Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/09/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion ein Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi hefyd eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno trwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig? OQ56836

Mater i bob awdurdod yw penderfynu ar eu polisi a'u dull o ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig yn lleol. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn offeryn allweddol wrth fynd i'r afael â nifer o droseddau ac rydym yn cefnogi eu defnydd fel ymateb i droseddau amgylcheddol lefel isel a throseddau eraill. Yn 2019 a 2020, cyhoeddodd awdurdodau lleol 11,091 hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â materion diogelu'r amgylchedd lleol.

Diolch, Weinidog. Caiff nifer o hysbysiadau cosb benodedig eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol nad ydynt o'r farn fod unrhyw rwymedigaeth i fuddsoddi arian a godir drwy ddirwyon er mwyn atal troseddau o'r fath rhag digwydd eto. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd ar gynnydd yn ddiweddar ledled Cymru ac mae wedi bod yn broblem mewn sawl rhan o fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mater arall yw hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi i bobl sy'n cerdded eu cŵn ar draethau sy'n gwahardd cŵn ar hyd llwybr arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin. A gaf fi annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y mae awdurdodau lleol yn clustnodi'r arian a godir drwy hysbysiadau cosb benodedig i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar wella a mynd i'r afael â chyfleusterau penodol i helpu i newid ymddygiad yn hytrach na chael ei golli ym mhot gwariant cyffredinol y cyngor?

Diolch am eich cwestiwn. Mae'r Aelod yn llygad ei le nad oes gofyniad ynghlwm wrth rai hysbysiadau cosb benodedig i ailfuddsoddi'r arian a godir drwyddynt yng nghyswllt cost y gwasanaeth. Ond nid yw hynny'n cynnwys troseddau traffig a pharcio, wrth gwrs, gan fod y rheini'n eithriadau i'r rheol honno.

Gwnaethom gyhoeddi canllawiau i swyddogion iechyd yr amgylchedd ar y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig ym mis Ionawr 2020, ac mae'r canllawiau hynny'n cynghori y dylid defnyddio'r hysbysiadau cosb benodedig fel rhan o ddull ehangach, a ddylai gynnwys atal troseddau a chydweithio, a bod yn rhaid i awdurdodau gyhoeddi eu strategaethau gorfodi. A dylent gynnwys yr holl droseddau yn y cynllun a faint o ddirwy y bydd yr awdurdod yn ei chodi ar bobl am bob trosedd, manylion ynghylch unrhyw ostyngiad os cânt eu talu'n gynnar, sut y caiff yr hysbysiadau cosb benodedig eu defnyddio, sut y mae'r awdurdod yn ymdrin â throseddwyr ifanc, beth fydd yr awdurdod yn ei wneud os nad yw troseddwyr yn talu a sut i apelio os yw'r opsiwn ar gael. Ond maent hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i nodi'n gyhoeddus yn y dogfennau hynny sut y bydd yr arian a godir drwy hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei wario a sut y caiff y cofnodion eu cadw. Ond yn sicr, byddaf yn cael trafodaeth gyda'r cynrychiolwyr yn CLlLC i roi gwybod iddynt am y pryderon a godwyd gennych y prynhawn yma ac archwilio i weld a oes mwy y gallwn ei wneud o ran rhoi'r canllawiau hynny ar waith.

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diolch yn fawr iawn. Mae'n neis i fod yn ôl a gweld pobl. 

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â darparu gwasanaethau i blant? OQ56819

Mae cymorth i ddarparu gwasanaethau plant yn flaenoriaeth yn ein paratoadau cyllidebol. Yn fwyaf diweddar, dyrannodd cyllideb atodol 2021-22 £98.7 miliwn i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi plant.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.

Gwn fod lles a chyfleoedd bywyd ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rheini mewn gofal, yn flaenoriaeth a rennir gan y Gweinidogion a minnau. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, a gwn fod gweithwyr cymorth ac eraill yn gweithio'n hynod o galed i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc mewn gofal. Mae'r cynnydd hwn, fodd bynnag, wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ar awdurdodau lleol, a gwariant ar blant a theuluoedd, ar gyfartaledd, yw'r maes gwariant mwyaf ond un i gynghorau yng Nghymru. Mae llawer o awdurdodau lleol yn wynebu heriau gyda recriwtio a chost gynyddol gofal preswyl. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gyda'r disgwyliad, yn anffodus, y bydd angen cymorth gan eu cynghorau lleol ar fwy o blant a theuluoedd yn y flwyddyn i ddod, pa flaenoriaeth a roddir i'r maes gwariant hwn yn y gyllideb sydd i ddod? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater pwysig hwn, ac roedd yn fater a grybwyllwyd wrthyf ar fy nhaith fawr dros yr haf o amgylch yr awdurdodau lleol, ac yn sicr, mae'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder i rai o'r awdurdodau hynny. Ac mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i sicrhau ein bod yn ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i ddod â phlant ag anghenion cymhleth adref o ofal y tu allan i Gymru. Credaf y bydd hynny'n bwysig er mwyn gwella'r gofal sydd ar gael i'r plant hynny ac o ran y sefyllfa i awdurdodau lleol a'u cyllid.

Mae gwariant ar wasanaethau plant a theuluoedd yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol, 31.5 y cant rhwng 2015-16 a 2019-20. Mae'n dal yn wir, serch hynny, fod cryn dipyn o'r gwariant hwnnw'n cael ei wario ar leoliadau cartrefi gofal plant. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau y gall plant aros gyda'u teuluoedd, atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer rhieni y mae eu plant mewn perygl o fynd i ofal, darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant a chanddynt anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion gofal, ac archwilio diwygio radical mewn perthynas â gwasanaethau cyfredol i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal. Mae'r rheini'n rhannau cwbl hanfodol o'n rhaglen lywodraethu ac yn rhan o'r drafodaeth rwy'n ei chael gyda'm cyd-Aelodau wrth inni ddechrau gosod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a'r blynyddoedd y tu hwnt i hynny.

13:35

Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio fy sylwadau cyn y toriad ynghylch rhaglen Haf o Hwyl, pan holais a oedd y cyllid ar gyfer y rhaglen hon yn ddigonol ai peidio o ystyried cyfraddau uchel gordewdra plant yng Nghymru. Yn ystod toriad yr haf, ymwelais â sefydliad a oedd yn darparu gweithgareddau ar gyfer yr Haf o Hwyl yng Nghanol De Cymru, ac roedd yn wych iawn gweld yr ystod o weithgareddau roeddent yn eu cynnig. Nid yn unig eu bod yn darparu gweithgareddau corfforol, ond gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar feithrin tîm, datblygu hyder a hunanddibyniaeth hefyd.

Fodd bynnag, yn ystod fy ymweliad, cefais wybod am fater pwysig yr hoffwn ofyn i'r Gweinidog ei ystyried ar gyfer y dyfodol. Bedwar diwrnod yn unig cyn dechrau y cafodd y darparwyr gweithgareddau a oedd wedi gwneud ceisiadau am gyllid i ddarparu'r Haf o Hwyl wybod eu bod wedi bod yn llwyddiannus. Golygodd hyn fod y broses o lenwi lleoedd ar gyfer gweithgareddau yn anhrefnus, ac ni roddwyd digon o amser i rai teuluoedd wneud trefniadau. Golygai fod lleoedd wedi'u dyrannu, ond ni allodd rhai o'r plant fynychu'r gweithgaredd. O'r herwydd, golygai fod y cwrs yn llawn er bod lleoedd ar gael ar y diwrnod, lleoedd y gallai teuluoedd fod wedi manteisio arnynt pe baent yn gwybod. Gofynnaf felly i’r Gweinidog ystyried amseriad y cyllid ar gyfer 2022 yn ofalus, fel y gall darparwyr gweithgareddau a theuluoedd sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gael iddynt. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei bwyntiau, a chredaf eu bod wedi'u gwneud yn dda o ran pwysigrwydd rhoi rhybudd digonol i awdurdodau lleol ynglŷn â'r cyllid a fydd ar gael i gefnogi rhaglenni amrywiol. Rhannaf ei frwdfrydedd, serch hynny, ynghylch yr hyn a welodd o'r gweithgareddau a gynhaliwyd eleni yn rhan o'r Haf o Hwyl. Credaf fod awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith gwych, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, gan ddod â chynlluniau gwych at ei gilydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i fwynhau, i gyfarfod â phobl eraill, i fynd allan i'r awyr agored a gwneud pethau nad oeddent wedi gallu eu gwneud ers amser maith.

Ynghyd â hynny, wrth gwrs, mae gennym ein rhaglen gwella gwyliau'r haf, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn cynnal gwahanol gynlluniau i geisio mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau a chefnogi teuluoedd i ymgymryd â gweithgareddau ar adegau o'r flwyddyn pan nad yw'r plant yn yr ysgol. Yn amlwg, byddaf yn ystyried y sylw pwysig hwnnw ynglŷn ag amseriad cyllid ac yn ystyried sut y gallwn gefnogi'r mathau hyn o brosiectau yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Sut y byddech yn disgrifio'r berthynas sydd gan gynghorau â Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd?

Wel, credaf fod y berthynas sydd gan gynghorau â Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yn ddefnyddiol iawn gan fod y ddwy ochr yn rhannu awydd i sicrhau bod ein hamgylchedd a'n hagwedd tuag at y newid hinsawdd yn ganolog i'r ddwy agenda—mae yna agendâu y maent yn eu rhannu. Ond os oes gan fy nghyd-Aelod unrhyw bryderon penodol, rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy gyda CNC neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel sy'n briodol.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, ddechrau mis Gorffennaf, galwodd arweinwyr 22 awdurdod lleol Cymru ar Lywodraeth Cymru i adolygu pwerau a chylch gwaith y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yma yng Nghymru—Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac fel y gwyddoch, cododd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, y mater hwn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf hefyd, a chroesawodd y Gweinidog yr adborth gan CLlLC gan nodi y byddai'n parhau i drafod gyda CLlLC a Cyfoeth Naturiol Cymru drwoch chi fel y Gweinidog llywodraeth leol. Felly, rwy'n gobeithio bod y trafodaethau hynny'n mynd yn dda. Ond a ydych yn credu bod gallu gan y cynghorau i gyflawni rhai o'r pethau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd?

13:40

Wel, rydym bob amser wedi dweud y byddwn yn ceisio datganoli pwerau i'r lefel lywodraethu gywir, ac yn sicr, mewn rhai meysydd, gallem geisio datganoli rhagor o bwerau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Ond eto, os yw hwn yn faes penodol lle daw syniadau gan CLlLC mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed y syniadau a'r pryderon y maent yn eu rhannu.

Diolch am hynny hefyd, Weinidog. Fel y gwyddoch, un o'r materion a godwyd gan y cynghorau yn eu gohebiaeth â Llywodraeth Cymru yw pa mor anodd yw dwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif ar brydiau. Yn y llythyr gan arweinwyr y 22 cyngor y cyfeiriais ato, llythyr a ysgrifennwyd gan arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, maent yn nodi, ac rwy'n dyfynnu,

'wrth ymdrin â digwyddiadau ar lefel leol, gall fod tensiynau o hyd ynghylch penderfyniadau a dewisiadau y mae'n rhaid eu gwneud, sy'n ymwneud â materion llywodraethu ehangach.'

Ac yn ychwanegol at hynny, mewn perthynas â'r llifogydd difrifol a welwyd yn ddiweddar, yn Rhondda yn enwedig, mae aelodau lleol wedi nodi bod posibilrwydd y gellid dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, ymddengys i mi fod diffyg democratiaeth wrth ddwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif ar brydiau. Ac oherwydd natur ddemocrataidd cynghorau, pe bai'r cynghorau'n gyfrifol am rai o'r swyddogaethau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd, a ydych yn credu y byddai mwy o atebolrwydd a thryloywder?

Rwy'n ymwybodol o'r llythyr y cyfeiriwch ato a'r pryderon ynghylch mater Rhondda yn benodol, a dyna pam rwy'n amharod i fanylu gormod wrth ymateb i'r mater penodol hwnnw y prynhawn yma. Ond rwyf am ymdrechu i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwyntiau a godwyd gennych y prynhawn yma a'r pryderon y gwn fod CLlLC wedi'u codi'n uniongyrchol gyda hi.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol wedi dioddef toriadau cynyddol dros y degawd diwethaf—toriadau o tua 22 y cant mewn termau real ers 2010. Nawr, rŷn ni hefyd yn clywed yn gyson beth yw goblygiadau hynny o safbwynt gwasanaethau, ac yn hynny o beth, wrth gwrs, yn fwyaf diweddar o safbwynt gofal cymdeithasol. Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb ar draws y Siambr yma, a'r sbectrwm gwleidyddol, yn cytuno nad oes yna ddigon o bres yn y system i gwrdd â'r angen, ac i gwrdd â'r angen hwnnw ar lefel ansawdd sy'n angenrheidiol.

Mi welon ni ymateb Llywodraeth San Steffan, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf. Eu dewis nhw yw cynyddu yswiriant gwladol, ac mi fydd hynny, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Un o'r sgil-effeithiau yn hynny o beth yw y bydd disgwyl i gyflogwyr yng Nghymru dalu siâr ychwanegol o'r yswiriant gwladol hwnnw. Ac mi glywais i mewn cyfarfod amser cinio heddiw gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai'r pris ar hynny i awdurdodau lleol yng Nghymru fydd £50 miliwn yn ychwanegol y mae'n nhw'n gorfod ei ffeindio i gwrdd â'r galw yna. Nawr, mewn sefyllfa lle mae'r sector cyhoeddus eisoes yn gwegian yn ariannol, bydden i'n lico gofyn i chi sut ydych chi'n dehongli beth fyddai goblygiadau hynny i awdurdodau lleol, ac, yn fwy penodol, pa gymorth ychwanegol fyddwch chi fel Llywodraeth yn ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn cwrdd â'r gofyniad ychwanegol hwnnw?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Credaf fod llawer iawn i boeni amdano ynghylch dull Llywodraeth y DU o ariannu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn anad dim gan y bydd y mesurau'n rhoi baich anghymesur ac yn effeithio'n anghymesur ar bobl o oedran gweithio. Ni fydd y rhan fwyaf o bensiynwyr, wrth gwrs, yn talu ceiniog. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn groes i egwyddor tegwch rhwng y cenedlaethau, sydd wrth wraidd—neu sy'n sicr yn rhan ganolog—o'r gwaith a wnaed gan Gomisiwn Holtham.

O ran pa gyllid a allai fod ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, deallwn y gallai'r swm canlyniadol Barnett sy'n deillio o'r cyhoeddiadau diweddar fod oddeutu £600 miliwn y flwyddyn. Ond yr hyn na wyddom yw beth yw'r effaith wirioneddol o ran y darlun ehangach, oherwydd wrth gwrs, mae'r symiau canlyniadol Barnett yn rhoi a hefyd yn cymryd yn ôl. Felly, bydd yn rhaid aros tan 27 Hydref cyn y gallwn weld yr amlen lawn o gyllid i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf. A bryd hynny, bydd modd inni ddeall yr effaith ar ein lefelau cyllid cyffredinol a gwneud y dewisiadau ynglŷn â chymorth i lywodraeth leol. Ond yn ein trafodaethau cynnar ynglŷn â'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf eisoes wedi dweud y byddwn yn parhau i flaenoriaethu iechyd ac yn parhau i geisio rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol.

13:45

Wel, diolch i chi am hynny. Efallai ein bod ni ddim yn gwybod faint sy'n dod i Gymru, ond rydyn ni yn gwybod bod yna gost sylweddol yn mynd i fod i gyflogwyr ac awdurdodau lleol. Un agwedd o'r sector cyhoeddus yw hwnnw, wrth gwrs. Gallwch chi luosi hynny ar draws gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd. Felly, buaswn i'n eich annog chi i ystyried cefnogaeth ychwanegol yn benodol ar hynny. 

Nawr, fel cymdeithas, wrth gwrs, rydyn ni wedi dirprwyo gofal, onid ydym, i'r rhai ar y lefel isaf o dâl yng Nghymru, a'r rhai, yn aml iawn, sy'n cael y gefnogaeth leiaf hefyd, a gall hynny ddim parhau. Mae tua 64,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Pob un ohonyn nhw, yn ein barn ni, yn haeddu'r tâl a'r amodau sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y rôl maen nhw'n ei chyflawni ar ran cymdeithas. Rydyn ni fel plaid, wrth gwrs, wedi bod yn galw ar i holl ofal cymdeithasol fod yn rhad ac am ddim ar y pwynt ble mae ei angen e; hefyd, i gyflwyno isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal; a hefyd i sifftio cyllideb iechyd a gofal tuag at fuddsoddiadau ataliol a fyddai, wrth gwrs, yn trawsnewid y gofynion o fewn y system iechyd yn y tymor hirach. Nawr, mae'r gost o weithredu'r polisïau yna yn fforddiadwy, ond, wrth gwrs, mae angen yr ewyllys gwleidyddol i wneud i hynny ddigwydd.

Fe gyhoeddwyd ddoe y bydd grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol yn cwrdd eto yng ngoleuni cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan. Felly, a gaf i ofyn beth fydd sgôp y grŵp hwnnw? Efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig ar hynny inni. A hefyd, a allwch chi fod yn glir ai dim ond ystyried talu am ofal yn unig y bydd y grŵp yna? Neu, a fydd yna drafodaeth ynglŷn â sut y mae modd defnyddio'r arian yna i wella ansawdd y gofal a lles y gweithlu? Oherwydd neges arall rydyn ni'n ei chlywed o gyfeiriad awdurdodau lleol yw, ydy, mae'r pres yn broblem, ond mae pobl yn broblem hefyd. Ac mae diffyg yn y gweithlu gymaint o risg i'r gwasanaeth ag yw'r diffyg arian. 

Credaf fod dau beth y mae angen inni eu gwneud yma. Y cyntaf yw mynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol a welwn yn y sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, sy’n eithaf sylweddol bellach, a byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, yn sôn am yr effaith a gaiff hynny ar bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty ac ati. Felly, ceir problem uniongyrchol mewn perthynas â'r sector gofal cymdeithasol. Mae rhan o hynny'n ymwneud â chyflogau, mae rhan ohono'n ymwneud â chydnabyddiaeth a bri'r rôl. Er fy mod yn credu bod pawb wedi sylweddoli pa mor werthfawr yw'r rolau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae angen inni sicrhau bod y rhain yn rolau y mae pobl yn awyddus i ymgymryd â hwy, ac yn cael eu gwerthfawrogi yn y ffordd rydym yn bwriadu iddynt gael eu gwerthfawrogi drwy'r cyflog byw gwirioneddol, er enghraifft. A gwyddoch fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cyfarfod â'r fforwm, ac wedi gofyn am safbwyntiau ac argymhellion ar roi'r cyflog byw gwirioneddol ar waith fel nad ydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ansefydlogi'r sector bregus hwn ymhellach. Felly, dyna'r her nesaf, mewn gwirionedd, o ran y gweithlu.

Ond yr her honno ar gyfer y tymor hwy yw'r un roeddem yn ceisio mynd i'r afael â hi drwy'r grŵp rhyngweinidogol cyn COVID, a hynny mewn ymateb i'r gwaith a wnaeth yr Athro Holtham yn ei adroddiad, a nodai ffyrdd y gallem godi arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol. A chawsom nifer o ddarnau ychwanegol o waith ochr yn ochr â hynny, gwaith a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gennym drwy gydol y Senedd ddiwethaf, ac a oedd, unwaith eto, yn nodi ffyrdd posibl y gallem fynd i’r afael â dyfodol gofal.

Gallaf roi sicrwydd i chi fod y grŵp wedi edrych y tu hwnt i sut rydym yn talu am ofal a mecanweithiau codi'r cyllid a dosbarthu'r cyllid. Roedd yn sicr yn ymwneud â sut rydym yn achub ar y cyfle hwn i wella gofal, gwella profiad y gweithlu. Oherwydd pan fydd y gweithlu'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, gwyddom ei fod yn aros, a phan fydd pobl yn gweld yr un bobl bob dydd, mae hynny'n gwella'r math o ofal a'r berthynas rhwng pobl a'r canlyniadau i'r unigolion hynny. Felly, hoffwn eich sicrhau bod yr holl bwyntiau a ddisgrifiwyd gennych yn rhan fawr o'r gwaith. Mae'n ymwneud â mwy na chodi'r cyllid yn unig.

Gan obeithio hefyd y bydd yna newid gêr o safbwynt pa mor gyflym mae rhai o'r materion yma yn cael eu datrys, oherwydd, fel rydych yn ei ddweud, mae yna broblemau ac mae yna bwysau immediate sydd angen delio â nhw, yn ogystal â'r cwestiynau strwythurol mwy hirdymor. 

Fe gyfeirioch chi yn gynharach at rai o'r grwpiau a'r sectorau fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol gan benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, ac efallai leiciwn i glywed rhai o'ch syniadau chi nawr ynglŷn â sut fyddwch chi fel Llywodraeth yn trio unioni'r effeithiau negyddol yna ar y rheini fydd yn cael eu heffeithio yn anghymesur. A hefyd, wrth gwrs, fel sy'n cael ei wneud yn yr Alban, mae'n amser inni yng Nghymru adeiladu'r achos dros ddatganoli pwerau dros yswiriant gwladol i'r Senedd yma, yn hytrach na gadael i San Steffan gyflwyno'r newidiadau mewn ffordd fydd yn niweidiol i nifer o bobl yma yng Nghymru. Nawr, fe gytunodd y Prif Weinidog gydag Adam Price fan hyn yn y Siambr ddoe y byddai datganoli yswiriant gwladol yn cynnig offeryn defnyddiol i Lywodraeth Cymru. Ac os dwi’n cofio’n iawn, mi ddwedodd ei fod e wedi dadlau y byddai hynny wedi bod yn fwy defnyddiol na datganoli treth incwm. Felly, gaf i ofyn beth yw’ch barn chi, fel Gweinidog cyllid, ynglŷn â’r angen nawr i fod yn gryf ar ddatganoli yswiriant gwladol, a hefyd pa achos ŷch chi’n ei wneud i hyrwyddo hynny gyda Llywodraeth San Steffan?

13:50

Wel, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r gwaith a wnaed gan y pwyllgor yn y Senedd ddiwethaf a oedd yn argymell datganoli gwahanol agweddau ar y broses o weinyddu lles a'r system fudd-daliadau yma yng Nghymru. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn fod yn edrych arno. Credaf fod angen inni ddeall natur y gweithlu yma yng Nghymru yn well er mwyn deall effeithiau unrhyw newidiadau ar gyfraniadau yswiriant gwladol o ran proffil y gweithwyr sydd gennym yma, os mynnwch. Ond yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno ochr yn ochr â'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn sgil yr ymateb i'r adroddiad hwnnw, a oedd yn argymell ein bod yn archwilio datganoli gwahanol agweddau ar les a budd-daliadau.

Cyllid ychwanegol yn Lloegr

3. Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r effaith ar Gymru o gyllid ychwanegol posibl y GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OQ56802

Mae cyllid i faes iechyd a gofal cymdeithasol bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yng Nghymru, ac amlygir hynny gan y £550 miliwn ychwanegol a ddarparwyd ym mis Awst i gefnogi'r adferiad. Rydym yn cydnabod y cyllid ychwanegol sy'n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU, ond canlyniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fydd y sail ar gyfer ein dyraniadau cyllidebol.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes heddiw yn Siambr y Senedd, yr hyn a welwn i bob pwrpas yw hen dric lleidr pocedi—mae rhywun yn gwenu yn eich wyneb wrth fynd ag arian o boced gefn awdurdodau lleol; oddi ar gyflogwyr, y bydd rhai ohonynt yn cyflogi staff gofal; ac oddi ar staff ar gyflogau isel ym maes gofal ac yn y GIG. Felly, mae'n hen dric sâl i'w chwarae ar bobl, ond maent yn gwenu wrth wneud hynny.

Ond a gaf fi ofyn: a oes gennym unrhyw syniad o'r amserlen ar gyfer cael adroddiad gan y grŵp rhyngweinidogol sydd bellach wedi'i ailffurfio? Rydym eisoes wedi gwneud cymaint o waith yng Nghymru, ymhell cyn iddynt roi unrhyw ystyriaeth i'r mater yn Lloegr. Mae gennym ein syniadau yn eu lle. Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi rhoi rhai ohonynt ar waith, megis lleihau cost taliadau gofal a faint y gallwch ei gadw ar eich eiddo preswyl eich hun. Ond mae llawer i'w wneud o hyd, gan gynnwys codi cyflogau'r rheini sy'n darparu gofal. Pryd rydym yn debygol o weld canlyniad trafodaethau'r grŵp rhyngweinidogol?

Yn amlwg, mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le yn dweud ein bod sawl cam ar y blaen i Lywodraeth y DU o ran faint rydym wedi meddwl am y mater hwn, ac wrth gwrs, Huw oedd cadeirydd gwreiddiol y grŵp rhyngweinidogol hwnnw a ddaeth â buddiannau o bob rhan o'r Llywodraeth ynghyd i sicrhau ein bod yn ystyried hyn mewn ffordd gyfannol iawn, yn hytrach na dim ond edrych, fel y dywedais ynghynt, ar sut rydym yn codi a dosbarthu'r cyllid.

Ac unwaith eto, mae'n llygad ei le yn dweud ein bod wedi rhoi camau ar waith sy'n rhoi mantais i bobl yng Nghymru o gymharu â phobl yn Lloegr, oherwydd yma, mae gennym yr uchafswm wythnosol ar y swm y gellir ei godi ar unigolyn am yr holl ofal a chymorth yr asesir bod ei angen arnynt gartref ac yn y gymuned. Mae'r swm y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal hefyd yn llawer uwch yma na'r hyn ydyw yn Lloegr.

Felly, rydym sawl cam ar y blaen yn barod, ond credaf fod yr her yn y dyfodol, fel y gwn fod Huw Irranca-Davies yn deall, yn enfawr mewn perthynas â'n poblogaeth sy'n heneiddio ac ati. Felly, byddwn yn dod â'r grŵp hwnnw at ei gilydd yn fuan iawn. Cawsom gyfarfod cyn diwedd tymor y Senedd, felly nid yw'n waith sydd wedi bod ar y silff ers tro. A dweud y gwir, gwnaethom barhau ag ef hyd at ddiwedd y Senedd, felly mae'n fater syml o ailymgynnull ac ailgychwyn y gwaith.

Prynhawn da, Weinidog. Diolch i weithredoedd Llywodraeth y DU, bydd Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg o'r cyfraniadau yswiriant gwladol ychwanegol. Mae'r ardoll ychwanegol ar yswiriant gwladol a difidendau wedi'i chlustnodi ar gyfer gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y £0.7 biliwn y bydd Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i ddiwygiadau cyllido Llywodraeth y DU yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen? A ydych yn credu y dylai'r cyllid a godir drwy'r ardoll gofal cymdeithasol gael ei neilltuo ac na ddylai fod yn rhan o'r grant cynnal refeniw a roddir i awdurdodau lleol? Rydych wedi bod yn galw am arian ychwanegol, a nawr eich bod wedi'i gael, mae'n hen bryd i chi ei siapio hi a nodi eich cynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol, gan nad ydych wedi gwneud hynny hyd yma.

13:55

Nac ydych. Iawn. Atebwch bwyntiau perthnasol y cwestiwn, os gwelwch yn dda, Weinidog.

Iawn, a hoffwn roi gwybod i'r Aelod nad yw Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg; ar ddiwrnod da, rydym yn cael ein cyfran deg. Mae'n ddiddorol iawn fod yr Aelod, yn ôl pob golwg, yn gwrthwynebu'r cyllid y mae Cymru'n ei gael o ganlyniad i'n sefyllfa gymdeithasol ac economaidd unigryw, a'r trafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru yn flaenorol i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o symiau canlyniadol Barnett. Ond os ydych chi'n credu bod Cymru'n cael ei chyfran deg pan nad ydym yn cael ceiniog a Gogledd Iwerddon yn cael cil-dwrn o £1 biliwn, nid wyf yn deall a ydych yn dadlau dros Lywodraeth y DU yma neu'n dadlau dros eich etholwyr.

Datblygu Strategol ac Economaidd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i gynllunio datblygu strategol ac economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56829

Rydym yn cynnal adolygiad llawn a chynhwysfawr o wariant ar gyfer rhaglenni buddsoddi cyfalaf ledled Cymru. Bydd yn ystyried yr holl gostau sy'n gysylltiedig â chynllunio datblygiad strategol ac economaidd ac yn bwydo i'n strategaeth seilwaith a buddsoddi newydd i Gymru y byddaf yn ei chyhoeddi gyda'r gyllideb ym mis Rhagfyr.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr nid ydym yn credu bod Cymru yn cael yn agos at ei chyfran deg o adnoddau a chyllid gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Ond o ran sut rydym yn gwario ein hadnoddau, un o'r gwersi y credaf y byddwn yn eu dysgu dros yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth edrych yn ôl ar y pandemig, yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu arwain ymateb cyfannol gan y sector cyhoeddus cyfan. A chredaf mai un o'r gwersi rwy'n sicr wedi'u gweld ar draws—nid yn unig yn fy etholaeth i, ond yma, wrth edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru ledled y wlad gyfan, yw bod yr holl ymateb cyfannol gan y sector cyhoeddus wedi bod yn hynod bwerus. Efallai mai'r system olrhain cysylltiadau yma o'i chymharu â'r smonach drychinebus dros y ffin yn Lloegr yw'r enghraifft orau, er nad yr unig un.

Felly, Weinidog, sut y byddwch yn edrych ar y gwaith o reoli gwahanol drefniadaethau mewn llywodraeth leol, yn y gwasanaeth iechyd, gyda phlismona yn ogystal â gwasanaethau Llywodraeth Cymru? Oherwydd y wers rwyf wedi'i dysgu, nad oeddwn yn disgwyl ei dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf, yw bod Gwent, o bosibl, wedi gweithio'n llawer gwell nag a ragwelwyd gennym.

Diolch yn fawr am godi'r pwynt hwnnw ac am gydnabod gwaith anhygoel sector cyhoeddus Cymru wrth ymateb i'r pandemig. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r adroddiad a gyhoeddwyd beth amser yn ôl bellach a edrychai ar y trefniadaethau amrywiol, yn enwedig y byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ati, sydd yno i wasanaethu pobl Cymru ac i ddod â phobl ynghyd i weithio mewn ffordd gydweithredol sy'n seiliedig ar bartneriaeth. Nododd yr adroddiad hwnnw nifer o argymhellion rydym yn eu hystyried, ond rydym yn gwbl sicr fod yn rhaid i unrhyw newidiadau i'r trefniadaethau hynny ddod o'r gwaelod i fyny. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn teimlo bod Gwent wedi dod at ei gilydd mewn ffordd arbennig o dda, a chredaf fod rhan o hynny'n ymwneud â'r berthynas dda sy'n cael ei meithrin rhwng y bobl sy'n malio o ddifrif am eu hetholwyr a'u cymunedau a'u hawdurdodau lleol, ac yn malio ynglŷn â gwneud gwaith da ar eu rhan.

Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae gan Gyngor Sir Fynwy gyfres o gynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys dogfen sir Fynwy 2040, adroddiad 'cefnogi economïau Cyngor Sir Fynwy yn y dyfodol', yn ogystal â'i rôl hanfodol ym margen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, ar gyfer datblygu etholaeth Mynwy yn economaidd. Ond yr hyn sy'n llesteirio sir Fynwy, a llawer o gynghorau eraill ledled Cymru, yw diffyg sicrwydd ynghylch cyllid. Ac fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol wedi galw dro ar ôl tro am setliadau aml-flwyddyn, sy'n eu galluogi i gynllunio'n fwy strategol ac i ddatblygu eu cynlluniau economaidd yn hirdymor. Nawr ein bod yn gwybod, neu ei bod hi'n debygol y bydd adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 27 Hydref yn cyhoeddi adolygiad aml-flwyddyn, a allwch wneud datganiad yn awr—a gawn ni gynnig yr un proses gyllidebu neu setliad aml-flwyddyn i lywodraeth leol ledled Cymru? Byddai croeso mawr i'r datganiad hwnnw yn awr, yn sgil yr hyn y gallai Llywodraeth y DU ei gyhoeddi ar y seithfed ar hugain, fel rydym newydd glywed gan arweinwyr llywodraeth leol ychydig funudau yn ôl.

14:00

Ydym, rydym wedi bod yn galw am setliadau aml-flwyddyn hefyd, ochr yn ochr â llywodraeth leol yng Nghymru, ers blynyddoedd lawer. Credaf mai 2017 oedd y tro diwethaf inni lwyddo i gyhoeddi cyllideb am fwy nag un flwyddyn ariannol. Rydym yn deall y bydd yr un nesaf am dair blynedd, ac yn sicr, y bwriad fyddai trosglwyddo'r sicrwydd a gawn drwy hynny i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, er mwyn caniatáu iddynt gael cyfle i gynllunio ymlaen llaw gyda mwy o hyder.

Porthladdoedd Rhydd

5. Pa asesiad o'r goblygiadau treth i Gymru y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bolisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU? OQ56832

Er ein bod yn barod i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU ar y mater hwn, nid ydym wedi derbyn cynnig ffurfiol o hyd gan Lywodraeth y DU i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru. Felly, heb unrhyw fanylion, ni allwn asesu goblygiadau treth y polisi yn llawn.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ond nid yw'n peri syndod i mi o gwbl. Rwyf wedi nodi'n gyhoeddus fy amheuon ynghylch porthladdoedd rhydd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â'r ddadl economaidd, ac mae gennyf bryderon yn ymwneud â'r amgylchedd, yn ogystal ag unrhyw safonau llafur sy'n dod law yn llaw â hynny. Ond yr hyn rwy'n sicr ohono, fodd bynnag, yw na ddylai Cymru fod ar ei cholled, mae'n rhaid sicrhau nad yw ein porthladdoedd strategol allweddol fel Aberdaugleddau dan anfantais, ac ni ddylai Llywodraeth y DU orfodi polisïau arnom. Felly, a wnaed unrhyw gynnydd ar y materion hyn ers mis Gorffennaf, sef y tro diwethaf i chi amlinellu'r manylion—neu'r diffyg manylion—a roddwyd gan Weinidogion y DU?

Ni wnaed unrhyw gynnydd gwirioneddol ers mis Gorffennaf, yn anffodus. Ac mewn rhwystredigaeth, ym mis Awst, ysgrifennais lythyr ar y cyd â Gweinidogion o’r Llywodraethau datganoledig eraill at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am gyfarfod brys ar borthladdoedd rhydd, ac rwy’n siomedig iawn nad ydym wedi derbyn ymateb i'r llythyr hyd yn hyn, ac yn siomedig, mewn gwirionedd, gyda’r diffyg ymgysylltu yn gyffredinol gan Lywodraeth y DU ar y polisi hwn. Fel y dywedaf, rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar borthladdoedd rhydd, er ein bod yn rhannu pryderon Joyce Watson ynghylch dadleoli gweithgarwch, er enghraifft.

Mae tri pheth yn wirioneddol bwysig os ydym am weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn, a'r cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau ar y cyd â Llywodraeth y DU ynglŷn â ble fydd y porthladdoedd hynny a beth fydd paramedrau'r cytundeb—amodoldeb, oherwydd, fel Joyce Watson, rydym yn wirioneddol bryderus am effaith bosibl porthladdoedd rhydd ar safonau. Felly, mae'n bwysig fod unrhyw borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau mewn perthynas â safonau amgylcheddol, ond hefyd gwaith teg, er enghraifft. Ac yn hanfodol, mae'n bwysig ein bod yn derbyn setliad cyllido teg. Felly, yn amlwg, mae hon yn ymyrraeth sy'n seiliedig ar leoedd nad yw swm canlyniadol Barnett yn briodol ar ei chyfer. Ni fyddai’n briodol i Lywodraeth y DU wario £25 miliwn ar borthladd rhydd yn Lloegr, a dim ond £8 miliwn yng Nghymru, heb unrhyw reswm gwell na'u bod yn credu bod cyfran Barnett yn briodol.

Weinidog, gweithgynhyrchu sydd i gyfrif am 10 y cant yn unig o gynnyrch domestig gros y DU, sydd ymhlith yr isaf o'r holl wledydd yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Gall cynyddu gweithgynhyrchu hybu enillion cenedlaethol, a gwerth porthladdoedd rhydd yw eu gallu i hybu gweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd gwaith newydd mewn ardaloedd difreintiedig. Nododd adroddiad gan ymgynghoriaeth Mace y gallai porthladdoedd rhydd roi hwb o £12 biliwn y flwyddyn i fasnach, sicrhau cynnydd o £9 biliwn y flwyddyn yng nghynnyrch domestig gros y DU a chreu 150,000 o swyddi newydd. Gwn eich bod newydd grybwyll tri phwynt yn eich ateb blaenorol ar yr hyn roeddech yn awyddus i'w wneud a'i gyflawni, ond a ydych yn derbyn, Weinidog, y bydd unrhyw ostyngiad cychwynnol mewn refeniw trethi a achosir gan borthladdoedd rhydd yn cael ei wrthbwyso gan fuddion mwy o weithgarwch economaidd mewn ardaloedd difreintiedig, mwy o swyddi a mwy o fasnach, gan dyfu'r economi gyfan drwy hynny? Diolch.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, gan nad ydynt wedi ymateb eto i'r llythyr a anfonwyd gennym fis Awst yn gofyn am y cyfarfod brys hwnnw. Ond credaf ei bod yn deg dweud y byddai unrhyw fath o ymrwymiad penagored gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfatebol i gynnig Llywodraeth y DU o ran ardrethi annomestig a threth dir y dreth stamp, neu dreth trafodiadau tir fel y'i gelwir yng Nghymru, yn peri risg i refeniw trethi Cymru hyd nes y cawn y trafodaethau hynny i gael gwell dealltwriaeth o'r polisi y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei roi ar waith. Ac rydym yn fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny, ond hyd yma, nid ydym wedi cael ateb i lythyr syml hyd yn oed.

Y Dreth Trafodiadau Tir

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y dreth trafodion tir? OQ56810

Ers mis Ebrill 2018, mae'r dreth trafodiadau tir wedi codi dros £800 miliwn. Defnyddiwyd yr arian a godwyd i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr, gan gynnwys buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb. Flwyddyn diwethaf, fe gododd eich Llywodraeth chi y gyfradd uwch o'r dreth trafodiadau tir gan 1 y cant, a hynny er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng ail dai. Bryd hynny, roedd hyd at 44 y cant o'r tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionydd yn ail dai. Fe wnaethon ni ym Mhlaid Cymru rybuddio bryd hynny fod yr 1 y cant yma ymhell o fod yn ddigonol ac na fyddai'n cael dim effaith o gwbl ar y farchnad. Flwyddyn yma eto rydyn ni wedi gweld bod hyd at 44 y cant o'r tai a werthwyd yn Nwyfor Meirionydd yn ail dai. Yn wir, yn eich etholaeth chi yng Ngŵyr ddaru o gynyddu o 24 y cant i 29 y cant yno. Mae'n bryd gweld newidiadau llawer mwy effeithiol. Onid yw'n amser ichi ystyried o leiaf treblu'r dreth trafodiadau tir er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn a datganoli'r arian i'n llywodraethau lleol er mwyn iddyn nhw ddefnyddio'r arian hwnnw i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy yn ein cymunedau ni?

14:05

Wel, mae cyllid o'r dreth trafodiadau tir eisoes yn cefnogi awdurdodau lleol ac eraill drwy gefnogi ein hagenda ar gyfer adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod un neu ddau o bethau y mae angen i mi eu nodi. Felly, mae'r gyfradd ychwanegol ar hyn o bryd yn 4 pwynt canran ar ben y prif gyfraddau ar gyfer treth trafodiadau tir. Felly, y cyhoeddiad diweddaraf oedd 1 y cant ychwanegol parhaol ar ben y 3 y cant.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni gyfleu'r ffigurau'n gywir mewn perthynas â gwerthiannau tai a thrafodiadau. Felly, nid yw bob amser yn bosibl dweud a oedd eiddo sy'n ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch eisoes yn un o'r categorïau roedd cyfraddau uwch yn berthnasol iddynt cyn y trafodiad. Felly, efallai nad yw'r trafodiad yn newid natur perchnogaeth yr eiddo. Er enghraifft, gall trafodiad fod rhwng un perchennog cartref gwyliau preifat a pherchennog cartref gwyliau preifat arall, ond gallai hefyd fod rhwng landlord prynu-i-osod sy'n darparu eiddo rhent i aelod o'r gymuned leol a landlord prynu-i-osod arall. Felly, credaf ei bod yn bwysig adlewyrchu'r ffigurau'n gywir. Nid ail gartrefi yw pob un ohonynt; mae'n amhosibl dweud hynny.

Mae hefyd yn bwysig nad yw'r ffigurau'n cynnwys stoc gyfan yr ardal, ond yr eiddo sydd wedi'i werthu yn unig. Nid yw hynny'n newid y ffaith fy mod yn deall bod prynu ail gartrefi'n broblem sylweddol mewn llawer o gymunedau, ond pan fyddwn yn ystyried y ffigurau, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n dangos y darlun ehangach.

Wrth siarad yma ym mis Chwefror, dywedais fod

'cyfraddau uwch treth trafodion tir uwch Llywodraeth Cymru, a darodd nifer fawr o fusnesau bach a chanolig cyfreithlon, llawer ohonynt ag eiddo ger ffin fewnol y DU â Lloegr, yn uwch na chyfraddau treth uwch tir y dreth stamp gyfatebol yn Lloegr ar gyfer prisiau prynu hyd at £125,000 yn unig, ac yn uwch ar gyfer yr holl brisiau prynu yn Lloegr dros £180,000 yn unig… hyd yn oed ar ôl y gwyliau cyfraddau uwch a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i bandemig COVID ddod i ben'.

Yn ychwanegol at hyn, codir cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir ar bryniannau eiddo i'w rentu, yn ogystal ag ail gartrefi. Gan hynny, sut rydych yn ymateb i'r etholwr a anfonodd e-bost yr wythnos diwethaf, i ddweud 'Mae gennyf fusnes bach sy'n gosod eiddo gwyliau, a daeth y tŷ drws nesaf i mi ar y farchnad, ar werth drwy asiant tai lleol. Hoffwn ei adnewyddu a'i ddefnyddio fel eiddo gwyliau ar osod, nid ail gartref. Rwyf wedi cael gwybod y byddai'r dreth stamp trafodiadau tir yn uchel iawn. Nid yw'r tŷ yn ffit i fod yn gartref, ac rwy'n ceisio annog pobl i ymweld â Chymru a hybu'r economi'?

Credaf fod y sefyllfa a ddisgrifiwyd gan Mark Isherwood yn dangos bod nifer o ffactorau i'w hystyried yma o ran cymhellion pobl i brynu eiddo. Rydym wedi gwneud y penderfyniad bwriadol i geisio cynyddu'r gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir, gan ein bod yn awyddus iawn i gefnogi unigolion mewn cymunedau i allu prynu eu cartref i fyw ynddo. Dyna ein prif awydd yn hynny o beth, er ein bod yn deall pwysigrwydd twristiaeth i lawer o gymunedau yng Nghymru. Mae'n gydbwysedd anodd iawn, ond rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i dai fforddiadwy i fyw ynddynt yn eu cymunedau eu hunain. Mae rhan o hynny'n ymwneud â defnyddio trethi. Credaf weithiau ei bod yn bosibl gorbwyso'r effaith y bydd treth trafodiadau tir yn ei chael ar ymddygiad; treth codi refeniw ydyw yn y bôn, wrth gwrs. Ond mae llawer o bethau i'w hystyried yma. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried cynllunio. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried faint yn rhagor y gallwn ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried sut y gallwn weithio gyda landlordiaid preswyl ac eraill i ysgogi buddsoddiad yn yr agenda benodol hon. Felly, mae llawer iawn o agweddau i'w hystyried yma. Mae'n ymwneud yn rhannol â'r cyflenwad tai, yn rhannol â chynllunio, ond mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio'r adnoddau eraill sydd ar gael i ni. Nid oes unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i ddatrys y broblem ar eu pen eu hunain.

14:10
Treth Incwm

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi treth incwm Llywodraeth Cymru? OQ56813

Rydym wedi ymrwymo i beidio â mynd â rhagor o arian oddi ar deuluoedd Cymru drwy gyfraddau treth incwm Cymru, o leiaf cyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn parhau. Mae ein holl drethi'n cael eu llywio gan ein hegwyddorion treth, a nodir yn ein fframwaith polisi trethi ac sy'n cynnwys bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml a chefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, cefnogi swyddi a thwf.

Diolch, Gweinidog. Hoffwn i ategu'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud gan Aelodau eraill heddiw, sef bod penderfyniad Llywodraeth San Steffan i godi yswiriant gwladol yn annheg oherwydd bydd yn cael effaith anghyfartal ar bobl ar incwm isel.

O ran treth incwm, mae gan eich Llywodraeth chi y gallu i amrywio'r graddau o fewn y bandiau ond nid y pŵer i gyflwyno bandiau newydd. Ond mae gan Lywodraeth yr Alban y pŵer hwn ac, yn 2018, fe wnaethon nhw gyflwyno dau fand newydd, sef gradd ychwanegol i bobl ag incwm canolig a gradd ddechreuol i bobl ar incwm isel, sydd un geiniog yn llai na'r radd sylfaenol. Hoffwn i glywed, Gweinidog, eich safbwynt chi ynglŷn â'r posibilrwydd o gyflwyno graddfa ddechreuol yng Nghymru oherwydd gallai hyn fod yn un ffordd ymarferol o liniaru effaith y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar y bobl hynny sy'n derbyn incwm sylweddol is na'r cyfartaledd. A fyddai'r Gweinidog o blaid datganoli'r pŵer hwn ac, os felly, hefyd o blaid ystyried cyflwyno band treth incwm dechreuol i bobl sy'n ennill llai na £15,000 y flwyddyn, fel yn yr Alban. Ac os na, beth yw'r rheswm am hynny, os gwelwch yn dda?

Wel, rydych yn llygad eich lle yn dweud bod cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael effaith wahaniaethol o gymharu â'r hyn y byddai codi cyfraddau treth incwm wedi'i gyflawni, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae'r trothwyon wedi'u gosod. Felly, rydych yn dechrau talu eich cyfraniadau yswiriant gwladol pan fyddwch yn ennill cyflog ar drothwy is. Ac wrth gwrs, mae treth incwm yn cynnwys pethau fel pensiynau ac incwm rhenti a phethau eraill, nad yw pobl ar ben isaf y sbectrwm economaidd, yn aml, yn gallu eu codi beth bynnag. Felly, ni chredaf ei bod yn ffordd deg o godi arian ar gyfer yr agenda benodol hon.

Fel y dywedwch, nid oes gennym y pwerau hynny yma yng Nghymru. Mae gennym y tri band, ac rydym yn eu cynnal ar yr un lefel ar hyn o bryd oherwydd, fel y dywedaf, nid ydym am roi beichiau ychwanegol ar unigolion a theuluoedd ar y pwynt hwn. A byddwn yn sicr yn cadw'r dull hwn o weithredu cyhyd ag y bydd effaith economaidd y coronafeirws yn parhau.

Trethi Lleol

8. A wnaiff y Gweinidog egluro pwrpas yr ymgynghoriad cyfredol ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar? OQ56822

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gweithredu un o'r camau a nodwyd yn ein dull triphlyg o fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Nghymru. Mae'n galw am safbwyntiau ar newidiadau posibl i drethi lleol, gan gynnwys pwerau awdurdodau lleol i gymhwyso premiymau'r dreth gyngor a'r meini prawf ar gyfer diffinio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig.

Mae'r argyfwng tai, gan gynnwys yr argyfwng ail gartrefi, yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled Cymru. Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad yma wrth gwrs, ond rhan yn unig o'r ateb fyddai mynd i'r afael â'r materion sydd yn yr ymgynghoriad yma. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. Ond o ran yr ymgynghoriad ei hun, pryd yn union fydd yr argymhellion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad yma'n cael eu gweithredu? A fedrwch chi roi syniad inni o'r amserlen o gwmpas yr ymgynghoriad yma a beth fydd y camau nesaf, achos mae'n rhaid gweithredu ar frys? Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny hefyd.  

Ydw, rwy’n cytuno mai rhan o’r darlun yn unig yw hwn a bod angen gweithredu ar frys, gan y gwyddom fod cymunedau yng Nghymru o ddifrif yn teimlo pwysau yn hyn o beth. Dyma pam ein bod wedi rhoi camau cynnar ar waith, fel yr 1 y cant ychwanegol ar gyfradd uwch y dreth trafodiadau tir, er enghraifft, ond mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd hefyd mewn perthynas â datblygu strategaeth y Gymraeg ar gyfer cymunedau, ac mae rhan o hynny, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sicrhau y gall pobl aros yn eu cymunedau Cymraeg eu hiaith a phrynu cartref yno.

Felly, mae sawl peth yn digwydd ar unwaith. Nid wyf yn bwriadu treulio llawer o amser yn ystyried y safbwyntiau a gyflwynir. Gwn y byddwn yn cael sbectrwm eang iawn o safbwyntiau, o bobl sy'n hollol wrthwynebus i unrhyw newidiadau, i bobl y byddai'n well ganddynt pe bai gennym ddull a oedd yn ei gwneud yn haws fyth i brynu ail gartrefi, i bobl a chanddynt farn ar ben arall y sbectrwm. Yn amlwg, mae croeso i bob barn, a byddwn yn eu hystyried, ond nid wyf am dreulio mwy o amser nag sydd angen. Yn amlwg, deallaf y brys mewn perthynas â'r mater penodol hwn.

14:15

Diolch, Lywydd. Weinidog, ar ôl un o’r tymhorau prysuraf erioed yn Llandudno a gogledd Cymru, yn dilyn y pandemig ofnadwy, dylem yn hytrach fod yn diolch i’n gweithredwyr eiddo gwyliau ar osod am y budd economaidd aruthrol y maent yn ei roi i’n cymunedau a’n cynnig twristiaeth. Cydnabuwyd y budd hwn yn adroddiad Dr Simon Brooks, hyd yn oed, ac mae'n rhaid i'r weinyddiaeth Lafur Cymru hon ei dderbyn. Gwn nad wyf ar fy mhen fy hun yn gwrthod y llif cyson o sylwadau negyddol a dilornus sydd wedi'u hanelu at ein perchnogion ail gartrefi a pherchnogion llety hunanddarpar. Bellach, mae llawer o bobl yn gweld hyn yn debyg i safbwynt cenedlaetholgar Plaid Cymru, sy'n wrth-dwristaidd, yn wrth-fusnes ac yn wrth-uchelgais, ac a dweud y gwir, Plaid Cymru, mae angen i chi ddechrau newid eich tiwn.

Ail gartrefi ac eiddo gwyliau ar osod yw oddeutu 3 y cant o'r stoc dai yng Nghonwy, ac amcangyfrifwyd y gellid codi premiwm y dreth gyngor ar oddeutu 1,182 eiddo yn 2020-21. Yn gwbl gywir, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyndyn o gynyddu'r premiymau hyn—cam da i'n heconomi. Bwriad yr offeryn hwn oedd dod ag eiddo gwag yn hirdymor yn ôl i ddefnydd, ond ni chyflawnwyd hyn, oherwydd fel y gwyddoch, Weinidog, mae targedau'r Llywodraeth wedi'u methu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Fodd bynnag, mae agwedd anflaengar bresennol Llywodraeth Cymru tuag at ein landlordiaid preifat yn eu gwthio tuag at farchnad fwy proffidiol llety gwyliau ar osod. Y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn heddiw yw: pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ail-gymell ein landlordiaid preifat, er mwyn eu galluogi i aros yn y sector preifat yn hytrach na symud i faes llety gwyliau ar osod? Diolch, Lywydd.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddechrau drwy gydnabod pwysigrwydd aruthrol y sector twristiaeth i sawl rhan o Gymru. Mae'n gwbl hanfodol i lawer o gymunedau ac rydym am sicrhau ein bod yn rhoi croeso cynnes i bawb pan ddônt i ymweld â ni yng Nghymru, fel eu bod yn dymuno dychwelyd, a gwneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni geisio sicrhau bod gennym gymunedau cytbwys, cymunedau lle gall pobl, fel y dywedais yn y sesiwn hon eisoes, aros yn eu cymunedau a dod o hyd i gartref fforddiadwy, ond hefyd mewn cymunedau lle mae twristiaeth yn bwysig iawn, lle gallwn sicrhau bod gennym ddigon i'w gynnig i'r twristiaid hynny hefyd. Felly, mae'n gydbwysedd anodd, ond credaf y bydd peth o'r gwaith rydym yn ei wneud ar y cynlluniau peilot, gyda'r nod o weld cymunedau'n gweithio gyda ni ar hynny, yn bwysig, gan fod pob cymuned yn unigryw mewn cymaint o ffyrdd.

Mae gan landlordiaid preifat ran bwysig i'w chwarae mewn perthynas â'n stoc dai yma yng Nghymru. Mae'n ddewis cadarnhaol i bobl sy'n dymuno rhentu ac rydym wedi gwneud gwaith da dros y blynyddoedd diwethaf gyda Rhentu Doeth Cymru a'r gwaith a wnaethom ar hynny i geisio sicrhau bod y cynnig gan landlordiaid preifat yn gynnig o safon i unigolion yma yng Nghymru, a sicrhau bod y sector hwnnw'n darparu rhan bwysig a defnyddiol iawn o'r opsiynau tai i bobl os mai rhentu yw'r dewis iawn iddynt. Mae'n ddewis cadarnhaol i lawer o bobl, felly mae angen inni sicrhau ei fod yn brofiad da iddynt.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a dwi'n galw'n gyntaf am gwestiwn 1, Vikki Howells.

Lles Anifeiliaid

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56805

9. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cynnig i gryfhau'r ffordd y caiff anifeiliaid eu hamddiffyn yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd? OQ56824

Member
Lesley Griffiths 14:19:55
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio.

Mae sawl ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mwriad i gyhoeddi cynllun lles anifeiliaid i Gymru, a fydd yn ymestyn dros dymor y Llywodraeth hon.

14:20

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraith Lucy, y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti, yn dod i rym yn gynharach y mis hwn. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr a gefnogodd y gyfraith hon, a diolch i chi'n gyhoeddus am gyflawni'r ymyrraeth bwysig hon. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar yr ymgysylltu a gafwyd gyda busnesau, bridwyr ac ati, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r rheolau newydd ac yn cydymffurfio â hwy?

Diolch yn fawr iawn. Wel, roeddwn innau'n sicr yn falch iawn o weld y rheoliadau a basiwyd ar 23 Mawrth, ac yna—. Yn amlwg, cawsom gyfnod pontio o chwe mis i sicrhau bod perchnogion siopau anifeiliaid anwes, er enghraifft, yn gallu ystyried model gweithredu gwahanol, fel y gallent liniaru unrhyw effaith bosibl. Ond roeddwn yn falch iawn o weld y ddeddfwriaeth yn dod i rym.

Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i drydydd parti masnachol werthu cŵn bach a chathod bach o dan chwe mis oed, mae'n anodd plismona bridwyr sy'n bridio islaw'r trothwy hwnnw, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i sicrhau y gall ein hawdurdodau lleol ddefnyddio eu disgresiwn, er enghraifft, i edrych ar achosion busnes a gyflwynir, fel y gallant brofi a yw bridwyr wedi bridio'r anifeiliaid eu hunain neu a ydynt yn eu gwerthu dros rywun arall, oherwydd yn amlwg, byddai hynny wedyn yn torri'r rheoliadau. Mae cwmpas y rheoliadau wedi'i nodi'n glir iawn yn y ddeddfwriaeth. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn.

Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth. Nid ydym wedi eistedd yn ôl ac aros i'r ddeddfwriaeth ddod i rym. Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Fe fyddwch yn gwybod am y prosiect peilot a gynhaliwyd gennym ar orfodaeth, a'r cyd-weithgor gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru. Buom yn gweithio mewn partneriaeth wrth ddrafftio’r rheoliadau hynny. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar y prosiect y cyfeiriais ato yn gynharach, er mwyn sicrhau nad oes rhwystrau posibl eraill i orfodaeth. Ac rydym unwaith eto—. Yn fy nghartref i, nid ydym yn cael defnyddio'r gair 'Nadolig' tan fis Rhagfyr, ond rwyf am hyrwyddo, unwaith eto, cyn y Nadolig, y byddwn ni fel Llywodraeth yn hyrwyddo Aros, Atal, Amddiffyn i sicrhau bod prynwyr yn meddwl yn ofalus iawn cyn prynu anifail anwes cyn y Nadolig.

Weinidog, mae'r cyfyngiadau symud yn sgil COVID wedi arwain at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes sy'n cael eu dwyn, ac wedi golygu y bydd herwgydio anifeiliaid anwes yn dod yn drosedd yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae dwyn anifail anwes yn cael ei drin fel colli eiddo'r perchennog o dan Ddeddf Dwyn 1968, ond nid yw hyn yn ddigon i gydnabod y trallod emosiynol enfawr y gall hyn ei achosi i'r perchennog, a'r anifail anwes hefyd. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd, Weinidog, i gadw'r gyfraith ar ddwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru yn unol â'r gyfraith yn Lloegr i sicrhau bod perchnogion anifeiliaid anwes yma'n cael eu diogelu i'r un graddau â phobl dros y ffin? Diolch.

Mae dwyn anifeiliaid anwes yn amlwg yn weithred droseddol, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, fel y dywedwch, o dan Ddeddf Dwyn 1968. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r tasglu dwyn anifeiliaid anwes a gyflwynwyd gan DEFRA, felly mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA i sicrhau y gallwn gydweithredu. Yn sicr, credaf ein bod wedi gweld mwy o achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig. Mae aelod o fy nheulu fy hun wedi cynyddu mesurau diogelwch yn eu cartref oherwydd eu pryderon ynghylch dwyn anifeiliaid anwes, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio ar y cyd â DEFRA.

Yn dilyn saga Geronimo, yr alpaca, a'r holl ffys fuodd am ddifa un alpaca pan fydd yna 10,000 o wartheg yn cael eu difa am yn union yr un rheswm yng Nghymru bob blwyddyn—mae yna 10,000 o Geronimos yng Nghymru yn cael eu lladd bob blwyddyn, i bob pwrpas—ydych chi'n cytuno bod hynny, efallai, yn dweud llawer wrthym ni ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth sydd yna ymhlith y cyhoedd ynglŷn â realiti bovine TB? Ydy e hefyd yn awgrymu i chi efallai bod pobl dim cweit yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw taclo TB yng Nghymru, a bod hynny'n golygu cymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â delio â'r clwyf mewn bywyd gwyllt?

Credaf ei fod fel unrhyw beth arall mewn bywyd: os ydych yn ymwneud yn agos â mater, yn amlwg, mae eich dealltwriaeth yn well. Yn sicr, bu cryn dipyn o ddiddordeb yn y cyfryngau, fel y dywedwch, yn achos Geronimo. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i gael gwared ar y clefyd ofnadwy hwn.

Byddaf yn adnewyddu'r rhaglen dileu TB. Fel y gwyddoch, rwy’n adrodd yn flynyddol i’r Siambr hon bob blwyddyn ar ein rhaglen dileu TB, ac rwy'n credu y byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr hon ym mis Tachwedd. Dros yr haf, manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â Glyn Hewinson, academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y gwn fod Llyr Huws Gruffydd yn gwybod amdano, i glywed nid yn unig am yr ymchwil ond am frechu gwartheg, er enghraifft. Pan gyfarfûm â Glyn am y tro cyntaf, roedd bob amser yn dweud wrthyf fod brechu gwartheg yn erbyn TB 10 mlynedd i ffwrdd. Credwn bellach ei fod oddeutu pedair blynedd i ffwrdd, felly gallwch weld y cynnydd rydym yn ei wneud.

14:25

Gall unrhyw un nad yw wedi ei wahardd gan lys brynu anifail. Nid oes unrhyw brofion ar gyfer perchnogaeth, dim cyfarwyddiadau statudol ar sut i edrych ar ôl anifeiliaid. A yw'n syndod fod cymaint o anifeiliaid yn cael eu trin yn wael, nid bob amser am fod pobl eisiau eu trin yn wael, ond oherwydd anwybodaeth? A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cyfarwyddiadau a phrofion ar-lein i'r rheini sy'n dymuno prynu gwahanol anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, y byddai'n rhaid eu pasio cyn prynu, fel bod pobl yn gwybod beth y maent yn ei wneud wrth brynu anifail? Ac efallai, weithiau, y byddant yn penderfynu peidio â'i brynu oherwydd faint o waith y mae'n ei olygu.

Yn amlwg, mae perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid yn rhywbeth y mae gennym gryn dipyn o ddiddordeb ynddo fel Llywodraeth, a gwn fod hyn yn flaenoriaeth i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Nid wyf yn siŵr mai gosod profion i bobl sy'n prynu anifeiliaid yw'r dull cywir o fynd ati. Tybed pwy fyddai'r gynulleidfa darged, er enghraifft. Tybed pwy fyddai’n plismona hynny. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw ein bod yn edrych ar reoleiddio, yn edrych ar orfodi lles anifeiliaid.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chyfleuster newydd y Dogs Trust yng Nghaerdydd, lle lansiais y gwaharddiad ar werthiant masnachol cŵn a chathod bach gan drydydd parti, ac roedd gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod—. Roeddwn yn gwybod bod y Dogs Trust, pe baech yn cael ci ganddynt—pe baent yn ailgartrefu ci gyda chi—yn parhau i gynnig cymorth. Yr hyn nad oeddwn yn ei sylweddoli oedd eu bod yn agored i gefnogi unrhyw un sy'n rhoi cartref i anifail anwes wedi'i ailgartrefu am oddeutu pedair wythnos, rwy'n credu yw hyd y cwrs. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn manteisio ar gynlluniau o'r fath hefyd.

Soniais am yr ymgyrch y byddwn yn ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y Nadolig eto eleni; rwy'n credu mai hwn fydd y trydydd Nadolig inni wneud hyn. Unwaith eto, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn atgoffa darpar brynwyr fod angen iddynt wneud rhywfaint o ymchwil cyn prynu eu ci bach neu unrhyw anifeiliaid anwes eraill. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd, yn enwedig gyda sefydliadau'r trydydd sector—soniais am y Dogs Trust, ond rydym yn gweithio, yn amlwg, gydag elusennau a sefydliadau eraill—ac yn sicrhau bod gwybodaeth ac ymchwil ragorol ar gael i'r cyhoedd.

Unedau Dofednod Dwys

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56831

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull cyfannol o asesu a lliniaru effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys ledled Cymru, drwy well prosesau cynllunio a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth a chefnogi'r diwydiant drwy raglenni trosglwyddo gwybodaeth a chymorth ariannol.

Diolch am eich ateb, ond yn ôl ymchwil gan Ymddiriedolaeth Natur Cymru, erbyn hyn, mae gan Bowys fwy na 150 o unedau dofednod dwys, sy'n cynnwys oddeutu 10 miliwn o ieir. O ganlyniad, amcangyfrifir bod 2,000 tunnell ychwanegol o ffosffad y flwyddyn yn cael ei wasgaru ar dir yn nalgylch afon Gwy. Fis Medi diwethaf, gofynnais i chi am y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgor ffermio dwys a oedd yn edrych ar ganllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau dofednod newydd, a chefais sicrwydd gennych ei fod yn fater o frys. Ac rwy'n cytuno ei fod yn fater o frys, hyd yn oed yn fwy felly flwyddyn yn ddiweddarach. Y mis diwethaf, ysgrifennodd eich cyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ataf i fy sicrhau bod gwaith ar y gweill i ddeall ffynhonnell llygredd ffosffad mewn afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Fodd bynnag, o gofio bod y sefyllfa'n fater o frys, a allwch amlinellu'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ystyried oedi unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd neu estynedig hyd nes bod effaith amgylcheddol a chymunedol yr unedau presennol wedi cael eu hasesu a'u deall yn llawn?

Diolch. Fel roeddech chi'n cydnabod, mae'r gwaith hwnnw bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond rwy'n deall bod disgwyl i'r gwaith dosrannu gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni. Gwn fod ei swyddogion a'm swyddogion innau wedi gweithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i allu monitro cynnydd y prosiect hwnnw. Mae awdurdodau cynllunio lleol eisoes wedi'u hatal yn gyfreithiol rhag rhoi caniatâd cynllunio os ydynt yn ansicr a fydd datblygiad, naill ai'n unigol neu ochr yn ochr â chyfuniad o rai eraill, yn ychwanegu ffosffadau at ddyfroedd yr ACA, lle mae'r terfynau wedi'u croesi.

14:30

Weinidog, ar ddiwrnod cefnogi ffermwyr Prydain a Chymru, hoffwn ddiolch yn bersonol i'r holl ffermwyr ledled Brycheiniog a Sir Faesyfed am y gwaith cwbl anhygoel a wnânt i amddiffyn ein hamgylchedd a diogelu'r cyflenwad bwyd. Ond Weinidog, mae busnesau fferm wedi gorfod arallgyfeirio, gan fod y rhagolygon yn newid yn barhaus, ac mae llawer o ffermwyr wedi gorfod arallgyfeirio i'r diwydiant dofednod fel ffynhonnell incwm i sybsideiddio eu busnesau. Mae'r ffermwyr hynny'n gwneud eu gorau glas i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth ddiogelu ein cyflenwad bwyd. Fodd bynnag, Weinidog, mae'r cyfryngau, gwleidyddion a grwpiau lobïo'n ymosod yn barhaus ar y teuluoedd ffermio hyn, ac yn ceisio beio'r ffermwyr am ansawdd dŵr gwael. Dros y penwythnos, bu Dŵr Cymru yn pwmpio carthion amrwd i mewn i afon Wysg eto ac nid oes unrhyw beth yn digwydd i fynd i’r afael â hynny. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthyf beth rydych yn mynd i'w wneud i amddiffyn y ffermwyr hynny sy'n cael eu beio dro ar ôl tro gan y cyfryngau fel ein bod yn dechrau trafod ffeithiau yn hytrach na ffuglen? Diolch, Lywydd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn trafod ffeithiau yn hytrach na ffuglen. Clywaf yr hyn a ddywedwch am Dŵr Cymru. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau, ond rydych wedi cofnodi'r peth yn awr a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny, gan ei bod yn anodd iawn credu na wnaed unrhyw beth yn y ffordd a amlinellwyd gennych. Rwyf wedi gweithio'n barhaus gyda'r sector amaethyddol ar lygredd. Yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod achos cyfreithiol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'n rheoliadau, felly mae'r hyn y gallaf ei ddweud yn gyfyngedig iawn, ond rwy'n sicr yn cytuno â chi y dylem ddiolch o galon i'r rhan fwyaf o'n ffermwyr, nad ydynt, yn sicr, yn llygru ein cefn gwlad ac sy'n sicrhau bod gennym fwyd ar ein platiau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, roedd yn dda eich croesawu i orllewin Cymru ym mis Awst ar gyfer Sioe Sir Benfro. Gwn y bydd pwyllgor y sioe a'r arddangoswyr wedi gwerthfawrogi eich presenoldeb, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch y tîm ar eu llwyddiant yn cynnal y sioe, ar ôl iddi gael ei gohirio y llynedd. Rwy’n siŵr hefyd y bydd y Gweinidog yn dymuno talu teyrnged i ffermwyr ledled Cymru a Phrydain heddiw wrth inni nodi diwrnod Cefnogi Ffermwyr Prydain.

Ond os ydym o ddifrif am gefnogi ein ffermwyr, mae'n rhaid inni weithio yn awr i fynd i'r afael ag argyfwng TB buchol yng Nghymru. Ni fydd y newyddion y bore yma fod nifer y buchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru wedi cynyddu 3 y cant o gymharu â Lloegr a’r Alban, lle mae'r canrannau wedi gostwng, yn ennyn hyder ffermwyr Cymru yn mholisi cyfredol a threfn brofi'r Llywodraeth. Felly, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Neil Watt a Gordon Harkiss o MV Diagnostics Ltd, sydd wedi datblygu prawf TB buchol amgen, Enferplex, yr honnir ei fod yn darparu canlyniadau mwy cywir na'r prawf cyfredol? Ac os nad oes cyfarfod wedi bod, a wnewch chi gyfarfod â hwy i drafod y prawf Enferplex a chynnig eich cymorth i helpu i ddatblygu cynllun peilot, a allai baratoi'r ffordd ar gyfer strategaeth TB buchol newydd yng Nghymru i ddileu'r clefyd unwaith ac am byth?

Diolch. Braf oedd eich gweld chithau hefyd, a Cefin Campbell, yn Sioe Sir Benfro. Honno oedd yr unig sioe amaethyddol a gawsom dros doriad yr haf, cyn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd yn dda cefnogi'r nifer fawr o wirfoddolwyr a sicrhaodd fod y sioe yn cael ei chynnal, ar ffurf wahanol i'r ffordd rydym yn dathlu fel arfer. Ond roedd yn dda iawn bod yno, felly, ydw, rwy'n sicr yn ymuno â chi i ddiolch i bob un ohonynt.

Mewn perthynas â'r ystadegau TB a gyhoeddwyd y bore yma, rydym wedi gweld gostyngiad mewn achosion newydd dros y cyfnod 12 mis diweddaraf, ac mae hynny i'w groesawu. A byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Llyr mewn ateb blaenorol y byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr hon ym mis Tachwedd ynghylch diweddaru'r rhaglen ddileu.

Ar y cwestiwn penodol a ofynnwyd gennych ynglŷn â Neil a Gordon, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gyfarfod â hwy. Nid wyf wedi cyfarfod â hwy fy hun. Unwaith eto, rwyf wedi cyfeirio at y cyfarfodydd a gefais dros yr haf gyda Glyn Hewison, sy'n ein cynghori yn Llywodraeth Cymru ar ein strategaeth TB, ond rwyf bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un a all gynnig atebion ynglŷn â sut y gallwn gael effaith sylweddol ar y clefyd ofnadwy hwn.

Diolch, Weinidog. Do, fe sonioch chi am y brechlyn a allai fod ar gael ymhen pedair blynedd, ond mae'r prawf newydd hwn, Enferplex, eisoes yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad, felly mae hynny o ddifrif yn dangos bod y gymuned amaethyddol yn awyddus i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth.

Fodd bynnag, ceir nerfusrwydd yn y diwydiant o hyd ynghylch dyfodol cytundebau Glastir Organig, Tir Comin Glastir a Glastir Uwch, a fydd yn dod i ben ar 13 Rhagfyr eleni. Mae'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol hyn yn chwarae rhan bwysig yn niwydiant amaethyddol Cymru, ond mae ffermwyr bellach yn aros yn nerfus am gyhoeddiad ynglŷn ag a fydd y contractau hyn yn cael eu hymestyn am 12 mis arall neu fwy. Nid yw ymestyn contractau'n beth anghyffredin, a Weinidog, fe ddywedoch chi eich hun na fyddai'r cynllun yn lle Glastir, y cynllun ffermio cynaliadwy, yn cael ei gyflwyno hyd nes ei fod yn gwbl barod. Gyda'r diwydiant wedi cael gwybod i ddechrau y gellid disgwyl penderfyniad ym mis Gorffennaf, ac yna ar ddiwedd yr haf, a allwch chi ddarparu eglurder ynghylch adnewyddu'r cynlluniau hyn, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr Cymru?

14:35

Bydd y rhan fwyaf o gontractau Glastir Uwch, Glastir Organig a Thir Comin Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae llawer o gontractau eisoes wedi'u hadnewyddu a'u hymestyn sawl gwaith wrth inni fynd yn ein blaenau. Ers 2017, pan ddaeth cyfnod contract pum mlynedd Glastir Uwch i ben, y bwriad oedd ymestyn contractau wrth iddynt ddod i ben, ond wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid rhaglen datblygu gwledig yr UE a’r ansicrwydd sy'n ein hwynebu ynghylch argaeledd cyllidebol yn y dyfodol yn golygu nad yw hynny'n opsiwn mwyach. Gwn y bydd mwy o ffocws ar ddyfodol y contractau hyn, ond fel y dywedaf, hyd nes y caf rywfaint o sicrwydd ynglŷn â chyllid, ni allaf wneud cyhoeddiad.

Bydd hynny'n siom i ffermwyr ledled Cymru.

Yn olaf, Weinidog, rwy'n disgwyl y byddai llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch pryderon ynglŷn â bylchau yn neddfwriaeth adnabod ceffylau Cymru. Er bod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r gofyniad gorfodol i ficrosglodynnu ceffylau yng Nghymru, ceir pryderon o hyd ynghylch cywirdeb y pasbortau papur a ddefnyddir ar hyn o bryd i olrhain ceffylau, yn ogystal â’r nifer isel o geffylau sydd wedi'u microsglodynnu a gofnodwyd yn y gronfa ddata ganolog i geffylau. Rwy'n ymwybodol y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod ac olrhain ceffylau yn ddiweddarach eleni, felly pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau sylweddol i'r system, gan gynnwys digideiddio pasbortau ceffylau, fel y dechreuodd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ei wneud ym mis Gorffennaf, a darparu gwasanaeth llyfn i ddiogelu lles ceffylau?

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth. Fe gyfeirioch chi at gryn dipyn o ohebiaeth; yn sicr, nid oes unrhyw beth wedi cyrraedd fy nesg i. Efallai ei fod ar y ffordd, nid wyf yn gwybod. Ond byddaf yn cael trafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol, y gwn ei bod wedi siarad â'r tri phrif swyddog milfeddygol arall yn y DU ynglŷn â hyn, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod i nodi'r sefyllfa bresennol.FootnoteLink

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar ôl codi'r angen gyda chi ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf ynglŷn â'r bluefin tuna, roeddwn i'n falch iawn o glywed nôl wrthych chi, a dwi'n dyfynnu, yn dweud: 

'Rwy'n cwblhau manylion prosiect peilot gwyddonol tagio dal a rhyddhau tiwna yng Nghymru yn 2021.'

Ers hynny, dwi ddim wedi clywed na gweld llawer o ran manylion na dyddiadau penodol gennych chi, ac mae'r tymor pysgota ar gyfer tiwna wedi dechrau ers mis Awst. Felly, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn mwy o fanylion am y cynigion hyn.

Ond mae gwir angen gweithredu'n ehangach ar bysgodfeydd a dyframaeth—sef aquaculture—yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Ar ôl cyfarfod ryw bythefnos yn ôl gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, mae'n amlwg i fi bod nifer o gyfleoedd wedi cael eu colli dros y 10 mlynedd diwethaf i ddarparu gwell trefn ar reoli pysgodfeydd Cymru. Mae'r diffyg dyletswydd gyfreithiol i reoli pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy, y model rŷch chi'n ei ddefnyddio i reoli'r sector, a diffyg adnoddau penodol, wedi achosi oedi sylweddol i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy yn nyfroedd Cymru. Ar ôl mwy na 10 mlynedd, felly, o fod yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd, a ydych chi yn cytuno ei bod hi'n bryd cynnal adolygiad annibynnol o bysgodfeydd morol a dyframaeth yng Nghymru, a fydd yn gwerthuso'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwyddoniaeth, polisi a deddfwriaeth ar gyfer y Senedd bresennol a thu hwnt?

Mewn perthynas â'ch cwestiwn cyntaf ynglŷn â thiwna, fel y dywedwch, ni ddechreuodd y tymor yn iawn tan y mis diwethaf. Felly, ni chredaf fy mod mewn sefyllfa i roi unrhyw ddata ar hyn o bryd, ond yn amlwg, wrth i'r tymor fynd rhagddo, rwy'n siŵr y bydd modd imi wneud hynny.

Roedd eich prif gwestiwn yn cyfeirio at bolisi pysgota dros y degawd diwethaf, ac nid wyf yn cydnabod y sefyllfa rydych yn ei disgrifio. Felly, na, ni chredaf y byddai angen adolygiad annibynnol arnom. Yn amlwg, a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd bellach, mae hynny'n rhoi cyfle inni gael polisi pysgota integredig mewn modd nad ydym wedi'i gael o'r blaen yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pysgotwyr Cymru yn benodol yn ogystal â'n cymunedau arfordirol, oherwydd yn amlwg, mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.

14:40

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ryw fath o adolygiad mewnol ar hynny a strategaeth ynglŷn â datblygu'r sector ar gyfer y dyfodol.

Mater arall a godais i gyda'r Gweinidog cyn gwyliau’r haf oedd y mater o brynu tir fferm gan sefydliadau a chorfforaethau mawr ar gyfer plannu coed, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o'r tu allan i Gymru, a'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn hytrach na chynhyrchu bwyd. Yn hytrach na dilyn egwyddor y goeden gywir, yn y man cywir, am y rheswm cywir, mae cymunedau Cymru ar eu colled wrth i unrhyw fanteision amgylcheddol ac economaidd a gafwyd o'r camau hyn fynd i gwmnïau y tu allan i Gymru, a pheidio ag aros o fewn cymunedau lleol. Ac mae hyn, yn anffodus, yn enghraifft arall o adnoddau Cymru'n cael eu hecsbloetio gan ddiddordebau allanol, fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd gyda'n glo, ein dŵr ni, a'n trydan ni.

Dros yr haf, yn anffodus, mae'n ymddangos bod y sefyllfa wedi gwaethygu a chyflymu. Ac fel rydw i wedi ei ddweud o'r blaen, os na all ffermwyr Cymru brynu tir yn eu cymunedau lleol pan fydd ar werth, oherwydd eu bod yn cael eu tanseilio gan gwmnïau cyfoethog o Lundain, bydd hyn yn niweidio diwylliant, iaith a threftadaeth lleol. Dŷn ni'n gwybod eich bod chi wedi sefydlu cynllun coedwigoedd cenedlaethol, ond pa gamau y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd i ddatrys y problemau hyn a diogelu tir a chymunedau lleol Cymru?

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Fe grybwylloch chi hyn wrthyf, ac rwyf wedi cael trafodaeth gyda Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac fe fyddwch yn ymwybodol iddo gynnal archwiliad dwfn i'r holl fater o blannu coed. Ac yn amlwg, mae mater tir amaethyddol yn cael ei werthu i gwmnïau, yn enwedig ar gyfer gwrthbwyso carbon, yn rhywbeth sy'n peri pryder. Ond yn yr un modd, mae'n anodd iawn dweud wrth ffermwr, 'Ni ddylech werthu eich tir fferm i'r unigolyn hwn oherwydd—', ac rwy'n credu y byddai hwnnw'n faes anodd iawn i'r Llywodraeth dresmasu iddo.

Cefais drafodaeth gyda ffermwr ar ymweliad dros wyliau'r haf, a nododd fod tair fferm wedi'u gwerthu i gwmni rhyngwladol, nad wyf am eu henwi, a'i bryder ynglŷn â hynny. Ond roedd hefyd yn adnabod yr unigolyn a oedd wedi gwerthu un o'r ffermydd, ac roedd yr unigolyn dan sylw'n awyddus i gael y pris gorau posibl amdani. Felly unwaith eto, mae'n anodd iawn wedyn inni gael polisi ar hynny. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw ein bod yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod y goeden iawn yn cael ei phlannu yn y lle iawn. Nid yw hynny'n rhan o fy mhortffolio mwyach; er bod y cyllid gennyf i brynu coed ac i annog ffermwyr i blannu coed, mae'n perthyn i'r gyfarwyddiaeth newid hinsawdd. Ond wrth gwrs, byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, ac yn cael trafodaethau pellach.

Yn sicr, ychydig iawn o ffermwyr y cyfarfûm â hwy sy'n gwrthwynebu plannu coed. Maent yn awyddus i blannu coed, maent yn awyddus i edrych ar eu perthi a chyrion eu tir fferm, er mwyn sicrhau eu bod yn achub ar bob cyfle posibl i'n helpu gyda'r targed hwnnw. Ac yn amlwg, mae'r goedwig genedlaethol yn brosiect hirdymor iawn, ond credaf ei bod yn wych fod cymunedau'n awyddus i ymgysylltu. Mae rhywun wedi cysylltu â mi—maent newydd brynu erw o goetir, ac maent am iddi fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol. Felly, credaf ei bod wedi ennyn diddordeb pobl, a phan fydd wedi'i gorffen, rwy'n siŵr y caiff ei thrysori i'r un graddau â llwybr yr arfordir yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n derbyn bod y balans hynny'n anodd, ond mae yna gyfle i'r Llywodraeth yn fan hyn i gydweithio â ffermwyr er mwyn amlygu'r manteision sydd yna o blannu coed. Ac wrth gwrs, os bydd y sefyllfa o ran plannu coed ar dir fferm yn gwaethygu, mae hyn yn golygu bod llai o dir ar gael i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Dangosodd arolwg o ffermwyr mynydd yng Nghymru yn ddiweddar bod 95 y cant o'r sawl a holwyd wedi nodi bod cynhyrchu a gwerthu bwyd naill ai'n bwysig iawn neu'n weddol bwysig i'w busnesau. Ac mae gan bwysigrwydd bwyd, wrth gwrs, oblygiadau ymhell y tu hwnt i gât y ffarm, fel dŷn ni wedi ei weld dros yr haf diwethaf yma, wrth i ni weld pwysigrwydd cadwyni cyflenwi gwydn o ran sicrhau bod gan bobl ddigon o fwyd diogel, fforddiadwy ac o safon uchel. Er mwyn sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn cael eu cynnal mor lleol â phosibl, mae angen inni hybu capasiti prosesu yng Nghymru. Ac, er gwaethaf hyn, o brosesu llaeth i gig coch, mae gennym economi echdynnol, hynny yw extractive economy, lle mae cynnyrch o Gymru yn cael ei gymryd dros y ffin i Loegr yn aml iawn i'w brosesu, ac mae hyn i gyd yn cynrychioli gwerth ac incwm sy'n cael ei golli i Gymru, heb sôn am yr effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Felly, sut ydych chi yn mynd i sicrhau ein bod yn cadw ac yn cynyddu capasiti prosesu yng Nghymru? Ac a ydych chi'n cytuno mai un ffordd o wneud hyn yw cynyddu'r farchnad ar gyfer bwyd? Ac a wnewch chi felly edrych ar sut mae'r Llywodraeth yn gallu gweithio gyda chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau pwrcasu lleol er mwyn hybu'r economi a chryfhau'r sector? 

14:45

Oedd, roedd cryn dipyn o gwestiynau a rhai pwyntiau pwysig iawn yn y cwestiynau hynny, ac yn sicr, credaf mai un o'r pethau rwyf wedi'u gwneud ers imi fod â'r portffolio yw ceisio annog proseswyr i ddod i Gymru i ddangos ein bod yn wirioneddol awyddus i'w denu yma. Yn sicr, llaeth—roedd hwnnw'n faes lle roeddem yn gweld llaeth yn mynd dros y ffin i Loegr mewn ffordd nad oedd yn dda i Gymru yn fy marn i. Felly, rydym wedi gwneud rhywfaint o waith pwysig iawn, yn gweithio gyda'r prif broseswyr i sicrhau eu bod yn aros yng Nghymru.

O ran caffael cyhoeddus, credaf fod hwn yn gyfle enfawr yn awr inni sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio llawer mwy o fwyd a diod o Gymru. Ni chredaf y byddwn yn gallu cynnal ein hunain gyda faint o fwyd rydym yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd, ond rwy'n wirioneddol awyddus i wneud popeth a allaf i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o hynny. Cyfarfûm â sefydliad dros y toriad a oedd yn dweud wrthyf eu bod yn gweithio gyda’r sector amaethyddol i edrych ar fwyd yn y dyfodol, felly bwyd nad oedd ffermwyr efallai wedi meddwl y gallent ei dyfu ar hyn o bryd. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd.

Bridio Cŵn

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i reoleiddio bridio cŵn yng Nghymru? OQ56814

Diolch. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn rheoleiddio bridio cŵn yng Nghymru. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gwahardd gwerthiant masnachol cŵn bach gan drydydd parti o safle trwyddedig. Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu prosiect awdurdod lleol tair blynedd i wella cysondeb a gorfodaeth y rheoliadau cyfredol.

Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r rheolau newydd, a elwir yn anffurfiol yn gyfraith Lucy, a ddaeth i rym ddydd Gwener diwethaf, mewn perthynas â bridio cŵn a chathod bach yng Nghymru, ac rwy'n talu teyrnged i’r nifer fawr o sefydliadau, unigolion, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, a llawer ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu dros y gwelliannau a'r newidiadau hyn. Er bod y rheolau hyn yn cyrraedd ein llyfrau statud ryw 18 mis ar ôl ein cymdogion, rwy'n siŵr y byddant yn offeryn gwerthfawr yn y frwydr i ddileu ffermydd cŵn bach yn y dyfodol. Weinidog, gydag awdurdodau lleol yn cael eu grymuso gyda'r offer newydd hyn, pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd awdurdodau lleol yn ystyried hyn yn faich ariannol ychwanegol? A pha ystyriaeth a roddwyd i ddarparu pwerau ffurfiol i arolygwyr yr RSPCA o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006?

Wel, er gwybodaeth, er ein bod yn hwyrach na Lloegr mewn perthynas â hyn, aethom y tu hwnt i gyfraith Lucy. Dyna pam nad yw'n cael ei galw'n gyfraith Lucy; aethom y tu hwnt i hynny, ac mae ein cyfraith ni'n gryfach o lawer. Byddwch wedi clywed fy ateb i Vikki Howells—credaf mai cwestiwn 1 ydoedd—ynglŷn â sut y buom yn gweithio. Nid ydym wedi bod yn eistedd yn ôl ac yn aros i'r rheoliadau hyn ddod i rym; rydym wedi bod yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. Gwnaethom ariannu'r prosiect tair blynedd, sy'n dal i fynd rhagddo, ac sy'n gwella'r hyfforddiant a'r arweiniad i arolygwyr, ac mae'n sicr yn gwella adnoddau o fewn awdurdodau lleol. Ni chredaf fod unrhyw un ohonynt wedi meddwl y byddai'n arwain at fwy o gost. Rydym yn parhau i weithio gyda'r prosiect gorfodi, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn edrych ar sut rydym yn sefydlu cronfa ddata fel y gall y cyhoedd gael mynediad at y rheolau trwyddedu a'r bridwyr y gallant fynd atynt, a darparu gwybodaeth, fel y dywedaf, i brynwyr. Rwy'n deall iddynt agor proses dendro yn gynharach eleni, ac mae'r tendrau hynny'n cael eu prosesu ar hyn o bryd. Ond credaf y byddai cronfa ddata o'r safon honno'n dda iawn wrth symud ymlaen.

Mae'n galonogol gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo i ddod â'r arfer ffiaidd o docio clustiau cŵn i ben. Mae cysylltiad rhwng tocio clustiau â bridwyr didrwydded, yn enwedig gyda chŵn fel y bwli Americanaidd, ac mae canolfannau achub lleol, fel Hope Rescue yn Llanharan, yn derbyn llu o adroddiadau am docio clustiau cŵn ac mae ganddynt bryderon ynghylch adnoddau cyfredol i ymchwilio i gwynion, yn enwedig pan fyddant hefyd yn gysylltiedig â bridio didrwydded. Er enghraifft, cymerodd saith mis i ddod ag un bridiwr gerbron llys, a dywedir wrthyf fod un awdurdod lleol wedi cael gwybod yn ddiweddar am 30 o fridwyr didrwydded a chanddynt gŵn â'u clustiau wedi'u tocio. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog, fel fi, yn dymuno gweld arferion o’r fath yn hen hanes yma yng Nghymru, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch adnoddau a nodir gan ganolfannau achub ledled Cymru, yn enwedig mewn perthynas â thocio clustiau.

14:50

Unwaith eto, nid wyf wedi clywed am y cynnydd y cyfeiriwch ato mewn ymchwiliadau i docio clustiau cŵn, ond os oes gennych rai enghreifftiau penodol, byddwn yn falch iawn pe baech yn ysgrifennu ataf fel y gallaf fynd i'r afael â'r mater gyda'r prif swyddog milfeddygol a gofyn iddi ei archwilio. Credaf ei bod yn deg dweud bod llawer o'r ddeddfwriaeth, nad yw wedi'i datganoli—mae rhywfaint ohoni wedi; a rhywfaint heb—ond yn sicr, nid yw rhywfaint o'r ddeddfwriaeth a gedwir ôl yn addas at y diben, yn enwedig mewn perthynas â'r troseddau cefn gwlad rydym yn eu gweld. Rwyf wedi cael trafodaethau—mae gennym bellach gomisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, ond cyn hynny—gyda rhai o'r timau gwledig mewn perthynas â hyn. Felly, rwyf wedi bod yn sicrhau bod swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas at y diben. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf yn benodol ar y pwynt hwn, os gwelwch yn dda.

Mae gennyf filgi achub. Bob blwyddyn, mae milgwn ifanc ac iach yn cael eu lladd am nad oes ganddynt botensial i ennill, wedi eu hanafu wrth rasio, neu am nad ydynt bellach yn gystadleuol. Mae milgwn rasio'n aml yn cael anafiadau ofnadwy ar y trac, fel ataliad y galon a pharlys llinyn asgwrn y cefn, ac yn torri'u coesau a'u gyddfau. Mae fy nghi fy hun wedi anafu ei wddf yn ddifrifol, er enghraifft, felly gallaf siarad o brofiad. Maent hefyd yn dioddef oddi ar y trac, gan dreulio'r rhan fwyaf o'u hamser un ar ben y llall mewn warws o gytiau. Weinidog, o ystyried lefel y creulondeb i filgwn, rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried gwaharddiad ar rasio milgwn yma yng Nghymru. A allwch wneud datganiad ar eich safbwynt ar wahardd rasio milgwn yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, ac mae'n wych fod gennych gi achub. Yn sicr, pan oeddwn yn y Dogs Trust yr wythnos diwethaf—na, yr wythnos cynt, mae’n ddrwg gennyf—yn hyrwyddo ein gwaharddiad ar werthu gan drydydd parti, roedd sawl milgi yn y ganolfan achub cŵn. Mae'n debyg na ddylwn ddweud hynny wrthych, gan y byddwch yn mynd yno. Cawsom drafodaeth ynghylch y nifer, gan ei bod yn amlwg iawn faint oedd yno. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â milgwn.FootnoteLink

Trwsio Ffyrdd

4. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd am drwsio ffyrdd yng ngogledd Cymru yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd eleni? OQ56817

Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, mae swyddogion trafnidiaeth wedi bod yn trafod gydag awdurdodau lleol ac yn aros am geisiadau am gyllid yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer ymchwiliadau tir a gwaith cynllunio manwl. Mae awdurdodau lleol yn gwbl ymwybodol o'r hyn oedd ei angen, a pho gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn y wybodaeth y gofynnwyd amdani, cyntaf yn y byd y gall ei hystyried.

Diolch am eich ateb. Mae'n siŵr y byddwch wedi dyfalu fy mod am grybwyll y B5605 yn Newbridge ger Wrecsam a gafodd ei hysgubo i ffwrdd, wrth gwrs, gan dirlithriad a achoswyd gan storm Christoph yn ddiweddar. Nid yw'n ffordd gefn wledig, fel y gwyddoch. Mae'n ffordd eithaf pwysig i nifer fawr o gymunedau, nifer fawr o bobl, ac mae'n dod i'r amlwg yn awr y gallai fod yn ddwy, efallai tair blynedd cyn i'r ffordd honno gael ei hatgyweirio, os o gwbl, os oes cyllid ar gael. Nawr, mae'r oedi eisoes wedi arwain at fwy o ymsuddiant ar y safle, a fydd yn y pen draw yn golygu mwy o gost i atgyweirio'r ffordd. Felly, yn eich rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, a gaf fi ofyn pa ymdrechion rydych wedi'u gwneud i sicrhau bod atgyweirio'r ffordd hon yn fwy o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn wir, pa ymdrechion rydych wedi'u gwneud i geisio sicrhau bod cyllid ar gael i atgyweirio'r ffordd cyn gynted â phosibl?

Er nad wyf wedi cael trafodaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, rwyf wedi cael trafodaeth gyda swyddogion yng nghyngor Wrecsam. Ymwelais â'r draphont ddŵr, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, nid yw'r ffordd y cyfeiriwch ati, y mae cyngor Wrecsam yn gyfrifol amdani wrth gwrs, yn bell i ffwrdd. Felly, gwn fod cyfarfod pellach wedi'i gynnal rhwng swyddogion trafnidiaeth a swyddogion yng nghyngor Wrecsam. Fel y dywedaf, rydym yn aros am gais am arian ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar gyfer ymchwiliad tir a'r gwaith cynllunio. Bydd hynny, felly, yn amlwg yn llywio unrhyw gais a wneir gan y cyngor yn y dyfodol am gyllid ar gyfer y gwaith adeiladu sy'n angenrheidiol. Gwn fod cyngor Wrecsam wedi cyflwyno cais am gyllid i wneud atgyweiriadau brys i'r seilwaith rheoli perygl llifogydd. Ond nid yw'r cyllid hwnnw—yn amlwg, roedd yn arfer bod yn rhan o'm portffolio—ond ar gael pan yw'n gweithredu'n unol â'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr ac yn unol â'r polisi a nodir yn y strategaeth genedlaethol ar gyfer y seilwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a'r memorandwm grant. Felly, roedd eu cais yn aflwyddiannus gan na fyddai unrhyw waith atgyweirio yn lleihau'r perygl o lifogydd, sef y rheswm, yn amlwg, pam fod y cyllid yn cael ei roi. Felly, rwy'n derbyn bod hyn yn rhwystredig iawn, ond mater i'r cyngor yn awr yw sicrhau eu bod yn darparu'r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdani. Felly, byddaf yn parhau i bwyso am hyn. Yn amlwg, mae'n fater o frys, ond mae arnaf ofn mai'r cyngor sydd i gymryd y cam nesaf.

14:55

Prynhawn da, Weinidog. Cafodd llifogydd a achoswyd gan storm y gaeaf diwethaf—storm Christoph—effaith ddinistriol ar gymunedau yn Nyffryn Clwyd, yn enwedig gyda difa pont hanesyddol Llanerch, rhwng Trefnant a Thremeirchion, gan i hynny ynysu'r cymunedau hyn oherwydd eu bod yn wledig. Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn nodi y bydd y gwaith i ailadeiladu'r bont yn cychwyn yn haf 2023. Nid yw hyn yn dderbyniol yn fy marn i, nac ym marn dros 300 o fy etholwyr a lofnododd ddeiseb ar-lein yn ddiweddar i alw am ddatrysiad cyflym. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y dylid ailadeiladu'r bont hanesyddol yn gynt ac a wnewch chi weithio gyda'r awdurdod lleol i gyflymu'r gwaith o ailadeiladu pont Llanerch? Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg, yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, unwaith eto, ni chodwyd hyn yn uniongyrchol gyda mi, ond rwy'n siŵr ei fod wedi'i godi—nid wyf hyd yn oed yn siŵr nad ydych chi wedi ei godi—gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond byddaf yn sicr yn gofyn ble mae'r cais arni a pha waith a wnaed gyda sefydliadau i gael golwg ar y bont hon yn Llanerch a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.

Rwy'n ymwybodol o gryn dipyn o seilwaith yng ngogledd Cymru sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, gan gynnwys y ddwy enghraifft a grybwyllwyd heddiw, ac nid ydynt wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer cyllid y soniodd y Gweinidog amdanynt yn gynharach. Rwy'n ymwybodol, fel cyn-Aelod y cabinet dros drafnidiaeth fod yna danwariant bob blwyddyn sydd fel arfer yn mynd i'r asiantaeth cefnffyrdd. Y llynedd, rwy'n credu bod tanwariant o £16 miliwn a £20 miliwn cyn hynny—mae'n danwariant go sylweddol sy'n mynd yn ôl, weithiau, i awdurdodau lleol, ond yn bennaf i'r asiantaeth cefnffyrdd, sy'n cael cryn dipyn o gyllid y gwn amdano bob blwyddyn. A chyda'r oedi ar adeiladu ffyrdd newydd hefyd, a ellid ailddyrannu'r arian hwnnw i helpu gyda seilwaith sydd wedi'i ddifrodi gan lifogydd, rhywbeth a fyddai o gymorth mawr i awdurdodau lleol sy'n brin iawn o arian yng ngogledd Cymru? Dyna'r cwestiwn i chi, diolch.

Diolch. Fel y dywedais, y Gweinidog Newid Hinsawdd, neu'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am y gyllideb honno, ac fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'n cynnal adolygiad o ffyrdd. Yn bersonol, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw danwariant, ac yn amlwg, nid oes llawer o'r flwyddyn ariannol hon wedi bod eto. Ond yn amlwg, gallai fod yn syniad da pe baech yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r pwynt penodol hwnnw am ei gyllideb.

Dwyn Anifeiliaid Anwes

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dwyn anifeiliaid anwes ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56815

Diolch. Mae dwyn anifeiliaid anwes yn weithred droseddol. Mae'n fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Dwyn 1968. Yn ddiweddar, cyhoeddodd DEFRA adroddiad ac argymhellion y tasglu dwyn anifeiliaid anwes. Bydd fy swyddogion yn parhau i drafod cyfreithiau troseddol newydd arfaethedig Llywodraeth y DU a sut y gallwn gydweithio i fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn, ynghyd â chyhoeddi negeseuon cryf ar berchnogaeth gyfrifol.

Diolch, Weinidog. Rwyf innau, fel Natasha Asghar, yn dymuno codi mater dwyn anifeiliaid anwes gyda'r Gweinidog, ac yn enwedig dwyn cŵn, gan inni weld cynnydd sydyn yn y galw am gŵn bach yn ystod y pandemig, sydd wedi'i gysylltu â'r cynnydd diweddar mewn achosion o ddwyn cŵn, wrth i gŵn, yn anffodus, ddod yn darged mwyfwy proffidiol i ladron. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, cafodd 59 o gŵn eu hachub mewn ymgyrch ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill eleni. Credwyd bod nifer o'r cŵn hyn wedi cael eu dwyn, a hynny'n ychwanegol at chwe chi wedi'u dwyn a achubwyd gan yr heddlu yn Llansawel ym mis Ionawr. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi yn eich ateb yn flaenorol am gydweithredu â DEFRA, ond a allwch ddweud wrth berchnogion pryderus yn fy rhanbarth pryd y gallwn ddisgwyl y bydd camau'n cael eu cymryd ar y mater hwn yma yng Nghymru? A allwch ddarparu amserlen, a sut, yn benodol, y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r heddlu a rhanddeiliaid eraill, fel RSPCA Cymru, i fynd i'r afael â'r mater hwn?

15:00

Wel, rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, yn amlwg. Fel y dywedais, mae'n weithred droseddol. Nid yw'n wahanol i ddwyn car. Mae'n llawer mwy emosiynol, ac rwy'n llwyr ddeall hynny. Fel y dywedais, credaf fod pobl yn ofni'n fawr am ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y lladradau, yn enwedig cŵn—cŵn bach a chŵn—yn ystod y pandemig, pan oedd galw cynyddol amdanynt.

Ceir rhai argymhellion allweddol yng ngwaith DEFRA, a chredaf y gallwn yn sicr geisio gweithredu arnynt. Er enghraifft, sut rydym yn gwella'r gwaith o gadw cofnod o gŵn fel anifeiliaid anwes, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n debyg nad oes gennym hynny yn y ffordd—. Un o'r rhesymau dros gael y gronfa ddata ar gyfer bridwyr oedd ceisio gweld a allem wella hynny i gael rhyw fath o gofrestr o berchnogion anifeiliaid anwes, er enghraifft. Ar hyn o bryd, mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn trin anifeiliaid anwes fel eiddo'n unig. Dyna pam y bu imi gymharu hyn â cheir. Felly, credaf fod mwy y gallwn ei wneud ar hynny.

Mae angen i herwgydio anifeiliaid anwes fod yn drosedd benodol, yn hytrach na dim ond eich bod yn dwyn rhywbeth. Mae'n drosedd benodol. Felly, credaf fod hwnnw'n faes arall y gallwn edrych arno. Ond rydym yn gweithio'n agos ar hyn o bryd ar y tasglu hwn. Nid oes gennyf linell amser gyflawn y gallaf ei rhoi i chi, ond gallaf eich sicrhau ei bod yn flaenoriaeth.

Gwyddom fod cynnydd wedi bod mewn dwyn cŵn, er enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu am y wybodaeth i berchnogion anifeiliaid anwes newydd am y camau y gallent eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes?

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol yn y ffordd a nodwyd gennych. Rwyf wedi amlinellu'r gwaith rydym yn ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod ffocws ar hyn, oherwydd rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn dwyn anifeiliaid anwes. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod perchnogion hefyd yn rhoi camau ar waith i sicrhau eu diogelwch. Rydym yn sicr wedi gweld achosion ofnadwy, a chredaf fod Sioned Williams newydd dynnu sylw at achos pwysig yn ei rhanbarth. Ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol.

Parc Busnes Bryn Cegin

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gyfrifoldeb cyfredol Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu parc busnes Bryn Cegin, Bangor? OQ56823

Diolch. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau gweinidogol penodol ynghylch Parc Bryn Cegin. Awgrymodd pennawd diweddar gan y BBC yn gamarweiniol fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthu'r parc busnes heb ei ddatblygu. Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu dau blot, ac mae nifer o ymholiadau pellach ar y gweill.

Wel, diolch yn fawr iawn am hynny, achos yn y wasg mi wnes i hefyd ddarllen bod yna fwriad gan y Llywodraeth i werthu'r parc, neu rannau o'r parc. Mae'n dda cael eich cadarnhad chi heddiw mae sôn am ddau blot ydym ni, ac nid y cyfan o'r parc, felly. Ond, mae hi'n sgandal, onid ydy, nad oes yna'r un swydd wedi cael ei chreu yn y parc yma ar ôl bron 20 mlynedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a gaf i ofyn i chi, fel Gweinidog y gogledd, beth ydy'r cynllun hir dymor ar gyfer y parc yma? Ac ydy'r gwerthu'r plotiau yma yn newyddion da, neu a ydy o'n arwydd bod y Llywodraeth wedi rhoi'r ffidil yn y to yn llwyr o ran denu gwaith i'r safle pwysig yma?

Na, dim o gwbl. Mae'r safle wedi'i nodi fel cyfle datblygu posibl yn rhan o fargen twf gogledd Cymru, er enghraifft. Gwn fod swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru i barhau i archwilio cyfleoedd buddsoddi a swyddi ar y safle. Gwelwyd llawer mwy o ddiddordeb yn y farchnad yn ddiweddar, a gwn fod yna nifer o ymholiadau, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Chyngor Gwynedd i weld beth y gallwn barhau i'w wneud i ddenu busnesau i'r safle.

Ffermio Âr a Da Byw

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio âr a da byw cymysg ar raddfa fach a chanolig sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd yng nghymoedd de Cymru? OQ56801

15:05

Diolch. Rwy'n bwriadu creu system newydd o gymorth i ffermydd, sy'n gwneud y mwyaf o bŵer amddiffynnol natur drwy ffermio. Bydd hwn ar gael i bob math o ffermydd yng Nghymru, i wobrwyo ein ffermwyr gweithgar sy'n rhoi camau ar waith i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, gan eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac mae 'ffermwyr gweithgar' yn allweddol i'r ateb hwnnw. Mae fferm Cwm Rhisga, fferm rwy'n ei hadnabod yn dda iawn—rwyf wedi ymweld â hwy droeon, yn fwyaf diweddar yn ystod yr wythnosau diwethaf—yn fenter deuluol glasurol o faint bach i ganolig. Mae wedi arallgyfeirio. Mae wedi ennill gwobrau hefyd. Mae'n fferm gymysg âr a da byw. Mae'n gwneud y peth iawn i'w chaeau, mae'n gwneud y peth iawn i'r gymuned, i'r amgylchedd—dyma'r math o ffermio sy'n cefnogi'r gymuned a diwylliant lleol hefyd. Dyma'r math o ffermio y dylem fod yn ei gefnogi yng Nghymru, ac mae'n groes i'r math o ffermio amaeth-ddiwydiannol hapfasnachol gan landlordiaid absennol a welwn mewn mannau eraill.

Felly, yn y cyfnod ansicr hwn, Weinidog, gyda newidiadau mewn cyllid, ac aros i gyllid gan Lywodraeth y DU gael ei gadarnhau ar ôl Brexit hefyd, mae ein targedau bioamrywiaeth a'n targedau newid hinsawdd yn ymestyn hefyd, sut y gallwn roi sicrwydd mai'r math hwn o ffermio yw'r math o ffermio y byddwn yn ei weld yn hirdymor, ar gyfer bwyd cynaliadwy, amgylchedd cynaliadwy a chymunedau cynaliadwy yng Nghymru? Ac a wnaiff hi ymweld â Chwm Rhisga ryw dro, oherwydd gwn y byddai'r croeso'n dda, y drafodaeth yn wych, a'r gacen a'r te yn dda hefyd?

Mae'r gacen a'r te bob amser yn dda ar ymweliadau fferm yn ôl yr hyn a welais, ac yn sicr byddwn yn hapus iawn i ymweld, os hoffent fy ngwahodd, Huw.

Mae ffermydd bach a chanolig yn chwarae rhan gwbl sylfaenol yng ngallu cynifer o'n cymunedau gwledig i oroesi, a dyna pam y mae'n rhaid eu diogelu. Fel y dywedwch, mae wedi bod yn gyfnod ansicr iawn, ac mae'n parhau i fod felly i'n sector amaethyddol, yn sicr yn sgil gadael yr UE yn bennaf, rwy'n credu.

Yr wythnos nesaf, byddaf yn gwneud datganiad ar y camau nesaf mewn perthynas â'n cynllun ffermio cynaliadwy. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddadansoddiadau i archwilio effeithiau posibl ein cynigion, gan ein helpu felly i lunio ein cynllun i ddarparu'r cyfleoedd hynny i ffermydd ledled Cymru. Mae'n rhaid i'r cynllun yn y dyfodol weithio i ffermwyr. Mae'n rhaid iddo weithio i bob fferm—bach, canolig a mawr—fel y gallant ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, oherwydd maent yn gweld eu hunain yn rhan o'r ateb i'r anawsterau a wynebwn.

Byddwn yn cael cyfnod pellach o gyd-gynllunio gyda'r diwydiant. Credaf ei bod yn deg dweud bod pandemig COVID-19 yn sicr wedi effeithio ar ein cyd-gynllunio—nid ydym mor bell ymlaen ag y byddem wedi hoffi bod. Felly, rydym wedi cynyddu'r gwaith cyd-gynllunio hwnnw dros y misoedd diwethaf i sicrhau ein bod yn llunio ein cynigion yn y ffordd gywir. Rydym wedi cael ymateb gwych gan y sector amaethyddol i gam cyntaf y gwaith, ac unwaith eto, hoffwn annog unrhyw ffermwr i gymryd rhan yn y cam nesaf.

Ffermwyr yn Sir Benfro

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OQ56808

Derbyniodd ffermwyr yn sir Benfro dros £17 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor hanfodol. Fel y clywsoch o'r blaen, roeddwn yn falch iawn o fynychu sioe sir Benfro fis diwethaf, a mwynheais yn fawr allu cyfarfod â'r gymuned ffermio yn sir Benfro unwaith eto.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi mwynhau sioe sir Benfro ychydig wythnosau'n ôl. Nawr, fel y clywsom eisoes ar lawr y Siambr hon heddiw, mae TB mewn gwartheg yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i ffermwyr yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr yn sir Benfro, ac er gwaethaf eu hymdrechion i'w ddileu drwy fesurau'n seiliedig ar wartheg, mae'n parhau i roi straen emosiynol ac ariannol enfawr ar deuluoedd ffermio. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r straen emosiynol ac ariannol ar ffermwyr a achosir gan TB buchol? Ac a wnewch chi ymrwymo o'r diwedd i edrych ar y mater hwn yn gyfannol, gan gynnwys ymdrin â'r clefyd mewn bywyd gwyllt, pan fyddwch yn cyflwyno eich diweddariad o'r strategaeth TB mewn gwartheg yn ddiweddarach eleni, fel y gallwn atal TB buchol rhag gwneud niwed na ellir mo'i wella i amaethyddiaeth ac i'n cymunedau gwledig?

Rydym bob amser wedi edrych ar y clefyd hwn yn gyfannol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr. Mae'n glefyd ofnadwy ac nid wyf yn bychanu'r effaith emosiynol y mae'n ei chael. Ac fel y dywedwch, mae'n cael effaith ariannol, wrth gwrs, ac rwyf wedi siarad â nifer o ffermwyr ar ymweliadau dros yr haf ynghylch y clefyd ofnadwy hwn. Fel rydych newydd nodi, byddaf yn gwneud datganiad pellach ar gam nesaf diweddaru'r rhaglen ddileu ym mis Tachwedd. Mae'n dda gweld bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion newydd yn ystod y cyfnod diweddaraf o 12 mis, a byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i weithio gyda'r sector, i geisio dileu'r clefyd ofnadwy hwn cyn gynted â phosibl. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud am y trafodaethau a gefais gyda Glyn Hewinson, ac wrth gwrs, un elfen yn unig yw'r brechiad, ac yn anffodus, mae'n dal i fod tua phedair blynedd i ffwrdd. Ond fe fyddwch yn gwybod am y cynlluniau gweithredu pwrpasol a fu gennym gyda'r buchesi ag achosion hirdymor o TB, ac rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd yno hefyd.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiynau amserol, ond does yna ddim cwestiynau amserol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma gan Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod blynyddol Cefnogi Ffermwyr Prydain Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sy'n gyfle gwych i gydnabod, cefnogi a diolch i'n ffermwyr gweithgar o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ffermio yng Nghymru yw conglfaen diwydiant y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac mae'n cyflogi dros 229,500 o weithwyr ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i economi Cymru. O gaws byd-enwog Eryri i datws cynnar sir Benfro sydd wedi'u codi â llaw ac wedi ennill gwobrau lluosog, mae ein ffermwyr yn gweithio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i ddarparu cynnyrch rhagorol i'r miliynau o deuluoedd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Yn wir, Lywydd, diwrnod Cefnogi Ffermwyr Prydain yw'r cyfle perffaith i bob un ohonom ystyried cyfraniad y diwydiant drwy gydol y pandemig a thu hwnt. Yn ystod y pandemig hwn, fe ddaliodd ein ffermwyr ati i ofalu am y tir er mwyn sicrhau bod bwyd ar gael drwy'r amser. Wrth inni barhau i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ein ffermwyr, fel ceidwaid naturiol ein hamgylchedd, sy'n arwain y ffordd gyda'u safonau lles anifeiliaid a'u safonau amgylcheddol eithriadol. Felly, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i fanteisio ar y cyfle i ddweud 'diolch' wrth ein ffermwyr i gydnabod eu hymrwymiad a'u cyfraniad. Diolch.

Diolch yn fawr, Lywydd. Dydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. I lawer ohonom, mae'r diwrnod hwn yn un heriol ond mae'n un sy'n llawn o benderfyniad a gobaith hefyd—gobaith y gallwn, gyda'n gilydd, godi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut y gallwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw drwy hunanladdiad. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn 2018 yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, fod dros 6,800 o bobl wedi marw drwy hunanladdiad, ac rwyf am fod yn glir, Lywydd, fod pob bywyd a gollir i hunanladdiad yn drasiedi. Gallwn greu byd mwy diogel drwy godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd eisoes ar gael, ac ymgyrchu dros well cymorth, mwy o gymorth i fod ar gael a chymorth sy'n haws cael gafael ynddo. Ond rhaid imi ddweud, Lywydd, mae'n fy mhoeni bod stigma sylweddol o hyd ynglŷn â pheidio â theimlo'n iawn. Ac nid oes gennyf gywilydd o gwbl, wrth sefyll yn y Siambr hon heddiw, i ddweud, weithiau, nad wyf bob amser yn teimlo'n iawn. Felly, Lywydd, ac Aelodau yn y Siambr, fel arfer rydych chi'n deall, ac rydym ni'n deall, pan fyddwn yn sefyll yn y Siambr hon, ein bod yn galw am rywbeth gan y Llywodraeth. Ond heddiw, rwy'n galw'n syml arnoch chi i gyd—galw am ffafr, os caf ei roi felly: holwch eich ffrindiau, holwch eich cydweithwyr a gofynnwch iddynt, 'A ydych chi'n teimlo'n iawn?' Gwnewch eu hatgoffa ei bod hi'n iawn i beidio â theimlo'n iawn, ac yn bwysig, byddwch yno iddynt pan fyddant eich angen. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

Ar 12 Medi 1981, fe ffurfiwyd CND Cymru mewn cynhadledd yn y Drenewydd. Ond, er ein bod yn dathlu’r garreg filltir bwysig hon, mae hyn yn chwerw-felys. Wedi'r cyfan, sefydlwyd y mudiad yn benodol i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear, a chydag arfau niwclear yn dal yn bresennol ledled y byd, mae'n destun tristwch i nifer bod rhaid i'r mudiad barhau i fodoli a pharhau i ymgyrchu. Dim ond pan fydd y taflegryn olaf un wedi ei ddadgomisiynu a'r byd yn rhydd o arfau dinistr torfol y gallwn ddathlu. Mae'r gwaith felly yn parhau, a hoffwn ddiolch heddiw i'r holl unigolion hynny yn ein cymunedau sydd wedi bod yn rhan o hanes y mudiad. Diolch iddynt hwy y llofnodwyd datganiad y Gymru ddi-niwclear yn Chwefror 1982, gan olygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan ei bod yn barth di-niwclear. A diolch iddyn nhw, mae CND Cymru wedi bod yn gweithredu fel partner yr ymgyrch ryngwladol i ddiddymu arfau niwclear. Gofynnodd llywydd CND Cymru, Jill Evans, inni ymuno â'r dathlu drwy ailddatgan ein hamcan i gael gwared ag arfau niwclear. Yng ngeiriau Jill, 'Mae arfau niwclear yn rhy beryglus ac yn rhy ddrud. Maent yn anfoesol ac yn anghyfreithlon. Byddai cael gwared ag arfau niwclear yn gosod cyfeiriad newydd, diogel a gwell i Gymru a'r byd.' Clywch, clywch.

15:15

Diolch, Llywydd. Mae cymuned cwm Tawe—y gymuned lle dwi'n byw a'r gymuned dwi'n ei chynrychioli—a Chymru gyfan yn cofio heddiw am drychineb pwll glo'r Gleision, a hithau'n 10 mlynedd yn union ers y drychineb. Ar 15 Medi 2011, lladdwyd pedwar glöwr lleol, sef Charles Breslin, David Powell, Phillip Hill a Garry Jenkins, ym mhwll y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe, pan lifodd dŵr i'r pwll glo. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yma yn meddwl am y teuluoedd heddiw. Mae galar yn broses hynod o anodd ynddo'i hun o dan unrhyw amgylchiadau, ond, yn yr achos yma, mae'r teuluoedd yn gorfod wynebu poen ychwanegol am na chynhaliwyd cwest llawn. Mae dal angen ateb cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd, a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol am beryglon sy'n dal i fodoli, yn anffodus, yn y diwydiant glo. Hoffwn gefnogi eu galwad am gwest i'r marwolaethau. 

Effeithiodd y drychineb yn fawr ar gymunedau cwm Tawe, ac fe fydd dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal heddiw i gynnal y cof am y pedwar a gollwyd. Bydd dram coffa arbennig yn cael ei ddadorchuddio gan Gyngor Cymuned Cilybebyll ym mharc Rhos, sef y man ble daeth y teuluoedd i aros am y newyddion 10 mlynedd yn union yn ôl i heddiw, ac am 18:00 bydd Cyngor Cymuned Ystalyfera yn dadorchuddio mainc goffa. 

Mae pris glo wedi bod yn rhy uchel yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod popeth yn cael ei wneud fel nad oes rhagor o deuluoedd fel rhai glowyr y Gleision yn talu'r pris ofnadwy ac annerbyniol hwn. Cofiwn amdanynt heddiw.

Byddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer i wneud ambell newid yn y Siambr, Felly, yr egwyl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:17.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:32, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Croeso nôl, a'r eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, mynediad at ddiffibrilwyr. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7771 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser agor y ddadl hon yn enw Darren Millar ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r cynnig hwn heddiw yn rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn denu cefnogaeth drawsbleidiol enfawr. Cyfradd goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ac un o'r cyfraddau isaf yn Ewrop. Mae hyn yn rhywbeth y dylai pob un ohonom yn y Siambr hon wneud popeth yn ein gallu i'w wella yng Nghymru. Pa ffordd well o fynd ati ar ôl Diwrnod Cymorth Cyntaf y Byd, a ddigwyddodd dros y penwythnos, ac i nodi ymgyrch Achub Bywydau ym Mis Medi, na thrwy gefnogi'r cynnig hwn sydd ger ein bron? Mae tua 30,000 o bobl ledled y DU yn dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn, a chyn y pandemig dim ond un o bob 10 o bobl oedd yn goroesi. A bellach, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn amcangyfrif mai un o bob 20 o bobl sy'n goroesi o ganlyniad i'r pandemig.

Mae diffibrilwyr yn chwarae rhan enfawr yn achub bywyd rhywun pan fyddant yn dioddef ataliad y galon. Os caiff ei ddefnyddio o fewn pum munud i ataliad y galon, gall godi cyfraddau goroesi o 6 y cant i 74 y cant. Heb driniaeth ar unwaith, bydd y mwyafrif llethol o ddioddefwyr ataliad sydyn ar y galon yn marw, a dyna pam y mae cael diffibrilwyr wrth law mor bwysig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Calon Hearts am ddarparu diffibrilwyr yn fy nhref i, sef Prestatyn, ac yng Nghlwb Rygbi Dinbych. Bydd y peiriannau hanfodol hyn yn sicr o achub bywydau fy etholwyr, ond mae arnom angen cymaint mwy ohonynt. Er bod elusennau fel Calon Hearts, Sefydliad Prydeinig y Galon, yn ogystal â chlybiau rotari ar hyd a lled y wlad yn gwneud yr hyn a allant, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy. 

Mae'n rhaid iddynt sicrhau bod diffibrilwyr ym mhob cymuned yng Nghymru a llu o bobl wedi'u hyfforddi mewn CPR. Heb y ddau gysylltiad hanfodol hyn yn y gadwyn oroesi, mae llawer gormod o bobl yn marw o ataliad y galon. Rydym i gyd wedi gweld y straeon dros yr wythnosau diwethaf am berfformiad ein gwasanaeth ambiwlans. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael ei gorweithio a'i llethu. Yn fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dim ond hanner yr holl alwadau 999 coch yr ymatebir iddynt o fewn y targed o wyth munud. Mae ein cynnig yn nodi bod y gobaith o oroesi ataliad y galon yn gostwng 10 y cant bob munud. Nid yw'n syndod mai cyfradd goroesi ataliad y galon yng Nghymru yw'r isaf yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Ychydig dros 4.5 y cant o bobl sy'n goroesi ataliad y galon yng Nghymru. Dros y ffin yn Lloegr, mae dwywaith cymaint o bobl yn goroesi, yn ystadegol.

Gyda llai a llai o alwadau 999 yn cyrraedd y targed ar gyfer galwadau coch, rhaid inni sicrhau bod gan bobl yn y gymuned offer a sgiliau i ymateb. Mae'n cymryd cyn lleied â 30 munud i hyfforddi rhywun mewn CPR, a gellir defnyddio diffibriliwr heb unrhyw hyfforddiant o gwbl. Gall unrhyw un ddefnyddio cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig modern, y math o offer sy'n cael ei ddarparu gan elusennau Cymru. Maent yn cyfarwyddo'r defnyddiwr ar sut i weithredu'r peiriant ac achub bywyd rhywun.

Mae ychydig dros dri mis ers i Christian Eriksen, capten tîm pêl-droed cenedlaethol Denmarc, ddisgyn yn ystod gêm Ewro 2020 yn erbyn y Ffindir. Ac efallai y bydd cefnogwyr pêl-droed hŷn yn cofio Marc-Vivien Foé yn ôl yn 2003, rwy'n meddwl: chwaraeai dros Manchester City; ni wnaeth oroesi, gwaetha'r modd, ond fe wnaeth Christian Eriksen, yn ffodus. Wrth i bobl ledled y byd wylio'r tîm meddygol rhyfeddol yn ymyrryd i achub bywyd Eriksen, daeth yn amlwg fod y seren bêl-droed wedi dioddef ataliad y galon. Diolch byth, gweithredodd y tîm meddygol yn gyflym i gyflawni CPR arno a defnyddio diffibriliwr i achub ei fywyd. Ond yn anffodus, nid yw pawb mor lwcus â Christian Eriksen, fel y gwelsom yr holl flynyddoedd yn ôl gyda Marc-Vivien Foé. Bu farw Maqsood Anwar hefyd yn 44 oed ar ôl dioddef trawiad ar y galon, yn ôl pob tebyg, wrth chwarae criced ym Mro Morgannwg yn gynharach yn yr haf, ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach, bu farw Alex Evans, 31 oed, ar ôl cael ataliad y galon wrth chwarae rygbi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Yn ôl y Cyngor Dadebru, mae angen i'r cyhoedd fod o fewn 200m i ddiffibriliwr. O ystyried eu heffaith ar achub bywydau, mae'n hanfodol bwysig fod gennym ddiffibrilwyr wedi'u gosod mewn cynifer o fannau cyhoeddus hygyrch â phosibl ledled Cymru. Ar hyn o bryd ychydig dros 4,000 o ddiffibrilwyr allanol a geir yng Nghymru, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig am ei newid yn gyflym. Ond ni allwn ddibynnu ar elusennau i ddarparu'r darnau hanfodol hyn o offer achub bywyd—mae'r gost yn rhy uchel. Gall pob peiriant gostio tua £1,500, yn enwedig y peiriannau sy'n ddigon cadarn i'w gosod mewn lleoliadau cymunedol. Y Llywodraeth sy'n methu darparu digon o yswiriant brys, felly y Llywodraeth a ddylai ariannu cost yr hyfforddiant a'r offer i ddarparu gofal cardiaidd brys yn y gymuned.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2019, dywedodd dros 55 y cant o'r bobl a holwyd nad oeddent yn gwybod ble'r oedd y diffibriliwr agosaf. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, maent o'r diwedd wedi cyflwyno cyllid ar gyfer Achub Bywydau Cymru. Mae'r cyllid hwn yn helpu i ddatblygu rhaglen i addysgu pobl ar sut i helpu rhywun sy'n dioddef ataliad y galon, a hefyd i helpu pobl i fod yn hyderus wrth ddefnyddio diffibriliwr. Er bod croeso i'r cyllid a'r cynllun hwn, mae angen inni wneud mwy. Mae pobl Cymru yn haeddu cael diffibriliwr ym mhob neuadd gymunedol, maes chwaraeon a hyd yn oed mewn siopau annibynnol, fel y gallwn leihau nifer y marwolaethau drwy ataliad y galon yng Nghymru.

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw ac i anfon neges glir fod Cymru'n gweithredu yn ystod ymgyrch Achub Bywydau ym Mis Medi. Diolch yn fawr iawn.

15:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le:

4. Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig yma heddiw. Dydy hwn ddim yn fater pleidiol wleidyddol, yn amlwg. Dwi wedi gweithio ar ddatganiadau ar y cyd efo Aelodau Llafur a Cheidwadol yn y gorffennol ar yr union fater yma, ac mae'r hyn sydd o'n blaenau ni yn rhywbeth sy'n synhwyrol ac yn gofyn am gamau digon sylfaenol ac ymarferol er mwyn achub bywydau ar draws Cymru. Mae o'n rhywbeth dwi wedi bod yn rhan ohono fo fy hun. Mae o'n berthnasol i ni i gyd.

Tra bo'r rhan fwyaf o achosion o cardiac arrest yn digwydd o fewn y cartref, mae yna gyfran sylweddol ohonyn nhw yn digwydd y tu allan i'r cartref. Ac rydyn ni'n gwybod mor allweddol ydy argaeledd y peiriannau defibrillator er mwyn rhoi cyfle i rywun allu goroesi digwyddiad fel hyn. Mae un o'n plith ni wedi cael y profiad hwnnw yn lled ddiweddar, ond mae o'n digwydd yn ddyddiol. Mae yna lefydd yn benodol lle rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n wirioneddol bwysig cael peiriannau oherwydd bod astudiaethau rhyngwladol yn dangos inni fod rhywun yn fwy tebyg o gael cardiac arrest mewn hybs trafnidiaeth, mewn canolfannau siopa, mewn canolfannau chwaraeon, mewn llefydd fel cyrsiau golff ac ati. Felly, mi ddylai hi fod yn nod i bob un ohonom ni sicrhau bod yna gefnogaeth wirioneddol, ymarferol ac ariannol gan Lywodraeth i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac mae yna wastad le i'r Llywodraeth wneud mwy.

A dyna pam dydw i ddim eisiau cefnogi, a byddwn ni ddim yn cefnogi'r gwelliant gan y Llywodraeth heddiw. Wrth gwrs bod y Llywodraeth wedi buddsoddi yn y maes yma yn barod, a beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy gwelliant sydd yn nodi hynny. Ond dwi'n meddwl ein bod ni angen gwneud mwy ar ddiwrnod fel hyn na nodi'r camau sydd wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth. Beth sydd eisiau ydy i'r Llywodraeth dderbyn, oes, mae yna fwy y gallwn ni ei wneud, wastad.

Mae yna gymaint mwy, wrth gwrs, sydd angen edrych arno fo na dim ond arian. Mae'r cwestiwn o gofrestr yn un pwysig iawn. Mae yna un gofrestr, The Circuit—y national defibrillator network—lle mae'n bosib nodi lle mae'r holl beiriannau ar draws y Deyrnas Unedig, a dwi'n gwybod bod Sefydliad y Galon yn galw ar Lywodraeth Prydain i annog pobl sydd yn edrych ar ôl eu peiriannau nhw i'w cofrestru nhw. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae codi ymwybyddiaeth wastad yn bwysig. Faint ohonom ni yn fan hyn sydd wedi cael ein dysgu gan y British Heart Foundation ac eraill sut i ddefnyddio defibrillator? Dwi, a'n swyddfa i, wedi agor y drysau i gynnal dosbarthiadau yn y gorffennol, er mwyn i fwy a mwy o bobl gael gwybodaeth ymarferol ar sut i'w defnyddio nhw. Felly, mae angen gwneud llawer mwy eto i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Ond, fel cam cychwynnol heddiw yma, gadewch inni gyd gefnogi'r cynnig yma, a'i gwneud hi'n glir ein bod ni, fel Senedd, yn unedig ar y cwestiwn o bwysigrwydd y peiriannau bach yma sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru.

15:40

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Nid oes llawer o ddyddiau pan fyddaf yn cerdded i mewn heb fod yn meddwl am y pwnc hwn, oherwydd rwy'n gweld fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent yma, sydd wedi siarad yn huawdl am ei brofiad personol—profiad trawmatig, ddywedwn i—ac mae pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i bobl am ddiffibrilwyr yn golygu ei fod yma gyda ni. Ar rai dyddiau pan fydd yn cyfrannu, efallai y byddai'n well gennyf pe bai yn yr ystafell de yn hytrach na'r fan hon—[Chwerthin.]—ond mae'n wych ei weld o gwmpas ac yn cerdded ac yn mwynhau bywyd.

Ac mae'n dda gweld gwên ar wynebau pobl pan fydd hynny'n cael ei ddweud, oherwydd y cyfrannwr arall i'r ddadl hon yn y Cynulliad blaenorol oedd Suzy Davies, a arweiniodd sawl dadl yma ar yr angen, yn y cwricwlwm yn benodol, i gael addysg ar ddiffibrilwyr a'r defnydd o ddiffibrilwyr yn y gymuned, oherwydd nid oes diben eu cael os na allwch eu defnyddio, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â'r pwynt hwnnw hefyd. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth flaenorol wedi newid ei safbwynt ar ôl llawer o lobïo gan Suzy Davies i gael y pwynt pwysig hwn i mewn i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, fel y byddai lle o fewn y cwricwlwm i'r addysg honno gael ei darparu mewn colegau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, oherwydd, unwaith eto, clywn y rhifau, fel y soniodd Gareth yn ei sylwadau agoriadol, a bydd 8,000 o bobl yn cael ataliad y galon yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae ataliad y galon yn lladd mwy o bobl na chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS gyda'i gilydd—gyda'i gilydd. Mae hynny'n werth ei ystyried. Gyda chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS wedi'u cyfuno, mae mwy o bobl yn marw o ataliad y galon yma yng Nghymru. Ond mae yna ateb: gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ar gael yn haws, a gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ym mhob cymuned ar hyd a lled Cymru. Ond pan fyddwn yn sicrhau eu bod ar gael, yr hyn sy'n bwysig yw eu bod ar gael i'w defnyddio 24/7, nid yn unig mewn mannau gwaith cyfyngedig, megis mewn colegau, er enghraifft, lle mae llawer o golegau'n nodi bod ganddynt ddiffibrilwyr, ac mae hynny i'w groesawu, ond nid yw'n llawer o werth iddo fod yn y coleg os yw'r drws wedi'i gloi ac na allwch ei gyrraedd pan fydd ei angen. A dyna pam y mae angen mwy o weithgaredd cymunedol arnom i geisio cael mwy o neuaddau cymunedol, a lleoliadau chwaraeon yn arbennig, i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio'r cyfleusterau hyn. A dyna pam rwyf wedi bod mor falch yn fy rôl—ac nid wyf yn ceisio cael fy ailethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf, felly nid cais i gael fy ethol y flwyddyn nesaf yw hwn; rwy'n datgan buddiant—fy mod wedi cael y pleser o chwarae rhan yn codi arian ar gyfer o leiaf bum diffibriliwr yn ward y Rhws i sicrhau, o'r clwb pêl-droed i safle preswyl Trwyn y Rhws i bentref Llantrithyd, fod diffibrilwyr bellach ar gael i'r cymunedau hynny. A dyna lle mae'n wirioneddol bwysig.

Rwy'n gresynu bod y Llywodraeth wedi dewis dileu'r un pwynt yn y cynnig hwn heddiw a alwai am weithredu ar ran y Llywodraeth i ymgysylltu â grwpiau cymunedol i sicrhau bod arian ar gael ar sail gyson a chynaliadwy i sicrhau y gallwn godi'r niferoedd y soniodd Gareth amdanynt. Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua 4,000 o ddiffibrilwyr ar gael ledled Cymru. Os ydym am gael darpariaeth ystyrlon ar sail genedlaethol, mae'n debyg y bydd angen inni ddyblu'r nifer honno, ac mae hynny'n gofyn llawer. Ond credaf fod y Llywodraeth wedi cymryd cam yn ôl wrth geisio dileu'r pwynt hwn yn y cynnig y prynhawn yma, oherwydd mae'n gynnig cydsyniol ac yn y pen draw mae'n ceisio cyrraedd y ddarpariaeth ddigonol honno'n genedlaethol drwy alw ar y Llywodraeth i sicrhau bod yr adnoddau cenedlaethol hynny ar gael.

Rwy'n derbyn bod gwelliant y Llywodraeth yn sôn am arian sydd ar gael gan y Llywodraeth i wahanol grwpiau cymunedol, ond yn amlwg, mae llawer mwy o waith i'w wneud. Pan edrychwch ar yr ymatebion addysg y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u cael yn ôl, yn enwedig gan awdurdodau addysg lleol, dim ond sir Ddinbych a allai nodi'n union beth oedd gan safleoedd ysgol o ran diffibrilwyr. Cadarnhaodd yr 11 awdurdod lleol arall allan o 12 a ymatebodd i'r cais rhyddid gwybodaeth nad oes cronfa ddata ganolog o fewn yr adran addysg i ddangos ble mewn ysgolion y gallai diffibrilwyr fod ai peidio. Unwaith eto, mae hynny'n ddiffyg yn ein dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud.

Mae llawer o waith i'w wneud, ond rydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Gobeithio y gallwn ganfod consensws gyda'r ddadl hon heddiw, oherwydd fel y gwelsom gyda'r pandemig, yn anffodus roedd yn un o bob 10 cyn y pandemig yn goroesi ataliad y galon yma yng Nghymru, ac mae bellach yn un o bob 20, felly mae'r niferoedd wedi mynd tuag yn ôl. Nid yw hynny'n fai ar neb, oherwydd y pandemig—rwy'n derbyn hynny—ond mae'n pwysleisio'r mynydd sy'n rhaid inni ei ddringo a'r gwaith sy'n rhaid inni ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru gyfan i sicrhau ein bod yn creu mwy o addysg o amgylch y defnydd o ddiffibrilwyr, a mynediad at ddiffibrilwyr, yn bwysig iawn. Rwyf am ailadrodd y llinell honno eto: mae angen iddynt fod ar gael yn rhwydd 24/7. Nid oes unrhyw bwynt ticio blwch yn dweud bod diffibriliwr mewn lleoliad dan glo sydd ddim ar gael am 12 awr o'r dydd, na thros y penwythnos. Oherwydd fel y digwyddodd i Alun, roedd yn digwydd bod mewn parc; yn y pen draw, roedd yn lwcus fod rhywun yn mynd heibio ac yn gallu gwneud yr hyn roedd angen ei wneud i ddod ag ef yn ôl yn fyw. Ond pwy a ŵyr ble y gallai daro un o'r 8,000 o bobl yng Nghymru a fyddai'n cael digwyddiad cardiaidd o'r fath.

Galwaf ar y Llywodraeth i wneud mwy, fel y mae'r wrthblaid bob amser yn ei wneud mewn dadleuon ar brynhawn dydd Mercher. Ond rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth am y gwaith a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf gyda Suzy Davies i sicrhau bod lle yn y cwricwlwm addysg i ganiatáu mwy o ddysgu addysgol fel bod pobl yn gwybod beth i'w wneud os byddant yn wynebu hynny. Mae'r Llywydd yn edrych arnaf yn awr, oherwydd mae'r llinell goch wedi codi, felly ar y nodyn hwnnw, rwyf am orffen. Diolch. 

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, a diolch am y geiriau caredig rydym newydd eu clywed.

O ran ble'r ydym, mae'r araith a wnaed gan Andrew R.T. Davies yn gwbl gywir: mae'n dda ac rydym yn croesawu ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi'i gwblhau, ac rydym yn hynod ddiolchgar am waith unigolion a grwpiau a chymunedau ar hyd a lled y wlad sydd wedi gosod offer achub bywyd mewn cymunedau ledled Cymru. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Gweinidog y prynhawn yma yw na allwch ddibynnu ar elusen i ymateb ar frys pan fydd rhywun yn gorwedd rhwng byw a marw gyda dim ond munudau i'w sbario. Ni allwch ddibynnu ar ewyllys da na dymuniadau gorau ar brynhawn dydd Mercher i ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen. Dim ond Llywodraeth a all gyflawni hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fyfyrio ar brofiad pobl y prynhawn yma—nid yn gymaint profiad pobl fel fi sydd wedi dioddef ataliad y galon ac wedi goroesi, ond y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid am na wnaethant oroesi, a gwyddom fod hynny wedi effeithio ar Aelodau yma yn y Siambr hon.

Gwyddom fod pobl sy'n ymddangos fel pe baent mewn iechyd ardderchog wedi dioddef ataliad y galon heb rybudd, heb symptomau, a heb gyfle i gael cymorth meddygol. Roedd yn frawychus gwylio'r hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen yn yr haf. Yr hyn a ddigwyddodd iddo ef oedd yr hyn y disgrifiwyd ei fod wedi digwydd i mi—dim rhybudd, dim gwybodaeth, ynghanol rhyw weithgarwch corfforol roeddech yn rhagweld, roeddech yn disgwyl, ei oroesi. Fe syrthiodd gydag ataliad y galon yn union yn yr un ffordd ag y gwnes innau. Dim ond cefnogaeth a chymorth pobl yn ein cymuned a fydd yn galluogi'r parafeddygon, y cardiolegwyr a'r llawfeddygon i ddefnyddio eu sgiliau, i ddefnyddio eu gwybodaeth, i ddefnyddio eu profiad i sicrhau y gall pobl fwrw ymlaen â'u bywydau. Yn sicr, mae'r driniaeth a gefais yma yng Nghaerdydd wedi fy ngalluogi i barhau i fyw fy mywyd. Ac rwy'n ymddiheuro, Andrew R.T. Davies, os wyf fi weithiau'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, ond wedi dweud hynny, ni fyddech yn disgwyl iddi fod fel arall.

Gadewch imi ddweud hyn: mae gennym gyfrifoldeb yn y lle hwn i wneud mwy na gwneud areithiau, ac i wneud mwy na mynegi ewyllys da a dymuniadau da i bobl ledled y wlad hon. Mae gennym gyfrifoldeb i sefydlu'r strwythurau a fydd yn galluogi pobl i oroesi'r profiadau hyn. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi'r ddeddfwriaeth Aelod preifat y byddaf yn ei chyflwyno eto yr wythnos hon. Roedd yr Aelodau'n ddigon caredig i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol a wneuthum yn y Senedd ddiwethaf i ddarparu cyfrifoldeb cyfreithiol, statudol ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad, a bod pobl yn cael yr hyfforddiant sydd ar gael i ddefnyddio'r diffibrilwyr hynny ac i ddarparu CPR nes y gellir defnyddio diffibriliwr. Oherwydd nid lleoliad y diffibriliwr yn unig sy'n bwysig, ond cynnal a chadw'r diffibriliwr, sicrhau bod y diffibriliwr ar gael i'w ddefnyddio pan fydd ei angen. Cefais ataliad y galon am 7 o'r gloch ar nos Wener. Ni allwch ddibynnu ar bobl i gael ataliad y galon o fewn oriau gwaith mewn lleoliad cyfleus. Rydym eisoes yn pennu ac yn mynnu deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ein cymdeithas drwyddi draw, o ddiogelwch tân i bob dull arall o gynnal a sicrhau bod bywyd yn cael ei ddiogelu. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y dylem ei wneud yn orfodol.

Hoffwn ddweud hyn wrth gloi. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr, fel y dywedais eisoes, ac yn ddiolchgar am y geiriau caredig, ac nid wyf am dreulio gormod o amser yn siarad am fy mhrofiad fy hun, ond mae geiriau'n bwysig. Mae geiriau'n sicr yn bwysig, ond yr hyn sy'n bwysicach na geiriau yw gweithredu. Cawn gyfle yn y Senedd hon i ddeddfu i ddarparu ar gyfer fframwaith statudol i alluogi pobl ledled Cymru i wybod bod ganddynt offer achub bywyd ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith a arweiniodd Suzy Davies yn y Senedd ddiwethaf i sicrhau bod hyfforddiant ar gael. Ac ni allwn ddibynnu'n syml ar ysgolion i gyflawni hynny; rhaid inni fynd i weithleoedd a chymunedau i gyflawni hynny hefyd. Yna mae'n rhaid inni sicrhau bod cadwyn oroesi ar waith sy'n ein galluogi—

15:50

—nid yn unig i achub bywydau, ond i fuddsoddi yn nyfodol bywydau hefyd. Rwy'n gobeithio y daw Aelodau ar draws y Siambr at ei gilydd a phleidleisio dros hyn y prynhawn yma, a chefnogi'r ddeddfwriaeth breifat y gobeithiaf ei chyflwyno yn y Senedd hon er mwyn gwireddu gobeithion pawb ohonom. Diolch.

Ceir 2,000 o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn. Gall CPR a diffibriliwr ar unwaith fwy na dyblu'r gobaith o oroesi. Rydym i gyd yn cytuno y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, serch hynny, i gondemnio pwy bynnag a oedd yn gyfrifol yn ddiweddar iawn am ymosod ar gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a brynwyd gan y gymuned, ac a oedd newydd ei osod ar draeth y Gorllewin, Llandudno. Mae'r weithred ddinistriol, ddifeddwl hon yn dangos bod angen i ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a CPR wella'n helaeth.

Wrth gwrs, rwy'n ategu'r sylwadau a wnaed, a'n diolch enfawr i'n cyn gyd-Aelod Suzy Davies, a ymgyrchodd yn ddiflino i weld Cymru'n ymuno â Lloegr a'r Alban i wneud addysgu sgiliau achub bywyd yn un o ofynion y cwricwlwm ysgol newydd. Bydd addysgu sgiliau achub bywyd mewn ysgolion yn helpu i fynd i'r afael â'r ffaith na fyddai cynifer â thri chwarter y bobl a holwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn teimlo'n ddigon hyderus i weithredu pe baent yn gweld rhywun yn cael ataliad y galon. Fodd bynnag, er ein bod yn disgwyl i'r canllawiau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a lles gael eu diwygio i ddatgan y dylai dysgwyr ddysgu sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf, pam na chawn fynd gam ymhellach drwy ddweud bod hyfforddiant diffibrilio yn orfodol hefyd?

Drwy gydol y pandemig, rwyf wedi bod yn cymryd camau i helpu, addysgu a diogelu'r cyhoedd. Rwyf wedi cefnogi ymgyrch Cadwch Curiadau Awyr Las, sy'n annog trigolion o bob oed i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartref eu hunain drwy ddefnyddio eitemau cyffredin yn y cartref fel peli, clustogau a thedis. Mae fy nhîm etholaethol wedi dilyn cwrs hyfforddi CPR a diffibrilio gydag Ambiwlans Sant Ioan, felly diolch i Ambiwlans Sant Ioan am hynny, gan sicrhau bod gwybodaeth lawn a phriodol am weithdrefnau achub bywyd wedi gwreiddio'n iawn yng nghalon fy etholaeth yn Llandudno. Byddwn yn sicr yn annog Aelodau eraill i wneud yr un peth gyda'u timau swyddfa, fel ein bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n gallu ac yn barod i ymateb pe bai ataliad y galon yn digwydd y tu allan i'r ysbyty.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi amcangyfrif y gallai fod cannoedd neu hyd yn oed filoedd o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru nad ydynt byth yn cael eu defnyddio am nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod ble y maent. I fynd i'r afael â hyn, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn lansio 'The Circuit', gyda'r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan a Chyngor Dadebru'r DU. O gofio eich bod wedi ymrwymo i £500,000 arall i gynyddu nifer y diffibrilwyr ymhellach, tybed a allech ei wneud yn un o amodau'r cyllid hwn y dylid cofrestru cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig ar y rhestr hon.

Mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod bod cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau cardiofasgwlaidd ac ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac maent yn llai tebygol o oroesi na phobl o ardaloedd mwy cefnog. Nododd cynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ym mis Mehefin 2017 y dylid gwneud gwaith i sicrhau nad yw'r cyhoedd o dan anfantais oherwydd daearyddiaeth neu heriau cymdeithasol. Mae llawer ohonom yn teithio ar hyd Cymru yn wythnosol, a gallaf ddweud yn ddiogel nad wyf ond wedi gweld un cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig, wrth ochr yr A5 ym Mhadog, Ysbyty Ifan. Mae hynny'n dystiolaeth glir o anfantais ddaearyddol. Dylai fod gan gymunedau sydd ag offer achub bywyd arwyddion amlwg sy'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am eu presenoldeb. Dylent fod yr un mor bwysig ag arwyddion twristiaeth brown. Felly, a wnewch chi gysylltu â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ddarparu arwyddion ffyrdd yn tynnu sylw at gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig?

Ochr yn ochr â chyflwyno arwyddion, rwy'n cefnogi'r galwadau i sicrhau bod cyllid grant ar gael i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr. Yn bersonol, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn cynnig y dylent fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru. Gallai hynny, Weinidog, fod yn un o'r prif ysgytiadau sydd eu hangen ar Gymru i symud gam yn nes at fod yn genedl sy'n achub bywydau go iawn. Diolch. 

15:55

Rwy'n gobeithio na fydd anghytundeb heddiw ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn, ac nid ailadroddaf y pwyntiau dilys iawn a wnaed. Ategaf alwadau Janet ynghylch y gofrestr honno. Credaf fod hynny'n hollbwysig. Pan fyddwch chi'n chwilio Google ar hyn o bryd mewn perthynas â rhai o'r ardaloedd yng Nghanol De Cymru, gwn am rai diffibrilwyr sy'n bodoli ond ni allwch ddod o hyd iddynt yn unman. Mae sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r lleoliadau hynny, yn enwedig ar lefel leol, yn hollbwysig, oherwydd efallai y byddwch yn rhuthro i fynd ar Google, ond os na allwch ddod o hyd iddo yno hyd yn oed, credaf fod gennym broblem fawr, yn enwedig pan nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod chwaith. 

Fel rhan o'r ddadl hon heddiw roeddwn am godi un peth a gafodd ei ddwyn i fy sylw yr wythnos ddiwethaf mewn perthynas â diffibrilwyr presennol yng Nghanol De Cymru, a'r broblem fod rhai yn gysylltiedig â banciau a bod y canghennau hynny bellach wedi cau. Yn yr un modd, mae rhai yn gysylltiedig â swyddfeydd yng nghanol trefi, sydd hefyd wedi'u cau naill ai yn ystod COVID wrth i bobl weithio gartref, neu bellach wedi cau'n barhaol wrth i bobl newid i weithio gartref. Felly, os caf ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â chofrestru'r rhain fel y gellir eu cynnal ac yn y blaen, oherwydd y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw i rywun gyrraedd diffibriliwr ac nad yw hwnnw'n gweithio chwaith. Felly, un peth yw buddsoddi, ond rhaid inni gael cynllun hirdymor, oherwydd yn aml mae'r wybodaeth am y diffibrilwyr hyn ym mhen rhywun—rhywun sy'n angerddol, sydd wedi bod yn codi arian yn y gymuned ar gyfer hyn—ac os ydym am gynnal y rhwydwaith, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu cynnal, fod modd eu defnyddio, hefyd eu bod yn weladwy. Felly, mae'n apêl ar bob un ohonom i gydweithio er mwyn sicrhau bod y rhain ym mhob cymuned, y dylent fod ym mhob clwb chwaraeon ac yn y blaen, a chredaf fod awgrym Janet ynglŷn â phob ysgol hefyd yn bwynt dilys iawn, er y gall y rheini fod ymhell iawn o gymunedau wrth gwrs a heb fod mor hygyrch â chanol rhai o'n trefi. Felly, rwy'n gobeithio y gallem i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn fel ein bod yn gallu achub cymaint o fywydau â phosibl yn y ddeddf hon. Diolch.

16:00

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae'r ystadegau'n amlwg yn peri pryder, a dylai cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fod yn ddigon, ar eu pen eu hunain, i'n cael ni i weithredu. Mae yna ychydig o heriau, fodd bynnag. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod ein gwlad yn gweithio'n ddigon cyflym i adeiladu mwy o gapasiti yn ein rhwydwaith o ddiffibrilwyr. Yn ystod toriad yr haf, ymwelais â fferyllfa gymunedol a chefais fy synnu gan y cynnydd araf wrth gyflwyno cyflenwad digonol o ddiffibrilwyr ledled y fferyllfeydd lleol gwych. Wrth gefnogi’r alwad i sicrhau bod cyllid ar gael i leoliadau ledled Cymru i ddarparu rhwydwaith o ddiffibrilwyr, rwyf eisiau i’r Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod gan bob fferyllfa gymunedol fynediad at gymorth, fel rhan allweddol a hanfodol o’n gwasanaeth iechyd. Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnwys nifer o staff sydd â'r sgiliau i ymateb i anghenion y boblogaeth leol. Beth am wneud gwell defnydd o fferyllfeydd cymunedol, sy'n rhan allweddol o'n trefi a'n pentrefi, a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â llawer o bobl bob dydd? A allai'r Gweinidog gadarnhau faint o fferyllfeydd cymunedol sydd â diffibrilwyr heddiw, o gymharu â dwy neu dair blynedd yn ôl?

Yn ail, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, llai na 5 y cant o bobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty sy'n cael triniaeth ddiffibrilio gan rywun sy'n digwydd bod yno, a cheir degau o filoedd o ddiffibrilwyr nad yw’r gwasanaethau ambiwlans yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd am nad ydynt wedi’u cofrestru. Yn amlwg, gall gwybod am leoliad diffibriliwr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Er bod angen inni fynd i'r afael â nifer gyffredinol y diffibrilwyr, mae angen inni hefyd sicrhau bod pob uned wedi'i chofrestru fel y gall y gwasanaethau brys ddod o hyd iddynt, ac efallai mai un ffordd o ddod o hyd i ddiffibriliwr pan fydd aelod o'r cyhoedd yn galw am ddefnyddio un fydd system debyg i'r ffonau AA ar draffyrdd, sy'n rhoi'r union leoliad. Yn drydydd, mae Cyngor Dadebru'r DU yn cyflwyno achos cryf dros wella gwybodaeth a chyngor i bobl er mwyn meithrin hyder ymhlith y boblogaeth i ddefnyddio diffibriliwr mewn argyfwng. Mae hyn yn wir ar gyfer darparu CPR heb fod diffibriliwr ar gael hefyd, ac yn fwy heriol oherwydd y camau uniongyrchol sydd angen i’r unigolyn eu cyflawni i'w ddarparu. Byddwn hefyd yn gofyn i'r Llywodraeth adolygu ei chynllun ei hun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'n nodi'n glir mai un o ganlyniadau allweddol y cynllun yw bod diffibrilwyr,

‘ar gael i’r cyhoedd yn hwylus.’

Mae hefyd yn nodi’r canlyniad fod y cyhoedd

‘yn gwybod ei bod yn hawdd defnyddio diffibrilwyr ac na allant achosi niwed.’

Mae hynny wedi’i ysgrifennu yn hwn. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog a wnaed unrhyw waith meincnodi mewn perthynas â chynllun 2017 wrth ei ysgrifennu, a lle'r ydym arni yn awr ar sicrhau’r gwelliant i allu a hygyrchedd. Mae’r cynllun yn un synhwyrol ac mae’r bwriad yn glir, ond mae’r bennod ar weithredu yn wan wrth geisio disgrifio llwyddiant. Dywed.

‘Er bod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar rai elfennau o’r llwybr, mae angen ffocws a chamau buan i ddatblygu’r manylion ar draws y cynllun i gyd a’i roi ar waith ledled Cymru.’

Edrychodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 ar wybodaeth, agwedd ac ymddygiad y cyhoedd tuag at CPR a diffibrilwyr. Daeth yr arolwg i'r casgliad fod y gyfran a hyfforddwyd i ddefnyddio diffibriliwr yn llawer is na’r gyfran a hyfforddwyd i roi CPR, gyda dim ond 23 y cant o'r holl ymatebwyr yn nodi eu bod wedi cael hyfforddiant. Er hynny, nododd dros 50 y cant o bobl y byddent yn hoffi cael rhywfaint o hyfforddiant. O ran defnyddio diffibrilwyr, roedd lefel yr hyder yn is nag ar gyfer y rhai sy'n rhoi CPR, gyda dim ond 38 y cant o'r ymatebwyr yn dweud y byddent yn hyderus. Roedd lefelau hyder yn uwch ymhlith y rhai a hyfforddwyd mewn CPR neu sut i ddefnyddio diffibrilwyr, ar 55 y cant ac 88 y cant yn eu tro.

Fodd bynnag, mae'n destun pryder nad oedd 55 y cant o’r ymatebwyr yn gwybod lle'r oedd eu diffibriliwr agosaf. Hyd yn oed ymhlith y rhai a gafodd hyfforddiant diffibrilio, nododd 35 y cant nad oeddent yn gwybod lle'r oedd eu diffibrilwyr agosaf—

16:05

Mae’n bosibl fod y ffigurau hyn wedi newid yn y tair blynedd ddiwethaf, ond maent yn dangos maint yr her, hyd yn oed pe bai gennym y nifer cywir o ddiffibrilwyr yn eu lle. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid am gonsensws ar ddechrau'r ddadl hon ac rwy'n cytuno: mae angen inni ddod o hyd i gonsensws. Ni fyddwch yn fy nghlywed yn dweud hyn yn aml, ond rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw—[Chwerthin.]

Ond Ddirprwy Lywydd, cyfarfûm yn ddiweddar â Mark King o Sefydliad Oliver King, sy'n ymgyrchu dros ddarparu diffibriliwr achub bywydau ym mhob ysgol ar draws y Deyrnas Unedig. Cafodd y sefydliad ei sefydlu ym mis Ionawr 2012, yn dilyn marwolaeth drasig mab Mark, Oliver King, yn 12 oed. Bu farw Oliver o syndrom marwolaeth arrhythmig sydyn—cyflwr cudd ar y galon sy'n lladd 12 o bobl ifanc bob wythnos. Nawr, fel llawer o rai eraill ar draws y Siambr, mae fy nghyfarfod â Mark a'r sefydliad wedi gwneud imi feddwl am yr ysgolion yn fy nghymuned fy hun, felly cysylltodd fy swyddfa â'r ysgolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a chanfuwyd bod gan 23 o ysgolion ddiffibriliwr, ond nid oedd un gan 10 ohonynt. Cysylltodd sawl un o'r 10 ysgol â'm swyddfa i ofyn sut y gallant fynd ati i gael un ac a oedd hi'n bosibl iddynt gael arian i gael un ac roeddent eisiau cyngor ar sut i wneud hynny. Felly, byddaf yn rhoi mewn cysylltiad â Sefydliad Oliver King, ond hoffwn ofyn hefyd i Lywodraeth Cymru a chydweithwyr llywodraeth leol ledled Cymru ystyried mapio hyn yn iawn a helpu ysgolion i gael yr offer achub bywyd y maent yn daer ei angen.

At hynny, Ddirprwy Lywydd, yn ddiweddar, cefais wybod gan ffrindiau i mi am aelod oedrannus o'r teulu a aeth yn sâl yn ystod oriau mân y bore. Ar ôl ffonio 999, cawsant gyfarwyddyd i fynd at y diffibriliwr agosaf a oedd wedi'i leoli yn yr archfarchnad leol, ond yn anffodus, roedd yr archfarchnad ar gau ac roedd y diffibriliwr wedi'i gloi y tu mewn. Ni allodd fy ffrind ei ddefnyddio. Fel y clywsom gan Aelodau ar draws pob un o'r meinciau yma heddiw, mae'n hanfodol fod diffibrilwyr mewn lleoliadau sy'n golygu eu bod yn hygyrch 24 awr y dydd. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at Morrisons yng Nghei Connah yn fy etholaeth yn gofyn iddynt hwyluso'r cam synhwyrol hwn, a hoffwn i siopau eraill ar draws fy etholaeth ac ar draws Cymru a'r DU wneud yr un peth. Felly, rwy'n annog y Gweinidog a Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd y mater hwn ledled Cymru.

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n ddiolchgar iawn i chi am adael imi siarad yn y ddadl hon heddiw, rydym i gyd yn deall y gwahaniaeth rhwng diffibriliwr a'r hyn y gall ei wneud o ran achub bywydau neu beidio, ond mae hyfforddiant ar eu defnydd a hyfforddiant CPR sylfaenol hefyd yn allweddol i achub bywydau. Ac fel y clywsom y prynhawn yma, nid oes neb yn gwybod hynny'n well na'm cyfaill Alun Davies, felly hoffwn dalu teyrnged i'r bobl a helpodd fy nghyfaill Alun Davies pan oedd angen cymorth arno, oherwydd hebddynt hwy, ni fyddai yma gyda mi, yn anghytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, fel rydym mor hoff o wneud. Ond nid heddiw: rydym yn cytuno, ac yn diolch yn fawr iawn i chi am y ddadl. Diolch yn fawr.

16:10

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfraniadau meddylgar y maent wedi'u gwneud heddiw, ac yn arbennig, diolch i Darren Millar a Gareth am gyflwyno'r mater pwysig hwn. O ddifrif, ceir consensws yn y Siambr fod hwn yn fater pwysig iawn, ac yn sicr mae yna gefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Credaf ein bod i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy ar hyn.

Fel Llywodraeth, rydym yn rhannu ymrwymiad i wella gobaith pobl o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Fel y mae rhai ohonoch wedi'i nodi, lansiodd fy rhagflaenydd y cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru yn 2017, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r canlyniadau gwael iawn sydd gennym yng Nghymru mewn perthynas â phobl sy'n dioddef ataliad y galon yn y gymuned. Yn ddiweddar, fel y soniodd Gareth, bydd yr Aelodau'n cofio i mi ailddatgan agweddau ar y cynllun hwnnw drwy ddyrannu cyllid ychwanegol, a byddaf yn dweud mwy am hynny yn y man.  

Fel y clywsom eisoes gan gynifer o'r Aelodau heddiw, y gwir amdani yw bod gobaith claf o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng oddeutu 10 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio. Clywsom am lawer o enghreifftiau o hynny, ac mae gennym ein henghraifft ein hunain yma, Alun, sydd—. Cefais fy syfrdanu'n fawr pan welais y ffigur—mai dim ond 3 y cant a fyddai wedi bod drwy sefyllfa o'r fath a goroesi. Felly, rydym i gyd mor ddiolchgar i'ch cael chi yma, Alun, ac mae'n tanlinellu pwysigrwydd yr angen i un o'r diffibrilwyr hyn fod yn hygyrch.

Felly, mae cyfraddau goroesi'n isel, ond mae potensial i lawer mwy o fywydau gael eu hachub, fel y dangoswyd gan nifer y gwledydd sydd wedi bod yn rhoi camau ar waith i wella pob cam o'r hyn a alwant yn gadwyn oroesi. Dyma'r rheswm dros gael y cynllun hwn, a bod camau cydunol yn cael eu cymryd.

Felly, rwy'n llwyr gefnogi galwadau am fwy o ddiffibrilwyr, ond credaf ei bod yn bwysig i bobl ddeall bod gwneud cynnydd yn y maes hwn yn gymhleth, a bod angen i nifer o bethau gael eu dwyn ynghyd—ac mae Aelodau yn y Siambr hon wedi cyfeirio at lawer ohonynt heddiw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog wrth ei chlywed yn dweud y byddai'n falch o weld mwy o ddiffibrilwyr yng Nghymru. Chi yw'r Gweinidog. A wnewch chi osod targed ar gyfer nifer y diffibrilwyr a allai fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd tymor pum mlynedd y Cynulliad hwn? O leiaf, wedyn, os oes gennym darged, mae gennym rywbeth i anelu ato, yn hytrach na'r geiriau cynnes—a geiriau diffuant, rwy'n cymryd—y mae'r Gweinidog wedi'u dweud ar goedd heddiw. Mae angen inni wybod pa fath o niferoedd rydym yn sôn amdanynt yma.

Wel, rwy'n sicr yn hapus i edrych ar hynny. Credaf y bydd y ffaith ein bod wedi darparu adnoddau ychwanegol sylweddol yn ystod yr haf, gobeithio, yn mynd beth o'r ffordd tuag at gyrraedd targed. Rwy'n hapus i edrych ar darged oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl barhau i roi pwysau arnom yn hyn o beth. Felly, rwy'n fodlon edrych ar hynny.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw'r ffaith bod yna feysydd lle'r ydym, mewn gwirionedd, ymhellach ar y blaen nag y maent yn Lloegr, er enghraifft. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr ymgyrch y soniodd Jack Sargeant amdani, gan Mark King, er enghraifft, sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel, wrth geisio cael pobl i gyflwyno'r rhain ym mhob ysgol yn y Deyrnas Unedig, er cof am ei fab, Oliver, a fu farw mewn modd mor drasig. Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi cynnig diffibriliwr i bob ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae hynny eisoes wedi digwydd yng Nghymru, felly rydym ymhellach ar y blaen mewn rhai pethau.

Fel y dywedais, mae'n faes cymhleth. Rhaid inni feddwl am y mater sgiliau, pwynt a godwyd gan gymaint o bobl a rhywbeth roedd Suzy Davies yn dadlau mor gryf drosto pan oedd hi yma. Ar ben hynny, credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod yn rhaid eu cynnal; fel arall, nid ydynt yn werth eu cael. Felly, hoffwn ymuno â Janet Finch-Saunders i gondemnio'r rhai sy'n fandaleiddio offer achub bywyd lle bynnag y mae hynny'n digwydd yng Nghymru. Dyna pam ein bod wedi sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru, ym mis Ionawr 2019, i ddod â'r holl ddarnau gwahanol o'r jig-so at ei gilydd, mewn perthynas ag annog y cyhoedd i gymryd rhan a gweithredu os byddant yn wynebu ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac mae Achub Bywydau Cymru yn gweithio gyda nifer fawr iawn o sefydliadau yn hyn o beth, yn ogystal â chynnal ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr 'cyffwrdd â bywyd' i annog pobl i gamu ymlaen, fel y mae cynifer ohonoch wedi'i grybwyll. Mae rhai ohonoch yn gwneud y cynnig gweithredol hwnnw yn eich cymunedau eich hunain.

Mae nifer y diffibrilwyr yn cynyddu drwy'r amser. Ar hyn o bryd, mae 5,423 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi'u cofrestru gydag ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru a 'The Circuit', a hoffwn ddweud rhywbeth am y rhestr honno, oherwydd awgrymodd Janet Finch-Saunders efallai y dylem wneud y cyllid hwn yn amodol ar y ffaith bod angen iddynt gofrestru. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n debyg bod llawer mwy, ond os nad yw pobl yn gwybod lle maent, nid yw hynny'n fawr o werth. Felly, rwy'n hapus iawn i wneud y cyllid hwnnw'n amodol ar y ffaith bod yn rhaid iddynt gofrestru eu lleoliad gyda 'The Circuit'.

Mae'n rhaid cael gofalwyr dynodedig ar gyfer diffibrilwyr hefyd—rhywun i edrych ar eu hôl nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio'n iawn. Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o dan 50 y cant o'r diffibrilwyr hyn sydd wedi cofrestru â gofalwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y batris a'r padiau yn cael eu profi'n rheolaidd. Felly, mae e'n sefyllfa gymhleth—does dim pwynt jest rhoi y peiriannau yma yn eu lle. Yn ddiweddar, cyhoeddais £2.5 miliwn arall ar gyfer y bartneriaeth yna gydag Achub Bywydau Cymru i godi ymwybyddiaeth o CPR a diffibrilio, ac i wella’r defnydd o'r technegau hyn. Heddiw, hoffwn i gyhoeddi y byddwn ni'n mynd gam ymhellach ac yn dyrannu £0.5 miliwn yn ychwanegol i sicrhau rhagor o ddiffibrilwyr i gymunedau ledled Cymru, a dyna pam rŷn ni'n awgrymu'r gwelliant i'r cynnig yma heddiw.

Dwi wedi gofyn i’r swyddogion weithio gydag Achub Bywydau Cymru ar drefniadau ar gyfer defnyddio'r cyllid hwn. Ar 16 Hydref rŷn ni’n dathlu Diwrnod Adfywio'r Galon. Bydd Achub Bywydau Cymru, ynghyd a'u partneriaid ledled Cymru, yn annog pob un ohonom ni i gymryd rhan. Hefyd bydd ymgyrch Shoctober gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cael ei hyrwyddo drwy fis Hydref. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o ddefnydd priodol o'r gwasanaeth 999 ac o CPR dwylo yn unig i ddysgwyr oedran cynradd. Felly, yn cario ymlaen gyda'r legasi yna, gobeithio, oedd mor bwysig i Suzy Davies.

Dwi'n gwybod bod y cyhoedd yng Nghymru am wneud ei ran. Mae'n gwaith ymchwil wedi dangos bod agwedd y cyhoedd yn bositif a bod pobl yn awyddus i gael cyfleoedd hyfforddi, ond mae hyder i berfformio CPR neu i ddefnyddio diffibrilwyr yng Nghymru yn isel, ac mae hyn yn rhywbeth gallwn ni ei newid. Felly, gobeithio bydd yr ymdrechion hyn dwi wedi sôn amdanyn nhw heddiw yn dechrau mynd i'r afael â materion fel hyder y cyhoedd, a bydd hynny'n gwella canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n dioddef ataliad y galon tu allan i'r ysbyty.

Hoffwn i dalu teyrnged i'r holl sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, sy'n gweithio'n arbennig o galed ledled Cymru i wella'r defnydd o CPR a diffibrilio. Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, a gall pob un ohonom ni helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a diffibrilio cynnar. Diolch.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau, a'r Gweinidog, sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Ar ôl y golygfeydd erchyll a welwyd ar y teledu rhyngwladol yn ystod gêm Denmarc yn erbyn y Ffindir fis Mehefin diwethaf yn ystod yr Ewros, cefais fy ysgogi, fel cynifer o rai eraill, i weithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i hyrwyddo'r angen am fynediad cyffredinol at ddiffibriliwr, yn enwedig ar ein caeau chwaraeon, yn ein neuaddau cymunedol, ac ar ein prif strydoedd, a diolch i'r holl Aelodau a lofnododd fy natganiad barn cyn y toriad ar y mater hwn.

Ac er fy mod yn hynod falch o weld bod cyd-Aelodau o bob plaid yn frwd iawn i drafod y cynnig hwn, yn yr amser rhwng dechrau'r sesiwn hon y prynhawn yma a diwedd y diwrnod gwaith yn ddiweddarach heddiw, amcangyfrifir y bydd 14 o unigolion wedi dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn y Deyrnas Unedig. Am bob munud sy'n mynd heibio heb weinyddu CPR a diffibriliwr, bydd eu gobaith o oroesi yn gostwng hyd at 10 y cant. Dyna pam y mae'r cynnig y prynhawn yma mor hynod o bwysig. Yma ar y meinciau hyn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod CPR yn cael ei addysgu mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru. Ac ategaf eiriau cynnes yr Aelodau yma sydd wedi canmol gwaith y cyn Aelod Suzy Davies ar hyn. Fodd bynnag, dyma gyfle perffaith yn awr i Lywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol, i adeiladu ar y llwyddiant a chamu ymlaen ymhellach. Fel y clywsom y prynhawn yma, dyma'r neges yn syml: po agosaf yw unigolyn at ddiffibriliwr, y mwyaf yw eu gobaith o oroesi.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cymunedau ledled Cymru yn camu i'r adwy drwy godi arian a threfnu bod diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus. Diolchodd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn briodol iawn i elusennau am y rôl y maent wedi'i chwarae yn dosbarthu offer achub bywyd i gymunedau yn ei etholaeth, ac fel y nododd yr Aelod o Flaenau Gwent yn gywir, ni ddylai fod yn gyfrifoldeb i elusennau yn unig. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chynnig y cymorth angenrheidiol, ac er bod y £0.5 miliwn o gyllid ychwanegol i'w groesawu, Weinidog, rydych yn tynnu sylw at gymhlethdodau dod â rhanddeiliaid at ei gilydd; byddwn yn dadlau mai rôl Llywodraeth Cymru yw dod â'r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd i sicrhau'r newid angenrheidiol. Ac fel y nododd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn gywir, bydd mynediad cyflym at ddiffibriliwr yn tynnu pwysau oddi ar wasanaeth ambiwlans Cymru, sy'n dweud bod 4,100 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi'u gwasgaru ledled y wlad. Fodd bynnag, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn dweud ei bod yn debygol fod cannoedd, neu filoedd hyd yn oed, o ddiffibrilwyr sy'n achub bywydau mewn cymunedau ledled Cymru nad ydynt eto wedi'u cofrestru gyda'r gwasanaeth ambiwlans. I'w roi yn syml, os nad yw gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gwybod eu bod yn bodoli, nid yw'r cyhoedd yn gwybod chwaith—pwynt a godwyd yn huawdl gan Aelodau Ynys Môn, Aberconwy, a Chanol De Cymru yn gynharach—ac mae'r ystadegau'n adlewyrchu hyn.

Amcangyfrifir bod diffibrilwyr cyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac rydym wedi clywed stori'r Aelod o Flaenau Gwent heddiw—a heb chwyddo ei ego ymhellach, rydym yn ddiolchgar iawn ei fod yma gyda ni o hyd, yn cyfrannu at wleidyddiaeth Cymru. Ond mae'n llygad ei le i godi'r pwynt nad straeon y rhai sydd wedi goroesi y dylem wrando arnynt, ond straeon dirdynnol y rhai nad ydynt wedi goroesi, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Alex Evans, y cricedwr Maqsood Anwar, a gollodd eu bywydau yn gynharach eleni yn anffodus oherwydd nad oedd diffibriliwr wrth law. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn ein hetholaethau wedi clywed straeon eraill am bobl sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau, a dyna pam rwy'n credu bod cymaint o gonsensws trawsbleidiol ar y mater hwn heddiw.

A chlywsom yn glir am y sefyllfa yng Nghymru a dro ar ôl tro, dywedwyd nad oes a wnelo hyn â gwleidyddiaeth, fel y nododd yr Aelod o Ynys Môn yn gywir; mae'n ymwneud â newid gwirioneddol a all achub bywydau. A gwn fod gwleidyddion yn aml yn cael eu hystyried fel rhai heb lawer o synnwyr cyffredin, ond mae'n ymddangos i mi mai synnwyr cyffredin a ddylai ddod yn gyntaf yn yr achos hwn, ac y dylai hwn fod yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arno gydag arddeliad er mwyn sicrhau bod offer achub bywyd ar gael i bawb a allai fod ei angen, yn anffodus, ar unrhyw adeg. Felly, rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw i sicrhau'r newid angenrheidiol hwn. Diolch yn fawr.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 3 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliannau 4 a 5 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru—credyd cynhwysol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7772 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.

2. Yn cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymlid datganoli lles gyda’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.

c) cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd cynhwysol ar bobl yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ofyn i fy nghyd Aelodau ddwys ystyried pleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma

Wrth ymateb i gwestiwn Adam Price yma ddoe, fe glywon ni'r Prif Weinidog yn siarad am hawl pobl Cymru i gael eu trin mewn modd sy'n deg ac yn dosturiol. Rŷn ni sy'n eistedd yn y Senedd yn anghytuno ar lawer peth, ond rwy'n gobeithio, ac rwy'n credu, ein bod yn gytûn bod yna egwyddor sylfaenol sy'n ein huno, sef bod pobl Cymru yn haeddu byw gydag urddas, gyda chefnogaeth pan fo angen, gyda digon o arian i'w cynnal. Rwy'n erfyn arnoch chi i gadw'r egwyddor honno, uwchben popeth arall, mewn cof yn ystod y ddadl hon, uwchben hunanfalchder pleidiol, ac ein bod, fel Senedd, yn dangos ein bod ni'n medru cytuno ar gynnig a fyddai'n cyhoeddi hyn yn glir ac yn ddiamod i'n pobl. Mae credyd cynhwysol i fod i gynnal y rhai sydd ar yr incwm isaf, sydd mas o waith neu sy'n methu â gweithio. Fe gynyddwyd y taliad credyd cynhwysol gan £20 yr wythnos gan Lywodraeth San Steffan mewn ymateb i argyfwng COVID, ac er yr ymestynnwyd y cynnydd hwnnw unwaith, bydd nawr yn cael ei dorri ar ddechrau Hydref. Bydd hynny, ynghyd â'r toriad i gredyd treth gwaith, yn creu pwysau peryglus ar deuluoedd yng Nghymru. Rhaid gwrthwynebu'r penderfyniad cwbl ddidostur a chwbl annoeth hwn.

Dyletswydd y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, fel y dywedais ar y dechrau, yw gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau. Bydd diwedd y cynnydd mewn credyd cynhwysol yn drychinebus i bobl ledled y Deyrnas Unedig, ond bydd teuluoedd yng Nghymru yn cael eu taro'n galetach, ac effeithir ar gyfran sylweddol uwch o deuluoedd â phlant yng Nghymru na rhai ardaloedd eraill. Mae ymgyrchwyr gwrth-dlodi a chyfiawnder cymdeithasol a ninnau fel plaid wedi rhybuddio ynglŷn â storm berffaith. Daw'r cynllun ffyrlo i ben wythnos yn unig cyn i'r toriad ddod i rym. Rhagwelir y bydd costau byw yn codi dros y misoedd nesaf, sy'n golygu y bydd incwm teuluoedd sy'n agored i niwed yn gostwng ar yr union adeg y mae costau byw'n codi. Ac mae dyled aelwydydd yn saethu i fyny, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd heddiw. 

Mae'r ystadegau'n dweud y cyfan. Mae cyfanswm o dros 275,000 o deuluoedd yn hawlio credyd cynhwysol neu gredydau treth gwaith yng Nghymru—mwy nag un o bob pump o'r holl deuluoedd. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn yn deuluoedd â phlant, ac mae 42 y cant o'r holl deuluoedd â phlant yn hawlio un o'r budd-daliadau hyn. Mae 14 y cant o'r holl deuluoedd heb blant yn hawlio credyd cynhwysol neu gredydau treth gwaith. Yn ddaearyddol, effeithir ar fwy na chwarter y teuluoedd â phlant ym mhob etholaeth yng Nghymru; mewn rhai etholaethau, bydd y toriad hwn yn effeithio ar hanner y teuluoedd â phlant. 

Roedd Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn cyfiawnhau'r gostyngiad ar y sail y byddai'n helpu i gael pobl yn ôl i'r gwaith. Fodd bynnag, mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn awgrymu y bydd mwy na thraean y rhai a gaiff eu taro yng Nghymru yn deuluoedd sy'n gweithio, gyda llawer ohonynt yn weithwyr allweddol. Meddyliwch am hynny. Mae'r penderfyniad ar gredyd cynhwysol, wrth gwrs, yn nwylo San Steffan, ond mae'n rhaid i ni yng Nghymru weithredu, oherwydd mae ein pobl yn cael eu gwthio i ddyled a thlodi dyfnach, ac mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael eu colli o'n heconomïau lleol o ganlyniad.

Mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso am ddatganoli pwerau lles i Gymru—[Torri ar draws.]—er mwyn gwneud mwy i liniaru effeithiau gwaethaf y toriad i'r credyd cynhwysol—. Na, nid wyf am ildio. Ddoe, wrth ateb cwestiwn Adam Price ar y mater hwn, awgrymodd Prif Weinidog Cymru y byddai'n aros i'r Pwyllgor Materion Cymreig gyflwyno adroddiad, yn dilyn eu hymchwiliad cyfredol i'r system fudd-daliadau yng Nghymru a datganoli lles. Nid wyf ond wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers pedwar mis, ac rwyf eisoes wedi clywed gormod o 'Gadewch inni aros i weld. Rydym yn edrych arno'.

Pan fydd argyfwng yn ein hwynebu, mae'n rhaid inni weithredu. Os ydym wedi dysgu unrhyw beth dros y misoedd diwethaf, mae'n amlwg, ac ni ellir gwadu o ystyried yr ystadegau rwyf wedi'u rhannu, fod hwn yn argyfwng ofnadwy, ac rydym yn gwybod ei fod ar y ffordd y tro hwn. Er mwyn mynd i'r afael â thlodi o ddifrif, mae angen dull strategol gwell. Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd. Ar ôl trafod gydag amrywiaeth o grwpiau sy'n gweithio ym maes cyfiawnder cymdeithasol, mae'n amlwg i mi fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu gyda mwy o ffocws ac yn fwy cydgysylltiedig i roi diwedd ar effeithiau parhaus gwaethaf tlodi. Mae sôn am fwriadau da, ond mae sôn hefyd am ddyblygu mentrau a diffyg cyfeiriad clir, sy'n rhwystredig, oherwydd, heb strategaeth glir a heb dargedau mesuradwy, y canlyniad weithiau yw dull aneffeithiol, gwasgaredig o weithredu, sydd weithiau hefyd yn loteri cod post annheg ac anghyfiawn.

Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru liniaru effaith y credyd cynhwysol yw cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol, y DAF—y cynllun cymorth lles cenedlaethol sy'n darparu grant arian bach ar gyfer costau byw hanfodol, a chefnogaeth i ganiatáu i rywun fyw'n annibynnol. Fe newidiwyd y cynllun ar ddechrau'r pandemig i ganiatáu i fwy o bobl hawlio cymorth ariannol os oeddent yn wynebu caledi eithriadol o ganlyniad i gyfyngiadau clo, hunanynysu neu golli incwm oherwydd y cyfyngiadau.

Mae nifer y grantiau a ddyfarnwyd drwy'r DAF wedi gostwng yn ddramatig yn ddiweddar oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar yr hyblygrwydd oedd yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael cefnogaeth. Mae’r DAF yn ffynhonnell gymorth hanfodol i filoedd o deuluoedd, ac o ystyried effaith y toriad mewn credyd cynhwysol a'r holl gyd-destun rwyf wedi ei amlinellu y prynhawn yma, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cyrchu’r gronfa y tu hwnt i ddiwedd mis Medi ac yn gofyn i Aelodau o bob plaid i gefnogi'r alwad honno.

Cyfeiriais i yn gynharach at y ffaith fy mod yn Aelod newydd o'r Senedd yma. Y peth pwysicaf i fi ddysgu hyd yma yw bod clywed llais y bobl sy'n cael eu heffeithio gan bolisi yn gwbl allweddol a bod anwybyddu eu profiad yn gwbl anfaddeuol. Mae'r adroddiadau niferus sydd wedi eu cyhoeddi ar effaith drychinebus y toriad i gredyd cynhwysol yn dyfynnu nifer o bobl fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau mor amhosib. Mewn un gan Achub y Plant Cymru, meddai Stacey, mam o Gasnewydd, fod y toriad yn mynd i effeithio ar ei gallu i dalu ei dyledion, ei bod yn pryderu sut, wrth i'r gaeaf nesáu, y byddai'n gorfod cwtogi ar fwyd er mwyn talu am wres, ac rŷn ni'n gwybod bod prisiau ynni yn cynyddu. Mae ei merch newydd ddechrau gwersi gymnasteg. Maen nhw'n £5 y tro. Meddai, 'Dwi ddim yn siŵr y bydd modd iddi barhau.' Rwy'n erfyn ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig a thrwy hynny gefnogi teuluoedd fel un Stacey. Diolch.

16:30

Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa'r Aelodau ein bod yn gallu gwneud ymyriadau heddiw, ac mae hawl i ymyrryd, ond hefyd mae hawl gan yr Aelod unigol sy'n siarad naill ai i dderbyn neu wrthod yr ymyriad, ac ni ddylid beirniadu'r Aelod am wneud y penderfyniad hwnnw?

Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliannau 4 a 5 eu dad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2, 4 a 5 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu £20 yr wythnos yn ychwanegol mewn credyd cynhwysol i gefnogi'r rhai ar incwm isel yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cydnabod bod y mesur dros dro hwn eisoes wedi'i ymestyn o 12 i 18 mis. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y ffaith bod lefelau tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU oherwydd methiant Llywodraethau olynol Cymru.

Gwelliant 4—Darren Millar

Dileu is-bwynt 3 a a rhoi yn ei le:

a. gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, drwy fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan gyfleoedd ariannu a bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru;  

Gwelliant 5—Darren Millar

Dileu popeth ar ôl 'dewisol' yn is-bwynt 3(c).

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 4 a 5.

Diolch. Wel, rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2, 4 a 5. Roedd ystwythder a hyblygrwydd y system credyd cynhwysol yn caniatáu gweithredu cynnydd dros dro ar ddechrau'r pandemig, mewn cyfnod eithriadol. Ym mis Ebrill 2020, fel ymateb un flwyddyn i bandemig COVID-19, gwelwyd cynnydd dros dro o £20 yr wythnos yn y lwfans credyd cynhwysol safonol. Yn ei gyllideb ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Canghellor y DU estyniad i'r cynnydd dros dro hwn am chwe mis arall. Fel gyda'r holl gymorth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i COVID-19, roedd hwn bob amser yn gyllid am amser cyfyngedig, er bod y budd-dal craidd yn parhau wedi'i ddiogelu. Roedd disgwyl i'r ychwanegiad hwn ynghyd â thaliad untro o £500 i hawlwyr credyd treth gwaith, a gyhoeddwyd hefyd, gostio £3 biliwn. Cyhoeddodd Canghellor y DU hefyd na fyddai angen ad-dalu blaendaliadau credyd cynhwysol am 24 mis o fis Ebrill 2021—estyniad o 12 mis—y byddai uchafswm y gyfradd lleihau credyd cynhwysol yn gostwng i 25 y cant erbyn mis Ebrill 2021, ac y byddai'r trothwy uwch ar enillion ychwanegol ar gyfer credyd cynhwysol yn parhau i fod yn £2,500 tan fis Ebrill 2022.

Wrth inni wynebu un o'r heriau economaidd a chymdeithasol mwyaf yn ein hanes, darparodd Llywodraeth y DU becyn cymorth gwerth £407 biliwn, gan gynnwys chwistrelliad o £9 biliwn i'n system les. Ond yn awr, wrth inni symud i gam nesaf ein hadferiad, mae'n iawn rhoi blaenoriaeth i gefnogi mwy o bobl mewn gwaith a chamu ymlaen mewn gwaith. Mae hyn yn adeiladu ar y cynnydd o 1.7 y cant yn y budd-daliadau oedran gweithio a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020, i fod o fudd i tua 2.5 miliwn o aelwydydd, gan gyflawni un o'r ymatebion economaidd mwyaf cynhwysfawr yn y byd yn ystod y pandemig.

Mae'r cymorth i deuluoedd, swyddi a busnesau a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU dros eleni a'r llynedd yn cynnwys diogelu 14 miliwn o swyddi drwy'r cynllun ffyrlo a'r cynllun ar gyfer yr hunangyflogedig, a chynllun £30 biliwn ar gyfer swyddi, gan roi hwb o 2.2 y cant i'r cyflog byw cenedlaethol o fis Ebrill 2021, a £740 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 drwy fformiwla Barnett, ynghyd â £1.4 biliwn arall y bydd y Llywodraethau datganoledig yn ei dderbyn y tu allan i fformiwla Barnett. Gyda swyddi gwag yn y DU yn cyrraedd 1 filiwn a'r gyflogres yn ail-gyrraedd lefelau cyn y pandemig, byddai ymestyn y cynnydd hyd yn oed am 12 mis arall yn gynamserol ac yn costio'r hyn sy'n cyfateb i ychwanegu 1g ar gyfradd sylfaenol treth incwm—

16:35

Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais hynny. Gwnaf, yn sicr, Joyce.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi'n cytuno bod Llywodraeth y DU wedi nodi'n briodol nad yw'r swm o arian y mae pobl yn ei gael ar gredyd cynhwysol yn ddigonol, a dyna pam y gwnaethant ei gynyddu £20 yr wythnos, fel y gallai'r bobl hynny oroesi? Os cytunwch â hynny, a ydych chi hefyd yn cytuno bod ei ddileu yn awr pan fo pobl fwyaf o'i angen yn gam gwirioneddol anghywir ac yn gam gwael?

Yr hyn rwy'n cytuno ag ef yw ei fod yn gynnydd dros dro a gyflwynwyd mewn ymateb i COVID-19 ac a gafodd ei estyn y tu hwnt i'r dyddiad a addawyd yn wreiddiol.

Heddiw, bydd gwariant lles yn dal i fod yn £241 biliwn yn 2021-22, gyda thros £111 biliwn ar les oedran gweithio, neu 4.9 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Mae credyd cynhwysol yn darparu rhwyd ddiogelwch, ond nid yw wedi'i gynllunio i gaethiwo pobl mewn lles. Yn anffodus, fodd bynnag, fel y dywed ein gwelliant 2, mae lefelau tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU oherwydd methiant Llywodraethau Cymru olynol, sy'n gyfrifol am fesurau i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi yng Nghymru ers dros 22 mlynedd. 

Fel yr adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree y llynedd, mae Cymru wedi gweld cyfradd uwch o dlodi na gwledydd eraill y DU drwy gydol datganoli ers 1999, ac mae ganddi lefelau ffyniant gwerth ychwanegol gros is nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ymhellach, canfu eu hadroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2020' fis Tachwedd diwethaf fod cyflogau Cymru'n dal i fod yn is i bobl ym mhob sector na gweddill y DU a bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru, hyd yn oed cyn y coronafeirws, yn byw mewn tlodi, yn byw bywydau ansicr ac ansefydlog. Ac fel y dywedodd Sefydliad Bevan hefyd, roedd tlodi'n broblem sylweddol yng Nghymru ymhell cyn dyfodiad COVID-19, a hynny er gwaethaf y biliynau a dderbyniwyd ac a wariwyd gan Lywodraethau Cymru olynol, arian a oedd i fod i fynd i'r afael â'r bwlch ffyniant.

Erbyn mis Mehefin eleni, roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn £8.6 biliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU ers dechrau'r pandemig. Fel y dywed Archwilio Cymru, dyrannodd £5.1 biliwn i ymateb COVID-19 yn 2020-21, ac mae gan Lywodraeth Cymru o leiaf £2.6 biliwn ychwanegol ar gael yn 2021-22. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw yr wythnos hon. Mae angen buddsoddi'r arian hwn i adeiladu'n ôl yn well, codi pobl allan o dlodi, eu hatal rhag treulio—

—oes yn ddibynnol ar les, tra'n cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 3—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a

b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod holl aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cefnogi'r cais i mi lofnodi llythyr ar y cyd at Thérèse Coffey fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, a aeth gan bob un o Gadeiryddion y pwyllgorau sy'n gyfrifol am gyfiawnder cymdeithasol ym mhedair Senedd y DU. Ac rwy'n ymwybodol fod llythyr tebyg ar y cyd wedi'i anfon gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyda'i chymheiriaid yn y Llywodraethau datganoledig eraill. 

Yr hyn sy'n fwyaf eithriadol am y toriad creulon hwn yw ei fod wedi ei wrthwynebu gan ddim llai na chwe chyn-Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dros Waith a Phensiynau. Felly, credaf fod dadlau bod hwn yn syniad credadwy yn dasg anghyfforddus iawn i Aelodau'r Blaid Geidwadol ar y meinciau gyferbyn. Yn wir, mae mwyafrif y pleidleiswyr Ceidwadol, yn ôl arolwg barn diweddar, yn gwrthwynebu'r toriad hwn oherwydd ymddengys eu bod yn deall yn iawn, mewn ffordd nad yw Rishi Sunak yn deall, fod hyn yn dod ar yr un pryd â storm berffaith. Nid yn unig ei fod yn digwydd ar yr un adeg ag y bydd y cymorth ffyrlo'n cael ei dynnu'n ôl, ond hefyd yn yr un wythnos, yr wythnos hon, pan welsom brisiau ynni a'r cap ar yr hyn y gellir ei dalu'n codi i'r entrychion. Mae cynnydd arbennig o enfawr yn y swm o arian y gellir ei godi ar bobl sy'n talu drwy fesurydd am eu trydan a'u nwy, sef y bobl dlotaf un, gan mai dyna pam y maent yn gorfod cael mynediad drutach at brisiau trydan. Yn ogystal â hynny, yr wythnos hon, gwelsom effaith COVID ar deuluoedd sy'n gorfod prynu gofal plant. Mae llawer gormod o rieni'n gorfod gweithio er mwyn talu am ofal plant er mwyn cadw eu swydd, a gallwn weld sut y mae hon yn storm berffaith.

Mae'n ymddangos i mi'n syniad cwbl amhosibl fod y Llywodraeth yn dadlau mai mesur dros dro oedd hwn a'n bod yn awr yn troi'n ôl at fusnes fel arfer, oherwydd nid oes y fath beth â busnes fel arfer: rydym yn dal i fod mewn pandemig ac mae pobl yn dal i fod mewn gwaith ansicr, ac yn y cyfamser, mae prisiau'n codi am gyfuniad o resymau, gan gynnwys canlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar gyflenwadau bwyd a phrisiau bwyd. Mae'n ymddangos i mi'n anghredadwy o anodd cyfiawnhau'r toriad hwn mewn unrhyw ffordd ar yr adeg benodol hon ar ôl 10 mlynedd o fethu codi budd-daliadau i gyd-fynd â phrisiau, a chyflogau. Felly, bydd yn rhaid i'r bobl dlotaf un, gan gynnwys y bobl dlotaf mewn gwaith, dalu er mwyn i bobl eraill orfod talu llai o drethi. Ac mae'n sefyllfa anhygoel.

Felly, credaf fod yn rhaid inni drafod yn awr beth y gallwn ni ei wneud am hyn ein hunain, oherwydd ni allwn ddylanwadu ar Rishi Sunak; ni wyddom a fydd newid meddwl ar y funud olaf, ond mae'n ymddangos yn annhebygol, o gofio eu bod bellach wedi nodi 1 Hydref fel y dyddiad y daw'r toriad hwn i rym, ac wedi ysgrifennu at dderbynwyr i ddweud hynny wrthynt. Felly, credaf y bydd yn rhaid i'r bobl a gaiff eu taro galetaf ddewis a ydynt yn bwyta neu'n gwresogi yn y pen draw, neu bydd yn rhaid iddynt ddewis rhwng bwyta a gwresogi ond peidio â thalu biliau eraill fel biliau'r dreth gyngor, a fydd yn ei dro yn effeithio ar awdurdodau lleol na fyddant yn gallu casglu'r refeniw y gallant ddisgwyl ei gael fel arfer o'r dreth gyngor. Felly, mae'n storm berffaith ac mae'n anodd iawn gweld sut y gallwn liniaru effaith y toriad hynod greulon hwn.

16:40

Beth yw £20 yr wythnos? Nid yw'n gymaint â hynny, does bosibl? Dyna mae rhai o'r biliwnyddion yn San Steffan wedi awgrymu, ond mae £20 yn dod yn £1,040 y flwyddyn: swm enfawr i deuluoedd y mae'r pandemig ymhell o fod ar ben iddynt. A bydd y toriad hwn, fel y clywsom, yn digwydd yr wythnos ar ôl yr adeg y mae'n debygol y daw'r cynllun ffyrlo i ben ac ar adeg pan fydd costau byw'n codi. Rydym wedi clywed y term nifer o weithiau'n barod, 'storm berffaith', wel, mae'n storm berffaith pan fydd y to wedi chwythu i ffwrdd. A Ddirprwy Lywydd, rwy'n defnyddio termau fel hyn, 'pandemig', 'ffyrlo': dylent fod yn bwyntiau angori sy'n ein hatgoffa nad ydym yn byw mewn cyfnod normal; rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng byd-eang ac mae'r argyfwng byd-eang hwnnw'n effeithio'n drychinebus bob dydd ar bobl sy'n byw mewn tlodi—'trychinebus' yn ei wir ystyr: newidiadau sydyn, pethau'n cael eu troi ben i waered.

Ac ynghanol yr argyfwng hwn, pan fo'r holl ddarnau o fywydau pobl yn cael eu dal yn y fantol ansicr hon, caiff darn hanfodol ei gipio ymaith, a chaiff ychwanegiad a oedd i fod i gadw'r ddysgl yn wastad i bobl ei daro allan, ac fel tŵr Jenga, fel pecyn o gardiau, gall y cyfan ddymchwel, oherwydd dyna'r celwydd, onid e, wrth wraidd ein system fudd-daliadau. Nid yw'n ymwneud â rhoi diwedd ar dlodi; mae'n ymwneud â chadw pethau mewn cydbwysedd amhosibl: system sy'n gwthio teuluoedd i ddyled cyn iddynt gael eu taliad cyntaf, gan sicrhau eu bod ar ei hôl hi cyn iddynt ddechrau, a'u gorfodi i fywyd o geisio ymdopi, o ymdrechu diddiwedd, heb allu teimlo'n gyfforddus neu'n dawel eu meddwl byth, yn ceisio dal tŷ o bapur a chardiau at ei gilydd.

Bydd y toriad hwn yn effeithio ar fwy na 61,000 o deuluoedd yn ne-ddwyrain Cymru. Ym Merthyr, Torfaen a Dwyrain Casnewydd, effeithir ar fwy na chwarter yr holl deuluoedd. Dyna 61,000 o deuluoedd. Gadewch inni beidio â diystyru'r ystadegyn hwnnw—bydd 61,290 o deuluoedd, i fod yn fanwl gywir, yn colli arian sy'n eu helpu i fyw, ac mae'n rhaid bod unrhyw un sy'n dweud y gall pobl sy'n cael credyd cynhwysol fforddio colli'r arian hwn wedi camddeall yn sylfaenol sut y mae tlodi'n gweithio. Gall £20 yr wythnos fod yn wahaniaeth sy'n golygu bod gan blant foliau llawn, sy'n golygu y gall teuluoedd gadw'r gwres ymlaen, ond mae hefyd yn golygu y gall plant gael llyfrau, arian poced, a'u bod yn gallu mynd ar dripiau ysgol. Gan na ddylai'r pethau hynny fod yn foethusrwydd, ni ddylent fod ar gyfer plant cefnog yn unig; dylent fod yn normal. Bydd y toriad yn hunan-drechol. Ar adeg pan fo Llywodraethau am roi hwb i'n heconomi, mae mynd â £286 miliwn o bocedi pobl a fyddai'n ei wario'n lleol yn gam gwag economaidd ar y gorau. Mae'n doriad budd-daliadau a osodir ar Gymru heb unrhyw fandad.

Mae system fudd-daliadau'r DU sydd gennym ymhell o fod yn gynhwysol o ran ei fudd. Nid yw'n gredyd i'n cymdeithas; mae'n ynysu pobl, mae'n eu gosod ar wahân ac yn ceisio eu diraddio. Bydd effaith y toriad hwn, £20 yr wythnos, yn cael ei fesur mewn cortisol ac adfyd. Mae effaith tlodi ar iechyd meddwl, ergydion sydyn i incwm, ansicrwydd a phanig, wedi'u dogfennu'n dda. Bydd perthynas pobl dan straen, bydd cynnydd mewn dyledion a benthyciadau a bydd gorbryder i'w deimlo bob dydd gan y teuluoedd hynny—y miloedd o deuluoedd a fydd yn mynd drwy fywyd gydag ychydig bach mwy o anhawster, gan fynd heb ychydig mwy o'r pethau hynny, y pethau hanfodol na fyddai'r un ohonom byth yn amddifadu ein hunain ohonynt. Nid tŷ o gardiau mwyach, ond gwydr a fydd yn chwalu unrhyw gamargraff o degwch o ran sut y mae credyd cynhwysol yn gweithio.

Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, gyda her i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cael Torïaid San Steffan yn rheoli lles ers dros ddegawd, ac mae angen inni newid pethau ar frys. Daw'r toriad hwn i rym mewn llai na mis. Mae Plaid Cymru wedi cynnig taliad ar gyfer plant Cymru, gan ddysgu o'r Alban, lle mae teuluoedd incwm isel sydd â phlant o dan chwech oed yn cael taliad o £10 yr wythnos. Rwy'n deall y bydd hyn yn cael ei ddyblu a'i ymestyn yn fuan. Oni fyddai nawr yn amser delfrydol i gyflwyno polisi tebyg yng Nghymru? Nawr yw'r adeg i helpu'r teuluoedd hyn.

16:45

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig yma heddiw. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n trafod hyn, onid ydy? Mae'r coronafeirws wedi dangos i ni i gyd pa mor bwysig yw nawdd cymdeithasol i ni i gyd. Mae'n hanfodol mewn sicrhau ein bod ni'n llwyddo fel un, bod pob unigolyn ac aelwyd yn llwyddo. Does dim modd i'n cymunedau ni na'n heconomi ffynnu wedi'r coronafeirws os nad yw unigolion a'u teuluoedd ar hyd a lled Cymru hefyd yn ffynnu. Mae penderfyniad y Ceidwadwyr i dynnu £1 miliwn y flwyddyn yma o bocedi'r aelwydydd mwyaf bregus nid yn unig yn esgeulus, ond yn greulon. Dylai'r Ceidwadwyr deimlo cywilydd am benderfyniad eu Llywodraeth.

Ar yr adeg y mae pobl yn dechrau gobeithio y gallwn symud ymlaen o'r gwaethaf o'r coronafeirws, mae Llywodraeth y DU yn rhwygo cymorth o dan draed pobl mewn sefyllfaoedd hynod ansicr. Mae honiad y Prif Weinidog ei fod am i bobl fyw yn ôl eu hymdrechion eu hunain yn hytrach na lles yn dangos cyn lleied o gysylltiad sydd ganddo mewn gwirionedd. Mae bron i hanner y rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol eisoes mewn gwaith, a chyda llawer ohonynt â theuluoedd ifanc, bydd y toriad hwn yn gadael rhieni a'u plant ar ei hôl hi, er gwaethaf eu hymdrechion gorau. Bydd yn taro mwy na 3,500 o aelwydydd ym Mhowys yn unig, mwy na 14,000 o bobl, gyda llawer ohonynt yn aelwydydd â phlant.

Gadewch inni fod yn glir. Bydd hyn yn gwthio pobl i ddigartrefedd. Bydd yn gorfodi teuluoedd i droi at fanciau bwyd. Bydd yn golygu bod pobl yn byw mewn tai oer dros y gaeaf. Bydd pobl yn cael eu gwthio'n ddyfnach i dlodi, gyda holl oblygiadau hynny i iechyd a lles pobl. Mae'n gywilyddus. Ac ni ddylai neb yn y lle hwn fod yn gorffwys ar eu rhwyfau. Yng Nghymru, mae dros 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, tua 30 y cant o'n plant yma, cyfran uwch nag unrhyw le arall yn y DU. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021, cafodd dros 54,000 o blant barseli bwyd. Dyna un parsel bwyd bob 10 munud am flwyddyn gyfan.

Ni allaf gefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr. Unwaith eto, maent yn methu cydnabod nad yw'r cynnydd o £20 ond yn crafu wyneb yr hyn y dylai system nawdd cymdeithasol ddigonol ei gynnig i'n dinasyddion. Nid yn unig hynny, ond mae eu gwelliannau hefyd yn methu cydnabod y rôl y mae diwygio lles Llywodraeth y DU, yn enwedig toriadau ers 2017, wedi'i chwarae yn gwaethygu tlodi plant. Ac er fy mod yn cydnabod gwaith Llywodraeth Cymru, ni all teuluoedd oroesi ar ddull Parc Cathays o ddal ati yn yr un rhigol. Mae'n realiti erchyll yn y Gymru fodern fod cymaint o blant yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod, eu rhyddid a'u gobaith ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni fynd ymhellach ac yn gyflymach. 

Rwyf am orffen gyda hyn. Mae arnom angen mwy na system les dosturiol sy'n trin pobl ag urddas; mae angen aildrefnu system nawdd cymdeithasol sy'n galluogi pobl i ffynnu, nid goroesi o drwch blewyn. Felly, rwy'n gorffen gyda hyn: mae gan y Llywodraeth un cyfle i gael cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol yn iawn. Mae'r dystiolaeth ynghylch manteision darparu—[Torri ar draws.]

16:50

Na wnaf—taliadau arian parod yn enfawr, a hoffwn annog Prif Weinidog Cymru i weithio gyda'r rheini ohonom sy'n ceisio ymgyrchu dros incwm sylfaenol cyffredinol i sefydlu cynllun peilot mwy cynhwysfawr na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.

Mae Jane Dodds yn llygad ei lle—creulon ydy'r gair, a dwi'n meddwl bod rhaid i ni dderbyn heddiw mai nid bai pobl sy'n byw mewn tlodi ydy'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn tlodi. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni dderbyn bod £20 yr wythnos ychwanegol ddim wedi datrys tlodi chwaith, ac mae gweld pobl yn gwenu a chwerthin yn fy nghynddeiriogi i'n aruthrol pan dwi'n gwybod am y straeon sydd tu ôl i'r ystadegau yma; pan dwi'n cael galwadau ffôn gan bobl sydd yn gweithio, ac fel dywedodd Sioned Williams wrth agor y ddadl heddiw, pobl sy'n weithwyr allweddol ac sy'n methu fforddio rhoi bwyd i'w plant. Sori, dwi jest yn cael fy nghynddeiriogi gymaint i weld pobl ddim yn gweld y gwir dlodi sydd yn ein cymunedau ni, a'r datrysiadau y mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd arnynt, oherwydd os nad ydym ni'n derbyn bod yna broblem, yna sut ydym ni'n mynd i ddatrys hyn? Sut ydym ni'n mynd i newid bywydau pobl? 

Fe fydd 65,230 o deuluoedd yn cael eu heffeithio gan y toriad mewn credyd cynhwysol yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, sef Canol De Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif y bydd symiau mawr yn cael eu colli o economïau lleol etholaethau yn y rhanbarth. Mae'r colledion fel a ganlyn: mae Canol Caerdydd yn colli £8.4 miliwn, Gogledd Caerdydd yn colli £5.2 miliwn, De Caerdydd a Phenarth yn colli £13.2 miliwn, Gorllewin Caerdydd yn colli £10.5 miliwn, Cwm Cynon yn colli £7.6 miliwn, Pontypridd yn colli £6.1 miliwn, Rhondda yn colli £7.8miliwn, a Bro Morgannwg yn colli £8.6 miliwn. Cyfanswm y colledion, felly, yw £67.4 miliwn, sydd yn swm aruthrol, dim ond yng Nghanol De Cymru.

Mae fy rhanbarth i a’i etholaethau wedi dioddef yn economaidd ac yn gymdeithasol am ddegawdau. Yn ystod adeg o’r pandemig, Rhondda Cynon Taf oedd wedi dioddef y mwyaf o farwolaethau y pen nag unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n parhau i ddioddef cyfraddau uchel o ledaeniad. Maent hefyd wedi profi’r gwaethaf o ran newid hinsawdd yng Nghymru, gan ddioddef llifogydd dinistriol. Yn ogystal â hyn, mae'r rhanbarth eto'n dioddef o iechyd gwaeth na rhanbarthoedd eraill yng Nghymru. Mae pobl yn marw'n gynt, mae mwy o bobl yn dioddef ansicrwydd bwyd ac yn ddibynnol ar fanciau bwyd, ac mae'r lefelau tlodi plant y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, os nad yn Ewrop. [Torri ar draws.] Wel, a'r Ceidwadwyr, sori. Os ydych chi'n mynd i herio Llywodraeth, mae'r ddwy Lywodraeth yr un mor euog â'i gilydd.

Mae’r cynnydd credyd cynhwysol o £20 yr wythnos wedi bod yn achubiaeth i bobl Canol De Cymru, ond ddim wedi bod yn ddatrysiad. Mae o wedi caniatáu i fwy o deuluoedd fforddio byw, fforddio bwydo eu plant, prynu dillad, talu am drydan, golau, gwres, cysylltiad band eang angenrheidiol, ac wedi lleihau rhai ond ddim bob un o effeithiau gwaethaf economaidd y pandemig. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gwneud popeth y mae’n gallu i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wyrdroi ei phenderfyniad creulon ar gredyd cynhwysol. Mae’n rhaid iddi wneud popeth o fewn ei phwerau datganoledig i liniaru effaith tlodi yng Nghanol De Cymru, ac ar draws gweddill y wlad.

Rydym angen strategaeth i fynd i’r afael a rhoi diwedd ar dlodi—cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd. Ac, wrth gwrs, mae yna lu o bolisïau eraill y medrwn ni ddod i rym fydd yn gwneud gwahaniaeth, megis ehangu cymhwysedd cinio ysgol am ddim i bob plentyn mewn tlodi, neu bob plentyn yng Nghymru, fel yr hoffem weld, ac mae angen i’r Llywodraeth gynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd cynhwysol ar bobl yng Nghymru.

Dro ar ôl tro, mae pobl Canol De Cymru wedi cael eu siomi gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yn Senedd y DU, a chan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Digon yw digon. Rhaid inni gael mwy na geiriau gwag gan y ddwy Lywodraeth. Mae angen gweithredu. Gadewch i ni gymryd y cam cyntaf heddiw.

16:55

Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae dros 6,000 o aelwydydd yn dibynnu ar gredyd cynhwysol, ac mae 4,375 o blant yn byw mewn cartrefi lle mae eu rhieni'n dibynnu ar y cymorth hwn. Pe baem yn torri'r £20 o gyllidebau'r aelwydydd hyn bob wythnos, ni ellir gwadu y bydd yn cael effaith enfawr. Dyna'r gwahaniaeth rhwng gallu talu eich biliau, prynu esgidiau ysgol newydd i'ch plant, neu roi bwyd ar y bwrdd. Yn wir, mae'n debyg y bydd torri'r £20 yn golygu y bydd angen i un o bob pedwar o bobl fynd heb bryd o fwyd, ac mae'n debygol iawn na fyddai un o bob pump yn gallu gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn. Ac mae 40 y cant o'r bobl yr effeithir arnynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn gwaith. Maent mewn swyddi allweddol, fel cynorthwywyr addysgu, nyrsys, gweithwyr archfarchnadoedd—yn gweithio, ond yn cael eu gwthio'n nes at dlodi.

I nyrs ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd y toriad creulon hwn yn golygu colli £1,159 y flwyddyn. I'n gweithwyr cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gweithio gyda phlant sy'n agored i niwed, bydd yn golygu £1,108. Gallai cynorthwyydd addysgu, sy'n helpu pobl ifanc gyda'u dysgu, fod £1,040 yn waeth eu byd. Ac mae Llafur yn glir: boed yn San Steffan neu yn y Senedd, rydym yn gwrthwynebu'r toriad hwn a fydd yn taro'r rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf yn galetach na neb arall. Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ein bod yn gallu rhoi llais i'r bobl sy'n cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth y DU, ein bod yn gallu rhoi llais i'r bobl na allant ei wneud drostynt eu hunain. Rwy'n falch ein bod yn gwneud i bobl wynebu—unrhyw un sy'n cefnogi hyn, i wynebu—ac edrych ar yr ystadegau hyn a phwy y bydd yn effeithio arnynt ym mhob un o'n hetholaethau. Mae'n rhaid i chi allu edrych i'w llygaid pan fydd hyn yn digwydd. Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon, oherwydd roedd ASau Llafur yn bwriadu defnyddio dadl yr wrthblaid a drefnwyd ar 8 Medi i bwyso ar Lywodraeth y DU i ganslo'r toriad i gredyd cynhwysol. Fodd bynnag, rhoddodd Llywodraeth y DU stop ar hynny ddiwrnod yn unig cyn iddi ddigwydd. A beth a gafwyd yn lle hynny? Dadl a phleidlais Boris Johnson ar godi yswiriant gwladol—ymosodiad arall eto gan Lywodraeth Dorïaidd y DU ar bobl sy'n gweithio.

Gadewch imi orffen drwy ddweud 'diolch' enfawr i'r miliynau o ymgyrchwyr ledled y wlad. Hyd yn oed os nad yw'n effeithio arnynt, maent wedi bod allan yno ac maent wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymladd yn erbyn y toriad i'r credyd cynhwysol. Roedd fy nghyd-aelodau o undeb Unite, aelodau o gymunedau, ar risiau'r Senedd heddiw, yn ymuno â ni i fynnu nad yw Llywodraeth y DU yn ein hanwybyddu. Peidiwch ag anwybyddu'r miliynau o bobl rydych yn eu gwthio ymhellach i dlodi, a ninnau'n dal i fod ynghanol pandemig byd-eang.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn a'i feirniadaeth ddi-sail o Lywodraeth y DU. Mae toriadau i les gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos mai dull cyffredinol o weithredu ydyw yn hytrach na chredyd cyffredinol. Ac nid yw'n syndod, o ystyried y newyddion a welsom yn ystod y 24 awr ddiwethaf eich bod i gyd yn dod i gytundeb, felly nid yw'n syndod mewn gwirionedd.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU yn briodol—[Torri ar draws.] Na, newydd ddechrau ydw i, Alun. Yn briodol, cyflwynodd Llywodraeth y DU ychwanegiad dros dro i gredyd cynhwysol yn ystod y pandemig. Roedd hwn bob amser yn fesur am amser cyfyngedig. I ddechrau, fe'i rhoddwyd ar waith am 12 mis, ac fe'i hestynnwyd am hanner blwyddyn arall—chwe mis. Mesur a roddwyd ar waith yn ystod pandemig lle'r oedd miloedd o bobl yn wynebu bod allan o waith. Mae'r cyfyngiadau symud wedi'u codi ac rydym bellach yn canolbwyntio ar helpu'r economi i ymadfer ar ôl effeithiau ariannol enbyd y mesurau rheoli COVID.

Benthyciodd Llywodraeth y DU symiau enfawr o arian yn ystod y pandemig i sicrhau y gallem arbed swyddi ar yr un pryd â chanolbwyntio ar achub bywydau. Mae dyled genedlaethol y DU bellach yn £2.2 triliwn, sy'n swm syfrdanol. Mae ein benthyca wedi codi o 84 y cant o'r cynnyrch domestig gros yn y misoedd yn arwain at y pandemig i 106 y cant o'r cynnyrch domestig gros heddiw. Ni allwn fforddio dal ati gyda'r lefel hon o fenthyca, yn enwedig pan fo'r economi'n ymadfer. 

Dengys ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer mis Medi fod nifer y gweithwyr ar y gyflogres nid yn unig yn uwch na'r lefel uchaf cyn y pandemig, ond bod cyflogau wedi codi. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Awst 2021 yn dangos bod miloedd yn fwy o bobl bellach mewn gwaith nag a oedd ar ddechrau'r pandemig. Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod y cyflog misol canolrifol wedi codi 6.5 y cant o'i gymharu â mis Chwefror 2020. Ddoe, daeth tystiolaeth bellach o'r adferiad economaidd i'r amlwg wrth i swyddi gwag gyrraedd y lefel uchaf erioed gyda mwy na miliwn o swyddi ar gael. 

Mae diweithdra'n parhau i ostwng. Yn hytrach na chwyno ynglŷn â dileu mesurau lles dros dro, dylai Llywodraeth Cymru a'u cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ganolbwyntio ymdrechion ar drechu tlodi drwy helpu pobl i gael gwaith a helpu'r rhai sydd mewn gwaith i ailhyfforddi. Mae ein cadwyn gyflenwi bron â chwalu oherwydd prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ond mae diweithdra hirdymor yn dal i fod yn ystyfnig o uchel yng Nghymru—[Torri ar draws.]

17:00

A gaf fi atgoffa'r Aelodau i roi cyfle i'r Aelod siarad ac i wrando arno'n siarad os gwelwch yn dda?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector i ddarparu cyfleoedd ailhyfforddi? Gwaith yw'r ffordd orau allan o dlodi a dylai'r Llywodraeth wneud popeth posibl i helpu ac annog pobl i fynd yn rhan o'r gweithlu. Ni all ein gwlad fforddio parhau i fenthyca dros £5,000 yr eiliad. Mae Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y byddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn ei wneud drwy geisio mantoli'r llyfrau. Mae'r pandemig wedi costio symiau anferthol o arian, ond gan ein bod bellach dros y gwaethaf, mae'n bryd inni geisio rheoli'r gost lle bynnag y bo modd drwy ddod â chynlluniau dros dro i ben. Galwaf felly ar yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddweud nad yw credyd cynhwysol erioed wedi bod yn addas i'r diben. Mae'n costio mwy na'r budd-daliadau etifeddol blaenorol i'w ddarparu oherwydd biwrocratiaeth y peth ac mae'n helpu llai fyth o bobl. Credaf fod y toriad arfaethedig i'r cynnydd o £20 yn gic yn eu dannedd i lawer o'm hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Mae 40 y cant o'r rhai sydd ar gredyd cynhwysol mewn swyddi cyflog isel, fel y dywedwyd yn flaenorol—

Na wnaf—ac maent wedi gwneud gwaith hanfodol drwy gydol y pandemig mewn sectorau fel y GIG a gofal cymdeithasol. Yn hytrach na chael diolch am y gwaith anhygoel hwn y maent wedi'i wneud yn ystod y pandemig, maent ar fin cael eu taro â thoriad i'w credyd cynhwysol o £1,000 y flwyddyn yn ogystal â chodiad treth.

Dylai tlodi mewn gwaith ac amodau gwaith gwael fod yn bethau sy'n perthyn i'r llyfrau hanes. Yn hytrach, bydd y toriad hwn yn gwneud pethau'n waeth. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw Aelodau wedi ceisio cael swydd yn ddiweddar ac wedi gweld yr hyn sydd allan yno, y cyflogau isel—[Torri ar draws.]—sydd wedi bod yn gyrru'r economi. Cyflogau isel, amodau gwaith gwael iawn—[Torri ar draws.]

—a sifftiau ofnadwy nad ydynt yn gweddu i fywyd teuluol. Nid credyd cynhwysol yn unig sydd i'w feio am hyn chwaith, ond effaith gyfunol polisïau cyni'r Torïaid, gan gynnwys y dreth ystafell wely a'r polisi dau blentyn hefyd. Felly, dim ond ar gyfer dau blentyn y gallwch gael arian bellach.

Yn y Rhyl yn unig, effeithir ar 4,000 o bobl. Bydd effaith ganlyniadol i hyn ar gymunedau lleol ar adeg pan ddylai buddsoddi yn ein cymunedau fod yn brif flaenoriaeth—

17:05

Gareth Davies a gododd—.

Rhowch arian i bobl ddosbarth gweithiol yn eu pocedi. Rhowch arian i bobl ddosbarth gweithiol yn eu pocedi a byddant yn ei wario oherwydd bod angen iddynt ei wario. Tyfu'r economi yn y ffordd honno. Rhowch arian ym mhocedi pobl. Mae pobl gyfoethog yn ei gynilo, yn ei roi yn y banciau. Mae arian i fod i gael ei wario, mae i fod yn rhan o'r economi, i gadw'r economi i fynd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi camau ar waith i drechu tlodi ledled Cymru, gan ehangu'r gronfa cymorth dewisol, diogelu prydau ysgol am ddim ac mae'n bwriadu treialu'r incwm sylfaenol cyffredinol, sydd i'w groesawu'n fawr. Diolch.

Cawsom gipolwg anhygoel ar y meinciau eraill heddiw. Rwyf am ddweud un peth. Roeddent yn siarad am yrwyr cerbydau nwyddau trwm a'u hyfforddi, wel, rwyf am ddweud hyn wrthych: erbyn i chi hyfforddi gyrrwr cerbyd nwyddau trwm, bydd y bwyd wedi pydru yn y lori. Rhywbeth i chi feddwl amdano, dyna'r cyfan, ac roeddwn i'n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol i'ch helpu wrth i chi ystyried hynny.

Ond rwyf am ofyn ychydig o gwestiynau. Gwyddom i gyd fod cael gwared ar raff achub o £20 yr wythnos yn greulon, ond rwyf am ofyn cwestiwn: ar beth oedd Llywodraeth y DU yn credu bod y bobl yn gwario'r £20 yr wythnos, fel nad oes ei angen arnynt mwyach? A oeddent yn credu y gallai fod ar gyfer bwyd, rhent, gwres, dillad i'w plant? Rhaid imi ofyn y cwestiwn, oherwydd os oeddent yn credu mai ar y pethau hyn roedd pobl yn gwario'r £20 yr wythnos, pam eu bod yn credu nad oes ei angen arnynt mwyach? Ai bwriad y Prif Weinidog, wrth gwrs, yw gwneud yr hyn y mae'r Torïaid bob amser yn ei wneud a beio'r tlawd unwaith eto? Ac rydym wedi gweld tystiolaeth yma y prynhawn yma—am fod yn dlawd. A yw'n cydnabod bod gweithwyr allweddol yn cael y rhaff achub bitw hon? Y gweithwyr allweddol yr aethoch allan i guro dwylo drostynt, dyna'r bobl rydych yn mynd â'r £20 yr wythnos oddi wrthynt. Ac mae gan y Torïaid hanes da, wrth gwrs, o fynd â phethau oddi wrth bobl. Fe wnaethant gynnwys y dreth ystafell wely fel eu bod yn dileu'r hawl i bobl gael dwy ystafell wely. Methwyd rhoi eu pensiynau i fenywod ar amser, er iddynt honni eu bod wedi gwneud hynny. Yr wythnos diwethaf hefyd, fe wnaethant benderfynu nad oes angen i'r cyfoethog dalu am ofal iechyd gan iddynt roi'r cynnydd ar yswiriant gwladol. Pwy sy'n talu hwnnw, gofynnaf? Ond hefyd, nid oedd gan y gofal iechyd y bwriadwyd i'r cynnydd yn yr yswiriant gwladol dalu amdano ddim oll i'w wneud â COVID, a phopeth i'w wneud â 10 mlynedd o gyni.

Felly, rydych wedi llorio'r wlad, ac yn awr rydych am lorio pobl. Ond ni fodlonwch ar hynny, wrth gwrs, oherwydd rydych yn mynd i feio'r bobl hynny—yr union bobl y byddwch yn dibynnu arnynt i lenwi'r silffoedd, wedi inni hyfforddi'r gyrwyr cerbydau nwyddau trwm wrth gwrs, pan na fydd y bwyd wedi pydru—o'u pocedi hwy y byddwch yn mynd â'r arian. Ac mae Sefydliad Resolution wedi dweud y bydd yn rhaid i'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol weithio naw awr yr wythnos i wneud iawn am y diffyg o £20. Mae'n drueni nad oedd yr Ysgrifennydd gwaith a phensiynau, a oedd yn credu mai dim ond dwy awr ydoedd, wedi darllen y briff hwnnw yn gyntaf, oherwydd mae'n amlwg nad oedd yn deall y byddai 63c ym mhob punt yn cael eu hawlio'n ôl. Ni allai wneud mathemateg syml, er mwyn popeth. Mae'n sarhad llwyr. Mae hyn yn sarhad llwyr. Ac mae honni na allwch ei fforddio a chytuno na allwch ei fforddio braidd yn ddryslyd. Sylwaf fod Stephen Crabb, heddiw, wedi dweud ei fod yn beth cywilyddus i'w wneud. Byddai'n ddiddorol iawn gwybod a yw ei gydbleidiwr, Paul Davies a rhai ohonoch chi ar y fainc hon yn cytuno â hynny.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Mewn ymateb i Sioned Williams yn ei haraith agoriadol, pan fo rhaff achub fel credyd cynhwysol dan ymosodiad o'r fath, pan fo'r rhai sy'n dibynnu arno yn wynebu'r fath anghyfiawnder, rhaid inni uno i wrthwynebu'r penderfyniad cwbl wirfoddol hwn gan Lywodraeth y DU.

Yr hyn sy'n glir, ac sydd wedi'i fynegi mor rymus yn y ddadl hon, yw bod y bobl niferus a oedd angen yr £20 ar ddechrau'r pandemig yn dal i fod ei angen yn awr. Nid yw'r amgylchiadau wedi newid. Mae niwed wedi gwreiddio'n ddyfnach. Mae'r niferoedd sy'n hawlio credyd cynhwysol, fel y gwyddom i gyd fel Aelodau o'r Senedd, wedi dyblu o 3 miliwn i 6 miliwn ers dechrau'r pandemig. Fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, y rhai y mae'r toriad hwn yn effeithio arnynt yw'r rhai sydd ein hangen ni fwyaf, a rhai sydd hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddiogelu ein gwlad rhag COVID-19—llawer o weithwyr allweddol.

Felly, rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU, ynghyd â Gweinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i ailystyried y toriad arfaethedig hwn. Gallant ailfeddwl a newid o hyd i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol—dyna'r rydym wedi galw amdano—ac i gynnig y taliad i bobl sy'n hawlio budd-dal etifeddol. A gaf fi ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth Jenny Rathbone—mae pob aelod yn cefnogi'r alwad honno, a'r holl bwyllgorau ar draws Llywodraeth y DU, gan gynnwys pwyllgor dethol San Steffan ei hun, a oedd hefyd yn cefnogi'r alwad hon i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol?

Yn ein llythyr gan Weinidogion o'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gofynnwyd i Lywodraeth y DU ddangos eu hasesiad i ni o'r effaith y byddai'r toriad hwn yn ei chael ar lefelau tlodi. Nid ydym wedi cael ymateb. Gwnaethom atgoffa Llywodraeth y DU mai dyma'r toriad unigol mwyaf i daliad nawdd cymdeithasol ers yr ail ryfel byd. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwybod beth fydd yr effaith. Maent wedi gweld yr asesiadau. Maent wedi clywed y rhybuddion gan lu o arbenigwyr, elusennau, a gwrthwynebiad o'u meinciau eu hunain yn wir.

Mae'r Aelodau wedi nodi mor glir y prynhawn yma beth yw effeithiau real iawn y penderfyniad cwbl wirfoddol hwn. Dywed Ymddiriedolaeth Trussell ei bod yn debygol y bydd angen i un o bob pedwar o bobl fynd heb brydau bwyd. Mynegodd Sarah Murphy hyn mor glir, gan rybuddio yn ei disgrifiad graffig am yr effaith y gallai hyn ei chael ar ei phobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dyna 64,000 o bobl yng Nghymru—un o bob pedwar. Mae'n debygol iawn na fydd un o bob pump yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl ledled Cymru.

Bydd yn cynyddu lefelau tlodi ledled Cymru, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sydd wedi cyfarfod â chomisiwn gwrth-dlodi Cymru, a ddywedodd wrthyf yr haf hwn beth fyddai hyn yn ei olygu. Dyma oedd eu prif flaenoriaeth—y dylwn weithio, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i atal y toriad hwn o £20. Roeddent yn cynnwys elusennau tlodi plant, Cyngor ar Bopeth, yr ymgyrch 'Keep the Lifeline', landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—oll yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu'r rhaff achub hon.

Bydd yn effeithio ar bobl anabl a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Dyna 76,000 o bobl sydd wedi'u cofrestru a'u parchu fel rhai nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn galw arnynt i weithio—y grŵp nad yw'n ofynnol iddynt chwilio am waith. Hefyd, ceir yr effaith economaidd negyddol enfawr a fynegwyd mor glir heddiw. Canfu Sefydliad Bevan y byddai tua £286 miliwn yn cael ei dynnu o economi Cymru.

Felly, mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at y storm berffaith. Os nad yw'r toriad o £20 yn ddigon didostur ar ei ben ei hun, mae wedi'i gyplysu â diwedd ffyrlo, y cynnydd mewn costau tanwydd, a'r ffaith bod holl gostau byw yn codi—ac wrth gwrs, y cyhoeddiad diweddar, sy'n torri addewid maniffesto, i gynyddu yswiriant gwladol, cam y dywedodd eu CThEM ei hun y gallai arwain at chwalu teuluoedd sy'n byw mewn tlodi.

Ddirprwy Lywydd, mae 97,000 o'r bobl yng Nghymru sy'n derbyn credyd cynhwysol yn gweithio, fel y dywedodd Carolyn Thomas, mewn gwaith ar gyflogau isel, ac mae cynyddu yswiriant gwladol yn taro'r rhai sydd ond yn llwyddo i gadw eu pen uwchben y dŵr. Felly, mae'r rhybuddion a'r dystiolaeth yn glir, a diolch i Jane Dodds am ddweud mor glir fod angen y rhwyd ddiogelwch hon arnom. Rhaid inni sicrhau y gall y Llywodraeth gefnogi ac ymyrryd ar ran y rhai a fydd yn dioddef.

Mae'n realiti amlwg, hyd yn oed os cynhelir y taliad o £20—a dyna'r hyn rydym yn galw amdano y prynhawn yma—ni fydd yn gwneud iawn am yr incwm a gollodd ein cartrefi tlotaf oherwydd y toriadau difrifol i'w taliadau budd-daliadau a gyflwynwyd gan flynyddoedd o doriadau lles. A chyfeiriodd Joyce Watson at Stephen Crabb. Cyfaddefodd heddiw—. O dan ei oruchwyliaeth ef, cyfaddefodd ei fod yn rhan o'r tîm Torïaidd a wnaeth y penderfyniad i rewi budd-daliadau, penderfyniad y mae'n cyfaddef ei fod bellach wedi gwthio mwy o weithwyr i fyw mewn tlodi.

Felly, Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod y dulliau allweddol o fynd i'r afael â thlodi, megis pwerau dros dreth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU, ond gwyddom hefyd fod pobl yng Nghymru yn haeddu system nawdd cymdeithasol wirioneddol gadarn nad yw'n gorfodi pobl i mewn i dlodi pellach neu dlodi parhaus, a dyna pam y byddwn hefyd yn parhau i archwilio'r achos dros ddatganoli lles. Yn amlwg, mae hwn yn ymrwymiad, ac fe'i trafodwyd ddoe, ond roedd hefyd yn ymateb i'r pwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chyfiawnder yn y weinyddiaeth ddiwethaf.

Yn y cyfamser, rhaid inni weithredu yn awr. Mae rhoi diwedd ar yr £20 yr wythnos—os yw'n digwydd, a rhaid inni barhau i ymdrechu i'w atal—yn golygu bod aelwydydd yn nesu at ymyl y dibyn yn ariannol. Mae'n hanfodol ein bod yn helpu, gan ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym ym maes tlodi plant. Soniaf am ddau beth: y cynllun gweithredu pwyslais ar incwm—rydym yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl; cawsom ein hymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau lles, ac fe helpodd bobl i hawlio £650,000 o incwm budd-dal lles—ond hefyd y gronfa cymorth dewisol—y ffaith ein bod wedi rhoi hwb o £25.4 miliwn iddi yn ystod y pandemig—a darparu cymorth brys i bobl â thanwydd heb fod ar y grid sy'n profi caledi ariannol dros fisoedd oeraf y flwyddyn.

Felly, gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn parhau—y bydd y cymorth yn cael ei ymestyn, o'r gronfa cymorth dewisol, o dan yr amgylchiadau hyn, o fis Hydref hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan sicrhau cymorth drwy gydol y gaeaf, a byddwn yn parhau â'r hyblygrwydd rydym wedi'i gynnwys yn y gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig i roi cymorth ariannol i bobl a fydd yn wynebu mwy fyth o bwysau cyn bo hir o ganlyniad i'r newidiadau a wneir gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Ddirprwy Lywydd, pan fo cymaint o wrthwynebiad i'r toriad o £20—ac efallai fod peth ar ein meinciau yma—gan Lywodraethau datganoledig, gan elusennau, gan dros 50 o ASau Torïaidd, gan gynnwys chwe chyn Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n anfaddeuol ac yn gywilyddus a dweud y gwir fod y Ceidwadwyr yn gwrthod gwrando a sefyll gyda'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae cyni yn amlwg ac yn bendant yn ei ôl i'r bobl dlotaf a'r rhai ar y cyflogau isaf, ond diolch i'm cyd-Aelodau eto am y cynnig hwn, am ein galluogi i alw ar y cyd ar Lywodraeth Geidwadol y DU i gamu'n ôl o ymyl y dibyn a gwneud yr hyn sy'n iawn.

17:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r Gweinidog, wrth gwrs, am ateb a'r cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Efallai nad oeddwn yn cytuno â phob un, ond diolch serch hynny.

Ddirprwy Lywydd, ni allai'r ddadl hon fod yn fwy amserol. Y bore yma, ar y bws i mewn, roedd pennawd newyddion y BBC yn dweud bod prisiau wedi codi'n uwch nag erioed o'r blaen wrth i gostau bwyd gynyddu ym mis Awst. Y cynnydd mwyaf mewn chwyddiant ers dechrau cadw cofnodion yn 1997, ac eto ni chlywn ddim, dim o gwbl gan y Llywodraeth Dorïaidd: dim tro pedol ar ddileu'r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol, dim ynglŷn â pha fesurau y bydd yn eu cymryd i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas na'r gostyngiad mwyaf i unrhyw daliad nawdd cymdeithasol ers y 1930au. Yn hytrach, mae gennym yr Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'n cefnogi'r toriad i gredyd cynhwysol gan ddweud na fyddai ond yn golygu dwy awr o waith ychwanegol. O na bai mor syml â hynny. Mae'n debyg mai 'cywilyddus' yw'r gair mwyaf priodol sy'n dod i'r meddwl. Rwy'n siŵr na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn ymateb yn garedig iawn i'r geiriau a ddefnyddiais pan glywais y sylwadau gyntaf, felly mae'n well i mi beidio â'u hailadrodd.

Nawr, gwyddom y bydd gan y gostyngiad mewn credyd cynhwysol a chredydau treth gwaith oblygiadau i economi Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif y bydd y toriad yn mynd â £286 miliwn yn uniongyrchol o bocedi teuluoedd incwm isel yng Nghymru bob blwyddyn. Clywn am y pwyslais ar adferiad economaidd. Wel, mae'n siŵr y caiff ei lesteirio gan y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, y byddai'n well ganddynt gosbi'r dosbarth gweithiol a helpu eu ffrindiau cyfoethog. Fel y mae Delyth Jewell eisoes wedi gofyn i ni: beth yw £20? Dyna arian a allai fod wedi mynd ar hanfodion—arian a fyddai wedi'i wario yn ein heconomi, arian a allai fod wedi mynd ar drît achlysurol.

Tynnodd Sioned Williams sylw'n briodol at yr effaith y byddai'r toriad i gredyd cynhwysol yn ei chael ar deuluoedd sy'n gweithio. Fel y nododd eisoes, mae'r TUC yn dweud wrthym y bydd traean o'r teuluoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru yn deuluoedd sy'n gweithio, ac mae'r rheini'n deuluoedd ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau. Mae a wnelo hyn ag urddas a pharch tuag at ein cyd-ddinasyddion, ac ar y pwynt hwn ynglŷn ag urddas a pharch, gyda'r dystiolaeth—ac wrth gwrs, tystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod o bron i ddegawd, gyda llaw—yn erbyn credyd cynhwysol, rwy'n ei chael hi'n anodd credu bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dal i'w amddiffyn. Achos ar ôl achos ar ôl achos lle mae teuluoedd yn sownd mewn cylch dieflig o dlodi. Ac rwyf wedi eistedd yma hefyd, drwy gydol y ddadl hon, a'r cyfan a glywais oedd Aelodau Ceidwadol ar y meinciau'n chwerthin. Yn chwerthin. Dylech fod â chywilydd llwyr. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad, diolch. Na, nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. Rydych wedi bod yn chwerthin drwy gydol ddadl hon.

Dewch gyda mi; dewch gyda mi i fy rhanbarth. A Sarah Murphy hefyd rwy'n siŵr—mae'r ddau ohonom yn cynrychioli'r un ardal. Awn â chi at rai o'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y Llywodraeth Dorïaidd, a chawn weld beth yw eu barn hwy am y ffaith eich bod chi'n chwerthin ar eich meinciau. Dylech fod â chywilydd mawr—

17:20

—ohonoch chi'ch hunain. Cywilydd mawr ohonoch chi'ch hunain. [Torri ar draws.] Cywilydd mawr ohonoch chi'ch hunain. Nid oes gennych unrhyw hygrededd yn y ddadl hon o gwbl.

Felly, beth sydd angen digwydd? Wel, rydym wedi amlinellu'n glir yn ein cynnig, ac rydym wedi ymhelaethu'n fanwl iawn ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud. Byddai Llywodraeth sosialaidd yn mynd ar drywydd datganoli lles ar frys er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog a'r Aelodau Llafur yn maddau i mi pan ddywedaf nad wyf bob amser yn cytuno â hwy, ond hoffwn feddwl y byddai eu Llywodraeth yn llawer mwy tosturiol na'r un sydd gennym yn San Steffan ar hyn o bryd, nid bod y bar wedi'i osod yn arbennig o uchel, cofiwch. Rhaid i'r Llywodraeth gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys targedau perfformiad clir i fesur cynnydd, a rhaid iddo liniaru effeithiau gwaethaf y toriad i gredyd cynhwysol drwy gynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol tra'n defnyddio mesurau eraill, megis ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.

Fel fy ffrind Sioned Williams, dim ond ers pedwar mis y bûm yn Aelod o'r Senedd, a chlywais ddigon am adolygiadau i bara oes. Mae angen help ar bobl nawr. Nawr yw'r amser i weithredu. Beth yw pwynt y lle hwn a beth yw ein pwynt ni os na allwn ddiogelu pobl Cymru? Beth yw pwynt y lle hwn os na allwn roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i bobl Cymru pan fydd arnynt fwyaf o'i angen?

Gofynnaf un peth i'r Aelodau pan fyddant yn pleidleisio ar y cynnig hwn: meddyliwch yn ddwys. Meddyliwch yn ddwys am y caledi sy'n wynebu teuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru heddiw. Meddyliwch yn ddwys am ganlyniadau eich pleidlais. Meddyliwch yn ddwys am ba gymorth y byddai ei angen arnoch pe baech chi byth yn eu hesgidiau hwy.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:23.

17:30

Ailymgynullodd y Senedd am 17:32, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fynediad at ddiffibrilwyr. Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, ymatal neb, yn erbyn 27. Ac felly rydw i'n bwrw fy mhleidlais i yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais: o blaid y cynnig 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

17:35

Eitem 5 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, dyma ni'n mynd i'r bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.

Eitem 5 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 42, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Ac felly mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM7771 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4. Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 5 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar gredyd cynhwysol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Ac felly rŷn ni'n edrych nawr i bleidleisio ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 6 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 6 - Gwelliant 2 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf, ac os bydd gwelliant 3 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 4 a 5 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 3 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

17:40

Eitem 6 - Gwelliant 3 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 16, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 4 a 5 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7772 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.

2. Yn cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.

3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel.

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a

b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.

Y cynnig wedi ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 6 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna ni, felly, yn cyrraedd diwedd y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Fer: Byddwn yn eu cofio: Pam y mae'n rhaid inni warchod cofebion rhyfel Cymru

Ond mae yna un eitem eto, wrth gwrs, sef y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan Paul Davies. Paul Davies.

Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud i Peter Fox a James Evans—

Os wnaiff Aelodau—sori, Paul—os wnaiff Aelodau adael yn dawel.

Os gall yr Aelodau adael yn dawel iawn, byddai hynny'n gwrtais.

Felly cychwyn eto. Paul Davies.

Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Peter Fox a James Evans yn y ddadl hon. Mae'r ddadl heddiw yn arbennig o ingol gan ei bod yn Ddiwrnod Brwydr Prydain ac rydym yn anrhydeddu gwaddol y criwiau awyr dewr a amddiffynnodd Brydain yn erbyn gorthrwm. Nawr, mae'r ymgyrch i ddiogelu cofebion rhyfel ledled Cymru wedi bod yn un rwyf wedi bod yn falch o'i harwain ers sawl blwyddyn bellach, ac er ei bod yn bleser mawr gennyf dynnu sylw at y mater hwn eto, dyma'r trydydd tro imi gyflwyno dadl ar y pwnc, felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall ei bod yn rhwystredig iawn gweld mai ychydig o weithredu a gafwyd gan Lywodraethau olynol ar y mater hwn. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod hefyd wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru ac os bydd yn llwyddiannus yn y bleidlais honno, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ddeddfwriaeth.

Rwyf am nodi o'r cychwyn nad yw'r ymgyrch hon yn un wleidyddol bleidiol, ac mae gwleidyddion o bob plaid ledled y DU wedi ymgyrchu i ddiogelu cofebion rhyfel yn well. Maent yn rhan hanfodol o'n gwead diwylliannol a chymdeithasol, ac mae'n bwysig ein bod yn anrhydeddu aberth ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog ei hun yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu cofebion rhyfel, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y ddeddfwriaeth honno pan ddaw'r manylion i'r amlwg.

Yn yr Alban, cefnogodd Aelodau Llafur o Senedd yr Alban dros yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, sef Rhoda Grant a David Stewart, alwadau am fwy o warchodaeth i gofebion rhyfel. Mae Aelod o'r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban, Gillian Mackay, hefyd wedi siarad am warchod cofebion rhyfel yn ddiweddar ar ôl i gofeb ryfel yn Motherwell gael ei fandaleiddio am yr eildro mewn ychydig wythnosau yn unig. Ac yma yng Nghymru, mae Gweinidogion wedi ymrwymo dro ar ôl tro i wneud mwy i warchod ein cofebion rhyfel.

Mae'n hanfodol fod cenedlaethau'r dyfodol yn cofio'r rhai a fu farw dros ein rhyddid ac yn dysgu o ryfeloedd blaenorol fel na chânt eu hailadrodd eto. Felly, rwy'n annog y Dirprwy Weinidog yn gryf i flaenoriaethu'r mater hwn ac ymrwymo i wneud popeth y gellir ei wneud i ddiogelu a chynnal y cofebion hyn wrth iddynt ddod o dan fygythiad cynyddol.

Nawr yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan Gymru oddeutu 5,000 o gofebion rhyfel o bob lliw a llun, o barciau a gerddi i gerfluniau a senotaffau. A gwyddom fod pob cofeb ryfel yn unigryw yn ei ffordd ei hun; mewn rhai achosion, efallai mai'r enwau a restrir ar gofeb yw'r unig gofnod o aberth yr unigolyn hwnnw. Maent hefyd yn bwynt ffocws pwysig yn ein cymunedau lleol sy'n cael gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf bwriadau da a gwaith caled llawer o bobl, mae'n dal yn wir fod cofebion rhyfel yn parhau i fod yn agored i'r tywydd ac i amser, a hyd yn oed yn waeth na hynny, mae rhai wedi cael eu fandaleiddio a'u haflunio.

Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio yn ôl ym mis Chwefror pan gafodd cofeb ryfel yn y Rhyl ei fandaleiddio â swasticas a graffiti gwrth-semitig. Dangosodd y fandaliaeth honno'r dirmyg mwyaf i'r rhai a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru heddiw yn rhoi'r ymrwymiad cryfaf posibl i ddiogelu a gwarchod ein cofebion ar gyfer y dyfodol. Yn ôl yn 2012 ac eto yn 2019, cyflwynais lawer o'r un dadleuon ag y byddaf yn eu rhoi heddiw i Lywodraeth Cymru. Ar y pryd, er bod pob ymateb i'r ddadl yn ddiffuant a chydymdeimladol, nid yw cofebion rhyfel Cymru ronyn yn fwy diogel heddiw nag oeddent bryd hynny.

Rhan gyntaf fy nghynnig deddfwriaethol yw i Lywodraeth Cymru, drwy awdurdodau lleol, lunio rhestr genedlaethol gyfoes o gofebion rhyfel Cymru. Gwn fod peth gwaith wedi'i wneud ar hyn gan Cadw drwy raglen Cymru'n Cofio, ond mae mor bwysig fod y data diweddaraf yn cael ei gofnodi a'i fonitro'n rheolaidd i gadarnhau nifer a lleoliad cofebion rhyfel yng Nghymru. Credaf y gellid gwneud hyn orau drwy awdurdodau lleol, a ddylai fod mewn sefyllfa well i nodi a llunio rhestr o'r cofebion rhyfel ym mhob un o'u hardaloedd. Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, bydd yna adegau lle bydd rhai cofebion ar dir preifat efallai neu, er enghraifft, wedi'u lleoli mewn ysgol neu eglwys, ac fel y cyfryw, perchennog y tir hwnnw fyddai'n gyfrifol am gynnal y cofebion hynny. Fodd bynnag, yr hyn sy'n allweddol i ddiogelu cofebion rhyfel Cymru yw gwybod yn union ble y maent ynghyd â'u cyflwr. 

Yn ail, ni fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog glywed fy mod yn credu y dylai fod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, a byddai hynny'n golygu bod dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod cofebion rhyfel yn eu hardaloedd yn cael eu cynnal. Rwyf wedi galw ers tro am ddeddfwriaeth i osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, ac er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y syniad, nid oes unrhyw ymrwymiad cryf wedi'i roi i ddeddfwriaeth hyd yma. Wrth gwrs, gwyddom fod Deddf Cofebion Rhyfel (Pwerau Awdurdodau Lleol) 1923 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer cynnal a chadw cofebion, ond nid oes rheidrwydd ar gynghorau i wneud hynny. Byddai gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob cofeb ryfel gyhoeddus yn cael ei diogelu a'i chynnal. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob awdurdod lleol geidwad penodol a fyddai'n gweithio i nodi a chadw cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Yn y swydd hon, byddai'r unigolyn dan sylw'n gweithio'n agos gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y cofebion a'r bobl sydd â'u henwau arnynt. Yn anffodus, mewn llawer o awdurdodau lleol, nid oes pwynt cyswllt i bobl gael gwybod mwy am y cofebion yn yr ardal, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod gwir angen ei newid. 

Yn fy marn i, dim ond drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol y gallwn sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu gwarchod yn briodol. Mae'n bosibl fod rhai cofebion rhyfel o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gallent hefyd fod yn gynrychioliadol o fath penodol o waith, ac felly yn aml gall cymunedau lleol ddweud ffeithiau wrthych am gofebion nad ydynt bob amser yn wybodaeth gyhoeddus. Felly, mae'n hanfodol sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol fel y gellir archwilio a gwerthfawrogi diwylliant a hanes lleol yn llawn ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, mae rhai grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud gwaith gwych yn diogelu cofebion rhyfel, a dylid eu hannog i barhau i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai cefnogaeth rhywun o fewn yr awdurdod lleol yn helpu i gryfhau'r gwaith a wneir eisoes gan lawer o grwpiau cymunedol ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol iddynt ar bopeth o olrhain hanes i gynnal a chadw a chadwraeth. 

Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, mae cyfle hefyd i'r rôl hon gynnwys rhywfaint o waith addysgol allgymorth, er enghraifft, drwy ymweld ag ysgolion a siarad â phlant a phobl ifanc. Mae hyn mor bwysig er mwyn addysgu ein plant a'n pobl ifanc am ryfeloedd blaenorol a'r aberth a wnaed gan bobl yn eu cymuned leol. Credaf o ddifrif y byddai creu'r rôl hon yn anfon neges gref fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i anrhydeddu ei harwyr a chynnal ei threftadaeth filwrol. Ar yr un pryd, mae hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn anghofio'r aberth a wnaed gan gynifer dros ein rhyddid. Penodi ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel mewn cymunedau fyddai'r ffordd orau o sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda grwpiau cymunedol lleol, a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ag ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd straeon ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad.

Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno nad yw cynnal a chadw cofebion rhyfel yn gamp hawdd. Mae pob cofeb yn wahanol ac o'r herwydd, dylid ei hatgyweirio a'i gwarchod mewn ymateb i'w hanghenion unigol. Bydd angen cyngor arbenigol proffesiynol mewn perthynas â llawer o gofebion i asesu cyflwr y gofeb yn gywir a sefydlu'r ffordd gywir o atgyweirio neu warchod y gofeb, ac mae hynny'n costio arian. Gallai ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel gefnogi grwpiau cymunedol yn eu cais i ddenu cyllid grant ar gyfer prosiectau penodol, a chyflwyno'r achos i gyngor y dylai ymyrryd a chefnogi prosiect. 

Yn olaf, credaf ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod ble mae ein cofebion rhyfel wedi'u lleoli a phwy sy'n gyfrifol amdanynt. Mae mor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau'n cael digon o gymorth a chyllid i fynd i'r afael ag achosion o fandaliaeth, ac i fynd i'r afael hefyd â'r rhai sy'n targedu cofebion rhyfel fel metel sgrap. Ni allaf ei ddweud yn gliriach: nid troseddau heb ddioddefwyr yw'r rhain o gwbl. Maent yn droseddau yn erbyn cymdeithas, a dylem droi pob carreg wrth nodi ffyrdd o atal y rhai sy'n ceisio symud cofebion rhyfel.

Bydd y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn ymwybodol o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013 a gyflwynwyd i gryfhau'r rheoliadau ynghylch delwyr metel sgrap, ac i dynhau'r drefn bresennol. Mae'r ddeddfwriaeth honno, a gyflwynwyd yn 2013, yn golygu bod yn rhaid i bob unigolyn a busnes gwblhau proses ymgeisio drylwyr i gael trwydded deliwr metel sgrap, ac mae hefyd yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol wrthod ymgeiswyr anaddas a dirymu trwyddedau. Mae'n gam cadarnhaol ymlaen, ond mae mwy y gellir ei wneud bob amser.

Rwyf hefyd yn ymgyrchu i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu llofnod SmartWater arloesol ar gyfer awdurdodau lleol. Hylif atal troseddau yw SmartWater sy'n ei gwneud hi'n bosibl adnabod cofebion rhyfel unigol, ac mae'n cynnig ffordd sicr o ddod o hyd iddynt pe bai lladrad yn digwydd. Dim ond o dan olau uwchfioled y mae'n weladwy, a gall helpu'r heddlu i olrhain cofebion wedi'u dwyn, ac ar ôl ei osod, mae bron yn amhosibl ei dynnu, gan ei fod yn gwrthsefyll llosgi, sgwrio â thywod ac amlygiad hirdymor i olau uwchfioled. Dyma un ffordd o ddiogelu cofebion rhyfel, ac rwy'n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddatblygu partneriaeth ehangach gyda Sefydliad SmartWater, a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn wir, i ddefnyddio'r ataliad pwerus hwn a sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol fodd o'i ddefnyddio.

Nid yw hynny'n golygu nad oes rhywfaint o waith wedi'i wneud i warchod cofebion yng Nghymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhai yn Cadw sydd wedi gweithio gyda chymunedau ac unigolion lleol i greu cynlluniau cynnal a chadw cadwraethol. Fodd bynnag, y realiti yw bod llawer o gofebion rhyfel heb geidwaid, ac mae'r cofebion hynny'n haeddu ein hamser a'n parch hefyd. Ac felly, yn anad dim arall heddiw, rwy'n mawr obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau y bydd yn adolygu'r ddeddfwriaeth ynghylch gwarchod cofebion rhyfel, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid fel yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Cadw i dynhau'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Lywydd, wrth gloi, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r amser a'r sylw y maent yn eu haeddu i'r cynigion hyn, a byddwn yn hapus i weithio gydag unrhyw Aelod yn y Siambr i warchod cofebion rhyfel Cymru yn well. Teitl y ddadl hon yw 'Byddwn yn eu cofio', ac mae diogelu a gwarchod cofebion rhyfel yn un ffordd o anrhydeddu ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Ac mae'n fwy na hynny. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt, a'r pris uchaf a dalwyd ganddynt am ein rhyddid. Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwarchod ein treftadaeth filwrol yn y Senedd hon, ac ymrwymo i wneud mwy i warchod cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Diolch. 

17:50

Rwy'n falch iawn o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n diolch yn ddiffuant i Paul Davies am roi'r amser i mi. Rwy'n gwybod bod Paul yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â hyn, fel y mae llawer ohonom. Mae'n fater pwysig, un sy'n croesi'r holl linellau pleidiol. Rhaid inni beidio byth ag anghofio'r bobl sydd wedi gwasanaethu ac wedi gwneud yr aberth eithaf ar ein rhan. Mae cofebion rhyfel yn chwarae rhan ganolog yn ein cymdeithas ac yn ein hatgoffa o'r rôl aruthrol y mae Prydain wedi'i chwarae yn diogelu'r rhyddid rydym yn ei fwynhau hyd heddiw. Ond ers gormod o amser, mae llawer o'n cofebion rhyfel wedi dioddef yn sgil dadfeilio a fandaliaeth, fel y nododd Paul, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae sicrhau dyletswydd statudol i'w hamddiffyn, a fyddai'n cynnwys penodi swyddog cofebion rhyfel, yn rhywbeth y dylai pob Aelod o'r Senedd ei gefnogi. Rwy'n ymuno â'm cyd-Aelodau yma heddiw i alw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i wrando ar ein galwadau. Mae mor bwysig nad ydym byth yn anghofio'r bobl sydd wedi gwasanaethu mor ddewr drosom. Diolch, Lywydd.

17:55

Hoffwn dalu teyrnged a diolch i'm cyd-Aelod Paul Davies, am ganiatáu i mi gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n talu teyrnged i'r gwaith a wnaethoch a'r ymroddiad rydych wedi'i ddangos i wella a gwarchod ein cofebion rhyfel a'n harwyr a syrthiodd ar faes y gad.

Ni ddylai Llywodraeth Cymru nac unrhyw Lywodraeth esgeuluso'r gwaith o warchod ein cofebion rhyfel, ac rwy'n cefnogi galwadau am gonsensws trawsbleidiol ar sicrhau bod ein cofebion rhyfel yn cael cydnabyddiaeth a gwarchodaeth statudol yn y gyfraith. Mae cofebion ar draws Brycheiniog a Sir Faesyfed yn ein hatgoffa'n ingol am yr aberth eithaf a wnaed gan y milwyr a'r menywod dewr a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid, fel y gallwn ddod yma i gynrychioli ein cymunedau a'n democratiaeth.

Ni ddylid anghofio'r arwyr a syrthiodd ar faes y gad, a rhaid i'r rhai sy'n dewis difenwi ac amharchu ein cofebion rhyfel wynebu holl rym y gyfraith. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid penodol ar gael i awdurdodau lleol fel y gallant gynnal ein cofebion rhyfel yn ddigonol ac atgyweirio'r cofebion hynny os cânt eu fandaleiddio, gan fod yn rhaid inni gofio ac anrhydeddu ein gorffennol os ydym am newid y dyfodol. Felly, rwy'n ymuno â galwadau ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r gwaith o warchod ein cofebion rhyfel ac ymrwymo i wneud mwy yn nhymor y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn. 

Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden.

Member
Dawn Bowden 17:56:35
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Lywydd. Rwy'n sicr yn ddiolchgar iawn i Paul Davies am gychwyn y ddadl hon heddiw am bwysigrwydd gwarchod ein cofebion. Gwn ei fod wedi codi'r mater hwn yn y Senedd ar sawl achlysur ac yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac rwy'n cytuno bod cofebion Cymru yn rhannau pwysig o'n treftadaeth. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un wadu pŵer emosiynol y cofebion hyn, a'u pwysigrwydd i gymunedau lleol ac yn narlun ehangach ein hanes cenedlaethol.

Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais â Rheilffordd Llangollen, a thra oeddwn yno cefais brofiad ingol iawn. Yn y danffordd yng ngorsaf y Berwyn, gwelais graffiti ysgrifenedig ar y waliau, a adawyd yno gan filwyr yn gadael am y ffrynt yn y rhyfel byd cyntaf. Ni ddaeth rhai ohonynt yn eu holau, a rhestrir eu henwau ar y gofeb ryfel yn y dref. Ond mae gweld y negeseuon a'r llofnodion hynny'n ein hatgoffa'n rymus o'r aberth ofnadwy a wnaed—aberth mor fawr fel na ddylem byth mo'i hanghofio. Mae pob rhyfel yn ofnadwy, ond mae rhywbeth arbennig o erchyll am gyflafan y rhyfel byd cyntaf, lle lladdwyd 35,000 o Gymry. Mae hynny'n dangos yn glir yr angen i ni gofio.

Rhwng 2014 a 2019, rhoddodd menter Cymru'n Cofio gyfle inni weithio gyda sefydliadau ac unigolion ledled Cymru ac yn rhyngwladol i goffáu a myfyrio ar effaith rhyfel. Drwy'r fenter honno, cefnogodd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid nifer fawr o weithgareddau, digwyddiadau coffa, rhaglenni diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â gwarchod cofebion rhyfel a safleoedd hanesyddol eraill sy'n gysylltiedig â'r rhyfel. Roedd y prosiectau'n cynnwys adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, lle mae £2.8 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi creu canolfan ddiwylliannol a fydd yn sicrhau y bydd ymwybyddiaeth y cyhoedd o arwyddocâd y rhyfel yn parhau. Gwnaethom hefyd gefnogi'r gwaith o greu cofebion rhyfel newydd: parc coffa Cymreig yn Langemark, ac ym mis Tachwedd 2019, dadorchuddiwyd cofeb newydd yng Ngerddi Alexandra yma yng Nghaerdydd, ger ein cofeb genedlaethol, i gydnabod cyfraniad eithriadol dynion a menywod o amrywiol gymunedau ethnig a'r gymanwlad. Gweithio mewn partneriaeth oedd yr allwedd i lwyddiant Cymru'n Cofio, ac yn fy marn i, dylai barhau i fod wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio yn y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r fenter ac sy'n parhau i wneud gwaith mor bwysig ar ein rhan i gadw'n fyw y cof am aberth y rhai a ymladdodd drosom.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cofebion rhyfel fel darnau gweladwy ac ingol o dreftadaeth, a phwyntiau ffocws i gymunedau a theuluoedd allu coffáu. Maent yn gofnod ffisegol o'r rhai a fu farw dros eu gwlad ac yn ein hatgoffa'n weledol o effaith rhyfel. Mae llawer o gofebion rhyfel hefyd yn bwysig i'n treftadaeth bensaernïol a chelfyddydol. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, roedd codi cynifer o gofebion newydd ar draws y Deyrnas Unedig, i bob pwrpas, yn brosiect celf gyhoeddus unigryw, a helpodd gymunedau lleol a oedd yn profi cymysgedd torcalonnus o emosiynau o ddolur i ryddhad yn sgil y fuddugoliaeth. Mae effaith rhyfel wedi bod mor eang fel ei bod wedi arwain at nifer eithriadol o gofebion rhyfel—dros 90,000 ar draws y Deyrnas Unedig a thros 3,700 yma yng Nghymru, yn amrywio o gofebion tref a gynlluniwyd gan artistiaid blaenllaw i blaciau bach mewn pentrefi.

Mae'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn cadw cofrestr o gofebion rhyfel ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel i wneud gwybodaeth am y cofebion hynny'n fwy hygyrch i'r cyhoedd drwy War Memorials Online. Mae'n cynnwys miloedd o gofnodion ac mae'n rhoi llwyfan i aelodau'r cyhoedd gymryd rhan drwy gyfrannu eu ffotograffau eu hunain a manylion am gofebion. Mae ffynonellau gwybodaeth eraill yn cynnwys cronfa ddata ar-lein Cadw Cof Cymru, sy'n rhoi manylion dros 230 o gofebion rhestredig, a'r cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol a gedwir gan bedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru. Yn ogystal â chofebion rhyfel, wrth gwrs, mae'r rhain hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gannoedd o adeiladau a strwythurau hanesyddol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn Prydain a bywyd ar y ffrynt cartref, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag ymosodiadau, meysydd glanio, ysbytai a ffatrïoedd arfau, ac archwiliwyd y cyfan gan yr ymddiriedolaethau archeolegol drwy gymorth cyllid gan Cadw dros y 10 mlynedd diwethaf.

Nawr, fel y dywedodd Paul Davies, mae'r amrywiaeth o gofebion rhyfel yng Nghymru yn rhyfeddol, o gerfluniau coffa, obelisgau a phlaciau i ffenestri, gerddi, neuaddau cymunedol, ysbytai, capeli a phontydd. Mae ystod y mathau o berchnogaeth yr un mor amrywiol, ond mae'r rhain i gyd yn asedau cymunedol pwysig. Yn aml, talwyd amdanynt drwy danysgrifiadau gyda chysylltiadau personol â theuluoedd ac unigolion. Er bod rhai wedi dadfeilio, ni ddylem anwybyddu llwyddiant cynifer o fentrau cymunedol sy'n parhau i ofalu am y cofebion hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gyda hynny. Mae'r ddogfen ganllaw, 'Gofalu am Gofebion Rhyfel yng Nghymru', a gynhyrchwyd gan Cadw ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, yn darparu canllawiau gyda'r nod penodol o helpu cymunedau i ofalu am eu cofebion rhyfel. Mae'n cynnwys cyngor ymarferol ar gadwraeth ac atgyweirio ac mae wedi'i darlunio'n hyfryd gyda ffotograffau o gofebion o bob rhan o Gymru, ac enghreifftiau o brosiectau cadwraeth llwyddiannus. Rwy'n annog yr holl Aelodau i'w darllen. Gellir ei lawrlwytho am ddim drwy wefan Cadw.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth ariannol hael i ddiogelu cofebion rhyfel rhag dadfeilio. Mae Cadw yn darparu grantiau i helpu i warchod henebion hanesyddol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynnwys bron i £240,000 ar gyfer atgyweirio cofebion rhyfel. O dan y cynllun grantiau ar gyfer cofebion rhyfel, rhoddodd arian i 45 o brosiectau mewn cymunedau ledled Cymru. Cyn bo hir, bydd Cadw yn cyhoeddi cynllun grantiau newydd ar gyfer treftadaeth gymunedol a fydd yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 i gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol, a bydd cofebion rhyfel rhestredig yn gymwys i wneud cais am gymorth. Nawr, gwn fod Cadw bob amser yn awyddus i gefnogi asedau hanesyddol ledled Cymru sydd ag arwyddocâd arbennig i'w cymunedau, a'r peth olaf y dymunwn ei weld yw bod strwythurau ac adeiladau hanesyddol pwysig yn cael eu colli, yn enwedig y rheini sy'n golygu cymaint i bobl leol.

Mae cronfa dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi bod yn hael iawn yn ei chefnogaeth i brosiectau. Yn ogystal â darparu'r £2.8 miliwn i ariannu'r gwaith o adfer Yr Ysgwrn, fel y soniais yn gynharach, darparodd dros £1 filiwn o gymorth grantiau i 126 o brosiectau coffa a arweinir gan y gymuned sy'n adlewyrchu treftadaeth rhyfel. Ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Cadw i ddarparu cynllun grant treftadaeth 15 munud newydd sy'n annog ymgysylltiad cymunedol â threftadaeth leol.

Ond yn ogystal ag ariannu gweithgareddau yng Nghymru, rydym hefyd wedi ariannu cofebion yn Ffrainc a Gwlad Belg, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi'r gwaith o adnewyddu'r gofeb i'r 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoed Mametz, a oedd yn un o'r pwyntiau ffocws ar gyfer gwasanaeth coffa cenedlaethol Cymru'n Cofio, a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru yn 2016. Rydym hefyd wedi ariannu'r heneb genedlaethol yn Pilkem Ridge yn Langemark yng Ngwlad Belg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, er bod cofebion rhyfel mewn trefi a phentrefi ledled Cymru yno ar gyfer cymunedau lleol, fod cofebion ar safleoedd y brwydrau eu hunain yn darparu ffocws pwysig arall ar gyfer coffáu yn y mannau lle collwyd cynifer o fywydau.

Un pryder rydym i gyd yn ei rannu rwy'n siŵr—a gwn fod Paul wedi cyffwrdd â hyn, fel y mae siaradwyr eraill heno—yw'r difrod troseddol megis fandaliaeth sy'n effeithio ar y cofebion hyn. Yn anffodus, mae'r newyddion syfrdanol diweddar am ddifenwi'r gofeb i'r bardd Hedd Wyn ynghanol Trawsfynydd yn berthnasol i'n dadl heddiw. Rwy'n ymuno â'r gymuned leol i gondemnio'r weithred ffiaidd hon o ddiffyg parch at gofeb sy'n cynrychioli'r holl ddynion o Drawsfynydd a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gobeithio y daw'r heddlu o hyd i'r tramgwyddwyr cyn bo hir a'u dwyn o flaen eu gwell.

Yn anffodus, mae gennyf innau hefyd brofiad o enghraifft o fandaliaeth a ddigwyddodd yn fy etholaeth i heb fod yn bell yn ôl. Mae cofeb hardd ym mharc Troed-y-rhiw ym Merthyr Tudful ar ffurf cerflun o filwr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd dryll y milwr, a wnaed o farmor, nid metel, ei ddwyn. Talwyd am yr heneb drwy danysgrifiad cyhoeddus, ac mae'r weithred hon o fandaliaeth yn amharchu'r cof am 73 o ddynion lleol y rhestrir eu henwau arni ac a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac mae hefyd yn amharchu'r bobl leol a roddodd eu harian prin i adeiladu'r gofeb honno yn y lle cyntaf. Rwy'n falch o ddweud bod gwaith bellach ar y gweill i'w hatgyweirio, gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel.

Nid yw gweithredoedd lleiafrif o fandaliaid yn cynrychioli barn y mwyafrif ac ni ddylid eu goddef. Mae gan yr heddlu bwerau eisoes i fynd i'r afael â fandaliaeth, a gellir erlyn cyflawnwyr o dan drosedd difrod troseddol, sy'n gallu golygu dedfryd o garchar. Mae troseddau treftadaeth yn rhywbeth sy'n cael ei gymryd o ddifrif yng Nghymru, ac mae Cadw yn gweithio'n agos gyda heddluoedd lleol i ymchwilio ac atal troseddau o'r fath, er mwyn annog y defnydd o ataliadau fel SmartWater, y cyfeiriodd Paul atynt, i ddiogelu cofebion sydd mewn perygl o gael eu dwyn. Rwy'n deall y gall unrhyw un sy'n gyfrifol am gofeb ryfel wneud cais i Sefydliad SmartWater am ddefnyddio'r cynnyrch hwn am ddim.

Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig yn gofalu am gofebion rhyfel, yn benodol y rhai sydd o dan warchodaeth statudol, ac mae ganddynt bwerau hefyd o dan y ddeddfwriaeth bresennol i wneud gwaith i atgyweirio henebion. Mae llawer wedi cynnal mentrau i gefnogi ymgysylltiad y gymuned â chofebion. Felly, nid wyf yn credu bod angen defnyddio deddfwriaeth ychwanegol i bwyso arnynt i weithredu, ond yn hytrach eu bod yn cymryd rhan mewn ysbryd o bartneriaeth gydweithredol.

Mae pwysigrwydd cofebion rhyfel yn cael ei dderbyn yn eang, ac mae awdurdodau lleol ledled Cymru eisoes yn gwneud gwaith atgyweirio pwysig. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod lle i wella bob amser, ac rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau ar awdurdodau lleol i barhau i fod yn rhagweithiol yn eu cefnogaeth i gofebion rhyfel, ac i sicrhau eu bod yn chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo cymunedau i ymgysylltu ar bob lefel. Gellir hwyluso hyn drwy swyddogion unigol o fewn awdurdodau lleol sy'n gweithio i annog partneriaethau, a hefyd drwy annog y defnydd o'r nifer fawr o adnoddau sydd ar gael yn y maes hwn, megis y pecynnau addysg dwyieithog a gynhyrchwyd i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd ar Hwb.

Mae coffáu'n parhau i fod yr un mor bwysig heddiw â phan adeiladwyd ein cofebion gyntaf, felly diolch i Paul Davies unwaith eto am godi'r pwnc hwn heddiw a chydnabod y rôl y mae cofebion yn ei chwarae ym mywydau ein cymunedau heddiw a'r rôl y byddant yn ei chwarae yn y dyfodol. Diolch.

18:05

Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a dyna ddiwedd ein trafodaethau ni am y dydd. Diolch yn fawr a phrynhawn da i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:07.