National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/07/2018

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 1. Questions to the Cabinet Secretary for Finance
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip 2. Questions to the Leader of the House and Chief Whip
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad 3. Questions to the Assembly Commission
4. Cwestiynau Amserol 4. Topical Questions
5. Datganiadau 90 Eiliad 5. 90-second Statements
6. Datganiad gan Paul Davies: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod—Bil Awtistiaeth (Cymru) 6. Statement by Paul Davies: Introduction of a Member Proposed Bill—Autism (Wales) Bill
7. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru 7. Statement by the Chair of the Public Accounts Committee on the outgoing Auditor General for Wales
8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 8. Debate on the Standards of Conduct Committee's Report 02-18 to the Assembly under Standing Order 22.9
9. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18 9. Motion to note the annual report on the Assembly Commission's Official Languages Scheme for 2017-18
10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel 10. Debate on the Equality, Local Government and Communities Committee report: Making the economy work for people on low incomes
11. Cyfnod Pleidleisio 11. Voting Time
12. Dadl Fer: Gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru 12. Short Debate: The implementation of default 20 mph speed limits in built-up and residential areas in Wales

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
1. Questions to the Cabinet Secretary for Finance

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Finance, and the first question is from Russell George.

Twristiaeth
Tourism

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector twristiaeth? OAQ52538

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on business rate relief for the tourism sector? OAQ52538

Diolch yn fawr, Llywydd. We support businesses across Wales, including those in the tourism sector, through a range of relief schemes. In the current financial year, we will provide £210 million in reliefs, supporting more than three quarters of Welsh business rate payers.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn cefnogi busnesau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn y sector twristiaeth, drwy ystod o gynlluniau rhyddhad ardrethi. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn darparu £210 miliwn mewn rhyddhad ardrethi, gan gefnogi mwy na thri chwarter o dalwyr ardrethi busnes yng Nghymru.

There is a system called check, challenge, appeal that operates in England, which allows businesses to check the facts about their properties and view valuations before deciding whether to challenge the valuation. This seems to minimise uncertainty and ensure businesses reach a resolution quicker. It also reduces uncertainty for local authorities, who, of course, have to set aside money to cover potential appeals. So, I wonder whether you intend to bring forward such a system here in Wales.

Secondly, I wonder whether you could comment on the need to reform business rates in the tourism sector, with the likes of Airbnb and other businesses competing with those types of businesses, and also the likes of businesses, such as in my own constituency, where some operators own, for example, four self-catering units on one site, and they're competing against businesses that have far more self-catering units but scattered across a wide area and who pay no business rates at all, but they do pay council tax at a much lower rate. So, I wonder whether you could comment on the reform that's needed in the tourism sector in this regard, and I have written to you with a proposal from a constituent about a flat rate of 25 per cent across all tourism businesses, regardless of size.

Mae system o'r enw gwirio, herio, apelio ar waith yn Lloegr, sy'n caniatáu i fusnesau wirio'r ffeithiau am eu heiddo a gweld prisiadau cyn penderfynu herio'r prisiad. Ymddengys bod hyn yn lleihau ansicrwydd ac yn sicrhau bod busnesau yn canfod ateb yn gyflymach. Mae hefyd yn lleihau ansicrwydd i awdurdodau lleol, sydd wrth gwrs yn gorfod neilltuo arian ar gyfer apeliadau posibl. Felly, tybed a ydych yn bwriadu cyflwyno system o'r fath yma yng Nghymru.

Yn ail, tybed a allech roi sylwadau ar yr angen i ddiwygio ardrethi busnes yn y sector twristiaeth, gyda busnesau fel Airbnb a busnesau eraill sy’n cystadlu â'r mathau hynny o fusnesau, yn ogystal â'r math o fusnesau, megis rhai yn fy etholaeth fy hun, lle mae rhai gweithredwyr yn berchen, er enghraifft, ar bedair uned hunanddarpar ar un safle, ac maent yn cystadlu â busnesau sydd â llawer mwy o unedau hunanddarpar ond sydd wedi'u gwasgaru ar draws ardal eang ac nid ydynt yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, ond maent yn talu’r dreth gyngor ar gyfradd is o lawer. Felly, tybed a allech roi sylwadau ar y diwygio sydd ei angen yn y sector twristiaeth yn hyn o beth, ac rwyf wedi ysgrifennu atoch gyda chynnig gan etholwr am gyfradd safonol o 25 y cant ar gyfer pob busnes twristiaeth, waeth beth fo'i faint.

Well, Llywydd, I thank Russell George for those follow-up questions. We have recently completed a consultation on reform of the appeals system in the business rate sector, and it is an area that is ripe for reform, and we do intend to bring forward proposals. We do not intend simply to import into Wales the check, challenge, appeal system as it has been applied in England, where there are many businesses who feel that the playing field has been tilted significantly against them and that their appeals are not fairly heard. So, while I agree with Russell George there is genuine room for simplifying the system, for making it more efficient, for eliminating appeals that never end up finally being heard, I still want to retain a system that is clearly fair to businesses who have a legitimate reason for making an appeal.

The Member is also right to point to the unfairness, as many in the tourism sector see it, in competition from organisations like Airbnb, who are not physically located in Wales and therefore don't have to pay business rates, while a business on the street somewhere in a town in Wales does. We are looking to see whether it is possible to address that issue. It is more likely, I think, to be addressed by the Chancellor of the Exchequer, who has recently said that he intends to investigate changes to tax legislation to see whether Amazon—another example of an organisation that doesn't pay business rates, while a small bookshop on a high street will—. So, we keep a watching brief on that issue, knowing that there are some unfairnesses in the system.

And, finally, on his point in relation to self-catering units, I've had correspondence, as he says, from himself, I've had it from Kirsty Williams, I've had it from Eluned Morgan, and we will look carefully at the proposals that have been put to us. I think it's fair, Llywydd, for me to say that we already provide extensive rate relief to small business—it's a small business rate relief scheme. And, sometimes, organisations that have a large cluster of tourism outlets do not qualify within the rules of the scheme as it stands. But I'm aware of the issue, grateful for the correspondence, and we will continue to take a close look at it.

Wel, Lywydd, diolch i Russell George am y cwestiynau dilynol hynny. Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ymgynghoriad ar ddiwygio'r system apeliadau yn y sector ardrethi busnes, ac mae'n faes sy'n barod i gael ei ddiwygio, ac rydym yn bwriadu cyflwyno argymhellion. Nid ydym yn bwriadu mewnforio Cymru i'r system gwirio, herio, apelio fel y'i defnyddir yn Lloegr, lle mae llawer o fusnesau'n teimlo nad ydynt yn cael chwarae teg o gwbl ac nad yw eu hapeliadau yn cael eu clywed yn deg. Felly, er fy mod yn cytuno â Russell George fod taer angen symleiddio'r system, ei gwneud yn fwy effeithlon, a chael gwared ar apeliadau nad ydynt yn cael eu clywed yn y pen draw, rwy'n dal i fod eisiau cadw system sy'n amlwg yn deg i fusnesau sydd â rheswm dilys dros apelio.

Mae'r Aelod hefyd yn iawn i dynnu sylw at yr annhegwch, fel y mae nifer yn y sector twristiaeth yn ei weld, yn y gystadleuaeth gan sefydliadau fel Airbnb, nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru yn ffisegol ac felly nid oes yn rhaid iddynt dalu ardrethi busnes, tra bo busnes ar y stryd rywle mewn tref yng Nghymru yn gorfod gwneud hynny. Rydym yn archwilio i weld a oes modd mynd i'r afael â'r mater hwnnw. Credaf ei fod yn fwy tebygol o gael sylw gan Ganghellor y Trysorlys, sydd wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn bwriadu ymchwilio i newidiadau i ddeddfwriaeth treth i weld a yw Amazon—enghraifft arall o sefydliad nad yw'n talu ardrethi busnes, tra bo siop lyfrau fechan ar y stryd fawr yn gwneud hynny—. Felly, rydym yn cadw llygad ar y mater hwnnw, gan wybod bod rhywfaint o annhegwch yn y system.

Ac yn olaf, ar ei bwynt ynglŷn ag unedau hunanddarpar, rwyf wedi cael gohebiaeth, fel y dywed, ganddo ef, gan Kirsty Williams, gan Eluned Morgan, a byddwn yn archwilio'r argymhellion a gyflwynwyd i ni yn ofalus. Credaf ei bod yn deg imi ddweud, Lywydd, ein bod eisoes yn darparu rhyddhad ardrethi helaeth i fusnesau bach—cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ydyw. Ac weithiau, nid yw sefydliadau sydd â chlystyrau mawr o safleoedd twristiaeth yn gymwys o fewn rheolau'r cynllun fel y mae. Ond rwy'n ymwybodol o'r mater, rwy'n ddiolchgar am yr ohebiaeth, a byddwn yn parhau i'w ystyried yn ofalus.

Cabinet Secretary, the tourism sector is a wide-ranging area. It covers places like the Glyncorrwg ponds, or the mountain bikes that are in Glyncorrwg, but those also cover the self-catering units where people stay at to use those systems. But what serves that self-catering sector also are our small businesses, which serve the community as a whole, and very often as a single business within that community, and, if that business was lost, at off-peak times we would see the community suffer as well. Will you look at expanding the opportunities to small businesses in communities that serve the tourism sector but also serve the community, because the business rate relief for some of those is still forcing them, in off-peak times, to struggle?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r sector twristiaeth yn faes eang. Mae'n cynnwys lleoedd fel pyllau Glyncorrwg, neu'r beiciau mynydd yng Nglyncorrwg, ond mae rheini hefyd yn cynnwys yr unedau hunanddarpar y mae pobl yn aros ynddynt er mwyn defnyddio'r systemau hynny. Ond mae ein busnesau bach hefyd yn gwasanaethu'r sector hunanddarpar hwnnw, ac maent yn gwasanaethu'r gymuned gyfan, ac yn aml iawn fel un busnes o fewn y gymuned honno, a phe bai'r busnes hwnnw'n cael ei golli, ar adegau allfrig, byddem yn gweld y gymuned yn dioddef hefyd. A wnewch chi ystyried ehangu'r cyfleoedd i fusnesau bychain mewn cymunedau, sy'n gwasanaethu'r sector twristiaeth, ond sydd hefyd yn gwasanaethu'r gymuned, gan fod y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai ohonynt yn golygu, yn ystod oriau allfrig, eu bod yn ei chael hi’n anodd?

13:35

I understand the point the Member makes very well. Llywydd, there are just over 5,000 properties classified as self-catering businesses in the data collection exercise carried out in 2017, and, of those, 96 per cent of them, over 4,800, were in receipt of assistance from the small business rate relief scheme. The wider point that David Rees points is to the case for aligning small business rate relief with the social as well as the economic purposes of the Welsh Government. We have an indiscriminate system. Businesses get small business rate relief whether that relief is essential to their business or not, and I'm interested to look at reforms that would better align the money that the public purse provides in this area with the economic and social outcomes that we are seeking to achieve. 

Rwy'n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn dda iawn. Lywydd, dosbarthwyd ychydig dros 5,000 eiddo yn fusnesau hunanddarpar yn yr ymarfer casglu data a gynhaliwyd yn 2017, ac o'r rheini, roedd 96 y cant ohonynt, dros 4,800, yn derbyn cymorth gan y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Y pwynt ehangach y cyfeiria David Rees ato yw’r achos dros alinio rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gyda dibenion cymdeithasol yn ogystal â dibenion economaidd Llywodraeth Cymru. Mae gennym system anwahaniaethol. Mae busnesau’n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach boed y rhyddhad hwnnw'n hanfodol i'w busnes ai peidio, ac rwy'n awyddus i edrych ar ddiwygiadau a fyddai'n alinio’r arian y mae pwrs y wlad yn ei ddarparu yn y maes hwn yn well gyda'r canlyniadau economaidd a chymdeithasol rydym yn ceisio’u cyflawni.

Brexit
Brexit

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cytuno ar fargen â 27 aelod-wladwriaeth yr UE ar y trefniadau ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ52535

2. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact on Wales of the UK Government not reaching a deal with the EU-27 on the arrangements for leaving the EU? OAQ52535

I thank the Member for that question. The UK Government’s chaotic handling of Brexit undoubtedly risks a catastrophic 'no deal'. The White Paper published by the UK Government finally set out a change of direction. It must now move away from their red line strategy towards the right form of Brexit, as we set out over 18 months ago in 'Securing Wales’ Future'.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nid oes amheuaeth fod y ffordd anhrefnus y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit yn peri risg drychinebus o 'ddim bargen'. Nododd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU newid cyfeiriad o’r diwedd. Mae'n rhaid iddi symud yn awr oddi wrth eu strategaeth linell goch tuag at Brexit o’r math cywir, fel y nodwyd gennym dros 18 mis yn ôl yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Thank you for that response, Cabinet Secretary. With Tories resigning almost every day, and others doing all they can to undermine their beleaguered Prime Minister, I'm sure I'm not alone in finding the whole debacle around the Brexit negotiations pretty alarming for the future of Wales. At the very moment when calm heads are required in order to deal with a tough set of negotiations, all we can see is a process that appears out of control and is plunging us towards the prospect of a disastrous 'no deal' and all the damage that that will cause. Now, as you know, Cabinet Secretary, I have much experience of negotiation, and one thing I do know is that when you're in a hole you stop digging. So, would you agree with me that, for everyone's sake, it's now time to call for a pause and to ask the EU-27 to extend the timetable so that this job can be done properly?

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda Thorïaid yn ymddiswyddo bron bob dydd, ac eraill yn gwneud popeth yn eu gallu i danseilio eu Prif Weinidog sydd dan warchae, rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un sy’n credu bod holl ffiasgo trafodaethau Brexit yn peri cryn bryder ar gyfer dyfodol Cymru. Ar yr union adeg pan fo angen bod yn ddigynnwrf er mwyn ymdrin â negodiadau anodd, yr unig beth a welwn yw proses sy'n ymddangos fel pe bai allan o reolaeth ac sy’n ein harwain tuag at y posibilrwydd trychinebus o 'ddim bargen' a'r holl ddifrod y bydd hynny’n ei achosi. Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf gryn brofiad o negodi, ac un peth rwy'n ei wybod yw eich bod yn rhoi'r gorau i gloddio pan ydych mewn twll. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, er lles pawb, ei bod bellach yn bryd galw am seibiant a gofyn i 27 yr UE ymestyn yr amserlen fel y gellir gwneud hyn yn iawn?

I thank the Member for that question. Indeed, she is a very experienced and formidable negotiator in my experience of being on the opposite side of the table to her. I agree that the chaos in the UK Government is deeply alarming. She proposes extending the article 50 deadline, and that may yet be needed, although I think we should be under no illusions about the difficulties that would lie in the path of achieving that. The real solution is for the Prime Minister to come forward, vigorously defend an approach that clearly embraces participation in the single market and the customs union, which would resolve the issue of the Irish border and the damage that that is doing to the potential withdrawal agreement. The withdrawal agreement has another deadline in it as well, Llywydd, which we discussed on the floor of the Assembly yesterday, and that is the deadline around the transition period. It makes no more sense to have a cliff edge in December 2020 than in March 2019, and we need flexibility on that issue as well.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn wir, mae'n negodydd profiadol ac effeithiol iawn o fy mhrofiad o fod ar ochr arall i'r bwrdd oddi wrthi. Rwy’n cytuno bod yr anhrefn yn Llywodraeth y DU yn peri cryn bryder. Mae'n cynnig ymestyn terfyn amser erthygl 50, ac efallai y bydd angen gwneud hynny o hyd, er fy mod yn credu y dylem fod yn gwbl ymwybodol o’r rhwystrau a fyddai’n ein hwynebu wrth geisio cyflawni hynny. Yr ateb go iawn fyddai pe bai Prif Weinidog y DU yn camu ymlaen i amddiffyn dull sy'n amlwg yn cefnogi cyfranogiad yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a fyddai'n datrys mater ffin Iwerddon a'r difrod y mae hynny’n ei wneud i'r cytundeb ymadael posibl. Mae’r cytundeb ymadael yn cynnwys terfyn amser arall hefyd, Lywydd, a drafodwyd gennym ar lawr y Cynulliad ddoe, sef y terfyn amser mewn perthynas â’r cyfnod pontio. Nid yw'n gwneud mwy o synnwyr fod ochr y dibyn ym mis Rhagfyr 2020 yn hytrach nag ym mis Mawrth 2019, ac mae arnom angen hyblygrwydd ar y mater hwnnw hefyd.

Clearly, our colleagues in Westminster have voted as they have voted over the last few days. And, ahead of Dominic Raab's meeting with Mr Barnier, I believe tomorrow, with the aim of accelerating negotiations to complete the withdrawal agreement in time for the October deadline, officials of the UK and the EU are understood to have met on Monday to discuss the Irish border, the future relationship and final withdrawal agreement issues, and to have met yesterday, and will be meeting today, to discuss the final remaining 20 per cent of the UK exit agreement. What input have you or your officials had into this week's talks, if any?

Yn amlwg, mae ein cymheiriaid yn San Steffan wedi pleidleisio fel y maent wedi pleidleisio dros y dyddiau diwethaf. A chyn i Dominic Raab gyfarfod gyda Mr Barnier, yfory rwy’n credu, gyda’r nod o gyflymu’r trafodaethau er mwyn cwblhau'r cytundeb ymadael mewn pryd ar gyfer y terfyn amser ym mis Hydref, deellir bod swyddogion y DU a'r UE wedi cyfarfod ddydd Llun i drafod ffin Iwerddon, y berthynas yn y dyfodol a materion yn ymwneud â’r cytundeb ymadael terfynol, a’u bod wedi cyfarfod ddoe, ac y byddant yn cyfarfod heddiw, i drafod yr 20 y cant sy'n weddill o gytundeb ymadael y DU. Pa gyfraniad rydych chi neu eich swyddogion wedi'i wneud i’r trafodaethau yr wythnos hon, os o gwbl?

Well, Llywydd, I wish Mr Raab well in the discussions that he will have. When the First Minister was with Michel Barnier on Monday, Mr Barnier did indeed show the First Minister the text of the agreement, showing the 80 per cent that had been agreed, and the remaining 20 per cent yet to be agreed. We had an opportunity to make an input there. We continue to have opportunities at official level. Do they come at us in a way that we think is aligned to the responsibilities that we, and other devolved administrations, exercise? And are we given the sort of opportunity that would genuinely assist in shaping the UK Government's proposition? Well, I'm afraid, we know from long experience that that is not the case. We continue to take whatever opportunities are available to us. 

Wel, Lywydd, dymunaf yn dda i Mr Raab yn y trafodaethau y bydd yn eu cael. Pan oedd y Prif Weinidog gyda Michel Barnier ddydd Llun, yn wir fe ddangosodd Mr Barnier destun y cytundeb i'r Prif Weinidog, gan ddangos yr 80 y cant sydd wedi’i gytuno, a'r 20 y cant sydd heb ei gytuno eto. Cawsom gyfle i wneud cyfraniad yno. Mae gennym gyfleoedd o hyd ar lefel swyddogol. A ydynt yn gyfleoedd a ddaw inni mewn ffordd y credwn ei bod yn cyd-fynd â'r cyfrifoldebau rydym ni, a gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn eu harfer? Ac a ydym yn cael y math o gyfle a fyddai o gymorth gwirioneddol i lunio cynnig Llywodraeth y DU? Wel, mae arnaf ofn ein bod yn gwybod o brofiad nad yw hynny'n wir. Rydym yn parhau i gymryd unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i ni.

13:40

Cabinet Secretary, as you know, we are heading towards a situation where the chaos we have seen in London—where, last week, they were actually running through the Commons with White Papers, because no-one had seen them, and the resignations of Ministers—is pushing us towards a 'no deal' exit. Mark Isherwood has highlighted that the officials were negotiating on Monday, yesterday and today. Well, probably, they had a different set of guidelines on Monday, yesterday and today, and, therefore, they don't even know what they were talking about. That leads us to a possible and likely scenario of 'no deal' on exit. Yesterday, you indicated that you were preparing contingency plans for that situation. Have you undertaken an analysis of the priority areas for those contingency plans, so that we know how the Welsh Government will look to protect those priority areas for our economy and for the people of Wales?   

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rydym yn agosáu at sefyllfa lle mae'r anhrefn rydym wedi'i weld yn Llundain—lle, yr wythnos diwethaf, roeddent yn rhedeg drwy'r Tŷ Cyffredin gyda'r Papurau Gwyn, am nad oedd unrhyw un wedi'u gweld, a Gweinidogion yn ymddiswyddo—yn ein gwthio tuag at ymadael heb 'ddim bargen'. Mae Mark Isherwood wedi tynnu sylw at y ffaith bod y swyddogion wedi bod yn negodi ddydd Llun, ddoe a heddiw. Wel, yn ôl pob tebyg, roedd ganddynt set wahanol o ganllawiau ddydd Llun, ddoe a heddiw, ac felly, nid ydynt hyd yn oed yn gwybod am beth roeddent yn sôn. Mae hynny'n ein harwain at senario bosibl a thebygol o 'ddim bargen' pan fyddwn yn ymadael. Ddoe, dywedasoch eich bod yn paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer y sefyllfa honno. A ydych wedi cynnal dadansoddiad o'r meysydd blaenoriaethol ar gyfer y cynlluniau wrth gefn hynny, er mwyn inni wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diogelu'r meysydd blaenoriaethol hynny ar gyfer ein heconomi a phobl Cymru?

Well, I can assure the Member that that contingency planning is happening, that it does involve identifying those areas that lie directly within the responsibility of the Welsh Government, that would look at the impacts of a 'no deal' Brexit that would fall more sharply on the Welsh population, and then draw up contingency plans to deal with that catastrophic outcome.  

Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio, fod y broses honno'n cynnwys nodi'r meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, y byddai'n archwilio effeithiau Brexit 'dim bargen' a fyddai'n effeithio'n waeth ar boblogaeth Cymru, ac yna'n llunio cynlluniau wrth gefn i ymdrin â'r canlyniad trychinebus hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i Ysgrifennydd y Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.  

Questions now from party spokespeople to the Cabinet Secretary. The Plaid Cymru spokesperson, Steffan Lewis. 

Diolch, Llywydd. Yesterday, we saw the publication of two documents that are significant to Wales's fiscal and economic well-being. The first one was the document from the Office for Budget Responsibility—the fiscal sustainability report. The second was the Welsh Government's paper on reforming UK funding and fiscal arrangements after separation from the European Union.

The OBR's report was a stark warning, a further warning if we needed it, that we can expect unsustainable public finances in the UK for the short to medium term at least, and that that would put significant further pressures on budgets, and that we could expect further fiscal contraction. In the Welsh Government's document, which Plaid Cymru welcomes broadly, particularly those elements that relate to fair funding for Wales, it states that Wales should not lose a single penny as a result of leaving the European Union and that future regional policy should remain devolved fully to the Welsh Government. I wonder, within the context of the OBR's forecast, if the Cabinet Secretary can update the Assembly on whether or not the UK Government has conceded the financial implications of future devolution of regional policy, and the fact of the principle that it should remain devolved. 

Diolch, Lywydd. Ddoe, cyhoeddwyd dwy ddogfen sy'n arwyddocaol i les ariannol ac economaidd Cymru. Y gyntaf oedd y ddogfen gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr adroddiad cynaliadwyedd ariannol. Yr ail oedd papur Llywodraeth Cymru ar ddiwygio cyllid y DU a'r trefniadau cyllidol ar ôl gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhybudd clir, rhybudd pellach os oedd arnom angen un, y gallwn ddisgwyl cyllid cyhoeddus anghynaladwy yn y DU ar gyfer y tymor byr i ganolig o leiaf, ac y byddai hynny'n rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar gyllidebau, ac y gallem ddisgwyl rhagor o gyfangu cyllidol. Yn nogfen Llywodraeth Cymru, a groesewir yn fras gan Plaid Cymru, yn enwedig yr elfennau sy'n ymwneud â chyllid teg i Gymru, mae'n datgan na ddylai Cymru golli'r un geiniog o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac y dylai polisi rhanbarthol yn y dyfodol barhau i fod yn gwbl ddatganoledig i Lywodraeth Cymru. Yng nghyd-destun rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU wedi cyfaddef beth yw goblygiadau ariannol datganoli polisi rhanbarthol yn y dyfodol, a ffaith yr egwyddor y dylai barhau i fod yn ddatganoledig.

Well, thanks, Steffan Lewis, for that. He's absolutely right to say that the OBR's latest forecast is consistent with what they have been saying for many months now. They are part of that economic mainstream that tells us that if we were to leave the European Union on a crash-out 'no deal' basis, then we're facing a contraction of our economy between 8 per cent and 10 per cent, and that is massive. Now, not everybody agrees with it, but mainstream economic forecasters such as the OBR are in exactly that position. 

We don't have the assurances from the UK Government that Steffan Lewis has asked about, although I have discussed this issue directly with the Chief Secretary to the Treasury, directly with the Chancellor of the Duchy of Lancaster, and made our point. We will not sign up to a shared prosperity fund that, for example, might offer us a Barnett share of that fund, which would undoubtedly be well below what we have as a result of the needs assessment that leads to the money that we get from the European Union. Nor will we sign up to a bidding regime for a shared prosperity fund in which UK Government Ministers set the rules, UK Government Ministers make the decisions and UK Government Ministers adjudicate on disputes when those arise. We have given the UK Treasury a solution to a problem, and they're not an organisation short of problems on their hands. The solution is the one we set out in our document: simply put into the baseline of the National Assembly the money that we get as a result of our qualification for that help under the European Union and then allow us to make the decisions that will allow us to align that money with the needs of our regional economic development for the future. 

Wel, diolch am hynny, Steffan Lewis. Mae'n llygad ei le yn dweud bod rhagolwg diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gyson â'r hyn y maent wedi'i ddweud ers misoedd lawer bellach. Maent yn rhan o'r brif ffrwd economaidd sy'n dweud wrthym, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar sail 'dim bargen', y byddem yn wynebu cyfangu o rhwng 8 y cant a 10 y cant ar ein heconomi, ac mae hynny'n enfawr. Nawr, nid yw pawb yn cytuno â hynny, ond dyna'n union yw safbwynt daroganwyr economaidd prif ffrwd megis y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Nid ydym wedi cael y sicrwydd y mae Steffan Lewis wedi gofyn amdanynt gan Lywodraeth y DU, er fy mod wedi trafod y mater hwn yn uniongyrchol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn uniongyrchol gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, ac wedi gwneud ein pwynt. Ni fyddwn yn cefnogi cronfa cyd-ffyniant a allai, er enghraifft, gynnig cyfran Barnett inni o'r gronfa honno, a fyddai, heb os, yn llawer is na'r hyn sydd gennym o ganlyniad i'r asesiad o anghenion sy'n arwain at yr arian a gawn gan yr Undeb Ewropeaidd. Ni fyddwn ychwaith yn ymrwymo i gyfundrefn o wneud ceisiadau am gronfa cyd-ffyniant lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn pennu'r rheolau, lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniadau a lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dyfarnu ar anghydfodau pan fyddant yn codi. Rydym wedi rhoi ateb i broblem i Drysorlys y DU, ac nid ydynt yn sefydliad sy'n brin o broblemau. Yr ateb yw'r un a nodir yn ein dogfen: rhoi'r arian a gawn o ganlyniad i'n cymhwysedd am y cymorth hwnnw o dan yr Undeb Ewropeaidd i mewn i linell sylfaen y Cynulliad Cenedlaethol a'n caniatáu i wneud penderfyniadau a fydd yn caniatáu inni alinio'r arian hwnnw gydag anghenion ein datblygiad economaidd rhanbarthol ar gyfer y dyfodol.

I thank the Cabinet Secretary for that answer. It's disappointing though and not surprising any more that he is yet to have assurances from the UK Government that regional policy would remain devolved and that Wales wouldn't lose out on a single penny. What I think people might be interested to learn from Welsh Government, however, is its future vision for regional policy, if we continue to retain it at a national level here in Wales as a policy area, and of course continue to receive the equivalent funding too. Is the Cabinet Secretary able to elaborate on his vision for the future of regional policy?

I know that the Welsh Government hasn't had much luck with maps recently, but there will be some across the country who will be concerned that, if we have new regions in Wales to replace west Wales and the Valleys—the traditional convergence funding regions—places like Rhondda, the Heads of the Valleys, Blaenau Gwent and so on, would be in with Cardiff, the most prosperous part of the country, and that that would mask, potentially, the disadvantage and the economic aid that is needed in those communities. 

There are schools of thought, of course, that suggest that there shouldn't be regions within Wales for the sake of regional policy at all and that it should be a community-based project and that's something that Welsh Government has looked at in the past. So, I wonder if he could give an indication of Welsh Government thinking when it comes to how we would administer regional policy and how disadvantaged communities will not lose out in future.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae'n siomedig, serch hynny, ac nid yw'n syndod mwyach nad yw wedi cael sicrwydd eto gan Lywodraeth y DU y byddai polisi rhanbarthol yn parhau i fod yn ddatganoledig ac na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog. Yn hyn y credaf y gall pobl fod yn awyddus i'w ddysgu gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, yw ei gweledigaeth ar gyfer polisi rhanbarthol yn y dyfodol, a ydym yn parhau i'w gadw ar lefel genedlaethol yma yng Nghymru fel maes polisi, ac wrth gwrs, yn parhau i dderbyn y cyllid cyfatebol hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar ei weledigaeth ar gyfer dyfodol polisi rhanbarthol?

Gwn nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael llawer o lwc gyda mapiau yn ddiweddar, ond bydd rhai pobl ledled y wlad yn pryderu, pe bai gennym ranbarthau newydd yng Nghymru yn lle gorllewin Cymru a'r Cymoedd—y rhanbarthau cyllid cydgyfeirio traddodiadol—y byddai lleoedd fel Rhondda, Blaenau'r Cymoedd, Blaenau Gwent ac ati i mewn gyda Chaerdydd, rhan fwyaf llewyrchus y wlad, a byddai hynny, o bosibl, yn celu'r anfantais a'r cymorth economaidd sydd ei angen yn y cymunedau hynny.

Mae yna rai o'r farn, wrth gwrs, na ddylid cael rhanbarthau yng Nghymru at ddibenion polisi rhanbarthol o gwbl ac y dylai fod yn brosiect cymunedol ac mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ystyried yn y gorffennol. Felly, tybed a all roi arwydd o farn Llywodraeth Cymru o ran sut y byddem yn gweinyddu polisi rhanbarthol a sut na fydd cymunedau difreintiedig ar eu colled yn y dyfodol.

13:45

I thank Steffan Lewis for that important question. As he knows, we published a paper in the series of documents we have published since the White Paper of January 2017 on regional policy. That was not an attempt to set out a definitive set of arrangements for the future, but to sum up the state of the debate at that point, and we've had a very lively debate since, with many contributions to a consultation we've carried out on that paper. We've published those consultation responses and I hope to be in a position in the autumn to bring forward a paper that sums that up and does set a more definite set of propositions in place.

The point that he made is an important one, because it gets to the heart of a dilemma in it. In those consultation responses there is a great deal of consensus across Wales on the need for greater flexibility in the future. European Union funding, if there is a silver lining in this at all, can come to us with fairly rigid rules attached to it: geographical rigidity and the sorts of things you can spend the money on, there are rigidities there too. And the consultation said that this is an opportunity for us to be more flexible around some of those things. But then that does give rise to an anxiety on the part of those geographical areas that have benefited from funding so far that this may be to their detriment. The Welsh Government's position is that we have no intention of operating in that way and what we see flexibility as is not absorbing areas of greater need in a wider economy that disguises that need, but to allow, at the margin, a sensible flexibility that means that you are not prevented from making good investments that will be to the benefit of those areas because you have an over-rigid set of rules.

Diolch i Steffan Lewis am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y gŵyr, cyhoeddasom bapur yn y gyfres o ddogfennau a gyhoeddwyd gennym ers y Papur Gwyn mis Ionawr 2017 ar bolisi rhanbarthol. Nid ymgais ydoedd i nodi set bendant o drefniadau ar gyfer y dyfodol, ond crynodeb o gyflwr y ddadl ar y pwynt hwnnw, ac rydym wedi cael trafodaeth fywiog iawn ers hynny, gyda llawer o gyfraniadau i ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym ar y papur hwnnw. Rydym wedi cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a gobeithiaf fod mewn sefyllfa yn yr hydref i gyflwyno papur sy'n crynhoi hynny ac sy'n rhoi set o gynigion mwy pendant yn eu lle.

Mae'r pwynt a wnaeth yn un pwysig, oherwydd mae'n mynd at wraidd problem ynddo. Yn yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, ceir consensws ledled Cymru, i raddau helaeth, ar yr angen am fwy o hyblygrwydd yn y dyfodol. Gall cyllid yr Undeb Ewropeaidd, os oes unrhyw fudd yn hyn o gwbl, gael ei ddarparu inni gyda rheolau eithaf caeth ynghlwm wrtho: anhyblygrwydd daearyddol a'r mathau o bethau y gallwch wario'r arian arnynt, ceir anhyblygrwydd yn hynny o beth hefyd. A dywedodd yr ymgynghoriad fod hwn yn gyfle inni fod yn fwy hyblyg mewn perthynas â rhai o'r pethau hynny. Ond mae hynny wedyn yn arwain at bryderon ymysg yr ardaloedd daearyddol sydd wedi elwa o'r cyllid hyd yma y gallai hyn effeithio'n wael arnynt. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw nad oes gennym unrhyw fwriad o weithredu yn y modd hwnnw, ac nid ydym yn ystyried hyblygrwydd yn rhywbeth sy'n amsugno ardaloedd mewn mwy o angen mewn economi ehangach sy'n cuddio'r angen hwnnw, ond mae caniatáu hyblygrwydd synhwyrol, ar yr ymylon, yn golygu nad ydych yn cael eich atal rhag gwneud buddsoddiadau da a fydd yn fuddiol i'r ardaloedd hynny am fod gennych set o reolau sy'n rhy anhyblyg.

I thank him for that answer, and I'm pleased to hear that we wouldn't have a situation in Wales where—as much as we don't want Wales as a whole to lose out on a single penny of what we could expect in regional aid, we wouldn't want any community to lose a single penny in terms of what it could expect in regional aid as well. 

Another aspect that is touched upon in the latest paper published by the Welsh Government is that of state aid and, of course, this is an area where there will be a requirement for inter-governmental agreement unless, of course, the Westminster Government assumes complete responsibility for the issue and we are forced into a race to the bottom on state aid, which is something that I wouldn't rule out.

The Welsh Government White Paper states that

'Any new arrangements should be drawn up in line with our principles of agreement and consent, working collaboratively with the UK Government and the other devolved nations.'

But I contrast that with the passage in the UK Government White Paper, if it hasn't been changed in the last 24 hours, which relates to state aid, which hails the fact that the UK Government spent just 0.3 per cent of GDP on state aid in 2016, which is less than half the EU average. Had the UK Government spent the EU average on state aid, that would have made an additional £8 billion available for investment and Wales could have expected something in the region of £400 million as a result.

So, it's clear that there's a significant difference of opinion, not just between Welsh Government and the UK Government and not just on the principle of whether state aid is devolved or not, but also on what one would do with it once we leave the European Union. So, can we have an assurance from the Cabinet Secretary that the Welsh Government won't sign up to any future inter-governmental agreement that cedes state aid rules exclusively to the UK Government and that, instead, any future agreement has to be based on shared responsibility and agreement? Because, of course, we will need UK frameworks and rules, and state aid is a good example of where those will be needed, by agreement.

Diolch iddo am ei ateb, ac rwy'n falch o glywed na fyddai gennym sefyllfa yng Nghymru lle—nid ydym am i Gymru yn ei chyfanrwydd golli'r un geiniog o'r hyn y gallem ei ddisgwyl mewn cymorth rhanbarthol, ac yn yr un modd ni fyddem am i unrhyw gymuned golli'r un geiniog o'r hyn y gallent ei ddisgwyl mewn cymorth rhanbarthol ychwaith.

Agwedd arall sy'n cael ei chrybwyll yn y papur diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yw cymorth gwladwriaethol, ac wrth gwrs, mae hwn yn faes lle bydd angen cytundeb rhynglywodraethol oni bai, wrth gwrs, fod Llywodraeth San Steffan yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y mater ac yn ein gorfodi i mewn i ras tuag at y gwaelod ar gymorth gwladwriaethol, ac mae hynny'n rhywbeth na fuaswn yn ei ddiystyru.

Dywed Papur Gwyn Llywodraeth Cymru y

Dylai unrhyw drefniadau newydd gael eu llunio yn unol â’n hegwyddorion
o gytundeb a chydsyniad, gan gydweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig eraill.

Ond rwy'n cyferbynnu hynny â'r darn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU, os nad yw wedi cael ei newid yn ystod y 24 awr ddiwethaf, sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, sy'n croesawu'r ffaith mai 0.3 y cant yn unig o'r cynnyrch domestig gros y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar gymorth gwladwriaethol yn 2016, sy'n llai na hanner cyfartaledd yr UE. Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario cyfartaledd yr UE ar gymorth gwladwriaethol, byddai hynny wedi darparu £8 biliwn yn ychwanegol ar gyfer buddsoddi a gallai Cymru fod wedi disgwyl oddeutu £400 miliwn o ganlyniad.

Felly, mae'n amlwg fod cryn wahaniaeth barn, nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac nid yn unig ynglŷn â'r egwyddor ynglŷn ag a yw cymorth gwladwriaethol wedi'i ddatganoli ai peidio, ond hefyd ynglŷn â beth y dylid ei wneud ag ef wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a gawn ni sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i unrhyw gytundeb rhynglywodraethol yn y dyfodol sy'n ildio rheolau cymorth gwladwriaethol yn gyfan gwbl i Lywodraeth y DU, ac yn lle hynny, y bydd yn rhaid i unrhyw gytundeb yn y dyfodol fod yn seiliedig ar gytundeb a chyfrifoldeb a rennir? Oherwydd, wrth gwrs, bydd arnom angen fframweithiau a rheolau'r DU, ac mae cymorth gwladwriaethol yn enghraifft dda o ble y bydd eu hangen, drwy gytundeb.

13:50

The Member makes two important points, really. First of all, he puts his finger on one of the ways in which those people who advocated Brexit misled the public in the arguments that they put. Because they always portray European Union state aid rules as some sort of straitjacket that prevents us from doing the good things that we would like to do. Germany has eight times the intensity of state aids of the United Kingdom and operates entirely within the European Union rulebook. So, the idea that, somehow, we were trapped into something that forced us to do things that we wouldn't have wanted to do, turns out, on examination, to be nothing like the truth.

I'm happy to provide the assurance that Steffan Lewis looked for in his second question. If there is—and I agree with him that there is very likely to be—the need for a framework operating across the internal market of the United Kingdom, we will not sign up to something imposed on us. We will expect to be at the table, we will expect to be part of those discussions, and we will expect to be in a position where the outcome is agreed between the component parts of the United Kingdom, not the result of one part alone. 

Mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt pwysig, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, mae'n nodi un o'r ffyrdd y gwnaeth y bobl a hyrwyddai Brexit gamarwain y cyhoedd gyda'u dadleuon. Oherwydd maent bob amser yn portreadu rheolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd fel rhyw fath o wasgod gaeth sy'n ein rhwystro rhag gwneud y pethau da yr hoffem eu gwneud. Mae cymorth gwladwriaethol yr Almaen wyth gwaith yn fwy na'r Deyrnas Unedig ac maent yn gweithredu'n gyfan gwbl o fewn llyfr rheolau'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mae'r syniad ein bod, rywsut, wedi ein caethiwo i rywbeth sy'n ein gorfodi i wneud pethau na fyddem wedi dymuno'u gwneud, o graffu arno, yn bell iawn o'r gwir.

Rwy'n fwy na pharod i roi'r sicrwydd roedd Steffan Lewis yn chwilio amdano yn ei ail gwestiwn. Os bydd—ac rwy'n cytuno ag ef ei bod yn debygol iawn y bydd—angen am fframwaith sy'n gweithredu ar draws marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, ni fyddwn yn cytuno i rywbeth sy'n cael ei orfodi arnom. Byddwn yn disgwyl bod wrth y bwrdd, byddwn yn disgwyl bod yn rhan o'r trafodaethau hynny, a byddwn yn disgwyl bod mewn sefyllfa lle y cytunir ar y canlyniad rhwng y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, nid canlyniad un rhan yn unig.

Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.

The Conservative spokesperson, Nick Ramsay.

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, the Wales Centre for Public Policy has recently published its report on the Welsh tax base, which has raised a number of salient points about the impact even small changes to the tax system can have on taxpayer behaviour, migration and inward investment.

With regard to land transaction tax, the report highlights that, although there were only 45 LTT and non-residential property transactions over £5 million in 2015-16, they accounted for 43 per cent of total transaction value of Welsh LTT. The report also notes that just 10 fewer freehold transactions over £5 million in one year could reduce revenue by £7 million. Taking all that into account, we've asked you previously, and I ask you again: will you, at the very least, monitor the top rate of LTT in this regard within Wales and consider bringing it in line with England or Scotland if the economy does show signs of suffering?

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar sylfaen drethu Cymru, sydd wedi codi nifer o bwyntiau perthnasol ynglŷn â'r effaith y gall mân newidiadau hyd yn oed i'r system dreth ei chael ar ymddygiad trethdalwyr, ymfudo a mewnfuddsoddi.

O ran y dreth trafodiadau tir, er mai 45 yn unig o drafodiadau treth trafodiadau tir a thrafodiadau eiddo amhreswyl dros £5 miliwn a gafwyd yn 2015-16, mae'r adroddiad yn nodi eu bod yn cyfateb i 43 y cant o gyfanswm gwerth trafodiadau treth trafodiadau tir Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y gallai 10 yn llai o drafodiadau rhydd-ddaliadol dros £5 miliwn mewn un flwyddyn arwain at £7 miliwn yn llai o refeniw. O ystyried hyn oll, rydym wedi gofyn ichi eisoes, a gofynnaf ichi eto: a wnewch chi o leiaf fonitro cyfradd uchaf y dreth trafodiadau tir yn y cyswllt hwn yng Nghymru ac ystyried ei halinio â Lloegr neu'r Alban os yw'r economi yn dangos arwyddion ei bod yn dioddef?

Well, I'm happy to repeat the assurances that I gave the Member the last time that he asked me that question, and of course we monitor the impact of policy on transactions, and that where there is evidence that leads us to reach different conclusions, then that's what we will do. But, LTT is now just over three months old, so, the evidence base at the moment is preliminary at best, and we will continue to see what the actual results of this on the ground look like, rather than speculating on what they might be.

Wel, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y sicrwydd a roddais i'r Aelod y tro diwethaf y gofynnodd y cwestiwn hwnnw imi, ac wrth gwrs, rydym yn monitro effaith y polisi ar drafodion, a lle y ceir tystiolaeth sy'n ein harwain i ddod i gasgliadau gwahanol, dyna a wnawn. Ond mae'r dreth trafodiadau tir ychydig dros dri mis oed bellach, felly mae'r sylfaen dystiolaeth ar hyn o bryd yn rhagarweiniol ar y gorau, a byddwn yn parhau i weld sut y bydd canlyniadau gwirioneddol hyn ar lawr gwlad yn edrych, yn hytrach na dyfalu beth y gallent fod.

Cabinet Secretary, the report also showed the inextricable link between the Welsh economy and the ability of the Welsh Government to raise tax revenue in general. In particular, differences between the UK's economy and the Welsh economy have been starkly laid out: lower income, lack of high-skilled, high-paid jobs, lower productivity, and higher exposure to automation. All these things, I know, your Government is aware of.

I've raised this with you before, especially the apparent divergence between the economy Secretary's stance and yours. The economic action plan, on the one hand, mentions tax in passing just once, and yet we've repeatedly, on these benches, raised concerns about the 6 per cent supertax on commercial land transactions that could keenly affect further inward investment. You mentioned Brexit in response to Steffan Lewis earlier. Do you think at this time, with Brexit getting closer and being much more of a reality to us all, that now is not the time to be looking to have taxes like this on those very people in Wales that we're going to be looking to over the months and years to come to make sure that Wales's economy is stronger?

Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd yr adroddiad hefyd y cysylltiad annatod rhwng economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i godi refeniw treth yn gyffredinol. Yn benodol, mae'r gwahaniaethau rhwng economi Cymru ac economi'r DU wedi eu nodi'n hollol glir: incwm is, diffyg swyddi medrus ar gyflogau uchel, cynhyrchiant is a mwy o berygl o awtomatiaeth. Gwn fod eich Llywodraeth yn ymwybodol o'r holl bethau hyn. 

Rwyf wedi codi hyn gyda chi eisoes, yn enwedig y gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng safbwynt Ysgrifennydd yr economi a'ch safbwynt chi. Mae'r cynllun gweithredu economaidd, ar y naill law, yn crybwyll treth unwaith yn unig, ac eto rydym wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro ar y meinciau hyn ynglŷn â'r uwch dreth o 6 y cant ar drafodiadau tir masnachol a allai gael effaith sylweddol ar fewnfuddsoddi pellach. Fe sonioch chi am Brexit wrth ymateb i Steffan Lewis yn gynharach. A ydych o'r farn ar hyn o bryd, wrth i Brexit ddod yn agosach a dod yn fwy real o lawer i bob un ohonom, nad nawr yw'r amser i ystyried cael trethi fel hyn ar yr union bobl yng Nghymru y byddwn yn dibynnu arnynt dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod i sicrhau bod economi Cymru yn gryfach?

Well, it is a paradox, Llywydd, isn't it? It is the Conservative Party that argued the most strongly for fiscal powers to be devolved to Wales, and now the argument of the Conservative Party is that having devolved them, we mustn't use them—that all we can do is to make sure that we don't diverge from what is going on across our border. You can't have it both ways. You either believe, as your party has preached, that powers should be devolved to Wales so that we can make decisions here, or you believe that no difference is possible across the border. We were prepared to sign up to your first proposition.

If the powers are here, the powers must be exercised here. The decisions about which the Member complains are the decisions that this National Assembly made, endorsed in the budget-making process, passing the regulations in January to give rise to them. I'll do what I said in my answer to his first question: having made the decision, we will monitor its effect. If there are lessons to learn, and if there are changes that need to be made, then that's what we will do, but we won't operate on the basis of a series of hypotheticals, where the actual evidence is barely a quarter old.

Wel, mae'n baradocs, Lywydd, onid yw? Y Blaid Geidwadol a fu'n dadlau gryfaf dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gymru, a bellach, dadl y Blaid Geidwadol yw, ar ôl eu datganoli, na ddylem eu defnyddio—mai'r unig beth y gallwn ei wneud yw sicrhau nad ydym yn dargyfeirio oddi wrth yr hyn sy'n digwydd dros y ffin. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd. Rydych naill ai'n credu, fel y mae eich plaid wedi pregethu, y dylid datganoli pwerau i Gymru fel y gallwn wneud penderfyniadau yma, neu rydych yn credu nad oes unrhyw wahaniaeth yn bosibl dros y ffin. Roeddem yn barod i dderbyn eich cynnig cyntaf.

Os yw'r pwerau yma, rhaid arfer y pwerau yma. Y penderfyniadau y mae'r Aelod yn cwyno amdanynt yw'r penderfyniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac a ategwyd ganddo yn y broses o lunio'r gyllideb, cyn cyflwyno’r rheoliadau ym mis Ionawr i'w rhoi mewn grym. Byddaf yn gwneud yr hyn a ddywedais yn fy ateb i'w gwestiwn cyntaf: ar ôl gwneud y penderfyniad, byddwn yn monitro ei effaith. Os oes gwersi i'w dysgu, ac os oes newidiadau y bydd angen eu gwneud, byddwn yn gwneud hynny, ond ni fyddwn yn gweithredu ar sail cyfres o sefyllfaoedd damcaniaethol, lle mae'r dystiolaeth wirioneddol prin yn chwarter mlwydd oed.

13:55

That's a very interesting answer, Cabinet Secretary, because you're right: we did, on this side of the Chamber, as did the majority of AMs, support the devolution of tax powers to this place, and we fully believe in accountability. I'm pleased that the Conservative Government—the previous UK coalition Government—did actually go in that direction.

It sounds to me that what you're saying there is that you fully intend to raise taxes where you possibly can. Of course, having taxes devolved to this place doesn't simply mean that you put them up; it also means that you can keep them the same or lower them, but, of course, you will be getting the revenue here from those taxes.

You told the Finance Committee only last week that you're skeptical that a modest tax would have an impact on inward migration. That may be the case, but if there is a 1p increase to income tax to help the Welsh NHS, for instance, as an example; a 1 per cent to 3 per cent contribution of income towards social care on top; and a continued rise in council tax and other tax increases in Wales, I repeat what I said before: as we are running up to Brexit and there are economic uncertainties, even if you believe in the future that modest tax rises may actually be beneficial to the economy and improve public services, is this really the time not to be ruling out those rises? People need stability and businesses need stability. Surely, as finance Secretary, you want to work for the good of Wales and make sure that, in the future, any tax rises are done when you have that evidence base, which you believe in so strongly.

Mae hwnnw'n ateb diddorol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod yn llygad eich lle: ar yr ochr hon i'r Siambr, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, fe gefnogom ni ddatganoli pwerau treth i'r lle hwn, ac rydym yn credu'n llwyr mewn atebolrwydd. Rwy'n falch fod y Llywodraeth Geidwadol—Llywodraeth glymblaid flaenorol y DU—wedi mynd i'r cyfeiriad hwnnw mewn gwirionedd.

Ymddengys i mi mai'r hyn rydych yn ei ddweud yw eich bod yn llawn fwriadu codi trethi lle y gallwch. Wrth gwrs, nid yw'r ffaith bod trethi wedi eu datganoli i'r lle hwn yn golygu eich bod yn eu codi; mae hefyd yn golygu y gallwch eu cadw yr un fath neu eu gostwng, ond wrth gwrs, byddwch yn cael y refeniw yma o'r trethi hynny.

Fe ddywedoch chi wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf eich bod yn amheus y byddai treth gymedrol yn cael effaith ar fudo. Efallai fod hynny'n wir, ond os oes cynnydd o 1c yn y dreth incwm i helpu GIG Cymru, er enghraifft; cyfraniad o 1 y cant i 3 y cant o incwm tuag at ofal cymdeithasol yn ychwanegol at hynny; a chynnydd parhaus yn y dreth gyngor a threthi eraill yng Nghymru, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes: gan ein bod yn agosáu at Brexit a bod yna ansicrwydd economaidd, hyd yn oed os ydych yn credu y gall cynnydd cymedrol mewn trethi fod yn fuddiol i'r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, ai nawr yw'r amser i beidio â diystyru'r cynnydd hwnnw? Mae angen sefydlogrwydd ar bobl ac mae angen sefydlogrwydd ar fusnesau. Does bosib, fel Ysgrifennydd cyllid, nad ydych yn awyddus i weithio er lles Cymru ac i sicrhau, yn y dyfodol, fod unrhyw gynnydd mewn treth yn digwydd pan fydd gennych y sylfaen dystiolaeth honno rydych yn credu mor gryf ynddi.

Well, Llywydd, I said no such thing, in answer to Nick Ramsay's second question. I made no observations whatsoever about the direction in which tax changes might happen. I simply responded to his suggestion that we had to stay in line with the tax regime on the other side of our border. That is not what tax devolution is all about. 

We will look carefully at the evidence. We will make decisions in the light of the circumstances at the time. The report to which he made reference in his first question, of course, suggests that there would be very little movement at the border if tax rates in Wales were to be higher than those in England, quite unlike the advice I'm sometimes offered by the Conservative benches here.

Wel, Lywydd, ni ddywedais y fath beth, i ateb ail gwestiwn Nick Ramsay. Ni wneuthum unrhyw sylwadau o gwbl ynghylch cyfeiriad posibl newidiadau treth. Yr unig beth a wneuthum oedd ymateb i'w awgrym fod yn rhaid inni gydymffurfio â'r gyfundrefn dreth dros y ffin. Nid dyna yw diben datganoli treth.

Byddwn yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Byddwn yn gwneud penderfyniadau yng ngoleuni'r amgylchiadau ar y pryd. Mae'r adroddiad y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn cyntaf, wrth gwrs, yn awgrymu mai ychydig iawn o symud a fyddai ar y ffin pe bai'r cyfraddau treth yng Nghymru yn uwch na'r rhai yn Lloegr, yn wahanol iawn i'r cyngor sy'n cael ei gynnig imi weithiau gan feinciau'r Ceidwadwyr yma.

Llefarydd UKIP, Michelle Brown.

UKIP spokesperson, Michelle Brown.

Thank you, Presiding Officer. Good afternoon, Cabinet Secretary. Does the Cabinet Secretary agree that if the Westminster Government delivers on the Welsh Government's justifiable demand that Wales should not lose a single penny following Brexit, it should be the Welsh Government that decides which projects receive that support rather than the EU?

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, os yw Llywodraeth San Steffan yn cyd-fynd â galwad gwbl briodol Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru golli'r un geiniog ar ôl Brexit, mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu pa brosiectau sy'n derbyn y cymorth hwnnw yn hytrach na'r UE?

I entirely agree with the Member that if the UK Government does what those who advocated leaving the European Union said would happen—that's a guarantee that Wales would not lose out by a penny—then the decisions that would be made as to how that money is best used are best made here in Wales. The First Minister has already given an undertaking that if money comes to Wales for the purposes of regional economic development, we will use it for those purposes. If money comes to Wales to sustain our rural economy, it will be used for those purposes. But, the specifics of that are best made here, rather than in London.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a ddywedodd y rhai a oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd fyddai'n digwydd—sef gwarant na fyddai Cymru yr un geiniog ar ei cholled—mai yma yng Nghymru yw'r lle gorau i wneud y penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwnnw. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ymrwymiad, os daw arian i Gymru at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, y byddwn ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Os daw arian i Gymru i gynnal ein heconomi wledig, caiff ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Ond dyma'r lle gorau i fynd i'r afael â manylion hynny, nid Llundain.

Thank you for that answer, Cabinet Secretary, and I agree with you that those decisions are best made here rather than elsewhere. Obviously, the Welsh Government and we in Wales have a much clearer idea of what Wales needs and what the Welsh people want, rather than a distant EU and the committees on which we only have three out of 350 members, such as the Committee of the Regions, yet your Government continues to advocate involvement in the EU, even if we have to enter into reciprocal agreements and obligations with, and therefore the priorities of, the EU as a condition.

So, as the Cabinet Secretary for Finance, aren't you obliged to work out the best way of funding the priorities of the democratically elected Welsh Government, which should reflect the priorities of the Welsh people, as opposed to the priorities of the democratically deficient EU? To continue to advocate involvement in so much of the EU following Brexit goes against what you said to my colleague Neil Hamilton yesterday, when you claimed that you respect and will deliver on the Brexit vote.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cytuno â chi mai dyma'r lle gorau i wneud y penderfyniadau hynny yma yn hytrach nag unrhyw le arall. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru a ninnau yng Nghymru lawer gwell syniad o'r hyn sydd ei angen ar Gymru a dymuniadau pobl Cymru na sydd gan UE pell a phwyllgorau lle mae gennym dri aelod yn unig o blith 350 o aelodau, megis Pwyllgor y Rhanbarthau, ond mae eich Llywodraeth yn parhau i ddadlau dros barhau i fod yn rhan o'r UE, hyd yn oed os bydd yn rhaid inni ymrwymo i gytundebau dwyochrog a rhwymedigaethau'r UE, ac felly blaenoriaethau'r UE fel amod.

Felly, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, onid oes rheidrwydd arnoch i sicrhau'r ffordd orau o ariannu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd, a ddylai adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru yn hytrach na blaenoriaethau'r UE, sy'n ddemocrataidd ddiffygiol? Mae parhau i ddadlau dros fod yn rhan o gymaint o'r UE ar ôl Brexit yn mynd yn groes i'r hyn a ddywedoch chi ddoe wrth fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, pan honnoch eich bod yn parchu pleidlais Brexit ac y byddwch yn cyflawni mewn perthynas â hi.

14:00

Well, the fundamental difficulty with the Member's question is this, is that she blurs the line between the fundamental decision, which is to say that we are leaving the European Union, we will not be members of the European Union after the end of March next year, and the form in which we leave the European Union. It is possible to leave the European Union in a way that does maximum damage to our economy; that is well advocated by people in this Chamber whose prescriptions for Wales would leave us, as I say, with an economy between 10 per cent and 8 per cent lower than it is today, or we can leave it in a way set out in the White Paper that the Welsh Government and Plaid Cymru jointly published in January of last year. That policy offers a way of leaving the European Union that does not, as she suggests, turn our back on the decision of the referendum, but which mitigates to the greatest possible extent the damage that would otherwise be done. 

Wel, y broblem sylfaenol gyda chwestiwn yr Aelod yw hyn, ei bod yn cymylu'r ffin rhwng y penderfyniad sylfaenol, sef dweud ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddwn yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a ffurf ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd sy'n gwneud y niwed mwyaf posibl i'n heconomi; cefnogir hynny'n bendant gan bobl yn y Siambr hon y byddai eu hargymhellion ar gyfer Cymru yn ein gadael, fel y dywedaf, gydag economi rhwng 10 y cant ac 8 y cant yn llai na'r hyn ydyw heddiw, neu gallwn adael yn y ffordd a nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr y llynedd. Mae'r polisi hwnnw'n cynnig ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd nad yw'n golygu, fel y mae hi'n awgrymu, troi ein cefnau ar benderfyniad y refferendwm, ond sy'n lliniaru'r niwed a wneid fel arall i'r graddau mwyaf posibl.

Thank you for that answer, Cabinet Secretary. I'd remind you that you and the other remainers spent the entirety of the EU referendum campaign telling voters about the doom that would supposedly hit us if they voted to leave, and if we severed control of the EU over our affairs, yet they still voted to leave. They either didn't believe you or they considered that independence would be worth the scenarios you said would take place. Since then you've been treating the electorate, as other remainers have, as if you're thinking, 'Bless them, they didn't know what they were doing'. Well, I've got more faith in the intelligence and understanding of the Welsh voters and, therefore, I ask you: don't you agree that ending the control of the EU over the affairs of Wales and the wider UK is what the electorate want, and this is what you should be advocating and working to achieve? 

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn eich atgoffa eich bod chi a'r rhai eraill a oedd am aros yn yr UE wedi treulio holl ymgyrch refferendwm yr UE yn sôn wrth bleidleiswyr am y dinistr honedig a fyddai'n ein hwynebu pe baent yn pleidleisio dros adael, a phe baem yn torri i ffwrdd oddi wrth reolaeth yr UE dros ein materion ein hunain, ond eto i gyd, fe bleidleision nhw dros adael. Naill ai nid oeddent yn eich credu, neu roeddent o'r farn fod annibyniaeth yn werth y senarios roeddech yn dweud y byddent yn digwydd. Ers hynny rydych chi, fel eraill a oedd o blaid aros, wedi bod yn trin yr etholwyr fel pe baech yn meddwl, 'Druan ohonynt, nid oeddent yn gwybod beth roeddent yn ei wneud'. Wel, mae gennyf fwy o ffydd yn neallusrwydd a chrebwyll pleidleiswyr Cymru, ac felly, gofynnaf ichi: onid ydych yn cytuno mai rhoi diwedd ar reolaeth yr UE dros faterion Cymru a'r DU yn ehangach yw dymuniad yr etholwyr, ac mai dyna y dylech fod yn ei hyrwyddo ac yn gweithio i'w gyflawni?

Well, I'll just repeat, really, that the Welsh Government from the day of the referendum accepted the decision that was set out in the referendum. We have never quarrelled with the fact of Brexit; that was determined by people in a vote. Our focus is on the form of Brexit always, and I can tell her this—that when I knock doors in parts of my own constituency, where people undoubtedly voted in large numbers to leave, they will tell you that they did not vote for the sort of chaotic, self-harming form of Brexit that she and other people in this Chamber advocate.  

Wel, fe ailadroddaf, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru, ers diwrnod y refferendwm, wedi derbyn y penderfyniad a wnaed yn y refferendwm. Nid ydym wedi dadlau â Brexit fel ffaith; penderfynwyd ar hynny gan y bobl mewn pleidlais. Mae ein ffocws bob amser ar ffurf Brexit, a gallaf ddweud hyn wrthi—pan fyddaf yn curo ar ddrysau mewn rhannau o fy etholaeth i, lle y pleidleisiodd niferoedd mawr o bobl, heb unrhyw amheuaeth, dros adael, byddant yn dweud wrthych na wnaethant bleidleisio dros y math anhrefnus, hunan-niweidiol o Brexit y mae hi a phobl eraill yn y Siambr hon yn ei gefnogi.

Buddsoddi Mewn Seilwaith yng Ngorllewin Cymru
Infrastructure Investment in West Wales

3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng ngorllewin Cymru? OAQ52529

3. What are the Welsh Government's priorities for infrastructure investment in west Wales? OAQ52529

I thank the Member for that question. Amongst our priorities for infrastructure investment in west Wales are the £0.5 billion of investment in the twenty-first century schools programme in the area, completion of 42 separate affordable housing schemes, the £50 million we intend to invest in improvements to the A40, and the delivery of the Cardigan integrated care centre.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng ngorllewin Cymru mae'r £0.5 biliwn o fuddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn yr ardal, cwblhau 42 o wahanol gynlluniau tai fforddiadwy, y £50 miliwn y bwriadwn ei fuddsoddi mewn gwelliannau i'r A40, ac agor canolfan gofal integredig Aberteifi.

I'm grateful to the Cabinet Secretary for that response. Now, the Wales infrastructure investment plan's mid-point review highlights the allocation of £110 million from the Welsh Government Building for the Future programme to regenerate town centres across Wales. Of course, Milford Haven in my constituency has regularly been at the top of vacant shop rates in recent years, and so, given the historic problems in Pembrokeshire, could you tell us how this funding will actually be allocated across Wales, and what specific funding from that programme will be allocated to regenerate towns in my own constituency?   

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Nawr, mae adolygiad hanner ffordd cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn tynnu sylw at y dyraniad o £110 miliwn o raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru er mwyn adfywio canol trefi ledled Cymru. Wrth gwrs, mae Aberdaugleddau yn fy etholaeth wedi bod ar frig y rhestr cyfraddau siopau gwag yn rheolaidd dros yn y blynyddoedd diwethaf, ac felly, o ystyried y problemau hanesyddol yn Sir Benfro, a allech ddweud wrthym sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu ledled Cymru, a pha gyllid penodol o'r rhaglen honno a fydd yn cael ei ddyrannu i adfywio trefi yn fy etholaeth i?

Well, Llywydd, the detail of that decision is not one that I make as finance Secretary; I make the money available to my portfolio colleagues, and then they make the decisions that Paul Davies refers to, and very important decisions they are. And I know that my colleague, the economy and transport Secretary, takes a close interest in the way in which we are able to use the funds that have been made available to regenerate town centres right across Wales, including west Wales. I'll make sure that the Member gets a note of the specifics to the question that he has asked me.  

Wel, Lywydd, nid wyf yn ymdrin â manylion y penderfyniad hwnnw fel Ysgrifennydd cyllid; rwy'n darparu'r arian i fy nghyd-Aelodau portffolio, ac yna maent yn gwneud y penderfyniadau y cyfeiria Paul Davies atynt, ac maent yn benderfyniadau pwysig iawn. A gwn fod gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth, gryn ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ddefnyddio'r cyllid a ddarparwyd i adfywio canol trefi ledled Cymru, gan gynnwys gorllewin Cymru. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael manylion y cwestiwn a ofynnodd i mi.

Wel, cyn bo hir, bydd y Llywodraeth yn derbyn yr astudiaeth dichonoldeb yn deillio o'r cytundeb gyda Plaid Cymru ar ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Pan ddaeth y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Aberystwyth, fe wnaeth dywallt dŵr oer dros y syniad o ailagor y rheilffordd, chwedl golygyddol y Cambrian News. Ond, erbyn hyn, gyda'r cyhoeddiad ddoe gan Ken Skates o cyn lleied o arian rŷm ni wedi ei dderbyn i fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, a'r ffaith bod gyda chi drafodaethau i gael mynediad at y rheilffyrdd a'r arian yn llifo o'r Llywodraeth yma i Llywodraeth San Steffan, a'r ffordd arall rownd, onid yw'n briodol ac yn amser i wneud yr achos cenedlaethol dros ailagor y rheilffordd yma, ac a ydych chi a'ch Llywodraeth chi yn barod i arwain y frwydr yma i gael y buddsoddiad sydd yn haeddiannol ond sydd hefyd yn deilwng i'r rhan yma o'r byd?

Well, before too long, the Government will receive the feasibility study emerging from the agreement with Plaid Cymru on reopening the rail line between Carmarthen and Aberystwyth. When the First Minister came to the Committee for the Scrutiny of the First Minister in Aberystwyth, he poured cold water over the idea of reopening the line, which was rehearsed in the Cambrian News editorial. But now, with the announcement made yesterday by Ken Skates on how little money we’ve received in rail investment in Wales, and given the fact that you are now having discussions to have access to funds flowing from the Government here to the Westminster Government, and vice versa, isn’t this an appropriate time to make the national case for reopening this rail line, and will you and your Government lead this battle to get that investment, which is well deserved but would also be properly invested in this area of the world?

14:05

Wel, Llywydd, clywais i beth ddywedodd Ken Skates yn y datganiad yma ddoe. Clywais i beth ddywedodd Aelodau eraill hefyd am y buddsoddiad nad ydym ni wedi'i gael yma yng Nghymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn y rheilffyrdd sydd gyda ni. Rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad yr ydym ni'n mynd i'w gael am ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae nifer o bethau lle rŷm ni wedi cytuno i wneud gwaith i weld sut rŷm ni'n gallu mynd ymlaen â nhw yn y dyfodol ond bydd yn rhaid i ni aros am yr adroddiad ar y rheilffordd. Ond mae mwy nag un o adroddiadau rŷm ni'n aros i'w gweld a bydd yn rhaid i ni gyda'n gilydd wneud rhyw fath o flaenoriaethau mas o'r pethau rŷm ni wedi edrych i mewn iddyn nhw i weld beth rŷm ni'n gallu ei wneud a sut rŷm ni'n gallu eu gwneud nhw yn y dyfodol. 

Well, Llywydd, I heard what Ken Skates said in the statement here yesterday. I also heard what other Members had to say about the investment that we’ve not received here in Wales from the United Kingdom Government in our railway services. I do look forward to the report that we will receive about reopening the rail line between Carmarthen and Aberystwyth. There are a number of things that we have agreed to do to start to look at what can be done in the future, but we will have to await that study on the feasibility of the railway. But there is more than one report that we’re awaiting and we will have to take them together and then bring out the priorities that we will need to undertake, having looked at what we can and should do in the future.

Adroddiad ar y Sylfaen Drethu Gymreig
Report on the Welsh Tax Base

4. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'? OAQ52547

4. What consideration has the Cabinet Secretary made of the Wales Centre for Public Policy report, 'The Welsh Tax Base: Risks and Opportunities after Fiscal Devolution'? OAQ52547

I thank Jack Sargeant for that question. The Welsh Government commissioned the report to which he refers and we welcome the contribution it makes to inform the debate on tax in Wales and to support the development of tax policy. The report adds to a growing body of work about Welsh taxes, including Professor Gerry Holtham’s recent report about paying for social care.

Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn. Llywodraeth Cymru a gomisiynodd yr adroddiad y cyfeiria ato ac rydym yn croesawu'r cyfraniad a wna i lywio'r drafodaeth ar drethu yng Nghymru ac i gefnogi datblygiad polisi treth. Mae'r adroddiad yn ychwanegu at gorff cynyddol o waith ar drethi yng Nghymru, gan gynnwys adroddiad diweddar yr Athro Gerry Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol.

I'd like to thank the Cabinet Secretary for that answer. The Wales Centre for Public Policy report, which the Conservative spokesperson Nick Ramsay also brought up, also highlights that increasing income tax in Wales would not be a simple matter, but it did suggest that it did present an opportunity to make council tax more progressive. One opportunity highlighted would be to reform council tax at the same time to create a holistic approach to taxation. Now, you know as well as I, Cabinet Secretary, that local authorities have had to make some very tough choices in recent years and not least due to the decisions made in the UK Government. Could the Cabinet Secretary just clarify that he is considering the report and such reform and whether any discussions will take place between himself and the Cabinet Secretary for local government on this issue?

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a grybwyllwyd hefyd gan lefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, yn nodi na fyddai cynyddu treth incwm yng Nghymru yn fater syml, ond awgryma fod cyfle i'w gael i wneud y dreth gyngor yn fwy blaengar. Un cyfle a nodwyd fyddai diwygio'r dreth gyngor ar yr un pryd er mwyn creu ymagwedd gyfannol tuag at drethiant. Nawr, fe wyddoch gystal â minnau, Ysgrifennydd y Cabinet, fod awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro ei fod yn ystyried yr adroddiad a diwygiadau o'r fath, ac a fydd unrhyw drafodaethau yn digwydd rhyngddo ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y mater hwn?

Well, I thank Jack Sargeant for that. It's an important part of the report that says to us that we must think about Welsh taxes in the round and that we must be prepared to think about ways in which decisions made on taxes on income can be calibrated alongside decisions made about taxes on property. There are some very interesting parts of the report that refer to the trade-offs that there may be between the one and the other. So, I can certainly give Jack Sargeant an assurance that we are looking carefully at that, that I do discuss it with Alun Davies, and that there is a set of work in hand to look both at short-term changes we could make to council tax to try to make it less regressive than it inevitably is, and then to look at some more profound reforms of local taxation to see if there is, in a practical sense, something different that we could use instead of council tax. I hope that that work will be completed during this Assembly term and available to the next Assembly.  

Wel, diolch i Jack Sargeant am hynny. Mae rhan bwysig o'r adroddiad yn dweud wrthym fod yn rhaid inni feddwl am drethi Cymru yn eu cyfanrwydd a bod yn rhaid inni fod yn barod i feddwl am ffyrdd y gellir graddnodi penderfyniadau a wneir ynglŷn â threthi ar incwm ochr yn ochr â phenderfyniadau a wneir ynglŷn â threthi ar eiddo. Mae rhai rhannau diddorol iawn o'r adroddiad yn cyfeirio at y cyfaddawdau posibl y gellid eu cael rhwng y naill a'r llall. Felly, yn sicr, gallaf roi sicrwydd i Jack Sargeant ein bod yn ystyried hynny'n ofalus, fy mod yn ei drafod gydag Alun Davies, a bod gwaith ar y gweill i ystyried newidiadau y gallem eu gwneud i'r dreth gyngor yn y tymor byr i geisio ei gwneud yn llai anflaengar nag yw hi, yn anochel, ac yna i ystyried diwygiadau mwy dwys i drethiant lleol i weld, yn ymarferol, a oes rhywbeth gwahanol y gallem ei ddefnyddio yn lle'r dreth gyngor. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau yn ystod tymor y Cynulliad hwn ac y bydd ar gael ar gyfer y Cynulliad nesaf.

Diolch, Llywydd. Does the way in which income tax is being partly devolved to Wales skew the incentives for Welsh Government in a tax-raising direction, in that we have the revenue benefit of any increase in the Welsh rate of tax, but any offsetting reduction across the tax base due to changes in behaviour as people face higher taxes—between half and three quarters of that loss of revenue on that tax base—would be felt by the UK Government, which won't be taking the decision?

Diolch, Lywydd. A yw'r ffordd y mae treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol i Gymru yn gwyro cymhellion Llywodraeth Cymru tuag at gynyddu trethi, yn yr ystyr ein bod yn cael budd refeniw yn sgil unrhyw gynnydd yn y gyfradd dreth yng Nghymru, ond byddai unrhyw ostyngiad gwrthbwyso ar draws y sylfaen drethu o ganlyniad i newidiadau mewn ymddygiad wrth i bobl wynebu trethi uwch—rhwng hanner a thri chwarter y refeniw a gollir ar y sylfaen drethu honno—yn cael eu teimlo gan Lywodraeth y DU, na fydd yn gwneud y penderfyniad?

Well, that issue was well rehearsed, Llywydd, during the negotiations over the fiscal framework. The fiscal framework does pass certain risks to Wales. It does in compensation protect us from some other risks, and the form of devolution of income tax that we have—and there are many other models we could have had and others who argue that it should have been taken further—but one of the, I think, positive aspects of it in the short run at least, as we take on these new responsibilities, is that it does mean that we are not as exposed to some of the risks that we otherwise would be exposed to had we come to a different set of agreements in the fiscal framework.

Wel, cafodd y mater gryn sylw, Lywydd, yn ystod y trafodaethau ynglŷn â'r fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol yn trosglwyddo rhai risgiau i Gymru. I wrthbwyso hynny, mae'n ein hamddiffyn rhag rhai risgiau eraill, a'r math o ddatganoli treth incwm sydd gennym—ac mae llawer o fodelau eraill y gallem fod wedi eu cael ac eraill sy'n dadlau y dylid bod wedi mynd ag ef ymhellach—ond credaf mai un o'r agweddau cadarnhaol arno, yn y tymor byr o leiaf, wrth inni ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn, yw ei fod yn golygu nad ydym mor agored i rai o'r risgiau y byddem yn eu hwynebu fel arall pe baem wedi cytuno ar set wahanol o gytundebau yn y fframwaith cyllidol.

14:10
Portffolio Addysg
The Education Portfolio

5. Pa lefel o flaenoriaeth a roddir i'r portffolio addysg wrth benderfynu ar ymrwymiadau gwario Llywodraeth Cymru? OAQ52531

5. What level of priority is given to the education portfolio in deciding Welsh Government spending commitments? OAQ52531

Thanks to John Griffiths for that. Allocations to the education portfolio receive a high priority in budget setting, but in an age of unrelenting austerity have to be considered alongside the need to invest in our health and social care services, in housing and in transport, in energy and the environment, to mention just a small selection of pressing needs.

Diolch i John Griffiths am hynny. Mae dyraniadau i'r portffolio addysg yn cael blaenoriaeth uchel wrth osod y gyllideb, ond mewn oes o gyni di-ildio, mae'n rhaid eu hystyried ochr yn ochr â'r angen i fuddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mewn tai ac mewn trafnidiaeth, mewn ynni a'r amgylchedd, i grybwyll ond rhai o'r anghenion dybryd.

Cabinet Secretary, I do understand that it's incredibly difficult to allocate funding in this age of austerity and all the pressures that involves. Nonetheless, I do believe that education should have a bigger share of the Welsh Government's budget than is currently the case. I believe that would be very much in line with the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, because greater spend on education will equip our children to prosper in their careers and to have better health and better quality of life in general. I also believe that it's preventative spend in terms of lifelong learning. In addition, a report by Brian Morgan and Gerry Holtham looking at what works for economic development across the world found that the biggest single determinant of economic success was a high level of spend on education. So, with that sort of background, will you, in the future, consider whether education and lifelong learning should have a bigger share of the Welsh Government's budget?

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall ei bod yn hynod o anodd dyrannu cyllid yn yr oes hon o gyni a'r holl bwysau sy'n mynd law yn llaw â hynny. Serch hynny, credaf y dylai addysg gael cyfran fwy o gyllideb Llywodraeth Cymru na'r hyn a ddarperir ar hyn o bryd. Credaf y byddai hynny'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan y byddai mwy o wario ar addysg yn paratoi ein plant i ffynnu yn eu gyrfaoedd ac i gael gwell iechyd a gwell ansawdd bywyd yn gyffredinol. Credaf hefyd ei fod yn wariant ataliol o ran dysgu gydol oes. Yn ogystal, mae adroddiad gan Brian Morgan a Gerry Holtham a fu'n edrych ar beth sy'n gweithio ar gyfer datblygu economaidd ledled y byd yn dod i'r casgliad mai'r penderfynydd mwyaf mewn perthynas â llwyddiant economaidd yw lefel uchel o wariant ar addysg. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, a wnewch chi, yn y dyfodol, ystyried a ddylai addysg a dysgu gydol oes gael cyfran fwy o gyllideb Llywodraeth Cymru?

Well, Llywydd, John Griffiths makes a persuasive case on behalf of education spend, and he's made it regularly in this Chamber in recent years. He will know that, on the capital side of our budget, the twenty-first century schools programme, band A and band B taken together, is the single largest investment that we make right across the responsibilities that the Welsh Government exercises, and that is a sign of the very high priority that we do attach to education and lifelong learning. Where revenue spending is concerned, where the auditor general's letter to the Public Accounts Committee confirmed that our budget has been cut by 10.5 per cent over the last decade, the choices are starker still. But I can assure him that, in making those very difficult decisions, the case he makes and the case that is repeated by the Cabinet Secretary with that responsibility is never overlooked.

Wel, Lywydd, mae John Griffiths yn gwneud achos argyhoeddiadol dros wariant ar addysg, ac mae wedi gwneud yr achos hwnnw'n rheolaidd yn y Siambr hon dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn gwybod, ar ochr gyfalaf ein cyllideb, mai rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan gymryd band A a band B gyda'i gilydd, yw'r buddsoddiad mwyaf a wnawn ar draws y cyfrifoldebau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n arwydd o'r flaenoriaeth uchel a roddwn i addysg a dysgu gydol oes. O ran gwariant refeniw, lle y cadarnhaodd llythyr yr archwilydd cyffredinol at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod toriad o 10.5 y cant wedi bod i'n cyllideb dros y degawd diwethaf, mae'r dewisiadau hyd yn oed yn fwy anodd. Ond gallaf ei sicrhau, wrth wneud y penderfyniadau anodd hynny, nad yw'r achos y mae'n ei wneud a'r achos sy'n cael ei ailadrodd gan Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cyfrifoldeb hwnnw byth yn cael ei anwybyddu.

Cabinet Secretary, the Assembly's education committee has highlighted concerns that the pupil development grant funding aimed at helping poorer pupils may not be delivering value for money in Wales. Given that tackling poverty is a key core aim of the Welsh Government, what consideration was given when setting the education budget to ensuring that the pupil development grant meets its aim of improving the attainment outcomes of pupils from the poorest backgrounds, not only to help their educational attainment but also their future health and well-being? Thank you.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pwyllgor addysg y Cynulliad wedi nodi pryderon efallai nad yw cyllid y grant datblygu disgyblion sydd wedi'i anelu at helpu disgyblion tlotach yn sicrhau gwerth am arian yng Nghymru. O gofio bod trechu tlodi yn un o nodau craidd allweddol Llywodraeth Cymru, pa ystyriaeth a roddwyd wrth bennu'r gyllideb addysg i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cyflawni ei nod o wella canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion o'r cefndiroedd tlotaf, nid yn unig er mwyn cynorthwyo eu cyrhaeddiad addysgol ond hefyd eu hiechyd a'u lles yn y dyfodol? Diolch.

I thank the Member for the question. I agree with the committee that it is very important to have a focus not simply on inputs—the money we spend on something—but the impact that that spending has, and I can assure him that, in the discussions that I have bilaterally with all Cabinet colleagues during the budget-setting process, not only do we consider the amount of resource that we are devoting to any area but we look at the impact and the effect that that spending has too. If we come across programmes where we don't believe that the spend is having the impact then we look to see how those can be recalibrated. I am very proud of the investment that this Government makes through the PDG in providing for those pupils who come from the least advantaged parts of our communities. I want that money to have a maximum impact, and I know that the Cabinet Secretary concerned works very hard to ensure exactly that.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Cytunaf â'r pwyllgor ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio nid yn unig ar y mewnbynnau—yr arian a wariwn ar rywbeth—ond ar yr effaith y mae'r gwariant hwnnw'n ei chael, a gallaf ei sicrhau, yn y trafodaethau dwyochrog a gaf gyda'r holl gyd-Aelodau o'r Cabinet yn ystod y broses o bennu'r gyllideb, nid yn unig ein bod yn ystyried faint o adnoddau rydym yn eu dyrannu i unrhyw faes, ond ein bod yn ystyried yr effaith a gaiff y gwariant hwnnw hefyd. Os down ar draws rhaglenni lle nad ydym yn credu bod y gwariant yn cael yr effaith honno, rydym yn archwilio sut y gellir eu hailgalibro. Rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud drwy'r grant datblygu disgyblion yn darparu ar gyfer y disgyblion sy'n dod o rannau mwyaf difreintiedig ein cymunedau. Rwyf am i'r arian hwnnw gael yr effaith fwyaf posibl, a gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymwneud ag ef yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mi oeddwn i’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn mewn arian cyfalaf, fel rhan o’n cytundeb ni ar y gyllideb atodol, er mwyn ehangu addysg Gymraeg. Rydw i, erbyn hyn, wedi cael cadarnhad bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymgeisio am gyfran o’r arian yna—yn wir, bod cyfanswm y ceisiadau dros £100 miliwn. Felly, leiciwn i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni ynglŷn â'r galw sydd yna am fwy o fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg. Pa neges mae hynny'n ei anfon i chi fel Ysgrifennydd Cabinet wrth i chi ystyried eich cyllideb y flwyddyn nesaf? A wnewch chi ystyried o leiaf parhau â'r math yna o fuddsoddiad yn y flwyddyn sydd i ddod, os nad ydych chi mewn sefyllfa hyd yn oed i'w gynyddu e?

I was very pleased that Plaid Cymru was able to achieve an additional investment of £30 million capital funding, as part of our agreement on the supplementary budget, to expand Welsh-medium education. By now, I have received confirmation that all local authorities in Wales have put in a bid for a proportion of that money. In fact, the total of applications is over £100 million. So, I would like to ask the Cabinet Secretary what that tells us about the demand that exists for creating investment in Welsh-medium education. What message does that send to you as Cabinet Secretary as you consider your budget for next year? Will you consider at least continuing with that type of investment in the coming year, if you’re not in a position to be able to increase it?

14:15

Y neges rydw i'n tynnu mas o hynny yw'r llwyddiant rydym ni wedi'i gael yma yng Nghymru i dyfu'r nifer o bobl sydd eisiau cael addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hynny'n rhywbeth pwysig ac yn rhywbeth trawsbleidiol yma yn y Cynulliad rydym ni wedi gweithio'n galed i'w hybu. 

The message that I draw from that is the success that we’ve had here in developing the numbers that want to access education through the medium of Welsh. That’s important, and it's a cross-party issue here in the Assembly that we've worked hard to promote.

The Member will remember that one of the strongest cases for the additional £30 million upfront investment in Welsh-medium education is that it would free up resources in subsequent years so that we will be able to create a new stream of investment in the Welsh-medium sector, not just for the £30 million, but following it. So, I'm not surprised to learn that there was a greater level of application for the money than money in the fund, but because of the way that we have done it, it does mean that there will be opportunities not just in that year but in subsequent years, and I'm quite sure that those schemes that are not at the front of the queue when the decisions come to be made, and where the money may not be needed immediately—that we will also now look to see what we can do to go on investing in this sector, because that was what the money was intended to do.

Bydd yr Aelod yn cofio mai un o'r achosion cryfaf dros y buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn mewn addysg cyfrwng Cymraeg oedd y byddai'n rhyddhau adnoddau mewn blynyddoedd dilynol fel y gallwn greu ffrwd newydd o fuddsoddiad yn y sector cyfrwng Cymraeg, nid yn unig ar gyfer y £30 miliwn, ond ar ôl hynny. Felly, nid yw'n syndod clywed y bu lefel uwch o geisiadau am arian na'r swm o arian sydd yn y gronfa, ond oherwydd y ffordd rydym wedi gwneud hyn, golyga y bydd cyfleoedd nid yn unig yn ystod y flwyddyn honno ond dros y blynyddoedd dilynol, ac rwy'n siŵr y bydd y cynlluniau hynny nad ydynt ar frig y rhestr pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, a lle na fydd angen yr arian ar unwaith, o bosibl—y byddwn yn edrych hefyd i weld beth y gallwn ei wneud i barhau i fuddsoddi yn y sector hwn, gan mai dyna oedd y bwriad ar gyfer yr arian.

Brexit
Brexit

6. Pa gynlluniau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u sefydlu ar gyfer y posibilrwydd o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb fargen? OAQ52556

6. What plans has the Cabinet Secretary put in place for a possible no-deal exit from the European Union? OAQ52556

I thank the Member for that question. The damage caused by a 'no deal' exit from the European Union cannot be eliminated, but contingency planning is being carried out across the Welsh Government and with our partners in order to mitigate the impact of what would be a catastrophic outcome for Wales.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni ellir dileu'r difrod a achosir yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb 'ddim bargen', ond mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid er mwyn lliniaru effaith yr hyn a fyddai'n ganlyniad trychinebus i Gymru.

Yesterday, Labour MPs voting with the Tories ensured that a critical amendment to the trade Bill fell. The amendment guaranteed, if negotiations failed, that the most basic customs union would still be an option, protecting our steel and agricultural industries, Welsh jobs and wages. A 'no deal' Brexit now looks more likely than ever. European nations have been told to step up planning for a 'no deal' scenario and drug companies are stockpiling medicine for the same reason. Cabinet Secretary, I have twice asked the First Minister what the Welsh Government is doing to ensure similar measures are being put in place, and twice—rather irresponsibly, I have to say—the First Minister has said that it's not possible to put plans in place to mitigate a 'no deal' Brexit, yet you say here this afternoon that you have contingency plans. Given that there are two contradictory positions given to us from the Government, will you now commit to publishing a 'no deal' mitigation plan for the sake of Welsh jobs and wages?

Ddoe, sicrhaodd ASau Llafur a bleidleisiodd gyda'r Torïaid fod gwelliant hanfodol i'r Bil masnach yn methu. Roedd y gwelliant yn gwarantu, pe bai'r trafodaethau'n methu, y byddai'r undeb tollau mwyaf sylfaenol yn parhau i fod yn opsiwn, gan ddiogelu ein diwydiant dur a'n diwydiant amaethyddol, a swyddi a chyflogau Cymru. Ymddengys bellach fod Brexit 'dim bargen' yn fwy tebygol nag erioed. Dywedwyd wrth wledydd Ewrop am gynyddu eu cynlluniau ar gyfer senario 'dim bargen' ac mae cwmnïau cyffuriau yn pentyrru meddyginiaethau am yr un rheswm. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gofyn ddwywaith i'r Prif Weinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod mesurau tebyg yn cael eu rhoi ar waith, a ddwywaith—yn eithaf anghyfrifol, mae'n rhaid i mi ddweud—mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad oes modd rhoi cynlluniau ar waith i liniaru Brexit 'dim bargen', ond eto i gyd rydych chi'n dweud yma y prynhawn yma fod gennych gynlluniau wrth gefn. O gofio bod y Llywodraeth wedi rhoi dau safbwynt anghyson inni, a wnewch chi ymrwymo yn awr i gyhoeddi cynllun lliniaru 'dim bargen' er budd swyddi a chyflogau Cymru?

Well, Llywydd, there is no contradiction in the position of the Government. The First Minister has said—and I entirely agree with him—that anybody who regards a 'no deal' Brexit as just another point on a continuum, and that you can plan away the downsides of that, is simply offering a false prospectus to the Welsh public. So, I say again: a 'no deal' Brexit would be catastrophic and no amount of planning can eliminate that catastrophe.

Wel, Lywydd, nid oes unrhyw anghysondeb yn safbwynt y Llywodraeth. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud—ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—fod unrhyw un sy'n ystyried Brexit 'dim bargen' yn bwynt arall ar gontinwwm, ac y gallwch gynllunio i gael gwared ar ei anfanteision yn gyfan gwbl, yn cynnig prosbectws ffug i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, rwy'n dweud unwaith eto: byddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus ac ni all unrhyw gynllunio gael gwared â'r trychineb hwnnw'n gyfan gwbl.

But you can carry out contingency planning, and there's no contradiction between those two positions. That's what I said in my answer to the Member. She will have drawn some comfort, I'm sure, from what the auditor general said in his valedictory letter. He said that

'it is apparent that work is getting underway within the Welsh Government and many other public bodies across Wales to manage some of the more immediate challenges that the Brexit process and its continuing uncertainties are posing'.

So, it was apparent to the auditor general that that work is going on. I give her an assurance that it is. We discussed it in some detail on the floor of the Assembly yesterday. Those are plans of a contingency nature. There is no plan that can simply wipe away the effect on Wales of a catastrophic 'no deal' exit. 

Ond fe allwch lunio cynlluniau wrth gefn, ac nid oes unrhyw anghysondeb rhwng y ddau safbwynt. Dyna a ddywedais yn fy ateb i'r Aelod. Bydd yr hyn a ddywedodd yr archwilydd cyffredinol yn ei lythyr ymadawol, yn rhywfaint o gysur iddi rwy'n siŵr. Dywedodd ei bod

'yn ymddangos bod gwaith yn symud ymlaen o fewn Llywodraeth Cymru a llawer o gyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru i reoli rhai o’r heriau cynharaf y mae proses Brexit a’i hansicrwydd parhaus yn eu gosod'.

Felly, roedd yn amlwg i'r archwilydd cyffredinol fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwy'n ei sicrhau ei fod. Buom yn ei drafod yn fanwl ar lawr y Cynulliad ddoe. Natur wrth gefn sydd i'r cynlluniau hynny. Nid oes unrhyw gynllun a all gael gwared yn gyfan gwbl ar effaith drychinebus gadael heb 'ddim bargen' ar Gymru.

Can I talk about Brexit in terms of organisations that rarely get mentioned, namely local government? How is the Welsh Government helping local authorities prepare for Brexit, including the possibility of a 'no deal' scenario? Because local authorities don't often get mentioned when we talk about Brexit, but they will, in many cases, be at the front line when we come out.

A gaf fi sôn am Brexit yn nhermau sefydliadau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn aml, a llywodraeth leol yn benodol? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o senario 'dim bargen'? Oherwydd yn aml, nid yw awdurdodau lleol yn cael eu crybwyll pan fyddwn yn sôn am Brexit, ond mewn llawer o achosion, byddant ar y rheng flaen pan fyddwn yn gadael.

14:20

I thank Mike Hedges for that question. I want to assure him that local government plays an important part in our planning and that it is very ably represented on the European advisory group by the leader of Swansea council, Councillor Rob Stewart, who regularly reports at that group about issues of concern to local authorities and action that is being taken. I was very pleased earlier this month to be able to confirm £150,000 worth of support for the WLGA from our £50 million European Union transition fund, and that's there to help local authorities in the vital work that they do in preparing for Brexit.

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Hoffwn ei sicrhau bod llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn ein proses gynllunio a'i bod yn cael ei chynrychioli'n dda iawn yn y grŵp cynghori ar Ewrop gan arweinydd cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, sy'n rhoi adroddiadau rheolaidd yn y grŵp hwnnw ynglŷn â materion sy'n peri pryder i awdurdodau lleol a'r camau sy'n cael eu cymryd. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o allu cadarnhau gwerth £150,000 o gymorth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'n cronfa bontio Undeb Ewropeaidd £50 miliwn, ac mae'r gronfa honno yno i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r gwaith hanfodol a wnânt wrth baratoi ar gyfer Brexit.

Y Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
The Local Government and Public Services Portfolio

7. Pa ystyriaeth a roddwyd i daliadau gwasanaeth gan awdurdodau lleol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52533

7. What consideration was given to service charges by local authorities when setting the budget for the local government and public services portfolio? OAQ52533

I thank the Member for that. Local authorities are able to charge for services where there is statutory provision to allow it. Authorities must carefully consider the use of charging to deliver quality services while remaining fair and providing value for money for local citizens.  

Diolch i'r Aelod am hynny. Gall awdurdodau lleol godi tâl am wasanaethau lle y ceir darpariaeth statudol i ganiatáu hynny. Mae'n rhaid i awdurdodau roi ystyriaeth ofalus i godi tâl er mwyn darparu gwasanaethau o safon gan barhau i fod yn deg a darparu gwerth am arian i ddinasyddion lleol.

Thank you very much for the reply, Cabinet Secretary. A reduction in public funding has given a greater focus on charging for services by local authorities. In November 2016, a report by the Auditor General for Wales concluded that the local authorities are not pursuing all options to generate income because of weaknesses in their policies and in how they use data and information to support decision making. What discussions has the Cabinet Secretary had with ministerial colleagues and others about implementing the auditor general's recommendations to relieve some of the pressure on local authorities' budgets caused by cuts in the Welsh Assembly's funding?

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gostyngiad mewn cyllid cyhoeddus wedi rhoi mwy o ffocws ar awdurdodau lleol yn codi tâl am wasanaethau. Ym mis Tachwedd 2016, daeth adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r casgliad nad yw'r awdurdodau lleol yn mynd ar drywydd pob opsiwn i gynhyrchu incwm oherwydd gwendidau yn eu polisïau a'r ffordd y maent yn defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi eu penderfyniadau. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion ac eraill ynghylch gweithredu argymhellion yr archwilydd cyffredinol i liniaru rhywfaint o'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a achosir gan y toriadau yng nghyllid Cynulliad Cymru?

I thank the Member for that. I'm familiar with the report to which he refers and a number of the recommendations that the auditor general made to assist local authorities in this area. He will be aware that the auditor general also said that it was important for local authorities to balance the need to raise additional revenue through charges with the impact that that might have on some sections of the community and, in effect, price them out of being able to use important local authority services such as leisure centres. So, it's a difficult balancing act that local authorities have to carry out in this area. Officials of the Welsh Government have been discussing the report and the way that it's being put to use by local authorities, and they continue to do that difficult thing—looking to raise revenue—to make good the cuts that his Government has imposed on us, while, at the same time, making sure that they do it in a way that does not disproportionately impact on certain sections of the community.

Diolch i'r Aelod am hynny. Rwy'n gyfarwydd â'r adroddiad y cyfeiria ato a nifer o'r argymhellion a wnaed gan yr archwilydd cyffredinol i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y maes hwn. Fe fydd yn ymwybodol fod yr archwilydd cyffredinol wedi dweud hefyd ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol gydbwyso'r angen i godi refeniw ychwanegol drwy godi tâl gyda'r effaith y gallai hynny ei chael ar rai rhannau o'r gymuned, ac mewn gwirionedd, eu prisio allan o allu defnyddio gwasanaethau awdurdodau lleol pwysig megis canolfannau hamdden. Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y gwaith anodd o gadw'r ddysgl yn wastad yn y maes hwn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod yr adroddiad a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, ac maent yn parhau i wneud y peth anodd hwnnw—ceisio codi refeniw—er mwyn gwneud iawn am y toriadau y mae ei Lywodraeth wedi'u gorfodi arnom, gan sicrhau, ar yr un pryd, eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n cael effaith anghymesur ar rai rhannau o'r gymuned.

Ac yn olaf, cwestiwn 8—Siân Gwenllian.

Finally, question 8—Siân Gwenllian.

Y System Ardrethi Busnes
The Business Rates System

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system ardrethi busnes? OAQ52557

8. Will the Cabinet Secretary make a statement on the Welsh Government's efforts to tackle any weaknesses in the business rates system? OAQ52557

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i wahanol opsiynau ar gyfer cryfhau’r system ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion ar gyfer taclo’r rheini sy’n osgoi talu trethi, ystyried pa mor aml y mae’r trethi yn cael eu hailbrisio, ac adolygu’r system apelio. Rydym ni hefyd yn chwilio am gyfle ar gyfer diwygio mwy sylfaenol yn y tymor hir.

Thank you for the question. The Welsh Government is exploring a number of options for strengthening the non-domestic rates system in Wales. These include proposals for tackling avoidance, considering the frequency of revaluations, and reviewing the appeals system. We are also looking at the scope for more fundamental reforms in the longer term.

Rai misoedd yn ôl, mi ges i gyfle i’ch holi chi ynglŷn ag ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r patrwm cynyddol o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo fel tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth cyngor. A chan eu bod nhw’n fusnesau bach, maen nhw’n gymwys am ryddhad busnes yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes y Llywodraeth. Mi ddywedoch chi bryd hynny y buasech chi’n gweithio efo’r awdurdodau lleol a’r swyddfa brisio er mwyn casglu data a monitro hyn. A oes modd inni gael diweddariad am hyn ac i weld beth mae’r data yn ei ddangos hyd yma? Oherwydd o ystyried bod yna gynnydd sylweddol yn y nifer o ail gartrefi yng Ngwynedd, er enghraifft, os nad ydy’r prosesau yma’n ddigon cryf, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau na fydd y trethdalwr yn colli allan.

Some months ago, I had an opportunity to question you on the Government’s attempt to tackle the increasing pattern of the owners of second homes registering their properties as holiday lets in order to avoid paying council tax. As they are small businesses, they qualify for business rate relief in accordance with the Government’s business rate relief scheme. You said at that time that you would work with local authorities and the valuation office in order to gather data and to monitor this. Could we have an update on this to see what that data has demonstrated to date? Given that there is a substantial increase in the number of second homes in Gwynedd, for example, unless these processes are sufficiently robust, then we have to be proactive in order to ensure that the ratepayer doesn’t lose out.

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn yna. Rwy’n cofio’r cwestiwn a gawsom ni ar lawr y Cynulliad y tro diwethaf.

I thank Siân Gwenllian for that question. I do recall the question that we had on the floor of the Assembly previously.

After that, as the Member will know, I undertook to amend our tax policy work plan for this year, and it now includes a specific commitment to monitor the implementation of that legislation, to ensure that it is operating as intended and that it does not create opportunities for avoidance. So, that work is part of the tax plan; it is being undertaken. I plan to report in October, alongside the draft budget, on the work that has been carried out this year under the tax plan, and I will be reporting on the data that we've collected as part of that exercise.

Wedi hynny, fel y gŵyr yr Aelod, ymrwymais i ddiwygio ein cynllun gwaith ar bolisi treth ar gyfer eleni, ac mae bellach yn cynnwys ymrwymiad penodol i fonitro gweithrediad y ddeddfwriaeth honno, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu fel y bwriadwyd ac nad yw'n creu cyfleoedd i osgoi trethi. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n rhan o'r cynllun treth; mae'n mynd rhagddo. Rwy'n bwriadu adrodd yn ôl ym mis Hydref, ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ar y gwaith a wnaed eleni o dan y cynllun treth, a byddaf yn adrodd ar y data rydym wedi'i gasglu fel rhan o'r ymarfer hwnnw.

14:25

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

I thank the Cabinet Secretary.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
2. Questions to the Leader of the House and Chief Whip

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

The next item, therefore, is the questions to the Leader of the House and Chief Whip, and the first question is from Rhun ap Iorwerth.

Caethwasiaeth Fodern
Modern Slavery

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern? OAQ52542

1. Will the Leader of the House make a statement on Welsh Government efforts to tackle modern slavery? OAQ52542

Diolch. We are determined to do all we can to make Wales hostile to slavery. In April, we had the first prosecution in the UK for county lines using modern slavery legislation. This saw two men jailed for trafficking a vulnerable woman from London to Swansea to sell heroin.

Diolch. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Ym mis Ebrill, cawsom yr erlyniad cyntaf yn y DU am 'linellau sirol' gan ddefnyddio deddfwriaeth caethwasiaeth fodern. Arweiniodd hyn at garcharu dau ddyn am fasnachu menyw agored i niwed o Lundain i Abertawe i werthu heroin.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae caethwasiaeth fodern, wrth gwrs, yn drosedd anfoesol sy'n cael ei chyflawni yn erbyn rhai o'r bobl fwyaf bregus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gael eu hecsbloetio. Rydw i wedi cael cyswllt efo nifer o fudiadau yn y gogledd—mae Haven of Light yn un ohonyn nhw—sy'n gweithio ar godi ymwybyddiaeth a chefnogi dioddefwyr. Rydw i wedi trafod efo'r cyngor lleol, ac wedi cael cyswllt efo Heddlu Gogledd Cymru. Rydw i'n gwybod eu bod nhw'n flaengar iawn yn datblygu un o ddim ond pedair uned caethwasiaeth fodern sydd yna, ac mae eraill yn dilyn eu harweiniad nhw. Rŵan, yng nghynhadledd y bartneriaeth caethwasiaeth fodern genedlaethol yn Birmingham yr wythnos diwethaf, mi oedd yna bwyslais mawr, rydw i'n deall, ar bwysigrwydd gweithio ar draws asiantaethau statudol, cyrff anllywodraethol a busnes. Fy nghwestiwn i, yn syml iawn, ydy: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog y math yna o gydweithio ar draws gwahanol sectorau, sy'n gallu gwneud gwahaniaeth yn y maes yma?

Thank you very much for that response. Modern slavery, of course, is an immoral crime, which is affecting some of the most vulnerable people in our communities and those who are most open to exploitation. I’ve had contact with a number of organisations in north Wales—Haven of Light is one of them—working to raise awareness and to support victims. I’ve had discussions with the local council, and had discussions with North Wales Police. I know that they have been very prominent in developing one of only four modern slavery units, and others are following their lead. Now, in the national modern slavery partnership meeting in Birmingham last week, I understand that there was great emphasis on working across statutory agencies, non-governmental organisations and business. So, my question is, simply: what steps are the Welsh Government taking to encourage that sort of collaboration across various sectors, which can make a difference in this area?

The Member is absolutely right there. It's a hidden, complex and completely intolerable crime, against which we must work very hard. We are, of course, the first, and remain the only country in the UK, to have appointed an anti-slavery co-ordinator, and established the Wales anti-slavery leadership group to provide that strategic leadership and guidance on how we tackle slavery. That is the point of that. We absolutely accept the Member's premise that without working across the statutory agencies, we have much-reduced chances of actually finding and protecting the vulnerable people and prosecuting the people who put them into that position. And so it's absolutely about working with partners, but delivering consistent standards of anti-slavery training to almost 8,000 people across Wales. That is the exact purpose of that, in order to make sure that we have a consistent approach across all of our agencies that are engaged together in combating this terrible crime.

Mae'r Aelod yn llygad ei le. Mae'n drosedd gudd a chymhleth na ddylid ei goddef ar unrhyw gyfrif, ac mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn yn ei herbyn. Ni, wrth gwrs, yw'r wlad gyntaf, a'r unig wlad yn y DU o hyd i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, a sefydlwyd grŵp arwain atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu'r arweiniad strategol hwnnw a'r canllawiau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth. Dyna yw ei bwynt. Rydym yn derbyn haeriad yr Aelod fod llawer llai o obaith gennym, heb weithio ar draws yr asiantaethau statudol, o ddod o hyd i bobl agored i niwed a'u hamddiffyn ac o erlyn y bobl sy'n eu rhoi yn y sefyllfa honno. Ac felly, yn sicr, mae a wnelo hyn â gweithio gyda phartneriaid, ond hefyd â darparu hyfforddiant atal caethwasiaeth o safon gyson i bron 8,000 o bobl ledled Cymru. Dyna'n union yw diben hynny, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd gyson ar draws ein holl asiantaethau sy'n mynd ati gyda'i gilydd i drechu'r drosedd ofnadwy hon.

There is evidence of forced labour in hand car washes, and it's believed to be growing from 10,000 to 20,000 businesses in the UK, and many of those are unregulated. We know that the UK Government has launched a hand car wash inquiry last April, and the main goal is to look at, principally, environmental impacts and the regulations that govern hand car washes, but it is also going to look at how the UK Government is meeting its obligation to reduce human exploitation under the UN sustainable development goals. Leader of the house, will the Welsh Government consider launching a similar inquiry that focuses on the regulation of such industries, and their link to human trafficking and exploitation?

Ceir tystiolaeth o lafur dan orfod mewn sefydliadau golchi ceir â llaw, a chredir bod hynny'n tyfu o 10,000 i 20,000 o fusnesau yn y DU, gyda llawer ohonynt heb eu rheoleiddio. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi lansio ymchwiliad i sefydliadau golchi ceir â llaw fis Ebrill diwethaf, a'r prif nod yw archwilio effeithiau amgylcheddol a'r rheoliadau sy'n llywodraethu sefydliadau golchi ceir â llaw, ond bydd hefyd yn edrych ar sut y mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhwymedigaeth i leihau camfanteisio ar bobl o dan nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried lansio ymchwiliad tebyg sy'n canolbwyntio ar reoleiddio diwydiannau o'r fath, a'u cysylltiad â masnachu pobl a chamfanteisio?

It's a very interesting inquiry. We are co-operating with the Gangmasters and Labour Abuse Authority in their input into that inquiry, and of course we will be looking with great interest to see what the outcome of the inquiry report is, and to see what lessons we can learn in Wales. We have a very open mind about what might lead on from that, once they've completed the report.

Mae'n ymchwiliad diddorol iawn. Rydym yn cydweithredu â'r Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur gyda'u cyfraniad i'r ymchwiliad hwnnw, ac wrth gwrs, bydd gennym gryn ddiddordeb yng nghanlyniad adroddiad yr ymchwiliad, a gweld pa wersi y gallwn eu dysgu yng Nghymru. Mae gennym feddwl agored iawn o ran yr hyn a allai ddeillio o hynny, ar ôl iddynt gwblhau'r adroddiad.

Obviously, I acknowledge the Welsh Government's interest in this and, actually, the hard work of Joyce Watson on this matter for some considerable period of time, but I'd be quite interested in hearing a little bit more about specific activity between the two Governments, if you like, since Theresa May introduced this Act in 2015. As Rhun mentioned, many agencies are involved in identifying and helping other people identify what modern slavery is, but have you had any evidence yet that suggests that the co-ordinator is helping police forces here in Wales to tackle this crime in a consistent way—that's my main question—but whether that's then cascaded down, to use those dreaded words, to some of the agencies we were talking about earlier?

Yn amlwg, rwy'n cydnabod diddordeb Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn ogystal â gwaith caled Joyce Watson ar y mater ers cryn dipyn o amser, ond hoffwn glywed ychydig mwy am weithgaredd penodol rhwng y ddwy Lywodraeth, os mynnwch, ers i Theresa May gyflwyno'r Ddeddf hon yn 2015. Fel y dywedodd Rhun, mae llawer o asiantaethau'n ymwneud â'r gwaith o nodi a helpu pobl eraill i nodi beth yw caethwasiaeth fodern, ond a ydych wedi cael unrhyw dystiolaeth hyd yma sy'n awgrymu bod y cydgysylltydd yn cynorthwyo'r heddlu yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r drosedd hon mewn ffordd gyson—dyna fy mhrif gwestiwn—ond hefyd, a yw hynny wedyn yn rhaeadru i lawr, i ddefnyddio'r geiriau ofnadwy hynny, i rai o'r asiantaethau y buom yn sôn amdanynt yn gynharach?

14:30

Yes. We've been conducting, as I said in answer to Rhun ap Iorwerth and Joyce Watson—we have input into a large number of agencies all over the place, via the anti-slavery co-ordinator. And we've been doing the awareness raising and training to increase awareness, if you like. And one of the reasons that we think that that's working is that referrals are increasing—so, they've increased from 34 in 2012 to 193 in 2017. We've had 53 referrals in the first few months of this year, for example, and we believe that that activity is directly related to the increased working together, and the awareness raising, and the consistent approach that we've been advocating, if you like. So, it's essential: for example, we're working with partners to tackle the county lines criminals. I'm sure you'll all have seen reports in various press and media about that. The National Crime Agency and police are working with us to tackle online sex-for-sale—it's very hard to say—websites. So, absolutely, we work absolutely across the board, and this is not a crime that's confined within any kind of boundary—it's absolutely essential to work in as wide a way as possible, with all of the agencies who might become involved in this terrible crime.

Ie. Rydym wedi bod yn cynnal, fel y dywedais mewn ateb i Rhun ap Iorwerth a Joyce Watson—mae gennym fewnbwn i nifer fawr o asiantaethau ym mhob man, drwy'r cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Ac rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynnal hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth, os mynnwch. Ac un o'r rhesymau pam y credwn fod hynny'n gweithio yw bod nifer yr atgyfeiriadau'n cynyddu—felly, maent wedi cynyddu o 34 yn 2012 i 193 yn 2017. Rydym wedi cael 53 o atgyfeiriadau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf o'r flwyddyn hon, er enghraifft, ac rydym yn credu bod y gweithgarwch hwnnw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ffaith ein bod yn cydweithio mwy, a'r ffaith ein bod yn codi ymwybyddiaeth, a'r dull cyson rydym wedi bod yn ei hyrwyddo, os hoffech chi. Felly, mae'n hanfodol: er enghraifft, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r troseddwyr 'llinellau sirol'. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd wedi gweld adroddiadau yn y wasg a'r cyfryngau amrywiol am hynny. Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a'r heddlu yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael â gwefannau sy'n gwerthu rhyw ar-lein. Felly, yn bendant, rydym yn gweithio ar bob agwedd, ac nid yw hon yn drosedd sydd wedi'i chyfyngu o fewn unrhyw fath o ffin—mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf eang sy'n bosibl, gyda'r holl asiantaethau a allai ddod yn rhan o'r drosedd ofnadwy hon.

Ceiswyr Lloches
Asylum Seekers

2. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gymunedau i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu ceiswyr lloches? OAQ52549

2. What support can the Welsh Government offer communities to help raise awareness of issues facing asylum seekers? OAQ52549

The Welsh Government is committed to fostering understanding and good relations between the various parts of our communities, which obviously include asylum seekers. We do this through many ways, including our funding for the Asylum Rights programme and our nation of sanctuary plan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i feithrin dealltwriaeth a chysylltiadau da rhwng gwahanol rannau o'n cymunedau, sy'n amlwg yn cynnwys ceiswyr lloches. Gwnawn hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys ein cyllid ar gyfer y rhaglen Hawl i Loches a'n cynllun cenedl noddfa.

Thank you very much. A couple of weeks ago, I visited Llanishen High School, in my constituency of Cardiff North, to present a certificate as the first school of sanctuary in Cardiff, presenting it to students who are tackling the stigma faced by asylum seekers, both inside the school and outside in the community. What support and encouragement can the Cabinet Secretary offer to other schools who want to become schools of sanctuary? Because it seems such an important way of raising awareness and tackling, sadly, the stigma that there is out there about asylum seekers.

Diolch yn fawr iawn. Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Llanisien yn fy etholaeth, sef Gogledd Caerdydd, i gyflwyno tystysgrif iddi fel yr ysgol noddfa gyntaf yng Nghaerdydd, gan ei chyflwyno i fyfyrwyr sy'n mynd i'r afael â'r stigma a wynebir gan geiswyr lloches, o fewn yr ysgol a thu allan yn y gymuned. Pa gymorth ac anogaeth y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu cynnig i ysgolion eraill sydd eisiau dod yn ysgolion noddfa? Oherwydd mae'n ymddangos yn ffordd mor bwysig o godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â'r stigma sy'n bodoli, yn anffodus, mewn perthynas â cheiswyr lloches.

Yes, it's a great project, and I'm delighted to see that sort of project spreading throughout Wales. We have a number of initiatives spreading through Wales. Actually, many are spontaneously arising, because the people of Wales are actually very welcoming, and very happy to have asylum seekers and refugees in their communities. We've had lots of communities coming forward to be part of the Croeso movement, for example.

Specifically, the new education curriculum, of course, supports children to become ethical, informed citizens of the world, and we expect that to include a complete understanding of other cultures. And as part of our nation of sanctuary plan, we have committed to an equality and diversity communications plan, and worked to get more balanced reporting. What we're hoping to do is pull all of those schemes together, so that a school, or any other part of our community, can come forward and become part of the sanctuary scheme across Wales, to spread it out. So, all of the publicity that we can give to all of the good-news stories like that, across Wales, help other people who want to become involved. So, it's a great project, and we're hoping to have many more in the future in Wales.

Ydi, mae'n brosiect gwych, ac rwy'n falch iawn o weld y math hwnnw o brosiect yn lledaenu ledled Cymru. Mae gennym nifer o fentrau'n lledaenu drwy Gymru. Mewn gwirionedd, mae llawer ohonynt yn codi'n ddigymell, oherwydd bod pobl Cymru yn groesawgar iawn, ac yn hapus iawn i gael ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu cymunedau. Rydym wedi cael llawer o gymunedau'n cynnig bod yn rhan o'r mudiad Croeso, er enghraifft.

Yn benodol, mae'r cwricwlwm addysg newydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo plant i ddod yn ddinasyddion moesol a deallus yn y byd ac rydym yn disgwyl i hynny gynnwys dealltwriaeth gyflawn o ddiwylliannau eraill. Ac fel rhan o'n cynllun cenedl noddfa, rydym wedi ymrwymo i gynllun cyfathrebu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac wedi gweithio i sicrhau prosesau adrodd mwy cytbwys. Yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw dwyn pob un o'r cynlluniau hynny ynghyd, fel y gall ysgol, neu unrhyw ran arall o'n cymuned, fod yn rhan o'r cynllun noddfa ledled Cymru, er mwyn ei ledaenu. Felly, mae'r holl gyhoeddusrwydd y gallwn ei roi i newyddion da o'r fath, ledled Cymru, yn helpu pobl eraill sy'n dymuno cymryd rhan. Felly, mae'n brosiect gwych, ac rydym yn gobeithio cael llawer mwy ohonynt yn y dyfodol yng Nghymru.

Leader of the house, many of the people fleeing from countries where there's danger and war are fleeing persecution—persecution because of their religious beliefs, usually converts from Islamic backgrounds who convert to Christianity, for example, in some parts of the middle east. Faith groups and churches in the UK have provided sanctuary for these individuals, and given them a very warm welcome, including here in Wales. Will you join me in congratulating Tredegarville Baptist Church, for example, and their pastor, Phylip Rees, here in Cardiff, for the excellent work that they've done in welcoming refugees from Iran, from parts of Kurdish Iraq, and from Afghanistan, who've been fleeing that sort of persecution, to be welcomed into the community, and the excellent ties that they have developed with those refugees? What more can the Welsh Government do to promote that sort of welcome being available in other churches across Wales?

Arweinydd y tŷ, mae llawer o'r bobl sy'n ffoi o wledydd lle y ceir perygl a rhyfel yn ffoi rhag erledigaeth—erledigaeth oherwydd eu credoau crefyddol, fel arfer y rheini sydd wedi trosi o gefndiroedd Islamaidd i Gristnogaeth, er enghraifft, mewn rhai rhannau o'r dwyrain canol. Mae grwpiau ffydd ac eglwysi yn y DU wedi darparu noddfa i'r unigolion hyn, ac wedi rhoi croeso cynnes iawn iddynt, gan gynnwys yma yng Nghymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Eglwys y Bedyddwyr Tredegarville, er enghraifft, a'u gweinidog, Phylip Rees, yma yng Nghaerdydd, am y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud yn croesawu ffoaduriaid o Iran, o rannau o Irac Gwrdaidd, ac o Affganistan, sydd wedi bod yn dianc rhag y math hwnnw o erledigaeth, i'w croesawu i'r gymuned, a'r cysylltiadau rhagorol y maent wedi'u datblygu gyda'r ffoaduriaid hynny? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y math hwnnw o groeso ar gael mewn eglwysi eraill ar draws Cymru?

Yes, of course, I'm very happy to welcome those programmes. As I've just said in response to Julie Morgan, we have a large number of heart-warming stories from across Wales, in all of our communities, and in all of our—you know, faith communities, and other communities of interest, and geographical communities, which shows that people reach out and want to include them. We've got some excellent stories about the benefit that asylum seekers who have become refugees—in terms of status—bring. And at the moment we're compiling some stories for the Home Office, both of the unintended consequences of the juxtaposition of some of their policies, but also of stories that we hope will change the media perception of asylum and refugee seekers—stories where people have benefited from communities such as the one that you describe, but who also have themselves contributed hugely to those communities, and enhanced both the cultural and social cohesion of their neighbourhood in so doing. 

Ie, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i groesawu'r rhaglenni hynny. Fel rwyf newydd ei ddweud mewn ymateb i Julie Morgan, mae gennym nifer fawr o straeon calonogol o bob cwr o Gymru, ym mhob un o'n cymunedau, ac ym mhob un o'n—wyddoch chi, cymunedau ffydd, a chymunedau eraill o ddiddordeb, a chymunedau daearyddol, sy'n dangos bod pobl yn estyn allan ac eisiau eu cynnwys. Mae gennym straeon ardderchog am y manteision y mae ceiswyr lloches sydd wedi dod yn ffoaduriaid—o ran statws—yn eu dwyn gyda hwy. Ac ar hyn o bryd rydym yn casglu straeon ar gyfer y Swyddfa Gartref, ynglŷn â chanlyniadau anfwriadol cyfochriad rhai o'u polisïau, ond hefyd o straeon rydym yn gobeithio y byddant yn newid canfyddiad y cyfryngau o geiswyr lloches a ffoaduriaid—straeon lle mae pobl wedi elwa o gymunedau fel yr un rydych yn ei disgrifio, ond sydd hefyd wedi cyfrannu llawer i'r cymunedau hynny eu hunain, ac wedi gwella cydlyniant cymdeithasol a diwylliannol eu cymdogaeth wrth wneud hynny.

14:35

A few weeks ago, I spoke at the Centre for African Entrepreneurship's Women in Politics event that they had, about trying to get more diverse candidates in the National Assembly. But a few asylum-seeker mothers came specifically to that meeting to meet with me because they were telling me about the fact that their children are wanting to go to Gower College Swansea in the new term, but because they can't get access to an the education maintenance allowance, and they can't afford the transport there, they're potentially going to be disenfranchised from actually getting an education because of the fact that they can't afford it. Now, I was at an event where they had people like Malala and Nelson Mandela all on display, and it seemed ironic to me—we all know what Malala had to go through—that in Wales, in the twenty-first century, we may be stopping asylum-seeker children, who are actually women, from getting access to that education by virtue of the fact that they have no recourse to that public finance. So, please will you look into this issue, because I would not want to see us stopping those young asylum seekers while they're here to access the education that they rightly deserve?

Ychydig wythnosau yn ôl, bûm yn siarad mewn digwyddiad Menywod mewn Gwleidyddiaeth yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, am geisio cael ymgeiswyr mwy amrywiol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ond daeth ychydig o famau a oedd yn geisiwyr lloches i'r cyfarfod hwnnw yn arbennig er mwyn cyfarfod â mi, oherwydd roeddent yn dweud wrthyf fod eu plant eisiau mynd i Goleg Gŵyr Abertawe yn y tymor newydd, ond oherwydd na allant gael y lwfans cynhaliaeth addysg, ac oherwydd na allant fforddio'r cludiant yno, mae'n bosibl y byddant yn cael eu hamddifadu o'u hawl i addysg oherwydd y ffaith nad ydynt yn gallu ei fforddio. Nawr, roeddwn mewn digwyddiad lle roedd ganddynt arddangosfa o bobl fel Malala a Nelson Mandela, ac roedd yn ymddangos yn eironig i mi—rydym i gyd yn gwybod am yr heriau a wynebodd Malala—ein bod ni, yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn atal plant sy'n geiswyr lloches, sy'n fenywod mewn gwirionedd, rhag cael mynediad at yr addysg honno yn rhinwedd y ffaith nad yw'r cyllid cyhoeddus hwnnw ar gael iddynt. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi edrych ar y mater hwn, oherwydd ni fuaswn eisiau i ni atal y ceiswyr lloches ifanc hyn, tra'u bod yma, rhag cael mynediad at yr addysg y maent yn ei haeddu?

I couldn't agree with you more, Bethan Sayed. We would very much like to extend a number of public funds to asylum and refugee peoples, but, unfortunately, we come up against the Home Office system of 'no recourse to public funds' very often. I can assure you that we are currently actively working very hard to put a scheme together to ensure that, in Wales, we can give people access in a way that's compliant, of course, with the current law, but which also allows the access to happen. There is a raft of very complicated arrangements in place where funds are added to the list of 'no recourse to public funds', and we need to make sure that we don't unnecessarily have funds added to those because of the way we construct a scheme, whilst at the same time assisting all of the people who have come to live with us here in Wales to access the education that they, of course, rightly deserve. 

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Bethan Sayed. Byddem yn hoffi'n fawr iawn pe baem yn gallu cynnig nifer o gronfeydd cyhoeddus i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ond yn anffodus, rydym yn aml yn wynebu system y Swyddfa Gartref o 'dim hawl i gronfeydd cyhoeddus' yn aml iawn. Gallaf eich sicrhau ein bod wrthi ar hyn o bryd yn gweithio'n galed iawn i roi cynllun at ei gilydd i sicrhau ein bod, yng Nghymru, yn gallu darparu mynediad i bobl mewn ffordd sy'n cydymffurfio, wrth gwrs, â'r gyfraith bresennol, ond sydd hefyd yn caniatáu mynediad at gyllid. Mae llu o drefniadau cymhleth iawn ar waith lle y caiff cronfeydd eu hychwanegu at y rhestr o 'dim hawl i gronfeydd cyhoeddus', ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw cronfeydd yn cael ei ychwanegu at y rheini'n ddiangen oherwydd y ffordd rydym yn llunio cynllun, ac ar yr un pryd, ein bod yn cynorthwyo'r holl bobl sydd wedi dod i fyw atom yma yng Nghymru i gael mynediad at yr addysg y maent, yn gwbl briodol, yn ei haeddu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

I now call the party spokespeople to ask questions. Conservative spokesperson, Mark Isherwood. 

Diolch, Llywydd. Only yesterday, I received correspondence from a Flintshire constituent who had received a response from Openreach saying that they would not gain access under the first phase of the Superfast Cymru programme. Another one I also received, on behalf of a constituent, from Openreach, only yesterday, said:

'I'm very sorry that residents of Llangollen have not heard any news concerning the proposed fibre roll-out in their area. I have spoken with our local fibre team and sadly the delivery of fibre broadband across the area has now been halted.'

Both of them refer to the Welsh Government's successor programme. Why, therefore, have you not, thus far, provided the statement that you stated on 10 May, in response to my written question, you would be providing within the next month? You said:

'The procurement exercise for the successor project, which is planned to close on the 23rd May, is well underway, with a view to a delivery contract being awarded in late summer of this year. I will make a statement within the next month to update members'— 

which should, therefore, presumably have been by 10 June. 

Diolch, Lywydd. Ddoe, cefais ohebiaeth gan etholwr o Sir y Fflint a oedd wedi cael ymateb gan Openreach yn dweud na fyddent yn cael mynediad o dan gam cyntaf rhaglen Cyflymu Cymru. Roedd un arall a gefais, ar ran etholwr, gan Openreach ddoe yn dweud hefyd:

Mae'n ddrwg gennyf nad yw trigolion Llangollen wedi clywed unrhyw newyddion ynglŷn â'r bwriad i gyflwyno band eang ffeibr yn eu hardal. Rwyf wedi siarad â'n tîm ffeibr lleol ac yn anffodus mae darpariaeth band eang ffeibr ar draws yr ardal bellach wedi'i stopio.

Mae'r ddau ohonynt yn cyfeirio at raglen olynol Llywodraeth Cymru. Pam, felly, nad ydych chi hyd yma wedi darparu'r datganiad y dywedoch chi ar 10 Mai, mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig, y byddech yn ei ddarparu o fewn y mis nesaf? Roeddech yn dweud:

Mae'r ymarfer caffael ar gyfer y prosiect olynol, a fydd yn dod i ben ar 23 Mai, ar y gweill, gyda golwg ar gontract cyflenwi yn cael ei ddyfarnu yn hwyr yn yr haf eleni. Byddaf yn gwneud datganiad o fewn y mis nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau—

a ddylai, felly, yn ôl pob tebyg, fod wedi'i wneud erbyn 10 Mehefin.

We have, of course, completed the very successful Superfast Cymru roll-out scheme, and as the Member knows, from the amount of correspondence that he and I have had, and a number of other Members in the Chamber have had, we have about 85,000 people who are not included in that, but the scheme has delivered to many more premises than we originally anticipated.

We have announced the successor project. It is currently out to procurement. I was very much hoping to be in a position by today to be able to give more details, Llywydd, of this, but, unfortunately, I'm not in that position. I hope to be in that position extremely soon. 

Wrth gwrs, rydym wedi cwblhau cynllun cyflwyno Cyflymu Cymru yn llwyddiannus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, o'r ohebiaeth y mae ef a minnau wedi'i chael, ac y mae nifer o Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael, mae gennym tua 85,000 o bobl nad ydynt wedi'u cynnwys yn hwnnw, ond mae'r cynllun wedi'i ddarparu i lawer mwy o safleoedd na'r hyn a ragwelwyd gennym yn wreiddiol.

Rydym wedi cyhoeddi prosiect olynol. Mae hwnnw yn mynd drwy'r broses gaffael ar hyn o bryd. Roeddwn yn gobeithio'n fawr y buaswn mewn sefyllfa i allu rhoi mwy o fanylion am hwn erbyn heddiw, Lywydd, ond yn anffodus, nid wyf yn y sefyllfa honno. Gobeithiaf y byddaf yn y sefyllfa honno yn fuan iawn.

Thank you. Well, I hope you'll appreciate the frustration for the constituents who received a copy of your reply and have been waiting since 10 June, and have contacted me regularly asking whether we've had the statement yet. 

On a separate matter, in May the Wales Council for Voluntary Action produced a report called 'Empowering Communities'—not directly within your brief, but this bit certainly is in your brief. It said that they've 

'focussed on "place-based" or locality based communities, but different groups of people live within them: different genders, ethnicities, faiths, ages.'

And they said that   

'Recognising the diversity in and across communities—and building on the strengths this brings—should be at the core of community wellbeing policies. Equality is part of community wellbeing.'

In that context, and within your brief, how do you propose to respond to the comments in the valedictory letter from the Auditor General for Wales to Nick Ramsay, as Chair of the Public Accounts Committee, which referred to 

'what has been conspicuously absent so far across the Welsh public service'

and the

'real opportunities to reshape services and re-design delivery models in ways which enable genuine transformation and place the citizen at the centre, through working collectively in ways which transcend our inherited organisational structures'?

Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall rhwystredigaeth yr etholwyr a gafodd gopi o'ch ateb ac sydd wedi bod yn aros ers 10 Mehefin, ac sydd wedi cysylltu â mi yn rheolaidd yn gofyn a ydym wedi cael y datganiad eto.

Ar fater gwahanol, ym mis Mai, cynhyrchodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru adroddiad o'r enw 'Grymuso Cymunedau'—nad yw o fewn eich briff yn uniongyrchol, ond mae'r rhan hon yn sicr o fewn eich briff. Roedd yn dweud eu bod wedi

'canolbwyntio ar gymunedau sy’n "seiliedig ar le" neu ardal leol, ond mae grwpiau gwahanol o bobl yn byw yn y rhain: gwahanol ryweddau, grwpiau ethnig, grwpiau ffydd, oedrannau.'

Ac roeddent yn dweud

'Dylai cydnabod amrywiaeth mewn cymunedau ac ar draws cymunedau—a meithrin y cryfderau sy’n dod gyda hynny—fod yn ganolog i bolisïau llesiant cymunedol. Mae cydraddoldeb yn rhan o lesiant cymunedol.'

Yn y cyd-destun hwnnw, ac o fewn eich briff, sut rydych yn bwriadu ymateb i'r sylwadau yn y llythyr ymadawol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Nick Ramsay, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd yn cyfeirio at

'yr hyn sydd wedi bod yn amlwg absennol hyd yma ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'

a'r cyfleoedd gwirioneddol

'i ailsiapio gwasanaethau ac ailgynllunio modelau darparu mewn ffyrdd sy’n gwneud trawsnewid gwirioneddol yn bosibl a gosod y dinesydd yn y canol, drwy weithio ar y cyd mewn ffyrdd sy'n codi uwchlaw y strwythurau sefydliadol a etifeddwyd'?

14:40

Well, of course, as part of our community cohesion plan, we do work very closely with our stakeholders and we are consulting on the new national community cohesion plan in the autumn that will, of course, have the intersectionality that Mark Isherwood I know feels very passionately about. We are working very hard to ensure that our forthcoming strategy fits in with the other strategies in that seamless way that the auditor general's been discussing. 

Wel, wrth gwrs, fel rhan o'n cynllun cydlyniant cymunedol, rydym yn gweithio'n agos iawn â'n rhanddeiliaid ac rydym yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol cenedlaethol newydd yn yr hydref a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys y croestoriad y gwn fod Mark Isherwood yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein strategaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r strategaethau eraill yn y ffordd ddi-dor y mae'r archwilydd cyffredinol wedi bod yn ei thrafod.

Thanks. Well, I hope you'll in that recognise that some of the people at the top who represent the barriers to sharing power will be made to recognise that this is about turning the power thing upside down and designing the system backwards, with the people as the starting point and not the afterthought. 

My final question relates to play and sport. Sense produced a report a couple of years ago, a play inquiry, which said that early intervention through play is vitally important for children with multiple needs and their families and brings a wide range of developmental and emotional benefits.

Play Wales, quoting a further source, said that 

'Enabling all children to play, and to play together, is about a benefit to the whole community. It is not about overcoming legal hurdles or making expensive provision for a small section of the community. If any child is prevented from playing then it diminishes the play experience of all.' 

How do you, therefore, respond to the evidence that disabled children in Wales are too often being denied proper access to play areas, despite the negative impact on them, where equipment suitable for all children is available but too often isn't made available, and that there needs to be a duty on local authorities to provide equipment in play areas that meet the needs of disabled children and other children? Also, alongside that is the report, last week, from Sport Wales, which found that access to sport by disabled children and adults is perceived to be patchy in many areas across many sports, with accessible changing rooms and direct access to sporting facilities often lacking. 

I know you'll agree with me that disabled children and adults deserve equal access to play and to sport. How on earth are you going to make that happen? 

Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch chi felly'n cydnabod y bydd rhai o'r bobl ar y brig sy'n cynrychioli'r rhwystrau i rannu grym yn cael eu gorfodi i gydnabod fod hyn yn ymwneud â throi mater pŵer wyneb i waered a dylunio'r system tuag at yn ôl, gyda'r bobl yn fan cychwyn yn hytrach nag ôl-ystyriaeth.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â chwarae a chwaraeon. Cyhoeddwyd adroddiad gan Sense ychydig flynyddoedd yn ôl, ymchwiliad i chwarae, a ddywedodd fod ymyrraeth gynnar drwy chwarae yn hanfodol bwysig i blant ag anghenion lluosog a'u teuluoedd ac yn esgor ar amrywiaeth eang o fanteision datblygiadol ac emosiynol.

Dywedodd Chwarae Cymru, gan ddyfynnu ffynhonnell arall,

'Mae galluogi pob plentyn i chwarae, ac i chwarae gyda'i gilydd, o fudd i'r gymuned gyfan. Nid yw'n ymwneud â goresgyn rhwystrau cyfreithiol neu sicrhau darpariaeth costus ar gyfer adran fechan o'r gymuned. Os y caiff unrhyw blentyn ei rwystro rhag chwarae yna bydd yn lleihau profiad chwarae pob un.'

Felly sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth sy'n dangos bod plant anabl yng Nghymru yn rhy aml yn cael eu hamddifadu o fynediad priodol at fannau chwarae, er gwaethaf yr effaith negyddol arnynt, lle mae cyfarpar addas ar gyfer pob plentyn ar gael ond yn rhy aml, ni wneir yn siŵr ei fod ar gael, a bod angen gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu offer mewn mannau chwarae sy'n diwallu anghenion plant anabl a phlant eraill? Hefyd, ochr yn ochr â hynny, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru yr wythnos ddiwethaf, a ganfu fod mynediad plant ac oedolion anabl at chwaraeon yn cael ei ystyried yn anghyson mewn llawer o ardaloedd ar draws llawer o chwaraeon, gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol at gyfleusterau chwaraeon yn aml yn absennol.

Gwn y byddwch yn cytuno â mi fod plant ac oedolion anabl yn haeddu mynediad cyfartal at chwarae ac at chwaraeon. Sut ar y ddaear rydych yn bwriadu gwneud i hynny ddigwydd?

I completely agree with Mark Isherwood. Obviously, the thing that we'd all like to see is that all play areas everywhere are accessible to all children. We don't want to have children who have to travel longer distances than any other child in order to access equipment that is the only equipment that's accessible to them. So, we are working very hard with Disability Wales, and in our framework for action on independent living, in our guidance to Disability Wales, and in a large number of engagement activities with disability groups to get guidance out as fast as possible about the redesign of any accessible areas, so that we do not have any exclusion of anyone no matter what their characteristics are. So, I completely agree with him that we need to do that. 

In my overall plan for equalities, which is the four-year review that will be coming in front of this Chamber, Llywydd, in December, I hope to be able to cover off our future plans for the sort of inclusion that Mark Isherwood has just talked about. 

Rwy'n cytuno'n llwyr â Mark Isherwood. Yn amlwg, yr hyn y byddai pawb ohonom yn hoffi ei weld yw bod yr holl fannau chwarae ym mhob man yn hygyrch i bob plentyn. Nid ydym eisiau i blant orfod teithio pellteroedd hwy nag unrhyw blentyn arall er mwyn cael mynediad at yr unig gyfarpar sy'n hygyrch iddynt. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Anabledd Cymru, ac yn ein fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, yn ein canllawiau i Anabledd Cymru, ac mewn nifer fawr o weithgareddau ymgysylltu gyda grwpiau anabledd i gyflwyno'r canllawiau ynglŷn ag ail-ddylunio unrhyw fannau hygyrch cyn gynted â phosibl, fel nad oes neb yn cael eu heithrio ni waeth beth yw eu nodweddion. Felly, cytunaf yn llwyr ag ef fod angen i ni wneud hynny.

Yn fy nghynllun cydraddoldeb cyffredinol, sef yr adolygiad pedair blynedd a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Siambr hon ym mis Rhagfyr, Lywydd, rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu trafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r math o gynhwysiant y mae Mark Isherwood newydd sôn amdano.

Llefarydd UKIP, David Rowlands. 

UKIP spokesperson, David Rowlands.  

Diolch, Llywydd. Leader of the house, as a former magistrate, I have seen first-hand the sometimes horrific consequences of domestic abuse. Could the leader of the house please outline the latest interventions being instigated by the Welsh Government to combat these crimes? 

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, fel cyn ynad, rwyf wedi gweld canlyniadau, a chanlyniadau erchyll weithiau, cam-drin domestig â fy llygaid fy hun. A fyddai arweinydd y tŷ yn gallu rhoi amlinelliad o'r ymyriadau diweddaraf sy'n cael eu hysgogi gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r troseddau hyn?

Yes. We're just in the process of rolling out the implementation of our groundbreaking Act. We're actually, as we speak, in the position of rolling out the regional frameworks. We've been working very hard indeed with a large number of stakeholders across Wales, including, I think crucially, survivors of domestic abuse, to ensure that we get the guidelines and pathways properly put in place so that no matter where you disclose—no matter where the disclosure takes place—you are guided to the correct pathway that has the right outcome for you as a survivor, or as a potential survivor at that point, so that we can help people to get their lives back on track as fast as possible.

Gallaf. Rydym yn y broses o roi ein Deddf arloesol ar waith. Mewn gwirionedd, wrth i ni siarad, rydym wrthi'n cyflwyno'r fframweithiau rhanbarthol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn wir gyda nifer fawr o randdeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys, yn hollbwysig rwy'n credu, goroeswyr cam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod y canllawiau a'r llwybrau ar waith yn briodol gennym fel eich bod, ni waeth ble fyddwch chi'n gwneud y datgeliad—ni waeth ble mae'r datgeliad yn digwydd—yn cael eich tywys at y llwybr cywir a fydd yn arwain at y canlyniad cywir i chi fel goroeswr, neu fel darpar oroeswr ar y pwynt hwnnw, fel y gallwn helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd cywir cyn gynted â phosibl.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

I thank you for that answer, leader of the house. It has been stated by Welsh Women's Aid that victims of domestic abuse cannot leave the abusive environment because they cannot afford to do so. With the latest figures showing cases of domestic abuse in Wales rising by 23 per cent, can the leader of the house give us an indication as to the support available to victims who are caught in such a situation?

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu gadael yr amgylchedd ymosodol oherwydd na allant fforddio gwneud hynny. Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o gam-drin domestig yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant, a wnaiff arweinydd y tŷ sôn am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr sy'n cael eu dal mewn sefyllfa o'r fath?

Yes. We fund a variety of programmes right across Wales, but we are currently, as I said, working with a number of stakeholders to ensure that those pathways exist everywhere in Wales. I think, Llywydd, it is not the case that we have a completely ideal framework right across Wales, but, as part of our regional strategy and as part of our roll-out, and as a result of advice from our national advisers, we are hoping to put that plan into action, and we are on target in terms of the Act for enacting the national framework plans, and that will inform our spending subsequently.

I would just say, though, that we ought to be glad that the numbers are rising, because what we hope that that means, although we haven't empirical evidence of this, is that, of course, people are more prepared to come forward. What we don't want is to have it as a hidden crime where people don't come forward. So, we welcome the rise in numbers, as that indicates a rise in the number of reported incidents.

Gwnaf. Rydym yn ariannu amrywiaeth o raglenni ar draws Cymru, ond ar hyn o bryd, fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid i sicrhau bod y llwybrau hynny yn bodoli ym mhob man yng Nghymru. Lywydd, nid yw'n wir fod gennym fframwaith hollol ddelfrydol ledled Cymru, ond fel rhan o'n strategaeth ranbarthol ac fel rhan o'r broses o gyflwyno'r cynllun, ac o ganlyniad i gyngor gan ein cynghorwyr cenedlaethol, rydym yn gobeithio gallu rhoi'r cynllun hwnnw ar waith, ac rydym ar y trywydd cywir o ran y Ddeddf ar gyfer gweithredu'r cynlluniau fframwaith cenedlaethol, a bydd hynny'n llywio ein gwariant yn dilyn hynny.

Buaswn yn dweud, serch hynny, y dylem fod yn falch bod y niferoedd yn codi, oherwydd rydym yn gobeithio bod hynny'n golygu fod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau, er nad oes gennym dystiolaeth empirig o hynny, wrth gwrs. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw trosedd gudd lle nad yw pobl yn rhoi gwybod amdani. Felly rydym yn croesawu'r cynnydd yn y niferoedd, gan fod hynny'n dangos cynnydd yn nifer y digwyddiadau y rhoddir gwybod amdanynt.

Again, I thank the Cabinet Secretary for that, and I do acknowledge the many interventions now taking place with regard to domestic abuse. But I'm sure you'll agree with me that refuges are a key element in getting victims out of abusive situations. What will the Welsh Government do to ensure that refuges in Wales are kept open? And if funding is channelled through local authorities in future, what measures are in place to mitigate top-slicing funds to facilitate administration costs?

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ac rwy'n cydnabod y nifer o ymyriadau sy'n digwydd bellach mewn perthynas â cham-drin domestig. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llochesi yn elfen allweddol er mwyn symud dioddefwyr o sefyllfaoedd lle y cânt eu cam-drin. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod llochesi yng Nghymru yn aros ar agor? Ac os bydd arian yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol yn y dyfodol, pa fesurau sydd ar waith i leihau'r gyfran o'r arian sy'n mynd tuag at gostau gweinyddol?

Absolutely, exactly as I said, there is now an onus on local authorities to produce regional plans, and the regional plan is a needs assessment, and so they must then respond to the needs assessment, which is the needs assessment of their area, and the funding follows. So, it's not just that we give them the money and then we ask them to just sort it out as they see fit; they've got to produce the regional plan, which tells us what the need in the area is and then we look to see that the funding is indeed spent in that way. As part of the new supergrant, which is what David Rowlands is referring to, there is a voluminous, I think it's fair to say, set of guidance that goes with that about what we expect local authorities to do.

Yn sicr, yn union fel y dywedais, mae yna bellach gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau rhanbarthol, ac mae'r cynllun rhanbarthol yn asesiad o anghenion, ac felly mae'n rhaid iddynt ymateb wedyn i'r asesiad o anghenion, sy'n asesu anghenion eu hardal, ac mae'r arian yn dilyn. Felly, mae'n fwy na'n bod yn rhoi arian iddynt ac yna'n gofyn iddynt ei ddyrannu fel y mynnant; mae'n rhaid iddynt gynhyrchu'r cynllun rhanbarthol, sy'n dweud wrthym beth yw'r angen yn yr ardal, ac yna byddwn yn edrych i weld bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Fel rhan o'r grant mawr newydd, sef yr hyn roedd David Rowlands yn cyfeirio ato, credaf ei bod yn deg dweud fod set swmpus o ganllawiau i fynd ochr yn ochr â hwnnw ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ei wneud.

The Plaid Cymru spokesperson, Siân Gwenllian.

Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i am drafod rhai o gasgliadau'r adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywedd, a'r cam cyntaf, sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd ble mae angen i Lywodraeth Cymru ysgogi gwelliant a dangos arweiniad. Un weithred yn benodol y mae'r adroddiad yn ei argymell ydy mynd i'r afael â nifer isel y bobl sy'n manteisio ar absenoldeb rhiant a rennir o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn argymell yn benodol cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir ar gyfradd mamolaeth well—yr enhanced maternity rate—i dadau sydd yn cymryd cyfnod o absenoldeb. A ydych chi'n mynd i wneud hyn?

Thank you, Deputy Presiding Officer. I want to talk about some of the conclusions of the ‘Rapid Review of Gender Equality 2018: Phase One’, which was recently published. The report draws attention to many areas where the Welsh Government needs to drive improvement and show leadership. One specific action that the report recommends is to tackle the low number of people who take advantage of shared parental leave within Welsh Government. The report specifically recommends the introduction of shared parental leave at the enhanced maternity rate to fathers who take a period of absence. Will you do this?

Yes, I'm very much hoping that we can implement that recommendation in the report. I'll just, Deputy Presiding Officer, set out where we are. We've published phase 1 of the report as it is. We have yet to respond formally to it. We are looking now to see what we can take forward rapidly over the summer, or, in other words—I don't know what cliche I can use: low-hanging fruit, if you like—something that is pretty obvious that we can get on with, and then we'll have a medium and longer term plan for some of the, as Siân Gwenllian rightly said, more challenging aspects of the report.

I'm due to have a series of meetings with the Permanent Secretary—and I'm not in any way shirking this, I would just like to hasten to say, but obviously the terms and conditions of the civil service are a matter for the Permanent Secretary and not for Ministers—but I'm due to have a series of meetings with the Permanent Secretary around a range of items in the report, which are to do with civil service terms and conditions and so on, with a view to seeing what we can do. I'm delighted to say that, alongside the Assembly Commission, the Welsh Government has now signed up to the Chwarae Teg fair-play employer benchmarking, so, that should drive some of that forward as well.

Ie, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y byddwn yn gallu gweithredu'r argymhelliad hwnnw yn yr adroddiad. Rwyf am egluro ein sefyllfa ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi cam 1 yr adroddiad fel y mae. Nid ydym wedi ymateb yn ffurfiol iddo eto. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei ddatblygu'n gyflym dros yr haf, neu mewn geiriau eraill—ni wn pa ystrydeb y gallaf ei defnyddio: ffrwythau isel, os mynnwch—rhywbeth sy'n eithaf amlwg y gallwn fwrw ymlaen ag ef, ac yna bydd gennym gynllun tymor canolig a thymor hwy ar gyfer rhai o'r agweddau mwy heriol ar yr adroddiad, fel y dywedodd Siân Gwenllian yn gywir.

Byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol—a hoffwn brysuro i ddweud nad wyf yn osgoi hyn mewn unrhyw ffordd, ond yn amlwg, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw telerau ac amodau'r gwasanaeth sifil, nid Gweinidogion—ond byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch amrywiaeth o eitemau yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â thelerau ac amodau'r gwasanaeth sifil ac ati, gyda golwg ar weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chomisiwn y Cynulliad, bellach wedi ymrwymo i system feincnodi cyflogwyr Chwarae Teg, felly dylai hynny ysgogi rhywfaint o'r gwaith hwnnw yn ogystal.

14:50

Diolch yn fawr, ac edrychwn ni ymlaen i weld hynny yn cael ei weithredu. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle nad ydy’r Llywodraeth wedi cyflawni yr hyn a fwriadwyd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod cydraddoldeb yn aml yn cael ei weld fel ymarfer ticio blwch sydd ddim yn dylanwadu ar bolisi. Mae yna un rhan sydd yn arbennig o feirniadol yn yr adroddiad, lle mae’n dweud fel hyn:

'mae proses bresennol y gyllideb a’r strwythur yn parhau i weithredu fel rhwystr rhag gweithio’n effeithiol yn drawslywodraethol ar bob mater, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol. Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau ac mae cyllidebau yn canolbwyntio ar bwysau ariannol yn hytrach nag ar effaith.'

Mi wnaf i ddweud hynny eto:

'Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau'.

I mi, mae hynny’n feirniadaeth ddamniol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei chyllideb, a’r ffordd y mae wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd lawer. Ond, yn bwysicach, beth ydych chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod hyn yn newid, ac yn newid ar unwaith?

Thank you very much, and we look forward to seeing that being implemented. Now, the report draws attention to many areas where the Government has not achieved what was intended, and the report does warn that equality is often seen as a tick-box exercise that doesn't influence policy. There is one part that is particularly critical in the report, where it talks about how,

'the current budget process and structure continues to act as a barrier to effective cross-government working on all issues, including gender equality. The budget process is not aligned to the policy-making process and budgets focus on financial pressures rather than impact.'

I will repeat that:

'The budget process is not aligned to the policy-making process'.

To me, that is a damning criticism of the way that the Welsh Government sets is budgets, and the way that it has been operating for many years. But, more importantly, what are you going to do to ensure that this changes, and changes immediately?

Actually, as it happens, the Cabinet Secretary for Finance and I, just shortly before this session, attended the budget advisory group for equality, where we consult with them during the budget process. We had a spirited discussion there of the new integrated equality assessments and what we can do, as a group of people, to ensure that they are rolled out in a helpful way and not as a tick-box exercise. I have a helpful graph, Deputy Presiding Officer, that I can share with Assembly Members, about how we expect that process to work and what improvements it should bring. As part of that, we then discuss—because, as I said, we haven't responded formally to the report. When we do respond—. We discussed helpfully in that group what the group might do in order to move some of the issues forward when we do the formal response. So, it was a very helpful preliminary conversation, and, in the autumn, I'll be in a better position to be able to respond very positively to some of those.

Mewn gwirionedd, fel y mae'n digwydd, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau, ychydig cyn y sesiwn hon, grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb, lle rydym yn ymgynghori â hwy yn ystod proses y gyllideb. Cawsom drafodaeth fywiog yno am yr asesiadau cydraddoldeb integredig newydd a'r hyn y gallwn ei wneud, fel grŵp o bobl, i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddefnyddiol yn hytrach nag ymarfer ticio blychau. Mae gennyf graff defnyddiol, Ddirprwy Lywydd, y gallaf ei rannu ag Aelodau'r Cynulliad, ynglŷn â sut y disgwyliwn i'r broses honno weithio a pha welliannau a fydd yn deillio ohoni. Fel rhan o hynny, rydym yn trafod—oherwydd, fel y dywedais, nid wyf wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad. Pan fyddwn yn ymateb—. Buom yn trafod yn y grŵp hwnnw, mewn ffordd ddefnyddiol, beth y gall y grŵp ei wneud er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r materion pan fyddwn yn ymateb yn ffurfiol. Felly, roedd yn sgwrs ragarweiniol ddefnyddiol iawn, ac yn yr hydref, byddaf mewn gwell sefyllfa i allu ymateb yn gadarnhaol iawn i rai o'r pethau hynny.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu diffyg gallu eich Llywodraeth i droi bwriadau yn ganlyniadau. Mae o'n nodi fel hyn:

'Mae llawer o’r rhai y buom yn siarad â hwy yn teimlo bod diffyg uchelgais o ran y camau gweithredu a’r amcanion o fewn cynlluniau cydraddoldeb, cynlluniau llesiant a pholisïau cenedlaethol yn ehangach ac, ar sail dadansoddiad o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru, mae tueddiad cynyddol i wneud datganiadau uchelgeisiol, eang gyda chamau gweithredu, amserlenni a mesurau llwyddiant cyfyngedig'

er mwyn amlinellu sut y caiff yr uchelgeisiau hyn eu gwireddu. Mae’n rhaid imi ddweud, mae’r datganiad ynglŷn ag eisiau creu Cymru ffeministaidd yn taro nodyn yn y fan yna, onid ydy—sef, 'datganiadau uchelgeisiol, eang', ond lle mae’r camau gweithredu?

Yn rhyngwladol, o blith y gwledydd hynny sy’n perfformio’n dda o ran cydraddoldeb rhywedd, mae bron bob un ohonyn nhw yn cyhoeddi data a thystiolaeth rheolaidd a hygyrch yn mapio allan cydraddoldeb rhywedd. Heb gamau gweithredu na dangosyddion i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd mewn polisïau yng Nghymru, mi fydd hi’n amhosibl olrhain cynnydd yn effeithiol, a chyfyngedig fydd y gweithgaredd craffu.

A ydych chi’n cydnabod bod y rhain yn themâu yr ydym ni’n eu gweld dro ar ôl tro gan eich Llywodraeth chi? Mi fyddwn ni’n nodi yn nes ymlaen yn ein dadl ar adroddiad y pwyllgor ar gyflogau isel, ac mi wnaethom ni sôn am hyn yn ddiweddar hefyd yn gysylltiedig efo iechyd meddwl a nifer o bynciau eraill—sef y diffyg data a’r diffyg targedau. A fedrwch chi ddangos y ffordd, felly, i weddill y Llywodraeth, drwy fabwysiadau targedau meintiol a dangosyddion pwrpasol i fesur cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru?

The report also talks about the lack of ability within your Government to turn intentions into outcomes. It goes on to say that,

'Actions and objectives within equality plans, well-being plans and national policy more widely are felt by many of those we spoke to, to lack ambition and, based on an analysis of current Welsh Government policies, there is an increasing tendency to make broad, aspirational statements with limited actions, timescales and success measures to outline how these aspirations will be realised.'

I have to say that the statement, in relation to wanting to create a feminist Wales, does ring a bell there, doesn't it—that is, that they are 'broad, aspirational statements', but where are the actions emanating from that?

In terms of the best performing nations in relation to gender equality, all of them publish data and evidence regularly and accessibly, mapping out gender equality. Without actions or indicators that will promote gender equality in policies in Wales, it will be impossible for us to trace or to see the progress that takes place effectively, and it will restrict scrutiny.

Do you acknowledge that these are themes that we see time and again from your Government? We will, later on, be looking at the report of the low-pay inquiry that the committee undertook, and we also recently discussed, in terms of mental health and other subjects—this lack of data and lack of targets. So, can you show the way to the rest of the Government, by adopting quantitative targets and meaningful indicators in order to measure progress towards gender equality in Wales?

Yes, I think there's much that I can agree with there in what Siân Gwenllian is saying. I don't agree that it's an issue across the board, but there are data issues in Wales. We struggle to uplift some of the national surveys in a realistic way, and although it's not quite on the topic that we're currently discussing, I hope it will be illustrative. For example, we haven't taken part in the race disparity audit that the UK Government did, even with the Welsh uplift, because the numbers that we would have got from that would have been too low to have been of any statistical significance. So, we're actively looking at the moment at what we can do in Wales to do something that is statistically significant, and very much in terms of our response to this early phase of the gender review, and then I hope in the action plan going forward, once we've got the second-stage process, will be how we get baseline data, what data's currently available, what resource we need to uplift that, because we will have to do that, because the UK data tends not to have enough of a sample in Wales to be significant, and then what we can do to create those targets, because I quite agree with her that, unless we have those targets in place, we won't have any idea whether our policy is or isn't effective.

Also, on the point of leadership, though, it's easy to be cynical, but if you don't state that you want Wales to be a feminist place, and if you're afraid to do that because of the cynicism, then I personally think you'd never get there. So, whilst I acknowledge the cynicism, I also acknowledge the vision, and I want to work very hard indeed to make sure that we do have an active action plan that is implementable and meaningful over, as I said, the short, medium and longer term to embed those processes.

Ie, credaf fy mod yn gallu cytuno â llawer o'r hyn a ddywed Siân Gwenllian. Nid wyf yn cytuno bod hon yn broblem ym mhob man, ond mae yna broblemau data yng Nghymru. Rydym yn cael trafferth i ymgodi rhai o'r arolygon cenedlaethol mewn ffordd realistig, ac er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc rydym yn ei drafod ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y bydd yn enghreifftiol. Er enghraifft, nid ydym wedi cymryd rhan yn yr archwiliad anghyfartaledd hiliol y cymerodd Lywodraeth y DU ran ynddo, hyd yn oed gan ymgodi ar gyfer Cymru, oherwydd byddai'r niferoedd y byddem wedi'u cael o hwnnw wedi bod yn rhy isel i fod o unrhyw arwyddocâd ystadegol. Felly, rydym wrthi'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn gwneud rhywbeth sydd o arwyddocâd ystadegol, ac i raddau helaeth o ran ein hymateb i'r cam cynnar hwn o'r adolygiad rhywedd, ac yna, rwy'n gobeithio, y cynllun gweithredu yn y dyfodol, pan fydd gennym broses yr ail gam, sut y cawn afael ar ddata sylfaenol, pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd, pa adnoddau rydym eu hangen i ymgodi hwnnw, oherwydd bydd yn rhaid i ni wneud hynny, gan nad yw data y DU yn tueddu i gynnwys digon o sampl yng Nghymru i fod yn arwyddocaol, ac yna yr hyn y gallwn ei wneud i greu'r targedau hynny, oherwydd cytunaf yn llwyr â hi, oni bai bod gennym y targedau hynny ar waith, ni fydd gennym unrhyw syniad a yw ein polisi yn effeithiol ai peidio.

Hefyd, o ran arweinyddiaeth, fodd bynnag, mae'n hawdd bod yn sinigaidd, ond os nad ydych yn datgan eich bod eisiau i Gymru fod yn wlad ffeministaidd, ac os ydych yn ofni gwneud hynny oherwydd y sinigiaeth, yna yn bersonol, ni chredaf y byddech chi byth yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Felly, er fy mod yn cydnabod y sinigiaeth, rwyf hefyd yn cydnabod y weledigaeth, ac rwyf eisiau gweithio'n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr fod gennym gynllun gweithredu gweithgar ac ystyrlon y gellir ei weithredu, fel y dywedais, dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy i ymgorffori'r prosesau hynny.

14:55
Cam-drin Domestig yn y Rhondda
Domestic Abuse in the Rhondda

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â cham-drin domestig yn y Rhondda? OAQ52555

3. How is the Welsh Government tackling domestic abuse in the Rhondda? OAQ52555

We continue to implement the commitment set out in our national strategy on violence against women, domestic abuse and sexual violence across the whole of Wales, as well as supporting the regional boards to deliver on their strategies at both a local and a regional level.

Rydym yn parhau i weithredu'r ymrwymiad a nodwyd yn ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru gyfan, yn ogystal â chynorthwyo'r byrddau rhanbarthol i gyflawni eu strategaethau yn lleol ac ar lefel ranbarthol.

As a former employee and board member for Cwm Cynon Women's Aid, I've got first-hand experience of the seriousness and the impact of domestic abuse. Failure to provide support can literally be a matter of life and death, and the statistics for domestic abuse in my constituency are particularly shocking. That's why I was concerned to read about the delays to the implementation of the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 in the excellent report produced by Chwarae Teg just last week. Will you make solid assurances now that the Welsh Government is remedying this and the other failures that have been highlighted within that particular report?

Fel gweithiwr ac aelod blaenorol o fwrdd Cymorth i Fenywod Cwm Cynon, mae gennyf brofiad uniongyrchol o ddifrifoldeb ac effaith cam-drin domestig. Gall methiant i ddarparu cymorth fod yn fater o fywyd neu farwolaeth yn llythrennol, ac mae'r ystadegau cam-drin domestig yn fy etholaeth yn arbennig o frawychus. Dyna pam roeddwn yn pryderu wrth ddarllen am yr oedi cyn gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn yr adroddiad ardderchog a gynhyrchwyd gan Chwarae Teg yr wythnos ddiwethaf. A wnewch chi roi sicrwydd cadarn yn awr fod Llywodraeth Cymru yn unioni hyn a'r methiannau eraill a amlygwyd yn yr adroddiad penodol hwnnw?

Since I came into this portfolio, we've had the new national advisers appointed, we've got the guidance for the local strategies published, and we've got a comprehensive communications campaign launched, which I know the Member is aware of—the This is Me and the Don't Be a Bystander campaigns being part of it, for example. We've got the consultation on regional commissioning guidance launched, we've got the consultation on a framework for engaging survivors launched, and we've got the roll-out of our 'ask and act' training for front-line workers.

We aim to consult on the draft indicators before the end of the autumn term, for the national indicators, and in future our annual reports will include progress against the national indicators as well as achievements to date on the delivery framework. So, there was a slow start, but I think we've accelerated now, we're back on target, and I think when we consult on the draft indicators before the end of the autumn term we will then be back where we should have been in the first place.

Ers i mi gael y portffolio hwn, mae'r cynghorwyr cenedlaethol newydd wedi'u penodi, mae'r canllawiau ar gyfer y strategaethau lleol wedi'u cyhoeddi, ac mae ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr wedi cael ei lansio, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol ohoni—mae ymgyrchoedd Dyma fi a Paid Cadw'n Dawel yn rhan ohoni, er enghraifft. Rydym wedi lansio'r ymgynghoriad ar y canllawiau comisiynu rhanbarthol, rydym wedi lansio'r ymgynghoriad ar fframwaith ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr, ac rydym yn cyflwyno ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gweithwyr rheng flaen.

Ein nod yw ymgynghori ar y dangosyddion drafft cyn diwedd tymor yr hydref, ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol, ac yn y dyfodol bydd ein hadroddiadau blynyddol yn cynnwys cynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol yn ogystal â llwyddiannau hyd yn hyn ar y fframwaith cyflawni. Felly, roedd yn ddechrau araf, ond credaf ein bod wedi cyflymu bellach, rydym yn ôl ar y trywydd cywir, ac rwy'n credu, pan fyddwn yn ymgynghori ar y dangosyddion drafft cyn diwedd tymor yr hydref, byddwn yn ôl lle y dylem fod wedi bod yn y lle cyntaf.

Cabinet Secretary, research has consistently shown that better outcomes are achieved for victims and their children when an integrated approach is taken by the agencies, and we know from Government stats in Wales, England and Scotland that domestic abuse counts for at least one in 10 people who require local authority support for homelessness. Some of the charities in the sector report that it's a significant factor in up to a third of the cases they deal with, because the person is simply too terrified, really, to stay, but cannot also leave the home they're in. So, can you ensure that, in all the advice lines and agencies that are commissioned to give advice, critical attention is given to the issue of homelessness and finding homes quickly for people, for women and children, under this terrible threat?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaith ymchwil wedi dangos yn gyson fod y canlyniadau'n well i ddioddefwyr a'u plant pan fo'r asiantaethau'n mabwysiadu dull integredig, a gwyddom o ystadegau Llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mai cam-drin domestig sydd i gyfrif am o leiaf un o bob 10 o bobl sydd angen cymorth digartrefedd gan yr awdurdod lleol. Mae rhai o'r elusennau yn y sector yn adrodd ei fod yn ffactor sylweddol mewn hyd at draean o'r achosion y maent yn ymdrin â hwy, oherwydd bod y person yn rhy bryderus, mewn gwirionedd, i aros, ond ni allant adael y cartref y maent yn byw ynddo ychwaith. Felly, a allwch chi sicrhau, ym mhob un o'r llinellau cyngor a'r asiantaethau sy'n cael eu comisiynu i roi cyngor, fod sylw allweddol yn cael ei roi i ddigartrefedd a dod o hyd i gartrefi i bobl yn gyflym, ar gyfer menywod a phlant, sy'n wynebu'r bygythiad ofnadwy hwn?

Yes, I completely agree with David Melding. I was very privileged to attend the launch of the Pobl Gwent roll-out, where registered social landlords are beginning to understand their role in tackling domestic abuse and have trained their staff to recognise the signs. This includes all staff—staff going in to do maintenance work and all the rest of it—to pick up the signs. They have an immensely helpful web portal part funded by the Welsh Government, which is actually available to anyone. If you want to look at it it's very helpful, just for you to be able to sit in your car afterwards and just run through what you can and can't do, when to ask for advice, and what other questions to ask—say you've forgotten your screwdriver and go back in and ask a question, or whatever. I'm delighted to see that being rolled out, and that is very much part of our framework and training, to enable that to happen across our RSLs. Also, we are working very hard so that we have a commitment in place, for example, that if you have a secure tenancy and you have to move to another part of Wales, we honour that. We're working very hard to ensure that we have reciprocal arrangements across borders, because the systems change quite radically, but we're working hard to make sure that we have reciprocal arrangements in place for mostly women who are fleeing. It's not always women, but it's mostly women who are fleeing that kind of domestic abuse.

Rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding. Roedd yn fraint mawr mynychu lansiad Pobl Gwent, lle mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn dechrau deall eu rôl o ran mynd i'r afael â cham-drin domestig ac maent wedi hyfforddi eu staff i adnabod yr arwyddion. Mae hyn yn cynnwys pob aelod o staff—staff sy'n mynd i wneud gwaith cynnal a chadw ac yn y blaen—i sylwi ar arwyddion. Mae ganddynt borth gwe hynod ddefnyddiol a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i unrhyw un. Os ydych eisiau edrych arno mae'n ddefnyddiol iawn, i chi allu eistedd yn eich car wedyn a meddwl am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud, pryd i ofyn am gyngor, a pha gwestiynau eraill i'w gofyn—dywedwch eich bod wedi anghofio eich tyrnsgriw ac ewch yn ôl a gofyn cwestiwn, neu beth bynnag. Rwy'n falch iawn o weld hwnnw'n cael ei gyflwyno, ac mae hwnnw'n rhan bwysig iawn o'n fframwaith a'n hyfforddiant, i alluogi hynny i ddigwydd ar draws ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Hefyd, rydym yn gweithio'n galed iawn fel bod gennym ymrwymiad ar waith, er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ddiogel a bod yn rhaid i chi symud i ran arall o Gymru, y byddwn yn anrhydeddu hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym drefniadau dwyochrog ar draws ffiniau, oherwydd mae'r systemau yn newid yn eithaf radical, ond rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr fod gennym drefniadau dwyochrog ar waith ar gyfer menywod, yn bennaf, sy'n ffoi. Nid menywod ydynt bob amser, ond menywod yn bennaf sy'n ffoi rhag y math hwnnw o gam-drin domestig.

15:00
Deddf Cydraddoldeb 2010
The Equality Act 2010

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau ei bod yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran pobl ifanc ag anableddau dysgu a'u teuluoedd? OAQ52524

4. How does the Welsh Government ensure that it is meeting the requirements of the Equality Act 2010 with regard to learning disabled young people and their families? OAQ52524

We're committed to improving the lives of everyone and addressing inequalities. The Improving Lives programme, which we set out in our statement on 3 July, builds on good practice to drive improvements in supporting children and young people with learning disabilities to reach their full potential.

Rydym yn ymrwymedig i wella bywydau pawb a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae'r rhaglen Gwella Bywydau, a nodwyd yn ein datganiad ar 3 Gorffennaf, yn adeiladu ar arferion da i lywio gwelliannau er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu i gyrraedd eu potensial llawn.

Thank you. This month's 'Don't Hold Back' report by the Children's Commissioner for Wales specifically refers to the Equality Act 2010 and quotes the explanatory memo to the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, stating,

'The Bill will promote equality, improve the quality of services and the provision of information people receive, as well as ensuring the right incentives for commissioners to achieve a shared focus on prevention and early intervention.'

How do you therefore propose to respond to the report's findings, highlighting the experiences of young people with learning disabilities and their families as they transition to adult services, that although they found good pockets of practice across Wales, the main findings highlight a lack of support for families, difficulty in accessing services, and little say for young people in shaping their futures, which, as they say, contradict the aspirations of both the Social Services and Well-being (Wales) Act and the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015—two flagship Welsh Government policies?

Diolch. Mae'r adroddiad 'Peidiwch â dal yn ôl' gan Gomisiynydd Plant Cymru yn cyfeirio'n benodol at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn dyfynnu'r nodyn esboniadol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan ddweud,

'Bydd y Bil yn hybu cydraddoldeb ac yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, yn ogystal â sicrhau bod yna gymhellion priodol i lywodraeth leol a’u partneriaid sicrhau bod yna bwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.'

Felly, sut rydych yn bwriadu ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, sy'n tynnu sylw at brofiadau pobl ifanc ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn y cyfnod pontio i wasanaethau oedolion, ac er eu bod wedi gweld enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, mae'r prif ganfyddiadau yn amlygu diffyg cymorth i deuluoedd, anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau, ac ychydig iawn o lais i bobl ifanc wrth gynllunio eu dyfodol, sydd, fel y dywedant, yn gwrth-ddweud y dyheadau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—dau o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Cymru?

We're looking forward to receiving the children's commissioner's upcoming report on the impact of transitions. We're going to be committed to working with the children's commissioner to ensure the experiences of young people improve at the time they become adults and that will include, as the Member says, better multi-agency planning, providing clear information and support, ensuring that the young people themselves can play an active role in their own transition, improvements to transport, and meaningful employment opportunities.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y comisiynydd plant ar effaith pontio. Byddwn yn ymrwymedig i weithio gyda'r comisiynydd plant i sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn gwella pan fyddant yn dod yn oedolion a bydd hynny'n cynnwys, fel y dywed yr Aelod, cynllunio amlasiantaethol gwell, darparu gwybodaeth a chymorth clir, sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gallu chwarae rhan weithredol yn eu cynlluniau pontio eu hunain, gwelliannau i drafnidiaeth a chyfleoedd cyflogaeth ystyrlon.

Can I also thank the leader for the answer to this question, because I'm trustee of Vale People First, a self-advocacy organisation that is for and led by people with a learning disability in the Vale of Glamorgan? I was very pleased to attend an event in Barry with Andrew R.T. Davies to showcase the achievement of their Big Lottery-funded project, I Am Not Invisible. Will the leader of the house join me in commending the work of this unique organisation in my constituency, which is an important representative voice for people with a learning disability in the Vale?

A gaf fi hefyd ddiolch i'r arweinydd am yr ateb i'r cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n ymddiriedolwr i Vale People First, sefydliad hunan-eirioli ar gyfer ac sy'n cael ei arwain gan bobl gydag anabledd dysgu ym Mro Morgannwg? Roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiad yn y Barri gydag Andrew R.T. Davies i arddangos cyflawniad eu prosiect, a ariennir gan y Loteri Fawr, I am Not Invisible. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi a chanmol gwaith y sefydliad unigryw hwn yn fy etholaeth, sy'n llais cynrychiadol pwysig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn y Fro?

Yes, it's a great project and, of course, I am very happy to join with her in commending the young people who are part of the project. It's very much part of our strategy to ensure that young people have a voice and are able to express that voice in a meaningful way to inform our strategies and our roll-out plans, and I'm delighted that she was able to attend that programme just recently.

Ie, mae'n brosiect gwych ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ymuno â hi a chanmol y bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect. Mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth i sicrhau bod gan bobl ifanc lais a'u bod yn gallu mynegi'r llais hwnnw mewn ffordd ystyrlon i lywio ein strategaethau a'n cynlluniau gweithredu, ac rwy'n falch iawn ei bod wedi gallu mynychu'r rhaglen honno yn ddiweddar.

Digideiddio Gwasanaethau Cyhoeddus
Digitising Public Services

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52537

5. Will the Leader of the House provide an update on action the Welsh Government is taking to digitise public services? OAQ52537

Certainly. Digital First sets out the steps needed to create the right environment for the delivery of effective digital public services. There are a range of improvements being made across and within all Cabinet Secretary portfolios.

Yn sicr. Mae Digidol yn Gyntaf yn nodi'r camau sydd eu hangen i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol effeithiol. Mae amrywiaeth o welliannau'n cael eu gwneud ar draws ac o fewn portffolios yr holl Ysgrifenyddion Cabinet.

Thank you for that answer, leader of the house. Councils across Wales are looking to artificial intelligence to take over some of the functions of their staff. Cardiff council are introducing a virtual assistant to handle queries from the public, and Monmouthshire council are introducing a chatbot for its online queries. A report by PricewaterhouseCoopers suggests that the move to artificial intelligence will see a large decrease in the number of people employed in admin and support services. Leader of the house, what assessment has your Government made of the impact that artificial intelligence will have on the public sector workforce?

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae cynghorau ledled Cymru yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial i ymgymryd â rhai o swyddogaethau eu staff. Mae cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhith-gynorthwyydd i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, ac mae cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno bot sgwrsio ar gyfer ei ymholiadau ar-lein. Mae adroddiad gan PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y bydd y newid i ddeallusrwydd artiffisial yn golygu gostyngiad mawr yn nifer y bobl a gyflogir mewn gwasanaethau gweinyddol a chymorth. Arweinydd y tŷ, pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o'r effaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar weithlu'r sector cyhoeddus?

There are mixed skill levels amongst public sector workers, which does impact on their ability to spot digital service transformation opportunities, and also to use new services that have been delivered. So, we have a training programme across the public sector to upskill staff and we're working very hard with councils who have recently expressed a view around creating a cohesive digital leadership role for local authorities, with a view to upskilling the staff, not just because of the threat of artificial intelligence, although clearly that threat exists for lower level admin tasks in particular—it's something that's been happening for a good long while now, since the early 1980s—but also with a view to actively including transformation programmes to enable those staff to be freed up for front-line service jobs that are not impacted by AI, and there are a large number of those as well. It's something the workforce partnership council has a huge interest in, and I know, for example, that they're considering making improvements to the People Exchange Cymru online service for recruitment with a view to making it a portal for that kind of activity.

Mae yna lefelau sgiliau cymysg ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n effeithio ar eu gallu i nodi cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau digidol, a hefyd i ddefnyddio gwasanaethau newydd sydd wedi'u darparu. Felly, mae gennym raglen hyfforddi ar draws y sector cyhoeddus i uwchsgilio staff ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau sydd wedi mynegi barn yn ddiweddar ar greu rôl arweinyddiaeth ddigidol gydlynol ar gyfer awdurdodau lleol, gyda'r bwriad o uwchsgilio'r staff, nid yn unig oherwydd bygythiad deallusrwydd artiffisial, er bod y bygythiad hwnnw'n amlwg yn bodoli ar gyfer tasgau gweinyddol lefel is yn arbennig—mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers amser hir bellach, ers y 1980au cynnar—ond hefyd gyda golwg ar fynd ati i gynnwys rhaglenni trawsnewid er mwyn rhyddhau'r staff hynny ar gyfer swyddi gwasanaethau rheng flaen na chânt eu heffeithio gan ddeallusrwydd artiffisial, a cheir nifer fawr o'r rheini yn ogystal. Mae gan gyngor partneriaeth y gweithlu ddiddordeb enfawr ynddo, a gwn, er enghraifft, eu bod yn ystyried gwneud gwelliannau i wasanaeth recriwtio ar-lein Cyfnewid Pobl Cymru gyda'r bwriad o'i wneud yn borth ar gyfer y math hwnnw o weithgarwch.

15:05

Leader of the house, I'm regularly approached, as I know many Assembly Members are, by organisations that have got ideas about how they might be able to help to improve, digitise and streamline public services. Many of these organisations have proven track records throughout the rest of the UK and, indeed, in Europe, but they are finding it increasingly difficult to interface with the Welsh Government. I'm concerned that we're creating barriers, and there's a risk of us not being at the forefront of a digital revolution in public services.

What routes would you suggest as the best way in for these organisations? They do try to approach individual portfolio holders, but get stopped at the gate by officials. A 'not made here in Wales' mentality doesn't help us to become leaders or the best of, and we want to learn from other good examples throughout Europe. I am really conscious of the fact that, especially in health, there is an awful lot of very good work going on elsewhere, and we just don't seem to have a handle on it.

Arweinydd y tŷ, mae sefydliadau'n cysylltu â mi yn rheolaidd, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad rwy'n gwybod, am fod ganddynt syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gallu helpu i wella, digideiddio a symleiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi profi eu hunain ledled gweddill y DU ac Ewrop yn wir, ond maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd rhyngwynebu â Llywodraeth Cymru. Rwy'n bryderus ein bod yn creu rhwystrau, ac mae perygl na fyddwn ar flaen y gad yn y chwyldro digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Pa lwybrau y byddech yn eu hawgrymu fel y ffyrdd gorau i mewn ar gyfer y sefydliadau hyn? Maent yn ceisio cysylltu â deiliaid portffolio unigol, ond cânt eu rhwystro gan swyddogion. Nid yw meddylfryd 'heb ei wneud yma yng Nghymru' yn ein helpu i ddod yn arweinwyr na'r gorau yn y maes, ac rydym eisiau dysgu o'r enghreifftiau da eraill ledled Ewrop. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith, yn arbennig ym maes iechyd, fod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd mewn mannau eraill, ac ymddengys nad oes gennym ran ynddo.

I'm very happy to be the conduit into Government if anybody's experiencing that difficulty. Deputy Presiding Officer, I'm always astonished when I say this, but I'll say it again here in the Chamber: my e-mail address is julie.james@gov.wales. It's astonishing to me how few people take up that opportunity. I'd very much welcome contact from anyone who thinks they can improve public services.

My colleague the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services and I are working very hard on those programmes. We're delighted, as I've just said, that there are proposals for the WLGA to establish a digital leadership function, which will enable that to co-ordinate. Via the workforce partnership council, as well, we have a direct conduit to all devolved and non-devolved public sector organisations that take part in the workforce partnership council arrangements, with a view to spreading that good practice.

Rwy'n hapus iawn i fod yn sianel i'r Llywodraeth os oes rhywun yn profi'r anhawster hwnnw. Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi synnu pan fyddaf yn dweud hyn, ond fe'i dywedaf eto yma yn y Siambr: fy nghyfeiriad e-bost yw julie.james@gov.wales. Mae'n syndod i mi cyn lleied o bobl sy'n manteisio ar y cyfle hwnnw. Buaswn yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy'n credu y gallant wella gwasanaethau cyhoeddus.

Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn gweithio'n galed iawn ar y rhaglenni hynny. Rydym yn falch iawn, fel rwyf newydd ei ddweud, fod yna gynigion i'r CLlLC sefydlu swyddogaeth arweinyddiaeth ddigidol, a fydd yn ei alluogi i gydlynu. Drwy gyngor partneriaeth y gweithlu yn ogystal, mae gennym sianel uniongyrchol i'r holl sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig, yn ogystal â'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli, sy'n cymryd rhan yn nhrefniadau cyngor partneriaeth y gweithlu, gyda'r bwriad o ledaenu'r arfer da hwnnw.

Band Eang yn Ne-ddwyrain Cymru
Broadband in South-east Wales

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52548

6. Will the Leader of the House provide an update on broadband provision in south-east Wales? OAQ52548

Certainly. The Superfast Cymru scheme has, to date, facilitated the roll-out of superfast broadband access to over 230,000 homes and businesses across the region, delivering average speeds of over 70 Mbps and investing over £63 million.

Yn sicr. Mae cynllun Cyflymu Cymru, hyd yma, wedi hwyluso'r broses o gyflwyno mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 230,000 o gartrefi a busnesau ar draws y rhanbarth, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 70 Mbps a buddsoddi dros £63 miliwn.

Thank you. It was a pleasure to join you and the community in Michaelston-y-Fedw earlier this month for the launch of the village's ultrafast broadband hub. The community-led project is part-funded by the Welsh Government, and it's the first of its kind in Wales. It's been a real community effort, with residents digging chambers, laying ducts and fitting out communication hubs. The hard work has really paid off, and most of the village will soon have higher download speeds.

Michaelston-y-Fedw has been a real success, but I'm aware of several other issues with broadband speeds in other parts of my constituency. So, what's the Welsh Government doing to ensure that more households have access to superfast broadband and that the timescales are clearly communicated to people?

Diolch. Roedd yn bleser gennyf ymuno â chi a'r gymuned yn Llanfihangel-y-Fedw yn gynharach y mis hwn ar gyfer lansio hyb band eang cyflym iawn y pentref. Mae'r prosiect dan arweiniad y gymuned ac mae wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, a dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn, gyda thrigolion yn palu ceudyllau, yn gosod pibellau ac yn gosod cyfarpar hybiau cyfathrebu. Mae'r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, a bydd gan y rhan fwyaf o'r pentref gyflymderau llwytho gwell yn fuan.

Mae Llanfihangel-y-Fedw wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol, ond rwy'n ymwybodol o nifer o broblemau eraill gyda chyflymderau band eang mewn rhannau eraill o fy etholaeth. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan fwy o aelwydydd fynediad at fand eang cyflym iawn a bod yr amserlenni yn cael eu mynegi'n glir i bobl?

Yes, it was a great scheme. It was great to be there, wasn't it, to see the enthusiasm for it? Deputy Presiding Officer, if I could recommend that to all other communities across Wales—it's a scheme that was completely underpinned by the Welsh Government voucher schemes, both Access Broadband Cymru and the ultrafast voucher schemes. The village crowdfunded a part of it so that they could raise the speeds to a gigabit. They're hoping to roll it out to 70 or so users. They're hoping to get a return of around £20,000 a year once it's fully rolled out to invest in community projects across the village and upgrade the entire area.

There's absolutely nothing not to totally love about the scheme. It was completely underpinned as well by my broadband team, who worked, as was acknowledged on the day, tirelessly with them to ensure that all of the hurdles that they encountered were smoothed for them. But, I have to pay tribute to the dedication of the people working on it, who really did work very long hours to bring it to fruition.

It's a scheme we'd like to see replicated, although there are many other models of it. We're happy to support such a scheme right across Wales. As I said earlier, in terms of the future, I'm very disappointed I wasn't able to announce something today. We worked very hard to try to do so, but it's not been possible. We hope to be able to do it in the very near future. 

Oedd, roedd yn gynllun gwych. Roedd yn wych gallu bod yno, onid oedd, i weld y brwdfrydedd drosto? Ddirprwy Lywydd, pe cawn argymell hynny i'r holl gymunedau eraill ledled Cymru—mae'n gynllun a oedd wedi'i seilio'n llwyr ar gynlluniau talebau Llywodraeth Cymru, Allwedd Band Eang Cymru a'r cynlluniau talebau gwibgyswllt. Cododd y pentref rywfaint o'r arian drwy gyllido torfol fel y gallent gynyddu'r cyflymder i gigabit. Maent yn gobeithio ei gyflwyno i oddeutu 70 o ddefnyddwyr. Maent yn gobeithio gwneud elw o tua £20,000 y flwyddyn pan fydd wedi'i gyflwyno'n llawn i'w fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol ar draws y pentref ac uwchraddio'r ardal gyfan.

Nid oes dim byd o gwbl i beidio â'i hoffi am y cynllun. Cafodd ei gefnogi'n llwyr hefyd gan fy nhîm band eang, a fu'n gweithio'n ddiflino gyda hwy, fel y cydnabuwyd ar y diwrnod, i sicrhau bod yr holl rwystrau y daethant ar eu traws yn cael eu lleddfu iddynt. Ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i ymroddiad y bobl a fu'n gweithio arno, ac a weithiodd oriau hir iawn yn wir i sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth.

Mae'n gynllun y byddem yn hoffi ei ailadrodd, er bod llawer o fodelau eraill ohono. Rydym yn hapus i gefnogi cynllun o'r fath ledled Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, o ran y dyfodol, rwy'n siomedig iawn nad oeddwn yn gallu cyhoeddi rhywbeth heddiw. Rydym wedi gweithio'n galed iawn i geisio gwneud hynny, ond nid oedd yn bosibl. Rydym yn gobeithio gallu gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn.

Cydraddoldeb
Equality

7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cyflawni ei hamcanion polisi ar gyfer sicrhau mwy o gydraddoldeb yng Nghymru? OAQ52532

7. What progress is being made in achieving the Welsh Government's policy objectives for greater equality in Wales? OAQ52532

The Welsh Government publishes an annual report on equality, which sets out the progress we have made towards advancing equality in Wales. It includes an update on the action we have taken to fulfil our eight equality objectives. The latest report is available on the Welsh Government’s website.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb, sy'n nodi'r cynnydd a wnaethom tuag at hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Mae'n cynnwys diweddariad ar y camau a gymerwyd gennym i gyflawni ein hwyth amcan cydraddoldeb. Mae'r adroddiad diweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cabinet Secretary, we are lucky to live in a diverse Wales with many different ethnic minorities. There are, of course, issues of inequality amongst those communities and also with regard to the protected characteristics, and there is rightly a strong focus on those, but I believe social class is also a very important aspect of inequality in Wales and it actually cuts across the protected characteristics, for example, ethnic minorities and people with disabilities. There are particular issues, for example, with white working-class Welsh children in schools and a lack of social mobility. I just wonder what focus Welsh Government has on those particular problems, and that social class aspect to inequality.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ffodus i fyw mewn Cymru amrywiol gyda llawer o leiafrifoedd ethnig gwahanol. Wrth gwrs, mae materion anghydraddoldeb yn codi ymysg y cymunedau hynny a hefyd mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig, ac yn briodol, ceir ffocws cryf iawn ar y rheini, ond credaf fod dosbarth cymdeithasol hefyd yn agwedd bwysig iawn ar anghydraddoldeb yng Nghymru ac mewn gwirionedd, mae'n torri ar draws y nodweddion gwarchodedig, er enghraifft, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Ceir problemau penodol, er enghraifft, gyda phlant dosbarth gweithiol gwyn o Gymru mewn ysgolion a diffyg symudedd cymdeithasol. Tybed sut y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y problemau penodol hynny, a'r agwedd ar anghydraddoldeb sy'n ymwneud â dosbarth cymdeithasol.

15:10

Whilst not a protected characteristic in its own right, John Griffiths is absolutely right: it cuts across all of the other intersectionalities, so anyone with any of the protected characteristics will also be impacted by social class. We know that the multiple inequalities heaped on top of each other make the barriers that people face very severe indeed. Whilst the UK Government's ongoing welfare reform and austerity measures really are hitting people very hard, we do continue to do all that we can to increase prosperity and promote equality across Wales. Creating a more equal Wales, where everyone has the opportunity to reach their full potential and is able to contribute fully to the economy, will inevitably allow Wales to be a more prosperous and innovative place. So, it's vital we continue to support and engage with people from the protected groups and from all socioeconomic classes to address the barriers to equality and inclusion.

Deputy Presiding Officer, I know that many of us in this Chamber share the sentiment I'm about to express. This is not about climbing out of your community; it's about enabling your community to thrive and you climbing inside and with your community, and the Welsh Government is determined to ensure that all of our communities thrive and prosper in that way.  

Er nad yw'n nodwedd warchodedig yn ei hawl ei hun, mae John Griffiths yn hollol gywir: mae'n torri ar draws yr holl groestoriadau eraill, felly bydd unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig hefyd yn cael eu heffeithio gan ddosbarth cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr anghydraddoldebau lluosog sydd wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd yn gwneud y rhwystrau sy'n wynebu pobl yn ddifrifol iawn. Tra bo mesurau cyni a diwygiadau lles parhaus Llywodraeth y DU yn taro pobl yn galed iawn, rydym yn parhau i wneud popeth a allwn i gynyddu ffyniant a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru. Bydd creu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn ac yn gallu cyfrannu'n llawn at yr economi, yn anochel yn caniatáu i Gymru fod yn wlad fwy ffyniannus ac arloesol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi ac ymgysylltu â phobl o'r grwpiau gwarchodedig ac o bob dosbarth economaidd-gymdeithasol i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwybod bod llawer ohonom yn y Siambr yn rhannu'r teimladau rwyf ar fin eu mynegi. Nid oes a wnelo hyn â throi cefn ar eich cymuned; mae'n ymwneud â galluogi eich cymuned i ffynnu a'ch bod yn camu i mewn ac yn aros gyda'ch cymuned, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod ein holl gymunedau yn llewyrchus ac yn ffynnu yn y ffordd honno.

Thank you very much, leader of the house. 

Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
3. Questions to the Assembly Commission

Item 3 on the agenda is questions to the Assembly Commission. The first questions this afternoon will be answered by the Llywydd. Question 1, Simon Thomas. 

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Simon Thomas.

Yr Eisteddfod Genedlaethol
The National Eisteddfod

1. A wnaiff y Comisiwn datganiad ynglŷn â defnyddio ystâd y Cynulliad ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? OAQ52554

1. Will the Commission make a statement on using the Assembly estate for the National Eisteddfod? OAQ52554

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n falch iawn o ddweud y bydd ein hystâd yn rhan ganolog o’r gweithgareddau. Mi fydd y Lle Celf yn ein Senedd, yn y Neuadd, yr Oriel a'r Cwrt, ac mi fydd holl gyfarfodydd Pabell y Cymdeithasau yn ein hystafelloedd pwyllgor. Bydd Pabell y Dysgwyr yn meddiannu neuadd y Pierhead. Gobeithio y bydd cymaint â phosibl o Aelodau Cynulliad yn cael y cyfle i ymweld â'r Eisteddfod eleni; mi fydd hi'n Eisteddfod wahanol iawn yn y bae. 190

The National Eisteddfod will be in Cardiff Bay for the first time in a few weeks' time. I am very pleased to say that our estate will be a central part of the activities. The Lle Celf—the arts pavilion—will be in the Senedd, in the Neuadd, the Oriel and the Cwrt, and all the meetings in the Societies Pavilion will be held in our committee rooms. The learners pavilion will take over the Pierhead. I hope that as many Assembly Members as possible will have a chance to visit the Eisteddfod this year; it will be a very different Eisteddfod in the bay. 

Diolch i'r Llywydd am yr ymateb. Rwy'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ddod i'r bae ac i'r Cynulliad, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig i'r adeilad hyfryd yma, a adeiladwyd i gyhoedd Cymru, gael ei ddefnyddio at ddibenion diwylliannol yn ogystal â gwleidyddol. Roeddwn wastad yn meddwl y byddai'r Siambr yma yn gwneud Cylch yr Orsedd arbennig o dda, ond mae'n debyg nad ydym wedi mynd cweit mor bell â hynny. Nawr yw'r cyfle i ddangos bod Eisteddfod heb ffens, heb wal a heb dâl i ddod mewn yn mynd i fod yn agored i bawb.   

I thank the Llywydd for that response. I look forward to the Eisteddfod coming to the bay and to the Assembly and I particularly look forward to seeing this wonderful building that was built for the Welsh public being used for cultural purposes as well as political purposes. I always thought that this Chamber would make a wonderful Cylch yr Orsedd, but it appears that we haven’t gone quite that far. Now is the opportunity to show that an Eisteddfod without a fence, without a wall and without a charge for entrance will be open to all.

And I just want to urge everyone—. When I went to my first Eisteddfod, I could barely speak Welsh. It is an absolutely wonderful immersive experience, and I want to urge people throughout Wales to come to Cardiff, come to the National Assembly, be part of a magnificent experience and living a week through the Welsh language. Diolch yn fawr. 

A hoffwn annog pawb—. Pan euthum i fy Eisteddfod gyntaf, prin y gallwn siarad Cymraeg. Mae'n brofiad ymdrochol hollol wych, a hoffwn annog pobl ledled Cymru i ddod i Gaerdydd, i ddod i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod yn rhan o brofiad gwych a byw'r wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch yn fawr.

Wel, a gaf i gymeradwyo popeth mae'r Aelod newydd ei ddweud? Rwy'n difaru'n fawr ein bod ni ddim wedi meddwl am y syniad o gynnal Cylch yr Orsedd i mewn fan hyn yn y Cynulliad. Mae'n siŵr ei bod rhy hwyr i mi nawr i gynnig hynny i'r Orsedd. Ond, eto, mae hon yn mynd i fod yn Eisteddfod Genedlaethol wahanol iawn. Mi fydd pobl Caerdydd a phobl Cymru gyfan yn gallu bod yn rhan o'r Eisteddfod yma heb fod yna ffens na wal yn eu gwahanu. Felly, gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd y cyfle i ymweld ac i weld y celfyddydau a bwrlwm y Gymraeg yma ym Mae Caerdydd. 

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn bwysig ym mha bynnag ardal o Gymru mae'n cael ei chynnal. Mewn dwy flynedd, mi fydd hi yn Nhregaron yng Ngheredigion, ac mae honno lawn mor bwysig ag Eisteddfod Bae Caerdydd, a hefyd yn Llanrwst y flwyddyn nesaf. Ond, ymhen ychydig wythnosau, mi fydd yr Eisteddfod Genedlaethol fan hyn yn y bae, ac mae'n bleser i fi fod yn Llywydd ac i ni gyd fel Aelodau i fod yn gallu cyfrannu, gobeithio, tuag at lwyddiant yr Eisteddfod honno drwy gyfrannu o'n heiddo ni a'n cefnogaeth ni hefyd.

Well, may I just echo what the Member has just said, indeed, everything he’s just said? I greatly regret that we hadn’t thought of the idea of holding the Cylch yr Orsedd here in the Chamber. I’m sure it’s too late for me now to propose that to the Gorsedd. But this will be a very different National Eisteddfod. The people of Cardiff and people all over Wales will be able to be a part of this Eisteddfod without there being a fence, without there being a wall keeping people out. So, I do hope that as many people as possible will be able to take this opportunity to visit and to see the arts and the excitement in terms of the Welsh language here in Cardiff Bay.

The National Eisteddfod is important in whichever part of Wales it may be held. In two years’ time, it will be in Tregaron in Ceredigion and that is equally as important as the Cardiff Bay Eisteddfod, and, of course, it will also be going to Llanrwst next year. But, in a few weeks’ time, the National Eisteddfod will be here in the bay, and it is my pleasure to be the Llywydd and for us all as Members to be able to contribute, we hope, to the success of that Eisteddfod by contributing from our own pockets and giving our support, also.

Thank you. Question 2 to the Commission this afternoon will be answered by Commissioner Joyce Watson. Question 2, Julie Morgan.

Diolch. Bydd cwestiwn 2 i'r Comisiwn y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Cwestiwn 2, Julie Morgan.

Bwydo ar y Fron yn y Senedd
Breastfeeding in the Senedd

2. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i alluogi menywod i fwydo ar y fron yn y Senedd? OAQ52550

2. What action has the Commission taken to enable women to breastfeed in the Senedd? OAQ52550

Thank you for the question. The Senedd is recognised as a breastfeeding-friendly space, and we have signs on screens throughout the Senedd, at the entrance and in the cafe area that promote that. We have purchased a breastfeeding chair, and I'm sure the Member will be pleased to hear that, especially since she pressed us to do so. Following consultation, that has now been placed in the dedicated quiet room in the Senedd, which also has sensory toys. There is also a dedicated children's space in the Senedd cafe and all front of house staff have been informed of our family- and breastfeeding-friendly provision, so that they can direct visitors accordingly and make the experience, hopefully, a positive one. 

Diolch i chi am y cwestiwn. Cydnabyddir y Senedd fel man sy'n croesawu bwydo ar y fron, ac mae gennym arwyddion ar sgriniau drwy'r Senedd, yn y fynedfa ac yn y caffi sy'n hyrwyddo hynny. Rydym wedi prynu cadair bwydo ar y fron, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed hynny, yn enwedig gan ei bod wedi pwyso arnom i wneud hynny. Yn dilyn ymgynghoriad, mae honno bellach wedi'i gosod yn yr ystafell dawel bwrpasol yn y Senedd, sydd hefyd yn cynnwys teganau synhwyraidd. Mae yna hefyd le arbennig ar gyfer plant yng nghaffi'r Senedd ac mae'r holl staff rheng flaen wedi cael eu hysbysu am ein darpariaeth sy'n croesawu teuluoedd a bwydo ar y fron, fel y gallant gyfeirio ymwelwyr yn unol â hynny a gwneud y profiad, gobeithio, yn un cadarnhaol.

15:15

I thank Joyce Watson for that response and I think progress is being made. I'm pleased that there is now a specially designed chair to make it easy and comfortable for mothers to breastfeed and that a designated place has been given, but I do feel that there should be more done to make mothers and the public aware that this is a place where breastfeeding is welcome. I know that Joyce Watson has said there are signs, but I feel that, if you were coming here to this Senedd and you wanted to know where you went to breastfeed your child, it wouldn't be immediately obvious. I feel that there should be more efforts made in that way. I don't know if she can comment on that. 

Diolch i Joyce Watson am yr ymateb hwnnw, a chredaf ein bod yn gwneud cynnydd. Rwy'n falch fod yna gadair wedi'i dylunio'n arbennig i'w gwneud yn hawdd ac yn gyfforddus i famau fwydo ar y fron a bod lle dynodedig wedi'i ddarparu, ond rwy'n credu y dylem wneud mwy i sicrhau bod mamau a'r cyhoedd yn ymwybodol fod hwn yn fan lle y croesewir bwydo ar y fron. Gwn fod Joyce Watson wedi dweud bod yna arwyddion, ond rwy'n teimlo, pe baech yn dod yma i'r Senedd a'ch bod eisiau gwybod ble i fynd i fwydo eich plentyn ar y fron, na fyddai'n amlwg ar unwaith. Teimlaf y dylid gwneud mwy o ymdrechion yn y ffordd honno. Nid wyf yn gwybod a yw hi'n gallu rhoi sylwadau ar hynny.

Okay. The Commission staff are working on broadening the appeal of our Parliament and we are trying to encourage more diversity in the demographic of people who visit us here. A number of activities are targeted at families with young children and they're already programmed, and no doubt that will be the case when we host the eisteddfod here. So, linking those two things together and also putting it very firmly up there that we are a family-friendly place, who also invite women, if they so choose, to breastfeed within that space, is of critical importance. We know that when the weeping window sculpture was here we attracted more young families than was the case wherever else that had been. So, in terms of working on the agenda that you are talking about, I think that, whilst we do have some signage, it would be a good thing for us to have a look again at that and perhaps even to go back to those people that we engaged with when we decided where we would put the nursing chair and see if they have an opinion about where we might add signage so that people clearly do know. Because what we really want to be is a welcoming and engaging place to come and I think it's always wise to take the opinion of those people who want to take advantage of that. 

Iawn. Mae staff y Comisiwn yn gweithio ar ehangu apêl ein Senedd ac rydym yn ceisio annog mwy o amrywiaeth o ran demograffeg y bobl sy'n ymweld â ni yma. Mae nifer o weithgareddau wedi'u targedu at deuluoedd â phlant ifanc ac maent eisoes wedi'u rhaglenni, ac nid oes amheuaeth y bydd hynny'n wir pan fyddwn yn cynnal yr Eisteddfod yma. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn cysylltu'r ddau beth hynny gyda'i gilydd, yn ogystal â dangos yn gadarn iawn ein bod yn fan sy'n croesawu teuluoedd, sydd hefyd yn gwahodd menywod, os ydynt yn dymuno, i fwydo ar y fron o fewn y gofod hwnnw. Rydym yn gwybod, pan oedd y cerflun ffenestr wylo yma, ein bod wedi denu mwy o deuluoedd ifanc nag a gafwyd yn unman arall roedd hwnnw wedi bod. Felly, o ran gweithio ar yr agenda rydych yn sôn amdani, er bod gennym rai arwyddion, credaf y byddai'n beth da i ni edrych ar hynny eto a dychwelyd, efallai hyd yn oed, at y bobl y buom yn ymgysylltu â hwy pan oeddem yn ceisio penderfynu lle i roi'r gadair bwydo ar y fron a gweld a oes ganddynt farn ynglŷn â ble y gallem ychwanegu arwyddion fel ei fod yn amlwg i bobl. Oherwydd rydym eisiau bod yn lle croesawgar a deniadol i bobl ymweld ag ef ac rwy'n credu ei bod bob amser yn ddoeth inni ystyried barn y bobl sydd eisiau manteisio ar hynny.

4. Cwestiynau Amserol
4. Topical Questions

Item 4 on the agenda this afternoon is topical questions. The first topical question this afternoon is to be answered by the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs. Lee Waters.  

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Lee Waters.

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y drydedd flwyddyn yn olynol? 207

1. What assessment has the Cabinet Secretary made of the Auditor General’s decision to qualify the accounts of Natural Resources Wales for the third year in succession? 207

Member
Lesley Griffiths AM 15:18:44
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Thank you. I was extremely disappointed to learn Natural Resources Wales's accounts have been qualified for a third year in relation to the sale of timber. I welcome the Wales Audit Office acknowledgement the response from NRW has been constructive and there is clear leadership commitment to take action. I met this morning with the chair and chief executive of NRW to discuss the matter. 

Diolch. Siom mawr i mi oedd clywed bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am y drydedd flwyddyn mewn perthynas â gwerthu pren. Croesawaf y ffaith bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn adeiladol a bod yna ymrwymiad clir ar ran yr arweinyddiaeth i roi camau gweithredu ar waith. Cyfarfûm y bore yma gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y mater.

Thank you, Cabinet Secretary. Last year, the Public Accounts Committee criticised NRW for giving a £39 million contract to BSW Timber in Newbridge-on-Wye without competition. It did not represent value for money but it was justified on the grounds that the firm would invest in a new sawmill, which would benefit the industry overall. They didn't deliver on that deal. We now discover that NRW has done it again. The Wales Audit Office now tells us NRW has awarded 59 contracts where there's no evidence this has been done at market price, and some contracts were awarded without tender. Twenty one of these were to BSW Timber, the same company that had reneged on the last deal. What is going on in NRW? To have their accounts qualified for the third year running is unprecedented and frankly outrageous. I'm struggling to think of an explanation for why this might be. Might it be corruption or incompetence? But it does appear that the forestry section of NRW is out of control; the internal audit controls are not fit for purpose. Where is the board in all of this? After the woeful performance before the PAC, the previous chief executive, Emyr Roberts, left, albeit with a large pay-off, which does stick in the throat. I'm encouraged by the auditors' view that the new CEO, Clare Pillman, has responded in a way that suggests that she does take the issues, at last, seriously, but what about the chair, Diane McCrea? Where has she been? How could she let this happen again? She was in charge last year. I think this should give us pause for thought about creating large organisations like this. If this was any other organisation—if this was a local authority, we'd be putting them under special measures. So, I'd ask the Cabinet Secretary—. I think this is an extremely serious situation. I'm really quite angry and baffled that this has happened for the third year running, and I'd hope she takes this extremely seriously, and I think there should be accountability from the senior leadership at board level and at executive level of this organisation, which does seem to be out of control.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu beirniadu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am roi contract gwerth £39 miliwn i BSW Timber yn y Bontnewydd-ar-Wy heb gystadleuaeth. Nid oedd yn cynrychioli gwerth am arian, ond cafodd ei gyfiawnhau ar y sail y byddai'r cwmni'n buddsoddi mewn melin lifio newydd, a fyddai o fudd i'r diwydiant yn gyffredinol. Nid ydynt wedi cadw'r addewid hwnnw. Bellach rydym yn darganfod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yr un peth eto. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud wrthym yn awr fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu 59 o gontractau lle na cheir unrhyw dystiolaeth fod hyn wedi cael ei wneud am bris y farchnad, a dyfarnwyd rhai contractau heb dendr. Roedd 21 o'r rhain i BSW Timber, yr un cwmni a dorrodd ei addewid yn y cytundeb diwethaf. Beth sy'n digwydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae cael eu cyfrifon wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn warthus a dweud y gwir. Rwy'n cael trafferth meddwl am esboniad pam y gallai hyn fod yn digwydd. A allai fod yn llygredd neu anghymhwysedd? Ond ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth; nid yw'r rheolaethau archwilio mewnol yn addas i'r diben. Ble mae'r bwrdd yn hyn oll? Ar ôl y perfformiad truenus gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gadawodd y prif weithredwr blaenorol, Emyr Roberts, er iddo gael taliad olaf mawr, ac mae hynny'n anodd i'w lyncu. Caf fy nghalonogi gan farn yr archwilwyr fod y prif weithredwr newydd, Clare Pillman, wedi ymateb mewn ffordd sy'n awgrymu ei bod o ddifrif ynghylch y problemau o'r diwedd, ond beth am y cadeirydd, Diane McCrea? Ble mae hi wedi bod? Sut y gallai adael i hyn ddigwydd eto? Hi oedd wrth y llyw y llynedd. Rwy'n credu y dylai hyn wneud inni feddwl yn ddwys ynglŷn â chreu sefydliadau mawr fel hyn. Pe bai hwn yn unrhyw sefydliad arall—pe bai'n awdurdod lleol, byddem yn eu gwneud yn destun mesurau arbennig. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—. Credaf fod hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben. Rwy'n ddig iawn ac mewn penbleth pam fod hyn wedi digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol, a buaswn yn gobeithio ei bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hyn, a chredaf y dylai fod atebolrwydd gan yr uwch arweinwyr ar lefel y bwrdd ac ar lefel weithredol y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe bai wedi colli rheolaeth.

15:20

I am completely in agreement with you that this is a very serious matter. I met first the chair on Monday to discuss her tenure, the report and NRW's response to it, and I am reflecting on that conversation. I absolutely agree with you that it is a matter of great concern.

You referred to the fact that there is now a new chief executive in place, and I mentioned that I, along with the Minister for Environment, met with the new chief executive and chair this morning. I believe, following my discussion with the chief executive, that it's very clear that she too is taking these issues very seriously. I think she's given a very strong leadership commitment to take action to ensure that this does not happen again.

You mentioned that it had happened three years in a row, and I absolutely share your concern and your anger.

I think the commitment of the chief executive is absolutely illustrated in a recent letter she wrote to Nick Ramsay, the chair of the Public Accounts Committee, where she updated on the action plan to address the issues identified previously by the Auditor General for Wales and the subsequent report from the National Assembly's Public Accounts Committee, and that letter included confirmation that Clare Pillman, the chief executive, is reorganising the commercial services function within NRW, including the appointment of a head of commercial services. The chief executive has also appointed Ernst & Young to carry out an independent review of the key commercial business areas and governance arrangements. And I just do want to assure Members that I will be keeping a very close watch on this.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod hwn yn fater difrifol iawn. Cyfarfûm yn gyntaf â'r cadeirydd ddydd Llun i drafod ei chyfnod yn y swydd, yr adroddiad ac ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru iddo, ac rwy'n ystyried y sgwrs honno. Cytunaf yn llwyr â chi fod hwn yn fater o bryder mawr.

Fe gyfeirioch chi at y ffaith bod prif weithredwr newydd bellach wedi'i phenodi, a chrybwyllais fy mod, ynghyd â Gweinidog yr Amgylchedd, wedi cyfarfod â'r prif weithredwr newydd a'r cadeirydd y bore yma. Yn dilyn fy nhrafodaeth gyda'r prif weithredwr, credaf ei bod yn glir iawn ei bod hithau hefyd o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn. Credaf ei bod wedi rhoi ymrwymiad cryf iawn ar ran yr arweinyddiaeth i roi camau ar waith i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Fe sonioch ei fod wedi digwydd dair blynedd yn olynol, ac rwy'n rhannu eich pryder a'ch dicter yn llwyr.

Rwy'n credu bod ymrwymiad y prif weithredwr i'w weld yn glir mewn llythyr diweddar a ysgrifennodd at Nick Ramsay, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, lle y rhoddodd y newyddion diweddaraf am y cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd yn flaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn adroddiad dilynol Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd y llythyr hwnnw'n cynnwys cadarnhad fod Clare Pillman, y prif weithredwr, yn ad-drefnu'r swyddogaeth gwasanaethau masnachol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwriadu penodi pennaeth gwasanaethau masnachol. Mae'r prif weithredwr hefyd wedi penodi Ernst & Young i gynnal adolygiad annibynnol o'r meysydd busnes masnachol allweddol a'r trefniadau llywodraethu. A hoffwn sicrhau'r Aelodau y byddaf yn cadw llygad manwl iawn ar hyn.

There's not much I can add, really, to Lee Waters's excellent question. Speaking as Chair of the Public Accounts Committee, we are quite literally astonished, baffled—whatever description you want to give it—that the Auditor General for Wales has once again had to qualify the accounts of NRW for the third year running, and again on the basis of their transactions relating to timber sales, contracts, being irregular. We are disappointed that there is further uncertainty on whether NRW has complied with principles of public law, state-aid rules—the list goes on. The committee will be re-examining this issue during the autumn term to ensure that we are satisfied with the action being taken, and we're certainly going to monitor this.

We did hope that we wouldn't be—. Well, we assumed that we wouldn't be in this position again. It is, as Lee Waters said, quite extraordinary that we do find ourselves in this position. In terms of—. Well, I have two questions for you, actually, Cabinet Secretary. You said you had a meeting this morning, I think, with the chair or—

Nid oes llawer y gallaf ei ychwanegu, mewn gwirionedd, at gwestiwn ardderchog Lee Waters. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym wedi rhyfeddu, yn llythrennol, mewn penbleth—sut bynnag rydych eisiau ei ddisgrifio—fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gorfod cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac eto ar sail y ffaith bod eu trafodion sy'n gysylltiedig â'u gwerthiannau pren, contractau, yn afreolaidd. Rydym yn siomedig fod yna ansicrwydd pellach ynglŷn ag a yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus, rheolau cymorth gwladwriaethol—mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Bydd y pwyllgor yn ailedrych ar y mater yn ystod tymor yr hydref i sicrhau ein bod yn fodlon gyda'r camau a gymerir, a byddwn yn sicr yn monitro hyn.

Roeddem wedi gobeithio na fyddem—. Wel, roeddem yn tybio na fyddem yn y sefyllfa hon eto. Fel y dywedodd Lee Waters, mae'n rhyfeddol iawn ein bod yn y sefyllfa hon. O ran—. Wel, mae gennyf ddau gwestiwn i chi, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ddywedoch eich bod wedi cael cyfarfod y bore yma, rwy'n credu, gyda'r cadeirydd neu—

The chair and chief exec.

Y cadeirydd a'r prif weithredwr.

The chair and chief exec. So, clearly, you're—that was the right thing to do. At any point during this process, during the last year since we knew the previous problems existed, had they run by you what they were doing? Had they alerted you to the fact that they were dealing with the same timber company that failed to build a sawmill before? And 59 contracts were awarded—well, why 59? Have they given you any explanation at all as to why those 59 contracts were awarded and what the nature of them was? Because I share Lee Waters's bafflement. It is very difficult for us as members of the committee, and I'm sure for other Assembly Members, to begin to understand in the first instance just what on earth is going on.

Y cadeirydd a'r prif weithredwr. Felly, yn amlwg, rydych—dyna oedd y peth cywir i'w wneud. A oeddent wedi dweud wrthych am yr hyn roeddent yn ei wneud ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers i ni gael gwybod am y problemau blaenorol? A oeddent wedi rhoi gwybod i chi eu bod yn ymdrin â'r un cwmni pren a fethodd adeiladu melin lifio y tro diwethaf? Ac fe gafodd 59 o gontractau eu dyfarnu—wel, pam 59? A ydynt wedi rhoi unrhyw esboniad o gwbl i chi pam y cafodd y 59 o gontractau hynny eu dyfarnu a beth oedd eu natur? Oherwydd rwy'n rhannu penbleth Lee Waters. Mae'n anodd iawn i ni, fel aelodau o'r pwyllgor, a'r Aelodau Cynulliad eraill rwy'n siŵr, ddechrau deall yn y lle cyntaf beth ar y ddaear sy'n digwydd.

Thank you, Nick Ramsay. I too had assurance from the previous chief executive that this would not happen again this year, so you can imagine how disappointed and concerned I am. I probably can't be any more specific about my annoyance in relation to this. I met the chair—what I said was I met the chair on Monday, and I met the chair and the chief executive this morning along with Hannah Blythyn, the Minister for Environment, where we did discuss matters around public law and state aid, because, clearly, those are two areas where there needs to be a focus and, again, I was reassured that the chief executive was taking this very seriously going forward. She's also strengthening the audit and risk assurance committee by appointing a non-board member with additional public sector governance and finance expertise also, and we have a planned recruitment going forward for the board. We have five new members that we'll be appointing this year also, which I probably should have said in my answer to Lee Waters.

Diolch i chi, Nick Ramsay. Cefais innau sicrwydd hefyd gan y prif weithredwr blaenorol na fyddai hyn yn digwydd eto eleni, felly gallwch ddychmygu pa mor siomedig a phryderus wyf fi. Mae'n debyg na allaf fod yn fwy penodol am fy anfodlonrwydd ynglŷn â hyn. Cyfarfûm â'r cadeirydd—yr hyn a ddywedais oedd fy mod wedi cyfarfod â'r cadeirydd ddydd Llun, a chyfarfûm â'r cadeirydd a'r prif weithredwr y bore yma ynghyd â Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, a thrafodwyd materion yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus a chymorth gwladwriaethol, oherwydd, yn amlwg, mae'r rheini'n ddau faes y mae angen canolbwyntio arnynt ac unwaith eto, cefais sicrwydd fod y prif weithredwr o ddifrif ynglŷn â hyn wrth symud ymlaen. Mae hi hefyd yn cryfhau'r pwyllgor archwilio a sicrhau risg drwy benodi aelod nad yw'n aelod o'r bwrdd sydd ag arbenigedd ychwanegol ym maes llywodraethu sector cyhoeddus ac arbenigedd cyllid hefyd, ac rydym wedi cynllunio proses recriwtio ar gyfer y bwrdd yn y dyfodol. Mae gennym bum aelod newydd y byddwn yn eu penodi y flwyddyn hon hefyd, ac mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud hynny yn fy ateb i Lee Waters.

15:25

I don't think I can add any more other than to say that I completely agree with what's been said by Lee Waters and Nick Ramsay. I said yesterday that I thought the governance of Natural Resources Wales was rotten and I had no faith in it: I repeat that just to get it on the record with you. I have no faith in the governance of this organisation at the moment. You know, making one mistake and a mistake carrying on for a second year you can kind of understand—it was a big mistake, mind you; heads should have rolled about that one—but then to do this on a number of contracts shows there's something fundamentally wrong.

Now, Lee Waters did mention corruption. I don't know whether that's true, but I've written to you with an evidenced case from a constituent of mine of how he believes a contract was constructed in such a way as to ensure that one contractor could win it, with Natural Resources Wales then paying extra on top of the contract because it had been done in the wrong way—so, the equipment was being bought separately, whereas my constituent had bid for it with the equipment as part of the contract—in other words, jobs for boys, or doing things for people that you know. I'd like you to reopen that correspondence that we've had because you, I have to be honest, gave me a brush-off and said my constituent should take it through the Natural Resources Wales complaints procedures. Well, of course he had—of course he had—and he's now taken it to the ombudsman and he's taken it to the BBC as well. But this is something seriously wrong, and these things don't happen through incompetence. You do it once or twice through incompetence. This is something that's much more fundamental. So, I want to push you even further than what you've just said. Really, can the chair continue? And, secondly, will you send in your own officials to examine these contracts, top to bottom, and make sure that every single one of them is not being done with any gifts and favours involved in them?

Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth arall ar wahân i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters a Nick Ramsay. Dywedais ddoe fy mod yn credu bod system lywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwdr ac nad oes gennyf unrhyw ffydd ynddi: rwy'n ailadrodd hynny er mwyn ei gofnodi gyda chi. Nid oes gennyf unrhyw ffydd yn system lywodraethu'r sefydliad hwn ar hyn o bryd. Hynny yw, gallwch ryw fath o ddeall gwneud un camgymeriad a bod y camgymeriad hwnnw'n para am ail flwyddyn—roedd yn gamgymeriad mawr, cofiwch chi; dylai rhywrai fod wedi talu'n ddrud am hwnnw—ond mae gwneud hyn gyda nifer o gontractau yn dangos bod rhywbeth sylfaenol o'i le.

Nawr, soniodd Lee Waters am lygredd. Ni wn a yw hynny'n wir, ond rwyf wedi ysgrifennu atoch gydag achos â thystiolaeth gan un o fy etholwyr ynglŷn â sut y mae'n credu bod contract wedi'i lunio mewn modd sy'n sicrhau y gallai un contractwr ei ennill, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn talu mwy ar ben y contract oherwydd ei fod wedi cael ei wneud yn y ffordd anghywir—felly, roedd yr offer yn cael ei brynu ar wahân, tra bo fy etholwr wedi gwneud cais amdano gyda'r offer yn rhan o'r contract—mewn geiriau eraill, swyddi i'r hogiau, gwneud pethau ar gyfer pobl rydych yn eu hadnabod. Hoffwn i chi ailagor yr ohebiaeth a gawsom oherwydd fe wnaethoch chi, mae'n rhaid i mi fod yn onest, wrthod gwrando arnaf a dweud y dylai fy etholwr gyflwyno ei achos i weithdrefnau cwynion Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny—wrth gwrs ei fod—ac mae bellach wedi'i ddwyn i sylw'r ombwdsmon a'r BBC yn ogystal. Ond mae rhywbeth mawr o'i le fan hyn, ac nid yw'r pethau hyn yn digwydd oherwydd anghymhwystra. Anghymhwystra fyddai ei wneud unwaith neu ddwywaith. Mae hwn yn rhywbeth llawer mwy sylfaenol. Felly, rwyf am eich gwthio hyd yn oed ymhellach na'r hyn rydych newydd ei ddweud. O ddifrif, a all y cadeirydd barhau? Ac yn ail, a wnewch chi anfon eich swyddogion eich hun i mewn i edrych ar y contractau hyn, o'r brig i'r bôn, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un ohonynt yn cael ei wneud gyda rhoddion neu ffafrau ynghlwm wrthynt?

There were three additional questions there, which I'll answer. I'll certainly have a look at the correspondence again. Yes, I will be sending my officials in to monitor it. And I mentioned that I'd met with the chair on Monday, I discussed her tenure, I discussed the accounts, and I was reflecting on that conversation, and I don't think it's appropriate to say any more at this point.

Roedd tri chwestiwn ychwanegol yno, ac fe wnaf eu hateb. Yn sicr, byddaf yn edrych ar yr ohebiaeth eto. Byddaf, mi fyddaf yn anfon fy swyddogion yno i'w fonitro. A soniais fy mod wedi cyfarfod â'r cadeirydd ddydd Llun, trafodais ei chyfnod yn y swydd, trafodais y cyfrifon, ac roeddwn yn myfyrio ar y sgwrs honno, ac nid wyf yn credu ei bod yn briodol i mi ddweud mwy ar hyn o bryd.

I hope that the Cabinet Secretary will be impressed that there is a cross-party consensus on this, not only from Lee Waters in the highly commendable way in which he phrased his question, from the Conservatives and Plaid Cymru, but also from UKIP, and, as a member of the Public Accounts Committee, I don't think I'm alone in saying that the evidence that we've received in the past from Natural Resources Wales has been deeply unimpressive on a whole range of levels. When Natural Resources Wales was formed, there were built into its structure perhaps many conflicts of interest that cannot be remedied—on the one hand, it's a commercial operation; on the other hand, it's charged with acting in the interests of the public—and I raised a case at First Minister's questions, unconnected with any of this, only on Tuesday last week about a contract that Natural Resources Wales has let in relation to BikePark Wales near Merthyr Tydfil, which is now restricting public access to public land for private interest and is purporting to fine people for riding on their cycle tracks without permission. So, there's a lot wrong with Natural Resources Wales, not just in terms of financial governance, but also in terms of the public policy implications that often surface in constituents' correspondence. So, can I urge her, along with Simon Thomas, to leave no stone unturned in unearthing the rottenness at the heart of this organisation? And, certainly, a complete change of personnel seems long overdue.

Rwy'n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod yna gonsensws trawsbleidiol ar hyn, nid yn unig gan Lee Waters yn y ffordd hynod glodwiw y geiriodd ei gwestiwn, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, ond hefyd gan UKIP, ac fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid wyf yn credu mai fi yw'r unig un a fyddai'n dweud bod y dystiolaeth rydym wedi'i chael gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gorffennol wedi bod yn hynod o anhrawiadol ar amryw o lefelau. Pan ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd sawl gwrthdaro buddiannau na ellir eu cywiro eu hadeiladu i mewn i'w strwythur—ar y naill law, mae'n sefydliad masnachol; ar y llaw arall, mae'n gyfrifol am weithredu er budd y cyhoedd—a chyfeiriais at achos yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth diwethaf, achos nad yw'n gysylltiedig â'r mater hwn, ynglŷn â chontract y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i osod mewn perthynas â BikePark Wales ger Merthyr Tudful, sydd bellach yn cyfyngu ar fynediad cyhoeddus at dir cyhoeddus ar gyfer buddiant preifat ac mae'n honni y bydd yn codi dirwy ar bobl am feicio ar eu llwybrau beicio heb ganiatâd. Felly, mae llawer o'i le ar Cyfoeth Naturiol Cymru, nid yn unig o ran llywodraethu ariannol, ond hefyd o ran y goblygiadau polisi cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg yn aml mewn gohebiaeth gan etholwyr. Felly, a gaf fi ei hannog gyda Simon Thomas, i wneud popeth yn ei gallu i ddod o hyd i'r pydredd wrth wraidd y sefydliad hwn? Ac yn sicr, mae'n hen bryd iddynt newid eu personél yn llwyr.

I certainly recognise the cross-party consensus. I don't think I can add anything to my answers to the other three Members who have raised questions. As I say, we have had a new chief executive. I'm very reassured following my conversation with her just how seriously she takes this. I will be sending my officials in and I will be keeping a very close eye on it. 

Rwy'n sicr yn cydnabod y consensws trawsbleidiol. Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth at fy atebion i'r tri Aelod arall sydd wedi gofyn cwestiynau. Fel y dywedaf, rydym wedi cael prif weithredwr newydd. Rwy'n dawel iawn fy meddwl yn dilyn fy sgwrs â hi ei bod hi'n ystyried y mater yn ddifrifol iawn. Byddaf yn anfon fy swyddogion i mewn a byddaf yn cadw llygad agos iawn ar y mater.

15:30

Thank you, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary, yesterday in First Minister's questions, we heard from the First Minister that, actually, the amalgamation of the three organisations that form Natural Resources Wales was a resounding success that the Welsh Government had instigated. You have highlighted a litany of failures on behalf of NRW here today, and we've heard from Members across the Chamber. Do you regard it as a success story?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, clywsom ganddo fod uno'r tri sefydliad sy'n ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol a ysgogwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydych wedi tynnu sylw at gyfres o fethiannau ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yma heddiw, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ar draws y Siambr. A ydych yn ei ystyried yn llwyddiant?

I think there certainly have been some successes. I haven't highlighted a list of them. We were talking about one issue in relation to the accounts. As I've said, I absolutely can't express my disappointment and concern enough, and I hope, by the fact that I had the chair in on Monday, and I've had the chair and the chief executive in today, that Members will recognise the seriousness with which I take this. But I think there have been some highlights. Certainly, it's very difficult when you bring three organisations together, and I think there have certainly been issues—there have been issues around staff morale, for instance—that have made me keep a very close watch on it. I met with the chief exec and the chair regularly when I first came into portfolio. Obviously, it now sits within the Minister for Environment's portfolio; she meets regularly with them. So, I think there have been some successes, but clearly, this is not one of them. 

Credaf fod rhai llwyddiannau wedi bod, yn sicr. Nid oes gennyf restr ohonynt. Roeddem yn siarad am un broblem mewn perthynas â'r cyfrifon. Fel rwy'n dweud, ni allaf fynegi cymaint yw fy siom a fy mhryder, ac rwy'n gobeithio, yn sgil y ffaith fy mod wedi cael y cadeirydd i mewn ddydd Llun, a fy mod wedi cael y cadeirydd a'r prif weithredwr i mewn heddiw, y bydd yr Aelodau'n cydnabod pa mor ddifrifol rwy'n ystyried hyn. Ond rwy'n credu bod rhai uchafbwyntiau wedi bod. Yn sicr, mae'n anodd iawn pan ddowch â thri sefydliad at ei gilydd, ac rwy'n credu bod problemau wedi bod, yn bendant—cafwyd problemau gyda morâl y staff, er enghraifft—sydd wedi gwneud i mi gadw llygad agos iawn arno. Cyfarfûm â'r prif weithredwr a'r cadeirydd yn rheolaidd pan gefais y portffolio. Yn amlwg, mae'n perthyn i bortffolio Gweinidog yr Amgylchedd bellach; mae hi'n cyfarfod yn rheolaidd â hwy. Felly, rwy'n credu bod rhai llwyddiannau wedi bod, ond yn amlwg, nid yw hyn yn un ohonynt.

Thank you very much, Cabinet Secretary. The next topical question will be answered by the Cabinet Secretary for Education. Lynne Neagle. 

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Atebir y cwestiwn amserol nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Lynne Neagle.

Y Cynllun Grant Datblygu Disgyblion—Mynediad
The Pupil Development Grant—Access scheme

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad? 209

2. Will the Cabinet Secretary provide an update on the Pupil Development Grant - Access scheme? 209

Thank you, Lynne. This support is available for parents to apply for via their local authority. I'm very pleased that we've been able to introduce a new, more generous, and more flexible scheme ready for the start of the new school year. 

Diolch i chi, Lynne. Mae'r cymorth hwn ar gael i rieni wneud cais amdano drwy eu hawdurdod lleol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflwyno cynllun newydd, mwy hael a mwy hyblyg yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn ysgol newydd.

Thank you. I was pleased and relieved that the Cabinet Secretary has confirmed the replacement for the school uniform grant, and that this is an enhanced scheme that will provide help to more families. I was also delighted that Torfaen council, in recognition of the need to get the money out to families quickly, in readiness for the new school term in September, is not going through an application process, but are proactively identifying those families who need the help and automatically directing the funds to them. As you know, the cost of school uniform is a major stress for families, and I am concerned that other local authorities may not be as proactive as Torfaen has been. What steps will you take as Cabinet Secretary to ensure that all local authorities understand that this money needs to be available for families in good time before the start of the new term in September?

Diolch. Roeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau cynllun newydd yn lle'r grant gwisg ysgol, a bod hwn yn gynllun gwell a fydd yn darparu cymorth i fwy o deuluoedd. Roedd wrth fy modd hefyd nad yw Cyngor Torfaen, i gydnabod yr angen i gael yr arian i deuluoedd yn gyflym yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd ym mis Medi, yn mynd drwy broses o wneud cais, ond yn hytrach eu bod yn mynd ati'n rhagweithiol i nodi teuluoedd sydd angen y cymorth a chyfeirio arian iddynt yn awtomatig. Fel y gwyddoch, mae cost gwisg ysgol yn straen mawr i deuluoedd, ac rwy'n bryderus na fydd awdurdodau lleol eraill mor rhagweithiol ag y mae Torfaen wedi bod. Pa gamau a gymerwch fel Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn deall bod angen i'r arian hwn fod ar gael ar gyfer teuluoedd mewn da bryd cyn dechrau'r tymor newydd ym mis Medi?

Thank you. We have been working very closely with local authorities, principally through the Association of Directors of Education in Wales, to make them aware of their indicative allocations—they're only indicative because, of course, this is a demand-led grant—and to confirm with them the formal terms and conditions of that grant. We are also working with them to ensure that bureaucracy around applications in the scheme is kept to a minimum, and we will continue throughout the summer to use Welsh Government channels, as well as media outlets, to alert parents to the availability of this support. 

Diolch. Buom yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol, yn bennaf drwy gyfrwng Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, i'w gwneud yn ymwybodol o'u dyraniadau dangosol—yr unig reswm pam eu bod yn ddangosol wrth gwrs yw am fod hwn yn grant a arweinir gan y galw—ac i gadarnhau telerau ac amodau'r grant yn ffurfiol gyda hwy. Rydym hefyd yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â cheisiadau yn y cynllun wedi'i chyfyngu i gyn lleied ag y bo modd, a byddwn yn parhau drwy gydol yr haf i ddefnyddio sianeli Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r cyfryngau, i roi gwybod i'r rhieni fod y cymorth hwn ar gael.

Thank you for your answer to Lynne Neagle. I think it is important that this is widely promoted across the country, and that we don't just leave it down to local authorities, particularly over a summer period when many families may be less able to communicate directly with schools about the availability of support. Can I ask you, Cabinet Secretary—? We have another budget round coming up. One of the problems with the budget round last time was that you didn't cough up about the fact that you were actually chopping the previous grant, and there was no transparency around that, nor was there a children's rights impact assessment undertaken on the changes in your budget that resulted in the previous grant being axed. Now, of course, we're pleased that you've rowed back, that you've done a u-turn on this, and that there's actually now something that is more generous available, and that can be used for other purposes than just the school uniform grant. But can you tell us—and give us some assurances—how your budget processes are stacking up for the budget that will be presented in the autumn, and can you confirm that there will be a children's rights impact assessment on every single budget line where it affects children and young people?

Diolch i chi am eich ateb i Lynne Neagle. Mae'n bwysig i hyn gael ei hyrwyddo'n eang ar draws y wlad, ac nad ydym yn ei adael i awdurdodau lleol, yn enwedig dros gyfnod yr haf pan fydd llawer o deuluoedd yn llai abl i gyfathrebu'n uniongyrchol ag ysgolion ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael. A gaf fi ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet—? Mae gennym gylch cyllidebol arall ar y gorwel. Un o'r problemau gyda'r cylch cyllidebol diwethaf oedd na ddywedoch eich bod yn cael gwared ar y grant blaenorol, ac ni chafwyd unrhyw dryloywder ynghylch hynny, ac ni wnaed asesiad o effaith y newidiadau yn eich cyllideb a arweiniodd at dorri'r grant blaenorol ar hawliau plant. Nawr, wrth gwrs, rydym yn falch eich bod wedi camu'n ôl, eich bod wedi gwneud tro pedol ar hyn, a bod rhywbeth sy'n fwy hael ar gael, ac y gellir defnyddio hwnnw at ddibenion eraill eraill yn hytrach na'r grant gwisg ysgol yn unig. Ond a allwch ddweud wrthym—a rhoi rhywfaint o sicrwydd inni—sut y mae eich prosesau cyllidebol yn mynd i fod yn addas ar gyfer y gyllideb a gaiff ei chyflwyno yn yr hydref, ac a allwch gadarnhau y bydd asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar bob llinell yn y gyllideb lle mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc?

Darren, I can confirm that we will be using, as I said, a variety of media channels over the summer to alert parents to the availability of this grant. Indeed, the most successful Facebook post on the Welsh education Facebook page in the last month has been the post that alerted people to the existence of this grant. That was shared more than any other post, and we will continue, as I said, to publicise the existence of the grant. You're right to say that it is more generous. It is available to those parents of children in receipt of free school meals entering into year 7, at a maximum of up to £125. Last year, it was £120. But, uniquely, it is now also available for those parents who've got children starting school. It is also available for a wider range of items that might be associated with taking up not only opportunities within school but also sporting opportunities, extra-curricular opportunities or perhaps equipment that children need to access for, for instance, a school trip, such as outdoor equipment that perhaps is quite expensive. I can confirm that as we work with my Cabinet colleague the Cabinet Secretary for Finance to finalise the Welsh Government's budgets, we will be looking to take every opportunity to enhance how budgets are portrayed to individual committees, and reviewing exactly how we carry out impact assessments on individual budget lines. 

Darren, gallaf gadarnhau y byddwn yn defnyddio, fel y dywedais, amrywiaeth o gyfryngau dros yr haf i roi gwybod i rieni fod y grant hwn ar gael. Yn wir, y cynnwys mwyaf llwyddiannus ar y dudalen addysg Cymru ar Facebook yn y mis diwethaf oedd y deunydd a dynnai sylw pobl at fodolaeth y grant hwn. Cafodd ei rannu'n amlach nag unrhyw ddeunydd arall, a byddwn yn parhau, fel y dywedais, i roi cyhoeddusrwydd i fodolaeth y grant. Rydych yn iawn i ddweud ei fod yn fwy hael. Mae ar gael i rieni plant sy'n cael prydau ysgol am ddim ac sy'n mynd i mewn i flwyddyn 7, hyd at uchafswm o £125. Y llynedd, roedd yn £120. Ond mae'n unigryw yn yr ystyr ei fod bellach ar gael hefyd ar gyfer rhieni sydd â phlant yn dechrau yn yr ysgol. Mae hefyd ar gael ar gyfer amrywiaeth ehangach o eitemau a allai fod yn gysylltiedig â manteisio ar gyfleoedd nid yn unig o fewn yr ysgol ond cyfleoedd chwaraeon hefyd, cyfleoedd allgyrsiol neu offer sydd ei angen ar blant i gael mynd ar drip ysgol er enghraifft, megis offer awyr agored sy'n eithaf drud o bosibl. Wrth i ni weithio gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, i gwblhau cyllidebau Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau y byddwn yn ceisio manteisio ar bob cyfle i wella'r modd y caiff cyllidebau eu portreadu i bwyllgorau unigol ac adolygu sut yn union y cynhaliwn asesiadau effaith ar linellau cyllideb unigol.

15:35

The local authorities that I've spoken to are worried that this is all very last minute, and clearly that underlines the fact that it was a bit of a rearguard action to the scrapping of the school uniforms grant. So, I too welcome this u-turn from the Government. Local authorities have told me that you published your written statement outlining the proposals for the new scheme, but there was a delay then, in terms of receiving their offer letter and being clear about the terms of reference. As a result, of course, there's been a further delay in the system for them to implement their systems locally in order to promote and put systems in place for this scheme to work. I have to ask whether you regret the way that this situation has been arrived at. Why weren't local authorities given sufficient warning and sufficient time to get ready for this? Why wasn't it, for example, properly consulted upon before the announcement was made? Why was the scheme not ready to go, instead of being clearly what it is now, a last-minute rush job? 

Mae awdurdodau lleol y siaradais â hwy yn pryderu bod hyn oll yn cael ei wneud ar y funud olaf, ac yn amlwg mae hynny'n tanlinellu'r ffaith mai gweithredu mewn ymateb i gael gwared ar y grant gwisg ysgol oedd hyn. Felly, rwyf fi hefyd yn croesawu'r tro pedol hwn gan y Llywodraeth. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf eich bod wedi cyhoeddi eich datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r cynigion ar gyfer y cynllun newydd, ond cafwyd oedi wedyn, o ran cael eu llythyr cynnig a bod yn glir ynglŷn â'r cylch gorchwyl. O ganlyniad, wrth gwrs, cafwyd oedi pellach yn y system iddynt weithredu eu systemau'n lleol er mwyn hyrwyddo a rhoi systemau ar waith i'r cynllun hwn allu gweithio. Rhaid imi ofyn a yw'n edifar gennych am y ffordd y cyrhaeddwyd y sefyllfa hon. Pam nad oedd awdurdodau lleol wedi cael rhybudd digonol a digon o amser i baratoi ar gyfer hyn? Pam nad ymgynghorwyd yn briodol arno, er enghraifft, cyn gwneud y cyhoeddiad? Pam nad oedd y cynllun yn barod i gychwyn, yn hytrach na bod yr hyn ydyw yn awr, sef gweithred funud olaf?

Let's be absolutely clear: local authorities, via ADEW, were consulted throughout the month of May. I made my statement in this Chamber on 7 June. Individual directors of education were provided with an update on 8 June. By 29 June, all local authorities had received their indicative allocations and the criteria for the grant, and that was formally confirmed on 9 July. 

Gadewch inni fod yn gwbl glir: ymgynghorwyd ag awdurdodau lleol, drwy gyfrwng Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, drwy gydol mis Mai. Gwneuthum fy natganiad yn y Siambr hon ar 7 Mehefin. Darparwyd diweddariad i gyfarwyddwyr addysg unigol ar 8 Mehefin. Erbyn 29 Mehefin, roedd yr holl awdurdodau lleol wedi cael eu dyraniadau dangosol a'r meini prawf ar gyfer y grant, a chadarnhawyd hynny'n ffurfiol ar 9 Gorffennaf.

Thank you very much, Cabinet Secretary. 

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

5. Datganiadau 90 Eiliad
5. 90-second Statements

We move on to item 5, which are the 90-second statements. The first up this afternoon is Andrew R.T. Davies.  

Symudwn ymlaen at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Y cyntaf y prynhawn yma yw Andrew R.T. Davies.

Thank you very much, Deputy Presiding Officer. The British Association of Physicians of Indian Origin—BAPIO—is a non-political national voluntary organisation. It was established in 1996 by its founder president, Dr Ramesh Mehta OBE, to support doctors arriving from India to work in our NHS. BAPIO Wales is BAPIO’s largest national division and, under the chairmanship of Keshav Singhal MBE, has proven to be the most active too. 

Since its creation, our national health service has relied on international medical graduates for its success and stability. Indeed, there are estimated to be over 50,000 doctors of Indian origin serving in our NHS across the United Kingdom. These all make a significant impact on the health of the entire population of the United Kingdom, and that is particularly the case here in Wales. At one point during the 1960s and 1970s, almost 70 per cent of GPs in the Welsh Valleys were of Indian origin, and today, nearly a third of all hospital consultants in Wales are of Indian origin.

On Saturday 7 July, I joined members of BAPIO Wales at an event to mark the seventieth anniversary of our NHS and to celebrate the contribution Indian doctors have made. The event was held here at the Senedd, and it was a pleasure to see colleagues from across the Chamber attend. By making this statement today I, and I am sure many other colleagues in this Chamber, acknowledge the huge contribution that doctors from the Indian sub-contintent have made to the NHS and will continue to make as the NHS here in Wales goes forward. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gymdeithas Brydeinig o Feddygon o Darddiad Indiaidd—BAPIO—yn sefydliad gwirfoddol cenedlaethol anwleidyddol. Fe'i sefydlwyd yn 1996 gan ei lywydd a'i sylfaenydd, Dr Ramesh Mehta OBE, i gefnogi meddygon sy'n cyrraedd o India i weithio yn ein GIG. BAPIO Cymru yw is-adran genedlaethol fwyaf BAPIO ac o dan gadeiryddiaeth Keshav Singhal MBE, dyma ei his-adran fwyaf gweithgar hefyd.

Ers ei greu, mae ein gwasanaeth iechyd gwladol wedi dibynnu ar raddedigion meddygol rhyngwladol i sicrhau ei lwyddiant a'i sefydlogrwydd. Yn wir, amcangyfrifir bod dros 50,000 o feddygon o dras Indiaidd yn gwasanaethu yn ein GIG ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith sylweddol ar iechyd poblogaeth gyfan y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n arbennig o wir yma yng Nghymru. Ar un adeg yn ystod y 1960au a'r 1970au, roedd bron 70 y cant o feddygon teulu yn y Cymoedd yng Nghymru o dras Indiaidd, a heddiw, mae bron i draean o'r holl feddygon ymgynghorol mewn ysbytai yng Nghymru yn hanu o dras Indiaidd.

Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, ymunais ag aelodau o BAPIO Cymru mewn digwyddiad i nodi pen-blwydd ein GIG yn 70 oed ac i ddathlu'r cyfraniad y mae meddygon Indiaidd wedi'i wneud. Cynhaliwyd y digwyddiad yma yn y Senedd, ac roedd yn bleser gweld cydweithwyr o bob rhan o'r Siambr yn bresennol. Drwy wneud y datganiad hwn heddiw, rwyf fi, a llawer o gyd-Aelodau eraill yn y Siambr rwy'n siŵr, yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae meddygon o is-gyfandir India wedi'i wneud i'r GIG a'r cyfraniad y byddant yn parhau i'w wneud i'r GIG yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'd like to begin by wishing a very happy fifth birthday to the Keep Me Posted campaign. The Keep Me Posted campaign was set up, as I said, five years ago to protect consumers' rights to choose paper bills and statements without charge or penalty. It's not an anti-digital campaign. It's about making sure that everyone is in the best position to control their finances. As energy suppliers, phone companies and others do more online, more of us have been informed that if we wish to continue to receive paper statements or paper bills by post, then we're going to be charged for it.

Whatever businesses think about saving money in administration by getting rid of paper bills, Keep Me Posted has found that people who get a paper bill, instead of one by e-mail, are 30 per cent less likely to contact the business or organisation's call centre with further questions. Just 29 per cent of people who receive a paper bill need a reminder to pay it, compared to 59 per cent of those who receive an electronic bill, so you have to ask: is that really cost-effective?

The right to receive paper bills and statements at no extra cost gives customers a better service and lowers the chances of people falling into debt, and that really matters if you're financially vulnerable or have cognitive difficulties or simply don't have access to the internet—something that was acknowledged by the Minister when I raised this a couple of years ago. It seems, of course, that it saves on hidden back-room costs for businesses and organisations as well. Some Members will have met the Keep Me Posted team at the information drop-in session a couple of weeks ago, but I hope you will all consider signing up to the statement of opinion on this issue if you haven't already done so. It's just landing in your inboxes, I think.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r ymgyrch Keep Me Posted yn bump oed. Sefydlwyd yr ymgyrch Keep Me Posted, fel y dywedais, bum mlynedd yn ôl i ddiogelu hawliau defnyddwyr i ddewis biliau a datganiadau papur heb dâl na chosb. Nid ymgyrch wrth-ddigidol yw hi. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod pawb yn y sefyllfa orau i reoli eu harian. Wrth i gyflenwyr ynni, cwmnïau ffôn ac eraill wneud mwy ar-lein, mae mwy ohonom wedi cael gwybod, os ydym am barhau i gael datganiadau papur neu filiau papur drwy'r post, y bydd rhaid i ni dalu tâl amdanynt.

Beth bynnag y mae busnesau yn ei gredu am arbed arian ar weinyddiaeth drwy gael gwared ar filiau papur, mae Keep Me Posted wedi canfod bod pobl sy'n cael bil papur, yn hytrach nag un e-bost, 30 y cant yn llai tebygol o gysylltu â chanolfan alwadau'r busnes neu'r sefydliad gyda chwestiynau pellach. Dim ond 29 y cant o'r bobl sy'n cael bil papur sydd angen eu hatgoffa i'w dalu, o'i gymharu â 59 y cant o'r rhai sy'n cael bil electronig, felly rhaid ichi ofyn: yw hynny'n gosteffeithiol mewn gwirionedd?

Mae'r hawl i gael datganiadau a biliau papur heb unrhyw gost ychwanegol yn rhoi gwasanaeth gwell i gwsmeriaid ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd i ddyled, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig os ydych chi mewn sefyllfa fregus yn ariannol neu ag anawsterau gwybyddol neu'n syml nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd—rhywbeth a gydnabuwyd gan y Gweinidog pan dynnais sylw at hyn flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n ymddangos, wrth gwrs, ei fod yn arbed ar gostau ystafell gefn cudd i fusnesau a sefydliadau yn ogystal. Bydd rhai Aelodau wedi cyfarfod â thîm Keep Me Posted yn y sesiwn wybodaeth galw heibio ychydig wythnosau yn ôl, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn ystyried llofnodi'r datganiad o farn ar y mater hwn os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae ar fin glanio yn eich mewnflychau, rwy'n credu.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. The Tenby Museum and Art Gallery, the oldest independent museum in Wales, is also this week celebrating a birthday—its one hundred and fortieth birthday. The museum was established to display rare geological artefacts collected by the Rev Gilbert Smith and purchased by the town for £100—that's £11,000 in today's money. Over the years, the museum has won many national awards and has become one of Tenby's top attractions. There is still a strong emphasis on archeology and geology, but more modern exhibitions include those on the local history of Tenby, maritime history and piracy, and an excellent collection featuring works by, among others, Augustus and Gwen John, John Piper, David Jones, Claudia Williams, Nina Hamnett and Kyffin Williams. Currently, the museum is exhibiting a celebration of the Year of the Sea by Anna Waters and Dawny Tootes. For 139 years, the museum was staffed by a dedicated group of volunteers and only last year appointed its first paid curator. Situated at the heart of the old castle in Tenby, where the only court poem of Dyfed, 'Edmig Dinbych', says,

'Addfwyn y rhoddir i bawb ei ran'—

'Splendid in granting to each their share' in Joseph Clancy's translation—the museum shares the richness of our culture with everyone who visits. Thanks to all those over the years who have supported and maintained the museum and best wishes for the future.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, amgueddfa annibynnol hynaf Cymru, hefyd yn dathlu pen-blwydd yr wythnos hon—ei phen-blwydd yn 140 oed. Sefydlwyd yr amgueddfa i arddangos arteffactau daearegol prin a gasglwyd gan y Parch Gilbert Smith ac a brynwyd gan y dref am £100—dyna £11,000 yn arian heddiw. Dros y blynyddoedd, mae'r amgueddfa wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol ac wedi dod yn un o brif atyniadau Dinbych-y-pysgod. Mae pwyslais cryf o hyd ar archaeoleg a daeareg, ond mae arddangosfeydd mwy modern yn cynnwys rhai ar hanes lleol Dinbych-y-pysgod, hanes morwrol a môr-ladrata a chasgliad rhagorol yn cynnwys gweithiau gan Augustus a Gwen John, John Piper, David Jones, Claudia Williams, Nina Hamnett a Kyffin Williams ymhlith eraill. Ar hyn o bryd, mae'r amgueddfa yn arddangos dathliad o Flwyddyn y Môr gan Anna Waters a Dawny Tootes. Ers 139 o flynyddoedd câi'r amgueddfa ei staffio gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr a'r llynedd yn unig y penodwyd ei churadur cyflogedig cyntaf. Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli ynghanol yr hen gastell yn Ninbych-y-pysgod, lle mae'r unig gerdd llys o Ddyfed, 'Edmig Dinbych' yn dweud,

'Addfwyn y rhoddir i bawb ei ran'—

'Splendid in granting to each their share' yng nghyfieithiad Joseph Clancy—mae'r amgueddfa yn rhannu cyfoeth ein diwylliant gyda phawb sy'n ymweld â hi. Diolch i bawb dros y blynyddoedd sydd wedi cefnogi a chynnal yr amgueddfa a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.

In 1915, Newport workhouse, known locally as Woolaston House, was taken over by the War Office. It became part of the Third Western General Hospital, which today is St Woolos Hospital. Earlier this month, a commemorative plaque was unveiled outside St Woolos by the Gwent branch of the Western Front Association. The plaque was created by the talented Newport designer Danielle Mayer. As we celebrate the seventieth anniversary of the NHS, it's another opportunity to show our gratitude to previous generations of doctors, nurses and hospital staff. 

Special mention must be given to the women who worked in the hospital during the war years. They include the matron Katherine Gilchrist Wilson, members of the Territorial Force Nursing Service and voluntary aid detachments from the Red Cross and St John's. The running of the hospital not only required medical staff, but also general service VADs like storekeepers, cooks and cleaners, all of whom were vital.

Our community comes together in difficult times. Trains of wounded men were met at Newport station by local volunteers, giving them tea, cigarettes and fruit. I'm proud that, 100 years ago, the people of Newport came together to look after each other during one of the darkest periods in our recent history. While we must always remember those who fought and died in the great war, we must also remember those who saved lives.

Yn 1915, meddiannodd y Swyddfa Ryfel dloty Casnewydd, a elwir yn lleol yn Woolaston House. Daeth yn rhan o Ysbyty Cyffredinol Third Western, sef Ysbyty Gwynllyw heddiw. Yn gynharach y mis hwn, dadorchuddiwyd plac coffa y tu allan i ysbyty Gwynllyw gan Gangen Gwent o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin. Crëwyd y plac gan y dylunydd dawnus o Gasnewydd, Danielle Mayer. Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed, mae'n gyfle arall i ddangos ein diolchgarwch i genedlaethau blaenorol o feddygon, nyrsys a staff ysbytai.

Rhaid rhoi sylw arbennig i fenywod a weithiai yn yr ysbyty yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Maent yn cynnwys y metron Katherine Gilchrist Wilson, aelodau o Wasanaeth Nyrsio y Fyddin Diriogaethol a didoliadau cymorth gwirfoddol o'r Groes Goch a St John. Roedd rhedeg yr ysbyty nid yn unig yn galw am staff meddygol, ond didoliadau cymorth gwirfoddol gwasanaeth cyffredinol fel siopwyr, cogyddion a glanhawyr, a phob un ohonynt yn hanfodol.

Mae ein cymuned yn dod at ei gilydd ar adegau anodd. Roedd gwirfoddolwyr lleol yn cyfarfod â threnau'n llawn o ddynion clwyfedig yng ngorsaf Casnewydd, a byddent yn rhoi te, sigaréts a ffrwythau iddynt. Rwy'n falch fod pobl Casnewydd wedi dod at ei gilydd 100 mlynedd yn ôl i edrych ar ôl ei gilydd yn ystod un o'r cyfnodau tywyllaf yn ein hanes diweddar. Er bod yn rhaid inni gofio bob amser am y rhai a ymladdodd ac a fu farw yn y rhyfel mawr, rhaid inni gofio hefyd am y rhai a fu'n achub bywydau.

6. Datganiad gan Paul Davies: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod—Bil Awtistiaeth (Cymru)
6. Statement by Paul Davies: Introduction of a Member Proposed Bill—Autism (Wales) Bill

Item 6 on the agenda this afternoon is a statement by Paul Davies on the introduction of a Member-proposed Bill, the Autism (Wales) Bill. I now call on Paul Davies to introduce that Bill. 

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Paul Davies ar gyflwyno Bil arfaethedig Aelod, Bil Awtistiaeth (Cymru). Galwaf ar Paul Davies i gyflwyno'r Bil hwnnw.

Thank you, Deputy Presiding Officer. As Members are aware, on Friday last week, I laid the Autism (Wales) Bill with the Table Office. Can I put on record my sincere thanks to Tom Jackson and his team for their tremendous support and guidance during the development of this Bill? Can I also thank NAS Cymru and the countless stakeholders who have helped make this Bill a reality? 

This is primary legislation to help improve the lives of people living with autism across Wales, and those people are all around us: colleagues, friends, family. We need to meet their needs, we need to protect their rights, we need to realise their potential. In two consultation exercises and numerous meetings, the autism community has overwhelmingly made it clear that they favour primary legislation, expressing goodwill and support for a Bill. In doing so, they shared their stories and experiences with me. I’d like to tell you one such story, although I’m going to change the names of the people involved.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gosodais Fil Awtistiaeth (Cymru) yn y Swyddfa Gyflwyno. A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i Tom Jackson a'i dîm am eu cefnogaeth aruthrol a'u harweiniad wrth ddatblygu'r Bil hwn? A gaf fi ddiolch hefyd i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r rhanddeiliaid di-rif sydd wedi helpu i roi bod i'r Bil?

Deddfwriaeth sylfaenol yw hon i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ledled Cymru, ac mae'r bobl hynny o'n cwmpas ym mhob man: cydweithwyr, ffrindiau, teulu. Mae angen inni ddiwallu eu hanghenion, mae angen inni ddiogelu eu hawliau, mae angen inni wireddu eu potensial. Mewn dau ymarfer ymgynghori a chyfarfodydd niferus, mae'r gymuned awtistiaeth wedi dweud yn hynod o glir eu bod o blaid deddfwriaeth sylfaenol, gan fynegi ewyllys da tuag at Fil a'u cefnogaeth iddo. Wrth wneud hynny, maent wedi rhannu eu straeon a'u profiadau gyda mi. Hoffwn ddweud un stori o'r fath wrthych, er fy mod yn mynd i newid enwau'r bobl dan sylw.

A mum called Sarah told me about how her little girl would sometimes have meltdowns, how when it got too noisy, she would lose all control and would scratch at her own eyes so that Sarah had to try to restrain her, how her brothers didn’t understand why their sister sometimes hit out at them and why their mum wasn’t telling her off. And all the time that Sarah was dealing with all of that, and holding down a job, she was also fighting to get her daughter a diagnosis. She told me she had to fight for everything, and that it was so exhausting when you have to spend your day looking after a child who is pinching, head-butting and biting at you. Now, the good news is that Sarah’s daughter got a diagnosis of autism spectrum disorder, and that they are both now receiving support. They’ve got strategies in place that help them manage things. Her daughter has little flip cards that help her plan her daily routines.

I don’t want to suggest that many positive practices are not already in place. The problem is that while good practice in services for people with ASD is evident in some parts of Wales, in other areas services are poor, and waiting times, for a diagnosis in particular, are far too long. That’s why I’m introducing this Bill, because evidence from research, and the two consultations I ran, showed that services across Wales for people with ASD are inconsistent, and in some areas, inadequate. The Bill aims to promote best practice in autism services in all areas of Wales and to ensure that people with ASD and their families and carers are able to navigate them.

It is to the Welsh Government’s credit that it chose to publish and maintain an autism strategy that has secured some tangible service improvements. This Bill aims to build on those developments. It requires relevant bodies to comply with the strategy and associated guidance, ensuring consistent levels of services. And it provides a legislative framework to secure ongoing improvements and longer term service continuity.

It’s a Bill that is aimed at maintaining a governmental focus on the needs of people like Sarah and her daughter, regardless of whatever political and economic climates may arise in the future. For instance, the Bill requires the Welsh Government to publish an autism strategy and associated guidance, with which local authorities and NHS bodies must comply. The strategy and guidance will be subject to consultation and periodic review.

The Bill sets out requirements for data to be collected and published. This is to enable ongoing planning and improvement of ASD services. The Bill also recognises that some of the challenges faced by people with ASD, their families and carers could be helped by greater understanding about ASD from the public and service providers. Consequently, the Bill addresses the need for training and requires Welsh Ministers to undertake an awareness-raising campaign to enhance understanding of the needs of people with ASD by the public, employers and service providers. 

In the interest of futureproofing, the Bill uses the definition of autism spectrum disorder in the World Health Organization's international classification of diseases. That means that if our understanding of autism spectrum disorder changes in the future, the Bill will change with it. The Bill also includes a power for its provisions to be applied in relation to other neurodevelopmental disorders. This power has been included to mitigate concerns that an autism Bill could inadvertently diminish relevant bodies’ focus on addressing other neurodevelopmental disorders. It would be for Welsh Ministers to justify, in bringing forward regulations for the Assembly’s consideration, whether the provisions of the Bill would be appropriate in relation to the needs of people with other neurodevelopmental disorders. Again, my underlying intention has been to anticipate the potential for issues arising in the future and ensure that this legislation is fit for purpose, not just now but in the years to come.

In summary, this is a Bill built for meeting the needs of people with autism, now and in the future, once and for all, ensuring timely diagnosis and better support across the country, no matter where you live, and increasing public awareness of autism and a wider understanding of the condition among us all. 

Before closing, Deputy Presiding Officer, I'd like to thank everyone who has engaged in the two consultations I've conducted in the development of this Bill, and the hundreds of individuals, like Sarah and her daughter, who have spoken personally with me about its proposals. I am pleased that the overwhelming majority of responses have been very positive about the Bill, and that the Bill has been improved as a result of their input. I continue to welcome such input, and look forward to open-minded and thorough discussions in the course of this Bill’s legislative journey through the Assembly, and I commend it to this Chamber.

Dywedodd mam o'r enw Sarah wrthyf sut y byddai ei merch fach weithiau'n ei cholli hi, sut y byddai'n colli pob rheolaeth pan fyddai pethau'n mynd yn rhy swnllyd a byddai'n crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah geisio ei hatal rhag gwneud hynny, sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. A'r holl amser y byddai Sarah yn ceisio ymdopi â hyn i gyd, a gwneud ei swydd, roedd hi hefyd yn ymladd i gael diagnosis i'w merch. Dywedodd wrthyf ei bod yn gorfod ymladd am bopeth, a'i fod yn waith mor flinedig pan fo'n rhaid i chi dreulio eich diwrnod yn edrych ar ôl plentyn sy'n eich pinsio, yn eich taro â'i phen ac yn eich cnoi. Nawr, y newyddion da yw bod merch Sarah wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth, a'u bod ill dwy bellach yn cael cymorth. Mae ganddynt strategaethau ar waith sy'n eu helpu i reoli pethau. Mae gan ei merch gardiau fflipio sy'n ei helpu i gynllunio ei gweithgareddau dyddiol arferol.

Nid wyf am awgrymu nad oes llawer o arferion cadarnhaol eisoes ar waith. Er bod arferion da mewn gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth i'w gweld mewn rhai rhannau o Gymru, y broblem yw bod gwasanaethau'n wael mewn ardaloedd eraill, ac mae amseroedd aros, am ddiagnosis yn arbennig, yn llawer rhy hir. Dyna pam rwy'n cyflwyno'r Bil hwn, oherwydd dangosodd tystiolaeth o ymchwil, a'r ddau ymgynghoriad a gynhaliais, fod gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn anghyson, ac mewn rhai ardaloedd, mae'n annigonol. Nod y Bil hwn yw hyrwyddo arferion gorau mewn gwasanaethau awtistiaeth ym mhob rhan o Gymru ac i sicrhau bod pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn gallu dod o hyd i'w ffordd drwyddynt.

Mae'n glod i Lywodraeth Cymru ei bod wedi dewis cyhoeddi a chynnal strategaeth awtistiaeth sydd wedi sicrhau rhai gwelliannau amlwg i'r gwasanaeth. Mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y datblygiadau hynny. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol gydymffurfio â'r strategaeth a chanllawiau cysylltiedig, gan sicrhau lefelau cyson o wasanaethau. Ac mae'n darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau gwelliannau parhaus a pharhad y gwasanaeth yn fwy hirdymor.

Mae'n Fil sy'n anelu at gynnal ffocws llywodraethol ar anghenion pobl fel Sarah a'i merch, ni waeth pa hinsoddau gwleidyddol ac economaidd a welir yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau cysylltiedig, a rhaid i awdurdodau lleol a chyrff y GIG gydymffurfio â hwy. Bydd y strategaeth a'r canllawiau yn destun ymgynghoriad ac adolygiad cyfnodol.

Mae'r Bil yn nodi gofynion ar gyfer casglu a chyhoeddi data. Gwneir hyn er mwyn gallu llunio cynlluniau parhaus a gwella gwasanaethau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod y gallai rhai o'r heriau a wynebir gan bobl ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu helpu drwy fwy o ddealltwriaeth am anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaeth. O ganlyniad, mae'r Bil yn rhoi sylw i'r angen am hyfforddiant ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn wella dealltwriaeth o anghenion pobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth.

Er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol, mae'r Bil yn defnyddio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn nosbarthiad clefydau rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd. Golyga hyn, os bydd ein dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn newid yn y dyfodol, y bydd y Bil yn newid gyda'r ddealltwriaeth honno. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i gymhwyso ei ddarpariaethau mewn perthynas ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r pŵer hwn we