Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Twristiaeth

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector twristiaeth? OAQ52538

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn cefnogi busnesau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn y sector twristiaeth, drwy ystod o gynlluniau rhyddhad ardrethi. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn darparu £210 miliwn mewn rhyddhad ardrethi, gan gefnogi mwy na thri chwarter o dalwyr ardrethi busnes yng Nghymru.

Mae system o'r enw gwirio, herio, apelio ar waith yn Lloegr, sy'n caniatáu i fusnesau wirio'r ffeithiau am eu heiddo a gweld prisiadau cyn penderfynu herio'r prisiad. Ymddengys bod hyn yn lleihau ansicrwydd ac yn sicrhau bod busnesau yn canfod ateb yn gyflymach. Mae hefyd yn lleihau ansicrwydd i awdurdodau lleol, sydd wrth gwrs yn gorfod neilltuo arian ar gyfer apeliadau posibl. Felly, tybed a ydych yn bwriadu cyflwyno system o'r fath yma yng Nghymru.

Yn ail, tybed a allech roi sylwadau ar yr angen i ddiwygio ardrethi busnes yn y sector twristiaeth, gyda busnesau fel Airbnb a busnesau eraill sy’n cystadlu â'r mathau hynny o fusnesau, yn ogystal â'r math o fusnesau, megis rhai yn fy etholaeth fy hun, lle mae rhai gweithredwyr yn berchen, er enghraifft, ar bedair uned hunanddarpar ar un safle, ac maent yn cystadlu â busnesau sydd â llawer mwy o unedau hunanddarpar ond sydd wedi'u gwasgaru ar draws ardal eang ac nid ydynt yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, ond maent yn talu’r dreth gyngor ar gyfradd is o lawer. Felly, tybed a allech roi sylwadau ar y diwygio sydd ei angen yn y sector twristiaeth yn hyn o beth, ac rwyf wedi ysgrifennu atoch gyda chynnig gan etholwr am gyfradd safonol o 25 y cant ar gyfer pob busnes twristiaeth, waeth beth fo'i faint.

Wel, Lywydd, diolch i Russell George am y cwestiynau dilynol hynny. Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ymgynghoriad ar ddiwygio'r system apeliadau yn y sector ardrethi busnes, ac mae'n faes sy'n barod i gael ei ddiwygio, ac rydym yn bwriadu cyflwyno argymhellion. Nid ydym yn bwriadu mewnforio Cymru i'r system gwirio, herio, apelio fel y'i defnyddir yn Lloegr, lle mae llawer o fusnesau'n teimlo nad ydynt yn cael chwarae teg o gwbl ac nad yw eu hapeliadau yn cael eu clywed yn deg. Felly, er fy mod yn cytuno â Russell George fod taer angen symleiddio'r system, ei gwneud yn fwy effeithlon, a chael gwared ar apeliadau nad ydynt yn cael eu clywed yn y pen draw, rwy'n dal i fod eisiau cadw system sy'n amlwg yn deg i fusnesau sydd â rheswm dilys dros apelio.

Mae'r Aelod hefyd yn iawn i dynnu sylw at yr annhegwch, fel y mae nifer yn y sector twristiaeth yn ei weld, yn y gystadleuaeth gan sefydliadau fel Airbnb, nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru yn ffisegol ac felly nid oes yn rhaid iddynt dalu ardrethi busnes, tra bo busnes ar y stryd rywle mewn tref yng Nghymru yn gorfod gwneud hynny. Rydym yn archwilio i weld a oes modd mynd i'r afael â'r mater hwnnw. Credaf ei fod yn fwy tebygol o gael sylw gan Ganghellor y Trysorlys, sydd wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn bwriadu ymchwilio i newidiadau i ddeddfwriaeth treth i weld a yw Amazon—enghraifft arall o sefydliad nad yw'n talu ardrethi busnes, tra bo siop lyfrau fechan ar y stryd fawr yn gwneud hynny—. Felly, rydym yn cadw llygad ar y mater hwnnw, gan wybod bod rhywfaint o annhegwch yn y system.

Ac yn olaf, ar ei bwynt ynglŷn ag unedau hunanddarpar, rwyf wedi cael gohebiaeth, fel y dywed, ganddo ef, gan Kirsty Williams, gan Eluned Morgan, a byddwn yn archwilio'r argymhellion a gyflwynwyd i ni yn ofalus. Credaf ei bod yn deg imi ddweud, Lywydd, ein bod eisoes yn darparu rhyddhad ardrethi helaeth i fusnesau bach—cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ydyw. Ac weithiau, nid yw sefydliadau sydd â chlystyrau mawr o safleoedd twristiaeth yn gymwys o fewn rheolau'r cynllun fel y mae. Ond rwy'n ymwybodol o'r mater, rwy'n ddiolchgar am yr ohebiaeth, a byddwn yn parhau i'w ystyried yn ofalus.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r sector twristiaeth yn faes eang. Mae'n cynnwys lleoedd fel pyllau Glyncorrwg, neu'r beiciau mynydd yng Nglyncorrwg, ond mae rheini hefyd yn cynnwys yr unedau hunanddarpar y mae pobl yn aros ynddynt er mwyn defnyddio'r systemau hynny. Ond maeein busnesau bach hefyd yn gwasanaethu'r sector hunanddarpar hwnnw, ac maent yn gwasanaethu'r gymuned gyfan, ac yn aml iawn fel un busnes o fewn y gymuned honno, a phe bai'r busnes hwnnw'n cael ei golli, ar adegau allfrig, byddem yn gweld y gymuned yn dioddef hefyd. A wnewch chi ystyried ehangu'r cyfleoedd i fusnesau bychain mewn cymunedau, sy'n gwasanaethu'r sector twristiaeth, ond sydd hefyd yn gwasanaethu'r gymuned, gan fod y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai ohonynt yn golygu, yn ystod oriau allfrig, eu bod yn ei chael hi’n anodd?

13:35

Rwy'n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn dda iawn. Lywydd, dosbarthwyd ychydig dros 5,000 eiddo yn fusnesau hunanddarpar yn yr ymarfer casglu data a gynhaliwyd yn 2017, ac o'r rheini, roedd 96 y cant ohonynt, dros 4,800, yn derbyn cymorth gan y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Y pwynt ehangach y cyfeiria David Rees ato yw’r achos dros alinio rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gyda dibenion cymdeithasol yn ogystal â dibenion economaidd Llywodraeth Cymru. Mae gennym system anwahaniaethol. Mae busnesau’n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach boed y rhyddhad hwnnw'n hanfodol i'w busnes ai peidio, ac rwy'n awyddus i edrych ar ddiwygiadau a fyddai'n alinio’r arian y mae pwrs y wlad yn ei ddarparu yn y maes hwn yn well gyda'r canlyniadau economaidd a chymdeithasol rydym yn ceisio’u cyflawni.

Brexit

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cytuno ar fargen â 27 aelod-wladwriaeth yr UE ar y trefniadau ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ52535

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nid oes amheuaeth fod y ffordd anhrefnus y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit yn peri risg drychinebus o 'ddim bargen'. Nododd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU newid cyfeiriad o’r diwedd. Mae'n rhaid iddi symud yn awr oddi wrth eu strategaeth linell goch tuag at Brexit o’r math cywir, fel y nodwyd gennym dros 18 mis yn ôl yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda Thorïaid yn ymddiswyddo bron bob dydd, ac eraill yn gwneud popeth yn eu gallu i danseilio eu Prif Weinidog sydd dan warchae, rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un sy’n credu bod holl ffiasgo trafodaethau Brexit yn peri cryn bryder ar gyfer dyfodol Cymru. Ar yr union adeg pan fo angen bod yn ddigynnwrf er mwyn ymdrin â negodiadau anodd, yr unig beth a welwn yw proses sy'n ymddangos fel pe bai allan o reolaeth ac sy’n ein harwain tuag at y posibilrwydd trychinebus o 'ddim bargen' a'r holl ddifrod y bydd hynny’n ei achosi. Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf gryn brofiad o negodi, ac un peth rwy'n ei wybod yw eich bod yn rhoi'r gorau i gloddio pan ydych mewn twll. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, er lles pawb, ei bod bellach yn bryd galw am seibiant a gofyn i 27 yr UE ymestyn yr amserlen fel y gellir gwneud hyn yn iawn?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn wir, mae'n negodydd profiadol ac effeithiol iawn o fy mhrofiad o fod ar ochr arall i'r bwrdd oddi wrthi. Rwy’n cytuno bod yr anhrefn yn Llywodraeth y DU yn peri cryn bryder. Mae'n cynnig ymestyn terfyn amser erthygl 50, ac efallai y bydd angen gwneud hynny o hyd, er fy mod yn credu y dylem fod yn gwbl ymwybodol o’r rhwystrau a fyddai’n ein hwynebu wrth geisio cyflawni hynny. Yr ateb go iawn fyddai pe bai Prif Weinidog y DU yn camu ymlaen i amddiffyn dull sy'n amlwg yn cefnogi cyfranogiad yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a fyddai'n datrys mater ffin Iwerddon a'r difrod y mae hynny’n ei wneud i'r cytundeb ymadael posibl. Mae’r cytundeb ymadael yn cynnwys terfyn amser arall hefyd, Lywydd, a drafodwyd gennym ar lawr y Cynulliad ddoe, sef y terfyn amser mewn perthynas â’r cyfnod pontio. Nid yw'n gwneud mwy o synnwyr fod ochr y dibyn ym mis Rhagfyr 2020 yn hytrach nag ym mis Mawrth 2019, ac mae arnom angen hyblygrwydd ar y mater hwnnw hefyd.

Yn amlwg, mae ein cymheiriaid yn San Steffan wedi pleidleisio fel y maent wedi pleidleisio dros y dyddiau diwethaf. A chyn i Dominic Raab gyfarfod gyda Mr Barnier, yfory rwy’n credu, gyda’r nod o gyflymu’r trafodaethau er mwyn cwblhau'r cytundeb ymadael mewn pryd ar gyfer y terfyn amser ym mis Hydref, deellir bod swyddogion y DU a'r UE wedi cyfarfod ddydd Llun i drafod ffin Iwerddon, y berthynas yn y dyfodol a materion yn ymwneud â’r cytundeb ymadael terfynol, a’u bod wedi cyfarfod ddoe, ac y byddant yn cyfarfod heddiw, i drafod yr 20 y cant sy'n weddill o gytundeb ymadael y DU. Pa gyfraniad rydych chi neu eich swyddogion wedi'i wneud i’r trafodaethau yr wythnos hon, os o gwbl?

Wel, Lywydd, dymunaf yn dda i Mr Raab yn y trafodaethau y bydd yn eu cael. Pan oedd y Prif Weinidog gyda Michel Barnier ddydd Llun, yn wir fe ddangosodd Mr Barnier destun y cytundeb i'r Prif Weinidog, gan ddangos yr 80 y cant sydd wedi’i gytuno, a'r 20 y cant sydd heb ei gytuno eto. Cawsom gyfle i wneud cyfraniad yno. Mae gennym gyfleoedd o hyd ar lefel swyddogol. A ydynt yn gyfleoedd a ddaw inni mewn ffordd y credwn ei bod yn cyd-fynd â'r cyfrifoldebau rydym ni, a gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn eu harfer? Ac a ydym yn cael y math o gyfle a fyddai o gymorth gwirioneddol i lunio cynnig Llywodraeth y DU? Wel, mae arnaf ofn ein bod yn gwybod o brofiad nad yw hynny'n wir. Rydym yn parhau i gymryd unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i ni.

13:40

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rydym yn agosáu at sefyllfa lle mae'r anhrefn rydym wedi'i weld yn Llundain—lle, yr wythnos diwethaf, roeddent yn rhedeg drwy'r Tŷ Cyffredin gyda'r Papurau Gwyn, am nad oedd unrhyw un wedi'u gweld, a Gweinidogion yn ymddiswyddo—yn ein gwthio tuag at ymadael heb 'ddim bargen'. Mae Mark Isherwood wedi tynnu sylw at y ffaith bod y swyddogion wedi bod yn negodi ddydd Llun, ddoe a heddiw. Wel, yn ôl pob tebyg, roedd ganddynt set wahanol o ganllawiau ddydd Llun, ddoe a heddiw, ac felly, nid ydynt hyd yn oed yn gwybod am beth roeddent yn sôn. Mae hynny'n ein harwain at senario bosibl a thebygol o 'ddim bargen' pan fyddwn yn ymadael. Ddoe, dywedasoch eich bod yn paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer y sefyllfa honno. A ydych wedi cynnal dadansoddiad o'r meysydd blaenoriaethol ar gyfer y cynlluniau wrth gefn hynny, er mwyn inni wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diogelu'r meysydd blaenoriaethol hynny ar gyfer ein heconomi a phobl Cymru?

Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio, fod y broses honno'n cynnwys nodi'r meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, y byddai'n archwilio effeithiau Brexit 'dim bargen' a fyddai'n effeithio'n waeth ar boblogaeth Cymru, ac yna'n llunio cynlluniau wrth gefn i ymdrin â'r canlyniad trychinebus hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i Ysgrifennydd y Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.  

Diolch, Lywydd. Ddoe, cyhoeddwyd dwy ddogfen sy'n arwyddocaol i les ariannol ac economaidd Cymru. Y gyntaf oedd y ddogfen gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr adroddiad cynaliadwyedd ariannol. Yr ail oedd papur Llywodraeth Cymru ar ddiwygio cyllid y DU a'r trefniadau cyllidol ar ôl gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhybudd clir, rhybudd pellach os oedd arnom angen un, y gallwn ddisgwyl cyllid cyhoeddus anghynaladwy yn y DU ar gyfer y tymor byr i ganolig o leiaf, ac y byddai hynny'n rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar gyllidebau, ac y gallem ddisgwyl rhagor o gyfangu cyllidol. Yn nogfen Llywodraeth Cymru, a groesewir yn fras gan Plaid Cymru, yn enwedig yr elfennau sy'n ymwneud â chyllid teg i Gymru, mae'n datgan na ddylai Cymru golli'r un geiniog o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac y dylai polisi rhanbarthol yn y dyfodol barhau i fod yn gwbl ddatganoledig i Lywodraeth Cymru. Yng nghyd-destun rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU wedi cyfaddef beth yw goblygiadau ariannol datganoli polisi rhanbarthol yn y dyfodol, a ffaith yr egwyddor y dylai barhau i fod yn ddatganoledig.

Wel, diolch am hynny, Steffan Lewis. Mae'n llygad ei le yn dweud bod rhagolwg diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gyson â'r hyn y maent wedi'i ddweud ers misoedd lawer bellach. Maent yn rhan o'r brif ffrwd economaidd sy'n dweud wrthym, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar sail 'dim bargen', y byddem yn wynebu cyfangu o rhwng 8 y cant a 10 y cant ar ein heconomi, ac mae hynny'n enfawr. Nawr, nid yw pawb yn cytuno â hynny, ond dyna'n union yw safbwynt daroganwyr economaidd prif ffrwd megis y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Nid ydym wedi cael y sicrwydd y mae Steffan Lewis wedi gofyn amdanynt gan Lywodraeth y DU, er fy mod wedi trafod y mater hwn yn uniongyrchol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn uniongyrchol gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, ac wedi gwneud ein pwynt. Ni fyddwn yn cefnogi cronfa cyd-ffyniant a allai, er enghraifft, gynnig cyfran Barnett inni o'r gronfa honno, a fyddai, heb os, yn llawer is na'r hyn sydd gennym o ganlyniad i'r asesiad o anghenion sy'n arwain at yr arian a gawn gan yr Undeb Ewropeaidd. Ni fyddwn ychwaith yn ymrwymo i gyfundrefn o wneud ceisiadau am gronfa cyd-ffyniant lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn pennu'r rheolau, lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniadau a lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dyfarnu ar anghydfodau pan fyddant yn codi. Rydym wedi rhoi ateb i broblem i Drysorlys y DU, ac nid ydynt yn sefydliad sy'n brin o broblemau. Yr ateb yw'r un a nodir yn ein dogfen: rhoi'r arian a gawn o ganlyniad i'n cymhwysedd am y cymorth hwnnw o dan yr Undeb Ewropeaidd i mewn i linell sylfaen y Cynulliad Cenedlaethol a'n caniatáu i wneud penderfyniadau a fydd yn caniatáu inni alinio'r arian hwnnw gydag anghenion ein datblygiad economaidd rhanbarthol ar gyfer y dyfodol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae'n siomedig, serch hynny, ac nid yw'n syndod mwyach nad yw wedi cael sicrwydd eto gan Lywodraeth y DU y byddai polisi rhanbarthol yn parhau i fod yn ddatganoledig ac na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog. Yn hyn y credaf y gall pobl fod yn awyddus i'w ddysgu gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, yw ei gweledigaeth ar gyfer polisi rhanbarthol yn y dyfodol, a ydym yn parhau i'w gadw ar lefel genedlaethol yma yng Nghymru fel maes polisi, ac wrth gwrs, yn parhau i dderbyn y cyllid cyfatebol hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar ei weledigaeth ar gyfer dyfodol polisi rhanbarthol?

Gwn nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael llawer o lwc gyda mapiau yn ddiweddar, ond bydd rhai pobl ledled y wlad yn pryderu, pe bai gennym ranbarthau newydd yng Nghymru yn lle gorllewin Cymru a'r Cymoedd—y rhanbarthau cyllid cydgyfeirio traddodiadol—y byddai lleoedd fel Rhondda, Blaenau'r Cymoedd, Blaenau Gwent ac ati i mewn gyda Chaerdydd, rhan fwyaf llewyrchus y wlad, a byddai hynny, o bosibl, yn celu'r anfantais a'r cymorth economaidd sydd ei angen yn y cymunedau hynny.

Mae yna rai o'r farn, wrth gwrs, na ddylid cael rhanbarthau yng Nghymru at ddibenion polisi rhanbarthol o gwbl ac y dylai fod yn brosiect cymunedol ac mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ystyried yn y gorffennol. Felly, tybed a all roi arwydd o farn Llywodraeth Cymru o ran sut y byddem yn gweinyddu polisi rhanbarthol a sut na fydd cymunedau difreintiedig ar eu colled yn y dyfodol.

13:45

Diolch i Steffan Lewis am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y gŵyr, cyhoeddasom bapur yn y gyfres o ddogfennau a gyhoeddwyd gennym ers y Papur Gwyn mis Ionawr 2017 ar bolisi rhanbarthol. Nid ymgais ydoedd i nodi set bendant o drefniadau ar gyfer y dyfodol, ond crynodeb o gyflwr y ddadl ar y pwynt hwnnw, ac rydym wedi cael trafodaeth fywiog iawn ers hynny, gyda llawer o gyfraniadau i ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym ar y papur hwnnw. Rydym wedi cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a gobeithiaf fod mewn sefyllfa yn yr hydref i gyflwyno papur sy'n crynhoi hynny ac sy'n rhoi set o gynigion mwy pendant yn eu lle.

Mae'r pwynt a wnaeth yn un pwysig, oherwydd mae'n mynd at wraidd problem ynddo. Yn yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, ceir consensws ledled Cymru, i raddau helaeth, ar yr angen am fwy o hyblygrwydd yn y dyfodol. Gall cyllid yr Undeb Ewropeaidd, os oes unrhyw fudd yn hyn o gwbl, gael ei ddarparu inni gyda rheolau eithaf caeth ynghlwm wrtho: anhyblygrwydd daearyddol a'r mathau o bethau y gallwch wario'r arian arnynt, ceir anhyblygrwydd yn hynny o beth hefyd. A dywedodd yr ymgynghoriad fod hwn yn gyfle inni fod yn fwy hyblyg mewn perthynas â rhai o'r pethau hynny. Ond mae hynny wedyn yn arwain at bryderon ymysg yr ardaloedd daearyddol sydd wedi elwa o'r cyllid hyd yma y gallai hyn effeithio'n wael arnynt. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw nad oes gennym unrhyw fwriad o weithredu yn y modd hwnnw, ac nid ydym yn ystyried hyblygrwydd yn rhywbeth sy'n amsugno ardaloedd mewn mwy o angen mewn economi ehangach sy'n cuddio'r angen hwnnw, ond mae caniatáu hyblygrwydd synhwyrol, ar yr ymylon, yn golygu nad ydych yn cael eich atal rhag gwneud buddsoddiadau da a fydd yn fuddiol i'r ardaloedd hynny am fod gennych set o reolau sy'n rhy anhyblyg.

Diolch iddo am ei ateb, ac rwy'n falch o glywed na fyddai gennym sefyllfa yng Nghymru lle—nid ydym am i Gymru yn ei chyfanrwydd golli'r un geiniog o'r hyn y gallem ei ddisgwyl mewn cymorth rhanbarthol, ac yn yr un modd ni fyddem am i unrhyw gymuned golli'r un geiniog o'r hyn y gallent ei ddisgwyl mewn cymorth rhanbarthol ychwaith.

Agwedd arall sy'n cael ei chrybwyll yn y papur diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yw cymorth gwladwriaethol, ac wrth gwrs, mae hwn yn faes lle bydd angen cytundeb rhynglywodraethol oni bai, wrth gwrs, fod Llywodraeth San Steffan yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y mater ac yn ein gorfodi i mewn i ras tuag at y gwaelod ar gymorth gwladwriaethol, ac mae hynny'n rhywbeth na fuaswn yn ei ddiystyru.

Dywed Papur Gwyn Llywodraeth Cymru y

Dylai unrhyw drefniadau newydd gael eu llunio yn unol â’n hegwyddorion o gytundeb a chydsyniad, gan gydweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig eraill.

Ond rwy'n cyferbynnu hynny â'r darn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU—os nad yw wedi cael ei newid yn ystod y 24 awr ddiwethaf—sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, sy'n croesawu'r ffaith mai 0.3 y cant yn unig o'r cynnyrch domestig gros y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar gymorth gwladwriaethol yn 2016, sy'n llai na hanner cyfartaledd yr UE. Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario cyfartaledd yr UE ar gymorth gwladwriaethol, byddai hynny wedi darparu £8 biliwn yn ychwanegol ar gyfer buddsoddi a gallai Cymru fod wedi disgwyl oddeutu £400 miliwn o ganlyniad.

Felly, mae'n amlwg fod cryn wahaniaeth barn, nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac nid yn unig ynglŷn â'r egwyddor ynglŷn ag a yw cymorth gwladwriaethol wedi'i ddatganoli ai peidio, ond hefyd ynglŷn â beth y dylid ei wneud ag ef wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a gawn ni sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i unrhyw gytundeb rhynglywodraethol yn y dyfodol sy'n ildio rheolau cymorth gwladwriaethol yn gyfan gwbl i Lywodraeth y DU, ac yn lle hynny, y bydd yn rhaid i unrhyw gytundeb yn y dyfodol fod yn seiliedig ar gytundeb a chyfrifoldeb a rennir? Oherwydd, wrth gwrs, bydd arnom angen fframweithiau a rheolau'r DU, ac mae cymorth gwladwriaethol yn enghraifft dda o ble y bydd eu hangen, drwy gytundeb.

13:50

Mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt pwysig, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, mae'n nodi un o'r ffyrdd y gwnaeth y bobl a hyrwyddai Brexit gamarwain y cyhoedd gyda'u dadleuon. Oherwydd maent bob amser yn portreadu rheolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd fel rhyw fath o wasgod gaeth sy'n ein rhwystro rhag gwneud y pethau da yr hoffem eu gwneud. Mae cymorth gwladwriaethol yr Almaen wyth gwaith yn fwy na'r Deyrnas Unedig ac maent yn gweithredu'n gyfan gwbl o fewn llyfr rheolau'r Undeb Ewropeaidd. Felly, mae'r syniad ein bod, rywsut, wedi ein caethiwo i rywbeth sy'n ein gorfodi i wneud pethau na fyddem wedi dymuno'u gwneud, o graffu arno, yn bell iawn o'r gwir.

Rwy'n fwy na pharod i roi'r sicrwydd roedd Steffan Lewis yn chwilio amdano yn ei ail gwestiwn. Os bydd—ac rwy'n cytuno ag ef ei bod yn debygol iawn y bydd—angen am fframwaith sy'n gweithredu ar draws marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, ni fyddwn yn cytuno i rywbeth sy'n cael ei orfodi arnom. Byddwn yn disgwyl bod wrth y bwrdd, byddwn yn disgwyl bod yn rhan o'r trafodaethau hynny, a byddwn yn disgwyl bod mewn sefyllfa lle y cytunir ar y canlyniad rhwng y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, nid canlyniad un rhan yn unig.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar sylfaen drethu Cymru, sydd wedi codi nifer o bwyntiau perthnasol ynglŷn â'r effaith y gall mân newidiadau hyd yn oed i'r system dreth ei chael ar ymddygiad trethdalwyr, ymfudo a mewnfuddsoddi.

O ran y dreth trafodiadau tir, er mai 45 yn unig o drafodiadau treth trafodiadau tir a thrafodiadau eiddo amhreswyl dros £5 miliwn a gafwyd yn 2015-16, mae'r adroddiad yn nodi eu bod yn cyfateb i 43 y cant o gyfanswm gwerth trafodiadau treth trafodiadau tir Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y gallai 10 yn llai o drafodiadau rhydd-ddaliadol dros £5 miliwn mewn un flwyddyn arwain at £7 miliwn yn llai o refeniw. O ystyried hyn oll, rydym wedi gofyn ichi eisoes, a gofynnaf ichi eto: a wnewch chi o leiaf fonitro cyfradd uchaf y dreth trafodiadau tir yn y cyswllt hwn yng Nghymru ac ystyried ei halinio â Lloegr neu'r Alban os yw'r economi yn dangos arwyddion ei bod yn dioddef?

Wel, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y sicrwydd a roddais i'r Aelod y tro diwethaf y gofynnodd y cwestiwn hwnnw imi, ac wrth gwrs, rydym yn monitro effaith y polisi ar drafodion, a lle y ceir tystiolaeth sy'n ein harwain i ddod i gasgliadau gwahanol, dyna a wnawn. Ond mae'r dreth trafodiadau tir ychydig dros dri mis oed bellach, felly mae'r sylfaen dystiolaeth ar hyn o bryd yn rhagarweiniol ar y gorau, a byddwn yn parhau i weld sut y bydd canlyniadau gwirioneddol hyn ar lawr gwlad yn edrych, yn hytrach na dyfalu beth y gallent fod.

Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd yr adroddiad hefyd y cysylltiad annatod rhwng economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i godi refeniw treth yn gyffredinol. Yn benodol, mae'r gwahaniaethau rhwng economi Cymru ac economi'r DU wedi eu nodi'n hollol glir: incwm is, diffyg swyddi medrus ar gyflogau uchel, cynhyrchiant is a mwy o berygl o awtomatiaeth. Gwn fod eich Llywodraeth yn ymwybodol o'r holl bethau hyn. 

Rwyf wedi codi hyn gyda chi eisoes, yn enwedig y gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng safbwynt Ysgrifennydd yr economi a'ch safbwynt chi. Mae'r cynllun gweithredu economaidd, ar y naill law, yn crybwyll treth unwaith yn unig, ac eto rydym wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro ar y meinciau hyn ynglŷn â'r uwch dreth o 6 y cant ar drafodiadau tir masnachol a allai gael effaith sylweddol ar fewnfuddsoddi pellach. Fe sonioch chi am Brexit wrth ymateb i Steffan Lewis yn gynharach. A ydych o'r farn ar hyn o bryd, wrth i Brexit ddod yn agosach a dod yn fwy real o lawer i bob un ohonom, nad nawr yw'r amser i ystyried cael trethi fel hyn ar yr union bobl yng Nghymru y byddwn yn dibynnu arnynt dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod i sicrhau bod economi Cymru yn gryfach?

Wel, mae'n baradocs, Lywydd, onid yw? Y Blaid Geidwadol a fu'n dadlau gryfaf dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gymru, a bellach, dadl y Blaid Geidwadol yw, ar ôl eu datganoli, na ddylem eu defnyddio—mai'r unig beth y gallwn ei wneud yw sicrhau nad ydym yn dargyfeirio oddi wrth yr hyn sy'n digwydd dros y ffin. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd. Rydych naill ai'n credu, fel y mae eich plaid wedi pregethu, y dylid datganoli pwerau i Gymru fel y gallwn wneud penderfyniadau yma, neu rydych yn credu nad oes unrhyw wahaniaeth yn bosibl dros y ffin. Roeddem yn barod i dderbyn eich cynnig cyntaf.

Os yw'r pwerau yma, rhaid arfer y pwerau yma. Y penderfyniadau y mae'r Aelod yn cwyno amdanynt yw'r penderfyniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac a ategwyd ganddo yn y broses o lunio'r gyllideb, cyn cyflwyno’r rheoliadau ym mis Ionawr i'w rhoi mewn grym. Byddaf yn gwneud yr hyn a ddywedais yn fy ateb i'w gwestiwn cyntaf: ar ôl gwneud y penderfyniad, byddwn yn monitro ei effaith. Os oes gwersi i'w dysgu, ac os oes newidiadau y bydd angen eu gwneud, byddwn yn gwneud hynny, ond ni fyddwn yn gweithredu ar sail cyfres o sefyllfaoedd damcaniaethol, lle mae'r dystiolaeth wirioneddol prin yn chwarter mlwydd oed.

13:55

Mae hwnnw'n ateb diddorol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod yn llygad eich lle: ar yr ochr hon i'r Siambr, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, fe gefnogom ni ddatganoli pwerau treth i'r lle hwn, ac rydym yn credu'n llwyr mewn atebolrwydd. Rwy'n falch fod y Llywodraeth Geidwadol—Llywodraeth glymblaid flaenorol y DU—wedi mynd i'r cyfeiriad hwnnw mewn gwirionedd.

Ymddengys i mi mai'r hyn rydych yn ei ddweud yw eich bod yn llawn fwriadu codi trethi lle y gallwch. Wrth gwrs, nid yw'r ffaith bod trethi wedi eu datganoli i'r lle hwn yn golygu eich bod yn eu codi; mae hefyd yn golygu y gallwch eu cadw yr un fath neu eu gostwng, ond wrth gwrs, byddwch yn cael y refeniw yma o'r trethi hynny.

Fe ddywedoch chi wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf eich bod yn amheus y byddai treth gymedrol yn cael effaith ar fudo. Efallai fod hynny'n wir, ond os oes cynnydd o 1c yn y dreth incwm i helpu GIG Cymru, er enghraifft; cyfraniad o 1 y cant i 3 y cant o incwm tuag at ofal cymdeithasol yn ychwanegol at hynny; a chynnydd parhaus yn y dreth gyngor a threthi eraill yng Nghymru, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes: gan ein bod yn agosáu at Brexit a bod yna ansicrwydd economaidd, hyd yn oed os ydych yn credu y gall cynnydd cymedrol mewn trethi fod yn fuddiol i'r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, ai nawr yw'r amser i beidio â diystyru'r cynnydd hwnnw? Mae angen sefydlogrwydd ar bobl ac mae angen sefydlogrwydd ar fusnesau. Does bosib, fel Ysgrifennydd cyllid, nad ydych yn awyddus i weithio er lles Cymru ac i sicrhau, yn y dyfodol, fod unrhyw gynnydd mewn treth yn digwydd pan fydd gennych y sylfaen dystiolaeth honno rydych yn credu mor gryf ynddi.

Wel, Lywydd, ni ddywedais y fath beth, i ateb ail gwestiwn Nick Ramsay. Ni wneuthum unrhyw sylwadau o gwbl ynghylch cyfeiriad posibl newidiadau treth. Yr unig beth a wneuthum oedd ymateb i'w awgrym fod yn rhaid inni gydymffurfio â'r gyfundrefn dreth dros y ffin. Nid dyna yw diben datganoli treth.

Byddwn yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Byddwn yn gwneud penderfyniadau yng ngoleuni'r amgylchiadau ar y pryd. Mae'r adroddiad y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn cyntaf, wrth gwrs, yn awgrymu mai ychydig iawn o symud a fyddai ar y ffin pe bai'r cyfraddau treth yng Nghymru yn uwch na'r rhai yn Lloegr, yn wahanol iawn i'r cyngor sy'n cael ei gynnig imi weithiau gan feinciau'r Ceidwadwyr yma.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, os yw Llywodraeth San Steffan yn cyd-fynd â galwad gwbl briodol Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru golli'r un geiniog ar ôl Brexit, mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu pa brosiectau sy'n derbyn y cymorth hwnnw yn hytrach na'r UE?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a ddywedodd y rhai a oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd fyddai'n digwydd—sef gwarant na fyddai Cymru yr un geiniog ar ei cholled—mai yma yng Nghymru yw'r lle gorau i wneud y penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwnnw. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ymrwymiad, os daw arian i Gymru at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, y byddwn ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Os daw arian i Gymru i gynnal ein heconomi wledig, caiff ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Ond dyma'r lle gorau i fynd i'r afael â manylion hynny, nid Llundain.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cytuno â chi mai dyma'r lle gorau i wneud y penderfyniadau hynny yma yn hytrach nag unrhyw le arall. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru a ninnau yng Nghymru lawer gwell syniad o'r hyn sydd ei angen ar Gymru a dymuniadau pobl Cymru na sydd gan UE pell a phwyllgorau lle mae gennym dri aelod yn unig o blith 350 o aelodau, megis Pwyllgor y Rhanbarthau, ond mae eich Llywodraeth yn parhau i ddadlau dros barhau i fod yn rhan o'r UE, hyd yn oed os bydd yn rhaid inni ymrwymo i gytundebau dwyochrog a rhwymedigaethau'r UE, ac felly blaenoriaethau'r UE fel amod.

Felly, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, onid oes rheidrwydd arnoch i sicrhau'r ffordd orau o ariannu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd, a ddylai adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru yn hytrach na blaenoriaethau'r UE, sy'n ddemocrataidd ddiffygiol? Mae parhau i ddadlau dros fod yn rhan o gymaint o'r UE ar ôl Brexit yn mynd yn groes i'r hyn a ddywedoch chi ddoe wrth fy nghyd-Aelod Neil Hamilton pan honnoch eich bod yn parchu pleidlais Brexit ac y byddwch yn cyflawni mewn perthynas â hi.

14:00

Wel, y broblem sylfaenol gyda chwestiwn yr Aelod yw hyn, ei bod yn cymylu'r ffin rhwng y penderfyniad sylfaenol, sef dweud ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddwn yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a ffurf ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd sy'n gwneud y niwed mwyaf posibl i'n heconomi; cefnogir hynny'n bendant gan bobl yn y Siambr hon y byddai eu hargymhellion ar gyfer Cymru yn ein gadael, fel y dywedaf, gydag economi rhwng 10 y cant ac 8 y cant yn llai na'r hyn ydyw heddiw, neu gallwn adael yn y ffordd a nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr y llynedd. Mae'r polisi hwnnw'n cynnig ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd nad yw'n golygu, fel y mae hi'n awgrymu, troi ein cefnau ar benderfyniad y refferendwm, ond sy'n lliniaru'r niwed a wneid fel arall i'r graddau mwyaf posibl.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn eich atgoffa eich bod chi a'r rhai eraill a oedd am aros yn yr UE wedi treulio holl ymgyrch refferendwm yr UE yn sôn wrth bleidleiswyr am y dinistr honedig a fyddai'n ein hwynebu pe baent yn pleidleisio dros adael, a phe baem yn torri i ffwrdd oddi wrth reolaeth yr UE dros ein materion ein hunain, ond, eto i gyd, fe bleidleision nhw dros adael. Naill ai nid oeddent yn eich credu, neu roeddent o'r farn fod annibyniaeth yn werth y senarios roeddech yn dweud y byddent yn digwydd. Ers hynny rydych chi, fel eraill a oedd o blaid aros, wedi bod yn trin yr etholwyr fel pe baech yn meddwl, 'Druan ohonynt, nid oeddent yn gwybod beth roeddent yn ei wneud'. Wel, mae gennyf fwy o ffydd yn neallusrwydd a chrebwyll pleidleiswyr Cymru, ac felly, gofynnaf ichi: onid ydych yn cytuno mai rhoi diwedd ar reolaeth yr UE dros faterion Cymru a'r DU yn ehangach yw dymuniad yr etholwyr, ac mai dyna y dylech fod yn ei hyrwyddo ac yn gweithio i'w gyflawni?

Wel, fe ailadroddaf, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru, ers diwrnod y refferendwm, wedi derbyn y penderfyniad a wnaed yn y refferendwm. Nid ydym wedi dadlau â Brexit fel ffaith; penderfynwyd ar hynny gan y bobl mewn pleidlais. Mae ein ffocws bob amser ar ffurf Brexit, a gallaf ddweud hyn wrthi—pan fyddaf yn curo ar ddrysau mewn rhannau o fy etholaeth i, lle y pleidleisiodd niferoedd mawr o bobl, heb unrhyw amheuaeth, dros adael, byddant yn dweud wrthych na wnaethant bleidleisio dros y math anhrefnus, hunan-niweidiol o Brexit y mae hi a phobl eraill yn y Siambr hon yn ei gefnogi.

Buddsoddi Mewn Seilwaith yng Ngorllewin Cymru

3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng ngorllewin Cymru? OAQ52529

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng ngorllewin Cymru mae'r £0.5 biliwn o fuddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn yr ardal, cwblhau 42 o wahanol gynlluniau tai fforddiadwy, y £50 miliwn y bwriadwn ei fuddsoddi mewn gwelliannau i'r A40, ac agor canolfan gofal integredig Aberteifi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Nawr, mae adolygiad hanner ffordd cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn tynnu sylw at y dyraniad o £110 miliwn o raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru er mwyn adfywio canol trefi ledled Cymru. Wrth gwrs, mae Aberdaugleddau yn fy etholaeth wedi bod ar frig y rhestr cyfraddau siopau gwag yn rheolaidd dros yn y blynyddoedd diwethaf, ac felly, o ystyried y problemau hanesyddol yn sir Benfro, a allech ddweud wrthym sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu ledled Cymru, a pha gyllid penodol o'r rhaglen honno a fydd yn cael ei ddyrannu i adfywio trefi yn fy etholaeth i?

Wel, Lywydd, nid wyf yn ymdrin â manylion y penderfyniad hwnnw fel Ysgrifennydd cyllid; rwy'n darparu'r arian i fy nghyd-Aelodau portffolio, ac yna maent yn gwneud y penderfyniadau y cyfeiria Paul Davies atynt, ac maent yn benderfyniadau pwysig iawn. A gwn fod gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth, gryn ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ddefnyddio'r cyllid a ddarparwyd i adfywio canol trefi ledled Cymru, gan gynnwys gorllewin Cymru. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael manylion y cwestiwn a ofynnodd i mi.

Wel, cyn bo hir, bydd y Llywodraeth yn derbyn yr astudiaeth dichonoldeb yn deillio o'r cytundeb gyda Plaid Cymru ar ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Pan ddaeth y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Aberystwyth, fe wnaeth dywallt dŵr oer dros y syniad o ailagor y rheilffordd, chwedl golygyddol y Cambrian News. Ond, erbyn hyn, gyda'r cyhoeddiad ddoe gan Ken Skates o cyn lleied o arian rŷm ni wedi ei dderbyn i fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, a'r ffaith bod gyda chi drafodaethau i gael mynediad at y rheilffyrdd a'r arian yn llifo o'r Llywodraeth yma i Llywodraeth San Steffan, a'r ffordd arall rownd, onid yw'n briodol ac yn amser i wneud yr achos cenedlaethol dros ailagor y rheilffordd yma, ac a ydych chi a'ch Llywodraeth chi yn barod i arwain y frwydr yma i gael y buddsoddiad sydd yn haeddiannol ond sydd hefyd yn deilwng i'r rhan yma o'r byd?

14:05

Wel, Llywydd, clywais i beth ddywedodd Ken Skates yn y datganiad yma ddoe. Clywais i beth ddywedodd Aelodau eraill hefyd am y buddsoddiad nad ydym ni wedi'i gael yma yng Nghymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn y rheilffyrdd sydd gyda ni. Rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad yr ydym ni'n mynd i'w gael am ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae nifer o bethau lle rŷm ni wedi cytuno i wneud gwaith i weld sut rŷm ni'n gallu mynd ymlaen â nhw yn y dyfodol ond bydd yn rhaid i ni aros am yr adroddiad ar y rheilffordd. Ond mae mwy nag un o adroddiadau rŷm ni'n aros i'w gweld a bydd yn rhaid i ni gyda'n gilydd wneud rhyw fath o flaenoriaethau mas o'r pethau rŷm ni wedi edrych i mewn iddyn nhw i weld beth rŷm ni'n gallu ei wneud a sut rŷm ni'n gallu eu gwneud nhw yn y dyfodol. 

Adroddiad ar y Sylfaen Drethu Gymreig

4. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'? OAQ52547

Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn. Llywodraeth Cymru a gomisiynodd yr adroddiad y cyfeiria ato ac rydym yn croesawu'r cyfraniad a wna i lywio'r drafodaeth ar drethu yng Nghymru ac i gefnogi datblygiad polisi treth. Mae'r adroddiad yn ychwanegu at gorff cynyddol o waith ar drethi yng Nghymru, gan gynnwys adroddiad diweddar yr Athro Gerry Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a grybwyllwyd hefyd gan lefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, yn nodi na fyddai cynyddu treth incwm yng Nghymru yn fater syml, ond awgryma fod cyfle i'w gael i wneud y dreth gyngor yn fwy blaengar. Un cyfle a nodwyd fyddai diwygio'r dreth gyngor ar yr un pryd er mwyn creu ymagwedd gyfannol tuag at drethiant. Nawr, fe wyddoch gystal â minnau, Ysgrifennydd y Cabinet, fod awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro ei fod yn ystyried yr adroddiad a diwygiadau o'r fath, ac a fydd unrhyw drafodaethau yn digwydd rhyngddo ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y mater hwn?

Wel, diolch i Jack Sargeant am hynny. Mae rhan bwysig o'r adroddiad yn dweud wrthym fod yn rhaid inni feddwl am drethi Cymru yn eu cyfanrwydd a bod yn rhaid inni fod yn barod i feddwl am ffyrdd y gellir graddnodi penderfyniadau a wneir ynglŷn â threthi ar incwm ochr yn ochr â phenderfyniadau a wneir ynglŷn â threthi ar eiddo. Mae rhai rhannau diddorol iawn o'r adroddiad yn cyfeirio at y cyfaddawdau posibl y gellid eu cael rhwng y naill a'r llall. Felly, yn sicr, gallaf roi sicrwydd i Jack Sargeant ein bod yn ystyried hynny'n ofalus, fy mod yn ei drafod gydag Alun Davies, a bod gwaith ar y gweill i ystyried newidiadau y gallem eu gwneud i'r dreth gyngor yn y tymor byr i geisio ei gwneud yn llai anflaengar nag yw hi, yn anochel, ac yna i ystyried diwygiadau mwy dwys i drethiant lleol i weld, yn ymarferol, a oes rhywbeth gwahanol y gallem ei ddefnyddio yn lle'r dreth gyngor. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau yn ystod tymor y Cynulliad hwn ac y bydd ar gael ar gyfer y Cynulliad nesaf.

Diolch, Lywydd. A yw'r ffordd y mae treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol i Gymru yn gwyro cymhellion Llywodraeth Cymru tuag at gynyddu trethi, yn yr ystyr ein bod yn cael budd refeniw yn sgil unrhyw gynnydd yn y gyfradd dreth yng Nghymru, ond byddai unrhyw ostyngiad gwrthbwyso ar draws y sylfaen drethu o ganlyniad i newidiadau mewn ymddygiad wrth i bobl wynebu trethi uwch—rhwng hanner a thri chwarter y refeniw a gollir ar y sylfaen drethu honno—yn cael eu teimlo gan Lywodraeth y DU, na fydd yn gwneud y penderfyniad?

Wel, cafodd y mater gryn sylw, Lywydd, yn ystod y trafodaethau ynglŷn â'r fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol yn trosglwyddo rhai risgiau i Gymru. I wrthbwyso hynny, mae'n ein hamddiffyn rhag rhai risgiau eraill, a'r math o ddatganoli treth incwm sydd gennym—ac mae llawer o fodelau eraill y gallem fod wedi eu cael ac eraill sy'n dadlau y dylid bod wedi mynd ag ef ymhellach—ond credaf mai un o'r agweddau cadarnhaol arno, yn y tymor byr o leiaf, wrth inni ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn, yw ei fod yn golygu nad ydym mor agored i rai o'r risgiau y byddem yn eu hwynebu fel arall pe baem wedi cytuno ar set wahanol o gytundebau yn y fframwaith cyllidol.

14:10
Portffolio Addysg

5. Pa lefel o flaenoriaeth a roddir i'r portffolio addysg wrth benderfynu ar ymrwymiadau gwario Llywodraeth Cymru? OAQ52531

Diolch i John Griffiths am hynny. Mae dyraniadau i'r portffolio addysg yn cael blaenoriaeth uchel wrth osod y gyllideb, ond mewn oes o gyni di-ildio, mae'n rhaid eu hystyried ochr yn ochr â'r angen i fuddsoddi yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mewn tai ac mewn trafnidiaeth, mewn ynni a'r amgylchedd, i grybwyll ond rhai o'r anghenion dybryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall ei bod yn hynod o anodd dyrannu cyllid yn yr oes hon o gyni a'r holl bwysau sy'n mynd law yn llaw â hynny. Serch hynny, credaf y dylai addysg gael cyfran fwy o gyllideb Llywodraeth Cymru na'r hyn a ddarperir ar hyn o bryd. Credaf y byddai hynny'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan y byddai mwy o wario ar addysg yn paratoi ein plant i ffynnu yn eu gyrfaoedd ac i gael gwell iechyd a gwell ansawdd bywyd yn gyffredinol. Credaf hefyd ei fod yn wariant ataliol o ran dysgu gydol oes. Yn ogystal, mae adroddiad gan Brian Morgan a Gerry Holtham a fu'n edrych ar beth sy'n gweithio ar gyfer datblygu economaidd ledled y byd yn dod i'r casgliad mai'r penderfynydd mwyaf mewn perthynas â llwyddiant economaidd yw lefel uchel o wariant ar addysg. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, a wnewch chi, yn y dyfodol, ystyried a ddylai addysg a dysgu gydol oes gael cyfran fwy o gyllideb Llywodraeth Cymru?

Wel, Lywydd, mae John Griffiths yn gwneud achos argyhoeddiadol dros wariant ar addysg, ac mae wedi gwneud yr achos hwnnw'n rheolaidd yn y Siambr hon dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn gwybod, ar ochr gyfalaf ein cyllideb, mai rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan gymryd band A a band B gyda'i gilydd, yw'r buddsoddiad mwyaf a wnawn ar draws y cyfrifoldebau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n arwydd o'r flaenoriaeth uchel a roddwn i addysg a dysgu gydol oes. O ran gwariant refeniw, lle y cadarnhaodd llythyr yr archwilydd cyffredinol at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod toriad o 10.5 y cant wedi bod i'n cyllideb dros y degawd diwethaf, mae'r dewisiadau hyd yn oed yn fwy anodd. Ond gallaf ei sicrhau, wrth wneud y penderfyniadau anodd hynny, nad yw'r achos y mae'n ei wneud a'r achos sy'n cael ei ailadrodd gan Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cyfrifoldeb hwnnw byth yn cael ei anwybyddu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pwyllgor addysg y Cynulliad wedi nodi pryderon efallai nad yw cyllid y grant datblygu disgyblion sydd wedi'i anelu at helpu disgyblion tlotach yn sicrhau gwerth am arian yng Nghymru. O gofio bod trechu tlodi yn un o nodau craidd allweddol Llywodraeth Cymru, pa ystyriaeth a roddwyd wrth bennu'r gyllideb addysg i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cyflawni ei nod o wella canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion o'r cefndiroedd tlotaf, nid yn unig er mwyn cynorthwyo eu cyrhaeddiad addysgol ond hefyd eu hiechyd a'u lles yn y dyfodol? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Cytunaf â'r pwyllgor ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio nid yn unig ar y mewnbynnau—yr arian a wariwn ar rywbeth—ond ar yr effaith y mae'r gwariant hwnnw'n ei chael, a gallaf ei sicrhau, yn y trafodaethau dwyochrog a gaf gyda'r holl gyd-Aelodau o'r Cabinet yn ystod y broses o bennu'r gyllideb, nid yn unig ein bod yn ystyried faint o adnoddau rydym yn eu dyrannu i unrhyw faes, ond ein bod yn ystyried yr effaith a gaiff y gwariant hwnnw hefyd. Os down ar draws rhaglenni lle nad ydym yn credu bod y gwariant yn cael yr effaith honno, rydym yn archwilio sut y gellir eu hailgalibro. Rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud drwy'r grant datblygu disgyblion yn darparu ar gyfer y disgyblion sy'n dod o rannau mwyaf difreintiedig ein cymunedau. Rwyf am i'r arian hwnnw gael yr effaith fwyaf posibl, a gwn fod yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymwneud ag ef yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mi oeddwn i’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn mewn arian cyfalaf, fel rhan o’n cytundeb ni ar y gyllideb atodol, er mwyn ehangu addysg Gymraeg. Rydw i, erbyn hyn, wedi cael cadarnhad bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymgeisio am gyfran o’r arian yna—yn wir, bod cyfanswm y ceisiadau dros £100 miliwn. Felly, leiciwn i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni ynglŷn â'r galw sydd yna am fwy o fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg. Pa neges mae hynny'n ei anfon i chi fel Ysgrifennydd Cabinet wrth i chi ystyried eich cyllideb y flwyddyn nesaf? A wnewch chi ystyried o leiaf parhau â'r math yna o fuddsoddiad yn y flwyddyn sydd i ddod, os nad ydych chi mewn sefyllfa hyd yn oed i'w gynyddu e?

14:15

Y neges rydw i'n tynnu mas o hynny yw'r llwyddiant rydym ni wedi'i gael yma yng Nghymru i dyfu'r nifer o bobl sydd eisiau cael addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hynny'n rhywbeth pwysig ac yn rhywbeth trawsbleidiol yma yn y Cynulliad rydym ni wedi gweithio'n galed i'w hybu. 

Bydd yr Aelod yn cofio mai un o'r achosion cryfaf dros y buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn mewn addysg cyfrwng Cymraeg oedd y byddai'n rhyddhau adnoddau mewn blynyddoedd dilynol fel y gallwn greu ffrwd newydd o fuddsoddiad yn y sector cyfrwng Cymraeg, nid yn unig ar gyfer y £30 miliwn, ond ar ôl hynny. Felly, nid yw'n syndod clywed y bu lefel uwch o geisiadau am arian na'r swm o arian sydd yn y gronfa, ond oherwydd y ffordd rydym wedi gwneud hyn, golyga y bydd cyfleoedd nid yn unig yn ystod y flwyddyn honno ond dros y blynyddoedd dilynol, ac rwy'n siŵr y bydd y cynlluniau hynny nad ydynt ar frig y rhestr pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, a lle na fydd angen yr arian ar unwaith, o bosibl—y byddwn yn edrych hefyd i weld beth y gallwn ei wneud i barhau i fuddsoddi yn y sector hwn, gan mai dyna oedd y bwriad ar gyfer yr arian.

Brexit

6. Pa gynlluniau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u sefydlu ar gyfer y posibilrwydd o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb fargen? OAQ52556

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni ellir dileu'r difrod a achosir yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb 'ddim bargen', ond mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid er mwyn lliniaru effaith yr hyn a fyddai'n ganlyniad trychinebus i Gymru.

Ddoe, sicrhaodd ASau Llafur a bleidleisiodd gyda'r Torïaid fod gwelliant hanfodol i'r Bil masnach yn methu. Roedd y gwelliant yn gwarantu, pe bai'r trafodaethau'n methu, y byddai'r undeb tollau mwyaf sylfaenol yn parhau i fod yn opsiwn, gan ddiogelu ein diwydiant dur a'n diwydiant amaethyddol, a swyddi a chyflogau Cymru. Ymddengys bellach fod Brexit 'dim bargen' yn fwy tebygol nag erioed. Dywedwyd wrth wledydd Ewrop am gynyddu eu cynlluniau ar gyfer senario 'dim bargen' ac mae cwmnïau cyffuriau yn pentyrru meddyginiaethau am yr un rheswm. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gofyn ddwywaith i'r Prif Weinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod mesurau tebyg yn cael eu rhoi ar waith, a ddwywaith—yn eithaf anghyfrifol, mae'n rhaid i mi ddweud—mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad oes modd rhoi cynlluniau ar waith i liniaru Brexit 'dim bargen', ond eto i gyd rydych chi'n dweud yma y prynhawn yma fod gennych gynlluniau wrth gefn. O gofio bod y Llywodraeth wedi rhoi dau safbwynt anghyson inni, a wnewch chi ymrwymo yn awr i gyhoeddi cynllun lliniaru 'dim bargen' er budd swyddi a chyflogau Cymru?

Wel, Lywydd, nid oes unrhyw anghysondeb yn safbwynt y Llywodraeth. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud—ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—fod unrhyw un sy'n ystyried Brexit 'dim bargen' yn bwynt arall ar gontinwwm, ac y gallwch gynllunio i gael gwared ar ei anfanteision yn gyfan gwbl, yn cynnig prosbectws ffug i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, rwy'n dweud unwaith eto: byddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus ac ni all unrhyw gynllunio gael gwared â'r trychineb hwnnw'n gyfan gwbl.

Ond fe allwch lunio cynlluniau wrth gefn, ac nid oes unrhyw anghysondeb rhwng y ddau safbwynt. Dyna a ddywedais yn fy ateb i'r Aelod. Bydd yr hyn a ddywedodd yr archwilydd cyffredinol yn ei lythyr ymadawol, yn rhywfaint o gysur iddi rwy'n siŵr. Dywedodd ei bod

'yn ymddangos bod gwaith yn symud ymlaen o fewn Llywodraeth Cymru a llawer o gyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru i reoli rhai o’r heriau cynharaf y mae proses Brexit a’i hansicrwydd parhaus yn eu gosod'.

Felly, roedd yn amlwg i'r archwilydd cyffredinol fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwy'n ei sicrhau ei fod. Buom yn ei drafod yn fanwl ar lawr y Cynulliad ddoe. Natur wrth gefn sydd i'r cynlluniau hynny. Nid oes unrhyw gynllun a all gael gwared yn gyfan gwbl ar effaith drychinebus gadael heb gytundeb ar Gymru.

A gaf fi sôn am Brexit yn nhermau sefydliadau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn aml, a llywodraeth leol yn benodol? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o senario 'dim bargen'? Oherwydd yn aml, nid yw awdurdodau lleol yn cael eu crybwyll pan fyddwn yn sôn am Brexit, ond mewn llawer o achosion, byddant ar y rheng flaen pan fyddwn yn gadael.

14:20

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Hoffwn ei sicrhau bod llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn ein proses gynllunio a'i bod yn cael ei chynrychioli'n dda iawn yn y grŵp cynghori ar Ewrop gan arweinydd cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, sy'n rhoi adroddiadau rheolaidd yn y grŵp hwnnw ynglŷn â materion sy'n peri pryder i awdurdodau lleol a'r camau sy'n cael eu cymryd. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o allu cadarnhau gwerth £150,000 o gymorth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'n cronfa bontio Undeb Ewropeaidd £50 miliwn, ac mae'r gronfa honno yno i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r gwaith hanfodol a wnânt wrth baratoi ar gyfer Brexit.

Y Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

7. Pa ystyriaeth a roddwyd i daliadau gwasanaeth gan awdurdodau lleol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52533

Diolch i'r Aelod am hynny. Gall awdurdodau lleol godi tâl am wasanaethau lle y ceir darpariaeth statudol i ganiatáu hynny. Mae'n rhaid i awdurdodau roi ystyriaeth ofalus i godi tâl er mwyn darparu gwasanaethau o safon gan barhau i fod yn deg a darparu gwerth am arian i ddinasyddion lleol.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gostyngiad mewn cyllid cyhoeddus wedi rhoi mwy o ffocws ar awdurdodau lleol yn codi tâl am wasanaethau. Ym mis Tachwedd 2016, daeth adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r casgliad nad yw'r awdurdodau lleol yn mynd ar drywydd pob opsiwn i gynhyrchu incwm oherwydd gwendidau yn eu polisïau a'r ffordd y maent yn defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi eu penderfyniadau. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion ac eraill ynghylch gweithredu argymhellion yr archwilydd cyffredinol i liniaru rhywfaint o'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a achosir gan y toriadau yng nghyllid Cynulliad Cymru?

Diolch i'r Aelod am hynny. Rwy'n gyfarwydd â'r adroddiad y cyfeiria ato a nifer o'r argymhellion a wnaed gan yr archwilydd cyffredinol i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y maes hwn. Fe fydd yn ymwybodol fod yr archwilydd cyffredinol wedi dweud hefyd ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol gydbwyso'r angen i godi refeniw ychwanegol drwy godi tâl gyda'r effaith y gallai hynny ei chael ar rai rhannau o'r gymuned, ac mewn gwirionedd, eu prisio allan o allu defnyddio gwasanaethau awdurdodau lleol pwysig megis canolfannau hamdden. Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud y gwaith anodd o gadw'r ddysgl yn wastad yn y maes hwn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod yr adroddiad a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, ac maent yn parhau i wneud y peth anodd hwnnw—ceisio codi refeniw—er mwyn gwneud iawn am y toriadau y mae ei Lywodraeth wedi'u gorfodi arnom, gan sicrhau, ar yr un pryd, eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n cael effaith anghymesur ar rai rhannau o'r gymuned.

Y System Ardrethi Busnes

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system ardrethi busnes? OAQ52557

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i wahanol opsiynau ar gyfer cryfhau’r system ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion ar gyfer taclo’r rheini sy’n osgoi talu trethi, ystyried pa mor aml y mae’r trethi yn cael eu hailbrisio, ac adolygu’r system apelio. Rydym ni hefyd yn chwilio am gyfle ar gyfer diwygio mwy sylfaenol yn y tymor hir.

Rai misoedd yn ôl, mi ges i gyfle i’ch holi chi ynglŷn ag ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r patrwm cynyddol o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo fel tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth gyngor. A chan eu bod nhw’n fusnesau bach, maen nhw’n gymwys am ryddhad busnes yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes y Llywodraeth. Mi ddywedoch chi bryd hynny y buasech chi’n gweithio efo’r awdurdodau lleol a’r swyddfa brisio er mwyn casglu data a monitro hyn. A oes modd inni gael diweddariad am hyn ac i weld beth mae’r data yn ei ddangos hyd yma? Oherwydd o ystyried bod yna gynnydd sylweddol yn y nifer o ail gartrefi yng Ngwynedd, er enghraifft, os nad ydy’r prosesau yma’n ddigon cryf, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau na fydd y trethdalwr yn colli allan.

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn yna. Rwy’n cofio’r cwestiwn a gawsom ni ar lawr y Cynulliad y tro diwethaf.

Wedi hynny, fel y gŵyr yr Aelod, ymrwymais i ddiwygio ein cynllun gwaith ar bolisi treth ar gyfer eleni, ac mae bellach yn cynnwys ymrwymiad penodol i fonitro gweithrediad y ddeddfwriaeth honno, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu fel y bwriadwyd ac nad yw'n creu cyfleoedd i osgoi trethi. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n rhan o'r cynllun treth; mae'n mynd rhagddo. Rwy'n bwriadu adrodd yn ôl ym mis Hydref, ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ar y gwaith a wnaed eleni o dan y cynllun treth, a byddaf yn adrodd ar y data rydym wedi'i gasglu fel rhan o'r ymarfer hwnnw.

14:25
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Caethwasiaeth Fodern

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern? OAQ52542

Diolch. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Ym mis Ebrill, cawsom yr erlyniad cyntaf yn y DU am 'linellau sirol' gan ddefnyddio deddfwriaeth caethwasiaeth fodern. Arweiniodd hyn at garcharu dau ddyn am fasnachu menyw agored i niwed o Lundain i Abertawe i werthu heroin.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae caethwasiaeth fodern, wrth gwrs, yn drosedd anfoesol sy'n cael ei chyflawni yn erbyn rhai o'r bobl fwyaf bregus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gael eu hecsbloetio. Rydw i wedi cael cyswllt efo nifer o fudiadau yn y gogledd—mae Haven of Light yn un ohonyn nhw—sy'n gweithio ar godi ymwybyddiaeth a chefnogi dioddefwyr. Rydw i wedi trafod efo'r cyngor lleol, ac wedi cael cyswllt efo Heddlu Gogledd Cymru. Rydw i'n gwybod eu bod nhw'n flaengar iawn yn datblygu un o ddim ond pedair uned caethwasiaeth fodern sydd yna, ac mae eraill yn dilyn eu harweiniad nhw. Rŵan, yng nghynhadledd y bartneriaeth caethwasiaeth fodern genedlaethol yn Birmingham yr wythnos diwethaf, mi oedd yna bwyslais mawr, rydw i'n deall, ar bwysigrwydd gweithio ar draws asiantaethau statudol, cyrff anllywodraethol a busnes. Fy nghwestiwn i, yn syml iawn, ydy: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog y math yna o gydweithio ar draws gwahanol sectorau, sy'n gallu gwneud gwahaniaeth yn y maes yma?

Mae'r Aelod yn llygad ei le. Mae'n drosedd gudd a chymhleth na ddylid ei goddef ar unrhyw gyfrif, ac mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn yn ei herbyn. Ni, wrth gwrs, yw'r wlad gyntaf, a'r unig wlad yn y DU o hyd i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, a sefydlwyd grŵp arwain atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu'r arweiniad strategol hwnnw a'r canllawiau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth. Dyna yw ei bwynt. Rydym yn derbyn haeriad yr Aelod fod llawer llai o obaith gennym, heb weithio ar draws yr asiantaethau statudol, o ddod o hyd i bobl agored i niwed a'u hamddiffyn ac o erlyn y bobl sy'n eu rhoi yn y sefyllfa honno. Ac felly, yn sicr, mae a wnelo hyn â gweithio gyda phartneriaid, ond hefyd â darparu hyfforddiant atal caethwasiaeth o safon gyson i bron 8,000 o bobl ledled Cymru. Dyna'n union yw diben hynny, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd gyson ar draws ein holl asiantaethau sy'n mynd ati gyda'i gilydd i drechu'r drosedd ofnadwy hon.

Ceir tystiolaeth o lafur dan orfod mewn sefydliadau golchi ceir â llaw, a chredir bod hynny'n tyfu o 10,000 i 20,000 o fusnesau yn y DU, gyda llawer ohonynt heb eu rheoleiddio. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi lansio ymchwiliad i sefydliadau golchi ceir â llaw fis Ebrill diwethaf, a'r prif nod yw archwilio effeithiau amgylcheddol a'r rheoliadau sy'n llywodraethu sefydliadau golchi ceir â llaw, ond bydd hefyd yn edrych ar sut y mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhwymedigaeth i leihau camfanteisio ar bobl o dan nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried lansio ymchwiliad tebyg sy'n canolbwyntio ar reoleiddio diwydiannau o'r fath, a'u cysylltiad â masnachu pobl a chamfanteisio?

Mae'n ymchwiliad diddorol iawn. Rydym yn cydweithredu â'r Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur gyda'u cyfraniad i'r ymchwiliad hwnnw, ac wrth gwrs, bydd gennym gryn ddiddordeb yng nghanlyniad adroddiad yr ymchwiliad, a gweld pa wersi y gallwn eu dysgu yng Nghymru. Mae gennym feddwl agored iawn o ran yr hyn a allai ddeillio o hynny, ar ôl iddynt gwblhau'r adroddiad.

Yn amlwg, rwy'n cydnabod diddordeb Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn ogystal â gwaith caled Joyce Watson ar y mater ers cryn dipyn o amser, ond hoffwn glywed ychydig mwy am weithgaredd penodol rhwng y ddwy Lywodraeth, os mynnwch, ers i Theresa May gyflwyno'r Ddeddf hon yn 2015. Fel y dywedodd Rhun, mae llawer o asiantaethau'n ymwneud â'r gwaith o nodi a helpu pobl eraill i nodi beth yw caethwasiaeth fodern, ond a ydych wedi cael unrhyw dystiolaeth hyd yma sy'n awgrymu bod y cydgysylltydd yn cynorthwyo'r heddlu yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r drosedd hon mewn ffordd gyson—dyna fy mhrif gwestiwn—ond hefyd, a yw hynny wedyn yn rhaeadru i lawr, i ddefnyddio'r geiriau ofnadwy hynny, i rai o'r asiantaethau y buom yn sôn amdanynt yn gynharach?

14:30

Ie. Rydym wedi bod yn cynnal, fel y dywedais mewn ateb i Rhun ap Iorwerth a Joyce Watson—mae gennym fewnbwn i nifer fawr o asiantaethau ym mhob man, drwy'r cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Ac rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynnal hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth, os mynnwch. Ac un o'r rhesymau pam y credwn fod hynny'n gweithio yw bod nifer yr atgyfeiriadau'n cynyddu—felly, maent wedi cynyddu o 34 yn 2012 i 193 yn 2017. Rydym wedi cael 53 o atgyfeiriadau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf o'r flwyddyn hon, er enghraifft, ac rydym yn credu bod y gweithgarwch hwnnw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ffaith ein bod yn cydweithio mwy, a'r ffaith ein bod yn codi ymwybyddiaeth, a'r dull cyson rydym wedi bod yn ei hyrwyddo, os hoffech chi. Felly, mae'n hanfodol: er enghraifft, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r troseddwyr 'llinellau sirol'. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd wedi gweld adroddiadau yn y wasg a'r cyfryngau amrywiol am hynny. Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a'r heddlu yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael â gwefannau sy'n gwerthu rhyw ar-lein. Felly, yn bendant, rydym yn gweithio ar bob agwedd, ac nid yw hon yn drosedd sydd wedi'i chyfyngu o fewn unrhyw fath o ffin—mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf eang sy'n bosibl, gyda'r holl asiantaethau a allai ddod yn rhan o'r drosedd ofnadwy hon.

Ceiswyr Lloches

2. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gymunedau i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu ceiswyr lloches? OAQ52549

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i feithrin dealltwriaeth a chysylltiadau da rhwng gwahanol rannau o'n cymunedau, sy'n amlwg yn cynnwys ceiswyr lloches. Gwnawn hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys ein cyllid ar gyfer y rhaglen Hawl i Loches a'n cynllun cenedl noddfa.

Diolch yn fawr iawn. Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Llanisien yn fy etholaeth, sef Gogledd Caerdydd, i gyflwyno tystysgrif iddi fel yr ysgol noddfa gyntaf yng Nghaerdydd, gan ei chyflwyno i fyfyrwyr sy'n mynd i'r afael â'r stigma a wynebir gan geiswyr lloches, o fewn yr ysgol a thu allan yn y gymuned. Pa gymorth ac anogaeth y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu cynnig i ysgolion eraill sydd eisiau dod yn ysgolion noddfa? Oherwydd mae'n ymddangos yn ffordd mor bwysig o godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â'r stigma sy'n bodoli, yn anffodus, mewn perthynas â cheiswyr lloches.

Ydi, mae'n brosiect gwych, ac rwy'n falch iawn o weld y math hwnnw o brosiect yn lledaenu ledled Cymru. Mae gennym nifer o fentrau'n lledaenu drwy Gymru. Mewn gwirionedd, mae llawer ohonynt yn codi'n ddigymell, oherwydd bod pobl Cymru yn groesawgar iawn, ac yn hapus iawn i gael ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu cymunedau. Rydym wedi cael llawer o gymunedau'n cynnig bod yn rhan o'r mudiad Croeso, er enghraifft.

Yn benodol, mae'r cwricwlwm addysg newydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo plant i ddod yn ddinasyddion moesol a deallus yn y byd ac rydym yn disgwyl i hynny gynnwys dealltwriaeth gyflawn o ddiwylliannau eraill. Ac fel rhan o'n cynllun cenedl noddfa, rydym wedi ymrwymo i gynllun cyfathrebu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac wedi gweithio i sicrhau prosesau adrodd mwy cytbwys. Yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw dwyn pob un o'r cynlluniau hynny ynghyd, fel y gall ysgol, neu unrhyw ran arall o'n cymuned, fod yn rhan o'r cynllun noddfa ledled Cymru, er mwyn ei ledaenu. Felly, mae'r holl gyhoeddusrwydd y gallwn ei roi i newyddion da o'r fath, ledled Cymru, yn helpu pobl eraill sy'n dymuno cymryd rhan. Felly, mae'n brosiect gwych, ac rydym yn gobeithio cael llawer mwy ohonynt yn y dyfodol yng Nghymru.

Arweinydd y tŷ, mae llawer o'r bobl sy'n ffoi o wledydd lle y ceir perygl a rhyfel yn ffoi rhag erledigaeth—erledigaeth oherwydd eu credoau crefyddol, fel arfer y rheini sydd wedi trosi o gefndiroedd Islamaidd i Gristnogaeth, er enghraifft, mewn rhai rhannau o'r dwyrain canol. Mae grwpiau ffydd ac eglwysi yn y DU wedi darparu noddfa i'r unigolion hyn, ac wedi rhoi croeso cynnes iawn iddynt, gan gynnwys yma yng Nghymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Eglwys y Bedyddwyr Tredegarville, er enghraifft, a'u gweinidog, Phylip Rees, yma yng Nghaerdydd, am y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud yn croesawu ffoaduriaid o Iran, o rannau o Irac Gwrdaidd, ac o Affganistan, sydd wedi bod yn dianc rhag y math hwnnw o erledigaeth, i'w croesawu i'r gymuned, a'r cysylltiadau rhagorol y maent wedi'u datblygu gyda'r ffoaduriaid hynny? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y math hwnnw o groeso ar gael mewn eglwysi eraill ar draws Cymru?

Ie, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i groesawu'r rhaglenni hynny. Fel rwyf newydd ei ddweud mewn ymateb i Julie Morgan, mae gennym nifer fawr o straeon calonogol o bob cwr o Gymru, ym mhob un o'n cymunedau, ac ym mhob un o'n—wyddoch chi, cymunedau ffydd, a chymunedau eraill o ddiddordeb, a chymunedau daearyddol, sy'n dangos bod pobl yn estyn allan ac eisiau eu cynnwys. Mae gennym straeon ardderchog am y manteision y mae ceiswyr lloches sydd wedi dod yn ffoaduriaid—o ran statws—yn eu dwyn gyda hwy. Ac ar hyn o bryd rydym yn casglu straeon ar gyfer y Swyddfa Gartref, ynglŷn â chanlyniadau anfwriadol cyfochriad rhai o'u polisïau, ond hefyd o straeon rydym yn gobeithio y byddant yn newid canfyddiad y cyfryngau o geiswyr lloches a ffoaduriaid—straeon lle mae pobl wedi elwa o gymunedau fel yr un rydych yn ei disgrifio, ond sydd hefyd wedi cyfrannu llawer i'r cymunedau hynny eu hunain, ac wedi gwella cydlyniant cymdeithasol a diwylliannol eu cymdogaeth wrth wneud hynny.

14:35

Ychydig wythnosau yn ôl, bûm yn siarad mewn digwyddiad Menywod mewn Gwleidyddiaeth yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, am geisio cael ymgeiswyr mwy amrywiol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ond daeth ychydig o famau a oedd yn geiswyr lloches i'r cyfarfod hwnnw yn arbennig er mwyn cyfarfod â mi, oherwydd roeddent yn dweud wrthyf fod eu plant eisiau mynd i Goleg Gŵyr Abertawe yn y tymor newydd, ond oherwydd na allant gael y lwfans cynhaliaeth addysg, ac oherwydd na allant fforddio'r cludiant yno, mae'n bosibl y byddant yn cael eu hamddifadu o'u hawl i addysg oherwydd y ffaith nad ydynt yn gallu ei fforddio. Nawr, roeddwn mewn digwyddiad lle roedd ganddynt arddangosfa o bobl fel Malala a Nelson Mandela, ac roedd yn ymddangos yn eironig i mi—rydym i gyd yn gwybod am yr heriau a wynebodd Malala—ein bod ni, yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn atal plant sy'n geiswyr lloches, sy'n fenywod mewn gwirionedd, rhag cael mynediad at yr addysg honno yn rhinwedd y ffaith nad yw'r cyllid cyhoeddus hwnnw ar gael iddynt. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi edrych ar y mater hwn, oherwydd ni fuaswn eisiau i ni atal y ceiswyr lloches ifanc hyn, tra'u bod yma, rhag cael mynediad at yr addysg y maent yn ei haeddu?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Bethan Sayed. Byddem yn hoffi'n fawr iawn pe baem yn gallu cynnig nifer o gronfeydd cyhoeddus i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ond yn anffodus, rydym yn aml yn wynebu system y Swyddfa Gartref o 'dim hawl i gronfeydd cyhoeddus' yn aml iawn. Gallaf eich sicrhau ein bod wrthi ar hyn o bryd yn gweithio'n galed iawn i roi cynllun at ei gilydd i sicrhau ein bod, yng Nghymru, yn gallu darparu mynediad i bobl mewn ffordd sy'n cydymffurfio, wrth gwrs, â'r gyfraith bresennol, ond sydd hefyd yn caniatáu mynediad at gyllid. Mae llu o drefniadau cymhleth iawn ar waith lle y caiff cronfeydd eu hychwanegu at y rhestr o 'dim hawl i gronfeydd cyhoeddus', ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw cronfeydd yn cael ei ychwanegu at y rheini'n ddiangen oherwydd y ffordd rydym yn llunio cynllun, ac ar yr un pryd ein bod yn cynorthwyo'r holl bobl sydd wedi dod i fyw atom yma yng Nghymru i gael mynediad at yr addysg y maent, yn gwbl briodol, yn ei haeddu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Ddoe, cefais ohebiaeth gan etholwr o sir y Fflint a oedd wedi cael ymateb gan Openreach yn dweud na fyddent yn cael mynediad o dan gam cyntaf rhaglen Cyflymu Cymru. Roedd un arall a gefais, ar ran etholwr, gan Openreach ddoe yn dweud hefyd:

Mae'n ddrwg gennyf nad yw trigolion Llangollen wedi clywed unrhyw newyddion ynglŷn â'r bwriad i gyflwyno band eang ffeibr yn eu hardal. Rwyf wedi siarad â'n tîm ffeibr lleol ac yn anffodus mae darpariaeth band eang ffeibr ar draws yr ardal bellach wedi'i stopio.

Mae'r ddau ohonynt yn cyfeirio at raglen olynol Llywodraeth Cymru. Pam, felly, nad ydych chi hyd yma wedi darparu'r datganiad y dywedoch chi ar 10 Mai, mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig, y byddech yn ei ddarparu o fewn y mis nesaf? Roeddech yn dweud:

Mae'r ymarfer caffael ar gyfer y prosiect olynol, a fydd yn dod i ben ar 23 Mai, ar y gweill, gyda golwg ar gontract cyflenwi yn cael ei ddyfarnu yn hwyr yn yr haf eleni. Byddaf yn gwneud datganiad o fewn y mis nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau—

a ddylai, felly, yn ôl pob tebyg, fod wedi'i wneud erbyn 10 Mehefin.

Wrth gwrs, rydym wedi cwblhau cynllun cyflwyno Cyflymu Cymru yn llwyddiannus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, o'r ohebiaeth y mae ef a minnau wedi'i chael, ac y mae nifer o Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael, mae gennym tua 85,000 o bobl nad ydynt wedi'u cynnwys yn hwnnw, ond mae'r cynllun wedi'i ddarparu i lawer mwy o safleoedd na'r hyn a ragwelwyd gennym yn wreiddiol.

Rydym wedi cyhoeddi prosiect olynol. Mae hwnnw yn mynd drwy'r broses gaffael ar hyn o bryd. Roeddwn yn gobeithio'n fawr y buaswn mewn sefyllfa i allu rhoi mwy o fanylion am hwn erbyn heddiw, Lywydd, ond yn anffodus, nid wyf yn y sefyllfa honno. Gobeithiaf y byddaf yn y sefyllfa honno yn fuan iawn.

Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall rhwystredigaeth yr etholwyr a gafodd gopi o'ch ateb ac sydd wedi bod yn aros ers 10 Mehefin, ac sydd wedi cysylltu â mi yn rheolaidd yn gofyn a ydym wedi cael y datganiad eto.

Ar fater gwahanol, ym mis Mai, cynhyrchodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru adroddiad o'r enw 'Grymuso Cymunedau'—nad yw o fewn eich briff yn uniongyrchol, ond mae'r rhan hon yn sicr o fewn eich briff. Roedd yn dweud eu bod wedi

'canolbwyntio ar gymunedau sy’n "seiliedig ar le" neu ardal leol, ond mae grwpiau gwahanol o bobl yn byw yn y rhain: gwahanol ryweddau, grwpiau ethnig, grwpiau ffydd, oedrannau.'

Ac roeddent yn dweud

'Dylai cydnabod amrywiaeth mewn cymunedau ac ar draws cymunedau—a meithrin y cryfderau sy’n dod gyda hynny—fod yn ganolog i bolisïau llesiant cymunedol. Mae cydraddoldeb yn rhan o lesiant cymunedol.'

Yn y cyd-destun hwnnw, ac o fewn eich briff, sut rydych yn bwriadu ymateb i'r sylwadau yn y llythyr ymadawol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Nick Ramsay, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd yn cyfeirio at

'yr hyn sydd wedi bod yn amlwg absennol hyd yma ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'

a'r cyfleoedd gwirioneddol

'i ailsiapio gwasanaethau ac ailgynllunio modelau darparu mewn ffyrdd sy’n gwneud trawsnewid gwirioneddol yn bosibl a gosod y dinesydd yn y canol, drwy weithio ar y cyd mewn ffyrdd sy'n codi uwchlaw y strwythurau sefydliadol a etifeddwyd'?

14:40

Wel, wrth gwrs, fel rhan o'n cynllun cydlyniant cymunedol, rydym yn gweithio'n agos iawn â'n rhanddeiliaid ac rydym yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol cenedlaethol newydd yn yr hydref a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys y croestoriad y gwn fod Mark Isherwood yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein strategaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r strategaethau eraill yn y ffordd ddi-dor y mae'r archwilydd cyffredinol wedi bod yn ei thrafod.

Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch chi felly'n cydnabod y bydd rhai o'r bobl ar y brig sy'n cynrychioli'r rhwystrau i rannu grym yn cael eu gorfodi i gydnabod fod hyn yn ymwneud â throi mater pŵer wyneb i waered a dylunio'r system tuag at yn ôl, gyda'r bobl yn fan cychwyn yn hytrach nag ôl-ystyriaeth.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â chwarae a chwaraeon. Cyhoeddwyd adroddiad gan Sense ychydig flynyddoedd yn ôl, ymchwiliad i chwarae, a ddywedodd fod ymyrraeth gynnar drwy chwarae yn hanfodol bwysig i blant ag anghenion lluosog a'u teuluoedd ac yn esgor ar amrywiaeth eang o fanteision datblygiadol ac emosiynol.

Dywedodd Chwarae Cymru, gan ddyfynnu ffynhonnell arall,

'Mae galluogi pob plentyn i chwarae, ac i chwarae gyda'i gilydd, o fudd i'r gymuned gyfan. Nid yw'n ymwneud â goresgyn rhwystrau cyfreithiol neu sicrhau darpariaeth costus ar gyfer adran fechan o'r gymuned. Os y caiff unrhyw blentyn ei rwystro rhag chwarae yna bydd yn lleihau profiad chwarae pob un.'

Felly sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth sy'n dangos bod plant anabl yng Nghymru yn rhy aml yn cael eu hamddifadu o fynediad priodol at fannau chwarae, er gwaethaf yr effaith negyddol arnynt, lle mae cyfarpar addas ar gyfer pob plentyn ar gael ond yn rhy aml, ni wneir yn siŵr ei fod ar gael, a bod angen gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu offer mewn mannau chwarae sy'n diwallu anghenion plant anabl a phlant eraill? Hefyd, ochr yn ochr â hynny, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru yr wythnos ddiwethaf, a ganfu fod mynediad plant ac oedolion anabl at chwaraeon yn cael ei ystyried yn anghyson mewn llawer o ardaloedd ar draws llawer o chwaraeon, gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol at gyfleusterau chwaraeon yn aml yn absennol.

Gwn y byddwch yn cytuno â mi fod plant ac oedolion anabl yn haeddu mynediad cyfartal at chwarae ac at chwaraeon. Sut ar y ddaear rydych yn bwriadu gwneud i hynny ddigwydd?

Rwy'n cytuno'n llwyr â Mark Isherwood. Yn amlwg, yr hyn y byddai pawb ohonom yn hoffi ei weld yw bod yr holl fannau chwarae ym mhob man yn hygyrch i bob plentyn. Nid ydym eisiau i blant orfod teithio pellteroedd hwy nag unrhyw blentyn arall er mwyn cael mynediad at yr unig gyfarpar sy'n hygyrch iddynt. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Anabledd Cymru, ac yn ein fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, yn ein canllawiau i Anabledd Cymru, ac mewn nifer fawr o weithgareddau ymgysylltu gyda grwpiau anabledd i gyflwyno'r canllawiau ynglŷn ag ail-ddylunio unrhyw fannau hygyrch cyn gynted â phosibl, fel nad oes neb yn cael eu heithrio ni waeth beth yw eu nodweddion. Felly, cytunaf yn llwyr ag ef fod angen i ni wneud hynny.

Yn fy nghynllun cydraddoldeb cyffredinol, sef yr adolygiad pedair blynedd a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Siambr hon ym mis Rhagfyr, Lywydd, rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu trafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r math o gynhwysiant y mae Mark Isherwood newydd sôn amdano.

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, fel cyn ynad, rwyf wedi gweld canlyniadau, a chanlyniadau erchyll weithiau, cam-drin domestig â fy llygaid fy hun. A fyddai arweinydd y tŷ yn gallu rhoi amlinelliad o'r ymyriadau diweddaraf sy'n cael eu hysgogi gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r troseddau hyn?

Gallaf. Rydym yn y broses o roi ein Deddf arloesol ar waith. Mewn gwirionedd, wrth i ni siarad, rydym wrthi'n cyflwyno'r fframweithiau rhanbarthol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn wir gyda nifer fawr o randdeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys, yn hollbwysig rwy'n credu, goroeswyr cam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod y canllawiau a'r llwybrau ar waith yn briodol gennym fel eich bod, ni waeth ble fyddwch chi'n gwneud y datgeliad—ni waeth ble mae'r datgeliad yn digwydd—yn cael eich tywys at y llwybr cywir a fydd yn arwain at y canlyniad cywir i chi fel goroeswr, neu fel darpar oroeswr ar y pwynt hwnnw, fel y gallwn helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd cywir cyn gynted â phosibl.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu gadael yr amgylchedd ymosodol oherwydd na allant fforddio gwneud hynny. Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o gam-drin domestig yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant, a wnaiff arweinydd y tŷ sôn am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr sy'n cael eu dal mewn sefyllfa o'r fath?

Gwnaf. Rydym yn ariannu amrywiaeth o raglenni ar draws Cymru, ond ar hyn o bryd, fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid i sicrhau bod y llwybrau hynny yn bodoli ym mhob man yng Nghymru. Lywydd, nid yw'n wir fod gennym fframwaith hollol ddelfrydol ledled Cymru, ond fel rhan o'n strategaeth ranbarthol ac fel rhan o'r broses o gyflwyno'r cynllun, ac o ganlyniad i gyngor gan ein cynghorwyr cenedlaethol, rydym yn gobeithio gallu rhoi'r cynllun hwnnw ar waith, ac rydym ar y trywydd cywir o ran y Ddeddf ar gyfer gweithredu'r cynlluniau fframwaith cenedlaethol, a bydd hynny'n llywio ein gwariant yn dilyn hynny.

Buaswn yn dweud, serch hynny, y dylem fod yn falch bod y niferoedd yn codi, oherwydd rydym yn gobeithio bod hynny'n golygu fod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau, er nad oes gennym dystiolaeth empirig o hynny, wrth gwrs. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw trosedd gudd lle nad yw pobl yn rhoi gwybod amdani. Felly rydym yn croesawu'r cynnydd yn y niferoedd, gan fod hynny'n dangos cynnydd yn nifer y digwyddiadau y rhoddir gwybod amdanynt.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ac rwy'n cydnabod y nifer o ymyriadau sy'n digwydd bellach mewn perthynas â cham-drin domestig. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llochesi yn elfen allweddol er mwyn symud dioddefwyr o sefyllfaoedd lle y cânt eu cam-drin. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod llochesi yng Nghymru yn aros ar agor? Ac os bydd arian yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol yn y dyfodol, pa fesurau sydd ar waith i leihau'r gyfran o'r arian sy'n mynd tuag at gostau gweinyddol?

Yn sicr, yn union fel y dywedais, mae yna bellach gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau rhanbarthol, ac mae'r cynllun rhanbarthol yn asesiad o anghenion, ac felly mae'n rhaid iddynt ymateb wedyn i'r asesiad o anghenion, sy'n asesu anghenion eu hardal, ac mae'r arian yn dilyn. Felly, mae'n fwy na'n bod yn rhoi arian iddynt ac yna'n gofyn iddynt ei ddyrannu fel y mynnant; mae'n rhaid iddynt gynhyrchu'r cynllun rhanbarthol, sy'n dweud wrthym beth yw'r angen yn yr ardal, ac yna byddwn yn edrych i weld bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Fel rhan o'r grant mawr newydd, sef yr hyn roedd David Rowlands yn cyfeirio ato, credaf ei bod yn deg dweud fod set swmpus o ganllawiau i fynd ochr yn ochr â hwnnw ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ei wneud.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i am drafod rhai o gasgliadau'r adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywedd, a'r cam cyntaf, sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd ble mae angen i Lywodraeth Cymru ysgogi gwelliant a dangos arweiniad. Un weithred yn benodol y mae'r adroddiad yn ei argymell ydy mynd i'r afael â nifer isel y bobl sy'n manteisio ar absenoldeb rhiant a rennir o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn argymell yn benodol cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir ar gyfradd mamolaeth well—yr enhanced maternity rate—i dadau sydd yn cymryd cyfnod o absenoldeb. A ydych chi'n mynd i wneud hyn?

Ie, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y byddwn yn gallu gweithredu'r argymhelliad hwnnw yn yr adroddiad. Rwyf am egluro ein sefyllfa ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi cam 1 yr adroddiad fel y mae. Nid ydym wedi ymateb yn ffurfiol iddo eto. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei ddatblygu'n gyflym dros yr haf, neu mewn geiriau eraill—ni wn pa ystrydeb y gallaf ei defnyddio: ffrwythau isel, os mynnwch—rhywbeth sy'n eithaf amlwg y gallwn fwrw ymlaen ag ef, ac yna bydd gennym gynllun tymor canolig a thymor hwy ar gyfer rhai o'r agweddau mwy heriol ar yr adroddiad, fel y dywedodd Siân Gwenllian yn gywir.

Byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol—a hoffwn brysuro i ddweud nad wyf yn osgoi hyn mewn unrhyw ffordd, ond yn amlwg, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw telerau ac amodau'r gwasanaeth sifil, nid Gweinidogion—ond byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch amrywiaeth o eitemau yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â thelerau ac amodau'r gwasanaeth sifil ac ati, gyda golwg ar weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chomisiwn y Cynulliad, bellach wedi ymrwymo i system feincnodi cyflogwyr Chwarae Teg, felly dylai hynny ysgogi rhywfaint o'r gwaith hwnnw yn ogystal.

14:50

Diolch yn fawr, ac edrychwn ni ymlaen i weld hynny yn cael ei weithredu. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle nad ydy’r Llywodraeth wedi cyflawni yr hyn a fwriadwyd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod cydraddoldeb yn aml yn cael ei weld fel ymarfer ticio blwch sydd ddim yn dylanwadu ar bolisi. Mae yna un rhan sydd yn arbennig o feirniadol yn yr adroddiad, lle mae’n dweud fel hyn:

'mae proses bresennol y gyllideb a’r strwythur yn parhau i weithredu fel rhwystr rhag gweithio’n effeithiol yn drawslywodraethol ar bob mater, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol. Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau ac mae cyllidebau yn canolbwyntio ar bwysau ariannol yn hytrach nag ar effaith.'

Mi wnaf i ddweud hynny eto:

'Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau'.

I mi, mae hynny’n feirniadaeth ddamniol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei chyllideb, a’r ffordd y mae wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd lawer. Ond, yn bwysicach, beth ydych chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod hyn yn newid, ac yn newid ar unwaith?

Mewn gwirionedd, fel y mae'n digwydd, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau, ychydig cyn y sesiwn hon, grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb, lle rydym yn ymgynghori â hwy yn ystod proses y gyllideb. Cawsom drafodaeth fywiog yno am yr asesiadau cydraddoldeb integredig newydd a'r hyn y gallwn ei wneud, fel grŵp o bobl, i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddefnyddiol yn hytrach nag ymarfer ticio blychau. Mae gennyf graff defnyddiol, Ddirprwy Lywydd, y gallaf ei rannu ag Aelodau'r Cynulliad, ynglŷn â sut y disgwyliwn i'r broses honno weithio a pha welliannau a fydd yn deillio ohoni. Fel rhan o hynny, rydym yn trafod—oherwydd, fel y dywedais, nid wyf wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad. Pan fyddwn yn ymateb—. Buom yn trafod yn y grŵp hwnnw, mewn ffordd ddefnyddiol, beth y gall y grŵp ei wneud er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r materion pan fyddwn yn ymateb yn ffurfiol. Felly, roedd yn sgwrs ragarweiniol ddefnyddiol iawn, ac yn yr hydref, byddaf mewn gwell sefyllfa i allu ymateb yn gadarnhaol iawn i rai o'r pethau hynny.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu diffyg gallu eich Llywodraeth i droi bwriadau yn ganlyniadau. Mae o'n nodi fel hyn:

'Mae llawer o’r rhai y buom yn siarad â hwy yn teimlo bod diffyg uchelgais o ran y camau gweithredu a’r amcanion o fewn cynlluniau cydraddoldeb, cynlluniau llesiant a pholisïau cenedlaethol yn ehangach ac, ar sail dadansoddiad o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru, mae tueddiad cynyddol i wneud datganiadau uchelgeisiol, eang gyda chamau gweithredu, amserlenni a mesurau llwyddiant cyfyngedig'

er mwyn amlinellu sut y caiff yr uchelgeisiau hyn eu gwireddu. Mae’n rhaid imi ddweud, mae’r datganiad ynglŷn ag eisiau creu Cymru ffeministaidd yn taro nodyn yn y fan yna, onid ydy—sef, 'datganiadau uchelgeisiol, eang', ond lle mae’r camau gweithredu?

Yn rhyngwladol, o blith y gwledydd hynny sy’n perfformio’n dda o ran cydraddoldeb rhywedd, mae bron bob un ohonyn nhw yn cyhoeddi data a thystiolaeth rheolaidd a hygyrch yn mapio allan cydraddoldeb rhywedd. Heb gamau gweithredu na dangosyddion i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd mewn polisïau yng Nghymru, mi fydd hi’n amhosibl olrhain cynnydd yn effeithiol, a chyfyngedig fydd y gweithgaredd craffu.

A ydych chi’n cydnabod bod y rhain yn themâu yr ydym ni’n eu gweld dro ar ôl tro gan eich Llywodraeth chi? Mi fyddwn ni’n nodi yn nes ymlaen yn ein dadl ar adroddiad y pwyllgor ar gyflogau isel, ac mi wnaethom ni sôn am hyn yn ddiweddar hefyd yn gysylltiedig efo iechyd meddwl a nifer o bynciau eraill—sef y diffyg data a’r diffyg targedau. A fedrwch chi ddangos y ffordd, felly, i weddill y Llywodraeth, drwy fabwysiadau targedau meintiol a dangosyddion pwrpasol i fesur cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru?

Ie, credaf fy mod yn gallu cytuno â llawer o'r hyn a ddywed Siân Gwenllian. Nid wyf yn cytuno bod hon yn broblem ym mhob man, ond mae yna broblemau data yng Nghymru. Rydym yn cael trafferth i ymgodi rhai o'r arolygon cenedlaethol mewn ffordd realistig, ac er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc rydym yn ei drafod ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y bydd yn enghreifftiol. Er enghraifft, nid ydym wedi cymryd rhan yn yr archwiliad anghyfartaledd hiliol y cymerodd Lywodraeth y DU ran ynddo, hyd yn oed gan ymgodi ar gyfer Cymru, oherwydd byddai'r niferoedd y byddem wedi'u cael o hwnnw wedi bod yn rhy isel i fod o unrhyw arwyddocâd ystadegol. Felly, rydym wrthi'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn gwneud rhywbeth sydd o arwyddocâd ystadegol, ac i raddau helaeth o ran ein hymateb i'r cam cynnar hwn o'r adolygiad rhywedd, ac yna, rwy'n gobeithio, y cynllun gweithredu yn y dyfodol, pan fydd gennym broses yr ail gam, sut y cawn afael ar ddata sylfaenol, pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd, pa adnoddau rydym eu hangen i ymgodi hwnnw, oherwydd bydd yn rhaid i ni wneud hynny, gan nad yw data y DU yn tueddu i gynnwys digon o sampl yng Nghymru i fod yn arwyddocaol, ac yna yr hyn y gallwn ei wneud i greu'r targedau hynny, oherwydd cytunaf yn llwyr â hi, oni bai bod gennym y targedau hynny ar waith, ni fydd gennym unrhyw syniad a yw ein polisi yn effeithiol ai peidio.

Hefyd, o ran arweinyddiaeth, fodd bynnag, mae'n hawdd bod yn sinigaidd, ond os nad ydych yn datgan eich bod eisiau i Gymru fod yn wlad ffeministaidd, ac os ydych yn ofni gwneud hynny oherwydd y sinigiaeth, yna yn bersonol, ni chredaf y byddech chi byth yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Felly, er fy mod yn cydnabod y sinigiaeth, rwyf hefyd yn cydnabod y weledigaeth, ac rwyf eisiau gweithio'n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr fod gennym gynllun gweithredu gweithgar ac ystyrlon y gellir ei weithredu, fel y dywedais, dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy i ymgorffori'r prosesau hynny.

14:55
Cam-drin Domestig yn y Rhondda

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â cham-drin domestig yn y Rhondda? OAQ52555

Rydym yn parhau i weithredu'r ymrwymiad a nodwyd yn ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru gyfan, yn ogystal â chynorthwyo'r byrddau rhanbarthol i gyflawni eu strategaethau yn lleol ac ar lefel ranbarthol.

Fel gweithiwr ac aelod blaenorol o fwrdd Cymorth i Fenywod Cwm Cynon, mae gennyf brofiad uniongyrchol o ddifrifoldeb ac effaith cam-drin domestig. Gall methiant i ddarparu cymorth fod yn fater o fywyd neu farwolaeth yn llythrennol, ac mae'r ystadegau cam-drin domestig yn fy etholaeth yn arbennig o frawychus. Dyna pam roeddwn yn pryderu wrth ddarllen am yr oedi cyn gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn yr adroddiad ardderchog a gynhyrchwyd gan Chwarae Teg yr wythnos diwethaf. A wnewch chi roi sicrwydd cadarn yn awr fod Llywodraeth Cymru yn unioni hyn a'r methiannau eraill a amlygwyd yn yr adroddiad penodol hwnnw?

Ers i mi gael y portffolio hwn, mae'r cynghorwyr cenedlaethol newydd wedi'u penodi, mae'r canllawiau ar gyfer y strategaethau lleol wedi'u cyhoeddi, ac mae ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr wedi cael ei lansio, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol ohoni—mae ymgyrchoedd Dyma fi a Paid Cadw'n Dawel yn rhan ohoni, er enghraifft. Rydym wedi lansio'r ymgynghoriad ar y canllawiau comisiynu rhanbarthol, rydym wedi lansio'r ymgynghoriad ar fframwaith ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr, ac rydym yn cyflwyno ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gweithwyr rheng flaen.

Ein nod yw ymgynghori ar y dangosyddion drafft cyn diwedd tymor yr hydref, ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol, ac yn y dyfodol bydd ein hadroddiadau blynyddol yn cynnwys cynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol yn ogystal â llwyddiannau hyd yn hyn ar y fframwaith cyflawni. Felly, roedd yn ddechrau araf, ond credaf ein bod wedi cyflymu bellach, rydym yn ôl ar y trywydd cywir, ac rwy'n credu, pan fyddwn yn ymgynghori ar y dangosyddion drafft cyn diwedd tymor yr hydref, byddwn yn ôl lle y dylem fod wedi bod yn y lle cyntaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaith ymchwil wedi dangos yn gyson fod y canlyniadau'n well i ddioddefwyr a'u plant pan fo'r asiantaethau'n mabwysiadu dull integredig, a gwyddom o ystadegau Llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mai cam-drin domestig sydd i gyfrif am o leiaf un o bob 10 o bobl sydd angen cymorth digartrefedd gan yr awdurdod lleol. Mae rhai o'r elusennau yn y sector yn adrodd ei fod yn ffactor sylweddol mewn hyd at draean o'r achosion y maent yn ymdrin â hwy, oherwydd bod y person yn rhy bryderus, mewn gwirionedd, i aros, ond ni allant adael y cartref y maent yn byw ynddo ychwaith. Felly, a allwch chi sicrhau, ym mhob un o'r llinellau cyngor a'r asiantaethau sy'n cael eu comisiynu i roi cyngor, fod sylw allweddol yn cael ei roi i ddigartrefedd a dod o hyd i gartrefi i bobl yn gyflym, ar gyfer menywod a phlant sy'n wynebu'r bygythiad ofnadwy hwn?

Rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding. Roedd yn fraint mawr mynychu lansiad Pobl Gwent, lle mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn dechrau deall eu rôl o ran mynd i'r afael â cham-drin domestig ac maent wedi hyfforddi eu staff i adnabod yr arwyddion. Mae hyn yn cynnwys pob aelod o staff—staff sy'n mynd i wneud gwaith cynnal a chadw ac yn y blaen—i sylwi ar arwyddion. Mae ganddynt borth gwe hynod ddefnyddiol a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i unrhyw un. Os ydych eisiau edrych arno mae'n ddefnyddiol iawn, i chi allu eistedd yn eich car wedyn a meddwl am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud, pryd i ofyn am gyngor, a pha gwestiynau eraill i'w gofyn—dywedwch eich bod wedi anghofio eich tyrnsgriw ac ewch yn ôl a gofyn cwestiwn, neu beth bynnag. Rwy'n falch iawn o weld hwnnw'n cael ei gyflwyno, ac mae hwnnw'n rhan bwysig iawn o'n fframwaith a'n hyfforddiant, i alluogi hynny i ddigwydd ar draws ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Hefyd, rydym yn gweithio'n galed iawn fel bod gennym ymrwymiad ar waith, er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ddiogel a bod yn rhaid i chi symud i ran arall o Gymru, y byddwn yn anrhydeddu hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym drefniadau dwyochrog ar draws ffiniau, oherwydd mae'r systemau yn newid yn eithaf radical, ond rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr fod gennym drefniadau dwyochrog ar waith ar gyfer menywod, yn bennaf, sy'n ffoi. Nid menywod ydynt bob amser, ond menywod yn bennaf sy'n ffoi rhag y math hwnnw o gam-drin domestig.

15:00
Deddf Cydraddoldeb 2010

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau ei bod yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran pobl ifanc ag anableddau dysgu a'u teuluoedd? OAQ52524

Rydym yn ymrwymedig i wella bywydau pawb a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae'r rhaglen Gwella Bywydau, a nodwyd yn ein datganiad ar 3 Gorffennaf, yn adeiladu ar arferion da i lywio gwelliannau er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu i gyrraedd eu potensial llawn.

Diolch. Mae'r adroddiad 'Peidiwch â dal yn ôl' gan Gomisiynydd Plant Cymru yn cyfeirio'n benodol at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn dyfynnu'r nodyn esboniadol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan ddweud:

'Bydd y Bil yn hybu cydraddoldeb ac yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, yn ogystal â sicrhau bod yna gymhellion priodol i lywodraeth leol a’u partneriaid sicrhau bod yna bwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.'

Felly, sut rydych yn bwriadu ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, sy'n tynnu sylw at brofiadau pobl ifanc ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn y cyfnod pontio i wasanaethau oedolion, ac, er eu bod wedi gweld enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, mae'r prif ganfyddiadau yn amlygu diffyg cymorth i deuluoedd, anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau, ac ychydig iawn o lais i bobl ifanc wrth gynllunio eu dyfodol, sydd, fel y dywedant, yn gwrth-ddweud y dyheadau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—dau o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Cymru?

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y comisiynydd plant ar effaith pontio. Byddwn yn ymrwymedig i weithio gyda'r comisiynydd plant i sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn gwella pan fyddant yn dod yn oedolion a bydd hynny'n cynnwys, fel y dywed yr Aelod, cynllunio amlasiantaethol gwell, darparu gwybodaeth a chymorth clir, sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gallu chwarae rhan weithredol yn eu cynlluniau pontio eu hunain, gwelliannau i drafnidiaeth a chyfleoedd cyflogaeth ystyrlon.

A gaf fi hefyd ddiolch i'r arweinydd am yr ateb i'r cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n ymddiriedolwr i Vale People First, sefydliad hunan-eirioli ar gyfer ac sy'n cael ei arwain gan bobl gydag anabledd dysgu ym Mro Morgannwg? Roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiad yn y Barri gydag Andrew R.T. Davies i arddangos cyflawniad eu prosiect, a ariennir gan y Loteri Fawr, I am Not Invisible. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi a chanmol gwaith y sefydliad unigryw hwn yn fy etholaeth, sy'n llais cynrychiadol pwysig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn y Fro?

Ie, mae'n brosiect gwych ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ymuno â hi a chanmol y bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect. Mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth i sicrhau bod gan bobl ifanc lais a'u bod yn gallu mynegi'r llais hwnnw mewn ffordd ystyrlon i lywio ein strategaethau a'n cynlluniau gweithredu, ac rwy'n falch iawn ei bod wedi gallu mynychu'r rhaglen honno yn ddiweddar.

Digideiddio Gwasanaethau Cyhoeddus

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52537

Yn sicr. Mae Digidol yn Gyntaf yn nodi'r camau sydd eu hangen i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol effeithiol. Mae amrywiaeth o welliannau'n cael eu gwneud ar draws ac o fewn portffolios yr holl Ysgrifenyddion Cabinet.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae cynghorau ledled Cymru yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial i ymgymryd â rhai o swyddogaethau eu staff. Mae cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhith-gynorthwyydd i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno bot sgwrsio ar gyfer ei ymholiadau ar-lein. Mae adroddiad gan PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y bydd y newid i ddeallusrwydd artiffisial yn golygu gostyngiad mawr yn nifer y bobl a gyflogir mewn gwasanaethau gweinyddol a chymorth. Arweinydd y tŷ, pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o'r effaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar weithlu'r sector cyhoeddus?

Mae yna lefelau sgiliau cymysg ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n effeithio ar eu gallu i nodi cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau digidol, a hefyd i ddefnyddio gwasanaethau newydd sydd wedi'u darparu. Felly, mae gennym raglen hyfforddi ar draws y sector cyhoeddus i uwchsgilio staff ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau sydd wedi mynegi barn yn ddiweddar ar greu rôl arweinyddiaeth ddigidol gydlynol ar gyfer awdurdodau lleol, gyda'r bwriad o uwchsgilio'r staff, nid yn unig oherwydd bygythiad deallusrwydd artiffisial, er bod y bygythiad hwnnw'n amlwg yn bodoli ar gyfer tasgau gweinyddol lefel is yn arbennig—mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers amser hir bellach, ers y 1980au cynnar—ond hefyd gyda golwg ar fynd ati i gynnwys rhaglenni trawsnewid er mwyn rhyddhau'r staff hynny ar gyfer swyddi gwasanaethau rheng flaen na chânt eu heffeithio gan ddeallusrwydd artiffisial, a cheir nifer fawr o'r rheini yn ogystal. Mae gan gyngor partneriaeth y gweithlu ddiddordeb enfawr ynddo, a gwn, er enghraifft, eu bod yn ystyried gwneud gwelliannau i wasanaeth recriwtio ar-lein Cyfnewid Pobl Cymru gyda'r bwriad o'i wneud yn borth ar gyfer y math hwnnw o weithgarwch.

15:05

Arweinydd y tŷ, mae sefydliadau'n cysylltu â mi yn rheolaidd, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad rwy'n gwybod, am fod ganddynt syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gallu helpu i wella, digideiddio a symleiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi profi eu hunain ledled gweddill y DU ac Ewrop yn wir, ond maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd rhyngwynebu â Llywodraeth Cymru. Rwy'n bryderus ein bod yn creu rhwystrau, ac mae perygl na fyddwn ar flaen y gad yn y chwyldro digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Pa lwybrau y byddech yn eu hawgrymu fel y ffyrdd gorau i mewn ar gyfer y sefydliadau hyn? Maent yn ceisio cysylltu â deiliaid portffolio unigol, ond cânt eu rhwystro gan swyddogion. Nid yw meddylfryd 'heb ei wneud yma yng Nghymru' yn ein helpu i ddod yn arweinwyr na'r gorau yn y maes, ac rydym eisiau dysgu o'r enghreifftiau da eraill ledled Ewrop. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith, yn arbennig ym maes iechyd, fod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd mewn mannau eraill, ac ymddengys nad oes gennym ran ynddo.

Rwy'n hapus iawn i fod yn sianel i'r Llywodraeth os oes rhywun yn profi'r anhawster hwnnw. Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi synnu pan fyddaf yn dweud hyn, ond fe'i dywedaf eto yma yn y Siambr: fy nghyfeiriad e-bost yw julie.james@gov.wales. Mae'n syndod i mi cyn lleied o bobl sy'n manteisio ar y cyfle hwnnw. Buaswn yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy'n credu y gallant wella gwasanaethau cyhoeddus.

Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn gweithio'n galed iawn ar y rhaglenni hynny. Rydym yn falch iawn, fel rwyf newydd ei ddweud, fod yna gynigion i'r CLlLC sefydlu swyddogaeth arweinyddiaeth ddigidol, a fydd yn ei alluogi i gydlynu. Drwy gyngor partneriaeth y gweithlu yn ogystal, mae gennym sianel uniongyrchol i'r holl sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig, yn ogystal â'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli, sy'n cymryd rhan yn nhrefniadau cyngor partneriaeth y gweithlu, gyda'r bwriad o ledaenu'r arfer da hwnnw.

Band Eang yn Ne-ddwyrain Cymru

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52548

Yn sicr. Mae cynllun Cyflymu Cymru, hyd yma, wedi hwyluso'r broses o gyflwyno mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 230,000 o gartrefi a busnesau ar draws y rhanbarth, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 70 Mbps a buddsoddi dros £63 miliwn.

Diolch. Roedd yn bleser gennyf ymuno â chi a'r gymuned yn Llanfihangel-y-Fedw yn gynharach y mis hwn ar gyfer lansio hyb band eang cyflym iawn y pentref. Mae'r prosiect dan arweiniad y gymuned ac mae wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, a dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn, gyda thrigolion yn palu ceudyllau, yn gosod pibellau ac yn gosod cyfarpar hybiau cyfathrebu. Mae'r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, a bydd gan y rhan fwyaf o'r pentref gyflymderau llwytho gwell yn fuan.

Mae Llanfihangel-y-Fedw wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol, ond rwy'n ymwybodol o nifer o broblemau eraill gyda chyflymderau band eang mewn rhannau eraill o fy etholaeth. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan fwy o aelwydydd fynediad at fand eang cyflym iawn a bod yr amserlenni yn cael eu mynegi'n glir i bobl?

Oedd, roedd yn gynllun gwych. Roedd yn wych gallu bod yno, onid oedd, i weld y brwdfrydedd drosto? Ddirprwy Lywydd, pe cawn argymell hynny i'r holl gymunedau eraill ledled Cymru—mae'n gynllun a oedd wedi'i seilio'n llwyr ar gynlluniau talebau Llywodraeth Cymru, Allwedd Band Eang Cymru a'r cynlluniau talebau gwibgyswllt. Cododd y pentref rywfaint o'r arian drwy gyllido torfol fel y gallent gynyddu'r cyflymder i gigabit. Maent yn gobeithio ei gyflwyno i oddeutu 70 o ddefnyddwyr. Maent yn gobeithio gwneud elw o tua £20,000 y flwyddyn pan fydd wedi'i gyflwyno'n llawn i'w fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol ar draws y pentref ac uwchraddio'r ardal gyfan.

Nid oes dim byd o gwbl i beidio â'i hoffi am y cynllun. Cafodd ei gefnogi'n llwyr hefyd gan fy nhîm band eang, a fu'n gweithio'n ddiflino gyda hwy, fel y cydnabuwyd ar y diwrnod, i sicrhau bod yr holl rwystrau y daethant ar eu traws yn cael eu lleddfu iddynt. Ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i ymroddiad y bobl a fu'n gweithio arno, ac a weithiodd oriau hir iawn yn wir i sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth.

Mae'n gynllun y byddem yn hoffi ei ailadrodd, er bod llawer o fodelau eraill ohono. Rydym yn hapus i gefnogi cynllun o'r fath ledled Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, o ran y dyfodol, rwy'n siomedig iawn nad oeddwn yn gallu cyhoeddi rhywbeth heddiw. Rydym wedi gweithio'n galed iawn i geisio gwneud hynny, ond nid oedd yn bosibl. Rydym yn gobeithio gallu gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn.

Cydraddoldeb

7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cyflawni ei hamcanion polisi ar gyfer sicrhau mwy o gydraddoldeb yng Nghymru? OAQ52532

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb, sy'n nodi'r cynnydd a wnaethom tuag at hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Mae'n cynnwys diweddariad ar y camau a gymerwyd gennym i gyflawni ein hwyth amcan cydraddoldeb. Mae'r adroddiad diweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ffodus i fyw mewn Cymru amrywiol gyda llawer o leiafrifoedd ethnig gwahanol. Wrth gwrs, mae materion anghydraddoldeb yn codi ymysg y cymunedau hynny a hefyd mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig, ac yn briodol, ceir ffocws cryf iawn ar y rheini, ond credaf fod dosbarth cymdeithasol hefyd yn agwedd bwysig iawn ar anghydraddoldeb yng Nghymru ac mewn gwirionedd, mae'n torri ar draws y nodweddion gwarchodedig, er enghraifft, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Ceir problemau penodol, er enghraifft, gyda phlant dosbarth gweithiol gwyn o Gymru mewn ysgolion a diffyg symudedd cymdeithasol. Tybed sut y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y problemau penodol hynny, a'r agwedd ar anghydraddoldeb sy'n ymwneud â dosbarth cymdeithasol.

15:10

Er nad yw'n nodwedd warchodedig yn ei hawl ei hun, mae John Griffiths yn hollol gywir: mae'n torri ar draws yr holl groestoriadau eraill, felly bydd unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig hefyd yn cael eu heffeithio gan ddosbarth cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr anghydraddoldebau lluosog sydd wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd yn gwneud y rhwystrau sy'n wynebu pobl yn ddifrifol iawn. Tra bo mesurau cyni a diwygiadau lles parhaus Llywodraeth y DU yn taro pobl yn galed iawn, rydym yn parhau i wneud popeth a allwn i gynyddu ffyniant a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru. Bydd creu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn ac yn gallu cyfrannu'n llawn at yr economi, yn anochel yn caniatáu i Gymru fod yn wlad fwy ffyniannus ac arloesol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi ac ymgysylltu â phobl o'r grwpiau gwarchodedig ac o bob dosbarth economaidd-gymdeithasol i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwybod bod llawer ohonom yn y Siambr yn rhannu'r teimladau rwyf ar fin eu mynegi. Nid oes a wnelo hyn â throi cefn ar eich cymuned; mae'n ymwneud â galluogi eich cymuned i ffynnu a'ch bod yn camu i mewn ac yn aros gyda'ch cymuned, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod ein holl gymunedau yn llewyrchus ac yn ffynnu yn y ffordd honno.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Simon Thomas.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

1. A wnaiff y Comisiwn datganiad ynglŷn â defnyddio ystâd y Cynulliad ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? OAQ52554

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n falch iawn o ddweud y bydd ein hystâd yn rhan ganolog o’r gweithgareddau. Mi fydd y Lle Celf yn ein Senedd, yn y Neuadd, yr Oriel a'r Cwrt, ac mi fydd holl gyfarfodydd Pabell y Cymdeithasau yn ein hystafelloedd pwyllgor. Bydd Pabell y Dysgwyr yn meddiannu neuadd y Pierhead. Gobeithio y bydd cymaint â phosibl o Aelodau Cynulliad yn cael y cyfle i ymweld â'r Eisteddfod eleni; mi fydd hi'n Eisteddfod wahanol iawn yn y bae. 190

Diolch i'r Llywydd am yr ymateb. Rwy'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ddod i'r bae ac i'r Cynulliad, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig i'r adeilad hyfryd yma, a adeiladwyd i gyhoedd Cymru, gael ei ddefnyddio at ddibenion diwylliannol yn ogystal â gwleidyddol. Roeddwn wastad yn meddwl y byddai'r Siambr yma yn gwneud Cylch yr Orsedd arbennig o dda, ond mae'n debyg nad ydym wedi mynd cweit mor bell â hynny. Nawr yw'r cyfle i ddangos bod Eisteddfod heb ffens, heb wal a heb dâl i ddod mewn yn mynd i fod yn agored i bawb.   

A hoffwn annog pawb—. Pan euthum i fy Eisteddfod gyntaf, prin y gallwn siarad Cymraeg. Mae'n brofiad ymdrochol hollol wych, a hoffwn annog pobl ledled Cymru i ddod i Gaerdydd, i ddod i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod yn rhan o brofiad gwych a byw'r wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch yn fawr.

Wel, a gaf i gymeradwyo popeth mae'r Aelod newydd ei ddweud? Rwy'n difaru'n fawr ein bod ni ddim wedi meddwl am y syniad o gynnal Cylch yr Orsedd i mewn fan hyn yn y Cynulliad. Mae'n siŵr ei bod rhy hwyr i mi nawr i gynnig hynny i'r Orsedd. Ond, eto, mae hon yn mynd i fod yn Eisteddfod Genedlaethol wahanol iawn. Mi fydd pobl Caerdydd a phobl Cymru gyfan yn gallu bod yn rhan o'r Eisteddfod yma heb fod yna ffens na wal yn eu gwahanu. Felly, gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd y cyfle i ymweld ac i weld y celfyddydau a bwrlwm y Gymraeg yma ym Mae Caerdydd. 

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn bwysig ym mha bynnag ardal o Gymru mae'n cael ei chynnal. Mewn dwy flynedd, mi fydd hi yn Nhregaron yng Ngheredigion, ac mae honno lawn mor bwysig ag Eisteddfod Bae Caerdydd, a hefyd yn Llanrwst y flwyddyn nesaf. Ond, ymhen ychydig wythnosau, mi fydd yr Eisteddfod Genedlaethol fan hyn yn y bae, ac mae'n bleser i fi fod yn Llywydd ac i ni gyd fel Aelodau i fod yn gallu cyfrannu, gobeithio, tuag at lwyddiant yr Eisteddfod honno drwy gyfrannu o'n heiddo ni a'n cefnogaeth ni hefyd.

Diolch. Bydd cwestiwn 2 i'r Comisiwn y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Cwestiwn 2, Julie Morgan.

Bwydo ar y Fron yn y Senedd

2. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i alluogi menywod i fwydo ar y fron yn y Senedd? OAQ52550

Diolch i chi am y cwestiwn. Cydnabyddir y Senedd fel man sy'n croesawu bwydo ar y fron, ac mae gennym arwyddion ar sgriniau drwy'r Senedd, yn y fynedfa ac yn y caffi sy'n hyrwyddo hynny. Rydym wedi prynu cadair bwydo ar y fron, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed hynny, yn enwedig gan ei bod wedi pwyso arnom i wneud hynny. Yn dilyn ymgynghoriad, mae honno bellach wedi'i gosod yn yr ystafell dawel bwrpasol yn y Senedd, sydd hefyd yn cynnwys teganau synhwyraidd. Mae yna hefyd le arbennig ar gyfer plant yng nghaffi'r Senedd ac mae'r holl staff rheng flaen wedi cael eu hysbysu am ein darpariaeth sy'n croesawu teuluoedd a bwydo ar y fron, fel y gallant gyfeirio ymwelwyr yn unol â hynny a gwneud y profiad, gobeithio, yn un cadarnhaol.

15:15

Diolch i Joyce Watson am yr ymateb hwnnw, a chredaf ein bod yn gwneud cynnydd. Rwy'n falch fod yna gadair wedi'i dylunio'n arbennig i'w gwneud yn hawdd ac yn gyfforddus i famau fwydo ar y fron a bod lle dynodedig wedi'i ddarparu, ond rwy'n credu y dylem wneud mwy i sicrhau bod mamau a'r cyhoedd yn ymwybodol fod hwn yn fan lle y croesewir bwydo ar y fron. Gwn fod Joyce Watson wedi dweud bod yna arwyddion, ond rwy'n teimlo, pe baech yn dod yma i'r Senedd a'ch bod eisiau gwybod ble i fynd i fwydo eich plentyn ar y fron, na fyddai'n amlwg ar unwaith. Teimlaf y dylid gwneud mwy o ymdrechion yn y ffordd honno. Nid wyf yn gwybod a yw hi'n gallu rhoi sylwadau ar hynny.

Iawn. Mae staff y Comisiwn yn gweithio ar ehangu apêl ein Senedd ac rydym yn ceisio annog mwy o amrywiaeth o ran demograffeg y bobl sy'n ymweld â ni yma. Mae nifer o weithgareddau wedi'u targedu at deuluoedd â phlant ifanc ac maent eisoes wedi'u rhaglenni, ac nid oes amheuaeth y bydd hynny'n wir pan fyddwn yn cynnal yr Eisteddfod yma. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn cysylltu'r ddau beth hynny gyda'i gilydd, yn ogystal â dangos yn gadarn iawn ein bod yn fan sy'n croesawu teuluoedd, sydd hefyd yn gwahodd menywod, os ydynt yn dymuno, i fwydo ar y fron o fewn y gofod hwnnw. Rydym yn gwybod, pan oedd y cerflun ffenestr wylo yma, ein bod wedi denu mwy o deuluoedd ifanc nag a gafwyd yn unman arall roedd hwnnw wedi bod. Felly, o ran gweithio ar yr agenda rydych yn sôn amdani, er bod gennym rai arwyddion, credaf y byddai'n beth da i ni edrych ar hynny eto a dychwelyd, efallai hyd yn oed, at y bobl y buom yn ymgysylltu â hwy pan oeddem yn ceisio penderfynu lle i roi'r gadair bwydo ar y fron a gweld a oes ganddynt farn ynglŷn â ble y gallem ychwanegu arwyddion fel ei fod yn amlwg i bobl. Oherwydd rydym eisiau bod yn lle croesawgar a deniadol i bobl ymweld ag ef ac rwy'n credu ei bod bob amser yn ddoeth inni ystyried barn y bobl sydd eisiau manteisio ar hynny.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Lee Waters.

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y drydedd flwyddyn yn olynol? 207

Member
Lesley Griffiths 15:18:44
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch. Siom mawr i mi oedd clywed bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am y drydedd flwyddyn mewn perthynas â gwerthu pren. Croesawaf y ffaith bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn adeiladol a bod yna ymrwymiad clir ar ran yr arweinyddiaeth i roi camau gweithredu ar waith. Cyfarfûm y bore yma gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y mater.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu beirniadu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am roi contract gwerth £39 miliwn i BSW Timber yn y Bontnewydd-ar-Wy heb gystadleuaeth. Nid oedd yn cynrychioli gwerth am arian, ond cafodd ei gyfiawnhau ar y sail y byddai'r cwmni'n buddsoddi mewn melin lifio newydd, a fyddai o fudd i'r diwydiant yn gyffredinol. Nid ydynt wedi cadw'r addewid hwnnw. Bellach rydym yn darganfod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yr un peth eto. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud wrthym yn awr fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu 59 o gontractau lle na cheir unrhyw dystiolaeth fod hyn wedi cael ei wneud am bris y farchnad, a dyfarnwyd rhai contractau heb dendr. Roedd 21 o'r rhain i BSW Timber, yr un cwmni a dorrodd ei addewid yn y cytundeb diwethaf. Beth sy'n digwydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae cael eu cyfrifon wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn warthus a dweud y gwir. Rwy'n cael trafferth meddwl am esboniad pam y gallai hyn fod yn digwydd. A allai fod yn llygredd neu anghymhwysedd? Ond ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth; nid yw'r rheolaethau archwilio mewnol yn addas i'r diben. Ble mae'r bwrdd yn hyn oll? Ar ôl y perfformiad truenus gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gadawodd y prif weithredwr blaenorol, Emyr Roberts, er iddo gael taliad olaf mawr, ac mae hynny'n anodd i'w lyncu. Caf fy nghalonogi gan farn yr archwilwyr fod y prif weithredwr newydd, Clare Pillman, wedi ymateb mewn ffordd sy'n awgrymu ei bod o ddifrif ynghylch y problemau o'r diwedd, ond beth am y cadeirydd, Diane McCrea? Ble mae hi wedi bod? Sut y gallai adael i hyn ddigwydd eto? Hi oedd wrth y llyw y llynedd. Rwy'n credu y dylai hyn wneud inni feddwl yn ddwys ynglŷn â chreu sefydliadau mawr fel hyn. Pe bai hwn yn unrhyw sefydliad arall—pe bai'n awdurdod lleol, byddem yn eu gwneud yn destun mesurau arbennig. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—. Credaf fod hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben. Rwy'n ddig iawn ac mewn penbleth pam fod hyn wedi digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol, a buaswn yn gobeithio ei bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hyn, a chredaf y dylai fod atebolrwydd gan yr uwch arweinwyr ar lefel y bwrdd ac ar lefel weithredol y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe bai wedi colli rheolaeth.

15:20

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod hwn yn fater difrifol iawn. Cyfarfûm yn gyntaf â'r cadeirydd ddydd Llun i drafod ei chyfnod yn y swydd, yr adroddiad ac ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru iddo, ac rwy'n ystyried y sgwrs honno. Cytunaf yn llwyr â chi fod hwn yn fater o bryder mawr.

Fe gyfeirioch chi at y ffaith bod prif weithredwr newydd bellach wedi'i phenodi, a chrybwyllais fy mod, ynghyd â Gweinidog yr Amgylchedd, wedi cyfarfod â'r prif weithredwr newydd a'r cadeirydd y bore yma. Yn dilyn fy nhrafodaeth gyda'r prif weithredwr, credaf ei bod yn glir iawn ei bod hithau hefyd o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn. Credaf ei bod wedi rhoi ymrwymiad cryf iawn ar ran yr arweinyddiaeth i roi camau ar waith i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Fe sonioch ei fod wedi digwydd dair blynedd yn olynol, ac rwy'n rhannu eich pryder a'ch dicter yn llwyr.

Rwy'n credu bod ymrwymiad y prif weithredwr i'w weld yn glir mewn llythyr diweddar a ysgrifennodd at Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, lle y rhoddodd y newyddion diweddaraf am y cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd yn flaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn adroddiad dilynol Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd y llythyr hwnnw'n cynnwys cadarnhad fod Clare Pillman, y prif weithredwr, yn ad-drefnu'r swyddogaeth gwasanaethau masnachol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwriadu penodi pennaeth gwasanaethau masnachol. Mae'r prif weithredwr hefyd wedi penodi Ernst & Young i gynnal adolygiad annibynnol o'r meysydd busnes masnachol allweddol a'r trefniadau llywodraethu. A hoffwn sicrhau'r Aelodau y byddaf yn cadw llygad manwl iawn ar hyn.

Nid oes llawer y gallaf ei ychwanegu, mewn gwirionedd, at gwestiwn ardderchog Lee Waters. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym wedi rhyfeddu, yn llythrennol, mewn penbleth—sut bynnag rydych eisiau ei ddisgrifio—fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gorfod cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac eto ar sail y ffaith bod eu trafodion sy'n gysylltiedig â'u gwerthiannau pren, contractau, yn afreolaidd. Rydym yn siomedig fod yna ansicrwydd pellach ynglŷn ag a yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus, rheolau cymorth gwladwriaethol—mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Bydd y pwyllgor yn ailedrych ar y mater yn ystod tymor yr hydref i sicrhau ein bod yn fodlon gyda'r camau a gymerir, a byddwn yn sicr yn monitro hyn.

Roeddem wedi gobeithio na fyddem—. Wel, roeddem yn tybio na fyddem yn y sefyllfa hon eto. Fel y dywedodd Lee Waters, mae'n rhyfeddol iawn ein bod yn y sefyllfa hon. O ran—. Wel, mae gennyf ddau gwestiwn i chi, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ddywedoch eich bod wedi cael cyfarfod y bore yma, rwy'n credu, gyda'r cadeirydd neu—

Y cadeirydd a'r prif weithredwr. Felly, yn amlwg, rydych—dyna oedd y peth cywir i'w wneud. A oeddent wedi dweud wrthych am yr hyn roeddent yn ei wneud ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers i ni gael gwybod am y problemau blaenorol? A oeddent wedi rhoi gwybod i chi eu bod yn ymdrin â'r un cwmni pren a fethodd adeiladu melin lifio y tro diwethaf? Ac fe gafodd 59 o gontractau eu dyfarnu—wel, pam 59? A ydynt wedi rhoi unrhyw esboniad o gwbl i chi pam y cafodd y 59 o gontractau hynny eu dyfarnu a beth oedd eu natur? Oherwydd rwy'n rhannu penbleth Lee Waters. Mae'n anodd iawn i ni, fel aelodau o'r pwyllgor, a'r Aelodau Cynulliad eraill rwy'n siŵr, ddechrau deall yn y lle cyntaf beth ar y ddaear sy'n digwydd.

Diolch i chi, Nick Ramsay. Cefais innau sicrwydd hefyd gan y prif weithredwr blaenorol na fyddai hyn yn digwydd eto eleni, felly gallwch ddychmygu pa mor siomedig a phryderus wyf fi. Mae'n debyg na allaf fod yn fwy penodol am fy anfodlonrwydd ynglŷn â hyn. Cyfarfûm â'r cadeirydd—yr hyn a ddywedais oedd fy mod wedi cyfarfod â'r cadeirydd ddydd Llun, a chyfarfûm â'r cadeirydd a'r prif weithredwr y bore yma ynghyd â Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, a thrafodwyd materion yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus a chymorth gwladwriaethol, oherwydd, yn amlwg, mae'r rheini'n ddau faes y mae angen canolbwyntio arnynt ac unwaith eto, cefais sicrwydd fod y prif weithredwr o ddifrif ynglŷn â hyn wrth symud ymlaen. Mae hi hefyd yn cryfhau'r pwyllgor archwilio a sicrhau risg drwy benodi aelod nad yw'n aelod o'r bwrdd sydd ag arbenigedd ychwanegol ym maes llywodraethu sector cyhoeddus ac arbenigedd cyllid hefyd, ac rydym wedi cynllunio proses recriwtio ar gyfer y bwrdd yn y dyfodol. Mae gennym bum aelod newydd y byddwn yn eu penodi y flwyddyn hon hefyd, ac mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud hynny yn fy ateb i Lee Waters.

15:25

Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth arall ar wahân i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters a Nick Ramsay. Dywedais ddoe fy mod yn credu bod system lywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwdr ac nad oes gennyf unrhyw ffydd ynddi: rwy'n ailadrodd hynny er mwyn ei gofnodi gyda chi. Nid oes gennyf unrhyw ffydd yn system lywodraethu'r sefydliad hwn ar hyn o bryd. Hynny yw, gallwch ryw fath o ddeall gwneud un camgymeriad a bod y camgymeriad hwnnw'n para am ail flwyddyn—roedd yn gamgymeriad mawr, cofiwch chi; dylai rhywrai fod wedi talu'n ddrud am hwnnw—ond mae gwneud hyn gyda nifer o gontractau yn dangos bod rhywbeth sylfaenol o'i le.

Nawr, soniodd Lee Waters am lygredd. Ni wn a yw hynny'n wir, ond rwyf wedi ysgrifennu atoch gydag achos â thystiolaeth gan un o fy etholwyr ynglŷn â sut y mae'n credu bod contract wedi'i lunio mewn modd sy'n sicrhau y gallai un contractwr ei ennill, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn talu mwy ar ben y contract oherwydd ei fod wedi cael ei wneud yn y ffordd anghywir—felly, roedd yr offer yn cael ei brynu ar wahân, tra bo fy etholwr wedi gwneud cais amdano gyda'r offer yn rhan o'r contract—mewn geiriau eraill, swyddi i'r hogiau, gwneud pethau ar gyfer pobl rydych yn eu hadnabod. Hoffwn i chi ailagor yr ohebiaeth a gawsom oherwydd fe wnaethoch chi, mae'n rhaid i mi fod yn onest, wrthod gwrando arnaf a dweud y dylai fy etholwr gyflwyno ei achos i weithdrefnau cwynion Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny—wrth gwrs ei fod—ac mae bellach wedi'i ddwyn i sylw'r ombwdsmon a'r BBC yn ogystal. Ond mae rhywbeth mawr o'i le fan hyn, ac nid yw'r pethau hyn yn digwydd oherwydd anghymhwystra. Anghymhwystra fyddai ei wneud unwaith neu ddwywaith. Mae hwn yn rhywbeth llawer mwy sylfaenol. Felly, rwyf am eich gwthio hyd yn oed ymhellach na'r hyn rydych newydd ei ddweud. O ddifrif, a all y cadeirydd barhau? Ac yn ail, a wnewch chi anfon eich swyddogion eich hun i mewn i edrych ar y contractau hyn, o'r brig i'r bôn, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un ohonynt yn cael ei wneud gyda rhoddion neu ffafrau ynghlwm wrthynt?

Roedd tri chwestiwn ychwanegol yno, ac fe wnaf eu hateb. Yn sicr, byddaf yn edrych ar yr ohebiaeth eto. Byddaf, mi fyddaf yn anfon fy swyddogion yno i'w fonitro. A soniais fy mod wedi cyfarfod â'r cadeirydd ddydd Llun, trafodais ei chyfnod yn y swydd, trafodais y cyfrifon, ac roeddwn yn myfyrio ar y sgwrs honno, ac nid wyf yn credu ei bod yn briodol i mi ddweud mwy ar hyn o bryd.

Rwy'n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod yna gonsensws trawsbleidiol ar hyn, nid yn unig gan Lee Waters yn y ffordd hynod glodwiw y geiriodd ei gwestiwn, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, ond hefyd gan UKIP, ac fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid wyf yn credu mai fi yw'r unig un a fyddai'n dweud bod y dystiolaeth rydym wedi'i chael gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gorffennol wedi bod yn hynod o anhrawiadol ar amryw o lefelau. Pan ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd sawl gwrthdaro buddiannau na ellir eu cywiro eu hadeiladu i mewn i'w strwythur—ar y naill law, mae'n sefydliad masnachol; ar y llaw arall, mae'n gyfrifol am weithredu er budd y cyhoedd—a chyfeiriais at achos yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth diwethaf, achos nad yw'n gysylltiedig â'r mater hwn, ynglŷn â chontract y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i osod mewn perthynas â BikePark Wales ger Merthyr Tudful, sydd bellach yn cyfyngu ar fynediad cyhoeddus at dir cyhoeddus ar gyfer buddiant preifat ac mae'n honni y bydd yn codi dirwy ar bobl am feicio ar eu llwybrau beicio heb ganiatâd. Felly, mae llawer o'i le ar Cyfoeth Naturiol Cymru, nid yn unig o ran llywodraethu ariannol, ond hefyd o ran y goblygiadau polisi cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg yn aml mewn gohebiaeth gan etholwyr. Felly, a gaf fi ei hannog gyda Simon Thomas, i wneud popeth yn ei gallu i ddod o hyd i'r pydredd wrth wraidd y sefydliad hwn? Ac yn sicr, mae'n hen bryd iddynt newid eu personél yn llwyr.

Rwy'n sicr yn cydnabod y consensws trawsbleidiol. Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth at fy atebion i'r tri Aelod arall sydd wedi gofyn cwestiynau. Fel y dywedaf, rydym wedi cael prif weithredwr newydd. Rwy'n dawel iawn fy meddwl yn dilyn fy sgwrs â hi ei bod hi'n ystyried y mater yn ddifrifol iawn. Byddaf yn anfon fy swyddogion i mewn a byddaf yn cadw llygad agos iawn ar y mater.

15:30

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, clywsom ganddo fod uno'r tri sefydliad sy'n ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol a ysgogwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydych wedi tynnu sylw at gyfres o fethiannau ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yma heddiw, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ar draws y Siambr. A ydych yn ei ystyried yn llwyddiant?

Credaf fod rhai llwyddiannau wedi bod, yn sicr. Nid oes gennyf restr ohonynt. Roeddem yn siarad am un broblem mewn perthynas â'r cyfrifon. Fel rwy'n dweud, ni allaf fynegi cymaint yw fy siom a fy mhryder, ac rwy'n gobeithio, yn sgil y ffaith fy mod wedi cael y cadeirydd i mewn ddydd Llun, a fy mod wedi cael y cadeirydd a'r prif weithredwr i mewn heddiw, y bydd yr Aelodau'n cydnabod pa mor ddifrifol rwy'n ystyried hyn. Ond rwy'n credu bod rhai uchafbwyntiau wedi bod. Yn sicr, mae'n anodd iawn pan ddowch â thri sefydliad at ei gilydd, ac rwy'n credu bod problemau wedi bod, yn bendant—cafwyd problemau gyda morâl y staff, er enghraifft—sydd wedi gwneud i mi gadw llygad agos iawn arno. Cyfarfûm â'r prif weithredwr a'r cadeirydd yn rheolaidd pan gefais y portffolio. Yn amlwg, mae'n perthyn i bortffolio Gweinidog yr Amgylchedd bellach; mae hi'n cyfarfod yn rheolaidd â hwy. Felly, rwy'n credu bod rhai llwyddiannau wedi bod, ond yn amlwg, nid yw hyn yn un ohonynt.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Atebir y cwestiwn amserol nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Lynne Neagle.

Y Cynllun Grant Datblygu Disgyblion—Mynediad

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad? 209

Diolch i chi, Lynne. Mae'r cymorth hwn ar gael i rieni wneud cais amdano drwy eu hawdurdod lleol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflwyno cynllun newydd, mwy hael a mwy hyblyg yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn ysgol newydd.

Diolch. Roeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau cynllun newydd yn lle'r grant gwisg ysgol, a bod hwn yn gynllun gwell a fydd yn darparu cymorth i fwy o deuluoedd. Roedd wrth fy modd hefyd nad yw Cyngor Torfaen, i gydnabod yr angen i gael yr arian i deuluoedd yn gyflym yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd ym mis Medi, yn mynd drwy broses o wneud cais, ond yn hytrach eu bod yn mynd ati'n rhagweithiol i nodi teuluoedd sydd angen y cymorth a chyfeirio arian iddynt yn awtomatig. Fel y gwyddoch, mae cost gwisg ysgol yn straen mawr i deuluoedd, ac rwy'n bryderus na fydd awdurdodau lleol eraill mor rhagweithiol ag y mae Torfaen wedi bod. Pa gamau a gymerwch fel Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn deall bod angen i'r arian hwn fod ar gael ar gyfer teuluoedd mewn da bryd cyn dechrau'r tymor newydd ym mis Medi?

Diolch. Buom yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol, yn bennaf drwy gyfrwng Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, i'w gwneud yn ymwybodol o'u dyraniadau dangosol—yr unig reswm pam eu bod yn ddangosol wrth gwrs yw am fod hwn yn grant a arweinir gan y galw—ac i gadarnhau telerau ac amodau'r grant yn ffurfiol gyda hwy. Rydym hefyd yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â cheisiadau yn y cynllun wedi'i chyfyngu i gyn lleied ag y bo modd, a byddwn yn parhau drwy gydol yr haf i ddefnyddio sianeli Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r cyfryngau, i roi gwybod i'r rhieni fod y cymorth hwn ar gael.

Diolch i chi am eich ateb i Lynne Neagle. Mae'n bwysig i hyn gael ei hyrwyddo'n eang ar draws y wlad, ac nad ydym yn ei adael i awdurdodau lleol, yn enwedig dros gyfnod yr haf pan fydd llawer o deuluoedd yn llai abl i gyfathrebu'n uniongyrchol ag ysgolion ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael. A gaf fi ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet—? Mae gennym gylch cyllidebol arall ar y gorwel. Un o'r problemau gyda'r cylch cyllidebol diwethaf oedd na ddywedoch eich bod yn cael gwared ar y grant blaenorol, ac ni chafwyd unrhyw dryloywder ynghylch hynny, ac ni wnaed asesiad o effaith y newidiadau yn eich cyllideb a arweiniodd at dorri'r grant blaenorol ar hawliau plant. Nawr, wrth gwrs, rydym yn falch eich bod wedi camu'n ôl, eich bod wedi gwneud tro pedol ar hyn, a bod rhywbeth sy'n fwy hael ar gael, ac y gellir defnyddio hwnnw at ddibenion eraill yn hytrach na'r grant gwisg ysgol yn unig. Ond a allwch ddweud wrthym—a rhoi rhywfaint o sicrwydd inni—sut y mae eich prosesau cyllidebol yn mynd i fod yn addas ar gyfer y gyllideb a gaiff ei chyflwyno yn yr hydref, ac a allwch gadarnhau y bydd asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar bob llinell yn y gyllideb lle mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc?

Darren, gallaf gadarnhau y byddwn yn defnyddio, fel y dywedais, amrywiaeth o gyfryngau dros yr haf i roi gwybod i rieni fod y grant hwn ar gael. Yn wir, y cynnwys mwyaf llwyddiannus ar y dudalen addysg Cymru ar Facebook yn y mis diwethaf oedd y deunydd a dynnai sylw pobl at fodolaeth y grant hwn. Cafodd ei rannu'n amlach nag unrhyw ddeunydd arall, a byddwn yn parhau, fel y dywedais, i roi cyhoeddusrwydd i fodolaeth y grant. Rydych yn iawn i ddweud ei fod yn fwy hael. Mae ar gael i rieni plant sy'n cael prydau ysgol am ddim ac sy'n mynd i mewn i flwyddyn 7, hyd at uchafswm o £125. Y llynedd, roedd yn £120. Ond mae'n unigryw yn yr ystyr ei fod bellach ar gael hefyd ar gyfer rhieni sydd â phlant yn dechrau yn yr ysgol. Mae hefyd ar gael ar gyfer amrywiaeth ehangach o eitemau a allai fod yn gysylltiedig â manteisio ar gyfleoedd nid yn unig o fewn yr ysgol ond cyfleoedd chwaraeon hefyd, cyfleoedd allgyrsiol neu offer sydd ei angen ar blant i gael mynd ar drip ysgol er enghraifft, megis offer awyr agored sy'n eithaf drud o bosibl. Wrth i ni weithio gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, i gwblhau cyllidebau Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau y byddwn yn ceisio manteisio ar bob cyfle i wella'r modd y caiff cyllidebau eu portreadu i bwyllgorau unigol ac adolygu sut yn union y cynhaliwn asesiadau effaith ar linellau cyllideb unigol.

15:35

Mae awdurdodau lleol y siaradais â hwy yn pryderu bod hyn oll yn cael ei wneud ar y funud olaf, ac yn amlwg mae hynny'n tanlinellu'r ffaith mai gweithredu mewn ymateb i gael gwared ar y grant gwisg ysgol oedd hyn. Felly, rwyf fi hefyd yn croesawu'r tro pedol hwn gan y Llywodraeth. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf eich bod wedi cyhoeddi eich datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r cynigion ar gyfer y cynllun newydd, ond cafwyd oedi wedyn, o ran cael eu llythyr cynnig a bod yn glir ynglŷn â'r cylch gorchwyl. O ganlyniad, wrth gwrs, cafwyd oedi pellach yn y system iddynt weithredu eu systemau'n lleol er mwyn hyrwyddo a rhoi systemau ar waith i'r cynllun hwn allu gweithio. Rhaid imi ofyn a yw'n edifar gennych am y ffordd y cyrhaeddwyd y sefyllfa hon. Pam nad oedd awdurdodau lleol wedi cael rhybudd digonol a digon o amser i baratoi ar gyfer hyn? Pam nad ymgynghorwyd yn briodol arno, er enghraifft, cyn gwneud y cyhoeddiad? Pam nad oedd y cynllun yn barod i gychwyn, yn hytrach na bod yr hyn ydyw yn awr, sef gweithred funud olaf?

Gadewch inni fod yn gwbl glir: ymgynghorwyd ag awdurdodau lleol, drwy gyfrwng Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, drwy gydol mis Mai. Gwneuthum fy natganiad yn y Siambr hon ar 7 Mehefin. Darparwyd diweddariad i gyfarwyddwyr addysg unigol ar 8 Mehefin. Erbyn 29 Mehefin, roedd yr holl awdurdodau lleol wedi cael eu dyraniadau dangosol a'r meini prawf ar gyfer y grant, a chadarnhawyd hynny'n ffurfiol ar 9 Gorffennaf.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Y cyntaf y prynhawn yma yw Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gymdeithas Brydeinig o Feddygon o Darddiad Indiaidd—BAPIO—yn sefydliad gwirfoddol cenedlaethol anwleidyddol. Fe'i sefydlwyd yn 1996 gan ei lywydd a'i sylfaenydd, Dr Ramesh Mehta OBE, i gefnogi meddygon sy'n cyrraedd o India i weithio yn ein GIG. BAPIO Cymru yw is-adran genedlaethol fwyaf BAPIO ac o dan gadeiryddiaeth Keshav Singhal MBE, dyma ei his-adran fwyaf gweithgar hefyd.

Ers ei greu, mae ein gwasanaeth iechyd gwladol wedi dibynnu ar raddedigion meddygol rhyngwladol i sicrhau ei lwyddiant a'i sefydlogrwydd. Yn wir, amcangyfrifir bod dros 50,000 o feddygon o dras Indiaidd yn gwasanaethu yn ein GIG ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith sylweddol ar iechyd poblogaeth gyfan y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n arbennig o wir yma yng Nghymru. Ar un adeg yn ystod y 1960au a'r 1970au, roedd bron 70 y cant o feddygon teulu yn y Cymoedd yng Nghymru o dras Indiaidd, a heddiw, mae bron i draean o'r holl feddygon ymgynghorol mewn ysbytai yng Nghymru yn hanu o dras Indiaidd.

Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, ymunais ag aelodau o BAPIO Cymru mewn digwyddiad i nodi pen-blwydd ein GIG yn 70 oed ac i ddathlu'r cyfraniad y mae meddygon Indiaidd wedi'i wneud. Cynhaliwyd y digwyddiad yma yn y Senedd, ac roedd yn bleser gweld cydweithwyr o bob rhan o'r Siambr yn bresennol. Drwy wneud y datganiad hwn heddiw, rwyf fi, a llawer o gyd-Aelodau eraill yn y Siambr rwy'n siŵr, yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae meddygon o is-gyfandir India wedi'i wneud i'r GIG a'r cyfraniad y byddant yn parhau i'w wneud i'r GIG yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r ymgyrch Keep Me Posted yn bump oed. Sefydlwyd yr ymgyrch Keep Me Posted, fel y dywedais, bum mlynedd yn ôl i ddiogelu hawliau defnyddwyr i ddewis biliau a datganiadau papur heb dâl na chosb. Nid ymgyrch wrth-ddigidol yw hi. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod pawb yn y sefyllfa orau i reoli eu harian. Wrth i gyflenwyr ynni, cwmnïau ffôn ac eraill wneud mwy ar-lein, mae mwy ohonom wedi cael gwybod, os ydym am barhau i gael datganiadau papur neu filiau papur drwy'r post, y bydd rhaid i ni dalu tâl amdanynt.

Beth bynnag y mae busnesau yn ei gredu am arbed arian ar weinyddiaeth drwy gael gwared ar filiau papur, mae Keep Me Posted wedi canfod bod pobl sy'n cael bil papur, yn hytrach nag un e-bost, 30 y cant yn llai tebygol o gysylltu â chanolfan alwadau'r busnes neu'r sefydliad gyda chwestiynau pellach. Dim ond 29 y cant o'r bobl sy'n cael bil papur sydd angen eu hatgoffa i'w dalu, o'i gymharu â 59 y cant o'r rhai sy'n cael bil electronig, felly rhaid ichi ofyn: yw hynny'n gosteffeithiol mewn gwirionedd?

Mae'r hawl i gael datganiadau a biliau papur heb unrhyw gost ychwanegol yn rhoi gwasanaeth gwell i gwsmeriaid ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd i ddyled, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig os ydych chi mewn sefyllfa fregus yn ariannol neu ag anawsterau gwybyddol neu'n syml nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd—rhywbeth a gydnabuwyd gan y Gweinidog pan dynnais sylw at hyn flwyddyn neu ddwy yn ôl. Mae'n ymddangos, wrth gwrs, ei fod yn arbed ar gostau ystafell gefn cudd i fusnesau a sefydliadau yn ogystal. Bydd rhai Aelodau wedi cyfarfod â thîm Keep Me Posted yn y sesiwn wybodaeth galw heibio ychydig wythnosau yn ôl, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn ystyried llofnodi'r datganiad o farn ar y mater hwn os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae ar fin glanio yn eich mewnflychau, rwy'n credu.

15:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, amgueddfa annibynnol hynaf Cymru, hefyd yn dathlu pen-blwydd yr wythnos hon—ei phen-blwydd yn 140 oed. Sefydlwyd yr amgueddfa i arddangos arteffactau daearegol prin a gasglwyd gan y Parch Gilbert Smith ac a brynwyd gan y dref am £100—dyna £11,000 yn arian heddiw. Dros y blynyddoedd, mae'r amgueddfa wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol ac wedi dod yn un o brif atyniadau Dinbych-y-pysgod. Mae pwyslais cryf o hyd ar archaeoleg a daeareg, ond mae arddangosfeydd mwy modern yn cynnwys rhai ar hanes lleol Dinbych-y-pysgod, hanes morwrol a môr-ladrata a chasgliad rhagorol yn cynnwys gweithiau gan Augustus a Gwen John, John Piper, David Jones, Claudia Williams, Nina Hamnett a Kyffin Williams ymhlith eraill. Ar hyn o bryd, mae'r amgueddfa yn arddangos dathliad o Flwyddyn y Môr gan Anna Waters a Dawny Tootes. Ers 139 o flynyddoedd câi'r amgueddfa ei staffio gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr a'r llynedd yn unig y penodwyd ei churadur cyflogedig cyntaf. Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli ynghanol yr hen gastell yn Ninbych-y-pysgod, lle mae'r unig gerdd llys o Ddyfed, 'Edmig Dinbych' yn dweud,

'Addfwyn y rhoddir i bawb ei ran'—

'Splendid in granting to each their share' yng nghyfieithiad Joseph Clancy—mae'r amgueddfa yn rhannu cyfoeth ein diwylliant gyda phawb sy'n ymweld â hi. Diolch i bawb dros y blynyddoedd sydd wedi cefnogi a chynnal yr amgueddfa a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.

Yn 1915, meddiannodd y Swyddfa Ryfel dloty Casnewydd, a elwir yn lleol yn Woolaston House. Daeth yn rhan o Ysbyty Cyffredinol Third Western, sef Ysbyty Gwynllyw heddiw. Yn gynharach y mis hwn, dadorchuddiwyd plac coffa y tu allan i ysbyty Gwynllyw gan Gangen Gwent o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin. Crëwyd y plac gan y dylunydd dawnus o Gasnewydd, Danielle Mayer. Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed, mae'n gyfle arall i ddangos ein diolchgarwch i genedlaethau blaenorol o feddygon, nyrsys a staff ysbytai.

Rhaid rhoi sylw arbennig i fenywod a weithiai yn yr ysbyty yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Maent yn cynnwys y metron Katherine Gilchrist Wilson, aelodau o Wasanaeth Nyrsio y Fyddin Diriogaethol a didoliadau cymorth gwirfoddol o'r Groes Goch a St John. Roedd rhedeg yr ysbyty nid yn unig yn galw am staff meddygol, ond didoliadau cymorth gwirfoddol gwasanaeth cyffredinol fel siopwyr, cogyddion a glanhawyr, a phob un ohonynt yn hanfodol.

Mae ein cymuned yn dod at ei gilydd ar adegau anodd. Roedd gwirfoddolwyr lleol yn cyfarfod â threnau'n llawn o ddynion clwyfedig yng ngorsaf Casnewydd, a byddent yn rhoi te, sigaréts a ffrwythau iddynt. Rwy'n falch fod pobl Casnewydd wedi dod at ei gilydd 100 mlynedd yn ôl i edrych ar ôl ei gilydd yn ystod un o'r cyfnodau tywyllaf yn ein hanes diweddar. Er bod yn rhaid inni gofio bob amser am y rhai a ymladdodd ac a fu farw yn y rhyfel mawr, rhaid inni gofio hefyd am y rhai a fu'n achub bywydau.

6. Datganiad gan Paul Davies: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod—Bil Awtistiaeth (Cymru)

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Paul Davies ar gyflwyno Bil arfaethedig Aelod, Bil Awtistiaeth (Cymru). Galwaf ar Paul Davies i gyflwyno'r Bil hwnnw.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gosodais Fil Awtistiaeth (Cymru) yn y Swyddfa Gyflwyno. A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i Tom Jackson a'i dîm am eu cefnogaeth aruthrol a'u harweiniad wrth ddatblygu'r Bil hwn? A gaf fi ddiolch hefyd i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r rhanddeiliaid di-rif sydd wedi helpu i roi bod i'r Bil?

Deddfwriaeth sylfaenol yw hon i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ledled Cymru, ac mae'r bobl hynny o'n cwmpas ym mhob man: cydweithwyr, ffrindiau, teulu. Mae angen inni ddiwallu eu hanghenion, mae angen inni ddiogelu eu hawliau, mae angen inni wireddu eu potensial. Mewn dau ymarfer ymgynghori a chyfarfodydd niferus, mae'r gymuned awtistiaeth wedi dweud yn hynod o glir eu bod o blaid deddfwriaeth sylfaenol, gan fynegi ewyllys da tuag at Fil a'u cefnogaeth iddo. Wrth wneud hynny, maent wedi rhannu eu straeon a'u profiadau gyda mi. Hoffwn ddweud un stori o'r fath wrthych, er fy mod yn mynd i newid enwau'r bobl dan sylw.

Dywedodd mam o'r enw Sarah wrthyf sut y byddai ei merch fach weithiau'n ei cholli hi, sut y byddai'n colli pob rheolaeth pan fyddai pethau'n mynd yn rhy swnllyd a byddai'n crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah geisio ei hatal rhag gwneud hynny, sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. A'r holl amser y byddai Sarah yn ceisio ymdopi â hyn i gyd, a gwneud ei swydd, roedd hi hefyd yn ymladd i gael diagnosis i'w merch. Dywedodd wrthyf ei bod yn gorfod ymladd am bopeth, a'i fod yn waith mor flinedig pan fo'n rhaid i chi dreulio eich diwrnod yn edrych ar ôl plentyn sy'n eich pinsio, yn eich taro â'i phen ac yn eich cnoi. Nawr, y newyddion da yw bod merch Sarah wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth, a'u bod ill dwy bellach yn cael cymorth. Mae ganddynt strategaethau ar waith sy'n eu helpu i reoli pethau. Mae gan ei merch gardiau fflipio sy'n ei helpu i gynllunio ei gweithgareddau dyddiol arferol.

Nid wyf am awgrymu nad oes llawer o arferion cadarnhaol eisoes ar waith. Er bod arferion da mewn gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth i'w gweld mewn rhai rhannau o Gymru, y broblem yw bod gwasanaethau'n wael mewn ardaloedd eraill, ac mae amseroedd aros, am ddiagnosis yn arbennig, yn llawer rhy hir. Dyna pam rwy'n cyflwyno'r Bil hwn, oherwydd dangosodd tystiolaeth o ymchwil, a'r ddau ymgynghoriad a gynhaliais, fod gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn anghyson, ac mewn rhai ardaloedd, mae'n annigonol. Nod y Bil hwn yw hyrwyddo arferion gorau mewn gwasanaethau awtistiaeth ym mhob rhan o Gymru ac i sicrhau bod pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn gallu dod o hyd i'w ffordd drwyddynt.

Mae'n glod i Lywodraeth Cymru ei bod wedi dewis cyhoeddi a chynnal strategaeth awtistiaeth sydd wedi sicrhau rhai gwelliannau amlwg i'r gwasanaeth. Mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y datblygiadau hynny. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol gydymffurfio â'r strategaeth a chanllawiau cysylltiedig, gan sicrhau lefelau cyson o wasanaethau. Ac mae'n darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau gwelliannau parhaus a pharhad y gwasanaeth yn fwy hirdymor.

Mae'n Fil sy'n anelu at gynnal ffocws llywodraethol ar anghenion pobl fel Sarah a'i merch, ni waeth pa hinsoddau gwleidyddol ac economaidd a welir yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau cysylltiedig, a rhaid i awdurdodau lleol a chyrff y GIG gydymffurfio â hwy. Bydd y strategaeth a'r canllawiau yn destun ymgynghoriad ac adolygiad cyfnodol.

Mae'r Bil yn nodi gofynion ar gyfer casglu a chyhoeddi data. Gwneir hyn er mwyn gallu llunio cynlluniau parhaus a gwella gwasanaethau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod y gallai rhai o'r heriau a wynebir gan bobl ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu helpu drwy fwy o ddealltwriaeth am anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaeth. O ganlyniad, mae'r Bil yn rhoi sylw i'r angen am hyfforddiant ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn wella dealltwriaeth o anghenion pobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth.

Er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol, mae'r Bil yn defnyddio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn nosbarthiad clefydau rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd. Golyga hyn, os bydd ein dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn newid yn y dyfodol, y bydd y Bil yn newid gyda'r ddealltwriaeth honno. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i gymhwyso ei ddarpariaethau mewn perthynas ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r pŵer hwn wedi'i gynnwys er mwyn lliniaru pryderon y gallai Bil awtistiaeth drwy amryfusedd leihau ffocws cyrff perthnasol ar fynd i'r afael ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mater i Weinidogion Cymru fydd cyfiawnhau, drwy gyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad eu hystyried, p'un a fyddai darpariaethau'r Bil yn briodol mewn perthynas ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Unwaith eto, fy mwriad sylfaenol oedd rhagweld y potensial i faterion sy'n codi yn y dyfodol a sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas at y diben, nid yn unig yn awr ond yn y blynyddoedd i ddod.

I grynhoi, mae hwn yn Fil a ddatblygwyd ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth, yn awr ac yn y dyfodol, unwaith ac am byth, gan sicrhau diagnosis amserol a gwell cefnogaeth ar draws y wlad, ni waeth ble rydych chi'n byw, a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o awtistiaeth a dealltwriaeth ehangach o'r cyflwr ymysg pob un ohonom.

Cyn cloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddau ymgynghoriad a gynhaliais wrth ddatblygu'r Bil hwn, a'r cannoedd o unigolion, fel Sarah a'i merch, sydd wedi siarad yn bersonol gyda mi ynglŷn â'i argymhellion. Rwy'n falch fod y mwyafrif llethol o'r ymatebion wedi bod yn gadarnhaol iawn am y Bil, a bod y Bil wedi gwella o ganlyniad i'w mewnbwn. Rwy'n parhau i groesawu mewnbwn o'r fath, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau agored a thrylwyr yn ystod taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Cynulliad, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr.

15:50

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod sy'n gyfrifol am ei ddatganiad ac am y sgyrsiau a gawsom dros gyfnod o amser yn arwain at heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi a gwella'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Er bod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddatblygu polisïau i gefnogi pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr, rwy'n parhau'n ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu pobl wrth geisio cael gofal a chymorth o ansawdd uchel. Gwelaf yr heriau hyn nid yn unig fel Aelod etholaeth ac fel Gweinidog ond hefyd yn rhai o fy nghysylltiadau personol fy hun, ac ni all unrhyw un amau'r dewrder y mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn ei ddangos bob dydd. Mae gweld y dewrder hwn ac ymdrechion y mae teuluoedd yn eu gwneud i sicrhau bod pobl yn eu teuluoedd yn parhau i gael gwasanaeth a chyfle yn gwneud i mi deimlo'n wylaidd iawn, ac mae'n naturiol y byddai pawb yn y Siambr am wneud popeth yn eu gallu i'w cefnogi . Felly, rwy'n llongyfarch yr Aelod ar y gwaith a wnaeth dros y misoedd diwethaf ac am ddod â'r Bil i'r cam hwn yn y Cynulliad.

Wrth gwrs, ceir nifer o gwestiynau y bydd angen inni eu gofyn i ni'n hunain dros y misoedd nesaf, ac yn benodol, a fydd y ddeddfwriaeth hon ar yr adeg hon yn gwella gwasanaethau a chanlyniadau a phrofiad pobl ymhellach. Mae yna gwestiwn amgen wrth gwrs a fydd y ddeddfwriaeth hon ond yn cael effaith fach neu effaith negyddol o bosibl os yw'n tynnu'r ffocws oddi ar fesurau gwella gwasanaeth a roddwyd ar waith yn y tymor Cynulliad hwn, mesurau rydym yn parhau'n ymrwymedig iddynt.

Fel y dywedais yn fy natganiad llafar y mis diwethaf, gall Llywodraeth Cymru ddangos camau ymarferol a gymerwyd gennym i wella gwasanaethau awtistiaeth, gyda chymorth dros £13 miliwn o fuddsoddiad newydd, a chreu gwasanaeth awtistiaeth integredig ledled Cymru. Wrth gwrs, nid yw'r sefyllfa'n berffaith, ond gwneir cynnydd gwirioneddol, a cheir risg o darfu arno. Mae'r adroddiad blynyddol ar weithredu'r cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn nodi'r cynnydd a wnawn. I gadarnhau ein hymrwymiad yn y dyfodol, cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad ar god ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Mae strategaeth awtistiaeth wedi bod ar waith gennym ers dros 10 mlynedd ac ni cheir unrhyw rheswm dros gredu na fydd yn parhau.

Buaswn yn gofyn i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil a'r Aelodau sy'n craffu i ystyried rhai o'r pwyntiau canlynol dros y misoedd nesaf: i ystyried sut y bydd y Bil hwn yn ychwanegu gwerth at yr ymrwymiadau sydd eisoes yn cael eu cyflawni drwy'r strategaeth bresennol; beth yw'r ymateb i'r pryderon a godwyd gan nifer o bobl drwy'r ymgynghoriad ar y Bil drafft y gallai'r ddeddfwriaeth roi mantais ychwanegol i un cyflwr dros rai eraill; ac i ofyn i'r Bil gynyddu disgwyliadau mewn perthynas â'n gwasanaethau statudol sydd dan bwysau drwy gyflwyno targedau amser aros ar gyfer cael asesiad o 13 wythnos—nid yn unig y dystiolaeth sy'n sail i hynny, ond cydbwysedd y risg honno yn erbyn agweddau eraill ar y gwasanaeth, ac a fyddant yn dioddef, wrth i adnoddau, yn ddealladwy, gael eu cyfeirio tuag at asesiad. Mae aelodau o'n grŵp cynghori ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, cymuned ymarfer diagnostig anhwylderau sbectrwm awtistiaeth a gwasanaethau awtistiaeth integredig rhanbarthol eisoes wedi mynegi eu pryderon eu hunain ynglŷn â hyn.

A yw deddfu ar gyfer yr hyn sy'n dal i fod yn ystod gymharol gul o ddata meddygol yn ddefnydd priodol o ddeddfwriaeth? Mae'n ymddangos i mi nad oes modd osgoi gweld hynny'n ein clymu, o bosibl, wrth ddull y gallai fod angen iddo newid wrth i wybodaeth feddygol ynglŷn â gofal a thriniaeth newid. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei ddatganiad agoriadol, ond credaf fod perygl gwirioneddol o hyd er hynny o gael ein clymu wrth ddull y byddem eisiau ei newid. Yn hollbwysig, pam y byddai'r ddeddfwriaeth yn gwella ein gallu i fynd i'r afael â'r broblem graidd o dyfu neu recriwtio clinigwyr sydd â chymwysterau addas? Ac wrth gwrs, ceir costau'r ddeddfwriaeth hon a sut y cânt eu talu. Nawr, bydd yr Aelodau wedi cael sesiwn friffio ar y cyd gan Gydffederasiwn y GIG, a phedwar gwahanol goleg brenhinol, rwy'n credu, sy'n nodi amrywiaeth o gwestiynau i'w gofyn yn ystod hynt y Bil yn ogystal.

I grynhoi, mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn haeddu gwell gwasanaethau ar sail fwy cyson, ac maent yn haeddu ein cefnogaeth i'r rheini. Yn Llywodraeth Cymru, credwn fod gennym gynllun gweithredu clir ar gyfer gwneud hynny, gydag ymrwymiad ac adnoddau ariannol yn wir ar gyfer cyflawni hynny. Wrth gwrs, ceir achos y bydd yr Aelodau am ei ystyried dros adael i'r mesurau newydd a roddwyd ar waith ymsefydlu ac i adolygu cynnydd yn hytrach na deddfu yn awr. Dyna'r dewis i'r Aelodau ei wneud. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud yn adeiladol â hynt y Bil a thrwy broses y Cynulliad. Ein cwestiwn allweddol, fodd bynnag, yw a fydd y Bil hwn yn gwella profiadau a chanlyniadau, a bydd hynny'n llywio ein hymagwedd tuag at y cam nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at glywed y dystiolaeth, ei gweld yn cael ei phrofi a chymryd rhan yn y broses graffu.

15:55

A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisiau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau, ac mae'r ddau ohonom eisiau gweld gwell canlyniadau yn cael eu cyflawni ledled Cymru? Yn y cyfarfodydd a gawsom gyda'n gilydd rwy'n credu ein bod ein dau wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Rydym ar yr un dudalen yn ein hawydd i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, ond credaf mai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yw'r unig ffordd o wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwasanaethau ar sail statudol, a'n bod yn gweld cysondeb yn y gwasanaethau ar draws Cymru. Rwy'n derbyn bod mesurau wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir yw mai'r materion a nodwyd yn y strategaeth gyntaf yn 2008 yw'r un materion sy'n parhau yn awr yn 2018: diagnosis, data, gwasanaethau cymorth, hyfforddiant, cyflogaeth, tai, iechyd meddwl—i enwi ond ychydig. Dyna beth y mae pobl yn ei ddweud wrthyf am y mater hwn—mai dyna'r un materion a gâi eu trafod bryd hynny, 10 mlynedd yn ôl, a dyna pam y mae angen deddfwriaeth sylfaenol.

Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, am ei god ymarfer. Y broblem gyda chyflwyno cod yw y gellir ei ddirymu. Nid yw'n sicrhau ffocws parhaus ar yrru a gwella gwasanaethau, a bydd y Bil hwn wrth gwrs yn rhoi sicrwydd wrth symud ymlaen, oherwydd pan gyflwynir cod, ni ellir craffu arno, ei ddiwygio na'i wella, yn wahanol i ddarn o ddeddfwriaeth. Bydd fy neddfwriaeth i'n mynd drwy broses graffu'r Cynulliad, ac mae'r gymuned awtistiaeth, yn yr ymgynghoriadau a gynhaliais, wedi mynegi'n glir y byddai'n well ganddynt weld deddfwriaeth sylfaenol. Mae ymgynghoriadau dilynol wedi dangos bod angen Bil, nid cod, arnom. Rwy'n bryderus braidd hefyd ynglŷn ag i ba raddau y byddai cod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddilyn ei ofynion, yn hytrach nag ystyried ei ofynion. Mae fy Mil yn hollol glir: bydd yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnig gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol. Dyna'r gwahaniaeth rhwng eich cod a'r darn hwn o ddeddfwriaeth.

Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am gostau. Nid oes dianc rhag y ffaith y bydd deddfwriaeth sy'n gwella gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn costio arian. Fodd bynnag, credaf fod y costau hynny'n werth chweil i'r unigolion yr effeithir arnynt a byddant hefyd yn y pen draw yn arwain at arbedion economaidd hirdymor. Er enghraifft, mae'r Bil yn nodi bod rhaid i'r strategaeth awtistiaeth ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod diagnostig cyntaf ddigwydd o fewn yr amserlen a nodir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Ar hyn o bryd, ffrâm amser NICE ar gyfer cyfarfod diagnostig cyntaf yw ei fod yn digwydd o fewn tri mis i atgyfeirio. Targed Llywodraeth Cymru yw bod pobl yn aros am hanner blwyddyn am gyfarfod diagnostig cyntaf. Bydd costau ynghlwm wrth leihau'r targed aros hanner blwyddyn hwn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol i'r Bil hwn. Wedi dweud hynny, mae'n economi ffug i feddwl na fydd costau'n gysylltiedig â rhywun sydd heb gael diagnosis eto. Heb ddiagnosis cywir, mae gwasanaethau'n llai tebygol o fod wedi eu teilwra'n dda ac mor effeithiol ag y gallent fod, a bydd llawer o gostau adweithiol yn codi.

Felly, rwy'n ei annog i ailystyried ei safbwynt. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd orau o wneud yn siŵr fod gennym ymagwedd gyson ledled Cymru, drwy gyflwyno deddfwriaeth, oherwydd drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau y caiff gwasanaethau eu rhoi ar sail statudol ar gyfer y dyfodol.

16:00

A gaf fi ddiolch i Paul am gyflwyno hyn? Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth dros nifer o flynyddoedd, gwn fod hon wedi bod yn alwad sylfaenol gan y gymuned awtistiaeth yn gyffredinol. Gyda nifer fawr o bobl ar y sbectrwm, mae eu teuluoedd, eu gofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hwy ar y rheng flaen yn galw am hyn mewn niferoedd enfawr.

Rwy'n cydnabod nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, ac felly mae'n disgyn rhwng y ddwy stôl. Ar hyn o bryd, mae pethau'n annelwig o gwmpas yr ymylon o ganlyniad i'r gwasanaethau gwael a brofir yn rhy aml. Gwn hefyd, o fy ngwaith achos fy hun a fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth, ac rwy’n tybio bod miliynau lawer o bunnoedd yn cael eu gwastraffu ar wneud hyn yn anghywir, gyda phwysau ar wasanaethau eilaidd a statudol na ddylai fod yno, pan ellid ymdrin â hyn drwy gydweithio effeithiol, cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar ac atal.

Cawsom sesiwn friffio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn y datganiad hwn, sy'n cyfeirio at y cynllun gweithredu strategol newydd, a chredir mai dyma'r unig strategaeth ar gyfer anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn y byd, ond mae hynny'n rhywbeth a glywsom dros flynyddoedd lawer cyn hynny hefyd, ar ôl i'r strategaeth awtistiaeth gychwynnol gael ei lansio. Mewn gwirionedd, bob tro y câi ei chrybwyll, dyna oedd yr honiad, mai dyna oedd y strategaeth gyntaf, ond gwyddom hefyd fod y gymuned wedi dweud wrthym na chafodd fudd ohoni.

Pan arweiniais y ddadl, y pleidleisiodd y Cynulliad hwn drosti, ym mis Ionawr 2015, yn galw am Ddeddf awtistiaeth pan bleidleisiodd y cyfarfod o'i phlaid, cyfeiriais at y cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol y mis Tachwedd blaenorol pan bleidleisiodd y bobl a'i mynychodd, a gynrychiolai gymunedau ledled Cymru gyfan, yn ogystal â grŵp mawr o Aelodau'r Cynulliad, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. A ydych yn cytuno â mi felly fod y dystiolaeth a glywsom wedyn yn cadarnhau'r angen am ddeddfwriaeth sylfaenol, pan glywsom gan, er enghraifft, gan Wynedd ac Ynys Môn, a ddywedodd wrthym fod diagnosis yn gwella, ond nad oedd cefnogaeth ar ôl diagnosis ar gael, a bod angen Deddf awtistiaeth i ddiogelu ac atgyfnerthu gwasanaethau a sicrhau cysondeb yn y cymorth? Clywsom gan Ben-y-bont ar Ogwr am y gobaith a ddilynodd y strategaeth awtistiaeth, ond nad oedd wedi cyflawni'r hyn y gallai fod wedi'i gyflawni, a bod pryder ymysg grwpiau rhanddeiliaid lleol yn Mhen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â lle'n union roedd awtistiaeth yn ffitio i mewn.

Pan arweiniais y ddadl yma ym mis Hydref 2016, gyda'r Llywodraeth, yn anffodus, yn chwipio ei meinciau cefn i'w threchu, cyfeiriais hefyd at dystiolaeth, er enghraifft, o Ystradgynlais, fod pobl yn teimlo'n siomedig ac yn ddig eu bod wedi gorfod ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac roedd hi'n bwysig nad oedd pobl ag awtistiaeth yn anweledig i'r gwasanaethau mwyach; ac er enghraifft, o sir Gaerfyrddin a sir Benfro, fod y strategaeth yn addo cyflawni cymaint fel bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng pellach. Felly, unwaith eto, a ydych yn cytuno â mi nad yw brolio am fod y cyntaf yn fesur o lwyddiant? Mesur llwyddiant yw sut y mae hyn yn effeithio ar fywydau'r bobl y mae i fod i'w cefnogi.

A ydych yn cytuno bod yr angen am y Bil hwn a'r Ddeddf i'w ganlyn yn cael ei bwysleisio ymhellach gan yr achos adolygiad barnwrol yn ymwneud â methiant i asesu a diwallu anghenion oedolyn awtistig ifanc ym mis Mai eleni, a arweiniodd at Gyngor Sir y Fflint yn cytuno i ddarparu ymddiheuriad ffurfiol a dyfarnu iawndal oherwydd methiant i fodloni gofynion rheoliadau a chodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a'i fod yn atgyfnerthu'r angen am ddeddfwriaeth awtistiaeth benodol?

A ydych yn cytuno â mi bod siart a gefais gan grŵp o rieni plant awtistig ddoe ddiwethaf, lle mae niferoedd mawr ohonynt yn nodi methiant ysgolion i adnabod anawsterau plant; methiant iechyd i nodi anawsterau plant; diwylliant asiantaethau o ddiystyru teuluoedd, beio, neu fygwth; diffyg cysylltiad a chydweithio neu gysylltiad a chydweithio annigonol rhwng asiantaethau statudol; teulu nad yw wedi cael gwybod am hawl plant anabl i eiriolaeth gan awdurdod addysg lleol—? Ceir tudalennau yn rhagor o hyn, gyda nifer o rieni a welodd eu bod yn rhannu profiadau sy'n union yr un fath. Rhieni yn sir y Fflint ydynt yn bennaf, ond hefyd yn sir Ddinbych. Cefais hwn ddoe. A ydych yn cytuno bod yr e-bost hwn a gefais gan riant yng ngogledd Cymru ddoe yn cadarnhau ymhellach yr angen am Ddeddf?

Rwyf wrthi'n gorffen cywiriadau'r asesiad a'r cynllun gofal, a ddrafftiwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer fy mhlentyn. Fy nod yw dangos eu bod naill ai wedi camglywed yn ddybryd neu wedi methu gwneud nodiadau cywir o'r hyn rwyf wedi'i ddweud wrthynt, neu eu bod wedi hepgor gwybodaeth a manylion a roddais iddynt yn llwyr.  

Rwy'n cael negeseuon e-bost fel hyn bob dydd.

16:05

Mae'r rhain a llawer o faterion eraill yn pwysleisio'r angen am Ddeddf. Fy mhwynt olaf: a wnewch chi gadarnhau bod y gwerthusiad cychwynnol, y gwerthusiad interim o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, yn anad dim—

Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych wedi cael dros bum munud.

Ac mae'n fater angerddol, yn fater pwysig tu hwnt, ond rwy'n derbyn yn llwyr—

Mae 30 munud ar gyfer pawb, ac mae gennyf restr hir o siaradwyr rwyf am geisio'u cynnwys hefyd.

O'r gorau. Mae'r ffaith bod hwnnw wedi dod o hyd i wendidau ac anghysondebau yn asesiadau a gwasanaethau diagnostig y strategaeth awtistiaeth integredig, a methiant i gydgynhyrchu, a dull o'r brig i lawr, sydd wedi llesteirio datblygiad y rhain—os cawn hynny'n iawn o'i osod ar sail statudol, gallwn ddechrau darparu gwasanaethau o'r diwedd ac os mai'r flaenoriaeth yw arian, fel y gwelais o'r fan hon, gallwn arbed arian hefyd.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gefnogaeth? Mae'r Aelod wedi ymgyrchu'n ddiflino i wella gwasanaethau awtistiaeth drwy gydol ei amser yma, ac mae wedi gwneud gwaith gwych yn codi'r materion hyn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth. Mae'n rhywun sydd wedi bod yn hyrwyddo Bil pwrpasol ers llawer o flynyddoedd er mwyn inni allu gweld y gwelliannau sydd eu hangen ym mhob rhan o Gymru. Mae ei egni, ei frwdfrydedd, ei ymroddiad, ei ymrwymiad wedi bod yn ddiguro. Rwyf wedi croesawu'r gwahoddiad drwy'r Aelod i annerch y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth, ac mae wedi rhoi dealltwriaeth well i mi ynglŷn â rhai o'r materion sy'n wynebu pobl sy'n byw gydag awtistiaeth.

Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Rydym wedi derbyn tystiolaeth sylweddol ac arwyddocaol, nid yn unig drwy gydol datblygiad y Bil hwn, ond rydym wedi derbyn tystiolaeth sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod pobl am weld deddfwriaeth yn y maes hwn oherwydd eu bod yn credu y gallwn, drwy gyflwyno deddfwriaeth, gryfhau'r gwasanaethau hyn. Felly mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod yn gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio drwy'r lle hwn, er mwyn inni wneud yn siŵr fod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sail statudol, fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau'n gyson ledled Cymru. Oherwydd dyna'r hyn a glywn bob amser—yr anghysondeb fod rhai gwasanaethau ar gael, ond mewn ardaloedd eraill, nid yw'r gwasanaethau ar gael. Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon byddwn yn sicrhau y bydd gwasanaethau'n gyson ledled Cymru.

Mae'r Aelod wedi rhoi nifer o enghreifftiau ac mae hefyd wedi rhoi nifer o brofiadau pobl lle na chyflawnwyd gwelliannau, a dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio gan y lle hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i'n llongyfarch yr Aelod am ddod â'r ddeddfwriaeth yma ger ein bron ni. Rydym ni fel plaid wedi credu ers amser y gallai Deddf awtistiaeth gynnig budd eang i bobl sydd yn byw efo awtistiaeth, yn sicr o ran annog diagnosis, taclo materion fel amseroedd aros, ac, rydw i'n meddwl, delifro cysondeb hefyd ar draws Cymru. Rydw i'n ymwybodol hefyd fod yna randdeiliaid sydd ag amheuon am werth deddfwriaeth. Rydw i'n clywed yn gyson beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud. Rydw i'n clywed y bobl sydd yn dweud, 'Watsiwch chi fynd lawr y ffordd yma. Bydd yna bobl eraill efo salwch eraill neu gyflyrau eraill am gael deddfwriaeth benodol ar eu cyfer nhw.' Ond rydw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.

Mi fyddwn i'n licio gwybod—a gwnaf ganolbwyntio dim ond ar y pwynt yma—beth ydy barn yr Aelod am un mater, rydw i'n meddwl, sydd angen ei herio, sef y syniad yma o awtistiaeth fel salwch neu gyflwr gan rai—y model meddygol, os liciwch chi. Sut mae o'n meddwl y gallai deddfwriaeth newid a herio'r canfyddiad hwnnw? Achos mae'r canfyddiad yna o awtistiaeth yn methu'r pwynt braidd, rydw i'n meddwl. Rydw i'n meddwl y dylem ni o bosibl fod yn meddwl llawer mwy yn nhermau niwro-amrywiaeth; hynny ydy, dylem ni weld awtistiaeth, Asperger's ac ati fel ffyrdd gwahanol mae'r ymennydd yn gweithio. Mae yna ddigon o enghreifftiau erbyn hyn o sut mae sefydliadau neu gwmnïau yn gweld nodweddion arbennig, nodweddion positif, mewn pobl sydd â'u hymenyddion yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae GCHQ wedi bod yn recriwtio pobl sydd ddim yn neurotypical oherwydd eu bod nhw'n dadansoddi data mewn ffordd wahanol.

Rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth helpu i newid agweddau mewn ffordd bositif. Mi fydd rhai ar y sbectrwm yn cael eu hystyried i fod ag anabledd yn barod, ac yn cael cefnogaeth yn hynny o beth, ond beth rydym ni ei angen, rydw i'n meddwl, ydy cydnabod nodweddion ac rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth fod yn ddefnyddiol. Mi fydd rhai pobl ar y sbectrwm, drwy gael eu cydnabod fel bod ag anabledd, yn cael cefnogaeth drwy ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Ond, pe baem ni'n meddwl yn wahanol, ac yn ystyried niwro-amrywiaeth fel nodwedd benodol a neilltuol o fewn y maes cydraddoldeb, mi allai hynny fod yn bositif er mwyn newid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu delifro. Ac nid wyf yn argyhoeddedig bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a'r Ddeddf anghenion dysgu ynddyn nhw eu hunain yn ddigon i newid y ffordd rydym ni'n meddwl am ASD yng Nghymru. Felly, rydw i'n gobeithio y bydd y broses bwyllgor yn edrych ar y maes hwnnw ac mi fyddai'n dda gen i glywed barn yr Aelod ar y potensial i'r ddeddfwriaeth wneud hyn.

16:10

A gaf i ddiolch i'r Aelod a'i blaid am eu cefnogaeth i'r Bil yma? Rydw i'n falch iawn o glywed y byddan nhw yn cefnogi'r Bil. Rwy'n deall, wrth gwrs, y bydd ef a'i blaid hefyd yn sgrwtineiddio'r Bil dros y misoedd nesaf, ond o beth rydw i wedi'i glywed oddi wrtho fe heddiw, mae'n edrych i fi ei fod e'n cefnogi deddfwriaeth yn y maes yma.

Mae e hefyd yn iawn o ran cysondeb. Mae'n bwysig iawn fod yna cysondeb, rydw i'n credu, ar draws Cymru. Dyna beth nad ydym wedi'i weld, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd, yn anffodus, rydym ni wedi gweld gapiau mewn gwasanaethau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gweld y cysondeb yma, a dyna'r unig ffordd i gael cysondeb, yn fy marn i, yw gweld deddfwriaeth fel hyn yn cael ei phasio yn y lle hwn.

Rydw i'n credu bod e hefyd yn iawn i edrych ar hyn nid fel salwch ond fel niwro-amrywiaeth. Rydw i'n cytuno gydag ef yn llwyr ac mae'r Bil hwn yn ei gwneud hi'n eithaf clir bod yn rhaid i ni godi ymwybyddiaeth ymysg pawb, ymysg y cyhoedd hefyd, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i wneud hynny oherwydd, wrth gwrs, fel rhan o'r Bil bydd yn rhaid i Weinidogion sicrhau bod yna ymgyrch barhaol yn mynd ymlaen i sicrhau bod yr ymwybyddiaeth yna'n cael ei chodi ymysg y cyhoedd. Felly, rydw i'n edrych ymlaen, wrth gwrs, i ddelio â'r pwyllgor mae e'n eistedd arno ac yn edrych ymlaen at y sgrwtini rydw i'n siŵr y bydd e'n ei roi i'r ddeddfwriaeth yma dros y misoedd nesaf.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth i Gymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae rhai ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru. Camau gweithredu y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi methu eu sicrhau hyd yma.

Ar nifer o achlysuron, mae'r Gweinidog wedi gwadu bod unrhyw angen am y Bil hwn, ond mae'n amlwg nad yw strategaethau blaenorol a'r ddeddfwriaeth bresennol wedi gwneud digon i wella gwasanaethau ar gyfer plant ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Ac mae fy ngwaith achos yn dystiolaeth o hyn. Dylai fod yn destun cywilydd cenedlaethol, mewn sawl rhan o Gymru, nad oes llwybrau clir i ddiagnosis o awtistiaeth, er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno.

Hoffwn dynnu sylw at achos a ddaeth i fy sylw. Ni chaniatawyd i fenyw ifanc sydd ag awtistiaeth, ar y sbectrwm awtistiaeth, i fynd i'r prom ysgol am nad oedd ganddi lefel presenoldeb o 85 y cant yn yr ysgol. Weithiau, ni allai wynebu mynd i'r ysgol, ac roedd ei phresenoldeb yn isel, oherwydd ei bod hi'n hunan-niweidio; ar adegau eraill, roedd hi am fod ar ei phen ei hun. A chredaf fod hwn yn un maes sydd wedi peri dychryn imi, fod gwahaniaethu'n digwydd, am fod plentyn—wel, menyw ifanc—wedi ymdrechu'n galed gyda lefel presenoldeb o 79 y cant i fynd i'r prom ac ni chafodd wneud hynny. Felly, os bydd Deddf Paul yn gwneud unrhyw beth, yna rwy'n gobeithio, Paul, y byddai'n tynnu sylw at sefyllfaoedd fel hyn ac yn cael gwared arnynt.

Fel y mae Paul Davies eisoes wedi nodi, byddai'r Bil hwn yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod llwybr clir i'r cyhoedd gael diagnosis. Bydd y Bil yn sicrhau bod staff sy'n gweithio yn ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hyfforddi'n well ac mewn gwell sefyllfa i gefnogi'r rhai ar y sbectrwm awtistiaeth, ac yn helpu i roi diwedd ar y bylchau yn y gwasanaethau. Mae pobl ar y sbectrwm yn cael gwasanaethau sydd naill ai'n canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol neu ar ddarpariaeth iechyd meddwl, ac mae llawer, yn anffodus, yn disgyn drwy'r bylchau sy'n bodoli rhwng ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaeth addysg.

Mae 10 mlynedd ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac ychydig iawn sydd wedi newid i'r rhai sydd ar y sbectrwm. Mae'r angen am eiriau wedi hen fynd heibio. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i'r Bil hwn ac yn edrych ymlaen at sicrhau ei daith gyflym drwy'r pwyllgor iechyd.

Paul, a allwch ymhelaethu ar y gefnogaeth sydd i'r Bil hwn gan y cyhoedd yn ehangach? A gawsoch chi'r argraff nid yn unig fod yn well gan y cyhoedd weld Bil, ond ei fod yn hanfodol? Ceir rhai sy'n dweud bod mesurau o'r fath yn gostus. Paul, a wnaed unrhyw asesiad o'r costau o beidio â chyflwyno'r Bil hwn? Yn olaf, mae yna bryderon y bydd cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyflwr penodol yn arwain at alwadau am ddeddfwriaeth ar gyfer nifer o gyflyrau eraill. Felly, sut y byddech yn ateb y pryderon hynny?

Diolch ichi unwaith eto am gyflwyno'r Bil hwn. Edrychaf ymlaen at wneud gwaith craffu manwl a sicrhau bod y Bil yn dod yn Ddeddf cyn gynted â phosibl. Diolch.

16:15

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth, ac am gefnogaeth ei phlaid i'r Bil hwn? Mae hi'n iawn, er gwaethaf y strategaeth a gyflwynwyd 10 mlynedd yn ôl, rydym yn dal i weld prinder gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae hi'n codi'r pwynt am osod dyletswydd ar gyrff, a bydd y Bil hwn mewn gwirionedd yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu yn holl gymunedau Cymru. Mae hefyd yn bwysig dweud, rwy'n credu, y bydd y Bil hwn yn sicrhau bod llwybr clir i ddiagnosis o awtistiaeth, ac rwy'n siŵr ei bod wedi cael enghreifftiau, ac wedi cael etholwyr yn cysylltu â hi, lle mae rhieni wedi methu cael diagnosis i'w plant. Yn fy ardal i, yn sir Benfro, yn anffodus, gwn am rieni y mae eu plant wedi aros hyd at saith mlynedd cyn cael diagnosis. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, a dyna pam y mae angen newid, dyna pam y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gweld y Bil hwn yn pasio, oherwydd bydd y Bil hwn yn sail i'r gwasanaethau hynny.

Mae hi wedi codi pwynt am gefnogaeth—y cymorth ehangach ar gyfer y Bil hwn. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl nad oes cefnogaeth eang i'r Bil hwn. Rwyf wedi cynnal dau ymgynghoriad yn awr dros y 12 mis diwethaf. Bu'n hollol amlwg o'r ymgynghoriadau hynny y ceir cefnogaeth eithriadol i'r Bil hwn, a chredant ei fod yn gwbl hanfodol.

Fe soniodd am y costau, a chredaf imi gyfeirio at gostau yn gynharach pan ymatebais i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd. Nid oes dianc rhag y ffaith y bydd deddfwriaeth sy'n gwella gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn costio arian, ond credaf fod y costau hynny'n werth chweil i'r unigolion yr effeithir arnynt ac y byddant yn arwain yn y pen draw at arbedion economaidd hirdymor yn ogystal.

Y pwynt olaf a gododd oedd y risg y gallai rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth greu perygl o ostwng statws cyflyrau eraill. Wel, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac nid wyf yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth a welwyd fod hynny wedi arwain at anghydraddoldeb o ran y cynllun gweithredu hwnnw.

Mae Deddf Awtistiaeth 2009 eisoes ar waith yn Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon mae Deddf Awtistiaeth (Gogledd Iwerddon) 2011 mewn grym. Unwaith eto, nid wyf yn ymwybodol o dystiolaeth fod y naill Ddeddf na'r llall yn wedi cael effaith andwyol hysbys ar y ddarpariaeth i bobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys diogelwch rhag lleihau ffocws cyrff perthnasol ar fynd i'r afael ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'n cynnwys darpariaeth y gall y diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth gynnwys unrhyw anhwylder niwroddatblygiadol arall a ragnodir gan reoliadau gan Weinidogion Cymru. Felly, gallai Gweinidogion Cymru wneud hynny yn y dyfodol mewn gwirionedd.

16:20

Diolch yn fawr, Paul Davies, am godi'r materion pwysig a chymhleth hyn ynglŷn â phobl ar y sbectrwm awtistig. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig mai Bil yw'r ymateb priodol. Nid mater pleidiol yw hwn, ac rydym yn mynd i gael pleidlais rydd, felly—. Nid wyf yn credu y dylai fod yn fater pleidiol mewn unrhyw amgylchiadau. Er enghraifft, yr enghraifft a roddwyd gan Caroline o fenyw ifanc y gwrthodwyd mynediad iddi i'r prom—nid yw hynny'n ymddangos i mi fel rheswm dros fod angen Deddf awtistiaeth; mae angen adolygiad cyflym iawn o bolisïau lles yr ysgol benodol honno. Nid wyf yn gwadu o gwbl fod pobl ar y sbectrwm awtistig neu eu teuluoedd yn wynebu problemau heriol iawn i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond nid wyf yn siŵr mai Bil awtistiaeth yw'r ffordd ymlaen.

Rwy'n cadw mewn cof fod y ddogfen 'Cymru Iachach', sef ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad Seneddol o'r GIG, yn cynnwys pwyslais ar sicrhau bod gennym dîm o amgylch y claf, fod gennym wasanaethau ymatebol, fod gennym ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, ond yn ogystal â hynny, rydym mewn perygl o drin yn feddygol rhywbeth y credaf y dylai fod yn llawer mwy o fodel cymdeithasol mewn ymateb i hyn. Mae angen i'n holl ysgolion a'n holl fusnesau fod yn ystyriol o awtistiaeth yn yr un ffordd ag y byddem yn hoffi iddynt fod yn ystyriol o ddementia. Felly, mae gennyf gryn bryderon ynglŷn â gwthio am Fil ar gyfer un cyflwr, pan fo perygl o ddosbarthu cyflyrau i seilos, oherwydd gallai pobl ar y sbectrwm awtistig, ar y naill law, fod yn ffisegwyr niwclear; ar y llaw arall, gallai fod ganddynt gyflyrau eraill sy'n eu gwneud yn anabl ac yn eu herio. Ac efallai nad yr awtistiaeth yw'r brif broblem y maent angen cymorth gyda hi.

Rwy'n llwyr ddeall bod cryn le i wella'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant ac oedolion sydd ar y sbectrwm awtistig, ond nid wyf yn teimlo ein bod o reidrwydd wedi rhoi digon o amser i'r cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau sbectrwm awtistig a'r cynllun cyflawni, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2016, i allu dweud o ddifrif mai dyma'r ffordd gywir.

Nid oes unrhyw driniaeth glir ar gyfer y cyflwr hwn. Yn amlwg, mae'n dibynnu llawer iawn ar y problemau penodol; nid oes a wnelo hyn â sicrhau bod cydymffurfio'n digwydd â chanllawiau clinigol. Mae arnom angen gwasanaethau priodol i gefnogi'r heriau a wynebir gan unigolion arbennig. Yn amlwg mae angen inni sicrhau bod y rhai sydd â fwyaf o gysylltiad gydag unigolion, yn enwedig ysgolion, yn ymateb yn briodol, ond mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at ysgolion sy'n gwthio disgyblion oddi ar eu rhestri oherwydd eu bod yn credu y gallent effeithio ar berfformiad arholiadau'r ysgol. Mae angen ysgolion cwbl integredig a chynhwysol, a buaswn yn falch o sefyll ar y llinell biced i herio unrhyw beth felly sy'n digwydd.

Rwy'n dal i fethu deall a fu cynnydd mewn awtistiaeth neu a yw diagnosis yn well. Hoffwn glywed barn Paul Davies ynglŷn â hynny. Yn amlwg, pe bai patrwm o achos ac effaith y gallem ei ganfod drwy gasglu gwybodaeth drwy'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei chael ar gyfer plant, ac y gallem eu gorfodi i'w chael ar gyfer oedolion hefyd—pe bai patrwm ynghlwm wrth y diagnosis o awtistiaeth a phe bai'n cael ei gysylltu â materion amgylcheddol, yn amlwg byddai dyletswydd arnom i weithredu ar hynny. Felly, credaf fod gwybodaeth yn eithriadol o bwysig, ond mae gennyf bryderon ynglŷn â gosod hyn mewn Bil caeth pan fo gennym eisoes lawer o rwymedigaethau mewn perthynas â'r ffyrdd y mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ymateb, a theimlaf nad ydym wedi rhoi digon o amser i sicrhau bod y rheini'n cael eu cyflawni a'u cyflwyno'n briodol.

16:25

A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am ei sylwadau? Mae'n ddrwg gennyf nad yw hi wedi ei hargyhoeddi fod angen deddfwriaeth. Byddaf yn parhau i siarad â hi dros y misoedd nesaf, wrth gwrs, i'w darbwyllo mai dyma'r peth iawn i'w wneud ac rwy'n siŵr y bydd hi hefyd yn rhan o'r broses graffu. Nawr, soniodd yn gynharach y dylai gofal cleifion fod yn ganolog i unrhyw welliant i'r gwasanaeth, ac wrth gwrs, dyna holl ddiben y Bil hwn. Mae gofal cleifion yn ganolog i'r Bil oherwydd mai'r hyn rwy'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sail statudol yn y dyfodol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac yn amlwg bydd hynny'n sicrhau sylfaen gadarn i wasanaethau wrth symud ymlaen.

Nawr, mae'n codi pwynt y gallai'r Bil hwn roi statws arbennig i awtistiaeth. Wel, gallwn ddadlau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth drwy ystyried cyflwyno cod, er enghraifft. O gofio bod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno cod, does bosibl ei bod yn credu bod risg mewn rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth a chreu anghydraddoldeb a diraddio cyflyrau eraill ychwaith, oherwydd bod y Llywodraeth yn ystyried gwneud gwelliannau a chyflwyno mesurau ar yr un pryd.

Fe sonioch am gymorth i ysgolion. Rwy'n cytuno â chi; mae angen inni wneud yn siŵr fod staff mewn ysgolion yn cael hyfforddiant priodol. Unwaith eto, mae hynny wedi'i gynnwys yn fy Mil: gwneud yn siŵr fod y staff sy'n ymdrin â phobl, plant, ag awtistiaeth yn cael yr hyfforddiant cywir. Mae hynny wedi'i gynnwys yn fy Mil hefyd.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am geisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a fynegais am yr ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol y mae hyn yn mynd i'r afael â hwy. Rwy'n gwerthfawrogi ei ymdrechion ac edrychaf ymlaen at weld sut y caiff hynny ei graffu wrth i'r Bil fynd ar ei hynt a gweld a yw'n mynd i fod yn ddigon cadarn i dawelu fy mhryderon ai peidio. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Meithrinfa Ddydd Serendipity ym Mhen-bre, sef yr ysgol gyntaf yn sir Gaerfyrddin i gyflawni'r rhaglen dysgu gydag awtistiaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a ddatblygwyd o dan y rhaglen gwasanaeth awtistiaeth integredig. Gwnaed argraff fawr arnaf gan yr hyn yr oeddent wedi'i wneud yno, yn creu amgylchedd lle maent yn cefnogi plentyn ag awtistiaeth sydd heb gael diagnosis eto—am fod amser aros hir iawn yn Hywel Dda am ddiagnosis—ond a oedd yn amlwg yn arddangos arwyddion o awtistiaeth, ond hefyd, yn hollbwysig, maent yn rhoi sylw i'r plant eraill hefyd a gwneud iddynt ddeall beth yw ystyr gwahaniaeth a sut roedd angen iddynt addasu eu hymddygiad er mwyn creu amgylchedd cefnogol.

Yn hyn oll—ac rwyf wedi meddwl llawer am rôl deddfwriaeth yn hyn, ac rwy'n dal i fod yn agored i'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth os nad yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i'w weld yn cyflawni, ond credaf mai'r hyn sydd ei angen arnom go iawn yw ymateb cymdeithasol i'r cysyniad o niwroamrywiaeth. Sbectrwm yw hwn wedi'r cyfan. Nid oes unrhyw fwled hud. Pan fydd gennych label, pan fydd gennych ddiagnosis, nid yw'n golygu eich bod yn mynd i gael eich gwella. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle rydym yn deall bod gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau a'n bod yn darparu ar gyfer hynny ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial. Mae'n bosibl fod rôl i'r gyfraith yn hynny, ond pe bai mor syml â hynny, rydym eisoes wedi pasio deddfau a ddylai ymdrin â rhai o'r pethau hyn. Mae'r ffaith ein bod yn teimlo nad ydynt yn gweithio'n hollol fel y dylent yn awgrymu efallai nad deddf arall yw'r ateb hawdd rydym yn chwilio amdano.

Rwy'n ymwybodol fod Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi lansio ymgyrch effeithiol iawn, ond dylid cydnabod nad yw clinigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r cyflwr hwn yn unedig eu barn mai deddfwriaeth yw'r ateb cywir. Nid ydynt yn gyffyrddus iawn yn dweud hynny'n gyhoeddus ond rwyf wedi siarad â sawl un nad ydynt yn gyfforddus â'r syniad o Fil awtistiaeth ac nid ydynt yn credu ei fod yn ddefnydd cywir o adnoddau na blaenoriaethau na ffocws. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud achos argyhoeddiadol drwy ddweud, os yw'r adnoddau yn y system yn gyfyngedig, does bosibl nad yw'n well inni eu cyfeirio tuag at wella'r gwasanaeth yn hytrach na datblygu deddfwriaeth a'r holl rigmarôl sydd ynghlwm wrth hynny.

Wedi dweud hynny, nid yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno yn llawn eto. Nid yw'n bodoli yn sir Gaerfyrddin, a cheir problemau cychwynnol o hyd. Siaradais ag un ymarferydd y bore yma a nododd broblem sy'n eu pryderu'n fawr yn ymwneud â'r ffaith bod plant sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau dysgu cysylltiedig yn cael eu troi ymaith o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac yn bodoli mewn rhyw fath o dir neb—dywedir wrthynt am ddychwelyd at y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed am fod ganddynt gyflwr arbenigol, ond mewn gwirionedd, CAMHS a geisiodd eu dargyfeirio oddi wrth CAMHS i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y lle cyntaf. Felly, credaf fod honno'n broblem yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych arni. Credaf fod problemau cychwynnol o hyd wrth i'r gwasanaeth newydd hwn ymsefydlu. A chredaf y gall pawb ohonom gytuno mai dyna rydym ei eisiau—beth sy'n digwydd yn y pen draw. Gallwn drafod y modd o gyrraedd yno; y pen draw sy'n bwysig, ac rwy'n dal i gredu bod angen gwneud rhagor o berswadio i argyhoeddi pawb ohonom mai deddfwriaeth yw'r ffordd o wneud hynny.

16:30

A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Lanelli am ei sylwadau? Rydym wedi cael nifer o drafodaethau ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n ddiolchgar ei fod yn parhau i fod â meddwl agored ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth, felly mae'n debyg mai fy ngwaith dros yr ychydig fisoedd nesaf fydd ei berswadio mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Ac rwy'n deall beth y mae'n ei ddweud, ei fod yn credu efallai nad deddfwriaeth sy'n cyflwyno deddf yw'r ffordd orau ymlaen o bosibl, ond rwy'n credu mai dyna'r ffordd ymlaen. Mae angen inni sicrhau bod gwasanaethau yn y dyfodol yn cael sylfaen gadarn. Soniais yn gynharach ein bod wedi bod yn trafod y strategaeth awtistiaeth a gyflwynwyd yn 2008, ac nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, ond rydym yn trafod yr un problemau yn awr ag yr oeddem yn eu trafod 10 mlynedd yn ôl. A chredaf mai'r unig ffordd y gallwn sicrhau mewn gwirionedd ein bod yn gweld gwelliannau yn y gwasanaethau yw drwy gyflwyno deddfwriaeth, drwy wneud yn siŵr fod gwasanaethau'n cael eu rhoi ar sail statudol fel bod y gwasanaethau hynny'n gyson ar draws Cymru ac fel nad oes gennym unrhyw fylchau yn y gwasanaethau hynny. Fe wyddoch gystal â minnau—rydych wedi cael etholwyr yn cysylltu â chi, fel finnau, sydd, yn anffodus, yn methu cael gafael ar wasanaethau. Rhaid inni wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hynny ar gael. Rhaid inni wneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ddarparu'r gwasanaethau hyn, a dyna fydd y Bil hwn yn ei wneud mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr iawn, ac ymddiheuriadau i unrhyw un arall a oedd yn awyddus i gymryd rhan; rydych 20 munud dros yr amser ar y datganiad hwn.

7. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Galwaf ar Nick Ramsay i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, ar 20 Gorffennaf, bydd Huw Vaughan Thomas CBE yn cwblhau ei ddiwrnod olaf yn ei swydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ei gyfnod fel archwilydd cyffredinol ac i fynegi diolch iddo am ei gyfraniadau i fywyd cyhoeddus.

Penodwyd Huw yn archwilydd cyffredinol yn 2010, gan ddwyn cyfoeth o brofiad ac arbenigedd gydag ef o'i yrfa hir a llwyddiannus ar draws y sector cyhoeddus. Mae wedi profi'n benodiad rhagorol. Cymerodd at ei rôl gyda llawer o heriau o'i flaen, gan ddechrau gyda'r amgylchiadau anodd a etifeddodd yn dilyn digwyddiadau yn Swyddfa Archwilio Cymru cyn ei benodi. Un o'i heriau cyntaf oedd cyflwyno cynigion i gryfhau trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y sefydliad a goruchwylio dros gyfnod o newid sefydliadol a diwylliannol. Fe wnaeth hyn gyda phenderfyniad, ac yn dilyn adolygiad mewnol, cyflwynodd set o drefniadau llywodraethu newydd, a adferodd hyder y cyhoedd a thrawsnewid y diwylliant yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn o newid yn yr amser y bu Huw yn ei swydd, daeth Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 i rym, deddf a gryfhaodd ac a wellodd drefniadau atebolrwydd a llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnal a gwarchod annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd cyflwyno bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn 2014 yn cryfhau trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ymhellach a hyd yn oed tan yn ddiweddar mae Huw wedi bod yn goruchwylio dros newidiadau sylweddol yn y diwylliant a'r arferion gweithio, gan gynnwys buddsoddiadau diweddar mewn dadansoddi data. Wrth i Huw ddod at ddiwedd ei yrfa, mae wedi plannu'r hadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archwilwyr, gyda buddsoddiadau mewn hyfforddeion a phrentisiaid cyllid, i ysbrydoli archwilydd cyffredinol yn y dyfodol efallai. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Huw wedi bod ar flaen y gad yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Mae ei rôl fel archwilydd cyffredinol wedi bod yn hollbwysig a dylanwadol, yn rym ysgogol a chalon llywodraethu ac atebolrwydd da. O dan arweiniad Huw, yn ystod cyfnodau o gyni o'r newydd a ffocws cynyddol ar gyllid cyhoeddus a her ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw, mae wedi cyflawni.

Mae Huw bob amser wedi hyrwyddo pwysigrwydd archwilio cyhoeddus annibynnol i gefnogi craffu effeithiol ar Lywodraeth Cymru, nid yn unig o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond hefyd o ran darparu mewnwelediad hanfodol a chefnogi gwelliannau. Fel archwilydd cyffredinol, mae Huw wedi goruchwylio dros gyhoeddi nifer o adroddiadau cadarn. Mae'r adroddiadau hyn wedi taflu goleuni ar drefniadau llywodraethu gwael a defnydd aneffeithlon o arian cyhoeddus, a chyfeiriaf yn benodol at rai o adroddiadau mwyaf dylanwadol Huw: yn 2011, ei adroddiad arolwg arbennig ar Gyngor Sir Ynys Môn a arweiniodd at gomisiynwyr yn cael eu gyrru i mewn gan Lywodraeth Cymru i ysgwyddo'r gwaith o weithredu'r cyngor—rhywbeth a ddigwyddodd am y tro cyntaf yn y DU; ei adroddiad yn 2012 ar AWEMA, a arweiniodd, ar y cyd ag adroddiadau archwilio eraill, at newidiadau ar raddfa eang i'r modd y rheolai Llywodraeth Cymru ei gwariant blynyddol o £2.6 ar grantiau; ei adolygiad ar y cyd yn 2013 gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o'r trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ragflaenodd y penderfyniad i wneud y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig; ei adroddiad yn 2015 ar gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, a oedd yn gwerthu tir cyhoeddus am lawer llai na'i werth, gan golli degau o filiynau o bunnoedd i'r trethdalwr o bosibl; a'i adroddiad budd y cyhoedd cyntaf ar gorff GIG yn 2017 mewn perthynas â chamreoli contract ymgynghoriaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Er bod eu darllen yn ddigon i'ch sobri, mae adroddiadau o'r fath wedi bod yn hanfodol ar gyfer nodi meysydd sydd angen eu cryfhau ac i hybu gwelliannau i brosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru a'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Ni ellir tanddatgan pwysigrwydd hyn. Cefnogir yr archwilio annibynnol hwn gan graffu seneddol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi gweithio'n agos gyda Huw dros ei gyfnod yn y swydd i sicrhau bod ei waith mor effeithiol â phosibl yn dwyn Llywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill i gyfrif. Mae Huw wedi bod yn ffynhonnell gyson o gymorth a chyngor i'r pwyllgor, yn gwella ein gwaith, ac yn gynyddol, defnyddiwyd adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru i lywio gwaith pwyllgorau eraill y Cynulliad, ac enghraifft ragorol o hyn yw ystyriaeth y Pwyllgor Cyllid o adroddiadau ar barodrwydd cyllidol.

Yn fwy diweddar, mae Huw hefyd wedi bod yn allweddol i weithrediad Deddf cenedlaethau'r dyfodol 2015. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod yr archwilydd cyffredinol yn adrodd ar i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy i'r ffordd y maent yn pennu eu hamcanion a'r camau y maent yn eu cymryd i fodloni'r amcanion hynny. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Huw ei adroddiad sylwebaeth blwyddyn 1 ar sut y mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i'r Ddeddf, adroddiad sy'n nodi nifer o arferion da sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru i eraill eu harfer. Cydnabuwyd y gwaith caled a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Huw pan gafodd CBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines 2018 am wasanaethau i archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd yng Nghymru, ac estynnwn ein llongyfarchiadau i Huw ar y llwyddiant arbennig hwn.

Mae'r gydnabyddiaeth hon i gyfraniad rhagorol Huw i fywyd cyhoeddus yn atgyfnerthu ymrwymiad oes i fywyd cyhoeddus. Mae wedi bod yn archwilydd cyffredinol nad yw wedi ofni ei dweud hi fel y mae pan fo angen, ac mae'n gadael y swydd gyda record ragorol, ar ôl gwasanaethu pobl Cymru fel archwilydd cyffredinol am yr wyth mlynedd diwethaf. Huw, rydych wedi arwain gyda gonestrwydd a byddwch yn gadael gwaddol barhaus o hyder cyhoeddus newydd mewn archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd. Dymunwn yn dda i chi yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

16:35

Mae'n bleser gen i hefyd godi i ddiolch i'r archwilydd am ei wasanaeth. Mae'n nodweddiadol ohono fe, a dweud y gwir, ei fod e'n arloesi hyd yn oed wrth adael, achos rydw i'n credu mai fe yw'r un cyntaf o'r archwilwyr i gynnig llythyr ffarwelio sydd yn rhoi mewn un lle, a dweud y gwir, braslun—gorolwg, a dweud y gwir—o'r tirwedd y mae e wedi bod yn arsylwi arni dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac mae'n ddefnyddiol tu hwnt. Mae'n ymylu ar y deifiol weithiau. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfeiriad at rai o'r adroddiadau sydd wedi pwyntio at lywodraethu gwael, ond mae yn ddiddorol i weld mai Swyddfa Archwilio Cymru ydy un o’r llefydd mwyaf pwysig sydd yn gyrru arloesedd. Nid yw efallai’n draddodiadol ein bod ni’n cysylltu archwilio gyda phethau fel arloesedd a chreadigedd, ond mae yna dîm yn y tîm arferion gorau sydd wedi bod yn gyrru’r agenda yma. Yr unig enghraifft arall rwy’n gallu meddwl amdani yw llys archwilwyr Brasil lle mae gyda nhw hefyd, yr archwilwyr, labordy arloesedd, ac efallai bod mawr ei angen e yn y wlad honno.

Mae’r pwyntiau mae’r archwilydd yn eu gwneud yn y llythyr yn eithaf diddorol o ran y diffygion mae e’n pwyntio mas hefyd o ran ein gwladwriaeth ni, er efallai nad ydym wedi cwympo i mewn i’r un trybini yn ddiweddar â gwladwriaeth Brasil. Ond mae yna reswm inni wrando ar lais yr archwilydd cyffredinol, oherwydd mae e’n pwyntio mas y diffyg, efallai, meddwl radical—ein bod ni ddim yn gallu meddwl yn ddigon arloesol, ein bod ni’n dueddol o weithiau meddwl yn nhermau mwy yn y byr dymor ac nid o ran y tymor hir, bod yna oreffaith, efallai, ar effeithlonrwydd yn hytrach nag edrych yn fwy eang, yn fwy pwrpasol, ar ailsiapio ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd mwy cynhwysfawr. Mae yna oredrych ar strwythurau yn hytrach na chanlyniadau, ac wedyn mae yna duedd, wrth gwrs, o ailbecynnu problemau yn hytrach na mynd i’r afael â nhw ar lefel sylfaenol. Mae yna ddigon o ddadansoddi.

Roedd yntau hefyd wedi gwasanaethu ar y comisiwn Williams. Rŷm ni i gyd yn gwybod beth yw’r problemau. Strategaethau arbennig o dda, a dim cymaint â hynny o anghytundeb ar draws y pleidiau—the truth that dare not speak its name ynglŷn â gwerthoedd, efallai. Ond sut rŷm ni’n gallu, wedyn, cyfieithu’r nodau, y gwerthoedd a’r amcanion hynny i mewn i bolisïau sydd yn mynd i ddelifro? Mae’r archwilydd wedi gwneud cymwynas inni, rwy’n credu, hyd yn oed wrth ffarwelio, er mwyn gosod inni’r her, a dweud y gwir—hynny yw, sut rŷm ni yn y Senedd yma yn gallu codi ein gorwelion a dechrau gwireddu rhai o’r amcanion rŷm ni i gyd yn eu rhannu. Diolch. 

16:40

Diolch i chi, Adam Price. Nid wyf yn gwybod fawr ddim am archwilwyr yn Brasil; mae'n swnio ychydig bach fel ffilm, onid yw? Felly, fe adawaf hynny i bobl eraill wneud sylwadau arno.

Rwy'n synhwyro na fydd fawr o anghytuno yn y datganiad hwn. Adam, rydych wedi nodi rôl yr archwilydd cyffredinol yn arloesi ac yn hyrwyddo'r agenda, ac rydych yn llygad eich lle. Cyn i Aelodau fynd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—mae'n weddol debyg i gyllid, yn hyn o beth—rwy'n credu eu bod yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn bwnc sych iawn, a bod archwilio yn rhywbeth y mae math penodol o berson yn ei wneud mewn swyddfa yn rhywle, neu ble bynnag, allan yn y maes. Wrth gwrs, mae'r realiti, fel y gwyddoch chi ac fel y gwn i, ac fel y gŵyr cadeiryddion blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn wahanol iawn mewn gwirionedd. Rydych chi'n iawn; mae Huw wedi chwarae rôl yn hyrwyddo'r agenda—arloesi, gair allweddol—a rôl arweiniol. Felly, mae gwaith yr archwilydd cyffredinol yn rhywbeth y credaf ei fod yn sicr wedi newid dros y blynyddoedd a bydd yn newid yn y dyfodol, ond mae'n gadael gwaddol y gall fod yn falch iawn ohoni.

Soniwn yn aml am y lle hwn—y Cynulliad i ddechrau ac yn awr wrth iddo drawsnewid yn Senedd—yn sefydlu dyfodol newydd i Gymru. Nid mater i ni yn y Siambr yma a'r cyhoedd yn unig ydyw; ceir rhai ffigurau allweddol ar hyd yr oesau y cyfeirir atynt fel rhai a fu'n allweddol i ddatblygiad San Steffan, a byddwn yn cyfeirio atynt yma. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd pobl yn edrych yn ôl yn y dyfodol, ac yn dweud bod rôl Huw fel archwilydd cyffredinol wedi dod ar bwynt allweddol, ac nad trawsnewid sefydliad Swyddfa Archwilio Cymru yn unig a wnaeth, ond fod ganddo rôl yn trawsnewid Cymru yn ogystal.

Rwy'n croesawu'r cyfle i ddweud ychydig eiriau ar ymddeoliad yr archwilydd cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Rwyf wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, neu'n aelod dirprwyol, ers 2011. I mi, roedd dau gryfder mawr yn perthyn i'r archwilydd cyffredinol sy'n ymadael, a gobeithio y bydd Nick Ramsay yn cytuno â mi yn eu cylch: gwybod beth yw'r meysydd allweddol i'w hymchwilio ac i adrodd arnynt, a chymesuredd yn ei ymateb. Os bydd unrhyw un yn dilyn adroddiadau'r archwilydd cyffredinol, mae swyddfa'r archwilydd cyffredinol yn cynhyrchu nifer bob blwyddyn, ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â nodi'r rhai allweddol, mynd i mewn iddynt yn fanwl, ac adrodd yn ôl a'u cyflwyno gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, oherwydd pe bai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn derbyn pob un ohonynt, byddent yn treulio awr bob wythnos yn gwneud dim mwy na chael a derbyn. Felly, mae cymesuredd o ran beth i ymdrin ag ef a thynnu sylw at fethiannau mawr adrannau'r Llywodraeth—fferm bysgod Penmon, Kancoat, Powys Fadog, Cylchffordd Cymru—prosiectau na allai byth â bod wedi llwyddo ac y dylai gweision sifil fod wedi sylwi arnynt ar y cam cyntaf un fel prosiectau na allai lwyddo. Mae'r methiant i wneud hynny—. Mae'r archwilydd cyffredinol wedi dod â'r rhain i sylw Llywodraeth Cymru, a gobeithiaf y bydd hynny'n gweithio yn y dyfodol—y bydd pobl yn bwrw golwg feirniadol dros brosiectau a ph'un a allant weithio ai peidio mewn gwirionedd. Bydd llawer o brosiectau'n methu, bydd llawer o brosiectau da yn methu am bob math o resymau, ond un peth yn anad dim y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei adael i ni yw'r modd y dylai pobl fwrw golwg feirniadol dros brosiectau a gofyn, 'A all y prosiect hwn lwyddo mewn gwirionedd?', a phan fyddwn yn ateb 'na', yna ni fydd y prosiectau hynny'n cael eu datblygu ac ni werir arian arnynt. A gaf fi orffen drwy ddymuno ymddeoliad hir a hapus i Huw Vaughan Thomas? Rwyf wedi mwynhau saith mlynedd o drafodaethau gydag ef, ac nid rhai cytûn bob amser, ond rhai y credaf bob amser fy mod wedi dysgu llawer ohonynt, a gobeithio ei fod yntau wedi eu mwynhau hefyd.

16:45

Un peth sy'n sicr o fywyd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw na all Mike Hedges ei adael. Mae bob amser yn gadael ac yna'n dychwelyd ar ryw bwynt, a chredaf y eich bod, mae'n debyg, yn un o'r Aelodau mwyaf profiadol ar y pwyllgor hwnnw bellach, Mike.

Gwnaethoch bwyntiau dilys iawn. Yn null Mike Hedges, rhoddais restr hir o adroddiadau llwyddiannus a roddodd yr archwilydd cyffredinol, ac rydych wedi cwblhau'r rhestr, mewn gwirionedd, gyda rhestr o'r adroddiadau cyfrifon cyhoeddus a wnaethom yn sgil adroddiadau'r archwilydd cyffredinol, megis ar Gylchffordd Cymru a rhestr hir o rai eraill. Ond rydych chi'n iawn, mae a wnelo â bwrw llygad beirniadol, ac un o'r rhesymau pam rwyf wedi mwynhau bod yn Gadeirydd cyfrifon cyhoeddus i'r fath raddau yw ei fod yn caniatáu i chi symud oddi wrth y dadleuon gwleidyddol traddodiadol y mae pobl yn disgwyl inni eu cael, yn ddigon priodol, yn y Siambr hon, ac mae'n mynd â chi i mewn i fan trawsbleidiol lle nad ydym yn feirniadol o'r Llywodraeth oherwydd mai hwy ydynt hwy ac mai ni ydym ni, ond yn hytrach, am ein bod yn ceisio tynnu sylw at—yn ceisio darparu'r llygaid beirniadol y siaradoch chi amdano a thaflu goleuni ar feysydd sydd wedi methu a galluogi a chaniatáu i Lywodraeth Cymru wella'r meysydd hynny wedyn, naill ai'n uniongyrchol, os mai Llywodraeth Cymru sydd wedi gwyro ychydig oddi ar y llwybr, neu os yw'n sefydliad arall sy'n gysylltiedig—. Dyna un o fanteision y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gwn ein bod wedi cael tystion ger ein bron dros y misoedd diwethaf ac maent wedi cyfaddef fod y profiad yn codi arswyd arnynt. Nid ydym yn ceisio eu dychryn, ond credaf fod y syniad o fod ger bron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynddo'i hun, boed yma neu yn Brasil neu yn San Steffan, ble bynnag y bo—mae rhywfaint o urddas yn perthyn iddo.

Mae gweithio gyda'r archwilydd cyffredinol a'i swyddfa wedi bod yn fraint fawr i mi, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad dros Darren Millar, a Chadeiryddion blaenorol sydd wedi gweithio gyda Huw. Mae wedi darparu cadernid sydd wedi ategu gwaith y pwyllgor mewn ffordd unigryw ac wedi caniatáu inni symud ymlaen fel pwyllgor ac fel sefydliad, ac fel y dywedais yn fy ymateb blaenorol i Adam, gobeithio y bydd yn caniatáu i Gymru symud ymlaen ychydig bach hefyd o ran gwario arian cyhoeddus yn effeithlon a chyflawni'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i ddweud ychydig eiriau o deyrnged i Huw Vaughan Thomas ar ei ymddeoliad fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwyf wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am yr holl amser ers penodi Huw ym mis Hydref 2010. Yn yr amser hwnnw, mae ei ymrwymiad i'r rôl wedi creu argraff arnaf, yn ogystal â'i awydd i fynd ar drywydd rhagoriaeth a'i ymroddiad i gyflawni ei ddyletswyddau. Roedd ei brofiad, a enillwyd drwy amrywiaeth o rolau Llywodraeth mewn nifer o swyddi cyhoeddus nodedig ac yn y sector preifat, yn ei roi mewn sefyllfa unigryw i fod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn ei amser, nid yw erioed wedi cilio rhag yr her o helpu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol. Mae'r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru. Roedd ei adroddiadau ar faterion megis cydberthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood a chyllid cychwynnol prosiect Cylchffordd Cymru a nodwyd eisoes gan fy nghyd-Aelod Nick Ramsay yn tynnu sylw at ddiffygion difrifol o ran gweinyddiaeth ac atebolrwydd. O'u trin yn briodol, bydd yr adroddiadau hyn yn cael effeithiau buddiol parhaus ar sicrhau gwerth am arian. Credaf fod tymor Huw Thomas fel archwilydd cyffredinol yn cael ei ddiffinio gan y gwaddol y mae wedi'i adael ar ei ôl a'i effaith ar y sector cyhoeddus. Mae wedi codi'r bar archwilio—y bar ansawdd—i lefel mor uchel fel y bydd yn anodd llenwi ei esgidiau. Diolch ichi, Huw. Rydych wedi gwneud gwaith gwych dros yr wyth mlynedd diwethaf ar ran y genedl hon. Y cyfan sydd ar ôl yw dymuno ymddeoliad hir a hapus i Huw, a chroesawu Adrian Crompton i'r rôl bwysig a heriol hon, i ddilyn ôl ei droed. Diolch.

16:50

Rydym yn mynd yn brin o anrhydeddau yn awr—[Chwerthin.] Gwyddwn na ddylwn fod wedi crybwyll Mike Hedges fel yr un sydd wedi gwasanaethu hwyaf, oherwydd yn amlwg mae fy nghyd-Aelod Mohammad Asghar wedi bod ar y pwyllgor ers amser hir hefyd.

Fe wnaethoch bwyntiau da. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ers i mi fod yn Gadeirydd y pwyllgor, rydym wedi edrych ar nifer o feysydd gwahanol. Mae Cylchffordd Cymru yn un amlwg. Rwy'n credu bod Mike wedi crybwyll Kancoat. A thrwy'r holl gyfnod hwnnw, mae Huw wedi rhoi llawer o gymorth i mi fel Cadeirydd, i'r Aelodau, ond hefyd i glercod y pwyllgorau. Maent yn esgidiau mawr i'w llenwi, ac nid oes angen i'r archwilydd cyffredinol nesaf fod fel yr archwilydd cyffredinol diwethaf—nid oes angen iddo fod fel Huw. Mae'n rôl sydd—. O fy nhrafodaethau gyda Huw, rwy'n gwybod ei fod wedi dweud wrthyf y dylech gymryd y rôl a gwneud beth hoffwch chi ohoni. Ceir lefelau allweddol penodol sy'n rhaid i chi eu cyrraedd yn y swydd honno, ond ar yr un pryd—. Mae hefyd, wrth gwrs, yn werth nodi: mae'n gymysgedd diddorol, oherwydd rydych yn archwilydd cyffredinol ond rydych hefyd yn brif weithredwr sefydliad pwysig iawn yng Nghymru. Felly, nid yw'n swydd hawdd i'w dilyn. Pob dymuniad da i Adrian Crompton wrth iddo fynd i'r afael â hi. Ond mae'n werth nodi nad y bobl yma'n unig sy'n fawr eu parch tuag at Huw; mae wedi ennyn parch yn ehangach hefyd. Rwyf wedi ymweld â swyddfeydd archwilio ac archwilwyr cyffredinol eraill ledled y DU—ac yn wir, rydym yn siarad â hwy o bob cwr o'r byd—ac mae iddo enw da iawn. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl, pan fyddwch wedi cael rhywfaint o seibiant, Huw, y byddwch yn symud ymlaen at bethau eraill, a gwn eich bod wedi cael gyrfa amrywiol a diddorol iawn, ac rwy'n siŵr y bydd gennych lawer i'w roi o hyd i fywyd Cymru yn y dyfodol.

Hoffwn ychwanegu fy mhwt at folawd huawdl y rhai sydd wedi siarad yn y drafodaeth hon hyd yma, ac maent yn rhai diffuant iawn. Byddai'n hawdd iawn i drafodaeth o'r fath ddirywio'n ffurfioldeb gwag, ond mae'n gwbl groes i hynny. Credaf fod Huw Vaughan Thomas wedi bod yn was cyhoeddus rhagorol, nid yn unig yn swydd yr archwilydd cyffredinol, ond mewn llawer o rolau eraill y mae wedi'u cyflawni mewn gyrfa hir a nodedig o wasanaeth cyhoeddus.

Mae archwilio yn enwog am fod yn rhywbeth ar gyfer y rheini y mae cyfrifyddiaeth yn rhy gyffrous iddynt, ond mae bod yn archwilydd cyffredinol yn beth cwbl wahanol, ac mae'n hanesyn enwog fod Huw wedi dechrau ei amser yn yn y swydd drwy ddweud, 'Nid wyf yn gyfrifydd, ond mae gennyf brofiad o fod yn swyddog cyfrifyddu', ac mae'r ddwy rôl, wrth gwrs, yn wahanol iawn. Yn fy marn i, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol fel archwilydd cyffredinol, gan ddechrau gyda'r hyn y gallem ei alw'n sefyllfa anodd braidd. Bu'n rhaid iddo roi trefn ar ei swyddfa ei hun cyn y gallai ddechrau ar unrhyw beth arall, ac ar ôl cyfres anffodus iawn o gamgymeriadau yn ei adran ei hun cyn iddo ddechrau yn y swydd, bu'n rhaid iddo osod y math o uniondeb ariannol ar y swyddfa archwilio ag y ceisiodd ei osod ar bob cangen arall o Lywodraeth byth ers hynny.

Mae wedi bod yn llaw gadarn ar y llyw, ac wedi sefydlogi'r llong, ac yn ystod y saith neu wyth mlynedd diwethaf, credaf ei fod wedi trawsffurfio'r swyddfa archwilio yng Nghymru, ac rwy'n credu ei fod wedi dangos dyfnder y weledigaeth yma yn ogystal, nid yn unig yn yr ystyr ei fod wedi craffu'n fanwl ar gyfrifon adrannau'r Llywodraeth, ond hefyd oherwydd ei fod wedi arfer ei bŵer i ddewis mewn ffordd dda iawn, ac wedi canolbwyntio ar rai o'r pethau ehangach roedd angen eu canfod ynglŷn â'r ffordd y caiff swm enfawr o arian cyhoeddus ei wario yng Nghymru, er budd parhaol y trethdalwr ac yn wir, llywodraethu da yn gyffredinol.

Am fy mod yn brin o ddeunydd darllen diddorol, darllenais adroddiad 2011 y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan oedd Darren Millar yn Gadeirydd arno, ar broblemau Swyddfa Archwilio Cymru ei hun. Wedi dweud hynny, ar y dechrau un yn ei swydd, roedd Huw yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw, a dyna'r egwyddorion y mae wedi eu dilyn yn ei swydd bwysig dros yr holl amser y bu ynddi. Mae wedi glynu at y gwir yn wyneb grym, ac nid oes unrhyw dasg sy'n fwy hanfodol mewn system ddemocrataidd yn fy marn i, oherwydd mae pob Llywodraeth o ba liw bynnag yn meddwl o bryd i'w gilydd ei bod yn ddihalog ac na all wneud dim o'i le, neu fawr o ddim yn anghywir. Mae'n bwysig iawn fod y consensws trawsbleidiol y cyfeiriodd Nick Ramsay ato yn peri iddynt ailfeddwl weithiau a gwella eu hunain.

Byddai'n ddiflas i mi fynd drwy'r rhestr hir o swyddi cyhoeddus y bu Huw Vaughan Thomas ynddynt, ond credaf mai un elfen bwysig o'i brofiad yw ei fod wedi bod yn brif weithredwr dau awdurdod lleol cyn iddo ddod yn archwilydd cyffredinol—yng Ngwynedd a sir Ddinbych. Cadeiriodd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru hefyd, a chafodd brofiad mewn adrannau Llywodraeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae wedi gwasanaethu mewn sefydliadau fel Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth, yn ogystal â dyfnder yn y meysydd rydym yn sôn amdanynt heddiw. Felly, credaf y dylem ei anrhydeddu am ei lwyddiant yn ei swydd, ac am y gwaddol y mae'n ei drosglwyddo i'w olynydd. Mae'n un anodd i'w ddilyn. Nid oes neb, wrth gwrs, yn anhepgor, ond serch hynny, credaf y caiff ei gofio fel un o'r archwilwyr mawr, nid yn unig yng Nghymru ond yn y Deyrnas Unedig hefyd, ac mae holl bobl Cymru yn ddiolchgar iddo am ei wasanaeth.

16:55

'Yr archwilwyr mawr'—sut y mae dilyn hynny? Rwy'n barod i gael fy nghywiro, ond credaf mai Tony Blair a ddywedodd unwaith na allwn newid ein gwlad heb yn gyntaf newid ein hunain. Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy'n credu iddo ddweud hynny yn ôl pan ddaeth yn arweinydd Llafur. Credaf fod y pwynt a wnaethoch am yr hyn a etifeddodd yr archwilydd cyffredinol gyda Swyddfa Archwilio Cymru fel yr oedd a'r enw oedd ganddi—yn amlwg, roedd angen ei newid er budd llywodraeth, er budd Cymru, er lles pawb, a llwyddodd i wneud hynny. Dangosodd yn gyntaf oll y gallai Swyddfa Archwilio Cymru ateb yr her a bwrw ymlaen gyda'r gwaith o graffu ar bopeth arall.

Rydym yn anrhydeddu'r archwilydd cyffredinol sy'n ymadael, ac rydym yn cydnabod y bydd gan yr archwilydd cyffredinol nesaf waith caled i lenwi ei esgidiau. Credaf fod un peth yn glir: rydym wedi gwneud llawer o adroddiadau cadarn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a gwn fod Darren Millar a Chadeiryddion archwilio blaenorol wedi chwarae rôl mewn adroddiadau cynharach hefyd, ac nid yw'r gwaith hwnnw'n mynd i fynd yn haws—gadewch inni beidio ag esgus ei fod. Mae'r Cynulliad wedi bod gyda ni bellach ers 20 mlynedd. Rydym yn ystyried gweddnewid y lle hwn yn Senedd, a bydd yn dod yn fwyfwy pwysig i Swyddfa Archwilio Cymru ymateb i'r her yn ogystal, ac adnewyddu ei hun.

Mae'n ddiddorol bod Huw Vaughan Thomas yn gadael ar adeg pan fydd gennym sefyllfa yma gyda'r etholiadau arweinyddiaeth lluosog yn digwydd yn y gwahanol bleidiau. Felly, ar hyn o bryd, mae'r pleidiau yma yn broses o adnewyddu ac adfywio, sydd mor bwysig i bob plaid, ac mor bwysig i lywodraeth.

Rwy'n siŵr y bydd Huw yn adfywio ei hun pan fydd wedi gadael swydd yr archwilydd cyffredinol, ac y bydd yn gwerthfawrogi'r seibiant a newid bywyd yn fawr. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol yn awr. Rhaid inni wneud yn siŵr y gallwn fwrw ati gyda'r gwaith y disgwylir inni ei wneud, ac nid yw'n fater syml o feirniadu'r Llywodraeth pan fyddwn yn teimlo eu bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, mae'n fater o werthfawrogi lle mae'r Llywodraeth yn gwneud pethau'n iawn yn ogystal. Wrth gwrs, mae gennym fantais fawr ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn yr ystyr ein bod yn cael cyfle i siarad â'r swyddogion, nid yn unig y Gweinidog—mae'n ymwneud â mwy nag Ysgrifenyddion y Cabinet yn unig, y penawdau'n unig, ond â'r hyn sydd oddi tanynt. Mae'n faes nad yw'n cael y cyhoeddusrwydd sydd ei angen arno yn aml, a'n gwaith ni ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a'r pwyllgorau eraill yn y Cynulliad wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod fod goleuni'n cael ei daflu ar feysydd o fywyd cyhoeddus nad ydynt bob amser yn ei gael, a bod pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i geisio gwneud Cymru yn lle ychydig bach gwell.

Diolch yn fawr i Nick Ramsay am ddod â’r datganiad ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw, sy’n fy ngalluogi i, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i ategu ein diolch i’r archwilydd cyffredinol. Mae e’n gweithio gyda phwyllgor Nick, wrth gwrs, yn bennaf. Mae llywodraethiant swyddfa’r archwilydd cyffredinol yn dod i’r Pwyllgor Cyllid, ac rydym ni wedi gwerthfawrogi’n fawr iawn barodrwydd Huw Vaughan Thomas i gydweithio â ni, a hefyd y ffordd mae wedi hwyluso'r gwaith yna. Am eiliad yn fanna, pan oeddech chi'n sôn am adfywio, roeddwn i'n meddwl bod Huw yn mynd i droi mewn i ryw fath o Doctor Who, ac yn adfywio mewn rhyw ffurf arall, eto fyth. Ond nid yw e cweit y math yna, efallai, ond mae'n sicr wedi dod â goleuni lle'r oedd angen dod â goleuni, ac wedi sicrhau bod ein democratiaeth ni yn fan hyn yn gweithio yn llawer mwy llwyddiannus.

Jest i ni atgoffa ein hunain, mae Huw fel yr archwilydd cyffredinol yn un o ychydig brif swyddogion y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru rydym ni fel Cynulliad yn eu penodi yn fan hyn, ac felly mae'n briodol ein bod ni'n cofnodi yn swyddogol ein diolchiadau iddo fe. Mae e wedi gadael gwaddol i'r Pwyllgor Cyllid. Mae e wedi archwilio o dan y drefn sydd yn rheoli ei waith yntau, ac wedi penderfynu bod angen gwella deddfwriaeth er mwyn gwneud gwaith yr archwilydd cyffredinol nesaf yn fwy hwylus, a gwaith y swyddfa yn fwy hwylus. Felly, mae e wedi gadael gwaddol i ni gydweithio arno fe hefyd. Ond y prif beth i'w wneud yw dweud rhywbeth na allwn fod wedi'i ddweud yn y Senedd arall roeddwn i'n Aelod ohoni unwaith, sef troi at rywun yn y galeri, sydd ddim yn ddieithryn i ni, gan gyfeirio ato fe yn bersonol, a diolch i Huw Vaughan Thomas am ei waith fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, a dweud wrtho fe, 'Peidiwch â bod yn ddieithryn i'r Cynulliad o hyn ymlaen ychwaith.'

17:00

Pan fydd pobl yn gofyn imi roi rheswm cadarn pam y dylem gael rhagor o Aelodau Cynulliad, yn aml byddaf yn dweud nid yn unig fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a bod gennyf rôl i edrych yn ôl, ond wrth gwrs rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cyllid gyda Simon Thomas gyda'r gwaith o edrych ymlaen yn ariannol. Rwy'n ceisio edrych y ddwy ffordd ar unwaith weithiau, ac ni fyddai hynny'n digwydd mewn sefydliadau mwy o faint. Ac wrth gwrs rwyf wedi siarad am gyfrifon cyhoeddus, ond y Pwyllgor Cyllid oedd â'r rôl werthfawr o recriwtio'r archwilydd cyffredinol newydd, ac roeddwn yn aelod o'r panel cyfweld gyda Simon Thomas—mae'n ymddangos fel amser maith yn ôl bellach—i wneud yn siŵr fod—

Roeddwn i'n meddwl tybed pam ei bod hi'n ymddangos mor hir yn ôl. Oedd, roedd y sefyllfa dywydd yn hollol wahanol bryd hynny.

Ond rydych yn hollol iawn: dyna fel y trafodasom yn ystod y broses honno. Mae hon yn rôl bwysig. Ni ellir gorbwysleisio hynny. Credaf imi ddweud 'tanddatgan' yn fy araith gychwynnol; yr hyn a olygwn oedd 'gorbwysleisio', wrth gwrs. Ni ellir ei orbwysleisio, ac mae'n bwysig iawn fod y broses, nid y bobl sy'n rhan ohoni yn unig, ond y broses archwilio ei hun yn symud ymlaen ac yn datblygu. Nid oes amser maith wrth gwrs ers i Swyddfa Archwilio Cymru ddod i fodolaeth, o'i gymharu â chyrff archwilio eraill ledled y DU. Felly, mae'n dal i fod yn gorff ifanc, ond fel y dywedais o'r blaen, bydd rôl gynyddol iawn ganddo.

Rwyf wedi diolch yn fawr iawn i Huw Vaughan Thomas am y cymorth a roddodd i mi ac i glercod y pwyllgor yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd cyfrifon cyhoeddus, ac rwy'n argyhoeddedig ei fod yn gadael gwaddol y gall fod yn falch ohono, ac un sy'n ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn innau dalu fy nheyrnged hefyd i waith Huw Vaughan Thomas am yr wyth mlynedd y bu'n gwasanaethu fel archwilydd cyffredinol. Treuliodd chwech o'r rheini gyda minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a rhaid imi ddweud ei fod bob amser yn hynod o broffesiynol. Cadwodd ei annibyniaeth yn llwyr, ac wrth gwrs nid oedd yn ildio rhag ei dweud hi yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd ganddo. Byddai llawer o'r adroddiadau hynny'n cyrraedd y penawdau'n rheolaidd, fel sydd wedi digwydd ers hynny.

Credaf mai arwydd o'i waith oedd bod y pwyllgor wedi gallu cyflawni nifer o ddiwygiadau yn ystod y Cynulliad diwethaf hefyd, o ganlyniad i'r cyngor cadarn a'r doethineb a roddwyd i ni gan yr archwilydd cyffredinol ar addasu ein harferion gwaith ein hunain. Cofiaf sawl cyfarfod mewn gwahanol rannau o'r DU pan aeth y pwyllgor i gyfarfod â phwyllgorau archwilio yn yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ac mae'n deg dweud bod y parch a oedd yno ymhlith ei gymheiriaid yn y deddfwrfeydd hynny yn eithriadol o fawr o ran yr enw da a oedd gan Huw.

Ac wrth gwrs, mae'n bwysig nodi, o'r degawdau lawer o wasanaeth cyhoeddus y mae Huw wedi ei roi i'r DU a Chymru, mae'r gyfran fwyaf ohonynt wedi bod yma yn ein gwlad. Ar ran pobl gogledd Cymru a fy etholwyr fy hun, rwyf am gofnodi cyfraniad Huw Lewis fel prif weithredwr sir Ddinbych am nifer o flynyddoedd—awdurdod lleol a wynebodd ei heriau yn ystod ei amser yno, ond unwaith eto, cafodd ei arwain yn dda yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig inni gofnodi bod Huw nid yn unig wedi cael effaith enfawr o ran ei gyfraniad i'r sector cyhoeddus, ond hefyd i'r sector elusennol dros y blynyddoedd. Mae wedi cael llawer o rolau gyda nifer o elusennau sydd hefyd, wrth gwrs, o fudd i'r cyhoedd, nid yn lleiaf ei waith fel Cadeirydd y Cofrestri Cenedlaethol Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol yn gweithio gyda Phobl Fyddar a Byddar a Dall ac wrth gwrs, y statws ymddiriedolwr cenedlaethol a oedd ganddo gyda'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yng Nghymru, a rolau gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog a sefydliadau eraill hefyd wrth gwrs. Mae'n bwysig ystyried pan fyddwch yn rhoi gwaith allan, fod ei roi i berson prysur yn aml yn ffordd o wneud yn siŵr fod pethau'n cael eu gwneud. A gwn nad oedd amser Huw yn eiddo iddo ef ei hun yn aml iawn, ac yn ddi-os, bydd yn trysori'r amser ychwanegol a fydd ganddo yn awr i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau personol. Ond rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn ei ymddeoliad. Rwy'n credu bod ei CBE yn gwbl haeddiannol yn y rhestr anrhydeddau pen-blwydd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld pa rôl y bydd Huw yn ei chwarae yn y dyfodol yng Nghymru.

Un sylw olaf. Rydym yn cyfeirio at y straen ar Aelodau Cynulliad ar adegau, a'n capasiti i weithio. Ni allwn helpu ond sylwi bod y Llywydd wedi gwneud datganiad ar ddyfodol y Cynulliad yn gynharach heddiw. Mae'n werth myfyrio ar y ffaith bod Huw Vaughan Thomas, wrth gwrs, wedi gwasanaethu ar gomisiwn Richard dro'n ôl pan wnaed argymhellion clir ynglŷn â chapasiti'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac rwy'n credu bod ei gyngor doeth ar gomisiwn Richard yn dal i sefyll heddiw. Yn anad dim arall y credaf ei bod hi'n bwysig inni ei ystyried, y cyngor a roddodd fel aelod o gomisiwn Richard ar gapasiti'r Cynulliad yw hwnnw, ac yn enwedig niferoedd Aelodau Cynulliad.

17:05

Nid oes fawr ddim i'w ychwanegu at hynny, Lywydd, fe fyddwch yn falch o wybod, heblaw fy mod yn gwybod pa mor agos y gweithiodd Darren Millar fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gyda Huw a gwnaethant lawer o waith pwysig. Dylwn fod wedi nodi ar y cychwyn, mae'n debyg, fod Huw yn yr oriel. Rwy'n meddwl am bobl yn gwylio hyn o'r tu allan ac rydym oll yn edrych tua'r nef fel pe bai'n eistedd ar gwmwl yn rhywle, ond na, mae yno yn y cnawd. Ond y cyfan sydd ar ôl gennyf i'w ddweud yw llongyfarchiadau ar eich CBE a phob lwc yn y dyfodol.

Diolch i'r Cadeirydd. Diolch i'r archwilydd cyffredinol a phob dymuniad da yn y dyfodol ar ein rhan ni i gyd yn y Cynulliad yma.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

Yr eitem nesaf felly yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jayne Bryant.

Cynnig NDM6773 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 02-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am gyfnod o 14 diwrnod calendr, gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf tymor y Cynulliad ar ôl toriad yr haf (17 Medi 2018).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chwyn yn erbyn Rhianon Passmore AC am ddwyn anfri ar y Cynulliad, sy'n torri amodau cod ymddygiad y Cynulliad. Mae adroddiad y pwyllgor yn rhoi manylion y ffeithiau sy'n berthnasol i'r gŵyn ac yn nodi rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad yn llawn. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi rhoi ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd a daeth i'r casgliad fod cosb yn briodol yn yr achos hwn. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn, ond cytunwyd bod yr achos o dorri amodau yn galw am gerydd sylweddol. Galwaf ar y Cynulliad i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.

Lywydd, rwy'n codi heddiw i ddarllen datganiad gan Rhianon Passmore AC yn ei geiriau ei hun. Felly, ysgrifennwyd y geiriau rwyf ar fin eu darllen ganddi hi ac nid gennyf fi.

'Lywydd, rwy'n ymddiheuro i chi a phob Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol am fy absenoldeb heddiw. Rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu i arweinydd y tŷ i ddarllen y datganiad personol hwn i'r Cynulliad. Cyfeiriais fy hun at y comisiynydd safonau, rwy'n cymryd cyfrifoldeb am fy ngweithredoedd. Rwy'n derbyn argymhellion y comisiynydd a phenderfyniad pwyllgor safonau'r Cynulliad. Rwy'n ymddiheuro.

'Er y gellid yn aml fy nisgrifio yn gyhoeddus fel gwleidydd benywaidd hunanhyderus, rwyf wedi gorfod wynebu brwydrau preifat y cefais hi'n anodd eu goresgyn. Er fy mod am gynnal preifatrwydd fy mywyd preifat a fy nheulu, rwyf am gydnabod y gefnogaeth a gefais yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn. Rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i wneud fy ngwaith ar ran y bobl a wnaeth fy ethol hyd eithaf fy ngallu.

'Nid oes dim o hyn yn esgusodi fy euogrwydd am dorri'r gyfraith. Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf am hynny. Hoffwn gydnabod y caredigrwydd a ddangoswyd tuag ataf mewn gohebiaeth breifat gan Aelodau ar draws y Siambr a chan newyddiadurwyr sy'n craffu ar ein gwaith. Byddaf yn sicrhau fy mod yn mynd i'r afael â'r problemau yn fy mywyd preifat, ac rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i wasanaethu'r etholwyr y mae'n fraint gennyf eu cynrychioli hyd eithaf fy ngallu. Gwn fod yn rhaid i mi adennill ymddiriedaeth pobl, a byddaf yn gweithio mor galed ag y gallaf, a hyd eithaf fy ngallu, bob dydd i gyflawni hynny. Diolch. Rhianon Passmore AC.'

Diolch.

17:10

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi unwaith eto am ddarparu datganiad pellach heddiw ac am gofnodi ei hymddiheuriad unwaith eto.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18. Galwaf ar aelod o'r Comisiwn, Adam Price.

Cynnig NDM6774 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y pumed Cynulliad.

Mae’r Comisiwn wedi gosod y nod o fod yn sefydliad sy’n adnabyddus am ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol ac arloesol, ac i fod yn gorff sy’n esiampl i gyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n braf, felly, cyflwyno’r adroddiad yma o gynnydd ar yr uchelgais hon.

Symudaf yn gyntaf at y themâu a bennwyd ar gyfer cyfnod y cynllun. Rydym wedi pennu pum thema i strwythuro ein gwaith, gyda’r nod o gyflawni ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n edrych am bob cyfle i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r thema gyntaf yn ymwneud â recriwtio, ac, fel y gwnaethom ni ymrwymo erbyn yr haf eleni, rydym wedi mabwysiadu dull newydd o recriwtio. O hyn ymlaen, felly, bydd y Comisiwn yn pennu lefel sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd y byddwn yn ei hysbysebu. Bydd lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg yn rhan o’r disgrifiad swydd ar gyfer unrhyw swydd lle nad oes angen lefel uwch o sgiliau. Ar gyfer swyddi y mae angen lefel uwch o sgiliau iaith Gymraeg, rydym hefyd wedi cyflwyno fframwaith sy’n diffinio’r lefelau hynny o un i bump.

Dyma ddatganiad pendant, Llywydd, o’n dyhead i gefnogi gweithlu ein Senedd genedlaethol i berchnogi’r Gymraeg yn ddiwahân i gadarnhau ei safle a’i statws fel iaith sy’n eiddo i holl ddinasyddion Cymru, ac i gymryd camau ymarferol i alluogi ein staff i gyd i wasanaethu pobl Cymru yn ein dwy iaith.

Yr ail thema yw sgiliau iaith, ac, unwaith eto, pennwyd cyfres o dargedau i’w cyflawni erbyn haf 2018. Dros y flwyddyn diwethaf, mae’r tîm sgiliau iaith wedi gweithio ar ddatblygu rhaglen hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg sydd ar gael i bawb, o ddysgwyr newydd i siaradwyr Cymraeg rhugl. Dros yr haf, byddwn yn treialu mwy o hyfforddiant dwys, ac mae staff ac Aelodau wedi cael cyfle i fod yn rhan o ddarpariaeth breswyl y project Cymraeg Gwaith o dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

O ran cynlluniau ieithyddol, sef y trydydd thema yn y cynllun, mae’r holl wasanaethau wedi bod yn diweddaru eu cynlluniau iaith gyda chefnogaeth y tîm ieithoedd swyddogol. Yn ogystal â sicrhau bod gan ein gweithlu lefel briodol o sgiliau Cymraeg, mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n cynllunio’n fwriadus i roi pob cyfle i’n staff ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, waeth ar ba lefel, yn eu gwaith. Wrth adolygu ein cynlluniau iaith gwasanaeth, rydym wedi gweld peuoedd iaith yn datblygu o fewn y sefydliad, gydag aelodau timau yn gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn darparu’r gwasanaeth allanol yn gwbl ddwyieithog. Mae’r peuoedd hyn yn rhywbeth y byddwn yn awyddus i’w datblygu ymhellach dros y flwyddyn i ddod.

Mae’r pedwerydd thema yn ymwneud â thrafodion y Cynulliad. Mae’r gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau a hwyluso gweithio dwyieithog.

Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran y gwaith a wnaed dros y flwyddyn. Mae’r targedau fan hyn yn rhai gweddol syml ar y cyfan, ond, gyda’i gilydd, byddant yn gwneud cyfraniad mawr at newid delwedd ac ethos ein sefydliad i adlewyrchu’r genedl ddwyieithog rydym yn ei gwasanaethu. Bellach, mae bathodynnau a llinynnau gwddf yn cael eu defnyddio a’u dosbarthu yn ddiofyn, er enghraifft, ac mae llawer o staff y Comisiwn yn defnyddio’r bathodyn 'iaith gwaith' ar eu e-byst hefyd. Fel y byddech chi'n ddisgwyl, mae ein gwaith ar dechnoleg iaith wedi parhau, gan gynnwys gwaith sydd wedi arwain at broject cyffrous iawn ar gyfer y Swyddfa Gyflwyno a thîm y Cofnod.

I symud ymlaen felly at y safonau gwasanaeth o fewn y cynllun, mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd rŷm ni wedi cynnal y safonau a osodwyd. Am y tro cyntaf eleni, mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys ystadegau ar nifer o elfennau o’r gwasanaethau rŷm ni yn eu darparu. Yn ystod y broses o ddrafftio’r cynllun, dywedodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wrthym y byddai data o’r fath yn ddefnyddiol i helpu Aelodau i fonitro ein perfformiad mewn rhai meysydd. Felly, maen nhw wedi eu gosod mas yn yr adroddiad blynyddol. Edrychaf ymlaen at gydweithio ymhellach â’r pwyllgor yn y gwaith hwn yn y dyfodol agos. Mae'n rhaid i mi droi reit tu ôl i'ch gweld chi. Bydd y data yma yn ffurfio gwaelodlin ar gyfer mesur ein perfformiad dros y blynyddoedd i ddod a thargedu hyfforddiant i staff. Byddwn hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ddwyieithog, gan gynnwys tystiolaeth a deddfwriaeth, ar gael i Aelodau Cynulliad wrth iddynt gymryd rhan mewn trafodion a pharatoi ar eu cyfer.

Yn olaf, at fonitro a chydymffurfio, yn yr adroddiad rŷm ni yn adrodd ar y cwynion a'r adborth rŷm ni wedi eu derbyn, a'r camau a gymerwyd ac unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd i gywiro methiannau ac i wella cydymffurfiaeth â'r cynllun yn barhaus, yn ysbryd tryloywder a rhoi sicrwydd i bobl Cymru fod y sefydliad hwn yn un sy'n cymryd cydraddoldeb ieithyddol o ddifrif mewn gair a gweithred. Unwaith eto, bydd y manylion yma yn eich helpu chi i ddal Comisiwn y Cynulliad i gyfrif am ein gwaith yn eich cefnogi chi a phobl Cymru i weithio ac i ymgysylltu â ni fel sefydliad yn eich dewis chi o ran iaith swyddogol, ac felly gwella ein gwasanaethau dwyieithog ymhellach i'r dyfodol. Diolch yn fawr. 

17:15

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i siarad—Bethan Sayed. 

Diolch, Llywydd. Hoffwn groesawu cyhoeddi adroddiad blynyddol y cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2017-18. Yn amlwg, mae'n ddefnyddiol bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn longyfarch y Comisiwn a staff y Cynulliad am gyflawni'r ymrwymiad i gyhoeddi'r adroddiad erbyn y mis Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

Er ein bod ni'n croesawu hynny, mae'n achosi rhai anawsterau i ni fel pwyllgor. Y cyfle cyntaf a gafodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ystyried yr adroddiad oedd yn ein cyfarfod y bore yma. Roedd hyn yn rhy hwyr i ni allu cael cyngor ystyriol ar ei gynnwys ac nid yw wedi caniatáu amser i ni ystyried pa un a ydym am graffu ar y Comisiwn o ran y cynnwys, heb sôn am wneud unrhyw graffu ychwanegol. Felly, yn ddelfrydol, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld yr adroddiad mewn da bryd er mwyn ystyried ei gynnwys, craffu arno—os oeddem yn credu bod angen gwneud hynny, wrth gwrs—ac yna bwydo canlyniad y gwaith craffu hwnnw i'r ddadl hon heddiw.

Rwyf wedi siarad efo Adam Price ac yn deall bod rhai problemau ymarferol wrth gyhoeddi'r adroddiad llawer yn gynt yn y flwyddyn. Yn sicr, ni fyddwn am weld oedi gyda chyhoeddiadau yn y dyfodol. Serch hynny, gofynnaf fod y Comisiwn yn gwneud pob ymdrech yn y dyfodol i gyhoeddi'r adroddiad yn ddigon cynnar er mwyn caniatáu i'r pwyllgor ei ystyried yn briodol, ac, os bydd angen, craffu arno cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn. Os yw hynny'n golygu cynnal y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn yr hydref yn hytrach na diwrnod olaf tymor yr haf, yna rwy'n credu bod y pris hwnnw'n werth ei dalu er mwyn gwneud gwaith craffu effeithiol.

Gan droi at gynnwys yr adroddiad ei hun, mae gennyf nifer o bwyntiau i'w gwneud a chwestiynau i'r Comisiynydd. Yn gyntaf, pan luniwyd y cynllun presennol, cafodd asesiad o effaith ar gydraddoldeb, neu EIA, ei baratoi. Nodaf fod y gweithgor a sefydlwyd i weithio ar thema 1, sef recriwtio, yn edrych yn rheolaidd ar y tasgau sy'n codi o'r EIA i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, a allai'r Comisiynydd sicrhau bod EIA diwygiedig, sy'n dangos yn glir y cynnydd a wnaed ar y tasgau hyn bellach wedi'i gyhoeddi?

Nid oes llawer o wybodaeth yn yr adroddiad yma am y broses recriwtio newydd na gwybodaeth am y lefelau sgiliau iaith a gesglir. Efallai y gallai'r Comisiynydd ymhelaethu ar hynny. Er enghraifft, bydd y dystysgrif lefel cwrteisi newydd a roddir i bawb a gaiff eu hasesu ar y lefel hon ond yn para am ddwy flynedd. Pam dwy flynedd? Byddai esboniad o'r rhesymeg y tu ôl i hynny yn ddefnyddiol i ni fel pwyllgor. Yn fwy cyffredinol, byddai rhagor o wybodaeth yn y maes hwn ac, yn y dyfodol, mwy o ddata—mwy o ddata eto, sori—am y niferoedd sy'n cael eu recriwtio ar bob lefel yn ddefnyddiol i ni.

Mae'r adroddiad yn dweud bod Comisiwn y Cynulliad yn disgwyl i'r sefydliadau a'r cyrff hynny sy'n destun safonau neu gynlluniau iaith gydymffurfio â'u cynlluniau eu hunain wrth gyflwyno gwybodaeth i'r Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cyfeirio at is-ddeddfwriaeth, sy'n aml yn cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig. Tybed a all y Comisiynydd roi sylwadau pellach ar hynny a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru, rwy'n tybio, yn cydymffurfio â'i chyfrifoldebau yn y maes hwn.

Ar bwynt tebyg, nodaf fod 23 y cant o bapurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i bwyllgorau'r Cynulliad yn Saesneg yn unig. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru? A hefyd o ran cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch i ba raddau y mae Aelodau’r Cynulliad yn derbyn atebion yn Gymraeg i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad. A bod yn deg, mater i'r Cynulliad fynd i'r afael ag ef yw hynny i ddechrau ond a oes unrhyw dystiolaeth bod y Llywodraeth yn ymateb yn Saesneg i gwestiynau yn y Gymraeg?

Mae 20 y cant o gyfraniadau mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn gan Aelodau yn cael eu gwneud yn Gymraeg. Fodd bynnag, dim ond 8 y cant o'r cyfraniadau mewn pwyllgorau sy'n Gymraeg. A all y Comisiynydd gynnig unrhyw esboniad am y gwahaniaeth hwnnw ac a oes unrhyw waith yn cael ei wneud i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn pwyllgorau? Yn fy marn bersonol i, un o'r prif broblemau yw, weithiau, rŷm ni'n gofyn cwestiynau yn y Gymraeg ac mae pobl yn tynnu eu clustffonau oddi arnynt ac wedyn yn disgwyl weithiau fod y cwestiynau atododol yn mynd i ddilyn yn Saesneg ac wedyn mae'n amharu ar lif y rheini sy'n gofyn y cwestiynau. Felly, efallai mwy o wybodaeth i'r rheini sydd yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor fod yna oblygiad—neu efallai y gallan nhw gadw'r clustffonau hynny arnynt yn ystod sesiynau pwyllgorau.

Yn olaf, nodaf fod enghreifftiau o gwynion wedi codi ynghylch diffyg cydymffurfio â'r cynllun—rydych chi wedi dweud hyn yn barod, Adam. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddata er mwyn rhoi syniad i ni o nifer y cwynion. Byddai'n ddefnyddiol pe byddai data yn y dyfodol yn cynnwys nifer y cwynion a ddaeth i law fel y gellir gwneud cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn. Byddai hynny hefyd yn golygu y gellir monitro'n effeithiol unrhyw gynnydd neu ostyngiad, yn ogystal ag unrhyw dueddiadau ynghylch y math o gwynion.

Hoffwn orffen drwy ddiolch i holl staff y Cynulliad sy'n ein helpu i weithio mewn amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog, boed hynny'r rhai sy'n cyfieithu fy sylwadau heddiw neu'r rhai sy'n ein helpu gyda gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig. Ond diolch hefyd i'r staff hynny, siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, sy'n cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y lle hwn yn cael ei weld fel esiampl o sefydliad dwyieithog ac sydd, drwy ei waith, yn caniatáu i ni weithio yn ein hiaith o ddewis ac sy'n sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i ganiatáu i'r cyhoedd ryngweithio â ni yn eu dewis iaith.

17:20

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n fwy na bodlon nodi'r adroddiad yma a'i groesawu hyd yn oed. Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae'n ymddangos i mi fod y lle yma wedi dechrau teimlo dipyn bach yn wahanol; mae'r Record wedi gwella ac rwy'n falch, wrth gwrs, o weld bod rhai o'n staff diogelwch wedi dechrau fy nghroesawu i yn Gymraeg. Siŵr o fod maen nhw wedi gweld y lanyard, a gobeithio dyna'r unig reswm. Hefyd, rwy'n teimlo fy mod i wedi elwa ar rai o'r gwersi gloywi a hefyd rhai o'r gwersi hanes Cymru hefyd sydd wedi dod am ddim—nid oeddwn i'n disgwyl y rhain. Hefyd, mae wedi bod yn mater o bleser gweld bod yna fwy o bobl yn gwisgo'r lanyards yma, a mwy o ddysgwyr yn defnyddio'r Gymraeg yma yn y Siambr. Mae yna neges gryf gyda hynny hefyd achos rwyf wedi sylweddoli bod rhai ohonyn nhw wedi dod—wel, rhai o leiaf—o ardaloedd Cymru lle nad oes yna ddim lot o bobl yn siarad Cymraeg. Mae yna nifer o bobl, efallai, sydd ddim cweit wedi croesi'r trothwy i ddeall pa mor bwysig yw'r Gymraeg dros Gymru, ac i gael rhai o'r Aelodau o'r Cymoedd, er enghraifft, yn sefyll i fyny ac yn siarad Cymraeg, efallai am y tro cyntaf—mae honno'n neges bwysig, rydw i'n credu.

Rwy’n falch eich bod chi wedi cyfeirio at y pwyllgor diwylliant yn yr adroddiad, ac, er fy mod i’n hapus i weld llinell sylfaen am hysbysebion a busnes y Cynulliad, er enghraifft, mae dal yn siomedig bod yr adroddiad yn llawn o frawddegau fel 'cynnydd yn y dysgwyr' neu 'sawl cwrs' neu 'grwpiau o ddysgwyr'. Heb ffigurau pendant, mae’n mynd i fod yn amhosibl gweld, flwyddyn nesaf, maint unrhyw lwyddiant. Mae’n bownd o fod lwyddiant, ond bydd yn anodd ei weld ef, a thwf sgiliau unigolion.

Rwy’n gwybod ei fod yn anodd dweud pwy sydd wedi llwyddo achos mae hwn yn gwestiwn o gyfrinachedd, siŵr o fod, ond, yn arbennig, rydw i’n meddwl y byddai’n help i ddeall faint o staff Aelodau sydd wedi ymateb i’r cynnig a pha fath o broblemau oedd gyda nhw o ran cymryd mantais o’r cynnig o ystyried eu ffordd o weithio sydd heb ei ragweld. Nid wyf i’n rhoi esgus drostyn nhw, wrth gwrs, ond rŷm ni i gyd yn gwybod fel Aelodau sut mor anodd yw hi i ffeindio amser yn ystod yr wythnos i ni gael tipyn bach o help gyda’n Cymraeg. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’n staff hefyd.

Fel Comisiwn, rydym wedi cynnal arolwg staff yn eithaf diweddar, ac mae hynny’n cynnwys staff Aelodau. A oedd rhywbeth yn glir o hynny o ran faint ohonyn nhw oedd yn gwybod, er enghraifft, am dudalennau’r wefan am y cynllun, help gyda chyfieithu ac yn y blaen? A ydym ni’n gwybod faint o hits mae tudalennau’r cynllun wedi eu cael? Achos nid oedd yn glir i mi yn yr arolwg cyffredinol beth oedd ein staff yn meddwl am y cynllun.

Ynglŷn â’r Comisiwn, wrth gwrs, rŷm ni’n edrych ar weithlu hyblyg nawr, ac rwy’n deall fod capasiti cynnig gwasanaeth mewn tîm, yn lle gofyn am sgiliau afrealistig gan bob unigolyn, yn beth pwysig. Ond, wrth ymateb i’r ddadl, a fydd yn bosibl i ddweud tipyn bach mwy yn benodol am ble rŷch chi wedi edrych am syniadau cyn creu'r fframwaith sgiliau iaith a phwy sy’n edrych dros y broses pennu rhuglder nawr? Achos mae’r bwrdd buddsoddi ac adnoddau wedi diflannu, wrth gwrs.

Jest i droi at bapurau’r Llywodraeth—mae Bethan Sayed wedi cyfeirio at hynny yn barod—a ydy’n glir, ynglŷn â’r papurau is-ddeddfwriaeth, a yw’r broblem yn dod o’r Deyrnas Unedig neu o’r Llywodraeth yma? Achos os yw’r Llywodraeth yma—wel, mae’r ddwy ohonyn nhw, actually. Erbyn hyn, ddylai unrhyw un sydd o dan safonau ddim chwilio am esgusodion nawr am beidio â chydymffurfio. Mae pawb yn gallu esgusodi slips bach fan hyn ac yn y blaen, ond i gael rhywbeth, mae'n debyg, sydd yn fwy systematig na hynny—mae cwestiynau i’r Llywodraeth yma, ac efallai San Steffan. Hoffwn i wybod sut rydych chi’n mynd i wynebu hynny.

Rwy’n mynd i siecio fy neges peiriant ateb hefyd. Mae’n rhaid i mi wneud hynny, achos, os oes cwyn wedi dod mewn ynglŷn â hynny, hoffwn i sortio hynny.

Jest i ddod i ben, Llywydd, rwy’n cytuno â’r pwynt ynglŷn â dwy iaith yn cael eu darlledu ar yr un pryd, yn arbennig fel rhywun sy’n dal i ddysgu. Mae isdeitlau yn lot, lot gwell. Rydym wedi clywed y bore yma yn ein pwyllgor am S4C a beth maen nhw’n gallu ei wneud gyda’r system is-deitlau. Rwy’n gwybod fod y Comisiwn wedi bod yn siarad â nhw. Jest i roi enghraifft, roeddwn i’n gwrando yn y caffi wedyn, neu drio gwrando, ar gwestiwn Simon Thomas—ac rwy’n sôn nawr am y system fewnol, nid system tu fas, ac, i rywun fel fi sy’n chwilio am gyfleoedd i godi geiriau newydd, roedd yn siom nad oedd yn bosibl i wrando ar Simon, achos mae’n iwsio geiriau sy’n newydd i fi yn aml. Felly, os oes pobl tu fas i’r sefydliad yn cael yr un profiad—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Geiriau newydd i chi hefyd mae’n debyg. Ocê, mae’n fine. Os oes yna rywbeth byddem ni’n gallu ei wneud yn y dyfodol ynglŷn â hynny, i rywun fel fi, fe fyddai’n gam mawr ymlaen, rwy’n credu. Diolch.

17:25

Diolch am yr adroddiad pwysig yma. Mi oeddwn i’n falch o weld fod Comisiwn y Cynulliad yn cyflwyno papurau cyhoeddus i bwyllgorau yn ddwyieithog ar y cyfan, ond, fel mae Suzy a Bethan wedi sôn, yn bryderus o weld fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwybodaeth yn uniaith Saesneg 174 o weithiau. Hefyd, mae'r adroddiad yn dweud bod 25 y cant o'r dogfennau a osodwyd—fel rydym ni newydd fod yn ei drafod rŵan, memoranda esboniadol ac is-ddeddfwriaeth—heb gael eu gosod yn ddwyieithog, dogfennau y mae'r Llywodraeth ei hun yn eu cynhyrchu. Felly, mae angen rhoi neges glir heddiw, rydw i'n meddwl, i'r Llywodraeth, i sicrhau bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â'r safonau iaith sydd wedi cael eu gosod arni wrth ymwneud â'r Cynulliad, ac rydw i'n galw ar y Llywodraeth i gydweithio efo'r Comisiwn i sicrhau eu bod nhw yn perfformio'n well ac yn peidio â llesteirio ewyllys y Cynulliad yma.

Mae'r adroddiad eleni yn cynnwys data, ond data cychwynnol, ac mae'r adroddiad yn dweud hefyd y bydd adroddiadau mewn blynyddoedd i ddod yn cynnwys y data ar ffurf lle y bydd modd cymharu'r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd, ac mae hyn yn hollbwysig, wrth gwrs. Mi fyddai'n fuddiol iawn, rydw i'n meddwl, cael awdit llawn o staff y Cynulliad er mwyn i ni wybod faint o bobl sydd â sgiliau dwyieithog, ym mha adrannau ac ati. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynllunio gweithlu'r dyfodol a defnyddio'r gweithlu presennol yn fwy pwrpasol. Rydw i'n falch o weld bod yna nodyn yn dweud ei bod hi'n fwriad i wneud hynny.

Rydw i'n falch iawn hefyd o weld y peuoedd iaith yma'n datblygu yn y Cynulliad, sef timau o bobl sydd yn gweithio'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y rhain yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae'r timau yn cynnwys cyfuniad o siaradwyr rhugl a dysgwyr, ac mae cynllunwyr iaith yn nodi, yn gyffredinol, felly, fod creu peuoedd iaith yn y man gwaith, lle mae'r iaith leiafrifol yn cael ei defnyddio i weinyddu a chyfathrebu'n fewnol, yn hollbwysig wrth ddiogelu a datblygu iaith, ac mi fyddai creu awdit sgiliau iaith yn gallu annog creu rhagor o beuoedd Cymraeg, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld hynny.

Un peth i orffen: fel rydych chi'n gwybod, rydw i yn dewis defnyddio fy iaith gyntaf, y Gymraeg, bron bob tro wrth fy ngwaith yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn fy mod i'n gallu gwneud hynny, wrth gwrs. Un rhwystr i hynny ydy'r ffaith bod briffiadau'r Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer gwaith pwyllgor yn cael eu paratoi yn Saesneg. Weithiau, mae hynny'n golygu oedi o ddiwrnod neu ddau cyn bod y fersiwn Gymraeg ar gael. Un ffordd o ddechrau goresgyn hynny fyddai annog y rhai sy'n meddu ar sgiliau dwyieithog yn y Gwasanaeth Ymchwil i gynhyrchu briffiadau yn y Gymraeg—yn y lle cyntaf, hynny yw. Mi fyddan nhw'n siŵr o gael eu trosi i'r Saesneg yn gyflym iawn, felly. I mi, dyma un arwydd o wir ddwyieithrwydd—hynny yw, bod dogfennau yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg, ac ychydig iawn o hynny sydd yn digwydd rŵan, yn ôl fy mhrofiad i, beth bynnag. Ac yn ogystal â symud i'r cyfeiriad yna, efallai y byddai cynnwys dangosydd penodol i fesur cynnydd yn y maes yna yn bwysig.

Felly, rydw i yn edrych ymlaen at weld y ffrwyth gwaith yn parhau ac i weld cynnydd cyffredinol pellach erbyn i ni gael yr adroddiad y flwyddyn nesaf. Diolch.

17:30

Diolch, Llywydd. Mae yna gymaint o sylwadau difyr a chwestiynau, ac rydw i'n ddiolchgar am rheini, ond ni fydd yn bosib i mi ei hateb nhw i gyd yn ystod y ddau funud nesaf, felly maddeuwch i mi am hynny, ond fe wnaf i, yn sicr, sicrhau eich bod chi yn cael ateb. O ran y diffyg amser ar gyfer craffu, wel, i raddau, arnaf i mae'r bai. Nid ydw i'n mynd i feio Ilar bach am hyn, ond roeddwn i wedi amserlennu hyn ar y diwrnod olaf am reswm, ac felly—. Ond rydw i yn edrych ymlaen at graffu gan y pwyllgor maes o law, ac fe edrychwn ni ar y trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. O ran yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb—yr EQIA—mae yn ddogfen fyw, ac wrth i'r camau rydym ni'n eu cymryd gael eu cyflawni, byddwn yn ei ddiweddaru maes o law, a gallaf i roi rhagor o wybodaeth i chi. Mae'r system recriwtio newydd ond ar waith ers dechrau'r wythnos hon, felly bydd rhagor o wybodaeth y flwyddyn nesaf. O ran y dystysgrif dwy flynedd, roedd y gweithgor o'r farn y byddai angen gloywi sgiliau cwrteisi o dro i dro. Felly, dyna ran o’r rheswm am y ddwy flynedd. O ran cael rhagor o ffigurau meintiol ynglŷn â sgiliau ac yn y blaen—hynny yw, o ran dysgwyr, a'r awdit cyflawn, a dweud y gwir, roedd Siân Gwenllian yn cyfeirio ato fe—rwy’n meddwl bod hwnnw'n fanteisiol, felly. Hynny yw, rwy’n gobeithio y byddwn ni'n cyfoethogi'r adroddiadau blynyddol gyda rhagor o wybodaeth feintiol yn y dyfodol. Gallwn hefyd edrych ar yr hits—beth bynnag yw’r gair am hwnnw—ar y dudalen ynglŷn â’r cynllun, ac yn y blaen, ac i edrych ar sut mae hynny’n gweithio. Rwyf yn bwriadu ysgrifennu at y BBC ynglŷn ag isdeitlo, ar hyd y llinellau roedd Suzy Davies yn awgrymu, ac o ran y briffiadau, rwy’n meddwl bod awgrym Siân yn un adeiladol iawn, ac fe wnawn ni edrych i mewn i hwnnw ac adrodd nôl ichi. Maddeuwch imi, ond rwyf wedi rhedeg mas o amser, ond bydd modd inni ysgrifennu at bawb a chopïo pawb gydag atebion llawnach.FootnoteLink

17:35

Y cynnig yw i nodi’r adroddiad blynyddol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar wneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6771 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ond yn enwedig i'r bobl a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws. Roedd clywed oddi wrthynt am heriau gwaith heb ddiogelwch, cyflogau isel a mynediad at y system les yn canolbwyntio ein meddyliau ac yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein casgliadau. Mae anghydraddoldeb yn achosi niwed mawr i'n cymunedau mewn cymaint o ffyrdd, gan leihau ansawdd bywyd i bawb, gan gynnwys pobl sy'n gymharol ffyniannus. Caiff hyn ei gydnabod yn fwyfwy amlwg, a chodwyd ymwybyddiaeth gan gyhoeddiadau megis y llyfr The Spirit Level. Mae Cymru'n wynebu heriau penodol o ran gwella safonau byw, ac mae'r adroddiad hwn yn un elfen o waith y pwyllgor i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi. Rydym yn gwneud 23 o argymhellion i gyd ar amrywiaeth eang o faterion, o strategaeth economaidd y Llywodraeth i ansawdd gwaith a lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwe argymhelliad, wedi derbyn 15 mewn egwyddor ac wedi gwrthod dau.

Mae'r ymateb yn siomedig mewn mannau. Yn benodol, ceir diffyg manylder neu ymgysylltiad ystyrlon â'r argymhellion, a'r dystiolaeth sy'n sail iddynt. Mewn rhai meysydd, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo na all ymrwymo i argymhellion penodol hyd nes y cwblheir yr adolygiad caffael parhaus. Buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i ddod yn ôl i'r pwyllgor yn sgil cyhoeddi'r adolygiad hwnnw gydag ymateb mwy manwl i argymhellion 14, 15 ac 16 ar gaffael. Hefyd, ceir y gweithgarwch parhaus ar waith teg, sy'n cael ei adlewyrchu yn safbwynt y Llywodraeth. Caiff argymhellion 18, 20, 21 a 22 eu trosglwyddo, i bob pwrpas, i'r comisiwn gwaith teg eu hystyried. Mae'r argymhellion hyn yn ymwneud â lleihau'r defnydd o gontractau dim oriau, cynyddu'r defnydd o'r cyflog byw a lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Gan fod y rhain oll yn faterion a allai effeithio'n uniongyrchol ar lefelau cyflogau pobl yn rheng flaen y farchnad lafur, mae'n destun pryder fod penderfyniadau wedi eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i fonitro'r ymateb i'r argymhellion hyn a chynnydd y comisiwn gwaith teg. Fel gyda chaffael, byddem yn disgwyl cael ymatebion manwl i'n hargymhellion gan Lywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn gyflwyno'i adroddiad.

Lywydd, drwy gydol ein gwaith, roedd yna nifer o gyhoeddiadau polisi allweddol gan Lywodraeth Cymru a gafodd eu hystyried gennym, yn enwedig cyhoeddi'r cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Er ein bod yn croesawu'r newid dull at ei gilydd, roeddem yn rhannu pryderon rhanddeiliaid fod y ddau gynllun yn brin o gamau gweithredu clir, terfynau amser a dangosyddion y gellir mesur perfformiad yn eu herbyn. Felly rydym wedi gwneud argymhelliad 2, sy'n galw am un cynllun gweithredu cydgysylltiedig sy'n manylu ar sut y cyflawnir y cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn mewn egwyddor, gan ddweud y bydd yn parhau i ystyried y dulliau gorau posibl ar gyfer rheoli ac adrodd ar gyflawniad, a bydd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd ym mis Medi. Mae hefyd yn cyfeirio at y dangosyddion llesiant fel mecanwaith i sicrhau dulliau cyson o fesur. Nid ydym yn teimlo bod hyn yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn pryderu bod perygl na fydd y bwriadau da yn y ddau gynllun pwysig hwn yn cael eu gwireddu heb bennu amserlenni clir, amcanion cyflawnadwy a cherrig milltir. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ni fel Aelodau'r Cynulliad graffu ar effeithiolrwydd y cynlluniau. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â pham na chafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn yn llawn.

Wedi'u cysylltu'n agos â hyn mae ein pryderon parhaus y bydd diffyg strategaeth benodol ar gyfer trechu tlodi yn llesteirio bwriadau Llywodraeth Cymru i sicrhau ffyniant i bawb. Mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwn yn ailadrodd ein hargymhelliad o'n hadroddiad Cymunedau yn Gyntaf, yn galw am strategaeth o'r fath. Wrth fyfyrio ar y dystiolaeth a glywsom drwy gydol yr ymchwiliad hwn, cawsom ein hargyhoeddi hyd yn oed yn fwy. Nid ydym yn derbyn barn Llywodraeth Cymru y byddai'n atal dull cyfannol o fynd i'r afael â materion cymhleth. Mae modd i'r Llywodraeth ddatblygu strategaeth sy'n mabwysiadu ymagwedd gyfannol o'r fath. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos.

Wrth ystyried y ffocws ar ddatblygu economaidd rhanbarthol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, roeddem yn cydnabod bod cymunedau ledled Cymru yn wynebu gwahanol heriau a chyfleoedd, a bod angen adlewyrchu hynny ym maes datblygu economaidd. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio yng Nghaerfyrddin yn gweithio yng Nghaernarfon. Un o'r dulliau mwyaf uniongyrchol sydd ar gael yw lleoli swyddi sector cyhoeddus o ansawdd da mewn ardaloedd y tu allan i Gaerdydd. Rydym wedi gweld hyn i ryw raddau, gyda swyddfeydd Llywodraeth Cymru wedi agor ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, ond credwn y gellid ac y dylid gwneud mwy. Felly rydym yn gwneud argymhelliad 6, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth leoli i sicrhau amrediad gwell o swyddi yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, ac mewn ardaloedd difreintiedig yn benodol. Derbyniwyd hyn mewn egwyddor, ond nid yw'r naratif cysylltiedig yn cysylltu'n llawn â'r argymhelliad. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet i ba raddau y bydd y strategaeth leoli yn cyflawni ei nodau i adleoli swyddi i'r ardaloedd yng Nghymru sy'n mynd i golli cyllid strwythurol yr UE, ac a oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r strategaeth.  

Galwodd argymhelliad 17 ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfansoddiad, cylch gorchwyl a manylion cyfarfodydd y bwrdd gwaith teg. Roedd ymateb y Llywodraeth yn derbyn hyn mewn egwyddor, gan nodi y gellid sicrhau bod y rhain ar gael. A allwch gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, p'un a fydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi? Rwyf eisoes wedi crybwyll ein hargymhellion sy'n ymwneud â chyflogau, sy'n cael eu hystyried gan y comisiwn gwaith teg. Fodd bynnag, ceir un argymhelliad pellach ar gyflogau yr hoffwn ofyn am eglurhad pellach arno heddiw. Galwai argymhelliad 19 ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymgyrch eang a phellgyrhaeddol i annog talu'r cyflog byw gwirfoddol. Derbyniwyd hyn mewn egwyddor, ond er bod manylion am y camau a gymerwyd hyd yma i annog ei dalu wedi cael eu darparu, nid yw'r ymateb yn rhoi ateb clir ynglŷn ag a fydd ymgyrch eang yn cael ei datblygu. Clywsom fod ymgyrch o'r fath yn yr Alban wedi bod yn gadarnhaol iawn, a chredwn y gallai hon fod yn ffordd effeithiol ymlaen. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch o'r fath.

Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau ar draws y llawr, ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

17:45

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ar ôl yr adroddiad craff a syfrdanol ar dlodi yng Nghymru gan ein pwyllgor. Fel y gwyddoch, dyma'r drydedd elfen o waith ein pwyllgor ar y mater hynod bwysig hwn, ac mae'r adroddiad yn ategu'r angen i Lywodraeth Cymru symleiddio'r polisi a nodi strategaeth greadigol glir i fynd i'r afael â thlodi ac i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu dod o hyd i waith ac incwm da.

Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac yn fy etholaeth i, yng Nghonwy, yn benodol, mae 20 y cant o oedolion rhwng 16 a 64 oed yn ddi-waith. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder byth yw mai ychydig iawn o welliant a fu, yn ôl y ffigurau, ers 2005. At hynny, pobl hŷn yn y gweithlu sydd fel mater o drefn yn ei chael hi waethaf. Fel y nododd Prime Cymru,

Mae dwy ran o dair o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy yn dweud eu bod yn dioddef gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithlu.

Ac nid yw'n braf darllen yr hyn y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei ddweud, mai 22 y cant yn unig o bobl hŷn sy'n gadael eu swyddi o'u gwirfodd yn hytrach na chael eu gwthio neu eu hannog o'u swyddi. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cymorth ailhyfforddi a chyflogadwyedd, ond yn fwy na hynny, yr angen i gynlluniau cymorth cyflogaeth Llywodraeth Cymru dargedu'r rheini sydd fwyaf mewn angen, h.y. pobl sydd eisoes yn cael budd o gymorth Llywodraeth y DU. Fel y mae ein hadroddiad yn amlygu, er mwyn sicrhau bod gwaith i bawb, mae angen dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru, ac mae'n hollbwysig atal pobl sy'n dychwelyd i'r farchnad swyddi rhag mynd ar goll ym miwrocratiaeth y Llywodraeth, er mwyn sicrhau y gallant gael cyfleoedd sy'n eu galluogi i wella eu hunain, a chael eu hysgogi a'u hailrymuso.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynllun cymorth ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a'i Rhaglen Waith ei hun, i agor cyfleoedd i'r bobl hynny gymryd rhan ynddo, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd i uwchsgilio a chael hyfforddiant angenrheidiol. Er fy mod yn falch fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn yr adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan, rwy'n siomedig i weld fodd bynnag ei bod yn gwrthod yr argymhelliad i nodi a chyhoeddi strategaeth dlodi glir yn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau o waith ar leihau tlodi a sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio, a bod modd ei chyflawni.

Nododd yr archwilydd cyffredinol yn ei ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod, ar ôl ystyried yr adroddiadau niferus yn nodi problemau systemig yng Nghymru sydd angen eu hunioni, yn teimlo'n rhwystredig ac yn fwyfwy pryderus nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle i ailystyried yn sylfaenol. Rwy'n ategu'r farn hon, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yma heddiw sut y mae'r argymhellion hyn yn yr adroddiad yn mynd i gael eu datblygu, a pha ganlyniadau y gallwn ddisgwyl eu gweld dros y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr iawn.

Dyma ni, unwaith eto, yn trafod adroddiad pwyllgor arall sydd wedi derbyn ymateb hynod siomedig gan y Llywodraeth, gyda dim ond chwech o'r 23 argymhelliad yn cael eu derbyn. Mae'r defnydd annerbyniol o 'dderbyn mewn egwyddor' yn cael ei roi ar waith 15 gwaith yn yr adroddiad yma. Er ei bod hi'n wyth mis ers i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ddweud mewn llythyr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus na ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor', 15 gwaith mae o'n digwydd yn fan hyn.

Mae hi'n siomedig iawn fod yna ddau argymhelliad pwysig a chwbl synhwyrol yn cael eu gwrthod—eu gwrthod yn llwyr. Yn gyntaf, argymhelliad 1, sef i

'argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.'

Yr ymateb oedd gwrthod. Mae’n anodd credu beth sydd yn cael ei ddweud wedyn yn y naratif fel esboniad dros wrthod. Dyma maen nhw’n ei ddweud:

'Dim ond trwy gydgysylltu popeth a wnawn y gallwn ni ymateb yn effeithiol i’r her hirdymor o drechu tlodi.'

Wel, yn union. Dyna’n union pam mae angen strategaeth, i ddwyn yr holl elfennau yma ynghyd o dan un ymbarél. Mae hynny’n gwneud synnwyr llwyr, ond mae’n cael ei wrthod yn fan hyn, yn anffodus.

Yr argymhelliad arall sydd yn cael ei wrthod ydy hwn: mae'r pwyllgor yn argymell,

'fel rhan o unrhyw ystyriaeth o ddatganoli pwerau ar weinyddu'r Credyd Cynhwysol, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad o'r manteision a'r risgiau.'

Yr ymateb eto ydy gwrthod. Beth yn y byd sydd o’i le mewn cynnal dadansoddiad—edrych ar y manteision, edrych ar y risgiau a dod ag adroddiad gerbron? Ac os ydy’r dadansoddiad yn dangos bod yna ormod o risgiau, yna mae hynny wedyn yn mynd i gryfhau dadl y Llywodraeth, sydd yn erbyn meddwl am y syniad o ddatganoli budd-daliadau lles, a’r gwaith o’u gweinyddu nhw. A gawn ni fod yn glir—sôn am y gwaith o’u gweinyddu nhw i Gymru ydyn ni yn fan hyn. Mae dweud peth fel hyn—dyma mae’r Llywodraeth yn ei ddweud fel ymateb i hwn:

'Fel mater o egwyddor, dylai pob un ohonom fod yn gymwys i hawl cyfartal gan ein gwladwriaeth les.'

Wel, wrth gwrs, ond mae dweud rhywbeth fel yna yn ddadl yn erbyn datganoli ac mae’n ddadl beryglus. I mi, un o rinweddau datganoli ydy ein galluogi ni yng Nghymru i dorri cwys ein hunain os ydym ni’n teimlo bod polisïau’r Deyrnas Unedig yn anghydnaws â’n gwerthoedd ni, fel yn yr achos yma. A sôn am newid bychan yr ydym ni mewn gwirionedd—datganoli gweinyddu. Mae’n siom fawr nad ydy’r Llywodraeth yn fodlon cynnal astudiaeth, dim ond edrych arno fo a chyflwyno papur i ni yn sôn am beth fyddai’r manteision, a beth y byddan nhw’n gweld ydy’r risgiau. Rydw i’n falch o ddweud y bydd y pwyllgor yn edrych ar hyn. Mi fyddwn ni fel pwyllgor yn gwneud darn o waith i edrych ar sut y mae datganoli rhannau o weinyddu y system les wedi gallu gweithio yn yr Alban.

Mi wnaf i orffen ar nodyn ychydig bach yn fwy positif. Mi wnaeth ein pwyllgor dynnu sylw at bwysigrwydd lledaenu cyflogaeth sector cyhoeddus ar draws Cymru, ac mae’r adroddiad yn argymell bod mwy o hyn yn digwydd, efo’r ffocws ar ardaloedd difreintiedig. Mae’n hollbwysig lledaenu cyflogaeth allan o’r de-ddwyrain. Wrth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill ystyried newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau, wrth iddyn nhw newid lleoliadau, neu wrth greu lleoliadau newydd ar gyfer gwasanaethau, mae hyn yn hollbwysig.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i gaffael, ac fe wnaed nifer o argymhellion ynglŷn â sut y gallai cytundeb economaidd gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r amcanion sy’n cael eu rhannu yma. Hefyd, rydym ni yn edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu ar leihau’r bwlch cyflogau rhywedd, unwaith fydd y bwrdd gwaith teg wedi cyhoeddi ei argymhellion. Mae'n rhaid inni sylweddoli, rydw i'n meddwl, fod cyflogau isel yn fater cydraddoldeb yn ogystal â bod yn fater economaidd.

Rydw i yn credu—rydw i yn gorffen rŵan—fod yr adroddiad yma yn un defnyddiol ac yn un cynhwysfawr. Mae o’n dangos sut y gall Llywodraeth Cymru wneud llawer iawn mwy, petai’n dymuno, ac y mae’n dangos y gall newidiadau cymharol fychan i bolisi wneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sydd ar gyflogau isel yng Nghymru.

17:50

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, ac i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Ceir nifer o ffactorau ynghlwm wrth fod ar incwm isel, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â sefyllfa cyflogaeth yr unigolyn. Un o'r datblygiadau sy'n peri pryder dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ac yn y DU yn gyffredinol, yw mai pobl mewn cyflogaeth amser llawn yw llawer o'r bobl sydd ar incwm isel bellach. Mae hyn yn dangos mai cyflogau gwael a geir mewn llawer o swyddi. Hefyd, mae llawer o swyddi yn yr hyn a alwn bellach yn economi gig yn methu gwarantu wythnos lawn o waith. Mewn rhai swyddi bydd pobl yn cyrraedd y gwaith i gael gwybod nad oes gwaith ar eu cyfer y diwrnod hwnnw. Rhaid iddynt ddychwelyd adref wedyn. Felly, rhaid inni ymdrin â'r broblem fod cyfraith cyflogaeth yn y DU yn caniatáu ar gyfer contractau dim oriau a sefyllfaoedd tebyg.

Felly, mae gennym broblemau gyda byd gwaith, sy'n dir peryglus heddiw. Nid yw llawer o swyddi heddiw yn ddim mwy na gwaith, ac ni ellir ei galw'n swydd gyda rhagolygon fel y gellid ei wneud 40 mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n llwyr gymeradwyo argymhelliad 12 y pwyllgor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr yn y sectorau sylfaenol i dreialu grisiau swyddi o fewn cwmnïau i wella gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y cwmnïau hynny.

Nawr, rwyf wedi cael llawer o swyddi yn fy amser—o leiaf 35 ohonynt, pan ddechreuais eu cyfrif—ac efallai y bydd yn syndod i chi glywed i mi gael fy niswyddo o sawl un ohonynt, efallai ddim. Ond mae'n dorcalonnus gwneud gwaith hyd eithaf eich gallu a sylweddoli'n raddol nad oes unrhyw ffordd amlwg o gamu ymlaen yn eich gyrfa mewn gwirionedd, ni waeth pa mor dda y gwnewch y gwaith. Yr unig gymhelliant yw cadw'r swydd ei hun, ac wrth gwrs, mewn economi lle nad yw cyflogau'n codi, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eich cyflog yn cyd-fynd â chwyddiant hyd yn oed. Arferai fy ngwylltio'n aml fod rheolwyr yn cael eu dwyn i mewn o gwmnïau ar y tu allan i reoli tîm gwaith heb unrhyw wybodaeth am yr arferion gwaith a oedd yn digwydd. Buaswn bob amser yn ffafrio dyrchafu pobl o fewn y tîm, lle bo hynny'n bosibl.

Un o'r problemau sydd gennym heddiw yw bod gormod o bobl yn mynd i mewn i'r farchnad swyddi. Mae hyn yn golygu y cedwir cyflogau'n isel ac nid oes unrhyw gymhelliad i gwmni fuddsoddi yn ei weithlu ei hun. Mae'r diffyg buddsoddiad hwnnw yn ei staff ei hun yn rheswm allweddol pam fod cynhyrchiant heddiw yn waeth yn y DU nag yn yr Almaen er enghraifft. Wrth gwrs, o'n safbwynt ni yn UKIP, yr eliffant yn yr ystafell yw mewnfudo. Os oes gennych system sy'n caniatáu i gannoedd o filoedd o fewnfudwyr ddod i mewn i'ch gwlad bob blwyddyn, rydych yn caniatáu i gyflogwyr gael cyfle i barhau i logi llafur rhad. Mae'n creu marchnad cyflogwyr. Rheolau syml cyflenwad a galw yw'r rhain fel y'u cymhwysir i'r farchnad swyddi.

Wrth gwrs, ni fydd y pleidiau adain chwith yn cytuno â mi fod mewnfudo'n cael unrhyw effaith andwyol ar gyflogau gweithwyr ac ar amodau a gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Bydd yn rhaid i mi anghytuno â hwy yn eithaf cryf ar y pwynt hwnnw. Yr hyn y gallwn gytuno yn ei gylch efallai yw'r angen i gwmnïau ddarparu strwythur da er mwyn galluogi gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa, a chytuno bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn a allant i helpu i sicrhau'r canlyniad hwn. Felly, rwy'n cytuno y gallwn ddefnyddio pethau fel arian Llywodraeth Cymru a chontractau Llywodraeth Cymru fel abwyd i gymell cwmnïau i feithrin grisiau swyddi o'r fath yn eu cwmnïau.

Nawr, mewn perthynas â Llywodraeth Cymru a chontractau sector cyhoeddus, rhaid inni ochel rhag ffyrdd penodol y gall cwmnïau osgoi cydymffurfio â'r rheolau. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyflwyno rheolau ynghylch caffael, fel rydym yn argymell yn argymhelliad 14, ond rhaid inni sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych nid yn unig ar brif gontractwr y gwaith, a beth yw eu harferion cyflogaeth, ond hefyd ar arferion gwahanol is-gontractwyr a gaiff eu dwyn i mewn gan y prif gontractwr i wneud y gwaith mewn gwirionedd. Os nad awn i lawr y gadwyn gyflenwi'n drwyadl ac edrych ar hyn yn briodol, gallwch gael prif gontractwyr yn clochdar pa mor dda y maent yn trin eu gweithwyr, ond gan wybod yn iawn fod gan eu his-gontractwyr bobl ar gontractau dim oriau, er enghraifft.

Rwy'n cofio'r hen dystysgrifau Buddsoddwyr mewn Pobl a arferai fod gan gwmnïau yn y 1990au mewn cwpwrdd ffrâm ar y wal. Gwnâi imi chwerthin pan edrychwn ar rai o'r tystysgrifau hynny mewn un neu ddau o leoedd y bûm yn gweithio ynddynt a oedd yn gyflogwyr gwael iawn. Felly, rhaid inni sicrhau nad yw cael rhyw fath o nod Llywodraeth Cymru i gyflogwr da yn gyfystyr â chael deilen ffigys sy'n gorchuddio pob math o arferion drwg oddi tani.

Argymhelliad 23, sy'n ymwneud â datganoli credyd cynhwysol—cyfeiriodd Siân Gwenllian at hyn sawl gwaith yn ei hymateb, ac yn gyffredinol rwy'n cytuno â hi. Nawr, yn UKIP nid ydym wedi cefnogi datganoli taliadau lles, neu fel y mae Siân yn ei alw, datganoli gweinyddu lles. Ond rydym wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad yn awr o fanteision a risgiau hyn fel y gallwn o leiaf gael dadl gyda'r holl ffeithiau yn dryloyw o'n blaenau. Nid oedd yr argymhelliad hwn yn dweud y dylem gytuno i ddatganoli lles neu ni fyddai'r pwyllgor byth wedi cytuno iddo. Galwad am ddarparu rhywfaint o dystiolaeth yn unig ydoedd.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y Siambr yn y gorffennol mai'r rheswm pam y gwrthwynebent ddatganoli lles oedd oherwydd y byddai Cymru ar ei cholled yn ariannol. Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu'r agwedd hon ar eu dadl. Ymddengys bod safbwynt Llywodraeth Cymru bellach wedi newid, ac nid ydynt yn sôn am y ddadl ariannol mwyach. Mae'n ddirgelwch llwyr. Rwyf am ailadrodd y cyngor yn ein hargymhelliad 23, fod angen i Lywodraeth Cymru roi dadansoddiad manteision a risg i ni yn awr i gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidogion wedi'i ddweud yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Nid oeddwn yn bwriadu siarad am fewnfudo, ond credaf fod sylwadau Gareth Bennett yn galw am eu herio, oherwydd nid wyf yn credu o gwbl fod y problemau a wynebwn yn ein heconomi yn ymwneud â gormod o bobl yn chwilio am waith. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud llawer mwy â'n hagwedd tuag at y cyfalaf pobl sydd gennym a sut rydym yn ei ddefnyddio, ac yng nghyd-destun awtomatiaeth, mae hwnnw'n fater eithriadol o bwysig.

Rwy'n anghytuno'n llwyr fod diweithdra'n deillio o fewnfudo. Heb fewnfudo, byddai gennym fylchau difrifol yn ein gwasanaethau iechyd gwladol—meddygon, nyrsys, radiograffyddion—yn ogystal â phobl yn gweithio yn y diwydiant lles anifeiliaid, ein milfeddygon, ein peirianwyr, yn ogystal â gweithwyr sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth a'r diwydiant amaethyddol. Fe wnawn ddarganfod hyn os—. Rwy'n gobeithio na fydd yn digwydd, ond os yw Llywodraeth y DU yn gwneud cawl llwyr o'r negodiadau gydag Ewrop, fe welwn yn sydyn fod gennym fylchau enfawr wrth geisio cadw ein heconomi a'n gwasanaethau yn weithredol. Rwy'n meddwl ei bod yn gwbl gyfeiliornus i gredu bod yr heriau sy'n wynebu pobl rhag cael gwaith addas i'w priodoli i fewnfudwyr. Credaf eu bod yn gwella'r gweithlu'n fawr ac yn rhoi gwasanaethau o ansawdd gwell i ni. Y broblem sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi, fodd bynnag, yw sut i sicrhau nad yw gangfeistri'n rheoli pobl ac yn camfanteisio arnynt.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu sawl Aelod a minnau â dirprwyaeth o Wlad y Basg, dan arweiniad Arlywydd Llywodraeth Gwlad y Basg. Gwn nad fi yw'r unig un sydd wedi bod yng Ngwlad y Basg yn edrych ar ddiwydiannau Mondragon, sydd wedi llwyddo i'r fath raddau i greu diwydiannau defnyddiol yn gymdeithasol, a hynod gynhyrchiol a llwyddiannus. Ond ar ymweliad ddwy flynedd yn ôl rwy'n cofio bod un ystadegyn wedi glynu yn fy nghof, sef nad ydynt erioed wedi diswyddo unrhyw un o'r holl weithwyr sydd ganddynt, am fod eu polisïau adnoddau dynol yn cyd-fynd mor agos ag anghenion unigol pobl a allai fod ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion hyfforddi fel nad oes angen iddynt ddiswyddo pobl byth. Efallai y bydd angen iddynt eu hannog i newid eu patrwm gyrfa, ond mae hynny'n fater hollol wahanol. Felly, mae yna lawer iawn y gallem ei ddysgu gan Brifysgol Mondragon ynglŷn â hyrwyddo arferion cyflogaeth foesegol ar draws ein busnesau—cyhoeddus a phreifat.

Yn rhan o'r ddirprwyaeth, roedd nifer o bobl, gan gynnwys Gweinidog yr economi. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn nisgrifiad Lesley Griffiths o'i hymweliad â Gwlad y Basg ym mis Mehefin i edrych ar eu hymagwedd tuag at y diwydiant bwyd, sydd, wrth gwrs, yn un o bedair elfen economi sylfaenol Llywodraeth Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn ymagwedd y Basgiaid tuag at fwyd, nad yw'n ymwneud yn unig â hybu a marchnata bwyd ar gyfer y farchnad dwristiaeth a bwytai o ansawdd da sy'n gwasanaethu ymwelwyr. Maent hefyd yn canolbwyntio ar anghenion maeth eu cenedl gyfan, gyda diddordeb arbennig yn y bwyd maethlon ffres sydd ei angen ar gyfer grwpiau allweddol, sef plant a phobl oedrannus—pensiynwyr, mewn cartrefi preswyl ac yn eu cartrefi eu hunain—er mwyn sicrhau eu bod yn bwyta'n iawn, a hefyd pobl a wynebai risgiau i'w hiechyd. Soniodd am ganser a diabetes. Buaswn yn ychwanegu gordewdra, ond rwy'n tybio nad oes gan Wlad y Basg lefelau gordewdra tebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon.

Felly, o edrych ar y diwydiant bwyd a'r argymhellion y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn mewn egwyddor yn unig, gwyddom fod y diwydiant bwyd yn sector cyflogau isel, sy'n dibynnu cryn dipyn ar fewnfudwyr Ewropeaidd i lenwi bylchau yn y gweithlu nad yw pobl eraill eisiau eu llenwi am fod y cyflogau'n isel ac am fod yr amodau gwaith yn eithaf heriol. Ond mae angen inni nodi eu bod yn allweddol ar gyfer cynaeafu ffrwythau a llysiau, edrych ar ôl anifeiliaid mewn lladd-dai, yn y ffatrïoedd prosesu—yn wir, ym mhob agwedd ar y gadwyn fwyd. Mae angen inni boeni sut y cawn bobl eraill yn eu lle pe bai'r mewnfudwyr Ewropeaidd hyn yn diflannu.

Felly, roeddwn yn bryderus fod llawer o argymhellion y Llywodraeth i adroddiad sy'n hir, rhaid cyfaddef, yn argymhellion mewn egwyddor. Rydych yn sôn am gynlluniau galluogi, ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut rydych yn mynd i ddatrys rhai o'r pryderon sydd gennym ynghylch y gwahaniaethu systematig yn erbyn menywod, er enghraifft, naill ai cyn neu ar ôl iddynt gael plant. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym beth oedd canlyniadau'r symposiwm ar 13 Gorffennaf a grybwyllir mewn un neu ddau o'ch atebion, neu ymateb y Llywodraeth.

18:05

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gyfrannu i'r ddadl—Ken Skates. 

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r holl Aelodau sydd wedi siarad heddiw, ac i holl aelodau'r pwyllgor am adroddiad craff? Yn benodol, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am arwain gwaith y pwyllgor?

Er nad yw'r holl ddulliau ar gyfer creu unrhyw newid sylweddol yn lefelau tlodi ym meddiant Llywodraeth Cymru, yn enwedig pwerau dros y system les, credaf fod yr adroddiad yn nodi'n briodol fod rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at waith o ansawdd da sy'n darparu incwm digonol. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn darparu fframwaith clir a chyson ar gyfer ein dull Llywodraeth gyfan o gynyddu ffyniant a mynd i'r afael â gwraidd achosion tlodi mewn ffordd fwy effeithiol a chydgysylltiedig nag yn y gorffennol. Cefnogir hyn, wrth gwrs, gan ein cynllun gweithredu economaidd, y cynllun cyflogadwyedd, sy'n gweithio ar y cyd i gynyddu cyfoeth a lles, yn ogystal â lleihau'r anghydraddoldebau mewn cyfoeth a lles.

Nawr, wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, Lywydd, mae perthynas newydd rhwng Llywodraeth a busnes, yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, perthynas rhywbeth-am-rywbeth rhwng busnes a'r Llywodraeth. Rydym yn cydnabod mai rhan yn unig o'r ateb yw helpu pobl i gael gwaith o ran yr her sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi. Mae angen inni weithio gyda chyflogwyr i wella ansawdd swyddi, ac i gynorthwyo pobl i aros mewn gwaith a chamu ymlaen yn eu gwaith, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Mae'r contract economaidd newydd yn rhwymo Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn twf economaidd, ond gyda'r disgwyliad y bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi egwyddor gwaith teg a chyflogaeth weddus, ddiogel sy'n rhoi boddhad. Byddwn yn parhau i hyrwyddo manteision talu'r cyflog byw gwirioneddol i fusnesau, sy'n cynnwys gwelliannau i ansawdd gwaith eu staff, llai o absenoldeb ac effeithiau cadarnhaol ar recriwtio a chadw staff.

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn darparu cyd-destun ar gyfer gweithio gyda busnesau mewn sectorau sylfaenol, megis manwerthu, i ddeall yn well yr heriau a wynebant, ac i hyrwyddo'r cyflog byw fel rhan o dwf cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwaith wedi'i dargedu i gefnogi twf a gwerth yn y sectorau hyn, gyda'r nod o gefnogi mwy o gyfleoedd ar gyfer camu ymlaen a chyflogau gweddus. Unwaith eto, cyfeiriodd Jenny Rathbone yn benodol at y sectorau sylfaenol fel y meysydd gweithgaredd lle mae menywod yn arbennig wedi wynebu anfantais sylweddol. I sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd gwell a mwy diogel ar gael, rydym yn bwriadu lleihau'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod.

Nawr, teimlai nifer o rieni sengl eu bod yn wynebu heriau penodol wrth ddod o hyd i waith hyblyg. Rydym yn cydnabod nad yw cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw yn unig yn ddigon a bod angen eu gosod ochr yn ochr â chyfres o bolisïau sy'n cefnogi canlyniadau gwell i aelwydydd incwm isel. Er enghraifft, bydd ein cynnig gofal plant yn cefnogi rhieni sy'n gweithio a chanddynt blant tair a phedair oed, a bydd hyn yn cynyddu'r dewisiadau cyflogaeth, gan alluogi'r rhai sy'n gweithio'n rhan-amser i weithio mwy o oriau, ac i gynorthwyo rhai a allai ennill ail incwm i gael gwaith. Mae aelwydydd sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant yn fwy tebygol o elwa o gynnydd mewn cyfraddau cyflog, ac mae potensial gan y cyfuniad hwn o bolisïau i effeithio'n gadarnhaol ar incwm y cartref.

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cyflwyno model datblygu economaidd newydd gyda ffocws rhanbarthol, ac rwy'n falch o weld y gefnogaeth eang i'r dull hwn yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor. Mae'r dull yn cydnabod amgylchiadau unigryw pob rhanbarth ac yn rhwymo Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i fynd i'r afael â heriau, i adeiladu ar gryfderau ac i ddatblygu cyfleoedd unigryw i sicrhau'r twf mwyaf posibl ar draws Cymru. Nododd Janet Finch-Saunders y lefelau cymharol uchel o ddiweithdra y mae'n dyst iddynt yn ei hetholaeth, a nod uniongyrchol y dull rhanbarthol yw lleddfu anghydraddoldebau rhanbarthol ar draws Cymru, gan nodi'r cryfderau allweddol ar gyfer pob un o'r rhanbarthau ond gan wneud yn siŵr hefyd ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau unigol sy'n wynebu ein rhanbarthau.

Ein huchelgais hefyd yw gwneud Cymru yn genedl waith teg, un lle y gall pawb ddisgwyl gwaith gweddus, sy'n gwella bywyd. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi'r Athro Linda Dickens o restr fer o ymgeiswyr addas, annibynnol ac awdurdodol i gadeirio'r comisiwn gwaith teg. Bydd y comisiwn annibynnol yn adeiladu ar waith y bwrdd gwaith teg ac yn ymchwilio i lawer o'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor ac yn fwy eang gan y bobl a'r sefydliadau sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Gyda bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid ydym yn bychanu maint yr her. Fodd bynnag, drwy gydweithio â phartneriaid, gallwn adeiladu ar ein sylfeini, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau fel bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu at dwf economaidd ac elwa ohono. Er fy mod yn cydnabod gwerth The Spirit Level fel beirniadaeth o'r anghydraddoldeb a welwn ar draws economïau cyfalafol y gorllewin, rwy'n argymell Affluenza i gadeirydd y pwyllgor, gan ei fod, gyda The Spirit Level, wedi dylanwadu ar y strategaeth genedlaethol a datblygiad y cynllun gweithredu economaidd.

18:10

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, Lywydd, ac yn amlwg, i Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf ein bod wedi gweld themâu cyffredin ymhlith rhai o'r pwyntiau a godwyd—er enghraifft, nodwyd yr argymhelliad i gael strategaeth trechu tlodi a'i phwysigrwydd gan Siân a Gareth, a soniais innau am hynny yn fy sylwadau agoriadol. Fel y dywedais bryd hynny, dyma fater y byddwn yn dychwelyd ato fel pwyllgor, ar ôl gwneud yr argymhelliad hwn bellach mewn dau adroddiad gwahanol.

Hefyd, o ran y drydedd elfen, fel y dywedodd Janet, o waith trechu tlodi'r pwyllgor, yr adroddiad hwn yn sicr yw'r drydedd elfen yn wir, a chredaf ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd trechu tlodi i ni a'i arwyddocâd yng Nghymru wrth gwrs, lle mae pawb ohonom yn gwybod bod yna heriau economaidd-gymdeithasol penodol o fewn y DU sydd angen inni eu deall a mynd i'r afael â hwy.

Hefyd, Lywydd, cafwyd pwyslais ar ganlyniadau a mesuradwyedd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae hynny'n berthnasol i'r strategaeth trechu tlodi, ond mae hefyd yn berthnasol yn fwy cyffredinol. Rwy'n cytuno'n gryf â'r Aelodau fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ddychwelyd ato wrth inni symud ymlaen a gofyn am ragor o wybodaeth a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.

Soniodd Gareth a Siân hefyd am ein hargymhelliad y dylid cael dadansoddiad o risgiau a manteision datganoli'r gwaith o weinyddu credyd cynhwysol. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth a godwyd gennym mewn adroddiad blaenorol. Felly, rydym wedi ymdrin â'r mater hwn a gwneud yr argymhellion hyn mewn dau adroddiad yn awr, Lywydd. Unwaith eto, ni fyddwn yn gadael pethau yn y fan honno, ond rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y materion hynny unwaith yn rhagor a hefyd yn eu codi yn ein sesiynau craffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, yn sicr rydym yn bwriadu mynd ar drywydd y mater hwnnw oherwydd credwn ei fod yn un pwysig iawn ac yn un sy'n galw am ddadansoddiad pellach ac ystyriaeth bellach.

Lywydd, rwy'n falch fod Jenny Rathbone wedi ymateb i sylwadau Gareth Bennett ar fewnfudo oherwydd credaf fod y rhain yn faterion y mae angen eu herio o ran y sylwadau a wnaeth Gareth. Hoffwn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Jenny ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i bobl ddod yma i weithio i wneud swyddi hanfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a pha mor ddibynnol yw'r gwasanaethau cyhoeddus ar y gweithwyr hyn, ond mae hefyd yn wir, os edrychwn ar economïau llwyddiannus drwy'r byd, yn aml iawn byddant yn ffynnu ar yr egni, y doniau, a'r sgiliau a ddaw yn sgil mewnfudo, ac i raddau helaeth, maent wedi llwyddo drwy fod yn agored i'r mewnfudo hwnnw. Daw pobl i mewn ag egni go iawn, gan ddechrau eu busnesau eu hunain a chyflogi pobl eraill, yn ogystal â darparu cyflogaeth i gwmnïau eraill. Ie, Gareth.

18:15

Sut rydych chi'n esbonio'r ffaith felly fod gennym bellach gyflogau sy'n aros yn yr unfan a bod gennym lawer o bobl mewn gwaith amser llawn sy'n dioddef yn sgil cyflogau isel?

Wel, fel erioed, Gareth, rwy'n credu bod y rheini'n faterion cymhleth iawn na allwch eu datrys yn syml drwy ddweud y dylem gael llai o fewnfudo i'r DU a Chymru. Wyddoch chi, rydym wedi bod mewn oes o gyni ers oddeutu 10 mlynedd bellach, yn anffodus. Mae'n ddewis polisi bwriadol gan Lywodraeth y DU a arweiniodd at gyflogau'n sefyll yn eu hunfan yn ogystal â llawer o effeithiau niweidiol eraill, buaswn yn dadlau.

Roedd yn ddiddorol fod Jenny wedi sôn am Wlad y Basg a'r ffaith bod ganddynt gwmnïau yno nad ydynt erioed wedi diswyddo'r un gweithiwr, a chredaf fod honno'n enghraifft wych o gyflogwyr cyfrifol a chymdeithasol gyfrifol. Nodaf fod Gareth wedi dweud wrthym ei fod wedi cael 35 o swyddi, sy'n gryn dipyn o nifer, Gareth, a phrofiad da i'w ddwyn i'r math hwn o waith pwyllgor, ond fe wnaeth fy nharo y gallech feddwl, os nad ydych yn llwyddiannus yn yr etholiad Cynulliad nesaf, am gael rhagor o fanylion y cyflogwr hwnnw gan Jenny Rathbone yng Ngwlad y Basg, sy'n darparu cyflogaeth mor gynaliadwy a dibynadwy dros gyfnod o amser. Ond wrth gwrs, rwy'n siŵr fod ganddynt agwedd wahanol i'ch un chi tuag at fewnfudo, a fyddai'n ei gwneud hi'n hawdd i chi symud, pe baech yn dymuno gwneud hynny.

A gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, ei bod yn bwysig iawn, rwy'n meddwl, fel y soniodd Gareth, ein bod yn mynd â chaffael i lawr i lefel is-gontractwr? Rydym yn ymdrin â hynny yn yr adroddiad, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn effro i'r angen i edrych nid yn unig ar y rheini sy'n cael contractau cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd ar yr is-gontractwyr sy'n bwydo oddi ar y busnes hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'r is-gontractwyr hynny'n cyflogi nifer o bobl ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyrraedd gan y math o arfer da a chod moeseg cyflogaeth gyfrifol a ddisgwyliwn gan y contractwyr gwreiddiol o dan y polisi caffael.

Lywydd, fel y dywedais, ceir nifer o faterion y byddwn yn dychwelyd atynt fel pwyllgor. Rydym yn croesawu'r newid yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu economaidd. Rydym am weld y bwriadau da yn cael eu dilyn gan gamau pendant a fydd yn cyflawni o ddifrif ar gyfer y rheini sydd yn rheng flaen yr economi, a byddwn yn cadw llygad manwl ar ddatblygiadau perthnasol a gweithrediad yr argymhellion a dderbyniwyd—y rhai a dderbyniwyd yn llawn a'r rhai a dderbyniwyd yn rhannol. Yn benodol, byddwn yn ailedrych arnynt yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad caffael ac allbynnau'r comisiwn gwaith teg. Byddwn hefyd yn parhau i ddadlau'r achos o blaid strategaeth wrth-dlodi drawsbynciol.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad unwaith eto. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Mae hynny’n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y cyfnod pleidleisio. Nid oes pleidlais i’w chynnal.

12. Dadl Fer: Gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru

Mae hynny’n dod a ni, felly, at eitem olaf y prynhawn, sef y ddadl fer ac rydw i’n galw ar John Griffiths, unwaith eto, i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw—John Griffiths.

Diolch Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un i Joyce Watson, Mike Hedges a David Melding.

Hoffwn ddefnyddio'r ddadl fer hon heddiw i drafod manteision cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol mewnol a pham y credaf y dylai hwn fod yn bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Byddai 20 mya mewn grym ar draws y wlad mewn ardaloedd adeiledig, preswyl lle mae pobl yn byw. Byddai awdurdodau lleol yn gallu eithrio ffyrdd pe bai amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny. Byddai hyn yn gwrthdroi'r sefyllfa bresennol lle mae 30 mya mewn grym yn gyffredinol yn amodol ar gyfyngiadau is ar gyfer ffyrdd penodol.

Ceir manteision niferus: mae'n gwneud ffyrdd yn fwy diogel er mwyn diogelu bywydau ac yn galluogi cymunedau lleol i adennill eu strydoedd. Byddai hynny'n hwyluso chwarae, beicio a cherdded, a mwy o gydlyniant a rhyngweithio cymunedol. Mae hwn, Lywydd, yn syniad ac yn bolisi y mae ei amser wedi dod yn fy marn i. Mae eisoes wedi'i sefydlu ac ar gynnydd ar draws y byd. Yn yr Iseldiroedd, mae terfyn cyflymder isaf o 30 km neu is ar 70 y cant o ffyrdd trefol. Yng ngwledydd Sgandinafia, mae'n dod yn norm mewn pentrefi a threfi. Yn wir, ledled Ewrop, mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu gosod yn gynyddol ar draws awdurdodau cyfan, gydag eithriadau ar gyfer ffyrdd mawr gyda chyfleusterau ar wahân megis llwybrau beicio. Mewn cymhariaeth, mae'r DU wedi dechrau'n hwyr, ond yn y 10 mlynedd diwethaf, mae dros 25 y cant o'r boblogaeth wedi elwa o gael terfyn cyflymder o 20 mya ar y strydoedd lle maent yn byw, yn dysgu, yn siopa neu'n gweithio.

Mae llawer o'n dinasoedd mawr, gan gynnwys Bryste, Manceinion a Chaeredin wedi gwneud y newid; mae 43 y cant o Lundeinwyr yn byw ar ffyrdd o'r fath, a 75 y cant o bobl ym mwrdeistrefi Llundain fewnol. Mae Bryste wedi cael llwyddiant mawr yn mabwysiadu'r dull hwn, ac mae siroedd cyfan hyd yn oed, megis swydd Gaerhirfryn, Sefton, Calderdale, Clackmannan a Fife, wedi gwneud hynny. Mae ein cyd-wledydd datganoledig hefyd yn ystyried cyflwyno'r polisi hwn. Ym mis Tachwedd y llynedd, yn yr Alban, cynigiodd yr MSP gwyrdd, Mark Ruskell, Fil i'r perwyl hwn. Mae'n destun ymgynghori ar hyn o bryd, a byddai'n hynod o arwyddocaol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd os caiff ei basio. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi gweld dros 3,000 o ddamweiniau traffig ceir a arweiniodd at anaf neu farwolaeth. Yn ninas Casnewydd lle rwy'n byw, cafwyd mwy na 140 o ddamweiniau a thair ohonynt yn angheuol, yn drasig iawn. Mae angen gweithredu pellach i ostwng y niwed hwn i'n teuluoedd a'n cymunedau. Wrth yrru drwy ystadau tai cymdeithasol gyda cheir wedi'u parcio ar hyd y ddwy ochr i'r ffordd a phlant yn chwarae, nid oes gan yrwyr fawr iawn o amser i ymateb os yw plentyn yn rhedeg i'r ffordd rhwng cerbydau sydd wedi'u parcio. Mae adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Dr Sarah Jones yn awgrymu, pe bai holl ffyrdd 30 mya presennol Cymru yn dod yn rhai 20 mya, y byddai hynny'n achub chwech i 10 o fywydau ac yn arbed rhwng 1,200 a 2,000 o anafiadau bob blwyddyn, a gwerth hynny o ran atal yn £58 miliwn i £84 miliwn.

Mae'r achos dros newid yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Mae Fforwm Trafnidiaeth Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn adroddiad diweddar ar gyflymder a'r risg o ddamweiniau yn datgan yn bendant, lle mae cerbydau modur a defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed yn rhannu'r un gofod, fel mewn ardaloedd preswyl, 20 mya yw'r terfyn cyflymder uchaf a argymhellir. Mae'n amlygu'r hyn a wyddom eisoes: mae cyflymder yn dylanwadu'n uniongyrchol ar amlder a difrifoldeb damweiniau. Wrth yrru'n gyflymach, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n cynyddu'n anghymesur. Ar gyflymder is, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n lleihau. Bydd 85 y cant o gerddwyr yn goroesi gwrthdaro 30 km/h—hynny yw 18.5 mya—tra bydd 80 y cant o gerddwyr yn marw mewn gwrthdaro 50 km/h, sef 32 mya.

Mae difrifoldeb gwrthdrawiadau'n dilyn deddfau ffiseg. Ar gyflymder uwch, mae'r egni cinetig sy'n cael ei ryddhau mewn damwain yn cynyddu, fel y gwna'r trawma a brofir gan y rhai a drawyd gan y cerbyd, neu sydd yn y cerbyd. Gellir egluro'r cynnydd yn y risg o ddamwain gan y ffaith bod yr amser i ymateb i newid yn yr amgylchedd pan fo cyflymder yn cynyddu yn fyrrach a cheir llai o allu i drin y cerbyd.

Mae gostwng y terfyn diofyn o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd trefol adeiledig yn lleihau'r perygl o ddamweiniau'n sylweddol. Gallai arbed amser hefyd, helpu i wneud ein haer yn lanach, ac annog ffyrdd o fyw mwy egnïol. Mae pobl yn tybio'n anghywir fod terfynau cyflymder is yn gwneud amseroedd teithio'n hwy, ond yn gyffredinol, mae'r cyflymder cyfartalog mewn dinasoedd ymhell islaw 20 mya, oherwydd tagfeydd a chiwiau. Mae traffig yn llifo'n fwy rhydd ar 20 mya na 30 mya. Mae gyrwyr yn gwneud gwell defnydd o le ar y ffordd drwy barcio'n agosach ac mae cyffyrdd yn gweithio'n fwy effeithlon, ac ar gapasiti uwch, gan ei bod yn haws uno â llif y traffig.

Ar ansawdd aer, mae modelu mathemategol ar draws amrywiaeth o astudiaethau wedi dangos y dylai arwain at welliannau. Dengys ymchwil gan Goleg Imperial Llundain ar gyfyngiadau cyflymder fod cyfraddau allyriadau'n uwch lle y terfir ar lif y traffig. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad y byddai'n anghywir rhagdybio y byddai 20 mya yn niweidiol i ansawdd aer yr amgylchedd yn lleol, gan fod yr effeithiau ar allyriadau cerbydau'n gymysg.

Mae terfynau cyflymder is yn lleihau tagfeydd drwy gynyddu cyfraddau llif a llyfnhau traffig drwy amgylcheddau trefol lle byddai ceir yn stopio ac yn ailddechrau fel arfer. Mae NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yn argymell gostwng y cyflymder trefol i gael llai o lygredd. Dywed eu canllawiau fod terfynau 20 mya heb fesurau ffisegol mewn ardaloedd trefol yn helpu i osgoi cyflymu ac arafu diangen. Mae gyrru mwy esmwyth gyda llai o frecio a chyflymu gwastraffus wedi torri 12 y cant oddi ar y defnydd o danwydd yn yr Almaen ar ôl gweithredu terfynau 30 km/h. Mae ansawdd aer yn gwella hefyd, gan fod traffig sy'n symud yn allyrru llai o lygredd na phan fo cerbyd yn sefyll yn llonydd gyda'r injan yn rhedeg. Mae argymhellion y Coleg Imperial yn cynnwys gostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd trefol a chymell pobl i feicio.

Lywydd, byddai cyflwyno'r polisi hwn o fudd i iechyd cyhoeddus hefyd mewn nifer o ffyrdd yn unol â Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant. Mewn ardaloedd adeiledig, byddai mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus i gerdded a beicio'n ddiogel, a byddai'r amgylchedd yn fwy dymunol i gymunedau, gan annog rhyngweithio cymunedol a chwarae awyr agored i blant.

Mae Sustrans Cymru yn nodi tystiolaeth y bydd newid i gyflymder arafach yn arwain at gymunedau mwy diogel ac iachach gyda lefelau uwch o gerdded a beicio. Yn 2013, cynhaliodd yr elusen arolwg o drigolion yng Nghymru, gyda chwech o bob 10 yn cefnogi terfynau 20 mya fel y cyflymder diofyn ar gyfer lle maent yn byw. Fel Gweinidog Llywodraeth Cymru, roeddwn yn falch o fwrw ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru), a basiwyd yn 2013. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i archwilio llwybrau presennol ar gyfer cerdded a beicio cyn cynllunio a darparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau i'r gwaith, i ysgolion ac i gyfleusterau lleol. Bydd terfynau 20 mya yn hwyluso hyn.

Dros yr ychydig genedlaethau diwethaf, yn anffodus bu gostyngiad dramatig yn y rhyddid a roddir i blant fynd allan heb oruchwyliaeth oedolion. Dengys astudiaeth gymharol gan y Sefydliad Astudiaethau Polisi dros 40 mlynedd fod 86 y cant o blant oedran ysgol gynradd yn cael teithio adref o'r ysgol ar eu pen eu hunain yn 1971. Erbyn 2010, 25 y cant yn unig oedd y ganran. Mae traffig yn ffactor mawr yn y newid hwn ac yn un o'r rhwystrau mwyaf i ryddid plant i chwarae y tu allan. Mae ein strydoedd preswyl wedi dod yn amgylcheddau peryglus i blant a phobl ifanc, ac mae chwarae anffurfiol ar y stryd wedi'i ddisodli gan y car i raddau helaeth.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ymgorffori'r hawl i chwarae, yn datgan y dylid rhoi ystyriaeth i greu amgylcheddau trefol a gwledig sy'n addas ar gyfer plant drwy fesurau traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys terfynau cyflymder. Ac mae Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth bwysig am rôl bosibl terfynau cyflymder 20 mya yn gwella gallu plant i chwarae—gweithgaredd sy'n ganolog i'w hiechyd a'u lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol. Argymhellir y polisi hefyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, sy'n nodi y gallai gael effaith eang a chadarnhaol tu hwnt.

Lywydd, mae taer angen datblygu ymyriadau cadarn a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar yr heriau sy'n wynebu iechyd y cyhoedd heddiw, ar lygredd aer, ar ordewdra ac ar anafiadau traffig ar y ffyrdd, ac mae cydberthynas rhwng y rhain i gyd. Gall terfyn cyflymder diofyn o 20 mya chwarae rhan bwysig yn hyn ac rwy'n credu bod angen cysondeb cenedlaethol gyda disgresiwn lleol i gyflawni'r newid angenrheidiol. Mae a wnelo'r materion hyn lawn cymaint â chonsensws cyhoeddus ag â rheoli traffig. Os ydym am i ystyriaeth o amwynder a diogelwch trigolion cymunedau fod yn norm cenedlaethol, yna ar ryw adeg, mae angen inni gael trafodaeth genedlaethol. Mae angen inni roi cymunedau yn gyntaf ac ailddiffinio'r gofod rhwng ein cartrefi. Rwy'n cefnogi'r newid hwn yn frwd a chredaf y bydd yn caniatáu inni adennill ein ffyrdd a chreu strydoedd cymunedol—strydoedd cymunedol sy'n dod yn lleoedd gwell i fod ynddynt.

Felly, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â Rod King, sylfaenydd 20's Plenty for Us, sefydliad sy'n ymgyrchu dros y newid hwn, a hoffwn yn fawr ddiolch iddo am ei arbenigedd a'i gyngor. Pan fydd y Cynulliad yn ailddechrau yn nhymor yr hydref, byddaf yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar 3 Hydref i drafod y pwnc hwn ymhellach. Rwy'n falch iawn fod Rod King yn mynd i fod yno, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, academyddion, Jeff Cuthbert, Sustrans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Lywydd, mae hwn yn bolisi a fydd yn sicrhau manteision pwysig a sylweddol i'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn barhau i adeiladu a chryfhau ein hymgyrch a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud 20 mya yn ddigon yng Nghymru.

18:30

Diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon, John. Bûm yn dadlau ynglŷn â hyn flynyddoedd lawer yn ôl, a chredaf yn sicr fod 20 mya yn ddigon. Rwy'n meddwl fy mod am ofyn i'r Llywodraeth ystyried y cefnffyrdd sy'n rhedeg drwy rannau o fy etholaeth. Mae Llanfair Caereinion wedi cysylltu â mi ar fater o'r fath, lle mae'n rhaid i blant ysgol groesi ffordd fawr i gyrraedd eu hysgol. Yn aml iawn, mae'n rhaid iddynt wneud yr un peth i fynd i barciau neu unrhyw le arall y mae angen iddynt fynd. Felly, er mai awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol, rhaid inni edrych ar gefnffyrdd.

A gaf fi ddiolch i John Griffiths am roi munud imi yn y ddadl hon? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 20 mya a 30 mya? Nid yw'n swnio'n fawr iawn. Wel, mae'r canfyddiad, y golwg drwy gornel y llygad, faint rydych yn ei weld mewn gwirionedd, yn cynyddu po arafaf rydych yn mynd. Mae eich amser ymateb—. I'r rhai a wnaeth eu prawf gyrru flynyddoedd lawer yn ôl, roedd tudalen gefn 'Rheolau'r Ffordd Fawr' yn dweud wrthych pa mor hir y byddai'n cymryd i stopio ar gyflymderau gwahanol. A pho gyflymaf y byddwch chi'n mynd, yr hiraf fydd eich amser ymateb a'r hiraf y bydd hi'n cymryd i chi stopio pan fyddwch chi yn ymateb. A chanlyniadau'r ddamwain—po gyflymaf y byddwch chi'n mynd, y mwyaf tebygol rydych chi o wneud niwed difrifol i rywun, a phlant ydynt yn aml.

Fe soniaf yn fyr am erthygl a oedd yn y South Wales Evening Post ddydd Sadwrn, lle roedd Robyn Lee, y colofnydd, yn ysgrifennu am weld damwain pan redodd plentyn yn syth i'r ffordd a chael ei daro gan gar. Nid oedd yn ddamwain ddifrifol; cleisiau'n unig a gafodd y plentyn. Pam? Nid oherwydd mai 20 mya oedd y terfyn cyflymder, ond yn ffodus, oherwydd bod yna dagfa draffig hir iawn. Ni allwn ddibynnu ar dagfeydd traffig i gadw ein plant yn ddiogel; mae angen parthau 20 mya.

Rwy'n frwd fy nghefnogaeth i'r achos a gyflwynwyd gan John Griffiths. Rwy'n credu y dylid cael terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mae'r dystiolaeth yn ddiymwad. Credaf fod galw cynyddol amdano ymhlith y boblogaeth. Cyhoeddwyd data arolwg heddiw ynglŷn â sut y mae'r cyhoedd yn galw'n llawer mwy pendant am yr hyn y maent yn ei ddisgwyl yn eu dinasoedd, ac maent eisiau llai o ddibyniaeth ar geir a mwy o ddefnydd cyfrifol ar geir. Mae'r ymgyrch 20's Plenty wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwy'n cymeradwyo ymgyrch 20's Plenty yn Sili, y gallaf ddweud ei bod heddiw wedi cyflwyno deiseb i Gyngor Bro Morgannwg wedi'i llofnodi gan 718 o drigolion Sili. Rwyf wedi cyfarfod â'r ymgyrchwyr hynny, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt. Rwyf hefyd yn cymeradwyo'r gwaith gwych a wneir yng Nghaerdydd; efallai nad ydynt yn cyrraedd safon Bryste eto, ond maent yn gwneud cynnydd go iawn ar symud tuag at wneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn yng Nghaerdydd hefyd. Mae'n bryd gwneud y newid hwn. Dylem ei wneud. Dylem ei osod fel y cyflymder diofyn a chyfiawnhau ei godi wedyn, neu ganiatáu i gynghorau gyfiawnhau ei godi'n uwch wedyn mewn mannau dethol.

18:35

Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.

Hoffwn ddiolch i John Griffiths am godi'r mater pwysig hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Gwn fod hwn yn fater y mae wedi teimlo'n gryf yn ei gylch ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn o allu ymateb i'w sylwadau ac i sylwadau'r Aelodau eraill. Mae ein pwerau newydd dros derfynau cyflymder cenedlaethol yn cynnig cyfleoedd inni archwilio sut y gallant fod yn ddefnyddiol i'n helpu i gyrraedd ein nodau llesiant a gwneud Cymru'n wlad fwy cynhwysol, iach a ffyniannus, a bu llawer o ddiddordeb yn y pwnc hwn yn ddiweddar. Pan gyhoeddodd Dr Sarah Jones a Huw Brunt eu hymchwil a ddaeth i'r casgliad y gallai terfyn 20 mya diofyn mewn ardaloedd trefol wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer yng Nghymru, roeddem yn falch iawn o'u gwahodd i'n cynhadledd teithio llesol y llynedd i drafod y mater, ac mae eu syniadau a'u cyfraniad wedi bod o gymorth mawr. Gallai cyflymder traffig is effeithio'n gadarnhaol ar ddiogelwch ar y ffyrdd drwy leihau nifer y gwrthdrawiadau a hefyd eu difrifoldeb. Ac mae manteision posibl eraill yn cynnwys gwneud amgylcheddau ffyrdd yn fwy addas ar gyfer pobl yn gyffredinol, lleihau gwahanu ardaloedd o bobtu ffyrdd, annog teithio llesol drwy leihau'r gwahaniaeth cyflymder rhwng moddau modurol a dulliau teithio llesol, a gwella'r canfyddiad o ddiogelwch. Ni ellir gwireddu yr un o'r manteision hyn, wrth gwrs, heb fod y rhan fwyaf o yrwyr yn glynu at y terfynau cyflymder is hyn, neu heb fod y cyflymderau'n cael eu gostwng yn amlwg, fan lleiaf.

Hyd yn hyn, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi defnyddio terfynau cyflymder 20 mya yn bennaf mewn ardaloedd a dargedwyd yn fanwl. Weithiau, ni fydd y rhain ond yn ymestyn dros ddarn byr o ffordd a rhwydwaith mwy o strydoedd weithiau, a dros y blynyddoedd rydym wedi ariannu cannoedd o barthau a therfynau cyflymder 20 mya, o'n grantiau llwybrau diogel a hefyd ein grantiau diogelwch ffyrdd ar draws Cymru. Datblygir y cynlluniau hyn mewn ymgynghoriad—mae hynny'n bwysig—mewn ymgynghoriad â chymunedau, ac yn gyffredinol cânt gefnogaeth a chroeso da gan y cymunedau hynny. Rhaid imi ddweud mewn ymateb i Joyce Watson, a nododd bwynt pwysig iawn am gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac nid cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yn unig, rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'n cefnffyrdd ac o ganlyniad rydym wedi cyflwyno ein rhaglen amlflwydd i sefydlu terfynau cyflymder 20 mya ger y mwyafrif helaeth o ysgolion ar ein cefnffyrdd neu'n agos atynt. Mae'r rhain yn gweithredu ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol i greu amgylchedd diogel ar gyfer plant sy'n teithio i ac o'r ysgol, ac maent hefyd yn annog newid mewn ymddygiad, ac yn hybu newid ymddygiad, ymhlith modurwyr. Nawr, bydd y rhaglen hon yn cael ei chwblhau yn y flwyddyn ariannol hon a bydd yn cwmpasu 45 o leoliadau ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol. Rwy'n falch o ddweud, yn Abergwaun, ein bod wedi cyflwyno terfyn cyflymder 20 mya parhaol ar y gefnffordd, ac ar sail tystiolaeth ac ymgynghoriad, buaswn yn fwy na pharod i ystyried terfynau cyflymder 20 mya parhaol mewn mannau eraill.

Nawr, fel y dywedais, er mwyn cyflawni'r effeithiau cadarnhaol, mae angen cydymffurfio â therfynau cyflymder is, fel y dywedodd John Griffiths yn gywir. Mae terfynau cyflymder 20 milltir yr awr wedi bod yn fwyaf effeithiol am leihau cyflymder lle maent naill ai'n rhan o barthau 20 mya, pan fo'r terfynau cyflymder wedi'u cefnogi gan fesurau ffisegol fel twmpathau ffordd, byrddau arafu a chulhau ffyrdd, neu lle mae'r amgylchedd ffisegol presennol yn cynnwys cyfyngiadau sy'n golygu bod cyflymder is yn teimlo'n iawn i'r modurwr. Lywydd, mae terfynau cyflymder ardal gyfan gydag arwyddion yn unig wedi llwyddo i sicrhau gostyngiadau sy'n amrywiol ond yn llai ar y cyfan i'r cyflymder cyfartalog. Fodd bynnag, maent yn dod yn fwy cyffredin, yn arbennig mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Mae hyn yn cynnwys Caerdydd, lle mae terfynau cyflymder 20 mya ardal gyfan yn cael eu cyflwyno, a chymeradwyaf y cyngor am wneud hyn. O ganlyniad, mae'r sylfaen dystiolaeth yn tyfu. Wrth benderfynu os a sut y defnyddiwn ein pwerau newydd, bydd yn ddefnyddiol iawn inni edrych yn fanwl ar brofiadau'r lleoedd hyn ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil cynhwysfawr a wnaed ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ar effaith terfynau cyflymder 20 mya mewn amrywiaeth eang o leoliadau ar draws y DU, ac maent i fod i gyflwyno eu hadroddiad yn fuan.

I ategu hyn, Lywydd, rwyf wedi comisiynu ein harolwg ein hunain o dystiolaeth gwerthusiadau a gyhoeddwyd. Nawr, fel y dywedodd John Griffiths yn y ddadl flaenorol, efallai na fydd beth sy'n gweithio yng Nghaernarfon yn gweithio yng Nghaerfyrddin. Felly mae'n bwysig ystyried dulliau amgen neu ychwanegol o wella diogelwch ar y ffyrdd hefyd. Ceir mesurau eraill a all gyfrannu at wella diogelwch ar ein ffyrdd, megis trwydded yrru raddedig, ac rwy'n cefnogi hynny, ac rwyf hefyd yn un o gefnogwyr brwd y fenter strydoedd chwarae, sydd i bob pwrpas yn trosglwyddo ffyrdd yn ôl i'r cymunedau, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc at ddibenion chwarae.

Rwyf hefyd yn cefnogi dulliau o gael gwared ar yr hyn sy'n achosi'r nifer fwyaf o ddamweiniau traffig, sef pethau sy'n tynnu sylw gyrwyr—dulliau fel annog modurwyr i leihau'r risg y bydd rhywbeth yn tynnu eu sylw drwy wneud yn siŵr nad yw'r ffôn symudol ymlaen ganddynt pan fyddant yn gyrru, a sicrhau bod unrhyw adloniant sydd ganddynt yn eu car yn cael ei gyfyngu cymaint ag y bo modd fel nad yw'n tynnu eu sylw. Credaf fod yr amgylchedd trefol a gynllunnir yn hollbwysig hefyd er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bethau'n tynnu sylw gyrwyr.

Felly, rwy'n credu'n gryf fod y pwnc hwn yn haeddu ystyriaeth ddifrifol iawn, Lywydd, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch 20's Plenty yn frwd. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael a byddwn yn ei thrafod gyda'n partneriaid cyn cyhoeddi'r argymhellion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd yn ehangach.

18:40

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a dyna ddod â'n trafodion i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.