Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/02/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.

Y Sector Gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y sector gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin? OAQ51816

Member
Alun Davies 13:30:20
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Drwy grant cefnogi trydydd sector Cymru yn 2017-18, darparwyd £176,217 gennym i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr mewn cyllid craidd, i gynorthwyo sefydliadau lleol gyda’r gwaith o godi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i'r un swm yn 2018-19.

Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, ceir rhai mudiadau gydag agwedd gymunedol iawn yn Sir Gaerfyrddin sy'n dibynnu’n fawr iawn ar wirfoddolwyr—sefydliadau o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, i Home-Start Sir Gaerfyrddin, cyfeillion ward yn Ysbyty Glangwili, safleoedd achub anifeiliaid, gwirfoddolwyr sy'n ymweld â'r cartref. Ac maent wedi camu i’r adwy, yn enwedig mewn cyfnod fel hwn pan mae llai o arian cyhoeddus ar gael. Beth y gallech chi fel Llywodraeth Cymru ei wneud i annog mwy o bobl i wirfoddoli, nid yn unig er mwyn cynorthwyo'r sefydliadau arbennig hyn, a darparu’r niferoedd a'r breichiau a'r coesau y mae eu hangen arnynt er mwyn gwneud yr hyn a wnânt, ond hefyd gan fod gwirfoddoli mor dda i'r unigolyn sy'n gwirfoddoli? Mae'n gymorth i frwydro yn erbyn rhai o’r problemau rydym yn sôn amdanynt, fel unigedd ac unigrwydd, mae'n dda i'r enaid, ac mae'n dda iawn i'r sefydliadau. A tybed pa gymorth y gallwch ei roi i annog mwy o bobl i wneud gwaith gwirfoddol, yn enwedig pobl iau—ac nid wyf yn golygu pobl yn eu harddegau o reidrwydd, ond pobl 30, 40, 50 oed, lle y ceir bwlch enfawr.

Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy’n ategu'r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod? Credaf fod pob un ohonom—credaf mai dyma un peth sy'n dod ag Aelodau o bob ochr o’r Siambr hon ynghyd, ac Aelodau sy'n cynrychioli pob rhan o'r wlad—yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddoli, i'r unigolyn sy’n gwirfoddoli, fel y nodwyd, i'r gymuned, a'r gwahanol sefydliadau, a byddai llawer ohonynt yn methu dal ati heb waith gwirfoddol a sgiliau, egni a chreadigrwydd y gwirfoddolwyr sy'n cyflawni'r rôl hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddarparu cyllid, yn amlwg, i nifer o wahanol sefydliadau yn y trydydd sector. Ond yn fy marn i, a chredaf mai dyma fydd barn yr Aelod hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. Mae angen inni greu'r cyfleoedd ar gyfer sicrhau ymagwedd gyfannol at bolisi, sy'n golygu bod gwirfoddolwyr a gwirfoddoli wrth wraidd yr hyn a wnawn o ran presgripsiynu cymdeithasol, fel y disgrifiodd yr Aelod, ac o ran meithrin ac ennyn ymdeimlad o gymuned hefyd. A gobeithiaf mai un o'r meysydd y gallwn eu trafod—cyfarfûm â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru y bore yma, a byddaf yn siarad yn y digwyddiad Gofal3 yr wythnos nesaf, ac yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector yr wythnos nesaf hefyd. A’r hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yw symud y tu hwnt i'r sgwrs am gyllid, at sgwrs ynglŷn â’r math o gymdeithas a'r math o gymunedau rydym am eu diogelu a buddsoddi ynddynt yng Nghymru, a golyga hynny ymagwedd gyfannol at bolisi sy’n ystyried gwirfoddoli nid yn unig fel rhan o'r modd rydym yn darparu gwasanaethau, ond fel rhan o'r hyn fydd ein cymunedau yn y dyfodol. Felly, rwy'n ategu'r hyn a ddywedwyd.

Gwella Arwynebau Ffyrdd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu i awdurdodau lleol i wella arwynebau ffyrdd? OAQ51802

Rwy'n darparu £30 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar draws pob awdurdod lleol ar gyfer adnewyddu ffyrdd lleol. Mae’r manylion wedi cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn darparu £30 miliwn i gynghorau yng Nghymru er mwyn gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd, a chroesawyd hyn gan bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau, 'Edrychwn ymlaen at barhau i drafod yn adeiladol ac yn agored er mwyn canfod atebion cynaliadwy.' Ysgrifennydd y Cabinet, yn seiliedig ar y fformiwla ddyrannu sefydledig ar gyfer priffyrdd, faint o arian y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Islwyn yn ei dderbyn o'r buddsoddiad o £30 miliwn, a pha gyfleoedd a fydd ar gael yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n uniongyrchol yn rhwydwaith ffyrdd Cymru?

Lywydd, i ateb y ddau gwestiwn yn uniongyrchol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn £1.5 miliwn yn ychwanegol i wario ar ffyrdd drwy'r cynllun hwn, ac mae gwelliannau cyffredinol i ffyrdd, gwariant ar ffyrdd a chynnal a chadw ffyrdd, wrth gwrs, yn gyfrifoldebau i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r seilwaith.

Ond a gaf fi fynd ychydig ymhellach wrth ateb y cwestiwn hwn? Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi awdurdodau lleol wrth sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd lleol yn addas at y diben. Gŵyr pob un ohonom fod problemau sylweddol ym mhob rhan o'r wlad, a dyna pam y darparwyd £30 miliwn gennym mewn cyfalaf, pan gawsom y cyfle i wneud hynny, i’r holl awdurdodau lleol, wedi ei ddosbarthu’n deg i sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau, yn ogystal â chyfrifoldeb i allu buddsoddi mewn rhwydwaith ffyrdd sefydlog a diogel. Rydym wedi gweithio gydag Anthony Hunt a'i gydweithwyr i sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael ar unwaith, ac edrychaf ymlaen at sgwrs barhaus rhyngom ni a’r awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallwn gydweithio yn y dyfodol i gynnal rhwydwaith ffyrdd lleol diogel a sefydlog.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y ffigurau defnyddiol iawn hynny gennych o'ch blaen, byddwn ar fai pe na bawn yn eich holi ynglŷn â fy awdurdod lleol fy hun, os caf fentro bod yn blwyfol. Cyngor Sir Fynwy—pa gyfran y byddant hwy yn ei derbyn o'r £30 miliwn hwnnw? Rydym wedi clywed faint y bydd Caerffili yn ei dderbyn, felly os gallwch roi diweddariad inni ar hynny, byddai hynny'n wych. A hefyd, o ran rhannu’r arian hwnnw yn ehangach, sut rydych yn rhagweld y bydd yn cael ei rannu rhwng awdurdodau trefol a gwledig, oherwydd mae'n amlwg fod nifer fawr o ffyrdd gwledig mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o gau, ac mae'n llawer drytach ceisio cynnal rhai o'r ffyrdd hynny yn rhai o'n hawdurdodau gwledig yng Nghymru?

Lywydd, nid oes neb yn synnu bod Nick Ramsay wedi defnyddio'r cyfle i ofyn y cwestiwn a ofynnwyd ganddo. Efallai y bydd yn fwy o syndod i’r Aelodau fy mod yn gwybod yr ateb. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn £921,218 o ganlyniad i'r grant hwn. Dosbarthwyd y grant cyfalaf o £30 miliwn gan ddefnyddio elfen drafnidiaeth y fformiwla gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf, a chytunwyd ar y fformiwla hon gyda llywodraeth leol. Hoffwn ddweud wrth ateb y cwestiwn fy mod yn credu ei bod yn bwysig sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu'n deg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, rhwng y gogledd a'r de, yn ôl anghenion yr ardal, a gobeithiaf y bydd y fformiwla ariannu sydd ar gael inni yn gwneud yn union hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd yn effeithio'n niweidiol ar bobl yn fy rhanbarth, Gorllewin De Cymru. Mae un o fy etholwyr yn methu mynd â'i wraig sydd mewn cadair olwyn allan o’u cartref oherwydd cyflwr y palmentydd o amgylch eu cartref. Pan gysylltodd â’r cyngor, dywedwyd wrtho ei fod ar waelod rhestr hir iawn o atgyweiriadau. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio, sy'n cau pobl yn eu cartrefi, yn niweidio eu cerbydau ac yn arwain at anaf personol?

Rydym wedi sicrhau bod yr arian hwn ar gael i’r holl awdurdodau lleol ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â phroblemau o’r fath. O ran materion penodol, buaswn yn argymell bod yr Aelod yn ysgrifennu at ei awdurdod lleol neu atom ni yn uniongyrchol, yn nodi'r materion hyn. Ond dywedaf wrth yr Aelod hefyd fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu’r ôl-groniad a’r problemau ariannu hyn o ganlyniad i raglen o gyni y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei gweithredu, ac mae eich plaid yn credu y dylent fynd ymhellach a chyfyngu ar gyllid eto fyth. Rwy'n anghytuno â hwy, ac rwy'n anghytuno â chi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. 

Diolch yn fawr. Rydw i wedi cael cyfle i ddarllen eich blog chi, lle rydych chi'n trafod diwygio llywodraeth leol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn y lle cyntaf, eich bod chi'n crybwyll mai ymateb ydyw, o ryw fath beth bynnag, i gwestiwn y gwnes ei ofyn yn fan hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â'r math o steil roeddech chi am ei fabwysiadu pan yn delio efo llywodraeth leol. Ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi eich ysgogi chi i feddwl, o leiaf, am hynny i gyd.

Mae'r ddadl am ddiwygio llywodraeth leol yn un sydd wedi bod yn danllyd, ac yn un sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd, ond heb unrhyw ddatrysiad. O ddarllen eich blog chi, mae'n swnio fel eich bod chi'n barod i roi unrhyw gynnydd gafodd ei wneud gan eich rhagflaenydd chi, Mark Drakeford, o'r neilltu, ac yn meddwl dechrau eto unwaith eto. Felly, a gaf i ofyn: yn y pedair blynedd diwethaf, wrth i'ch Llywodraeth chi geisio diwygio llywodraeth leol, beth yn union sydd wedi cael ei gyflawni?

Llywydd, rwy'n falch iawn bod fy mlog wedi plesio o leiaf un Aelod fan hyn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi'i ddarllen e o leiaf. A gaf i ddweud hyn: beth roeddwn i'n trio'i ddweud yr wythnos diwethaf pan oeddwn i'n ysgrifennu hynny, oedd trio gosod, ac ailosod, perthynas fwy aeddfed rhwng rhannau gwahanol o'r ffordd rydym ni'n llywodraethu Cymru, ac nid wyf i'n credu bod hynny wedi bod mewn lle drwy'r amser yn ystod y degawd diwethaf.

Nid yw'n wir fy mod i wedi gwneud unrhyw benderfyniad o'r fath y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Mi wnaeth llywodraeth leol eu hunain dweud nad oeddent eisiau cymryd a symud ymlaen gyda'r fath awgrymiadau a chynigion roedd fy rhagflaenydd wedi eu gwneud ynglŷn â gweithio'n rhanbarthol. Nid fy mhenderfyniad i oedd hwnnw, ond penderfyniad llywodraeth leol oedd hwnnw ac roedd aelodau o lywodraeth leol wedi trafod hynny yn eu seminar yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Felly, wrth ysgrifennu hynny, roeddwn i'n ymateb i beth roedd llywodraeth leol yn ei ddweud ac nid yn dweud beth roeddwn i'n ei ddweud. 

13:40

Wel, mae'n swnio o hynny mai'r unig beth sydd wedi cael ei gyflawni ydy gwastraffu miloedd o bunnoedd o bres trethdalwyr ac amser swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad a chynigion ar ddeddfu a fydd rŵan yn cael eu hanwybyddu. O leiaf efo'r Papur Gwyn diweddaraf, mi oedd yna ffordd ymlaen nad oedd yn gorfodi awdurdodau i uno.  A gaf i ofyn i ddechrau pa drafodaethau a gafwyd yn y Cabinet cyn i chi benderfynu rhoi'r gorau i ddilyn gwaith eich rhagflaenydd chi? Wedyn, a fedrwch chi egluro i ni heddiw beth ydy'r camau gweithredol nesaf, felly? A fyddwch chi rŵan yn rhoi'r gorau'n llwyr i'r Papur Gwyn a chanlyniadau'r ymgynghoriad a ddaeth yn sgil hwnnw? Beth fydd yr amserlen ar gyfer y tro pedol yma? Ac a fyddwch chi'n creu map newydd ar gyfer uno cynghorau? Ai dyna ydy'r bwriad? Ac os mai hynny ydy'r bwriad, sut ydych chi'n mynd i lwyddo lle methodd Leighton Andrews? 

Mi fuaswn i'n awgrymu bod yr Aelod yn ailddarllen y blog, efallai, a darllen tu hwnt i'r paragraffau cyntaf, am beth roeddwn yn trio ei ddweud yn fanna. Beth roeddwn i'n trio'i ddweud oedd bod eisiau perthynas tipyn bach yn fwy aeddfed rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a hefyd trio symud i ffwrdd o'r math o drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Roeddwn i'n gweld eich bod yn darllen eich ail gwestiwn. Mi fuasai wedi bod yn rhwyddach petai chi wedi gwrando ar yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, achos mi ddywedais i yn glir fanna nad fi oedd wedi rhoi o'r neilltu gynigion fy rhagflaenydd. Llywodraeth leol oedd wedi gwneud hynny ac felly, oherwydd hynny, mae'n rhaid i fi ailystyried safbwynt llywodraeth leol ac rydw i'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Pan fyddaf i wedi cael amser i ystyried y ffordd ymlaen, byddaf yn dod â datganiad i'r Cynulliad. 

Rydw i'n derbyn yn llwyr mai llywodraeth leol sydd wedi dweud wrthych chi, ac rydw i'n dyfynnu o'r blog:

roedd y polisi a etifeddwyd o weithio rhanbarthol gorfodol yn fethiant o’r cychwyn.

Mae hynny'n awgrymu i fi nad oedd e'n runner iddyn nhw. Rydych chi'n cytuno efo nhw, ac felly rydych chi'n mynd i roi'r gorau i'r polisi yna. Dyna oedd y polisi yn y Papur Gwyn. Felly, nid wyf i'n deall beth rydych chi'n drio ei ddweud yn union. Mi fuasai cael eglurder yn ddefnyddiol iawn. Felly, a fedrwch chi gadarnhau heddiw yma a fydd eich gweledigaeth chi, ar sail beth rydych chi wedi ei glywed gan lywodraeth leol, yn cynnwys cydweithio rhanbarthol mandadol fel oedd yn y cynigion gwreiddiol? 

Wel, yn amlwg, mae llywodraeth leol wedi dweud nad ydynt eisiau symud i gyfeiriad felly ac rydw i'n derbyn hynny. Nid wyf i'n mynd i drio gorfodi llywodraeth leol i symud i gyfeiriad felly os nad hynny yw beth maen nhw'n moyn gwneud, ac maen nhw wedi bod yn glir nad ydynt eisiau hynny. So, mae'n rhaid inni wedyn ystyried ble rydym ni. Wrth alw am drafodaeth fwy aeddfed, beth rydw i wedi bod yn trio gwneud oedd trafod gyda llywodraeth leol pa fath o bwerau sydd eu hangen ar lefel fwy lleol ac rydym ni wedi cael ymateb i hynny. Wedyn, rydym ni'n ystyried sut rydym ni'n gweithredu polisïau felly. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn gweld nid jest y blog i gyd, ond hefyd beth a ddywedwyd gan lywodraeth leol ym mis Tachwedd. Roeddent wedi bod yn glir nad oedd y system—y strwythur—bresennol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Roeddent yn glir ar hynny. Roeddent hefyd yn glir nad oeddent eisiau symud yn y cyfeiriad roedd Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw symud iddo fe. So, roedden nhw'n glir ar ddau beth ym mis Tachwedd.

So, mae'n rhaid inni nawr ystyried hynny, a beth liciwn ei wneud yw cael amser i ystyried ac i edrych ar ba opsiynau sydd gyda ni cyn imi symud ymlaen. Roeddwn i'n trio, yn fy mlog, ymestyn y fath o drafodaeth rydym ni wedi'i chael. Efallai'r prynhawn yma nad ydw i wedi llwyddo—nid ydw i'n gwybod, ond liciwn i gael trafodaeth tipyn bach yn fwy eang amboutu lle Llywodraeth Cymru, ein llywodraethau ni ac wedyn pa fath o bwerau sy'n angenrheidiol i lywodraeth leol eu cael ac wedyn symud ymlaen i edrych ar strwythur a fydd yn ein galluogi ni i gynnal gwasanaethau o safon a hefyd sicrhau atebolrwydd democrataidd ar lefel leol. Dyna beth rydw i eisiau ei wneud, a dyna beth fyddaf i'n ei wneud. Unwaith bydd y broses yma wedi dod i ben, byddaf yn dod i fan hyn i wneud datganiad clir ar y cyfeiriad rŷm ni eisiau symud ymlaen ynddo.

13:45

Diolch, Lywydd. Er bod ymateb Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2017 i adroddiad y pwyllgor dethol ar amddiffyn, a oedd yn ymateb i adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog, yn cynnwys sylwadau ar gynnydd—a defnyddiwyd y gair 'cynnydd'—yng Nghymru, nid oes adolygiad annibynnol wedi bod eto ar gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu cyfamod y lluoedd arfog. Chi sy'n arwain polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr. Pa gynigion sydd gennych felly i gynnal neu gomisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd a/neu roi sylw i argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wnaed gan ymchwiliad pwyllgor lluoedd arfog y Cynulliad i weithrediad cyfamod y lluoedd arfog?

Credaf fod yr Aelod yng nghyfarfod y grŵp hollbleidiol yn gynharach y mis hwn pan oeddwn yn bresennol i ateb cwestiynau ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn gyfforddus iawn ar hyn o bryd gyda lefel y ddarpariaeth o ran yr hyn y gallwn ei wneud ar gyflawni cyfamod y lluoedd arfog a'n gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr? Credaf y bydd angen inni fynd ychydig ymhellach yn y dyfodol. Cafwyd rhai argymhellion da iawn gan y grŵp hollbleidiol. Mewn atebion blaenorol, rwyf wedi ymrwymo i ystyried pob un o'r argymhellion hynny, a maes o law, pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny, byddaf yn rhoi ymateb llawn ar y holl faterion hynny. Ond cytunaf yn llwyr â llefarydd y Ceidwadwyr fod y rhain yn faterion difrifol sy'n galw am ymagwedd ddifrifol.

Diolch. Er y £100,000, rwy'n credu, o gyllid parhad ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr, nododd yr adroddiad, neu argymhellodd yr adroddiad, y dylid adolygu'r cyllid ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr a sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau yn rheolaidd. Pan drafodwyd hyn gennym ym mis Tachwedd, roedd y rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum neu chwe mis, ar gyfartaledd, mewn mannau eraill. Er eu bod wedi sicrhau tair blynedd o gyllid ychwanegol gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn er mwyn lleihau'r rhestrau aros, roeddent yn disgwyl y byddai'r amseroedd aros yn codi eto heb gymorth ychwanegol. Ac maent hefyd wedi darparu ffigurau i mi sy'n dangos mai 45 y cant yn unig o'r cyn-filwyr y maent yn gweithio â hwy neu a atgyfeiriwyd atynt sydd mewn gwaith. Sut yn union rydych yn ymgysylltu â GIG Cymru i gyn-filwyr er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn cael yr holl wybodaeth o ran (a) lefel y galw a (b) eu hargymhellion er mwyn mynd i'r afael â hynny?

Rwy'n gobeithio ein bod yn cael yr holl wybodaeth am y materion hynny, ond a gaf fi ddweud mai'r prif ddull o ymgysylltu, os mynnwch, yw drwy'r grŵp arbenigol sydd gennym ar y materion hyn? Cadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r grŵp hwnnw yn gynharach y mis hwn fel mae'n digwydd, ac yn fy marn i, roedd yr awyrgylch yno a'r sgwrs a gawsom yno'n cyfleu dyhead i symud yn gyflym iawn ar y cyd gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni pob uchelgais a'r ymrwymiadau a roddwyd gennym i gyflawni ar ran cyn-filwyr ac eraill yng nghymuned a theulu'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Mae nifer o elfennau gwahanol i hynny ac rydych wedi disgrifio'r heriau sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd. Mae heriau sylweddol yn ein hwynebu o ran addysg hefyd, yn ogystal ag o ran sefydliadau diogel a darpariaeth yng Nghymru. Credaf fod meysydd pwysig yn hynny o beth y mae angen inni barhau i fynd i'r afael â hwy. Rwy'n hyderus ar hyn o bryd fod y strwythur sydd gennym ar waith yn ein cynorthwyo i wneud hynny. Credaf fod cyfarfod y grŵp arbenigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran yr her mewn perthynas â'r holl faterion gwahanol hynny, a byddaf yn ymateb i'r grŵp hollbleidiol a'u hadroddiad wedi i mi gael cyfle i ystyried rhai o'u hawgrymiadau ymhellach.

Diolch, ac rwy'n siŵr fod y grŵp cynghori arbenigol yn pwysleisio bod y pwysau ar y gwasanaethau statudol y cyfeirioch chi atynt yn ychwanegu costau diangen—os gallem wneud pethau ychydig yn wahanol, efallai, o ran atal ac ymyrryd yn gynnar yn y maes hwn. Mae un o'r meysydd hynny yn ymwneud â thriniaeth breswyl, ac yn benodol, seibiant ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Ddydd Llun, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn sgil cau cyfleusterau triniaeth breswyl ar gyfer cyn-filwyr yn Audley Court yn Newport, swydd Amwythig, sydd wedi derbyn nifer o atgyfeiriadau o Gymru dros y blynyddoedd. Dywedai'r datganiad:

'Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster preswyl i gyn-filwyr yng Nghymru'

a'ch bod wedi comisiynu adroddiad annibynnol ac y

'daethpwyd i'r casgliad nad oedd modd dweud bod y galw a’r angen angenrheidiol yn bodoli i gynnal cyfleuster o’r fath'

a bod gwasanaethau cymunedol yn fwy addas. Mewn gwirionedd, yn 2012, argymhellodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, 'Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru', y dylai Llywodraeth Cymru ystyried budd sefydlu math o gyfleuster preswyl yng Nghymru ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Roedd hyn yn dilyn cau Tŷ Gwyn yn Llandudno, a oedd yn orlawn, a Pathways, a agorwyd dros dro ger Bangor, ac a oedd yn orlawn gydag atgyfeiriadau o Gymru heb eu hariannu, yn enwedig gan y gwasanaethau heddlu. Roedd llawer o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru wedi sôn am yr angen am ganolfan breswyl i gyn-filwyr fel rhywbeth y gallwch ei weld, ei gyffwrdd a'i deimlo, ond argymhellai adroddiad Kennedy, yr adroddiad y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd ato, yn erbyn hynny, ar sail cylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gan ddod i'r casgliad

'nad oes tystiolaeth, na chefnogaeth gref gan y prif elusennau na chyrff eraill sy’n gweithio yn y maes, i gyfiawnhau cyfleuster preswyl sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, cyn belled â bod capasiti digonol yn bodoli gan ddarparwyr presennol yn y GIG a’r Trydydd Sector.'

Wel, yn amlwg, nid yw'n bodoli. Mae'r dystiolaeth yno na cheir capasiti digonol, ac mewn gwirionedd, mae capasiti'r trydydd sector, yn anffodus, wedi bod yn lleihau mewn rhai ardaloedd. Felly, sut y byddwch, neu a fyddwch, yn ailystyried casgliadau adroddiad Kennedy yng nghyd-destun amgylchiadau 2018 ac yn edrych ar y galw cyffredinol a'r gofynion er mwyn ateb y galw hwnnw ymhlith cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru?

13:50

Mae hwn yn fater a godwyd mewn sesiwn holi flaenorol gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ymrwymais bryd hynny i ystyried y materion a godwyd gennych y prynhawn yma. Byddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol i gynyddu capasiti ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae hefyd wedi ymrwymo i ystyried a deall sut y mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio ac a oes angen inni gynyddu ein capasiti yn y gwasanaethau hynny. Ond rwy'n derbyn bod y pwynt a godwch yn un dilys a phwysig iawn ac mae'n fater y byddwn yn ei ystyried yn ofalus. Ac os credwn fod angen newid yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych, yna yn sicr, mae honno'n sgwrs y byddaf yn ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud cyhoeddiadau ynglŷn â hynny.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ofyn ychydig gwestiynau, os caf, ynghylch eich datganiad diweddar ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru. Un o'ch diwygiadau arfaethedig yw ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar i gefnogi'r newid hwnnw yw egwyddor dim trethiant heb gynrychiolaeth, ond nodaf nad yw pobl 16 a 17 oed i fod i dalu'r dreth gyngor mewn gwirionedd, ac mae ffigurau CThEM ar gyfer 2014-15 yn awgrymu mai oddeutu 15 y cant yn unig o bobl 16 a 17 oed sy'n talu unrhyw dreth incwm. Felly, credaf fod ymestyn y bleidlais yn nod canmoladwy, ond tybed: a oes dadl efallai y gallem ymestyn y bleidlais i rai pobl 16 a 17 oed ond efallai y dylid ei hymestyn i'r rheini sy'n talu treth mewn gwirionedd?

Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond gallaf ddweud wrtho fod y penderfyniad i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed mewn etholiadau lleol—ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud yr un peth maes o law—yn ymwneud ag ymestyn a dyfnhau'r etholfraint er mwyn galluogi pobl yn ein cymunedau drwyddi draw i chwarae rhan weithredol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y cymunedau hynny. Yn sicr, barn y Llywodraeth hon, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yw y dylai pobl 16 a 17 oed yn bendant allu cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol, ac y dylent allu pleidleisio a chymryd rhan yn y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau a bywydau eu ffrindiau, cymdogion a theuluoedd. Credaf ein bod ar ganol proses o adnewyddu a newid ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at ymestyn yr etholfraint er mwyn ein galluogi i gynnal etholiadau lleol ar yr etholfraint newydd, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn ceisio sicrhau y bydd yr holl wladolion tramor sy'n byw yn ein cymunedau hefyd yn cael pleidleisio.

13:55

Ydw, rwy'n ymwybodol o'r cynigion hynny hefyd. Os caf gyfyngu'r cwestiynau hyn i fater y bobl 16 a 17 oed am y tro, pwynt arall cysylltiedig, efallai, yw ein bod yn y Cynulliad wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ddiweddar a oedd i bob pwrpas yn gwahardd pobl 16 ac 17 oed rhag defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau. Roeddem ni yn UKIP yn cefnogi'r deddfau Llywodraeth hynny. Os ydych bellach yn dweud y dylai fod gan bobl 16 a 17 oed hawl awtomatig i bleidleisio, fel eu bod yn gallu arfer crebwyll gwleidyddol, ond ar yr un pryd, nad ydynt yn gallu arfer crebwyll mewn perthynas â materion fel defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau, onid yw hynny'n creu anghysondeb? A allwch weld sut y gallai'r etholwyr feddwl bod agweddau Llywodraeth Cymru yn anghyson, gan ei bod yn ymddangos bod y ddwy agwedd yn groes i'w gilydd?

Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y gallai cyrraedd llawn oed ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol, beth bynnag y bo, ddigwydd ar oedran ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol faterion, ac rydym yn ymwybodol o hynny. Efallai y bydd unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio ond ni fydd yn gallu gyrru. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn.

Yr hyn rwy'n gobeithio ei wneud yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, sef buddsoddi mewn cymunedau mwy cydlynus, lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hetholfreinio a'u bod yn gallu chwarae rhan lawn drwy sicrhau bod pobl nid yn unig yn cael yr hawl i bleidleisio a'r gallu i fwrw'r bleidlais honno, ond hefyd, wrth gwrs, eu bod yn cael y wybodaeth a'r gallu i allu cymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol a dadleuon gwleidyddol ynghylch dyfodol y cymunedau hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach a sicrhau wedyn ein bod yn ymestyn y gallu i bleidleisio mewn pob math o ffyrdd gwahanol, o bleidleisio electronig i bleidleisio ar wahanol ddyddiau, a sicrhau bod pobl, waeth pwy ydynt yn ein cymunedau yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn y broses o benderfynu ar ddyfodol y cymunedau hynny.

Ie, fe nodoch y pwynt pwysig fod angen y wybodaeth ar bobl. Os ydych am roi'r cyfrifoldeb o bleidleisio iddynt, mae angen y wybodaeth arnynt, a chredaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig. Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad:

'Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.'

Dyna ddiwedd eich dyfyniad. Nawr, yn ddiweddar, mae ymgyrchwyr ifanc—sy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud ac sy'n awyddus i'r bleidlais gael ei hymestyn i bobl 16 a 17 oed—wedi dweud bod llawer ohonynt yn teimlo nad yw'r hyn sydd ganddynt mewn ysgolion ar hyn o bryd o ran y thema dinasyddiaeth weithgar, y cyfeirioch chi ati, yn ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer rhoi'r wybodaeth wleidyddol honno iddynt. Felly, tybed a oeddech yn gobeithio newid yr elfen honno o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, gan weithio gyda'r Gweinidog addysg, neu a yw eich datganiad yn nodi eich bod yn credu bod y system addysg yn darparu'r wybodaeth honno i bobl 16 a 17 oed ar hyn o bryd?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd. A gaf fi ddweud hyn? Cofiaf i'r Aelod roi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch etholiadol lle y dywedodd nad oedd byth yn canfasio, byth yn curo ar ddrysau pobl, gan ei fod yn ystyried hynny'n ymyrraeth ofnadwy ar eu bywydau. Hoffwn awgrymu bod yr Aelod yn curo ar rai drysau ac yn siarad â phobl y mae'n gobeithio eu cynrychioli. Pe bai'n gwneud hynny, byddai'n gweld rhai pobl 16 a 17 oed brwdfrydig iawn—pobl ifanc sy'n awyddus i chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol eu cymunedau, pobl ifanc â'r wybodaeth a'r weledigaeth ar gyfer yr hyn y maent yn dymuno'i weld yn y dyfodol. Felly, nid wyf o'r un farn ag ef, ond rwy'n derbyn bod angen inni sicrhau, drwy adnewyddu'r cwricwlwm, fod y cwricwlwm yn cynnwys y materion hyn yn llawn. Ond efallai bod gennyf lawer mwy o ffydd mewn pobl 16 ac 17 oed na'r Aelod o UKIP.

Cefnogaeth i Gyn-filwyr

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ51787

Mae ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru.

14:00

A gaf fi ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cefnogaeth i'n cyn-filwyr ledled y wlad? Gwn fod eich diweddariad i'r grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar wedi cael ei groesawu gan yr holl aelodau. Yn dilyn eich anerchiad i'r cyfarfod, aeth y cyfarfod yn ei flaen, yn amlwg, ac un o'r materion ar feddyliau pobl o amgylch y bwrdd oedd yr angen i nodi mwy o gyn-filwyr ledled Cymru fel y gallwn fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig y cymorth y gallent fod ei angen. Nawr, un ffordd o gyflawni hyn, wrth gwrs, yw defnyddio cerdyn adnabod i gyn-filwyr, rhywbeth a ystyriwyd gan y grŵp trawsbleidiol a fy mhlaid innau ac eraill yn y Siambr hon ar sawl achlysur yn y gorffennol. Er fy mod yn deall y byddwch yn ymateb i'r argymhelliad hwn maes o law, tybed a allech ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, gan y credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch ynglŷn â chydnabod a deall natur y gymuned, ble mae'r gymuned honno'n byw a sut y mae'n byw, a natur y gymuned honno. Credaf fod angen inni ddeall hynny'n well, ac rwy'n derbyn y pwynt hwnnw'n gyfan gwbl. Rwy'n gyndyn o roi ateb terfynol i'r cwestiwn hwnnw. Byddaf yn darparu ymateb mwy cyfannol i'r adroddiad cyfan pan gaf gyfle i wneud hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau ein bod yn gallu darparu adnoddau lle mae angen yr adnoddau hynny, lle rydym yn darparu gwasanaethau i'r bobl hynny. Mae deall ble mae'r bobl hynny a beth yw eu hanghenion yn hanfodol i'r ymagwedd honno. Felly, credaf fod angen inni ddeall nodweddion a natur y teulu a'r gymuned yn well. Credaf fod angen inni wella ein dealltwriaeth o'r materion hynny. Rwy'n ystyried sut i wneud hynny ar hyn o bryd. Credaf fod y buddsoddiad mewn swyddogion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol, er enghraifft, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n dealltwriaeth o'r gymuned a'i hanghenion. Felly, credaf fod mwy nag un ffordd o ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ac yn sicr, rwy'n ceisio sicrhau y bydd modd inni ymateb yn llawn maes o law.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cyfraniad gwirfoddolwyr yn y broses o gefnogi cyn-filwyr? Yn amlwg, mae gwirfoddolwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o gangen y Barri o'r lleng Brydeinig, sy'n gwneud cymaint o waith, nid yn unig o ran codi arian drwy apêl y pabi, ond hefyd drwy fentrau lleol fel Woody's Lodge—a gwn fod David Melding wedi sôn am hyn—a lansiwyd gan Carl Sargeant yn y Senedd y llynedd. Er eu bod wedi'u lleoli ym Mro Morgannwg, maent bellach wedi sicrhau cyllid i ymestyn ledled Cymru gyfan. Ond mae'n fenter gwbl wirfoddol, sy'n cael ei chynnal a'i harwain gan gyn-filwyr eu hunain ac sydd nid yn unig yn darparu cefnogaeth gyfeirio, ond hefyd y gefnogaeth y gallant ei rhoi i'w gilydd o ran pwysigrwydd y ddealltwriaeth gymdeithasol o ran beth y profiadau y mae pobl wedi'u cael.

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg ar y pwyntiau a wnaeth? Mewn sawl ffordd, mae hi wedi adleisio'r pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei chwestiwn cyntaf y prynhawn yma ynghylch pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a'r rôl y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau a'n cymdeithas yn darparu gwasanaethau mewn amgylchiadau cyfannol, sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl sy'n wynebu anawsterau o'r fath. Rwy'n falch iawn fod Woody's Lodge wedi gallu sicrhau'r cyllid i agor yng ngogledd Cymru, yn 2020 rwy'n credu, ac yna yng ngorllewin Cymru hefyd. Credaf ei bod yn enghraifft wych o sut y gall gwirfoddolwyr lleol ddod at ei gilydd, darparu gwasanaeth—gwasanaeth gwych—i bobl pan fyddant ei angen, a defnyddio'r wybodaeth honno wedyn, defnyddio'r profiad hwnnw, defnyddio'r sgiliau hynny a defnyddio'r ymrwymiad hwnnw i ehangu'r gwasanaeth er mwyn darparu rhywbeth y byddai'n amhosibl i ni ei wneud fel Llywodraeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jane Hutt wedi tynnu sylw at gymorth gan wirfoddolwyr, ond mae llawer o sefydliadau, bach a mawr, ac elusennau, yn helpu i gefnogi cyn-filwyr. Cafwyd enghraifft o ble y maent weithiau'n methu a rhywun yn cwympo drwy'r rhwyd pan gawsom gyn-filwr ym Maesteg a fu'n byw mewn car am saith mis. Bu'n anlwcus iawn wedi iddo adael y lluoedd; nid oedd yn gymwys yn awtomatig am gymorth tai. Ond mae hynny'n enghraifft o sut y cafodd y gwirfoddolwyr afael arno wedyn. Ond mae'r grwpiau bychain hyn a'r grwpiau mwy o faint yn mynd yn groes i'w gilydd weithiau. A oes modd i Lywodraeth Cymru ddod â'r sefydliadau hyn ynghyd i weld sut y gellir rhoi dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith i gefnogi cyn-filwyr yn eu cymunedau?

14:05

Rwy'n gobeithio. Un o'r rhesymau pam rydym wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog mewn gwahanol awdurdodau lleol yw er mwyn ein galluogi i gydgysylltu'r math hwnnw o waith i sicrhau bod y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn y trydydd sector yn ategu ac yn gysylltiedig â'r gwaith a wneir gan wasanaethau statudol. Drwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn ddarparu gwasanaeth cyfannol i bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw, a thrwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn gyflawni llawer mwy nag a gyflawnwn drwy weithio ar wahân. Felly, cytunaf â chi o ran y pwynt a wnewch, a thrwy gael swyddogion cyswllt lleol ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, rwy'n gobeithio y gallwn gael y wybodaeth leol honno a seilio gwasanaethau ar anghenion lleol.

Gwasanaethau Anstatudol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynorthwyo awdurdodau lleol i warchod eu gwasanaethau anstatudol? OAQ51814

Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i warchod cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Fodd bynnag, mater i'w benderfynu'n lleol yw'r modd y darperir gwasanaethau'n lleol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod polisïau cyni Llywodraeth y DU yn rhoi cryn bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ac yn amlwg, rhaid iddynt gyflawni'r hyn y byddai llawer yn ei ddweud yw eu prif gyfrifoldebau statudol o ran addysg a gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Ond mae gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, gwasanaethau ieuenctid a llawer o wasanaethau eraill hefyd yn bwysig ac yn arwyddocaol iawn, ac yn wir, mae angen ystyried pob un ohonynt gyda'i gilydd mewn perthynas ag ansawdd bywyd pobl leol.

Gwyddom fod gwahanol ddulliau o ddarparu wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol yng Nghymru a bod llawer ohonynt yn eithaf llwyddiannus. Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y mae gan Lywodraeth Cymru drosolwg o'r ffyrdd newydd hyn o ddarparu, sydd weithiau'n well, a pha gyngor, cefnogaeth a rhannu arferion gorau sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru o ran ategu gweithgarwch Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Hefyd, pa bwerau newydd, a'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn benodol efallai, a allai gynorthwyo'r awdurdodau lleol i sicrhau gwell darpariaeth yn y dyfodol?

Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd. Credaf ei fod yn deall yn iawn, wrth ddarparu model gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd gyfannol, gan ddarparu pwerau i lywodraeth leol weithredu mewn ffordd sy'n eu galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfannol yn eu cymunedau, i siapio eu cymunedau, a chreu lleoedd gwych i fyw a gweithio sy'n wych ar gyfer teuluoedd, ymdeimlad o le ac ymdeimlad o gymuned.

Rydym yn awyddus i awdurdodau lleol allu siapio cymunedau yn y dyfodol, gan greu mannau lle y gall pobl fyw a ffynnu yn ogystal â chreu gwasanaethau i bobl. Dyna'r math o weledigaeth sydd gennyf, ac mae'n ymwneud â chwestiynau cynharach gan lefarydd Plaid Cymru nid yn unig am siâp a strwythurau llywodraeth leol yn y dyfodol, ond hefyd y pwerau a'r cyfrifoldebau ar gyfer llywodraeth leol. Rwyf wedi ceisio bod yn glir iawn yn y pwyntiau a wneuthum yn y rôl hon: fy mod yn gweld dyfodol gwych i lywodraeth leol fel galluogwr gwasanaethau cymunedol yn ogystal â darparwr gwasanaethau cymunedol, ac rwyf am weld llywodraeth leol yn cryfhau yn y dyfodol, gyda mwy o allu i ddarparu nid yn unig gwasanaethau statudol ond ffordd wych o fyw i bobl, ble bynnag y maent yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cyllideb a fydd yn arwain at doriadau i wasanaethau a fydd yn effeithio'n sylweddol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal. Maent yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n agored i niwed, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i fynd i'r afael â dicter a siomedigaeth pobl Casnewydd, sy'n wynebu'r toriadau hyn i wasanaethau hanfodol? Mae'n Ddydd Gŵyl Dewi yfory; buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ateb yn ysbryd Dydd Gŵyl Dewi, yn hytrach na beio Llundain, a rhoi ateb Cymreig i hyn.

Rwy'n falch fod y Blaid Geidwadol bellach yn teimlo'r angen i roi cyngor i mi ar fy atebion yn ogystal â chraffu ar fy mherfformiad yn y swydd. A gaf fi ddweud hyn: prin y mae'n gweddu i unrhyw Aelod Ceidwadol ddod yma i drafod y problemau sy'n wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi.

14:10
Tasglu'r Cymoedd

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae tasglu'r Cymoedd yn cefnogi datblygiadau economaidd eraill yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51801

Mae'r tasglu yn gweithredu dull cydgysylltiedig o gyflawni datblygu economaidd ar draws y Cymoedd, yn enwedig drwy hybiau strategol a chefnogi entrepreneuriaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn y Cymoedd yn elwa ar ddatblygu economaidd ledled de-ddwyrain Cymru drwy weithio gyda'r bargeinion dinesig a sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl yn deillio o brosiectau seilwaith mawr.

Pa mor effeithiol, yn ei farn ef, yw'r gwaith rhwng y bargeinion dinesig a thasglu'r Cymoedd, yn enwedig bwrdd y fargen ddinesig a bwrdd tasglu'r Cymoedd, a pha welliannau y byddai'n eu cyflwyno er mwyn gwella'r cydweithio hwnnw?

Diolch i fy nghyfaill o Gaerffili am y cwestiwn anodd hwnnw. A gaf fi ddweud bod tasglu'r Cymoedd yn bodoli er mwyn siapio polisïau ac ymagwedd Llywodraeth Cymru? Nid yw'n bodoli fel endid annibynnol ar wahân i'r Llywodraeth, ac fel y cyfryw, mae'n ceisio gweithio'n agos gyda'r ddwy fargen ddinesig yn ne Cymru, yn y brifddinas-ranbarth ac yn Abertawe, ac mae'n ceisio sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod. Un o'r heriau y credaf fod yn rhaid inni ei hwynebu yw sicrhau gwell cydlyniant wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi, gan sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod ac yn cynyddu symlrwydd o ran sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ar hyn o bryd, rwy'n hyderus fod y strwythurau sydd ar waith gennym i sicrhau ein bod yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd ac i sicrhau bod effaith y naill a'r llall gymaint ag y gall fod heb inni syrthio i'r trap o ddyblygu ein huchelgeisiau, ein gweledigaeth a'n polisïau. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod gennym fwy o symlrwydd yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £94 miliwn ar ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn creu 175 yn unig o swyddi amser llawn. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn cefnogi a gwella perfformiad ardal fenter Glyn Ebwy, os gwelwch yn dda?

Lywydd, rydych yn ymwybodol mai fi yw'r Aelod dros Flaenau Gwent a bod gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yno, a gwaith gyda'r ardal fenter a bwrdd yr ardal fenter ac eraill sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn economi Blaenau'r Cymoedd. Rydym ein dau wedi cynrychioli'r ardal am yr un cyfnod o amser—fi a'r Aelod Ceidwadol—ac nid wyf wedi'i weld yn unrhyw un o'r cyfarfodydd hynny neu'n cymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau hynny. Pe bai ganddo fwy o ddiddordeb yn ei ranbarth cyfan, efallai y byddai'n gallu ateb y cwestiwn ei hun.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni, Aelodau Cynulliad y Cymoedd, yn gefnogol iawn i'r hyb strategol—roeddwn yn ceisio cofio'r geiriau—yn y cynllun. Credaf fod nodi cyfleoedd i fuddsoddi yn yr amodau cymdeithasol ac economaidd mewn cymunedau fel Cwm Rhymni uchaf ac yn eich etholaeth eich hun ym Mlaenau Gwent yn ystyriaeth bwysig ar gyfer partneriaid o'r sector cyhoeddus ar fwrdd y dinas-ranbarth. Rwyf wedi dweud o'r blaen na ddylai unrhyw un wrthwynebu ein buddsoddiad rhanbarthol mewn prosiectau yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd a rhai o'r cytrefi mawr, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd y llwyddiant gwirioneddol yn dod pan fyddwn yn gweld twf gwirioneddol a chynaliadwy a llwyddiant mewn lleoedd fel Cwm Rhymni uchaf.

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful? Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod—Merthyr Tudful a Rhymni, dylwn ddweud, wrth gwrs, neu fe fyddaf mewn trafferth ofnadwy. Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod yn hyrwyddo'r ardal honno, ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod hyn ar agenda tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru yn ehangach.

Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cynnal seminar fis nesaf ar sut yr awn ati i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o brosiect deuoli'r A465 i wneud yn siŵr ein bod yn gallu creu'r effaith fwyaf sy'n bosibl ar draws Blaenau'r Cymoedd o Fryn-mawr draw i Hirwaun, er mwyn sicrhau nad gwario'r arian ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn unig a wnawn, ond ein bod yn ei fuddsoddi mewn datblygu economaidd mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y gwaith a wneir yn yr hybiau strategol ym Merthyr Tudful a Glyn Ebwy er mwyn sicrhau ein bod yn gallu creu rhanbarth economaidd newydd, os mynnwch, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, a bod hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio arno gyda llywodraeth leol, busnesau ac eraill i'w gefnogi a'i gynnal.

Y Cynllun Treialu Cyd-ymateb

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun treialu cyd-ymateb gan wasanaethau tân ac achub Cymru? OAQ51807

Lywydd, mae'r cynllun treialu hwn wedi dod i ben bellach. Gwnaeth achos cryf dros ddiffoddwyr tân yn cyd-ymateb i argyfyngau meddygol, gan achub bywydau ac arbed arian. Mae gwneud hynny'n rhywbeth parhaol yn dibynnu bellach ar gytundeb cyflog newydd i ddiffoddwyr tân, ac rwy'n gobeithio y gall y ddwy ochr ddod i gytundeb ar hyn.

14:15

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pob un ohonom yn ddiolchgar i ddiffoddwyr tân ledled y wlad am y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cadw'n ddiogel. Rwy'n ymwybodol fod y cyd-gyngor cenedlaethol wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer newid a all effeithio ar y gwaith y mae diffoddwyr tân yn ei wneud yn ein cymunedau. A allwch roi syniad i ni sut rydych yn bwriadu ymateb i'r cynigion hyn? Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud cynnig cyflog i wasanaeth tân yr Alban sydd, yn ôl pob golwg, y tu allan i'r strwythur negodi presennol. A allwch roi syniad i ni a ydych yn bwriadu gwneud yr un peth?

Cyfarfûm â'r cyd-gyngor cenedlaethol ac Undeb y Brigadau Tân ac ochr y cyflogwyr ar 30 Ionawr er mwyn trafod papur a gyflwynwyd i mi a Gweinidogion eraill y DU gan y cyd-gyngor cenedlaethol ar ffyrdd gwahanol y gall ein gwasanaeth tân ddatblygu er mwyn darparu gwasanaethau gwell ar gyfer y gymuned. Mae gennym eisoes nifer o wasanaethau ychwanegol sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth tân ledled gwahanol rannau o Gymru. Fy nod yw sicrhau ein bod yn gallu parhau â'r sgwrs hon gyda'r gwasanaeth tân, Undeb y Brigadau Tân a'r cyd-gyngor cenedlaethol er mwyn dod i gytundeb.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r pwynt a wna'r Aelod am y sefyllfa yn yr Alban. Dywedais yn glir iawn wrth y cyd-gyngor cenedlaethol nad wyf o reidrwydd yn ystyried ei fod, fel y mae wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, rwyf am sicrhau bod gan y Llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a'r Alban fwy o allu i ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yno, gan gydnabod nad ni yw'r cyflogwyr yn yr achos hwn, ac mae'n rhaid cael fforwm ar gyfer cydfargeinio cenedlaethol. Nid ydym yn anghytuno â'r egwyddor honno, ond credaf fod arnom angen sgwrs fwy cyfoethog gyda ac ynglŷn â'r gwasanaethau tân ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, fy mod yn ystyried diwygio'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ar hyn o bryd, a byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol maes o law.

Ad-drefnu Llywodraeth Leol

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses ar gyfer trosglwyddo rhwymedigaethau i awdurdod lleol olynol gan ei ragflaenydd statudol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ51797

Byddai unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer ad-drefnu yn cynnwys darpariaeth sy'n pennu y byddai'r holl rwymedigaethau, gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol, yn trosglwyddo o'r awdurdod blaenorol i'r awdurdod newydd ar y diwrnod y byddai'r ad-drefnu'n dod i rym.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dyfarniad y Llys Apêl yn achos Cyngor Sir Powys v. Price a Hardwick yn gwrthdroi penderfyniad gan yr Uchel Lys a allai greu goblygiadau eang i awdurdodau lleol o ran eu rhwymedigaethau o dan y drefn tir halogedig. Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi mai'r llygrwr gwreiddiol sydd â chyfrifoldeb sylfaenol am adfer tir halogedig, hyd yn oed os nad oes ganddynt fuddiant yn y tir dan sylw mwyach. Fodd bynnag, mae'r Llys Apêl wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol, gan wrthdroi penderfyniad gwreiddiol yr Uchel Lys, ac mae'n dweud nad yw Powys yn atebol am lygredd a achoswyd gan weithrediadau tirlenwi eu rhagflaenydd, gan olygu y gall tirfeddianwyr presennol fod yn gyfrifol am adfer, hyd yn oed os nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w wneud â'r llygru gwreiddiol. Byddwch yn deall bod hyn yn peri cryn bryder i rai tirfeddianwyr ym Mhowys, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech nodi beth yw goblygiadau'r dyfarniad hwn gan y Llys Apêl i awdurdodau lleol a chadarnhau a fyddwch yn gweithio gyda'ch cyd-Aelodau i ddatrys yr hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn fwlch yn y gyfraith.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. A gaf fi ddweud wrtho ei fod yn amlwg yn fater y bydd angen i mi ei ystyried yn fwy manwl na rhoi ateb llawn y prynhawn yma? [Chwerthin.]

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydymdeimlo â hynny.

A gaf fi ddweud, Lywydd, y byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater, gan ei fod yn amlwg o ddiddordeb i'r Siambr ac mae'n amlwg yn fater pwysig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef?

Y Gwasanaeth Tân ac Achub

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strwythur presennol y gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru? OAQ51789

Mae strwythur presennol yr awdurdodau tân ac achub yn dyddio o ganol y 1990au. Mae angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau bod awdurdodau tân ac achub yn gwbl atebol am gyflawniad a gwariant. Ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu newidiadau i nifer neu ardaloedd gweithredu'r awdurdodau tân ac achub.

Mae strwythur y prif awdurdodau lleol wedi cael ei drafod yn rheolaidd—cyhyd ag y gallaf gofio—gan gynnwys heddiw, ond ymddengys nad yw strwythur y gwasanaethau tân ac achub wedi cael ei ystyried. Mae llawer yn credu bod strwythur Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei greu am resymau gwleidyddol. Nid wyf yn gweld y budd cymunedol yn y gallu i ddarparu cymorth brys rhwng Machynlleth a Margam neu'r Trallwng a Phen Pyrod. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried adolygu strwythur y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru? Os mai tri gwasanaeth yn unig a fydd gennym, rwy'n siŵr y byddai rhannau o ogledd Powys yn perthyn yn well i ogledd Cymru nag i Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

14:20

Lywydd, rwy'n falch o glywed yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn dadlau dros newidiadau i strwythur a threfniadaeth cyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni yn y consensws hwnnw. A gaf fi ddweud wrtho nad wyf, ar hyn o bryd, yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiad ar y mater hwn, ac eithrio dweud fy mod wedi ysgrifennu at gadeiryddion y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru yn amlinellu'r hyn rwy'n ei gredu sy'n achos dros newid? Rwy'n fwy na pharod, Lywydd, i roi'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell i'r holl Aelodau ei weld, yr ohebiaeth honno, ac rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub ymateb i hynny pan fyddant yn gallu gwneud hynny. Fy mwriad, Lywydd, mewn perthynas â'r holl faterion hyn, yw bwrw ymlaen gyda chymaint o gonsensws â phosibl. Felly, ar hyn o bryd, nid wyf yn bwriadu gwneud argymhellion penodol ar gyfer diwygio'r awdurdodau tân ac achub—dim ond dweud fy mod yn credu bod angen eu diwygio, ac nad yw'r status quo yn gynaliadwy.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James. A'r cwestiwn cyntaf—Suzy Davies.

Radio Digidol

1. Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o allu seilwaith digidol Cymru i ymdrin â'r defnydd o radio digidol yng Nghymru? OAQ51813

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU y dylai un o'r meini prawf sylfaenol sy'n gyrru'r broses o drosglwyddo i radio digidol nodi na ddylai'r argaeledd fod yn llai yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ni fyddem o blaid trosglwyddo i radio digidol hyd nes y ceir sicrwydd fod argaeledd darlledu sain digidol yn 97 y cant o leiaf ledled Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch am eich ateb. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, wrth gwrs, pryd y byddant yn ystyried trosglwyddo i ddigidol, neu ddyddiad ar gyfer hynny beth bynnag, pan fydd 50 y cant o'r holl wrando a wneir ar radio yn digwydd drwy blatfformau digidol, pan fydd argaeledd darlledu sain digidol (DAB) cenedlaethol yn debyg i argaeledd FM, a phan fydd argaeledd DAB lleol yn cyrraedd 90 y cant. Felly, roedd gennyf ddiddordeb yn y ffigur o 97 y cant a grybwyllwyd gennych. Mae'r ffigurau hynny wedi'u cyrraedd fwy neu lai yn Lloegr, ac yn sicr fel cyfartaledd yn y DU, felly pa seilwaith ychwanegol sydd ei angen arnom yn eich tyb chi, er mwyn sicrhau bod Cymru yn dal i fyny'n gyflym?

Wel, y broblem fawr bob amser yng Nghymru yw'r anawsterau o ran lleoliad y boblogaeth, ac mae hon yn broblem ar gyfer yr holl fathau hyn o wasanaethau, a dyna pam rydym yn dadlau'n barhaus â Llywodraeth y DU ynglŷn â beth ddylai'r argaeledd cyfrannol fod. A'r rheswm am hynny, fel rwyf wedi'i fynegi yn y Siambr hon sawl tro rwy'n siŵr, yw bod pawb yng Nghymru ar wasgar ym mhob twll a chornel o Gymru. Felly, rydym yn methu rhannau eithaf mawr o'r boblogaeth, o ran canran, os ydym yn canolbwyntio ar yr ardaloedd â phoblogaeth fawr. Felly, rydym yn cael y sgwrs gyson honno gyda hwy, a'r drafferth yw—mae'r un peth yn wir mewn perthynas â signal ffonau symudol, i raddau helaeth—mae arnom angen llawer mwy o fastiau yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaeth. Felly, yr hyn rydym wedi ceisio'i wneud yw sicrhau bod y DU yn deall bod gan Gymru broblem benodol a bod arnom angen ateb penodol ar ei chyfer. Nid drwy'r seilwaith band eang y mae gwneud hynny, ond drwy'r seilwaith darlledu. Fodd bynnag, gallwch wrando ar radio digidol ar y rhyngrwyd os dymunwch, wrth gwrs, ac felly bydd y broses o gyflwyno gwasanaethau digidol o ran band eang yn gymorth, ond serch hynny rydym yn mynnu y dylai'r argaeledd fod yn ddigon da i gynnwys Cymru gyfan yn ddaearyddol yn ogystal â'i phoblogaeth.

A gaf i sicrhau'r Ysgrifennydd Cabinet nad ydw i'n mynd i gymryd fy nghawod trwy droi'r internet arno? Rydw i eisiau gwrando ar y radio yn y bore yn Aberystwyth, ac nid cymunedau bach sydd yn colli radio digidol. Mae yna wasanaeth digidol yn Aberystwyth, ond nid oes Radio Cymru na Radio Wales, ac felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod ein darlledwyr cenedlaethol ni ar gael ym mhob rhan o Gymru cyn ein bod ni'n caniatáu i unrhyw droi bant o'r signal FM. Rydw i'n siarad fel rhywun sydd wedi troi at ddigidol ers dros 15 mlynedd. Rydw i'n ffan mawr o radio digidol, ond mae'n loes calon i mi na fedraf i wrando ar Radio Cymru a rhywun fel Rhys Mwyn gyda'r nos yn Aberystwyth.

Ie, rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â hynny. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i godi'r mater hwn mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU, y BBC, Ofcom, UK Digital Radio, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Yn ogystal, mae ein safbwynt mewn perthynas â DAB wedi'i gynnwys yn ymatebion Llywodraeth Cymru i wahanol ymgynghoriadau darlledu, gan gynnwys ein hymateb diweddar i'r ymgynghoriad ar gynllun blynyddol Ofcom ar gyfer 2018-19. Fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd sesiwn friffio gan UK Digital Radio yng Nghaerdydd gyda nifer o randdeiliaid i drafod datblygiadau diweddar mewn perthynas â radio digidol. Yn ystod y digwyddiad hwnnw, pwysleisiodd nifer o sefydliadau unwaith eto, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fod llawer i'w wneud o hyd, er gwaethaf gwelliannau o ran argaeledd DAB mewn rhai rhannau o Gymru, cyn y gellid ystyried unrhyw drosglwyddo o'r fath.

14:25
Cydraddoldeb i'r Gymuned Drawsryweddol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cydraddoldeb i'r gymuned drawsryweddol yng Nghymru? OAQ51815

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant cydraddoldeb i Stonewall Cymru. Mae rhan o'r cyllid hwn yn cefnogi swyddog ymgysylltu trawsrywedd i arwain ar faterion cydraddoldeb trawsryweddol. Maent yn gweithio mewn cymunedau ar lawr gwlad i wrando ar leisiau pobl drawsryweddol a sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n llawn â'r gwasanaethau a gynlluniwyd i'w cefnogi.

Diolch. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad diweddaraf Stonewall wedi nodi bod dau o bob 10 unigolyn trawsryweddol—sef 41 y cant—a thri o bob 10 unigolyn anneuaidd—31 y cant—wedi dioddef digwyddiad neu drosedd casineb oherwydd eu hunaniaeth o ran rhywedd dros y 12 mis diwethaf. Nawr, mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol, a byddwch yn gwybod bod Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn hyn? A fyddwch yn ymateb i'r ymgynghoriad? A sut arall y byddwch yn cymryd rhan er mwyn ceisio dylanwadu ar newidiadau i'r Deddf Cydnabod Rhywedd er mwyn darparu mwy o ddiogelwch, mwy o ddiogeledd a mwy o amddiffyniadau i'r gymuned drawsryweddol ledled Cymru a gweddill y DU?

Wel, yn sicr. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol nad yw'r Deddf Cydnabod Rhywedd wedi'i datganoli i Gymru, ond rydym yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Ddeddf, ac rydym wedi bod yn ymgysylltu, ar lefel swyddogol, gyda'r cynlluniau hynny.

Dywed pob un o'n rhanddeiliaid wrthym am yr ymosodiadau mwyfwy negyddol y mae ein cymunedau trawsryweddol yn eu hwynebu yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol. Nid ydym yn hoff o'r naratif niweidiol o gwbl, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl drawsryweddol i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran cydraddoldeb. Rydym yn ariannu nifer o sefydliadau, ac rydym wedi gofyn yn benodol iddynt fod yn ymwybodol o faterion trawsryweddol. Rydym yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr, er enghraifft, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ein hyfforddiant ar gael i bawb sy'n ymwneud â'n rhaglenni Cefnogi Pobl fel y gallant gael hyfforddiant penodol. Rydym wedi cyflwyno'r hyfforddiant hwnnw am y rheswm hwnnw'n benodol. Rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o waith gennym i'w wneud o hyd, ond rydym yn gweithio ar nifer o fentrau ar y cyd â'r gymuned eu hunain, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl drawsryweddol yng Nghymru, ym mhob un o'n cymunedau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Galwaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i arweinydd y tŷ, a daw'r cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae heddiw'n nodi diwedd yr estyniad o ddeufis i brosiect Cyflymu Cymru. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i chi ac i Openreach am fanylion ynglŷn â sawl eiddo y dywedwyd wrthynt eu bod yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru cyn 31 Rhagfyr, ond bod y prosiect wedi dod i ben cyn iddynt gael eu cysylltu, ac am restr o 2,500 eiddo, sy'n rhan o'r estyniad o ddeufis. A allwch roi ateb i'r cwestiynau hyn i mi heddiw?

Yn anffodus, ni allaf wneud hynny. Fel y dywedais, mae'n cymryd rhwng 12 ac 16 wythnos inni fynd drwy'r profion trwyadl iawn a'r broses wirio mewn perthynas â'r hawliadau a wnaed gan BT o dan y contract Cyflymu Cymru, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw gennyf, y byddaf yn ei roi i'r tŷ.

Rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod eisoes wedi cydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi llesteirio prosiect Cyflymu Cymru, ac rydych wedi addo mynd i'r afael â hwy gydag Openreach. Fodd bynnag, mae'r problemau cyfathrebu yn parhau. Pryd y bydd y wybodaeth ar wiriwr band eang Openreach yn adlewyrchu sefyllfa fanwl gywir pob safle, gan gynnwys y rhai a alluogwyd drwy'r estyniad o ddeufis? Ac i'r rheini a oedd yn gymwys am waith uwchraddio o dan brosiect Cyflymu Cymru ond a fethodd ei gael, pryd y cânt wybod a fyddant yn cael eu cynnwys yn y cynllun nesaf ai peidio?

Ie, credaf fod yna rai problemau cyfathrebu o hyd. Mae rhai ohonynt yn gymhleth iawn yn awr gan eu bod yn ymwneud ag argaeledd cysylltiadau drwy ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd penodol, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad—gan eich cynnwys chi—i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir ynglŷn â'r cwestiwn i'w ofyn. Oherwydd rydym wedi cael rhai enghreifftiau o bobl yn ceisio prynu'r gwasanaethau drwy ddarparwr gwasanaethau rhyngrwyd nad yw'n darparu gwasanaethau ffeibr i'r eiddo, er enghraifft, a'r unigolyn yn cael gwybod nad yw'r gwasanaeth ar gael, yn hytrach na bod y darparwr penodol hwnnw yn methu ei ddarparu. Felly, mae gennym rai problemau cyfathrebu cymhleth ar hyn o bryd. Mae gennym lawer o wybodaeth ar y wefan i gynorthwyo gyda hynny. O ran y rhaglenni olynol, rydym yn falch iawn ein bod mor agos ag y gallwn fod i edrych ar beth y gellir ei wneud ynglŷn â'r rhaglen asedau amddifad, a gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â'r rhaglen honno hefyd. Rwy'n gobeithio cael rhestr derfynol o'r eiddo ychwanegol a gysylltwyd o ganlyniad i'n hestyniad, fel y gallwn sicrhau bod y rhai sydd bron â chael eu cwblhau yn cael eu cwblhau yn fuan iawn. A chredwn fod y nifer yn fwy nag a gynlluniwyd gennym yn wreiddiol, sy'n newyddion da, ond dyna sy'n dal y wybodaeth yn ôl. Ac o ran y rhaglen bwrpasol, byddwn yn ei chyflwyno wrth inni siarad â chymunedau unigol, a byddant yn cael ateb pwrpasol y bydd ganddynt reolaeth drosto.

14:30

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y wybodaeth ychwanegol. Yn olaf, a gaf fi droi at y cynllun gweithredu ar ffonau symudol, a nodweddwyd hyd yn hyn, mae'n ymddangos, gan ei ddiffyg gweithredu? A ydych yn pryderu am sylwadau eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio, ac sydd, mewn llythyr diweddar at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i'w weld wedi gwthio i'r naill ochr y diwygiadau cynllunio sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â diwygiadau cynllunio a gyflwynwyd yn Lloegr ac yn yr Alban, er mwyn gallu cyflwyno seilwaith telathrebu symudol? Beth a ddywedwch wrth y diwydiant ffonau symudol, ac wrth y bobl mewn ardaloedd gwledig nad oes ganddynt signal o hyd, sy'n pryderu nad oes gan Lywodraeth Cymru awydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd ynghlwm wrth gyflwyno seilwaith telathrebu symudol hollbwysig, a hebddo, ni ellir cyflawni gwelliannau i'r signal mewn modd amserol? Gyda chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd mewn mannau eraill yn y DU, a ydych yn cytuno y gallai hyn arwain at sefyllfa lle mae Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol? Ac yn eich ateb, os gwelwch yn dda, peidiwch â dweud wrthyf mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwasanaethau symudol, pan fo'r dulliau hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.

Wel, wrth gwrs, nid yw gwasanaethau symudol wedi cael eu datganoli, felly mae'n—. Nid oes gennym rai o'r dulliau y buaswn yn hoffi eu cael er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r pethau hyn.

Ond wrth gwrs, mae rhai o'r dulliau o fewn ein rheolaeth. Gwnaethom waith ymchwil i edrych ar agweddau ledled Cymru tuag at gynyddu maint mastiau. Ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach am radio digidol, y broblem gyda Chymru yw bod y boblogaeth wedi ei gwasgaru i bob twll a chornel. Nid yw gwneud y mastiau'n uwch yn datrys y broblem—nid yw'n ateb hollgynhwysol mewn unrhyw ffordd. Ac nid yw niferoedd mawr iawn o'r cymunedau sy'n byw yn y rhannau harddaf o Gymru eisiau i'w tirwedd gael ei gorchuddio â llawer o fastiau uchel iawn. Felly, mae'n rhaid i ni lunio rhai atebion eraill i hynny.

Felly, mae'n sgwrs rhyngom ni a Llywodraeth y DU, oherwydd rydym yn credu, ar gyfer ardaloedd gwledig iawn, a lefelau isel o boblogaeth ddaearyddol, y bydd yn rhaid i ni gael rhai atebion sy'n annymunol i'r diwydiant, megis y gallu i drawsrwydweithio, er enghraifft, rhwng rhwydweithiau. Felly, os oes gennych signal o 97 y cant ar gyfer un rhwydwaith, nid yw hynny o unrhyw ddefnydd o gwbl i chi os nad ydych ar y rhwydwaith hwnnw, ac nid yw'n datrys y broblem dwristiaeth chwaith. Felly, efallai y gallai pawb sy'n byw yn yr ardal newid i'r rhwydwaith hwnnw, ond mae hynny'n ddiwerth os ydych yn ceisio rhedeg busnes twristiaeth, ac mae gennych bobl yn dod i mewn ar y rhwydweithiau eraill. Felly, mae arnaf ofn fy mod yn credu y bydd angen i Lywodraeth y DU roi atebion mwy arloesol ar waith er mwyn caniatáu i ni gael y signal gorau yng Nghymru, ac rwy'n parhau i bwyso am hynny.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, er mwyn mesur faint o awydd sydd yn y cymunedau hynny mewn perthynas â chynyddu nifer y mastiau, a chynyddu uchder mastiau, fel cydbwysedd rhwng cysylltedd a dinistrio ein tirwedd brydferth iawn.

Diolch yn fawr. Yr wythnos yma, mae'ch Llywodraeth chi wedi cyhoeddi Bil parhad—y continuity Bill—i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt materion datganoledig yn cael ei drosglwyddo i gyfraith Cymru. Ond wrth gwrs mae yna agwedd bwysig arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ydy'r risg sydd yna i hawliau dynol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn gwbl wrthwynebus i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu, ac rydym yn gwbl wrthwynebus i gamu'n ôl mewn unrhyw fodd o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Rydym hefyd yn gwrthwynebu unrhyw leihad mewn amddiffyniadau hawliau dynol yng nghyd-destun y DU yn ymadael â'r UE. Mae'n amhosibl nodi effeithiau posibl bil hawliau heb weld yn union sut yr argymhellid y dylid fframio'r newidiadau hyn. Mae'n bosibl y gallai hyd yn oed gwelliannau bach i'r Ddeddf Hawliau Dynol greu problemau cyfreithiol cymhleth. Felly, bydd angen craffu'n ofalus ar unrhyw ddiwygiadau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl yr ymgynghorir â hi ynghylch y materion hyn pan fydd cynigion mwy cadarn ar gael. Ond rwyf eisiau dweud yn gwbl glir nad ydym yn gweld yr angen amdani. Mae gennym Ddeddf Hawliau Dynol sydd wedi bod yn effeithiol iawn, ac wedi ei gweld yn bod yn effeithiol. Cafodd ei drafftio gan gyfreithwyr Prydeinig yn bennaf mewn gwirionedd. Mae'n gweithio fel rhan o gonfensiwn sydd wedi cael ei gymeradwyo ledled y byd, ac i ddefnyddio un o'r hen ystrydebau, 'Pam ei drwsio os nad yw wedi torri?'

14:35

Yn union, ond mae'n glir mai un o'r risgiau mawr o adael yr Undeb Ewropeaidd ydy bod gan rai o'r rhai oedd ar ochr yr ymgyrch i adael, gan gynnwys rhai o'r bobl fu'n cyllido'r ymgyrch honno, weledigaeth ideolegol wahanol iawn i'r un sydd gennych chi a fi: ideoleg o'r Deyrnas Unedig fel cenedl trethi isel, lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu preifateiddio, a lle mae cyflogwyr yn medru trin eu gweithwyr fel ag y mynnan nhw, heb warchodaeth i hawliau gweithwyr, er enghraifft, na merched ar gyfnodau mamolaeth ac yn blaen. Ac yn sicr, rwy'n gwybod nad dyna yr ydych chi na minnau eisiau ar gyfer Cymru. Felly, sut mae'ch Llywodraeth chi yn paratoi i warchod yr hawliau yma—hawliau pobl, hawliau menywod, hawliau pobl anabl—yn erbyn ymdrechion i wanhau'r hawliau sydd ar hyn o bryd yn rhan o wead ein gwlad ni, a hynny yn rhannol yn sgil deddfwriaeth o du'r Undeb Ewropeaidd?

Yn hollol. Ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o syniad y Bil parhad, i amddiffyn ein gallu fel Llywodraeth ddatganoledig i ddiogelu'r broses o drosglwyddo rheoliadau cyfredol yr UE i gyfraith Cymru, a'u cadw wedi eu hymgorffori ynddi. Ac i barhau â'n traddodiad diwylliannol o fod yn hynod o falch o fod yn ddiwylliant yng Nghymru sy'n diogelu hawliau dynol mewn gwirionedd, ac sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd sy'n ceisio lloches a noddfa, oherwydd rydym yn falch o'n hanes o ran hawliau dynol. Ac nid oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw awydd ein gweld yn newid ein safbwynt, naill ai yng Nghymru neu yn y DU yn ei chyfanrwydd, i unrhyw beth heblaw hynny, ac mae'n un o'r rhesymau pam nad wyf yn credu mai'r hyn a wnawn yw'r ffordd iawn o weithredu, ac rydym yn parhau i wthio'r safbwynt hwnnw'n rymus iawn.

Ond tybed a oes angen mynd ymhellach na'r Bil parhad. Tybed a oes angen deddfwriaeth benodol ynglŷn â hawliau. Mae'r Athro Simon Hoffman wedi cyflwyno tystiolaeth sy'n dweud bod deddfwriaeth ar hawliau o fewn cymhwysedd y Cynulliad yma. Mae o yn dweud: 

Pan fydd Atodlen ddiwygiedig 7A—

o Ddeddf Cymru 2017—

mewn grym bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i gyflwyno deddfwriaeth, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i ddeddfu ym maes hawliau dynol yn gyffredinol.

Felly, mae hynny i mi yn awgrymu bod ffenest o gyfle ar gael rhwng yr amser y daw y Schedule 7A yma i rym a phan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fod yna ffenest o gyfle i ddeddfu i warchod cyn gymaint ag sy'n bosib o'r hawliau dynol a'r hawliau gweithwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd. A ydych chi'n credu ei bod hi'n werth pasio deddfwriaeth benodol ynglŷn ag amddiffyn hawliau pobl Cymru?

Wel, credaf fod hynny'n bosibl, ond fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio hawliau dynol wedi'u gohirio—ac rwy'n falch iawn o glywed hynny—hyd nes y bydd y DU wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn derfynol. Cadarnhawyd hyn ym maniffesto Ceidwadol etholiad cyffredinol 2017, un o'r unig ddarnau ohono roeddwn yn frwdfrydig o gwbl yn ei gylch. Mae'n dweud:

Ni fyddwn yn diddymu neu'n disodli'r Ddeddf Hawliau Dynol tra bo proses Brexit yn mynd rhagddi ond byddwn yn ystyried ein fframwaith cyfreithiol ar gyfer hawliau dynol pan fo'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben. Byddwn yn parhau wedi ymrwymo i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol drwy gydol y Senedd nesaf.

Felly, dyna eu safbwynt ar hyn o bryd. Mae ein safbwynt ni yn glir iawn, fel rwy'n ei ddweud, sef ein bod yn hoffi'r Ddeddf Hawliau Dynol fel ag y mae. Rydym yn hoffi bod yn aelod o'r confensiwn ar hawliau dynol. Credwn fod hwnnw'n hanfodol i'n diwylliant a'n cymdeithas a byddwn yn parhau i bwyso amdano. Ond yn hollol briodol, byddwn yn cadw llygad ar yr hyn y gallai fod angen ei wneud, a thra'n bod yn trafod y Bil parhad, rwy'n siŵr y byddwn yn cadw rhai o'r materion hynny mewn cof.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y problemau hyn, ond nid heb seilwaith digidol priodol. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol?

Ie. Rydym wedi gwario llawer o arian, fel y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, ar ymestyn band eang cyflym iawn ledled Cymru, ac mae hynny wedi arwain at nifer o bethau, yn enwedig galluogi telefeddygaeth ac ati i ddod yn weithredol, fel ein bod yn gofalu'n well am y boblogaeth gyfan, ac yn benodol y bobl sydd ag unrhyw fath o broblemau'n ymwneud â symudedd neu bellter. Mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r rheswm pam rydym wedi gwario nifer fawr iawn o filiynau ar gyflwyno'r seilwaith digidol hwnnw.

Fodd bynnag, rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod gennyf broblem sylfaenol mewn gwirionedd â dechrau'r hyn a ddywedodd, oherwydd un o'r problemau rydym yn ei hwynebu yn awr yw'r anhawster i ddenu ymfudwyr o oedran gweithio i economi Cymru o ganlyniad i ymdrechion ei phlaid i wthio polisi mewnfudo penodol rwy'n anghytuno'n sylfaenol ag ef. Felly, mewn gwirionedd, mae cyfyngu mewnfudo ymhlith poblogaethau o oedran magu, sef yr hyn yw poblogaethau mudol i raddau helaeth mewn gwirionedd, yn gam sylfaenol tuag yn ôl wrth inni addasu ein heconomi.

14:40

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ, oherwydd roeddwn ar fin sôn am delefeddygaeth, sy'n datblygu i fod yn ateb i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei weld yn eang fel ateb i'r diffygion sydd gennym ym maes gofal sylfaenol. Yn anffodus, darpariaeth wael sydd yna yn yr ardaloedd gwledig hynny o ran band eang a signal ffonau symudol. Felly, os ydym am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn rhannau gwledig o Gymru, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyfathrebu digidol yn gwbl ddibynadwy. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r darparwyr gwasanaethau ynglŷn â darparu cyfathrebu digidol dibynadwy i 100 y cant o'r boblogaeth?

Wel, rydym wedi cael trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU am hyn, yn enwedig yng ngoleuni Deddf yr Economi Ddigidol 2017. Maent wedi dewis rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol o 10 Mbps; fodd bynnag, nid yw'n gwbl glir eto beth y mae 'cyffredinol' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae'n annhebygol y bydd yn golygu 100 y cant gan nad yw hynny'n debygol o fod o fewn y gyllideb sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf. Nid ydym yn credu bod 10 Mbps yn ddigonol, ac un o'r rhesymau pam nad ydym yn credu ei fod yn ddigonol yw oherwydd nad yw'n ddigonol ar gyfer telefeddygaeth. Yn wir, y bore yma, yn fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, cawsom gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys am eu system wybodaeth gofal cymunedol newydd ac roeddem yn trafod yr angen i ymestyn band eang ymhellach i gefn gwlad Cymru fel rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 2 newydd, gyda golwg ar gael isafswm cyflymder o 30 Mbps ar draws rhannau helaeth o Gymru. Mae'n werth crybwyll na fyddai hynny byth wedi ei wneud heb Cyflymu Cymru: ni fyddai unrhyw ran o Bowys, Ceredigion na Sir Gaerfyrddin byth wedi cael eu cysylltu drwy broses gyflwyno fasnachol. Felly, rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ffaith bod gan yr ardaloedd hyn unrhyw fand eang o gwbl.

Diolch i chi, unwaith eto, am yr atebion hynny, arweinydd y tŷ. Mae ein seilwaith digidol yn dibynnu ar geblau a throsglwyddyddion radio yn ogystal â phersonél wedi'u hyfforddi'n dda, yn arbennig ym maes rheoli data a diogelwch seiber. Mae ymosodiadau seiber a thoriadau yn y canolfannau data wedi creu anhrefn yn y GIG yn ddiweddar, gan amlygu'r ffaith bod gwyddonwyr cyfrifiadurol yr un mor hanfodol i'n GIG a'r gwyddonwyr bywyd. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru ddigon o unigolion medrus i ddiogelu ein seilwaith digidol?

Ydi, mae diogelwch seiber yn fater byw go iawn i ni yn amlwg a chyfarfûm yn ddiweddar â Ciaran Martin, prif weithredwr y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ac mae fy swyddogion yn cynnal perthynas waith dda gyda'i sefydliad. Rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd gyhoeddi penodiad rheolwr cysylltiadau gweinyddiaethau datganoledig i weithio gyda ni yng Nghymru. Cynhaliodd ein swyddogion weithdy gydag ef ddiwedd mis Ionawr i drafod gweithdrefnau rheoli seiber uniongyrchol cadarn a hynny ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn weithgar iawn yn sicrhau bod gennym ddiogelwch seiber da ar draws ystâd gyhoeddus Cymru.

Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Mike Hedges.

Darpariaeth Band Eang yn Nwyrain Abertawe

3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth band eang yn Nwyrain Abertawe? OAQ51788

Yn sicr. Er nad oes gennyf y wybodaeth benodol ar gyfer Dwyrain Abertawe, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 24,093 o safleoedd ar draws bob rhan o Abertawe fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 98 y cant. Y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar draws Abertawe yw 82.81 Mbps ar hyn o bryd.

Mae problem fawr gyda'r cyflymderau lanlwytho yn dibynnu ar ba fath o dechnoleg rydych yn ei defnyddio ar gyfer ei gysylltu, ac maent yn dibynnu ar nifer o ffactorau eraill. Felly, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r cabinet ddisgwyl uchafswm cyflymderau lawrlwytho o tua 80 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 20 Mbps. Ond mae'n dibynnu ar y pellter o'r cabinet, y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu gan eu darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a'r hyn a gaiff ei alw'n 'gystadleuaeth' ar y rhwydwaith, sy'n golygu pa mor brysur ydyw. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r adeilad ddisgwyl cyflymderau lawrlwytho o tua 330 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 30 Mbps, ac mae hynny'n dibynnu ar y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu yn ogystal, ond nid yw'n dibynnu ar bellter ac nid yw cysylltiad ffeibr i'r adeilad yn destun cystadleuaeth. Felly, mae gennym y treiddiad ffeibr mwyaf yn y DU ar hyn o bryd, ar draws rhannau o Gymru, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan bobl sydd â chysylltiad ffeibr llawn y broblem honno. Yn bendant mae yna broblem gyda chyflymder lanlwytho  ar rwydweithiau copr ac yn enwedig wrth i chi fynd i'r ardal bylu allan, ac un o'r pethau sy'n ddiddorol iawn yn Abertawe yw'r prawf BT ar gyfer ffordd newydd o anfon signal drwy wifrau copr yn Abertawe, o'r enw prawf G.fast. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd canlyniad hynny cyn bo hir, i weld a allwn ei gyflwyno mewn mannau eraill yng Nghymru.

14:45

Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd yr economi y llynedd am ddarpariaeth band eang ger rheilffyrdd, dywedodd ei fod yn cydnabod pwysigrwydd Wi-Fi ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a chrybwyllodd fod Trenau Arriva Cymru yn gwneud gwaith i wella hynny ar y pryd. Pan fo etholwyr yn mynd i mewn i orsaf drenau Abertawe yng Ngorllewin Abertawe, fe wyddoch nad yw ond yn cymryd eiliadau, fel y bydd Mike Hedges yn cytuno, i fod yn Nwyrain Abertawe ac maent eisoes yn cwyno am ba mor anwadal yw'r cysylltiad Wi-Fi. A ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd yr economi o gwbl ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau Wi-Fi ar drenau? Sylweddolaf nad eich cyfrifoldeb chi yw trenau, ond mae Wi-Fi yn gyfrifoldeb i chi, felly yn amlwg mae peth gwaith i'w wneud ar y cyd mewn perthynas â hynny?

Yn wir, ac mae ei swyddogion yn mynychu fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, a gyfarfu y bore yma fel y dywedais. Un o'r pynciau trafod oedd y trefniant data trafnidiaeth newydd rydym yn ei roi ar waith, fel rhan o'r ffordd y mae swyddogion yn gweithio, i ystyried y ffordd orau o wella rhai o'r materion cysylltedd. Felly, byddwch yn gwybod bod Trenau Arriva Cymru newydd roi Wi-Fi ar bob un o'u cerbydau a bydd y cerbydau'n trosglwyddo pan fydd y fasnachfraint yn digwydd. Ond Great Western—rydym wedi methu sicrhau hwnnw, er bod trafodaeth yn mynd rhagddi. Fodd bynnag, rydym yn edrych i weld a allai cytundeb gyda Network Rail fod yn gynhyrchiol o ran defnyddio peth o'r rhwydwaith ei hun fel seilwaith, ac yn wir, rydym hefyd yn edrych ar gysylltu'r ffyrdd ac ati er mwyn gwella rhywfaint ohono. Felly, rwy'n trafod yn ddwys ac yn barhaus gydag Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r seilwaith sydd ar gael i ni er mwyn cynyddu'r union fath hwnnw o ddarpariaeth.

Arweinydd y tŷ, rydych yn dweud bod cyfradd y rhai sy'n manteisio ar fand eang cyflym iawn wedi parhau i fod yn is o lawer nag argaeledd band eang cyflym iawn mewn gwirionedd. Felly, a gaf fi ofyn beth rydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o argaeledd band eang cyflym iawn yn eu hardal?

Ie, rydym wedi cynyddu swm yr arian rydym yn ei wario ar hyn o bryd ar hysbysebu argaeledd band eang. Rydym newydd gaffael asiantaeth hysbysebu i hysbysebu ar sail dwy sir ar yr un pryd—rhaglen dreigl i hysbysebu argaeledd band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno.

Hoffwn ddweud, fodd bynnag, fod hwn yn newid diwylliannol anferth. Mae pawb ohonom wedi anghofio pa mor gyflym y digwyddodd y newid hwn mewn gwirionedd. Felly, pan gafodd y rhaglen hon ei rhoi ar waith yn gyntaf, roedd BT eu hunain yn amcangyfrif y byddai tua 21 y cant o'r boblogaeth yn manteisio ar fand eang. Dyna pam fod y gyfran o'r budd wedi'i osod ar 21 y cant. Nid oeddent yn disgwyl rhannu unrhyw elw gyda ni. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 50 y cant. Dyna pam y mae gennym gymaint o arian i'w fuddsoddi yn y cyfnod nesaf. Ond yn amlwg, gorau po gyntaf y bydd hwnnw'n cynyddu. Mae amserlen go hir ynghlwm wrtho, felly rydym yn parhau i gael y gyfran honno o'r budd dros nifer o flynyddoedd yn y dyfodol. Felly, buaswn yn annog pob un ohonom i annog cymaint o bobl â phosibl i fynd ar-lein.

Lleihau Troseddau Casineb Homoffobig

4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y troseddau casineb homoffobig yng Nghymru yn 2018? OAQ51796

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid ar fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb, gan gynnwys yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i fynd i'r afael â throseddau casineb homoffobig. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a Stonewall Cymru, drwy ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, sy'n cefnogi gwaith yn y maes hwn.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae ymchwil gan Stonewall Cymru wedi dangos bod nifer y bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru sydd wedi dioddef troseddau casineb wedi cynyddu 82 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Canfu hefyd na roddir gwybod am bedair o bob pump trosedd neu ddigwyddiad casineb, gyda phobl iau yn arbennig o gyndyn o fynd at yr heddlu. Arweinydd y tŷ, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i roi gwybod am droseddau casineb homoffobig ac a yw wedi ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis ymgyrch Dyma Fi, sy'n codi ymwybyddiaeth o drais domestig?

Yn wir, rydym yn falch iawn o ymgyrch Dyma Fi, a lansiwyd gennyf yng Ngholeg Gŵyr ychydig wythnosau yn ôl bellach. Mae llawer wedi cyfeirio'n eang ati ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae wedi cael ei seilio i raddau helaeth ar hyrwyddo beth y mae'r ymchwil yn ei ddangos i ni, sef bod cynnydd mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chydraddoldeb trawsryweddol yn lleihau trais gan fod pobl yn gallu mynegi eu hunain fel y maent yn dymuno a chan nad ydynt yn cael eu gorfodi i gydymffurfio â rolau a stereoteipiau sy'n golygu nad ydynt yn gallu ymdopi â'u bywydau yn gyffredinol.

Mae gennym nifer o bethau penodol iawn rydym yn eu gwneud mewn perthynas â throseddau casineb. Bydd bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb yn nodi ei amcanion ar gyfer 2018 ar 9 Mai. Bydd y rhain yn cael eu cydlynu â'n fframwaith mynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb 2014. Mae'r tri amcan yn ymwneud ag atal, cymorth a gwella ymateb amlasiantaethol. Rydym hefyd, fel y dywedais mewn ateb yn gynharach, o dan y rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, yn rhoi tua £624,000 o gyllid i Cymorth i Ddioddefwyr a thua £250,000 y flwyddyn i Stonewall Cymru.

Mae'r ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr, yn parhau i godi ymwybyddiaeth a helpu dioddefwyr troseddau casineb homoffobig. Maent yn gweithio'n agos â'u chwaer-wasanaeth, gwasanaeth cam-drin domestig LGBT Rainbow Bridge. Rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn ymwybodol o ymgyrch Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, sy'n annog pobl i wneud safiad gweladwy yn erbyn troseddau casineb LGBT a dangos cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT o bob math.

Gan ei fod wedi gofyn yn benodol am ysgolion, rydym hefyd yn gweithio i wneud yn siŵr fod staff ysgol yn gymwys ac yn hyderus ynglŷn â mynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â chasineb. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwersi i ysgolion ar fwlio ar sail rhywedd a thrawsrywedd, wedi'u hanelu at gyfnodau allweddol 3 a 4, sydd i'w gweld ar ein gwasanaeth dysgu digidol Hwb.

14:50
Argaeledd Band Eang Cyflym Iawn yn Nhrefynwy

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd band eang cyflym iawn yn Nhrefynwy? OAQ51806

Yn sicr. Yn sgil prosiect Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 17,767 o safleoedd ar draws pob rhan o Sir Fynwy, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 76.2 y cant, ac mae ganddynt gyflymder lawrlwytho cyfartalog o 83.84 Mbps.

Pob clod i chi am lwyddo i ddod o hyd i atebion gwahanol i'r holl gwestiynau ar fand eang heddiw ynghyd ag ystadegau gwahanol. Credaf y bydd eich ffeil yn rhedeg allan yn fuan.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Russ George, yn gynharach mewn cwestiynau i chi, penderfynodd llawer o deuluoedd mewn ardaloedd gwledig dynnu'n ôl o gynllun Cyflymu Cymru yn wreiddiol, a oedd yn siomedig iawn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar eich asesiad o'r posibilrwydd o ddefnyddio technolegau newydd i lenwi'r bylchau sy'n weddill, megis defnyddio amleddau darlledu gwag yn y sbectrwm di-wifr, y mae cwmni yn Sir Fynwy wedi bod yn ei dreialu? Hefyd, mae gan y rhwydwaith 4G gapasiti y gellid ei ddefnyddio ar gyfer band eang. Ac yn dilyn hynny i gyd, a ydych wedi ystyried a allai fod yn briodol datganoli rhywfaint mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn uniongyrchol fel y gallant ddod o hyd i atebion pwrpasol, lleol a fydd yn mynd i'r afael â'r bylchau band eang sydd wedi'u lleoli yn eu hardaloedd hwy yn benodol?

Ie, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod yn ystyried pob math o argaeledd band eang. Nid yw'r rhaglen erioed wedi bod yn ddibynnol ar dechnoleg. Yn wir, rhoesom y rhaglen i BT a defnyddiasant ddwy o'u technolegau mawr ar ei chyfer. Ond bob amser, drwy'r rhaglen ABC mewn perthynas â'r rhaglen gyflym iawn, rydym wedi cefnogi pob technoleg yng Nghymru o ba fath bynnag, cyhyd â'i bod yn sicrhau cyflymder uwch na 30 Mbps. Felly, dyna'r maen prawf a dyna'r maen prawf o hyd. Fel rwyf wedi dweud nifer o weithiau yn y Siambr hon, rydym yn ceisio dod o hyd i atebion pwrpasol ar gyfer cymunedau penodol o bobl, ac rwy'n hapus iawn i drafod gydag unrhyw gymuned unrhyw ateb penodol sy'n sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth honno o 30 Mbps fan lleiaf. Ond beth bynnag sy'n gweithio, rydym yn hapus i weithio gyda beth bynnag sy'n gweithio. Buaswn yn dweud wrth yr Aelod, serch hynny, o ran y nifer sy'n manteisio arno, yn Sir Fynwy, ychydig dros 40.13 y cant yn unig sy'n manteisio arno. Felly, os hoffai weithio gyda mi a fy swyddogion i weld a allem godi'r ffigur hwnnw, buaswn yn ddiolchgar iawn.

Cyswllt Band Eang i Gymunedau Gwledig ym Môn

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gyswllt band eang i gymunedau gwledig ym Môn? OAQ51810

Mae 32,081 o safleoedd wedi cael mynediad at fand eang cyflym ar Ynys Môn yn sgil prosiect Cyflymu Cymru, sy'n cyfateb i 91 y cant o safleoedd cymwys.

Diolch yn fawr iawn i chi. Mae fy nghwestiwn i heddiw yn dod yn uniongyrchol gan glerc cyngor Bodedern. Rwy'n ei ofyn achos mae'n berthnasol i gymaint o'n cymunedau gwledig ni ac rwy'n ddiolchgar i'r clerc am gysylltu â mi. Mi ddarllenaf i:

Mae problemau sylweddol gyda chyswllt broadband yn bodoli mewn sawl safle yn y gymuned, sy'n cael effaith negyddol iawn ar lawer o unigolion, teuluoedd a busnesau. Er esiampl, mae llawer o ffermwyr yn gorfod gyrru eu hawliau am grantiau ar-lein, ond rwy'n ymwybodol o sawl ffermwr sy'n methu â gwneud hyn oherwydd eu cysylltiad broadband, ac oherwydd hyn maent yn dioddef anfantais. Maen nhw wedi mynychu sesiynau agored i fynegi pryderon, ond hyd yn hyn dim ond wedi derbyn ymateb fod eu pryderon wedi'u cofnodi, a heb dderbyn unrhyw gynnig o welliant neu awgrym o gynllun ar gyfer y dyfodol.

Yna, mae cwestiwn i fi, ond rwy'n ei basio ymlaen i chi: a allwch chi gadarnhau beth ydych chi'n awgrymu dylai gael ei wneud i helpu cymunedau gwledig sydd yn dioddef o'r effeithiau negyddol yma?

14:55

Nid wyf yn rhy siŵr beth yw'r broblem benodol yno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld beth ydyw. Rydym yn ymwybodol fod rhai problemau gyda chysylltiad ffeibr i'r adeilad ar Ynys Môn a rhai rhannau o ogledd-orllewin Cymru. Efallai eich bod wedi cael eich dal yn un o'r rheini, ond mae arnaf ofn nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law, felly rwy'n hapus iawn i ohebu â chi.

Byddaf ar Ynys Môn yn y dyfodol agos, felly os bydd gennyf amser, buaswn yn hoffi dod draw i'r gymuned a gweld drosof fy hun beth yw'r problemau a chael un o'n timau datblygu i edrych yn benodol i weld a allwn ddatrys y problemau hynny. Fel rwy'n dweud, mae gan Ynys Môn ganran dda iawn o ran cysylltedd, felly rwy'n synnu gweld bod cymaint o broblem â hynny. Rwy'n tybio bod yn rhaid i ni edrych ar fater penodol iawn yno.

Canfu dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Which? ym mis Mehefin y llynedd mai Ynys Môn oedd y trydydd ar ddeg o'r 20 man gwaethaf ar gyfer band eang yn y DU, ar ôl Powys a Sir Fynwy yn unig yng Nghymru. Ar 30 Ionawr, fe gyhoeddwyd manylion cyntaf eich strategaeth newydd i helpu i sicrhau bod band eang cyflym a dibynadwy ar gael i bob eiddo yng Nghymru, gyda thair lot yn mynd allan i dendr. Mae'r ddogfen dendro gysylltiedig bellach ar gael ar-lein, gan ddatgan yn unig mai'r nod yw darparu gwasanaethau band eang cyflym iawn i gymaint o adeiladau â phosibl yng Nghymru. Felly, pryd fydd y tendr ar gyfer gogledd-orllewin Cymru—tendr lot 1 ar gyfer gogledd-orllewin Cymru—yn agor ac yn cau? A pham fod y targed ar gyfer pob eiddo yng Nghymru wedi cael ei ddiddymu?

Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ceisio profi'r farchnad i weld—. Mae hyn bob amser yn golygu cydbwysedd rhwng niferoedd a chyrraedd cymunedau sydd ag angen penodol a gofnodwyd. Rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith o'r blaen: mae'n gydbwysedd go iawn i ni wybod a ddylem ei gyflwyno mewn cynifer o adeiladau ag y bo modd, pa un a yw'r bobl hynny wedi cysylltu â ni i ddweud eu bod ei eisiau ai peidio, neu pa un a ddylem fod yn edrych ar unigolion penodol a grwpiau bach o bobl sydd wedi nodi eu bod yn daer eisiau'r cysylltiad oherwydd ei fod yn anghyson ledled Cymru.

Rhan o broses y tendr yw gweld beth sydd ar gael am ba bris. Rydym wedi gofyn i'r farchnad ddweud wrthym beth y gallant ei wneud, ac yna gallwn ddod o hyd i atebion penodol pwrpasol ar gyfer lleoedd sydd eisoes wedi dangos eu bod eisiau hynny neu sydd wedi eu gadael allan o gyfrifiad y farchnad. Felly, mae arnaf ofn ei bod yn broses gaffael eithaf cymhleth i'w chynnal.

Rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda phartneriaid awdurdod lleol i ddatrys rhai o'r problemau yn rhai o'u hardaloedd. Felly, nid oes un ateb syml i'r cwestiwn, ond yn y bôn, rydym yn ceisio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda'r arian sydd ar gael i ni.

Cam-drin Domestig

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig? OAQ51794

Iawn, rydym yn parhau i weithredu ein strategaeth genedlaethol sy'n nodi ein camau gweithredu i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau comisiynu drafft cyn hir a fydd yn cefnogi dull rhanbarthol mwy cydweithredol o ddarparu gwasanaethau.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Fodd bynnag, mae dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru yn cael eu gwrthod gan rai llochesau oherwydd diffyg lle, ac mae'r newidiadau cyllido a orfodwyd gan Lywodraeth y DU yn bygwth cau llawer o lochesau ledled y wlad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu llochesau yng Nghymru, a sut y byddwch yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael?

Rydym yn ymwybodol iawn fod newidiadau i fudd-daliadau yn achosi rhai anawsterau mewn rhai o'r llochesau yng Nghymru, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu deall beth yn union yw'r problemau. Rydym wedi darparu £5.4 miliwn yn 2017-18 yn y grant gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector ar gyfer gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydym hefyd wedi darparu £376,000 yn 2017-18 ar gyfer prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n dysgu plant am berthnasoedd iach ac am gam-drin, ei ganlyniadau a ble i gael cymorth.

Roedd yn fraint fawr cael mynychu sesiwn o'r rhaglen honno yn ddiweddar i weld drosof fy hun yr effaith y mae'n ei chael ar y plant a'u gallu i ddeall beth yw perthynas iach a beth y gellid ei ystyried yn berthynas heb fod mor iach. Roeddwn yn falch iawn o ansawdd y rhaglen a sut roedd yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymysg y grŵp o blant a oedd yn derbyn yr hyfforddiant, ond ar draws yr ysgol a'i staff addysgu hefyd. Felly, roeddwn yn falch iawn o hynny.

Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn yn gynharach, rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn mai stereoteipio ar sail rhywedd, yn ôl yr holl waith ymchwil, yw un o'r prif elfennau sy'n ysgogi trais domestig a cham-drin domestig, gan fod pobl yn ceisio arddel personoliaeth a nodweddion nad ydynt, yn syml, yn naturiol iddynt, a'r straen y mae hynny'n ei chreu yn y cyd-destun domestig. Felly, rydym yn noddi'r rhaglen honno, ac rwy'n falch iawn o hynny, ac roedd y bobl ifanc yn ymateb yn dda iawn i rai o'r negeseuon yn y rhaglen honno hefyd.

15:00

Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud o ran bod hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn hollol allweddol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ysgolion—ymysg lleoedd eraill, ond mae ysgolion yn bwysig iawn. Ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf o asiantaethau cyhoeddus mewn sefyllfa dda iawn i ganfod ymddygiad ac agweddau gwael, ac arwyddion o drais gwirioneddol wedyn hefyd, oherwydd mae cymaint na roddir gwybod yn ei gylch yn hyn o beth. Ac mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'n strategaeth i sicrhau nad oes goddefgarwch o gwbl mewn perthynas â hyn.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn ohono. Felly, rydym wedi bod yn cyflwyno ein canllawiau 'gofyn a gweithredu' ar draws yr holl ymatebwyr a'n holl bartneriaid ar yr agenda hon gyda golwg ar wneud yn union hynny, mewn gwirionedd—gwneud yn siŵr fod pobl yn adnabod arwyddion o batrymau ymddygiad ac yn eu nodi'n gynnar a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math cywir o gymorth, ond hefyd, mewn gwirionedd, eu bod yn nodi troseddwyr yn gynnar ac nodi'r arwyddion mewn perthynas â hynny. Felly, mae'r tair rhan o'r strategaeth yr un mor bwysig, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid i ni—wel, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynifer o bobl yng Nghymru â phosibl yn cael eu hyfforddi i adnabod yr arwyddion hynny.

Prosiect Cyflymu Cymru yn Islwyn

8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr eiddo sydd wedi elwa ar brosiect Cyflymu Cymru yn Islwyn? OAQ51803

Er nad ydym yn cadw gwybodaeth benodol ar gyfer Islwyn, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 27,206 o safleoedd ar draws pob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 92 y cant.

Diolch. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae argaeledd band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi mwy na dyblu. Arweinydd y tŷ, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu nodi'r ganran o adeiladau Islwyn sydd â chysylltiad band eang cyflym iawn ar hyn o bryd, a pha gamau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod pob safle yn fy etholaeth yn cael eu cysylltu?

Fel y dywedais, mae gennym gyfradd gwblhau o 92 y cant ar hyn o bryd. Nid wyf yn rhy siŵr os yw hynny'n golygu Islwyn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n cynnwys Caerffili gyfan; nid ydym yn cadw'r wybodaeth yn ôl ffiniau etholaethau yn y ffordd honno. Ond fel y dywedais yn gynharach, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd ychwanegol sy'n cefnogi cymunedau sy'n arddangos galw pendant, gan dargedu'n benodol y cymunedau nad ydynt wedi'u cynnwys gan gyflenwyr mewn ymateb i'r cynllun olynol a amlinellwyd gan Mark Isherwood yn ei gwestiwn yn gynharach. Felly, os gŵyr Rhianon Passmore am unrhyw gymunedau penodol sydd â'r broblem honno, buaswn yn fwy na pharod i ddod i ymweld â hwy gyda hi. Fel arall, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Islwyn yn cael ei gynnwys yn y rhaglen olynol gan y cwmnïau sy'n mynegi diddordeb ar hyn o bryd.

Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gohirio'r broses o osod band eang cyflym iawn drwy godi ffioedd cynllunio gormodol a rhenti tir am y blychau cyflym iawn. Mae hyn yn peryglu darpariaeth gyflym iawn, nid yn unig yng Nghaerffili, gan gynnwys Islwyn, ond mewn ardaloedd cyfagos yn ogystal. A fyddech yn sicrhau bod Caerffili yn rhoi'r gorau i beryglu darpariaeth band eang cyflym iawn yn y ffordd hon?

Rydym yn ymwybodol fod yna broblem gyda chynlluniau band eang sy'n cystadlu yng Nghaerffili. Rydym yn annog cymaint o gystadleuaeth â phosibl yn y farchnad er mwyn cael y prisiau gorau posibl, felly rydym yn ymwybodol o'r broblem yng Nghaerffili gyda lleoli cabinet a rhai o'r materion cynllunio, ac mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda Chaerffili mewn perthynas â hynny.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

9. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ51804

Gwnaf. Mae llawer wedi'i gyflawni ers pasio'r Ddeddf ac rydym yn parhau i weithredu'r ddeddfwriaeth drwy ein strategaeth genedlaethol. Yn dilyn mewnbwn gan ein cynghorwyr cenedlaethol newydd, cyhoeddir ein fframwaith cyflawni a'n dangosyddion cenedlaethol eleni, a bydd ein rhaglen 'gofyn a gweithredu' yn cael ei chyflwyno ymhellach.

Diolch. Rydych yn sôn am ddangosyddion cenedlaethol ac fel y gwyddoch, mae'r Ddeddf yn dweud bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol y gellir eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon. O gofio y bydd trydydd pen blwydd y Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Ddeddf ar 29 Ebrill eleni, a allech roi ychydig mwy o wybodaeth i ni parthed eich safbwynt ar ddangosyddion cenedlaethol? Rydych yn dweud yn ddiweddarach eleni. A allwch ddweud pryd a pha gam rydych wedi'i gyrraedd yn y broses o'u llunio?

15:05

Gallaf, yn wir. Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mis Tachwedd 2016. Mae hwnnw'n nodi'r amcanion allweddol yn seiliedig ar dri diben y Ddeddf: atal, diogelu a chefnogi. Byddwn yn cyhoeddi fframwaith cyflawni trawslywodraethol i ategu'r strategaeth, gan bwyso ar arbenigedd y cynghorydd cenedlaethol newydd, cyn cyhoeddi'r fframwaith yn ystod yr haf eleni. Rydym yn datblygu'r dangosyddion cenedlaethol, a fydd yn mesur cynnydd ar gyflawni diben y Ddeddf. Mae hon yn flaenoriaeth i'r cynghorwyr cenedlaethol newydd, gan weithio gyda'n partneriaid allanol.

Ers cyhoeddi'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer awdurdodau perthnasol, rydym wedi creu a chyllido amrywiaeth o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol arbenigol ledled Cymru. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau wedi'u hanelu at arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ffilmiau wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau erbyn hyn ac rydym wrthi'n datblygu fframwaith cenedlaethol ymgysylltu â goroeswyr i sicrhau ein bod yn clywed ac yn gweithredu ar sail profiadau'r rheini sy'n profi trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.

Ac yn olaf, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau a goroeswyr i ddatblygu'r ymgyrch gyfathrebu genedlaethol Byw Heb Ofn a lansiwyd gennyf fis diwethaf yn Abertawe.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd fel Cadeirydd y Comisiwn, a daw cwestiwn 1 gan Dai Lloyd.

Darlledu Trafodion y Cyfarfod Llawn yn Ddwyieithog

1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am darlledu trafodion y Cyfarfod Llawn yn ddwyieithog? OAQ51818

Rydym yn dangos trafodion gair am air byw a thrafodion wedi’u cyfieithu o'r Cyfarfod Llawn ar Senedd.tv a YouTube. Darparwn lif sain gair am air a llif wedi’i gyfieithu o bob Cyfarfod Llawn ar gyfer darlledwyr. Mae BBC Cymru yn ffrydio’r Cyfarfod Llawn yn fyw ar eu gwefan yn Gymraeg a Saesneg. Darlledir cwestiynau’r Prif Weinidog gyda’r llif wedi’i gyfieithu ar BBC2 Cymru bob dydd Mawrth, ac mae BBC Parliament yn dangos cwestiynau’r Prif Weinidog ac eitemau dethol o’r Cyfarfod Llawn bob wythnos.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Llywydd. Nawr, mae sawl person wedi dweud wrthyf i dros y misoedd diwethaf, pan fo sianeli torfol, megis BBC2 yn benodol, yn darlledu gweithgareddau o'r Siambr yma yn fyw ac Aelod yn siarad yn Gymraeg, mae'r ddwy iaith—y Gymraeg a'r cyfieithiad Saesneg—yn cael eu darlledu efo'i gilydd heb unrhyw dawelu ar y naill iaith na'r llall fel bod pobl yn cwyno nad ydynt yn gallu clywed yr un o'r ddwy iaith yn glir, yn enwedig pobl sydd yn hŷn. Felly, a oes modd darbwyllo ein darlledwyr i'w gwneud hi'n hawdd i wrandawyr Cymraeg eu hiaith glywed cyfraniadau yn glir yn y Gymraeg gwreiddiol neu ddarparu o leiaf isdeitlau neu unrhyw ymateb arall sydd ddim yn golygu oriau o waith chwyslyd i'r gwyliwr i aildiwnio ei deledu o'r dechrau unwaith eto? Diolch yn fawr. 

Diolch am y cwestiwn. Peirianwyr sain sydd yn gweithio i ni sydd yn darparu'r ffid ar gyfer y darlledwyr a'r arfer da, mae'n debyg, o ran darlledu cyfieithu yw fod y ddau sain yna i'w clywed fel bod y gwyliwr, y gwrandäwr, yn gallu gweld bod y person yn siarad mewn un iaith ond fod yna gyfieithiad gan lais arall. Wrth gwrs, mae'n bwysig iawn fod y cyfieithiad yn cael ei ddeall a bod y trac sain a'r sain gwreiddiol ddim yn amharu ar allu y bobl i ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud gan Dai Lloyd a finnau ar y pwynt yma nawr, drwy gyfieithu, ar ddarlledu. Felly, mae'n amlwg, os oes yna gwynion, fod angen i ni edrych eto ar sut mae cymysgu'r ddau drac sain yn digwydd ac a ydy'r balans cweit yn iawn ar gyfer gwylwyr. Fe wnaf i'n siŵr ein bod ni'n gwneud hynny achos mae'n bwysig bod pawb yn deall yr hyn sydd yn cael ei siarad, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, o'r lle yma.

Diolch. Bydd Cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan Joyce Watson fel y Comisiynydd cydraddoldeb a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Dyma gwestiwn 2. Mark Isherwood.

Cyfleusterau i Bobl Anabl

2. Pa werthusiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i wneud o'r cyfleusterau y mae'n eu darparu i bobl anabl? OAQ51785

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau mynediad i ystâd y Cynulliad ar gyfer pobl anabl ac mae'n cynnal adolygiadau rheolaidd o hygyrchedd ein holl adeiladau a chyfleusterau. Rydym yn cwblhau asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn ymgymryd â gwaith adnewyddu neu wella er mwyn sicrhau hygyrchedd a chydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu.

Diolch. Gadewch i mi ddechrau drwy ganmol staff Comisiwn y Cynulliad fel rhywun sydd â nam ar ei glyw, oherwydd pryd bynnag y bydd problem yn codi gyda'r dechnoleg, maent yn wych am geisio helpu a chwalu'r rhwystrau hynny. Ond yn y Cynulliad cynnar—. Rwyf wedi bod yma'n ddigon hir i fod wedi eistedd yn yr hen Siambr, ac yn y dyddiau hynny, byddai gofyn i Aelodau â namau, gan gynnwys rhai fel fi a oedd â nam ar eu clyw, brofi offer neu addasiadau a oedd yn cael eu hystyried cyn y byddai'r Comisiwn ar y pryd—neu'r gwasanaeth seneddol, fel y'i gelwid bryd hynny—yn buddsoddi yn y darpariaethau newydd hynny. Nid yw hynny wedi bod yn wir yn fy achos i ers i ni symud i'r Siambr hon yn gynnar yn 2006, cyn yr agoriad ffurfiol wedyn ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Felly, a wnaiff y Comisiwn ystyried adfer system lle y gwahoddir Aelodau, a grwpiau mynediad i'r anabl eraill o bosibl, i brofi a chynghori ar addasiadau anabledd newydd ar gyfer ystâd y Cynulliad cyn y buddsoddir ynddynt?

15:10

Diolch i chi am godi'r mater hynod bwysig hwn, sef ein bod yn darparu, fel Comisiwn ac fel Cynulliad, y cyfleusterau sy'n addas at y diben y mae pobl yn bwriadu eu defnyddio ac mae'n wir, fe wyddoch, ein bod wedi diweddaru'r ddolen yma'n ddiweddar iawn a'n bod wedi uwchraddio'r system sain yn 2015 a 2016, ac fe wnaethom yr un peth yn yr ystafelloedd pwyllgor a'r Siambr ac orielau cyhoeddus y pwyllgorau, cyn prynu'r system newydd rydych yn ei defnyddio ar hyn o bryd, rwy'n credu.

Ond gallaf eich sicrhau, ac rwy'n siŵr y gall fy nghyd-Gomisiynwyr Cynulliad eich sicrhau, y byddwn yn ailafael mewn system sy'n ymddangos yn synhwyrol iawn i mi, sef ein bod, pan fo pobl eisiau defnyddio dyfais neu system, yn gofyn i'r bobl hynny a fydd yn eu defnyddio i'w profi cyn ein bod yn eu prynu ar eu rhan yn y gobaith y byddant yn briodol. Byddwn yn gwneud hynny ym mhob achos, oherwydd gwn fod materion eraill wedi cael eu dwyn i fy sylw ynglŷn â hygyrchedd o flaen y Cynulliad, lle rydym yn amlwg wedi gosod y rampiau a'r lifftiau fel bod pobl anabl, defnyddwyr cadeiriau olwyn ac eraill, yn gallu cael dod i mewn i'r adeilad, ond nid ydym wedi cefnogi hynny gydag arwyddion ac mae pobl yn cael eu drysu braidd, ac nid dyna oedd y bwriad gwreiddiol wrth wneud hynny. Mae materion eraill wedi codi mewn perthynas â mynediad at lwyfannau a phlatfformau lle rydym yn cynnal digwyddiadau. Felly, rydym yn sicr yn rhoi ystyriaeth i'r holl bethau hynny a gallaf eich sicrhau'n bendant y byddwn yn mynd i'r afael â hwy.

Diolch. Bydd Cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan Caroline Jones fel Comisiynydd Diogelwch ac Adnoddau'r Cynulliad a daw'r cwestiwn gan Simon Thomas.

Mannau Gwefru i Geir ar Ystâd y Cynulliad

3. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sicrhau bod mannau gwefru i geir ar ystâd y Cynulliad? OAQ51823

Diolch yn fawr, unwaith eto, Simon, am godi'r mater pwysig ynglŷn â phwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad. Yn dilyn ein hymrwymiad blaenorol i osod pwyntiau gwefru trydan, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith yn mynd ymlaen i osod pwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae nifer fach o ddefnyddwyr ar yr ystad ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau gwefru newydd yn annog mwy o ddefnyddwyr yn y dyfodol. Gan bwyll, nawr, Simon, Saesneg am y tro. 

Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ddefnyddio'r dulliau darlledu dwyieithog yma mor rymus, ac a gaf i ddiolch iddi hi am gadarnhau bod y broses sydd wedi bod ar waith am rhyw flwyddyn nawr yn mynd i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth? Rwy’n edrych ymlaen, yn bersonol, i allu newid y ffordd rwy’n arfer dod i’r lle yma, nid yn unig ar y trên, wrth gwrs, ond mewn car trydan hefyd. Ond mae’n bwysig i gofio ein bod ni wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn buddsoddi £2 filiwn yn y system drwy Gymru gyfan, a’n bod ni fel Cynulliad hefyd yn arwain yn y ffordd yma o ddadgarboneiddio trafnidiaeth, a hefyd yn annog pobl i ddod i’r Cynulliad yn y ffordd sydd mwyaf hwylus iddyn nhw. Felly rwy’n gobeithio’n fawr bod y gwaith yma yn mynd i gael ei gwblhau ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd.

15:15

Diolch i'r Aelod am ei ymateb cadarnhaol, a gobeithiaf y gallwn symud ymlaen o'r fan hon. Pan wnaethom yr arolwg, un person yn unig a oedd yn berchen ar gerbyd trydan, felly rydym bellach yn sefydlu dau bwynt gwefru a fydd, gobeithio, yn ein hannog i leihau'r ôl troed carbon a gallwn edrych ymhellach. Pan fyddwn yn gweld yr ymateb i'r pwyntiau hyn ar waith, gallwn edrych ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth gan Aelodau eraill sy'n dymuno i ni ddefnyddio'r gwasanaethau'n llawnach. Diolch.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi dod i law.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae plastig a’i effaith ar ein hamgylchedd ni yn fater o ddiddordeb cyhoeddus mawr erbyn hyn. Yn 1950, cynhyrchwyd 1.5 miliwn tunnell o blastig yn y byd i gyd. Erbyn hyn, mae’n fwy na 320 miliwn tunnell y flwyddyn, ac mae hanner yr holl blastig a gynhyrchwyd ers 1950 wedi’i gynhyrchu yn ystod y degawd diwethaf yn unig.

Mae gwastraff plastig bellach yn gyfrifol am tua 60 y cant i 90 y cant o wastraff yn y môr; gall potel blastig bara 450 o flynyddoedd ac mae gwastraff plastig yn andwyol i gymaint â 100,000 o anifeiliaid môr a miliwn o adar y môr bob blwyddyn. Felly, mae’n braf llongyfarch pentref Aber-porth ar lwyddo i fod y gymuned ddi-blastig gyntaf yng Nghymru. Mae diolchiadau i’r pentref cyfan am ddod at ei gilydd i chwilio am ffurf amgen i ddarparu ar gyfer trigolion ac ymwelwyr heb ddefnyddio plastig diangen. Mae’n amrywio o gwpanau ailgylchadwy yn y caffi, gwelltenni diod papur yn y dafarn leol, a llaeth mewn poteli gwydr yn siop y pentref.

Yn y Cynulliad hwn, rydym yn trafod treth ar blastig, ac mae’n dda gennyf fod wedi negodi arian ar gyfer ystyried cynllun dychwelyd blaendal. Ond mae’r newid mwyaf i’w weld yn ein cymunedau. Mae Cei Newydd yng Ngheredigion wedi dilyn Aber-porth, a bu tua 200 o bobl yn trafod y syniad yn Aberystwyth yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen, felly, Dirprwy Lywydd, yn eiddgar, i weld y dydd pan fydd Cymru’n rhydd o blastig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Chwefror 2018 yw mis hanes LGBT. Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar hanes LGBT+, gan nodi pa mor bell rydym wedi dod o ran hyrwyddo hawliau cyfartal ac amrywiaeth, ond hefyd yr heriau a'r rhwystrau sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.

Mae'r flwyddyn 2018 yn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, felly efallai nad yw'n syndod fod mis hanes LGBT eleni yn edrych ar y rôl a chwaraeodd lesbiaid a menywod deurywiol yn yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Mae penblwyddi pwysig eraill yn cynnwys y ffaith bod 40 mlynedd ers llofruddio Harvey Milk. Hefyd mae 30 mlynedd ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddeddfu o blaid homoffobia ar ffurf adran 28. Mae'r ddau goffâd olaf yn adlewyrchu thema eleni'n briodol, daearyddiaeth—mapio'r byd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddathlu'r cynnydd byd-eang tuag at briodas gyfartal, ond hefyd y cyfle i fyfyrio ar yr erledigaeth y mae pobl LGBT yn ei hwynebu ledled y byd a'r rôl y mae'n rhaid i ni ei chwarae i newid hyn.

Mae digwyddiadau cymunedol yn bwysig hefyd, gan dynnu sylw at y neges hon ar lefel llawr gwlad. Roeddwn yn falch iawn ddydd Sadwrn o siarad yn y digwyddiad hanes LGBT+ cyntaf erioed i gael ei gynnal yn Aberdâr yn Amgueddfa Cwm Cynon wedi'i drefnu gan grŵp lleol, Prosiect Undod. Nodaf fod baner yr enfys hefyd yn dathlu ei phen blwydd yn ddeugain eleni. Felly, gadewch i ni, bob un ohonom, chwifio'r faner dros gydraddoldeb a hawliau LGBT+ yn 2018 a thu hwnt.

Mae'r cyntaf o Fawrth yn nodi diwrnod ein nawddsant, Dewi, un o ddilynwyr ymroddedig Iesu Grist ac ysbrydoliaeth ar gyfer y brecwast gweddi seneddol Gŵyl Ddewi cyntaf, a gynhelir yn adeilad y Pierhead bore yfory. Bydd y brecwast gweddi yn dwyn ynghyd Aelodau'r Cynulliad, gwesteion rhyngwladol ac eraill i ddathlu etifeddiaeth Gristnogol gyfoethog Cymru, a chyfraniad enfawr cynulleidfaoedd Cristnogol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i gymdeithas Cymru. Bydd gwesteion yn wynebu'r tywydd yn ddewr ac yn teithio o bob cwr o Gymru, a byddant yn mwynhau cwmni cynrychiolwyr o nifer o leoedd ledled y byd, gan gynnwys pobl o'r Almaen a'r Swistir, India, Israel, Singapore, yr Iseldiroedd, Palesteina, Pacistan, Zimbabwe a Nigeria, ac wrth gwrs, bydd Siberia yn cael ei chynrychioli hefyd gan y tywydd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ragflaenu gan dderbyniad yma yn y Senedd heno, a bydd yn cyd-daro ag arddangosfa o drysorau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Beibl enwog Mari Jones, stori a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a Beibl llosg a gafodd ei ddifrodi mewn ffrwydrad mewn pwll glo a oedd yn perthyn i'r diwygiwr Cymreig enwog Evan Roberts. Rydym yn ddiolchgar i'r rheini sydd wedi helpu i drefnu'r digwyddiad a hyderwn y bydd yn fendith i'r genedl wych hon rydym ni yn y Siambr yn falch o'i galw'n gartref i ni. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.

15:20
6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar lywodraethiant yn y DU yn dilyn Brexit. Galwaf ar Mick Antoniw i gynnig yr adroddiad.

Cynnig NDM6663 Mick Antoniw

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod drwy gyfnod o newid cyfansoddiadol aruthrol ers dyfodiad datganoli. Mae'r newidiadau i'r ffordd rydym yn cael ein llywodraethu wedi trawsnewid ac yn parhau i drawsnewid ein tirlun gwleidyddol a chyfansoddiadol. O ganlyniad i'r bleidlais yn 2016 i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Deyrnas Unedig hefyd bellach yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol pwysicaf ac anoddaf iddi ei wynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a chenhedloedd a rhanbarthau unigol y DU. Dyma yw cefndir cyfansoddiadol ein gwaith ar y cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng llywodraethau a Seneddau datganoledig y DU.

Roedd ein gwaith hefyd yn pwyso ar waith craffu'r pwyllgor ar Fil Cymru ac yn benodol, y pryderon rheolaidd a fynegwyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sut yr oedd hyn yn effeithio ar ddatblygiad y Bil. Roedd ein hadroddiad ar lywodraethiant y DU yn dilyn Brexit, a gyhoeddwyd gennym ar ddechrau mis Chwefror, yn benllanw ar dros flwyddyn o waith. Yn ystod 2017, esblygodd y gwaith hwn, a ddechreuodd fel 'Llais cryfach i Gymru', ac effeithiwyd arno gan nifer o ddigwyddiadau megis etholiad cyffredinol y DU a pharatoadau'r DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ganlyniad i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) dadleuol.

Cyn i mi fynd ar drywydd ein canfyddiadau, mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddynt. Yn gyntaf oll, y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; yn ail, y panel dinasyddion, a roddodd eu hamser yn barod i'n helpu gyda'n gwaith ac a roddodd gipolwg i ni ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan Lywodraethau a Seneddau sy'n gweithio gyda'i gilydd dros y bobl y maent yn eu gwasanaethu; yn drydydd, panel o arbenigwyr a helpodd i lunio a chanolbwyntio ein syniadau ar yr adroddiad diwethaf; ac yn olaf ond nid yn lleiaf, cyn-Gadeirydd y pwyllgor hwn, Huw Irranca-Davies, a arweiniodd ein gwaith am y naw mis cyntaf.

Felly, gan droi at yr adroddiad, mae'n gwneud naw argymhelliad. Rydym yn credu eu bod yn angenrheidiol i wella ein cysylltiadau rhyngsefydliadol, a'r un mor bwysig, i sicrhau nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at ganlyniadau cyfansoddiadol anfwriadol. Wrth ddod i gasgliadau, ceisiasom ddysgu gwersi, a chymeradwyo, lle y teimlem fod hynny'n briodol, argymhellion a geir mewn adroddiadau eraill ar y pwnc hwn, gan gynnwys y rhai a luniwyd gan bwyllgorau seneddol ar draws y DU. Yn wir, mae llawer o'r sylwadau a'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn ein gwaith yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar ganfyddiadau'r pwyllgorau hynny. Cawsom ein calonogi gan y lefel gymharol uchel o gonsensws trawsbleidiol sydd wedi datblygu ymysg y gwahanol bwyllgorau cyfansoddiadol ar yr angen am ddiwygio cyfansoddiadol radical a sut y gellid cyflawni hynny.

Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn canolbwyntio ar gryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Mae ein pumed a'n chweched argymhelliad yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynhadledd y Llefaryddion i helpu i hwyluso newid. Rydym yn credu y gellid defnyddio cynhadledd y Llefaryddion fel ffordd o ddod i gytundeb ar newidiadau i gysylltiadau rhyngsefydliadol y DU. Yn anochel, bydd angen i'r rhain addasu, nid yn unig i broses y DU o adael yr UE, ond hefyd i'r berthynas newidiol rhwng gwledydd cyfansoddol y DU o ganlyniad.

Clywsom nifer o enghreifftiau o sut y gall cysylltiadau rhyngbersonol effeithiol rhwng Gweinidogion gynorthwyo gwaith y Llywodraeth o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ni allwch ddibynnu ar y cysylltiadau hynny bob amser. Felly, er mwyn cael llywodraethiant da, mae'n hanfodol sicrhau bod strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol ar waith sy'n gallu datrys yn effeithiol unrhyw dorri cysylltiad rhwng Gweinidogion. Mae sicrhau bod y trefniadau'n iawn yn hanfodol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yn y modd y darparir gwasanaethau lle y ceir buddiannau cyffredin rhwng Llywodraethau, lle y bo angen datrys anghydfodau, neu yn achos Cymru a Lloegr, lle y ceir manteision i gydweithio, er enghraifft ar faterion trawsffiniol. Felly, aethom ati i archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd i weld a ydynt yn addas at y diben ac i asesu a oes angen iddynt newid, yn enwedig er mwyn sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol newydd sy'n dod i'r amlwg yn y DU.

Llywodraethir y cysylltiadau rhynglywodraethol cyfredol drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Clywsom sut y mae’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion angen gwella'r ffordd y mae'n gweithredu, gyda rhai tystion yn galw am ailwampio llwyr. Roeddem yn cytuno gyda'r rhai a ddywedodd wrthym fod angen cryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol, nid yn unig rhwng Cymru a Lloegr, ond fel rhan o ddull pedair gwlad o weithredu, lle mae pob gwlad yn cael eu trin yn gyfartal. Nid yw Llywodraethau olynol y DU wedi adnewyddu peirianwaith Llywodraeth yn ddigonol i ymateb i'r cysylltiadau newidiol rhwng Llywodraethau ar ôl datganoli. Mae hyn wedi gadael marciau cwestiwn difrifol o ran sut y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ymdrin yn deg â heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i’r DU adael yr UE. Felly, mae’r angen am ddiwygio sylfaenol yn glir ac yn ddybryd. Yn ein barn ni, yr opsiwn gorau fyddai mabwysiadu agwedd gwbl newydd tuag at gysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn darparu’r cryfder a’r gwytnwch sefydliadol sydd eu hangen i wynebu heriau'r dyfodol.

Mae rhinweddau sylweddol i argymhelliad y Prif Weinidog ynghylch Cyngor Gweinidogion y DU i ddisodli’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion a byddai'n ateb llawer o'r pryderon a glywsom yn y dystiolaeth. Mewn gwirionedd, byddai’n fforwm o Lywodraethau cenedlaethol yn gweithio ar y cyd er budd y Deyrnas Unedig. Byddai'n darparu’r newid sydd ei angen i sicrhau bod gennym gydlywodraethu priodol, gan gynnwys mewn meysydd a gydgysylltwyd ar lefel Ewropeaidd. O ganlyniad, roeddem yn ystyried mai cynigion y Prif Weinidog oedd yr ateb hirdymor mwyaf cydlynol i ddatrys pryderon ynglŷn â chysylltiadau rhynglywodraethol. Fodd bynnag, cam cyntaf hanfodol ac ymarferol fyddai cryfhau strwythur cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a dyna oedd ein hargymhelliad cyntaf. Rydym yn credu y gellid cyflawni hyn drwy sicrhau bod cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn cyflawni swyddogaethau uwchgynhadledd flynyddol penaethiaid Llywodraethau a thrwy ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i gynnwys y farchnad sengl a masnach, ac yn benodol, i gytuno ar fframweithiau cyffredin.

Roedd ein hail argymhelliad unwaith eto yn adlewyrchu safbwyntiau pwyllgorau seneddol drwy osod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddiwygio Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU, sydd ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Yn y tymor hwy, ar ôl Brexit, roeddem yn argymell y dylai’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fod yn destun diwygio sylfaenol fel y bydd yn dod yn gyngor y DU sy’n gorff gwneud penderfyniadau gyda mecanwaith annibynnol ar gyfer datrys, barnu a dyfarnu mewn achosion o anghydfod. Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, rydym yn credu y dylai’r memorandwm dealltwriaeth rhwng y DU a llywodraethau datganoledig—gan gynnwys y nodiadau cyfarwyddyd ar ddatganoli—fod yn destun ailwampio trwyadl i gynnwys cydweithio rhwng pob un o Lywodraethau’r DU. Dylai hyn anelu at sefydlu cydlywodraethu mewn perthynas â’r systemau sy'n helpu i ddarparu cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol a theg.

Daw hyn â mi at fater arall sy’n gwbl sylfaenol i gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol, sef sicrhau bod gweision sifil yn Whitehall yn deall datganoli. Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n bodoli mewn rhannau o Whitehall mewn perthynas â datganoli, er gwaethaf rhai ymdrechion clodwiw gan weinyddiaethau olynol i unioni'r sefyllfa. Credwn ei bod yn annerbyniol fod y lefel o ddealltwriaeth o ddatganoli ar draws Whitehall yn aml yn wael, fod dealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn arbennig o wael mewn rhai adrannau allweddol, a bod ymdrechion i unioni'r sefyllfa hon wedi bod yn annigonol. Efallai fod ymagwedd gweision sifil Whitehall wedi'i chrynhoi orau gan un tyst a ddywedodd wrthym:

Dylwn ddweud nad wyf erioed wedi credu bod rhyw fath o reswm maleisus dros anwybyddu’r Alban a Chymru. Credaf ei fod yn fwy o esgeulustod diniwed.

Mae’n bosibl fod yr agwedd hon tuag at ddatganoli yn deillio o’r gwrthdaro sy'n bodoli ar hyn o bryd yng nghyfansoddiad cyfredol y DU, lle mae gwasanaeth sifil y DU yn cefnogi Llywodraeth y DU yn ei rôl fel y weithrediaeth ar gyfer y DU a Lloegr i bob pwrpas. Yn sicr, roeddem yn teimlo bod peirianwaith gwasanaeth sifil mewnol Whitehall sy'n cynnal datganoli fel y'i disgrifiwyd i ni yn gymhleth ac yn ddryslyd. Mae'n fater rydym yn bwriadu mynd ar ei drywydd ymhellach gyda Llywodraeth y DU maes o law.

Mae’r un rhesymeg yn gymwys ar gyfer gwella cysylltiadau rhynglywodraethol ac mae'n berthnasol i'r ymgysylltiad rhwng y Seneddau sy'n ffurfio rhan annatod o’n systemau cyfansoddiadol. Mae'n amlwg fod angen ymestyn yr ymgysylltiad rhwng pwyllgorau a rhwng Seneddau. Os yw’r rhannau hyn o’n sefydliadau democrataidd yn gweithio'n well gyda'i gilydd, yna mae’n fwy tebygol y bydd llais Cymru yn cael ei glywed ar draws y DU, y bydd ein safbwyntiau cyfunol yn cael eu gweithredu ac y bydd gwead cyfansoddiad y DU yn cael ei atgyfnerthu.

Wrth edrych i weld sut y gellid symud ymlaen ar yr angen hwn am fwy o gydweithredu ffurfiol, rydym yn argymell bod y Llywydd yn ceisio sefydlu cynhadledd y Llefaryddion gyda Llefaryddion a Llywyddion deddfwrfeydd eraill y DU. Ei nod fyddai penderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gwaith rhyngseneddol yn y DU, gan roi sylw penodol i graffu ar effaith ymadael â’r UE ar fframwaith cyfansoddiadol y DU. Rydym felly yn ystyried y dylai prif rôl cynhadledd o'r fath i Lefaryddion fod yn gysylltiedig â datblygu fframwaith ar gyfer cysylltiadau rhyngseneddol. Bydd manteision amlwg i gael fforwm cydlynol a strwythuredig ar gyfer trafod ar y cyd rhwng Seneddau gan ymgymryd â gwaith craffu, lle y gellir rhannu gwybodaeth a lle y gellir dwyn Llywodraethau i gyfrif yn eu tro. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld rhinweddau mewn sicrhau bod gan gynhadledd y Llefaryddion rôl i'w chwarae mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, er mwyn asesu sut y maent yn datblygu yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn esblygiad cyfansoddiad y DU. A dylai hyn gynnwys asesu, yn arbennig, ymateb Llywodraeth y DU i bedwar argymhelliad cyntaf yr adroddiad hwn a nodwyd gennyf.

Mae hon yn fenter radical i gefnogi diwygio cyfansoddiadol cynaliadwy ac nid yw heb gynsail. Mae'n ffordd o ddwyn gwledydd y DU ynghyd a rhoi cychwyn egnïol i’r broses o ddiwygio cyfansoddiadol yn dilyn Brexit yr ystyriwn ei fod yn hanfodol i hegemoni'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd eisoes i wella cydweithrediad seneddol. Yn y Cynulliad hwn, rydym wedi creu cysylltiadau pwysig â phwyllgorau yn Nhŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi a Senedd yr Alban. Yn ogystal, mae creu'r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit, a fynychaf gyda David Rees, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol ac adeiladol iawn. Credwn fod ganddo botensial i fod yn rhagflaenydd gwerthfawr i’r cysylltiadau a’r strwythur seneddol cryfach a fydd yn hanfodol o fewn y DU pan fydd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ni waeth pa newidiadau neu addasiadau rhynglywodraethol a fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, bydd yn bwysig i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac rydym o'r farn fod y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban rhwng ei Senedd a’i Llywodraeth yn darparu model synhwyrol y gellid ei fabwysiadu yng Nghymru. Ar y sail honno, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Fel y mae ein hadroddiad yn ei ddangos, mae trefniadau cyfansoddiadol y DU yn debygol o gael eu rhoi o dan bwysau sylweddol dros y degawd nesaf. Bydd yn rhaid i’r DU addasu ei threfniadau mewnol i sicrhau na fydd ymadael â’r UE yn golygu mwy o ganoli pŵer yn Llundain. Bydd yn rhaid rhoi strwythurau rhynglywodraethol newydd ar waith. Ac nid yw gwneud synnwyr o gwbl i awgrymu y dylai’r strwythurau sydd gennym yn y DU yn awr, tra bôm yn rhan o'r UE, fod yr un fath ar ôl i ni adael yr UE.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gydweithio’n adeiladol â phwyllgorau seneddol eraill ledled y DU, yn chwarae rhan weithredol yn helpu i lunio fframwaith cyfansoddiadol sy’n addas ar gyfer yr heriau newydd a wynebwn, a bydd gwneud hynny’n helpu i atgyfnerthu llais Cymru yn y teulu o wledydd sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig.

15:30

A gaf fi gymeradwyo gwaith ein Cadeirydd, Mick Antoniw, ei ragflaenydd, Huw Irranca-Davies, a'r ysgrifenyddiaeth gyfan, yn enwedig y clerc? Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol. Mae'n gryno, a chredaf ei fod eisoes wedi cael rhywfaint o effaith a dylanwad. Ond mae angen llawer iawn o ymdrech i gynhyrchu rhywbeth mor bwerus â hynny, ac i lunio rhyw fath o ddadl resymegol o'r ystod gyfan o drafodaethau a gawsom a'r safbwyntiau a glywsom. Roedd y panel dinasyddion a'r panel arbenigol yn gymorth mawr i ni, a chredaf y gallwn ddweud yn onest fod ein hadroddiad wedi cael ei effeithio'n sylweddol gan y cyfraniadau hynny. A dyna'r ffordd y dylai pwyllgorau weithio mewn gwirionedd, rwy'n credu, pan fyddwn yn estyn allan ac yn ymgysylltu.

Credaf y bydd canlyniadau ymadael â'r UE bob amser yn creu goblygiadau dwys i undod cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Nid ydynt yn broblemau anorchfygol, ond maent yn bendant yn heriau. A chredaf y gallwn ni yng Nghymru fod yn falch o'r ffaith ein bod wedi gwneud ein rhan i'w hwynebu, a meddwl am ystod o argymhellion adeiladol iawn i wneud y cyfansoddiad Prydeinig yn fwy cytbwys ac yn gryfach. Yn fy marn i, os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, mae perygl y gallai'r rôl fwy i lywodraethiant y DU, yn enwedig o ran llunio polisi yn Lloegr, dros bethau fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, a materion eraill sydd, ar hyn o bryd, yn rhan o bensaernïaeth polisi yr UE—rwy'n credu y gallai'r uchafiaeth anfwriadol hwnnw a gynhyrchir yn Lloegr achosi i rai o'r cyfleoedd a'r gofodau ar gyfer datblygu polisi yng Nghymru ac yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon yn wir, gael eu colli. A dyna sydd angen i ni warchod yn ei erbyn. Gall fod yn anfwriadol, ond os nad ydym yn wynebu'r perygl hwnnw, a'i gywiro'n effeithiol, fe wneir niwed sylweddol i'r setliad datganoli yn y pen draw.

Rwy'n credu y bydd adnoddau Whitehall bob amser o fudd mawr, o bosibl, i weddill y Deyrnas Unedig, i'r Llywodraethau datganoledig, ond mae'n rhaid iddynt gael eu defnyddio mewn partneriaeth, ac ni ellir eu defnyddio i orfodi cytundebau na cheir cydsyniad gwirioneddol iddynt, ac rwy'n credu bod yn rhaid i hyn fod wrth wraidd datblygu'r fframweithiau a fydd eu hangen yn y DU, a sut y byddant yn cael eu gweithredu a pha mor agored, atebol ac agored i graffu seneddol priodol ydynt—bydd yr holl bethau hyn yn angenrheidiol ar gyfer llywodraeth dda a chryf.

Mae Mick eisoes wedi rhoi sylw i fater y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. A gaf fi ddweud y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn parhau i fod yn bwysig, yn enwedig wrth negodi cytundebau masnach? Ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio ychydig fel roedd Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop yn arfer gweithio. Pan oedd yn paratoi ar gyfer gwaith yn y cynghorau Ewropeaidd, byddai'n datblygu nodyn siarad, gyda holl swyddogion y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, ac yna weithiau byddai'n caniatáu i Weinidogion o Gymru a'r Alban i fynychu, a weithiau i siarad, a dyna'r math o gyfranogiad a phartneriaeth y credaf ein bod yn ei ddisgwyl.

O ran datblygu'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fel bod ganddo swyddogaeth cyngor gweinidogol ei hun, neu fod cyngor gweinidogion yn cael ei greu o'r newydd, rwy'n credu bod angen iddo gael yr adnoddau priodol, mae angen iddo gael cynlluniau gwaith ac agendâu effeithiol, a gallai gael ei swyddogion ei hun. Ac unwaith eto, bydd yn rhaid iddo weithio ar sail modelau cydlywodraethu, a rhyw ffurf o fecanwaith datrys anghydfodau, pan fo hynny'n angenrheidiol, ond yn gyffredinol, bydd yn rhaid iddo gael y cryfder a'r trylwyredd sefydliadol angenrheidiol i ganiatáu i'r math o gydweithio a phartneriaethau y byddwn eu hangen gael eu llunio'n briodol.

O ran gwaith rhynglywodraethol, nid wyf yn credu ein bod eisiau gweld system gaeedig yn y DU ar gyfer cydlywodraethu yn cymryd lle system gymharol gaeedig yr UE, a gall Llywodraethau lithro i hynny'n hawdd iawn. Bydd angen i ddeddfwyr y DU graffu'n drwyadl yn ogystal.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, daw hyn â mi at y syniad o gynhadledd y Llefaryddion. Mae datganoli bron yn ugain oed. Credaf y bydd hwn yn amser gwych i edrych ar gysylltiadau rhyngseneddol, gyda Llefaryddion y Deyrnas Unedig—y pedwar ohonynt, rwy'n credu—yn dod at ei gilydd i gynnal cynhadledd. Ceir traddodiad balch o gynadleddau Llefarydd—a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn unig oedd hwnnw'n arfer bod bryd hynny wrth gwrs—pan gynhelid cynhadledd i edrych ar faterion cyfansoddiadol mawr. Ac felly rwy'n credu bod y syniad hwn i'w ganmol yn fawr, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi a'r Llywydd yn canfod eich bod yn gallu datblygu'r argymhelliad penodol hwn, a siarad â'ch cymheiriaid yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr iawn.

15:35

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma ar yr adroddiad bendigedig yma, sydd wedi cael ei gynhyrchu gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ac a allaf i ategu'r diolchiadau i'r Cadeirydd presennol, Mick Antoniw, i Huw Irranca-Davies, ein Cadeirydd ni am y naw mis cyntaf, a hefyd i'r clercod a'r ymchwilwyr sydd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd y tu ôl i'r llenni i gynhyrchu'r campwaith yma? Achos mi fuodd y beichiogrwydd yn hir, fel maen nhw'n ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel mae Mick newydd ddweud, fe wnaeth agweddau newid dros amser, ac felly mae'r adroddiad wedi newid, ac yn cael ei gryfhau fel mae'r cefndir hefyd yn newid. 

Dechreuom ni yn cymryd tystiolaeth a chefndir ynglŷn â Deddf Cymru 2017, ac, wrth gwrs, mae'n wir i nodi yn ystod craffu ar Ddeddf Cymru 2017, fe wnaethom ni ofyn i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, Aelod Seneddol, i ddod o flaen ein pwyllgor ni bedair gwaith, ac nid ymddangosodd o gwbl. Dyna'r cefndir o ran sut mae San Steffan yn edrych ar bwyllgorau yn y lle hwn. Ac mae Alun Cairns yn dal i wadu ein bod ni wedi colli pwerau sylweddol efo Deddf Cymru, er ein bod ni gyd yn gwybod yn y lle yma ein bod yn rhuthro drwodd y Mesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn y lle yma cyn inni golli'r pŵer i ddeddfu yn y maes yna ar 1 Ebrill. Ffŵl Ebrill yn wir.

Felly, o golli pwerau efo Deddf Cymru, rydym ni hefyd yn gweld ein bod ni yn colli pwerau efo Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), er bod Alun Cairns yn gwadu hynny hefyd. Gyda'r holl drafodaethau yma efo gadael Ewrop, mae'n amlwg taw ymylol, fel mae Mick Antoniw wedi ei ddweud—ymylol—y mae Cymru wedi bod. Mae'n Llywodraeth ni wedi cael ei rhoi i'r ochr, mae trafodaethau'n cymryd lle ac mae yna benderfyniadau sy'n cael eu cymryd ac nid ydym yn hapus efo nhw. Hyd yn oed gyda materion sy'n bwysig i Gymru, fel materion sydd wedi eu datganoli, nid ydym yn rhan o'r drafodaeth. Dyna pam mae'n allweddol bwysig—yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad—ein bod ni'n cryfhau  Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—cyfarfod llawn. Gwnaethom ni glywed ddoe nad ydy'r cyd-bwyllgor yna wedi cyfarfod ers mis Ionawr 2017. Mae angen ei gryfhau, mae angen iddo gyfarfod, ac mae angen iddo ddiwygio'r ffordd mae'n gweithio—ac nid jest gweithio fel llais Llundain, llais San Steffan, ond fel llais cyfartal i'r Llywodraethau oll yn yr ynysoedd hyn. Mae angen dirfawr i newid hynny. Dyna sail ein hargymhelliad 1 ac argymhelliad 2 a 3. 

Ar ôl i'r busnes Bil ymadael yma fod drosodd mae eisiau diwygio tymor hir ar Gyd-bwyllgor y Gweinidogion i ddod yn gyngor y Deyrnas Unedig sy'n gwneud penderfyniadau cyfartal—pob Llywodraeth, pob senedd-dy yn parchu ei gilydd yn gyfartal. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n hen bryd iddo fe ddigwydd. Dyna pam yn ddirfawr mae angen diwygio system Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—cyfarfod llawn—achos mae'n sarhad ar ein cenedl ni ar hyn o bryd ein bod ni'n colli'r pwerau yma ac nid oes yna neb yn gwneud fawr ddim yn ei gylch e. Rydym yn trio gwneud rhywbeth amdano fo fan hyn, mae'n Llywodraeth ni, i fod yn deg, yn gwneud rhywbeth amdano fe, ond nid yw pobl yn gwrando ac maen nhw'n gwadu bod y fath broblem yn bod. Nid yw hynny'n deg ac mae yna amharchu beth sydd wedi digwydd fan hyn yng nghyd-destun datganoli. 

Wrth gwrs, mae eisiau gwell cydweithio rhwng pwyllgorau yn y lle hwn a phwyllgorau yn ein senedd-dai eraill ni. Rydym hefyd eisiau craffu ar Weinidogion o lefydd eraill yn fan hyn. Dyna pam mae gennym ni argymhellion i'r perwyl yna hefyd.

Ond i gloi rŵan, mae angen dirfawr i ddiwygio llywodraethiant yn y Deyrnas Unedig. Ie, yr esgus nawr ydy ein bod ni'n gadael Ewrop, ac rwyf yn sylwi nad yw Aelodau UKIP, wnaeth achosi'r llanast yma o adael Ewrop, yn bresennol i glywed y ddadl ar sut rydym yn trio datrys y llanast. Ond o fod yn y llanast yma, mae angen diwygio'r ffordd mae senedd-dai yn yr ynysoedd hyn yn parchu ei gilydd, yn cydweithio efo'i gilydd, achos ar ddiwedd y dydd, nid jest San Steffan sydd i benderfynu pob peth. 

Mae yna lot o sôn am droi'r cloc yn ôl, onid oes? Ond mae datganoli hefyd wedi digwydd. Mae refferendwm 2011, yr ydym ni wedi ei gael yn fan hyn, yn mynnu pwerau deddfwriaethol i Gymru. Mae angen parchu canlyniad pob refferendwm, nid jest yr un diwethaf. Diolch yn fawr.  

15:40

A gaf fi hefyd ddiolch i Mick Antoniw am ei adroddiad a'ch rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a diolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am yr adroddiad pwysig hwn? Credaf fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn enghraifft o weithio trawsbleidiol cadarn iawn, ac rwyf wedi gweld hynny yn yr adroddiadau a gyflwynwyd ganddynt. Mae'n hollbwysig os ydym am gael dylanwad ar Lywodraeth y DU ac yn wir, os ydym am gyflawni'r argymhellion hyn. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi ymgysylltu â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sy'n cael ei gadeirio, wrth gwrs, gan David Rees. Rydym yn cydgysylltu fel dau bwyllgor ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd, yn enwedig ar faterion sy'n ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn ychwanegu at y corff o dystiolaeth sy'n deillio o'r ddau bwyllgor, sy'n bwysig iawn o ran paratoi ar gyfer Brexit a mesur effaith Brexit a chysylltiadau yn y dyfodol sy'n hollbwysig ar lefel rynglywodraethol yn y DU.

15:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ddoe, clywsom am argymhellion diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ynglŷn â'r gweinyddiaethau datganoledig. Siomedig oedd clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet—er ei fod am fod yn adeiladol a chadarnhaol—pan ddywedodd eu bod wedi mynd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ac nad oedd papur wedi'i roi cyn yr argymhellion, sef argymhellion, wrth gwrs, sydd â bwriad anffodus i ganoli gyda phŵer feto dros gyfrifoldebau allweddol sydd wedi'u datganoli. Ac wrth gwrs, mae hyn wedi ein harwain i symud ymlaen gyda'n Bil parhad, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gobeithio y gallai negodiadau ein symud yn ein blaenau, fel na fyddai wedi bod angen hynny pe bai ein gwelliannau, a gwelliannau Llywodraeth yr Alban yn wir, wedi'u derbyn. Ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o pam y mae'n rhaid inni edrych ar y cysylltiadau rhynglywodraethol hyn a pha mor siomedig yw hi nad ydynt yn fwy cadarn ar yr adeg bwysig hon.

Rwyf am ddweud—a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol—i roi fy nhystiolaeth a fy mhrofiad o fod yn gyn-aelod, fel Gweinidog, o Gyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, sydd wrth gwrs—a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hyn hefyd—wedi bod yn fodel adeiladol iawn. Oherwydd o ran Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, a oedd yn ddigwyddiad rheolaidd a fynychwn gyda Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, roedd ein swyddogion i gyd yn cyfarfod ymhell cyn y cyfarfodydd hyn, câi agendâu eu cynllunio ac yn aml caem gyfarfodydd tairochrog a dwyochrog cyn y cynhelid y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac wrth gwrs, roeddem yn trafod materion fel paratoadau ar gyfer y Cyngor Ewropeaidd sydd i ddod a materion o bwys pan oedd Llywodraeth y DU yn gofyn am ein barn, fel gweinyddiaethau datganoledig, am effaith materion yr agenda. Credaf fod llawer i'w ddysgu o hynny. Pam nad yw'r model hwnnw'n cael ei fabwysiadu ar gyfer y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn ogystal—eich Cyd-bwyllgor Gweinidogion negodiadau Ewropeaidd hollbwysig?

Hefyd, rhaid imi ddweud, yn ystod ein hamser fel aelod yn Ewrop, yn aml gofynnid i Weinidogion gweinyddiaethau datganoledig fynd i gynghorau'r UE. Ac ar un adeg, hyd yn oed, cofiaf mai fi oedd yr unig Weinidog a oedd ar gael o wledydd y DU oherwydd bod etholiad cyffredinol yn y DU. Felly, roeddent yn hapus iawn—Llywodraeth y DU—i mi, fel Gweinidog addysg, fynd i gyngor addysg ar ran yr aelod-wladwriaeth, sef Llywodraeth y DU wrth gwrs. Rhaid inni ddysgu o hynny. Pam na allwn adeiladu ar y cysylltiadau da, cadarnhaol a llawn parch a ddatblygwyd?

Felly, hoffwn groesawu'r adroddiad, yn enwedig yr argymhellion ynghylch cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Rhaid inni ei gryfhau, ond mewn gwirionedd rhaid inni wneud iddo weithio hefyd. Ddoe, rwy'n credu, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oeddent wedi cyfarfod ers llawer iawn o fisoedd—cafodd cyfarfodydd eu gohirio ac ni threfnwyd rhai eraill. Dyma'r union sefyllfa na ddylem fod ynddi yn awr. Mae angen inni wneud iddi weithio. Mae pob un o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor mor bwysig yn yr ystyr y dylai gael pwerau i wneud penderfyniadau; ni all fod yn siop siarad yn unig. Ni all fod yn rhywbeth—. Caiff y digwyddiadau hyn eu rheoli ymlaen llaw, yn amlwg, o ran dod â phobl allweddol—Prif Weinidogion—at ei gilydd, ond dylai gael y math hwnnw o rym i wneud penderfyniadau. Dylai allu pwyso ar fecanweithiau anghydfod annibynnol, mecanweithiau dyfarnu a chyflafareddu yn ogystal.

Roedd hi'n ddiddorol, yn y dystiolaeth gan Rhodri Morgan—ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am gydnabod y cyn-Brif Weinidog yn ei ragair—oherwydd fe ddywedodd Rhodri hefyd y dylai fod mecanwaith dyrannu adnoddau annibynnol, mecanwaith annibynnol mewn anghydfod ynghylch dyrannu adnoddau. Wel, roedd hynny'n hollbwysig wrth gwrs. Dywedodd Gerry Holtham fod hynny'n hollbwysig yn ei argymhellion yng nghomisiwn Holtham. Mewn perthynas ag anghydfod ynghylch dyrannu adnoddau, gwyddom fod hynny'n hollbwysig. Efallai eich bod wedi trafod hynny ac yn teimlo na allech fynd mor bell â hynny o ran y pwyllgor.

Felly, credaf fod 'Diogelu Dyfodol Cymru'—. Wrth gwrs, rydym yn aml yn mynd yn ôl at hynny; nid oes llawer o amser ers y Papur Gwyn hwnnw a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wrth gwrs. Roedd yn amlwg iawn bryd hynny fod angen set newydd o gysylltiadau cadarn, tryloyw ac atebol ar lefel y DU. A Chyngor y Gweinidogion, wrth gwrs, yw'r ffordd ymlaen, ac wrth gwrs roedd ein Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y dylem gael y trefniant hwnnw, y trefniant rhynglywodraethol hwnnw.

Felly, hoffwn ddweud heddiw mai adroddiad trawsbleidiol yw hwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei gymeradwyo ac y bydd cefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo iddo; beth am Lywodraeth y DU? Ble roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Sut rydych chi am—? Sut rydym ni—? Nid chi'n unig; nid Llywodraeth Cymru yn unig. Sut rydym ni fel Cynulliad, fel Senedd, yn mynd i sicrhau bod symud ymlaen ar hyn? Wrth gwrs, gallwn wneud y cam cyntaf drwy sicrhau cynhadledd y Llefaryddion i fwrw ymlaen â'r argymhellion pwysig yn yr adroddiad hwn.

15:50

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r adroddiad hwn, ac rwy am ddiolch a chymeradwyo'r pwyllgor am gynhyrchu dadansoddiad manwl a meddylgar o'r sefyllfa gyfredol o gysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol, ac am ddatganiad clir o'r diwygiadau sydd eu hangen er mwyn rhoi'r cysylltiadau hyn ar sail fwy cadarn. Mae'n bleser gen i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno ar set o argymhellion argyhoeddiadol iawn gan y pwyllgor. Rwy'n mynd i ganolbwyntio'r rhan fwyaf o'm sylwadau ar yr argymhellion ar gyfer gwella'r berthynas rhwng Llywodraethau, ond rwy hefyd am siarad ychydig am y berthynas rhwng y Seneddau ac am y cyd-destun ehangach ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol.

Ym mis Ebrill, wrth gwrs, daw'r rhan fwyaf o gymalau Deddf Cymru y soniodd Dai Lloyd amdanyn nhw i rym, gan nodi pennod newydd yn ein statws fel Cynulliad. Bydd llawer o'r cadwyni sydd wedi ein hatal rhag bod yn gallu penderfynu ar ein materion ein hunain yn gynyddol ddiflannu yn sgil hynny. Byddwn yn medru dod yn Senedd lawn, yn medru penderfynu faint o Aelodau y dylem gael, sut y dylid eu hethol, a phwy ddylai fod â hawl i bleidleisio drostynt.

Ond mae cyrraedd y nod o ddod yn Senedd wrth gwrs yn galw am fwy na ffocws ar enw a niferoedd, fel y gŵyr pawb ohonom. Dylem fod â'r hyder yn ogystal i brofi'r gweithdrefnau seneddol a ffyrdd o weithio yn erbyn yr enghreifftiau cyfatebol gorau yn unrhyw le yn y byd. Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ogystal â mynd i'r afael â'r diwygiadau proffil uchel, i edrych ar y peirianwaith sy'n sail i gamau craffu, herio, deddfu a gweithredu, y cyfeiriodd y pwyllgor atynt yn eu hadroddiad, wrth inni ddod yn Senedd newydd. Os derbyniwn yr heriau hynny, bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i gyfrannu ar sail gyfartal tuag at adeiladu ar y cysylltiadau rhwng Seneddau a Chynulliadau ledled y DU, ac rydym yn cefnogi argymhelliad llawn dychymyg y pwyllgor am gynhadledd y Llefaryddion i ganolbwyntio ar y mater penodol hwnnw.

Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar y berthynas rhwng Llywodraethau. Mae pawb yn cytuno bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig, ond yn rhy aml ystyrir hynny yng nghyd-destun datrys problemau, rheoli anghytundeb, neu faterion sydd angen eu datrys. Mae hwnnw'n rhan hanfodol o'r darlun, ond nid dyna yw'r darlun llawn. Dylai cysylltiadau rhynglywodraethol da hefyd ymwneud â mwy na rheoli ein gwahaniaethau; dylent ymwneud â nodi a mynd i'r afael â'r heriau polisi a rannwn ar draws pedair gweinyddiaeth y DU. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da neu ddatblygu polisïau da, ac nid oes gan neb yr atebion i gyd. Felly, mae angen i gysylltiadau rhynglywodraethol ymwneud hefyd â rhannu arferion gorau a gweithio gyda'n gilydd lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny, a bydd hynny'n sicr o fudd i'r bobl a wasanaethwn.

Mae datganoli ei hun, wrth gwrs, wedi cyfrannu'n sylweddol at arloesi o ran polisi ledled y DU, ac nid mater o fabwysiadu pwerau mewn ystyr haniaethol, mewn gwagle, yw hynny. Mae'n ymwneud â defnyddio'r pwerau hynny ar sail egwyddor, ond hefyd ar sail bragmataidd, fel bod y pwerau sydd gennym yn cael eu defnyddio mewn ffordd ymarferol i wella bywydau pobl yng Nghymru. Ac mae hi'r un fath gyda hyn, gyda'r bensaernïaeth gyfansoddiadol, os mynnwch, o ran y modd y mae llywodraethau'n ymwneud â'i gilydd. Nid ymarfer mewn cyfreitha cyfansoddiadol yw hyn, ond datblygu ffordd o weithio a sylfaen egwyddorol sy'n cynorthwyo'r Cynulliad a'r Llywodraeth i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn y ffordd y teimlwn ei bod yn gweddu orau i Gymru. Roedd hynny ymhlyg yn y sylwadau a wnaeth Mick Antoniw.

Felly, gan droi'n benodol at argymhellion y pwyllgor, cytunwn yn llwyr fod angen i gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddechrau cyflawni swyddogaethau'r uwchgynhadledd penaethiaid Llywodraethau flynyddol sef yr hyn y bwriadwyd iddo fod yn wreiddiol.  Rydym hefyd yn cytuno bod angen inni ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyna'n union y galwasom amdano yn ein papur polisi masnach diweddar ychydig wythnosau yn ôl. Ac rydym yn cytuno bod angen ailwampio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sylfaenol. Ni chafodd ei ddiweddaru ers 2013, ac mae llawer iawn wedi digwydd ers hynny, fel y gwyddom. Nid yw'n mynd i'r afael ag amgylchiadau newydd Brexit. Byddwn yn pwyso am gytundeb ar gomisiynu archwiliad o hynny yn y cyfarfod llawn nesaf o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cyfeiriodd Jane Hutt, yn ei sylwadau, at y diffygion sylweddol yn y trefniadau presennol, felly mae angen inni fynd i'r afael â'r rheini.

Felly, rydym yn cytuno y gellir gwneud gwelliannau yn y tymor byr; fodd bynnag, mae'n amlwg na fydd strwythurau presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gallu dal y pwysau y bydd Brexit yn ei osod arnynt yn y tymor hwy. Felly, rydym yn croesawu galwad y pwyllgor am gyngor Gweinidogion y DU, sy'n adleisio'r argymhellion a nodwyd gennym yn 'Brexit a Datganoli' ar gyfer cyngor Gweinidogion, fel y dywedodd David Melding yn ei gyfraniad, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau rhwymol gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol a mecanwaith dyfarnu annibynnol ar gyfer anghydfodau na ellir eu datrys drwy unrhyw ddull arall.

Rhaid i gyfansoddiad y DU ar ôl Brexit wneud mwy na baglu ymlaen yn y ffordd anghytbwys, ad hoc ac anffurfiol y mae'n ei wneud ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi dweud hefyd y dylem edrych ar sut y gellid gosod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo'r argymhelliad a wnaed gan nifer o bwyllgorau seneddol am sail statudol o'r fath, a chredwn y byddai angen gwaith pellach i weithio drwy oblygiadau hynny, ond yn y bôn rydym yn cytuno ag argymhelliad y pwyllgor.

Yn olaf, o ran argymhelliad 8, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod cynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor. Wrth wneud hynny, byddwn yn dymuno ystyried yn ofalus y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban y cyfeiria 'r pwyllgor ato yn yr adroddiad.

Rwyf am gloi drwy gydnabod bod ein cynigion yn 'Brexit a Datganoli', a rhai'r pwyllgor yn yr adroddiad rhagorol hwn, yn heriol ac efallai ychydig yn frawychus i Lywodraeth y DU, ond rydym yn troedio tir newydd bellach. Mae'r catalydd cyfansoddiadol y mae Brexit yn ei gynrychioli wedi creu deinameg newydd sy'n mynd i newid y ffordd y rheolir Prydain ymhellach. Yn gyffredinol, mae hanes cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn wedi bod yn glytiog, yn hytrach na rhan o weledigaeth gydlynol, a'r dehongliad rhamantaidd o hynny yw ei fod wedi bod yn fuddiol inni. Nid wyf yn siŵr o gwbl fod hynny'n wir.

Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod na all ddal ati i geisio baglu ei ffordd drwy hyn. Mae angen iddi ymrwymo i adolygiad o'r bôn i'r brig a fydd yn gosod ein system o gysylltiadau rhynglywodraethol, a chyfansoddiad y DU ei hun, ar sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i fod yn bartner yn y broses honno o newid, ac mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ychwanegu at y côr o leisiau sy'n galw am adolygiad o'r fath. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau gwrando cyn bo hir a chychwyn ar daith ddiwygio a fydd yn gwella cadernid cyfansoddiadol Cymru, a phob rhan o'r Deyrnas Unedig hefyd.

15:55

Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch i'r Cwnsler Cyffredinol ar ran y Llywodraeth am yr ymateb cadarnhaol iawn a wnaed i'r hyn sy'n adroddiad radical iawn. Hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr sydd wedi cyfrannu, ac nid af drwyddynt yn unigol oherwydd rwy'n credu bod yr holl sylwadau a wnaed yn gadarnhaol ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r camau a gymerwyd ac sy'n cael eu cymryd ar draws yr holl Seneddau i edrych ar ffordd o sicrhau bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig wedi'i ddiwygio ac yn gweithio mewn gwirionedd.

Ac yn benodol, y cyfeiriad at gynhadledd y Llefaryddion, oherwydd rwy'n credu, Lywydd, gyda'r modd rydych chi wedi mynd ar drywydd y mater hwn, fod hwn yn gam radical ond fel rwy'n dweud, nid yw'n un digynsail. Mae hefyd yn ein galluogi i ddwyn ynghyd y safbwyntiau sy'n dod o bob un o'r pwyllgorau cyfansoddiadol, pwyllgorau trawsbleidiol, sydd ag un amcan yn unig, sef: yn yr amgylchedd ôl-Brexit, sut y gallwn sicrhau bod gennym well llywodraethiant, sut y gallwn sicrhau llywodraethiant yn lle'r un sy'n cael ei newid? A dyna yw'r cryfder arbennig. Rwy'n dweud 'digynsail', oherwydd, fel y trafodwyd gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach, roedd yna gynhadledd ar ddatganoli yn 1920, cynhadledd y llefaryddion. Yn anffodus, ni thrafodwyd ei ganfyddiadau yn Nhŷ'r Cyffredin. Fel arall, efallai y byddai datganoli wedi digwydd lawer iawn yn gynharach.

Ond roedd un o'r argymhellion yn ymwneud â diwygio yn y tymor hwy yn ogystal â'r tymor byr, ond hefyd â gallu Llefaryddion pob Senedd yn y Deyrnas Unedig i fynd ar drywydd yr hyn y mae pawb ohonom yn gwybod sydd angen digwydd, sef bod yn rhaid ystyried cyfansoddiad y DU yn ei gyfanrwydd, confensiwn cyfansoddiadol y DU ar ryw ffurf. Ac edrych ar, ac ymdrin â'r 'eliffant yn yr ystafell', fel y'i disgrifiwyd gan John Morris gymaint o flynyddoedd yn ôl, sef y cwestiwn Seisnig fel rhan sylfaenol o ddatrys y berthynas ar sail barhaol a chynaliadwy.

Wrth y rhai sy'n dweud efallai y ceir ofn ynglŷn â'r argymhellion hyn yn dod o Gymru ac ati, y cyfan a ddywedaf yw nad o Gymru'n unig y mae'r argymhellion hyn wedi dod. Rydym yn cymeradwyo argymhellion o bob rhan o'r DU i bob pwrpas, ac efallai y caf gyfeirio'n ôl at y sylwadau gan yr AS mawr o Gymru, Cledwyn Hughes, yn 1973, yn ystod adroddiad Kilbrandon, pan godwyd mater y cwestiwn Seisnig ac atebodd Cledwyn Hughes y Prif Weinidog fel hyn.

A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol y byddwn ni, sy'n perthyn i'r cyrion Celtaidd, yn gwneud popeth a allwn i warchod y buddiant Seisnig yn y mater hwn?

Dyma fater sydd o fudd i ni i gyd, sy'n peri pryder i ni i gyd, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar iawn fod ymateb mor gadarnhaol wedi dod gan y Llywodraeth. Edrychaf ymlaen, Lywydd, i'ch gweld yn cymryd camau, gobeithio, i ymgysylltu â Llefaryddion eraill y Deyrnas Unedig ac i gynnal cynhadledd y Llefaryddion a chychwyn y broses o ddiwygio cyfansoddiadol.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i ni gychwyn y ddadl, hoffwn atgoffa Aelodau o'r rheol sub judice a nodir yn Rheol Sefydlog 13.15. Agorodd crwner gogledd Cymru gwest ar 13 Tachwedd 2017 mewn cysylltiad â'n diweddar gydweithiwr Carl Sargeant. Mae'r cwest wedi'i ohirio, ond yn parhau i fod yn weithredol. Ni ddylai Aelodau, felly, yn y ddadl yma, wneud unrhyw sylwadau a allai greu risg o ragfarn i'r cwest. 

I gychwyn y ddadl, rydw i'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies a Rhun ap Iorwerth. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM6668 Paul Davies, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd—hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd—gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n codi i wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies fod:

'Galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd—hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd—gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.'

Buaswn yn gobeithio y bydd y cynnig hwn heddiw yn ennyn cefnogaeth y Cynulliad, oherwydd nid yw ond yn ceisio gwneud yr hyn rydym ni fel Aelodau Cynulliad yn disgwyl ei wneud dro ar ôl tro yn ein rôl, sef craffu ar sefydliadau y gwnaed honiadau yn eu herbyn, honiadau y gwnaed ymholiadau yn eu cylch ac y lluniwyd adroddiad arnynt. Ein dyletswydd fel Aelodau'r Cynulliad wedyn yw arfer y swyddogaeth graffu honno dros y sefydliad i ddeall y digwyddiadau a arweiniodd at y cyhuddiad, y fethodoleg a luniodd yr adroddiad, y casgliadau, ac yn y pen draw, a oes angen rhoi unrhyw gamau ar waith. Byddai hynny, i  mi, yn gais rhesymol i'w wneud i unrhyw un a luniodd adroddiad, nad oes neb, yn anffodus, wedi cael cyfle i'w weld.

Yn amlwg, mae'r digwyddiadau a arweiniodd at gyhoeddi'r adroddiad hwn wedi bod yn destun cryn dipyn o drafod a diddordeb cyhoeddus. Rhaid imi ddweud, yn yr 11 mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, nid wyf yn meddwl—ymron pob cylch y bûm ynddo, mae pobl wedi sôn am y digwyddiadau'n ymwneud ag ad-drefnu'r Cabinet, nad yw fel arfer, yn y byd gwleidyddol yng Nghymru, yn ennyn cymaint â hynny o ddiddordeb. Ond oherwydd yr amgylchiadau trasig sy'n deillio o ganlyniad i'r ddogfen, yn amlwg mae pobl wedi dangos diddordeb mawr yn yr agwedd arbennig hon.

Nid wyf yn bwriadu siarad am unrhyw un o'r ymchwiliadau eraill sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol o gwbl i mi wneud hynny. Ond rydym yn gwybod bod adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol ym Mharc Cathays, rydym yn gwybod bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw sut y daethpwyd i'r casgliadau ac yn benodol, unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r adroddiad i wella unrhyw sefyllfaoedd a allai arwain at ganlyniadau o'r fath yn y dyfodol.

Credaf fod angen inni fyfyrio ar y dystiolaeth sydd ger ein bron, yn enwedig wrth inni edrych ar y sylwadau'n ymwneud â'r ad-drefnu sydd, fel y nodais o'r blaen, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy negeseuon testun, drwy sylwadau gan sylwebwyr, yno i bawb ei weld. Gallwn gynnig unrhyw un o 101 o enghreifftiau gwahanol o sylwadau o'r fath. Roedd y sylwadau hyn i gyd yn cyfeirio at ffynonellau a oedd yn rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd ei hystyried, ei thrafod, gwybodaeth sy'n cyfeirio at bobl yn gadael y Llywodraeth honno, pobl yn dod yn rhan o'r Llywodraeth. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o bobl yn disgwyl, wrth ad-drefnu'r Cabinet ac mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, fod yna sgwrsio a bod yna ddadl, gawn ni ddweud, ac mae pobl yn aml iawn am geisio dangos eu gwerth drwy esgus bod, neu drwy fod â gwybodaeth wrth law i ddangos eu bod yn gysylltiedig â'r broses. Gallwn ddyfynnu nifer o negeseuon trydar yma. Mae un yn dweud ei fod 

wedi clywed gan ffynonellau fod Carl Sargeant @wgcs_community yn colli ei swydd.

Dyna drydariad gan newyddiadurwr. Gallwn fynd ymlaen at lobïwr a oedd yn darogan sut olwg a fyddai ar y Cabinet newydd, sef 

2 Aelod Cabinet i adael, dyrchafiad neu ddau a 3 o'r rhai a etholwyd yn 2015 i mewn. A sypreis bach ychwanegol o bosibl.

Roedd hyn oll yn wybodaeth a gafwyd mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a phan edrychwch ar y digwyddiadau yn sgil ad-drefnu'r Cabinet, cafodd ei wireddu.

Hefyd cawsom dystiolaeth heddiw ddiwethaf, er enghraifft, gan ffigwr blaenllaw o Lywodraeth flaenorol a siaradodd am gwmni lobïo, Deryn, a oedd â'r wybodaeth honno ac a oedd yn dweud bod 'y materion allweddol a roddais mewn tystiolaeth i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd'—dywedodd ei fod wedi rhoi'r dystiolaeth hon i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd—'oedd bod newyddiadurwyr wedi dweud wrthyf eu bod wedi derbyn neges destun gan y sawl a gyflogwyd gan Deryn ymhell cyn y cyhoeddiad ynghylch yr ad-drefnu yn datgan bod Carl Sargeant yn mynd i golli ei swydd.' Dywedodd Aelod Cynulliad Llafur, y cadarnhawyd bellach mai'r Aelod dros Lanelli ydoedd, wrth grŵp Llafur y Cynulliad ar 9 Tachwedd ei fod wedi cael neges destun ar 3 Tachwedd, cyn yr ad-drefnu, yn dweud yr un peth, ond heb nodi pwy a'i hanfonodd. Cafodd rhai Aelodau Seneddol wybod cyn i'r ad-drefnu gael ei gyhoeddi y byddai Carl Sargeant yn colli ei swydd.

Mae'r pethau hyn oll yn gyhoeddus. Nid yw'n rhywbeth rwyf wedi gwneud sylwadau arno a'i gyhoeddi fy hun; nid yw'n sylw y gellir ei briodoli i mi. Roedd yr enghreifftiau hynny yno i gyd, ac unwaith eto, dyna pam yr hoffwn i, ac eraill rwy'n siŵr, ddeall y fethodoleg a'r rhesymeg o ran sut y daeth yr Ysgrifennydd Parhaol i'r casgliadau y daeth iddynt yn ei hadroddiad.

Ychydig cyn y toriad, y toriad hanner tymor hwn, roedd yn gwbl briodol, fel y gwelai llefarydd y Prif Weinidog ar y pryd, i gyfeirio at yr adroddiad, i ddweud mewn adroddiad BBC, am y neges, pan oedd yn siarad am negeseuon testun o gwmpas adeg yr ad-drefnu:

Archwiliwyd y neges hon fel rhan o'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd a ganfu na ddigwyddodd unrhyw ddatgelu heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru. Ni allwn wneud sylwadau pellach.

Mae'n ymddangos, pan fyddant yn dewis cyfeirio at yr adroddiad, er mwyn siarad gyda newyddiadurwyr wrth gwrs, y cânt wneud hynny—hynny yw, llefarwyr ar ran Llywodraeth Cymru—ac eto pan fyddwn ni, fel Aelodau Cynulliad Cymru, eisiau gweld yr adroddiad hwnnw, cawn ein hamddifadu o'r cyfle. Yn wir, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan oeddwn yma ddiwedd mis Ionawr yn holi'r Prif Weinidog am yr adroddiad, dywedwyd wrthyf fy mod yn ceisio datgelu pwy oedd y bobl a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw. Dim o gwbl—yn y pen draw, dyna'r peth olaf y byddai neb yn dymuno ei wneud. Pan fo pobl wedi gofyn am y cyfrinachedd hwnnw, fel y mae'r cynnig y prynhawn yma yn ei nodi, dylid parchu'r cyfrinachedd, dylid ei warantu mewn gwirionedd.

Ond hoffwn ofyn, ac arweinydd y tŷ sydd yn ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, os wyf yn iawn i feddwl hynny—. Oherwydd un o'r pethau a ddaeth yn amlwg yn y sgwrs rhyngof fi a'r Prif Weinidog ar y pryd oedd bod y Prif Weinidog wedi dweud yn ei ymateb i mi fod gofyn i bobl—ac rwy'n ei ddyfynnu'n uniongyrchol yma:

Gofynnir i bobl roi tystiolaeth yn gyfrinachol.

Felly, buaswn yn ddiolchgar—. A oedd hynny'n rhagofyniad i bob tyst cyn iddynt roi tystiolaeth, y byddai'r dystiolaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol? Oherwydd mae hynny'n ymddangos yn dipyn o amod i'w gosod ar y dystiolaeth honno, gan wybod yn bendant wedyn y byddai gennych reswm dros beidio â sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael. Hoffwn gael eglurhad ar y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, os mai arweinydd y tŷ sydd yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.

Ers y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 30 Ionawr, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn mynegi fy mhryderon ynghylch yr atebion i gwestiynau'r Prif Weinidog y diwrnod hwnnw, yn enwedig ynghylch y dystiolaeth a gasglwyd gan yr ymchwiliad a chwestiynau ysgrifenedig Cynulliad Cymru dilynol a ddaeth yn ôl yn nodi ffynonellau pellach o wybodaeth y gofynnais am eglurhad yn eu cylch, i weld a gawsant hwy hefyd eu cynnwys yn yr ymchwiliad. Ni chefais ateb hyd yma i fy llythyrau dyddiedig 30 Ionawr a 31 Ionawr. Unwaith eto, nid wyf yn credu bod honno'n sefyllfa foddhaol i fod ynddi bron fis wedi i'r llythyrau hynny gael eu hanfon—. Nid wyf wedi cael llythyr cydnabod hyd yn oed, rhaid imi ddweud, ac felly buaswn yn gwerthfawrogi rhyw fath o gydnabyddiaeth neu ymateb.

Felly dyna pam rydym yn sefyll yma heddiw yn trafod y pwnc hwn, oherwydd ni allaf ennyn unrhyw ymateb gan yr Ysgrifennydd Parhaol i lythyrau a anfonais dros fis yn ôl. Yn wir, yn y mis ers hynny, rwyf wedi cael cwestiynau ysgrifenedig yn ôl gan y Prif Weinidog pan ofynnais am y canllawiau ar gyfer yr ymchwiliad hwn ac yn wir, y canllawiau a oedd yn gwahardd cyhoeddi'r adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y gweithdrefnau sefydledig parthed ymchwiliadau i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, gweithdrefnau y mae'r gwasanaeth sifil yn eu deall yn dda, a chawsant eu nodi gan yr Ysgrifennydd Parhaol fel rhesymau dros beidio â symud ymlaen i gyhoeddi'r adroddiad. Ac mae fy nghais i gael gweld y rheoliadau hynny, a sut y cafodd y rheoliadau eu dehongli, yn dal i fod heb ei dderbyn, ac roedd hynny ar ddechrau mis Chwefror.

Mae hwn yn bwnc sensitif ac emosiynol iawn. Mae'n un o bedwar adroddiad. Credaf fod angen inni osod cynsail fel Cynulliad y dylai'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, ac mae gennym ni fel Aelodau Cynulliad hawl i edrych ar yr adroddiad hwnnw, i ddeall yr adroddiad hwnnw a'i gasgliadau. Dyna hawl sylfaenol, buaswn yn dweud. Fel deddfwrfa ac fel Cynulliad, dylem bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gosod y cynsail hwnnw a bod yr adroddiad ar gael i ni fel Aelodau'r Cynulliad. Ni fydd dim byd llai yn gwneud y tro, ac rwy'n annog yr Aelodau yn y Siambr heddiw i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron, ac yn y pen draw i ganiatáu i heulwen tryloywder ddisgleirio ar yr adroddiad hwn fel rhagamod sylfaenol, fel y gallwn osod y cynsail ar gyfer adroddiadau pellach y gwyddom y byddant yn dod ger ein bron pan fydd adroddiadau Cwnsler y Frenhines a James Hamilton wedi'u cyflwyno. Dyna pam rwy'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron.

16:10

Rwy'n codi i gefnogi y cynnig yma. Rwy'n meddwl fod yna egwyddor bwysig yn y fantol fan hyn. Mae canfyddiadau yr ymchwiliad penodol yma yn fater o bwysigrwydd ac o ddiddordeb cyhoeddus, fel yr ŷm ni wedi ei glywed. Ac o ganlyniad, wrth gwrs, yn fy marn i, mi ddylai felly gael ei wneud yn gyhoeddus, gyda'r caveats sydd wedi cael eu crybwyll ynglŷn â'r angen i ddileu enwau ac yn y blaen. 

Nawr, mae wedi bod yn anghyfforddus iawn gorfod mynd nôl i edrych ar egwyddorion Nolan, a dweud y gwir—y saith egwyddor rŷm ni i gyd i fod i ymlynu atyn nhw, a rhai rŷm ni, rydw i'n siŵr, yn eu darllen bob nos cyn mynd i'r gwely, ond maen nhw yn berthnasol iawn yn y cyd-destun yma, oherwydd bod yn agored yw un ohonyn nhw. Bod yn agored: mae'n syml. Mae'n gwbl syml: dylem ni weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw, ac na ddylid dal gwybodaeth yn ôl o'r cyhoedd oni bai bod yna resymau cyfreithiol i wneud hynny. Wel, dyna chi un egwyddor sydd â risg o gael ei thramgwyddo yn y cyd-destun yma. 

Aweinyddiaeth—mae dangos arweinyddiaeth yn un egwyddor arall. Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion yma trwy arweiniad a thrwy esiampl. Felly, mae'n rhaid i ni ddangos yr arweiniad a'r esiampl yna o safbwynt bod yn agored. Gyda llaw, mae hefyd yn dweud bod 'arweiniad' yn golygu bod yn barod i herio arfer drwg sef, ysywaeth, beth rydw i'n deimlo mae'r gwrthbleidiau yn gorfod ei wneud fan hyn yn y Siambr y prynhawn yma. 

Heb fod yn agored a heb fod yn dryloyw drwy gyhoeddi'r adroddiad yma, yna canfyddiad y cyhoedd, yn naturiol, fydd fod yna rywbeth i'w guddio. Ac, yn absenoldeb cyhoeddi'r adroddiad yma, rydw i yn teimlo man lleiaf y dylai fod yna gyfle i gael cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog er mwyn craffu ymhellach ar y broses yma a gweithredoedd y Prif Weinidog achos, fel arall, ble mae yna atebolrwydd? Ble mae yna atebolrwydd? Atebolrwydd—a ydych chi'n cofio hynny? Mae hwnnw hefyd yn un o'r egwyddorion sylfaenol yr ydym ni i gyd mewn bywyd cyhoeddus yn gorfod eu harddel, a heb hynny rydw i'n ofni y byddwn ni yn gwneud anghyfiawnder mawr â'r bobl sydd wedi ymddiried ynom ni i'w cynrychioli nhw.

Nawr, mi ges i fy mrawychu wythnosau yn ôl ynglŷn â'r modd braidd yn nawddoglyd y cyfeiriwyd at y ffaith mai pleidleisiau cynghorol—advisory—oedd y rhain ac nad ydyn nhw'n ymrwymo y Llywodraeth i weithredu. Wrth gwrs, mae hynny yn wir, ond roeddwn i'n gweld y llinell yna eto'n ymddangos gan ffynhonnell yn y wasg y bore yma. Mae e yn codi cwestiwn yn fy marn i ynglŷn â ble y mae hyn i gyd yn gadael democratiaeth. Ble mae e'n gadael atebolrwydd democratiaeth a'n rôl ni, nid dim ond fel gwrthbleidiau, ond pob un ohonom ni fel Aelodau o'r sefydliad yma? Mae clywed rhyw sylwadau fel yna yn fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy penderfynol i sicrhau bod y Prif Weinidog yn atebol drwy bwyllgor craffu neu drwy unrhyw gyfrwng. Os nad yw'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi mae yna fethu ar y test yn fanna. Os nad oes dim atebolrwydd digonol fan hyn yn y Siambr, mae yna fethiant ar y prawf yna hefyd. Felly, rydw i yn teimlo bod yn rhaid i ni edrych ar bwyllgor craffu yn cael y cyfle i ystyried hyn.

Mi wnaf i gloi drwy ategu pwynt rwyf wedi'i wneud o'r blaen.

Rwyf am gloi gyda phwynt ehangach am god y gweinidogion a'i berthynas, neu ei ddiffyg perthynas mewn gwirionedd, â'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a rôl y comisiynydd safonau. Mae wedi cael ei ddweud o'r blaen: mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n iawn fod y Prif Weinidog yn farnwr, rheithgor a dienyddiwr mewn perthynas â chod y gweinidogion. Fy ofn ynglŷn â hyn yw y bydd gennych elfen o wleidyddiaeth a'r personol bob tro y bydd gennych rywun sy'n gwneud penderfyniadau ar ddyfodol swyddi pobl yn ei reoli a gallai hynny fod yn rhwystr i rai o'r prosesau hyn. Nid wyf yn dweud bod hynny'n digwydd drwy'r amser, nid wyf yn dweud ei fod yn flaenllaw yn yr ystyriaethau hynny, ond mae yno. Efallai ymhell yn y cefndir, efallai yn yr isymwybod, mae risg—ac mae'n risg go iawn—ei fod yno. Felly, mae gennym ddwy gyfundrefn cyfochrog, un y llywyddir drosti, fel rwy'n dweud, gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau am swyddi pobl, sy'n rhwym o gynnwys peth o'r cyd-destun personol hwnnw a'r cyd-destun gwleidyddol, ac un arall sy'n gwbl annibynnol, sef ein cod ymddygiad ein hunain fel Aelodau'r Cynulliad a'r comisiynydd safonau. Byddai'n llawer gwell gennyf pe bai gennym un gyfundrefn safonau i bawb ohonom.

Mae'r pwyllgor safonau yn ailystyried y cod ymddygiad yn dilyn digwyddiadau diweddar ac rydym eisoes, ar ôl un sesiwn dystiolaeth yn unig, yn cael neges glir gan nifer o sefydliadau allanol a rhanddeiliaid sydd â diddordeb fod y dirwedd bresennol yn ddryslyd, yn gymhleth. At bwy y trowch? A ydych yn troi at y comisiynydd safonau? A yw'n ymwneud â'r cod ymddygiad? A ydych yn troi at swyddfa'r Prif Weinidog? A yw'n ymwneud â chod y gweinidogion? A yw'n fater gwleidyddol? Mae'r disgwyl i achwynwyr lywio eu ffordd drwy hynny i gyd, wrth gwrs, yn ei gwneud yn llawer llai tebygol fod y bobl sydd â phryderon a chwynion go iawn yn mynd ar eu trywydd mewn gwirionedd. Dyna'r peth olaf y byddem ei eisiau, rwy'n siŵr. Felly, pa neges y mae atal yr adroddiad hwn yn ei rhoi i'r bobl hynny a phobl eraill? A yw'n iawn fod gennym gyfundrefn lle mae'r Prif Weinidog yn gofyn y cwestiynau ac yn ateb ei gwestiynau ei hun i bob pwrpas? Nid wyf yn credu hynny. Os nad oes gan Carwyn Jones ddim i'w guddio ni ddylai fod ganddo ddim i'w ofni o gyhoeddi'r adroddiad hwnnw.

16:15

Rwy'n codi i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma ac mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un ei wrthwynebu mewn difrif. Pa ddadl bosibl a allai fod dros beidio â bod eisiau cyhoeddi'r adroddiad hwn gyda'i holl gyfyngiadau a golygiadau? Mewn bywyd blaenorol, roedd gennyf gyfrifoldeb ar ran Llywodraeth y DU dros gyhoeddi tystysgrifau imiwnedd lles y cyhoedd, a oedd yn golygu eich bod yn cadw rhywbeth yn gyfrinachol am resymau'n ymwneud â diogelwch gwladol neu ystyriaethau pwysig eraill er budd cenedlaethol. Nid oes unrhyw ystyriaeth o'r fath y gellid ei rhoi i gyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Gallaf weld bod yna resymau'n ymwneud â diogelwch y Llywodraeth pam na fyddent yn dymuno ei weld yn cael ei gyhoeddi, ond yn sicr ni all fod unrhyw reswm yn ymwneud â diogelwch gwladol a fyddai'n cyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd.

Nawr, nid yw hynny'n dweud y credaf y byddwn yn dysgu llawer iawn pan gyhoeddir yr adroddiad hwn. Rwyf wedi cael profiad o ymchwiliadau i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, neu honiadau o ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth ar sawl achlysur yn y gorffennol ac nid yw ymchwiliadau mewnol byth yn cyrraedd y gwirionedd yn eu cylch. Y gwir amdani yma yw nad yw uwch weision sifil, drwy eu natur, yn cael eu hyfforddi i gyrraedd y gwir mewn ymchwiliadau o'r math hwn. Nid ydym yn gwybod pa mor eang y mae ymchwiliadau'r Ysgrifennydd Parhaol wedi mynd. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y defnyddiodd ryw fath o frwdfrydedd fforensig wrth edrych ar y dystiolaeth y gallai ei harchwilio. Pan wneir y pethau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig, nid yw'r darnau hyn o wybodaeth, sy'n ein galluogi i werthuso pa mor ddwfn a manwl y mae ymchwiliad wedi bod, yn dod ar gael. Felly, nid wyf yn disgwyl fawr o ddim i godi o hyn ac yn wir, mae'r gyfres o ymchwiliadau a roddwyd ar y gweill wedi'u cynllunio'n fwriadol, rwy'n credu, i beidio â'n galluogi i gyrraedd y gwir.

Fel arall, pe baem wedi cael ymchwiliad trosfwaol wedi'i wneud gan berson a oedd yn amlwg yn annibynnol, megis Cwnsler y Frenhines, yna efallai y byddem wedi cyrraedd rhywle, ond o ystyried y lliaws o ymchwiliadau a'r gwahanol gylchoedd gorchwyl, pob un wedi'i osod gan Lywodraeth sydd ei hun yn cael ei hymchwilio, mae'n debyg, nid ydym yn debygol o gyrraedd y gwir. Nid yw Ysgrifenyddion Parhaol yn cael eu hyfforddi i chwarae ditectif, ac nid ydynt yn arbennig o wrthwynebus o ran y sgiliau sydd ganddynt ar gyfer y dasg. Nid beirniadaeth o'r Ysgrifennydd Parhaol yw hynny yn yr achos hwn nac mewn unrhyw achos arall yn wir; mater o ffaith yn unig ydyw. Ac o ganlyniad, nid hi, gyda'i holl alluoedd a'i chryfderau amlwg, yw'r person gorau i gyflawni'r dasg a roddwyd iddi. Yr un peth a wyddom yw bod cyfrinachedd yn celu anghyfiawnder ac yn hwyluso camddefnydd o rym ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad hwn yn yr achos penodol hwn.

Yn anffodus, yn y Blaid Lafur ar y funud, gwyddom fod helyntion mewnol o bob math yn digwydd—nid wyf am fanylu arnynt yn y ddadl hon gan y byddai hynny y tu hwnt i gylch gorchwyl yr hyn rydym yn ei drafod yma. Ond mae yna natur annymunol yn perthyn i wleidyddiaeth o bryd i'w gilydd yn y pleidiau eraill yn ogystal, a chredaf fod yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yma yn enghraifft o hynny a dylai pob un ohonom, mewn gwirionedd, fod eisiau mynd i wraidd y mater. Rwyf wedi derbyn triniaeth debyg fwy nag unwaith yn ystod fy ngyrfa wleidyddol ac nid yw Llywodraethau'r dydd erioed wedi bod eisiau i chi gyrraedd y gwir. Ac nid yw'n ymwneud o reidrwydd â Gweinidogion eu hunain; yn aml, pobl sy'n mynd y tu hwnt i'w hawdurdod gan feddwl eu bod yn gwneud rhywbeth y byddai eu Gweinidogion yn ei gymeradwyo sy'n gyfrifol. Mae holl system y cynghorwyr arbennig ei hun yn tueddu i wneud hyn. Fel rheol, aelod o staff sy'n gyfrifol am arllwys y fath gasineb ar y byd gwleidyddol. Fe'i gwelais yn y Blaid Geidwadol, a chredaf ein bod bellach yn ei weld yn y Blaid Lafur yn ogystal.

Ac felly, rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y rhai sy'n ceisio'r gwirionedd, y rhai sy'n arddel tryloywder, y rhai sy'n datgelu anghyfiawnder yn y Blaid Lafur—yn y grŵp Llafur yn y Cynulliad hwn—yn dod i'n cynorthwyo ac yn dweud, er eu mwyn hwy, ac er mwyn eu plaid hefyd, eu bod am gyrraedd y gwirionedd ynghylch y mater hwn, eu bod am gynnal am enw da'r Llywodraeth, a'i wella yn wir, ac yn fwy perthnasol, eu bod am weld y Cynulliad hwn yn arwain pobl Cymru i gyrraedd y gwir ynghylch y mater hwn a sefydlu ei enw da ei hun fel cynrychiolydd y bobl a chynrychiolydd gwirionedd a chyfiawnder.

16:20

Nid oeddwn byth eisiau unrhyw ran yn y stori hon. Roedd Carl Sargeant yn gydweithiwr gwerthfawr i mi ac rwy'n parhau wedi fy ngofidio'n fawr gan ei farwolaeth. Ond gan fod fy enw wedi'i grybwyll, credaf y dylwn roi fy nghyfrif fy hun. Rwy'n sicr yn fy meddwl fy hun mai hel clecs oedd y neges destun a gefais ar ddiwrnod yr ad-drefnu. Fel y mae Andrew R.T. Davies wedi derbyn yn ei araith agoriadol, yn aml ceir cleber mewn perthynas ag ad-drefnu a dyna sut roeddwn yn trin y neges destun. Nid oedd yn dod o ffynhonnell swyddogol ac yn wir, nid oeddwn yn ei hystyried o ddifrif hyd nes y gwelais y datganiad a gyhoeddodd Carl ei hun yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Ni roddais wybod i unrhyw newyddiadurwr am yr hyn a glywais, ond dywedais wrth fy nghyd-Aelodau ar y cyfle cyntaf am y neges destun a gefais, a rhoddais dystiolaeth i'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd yn ôl y gofyn. Fel y dywedais, nid oeddwn eisiau unrhyw ran yn hyn, a chredaf fy mod wedi gweithredu'n briodol.

Galwyd arnaf i ddweud pwy a anfonodd y neges destun ataf. Nid wyf wedi gwneud hynny ac ni wnaf hynny, oherwydd nid wyf am gyfrannu at lwybr o friwsion a allai arwain at nodi pwy yw'r bobl a ddaeth ymlaen. Rwy'n deall y rhwystredigaeth nad oes rhagor o wybodaeth o'r adroddiad wedi ei chyhoeddi, ond rwy'n credu ei bod hi'n iawn bellach y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn ystyried adroddiad llawn yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd. Mater i Paul Bowen, Cwnsler y Frenhines, fydd pwyso a mesur arwyddocâd hyn oll a barnu a yw'r modd y cafodd y wybodaeth hon ei thrin yn berthnasol i'r digwyddiadau a ddilynodd hynny.

Mae'r gwrthbleidiau yn gwthio am gyhoeddi fersiwn wedi ei golygu o'r adroddiad, ond mae hyd yn oed fersiwn wedi ei golygu yn creu risg na fydd rhai o'r achwynwyr yn aros yn ddienw. Ac mae'r menywod wedi mynd yn angof yn hyn oll, Lywydd. Ni fyddwn byth yn gallu profi eu honiadau'n deg. Nid yw hynny'n deg arnynt hwy, nac yn deg ar Carl. Ond o leiaf gadewch i ni beidio â gwneud y sefyllfa'n waeth drwy fygwth eu hawl i aros yn ddienw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Daeth y drasiedi hon yn destun gêm wleidyddol ac nid wyf eisiau unrhyw ran ynddi. Mae yna ddau ymchwiliad arall, a chwest, eto i gyflwyno adroddiadau. Mae angen gadael i'r prosesau hyn gael eu cwblhau. Diolch.

16:25

Nid wyf yn falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma o gwbl, a chyda chalon drom rwy'n codi i gymryd rhan ynddi. Mae'n ddrwg gennyf fod y siaradwr blaenorol yn teimlo bod hyn yn ymwneud â sgorio pwyntiau gwleidyddol; nid yw hynny'n wir o gwbl. Yn fy marn i, mae'n ymwneud ag angen i ganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd, angen i ddeall y prosesau y mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi bod drwyddynt, cwmpas ei hymchwiliad i'r honiadau y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru cyn yr ad-drefnu—ac nid wyf yn credu ein bod wedi cael unrhyw atebion ar hyn o bryd. Yn wir, credaf fod y datganiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Parhaol ar ddiwedd ei gwaith wedi arwain at fwy byth o amwysedd, mewn gwirionedd, ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Nid wyf yn meddwl y gall fod gennyf hyder yng nghanlyniad y gwaith hwnnw oherwydd y datganiad a gyhoeddwyd. Rwy'n credu bod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Parhaol i rannu cymaint ag y gall am y ffordd y cyflawnodd ei gwaith â Llywodraeth Cymru a phob Aelod o'r Cynulliad hwn, a phobl Cymru, fel y gallwn gael hyder yn y prosesau hynny.

Dyma'r unig dro ers i mi ddod yn Aelod Cynulliad—a chafwyd sawl achos o ad-drefnu gweinidogol—lle y gwelais wybodaeth am benodiadau i'r Cabinet yn cael sylw yn y modd hwn; nid wyf wedi gweld hynny o'r blaen. Wrth gwrs mae yna ddyfalu o bryd i'w gilydd, wrth gwrs hynny, ond rwy'n credu bod yr argraff a geir allan yno ym myd Twitter, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn wir, rhai o'r sylwadau a glywsom gan newyddiadurwyr ers i'r ad-drefnu penodol hwn ddigwydd, yn ei gwneud yn gwbl glir nad dyfalu'n unig oedd yn digwydd, roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu cyn yr ad-drefnu, cyn i'r wybodaeth honno gael ei rhannu gyda'r bobl a oedd yn cael eu penodi hyd yn oed, a'r bobl a oedd yn cael eu diswyddo o Gabinet y Prif Weinidog. Credaf fod hynny'n drueni mawr ac mae angen inni ddeall yn union beth sydd wedi digwydd.

Gwyddom fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud yn glir na chafodd dim ei ddatgelu heb ganiatâd, yn ei geiriau hi, ond nid ydym yn gwybod a oedd hi wedi ystyried y dystiolaeth oddi ar Twitter, a gafodd ei ddiystyru gan y Prif Weinidog braidd yn ysmala, rhaid imi ddweud, oherwydd, gadewch inni wynebu'r gwir, mae llawer o bobl wedi gorfod mynd gerbron y llys oherwydd y pethau y maent wedi'u dweud ar Twitter, a'u cael yn euog o bethau yn wir. Felly, mae'n wirioneddol bwysig inni ddeall a oedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cytuno gyda'r Prif Weinidog nad oedd honno'n dystiolaeth, neu a oedd hi mewn gwirionedd wedi ei gynnwys yn rhan o'i gwaith. Fel chithau, Lee Waters, nid wyf eisiau gweld pobl yn cael henwi a'u cywilyddio, fel petai, o ran unrhyw un a wnaeth honiadau; nid dyna yw diben y ddadl heddiw o gwbl. Rydym eisiau deall sut y gallwn gael hyder yn rhywbeth sydd wedi digwydd, ac sydd ar hyn o bryd, yn aneglur iawn.

Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y bydd yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines yn cael copi o'r adroddiad hwn. Credaf fod hynny'n gwbl briodol, o ystyried cwmpas y gwaith y bydd Paul Bowen a'i dîm yn gorfod ei wneud.

Diolch i chi. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud, ac rwy'n deall y pwynt roedd Lee Waters hefyd yn ei wneud, ond y broblem inni fel Cynulliad yn dod at ein gilydd, rwy'n credu, yw nad oes gan ymchwiliad Bowen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, unrhyw gylch gorchwyl wedi'i gytuno o hyd. Yn sicr nid oes ganddo amserlen rydym yn ei deall, ac mae'n gosod persbectif arall ar ben persbectif yr adroddiad hwn, ac felly bydd yn fwyfwy anodd deall y pwynt y mae wedi bod yn ei wneud, sef a rannwyd gwybodaeth a awdurdodwyd ymlaen llaw. Bydd hynny'n cael ei golli os ydym yn ei roi gerbron ymchwiliad arall nad ydym yn deall ei ddiben o hyd.

16:30

Mae hynny'n wir. Ac wrth gwrs, gwaith y Cynulliad Cenedlaethol hwn yw dwyn ein Llywodraeth i gyfrif, ac mae hynny'n golygu pob rhan o'r Llywodraeth, nid y rhannau gwleidyddol yn unig, ond y rhannau gweithredol yn wir—y swyddogion sydd y tu ôl i'r gwleidyddion y dadleuwn â hwy yma yn Siambr y Cynulliad Cenedlaethol. Rhaid imi ddweud, rwy'n credu ei bod yn anghwrtais iawn fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi gwneud datganiadau ar ganlyniad ei hymchwiliad, ei gwaith, ei hymchwiliad i'r datgelu hwn heb ganiatâd, heb gyflwyno datganiad ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn gwirionedd, i Aelodau'r Cynulliad. Bu'n rhaid i ni ddarllen am ganlyniad hyn mewn adroddiadau yn y wasg.

Nawr, mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n dderbyniol, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall yn well, ac rwy'n credu bod angen iddi fod ar gael i siarad ag Aelodau'r Cynulliad, boed yn breifat neu mewn pwyllgor Cynulliad o ryw fath, er mwyn rhoi cyfrif am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad. Credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol. Gadewch inni wynebu'r gwir, mae dogfennau preifat yn cael eu rhannu â ni, fel Aelodau'r Cynulliad, yn rheolaidd yn sgil ein gwaith pwyllgor a pethau eraill a wnawn. Dylai fod yn berffaith resymol inni gael yr Ysgrifennydd Parhaol i ymddangos gerbron panel o Aelodau'r Cynulliad yn fy marn i, boed yn bwyllgor safonau, neu bwy bynnag, nid wyf yn gwybod, ond mae angen inni fynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd, mae angen i ni ddeall sut y cyrhaeddodd y wybodaeth hon y cyhoedd cyn i'r bobl a oedd yn cael eu diswyddo o'r Cabinet wybod am y peth mewn gwirionedd.

Felly, mae'n anghwrteisi o'r mwyaf tuag at y Cynulliad hwn nad ydym yn cael gweld copi o'r adroddiad wedi ei olygu. Mae adroddiadau wedi eu golygu yn cael eu cyhoeddi gan y sector cyhoeddus drwy'r amser ar faterion dadleuol iawn, gan gynnwys pethau megis Tawel Fan yn ngogledd Cymru, lle y rhannwyd manylion cleifion—wedi eu golygu heb enwau. A chredaf fod angen i gopi o'r adroddiad hwn fod ar gael i'r cyhoedd hefyd.

Diolch, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn cytuno'n llwyr fod diben mewn bod yn agored a thryloyw yn y materion hyn. Ond mae fframwaith cyffredinol y gyfraith ar gyfer mynd ati ar y cwestiwn hwn yn glir iawn. Pan fo cyhoeddi gwybodaeth yn debygol o beryglu'r modd y caiff materion cyhoeddus eu cyflawni yn gyffredinol, neu beryglu unrhyw broses ymchwilio, yna ceir asesiad o'r budd cyhoeddus ynglŷn ag a ddylid datgelu gwybodaeth neu atal gwybodaeth rhag cael ei datgelu.

Yn amlwg, pe bai adroddiad a ddatgelwyd heb ganiatâd yn cael ei gyhoeddi, gallai amharu ar ymchwiliadau yn y dyfodol i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd drwy danseilio hyder ym mhroses yr ymchwiliad, a bod unigolion yn llai parod i roi tystiolaeth. Pe bai hynny'n digwydd, ni fyddai er budd y cyhoedd. Ond yma, ceir yr elfen ychwanegol o ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau pellach posibl i uniondeb cyffredinol y broses—[Torri ar draws.]

Rwy'n ddiolchgar iawn i arweinydd y tŷ am dderbyn yr ymyriad. Un cwestiwn syml, a hoffwn iddo gael ei ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol, ac efallai eich bod wedi gofyn hyn ar ran y Llywodraeth i'r Ysgrifennydd Parhaol, sef: a yw hi wedi gofyn i unrhyw un o'r tystion a ydynt yn fodlon i'w gwybodaeth gael ei rhannu ar ffurf wedi'i golygu er mwyn sicrhau nad oes modd i neb wybod pwy ydynt?

Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adroddiad hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd; mae'n ymwneud ag uniondeb ymchwiliadau yn y dyfodol ac adroddiadau cyfrinachol yn y dyfodol.

Ond yma, ceir elfen ychwanegol o ran yr ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau pellach posibl i uniondeb cyffredinol y broses os darperir gwybodaeth yn gyhoeddus ar sail dameidiog. O safbwynt gweithredol, fodd bynnag, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw hyn. Mae hi wedi cadarnhau y bydd copi o'r adroddiad a ddatgelwyd heb ganiatâd ar gael i Gwnsler y Frenhines sy'n cynnal yr ymchwiliad annibynnol. Dyna'r broses gywir i'w dilyn yn y mater hwn yn ein barn ni. Diolch.

Diolch, Lywydd. Nodir byrder ymateb y Llywodraeth a bydd pobl yn ffurfio barn, rwy'n siŵr, ynglŷn ag a oedd yn dangos cwrteisi priodol tuag at y Cynulliad hwn.

Rwy'n cloi'r ddadl drwy siarad o blaid y cynnig heddiw, cynnig a gyflwynwyd er mwyn ceisio sicrhau'r tryloywder mwyaf posibl ynghylch cwestiynau ynglŷn ag a rannwyd gwybodaeth benodol cyn yr ad-drefnu gweinidogol diweddar, a sut y gwnaed hynny. Casglodd yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd gan yr Ysgrifennydd Parhaol na rannwyd gwybodaeth heb ganiatâd ynghylch yr ad-drefnu, ond er mwyn ceisio cymaint o dryloywder â phosibl, rydym yn credu bod arnom angen i'r adroddiad yn ei gyfanrwydd gael ei gyhoeddi. Credaf fod y ddadl honno wedi'i gwneud yn glir iawn ar draws y gwrthbleidiau gwleidyddol y prynhawn yma.

Pa gwestiynau a ofynnwyd? Mae angen inni wybod. Sut y daethpwyd i'r casgliadau? Os na rannwyd gwybodaeth heb ganiatâd, a rannwyd peth gwybodaeth gyda chaniatâd, a thrwy ddiffiniad, ni fyddai hynny'n golygu datgelu answyddogol? Fel arall, os canfuwyd na rannwyd unrhyw wybodaeth o gwbl, beth a ysgogodd y dyfalu ynghylch yr ad-drefnu? Nid wyf yn credu ein bod wedi gweld ad-drefnu gweinidogol ym mis Tachwedd o'r blaen, nid yn y blynyddoedd diwethaf yn sicr. A gafodd hyn ei ymchwilio?

Byddai cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad yn ffordd glir o chwilio am atebion i gwestiynau o'r fath ac i ddarparu tryloywder, ac mae angen hwnnw arnom. Mae arnom angen hyder llwyr—arnom ni fel y cyhoedd yng Nghymru lawn cymaint â ni fel seneddwyr—yng nghanlyniad yr ymchwiliad. Gan edrych ar y darlun ehangach, yr hyn a welwn yma, bob un ohonom, yw dulliau, beth bynnag sydd angen iddynt fod, o gryfhau hyder yn systemau a gweithdrefnau Llywodraeth, a'r Cynulliad hwn yn wir.

Bydd yr Aelodau'n nodi bod y cynnig yn cyfeirio at olygiadau. Barn fy mhlaid, ac mae'n farn a glywsom gan eraill, yw bod y golygiadau hynny yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw, ac rydym yn fodlon y gallai hyd yn oed adroddiad wedi ei olygu ein helpu i ddod allan o'r cylch hwn o gwestiynau diddiwedd nad ydynt byth i'w gweld yn rhoi atebion boddhaol.

16:35

Un peth y gellid ei baratoi'n hawdd fyddai datganiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd, a manylion ynghylch cwmpas y dystiolaeth a ystyriwyd, heb enwi neb nac unrhyw ddarnau o dystiolaeth. Rydym yn y tywyllwch am bopeth.

Rwy'n cytuno, ac mae hynny'n adlewyrchu'r sylwadau a wneuthum yn gynharach am yr angen i wybod sut y gofynnwyd cwestiynau, pa gwestiynau a ofynnwyd a sut y daethpwyd i'r casgliadau.

Mae cwestiynau allweddol yn dal heb eu hateb ynghylch amgylchiadau'r ad-drefnu. Rwyf wedi gweld testunau yr wythnos hon, a deallaf y byddant ar gael i'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i'r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth Carl Sargeant, sy'n dangos ei fod yn credu ei fod yn gwybod fod ad-drefnu ar y ffordd. Roedd y negeseuon hynny rhwng Carl a ffrind yn rhagweld yn gywir y byddai ad-drefnu'n digwydd. Ond sut roedd y dyfalu wedi cyrraedd y pwynt hwnnw?

Bûm yn gweithio fel newyddiadurwr gwleidyddol am bron i ddau ddegawd. Mae gennyf syniad go dda sut y gall briwsionyn o ddyfalu dyfu'n belen eira fawr. Ond sut roedd un Ysgrifennydd Cabinet yn yr achos hwn wedi'i glustnodi mor bendant yn ôl pob golwg fel un yr oedd ei amser yn y Llywodraeth ar fin dod i ben? Rydym yn bell o ddod o hyd i atebion i gwestiynau o'r fath, a gallai pleidlais heddiw i gyhoeddi adroddiadau'r Ysgrifennydd Parhaol fynd rhywfaint o'r ffordd, o bosibl, tuag at roi'r atebion hynny i ni.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, a nodaf y sylwadau gan arweinydd y tŷ yn ymateb ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth ar hyn, ond mae'n gwrthddweud yn llwyr yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i mi mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 30 Ionawr, lle y dywedodd fod—ac mae gennyf y Cofnod yma o fy mlaen, ac rwyf wedi ei ddarllen tra buoch yn siarad. Mae'n dweud yn glir iawn mai'r unig reswm dros beidio â chyhoeddi oedd er mwyn cynnal cyfrinachedd y tystion. Ni chyfeiriodd at ymchwiliad Cwnsler y Frenhines, ni chyfeiriodd at beryglu ymchwiliadau pellach, ac felly dyna pam y mae'r cynnig yn sôn am olygiadau. Dyma'r eilwaith i'r neges newid o feinciau'r Llywodraeth ar yr ymchwiliad pwysig hwn. A ydych yn rhannu fy siom ynghylch y newid cyfeiriad y mae'r Llywodraeth wedi ei nodi yma eto heddiw?

Ydw, yn sicr, ac rydych yn gwneud y pwynt yn gywir, wrth gwrs, fod golygiadau yn cael gwared ar y broblem a nodwyd gan y Prif Weinidog ar y cychwyn.

Fe ddof i ben. Gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwyf am wneud pwynt pwysig—os cefnogir y cynnig heddiw, dylai'r Llywodraeth weithredu ar ewyllys y Cynulliad. Hoffwn eich atgoffa o sylw diweddar gan ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru,

'Mae pleidleisiau diwrnod yr wrthblaid—mewn llawer o ffyrdd—yn ddiystyr. Nid ydynt yn rhwymol ac nid oes ganddynt unrhyw effaith ar bolisi na chyflawniadau'r Llywodraeth.'

Nid yw hyn yn dderbyniol ar unrhyw achlysur; yn sicr nid yw'n dderbyniol heddiw. Fel seneddwyr, gobeithio bod pawb ohonom eisiau'r esboniad cyhoeddus llawnaf posibl ynghylch y pethau sydd wedi digwydd. Gwyddom fod gwahanol ymchwiliadau eraill ar y gweill, gan gynnwys un y cynghorydd annibynnol i weld a dorrwyd cod y gweinidogion a'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines. Nid yw'r ymchwiliadau hynny—nid yw'r cwestiynau hynny yn rhan o gylch gorchwyl y cynnig heddiw, ond rwy'n gobeithio y gellir sicrhau mwy o dryloywder, rywsut, mewn perthynas â phob un o'r digwyddiadau hynny.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Darlledu

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol.

Dyma ni'n dod, felly, i ddadl Plaid Cymru ar ddarlledu, a galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6669  Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru;

2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol;

3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach;

4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;

5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ein cynnig ni heddiw yn un a fyddai'n rhoi cychwyn ar y daith tuag at ddatganoli darlledu, a'r unig beth rydym ni'n gofyn amdano fo, mewn gwirionedd, ydy ymrwymiad i ymchwilio i ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru, gan adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn. Felly, gan fod gwelliannau Llafur yn dileu y gofyn syml hwnnw, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw.

Mae Plaid Cymru yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru—darlledu, yn yr achos sydd gerbron heddiw. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod nad ydy pawb wedi cael eu hargyhoeddi, felly heddiw rydym ni'n chwilio am gonsensws i o leiaf ystyried y materion ymhellach dros gyfnod o 12 mis. Ac mi fyddwn i'n bersonol yn siomedig iawn petaem ni ddim yn cael hynny heddiw. Byddai pleidlais yn erbyn ein cynnig ni yn awgrymu bod popeth yn iawn yn y byd darlledu yng Nghymru. Wel, nid ydy o. 

Mewn cyfnod o ansicrwydd ac anghydfod oherwydd Brexit, mae datganoli darlledu yn bwysicach nac erioed er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais. Mae cyfuniad o ddiffyg amrywiaeth yng nghyfryngau Cymru a dirywiad mewn oriau darlledu yn rhwystro dadleuon gwleidyddol, ac felly yn rhwystro democratiaeth. Mae'r ffaith bod y mwyafrif o bobl yn derbyn eu newyddion gan ddarparwyr o Loegr yn llesteirio addysg wleidyddol, efo'r darparwyr hynny yn canolbwyntio'n llwyr ar Lundain, gan ddangos diffyg dealltwriaeth llwyr o ddatganoli. Dim rhyfedd, felly, fod traean o bobl a gafodd eu holi mewn arolwg y flwyddyn ddiwethaf yn meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae yna ambell i ddatblygiad positif wedi bod, efo'r BBC ac S4C yn dechrau cynnig cynnwys newydd, a hynny ar blatfformau newydd hefyd, sy'n apelio at gynulleidfaoedd newydd ac ifancach. Ac mae Golwg360 a nation.cymru yn cynnig darpariaeth werthfawr ar-lein. Ond mae nifer o ddarlledwyr wedi cwtogi eu horiau darlledu ar gyfer Cymru. Yn 2015-16, roedd allbwn teledu Saesneg ar y BBC yn 641 awr, sef gostyngiad o 21 y cant o 814 awr mewn cyfnod blaenorol. Cafwyd toriadau o 30 y cant i raglenni ITV, a hynny'n fwy nag mewn unrhyw ardal arall o'r Deyrnas Unedig. 

Pryder arall ydy cynlluniau Llywodraeth Llundain ynglŷn â rheoleiddio radio masnachol. Mi allai hynny arwain at lai fyth o amrywiaeth, ac er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod angen sicrhau bod newyddion yn parhau i gael ei ddarparu ar radio masnachol, nid ydyn nhw'n sôn o gwbl am newyddion Cymru.

Rydw i'n troi rŵan at S4C, ac yn sicr mae angen sicrhau cyllid sefydlog a digonol ar gyfer ein hunig sianel Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol bywiog, perthnasol a llwyddiannus ar gyfer cenedlaethau i ddod. Bron i bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth comisiwn Silk argymell datganoli pwer i ariannu S4C i Gymru. Yn y cyfamser, mis i ffwrdd o flwyddyn ariannol newydd, rydym ni'n dal i aros am adolygiad Euryn Ogwen Williams o S4C. Mae'n galonogol bod S4C yn gweithio ar gynyddu amrywiaeth ac yn darparu cynnwys ar blatfformau newydd, ond mae'r ffaith bod y sianel wedi bod trwy gyfnod o ansicrwydd ariannol ers blynyddoedd yn gwneud cynllunio ar gyfer y dyfodol yn anodd ac yn hynod, hynod o heriol.

Rŵan, nid oes yna neb yn amau y bydd ariannu S4C ar ôl datganoli yn sialens, gan fod yna gymaint o'r arian yn cael ei sybsideiddio gan y ffi drwydded. Ond beth rydym ni'n gofyn amdano fo heddiw ydy ymchwilio hynny, ymchwilio i'r posibiliadau, ymchwilio i ddatganoli darlledu, ac edrych ar y gwahanol opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau cyllidol. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd fod S4C yn hollbwysig yn economaidd, yn ogystal ag yn ddiwylliannol, efo pob £1 sy'n cael ei buddsoddi gan y sianel mewn diwydiannau creadigol yng Nghymru yn werth £2.09 i'r economi. Yn ôl adolygiad Hargreaves o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, heb S4C efallai na fyddai gan Gymru unrhyw gwmnïau teledu annibynnol.

Rydw i'n cloi yng ngeiriau Elfed Wyn Jones, sydd newydd gwblhau wythnos o ympryd dros ddatganoli darlledu. Rydw i yn credu bod Elfed wedi crynhoi yn dda iawn, yn y geiriau yma, y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi heddiw yma. Mae Elfed yn dweud fel hyn: 'Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol ydy'r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu. Mae o'n mynd i fod yn anodd, ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru—gwell democratiaeth, gwybodaeth gliriach a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg—byddai hynny yn rhoi cryfder imi frwydro nes bwrw'r maen i'r wal. Rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i weithredu. Gobeithio y bydd ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau hwythau hefyd.'

Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yn y Siambr yma heddiw, ond rwy'n erfyn arnoch chi: cefnogwch ein cynnig ni er mwyn inni gael y drafodaeth bwysig yma y mae angen ei chael yng Nghymru heddiw.

16:45

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu Pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.

Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. Diolch, Llywydd.

Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2. Paul Davies

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i hyfywedd datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn.

Gwelliant 3. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.

Gwelliant 4. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen. 

Gwelliant 5. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.

Gwelliant 6. Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma. 

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnawn ni symud ein gwelliannau. Mae'n drueni, mewn ffordd, nad ydym ni yn disgwyl am y ddadl hon tan ganol y flwyddyn, efallai. Rwy'n deall pam—penderfyniad Elfed Wyn Jones, wrth gwrs—ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol i ystyried adolygiad Euryn Ogwen Williams ar ddyfodol S4C, ac i gael cyfnod o arsylwi ar gyflenwi gan y BBC ar ei rwymedigaethau portreadu—

Jyst imi roi sicrwydd i chi, o safbwynt y Llywodraeth, mi fyddwn ni yn gosod dadl gyffredinol ar gyfathrebu, ond gyda golwg arbennig ar yr adroddiad ar S4C pan fydd hynny'n amserol, ar ôl imi dderbyn copi o'r adroddiad. Rydw i'n dal i ddisgwyl amdano.

Wel, edrychwn ni ymlaen at hynny achos, siŵr o fod, fydd yna siawns i ailystyried hyn.

Efallai y gallwch chi ymateb i hyn. A ydych chi'n cytuno ei bod yn syniad da i gael cyfnod o arsylwi ar gyflenwi gan y BBC ar ei rhwymedigaethau portreadu a chomisiynu newydd ynglŷn â Chymru, wrth gwrs? Achos credaf i fod y materion hyn, a chynigion y Deyrnas Unedig ar gyfer rheoleiddio'r farchnad radio, angen eu craffu, i ryw raddau, cyn inni edrych, unwaith eto, ar ddatganoli darlledu. Achos y mae'n fater o 'unwaith eto', onid yw e? Felly, nid oes gennym unrhyw broblem gyda chynnwys gwelliant y Llywodraeth, ond os yw'n pasio, mae'n dad-ddethol ein gwelliant 2. Mae'r gwelliant hwnnw, fel pwynt 6 yn y cynnig gwreiddiol, yn sôn am fframwaith amser. Y gwirionedd yw nad wyf yn poeni gormod am y cyfnod penodol, ond mae rhinwedd mewn hoelio Llywodraeth Cymru i amserlen i lunio adroddiad, a gallem ddatrys y cwestiwn hwn am gryn amser. Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y bydd datganoli yn datrys y problemau gyda darlledu cyhoeddus, fel, efallai, y mae rhai pobl yn ei obeithio. Dyna pam y mae gwelliant 2 yn sôn am 'hyfywedd' yn lle'r 'ymarferoldeb' sydd yn y cynnig gwreiddiol—viable rather than feasible.

Rydym wedi trafod y goblygiadau ariannol lawer gwaith o'r blaen. Y gŵyn yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanwario ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Ngymru, yn enwedig S4C. Mae Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cwyno bod yna dan-gyllido, yn mynd i ffeindio, rywsut, ddigon o arian i unioni'r cam. Nid wyf yn meddwl y bydd trosglwyddo'r rhwymedigaeth statudol ar gyfer digon o arian oddi wrth DCMS i Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth, a gwelwn ddim mwy na Llywodraeth wahanol yn dweud bod eu cynnig nhw yn ddigon. Rydym yn cytuno gyda safbwynt y Gweinidog, fel y gwelwn yng ngwelliant 4.

O ran ITV Cymru, nid wyf yn beirniadu ansawdd eu gwaith wrth ddweud hyn, ond mae'n debyg i mi fod trwydded Cymru-yn-unig wedi gwneud dim byd o gwbl i wella'r gostyngiad mewn oriau a ddarlledwyd. Mewn byd aml-lwyfan, mae yna gwestiwn, onid oes: a fydd y cwmnïau preifat cyfarwydd yn chwilio am drwyddedau â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus os bydd Llywodraeth Cymru y dyfodol yn rhy gyfarwyddol? A ddylem ni boeni am hynny? Mae yna gwestiwn.

Mae'r sefyllfa'n wahanol gyda'r BBC, wrth gwrs, mae'n cael ei ariannu gan drethdalwyr. Gall pawb fod yn siŵr y bydd y Senedd yma yn craffu ar y BBC a rhoi rhwymedigaethau newydd i genhedloedd a rhanbarthau. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am yr atebolrwydd ar y cyd y cyfeirir ato yng ngwelliant y Llywodraeth, ac mae'r pwyllgor diwylliant eisoes wedi manteisio'n llwyr ar y sefyllfa hon, er gwaethaf ein diffyg cyfrifoldeb ariannol dros y sefydliad. 

A fyddai datganoli darlledu yn ein helpu ni i ddeall ein gwlad ddatganoledig yn well? Wel, nid wy'n siŵr. Yr hyn a welaf ar hyn o bryd yw Cymru sy'n dal ddim yn deall yn llawn ar ôl 19 mlynedd. A yw hynny oherwydd bod ein darlledwyr yng Nghymru yn camarwain neu'n cam-gynrychioli’r hyn sy'n digwydd yma? Ni chredaf felly. Calon y broblem yw bod pobl yng Nghymru yn dewis cael eu newyddion am faterion cyfoes o gyfryngau y tu allan i Gymru, ar draws nifer o lwyfannau. Dyma lle nad ydych yn clywed am Gymru na'n gweld Cymru'n cael ei chynrychioli a'i mwynhau—gyda'r eithriadau arferol, sef Doctor Who ac yn y blaen—na chynnyrch a wnaed yng Nghymru.

A fyddai datganoli yn newid y sefyllfa hon? Nid wy'n siŵr. Mae eisoes yn fyd aml-lwyfan. Fy ofn i yw y byddai datganoli yn rhoi esgus i gyfryngau Llundain ein hanwybyddu'n gyfan gwbl yn eu holl ffurfiau. Ni wnaiff hynny ddim i helpu gweddill y Deyrnas Unedig i ddeall ddatganoli. Ni fydd yn gwneud dim i hysbysu nifer y bobl yng Nghymru nad ydynt yn dewis cyfryngau Cymru am eu gwybodaeth. Nid wy'n siŵr bod hwn yn welliant. Ni fydd hyn yn gwella o dan ddatganoli ddarlledu, yn fy marn i. Diolch. 

16:50

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Diolch i Siân Gwenllian am ei harweiniad doeth ar y cychwyn. Wrth gwrs, mae cynnig Plaid Cymru yn galw am ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru. Rwy'n dweud hynny'n ddigon araf deg achos mae hynny'n gynnig weddol syml. Nid yw'r peth mwyaf radical erioed sydd wedi cael ei gynnig yn y lle yma. Dim ond ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru.

Rwyf hefyd, fel Siân, yn llongyfarch Elfed Wyn Jones, a fu yma ar risiau'r Senedd ddoe, wedi ymprydio am wythnos i alw am ddatganoli darlledu. Mae o'n adlewyrchu galwadau cynyddol i hyn i ddigwydd. Dangosodd pleidlais Brexit mor ychydig mae pobl Cymru'n gwybod am faterion cyfoes eu gwlad eu hunain. Mae Cymru'n elwa o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, yn derbyn mwy o arian i mewn i Gymru nag sydd yn mynd allan. Ond, prin oedd sôn am hynny yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit, na'r ffaith chwaith fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar ein haelodaeth o'r farchnad sengl. Newyddion o Lundain y mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei dderbyn. Rhaid chwilota efo cryn ymdrech weithiau i ffeindio unrhyw beth am Gymru, a manylion pwysig fel rwyf newydd grybwyll.

Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhob man. Nid oes sôn am Gymru ar wasanaeth radio BBC Radio 2, sef yr orsaf radio efo'r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru. Nid oes sôn am Gymru. Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol, yn naturiol, nôl yn 1982. Hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth, ac i'n diwylliant. Ond, mae angen llawer mwy. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn fendigedig ond mae angen mwy i hyrwyddo hunan barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan.

Achos ar faterion dyddiol, nid jest fel Brexit, ond fel y gwasanaeth iechyd, er enghraifft—fel mae Siân wedi'i ddweud—nid yw traean o bobl Cymru yn gwybod bod iechyd wedi'i ddatganoli i fan hyn ers bron 20 mlynedd. Rwy'n cofio yn ystod streic meddygon ysbytai yn Lloegr y llynedd roedd meddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe hefyd yn credu eu bod nhw ar streic ac yn chwilio am y baricéd agosaf. Nawr, yn aml, rwy'n un i chwilio am faricedau, ond roedd hi'n amhriodol yn yr achos yma, achos nid oedd streic yn digwydd yng Nghymru, ond roedd nifer o bobl ddim yn sylweddoli hynny o gwbl. Mae nifer o esiamplau tebyg o gyhoeddiadau yn Llundain yn creu stori yma yng Nghymru er nad ydynt yn berthnasol i ni o gwbl, nid jest ym maes iechyd ond addysg a phob math o feysydd eraill sydd wedi'u datganoli. Dylai pobl fod yn gwybod amdanyn nhw drwy gael y newyddion yma yng Nghymru wedi'u darlledu yma o Gymru.

Felly, i gloi, mynnwn glywed y gwirionedd am ein gwlad. Mynnwn o leiaf ein bod ni'n ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu. Mae wedi digwydd mewn gwledydd eraill—yng Ngwlad y Basg, er enghraifft, mae'n digwydd ac yn llwyddiannus tu hwnt. Mae wedi digwydd efo S4C—mae angen datblygu hynny. Rŷm ni eisiau datganoli darlledu yn gyfan gwbl.

Mae yna hanes i'w adrodd efo'n cenedl. Rŷm ni'n dioddef—clywsom ni yn y ddadl yn gynharach—efo llywodraethiant y Deyrnas Unedig ac efo Brexit y diffyg parch sydd i'n cenedl a'r diffyg parch sydd i'n Llywodraeth yma yn yr holl drafodaethau. Rŷm ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod fregus rŵan, lle mae goroesiad ein cenedl ei hun o dan fygythiad. Yn y pen draw, mynnwn ddatganoli darlledu. Diolch yn fawr.  

16:55

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yn UKIP yn cytuno â llawer o bwyntiau Plaid Cymru heddiw. Gresynwn at y toriadau i gyllideb S4C a hefyd y toriadau i oriau darlledu ITV Wales—mae angen darpariaeth ddigonol ar ddarlledu yn yr iaith Saesneg a'r iaith Gymraeg yng Nghymru—ond nid ydym yn cytuno â Phlaid Cymru ar eu galwad am ddatganoli darlledu.

Rydym yn teimlo bod llawer o lwyddiannau wedi bod ym maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Credaf mai dau o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y BBC o ran marchnadoedd allforio ar hyn o bryd yw Doctor Who a Sherlock, ac mae'r ddwy gyfres yn cael eu creu yng Nghymru—credaf fod Doctor Who wedi'i chrybwyll yn gynharach yn y ddadl. Am resymau economaidd, rydym—

Mae pawb ohonom yn falch fod Doctor Who yn cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, wrth edrych ar y cynnwys, gallai fod wedi ei chynhyrchu yn unrhyw le. Nid wyf yn gofyn am Ddaleks dwyieithog na dim, ond byddai rhyw sôn am Gymru'n ddefnyddiol.

Dyna ymyriad diddorol, Dai. Yn yr araith, fe gyfeiriaf at yr hyn a ddywedoch y tro diwethaf inni drafod y pynciau hyn, sef dadl a gyflwynwyd gan y pwyllgor diwylliant, ac mewn gwirionedd rwy'n dychwelyd at y pwyntiau rydych newydd eu gwneud, felly fe ymhelaethaf arnynt yn nes ymlaen.

Am resymau economaidd, rwy'n credu bod angen inni gael cymaint o gynhyrchu ag y gallwn wedi'i leoli yng Nghymru, a chymaint o swyddi cynhyrchu a ffilm ag y gallwn wedi'u creu yma. Nid ydym am beryglu'r amcanion hynny drwy fynd tuag at ddatganoli darlledu, a allai arwain yn y pen draw at lai o gynhyrchu yma. Dyna'r broblem bosibl gyda mynd ar hyd llwybr datganoli.

Soniais yn awr ein bod wedi trafod y materion hyn flwyddyn yn ôl, pan gyflwynodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ddadl debyg, a gwnaeth Dai bwyntiau diddorol. Cwynodd nad oedd unrhyw bortread go iawn o Gymru yn y cyfryngau darlledu. Soniodd am yr hyn y mae newydd ei grybwyll eto: fod cynhyrchu Casualty a Doctor Who yma yng Nghymru yn iawn, ond nad yw'r rhaglenni hyn mewn gwirionedd yn ceisio rhoi darlun o Gymru i ni. Crynhodd yn gofiadwy ar yr achlysur hwnnw drwy ddweud nad oedd eisiau Daleks dwyieithog, ond fe deimlai y dylai fod gan yr ysbyty yn Casualty arwyddion dwyieithog. Y broblem yw bod Caerdydd a BBC Wales—fe lobïwyd yn llwyddiannus dros ddod â'r gwaith o gynhyrchu Casualty o Fryste, lle y câi ei wneud yn wreiddiol. Roedd Casualty eisoes wedi bod yn rhedeg am fwy nag 20 mlynedd cyn i'r gyfres ddod i Gymru. Mewn gwirionedd mae wedi ei lleoli mewn dinas ffuglennol o'r enw Holby, mewn sir ffuglennol o'r enw Wyvern, sydd i fod yng ngorllewin Lloegr, felly byddai'n rhyfedd braidd pe baent yn dechrau cynnwys llawer o siaradwyr Cymraeg yn awr, neu pe bai ganddynt arwyddion dwyieithog ar eu waliau.

O ran Doctor Who, gallem gael arwyddion ffyrdd dwyieithog yn awr ac yn y man yn Doctor Who, ond y drafferth—

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Credaf ein bod yn crwydro oddi ar y pwynt yma. [Chwerthin.] Nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno gyda Dai am yr arwyddion dwyieithog yn Casualty chwaith, ac rwy'n falch iawn fod gennym sector darlledu cryf o ran ei botensial economaidd, ond beth am y potensial i gryfhau'r ffordd y siaradwn amdanom ein hunain fel cenedl a chynhyrchu drwy ddarlledu y ddadl honno ar ein dyfodol fel cenedl?

17:00

Wel, mae'n debyg mai'r pwynt rwyf wedi'i godi, neu'r pwynt rwyf wedi ceisio ei godi yw, 'A yw un peth yn gwrthdaro yn erbyn y llall?', felly efallai mai dyna sydd angen inni ei ystyried.

Bellach, mae gennym—. Iawn, Doctor Who, gallem gael arwyddion ffyrdd dwyieithog yn Doctor Who, ond yn amlwg, nid ydym yn mynd i fynd yno. Maent yn mynd i blaned Mawrth. Yn amlwg nid yw'r gyfres i fod wedi'i lleoli yng Nghymru.

Felly, mae gennym y broblem ymddangosiadol hon fod rhaglenni'n cael eu gwneud yng Nghymru nad ydynt am Gymru'n benodol, sef yr hyn y buom yn siarad amdano, ond mae'n amheus, yn fy marn i, a fydd canran enfawr o bobl yng Nghymru â diddordeb go iawn mewn gwylio rhaglenni a wnaed am Gymru, sy'n bwynt a grybwyllodd Suzy Davies yn gynharach. Wedi'r cyfan, rydym wedi cael pethau fel Radio Wales a Radio Cymru ers y 1970au, ond mae'n dal yn ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru heddiw yn gwrando ar Radio 1 a Radio 2 na sy'n gwrando ar Radio Wales a Radio Cymru. Mae yna hen ddywediad y gallwch arwain ceffyl at ddŵr, ond ni allwch wneud iddo yfed. Gallwch ddarparu'r gwasanaethau hyn, ond ni allwch orfodi eich gwrandawyr i wrando arnynt.

Nawr, nid yw'r materion hyn yn newydd o bell ffordd. Yn y 1970au roedd gennym broblemau lle roedd yn rhaid i bobl yn ne-ddwyrain Cymru ddewis a oeddent yn gosod eu setiau teledu i dderbyn gwasanaeth o drosglwyddydd Mendips neu o drosglwyddydd Gwenfô. Cefais fy magu ar aelwyd yng Nghaerdydd lle roeddem yn cael gwasanaeth o'r Mendips, fel bod y sianeli Cymreig yn niwlog ac nid oeddem yn eu gwylio mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym BBC West yn hytrach na BBC Wales, a golygai hynny ein bod yn gwylio Points West o Fryste fel ein rhaglen newyddion min nos, yn hytrach na Wales Today, sy'n swnio'n hurt heddiw, ond dyna beth a wnaem a dyna beth a wnâi llawer o bobl eraill hefyd.

Felly, mae gennych eich ardaloedd Cymraeg eu hiaith yng ngorllewin Cymru. [Torri ar draws.] Oes, mae gennych siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd hefyd. Ond y pwynt yw nad yw dwyrain Cymru yn rhy annhebyg yn ddiwylliannol i Loegr. A siarad yn ddiwylliannol, nid oes fawr o raniad rhwng pobl yn ne-ddwyrain Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru a phobl yng ngogledd-orllewin Lloegr a de-orllewin Lloegr. Nawr, gyda dyfodiad datganoli, yn ogystal â theledu digidol, byddech wedi credu y byddai mwy o ffocws diwylliannol Cymreig yng Nghymru. Ond mae teledu digidol yn golygu nad ydych yn gyfyngedig i lond llaw o sianeli, felly mae pobl yn gwylio pob math o bethau. Nid yn unig bod mwy o bobl yng Nghymru yn gwylio Eastenders a Coronation Street yn hytrach na Pobol y Cwm; mae'n debyg y bydd gennych fwy o bobl yng Nghymru yn gwylio The Walking Dead na Pobol y Cwm, felly efallai ein bod, yn araf deg, yn dod yn wladfa i UDA yn ddiwylliannol.

Felly, mae'r rhain yn broblemau rydym yn gorfod ymgiprys â hwy yn y byd modern. Ni chredaf y gallwch lyffetheirio gwaith cynhyrchu teledu a ffilm drwy gael mwy o ymwneud ar ran Llywodraeth Cymru ym maes darlledu. Mae yna broblem bosibl o ormod o ymwneud ar ran y wladwriaeth yn y cyfryngau.    

Mae angen i chi ddwyn eich cyfraniad i ben yn awr. Rwyf wedi bod yn garedig iawn.

Efallai ein bod yn gofyn am bortreadau gwahanol o Gymru, ond un hen ddywediad yw na chafodd unrhyw gelfyddyd dda erioed mo'i chreu gan bwyllgor. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu i ddadl ar ddarlledu, oherwydd mae o wedi bod yn bleser gen i dros y blynyddoedd i fod yn gyfrifol am ddeddfu am ddarlledu yn San Steffan. Ac rydw i am ei gwneud hi'n hollol glir fy mod i'n parhau o'r farn, yn bersonol ac fel Gweinidog â'm mhrofiad i yn y pedwar mis, pum mis, diwethaf yma, nad dyma yr amser i ddechrau sôn am ddatganoli rhan o ddarlledu, neu unrhyw ran o ddarlledu, i Gymru fel rhan o ddatblygu'r setliad datganoli, oherwydd mae natur economi a diwylliant darlledu ac, yn bwysicach, yr holl lwyfannau cyfathrebu digidol sydd gyda ni, a llawer iawn o'r diwydiant yna yn y bae yma yng Nghaerdydd—mae'r diwydiant yna o reidrwydd yn ddiwydiant sydd wedi gweithredu a datblygu nid yn unig drwy reoleiddio yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd drwy reoleiddio ar lefel ryngwladol. 

Mae'r Llywodraeth wedi gwneud ei barn yn hollol glir yn y gwelliannau i'r cynnig yr hyn yr ydym ni am ei sicrhau o ran darlledu yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei gyllido yn ddigonol, a'r pryder am doriadau i S4C. Ond rydym ni'r un mor gadarn fod angen i ni allu dadlau am economi ac effeithiau cyfathrebu yn gyffredinol gyda'n gilydd o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae ITV Cymru, wrth gwrs, yn parhau i chwarae rôl hanfodol fel dewis amgen effeithiol i'r BBC ac rydym ni yn gweld bod cyflwyno gwelliant sy'n cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy atebol i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig yn ran allweddol o'n gwaith ni. Dyna rydw i wedi bod yn ceisio ei ddilyn, fel Gweinidog gyda chyfrifoldeb—trosolwg—dros ddarlledu, sydd heb ei ddatganoli, sef cynyddu atebolrwydd sefydliadau darlledu a chyfathrebu y Deyrnas Unedig i'r Cynulliad hwn, a thrwy hynny, i wylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.

Mi fuom ni'n gweithio'n galed, fel Llywodraeth, i sicrhau bod siarter newydd y BBC yn rhoi mandad i'r BBC gyflawni llawer mwy i bobl Cymru. Mae gan y BBC bellach atebolrwydd priodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wrth i ninnau fel Llywodraeth baratoi i benodi aelod o fwrdd Ofcom i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf erioed, rydym ni'n ymwybodol bod y trefniadau yma yn agor y ffordd i ni gael dylanwad gwirioneddol fel Llywodraeth Cymru ar strwythur cyfathrebiadau yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.

17:05

Diolch yn fawr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod diffyg uchelgais y Gweinidog yn hynod siomedig—ddim eisiau hyd yn oed cael y drafodaeth, ddim hyd yn oed eisiau gweld beth sy'n bosib, ddim hyd yn oed eisiau edrych ar yr opsiynau—

Os caf i ymateb, yn amlwg, os ydy'r gwrthbleidiau yn llwyddo i ennill y ddadl drwy wrthod y gwelliannau rhesymol heddiw, mi fydd y Llywodraeth yn ystyried sut y gallwn ni ymateb i benderfyniad y Cynulliad. Felly, nid yw hi'n gywir i ddweud na fyddwn ni'n ystyried unrhyw benderfyniad i ymchwilio ymhellach. Ond nid dyna safbwynt y Llywodraeth. 

Yn union. Dyna beth rydw i'n ei ddweud. Safbwynt y Llywodraeth ydy ddim eisiau cael y drafodaeth, ddim eisiau gweld beth sy'n bosib—[Torri ar draws.] Ie, oherwydd dyna'r gwelliannau sydd wedi cael eu gosod. Mae'r gwelliannau rydych chi wedi'u gosod yn dileu beth yr ydym ni a'r wrthblaid ei eisiau, sef cynnal y drafodaeth, ac mae hynny yn hynod o siomedig. Ac mae'n rhaid i mi ofyn: i ble yr aeth y Dafydd Êl cynnar yr ydym ni'n ei gofio?

Diolch yn fawr i Suzy Davies am egluro pwrpas eich gwelliant chi. Rydw i yn gweld synnwyr yn beth yr ydych chi'n ei ddweud ac, er yn wannach na'n cynnig ni, rydym ni yn barod i gefnogi hwnnw os oes yn rhaid, achos galw am y drafodaeth, dyna beth rydych chithau hefyd yn ei wneud drwy'ch cynnig chi.

Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu cynnal dadl ar ddarlledu i'r dyfodol. Wel, da iawn hynny. Bryd hynny, mi fyddwn ni'n parhau i bwyso am ddatganoli darlledu achos mae seilio dadl o gwmpas adolygiad Ogwen, nid ydy hynny nac yma nac acw. Guto Harri ei hun, un o aelodau y bwrdd, sydd wedi dweud i beidio â disgwyl gormod o hwnnw a dweud ei fod o bron yn amherthnasol bellach beth bynnag.

Y bore yma—ac rydw i'n cloi rŵan—y bore yma, mi fues i yn Sain Ffagan efo Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a gweld hanes Cymru yn cael ei ddehongli yn ddeheuig iawn yn fanno. Mae'n bryd i ni hefyd gael dehongli ein bywyd cyfoes ni a'n democratiaeth ni gennym ni ein hunain. Mae'n bryd i ni fod yn arwain ein sgwrs cenedlaethol ni yma yng Nghymru. Felly, gobeithio y gallwch chi weld eich ffordd yn glir i o leiaf gefnogi yr awydd i gael y drafodaeth. Dyna i gyd yr ydym ni'n gofyn amdano fo heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Parhau ag aelodaeth o’r Undeb Tollau

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol.

Daw hynny â ni felly i ddadl Plaid Cymru ar barhau ag aelodaeth o'r undeb tollau. Galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM6670 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig o undeb tollau presennol yr UE, yn hytrach nag undeb tollau newydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig hwn gan Blaid Cymru yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae ein cynnig yn dod ar adeg pan fo angen i Gymru fynegi safbwynt clir ar yr undeb tollau wrth i'r negodiadau ar ymadael â'r UE fynd rhagddynt. Mae hwn yn gwestiwn sy'n effeithio ar swyddi yng Nghymru, mae'n effeithio ar ddyfodol porthladdoedd Cymru, mae'n effeithio ar natur ffin y DU ag Iwerddon, sydd hefyd yn ffin Cymru ag Iwerddon. Nid oes dwywaith amdani: mae safbwynt Cymru yn y DU ar yr undeb tollau yn allweddol nid yn unig i'n heconomi ein hunain, ond i ddyfodol proses heddwch Iwerddon a sefydliadau yn ogystal.

Nawr, mae Plaid Cymru wedi rhoi llawer o bwyslais ar fanteision y farchnad sengl, ond mae ar Gymru angen yr undeb tollau yn ogystal. Fel y mae pethau, mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu symud Cymru o'r undeb tollau. Mae hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer Brexit eithafol yn seiliedig ar danbrisio, dadreoleiddio a safonau is.

Yr wythnos hon, mae'r wrthblaid yn y DU wedi egluro y byddai'n ceisio undeb tollau gyda'r UE. Mae cynnig Plaid Cymru yn ei gwneud yn glir ein bod yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r DU o undeb tollau presennol yr UE yn hytrach nag undeb tollau newydd. Mae hyn yn fwy na semanteg yn unig. Mae aelodaeth o'r undeb tollau yn caniatáu i'r DU fasnachu'n rhydd ym mhob nwydd ar draws Ewrop. Yn hollbwysig, mae aelodaeth o'r undeb tollau yn rhoi mynediad i'r DU i dros 50 o wledydd y tu allan i'r UE. Yn ei hanfod, yr hyn yw undeb tollau dwyochrog gyda'r UE ar y llaw arall, sef yr hyn y mae Plaid Lafur y DU yn ei argymell, yw cytundeb masnach rydd heb ei ddiffinio a fydd yn rhoi mynediad i ni at set gyfyngedig o nwyddau. Er enghraifft, Twrci—

17:10

Rwyf am orffen fy mhwynt. Mae undeb tollau Twrci yn anghyflawn gan nad yw'n cynnwys nwyddau amaethyddol. Mewn undeb tollau, ni fyddwn yn gallu sicrhau mynediad ychwanegol i farchnadoedd drwy gytundebau masnach rydd yr UE â thrydydd gwledydd yn awtomatig. Bydd y trydydd gwledydd hyn fodd bynnag yn cael mynediad at ein marchnadoedd ni, ac mae honno'n anfantais.

A yw'r Aelod yn derbyn bod aelodaeth o undeb tollau'r UE hefyd yn galw am fod yn aelod o'r UE a'i strwythurau cyfreithiol, ac anwybyddu canlyniad y refferendwm a'r modd y pleidleisiodd Cymru?

Na, nid wyf yn derbyn y pwynt hwnnw, ac fe egluraf pam cyn bo hir.

Hefyd, yn y ddadl hon, mae angen inni ystyried y cwestiwn hollbwysig ynghylch newid yn yr hinsawdd. Sut y gall fod yn dda o safbwynt newid yn yr hinsawdd i gludo mwy o nwyddau o wledydd sydd hyd yn oed yn bellach? Rhaid gwarchod y fasnach gyda marchnadoedd agosach os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Nawr, roeddwn eisoes wedi rhagweld y cwestiwn, 'A allwch fod yn undeb tollau'r UE os nad ydych yn aelod-wladwriaeth o'r UE?' Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw, 'Gallwch'. Ffurfir undeb tollau'r UE o aelod-wladwriaethau'r UE ac yn bwysig, mae'n cynnwys rhai tiriogaethau nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd, fel Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Ac o ran negodi undeb tollau newydd, mae'r UE newydd ddatgan na all y DU gael bargen gystal â'r un sydd gennym yn awr.

A gaf fi ymyrryd, os gwelwch yn dda? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng undeb tollau a'r ardal masnach rydd?

Mae undeb tollau yn cyfeirio at nwyddau'n teithio, ac mae'r farchnad sengl yn ei chyfanrwydd yn edrych ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae'r undeb tollau'n ymwneud yn benodol â nwyddau'n unig.

Pam y mae Llywodraeth Cymru yn methu cyd-fynd â safbwynt carbwl Llafur yn y DU? Yn y Papur Gwyn ar y cyd, fel y nododd Rhun ap Iorwerth ddoe, gwyddom fod pob cyfeiriad cadarnhaol at yr undeb tollau at yr un presennol yn yr UE, nid at undeb tollau newydd, pwrpasol, nad yw'n bodoli eto ac y bydd yn rhaid ei negodi i fodolaeth. Nawr, efallai ein bod wedi arfer gweld llais Cymru yn cael ei anwybyddu, ond mae gennym allu i siarad fel Cynulliad ac i roi pwysau ar y Llywodraeth a'r wrthblaid yn San Steffan, ac mae'r pwysau hwnnw gryfaf wrth i bawb ohonom siarad fel un. Mae'r newid diweddar gan yr wrthblaid yn y DU yn rhy ychydig i ddiogelu lles cenedlaethol Cymru, ond gallai fod newidiadau pellach ar feinciau'r gwrthbleidiau a meinciau'r Llywodraeth wrth i'r ddadl barhau. Felly, gadewch inni heddiw gefnogi safbwynt mwyafrifol yn y Cynulliad o blaid undeb tollau'r UE i gynnal lles cenedlaethol Cymru.

17:15

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd. 

Cynigiwyd gwelliant 1. 

Pa un a yw pobl wedi pleidleisio dros adael neu aros, erbyn hyn maent am weld bargen Brexit sy'n gweithio o blaid DU byd-eang. Felly mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau rheolaeth ar ein harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau gan adeiladu perthynas newydd ddofn ac arbennig â'r Undeb Ewropeaidd yn economaidd ac o ran diogelwch. Yn lle hynny, mae cynnig plaid Cymru heddiw yn dangos eu bod yn parhau i geisio llesteirio proses Brexit. Gellid dweud yr un peth am gyfres y Prif Weinidog o ddadleuon cul a ailgylchwyd yn barhaus. Mae'r amwysedd ynghylch safbwynt Plaid Lafur y DU, a amlinellwyd gan Jeremy Corbyn yr wythnos hon, yn ychwanegu at y dryswch. Felly, gadewch inni fod yn glir: byddai parhau yn yr undeb tollau yn cyfyngu ar allu'r DU i ffurfio cytundebau masnach newydd gydag economïau sy'n tyfu'n gyflym ac i ddatblygu ffyrdd newydd i wledydd tlotach fasnachu eu ffordd allan o dlodi.

Mae ein gwelliant, felly, yn argymell bod y Cynulliad hwn

'yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl;'—[Torri ar draws.]

Fe orffennaf y dyfyniad ac yna fe gewch ymyrryd.

'gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.'

David.

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Gwrandewais ar ei sylwadau agoriadol am yr undeb tollau, a gwrandewais hefyd ar y sylwadau a wnaeth yn awr ynghylch yr hyn y mae'r cynnig hwn yn ei ddatgan—ynglŷn â chefnogi'r cytundeb. A allwch ddweud wrthyf pa gytundeb a gafwyd hyd yma ar y berthynas a beth yn union y mae'r berthynas arbennig hon yn ei olygu mewn gwirionedd?

Ni ddefnyddiais y term 'perthynas arbennig'. Dyma y mae'r cam nesaf—. Mae'n gwybod o'r dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor mai ar ddechrau cyfnod 2 rydym ni ac ni all y negodiadau llawn y tu allan i'r UE ddechrau hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE mewn gwirionedd—wedi gadael yn ffurfiol. Ond fe fydd yna gyfnod pontio, fel y gwyddoch, a bydd hynny'n llyfnhau'r broses honno ymhellach.

Mor rheolaidd â nos yn dilyn dydd, mae Carwyn Jones wedi bod yn codi bwganod am y ffiniau rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth a'r DU ac ynys Iwerddon; clywsom fwy am hynny gan arweinydd Plaid Cymru heddiw. Rhaid inni gefnogi mynediad at farchnad sengl yr UE ond byddai aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu nad ydym i bob pwrpas wedi gadael yr UE o gwbl. Mewn gwirionedd, cadarnhaodd y Prif Weinidog fis Rhagfyr diwethaf y byddai'r ardal deithio gyffredin gydag Iwerddon, a oedd wedi bod yn weithredol ers y 1920au, yn cael ei chynnal a bod y DU a'r UE wedi addo na fyddai unrhyw ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae hi hefyd wedi rhybuddio Brwsel heddiw yn erbyn eu galwadau arni i gytuno i ymrwymiadau cyfreithiol ar gyfer atal ffin galed yn Iwerddon, hyd yn oed os yw hynny'n golygu gwiriadau tollau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.

Mae Prif Weithredwr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi dweud yn gyson wrth Weinidogion na fydd unrhyw angen am seilwaith ffisegol ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon o dan unrhyw amgylchiadau, ac roedd adroddiad fis Tachwedd diwethaf, 'Avoiding a hard border on the island of Ireland for Customs control and the free movement of persons,' a ysgrifennwyd gan yr arbenigwr blaenllaw ar dollau, Lars Karlsson, ar gyfer Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Senedd Ewrop, yn nodi mesurau a gyflwynwyd i greu ffiniau llyfn ar draws y byd ac roedd yn cynnig ateb technegol ar gyfer y ffin ar ynys Iwerddon ac ar gyfer dyfodol symudiad pobl a nwyddau rhwng yr UE a'r DU.

Ar ôl i Jeremy Corbyn gefnogi aelodaeth y DU o undeb tollau, disgrifiwyd hyn gan Aelodau Seneddol Llafur a oedd wedi cefnogi Brexit fel brad yn erbyn pleidleiswyr, a chyhuddodd Frank Field AS yr arweinyddiaeth o drin pleidleiswyr fel 'twpsod', ac eto dywedodd ffigyrau a oedd dros aros yn yr UE yn y blaid nad oedd Mr Corbyn wedi mynd yn ddigon pell. Drwy gefnogi undeb tollau, ymddengys bod Mr Corbyn yn rhwygo maniffesto Llafur y DU ac yn bygwth atal y DU rhag llofnodi bargeinion masnach rydd a fyddai'n hybu'r economi ac yn creu swyddi o gwmpas y byd. Fodd bynnag, drwy fethu ymrwymo Llafur i aelodaeth o undeb tollau'r UE, mae datganiad Mr Corbyn yn ddigon amwys mewn gwirionedd i allu golygu unrhyw beth, lle mae'r UE ei hun wedi datgan yn gyson naill ai eich bod yn yr undeb tollau ac yn rhwym i'w rheolau neu'r tu allan iddo.

Mae Prif Weinidog Cymru yn aml yn codi bwganod y bydd i'r DU adael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn arwain at ras reoleiddiol i'r gwaelod, a chlywsom ragor o ddarogan gwae gan arweinydd Plaid Cymru i'r un perwyl heddiw. Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd Brexit y DU yn glir yr wythnos diwethaf na fydd y DU yn gostwng safonau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn cystadlu â'r farchnad Ewropeaidd, ac yn hytrach, roedd yn cynnig system o gydnabyddiaeth ar y ddwy ochr. Y mis diwethaf, dywedodd cyn-Weinidog masnach ryngwladol y DU, yr Arglwydd Price, wrth Dŷ'r Cyffredin fod Prydain wedi cytuno mewn egwyddor ar fargeinion masnach rydd eisoes â dwsinau o wledydd tu allan i'r UE yn barod i ddod i rym y diwrnod ar ôl Brexit. Mae realiti economaidd yn gwneud yr holl wae Brexit yn y lle hwn yn destun sbort. Cynyddodd allbwn cynhyrchu'r DU 2.1 y cant yn 2017, gyda gweithgynhyrchu yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf ar i fyny. Mae adroddiadau Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn dangos bod llwyddiant Prydain o ran creu swyddi yn mynd i barhau yn 2018 a bod cyfeintiau, elw a chyfraddau cyflogi yn codi yn sector gwasanaethau Prydain. Ac mae gwerthiannau cyflenwyr adeiladu wedi cwblhau blwyddyn arall o dwf—4.8 y cant.

Felly, yn hytrach na masnachu mewn storïau arswyd, rhaid inni adfer rheolaeth ar y naratif a chynnig gobaith i'r cyhoedd. Pleidleisiodd y DU a Chymru dros annibyniaeth gyfreithiol a chyfansoddiadol oddi ar yr Undeb Ewropeaidd. Ein dyletswydd yw cyflawni hynny.

17:20

Unwaith eto, rwy'n dilyn sbin cefnogwyr Brexit, fel y clywsom yn ystod y ddadl ar y refferendwm, ond dyna ni. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Oherwydd mae'n rhoi cyfle inni dynnu sylw at y risgiau sy'n ein hwynebu wrth inni adael yr UE heb unrhyw fath o gytundeb o ran sut rydym yn masnachu gyda'n partneriaid presennol yn y dyfodol.

Nawr, gwn fod Plaid Cymru wedi ymladd dros aros yn yr UE yn y refferendwm, fel y gwnes innau. Ymladdasom yn galed, ond yn anffodus, hoffwn pe bai'r bleidlais wedi bod o'n plaid. Efallai byddai amlygu beth fyddai canlyniadau a chymhlethdodau gadael y farchnad sengl fel y mae'r cyfryngau yn ei wneud erbyn hyn wedi ein helpu ar y pryd. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd, a'r gwahaniaeth yn awr, efallai, yw fy mod i'n dymuno parchu'r rhan fwyaf o fy etholwyr a'u safbwyntiau, ac efallai y rhan fwyaf o'u rhai hwythau—er y gwn fod y Llywydd mewn sefyllfa wahanol, am fod ei mwyafrif hi mewn cyfeiriad ychydig yn wahanol—gan ddiogelu ein heconomi a'r hawliau sylfaenol a gawsom drwy fod yn yr UE. Mae'n siomedig felly, mewn gwirionedd, fod ffocws y ddadl heddiw gan Blaid Cymru wedi'i seilio'n fwy ar semanteg 'yr undeb tollau' ac 'undeb tollau', fel rydym newydd glywed gan y Ceidwadwyr hefyd, yn hytrach na'r angen i sicrhau'r canlyniadau a fydd yn diogelu ein heconomi a lles ein dinasyddion.

Gadewch inni fynd yn ôl at y cwestiwn pwysig ynglŷn â beth fyddai gadael yr undeb tollau yn ei olygu i ni mewn gwirionedd. Credaf fod hynny'n bwysig. Ar yr olwg gyntaf: gwiriadau tollau ar ffiniau'r UE, gan gynnwys y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Gwn fod hynny'n rhywbeth y mae Theresa May wedi dweud nad yw hi ei eisiau, ac mae hi'n dal ati i ddweud ei bod yn gweithio i sicrhau nad yw'n digwydd, ond rydym hefyd wedi tynnu sylw at gwestiwn gwiriadau tollau yn ein porthladdoedd. Gwn fod yr Aelod dros Ynys Môn wedi cyfeirio at y pwynt hwn yn fynych yn ei gyfraniadau yn y Cynulliad, a gofynnaf i'r Aelodau ailddarllen adroddiad y pwyllgor materion allanol ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru a busnesau yng Nghymru o ganlyniad. Mae'n rhywbeth y gallai fod angen i chi atgoffa eich hun yn ei gylch o bosibl.

Clywsom sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr y bydd technoleg yn datrys y problemau: gwiriadau drwy dechnoleg ddeallus, meddalwedd adnabod rhifau cerbydau, gan ddefnyddio masnachwyr dibynadwy awdurdodedig, a hyd yn oed cysyniad Boris Johnson fod gwiriadau tollau yn debyg i daliadau atal tagfeydd—pwy a ŵyr?

A ydych chi felly'n gwrthod yr adroddiad a ysgrifennwyd gan Lars Karlsson, yr arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, ar gyfer Senedd Ewrop ar hyn, a hefyd y cyngor parhaus a ddarperir gan bennaeth Cyllid a Thollau EM, y tybiaf efallai fod ganddo wybodaeth ychydig yn fwy technegol, hyd yn oed na chi, ar y mater hwn?

Diolch i'r Aelod am hynny, ond pan gyfarfûm ag unigolion sy'n cynrychioli busnesau yn Ewrop, nid oeddent yn chwilio am atebion mwy meddal, oherwydd nad oeddent yn gwybod i ba gyfeiriad yr oeddent yn mynd. Felly rwy'n credu y bydd technoleg yn cyrraedd yno yn y pen draw—nid yfory, nid y flwyddyn nesaf, ond ymhen tua pum mlynedd mae'n debyg, ac mae hwnnw'n amser hir i aros i geisio masnachu â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Beth bynnag, beth am ddychwelyd at y broblem. Os ydym am edrych, efallai, ar sut y mae gwiriadau ffiniau'n gweithio, ewch i Norwy—rydym wedi crybwyll Norwy droeon yn y Siambr hon—ac edrychwch ar wasanaeth tollau Norwy. Mae wedi cael ei ehangu yn y degawdau diwethaf i fynd i'r afael â'r problemau, ond maent yn cael anhawster o hyd i reoli'r ffiniau mewn gwirionedd. Er enghraifft—ac rwy'n ymddiheuro i Norwyaid os wyf yn ynganu hwn yn anghywir—yn Svinesund, sy'n ymdrin â 70 y cant o'r llif traffig masnachol trawsffiniol rhwng Norwy a Sweden, caiff pob traffig masnachol—pob traffig masnachol—ei stopio. Pob elfen ohono. Cynhelir gwiriadau ar nwyddau a gyrwyr. Nawr, dyna'r berthynas yn Norwy. Mae'r rhain yn peri oedi i lorïau. Maent yn oedi gweithredu ac felly bydd oedi'n digwydd yn yr agenda mewn union bryd o ganlyniad i hynny. Efallai na fydd yn llawer o amser; efallai mai pedair munud ar gyfartaledd fydd yr oedi yn ôl yr hyn y mae rhai'n ei ddweud. Bydd rhai lorïau'n wynebu mwy o oedi. Os rhowch bedair munud ar bob lori yng Nghaergybi fe welwch y ciwiau a gewch. Rhowch ddwy funud ar bob lori yn Dover, a'r argymhelliad gan borthladd Dover yw y bydd gennych giw 10 milltir o hyd. Dyna realiti'r hyn y bydd methiant o ran undeb tollau yn ei wneud.

17:25

Tybed a allwch egluro un pwynt am 'yr undeb tollau' yn hytrach nag 'undeb tollau'. A gaiff y ddau ohonom gytuno mai un undeb tollau yn unig sy'n bosibl, drwy ddiffiniad, oherwydd mae'n golygu un endid daearyddol gyda thariff allanol cyffredin? Felly ni allwch gael mwy nag un undeb tollau yn yr UE.

Nid wyf yn cytuno â hynny, oherwydd bydd undeb tollau—os ydych chi'n mynd i'w ddiffinio—yn undeb ar drefniadau tollau rhwng sefydliadau, ac felly gallwch gael gwahanol fersiynau o undeb tollau. Felly, rwy'n—[Torri ar draws.] Na, rydych wedi cael eich cyfle. Rydych wedi cael eich cyfle. Felly, na. Rwy'n anghytuno â chi, iawn?

Rydych chi newydd ddisgrifio cytundeb masnach rydd.

Dyna rydych chi am ei alw. Chi a ŵyr, ond rwy'n anghytuno â chi.

A gaf fi barhau? Oherwydd mae'n bwysig. Rhaid inni gofio hefyd fod busnesau a chwmnïau yn y DU wedi'u hintegreiddio'n llawer gwell mewn cadwyni cyflenwi Ewropeaidd na rhai Norwy, eto felly mae mwy o broblem yno. Nawr, soniodd yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru fod llawer o godi bwganod wedi bod ynglŷn â'r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a de Iwerddon. Wel, mewn gwirionedd, 40 o ffyrdd sydd i draffig rhwng Norwy a Sweden—40 ffordd—sy'n achosi'r anawsterau hynny. Ceir 270 ar draws y ffin honno, heb sôn am lifau eraill rhwng y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill. Felly, ceir effeithiau llawer mwy heriol o ganlyniad i realiti rheoli'r trefniadau hynny ar gyfer ffiniau, oherwydd yr hyn nad ydym ei eisiau—ac rwy'n siŵr nad oes neb yn y Siambr eisiau hyn—yw niwed i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Felly, nid ydym eisiau i'r trefniadau hyn gael eu rhoi ar waith ar y ffin.

Lywydd, rwy'n sylweddoli fod amser yn brin, ond rwyf am wneud sylw ar y pwynt hwn yn olaf. Gwneuthum y penderfyniad mewn gwirionedd i fynd i weld y papurau Brexit yn Swyddfa Cymru yr wythnos diwethaf. Gwn fod rhai o'r Aelodau eraill wedi bod yno, gan i mi weld eu henwau yn llyfr roedd yn rhaid i mi ei lofnodi. Rhoddais fy ffôn i gadw, cafodd ei gadw dan glo, oherwydd dyna oedd angen ei wneud er mwyn i mi eu gweld. Ond rwy'n atgoffa'r Aelodau ar y meinciau ar fy ochr chwith fod y ddogfen honno, sef cyfres o sleidiau PowerPoint mewn gwirionedd, yn atgoffa pawb—ac fe'i comisiynwyd gan Lywodraeth y DU, ac nid oeddent yn hoffi'r atebion a gawsant—roedd yn tynnu sylw at y ffaith mai effaith gadael yr UE ar economi Cymru oedd gostyngiad o rhwng 2 y cant a 10 y cant yn y cynnyrch domestig gros. Y ffaith yw mai 2 y cant fyddai'r gostyngiad pe baem yn aelodau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy'n annhebygol o ddigwydd, oherwydd wedyn—wel, tynnwyd sylw at hyn eto. Felly, byddai gwahaniaeth mawr.

Dangosodd y papurau hefyd fod nifer o'r sectorau a gâi eu taro galetaf yn sectorau sy'n bwysig i Gymru. Felly, mae gan Lywodraeth y DU dystiolaeth sy'n dadlau bod aros yn yr undeb tollau neu mewn undeb tollau yn llawer mwy buddiol i economi'r DU na dilyn yr athrawiaethau ideolegol sy'n gyrru cefnogwyr Brexit digyfaddawd a'r ofn sydd gan Theresa May ohonynt. Mae'n bryd iddynt ddihuno. Mae'n bryd i gefnogwyr Brexit yn y Cabinet ddod i'r casgliad fod pobl ac economi y DU yn llawer pwysicach na'u credoau ideolegol.

Mae Cadeirydd y pwyllgor materion allanol newydd gwyno mai dadl am wahaniaeth semantig yw hon, ond dadl a gyflwynwyd gan ei blaid ef oedd yr un am y gwahaniaeth semantig, wrth gwrs. Dyna holl bwynt hyn. Ond rwy'n credu y gallaf ei helpu mewn gwirionedd, i atgyfnerthu'r pwynt a wnaed gan Adam Price funud yn ôl. Ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd eu hunain, mae'n dweud bod

yr undeb tollau yn un o gerrig sylfaen yr Undeb Ewropeaidd ac yn elfen hanfodol yng ngweithrediad y farchnad sengl. Ni all y farchnad sengl weithio'n iawn oni cheir defnydd cyffredin o reolau cyffredin ar ei ffiniau allanol. I gyflawni hynny, mae'r 28 o weinyddiaethau tollau cenedlaethol yn yr UE yn gweithredu fel pe baent yn un endid.

Dyna'r holl bwynt. Dyna bwynt undeb yn yr achos penodol hwn. Nawr, mae gennyf farn wahanol i'w blaid ef a Phlaid Cymru ar rinweddau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond rwyf gyda Phlaid Cymru yn eu dehongliad o'r ddadl hon yn hyn o beth: fod yr hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei gyflwyno bellach yn anghydlynol ac yn blastr i geisio cuddio'r anghydfod yn eu plaid eu hunain ar y cwestiwn a ddylem barhau'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb yn credu o ddifrif fod y Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i gael bargen undeb tollau arbennig ar gyfer Prydain. Maent yn dal i ddweud wrthym na chaniateir dewis a dethol mewn perthynas â'r farchnad sengl neu'r undeb tollau. Mae'n fater o'i gymryd neu ei adael—beth bynnag y byddant yn eu cynnig i ni. Felly, mae cynigion y Blaid Lafur yn fethiant o'r cychwyn, ac nid wyf yn deall sut y gallai unrhyw berson deallus yn y Blaid Lafur gredu hyn o ddifrif.

Mae Jeremy Corbyn yn bryderus iawn am reolau'r UE ar gymorth gwladol, polisi cystadleuaeth yr UE a'i reolau caffael, ond mae'n rhaid iddo dderbyn nad yw'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig y rheolau UE ar bob un o'r meysydd hollbwysig hynny, y gallai eu llacio alluogi'r Blaid Lafur i wireddu rhai o'i huchelgeisiau polisi. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall o gwbl am y rhai sy'n credu y dylem fod yn aelodau o undeb tollau neu yr undeb tollau, ond nad ydym yn mynd i fod yn aelodau o'r UE yw pam y maent am roi polisi masnach ryngwladol y Deyrnas Unedig allan i bobl nad ydynt yn atebol yn y pen draw i'n hetholwyr ni nac yn atebol i'n Seneddau yn y DU yn eu hawdurdodaethau amrywiol. Mae hyn yn nonsens llwyr i mi.

Gallaf weld bod yna ddadleuon dros aros o fewn yr UE, er nad wyf yn eu rhannu, ond ni allaf weld dadl o gwbl dros fod y tu allan i'r UE a chaniatáu i bobl eraill ddeddfu drosom a pheidio â chael llais neu bleidlais yn eu penderfyniadau. Mae'r tariff allanol cyffredin yn newid drwy'r amser, bob mis, ac weithiau mewn ffyrdd arwyddocaol iawn. Er enghraifft, y dreth ar orennau—mae mewnbwn orennau i'r UE wedi codi o 4 y cant i 17 y cant yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn berthnasol i bob math o nwyddau sy'n cael eu rhestru yn y ddogfen gymhleth hon, sy'n nodi beth yw'r tariffau ar gynhyrchion gwahanol. Yn sicr, rydym am allu penderfynu drosom ein hunain pa drethi a gaiff eu gosod ar gynhyrchion, yn enwedig cynnyrch bwyd a phrif nwyddau bob dydd eraill—dillad, esgidiau a llawer o bethau sy'n effeithio ar rym gwario pobl ar incwm isel. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall am safbwynt y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yw bod y tariff allanol cyffredin, fel y mae'n gymwys yn ymarferol, yn gyffredinol yn erbyn buddiannau'r trydydd byd neu wledydd sy'n datblygu—beth bynnag yr hoffem eu galw—yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, ac yn enwedig y rhai sydd ar incwm isel. Dyma'r hyn y maent yn ceisio ei amddiffyn. Pe baent wedi bod yn Aelodau o'r Cynulliad hwn neu'n Aelodau o Senedd y Deyrnas Unedig yn y 1840au, byddent wedi bod yn amddiffyn y deddfau ŷd. Fe ildiaf.

17:30

Diolch. A ydych yn cydnabod yn awr felly, heb ffurf ar undeb tollau—neu heb yr undeb tollau—y bydd treth dariff ar nwyddau a allforir o Gymru? 

Nac ydw, ddim o gwbl. Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai penderfynu a yw am osod tariffau neu beidio. Er enghraifft, mae tariff allanol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn gosod treth o 4.7 y cant ar ymbarelau â choesau telesgopig. Mae'n gosod tariff o 1.7 y cant ar gleddyfau, cleddyfau cwta, bidogau, picelli, gweiniau a chyllyll gweiniog. Mae'n gosod tariff o 15 y cant ar fewnforio beiciau un olwyn. Dyma wiriondeb cymhlethdod y 12,561 o eitemau a restrir yn y—

A yw'n ymwybodol, ar gyfartaledd, bob tro y bydd menyw'n prynu bra, fod yn rhaid iddi dalu treth o £1 i'r Undeb Ewropeaidd, er nad ydym yn cynhyrchu bras yn y wlad hon?

Rwy'n cytuno'n llwyr. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw hyn mewn persbectif beth bynnag sy'n digwydd. Y tariff cyfartalog a roddir ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio i'r Undeb Ewropeaidd yw tua 3.5 y cant. Ceir sectorau penodol yr effeithir arnynt yn fwy na hynny: ceir modur, fel y mae pawb ohonom yn gwybod—10 y cant, ac mae cynhyrchion amaethyddol yn achos arbennig, yn aml iawn, hyd yn oed mewn cytundebau masnach rydd, fel y nodwyd eisoes, a chânt eu heithrio yn achos Twrci. Ond mae'r gyfran o'r economi y mae'r meysydd cynhyrchiant hyn yn berthnasol iddynt yn eithriadol o fach. Nid yw amaethyddiaeth, fel y gwyddom, ond yn 2 y cant o holl gynnyrch domestig gros y wlad. Os ydym am gefnogi ffermwyr ac incwm ffermydd, gallwn wneud hynny mewn llawer o ffyrdd eraill yn hytrach na gosod trethi ar fewnforio nwyddau, os dymunwn, ond yn y pen draw, mae'n fater o ddemocratiaeth.

Ni sydd i benderfynu, ein hunain, fel gwlad annibynnol, pa dreth, os o gwbl, rydym eisiau ei gosod ar fewnforio nwyddau o wledydd eraill. Pam y dylem osod treth fewnforio o 17 y cant ar esgidiau chwaraeon, er enghraifft, o'r dwyrain pell? Pam rydym am gael treth ar fewnforio orennau, na ellir eu tyfu yn y Deyrnas Unedig? Mae yna gymaint o wiriondeb yn hyn. Pan fyddwch yn rhoi'r pŵer i ddeddfu ar gyfer trethiant allan i gorff nad oes gan bobl Prydain bŵer i'w reoli, dyma fydd yn digwydd. Nid ydym yn gwybod, o un wythnos i'r llall, beth y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i'w wneud yn y maes hwn. Felly, yn y bôn, mae'n fater o ddemocratiaeth, ac ni allaf ddeall pam y byddai plaid fel y Blaid Lafur, o bob plaid, sydd wedi ymrwymo i egwyddorion democratiaeth, ac a ddaeth i fodolaeth er mwyn amddiffyn buddiannau pobl sy'n gweithio, bellach yn troi cefn ar hynny ac yn cael ei dilyn mor frwdfrydig gan Blaid Cymru.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Lywydd. Yn ein papur polisi masnach diweddar, a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei safbwynt ar yr undeb tollau. Yn y bôn, nid ydym yn argyhoeddedig fod gadael undeb tollau gyda'r UE o fudd i ni. Yr un yw ein safbwynt ag un Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd yn cyflwyno ei hachos yn ei gyhoeddiad 'Scotland's Place in Europe' dros weld y DU yn aros yn y farchnad sengl a—gadewch i mi bwysleisio hyn eto—undeb tollau. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r undeb tollau.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Ac rwy'n ymddiheuro os yw'n gynamserol a'ch bod yn mynd i esbonio, ond beth sydd wedi newid ers y Papur Gwyn a gynhyrchwyd gennym ar y cyd, lle mae'n amlwg mai undeb tollau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd oedd yr hyn a geisiem?

Yn hollol. Edrychwch, ar adeg cynhyrchu'r Papur Gwyn, fe'i gwnaethom yn gwbl glir fod materion yn ymwneud â'r undeb tollau yn llawer mwy cymhleth na chymryd rhan yn y farchnad sengl. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod wedi casglu llawer mwy o dystiolaeth ac wedi siarad ag amryw o arbenigwyr a rhanddeiliaid, ac mae hyn wedi arwain at ddealltwriaeth well o'r cyfranogiad parhaus yn yr undeb tollau a goblygiadau hynny. Ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dod i'r un casgliad—pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r undeb tollau, sy'n rhan annatod o drefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ein barn ni, mae'n annirnadwy y gallai neu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi â thrydydd gwledydd ar ran y DU wedi i ni adael yr UE. Felly mae'n amhosibl inni barhau'n rhan o'r undeb tollau. Ond os oes unrhyw dystiolaeth sy'n bodoli sy'n awgrymu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi ar ran y DU wedi i ni adael yr UE, yna byddwn yn croesawu'r dystiolaeth honno. Serch hynny, gallai'r DU negodi undeb tollau newydd gyda'r UE fel rhan o'n trefniadau ôl-Brexit, a fyddai'n golygu ein bod yn cadw'r tariff allanol cyffredin. Gydag ymrwymiad pendant i barhau i weithio o fewn fframwaith rheoleiddio'r farchnad sengl, byddai hyn yn galluogi nwyddau i gylchredeg rhwng yr UE-27 a'r DU ar yr un sail â heddiw fwy neu lai.

Mae nifer o randdeiliaid, ac yn fy marn i, yn bersonol, mae'n debyg mai Siambr Fasnach Prydain Iwerddon yw'r mwyaf diddorol ohonynt, wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n gweld yr UE a'r DU yn negodi cytundebau masnach rydd newydd ochr yn ochr â'i gilydd. A byddai hyn, rwy'n credu, yn atyniadol nid yn unig i ni, ond hefyd i'r UE-27, a dylai fod yn amcan pendant i'r DU yn y trafodaethau sydd ar y gweill yn fy marn i. Nid wyf yn credu bod y DU wedi cyflwyno tystiolaeth economaidd drylwyr neu ddadansoddiad cadarn o gost a budd i gyfiawnhau'r ffaith y byddai'n well ganddi dorri'n rhydd o'r farchnad sengl a'r undeb tollau er mwyn mynd ar drywydd amheus cytundebau masnach rydd dwyochrog newydd gwych mewn mannau eraill ar draws y byd. Yn wir, mae datgelu dadansoddiad Brexit Llywodraeth y DU heb ganiatâd yn ddiweddar yn cadarnhau na allai cytundebau masnach newydd wneud iawn am y niwed economaidd a wneir drwy ddilyn llinellau coch y Llywodraeth o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Os yw Llywodraeth y DU yn dilyn ei pholisi o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau o blaid polisi masnach cyfan gwbl annibynnol, bydd hyn yn creu risg o osod rhwystrau di-doll a thariffau, a fydd yn ddiau yn niweidiol iawn i economi Cymru.

Mae ein papur masnach, a gefnogir gan astudiaeth effaith Ysgol Fusnes Caerdydd yn dangos mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw drwy gadw mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl Ewropeaidd, ac aelodaeth o undeb tollau. Mae ymchwil yn cadarnhau ein dadansoddiad y byddai Brexit caled yn effeithio'n drychinebus ar swyddi a chymunedau yng Nghymru, yn lleihau'r economi rhwng 8 a 10 y cant, sy'n cyfateb i rhwng £1,500 a £2,000 y person yn ein gwlad. Yn sicr, rydym yn parchu penderfyniad democrataidd pobl Cymru i adael yr UE, ond nid ydym o'r farn fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros Brexit er mwyn bod yn llai cefnog. Aros o fewn undeb tollau â'r UE yw'r ffordd orau i ddiogelu hynny. Felly, gadewch i mi fod yn gwbl glir, rydym ni, fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a nifer o rai eraill, yn credu bod y dystiolaeth yn ddiamwys—mai'r ffordd orau o sicrhau lles gorau busnesau Cymru, cymunedau Cymru, teuluoedd Cymru, gweithwyr Cymru, yw drwy fod mewn undeb tollau gyda'r UE, am y dyfodol rhagweladwy fan lleiaf, a thrwy barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl o'r tu allan i'r UE.

Heb ymrwymiad o'r fath, rwy'n credu ei bod hi'n parhau'n aneglur iawn sut y gellid datrys problem y ffin yng Ngogledd Iwerddon, ni waeth beth fydd Aelodau'r gwrthbleidiau'n ei honni. Gallai'r mater arwain o hyd at ddad-wneud yr holl negodiadau rhwng yr UE a'r DU. Dyma safbwynt rydym wedi dadlau yn ei gylch yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â Phlaid Cymru, a dyma yw ein safbwynt o hyd. Dyma'r safbwynt sydd yn ein gwelliant i'r cynnig.

17:40

Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am yr holl gyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma. Wyddoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna gymaint rydym yn cytuno yn ei gylch yn y mater hwn, ond hoffwn wybod, a buaswn yn croesawu ymyriad neu lythyr hir, fel y dymunwch, yn dweud a oes yna elfennau eraill yn y Papur Gwyn rydych yn awr ym ymbellhau oddi wrthynt.

Gadewch i ni atgoffa ein hunain am deitl y Papur Gwyn hwnnw, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn anad dim, rwy'n credu mai dyna ddylai fod yn ddyletswydd i ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, diogelu dyfodol Cymru a phwyso am y camau gweithredu a fydd yn gosod Cymru mewn sefyllfa dda ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel sydd bob amser yn digwydd, cawn ein cyhuddo o fod eisiau rhwystro ewyllys y bobl, a bod hon yn ymgais i atal Brexit rywsut. Mae yna bobl mewn tair plaid yn y Siambr hon nad ydynt am adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn sicr, nid wyf fi am wneud hynny. Ond mae'r cynnig hwn, fel yn achos cynifer o'n gweithredoedd yn y blaid hon, a chydag Aelodau Cynulliad eraill o'r un anian, yn ymwneud â cheisio mynd i'r afael â'r pragmataidd a wynebu'r realiti, fel y mae pethau, ein bod ar y trywydd i adael yr Undeb Ewropeaidd a rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr fod ymadael o fudd i Gymru.

Yn y blaid hon, credwn y dylem fod yn aelod o'r farchnad sengl ar ôl Brexit. Yn y blaid hon, credwn y dylem fod yn aelod o'r undeb tollau ar ôl Brexit, yr unig undeb tollau sy'n gallu diogelu amaethyddiaeth Cymru, sy'n gallu achub swyddi yng Nghymru, sy'n gallu atal porthladd Caergybi yn fy etholaeth rhag cael ei dagu—nid oes lle ynddo i gynnal gwiriadau o lorïau. A diolch i Dai Rees am siarad mor huawdl o blaid ein cynnig y prynhawn yma, oherwydd dyna roeddech chi'n ei wneud, mewn gwirionedd. Rwy'n deall bod llinell wedi'i gosod bellach gan arweinydd y Blaid Lafur ar undeb tollau, ac rydych yn dilyn y llinell honno'n ufudd, ond gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen inni ei ddiogelu er mwyn gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod wrth inni symud ymlaen.

Mae yna bobl yn cwyno ynglŷn â chael eu rhwymo gan reolau Ewropeaidd. Beth ar y ddaear sydd o'i le ar gael ein rhwymo gan reolau sydd mewn gwirionedd yn gweithio o'n plaid—o blaid swyddi yng Nghymru, o blaid cymunedau Cymru ac economi Cymru? Cefnogwch y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwy'n symud i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adrefnu gweinidogol—adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal 26, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Paul Davies a Rhun ap Iorwerth, i gywiro'n hunan. 

17:45

NDM6668 - Dadl ar cynnig y Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 25, Yn erbyn: 0, Ymatal: 26

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf felly ar ddadl Plaid Cymru ar ddarlledu, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.  

NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6669 - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3. 

NDM6669 - Gwelliant 3: O blaid: 41, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4. 

NDM6669 - Gwelliant 4: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 5. 

NDM6669 - Gwelliant 5: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 6. 

NDM6669 - Gwelliant 6: O blaid: 43, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6669 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru;

2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol;

3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach;

4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;

5. Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams;

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol;

7. Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith;

8. Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau;

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen; 

10. Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd;

11. Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 41, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw dadl Plaid Cymru ar barhau ag aelodaeth o'r undeb dollau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, pleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1. 

NDM6670 - Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

NDM6670 - Gwelliant 2: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.  

Cynnig NDM6670 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd : O blaid: 27, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

17:50

Diolch, Lywydd. Codaf y pwynt o drefn hwn o dan fusnes y Cyfarfod Llawn. Yng ngoleuni'r ffaith bod y lle hwn newydd bleidleisio o blaid y ddadl ar y cyd heddiw rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru, yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol i gyhoeddi ei hadroddiad diweddar ar ddatgelu gwybodaeth Llywodraeth Cymru heb ganiatâd, hoffwn ofyn am eglurhad gennych chi, Lywydd, ar statws y bleidlais heddiw. O gofio bod y Senedd hon bellach wedi pleidleisio o blaid y cynnig hwn yn galw am fwy o dryloywder, gofynnaf am eich arweiniad ynglŷn ag a ddylid parchu'r bleidlais hon yn awr, ar ran pobl Cymru.

Diolch i chi am y pwynt hwnnw. Mae unrhyw bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig ac mae iddi rym a mater i'r Llywodraeth yn awr, wrth gwrs, yw penderfynu sut y bydd yn dymuno ymateb, ond buaswn yn disgwyl iddi fod o ddifrif ynghylch unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd hon.

11. Dadl Fer—gohiriwyd tan 14 Mawrth

Gohiriwyd yr eitem nesaf ac felly daw hynny â'r trafodaethau i ben am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.