7841 Mark Isherwood, Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd ar 17 Mawrth 2021;

b) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021;

c) Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst 2021;

d) Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 3 Medi 2021;

e) Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021;

f) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021; ac

g) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Wel, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl cyd-bwyllgor hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae dadleuon cyd-bwyllgor yn anghyffredin ac mae'r ddadl hon yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod y Senedd yn mabwysiadu dull cydweithredol, amhleidiol o graffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae'r ddeddfwriaeth flaenllaw uchelgeisiol hon yn torri ar draws popeth a wnawn yma yng Nghymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn darparu'n effeithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rai misoedd yn ôl, cododd fy rhagflaenydd yn y Siambr hon i siarad am ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma'. Canfu'r adroddiad fod arweinyddiaeth anghyson ac arafwch newid diwylliant yn gwneud cam â dyheadau'r Ddeddf, ers iddi ddod yn gyfraith chwe blynedd yn ôl. Dyma'r tro cyntaf i un o bwyllgorau'r Senedd gyflawni gwaith craffu cynhwysfawr ar weithrediad y Ddeddf, gyda 97 o sefydliadau'n cyfrannu at yr ymchwiliad. Roedd yn waith cymhleth a ganolbwyntiai ar edrych ar y darlun ehangach a'r rhwystrau i weithredu a oedd yn gyffredin i'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, os nad pob un. Edrychai'n eang ar y problemau sylfaenol y tu ôl i ymdrechion pawb i weithredu'r Ddeddf. Gwnaeth adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd 14 o argymhellion wedi'u hanelu'n bennaf at Lywodraeth Cymru.

Ar 5 Hydref 2021, gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad yn y cyfarfod llawn ar weithrediad cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Roedd y datganiad yn eang, ac er ei fod yn cyfeirio at adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid oedd yn ymateb i'r argymhellion a geir ynddo. Ar y pryd, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymatebion i'r tri adroddiad a edrychodd ar weithrediad y Ddeddf, gan gynnwys yr adroddiadau statudol cyntaf gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.

Wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog, mynegais bryder nad oedd yn bosibl cael dadl ddigonol heb fod yr holl ymatebion perthnasol ar gael, gan ychwanegu bod cynsail pryderus yn cael ei osod yn y ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau hyn ac na ddylai'r dull anarferol hwn o weithredu ddigwydd eto. Mynegais bryderon ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i dderbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor mewn egwyddor, er gwaethaf honiadau a gawsom yn flaenorol y byddai'r arfer hwn yn dod i ben. Barn gyfunol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw na ddylid defnyddio 'derbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i adroddiadau pwyllgor eto a rhaid i argymhellion naill ai gael eu derbyn neu eu gwrthod. Pan fydd angen gwneud rhagor o waith i weithredu argymhelliad, neu os na ellir gweithredu erbyn dyddiad penodol, dylid nodi hyn yn glir wrth fanylu ar yr ymateb.

Ers datganiad y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei hymatebion i'r tri adroddiad sy'n edrych ar y Ddeddf, a heddiw, cawn gyfle i drafod y rhain yn llawn. Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am y dull rhagweithiol a phragmatig a gymerwyd ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a minnau wrth inni ofyn am y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n gobeithio bod hyn yn dynodi ac yn anfon neges glir ynglŷn â'r modd difrifol y mae pwyllgorau'r Senedd yn mynd ati i graffu a chyflawni ein dyletswyddau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae gweithrediad y Ddeddf yn dibynnu ar newid diwylliannol y bydd yn rhaid iddo ddechrau gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar bob lefel o gyrff cyhoeddus.

Dro ar ôl tro, clywsom nad oes digon wedi'i wneud i gyflawni hyn a sicrhau'r newid i ddatblygu cynaliadwy y mae'r Ddeddf yn ceisio ei gyflawni ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn i gyd dderbyn bod codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a newid diwylliant yn cymryd amser. Fodd bynnag, pasiwyd y Ddeddf bron i chwe blynedd yn ôl.

Er bod cyrff cyhoeddus wedi cael digon o amser a chyfle i gymryd camau hanfodol tuag at ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, nid ydym yn gweld geiriau'n trosi'n gamau pendant. Nid yw'n glir o hyd pa wahaniaeth y mae'r Ddeddf wedi'i wneud i'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu. Mae angen mwy o waith i gefnogi cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am weithredu'r Ddeddf, i ddeall nid yn unig y saith nod llesiant, ond hefyd y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Yn ei adroddiad statudol, mae'r archwilydd cyffredinol yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wella'r ffordd y maent yn cymhwyso pob un o'r pum ffordd o weithio os ydynt yn mynd i sicrhau newid diwylliannol gwirioneddol—sef hanfod y Ddeddf. O'i adroddiad cynharach yn 2018, gofynnodd yr archwilydd cyffredinol i gyrff cyhoeddus sut roedd eu proses ar gyfer pennu amcanion llesiant wedi bod yn wahanol i'r ffordd roeddent wedi pennu amcanion corfforaethol yn flaenorol. Dywedodd y rhan fwyaf ei fod wedi bod yn wahanol, ond yn aml ni allent roi esboniad manwl ynglŷn â sut, neu roi enghreifftiau o sut roeddent wedi defnyddio pob un o'r pum ffordd o weithio.

Ac eto, dair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i ofyn yr un cwestiwn. Heb y newid diwylliannol, ni allwn oresgyn y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf hon. Rhaid i'r pum ffordd o weithio fod yn ganolog wrth inni geisio gwneud cynnydd gwirioneddol gyda datblygu cynaliadwy, gan gynnwys cyfranogiad a chydweithio. Fel y dywed yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, rhaid inni dynnu sylw at y rôl allweddol y mae cymunedau a'u sefydliadau yn ei chwarae yn cyflawni uchelgeisiau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i wella llesiant, cyfranogiad dinasyddion a chydweithredu. 

Mae'r archwilydd cyffredinol yn gyfrifol am asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu a gweithio tuag at eu hamcanion llesiant. Yn ymarferol, golyga hyn ei fod yn gyfrifol am asesu a yw cyrff yn mabwysiadu'r pum ffordd o weithio.

Mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed i'r archwilydd cyffredinol yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd, rydym yn croesawu'r canllawiau wedi'u diweddaru y mae wedi'u darparu i archwilwyr, sy'n codi disgwyliadau y bydd cyrff archwiliedig yn mabwysiadu egwyddor datblygu cynaliadwy. Rydym hefyd yn croesawu ei ddatganiad y dylai cyrff cyhoeddus sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu hymgorffori yn eu cynlluniau adfer yn sgil COVID.

Roedd argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cyllid sydd ar gael i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ystyried

'yn flynyddol, y pecyn o gyllid a chymorth rydym yn ei ddarparu'n uniongyrchol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byddwn yn edrych ar sut y gallwn godi ymwybyddiaeth o'r ystod o ffynonellau ariannu sydd ar gael iddynt.'

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn ymrwymo i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddeall yn well sut y cânt eu hariannu. Fodd bynnag, gan nad yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gofynnwn am eglurhad gan y Gweinidog ar y dull a gymerir i ystyried y pecyn cyllid y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei dderbyn yn flynyddol.

Roedd argymhelliad 7 yn galw am ystyried pa gyrff sy'n dod o dan y Ddeddf, yn enwedig gan fod nifer o gyrff newydd wedi'u sefydlu ers hynny. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cwblhau adolygiad erbyn haf 2022, gan ymgysylltu ag Archwilio Cymru fel rhan o'r gwaith hwn. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gymryd rhan lawn yn yr adolygiad hwn hefyd, a nodwn, hyd y gwyddom, nad oes unrhyw ymrwymiad tebyg wedi'i wneud i ymgysylltu â'r comisiynydd.

Mewn ymateb i argymhelliad 8, nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, wedi symud i dymor llythyrau cylch gwaith y Llywodraeth, a bydd eu cylchoedd gwaith yn cael eu cymhwyso o flwyddyn ariannol gyfredol 2021-22. Mae'r ymateb yn ychwanegu bod y fframwaith ar gyfer y llythyrau cylch gwaith newydd yn cynnwys gofyniad i fodloni'n llawn y ddyletswydd llesiant a nodir yn y Ddeddf. Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn 2015. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw pam na chafodd y penderfyniad ei wneud cyn nawr i fframio llythyrau cylch gwaith o amgylch y Ddeddf a sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.

I grynhoi, mae'n amlwg fod gweithredu'r Ddeddf yn cael ei atal gan lawer gormod o rwystrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Nid oes llwybr clir i fynd i'r afael â'r rhwystrau, a phwysleisiwn fod gofyn monitro a gwerthuso gweithrediad pob deddfwriaeth a gosod amserlen glir ar gyfer gweithredu. Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain drwy osod cyfeiriad teithio clir, i'n galluogi ni fel Senedd, a Chymru fel gwlad, i ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er gwell.

Yn olaf, mae'n dal i fod llawer o waith i ni yn y Senedd ei wneud ar fonitro gweithrediad y Ddeddf a chyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu. Rwy'n croesawu'r ymateb gan Bwyllgor Busnes y Senedd wrth iddo dderbyn yr argymhellion a gyfeiriwyd ato, y dylid ystyried sut i fwrw ymlaen â'r gwaith o graffu ar y Ddeddf. Wrth sefydlu pwyllgorau'r chweched Senedd, rwy'n falch fod cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnwys y Ddeddf hon. Dywedodd y Pwyllgor Busnes hefyd na ddylid gwneud y gwaith craffu yn annibynnol ar waith y pwyllgorau eraill, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a sicrhau y bydd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rôl allweddol yn y gwaith hwn. Diolch.

16:25

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.

Diolch. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i roi teyrnged i Nick Ramsay, a gadeiriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac roedd yn arwain ar yr adroddiad hwn, a dywedodd yn ei ragair fod gwneud i ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol weithio yn y pen draw

'yn dibynnu ar bob corff cyhoeddus a phawb.'

Er, wrth gwrs, mae'n dibynnu mwy ar rai nag ar eraill. Ein dyletswydd graidd fel Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru a'r 43 corff arall a enwir yn y Ddeddf i gyfrif, a gall fod yn eithaf heriol cadw'r pum ffordd o weithio mewn cof fel strategaethau ar gyfer cyflawni'r saith nod llesiant: cymunedau llewyrchus, cydnerth, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn iachach, yn fwy cyfartal a mwy cydlynus, ac sydd â diwylliant bywiog, lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Y bore yma ar y radio, cefais fy atgoffa

'Mae'r ffordd y mae diwylliant yn trin menywod sy'n rhoi genedigaeth yn ddangosydd da o ba mor dda y mae menywod a'u cyfraniadau i gymdeithas yn cael eu gwerthfawrogi a'u hanrhydeddu.'

A daw'r dyfyniad gan Ina May Gaskin, sy'n gweithio yn y wlad a orfeddygolwyd fwyaf a'r wlad fwyaf cyfoethog yn y byd, lle bernir bod rôl menywod yn atgynhyrchu'r hil ddynol mor ddibwys fel nad yw'n rhoi fawr ddim hawliau ariannol na chyfreithiol iddynt yn y gyfraith.

Ond nid yw'r sefydliad hwn, a Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol, er enghraifft, am erydu budd-dal plant yn barhaus gan Lywodraeth y DU ar ben arall yr M4. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gennym gyfrifoldeb enfawr dros sicrhau bod unrhyw blentyn a enir heddiw yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iach ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang, fel dinesydd byd-eang ac aelod gweithgar o wlad gydlynus, fwy cyfartal, bywiog a dwyieithog, fan lleiaf. O ystyried yr heriau digynsail a achoswyd gan y pandemig, y trafferthion economaidd o addasu i economi fyd-eang gamweithredol nad yw bellach yn addas i'r diben yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, pe na bai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn bodoli, byddai'n rhaid inni ei dyfeisio. Felly, da iawn a diolch yn fawr, Carl Sargeant, a'r holl bobl eraill a fu'n ymwneud â'r gwaith o greu'r Ddeddf hon. Mae'n rhoi fframwaith hollbwysig i ni ar gyfer darparu ein ffordd drwy gymhlethdodau'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud gydag adnoddau cyfyngedig iawn. Nid oes gennym ddewis ond gofyn, 'Beth y gallwn ei wneud yn wahanol er mwyn cyflawni'r newid y gobeithiaf y gallwn ei wneud ar ran y bobl a'n hetholodd i wneud y gwaith hwn?'

Yn unol ag argymhelliad 13 a 14, mae'r Pwyllgor Busnes wedi neilltuo'r brif rôl drawsbynciol o graffu ar y Ddeddf chwyldroadol hon ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ond nid yw hynny'n esgusodi aelodau o bwyllgorau eraill rhag chwarae eu rhan. Rhaid i bob un ohonom roi ystyriaeth lawn mor ddifrifol i'r Ddeddf â'r 44 corff cyhoeddus y mae'n rhaid inni graffu arnynt. Rhaid i bob pwyllgor ystyried mai eu cyfrifoldeb yw ymgorffori egwyddorion a nodau'r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Felly, i ganolbwyntio ychydig ar yr adroddiadau etifeddiaeth hyn, mae'n amlwg mai'r adroddiad mawr yw'r un a gynhyrchwyd ym mis Mai 2020, yng nghanol y pandemig. Ac roedd gwaith y pwyllgor—y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—roeddwn yn aelod ohono wedi'i ohirio yn ei dro oherwydd y pandemig, yn gwbl briodol. Felly, gallaf weld, i Aelodau newydd, y gallai fod yn destun peth dryswch iddynt pam ein bod yn trafod hyn yn awr, pan fo cynffon mor hir i'r stori hon.

Ond rwy'n credu fy mod am edrych, yn fwyaf arbennig, ar rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n sbardun hollbwysig i'r newidiadau sydd angen inni eu gwneud. Ac wrth edrych ar argymhelliad 2 a'r rhesymau pam y gwnaethom ei ysgrifennu yn y ffordd honno, mae rhai byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn llawer pellach ar hyd y llwybr tuag at newid diwylliannol nag eraill ac maent hwy, yn eu tro—mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn newid yn gyson. Dechreuasom gyda 22; ar adeg cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd gennym 19; ac yn awr, gydag uno radical pum awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili, Trefynwy a Chasnewydd—yn fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Gwent, credaf fod gennym arweiniad cyffrous iawn ar y rôl y gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus ei chwarae, ond mae hefyd yn dweud wrthych eu bod yn wahanol iawn. Ond tybed a allai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn credu y dylid meithrin byrddau gwasanaethau cyhoeddus i fwrw ymlaen â'u rôl. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi cyllidebau iddynt, oherwydd holl bwynt byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw nad oes ganddynt gyllidebau; mae'n ymwneud â'u cael i weithio gyda'i gilydd a gweithredu'r Ddeddf. Ond rwy'n credu bod angen ymhelaethu ymhellach ar sut y mae'r Llywodraeth yn gweld rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a'u perthynas agos, y byrddau partneriaeth rhanbarthol.

16:30

Rwy'n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynrychioli dull adeiladol a chadarnhaol o wneud i Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol weithio’n well i bobl Cymru. Ac fel fy nghyd-Aelod, a soniodd yn gynharach am y bobl sydd wedi rhoi eu hamser a'u hymdrech—Aelodau blaenorol a fu'n rhan o'r ymdrech i lunio'r adroddiad—rwy'n gwerthfawrogi eu gwaith caled a'u hymroddiad, a gwaith y clercod hefyd. Nawr, gan fy mod yn aelod newydd o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fy hun, gwn ei bod yn cymryd pentref yn wir—pob Aelod unigol, ond y tîm gweinyddol cyfan hefyd—i greu adroddiad fel hwn yn ogystal.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf, fel y cyfryw, mewn modd amserol, a pherthnasol hefyd. Dyma'r tro cyntaf y cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o'r gwaith a wnaed o dan y Ddeddf gan y gwahanol gyrff sy'n gyfrifol am ei gweithredu. Ond mae'n codi nifer o faterion. Mae'n amlwg fod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r Ddeddf a'r newid sydd wedi digwydd tuag at ddatblygu cynaliadwy wrth lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Daw'r adroddiad i'r casgliad nad yw cyrff cyhoeddus wedi gwneud digon i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ymhlith defnyddwyr eu gwasanaethau. Nid ydynt wedi gwneud digon i newid diwylliant eu sefydliadau eu hunain i gydweddu ag egwyddorion y Ddeddf ac nid ydynt wedi manteisio'n llawn eto ar arbenigedd a gallu y trydydd sector a'r sector preifat i gefnogi eu gwaith o dan y Ddeddf.

Ni allwn edrych ar fater gweithredu heb archwilio digonolrwydd y cyllid. Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru dri phrif fater sy'n creu rhwystrau allweddol i sefydliadau, a soniodd y rhan fwyaf o'r tystion am o leiaf un ohonynt wrth roi tystiolaeth. Maent yn cynnwys natur fyrdymor rhai o'r ffrydiau cyllid, sy'n rhwystro gallu cyrff cyhoeddus i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y tymor hir; diffyg hyblygrwydd ynglŷn â'r modd y gellir gwario rhai rhannau o gyllid grant, a'r ffaith nad yw cyrff cyhoeddus yn cael gwybod am argaeledd cyllid tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol. Caiff cyfran sylweddol o'r cyllid y mae cyrff cyhoeddus yn ei gael gan Lywodraeth Cymru ei bennu a'i ddyfarnu'n flynyddol ac mae cwynion wedi bod ers tro fod y cylchoedd cyllido byrdymor hyn yn peri rhwystrau gwirioneddol i weithredu. Mae'r adroddiad yn cydymdeimlo â'r galwadau gan gyrff cyhoeddus am gylchoedd cyllido mwy hirdymor ac yn gwneud y pwynt fod deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn anoddach i'w gweithredu'n briodol os na chaiff cyllidebau eu gwarantu am fwy na blwyddyn ar y tro.

Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r gwaith o sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn elfen hollbwysig o wasanaethau cyhoeddus. Yr adborth gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach oedd bod proffil cyhoeddus y comisiynydd yn gadarnhaol a bod ei swyddfa'n gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf, sy'n wych ei glywed. Fodd bynnag, mynegwyd rhai pryderon gan gyrff cyhoeddus ynglŷn â'r diffyg cymorth ymarferol a gawsant, hyd yr adroddiadau a gynhyrchwyd a'r angen i ailffocysu gwaith swyddfa'r comisiynydd i'w cefnogi'n fwy effeithiol yn eu gwaith. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus Cymru weithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu perthynas adeiladol er mwyn sicrhau bod y cydweithredu rhyngddynt yn cael cymaint o effaith ag sy'n bosibl.

Ddirprwy Lywydd, mae'n dda gweld bod yr argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn wedi'u derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, ond gŵyr pob un ohonom, a gŵyr y cyhoedd, mai gweithredu sy'n bwysig, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy na siarad am gefnogi'n unig drwy dderbyn yr argymhellion mewn egwyddor, a sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu cyflawni go iawn. Credaf fod yr adroddiad hwn heddiw'n dangos bod y Senedd yn benderfynol o gael gwared ar rwystrau rhag gweithredu'r Ddeddf ac o annog y newidiadau strwythurol a chodi ymwybyddiaeth yn y pen draw, sy'n hanfodol er mwyn ei gwireddu. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a basiodd drwy'r Senedd hon wedi'i chanmol gan lawer fel deddfwriaeth arloesol. Diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cyfle i drafod a yw realiti'r ddeddfwriaeth hon yn cyfiawnhau ei henw da.

Er ei bod yn deillio o arloesedd a didwylledd, wrth i'r Ddeddf ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'n cyflawni'r hyn a fwriadwyd. Yn gyntaf, mae'n uchelgeisiol heb fod yn orfodadwy. Mae ymdrechion i ddibynnu ar y Ddeddf wedi'u defnyddio yn y system gyfreithiol ar sawl achlysur bellach, ac maent wedi cael eu diystyru bob tro oherwydd diffyg gorfodadwyedd. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w defnyddio i herio penderfyniad i gau ysgol, ond cafodd yr achos ei wrthod yn 2019 gan farnwr yr Uchel Lys, Mrs Ustus Lambert, a ddywedodd na allai'r Ddeddf orfodi adolygiad cyfreithiol. Dywedodd y CF a gyflwynodd yr achos, Rhodri Williams:

'oni bai y gall unigolion ddibynnu ar yr hawliau hyn—os ydynt yn teimlo nad ydynt wedi'u cynnal—i herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus, mae'r ddeddf bron yn ddiwerth',

er ei bod yn llawn o 'ymadroddion sy'n swnio'n wych'.

Ac onid yw hynny'n crynhoi'r broblem? Ni fwriadwyd y Ddeddf hon ar gyfer y bobl nac i rymuso cymunedau i gael y dyfodol y maent yn dymuno ei weld. Dylai'r Ddeddf hon fod wedi bod yn rhodd i gymunedau ledled Cymru, ond yn lle hynny, mae'n ddi-rym. Mae'n amlwg fod angen cryfhau ei mecanweithiau a'i dylanwad.

Problem arall yw nad yw'r Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd gywir. Canfu Swyddfa Archwilio Cymru, a adolygodd effaith y Ddeddf yn 2018, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn cymhwyso'r Ddeddf yn fwy systematig, gan annog comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i alw ar gyrff cyhoeddus i fod yn fwy uchelgeisiol, anturus a dyfeisgar os yw'r Ddeddf yn mynd i gyflawni ei photensial. Gyda diffyg capasiti ac adnoddau i ddeall a dadansoddi goblygiadau'r Ddeddf, rwy'n ofni bod cyrff cyhoeddus o'r farn mai ymarfer ticio blychau yw'r Ddeddf. Un enghraifft yw gwerthiant fferm Trecadwgan yn Sir Benfro. Aeth y fferm ar werth mewn arwerthiant cyhoeddus yn 2018 pan ddaeth tenantiaeth y cyngor i ben. Gan ofni y byddai hyn yn arwain at ddatblygu bythynnod gwyliau, cynlluniodd grŵp o bobl leol i brynu'r eiddo fel cymuned. Codwyd yr arian a lluniwyd cynllun busnes ar gyfer fferm organig a fyddai’n darparu bwyd iach, addysg a hyfforddiant mewn dulliau amaethyddol a chanolbwynt cymdeithasol a diwylliannol i’w chymuned. Byddai hyn wedi bodloni nodau ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ond yn anochel, heb gefnogaeth y cyngor i'r amcanion llesiant, gwerthwyd yr eiddo i unigolyn o'r tu allan i Gymru a wnaeth y cynnig uchaf. Rhesymeg y cyngor sir oedd ei fod yn sicrhau'r gwerth gorau i'w etholwyr drwy sicrhau'r elw mwyaf o'r gwerthiant i'w wario yn rhywle arall. Roedd y bobl leol yn ddi-rym i herio'r penderfyniad a chawsant eu gadael heb ddim ond potensial a wastraffwyd a chanlyniad na wnaeth unrhyw beth i wasanaethu'r gymuned leol.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos hon, nododd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-gadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mai

'un o'r problemau gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw nad yw'n benodol nac yn ddigon tynn.'

Nid yw'n dwyn gwleidyddion i gyfrif yn ddigonol. Rwy'n falch fod y sylwadau hyn yn cael eu hailadrodd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rydym yn ei drafod heddiw. Cytunaf yn llwyr â’i argymhellion ei bod yn bryd gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf, ac y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, gan adleisio argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hefyd, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i hyn oll. I'r rheini sydd wedi ymwneud â'r Ddeddf ers ei chreu, fel y grŵp lleol yn Sir Benfro, gwelsant rywfaint o obaith yn y Ddeddf i weithio fel arf i'w helpu i adeiladu'r gymuned roeddent yn dymuno'i gweld. Mae'n rhaid inni rymuso a meithrin y gobaith hwnnw fel nad yw'n cael ei ddiffodd gan barlys y ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr.

16:40

Gan mai hon yw fy nadl gyntaf, ers cael fy ethol, ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a wnaeth i hyn ddigwydd, yn enwedig llawer o'r bobl y tu ôl i'r llenni, na fydd eu henwau byth yn hysbys i'r cyhoedd, mae'n debyg, ond a fu'n chwysu i greu'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Ac nid wyf yn defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n ysgafn, gan fy mod o ddifrif yn credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn llafur cariad a gobaith a phenderfyniad i wneud Cymru'n decach, yn wyrddach ac yn hapusach. A gogoniant y Ddeddf yw ei bod yn ein gorfodi i edrych ar ein hunain yng nghyd-destun hanes, yma nawr, nid yn unig fel unigolion, ond fel rhywogaeth ar y blaned rydym yn ei rhannu â llawer o rai eraill am y mymryn lleiaf o amser, gan nad ni yw'r unig fodau dynol sydd wedi bod yma erioed, ond ni yw'r unig rai sydd ar ôl.

Ac fel yr amlygwyd gan lawer yn y COP26, gan gynnwys Greta Thunberg a David Attenborough, credaf ei bod yn boenus o amlwg fod rhai o'n gwendidau fel rhywogaeth yn cynnwys bod yn greaduriaid sy'n gaeth i arfer, sy'n gwrthwynebu newid ac yn dibynnu ar adnoddau naturiol fel pe bai'r cyflenwad yn ddiddiwedd. Mae ein bywydau'n brysur ac yn ddi-baid, mae ein poblogaeth yn tyfu, ac mae'r bwlch rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf yn ein cymdeithas yn parhau i dyfu. Credaf fod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn unigryw gan ei bod yn ein gorfodi i wynebu'r tueddiadau a'r materion hyn gyda'n gilydd a meddwl am y dyfodol, nid yn unig i ni ein hunain, ond i eraill. Mae'n crynhoi gwerthoedd sosialaeth: gofalu am ddieithriaid, pobl na fyddwch byth yn eu cyfarfod, pobl nad ydynt wedi cael eu geni eto hyd yn oed. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, pe na bai'n bodoli, byddem wrthi'n ceisio gwneud iddi ddigwydd.

Ac yn sicr, gallwch weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn null rhaglen bartneriaeth 'Gallu i Greu' comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sy'n taflu goleuni ar y gwaith gwych sy'n gwella llesiant ledled Cymru, gan annog pobl i nodi gweledigaeth gadarnhaol am yr hyn sy'n bosibl, sut y gallai Cymru edrych pe bai ein cyrff cyhoeddus yn ymateb i'r cyfleoedd y mae'r ddeddfwriaeth yn eu darparu i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ychwanegol at hynny, credaf ei bod yn wych gweld, gyda briff mor enfawr, gyda nodau sylweddol a disgwyliadau uchel, fod swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn creu llwybr sy'n ymgorffori'r 17 nod datblygu cynaliadwy gyda'r bwriad o greu Cymru gyfartal, lewyrchus, gydnerth ac iach. Mae hyn wedi bod yn arbennig o berthnasol yn sgil COVID-19, ac rwy'n falch o weld bod ein Llywodraeth yng Nghymru yn ystyried Deddf  llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei strategaeth adfer i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach, yn enwedig mewn perthynas â 'Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol' y comisiynydd, sy'n cynnwys syniadau penodol ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio cartrefi, strategaeth drafnidiaeth y genedl newydd a datblygiad parhaus polisi sgiliau.

Ond yn ogystal â nodau cynaliadwy, mae'r Ddeddf hefyd yn ymwneud â chreu Cymru o gymunedau cydlynus gyda diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac sy'n dysgu oddi wrth eraill. Rydym yn sicr wedi gweld hyn yn yr argymhellion ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol a'r wythnos waith pedwar diwrnod gan y comisiynydd, gan adeiladu ar ymgyrchoedd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, dros y ddau beth hynny. Mae'r ddau bolisi wedi'u treialu mewn gwledydd eraill a'u nod yw rhoi mwy o ymreolaeth i bobl, amser gydag anwyliaid, a gwell lles meddyliol a chorfforol, ynghyd â buddion economaidd i bawb. A bellach, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dreialu dwy flynedd o incwm sylfaenol cyffredinol mewn ardaloedd trefol a gwledig ledled Cymru, gyda llawer o awdurdodau lleol, fel Rhondda Cynon Taf—nid fy un i, ond gwn eu bod wedi—yn mynegi diddordeb mewn cynnal y cynllun peilot. Ac yn ddiweddar hefyd, cawsom ddadl fawr ar yr wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae'r Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, wedi ymrwymo i gadw llygad ar y treialon sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ a'r Alban.

Felly, o ran gweithredu'r Ddeddf, credaf fod y dystiolaeth yn dangos bod Aelodau'r Senedd wedi craffu'n gyson, yn dryloyw ac yn drylwyr ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. A hoffwn dalu teyrnged i Aelodau'r bumed Senedd a'r rheini ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Gyda fy nghyd-Aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd newydd ei ffurfio, dan gadeiryddiaeth Jenny Rathbone, edrychaf ymlaen at barhau'r gwaith hwn i sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni'r holl bethau y bwriadwyd iddi eu cyflawni, yn benodol, argymhellion 3, 4 ac 11, sy'n ymwneud â chryfhau'r berthynas rhwng comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus Cymru, yn ogystal â sicrhau bod y pum ffordd o weithio wedi'u hymgorffori yn eu cynlluniau ar gyfer adfer yn sgil y pandemig COVID-19, fel nad yw'r cynnydd a wnaed yn yr ymateb uniongyrchol i'r pandemig yn cael eu colli a'u bod yn newid eu ffocws o'r dydd i ddydd i atal a'r tymor hir.

Felly, i gloi, mae llawer wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn o amser mewn gwirionedd ac yng nghanol pandemig byd-eang hefyd, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud o hyd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddangos nad yw gweithredu agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl-ystyriaeth a'i bod yn cael ei defnyddio i herio, cwestiynu a gwella ei ffyrdd presennol o weithio, fel y gellir ystyried dewisiadau mwy cynaliadwy bob amser.

16:45

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar y cyd yn cyflwyno'r ddadl hon. Mae'r rôl hanfodol sydd gan y Senedd hon, Senedd Cymru, yn fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn un o nodweddion allweddol ymagwedd Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ffocws y ddadl ar graffu ar weithredu. Os edrychwn ar wledydd eraill ledled y byd, mae seneddau'n chwarae rhan allweddol wrth graffu ar weithredu'r agenda datblygu cynaliadwy, ond wrth gwrs, mae gennym gyfle unigryw i drafod hyn yng ngoleuni ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gyrhaeddodd ei charreg filltir bum mlynedd y llynedd. Ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi ein hatgoffa mai Cymru yw'r unig wlad i ddeddfu yn y ffordd hon, gan ddefnyddio dull hirdymor o edrych ar achosion sylfaenol problemau mewn deddf sy'n destun edmygedd ledled y byd.

Felly, credwn fod y Ddeddf—a chredaf fod hyn wedi'i fynegi yn y Siambr hon heddiw—yn treiddio ac yn hybu gwelliant parhaus yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddisgwyl gwell ansawdd bywyd ar blaned iach. Mae'r ddadl yn rhoi cyfle imi ddangos sut y mae'r dyletswyddau allweddol yn y Ddeddf wedi'u gweithredu a chydnabod ymdrechion pawb wrth wneud iddi weithio. Felly, mae cyrff cyhoeddus wedi nodi eu hamcanion llesiant, wedi cyhoeddi datganiadau llesiant ynglŷn â'u cyfraniad at y nodau, ac maent yn adrodd bob blwyddyn ar yr hyn y maent yn ei wneud. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'u sefydlu ac mae asesiadau o lesiant lleol wedi'u cwblhau; mae cynlluniau llesiant lleol ar waith ac adroddir ar eu cynnydd yn flynyddol.

Ond hoffwn ymateb i Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a diolch iddi am ei phwynt a'i chwestiwn penodol am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gan eu bod yn rhan hanfodol o'r gwaith o leoleiddio nodau llesiant Cymru a dônt â phartneriaid allweddol ynghyd mewn partneriaeth, ac maent yn llywio lleoedd ar lwybr mwy cynaliadwy ac mae ganddynt ymagwedd wahanol at eu gwaith, fel y dywedwch, Jenny. Maent yn targedu eu hymdrechion yn well, maent yn nodi meysydd lle gall gweithredu ar y cyd gael yr effaith fwyaf. Ac mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i'r adferiad, fel sir Fynwy—ac rwy'n siŵr fod Peter Fox yn ymwybodol o hynny, fel y cyn arweinydd; prosiect cydweithredol y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar ddinasyddiaeth weithgar; yn ogystal â gwaith Cwm Taf ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd. Felly, mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig, ac maent wedi cael eu symbylu, mewn gwirionedd, o ran ymateb i adferiad cymunedau yn dilyn COVID-19. Nid gwaith ychwanegol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw hyn; mae'n barhad o'u gwaith craidd i wella llesiant eu hardaloedd.

A hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad heddiw hefyd, a rhoi sicrwydd iddi, mewn perthynas â chylchoedd cyllido, mai ein dyhead ni, wrth gwrs, yw darparu cyllidebau mwy hirdymor pan fo hynny'n bosibl. Nid yw'r amserlen honno wedi bod ar gael i ni ar gyfer ein setliadau cyllidebol ein hunain, felly mae gennym sicrwydd bellach y bydd cynlluniau gwariant tair blynedd ym rhan o adolygiad o wariant y DU yn darparu'r setliadau aml-flwyddyn hynny. Ni allwn ddiystyru'r risg mewn perthynas â rhagolygon ar gyfer y dyfodol, ond mae'n golygu bod gennym gyfle yn awr i sicrhau y bydd gennym sicrwydd o gylch cyllido gyda'r adolygiad o wariant.

I edrych ar rai o'r ffyrdd y mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, fel y dywedais: mae'r cynghorau tref a chymuned y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt yn cymryd camau tuag at eu hamcanion llesiant lleol. Oherwydd mae gweithredu'r Ddeddf yn ymwneud bellach â chyflawni, a golyga hyn fod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion llesiant, byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cynlluniau llesiant, cynghorau tref a chymuned yn gweithredu, ond mae'n ymwneud hefyd â gwelliannau yn y ffordd y mae cyrff yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a sicrhau bod y pum ffordd o weithio yn gweithio.

Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Cadeirydd, Mark Isherwood, wedi'i ddweud am y pum ffordd—fod angen y newid diwylliannol hwnnw arnom. Pan fydd pobl yn deall y pum ffordd o weithio, mae hynny'n eu helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau. Rydym yn trafod heddiw, yn gwbl gywir, i ba raddau y mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei chymhwyso, a yw'r amcanion yn cael eu cyflawni, a'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei ofyn. Dyna mae'r Ddeddf yn gofyn i ni ei wneud, a dyna mae'r archwilydd a'r comisiynydd yn adrodd arno. Ond gwyddom nad yw hyn yn syml o ran y llwybr at nodau llesiant. Ysgogiadau ydynt, ac mae rhai ysgogiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, ac mae angen inni allu dygymod â hwy. Ond hefyd, mae angen i arloesi a gwahanol ddewisiadau gael eu hystyried ar gyfer gwneud cynnydd.

Cryfder y Ddeddf yw ei ffocws ar ffyrdd o weithio sy'n galluogi i ddewisiadau llawer mwy cynaliadwy gael eu nodi. Bydd yna safbwyntiau, wrth gwrs, gan gynnwys y rhai ar y comisiwn, ynglŷn ag a ddylai penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus neu'r Llywodraeth fod yn wahanol. Wrth gwrs, mae gwelliannau i'w gwneud. Rwy'n cydnabod, yn amlwg, o gyfraniad Peredur Griffiths, y cwestiynau a gafwyd ynghylch, 'A yw'n ddigon cryf? A oes angen adolygiadau ôl-ddeddfu ar y Ddeddf?' Yn amlwg, rydym am barhau i adolygu'r sefyllfa honno, ond nid ydym am ddargyfeirio ymdrechion ar hyn o bryd oddi wrth y cynnydd a wnaed gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Credwn ein bod ar y llwybr tuag at gynnydd, sy'n bwysig iawn, ond fel y dywedais, rydym yn adolygu'r sefyllfa. Ond rydym wedi ymrwymo i adolygu'r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, a chredaf y bydd hynny'n bwysig, a bydd hynny'n caniatáu inni adolygu'r rhan hon o'r ddeddfwriaeth a mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol.

Felly, ar gyfer fy sylwadau clo, mae angen inni wella ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth. Mae gennym ein fforwm rhanddeiliaid, sy'n cael eu sefydlu ar hyn o bryd, y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol, a byddant yn trafod hyn yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eu barn. Ond yr hyn sy'n dod i'r amlwg o'n plaid yw bod rhai mudiadau a grwpiau nad oes yn rhaid iddynt gydymffurfio ar hyn o bryd yn gwirfoddoli i gydymffurfio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynllun datblygu cynaliadwy wedi'i lunio gan ddull cenedlaethau'r dyfodol o weithredu, gan fanylu ar sut y maent yn edrych tua'r dyfodol, drwy gydgysylltu rheilffyrdd a theithio llesol. Yn gynharach y mis hwn, ymrwymodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i greu strategaeth gynaliadwyedd sydd wedi'i halinio'n llawn â'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau cymunedol fel Parc Llesiant Bronllys yn Aberhonddu yn llunio eu gweledigaeth ar gyfer eu parc lleol ar ddull llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig.

Felly, credaf ein bod mewn sefyllfa lle rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd deddfwriaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf mor ddiolchgar i Sarah Murphy am ei chyfraniad heddiw, gan y credaf fod clywed rhywun yn dweud, 'Rydym yn ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol' yn ysbrydoli pobl. Mae Senedd y DU, yr Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy Senedd y DU, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Mae'r Alban wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Ac ymhellach i ffwrdd, mae gennym y Cenhedloedd Unedig yn gwneud ymrwymiadau sylweddol i gyflwyno dull cenedlaethau'r dyfodol i system y Cenhedloedd Unedig, gan ymrwymo i gennad arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, digwyddiadau ac adroddiadau'r dyfodol.

Felly, dyna sut y mae arweinyddiaeth ar yr agenda hon yn edrych: dylanwadu, ysbrydoli, gwella Cymru, arwain y ffordd ar flaen yr agenda. Felly, mae'r adroddiadau y gofynnir i ni eu nodi heddiw yn rhan hanfodol o'r daith ddysgu. Rydym yn llunio ein gweithredoedd yn awr. Byddant yn llunio'r daith dros y pum mlynedd nesaf, ac wrth gwrs, byddwn yn cyhoeddi ein cerrig milltir cenedlaethol cyn bo hir a diweddariad ein fframwaith dangosyddion llesiant.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n agosáu at y diwedd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am eu hymwneud â hyn, a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gyflymu camau gweithredu? Credaf y gallwn fod yn falch o'r newid tuag at fabwysiadu dull o weithredu sy'n ystyriol o lesiant cenedlaethau'r dyfodol ym mhob dim a wnawn, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon. Diolch.

16:55

Diolch yn fawr iawn. Credaf i Natasha Asghar wneud rhai pwyntiau cryno a defnyddiol iawn, ac fe'u nodwyd gan y Gweinidog. Ni chredaf y bydd y cyhoedd byth yn arbennig o ymwybodol o'r Ddeddf. Nid yw pobl yn mynd i ddarllen y Ddeddf, ond mae angen iddynt wybod am yr egwyddorion sy'n sail i'r holl gyrff cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf. Ni chredaf y gallwn feio'r Ddeddf am nad yw rhai cyrff cyhoeddus wedi ymgysylltu'n ddigonol â'r dinasyddion y mae mesur penodol yn effeithio arnynt. Credaf ei bod yn dda clywed bod y Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch hyblygrwydd cynyddol i'r modd y gellir gwario cyllid, a rhoi cyllid mwy hirdymor i gyrff cyhoeddus fel y gallant gyflawni'r amcan hwnnw, yn hytrach na gorfod cael cylchoedd blynyddol bob amser.

Adroddiadau byrrach, yn sicr. Credaf fod y pwynt hwnnw wedi'i wneud. Mae llawer o bethau yn y gyfrol hon, ond ychydig o bobl a fydd wedi'i darllen o glawr i glawr. Ond credaf fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ein clywed ar hynny, a chynhyrchodd adroddiad cryno iawn yn ddiweddar ar sut y dylem fynd ati i ôl-osod, sy'n bwnc gwirioneddol heriol. Mae'n llawn ffeithiau a ffigurau, ac nid yw ond oddeutu 16 tudalen o hyd. Felly, da iawn. Mae'n mynd i fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer canfod sut rydym yn ymdrin â'r mater gwirioneddol bwysig hwnnw.

Peredur, yn amlwg, mae'r gwydr yn amlwg yn hanner llawn yn eich achos chi. Rydych yn credu y dylai'r Ddeddf fod wedi bod yn rhodd sydd ei hangen ar gymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o'r ymgynghori ac yn cael eu cynnwys i raddau mwy yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Yn amlwg, ni all cynnwys dinasyddion fod yn ymarfer ticio blychau, ond credaf fod y Ddeddf yn rhoi mwy o rym iddynt nag y byddech yn ei gydnabod. Nid y bwriad oedd iddi fod yn fecanwaith er mwyn atal newid, gan nad yw peidio â newid yn opsiwn o gwbl. Mae'n ymwneud â sicrhau, fodd bynnag, ein bod yn gwneud y newid cywir a bod yr holl randdeiliaid yn cael dweud eu barn ar y newid hwnnw, a sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n gorfod gwneud y peth penodol hwnnw yn gwneud y penderfyniadau cywir o fewn fframwaith y Ddeddf. Rwy'n petruso rhag anghytuno gyda'r barnwr hybarch nad yw'r Ddeddf yn addas at y diben, ond ni all y Ddeddf unioni diffygion cyrff cyhoeddus. Y cyrff cyhoeddus eu hunain sy'n gorfod mynd i'r afael â hynny.

Mae angen inni gael agwedd gadarnhaol tuag at hyn, a hoffwn ddyfynnu prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor nad oes diben cwyno am gyllid,

'nid yw cwyno am gyllid yn mynd i helpu unrhyw un. Rydym mewn sefyllfa anodd iawn ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o'r hyn sydd gennym.'

Yn sicr. Mae angen i bob un ohonom wneud hynny. Ac felly, credaf fod gwir angen inni ddefnyddio'r offer y mae'r Ddeddf yn eu darparu i ni er mwyn dod o hyd i'r ffordd ymlaen yn y sefyllfa anodd y mae pob un ohonom yn ei hwynebu. Roedd yn wych clywed agwedd Sarah Murphy at y Ddeddf, ac rwy'n gobeithio y bydd yr agwedd honno'n ddefnyddiol iawn yn y ffordd y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud ei waith.

Felly, mae Jane Hutt yn llygad ei lle yn canmol rôl Sophie Howe, sydd wedi llwyddo o ddifrif i arddangos pwysigrwydd y Ddeddf, gyda Thŷ'r Arglwyddi a'r Cenhedloedd Unedig. Yn amlwg, mae'n rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus chwarae rôl yn dod â phobl at ei gilydd, a'r gwaith y sonioch chi amdano ar ddinasyddiaeth weithgar yn sir Fynwy a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghwm Taf. Mae gwir angen inni edrych ar yr holl bethau y mae'n rhaid inni eu gwneud yng nghyd-destun y Ddeddf. Mae cymaint o gyfoeth yn y Ddeddf, ac mae angen inni ddychwelyd at hyn yn rheolaidd fel ffordd o sicrhau ein bod yn bodloni gofynion y Ddeddf ym mhopeth a wnawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:00
8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Yr eitem nesaf heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar reoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7840 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig yn unig.

2. Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru.

3. Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:

a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein, erbyn 2023;

b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu hawdurdod lleol;

c) sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ac mae'n bleser mawr gennyf wneud hynny, gan fod Cymru'n genedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid. 

Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi treulio mwy o amser nag arfer gartref. I mi, roedd gennyf ffrind gorau dyn yn fy swigen dros y cyfyngiadau symud—fy naeargi Jack Russell, Cadi, sy'n ffyddlon, er yn gyfarthlyd. Gwnaed heriau'r 18 mis diwethaf yn haws drwy fynd am dro ar hyd yr arfordir gyda Cadi, a gwn fod pobl a theuluoedd eraill dirifedi wedi croesawu ychwanegiadau newydd blewog i'w cartrefi yn ystod y pandemig. Yn union fel y gwelwn bob Nadolig, cafwyd ymchwydd amlwg yn nifer yr aelwydydd a brynodd gi bach neu gath yn ystod y cyfyngiadau symud. Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes fod cyfanswm o 3.2 miliwn o aelwydydd yn y DU wedi cael anifail anwes ers dechrau'r pandemig.  

Fodd bynnag, wrth i newyddwch bod yn berchen ar gyfaill o deulu'r cŵn neu'r cathod bylu, sylweddolodd nifer bryderus o berchnogion cymaint o ymrwymiad sydd ynghlwm wrth ddarparu cartref am byth i anifail anwes. Ac felly, gorfodwyd canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid Cymru i ddarparu lloches i'r anifeiliaid anwes na allai neu na fyddai eu perchnogion yn gofalu amdanynt mwyach. Er bod llawer o berchnogion yn mynd ati'n synhwyrol i gysylltu â'u canolfannau ailgartrefu lleol, roedd rhai achosion gwirioneddol erchyll lle roedd perchnogion yn cael gwared ar eu hanifeiliaid anwes ar ymyl lonydd gwledig tawel, yn y gobaith y gellid anghofio a dileu eu pryniannau yn ystod y cyfyngiadau symud.

Yn anffodus, nid oedd y rhain yn ddigwyddiadau anghyffredin. Ar hyd a lled Cymru, mae canolfannau achub a llochesau bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae RSPCA Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y 998 o achosion o adael anifeiliaid anwes a ddigwyddodd yn ystod 10 mis cyntaf y flwyddyn hon eisoes yn uwch na'r cyfanswm ar gyfer 2020. Mae hyn yn dangos y pwysau cynyddol ar ganolfannau sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw. Mae'r cynnig heddiw yn tynnu sylw at waith pwysig y canolfannau hyn, ac mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rheoliadau lles anifeiliaid presennol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn. Mae hefyd yn cydnabod y pwysau cynyddol a osodir ar y llochesau anifeiliaid a'r canolfannau ailgartrefu ledled Cymru ac mae'n ceisio diogelu lles yr anifeiliaid sydd yn eu gofal.

Yn sicr, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu, at ei gilydd, gynllun lles anifeiliaid diweddaraf y Gweinidog ar gyfer 2021-26. Fodd bynnag, ac fel yr esbonia'r cynnig hwn, rydym yn rhannu barn y sector nad yw'r cynllun hwn yn mynd yn ddigon pell yn ei ymdrechion i ddiogelu lles anifeiliaid yng Nghymru. Yn y 15 mlynedd ers i'r lle hwn gael y pwerau perthnasol, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cyflawni strategaeth glir sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau lles anifeiliaid heddiw. Mae'r cynnig hwn yn galw am atgyfnerthu galwadau'r sector lles anifeiliaid i reoleiddio'r nifer anhysbys ar hyn o bryd yng Nghymru o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid a llochesau, ond mae'n gosod ffocws penodol ar y rhai sy'n gweithredu ar-lein. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ceisio gweithredu llinell amser bendant ar gyfer cyflawni hyn. 

Fel llawer yn y sector hwn, roedd y meinciau hyn yn hynod siomedig ynglŷn â diffyg brys Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Ac o ganlyniad, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr. Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth hon i gyflwyno rheoliadau erbyn 2023. Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub ac ailgartrefu yn peryglu lles pob anifail anwes. Ond nid yn unig hynny. Mae oedi pellach yn creu risg o gamfanteisio pellach ar y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn a gwerthiannau anifeiliaid anwes gan y rhai sy'n dymuno gwneud elw cyflym o werthu anifeiliaid mewn ffyrdd sy'n greulon.  

Ac yn olaf, ac yn bwysicaf, gellid dadlau, mae'r cynnig hwn yn gosod dyletswydd statudol ar bob canolfan ailgartrefu i fodloni'r safonau hyfforddi, staffio ac amgylcheddol gofynnol. Mae angen inni sicrhau bod y rhai sy'n gofalu am anifeiliaid a adawyd yn cael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth angenrheidiol i allu gwneud hynny. Ond mae hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn eu gofal yn cael eu diogelu yn erbyn rhai a allai, gyda'r bwriadau gorau, fod eisiau cynnig lloches, ond na allant yn anffodus roi gofal a sylw o'r safon y mae'r anifeiliaid hyn yn eu haeddu neu eu hangen. Y peth olaf un rydym am ei weld yma yng Nghymru yw ein lloches anifeiliaid Tiger King ein hunain. Mae'r cynnig hwn yn croesawu themâu cyffredinol cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru, ond mae hefyd yn mynd y tu hwnt i'r hyn a argymhellir ar hyn o bryd, a thrwy weithio gyda'r sector lles anifeiliaid, mae'n gwella'r safonau gwasanaeth y gellir eu cynnig.

Ddirprwy Lywydd, y digwyddiad cyntaf i mi ei noddi yn y Senedd hon oedd un ar gyfer Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, sy'n cael ei gadeirio'n feistrolgar gan y cyn-Aelod, Bethan Sayed. Roeddwn yn falch iawn o weld cynrychiolaeth drawsbleidiol mor gryf o'r holl feinciau yn y digwyddiad, gan dynnu sylw at yr ewyllys wleidyddol i gryfhau'r elfen hon yng nghyfraith Cymru. Mae'r cynnig hwn wedi'i lunio ar y cyd â'r Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes ac ystod eang o randdeiliaid allweddol yn y diwydiant. Felly, gadewch inni fod yn llais i'r rhai nad oes ganddynt lais a phleidleisio dros wella lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Diolch. 

17:05

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn cydnabod gwaith allweddol arolygwyr lles anifeiliaid yr awdurdodau lleol o ran cynnal safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, fel canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu ar-lein;

b) datblygu trefniadau er mwyn diogelu safonau gofynnol o ran hyfforddiant, staff a’r amgylchedd er mwyn sicrhau lles anifeiliaid mewn sefydliadau lles anifeiliaid;

c) gwella’r cymwysterau ar gyfer arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol;

d) cefnogi awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu cydnerthedd er mwyn helpu i reoli’r dosbarthiad anghyson o sefydliadau lles anifeiliaid ar draws Cymru;

e) ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch sut y dylai unigolion sy’n ailgartrefu anifeiliaid ddatgan eu gweithgareddau o dan drwydded oddi wrth eu hawdurdod lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Lesley Griffiths 17:06:23
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Yn ffurfiol.

Roeddwn am ddweud gair byr yn y ddadl hon y prynhawn yma. Os edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd y bûm yn gwasanaethu yn y lle hwn, mae pryderon am rai llochesau anifeiliaid a sefydliadau achub yn un peth a welais yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe'i gwelaf heddiw ym Mlaenau Gwent. Gwelaf bobl sy'n wirioneddol ofidus am y pethau y maent wedi'u gweld. Rwy'n gweld pobl sydd wedi gwneud eu gorau i gefnogi canolfannau achub ond sy'n teimlo bod y rheini wedi manteisio arnynt, a chanolfannau sy'n greulon. Ac mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch.

Credaf fod gennym gyfrifoldeb i weithredu ar y mater hwn. Mae prynhawniau Mercher yn enwog yn y lle hwn am y siarad. Credaf ein bod wedi siarad digon. Roeddwn yn siomedig o weld gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig hwn, a oedd yn dileu'r ymrwymiad i ddeddfu ac i gyflwyno rheoliadau erbyn 2023. Rwy'n gobeithio y caf esboniad clir ac argyhoeddiadol iawn gan y Gweinidog ynglŷn â hynny. Roedd y rheini ohonom a ymgyrchodd ar gyfraith Lucy yn y Senedd ddiwethaf yn eithriadol o rwystredig a siomedig ynglŷn â'r amser a gymerodd i'r Llywodraeth weithredu ar y mater hwn, ac nid ydym am ddechrau'r Senedd newydd hon gyda mwy o rwystredigaeth ynghylch anallu'r Llywodraeth i weithredu ar y materion hyn. Felly, credaf y byddwn yn chwilio am esboniadau clir iawn ynglŷn â hynny.

Rwyf wedi gweld gormod o ddioddefaint yn y sefydliadau hyn i aros yn ddistaw ac i barhau i beidio â chael fy nghyffwrdd gan y materion hyn. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod gennym y gyfraith ar waith—a'r gyfraith yn y lle iawn—i sicrhau bod gennym drefn reoleiddio sy'n bodloni'r safonau lles uchaf posibl bob amser yn y dyfodol. Ond yn fwy na hynny, credaf fod angen inni wedyn gael y mecanweithiau rheoleiddio ar waith i sicrhau y gellir gweithredu'r gyfraith yn briodol.

Un o'r pethau a welais ym Mlaenau Gwent yw awdurdod lleol nad yw'n gallu darparu'r drefn reoleiddio sydd ei hangen. Bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod fy mod yn credu bod y Senedd gyfan yn siomi pobl yng Nghymru bob tro y mae'n caniatáu i awdurdodau bach fel Blaenau Gwent osgoi gwasanaethu pobl y fwrdeistref. Yn y materion hyn, rwyf wedi gweld yn ddigon hir nad yw'r fwrdeistref yn gallu—nid oes ganddi'r adnoddau—i reoleiddio'r sefydliadau hyn yn effeithiol.

Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwn gael sicrwydd fod gennym y gyfraith yn ei lle. Ac yna, gobeithio y gallwn gael sicrwydd y bydd gennym ffordd o weithredu'r gyfraith. Ar hyn o bryd, mewn sawl ardal o Gymru, nid wyf yn credu bod y naill na'r llall gennym. Felly, yn sicr, wrth edrych ymlaen, tuag at y dyfodol yn y Senedd hon, byddaf am weld trefn reoleiddio, ond byddaf am weld yr adnoddau sy'n darparu'r drefn reoleiddio honno lle bynnag y bo'i hangen. Diolch.

17:10

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel cenedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid anwes, dylem feddu ar y safonau lles anifeiliaid mwyaf llym yn y byd. Yn anffodus, mae hynny ymhell o fod yn wir. Fel gyda llawer o bethau, mae gan Lywodraeth Cymru fwriadau da. Nid oes unrhyw ymdeimlad o frys yn perthyn i'w chynllun lles anifeiliaid, er ei fod yn cael ei groesawu'n eang, hyd yn oed ar yr ochr hon i'r Siambr. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir ond yn gam ar ôl gwledydd eraill y DU. Fel y mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn nodi, mae oedi cyn gweithredu safonau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu yn creu risg o gamfanteisio ar y bylchau sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol, er anfantais i anifeiliaid anwes. Mae angen mesurau lles llym arnom i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu diogelu.

Er bod y mwyafrif llethol o anifeiliaid anwes yn cael gofal da, mae'n dal i fod pobl sy'n cam-drin anifeiliaid, weithiau drwy falais, ond yn aml, drwy fethu ymdopi, a dyna pam y mae gennym bron i 100 o lochesau anifeiliaid yng Nghymru yn y lle cyntaf. Yn aml, gall esgeulustod ddigwydd am nad oedd perchnogion anifeiliaid anwes yn barod i fod yn berchen ar anifeiliaid anwes. Gwelodd y pandemig, gyda'i gyfyngiadau gweithio gartref, ymchwydd enfawr yn nifer yr anifeiliaid anwes. Gwelwyd cynnydd enfawr ym nifer y bobl a oedd yn berchen ar gŵn. Daeth pobl a oedd yn chwilio am gwmni â chi neu gath newydd i mewn i'w bywydau, ond wrth i'r economi ddechrau agor yn ei hôl, byddent yn dychwelyd i'r swyddfa. Aeth anifeiliaid o gael eu perchnogion o gwmpas yn barhaol i gael eu gadael am hanner y diwrnod. Roedd llawer o berchnogion newydd yn methu ymdopi, a gwelsom gynnydd enfawr yn y galw am wasanaethau ailgartrefu—gwasanaethau ailgartrefu sydd i raddau helaeth heb eu rheoleiddio a heb eu monitro.

Er bod y mwyafrif llethol o'r llochesau anifeiliaid hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol ac yn cynnal safonau lles uchel, yn anffodus nid yw pob un ohonynt yn gwneud hynny. Nid yw llochesau a chanolfannau achub yn ddarostyngedig i reoliadau, sy'n golygu yn y bôn y gall unrhyw un sefydlu un, ni waeth a oes ganddynt sgiliau neu'r adnoddau angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid. Gall hyd yn oed llochesau sy'n cael eu rhedeg yn dda fethu. Yn fy nhref i ym Mhrestatyn, aeth canolfan achub a oedd wedi bod yn gweithredu ers degawdau—yr Abandoned Animals Association—i'r wal yn ddiweddar, gan arwain at orfod ailgartrefu llawer o'r anifeiliaid ar frys, ac eto nid oes dim i fy atal rhag sefydlu lloches yfory pe bawn i eisiau gwneud hynny. Fodd bynnag, yr hyn sy'n waeth na fy mod i'n rhedeg cartref i gŵn neu gathod yw caniatáu i fridiwr cathod neu gŵn didrwydded weithredu canolfan achub er mwyn cuddio eu modus operandi go iawn.

Er mwyn osgoi'r deddfau sy'n gwahardd gwerthu cathod a chŵn bach gan drydydd parti, rydym ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU ar gymryd camau i gau'r bwlch hwn, yn union fel rydym ar ei hôl hi ar ficrosglodynnu cathod bach. Os oes gan Lywodraeth Cymru fwy na bwriadau da, rhaid iddi gymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid anwes yng Nghymru. Wedi'r cyfan, mae'r ffordd i uffern wedi'i hadeiladu ar fwriadau da, ond mae'r nefoedd wedi'i hadeiladu ar waith da. Mae anifeiliaid anwes angen i ni weithredu ar eu rhan, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle heddiw i drafod y mater pwysig yma, sef lles anifeiliaid. Mae e'n fater dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yn credu sy'n bwysig, achos mae ein hetholwyr ni yn poeni'n fawr iawn am y mater hwn. Yn wir, mae data o 2019 yn awgrymu bod chwarter poblogaeth Cymru yn perchen ar gath a rhyw un o bob tri yn perchen ar gi—y feline friends a'r canine companions roedd Sam Kurtz yn cyfeirio atyn nhw yn gynharach.

Fodd bynnag, gellid dadlau bod llawer o'r cyfreithiau sy'n ymwneud â masnachu anifeiliaid anwes wedi hen ddyddio erbyn heddiw. Mae gwerthu anifeiliaid anwes ar-lein, er enghraifft, yn rhywbeth na fyddai hyd yn oed wedi bod ym meddyliau'r sawl a ddrafftiodd y Ddeddf anifeiliaid anwes nôl ym 1951, sef 70 mlynedd yn ôl, cymaint y mae'r byd wedi newid ers y Ddeddf honno. 

Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson ar y Llywodraeth i weithio gyda rhanddeiliaid i adeiladu ar y lefel uchel o safonau lles anifeiliaid sydd eisoes ar waith yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, gan ei fod yn adlewyrchu'r egwyddorion hynny yn llawn ac yn galw am weithredu pellach gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar les anifeiliaid.

Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi cael effaith aruthrol ar gapasiti a chyllid nifer o sefydliadau lles anifeiliaid ledled y wlad. Er enghraifft, gwelodd yr Ymddiriedolaeth Cŵn ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ostyngiad o 44 y cant mewn cyfraddau ailgartrefi cŵn, tra bod galwadau i ailgartrefi cŵn wedi cynyddu gan 73 y cant rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021—mae hynny'n gynnydd sylweddol iawn, iawn.

Yn yr un modd, effeithiwyd yn sylweddol ar raglenni addysg tîm ysgol cŵn de Cymru gan y pandemig. Roedd nifer y perchnogion oedd yn gallu cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi yn 2020 wedi gostwng 73 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r sector angen ein cefnogaeth, felly, i'w helpu unwaith eto i estyn allan at gymunedau ledled Cymru i ddiogelu lles anifeiliaid. Er fy mod yn croesawu cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru, mae pryderon gan y sector o ran achub anifeiliaid rhag niwed a dyfodol ailgartrefi, neu'r canolfannau ailgartrefi yn hytrach, yn benodol o safbwynt y llinellau amser sydd wedi cael eu nodi a'r diffyg brys. 

Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub a chartrefu yn peryglu lles cŵn a chathod, yn creu risg y bydd y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn yn parhau ac yn tanseilio effeithiolrwydd cyfreithiau gwerthu anifeiliaid anwes, sy'n gwahardd gwerthiant gan drydydd parti ac sy'n golygu bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU, fel y clywsom eisoes. Mae rhai yn y sector yn pryderu bod y mater hwn yn cael ei wthio i'r naill ochr, pan fo angen brys i ddiogelu lles anifeiliaid anwes yng Nghymru. Ac fel y soniodd Alun Davies yn gynt hefyd, rwy'n pryderu efallai na fydd gan awdurdodau lleol, sy'n aml ar y rheng flaen gyda monitro a gorfodi materion lles anifeiliaid, gapasiti dynol na gallu ariannol i helpu i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol. Felly, er bod y canllawiau ar gynllun newydd Cymru i drwyddedu gwerthiant anifeiliaid anwes i'w croesawu, prin y dangoswyd sut y caiff awdurdodau lleol eu cefnogi'n ariannol. Gan y bydd eu portffolio o gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn debygol o barhau i dyfu ar ôl cyhoeddi'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru, a chyda deddfwriaeth fel Bil Lles Anifeiliaid y DU (Anifeiliaid a Gedwir) ar y gorwel, rhaid inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o arian ac adnoddau.

I gloi, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan eraill ar draws y Siambr yn ystod y ddadl hon, ac rwy'n gobeithio y bydd ymateb y Llywodraeth yn amlinellu sut y bwriadant fynd i'r afael â loteri cod post gwasanaethau lles anifeiliaid ledled Cymru, sy'n dod yn fwyfwy amlwg. Diolch yn fawr.

17:15

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr; mae'n bwysig iawn i'r holl waith caled y mae'n ei wneud dros anifeiliaid y tu allan i'r Siambr hon hefyd.

Nawr, ers blynyddoedd, rwyf bob amser wedi bod eisiau cael cath neu gi anwes. Cofiaf fynd ar bererindod grefyddol yn naw oed gyda fy mam, a ddywedodd wrthyf yn y lle mae nifer o bobl yn ei ystyried yn fwyaf sanctaidd ar y ddaear, 'Natasha, yn ystod y bererindod hon, beth bynnag y gofynni di i Dduw amdano, fe'i cei.' Sefais yno, yn naw mlwydd oed, edrych i fyny ar yr awyr a dweud, 'Dduw, rwyf eisiau cath.' Er gwybodaeth, ni chefais mo'r gath. Ond mae o leiaf 10 cyfle wedi bod ers hynny lle gallwn fod wedi cael un.

Y rheswm pam na chefais gath neu gi erioed oedd oherwydd bod fy rhieni wedi dweud wrthyf, 'Natasha, mae anifail anwes gennyt am oes, nid dros dy ben-blwydd neu'r Nadolig yn unig.' Wrth dyfu i fyny, fel llawer ohonoch sydd â phlant neu'r Aelodau nad ydynt yn y Siambr gyda ni heddiw efallai, fel chithau, roedd fy rhieni'n gweithio'n llawn amser, ac roeddent yn credu'n gryf iawn os nad oeddem gartref, a minnau yn yr ysgol ar y pryd, y byddai'n peri gofid i'r anifail gael ei adael gartref ar ei ben ei hun am oriau lawer yn ystod y dydd, ac nid oedd hynny'n rhywbeth y gallai'r un ohonom fod wedi byw gydag ef. Ar hyn o bryd rwy'n ymdrechu'n galed iawn i argyhoeddi fy mam fod angen ci arnom, ac rwyf bron â llwyddo, felly gadawaf ichi wybod a yw hynny'n digwydd ai peidio.

Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod â pharch mawr at yr elusennau a'r llochesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, ac o waelod calon, rwy'n cymeradwyo'r holl staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu anifeiliaid o bob math ac o bob cefndir.

Ddydd Iau diwethaf, cefais y pleser mwyaf o ymweld â chanolfan anifeiliaid yr RSPCA yng Nghasnewydd. Gwelais anifeiliaid a oedd wedi dioddef llawer oherwydd esgeulustod a thrais dan law pobl, ac roedd fy nghalon yn gwaedu drostynt. Efallai nad oeddent yn gallu siarad drostynt eu hunain, ond mae'n hollbwysig fod pob un ohonom fel gwleidyddion yn siarad drostynt, nid ar ran aelodau o'r cyhoedd yn unig, ond ar ran anifeiliaid hefyd. 

Fel ei ganolfannau eraill, mae canolfan anifeiliaid Casnewydd yn cydymffurfio â safonau lles trylwyr, ac mae'r RSPCA wedi galw ers tro am fframwaith rheoleiddio ehangach ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trwyddedu llochesau, canolfannau ailgartrefu a sefydliadau eraill hefyd. Rydym yn cynnal y ddadl hon heddiw i reoleiddio'r sefydliadau hyn er mwyn cynnig diogelwch cyfreithiol i'r anifeiliaid yn y 90 o lochesau yr amcangyfrifir eu bod yn gweithredu yng Nghymru.

Yn wahanol i sefydliadau eraill, megis ysgolion marchogaeth, nid yw bridwyr cŵn a lletywyr cathod, llochesau a chanolfannau achub yn ddarostyngedig i reoliadau ar hyn o bryd. Yn y bôn, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, golyga hyn y gall unrhyw un sefydlu lleoliad o'r fath, ni waeth a oes ganddynt y sgiliau neu'r adnoddau angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid, ac mae hynny'n peri pryder gwirioneddol i rywun fel fi.

Hoffwn gofnodi o'r cychwyn fy mod yn cydnabod y gwaith amhrisiadwy y mae llochesau'n aml yn ei wneud i adsefydlu ac ailgartrefu anifeiliaid. Fodd bynnag, mae'n hanfodol darparu hyfforddiant sylfaenol, a sefydlu safonau pendant ar gyfer pob canolfan anifeiliaid i sicrhau bod lles yr anifeiliaid yn eu gofal o ansawdd da. Ond nid yw'r diffyg mesurau i ddiogelu lles anifeiliaid yn y sefydliadau hyn, y gellir eu sefydlu heb unrhyw arolwg na gofyniad cyfreithiol am safonau lles cadarn a chynlluniau wrth gefn, yn dderbyniol ac ni all fod yn gynaliadwy. Gall pobl sydd â bwriadau da sylweddoli'n gyflym na allant ymdopi, a dangosir hynny gan y ffaith drist fod rhai llochesau wedi methu dal ati yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod y degawd diwethaf, gorfodwyd yr RSPCA i fwrw ymlaen â thros 10 erlyniad yn sgil gofal annigonol mewn llochesau. Mae angen gofal arbenigol ar lawer o'r anifeiliaid sydd mewn llochesau neu ganolfannau achub, ynghyd â dealltwriaeth dda o'u hanghenion cymhleth yn sgil eu hamgylchiadau trawmatig. Yn ogystal â chael staff sy'n bodloni'r meini prawf hyn, mae angen arbenigedd i sicrhau bod y sefydliadau'n ariannol gadarn ac yn ticio'r holl flychau ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch yr anifeiliaid o'u mewn.

Felly, Ddirprwy Lywydd, mae trefniadau llywodraethu cadarn a chynlluniau wrth gefn pan fydd pethau'n mynd o chwith yn hanfodol ar gyfer rhedeg lloches lwyddiannus. Rwy'n credu'n gryf fod angen inni reoleiddio llochesau i lenwi'r bwlch presennol, gan sicrhau bod safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid yn orfodol yn hytrach na gwirfoddol. Diolch.

17:20

Gaf i ddiolch i Sam Kurtz am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr heddiw? Diolch yn fawr iawn ichi, Sam.

Os caf ddechrau o bersbectif personol, rwyf wedi siarad am fy nghi wyth mlwydd oed, Arthur, o ganolfan achub, a oedd yn arfer bod yn filgi rasio. Daeth Arthur atom pan oedd yn chwech oed, ac roedd mewn cyflwr go wael. Deilliai hynny o'r ffaith ei fod wedi bod yn filgi rasio, lle cânt eu trin yn greulon iawn, a hefyd mewn perthynas â'r cartref achub, lle roeddent yn gwneud eu gorau i ofalu amdano. Rwy'n gwybod bod llawer ar draws y Siambr hon am weld rasys milgwn yn cael eu gwahardd, ac mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond ni allwn gymryd y cam hwnnw hyd nes y gwyddom y bydd y cŵn hynny ac eraill yn cael gofal priodol. Felly, roeddwn yn synnu'n fawr o glywed nad oes deddfwriaeth ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd a'n bod ymhell ar ôl y gwledydd eraill yn y DU ar y mater hwn.

Byddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth beth bynnag ydyw—y ddadl gan y Ceidwadwyr heddiw, ac ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau, oherwydd teimlaf ei bod mor bwysig inni gael amserlen. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r cynllun lles anifeiliaid newydd, ond rwy'n ategu pryderon sefydliadau lles anifeiliaid sy'n awyddus iawn i weld y terfynau amser gweladwy hynny. O wybod yr hyn rwy'n ei wybod yn awr am yr amodau a'r afiechydon y mae milgwn rasio yn eu dioddef, mae rheoleiddio a chefnogaeth gryfach i'r canolfannau achub ac ailgartrefu hynny'n gwbl hanfodol. Maent o fudd i'r anifeiliaid, ond maent o fudd i'r sefydliadau hynny a'r staff sy'n ceisio gwneud y peth iawn hefyd.

Gadewch imi ddweud stori arall wrthych. Etifeddodd perchennog canolfan achub ceffylau Whispering Willows yn ne-orllewin Cymru rywfaint o arian a sefydlodd ganolfan achub ceffylau. Dywedodd ei bod am wireddu ei breuddwyd o ofalu am geffylau, a chymerodd 137 ohonynt i mewn. Pan ofynnwyd iddi am ei harbenigedd mewn cadw ceffylau, disgrifiodd ei hun fel rhywun nad oedd yn arbenigwr, ond a oedd â rhywfaint o wybodaeth gyffredinol. Dywedodd ei bod yn rhedeg y ganolfan achub drwy roddion, ond â'i harian ei hun yn bennaf. Yn anffodus, yn 2021, bu'n rhaid difa nifer o'r ceffylau oherwydd salwch a diffyg maeth. Dyna'r hyn y mae angen inni roi diwedd arno. Mae hyfforddiant, cymorth a safonau yn eithriadol o bwysig er mwyn i'r anifeiliaid a'r staff a'n hawdurdodau lleol gael cryfder i allu sicrhau nad yw ein canolfannau'n cael eu llethu gan nifer yr anifeiliaid na'u hanghenion iechyd a gofal a bod staff yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r gofal gorau posibl. Felly, diolch yn fawr iawn eto i chi, Sam. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon. A gaf fi annog y Llywodraeth unwaith eto i feddwl eto ynglŷn â chytuno i amserlenni cadarn ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau hyn? Ac rwy'n siarad heddiw ar ran Arthur. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Rydym wedi clywed am Cadi, rydym wedi clywed am Arthur; hoffwn ddweud wrthych am aelod o fy nheulu i: Blue, y milgi bach a achubwyd o ganolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd. Fe'i cawsom 11 mlynedd yn ôl; roedd yn denau ac yn esgyrnog, yn naw mis oed, a phan gyraeddasom adref gydag ef, estynnodd ei goesau bach allan ar y carped yn y lolfa, dwy goes ymlaen, dwy goes yn ôl, fel clustog atal drafft, a syrthiasom mewn cariad ag ef, fel y mae llawer o bobl yn ei wneud pan fyddant yn cael eu hanifeiliaid anwes.

Mae Blue yn un o 1,900 o anifeiliaid y mae canolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd yn eu hailgartrefu bob blwyddyn. Fe'i sefydlwyd yn 1978 gan wraig o'r enw Anne Owen, a dechreuodd gyda chi potsiwr tenau; ci tenau, esgyrnog, ac erbyn hyn mae'n ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Credaf eu bod yn gwneud gwaith aruthrol, a cheir llawer o enghreifftiau rhagorol o ganolfannau achub anifeiliaid ledled Cymru gyfan wrth gwrs. Un arall yn fy etholaeth i yw canolfan anifeiliaid yr RSPCA ym Mryn-y-Maen ychydig y tu allan i Fae Colwyn. Gallaf gofio'n dda gweld draenog, babi draenog, mewn trallod ar y gylchfan ger fy swyddfa yn y gwaith; roedd yn anadlu'n gyflym yng ngwres y dydd, yn amlwg yn mynd i gerdded i'r ffordd a dod yn olygfa fflat gyfarwydd fel llawer o ddraenogod yn anffodus, ond fe'i codais yn fy nghap fflat, ei ddal ar fy nglin, a gyrru i Ganolfan Anifeiliaid Bryn-y-Maen lle cefais gyngor cyn ei ryddhau i'r gwyllt yn y diwedd. Roedd yn 9g pan gyrhaeddodd y ganolfan; cafodd driniaeth feddygol ac fe'i rhyddhawyd ychydig wythnosau'n ddiweddarach; roedd yn enfawr pan gyrhaeddodd 1kg, felly dyn a ŵyr pa fwyd roeddent yn ei fwydo iddo; yr un pethau â fi y rhan fwyaf o'r amser yn ôl pob tebyg.

Wedyn, wrth gwrs, mae gennych waith Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn, sy'n aml iawn yn rhoi cartref i anifeiliaid ac yn eu hachub, yn enwedig anifeiliaid egsotig nad oes gan neb arall brofiad o allu gofalu amdanynt. Rydym wedi cael pob math o anifeiliaid yn teithio ar draws Bae Colwyn dros y blynyddoedd, gan gynnwys parotiaid, crwbanod, madfallod, pob math o anifeiliaid sydd wedi cael cartref gan y sw ac maent yn gwneud gwaith gwych. Maent hefyd, wrth gwrs, yn achub anifeiliaid gwyllt; mae ganddynt ganolfan achub morloi llwyd yno, felly maent hwythau hefyd yn gwneud gwaith da.

Ond y peth am yr RSPCA, canolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd a Sw Mynydd Cymru yw eu bod i gyd yn cadw at y safonau uchaf un o ran lles anifeiliaid. Gall pobl fynd yno'n hyderus, gan wybod os byddant yn mynd ag anifail crwydr i mewn neu anifail sydd mewn trallod, y bydd yn cael gofal da; caiff ei godi'n ôl ar ei draed—os oes ganddo draed—ac yna'i ailgartrefu mewn amgylchedd priodol. Ac wrth gwrs, maent yn fetio pawb sy'n dod i mewn i ofyn am anifail i'w ailgartrefu, a dyna'r math o ansawdd y dylem anelu ato ym mhob rhan o'r wlad. Mae'n ofnadwy nad oes system gofrestru ar gyfer canolfannau achub anifeiliaid yng Nghymru, ac nad ydym yn gwybod ble mae'r canolfannau achub hyn, ac mae hynny'n rhoi anifeiliaid mewn perygl, ac nid oes yr un ohonom am i hynny ddigwydd.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth yn cytuno â ni ar hyn; mae'n siomedig braidd eu bod wedi cyflwyno gwelliant heb amserlen glir ar gyfer gweithredu newid, ond mae'n welliant sydd, serch hynny, yn debyg iawn i'n cynnig gwreiddiol, felly gallaf weld bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog am fynd i'r afael ag ef. Ac os caf gyfeirio wrth gloi at rai o ganlyniadau rheolau lles anifeiliaid gwael neu reolau lles anifeiliaid amhriodol: cysylltwyd â mi—ychydig oddi ar y pwnc—cysylltodd ffermwr â mi yr wythnos hon yn fy etholaeth i sôn bod un o'i ffrindiau sy'n berchen ar fferm lle roedd TB yn bresennol wedi gorfod gweld y gwartheg roedd wedi'u magu a'u bwydo a gofalu amdanynt dros nifer o flynyddoedd yn cael eu saethu o'i flaen ar fuarth y fferm. Achosodd hynny ofid meddwl a thrallod ofnadwy iddo, a gwyddom fod iechyd meddwl ymhlith y gymuned amaethyddol wedi cyrraedd y gwaelod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chawsom sefydliadau fel Tir Dewi yn etholaeth Sam Kurtz i geisio ymateb i'r heriau hynny. Credaf fod angen inni feddwl a yw'r math hwnnw o weithredu mewn ymateb i ganfod TB ar fferm yn briodol, ac a allwn addasu ein rheolau yma yng Nghymru fel bod mwy o hyblygrwydd a bod modd mynd ag anifeiliaid i ffwrdd i'w difa fel nad achosir trallod o'r fath i'r rhai sydd wedi rhoi gofal mor dda wrth fagu'r anifeiliaid hynny. Felly, tybed a all y Gweinidog ymateb i'r mater penodol hwnnw hefyd pan fydd yn crynhoi ymateb y Llywodraeth heddiw. Diolch.

17:30

Mae sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol ac angenrheidiol, fel y gallwn weld yn ôl pa mor brysur ydynt. Fodd bynnag, mae eu hygrededd wedi'i niweidio gan rai sefydliadau ofnadwy. Hoffwn ddod â rhai enghreifftiau i'r amlwg i ddangos pam y mae angen i ni reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid.

Ers 2016, bûm yn gwylio camau gweithredu yn erbyn elusen leol yn fy rhanbarth i, Capricorn Animal Rescue, a gafodd sylw mewn rhaglen ohebu cudd gan BBC Wales y cymerodd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ran ynddi. Bu'r gwirfoddolwyr yn brwydro am fwy na thair blynedd cyn i'r rhaglen gael ei darlledu, ac eto ni chafodd yr elusen ei thynnu oddi ar y gofrestr elusennau tan fis Medi eleni—wyth mlynedd—ac ni chafwyd unrhyw gamau ffurfiol gan y Comisiwn Elusennau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol, nac adroddiad gan ymchwiliad a agorodd yn 2017. Roedd rhwystredigaethau'r gwirfoddolwyr a oedd yn ymladd yma wedi'u cyfeirio'n unig at y Comisiwn Elusennau fel yr unig awdurdod a allai weithredu ar hyn.

Y broblem allweddol i'r gwirfoddolwyr hyn hefyd oedd nad oedd yna un corff a oedd yn gyfrifol am gamu i mewn, a hwy a wynebodd faich iechyd meddwl a chost ariannol ymladd rhywbeth a oedd mor amlwg yn anghywir. Ar eu rhan hwy, rhaid imi ddiolch yn gyhoeddus i'n cyngor gwirfoddol lleol, a helpodd y gwirfoddolwyr hyn ym mhob ffordd y gallent, a darparu'r unig elfen o gymorth uniongyrchol a oedd ar gael.

Unwaith eto, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, yn 2019 roedd sefydliad arall, yn ne Cymru, lloches geffylau Whispering Willows, yn achosi problemau'n lleol. Datgelodd rhai ymchwiliadau syml gan etholwyr lleol bryderon difrifol iawn ynghylch y sefydliad hwnnw, ac ar ddechrau 2021 plediodd y sylfaenydd yn euog i droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid ac fe'u gwaharddwyd am 10 mlynedd. Yr wythnos diwethaf cafodd 34 o gŵn a dau ffured eu symud o fferm yn Eryri a oedd yn gysylltiedig â helfa leol. Mae pob achos o'r fath yn rhoi straen enfawr ar sefydliadau lles anifeiliaid eraill pan gânt eu cau, am eu bod yn gorfod derbyn anifeiliaid ychwanegol nad oedd yn rhan o'r angen y cynlluniwyd ar ei gyfer.

Mae cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach o lawer. Fodd bynnag, un man cychwyn yw rheoleiddio pob sefydliad sy'n gyfrifol am anifeiliaid yn ein cymdeithas. Mae'n peri pryder y gall unrhyw un ddechrau sefydliad lles anifeiliaid, ni waeth beth fo'u cymwysterau na'u profiad. Rhaid inni sicrhau ein bod i gyd yn gwneud popeth a allwn i ddarparu adnoddau digonol, ac yn bwysig, pwerau i roi rheoliadau sefydliadau lles anifeiliaid mewn grym ac i ymchwilio'n briodol i broblemau sy'n codi pan fydd aelodau o'r cyhoedd neu wirfoddolwyr yn eu datgelu. Bydd angen llawer iawn o gymorth ac addysg ar awdurdodau lleol ar feysydd pwysig nad ydynt yn rhan o'u harbenigedd. Mae'r materion sy'n codi y tu allan i fusnesau a drwyddedir ar hyn o bryd a'r cymhlethdodau sy'n deillio o ddeddfwriaeth elusennol, a'r anawsterau cyfarwydd gyda syndrom sylfaenydd, yn fynydd i'w wynebu heb ddealltwriaeth drylwyr. Rhaid inni wrando ar brofiadau'r rhai sydd wedi datgelu problemau lles a chreu'r rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i nifer o sefydliadau gydweithio er mwyn rhoi'r gorau i gamweithredu. Ac eto, mae'n rhaid cael gofyniad i gael un corff sy'n gyfrifol am gamu i mewn, ac ni ddylai hyn fod yn faich ar wirfoddolwyr mwyach. Diolch.

Member
Lesley Griffiths 17:34:58
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'n fawr y ddadl hon ar ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Mae bob amser yn dda clywed am anifeiliaid sy'n aelodau o deuluoedd yr Aelodau, ac rwy'n credu y byddai'n well i mi sôn bod gan fy nheulu innau ddau gi, Minnie a Bronnie; ci o ganolfan achub yw Bronnie, ac fel y dywedwyd, maent yn aelodau annwyl iawn o'n teuluoedd.

Mae'r cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru a lansiais yn gynharach y mis hwn yn uchelgeisiol ac mae'n arloesol, ac mae'n nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym mewn perthynas â lles anifeiliaid ers i bwerau gael eu datganoli i Gymru yn ôl yn 2006. Yn dilyn yr etholiad, roedd yn rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i'w wneud, i gael popeth mewn un lle, ac i ddod ag ystod o gamau gweithredu at ei gilydd, ynghyd â'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu, ac i ddangos mai dyma'r pethau y byddem yn eu gwneud dros gyfnod y Llywodraeth hon o bum mlynedd. Fy uchelgais, fel pob Aelod yn y Siambr hon rwy'n credu, yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da, ac er mwyn ceisio sicrhau hynny, mae ein cynllun yn cynnwys gwireddu'r pedwar ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ar les anifeiliaid a gedwir, ac mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod o waith parhaus ym maes polisi lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon. 

Credaf fod y ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig iawn o werthoedd ein cymdeithas. Mae bod yn berchen ar anifail yn fraint—nid yw'n hawl—ac mae perchnogaeth gyfrifol yn ddisgwyliad, nid yn ddyhead. Mae gan unrhyw un sy'n berchen ar anifail neu sy'n gyfrifol am anifail ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ei anghenion lles yn cael eu diwallu. Mae perchnogaeth gyfrifol yn dechrau o'r eiliad y mae person yn dechrau ystyried cael anifail. Mae'n hanfodol ystyried yn ofalus yr ymrwymiad hwnnw. Gydag anifeiliaid anwes yn arbennig, mae perygl bob amser o brynu ar sail emosiwn ac ar fympwy. 

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig i atgoffa pobl ynglŷn â gofynion perchnogaeth gyfrifol, #ArosAtalAmddiffyn, ac mae'n annog pobl i ymchwilio'n drylwyr beth yw'r costau a'r ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth hynny, addasrwydd yr anifail anwes i amgylchedd eu cartref, a sicrhau eu bod yn caffael eu hanifeiliaid anwes o ffynhonnell gyfreithiol a dibynadwy. Felly, unwaith eto, rwy'n annog pob Aelod yn y Senedd i gefnogi a hyrwyddo'r ymgyrch hon yn y cyfnod cyn y Nadolig. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r cynnydd mewn gwerthiannau ar-lein, a sut y mae'r posibilrwydd o werthiannau cyflym heb eu rheoleiddio hefyd yn denu bridwyr diegwyddor i wefannau. Am y rheswm hwn, rydym yn cefnogi gwaith y Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes i sicrhau bod hysbysebu anifeiliaid anwes i'w gwerthu yn cael ei wneud yn gyfreithlon ac yn foesegol. 

Mae gweithio mewn partneriaeth yn gwbl allweddol i lwyddiant popeth yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Yn ogystal â'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes, rydym yn falch o'n perthynas hirsefydlog â dau grŵp allweddol sy'n dwyn ynghyd sefydliadau'r trydydd sector—Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Daw aelodau'r grwpiau hyn o'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust a Cats Protection, ac yn ddiweddar fe wnaethant fynychu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi tystiolaeth ar faterion lles anifeiliaid. Clywyd canmoliaeth i'r modd y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn rhyngweithio â hwy ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud. Dyna pam y mae ein cynllun lles anifeiliaid yn tynnu sylw at rôl gweithgorau rhanddeiliaid, oherwydd gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.

Ar gyfer y ddadl heddiw, ac fel rhagair i drafod cynlluniau ar gyfer trwyddedu neu reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft arall o weithio mewn partneriaeth. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi awdurdodau lleol. Mae gorfodi a chyflawni deddfwriaeth bob amser yn gryfach pan fydd dealltwriaeth glir a rennir o'r hyn a ddisgwylir a pham y disgwylir hynny. Mae swyddogion gorfodi angen hyfforddiant wedi ei ddarparu mewn modd cyson a chydlynol, ac mae angen i'r swyddogion eu hunain gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi oherwydd y rôl sylfaenol y maent yn ei chwarae yn sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal.  

Yn ail, arweiniodd ein cydweithrediad â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru at gyhoeddi cod arferion gorau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020, a chredaf fod hwn yn gam cyntaf pwysig iawn. Mae'r cod yn wirfoddol, ond mae'n cynnig cyngor rhagorol i annog mabwysiadu safonau uwch ar gyfer magu anifeiliaid. Felly, gan adeiladu ar hyn, fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu a'n cynllun lles anifeiliaid, ein bwriad yw symud ymlaen gyda gwaith ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, sy'n rhywbeth y credaf fod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n cysylltu â mi ar y mater hwn yn gefnogol iawn iddo. Felly, byddwn yn ymgynghori'n eang i sefydlu nifer a gwasgariad y sefydliadau sy'n ymwneud ag ailgartrefu ac achub anifeiliaid, yn amrywio o'r rhai a weithredir gan unigolion i eraill a gaiff eu gweithredu ar raddfa fwy. Bydd ein gwaith cydweithredol gyda'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes hefyd yn ein galluogi i ystyried cynnwys sefydliadau ar-lein, a bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod rheoliadau yn y dyfodol yn gyfredol ac yn gynhwysfawr ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i oruchwylio'r sector amrywiol hwn y mae ei ddosbarthiad daearyddol yn anwastad iawn ledled Cymru.

Erbyn 2023, byddwn mewn sefyllfa i gyflwyno gofynion rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, i gynnwys trefniadau wedi'u cynllunio i ddiogelu safonau gofynnol mewn perthynas â hyfforddiant, staffio a'r amgylchedd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i hyfforddi swyddogion i orfodi rheoliadau newydd er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson. Mae ein gwelliant i'r cynnig heno yn pwysleisio rôl allweddol gorfodaeth awdurdodau lleol ac yn nodi ein cynlluniau ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn unol â'r cynllun lles, gan gyfeirio'n arbennig at brosesau, amseru a rôl sylfaenol gweithio mewn partneriaeth.

Mae'r cyflawniadau a'r camau gweithredu a amlinellais yn dangos sut y mae lles anifeiliaid a pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. I orffen gyda dyfyniad o'n cynllun lles anifeiliaid:

'Ein nod yw bod Cymru’n cael cydnabyddiaeth fel esiampl i bawb oherwydd ei safonau, am y modd y mae arferion da yn cael eu mabwysiadu a’u rhannu, am y modd y trafodir â’r prif randdeiliaid, am y mecanweithiau gorfodi effeithiol, cefnogol a chynaliadwy sy’n cael eu datblygu, am ei chyfraniad at ymchwil ac am hyrwyddo addysg a pherchenogaeth gyfrifol, hynny er lles cenedlaethau heddiw ac fory.'

A gwn y gallwn gyflawni hyn drwy weithio gyda'n gilydd. Diolch.

17:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Onid yw'n wych meddwl, mewn llawer o'r cyfraniadau heddiw, fod pawb wedi dweud wrthym am aelodau o'u teuluoedd? Felly, rwy'n mynd i sôn am Alfie Finch-Saunders, sydd wedi bod gyda ni ers ei fod yn bum mlwydd oed, ac mae'n eithaf trist, oherwydd, pan ddaeth i'n teulu ni, roedd wedi cael ei gadw mewn ysgubor yn y tywyllwch ac mae ganddo dolc yn ei drwyn o hyd o lle roedd y caetsh roedd ynddo'n rhy fyr. Ond pan fydd fy ngŵr yn fy ffonio pan fyddaf yma, y peth cyntaf rwy'n ei ddweud yw, 'Sut mae Alfie?' [Chwerthin.] Felly, mae'n dda iawn fod gennym bobl o'r un anian yma.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolchgarwch diffuant i bawb sydd wedi siarad yma heddiw, gan gynnwys y Gweinidog, a Sam Kurtz am agor y ddadl mor dda. Fel y clywsom droeon y prynhawn yma, ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth ar waith yng Nghymru, felly gall unrhyw un sefydlu ei sefydliad neu ei loches ei hun. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi'u sefydlu gyda bwriadau da iawn. Nawr, er bod llawer o sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn cyrraedd safonau lles uchel iawn, gall rhai astudiaethau achos trasig yn ddiweddar—ac fe'u crybwyllwyd yma heddiw—dystio i'r ffaith bod sefydliadau ac unigolion sy'n gweithredu fel canolfannau achub weithiau'n cael eu llethu gan ormod o anifeiliaid ac yn ei chael yn anodd diwallu anghenion lles yr anifeiliaid yn eu gofal.

Yn ogystal â sicrhau bod ein sefydliadau diogelu anifeiliaid anhunanol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, byddai rheoleiddio canolfannau achub hefyd yn ei gwneud yn haws gwahaniaethu rhwng canolfannau achub ac ailgartrefu go iawn a bridwyr stryd gefn a gwerthwyr trydydd parti sy'n ceisio osgoi cyfreithiau diweddar i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti drwy esgus eu bod yn lloches. I dynnu sylw at faint y broblem, y mis diwethaf, yn dilyn ymchwiliad saith mis gan Safonau Masnach Cenedlaethol a Safonau Masnach Cymru, achubwyd bron i 200 o gŵn o fferm yr amheuid ei bod yn gwerthu cŵn bach yn anghyfreithlon yn sir Gaerfyrddin. Fel y mae'r Aelodau wedi dweud yn gywir, megis Alun Davies a'i bryderon ynglŷn â safonau mewn rhai canolfannau achub, rydym wedi cael digon o siarad yn awr, ac rwy'n cytuno â'i alwad am fwy o weithredu gan y Gweinidog.

Tynnodd Gareth Davies sylw at y dull amlwg a rhagweithiol iawn a weithredir eisoes mewn rhannau eraill o'r DU, ac y gall unrhyw un sefydlu lloches heb unrhyw reoliadau. Yn wir, mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi pasio rheoliadau a ddaeth i rym ar 3 Medi 2021. Mewn mannau eraill, bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ymgynghori ar gynigion i reoleiddio'r sector yn Lloegr erbyn diwedd 2021-22. Dyna pam fy mod yn rhannu'r siom a fynegwyd gan Blue Cross a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru fod yr amserlenni a nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg brys gwirioneddol a allai arwain at gamfanteisio gan fridwyr diegwyddor a gadael Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill. Er gwaethaf mwy na dau ddegawd o ddatganoli, mae camau gweithredu araf Llywodraeth Cymru yn y maes hwn bellach wedi arwain at enwi Cymru'n brifddinas ffermio cŵn bach y DU. Nid yw hwnnw'n enw rydym am ei gadw, ac mae diffyg gweithredu yn gadael ein sector elusennol i ymdopi â'r canlyniadau. Am yr union reswm hwn mae'r Dogs Trust a'u tebyg am weithio gyda Llywodraeth Cymru i reoleiddio sefydliadau ailgartrefu a llochesau, er mwyn sicrhau y gellir olrhain pob ci bach sy'n cael ei fridio a'i werthu. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi fy nghlywed yn siarad am hyn droeon, ond rwy'n casáu gweld pobl ar Facebook sy'n bridio cŵn am elw ac yn ceisio'u gwerthu ar Facebook yn ifanc iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth heddiw i'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yn annog y Gweinidog i adolygu'r amserlen ar gyfer rheoliadau ac i weithio gyda rhanddeiliaid i ymladd y malltod hwn.

Diolch i Cefin Campbell am ei gyfraniad yn amlinellu pa mor hen ffasiwn yw'r ddeddfwriaeth anifeiliaid anwes bellach, a hefyd am addo cefnogaeth Plaid Cymru i'n cynnig. Talodd Natasha Asghar deyrnged i'r sefydliadau da hynny sy'n diogelu ein ffrindiau pedair coes. Soniodd Darren Millar am Blue, ei filgi bach o ganolfan achub, a soniodd hefyd am Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd—roedd fy niweddar rieni wrth eu boddau gyda'r ci bach a gawsant oddi yno—a soniodd am Sw Mynydd Cymru a'r RSPCA ym Mryn-y-maen. Siaradodd Jane Dodds am Arthur, milgi a arferai rasio, a budd canolfannau ailgartrefu da, ond bod hyfforddiant, cymorth a rheoleiddio yn hanfodol. 

Gyda'r amcangyfrif fod 650,000 o gŵn yn byw mewn 440,000 o gartrefi yng Nghymru, a'r amcangyfrif fod 607,000 o gathod yn byw ar 26 y cant o aelwydydd Cymru, mae'n amlwg ein bod yn genedl falch o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid. Carolyn Thomas, diolch am eich cyfraniad ac am siarad am y risgiau wrth dderbyn anifeiliaid ychwanegol, a bod yr holl resymau y mae'r bobl hyn yn dechrau arni gan obeithio y byddant yn diogelu anifeiliaid yn dod yn rhan o broblem fwy mewn gwirionedd.

Wrth i Siôn Corn ddechrau paratoi ei sled a chlychau ceirw'n dechrau canu uwchben, gadewch i bawb ohonom gofio bod anifail anwes i'w gadw am oes ac nid dros yr ŵyl yn unig. Maent yn aelodau gwastadol gariadus, ymdeimladol a ffyddlon o'n teuluoedd. Felly, gadewch inni sicrhau bod gennym y modd, yr amser, a'r adnoddau yn awr, Weinidog, y ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnom, i sicrhau ein bod yn darparu'r bywyd hapus y maent yn ei haeddu mor enbyd. Diolch, Lywydd.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]

Iawn, gofynnaf am yr eildro.

Felly, mae yna wrthwynebiad, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, byddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr i baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio hynny.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:48.

17:50

Ailymgynullodd y Senedd am 17:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cychwyn y cyfnod pleidleisio, ac mae'r pleidleisiau cyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar reoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. A dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid – Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: Dechrau sgwrs genedlaethol

Fe fyddwn ni, felly, yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Jayne Bryant, ac fe wnaf i symud ymlaen yn syth felly i Jayne Bryant i fedru cyflwyno'i dadl fer. Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud i James Evans a Peredur Owen Griffiths yn y ddadl hon.

Mae'n 50 mlynedd eleni ers pasio Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn Senedd y DU. Er bod y polisi hwnnw wedi'i lunio i atal defnyddio cyffuriau a lleihau niwed, rydym wedi gweld cynnydd eithriadol yn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, caethiwed a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ledled y DU. Ar yr un pryd, mae cyffuriau'n cryfhau, mae grym gangiau troseddol yn cynyddu, ac mae'r trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar gynnydd. Yn fwyaf pryderus o bosibl, caiff miloedd o blant a phobl ifanc eu hecsbloetio drwy linellau cyffuriau ym mhob cwr o'r wlad.

Mae'r sefyllfa heddiw yn arwydd o fethiant difrifol iawn y cyfreithiau cyffuriau, ond mae trafodaeth fanwl a difrifol ar ddiwygio yn dal i fod yn bell iawn i ffwrdd. Mae angen i hyn newid ar frys. Rhaid i ni yma agor trafodaeth ar yr hyn a aeth o'i le a sut y gallem wneud pethau'n wahanol: yn wahanol drwy newid y modd y meddyliwn am gyffuriau a'r modd rydym yn eu trafod; yn wahanol drwy ystyried yr amodau sy'n benodol i Gymru, a pha ddylanwad sydd gennym fel Senedd; yn wahanol drwy edrych tuag allan, dysgu oddi wrth ein ffrindiau a'n cymdogion, gan gymryd ysbrydoliaeth o'r hyn y mae'r gymuned ryngwladol yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblem ddifrifol.

Mewn cyfnod pan fo'r ymadrodd 'gwrando ar y wyddoniaeth' wedi golygu mwy nag ar unrhyw adeg mewn hanes, efallai ei bod yn briodol inni edrych eto ar ba ymchwil wyddonol sy'n flaenllaw. Er enghraifft, mae ymchwil gyfoes arloesol ar y gweill i'r defnydd o gyffuriau seicedelig mewn meddygaeth. Mae gwaith a wneir ar eu defnydd i drin cyflyrau iechyd meddwl hirsefydlog ac anhwylder straen wedi trawma yn arbennig o galonogol. Mae eraill yn canolbwyntio eu hymchwil ar sylweddau mwy adnabyddus, megis canabis meddyginiaethol.

Gwnaed canabis yn anghyfreithlon 100 mlynedd yn ôl, er ei fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio fel cyffur presgripsiwn ym Mhrydain tan 1973. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall y rhai sy'n dioddef o'r mathau anoddaf eu trin o epilepsi weld nifer a dwyster y trawiadau y maent yn eu dioddef yn gostwng yn sylweddol os cânt eu trin â chynhyrchion sy'n deillio o'r canabis craidd CBD. Newidiodd cyfraith y DU yn 2018 i ganiatáu defnyddio canabis meddyginiaethol o dan amgylchiadau penodol, cyfyngedig. Roedd hwn yn gam ymlaen i'w groesawu, ond ers y newid, dim ond nifer fach o bresgripsiynau sydd wedi'u rhoi, ac mae llawer o deuluoedd yn parhau i fod mewn limbo. Mae'r dewis a roddwyd iddynt yn dorcalonnus: naill ai gwario miloedd i gael presgripsiynau anghyfreithlon neu fynd hebddo, gan adael anwyliaid mewn perygl o ddioddef effeithiau gwaethaf eu cyflwr. Nid yw hon yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno i ni ein hunain na'n teuluoedd a'n ffrindiau.

Mae'r pandemig wedi dysgu inni pa mor wych yw gwyddonwyr. Heb eu gallu i ddatrys problemau mewn ffordd arloesol a chyflym, byddem heb gael ein hymdrech frechu wych, a llawer o bethau eraill yn ogystal. Byddai'n werth inni fabwysiadu'r ymagwedd hon a'i chymhwyso i feysydd eraill. Oherwydd yn y maes hwn—polisi cyffuriau—mae'n rhwystredig fod y DU yn gynyddol ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd rydym yn ymwneud â hwy. Mae tystiolaeth yn y byd go iawn fod polisïau eraill yn gweithio, ac eto rydym yn parhau i gladdu ein pennau yn y tywod.

Yn Ewrop, mae Portiwgal wedi gosod esiampl gadarnhaol o'r hyn y gellir ei wneud pan fydd polisïau cyffuriau yn rhoi blaenoriaeth i iechyd yn hytrach na throseddoli. Ar droad y ganrif, roedd Portiwgal yn wynebu argyfwng, gan gynnwys lefelau uchel o haint HIV ymhlith defnyddwyr cyffuriau. Yn 2001, fe wnaeth Portiwgal ddad-droseddoli meddiant personol ar unrhyw gyffuriau fel rhan o ailgyfeirio polisi ehangach tuag at ddull a arweinir gan iechyd. Mae meddu ar gyffuriau at ddefnydd personol yn cael ei drin fel trosedd weinyddol, sy'n golygu na chaiff ei chosbi mwyach drwy garcharu ac nid yw'n arwain at gofnod troseddol a'r stigma sy'n gysylltiedig â hynny. Teimlwyd llawer o effeithiau'r diwygiadau ar unwaith. Gostyngodd nifer yr heintiau HIV newydd, marwolaethau cyffuriau a phoblogaeth y carchardai i gyd yn sydyn o fewn y degawd cyntaf. Mae'n rhaid cyfaddef bod yr ail ddegawd wedi gweld gwelliannau arafach. Fodd bynnag, mae Portiwgal mewn sefyllfa lawer gwell nag yn 2001, ac mae'r defnydd o gyffuriau a marwolaethau cyffuriau a gofnodwyd fel cyfran o'r boblogaeth gyffredinol yn llawer is na'r cyfartaledd Ewropeaidd, ac mae'r gyfran o boblogaeth eu carchardai a ddedfrydwyd am droseddau cyffuriau wedi gostwng o 40 y cant i 15 y cant.

Mae profiad Portiwgal yn wers y gellir ei chyflawni pan fo arloesi gyda pholisi ac ewyllys wleidyddol yn cyd-fynd mewn ymateb i argyfwng. O gymharu, dangosodd adroddiad blynyddol y DU ar gyffuriau yn 2019 y nifer fwyaf o achosion o ddefnyddio cyffuriau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw'r dull presennol yn gweithio—mae hynny'n glir. Mae ein polisi dim goddefgarwch, y meddylfryd diddiwedd o fod mewn rhyfel parhaol yn erbyn cyffuriau, yn troseddoli ac yn eithrio rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed, ac mae'n gyrru pob masnach yn danddaearol, gan ysgogi cylch marwol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais, lladrata, a phob math arall o droseddu, yn amlach na pheidio yn ein cymunedau tlotaf a mwyaf difreintiedig.

Caiff plant eu targedu gan gangiau troseddol i weithredu fel gwerthwyr, caiff cartrefi oedolion sy'n agored i niwed eu meddiannu ar gyfer gwerthu cyffuriau, a gall paraffernalia cyffuriau fod yn falltod drwy ardaloedd cyfan wrth i ddefnyddwyr geisio cymryd cyffuriau allan o'r golwg yng nghysgod drysau ac mewn strydoedd cefn. Bydd pobl sy'n byw mewn cymdogaethau lle caiff cyffuriau eu gwerthu yn adnabod yr ofn a ddaw yn sgil marchnadoedd cyffuriau troseddol. Yn syml iawn, maent yn haeddu gwell. 

Mae prosiect Kaleidoscope, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 1968. Clinig cyffuriau methadon elusennol ydyw sy'n darparu help a chlinigau cymorth i rai sy'n camddefnyddio alcohol, yn camddefnyddio cyffuriau neu'n gaeth i gyffuriau. Wrth siarad â'r cyfarwyddwr, Martin Blakebrough, ar y pwnc hwn, roedd ganddo hyn i'w ddweud: 'Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae gennym bolisi o garcharu pobl sydd â phroblemau cyffuriau yn hytrach na chynnig triniaeth gynaliadwy iddynt. Mae lle mewn carchar yn ddrutach o lawer na lle adsefydlu preswyl. Mae arnom angen polisi sy'n cefnogi, nid yn cosbi, pobl lle bynnag y bo modd. Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyffuriau sydd â phroblemau caethiwed sylweddol wedi dioddef profiad niweidiol yn ystod plentyndod, gydag astudiaeth ddiweddar yn dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi effeithio ar 84 y cant o ddefnyddwyr cyffuriau. Ac eto y diffyg cymorth sydd wedi arwain at eu problemau. Nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi bod yn rhyfel yn erbyn y sylwedd, ond yn hytrach yn erbyn unigolion.'

Yn ogystal, mae Richard Lewis, a benodwyd yn ddiweddar yn brif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, hefyd wedi bod yn dadlau bod dull gweithredu presennol y DU yn methu. Y llynedd, yn anffodus, collwyd dros 4,500 o bobl yng Nghymru a Lloegr oherwydd marwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau. Ar yr ystadegau hyn, dywed y prif gwnstabl Lewis:

'Byddai wedi bod modd atal y mwyafrif llethol o'r marwolaethau hynny'n llwyr. Mewn 21 mlynedd o wasanaeth i'r heddlu, deuthum yn araf i'r casgliad, efallai'n rhy araf, fod fframio'r argyfwng hwn fel problem cyfiawnder troseddol nid yn unig yn ddi-fudd, ond yn wrthgynhyrchiol hefyd. Mae'r epidemig cenedlaethol hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus.'

Fel Portiwgal ac elusennau fel Kaleidoscope, mae'r prif gwnstabl Lewis yn argymell ymyrraeth y wladwriaeth ym mywydau pobl sy'n gaeth i gyffuriau i geisio eu trin nid fel troseddwyr, ond fel cleifion. Un ffordd o helpu yw i wasanaethau trin cyffuriau, megis canolfannau triniaeth â chymorth heroin, gael mwy o fuddsoddiad a bod mwy ohonynt ar gael. Nid y prif gwnstabl Lewis yw'r unig lais yn yr heddlu sy'n ailystyried ein polisi cyffuriau. Ac mae'r ffaith nad yw ei sylwadau wedi cael eu hystyried yn rhai eithriadol yn cadarnhau hyn.

Dros y blynyddoedd, mae meddylfryd yr heddlu wedi newid yn araf. Mae llawer o heddluoedd wedi nodi'n agored eu bod yn amharod i dargedu tyfwyr a defnyddwyr canabis at ddibenion hamdden, gan fod ganddynt broblemau mwy i ymdrin â hwy. Mae hyn er bod y gyfraith yn glir fod canabis yn parhau'n anghyfreithlon fel sylwedd categori B, sy'n cario dedfryd am feddiant o hyd at bum mlynedd yn y carchar, gyda dirwy ddigyfyngiad. Canabis yw'r sylwedd anghyfreithlon mwyaf cyffredin yn y DU, ac ni fydd hynny'n syndod i neb. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi arogli ei arogl unigryw ar draws strydoedd a pharciau'r wlad. Bob tro y byddwch chi'n gwneud hynny, rydych chi'n gwybod ei fod wedi cael ei brynu neu ei dyfu'n anghyfreithlon. Nid oes raid iddi fod fel hyn.

Ar draws yr Iwerydd, mae Canada a llawer o daleithiau'r Unol Daleithiau bellach yn arwain y byd wrth hyrwyddo dull newydd o ymdrin â chanabis, gan gamu oddi wrth ddad-droseddoli'n unig a chroesawu rheoleiddio llawn yn enw'r Llywodraeth yn lle hynny. Yn 2012, dechreuodd taleithiau America, dan arweiniad Colorado, gyflwyno diwygiadau canabis dramatig, ac ym mis Hydref 2018, dechreuodd Canada reoleiddio canabis yn gyfreithlon at ddefnydd anfeddygol i oedolion. Yng Nghanada, y taleithiau a'r tiriogaethau a oedd yn gyfrifol am benderfynu sut y caiff canabis ei ddosbarthu a'i werthu. Drwy ei model datganoli cryf, gall pob talaith yng Nghanada osod cyfyngiad ychwanegol hefyd. Roedd tair nod i Ddeddf canabis arloesol Llywodraeth Canada: diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, diogelu pobl ifanc rhag effaith negyddol canabis, a chadw elw rhag gangiau troseddol.

Rwyf eisoes wedi siarad am yr effeithiau trawiadol ar iechyd y cyhoedd a welwyd ym Mhortiwgal, felly rwyf am ganolbwyntio ar y trydydd nod: yr elfen economaidd o gynnal sgwrs genedlaethol ar ddiwygio cyffuriau yn y DU a Chymru. Wrth symud tuag at gyfreithloni a rheoleiddio gan y Llywodraeth, mae Canada wedi mynd ag elw sylweddol o bocedi troseddwyr i'r pwrs cyhoeddus. Yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ei gyfreithloni, tyfodd y farchnad manwerthu canabis gyfreithlon yng Nghanada i fod yn werth CA$908 miliwn—dros £0.5 biliwn. Mewn llai na blwyddyn, creodd Canada ddiwydiant gwerth biliwn o ddoleri gan arwain at ddwy effaith, sef cynorthwyo economïau lleol tra'n lleihau ymddygiad troseddol. Mae llywodraeth ffederal a thaleithiol wedi gweld budd economaidd. Dangosodd taleithiau sydd ar flaen y gad yn y newid hwn yn yr Unol Daleithiau fod y farchnad yn aeddfedu, mae refeniw treth yn cynyddu ac mae masnach canabis a reoleiddir yn gyfreithlon yn trechu gweithgarwch anghyfreithlon. Nid yw hyn yn golygu, wrth gwrs, fod y farchnad canabis anghyfreithlon wedi diflannu. Yng Nghaliffornia, er enghraifft, mae'r farchnad ddu yn dal i fod yn fwy na'r un gyfreithlon. Mae gwersi i'w dysgu yma ynghylch gweithredu. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ar y newid polisi yng Nghanada, ond mae'r cyflawniad yn galonogol. Ond mae o fudd i'r DU fod gennym gymaint o wersi i'w dysgu.

Yn yr 50 mlynedd ers i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ddod i rym, rydym ni fel gwlad wedi methu symud ymlaen. Mewn rhai meysydd deddfwriaethol, mae Prydain wedi symud gyda'r oes, ac eto o dan arweiniad pob plaid, mae San Steffan wedi cynnal safbwynt ar gyffuriau sy'n tarddu o'r 1970au. O ganlyniad, rydym i gyd wedi gweld effaith negyddol y cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau; rydym wedi rhoi adnoddau tuag at fynd i'r afael â gelyn sy'n gwrthod cael ei drechu. Rydym wedi gyrru miloedd i mewn i system cyfiawnder troseddol sydd nid yn unig yn methu adsefydlu ond sydd wedi cael trafferth ymdopi â mwyfwy o droseddolrwydd. Serch hynny, mae yna lwybr arall. Mae gwledydd ledled y byd yn dangos i ni nad oes rheswm i'r Senedd hon beidio ag agor sgwrs dros Gymru. Mae iechyd y cyhoedd a'r economi o fewn ein cymhwysedd.

Mae'n wirionedd drist fod San Steffan yn gwrthod agor y sgwrs ar gyffuriau yn y DU. Nid bai'r weinyddiaeth bresennol yn unig yw hyn, ond methiant hirsefydlog pob Llywodraeth. Efallai nad oes gan Gymru allu deddfwriaethol llawn eto, ond fel aelod o'r undeb hwn, rhaid inni ddefnyddio ein llais. Tra'n bod yn fframio'r ddadl fel un sy'n ymwneud â throseddolrwydd yn unig, byddwn yn parhau â'r un agwedd ymosodol, ddi-fudd. I'r perwyl hwnnw, mae'n ddyletswydd arnom i newid y ffordd y meddyliwn, i ystyried a yw effeithiau gwirioneddol diwygio cyffuriau yn dwyn ffrwyth, i ddysgu gan eraill a wynebu realiti ein sefyllfa. Nid fi yw'r Aelod cyntaf o'r Senedd i fynegi'r problemau hyn, a hoffwn gydnabod gwaith Peredur Owen Griffiths a'i ymdrechion i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau.

Nid fi ychwaith yw cynrychiolydd cyntaf Gorllewin Casnewydd i hyrwyddo'r safbwynt hwn, a gobeithio nad fi fydd yr olaf. Roedd fy nghyfaill agos, Paul Flynn AS, o flaen ei amser gyda'r ymgyrch hon. Roedd yn ddadleuwr dewr a di-baid dros ddiwygio cyffuriau cyn i hynny ddod yn boblogaidd, ac fe heriodd Weinidogion, Llafur a Cheidwadol, i wneud yn well. Hoffwn orffen drwy ddyfynnu Paul, gyda chyfraniad a wnaeth i Dŷ'r Cyffredin yn 2008. Yn ei ffordd hyddysg arferol, dywedodd Paul:

'Rydym yn colli rhywbeth ac rydym yn methu. Mae angen inni gyrraedd y pwynt lle rydym yn cydnabod, er gwaethaf ein holl hunanfodlonrwydd fel gwleidyddion—ein hawydd i gael penawdau da er mwyn cael ein hailethol—ein bod yn gwneud cam â chenhedlaeth y mae eu bywydau'n cael eu dinistrio gan gyffuriau. Dyna'r wers heddiw.'

Diolch yn fawr.

18:05

Teitl y ddadl bwysig hon yw 'polisi cyffuriau', a chredaf fod yr amser yn iawn i ni edrych yn fanwl yn awr ar bolisi cyffuriau yng Nghymru. Gadewch imi fod yn glir: hoffwn weld gwlad lle caiff y defnydd o gyffuriau ei ddileu, ond yn anffodus, nid wyf yn credu y bydd modd cyflawni hynny. Mae rhai pobl yn cymryd cyffuriau am nifer o resymau: er mwyn arbrofi, at ddibenion hamdden, ac i rai pobl, i wella ansawdd eu bywydau. Gwelais yn uniongyrchol sut y mae olew canabis wedi helpu rhywun sy'n byw gydag MS i fyw bywyd di-boen. Mae'r system cyfiawnder troseddol bresennol yn trin pawb sy'n defnyddio cyffuriau fel troseddwyr, ond mewn gwirionedd, mae rhai pobl yn eu defnyddio er mwyn cael gwared ar boen trawma difrifol yn eu bywyd, i roi eiliad fach o ryddhad iddynt o'u dioddefaint. Nid troseddwyr yw pob un sy'n defnyddio cyffuriau, ond unigolion sydd angen help a chefnogaeth i ymdrin ag achos sylfaenol eu poen. Y llynedd, bu farw 2,883 o bobl o achosion yn gysylltiedig â chyffuriau. Faint yn rhagor o farwolaethau y bydd yn ei gymryd cyn i'r ddwy Lywodraeth, yma ac yn San Steffan, wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r broblem hon? Diolch, Lywydd.

Diolch i Jayne am roi ychydig o amser imi yn y ddadl fer hon heno. Rwyf am adleisio'r pwyntiau a wnaeth mor huawdl heno, oherwydd credaf yn sylfaenol ei bod yn bryd cael sgwrs genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau. Fel y dywedais yn ystod fy nadl fer yn gynharach y tymor hwn, nid yw'r status quo yn gweithio. Mae'n gwneud cam â theuluoedd, mae'n gwneud cam â chymunedau ac mae'n achosi niwed na ellir ei ddadwneud. Rwy'n falch ein bod yn cael sgwrs fel hon yma yn y Senedd. Rwy'n ysu am y dyddiau pan allwn wneud penderfyniadau ar bolisi cyfiawnder yn y lle hwn. Hyd nes y daw'r diwrnod hwnnw, rwyf am inni barhau i ddylanwadu ar San Steffan gymaint ag y gallwn i gyrraedd system gyfiawnder sydd â mwy o dosturi a chosbau llai didostur. I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch fod Jayne wedi cytuno i ymuno â'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn ei lansio yn y flwyddyn newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio mwy ar hyn drwy glywed profiadau pobl ar lawr gwlad sy'n ymdrin â chanlyniadau'r status quo yn ddyddiol. Rwy'n gwybod y gallwn wella ein dealltwriaeth o beth sydd angen ei newid a pham y mae angen newid. Diolch yn fawr.

18:10

Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau a wnaeth, a diolch hefyd i James Evans a Peredur Owen Griffiths am eu cyfraniadau. Er nad oes gan Gymru bwerau dros sawl agwedd ar ddeddfwriaeth cyffuriau a dosbarthu cyffuriau, mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac yn faes gwaith sy'n bwysig iawn yn fy mhortffolio. Gydag iechyd meddwl ac iechyd troseddwyr hefyd o fewn fy mhortffolio, byddaf yn ceisio gwneud gwahaniaeth ar draws y meysydd hyn sy'n dod gyda'i gilydd yn rhy aml, ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau, i effeithio'n niweidiol ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Yn fy rôl fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, cyfarfûm â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae lefel y gwaith a'r ymrwymiad sydd yn y maes a'r angerdd sydd gan lawer i weld diwygio wedi creu argraff fawr arnaf. 

Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd o bwys sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yng Nghymru, mae ein polisi cyffuriau wedi'i wreiddio mewn dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod camddefnydd o sylweddau fel problem iechyd a gofal cymdeithasol, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Yn hyn o beth, mae ein dull o weithredu yn wahanol iawn i'r dull o weithredu yn Lloegr, ac yn wir, dyma yw dull o weithredu yr holl weinyddiaethau datganoledig. Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 mewn ymateb i COVID-19 i adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud o ganlyniad i'r pandemig. Cyhoeddwyd y cynllun diwygiedig ym mis Ionawr 2021. Nod cyffredinol y cynllun cyflawni o hyd yw sicrhau bod pobl Cymru'n ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau, ac i wybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn parhau i weithio i gyflawni'r camau gweithredu o fewn y cynllun.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes hwn, ac rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn o hwn i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau, ac mae bron i £21 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru. Yn 2020-21 hefyd, gwnaethom sicrhau bod £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i COVID-19. Roedd dros £3 miliwn ohono'n cefnogi gweithredu bwprenorffin chwistrelladwy hirhoedlog yn gyflym ar gyfer cyn-ddefnyddwyr heroin sy'n wynebu risg. Mae Cymru bellach ar flaen y gad gyda gweithredu'r driniaeth newydd hon ledled y DU, os nad y byd. Rydym nid yn unig wedi diogelu'r gyllideb camddefnyddio sylweddau, ond rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynyddu adnoddau yng Nghymru, yn wahanol i brofiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau mewn rhannau eraill o'r DU.

Ar y pwynt hwn, mae'n werth nodi bod adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr wedi cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Mae'n werth nodi hefyd fod Llywodraeth y DU yn dweud yn glir yn y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad na fyddai'n edrych ar ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, yma yng Nghymru rydym eisoes wrthi'n datblygu llawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi'i seilio'n gadarn ar ddull yn seiliedig ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd, fel y dywedais, wedi diogelu ac wedi neilltuo ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd. Cytunaf yn llwyr â sylw'r adolygiad fod camddefnyddio sylweddau yn gyflwr iechyd cronig sy'n galw am sylw hirdymor. Yng Nghymru, ein dull o weithredu o hyd yw lleihau niwed ac adeiladu cymunedau cryf ar gyfer gwella. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau trawma, gyda llawer ohono'n seiliedig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r problemau iechyd meddwl a wynebir gan gynifer yn ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Yng Nghymru, rydym hefyd yn ymwybodol iawn fod niwed camddefnyddio sylweddau yn disgyn yn anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan ysgogi anghydraddoldebau iechyd i'r tlotaf a throseddoli'r rhai agored i niwed sydd angen cymorth a thriniaeth. Am y rheswm hwn, rhaid i fynd i'r afael â stigma ac edrych ar gamddefnyddio sylweddau fel mater iechyd barhau i fod yn ffocws i ni. Credaf yn gryf mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â niwed camddefnyddio sylweddau yw drwy gynorthwyo pobl i gael triniaeth, nid eu troseddoli.

Ym mis Hydref, mynychais ail gyfarfod i weinidogion y DU ar gyffuriau, gyda fy swyddogion cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig. Cynhaliwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a diben y cyfarfod oedd clywed gan nifer o siaradwyr arbenigol a rhoi cyfle i rannu arferion da, heriau a gwersi a ddysgwyd ar draws pob un o'r gweinyddiaethau. Hefyd, rhoddodd y cyfarfod gyfle i mi ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys ein pwyslais cryf ar leihau niwed a'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy ein cynllun cyflawni. Yn y cyfarfod, croesawais ymrwymiad newydd Llywodraeth y DU i'r agenda hon a'r gwaith ar ddatblygu strategaeth gyffuriau newydd ar gyfer y DU. Fodd bynnag, gan nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, pwysleisiais bwysigrwydd yr angen i gymryd rhan lawn mewn unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar Gymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref yn ei gylch.

Ar sail ein dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed yma yng Nghymru, nid ydym yn credu y byddai troseddoli unigolion sy'n agored i niwed ymhellach yn effeithiol. Rydym yn aros i'r strategaeth hon gael ei chyhoeddi, ond credaf ar y pwynt hwn nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid eu safbwynt presennol o arwain hyn drwy ymateb cyfiawnder troseddol.

Rydym wedi ymgysylltu'n llawn â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU, sy'n rhoi cyfle i gydweithio a dysgu lle mae gennym nodau cyffredin i leihau niwed camddefnyddio sylweddau. Ym mae Abertawe, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid lleol a'r Swyddfa Gartref, gan ddatblygu prosiect ADDER ochr yn ochr ag ardaloedd yn Lloegr. Prosiect gan y Swyddfa Gartref yw ADDER—caethiwed, dargyfeirio, tarfu, gorfodi ac adferiad—a gynlluniwyd i gefnogi dull system gyfan o fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, gan ddod â thriniaeth a phlismona at ei gilydd, gyda chymorth ar gyfer ymyriadau ar lefel leol a gwaith cenedlaethol wedi'i dargedu ar gyflenwi. Mae prosiect ADDER yn cynnwys gweithgareddau cydgysylltiedig ar gyfer gorfodi'r gyfraith, ynghyd â gweithgarwch dargyfeiriol estynedig a darparu triniaeth ac adferiad, ac mae'n canolbwyntio ar ardaloedd lle ceir lefelau uchel o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau.

Rydym yn gweld hwn fel cyfle i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio gyda'r partneriaid cyfiawnder troseddol ar ymateb i gamddefnyddio sylweddau drwy driniaeth a thorri'r cylch i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n mynd i mewn ac allan o'r carchar. Mae'r dull o weithredu a nodir yn y prosiect ADDER yn cyd-fynd yn dda â gwaith Llywodraeth Cymru drwy'r byrddau cynllunio ardal, yn enwedig bwrdd cynllunio ardal bae Abertawe, lle bu nifer fawr o farwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi fy siom wrth Lywodraeth y DU nad yw bae Abertawe wedi elwa o gyllid ychwanegol Trysorlys EM ar gyfer iechyd y mae ardaloedd y prosiect ADDER yn Lloegr wedi'i gael.

Rhan allweddol o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter naloxone genedlaethol, lle rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig gyda naloxone yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario naloxone trwynol tra'u bod ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle mae cyfoedion yn dosbarthu naloxone ar y strydoedd, a hefyd yn darparu cyngor ar leihau niwed sy'n rhoi pobl â phrofiad bywyd ar flaen ein gwaith, rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi arwain at ystyried efelychu'r model hwn ym mhob rhan o Gymru.

Wedi i Weinidogion o bob un o'r pedair gwlad gytuno bod angen adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar naloxone, rydym wedi ymgysylltu â chydweithwyr o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban ar ddatblygu ymgynghoriad ar y cyd ar ehangu mynediad at naloxone. Daeth yr ymgynghoriad ledled y DU i ben ddiwedd mis Medi a gofynnai am farn ar ymestyn y gwasanaethau sy'n gallu darparu naloxone, rhywbeth a fyddai'n cefnogi ein dull o leihau niwed yng Nghymru. Mae fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda chydweithwyr ar y camau nesaf a byddant yn ystyried effaith yr ymateb i'r ymgynghoriad mewn cyd-destun Cymreig.

Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon, gan fy mod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn. Er nad yw'r holl bwerau deddfwriaethol gennym at ein defnydd, mae llawer y gallwn ei wneud i ddatblygu ymateb unigryw Gymreig i gamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cydnabod sylwadau'r Aelod, ond fel y mae hi hefyd yn cydnabod, yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r pwerau hyn, ac mae'n bwysig i mi fel Gweinidog ganolbwyntio ar lle gallwn wneud gwahaniaeth. Ac fel y dywedais wrth ymateb i'r ddadl gan Peredur Owen Griffiths, byddwn yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol ar y materion pwysig a godwyd heno. 

Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac yn parhau, wrth gwrs, i ymgysylltu â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn gweithio gyda'n gilydd gyda'r nod o leihau'r niwed sy'n deillio o gamddefnyddio sylweddau. Diolch yn fawr. 

18:20

Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog, a dyna ddod â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:20.