Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/01/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.

Economi Gorllewin De Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi Gorllewin De Cymru yn ngoleuni’r pandemig COVID-19? OQ56189

Diolch. Wel, wrth gwrs, rydym wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dechrau pandemig COVID-19, gwerth mwy na £2 biliwn, ac mae £1.7 biliwn o’r swm hwnnw bellach yng nghyfrifon busnesau. Yn ne-orllewin Cymru, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £12.4 miliwn i dros 3,600 o fusnesau, ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 268 cynnig gwerth cyfanswm o £2.8 miliwn hyd yn hyn.

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltais â chi ynglŷn â thrafferthion arcedau hapchwarae, ac yn eich ymateb dywedwch fod yn rhaid ichi wneud penderfyniadau anodd ar feini prawf cymhwysedd. Mae'r busnesau hyn, y mae eich Llywodraeth wedi'u categoreiddio fel rhai sydd yr un fath â chasinos neu sefydliadau betio trwyddedig—er nad ydynt—yn cael eu hamddifadu o'r cymorth a roddir i fusnesau hamdden eraill yng Nghymru. Ac er bod busnesau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr yn derbyn cymorth, pam y gall neuaddau bingo dderbyn cymorth ond nid arcedau hapchwarae ar y stryd fawr? Weinidog, a wnewch chi drefnu i gyfarfod â chynrychiolwyr y tri busnes yr effeithiwyd arnynt yn fy rhanbarth i er mwyn clywed eu trafferthion? Os caiff y busnesau hyn eu gorfodi i gau, bydd cannoedd o bobl yn colli eu swyddi. Diolch.

A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn? Rwyf bob amser yn barod i gyfarfod â busnesau a chyrff cynrychiadol. Wrth gwrs, os rhoddir gwahoddiad ffurfiol, byddwn yn rhoi ystyriaeth gydymdeimladol iawn iddo. Mewn perthynas â'r mater sy'n codi, serch hynny—hapchwarae a gamblo—mae'r canllawiau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yn nodi'n glir, mewn perthynas â'r lleoliadau hynny, fod arcedau o'r math y gellid eu categoreiddio’n arcedau difyrion yn hytrach na’n sefydliadau gamblo yn cael eu hystyried yn sefydliadau hamdden ac yn gymwys i gael y grantiau, naill ai drwy ryddhad ardrethi busnesau bach, neu pan fo gwerth ardrethol y safle’n eu gwneud yn gymwys i gael y swm mwy o £5,000 fel cyfleusterau hamdden. Ond rwyf wedi dweud ar sawl achlysur eisoes yn ystod y pandemig hwn, bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac wrth wneud hynny, rydym yn dal i gynnig y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig er mwyn diogelu swyddi. Hyd yn hyn, rydym wedi gallu diogelu mwy na 140,000 o swyddi ledled Cymru o ganlyniad i'n gweithredu uniongyrchol.

Mae Gorllewin De Cymru eisoes yn dioddef ei ergydion economaidd ei hun, yn anad dim o ganlyniad i ba mor agored yw’r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sydd bellach yn fregus iawn. Weinidog, rydych wedi cydnabod y bregusrwydd hwnnw gyda chymorth ariannol wedi'i glustnodi i lawer o fusnesau rheng flaen, ond wrth gwrs, ni fyddant yn prynu stoc nac yn ymrwymo i welliannau cyfalaf ar hyn o bryd. Mae datblygu'r economi sylfaenol yn rhan fawr o'ch polisi, ynghyd â hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Rydych wedi mynnu y dylai busnesau hyfyw fod gyda ni o hyd wedi’r pandemig, felly ble rydych chi arni ar hyn o bryd o ran sicrhau hyfywedd y llwybr gât i'r plât hwnnw?

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? O ran ystyried buddsoddiadau cyfalaf, dylwn ddweud ein bod wedi sicrhau bod £100 miliwn ar gael mewn grantiau datblygu busnes, a aeth i nifer enfawr o fusnesau—cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn y cynllun penodol hwnnw a bu’r galw yn anhygoel. Lluniwyd y cynllun yn benodol i annog busnesau i fuddsoddi yn eu dyfodol. Felly, rydym eisoes wedi sicrhau bod swm sylweddol o arian ar gael ar gyfer gwelliannau cyfalaf. Ac o ran y llwybr hwnnw at adferiad, ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog £200 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau, gan ei chynyddu i gyfanswm o £650 miliwn, er mwyn galluogi busnesau i bontio i’r cyfnod adfer.

O ran y gadwyn gyflenwi, rydym hefyd wedi gallu caniatáu i fusnesau’r gadwyn gyflenwi gael mynediad at arian pan allant brofi gostyngiad sylweddol yn eu trosiant. Ac mae'n werth sôn wrth yr Aelodau, o ran y sector allweddol hwnnw y soniodd Suzy Davies amdano—lletygarwch—y gallai busnes lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru sydd â'r hyn sy'n cyfateb i chwe aelod o staff amser llawn fod yn gymwys i dderbyn rhwng £12,000 a £14,000, i'w cynorthwyo drwy'r cyfnod anodd hwn o gyfyngiadau. Ac mae hynny'n cymharu'n ffafriol â'r hyn sydd ar gael dros y ffin, gan mai £9,000 yw'r swm uchaf sydd ar gael i fusnesau o'r un maint yn y sector hwnnw. Mae hynny'n dangos pa mor hael yw'r cynnig yng Nghymru a pha mor benderfynol rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, i ddiogelu dyfodol cymaint o fusnesau a chymaint o weithwyr â phosibl.

13:35

Weinidog, mae dros £32 miliwn wedi’i roi mewn grantiau busnes i fusnesau ar draws Castell-nedd Port Talbot, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr. Ond mae llawer o'r busnesau bach hynny’n dibynnu ar un busnes mawr—Tata—yn fy etholaeth, ac maent wedi gwneud cais i Lywodraeth y DU o'r blaen am gymorth drwy gyllid y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Nid ydynt wedi clywed unrhyw beth eto. A ydych wedi cael cyfle i siarad ag Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i drafod sut y gall gefnogi Tata yn ystod y cyfnod penodol hwn?

A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a dweud bod galwad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd bellach wedi'i threfnu? Mae hynny yn ein dyddiadur. Roedd gennyf berthynas adeiladol iawn gyda Gweinidogion eraill yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, gan gynnwys, dylwn grybwyll yn benodol, Nadhim Zahawi, sy'n gydweithredol iawn, ac rydym wedi siarad ar sawl achlysur ynglŷn â'r angen i gefnogi'r diwydiant dur. Wrth gwrs, ni chafwyd y cymorth hwnnw eto gan Lywodraeth y DU. Mae'n gwbl hanfodol fod cytundeb yn cael ei ddarparu ar gyfer y sector cyfan, ond bod cymorth penodol yn cael ei gytuno â Tata, gan gydnabod pwrpas strategol Tata fel prif wneuthurwr dur y DU, ac mae hynny'n gwbl hanfodol i'n diogelwch cenedlaethol a'n lles economaidd. Felly, dyma’r pwyntiau y byddaf yn eu pwysleisio wrth yr Ysgrifennydd Gwladol newydd pan fyddaf yn siarad ag ef.

Cefnogaeth i Fusnesau

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth i fusnesau yng Nghaerffili y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio arnynt? OQ56176

Gwnaf, wrth gwrs. Yng Nghaerffili, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu mwy na £4.5 miliwn i dros 1,500 o fusnesau ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 61 cynnig gwerth cyfanswm o £478,000 hyd yma.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyfarfod â chynrychiolwyr busnesau yng Nghaerffili ac am yr ymatebion adeiladol a roddodd. Hoffwn holi ynglŷn ag ychydig o faterion sydd wedi deillio o hynny. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r busnesau hynny wedi cysylltu â mi unwaith eto, gan fynegi rhai pryderon ynglŷn â’r pecyn ariannol cyfredol. Mae un wedi dweud—stiwdio ddawns yn Ystrad Mynach—na allant gael mynediad at gymorth drwy’r gronfa cadernid economaidd gan nad ydynt yn talu eu staff ar sail talu wrth ennill, er eu bod yn yr un sefyllfa fwy neu lai â busnesau eraill o faint tebyg fel arall. Parc fferm yw un arall a gysylltodd â mi, a dywedodd wrthyf na ellir defnyddio’r gronfa cadernid economaidd i gynnal cyflogau staff er na ellir rhoi’r staff ar ffyrlo am eu bod yn gorfod gofalu am anifeiliaid y parc. Ac mae cynrychiolwyr y sector trin gwallt a harddwch wedi mynegi pryderon pellach i mi am nad ydynt yn gallu cael cymorth drwy rownd gyllido bresennol y gronfa cadernid economaidd er nad ydynt yn gallu agor. Prin yw’r gwahaniaeth yn y sector lletygarwch rhwng bod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, ac weithiau rwy'n credu bod busnesau’n cwympo ar yr ochr anghywir i'r gwahaniaeth hwnnw, a hoffwn i’r Gweinidog fynd i'r afael â hynny, ac yn enwedig gyda'r rownd gyllido nesaf mewn golwg. Felly, yn y rownd gyllido nesaf, a ellir mynd i'r afael â'r materion hynny i sicrhau y ceir darpariaeth ar gyfer y busnesau hynny? Ac a all ddweud wrthym hefyd, gan fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi £200 miliwn yn y rownd nesaf, pa bryd y bydd manylion y rownd gyllido nesaf honno’n cael eu cyhoeddi?

A gaf fi ddiolch i Hefin David nid yn unig am ei gwestiynau, ond hefyd am y cyfle i gyfarfod ag ef yn ddiweddar a chynrychiolwyr busnesau o Gaerffili? Roeddwn yn credu bod y drafodaeth a gawsom yn werthfawr iawn, ac yn sicr, rydym bob amser yn archwilio sut y gallwn lenwi'r bylchau y mae pobl a busnesau yn cwympo drwyddynt o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nawr, dylwn ddweud yn gyntaf oll fod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod ag ExcludedUK yn ddiweddar—fy nghyd-Aelod Jane Hutt—i drafod materion a phroblemau y mae miliynau o bobl yn eu hwynebu ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a minnau at y Canghellor yn ddiweddar, gan bwyso arno i sicrhau bod cymorth pellach ar gael i fusnesau ac i bobl sy'n gweithio. Heddiw, efallai y bydd yr Aelodau wedi gweld, yn y cwestiynau i Brif Weinidog y DU, iddo gael ei holi ynglŷn ag ymestyn cymorth i fusnesau a gweithwyr er mwyn sicrhau bod llai o bobl a busnesau yn cwympo drwy’r bylchau, a dywedodd y byddai datganiad yn cael ei wneud cyn bo hir ar yr union fater hwnnw.

Lluniwyd ein pecyn gyda fforddiadwyedd mewn golwg, yn amlwg, ond hefyd gyda'r cyllid sydd ar gael i ni, ac weithiau, bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd. Ond ein nod oedd llenwi cymaint â phosibl o’r bylchau yng nghynlluniau Llywodraeth y DU. Ac o ran rhai o'r enghreifftiau a amlinellwyd gan Hefin, ac yn gyntaf oll y busnes dawns, er na all busnes heb staff a gyflogir ar sail talu wrth ennill gael mynediad at gronfa sectorau penodol y gronfa cadernid economaidd, byddai busnes a chanddo eiddo ardrethol yn gallu sicrhau grant drwy eu hawdurdod lleol o £3,000 neu £5,000 o gyllid y gronfa cadernid economaidd ar gyfer busnesau dan gyfyngiadau. Ac mae hynny hefyd yn berthnasol i'r busnesau yn y sector trin gwallt a harddwch. Nawr, mae Hefin hefyd yn llygad ei le fod y Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, wedi amlinellu £200 miliwn ychwanegol a fydd ar gael i gefnogi busnesau yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd manylion y pecyn cymorth ychwanegol hwnnw’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir, ymhen ychydig ddyddiau. Yn y cyfamser, dylwn sicrhau'r Aelodau hefyd fod y gronfa ddewisol a weithredir gan awdurdodau lleol yn parhau i fod yn agored i geisiadau. Mae'r gronfa honno'n werth £25 miliwn, ac wedi'i chynllunio i ganiatáu i fusnesau gael grantiau o hyd at £2,000.

13:40

Diolch, Weinidog. Gan ehangu ar y cwestiwn hwnnw, hoffwn ofyn i chi am fusnesau sy'n cwympo drwy'r bylchau gan fod cryn dipyn o fusnesau’n cwympo drwy'r bylchau o hyd. Felly, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion a'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn ei gylch. A gaf fi ofyn i chi'n benodol ynghylch cymorth i bobl hunangyflogedig sy'n gweithio gartref ac sydd wedi sefydlu busnesau newydd yn ddiweddar? Mae etholwr a sefydlodd fenter busnes newydd ym mis Tachwedd 2019 wedi cysylltu â mi, ac ar ôl iddo gyflawni'r hyfforddiant priodol roedd angen iddo’i wneud, roedd yn bwriadu dechrau masnachu yn y busnes hwnnw yn gynnar yn 2020. Fodd bynnag, ni allai hyn ddigwydd gan ei fod yn galw am ymweld â chartrefi pobl, rhywbeth a oedd wedi’i wahardd, yn amlwg, dan y rheoliadau coronafeirws. O ganlyniad, ni wnaeth unrhyw elw ac aeth i ddyled sylweddol o ganlyniad i sefydlu ei fusnes. Tybed pa gymorth rydych yn ei roi i fusnesau fel ei fusnes ef a fu’n anlwcus iawn o ran yr adeg y gwnaethant ddechrau eu busnes wrth gwrs.

A gaf fi ddiolch i Laura Jones am dynnu sylw at yr achos penodol hwnnw? Ac yn amlwg, os gwnaiff Laura Anne Jones ysgrifennu ataf gyda rhywfaint o'r manylion, fe roddaf ystyriaeth benodol iddo hefyd i weld a allwn fod o gymorth. Ond yn gyffredinol, o ran busnesau newydd, gwnaethom ddarparu grantiau yn ystod y pandemig ar gyfer busnesau newydd er mwyn eu diogelu, ac yng Nghaerffili ei hun, mae 84 o grantiau wedi'u rhoi i fusnesau newydd, gwerth cyfanswm o fwy na £200,000, ac mae hynny’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fusnesau newydd. Ac ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cymorth pellach i fusnesau newydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf fel rhan o'r pecyn cymorth cyffredinol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog.

Fel y nododd y Gweinidog, rydym yn cydnabod mai’r cymorth a gynigiwyd i fusnesau Cymru yw’r mwyaf hael o holl Lywodraethau'r DU. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw'r cyllid sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ddigon, hyd yn oed gyda chymorth Llywodraeth y DU, o ystyried nifer y busnesau ar draws pob sector sydd naill ai'n cau'n barhaol neu sy'n cael gwared ar swyddi ar raddfa frawychus, fel y gwelwyd wrth i dri safle manwerthu mawr ynghanol y dref ym Mhont-y-pŵl gau yn ddiweddar. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg mai'r unig bosibilrwydd o atal y niwed trychinebus hwn i economi Cymru yw dod â'r cyfyngiadau symud i ben. A all y Gweinidog roi unrhyw syniad pryd y bydd hyn yn digwydd fel y gall y rheini sydd mewn sefyllfaoedd economaidd enbyd weld rhywfaint o oleuni ar ben draw’r twnnel?

A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiwn a dweud, yn anad dim, fod yr hyn rydym yn ei wynebu’n fyd-eang yn argyfwng na welwyd mo'i debyg o'r blaen? Nid ydym erioed wedi wynebu pandemig o'r fath yn ystod ein hoes, ac felly nid yw'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau, er ei fod wedi bod yn sylweddol, yn ddigon i wneud iawn am lawer o'r costau ychwanegol a’r refeniw y byddai busnesau wedi'i golli yn ystod y pandemig. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau eisiau bod ar agor, fel y credaf y byddai'r holl Aelodau'n ei gydnabod, yn hytrach na chael eu gorfodi i gau oherwydd cyfyngiadau symud.

Mae'r cynllun ar gyfer dod allan o gyfyngiadau symud yn eithaf clir o ran ble mae angen inni fod mewn perthynas â phrofion positif a chyfraddau heintio. Ond yn y cyfamser, rydym yn barod i gefnogi pob busnes yn ystod y cyfyngiadau symud hyn i sicrhau y gallant oroesi. Unwaith eto, mewn perthynas ag ardal Caerffili, ceir rhai enghreifftiau rhagorol o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau a diogelu swyddi dros y misoedd diwethaf—busnesau fel Bergstrom, IG Doors, Hydro Sapa, MII Engineering. Rhwng y busnesau hynny, rydym wedi gallu dyfarnu mwy nag £1 filiwn mewn grantiau a diogelu bron i 1,000 o swyddi. Mae hynny'n gyflawniad gwych i Gaerffili ac mae'n dangos sut y mae Llywodraeth Cymru, ym mhob rhan o Gymru, yn camu i'r adwy i ddiogelu cyflogaeth er mwyn cynnal gobeithion pobl ar gyfer y dyfodol.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf yr wythnos yma, Russell George.

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Bythefnos yn ôl, Weinidog, fe wnaethoch chi lansio'r gronfa sector-benodol sy'n werth £180 miliwn i gefnogi sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Faint o fusnesau sydd eisoes wedi cael cymorth a faint sydd wedi'i ddyrannu, a faint o arian sydd ar ôl yn y pot hwnnw i'w ddyrannu i'r busnesau hynny?

Wel, a gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Yn amlwg, bu cryn dipyn o alw gan fusnesau ar y cychwyn am arian o’r gronfa sector-benodol gan fod angen dirfawr am gymorth i'r mentrau sy'n dioddef yn fawr ar hyn o bryd. Gallaf ddweud wrth Russell George a'r Aelodau fod mwy na 7,600 o geisiadau wedi'u cyflwyno hyd yn hyn, sy'n werth cyfanswm o oddeutu £70 miliwn eisoes. Mae'r gronfa, yn amlwg, yn parhau i fod ar agor fel y cynlluniwyd, ac rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau ar ei statws ar wefan Busnes Cymru yn ôl yr angen. Hyd yn hyn, gwnaed mwy na 880 o gynigion, gwerth dros £5.5 miliwn, gyda busnesau'n derbyn £3 miliwn o’r swm hwnnw, ac mae mwy na £2 filiwn eisoes wedi'i dalu.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddwn yn awgrymu nad yw'r ffigurau hynny'n arbennig o dda. Os mai 7,600 o fusnesau yn unig sydd wedi cyflwyno ceisiadau, nid yw'r arian wedi eu cyrraedd hwy eto hyd yn oed; dim ond ceisiadau a ddaeth i law yw'r rheini. Mae hynny'n dweud wrthym fod miloedd ar filoedd o fusnesau ledled Cymru heb gael unrhyw gymorth yn y sector penodol hwn. Ac o’m safbwynt i, mae’n hynod bwysig fod y cymorth ariannol hwn yn cyrraedd busnesau cyn gynted â phosibl. Gwn y byddwch yn cytuno â mi y dylai unrhyw fusnes a oedd yn hyfyw y llynedd fod yn hyfyw yn ddiweddarach eleni pan fyddwn, gobeithio, yn gweld diwedd ar y pandemig erchyll hwn.

Ond rwy'n arbennig o bryderus am y sector lletygarwch, gan mai’r maes hwn sydd wedi bod dan y lefel uchaf o gyfyngiadau am y cyfnod hiraf o amser. Maent wedi bod dan gyfyngiadau cyn cyfyngiadau symud diwedd mis Rhagfyr. Nawr, gwn ichi sôn mewn ymateb i gwestiwn 1 heddiw, Weinidog, y byddai'r pecyn cymorth diweddaraf ar gyfer busnes lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru gyda'r hyn sy'n cyfateb i chwe aelod o staff amser llawn yn gymwys am gyfanswm o rhwng £12,000 a £14,000. Fy mhryder i yw bod dwsinau o fusnesau wedi cysylltu â mi—busnesau bach yn y sector lletygarwch, ac mae’r un peth wedi digwydd i Aelodau eraill, gan inni glywed gan rai ohonynt heddiw hefyd—sydd wedi cwympo drwy rwyd y cymorth ariannol, yn bennaf am nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd gan eu bod yn rhy gyfyngol am nifer o resymau: naill ai mae'n rhaid i'r busnesau gyflogi staff ar sail talu wrth ennill neu am fod y gronfa wedi'i hanelu at fusnesau mwy sydd wedi cofrestru at ddibenion treth ar werth ac ati. A wnewch chi gyflwyno cronfa ddewisol ar gyfer y busnesau bach hynny yn y sector lletygarwch neu a wnewch chi edrych ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth a’u gwneud yn llai cyfyngol?

Diolch i Russell George am ei gwestiynau pellach ac rwy'n dweud o ran y niferoedd cyffredinol, fod y sector y sefydlwyd y gronfa benodol i’w gefnogi yn cynnwys rhwng 8,500 a 9,000 o fusnesau. Felly, o'r 8,500 a 9,000 o fusnesau, credaf fod 7,600 o geisiadau yn eithaf da hyd yn hyn, ond yn amlwg, rydym yn gadael y gronfa ar agor i roi pob cyfle i'r busnesau sydd ar ôl wneud cais am gymorth, ac yn wir, gwnaethom y penderfyniad i ymestyn y cyfnod y bydd y gronfa'n agored. Yn amlwg, mae hwn yn arian hanfodol bwysig i fusnesau a fydd yn parhau i ddioddef yn ystod misoedd y gaeaf. Ond fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, rydym eisoes yn rhoi arian yng nghyfrifon banc y busnesau hynny—mae swm sylweddol o arian eisoes wedi'i ddyfarnu a'i dynnu i lawr.

Ac o ran cronfa ddewisol, yn amlwg, ni fyddem am ddyblygu'r hyn sydd eisoes ar gael ac mae cronfeydd dewisol yr awdurdodau lleol yn dal i fod yn agored i geisiadau—£25 miliwn o gyllid. Rydym yn agored i syniadau ynglŷn â sut y gallwn gefnogi pob sector ar draws yr economi, ac yn enwedig y sector lletygarwch. Os edrychwn ar rai o'r cymariaethau â’r DU hefyd, gyda’r busnesau mwy o faint, byddem yn gweld, ar gyfer busnesau a chanddynt werth ardrethol o rhwng £12,000 a £50,000, yn Lloegr, fod y dyfarniad uchaf oddeutu £6,000 ar hyn o bryd; yng Ngogledd Iwerddon, mae oddeutu £14,400; yn yr Alban, ar gyfer lletygarwch, mae oddeutu £12,000; yma yng Nghymru, £25,000. Ac os edrychwch ar y busnesau mwy o faint, y rheini a chanddynt werthoedd ardrethol o rhwng £50,00 a £500,000, yn Lloegr, yr uchafswm fyddai £9,000; Gogledd Iwerddon, £19,200; yn yr Alban, unwaith eto, yn benodol ar gyfer busnesau lletygarwch, byddai'n £34,000. Mae cyfle yma yng Nghymru i fusnesau o'r maint a'r math hwnnw gael £110,000. Mae hynny'n dangos pa mor arwyddocaol yw ein cronfeydd yng Nghymru a sut rydym yn dal i gynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau. Ond wrth gwrs, wrth inni ystyried rowndiau cymorth yn y dyfodol, rydym bob amser yn agored i syniadau, a bydd unrhyw awgrymiadau gan unrhyw Aelodau yn cael croeso a derbyniad da iawn yma yn yr adran hon.

13:50

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei gynnig, ac rwy'n sicr yn fwy na pharod i'w dderbyn? Rwy'n credu mai'r prif bethau gennyf fi, o ran syniadau, fyddai gwneud y meini prawf yn llai cyfyngol ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, er mwyn caniatáu i fwy o fusnesau wneud cais. Rwy'n sylweddoli y gallai busnesau lletygarwch ar y stryd fawr fod wedi cael y rhyddhad ardrethi annomestig, ond nid oedd modd iddynt gael unrhyw arian ychwanegol oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer llawer o'r mathau hynny o fusnesau.

Roedd gennyf ddiddordeb yn y dystiolaeth a roesoch chi a'ch swyddogion yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roedd eich swyddogion i'w gweld yn cydnabod bod yna swm mawr o arian nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eto. Fe awgrymoch chi hefyd fod eich adran yn amharod efallai i dynnu rhagor o arian i lawr neu ofyn am ragor o arian gan y Gweinidog Cyllid gan eich bod yn ofni na fyddwch yn gallu llunio cynlluniau cyllido addas a’u rhoi ar waith yn ddigon cyflym er mwyn i'r arian hwnnw gael ei wario cyn diwedd y flwyddyn ariannol, a fyddai, unwaith eto, yn gwneud imi wthio am weld hynny'n llai cyfyngol ar y meini prawf, o ran y gronfa cadernid economaidd. O'm safbwynt i, mae busnesau ym maes manwerthu nad yw’n hanfodol, lletygarwch, twristiaeth a hamdden—ystod eang o fusnesau—yn ymbil am gymorth ychwanegol, ac yn dweud bod angen gwario arian yn gyflym, a bod angen gwario pob darn bach o arian sydd ar gael, sydd gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na'i golli, er mwyn sicrhau bod busnesau sy'n ei chael hi'n anodd yn goroesi'r pandemig hwn.

Byddwn yn cytuno’n llwyr â Russell George fod angen brys o ran sut rydym yn cefnogi busnesau, yn sicrhau bod arian yn cyrraedd cyfrifon busnes, ac yn fy marn i, rhwng Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru ac awdurdodau lleol, mae’r ymdrech wedi bod yn eithaf rhyfeddol yng Nghymru, o ran pa mor gyflym rydym wedi gallu rhoi grantiau a dyfarniadau. Ond mae Russell George hefyd yn llygad ei le fod angen inni sicrhau bod gennym systemau ar waith a thimau ar waith sy'n ein galluogi i roi arian mewn cyfrifon busnes erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ni fyddem yn dymuno anfon unrhyw adnoddau ariannol yn ôl os gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw yn lle hynny i gefnogi busnesau, a dyna pam ein bod bob amser wedi bod yn awyddus, wrth inni lunio'r cynlluniau amrywiol hyn, i sicrhau ein bod yn gallu adneuo arian mewn cyfrifon banc cyn diwedd y flwyddyn, a bydd y meddylfryd hwnnw'n parhau.

Ac o ran gofyn i’r Gweinidog Cyllid am adnoddau ariannol ychwanegol, wel, gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod y gronfa ychwanegol honno o £200 miliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf wedi deillio o drafodaethau rhwng y Gweinidog Cyllid a minnau, ac roedd y Gweinidog Cyllid yn ddigon caredig i gytuno i’r opsiwn mwy hael o gymorth a gynigiwyd iddi, gan gydnabod, fel y gwna pob un o'r cyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, yr angen brys a’r angen parhaus i gynnal pobl mewn gwaith ac i sicrhau ein bod yn achub cymaint o fusnesau ag y gallwn.

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ychwanegol at ymatebion y Gweinidog i Russell George, a yw’n rhannu’r pryderon a fynegwyd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ôl pob golwg, ynglŷn â sicrhau bod yr arian yn cael ei ddarparu’n ddigon cyflym? Wrth ddweud hyn, Lywydd, rwy’n cydnabod yn llwyr fod hon yn dasg enfawr, a bod llawer o’r bobl sydd wedi bod ynghlwm, ar bob lefel, wrth ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghymru wedi gwneud ymdrechion cwbl arwrol. Ond fel eraill sydd wedi siarad eisoes heddiw, mae gennyf rai pryderon ynglŷn â sicrhau bod yr adnoddau hynny’n mynd i’r lle iawn yn ddigon cyflym.

Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod arolwg o fusnesau lletygarwch mewn un rhan o Gymru wedi dangos bod 75 y cant ohonynt wedi cael eu gwrthod ar gyfer un neu'r llall o gynlluniau Llywodraeth Cymru. Nid oeddent yn gallu dweud yn glir wrthyf ar gyfer pa gynlluniau y cawsant eu gwrthod. A dywedais hyn wrth y Gweinidog hefyd, fod cryn dipyn o gymhlethdod i’w gael rhwng y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, a gofynnaf i'r Gweinidog beth arall y gall ei wneud i sicrhau bod busnesau'n deall yr hyn y dylent wneud cais amdano a sut y gallant gael mynediad ato. Os oes problemau gyda darparu arian yn ganolog, er enghraifft drwy Busnes Cymru, a yw'r Gweinidog o'r farn y gallai fod achos dros ddargyfeirio rhywfaint o'r adnoddau newydd ar gyfer darparu cymorth dewisol ychwanegol wedi'i weinyddu gan awdurdodau lleol, a allai ei chael hi'n haws penderfynu a oes rhai busnesau'n methu bodloni'r meini prawf ffurfiol efallai, ond bydd ganddynt well syniad a ydynt yn fusnesau dilys ai peidio?

13:55

Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am y pwyntiau y mae'n eu codi a'r cwestiynau dilys iawn? A dylwn ddechrau drwy ddweud y byddai'r adran hon, fel arfer, yn gweinyddu rhywle rhwng £20 miliwn a £30 miliwn o grantiau cymorth busnes drwy linell wariant busnes a rhanbarthau mewn blwyddyn gyffredin. Ac wrth gwrs, byddai grantiau eraill yn cael eu dyfarnu ar gyfer busnesau entrepreneuraidd newydd ac ati, ond nid yw hynny'n ddim o’i gymharu â swm y grantiau rydym wedi'u dyfarnu eleni: mae £1.7 biliwn o arian eisoes yng nghyfrifon busnesau o'r £2 biliwn sydd ar gael i ni. Mae 178,000 o grantiau wedi'u rhoi i fusnesau, gwerth £1 biliwn, drwy awdurdodau lleol. Mae honno'n ymdrech ryfeddol. Mae £520 miliwn ar gael i fusnesau drwy gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru, i gefnogi miloedd ar filoedd o fusnesau a mwy na 140,000 o bobl mewn gwaith. Felly, o ran gallu rhoi arian mewn cyfrifon banc yn gyflym, credaf fod gennym hanes anhygoel o gryf. Ond rydym am sicrhau ein bod yn parhau i weinyddu’n gyflym yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Yr hyn rydym yn awyddus i'w wneud, hefyd, yw sicrhau nad yw busnesau'n cyflwyno ceisiadau dyblyg am grantiau, ac yn anffodus, mae'n dod yn eithaf amlwg yn ddiweddar fod nifer sylweddol o fusnesau wedi cyflwyno ceisiadau dyblyg, a gall hynny weithiau arwain at oedi cyn rhoi dyfarniad gan fod rhaid inni groesgyfeirio ceisiadau yn erbyn ei gilydd, fel nad ydym yn dyfarnu sawl dyfarniad i'r un busnes. Ac felly, yr hyn y byddwn yn annog busnesau i'w wneud, er mwyn sicrhau eu bod yn ein cefnogi i'w cynorthwyo, yw ymuno â Busnes Cymru fel eu bod yn cael diweddariadau rheolaidd, newyddlenni digidol rheolaidd, ac i sicrhau, pan fyddant yn ystyried gwneud cais, boed hynny am gymorth gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, eu bod yn edrych ar y meini prawf cymhwysedd yn ofalus iawn, fel na chânt eu siomi naill ai o ganlyniad i fethu manylion y meini prawf cymhwysedd, neu'n wir, eu hanwybyddu'n llwyr. Mae'n gwbl hanfodol fod busnesau yn ein cynorthwyo ni i'w cynorthwyo hwy drwy wneud ceisiadau am grantiau unwaith yn unig, a thrwy wneud ceisiadau am y rhai sy'n berthnasol iddynt hwy.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Mae’r darlun yn un eithaf cymhleth o hyd, a byddaf yn dychwelyd at hyn drwy ohebiaeth â'r Gweinidog ynglŷn ag a allwn ddefnyddio awdurdodau lleol i raddau mwy, yn enwedig er mwyn sicrhau cymorth i rai o'r busnesau lleiaf un sy'n dal i fod yn bwysig iawn o ran y bobl maent yn eu cyflogi.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog nawr am gymorth mwy hirdymor? Yn amlwg, rydym yn gobeithio cael etholiad ym mis Mai, ond gwyddom hefyd fod rhai o gynlluniau mawr y DU—ac rwy'n meddwl yn benodol am y cynllun cadw swyddi, y cynllun ffyrlo—i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth ar hyn o bryd. Tybed a oes gan y Gweinidog unrhyw syniad, o ystyried, yn anffodus, fod y sefyllfa mewn perthynas â'r feirws yn dal i fod yn ddifrifol iawn—gallwn weld rhai gwelliannau, ond mae'n dal i fod yn ddifrifol iawn—a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag a yw cynlluniau Llywodraeth y DU yn debygol o gael eu hymestyn ymhellach ai peidio, os ydym mewn sefyllfa lle na all busnesau fel lletygarwch ailagor? A pha ystyriaeth y mae'r Gweinidog a'i dîm yn ei rhoi i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud os na fydd cymorth y DU yn parhau, neu os nad yw'n parhau ar ei ffurf bresennol? Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau i wneud rhywbeth fel y cynllun ffyrlo, ond hoffwn ddweud wrth y Gweinidog y gallech fod eisiau ystyried pa sectorau yw’r rhai mwyaf tebygol o barhau i gael eu heffeithio ac a fyddwch yn gallu darparu rhywfaint o gymorth ai peidio yn nes ymlaen yn yr haf, yn enwedig i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth os na allant agor.

Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad pellach? Ac mae’n llygad ei lle, ni fyddem mewn sefyllfa—ni fyddem yn gallu fforddio rhoi cynlluniau ar waith yn lle’r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig yng Nghymru. Mae angen grym Trysorlys y DU i wneud hynny. Ond drwy gydol y pandemig, rydym wedi ymateb yn gyflym ac yn briodol wedi i Lywodraeth y DU wneud cyhoeddiadau ynglŷn â’r cymorth y gallant ei gynnig, ac rydym wedi llunio ein pecynnau i sicrhau ein bod yn llenwi’r bylchau ac yn ychwanegu gwerth.

Rydym yn aros am ymateb gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r nifer fawr o bethau rydym wedi bod yn gofyn amdanynt yn ddiweddar—ac wedi bod yn galw amdanynt ers peth amser—mewn llythyr ffurfiol at y Canghellor. Ysgrifennais i a fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, at y Canghellor yn gofyn iddo gadw'r cynllun cadw swyddi am gyfnod hirach. Gwnaethom ofyn hefyd am fathau eraill o sicrwydd, gan gynnwys hyblygrwydd gan CThEM i ganiatáu gohirio taliadau ar gyfer cynlluniau fel y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Rydym yn aros am ymateb y Canghellor. Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd i ddynodi faint o gydymdeimlad a fydd ganddo â'n cais.

Rwyf hefyd wedi bod yn galw am eglurder ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU yn mynd i gyflwyno cynllun cymorth incwm i gyfarwyddwyr, gan y gwn fod ExcludedUK wedi bod yn ymgyrchu dros hynny a bod llawer o bobl wedi bod yn gofyn amdano. Felly, rydym yn aros am fanylion gan Lywodraeth y DU wrth inni agosáu at y gyllideb, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn cydnabod yr angen i ymestyn y cynllun cadw swyddi hanfodol hwnnw a chynlluniau eraill, ac yn gweithredu gyda thegwch a hyblygrwydd mewn perthynas â'r meysydd gweithgaredd eraill rwyf wedi'u hamlinellu.

14:00

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n arbennig o falch o weld ei fod yn parhau i ddadlau achos y rheini sy’n cael eu heithrio rhag cymorth, fel y mae ExcludedUK yn eu cynrychioli. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r graddau y mae argyfwng COVID wedi tynnu sylw at rai o'r anghyfiawnderau a'r anghydraddoldebau strwythurol sylfaenol, boed yn ddaearyddol rhwng cymunedau yng Nghymru—gwelsom mai Dwyfor Meirionnydd yw’r sir lle mae'r nifer fwyaf o bobl wedi cofrestru i dderbyn credyd cynhwysol, am na allent fynd i'w gwaith ym maes twristiaeth—ac rydym wedi gweld cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael.

Cyfarfûm—yn rhithiol, wrth gwrs—â phobl ifanc o Gydweli ac ardal ehangach Llanelli y penwythnos diwethaf, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn wirioneddol awyddus i allu adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yma yng Nghymru, ond roeddent hefyd yn awyddus i aros yn eu cymuned eu hunain os gallant—i raddau llawer mwy, o bosibl, nag y byddent wedi bod yn y gorffennol. Roeddent am fod yn sicr y byddai cyfleoedd ar gael iddynt wneud hynny. Roeddent hefyd yn bryderus iawn am eraill, a buont yn siarad â mi’n benodol am bobl dduon a phobl groenliw yng nghyd-destun mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Beth y gall y Gweinidog ei wneud heddiw i nodi ar gyfer y bobl ifanc hynny, a phobl ifanc debyg iddynt, sut y bydd yn cynllunio i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael mewn cymunedau lle nad yw'r economïau wedi bod yn gryf yn draddodiadol—ac mae gorllewin Cymru a rhannau o'r Cymoedd, wrth gwrs, yn nodweddiadol o hynny—a sut y bydd yn sicrhau yr eir i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi rhwystro pobl rhag cael cyfleoedd yn ei gynlluniau i ailadeiladu'r economi wedi i'r argyfwng ddod i ben?

Mae Helen Mary Jones yn codi pwynt pwysig arall, sef na ddylai unrhyw unigolyn ifanc orfod symud o’u cymuned er mwyn llwyddo mewn bywyd. Ni ddylent orfod symud oddi cartref os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Er mwyn cefnogi pobl ifanc, y gwyddom o ddirwasgiadau blaenorol y byddant yn ei chael hi’n anoddach cael mynediad at y farchnad swyddi, rydym wedi sefydlu'r gronfa rwystrau, rydym wedi sefydlu’r ymrwymiad COVID ac rydym wedi cynyddu cyllideb Cymunedau am Waith a Mwy.

Yn benodol, mae’r ymrwymiad COVID yn darparu ar gyfer miloedd o gyfleoedd prentisiaeth a fyddai fel arall yn cael eu colli, estyniad i gynlluniau peilot y cyfrifon dysgu personol—rydym yn ei wneud yn gynllun cenedlaethol—ac wrth gwrs, mae'n darparu mwy o gymorth ar gyfer cadernid ac iechyd meddwl, sy'n hanfodol ar yr adeg hon, yn fy marn i, rhywbeth sydd ei angen ar bawb yn bendant, ond pobl ifanc yn enwedig. Mae'r gronfa rwystrau yn canolbwyntio ar bobl ifanc yn benodol, ond hefyd ar bobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'n caniatáu i unigolion dynnu grantiau o hyd at £2,000 i lawr i sefydlu eu busnesau eu hunain. Bydd y gronfa honno hefyd yn cyd-fynd â chymorth a chyngor gan Busnes Cymru i roi'r gobaith gorau i'r busnesau hynny ar gyfer y dyfodol.

Mae cynlluniau eraill ar waith a gynlluniwyd i gefnogi'r bobl sydd bellaf o'r farchnad swyddi a'r bobl fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n andwyol gan y coronafeirws, gan gynnwys y cynllun cymhelliant a sefydlwyd gennym ar gyfer prentisiaethau, lle gall busnes dynnu i lawr hyd at £3,000 os ydynt yn cyflogi unigolyn ifanc fel prentis. Mae'r holl gynlluniau hyn wedi'u llunio i sicrhau nad yw cymaint o bobl ifanc â phosibl yn wynebu effeithiau hirdymor, dwfn, a niweidiol dirywiad economaidd y gwyddom fod gormod o bobl mewn cenedlaethau blaenorol wedi gorfod eu dioddef.

14:05
Brexit

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar economi Gogledd Cymru? OQ56190

Mae'r cytundeb a gafwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar 24 Rhagfyr 2020, yn dilyn negodiadau, yn golygu bod masnachu gyda'r UE yn fwy cymhleth o lawer. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau, gan gynnwys porthladd Caergybi, wrth iddynt addasu, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.

Diolch ichi am yr ateb, oherwydd mynd ar ôl dyfodol porthladd Caergybi oeddwn i eisiau ei wneud. Mae'n amlwg yn destun gofid yn sgil y newid rydyn ni wedi ei weld yn yr wythnosau diwethaf, gyda busnes ar y route o Gaergybi i Ddulyn wedi haneru o beth fyddem ni fel arfer yn ei weld ar yr adeg yma. Mae Stena Estrid hefyd, wrth gwrs, wedi cael ei symud i route o Ddulyn i Cherbourg, er ei bod hi nôl, mae'n debyg, yr wythnos yma am gyfnod byrhoedlog; mae'n debyg yn y tymor hirach y bydd hi ddim. Felly, mae yna gonsérn, wrth gwrs, ynglŷn â'r effaith hirdymor ar y porthladd. Yr hyn dwi eisiau gofyn yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda'r gwaith o hwyluso'r defnydd o'r porthladd pan mae'n dod i weithio gyda chwmnïau sy'n symud nwyddau, busnesau a, pan ddaw'r amser, teithwyr hefyd. Oherwydd mae angen gwarchod dyfodol y porthladd, wrth gwrs, ond mae e yn gwneud cyfraniad pwysig nid dim ond i economi Ynys Môn ond i economi gogledd Cymru gyfan.

Yn wir. Mae Llyr Huws Gruffydd yn llygad ei le; mae'n gwneud cyfraniad sylweddol iawn at economi Cymru, a byddwn yn dadlau hefyd, at economi'r DU yn ei chyfanrwydd, a dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn ymateb yn ffafriol i'r llythyr a anfonais ddoe at Grant Shapps. Yn y llythyr hwnnw, mynegais fy mhryder dwys iawn ynghylch y pwysau biwrocrataidd sylweddol a osodwyd ar fusnesau a chludwyr nwyddau sy'n masnachu rhwng y DU a'r UE, a sut roedd hynny’n cael effaith anghymesur ar borthladdoedd Cymru, Caergybi yn bennaf, ond Abergwaun ac Aberdaugleddau yn bennaf. Yr hyn a welwn yw cynnydd sylweddol yn y capasiti ar rai llwybrau, gan gynnwys o borthladd Rosslare i Ewrop, lle mae'r capasiti wedi'i gynyddu dros 500 y cant i ateb y galw. Mae hynny'n dangos y risg wirioneddol i Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb ar frys i gefnogi ein porthladdoedd. Cyn gynted ag y byddaf yn derbyn ymateb i fy ngohebiaeth, byddaf yn sicr o'i rannu gyda'r Aelodau.

Weinidog, yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Brecwast Fferm, ac fel y gwyddoch, gan eich bod yn gynrychiolydd yng ngogledd Cymru, mae ffermio’n rhan bwysig o economi gogledd Cymru. Un o'r cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit yw'r cyfle i newid rheolau caffael y sector cyhoeddus fel y gall ffermwyr a chynhyrchwyr eraill werthu mwy o'u cynnyrch i’r sector cyhoeddus. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Gweinidog yr economi i sicrhau bod hyn yn rhywbeth y gall y gymuned ffermio ac eraill ledled Cymru fanteisio arno wrth symud ymlaen, a ble rydym arni gydag adolygiad Llywodraeth Cymru o brosesau caffael, o gofio ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd?

A gaf fi ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn a dweud, yn gyntaf oll, nad drwy gaffael yn unig y gallwn hyrwyddo mwy o gyrchu lleol a gwell cyrchu lleol? Yr hyn sydd wedi creu cryn argraff arnaf yw rhai o ganlyniadau cronfa her yr economi sylfaenol, lle ceir enghreifftiau, yn enwedig o ran bwyd môr, o fusnesau yn yr economi sylfaenol yn manteisio ar fwy o fusnes yn lleol, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar allforion. Caiff hynny ei lywio gan gydweithredu a chan yr arian sbarduno y mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi'i ddarparu, ac wrth gwrs, rydym bellach yn ystyried cynyddu a dysgu o'r gwersi sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r gronfa her. Byddaf yn sicr yn gwahodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid i ymateb yn fanwl o ran ble rydym arni ar y polisi caffael, ond yn amlwg, rydym am weld caffael lleol lle bynnag a phryd bynnag y bo modd. Mae enghreifftiau da i’w cael—mae enghreifftiau gwych i’w cael—o hynny’n digwydd ledled Cymru. Rydym am sicrhau bod hynny’n cael ei gynyddu a bod gwersi'n cael eu dysgu a'u gweithredu.

Datblygiad Economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd? OQ56186

14:10

Ein strategaeth yw gosod sylfaen gref a chadarnhaol ar gyfer newid ar draws yr ardal. Hyd yn hyn, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg wedi gwneud ymrwymiadau o dros £27 miliwn, a fydd yn hwyluso o leiaf 600 o swyddi cynaliadwy. Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar Flaenau’r Cymoedd fel rhan o'i buddsoddiad o £110 miliwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rydym wedi gweld nifer o adroddiadau gwahanol yn cael eu cyhoeddi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a heb dreulio amser yn rhestru pob un ohonynt, mae pob un yn dweud dau beth yn y bôn: yn gyntaf oll, fod dyfnder yr her economaidd sy'n ein hwynebu ar ôl COVID ac ar ôl Brexit yn fwy o lawer nag y byddem, efallai, wedi’i gydnabod beth amser yn ôl, a'r ail beth y maent yn ei ddweud yw nad yw dyfnder yr her yn cael ei ysgwyddo’n gyfartal, ein bod yn gweld cydraddoldeb ar draws gwahanol gymunedau a gwahanol rannau o'r wlad yn cael effaith lle mae'r cymunedau tlotaf yn cael eu heffeithio'n llawer gwaeth na chymunedau cyfoethocach. Un o'r materion sy'n wynebu Blaenau’r Cymoedd, wrth gwrs, yw bod angen cymorth a buddsoddiad parhaus ar economi. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn ymateb i hyn drwy dorri’r cronfeydd Ewropeaidd y gwnaethant eu haddo i ni—heb fod geiniog ar ein colled—yn ogystal â thorri eu haddewidion mewn perthynas â’r gronfa ffyniant gyffredin a phethau eraill. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am yr addewidion a dorrwyd gan y Ceidwadwyr? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau’r buddsoddiad i fwrw ymlaen â Blaenau'r Cymoedd yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw'r adroddiadau a welwn yr wythnos hon yn dod yn realiti i'r bobl y mae pob un ohonom yn ceisio’u cynrychioli?

Credaf fod hwnnw'n bwynt rhagorol ac amserol. Yn gynharach, bûm yn darllen yr adroddiad o Brifysgol Sheffield Hallam gan Steve Fothergill a Christina Beatty ar effaith y coronafeirws ar y Brydain ddiwydiannol hŷn. Rwy'n credu eu bod yn mynd i siarad â'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol a gadeirir gan Vikki Howells cyn bo hir. Roeddent yn gwneud y pwynt yn eu hadroddiad fod y dirywiad wedi dileu 10 mlynedd o gynnydd yn economi’r Brydain ddiwydiannol hŷn. Felly, yn amlwg, mae her yma ledled y DU mewn cymunedau sy'n wynebu heriau tebyg, heriau y cynlluniwyd cyllid strwythurol Ewropeaidd, wrth gwrs, i fynd i'r afael â hwy. Mae gan Lywodraeth y DU rwymedigaeth foesol yn awr i ddarparu cyllid yn ei le i sicrhau bod ei rhaglenni olynol yn cyd-fynd ag anghenion y cymunedau hynny. Hyd yn hyn, nid ydynt wedi gwneud hynny, ond mae amser o hyd iddynt gadw eu haddewidion.

Yn ychwanegol at hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud nifer o bethau. Yn amlwg, mae'r prosiect y soniais amdano yn fy ateb cynharach—y Cymoedd Technoleg a phrosiect tasglu'r Cymoedd—wedi gwneud nifer o ymyriadau ymarferol a defnyddiol iawn yn etholaeth Alun Davies, a byddwn yn gwneud rhai cyhoeddiadau pellach ynglŷn â hynny cyn bo hir. Ond ynghyd â hynny, gan gyffwrdd â'r ymyriadau gan Darren Millar a chan Helen Mary Jones, mae'n ymwneud â'r hyn a wnawn dros y cymunedau ar lawr gwlad, yn y bôn—dros y bobl ifanc yng Nghydweli a Blaenau ac mewn mannau eraill sydd am sicrhau dyfodol i’w hunain yn y lle y maent hwy a’u teuluoedd wedi cael eu magu. Dyna ble mae ffocws cryf ein prosiect economi bob dydd: sut rydym yn defnyddio'r arian rydym eisoes yn ei wario drwy'r sector cyhoeddus i sicrhau bod cymaint ohono â phosibl yn aros yn y gymuned. Gall hynny gael effeithiau gweladwy go iawn.

Gwn fod Alun Davies a minnau eisoes wedi trafod y cyfleoedd ar gyfer prosesu a chynhyrchu bwyd ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd yn arbennig. Yn GIG Cymru, gwyddom o'n dadansoddiad ein hunain fod 49 y cant o'r arian a wariwn ar fwyd yn mynd y tu allan i Gymru. Nawr, gallwn symud rhywfaint ohono yn ôl i Gymru, ac ym mhob rhan o Gymru, ceir cynhyrchwyr bwyd a allai fod yn cyflenwi eu byrddau iechyd lleol. Bydd hynny'n cael effaith wirioneddol, bob dydd ar ein heconomïau a'n cymunedau. Ac un enghraifft yn unig yw bwyd. Felly, mae hynny'n rhan o raglen ddiwygio rwy'n arwain gwaith arni ac y gwelsom gynnydd cynnar arni, ond mae mwy o lawer i'w wneud.

Y Rheilffordd o Faesteg i Ben-y-bont ar Ogwr

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses WelTAG sy'n archwilio amlder cynyddol ar lwybr rheilffordd Maesteg-Pen-y-bont ar Ogwr? OQ56169

Mae cynyddu amlder gwasanaethau i Faesteg yn elfen allweddol o fetro de Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn cyflawni cam 2 proses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) i asesu'r opsiynau ar gyfer cynyddu amlder gwasanaethau ar y llwybr hanfodol bwysig hwn.

Weinidog, a gaf fi groesawu eich ymateb? Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i chi, eich swyddogion, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymwneud ar y mater hanfodol hwn, sef cynyddu amlder y gwasanaeth ar reilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-baid drosto, fel y gwyddoch—er rhwystredigaeth i chi mewn rhai ffyrdd yn ôl pob tebyg—ers imi ddod i’r Senedd yn ôl yn 2016. Rwyf fel yr olwyn wichlyd ar y locomotif, yn mynnu sylw. Rydym wedi cwblhau'r cam WelTAG, ac ymlaen nawr i WelTAG 2. Felly, a allwch gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn glir ac yn groyw heddiw i roi mwy o drenau i ni ar reilffordd Llynfi i ychwanegu at y gwasanaeth dydd Sul roeddem yn falch o'i gael y llynedd, ac at y gwelliannau i gerbydau rydym eisoes wedi'u cael? A phan fydd y pandemig yn caniatáu, a wnaiff gyfarfod â mi ac ymgyrchwyr i drafod y cynnydd rydym yn ei weld bellach ac sydd i'w groesawu?

14:15

Gwnaf, yn sicr, ac a gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei ymgyrchu ar ran ei etholwyr mewn perthynas â'r mater hwn? Rydym yn gweithio ar gam 2 proses WelTAG yn awr i ddatblygu opsiynau ymhellach, ac mae'n bwysig fod y gwaith hwn yn parhau gyda chefnogaeth ac ymgysylltiad rhanddeiliaid lleol, ac mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn gefnogol iawn i'n hymdrechion i ddod â’r rhanddeiliaid hynny a Trafnidiaeth Cymru at ei gilydd. Fe ofynnaf i fy swyddogion roi manylion y pum opsiwn sy'n cael eu hystyried i Huw Irranca-Davies, a sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau nesaf y gwaith. Yn amlwg, mae angen imi nodi nad yw seilwaith rheilffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli hyd yma, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb a'n cynorthwyo i wneud y gwaith hwn, ac rydym yn disgwyl i Network Rail gyflawni, ac i Lywodraeth y DU ariannu system groesi ddiogel ar y rheilffordd ym Mhencoed, ac rydym yn gweithio gyda hwy i sicrhau y gallwn wneud i hyn ddigwydd, ac yn sicr, mae’n flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon.

Effaith Coronafeirws ar yr Economi

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar yr economi yng Nghanol De Cymru? OQ56184

Gwnaf, wrth gwrs. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y gall busnesau adfer wedi'r pandemig a byddwn yn parhau i gefnogi swyddi a'n heconomi.

Yng Nghanol De Cymru, mae'r gronfa ddiweddaraf ar gyfer busnesau dan gyfyngiadau wedi darparu mwy na £15.5 miliwn i 4,700 o fusnesau ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 175 o daliadau gwerth mwy nag £1 filiwn hyd yn hyn.

Diolch am eich ymateb. Weinidog, byddwch wedi clywed y dadleuon yn y Siambr ddoe ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd, sydd, wrth gwrs, wedi cael ei effeithio’n wael gan y pandemig. Nawr, ymddengys mai'r honiad gan ochr Llywodraeth Cymru yw bod Maes Awyr Bryste yn cael grantiau gan Lywodraeth y DU, sy'n anwybyddu neu'n esgeuluso Maes Awyr Caerdydd. Efallai fod Llywodraeth y DU wedi gweld y miliynau lawer o arian cyhoeddus sydd wedi cael ei dywallt i Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru benderfynu ei brynu, felly efallai eu bod o'r farn fod Maes Awyr Caerdydd wedi derbyn mwy na digon o arian cyhoeddus drwy Fae Caerdydd. Nawr, o ran gwerth am arian, mae gwneud elw ar y buddsoddiad cyhoeddus hwn ym Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn anodd. Mae llawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru, yn gweld llawer o arian trethdalwyr yn cael ei dywallt i mewn i Faes Awyr Caerdydd heb unrhyw fudd gwirioneddol iddynt hwy. A yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi terfyn ar faint o arian trethdalwyr y maent yn barod i'w roi o'r neilltu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, ac a ydych yn credu y dylent wneud hynny?

Yn gyntaf oll, byddwn yn dweud bod rhesymeg od yn nadl Gareth Bennett. Yn y bôn, mae'n dweud y dylid tywallt arian cyhoeddus i feysydd awyr preifat, ond na ddylid buddsoddi arian cyhoeddus o San Steffan mewn maes awyr mewn dwylo cyhoeddus yng Nghymru. Gyda'r rhan fwyaf o feysydd awyr i deithwyr ar draws y byd mewn rhyw fath o berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cael rhyw fath o gymorth cyhoeddus, fy nadl i fyddai ei bod hi'n gwneud synnwyr fod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn cael cyfran deg o gymorth gan Lywodraeth y DU, ac roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le i gymharu'r cynnig hael o gymorth i Faes Awyr Bryste fel methiant i gefnogi maes awyr rhyngwladol Caerdydd.

Ac o ran teimladau tuag at faes awyr rhyngwladol Caerdydd yn y gogledd, mae'n ffaith bod maes awyr Ynys Môn yn bodoli'n bennaf am fod ganddo'r llwybr awyr hanfodol rhwng y gogledd a’r de, ac felly, mae maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn darparu swyddi a ffyniant i ran sylweddol o ogledd Cymru.

A byddwn yn dadlau eto nad y cymorth ariannol uniongyrchol y gellir ei roi i Faes Awyr Caerdydd yn unig a fydd yn sicrhau y bydd yn goroesi yn hirdymor—ac rwy'n gobeithio y byddwn yn ei weld yn ffynnu yn y dyfodol; mae ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth y DU gynorthwyo maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Rydym wedi eu hamlinellu ar sawl achlysur, ac yn y misoedd nesaf, gobeithio y byddwn yn gweld Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol, gan gynnwys, yn hollbwysig, datganoli’r doll teithwyr awyr, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i faes awyr rhyngwladol Caerdydd.

14:20
Cymorth Ariannol i Fusnesau

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol i fusnesau a gaewyd ym mis Ionawr 2021 oherwydd rheoliadau COVID-19? OQ56188

Gwnaf, yn sicr. Ddydd Gwener 22 Ionawr, gwnaethom ddarparu £200 miliwn ychwanegol i’n pecyn cymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau lefel pedwar, gan ei gynyddu i gyfanswm o £650 miliwn.

Diolch, Weinidog. Gallaf ddweud wrthych y bydd yr arian hwnnw nid yn unig yn cael ei groesawu'n fawr, ond fod mawr ei angen yng Nghymru. Nawr, mae nifer o berchnogion llety bach yn cysylltu â mi i nodi mai'r unig gyllid y gallant gael gafael arno gan Lywodraeth Cymru yw grant ardrethi annomestig y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau. Am ryw reswm, mae'n ymddangos bod busnesau twristiaeth bellach yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at y gronfa sector-benodol y credwn ei bod wedi'i hanelu atynt ar y cychwyn. Ni chânt wneud cais. Dyma a ddywedodd un perchennog busnes yn Aberconwy wrthyf yr wythnos diwethaf: ‘Rydym yn agosáu at y torbwynt nawr. Rydym wedi cymryd yr holl gamau sydd ar gael i gadw ein halldaliadau mor isel â phosibl, ond mae ein gorbenion misol yn rhy fawr i ni.' Mae'n rhaid ichi gofio, yma yn Aberconwy, fod y rhan fwyaf o'r busnesau hyn wedi bod dan gyfyngiadau symud ers 1 Hydref, ac yna'r gyfres o gyfyngiadau symud a ddaeth wedi hynny. Felly, mae rheswm i obeithio wrth i £200 miliwn arall gael ei gyhoeddi, ond nid ydym wedi cael unrhyw fanylion ynglŷn â sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio, a'r meini prawf a osodwyd. Felly, a wnewch chi egluro hyn heddiw? Ond yn bwysicach fyth, a ydych yn credu y gallech edrych ar westai bach, busnesau gwely a brecwast, a'r rheini a chanddynt lai na hanner dwsin o weithwyr? Weithiau, dim ond busnesau bach ydynt, ond pan fydd eu hincwm yn diflannu, maent mewn trafferthion go iawn. Diolch.

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn, sydd mor bwysig i'r economi, nid yn unig yn ei hetholaeth, ond i ogledd Cymru, ac yn wir, i Gymru gyfan? Mae twristiaeth a lletygarwch yn hanfodol bwysig, ac yn cefnogi miloedd ar filoedd o bobl, llawer ohonynt ymhlith yr enillwyr ar yr incwm isaf, ac ymhlith y rhai mwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n andwyol gan y coronafeirws. Felly, dyna pam fod Llywodraeth Cymru mor benderfynol o gefnogi'r sector i’r graddau mwyaf posibl. Yn wir, rwyf eisoes wedi amlinellu sut y mae 10,600 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch eisoes wedi gwneud cais am y cymorth ariannol sector-benodol hwnnw. Rydym yn cadw'r gronfa honno ar agor am gyfnod ychwanegol o amser i sicrhau bod llawer o'r busnesau nad ydynt wedi gwneud cais eto yn gwneud hynny.

Ni allaf wneud sylwadau ar y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â'r busnes penodol a ddisgrifiodd Janet Finch-Saunders, ond wrth gwrs, os gall yr Aelod ysgrifennu ataf, fe edrychwn ar fanylion yr achos penodol hwnnw. Ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod 146 o gynigion gwerth mwy na £1.4 miliwn eisoes wedi eu gwneud i fusnesau drwy'r gronfa sector-benodol yn awdurdod lleol Conwy. Credaf fod 67 o fusnesau eisoes wedi derbyn y cynigion hynny, ac o ran y gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau, sy'n gronfa sylweddol yn wir, yn ardal awdurdod lleol Conwy, mae mwy na 2,160 o grantiau eisoes wedi'u talu, cyfanswm o fwy na £6.8 miliwn. Felly, mae hynny'n dangos sut y mae arian yn mynd i'r cyfrifon busnes hynny'n gyflym, ac yn ogystal, mae £25 miliwn ar gael o hyd drwy gronfeydd dewisol yr awdurdodau lleol, ar gael i fusnesau—yn aml y busnesau sydd wedi cwympo drwy'r bylchau. Ond wrth gwrs, os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda'r achosion penodol hynny, rwy’n fwy na pharod i ymateb i'w gohebiaeth.

Cynlluniau Gwella Ffyrdd

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gwella ffyrdd yng nghanolbarth Cymru? OQ56172

Gwnaf, wrth gwrs. Mae'r ymgynghoriad ar fin cychwyn ar sawl cynllun gwella bach i fynd i'r afael â phryderon diogelwch yng nghanolbarth Cymru. Byddaf hefyd yn gwneud cyhoeddiad ar ddechrau cynllun pont newydd afon Dyfi cyn bo hir, gan fod rhaglen adeiladu ddiwygiedig bellach wedi’i chytuno.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o glywed am bont afon Dyfi. Gwn fod hwnnw'n gwestiwn sydd wedi’i ofyn ers peth amser, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cael y manylion a’r ymrwymiad cadarn rydym eu hangen mewn perthynas â hynny.

Mae fy nghwestiwn penodol yn ymwneud ag oedi ger pont Cefn yn Nhre-wern, sy’n achosi tagfeydd enfawr ac yn tarfu ar bobl sy'n byw yn yr ardal honno a ledled Cymru. Mae’r bont hon wedi cael ei tharo nifer o weithiau. Cyn y Nadolig, roedd goleuadau traffig ar waith ar y bont unwaith eto, yn anffodus. Yn sicr, rwyf wedi cynnal fy arolwg fy hun gan ddefnyddio fy nghronfa ymgysylltu drwy gyfleusterau'r Senedd, a'r hyn y mae pobl wedi'i ddweud yw bod angen gwelliannau ffordd sylweddol ar yr A458 rhwng y Trallwng a'r Amwythig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech drafod hyn gyda swyddogion o bosibl. Credaf fod nifer o faterion yn codi y dylid edrych arnynt mewn perthynas â chyfyngiadau cyflymder ac ati. Felly, Weinidog, a allwch gadarnhau pa bryd y bydd pont Cefn yn cael ei hatgyweirio eto, ac a all y Gweinidog anfon cynigion ataf hefyd ar gyfer unrhyw gynlluniau gwelliannau ffordd ar yr A458?

14:25

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Ac mewn perthynas â phont Cefn, rwy'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd o ganlyniad i'r gwaith y mae angen ei wneud, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb llawn. O ran ffordd yr A458 rhwng y Trallwng a’r Amwythig wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda swyddogion cyfatebol dros y ffin ar gynlluniau i wella llwybrau sy'n croesi ffin Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, byddaf yn awyddus i sicrhau bod yr Aelod yn cael ei hysbysu pan fydd unrhyw gynnydd ar unrhyw un o'r cynlluniau trawsffiniol hynny, ac unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu ato gyda manylion pellach.FootnoteLink

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am bontio Ewropeaidd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.

Diwydiant Dur Cymru

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd y cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE yn ei chael ar ddyfodol diwydiant dur Cymru, yn enwedig gwaith Trostre yn Llanelli? OQ56175

Member
Jeremy Miles 14:27:11
Counsel General and Minister for European Transition

Rydym yn deall bod y diwydiant dur ac undebau wedi rhoi croeso gofalus i’r cytundeb cydweithredu masnachol rhwng yr UE a’r DU. Rydym yn croesawu’r cwotâu di-dariff y cytunwyd arnynt ar gyfer allforion dur Prydain i’r UE, ond rydym yn rhannu pryderon y diwydiant fod capasiti gwerthiannau i Ogledd Iwerddon yn cyfrif yn erbyn y cwotâu hyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Yn amlwg, mae dyfodol y diwydiant yn dibynnu ar allu symud tuag at ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio, a tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi gwybod inni heddiw ynglŷn ag unrhyw drafodaethau pellach a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â'u cymorth i ddyfodol y diwydiant yng Nghymru yn hynny o beth. Ac a all ddweud wrthym p'un a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau bod cymorth pellach ar gael i'r cwmni mewn meysydd fel sgiliau ac ymchwil a datblygu, gan gofio, os ydym am gael diwydiant dur llwyddiannus yn y dyfodol, a gallu manteisio ar y trefniant di-dariff, y bydd angen mawr i ddiweddaru'r diwydiant a sut y mae'n gweithredu?

Wel, o ran diweddaru’r diwydiant ar weithrediad y trefniadau di-dariff, yn amlwg, bydd yn gwybod y bydd adeg ym mis Mehefin eleni pan fydd angen egluro’r trefniadau diogelu, ac rydym yn pwyso fel Llywodraeth am eglurhad ar unwaith gan—[Anghlywadwy.]

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:28.

14:35

Ailymgynullodd y Senedd am 14:38, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Jeremy Miles, felly, i barhau gyda'i ateb i gwestiwn Helen Mary Jones. 

Diolch, Lywydd. O ran cefnogi'r sector dur yng Nghymru, er mwyn ymateb i'r trefniadau newydd, un o'r ystyriaethau cyntaf rydym angen eglurder yn ei gylch gyda'r sector yw'r mesurau diogelu sy'n berthnasol ar hyn o bryd i ddiogelu symiau penodol o allforion dur i'r UE. Daw'r mesurau diogelu hynny i ben, fel y gŵyr yr Aelod efallai, ym mis Mehefin eleni, ac rydym yn gofyn am eglurhad ar unwaith gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r statws bryd hynny. Rydym yn cydnabod, yn sicr, yng Nghymru, na fyddai cyhoeddiad munud olaf o fudd i'r sector yng Nghymru.

O ran y math arall o gymorth roedd yr Aelod yn gofyn amdano, mae'n amlwg ein bod wedi ariannu cymorth sgiliau yn y sector ers nifer o flynyddoedd, ac yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys mewn perthynas â'r gweithlu yn Tata. Ac yn wir, mae cryn dipyn o waith yn digwydd yn y sector mewn perthynas â datgarboneiddio, ac mae'r diwydiant ei hun yn awyddus i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n digwydd mewn ffordd a all gefnogi a chynnal y diwydiant i'r dyfodol. A gwn, yn ei—. Soniodd am Trostre yn Llanelli yn ei chwestiwn, a gwn o  fy nhrafodaethau gyda Lee Waters, yr Aelod o'r Senedd dros Lanelli, ei fod mewn cysylltiad agos â'r gwaith ynglŷn â'r mathau hynny o faterion hefyd.

Diolch am yr eglurder hwnnw, Weinidog, yn enwedig ynglŷn â'r agenda ddiogelu, oherwydd mae'n bwysig inni edrych ar sut rydym yn diogelu mewnforion ac allforion dur, ac mae'r cytundeb masnach yn edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn pryderu ynglŷn â sut y mae'r dur yn dod i mewn, efallai, ac yn cael ei storio mewn warysau bond neu lefydd cadw stoc ddur, a'r pryder yw, pan fydd pobl yn dweud wedyn, 'Rydym yn defnyddio dur Prydain', maent yn sôn yn benodol am ddur o ffynonellau Prydeinig, nid dur a gynhyrchir ym Mhrydain. Nawr, mae'n bwysig, felly, ein bod yn gweithredu'r cam nesaf hwn i sicrhau ein bod yn defnyddio dur o Gymru a Phrydain, ac nid dur sy'n a gyrchir yn y DU yn unig. A wnewch chi drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet felly, a chyda Gweinidogion y DU, i sicrhau eu bod yn dechrau ystyried dur a gynhyrchir ym Mhrydain nawr i sicrhau, pan fyddant yn gwneud eu caffael, eu bod yn cefnogi ein diwydiant dur yn hytrach na defnyddio warysau bond i gaffael dur o fannau eraill, gan niweidio ein diwydiant dur?

14:40

Yn sicr. Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt y mae David Rees yn ei godi yn ei gwestiwn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu, ac yn parhau i wneud popeth yn ein gallu, i gefnogi dur a gynhyrchir ym Mhrydain, a dur a gynhyrchir yng Nghymru yn ein hachos ni wrth gwrs. Un o'r ystyriaethau rydym yn bryderus yn ei chylch yw mai un o ganlyniadau'r trefniadau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd yw bod y cwota sy'n diogelu dur a gynhyrchir ym Mhrydain yn cael ei lyncu i bob pwrpas, os mynnwch, gan ddur tramwy i Ogledd Iwerddon. Ac felly dyna un o'r pryderon—rydych eisiau sicrhau na ddylai hynny leihau argaeledd cyffredinol y diogelwch sydd ar gael i ddur Prydain.

Hawliau Gweithwyr

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch hawliau gweithwyr ers diwedd y cyfnod pontio? OQ56180

Rydym wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU, drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ac mewn trafodaethau dwyochrog, fod yn rhaid i'r DU ymrwymo i gadw at y safonau a'r hawliau cyflogaeth presennol. Mae'n rhaid i'r DU gadw at y rhwymedigaethau y mae wedi cytuno iddynt yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng yr UE a'r DU.

Diolch, Weinidog, ac a gaf fi groesawu amddiffyniad cadarn y Prif Weinidog o hawliau gweithwyr mewn ymateb i gwestiynau yn y Senedd ddoe, oherwydd ni ddylai'r newyddion fod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwriadu ymosod ar hawliau gweithwyr unwaith eto fod yn syndod i neb? Gwyddom ein hanes, a gwyddom y pris a dalwyd i sicrhau a gwella hawliau gweithwyr, a dylai wneud pobl yn ddig a'u paratoi i wrthsefyll, gobeithio, drwy eu hundebau llafur.

Weinidog, mae llai na 100 diwrnod nes etholiadau'r Senedd a gallwn weld yn glir yn awr fod hawliau gweithwyr ar y papur pleidleisio. Felly, er mwyn osgoi rhagor o addewidion toredig y Torïaid, addewidion sydd bellach mor ddrewllyd â'r pysgod sy'n pydru yn ein porthladdoedd, a gaf fi ofyn ichi fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, a'r blaid a gynrychiolwn yma yn y Senedd hon, yn herio unrhyw ymgais gan y Torïaid i aberthu hawliau gweithwyr ar allor eu dogma marchnad rydd?

Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am ei chefnogaeth hirsefydlog i achos undebaeth lafur hefyd. Credaf y bydd gweithwyr ledled Cymru a'r DU yn gwbl siomedig fod Llywodraeth y DU, ar anterth pandemig ac argyfyngau economaidd, yn credu ei bod yn briodol mewn unrhyw fodd o gwbl i ystyried torri amddiffyniadau sylfaenol ar amser gweithio a hawliau tâl gwyliau. Rydym eisiau i waith fod yn decach ac yn fwy diogel, a byddwn yn llwyr wrthwynebu ffantasi'r Ceidwadwyr a chefnogwyr Brexit sy'n honni bod ein dyfodol yn gorwedd mewn gweithle camfanteisiol wedi'i ddadreoleiddio. Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i gynnal amddiffyniadau sy'n bodoli eisoes, ac os yw hynny'n wir, pam y mae'n cynnal adolygiad? Rwy'n cytuno â Dawn Bowden—yn wyneb Llywodraeth y DU sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o ddileu eu hawliau yn y gwaith, mae'n bwysicach nag erioed fod gweithwyr yn ymuno ag undeb llafur, a byddwn yn defnyddio pob dull o liniaru effaith niweidiol unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wanhau hawliau ac amddiffyniadau gweithwyr. Boed hynny drwy bŵer pwrs y wlad neu ein dull partneriaeth gymdeithasol, rydym wedi ymrwymo'n llwyr, fel Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur, i gyfiawnder yn y gweithle ac i arferion gwaith teg.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a phrynhawn da, Gweinidog. 

Roedd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig gennych chi yr wythnos diwethaf, Weinidog, yn hysbysu'r Aelodau eich bod wedi dwyn achos cyfreithiol yn y llysoedd gweinyddol i geisio caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol o Ddeddf marchnad fewnol y DU. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r ymgais hon. Fel rydym wedi'i ddweud droeon o'r blaen, mae'r Ddeddf yn tanseilio democratiaeth Cymru ac yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa sy'n datblygu mewn perthynas â'r camau cyfreithiol hyn. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a yw wedi trafod y camau cyfreithiol hyn gyda chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill? A allai amlinellu wrthym, efallai, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gynnwys Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, fel cefnogwyr i'r camau cyfreithiol hyn, gan y byddai hynny, fel y bydd yn cytuno rwy'n siŵr, yn sicr o gryfhau hygrededd yr achos o blaid cynnal adolygiad barnwrol i'r ymdrechion diweddaraf hyn i gipio pŵer?

14:45

Yn sicr. Wel, bydd yr Aelod yn amlwg yn deall na fyddwn eisiau datgelu manylion sgyrsiau rhwng swyddogion y gyfraith mewn gwahanol rannau o'r DU. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth gwrs y bydd wedi nodi o'r plediadau o bosibl ein bod wedi cydnabod bod gan swyddogion y gyfraith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiddordeb yn yr ystyr bod ganddynt ddiddordeb yn y canlyniad. Mae Llywodraeth yr Alban, fel y gwelodd hefyd efallai, wedi cyhoeddi mwy nag un datganiad o gefnogaeth i'r camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rydym bellach ar y cam lle mai'r cais cychwynnol fydd i'r llys benderfynu a gawn gyflwyno adolygiad barnwrol cyn i wrandawiad gael ei gynnal. Ac os bydd y llys yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r achos, fel rydym yn gobeithio, credaf mai ar y pwynt hwnnw y byddai penderfyniad Llywodraethau datganoledig eraill yn ymffurfio ynglŷn â'u perthynas â'r achos cyfreithiol.

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Gan symud ymlaen, wedi'i gladdu'n ddwfn o fewn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE ceir erthygl sy'n nodi y caiff Senedd Ewrop a Senedd y DU,

sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol

sy'n cynnwys Aelodau Seneddol ac Aelodau o Senedd Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eisoes ar y gweill yn Senedd y DU a Senedd Ewrop ynglŷn â sut i sicrhau bod hyn yn digwydd, ond nid oes dim wedi'i ffurfioli eto. Fel y gwyddom, mae cytundeb y DU-UE yn cwmpasu llawer o feysydd polisi sydd wedi'u datganoli mewn gwirionedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, felly, na allwn dderbyn mai dim ond Aelodau Seneddol o San Steffan a fyddai'n cael eu cynrychioli ar bwyllgor o'r fath, ac a gaf fi ofyn, o gofio nad yw'r gwaith o sefydlu'r pwyllgor partneriaeth hwn wedi'i ffurfioli eto, a allai Llywodraeth Cymru, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, gyflwyno sylwadau a gweithio gydag eraill i sicrhau bod seneddwyr o bob rhan o'r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynrychioli ar y pwyllgor hwn?

Mae Dai Lloyd yn codi pwynt pwysig iawn yn ei gwestiwn. Mae'r cytundeb yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraethu'r berthynas yn y dyfodol. Yn gyffredinol, ar wahân i un cyd-destun, rwy'n credu, nid yw'r sefydliadau datganoledig wedi'u cynnwys yn benodol yn hynny. Ac mae un o'r pwyntiau rwyf wedi'i wneud eisoes i Weinidogion y DU yn ymwneud â sicrhau bod gan Gymru'r rôl honno yn y strwythurau llywodraethu wrth symud ymlaen, sy'n adlewyrchu'r union bwynt am natur ddatganoledig llawer o'r meysydd sy'n cael eu trafod drwy'r fframweithiau llywodraethu hynny. Rydym yn datblygu'r hyn y byddem yn ei ystyried yn ofyniad manwl mewn perthynas â hynny, ond mae'r pwynt o egwyddor eisoes wedi'i wneud: fod angen i Gymru gael ei chynrychioli'n briodol yn y set honno o strwythurau yn yr un ffordd ag yr oedd trefniadau Cyngor y Gweinidogion yn darparu ar gyfer y math hwnnw o ymgysylltiad pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Diolch. Yn olaf, codais fater cronfa ffyniant gyffredin y DU gyda chi yn ôl ym mis Rhagfyr a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu eu fframwaith eu hunain ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Dywedasoch, mewn ymateb i fy nghwestiwn, Weinidog, y dylai

'Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yn cael eu cadw, o ran sut y caiff yr arian ei wario, ond hefyd, yn hollbwysig, o ran beth yw'r arian hwnnw.'

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen heibio i'r gweinyddiaethau datganoledig a chael cronfa wedi'i rheoli'n ganolog yn Whitehall yn lle cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Ble mae hyn yn gadael fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi rhanbarthol felly, o gofio eich bod chi eich hun wedi dweud bod cyflawni'r fframwaith yn dibynnu ar ymgysylltiad cadarnhaol â Llywodraeth y DU—eich geiriau chi. A yw'r cynlluniau hyn bellach wedi mynd i'r gwellt?

Nid ydynt wedi mynd i'r gwellt; maent yn ffrwyth cydweithredu sylweddol iawn â'r sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, prifysgolion, ac yn y blaen, ym mhob rhan o Gymru, ac maent yn parhau i fod yn uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac mewn unrhyw ffordd arall yn wir. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall, yn amlwg, yr hyn sy'n dirwedd newidiol yn San Steffan mewn perthynas â hyn. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod yw nad ydym wedi cael y trafodaethau agos y byddem wedi disgwyl eu cael ar y cam hwn, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd fel petai, gyda'r adran berthnasol yn Whitehall. Credaf fod diffyg ymgysylltiad gweinidogol truenus wedi bod â ni ynghylch hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bu oedi cyn treialu—yn y prosbectws ar gyfer y cynlluniau peilot—na fyddant yn digwydd nawr ym mis Ionawr, yn amlwg, ac rwy'n credu efallai na fyddant yn digwydd ym mis Chwefror hyd yn oed. Hoffwn ailadrodd bod y fframwaith yn darparu dull ar gyfer y dyfodol sydd â sylfaen eang o gefnogaeth yng Nghymru, a byddai o fudd i Lywodraeth y DU ymgysylltu â hi, oherwydd mae'n cynrychioli'r hyn y mae busnesau, llywodraeth leol, a chyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru, fel y dywedais, eisiau ei weld fel dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru. Mae gennym gynllun. Mae'n gynllun yr ymgynghorwyd arno ac mae'n gynllun sydd wedi'i gyd-gynllunio a'i gyd-ddatblygu, a dyna'r fframwaith sy'n cynnig y ffordd orau i weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin yn fy marn i, a dylid gwneud hynny mewn partneriaeth â ni, yn hytrach na cheisio mynd heibio i Lywodraeth Cymru.

14:50

Diolch, Lywydd. Er mawr lawenydd i mi, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd allforwyr bwyd môr ledled y DU yn cael cyllid o hyd at £23 miliwn gan y Llywodraeth yn awr. Mae'r cyllid hwnnw ar gyfer cefnogi busnesau sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig coronafeirws a'r heriau o addasu i ofynion newydd ar gyfer allforio. Felly, Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein pysgodfeydd yng Nghymru. Yn wir, ochr yn ochr ag arian, mae Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn darparu canllawiau clir ar y ffurflenni TG angenrheidiol, gan weithio'n agos gyda'r busnesau unigol i'w helpu i ddod i arfer â'r gweithdrefnau newydd sydd eu hangen, ac maent yn cydweithredu ag awdurdodau Ffrainc a Chomisiwn yr UE i sicrhau nad yw mân faterion gweinyddol sy'n gysylltiedig â thystysgrifau iechyd allforio wedi atal nwyddau rhag dod i mewn i'r farchnad. Nawr, cyferbynnwch hyn â dull Llywodraeth Cymru o weithredu. Ysgrifennodd y Gweinidog, Ken Skates AS, ataf ar 22 Ionawr, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro sefyllfa anodd y farchnad i ddiwydiant bwyd môr Cymru a pha opsiynau eraill a allai fod ar gyfer cefnogi'r sector. Felly, a wnewch chi ddweud, os gwelwch yn dda, pa gamau y byddwch yn eu cymryd, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog pontio Ewropeaidd, i ddarparu cymorth i sector pysgodfeydd Cymru ar ben yr hyn y mae Llywodraeth y DU eisoes yn ei gynnig?

A gaf fi groesawu Janet Finch-Saunders yn gyntaf i'w chyfrifoldebau newydd? I ddechrau, hoffwn ddweud ein bod yn amlwg yn croesawu argaeledd y swm hwn o arian. Nid yw'n gronfa sydd wedi'i chyd-gynllunio, fel y dylai fod, gyda'r Llywodraethau datganoledig, ac mae'r manylion ynglŷn â chymhwysedd a chyflwyno yn parhau, rwy'n credu, i fod yn amwys iawn ar hyn o bryd, felly rydym yn gweithio ac yn gobeithio gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall hynny'n well. Yr hyn y dylwn ei ddweud, serch hynny, yw mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw'r her sy'n wynebu'r sector pysgodfeydd mewn perthynas â'r penderfyniadau y mae wedi'u gwneud fel mater o ddewis gwleidyddol yn y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Roeddem ni fel Llywodraeth yn ofni y byddai hyn yn digwydd, a dyna pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llyfn at farchnadoedd, ac maent wedi methu gwneud hynny. Mae llawer o bobl yn rhoi blaenoriaeth uwch i'w hymdeimlad Rwritanaidd o sofraniaeth nag i fywoliaeth pysgotwyr ac eraill, a bydd y bobl hynny'n atebol i'r sectorau dan sylw am fod wedi mabwysiadu'r fath safbwynt, ac rwy'n cynnwys yr Aelod yn hynny. Mae pysgotwyr yn trin cynhyrchion sy'n ddarfodus iawn, ac rwy'n tybio y bydd enw da gwleidyddol y rhai a fu'n gefnogol i'r cytundeb sydd wedi tanseilio llesiant y sector pysgota, yn gweld bod eu statws gwleidyddol hwy eu hunain yn ddarfodus hefyd maes o law.

Diolch. Un enghraifft o rywbeth y gallech ei weithredu yw annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffaith bod aelodau o griwiau a gyflogir ar sail cyfran o'r ddalfa yn cael eu heithrio o grant sector-benodol y gronfa cadernid economaidd. Nawr, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n falch unwaith eto fod cytundeb masnach Prif Weinidog y DU yn caniatáu i nwyddau a chydrannau'r DU gael eu gwerthu heb dariffau a heb gwotâu ym marchnad yr UE. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon am effaith gwrthdaro masnach ar y sector amaethyddol. Nawr, yn ystod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar y cytundeb masnach a chydweithredu ddydd Mawrth 29 Rhagfyr, galwasoch ar Lywodraeth y DU i roi mesurau cymorth newydd ar waith ar gyfer yr economi i helpu busnesau drwy'r cyfnod pontio. Ac mae Llywodraeth y DU bellach yn cymryd y camau hynny. Rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog ffermio, Victoria Prentis, wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r Ffrancwyr, y Gwyddelod a'r Iseldirwyr, felly a wnewch chi egluro pa gamau pellach y byddwch yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector amaethyddol gyda lleddfu gwrthdaro masnach?

14:55

Wel, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector amaethyddol, a chyda phob sector arall yn wir, i ddeall y rhwystrau newydd i fasnachu y mae dewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnynt. Wrth gydnabod bodolaeth cytundeb heb dariffau a heb gwotâu, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Aelod fod yn eithaf clir ynglŷn â'r ffaith bod cymhlethdod y berthynas fasnachu rhwng ein hallforwyr a'r Undeb Ewropeaidd yn llawer mwy na'r hyn ydoedd ar 31 Rhagfyr, a bydd yn gosod y costau sylweddol y mae'r busnesau hynny'n ymgodymu â hwy erbyn hyn. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ym mhob sector yng Nghymru i barhau i allforio ac i ddeall y fiwrocratiaeth newydd y mae cytundeb Boris Johnson wedi'i gorfodi arnynt. Ond gadewch inni fod yn glir mai'r cytundeb sydd wrth wraidd hynny, ac yn anffodus, ni all unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru newid hanfodion y berthynas newydd honno, sy'n gosod rhwystrau newydd.

Diolch, ond eto, mae fy nghwestiynau'n ceisio canfod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud, 'O, mater i Lywodraeth y DU yw hwn' neu, 'Mater i'r rhai a oedd eisiau Brexit yw hwn'. Rwy'n ceisio sefydlu'r hyn rydych chi'n ei wneud yn rhinwedd eich swydd. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi annog yr holl gludwyr a chwmnïau cludo llwythi sy'n cludo nwyddau o borthladdoedd Cymru i Iwerddon i ymgyfarwyddo â'r broses. Yn wir, mae rhywfaint o obaith y bydd pwysau gwaith papur yn lleddfu drwy ymarfer ac ymgyfarwyddo, a hynny, gobeithio, yn y tymor byr.

Nawr, o ran hwylio o Gymru i'r UE, fe fyddwch yn ymwybodol o bryderon y gallai fod pethau'n symud o Gaergybi, yn enwedig o ran traffig penwythnos ac allfrig. Nawr, mae Gweinidog swyddfa Cymru, David T.C. Davies, wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhai problemau cychwynnol, ac rwy'n ymwybodol iawn fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, yn cadw llygad barcud ar y mater hwn. Felly, rwy'n gobeithio mai dim ond gostyngiad dros dro yw hwn, yn enwedig gan mai porthladdoedd Cymru yw'r llwybrau cyflymaf a mwyaf effeithlon o hyd rhwng Iwerddon a'r DU ac yna ymlaen i'r UE. Felly, pa gamau, os gwelwch yn dda, y byddwch yn ymrwymo i'w cymryd i hyrwyddo'r budd o barhau i ddefnyddio ein porthladdoedd yng Nghymru i fusnesau'r UE? Mae gennych rôl i'w chwarae yn hyn, Gwnsler Cyffredinol, ac rwy'n gofyn i chi nid yn unig i wneud yr hyn sydd ei angen, ond dweud wrth y Senedd hefyd beth yn union rydych chi'n ei wneud. Diolch.

Byddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad Janet Finch-Saunders, a maddeuwch imi, roeddwn yn tybio ei bod yn ymwybodol o gynnwys cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, sy'n nodi popeth rydym yn ei wneud yn eithaf manwl. Ond beth bynnag, fe'i cyfeiriaf at gynnwys hwnnw am fanylion.

O ran y pwynt penodol y mae'n ei wneud, roeddwn yn ystyried ei disgrifiad o'r rhain fel 'trafferthion cychwynnol' braidd yn sarhaus mewn gwirionedd; canlyniadau cytundeb a negodwyd yn rhydd yw'r rhain, canlyniadau a oedd yn bosibl eu rhagweld ac yn wir, fe gawsant eu rhagweld. Felly, mae'n ddyletswydd ar lywodraethau i gefnogi gweithredwyr porthladdoedd a chludwyr a chwmnïau cludo llwythi hefyd. Rydym yn gwneud hynny, fel Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth Iwerddon, mewn gwirionedd. Rydym wedi llwyddo i sicrhau bod y gyfradd wrthod yng Nghaergybi, er enghraifft, wedi gostwng o tua 20 y cant o gerbydau i tua 5, 6 neu 7 y cant—mae'n amrywio, yn amlwg. Rydym wedi cymryd rhan ac wedi arwain gweminarau manwl gyda chludwyr a chwmnïau cludo llwythi, gyda llawer o bobl yn ymuno i ddeall y rhwystrau newydd y maent yn eu hwynebu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r porthladdoedd, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Iwerddon mewn perthynas â hyn. Rwyf fi a Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod y bont dir yn cael ei diogelu. Dyma'r llwybr cyflymaf, mewn amgylchiadau cyffredin, ac mae'n sicr yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac rydym eisiau sicrhau bod cludwyr yn cydnabod hynny ac yn ei gefnogi. Nid ydym yn derbyn y syniad y gellir diystyru'r rhain fel trafferthion cychwynnol, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi'i wneud. Credwn fod angen dull rhagweithiol o gydweithio i ddatrys y broblem ac egluro'r sefyllfa i gludwyr, ac mae hwnnw'n ddull llawer gwell na'u diystyru fel trafferthion cychwynnol.

15:00
Telerau Masnach Newydd

Os gallwch ddechrau eto, David; mae'n ddrwg gennyf, nid oedd y meicroffon wedi cael ei agor mewn pryd.

3. Pa fesurau sydd ar waith i helpu allforwyr Cymru i bontio i'r telerau masnach newydd gyda marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd? OQ56182

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun gweithredu newydd gennym ar gyfer allforio, sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i allforwyr Cymru i'w helpu i ddeall a llywio'r rhwystrau newydd i allforio i'r UE o ganlyniad i'r penderfyniad i adael yr undeb tollau a'r cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Rwy'n pryderu'n benodol am fusnesau bach a chanolig sy'n allforio i'r farchnad sengl neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Mae'r busnesau bach a chanolig hyn yn aml yn arweinwyr sector, maent yn arloesol iawn—rhai o'n busnesau gorau—ac mae ganddynt botensial mawr ar gyfer twf hefyd. Ond nawr, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd drwy ddrysni tystysgrifau a biwrocratiaeth arall, sy'n mynd i fod yn filiynau o bunnoedd allan o economi'r DU yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf, mae llawer ohonynt angen cyflogi broceriaid allforio er enghraifft. Pa fath o gymorth rydych chi'n mynd i'w roi fel y gallant o leiaf gontractio gyda phobl sydd ag enw da ac sy'n gweithredu am gost weddol isel?

Wel, diolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw sy'n tynnu sylw at fater pwysig iawn. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r hyn sy'n cyfateb i'r cynlluniau masnachwyr dibynadwy sydd wedi'u cyflwyno fel rhan o'r trefniadau newydd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'r rheini'n tueddu i fod yn gwmnïau mwy yn hytrach na llawer o'r cwmnïau llai a chanolig eu maint y mae ei gwestiwn yn cyfeirio atynt ac mae rheini, yn amlwg, yn cynrychioli canran fawr o economi Cymru.

Mae'r cynllun gweithredu ar allforio yn tynnu sylw at ychydig o bethau ymarferol rydym yn eu gwneud i fynd i'r afael â'r her y mae ei gwestiwn yn tynnu sylw ati. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Gweinidog yr economi lythyr agored at fusnesau yn nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael gennym, gan gynnwys rhai sydd ar gael drwy borth pontio'r UE. Yn ogystal â hynny, ceir hwb allforio newydd ar-lein, sy'n rhoi cyngor ymarferol iawn ar y math o weithdrefnau tollau, y gwaith papur a'r gwaith o ganfod cleientiaid newydd y mae'n eu crybwyll yn ei gwestiwn.

Ochr yn ochr â hynny, rydym wedi datblygu cyfres o weminarau ar gyfer egluro'r gofynion rheolau tarddiad newydd, a gofynion tystysgrifau allforio ac yn y blaen, i allforwyr. Yn ogystal â hynny, mae Gweinidog yr economi wedi ehangu capasiti drwy recriwtio cynghorwyr masnach rhyngwladol, sy'n gallu gweithio'n uniongyrchol gyda busnesau a atgyfeirir gan Busnes Cymru. Maent yn rhoi cymorth a chyngor pwrpasol iawn i fusnesau penodol ynglŷn â sut y gallant lywio'u ffordd drwy rai o'r heriau hyn yn eu sectorau penodol, sy'n ffordd ymarferol iawn o'u cefnogi.

Weinidog, rwyf wedi derbyn e-bost gan berchennog cwmni trafnidiaeth sylweddol yn fy etholaeth, ac mae'n dweud,

Rydym mewn argyfwng ar hyn o bryd mewn perthynas ag allforion i Iwerddon. Roeddem o dan yr argraff, pan fyddai cytundeb Noswyl Nadolig wedi'i gwblhau, y byddai gweithdrefnau'n cael eu rhoi ar waith ar unwaith i ganiatáu allforion i Iwerddon, ond nid ydym yn gallu allforio i Ogledd Iwerddon o hyd, y credwn ei fod yn dal i fod yn rhan o Brydain. Mae ein cwmni'n arbenigo mewn allforio offer meddygol hanfodol i Ddulyn a gwahanol ardaloedd o Belfast—offer y mae treth wedi'i dalu arno, carwn ychwanegu, ac a fyddai'n caniatáu i gleifion adael yr ysbyty, gan ryddhau gwelyau i'r rhai sydd eu hangen yn daer ar hyn o bryd. Mae biwrocratiaeth y system newydd yn ddiffygiol, yn rhy gymhleth ac yn annigonol, ac nid yw'n ymddangos bod neb eisiau derbyn cyfrifoldeb am ba fesurau y mae angen eu rhoi ar waith i alluogi'r allforion i barhau fel o'r blaen.

Weinidog, pwy sy'n gyfrifol am y llanast economaidd hwn?

Wel, mae'r cyfrifoldeb am y rhwystrau newydd i allforio a chludo llwythi drwy ein porthladdoedd yn ganlyniad uniongyrchol i flaenoriaethau gwleidyddol Llywodraeth y DU yn y cytundeb masnach a chydweithredu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n amlwg fod rhwystrau newydd i fasnachu wedi'u cyflwyno ar 1 Ionawr. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud serch hynny yw ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith fel Llywodraeth i ymdrin ag effaith hynny ar drafnidiaeth a thraffig ein porthladdoedd, ac yn wir rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Iwerddon i sicrhau bod trefniadau mor llyfn â phosibl ar waith ar gyfer cludo llwythi drwy Gaergybi a thrwy ein porthladdoedd yn y de-orllewin yn arbennig. Ac mae hynny'n sicr yn cael effaith ar wneud y daith honno'n fwy llyfn. Ond y pwynt y mae'n ei wneud yn ei gwestiwn yw bod y rhain, yn y bôn, yn faterion o ddewis gwleidyddol. Maent yn rhwystrau newydd i fasnach ac rydym yn amlwg yn gresynu'n fawr eu bod yn cael eu gorfodi ar gludwyr Cymru.

15:05
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

4. Pa ddadansoddiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o'r cyfyngiadau all Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 eu rhoi ar allu'r Senedd i ddeddfu nawr fod y cyfnod pontio wedi dod i ben? OQ56192

Mae'n glir bod y Ddeddf yn creu ansicrwydd yn nhermau gallu'r Senedd i ddeddfu. Felly, yn sgil hynny, rwyf wedi dechrau achos llys yn y llys gweinyddol yma yng Nghaerdydd am gydsyniad y llys i edrych ar effaith y ddeddfwriaeth ar ein Senedd ni. 

Dwi'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna. Mae'n amlwg yn annerbyniol ein bod, ar hyn o bryd, wedi colli'r pŵer i wahardd gwerthiant plastigau un-defnydd a deddfu yn y maes, felly rwy'n gobeithio bydd y Cwnsler Cyffredinol yn llwyddiannus yn yr achos llys.

Mae gen i ddiddordeb yn y ffaith bod y Cwnsler wedi dweud mewn araith allanol diweddar ynglŷn â sail yr achos llys, y byddai'r sail i wrthod yr ymgais i gipio'n pwerau yn anatebol, hyd yn oed petai Llywodraeth San Steffan o ddifrif ynghylch gwarchod safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr. Dywedoch chi hefyd eich bod chi o blaid cynyddu pwerau'r Senedd. Mae hon yn ddadl o blaid yr egwyddor y dylai'r pwerau y mae'r Senedd hon eu hangen orwedd yma, doed a ddelo, er mwyn rheoleiddio mewn ffordd sy'n cyd-fynd â dymuniadau dinasyddion Cymru. A yw hyn yn golygu eich bod chi bellach o blaid setliad cyfansoddiadol conffederal, gyda Senedd Cymru yn penderfynu pa bwerau i'w cadw a pha rai i'w rhannu gyda gweddill y Deyrnas Gyfunol?

Wel, dwi wedi bod yn glir am hyn mewn amryw o gyd-destunau, fy mod i'n credu y dylem ni gael cymaint o bwerau ag y mae pobl Cymru eisiau eu cael yng Nghymru o dan reolaeth y Senedd ac o dan reolaeth y Llywodraeth, o ran Gweinidogion ac ati, yma yng Nghymru. Felly, mae hynny yn sicr yn egwyddor, buaswn i'n dweud, sydd ddim yn un dadleuol iawn bellach. Beth rŷn ni wedi'i weld yn sgil ymgais y Llywodraeth yn San Steffan yn y Ddeddf ddiweddar hon yw bod ein setliad cyfansoddiadol ni o dan bwysau penodol, oherwydd mae gennym ni Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd yn sicr yn ceisio tanseilio'r setliad datganoli, ac mae'n rhaid i ni i gyd sydd yn gefnogol i hynny, ac yn bleidiol i weld mwy o bwerau yn dod yma i Gymru, ymateb mewn ffordd addas i hynny.

Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gweld cwestiynau fel hyn, ac rwy'n clywed yr atebion, a deallaf yn iawn pam y gelwir y lle hwn yn 'swigen'. Rydym yn dal i fod ynghanol pandemig, mae pobl wedi colli eu bywydau a'u bywoliaeth, maent wedi colli gobaith, ac mae'n ymddangos ein bod yn bogailsyllu yn y Senedd hon. Wedi dweud hynny, hoffwn wybod beth y mae'r Ddeddf hon yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag ei wneud y gallai ei wneud yn ddilyffethair o'r blaen? A pha wahaniaeth y mae'n ei wneud mewn gwirionedd i'n hetholwyr? Diolch.

Wel, efallai ei bod hi'n teimlo ei bod yn gweithio ac yn byw mewn swigen; yn sicr, nid wyf fi'n teimlo hynny. Y pwynt am y Ddeddf yw ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i restr siopa wythnosol pobl. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau bod bwyd o'r safon y mae cynhyrchwyr Cymru a defnyddwyr Cymru yn gyfarwydd â hi, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau nad ydym yn llygru ein hamgylchedd gyda defnydd gormodol o blastigau, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Os ydych eisiau sicrhau bod rheoliadau priodol ar waith mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Nid materion cyfansoddiadol yn unig yw'r rhain; maent yn effeithio ar fywydau bob dydd ein hetholwyr ni i gyd, a dyna pam ei bod yn hollbwysig fod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ei gynnwys, a gofynnaf iddi ein helpu i ymestyn rhywfaint o hynny y tu hwnt i'r swigen y mae'n ei disgrifio.

Llwybrau Llongau Uniongyrchol

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch effaith ehangu llwybrau llongau uniongyrchol o Iwerddon i'r UE ar economi Cymru? OQ56168

15:10

Wel, tan fis Rhagfyr, porthladdoedd Cymru oedd y llwybr hawsaf ar gyfer traffig rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop. Mae'r rhwystrau rheoleiddiol newydd sy'n deillio o gytundeb Llywodraeth y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid hynny, ac rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella gweithdrefnau tramwy er mwyn adfer mantais gystadleuol porthladdoedd Cymru.

Mewn gwirionedd, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol rhwng y Gweinidog â chymheiriaid yn y DU, ond wyddoch chi, mae'n rhaid i mi siarad yn ddi-flewyn ar dafod yma. Weinidog, roedd y bobl a oedd yn dweud y byddai gennym fasnach ddirwystr ar ôl ymadael â'r UE a fyddai'n caniatáu i'r llwybrau tir hyn ledled y DU barhau naill ai'n rhy wirion i sylweddoli'r hyn roeddent yn ei ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru, ac ar draws Prydain, neu roeddent yn dweud celwyddau noeth. Ac mewn gwirionedd, mae'r fiwrocratiaeth sydd gennym yn y DU ar hyn o bryd yn union yr un fath â'r hyn y cwynai Boris Johnson amdano yn y gorffennol, pan oedd yn lladd ar yr Undeb Ewropeaidd. Felly, Weinidog, rwy'n gweld gweithredwyr masnachol o Iwerddon nawr yn arddel manteision dargyfeirio hirdymor, i ffwrdd o'r cyswllt tir ar draws y DU, a thrwy fynd yn uniongyrchol o Iwerddon i'r UE. A wnaiff bwyso ar Weinidogion y DU i unioni'r niwed y maent wedi'i wneud a sicrhau mai dros dro yn unig fydd hyn a'u bod yn cael y fasnach hon yn ôl drwy ein porthladdoedd yng Nghymru cyn gynted â phosibl?

Wel, mae honno'n brif flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Nid yn unig fod y rhwystrau hyn, os hoffech, i fasnachu a thramwy yn bethau y gellid eu rhagweld, fe gawsant eu rhagweld. Nawr, yr hyn rydym eisiau ei sicrhau yw y bydd cyflymder a chyfleustra llwybrau drwy Gymru yn dechrau denu cludwyr yn ôl cyn gynted â phosibl, ac rydym yn sicr yn pwyso ar Lywodraeth y DU, yn y ffordd y mae'n awgrymu, i wneud popeth posibl i helpu masnachwyr i lywio'r ffin newydd hon ac yna i gyfyngu ar yr effaith economaidd y mae'n ei chael. Ac mae Gweinidog yr economi, fel y byddwch wedi'i glywed mewn trafodaethau cynharach yn y Siambr heddiw, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe i dynnu sylw at ein pryderon mwyaf diweddar. Yn amlwg, rydym yn poeni'n arbennig am y ffaith bod y llwybrau hynny'n gostus ac yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny'n dweud wrthym, wrth gwrs, mai'r bont dir yw'r opsiwn gorau o hyd, i bob pwrpas. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda Llywodraethau eraill i berswadio'r cludwyr ynglŷn â hynny, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i leihau goblygiadau ymarferol yr archwiliadau ac yn y blaen ar y ffin.

Bydd y rhai y mae eu swyddi'n dibynnu ar borthladd Caergybi yn talu'r pris os bydd patrymau masnachu newidiol yn arwain at golli masnach yn barhaol, gan newid i lwybr uniongyrchol. Er y gall pentyrru mis Rhagfyr fod yn un o'r rhesymau dros yr hyn sydd wedi digwydd, a'r pandemig hefyd, yr eliffant ar y dec cerbydau hanner gwag hwnnw yw'r cynnydd enfawr mewn masnach ar y llwybrau uniongyrchol hynny. Credaf fod masnach drwy Rosslare wedi cynyddu tua 500 y cant. Ac ydy, mae'n hwy, ond nid oes unrhyw fiwrocratiaeth ynghlwm wrth y llwybr hwnnw, ac er bod llwybr Caergybi wedi bod yn rhatach yn draddodiadol yn ogystal â bod yn fwy cyfleus, nid yw'n cymryd athrylith i gyfrifo beth y mae cynnydd mawr mewn traffig uniongyrchol yn debygol o'i olygu i brisiau ar y llwybrau uniongyrchol hynny chwaith. Nawr, rwy'n ddiolchgar am y copi o'r llythyr sydd wedi'i grybwyll, gan Weinidog yr economi i Lywodraeth y DU, yn galw am gymorth, yn ariannol ac fel arall, i ymdopi â'r rhwystrau newydd sylweddol nad ydynt yn dariffau. Ond a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth yn awr, gan gynnwys drwy sefydlu'r math o seilwaith hirdymor ar y ffin sydd ei angen arnom i helpu masnach i lifo'n rhydd mewn modd y mae Llywodraeth y DU wedi methu ei gyflawni?

Wel, mae'r hyn rydym yn ei wneud yn ymarferol iawn mewn gwirionedd, o ran gweithio gyda'r ddwy Lywodraeth arall a dod â'r rheini at ei gilydd. Rydym wedi bod yn flaenllaw yn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon mewn gwirionedd, fel y soniais yn gynharach, ond hefyd gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys ei randdeiliaid ei hun, a rhanddeiliaid porthladdoedd mewn perthynas â'r materion hyn, i sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf cyn belled ag y bo modd am yr hyn sy'n digwydd mewn amser real i gludo llwythi. Rydym wedi gweld rhywfaint o weithredu ar rai o'r materion y buom yn tynnu sylw atynt, gan gynnwys rhai o'r hawddfreintiau tymor byr, i bob pwrpas, y mae Llywodraeth Iwerddon wedi'u rhoi ar waith mewn perthynas â'r gweithdrefnau hysbysu cyn mynd ar long, ac fel y crybwyllais yn sydyn yn gynharach, rhai o'r pethau ymarferol iawn hynny gyda gweminarau ac yn y blaen.

O ran y seilwaith y mae'n siarad amdano, mae cyfrifoldebau newydd Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn dechrau o ddechrau mis Gorffennaf, yng Nghaergybi ac yn y de-orllewin, ond rydym yn gweithio gyda CThEM a Llywodraeth y DU i nodi'r lleoliadau gorau mor agos â phosibl at y porthladd ar gyfer lleoli'r seilwaith hwnnw. Rydym eisiau iddo fod mor agos â phosibl at y porthladd, am resymau sy'n amlwg yn fy marn i, a cheir nifer fach o opsiynau rydym wrthi'n eu hystyried. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho, serch hynny, yw ei bod bron yn amhosibl dychmygu amgylchiadau lle y gellid cyflawni hynny erbyn 1 Gorffennaf, o gofio'r amser a gollwyd y llynedd pan nad oedd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n briodol â ni. Felly, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn awr am ddealltwriaeth o ba fesurau wrth gefn y gellir eu rhoi ar waith fel bod Caergybi a phorthladdoedd eraill yng Nghymru, a ledled y DU yn wir, yn gallu gwneud hyn mewn modd trefnus, o gofio'r amser a gollwyd gennym y llynedd.

15:15
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ56178

Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn ceisio dileu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn nifer o feysydd. Dyna pam y rhoddais gamau cyfreithiol ar waith. Mae hefyd yn rhoi pwerau cymorth ariannol, fel y'u gelwir, i Lywodraeth y DU, ac maent eisoes yn cael eu defnyddio i osgoi cymhwysedd datganoledig, yn fwyaf amlwg drwy'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir.

Rwy'n llwyr gefnogi'r camau rydych wedi'u cymryd, a gobeithio y bydd pawb yma'n eu cefnogi hefyd. Rydym mewn sefyllfa—ac rwyf am ddefnyddio terminoleg yr adain dde—o arwahanrwydd gogoneddus yn yr ystyr nad oes gan y porthladdoedd yn yr ardaloedd rwy'n eu cynrychioli unrhyw fasnach mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn ogoneddus ynglŷn â bod ar wahân mewn ffordd sy'n bygwth swyddi ac yn bygwth yr economi. Mae pobl yn cael eu gadael heb ddim i'w wneud a heb ddyfodol i edrych ymlaen ato. Felly, a gaf fi ofyn i chi barhau â'r sgyrsiau hynny, ond hefyd i erfyn ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cynrychioli'r ardal hon, i fod yn llais cryfach a chliriach yn ei gefnogaeth i'r busnesau hynny yn ei gymuned ei hun?

Byddwn yn adleisio pryderon Joyce Watson ynglŷn â hyn. Fel Llywodraeth byddwn yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod yr effaith economaidd ar y porthladdoedd yn y rhanbarth y mae'n ei chynrychioli, a busnesau ledled Cymru yn wir—eu bod yn gallu ymateb i'r rhwystrau newydd hyn y mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi'u cyflwyno. Nid oes amheuaeth y bydd llawer o heriau'n wynebu busnesau yn y dyfodol. Rydym yn gweithio i geisio deall goblygiadau'r hyn sy'n dal i fod yn set newydd iawn o drefniadau, a byddwn yn gobeithio darparu canllawiau penodol pellach i fusnesau yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf mewn perthynas â hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi clywed apêl Joyce Watson ar ran y rhan o'r byd y mae'r ddau ohonynt yn ei chynrychioli.

Fframweithiau Cyffredin y DU

7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd fframweithiau cyffredin y DU? OQ56171

Yn sicr. Rwyf bellach wedi cymeradwyo'r mwyafrif helaeth o fframweithiau cyffredin sy'n berthnasol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn weithredol dros dro wrth aros i'r Senedd a'r deddfwrfeydd eraill eu datblygu a chraffu arnynt. Rwy'n rhagweld y gallaf gymeradwyo'r fframwaith cynhyrchu organig cyn bo hir hefyd. Bydd dau fframwaith arall—y fframweithiau cymwysterau a gwasanaethau proffesiynol—yn cael eu datblygu eleni.

Fel y cofiwch, roedd y Bil ymadael â'r UE, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon, yn cytuno y bydd fframweithiau ar gyfer y DU gyfan i gymryd lle rheolau'r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn sawl maes, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt, a hefyd yn cynnwys, er enghraifft, bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig, yn ei datganiad ar grŵp rhyng-weinidogol yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig yr hydref diwethaf,

'Pwysleisiais fod fframweithiau wedi’u dylunio i helpu i ddeall a rheoli gwahaniaethau rhwng y pedair gweinyddiaeth'.

Yn wir, cytunodd y grŵp rhyng-weinidogol yn y cyfarfod hwn ar ddull newydd o gwblhau fframweithiau er mwyn sicrhau bod pob un yn cyrraedd lefel dros dro a defnyddiadwy erbyn diwedd 2020. Fis diwethaf, mewn ymateb cadarnhaol i Dŷ'r Arglwyddi, datgelodd Gweinidogion y DU welliannau newydd i Fil marchnad fewnol y DU a fydd yn diogelu'r fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt gyda'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan atal rhwystrau i fasnach fewnol yn y DU a fyddai'n rhoi defnyddwyr a busnesau Cymru dan anfantais. Felly, pam rydych yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i roi camau cyfreithiol ar waith yn erbyn Llywodraeth y DU pan fo'r fframweithiau hyn y cytunwyd arnynt yn ei gwneud hi'n bosibl cynnal y lefelau presennol o hyblygrwydd o fewn dulliau cyffredin y cytunwyd arnynt?

15:20

Credaf y gallai'r Aelod fod wedi camddeall union effaith y gwelliannau a wnaed gan Dŷ'r Arglwyddi mewn perthynas â hyn. Hoffwn dalu teyrnged, os caf fi, i'r Arglwydd Hope, a arweiniodd ar welliannau ar y mater penodol hwn, ond hefyd Arglwyddi ar draws y Siambr, gan gynnwys rhai arglwyddi Ceidwadol, sy'n cydnabod, yn wahanol i'r Aelod o bosibl, bygythiad y Ddeddf i ddatganoli. Dylwn ddweud mai effaith y gwelliannau, yn syml, oedd rhoi disgresiwn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r setliad datganoli lle cytunwyd ar fframwaith. Pan fydd rhywun yn dweud hynny'n uchel, credaf fod yr heriau sydd ynghlwm wrth hynny'n ddigon amlwg: yn gyntaf, y dylai'r setliad datganoli allu cael ei ddiwygio gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ac yn ail, y dylai fod yn fater o ddisgresiwn. Dyna ddwy enghraifft sy'n dangos pam ein bod yn credu bod angen herio'r Ddeddf yn y llys, a rhan o'r rhesymeg dros wneud hynny.

3. Cwestiynau Amserol

Rŷn ni'n dod nawr at y cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma i'w ateb gan y Prif Weinidog ac i'w ofyn gan Dai Lloyd.

COVID-19: Achosion yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe? TQ533

Mae'n destun gofid bod dros 500 o achosion COVID wedi eu cofnodi ymysg staff y DVLA ers mis Medi. Cafod tîm rheoli y digwyddiad ei sefydlu ar ddechrau mis Hydref i gefnogi'r ymateb amddiffyn iechyd. Rwyf wedi codi pryderon sawl gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â nifer yr achosion a'r arferion yn y gweithle.

Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r sefyllfa bresennol yn y DVLA yn anfaddeuol. Mae nifer y staff sydd wedi dal COVID, fel yr amlinellwyd gennych, yn bryder enfawr, sy'n adlewyrchu'r pryderon a fynegwyd gan weithwyr ar y safle mewn perthynas ag arferion gwaith gwael ac arferion diogelu rhag COVID. A gaf fi ddyfynnu o e-bost diweddar a ddaeth i law gan aelod o staff? 'Ar fy llawr, mae 100 o staff ar y llawr o hyd, yn rhannu ceginau, toiledau ac nid oes unrhyw ffenestri i'w hagor ar y llawr cyfan. Rwy'n dychmygu bod hyn yr un fath ar y 15 llawr arall'—i'r rheini ohonoch sy'n adnabod adeilad y DVLA yn Abertawe.

Rwyf wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at y DVLA ar dri achlysur gwahanol ers dechrau'r pandemig. Yn ôl ym mis Mawrth 2020 oedd y tro cyntaf, gan i'r pryderon hyn gael eu dwyn i fy sylw bryd hynny, hefyd ym mis Hydref 2020, ac yn gynharach y mis hwn, gydag atebion gan y prif weithredwr. Felly, rwyf wedi ysgrifennu deirgwaith. Roedd llawer o bobl sy'n cael eu cyflogi gan y DVLA yn cysylltu â mi, ac maent yn dal i wneud hynny, i ddweud nad oeddent yn teimlo'n ddiogel, fel y clywsom, gyda'r mesurau a oedd ar waith ac o ran yr hyn roedd y rheolwyr yn gofyn iddynt ei wneud. Yn anffodus, felly, mae'n ymddangos nad yw'r sefyllfa wedi gwella o gwbl—[Anghlywadwy.]—helpu ni yn Abertawe i geisio lleihau lledaeniad y feirws yn ein cymunedau lleol. Mae angen rhoi camau pendant ar waith ar hyn, a byddwn yn ddiolchgar am ragor o fanylion, Brif Weinidog, o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud mwy—yn amlwg, mae'r DVLA yn fater sydd heb ei ddatganoli—gan weithio gyda Llywodraeth y DU a chyngor Abertawe ac edrych ar bob llwybr cyfreithiol posibl i sicrhau bod y DVLA yn amgylchedd gwaith diogel.

Felly, a allech chi amlinellu pa gamau pellach y gallech eu cymryd, yn enwedig o ran gorfodi cyfraith Cymru yn gyfreithlon yn y mater hwn? A ydych yn ystyried cryfhau'r gyfraith yn y maes hwn neu gryfhau'r sancsiynau? Os na all unrhyw gyflogwr, boed yn breifat neu'n gyhoeddus, warantu diogelwch eu gweithwyr ar yr adeg hon, dylid eu cau hyd nes y bydd mesurau priodol ar waith. Yn sicr, mae gweithwyr y DVLA a thrigolion Abertawe eisiau gweld gweithredu pellach, a byddwn yn eich annog i wneud popeth yn eich gallu i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith Cymru yn yr achos hwn. Diolch yn fawr. 

15:25

Mae Dr Lloyd yn nodi cyfres o bryderon pwysig iawn a fynegwyd wrtho gan aelodau o'r gweithlu. Maent yn cyd-fynd yn llwyr â'r pryderon y mae ein cyd-Aelod, Mike Hedges, wedi'u mynegi'n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n talu teyrnged i waith Mike a'r ffordd weithgar y mae wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Wrth ateb cwestiynau Dr Lloyd, yn gyntaf oll, fe fydd yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod y gyfraith wedi'i chryfhau yn ystod y cylch tair wythnos presennol. Yn y rheoliadau, rydym wedi cynnwys cyfres o ofynion y mae'n rhaid i bob gweithle eu dilyn i adlewyrchu'r risgiau ychwanegol a achosir gan yr amrywiolyn newydd o COVID-19. Ysgrifennais ddwywaith at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y DVLA ym mis Rhagfyr ac ym mis Ionawr. Cefais sicrwydd ganddi y cydymffurfir â chyfraith Cymru yn y DVLA, gan gynnwys y newidiadau yn y gofynion a gyhoeddwyd ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru ar 15 Ionawr. Yn y cyfamser, mae'r tîm rheoli digwyddiadau sy'n gweithredu mewn perthynas â'r DVLA yn parhau i gyfarfod a darparu cyngor ac i fynnu bod yr awdurdod hwnnw nad yw wedi'i ddatganoli yn gweithredu. Gwn y bydd yr Aelodau'n falch o glywed bod cofnodion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ddydd Gwener diwethaf, mai dim ond pum aelod o staff y DVLA ar draws ei weithlu oedd yn ynysu o ganlyniad i'r feirws.

Mae Mike Hedges wedi bod yn codi hyn yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r bwrdd iechyd lleol cyhyd ag y gallaf gofio, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Fodd bynnag, nid dyma'r unig waith mawr yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi bod yn ymdrin â niferoedd mawr; rydym wedi cael newyddion anodd gan Tata a chan Amazon hefyd, sydd hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion. Rwyf wedi cael gohebiaeth debyg iawn i Dai Lloyd gyda chwestiynau ynglŷn â beth ddylai fod yn digwydd ar y safle, ond rwyf hefyd wedi cael gohebiaeth yn dweud bod rheolwyr DVLA yn rhy frwd wrth orfodi a mynnu gorfodaeth. Felly, credaf fod y darlun braidd yn gymysglyd yno, ond serch hynny rydym mewn sefyllfa lle mae'r niferoedd wedi bod yn wael. Brif Weinidog, a ydych wedi cael unrhyw sylwadau uniongyrchol gan weithwyr yn y DVLA, neu'n wir, y ddau fusnes arall y clywais ganddynt? Ac a ydych wedi ystyried unrhyw newidiadau i'r canllawiau o ganlyniad i'r sylwadau hynny? Rwy'n siŵr y byddent o ddiddordeb i unrhyw weithredwyr safleoedd mawr mewn unrhyw ran o Gymru. Diolch.

Rwy'n sicr yn cael sylwadau uniongyrchol gan weithwyr mewn llawer o leoliadau ledled Cymru. Yn achos y DVLA, er enghraifft, drwy ryw lwybr rhyfedd, ffoniodd aelod o staff y DVLA fi gartref. Nawr, roeddwn yma yn y gwaith a bu'n rhaid i fy ngwraig siarad â menyw, y tybiai fy ngwraig ei bod yn ei phum degau, a oedd yn byw ar ei phen ei hun ac a oedd yn ofidus iawn ynglŷn â'r amodau y credai fod gofyn iddi weithio oddi tanynt yn y DVLA. Ac wrth gwrs, cafodd y pryderon hynny eu mynegi wrthyf a'u harchwilio. Felly, ydw, yn wir, rwy'n clywed y pethau hyn yn uniongyrchol ac fel y dywedodd Suzy Davies, nid y DVLA yw'r unig weithle lle mae gan weithwyr bryderon. Ac o ganlyniad i'r dystiolaeth sylfaenol, uniongyrchol honno, a gafodd ei rhoi i ni, a'i thrafod yn y fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol newydd sydd gennym yma yng Nghymru, fforwm a fynychir gan undebau llafur, cyflogwyr a rheoleiddwyr, penderfynasom gryfhau'r gyfraith yma yng Nghymru fel bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed, yn unigol ac ar y cyd, gan Lywodraeth Cymru, a'n bod yn gweithredu ar eu pryderon lle bo angen.

15:30

Fel y gŵyr y Prif Weinidog, rwyf wedi bod yn siarad am y DVLA ers amser maith, a siaradais amdano hefyd mewn dadl yn y Senedd fis diwethaf. Rwyf hefyd wedi'i godi gyda'r bwrdd iechyd yn rheolaidd, fel y nododd Suzy Davies. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, ar ôl y problemau cychwynnol, roedd y rhan fwyaf o bobl yn y DVLA yn gweithio gartref. Os ydych yn defnyddio'r system wasgaredig neu'r prif rwydwaith, nid yw'r lleoliad yn bwysig. Dyma rai dyfyniadau o dair o'r negeseuon e-bost niferus rwyf wedi'u cael:

Mae'r DVLA yn ymwybodol o broblemau iechyd a hefyd fy mod yn gofalu am deulu sydd â phroblemau iechyd.

Rwy'n ei chael hi'n anodd bod yn y gweithle, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r amodau a nifer y bobl o'm cwmpas yn y swyddfa.

Rwyf wedi gofyn am gael gweithio gartref, ond yn anffodus mae'r DVLA wedi mynnu fy mod yn dod i'r swyddfa.

Diolch i'r Prif Weinidog am y llythyrau y mae wedi'u hanfon. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd fy mod yn ei chael hi'n anodd gofyn i'r Prif Weinidog wneud mwy, gan na allaf feddwl am lawer mwy y gall ei wneud. Ond rwy'n credu mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai gweithio gartref, yn y pandemig cyntaf, oedd y norm ymhlith pobl yn y DVLA; ers yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud, nid dyna yw'r norm. A hoffwn ofyn iddo ysgrifennu eto at y Farwnes Vere, i ddweud wrthi, lle gall pobl weithio gartref, eich bod yn disgwyl eu bod yn gwneud hynny—dyna yw'r gyfraith yng Nghymru.

Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mike Hedges am hynny? Ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu eto at y Farwnes Vere, yn sgil y pryderon a fynegwyd ar lawr y Senedd. Lywydd, fel y dywedais, ysgrifennais at y farwnes, fel yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth, ar 22 Rhagfyr. Cefais ateb dyddiedig 23 Rhagfyr. A rhaid imi ddweud, yn ôl safonau'r ohebiaeth a welaf weithiau gan Whitehall, roedd hwn yn ateb manwl a pharod a oedd yn ymateb i'r materion a godwyd yn fy llythyr dyddiedig 22 Rhagfyr. Ysgrifennais eto ar 12 Ionawr, am fy mod yn dal i deimlo nad oedd yr ymateb cyntaf wedi ateb cyfres o faterion a godwyd yn uniongyrchol gyda ni fel Llywodraeth, gan gynnwys cyfran y staff y disgwylir iddynt fynychu'r gweithle yn y cnawd o gymharu â'r nifer sy'n gweithio gartref. Roedd yr ateb a gefais wedyn yn ymdrin yn uniongyrchol â nifer y bobl sy'n gweithio gartref, ynghyd â materion yn ymwneud â glanhau, awyru, ymgysylltu â staff, a nifer o faterion eraill a nodais yn fy llythyr. Fy mhryder i yw bod bwlch rhwng y cyngor y mae'r Is-ysgrifennydd Seneddol yn ei gael gan y rheolwyr ac eraill yn y fan a'r lle, o'i gymharu â'r dystiolaeth a ddarperir yn uniongyrchol i Aelodau yma gan bobl sy'n gweithio yn swyddfeydd amrywiol y DVLA. Ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu ati eto, i gyfleu pryderon yr Aelodau, a gofyn iddi unwaith eto i sicrhau bod y cyngor y mae'n dibynnu arno, neu'r—[Anghlywadwy.]—y mae'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, yn ddilys o graffu arno gan y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen.

Diolch i'r Prif Weinidog. A'r ail gwestiwn atodol nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mi fyddaf i'n trosglwyddo'r gadair i Ann Jones yn y funud, ond dwi'n galw'n gyntaf ar David Rees i ofyn ei gwestiwn amserol. David Rees.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Llifogydd yn Sgiwen

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi trigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen yn dilyn llifogydd a achoswyd gan ddŵr sy'n deillio o hen safle glofaol? TQ534

Diolch, David. Hoffwn gofnodi eto fy niolch i'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys, sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r bobl ledled Cymru y mae storm Christoph a digwyddiadau tywydd garw eraill wedi effeithio arnynt. Rwy'n sicr yn cydnabod yr effaith ar y rhai a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Ac rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y rhai y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi am fwy na 24 awr yn cael eu cefnogi yn yr un modd â deiliaid tai a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud cynharach.

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Ac a gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i weithwyr yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill a weithiodd yn ddiflino yn ystod y llifogydd ddydd Iau ac ers hynny? A gaf fi hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad i'r gymuned, sydd wedi dod at ei gilydd yn Sgiwen i helpu trigolion y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi, gan weithio gyda Byddin yr Iachawdwriaeth a'r cynghorydd lleol, Mike Harvey, sydd wedi bod yn rhagorol yn ystod hyn?

Fe ddywedoch chi y bydd y cyllid ar gyfer llifogydd ar gael i bawb—a allwch gadarnhau mai i bawb a gafodd eu symud o'u cartrefi a olygwch, nid yn unig i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd? Oherwydd cafodd nifer o breswylwyr eu symud oherwydd ofnau diogelwch, ond ni wnaethant ddioddef llifogydd yn sgil hyn, ac efallai na chaiff rhai ohonynt ddychwelyd i'w cartrefi am wythnosau. Felly, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar hynny. 

A allwch ddweud wrthym hefyd sut rydych yn trafod cyllid ychwanegol i'w helpu gyda'r awdurdod lleol? Oherwydd maent yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cefnogi drwy'r gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd eraill, gan eu bod yn dal—mae rhai allan o'u cartrefi ac mae rhai'n mynd yn ôl i'w cartrefi heddiw, ond maent yn wynebu difrod yn eu tai, maent yn cael eu hasesu, ni fyddant yn gallu aros yn eu cartrefi oherwydd peth o'r difrod sydd wedi'i achosi. Felly, mae'n bwysig inni edrych ar sut rydym yn cefnogi'r awdurdod lleol gyda'r agenda honno. 

A allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn edrych ar y rhai sydd heb yswiriant? Nid oedd pawb wedi'u hyswirio, ac mae nifer o gartrefi heb eu hyswirio a byddant yn wynebu cyfnod difrifol o anodd, yn enwedig yn ystod y pandemig, gan na allant fynd i leoedd eraill a bydd dod o hyd i lety'n anodd hefyd.

A allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Awdurdod Glo ynglŷn â'u cyfrifoldeb a'u rhwymedigaeth i ariannu agweddau ar hyn? Gwn eu bod wedi gwneud ymdrech aruthrol i atgyweirio'r pwll sy'n llawn dŵr a'r camau gweithredu—. Ond mae hynny'n mynd i gymryd hyd at chwe mis. Ond mae cartrefi pobl wedi cael eu dinistrio, a'u bywydau wedi'u troi wyneb i waered yn y broses, ac mae angen inni wybod sut y byddant yn cael eu helpu, a phwy sy'n gyfrifol, a phwy sy'n atebol am agweddau ariannol y cymorth hwnnw. Ac mae angen i'r trigolion wybod hynny nawr, ac mae angen iddynt wybod hynny yn y dyfodol. Maent am allu cael hyder eu bod yn gwybod yn union pwy fydd yn eu helpu a sut y daw'r cymorth hwnnw. 

15:35

Diolch, David. Rwy'n falch iawn o ddweud y bydd yr holl breswylwyr yn cael eu cynnwys. Nid oes raid i chi fod wedi dioddef llifogydd, ond mae'n rhaid i chi fod wedi gorfod gadael eich cartref am 24 awr i gael y cyllid. Ac fel y dywedwch yn gywir, bydd llawer o'r trigolion wedi cael eu heffeithio am gyfnodau llawer hwy na hynny.

Rydym hefyd yn gweithredu taliad ychwanegol i bobl sydd heb yswiriant. Rwy'n gwybod bod yna ddadl wedi'i gwneud y gallai hyn annog pobl i beidio â chael yswiriant, ond taliad o £500 ydyw a gallaf sicrhau unrhyw un sy'n poeni nad yw hynny'n ddigon i dalu am eich colledion sydd heb eu hyswirio, ond mae'n help i gael pobl yn ôl ar eu traed o dan amgylchiadau eithafol y diwrnod cyntaf neu fwy allan o'u cartrefi. 

Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, oherwydd yr holl bwysau ar gynghorau ar hyn o bryd, bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn talu'r holl gost gymwys o ymateb i lifogydd yn ystod cyfyngiadau haen 4 o dan amodau ein cronfa galedi bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Mae cronfa ychwanegol o £6.5 miliwn ar gael o hyn tan 31 Mawrth i gynghorau ar gyfer y costau hynny. Mae nifer o leoedd ledled Cymru mewn sefyllfaoedd tebyg. Felly, rwy'n falch o ddweud bod honno, wrth gwrs, yn gronfa ar gyfer Cymru gyfan i bawb yr effeithiwyd arnynt. 

Ar fater yr Awdurdod Glo, rydym wedi cael cyfres o drafodaethau gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU. Fel y dywedodd David yn gywir, mae ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan yr Awdurdod Glo i benderfynu beth yn union a ddigwyddodd yn Sgiwen yr wythnos diwethaf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at eu canfyddiadau. Ac mae'r Prif Weinidog yn cynnal uwchgynhadledd gyda Gweinidogion y DU a phartneriaid allweddol i helpu i sicrhau na chaiff digwyddiad dinistriol o'r fath ei ailadrodd, a phan gawn yr adroddiad gan yr Awdurdod Glo,  byddwn yn gwybod sut i fwrw ymlaen ar hynny. Bydd honno'n uwchgynhadledd benodol ar y broblem yn Sgiwen, ond mae cyfres o sgyrsiau gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU yn digwydd yn sgil y ffaith nad yw'r cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Gymru. Dylai'r Awdurdod Glo ysgwyddo cyfrifoldeb am ran helaeth o'r pyllau glo. Fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, sydd â'r cyfrifoldeb am hynny wrth gwrs, ond rwy'n rhan o'r grŵp trafod y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnull ar ddiogelwch pyllau glo.

Weinidog, bydd y ffaith y bydd yn cymryd o leiaf chwe mis i unioni'r hyn a achosodd y gorlif yn golygu y bydd angen cymorth hirdymor ar breswylwyr, yn enwedig os ceir digwyddiadau tywydd garw eraill. Pa gymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r awdurdod lleol sydd eisoes yn ymdrin â chanlyniadau sgil-effeithiau eraill o orffennol glofaol y rhanbarth? O dirlithriadau i lifogydd, mae perchnogion tai yn fy rhanbarth yn cael eu rhoi mewn perygl. A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau nad oes unrhyw gartrefi neu fywydau eraill yn cael eu bygwth o ganlyniad i weithgarwch mwyngloddio blaenorol? Diolch.

15:40

Ddirprwy Lywydd, fel rwyf newydd ei ddweud yn fy ateb i David Rees, roeddem yn rhoi £6.5 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r gronfa galedi i hawlio costau ychwanegol yn sgil y digwyddiadau tywydd eithafol hyn. Bydd digwyddiad Sgiwen yn cael ei gynnwys yn hynny, ond ein bod yn aros am ymchwiliad yr Awdurdod Glo i weld beth arall y gallai fod angen ei wneud yn fwy hirdymor. Mae gennym gyfres barhaus o drafodaethau, fel y dywedais hefyd yn fy ateb i David Rees, gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU, i fynd at wraidd a chanfod maint yr anawsterau yng Nghymru, ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod ein holl drigolion yn ddiogel.

A gaf fi ategu sylwadau David Rees a'r diolch a roddodd? Rwy'n credu ein bod i gyd wedi rhyfeddu at yr ymateb i hyn, yn enwedig gan y gymuned. Mae unrhyw un sydd wedi bod drwy brofiad o lifogydd yn gwybod pa mor ofidus ydyw, a phan fydd gennych gymaint o ddŵr brwnt, mae'n wirioneddol dorcalonnus. Mae'r awdurdod lleol hwn, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â llifogydd Aberdulais y llynedd, a ddwy flynedd yn ôl. Maent wedi gorfod ymdrin â llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf toriadau i gyllideb yr amgylchedd ym Mae Caerdydd. Ond er bod angen cymorth ar unwaith yn Sgiwen nawr wrth gwrs, tybed a allwch ddweud wrthyf naill ai pa bwerau deddfwriaethol sydd gennych, neu ychydig mwy am y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod tirfeddianwyr y mae eu seilwaith yn methu, ddywedwn ni, oherwydd nid mater sy'n ymwneud â'r Awdurdod Glo yn unig yw hwn; rydym yn sôn am berchnogion tir lle ceir dyfrffyrdd er enghraifft, a beth y gellir ei wneud i sicrhau eu bod nid yn unig yn cydnabod eu cyfrifoldeb a'u rhwymedigaethau, ond eu bod yn cael eu hariannu'n briodol i gyflawni'r rhwymedigaethau hynny? A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud wrthym ar hyn o bryd a all roi rhywfaint o sicrwydd inni ar y pwynt hwnnw? Rwy'n falch iawn o glywed y bydd Castell-nedd Port Talbot yn cael arian brys i dalu costau uniongyrchol y sefyllfa yn Sgiwen.

Wel, fel y dywedais, mae'r gronfa'n agored i bob awdurdod sydd â phreswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan dywydd eithafol. Mae'r un yn Sgiwen, wrth gwrs, yn fater penodol a achosir gan gwymp mwynfeydd, ac fel rydym eisoes wedi dweud sawl gwaith, mae'r Awdurdod Glo ar hyn o bryd yn ymchwilio i union achos hynny, ond mae'n siŵr ei fod wedi'i waethygu gan lefelau glawiad arbennig o uchel.

Rydym wedi cael ein gwasanaethu'n dda iawn gan y bartneriaeth dda rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig, ond mae'r syniad fod eu cyllid yn cael ei gyfyngu gan Fae Caerdydd ar ôl 10 mlynedd o gyni'r Ceidwadwyr yn hyfdra y credaf fod gwir angen i'r Ceidwadwyr roi'r gorau iddo, oherwydd gwelir mai'r hyn y mae 10 mlynedd o doriadau i wasanaethau swyddfa gefn fel y'u gelwir y teimla pobl eu bod yn ddiangen yn ei olygu mewn gwirionedd yw'r union swyddogion cynllunio a swyddogion iechyd yr amgylchedd sy'n peryglu eu bywydau drwy fynd allan yn y math hwn o dywydd i sicrhau bod pobl yn cael eu gwasanaethu'n dda. Felly, nid wyf yn mynd i oddef y math hwnnw o sylw. 

Rydym wedi cael cyfres o drafodaethau helaeth gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU. Pan gaeodd y diwydiant glo ar ddechrau'r 1990au, trosglwyddodd Deddf y Diwydiant Glo 1994 gyfrifoldeb am byllau segur i Lywodraeth y DU. Ar yr un pryd, sefydlwyd yr Awdurdod Glo i ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli effeithiau hen weithfeydd glo ac i ymdrin â'r llu o broblemau'n ymwneud â'r amgylchedd a diogelwch a etifeddwyd yn sgil y diwydiant glo. Ac er bod ymateb y gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol a'r gymuned leol wedi bod yn gwbl ragorol, mae angen i Lywodraeth y DU a'r Awdurdod Glo ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Fel y dywedais, mae'r Prif Weinidog yn cynnull uwchgynhadledd i sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr achos penodol hwn, ond rydym wedi cael cyfres o sgyrsiau parhaus gyda'r Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU am yr angen am gyllid priodol i'r Awdurdod Glo yng Nghymru, ac mae'n amlwg na all hynny fod yn rhan o unrhyw setliad i lywodraeth ddatganoledig o ystyried pa mor helaeth yw'r gwaith, a'r ffaith nad yw wedi'i ddatganoli i'r DU. Mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn arwain y trafodaethau hynny ar y cyd â'r Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd i Aelodau ei holi'n fwy eang am hynny yn y dyddiau i ddod. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad 90 eiliad. Galwaf ar David Melding.

Heddiw yw Diwrnod Cofio'r Holocost. Eleni, gelwir arnom i fod yn oleuni yn y tywyllwch, ac am 8 p.m. i oleuo cannwyll a'i harddangos yn ofalus. Bydd y Senedd yn cael ei goleuo'n borffor i nodi'r cofio. I fod yn oleuni yn y tywyllwch, cawn ein galw i gofio'r rhai a lofruddiwyd am bwy oeddent a sefyll yn erbyn casineb a rhagfarn heddiw. Fel Senedd, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cydnabod y cyfrifoldeb a rannwn i atal hil-laddiad yn y dyfodol. Rhaid inni fod yn oleuni yn y tywyllwch, yn gyhoeddus, yn y gweithle, gartref ac ar-lein.

Ar y diwrnod hwn yn 1945, ysgrifennodd Primo Levi y canlynol tra oedd yn Auschwitz:

Gwawr. Ar y llawr, llanastr cywilyddus o groen ac esgyrn, y peth Sómogyi. Mae yna dasgau mwy pwysig: ni allwn olchi ein hunain, fel na feiddiwn ei gyffwrdd nes ein bod wedi coginio a bwyta.... Cyrhaeddodd y Rwsiaid tra bo Charles a finnau'n cario Sómogyi ychydig bellter y tu allan. Roedd e'n ysgafn iawn. Fe wnaethom droi'r stretsier ar yr eira llwyd.

Tynnodd Charles ei feret. Roeddwn yn difaru nad oedd gennyf feret.

Ddirprwy Lywydd, gelwir arnom oll i fod yn oleuni yn y tywyllwch.

15:45
5. Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro

Eitem 5 ar ein hagenda yw penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus dros dro i Gymru, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i wneud y cynnig hwnnw—John Griffiths.

Cynnig NDM7559 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi gan Ei Mawrhydi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer tymor sy’n dechrau ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ac o argymell i'r Senedd y dylid penodi Nick Bennett yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro am gyfnod o wyth mis.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rôl gyhoeddus bwysig. Mae'r penodiad i'r swydd yn arwyddocaol. Yn y materion hyn fel arfer byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal proses i recriwtio olynydd am y tymor llawn o saith mlynedd. Yn anffodus, yn dilyn y cyfyngiadau symud cychwynnol ym mis Mawrth y llynedd, ymatebodd y pwyllgor i'r pandemig drwy flaenoriaethu gwaith ar effeithiau'r pandemig, yr argyfwng, yng nghylch gwaith y pwyllgor, ac roedd hynny wedyn yn golygu y byddai ffactorau sy'n ymwneud â phroses recriwtio lawn yn ansicr iawn mewn perthynas ag amseru a'r drefn briodol. Felly, gwnaethom ystyried yn ofalus yr ystod o opsiynau a oedd ar gael inni fel pwyllgor cyn dod i benderfyniad. Credwn yn unfrydol mai'r penodiad dros dro hwn oedd y dull mwyaf pragmatig a darbodus yn y sefyllfa bresennol.

Fel yr amlinellodd yr adroddiad byr a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf, roedd perygl gwirioneddol a sylweddol, pe baem wedi dechrau recriwtio ar gyfer swydd barhaol, na fyddem wedi gallu cwblhau'r broses cyn y dyddiad a drefnwyd ar gyfer diddymu ym mis Ebrill. Gallai hyn fod wedi arwain at y posibilrwydd gwirioneddol na fyddai neb yn y swydd i gymryd lle Nick Bennett pan ddaw ei dymor parhaol yn y swydd i ben ym mis Gorffennaf eleni. Fel y pwyllgor sydd wedi bod yn gyfrifol am graffu ar yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus presennol am y rhan fwyaf o'i dymor, rydym wedi bod yn fodlon ar ei berfformiad ef a'i swyddfa. Ein dewis cyntaf felly oedd cysylltu â Nick Bennett i weld a oedd mewn sefyllfa i barhau yn ei swydd am gyfnod cyfyngedig. Roeddem yn falch ei fod wedi gallu ac yn barod i wneud hynny. Credwn hefyd y bydd hyn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd, gan fod swyddfa'r ombwdsmon, ynghyd â phob sefydliad arall, yn parhau i ymdrin â heriau'r pandemig. Erbyn i'r chweched Senedd recriwtio'r penodiad parhaol nesaf i'r swydd gobeithiwn y byddwn yn dechrau cefnu ar yr argyfwng uniongyrchol. 

Galwaf felly ar y Senedd i gefnogi'r cynnig hwn a phenodi Nick Bennett yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro am gyfnod cyfyngedig o wyth mis, gan ddod i ben ym mis Mawrth 2022. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad, felly fe bleidleisiwn ar y cynnig yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc

Eitem 6 ar ein hagenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc, a galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7463 Dai Lloyd, Neil Hamilton, Huw Irranca-Davies, Adam Price, Andrew Davies, Nicholas Ramsay

Cefnogwyd gan Caroline Jones, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Neil McEvoy

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

2. Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.

3. Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar strôc, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r cynnig hwn ar y modd y mae COVID-19 wedi effeithio ar y 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru a'u gofalwyr. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Aelodau ar draws fy sgrin Senedd ac edrychaf ymlaen at eu cyfraniad, gan na allaf gynnwys pob elfen yn yr amser a roddwyd.

Nawr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar strôc yn cyfarfod yn rheolaidd ac rwy'n synnu'n aml at nifer y bobl sy'n ei fynychu ac ehangder a rhagoriaeth profiad pawb sy'n bresennol, boed yn bobl sydd wedi goroesi strôc neu'n feddygon ymgynghorol mwyaf blaenllaw Cymru. Ac mae'r Gymdeithas Strôc nid yn unig yn rhoi cefnogaeth enfawr i'r grŵp trawsbleidiol, ond yn bwysicach, mae'n gwneud gwaith amhrisiadwy gyda goroeswyr strôc eu hunain, yn ogystal â chynnal yr ymchwil a amlinellodd effaith enfawr COVID ar oroeswyr strôc a'u gofalwyr. Mae'r sefyllfa'n enbyd a'r dioddefaint yn enfawr. Mae'r ffigurau yno, ac mae'n siŵr y cânt eu dyfynnu gan yr Aelodau. Mae eu gwaith gwirioneddol arwrol yn digwydd yn ein cymunedau a'n hysbytai, a drwodd a thro, roedd adolygiad ein grŵp trawsbleidiol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i agweddau amrywiol ar y ddarpariaeth strôc yn frith o hanesion epig am arwyr, am athrylith feddygol arloesol a dyfeisgar. Diolch i bawb sy'n cyfrannu at yr adolygiad manwl hwnnw.

Rydym ni wedi cael ein hysbrydoli gan brofiad y sawl sy'n goroesi strôc, gan eu hanesion dirdynnol a dioddefaint a thor calon, a chwilio am wasanaeth, a'r pwysau enbydus ar ofalwyr, a'r system gofal dan ormes, a'r nyrsys a'r meddygon yn mynd y filltir ychwanegol, a thriniaethau anhygoel fel thrombolysis a thrombectomi, ac wedyn daeth COVID, a'r heriau sylweddol o gael gafael mewn gwasanaeth mewn pandemig pan fo popeth wedi cau lawr, a cheisio cael gafael ar ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapi lleferydd i wella o'r strôc tra bod y wlad mewn cyfnod cloëdig hirfaith. Mae cefnogaeth rithiol wedi cynyddu yn ystod y pandemig, ond mae'r gwasanaethau hybu adferiad strôc a chefnogaeth iechyd meddwl wedi dioddef yn enbyd yn wyneb COVID.

Roedd angen cynllun cyflawni newydd ar Gymru ar gyfer strôc cyn COVID; wedi'r cyfan, mae triniaeth gynnar yn allweddol i adferiad. Mae COVID wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau strôc a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd wrth iddo ddatgelu cyflwr bregus y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a blingo'n ddidrugaredd ein staff a'n gofalwyr rhyfeddol sydd wedi'u rhaglennu'n reddfol i fynd y tu hwnt i'r galw dros gleifion strôc a chymaint o gyflyrau eraill.

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod trefniadau i olynu'r cynllun cyflawni ar gyfer strôc. Rhaid i drefniadau o'r fath oresgyn yr her enfawr bresennol o ofalu am gleifion strôc, yn ogystal â bwrw ymlaen â'r datblygiadau meddygol aruthrol y mae'n rhaid i Gymru eu mabwysiadu. Rhaid i'r cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc gynnwys cynnydd ar unedau strôc hyper-acíwt—HASU—a datblygu arbenigedd thrombectomi 24/7 ar lefel Cymru gyfan.

Mae strôc yn costio dros £1 biliwn yng Nghymru heddiw. Bydd hynny'n codi i £2.8 biliwn y flwyddyn erbyn 2035. Mae gan Gymru gyfleoedd cyffrous o dan arweinyddiaeth newydd a goleuedig yr arweinydd clinigol cenedlaethol newydd ar gyfer strôc, Dr Shakeel Ahmad. Mae thrombectomi yn ddatblygiad gwych: bachu clot allan o wythïen yn yr ymennydd i drawsnewid parlys ac adfer swyddogaeth arferol—rhywbeth sy'n atgoffa o brofiad beiblaidd Lazarus, hollol ryfeddol, ac rydym yn gwneud ychydig ohono yng Nghymru nawr, ond mae angen inni wneud llawer mwy ohono, ac mae arnom angen rhwydwaith cynhwysfawr o unedau strôc hyper-acíwt ledled Cymru i wneud hyn, i sicrhau trawsnewid eglur mewn gofal strôc acíwt. Gallwn ei wneud.

Yn olaf, mae bron i 40 mlynedd ym maes iechyd wedi fy nysgu bod yna bob amser fwy nag un argyfwng ar unrhyw un adeg benodol. Rwy'n canmol ymdrechion arwrol ein staff. Ynghanol y pandemig enfawr hwn, ni all y Llywodraeth anghofio dyfodol gwasanaethau strôc: rhaid iddi weithredu argymhellion y grŵp trawsbleidiol. Cefnogwch y cynnig os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.

15:50

Gall effaith strôc fod yn sylweddol, fel y mae Dr Dai Lloyd newydd egluro, nid yn unig i'r claf, ond hefyd i'w teulu, mewn ffyrdd a all fod yn heriol ac yn frawychus, yn enwedig—fel sydd newydd gael ei ddweud—ar yr adeg hon yn y pandemig a'r cyfyngiadau symud. Bydd llawer o bobl yn profi amrywiaeth o ganlyniadau ar ôl cael strôc: heriau corfforol blinder a pharlys yn yr achosion lle ceir amharu ar symudedd, newidiadau gwybyddol sy'n effeithio ar gof, cyfathrebu a chanolbwyntio, ac effaith seicolegol iselder a phryder. Mae llawer yn gwella, ond nid pawb, ac fel y gwyddom, mae'r effaith yn dibynnu ar yr ystod o ganlyniadau y mae unigolyn yn eu profi, ac am ba hyd y bydd yr heriau hynny'n parhau.

Bydd cyd-Aelodau hefyd yn siarad am yr ystod o ofal a chymorth sydd eu hangen ar y rhai sy'n cael strôc, a hynny'n gwbl briodol. Ond un o feysydd y ddadl hon sydd hefyd yn peri pryder i mi yw lefel y gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu sefyllfa gwbl annisgwyl o orfod gofalu am rywun annwyl sydd wedi cael strôc, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau presennol a'r anawsterau presennol i gael gafael ar gymorth, gan gynnwys therapi iaith. Mae'n anodd dychmygu'r ymdeimlad o sioc pan fydd aelod o'r teulu'n cael strôc, y teimlad o banig a phryder wrth i rywun fynd i'r ysbyty a gorfod wynebu bywyd yn y dyfodol gyda set o ddisgwyliadau a allai fod yn wahanol. Mae cael eich gwthio'n sydyn i rôl gofalwr, gorfod rheoli'r ystod o ganlyniadau y bydd anwyliaid yn eu profi, ynghyd â goblygiadau a allai newid bywydau'r teulu, pryderon ariannol—mae'r rhain i gyd yn effeithio ar deuluoedd dioddefwyr strôc. I aelodau o'r teulu gall fod yn wirioneddol frawychus, a dyna pam y mae'r gefnogaeth a gynigir gan grwpiau fel clwb strôc Cas-gwent yn fy etholaeth mor bwysig i gefnogi teuluoedd. Faint o bobl yng Nghymru sydd bellach yn gofalu am rywun sy'n byw gyda chanlyniadau strôc, a sut y cefnogwn anghenion y rhai na ellid darparu'r rôl ofalu honno hebddynt? A ydym yn darparu popeth a allwn yn ddigon da i'r rheini sy'n gofalu am rywun annwyl, ac os nad ydym, pam ddim?

Er fy mod yn gefnogol iawn i'r ddadl hon heddiw i'n galluogi i archwilio'r cymorth a'r gofal i'r rhai sy'n cael strôc, dylem gofio ei fod yn un o'r dangosyddion iechyd cyhoeddus mawr a ddylai beri pryder i ni. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at strôc, fel y nodwyd—mae pwysedd gwaed uchel yn un ohonynt. Yn aml, mae hynny'n gysylltiedig â dewisiadau ynghylch ffordd o fyw, ac yn ystod y pandemig ar hyn o bryd, rydym yn gwybod am bwysigrwydd ymarfer corff i bobl a sicrhau eu bod yn cadw'n iach.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni wella ein hymateb i'r her iechyd cyhoeddus hon yn sylweddol. Os yw COVID wedi dysgu unrhyw beth inni, mae angen inni ddysgu gwersi o'r 10 mis diwethaf. Rhaid i iechyd y cyhoedd fod yn fwy o ffocws yn nhymor seneddol nesaf Cymru. Nid rhyddid heb ganlyniadau yw dewisiadau pobl ynglŷn â'u ffordd o fyw—rydym yn parhau i ddioddef effaith y penderfyniadau a wnawn am ein hiechyd ein hunain, ac yn anffodus, i lawer, strôc yw'r canlyniad hwnnw. Gadewch inni sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr strôc a'u teuluoedd nawr wrth inni ddechrau cefnu ar y pandemig, gobeithio.

15:55

Mae'n bleser dilyn Nick a Dai, a gwaith y grŵp trawsbleidiol eleni, sydd wedi gweithio gyda chymorth y Gymdeithas Strôc, a ddarparodd y gefnogaeth i'r ysgrifenyddiaeth, i fynd allan a gwrando ar bobl sydd eu hunain wedi cael strôc yn ystod y pandemig, ond hefyd eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a'u hanwyliaid hefyd. Mae wedi bod yn anodd, ac mae'r ystadegau'n dangos pa mor anodd y bydd, ac fe drof atynt mewn munud. Ond yr hyn y mae'n ei ddangos yn glir, fel y bydd Dai a Nick ac eraill yn ei ddweud hefyd, wrth fy nilyn, yw bod arnom angen y cynllun cyflawni newydd hwnnw ar gyfer strôc yn awr, oherwydd, hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd gennym ddarpariaeth a oedd yn dda ac yn gryf drwyddi draw o wasanaethau cymorth a gofal strôc, heb sôn am unedau strôc hyper-acíwt ledled Cymru. Nid oeddem yn gweld y cynnydd roeddem am ei weld, felly, os yw'r pandemig wedi gwneud unrhyw beth, mae wedi dangos hyd yn oed yn fwy clir yr angen i symud ymlaen gyda'r mesurau hyn. Nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd ag y byddem yn dymuno ei weld, ac wrth gyflwyno cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer strôc, cynllun y mae cymaint o angen amdano—cynllun cyflawni—mae angen i'r unedau strôc hyper-acíwt fod yn rhan flaenllaw o hynny.

Gadewch imi roi rhai o'r ffeithiau a welsom drwy gyfrwng yr arolwg a wnaethom o bobl sy'n cael profiad o strôc. Dywedodd 65 y cant o oroeswyr strôc yng Nghymru wrth y Gymdeithas Strôc eu bod wedi cael llai o ofal a chymorth yn ystod y pandemig. Dangosodd hefyd, er bod 50 y cant—hanner y goroeswyr strôc—wedi gweld apwyntiadau therapi'n cael eu canslo, dim ond llai na chwarter a aeth ymlaen i gael therapi dros y ffôn neu ar-lein. Nawr, rhaid imi ddweud fy mod yn ddiolchgar fod gennym Gymdeithas Strôc wych yn fy ardal sydd, drwy'r blynyddoedd, wedi bod yn eithriadol o dda am ddarparu cymorth a chyfeirio at gymorth i bobl leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ond edrychwch ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig. Nid yn unig fod y cymorth hwnnw'n deneuach, mae gallu gwasanaethau cymorth y Gymdeithas Strôc i gyfeirio hefyd wedi'i leihau. A'r effeithiau ar iechyd meddwl: mae bron i 70 y cant, saith o bob 10, o'r rhai a holwyd yn teimlo'n eithaf pryderus neu'n isel eu hysbryd, ac roedd bron i 57 y cant o ofalwyr yn teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu ymdopi.

Felly, rwy'n credu bod y neges yn glir iawn: roedd gwasanaethau dan bwysau eisoes; yr unedau hyper-acíwt, nid ydym wedi gweld y cynnydd roeddem am ei weld; y gwasanaethau therapi nad oeddent yn gyson ac yn dda ym mhob man yng Nghymru. Felly, os rhywbeth yn awr, yn sgil gwaith y grŵp trawsbleidiol, yn sgil gwaith y Gymdeithas Strôc ac yn sgil y pandemig hwn, fel grŵp trawsbleidiol rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyflymu'r gwaith hwn, ac i fyrddau iechyd lleol ddatblygu eu gwaith ar unedau hyper-acíwt hefyd, a chefnogi gwasanaethau. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

16:00

Mae'r flwyddyn ddiwethaf, wrth gwrs, wedi bod yn anodd i bawb yn eu gwahanol ffyrdd ond i lawer o oroeswyr strôc yng Nghymru, mae wedi golygu gohirio eu hadferiad ac mae pobl sy'n awyddus iawn i adfer symudedd, annibyniaeth a ffitrwydd, fel y nododd Huw yn awr, wedi gweld sesiynau therapi'n cael eu canslo—roedd tua hanner y rhai a arolygwyd gan y Gymdeithas Strôc wedi profi hynny. Fel y soniodd hefyd, dywedodd mwy na dwy ran o dair eu bod wedi teimlo'n bryderus ac yn isel eu hysbryd ers y pandemig. Ni ddylai neb deimlo'n ddiobaith ar ôl strôc ac wrth gwrs, nid dim ond goroeswyr strôc sy'n cael eu heffeithio; mae gofalwyr goroeswyr strôc hefyd wedi teimlo'r effaith, gyda dwy ran o dair ohonynt yn dweud hefyd eu bod yn cyflawni mwy o ddyletswyddau gofalu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Rhan fawr o'r broses o wella ar ôl strôc yw'r clybiau cymdeithasol a'r cyfarfodydd, fel y gall pobl rannu eu profiadau a helpu ei gilydd ar y ffordd tuag at wellhad. Roedd y rhain yn bwysig o ran therapi, oeddent, ond hefyd o ran cymdeithasu'n ehangach ac wrth gwrs, fel ffyrdd o godi arian ar gyfer y pethau bach ychwanegol a all wneud cymaint o wahaniaeth i alluogi goroeswyr strôc i wella. Nawr mae codi arian, wrth gwrs, wedi dod i ben yn ddisymwth, ac mae'r cymdeithasu wyneb yn wyneb i gyd wedi mynd ar-lein erbyn hyn, fel y mae pob un ohonom wedi'i wneud, ond yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw bod llawer gormod o oroeswyr strôc, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru, yn canfod nad yw eu gwasanaeth band eang yn ddigon da ar gyfer gwneud galwad Zoom ac mae hynny'n cynyddu'r ymdeimlad o unigedd. Mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, pan fydd gennych nam ar y lleferydd o ganlyniad i'ch strôc, ac angen ymarfer er mwyn gwella.

Rydym i gyd wedi wynebu rhwystredigaeth yn sgil byffro a chysylltiadau rhyngrwyd araf ar ryw adeg neu'i gilydd, ac rydym wedi profi hynny yn ein Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, ond dychmygwch hynny pan fydd eich lleferydd eisoes yn aneglur a'ch ysbryd yn lluddedig. Mae'n ddigalon a dweud y lleiaf. Mae'r un peth yn wir am bobl sy'n gadael yr ysbyty heb allu manteisio ar wasanaethau oherwydd eu pellter daearyddol. Felly, mae fy ngalwad yn y ddadl hon yn syml: mae arnom angen gwasanaeth strôc sy'n cydnabod yr heriau penodol hyn mewn rhannau mwy anghysbell a llai cysylltiedig o'r wlad. Mae arnom angen gwasanaeth cydradd, oherwydd ers gormod o amser mae lefel uchel o amrywio wedi bod rhwng triniaethau a chymorth yn y gwahanol unedau strôc yng Nghymru. 

Wrth gwrs, mae'r pandemig wedi creu sefyllfa eithriadol ar draws y gwasanaeth iechyd, ond gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain fod pethau'n berffaith i oroeswyr strôc cyn hynny. Wrth adfer gwasanaethau blaenorol a oedd ar gael i oroeswyr strôc, dylem hefyd geisio eu cryfhau gyda chynllun cenedlaethol newydd ar gyfer goroeswyr strôc. Mae bron i bedair blynedd wedi mynd heibio ers i'r Llywodraeth gael cynllun cyflawni ar gyfer strôc a gytunodd i ddarparu unedau strôc hyper-acíwt i wella'r gallu i oroesi, ac er gwaethaf rhywfaint o waith da gan Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill, nid oes yr un ohonynt wedi'u darparu hyd yn hyn gan nad oedd cyllid angenrheidiol ar gael i gyd-fynd ag ymrwymiad y Llywodraeth. Felly, mae'r unedau hyper-acíwt hyn yn dal i fod ar y cam cynllunio oherwydd diffyg arweiniad gan y Llywodraeth yn hynny o beth.

Felly, i gloi, er gwaethaf y pandemig ofnadwy hwn, gadewch inni sicrhau ein bod yn gweld rhywfaint o les yn dod o'r argyfwng, a gadewch inni sicrhau bod goroeswyr strôc yn cael y gwasanaethau y maent eu hangen ym mhob rhan o'r wlad, a'n bod o'r diwedd yn dechrau gwireddu dyheadau a strategaethau.

Mae'r pandemig coronafeirws wedi cael effaith eithafol ar ein systemau iechyd a gofal. Nid yn unig y mae amseroedd aros am driniaethau wedi ymestyn yn sylweddol, ond rydym hefyd wedi gweld llai o bobl yn gofyn am gymorth am eu bod yn ofni dal clefyd sydd wedi lladd miliynau o bobl dros y 12 mis diwethaf. Felly, er bod y clefyd wedi effeithio ar bob gwasanaeth, mae'n cael ei deimlo'n fyw iawn yn y gwasanaethau strôc.

Strôc yw un o'r prif achosion marwolaeth ac un o brif achosion anabledd ymhlith oedolion yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae tua 7,500 o bobl yng Nghymru yn marw o strôc. Diolch byth, mae miloedd yn fwy na hynny'n goroesi, ac eto cânt eu gadael gydag anableddau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, cyflyrau sy'n gofyn am lawer iawn o ofal a chymorth. A chredir bod ychydig dros 2 y cant o boblogaeth Cymru yn oroeswyr strôc, sef oddeutu 66,000 o bobl sydd angen gwasanaethau fel adsefydlu a chymorth iechyd meddwl.

Cyn y pandemig, roedd y gwasanaethau hyn eisoes yn ei chael hi'n anodd diwallu anghenion goroeswyr, ond ers i'r coronafeirws ledaenu yn y wlad hon, nid yw tua dwy ran o dair o oroeswyr wedi cael digon o ofal a chefnogaeth. Nid yw'n syndod, felly, fod dros ddwy ran o dair o oroeswyr mewn arolwg o oroeswyr strôc a'u gofalwyr wedi teimlo gorbryder neu iselder ysbryd, a bod bron i chwech o bob 10 gofalwr yn teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu ymdopi—prin fod hynny'n syndod pan fydd hanner yr holl apwyntiadau wedi'u canslo. Nid oeddem yn gwneud yn wych cyn y pandemig, ond bellach mae gennym gyfle i adeiladu nôl yn well.

Rhaid inni gael cynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc, a rhaid i'r cynllun newydd roi diwedd ar yr amrywio rhanbarthol sydd wedi bodoli ers cyflwyno'r cynllun cyflawni diwethaf. Ond yn bwysicach na hynny, rhaid inni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar weithredu argymhellion y grŵp trawsbleidiol ar strôc er mwyn ad-drefnu ein hunedau presennol yn unedau strôc hyper-acíwt. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi hyn drwy gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.

16:05

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Dai Lloyd a'r Aelodau am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr, ac am gyfraniadau'r Aelodau. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud ac rwy'n gefnogol i'r cynnig at ei gilydd.

Fel y mae llawer o siaradwyr wedi nodi, rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar wasanaethau strôc ers dyddiau cynharaf y pandemig. Fe fyddwch yn cofio fy mod wedi tynnu sylw ar sawl achlysur at y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dod i mewn i'n hysbytai gyda strôc, nid am fod iechyd y cyhoedd wedi gwella'n gyflym ac yn wyrthiol, ond am fod pobl yn osgoi'r gwasanaeth. Rydym wedi gweithio'n ddiwyd gyda'n byrddau iechyd i arwain gweithgarwch cynllunio er mwyn ceisio lleddfu'r effaith hon.

Fis Mai diwethaf, yn ein canllawiau ar wasanaethau hanfodol, cydnabuwyd bod gwasanaethau strôc a phyliau o isgemia dros dro yn rhai hanfodol i'r boblogaeth yn wyneb y pwysau aruthrol ar ein GIG. Lluniwyd y fframwaith a ddarparwyd gennym er mwyn helpu sefydliadau a gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau strôc yn ystod y pandemig a'r cyfnodau dilynol. Roeddem am gynnal cyfanrwydd gwasanaethau strôc a chanlyniadau i gleifion, ochr yn ochr â gofal COVID-19 acíwt. Mae'r fframwaith hwnnw'n cynnwys canllawiau ar gymorth ataliol eilaidd ac adsefydlu er mwyn lleihau anabledd hirdymor, cymorth i ofalwyr, ac yn wir, gwasanaethau bywyd ar ôl strôc. Rydym wedi darparu negeseuon cyson ar gyfer y cyhoedd i geisio annog pob un ohonom i barhau i fynychu adrannau achosion brys ar gyfer afiechydon difrifol neu salwch sy'n bygwth bywyd, megis strôc, drwy gydol y pandemig.

Wrth gwrs, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r cymorth i oroeswyr strôc, ac rydym yn croesawu adroddiad 'Stroke recoveries at risk' y Gymdeithas Strôc. Y llynedd, cyhoeddwyd £1.4 miliwn ychwanegol gennym ar gyfer gwasanaethau adsefydlu i bawb sydd mewn perygl o golli eu hannibyniaeth, a chyhoeddasom ein fframwaith adsefydlu i helpu sefydliadau i gynllunio ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yn ystod pandemig COVID-19 a wedyn.

Nodaf y galwadau am gynllun cyflawni newydd ar gyfer strôc. Yn amlwg, nid yw'n bosibl datblygu cynllun o'r fath yn yr amser sydd ar ôl yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac nid wyf yn credu'n onest y gallem ddibynnu ar Lywodraeth newydd sydd eto i'w ffurfio a'i phennu gan bleidleiswyr Cymru i fabwysiadu strategaeth a benderfynwyd cyn iddynt gael eu hethol. Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth newydd am ganolbwyntio ar faterion mewn ffordd wahanol. Felly, mater i Lywodraeth newydd fydd hynny.

Rydym wedi ymestyn cyfnod y dull presennol o weithredu, ac mae hynny'n golygu bod y dull presennol yn weithredol. Golyga hynny ei fod wedi'i ymestyn hyd at fis Mawrth 2022, a byddai cynllun newydd yn barod ar ddechrau tymor newydd yn y Senedd, i fod yn barod i'w weithredu o fis Mawrth 2022 pan ddaw'r cynllun estynedig i ben. Bydd hynny'n caniatáu ystyriaeth o'r gwersi a ddysgwyd a'r modelau gofal newydd a ddefnyddir yn ystod y pandemig.

Rhaid iddo hefyd gydweddu â'r cyfleoedd a nodir yn 'Cymru Iachach', a manteisio arnynt hefyd yn fy marn i. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu'r fframwaith clinigol cenedlaethol a swyddogaeth weithredol y GIG, ac rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth a roddodd Dr Lloyd i arweinydd clinigol gwasanaethau strôc yng Nghymru, gan ystyried y gwaith rhagorol a wnaeth ei ragflaenydd. A dylid rhoi ystyriaeth briodol hefyd i argymhellion y grŵp trawsbleidiol ar strôc, ac adroddiad 'Stroke recoveries at risk' y Gymdeithas Strôc.

Rwy'n croesawu'r ffocws y mae llawer o'r Aelodau wedi'i roi i ddiwygio'r gwasanaeth strôc, ac yn enwedig yr unedau hyper-acíwt. Mae gennym nifer o'r rhain eisoes yn eu lle ledled Cymru a'r her yw cael mwy ohonynt ar gyfer gweddill y wlad. Bydd hynny'n galw am arbenigedd a llai o unedau derbyn cleifion strôc yn y wlad, ond mae'r dystiolaeth yn glir y byddwn, drwy wneud hynny, yn gwella canlyniadau, a rhaid i arbenigedd fynd law yn llaw â'r gwelliant i wasanaethau cymunedol ehangach ac adsefydlu fel y mae pob siaradwr wedi'i gydnabod.

Felly, rwy'n croesawu'r ddadl, ac ar nodyn personol, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod fy nhad fy hun wedi gwella o sawl strôc ac wedi colli ei fywyd i strôc yn y diwedd, felly rwy'n deall yr angen a'r budd o wella gwasanaethau strôc ymhellach. Er nad wyf yn gallu cefnogi'r cynnig yn ei gyfanrwydd, rwy'n sicr yn cefnogi'r teimladau sy'n sail iddo a lle mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr am fynd yn wleidyddol. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal yn y bleidlais yn nes ymlaen heddiw.

16:10

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma. Buaswn i'n licio diolch yn fawr iawn i'r Gymdeithas Strôc am y gwaith maen nhw wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf. Mae'r ddogfen ar beryglu adferiad strôc gafodd ei chyhoeddi yn ôl ym mis Medi yn werthfawr iawn o ran mesur impact y pandemig ar wasanaethau.

Rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi ei gwneud hi'n anoddach i bobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc i gael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, pa mor bwysig ydy triniaeth effeithiol a thriniaeth gynnar, ac nid yn unig y mae'r anhawster yna i gael gofal yn effeithio ar ba mor dda y bydd pobl yn gwella'n gorfforol ar ôl y strôc, ond mae o yn cael effaith ar eu lles a'u hiechyd meddwl hefyd. Rŵan, mae'r sefyllfa wedi cael ei disgrifio'n dda iawn gan y rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma heddiw, a dwi'n diolch iddyn nhw.

Mae'r cynnig sydd o'n blaenau ni yn galw am sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i gynnal eu gwasanaethau strôc ar yr amser anodd yma, yng nghyd-destun y pandemig. Ond mae'r brif alwad ar Lywodraeth Cymru yn ddigon clir: mae angen cynllun strôc cenedlaethol newydd. Achos beth mae'r pandemig wedi'i wneud, mewn difrif, ydy rhoi mwy fyth o bwysau ar wasanaethau a oedd o dan bwysau yn barod, a rŵan, yn fwy nag erioed, mae eisiau cynllun sy'n dangos y ffordd ymlaen i wneud yn siŵr bod pobl, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru, yn gallu cael mynediad at wasanaethau strôc o safon uchel.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei sylwadau. Dwi'n cydnabod hefyd, wrth gwrs, y pwysau enfawr yr oedd o'n cyfeirio ato fo oedd yna ar wasanaethau yn sgil y pandemig, a bod hynny, yn anochel, wedi cael impact. Dwi wrth gwrs yn nodi hefyd fod y Llywodraeth a'r Gweinidog wedi dweud wrthym y bydd y cynllun presennol yn cael ei ymestyn tan 2022 oherwydd COVID, a bod gwaith yn parhau ar fath o barhad o hynny ar ôl hynny. Ond dwi ddim yn clywed bod gwaith yn cael ei wneud rŵan i baratoi am gynllun cenedlaethol newydd o'r math rydym ni ei angen, i gael ei weithredu gan bwy bynnag, wrth gwrs, fydd mewn Llywodraeth. Ac mi fyddwn i'n dymuno gweld consensws yn cael ei adeiladu ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac y gall gwaith ddechrau ar y cynllun hwnnw rŵan. A dyna'r math o ymrwymiad y byddwn i wedi licio ei glywed gan y Gweinidog presennol, sydd, dwi'n cymryd, yn gobeithio y gall fod yn Weinidog ar ôl yr etholiad hefyd. Mae eisiau cynllun newydd, rhywbeth mwy cadarn o ran ymrwymiad, yn hytrach na pharhad, os liciwch chi, y tu hwnt i 2022.

Ddirprwy Lywydd, mae'r grŵp trawsbleidiol wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn. Mae bron i flwyddyn ers i'r grŵp ymgynghori ar sut y mae'r cynllun strôc presennol wedi cael ei ddelifro ac fe gafodd yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi wedyn ym mis Ebrill. Dydy'r ffaith bod ein prif sylw ni bryd hynny ar yr ymateb cyffredinol i'r pandemig oedd newydd daro ddim yn tynnu oddi ar bwysigrwydd yr adroddiad hwnnw a'r casgliadau gafodd eu cyrraedd gan yr ymchwiliad. Do, mi wnaeth o adnabod arferion da iawn, elfennau o'r cynllun presennol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn enwedig, rhaid dweud, o ran y gwaith ataliol, ond mae yna'n dal ormod o anghysondeb ar draws y gwasanaeth. Mi oedd hi'n amlwg bod yna gryn waith i'w wneud i gryfhau strwythurau llywodraethiant mewn cysylltiad â delifro gwasanaethau strôc.

Ac unwaith eto heddiw, rydyn ni wedi clywed pa mor bwysig ydy hi fod gêr arall yn cael ei chodi yn y gwaith i sicrhau bod dioddefwyr strôc yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei hangen. Dwi'n hyderus bod y Gweinidog—sydd yn cytuno, yn gyffredinol, fel y dywedodd o, â bwriad y cynnig yma, er ddim wedi cweit rhoi'r atebion y byddem ni eu heisiau—wedi clywed y dadleuon yn glir. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael eu gwyntyllu yma yn y Senedd.

16:15

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad; felly, fe bleidleisiwn o dan yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID-19

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7562 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i bob gwlad gartref.

3. Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mor araf yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu llwyddiant y rhaglen frechu, sy'n cynnwys:

a) penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru;

b) torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r brechlynnau;

c) pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau bod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru;

d) ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r rhaglen frechu; ac

e) cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad.

Cynigiwyd y cynnig.

Prynhawn da, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar a gofynnaf i'r Senedd groesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlyn ac i sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth o ystyried y 'dileu popeth' a'r rhyfyg a welwyd ddoe. Ond byddwn yn cefnogi gwelliant Neil McEvoy; yn wir, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi gwrthod unrhyw frechlynnau, heb sôn am y niferoedd y mae Mr McEvoy yn eu dyfynnu.

Yn ddi-os, mae'r gwaith cyflym a manwl a wnaed gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn cymeradwyo brechlynnau Pfizer a Rhydychen fis cyn i reoleiddwyr Ewropeaidd wneud hynny wedi galluogi'r DU i arwain ar gyflwyno brechlynnau yn Ewrop. Fodd bynnag, mater i chi, Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, yw defnyddio'r holl frechlynnau sydd ar gael ichi cyn gynted â phosibl yn awr, oherwydd heb frechlyn bydd ein heconomi'n cael ei dinistrio gan gylchoedd diddiwedd o gyfyngiadau symud. Rydym eisoes yn gweld busnesau'n cau a phobl yn colli swyddi.

Heb frechlyn, mae addysg ein plant yn y dyfodol yn y fantol. Nid yw dysgu o bell yn gweithio nac yn bosibl i bawb, ac mae arholiadau i gael eu hasesu gan athrawon. Ni allwn barhau i gamblo â dyfodol plant a phobl ifanc. Heb frechlyn, bydd GIG Cymru yn parhau i gael ei wasgu o dan bwysau cleifion COVID-19 sy'n ddifrifol wael, ac ni allwn ganiatáu i restrau aros ymestyn hyd yn oed ymhellach ac i fathau o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID waethygu. Aelodau, rwy'n teimlo bod angen ailadrodd y dadleuon hyn o ystyried sylwadau Prif Weinidog Cymru, a wnaed sawl gwaith, ei fod yn arafu'r broses o roi brechlynnau er mwyn sicrhau nad yw'r rhai sy'n rhoi'r brechlynnau'n cicio'u sodlau heb ddim i'w wneud—sylwadau cwbl hurt a ysgogodd ddicter y cyhoedd ac mewn cyferbyniad llwyr â'r gwledydd eraill. Ar yr un diwrnod ag y gwnaeth y Prif Weinidog ei sylwadau, roedd pobl dros 70 oed yn Lloegr eisoes yn cael eu gwahodd ar gyfer apwyntiadau brechu.

Rwy'n cydnabod y gwaith caled y mae'r rhai sy'n rhoi brechlynnau'n ei wneud ar hyd a lled y wlad; diolch o galon i chi i gyd. Fodd bynnag, Weinidog, rhaid i mi eich dwyn chi i gyfrif. Mae'n sicr mai cynllunio'r broses o gyflwyno brechlynnau'n effeithiol oedd mandad bwrdd rhaglen ddarparu brechlynnau COVID-19 Cymru. Maent wedi bod ar waith ers mis Mehefin y llynedd, gyda'r mandad o gynllunio'r broses o gyflwyno'r brechlyn. Felly, pam nad oedd rhai byrddau iechyd wedi llunio cynlluniau ar gyfer canolfannau brechu torfol neu ar gyfer unedau profi symudol tan yn ddiweddar? Pam y bu'n rhaid i feddygon teulu neidio drwy gylchoedd biwrocrataidd er mwyn cael gafael ar y brechlynnau gan Lywodraeth Cymru a PHE? Pam y mae cynifer o bobl dros 80 oed yn y gymuned yn poeni nad ydynt wedi clywed unrhyw beth? Pam y mae rhai byrddau iechyd yn llamu yn eu blaenau ac eraill yn llusgo ar ei hôl hi?

Ddoe, fe wnaethoch wrthod unrhyw awgrym o loteri cod post, ond dyna'n union sy'n digwydd mewn rhannau o Gymru. Weinidog, a allwch egluro pa fewnbwn y mae'r bwrdd cyflenwi brechlynnau wedi'i gael wrth ddwyn ynghyd ymateb Cymru i gyflwyno'r brechlyn? Sawl gwaith y mae wedi cyfarfod ers ei ffurfio ym mis Mehefin? Beth yw ei ddulliau o fesur canlyniadau a pherfformiad? Weinidog, er ei fod yn newyddion da fod bron i 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, mae eich targed ar gyfer pobl dros 80 oed wedi llithro'n sylweddol. Beth yw'r rhesymau am hyn? Nid wyf yn credu mai eira'n unig yw'r rheswm.

Yr wythnos diwethaf, honnodd Prif Weinidog Cymru fod ganddo fynediad at ddata treigl a ddangosai y byddai'r targed ar gyfer pobl dros 80 oed yn cael ei gyflawni. Sut? Yn anffodus, mae rhai pobl yn neidio'r ciw ac mae staff ystafell gefn yn cael eu brechu o flaen grwpiau blaenoriaeth; mae nifer o fyrddau iechyd yn nodi hyn. Weinidog, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i sicrhau bod yr adroddiadau hyn yn cael eu hymchwilio'n drylwyr a bod canllawiau'n cael eu cynnig? Mae rhai meddygon teulu wedi e-bostio i ddweud bod y rhai sy'n rhoi brechlynnau'n cael eu cynghori i daflu brechlyn dros ben i'r bin. Rwy'n deall bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymwybodol o hyn, ond beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar frechlynnau dros ben? Yn fy marn i, mae hyd yn oed ychydig o achosion o hyn yn rhywbeth na ellir ei amddiffyn yn foesol nac yn economaidd.

Weinidog, amcangyfrifir bod angen i Gymru ddarparu 22,358 o frechlynnau y dydd er mwyn cyrraedd y targed o roi dos cyntaf i 740,350 o bobl erbyn canol mis Chwefror. Rydych wedi cyrraedd y targed hwnnw deirgwaith hyd yma. Pa mor hyderus ydych chi y bydd pob un o'r grwpiau blaenoriaeth yn cael y dos cyntaf erbyn canol mis Chwefror? Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir ar gyfer cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn gan gynnwys Gweinidog penodedig, torri drwy'r fiwrocratiaeth sy'n atal gweithwyr iechyd proffesiynol rhag cymryd rhan, gosod targedau clir, galluogi gwirfoddolwyr, a rhoi canolfannau brechu ar waith 24/7. Nid yw eich cynllun i'w weld yn glir, rydych eisoes yn methu targedau, ac rwy'n pryderu am eich gallu i newid y sefyllfa'n gyflym. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd.

16:20

Rwyf wedi dethol un gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 2 a gyflwynwyd i'r cynnig. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn.

3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr.

4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol.

5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol:

a) erbyn canol mis Chwefror—cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

b) erbyn y gwanwyn—cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol;

c) erbyn yr hydref—cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig yn ffurfiol, Gadeirydd.

Weinidog, rydym mewn ras i achub bywydau a busnesau ac iechyd meddwl. Mae croeso mawr i'r newydd heddiw gan y swyddog meddygol fod y gyfradd R wedi gostwng a bod gwelliant amlwg yng nghyfraddau'r trosglwyddiad cymunedol ledled ein gwlad. Mae hyn yn galonogol iawn. Fodd bynnag, fel y clywsom gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y BBC heddiw, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae'r GIG yn dal i fod o dan bwysau aruthrol. Felly, bydd angen i ni gael cynllun ar waith, nid yn unig ar gyfer amrywiolyn newydd Caint o'r clefyd sydd wedi lledaenu i bob rhan o Gymru, ond cynllun hefyd rhag ofn y bydd mathau pellach o'r feirws yn dod i'r amlwg.

Rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar yr hyn y gallwn ei reoli. Rhaid inni sicrhau bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Ydy, mae'n wych ein bod ni wedi dal i fyny gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae gennym ffordd bell i fynd i ddal i fyny â Lloegr o hyd. Mae angen darparu 44,000 o frechlynnau i gyrraedd y targed hwnnw—dyna faint Merthyr Tudful. Ni allwch fod yn ffuantus a beio'r eira am fethu eich targed yr wythnos hon. Methodd y Llywodraeth eich targed clir eich hun a roesoch o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw? Nid wyf wedi eich clywed yn dweud pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw. Rhaid inni wybod hynny—nid yr honiad niwlog, 'Rydym yn mynd i gyrraedd popeth erbyn canol mis Chwefror.' Mae angen inni gael targedau clir.

Mae gennym sefyllfa lle nad yw cyplau'n cael eu galw i gael eu brechu gyda'i gilydd, lle nad yw gofalwyr yn cael eu brechu ar yr un pryd â'r person y maent yn gofalu amdanynt. Er enghraifft, dim ond ar ddau ddiwrnod yr wythnos y mae un ganolfan frechu torfol yn Sir Fynwy yn darparu brechlyn Rhydychen, ond pe bai'n newid i'r brechlyn Pfizer, gellid ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos, fel yng Nghasnewydd a Chwmbrân. Nid yw camau ymarferol syml yn digwydd. Mae ein byrddau iechyd lleol yn gwneud eu gorau, ac rwy'n eu cymeradwyo am y gwaith y maent wedi'i wneud—mae wedi bod yn wych—ond chi, Weinidog, sy'n gyfrifol am y mathau hyn o fethiannau bach, ac maent yn cael effaith enfawr arnom o ran cael y brechlyn allan cyn gynted â phosibl.

Mae angen targedau clir ar y Llywodraeth, mae angen iddi gyhoeddi mwy o ddata ar gyflwyno'r rhaglen, i'w ddadansoddi nid yn unig gennym ni ond gan y cyhoedd, fel y gallant weld yn glir beth sy'n digwydd. Rwy'n cynnal grwpiau cymorth a chefnogaeth coronafeirws, a'r wybodaeth rwy'n ei rhoi yno yw'r unig wybodaeth y mae llawer o bobl yn ei chael am eu bod yn mynd i wefan y Llywodraeth ac nid yw yno. Mae angen cyfathrebu cliriach arnoch, cyfathrebu hawdd ei ddarllen, a chyfathrebu dealladwy i'r cyhoedd ynglŷn â ble rydych chi arni a pha dargedau rydych chi'n ceisio'u cyrraedd.

Ymddengys i mi fod rhaid cael Gweinidog penodedig i sicrhau bod y broses o gyflwyno'n digwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Rhaid bod gennych lawer iawn o waith, Weinidog, ac rwy'n eich cymeradwyo am yr hyn rydych yn ei wneud, ond mae angen person penodedig ar y rhaglen gyflwyno i sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bo modd, nid yn unig i ni, ond i bobl Cymru—

Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Mi ydw i'n cyd-fynd â sawl elfen ohono fo. Dwi'n gresynu at ddechrau araf y cynllun yng Nghymru, er bod pethau yn amlwg yn cyflymu bellach. Ond dwi ddim, fel un pwynt penodol—. Wel, (1) dwi ddim eisiau cymryd gwersi gan y ffordd mae'r Llywodraeth yn Lloegr wedi delio efo'r pandemig, ond (2) dwi'n benodol ddim yn meddwl bod angen Gweinidog yn gyfrifol dim ond am frechu. Fel dwi wedi egluro o'r blaen, dwi'n credu bod hyn yn gymaint o flaenoriaeth i Gymru ar hyn o bryd bod rhaid i hyn fod yn ffocws y Gweinidog iechyd ei hun, a'r Prif Weinidog, hyd yn oed. Gallaf i ddim peidio â meddwl y byddai mynd trwy broses o benodi Gweinidog newydd yn amharu ar y ffocws sydd ei angen ar hyn yn hytrach na rhoi mwy o ffocws i'r gwaith.

Mi fyddwn ni hefyd heddiw yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth—eto, mae yna elfennau ohono fo dwi'n cyd-fynd â nhw—yn gyntaf, achos bod yna dal rhyw fethiant rhywsut i gydnabod a blaenoriaethu brys a chyflymder yn y broses frechu, ond hefyd, oherwydd bod y gwelliant yn cyfeirio cymaint at gyflenwad. Rydyn ni'n dal i aros am y data dwi wedi gofyn amdano fo dro ar ôl tro ynglŷn â chyflenwad, er mwyn gallu mesur hynny. Roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog, o'r diwedd ddoe, yn ymateb i gwestiynau gen i, wedi cyfaddef y buasai gwneud data felly yn gyhoeddus yn beth da ac y bydd o'n gweld sut mae modd gwneud y ffigurau ar ddyraniadau y gwahanol frechlynnau i bedair gwlad y Deyrnas Unedig i weithio, drwy drafod hynny efo Gweinidogion ar draws y pedair gwlad. Mi edrychaf ymlaen at weld hynny yn digwydd.

O ran sylwadau pellach, dwi'n falch eto bod yna gyfle eto fan hyn i deulu teyrnged i dimau brechu ar draws yr NHS. Mae yna lawer iawn o dir wedi ei ennill, yn sicr, dros yr wythnos ddiwethaf. Mi ddylem ni i gyd ymfalchïo yn hynny. Ond rydym yn dal yn fyr o lle liciem ni fod a lle dywedodd y Llywodraeth y buasem ni erbyn hyn. Nid disgyn ychydig yn fyr o'r targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed ydy hitio 52.8 y cant; mae eisiau gonestrwydd yn hynny o beth. Felly, mi barhawn ni i ofyn cwestiynau, i wthio y Llywodraeth, i sicrhau bod y timau brechu yn cael y gefnogaeth a'r cyflenwadau maen nhw eu hangen.

Dau bwynt arall. Yn gyntaf, dwi eisiau gweld y buddsoddi sydd ei angen mewn isadeiledd brechu ar gyfer y cyfnod o'n blaenau ni. Nid dyma y tro olaf fydd angen brechu eang; rydym ni angen gwneud yn siŵr, pan rydym yn gorfod mynd trwy brosesau brechu fel hyn eto, o bosib fel rhan o'r pandemig yma, bod yna ddim arafwch fel rydym ni wedi'i weld yn digwydd dros y misoedd diwethaf yn cael ei ailadrodd. Mae angen buddsoddi mewn isadeiledd brechu ar gyfer hynny. Yn ail, dwi'n clywed bod Llafur yn Lloegr heddiw wedi gofyn am flaenoriaethu gweithwyr allweddol fel heddlu ac athrawon, fel dwi wedi'i wneud. Ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ydy dweud, 'Na, mi fyddai hynny'n golygu dadflaenoriaethu pobl eraill'. Dwi'n dweud nad dadflaenoriaethu'r rheini sydd eisiau ond adeiladu mewn i'r system y cynllun ar gyfer sut mae'r grwpiau hynny yn cael eu cynnwys a'u hychwanegu at y cynlluniau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Gadewch inni glywed hynny gan y Gweinidog yn ei ymateb o i'r ddadl yma heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:25

Rwyf am groesawu Angela Burns i'r portffolio iechyd, gan fy mod yn siŵr na fyddai wedi llunio'r cynnig hwn yn union fel hyn. Ar bwynt 2, rydym i fod yn ddiolchgar fod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarperir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei roi i bob un o'r gwledydd cartref. Hynny yw, onid gwaith Llywodraeth y DU yw darparu brechlynnau i wahanol wledydd a rhanbarthau'r DU? Dyna yw eu gwaith. Pam y dylem fod yn ddiolchgar? Yn amlwg, mewn adrannau eraill, maent wedi trin Cymru mewn ffordd wahaniaethol, yn y ffordd y maent yn dosbarthu cymorth i Faes Awyr Bryste ond nid i Gaerdydd, neu'r ffordd y maent yn torri addewidion Brexit na fyddai Cymru'n waeth eu byd yn ariannol, nad yw'n wir o gwbl, neu'r biliynau y maent yn eu rhoi i HS2 tra'n gwrthod trydaneiddio prif linell de Cymru y tu hwnt i Abertawe.

Mae'n ymddangos bod cynllun pum pwynt y Torïaid wedi'i gwmpasu er mwyn sicrhau'r anhrefn fwyaf a'r effaith leiaf ar lwyddiant rhaglen frechu Cymru. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn awgrymu y dylem gydymffurfio â chynnig y Torïaid y dylid cael Gweinidog brechlynnau, ond os felly, pa bortffolio gweinidogol y byddech am ei ddiddymu? Fel y gŵyr Angela Burns yn dda, mae nifer y Gweinidogion wedi'i gyfyngu i 12; y rhesymeg amgen yw bod gennym Weinidog dysgu ar-lein, Gweinidog teithio llesol, Gweinidog TB mewn gwartheg. Nid dyna sut y mae'r Llywodraeth yn gweithredu. Yr ail bwynt yw eich bod am i bob fferyllydd a gweithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol allu darparu'r brechiad. Maent eisoes yn gwneud hynny, ond mae'n amlwg fod rhaid eu brechu hwythau cyn iddynt ddechrau cyfarfod â llawer o bobl, neu fel arall byddant yn lledaenu'r clefyd eu hunain. Nid yw hynny'n syniad da iawn.

Y syniad olaf athrylithgar yw cael canolfannau brechu 24/7 ledled y wlad. Faint o bobl yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth uchaf fydd eisiau mynd draw i gael eu pigiad am 03:00? Sut y byddent yn cyrraedd yno hyd yn oed pan nad oes bysiau'n rhedeg? Mae'n ddigon posibl y bydd galw am ganolfan frechu 24/7 pan fyddwn yn brechu oedolion yn eu 20au—gallant alw heibio ar eu beiciau; ond nid nawr. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r cysyniad o loterïau cod post, ac yn wir, y ddeddf gofal gwrthgyfartal sy'n berthnasol i'r difreintiedig, ond nid yw'r Torïaid wedi darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl mai dyma sy'n digwydd gyda brechiadau yng Nghymru. Newyddion ffug ydyw a luchiwyd allan i geisio drysu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd. A diolch byth mai ychydig iawn o berygl sydd yna y caiff y Torïaid eu dwylo ar awenau'r GIG yng Nghymru.

Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod holl drigolion y cartrefi gofal yn fy etholaeth eisoes wedi cael eu brechu, a bydd yr uned frechu symudol eisoes wedi ymweld â gweddill y rhai yng Nghaerdydd erbyn y diwrnod ar ôl yfory. Mae'r holl gartrefi gofal hyn eisoes wedi—

16:30

—wyth wythnos ar ôl y cyntaf, ac mae meddygfeydd meddygon teulu yn brysur yn trefnu'r holl bobl dros 80 oed, a byddant yn symud ymlaen wedyn at bobl dros 75 oed. Yn fyr, mae rhaglen frechu Cymru—[Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—brechu'r holl grwpiau blaenoriaeth hyn cyn canol y mis nesaf.

Cyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, rwyf am ddweud fy mod yn siomedig o weld gwelliannau'n cael eu gwrthod pan fo un gwelliant gan Neil McEvoy:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a wnaeth wrthod 200,000 o frechlynnau Pfizer ar ddechrau mis Ionawr 2021.

Felly, hoffwn i hynny fod yn gwestiwn penodol fel rhan o fy nghyfraniad.

Nawr, er i Lywodraeth Cymru dderbyn dros 327,000 dos o frechlynnau Pfizer a Rhydychen hyd yma, gwyddom fod 312,305 wedi'u defnyddio, gan adael tua 15,000 ar ôl i'w brechu. Felly, dyna 15,000 risg i fywyd. Felly, fel y mae'r meddygon yma wedi'i ddweud yn fy etholaeth i: rydych yn methu cyrraedd y trigolion hyn yn gyflym. Dylem nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gweld y ganran isaf yng Nghymru yn cael eu brechu, ac mae hyn hyd yn oed yn fwy difrifol wrth ystyried fod y bwrdd yn gyfrifol am ardal awdurdod lleol sir Conwy, gyda'r ganran uchaf o bobl dros 65 oed. A rhaid imi ddweud yn glir fod pawb sydd wedi'u hyfforddi i frechu eisiau brechu—felly, nid wyf yn eu beirniadu hwy o gwbl. A hoffwn ddweud bod Ysbyty Enfys, ddydd Gwener, er gwaethaf y tywydd gwael, wedi llwyddo i ddarparu 1,300 o frechlynnau, gan weithio dyddiau 13 awr o hyd. Felly, mae gennym bobl yno sydd eisiau gwneud hyn.

Nawr, mae llawer o drigolion hŷn pryderus yn dal i gysylltu â fy swyddfa a minnau. Er enghraifft, ymatebais i e-bost ddydd Mawrth a gyfeiriai at etholwr 100 oed sy'n poeni'n fawr am ei brechlyn. Fel y dywedodd dau etholwr arall wrthyf: 'Dylid cyflwyno'r brechlynnau'n gyflym, ac mae'n gystadleuaeth yn erbyn y feirws, a byddai colli'r gystadleuaeth yn arwain at golli miloedd o fywydau'n ddiangen yng Nghymru.' Dychmygwch sut roedd fy etholwyr yn teimlo wrth glywed bod yr addewid i frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn y penwythnos wedi'i dorri. Dychmygwch sut y maent yn teimlo pan addawodd y bwrdd iechyd lleol agor canolfan frechu leol yn Glasdir, Llanrwst, ond ni allant ddarparu dyddiad agor hyd yn oed. Dychmygwch sut y maent yn teimlo pan addawodd yr un bwrdd iechyd anfon llythyr at bob cartref yng ngogledd Cymru, ond mae llawer o fy etholwyr heb ei gael. Dychmygwch sut y maent yn teimlo wrth weld nad yw Venue Cymru yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos o hyd, a dychmygwch sut y maent yn teimlo pan fydd ffrindiau a theulu iau na hwy'n cael brechlyn yn Lloegr, tra'u bod yn dal i aros yma yng Nghymru. Maent yn ofnus am eu bywydau, yn ofidus, ac yn dioddef gorbryder difrifol. A dywedodd meddyg teulu lleol wrthyf ddoe ddiwethaf: 'Mae hyn bellach yn effeithio'n wael o ran problemau iechyd meddwl.' Mae angen i bob un ohonom weld newidiadau ar frys, ac mae cynllun y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig y newid hwnnw. Dychmygwch sut y mae fy etholwyr yn teimlo wrth glywed eich bod yn dewis dileu ein cynnig.

Ac yn olaf, a wnewch chi wrando ar ein comisiynydd pobl hŷn a'r ffaith ei bod hithau hefyd yn siomedig ynghylch y targedau y methwyd eu cyrraedd? Mae hefyd yn galw am sicrwydd, ac rwy'n gofyn am y sicrwydd hwnnw, y bydd y targedau rydych wedi'u gosod nawr i frechu pawb sy'n byw neu'n gweithio mewn cartref gofal erbyn diwedd mis Ionawr, a phawb dros 70 oed erbyn canol mis Chwefror, yn cael eu cyrraedd. Mae pobl Cymru yn haeddu hyn, a chi fel Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyflawni hyn. Diolch.

16:35

I ddechrau, gellir dweud heb amheuaeth fod y broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru yn araf, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwella'i pherfformiad yn gyflym iawn ac mae'r ffigurau'n dangos ein bod bellach yn gwneud yn well na'r Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn agos iawn at y ffigurau ar gyfer Lloegr. Rwyf am nodi yma wrth gwrs ein bod ymhell ar y blaen i dde Iwerddon y gadawodd eu presenoldeb yn yr Undeb Ewropeaidd hwy'n agored i'r llanast biwrocrataidd rydym wedi'i weld gyda brechlynnau yno.

Hoffwn gefnogi eitem 1 y cynnig hwn a chydnabod y camau cyflym a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU i gaffael a derbyn yr awdurdodiad ar gyfer brechlynnau a'u dosbarthiad i'r DU gyfan. Ni fu hyn ond yn bosibl oherwydd Brexit wrth gwrs, a rhyddid y DU i weithio'n unochrog. Mae'n gwbl groes i'r llanast biwrocrataidd yn Ewrop, er fy mod am ychwanegu nad yw anghysur ein cyd-ddinasyddion yn Ewrop yn rhoi unrhyw bleser i mi.

Ni fyddwn yn cefnogi 4a yn y cynnig, ond byddwn yn cefnogi 4b, oherwydd mae llawer iawn o dystiolaeth anecdotaidd yn dangos bod—[Anghlywadwy.]—gweithdrefnau'n rhy gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Byddwn yn cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, a byddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â'r cynnydd a wnaed hyd yma, oherwydd mae'n dod yn amlwg mai brechu torfol yw'r unig ffordd allan o'r cyfyngiadau symud parhaus.

Un peth yr hoffwn dynnu sylw'r Llywodraeth ato yw'r ffaith ein bod yn anfon llythyrau personol at y rhai sydd i'w hysbysu yn nes ymlaen ynglŷn â'u hapwyntiad i gael eu brechu. Gan eu bod, a hynny'n gwbl briodol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae pob llythyr yn bedair tudalen o hyd. Byddem yn cwestiynu'r angen am y llythyr hwn, gan mai hysbysu'r derbynnydd y byddant yn cael eu gwahodd ar ddyddiad diweddarach yn unig y mae'n ei wneud. O gofio bod yn rhaid anfon tua 2 filiwn hysbysiad o'r fath, a gawn ni alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth hon? Diolch. Cwbl hurt.

Rwy'n gobeithio mai un fantais o anfon y llythyrau hynny yw y bydd eu cael yn arwain at lai o bobl yn ffonio i gwyno nad ydynt wedi'i gael ac yn poeni ac yn mynd ag amser y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael eu brechiadau pan gânt eu cynnig.

Rydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bwriadwn ymatal ar welliant y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi'r cynnig os caiff ei ddiwygio. Dim ond un pwynt ynghylch cynnig y Ceidwadwyr—penodi Gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru, credwn fod Plaid Cymru yn iawn i ddadlau na ddylai fod yn Weinidog newydd, a chredaf i Jenny Rathbone ddweud y byddai penodi Gweinidog newydd yn ymyrraeth ar hyn o bryd. Rydym yn cytuno â hynny, ac ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn penodi'r Gweinidog brechlynnau presennol, sy'n gwneud gwaith da iawn, Nadhim Zahawi, un o Weinidogion y DU. Dylid rhoi rôl drosolwg iddo, ac yn enwedig gyda'r rhyngwyneb cyflenwi, i weithio gyda'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar yr wythnos a aeth heibio, oherwydd maent wedi bod yn brechu ar oddeutu'r un cyflymder ag yn Lloegr. Mae diffyg mawr i wneud iawn amdano o hyd, ond mae cynnydd yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn dda, er gwaethaf yr eira. Byddai'n dda gwybod yn awr, serch hynny, pa bryd rydym yn disgwyl cyrraedd y targed o 70 y cant o bobl dros 80 oed y dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthyf ddoe na chafodd ei gyrraedd pan ddylai fod wedi'i gyrraedd.

Wrth edrych ar longyfarch Llywodraeth Geidwadol y DU neu longyfarch yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), credwn y dylid llongyfarch pawb ohonynt mewn gwirionedd, ac mae'r MHRA yn rheoleiddiwr annibynnol, sydd nid yn unig yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, ond yn annibynnol ar yr Undeb Ewropeaidd a phroses yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, a Llywodraeth y DU a sicrhaodd y gallai ac y byddai'r MHRA yn bwrw ymlaen heb aros am broses yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae wedi bod yn wych i ni fod hynny wedi digwydd, ac yn anffodus iawn i'r Undeb Ewropeaidd fod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi oedi pethau i'r fath raddau gyda Chomisiwn yr UE, ac yn enwedig pan oedd pedair Llywodraeth genedlaethol yn ymyrryd a bod oedi mawr wedi digwydd ar ôl hynny. Mae'n anffodus iawn.

Y person arall y credaf ei bod yn haeddu ei llongyfarch yn fawr yw Kate Bingham a'i thasglu brechlynnau, pawb a fu'n gweithio ar hynny. Y cyfan yr ymddangosai ei fod yn ei gael—cafodd feirniadaeth am gymryd rhan mewn cynhadledd ecwiti preifat i esbonio pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen a'r hyn roedd hi wedi'i wneud ar hynny. Ni chafodd ei thalu am yr hyn a wnaeth hyd yn oed. Felly, Kate, diolch yn fawr am y gwaith hwnnw. Roedd yn bwysig tu hwnt. 

Felly, yr hyn yr hoffem ei weld yw'r broses frechu'n cyflymu, ond mae gennym gyflenwad da. Nid yw'n berffaith; mae cyfeiriad yng ngwelliannau'r Llywodraeth at oedi o ran cyflenwi, ac mae'n amlwg ein bod yn dibynnu ar y cyflenwad hwnnw, ond mae'r cyflenwad wedi bod yn dda iawn. Nid yw'n syndod fod un swp o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca wedi gorfod cael ei ail-wneud a chafwyd cyfnod ar gyfer gwneud hynny. Wrth gwrs, mae'n broses weithgynhyrchu newydd. Ac mewn gwirionedd mae wedi cael ei wneud yn dda iawn. 

Clywsom Jenny Rathbone yn dweud na ddylem fod yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU gan mai dim ond gwneud ei gwaith y mae hi. Ac wrth gwrs, mae hi'n gywir, mae'n gwneud ei gwaith, ond mae'n gwneud ei gwaith yn dda iawn ar yr ochr frechu, ac am hynny rwy'n credu y dylem fod yn ddiolchgar. Dim ond Israel, rwy'n credu, sydd wedi gwneud gwaith gwell na Llywodraeth y DU, a chredaf y dylem gydnabod hynny—pawb sy'n rhan o'r gwaith, y tasglu brechlynnau, MHRA, y cyflenwad cyffredinol. Rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn dal i fyny â'r hyn y mae i fod i'w wneud ar ei hochr hi, a gadewch inni ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni ar yr ochr frechu. 

16:40

Diolch. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod cyflwyno'r rhaglen frechu COVID heddiw. Y rhaglen frechu yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i frechu cynifer o bobl â phosibl cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl gyda'r lleiafswm o wastraff. Dylem i gyd ystyried pa mor bell rydym wedi dod mewn cyfnod mor fyr. Dim ond ym mis Rhagfyr y cymeradwywyd y brechlynnau rydym yn eu defnyddio, gyda Pfizer ddechrau mis Rhagfyr a'r diweddaraf, Rhydychen-AstraZeneca, lai na mis yn ôl.

Yng Nghymru, rydym bellach yn darparu'r rhaglen frechu sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda'r gyfradd gyflymaf dros yr wythnos ddiwethaf yn unrhyw wlad yn y DU, ac rydym yn gwneud hynny'n unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ac ni fyddwn yn diystyru cyngor arbenigol annibynnol y Cyngor ar Imiwneiddio a Brechu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r prif swyddog meddygol. Mae'r cyngor ar grwpiau blaenoriaeth yn seiliedig ar ddiogelu ac achub y nifer fwyaf o fywydau sy'n bosibl, ac nid wyf yn mynd i wyro oddi wrtho. Cwblhawyd llawer iawn o waith yn genedlaethol ac yn lleol cyn y gellid brechu unrhyw gleifion yn ddiogel ac yn gyfreithiol, gan gynnwys creu ac yna defnyddio hyfforddiant ar frechlynnau penodol, cyfarwyddiadau a phrotocolau ar gyfer grwpiau o gleifion, canllawiau proffesiynol ac adnoddau gwybodaeth cleifion. Ni all hyn ddigwydd cyn i frechlynnau gael eu cymeradwyo a chyn bod eu priodoleddau'n hysbys.

Erbyn heddiw, rydym wedi brechu o leiaf 312,305 o bobl yng Nghymru. Dyna gynnydd o fwy na 22,700 ar ffigurau ddoe. Mae hynny bron yn un o bob 10 o'n poblogaeth, a diolch i ymdrech anferthol pawb sy'n gysylltiedig. Dyma'r her fwyaf rydym wedi'i hwynebu fel cenedl mewn adeg o heddwch, ac mae cynllunio, logisteg a pharatoi'r bobl sy'n rhan o'r ymdrech wedi bod yn waith aruthrol. Ac mae gennym gynllun cadarn ar gyfer cyflawni. Mae cyflwyno brechlyn AstraZeneca ac ymwneud gofal sylfaenol yn ei ddarparu wedi golygu ein bod wedi gallu cyflymu'r broses o ddarparu brechlynnau'n sylweddol, yn enwedig dros y pythefnos diwethaf, ac rydym bellach yn brechu rhywun bob pum eiliad, sy'n ffigur syfrdanol ac yn dweud rhywbeth wrthych am gyflymder ein darpariaeth yma yng Nghymru.

Gwnaethom gyrraedd dau nod yn ein strategaeth frechu yr wythnos diwethaf drwy gynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen gwasanaeth ambiwlans Cymru. Gwnaethom hefyd ragori ar ein nod ar gyfer diwedd mis Ionawr i gael mwy na 250 o bractisau meddygon teulu i ddarparu'r brechlyn. Cyhoeddais ddydd Llun fod gennym o leiaf 329 o leoliadau meddygon teulu a thros 300 o bractisau'n ymwneud â rhedeg clinigau brechu. Mae ein dull o weithredu yn cynnwys pob gweithiwr proffesiynol gofal sylfaenol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr yn ogystal â meddygon teulu yn rhan o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen frechu. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot fferylliaeth gymunedol, canolfannau brechu cymunedol, ac ers y penwythnos diwethaf, clystyrau o bractisau meddygon teulu'n rhedeg clinigau mewn cymunedau lleol. Ac fe roddodd y tri chlwstwr o bractisau meddygon teulu a oedd yn gweithredu y penwythnos diwethaf dros 3,000 o frechiadau gyda'r brechlyn Pfizer, er gwaethaf yr eira. Mae llawer o'r rheini, wrth gwrs, yn y grŵp blaenoriaeth i bobl dros 80 oed. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran cynyddu ein gallu i ddarparu'r brechlyn y tu allan i ganolfannau brechu torfol ac yn nes adref, yn enwedig yn y cymunedau lle mae mynediad at y canolfannau mwy o faint yn anodd. Bydd byrddau iechyd yn parhau i weithio gyda phractisau meddygon teulu ledled Cymru i weld a ellir cyflwyno hyn yn ehangach ac i adeiladu capasiti a chyflymder pellach ar gyfer darparu'r brechlyn Pfizer. Ac rydym hefyd yn gwneud cynnydd cadarn tuag at ein nod nesaf—sef cynnig brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis hwn. Ar hyn o bryd rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal bob dydd ar gyfartaledd. Eisoes mae dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal fan lleiaf, neu bron i 70 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn o leiaf, eisoes wedi cael eu dos cyntaf, ac mae mwy na thri chwarter staff ein cartrefi gofal hefyd wedi cael eu dos cyntaf.

Ac ar y cynnig gwreiddiol, er fy mod yn cydnabod ac yn parchu rôl Llywodraeth y DU yn sicrhau'r brechlynnau hanfodol hyn, ac mae gennyf berthynas waith ymarferol, aeddfed â Gweinidogion Whitehall, mae'r cyflenwad o frechlynnau bob amser yn rhan o'n trafodaethau. Rydym i gyd yn cydnabod na allwn lwyddo hebddo, ac mae darparu brechlynnau, wrth gwrs, yn fater o ffaith. Dechreuasom cyn gwledydd eraill Ewrop oherwydd bod y rheoleiddiwr annibynnol wedi cymeradwyo'r brechlynnau i'w defnyddio. Mae'r gadwyn gyflenwi brechlynnau ei hun yn gymhleth, ac mae ein cynlluniau'n addasu'n gyson i newidiadau i feintiau ac amserlenni cyflenwadau, ac mae gan bob un allu i effeithio ar y gwaith o gyflawni'r cerrig milltir yn ein cynllun. Ar hyn o bryd, mae gan fyrddau iechyd gynllun cydbwysedd sy'n cael ei adolygu'n gyson, yn unol â'r wybodaeth newidiol am yr amserlenni cyflenwi. Byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog brechlynnau i gael cadarnhad ffurfiol y cawn ddigon o frechlyn yn y tymor byr i allu brechu ein carreg filltir canol mis Chwefror o garfanau un i bedwar, er mwyn rhoi'r eglurder a'r sicrwydd sydd eu hangen i lywio ein disgwyliadau yn y broses gynllunio, a byddaf yn cyhoeddi'r llythyr a'r ymateb drwy ohebiaeth â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, felly bydd yr Aelodau'n gallu ei gweld.

O ran y canfyddiad o fiwrocratiaeth, mae byrddau iechyd eisoes yn gwneud y broses o gynnwys gwirfoddolwyr—[Anghlywadwy.]—mor syml â phosibl. Wrth gwrs, bydd rhai rhannau o'r broses yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch cleifion. Mae targedau clir eisoes wedi'u cyhoeddi yn y cynllun brechu, gyda gwybodaeth ddyddiol am nifer y bobl a frechwyd eisoes yn cael ei chyhoeddi a mwy o fanylion yn cael eu cynllunio o wythnos i wythnos. Mae llu o bobl yn rhan o'r rhaglen ddarparu, gan gynnwys y fyddin. Seilwaith cynaliadwy yw ein blaenoriaeth wedi bod ac mae bellach yn talu ar ei ganfed. Eisoes, mae gennym 30 o ganolfannau brechu torfol ac rydym yn defnyddio 70 o safleoedd ysbyty acíwt a chymunedol i gyflwyno mwy o ganolfannau wrth inni symud ymlaen drwy garfanau un i bedwar. Mae byrddau iechyd eisoes yn brechu saith diwrnod yr wythnos ac yn gweithio oriau estynedig. Rydym yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar apwyntiadau hwyr a chynnar, a byddwn yn parhau i adolygu wrth inni symud drwy'r carfannau oedran i sicrhau ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Ac wrth gwrs, mae gan Gymru Weinidog sy'n gyfrifol am frechlynnau eisoes, sef fi. Mae'n chwerthinllyd awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod cyflenwad o frechlynnau sy'n hanfodol i ddiogelu ein pobl. Nid yw hyn erioed wedi'i wneud ac ni fyddai byth yn cael ei wneud, ac mae'r awgrym yn gwbl ddi-sail. Mae defnyddio'r Senedd genedlaethol hon fel llwyfan ar gyfer ffuglen sy'n codi bwganod yn flinderus ac yn anghyfrifol, ac rwy'n siomedig o glywed y Ceidwadwyr yn helpu i hyrwyddo newyddion ffug ac yn barod i bleidleisio drosto.

Rwyf wedi ymrwymo i dryloywder yn y rhaglen gyflwyno. Yr wythnos diwethaf, dechreuasom ryddhau data bob dydd, i ddangos—

16:45

—cyfanswm cronnol y brechiadau a byddwn yn parhau i wneud hynny'n agored ac yn dryloyw. Mae ein rhaglen yn un fawr a chyflym. Cyn belled â'n bod yn derbyn ein cyfran deg o frechlynnau mewn amser teg, rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r cerrig milltir a nodir yn ein strategaeth.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Nid oes neb yn awgrymu bod hyn yn hawdd, a dyna pam na ddylai llongyfarch Llywodraeth y DU ar sicrhau cyflenwadau mor gyflym fod wedi bod yn anodd iawn. Ond mae arnaf ofn, Weinidog, eich bod chi a'r Prif Weinidog wedi gwneud hyn yn brofiad llawer mwy dyrys nag oedd angen, oherwydd y cyfathrebu gwael ynghylch eich cynlluniau, fel y nododd Laura Jones. Credaf mai'r peth lleiaf y gallwch ei wneud yw cael hynny'n iawn, oherwydd mae angen i'n hetholwyr ymddiried ynoch. Mae ein hen fyrddau iechyd yn ymdopi â hyn; maent yn gorfod dargyfeirio amser gwerthfawr i ateb cwestiynau etholwyr ar hyn i gyd oherwydd eich negeseuon canolog—er enghraifft, un etholwr sy'n ysgrifennu, 'Mae fy nhad wedi cael llythyr gan y GIG yn ei hysbysu y bydd ei feddygfa'n rhoi gwybod iddo pa bryd y mae i fod i gael y brechlyn. Mae gan y feddygfa nodyn ar ei gwefan yn dweud y byddant yn cael eu hysbysu gan y GIG pan fyddant i fod i gael y brechlyn.' Mae cyngor y GIG ar osgoi sgamiau yn dweud:

Mae'r brechlyn COVID-19 yn rhad ac am ddim

Ni fyddwn

byth yn gofyn am ddogfennau personol i brofi pwy ydych chi, er enghraifft eich pasbort, trwydded yrru, biliau neu slipiau cyflog.

Ond mae'r llythyr sy'n eich gwahodd i'r ganolfan frechu torfol yn dweud, 'Pan fyddwch chi'n mynychu, dewch â rhyw fath o brawf gyda chi, er enghraifft eich pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau yn eich enw i brofi mai chi ydych chi.'

Brechiadau i staff ysgol sy'n rhoi gofal personol i ddisgyblion sydd ei angen—a oes gwir angen imi fynd drwy'r tair fersiwn o'r cyhoeddiad hwnnw? Neu'r cwestiwn ynglŷn â hawl myfyrwyr ar leoliadau gwaith ym maes iechyd i gael brechiadau—nawr, yn amlwg, nid oedd prifysgolion yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y pryd, ac nid ydynt yn gwybod hynny o hyd. Heddiw, clywn hyn mewn llythyr gan brifysgol yng Nghymru at fyfyriwr: 'Rwy'n ymwybodol fod rhai ohonoch wedi cael brechiadau COVID-19 tra ar leoliad, ond ar hyn o bryd nid oes gennym ddata ar y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau i fyfyrwyr a hoffem gael rhagor o wybodaeth am hyn'. Ar ben hynny, mae gennym y sefyllfa hurt fod y broses o ddarparu'r brechlyn yn cael ei harafu fel nad yw'r rhai sy'n rhoi brechlynnau'n sefyll o gwmpas yn cicio'u sodlau, a 42,000 o bobl dros 80 oed yn aros am eu pigiadau oherwydd eira. Nid wyf yn credu hynny—rwy'n credu bod Angela Burns wedi'ch dal chi ar hynny.

Felly, nid oes dianc rhag y ffaith bod Cymru wedi llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU ar hyn—mawredd, rydych chi wedi bod yn gwthio i ddal i fyny y dyddiau diwethaf hyn, ond rydych chi'n dal ar ei hôl hi, fel y nododd Mark Reckless. Rydym i gyd yn dweud 'diolch' enfawr i'r rhai sydd wedi cael eu dargyfeirio i wneud y gwaith hwn ac sy'n gwirfoddoli mewn rolau cymorth, ond gallech fod wedi arbed llawer o ofid i chi'ch hun a'n hetholwyr drwy benodi Gweinidog dros dro i fod â chyfrifoldeb penodol dros y rhaglen frechu. Rydych wedi clywed heddiw gan Janet Finch-Saunders pa mor anghyson yw'r gwaith o'i chyflwyno wedi bod. Er gwaethaf eich—[Anghlywadwy.]—nid yw'n saith diwrnod yr wythnos ym mhobman. Ond fel y dywed Jenny Rathbone, os nad dyna sut y mae Llywodraeth yn gweithio, mae'n ei gwneud yn glir mai chi, Weinidog, sy'n gyfrifol am y methiannau yma.

16:50

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Rwy'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe bleidleisiwn ar hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Eitem 8 ar ein hagenda yw dadl Plaid Cymru ar lifogydd yn Rhondda Cynon Taf, a galwaf ar Leanne Wood i gyflwyno'r cynnig. Leanne.

Cynnig NDM7561 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n dychwelyd at y cwestiwn hwn o ymchwiliad annibynnol i lifogydd am yr eildro mewn ychydig dros fis, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Ar ôl y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020 a'r llifogydd sydyn a ddilynodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae yna gartrefi o hyd yn Rhondda Cynon Taf lle mae pobl yn aros iddynt gael eu hadfer. Ar wahân i rai o'r symudiadau tir sy'n peri mwy o bryder, ni wnaeth y glaw trwm yr wythnos diwethaf effeithio ar y Rhondda i raddau helaeth, diolch byth, ond gwn na fu llawer o bobl eraill mewn rhannau eraill o RhCT mor ffodus, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bob person y mae llifogydd ledled Cymru a thu hwnt wedi effeithio arnynt. Mae hyn i gyd yn dangos bod ein gwlad yn agored i niwed llifogydd. Mae hefyd yn dangos nad yw'r system bresennol yn amddiffyn ein dinasyddion na'n cymunedau. Rydym mewn argyfwng hinsawdd. Bellach, mae mwy o debygolrwydd y bydd patrymau tywydd eithafol yn dod yn fwy rheolaidd. Nid ydym yn gwybod sut y bydd y tywydd gwaeth hwn yn cyfuno â'n pyllau glo a'n mwynfeydd tanddaearol, ac mae angen inni wybod, a hynny ar frys.

Pan wnaethom drafod hyn ddiwethaf, ni chefais atebion i fy nghwestiynau, ac felly y tro hwn fe'i cadwaf yn syml. Mae gennyf un cwestiwn i'r Llywodraeth. Os yw Aelodau Seneddol Llafur o Rondda Cynon Taf yn galw am ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr, sut y gallwch wrthwynebu un yma yng Nghymru pan fo gennych bŵer i gychwyn un? Helpwch fi a'r miloedd o bobl a lofnododd ddeiseb yn galw am ymchwiliad llifogydd annibynnol i ddeall eich rhesymeg ar hyn. Gwyddom o ddogfen fewnol gan Lafur a ddatgelwyd yn answyddogol eich bod yn deall nad yw eich dull o ymdrin â pherygl llifogydd wedi bod yn ddigon da. Mae dogfen ymgynghori'r maniffesto yn cydnabod, ac rwy'n dyfynnu, 'yr angen am fuddsoddiad a newid polisi, er mwyn meithrin mwy o allu i wrthsefyll digwyddiadau tywydd garw o'r math a welsom yn 2020.' Mae hyn yn cyd-fynd â'r cyngor gan yswirwyr, sy'n annog Llywodraeth Cymru i wario mwy ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, cynyddu'r defnydd o fesurau gwrthsefyll llifogydd mewn eiddo, a newid y system gynllunio i atal datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd.

Rhaid i blannu coed fod yn elfen allweddol o atal llifogydd. Mae pobl yn y Rhondda yn deall yn rhy dda fod cwympo coed wedi cael effaith. Credant mai cwympo coed a'r methiant i gael gwared ar rwbel a malurion yw'r rheswm pam y gwelsant lifogydd yn eu cartrefi. Byddai ailblannu'r coed hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn diogelu bioamrywiaeth ac yn diogelu pobl rhag llifogydd, ac nid oes dadl ynglŷn â phwysigrwydd plannu coed. Ac eto, mae methiant truenus y Llywodraeth hon i gyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer plannu coed yn gofyn am drwbl. Gostyngwyd eich targed i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030 i 2,000 hectar. Nid oedd modd cyrraedd y targed llai uchelgeisiol hwn hyd yn oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydych wedi cyrraedd tua 300 hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, ac yn y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd, roedd yr ymdrech hyd yn oed yn waeth, sef 80 hectar wedi'i phlannu. Mae hyn yn echrydus. 

Ni allwn anwybyddu effaith ein gorffennol diwydiannol ar lifogydd. Dangosodd digwyddiadau'r wythnos diwethaf yn Sgiwen sut rydym yn dal i dalu'r pris am ddiwydiant trwm ymhell ar ôl i'r elw a'r swyddi ddiflannu. Gellir dweud yr un peth am yr ofn a deimlir yn ein cymunedau bob tro y bydd un o'n pyllau glo yn symud. Ym mhob rhan o Gymru, mae gennym hen fwyngloddiau, gwaith haearn a gweddillion diwydiannau trwm eraill y mae'n rhaid eu hystyried wrth roi sylw i effaith llifogydd a diogelu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol. Ond pwy sy'n edrych ar hyn i gyd mewn ffordd gydgysylltiedig, a phwy sy'n gwrando ar y bobl yr effeithir arnynt gan hyn i gyd? 

Mae'r rhain oll yn bethau y gellir eu dadansoddi a'u hystyried ymhellach mewn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Rhaid inni gael ymchwiliad annibynnol i edrych ar yr hyn a aeth o'i le, i ddeall pwy sy'n atebol ac yn bwysicaf oll, i weld beth sydd angen ei wneud i unioni pethau yn RhCT ac mewn mannau eraill. Gwrthodwch y ddau welliant 'dileu popeth'. Ymunwch â Phlaid Cymru a'r miloedd lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd y llynedd. Maent yn bendant yn ei haeddu. 

16:55

Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy:

a) sefydlu asiantaeth llifogydd i Gymru i gydlynu'r gwiath o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i lifogydd;

b) dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol;

c) cynyddu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli perygl llifogydd;

d) hwyluso ymchwiliadau annibynnol i lifogydd sylweddol er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu;

e) sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gynghorau, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd drwy'r cam glanhau cychwynnol yn effeithiol; a

f) gweithio gyda'r diwydiant yswiriant i sicrhau y gall cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n gysylltiedig â llifogydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac ydw, rwyf am gynnig y gwelliannau hynny. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r holl wasanaethau brys, ein hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd allan yr wythnos diwethaf yn cynorthwyo ein trigolion o ganlyniad i storm Christoph. Rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt. Fodd bynnag, dylem i gyd gynnig mwy nid yn unig i bobl Rhondda Cynon Taf, ond i bobl ledled Cymru, oherwydd mae cynifer o etholaethau yn rheolaidd bellach yn gweld eu hardaloedd yn cael eu distrywio. A hoffwn ddiolch i aelodau o'r gymuned, oherwydd, pan fydd y sefyllfaoedd hyn yn digwydd, maent yn mynd allan i helpu ar bob adeg o'r dydd, oriau cynnar a phopeth. 

Nawr, cam un, mae angen inni sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gael preswylwyr drwy'r cam glanhau cychwynnol. Rhaid dysgu gwersi o'r gorffennol. Croesewir y grantiau o £500 a £1,000, ond mae angen sicrwydd y bydd preswylwyr yr effeithir arnynt yn ei gael ar unwaith, gan fod 'ar unwaith' yn gallu golygu rhwng pedair a chwe wythnos i Lywodraeth Cymru weithiau, ac mae hynny'n rhy hir. Roedd ymchwiliad byr y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'ch ymateb i lifogydd mis Chwefror yn datgelu problemau difrifol. Fe ddywedoch chi wrth y pwyllgor y byddech yn dileu hen rwystrau ariannu i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni cynlluniau. Rhoddodd Caerffili, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf dystiolaeth glir i'r gwrthwyneb. Rhybuddiodd CLlLC hyd yn oed fod awdurdodau ymhell o fod yn gwbl barod a gwydn. Felly, sut rydych chi am ddileu rhwystrau ariannu y tro hwn, a grymuso awdurdodau lleol i weithredu cynlluniau'n gyflym?

Nawr, mae angen edrych ar CNC ar frys. Roedd y sefydliad eisoes yn mynd i'r frwydr wedi'i glwyfo. Mae angen hyd at 70 o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyffredinol ar y lefelau a ddisgrifir gan y camau gweithredu a'r gwelliannau yn yr adroddiad, 'Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd'. Dim ond hanner y nifer sydd ei hangen y mae CNC wedi'i gyflogi. Yn wir, o'r 2,000 o staff yn CNC, dim ond tua 300 sydd â rhyw fath o gyfrifoldeb dros lifogydd. Mae arnom angen tîm sy'n canolbwyntio 100 y cant ar lifogydd. Dylai fod gan Gymru asiantaeth lifogydd i gydlynu'r gwaith o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i ddigwyddiadau llifogydd. Byddai hyn yn helpu i liniaru camgymeriadau na ellir eu cyfiawnhau gan CNC. Mae angen dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl sylweddol o lifogydd. Rwyf wedi gwrando ar drigolion o Fangor Is-coed yn esbonio sut y mae nifer y cartrefi yr effeithir arnynt wedi dyblu o 200 i 550.

Ac yn olaf, mae'r gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dyffryn Conwy, a ledled Cymru sydd wedi dioddef llifogydd sylweddol yn haeddu ymchwiliadau annibynnol, bob un. Rwyf wedi bod yn gwneud y galwadau hyn ers 2019. Mae cynllun y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer gweithredu pendant yn un y dylech i gyd ei gefnogi. Diolch.

17:00

Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru;

b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch;

c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a

d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Gall llifogydd fod yn ddigon dinistriol pan fo'n digwydd unwaith i gymuned—y glanhau, y costau uchel, y cwmnïau yswiriant sy'n aml yn dod o hyd i fylchau yn y  polisi ac yn rhy aml yn gwrthod talu—ond agwedd arall yr hoffwn dynnu sylw ati yw'r effeithiau seicolegol y mae llifogydd yn eu cael ar y rhai y mae'n effeithio arnynt. Ym mis Chwefror y llynedd, cafodd trigolion Stryd Edward yn Ystrad Mynach eu deffro ynghanol y nos gan gymydog a oedd wedi sylwi ar y dŵr yn codi. Roedd llawer o'u ceir eisoes wedi'u dinistrio. Hanner awr yn ddiweddarach, roedd y dŵr wedi mynd i mewn i'w cartrefi. Ymwelais â'r trigolion yr wythnos honno, ac rwyf wedi bod yn ôl ychydig o weithiau ers hynny, a gallaf ddweud wrthych nad dicter neu rwystredigaeth yn unig y mae rhai o'r trigolion yn ei deimlo, ond ofn. Bob tro y mae'n bwrw glaw yn drwm, bob tro y cânt eu deffro yn y nos gan law ar y to, maent yn dechrau poeni: 'Beth os yw'n digwydd eto?'

Fis Chwefror diwethaf, ysgrifennais at y Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol i ofyn a ellid darparu cymorth cwnsela i blant yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Wrth gwrs, yn fuan wedi hynny, daeth y pandemig ac amharwyd ar drefn arferol yr ysgolion, ond ynghanol COVID, hoffwn i bawb ohonom gofio bod yn rhaid i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ym mis Chwefror aros gartref yn y tai hynny lle nad oeddent yn teimlo'n ddiogel. Mae hynny'n effeithio ar oedolion a phlant fel ei gilydd. Felly, pan soniwn am yr angen am well darpariaethau iechyd meddwl mewn ymateb i COVID—cam rwy'n ei gefnogi'n llwyr—gadewch inni gofio hefyd fod llawer o effeithiau'r llifogydd yn dal i loetran yn y cefndir.

Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon. Byddwn yn ychwanegu at ein cynnig. Byddwn yn galw am ailasesiad sylfaenol gan y Llywodraeth o'r ffordd y dylai wneud mwy na dim ond ymateb i lifogydd, a cheisio eu hatal, a dysgu gwersi. Mynegodd y trigolion yn Ystrad Mynach bryderon wrth y cyngor ar sawl achlysur, ond ni chawsant eu clywed. Nid oedd amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai fod wedi diogelu eu cartrefi yn eu lle mewn pryd. Dosbarthwyd bagiau tywod yn hytrach na gwneud yn siŵr fod draeniau heb eu blocio. Ddirprwy Lywydd, mae eu stori'n debyg i straeon ar strydoedd ledled Cymru, strydoedd sydd wedi dioddef llifogydd o'r blaen ac sydd, a bod yn onest, yn llawn o drigolion sy'n arswydo y gallai ddigwydd eto bob tro y mae'n bwrw glaw. Felly, rwy'n cefnogi'r galwadau am ymchwiliad a hoffwn annog y Llywodraeth ymhellach i gofio'r angen am gwnsela. Nid yw hynny wedi diflannu.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, wrth iddi ddod yn flwyddyn ers y llifogydd a effeithiodd yn wael iawn ar fy etholaeth. Ar y pryd ymwelais â'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gyda chynghorwyr lleol a'r Prif Weinidog, a chyfarfûm â theuluoedd y dinistriwyd eu cartrefi gan y llifogydd, ac rwyf wedi parhau i gyfarfod â hwy'n rheolaidd.

Nawr, gwnaed cryn dipyn o waith ers hynny, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Amcangyfrifir bod cost difrod i seilwaith Rhondda Cynon Taf yn unig yn fwy na £70 miliwn. Nid yw'r addewid o gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU wedi'i wireddu'n llawn eto; mae cael y rhandaliad cyntaf o £31 miliwn ganddynt wedi bod fel ceisio cael gwaed o garreg, ac rydym yn dal i wynebu ansicrwydd ynglŷn â'r gweddill. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid ydym wedi cael unrhyw gymorth o gwbl gan y Ceidwadwyr Cymreig i geisio cael y taliad a addawyd yn llawn.

Gwnaed gwaith sylweddol gan y cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru: mae cwlfertau wedi'u clirio a'u hatgyweirio, draeniau a ddymchwelwyd wedi'u hatgyweirio, draeniau wedi'u clirio, seilwaith ffyrdd a ddifrodwyd wedi'i drwsio, amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi'u hasesu a'u hatgyweirio, a phympiau wedi'u hadnewyddu. Gwn fod gwaith mawr wedi'i gynllunio yn fy etholaeth ar bontydd a ddifrodwyd yn Nhrallwn a Threfforest, ac mae'r gwaith hwn, rwy'n gwybod, yn mynd i barhau drwy gydol y flwyddyn. Ond dyna pam y mae'r cyllid a addawyd gan Lywodraeth y DU mor bwysig. Mae'r gwaith parhaus ar asesu perygl llifogydd yn ardal ehangach Taf Elái i asesu digonolrwydd cyffredinol yr amddiffynfeydd rhag llifogydd presennol a'r mesurau lliniaru yn bwysig iawn. Felly, byddaf fi a fy nghydweithwyr yn parhau i fonitro'r gwaith sy'n mynd rhagddo a'r cynlluniau ac yn sicrhau na fydd yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan lifogydd byth yn cael eu hanghofio.

Fel y dywedwyd, nid difrod ffisegol yn unig sy'n digwydd pan fydd ardal yn dioddef llifogydd, ceir creithiau meddyliol hefyd: yr effaith ar yr henoed a'r plant a'r pryder cynyddol sy'n digwydd pryd bynnag y ceir rhybudd llifogydd. Felly, credaf fod mynd i'r afael â lles meddyliol yn y gymuned yr un mor bwysig ag atgyweirio'r difrod ffisegol, a dyna pam y crybwyllais hyn wrth y bwrdd iechyd lleol er mwyn sicrhau bod yr holl gymorth iechyd meddwl sy'n angenrheidiol ar gael.

Felly, yn ogystal ag adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi'i gyhoeddi, rydym bellach yn aros am wyth adroddiad ymchwiliad llifogydd, a baratowyd yn unol ag adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Rwyf wedi cael gwybod bod y rhain i'w cyhoeddi'n fuan. Mae 11 adroddiad arall yn cael eu paratoi ar gyfer rhannau eraill o Rondda Cynon Taf. Ac rwyf wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi adroddiad fy ymchwiliad fy hun, gyda fy AS lleol Alex Davies-Jones, sy'n gynnyrch rhywbeth fel 30 o gyfarfodydd a gawsom. Ar fater ymchwiliad, hoffwn ddweud hyn: mae'r holl ymchwiliadau hyn eisoes ar y gweill, ac mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael eu cwblhau a'n bod yn gallu gwerthuso'u casgliadau. Ni fydd ymchwiliad arall eto wedi'i gynnal o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn ychwanegu unrhyw beth at yr hyn a wyddom eisoes a'r hyn a welwn o'r adroddiadau adran 19 hynny. Mae amser a lle i ymchwiliadau cyhoeddus ac er mor dda yw bwriad y cais, nid nawr yw'r adeg i'w wneud. Byddai sefydlu ymchwiliad o dan amodau'r Ddeddf yn golygu gohirio neu atal gwaith y mae mawr ei angen rhag cael ei wneud. A gwn o fy mhrofiad fy hun y byddai'n cymryd o leiaf 12 mis, ac yn ôl pob tebyg 18 i 24 mis fan lleiaf, i gwblhau ei waith, yn ogystal â'r amser sefydlu. Felly, mae'n llawer gwell gennyf fwrw ymlaen â'r gwaith. Yng ngoleuni'r holl ymchwiliadau sydd eisoes ar y gweill ac sydd bron â bod wedi'u cwblhau— 

17:05

—byddai sefydlu ymchwiliad statudol yn rhwystr i gynnydd go iawn. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn barod i weld y gwaith brys sy'n mynd rhagddo yn cael ei ohirio yn y ffordd hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Dwi am gefnogi, wrth gwrs, y cynnig yma. Mi fuasai natur y cynnig, dwi'n siŵr, yn wahanol iawn petai e heb gael ei osod cyn yr achosion o lifogydd a welon ni yn y dyddiau diwethaf, ond mae e yn gyfle, dwi'n meddwl, i ehangu ar rai o'r ymatebion sydd angen eu gweld. Mi wnes i, wrth gwrs, alw am gefnogaeth ariannol i'r rhai a gafodd eu heffeithio yn yr wythnos diwethaf, a dwi'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i'r un lefel o gefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'r tro hyn ag a gafwyd y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae yna wersi i'w dysgu o hynny hefyd, fel rŷn ni wedi clywed.

Mae'n bwysig bod yr oedi a welwyd mewn cael y taliadau yna allan y tro diwethaf ddim yn cael ei ailadrodd y tro hwn. Dyw hi ddim yn dderbyniol iddi gymryd hyd at ddau fis i'r bobl yma sydd wedi cael eu heffeithio i dderbyn y gefnogaeth, oherwydd rŵan maen nhw angen y gefnogaeth, rŵan maen nhw'n colli eu cyflogau a rŵan maen nhw angen ymateb i'r difrod a'r llanast sydd yn eu cartrefi a'u busnesau.

Mae hefyd angen help ymarferol ar y cartrefi a'r trigolion yma i wella cydnerthedd eu cartrefi yn syth, oherwydd mae nifer, wrth gwrs, yn ofn gweld achosion tebyg yn digwydd yn yr wythnosau nesaf o ail lifogydd, ac nid dim ond y rhai sydd wedi cael eu heffeithio ond y rhai a fuodd bron iawn â chael eu heffeithio hefyd, wrth gwrs, oherwydd rŷn ni'n sôn fan hyn am bethau fel gatiau llifogydd fyddai'n atal difrod i'r cartrefi fuodd o fewn trwch blewyn o gael difrod y tro diwethaf. Mae angen cynllun yn ei le sydd yn gallu ymateb i ddarparu hynny yn syth.

Mae angen cryfhau ar fyrder yr isadeiledd sydd wedi methu mewn rhai achosion dros y dyddiau diwethaf yma. Dwi'n gwybod yn fan hyn yn Rhuthun, mae'r trigolion lleol yn gofidio'n fawr iawn nad yw'r cyngor na Chyfoeth Naturiol Cymru, nac unrhyw un arall, wedi mynd ati i gryfhau'r bwnd wnaeth fod yn fethiannus yr wythnos diwethaf. Felly, mae angen rhoi tawelwch meddwl i bobl drwy ddatrys y problemau hynny, ond hefyd, wrth gwrs, sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto yn y tymor byr tra bod y datrysiadau tymor hir yma yn cael eu gweithredu arnyn nhw.

Oes, mae angen parhau i fuddsoddi mewn isadeiledd caled, ond mae angen gwell isadeiledd meddal hefyd. Mae hon yn thema rŷn ni'n dod yn ôl ati yn gyson, wrth gwrs: rheolaeth llifogydd naturiol; mwy o orlifdiroedd; mwy o goed, fel y clywon ni wrth i'r ddadl yma gael ei hagor; cau ffosydd. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am y pethau yma ers blynyddoedd mawr. Dŷn ni ddim wedi gweld yr interventions ar y lefel y byddem ni wedi disgwyl yn digwydd fel y byddem ni wedi gobeithio. Mae angen y capasiti o ran staffio ar Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae angen gwella mapiau llifogydd, sydd yn aml iawn yn ddim byd mwy na bys yn y gwynt. Felly, mae yna lawer y gellir ei wneud, a byddwn yn achub ar y cyfle yn y ddadl yma i annog y Llywodraeth nawr i weithredu ar bob un o'r materion yna.

17:10

I'r rheini sy'n dioddef llifogydd mae'r effaith seicolegol yn ddinistriol, ac mae'r rhain yn effeithiau y gallwn eu gweld yn glir yn ein cymunedau pan fyddwn yn cyfarfod â'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn siarad â hwy. Nid yw grym natur i achosi llifogydd dinistriol yn ddim byd newydd, ac eto nid oes amheuaeth, wrth i'r newid yn yr hinsawdd waethygu mae'r bygythiad o fwy o lifogydd yn ein cymunedau yn y dyfodol yn un difrifol, ac yn un y mae'n rhaid i lywodraethau ar bob lefel ddod at ei gilydd i fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol. 

Pan fydd cartrefi a busnesau'n dioddef llifogydd, mae'n bwysig fod yr awdurdodau perthnasol yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu a rhoi pethau yn ôl at ei gilydd. Pan effeithiodd storm Dennis yn wael iawn ar rannau o fy etholaeth yn ôl ym mis Chwefror y llynedd, ymwelais â llawer o'r rheini yr effeithiwyd arnynt gyda Gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, a gwelais â'm llygaid fy hun sut roedd staff Rhondda Cynon Taf wedi gweithio bob awr o'r dydd cyn, yn ystod ac ar ôl y storm i helpu pobl leol—pwynt pwysig a gydnabuwyd yn y rhan gyntaf o welliant y Llywodraeth. Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb a helpodd.

Mae'n bwysig inni ddysgu beth a ddigwyddodd, ble a pham y digwyddodd llifogydd, a'r hyn y mae angen inni ei wneud yn y dyfodol i liniaru eu heffaith. Rhaid inni gydnabod hefyd fod gan gyngor RhCT 28 o ymchwiliadau gwahanol ar y gwell i'r llifogydd y llynedd, yn ogystal â gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid rhoi cyfle i'r prosesau hyn ddod i ben yn hytrach na dim ond ailgychwyn y broses, lansio ymchwiliad newydd sy'n mynd dros hen dir pan fo'n gwasanaethau cyhoeddus o dan gymaint o bwysau ac yn mynd y tu hwnt i'r galw.

Ond wrth gwrs, nid yw aros i ymchwiliadau adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau yn golygu nad ydym yn gwneud dim. Yn hytrach, mae'n golygu y gellir gwneud ymyriadau ymarferol, ac maent yn cael eu gwneud yn awr. Er enghraifft, gellir gweithredu rhai o'r atebion hirdymor sy'n cydnabod topograffeg y Cymoedd a'r nifer fawr o geuffosydd er mwyn lliniaru effaith glaw trwm, dŵr ffo ar yr wyneb a sianeli dŵr gorlawn. 

Ymwelais ag un cynllun yn Nhrecynon, unwaith eto gyda Gweinidog yr amgylchedd, fis Awst diwethaf, lle roedd pwll arafu wedi'i greu, gan ddargyfeirio'r llif o gwlfert sy'n dueddol o orlifo a sefydlu cynefin newydd yn y broses. Ariannwyd hyn o dros £0.5 miliwn a roddwyd i gyngor RhCT i weithio ar atgyweiriadau ac adfer asedau lliniaru llifogydd gan Lywodraeth Cymru; mae mwy o arian ar gyfer cynlluniau eraill wedi'i ddyrannu ers hynny hefyd. Rwy'n croesawu'r dull hirdymor hwn o weithredu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad agos ag awdurdodau lleol blaengar. Mae gwaith arall a wnaed gan gyngor RhCT gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymyriadau yng Nghwm-bach i atal llifogydd sydd wedi peri trafferth i fusnesau lleol yno ers amser maith. Mae'r rhain i gyd yn fusnesau lleol sy'n cyflogi pobl leol ac yn cyfrannu at yr economi sylfaenol.

Pan gyfarfûm ag etholwyr yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd a siarad am yr anhawster i gael yswiriant, gallais roi gwybod iddynt am gynllun Flood Re a gefnogir gan y Llywodraeth. Dylid gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth ohono, a hoffwn weld y cynllun yn cael ei ymestyn fel y gall busnesau elwa o gymorth tuag at eu costau yswiriant uwch hefyd.

Yn olaf, hoffwn gofnodi'n ffurfiol fy niolch i Sefydliad Moondance ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo am eu cymorth i ariannu a gweinyddu cronfa lifogydd cwm Cynon a sefydlais gyda Beth Winter i gefnogi pobl leol y mae eu bywydau wedi'u troi wyneb i waered gan lifogydd.

17:15

A gaf fi alw ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl heddiw. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol dros ben, o ran effaith digwyddiadau llifogydd niferus ledled Cymru ar ein cymunedau, a'r pandemig byd-eang wrth gwrs.

Yr wythnos diwethaf gwelsom unwaith eto y difrod y gall llifogydd ei achosi o ganlyniad i storm Christoph, gyda thua 250 eiddo wedi dioddef llifogydd. Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd arnynt, ac mae llawer ohonynt yn dal i fethu dychwelyd i'w cartrefi. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sy'n ymwneud â'r ymateb i lifogydd a'r gwaith adfer, nid yn unig yr wythnos diwethaf, ond drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, wrth iddi nesáu at fod yn flwyddyn ers y llifogydd ym mis Chwefror, sef testun y ddadl heddiw. Heb weithredu cyflym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, ein gwasanaethau brys, cwmnïau dŵr a'r Awdurdod Glo, rwy'n sicr y byddem wedi gweld llawer mwy o gartrefi'n dioddef llifogydd. Rhaid inni hefyd gydnabod sut y diogelodd ein rhwydwaith o amddiffynfeydd filoedd o adeiladau a phwysigrwydd ein buddsoddiad parhaus i sicrhau bod yr eiddo hwn yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda.

Wrth gwrs, i'r bobl a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi, mae ymateb i lifogydd yn ymwneud â mwy na diwrnod y digwyddiad yn unig neu'r ychydig ddyddiau sy'n dilyn, ond yr wythnosau a'r misoedd wedyn hefyd. Rhaid i'n hymdrechion barhau i sicrhau bod ymchwiliadau'n digwydd i ddigwyddiadau o'r fath, fod pobl yn cael eu cefnogi, a bod gwelliannau'n cael eu gwneud i'n seilwaith a'n hamddiffynfeydd yn ogystal â rheoli dŵr yn ehangach. Yn dilyn y llifogydd fis Chwefror diwethaf, gweithiodd awdurdodau'n gyflym i gefnogi preswylwyr a oedd wedi gweld llifogydd yn eu cartrefi ac i atgyweirio asedau rheoli perygl llifogydd a ddifrodwyd. Ym Mhentre yn y Rhondda, er enghraifft, gwn fod yr awdurdod lleol eisoes wedi rhoi cynllun ar waith i wella'r cwrs dŵr mewn ymateb i fy her i awdurdodau rheoli perygl llifogydd y dylid cyflymu'r broses o gyflawni gwaith.

Yn dilyn llifogydd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi adroddiad ymchwiliad adran 19 i edrych ar y rhesymau dros y llifogydd, a chyflwyno argymhellion i leihau'r risg yn y dyfodol. Ar ôl eu cwblhau, cyhoeddir yr adroddiadau hyn ac maent yn destun craffu gan breswylwyr, aelodau etholedig a phawb sydd â diddordeb. Effeithiodd cyfyngiadau COVID-19 yn fawr ar yr ymchwiliadau hyn y llynedd, ac roedd angen i rai o'r awdurdodau lleol a ddioddefodd fwyaf roi blaenoriaeth i waith atgyweirio ac adfer ar draul ymchwiliadau. Fodd bynnag, mae gennyf hyder y bydd ein staff awdurdod lleol gyda'u hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn cwblhau'r adroddiadau hyn ac yn gweithredu arnynt lle bo'n briodol.

Y mis diwethaf, ymatebais yn fanwl yn y Senedd i gwestiwn ar ymchwiliad annibynnol. Cyhoeddais gymorth refeniw ychwanegol o £95,000 i fod ar gael i bob awdurdod lleol eleni i gefnogi eu gweithgareddau perygl llifogydd, ac yn benodol i helpu i gynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau eu hymchwiliadau. Cynhaliodd CNC ei adolygiad mewnol ei hun yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror, i ategu'r adroddiadau adran 19 ac mae'n darparu argymhellion ar gyfer eu gwella mewn perthynas â darogan, rhybuddio ac ymateb.

I ateb Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud i gefnogi ein hawdurdodau rheoli risg, rwy'n parhau i'w cefnogi ledled y wlad i atgyweirio asedau llifogydd a ddifrodwyd a sicrhau eu bod yn ailadeiladu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn y stormydd fis Chwefror diwethaf, gwnaethom weithredu'n gyflym ac yn bendant yn ein hymateb i wneud atgyweiriadau a gwelliannau angenrheidiol. Rhoddais gyfle i bob awdurdod rheoli risg wneud cais am gymorth ariannol i gyflawni gwaith atgyweirio brys ar asedau, gan ddarparu cyllid 100 y cant ar gyfer hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £4.6 miliwn ers hynny. Roeddwn yn falch iawn hefyd o'i chlywed yn canmol staff Cyfoeth Naturiol Cymru—nid yw'n rhywbeth y mae'n ei wneud fel arfer—a gallaf ddweud wrthi fy mod ym Mangor Is-coed ddydd Sadwrn, ac fe siaradais â nifer o drigolion a oedd yn canmol y ffaith fod yr afon ar ei huchaf ers tua 20 mlynedd mae'n debyg, a bod yr amddiffynfeydd wedi dal.

Mae gennym bolisi llain las eisoes, ac mae ar fin cael ei gryfhau gan nodyn cyngor technegol 15 a pholisi cynllunio. Mae hynny wedi'i nodi yn ein strategaeth newydd ar gyfer llifogydd. Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CNC i ddeall effaith storm Christoph yr wythnos diwethaf yn llawn a'r ffordd orau o'u cefnogi. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu taliadau cymorth, drwy awdurdodau lleol, o hyd at £1,000 i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan lifogydd yn eu cartrefi neu sydd, yn anffodus, wedi gorfod gadael eu cartref am fwy na 24 awr. Cyfeiriais yn awr at ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd—a rheoli perygl erydu arfordirol. Cyhoeddais honno fis Hydref diwethaf. Mae'n strategaeth uchelgeisiol ac mae'n ailddatgan y pwyslais a roddwn ar reoli perygl llifogydd, ynghyd â bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Rydym yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg a Chymdeithas Yswirwyr Prydain, sy'n cefnogi'r dull gweithredu a'r mesurau ychwanegol a nodir yn y strategaeth newydd.

Gwyddom y bydd newid hinsawdd yn arwain at lefelau'r môr yn codi a stormydd gwaeth yn y dyfodol, ac rwy'n cydnabod bod Cymru'n wynebu penderfyniadau anodd ar sut i amddiffyn ardaloedd arfordirol isel a gorlifdiroedd afonol, yn enwedig ar hyd ein haberoedd ac wrth gwrs, yn ein cymoedd serth. Mae ein strategaeth newydd yn nodi sut y bydd Cymru'n ymateb i'r heriau hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu clir ar risg, ac yn cryfhau ein safbwynt mewn meysydd yn cynnwys dulliau naturiol o reoli llifogydd, addasu arfordiroedd, cynllunio ac atal, gan gysylltu â deddfwriaeth Gymreig a meysydd polisi eraill i sicrhau dull cydweithredol. Er ein bod yn edrych i'r dyfodol, mae angen inni gofio bod yr ymdrechion adfer yn parhau mewn lleoedd fel Sgiwen, lle gwelsom olygfeydd eithriadol yr wythnos diwethaf. Hoffwn orffen drwy ddiolch unwaith eto i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith o helpu i sicrhau bod pobl yn ddiogel. Diolch.

17:20

Rydym i gyd yn aros yn eiddgar am ganlyniad proses adran 19, ac mae hynny ar fin digwydd, ond mae'r cyngor yn arwain ar hynny, ac yn amlwg, roedd gan y cyngor rôl i'w chwarae, ac mae ganddo rôl i'w chwarae yn y dyfodol, felly dyna pam na all y broses hon fod yn annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, a phob un o'r bobl a ddioddefodd lifogydd a arolygwyd gennym, wedi dweud mai dim ond ymchwiliad annibynnol fydd yn ddigon. Oni bai ein bod yn cael ymchwiliad annibynnol, nid wyf yn credu y cawn yr atebion sydd eu hangen arnom. Ac nid yw hyn yn ymwneud â'r staff; gwyddom i gyd fod staff ym mhob un o'r sefydliadau dan sylw wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi cymunedau drwy hyn. Mae hyn yn fwy na'r staff. Ni allwn dderbyn nad dyma'r amser, ac nid wyf yn derbyn y bydd ymchwiliad annibynnol yn gohirio gwaith arall. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw; dyna pam, os ydych am gefnogi pobl sydd wedi dioddef llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, y byddwch yn pleidleisio i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, heb ei ddiwygio, pam na fyddwch yn cefnogi'r gwelliannau 'dileu popeth', a pham y byddwch yn cefnogi'r ymchwiliad annibynnol y mae pobl yn yr ardal hon yn ei haeddu.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau. Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n mynd i atal y cyfarfod cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r cyfarfod wedi'i atal.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:23.

17:25

Ailymgynullodd y Senedd am 17:28, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig i enwebu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig hynny yn enw John Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, un yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Eitem 5 - Cynnig i enwebu ar gyfer penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro: O blaid: 48, Yn erbyn: 2, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar y ddadl o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ofal a chymorth i oroeswyr strôc. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hynny. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 13 yn ymatal a neb yn erbyn, ac felly'r mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 6 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Gofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc - cyflwynwyd yn enw Dai Lloyd: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflenwi a chyflwyno brechlynnau COVID. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, un yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

17:30

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, felly, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, pedwar yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 31, Yn erbyn: 16, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM7562 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn.

3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr.

4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol.

5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol:

a) erbyn canol mis Chwefror—cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

b) erbyn y gwanwyn—cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol;

c) erbyn yr hydref—cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, tri yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 32, Yn erbyn: 16, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar lifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, 14 yn ymatal ac mae 29 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 29, Ymatal: 14

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, tri yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 8 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf, felly, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 13 yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Eitem 8 - Gwelliant 2 - Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 28, Yn erbyn: 10, Ymatal: 13

Derbyniwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf wedyn yw'r cynnig wedi ei ddiwygio. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio, felly.

Cynnig NDM7561 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru;

b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch;

c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a

d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 14 yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 9, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau am y dydd heddiw, ond mae'r ddadl fer eto i'w chwblhau.

10. Dadl Fer: Paratoi at y dyfodol: manteision caeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru

Felly, dwi'n gofyn i gyflwynydd y ddadl fer honno i'w chyflwyno hi, a dwi'n galw felly ar Laura Anne Jones.

Parhewch, mae eich meic ar agor nawr. O, roedd eich meic ar agor cynt, felly—. Dyna chi.

Mae fy meic ar agor nawr. Mae'n ddrwg gennyf, fe gymerodd hynny beth amser. Diolch, Lywydd. Dadl yw hon ar baratoi at y dyfodol, am gaeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru. Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno y gall Jack Sargeant a Rhun ap Iorwerth gael amser i gyfrannu at y ddadl, a diolch iddynt ymlaen llaw am eu cyfraniadau.

Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cymryd rhan mewn chwaraeon i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon tîm yn hybu iechyd a lles, yn adeiladu hyder, yn meithrin disgyblaeth i weithio fel tîm, ac mae'n helpu i gynnal iechyd meddwl. Mae angen i'r Llywodraeth hon ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion o bob gallu yn y byd chwaraeon a phob rhan o Gymru, boed drefol neu wledig, yn gallu gwneud defnydd hawdd o gyfleusterau chwaraeon drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd yn agos at ble maent yn byw.

I'r rhai sydd angen eglurhad ynglŷn â'r hyn rwy'n sôn amdano, pan fyddaf yn sôn wrth rai pobl am 3G a 4G maent yn meddwl fy mod i'n siarad am signal ffôn, ac mae hynny'n ddigon teg; nid yw pawb yn dwli ar chwaraeon fel fi. Rwy'n sôn am gaeau chwaraeon porfa artiffisial, y gwahanol lefelau a'r gwahanol drwch ac ansawdd at ddefnydd proffesiynol neu gymunedol. Fodd bynnag, nid oes raid eich bod yn dwli ar chwaraeon i gydnabod pwysigrwydd cynyddol cyfleusterau o'r fath, sydd, fel gyda llawer o bethau, wedi cael ei amlygu gan y pandemig hwn. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i annog a hwyluso pethau i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon.

Cyn gynted ag y daw'n aeaf, rhaid i lawer o gyfleoedd chwaraeon ddod i ben am fod y tywydd yn effeithio ar ein caeau chwaraeon a'n gallu i hyfforddi neu chwarae gemau. Pan oeddwn yn ysgrifennydd clwb pêl-droed iau lleol, y rhwystr mwyaf i atal plant rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gydol y gaeaf oedd y tywydd a'i effaith ar y caeau chwaraeon porfa go iawn. Mae'r broblem fawr wedi sbarduno ymchwydd yn nifer y caeau pêl-droed porfa a gafodd eu troi'n gaeau chwaraeon trydedd genhedlaeth y gall y gymuned gyfan eu mwynhau heb boeni am ddifrodi'r cae. Nid yw'r straen i lawer iawn o glybiau o orfod canslo hyfforddiant a gemau'n barhaus drwy gydol misoedd y gaeaf, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfleusterau'n wael, yn ddigon da yn 2021.

Mae'n wir fod caeau chwaraeon artiffisial o ansawdd gwael yn y 1980au wedi creu stigma sy'n anodd ei ddileu, ond mae caeau chwaraeon synthetig wedi cyrraedd safon lawer uwch bellach na'r hyn a welid pan ddaethant yn boblogaidd am y tro cyntaf, ac mae hynny'n newyddion gwych i chwaraewyr a hyfforddwyr ac mae'n gorfodi gweithgynhyrchwyr i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau ansawdd.  Mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd timau pêl-droed llai nag unarddeg bob ochr yn golygu y bydd cyfran enfawr o chwaraewyr ifanc bellach yn datblygu eu sgiliau ar gaeau chwaraeon synthetig. O'r herwydd, mae llawer wedi arfer â'r cysondeb y mae gwasanaethau artiffisial yn ei gynnig ac mae llawer o'n trefi'n elwa o hynny, ond yn anffodus, nid yw hynny'n wir am lawer o'n hardaloedd gwledig. Heddiw, mae caeau chwaraeon porfa artiffisial yn gallu rhagori ar yr amodau chwarae a geir ar borfa naturiol, yn hytrach na dim ond eu hefelychu. Yn ogystal â'r cysondeb, mae'n well gan hyfforddwyr yr arwynebau hyn am eu bod yn efelychu'r ffordd y mae peli'n bownsio ac yn symud dros arwyneb naturiol.

Comisiynais ymchwil i'r angen a'r awydd am gaeau chwaraeon porfa artiffisial pan ymunais â'r Senedd y llynedd, a gwnaed y gwaith gan gyn bêl-droediwr Cymru a oedd â gwybodaeth a mynediad at bobl ar bob lefel o bêl-droed a chwaraeon a fyddai'n elwa o gael caeau caeedig o'r fath mewn clwb yn agos at ble roeddent yn byw. Roedd yr ymateb yn rhyfeddol ac yn ddiymwad, o glybiau chwaraeon iau ar lawr gwlad i reolwr tîm Casnewydd, Michael Flynn. Roedd yr angen am hyfforddiant a chyfleusterau chwarae pob tywydd yn amlwg. Bydd plant a phobl ifanc yn gallu chwarae drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau dilyniant yn eu lefelau ffitrwydd, o iechyd meddwl drwy chwarae chwaraeon a gweld eu ffrindiau, i ddysgu sgiliau allweddol, byddant yn gallu chwarae chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf, gan nad yw llawer o deuluoedd yn gallu cludo'u plant dros y pellter sydd angen ei deithio i gyfleusterau mewn trefi lleol y byddai'n rhaid i glybiau eu llogi, neu weld eu plant yn methu chwarae chwaraeon. Bydd yn sicrhau nad yw caeau pêl-droed a rygbi porfa arferol yn cael eu difetha drwy orchwarae pan fyddant yn ceisio chwarae yn y tywydd gwlyb a'r llaid. Mae oedolion hefyd am barhau i chwarae drwy gydol misoedd y gaeaf. Mae'n hanfodol i'n clybiau is-gynghrair eu bod yn parhau i hyfforddi a chwarae ac i'n holl gynghreiriau ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae ceisio ail-drefnu gemau'n drysu trefniadau ac yn creu trafferthion parhaus i glybiau chwaraeon.

Ar gyfer chwaraeon proffesiynol, byddai'n golygu eu bod ar yr un lefel â gweddill y DU a'r byd ac yn rhoi'r cyfleoedd gorau posibl inni ddatblygu plant yn sêr chwaraeon Cymru yn y dyfodol. Gallai clybiau proffesiynol chwarae a hyfforddi ym mhob tywydd drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau y gall gemau ddigwydd ac y gall clybiau ddatblygu academïau heb orfod poeni am gaeau chwaraeon.

Gallai gosod caeau 3G greu ffynonellau incwm newydd a mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel. Gellir chwarae ystod eang o chwaraeon ar y caeau 3G diweddaraf hyn yn ogystal â phêl-droed, sy'n golygu y gall clybiau cymunedol ddarparu cyfleusterau aml-chwaraeon, gan greu canolfannau hanfodol a fyddai'n sicr yn cael eu llogi'n llawn drwy gydol y flwyddyn, yn ôl y dystiolaeth a gasglais, gan fod cymaint o angen y cyfleusterau pob tywydd hyn.

Fel gydag unrhyw wariant ariannol, bydd angen i glybiau chwaraeon edrych ar y cyfnod ad-dalu a'r elw ar y buddsoddiad wrth ystyried porfa artiffisial. Rwy'n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Hoci Cymru, Undeb Rygbi Cymru, yn gweithio ar y cyd â Chwaraeon Cymru, wedi sefydlu gweledigaeth a model y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer datblygu clybiau a chynyddu nifer y rhai sy'n cymryd rhan drwy arwynebau chwarae wedi'u lleoli'n briodol ac addas i'r diben. Rwyf wedi cael sgwrs gyda'r sefydliadau hynny sy'n cytuno'n llwyr fod angen dybryd i Gymru fuddsoddi mewn mwy o gaeau chwaraeon 3G a 4G at ein defnydd cymunedol a phroffesiynol. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sefydlu targed o 100 o gaeau chwaraeon 3G yng Nghymru erbyn 2024. Mae hyn i'w groesawu'n fawr, ond ymhle? Byddwn yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau ei bod yn cyflwyno—i gael mwy o gaeau chwaraeon, ac i fynd ymhellach ar gyfer pob rhan o Gymru. Mae angen iddi fynd ymhellach i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa o ehangu'r nifer o gaeau chwaraeon porfa artiffisial, gan eu bod i'w gweld yn bennaf mewn ardaloedd trefol ac yn ne Cymru ar hyn o bryd.

Lywydd, fel y gallwch ddweud, rwy'n credu'n angerddol yn y manteision o fuddsoddi mewn cyfleusterau 3G a 4G pob tywydd ar gyfer chwaraeon cymunedol a'n clybiau cynghrair, ac i gymunedau eu mwynhau. Mae cynifer o fanteision i'n gwlad; o ran chwaraeon, ond hefyd o ran y manteision iechyd meddwl i bobl hen ac ifanc. Byddai'n diwygio rygbi, pêl-droed a chwaraeon eraill ar lawr gwlad yn llwyr ar gyfer pob oedran a phob gallu. Byddai'n rhoi cyfle cyfartal i'n chwaraewyr proffesiynol ddatblygu eu gêm, gan sicrhau nad ydym yn colli sêr y dyfodol i Loegr oherwydd bod y cyfleusterau gymaint yn well dros y ffin. Mae'n bryd i Gymru ddal i fyny.

Fe'm digalonnwyd pan glywais ychydig flynyddoedd yn ôl wrth wneud cais am gae chwarae fy hun fod yr arian wedi dod i ben ar gyfer cyflwyno'r caeau chwaraeon 3G a 4G hyn. Nid wyf am wneud hwn yn fater pleidiol o gwbl mewn gwirionedd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd y Llywodraeth i gyflwyno'r caeau chwaraeon hyn ymhellach. Ond rwy'n gofyn i'r Llywodraeth hon a'r nesaf fuddsoddi'n helaeth a buddsoddi'n gyflym i gyflwyno rhaglen ar gyfer sicrhau caeau chwaraeon 3G a 4G pob tywydd ar gyfer cynifer o rannau o Gymru â phosibl, caeau chwaraeon sy'n hawdd i bob cymuned eu cyrraedd, mynediad at chwaraeon 3G a 4G i bawb ym mhob rhan o'n gwlad, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd gwledig, a dull cydgysylltiedig o gefnogi ein his-gynghreiriau gyda'r cyfleusterau hynny, fel y gallwn gefnogi'r broses ar yr un pryd o greu mwy o academïau a mwy o gyfleoedd i'n pobl ifanc allu rhagori mewn chwaraeon. Rwy'n gofyn i bawb ohonoch gefnogi hyn. Diolch.

17:40

Diolch i Laura Anne Jones am ganiatáu imi siarad yn y ddadl fer bwysig hon. Rwyf finnau hefyd yn angerddol iawn, fel Laura, ynglŷn â gwella cyfleusterau chwaraeon, nid yn unig yn fy nghymuned i ond ledled Cymru, a gwn am y gwahaniaeth y gall caeau chwaraeon artiffisial ei wneud.

Cymuned sydd ag achos go iawn dros ddatblygu caeau chwaraeon artiffisial yw Bwcle yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae ganddynt glwb pêl-droed anhygoel ag iddo gefnogaeth gref yn lleol, sef tîm Bwcle. Maent wedi cael brwydrau enfawr dros y blynyddoedd gyda phroblemau'n ymwneud â draenio, ac ni fyddai'n anghyffredin mewn tymor arferol i'r tîm ohirio'r rhan fwyaf o'u gemau cartref oherwydd y broblem. Ac mae hon yn broblem go iawn ym Mwcle, fel y mae ar draws etholaethau a chymunedau eraill ledled Cymru.

Lywydd, rwyf wedi cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru a byddaf yn defnyddio'r cyfnod ar ôl COVID i annog y sefydliadau hyn i gefnogi cae chwaraeon artiffisial ar gyfer Bwcle, ochr yn ochr â'r awdurdod lleol a'r cynghorwyr lleol. Ond rwy'n credu bod Laura Anne Jones wedi gwneud pwynt da yn ei chyfraniad, a byddaf yn annog y Gweinidog sy'n gyfrifol heddiw, y Dirprwy Weinidog chwaraeon, i gefnogi'r prosiectau hyn, ond byddaf hefyd yn annog y Gweinidog yn y dyfodol a fydd yn gyfrifol am y mathau hyn o ddatblygiadau i gefnogi ac i ddefnyddio'u dylanwad ar ran y datblygiadau cymunedol hyn, sydd mor bwysig i gynifer o bobl.

Lywydd, wrth orffen, mae angen cae ar Bwcle, ac nid ar gyfer pêl-droed ar ddydd Sadwrn yn unig; mae ar gyfer cymuned gyfan, drwy'r wythnos, drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n rhaid i bawb ohonom wneud popeth yn ein gallu i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cyfle gan Laura i ddweud gair neu ddau. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon i. Mae adnoddau bob-tywydd mor, mor bwysig. Dwi wedi chwarae ac wedi hyfforddi ar gaeau 3G, gan gynnwys chwarae i'r Senedd ar Barc yr Arfau Caerdydd, ac mae'r cae 3G yn Llangefni wir wedi ein galluogi ni fel clwb rygbi i hyfforddi ieuenctid reit trwy'r tywydd gwaethaf mae Ynys Môn yn gallu taflu atom ni. Ond mae'n rhaid i ni gael mwy o adnoddau fel hyn. Dwi wedi bod yn gwneud cymaint â gallaf i drio tyfu cefnogaeth a chael buddsoddiad i gaeau 3G newydd yn Amlwch a Chaergybi. Mae yna fenter gymunedol yn gwneud gwaith gwych yn Amlwch. Mae yna gynllun i Gaergybi rŵan, er nid cae maint llawn—dwi'n cario ymlaen i wthio tuag at gael yr adnoddau gorau posib ar gyfer y dref. Felly, gadewch i ni wir blaenoriaethu, gadewch i ni weld y Llywodraeth wir yn blaenoriaethu, buddsoddi mewn adnoddau pob tywydd am eu budd iechyd a'u budd cymunedol nhw.

17:45

Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas.

Gaf i ddiolch yn fawr, yn gyntaf, i Laura Anne?

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amserol iawn. Mae'n amserol i mi, fel y Gweinidog chwaraeon presennol, ond mae hefyd yn amserol yn yr argyfwng hwn, oherwydd nid oes dim wedi dangos yn fwy eglur pa mor bwysig—hanfodolrwydd, ddywedwn i, yr angen hanfodol—am ymarfer corff, ac i roi dewis o ymarfer corff i bobl, na'r argyfwng rydym wedi bod drwyddo.

Fe wnaf ateb gyda fy araith weinidogol ffurfiol braf yn Gymraeg. Rwy'n gwybod na fyddwch yn gwrthwynebu hynny, oherwydd rydych wedi arfer gwrando arnaf drwy gyfieithiad, ac yn ôl pob tebyg, fe fydd yn swnio'n well nag y swniaf yn y gwreiddiol.

Fel y dywedais i, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ac mae chwaraeon wedi cael eu heffeithio yn arbennig. Roeddwn i'n falch o allu cyhoeddi'r pecyn yn gynharach yr wythnos yma o £17 miliwn, sy'n golygu y bydd yna gyfanswm cyllid ar gyfer y sector chwaraeon o £40 miliwn ers dechrau'r argyfwng yma. Rydym ni yn gyfan gwbl gefnogol fel Llywodraeth i'r hyn a ddywedwyd yn gynharach yn y ddadl yma.  

Mae gan Gymru ar hyn o bryd, yn ôl ffigyrau Chwaraeon Cymru—ac maen nhw wastad yn gywir—84 o gaeau 3G maint llawn, a 77 o gaeau gyda thywarch artiffisial hoci maint llawn, a 116 o gaeau artiffisial eraill. Ond dwi ddim yn siŵr os mae 'caeau artiffisial' yw gair dwi'n ei hoffi yn Gymraeg neu Saesneg, achos caeau bob tywydd ydy'r rhain. Maen nhw'n dal yn feysydd chwarae, felly ddylem ni ddim yn eu galw nhw caeau—meysydd chwarae bob tywydd rydw i am eu galw nhw. Mewn tywydd fel sydd gyda ni yng Nghymru, mae hynny'n hanfodol. Mae'n rhaid inni gael cyfleusterau cyfoes er mwyn sicrhau bod cyfranogaeth pobl ym mhob tywydd mewn chwaraeon yng Nghymru yn gallu digwydd.

Felly, mae'r buddsoddiad rydym ni wedi'i wneud yn barod ar gaeau yn dangos y posibiliadau. Mae gyda ni ar hyn o bryd grŵp cyfleusterau, fel y gwyddoch chi, grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cael ei arwain gan Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, yr undeb rygbi a Hoci Cymru, i sefydlu arwynebau chwarae artiffisial—dwi newydd wrthod y gair yna, felly gwnaf ei newid o—arwynebau chwarae penodol pob tywydd ledled Cymru. Yn ogystal â'r £3 miliwn a fuddsoddwyd pan sefydlwyd y grŵp yma, mae yna £731,000 ychwanegol wedi'i fuddsoddi mewn caeau tywarch ledled Cymru trwy gymorth y gronfa cyfalaf newydd gwerth £5 miliwn a gyhoeddwyd gen i y llynedd. Mae hynny'n golygu bod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi gallu cefnogi'r 77 o gaeau pêl-droed artiffisial, efo targed o 100, fel y clywsom ni, erbyn 2024.

Felly, beth sy'n rhoi llawenydd mawr i mi heno yw bod yna gefnogaeth tair plaid i'r project yma. Os gallaf i wneud un peth ar ddiwedd fy nhymor fel Gweinidog chwaraeon, sicrhau bod chwaraeon wastad yn fater y bydd pob plaid yng Nghymru yn ei gefnogi heb ddadlau amdano, a hefyd yn cefnogi'r modd y gallem ni ddatblygu ein projectau. Felly, dwi'n ddiolchgar i Jack Sargeant, Rhun ap Iorwerth a Laura am eu cyfraniad i'r ddadl yma. Diolch yn fawr. 

17:50

Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, a dyna ni, dyna ddod â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben. Prynhawn da, bawb. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.