Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/02/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant.

Cefnogaeth ar gyfer Chwaraeon Proffesiynol

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer chwaraeon proffesiynol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51719

Gan fod hyn yn rhan o fy mhortffolio, rwy'n falch iawn o allu ymateb, yn enwedig heddiw, pan fo’n rhaid i mi ddechrau drwy ateb eich cwestiwn: ydw, rwy’n edrych ymlaen at lwyddiant ysgubol i Gasnewydd heno.

Diolch. A chan fod pawb wedi cytuno â’r rhan gynnar honno o fy ymateb, rwyf am barhau.

Datblygiad chwaraeon proffesiynol yw uchafbwynt system llwybr, ac nid wyf erioed wedi gweld unrhyw wrthdaro rhwng buddsoddi mewn chwaraeon cymunedol a chwaraeon proffesiynol, gan mai o gymunedau y tyf athletwyr proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, er enghraifft, i gefnogi datblygiad pêl-droed, sy'n galluogi pobl ifanc i gael cyfleoedd o ansawdd gwell i chwarae, a gall arwain at gamu ymlaen, fel y dywedais, i'r lefel broffesiynol. Darparwyd miliwn o bunnoedd, gan gynnwys arian y loteri, i gefnogi pêl-droed Cymru y llynedd, wedi'i sianelu drwy Chwaraeon Cymru i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Diolch, Weinidog, a diolch am y gefnogaeth, ac am y gefnogaeth frwd ar draws y Siambr. Heno, bydd Clwb Pêl-droed Casnewydd yn ceisio adeiladu ar eu perfformiad gwych yn Rodney Parade, yn eu gêm ailchwarae yn erbyn Tottenham Hotspur yng Nghwpan yr FA yn Wembley. Wedi inni oroesi o drwch blewyn y tymor diwethaf, mae hyn wedi helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr a fydd yn cefnogi Clwb Pêl-droed Casnewydd am byth. Gall chwaraeon proffesiynol ysgogi a dod â phobl at ei gilydd, ond mae'n ymwneud â mwy na chwaraewyr y tîm cyntaf. Mae rhaglen y gymuned a’r sir, o dan arweiniad Norman Parselle, yn darparu prosiectau chwaraeon i gynlluniau yng Nghasnewydd, Torfaen a Sir Fynwy. Maent wedi cynyddu cyfranogiad o blant tair oed i bobl 83 oed—yn ddynion, menywod a phlant, o bob gallu a phob cefndir. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda chlybiau fel Clwb Pêl-droed Casnewydd, a'u tîm cymunedol, i ehangu manteision chwaraeon proffesiynol? Ac a wnewch chi ymuno â mi i gyfarfod â Chlwb Pêl-droed Casnewydd a'u tîm cymunedol i weld peth o'r gwaith rhagorol hwnnw, ar y cae chwarae ac oddi arno?

Byddai'n bleser gennyf ddod gyda chi i'w cyfarfod, yn amlwg, a dathlu llwyddiant heno, gobeithio. Mae’r buddsoddiad allweddol a wnawn, drwy Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn mynd tuag at ddatblygu pêl-droed yng Nghymru, ac mae systemau ar gyfer datblygu'r gêm yn galluogi mwy i chwarae, cyrraedd lefel uwch o gystadleuaeth, a chamu ymlaen. Ac ar y pen uchaf, mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi £7.4 miliwn y flwyddyn, at ei gilydd, mewn chwaraeon elitaidd, ac mae hynny hefyd yn cynnwys buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol, ac mae hyn yn cyfateb i oddeutu 17 y cant o gyfanswm incwm Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol. Felly, mae'r hyn rydym yn ei wneud gyda phêl-droed a rygbi, a chriced i raddau llai—ond rwy'n gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny—ac yn sicr gyda hoci, i sôn am rai o'r cyrff llywodraethu rwyf wedi cyfarfod â hwy, mae'r hyn rydym yn ei fuddsoddi yn y cyrff llywodraethu cenedlaethol hyn yn fuddsoddiadau sy'n treiddio, fel yr awgrymoch yn eich cwestiwn, drwy'r gymuned gyfan, ac mae hynny'n digwydd ledled Cymru. Fel rhywun a ddechreuodd geisio chwarae rygbi ar gaeau pêl-droed yn y gogledd, rwy'n falch iawn o lwyddiant Rygbi Gogledd Cymru, sy'n enghraifft arall, mewn camp arall, o'r hyn y gellir ei gyflawni ar y lefel ranbarthol.

Hoffwn innau ddymuno pob lwc oddi wrth y grŵp Ceidwadol i Glwb Pêl-droed Casnewydd wrth iddynt chwarae yn Wembley heno. Efallai y gall perfformiad Abertawe neithiwr eu hysbrydoli. O gofio bod Rodney Parade ym mherchnogaeth Undeb Rygbi Cymru ers diwedd y llynedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Clwb Pêl-droed Casnewydd a'r Dreigiau i barhau i rannu'r cae chwarae wedi i'r brydles bresennol ddod i ben yn 2023?

Wel, fe wnawn hynny ym mhob ffordd—. Nid wyf wedi trafod y mater hwn gyda'r clybiau perthnasol, ond o ran unrhyw anghenion penodol sydd gan y clybiau pêl-droed a'r clybiau rygbi unigol, byddem yn fwy na pharod i gefnogi rhagor o safleoedd a rennir. Y peth pwysig yw nad yw'r safleoedd a rennir yn cael eu gorddefnyddio, ac mae hwn yn fater allweddol sy'n rhaid mynd i'r afael ag ef, sef yr hyn sy'n digwydd yn stadiwm Liberty, yr hyn sy'n digwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr hyn sy'n digwydd bellach yn Rodney Parade, a'r hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, yn yr enghraifft a ddyfynnais, yn y gogledd ym Mharc Eirias. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn ddatblygu ymhellach, yn ogystal â'r buddsoddiad pellach sy'n dod i mewn yn Wrecsam. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn ddatblygu'r defnydd mwyaf posibl o'n cyfleusterau. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod cyfleusterau cyhoeddus, boed hynny mewn addysg neu unrhyw ran arall o'n bywydau, a ddarparwyd ar gyfer y cyhoedd drwy gyllid y Llywodraeth, ar gael, nid 24 awr y dydd, ond o leiaf gyda'r nos ac ar benwythnosau i sicrhau y gall pobl eu defnyddio.

13:35
Teithio Llesol yng Nghwm Cynon

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol yng Nghwm Cynon? OAQ51722

Gwnaf. Mae ein rhaglen i hyrwyddo teithio llesol, Teithiau Iach, yn cael ei darparu i ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion yng Nghwm Cynon. Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswydd i hyrwyddo teithio llesol yn eu cymuned, a byddaf yn darparu datganiad llafar ar deithio llesol y mis hwn, ar 27 Chwefror, rwy'n credu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan archwiliodd Sustrans sut y gellid trawsnewid 25 o dwnelau rheilffyrdd nas defnyddir yng Nghymru yn llwybrau teithio llesol, daeth un dewis i'r brig. Y dewis hwnnw oedd twnnel Aber-nant, rhwng Cwm-bach yn fy etholaeth a Merthyr Tudful, a gafodd y sgôr uchaf ar y system raddio o ran y gymhareb cost a budd a'r amcangyfrif o ddefnydd blynyddol. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf a chyngor Merthyr Tudful wedi gwneud peth gwaith ar hyn, ond sut y gall Llywodraeth Cymru ymwneud â'r cynllun hwn a'i gefnogi, cynllun sydd â chryn botensial o ran hyrwyddo beicio a cherdded yn y Cymoedd?

Wel, cytunaf yn llwyr â'r Aelod. Mae gan Gymru ddigonedd o dwnelau rheilffyrdd gwych y gellid eu defnyddio at ddibenion beicio a cherdded, yn enwedig ar gyfer y sector twristiaeth, ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi rhoi hyd at £25,000 i gyngor Merthyr Tudful mewn cyllid trafnidiaeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon er mwyn ymgymryd â gwaith arwain arfarnu trafnidiaeth Cymru ar dwnnel Aber-nant. Ac mae'r Aelod hefyd yn iawn mai'r twnnel arbennig hwnnw oedd ar frig y rhestr. Rhoddwyd pum twnnel ar y rhestr fer ar gyfer gwaith pellach: Aber-nant, Rhondda, Pennar, Tregarth a Brynbuga. Ystyriwyd mai Aber-nant oedd y mwyaf tebygol o allu darparu canlyniadau yn y tymor byr. Rydym hefyd yn ystyried cais am £40,000 ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i gynnal arolwg strwythurol ar gyfer y twnnel penodol hwnnw, er mwyn nodi'r costau cynnal a chadw posibl ar gyfer yr ased yn y tymor hir.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddweud nad wyf wedi gweld twll botwm mor gain er pan oedd William Graham yn Aelod o'r Siambr?

Fe fyddwch yn ymwybodol fod digwyddiad Tour of Britain 2016 wedi bod yn llwyddiant enfawr i gwm Cynon, nid yn unig o ran ei fanteision economaidd, ond hefyd o ran hyrwyddo beicio. Gwn ei fod ar y lefel elitaidd, ond gall hynny ysbrydoli'r gweddill ohonom. Credaf fod y llwybr ar gyfer 2018 ar fin cael ei gyhoeddi, ac roedd Rhondda Cynon Taf yn gobeithio cynnal cam cychwyn y ras. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfleu'r manteision iechyd i bobl, yn ogystal â'r manteision o ran cyflymder teithiau y gallwch eu cael drwy feicio, ac mae'n gyfle gwych i wneud hynny pan ddaw'r digwyddiadau chwaraeon pwysig hyn yma.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac ychwanegu bod ei ddillad trwsiadus yn y Siambr wedi fy ysbrydoli innau ers blynyddoedd lawer?

Mae'r Aelod yn llygad ei le y gall athletwyr elitaidd ysbrydoli pobl, yn enwedig yn y chwaraeon hynny a all ddylanwadu ar newid ymddygiad mewn bywyd bob dydd, megis beicio, nofio, cerdded a rhedeg. Rydym yn awyddus, drwy raglenni a ddarperir gan gyrff proffesiynol, a hefyd, drwy raglenni a ddarperir ar lefel awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad at gyfleoedd i feicio a cherdded, eu bod yn cael y cymorth cywir, a'u bod yn cael yr hyfforddiant cywir hefyd. A dyna pam rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi'r rhaglenni iawn ar lefel ysgolion, ac rydym yn gwneud hynny drwy ymestyn y rhaglen yn ystadau ein hysgolion am flwyddyn arall er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir a'r hyder gan ein pobl ifanc i allu beicio ar sail ddyddiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, David Rowlands. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r cynhyrchiant isaf o unrhyw un o wledydd y DU, sef 83 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae economegwyr wedi nodi bod gwella cynhyrchiant yn hollbwysig i'n dyfodol economaidd. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau i wella lefelau cynhyrchiant yng Nghymru?

13:40

Gallaf, yn sicr. Mae'r Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod yr her o ran cynhyrchiant yn rhan hanfodol o'n strategaethau diwydiannol ac economaidd. O ran yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn edrych ar y ffactorau sy'n cyfrannu at y broses o sicrhau bod yr economi yn fwy cynhyrchiol. Yng Nghymru, rydym wedi dadansoddi'r ffactorau hynny ac wedi canfod bod codi lefelau sgiliau a chynyddu buddsoddiad mewn seilwaith modern a sicrhau bod y technegau rheoli cywir ar waith gennym yn hollbwysig wrth ddatblygu economi fwy cynhyrchiol. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod yr economi yn newid ar fyrder a bod angen inni newid siâp yr economi er mwyn denu mwy o fuddsoddiad a fydd yn seiliedig ar ddiwydiannau uwch-dechnoleg y dyfodol. Ac mae angen inni hefyd ystyried y ffaith, os oes gennych weithlu lle mae'r lles yn wael a lle na all y gweithwyr wneud y cyfraniad yr hoffent ei wneud yn ystod eu diwrnod gwaith, y bydd hynny'n effeithio ar gystadleurwydd a chynhyrchiant y busnes. Felly, drwy ein contract economaidd, ac wedyn, drwy'r galw am weithredu, rydym yn mynd i’r afael â’r problemau sy'n llesteirio ein heconomi, yn benodol, yr her y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys o ran cynhyrchiant.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod angen asesu a mesur unrhyw strategaeth neu gynllun gwella dros amser. Golyga hyn fod yn rhaid i'r Llywodraeth roi dangosyddion economaidd sy'n hwyluso'r dadansoddiad hwn ar waith. Wrth gwrs,mae a wnelo hyn â'r sector cyhoeddus, sy’n enwog am fod yn anghynhyrchiol, lawn cymaint â’r sector preifat. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi amlinelliad inni o unrhyw ffigurau targed neu strategaethau sydd ganddo ar waith i fesur y cynnydd a wneir, neu fel arall?

Rydym yn sicrhau bod ein dangosyddion yn gyson ar draws y Llywodraeth. Felly, bydd y dangosyddion lles yn cael eu defnyddio gyda'n hymyriadau yng nghyswllt datblygiad economaidd, ond fel rwyf wedi’i ddweud eisoes yn y Siambr hon, rwyf hefyd yn awyddus i weld cryn her ryngwladol mewn perthynas â gweithgarwch y Llywodraeth hon. Felly, rydym wedi agor trafodaethau gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Rwyf hefyd yn bwriadu agor trafodaethau gyda Fforwm Economaidd y Byd ynglŷn â sut y gallant herio a phrofi effeithiolrwydd ein cynllun gweithredu economaidd.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond o ystyried y ffigurau brawychus megis y ffaith bod lleoedd fel Camden yn Llundain 23 gwaith yn fwy cynhyrchiol na gogledd Cymru fesul y pen o'r boblogaeth, ymddengys fod bwlch enfawr i'w lenwi. Dywed yr economegwyr nad ydynt yn synnu at ddiffyg cynhyrchiant Cymru, gan nodi lefelau isel o fuddsoddiad busnes, seilwaith trafnidiaeth gwael a'n diffyg buddsoddiad mewn sgiliau, a lefelau isel o ran arloesedd—pob un yn ffactor hanfodol sy'n effeithio ar gynhyrchiant. A ydych yn hyderus, Ysgrifennydd y Cabinet, fod strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i sicrhau ehangiad economaidd deinamig a sbardunir gan fentrau preifat, neu’r ‘ffrwydrad’, dylwn ddweud, efallai, y mae taer ei angen ar Gymru?

Ydw, a chan gyfeirio at bwynt cyntaf yr Aelod, mae taer angen ailgydbwyso economi’r Deyrnas Unedig. Unwaith eto, cyfeirir at hynny yn strategaeth ddiwydiannol y DU, ac mae wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd ochr yn ochr â'n hymrwymiad i rymuso rhanbarthau Cymru. Ond bydd y galw am weithredu a'r contract economaidd yn mynd i’r afael â phob un o'r ffactorau hynny a amlinellwyd gan yr Aelod sy’n cyfrannu at economi fwy cynhyrchiol. Felly, er mwyn sicrhau cefnogaeth gan y Llywodraeth, mae'n rhaid i chi fodloni set o feini prawf a fydd yn ymwneud â sgiliau, yn ymwneud â lles y gweithlu ac yn ymwneud â sicrhau bod gennych botensial o ran twf. Ond wedyn, bydd ein cefnogaeth yn y dyfodol yn cael ei herio drwy brism newydd. Y prism fydd y galw am weithredu, gyda'r nod, unwaith eto, o sicrhau mwy o arloesedd ar draws yr economi, sicrhau bod gennym fwy o ymrwymiad i ddatblygu sgiliau lefel uchel ar draws y gweithlu ym mhob sector a sicrhau bod busnesau yn gallu herio'r Llywodraeth i gyflwyno rhaglenni cyllido sy'n bodloni eu gofynion hwythau hefyd.

Diolch, Lywydd. Ymddangosodd yr Ysgrifennydd Parhaol a swyddogion eraill gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun i roi tystiolaeth mewn perthynas â phrosiect Cylchffordd Cymru. Yn y sesiwn honno, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, am y tro cyntaf, rwy’n credu, eich bod wedi dod i'r casgliad na fyddai modd darparu unrhyw ateb oni bai fod gwarant Llywodraeth Cymru yn cael ei gostwng 50 y cant o leiaf—a’i lleihau, i bob pwrpas, i oddeutu 25 y cant o gyfanswm cost y prosiect. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio eich bod wedi cyhoeddi targed o 50 y cant o gyfanswm y gost a 50 y cant o'r risg, ym mis Gorffennaf 2016, rwy'n credu, pam na ddywedoch wrth y Cynulliad fod hynny, i bob pwrpas, wedi newid i 50 y cant o'r risg a 25 y cant o gost y prosiect, yn enwedig gan nad dyna oedd y tro cyntaf, wrth gwrs, i byst y gôl gael eu symud? Yn fwy perthnasol, a allwch roi sylw penodol i'r cwestiynau na allai'r swyddogion eu hateb ddydd Llun? A ddywedwyd wrth y cwmni neu'r partneriaid eraill yn y sector preifat, cyn penderfyniad y Cabinet, fod angen lleihau'r warant ymhellach yn y ffordd y disgrifiodd yr Ysgrifennydd Parhaol? Ac a ddywedwyd wrth brif weithredwyr y cwmni ar y dydd Gwener blaenorol nad oedd unrhyw broblemau sylweddol neu faterion eraill wedi cael eu nodi drwy'r broses ddiwydrwydd dyladwy?

13:45

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a chadarnhau beth yn union a ddywedasom wrth Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd? Yn ôl yn 2016, dywedais wrth Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd na fyddai unrhyw gynnig newydd i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cael ei ystyried hyd nes y byddai o leiaf 50 y cant o'r cyllid a 50 y cant o'r risg yn cael ei ysgwyddo gan y sector preifat, ac roedd angen i'r prosiect ddarparu tystiolaeth o werth am arian hefyd. Ni ddaeth Llywodraeth Cymru i gasgliad ffurfiol ynghylch pa lefel o sicrwydd na fyddai'n arwain at risg dosbarthiad yn ymarferol. Fodd bynnag, gellir dangos y byddai angen gwarant lai o lawer i leihau'r risg o gael dyfarniad dosbarthiad anffafriol—gostyngiad o fwy na 50 y cant, o bosibl—ond ni ellir nodi unrhyw ffigur pendant mewn termau haniaethol. Nawr, ni fyddai lleihau'r risg dosbarthiad wedi sicrhau, o reidrwydd, y byddai'r prosiect yn gymwys i dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw risg dosbarthiad yr un peth â risg fasnachol i'r Llywodraeth nac uwch arianwyr y cynllun, a fyddai wedi buddsoddi mewn cynnig gyda phroffil risg a gwobr gwahanol.

Rwyf wedi dweud sawl tro ein bod wedi gweithio gyda chefnogwyr Cylchffordd Cymru i geisio sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant ac yn brosiect ymarferol. Rydym yn bwrw ymlaen bellach gyda'r parc technoleg fodurol £100 miliwn, ac mae hyn eisoes yn denu cryn ddiddordeb o bob cwr o'r byd ac rydym yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu'r safleoedd angenrheidiol er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno.

A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiynau manwl a ofynnais iddo, ac yn wir, y cwestiynau a ofynnais i swyddogion ddydd Llun? Felly, a ddywedwyd wrth y cwmni, cyn penderfyniad y Cabinet, ynglŷn â'r asesiad a ddisgrifiodd yr Ysgrifennydd Parhaol o ran yr angen i leihau'r warant ymhellach? A hefyd, a ddywedwyd wrthynt y dydd Gwener blaenorol, cyn penderfyniad y Cabinet, nad oedd unrhyw broblemau sylweddol? Nawr, roedd mater dosbarthiad y fantolen yn greiddiol i benderfyniad y Llywodraeth i wrthod y cynnig. Gwyddom o'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol fod Trysorlys Cymru wedi rhoi cyngor ar ddosbarthiad y fantolen ar 20 Mehefin y llynedd. Nawr, mae rhywfaint o amwysedd yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd ddydd Llun ynglŷn ag a oedd y swyddog neu'r swyddogion a roddodd y cyngor hwnnw ar ddosbarthiad ar 20 Mehefin yn gwbl ymwybodol o nifer o fanylion perthnasol ynglŷn â'r prosiect. Yn benodol, unwaith eto, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd y swyddog neu'r swyddogion yn Nhrysorlys Cymru a roddodd y cyngor hwnnw ar ddosbarthiad ar 20 Mehefin yn ymwybodol, ar y pryd, fod y warant ond yn cychwyn wedi i'r prosiect gael ei gwblhau?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau? Ac er mwyn rhoi'r eglurhad y gofynnodd amdano, byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ofyn i swyddogion Trysorlys Cymru ddarparu'r atebion y mae'n gofyn amdanynt. Pa un a ddywedwyd wrth y cwmni nad oedd unrhyw broblemau sylweddol, unwaith eto, byddai angen i mi ofyn i fy swyddogion a yw hynny'n wir. Nid wyf yn ymwybodol o'r trafodaethau a allai fod wedi arwain at roi'r sicrwydd hwnnw, ond byddaf yn gofyn i fy swyddogion am eglurhad.

Ac a allai ofyn hefyd am eglurhad ynglŷn â'r cwestiwn arall nad atebodd?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyfweliad a roesoch yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 29 Mehefin i Brian Meechan ar raglen Wales at Work, credaf ichi ddweud bod eich drws ar agor o hyd pe bai cynnig wedi'i ailstrwythuro'n cael ei gyflwyno, a'ch bod yn barod i drafod eto. A dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei sylwadau ddydd Llun mai'r rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cymaint o amser ac arian ac egni yn y prosiect hwn oedd oherwydd ei botensial enfawr i sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn rhan o Gymru nad yw wedi cael buddsoddiad ar y fath raddfa.

Nawr, rwy'n deall bod ymgais barhaus yn mynd rhagddi i ailstrwythuro'r cynnig, i'w gyflwyno ar ffurf wahanol, a bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol gydag awdurdodau lleol. Os byddant yn dwyn ffrwyth, a fyddai'r Llywodraeth yn rhoi ei sêl bendith yn hytrach na chefnogaeth ariannol, a chroesawu'r posibilrwydd y gallai cynnig ailstrwythuro arwain at y buddsoddiad mawr ei angen a ragwelwyd yng Nglynebwy?

13:50

Credaf ei bod yn bwysig fod y Llywodraeth yn ystyried pob cynnig dilys ar gyfer datblygiad economaidd ym mhob rhan o Gymru. O ran Blaenau'r Cymoedd, rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu'r parc technoleg fodurol. Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, canfuwyd nad oedd angen y gylchffordd a gynigiwyd—y cynnig penodol hwnnw—er mwyn datblygu clwstwr; fodd bynnag, gallai cyfleuster profi, a fyddai'n debyg i gylchffordd, ategu'r broses o ddatblygu parc technoleg fodurol, ac yn wir, gallai adeiladu ar y buddsoddiad a allai fynd tuag ato. Felly, rwy'n parhau i fod â meddwl agored ynghylch datblygiad hirdymor y prosiect penodol hwnnw.

Yn y tymor byr, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu cyfleuster addas a allai roi hwb i'r weledigaeth o ddarparu 1,500 o swyddi. Yn y tymor hwy, mae'n hollol bosibl y gallai fod angen cyfleuster profi ar gwmnïau modurol a fydd wedi'u lleoli yn y parc technoleg, ac mae hynny'n rhywbeth—credaf y gallwn ei seilio ar dechnoleg 5G. Os gallwn ei seilio ar dechnoleg awtonomaidd a chysylltiedig byddai'n rhywbeth a fyddai'n darparu pwynt gwerthu unigryw i Gymru, ond yn enwedig i Flaenau'r Cymoedd, mewn marchnad fyd-eang.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad pwyllgor yr economi ar y bargeinion dinesig, os caf, a'r argymhelliad y dylai ffiniau ardal y fargen fod mor hyblyg a niwlog â phosibl. Nawr, fe wrthodoch yr argymhelliad ar sail llywodraethu, gan egluro yn y ddadl bythefnos yn ôl eich bod yn penodi dau brif swyddog rhanbarthol i sicrhau bod y bargeinion yn ategu ei gilydd, ac felly fod y ffiniau niwlog hyn yn ddiangen. Tybed beth y gallwch ei ddweud wrthym ynglŷn â'r prif swyddogion rhanbarthol hyn, gan nad ydynt wedi codi mewn trafodaethau agored fel hyn o'r blaen. Ai'r Llywodraeth fydd yn eu penodi a'u hariannu, pwy fydd yn eu harwain, ac i bwy y byddant yn atebol?

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Credaf ei bod yn bwysig ailystyried y mater hwn. Roedd fy mhryderon, i raddau helaeth, yn ymwneud â'r geiriad, y ffiniau 'niwlog', a goblygiadau posibl hynny i'r strwythurau llywodraethu sydd eisoes ar waith. Fy ngweledigaeth ar gyfer y prif swyddogion rhanbarthol, yw mai hwy fydd lleisiau'r Llywodraeth yn y rhanbarthau, ond hefyd, yn hollbwysig, llais y rhanbarthau yn y Llywodraeth, gyda'r gallu i ddylanwadu ar Weinidogion Cymru, nid yn unig yn fy adran i, ond ar draws y Llywodraeth, ynglŷn â'r hyn sydd ei angen ar bob un o'r rhanbarthau hynny er mwyn dod yn fwy cynhyrchiol a chynhyrchu mwy o ffyniant.

Yn y lle cyntaf, byddant yn dod â chynlluniau busnes at ei gilydd ar draws pob un o'r rhanbarthau—cynlluniau busnes a fydd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf a chyda llywodraeth leol ar draws pob rhanbarth a chyda mwy o ymgysylltiad rhanddeiliaid, gan gynnwys cyrff cynrychiadol megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a phartneriaid undebau llafur hefyd. Felly, drwy ddatblygu cynllun busnes rhanbarthol a fydd yn archwilio beth yw'r llif o gyfleoedd ym mhobman, bydd modd inni sicrhau y gellir sicrhau bod pob menter ar draws y Llywodraeth, boed yn fargeinion dinesig a bargeinion twf, boed yn ddatblygu seilwaith, boed yn ddatblygu ysbytai ac ysgolion a darpariaeth hyfforddiant sgiliau, i gydweddu â'r prosiectau rhanbarthol cryf a fydd yn datblygu'r economi yng Nghymru yn y dyfodol.

Diolch am eich ateb. Credaf mai'r hyn a gefais o hynny oedd mai unigolion o Lywodraeth Cymru ydynt.

Mae hynny'n iawn, diolch. Yn yr un adroddiad, wrth gwrs, nodwyd bod llywodraethu a chraffu hefyd yn destunau pryder. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fydd bwrdd bargen ddinesig Abertawe wedi'i sefydlu, ac yn cynnwys, fel y bydd, arweinwyr awdurdodau lleol wrth gwrs, ni fydd ei waith yn dychwelyd at yr awdurdodau lleol iddynt allu graffu arno, nac unrhyw gyrff cynghori ategol ychwaith—[Anghlywadwy.]—megis y grŵp strategaeth economaidd. A allwch gadarnhau, felly, a yw'r rôl graffu felly yn cael ei hysgwyddo'n llwyr gan y ddwy Lywodraeth, ac os felly, pa ddangosyddion perfformiad allweddol cyfunol ac ar wahân a bennwyd gennych eisoes ar gyfer yr asesiadau porth, gan mai hwy, wrth gwrs, fydd y bygythiad mwyaf i lwyddiant y bargeinion hyn?

13:55

Mae hwn yn gwestiwn, i raddau helaeth, i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n arwain ar y bargeinion dinesig yn y de, sef Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd cyllid. Ond mae gweithio i sicrhau bod pob un o'r prosiectau'n cyflawni'r nodau roeddent i fod i'w cyflawni, eu bod yn creu'r swyddi yr hoffem eu gweld yn cael eu creu yn y rhanbarthau hynny, ac yn arbennig yn ardal bae Abertawe, mae'n gwbl hanfodol y gellir cyflawni pob un o'r prosiectau a'u bod yn cyflawni'r dyheadau y mae'r cymunedau a gynrychiolir gan yr awdurdodau lleol yn gobeithio eu gweld yn cael eu cyflawni.

Nawr, o ran y prif swyddogion rhanbarthol, dylwn fod wedi ychwanegu hefyd y gallai'r rolau hyn esblygu yn y dyfodol. Dyma'r tro cyntaf inni gael strwythur lle mae gennym unigolion a all ddod yn bwyntiau cyswllt unigol ar gyfer llywodraeth leol, ar gyfer busnesau ac ar gyfer sefydliadau rhanddeiliaid. A dros amser, credaf y bydd y prif swyddogion rhanbarthol yn dod yn fwyfwy pwysig o ran eu gallu i sicrhau bod pob un o'r rhanbarthau'n gweithio mewn ffordd gyfunol ac mewn ffordd sy'n ategu gwaith ei gilydd, fel y gallwn osgoi cystadlu diangen a niweidiol rhwng y rhanbarthau yng Nghymru.

Diolch, a diolch am ymhelaethu hefyd, gan fy mod wedi gobeithio y byddech yn dweud 'osgoi dyblygu ymdrech'. A diolch am ateb y cwestiwn. Rwy'n derbyn bod rhywfaint o hyn yn gyfrifoldeb ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond fel Ysgrifennydd yr economi, buaswn yn gobeithio y byddech o leiaf yn chwarae rhan yn y gwaith o ddiffinio'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny.

Mae'r bargeinion, wrth gwrs, wedi cael llawer o sylw yn y wasg dros y flwyddyn ddiwethaf. Golyga hynny fod busnesau wedi bod yn cysylltu â mi i ofyn sut y gallant gymryd rhan, ac rwyf eisoes wedi crybwyll enghraifft yr Associated British Ports, a allai, yn fy marn i, chwarae rhan amlwg yn eich strategaeth ar gyfer porthladdoedd. Gyda'u harbenigedd logistaidd a'u profiad, credaf y gallent chwarae rhan allweddol yn y fargen ddinesig hefyd. Ym mis Medi y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n gofyn i'r bwrdd cysgodol beth y maent yn ei wneud i ymgysylltu ag ABP, ond nid yw ABP wedi clywed unrhyw beth gan y bwrdd cysgodol o hyd. Felly, tybed a allech wirio a rhoi gwybod inni a yw'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu, a pha ymateb a gafodd i'r ymholiad penodol hwnnw, ond yn fwy cyffredinol, sut y mae'r bwrdd yn ymateb i unrhyw gais a wnewch iddynt yn awr ynglŷn â sut y gellid diwygio prosiectau'r bargeinion dinesig er mwyn iddynt gyd-fynd yn well â strategaethau a gynhyrchwyd wedi hynny gan Lywodraeth Cymru—strategaethau'r economi a'r porthladdoedd yw'r rhai amlwg, ond y rheini a ddaeth ar ôl y fargen ddinesig, yn hytrach na chyn hynny.

Gallaf, yn sicr. Ac unwaith eto, bydd hynny'n swyddogaeth ar gyfer y prif swyddogion rhanbarthol. Rydym wedi bod yn eithaf cyson yn ein galwad ar y bwrdd cysgodol i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y gwnawn yn Llywodraeth Cymru, gyda busnesau, gyda chynrychiolwyr busnes, gyda phartneriaid undebau llafur a chyda'r trydydd sector. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, gyda phrosiectau o'r maint hwn, cael ymrwymiad llwyr y gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill, fel rwy'n dweud, gan y mudiad undebau llafur a'r trydydd sector. Byddaf yn sicrhau bod ateb yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chyfraniad posibl ABP. Fel rydych yn iawn i ddweud, mae ABP yn gyflogwr pwysig ac yn fusnes sylweddol a allai chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad y fargen ddinesig a'r prosiectau sy'n rhan ohoni.

Enwau Lleoedd Cynhenid

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd hybu enwau lleoedd cynhenid i dwristiaeth? OAQ51723

Diolch yn fawr. Fel y Gweinidog cyfrifol, fy ymateb cyntaf i ydy bod enwau lleoedd, fel pob defnydd arall o ieithoedd cenedlaethol a chymunedol, yn rhan allweddol o greu naws am le i ddinasyddion ac ymwelwyr â Chymru, fel ag unrhyw wlad arall, ac mae Croeso Cymru yn annog busnesau twristiaeth i gadw a defnyddio enwau Cymraeg ar gyfer busnesau.

Diolch am yr ymateb yna. Mae enwau llefydd, wrth gwrs, yn rhan o'n treftadaeth ni. Mae'n bwysig eu dathlu nhw, ond, yn bennaf oll, mae'n bwysig eu defnyddio nhw. Rydym ni i gyd yn gwybod am enghreifftiau o enwau sydd yn, neu wedi, cael eu newid. Roeddwn i'n clywed, yr wythnos yma, am 'Sausage island' yn Ynys Môn—Ynyslas ydy honno. Rydw i'n gobeithio y bydd pawb yn pleidleisio dros un o draethau gorau Cymru yng nghystadleuaeth Countryfile y BBC, ond nid 'Newborough beach' ydy enw'r traeth sydd ar y rhestr fer, ond Llanddwyn—un o'n traethau mwyaf eiconig ni. Ac, a dweud y gwir, mae'r llun sy'n cael ei ddefnyddio gan Countryfile o draeth Penrhos, sydd yr ochr arall i Ynys Llanddwyn. 

Mae yna restrau ohonyn nhw: Porth Trecastell, Porth Swtan, Porth Llechog. Dyna ydyn nhw; nid Cable Bay, Church Bay a Bull Bay. Rydw i'n wirioneddol yn credu bod trio mynd yn ôl at ddefnyddio’r enwau cynhenid yma yn gallu bod yn rhywbeth a allai fod yn rhoi rhagor o werth i’n hatyniad twristaidd ni i bobl sy’n dod yma i Gymru. Mi fyddwn i wedi licio i'r ddeddfwriaeth warchod enwau lleoedd, yn hytrach na dim ond cofrestru, ond o ystyried y geiriau cynnes a glywsom ni gennych chi fel Gweinidog, pa gamau y gall y Llywodraeth—pa gamau yr ydych chi'n fodlon eu cymryd i drio’n perswadio ni i fynd yn ôl i ddefnyddio yr enwau hanesyddol, hynafol, cynhenid yma?

14:00

Mae gen i dipyn bach o anhawster gyda’r gair ‘cynhenid’, neu mi fuaswn i’n gorfod siarad Brythoneg yn y lle hwn, ac mi fuaswn i’n cael peth anhawster efo hynny. Ond o ddifrif, mae cydnabod yr etifeddiaeth o enwau lleoedd yn allweddol. Mae rhestr statudol yn rhan o strategaeth y Llywodraeth ar gyfer hynny. Mae wedi ei chyhoeddi ers mis Mai 2017. Mae hi’n cael ei chynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd yn sefydliad pwysig iawn, yn fy marn i, ac yn mynd i barhau i fod felly. Mae’r gofrestr am ddim ar-lein. Mae yna dros 350,000 o enwau unigol i’w gweld ar y rhestr. Mae yna guradur amser llawn yn ei chynnal hi, ac mae’n parhau i dyfu yn gyson. Ac rydym ni o’r farn mai’r ffordd o gryfhau gwerthfawrogiad at enwau hanesyddol ydy bod pobl yn eu gweld nhw fel rhan o’u bywyd beunyddiol.

Nid wyf yn bleidiol i ddileu enwau mewn ieithoedd megis Saesneg yng Nghymru sydd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â’r enwau Cymraeg, oherwydd nid wyf yn meddwl y byddai hynny yn briodol nac yn gyson â’r ddeddfwriaeth ddwyieithrwydd sydd gyda ni. Ond rydw i yn ffyddiog iawn y bydd y cyrff cyhoeddus—y parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen—yn parhau i dalu sylw i’r canllawiau statudol ar ddefnyddio cofnodion yr amgylchedd hanesyddol, ac ar ddefnyddio, yn arbennig, y cofnodion yma o enwau lleoedd.

Weinidog, os caf fynd ar drywydd ychydig yn wahanol i Rhun ap Iorwerth, un ffordd allweddol o hyrwyddo lleoedd yng Nghymru pan fydd twristiaid ac ymwelwyr wedi cyrraedd yma, wrth gwrs, yw drwy arwyddion. Rwy'n cofio sôn wrth Carl Seargant, pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth, am yr arwyddion brown, hen ffasiwn braidd, a blêr mewn rhai achosion, a geir o amgylch Cymru yn hysbysebu ein mannau o ddiddordeb. Dywedodd rai blynyddoedd yn ôl y byddai'n edrych ar adolygu'r ffordd y caiff yr arwyddion eu cyflwyno ac o bosibl, eu gwneud yn fwy ysbrydoledig, gyda mwy o gysylltiad â'r rhyngrwyd. Felly, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych chi a'r Ysgrifennydd Cabinet cyfredol, sydd bellach wedi ei sbarduno i weithredu—mae'r mater hwn yn ymwneud â meysydd y ddau ohonoch wrth gwrs—yn gweithio gyda'ch gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal adolygiad llawn o'r arwyddion brown yng Nghymru fel bod lleoedd fel castell Rhaglan yn fy etholaeth, y byddwch wedi pasio'r arwydd erbyn i chi ei weld, yn cael eu marchnata'n briodol yn fewnol ac yn allanol fel y gallwn gael y gorau o'r holl leoedd sydd gan Gymru i'w cynnig.

Diolch i chi am hynny. Rhaid i arwyddion, yn anad dim, fod yn glir, yn ddealladwy, ac mae'n bwysig nad ydynt yn peri i'r person sy'n edrych ar yr arwyddion, yn enwedig os yw'r person hwnnw'n gyrru, golli'r gallu i ganolbwyntio ar y gwaith y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei wneud. Ond bellach mae gennym ffordd newydd o ddisgrifio sut y mae ymwelwyr yn teithio drwy Gymru, a'r ffordd Gymreig yw honno. Nid y ffordd Gymreig o fyw; mae hwn yn rhywbeth arall—llwybr Cymru—un ar draws y gogledd, un yr holl ffordd i lawr o Aberdaron i Dyddewi, ac un arall wedyn, wrth gwrs, yr A470, fel y gelwir y llwybr adnabyddus hwnnw. Nawr, mae'n bosibl dilyn cyfres gyfan o gyrchfannau ar hyd y llwybr hwnnw, a'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw creu'r syniad o bererindod fodern, neu efallai pererindod ôl-fodern hyd yn oed, lle mae pobl yn mynd i edrych ar bethau sy'n ystyrlon iddynt pan fyddant wedi canfod lle maent ar hyd y llwybrau hynny. Felly, arwyddion, ie, ond yn bwysicach na'r arwyddion uniongyrchol yw'r wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd, y wybodaeth sydd ar gael mewn llyfrynnau twristiaeth, a'r syniad fod Cymru gyfan yn gyrchfan ac yn fan pererindod, fel y dywedais.

14:05
Entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51702

Entrepreneuriaeth yw tanwydd economi ffyniannus, ac mae 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn amlinellu ein camau gweithredu a'n hymyriadau er mwyn cefnogi mwy o entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac ar draws y wlad gyfan.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £4 miliwn i sefydlu pedair canolfan fusnes newydd. Deallaf y bydd hwnnw'n cael ei ariannu'n rhannol gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. Bydd dwy o'r canolfannau newydd yn fy etholaeth i: un yng ngogledd-orllewin Cymru a'r llall yng nghanolbarth Cymru. Wrth gwrs, mae'n fuddsoddiad i'w groesawu'n fawr, oherwydd disgwylir y bydd yn creu swyddi â chyflogau uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr ardaloedd hynny ac yn darparu gofod a chymorth i entrepreneuriaid newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gallwn ddisgwyl i'r canolfannau busnes yng ngogledd a gorllewin Cymru, a chanolbarth Cymru, gael eu sefydlu?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am y diddordeb y mae wedi'i ddangos mewn entrepreneuriaeth yn ei rhanbarth? Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi dyrannu £1 filiwn ar gyfer canolfan arloesi busnes yn Wrecsam, a fydd yn helpu i gefnogi datblygiad 100 o fusnesau newydd a 260 o swyddi dros gyfnod o ddwy flynedd. Rwy'n falch ein bod hefyd wedi gallu cyhoeddi, yn dilyn hynny, £4 miliwn ar gyfer canolfannau arloesi a busnes ar draws gogledd-orllewin Cymru, canolbarth Cymru, de-orllewin Cymru, y Cymoedd a Chymoedd y de-ddwyrain yn ogystal. Pe gellid ailadrodd y ffigurau hynny ar draws pob un o'r canolfannau, buasem yn edrych ar sefydlu cyfanswm o tua 500 o fusnesau newydd a mwy na 1,200 o swyddi newydd dros gyfnod o ddwy flynedd. Ni fyddai ond angen i un neu ddau o'r busnesau hynny ddatblygu i fod yn Google neu'n Apple i ddengwaith y buddsoddiad hwnnw, neu fwy, gael ei dalu'n ôl. Mae'n ddatblygiad cyffrous, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gallu cyhoeddi'r tendrau buddugol ar gyfer y pedair canolfan ychwanegol cyn toriad yr haf. Ac wrth gwrs, yn ddibynnol ar y broses dendro, rwy'n rhagweld y byddant yn gallu bod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o hyrwyddo entrepreneuriaeth yn fwy eang ledled Cymru yw drwy sicrhau bod sgiliau menter yn cael eu haddysgu fel rhan o'r cwricwlwm yma yng Nghymru, er mwyn annog plant a phobl ifanc i edrych ar ffyrdd y gallant ddatblygu a rheoli eu prosiectau eu hunain. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc ar draws pob rhan o Gymru, ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y mater penodol hwn?

Wel, mae wedi bod yn fater penodol rydym wedi'i archwilio'n agos iawn dros y blynyddoedd, gyda'r Ysgrifennydd addysg cyfredol a'i rhagflaenydd hefyd. Bydd newidiadau i'r cwricwlwm yn hanfodol i sbarduno ysbryd entrepreneuraidd ar oedran iau, ond rydym eisoes yn buddsoddi'n helaeth yng ngwasanaeth Syniadau Mawr Cymru sydd wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ledled Nghymru. Mae hynny'n cwmpasu ymyriadau fel Y Criw Mentrus a modelau rôl hefyd. O ganlyniad i'n buddsoddiad a'r ymdrech ar y cyd i wella entrepreneuriaeth ymysg pobl iau, rydym yn awr yn gweld mwy o bobl ifanc sydd eisiau cychwyn eu busnesau eu hunain nag a welwyd erioed o'r blaen. Credaf mai'r rheswm am hynny yw bod pobl ifanc yng Nghymru eisiau defnyddio'u creadigrwydd a'u harloesedd yn yr oes fodern.

Y Fasnachfraint Rheilffyrdd Nesaf

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf? OAQ51711

Gwnaf, wrth gwrs. Mae Trafnidiaeth Cymru, ar hyn o bryd, yn asesu'r tri chynigydd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Bydd y cytundeb yn cael ei ddyfarnu ym mis Mai eleni a bydd yn weithredol o fis Hydref eleni ymlaen.

Mae'r ffaith eich bod yn cynnal y broses o dendro'r fasnachfraint o dan len mor drwchus o gyfrinachedd yn ddirgelwch llwyr. Yn wahanol i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Transport Scotland, rydych yn gwrthod cyhoeddi'r dogfennau gwahoddiad i dendro sydd wedi'u rhoi i gynigwyr. Pe baech yn cyhoeddi'r dogfennau hynny, byddai pobl yng Nghymru—y bobl sy'n cael eu heidio ar y trenau hynny bob dydd—yn cael cyfle i ddadansoddi'r meini prawf a chynnig syniadau ynglŷn â ffyrdd y gellid eu gwella. Gellir beio camgymeriadau'r fasnachfraint rheilffyrdd ddiwethaf ar gyfer Cymru ar gorff hyd braich yn San Steffan.

Fel teithiwr mynych ar reilffyrdd y Cymoedd i lawr o'r Rhondda, nid yw'n syndod i mi weld bod boddhad cwsmeriaid mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru wedi gostwng. Mae'r amodau'n aml yn ofnadwy. Os na fydd pethau'n gwella y tro hwn, ni fydd gennych chi na'ch cyd-Aelodau Llafur yn y Cabinet le i guddio. Pam na wnewch chi gyhoeddi dogfennau'r fasnachfraint, cynnwys y bobl, gwneud eich hun yn agored i fwy o graffu a darparu masnachfraint reilffyrdd well sy'n gweithio i bawb? Beth rydych chi'n ei ofni?

14:10

Nid ydym yn ofni dim. Dylai'r Aelod gydnabod, fodd bynnag, yn gyntaf oll, ein bod yn wlad gyntaf yn y byd i ddilyn y broses hon. Nid yw'n cael ei wneud yn unrhyw le arall yn y byd, mae'n wirioneddol arloesol ac mae wedi cael ei gynllunio i sicrhau ein bod yn herio arbenigwyr yn y maes i gyflwyno'r atebion gorau posibl ar gyfer teithwyr Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod angen gweld newid sylfaenol o ran darparu gwasanaethau, o ran prydlondeb ac o ran boddhad, ac mae pob un o'r cynigwyr wedi cael yr her o gyflwyno mewn amlen yr holl atebion gorau yn seiliedig ar dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, ac yn seiliedig ar yr ymgyrch i gynyddu lefelau boddhad teithwyr.

Nawr, gallaf dderbyn beirniadaeth am beidio â chyhoeddi'r dogfennau tendro llawn ar y cam hwn, ond y rheswm pam na allwn gyhoeddi gwybodaeth fanwl o fewn cyfnod y gwahoddiad i gyflwyno tendrau terfynol yw oherwydd y gallem beryglu'r holl broses gaffael gystadleuol, ac fel rwy'n dweud, dyma'r broses gyntaf o'i bath yn y byd. Dyna pam fod yr Alban wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu, a dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Gallai rhyddhau gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif yn ymwneud â chynlluniau busnes y cynigwyr arwain o bosibl at niweidio buddiannau masnachol y cwmnïau hynny. Fodd bynnag, pan fydd y darparwr gwasanaeth wedi'i benodi, byddwn yn sicrhau bod dogfennau pellach, gan gynnwys y ddogfen dendro lawn, ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn fwy na pharod i wynebu craffu llawn mewn perthynas â'r fasnachfraint a fydd yn weithredol yn y dyfodol ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Gallaf ddweud hyn: nid Llywodraeth Cymru yw achos y problemau ar rwydwaith Cymru ar hyn o bryd, ond Llywodraeth Cymru fydd yn eu datrys.

Trafnidiaeth yn Islwyn

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth yn Islwyn? OAQ51703

Gwnaf. Diolch. Mae manylion ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi ledled Cymru wedi'u nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd, wrth gwrs, ddiwedd y llynedd, a nod ein hymatebion yw sicrhau system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Islwyn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roedd adroddiad annibynnol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf i werthuso prosiect atgyfnerthu rheilffyrdd y Cymoedd yn nodi—ac roedd yn brosiect arloesol—ei fod wedi gwella ansawdd aer, ei fod wedi sicrhau cynnydd o 19 y cant yn y capasiti ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd, a hefyd ei fod wedi cynhyrchu tystiolaeth o fynediad at y farchnad swyddi. Yn wir, y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd oedd un o'r prif elfennau yn y prosiect hwn, a chafodd ei chreu i leihau'r defnydd o geir. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda gwerthusiad annibynnol yn dilysu llwyddiant y rheilffordd hon, sy'n rhedeg drwy galon fy etholaeth yn Islwyn, pa fesurau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau'r gwasanaeth hanfodol o Lynebwy i Gasnewydd?

Wel, roeddwn yn falch iawn o nodi canfyddiadau'r adroddiad. Roedd yn cyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn yr ardal dros flynyddoedd lawer, ac mae hefyd yn dangos beth y gellir ei wneud pan fo buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n gallu diwallu dyheadau teithwyr. Rydym wedi cael ein tanariannu'n rhy hir. Yn sicr cawsom ein tanariannu drwy gydol y cyfnod rheoli diwethaf: 1 y cant o fuddsoddiad ar gyfer oddeutu 5 y cant o'r rhwydwaith. Ond rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth iawn, ac wrth i ni ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer metro de Cymru, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cysylltu'r datblygiadau ym maes trafnidiaeth gyda datblygiadau ein hystadau ysbytai ac iechyd, a chydag ystadau ysgol yn ogystal, i gael y gwerth mwyaf am arian pwrs y wlad.

Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

7. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan? OAQ51713

Rydw i'n siarad Cymraeg tipyn bach cyn bo hir, beth bynnag—.

Rwy'n dysgu eto ac ni fuaswn eisiau gwneud cam â chwestiwn yr Aelod drwy stryffaglu i ateb y cwestiwn yn Gymraeg. Mae'n ymwneud â'r £2 filiwn rydym wedi'i gynnig i helpu i sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru ledled Cymru, gan ganolbwyntio yn gyntaf ac yn bennaf ar leoliadau ger cefnffyrdd i wasanaethu'r rhwydwaith priffyrdd, a achosodd fwyaf o bryder o ran pellter teithio. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r holl awdurdodau lleol ledled Cymru ar y fframwaith cyflawni er mwyn darparu cyllid cyn gynted â phosibl.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Gwnaf barhau i ofyn cwestiynau yn Gymraeg iddo fe, fel ei fod e'n gallu practiso ei Gymraeg, fel petai. Rydw i wedi edrych ar sawl map erbyn hyn o le mae pwyntiau gwefru ceir trydan ar gael, ac mae'n amlwg bod yna fwlch mawr yn yr anialwch gwyrdd yna yn y canolbarth. Os ydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus, byddwn i'n awgrymu bod cau'r bwlch yn un o'r blaenoriaethau ar gyfer yr arian cyhoeddus hwnnw. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod nifer o bobl â diddordeb mewn datblygu'r pwyntiau yma, gan gynnwys archfarchnadoedd a datblygiadau cyhoeddus newydd. Felly, a fedrwch chi ddweud wrthym ni ym mha ffordd rydych chi eisiau dod â'r tueddiadau yma at ei gilydd er mwyn sicrhau mai un peth sydd yn deillio o'r arian yma yw cyfiawnder cymdeithasol a bod mynediad pawb at y pwyntiau gwefru yma yn cael ei wneud yn gyson ar draws Cymru?

14:15

Diolch yn fawr iawn. Buaswn yn sicr yn cytuno, er nad oes gennym nifer helaeth o bwyntiau gwefru mae gennym ddigon ohonynt yn sicr ar hyd coridor yr M4 a'r A55,  ond ar wahân i hynny mae'n dir hesb o ran mynediad cyhoeddus at bwyntiau gwefru trydanol. Er efallai mai £2 filiwn yn unig o gyllid sydd ar gael, mae Simon Thomas yn llygad ei le yn dweud y gallwn ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n denu arian cyfatebol a chyflwyno mwy o bwyntiau gwefru trydanol felly. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ysgogi cyllid gan gyflenwr preifat y fframwaith ar sail 50:50. Rwy'n credu y bydd argaeledd y cyllid yn rhoi grym bargeinio ardderchog i awdurdodau lleol gael cytundebau sy'n rhannu elw'n dda a rheolaeth dros bennu prisiau, er enghraifft. Yn fy marn i, bydd y £2 filiwn hefyd yn ein galluogi i sefydlu manyleb safonol gyda brand Cymru, ar gyfer gwefru cerbydau trydanol. Bydd hefyd yn caniatáu i ni greu fframwaith caffael ar gyfer gwefru cerbydau trydanol, y gellir ei ddefnyddio yn y tymor hwy yn ogystal. Mae'n agenda polisi cyffrous ac rwy'n falch ein bod yn gallu datblygu'r maes gwaith penodol hwn gyda'n gilydd.

Denu Twristiaid

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru yn y pumed Cynulliad? OAQ51704

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n ei ateb gan fod twristiaeth, fel y gwyddoch, yn gyfrifoldeb i mi. Credwn fod gennym dystiolaeth i ddangos bod ein marchnata thematig yn hynod lwyddiannus. Cynhyrchodd Blwyddyn Antur £370 miliwn yn ychwanegol yn 2016. Mae Blwyddyn y Chwedlau hefyd yn dangos canlyniadau addawol, gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn ymweld â safleoedd Cadw a'r amgueddfa genedlaethol yn ystod yr haf. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ganlyniadau cryf y flwyddyn hon, sef Blwyddyn y Môr, a'r flwyddyn nesaf, Blwyddyn Darganfod.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb cadarnhaol hwnnw, Weinidog. Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru yn effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi mynegi pryder fod y gyllideb farchnata gyfredol ar gyfer Croeso Cymru, o'i chymharu â chyrchfannau sy'n cystadlu, yn annigonol i wireddu potensial y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus fod y gyllideb gyfredol ar gyfer Croeso Cymru yn ddigon i fanteisio i'r eithaf ar botensial a manteision y sector twristiaeth i economi Cymru? Diolch.

Rwyf yn y broses o ddechrau trafodaethau pellach ar gyllidebau'r ddwy flynedd nesaf, ond wrth ei flas y mae profi pwdin, fel petai, neu yn yr achos hwn wrth yr enwebiadau a gafodd ein gwahanol ymgyrchoedd ac yn wir, y gwobrau a ddaeth i ran Croeso Cymru—am natur eu hymgyrchoedd a'r ffordd y maent yn cynhyrchu ymateb. Nid yw blynyddoedd thematig ond yn un rhan o hynny, a rhan arall nad yw'n un o fy nghyfrifoldebau yn uniongyrchol ond sy'n amlwg yn rhan o dwristiaeth, yw digwyddiadau mawr. Cafwyd 35 o ddigwyddiadau mawr a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru—digwyddiadau diwylliannol, yn benodol, a digwyddiadau chwaraeon, sydd hefyd yn ddiwylliannol wrth gwrs. Rydym yn amcangyfrif bod tua 350,000 o ymwelwyr wedi teithio i Gymru i fwynhau'r digwyddiadau hyn, gan gynhyrchu gwariant ychwanegol o £52 miliwn a chynnal 1,215 o swyddi. Mae'r  ymrwymiad hwnnw i gefnogi digwyddiadau ledled Cymru yn parhau, wrth gwrs, ac yn cynyddu. Yn ne-ddwyrain Cymru: marathon Casnewydd Cymru; Gŵyl y Llais, yn agos i'r fan hon; ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Ras Hwylio Volvo, lle mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd morol rhyngwladol mawr sy'n rhan o'r cyrchfannau a gwmpesir gan y ras hon.

Felly, nid ydym yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r gyllideb, ond rydym yn sicrhau ein bod yn graff iawn o ran y ffordd y caiff ei gwario.

14:20
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, a'r cwestiwn cyntaf—Jenny Rathbone.

Llygredd Aer

1. Yn dilyn y gwrandawiad diweddar yn yr Uchel Lys, pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon ar lygredd aer? OAQ51706

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a'i gwahanol fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer yn benodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, fel y mae'n dweud, o'r achos diweddar yn yr Uchel Lys, a glywyd ar 25 Ionawr, ac y disgwylir dyfarniad yn ei gylch. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd ei chynigion yn cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol ac mae'n rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn ar unwaith.

Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem ac wedi cyfaddef diffyg gweithredu anghyfreithlon yn hyn o beth, sy'n fwy nag y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, dywedodd y CF sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, Jonathan Moffett, y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda ClientEarth wrth gwrs i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon hwn. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y brys sydd ei angen i sicrhau na fyddwch yn gorfod mynd i'r Uchel Lys eto. Yn amlwg, mae gennyf lu o syniadau ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â hyn fel mater o frys, ond byddai'n dda gwybod a ymgynghorir â ni ar hyn. Sut y mae'r camau brys hyn yn mynd i ddigwydd?

Mae cwestiynau'r Aelod yn cynnwys nifer o bwyntiau polisi, a byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau arnynt yn benodol, ond mewn perthynas â sut yr aethpwyd i'r afael â hyn yn yr achos llys, a fydd, efallai, yn ateb rhan o'i chwestiwn, oherwydd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd cynllun 2017 yn cydymffurfio â'i dyletswyddau, gwnaeth y sylwadau hynny yn y llys, ac felly mae'r trafodaethau rhwng ClientEarth a Llywodraeth Cymru yn ymwneud â thelerau'r Gorchymyn caniatâd, sy'n ymgorffori sylwadau Llywodraeth Cymru i'r llys. Dywedodd wrth y llys nad oedd y rhannau hynny o gynllun 2017 a oedd yn rhan o gymhwysedd datganoledig yn cydymffurfio ac nad oedd ganddi'r wybodaeth briodol ar adeg y cynllun i fodelu'n union pa gamau a fyddai wedi sicrhau'r canlyniadau gofynnol.

Mae'r Llywodraeth wedi dweud y bydd ymgynghori'n digwydd ar gynllun ansawdd aer atodol yn fuan iawn, gyda'r bwriad o roi hwnnw ar waith yn ddiweddarach eleni. Ceir rhai ardaloedd sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru a rhai ardaloedd sydd o fewn rheolaeth cyngor dinas Caerdydd a chyngor bwrdeistref Caerffili, ac mae trafodaethau'n parhau gyda'r ddau awdurdod ar hyn o bryd mewn perthynas â chamau penodol i ddatrys y broblem.

Yn amlwg, o’r hyn rydych chi newydd ei ddisgrifio, Gwnsler Cyffredinol, mae’n hynod bwysig i drigolion Cymru gael y mynediad yma i’r Uchel Lys ac i gyfiawnder yn gyffredinol er mwyn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar lygredd awyr, a hefyd, gobeithio, er mwyn gweld y gwelliant sy’n mynd i ddod yn sgil y prosesau cyfreithiol yma. Nawr, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o’r pethau amgylcheddol yma yn dod yn ddiffygiol, mae’n ymddangos i fi, achos ar hyn o bryd mae gan drigolion Cymru fynediad nid yn unig i’r Uchel Lys, ond hefyd i Lys Cyfiawnder Ewrop, yr ECJ, ac mae nifer o achosion pwysig amgylcheddol yn cael eu gwneud drwy’r dulliau hynny, sy’n sicrhau bod dinasyddion yn cael eu hawliau—eu hawliau i amgylchedd glân—yn cael eu cadw a’u diogelu gan y broses gyfreithiol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr hawl parhaol yma, sydd newydd gael ei amlinellu yn yr achosion cyfreithiol yma, yn cael ei gadw yma yng Nghymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd?

Fel mae’r Aelod yn sôn, mae amryw o’r hawliau a’r mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaen ein bod ni am weld y rheolau hynny yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a bod yr hawl i wneud hynny yn dod yma i’r Cynulliad o dan y setliad datganoli, ac nid yn aros yn San Steffan ar y ffordd. Dyna yw bwriad parhaol y Llywodraeth yma yng Nghymru, er mwyn bod gallu gan bobl i sicrhau bod y safonau hynny yn parhau yng Nghymru.

Arholiad Cymhwyso Arfaethedig i Gyfreithwyr

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r arholiad cymhwyso arfaethedig i gyfreithwyr a'i oblygiadau ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51696

Diolch am y cwestiwn. Rydym ni yn ystyried y goblygiadau ar hyn o bryd. Mae swyddogion wedi cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i drafod y cymhwyster newydd arfaethedig a’r goblygiadau i Gymru, yn cynnwys y setliad datganoli a defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae cyfarfod pellach yn cael ei drefnu i ehangu’r drafodaeth honno i gynnwys ein hysgolion cyfraith a’r proffesiwn cyfreithiol.

14:25

Diolch yn fawr am yr ateb yna. A allaf ddweud bod yna bryderon ynglŷn â’r arholiad yma, yn enwedig wrth feddwl am allu unigolion i’w gymryd yng Nghymru, y gallu i sefyll yr arholiad yn Gymraeg a’r ffaith nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â materion cyfraith Cymru’n unig, yn enwedig wedi datganoli? A wnewch chi ymuno â fi i ddiolch i’r Athro Richard Owen o Brifysgol Abertawe am ei waith yn y maes hwn, ac a wnewch chi amlinellu beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â’r sefyllfa?

Gwnaf, yn sicr. Fel gwnes i sôn, mae cyfarfod eisoes wedi cael ei drefnu ac wedi cymryd lle gyda swyddogion yr SRA lle codwyd y pynciau yma’n benodol. Rwy’n cwrdd gyda’r SRA eto ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n bwriadu parhau’r drafodaeth gyda nhw. Mae dau bwynt yn codi yma. Y cyntaf yw rôl cyfraith ddatganoledig yn y cymhwyster newydd, ac mae hyn, wrth gwrs—mae’n rhaid inni annog yr ysgolion cyfraith yng Nghymru i ddod ynghyd gyda ni ar hyn i ddarparu hynny trwy eu cyrsiau nhw. Nid yw hyn o fudd yn unig i bobl yn gweithio yng Nghymru, wrth gwrs; mae hyn yn bwysig i gyfreithwyr sydd mewn practis tu fas i Gymru gyda’r cleientiaid yna neu gleientiaid mewn mannau eraill sydd yn gweithredu yng Nghymru. Felly, mae impact eang i’r cwestiwn hwnnw, fel buasech yn ei ddisgwyl.

O ran y cwestiwn ar yr iaith—codwyd y cwestiwn hwnnw hefyd yn ein cyfarfod â’r swyddogion. Mae’n amlwg yn bwysig i gôl y Llywodraeth o fewn y strategaeth i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr fod defnydd y Gymraeg o fewn y proffesiynau yn beth rhwydd ac yn beth normal ac yn beth pob dydd. Felly, mae’n bwysig iawn i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rwyf wedi cael cyfathrebiad y bore yma wrth Gomisiynydd y Gymraeg ar y testun hwn hefyd, fel mae’n digwydd. Gwnes i edrych ar rai o’r cyhoeddiadau a wnaethpwyd gan yr SRA yn y cyd-destun hwn, ac mae’n rhaid i fi ddweud, roeddwn i’n siomedig i weld bod dim digon o uchelgais yn beth oedd yn cael ei gynnig ar y pryd. Mae llawer o’r asesu o fewn y cymhwyster newydd yn mynd i ddigwydd ar sail amlddewis, ac felly dylai hynny fod yn syml iawn i'w ddarparu drwy'r Saesneg neu drwy'r Gymraeg ar y cyd.

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y cyfle y gallent ei gynnig ar gyfer ehangu'r ystod economaidd-gymdeithasol o bobl a dderbynnir i'r proffesiwn? Un o anfanteision y system gyfredol yw bod pobl yn dechrau eu cwrs cyfnewid ac yn darganfod bod nifer o'r cwmnïau mwyaf eisoes wedi cau eu prosesau recriwtio ym mis Gorffennaf am ddwy flynedd. Oni fyddai'r cynnig newydd hwn yn caniatáu i ystod economaidd-gymdeithasol ehangach o bobl gael eu derbyn i'r proffesiwn?

Credaf mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw y gall fod â photensial i wneud hynny. Ar hyn o bryd, yn amlwg, er bod y cymhwyster newydd yn destun ymgynghoriad, nid yw'r manylion o ran sut y bydd yn gweithredu'n ymarferol a sut y bydd yn berthnasol i'r cyfnod academaidd a'r cyfnod profiad gwaith yn gwbl glir, ac mae hwnnw'n un o'r materion rwyf eisiau ei archwilio pan fyddaf yn cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Mae'r Aelod yn gywir i ddweud y dylai darparu meincnod cyffredin ar draws amrywiaeth o lwybrau i mewn i'r proffesiwn sicrhau chwarae teg i bawb. Ond fel y bydd hefyd yn gwybod, mae rhai o'r practisau mwy wedi teilwra cyrsiau gyda darparwyr cyrsiau ymarfer y gyfraith, ac os yw'r rheini'n goroesi i'r gyfundrefn newydd, fel petai, gallai greu rhyw fath o system ddwy haen. Felly, rwy'n credu bod yna rai cwestiynau sydd angen eu harchwilio. Yn amlwg, byddai rhywun yn gobeithio—fel y mae ei gwestiwn yn amlinellu—y ceir chwarae teg i bawb o ganlyniad i hyn. Mae'n sicr yn wir nad yw'r trefniadau cyfredol yn foddhaol am y rhesymau y mae'n eu rhoi.

Y Dreth Gyngor

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag erlyn am beidio â thalu'r dreth gyngor? OAQ51701

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid erlyn mewn perthynas â methiant i dalu'r dreth gyngor, wrth gwrs, ac nid Llywodraeth Cymru. Felly, bydd awdurdodau lleol ac ynadon lleol yn ceisio cyngor cyfreithiol eu hunain pan fyddant ei angen. Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod ôl-ddyledion y dreth gyngor yn cael eu rheoli'n briodol a chyhoeddwyd ymchwil ar hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oedd bryd hynny, ar ddiwedd 2017.

Canfu adolygiad barnwrol diweddar mewn perthynas â menyw a gafodd ei charcharu am fethu talu'r dreth gyngor nad yw'r system gyffredinol ar gyfer gorfodi yng Nghymru yn annheg ond bod penderfyniadau rhai llysoedd ynadon unigol wedi bod yn anghywir.

14:30

Yn anffodus, mae'r farn honno wedi peri i bobl feddwl bod talu'r dreth gyngor yn opsiynol, ac os nad ydych yn ei dalu, ni fydd dim yn gallu digwydd i chi, felly waeth i chi beidio â'i dalu. Ac mae llawer o bobl wedi bod yn gwneud datganiadau tebyg i hynny ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol drafod effaith yr achos llys diweddar mewn perthynas â chyfreithlondeb carcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor gyda'i Weinidog cyfatebol yn San Steffan?

Rwy'n gwbl hapus i drafod hyn ymhellach. Er mwyn bod yn glir, canfu'r penderfyniad nad yw'r system ei hun yn annheg. Roedd yr achos yn ymwneud â dau fater: un yn ymwneud â phenderfyniadau unigol y llysoedd ynadon mewn perthynas â charcharu, ac un yn ymwneud ag a oedd y system yn gallu bod yn deg. A llwyddodd Gweinidogion Cymru i amddiffyn eu safbwynt o ran tegwch y system mewn gwirionedd. Ond fel y nodais yn fy ateb funud yn ôl, mae penderfyniadau unigol y llysoedd ynadon wedi bod yn anghywir, naill ai oherwydd eu bod wedi camddeall y gyfraith, neu oherwydd bod y gyfraith wedi cael ei chamweithredu mewn achosion unigol, lle mae pobl wedi cael eu carcharu neu lle roedd disgwyl iddynt dalu'r dreth gyngor yn ôl dros gyfnod rhy hir.

Fel y bydd yn gwybod, wrth gwrs, nid yw llysoedd ynadon a'u hyfforddiant wedi cael eu datganoli i Gymru, ac mae ei gwestiwn yn cydnabod hynny. Rwy'n ymwybodol bod yr Arglwydd Brif Ustus wedi darparu canllawiau a hyfforddiant ychwanegol i feinciau'r ynadon ar y mater hwn ers i'r ymgyfreitha ddechrau. Ond ar ei gwestiwn ehangach am dalu'r dreth gyngor, yn amlwg, mae aelwydydd yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn yr hinsawdd ariannol bresennol, ac mae'r ymchwil a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, y mae wrthi'n ei ystyried ar hyn o bryd, yn cynnwys, wrth ei wraidd, mae'n debyg, yr amcan o ddeall yr arfer cyfredol mewn perthynas ag adfer, a sut y mae hynny'n berthnasol i amgylchiadau unigol.

Data Personol

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynglŷn â data personol? OAQ51721

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith yn ymwneud â data personol.

Rwy'n falch iawn i glywed hynny. Wrth gwrs, rwy'n credu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o achos diweddar o'r Llywodraeth yn datgelu data personol, sef fy nata personol i yn ymwneud â gohebiaeth, nid yn unig ar gam, ond hefyd yn gamarweiniol. A allai fe ddweud a yw e wedi darparu cyngor yn yr achos hwnnw pa un ai ydy'r Llywodraeth wedi torri rheoliadau datgelu data, ac a yw e'n gallu rhannu gyda ni gynnwys y cyngor hwnnw? A gan fod yr Arglwydd Ganghellor wedi creu protocol yn ymwneud â chyfrinachedd gohebiaeth Aelodau Seneddol, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon cwrdd â fi, ac Aelodau etholedig eraill, i ni greu protocol tebyg fan hyn, fel bod yna sicrwydd ynglŷn â chyfrinachedd ein gohebiaeth ni?

Diolch am y cwestiwn pellach. Fel y bydd cyfaill yr Aelod ar y rheng flaen yn gwybod, mae confensiwn y swyddog cyfreithiol yn fy ngwahardd i rhag trafod unrhyw gyngor penodol rwyf i wedi ei roi, neu'r ffaith fy mod i wedi rhoi cyngor o gwbl. Bydd yr Aelod yn gwybod bod barn Llywodraeth Cymru yn glir ar y cwestiwn hwnnw, fod dim trosedd wedi cymryd lle o dan Ddeddf 1998, ac mae hynny wedi bod yn fater cyhoeddus erbyn hyn. Mae'n sôn am gonfensiwn yr Arglwydd Ganghellor. Mae'n rhaid imi sôn wrtho fe nad ydw i'n gyfarwydd â'r confensiwn hwnnw, ac felly buaswn i'n barod i drafod cynnwys y confensiwn hwnnw gyda fe, os wnaiff e anfon nodyn ataf i.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, er gwaethaf y sefyllfa o ran deddfwriaeth diogelu data, fod camddefnyddio gwybodaeth breifat at ddibenion gwleidyddiaeth plaid pan fo'r wybodaeth breifat honno wedi'i chael yn rhinwedd swydd weinidogol, drwy ddefnyddio adnoddau swyddogol, yn anghywir, a'i fod hefyd yn torri cod y Gweinidogion ac na ddylid ei ailadrodd? Rydym wedi cael achosion o hyn o'r blaen, ac mae'n ymddangos y gallai ymddygiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mewn perthynas ag Adam Price, fod wedi torri'r cod hwnnw yn ogystal. Tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi ei farn ar hynny.

Mae'r Aelod yn seneddwr profiadol iawn, a bydd yn gwybod yn iawn nad yw hwnnw'n gwestiwn priodol i'r Cwnsler Cyffredinol ei ateb, ac felly rwy'n gwrthod.

14:35
Mynediad at Wasnaethau Cyfreithiol

5. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch gallu pobl sy'n dioddef troseddau i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol? OAQ51717

Mae Llywodraeth Cymru wedi bachu ar bob cyfle i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU fod mynediad at wasanaethau cyfreithiol ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd y dioddefwyr troseddau hynny sydd ag incwm isel neu gymedrol, ac mae hyn yn creu problemau difrifol, o ran mynediad at gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol.

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ystadegau yn dangos cynnydd syfrdanol yn nifer y rhai sydd wedi goroesi trais domestig heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol yn y llysoedd teulu. Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer y rhai sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod naw mis cyntaf y llynedd, nid oedd gan 3,234 o oroeswyr trais domestig unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol mewn o leiaf un gwrandawiad. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r cynnydd hwn sy'n peri pryder, a pha sylwadau y gall eu gwneud mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol a'u heffaith ddinistriol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n amlygu'r annhegwch difrifol iawn sy'n wynebu dioddefwyr trais domestig yn arbennig. Fel y mae ei chwestiwn yn cydnabod, mae miloedd o fenywod yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llysoedd teulu yn erbyn eu camdrinwyr eu hunain. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ganiatáu yn y llysoedd troseddol mwyach, ond mae'n parhau i fod yn brofiad go iawn i fenywod yn y llysoedd teulu. Y rheswm am hynny yw'r ffaith bod cymorth cyfreithiol wedi cael ei dynnu'n ôl, ac er y cafwyd rhai consesiynau gan Lywodraeth y DU ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, nid ydynt yn hanner digon i fynd i'r afael â maint y broblem.

Fel y bydd yn gwybod, er mwyn cymhwyso ar gyfer cymorth cyfreithiol o gwbl, gall yr asedau, a allai fod o dan reolaeth y camdriniwr, neu eu hincwm hyd yn oed, gael eu hystyried wrth gyfrifo trothwy ariannol, ac yn amlwg nid yw hynny'n dderbyniol. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ym mis Ionawr y llynedd, yn tynnu sylw at yr angen i wella arferion yn y llys teulu mewn achosion sy'n ymwneud â dioddefwyr camdriniaeth a thrais domestig, ac mae'r Llywodraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar nifer o achlysuron, yn herio'i hymagwedd at gymorth cyfreithiol, a'r toriadau ac effaith y toriadau hynny yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn bachu ar bob cyfle i fynegi ei phryder am fater hollbwysig cyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Llygredd Awyr

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu faint o arian sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar achosion llys sy'n ymwneud â llygredd awyr? OAQ51714

Diolch am y cwestiwn. Yn y Cynulliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo £20,486.30 mewn costau cyfreithiol allanol, heb gynnwys treth ar werth. Disgwylir costau pellach o’r fath mewn perthynas ag ymddangosiad diweddar Llywodraeth Cymru gerbron yr Uchel Lys, ynghyd â chostau’r hawlwyr, sydd i’w capio yn unol â chonfensiwn Aarhus.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gadarnhau y costau. Mae'n amlwg na fydd y costau yn cael eu diwallu oni bai bod methiant gan y Llywodraeth i gwrdd â'r anghenion cyfreithiol o ran llygredd awyr. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n gyfrifol fel Cwnsler Cyffredinol am yr ochr yna o bethau, ond mae'r symiau rydych chi wedi sôn amdanynt yn hen ddigon i dalu am sawl gorsaf monitro llygredd awyr y tu fas i ysgolion neu ysbytai fel cyfraniad tuag at ateb y galw cyfreithiol yma sydd wedi deillio o hynny. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw Llywodraeth Cymru yn wynebu costau pellach, pa ganllawiau a ydych chi'n eu defnyddio fel Cwnsler Cyffredinol, wrth ymwneud ag achosion llys o'r fath, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru naill ai'n ildio neu'n amddiffyn, neu beth bynnag sydd yn briodol, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arian sy'n cael ei wario ar y costau yma, a dweud y gwir, ddim yn mynd at achos cyfreithiol, ond yn mynd tuag at fynd i'r afael â llygredd awyr?

Fel cyn-gyfreithiwr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod gwariant ar gostau cyfreithwyr a chostau llys o anghenraid yn bethau amhoblogaidd, ac rwy'n deall y rheswm am hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn ffeindio'i hunan mewn sefyllfa lle mae rhywun yn dwyn achos yn erbyn y Llywodraeth, mae'n rhaid sicrhau, pan fo gan y Llywodraeth achos da, fod hynny'n cael ei amddiffyn, ac mae hynny'n bwysig o ran adnoddau cyhoeddus yn gyffredinol. 

Fe wnaeth e ofyn cwestiwn am beth yw'r canllawiau, beth yw'r camau y gellid eu cymryd pan fydd gyda ni sefyllfa lle y gall camau penodol gan y Llywodraeth gael effaith bositif ar gostau dwyn achos llys neu amddiffyn achos llys. Wel, mae'r achos hwn yn enghraifft o'r hyn sydd yn bosib i'w wneud: hynny yw, dadansoddiad o safbwynt a safle cyfreithiol y Llywodraeth ac wedyn penderfynu yn yr achos ei hun i’w wneud yn glir ein bod ni'n derbyn bod gennym ni ddiffyg o ran cyrraedd y safonau rheoleiddiol a chytuno i wneud hynny—mewn cytundeb, hynny yw, neu geisio ei wneud e mewn cytundeb gyda’r rhai a oedd yn dwyn yr achos. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith bositif ar gostau llys a chostau cyfreithiol yn gyffredinol.

14:40
Adolygiad o Achosion Treisio

7. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag adolygiad o achosion treisio yng Nghymru? OAQ51715

Rwy'n croesawu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i adolygu pob achos o dreisio a throseddau rhywiol yng Nghymru ac yn Lloegr sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau datgelu yn cael eu rhoi ar waith yn gywir. Mae'n hanfodol cymryd camau i sicrhau ffydd, ymddiriedaeth a hyder yn ein system cyfiawnder troseddol.

Diolch i'r Cwnsel Cyffredinol am ei ateb ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod y ffaith bod nifer o achosion wedi methu oherwydd bod y gweithdrefnau datgelu o'r ddwy ochr—wel, un ochr yn benodol—wedi methu yn peryglu'r ffordd rŷm ni'n mynd i'r afael â threisio a throseddau rhywiol yng Nghymru, ac felly yn tanseilio hyder yn y system. Nid yw hynny'n rhywbeth rwyf fi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr bod y Cwnsel Cyffredinol ddim ychwaith. Mae'n bwysig iawn fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu'n iawn ar y ddwy ochr, wrth gwrs. Mae'n amlwg bod methiannau difrifol wedi bod o ran datgelu gwybodaeth i'r ochr amddiffyn a bod Gwasanaeth Erlyn y Goron felly heb weithredu’n briodol bob tro i sicrhau bod hynny wedi'i wneud. A gaf fi ofyn felly yn benodol: a oes gennych chi unrhyw nifer o achosion sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd yng Nghymru? A ydych chi yn wir yn trafod hyn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle yn y gwasanaeth ac ar ochr yr heddlu hefyd wrth gwrs, i sicrhau na fyddwn ni yn y twll yma eto?

Mae cysylltiadau wedi bod. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar achosion unigol wrth gwrs. Byddai'r Aelod yn derbyn hynny, rwy'n gwybod. Rwy'n croesawu'r adolygiad. Mae'n rhaid sicrhau bod y rheolau yma'n cael eu dilyn. Un o'r sialensiau yw cadw'n gyfredol gyda'r cwestiwn o hyfforddiant a defnydd technoleg yn y llysoedd, ac y mae'r twf yn nefnydd cyfryngau cymdeithasol yn benodol yn golygu bod hyn y tu hwnt nawr i'r hyn a ddychmygwyd pan ddaeth y rheolau a'r technegau i fodolaeth. Nid yw hyn yn broblem newydd; nid yw'n broblem sydd yn benodol i'r cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs. Mae hyn wedi bod yn ffactor am ddegawdau mewn erlyniadau o bob math. Felly, rwyf yn croesawu'r adolygiad yng Nghymru ac yn Lloegr, ond dim ond cam dros dro gall yr adolygiad hwn fod. Mae'n rhaid ein bod ni'n cael system gyfreithiol a system droseddol sydd yn gymwys i'r oes rŷm ni'n byw ynddi o ran technoleg a defnydd pobl o wybodaeth a bod hynny nid jest yn gweithio ar gyfer heddiw, ond ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol hefyd.

Hoffwn i ddweud yn benodol fod lot o'r achosion wedi bod yng nghyd-destun troseddau trais ac ati, fel gwnaeth yr Aelod ei grybwyll. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn dal i ddod ymlaen gyda'u cwynion am hynny, wrth gwrs. Rwy'n derbyn yn union beth y mae'r Aelod yn ei ddweud ynglŷn ag hyder a ffydd yn y system. Mae rhifau achosion trais yng Nghymru wedi bod ar gynnydd. Mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'r rhifau hynny wrth gwrs, am resymau ystadegol sydd yn amlwg, ond mae'r ffaith bod pobl yn barod i ddod ymlaen â'u cwynion yn beth i'w groesawu yn nhermau parodrwydd pobl i ddod ymlaen yn y system.

Y Bil Parhad

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith mewn gwledydd datganoledig yn y DU am y Bil parhad sy'n cael ei ddwyn ymlaen gan Lywodraeth Cymru? OAQ51727

Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n parchu datganoli. Fodd bynnag, rydym yn barod i gyflwyno Bil parhad os yw'n amhosibl diwygio'r Bil sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn foddhaol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, fel y bydd yn gwybod, ar y materion hyn.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Rwy'n ymwybodol mai dewis olaf Llywodraeth Cymru ydyw, ond rydym ar drothwy'r cam olaf un, i bob pwrpas, lle mae angen i ni, o ran amser, wneud rhywbeth yn gyflym iawn. Rwy'n derbyn y ffaith bod angen i chi siarad â Llywodraeth yr Alban, oherwydd mae ganddynt hwy Fil parhad hefyd. Gallaf ddeall y gwahaniaethau yn y setliad datganoledig ac felly bod gwahaniaethau yn y Biliau. Ond mewn ateb i Simon Thomas yn gynharach, soniasoch am y siarter hawliau sylfaenol yn yr UE mewn gwirionedd. Rwy'n tybio ei bod yn bwysig gofyn y cwestiwn: a ydych wedi ystyried cynnwys elfennau o'r siarter hawliau sylfaenol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd Cymreig, i sicrhau y gall dinasyddion yma yn y DU elwa o'r hawliau hynny a'u bod yn cael eu cynnal yng nghyfraith Cymru os nad unrhyw beth arall?

14:45

Wel, fel rwyf wedi dweud yn glir mewn atebion blaenorol i gwestiynau ar y pwnc hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n sicrhau bod y siarter hawliau sylfaenol yn parhau'n rhan o'n cyfreitheg yma yng Nghymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i sefyllfa lle byddem yn cyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain, byddem eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw'r hawliau sy'n cael eu hadlewyrchu yn y siarter honno'n cael eu herydu i ddinasyddion Cymru. Fel y bydd yn ymwybodol, cyflwynwyd Bil i'r Llywydd iddi benderfynu yn ei gylch, felly nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar gynnwys y Bil hwnnw, ond gobeithiaf y bydd y sicrwydd rwyf wedi'i roi iddo yn dangos yn glir iddo fod hynny'n flaenoriaeth o leiaf.

Gwnsler Cyffredinol, mae'r trafodaethau rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU yn hollbwysig wrth i ni droi at Fil parhad i warchod cyfansoddiad y genedl Gymreig. Cafodd y Prif Weinidog gyfarfod gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, a disgrifiodd y Gweinidogion y cyfarfod hwnnw fel un defnyddiol. Mae sawl cyfarfod wedi bod bellach lle mae'r canlyniad naill ai wedi'i ddisgrifio fel un adeiladol neu ddefnyddiol, ond ni chytunwyd ar unrhyw welliannau. Yn ystod y cyfarfod, a allwch ddweud wrthym, a lwyddodd Llywodraeth y DU i roi unrhyw sicrwydd pellach i Lywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE?

Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar faterion unigol sy'n destun negodi neu drafodaeth gyda Llywodraeth y DU, am resymau y gobeithiaf y bydd yr Aelod yn eu deall. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio mewn perthynas â chymal 11, yn bennaf, ond ar gymalau eraill y Bil hefyd, ac maent, erbyn hyn, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i obeithio y gellir cael cytundeb mewn perthynas â'r gwelliannau a fyddai'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru ac a fyddai'n galluogi'r Bil ymadael â'r UE i gael ei ddiwygio'n briodol er mwyn gallu argymell cydsyniad. Ond yn amlwg, fel y mae ei chwestiwn yn nodi, mae amser yn brin ac felly mae angen i ni weld cynnydd mewn perthynas â hynny'n gyflym iawn. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol o'r broses seneddol yn San Steffan o ran y trafodaethau a'r ffordd o feddwl yma mewn perthynas â'r posibilrwydd o gyflwyno Bil parhad, pe bai hynny'n angenrheidiol.

Effaith Awtomeiddio

9. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar y sector gwasanaethau cyfreithiol? OAQ51729

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau academaidd a'r sector gwasanaethau cyfreithiol i ddeall yr effeithiau a'r cyfleoedd sy'n debygol o ddeillio o awtomatiaeth.

Wel, fel pob diwydiant sydd ag elfennau ailadroddus, mae'r sector gwasanaethau cyfreithiol yn arbennig o agored i awtomeiddio. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai 39 y cant o swyddi yn y sector cyfreithiol gael eu disodli gan algorithmau a pheiriannau o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Mewn cwmnïau cyfreithiol lle mae nifer fawr o bobl yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd i wneud tasgau ailadroddus, chwilio drwy ddogfennau a phori drwy ffeiliau, gallwn ddychmygu y gellir gwneud y rhain yn hawdd o fewn eiliadau gan dechnoleg newydd sy'n ymddangos. Nawr, mae hyn yn digwydd ac nid oes modd ei atal. Y cwestiwn i'n Llywodraeth, a phob llywodraeth, yw beth y gallwn ei wneud i geisio siapio hyn? Ac a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael a fyddai'n galluogi'r sector cyfreithiol yng Nghymru i achub y blaen ar hyn, i addasu ac i weld a allwn arwain y ffordd yn y sector hwn?

Wel, mae'r ffaith bod cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio ar dasgau ailadroddus a diflas yn fy atgoffa o flynyddoedd cynnar fy ngyrfa fel cyfreithiwr, felly, diolch i chi am yr eiliad honno o hiraeth am y gorffennol.

Ond yr ateb difrifol i gwestiwn yr Aelod yw bod risgiau yma, yn amlwg, ond mae yna gyfleoedd hefyd. Roeddwn yn falch o weld lansiad y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar, sydd mewn gwirionedd yn bwriadu archwilio rhai o'r risgiau a'r cyfleoedd hyn ar gyfer y sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Cynhaliodd gynhadledd ar ddiwedd mis Ionawr eleni lle roedd yn canolbwyntio, nid yn unig ar yr heriau, ond, yn bwysicach, ar y cyfleoedd hynny. Siaradwyd am sut y mae cyfrifiadura gwybyddol yn faes allweddol yn y gyfraith, gan gynnwys disgyblaethau megis prosesu iaith naturiol, mynegeio semantig a gwyddor data.

Mae technoleg yn aflonyddwr allweddol, wrth gwrs, yn ogystal â chyfle, ac mae yna ddwy dechnoleg allweddol sy'n ffurfio sail ar gyfer digido'r gyfraith y tu hwnt i gwmnïau cyfreithiol, yn y gwasanaeth llys, er enghraifft, ac yn benodol mewn cyfraith teulu, cyfraith trosedd a chyfraith gorfforaethol. Mae awtomeiddio prosesau robotig a deallusrwydd artiffisial eisoes yn chwarae rôl sylweddol yma. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r farchnad gyfreithiol yno mewn ffordd fach wedi dechrau defnyddio cyfrifiadur gwybyddol Watson IBM, lle mae'r defnyddiwr yn gofyn cwestiynau mewn Saesneg clir ac yn cael ymateb, ar ôl pori drwy'r corff cyfreithiol cyfan, ac ateb cyfreithiol rhesymegol gyda throednodiadau, sy'n ddatblygiad rhyfeddol, mewn gwirionedd. Yr hyn y mae'n galluogi cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol i'w wneud—fel y mae wedi'i nodi yn ei gwestiwn—yw symud i ffwrdd oddi wrth y gweithgareddau mwy prif ffrwd ac ymgymryd â gwaith cyfreithiol sydd â gwerth uwch iddo ac ymgysylltu â chwsmeriaid. Mae yna becynnau meddalwedd sy'n galluogi cwmnïau cyfreithiol i ddadansoddi'r patrymau y mae barnwyr wedi'u dilyn wrth wneud eu penderfyniadau, neu'r dadleuon y mae cyfreithwyr eraill wedi'u cyflwyno wrth ddadlau eu hachosion, sy'n beth rhyfeddol, ac yn ein symud y tu hwnt i reddf a hanner atgof tuag at arferion cyfreithiol sy'n seiliedig ar ddata. Felly, rwy'n falch fod mentrau fel canolfan Prifysgol Abertawe, sydd o fewn cyfadran Hilary Rodham Clinton, eisoes ar y gweill.

Mae dimensiwn hanfodol i hyn, sef nad yw ond ar gael ar gyfer cyfraith fasnachol, ond mae hefyd ar gael ar gyfer y system gyfiawnder ac ar gyfer pobl sy'n cyflwyno achosion mewn llysoedd hawliadau bychain a phobl nad oes ganddynt fynediad at gymorth cyfreithiol ar hyn o bryd ac sydd wedi cael eu gwahardd rhag cael mynediad at y system ei hun. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod manteision y technolegau hyn yn cael eu harneisio ar gyfer y system gyfan, ac nid yn unig ar gyfer ymgyfreitha corfforaethol gwerth uchel ar y pen uchaf, os mynnwch.

14:50
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, symudwn at eitem 4 sef y datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf mae Jane Hutt.

Ddirprwy Lywydd, wrth i ni nodi canmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod yr wythnos hon gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 ar 6 Chwefror 1918, gwn yr hoffem dalu teyrnged heddiw i fenywod o'r Barri a chwaraeodd eu rhan yn y mudiad, gan gynnwys Annie Gwen Vaughan-Jones, a oedd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Roedd Annie yn fyfyriwr yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth ac yn athrawes gartref yn Rwsia cyn y rhyfel byd cyntaf. Roedd hi hefyd yn ynad a oedd yn eistedd mewn tribiwnlysoedd, yn gwrando ar achosion gwrthwynebwyr cydwybodol benywaidd gyda chydymdeimlad. Yn ogystal â'r ffigur hanesyddol hwn, roedd Eirene Lloyd White—y Farwnes White—a oedd yn un o Arglwyddi'r Blaid Lafur gyda gyrfa wleidyddol lwyddiannus, wedi mynychu ysgol gynradd yn y Barri, a phan oedd Eirene yn ferch fach, daeth Mrs Pankhurst i ymweld â rhieni Eirene yn eu cartref yn Park Road. Roedd Eirene yn cofio cael ei gwisgo mewn ffrog wen gyda sash swffragét gwyrdd, porffor a gwyn. Pan ddaeth Emmeline Pankhurst i'r Barri, siaradodd yn y neuadd gydweithredol a dywedodd,

'ni all mam gaeth eni dyn rhydd.'

Yn 10 oed, symudodd Eirene White i Lundain, lle bu ei thad yn gweithio gyda David Lloyd George. Daeth yn wrth-hilydd penderfynol ar ôl iddi fethu cael bwyta yn yr un bwyty â Paul Robeson. Bu'n newyddiadurwr gwleidyddol gyda'r Manchester Evening News, y fenyw gyntaf i gael swydd o'r fath. Yn 1950, cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Sir y Fflint, a darbwyllodd y Blaid Lafur i bleidleisio o blaid cyflog cyfartal i fenywod yn y sector cyhoeddus. Yn y 1960au, roedd hi'n Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa'r Trefedigaethau, ac yn ddiweddarach yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor ac yn y Swyddfa Gymreig. Gwasgarwyd ei llwch yn y Barri, lle y cafodd blentyndod hapus iawn. Ym mis Mai, bydd llwybr menywod y Barri, sy'n nodi bywydau Annie Vaughan-Jones ac Eirene White, a 15 o fenywod eithriadol eraill o'r Barri, yn cael ei gynnwys yng ngŵyl gerdded Valeways, a bydd yn deyrnged addas i'r menywod hyn ym mlwyddyn canmlwyddiant y bleidlais i fenywod.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i wedi bod yng nghanolfan ganser rhagorol Felindre y bore yma. Mi liciwn i ddiolch i'r staff sy'n arwain y frwydr yn erbyn canser yno a dymuno'n dda i'r holl gleifion welais i efo'u brwydrau personol eu hunain. Mae un ohonom ni yn brwydro ar hyn o bryd—un ifanc. Mae'n dymuniadau gorau ni'n mynd i Steffan Lewis, sydd wedi cael llawdriniaeth yn barod am ganser y coluddyn ac sy'n parhau â'i driniaeth. Pan wnaeth Aelod arall o'r Cynulliad yma, Glyn Davies, oroesi canser y coluddyn, mi sefydlodd o dîm rygbi, ac, ers hynny, mae tîm rygbi’r Cynulliad wedi cadw’n agos at elusen Bowel Cancer UK, yn codi arian lle gallwn ni a chodi ymwybyddiaeth bob amser. Rydw i'n gwisgo tei y tîm rŵan, ond nid tei fydd gen i amdanaf i ddydd Sadwrn, ond cit y tîm.

Ein gêm yn erbyn Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yw'r gêm flynyddol fawr i dîm rygbi'r Cynulliad, ac fe'i cynhelir ar ddiwrnod gêm pencampwriaeth y chwe gwlad rhwng Cymru a Lloegr. Byddaf yno, ym Mharc Roslyn yn Llundain ddydd Sadwrn, ochr yn ochr â nifer o Aelodau eraill, gobeithio gyda phob un ohonoch sydd wedi cael eich gwahodd i chwarae neu i gefnogi. Byddwn yno fel Aelodau, fel staff cymorth, fel ymchwilwyr, fel staff diogelwch, a bydd fy mab yno hefyd, i gyd ag un prif amcan: na, nid i ychwanegu at y chwe gêm a enillwyd gennym eisoes, er mor bwysig yw hynny, ond i wneud popeth yn ein gallu i godi proffil yr elusennau rydym yn eu cefnogi.

Mae elusen canser y coluddyn wedi cael wythnos brysur, yn cyhoeddi adroddiad newydd, yn galw am atgyfnerthu gwasanaethau a diagnosis gwell. Ac wrth wisgo cit rygbi'r Cynulliad, a rhoi ein cyrff yn y fantol am 80 munud ddydd Sadwrn, byddwn yn ceisio gwneud ein rhan i weiddi mor uchel ag y gallwn dros Steff a phawb arall sydd yn yr un sefyllfa ag ef, i ddweud ein bod, yn y frwydr yn erbyn canser, yn barod i fynd i'r gad.

14:55

Ar ddydd Sul, fe wnaeth miloedd o bobl ar draws y wlad uno i nodi Diwrnod Canser y Byd. Mae dros 19,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle yma heddiw i nodi Diwrnod Canser y Byd yn y Siambr, i ddangos bod canser yn parhau'n uchel ar yr agenda wleidyddol.

Cancer Research UK yw prif elusen ganser y byd sy'n gweithio i achub bywydau trwy ymchwil. Mae eu gwaith i drial atal, gwella diagnosis a thrin canser wedi helpu i arbed miliynau o fywydau. Heddiw, rwy'n gwisgo fy mand undod Ymchwil Canser y DU i ddangos fy nghefnogaeth i Ddiwrnod Canser y Byd.

Fel mae Rhun newydd sôn, yma yng ngrŵp Plaid Cymru, mae hyn oll yn agos iawn atom a'n myfyrdodau yn wastadol efo'n cyd-Aelod, Steffan Lewis, a dymunwn y gorau iddo fo.

Mae diagnosis cynnar, wrth gwrs, yn hollbwysig i wella canlyniadau cleifion. Gyda nifer yr achosion o ganser yn cynyddu yng Nghymru, mae'r galw mawr a chynyddol am brofion canser yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn datblygu capasiti diagnostig mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig endosgopi, delweddu a phatholeg. Bydd hyn yn ein helpu ni i oroesi canser yng Nghymru ac i sicrhau y gellir canfod canserau'n gyflymach.

O gofio bod pob un o'r 19,000 o bobl bob blwyddyn yn gofyn am brawf canser, mae'n hanfodol bod gennym y gallu yn ein gwasanaethau diagnostig i sicrhau bod mwy o ganser yng Nghymru yn derbyn dadansoddiad yn gynnar.

5. Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad

Eitem 5 ar yr agenda yw cynnig Comisiwn y Cynulliad, sef ymgynghoriad ar ddiwygio'r Cynulliad, a galwaf ar y Llywydd i gynnig y cynnig—Lywydd.

Cynnig NDM6646 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

2. Yn cymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ynghylch cynigion y Panel a diwygiadau eraill yn ymwneud ag etholiadau, yr etholfraint a threfniadau mewnol y gellir eu rhoi ar waith o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig yn fy enw i.

Y llynedd, pasiwyd Deddf Cymru 2017, gan nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae yna wahanol safbwyntiau yn y Siambr hon ynghylch y Ddeddf yna a'r hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol datganoli yng Nghymru. Serch hynny, yr wyf yn siŵr y gallem ni i gyd gytuno bod datganoli pwerau dros ein trefniadau etholiadol a mewnol ein hunain yn ddatblygiad pwysig. Mae'n gyfle i ni sicrhau bod ein Senedd genedlaethol yn adlewyrchu'n well y gymdeithas yr ydym yn ei chynrychioli ac yn gweithio yn y modd mwyaf effeithiol posib wrth ymateb i anghenion ein cymunedau.

Cam cyntaf pwysig yw defnyddio'r pwerau hyn i newid enw'r Cynulliad i 'Senedd Cymru', i sicrhau bod pawb yn deall beth mae'r sefydliad hwn yma i'w gyflawni, a sut mae'n gweithio gyda phobl Cymru ac ar ran pobl Cymru.

Mae'r Comisiwn hefyd wedi rhoi mesurau eraill ar waith, gan gynnwys sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru i ysbrydoli a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad, a gweithredu argymhellion y tasglu newyddion digidol annibynnol i'w gwneud hi'n haws i bobl ddeall yr hyn y mae'r Cynulliad yn ei wneud a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Fodd bynnag, pan ddaw Deddf Cymru i rym y mis Ebrill yma, byddwn yn gallu mynd ymhellach na hyn, i newid maint y Cynulliad, system etholiadol a threfniadau mewnol y sefydliad, yn ogystal ag etholfraint ein hetholiadau, gan gynnwys yr oedran pleidleisio.

Y llynedd, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad banel arbenigol ar ddiwygio etholiadol i roi cyngor cadarn a gwleidyddol ddiduedd i ni ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Ers hynny, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r panel wedi cyhoeddi adroddiad manwl ac argymhellion penodol sy'n cynnwys neges glir ar gapasiti ein sefydliad. Daeth i'r casgliad bod y Cynulliad, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Hoffwn ddiolch, ar y pwynt yma, i'r panel, o dan gadeiryddiaeth Laura McAllister, am yr adroddiad cynhwysfawr a thrylwyr y maent wedi'i gyflwyno i ni.

Mae pob un yn y Siambr hon yn deall yn iawn nad yw galw am fwy o wleidyddion o reidrwydd yn mynd i fod yn boblogaidd. Serch hynny, mae'r adroddiad yma'n amlygu'r angen i weithredu i fynd i'r afael â'r bwlch mewn capasiti. Nododd y panel y cynigion sydd eisoes wedi'u gweithredu drwy ddulliau eraill er mwyn cynyddu capasiti'r Cynulliad, ond ni fu'r dulliau hynny ynddynt eu hunain yn ddigon. Felly, mae gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb i archwilio beth yn fwy y gellir ei wneud.

Er mwyn ethol mwy o Aelodau, mae angen system i wneud hynny, wrth gwrs, ac mae'r panel wedi ffafrio tair system benodol yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion craidd. Mi fydd ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad yn gwahodd ymatebion i'r argymhellion hyn, ynghyd â rhai awgrymiadau eraill ynglŷn â'r trefniadau etholiadol a threfniadau mewnol sydd wedi eu codi eisoes gan bwyllgorau'r Cynulliad yma yn eu gwaith blaenorol. Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y syniadau arloesol a blaengar yn adroddiad y panel am sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth, yn enwedig o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, ac edrychaf ymlaen at glywed y sylwadau ynglŷn â sut y gall cynigion ar gyfer y systemau etholiadol arwain at Gynulliad sy'n adlewyrchu'n well y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau. Felly, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r pleidiau ar yr argymhellion hyn, ac ar unrhyw awgrymiadau amgen eraill y maent yn credu y gallent ddenu'r consensws anghenrheidiol yma yn y Siambr.

Mae adroddiad y panel arbenigol yn ei gwneud yn glir: os bydd y Cynulliad yn derbyn yr achos i gynyddu maint y Cynulliad a newid ein system etholiadol, yna nawr, yn ystod tymor y Cynulliad yma, yw'r amser i weithredu ac i ddeddfu. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn faterion sy'n mynd i wraidd ein trefniadau cyfansoddiadol, a dyna pam mae'r cydweithredu rhwng y pleidiau gwleidyddol ar y mater hwn dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor bwysig. Diolch i arweinwyr y pleidiau am eu mewnbwn, ac i'r Aelodau unigol hynny—ac, yn wir, i'r cynrychiolwyr sydd wedi mynychu cyfarfodydd o'r grŵp cyfeirio gwleidyddol. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y ffordd gadarnhaol, adeiladol a sensitif y mae pawb wedi ymgysylltu â'r materion anodd yma.

Fy mwriad yw parhau yn y modd hwnnw, a dylai diwygiad mor bwysig â hyn bob amser gael ei yrru ar sail drawsbleidiol, gyda chonsensws gwleidyddol eang yn y Siambr yma, ac yn fwy eang. Mi fydd ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys cwestiynau penodol am leihau'r oedran pleidleisio i gynnwys pobl sy'n 16 ac 17, i ganiatáu pawb sy'n preswylio yng Nghymru yn gyfreithlon i bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol, ynghyd â rhai carcharorion. 

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad i’r Siambr yma bythefnos yn ôl, gan amlinellu ei gynigion ef ar gyfer diwygio etholiadau llywodraeth leol, yn cynnwys newidiadau tebyg i’r etholfraint. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i sicrhau bod ein cynigion ar gyfer diwygio yn cael eu datblygu i greu fframwaith cydlynus, ymarferol ac effeithiol ar gyfer etholiadau yng Nghymru i'r dyfodol. Y cam nesaf o'r gwaith yw ymgysylltiad eang gyda holl Aelodau'r Cynulliad, gyda chymdeithas ddinesig a gwleidyddol, ac, yn fwy na dim, gyda phobl Cymru.

Bwriad y Comisiwn yw lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos nesaf, gan ofyn am farn ar argymhellion y panel arbenigol, ac ar ddiwygiadau posibl eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad. Mae angen i'r sgwrs yma gynnwys ystod eang o leisiau o bob cwr o Gymru: pobl sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad yn aml, pobl na fyddent byth yn ystyried ymateb i ymgynghoriad y Cynulliad, a phobl a allai fod yn gwybod ychydig yn unig am y sefydliad ar hyn o bryd. I'r perwyl yma, felly, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau gwahanol a fydd yn helpu pobl i ddeall y cynigion ac ymateb mewn ffyrdd addas. Er enghraifft, yn ogystal â chyhoeddi dogfen ymgynghori ffurfiol, fe fyddwn yn lansio gwefan fach i ddarparu gwybodaeth am y cynigion a helpu pobl i ymateb ar y materion sydd bwysicaf iddynt. 

Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad heddiw yn gwahodd Aelodau i gymeradwyo penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori â phobl Cymru ar y ffordd ymlaen—dim mwy, dim llai. Bydd gwrando ar farn pobl, deall eu pryderon ac adeiladu ar eu syniadau yn ein helpu i benderfynu a yw'r amser yn iawn i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r sefydliad a chynnwys y ddeddfwriaeth honno. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, a thrwy hynny sicrhau mai lleisiau y bobl yr ydym ni yn eu gwasanaethu fydd yn llunio dyfodol ein Senedd ni.

15:05

Diolch. Mae gennym nifer o siaradwyr. Fe geisiaf eich cynnwys i gyd yn yr amser byr sydd gennym ar gyfer y ddadl, ond rwyf am apelio arnoch i gofio efallai na chaiff eich cyd-Aelodau eu galw. Felly, os gallwch fod mor gryno ag y gallwch. Diolch. Angela Burns.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Hoffwn hefyd gofnodi diolch y Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol i Laura McAllister a'i thîm. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu sydd wedi digwydd â chynrychiolwyr gwleidyddol, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd mae'n hanfodol bellach yn ein barn ni ein bod yn gofyn i bobl Cymru am eu safbwyntiau ac nad ydym yn achub y blaen ar eu barn. Rydym yn ystyried mai'r cyfrifoldeb allweddol ar gyfer Comisiwn y Cynulliad yw sicrhau bod gan y Cymry ddealltwriaeth glir o'r cyfrifoldebau ychwanegol a ddaw yn sgil Deddf Cymru 2017. Rydym yn credu bod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb clir iawn i sicrhau bod gan bobl Cymru ddealltwriaeth dda o'r cynigion a wnaed gan y panel arbenigol. Mae'r cynigion hyn yn eithaf cymhleth o ran eu manylder. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn, yn enwedig argymhellion 6 a 7, sy'n sôn ynglŷn â sut y gallwn bleidleisio, neu sut y gall pobl Cymru bleidleisio dros Aelodau'r Cynulliad. Credaf fod angen eglurder gwirioneddol ynghylch unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol fel y gall pobl ddeall yn glir iawn beth yw'r gwahanol opsiynau. Mae'n system eithriadol o gymhleth.

Credwn yn gryf iawn hefyd fod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb mawr iawn bellach i sicrhau y gall cymaint â phosibl o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Rhaid iddo gynnwys mwy na'r rhanddeiliaid arferol. Rhaid inni gysylltu â'r bobl i gyd. Felly, byddwn yn eich annog i edrych ar ffyrdd arloesol a gwahanol o gyrraedd pobl, pa un a ydynt yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin, i sicrhau bod pawb yn cael cyfle.

Nid Cynulliad ydym bellach ond Senedd, ac mae'n hanfodol fod gan Aelodau'r Cynulliad yn y lle hwn y gallu, yr amser a'r adnoddau at eu defnydd i allu craffu'n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Wrth imi eistedd yma'n gwrando ar araith agoriadol y Llywydd, dros fy mlynyddoedd o fod yn Aelod Cynulliad, rwyf wedi bod yn y brif wrthblaid bob amser, namyn un blip bach iawn, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gallu craffu pan ydych yn y rôl honno i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dwyn y blaid sy'n llywodraethu i gyfrif, oherwydd mae'n rhaid gallu pwyso a mesur ym mhob cymdeithas, a mae'n rhaid inni allu pwyso a mesur pwy bynnag sydd yn Llywodraeth yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fod yn effeithiol, yn deg, yn ddiduedd ac yn llawer llai llwythol ein natur mewn perthynas â phwyllgorau, a rhaid inni hefyd alluogi plaid lywodraethol i gael mainc gefn gadarn, oherwydd dyna'r ffordd y mae democratiaeth wirioneddol dda yn gweithio. Felly, gallwn weld bod yr alwad i weithredu, yr alwad i adolygu sut rydym yn rhedeg ein Cynulliad, yr alwad i adolygu'r arfau sydd gennym at ein defnydd, o bwys enfawr bellach. Ond mae'n un anodd i'w esbonio i bobl, a rhaid inni ei gwneud yn glir iawn—neu mae dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i'w gwneud yn glir iawn—fod pobl Cymru yn deall hynny, ac yna, pan fyddant wedi penderfynu, rhaid i ni wrando arnynt a chadw at hynny, oherwydd eu Senedd hwy yw hon wedi'r cyfan.

Diolch i'r Llywydd am gyflwyno'r ddadl yma heddiw, ac i Laura McAllister a'i thîm am waith mor drwyadl. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl lle'r ydym ni wedi bod yn trafod o'r blaen. Rydw i'n cofio mynd, ar ran Plaid Cymru, i roi tystiolaeth i'r comisiwn Richard ynglyn ag ehangu'r Cynulliad y pryd hwnnw, pan benderfynwyd neu yr argymhellwyd y dylem ni symud—hyd yn oed dros 10 mlynedd yn ôl—at Gynulliad o 80 Aelod, a dyma ni yn dal, felly, yn 60. Felly, mae'n hen bryd inni siarad â phobl Cymru ynglŷn ag argymhellion trwyadl, go iawn, a phwrpasol iawn ar gyfer troi Cynulliad sydd yn esblygu’n Senedd yn Senedd go iawn, gyda chydbwysedd go iawn rhwng y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, ond nid ydw i eisiau sarnu chwaith ar ymgynghoriad go iawn â’r cyhoedd. Felly, nid ydw i ond eisiau sôn ychydig am yr egwyddorion y mae Plaid Cymru’n teimlo eu bod yn bwysig wrth inni edrych ar hwn, gan gadw, wrth gwrs, yr opsiynau ar agor ar gyfer y dulliau o gyflawni’r egwyddorion hyn.

Yn gyntaf oll, rydw i eisiau sôn am y ffaith bod angen ehangu capasiti a gallu’r Cynulliad i graffu ar y Llywodraeth a dal y Llywodraeth i gyfrif. Mae hyn yn rhywbeth y mae Angela Burns newydd sôn amdano hefyd. Wrth gwrs, fel arfer, mae hwn yn cael ei ddisgrifio fel 'mwy o wleidyddion', ond hoffwn i ei ddisgrifio fe yn hytrach fel mwy o wleidyddion ond llai o rym i’r Llywodraeth, achos y Llywodraeth sydd yn gorfod wynebu Senedd fwy grymus, mwy pwerus yn Llywodraeth sydd yn gallu bod yn fwy atebol—yn gorfod bod yn fwy atebol—i gyhoedd Cymru. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn colli gwleidyddion yng Nghymru. Byddwn ni’n colli Aelodau Senedd Ewrop, ac rŷm ni o hyd yn trafod colli Aelodau Seneddol San Steffan drwy ddiwygio seneddol.

Yr ail egwyddor yw estyn yr etholfraint bleidleisio i bobl ifanc. Rydw i’n gwybod, drwy drafod ag ysgolion fy hunan, fod pobl ifanc yn rhannu yn eithaf 50:50 ar y materion yma eu hunain, ond rydw i yn credu bod estyn yr hawl yna i bobl ifanc i bleidleisio o 16 ymlaen yn rhywbeth y dylem ni nawr ystyried o ddifrif ar y cyd â’r newidiadau sy’n digwydd i’r cwricwlwm cenedlaethol.

Yn drydedd, wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr y bydd beth bynnag yr ŷm ni’n ei wneud yn gyfystyr neu’n gyfartal â chyfranogaeth pleidleisiau sydd gyda ni eisoes yn y Cynulliad, neu hyd yn oed yn gwella ar hynny. Ac mae yn bwysig i Blaid Cymru ein bod ni’n taro’r cydbwysedd yn iawn rhwng atebolrwydd lleol a’r ffaith bod pleidleisiau dros Gymru i gyd yn cael eu hadlewyrchu gymaint ag sy’n bosibl yn y lle hwn yn y ffordd y mae pobl yn pleidleisio. Rŷm ni’n dathlu’r ffaith bod isetholiad wedi digwydd ddoe ac yn croesawu Jack Sargeant fel Aelod newydd, sydd yn dangos bod yna brawf yn y broses, ac er efallai fod yna rai yn siomedig yn y nifer a oedd wedi troi mas, roedd hi’n eithaf calonogol a dweud y gwir fod bron un o bob tri o bobl Alun a Glannau Dyfrdwy wedi pleidleisio mewn isetholiad—mae’n well nag ambell isetholiad yn San Steffan. Ond, po fwyaf yr ydym yn gallu adeiladu ar gyfranogaeth, gorau y bydd y Senedd yma yn ymdrin â’r materion ger bron.

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ac yn gwella ar y gynrychiolaeth gan y ddau ryw yma. Mae hwn yn rhywbeth y mae Siân Gwenllian wedi sôn yn ddiweddar yn y Cynulliad amdano. Mae yna argymhellion pendant gan Laura McAllister yn yr adroddiad. Yr hyn a ddywedaf i nawr yw nad yw hi’n anghyffredin o gwbl mewn democratiaeth fodern gweld prosesau a thechnegau yn eu lle i sicrhau bod y senedd yn cynrychioli, gymaint ag sy’n bosibl, ddynion a menywod yn gyfartal.

Ac rwy'n meddwl, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ei bod hi'n hen bryd sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cael ei drawsnewid yn Senedd Cymru mewn enw, ac nid mewn enw'n unig, ond o ran ei chyfansoddiad a'i statws yn ogystal. Mae hyn oherwydd yr hanes sydd gennym. Peidiwch â chamgymryd: roedd rhoi cynulliad yn lle senedd i Gymru yn gwbl fwriadol; cawsom ein hualu'n fwriadol o'r dechrau. Dim pwerau deddfwriaethol tan refferendwm 2011, wrth gwrs. Dim pwerau trethu o gwbl. Nid oedd gennym Lywodraeth hyd yn oed yn nyddiau cyntaf y Cynulliad. Dyna pa mor gaeth yr oeddem, ac roedd y disgrifiad 'cyngor sir ar stilts' yn llawer rhy agos i'r gwir o'm rhan i. Ond rydym wedi symud ymlaen; rydym wedi dod yn Senedd go iawn yn ein trafodaethau, yn y ffordd rydym wedi cydweithio ar y ddeddfwriaeth drethu dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n bryd cydnabod hynny ar y cyd ac mewn ymgynghoriad â phobl Cymru. Ond rwy'n sicr yn obeithiol y daw hynny i gyfnod lle y mae gennym graffu go iawn ar y Llywodraeth gyfan, o ba liw bynnag yn wleidyddol.

15:10

Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r materion a godwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad yn faterion, nid i'r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond i ni fel cynrychiolwyr ein pleidiau gwleidyddol, ac i'n cymunedau a'n pleidiau'n fwy eang eu hystyried.

Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i'r Athro Laura McAllister am ymgymryd â'r darn sylweddol hwn o waith. Mae ehangder arbenigedd aelodau'r panel wedi sicrhau archwiliad manwl o faterion cymhleth iawn. Maent yn faterion sy'n haeddu ystyriaeth ac ymgynghori llawn.

Ceir dau faes yn yr adroddiad lle mae gennym bolisi presennol. Yn gyntaf, mae Llafur Cymru yn cefnogi pleidlais yn 16 oed, fel y gwelwyd yn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ymestyn yr etholfraint yn yr etholiadau llywodraeth leol. Dyma ymrwymiad a wnaed yn ein maniffesto yn 2016 ac rydym yn cefnogi cynigion i ymestyn hyn i etholiadau'r Cynulliad hefyd. Yn ail, mae gan Lafur Cymru draddodiad balch o ethol menywod yng Nghymru. Mae gennym fwy o fenywod yn y Senedd hon nag unrhyw blaid arall, a menywod yw dros 50 y cant o'n grŵp. Er ei bod wedi cymryd 80 mlynedd i Blaid Cymru ethol menyw i'r Senedd, ac nid yw'r Torïaid, er mawr gywilydd, byth wedi ethol menyw i Dŷ'r Cyffredin o Gymru, o'r 11 o ASau o Gymru sy'n fenywod, Llafur yw 10 ohonynt. Ac nid yn unig yn San Steffan a Bae Caerdydd y mae Llafur Cymru yn arwain ar hyn. Mewn siambrau cynghorau ledled Cymru, mae gan Lafur Cymru fwy o fenywod yn cynrychioli eu cymunedau nag unrhyw blaid arall. Yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, mae dros hanner y cynghorwyr lleol, a dros hanner cynghorwyr Llafur Cwm Cynon, yn fenywod.

Ond nid wyf am fynd dros ben llestri. Mae dulliau cadarnhaol i gynyddu nifer y menywod yn chwarae rhan arwyddocaol a thrwy hynny, yn trawsnewid fy mhlaid. Rhoddodd hyn lais i fenywod a helpu i wneud y lle hwn yn arena well a mwy adeiladol i drafod dyfodol ein gwlad. Mae gan bob plaid ddyletswydd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn ceisio'u cynrychioli. Ni ddylai gymryd panel o arbenigwyr i wneud hynny'n glir i unrhyw un. Bydd rhai ohonoch yn cytuno â'r cwotâu fel y'u nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol. Bydd eraill yn anghytuno. Beth bynnag yw eich barn, gobeithio y gallwn i gyd gytuno fod arnom angen mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, i sefyll etholiadau, a llwyddo mewn gwleidyddiaeth. Nid wyf eisiau inni fod angen cwotâu, ond yn arbennig nid wyf am i unrhyw blaid feddwl y gallant aros hyd nes y cânt eu gorfodi gan y gyfraith i fod o ddifrif ynghylch cynrychiolaeth gyfartal.

Ddirprwy Lywydd, 100 mlynedd yn ôl cafodd rhai menywod yr hawl i bleidleisio. Mae o fewn ein gafael i roi llais go iawn i bob menyw hefyd. Mae'r grŵp Llafur wedi cael trafodaeth gychwynnol ar feysydd eraill yr adroddiad, a byddwn yn parhau â'r rhain. Byddwn hefyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad y mae ein plaid wedi ymrwymo iddo yn ystod 2018 cyn adrodd i'n cynhadledd yn 2019. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r panel arbenigol am eu gwaith ac edrychaf ymlaen at ymwneud â chasgliadau ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad.

15:15

Diolch, Lywydd, am gyflwyno'r cynnig heddiw ar ran Comisiwn y Cynulliad. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r panel arbenigol am gynhyrchu ei adroddiad, a'r grŵp cyfeirio gwleidyddol ei hun, sydd wedi bod yn cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cyfarfodydd y grŵp cyfeirio gwleidyddol yn ddiddorol iawn, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, er bod yn rhaid imi nodi mai un yn unig a fynychais yn bersonol, a hynny fel dirprwy. Ond gwrandaowdd UKIP yn ofalus ar y panel a'r hyn a oedd ganddynt i'w ddweud, ac ar ymateb y pleidiau gwleidyddol hefyd.

Ond rwy'n credu bod barn y pleidiau gwleidyddol am y newidiadau arfaethedig hyn yn llai pwysig mewn gwirionedd na barn y cyhoedd amdanynt. Dyna pam y mae UKIP yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus ac felly'n hapus i gefnogi'r cynnig heddiw. Ond teimlwn y dylai'r ymgynghoriad weithredu fel ffordd o addysgu etholwyr Cymru am y newidiadau arfaethedig hyn, a chredwn mai'r mwyaf ohonynt yw'r cynllun arfaethedig i ehangu'r Cynulliad. Credwn fod hwn yn fater mor fawr fel y dylai'r ymgynghoriad arwain at refferendwm yn y pen draw, gan na ellir pennu fod unrhyw gydsyniad poblogaidd wedi'i roi heb inni gael refferendwm o'r fath yn gyntaf.

Nawr, o ran y materion eraill, pleidlais yn 16 oed: mae gennym bolisi cenedlaethol ar hynny hefyd, ac rydym yn gwrthwynebu ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd: credwn y dylai hynny fod yn fater i'r pleidiau gwleidyddol eu hunain benderfynu yn ei gylch. Y broblem gyda'r ymgynghoriad yw sut i gael ymglymiad eang, a sut i sicrhau y caiff lleisiau eu clywed yn hynny ac nid yr hen wynebau'n unig—hynny yw, y rhanddeiliaid sydd eisoes yn gwbl gefnogol i'r Cynulliad fel sefydliad ac a fyddai'n ddigon bodlon gweld Cynulliad estynedig. Rhaid inni sicrhau nad yw'r ymgynghoriad wedi'i rigio mewn unrhyw ffordd.

Nawr, mae'r Llywydd wedi siarad am yr angen am gonsensws yn y lle hwn, ond hefyd am yr angen am ryw fesur o gydsyniad poblogaidd. Yn UKIP, credwn y byddai'n annoeth bwrw ymlaen, yn enwedig gydag ehangu'r Cynulliad, heb sicrhau'r cydsyniad poblogaidd hwnnw drwy gyfrwng refferendwm.

15:20

A gaf fi hefyd ymuno â'r Aelodau eraill i longyfarch Laura McAllister a'r panel am lunio adroddiad awdurdodol? Credaf ei fod cystal ag unrhyw beth a fyddai wedi'i gynhyrchu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae'n dilyn traddodiad balch o adrodd cyfansoddiadol a fu gennym yn ein hanes ers datganoli. Efallai ein bod wedi gorfod gwneud llawer o'r meddwl ar hyd y ffordd—ac felly cawsom gomisiwn Richard, cawsom gomisiwn Silk, a chomisiwn Holtham, er bod hwnnw'n ymwneud yn fwy uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Maent yn gorff o dystiolaeth gwych iawn ar y materion cyfansoddiadol canolog hyn yn fy marn i. Ni chredaf y gall unrhyw un ohonom amau prif ganfyddiad yr adroddiad, sef—a dyfynnaf—fod y Cynulliad

'yn rhy fach a bod gormod o bwysau arno.'

Rwyf wedi gwasanaethu yn y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999. Rwyf wedi ei weld yn esblygu a sylweddolaf, yn glir iawn, fod swm y gwaith a wnawn yn rhyfeddol—a'r rheswm am hynny yw ein bod yn cael cefnogaeth dda, yn meddu ar staff rhagorol, ac wedi dysgu addasu ein gweithdrefnau. Ond nid yw o reidrwydd yn ddigymell mewn rhai agweddau, ac mae cynnal capasiti y gwaith a wnawn yn rhoi llawer o straen ar rannau penodol o'r strwythur deddfwriaethol, ac mae'n briodol inni edrych ar hyn. Mae'r adroddiad yn dweud bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol arnom. Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn sicr pan fyddwch yn ein cymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn llai o lawer ac mae angen inni roi sylw i hyn.

A gaf fi droi at yr hyn a ddywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol? Un o'u canfyddiadau canolog oedd nad oes gennym ond oddeutu 42 o ACau sy'n gallu bod yn aelodau o bwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru. Dyma sydd wrth wraidd ein gwendid, mewn gwirionedd; nad oes digon o ACau ar gyfer gwaith craffu. Beth bynnag a ddywedwn am ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, mae wedi cynhyrchu pwerau gweithredu cryf dros ben. Roeddwn yn siarad â rhywun y diwrnod o'r blaen a brotestiodd yn erbyn fy nefnydd o'r gair 'ffederal', a dywedais, 'Wel, mewn gwirionedd, yn y DU, rydym y tu hwnt i ffederaliaeth; mae ein Llywodraethau'n llawer cryfach na'r rhan fwyaf o Lywodraethau ffederal yn y byd gorllewinol.' Felly, mae angen inni gael deddfwrfa bwerus hefyd i graffu ar waith y Cynulliad hwnnw.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cynyddu'r aelodaeth yn eu barn hwy yn galw am newid y system etholiadol, ac mae'n well ganddynt y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond fy hun, nid wyf yn credu ei bod yn ddoeth inni gysylltu cynyddu maint y Cynulliad gyda system etholiadol newydd. Gallai un ddifetha'r llall os nad ydym yn ofalus iawn, a chredaf fy mod wedi synhwyro tôn o'r fath yng nghyfraniad Vikki Howells. Credaf y byddai'n ddoeth iawn inni edrych ar yr hyn sy'n hanfodol, sef gweld a allwn gynyddu maint y Cynulliad gyda chefnogaeth y cyhoedd.

Nawr, fe ddywedais 'rhwng 20 a 30'. Yn sicr, rwy'n credu y byddai 30 o aelodau ychwanegol yn gofyn gormod. Byddai hynny'n cynyddu ein maint o hanner. Yng Ngogledd Iwerddon, maent yn ystyried torri ychydig, i lai na 90 rwy'n credu. Pe baem yn awgrymu nifer mwy cymedrol o 75 Aelod, rwy'n cynnig y byddai cyfran yr Aelodau etholaethol o gymharu â'r Aelodau rhanbarthol yn aros yr un fath. Felly, ni fyddai'n rhaid inni newid y system etholiadol—er y byddai angen 50 o etholaethau ar gyfer ethol yn uniongyrchol wrth gwrs. Felly, byddai'n rhaid i gomisiwn ffiniau gyfarfod i wneud hynny. Ond o leiaf gallem fwrw ymlaen ar sail gwarchod system etholiadol bresennol y system aelod ychwanegol, sy'n cynhyrchu lefel eithaf uchel o gymesuredd. Dyna pam y mae wedi para ers cyhyd yn yr Almaen. Felly, dyna fyddai fy awgrym. Gwn hefyd y gallech gadw'r gyfran honno pe bai gennych 90 o Aelodau, ond credaf y byddai hynny'n gofyn gormod mewn gwirionedd o ystyried yr hinsawdd wleidyddol gyffredinol ar hyn o bryd.

Yn olaf a gaf fi droi at rôl dinasyddion? Credaf ein bod yn gweld grym mawr yn cael ei greu yn awr dros gynnwys dinasyddion, ac rydym yn symud yn bendant iawn tuag at ddemocratiaeth gyfranogol. Mae democratiaeth gynrychioliadol ar drai, mae dinasyddion angen llawer mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac rwy'n croesawu hynny. Dyna pam yr awgrymais y dylem edrych ar sefydlu siambr dinasyddion ar ryw bwynt yn y Cynulliad Cenedlaethol. Nawr, efallai y byddwch am wneud hynny ar ugeinfed pen-blwydd datganoli a gofyn i'r siambr honno edrych ar y cyfansoddiad yn ei gyfanrwydd. Efallai mai dyna fydd un dasg, ond gallai hefyd edrych ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ac awgrymu eitemau ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol honno.

Ond mae gennyf un cyngor i'r Comisiwn: credaf fod angen rhywbeth llawer mwy gweithredol o ran cynnwys dinasyddion na'r hyn a welais yn cael ei awgrymu hyd yma mewn perthynas ag ymgynghori. Mae angen rheithgor neu banel dinasyddion fan lleiaf arnom i edrych ar y cwestiwn hwn, oherwydd gallai agor y drysau i wneud y polisi hwn yn ymarferol. Pe baem yn cael cefnogaeth rymus gan y cyhoedd, a bod hynny'n amlwg yn ddiduedd, credaf y gallem symud ymlaen ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y rhai sy'n dweud, 'Wel, bydd yn costio £100,000 neu £200,000 i redeg y math hwnnw o banel neu reithgor.' Wedi'r cyfan, rydym yn ystyried cynnydd sylweddol yn ein haelodaeth, a fydd yn creu miliynau o bunnoedd o wariant ychwanegol. Felly, dyna fy nghyngor i i'r Comisiwn: sicrhewch fod dinasyddion yn cael lleisio barn.

15:25

Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad, ac yn llongyfarch pawb sydd ynghlwm â’r gwaith, a llongyfarch y Comisiwn a’r Llywydd am gomisiynu’r gwaith yn y lle cyntaf, a symud yn gyflym iawn, a dweud y gwir, yn sgil cael Deddf Cymru 2017, sydd yn gwneud hyn yn bosib o’r diwedd. Heb y Ddeddf yna, wrth gwrs, ni fyddem ni ddim fan hyn yn trafod hyn.

Y cam nesaf ydy cynnal ymgynghoriad eang a deallus ar y materion sydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad, nid yn unig am y nifer o Aelodau Cynulliad—ac rwyf ychydig bach yn bryderus y bydd y drafodaeth yn mynd i’r fan honno; y bydd faint o Aelodau Cynulliad sydd eu hangen ac a oes angen cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad rhywsut yn dominyddu’r drafodaeth. Mae angen pwysleisio y materion pwysig eraill sydd yn cael eu crybwyll fan hyn. Rwy’n credu bod angen trefniadau newydd erbyn hyn. Canran fechan a bleidleisiodd ddoe yn yr is-etholiad yng Nglannau Dyfrdwy, ac er efallai nad yw Simon yn poeni’n ormodol am hynny, rwy’n meddwl ei fod yn dangos bod angen newid—bod angen i bobl deimlo bod yna werth i’w pleidlais nhw, a bod pobl yn teimlo bod y bobl sy’n cael eu hethol wir yn gynrychioladol o’r boblogaeth gyfan.

Mae argymhellion 14 i 16 yn ymwneud â chynnig y bleidlais i bobl ifanc 16 a hŷn ac, wrth gwrs, mae angen yr addysg wleidyddol i gyd-fynd efo hynny, ac rwy’n falch o weld bod argymhellion 15 ac 16 yn cyfeirio’n benodol at hynny. Mae yna lawer iawn o bobl ifanc yn awchu am yr hawl i bleidleisio, ac rwy’n mawr obeithio y bydd yr agwedd yma ar yr adroddiad yn cael sêl bendith pobl ifanc a, gobeithio, sêl bendith pawb sydd yn ymboeni am ddyfodol ein gwlad ni.

Argymhelliad 10: mae gen i ddiddordeb penodol yn hwn fel llefarydd cydraddoldeb Plaid Cymru. Argymhelliad 10, wrth gwrs, ydy’r argymhelliad sydd yn sôn am gydbwysedd o ran y rhywiau, ac mae argymhelliad 10 yn golygu—. Yr argymhelliad yma ydy bod cwota rhywedd yn cael ei integreiddio i’r system etholiadol a sefydlir ar gyfer 2021. Yn sicr, rwy’n credu bod angen cael cydbwysedd rhywedd drwy Ddeddf, a bod angen i’r Cynulliad yma fod yn arwain y ffordd yng Nghymru fel bod cyrff cyhoeddus hefyd yn dilyn yn yr un ffordd, a’n bod ni yn osgoi dadlau mewnol pleidiol, achos dyna sydd yn tueddu i ddigwydd pan mae’r mater yn cael ei adael i’r pleidiau yn unig. Rwy’n credu bod angen Deddf gwlad.

Mi fyddwn i’n annog, felly, pawb i gymryd rhan yn y drafodaeth yn yr ymgynghoriad yma, ac rwyf yn gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth am y Cynulliad ei hun, ac yn addysgu pobl am werth y Cynulliad, yn ogystal ag ysgogi trafodaeth ehangach am rôl menywod ym mywyd cyhoeddus Cymru.      

15:30

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn croesawu'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn ar 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Rwy'n mynd i gyfeirio'n benodol at yr argymhellion, sy'n ceisio ehangu cyfranogiad menywod a phobl ifanc yn y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf ei bod yn briodol ein bod yn ystyried yr argymhellion hyn—nid wyf yn credu ei fod wedi'i gynllunio o reidrwydd—yn yr wythnos rydym yn dathlu canmlwyddiant rhoi'r bleidlais yn rhannol i fenywod, ac edrych yn ôl ar yr arloeswyr, ganrif yn ôl, a fu'n ymladd i gael y bleidlais. A beth fyddent hwy'n ei feddwl heddiw, o ran lle rydym yn mynd?

Gwn y byddai'r rhai a ymladdodd dros ein hawl i bleidleisio 100 mlynedd yn ôl wedi cefnogi camau cadarnhaol y Blaid Lafur, fel y nododd Vikki Howells, yn arwain at sefydlu'r Cynulliad, gyda gefeillio etholaethau—rhoesom sylwadau ar hynny ddoe. Arweiniodd at ethol niferoedd mwy nag erioed o fenywod Llafur yn 1999, gan fy nghynnwys i; yn wir, cefais fy ngefeillio gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Ac mor falch y byddai'r swffragetiaid yn ein hetholaethau i weld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, oherwydd y camau cadarnhaol hynny i raddau helaeth. Ond yn anffodus, rydym wedi llithro'n ôl o'r cydraddoldeb arloesol hwnnw, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Credaf fod angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i archwilio—ac rwy'n falch fod y Llywydd wedi sôn am ymchwilio yn yr ymgynghoriad hwn y newidiadau arfaethedig yn argymhellion 9, 10 ac 11.

Ddoe, galwodd Natasha Davies o Chwarae Teg arnom i fanteisio ar y cyfle hwn i bleidleisio dros senedd sy'n gweithio i fenywod. Ac rwy'n annog—fel y mae eraill wedi gwneud—y gymdeithas ddinesig ehangach i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, yn ogystal â'r byd gwleidyddol a'r pleidiau gwleidyddol. Rydym am wybod beth y mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Merched y Wawr, y Soroptimyddion, ein fforymau pobl ifanc, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, undebau llafur, grwpiau tenantiaid, yn ogystal â'n cymunedau ffydd a di-ffydd, yn ei feddwl o'r cyfleoedd hyn—rheithgorau dinasyddion, fel y mae David wedi crybwyll. Mae angen inni fynd ati i ymgynghori ar yr etholfraint wleidyddol ehangaf sy'n bosibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, ymgynghori ar yr argymhelliad i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Nawr, rwy'n credu bod Richards eisoes wedi cael ei grybwyll, Ddirprwy Lywydd. Yn 2002, gadewch i ni gofio, Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a gyhoeddodd y comisiwn annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Llafur, yr Arglwydd Richards o Rydaman, i edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Cyhoeddodd ei adroddiad—mae'n werth edrych eto ar ei adroddiad—yn 2004. Mae argymhellion megis y ffaith y dylai'r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol wedi cael eu gwireddu, a strwythur y corff corfforaethol wedi'i ddisodli gan y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, ac wrth gwrs, mabwysiadwyd cymaint o'i argymhellion, ond mae'r argymhellion ehangach ar y trefniadau etholiadol—maint y Cynulliad; wrth gwrs, roedd Richards yn argymell newid i 80 o Aelodau—yn dal ar y gweill.

Ni chanolbwyntiodd Richards ar y materion y soniais amdanynt heddiw—ac y bu Siân Gwenllian a Vikki Howells yn siarad amdanynt yn wir—o ran sut y ceisiwn gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf fod yna ddiben i'n presenoldeb yma. Rhaid inni edrych yn ôl ar esiampl ein chwiorydd ym mudiad y Swffragetiaid, sy'n ein galluogi i fod yma heddiw, ac edrychaf ymlaen i weld beth fyddai cenedlaethau'r dyfodol yn ei ddisgwyl gennym o ran manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym i greu Senedd sy'n addas i'r diben, o ran y gynrychiolaeth ehangaf i bobl yng Nghymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n dacteg anfwriadol gennyf i i adael cyn lleied o amser i fi fy hunan i ymateb i'r ddadl. Mae'n amlwg, o ran amseru areithiau, fy mod i mas o bractis ar hynny ar y llawr yma erbyn hyn.

Jest i gyfeirio, felly, yn gyflym iawn, at rai o'r prif bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud—rhai ohonyn nhw'n gyffredin ar draws y cyfraniadau. Y pwynt wnaeth Angela Burns ar y cychwyn, wrth gwrs, ynglŷn â sicrhau bod yr ymgynghoriad rŷm ni'n cychwyn arno mor eang ag sy'n bosib, o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni i wneud y gwaith hynny, ac yn ymestyn allan i bob cornel yng Nghymru, yna rŷm ni'n mynd i wneud pob ymdrech i wneud hynny. Fe wnaeth David Melding gyfeirio at y pwynt penodol ynglŷn â cheisio bod mor arloesol â phosib ynglŷn â'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar ymgynghori—panel dinasyddion, citizens' panel, jiwri. Fe wnaeth y Comisiwn edrych ar hyn, ac, yn anffodus, fel y mae David Melding wedi cyfeirio ato, fe wnaethom ni ddod i benderfyniad, yn yr achos yma, fod hyn yn ymddangos yn rhy ddrud i'w gyflawni, er cymaint byddai gwerth hynny wedi bod i ni fod yn gwneud hynny.

Fe wnaeth nifer o bobl gyfrannu o safbwynt eu pleidiau, ac roedd yn werthfawr i glywed beth yw polisïau cyfredol nifer o'r pleidiau ar rai o'r materion y byddwn ni'n ymgynghori arnyn nhw, a gwnaeth nifer hefyd wedi cyfeirio at yr hyn y gallwn ni fod yn edrych arno ac sy'n deillio allan o'r adroddiad ar gyfartaledd rhywedd. Ac fel dywedodd Vikki Howells, fe fedrid edrych, wrth gwrs, i ddefnyddio deddfwriaeth i sicrhau cyfartaledd rhywedd, ond dylai hynny ddim osgoi cyfrifoldeb pob un o'r pleidiau, a phob un ohonom ni fel Aelodau fan hyn, i sicrhau o fewn ein pleidiau ein bod ni'n hyrwyddo ymwneud menywod yn fwyfwy, a phobl o gefndiroedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli fan hyn yn ddigonol i fod yn ymwneud â'n gwleidyddiaeth ni yma yng Nghymru. 

Diolch i David Melding yn benodol am gynnig opsiwn amgen i'r tri opsiwn a gynigiwyd gan y panel—opsiwn o 75 Aelod. Nid ydym wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad eto, ac er hynny, rydym yn cael opsiwn newydd i'w ystyried. Felly, rwy'n werthfawrogol o'r meddwl y tu ôl i'r opsiwn yna yn sicr.

Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll taw'r hyn sy'n greiddiol i adroddiad y panel, yr hyn sy'n greiddiol i natur y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael y prynhawn yma, yw'r angen i sicrhau bod y cydbwysedd rhwng y Cynulliad, y Senedd yma, gwaith ei phwyllgorau, gwaith y Siambr yma, a gwaith y Llywodraeth yn gweithio er lles pobl Cymru—sicrhau mwy o sgrwtini, gwell sgrwtini. Mae gwell sgrwtini yn arwain at well deddfwriaeth, gwell penderfyniadau polisi gan Lywodraeth, ac mae hynny i gyd yn y pen draw o fudd i bobl Cymru fel rŷm ni'n eu cynrychioli nhw yn y Senedd yma. Felly, diolch am yr ymateb calonogol i symud ymlaen, gobeithio, i'r cam o awdurdodi yr ymgynghoriad pellach ar y materion diddorol a dyrys yma gyda phobl Cymru. 

15:35

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil chwarae cynhwysol

Symudwn yn awr at eitem 6, sef dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Vikki Howells i wneud ei chynnig ar y Bil chwarae cynhwysol.

Cynnig NDM6537 Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae chwarae yn rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n annog iechyd corfforol a lles, yn mynd i'r afael â gordewdra, yn gwella sgiliau echddygol a deheurwydd, yn adeiladu gwydnwch a ffitrwydd. Mae hefyd yn hyrwyddo lles meddyliol. Mae chwarae'n cyfrannu at ddatblygiad ymennydd iach. Mae'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r dychymyg. Mae'n rhoi cyfleoedd newydd i blant  ymgysylltu a rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas. Ond mae hefyd yn cyflawni'r rôl fwy sylfaenol o greu hunaniaeth yr unigolyn. Dywedodd y pediatregydd enwog, Donald Winnicott:

Mewn chwarae, a dim ond mewn chwarae, y gall y plentyn unigol... fod yn greadigol a defnyddio'r bersonoliaeth gyfan, a dim ond drwy fod yn greadigol y mae'r unigolyn yn darganfod yr hunan.

Roedd Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn datgan hawl plant i chwarae. Gosododd ddyletswydd ar Lywodraethau i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei pharchu, a'i chodeiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Aeth y Cynulliad hwn ati'n rhagweithiol i gyflawni hyn, a dyma oedd y Senedd gyntaf i fabwysiadu polisi chwarae cenedlaethol a'r gyntaf i ddeddfu ar gyfer chwarae plant.

Gosododd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau digon o gyfleoedd chwarae i blant, megis drwy feysydd chwarae sefydlog. Er nad dyma'r unig gyfleoedd ar gyfer chwarae, maent yn parhau i fod yn un o'r opsiynau mwyaf poblogaidd a chyfleus. Ond nid yw hynny'n wir yn achos pob plentyn. Yn arbennig, nid yw'n wir i rai ag anabledd. Yn 2015, cynhaliodd Sense  ymchwiliad cyhoeddus i'r ddarpariaeth o gyfleoedd chwarae i blant hyd at bump oed gydag anghenion niferus yng Nghymru a Lloegr. Fe'i cyhoeddwyd yn 2016, ac roedd yn cynnwys rhai canfyddiadau llwm. Gwelodd gonsensws cryf fod plant sydd ag anghenion lluosog yn wynebu rhwystrau sylweddol i chwarae hygyrch. Roedd teuluoedd yn awyddus i allu defnyddio lleoliadau chwarae prif ffrwd yn y gymuned. Fodd bynnag, teimlai 92 y cant o rieni nad oedd eu plentyn yn cael yr un cyfleoedd chwarae â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Roedd llawer o leoliadau'n anhygyrch i blant ag anghenion lluosog. Ac mae hyn yn effeithio ar iechyd, lles a gallu'r plant hyn i ryngweithio gyda'u ffrindiau, eu teulu a'r gymdeithas.

Mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud wrthyf am y problemau y maent yn eu hwynebu. Ers cael fy ethol, mae dau faes chwarae yn fy etholaeth wedi cael eu gwneud yn gynhwysol. Mewn un achos, Glyncoch, roedd hyn yn ymwneud â hygyrchedd y safle chwarae, ac yn yr achos arall, Cilfynydd, lle y cefais y fraint o gyfarfod â merch ifanc ryfeddol iawn o'r enw Mia Thorne, golygodd osod cyfarpar chwarae newydd cynhwysol fel y gallai Mia chwarae gyda'i ffrindiau.

Gall safle anhygyrch neu gyfarpar anhygyrch fod yn rhwystrau sy'n atal plant rhag chwarae. Roedd y ddau welliant yn rhan o fuddsoddiad eithriadol o uchelgeisiol o £1.7 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn safleoedd chwarae lleol. Gellid cymryd eu bod yn dweud, 'Rydym yn ymateb i'r her.' Yn hytrach, credaf mewn gwirionedd eu bod yn gweithio i dynnu sylw at y broblem. Er enghraifft, cefais wahoddiad gan un o fy nghyd-Aelodau yma i weld maes chwarae newydd yn eu hetholaeth mewn man arall yng Nghymru. Roedd y buddsoddiad wedi costio cannoedd o filoedd o bunnoedd, ac roedd yn safle trawiadol iawn gyda darnau o gyfarpar gwirioneddol dda. Gwnaed y parc ei hun yn hygyrch fel rhan o'r gwaith, ond nid oedd unrhyw gyfarpar chwarae cynhwysol. Gallai plant ag anableddau deithio at y cyfarpar chwarae, ond ni allent ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Teimlwn fod hwn yn gyfle mawr a gollwyd, o ystyried y swm enfawr a fuddsoddwyd. Am oddeutu £1,000 yn fwy, gellid bod wedi darparu cyfleoedd chwarae cynhwysol.

Felly, dyna gyfle a gollwyd, a dyna'n union lle byddai fy nghynnig yn dod yn weithredol. Rwy'n gofyn i Aelodau'r Cynulliad heddiw nodi fy nghynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Yn syml, byddai'r Bil hwn yn gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel bod yn rhaid iddynt ddarparu offer chwarae a mannau sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau. Byddai hyn yn adeiladu ar Fesur 2010. Mae hwnnw eisoes yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer chwarae. O'r naw elfen yn hwn, mae dwy yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion cynwysoldeb, ond mae Chwarae Cymru wedi nodi heriau i gynghorau gyflawni'r rhain oherwydd gallu ac adnoddau. Byddai fy nghynnig yn cryfhau ac yn gwella hyn, gan flaenoriaethu'r ddarpariaeth o gyfarpar chwarae cynhwysol.

Rwyf am droi at rwystrau posibl i fy nghynnig. A fyddai Bil o'r fath yn rhoi pwysau ariannol diangen ar gynghorau, yn enwedig yng nghyd-destun y cyni yn y sector cyhoeddus ehangach? Rwyf o'r farn na fyddai. Gallai newidiadau ddigwydd dros amserlen hirdymor heb ddisgwyliadau uniongyrchol o newid llwyr. Gallai cynghorau ddatblygu a chynllunio meysydd chwarae cynhwysol ar sail hylaw fel rhan o unrhyw waith rheolaidd. Fel y mae enghraifft Rhondda Cynon Taf a ddisgrifiais yn gynharach yn ei awgrymu, mae cynghorau'n buddsoddi ac yn uwchraddio offer chwarae yn weddol reolaidd. Ni fyddai fy nghynnig ond yn sicrhau bod uwchraddio a gynlluniwyd yn cynnwys darpariaeth o offer cynhwysol sy'n hygyrch neu wedi'i addasu ar gyfer rhai â phroblemau synhwyraidd—ei bod yn egwyddor gychwynnol yn hytrach nag ychwanegiad munud olaf.

Ar ben hynny, nid yw'r gwahaniaeth rhwng offer chwarae cynhwysol ac offer nad yw'n gynhwysol mor sylweddol ag y gallech ei dybio. Gellid ei wneud yn gyfforddus o fewn gwaith adnewyddu man chwarae ar gost o ddegau o filoedd, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf mai cyfartaledd yr hyn a wariant ar adnewyddu un man chwarae yw tua £25,000 yn fras. Mae hyn hefyd yn egluro pam na fyddai cynnig o'r fath yn arwain at ganlyniad anfwriadol fod cynghorau'n peidio ag adnewyddu eu cyfarpar chwarae. Ond problem fwy heriol yw nad oes un darn o offer chwarae a fyddai'n addas i'r holl fathau o anableddau neu bob oedran. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn yw bod yna amryw o ddarnau o gyfarpar a allai fod o fudd i nifer o wahanol grwpiau o ddefnyddwyr.

Nawr, hyd yn oed os yw'r Aelodau'n cefnogi fy nghynnig heddiw, gwn na fydd newid sydyn yn y gyfraith. Fodd bynnag, ceir nifer o gynigion synhwyrol y gellid eu defnyddio i archwilio'r mater ymhellach. Er enghraifft, hoffwn weld yr asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae y mae awdurdodau lleol eisoes yn eu cynhyrchu yn cael eu cyhoeddi. Byddai rhannu gwybodaeth yn well yn grymuso plant a'u teuluoedd fel ein bod ninnau a hwythau'n gwybod beth sydd ar gael. Gellid cryfhau ymwybyddiaeth drwy ryw fath o wobr Baner Werdd am arfer da, naill ai fel menter annibynnol neu fel rhan o'r cynllun nodi mannau gwyrdd sydd eisoes wedi'i sefydlu. A gellid hysbysebu unrhyw waith a wneir ar hyn drwy wefan fel bod rhieni'n gallu defnyddio a gweld ble y lleolir meysydd chwarae cynhwysol da. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar fy nghynnig.

15:40

Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw yn fras. Credwn y dylai plant sy'n byw gydag anableddau ac anghenion arbennig allu cael profiadau bywyd pwysig a gwerthfawr y dylai unrhyw blentyn arall yn ein cymdeithas eu cael. Ond rwy'n teimlo ei bod yn anffodus, ar un ystyr, y dylem fod yn ystyried yr anghenion i osod chwarae cynhwysol a mynediad at gyfleoedd chwarae i blant ag anableddau ar sail fwy statudol, oherwydd byddem wedi gobeithio, erbyn hyn, gyda datganoli wedi datblygu i'r fath raddau, y byddai yna gydnabyddiaeth eang gan awdurdodau a'r cyhoedd yn ehangach i'r angen i sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch i bob teulu a phob plentyn ag anabledd neu angen arbennig.

Byddem hefyd wedi gobeithio, gyda'r rhaglenni sydd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr y clywn ragor amdanynt yn nes ymlaen, na fyddai ansicrwydd ynghylch y ddarpariaeth a mynediad, fel sy'n bodoli i lawer o deuluoedd. Pan fydd yn ymateb, efallai y byddai'n werth i'r Gweinidog amlinellu pa ddarpariaeth a geir eisoes a sut y maent yn sicrhau mynediad a gwasanaethau cyson ledled Cymru ar hyn o bryd, neu sut y maent yn cynllunio i wneud hynny.

Yn fy mhrofiad fel Aelod Cynulliad ceir llu o wasanaethau y mae pobl a Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt gael eu darparu gan awdurdodau lleol, ond nad ydynt yn cael eu darparu mewn gwirionedd, neu os ydynt, yna mae'n amrywio o le i le ac weithiau o fewn yr awdurdod ei hun. Clywn yn aml fod Gweinidog yn y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau neu'n rhyddhau arian ar gyfer gwasanaeth penodol ac yn aml, mae hynny i'w groesawu, ond heb sail gyfreithiol a gofyniad i awdurdod weithredu, yn enwedig pan fo'n anodd dod o hyd i arian, daw etholwyr atom i gwyno nad ydynt yn gallu gwneud pethau y dylent allu eu cymryd yn ganiataol.

Rydym yn gweld hyn gyda phethau y tu hwnt i chwarae. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda gofalwyr ifanc—ac mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog yfory—sydd wedi dweud wrthyf, er enghraifft, fod asesiadau gofalwyr ifanc wedi'u hysgrifennu o fewn y ddeddfwriaeth, y dylent fod yn digwydd, y dylent gael eu gweithredu, ond mewn sawl ardal, nid yw hyn yn digwydd. Felly, os yw'r ddyletswydd newydd hon ar awdurdodau lleol, fel y'i disgrifiwyd gan Vikki Howells, yn mynd i ddigwydd, beth fydd hyn yn ei olygu'n ymarferol, a beth fydd yn newid ar lawr gwlad? Rwy'n meddwl fod hynny'n allweddol i unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Roeddwn yn meddwl efallai y byddai wedi ymwneud â chwarae mewn termau mwy cyffredinol. Felly, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud am sefyllfa yn fy ardal i y mae'r Gweinidog yn gwybod amdani gyda grŵp chwarae Gweithredu dros Blant yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle mae pobl yn teimlo'u bod wedi'u gadael yn y tywyllwch ynghylch y newidiadau yno ac israddio posibl rhai o'r rhai gwasanaethau hynny. Rwy'n credu ei fod yn dal yn berthnasol yma, oherwydd, wrth gwrs, bydd llawer o'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn rhai ag awtistiaeth, ac os oes offer penodol o fewn y cylch chwarae a fydd ganddynt, drwy Gweithredu dros Blant, yna mae angen i ni wneud yn siŵr fod ganddynt fynediad at yr offer hwnnw pwy bynnag yw'r darparwr yn y dyfodol. Un enghraifft anecdotaidd yw hon, ond mae'n enghraifft o'r pryderon y mae pobl yn eu dwyn i'n sylw drwy'r amser.

Rwy'n cydymdeimlo â'r alwad am ddeddfwriaeth newydd yn hyn o beth, oherwydd credaf fod angen i awdurdodau lleol wneud mwy, ond eto, daw'n ôl at y drafodaeth gydol oes a gawn ynglŷn â beth y mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i'w wneud, neu i beidio â'i wneud, a'r hyblygrwydd sydd ganddynt. Ac os oes rhwymedigaeth statudol yn mynd i fod ar awdurdodau lleol i wneud hyn, bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn ei wneud mewn gwirionedd, ac yn ei wneud yn dda.

15:45

Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Gwm Cynon am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n falch iawn o allu siarad yn fyr o'i phlaid.

Mae llawer o blant anabl yn colli cyfle i gymdeithasu ac i gymysgu â phlant nad ydynt yn anabl. Mae Mumsnet, gwefan fwyaf y DU ar gyfer rhieni ac elusen Scope yn galw ar awdurdodau lleol i wneud mwy i wneud darpariaeth i blant lleol megis gweithgareddau hamdden, grwpiau a chanolfannau chwarae yn gynhwysol ar gyfer plant anabl a'u teuluoedd. Ac yn ogystal â'r cyfleoedd chwarae y mae plant anabl yn eu colli, ceir effaith ganlyniadol glir yn sgil y ffaith nad yw plant nad ydynt yn anabl yn cael cyfle i chwarae gyda phlant anabl chwaith.

Plant yw'r dinasyddion mwyaf naturiol gynhwysol sydd gennym, ac eto ymddengys ein bod yn weddol effeithiol am fynd â hynny oddi wrthynt wrth iddynt dyfu, er enghraifft, drwy beidio â darparu cyfarpar chwarae cynhwysol. Mae'n amlwg fod eu gwahanu drwy beidio â darparu offer chwarae a darpariaeth gyfunol yn un o'r ffyrdd y mae'n dechrau digwydd. Felly, bydd sicrhau bod plant yn gydradd â'u cyfoedion ac annog cynhwysiant yn ddi-os yn gam i'r cyfeiriad cywir i'w magu i ddod yn oedolion mwy cynhwysol.

Mae'n rhaid dweud, wrth gwrs, nad yw'r egwyddor o sicrhau bod yr un faint o ddarpariaeth chwarae cynhwysol yn golygu fawr ddim mewn ardaloedd heb fawr o fannau chwarae, os o gwbl. Felly, yn yr un modd, rwy'n annog cynghorau nid yn unig i feddwl am y cyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl, ond y cyfleoedd chwarae sydd ar gael i'r holl blant, oherwydd nid yw fel pe bai gennym ormodedd o fannau chwarae a mannau diogel i blant fynd i chwarae ynddynt. Felly, hoffwn weld y ddarpariaeth honno'n gwella. Ond rwy'n cytuno, lle mae'n bodoli, y dylai offer chwarae a'r ddarpariaeth fod yn gynhwysol wrth gwrs. Mae pob plentyn yr un mor bwysig, ond mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac os na wnawn unioni'r anghydraddoldeb hwn, a allwn gwyno a phregethu mewn gwirionedd pan fydd agweddau negyddol tuag at bobl anabl yn parhau?

Mae chwarae'n bwysig i'n holl blant; mae cymdeithasoli'n bwysig i'n holl blant, ac mae'r cysyniad o gydraddoldeb yn hanfodol i'n plant ei ddeall, ei dderbyn a'i barchu. Os na cheir adnoddau priodol i'r cynnig hwn, ni fydd yn gwneud unrhyw beth, ond gyda'r arian iawn tu ôl iddo, gallai gyflawni pethau mawr ar gyfer ein holl blant. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig ac yn gofyn am adnoddau ystyrlon i'w gynnal, os yw'n dwyn ffrwyth mewn gwirionedd. Diolch.

15:50

Pleser o'r mwyaf yw cyfrannu at y ddadl ar y cynnig deddfwriaethol ar chwarae cynhwysol, a gyflwynwyd gerbron y Siambr gan Vikki Howells. Mae'n rhoi cyfle inni bwyso a mesur cynnydd ers y ddeddfwriaeth arloesol ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Cyfrannodd llawer o Aelodau—nad ydynt yma yn y Siambr ar hyn o bryd—at hynny.

Mae'n werth nodi bod y gair 'arloesol' wedi'i ddefnyddio gan Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol y gwn eich bod wedi cydweithio'n agos â hi, Vikki. Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant yw hi, ac maent wedi arwain y ffordd yn y byd gyda'u hymagwedd yn seiliedig ar hawliau tuag at chwarae plant. Treuliais amser yn fy ngyrfa gynnar mewn gwaith cymunedol yn datblygu a gweithio ar lwyth o feysydd chwarae yng Nghaerdydd ac yn y Pil yng Nghasnewydd. Roeddwn yn falch o gynnwys y dystiolaeth honno o fy mhrofiad ym mholisi chwarae cyntaf y byd ym mis Hydref 2002, pan oeddwn yn Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mewn iaith a thermau syml, nodai'r polisi chwarae gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd hanfodol chwarae ac ymrwymiad y dylai cymdeithas fynd ar drywydd pob cyfle i'w gefnogi. A chredwch neu beidio, nid oedd chwarae yn flaenoriaeth polisi ar y pryd. Ond roeddem yn gweithio fel Llywodraeth, fel rydych yn ei wneud yn awr, ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn 2006, ymrwymodd 'Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru'—teitl hir iawn—i sicrhau bod erthygl 31 o'r Confensiwn i gydnabod pwysigrwydd chwarae i'r plentyn yn cael ei weithredu'n llawn. Roedd y cynllun cyflawni ar gyfer chwarae yn cyfeirio at y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a hefyd, cyfeiriai at astudiaethau achos, megis Interplay yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a dyfynnaf:

Dechreuodd Interplay yn 1987 fel prosiect chwarae dros yr haf ac mae wedi tyfu ers hynny i ddod yn ddarparwr gydol y flwyddyn o chwarae a hamdden cynhwysol ar gyfer plant 5–19 oed yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. 

Mae gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr rywfaint o anableddau dysgu; mae gan lawer ohonynt namau corfforol, nam ar y synhwyrau ac ymddygiad heriol. Nid yw Interplay yn rhedeg cynlluniau chwarae, ond yn hytrach mae'n darparu staff cymorth ychwanegol i alluogi plant 5-11 oed gydag anghenion amrywiol i gael eu hintegreiddio i gynlluniau chwarae a drefnir gan awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol lleol a chanolfannau hamdden.

Mae angen i unrhyw bolisi i wella chwarae cynhwysol wneud defnydd o'r amgylchedd naturiol yn ogystal: er enghraifft, chwarae stryd, parthau 20 milltir yr awr, ac mae'n rhaid iddo ddenu plant eu hunain i nodi eu hawliau chwarae. A dyna oedd gogoniant datblygu meysydd chwarae antur, megis—a gwn nad yw yma ar hyn o bryd, ond rwyf wedi ymweld sawl gwaith gyda Lesley Griffiths â meysydd chwarae Y Fenter, fel y bydd rhai ohonoch wedi ei wneud yn Wrecsam o bosibl, cynllun sy'n dal i fod yn arloesol iawn.

Credaf fod Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyflwr presennol syniadau polisi a'r ddarpariaeth, gan gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn y diffiniad o chwarae cynhwysol, ond credaf fod Vikki Howells wedi ymestyn y diffiniad hwnnw i sicrhau ein bod yn cynnwys anghenion plant a phobl ifanc anabl.

Rwy'n meddwl bod y ddadl hon yn ein galluogi i roi chwarae yn ôl ar yr agenda, gan wella lles a hawliau plant, a chofio, wrth gwrs, fod y cyfnod sylfaen yn wir wedi agor dysgu drwy chwarae sydd wedi arwain at fwy o hyder yn ein pobl ifanc. Yn amlwg edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog, ond gadewch inni ddefnyddio ein polisi a'n deddfwriaeth arloesol i ailddatgan pwysigrwydd chwarae yng Nghymru ac ystyried beth arall y gallwn ei wneud o safbwynt deddfwriaeth, fel y mae Vikki Howells wedi ei gynnig heddiw.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?

Diolch yn fawr iawn. Ac yn gyntaf, hoffwn i ddechrau drwy longyfarch Vikki Howells am sicrhau dadl bwysig yn y Siambr heddiw.

Dadl bwysig iawn, a diolch i Vikki hefyd am ei holl amser a gwaith caled yn y maes polisi hwn ers iddi gyrraedd yma, a'i brwdfrydedd dros hyrwyddo chwarae cynhwysol, yma ac yn ei hetholaeth ei hun, ac eraill yn ogystal, fel y mae Jane newydd ein hatgoffa. Diolch hefyd i Bethan a Michelle am eu cyfraniadau i'r ddadl.

Mae'n gyfle sydd i'w groesawu'n fawr i godi proffil yr agenda chwarae a phwysigrwydd cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch er mwyn diwallu anghenion pob plentyn. Fel y soniodd Vikki a Jane yn arbennig, gallwn fod yn falch iawn o'r ffaith fod Cymru wedi arwain ar hyn: y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae. Cydnabyddir bod Cymru yn arweinydd byd yn hyrwyddo cydnabyddiaeth o bwysigrwydd chwarae a gwreiddio hyn yn ein deddfwriaeth. A chyda'n partneriaid, rydym wedi gwneud llawer, fel rydym newydd glywed, i weithio tuag at greu gwlad sy'n gweld gwerth chwarae.

Cytunaf â Vikki fod mwy y gellir ei wneud i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch, ac fe drof at rai o'r awgrymiadau cyn bo hir. Fodd bynnag, buaswn yn awgrymu nad oes angen cyflwyno deddfwriaeth bellach, neu nad dyna'r ffordd orau ymlaen, a hynny am nifer o resymau. Y cyntaf o'r rhain yw'r gydnabyddiaeth eang fod y fframwaith deddfwriaethol presennol—fel y crybwyllwyd yn y ddadl hon eisoes—yn gadarn ac yn addas at y diben. Felly, ochr yn ochr â gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.

15:55

Weinidog, cytunaf â chi fod rhai arferion da iawn yno eisoes, a hoffwn eich gwahodd i ddod i fy etholaeth lle y gallwn ddangos enghraifft i chi o fan chwarae cynhwysol da iawn. Efallai y gallech gyfarfod â rhai o'r plant a'r rhieni y bûm yn gweithio gyda hwy.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddai'n bleser mawr manteisio ar y cyfle hwnnw gan mai rhan o'r her yma yw gweld beth sy'n dda a gwneud yn siŵr wedyn fod y da hwnnw'n ymddangos ym mhob man ledled y wlad, gyda phartneriaid ar lawr gwlad, gyda phob awdurdod lleol. Ond mae'r sail statudol yno; mae'n golygu sicrhau yn awr fod hynny'n cael ei gyflawni'n gyson ym mhob man. A bydd yn amrywiol oherwydd bod anghenion y plant yn amrywiol hefyd. Rwy'n hapus i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.

Ceir gofynion clir ar waith eisoes, ond nid ydym ni, nac eraill yn y maes, fel Chwarae Cymru, a grybwyllwyd gan Jane yno, yn teimlo mai rhoi dyletswydd ychwanegol ar awdurdodau lleol yw'r ffordd orau o sicrhau cyfleoedd chwarae cynhwysol. Ond yn ail—a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ychydig o dan £5 miliwn i awdurdodau lleol ers 2013-14 i wella chwarae hygyrch a chynhwysol yn eu hardaloedd, ac yn wir, mae'n debyg ein bod wedi gweld rhai o'r canlyniadau yn eich ardal leol ac eraill yn ogystal. Mae'r asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn datgelu bod awdurdodau lleol wedi bod yn ymdrechu'n lew i ddarparu cyfleoedd chwarae hygyrch. Mae'r adroddiadau cynnydd wedi dangos bod cyllid wedi cael ei ddefnyddio ledled Cymru i fynd i'r afael â materion hygyrchedd mewn perthynas â mannau chwarae awyr agored, a gyda llaw, mae'n cynnwys mannau chwarae ehangach yn ogystal, nid meysydd chwarae yn unig.

Yn drydydd, gallai cyflwyno deddfwriaeth newydd—er gwaethaf y sicrwydd roedd Vikki yn ei roi yn ei chyfraniad—ac mae hyn wedi'i weld nid yn unig gennyf fi ond gan eraill—arwain at ganlyniadau annisgwyl a gallai fod yn wrthgynhyrchiol hyd yn oed. Felly, er enghraifft, mae'r hyn sy'n chwarae hygyrch i rai plant yn rhwystr i eraill mewn gwirionedd. Mae yna risg o benderfyniadau a allai arwain ar lawr gwlad at gynllunio amhriodol neu hyd yn oed at wahanu pellach rhwng plant gwahanol, ac ni fyddem am i hynny ddigwydd.

Fodd bynnag, yn ystod y ddadl nododd Vikki nifer o gynigion diddorol rwy'n awyddus i'w hystyried a'u datblygu ymhellach. Felly, er enghraifft, mewn perthynas â gwobr y Faner Werdd am arfer da, er y deallaf y bwriad sy'n sail i'r awgrym, mae'n debyg y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a ellid cyflawni hyn fel rhan o'r cynllun sefydledig i nodi mannau gwyrdd, efallai, neu drwy ddilyn llwybr arall. Ond rwy'n fodlon edrych ar hynny. Felly, er enghraifft, efallai y byddem eisiau gweithio gyda phartneriaid i gasglu a chyhoeddi astudiaethau achos sy'n nodi'n glir beth yw nodweddion allweddol pwysig cynlluniau ac ymyriadau penodol ledled Cymru.

Gan droi at y mater hollbwysig a nododd Vikki ynghylch ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth a gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, cytunaf yn llwyr y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, a lle y gall pobl fynd ar gyfer chwarae priodol. Dylai hyn gynnwys camau y bwriadant eu cymryd i sicrhau cyfleoedd digonol ac i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol.

Felly, yn sgil y ddadl hon a'r pwyntiau a wnaeth Vikki ac eraill, byddaf yn gofyn i swyddogion symud ymlaen ar unwaith i ddatblygu'r awgrym fel bod gwybodaeth ar gael gan awdurdodau lleol mewn ffordd sy'n cynorthwyo plant a'u teuluoedd i wybod beth y sydd ar gael. Gallai fod rôl, er enghraifft, i wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, y gallwn eu harchwilio, ynghyd â gwneud mwy o ddefnydd o 'Creu mannau chwarae hygyrch - pecyn cymorth newydd' Chwarae Cymru, sef adnodd ar gyfer darparu gwybodaeth dda i rieni.

Felly, Lywydd, yn y pen draw mae galluogi pob plentyn i chwarae a chwarae gyda'i gilydd yn ymwneud â budd i'r gymuned gyfan. Os yw unrhyw blentyn yn cael ei atal rhag chwarae, mae'n lleihau profiad chwarae i bob plentyn. Felly, diolch i Vikki.

Diolch i Vikki Howells am y cyfle y prynhawn yma i drafod chwarae cynhwysol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein plant yn gallu chwarae yn ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

Gallwn weld bod agenda yma i'w datblygu, a diolch iddi hi a'r Aelodau eraill sy'n bresennol heddiw am roi'r sylw y mae'n ei haeddu'n fwy aml i chwarae.

16:00

Galwaf ar Vikki Howells i ymateb i'r ddadl—Vikki Howells.

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ac yn enwedig y Gweinidog. Os caf ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins sut olwg fyddai arno ar lawr gwlad, a nododd Michelle Brown rai pryderon ynghylch adnoddau. Credaf mai dyna sy'n atyniadol am fy awgrym, y gallai'r newidiadau hyn ddigwydd yn raddol. Rydym wedi bod yn pori drwy gatalogau chwarae gwahanol, ac fe welwch, er enghraifft, fod rowndabowt cynhwysol yn costio ychydig o gannoedd o bunnoedd yn unig yn fwy nag un safonol, ac nid yw siglen fasged, unwaith eto, ond ychydig gannoedd o bunnoedd yn fwy nag un gonfensiynol. Felly, pan fydd awdurdod lleol yn mynd ati gyda chyllideb o £25,000, dyweder, i ailwampio man chwarae, mae'n eithaf hawdd cynnwys y pethau hynny heb unrhyw ofynion ychwanegol.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gallu nodi fy nghynnig heddiw. Pe gallai Cymru ddeddfu ar y mater hwn, nid yn unig y byddem y wlad gyntaf yn y byd i basio cyfraith ar yr hawl i chwarae, byddem y wlad gyntaf yn y byd i fod wedi deddfu'n benodol ar chwarae cynhwysol. Byddai cyflawniad o'r fath yn ymwneud â mwy na phasio cyfraith newydd; byddai'n ymwneud â dechrau rhoi camau ar waith fel y gallai plant anabl gael yr un hawliau i chwarae â'u cyfoedion. Byddai'n ymwneud â chreu mannau diogel y bydd rhieni a theuluoedd yn hapus i'r plant eu defnyddio er mwyn gwella eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol, a byddai'n ymwneud â chydnabod bod gan blant anabl yr un hawl i chwarae â'u cyfoedion.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Ffordd liniaru arfaethedig yr M4

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Rydw i'n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6647 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn penderfynu na ddylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ffordd liniaru arfaethedig yr M4 heb bleidlais ystyrlon ar gynnig o sylwedd yn y Cynulliad yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus presennol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch o galon, Llywydd. Mae'n bleser gen i i godi i gynnig y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth, sydd yn ymwneud â phroject, well, ffordd liniaru'r M4, efallai—hynny yw, traffordd newydd, mewn gwirionedd, yw e, wrth gwrs. Mae'n wir i ddweud mae'n un o'r prosiectau isadeiledd mwyaf ddadleuol efallai rydym ni wedi bod yn trafod, nid yn unig yn ddiweddar ond am rai degawdau. Mae yna amrediad o farn yng Nghymru, ac mae hynny hefyd, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn y Siambr hon. Ond mae'r cynnig yma, wrth gwrs, yn gofyn inni nid i benderfynu heddiw ynglŷn â'r mater yma, ond i sicrhau y bydd yna gyfle i ni benderfynu, fel bod yr amrediad yna o farn gan Aelodau etholedig yn y lle yma yn gallu cael ei weithredu—hynny yw, bod yna ewyllys democrataidd yn cael ei mynegi mor belled ag y mae'r penderfyniad yma yn y cwestiwn.

Wrth gwrs, rydym ni wedi gweld drwy gydol yr amser mae'r prosiect yma wedi bod dan drafodaeth—ac fe allech chi fynd yn ôl, wrth gwrs, i 1991 yn wreiddiol, pan oedd y cynllun wedi cael ei gynnig—drwy gydol yr amser yna, wrth gwrs, mae costau wedi cynyddu, yn rhannol am resymau chwyddiannol, ond hyd yn oed yn y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr amcangyfrifon y mae'r Llywodraeth ei hunain wedi rhoi ar y project. Hynny yw, mi oedd y Prif Weinidog, dim ond tair blynedd yn ôl a dweud y gwir, yn sôn y byddai'r gost tipyn yn llai nag £1 biliwn, ond nawr rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, o dystiolaeth y Llywodraeth ei hunain i'r ymchwiliad cyhoeddus bod hynny wedi codi o leiaf—. Wel, heb gynnwys treth ar werth, mae wedi codi i dros £1.3 biliwn, ac, os ydych chi wedyn yn cynnwys treth ar werth, ac, wrth gwrs, hefyd, fel rydym ni wedi gweld gyda chymaint o brojectau yn ddiweddar o ran heolydd, wrth gwrs, y posibilrwydd o'r gost yn cynyddu hyd yn oed yn fwy na'r contingency o ryw £150 miliwn mae'r Llywodraeth wedi ei ddarparu—fe allech chi weld y gost yna, yn hawdd iawn, yn cynyddu yn fwy. A dweud y gwir, mae Cyfeillion y Ddaear wedi amcangyfrif, yn eu tystiolaeth nhw i'r ymchwiliad, ein bod ni'n barod yn agosach i £1.8 biliwn. Felly mega-project ydy hwn, yntefe? Hynny yw, nid ydw i'n credu bod unrhyw un yn gallu dadlau gyda hynny.

A phan ystyriwn y peth yn y termau hynny, pan fyddwn yn meddwl am y posibilrwydd ein bod eisoes yn edrych ar ymhell dros £1.5 biliwn pan ychwanegwch yr elfennau gwahanol hyn, yna credaf ei bod hi ond yn iawn ac yn briodol wrth gwrs i'r Senedd hon gael yr hawl i benderfynu. Oherwydd mae yna gost cyfle enfawr yno: £1.5 biliwn, £1.7 biliwn, £1.8 biliwn. Gallwch gael system drafnidiaeth integredig newydd, metro, ar gyfer bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol—mae Mark Barry wedi amcangyfrif y dylai £1 biliwn dalu am gam cyntaf yr holl system drafnidiaeth ranbarthol honno. Byddai gennych rywfaint o arian dros ben—mae'n debyg y gallech wneud yr amcangyfrifon a awgrymwyd ar gyfer ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin yn ogystal. Gallech gael system trafnidiaeth gyhoeddus newydd gyfan ac ailagor y rheilffordd yng ngorllewin Cymru yn hytrach na gwneud hyn.

Nawr, bydd yna Aelodau sy'n credu, yn gwbl gywir, na, mae'n dal i fod—. Bydd eu hasesiad yn wahanol, ac fe welant gost a budd gwahanol i'r hyn y mae fy mhlaid yn ei weld, ac mae hawl ganddynt i wneud hynny wrth gwrs. Pwynt y cynnig hwn, yn syml iawn, yw bod angen clywed ystod o safbwyntiau er mwyn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol. Nawr, rydym wedi cael dadleuon ym mhob Cynulliad, rwy'n credu, ar ffordd liniaru'r M4, gan adlewyrchu'n rhannol yr amrywiaeth o anghytundeb sy'n bodoli. Y broblem, wrth gwrs, yw eu bod wedi'u cyflwyno fel cynigion gan y gwrthbleidiau, ac rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth gwrs, nad yw'r Llywodraeth bob amser yn gwrando ar ganlyniad dadleuon y gwrthbleidiau. Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn nodi'n glir y dylai gael ei gyflwyno ar benderfyniad gan y Llywodraeth, fel ei fod yn gynnig rhwymol. A dyna'r arfer safonol, wyddoch chi, ar gyfer prosiectau seilwaith mawr: pan edrychwn ar San Steffan, os edrychwn ar rai o'r mega-brosiectau hynny, lle y cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau unwaith eto, weithiau o fewn y pleidiau yn ogystal—HS2, trydydd llain lanio yn Heathrow, hyd yn oed prosiect adnewyddu Tŷ'r Cyffredin, gallech ddweud; mae hwnnw'n brosiect seilwaith mawr yn awr, £5 biliwn—fe bleidleisiwyd ar y materion hyn. Ac wrth gwrs, mae hynny'n hollol hanfodol mewn democratiaeth, a'r broses, gyda'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a'r datganiadau polisi cenedlaethol yn y DU, yw bod pleidlais seneddol—bydd pleidlais seneddol—fel y dylai fod, yn sicr pan fyddwn yn sôn am y lefel hon o wariant. Ac felly rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth ar draws y Siambr, ar ydraws yr amrywiaeth o safbwyntiau o ran yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl diwedd yr ymchwiliad cyhoeddus gyda'r prosiect penodol hwn.

Os caf ddweud yn fyr am welliant y Llywodraeth, sy'n dweud na ddylem wneud unrhyw beth i niweidio neu ragfarnu canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, pwynt y cynnig yw y dylem gael pleidlais ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus. Nid yw hynny'n rhagfarnu; byddwn wedyn yn cael ein llywio gan ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Ond yn y pen draw, Seneddau a ddylai benderfynu, 'does bosibl, ar benderfyniadau polisi pwysig. Ac yn sicr, pan oeddem yn sôn am raddau'r gwariant, graddau'r effaith mewn termau eraill—yn nhermau trafnidiaeth, yr amgylchedd ac yn gymdeithasol—yna dylai fod yn iawn, mae'n rhaid iddi fod yn iawn, mai'r lle hwn a ddylai wneud y penderfyniad terfynol, a byddwn yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ar hynny.

16:05

Andrew R.T. Davies. Cyn i chi sefyll ar eich traed, mae angen i mi alw'r gwelliant. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y gwelliant, gwelliant 1, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Ychydig o wrthgleimacs yn y fan honno, Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl. [Torri ar draws.] Nid wyf am fynd â'r sgwrs gam ymhellach. Mae'n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon, a rhaid i mi ddweud, fel y dywedodd llefarydd arweiniol Plaid Cymru, mae dadl ar ôl dadl wedi'i chynnal ar y pwnc hwn yn yr 11 mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, ac rwy'n siŵr fod pobl a oedd yma o fy mlaen yn cofio'r dadleuon cyn hynny. A hyd yn oed cyn sefydlu'r sefydliad hwn, roedd pobl yn sôn am ffordd liniaru'r M4 newydd neu ffordd o amgylch Casnewydd, i ddatrys y problemau tagfeydd wrth gwrs. Ac mewn gwirionedd, nid oes a wnelo'r ddadl hon â manylu ar gymhlethdodau'r beirianneg, yr effaith amgylcheddol ac yn y blaen, mae a wnelo â chynnig syml, cynnig rydym ni ar yr ochr hon i'r tŷ yn cytuno ag ef, sef y dylai'r sefydliad hwn gael pleidlais—pleidlais annibynnol—ynglŷn ag a ddylai'r Llywodraeth fwrw ymlaen â'r prosiect seilwaith mwyaf y mae wedi'i ystyried ai peidio, ac yn ddi-os, bydd yn gwasgu botwm i ddweud 'ie' neu 'na' wedi'r ymchwiliad cyhoeddus.

Gan y bydd y penderfyniad hwnnw'n effeithio ar etholaethau a rhanbarthau Aelodau Cynulliad, 'does bosibl na ddylai fod gennym ran i'w chwarae yn y broses benderfynu honno. Os yw'r Llywodraeth yn hyderus ynglŷn â'i safbwynt, a bod ganddi fwyafrif yma yn rhinwedd y ffaith ei bod yn Llywodraeth, dylai allu ennill y bleidlais i roi caniatâd i'r prosiect fynd rhagddo. Felly, nid yw'n gwestiwn syfrdanol o anodd y mae angen inni dreulio oriau ac oriau yn ei drafod; mae'n gynnig syml i dŷ a etholwyd yn ddemocrataidd chwarae rhan weithredol yn cadarnhau, fel y dywedais, y prosiect seilwaith mwyaf y bu'n rhaid i'r Llywodraeth hon, neu unrhyw Lywodraethau blaenorol, ei ystyried. Ar ein hochr ni o'r tŷ, yr hyn y mae gennym bryderon gwirioneddol yn ei gylch yw'r costau, a chostau cynyddol, y prosiect, ac rydym yn awyddus iawn i allu dweud ein barn ar hynny. Rydym wedi dweud yn gwbl glir na fyddwn yn rhoi unrhyw sieciau gwag ar gyfer y prosiect hwn, ac yn awr, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn unig, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor economi a thrafnidiaeth, clywsom gan y Llywodraeth fod y costau'n amrywio rywle rhwng £1.4 biliwn a £1.5 biliwn ar hyn o bryd. Ni allaf ddod o hyd i lawer o brosiectau seilwaith sy'n dechrau ar ffigur ac nad ydynt yn codi o'r ffigur y dechreuoch ag ef. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad inni pa gontractau tymor penodol sydd wedi cyflawni mega-gynlluniau o'r fath o fewn y cyllidebau y gofynnwyd iddynt eu darparu. [Torri ar draws.] A hoffwn hefyd—. Prosiectau cyhoeddus.

A hoffwn wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd i roi eglurhad i ni pam y gwelwyd y cynnydd sylweddol yn y costau hyn er mwyn rhoi rhywfaint o hyder inni y gallai cynigion y Llywodraeth barhau i fod ar y trywydd iawn. Yn amlwg, ddwy flynedd yn ôl yn unig, soniai'r Prif Weinidog am ffigur ymhell o dan £1 biliwn. Ac yn awr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae sefyll yma, ac yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, a'r ffigurau rydych wedi'u cyflwyno i'r ymchwiliad cyhoeddus, mae bod ar ffigur o £1.4 biliwn, rwy'n credu, yn haeddu esboniad, yn hytrach na chyfeirio at chwyddiant yn unig, oherwydd—

16:10

Rwy'n cytuno gyda'r Aelod ar yr hyn a ddywedodd hyd yma, ac yn sicr yr egwyddor o gymryd—wyddoch chi, y dylai'r egwyddor o wario'r symiau hynny o arian gael ei gymryd yma, ac nid ei adael i'r Weithrediaeth ar ei phen ei hun. A yw'n cymryd neu a yw'n derbyn o gwbl y dystiolaeth fod y costau'n fwy tebygol o fod, gyda TAW, yn agosach at £2 biliwn? A ble mae'n credu y mae dechrau tynnu'r llinell ar brosiect fel hwn?

Wel, dyna lle roeddwn yn mynd i fynd â fy nadl, oherwydd mae'n amlwg fod gan Ysgrifennydd y Cabinet wybodaeth, a'r dystiolaeth y mae wedi'i roi i bwyllgor yr economi a thrafnidiaeth yw y byddai'n rhaid i gostau godi'n sylweddol cyn y ceir marc cwestiwn uwchben y prosiect hwn. Wel, cawsom ffigur o dan £1 biliwn gan y Prif Weinidog oddeutu dwy flynedd yn ôl. Rydym wedi cyrraedd £1.4 biliwn heddiw—efallai £1.5 biliwn—heb TAW. Dyna gynnydd o £600 miliwn. Rwy'n meddwl tybed beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gredu sy'n gynnydd sylweddol yn y costau cyn i Lywodraeth Cymru eu hunain gwestiynu hyfywedd y prosiect a pha atebion a allai fod yn cael eu rhoi. [Torri ar draws.] Wel, nid oes gennyf y—. Clywaf y mwmian o feinciau Plaid Cymru, ond rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Rhaid i mi ddweud nad yw'r wybodaeth fanwl gennyf. Rydym wedi rhoi ein cardiau ar y bwrdd ac wedi dweud ein bod yn credu bod angen dod o hyd i ateb. [Torri ar draws.] Credwn fod angen dod o hyd i ateb. Roeddwn yn teithio ar hyd y darn hwn o ffordd y bore yma—am 5 o'r gloch y bore yma—yn anelu at farchnad da byw Rhaglan. Am 6:30 y bore yma, roedd y ffordd honno'n llawn dop, tair lôn, yr holl ffordd o bont Hafren i dwneli Bryn-glas. Ni allwch droi eich cefn ar y sefyllfa honno, fod problem ddifrifol gyda'r ffordd a'i bod yn mygu economi Cymru yn ddifrifol. Yr hyn na allwch ei osgoi chwaith yw'r costau cynyddol sydd i'w gweld yn gysylltiedig â phrosiect dewisol y Llywodraeth. Ac felly rwy'n dychwelyd at y cynnig gwreiddiol rydym yn ei drafod yma heddiw, sef y cynnig o sylwedd y dylai'r tŷ hwn gael y gallu i bleidleisio ar y prosiect wrth symud ymlaen a dod yn brosiect cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r trethdalwr yng Nghymru yn rhoi adnoddau tuag ato. A buaswn yn gobeithio y byddai Aelodau sy'n credu'r un fath ar feinciau'r Llywodraeth yn ystyried hwnnw'n gynnig rhesymol ac yn ystyried pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw.

16:15

Mae’n teimlo ein bod ni wedi bod yn trafod yr M4 ers nifer o flynyddoedd; mi fues i’n rhoi cryn sylw iddo fo fel llefarydd yr economi cyn Adam. Mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers cenhedlaeth neu fwy erbyn hyn. Mae’r dadleuon ynglŷn â sut i fynd i’r afael a thagfeydd traffig yn ardal Casnewydd wedi bod yn mynd ymlaen ers, mae’n siŵr, bron i chwarter canrif. Ac mi ydym ni—rwy’n hapus iawn i’w gwneud yn glir eto yn y fan hyn—yn cydnabod bod y tagfeydd traffig yn y rhan yna o Gymru, yn ardal Casnewydd, yn gallu cael eu gweld fel rhywbeth sy’n niweidiol i economi Cymru. Os felly, os ydym ni’n derbyn hynny, mae eisiau inni chwilio am ateb sy’n effeithiol, ond sydd hefyd yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

O ran cynaliadwyedd, mae angen ateb sy’n briodol i ddelio â gofynion y dyfodol—dyfodol lle rydym yn dymuno y bydd llawer mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd y byddwn ni, gobeithio, wedi buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Dyfodol lle y bydd yna geir yn gyrru eu hunain, a’r effaith y mae hynny’n mynd i’w chael—ac mi fyddwn i’n licio nodi yn fan hyn fy niddordeb yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach heddiw ynglŷn â datblygu maes profi ar gyfer ceir sy’n gyrru eu hunain i fyny yng nghymoedd Gwent. Mi fydd yna hefyd newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio. Felly, mae angen ystyried hynny, ystyried y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau yn y presennol.

Mae angen ateb sy’n fforddiadwy. Mae cost y project yma wedi cynyddu yn arw. Ni wnaf fynd i mewn i fanylion. Nid wyf i’n siŵr iawn pa ffigur i’w ddefnyddio erbyn hyn: £1.3 biliwn, sydd i lawr ar y papur yn fan hyn, neu £1.4 biliwn neu £1.5 biliwn, a threth ar werth ar ben hynny. Ni wnaf hyd yn oed dyfalu, ond rwy’n siŵr ein bod ni’n sôn am broject sydd yn agosach at £2 biliwn, a dyn a ŵyr faint yn fwy. A sut y gall Llywodraeth Cymru, a sut y gall ein Senedd genedlaethol ni, os caiff pleidlais ei chynnal ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus, gyfiawnhau buddsoddiad o’r fath heb allu profi ei fod o’n rhan o strategaeth ehangach a fyddai’n arwain at wario ar isadeiledd mewn ffordd sydd wedi cydbwyso ar draws Cymru gyfan?

Nid oes gen i ddim diddordeb mewn amddifadu dim un rhan o Gymru o fuddsoddiad sydd yn angenrheidiol, ond mae cydbwysedd yn hanfodol, neu, rydych chi’n siŵr, o fethu â chael y cydbwysedd—mae hynny’n arwain at sefyllfa lle mae un rhanbarth yn cael ei roi yn erbyn rhanbarth arall, ac rwy’n gobeithio nad oes yna neb yn y Siambr yma yn dymuno gweld hynny’n digwydd. Drwy amddifadu rhai o ranbarthau Cymru o fuddsoddiad teg y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu ar draul rhai eraill, mi fyddai project hirdymor o adeiladu ein cenedl ni yn methu. Y realiti ydy bod y dde-ddwyrain ar hyn o bryd yn gweld dwywaith yn fwy o fuddsoddiad mewn isadeiledd o’i gymharu â’r gogledd, a bron i dair gwaith yn fwy na chanolbarth a gorllewin Cymru, ac nid ydy hynny’n rhywbeth y gallwn ni ei anwybyddu yma yng Nghymru.

Mae Adam wedi trafod gwelliant y Llywodraeth. Mi fuaswn i’n licio cyfeirio at un peth sy’n bryder mawr i mi ynglŷn â beth rwy’n ei weld yn Llywodraeth yn tanseilio ac yn amharu ar y broses o gynnal ymchwiliad annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, ers rhai blynyddoedd, wedi bod yn gofyn am astudiaeth o botensial y llwybr glas, neu o leiaf rhywbeth sy’n seiliedig ar beth sydd wedi cael ei adnabod fel y llwybr glas, yn ogystal â buddsoddi mewn rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Ond, trwy fuddsoddi £135 miliwn o bunnau yn nociau Casnewydd yn ddiweddar, gan arwain at y cwmni hwnnw yn tynnu ei wrthwynebiad i’r llwybr du yn ei ôl, yn ogystal â’r holl brynu gorfodol y mae’r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud, mae hynny’n amharu yn llwyr ar y broses annibynnol a oedd i fod i ystyried pob opsiwn, gan gynnwys y llwybr glas neu rywbeth yn seiliedig ar y llwybr glas.

Felly, mae ein cynnig ni heddiw yma yn galw am bleidlais ystyrlon, fel rydym ni wedi clywed, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad annibynnol. Mae hyn yn gwbl gyffredin mewn Seneddau eraill. Rydw i'n licio term Adam, sef 'superproject'—dyna sydd gennym ni yn y fan hyn. Pan mae gennych chi rywbeth ar y lefel yna, mae'n gwneud synnwyr ar lefel ddemocrataidd i sicrhau bod ein Senedd genedlaethol ni yn cael penderfyniad. Rydw i'n credu y byddai gwrthod ein cynnig ni heddiw yn gwrthod y cyfle yna i roi pleidlais sylweddol yn ein dwylo ni fel Senedd genedlaethol, yn bradychu ein hetholwyr, yn bradychu trethdalwyr Cymru hefyd, ac, rydw i'n meddwl, yn bradychu democratiaeth yng Nghymru.

16:20

Cytunaf yn llwyr fod angen inni gael trafodaeth o sylwedd ar y mater pwysig hwn yn amser y Llywodraeth. Ond ni allwn ddibynnu'n syml ar gynigion y gwrthbleidiau ar y mater pwysig hwn. Mae'r cynnig hwn mewn perygl o lyncu pob agwedd ar derfynau benthyca Llywodraeth Cymru, sy'n golygu bod perygl gwirioneddol mai dyma'r unig fuddsoddiad cyfalaf y byddem yn gallu ei wneud. Nid wyf yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau o wario £1.5 biliwn.

Mae Andrew R.T. Davies yn sôn am y tagfeydd traffig am 06:30 yn y bore yn dod i'r gorllewin tuag at dwnnel Bryn-glas. Rwyf eto i gael fy argyhoeddi y byddai gwario'r holl arian hwn ar 14 milltir o ffordd newydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r broblem honno ar ei phen ei hun, oherwydd byddai gennych dagfeydd traffig ychydig bach pellach i lawr y ffordd dyna i gyd. Oni chawn newid moddol, nid ydym yn mynd i fod yn datrys y broblem dagfeydd sydd gennym ar adegau penodol o'r dydd. Pan af i lawr y ffordd am 10:30 neu 11:00 y bore, dim problem o gwbl. Problem gymudwyr yw hon, a'r rheswm pam y mae gennym y broblem yw oherwydd nad ydym wedi buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd yn y gorffennol, a dyna pam y mae pobl yn dewis teithio i'w gwaith yng Nghasnewydd a Chaerdydd mewn car, sy'n ffordd gwbl wallgof o ddefnyddio adnoddau.

Mewn gwirionedd, roedd y ffyrdd ar gau heddiw oherwydd nad oedd y bont wedi gorffen ei gwaith cynnal a chadw dros nos—dyna ei hyd a'i lled hi. Rwy'n derbyn y pwynt, ond mae hynny'n fwy o reswm dros gael dadl yma, fel y gall pawb ohonom gyfrannu yn y ddadl honno a'r penderfyniad o sylwedd hwnnw a ydym am wasgu'r botwm i'r prosiect hwn fynd rhagddo ai peidio.

Iawn. Wel, mae'n ddefnyddiol egluro hynny. Roeddwn yn synnu bod yna dagfeydd traffig am 06:30 yn y bore, ond rydych bellach wedi dweud wrthym pam fod problem benodol heddiw.

Ond y ffaith amdani yw, os oes gennym ffordd anhygoel o wych o amgylch Casnewydd, yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed yn ôl tystiolaeth y Llywodraeth ei hun i'r ymchwiliad cyhoeddus, yw ei fod yn mynd i gynyddu nifer y cerbydau sy'n cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd a bydd yn cynyddu tagfeydd yng Nghaerdydd mewn gwirionedd. O ystyried y problemau sydd gennym o ran gorfod cyfaddef yn yr uchel lysoedd fod gennym lefelau anghyfreithlon o lygredd aer, mae'n anodd iawn gweld sut y byddai hyn yn ffordd o ddatrys y problemau sydd gennym.

Mae trafnidiaeth yn cyfrannu'n enfawr at y ffaith fod gennym gynhyrchiant is, fel y trafodwyd yn gynharach. Yn amlwg, mae amser a wastreffir yn eistedd mewn tagfeydd traffig yn amser nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Ond fy nadl i yw na fydd y prosiect hwn yn datrys problem tagfeydd, ac nid ydym wedi gweld gwerthusiad cymharol priodol o fuddsoddiad trafnidiaeth i ddangos sut y byddai gennym senario wahanol iawn pe baem yn gwario £1.5 biliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn llawer mwy deniadol na chymudo i Gaerdydd a Chasnewydd yn y car. Mae hynny'n siom enfawr i mi, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn gwbl absennol, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod cost milltir o draffordd tua'r un fath â milltir o reilffordd newydd, a bod buddsoddiad yn y rheilffordd yn cario rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl. Dyma pam y mae angen rheilffyrdd a thramiau, rheilffyrdd ysgafn, i gludo pobl i'r gwaith ac yn ôl eto. Mae annog pobl i ddod i'r gwaith yn y car yn gynnig hollol hurt.

Felly, gobeithio y cawn ymrwymiadau y byddwn yn cael dadl sylweddol ar y mater hwn wedi i'r ymchwiliad cyhoeddus gael ei gwblhau, ond hefyd ein bod yn edrych o ddifrif ar yr opsiwn arall o wario £1.5 biliwn ar gludiant cyhoeddus i wella'r daith i'r gwaith i bobl a darparu'r newid moddol sydd ei angen.

16:25

A gaf fi ddweud ar y cychwyn y bydd fy mhlaid yn cefnogi'r cynnig hwn? Y rheswm am hyn yw bod cynllun ffordd liniaru'r M4, fel y dywedodd yn flaenorol, yn un o'r prosiectau mwyaf a mwyaf costus a wnaed erioed gan Gynulliad Cymru ac mae'n un mor bwysig fel bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gweld ei bod hi'n briodol lansio ymchwiliad maith a thrwyadl ar ei ffurf a'i gynllun. Felly ymddengys ei bod yn amlwg yn bwysig y dylai'r Cynulliad cyfan gael mewnbwn ystyrlon i'r penderfyniad a wneir, gan gyfeirio at ganlyniad yr ymchwiliad.

Os na chaniateir inni ymgysylltu yn y modd hwn, rydym yn pryderu y bydd bwriadau'r Llywodraeth o ran y llwybr du yn digwydd er gwaethaf canfyddiadau'r ymchwiliad. Ni allwn beidio â nodi'r cytundeb a wnaed eisoes gan y Llywodraeth a'r awdurdod porthladdoedd mewn perthynas â'r arian ychwanegol a ddyrannwyd i leddfu eu pryderon, yr ymddengys eu bod yn deillio'n gyfan gwbl o'r llwybr du arfaethedig. Teimlaf ei bod hi'n ddoeth nodi yma mai ffordd liniaru'r M4 yw hon, beth bynnag am y rhanddirymiad posibl. Mae ffordd liniaru'n dynodi na fydd ond ei hangen go iawn ar gyfer yr adegau pan fydd traffig ar ei drymaf.

Hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet felly i gadw meddwl agored ynghylch pa un o'r opsiynau sydd ar gael a ddewisir. Gwn y bydd yn cadw'r gwahaniaeth enfawr yn y gost rhwng y llwybrau glas a du mewn cof. Gellid defnyddio'r gwahaniaeth hwn yn y costau ar brosiectau trafnidiaeth eraill sy'n fawr eu hangen, ac rwy'n siŵr y gwnaiff faddau i mi eto am grybwyll cyflwr ofnadwy Rover Way, sy'n debycach i lôn gefn gwlad na phrif wythïen i brifddinas y wlad. Rwy'n siŵr y gallai llawer o Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr wneud achos dros brosiectau eraill sydd eu hangen yn ddirfawr, gyda rhai ohonynt wedi'u crybwyll yn gynharach gan Adam Smith, neu hyd yn oed ystyried y newid moddol a grybwyllwyd gan Julie Rathbone—[Torri ar draws.]

Rwy'n ymddiheuro. Nid ydych mor hen â hynny, Adam, rwy'n siŵr. Rwy'n ymddiheuro am y llithrad hwnnw, Adam.

Fodd bynnag, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ganiatáu'r ymgynghoriad a'r bleidlais hon. Wedi'r cyfan, os yw pethau'n mynd o chwith gyda'r prosiect enfawr hwn, gallai'r Siambr gyfan gael ei chyfrif yn euog.

Mae'r Adam Smith gwreiddiol, wrth gwrs, yn llawer nes at yr Adam Price sydd gennym yma, yn hytrach na Sefydliad Adam Smith, sy'n fater cwbl wahanol, rwy'n meddwl.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r croeso y mae'r pleidiau wedi'i roi hyd yn hyn i'r egwyddor o gael pleidlais ystyrlon ar wariant mor fawr. Rwyf am edrych ar y ddadl o safbwynt Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond credaf y bydd y ddadl ynghylch yr amgylchedd a'r Ddeddf llesiant yn cael ei thrafod yn drwyadl ar ryw adeg arall. Hoffwn edrych arni o safbwynt llunio polisïau a sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau ar gyfer amcanion polisi yng ngoleuni'r Ddeddf honno.

Y peth cyntaf i'w ddweud ynglŷn â hynny, wrth gwrs, yw ein bod wedi bod yn glir iawn gyda'r teitl: cenedlaethau'r dyfodol yw Deddf pleidiau'r dyfodol, os mynnwch. Felly, fel gwrthblaid yma, mae Plaid Cymru eisiau dod yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr fod y Ceidwadwyr hefyd am ddod yn Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn siŵr am UKIP—ni fuaswn hyd yn oed yn ceisio tybio beth y mae UKIP yn ei feddwl y dyddiau hyn. Ond mae unrhyw un sy'n cael ei ethol i'r lle hwn am fod yn Llywodraeth. Rydym am gael llais go iawn, felly, mewn unrhyw fuddsoddiad mawr, enfawr hyd yn oed, a fydd yn clymu dwylo cenedlaethau'r dyfodol a Llywodraethau'r dyfodol o ran sut y gallent fynd i'r afael â heriau gwirioneddol Cymru ar gyfer y dyfodol, nid yn unig o ran yr amgylchedd ond o ran seilwaith, o ran gwaith gwrth-dlodi, o ran ymdrin ag anghenion economaidd Cymru yn y dyfodol. Ni allaf ei roi'n well na'r ffordd y dywedodd rhywun yn 2015:

I mi, mae'n syfrdanol y bydd Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i leihau tlodi yn gwario £1 biliwn o arian cyhoeddus ar brosiect na fydd yn cael unrhyw effaith economaidd ar fy etholwyr.

Nid wyf yn credu bod y person yn ei sedd yn awr, ond yr Aelod dros Flaenau Gwent ydoedd, yn siarad ar ôl i Jenny Rathbone gael ei diswyddo o'i swydd am feirniadu'r cynigion hyn. Felly, rwy'n credu fy mod am ddefnyddio prism cenedlaethau'r dyfodol yn bendant iawn wrth edrych ar y ffordd y gwneir penderfyniadau ac er mwyn gadael i'r Siambr hon a'r Senedd hon wneud y penderfyniad terfynol hwnnw.

Nawr, mae wedi bod yn amlwg iawn o'r dystiolaeth a roddwyd yn yr ymchwiliad cyhoeddus lleol pa mor anghydnaws yw'r cynnig hwn ag amcanion Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ei hun:

Adeiladu ffyrdd yw'r hyn y buom yn ei wneud dros yr 50 mlynedd diwethaf ac nid dyma'r ateb y dylem fod yn ei geisio yn 2017 a thu hwnt.

Mae'r tueddiadau rydym yn sôn amdanynt yn y Llywodraeth ac y mae Aelodau eraill yma wedi sôn amdanynt, o awtomeiddio i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, lleihau allyriadau, y newidiadau yn ansawdd yr aer a ddaw i'r amlwg wrth inni symud o system drafnidiaeth a arweinir gan danwydd ffosil i un sy'n fwy dibynnol ar gerbydau trydan, hydrogen o bosibl—mae angen ystyried y rhain oll mewn gwariant mor fawr a fydd yn dylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol, nid un genhedlaeth yn unig ond dwy neu dair cenhedlaeth i ddod. A hefyd, wrth gwrs—

16:30

Diolch i chi, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Fe ddyfynnoch chi gyflwyniad Sophie Howe ynghylch doethineb adeiladu ffyrdd. Wrth gwrs, fel rhan o'r cyflwyniad hwnnw, dywedodd hefyd nad oedd adeiladu'r llwybr glas yn gydnaws â'r ysbryd hwnnw ychwaith, a dyna yw polisi Plaid Cymru. Felly, i ddilyn ei rhesymeg yn iawn, byddech yn cael gwared ar adeiladu ffyrdd yn gyfan gwbl fel ateb i dagfeydd ffyrdd.

Credaf y byddem yn agored i ailystyried y dystiolaeth ar hynny, ac mae gennyf fy marn bersonol fod y llwybr glas, a ddewiswyd 10 mlynedd yn ôl bellach, fel dewis amgen i M4 newydd sbon a chan Weinidog trafnidiaeth Plaid Cymru mewn Llywodraeth glymblaid, rhaid dweud—. Mae'n rhaid i ni yn awr ailarchwilio yng ngoleuni'r offeryn arfarnu newydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth a yw unrhyw adeiladu ffyrdd ynddo'i hun yn ateb i'r hyn sy'n digwydd a phroblemau tagfeydd o gwmpas Casnewydd, neu a ydym yn buddsoddi mewn llawer o wahanol bethau, gan gynnwys gwelliannau ffyrdd. Mae yna eisoes ffordd ddosbarthu bresennol i'r de y gellir ei defnyddio, ond hefyd, cau cyffyrdd, traffig graddol, buddsoddi yn y seilwaith cyhoeddus yn yr ardal honno, rheilffyrdd—sef y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone yn rymus iawn hefyd. Felly, mae angen rhoi pob un o'r rhain yn eu lle; rwy'n deall hynny'n iawn. Credaf nad ydym bellach mewn sefyllfa pan ydym yn gwneud penderfyniadau deuaidd o'r fath. Rydym yn gwneud penderfyniad ynghylch hyd at oddeutu £2 biliwn o arian trafnidiaeth, sut y gellir ei fuddsoddi a sut y gall sicrhau'r budd gorau nid yn unig i Gasnewydd ond i Gymru yn gyffredinol, a chredaf fod Adam Price wedi nodi sut y gallai'r dewisiadau amgen weithio yn hynny o beth.

Felly, mae'r comisiynydd, i ailadrodd y pwynt y mae Lee Waters newydd ei wneud, wedi galw am fuddsoddi ehangach mewn trafnidiaeth yn ymwneud â'r defnydd o dechnoleg, fel y dywedais, am fesurau rheoli cyffyrdd a'r metro. Nid yw hyn—. Efallai fod hyn yn newydd i Gymru, ond nid yw'n gwbl newydd i wledydd a dinasoedd sy'n gorfod ymdrin ag ansawdd aer gwael, trafnidiaeth wael a thagfeydd. Maent wedi ymdrin ag ef mewn ffyrdd eraill. Y cyfan sy'n digwydd wrth i chi adeiladu ffordd newydd yw eich bod yn symud y broblem sawl milltir i'r dwyrain neu'r gorllewin, ac yn achos y cynnig hwn, mae'n fwy na thebyg y byddech yn ei symud yn agosach at Gaerdydd, fel y mae'n digwydd, oherwydd bydd y pontydd wedi ymdrin â'u tollau mewn ffordd wahanol. Credaf fod hynny'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gadw mewn cof wrth ystyried hyn.

Hefyd mae'n werth cofio pan oedd Plaid Cymru mewn Llywodraeth a phan wnaeth Ieuan Wyn Jones y penderfyniad i ganslo—roedd tua'r pumed penderfyniad mewn rhes ar gyfer newid yr M4 newydd—ni chafodd ei wneud am resymau cost yn unig. Cafodd ei wneud yn benodol oherwydd ein bod yn ailfantoli'r gyllideb drafnidiaeth rhwng trafnidiaeth gynaliadwy ac adeiladu ffyrdd. A dyna sydd wedi'i golli yn y ddadl a gawsom ers 2011, ac rwyf am adfer rhywfaint o hynny i'n gwerthfawrogiad y gallwn ddefnyddio Deddf cenedlaethau'r dyfodol i edrych ar hyn.

Rwy'n meddwl mai'r peth olaf, os caf ddweud, Lywydd, yw fy mod wedi fy narbwyllo'n fawr gan y newidiadau sy'n digwydd yn ein heconomi ac yn ein hamgylchedd ynghylch yr hyn y mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ei ddweud, sef, yn amlwg, pe bai hyn yn mynd yn ei flaen, ni fyddai ond yn ateb am gyfnod byr iawn yn unig. Maent yn dweud hyn:

O 2038 ymlaen, mae'r senario "gwneud rhywbeth" yn cynhyrchu mwy o allyriadau carbon na'r dewis "gwneud cyn lleied â phosibl". Effeithir ar yr hinsawdd gan gyfanswm yr allyriadau. Felly mae'r cynllun hwn yn y pen draw yn fwy niweidiol i'r hinsawdd na'r dewis "gwneud cyn lleied â phosibl".

Rwyf wedi bod yn aelod o'r Cynulliad hwn bellach ers bron i saith mlynedd, a chafwyd dwy ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddynt drwy gydol y cyfnod cyfan hwnnw. Un yw'r metro—ac roedd yn fraint fawr i allu arwain y ddadl Aelod unigol gyntaf ar y mater hwnnw—a'r llall yw ffordd liniaru'r M4.

Roeddwn hefyd yn aelod o bwyllgor yr amgylchedd. Gwelaf fod nifer o aelodau'r pwyllgor hwnnw yma. Treuliasom gryn dipyn o amser, rwy'n cofio, yn y Cynulliad diwethaf, yn mynd drwy fater ffordd liniaru'r M4 yn ofalus tu hwnt, yr effaith—amgylcheddol, materion gyda'r traffig, problemau gyda thrafnidiaeth cynaliadwy ac ati. Bydd rhai ohonoch yn cofio'r dicter ar y pryd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ychydig cyn i'r pwyllgor gyhoeddi ei ganfyddiadau, ei bod yn dewis y llwybr du—ac rwy'n credu fy mod wedi dweud ar y pryd fod y penderfyniad hwnnw'n tanseilio'r adroddiad a'r gwaith a ddigwyddodd yn y pwyllgor hwn i edrych ar yr holl opsiynau penodol hynny.

Wrth gwrs, ar y pryd roedd y gost bosibl rhwng £350 miliwn ac £1 biliwn, yn dibynnu ar ba lwybrau penodol a gâi eu trafod. Ac yn awr rydym yn sôn—os ydym yn gwbl onest—erbyn ei gorffen a drifft ac ati, am brosiect £2 biliwn. Mae wedi tyfu'n jygarnot economaidd sydd, yn fy marn i, allan o reolaeth. Ac os ydym am sôn am dagfeydd, fe fyddwch wedi gweld adroddiad ddoe mai'r A470 yw'r ffordd fwyaf prysur yng Nghymru mewn gwirionedd. Nid wyf yn gofyn am ffordd osgoi i'r A470, ond wrth gwrs, rwyf wedi bod yn gofyn am y cyswllt rheilffordd newydd fel rhan o'r metro i Lantrisant er mwyn tynnu pobl oddi ar y ffyrdd.

Rydym wedi rhoi ymrwymiad, ymrwymiad sylfaenol i'r metro, i drafnidiaeth integredig gynaliadwy. Rydym wedi rhoi ymrwymiad i bobl y Cymoedd y byddai'r dagfa yno—gyda'r cynnydd yn nifer y tai ledled ardal Taf Elái, ar gyrion Caerdydd, ac yn y Cymoedd—yn cael ei datrys yn rhannol gan ein hymrwymiad trawsnewidiol i'r metro. Fy mhryder mawr yw: lle mae'r cyfalaf pe baem yn bwrw ymlaen â phrosiect sy'n £2 biliwn fwy neu lai? Nid wyf am i'r metro ddod i gyfateb i anghenfil Loch Ness i bob pwrpas—mae pawb wedi gweld llun ohono ond nid oes neb yn gwybod a yw'n bodoli mewn gwirionedd ai peidio. Dyna fy mhryder.

Rwyf wedi rhoi ymrwymiadau i fy etholwyr, rydym wedi rhoi ymrwymiadau yn ein maniffesto, a chredaf fod amser yn awr i gamu'n ôl ac adolygu lle rydym, o gofio maint y prosiect hwn, lle mae arni a beth yw ei oblygiadau ar ein holl ymrwymiadau eraill. Efallai na fyddaf yn ennill y dadleuon hynny maes o law, ond credaf fod yn rhaid inni gael y ddadl honno. Rhaid inni gael cyfle i drafod rhywbeth sydd ar y raddfa hon. Yr hyn rwy'n ei geisio, mewn gwirionedd, yw sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd y ddadl benodol honno'n digwydd—

16:35

A gaf fi ofyn, o ystyried termau'r cynnig, yn ogystal â'r ddadl, a yw'n ceisio pleidlais ar y mater hwn?

Os ydych yn cael dadl, rwy'n credu bod yn rhaid cael pleidlais, ac mae'n rhaid iddi fod yn bleidlais o fewn amser y Llywodraeth. Felly, dyna'r sicrwydd a geisiaf oherwydd credaf mai dyma'r prosiect mwyaf a wynebwyd gennym erioed, ac mae iddo oblygiadau sylweddol iawn i lawer o'n hymrwymiadau eraill. Ac os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i drafnidiaeth gynaliadwy, i sicrhau bod traffig yn dod oddi ar y ffyrdd, rhaid inni ystyried yr holl opsiynau a'r holl oblygiadau ariannol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae coridor yr M4 Casnewydd yn chwarae rôl hanfodol yn cysylltu de Cymru â Lloegr ac Ewrop. Mae'n un o'r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, a choridor yr M4 yw'r porth economaidd a chymdeithasol i mewn i Gymru. Mae'n cysylltu ein porthladdoedd a'n meysydd awyr ac yn gwasanaethu ein diwydiant twristiaeth. Ddirprwy Lywydd, rwy'n byw o fewn 20m i 30m i'r M4 ac rwy'n teithio'n rheolaidd, ac yn yr 11 o flynyddoedd y bûm yn y Siambr hon, rwyf wedi cyfrif fy mod wedi treulio mwy na 24 awr o amser yn aros bob blwyddyn. Felly, golyga hynny 11 diwrnod rwyf wedi eu gwastraffu ar yr M4 i ddod i'r Siambr hon yn unig.

Fodd bynnag, mae'r M4 yn ne Cymru yn enwog am ei thagfeydd traffig a'r ffordd o amgylch Casnewydd yw'r darn o ffordd prysuraf yng Nghymru ac mae'n un o'r gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Fel y mae pethau, nid yw'r darn hanfodol hwn o'r draffordd yn bodloni safonau cynllunio traffyrdd modern chwaith. Mae hynny'n arwain at amodau teithio gwael, a pheryglus weithiau, i'w defnyddwyr niferus, gan gynnwys cefnogwyr chwaraeon sy'n teithio i Gymru yn go aml—bron bob wythnos. Gyda nifer y lonydd yn gostwng yn aml, llain galed ysbeidiol a dwy lôn yn unig, gwelir tagfeydd ar y ffordd yn rheolaidd ar adegau brig. Yr ardal sydd â'r broblem dagfeydd waethaf yng Nghymru yw twnelau Bryn-glas. Cafwyd 465 o dagfeydd yn y twnelau tua'r gorllewin y llynedd; dyna'r ystadegyn. Mae tagfeydd yn effeithio'n andwyol ar economi Cymru, a busnesau a modurwyr Cymru—hwy sy'n ysgwyddo'r baich. Amcangyfrifir bod tagfeydd traffig ar ein ffyrdd y llynedd wedi costio bron £278 miliwn i economi Cymru. Mae'n ffigur go drawiadol, Ddirprwy Lywydd.

Camau gweithredu'r Llywodraeth Geidwadol i ddileu treth ar werth oddi ar dollau ar bont Hafren yw'r cam cyntaf tuag at ddileu'r taliadau ar y pontydd yn gyfan gwbl erbyn diwedd eleni. Amcangyfrifir bod y manteision i economi Cymru o ddileu'r taliadau oddeutu £100 miliwn. Peryglir yr holl fudd hwn i economi Cymru gan y methiant i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Diolch i din-droi Llywodraeth Cymru, mae cost y prosiect hanfodol hwn wedi codi. Rhaid ystyried cost tagfeydd a manteision ariannol diddymu'r tollau ar bont Hafren wrth benderfynu ymrwymo bron £1.5 biliwn ar y prosiect hwn. Mae pawb ohonom yn deall fod hwn yn swm enfawr o arian, ond yn yr achos hwn, credaf mai'r allwedd i wella'r economi ranbarthol yw peidio â thaenu'r jam yn rhy denau. Dyna a ddywedodd rhywun yn ddiweddar. Fel arall, rydym mewn perygl o droi'r M4 yn faes parcio mwyaf Cymru. Mae gormod yn y fantol, Ddirprwy Lywydd, i broblem yr M4 gael ei rhoi o'r neilltu am lawer yn hwy.

Drwy leihau tollau ar bontydd Hafren, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi agor y porth i Gymru'n lletach. Rhaid inni sicrhau bod y seilwaith yn ei le ar gyfer cael y budd mwyaf posibl i economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud ei rhan yn awr i sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes, ac rwyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd cyn gynted â phosibl. Mater i'r Cynulliad hwn wedyn fydd trafod a phenderfynu ar ei argymhellion. Ac mewn gwirionedd, maent oll yn flychau y gallwn eu ticio i gael y ffordd bwysig hon yn ei lle cyn gynted â phosibl. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ar y gweill ers 2006 pan gynhyrchwyd TR111 ar gyfer y Llywodraeth, ac yn 2014, pan oedd y Gweinidog yn optimistaidd iawn yn y Siambr hon am y llwybr glas a du, ac yn y bôn, crybwyllodd fy nghyd-Aelodau ar y pryd fod rhai o'r ardaloedd yn negyddol iawn hefyd. Dywedodd rhai ohonynt nad oedd yn ddefnyddiol. Dywedodd un ohonynt yn y Siambr hon ei fod yn safbwynt anghywir ar ran y Llywodraeth a hefyd ei fod yn arian sy'n mynd i lawr y draen a'r math hwnnw o nonsens.

Ond yn y bôn, mae'n brosiect gwych ac mae'n rhoi tic ym mhob blwch: gwerth am arian; amcanion Llywodraeth Cymru; masnachol hyfyw; fforddiadwy yn fasnachol. A pha un a allwn ei gyflawni—y cyhoedd a'n heconomi fydd yn cael budd yn y pen draw. Weinidog, rwy'n eithaf siŵr y byddwch yn ei wneud ac os gwelwch yn dda, gwnewch hyn cyn gynted â phosibl. Diolch.

16:40

Credaf ei bod yn iawn fod y ddadl ynghylch yr M4 yn newid, ac mae'n amlwg o'r cyfraniadau y prynhawn yma fod y safbwyntiau'n dal yn hylif ar hyn. Mae yna bobl, yn amlwg, ar y fainc hon ac ar fainc y Ceidwadwyr sydd wedi dadlau'n gyson o blaid y llwybr du, er fy mod yn falch o glywed Andrew R.T. Davies yn canslo'r siec wag y mae wedi ei rhoi i'r prosiect hwn a chymhwyso rhywfaint ar ei gefnogaeth. Ceir rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr a meinciau Plaid Cymru sydd o blaid y llwybr glas, ac roeddwn yn falch iawn o glywed Simon Thomas yn bod yn agored ynghylch y modd y mae Plaid Cymru'n ailfeddwl am eu safbwynt yng ngoleuni barn argyhoeddiadol iawn comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol.

Nid wyf yn siŵr lle rydym arni ar y meinciau Ceidwadol—a yw Mark Reckless, fel rhan o'i ymgais i hudo Alun Cairns i ganiatáu lle iddo yn y Blaid Geidwadol, wedi cefnu ar ei gefnogaeth i'r llwybr glas a'i uwchraddio i'r llwybr du—felly edrychaf ymlaen at wylio hynny'n datblygu gyda diddordeb. Ond nid wyf yn meddwl bod Alun Cairns yn mynd i gynhesu atoch beth bynnag a wnewch, Mark—dyna fyddai fy nghyngor i i chi.

Felly, mae pethau'n newid, a chredaf fod hynny'n iawn. Yn yr hen ddyfyniad gan John Maynard Keynes—

Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy'n newid fy meddwl.

Mae hwn yn ateb 30 oed i broblem tagfeydd ac mae'r dechnoleg yn newid yn gyflym—rydym yn disgwyl i geir heb yrwyr fod ar werth o fewn y tair blynedd nesaf ac mae'r costau wedi newid. Pan oeddem yn ymladd ar sail ein maniffesto yn yr etholiad, roeddem yn sôn am brosiect o dan £1 biliwn. Rydym bellach yn edrych ar £1.3 biliwn i £1.4 biliwn. Mae hynny ar brisiau 2015 a heb TAW, y dywedir wrthym ei fod yn cael ei negodi. Felly, buaswn yn dychmygu y byddwn yn edrych ar ffigur agosach at £2 biliwn nag £1 biliwn, a chredaf fod hynny'n newid natur yr ymrwymiad a oedd gennym yn ein maniffesto, ac mae'n ein galluogi i edrych o'r newydd ar hynny.

Nid wyf am ailadrodd y dadleuon y prynhawn yma—rwyf wedi eu cyflwyno yn y lle hwn o'r blaen. Digon yw dweud fy mod o ddifrif ynglŷn â hyn ac nid yw fy safbwynt ar hyn yn fater o chwarae gemau. Clywais y cyfweliadau a roddodd Adam Price ar y penwythnos am agor ffrynt gyffredin gyda'r Ceidwadwyr a'i obaith y gallent gael safbwynt ar y cyd ar hyn heddiw, a fyddai'n denu Aelodau o feinciau cefn Llafur i ymuno â'u hochr hwy fel ffordd o achosi trafferth i'r Llywodraeth ac anghysur i'r Prif Weinidog. Nid wyf am unrhyw ran o hynny. Rwyf am ladd y ffordd hon, nid wyf am chwarae gemau o'i chylch.

Credaf fod yna rywfaint o anhawster ynglŷn â'r cynnig ei hun hefyd. Cyfaddefodd Adam Price nad oes grym llawn i gynigion y gwrthbleidiau. Hefyd, y pwynt a wnaeth Simon Thomas y dylid gwneud penderfyniadau yma nid gan y Weithrediaeth. Wel, mae'r cynnig hwn, yn ymwneud yn benodol ag ariannu'r prosiect hwn, a gwneir penderfyniadau ar ariannu prosiectau yn y gyllideb. Gallai Plaid Cymru fod wedi lladd y prosiect hwn yn y gyllideb, pe baent wedi dymuno gwenud hynny, ond dewisasant beidio â gwneud hynny. Felly, nid yw hon yn ddadl—[Torri ar draws.] Gadewch i mi fwrw ymlaen. Nid cynnig yw hwn heddiw—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn eiliad. Ond mae'r cynnig hwn heddiw yn ymwneud ag ariannu a chredaf mai mewn Senedd y dylai ariannu ddigwydd, wedi'i benderfynu ar sail cyllideb, ond rwy'n meddwl y dylai fod pleidlais ystyrlon yn amser y Llywodraeth. Fe ildiaf.

16:45

Diolch i'r Aelod am ildio. I fod yn glir iawn i'r Aelod, nid yw'r gyllideb ond yn rhoi cyfalaf wrth gefn ar gyfer y cyllid hwn. Byddai angen cyllideb atodol a phleidlais ar y gyllideb atodol i ganiatáu i hyn fynd rhagddo, ac ar hynny edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yn y lobi, fel yr arferent ei ddweud, i bleidleisio yn erbyn rhoi'r arian tuag at y prosiect hwn.

Wel, nid wyf yn un am bleidleisio yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Lafur, felly dyna pam rwyf am ddatgysylltu'r mater hwn. Mae'r cynnig hwn heddiw ynglŷn â'r cyllido. Rwyf eisiau cynnig ar wahân gerbron y Cynulliad hwn, ar ôl cael adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus, cyn i Weinidogion wneud eu penderfyniad, ar egwyddor y ffordd, nid yn benodol ar yr ariannu, ond ar egwyddor y ffordd. Dyna'r hyn yr hoffwn i Weinidogion ei ystyried, felly dyna pam na fyddaf yn gallu cefnogi geiriad y cynnig heddiw, er fy mod yn cefnogi ei sylwedd.

Felly, gobeithio y bydd Gweinidogion yn gwrando ar gryfder y teimlad sydd yna ar y mater hwn. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn bod yn rhan o gemau Plaid Cymru, ond rwyf eisiau ceisio newid polisi trafnidiaeth yn ein gwlad, oherwydd rydym wedi mynd yn gaeth i ragweld a darparu, ac rydym wedi bwrw o'r neilltu yr egwyddor o newid moddol. Ac yn egwyddor Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a basiwyd gennym, dyna'r prosiect y dylem ganolbwyntio arno yn y blynyddoedd i ddod.

Felly, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma, ond rwy'n gwrthwynebu'r ffordd, serch hynny. Mae safbwynt Plaid Cymru, safbwynt y Torïaid, yn newid ac mae mwy o ddiddordeb ganddynt mewn chwarae gemau ar hyn. Rwy'n cofio rhannu platfform—[Torri ar draws.] Fel erioed, mae Leanne Wood yn dangos diffyg urddas yn ei heclo. Cofiaf rannu platfform gyda Leanne Wood, gan ddadlau yn erbyn ffyrdd fel ffordd o fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol, a chlywn ganddi, 'Gadewch inni roi cannoedd o filiynau tuag at lwybr glas yn lle hynny' neu Rhun ap Iorwerth: 'Cannoedd o filiynau tuag at gynlluniau adeiladu ffyrdd eraill ar draws Cymru.' Rwyf am weld newid polisi i anrhydeddu'r hyn a gytunwyd gennych chi a minnau bryd hynny, Leanne Wood. Cywilydd arnoch am newid eich safbwynt ar gyfer chwarae gemau. Nid wyf yn y gêm honno.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n parchu barn yr Aelodau ar y mater hwn? Cafwyd ystod eang o safbwyntiau ar y pwnc hwn bob amser—safbwyntiau egwyddorol y credir yn angerddol ynddynt, ac rwy'n cydnabod cryfder y teimlad hwnnw. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau hefyd yn cydnabod fy niffuantrwydd wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw.

Ceir Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu'r  llwybr du arfaethedig—ffordd liniaru'r M4—yn gyson ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn meddwl bod anghytundeb, i fod yn onest, yn y Siambr ynglŷn â'r cwestiwn fod angen gwneud rhywbeth o gwmpas Casnewydd a thwnelau Bryn-glas. Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol ac na all barhau. Mae cymudwyr, teithwyr a busnesau, cludwyr nwyddau a chynnyrch—maent i gyd yn treulio gormod o amser o lawer mewn ciwiau a thagfeydd ar y rhan honno o'r M4.

Ddirprwy Lywydd, nid yw hyd yn oed y rheini sy'n cwestiynu'r cynllun arfaethedig a'r rhai sydd â phryderon egwyddorol ynghylch yr angen i wneud gwaith uwchraddio mawr ar ffyrdd yn meddwl bod 'gwneud dim' yn opsiwn posibl. Yr hyn y credaf sy'n achosi anghytundeb yw beth a wnawn i fynd i'r afael â'r broblem o amgylch Casnewydd a thwneli Bryn-glas, yn yr un modd ag y mae sut yr awn ati i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd mewn rhannau eraill o Gymru yn aml yn destun anghytundeb canolog: a ddewiswn y llwybr glas, neu a awn am y llwybr du, a ydym yn mynd i arllwys y cyfalaf i mewn i un prosiect ffordd neu i mewn i deithio llesol, neu'r rheilffyrdd, neu gyfuniad o atebion. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyflwyno cynnig, yn seiliedig ar ymrwymiad maniffesto yr etholwyd fy mhlaid arno adeg yr etholiad diwethaf. Yn allweddol, mae'r cynllun yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer system drafnidiaeth integredig amlfoddol gynaliadwy o'r radd flaenaf yn ne Cymru, y soniodd Mick Antoniw yn gynnes amdani. Un sydd, ochr yn ochr ag uchelgais a chreadigrwydd y metro, yn gallu darparu sylfaen gref a pharhaol ar gyfer twf cynhwysol—twf yn y rhanbarth, ac o'i gwmpas hefyd.

Nawr, fel y dywedais, rwy'n ymwybodol o'r amrywiol safbwyntiau a fynegwyd ar y cynnig hwn heddiw a dros nifer o flynyddoedd. Ac er mwyn sicrhau bod barn pawb ar bob ochr yn cael eu hystyried yn drylwyr ac yn systematig, mae arolygwyr annibynnol wedi bod wrthi dros fisoedd lawer yn cymryd tystiolaeth, yn gwrando'n ofalus ac yn ystyried barn pawb. Mae pob Aelod yn y Siambr hon, pob plaid wleidyddol, pob busnes, pob grŵp, pob unigolyn yng Nghymru, wedi cael cyfle i gyfrannu at y broses honno, a bellach mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad yn cael ei phrofi'n drwyadl. O ystyried y sylwadau braidd yn annymunol ac annheg a welsom yn ddiweddar, yn ymwneud â swyddogion cyhoeddus sy'n darparu cyngor annibynnol, gwn y byddwn yn gosod safon well ac esiampl well dros y misoedd nesaf, drwy barchu'r broses a ddefnyddiwyd ar gyfer profi'r dystiolaeth, a thrwy barchu canlyniad yr ymchwiliad. Bydd yr ymchwiliad yn gorffen ei waith cyn bo hir. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod am i'r ymchwiliad cyhoeddus hwn fod yn agored, a hefyd i fod yn gadarn, gan brofi pob dewis amgen a awgrymir i lywio'r hyn a fydd yn fuddsoddiad seilwaith sylweddol i Gymru.

O ystyried y diddordeb o du'r pleidiau yn y Siambr hon, dyna pam fy mod wedi rhoi cyfarwyddyd i'r llwybr glas gael ei ddatblygu a'i asesu mewn cryn fanylder, gyda saith amrywiad ohono wedi'u gosod gerbron yr ymchwiliad, i'w gymharu â chynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, soniodd yr Aelodau am wahaniaethau yn y gost fel cyfiawnhad dros y cynnig heddiw, ac eto, hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi cyflwyno ei adroddiad, ni fyddwn yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth yn y gost mewn gwirionedd. Yn wir, efallai na fydd gwahaniaeth yn y gost.

Rwy'n cydnabod hefyd fod nifer o'r Aelodau heddiw wedi sôn am y technolegau sy'n dod i'r amlwg y gellir eu defnyddio mewn ceir yn y dyfodol. Ar sail llawer o dystiolaeth ryngwladol, gallai defnyddio'r hyn a elwir yn fodel rhagweld a darparu y presennol ar gyfer cerbydau yn y dyfodol arwain at angen cynyddol am ofod ffyrdd, o gofio y bydd ceir awtonomaidd, yn sicr dros gyfnod eu datblygu, yn debygol o alw am fwy o le er mwyn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau newydd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Gwnaf.

16:50

Roeddwn yn meddwl tybed, cyn iddo orffen ei sylwadau, a allai roi sylw i fater canolog y cynnig, sef y cwestiwn a fydd yna bleidlais ystyrlon yn y Cynulliad hwn ar ôl i'r ymchwiliad cyhoeddus ddod i ben.

Rwy'n dod at yr union bwynt hwnnw, a dylwn ddweud nad yw Llywodraeth Cymru, ac ni fydd yn gwneud penderfyniad heb ystyried canfyddiadau a chasgliadau'r arolygydd yn llawn ac yn drwyadl, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gwelliant y mae wedi'i gyflwyno heddiw.

Hoffwn ddweud rhywbeth am y Cynulliad, a'i rôl mewn perthynas â phleidleisio ar brosiectau unigol. Ar gyllid ar gyfer y prosiect penodol hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi datgan y caniateir i'r ymchwiliad cyhoeddus gyflwyno adroddiad cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau ar ddyrannu, ac adroddir ar y penderfyniadau dyrannu hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol. A lle bydd angen cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyllidebau dilynol, rhaid cael y gymeradwyaeth honno a dyna fydd yn digwydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar Aelodau sydd wedi gwneud y ddadl ei fod yn galw am weithdrefnau arbennig oherwydd maint y prosiect penodol hwn. Ond fel Senedd, rwy'n meddwl bod angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y byddai ariannu prosiectau unigol yn gweithio.

16:55

Pa brosiectau eraill y byddai'n rhaid eu hystyried ar wahân? Oherwydd nid oes unrhyw lawlyfr nac unrhyw ganllaw yn ein cyfansoddiad sy'n disgrifio pa mor fawr y dylai prosiect unigol fod i gyfiawnhau cynnal pleidlais unigol ar ei ariannu ar lawr y tŷ hwn. Yn wir, buaswn yn ofni y gallai diddordeb rhanbarthol fod yn drech, o bosibl. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae angen inni sicrhau, fel rhan o'r broses o adeiladu cenedl, nad yw rhanbarthau'n cael eu gosod yn erbyn ei gilydd. Byddai risg go iawn o osod rhanbarthau yn erbyn ei gilydd pe baem yn cael pleidleisiau unigol ar brosiectau unigol. Ond fe ildiaf i Nick Ramsay.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe symudoch ymlaen ychydig o'r pwynt roeddwn yn mynd i'w wneud, ond credaf fod angen ei wneud. Edrychir yn ôl yn awr ar benderfyniad Beeching i gau llawer o reilffyrdd, yn y 1950au a'r 1960au, fel camgymeriad enfawr. Ni chafodd y penderfyniad hwnnw ei farnu'n briodol na'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Rydych wedi sôn am geir heb yrwyr, ac rydych wedi dweud, yn ystod eu camau cynnar, mae'n bosibl y bydd arnynt angen mwy o le, ond mewn gwirionedd, pan ddatblygir y dechnoleg honno, gallwch ffitio mwy o'r ceir hynny i ofod ffyrdd penodol am nad oes angen yr un pellteroedd stopio a chânt eu rheoli'n gyfrifiadurol. Felly, fy mhwynt i yw: a wnewch chi sicrhau bod y penderfyniad hwn, pan gaiff ei gymryd, wedi'i ddiogelu'n ddigonol ar gyfer y dyfodol i wneud yn siŵr na fydd gennym lwyth o gapasiti ffyrdd na fydd ei angen arnom yn y dyfodol mewn gwirionedd?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hwnnw'n ofyniad pendant ar gyfer yr asesiad trylwyr o'r holl dystiolaeth a roddir. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar rai o'r proffwydoliaethau a wnaed ynghylch y defnydd o gerbydau awtonomaidd yn fwy hirdymor, mae'n debygol y bydd cerbydau awtonomaidd yn arwain at lai o bobl yn berchen ar geir, ond mwy o ddefnydd ar geir, ac y bydd mwy o geir yn cael eu defnyddio am fwy o amser ar ffyrdd, gan arwain at fwy o gerbydau'n cael eu defnyddio ar unrhyw adeg. Gallai hynny, yn ei dro, arwain at fwy o alw am le ar y ffyrdd.

Ddirprwy Lywydd, y mis hwn mae'n flwyddyn ers i brosiect yr M4 gael ei archwilio gan ddau arolygydd cynllunio a pheirianneg annibynnol. Yr ymchwiliad cyhoeddus hwn sydd i ddod i ben cyn hir fydd yr hwyaf i'w gynnal yng Nghymru erioed. Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon fod yn rhaid i'r broses adolygu gymryd cymaint o amser ag y bo'n angenrheidiol i graffu ar y dystiolaeth ar y cynllun ac i ganiatáu i bawb gael dweud eu barn. Mae hynny'n digwydd, a gofynnaf i'r Aelodau ganiatáu i'r ymchwiliad gwblhau ei waith, caniatáu i'r holl dystiolaeth gan arbenigwyr ac unigolion sydd â diddordeb i gael ei hystyried yn llawn, ac uwchlaw popeth, parchu'r broses a derbyn ei chanlyniad cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud hanner ffordd drwy'r ddadl fy mod yn teimlo ei bod yn enghraifft o'r Senedd ar ei gorau oherwydd cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau ar y mater, ond ein bod yn dod at ein gilydd ac yn uno, mewn gwirionedd, o gwmpas yr egwyddor craidd, yn y pen draw, fod yn rhaid i'r Senedd benderfynu. Roeddwn yn gobeithio y byddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei sylwadau ar y diwedd, yn egluro'r mater canolog hwnnw i ni, ac eto rwy'n gwbl aneglur yn ei gylch. Gall ymyrryd, os hoffai, yn groes i'r modd yr ymyrrais innau arno ef.

Soniodd am gael pleidlais unigol ar brosiectau unigol, ac yna aeth ymlaen i sôn am rai o anfanteision hynny pe gosodid cynsail. Nid wyf yn hollol glir o hyd a yw'r cynsail yn mynd i gael ei osod. A oes ymrwymiad i gael pleidlais benodol? Nid yw'n ddigon i gael pleidlais ar y gyllideb atodol. Gallai cyllideb atodol fod â nifer o bethau ynddi. Rwy'n gwybod beth fyddai'n digwydd wedyn oherwydd mae wedi digwydd i mi sawl gwaith, Lee Waters. Rwy'n pleidleisio am un rheswm, ond wedyn caf fy nghyhuddo o fod yn erbyn y rhestr o bethau eraill sydd yn y gyllideb, ac fel arfer maent yn bethau na allai unrhyw un eu gwrthwynebu. Dyna pam y mae angen inni gael pleidlais benodol.

O ran y pwynt a gododd Lee Waters, os oes problemau gyda geiriad y cynnig, fi sy'n gyfrifol am hynny. Credaf fod ysbryd y cynnig yn glir, fodd bynnag. Yr hyn y ceisiem ei wneud gyda'r cynnig oedd dweud na allai'r Llywodraeth fwrw rhagddi i wario ar y prosiect cyn cael pleidlais ar egwyddor yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus. Rwy'n credu bod hynny'n amlwg i mi. Os nad oedd yn glir i'r Aelodau eraill, yna rwy'n ymddiheuro am hynny, ond rwy'n egluro'r bwriad. Wyddoch chi, nid ydym yn byw mewn byd perffaith, ac yn sicr nid ydym yn byw mewn Senedd berffaith. Felly, os ydych am bleidleisio o blaid yr egwyddor o bleidlais ar yr egwyddor yna hon fydd yr unig bleidlais rydych yn mynd i'w chael, iawn. A'r hyn yr hoffwn ei ddweud—yn onest, ac o ddyfnder fy nghalon, hoffwn ddweud wrth yr Aelod gyferbyn, hoffwn ddweud wrth yr Aelod gyferbyn: edrychwch y tu hwnt i'ch gelyniaeth, naill ai ataf fi neu at fy mhlaid, oherwydd mae mater mwy yma, y tu hwnt i blaid. Yn wir, fel y dywed Simon Thomas, mae tu hwnt i genedlaethau, onid yw? Rydym yn siarad yma am degwch rhwng cenedlaethau. Ac felly, buaswn yn apelio arno—gwn ei fod yn gwbl ddiffuant am y mater sylfaenol, ond o ran sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi pleidlais i bawb ohonom, dyma ein cyfle. Manteisiwch arno. Manteisiwch arno yn awr. Manteisiwch arno heno. Ni chawn gyfle arall; dyma ydyw.

Credaf mai'r consensws a glywais yn y cyfraniadau yn y Siambr, gan Andrew R.T. Davies, gan Aelodau eraill, gan gynnwys Lee Waters, rwy'n credu, yw'r ffigur o £2 biliwn. Credaf fod pob un ohonom yn derbyn bod yna elfen anochel ynglŷn ag i ble rydym yn mynd yn y pen draw. Mewn cyfraniad grymus iawn, tynnodd Jenny Rathbone sylw at y ffaith bod costau cyfle i'w cael ym mhob rhan o Gymru, onid oes? Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at beth o'r tanfuddsoddi cymharol a fu mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru. Ond mae'n wir: roedd Mark Barry, yn ei asesiad cychwynnol o gost cyfnod cyntaf y metro—wyddoch chi, byddai £1 biliwn, £1.5 biliwn, £2 biliwn yn sicrhau effaith drawsnewidiol enfawr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru hefyd. A'r cyfrif o'r gost cyfle honno sy'n rhaid inni allu ei hysgwyddo fel Aelodau unigol ar draws ein pleidiau, ac roedd Simon Thomas yn iawn i ddweud ein bod—fel plaid, mae'n rhaid i ni ailwerthuso ein safbwynt yng ngoleuni'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Felly, rydym yn cofnodi hynny. Hoffem annog yr Aelodau—. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn gynhenid anodd, ac mewn gwirionedd, rwy'n talu teyrnged i'r Aelodau ar y meinciau Llafur a siaradodd yn rymus tu hwnt, fod angen inni gael pleidlais ddemocrataidd, yn bennaf, wrth gwrs, oherwydd yr amheuaeth rydych yn ei rannu, rydym ni yn ei rhannu, ynglŷn ag a fyddai hyn yn dangos gwir werth am arian, ond hefyd y gwerthoedd cywiraf—y gwerthoedd rydym am eu hymgorffori yn y dyfodol y ceisiwn ei greu ar gyfer ein gwlad.

Edrychwch, rwy'n sylweddoli ein bod i gyd yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd—mae'n ddiffyg galwedigaethol o bosibl—mewn gornest gecru. Ond mae rhai pethau'n bwysicach, ac os wyf fi mewn unrhyw ffordd, mewn unrhyw sylwadau a wneuthum, wedi cymylu eich barn ar hynny rwy'n ymddiheuro, oherwydd—cafwyd llawer o ymddiheuriadau yn y Siambr hon yn ddiweddar, ac rwy'n barod i wneud hwn hefyd—mae hyn yn bwysicach na theatr wleidyddol. Mae hyn yn bwysicach nag ennill neu golli yn yr ystyr arwynebol honno. Mae hyn yn ymwneud â dyfodol ein gwlad, a chaf fy nghalonogi gan yr ymdeimlad o gonsensws yn y Siambr hon, ar y mathau hyn o benderfyniadau—penderfyniadau a fydd, o'u gwneud, yn effeithio ar genedlaethau i ddod—yna rhaid i ni, fel Senedd, fel seneddwyr, waeth beth fo'n plaid, fynnu ein bod yn cael pleidlais. Ac fe wahoddais Ysgrifennydd y Cabinet—yn yr ychydig eiliadau sydd gennyf yn weddill, os yw am godi ar ei draed i roi sicrwydd i ni y cawn y bleidlais honno, gall wneud hynny. Ond mae arnaf ofn fod y tawelwch yn siarad drosto'i hun. Os ydych am weld pleidlais ddemocrataidd, defnyddiwch eich pleidlais heno.

17:00

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl UKIP Cymru: Diwygio Etholiadol y Cynulliad

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Eitem 8 ar ein hagenda yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, a galwaf ar Gareth Bennett i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6645 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

2. Yn credu:

a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a

b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.

Cynigiwyd y cynnig.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yma heddiw i drafod y bwriad i ehangu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Clywsom yn gynharach gan y Llywydd ynglŷn ag adroddiad y panel arbenigol, sydd wedi argymell ehangu, ac am yr ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn digwydd yn awr. Rydym ni yn UKIP yn credu bod y cynigion i ehangu yn newid enfawr a fydd yn gostus iawn. Rhaid inni sefydlu bod cydsyniad poblogaidd iddo, ac mai drwy refferendwm yn unig y gellir dangos y cydsyniad hwn. Dyna pam rwy'n gwneud y cynnig heddiw i'r perwyl hwnnw yn enw Neil Hamilton.

Yn awr at y gwelliannau. Un yn unig sydd yna, gan y grŵp Llafur. Rydym wedi rhoi ystyriaeth drylwyr i'w gwelliant manwl iawn, sy'n dweud, 'Dileu popeth ar ôl pwynt 1', ac wedi penderfynu, ar ôl llawer o drafod brwd, ein bod yn gwrthwynebu'r gwelliant.

Nawr, prif honiad yr adroddiad yw bod cymaint o ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad bellach, sy'n galw am gymaint o graffu, fel ei fod yn ormod o waith i'r 60 o Aelodau Cynulliad sydd gennym ar hyn o bryd. Yr awgrym yw y dylem gynyddu maint y lle hwn i rywbeth fel 80 o Aelodau, neu'n well byth, i 90. Felly, y peth cyntaf sydd angen i ni edrych arno yw hyn: a yw'n wir ein bod oll wedi'n gorlwytho â gwaith fel Aelodau o'r lle hwn?

Ie, wel rwy'n mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw, David a Mike, felly diolch.

Mae'n ddiddorol nodi nad oes fawr o rwymedigaethau statudol, hynny yw, dyletswyddau cyfreithiol, gan ACau i bob pwrpas. Felly, os ydym yn mynd i ddweud bod angen rhagor o ACau, efallai bod angen i ni yn gyntaf nodi set lawer mwy llym o ddyletswyddau statudol. Fe fyddwch yn cofio sut y dygwyd anfri ar y Cynulliad yn ddiweddar gan absenoldeb mynych Nathan Gill. Wel, gallwn oll ysgwyd ein pennau a dweud, 'Nathan Gill drwg', ond, mewn gwirionedd, dyma gwestiwn: pa mor aml y mae'r Siambr hon byth yn agos at fod yn llawn? Mae'n llawn yn awr, ond nid oedd yn llawn yn gynharach heddiw. Pwynt yr hoffwn ei wneud yw ein bod bellach yn dechrau'r trafodion ar ddyddiau Mercher gydag ond oddeutu 20 i 25 o Aelodau yn aml, ac ambell waith rydym i lawr i lai nag 20. Felly, nid yw rhywbeth mor sylfaenol â mynychu Cyfarfod Llawn yn rhwymedigaeth hyd yn oed, mae'n opsiynol, fel y mae gweddill y swydd, ac mae rhai—[Torri ar draws.]—ac mae rhai yn dewis peidio â bod yma rhyw lawer iawn. Rydym wedi cael y Llywodraeth Lafur hyd yn oed yn dweud wrthym yn ddiweddar mai dadleuon yr wrthblaid yn unig yw dadleuon dydd Mercher ac nad ydynt o fawr o bwys o gwbl, gan awgrymu bron nad oes angen inni fod yma. Ar ben hynny i gyd, mae pob dydd Gwener yn rhydd o unrhyw ymrwymiad Cynulliad. Mae'n wir fod Aelodau'n gwneud—[Torri ar draws.] Mae'r Aelodau'n gwneud pethau—[Torri ar draws.] Mae'r Aelodau'n gwneud pethau ar ddyddiau Gwener, wrth gwrs. Ond y pwynt yw nad oes yn rhaid i chi wneud pethau. Ac eto mae'r adroddiad hwn yn siarad amdanom fel pe baem i gyd yn—[Torri ar draws.]—fel pe baem i gyd wedi'n llethu gan waith yn dragwyddol.

A gawn ni wrando ar yr Aelod, os gwelwch yn dda? Rwy'n ei chael hi'n anodd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae yna broblem gyda gwaith pwyllgor. Dyna yw rhan fwyaf difrifol y gwaith, mae'n debyg, oherwydd gallem fod yn craffu ar ddeddfwriaeth, ac mae'r gwaith pwyllgor, rwy'n teimlo, yn eithaf trwm. Fodd bynnag, hyd yn oed yno, ceir cafeatau, nad yw'r adroddiad yn manylu arnynt. Er enghraifft, nid ydym yn edrych ar ddeddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, dim ond rhan o'r amser. Os edrychwn ar flaenraglenni gwaith pob un o bwyllgorau'r Cynulliad, a oes angen gwneud yr holl waith hwn mewn gwirionedd? Rhaid imi ddweud—[Torri ar draws.] Rhaid imi ddweud, o'm rhan i, nac oes, mae llawer ohono nad oes raid ei wneud. Felly, mae llawer o'r gwaith pwyllgor yn ddiangen. Gellid cael gwared ar rywfaint ohono a lleihau'r rhaglen yn sylweddol. [Torri ar draws.] Ydw, rwyf am droi at hynny i gyd yn awr. Yn fyr, gallai rhai o'r pwyllgorau gyfarfod bob yn ail wythnos yn hytrach na phob wythnos. Daw hyn â ni at gwestiwn arall. A oes angen wyth aelod ar saith o'r pwyllgorau? Wel, nac oes, mewn gwirionedd. Gallech gael pwyllgorau o chwech Aelod gyda dau Aelod Llafur—

Wedyn ni fyddai gan UKIP Aelod ar y blincin pwyllgorau.

Pe baech yn aros i glywed fy nghynnig, Simon, efallai y caech eglurhad ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd. Gallai fod gennych bwyllgorau chwe Aelod gyda dau Aelod Llafur, tri Aelod rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac un UKIP. Byddai hyn yn dal yn gymesur pe bai gan Aelodau Llafur ddwy bleidlais yr un ym mhob sefyllfa bleidleisio. Wedi'r cyfan, mae'r pedwar Aelod Llafur bob amser yn pleidleisio yr un ffordd beth bynnag, gyda'r chwip Llafur, ac mae'r mater hwn o AC yn cael mwy nag un bleidlais eisoes yn digwydd yn y Pwyllgor Busnes. Felly, gallem ymestyn gweithrediad effeithiol y Pwyllgor Busnes i'r saith pwyllgor wyth Aelod cyfredol. Byddai hyn yn lleihau llwyth gwaith Aelodau'r meinciau cefn Llafur, sydd ar hyn o bryd yn ysgwyddo'r baich mwyaf o waith pwyllgor. Dyma pam rwy'n synnu braidd nad yw'n ymddangos eich bod yn hoffi hyn. Felly, mae yna ffyrdd o gwmpas y broblem honedig fod AC yn cael eu gorweithio. Rhaid inni fod yn greadigol o ran sut y meddyliwn am yr her hon, dyna i gyd, ac nid troi at yr hen ymateb diflas, 'Mae arnom angen mwy o Aelodau.' Nawr, mae'r adroddiad yn dweud, yn y cyflwyniad:

'Fel Panel annibynnol a diduedd, rydym wedi defnyddio ein harbenigedd a'n profiad i ddod i'r casgliad nad oes gan Gynulliad â 60 Aelod y capasiti sydd ei angen arno i gyflawni ei gyfrifoldebau'.

Diwedd y dyfyniad. A gaf fi roi safbwynt arall ar yr hyn y mae'r panel yn ei ddweud mewn gwirionedd? Dechrau'r dyfyniad: 'Rydym yn griw o bobl sy'n gwneud ein bywoliaeth sylweddol o wleidyddiaeth. Rydym yn byw mewn swigen wleidyddol, wedi'n gwahanu'n llwyr oddi wrth fywydau pobl normal. Rydym yn credu mai'r ateb i bob her wleidyddol yw creu mwy o swyddi i wleidyddion. Wedyn, gobeithio, bydd y gwleidyddion hynny'n ein rhoi ar fwy o'u comisiynau ac ymchwiliadau, ac wedyn awn ymlaen i wneud llawer o arian, a'r cyfan yn cael ei ariannu gan y trethdalwr.' Diwedd y dyfyniad dychmygol.

Y broblem yw, er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng pobl o wleidyddiaeth a llywodraethiant, fod arnom angen pobl ar y panel hwn hefyd nad oeddent yn dod o'r byd hwnnw. Roeddem angen rhywun, mwy nag un person o bosibl, i gynrychioli'r gymuned fusnes. Roeddem hefyd angen rhywun i gynrychioli'r dyn yn y dafarn a'r fenyw yn y siop goffi. [Torri ar draws.] Ond wrth benodi'r panel hwn, ni ofynnwyd am farn pobl o'r fath. Mae methiant democratiaeth yn y fath fodd yn golygu y gellir diystyru barn y panel hwn yn llwyr. Mae yna rywbeth hefyd—[Torri ar draws.]

17:10

Na, mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi gofyn yn garedig. A wnewch chi os gwelwch yn dda—? A gawn ni wrando ar yr Aelod? Fe wrandawn, os gwelwch yn dda.

Diolch. Mae yna rywbeth mwy nag ychydig yn anonest hefyd am y ddadl hon dros fod angen rhagor o Aelodau. Roedd refferendwm 1997 yn bleidlais o blaid Cynulliad, y pennwyd ar y pryd ei fod i gynnwys 60 o Aelodau. Nid oedd unrhyw sôn am orfod ei ehangu yn ddiweddarach. Galwodd refferendwm 2011 am bwerau deddfu sylfaenol, ond nid oedd yn egluro y byddai angen mwy o Aelodau ar ôl cyflawni hyn. Yn rhyfedd iawn, fodd bynnag, cyn gynted ag y cyrhaeddodd y pwerau newydd, dechreuodd gwleidyddion ym Mae Caerdydd ddweud wrthym fod gormod i bawb ei wneud—gormod o ddeddfwriaeth, gormod o graffu.

Felly, mae wedi bod yn ddadl gylchog braidd, mewn gwirionedd. 'Rhowch fwy o bwerau inni', sgrechia Aelodau'r Cynulliad. Mae San Steffan, ar ôl ychydig o frwydr, yn ildio'n briodol. Bum munud yn ddiweddarach, mae'r ACau yn sgrechian, 'Rhowch ragor o Aelodau i ni.' Felly, mae'r Cynulliad yn gofyn am fwy o bwerau, yn eu cael, yna'n dweud wrth y cyhoedd nad oes ganddynt ddigon o bobl i arfer y pwerau newydd y galwasant hwy eu hunain amdanynt. Sgam gwleidyddol ydyw yn ei hanfod i gamarwain y cyhoedd yng Nghymru i dderbyn mwy o ACau drwy dwyll. Wel, nid ydych yn mynd i gael eich 30 yn rhagor o Aelodau, nid heb i ni gael refferendwm yn gyntaf. Dyna fy marn i, a dyna yw barn UKIP, a dyna pam rwy'n cyflwyno cynnig UKIP heddiw.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu na ddylem achub y blaen ar safbwyntiau pobl Cymru drwy gau opsiynau, fel y gwna eich cynnig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylem alluogi a chynorthwyo Comisiwn y Cynulliad i gynnal proses ymgynghori drylwyr a chynhwysol. Ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud 'na' wrth refferenda, oherwydd, yn y pen draw, dylem gael y pŵer a'r dewrder wedyn i fwrw ymlaen neu beidio, gan ddefnyddio ein barn wleidyddol gyfunol yn unol â'n mandadau a barn pobl Cymru.

Roedd hynna'n gyflym. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn barod. [Torri ar draws.] O, rwy'n barod, credwch chi fi. [Chwerthin.]

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ei gwneud yn glir ar y cychwyn nad wyf yn gwrthwynebu ehangu'r Cynulliad o ran ideoleg. Mae arbrawf cyfansoddiadol mawr y Blaid Lafur, sef cyflwyno systemau gwahanol o ddatganoli i'r tair gwlad ddatganoledig, yn dangos nad oedd ganddynt unrhyw syniad sut i ddarparu gwir ddatganoli. Roedd y dull gwasgaredig yn golygu mai Cymru a gafodd y gwelltyn byr, a thystiolaeth o hynny yw'r ffaith ein bod yn gyson yn gorfod tincran gyda'r setliad a Deddf Cymru newydd bob dwy flynedd.

Ond o roi'r dadleuon cyfansoddiadol o'r neilltu, beth yw diben datganoli? Yn sicr nid creu haen arall o fiwrocratiaeth. Ni phleidleisiodd pobl mewn mewn dau refferendwm dros sefydliad a fyddai'n trafod materion cyfansoddiadol yn ddiddiwedd neu'n penderfynu a oes gennym system gyfreithiol Gymreig ai peidio. Nid oedd y cyhoedd yn malio am y materion hyn. Maent yn malio a fydd swyddi ganddynt ar ddiwedd y flwyddyn, a yw eu plant yn cael addysg dda, a fydd y GIG yno i'w teuluoedd pan fyddant ei angen. Dyma pam y deuthum yn Aelod Cynulliad. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ein heconomi wedi dirywio, mae ein hysgolion yn methu ac mae ein GIG wedi gwaethygu, nid gwella.

Nid oherwydd nad oes gennym ddigon o wleidyddion y mae'r methiannau hyn wedi digwydd, ond oherwydd mai gwladwriaeth un blaid sydd gennym, unbennaeth etholedig—Llywodraeth Lafur mewn grym am gyfnod rhy hir, yn amddifad o uchelgais, gweledigaeth a syniadau. Nid yw 20 neu 30 o ACau ychwanegol yn mynd i newid hynny. Cyn belled ag y bo gennym Lywodraeth sy'n osgoi craffu pan all wneud hynny, ni fydd 50 o wleidyddion eraill yn newid hynny. A hyd nes y dechreuwn wella bywydau pobl mewn gwirionedd, ni waeth pa mor brysur y byddwn, ni allwn wneud dadl dros ragor o wleidyddion.

Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, pasiwyd cyllideb a fydd yn arwain at doriadau enfawr ym mhobman, cyllideb a fydd yn rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau enfawr, ac eto gofynnwn i'r cyhoedd gyflogi rhagor o wleidyddion, nid rhagor o nyrsys a meddygon. Mae ein GIG ar ei liniau; mae'n cael trafferth ymdopi. Mae pobl yn marw ar restrau aros. Nid ydym wedi cyrraedd targedau amseroedd aros canser mewn degawd, mae gennym y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop, a phrinder aruthrol o staff diagnostig yw un o'r ffactorau allweddol. Rydym yn cyflwyno prawf sgrinio newydd ar gyfer canser y coluddyn y flwyddyn nesaf ond wedi pennu lefel sensitifrwydd sy'n hanner yr hyn a osodwyd gan yr Alban oherwydd nad oes gennym gapasiti colonosgopi.

Hyd nes y llwyddwn i newid bywydau pobl yn iawn, sut yn y byd y gallwn ddisgwyl iddynt gefnogi gwneud ein bywydau ni yn haws? Rhaid inni weithio'n glyfrach hyd nes y gall y wlad fforddio'r degau o filiynau o bunnoedd y bydd yn ei gostio i gyflogi mwy ohonom. Rhaid inni roi'r gorau i chwarae gwleidyddiaeth plaid llwythol a chydweithio go iawn i wella iechyd, addysg a'r economi. Hyd nes y digwydd hynny, ni fydd y cyhoedd yn cefnogi camau i unioni arbrawf datganoli Blair. [Torri ar draws.] Fe wnaf.

Mae angen i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i geisio cau'r ddadl, rhoi'r gorau i geisio gwneud pethau'n wahanol i'r Torïaid yn Lloegr. Gwnewch bethau'n well. Ac mae angen i bawb ohonom ddyblu ein hymdrechion. Nac oes, nid oes digon ohonom. Hen dro. Rhaid inni weithio gyda'r offer a roddir inni. Gallem gynyddu ein nifer o ddau drwy drosglwyddo dyletswyddau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd i glercod y Cynulliad. Wedi'r cyfan, maent yn ddiduedd ac mae ganddynt lyfr rheolau i'w ddilyn. Gallwn edrych arno'n wahanol, ac yna bydd gennym ein cwota llawn o 60 o Aelodau Cynulliad—[Torri ar draws.] Rhaid inni wneud—[Torri ar draws.] Rhaid inni—[Torri ar draws.] Efallai fod fy marn yn wahanol i'ch un chi, ond nid yw'n golygu ei fod yn anghywir. Rhaid inni wneud y tro â'r hyn sydd gennym ac yn hytrach na chwyno, rhaid inni wneud y gorau a allwn.

Po fwyaf o amser a dreuliwn yn trafod materion cyfansoddiadol, y lleiaf o amser a dreuliwn yn gwella bywydau pobl. Ond—[Torri ar draws.] Ond pe bai rhagor o bwerau'n cael eu datganoli, byddai'n afrealistig i ni beidio ag adolygu—[Torri ar draws.]—beidio ag adolygu hyn yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd ni all y wlad gefnogi ac ni all  fforddio rhagor o wleidyddion. Rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' oherwydd byddai'n afrealistig peidio ag adolygu mwy o Aelodau Cynulliad yn y dyfodol, ond os edrychwch ar gyflwr presennol yr hinsawdd economaidd, nid dyma'r amser. Diolch.

17:15

Diolch, Dirprwy Lywydd, am gael cyfrannu unwaith eto ar y pwnc yma ac ymateb ar ran y Comisiwn. Rwyf hefyd eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i bob un o’r pleidiau gwleidyddol sydd wedi bod yn cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o’r grŵp cyfeirio gwleidyddol ar ddiwygio etholiadol—i Angela Burns, Mike Penn, Peter Black a Robin Hunter-Clarke. Mae cyfarfodydd y grŵp yma wedi bod yn fuddiol iawn, gyda phob un o’r pleidiau yn barod i gyfrannu syniadau a sylwadau ar y dewisiadau sydd o’n blaenau ni, ac rydyn ni’n bwriadu parhau i gynnal y cyfarfodydd o’r grŵp cyfeirio wrth inni ddatblygu’r gwaith yma ymhellach.

Yn gynharach y prynhawn yma, cafwyd cefnogaeth y Cynulliad yma i nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol ac i gymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ar argymhellion yr adroddiad hwnnw. Felly, fe fyddwn ni’n symud ymlaen yn awr i ymgysylltu’n eang mewn ffordd adeiladol gydag etholwyr a Chymru gyfan i glywed eu safbwyntiau nhw a’u blaenoriaethau nhw ynglŷn â sut y gallwn ni fod yn datblygu ein Senedd ni am yr 20 mlynedd nesaf o ddatganoli.

Er gwaetha’r gwahaniaethau gwleidyddol yn y Siambr yma, mae pob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn dymuno gweithredu er mwyn hyrwyddo’r broses ddemocrataidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwasanaethu yn y Senedd fwyaf effeithiol, tryloyw a chynrychioladol â phosib. Mae’r cynnig ger ein bron yn y ddadl yma yn ceisio’n temtio ni i gymryd safbwynt heddiw ar un agwedd o’r diwygiadau etholiadol hynny. Fel Cadeirydd y Comisiwn, byddwn ni’n gwerthfawrogi caniatâu i’r ymgynghoriad gymryd lle cyn i’r Senedd gymryd safbwyntiau penodol, gan gofio na fydd unrhyw gynyddu Aelodau na diwygiad etholiadol drwy ddeddfwriaeth yn bosib heb gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Senedd yma.

Fel y fenyw sy'n well ganddi fod yn y dafarn yn hytrach nag yn y siop goffi, caf fy nhemtio'n fawr i ymateb i rai o'r cynigion diddorol gan Gareth Bennett, yn enwedig y cynnig 'pleidleisio ddwywaith' i leddfu'r pwysau ar ein pwyllgorau. Caf fy nhemtio'n arbennig i ymateb i'r cynnig gan Caroline Jones ar drosglwyddo rolau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd i glercod eu gwneud, ond gallaf weld yr arswyd ar wyneb y clercod sydd o'n blaenau heddiw, felly mae'n well i mi beidio â dweud rhagor am hynny. Rwyf am weithredu'r hyn a bregethaf; rwyf am ganiatáu i bobl Cymru yn awr ddweud eu barn ar ddyfodol y Cynulliad ac nid cael fy nhemtio neu fy arwain i roi fy safbwyntiau fy hun ar y pwynt hwn.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, pan oedd pawb ohonom yn sefyll etholiad yn UKIP 18 mis neu fwy yn ôl, fe ddywedasom ein bod yn dod i'r Cynulliad hwn er mwyn mynd i'r afael â chonsensws Bae Caerdydd, ac rwy'n meddwl bod y ddadl y prynhawn yma'n dangos bod yna rôl i blaid fel UKIP a fydd yn gwneud hynny.

Rydym wedi cael y pleser anarferol o gyfraniad y Llywydd yn y ddadl hon, sydd wedi ychwanegu llewyrch at yr hyn a oedd gennym oll i'w ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi ei safbwynt yn gwneud hynny, nad yw hi am achub y blaen ar benderfyniad pobl Cymru. Ond ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn yn y pen draw: a yw pobl Cymru eu hunain i gael eu caniatáu i wneud y penderfyniad terfynol. Pan agorodd Gareth Bennett ei araith—nid wyf am wneud sylwadau ar rai o'i argymhellion—ond rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno fy mod yn awyddus i ganiatáu i safbwyntiau anuniongred ffynnu yn fy ngrŵp. Ond ar ddwy egwyddor sylfaenol ei araith—y bydd pobl Cymru yn sicr yn pryderu am y costau sydd wedi chwyddo ers 1997, pan ragwelwyd y byddai hyn y n costio tua £10 miliwn y flwyddyn i ni—. Mae'r Cynulliad bellach yn gwario tua £54 miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Felly, mae hwnnw'n swm sylweddol o arian a byddai cynyddu ei faint, wrth gwrs, yn cynyddu ei gost.

Ond yr egwyddor bwysicaf yw'r egwyddor cydsyniad y canolbwyntiodd Gareth Bennett arni. Gwn fod rhai o Aelodau'r tŷ hwn yn awyddus iawn i gael refferenda mewn rhai amgylchiadau i wrthdroi refferenda eraill, ond os ydym yn onest, credaf nad yw'r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y sefydliad hwn gyda'r math o barch y mae pawb ohonom yn credu ei fod yn ei haeddu. Ni fu erioed cydsyniad gwirioneddol dwymgalon ynghylch ei greu yn y lle cyntaf. Nid wyf am fychanu dim ar y setliad datganoli yr wyf wedi dod yn fwyfwy brwdfrydig yn ei gylch, mewn gwirionedd, dros y blynyddoedd. O ganlyniad i fy rhan yn nadleuon y lle hwn, rwyf wedi gweld ei rinweddau, ac yn sicr—fel rwyf wedi dweud droeon yn y tŷ hwn—rwy'n credu mewn dod â'r Llywodraeth yn agosach at y bobl a chael cystadleuaeth hefyd rhwng gwahanol awdurdodaethau y Deyrnas Unedig. Credaf fod hynny'n beth da iawn i lywodraeth a democratiaeth yn gyffredinol.

Felly, nid wyf—fel y dywedodd Caroline Jones yn ei haraith—yn gwrthwynebu cynyddu maint y Cynulliad o ran ideoleg. Yn sicr, o ran gwaith mewnol y Cynulliad, credaf fod yna'n sicr achos da iawn dros hynny, ac fel y nododd Angela Burns, rwy'n meddwl, yn gynharach y prynhawn yma, dros gynyddu nifer yr Aelodau meinciau cefn yn y Blaid Lafur, er enghraifft, lle y gallai hynny arwain efallai at fwy o safbwyntiau anuniongred yn eu plaid eu hunain yn ogystal, ac efallai na fyddai Lee Waters, wedyn, lawn mor bryderus ynglŷn â gorfod camu y tu allan i'r ffens ar faterion fel yr M4. Byddai hynny'n beth da iawn i waith y sefydliad hwn a'r ddemocratiaeth gynrychioladol a ymgorfforir gennym.

Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud yr achos a chario'r bobl gyda ni. Un o'r rhesymau pam roeddwn o blaid cael refferendwm ar yr UE oedd, nid yn unig oherwydd fy mod eisiau dod allan o'r UE, ond oherwydd fod y Prif Weinidog, Edward Heath, wedi dweud pan aethom i mewn gyntaf, na fyddai'n digwydd heb gydsyniad brwd y Senedd a'r bobl. Wel, fe gafodd gefnogaeth lugoer y Senedd oherwydd ar y pryd, roedd y mwyafrifoedd yn y ffigurau sengl wrth i Fil y Cymunedau Ewropeaidd wneud ei ffordd drwy Dŷ'r Cyffredin, ond ni chafodd erioed gydsyniad brwd pobl y wlad, a chanlyniad hynny, dros y 40 mlynedd diwethaf, yw bod yr Undeb Ewropeaidd bob amser wedi bod yn fater dadleuol.

Ac os yw'r Cynulliad yn gorff hyderus fel y credaf ei fod, yna ni ddylai ofni gofyn am benderfyniad y bobl ynglŷn ag a ddylem gynyddu ei faint. Gwyddom fod yna addewid yn y refferendwm diwethaf na ddylem ddatganoli pwerau trethu i'r Cynulliad, a thorrwyd yr addewid hwnnw. Yn bersonol, rwyf o blaid datganoli treth incwm i'r Cynulliad a threthi eraill hefyd yn wir, ond gan ein bod wedi addo i'r bobl na fyddai hynny'n digwydd heb bleidlais arall, credaf mai bradychu ymddiriedaeth oedd na ddigwyddodd hynny. Ac os ydym i gynyddu maint y Cynulliad hwn, rwy'n credu bod yn rhaid inni gario pobl gyda ni a gofyn am eu barn mewn pleidlais ystyrlon. Ni allaf weld unrhyw reswm democrataidd pam na ddylai hynny fod yn dderbyniol i holl Aelodau eraill y Cynulliad.

Mae'n hanfodol, rwy'n meddwl, ein bod yn cynyddu diddordeb pobl yn y Cynulliad. Credaf ei bod yn rhyfeddol nad yw hanner pobl Cymru ag unrhyw syniad fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei weinyddu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na chan Jeremy Hunt a'i gyfeillion yn San Steffan. Mae gennym lawer mwy i'w wneud i gynyddu ymwybyddiaeth ddinesig y Cynulliad a dilysrwydd yr hyn a wnawn ym meddyliau—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr fe wnaf i ildio.

17:25

Mae llawer ohonom sydd â phrofiad o ymladd refferendwm 2011 a cheisio mynegi achos y byddai pobl yn ei ddeall am symud o Ran 3 i Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru wedi'u deifio braidd gan y profiad, ac nid yw'r cwestiwn a ddylem newid cyfluniad mewnol y Cynulliad ai peidio yn fater o egwyddor, buaswn yn awgrymu, yn yr un modd na fu refferendwm i weld a ddylid lleihau nifer yr ASau.

Wel, cefais innau brofiad etholiadol deifiol yn 1997 hefyd, ond yn etholiad cyffredinol 1997 oedd hynny. Felly, rwy'n deall beth y mae Lee Waters yn ei ddweud, ond ni chredaf y byddai'n benderfyniad cymhleth: ni fyddai ond yn gofyn i'r Cymry a ydynt am gynyddu maint y Cynulliad 50 y cant neu ba ffigur bynnag o ganlyniad i'r trafodaethau y cyfeiriodd y Llywydd atynt yn gynharach. Nid wyf yn meddwl ei fod yn gwestiwn anodd i bobl ei ddeall o gwbl.

Cawsom bwerau ychwanegol wedi'u datganoli i'r Cynulliad a gallai rhagor ddod eto, ond af yn ôl hefyd at y ddadl a wnaeth Gareth Bennett yn ei araith yn gynharach: a oes gennym ormod o waith? Wel, efallai'n wir. Rwyf ar dri phwyllgor yn ogystal â bod yn arweinydd plaid ac rwy'n cyfrannu'n frwdfrydig at ddadleuon y Siambr hon, ac rwyf hefyd, gyda fy nhri chyd-Aelod, wrth gwrs, yn cynrychioli 75 y cant o arwynebedd tir Cymru yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Nid wyf yn teimlo bod gennyf lwyth gwaith arbennig o ormodol, ond mae'n ddiwrnod llawn ac yn wythnos lawn, cytunaf yn llwyr, a gallai pawb ohonom wneud â mwy o amser, efallai, i feddwl yn ogystal ag i siarad. Yn sicr, dyna ran o fy mywyd yr hoffwn weld ychydig mwy o ryddid i'w archwilio. Ond ar y cyfan, y prif bwynt a wnawn yn y ddadl hon yw ein bod i gyd yma fel procsis ar ran y bobl, ac er mwyn i ni sicrhau mwy o ddilysrwydd ym meddyliau'r bobl—. Wedi'r cyfan, mae nifer y pleidleiswyr mewn etholiadau yn druenus o isel o'i gymharu â'r hyn y dylai fod. Yn wir, yn yr isetholiad yn Alun a Glannau Dyfrdwy, 29 y cant yn unig oedd y nifer ddoe, ac yn etholiad y Cynulliad y llynedd, nid oedd ond yn y pedwardegau. Felly, nid yw'n gymeradwyaeth fyddarol i'n sefydliad. Ac felly, cyn inni geisio ehangu ei faint, credaf y dylem fynd yn ôl at ein meistri, y bobl, a gofyn am eu cymeradwyaeth a'u caniatâd cyn inni gymryd y cam hwnnw.

17:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth yn awr at y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn at y cyfnod pleidleisio ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.

NDM6647 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, roedd 11 yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

NDM6647 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6647 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 28, roedd 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6647 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig chwech, neb yn ymatal, 48 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 6, Yn erbyn: 48, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliant a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 48, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 1: O blaid: 48, Yn erbyn: 6, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6645 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 48, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 48, Yn erbyn: 6, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Rôl ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif

Symudwn yn awr at y ddadl fer. A gaf fi ofyn i'r Aelodau adael y Siambr yn dawel, os gwelwch yn dda? A gaf fi ofyn i'r Aelodau, os gwelwch yn dda, i beidio â chynnal sgyrsiau yn y Siambr?

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Suzy Davies a Dai Lloyd siarad yn y ddadl. Mae fy nadl ar rôl ysbytai cymunedol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Ddydd Iau 5 Gorffennaf eleni, bydd y GIG yn 70 mlwydd oed. Mae'r 70 mlynedd hynny wedi gweld datblygiadau aruthrol mewn gofal: dileu'r frech wen a polio, cyflawnwyd trawsblaniadau afu, calon ac ysgyfaint cyntaf y byd, ac nid yw afiechydon fel clefyd coronaidd y galon, strôc a chanser yn ddedfryd o farwolaeth mwyach. O ganlyniad, rydym oll yn byw'n llawer hwy. Yn 1947, roedd disgwyliad oes ar gyfartaledd yn 64. Heddiw, mae wedi codi i tua 82, a disgwylir i'r rhai a enir heddiw fyw ymhell i'w 90au hwyr a thu hwnt. Bydd y Brenin William yn anfon tipyn mwy o delegramau na'i fam-gu. Ymhen 20 mlynedd, bydd oddeutu 45 y cant yn fwy o rai dros 65 oed. Fodd bynnag, ni ddaw henaint ei hunan yn aml iawn, a dros y degawd nesaf, bydd gan oddeutu ein chwarter gyflwr cyfyngus hirdymor.

Mae'r GIG wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn 1990, roedd bron i 20,000 o welyau yn GIG Cymru. Heddiw, ceir ychydig dros 10,000. Mae ysbytai cymunedol ledled y wlad wedi cau, mae wardiau wedi'u cau neu'u huno, a datgelwyd cynlluniau ar gyfer cau pellach. Rydym hefyd wedi gweld diffyg buddsoddi a chynllunio yn y sector gofal cymdeithasol, sydd wedi cyflymu dan bolisïau cyni, ac yn y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant y pen ar ofal cymdeithasol wedi gostwng dros 13 y cant. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ein hysbytai, ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gwelliannau bach yn unig a fu yn lefelau'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, sy'n hofran o gwmpas 400 i 500 o un mis i'r llall.

Bob mis mae gennym gannoedd o gleifion nad ydynt yn gallu gadael yr ysbyty, yn syml oherwydd nad oes gofal cymdeithasol ar gael. Ym mis Rhagfyr, roedd gennym 238 o bobl a fu'n aros am fwy na thair wythnos i adael yr ysbyty, ac o'r rheini, roedd 51 wedi bod yn aros rhwng 13 a 26 wythnos, a 25 o bobl wedi bod yn aros am fwy na 26 wythnos—25 o bobl yn treulio hanner blwyddyn yn hwy yn yr ysbyty nag y maent ei angen, yn syml oherwydd nad oes gofal llai dwys ar gael. Mae cannoedd o bobl yn treulio wythnosau mewn gwely ysbyty nad oes angen iddynt fod ynddo. Nid yn unig y mae hyn yn amharu ar adferiad, mae hefyd yn lleihau niferoedd y gwelyau sydd eisoes wedi'u cyfyngu.

Amcangyfrifir bod arhosiad yn yr ysbyty yn costio £400 y dydd ar gyfartaledd, felly mae'r arhosiadau diangen hyn yn costio miliynau o bunnoedd mewn gofal i'n GIG. Bydd hyn yn gosod ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan straen aruthrol. Mae gwasanaethau eisoes ar ben eu tennyn, ac er y misoedd o gynllunio, miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a sicrwydd mai perthyn i'r gorffennol roedd anhrefn gaeafau blaenorol, cafodd ein GIG drafferth i ymdopi y gaeaf hwn. Roedd mor ddrwg fel bod meddygon ymgynghorol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys wedi cymryd y cam digynsail o ysgrifennu at y Prif Weinidog i rybuddio na allent warantu diogelwch cleifion mwyach. Dywedodd ein prif feddygon ymgynghorol adrannau damweiniau ac achosion brys wrth y Prif Weinidog fod diffyg gwelyau'n rhwystro'u gallu i drin cleifion mewn ffordd ddiogel ac amserol. Ac er gwaethaf yr holl arloesi yng ngofal y GIG dros y 70 mlynedd diwethaf, un peth nad yw wedi gwella yw gallu'r rhai ar y brig i flaengynllunio. Dros y tri degawd diwethaf, mae ein poblogaeth wedi tyfu dros 10 y cant, ac eto mae rhai sy'n gyfrifol am yr NHS wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant.

Yn y gorffennol, roedd gennym ateb perffaith i gleifion nad oedd angen gofal acíwt ond na allai fynd adref am ba reswm bynnag, sef yr ysbyty cymuned, neu'r ysbyty bwthyn, fel yr arferem gyfeirio atynt. Roedd yr ysbyty cymuned yn cynnig gofal llai dwys i'r cleifion nad oedd angen yr un lefel o ofal mwyach wedi'i ddarparu yn yr ysbyty dosbarth neu'r ysbyty cyffredinol. Yn anffodus, mae llawer o'r ysbytai hyn wedi cau, nid am nad oeddent yn darparu gofal rhagorol neu am nad oedd  angen inni ddarparu gofal llai dwys mwyach—caeodd llawer o'n hysbytai cymuned oherwydd cynllunio gwael, yn enwedig cynllunio'r gweithlu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu recriwtio digon o staff clinigol ar gyfer yr ysbytai hyn. O ganlyniad, mae llawer o'n hysbytai cymuned wedi gorfod cau oherwydd bod prinder staff wedi gwneud y gwasanaethau'n anniogel ac yn anghynaliadwy. Mae penderfyniadau byrdymor i arbed costau wedi arwain at gau nifer o rai eraill.

Yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, flynyddoedd cyn cau Ysbyty Fairwood, rhybuddiodd nyrsys fod rheolwyr y GIG yn fwriadol yn difenwi'r gwasanaeth er mwyn cyfiawnhau ei gau, oherwydd bod angen i'r bwrdd iechyd arbed arian. Cafodd y rheolwyr eu dymuniad a chaeodd Fairwood. Mae hyn wedi gadael twll du mewn gofal llai dwys. Mae gwasanaethau cymdeithasol wedi methu gwneud iawn am y llacrwydd yn y system. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion lle mae etholwyr wedi gadael ysbyty heb fod unrhyw gynllun gofal ar waith. Roedd yr achos mwyaf diweddar yn ymwneud â gŵr oedrannus yn ei 80au a anfonwyd adref ddyddiau ar ôl cael llawdriniaeth ddargyfeiriol. Nid oedd unrhyw ofal llai dwys ar gael iddo, a heb help ffrindiau a chymdogion, byddai'r truan wedi methu bwydo na gwisgo'i hun. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylem ddisgwyl i ofal fod yn ddibynnol ar haelioni cymdogion a ffrindiau.

Mae'n amlwg na allwn ddibynnu ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, sy'n wynebu toriadau anghynaliadwy i'w cyllidebau, ac nid yw'n syndod ein bod yn gweld adroddiadau am gleifion yn treulio blynyddoedd yn yr ysbyty. Mae gwasanaethau cymdeithasol hefyd ar ben eu tennyn ac yn methu ymdopi â'r galw.

Roedd gennym ateb yn y gorffennol—yr ysbyty cymuned. Byddai fy etholwr wedi cael ei drosglwyddo i Fairwood am ofal dan arweiniad nyrs i roi amser iddo wella a gallu gofalu amdano'i hun. Yn anffodus, arweiniodd cynllunio gwael a phenderfyniadau gwael at gau Fairwood. Felly, heddiw, yr unig ddewis yw ei gadw ar ward acíwt neu ei daflu allan i ofalu amdano'i hun.

Nid dyma'r GIG a ragwelodd Aneurin Bevan bron 70 mlynedd yn ôl. Rydym wedi gweld cymaint o ddatblygiadau, ond nid yw cynllunio gofal yn briodol wedi bod yn un ohonynt. Rhaid inni roi'r gorau i wneud penderfyniadau byrdymor yn seiliedig ar bwysau ariannol, a darparu GIG gyda llwybr gofal cyflawn—llwybr sy'n cynnwys gofal llai dwys mewn ysbyty cymuned.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio ar gynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gobeithio nad yw'n gwneud yr un camgymeriadau â'i ragflaenwyr. Rhaid inni roi'r gorau i gau ysbytai cymuned a gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn darparu gofal llai dwys. Gwyddom nad yw hyn yn digwydd. Nid anacroniaeth o ofal y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif yw ysbytai cymuned. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae yn ein GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.

Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i atal byrddau iechyd lleol rhag cau rhagor o ysbytai cymuned a chynllunio ar gyfer ailagor ysbytai fel Fairwood a gaewyd ar gam. Mae digwyddiadau'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos inni pa mor anghywir oedd y penderfyniadau i dorri nifer y gwelyau, ac mae'n bryd inni wyrdroi'r penderfyniadau hynny os ydym am gael unrhyw obaith o ddathlu canfed pen-blwydd y GIG. Diolch yn fawr. Diolch.

17:40

Diolch i chi, Caroline, am gyflwyno'r ddadl fer yn y Siambr heddiw. Credaf y gallech ddadlau bod y gwasanaeth iechyd wedi'i nodweddu fel a ganlyn—fod ysbytai'n anodd iawn i fynd i mewn iddynt, ac yna mae'n anodd iawn dod ohonynt. Un o'r rhesymau rydym wedi colli ein gwelyau cymunedol oedd oherwydd y risg o sefydliadu, ac rwy'n meddwl bod pob un ohonom, fel y crybwyllodd Caroline, yn gweld mwy a mwy o achosion lle mae unigolion yn cael eu sefydliadu yn y gwelyau acíwt drud mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yn hytrach na mewn gwelyau lleol.

Wedi dweud hynny, mae'r adolygiad seneddol yn rhoi rhywfaint o le inni obeithio yma. Fy mhrif bryder ynghylch hynny o hyd yw bod gofal cymdeithasol—neu gadewch i ni ei alw'n 'gofal' yn unig oherwydd, mewn gwirionedd, rydych yn drysu rhwng hynny a gofal meddygol—credaf weithiau mai dyna yw ein hanhawster—a chanolbwyntio ychydig mwy ar ble y gellir cyflawni'r gofal yn fwy lleol, sef yr egwyddor sy'n sail i'r adolygiad, rwy'n gwybod, ac yn y cyfamser, peidio ag edrych o reidrwydd ar leoedd gwag mewn cartrefi gofal fel y ddarpariaeth gofal llai dwys, fel rydym yn ei weld yn digwydd gryn dipyn ar hyn o bryd. Oherwydd, fel y gwyddoch, ni fydd rhai unigolion sy'n mynd i gartref gofal i gael gofal llai dwys byth yn gadael. Diolch.

Rwy'n gwneud hyn mewn gwirionedd i ddathlu llwyddiant ysgubol y GIG. Gadewch inni osod hyn i gyd yn ei gyd-destun: yn ôl yn 1950, llofnododd y Brenin Siôr VI, rwy'n credu, bryd hynny, 250 o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl a oedd yn 100 mlwydd oed—roedd yna 250 o bobl gant oed ledled y Deyrnas Unedig gyfan ar y pryd. Neidiwch ymlaen 40 mlynedd i 1990, a bu'n rhaid i'r Frenhines Elizabeth II lofnodi 2,500 o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl gant oed yn 1990. Neidiwch ymlaen i ddwy flynedd yn ôl, bu'n rhaid iddi lofnodi 13,700, a'r llynedd, 14,500 arall o gardiau pen-blwydd ar gyfer pobl gant oed. Felly, os nad yw'n ddim arall, mae gan y llwyddiant ysgubol hwn oblygiadau o ran cydbwysedd bywyd a gwaith y frenhiniaeth.

Yn amlwg, mae hynny'n golygu bod llawer iawn o bobl yn cerdded o gwmpas ein trefi a'n pentrefi sy'n hŷn ac yn fwy bregus nag yr arferent fod, a dyna pam rydym angen mwy o welyau yn ein cymunedau. Gall fod mewn cartref gofal, a gall fod mewn ysbyty cymuned hefyd. Do, rydym wedi bod yno gydag Ysbyty Fairwood, Ysbyty Hill House, ac ysbyty Cwmdoncyn yn Abertawe—ydw, rwyf mor hen â hynny. [Chwerthin.] Ond mae yna gategori o bobl yn awr, am ein bod oll yn byw'n hŷn, sy'n rhy sâl i gael eu gadael yn eu cartrefi, hyd yn oed gyda'r pecynnau gofal cartref mwyaf hynod, ond hefyd nid ydynt yn ddigon sâl i gyfiawnhau eu rhoi ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt. Mae angen y meddwl creadigol hwnnw sy'n cynnwys gwelyau yn y gymuned. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal cywir, ar yr adeg gywir, ac yn y lle cywir, ac i’r gofal hwnnw fod mor agos i'w cartrefi â phosibl. Mae ein canllawiau cynllunio i fyrddau iechyd bob blwyddyn yn cadarnhau hyn. I gyflawni'r nod hwnnw, mae angen i ni herio a chwalu’r model iechyd meddygol traddodiadol, gyda'i ffocws ar salwch ac ysbytai. Mae angen i ni wneud rhagor eto i adeiladu a darparu model cymdeithasol o iechyd a llesiant, gyda’i ffocws ar ymateb integredig gan y gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â sicrhau bod y trydydd sector a'r sector cymunedol yn gweithio ar y cyd yn ein cymunedau.

Mae anghenion y boblogaeth yn yr unfed ganrif ar hugain yn newid, fel y cafodd ei amlygu, yn ddefnyddiol, yn y ffordd y cawsom ein hatgoffa gan Dai Lloyd o'r nifer cynyddol o bobl ganmlwydd—credaf mai dyna’r ymadrodd—o'r adeg y daeth y Frenhines i'r orsedd hyd heddiw. Ac rydym yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl y bydd mwy a mwy ohonom yn byw’n hwy. Ac rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf ohonom, nid pob un ohonom efallai, yn hoffi byw i oedran teg, ac efallai byw i oedran teg lle mae gennym urddas a’r gallu i wneud penderfyniadau—a gwyddom na ddaw henaint ei hunan.

Ond rwy’n cydnabod bod ysbytai cymuned yn fater sensitif. Yn aml, gall cymunedau lleol fod yn hoff iawn o'u hysbytai cymuned. Rydych yn gweld pwyllgorau amddiffyn neu bwyllgorau cymdeithasau cyfeillion sy'n codi arian, ac sy'n hoff iawn o’u hysbytai cymuned ac yn ymfalchïo yn y gofal a ddarperir. A gellir ystyried ymdrechion i geisio newid unrhyw wasanaeth mewn ysbyty leol fel ymosodiad ar y gymuned honno, yn hytrach nag ymgais wirioneddol i ddiwygio, newid a gwella gwasanaethau iechyd a gofal. Mae angen i’r holl gynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau ddiwallu anghenion yn awr ac yn y dyfodol, ac mae’n rhaid iddynt fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chael eu llywio a’u siapio gan ymwneud effeithiol y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny ac wrth gwrs, y cyhoedd yn ehangach. Ac rwy'n disgwyl y bydd gan fyrddau iechyd a’u partneriaid drefniadau gwirioneddol gadarn i gynnwys pawb yn y drafodaeth lle y ceir achos dros newid ac opsiynau ar gyfer darparu’r ateb gorau a fydd yn diwallu anghenion y boblogaeth, heddiw, ond yn y dyfodol hefyd.

Ac wrth gwrs, mae pob bwrdd iechyd wedi sefydlu clystyrau gofal sylfaenol. Cawsom ddadl yn y lle hwn am rôl clystyrau gofal sylfaenol, a gafodd eu crybwyll yn gadarnhaol hefyd yn adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol. A cheir trefniadau cydweithredol sy'n dechrau aeddfedu, ac roedd rhan o'r her yn yr adroddiad clystyrau yn ymwneud â sut y gwnawn fwy â hwy, nid llai, a sut rydym yn ceisio gwella a chyflymu'r broses honno o aeddfedu a'r ffordd y gallant gynllunio a darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal lleol.

Yn gynyddol, rwy'n disgwyl iddynt wella’r broses o gynllunio a darparu gofal cywir ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, ac mor agos i'r cartref â phosibl. Ac mae'r rhain yn grwpiau o bobl sy'n deall y cymunedau y maent ynddynt. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cysoni rhai o'r prosesau cynllunio i wneud yn siŵr nad ydym yn cynllunio un peth ym maes gofal sylfaenol ar y naill law, yn y clystyrau lleol, a bod rhywbeth gwahanol yn ymddangos wedyn yng nghynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd. Ac rwyf eisiau gweld pob un o'r partneriaid hynny yn bod yn greadigol o ran y modd y maent yn gwneud defnydd effeithiol o wasanaethau cymunedol, ac i hyn ddatblygu'r cysyniad o ganolfannau i integreiddio ymateb clinigol a chymdeithasol i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.

Yr achos dros newid roedd yr adolygiad seneddol yn ei gydnabod, yn wir, yw bod rhywfaint o hynny yn ymwneud â sut y mae pobl yn ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a'r ffordd y maent yn defnyddio ac yn cael mynediad at ofal a chymorth. Ni allwn osgoi'r her hon. Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad, cawsom adroddiad gan Sefydliad Bevan, ac roedd un o'i egwyddorion allweddol yn ymwneud â phobl yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u gofal eu hunain, eu synnwyr o'u llesiant eu hunain, pethau y gallent ac y dylent eu gwneud drostynt eu hunain. Yna, o fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rwy’n credu, cynhyrchodd y GIG yn Lloegr adroddiad yn dweud rhywbeth tebyg iawn i hynny. Roedd yn bennawd newyddion ar sianelau rhwydwaith, yn hytrach na sgwrs roeddem eisoes wedi’i chael yn y lle hwn sawl blwyddyn ynghynt. Mae'r her bob amser yn ymwneud â mwy na dweud y peth cywir yn unig, ond yn hytrach â sut rydym yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau hynny.

Ond yn aml, ni fydd pregethu am y peth cywir i'w wneud yn cyrraedd y bobl rydym eisiau iddo ei gyrraedd. Felly, mae’n rhaid i ni sefyll ochr yn ochr â chymunedau ac unigolion a’u helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae rôl arweinyddiaeth i bobl fel fi, wrth gwrs, ac i bawb arall yn y Siambr, gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, ond hefyd, mewn gwirionedd, y bobl o fewn eu cymunedau, cyfoedion, a'r ffordd y caiff plant eu haddysgu yn awr, dylai hynny wneud gwahaniaeth go iawn wrth ddatblygu agweddau. Unwaith eto, fel y dywedais, cafodd yr achos dros newid ei fynegi yng nghanlyniad yr adolygiad seneddol.

Yna down yn ôl at ysbytai cymuned, a phan fydd pobl yn cwyno am gau ysbytai cymuned maent bron bob amser yn dweud bod cyfleusterau hoff sydd wedi darparu gwasanaeth da wedi cael eu diddymu. Y cyhuddiad bob amser yw bod rheolwyr drygionus y GIG wedi difenwi’r gwasanaeth yn fwriadol, a bod y cyfan yn ymwneud â chost. Mae arian bob amser yn ffactor mewn unrhyw wasanaeth a ddarparwn. Yn y pen draw, rydym yn rhoi swm cyfyngedig o arian i wasanaethau ddarparu gwasanaeth, ac yn arbennig felly—cofiwch, hon yw’r wythfed flwyddyn o gyni, ac mae hynny'n cael effaith go iawn ar y gwasanaethau y gallwn eu darparu. Ond mewn gwirionedd, nid yw’r achos dros newid yn fater syml o ddweud, 'Mae’n rhaid i ni ddod â gwasanaethau i ben oherwydd arian.' Mae’r achos dros newid yn ymwneud â’r cwestiwn: a ydym yn gallu darparu gwasanaeth gwell gyda phrofiad gwell a chanlyniadau gwell i bobl? Mae nifer o ysbytai cymuned wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd nad oeddent yn gallu darparu’r lefel o ofal y dylai pob un ohonom ei ddisgwyl a'i fynnu ar gyfer ein cymunedau. Credaf mai honno yw’r her bob amser, os ydych mewn sefyllfa fel fy un i, fel arall rydych yn dweud wrth un gymuned leol, 'Os ydych yn wirioneddol hoff o’r gofal hwnnw, mae hynny'n iawn, mae’n ddigon da i chi, ond ni fyddai’n dderbyniol yn fy etholaeth i.' Mae yna her sy’n ymwneud â mynd i graidd y ddadl honno a'i deall, ac ynddi ei hun, nid yw'n un hawdd i’w chael.

Felly, cafodd rhai eu cau oherwydd pryderon diogelwch am lefelau staffio a’r anallu i recriwtio i fodelau gofal hŷn, ac mae honno'n her yn sector yr ysbytai prif ffrwd hefyd mewn gwirionedd—ynglŷn â chael modelau gofal a fydd yn denu’r staff cywir gyda'r profiad cywir i weithredu a darparu gofal effeithiol. A chafodd rhai eraill eu cau oherwydd cyflwr yr adeiladau. Os nad ydynt yn gallu cydymffurfio â rheoliadau tân mwyach, ni ddylech ddweud wrth bobl, 'Os brwydrwch yn ddigon caled, ni fydd ots am eich iechyd a'ch diogelwch mwyach.' Felly, mae rhesymau ymarferol iawn dros fod eisiau gwneud hynny yn ogystal.

Ond wrth ailgynllunio'r gwasanaethau ar gyfer y ganrif hon, mae angen cyfuniad o fwy o gyfleusterau cymunedol modern gerllaw a gwell gofal yn y cartref neu yn y gymuned. Felly, mae’n bosibl na fydd y term 'ysbyty cymuned' yn briodol mwyach. Mae'n gwneud i rywun feddwl, fel arfer, am ddelwedd o ysbyty lleol gyda gwelyau, meddygon a nyrsys, ac nid ydym yn credu, mewn gwirionedd, mewn llawer o achosion, mai felly y bydd pethau’n edrych yn y dyfodol ym mhob achos unigol. Byddwn yn edrych yn fwy gwasgarog ar ofal yn y gymuned. Byddwn yn parhau i weld ysbytai llai gyda meddygon a nyrsys ynddynt, ac rwyf am sôn am rai o'r rheini cyn bo hir, ond credaf fod angen i ni ganolbwyntio ar greu’r math o wasanaeth iechyd a gofal integredig, y system ofal ddi-dor, yr oedd yr adolygiad seneddol yn awgrymu y dylem ei mabwysiadu fel gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Os ystyriwch y gwasanaethau hynny, bydd rhai ohonynt yn ffisegol, bydd rhai ohonynt yn rhithwir. Ddoe, cawsom ddadl am dechnoleg ddigidol. Clywsom gryn dipyn am ddigideiddio a’r hyn y bydd hynny’n ei wneud mewn perthynas â rhannu cofnodion, ond hefyd y gallu i gyfathrebu o bell, ac i ddarparu gwasanaeth o bell, lle na fydd angen i rywun adael eu cartref, neu o bosibl, lle y gallant fynd i ganolfan leol a pheidio â gorfod teithio ymhellach, gyda'r anghyfleustra y bydd hynny'n aml yn ei greu i bobl, a mynd i gyfleuster lleol iawn er mwyn gallu cael gwahanol fathau o ofal. Bydd hynny'n cael effaith ar bobl—nid yn unig ar ein gallu i aros yn iach, ond ar eu hiechyd corfforol a meddyliol hefyd.

Enghraifft wych o'r math o beth rwy’n sôn amdano yw Ysbyty Cymuned Ystradgynlais, sydd wedi'i ailgynllunio, gan ddisgrifio'i hun fel 'canolfan gymunedol'. Mae’n cynnwys gwasanaeth gofal i gleifion mewnol ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn, gofal dydd, therapi, gan gynnwys ar gyfer anghenion deietegol, therapyddion galwedigaethol a gofal ffisiotherapi. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau pelydr-x ac uwchsain, ynghyd â gwasanaeth mân anafiadau a mân anhwylderau. Hefyd, mae staff gofal cymdeithasol a darparwyr trydydd sector ar y safle. Ni fyddech yn meddwl amdano fel ysbyty cymuned traddodiadol, ac rwy’n credu mai dyna’r model y dylem fod yn buddsoddi ynddo yn y dyfodol.

Enghraifft arall yw canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig y Fflint, a fydd yn agor yn ystod yr wythnosau nesaf—roedd y cynlluniau ar ei chyfer yn destun dadlau yn y Fflint. Ac eto mae'r ganolfan yn agos i gartref gofal a bydd yn darparu lle ar gyfer gwasanaethau a drosglwyddwyd allan o ofal eilaidd, gydag ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth yn cael eu cefnogi gan delefeddygaeth. Yn ogystal, bydd gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau’r trydydd sector, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal a chymorth iechyd meddwl ar y safle hefyd. Felly, rydym yn gallu gwneud mwy wrth ailgynllunio ein gwasanaeth, a dyna pam y byddwn yn cyfeirio ein hadnoddau cyfalaf yn y ffordd honno ym maes gofal iechyd lleol.

Yn ddiweddar, ym mis Hydref, cyhoeddais fy mod wedi clustnodi £68 miliwn ar gyfer cyfres gychwynnol o gyfleusterau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal integredig ar draws y wlad—19 o brosiectau gwahanol yn y gogledd, y de, y dwyrain a’r gorllewin er mwyn ceisio gwneud yn union yr hyn y bûm yn ei ddisgrifio ac yn sôn amdano. Credaf mai dyna'r dyfodol, oherwydd dylai’r datblygiadau mewn ymarfer clinigol a gofal cymdeithasol, ynghyd â datblygiadau ym maes technoleg, ganiatáu i ni newid er gwell y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu mwy o ofal integredig gwell i gynnal pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a thu hwnt i wneud yn union hynny.

17:55

Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.