Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian.

Tlodi

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? (OAQ51171)[W]

Ein hamcan ni yw helpu a chefnogi pob un i fyw bywydau iach, ffyniannus a gwerth chweil. Mae ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’, yn egluro sut fyddwn ni’n adeiladu Cymru sy’n ffyniannus a diogel, sy’n iach ac egnïol, sy’n uchelgeisiol ac sy’n dysgu ac sy’n unedig a chysylltiedig.

Fe gafwyd cadarnhad gennych chi fan hyn yr wythnos diwethaf na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu taclo tlodi. Mae hyn yn siom enfawr ac yn fater o bryder i Blaid Cymru, ac i’r pwyllgor Cynulliad trawsbleidiol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r maes. Rwy’n deall eich bod chi’n awyddus i weithio’n holistaidd, a gweithredu ar draws adrannau, ond, heb strategaeth ganolog, benodol i’w dilyn, mi fydd gwaith adrannau gwahanol y Llywodraeth, gan gynnwys mesur cynnydd drwy gerrig milltir a thargedau, yn amhosib i’w gyflawni. A gaf i ofyn i chi ailystyried eich penderfyniad, a gofyn i chi fwrw ymlaen i greu cynllun gweithredu clir, a hynny ar fyrder?

Byddwn i’n dadlau, wrth gwrs, fod y strategaeth yn gwneud hyn yn barod. Mae’n dangos fframwaith lle mae’r Llywodraeth yn gallu gweithio gyda’i gilydd er mwyn cynyddu ffyniant yn y pen draw, i ystyried achosion tlodi mewn ffordd sydd yn fwy effeithiol, a ffordd sydd yn fwy cysylltiedig. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n eiddo i unrhyw Weinidog, nac unrhyw adran, ond yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn berchen yn gyfan gwbl.

Prif Weinidog, gwelaf o adroddiadau heddiw fod eich Llywodraeth wedi gwrthod cyhoeddi setiau llawn o ddata i gynorthwyo archwiliad gwahaniaethau hil Prif Weinidog y DU. Ac mae ei ganfyddiadau’n wrthgyferbyniol iawn i'r DU a Chymru. Roeddwn i’n meddwl tybed, fodd bynnag, a yw eich amharodrwydd i gyhoeddi’r data oherwydd nad ydyn nhw gennych, neu a yw’n syml oherwydd na fyddwch chi’n eu cael? A'r rheswm pam mae hyn mor bwysig yw y byddai'r data hynny’n ein helpu i nodi ardaloedd o dlodi mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, lle gallem ni gymryd rhywfaint o gamau a gwneud rhai gwahaniaethau i fywydau'r bobl hynny.

O diar, mae hynny'n gwbl anwir, oherwydd mae’r Alban wedi gwrthod cydweithredu; nid ydym ni. Rhoddaf gronoleg i'r Aelod o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cyfamser. Ar 26 Hydref y llynedd, fe wnaethom gytuno i gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y gwaith. Ar 8 Rhagfyr y llynedd, trefnodd ein tîm cydraddoldeb i swyddogion o'r uned archwilio gwahaniaethau hil ddod i fforwm hil Cymru. Ar 21 Rhagfyr y llynedd, cyfarwyddwyd RDAU gennym i gyhoeddi data. Ar 28 Chwefror eleni, cafwyd cyfarfod rhwng ein swyddogion ni a RDAU yng Nghaerdydd. Ar 11 Mai, cafwyd cyfarfod arall gyda RDAU. Roeddem yn bryderus ar yr adeg honno oherwydd diffyg cynnydd amlwg ar eu gwefan. Fe wnaethant ofyn i ni ar yr adeg honno, am y tro cyntaf, wneud gwaith i ddadansoddi data Cymru. Roeddem yn meddwl bryd hynny mai nhw fyddai’n gwneud y gwaith hwnnw. Cydnabuwyd ganddynt pa mor hwyr oedd y cais hwnnw. Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oedd yr adnoddau gennym i gefnogi'r gwaith hwnnw ar y pryd, gan fynegi pryder ynghylch y cais i ni gyflawni ymarfer mor fawr cyn y dyddiad lansio ym mis Gorffennaf. Ar yr adeg honno, fe’n hysbyswyd bod Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu peidio â chymryd rhan yn y prosiect.

Ar 26 Mai, ymatebodd RDAU i lythyr oddi wrthym ni gyda rhestr ragarweiniol o ddata a fyddai ar y wefan. Ar 2 Mehefin, unwaith eto, fe wnaethom gytuno i barhau i weithio gyda'r uned, trwy roi cyngor ar ffynonellau data Cymru, a darparu setiau data i'r RDAU eu dadansoddi. Ar 4 Hydref, cynhaliwyd trydydd cyfarfod rhwng swyddogion a RDAU. Rhoddwyd cipolwg i ni ar gynnwys y wefan, ond ni chawsom gopi o'r adroddiad 45 tudalen ganddynt. Rwy'n credu ein bod ni wedi ymgysylltu'n briodol, ac efallai ei fod yn dangos y traed moch wrth wraidd Llywodraeth y DU nad ydynt yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Cymru a'r Alban.

Un o'r pethau sy’n sicr wedi ei gynllunio i danseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yw cyflwyno credyd cynhwysol, a gyflwynwyd ledled Cymru. Rydym ni wedi gweld mewn rhannau lle mae wedi cael ei gyflwyno ei fod wedi arwain at gynnydd i ôl-ddyledion rhent a nifer y bobl sy'n mynd i fanciau bwyd. Nawr, mae gan Lywodraeth yr Alban gyfrifoldeb am weinyddu lles, sydd wedi ei galluogi i leihau'r amser y mae'n rhaid i ymgeiswyr aros, i bythefnos, sydd yr un fath â lwfans ceisio gwaith, a hefyd, i sicrhau bod landlordiaid yn gallu parhau i dderbyn y taliadau rhent yn uniongyrchol. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed pa sgyrsiau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ein galluogi i liniaru effeithiau gwaethaf y cynnig newydd ofnadwy hwn.

Wel, gwyddom o brofiad, pan ein bod ni’n cymryd rheolaeth dros agweddau ar y system fudd-daliadau, ein bod ni’n cael i sefyllfa lle nad yw'r setliad cyllideb byth yn ddigon. Gwelsom hynny gyda budd-dal y dreth gyngor—cymerwyd £20 miliwn o honno wrth i'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo. Felly, nid oes gennyf unrhyw ffydd o gwbl y byddai Llywodraeth y DU, pe bydden nhw’n trosglwyddo cyfrifoldeb am gredyd cynhwysol, yn trosglwyddo'r gyllideb i dalu amdano a dyna'r broblem. Yn fy marn i, yr hyn sydd ei angen yw system fudd-daliadau briodol ar draws y DU gyfan wedi ei gweinyddu gan Lywodraeth Lafur yn Llundain sy'n gofalu am fuddiannau'r llawer, nid yr ychydig.

Twristiaeth Treftadaeth yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i dwristiaeth treftadaeth yng ngogledd Cymru? (OAQ51173)

Rydym ni’n cefnogi nifer o fentrau ar gyfer twristiaeth treftadaeth yn y gogledd. Er enghraifft, yn rhan o'r prosiect twristiaeth treftadaeth, gwariodd Cadw tua £7.8 miliwn yn gwella ac yn gwarchod rhai o'i safleoedd twristiaeth treftadaeth yn y gogledd.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llu o atyniadau treftadaeth anhygoel ar draws y gogledd cyfan, gan gynnwys Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing yn fy etholaeth fy hun, y chwaraeais i fy rhan i’w hyrwyddo gyda fideos twristiaeth dros yr haf, ac a fyddai hefyd yn elwa ar well arwyddion brown ar hyd yr A55. Ac wrth gwrs, ceir mantell aur yr Wyddgrug, a ganfuwyd ym 1833 yn yr Wyddgrug ac sy’n cael ei chadw yn yr Amgueddfa Brydeinig ar hyn o bryd. Gwn, Prif Weinidog, y byddwch chi’n ymwybodol fy mod i’n awyddus i weld mantell yr Wyddgrug yn cael ei harddangos am y tro cyntaf rhyw ddiwrnod yn ôl yn y dref lle y cafodd ei darganfod. Ond trwy wneud hyn, a chan weithio mewn partneriaeth â'r gwahanol randdeiliaid a chynrychiolwyr i wneud iddo ddigwydd a'i wneud yn realiti, llwyddais i gymryd yr amser ddydd Gwener i ymweld â'r Amgueddfa Brydeinig a gweld y fantell aur yn agos a hefyd i siarad â’r curaduron a'r cynrychiolwyr yno. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gall ac y dylai sefydliadau mawr weithio mewn partneriaeth â chymunedau i ddod â'n treftadaeth yn nes at y bobl ac i'w gwneud yn hygyrch i bawb. Prif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod hyn yn bwysig a pha gymorth y gellir ei roi i sicrhau bod ein gorffennol yn cynnig etifeddiaeth ar gyfer ein dyfodol?

Wel, gwyddom ei bod yn hynod bwysig ein bod ni'n dathlu ein gorffennol ond nad ydym yn byw ynddo. Mae gennym hanes cystal ag unrhyw wlad yn y byd. Mae'r Aelod wedi sôn am y fantell aur, sydd, wrth gwrs, o ddiddordeb arbennig iddi hi fel yr Aelod dros Delyn. Gwn fod trafodaethau rhwng ein swyddogion ni a swyddogion Cyngor Sir y Fflint o ran yr hyn y gallai fod angen ei wneud.  Mae llawer iawn i’w wneud eto o ran dod o hyd i rywle a fyddai'n bodloni'r Amgueddfa Brydeinig o ran diogelwch a'r amgylchedd priodol i arddangos y fantell aur. Ond gwyddom fod arteffactau o'r gorffennol yn hynod bwysig o ran creu diddordeb, creu twristiaeth a chynhyrchu arian, wrth gwrs, i gymunedau lleol.

Un o'r pethau sydd â'r potensial i niweidio twristiaeth treftadaeth, wrth gwrs, yw’r cynigion a ddatgelwyd gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf ar gyfer treth dwristiaeth bosibl yma yng Nghymru. Er efallai na fydd hynny’n effeithio cymaint arnoch chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet o ystyried y gwestai moethus y mae'n rhaid eich bod chi’n mynd iddyn nhw’n rheolaidd, gallai effeithio'n sylweddol ar ben cost is y farchnad wyliau, llawer ohono yn fy etholaeth fy hun a'ch etholaeth chi, Prif Weinidog, sef ar feysydd carafanau gwyliau. Pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd i sicrhau nad yw dyheadau pobl sydd â llai o arian i gael gwyliau blynyddol yn cael eu tanseilio gan eich cynigion hurt ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru?

Mae e'n sefyll yn y fan yna ac yn pregethu wrthym am bobl â llai o arian pan yr oedd ef eisiau cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg dim ond ychydig ddyddiau yn ôl. Dyna fe—mae'n sefyll yn y fan yna—. A bod yn deg, mae ei hyfdra yn disgleirio o'n blaenau. Ond y gwir amdani yw na allwn dderbyn y Torïaid yn pregethu wrthym ynghylch hyn. Rydym ni’n gwybod bod trethi twristiaeth yn bodoli mewn llawer o wledydd yn y byd. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i alw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw cynhyrchu arian ar gyfer busnesau twristiaeth. Mae'n cynhyrchu'r seilwaith ar gyfer twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cyfrannu mwy, yn hytrach na bod yn rhaid i bobl leol—ei etholwyr—dalu mwy i ddarparu'r seilwaith ar gyfer twristiaid. Credwn fod honno'n ffordd o rannu'r baich. Credwn fod honno’n ffordd dda o sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer twristiaeth. Byddwn i wedi meddwl, o ystyried ei etholaeth—. [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n gwybod ei fod yn brifo. Rwy'n gwybod ei fod yn brifo, ond, o ystyried ei etholaeth, byddwn wedi meddwl y byddai'n croesawu unrhyw beth a fyddai'n sicrhau bod ymwelwyr yn talu ychydig mwy i gyfrannu at yr economi leol. Mae yn gwrthwynebu buddiannau ei etholwyr ei hun.

Yn dilyn y smonach a wnaeth eich Llywodraeth chi o fater y cylch haearn yng nghastell y Fflint, a gaf i ofyn pa drefniadau sydd yn eu lle nawr i sicrhau bod unrhyw ddehongli o dreftadaeth yn digwydd o gyd-destun a phersbectif Cymreig ac nid o bersbectif rhywun arall?

Rydym ni’n wastad yn dehongli ein hetifeddiaeth ynghylch beth sy’n dda i ni yng Nghymru. Mae yna hanes gennym ni o gestyll. Cafodd y cestyll hynny eu hadeiladu gan frenin o Loegr oedd eisiau troi Cymru mewn i ryw fath o gaer. Serch hynny, rŷm ni’n sicrhau ein bod ni’n dathlu’r etifeddiaeth hynny, ond, wrth gwrs, rŷm ni’n deall bod y cestyll hynny yn rhywbeth sy’n eiddo i bobl Cymru nawr. Mae yna gydbwysedd y mae’n rhaid inni ei ddilyn fan hyn, ond, i mi, nid oes unrhyw beth yn bod gyda dathlu beth sydd gyda ni, achos nawr, wrth gwrs, mae siwd gymaint o bethau a gafodd eu gwneud i bobl Cymru yn cael eu rheoli gan bobl Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Arweinydd yr wrthblaid i ofyn cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau—Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y llynedd, dywedodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid eu bod wedi gweld cynnydd o bron i 10 y cant i’r achosion o greulondeb at anifeiliaid y bu'n rhaid iddynt ymchwilio iddynt. Mae'r ddeddfwriaeth a'r gallu i reoleiddio yn y maes hwn wedi’u neilltuo’n bendant i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y cynnydd o 10 y cant i gwynion, cafwyd cynnydd o 35 y cant i erlyniadau yma yng Nghymru, pryd yr aethpwyd â phobl i'r llysoedd ac y cyflawnwyd erlyniadau llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r ddeddfwriaeth, a'r cosbau yn bodloni—neu nid ydynt yn addas i’r diben—y troseddau y mae llawer o bobl yn eu cyflawni pan fydd y cwynion yn cael eu hymchwilio. A wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i ddiwygio'r cosbau sydd ar gael i'r llysoedd yma yng Nghymru fel eu bod yn cyd-fynd â'r troseddau sy'n cael eu hadrodd iddynt?

Mae'r rhain yn faterion y byddwn yn parhau i’w hystyried. Nid yw’n fater a godwyd gyda mi yn bersonol—bod y cosbau yn rhy isel—ond yn amlwg nid ydym ni eisiau gweld—. Mae'r ffaith bod mwy o erlyniadau yn beth da, gan fod hynny'n golygu, mewn gwirionedd, bod mwy o bobl yn cael eu dal. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod mwy o droseddau, ond mae mwy o bobl yn cael eu dal. Serch hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod y cosbau'n briodol i'r troseddau, a byddwn yn parhau i adolygu pa un a yw'r cosbau hynny'n briodol nawr.

Mae'n ffaith mai un achos a amlygwyd gan yr RSPCA oedd sut y gwnaeth gŵr fwydo cocên i’w gi ac yna torri'r clustiau oddi ar yr anifail penodol hwnnw, a chafodd ddedfryd o 24 wythnos. Ni all hynny fod yn iawn, Prif Weinidog. Dyna'r mwyaf y gellid fod wedi ei roi i'r unigolyn penodol hwnnw. Mae cynlluniau ar y gweill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i gynyddu'r pwerau sydd ar gael yn sylweddol, a'r cosbau sydd ar gael, pan ddaw achosion creulondeb anifeiliaid gerbron llysoedd—hyd at bum mlynedd a dirwyon anghyfyngedig. Gofynnaf i chi eto: a wnewch chi fwrw ymlaen â'r cynigion sy'n cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig os gwelwch yn dda, fel bod y gosb, pan fydd troseddau erchyll o'r fath yn cael eu hadrodd, ar gael i'r llysoedd, ac, yn y pen draw, y gellir dod â phwysau llawn y gosb honno yn erbyn y rhai sy'n cyflawni gweithredoedd mor ddifrifol?

Rwy’n fodlon ystyried hynny, oherwydd mae'r achos y mae'n sôn amdano yn annymunol iawn ac yn peri gofid, wrth gwrs. Byddaf yn ysgrifennu ato ymhellach ynghylch hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â’r cosbau yn unig; mae’n ymwneud â’r canllawiau dedfrydu hefyd, gan fod y gosb fwyaf yn un peth, ond mae'r canllawiau dedfrydu sy'n rheoli pa ddedfrydau y dylid eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol hefyd yn bwysig. Felly, mae'n rhaid i'r ddau beth fynd law yn llaw.

Rwy'n cytuno â chi, ond yr hyn sy'n sicr o fewn eich rheolaeth yw'r gallu i wneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith y byddwch yn ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth yn y maes penodol hwn, ond yr hyn sy'n gwbl eglur o'r dystiolaeth sydd o'n blaenau i gyd o’r holl droseddau a gyflawnwyd yn erbyn anifeiliaid sy'n ddiamddiffyn—ni allant amddiffyn eu hunain—nifer yr ymchwiliadau a chwynion y mae elusennau yn eu hystyried, a'r erlyniadau, yw y byddai'n dda heddiw cael amserlen o sut y bydd eich Llywodraeth chi yn bwrw ymlaen â chamau i wella'r cosbau sydd ar gael, a chadarnhau’r cosbau hynny sydd ar gael, fel nad ydym yn gweld dedfrydau nad ydynt yn addas i’w diben. A allwch chi roi amserlen i mi o ran sut y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn, fel y gallwn weld camau cadarnhaol yn y maes penodol hwn?

Gallaf roi rhagor o wybodaeth yn y llythyr y byddaf yn ei anfon ato. Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig y mae'n eu codi, a byddaf yn sicrhau bod yr hyn y mae wedi ei ofyn i mi yn y fan yna yn cael sylw ysgrifenedig mewn llythyr.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, beth mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn wahanol?

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn enghraifft o'r modd yr ydym ni’n dilyn y Ddeddf honno, o ran sut yr ydym ni’n penderfynu ar yr hyn a wnawn yn y dyfodol.

Nid yw hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn, Prif Weinidog. Mae'r strategaeth yr ydych chi wedi ei llunio yn cynnwys pedair thema drawsbynciol, ac mae'r Ddeddf yn dweud bod saith nod llesiant. Mae un o'r nodau hynny—sef Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang—nad yw’n cael ei grybwyll o gwbl yn eich strategaeth. Rydych chi’n awgrymu, oherwydd y Ddeddf, y byddwch chi’n defnyddio penderfyniadau buddsoddi, penderfyniadau seilwaith a phenderfyniadau cynllunio mewn ffordd wahanol i'r ffordd y gwnaethoch chi wneud y penderfyniadau hynny yn y gorffennol. Mae eich Llywodraeth yn un o'r cyrff cyhoeddus a restrir o dan y Ddeddf, ac mae gennych chi ymrwymiad i nodau fel datblygu cynaliadwy, economi carbon isel, ecosystemau gweithredol iach a gwell bioamrywiaeth. A yw eich cefnogaeth i lwybr du yr M4 yn bodloni’r nodau hynny, neu a ydych chi'n newid y rheolau ac yn parhau â busnes fel arfer?

Wel, mae'r rhain yn faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw drwy'r ymchwiliad cyhoeddus. Roeddem ni eisiau iddo fod mor eang â phosibl ac ystyried yr holl ddewisiadau, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Rydym ni i gyd yn gwybod mai dyna'r dewis yr ydych chi’n ei ffafrio, ac mae hynny'n swnio'n bur debyg i ni ar yr ochr hon i'r Siambr fel busnes fel arfer a chyfle a gollwyd, Prif Weinidog.

Nawr, yn y strategaeth genedlaethol, rhoddir sylw hefyd i gymunedau gwledig, yr angen i gynnal y diwydiant amaethyddol, a'r sector bwyd a diod o'r radd flaenaf yr ydych â’r nod o’i gyflawni . Rydych chi’n dweud y byddwch chi’n gwneud hyn trwy bolisi amaethyddol a physgodfeydd ôl-UE. Nawr, mae'r angen i bob un ohonom gefnogi ffermwyr Cymru yn amlwg, o ystyried y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud at economi Cymru, at ddiwylliant Cymru a'r rhan sydd gan ffermwyr i’w chwarae o ran rheoli ein hadnoddau naturiol. Mae Plaid Cymru yn galw am yr un lefel o gefnogaeth i amaethyddiaeth gael ei chynnal hyd at 2022 o leiaf. Gwnaed yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth San Steffan i Loegr; Prif Weinidog, a wnewch chi wneud yr ymrwymiad hwnnw i ffermwyr Cymru nawr y prynhawn yma?

Wel, rwyf i wedi dweud yn gyhoeddus y byddwn ni’n cynnal yr un lefel o gefnogaeth. Mae'n rhaid i'r arian fod yno, wrth gwrs, a byddem yn disgwyl iddo fod yno, ond yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud, fel y mae hi’n gwybod, yw fy mod i’n credu y dylai'r pot presennol sydd ar gael gael ei gynnal gan Lywodraeth y DU a'i ddosbarthu’n ariannol yn yr un ffordd ag o'r blaen, a bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth wedyn. Mater i'r Llywodraeth a'r Cynulliad yw sut y caiff ei ddefnyddio wedyn, ond o ran yr arian cyffredinol, wrth gwrs, rydym ni eisiau i hwnnw aros yr un fath ar ôl 2022, ac rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith yn gyhoeddus.

Diolch, Llywydd. Mae er budd i fusnesau yng Nghymru sy'n allforio i wneud cynnydd yn y cysylltiadau masnachu rhwng Prydain a gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Onid yw'n siomedig, felly, mewn pleidlais ar hyn yn Senedd Ewrop yr wythnos diwethaf, bod ASE Llafur Cymru ac ASE Plaid wedi pleidleisio dros safbwynt y Comisiwn i beidio â thrafod ymhellach gan ei bod yn debyg nad ydym wedi gwneud cynnydd digonol yn y trafodaethau, sydd wedi cael eu rhwystro, mewn gwirionedd, gan y Comisiwn Ewropeaidd? Onid yw'r bobl hyn ddim gwell na phumed colofnwyr yn ymladd er budd grymoedd tramor yn erbyn buddiannau Prydain?

Maen nhw’n ffasistiaid Sbaenaidd nawr, ydyn nhw? Wel, byddaf yn caniatáu i’r ffaith fod ganddo fwy o brofiad o hynny ein haddysgu. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho: maen nhw wedi pleidleisio yn ôl y ffordd y maen nhw’n gweld y ffeithiau. Mae safbwynt Llywodraeth y DU wedi bod yn draed moch o'r cychwyn. Pymtheg mis i mewn, nid ydym ni ddim callach o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Maen nhw wedi treulio mwy o amser yn ymladd â'i gilydd. Nid oes gennym unrhyw syniad o—. Yr unig beth yr ydym ni’n ei wybod yw eu bod nhw’n gwneud eu gorau glas i amddifadu'r sefydliad hwn a phobl Cymru o'r pwerau y mae ganddyn nhw hawl iddynt. Y tu hwnt i hynny, nid oes gennym unrhyw syniad. Maen nhw’n cynllunio nawr ar gyfer Brexit dim cytundeb—gallaf ddweud nad oes unrhyw gynllunio o gwbl wedi ei wneud ar gyfer Brexit dim cytundeb. Nid oes ganddyn nhw unrhyw syniad o'r hyn y maen nhw eisiau ei wneud, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn penderfynu pa fath o Brexit y mae’n dymuno ei gael. Gwrthododd pobl Prydain y math o Brexit y mae ef ei eisiau, felly cyfrifoldeb Llywodraeth y DU nawr yw penderfynu pa fath o Brexit sydd orau i Brydain. Rydym ni wedi amlinellu ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n credu sy’n cynrychioli Brexit synhwyrol sy'n cynrychioli'r safbwyntiau a fynegwyd gan bobl y llynedd.

Wel, nid fy lle i, wrth gwrs, ac UKIP yw amddiffyn y ffordd y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi mynd i’r afael â’r drafodaeth hon, ond os yw wedi darllen cyfrif Mr Yanis Varoufakis o'i drafodaethau gyda'r UE, bydd yn gweld yn y fan honno beth sy'n digwydd. Nid oes gan yr UE unrhyw fwriad difrifol o drafod â Phrydain ar gyfer y dyfodol, oherwydd eu buddiannau nhw yw cadw’r aelodau UE eraill gyda’i gilydd, ac maen nhw eisiau sicrhau, felly, nad yw Brexit—cyn belled ag y gallant—yn llwyddiant. Felly, ni allwn ddisgwyl cael unrhyw beth synhwyrol allan o'r UE. O dan yr amgylchiadau hyn, onid yw'n ddyletswydd ar yr holl bleidiau gwleidyddol yn y wlad hon i gefnogi nodau eang Llywodraeth Prydain, sef cael y fasnach fwyaf rydd bosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd ac i ddiogelu buddiannau dinasyddion—dinasyddion yr UE yn y wlad hon a dinasyddion Prydain yn yr UE hefyd? Mae hyn yn amlwg beth mae'r Llywodraeth, yn ei ffordd ddi-drefn, yn ceisio ei wneud, ond, serch hynny, mae'r nodau'n rhai y dylai bob un ohonom eu cefnogi.

Wel, rwy’n cefnogi'r egwyddorion hynny, ond gadewch i mi fynd ag ef yn ôl at y refferendwm y llynedd. Dywedwyd wrthym gan ei blaid ef ac arweinydd ei blaid ef y byddai'r UE yn dod i gytundeb yn gyflym gan fod yr UE yn ofni'r DU; roedd hynny’n anwir. Dywedwyd wrthym y byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn rhoi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb; roedd hynny'n anwir. Dywedwyd wrthym gan arweinydd ei blaid ei hun y gallai'r DU edrych mwy fel Norwy, ond dywedir wrthym nawr na ddylai edrych fel Norwy o gwbl. Mae'r ffantasïau a hyrwyddwyd y llynedd yn cael eu datgelu’n llwyr bellach. Y gwir amdani yw nad yw'r UE yn ofni'r DU—pam ar y ddaear y dylai ein hofni? Mae e'n iawn—mae'r UE eisiau cadw 27 yr UE gyda'i gilydd. Wrth gwrs ei fod; byddai hynny wedi bod yn hollol amlwg i'r rhan fwyaf o bobl y llynedd, ond nid i'w blaid ei hun. Nawr, rwy’n cytuno â’r egwyddorion y mae wedi eu mynegi—pwy na fyddai eisiau gweld y cytundeb masnachu mwyaf rhydd posibl? Pwy na fyddai eisiau gweld hawliau dinasyddion yn cael eu hamddiffyn? Y broblem yw, er ein bod ni’n gwybod beth yw safbwynt yr UE, nid oes gennym unrhyw syniad o beth yw safbwynt y DU a pha fath o gytundeb y mae’n dymuno ei gael. Dyna'r broblem.

Rydym ni’n sicr yn gwybod beth yw safbwynt yr UE—nid ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, felly mae'r holl broses yn wastraff amser. Wrth gwrs, mae'n gwbl anghywir—ni ddywedasom yn UKIP y llynedd y byddai'r Almaenwyr yn dod i gytundeb; dywedasom ei bod o fudd economaidd iddyn nhw wneud hynny. Ac yn wir, o gofio bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o €42 biliwn gyda Phrydain eleni, os na fyddant yn cefnogi cytundeb masnach rydd byddant yn gwneud drwg iddyn nhw eu hunain, efallai y byddent eisiau gwneud hynny er mwyn cadw’r pedwerydd reich gyda'i gilydd. Ni allem ni yn UKIP, wrth gwrs, wybod ychwaith beth fyddai unrhyw un arall mewn unrhyw blaid arall yn ei wneud mewn unrhyw wlad yn yr UE. Y cwbl a ddywedasom ni y llynedd oedd ei fod o fudd rhesymol i bawb ein bod ni’n dod i gytundeb i wneud masnach mor rhydd ag y gall fod. Ond os nad ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE—mae honno'n tyfu, a dylem fod yn canolbwyntio ar rannau eraill o'r byd. Felly, yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud nawr yw lleihau'r Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a throsglwyddo'r swyddogion hynny i'r Adran Masnach Ryngwladol, gan ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r busnes go iawn o wneud Brexit yn llwyddiant yng ngweddill y byd.

Wel, gadewch i mi ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd Liam Fox wrthyf pan gawsom ni gyfarfod o'r holl Weinidogion yn y Cydgyngor Gweinidogion. Dywedodd y byddai pob un o’r 53 o gytundebau masnach rydd yr oedd gan yr UE gyda gwledydd eraill yn berthnasol i'r DU yn awtomatig. Lol llwyr—roedd yn lol. Felly, mae hynny'n rhoi syniad o'm ffydd yn yr Adran Masnach Ryngwladol. Ni all ddianc y gwirionedd bod ei blaid ef, ei arweinydd ef, wedi mynd ymlaen ac ymlaen yn dweud y bydd yr UE yn dod i gytundeb â ni yn gyflym. Bydd—[Torri ar draws.] Fe’i clywsom—bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gorfodi'r UE i ddod i gytundeb. Mae gan weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen fwy o ddiddordeb yn 27 yr UE na sydd ganddyn nhw yn y DU.

Mae'n sôn am baratoi ar gyfer y Brexit dim cytundeb. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu gorsafoedd ar y ffin. Wel, nid yw swyddogion tollau’n cael eu recriwtio. Mae'n debyg, dywedir wrthym y bydd rhyw fath o weithdrefn hysbysu ymlaen llaw ryfedd ar ochr y DU o unrhyw ffin na fyddai'n berthnasol ym mhorthladdoedd y sianel, ac mae'n debyg y byddai'n berthnasol yn hudol ar y ffin agored a fyddai'n bodoli gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n wallgof—mae’r holl beth yn wallgof. Y ffordd fwyaf synhwyrol o ymdrin â Brexit yw sicrhau bod gennym ni’r berthynas orau y gallwn ei chael gyda'n marchnad fwyaf. Os yw'n credu y bydd cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, dylai fynd i siarad â gweithwyr Bombardier. Bydd yr Unol Daleithiau yn gofalu amdanynt eu hunain. Mae ganddyn nhw Lywodraeth a etholwyd ar sail America yn gyntaf. Nid yw'n mynd i wneud unrhyw ffafr â'r DU, ac mae'n gwbl eglur nad dyna y mae’n mynd i'w wneud. Mae cytundebau masnach rydd gyda gwledydd sydd â safonau byw sylweddol is nag sydd gennym ni yn arwain at allforio swyddi. Gofynnwch i'r Americanwyr a chytundeb masnach rydd Gogledd America—dyna a ddigwyddodd. Allforiwyd swyddi i Fecsico a chollodd llawer o drefi canolbarth gorllewinol yr Unol Daleithiau eu swyddi yn sgil hynny, a dyna y mae'n ei argymell—y math hwnnw o gytundeb masnach rydd. Y gwir amdani yw bod angen i ni gael y berthynas fasnachu agosaf bosibl gydag un o farchnadoedd mwyaf y byd—mwy nag America—sydd ar garreg ein drws, y mae gennym ni ffiniau tir â hi. Os na allwn ni ddod i gytundeb â nhw, nid oes gennym ni unrhyw siawns o ddod i gytundeb ag unrhyw un arall.

Digartrefedd

3. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau llwyddiant strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd? (OAQ51168)

Gwelir ein hymrwymiad i ymdrin â digartrefedd, wrth gwrs, yn y gyllideb a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf.

Ni chlywais eich ateb yn y fan yna, Prif Weinidog, oherwydd y mwmian y tu ôl i chi. A fyddai wahaniaeth gennych chi ateb eto?

Fe wnaf ei ailadrodd. Gwelir ein hymrwymiad i ymdrin â digartrefedd—

Bydd y Prif Weinidog yn ailadrodd yr ateb a bydd y rheini ar ei feinciau cefn ychydig yn dawelach.

Gwelir ein hymrwymiad i ymdrin â digartrefedd yn y gyllideb a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf.

Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf pan ofynnais i chi, dywedasoch mai eich cynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng digartrefedd yr ydym yn ei wynebu yng Nghymru oedd disgwyl i Lywodraeth Lafur ddod i rym yn San Steffan. Nawr, rwy'n siŵr y bydd yn gysur mawr i'r bobl niferus sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru cyn y gaeaf sy’n agosáu’n gyflym. Pe byddai gennym ni bwerau dros y Ganolfan Byd Gwaith a rheolaeth weinyddol dros daliadau, rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer, byddai’r grym gennych chi i atal cosbau ac i atal y llanast gweinyddol sy'n gadael pobl heb yr un geiniog. Nawr, mae atal digartrefedd, fel y gwyddoch, yn arbed arian mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae hefyd yn achub bywydau, gan fod y cynnydd mewn marwolaethau diweddar yn ymwneud â chyffuriau yn gysylltiedig â digartrefedd. Am y rhesymau hynny yr ydym ni’n blaenoriaethu cyllideb Cefnogi Pobl yn rhan o'n trafodaethau cyllideb diweddar. Nawr, o ystyried hyn oll, heblaw am y gyllideb Cefnogi Pobl yr wyf i newydd ei chrybwyll, a ydych chi’n dweud o ddifrif nad oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei wneud i atal yr argyfwng cynyddol hwn o ran digartrefedd tan fod Llywodraeth Lafur arall yn cael ei hethol yn San Steffan rywbryd yn y dyfodol pell? Ai dyna'r gorau y gallwch chi feddwl amdano ar gyfer y rheini sy’n cysgu ar y stryd yn y wlad hon?

Wel, edrychwn ymlaen at y diwrnod pan fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan, ond gofynnodd i mi restru'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Wel, cynorthwywyd 11,000 o bobl ers mis Ebrill 2015; mae'r ystadegau digartrefedd diweddar ar gyfer chwarter cyntaf 2017-18 yn dangos cyfradd lwyddiant gyson mewn cyfnod o alw cynyddol; mae digartrefedd 63 y cant o'r holl aelwydydd a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd wedi ei atal yng Nghymru oherwydd deddfwriaeth a gyflwynwyd gennym ni—mae'r ddeddfwriaeth, rydym ni’n gwybod, wedi bod yn ddigon dylanwadol gan fod Lloegr yn bwriadu ein copïo ni; rydym ni wedi dangos yn eglur ein penderfyniad i leihau digartrefedd yn y gyllideb ddrafft—bydd y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd nesaf yn galluogi awdurdodau lleol i ddwysáu eu hymdrechion i sicrhau’r canlyniad gorau i'r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref; rydym ni newydd gyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiectau arloesol i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ieuenctid; rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi'r ymgyrch End Youth Homelessness ac rydym ni’n gweithio â hi i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r broblem honno; ac wrth gwrs, mae gennym ni rownd arall o wahanol ddulliau, sy'n cynnwys llwybr tai i helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog, y llwybr cenedlaethol i gyn-droseddwyr, y llwybr i helpu pobl ifanc i osgoi digartrefedd, a fframwaith llety ar gyfer pobl sy'n gadael gofal i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i lety addas. Nid yw'n swnio fel syrthni i mi.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith y Wallich. Mewn adroddiad diweddar a lansiwyd yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, rwyf wedi canfod y bu cynnydd i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd ac Abertawe a bod y rhai sy'n cysgu ar y strydoedd 70 gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio sylweddau ac 11 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i alcohol. Rydym ni wedi clywed bod Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi pwyslais ar atal digartrefedd. Mae hynny'n bwysig dros ben, ond y math mwyaf difrifol o ddigartrefedd yw’r un sy’n effeithio ar bobl sy'n cysgu ar y stryd, a beth ydym ni’n ei wneud i helpu i ddatrys y problemau hynny sydd gan y rhai sy’n yn byw ar y strydoedd mewn gwirionedd ar hyn o bryd?

Wel, rwy’n adnabod y Wallich yn dda iawn. Yn rhyfedd ddigon, mae eu pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y stryd lle’r wyf i’n byw—yn llythrennol i lawr y ffordd. Rydym ni wedi gweithio â nhw ar sail etholaeth dros flynyddoedd lawer i helpu pobl sydd wedi wynebu digartrefedd. Cyfeiriaf yr Aelod yn ôl at y pwynt a wneuthum yn gynharach ar y ffaith ein bod wedi dyrannu £2.6 miliwn o'r cyllid ar gyfer prosiectau arloesol i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ieuenctid. Mae'n bwysig, rwy’n credu, gweithio gyda sefydliadau sydd â phrofiad ar lawr gwlad ac i’w caniatáu i ddatblygu'r atebion y maen nhw’n credu sy’n iawn, gan ddarparu, wrth gwrs, cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Prif Weinidog, bûm yn dosbarthu brecwast gyda’r Wallich bythefnos yn ôl, ac roedd hi'n drawiadol iawn gweld y gefnogaeth a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig—bwyd poeth, diodydd poeth, dillad, cyngor am lety, apwyntiadau meddyg teulu; cynigir pob math o fesurau cymorth a chyngor pwysig gan y Wallich. Clywsom hefyd yn bersonol gan y rheini sy’n cysgu ar y stryd yn union beth yr oeddent yn ei feddwl oedd yr atebion ymarferol—er enghraifft, bod cawodydd ar gael yn gyson ar adeg benodol yn ystod y bore a bod rhywle i sychu dillad, nad ydynt ar gael yn gyffredinol yng Nghasnewydd ar hyn o bryd ac maen nhw'n teimlo y dylent fod ar gael. Felly, byddwn yn cytuno'n llwyr â David Melding bod gan y Wallich hanes mor gryf o gyflenwi a llawer o wybodaeth am yr atebion ymarferol a fydd yn helpu’r rheini sy’n cysgu ar y stryd. Felly, rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio'n fwy agos fyth gyda'r trydydd sector a sefydliadau fel y Wallich.

Ie. Nid oes angen ailadrodd yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud nac ailddyfeisio’r olwyn. Gwyddom fod sefydliadau ar gael sydd â phrofiad uniongyrchol ar lawr gwlad o helpu pobl. Gwaith y Llywodraeth o dan yr amgylchiadau hynny yw helpu'r sefydliadau hynny, a dyna, wrth gwrs, yr ydym ni’n mynd i’w wneud gyda'r cyllid yr ydym ni wedi ei gyhoeddi i alluogi prosiectau i gael eu cynnig sy'n arloesol ond, yn bwysig, wrth gwrs, yn gallu cael y cyllid.

Busnesau Canolig

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i dyfu busnesau canolig yng Nghymru? (OAQ51153)

Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn cyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu a blaenoriaethau a fydd o fudd i fusnesauu bach a chanolig eu maint, ac maent yn cynnwys y banc datblygu, cymorth gwell gan Fusnes Cymru a buddsoddiad mewn seilwaith.

Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yr adroddiad 'Wales' Missing Middle', pryd y dywedasant,

Yn y cwmnïau canolig eu maint canol sydd ar goll, mae'r rheini sy'n cyflogi rhwng 50 a 250 o bobl yn cynrychioli cyfran fach o 12 y cant o gyflogaeth.

Aethant ymlaen i ddweud, o'r rheini sydd yn bodoli, eu bod yn aml yn wynebu dewisiadau i werthu i endidau amlwlad mwy yn hytrach na mynd ar drywydd twf domestig cynaliadwy. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ba raddau y bydd yn ymddangos yn y cynllun economaidd sydd i ddod?

Mae'r Aelod wedi rhoi sylw i fater yn y fan yna sy’n gwbl gywir. Rydym ni wedi wynebu gormod o achosion yn y gorffennol lle mae busnesau y byddai'r Almaenwyr yn eu disgrifio fel y busnesau Mittelstand, yr oedd y perchnogion yn tueddu i’w gwerthu yn hytrach na’u tyfu. Mae'n broblem sydd gennym ers blynyddoedd. Edrychwyd ar un adeg ar ba un a allem ni geisio atgyfodi cyfnewidfa stoc Caerdydd er mwyn eu galluogi i dyfu ac yna dod yn rhestredig. Nid oedd yn ymarferol. Roedd hynny’n rhywbeth a ystyriwyd gennym 10 neu 11 mlynedd yn ôl.

Beth allwn ni ei wneud yn y cyfamser i'w helpu? Mae gennym ni wasanaeth Busnes Cymru, wrth gwrs, sy'n helpu BBaChau gan gynnwys busnesau canolig eu maint, a bydd banc datblygu Cymru yn rhan hanfodol o bolisi a darpariaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu ar arbenigedd Cyllid Cymru. Bydd hynny'n helpu BBaChau i gael gafael ar gyllid. A bydd y cynllun gweithredu economaidd, heb os, yn ceisio cefnogi busnesau o bob maint. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, 20 mlynedd yn ôl, bod y pwyslais yn gyfan gwbl ar ddenu buddsoddiad tramor a dim byd arall. Dyna’r oedd Awdurdod Datblygu Cymru yn ei wneud. Nid dyna'r sefyllfa erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw pyramid eang a chryf o BBaChau, a busnesau Mittelstand, os caf eu galw’n hynny, gan mai nhw yw sylfaen economi Cymru, ac rydym ni eisiau sicrhau bod ein cynnig yn helpu i'w cryfhau hwythau hefyd.

Yr wythnos diwethaf, gofynnais am ddatganiad ar ba un a oedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu'r telerau a'r amodau ar gyfer rhoi grantiau i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y colledion swyddi yn Newsquest a'r bygythiad i swyddi yn Essentra yng Nghasnewydd. Mae'r ddau gwmni wedi cael cymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ers hynny, mae wedi dod i’r amlwg bod llai na chwarter y £320 miliwn a wariwyd ar gymorth busnes ers 2010 wedi cael ei ddosbarthu fel grant ad-daladwy neu fenthyciad masnachol. Ac mae llai na 2 y cant wed ei ad-dalu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen brys i adolygu polisi ei Lywodraeth o ran cymorth grant i fusnesau i sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu cyflawni a bod y budd mwyaf posibl i'r trethdalwr yn cael ei sicrhau yng Nghymru gyfan?

Mae can mil a hanner o swyddi wedi eu creu neu eu cadw o ganlyniad i'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar gael. Ni ydym yn mynd i ymddiheuro am hynny. Y gwir amdani yw i’r symudiad tuag at gyllid ad-daladwy gael ei wneud yn 2010 yn wreiddiol—saith mlynedd yn ôl. Nawr, mae’r amgylchiadau wedi newid ers hynny. Rydym ni wedi canfod nad oedd busnesau yn gallu cael gafael ar gyllid. Nid oeddent o’r farn bod cyllid ad-daladwy yn ddeniadol iddynt. Felly, ydym, rydym ni wedi darparu mwy o grantiau, ond rydym ni wedi gweld y canlyniadau ac rydym ni wedi gweld miloedd lawer o bobl sydd mewn swyddi heddiw oherwydd y cymorth y mae eu Llywodraeth wedi ei roi i'w teuluoedd, er mwyn iddyn nhw gael incwm ar gyfer y dyfodol.

Un o gasgliadau allweddol adroddiad yr FSB yw bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru wedi dibynnu'n ormodol ar ddenu buddsoddiad tramor uniongyrchol. Nid yw hynny’n wir am y Llywodraeth hon yn unig; mae'n wir am bolisi economaidd Cymru yn mynd yn ôl 50 mlynedd pan luniwyd 'Wales: The Way Ahead' gan Cledwyn Hughes ym 1967. Nid yw wedi gweithio. Ar y gorau, mae wedi bod yn ateb byrdymor; ar y gwaethaf, mae wedi gwerthu’r chwedl anwir i bobl Cymru y byddai'r iachawdwriaeth i'n trafferthion economaidd yn dod o'r tu allan. A fyddwn ni'n gweld newid sylweddol o’r diwedd yn y strategaeth economaidd newydd, fel y gallwn ganolbwyntio ar beidio â gwerthu Cymru fel lleoliad i'r byd gynhyrchu ynddo, ond buddsoddi yn ein gallu ein hunain i gynhyrchu ein harloesedd ein hunain, ein sgiliau ein hunain a'n menter ein hunain?

Nid wyf yn gweld bod y ddau’n gwrthdaro. Mae'n iawn dweud ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran denu buddsoddiad tramor uniongyrchol a chyflogir miloedd lawer o bobl yng Nghymru gan gwmnïau o’r tu allan i Gymru. Nid yw hynny’n rhywbeth y dylem ni ymddiheuro amdano—mae'n arwydd o'n llwyddiant. Yn sicr, mae'n iawn yn dweud mai’r profiad a gefais ar ddechrau'r degawd diwethaf oedd bod polisi economaidd wedi'i gyfeirio, oherwydd y WDA, bron yn gyfan gwbl tuag at ddenu buddsoddiadau mawr iawn ar draul peidio â chefnogi BBaChau. Ni allwn fforddio gwneud hynny mwyach, gan ein bod ni eisiau sicrhau bod BBaChau yn gallu tyfu yn y dyfodol. Bryd hynny, nid oedd ein prifysgolion yn gweithio gyda BBaChau; nid oedden nhw’n gweld eu hunain fel cynhyrchwyr economaidd, nid oedden nhw’n gweld bod yn rhaid iddyn nhw greu busnesau newydd yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain. Mae hynny i gyd wedi newid. Mae ein prifysgolion yn sicr yn gefnogol erbyn hyn, ac rydym ni wedi gweithio gyda sefydliadau fel yr FSB. Mae gennym ni ddiddordeb yn yr hyn sydd gan yr FSB i’w ddweud o ran yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i ni ddeall bod pob gwlad—wel, pob gwlad agored—yn dibynnu ar fuddsoddiad tramor uniongyrchol. Maen nhw’n creu miloedd lawer o swyddi yng Nghymru. Nid yw hynny’n bopeth, rydym ni’n deall hynny. Mae cael cydbwysedd yn hollbwysig, a dyna'n union y bydd y cynllun gweithredu economaidd yn ei wneud.

Y Sector Gweithgynhyrchu Uwch

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru? (OAQ51139)

Gwnaf. Mae'r sector gweithgynhyrchu uwch yn hanfodol i economi Cymru sy’n tyfu ac yn ffynnu. Mae gen i ychydig o salwch Theresa May y prynhawn yma, rwy’n gweld. Rwy’n cymryd nad oes dim y tu ôl i mi a fydd yn cwympo er hynny. [Chwerthin.] Mae swyddi hynod fedrus a chyflogau uchel a chynhyrchiant uwch na'r cyfartaledd yn nodweddiadol o'r sector, ac rydym ni’n parhau i gefnogi cwmnïau yn y sector yng Nghymru i gynnal eu gweithrediadau cyfredol ac i fanteisio ar gyfleoedd twf.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy’n cytuno'n llwyr bod hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch yn mynd i fod yn hynod bwysig i economi Cymru, a gall meysydd fel roboteg a graphene helpu i dyfu economi Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen eglurhad pellach o’r diffiniad o weithgynhyrchu uwch gan Lywodraeth Cymru, i eithrio pethau fel technoleg y 1970au ar gyfer cotio dur â lliw rhag cael eu hystyried yn weithgynhyrchu uwch, er gwaethaf y ffaith fod Bryngwyn a Tafarnaubach wedi cau yn flaenorol?

Wel, mae cotio dur â lliw yn weithgynhyrchu uwch. Os edrychwch chi ar Shotton, er enghraifft, mae'n hynod dechnegol. Mae celloedd ffotofoltäig yn rhan o'r cynhyrchu yno. Nid yw'n ddiffiniad hawdd ei wneud, ond o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y sector wedi ei ddiffinio gan amrywiaeth o godau dosbarthu diwydiannol safonol a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cytunwyd ar y codau hynny gan banel diwydiant dan arweiniad y sector preifat, a sefydlwyd i gynghori Gweinidogion a swyddogion, ac mae trin a chotio metelau, gan gynnwys lliwio, yn weithgaredd sydd wedi ei gynnwys yn yr ystod o godau SIC sy'n diffinio ein sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Felly, mae'n ddiffiniad sy'n seiliedig ar ymgynghori â diwydiant yn unol â chyfres sefydlog o godau.

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n annog busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i archwilio cyfleoedd i allforio i Iran. Nawr, pan gyfarfûm â busnes gweithgynhyrchu ddoe, dywedasant wrthyf ei bod hi'n amhosibl cael eich talu gan fanciau Iran gan fod Iran yn dal i fod wedi ei chloi allan o'r system ariannol fyd-eang. O gofio bod eich Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio i Iran, ac rwyf i’n croesawu hynny, a allwch chi roi rhywfaint o gyngor i weithgynhyrchwyr ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo fel y gallant gael eu talu gan fanciau a busnesau Iran?

Wel, Atradius ar draws y ffordd, wrth gwrs, sy’n cyflawni’r swyddogaeth o sicrhau cymorth i allforwyr pan fyddan nhw’n ceisio allforio i farchnadoedd lle nad yw taliad ar gael bob amser. Dyna yw eu swyddogaeth—Nederlandsche Credietverzekering Maatschappij, gynt, a’r Adran Gwarant Credyd Allforio gynt, wrth gwrs. Felly, o ran indemnio allforwyr, nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni’n bwriadu ei wneud. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n edrych i weld pa gyfleoedd sy’n bodoli yn Iran. Mae wedi bod yn agored fel marchnad am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer iawn, ac mae o bosibl yn farchnad fawr iawn, ar gyfer allforion ac ar gyfer mewnforion. Felly, rydym ni’n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yno. Rydym ni’n gweithio’n bendant tuag at greu pecyn cymorth i fusnesau sydd eisiau ymweld ag Iran, sydd eisiau edrych ar y farchnad yn Iran, ond ni fyddai'n mynd mor bell ag indemnio busnesau, gan fod honno, wrth gwrs, yn swyddogaeth i sefydliad arall.

A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu y rhan fwyaf o ‘graphene’ diwydiannol yn y byd? Rydym ni wedi bod yn y busnes carbon o’r blaen yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae’n dda gweld ein bod ni ar flaen y gad gyda’r chwyldro diwydiannol yma. Dau gwmni o Rydaman, gyda llaw, sydd yn gyfrifol am hyn. A fyddai’n bosib inni gael cyfarfod gyda swyddogion adran yr economi fel ein bod ni’n gallu gwneud y gorau o’r cyfle euraid hwn i economi Cymru?

Perffaith iawn. Rŷm ni’n moyn, wrth gwrs, gweithio gyda chynhyrchwyr ac, wrth gwrs, lle maen nhw’n cynhyrchu rhywbeth sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n arwain y byd, rŷm ni eisiau cwrdd â nhw, felly’r ateb syml i hwnnw yw, ‘wrth gwrs.’

Argaeledd Tai

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu argaeledd tai yng Nghymru? (OAQ51172)

Rydym ni’n buddsoddi'n sylweddol ym mhob deiliadaeth tai, a adlewyrchir yn ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni’n darparu cymorth ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol a chyllido i gael cwmnïau bach i adeiladu eto, yn ogystal â chynlluniau newydd i wneud perchnogaeth cartref yn haws a chymorth ar gyfer arloesi.

Diolchaf iddo am yr ateb yna. Ddoe, ymunais â'r Gweinidog dros sgiliau yn Hale Construction yng Nghastell-nedd yn fy etholaeth i i drafod tai modiwlaidd. Ceir diddordeb cynyddol mewn adeiladu oddi ar y safle i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru. Mae'n dod â manteision cynaliadwyedd, gydag effeithlonrwydd ynni, a chyflymder adeiladu. Ceir diddordeb hefyd gan gwmnïau tramor yn enwedig mewn mewnforio cydrannau ar gyfer adeiladu yn y DU. Pe byddai'r sector yn cael ei ddominyddu gan hynny, byddai hynny'n cwmpasu cost cynaliadwyedd ac, yn wir, cost y cyfle i greu swyddi yng Nghymru ar gyfer y sector newydd hwn. Ceir heriau polisi i dwf y sector, gan gynnwys cynllunio, y gadwyn gyflenwi, cyllid a chymorth i BBaChau, sy'n ffurfio mwyafrif cyfredol y sector o ran gweithgynhyrchu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygu a mynd i'r afael â'r rhwystrau polisi i dwf y sector, os na fyddwn yn ei adeiladu yng Nghymru, y bydd eraill yn ei wneud?

Wel, rwyf wrth fy modd bod 35 o gynlluniau wedi gwneud cais am gymorth o rownd gyntaf y rhaglen dai arloesol. Maen nhw wedi eu hasesu gan banel annibynnol, a byddwn yn cyhoeddi'r rhai y byddwn yn eu cynorthwyo cyn diwedd y mis hwn.

Brif Weinidog, yn gynharach eleni, fe godais i waith Hafan Las, grŵp lleol yn sir Benfro sydd yn hybu cymunedau cyd-dai, gyda chi mewn sesiwn o gwestiynau. Byddai cynlluniau fel hyn yn golygu tai effeithlon fforddiadwy i bobl leol gydag o leiaf traean o’r trigolion dros 50 oed er mwyn hybu pontio’r cenedlaethau. Yn eich ymateb nôl ym mis Mai, dywedoch chi fod hyn yn rhywbeth y byddech chi a’ch swyddogion â diddordeb ynddo. Felly, yn sgil eich sylwadau blaenorol, a allech chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi projectau fel hyn yng ngorllewin Cymru?

We do give revenue income to the Wales Co-operative Centre in order to support housing co-operatives, and this is something that is being done across the whole of Wales. We wish to promote alternative ways of constructing houses, including alternative ways of building houses by co-operative groups.

Prif Weinidog, ddoe, roeddwn yn falch o allu mynd allan a bod yn werthwr 'The Big Issue', ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, gan gymryd rhan yn y broses honno fel ffordd o weld sut mae pobl sydd, o bosib, rhwng tai, sy'n cael trafferth gyda llawer o bethau yn eu bywydau, yn defnyddio 'The Big Issue' i’w werthu a pheidio â chardota. Yr hyn a ddarganfyddais oedd ei bod yn gryn agoriad llygaid o ran pa mor anweledig roeddwn i’n teimlo, a bod yn blaen, i lawer o bobl a oedd yn byw eu bywydau beunyddiol ac nad oeddent wir yn sylweddoli bod gwerthu 'The Big Issue' yn rhan o fenter gymdeithasol a’i fod yn mynd i'w cynorthwyo a'u helpu i gael allan o'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allem ni annog, ac a allech chi annog, pobl i brynu 'The Big Issue' ac a allech chi ddweud wrthym sut yr ydych chi'n helpu pobl yn y sefyllfaoedd hynny i mewn i swyddi, fel eu bod yn teimlo eu bod wedi eu grymuso i fyw eu bywydau beunyddiol mewn ffordd lwyddiannus.

Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda 'The Big Issue' er mwyn ei hyrwyddo. Gwn, fel grŵp, ein bod ni’n hysbysebu ac yn talu am hynny yn 'The Big Issue', fel yr wyf yn siŵr y mae grwpiau eraill yn ei wneud hefyd. Yn sicr, byddai gen i ddiddordeb mewn helpu ymgyrch i annog pobl i brynu 'The Big Issue'. O ran y gwerthwyr eu hunain, mae eu hamgylchiadau'n tueddu i fod yn wahanol dros ben, ac felly, iddyn nhw, yr hyn sydd ei angen yw pecyn wedi'i deilwra i'w helpu. Ond mae'r union ffaith, wrth gwrs, eu bod nhw’n gwerthu 'The Big Issue' yn hytrach na chardota yn arwydd eu bod nhw eisiau dringo’r ysgol i wella eu bywydau a rhoi mwy o arian yn eu pocedi fel y gallant fwy’n fwy cyfforddus. Byddai'n ddefnyddiol gweithio gyda 'The Big Issue' er mwyn deall beth arall y gellid ei wneud i helpu'r bobl hynny.

A gaf i wahodd y Prif Weinidog i ymhelaethu ychydig efallai ar yr ateb a roddodd i Paul yn y fan yna ynghylch yr enghraifft Sir Benfro? Oherwydd bu cefnogaeth dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn i’r model ymddiriedolaeth tir cymunedol yng Nghymru, a bu llawer o enghreifftiau da iawn, ond cymharol fach, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ond mewn trefi hefyd erbyn hyn. Ond os edrychwch chi, er enghraifft, ar fodel ymddiriedolaeth tir cymunedol Burlington yn Vermont—rwy'n credu bod gŵr penodol o’r enw Bernie Sanders yn rhywbeth i'w wneud â'i sefydlu ym 1983—mae ganddi bellach o fewn yr ymddiriedolaeth tir cymunedol honno dros 2,000 o dai a gwarchodaeth o fannau agored hefyd sy’n mynd gydag ef. Mae'n fodel dielw, pobl leol sydd yn berchen arno ac mae'n darparu cartrefi fforddiadwy i’w prynu, nid i'w rhentu’n unig, ac maen nhw’n rhannu'r asedau pan fyddant yn cael eu rhyddhau, ond mae'n arafu’r cynnydd. Nawr, roeddwn i’n meddwl tybed, gydag awdurdodau lleol, gyda'r consortia rhanbarthol sydd gennym ni, gyda'r cytundebau dinas ac yn y blaen, a yw e’n—? A fyddai'n mentro meddwl bod lle yma ar gyfer rhywfaint o feddwl creadigol, yn y cynlluniau tai fforddiadwy mawr sydd gennym ni, ar sut y gall ymddiriedolaethau tir cymunedol lenwi rhywfaint o'r bwlch hwnnw?

Byddwn, mi fyddwn, a mantais ymddiriedolaeth tir cymunedol, wrth gwrs, yw bod y tir yn eiddo cymunedol neu i ymddiriedolaeth. Mae'r tai yn cael eu prydlesu gan yr ymddiriedolaeth honno, ac felly mae yna gyfyngiad o ran y pris y gellir gwerthu'r tai hynny amdano. Gall pobl wneud ychydig o arian o’r tai y maen nhw’n eu gwerthu, ond mae'r prisiau'n cael eu cadw'n ddigon isel i fod yn fforddiadwy—felly, model hynod bwysig yr ydym ni eisiau ei hyrwyddo. Sut ydym ni'n gwneud hyn? Wel, er enghraifft, yn y Llywodraeth ddiwethaf, darparwyd bron i £2 filiwn o gyllid cyfalaf gennym i gefnogi datblygiad tri phrosiect arbrofol tai cydweithredol yng Nghaerdydd, yng Nghasnewydd ac yng Nghaerfyrddin—87 o gartrefi newydd. Rydym ni eisiau gweld mwy o dai cydweithredol, gan gynnwys y model CLT, a byddem yn sicr yn croesawu mwy o gynigion gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o ran sut y gellir eu darparu.

Twf Economaidd yn Aberafan

7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau twf economaidd yn Aberafan? (OAQ51167)

Maen nhw wedi eu nodi yn 'Ffyniant i Bawb', a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd yn ddiweddarach eleni a fydd yn cefnogi darpariaeth y strategaeth.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond—. Mae llawer o bobl yn gwybod bod Port Talbot yn gysylltiedig ag actorion enwog fel Richard Burton—a cheir llawer o bobl eraill y mae'n debyg y dylwn eu henwi, ond nid oes digon o amser iddyn nhw i gyd—ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod am ei waith dur. Mae ein heconomi leol dros y canrifoedd wedi cael ei gyrru gan ddiwydiant, yn dal i gael ei gyrru gan ddiwydiant, yn enwedig gyda Tata, ac mae'r gadwyn gyflenwi yn flaenllaw yn y sector hwnnw. Nawr, mae'r diwydiant wrth wraidd Port Talbot, cymaint felly fel bod gan hyd yn oed y tir ym mharc diwydiannol Baglan gyfamod arno i ddweud y dylid ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol yn unig—yn eithaf da, gan ei fod yn cyd-fynd â'r ardal fenter ym Mhort Talbot sydd newydd gael ei nodi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sylfaen sgiliau ym Mhort Talbot yn seiliedig ar ddiwydiant, gweithgynhyrchu ac adeiladu. Nawr, gyda'r holl gryfder hwnnw’n amlwg yn y dref, sut mae adeiladu carchar newydd yn sbarduno'r economi yn ei blaen? Ac, o ganlyniad, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymatal rhag newid y cyfamod ar y tir hwn sy'n cydnabod diwydiant fel yr hyn sy’n sbarduno’r economi leol, ac nid adeiladu carchar?

Nid yw'n eglur, os oes cyfamod ar y tir, pwy fyddai'n ei ddileu, neu a fyddai'n rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fynd i'r llys i'w ddileu. Nid yw'n eglur heb edrych ar y dogfennau. Mae Port Talbot yn hynod bwysig o ran gweithgynhyrchu; rydym ni’n gwybod hynny. Flwyddyn a hanner yn ôl, bydd yn gwybod, roedd pethau'n llwm cyn belled ag yr oedd y gwaith dur yn y cwestiwn. Yr ofn mawr yr oedd gennyf i ar y pryd—byddwn yn gyrru heibio iddo ac yn meddwl, 'A fyddwn ni'n gweld y pen trwm yma am lawer yn hwy?' Mae'n dal yno. Mae cynlluniau ar y gweill iddo ffynnu yn y dyfodol. Pam? Oherwydd y gwaith a'r arian a gyfrannwyd gennym ni fel Llywodraeth.

Y gwir amdani yw ein bod ni wedi rhoi arian ar y bwrdd, gwnaethom weithio’n galed gyda Tata, fe’u hargyhoeddwyd gennym am ddyfodol Port Talbot, ac ymatebodd y gweithlu. Oherwydd i’r gweithlu wneud yn siŵr bod y colledion a oedd yn digwydd yn y gwaith yn cael eu troi er gwell, yn gyflym iawn, iawn i sefyllfa, erbyn hyn, lle mae'r gwaith yn gwneud elw. Mae hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y gweithlu—nid oedd yn hawdd, a bu’n rhaid gwneud aberthau, rydym ni’n gwybod, fel y gronfa bensiwn. Ond, gan weithio gyda'r gweithlu a gweithio gyda Tata, rydym ni’n gwybod, gyda'r gyd-fenter a gyhoeddwyd, yr addewid a wnaed i ni yw nad oes unrhyw effaith ar swyddi yng Nghymru, dim effaith ar safleoedd Cymru. Rydym ni wedi dod yn bell mewn blwyddyn a hanner, ac mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed dros bobl Aberafan.

Trydydd Croesiad ar Draws y Fenai

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad ar draws y Fenai? (OAQ51176)[W]

Wel, rydym ni’n dal ar amser i gwblhau’r prosiect yn 2022. Mae yna drafodaethau yn cymryd lle—maen nhw wedi bod yn cymryd lle ers blynyddoedd—gyda’r Grid Cenedlaethol ynglŷn â pha ffordd y dylem ni ei ystyried er mwyn sicrhau bod y croesiad yn cael ei adeiladu.

Diolch am hynny. Rydw i’n falch ein bod ni, yn ein cytundeb cyn y gyllideb, wedi gallu sicrhau arian i ddatblygu’r prosiect yma, sydd ei angen nid dim ond oherwydd rhwystredigaeth bod pobl yn gorfod oedi cyn croesi’r bont yn aml ond er mwyn adeiladu gwytnwch i’r croesiad rhwng Môn a’r tir mawr. Ar 15 Mehefin y llynedd, rydw i’n meddwl, fe wnes i’r achos yn y Siambr yma dros drio sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn gwneud cyfraniad helaeth tuag at y bont yn hytrach na gwastraffu arian—o bosib £100 miliwn, £200 miliwn—yn rhoi twnnel o dan y Fenai. Rŵan bod y dyddiad cwblhau, yn hytrach na’r dyddiad dechrau, yn 2021-22, a allwn ni gymryd hynny fel arwydd bod Grid Cenedlaethol wedi cytuno i wneud y cyfraniad yma erbyn hyn, ac mai chwilio am fodel o sut i wireddu hynny ydy hynny? A hefyd, a allaf i gael sicrwydd y bydd ymgynghori ar y cynllun yn digwydd mor eang ac mor llawn â phosib efo’r etholwyr yn Ynys Môn?

Wel, yr ateb yw, yn blwmp ac yn blaen, ‘ddim eto’. Nid oes yna unrhyw fath o gytundeb eto. Fe wnes i godi hwn gyda’r grid tua dwy neu dair blynedd yn ôl. Bryd hynny, roeddem ni eisiau ystyried gyda nhw ym mha ffordd y gallem ni ddatblygu croesiad i’r Fenai. Bryd hynny, nid oedd diddordeb gyda nhw. Maen nhw wedi newid ers hynny, ond nid ydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gallu dweud, ‘Mae yna gytundeb’. Erbyn mis Mai, wrth gwrs, y flwyddyn nesaf, byddwn ni yn cyhoeddi beth yw’r llwybr rydym ni eisiau ei gymryd er mwyn i’r bont gael ei hadeiladu. Erbyn hynny, wrth gwrs—yn bell cyn hynny, gobeithio—byddwn ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gwybod beth yw sefyllfa’r grid, a pha fath o gyfraniad maen nhw’n fodlon ei roi i’r bont.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad busnes.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad cyn bo hir am ymgynghoriadau ar deithiau bws rhatach, ac mae'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau i 30 munud. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd i’w ganfod ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Un, yn gyntaf oll, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Rhyngwladol yr wythnos hon, rwy’n credu y byddai'n briodol i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi datganiad ynghylch sut yn union y mae'r Llywodraeth yn rhyngweithio â busnesau ac yn gweithio i ddarparu atebion iechyd meddwl yn y gymuned, yn enwedig therapïau trafod, sef maes sydd â llawer iawn o botensial heb ei wireddu yma yng Nghymru. Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael, yn y gweithle, lle y graddnodwyd bod colled o £3 biliwn i economi Cymru, a cholled o £7 biliwn yn gyffredinol i gynnyrch economaidd Cymru, sy’n broblem ariannol enfawr y mae angen rhoi sylw iddi, a, gyda gwell darpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gallem wneud cam mawr ymlaen i gefnogi pobl sy'n wynebu'r her ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos.

Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn am ddatganiad arno yw un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, ynghylch deddfwriaeth iechyd anifeiliaid, ac yn arbennig cymhwysedd y Cynulliad i allu deddfu yn y maes penodol hwn. Rhoddodd y Prif Weinidog rywfaint o obaith ei bod yn eithaf posibl y gallai’r Llywodraeth adolygu ac atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth yn y maes penodol hwn, yn enwedig o ran y gosb sydd ar gael i'r llysoedd yma yng Nghymru pan fo materion lles anifeiliaid yn dod ger eu bron. Gofynnwyd cwestiwn i'm cydweithiwr Paul Davies ym mis Rhagfyr y llynedd a oedd yn awgrymu bod elfen braidd yn amwys, os caf i ei roi felly, o ran y cyngor a gafodd Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd yn nodi nad oeddem mewn sefyllfa o gymhwysedd yn y maes penodol hwn. Y dystiolaeth a'r wybodaeth a gawsom gan gyfreithwyr y Cynulliad yw bod cymhwysedd yn gorwedd yn llwyr gyda Llywodraeth Cymru ac y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn—felly, pe gallem gael datganiad i egluro'n union pa bwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fel y gellir datblygu ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ac y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd cynnydd ar faterion lles anifeiliaid yma yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. Yn gyntaf, ydy, mae'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol heddiw, ac mae'n gyfle i ni gydnabod nid yn unig bod hyn yn broblem i un o bob pedwar ohonom, o ran anghenion a materion iechyd meddwl, ond hoffwn unwaith eto achub ar y cyfle hwn i ddweud, o safbwynt Llywodraeth Cymru, bod cefnogi pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn un o'n prif flaenoriaethau. Rydym yn dal i wario mwy o arian ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru, a bydd y cyllid yn cynyddu gan £20 miliwn i fwy na £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Fe wnaethoch grybwyll bod therapïau trafod yn bwynt allweddol. Mae yn cynnwys buddsoddiad o £3 miliwn mewn therapïau seicolegol i oedolion. Mae'n rhoi cyfle inni, unwaith eto, ganolbwyntio ar strategaethau iechyd yn y gweithle, sydd, wrth gwrs, yn nodwedd allweddol heddiw. Felly, diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna.

O ran eich ail bwynt, yn amlwg, yn dilyn ymlaen o’r cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd a materion gwledig yn ymwybodol iawn ac yn ystyriol o’r materion a godwyd yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ysgrifennu atoch ynglŷn â’r materion pwysig hynny a godwyd gennych chi er mwyn egluro’r cymhwysedd fel y gofynnwyd.

Mae arweinydd y tŷ yn ymwybodol iawn o fy niddordeb mewn buddsoddi i arbed. Mewn gwirionedd, mae hi siŵr o fod wedi bod ar goll heb fy nghwestiynau dros y 18 mis diwethaf fwy neu lai. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar lwyddiant arloesi i arbed, a sut y mae arloesi llwyddiannus yn cael ei hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru ac ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru.

Ydw, Mike Hedges, rwyf yn gweld eisiau y nifer o gwestiynau a gefais ynglŷn â buddsoddi i arbed, sydd bellach yn datblygu i’r gronfa arloesi i arbed, ond rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, mae'r gronfa arloesi i arbed yn cefnogi wyth prosiect trwy gyfnod ymchwil a datblygu’r fenter ar hyn o bryd, a nod y cam hwn yw profi a gwella syniadau fel y gallwn asesu pa mor addas yw pob prosiect ar gyfer cymorth ariannol.

Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn i gael diweddariad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai o ran yr hyn sy’n digwydd yn y sector preifat ynglŷn â deunydd cyfansawdd alwminiwm. Rwy’n gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am hyn oherwydd, ers ei ddiweddariad blaenorol, rwyf wedi bod yn siarad â phreswylwyr Prospect Place yng Nghaerdydd unwaith eto, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad yw pobl yn gallu cael morgeisi er mwyn iddyn nhw allu gwerthu eu fflatiau ymlaen erbyn hyn, hyd yn oed fflatiau nad oes ganddynt ddeunydd cyfansawdd alwminiwm ynghlwm wrthynt. A, phan fydd Bellway yn gwerthu ei fflat olaf i'r preswylwyr, sy'n mynd i greu cwmni cyfyngedig preswylwyr, mae’n bosibl y bydd yn atebol am y costau ar gyfer unrhyw newidiadau y byddai angen eu gwneud o ganlyniad i'r ymchwiliad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod hyn yn rhywwbeth y dylem ni bryderu amdano, oherwydd gallai hyn olygu swm sylweddol iawn o arian y bydd yn rhaid i bobl ei dalu, felly tybed a allwn i gael naill ai ddatganiad neu rywfaint o eglurder ynglŷn â'r hyn y bydd yn rhaid i’r rhai hynny yn y sector tai preifat ddioddef yn y dyfodol.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ymateb naill ai'n ysgrifenedig neu yn wir mewn datganiad i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ar y cynnydd o ran gwahardd rhyddhau llusernau awyr o dir cyhoeddus yng Nghymru? Mae llusernau awyr yn beryglus iawn i anifeiliaid ac yn achosi anafiadau a marwolaethau. Gallant hefyd achosi tân, difrodi cynefinoedd, a dinistrio cartrefi a phorthiant anifeiliaid. Yn ôl yn 2013, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at gynghorau yn eu hannog i wahardd rhyddhau llusernau awyr ar eu tir, ac mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu sicrhau mai ef fydd y deunawfed awdurdod lleol yng Nghymru i wahardd rhyddhau llusernau awyr o’i dir a helpu i hyrwyddo dewisiadau amgen. A allwn ni gael datganiad ynghylch pa un a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwaharddiad ledled Cymru ar ryddhau llusernau awyr o dir cyhoeddus os gwelwch yn dda?

Diolch i'r Aelod am godi mater sydd, yn wir, fel y dywedwch, wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad hwn ac i sylw Llywodraeth Cymru. Mae'n galonogol clywed bod Casnewydd͏͏—i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Casnewydd fel awdurdod lleol; y deunawfed awdurdod o’r 22, felly mae mwy i ddod. Mae hyn yn rhywbeth sydd—bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mi wn, wedi clywed y cwestiwn hwn a gallwn ystyried beth arall y gellir ei wneud er mwyn unwaith eto gwneud y pwyntiau pwysig yr ydych chi wedi'u gwneud o ran effaith andwyol rhyddhau llusernau awyr. Wrth gwrs, efallai y bydd angen llythyr arall i awdurdodau, fel y gwnaethom o'r blaen.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd mewn ymateb i’r ffigurau sydd wedi cael eu datgelu bod chwarter holl welyau ysbytai cymunedol gogledd Cymru nawr â chleifion dementia ynddyn nhw—bron hanner y gwelyau yn Eryri, yng Nghaernarfon, 14 yn Nhreffynnon a 18 yn Llandudno? Mae'r oedi wrth drosglwyddo gofal wedi arwain at gleifion yn aros, mewn rhai achosion, hyd 145 diwrnod—bron i bum mis—cyn cael eu rhyddhau, er enghraifft, o ysbyty’r Waun, 102 o ddyddiau yn ysbyty Deeside, 120 ym Mryn Beryl, 107 yn Alltwen. Mae’r gwaith gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru wedi dangos fod y sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y 12 mis diwethaf, a ddim wedi gwella. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig ers dwy flynedd a hanner. O gofio hynny, rydw i angen esboniad ynglŷn ag a ydy’r Llywodraeth nawr yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa gwbl annerbyniol yma.

Could I also ask that the First Minister conveys to Chris Coleman our gratitude for everything that he and his management team have achieved over the last five years? We’ll all, of course, fully understand if he chooses to pursue a new challenge, but could the First Minister reiterate to him that it is the overwhelming view of Welsh players, Welsh fans and the Welsh nation that he should remain as Welsh manager and lead us through the qualification games for Euro 2020?

Diolch yn fawr, Llyr. O ran eich pwynt pwysig cyntaf am y ffigurau diweddaraf ar y defnydd o welyau ysbyty yn y gogledd, mae hwn yn fater y byddaf yn ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon. Dim ond o ran y ffigurau ar oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael effaith o ran y defnydd a wneir o’r gwelyau hynny, rydym mewn sefyllfa dda yn gyffredinol o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, ac mae’r ffaith ein bod yn gweld gwelliannau, yn galonogol iawn. Rydym yn cydnabod ein bod hefyd yn wynebu symud tuag at bwysau'r gaeaf, sydd hefyd yn cynyddu, o ran pobl fregus a’r henoed, yn ogystal â salwch meddwl, a'r materion hynny sy'n codi.

O ran achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal sy’n ymwneud â chyfnod cyfrifiad Awst 2017, mae’n dangos cynnydd o 10 i gyrraedd cyfanswm o 422, ond mae'r cyfanswm yn 7 y cant yn is na’r adeg hon y llynedd, ac mae'n is nag unrhyw un o'r cyfansymiau a adroddwyd yn y ddwy flynedd flaenorol. Yn amlwg, mae hynny yn cynnwys pob rhan o Gymru, ac felly mae angen inni ystyried materion rhanbarthol hefyd. Ond rwyf yn credu bod angen inni gofio bod rhai o'r mentrau, er enghraifft y gronfa gofal canolraddol, a oedd yn rhywbeth a ddeilliodd o gytundebau a thrafodaethau ar y gyllideb i raddau helaeth, wedi cael effaith enfawr i alluogi trosglwyddiadau gofal priodol, a bydd £60 miliwn yn y gyllideb ar gyfer helpu hyn eto.

O ran eich ail bwynt, rwy'n credu yr hoffem ni i gyd ymuno â chi, nid y Prif Weinidog yn unig, ond pob un ohonom yma gyda’n gilydd– Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud 'clywch, clywch'—ynglŷn â Chris Coleman. Ei uniondeb, ei ymrwymiad—rwy'n credu y byddem ni i gyd yn awyddus i fynegi hyn heddiw, a'n diolch oddi wrth y Cynulliad cyfan, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, a dymuno'n dda iddo. Nid ydym eisiau ei golli, ond rydym yn dymuno'n dda iddo.

Mae tlodi, yn ei ffurfiau amrywiol, yn llechwraidd ac yn gymhleth a gall fod yn wanychol. Tybed a allwn ni gael datganiad ar y duedd sy’n datblygu erbyn hyn o ran tlodi misglwyf, sef un o'r ffurfiau o dlodi a welir yn ein cymunedau. Mae'r mater yn cael sylw mewn ysgolion erbyn hyn, sy'n dod yn fwy ymwybodol bod rhai o'r myfyrwyr ifanc sy’n mynychu’r ysgol yn methu â darparu nwyddau misglwyf ar gyfer eu hunain. Mae yna rai mentrau ardderchog sy’n ceisio mynd i'r afael â hyn, rhai a arweinir gan awdurdodau lleol yn ogystal â mentrau llawr gwlad hefyd. Mae Wings Cymru, grŵp o fenywod yn fy etholaeth i, dan arweiniad Gemma Hartnoll, wedi mynd ati i godi arian ac maen nhw bellach yn gweithio mewn tair ysgol yn fy etholaeth i, ac yn gobeithio ehangu hynny i fwy o ysgolion. Ar hyn o bryd mae Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori ynghylch pa un a oes cynllun y gellir ei gyflwyno o fewn ei hardal ai peidio, ond mae hon bellach yn broblem gyffredin. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod banciau bwyd—nid yn unig banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, ond hefyd banciau bwyd eglwysi, elusennau a chymunedau­ lleol —bellach yn cynnwys nwyddau misglwyf yn rheolaidd yn rhan o'r pecynnau y maen nhw’n eu cynnig i deuluoedd. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ac annog ymdrechion gwirfoddol ar lawr gwlad ac ymdrechion awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thlodi misglwyf?

Diolch i Huw Irranca-Davies am dynnu ein sylw at y mentrau hollbwysig hyn, a mentrau lleol ydyn nhw yn aml iawn, sy’n dysgu oddi wrth ei gilydd. Fe wnaethoch chi sôn am Wings Cymru, sydd unwaith eto yn dylanwadu ar gymunedau ac awdurdodau cyfagos. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, nid yn unig fel Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector, yn ogystal â llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd, eisiau ei ystyried, o ran mynd i'r afael â'r hyn sy'n anghyfiawn—hynny yw, yn 2017, rydym yn sôn am dlodi misglwyf. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi tynnu sylw'r Cynulliad at y pwynt hwn heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, am yr adolygiad o drefniadau cyflog a'r cynllun gwerthuso swydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn amlwg, mae hwn yn sefydliad sydd wedi'i sefydlu ers dros dair blynedd erbyn hyn, ond deallaf fod yr adolygiad o'r graddfeydd cyflog a chynlluniau gwerthuso swyddi’r sefydliadau etifeddol—Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru—yn dal i fod heb ei gwblhau, ac o ganlyniad, ceir rhai unigolion nad ydynt yn cael eu gwobrwyo yn y ffordd y dylen nhw gael eu gwobrwyo am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf ar ôl siarad â chyd-Aelodau sydd ar feinciau Ceidwadwyr Cymru, mae yna rai sydd mewn gwirionedd wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd bod y gwaith yn parhau. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet am ba bryd y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, fel nad yw pobl ar eu colled yn ariannol, yn enwedig ar drothwy’r trydydd Nadolig ar ôl sefydlu'r sefydliad hwn?

Wel, rydych chi wedi tynnu sylw at fater sy'n fater gweithredol yn bennaf, ond mae'n bwysig eich bod chi wedi tynnu sylw ato heddiw, Darren Millar, o ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

A gawn ni ddatganiad o fewn amser y Llywodraeth ar ddilysrwydd yr ymyriad diweddar gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y drafodaeth ynglŷn â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg? Mae’r ombwdsmon wedi cyhoeddi ei ymateb ei hun i’r Papur Gwyn—yr unig un sy’n ymddangos ar eu gwefan nhw—sydd yn gwneud yr achos dros symud swyddogaethau cwynion o’r comisiynydd i’w swyddfa fe. Mae nifer ohonom yn anghytuno’n chwyrn â’r awgrym hwnnw a chefais i, a phobl eraill, ein hunain yn y sefyllfa ryfedd o ddadlau yr wythnos diwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r ombwdsman ynglŷn â mater o bolisi.

A fyddai’r rheolydd busnes yn cytuno nad lle’r ombwdsman, sydd i fod yn wrthrychol a thu fas i’r system ddemocrataidd, yw cymryd safbwynt ynglŷn â mater o bolisi? Ac a gaf i yn benodol gyfeirio’r rheolydd busnes at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru? Mae’n dweud:

‘Mae Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cytuno i beidio ag adolygu gwaith ei gilydd gan eu bod yn ystyried eu hunain yn gyrff o statws cyfartal.’

Er hynny, mae’r ombwdsmon yn ei ymateb yn dweud bod nifer o’r cwynion sydd wedi mynd i Gomisiynydd y Gymraeg, yn ei eiriau ef, yn ddibwys. Oherwydd pa mor ddifrifol yw’r cwestiwn yma—oherwydd mae’n codi cwestiwn ymddiriedaeth yng ngwrthrychedd swyddfa’r ombwdsmon—a wnaiff y Llywodraeth ymchwilio i mewn i’r mater yma ar fyrder a dod â datganiad gerbron y Cynulliad?

Gallaf yn bendant sicrhau'r Aelod y byddaf yn gofyn am gyngor ar y sefyllfa hon, ac yna gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y materion a pha gamau gweithredu perthnasol y gellid eu cymryd.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth—neu ddatganiad gan y Llywodraeth ac, rwy’n credu, dadl y Llywodraeth, mewn gwirionedd? Yn gyntaf oll soniaf am y datganiad. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod heddiw yn ddiwrnod pwysig ar gyfer ein cyd-Senedd yng Nghatalonia, oherwydd mae ganddynt benderfyniad pwysig iawn i’w wneud wrth ymateb i refferendwm a gafodd ei amharu gan heddlu Sbaen gydag ymddygiad ymosodol a threisgar, ac mae'n rhaid iddyn nhw nawr gynllunio ffordd ymlaen. Bu'n destun pryder mawr nad yw gwladwriaeth Sbaen wedi ceisio dechrau trafodaeth, nac unrhyw drafodaeth ystyrlon. Yr unig beth a wnaeth oedd bygwth a defnyddio cyfraith gyfansoddiadol i atal pobl Catalonia rhag mynegi eu hewyllys yn rhydd. Mae’n destun cryn bryder, rwy'n credu, bod sefyllfa'r Llywodraeth Lafur hon wedi bod mor ddiymadferth wrth ymateb i hynny, o gofio hanes y brigadau rhyngwladol o Aberdâr i Albacete, fel y mae'r llyfr yn ei ddweud wrthym. Yn y cyd-destun hwn, credaf mai dim ond aros am rai briwsion o fwrdd y Canghellor a wnaeth hi. Dyna sy'n gwneud hyn hyd yn oed yn fwy annymunol. Ymddengys ei fod yn cael ei wneud ar gyfer rhyw realpolitik tymor byr iawn yn hytrach nag ar gyfer golwg hirdymor ar sut yr ydym ni’n datblygu yn y cyffredindeb Ewropeaidd o ran ein hunaniaeth ranbarthol, ein hunaniaeth genedlaethol a mynegiant ewyllys rydd.

Ymyrraeth arwyddocaol yr wythnos hon fu'r ymyrraeth gan yr Elders, fel y’u gelwir—rhyw chwech uwch-lysgenhad rhyngwladol dan arweiniad Kofi Annan—sydd wedi galw am gymrodeddu a chyfryngu rhyngwladol yn yr amgylchiadau hyn. Mae nifer o wledydd Ewropeaidd wedi cefnogi hyn. Mae Cymru, sydd â chysylltiad cryf â phenrhyn Sbaen, yn parhau i fod yn wlad sydd â’i Llywodraeth a'i Senedd ei hun, ac mae'r Senedd wedi dweud rhywbeth am hyn ond nid yw'r Llywodraeth wedi dweud unrhyw beth. A gaf i annog arweinydd y tŷ, er ei bod hi braidd yn hwyr erbyn hyn, i wneud datganiad cyhoeddus o gefnogaeth i’r angen am gydweithrediad a chyfryngu rhyngwladol a’r angen i wladwriaeth Sbaen gael trafodaeth ystyrlon fel y gellir datrys y sefyllfa yng Nghatalonia yn unol ag ewyllys pobl Catalonia?

Yr ail fater yr hoffwn i ei godi—ac rwy’n credu mai dyma ble y bydd dadl yn addas—yw o ran y ddau Bapur Gwyn a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth y DU ar dollau ac ar fasnach. Maen nhw’n llawn rhethreg; nid oes unrhyw gynnig ynddynt mewn gwirionedd. Mae'n anodd iawn gwybod beth y byddan nhw’n ei olygu i ni, ond rwy’n credu y byddai dadl yn amser y Llywodraeth yn caniatáu inni archwilio sut y gallwn ni gyfrannu at yr hyn fydd y trefniadau tollau a masnach wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn fy marn i, nid oes llawer i ymgysylltu ag ef. Rwy'n hynod o bryderus bod y papur tollau yn sôn am y ffin tirol rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, sy’n iawn, ond nid yw'n sôn am y ffin forol sydd gennym rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Felly, os ydym ni’n mynd i weld trefniadau tollau yn dod i rym, mae angen inni ddeall beth y mae hynny'n ei olygu i'n porthladdoedd ni, o Gaergybi i lawr i Abergwaun yn arbennig, ac wrth gwrs, Doc Penfro. Nid oes unrhyw fanylion yno, ond mae yna—roeddwn i ar fin dweud awgrym 'diddorol'—nid yw’n ddiddorol iawn, ond mae yna awgrym na allwn ni gael unrhyw gytundeb, y gallem ni yn sydyn fod mewn sefyllfa lle y byddem yn gorfod trefnu trefniadau tollau. Ac eto rydym ni i gyd yn gwybod nad oes unrhyw beth wedi’i baratoi, nad oes unrhyw dir wedi'i neilltuo, nad oes unrhyw adeiladau ar gyfer gwneud hyn: ceir pethau ymarferol iawn nad ydynt yn cael sylw yn y papurau hyn, ac eto dywedir wrthym y gallai hyn fod yn bosibilrwydd real iawn. Felly, credaf y byddai dadl yn ein galluogi ni i archwilio rhai o'r materion hyn, ond rwy'n awyddus iawn, os yw hynny’n bosibl, heddiw, pe byddai Arweinydd y Tŷ yn gallu cadarnhau: pa fewnbwn a fu gan Lywodraeth Cymru i’r ddau bapur hyn? Yn arbennig, dywed y papur masnach y bydd mewnbwn gan weinyddiaethau datganoledig—rwy'n credu bod y defnydd o'r gair 'gweinyddiaethau' yn hytrach na 'Llywodraethau' yn dangos yn glir beth y maen nhw’n ei feddwl ohonom ni—ond serch hynny, mae'n dweud ‘mewnbwn’. Felly beth yw'r mewnbwn hwnnw? A ydym ni’n gallu deall beth yw'r broses barhaus ar gyfer y drafodaeth ynghylch y ddau bapur, ac rwy’n tybio eu bod nhw bellach yn ffurfio asgwrn cefn yr hyn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud, er bod y cig ar yr esgyrn yn denau iawn, iawn?

Diolch yn fawr, Simon Thomas. O ran eich pwynt cyntaf: pwynt pwysig iawn o ran y ffaith ein bod wedi bod dros yr wythnosau diwethaf—mewn gwirionedd, rwy'n credu, ers dechrau sesiwn yr hydref hwn; mae hwn wedi bod yn fater a godwyd â mi, rwy’n credu, yn yr wythnos gynnar honno. Roedden nhw’n gwestiynau amserol yr ymatebwyd ar sail ein swyddogaeth, ein perthynas a'n pwerau o ran y sefyllfa sy'n datblygu yng Nghatalonia. Ac fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o ymateb cryf iawn y Prif Weinidog ar y diwrnod hwnnw o drais ac ymyrraeth annerbyniol. Rwy'n credu bod eich pwynt ynglŷn â beth sy'n digwydd yn awr yn briodol iawn o ran y cydweithio, y cydweithrediad a'r cyfryngu sydd angen digwydd, ac mae'n bwysig eich bod chi wedi mynegi hynny i ni eto heddiw.

O ran eich ail bwynt: bydd, rwy'n siŵr y bydd yn amserol inni ystyried cael dadl yn awr oherwydd bod llawer iawn wedi digwydd. Rwy'n deall na fu gennym unrhyw fewnbwn i’r ddau Bapur Gwyn—fel Llywodraeth—a gyhoeddwyd. Rydym wedi bod yn adeiladol iawn ac wrth gwrs, rydym wedi gweithio'n agos iawn, ac yn wir gyda Phlaid Cymru hefyd, o ran dylanwadu ar y broses o sicrhau'r Brexit gorau posibl i Gymru, ac wedi gweithio'n agos â Llywodraeth yr Alban i sicrhau nad yw'r Bil ymadael yn tanseilio'r cyfansoddiad a'r setliad datganoli. Rwy'n credu y bydd cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop yn Llundain yfory ac y bydd y Prif Weinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn bresennol yno. Felly, rwy'n credu ei bod yn amserol inni ystyried sut y gallwn wedyn gael dadl ac ystyried diweddariad ar y cynnydd a'n mewnbwn ni, ac, yn wir, craffu ar draws y Siambr.

Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod sydd yr ochr arall i’r Siambr yn y fan yna, Llyr, wedi achub y blaen arnaf o ran llongyfarch Chris Coleman a thîm Cymru, ond roeddwn i hefyd eisiau llongyfarch yr elusen wych, Gôl, sy'n cyflawni gwaith anhygoel. Mae'r cefnogwyr yn mynd i gartrefi plant amddifad ac maen nhw’n codi gwen ar wynebau cymaint o blant, ac maen nhw’n genhadon gwych dros Gymru. Felly, tybed a fydd modd i ni gael rhywbeth yn ysgrifenedig gan y Llywodraeth yn llongyfarch Gôl ar y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud ym mhob ymgyrch.

Yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano yw datganiad ar y cod ymddygiad ar gyfer y Prif Weinidog. Ysgrifennais at y Prif Weinidog bythefnos yn ôl, yn gofyn iddo gyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod ymddygiad, o dan god y gweinidogion, ac nid wyf wedi clywed dim: dim ond tawelwch llwyr. Y pwynt pwysig yw: a yw cod ymddygiad yn y Siambr hon yn berthnasol i bob un Aelod—ydy neu nac ydy? Os ydyw, rwyf wedi gwneud honiadau—. Dylai'r Prif Weinidog ddilyn esiampl Alex Salmond a chyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion. Felly, hoffwn ddatganiad ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at waith da Gôl. Rwy'n credu bod mater y cod ymddygiad yn berthnasol iddo ef yn ogystal ag i eraill yn y Siambr hon.

3. 3. Datganiad: Ymgynghoriadau ar Deithio Rhatach ar Fysiau

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ymgynghoriadau ar deithio rhatach ar fysiau. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Ar 22 Awst, ysgrifennais at yr Aelodau am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori a ddaeth i ben ar 31 Mai ynghylch dyfodol gwasanaethau bws lleol yng Nghymru. Fel yr esboniais yn fy llythyr, roedd yr ymgynghoriad yn rhan o'r drafodaeth barhaus rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau ac, yn bwysicaf oll, grwpiau o deithwyr ynghylch sut y gallwn ni ddylunio a darparu gwasanaethau bws lleol yn well i bobl Cymru.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 31 Mai, ac mae'r adroddiad canlyniad cryno a rannais gyda'r Aelodau ym mis Awst bellach wedi'i rannu â rhanddeiliaid ac wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar, nid yn unig am gefnogaeth Aelodau yn y Siambr hon yn ystod y ddadl ar 28 Chwefror, ond hefyd yn ddiolchgar i'r 81 o sefydliadau ac unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Er fy mod i’n falch ei bod yn ymddangos bod y prif ganlyniadau’n gefnogol dros ben i'm cynigion amlinellol i wella gwasanaethau bysiau lleol yn y tymor hirach, rwy'n ymwybodol bod gan rai gweithredwyr bysiau amheuon o hyd ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno masnachfraint bws yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i weithio gydag awdurdodau lleol a gyda gweithredwyr bysiau yng Nghymru i lunio cynigion manwl yr wyf yn gobeithio ymgynghori arnynt yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy'n awyddus i roi sylw i'r pryderon hyn i’n galluogi i gyflawni ein hamcanion a rennir ar y cyd yn well, a nodais hynny yn y ddogfen ymgynghori. Bydd y gweithdai sydd ar y gweill ar gyfer yr hydref hwn, ar ôl yr uwchgynhadledd bysiau a gynhaliwyd ym mis Ionawr, yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu ein syniadau am y materion pwysig iawn hyn.

I grynhoi, ein nodau hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau lleol yw cynyddu nifer y bobl o bob oedran sy'n defnyddio bysiau i gymudo bob dydd i'r gwaith, ar gyfer addysg, i fynd i gael gwasanaethau iechyd ac at ddibenion hamdden; sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol hygyrch o ansawdd da ar gael i deithwyr fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru sy'n cynnwys cymysgedd o drafnidiaeth leol sy'n ymatebol i'r galw neu wedi'i drefnu, ynghyd â gwasanaethau bws cyflym pellter hir sy'n ategu gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr; sefydlu cynhyrchion tocynnau integredig cenedlaethol a rhanbarthol i alluogi cludiant amlfodd di-dor gwell; galluogi gweithredwyr bysiau i gyfrannu at ddatblygu a chyflenwi systemau trafnidiaeth gyhoeddus metro’r de-ddwyrain a metro’r gogledd-ddwyrain; bargen deg i deithwyr, staff, gweithredwyr bysiau a'r sector cyhoeddus; ymagwedd at osod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ariannol hyfyw, yn gynaliadwy ac yn dryloyw, gan gynnwys talu gweithredwyr yn briodol a threfniadau cyllido cyhoeddus sefydlog yn gyffredinol sy'n darparu gwerth am arian ac yn ategu nodweddion gorau'r sector bysiau masnachol; ac, yn olaf, cyfrannu at ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol drwy ymdrin â pharthau o ansawdd aer gwael, gan gefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus ar yr un pryd.

Yn fy marn i, mae’r amcanion hyn yn gyson â'r nodau yr ydym yn ceisio eu cyflawni yn rhan o'n strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb’. Er bod y ddogfen ymgynghori polisi a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth ynglŷn â chynllunio a chyflwyno gwasanaethau bws lleol yng Nghymru yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol a'i weithrediad yng Nghymru, ni ofynnwyd cwestiynau penodol bryd hynny ynglŷn â'r cynllun a’i weithrediad yn y dyfodol. Fodd bynnag, cymerodd rhai ymatebwyr y cyfle i ddweud wrthym beth oedd eu meddyliau ynghylch y cynllun. Un awgrym a gyflwynwyd gan weithredwr bysiau mawr oedd y dylai Llywodraeth Cymru reoli gweinyddu ac ad-daliadau teithio rhatach yn uniongyrchol. Hefyd, cytunodd 88 y cant o'r ymatebwyr a fynegodd ffafriaeth y dylai fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i sefydlu cynlluniau tocynnau rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r ymatebion hyn yn awgrymu bod pobl yn dymuno i Lywodraeth Cymru gymryd rhan fwy gweithgar wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol, ac felly, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw ynghylch y trefniadau rheoli ar gyfer gweinyddu tocynnau consesiynol gorfodol. Mae angen inni archwilio a ddylai cyfrifoldeb am y cynllun hwn barhau gyda'n hawdurdodau lleol ynteu a ddylai Llywodraeth Cymru weithredu'r cynllun hwn i Gymru gyfan yn ganolog. Ond rwy'n awyddus inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau sylfaenol am yr hyn y mae'r cynllun yn ei ddarparu i ddeiliaid cardiau teithio rhatach yn y dyfodol.

Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac yn mynd yn fwy egnïol, felly mae angen ystyried yn ofalus sut yr ydym yn cynnal y cynllun pwysig hwn yn y dyfodol. Yn seiliedig ar y rhagolygon cyfredol, gallwn yn rhesymol ddisgwyl i nifer y bobl 60 oed a hŷn sy'n gymwys i deithio ar fysiau am ddim gynyddu i tua 880,000 erbyn 2021, a chodi i dros filiwn erbyn 2030. Felly, mae gennym heriau y mae angen ymdrin â nhw i sicrhau bod ein hymrwymiad yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ond gadewch imi fod yn hollol glir: mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i gynnal teithio ar fysiau am ddim i bobl hŷn, pobl anabl a rhai cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu yn ddisyflyd. Llywodraeth Cymru sy’n talu’r rhan fwyaf o gost y cynllun Cymru gyfan—tua £60 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd—ac mae awdurdodau lleol yn talu tua £10 miliwn. Hefyd, Llywodraeth Cymru sy’n ariannu'r gost o gadw a dadansoddi data’r cardiau teithio rhatach, a gedwir gan drydydd parti ar ran pob un o’r 22 awdurdod lleol. Mae'r wybodaeth a gasglwyd am ddefnyddio’r cardiau teithio rhatach yn awgrymu bod tua dwy ran o dair o'r cardiau a gyhoeddir bob blwyddyn yn cael eu defnyddio, a’r gweddill yn cael eu cadw rhag ofn y bydd eu hangen.

Ar hyn o bryd mae mwy na 750,000 o’r cardiau mewn cylchrediad. Yn ystod 2015-16, rhoddwyd tua 35,000 o gardiau i bobl a oedd yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am y tro cyntaf, a rhoddwyd tua 25,000 o gardiau eraill i gymryd lle hen gardiau. Mae tua 10 y cant o’r cardiau teithio rhatach sydd mewn cylchrediad wedi’u rhoi i bobl anabl a phobl anabl sydd â chymdeithion er mwyn gwella mynediad at ein rhwydwaith bysiau lleol i helpu pobl i fyw'n annibynnol. Ond er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn hwy ac yn bell i’r dyfodol, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ein cynllun yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio.

Yn ogystal â phobl hŷn a phobl anabl, mae'r cynllun hefyd yn darparu teithio am ddim ar fysiau i gyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i ddiwallu anghenion ein cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu, y mae arnom ddyled fawr iawn iddynt. Ar y sail hon, rydym yn ceisio barn ynglŷn â’r ffordd orau o gadw eu hawl i deithio ar fysiau am ddim yng Nghymru yn y dyfodol.

Wrth gynnal yr ymgynghoriad hwn, rwyf hefyd yn argyhoeddedig y dylem ystyried grwpiau eraill a allai elwa o deithio ar fysiau’n rhatach fel rhan o gyfraniad trafnidiaeth at ein strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’. Ym mis Chwefror, ymestynnais ein cynllun disgownt teithio ar fysiau i bobl ifanc am flwyddyn arall, a heddiw rwyf hefyd yn falch o ddechrau ymgynghori ar sut y gallwn ddatblygu a chyflwyno ein cynllun ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau i ddiwallu eu hanghenion teithio dyddiol. Bydd yr ymgynghoriad yn annog ac yn ystyried barn unigolion sydd â diddordeb, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru, a bydd yn edrych ar y ffordd orau o hwyluso defnydd bws ymhlith pobl ifanc.

Bydd ymgynghoriad y cynllun prisiau gostyngol i bobl ifanc yn para tan 4 Ionawr 2018. Ers mis Ebrill 2017, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio, cynllun Llywodraeth Cymru sy'n rhoi disgownt i bobl ifanc wrth deithio ar fysiau yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y cynllun hwn i'r defnyddwyr hynny, ond hoffwn annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau drwy ddatblygu cynllun newydd i roi disgownt i bobl ifanc sy’n teithio ar fysiau. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd llawer o bobl ifanc sydd heb brofiad o deithio ar fysiau heblaw am y daith ddyddiol i'r ysgol ac yn ôl yn manteisio ar gynllun gwell i roi cynnig ar y bws am resymau eraill ac, ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw wir yn rhoi cynnig deniadol.

Mae'r cynllun hwn ar hyn o bryd yn seiliedig ar gytundeb gwirfoddol rhwng cwmnïau bysiau lleol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol. Mae angen inni ystyried a ellid darparu'r cynllun hwn yn well fel rhan o gynllun a gyflwynir ar yr un telerau â'r cynllun pobl hŷn—cynllun gorfodol, yn hytrach nag un gwirfoddol. Dylem hefyd ystyried anghenion y bobl lawer sy'n gwirfoddoli yn ein cymunedau. Dylem fynd ati i ystyried a oes cyfleoedd i ehangu'r cynlluniau presennol i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymdeithas yn well.

Credaf fod teithio ar fysiau am ddim yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru, gan alluogi mwy o bobl i aros yn egnïol am gyfnod hwy, ac felly'n hyrwyddo byw'n annibynnol. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynllun gorfodol ar agor tan 12 Ionawr ac, yn seiliedig ar y canlyniadau, y byddaf, unwaith eto, yn eu cyhoeddi, byddwn yn ystyried y ffordd orau inni gynnal ein cynllun teithio ar fysiau am ddim yn y dyfodol mewn hinsawdd o boblogaeth sy'n heneiddio a phwysau cynyddol ar yr adnoddau sydd ar gael inni. Rwy'n meddwl bod heddiw’n gyfle gwych i ystyried y ddau gynllun hyn a’r ffordd orau o’u cyflwyno yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw, lle rydych chi'n dweud eich bod wedi ymrwymo, wrth gwrs, i'r egwyddorion sydd wedi tanategu'r cynllun teithio ar fysiau am ddim? Mae hwn wedi bod yn bolisi blaenllaw, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru, ac roedd eich rhagflaenydd Mrs Hart yn arbennig o ymroddedig i egwyddor cymhwyster cyffredinol. Felly, onid yw'n fater o beidio â gwneud dim os nad oes angen? Byddai gennyf ddiddordeb yn y rhesymeg dros unrhyw newid arfaethedig, fel yr ydych wedi’i restru heddiw.

Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet beth mae ei adran wedi'i wneud i wella'r ffordd y caiff y cynllun presennol ei gynnal, a pha arbedion cost y gellir eu gwneud o ran gweinyddu'r cynllun. A yw'r adran wedi gwneud unrhyw waith i sicrhau eu bod yn sicr bod pawb sydd â cherdyn yn gymwys i gael un? Beth sy'n cael ei wneud i ddysgu o arfer gorau hefyd o ran y cynllun bathodyn glas, sy'n cynnal asesiad o gymhwyster?

Fel yr wyf i’n ei ddeall, yn 2019 byddwn yn symud tuag at beiriannau tocynnau electronig a bydd cardiau newydd yn cael eu cyhoeddi bryd hynny hefyd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried a fydd hyn yn gyfle i dynhau'r cynllun a defnyddio technoleg newydd i helpu i’w weinyddu, gan leihau cost gweinyddu a defnyddio technoleg olion bysedd o bosibl i atal camddefnyddio'r cynllun?

O ran y trefniadau teithio rhatach ar gyfer pobl ifanc a'r cynllun olynol i fyngherdynteithio, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn dilyn yn ôl troed fy mhlaid wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein cynigion wedi cael cefnogaeth frwd. Mae pobl ifanc yn tueddu i fod â’r cyflogau isaf a'r premiymau yswiriant ceir uchaf, ac mae costau teithio’n rhwystr sylweddol rhag swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol. Felly, hoffwn i bobl ifanc elwa o'r un consesiynau teithio ag a gynigir i bobl dros 60 oed Cymru. Mae'n amlwg, os caiff pobl ifanc eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, eu bod yn cadw ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn nes ymlaen yn eu bywydau. Felly, a allwch chi roi unrhyw ymrwymiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd unrhyw gynllun yn y dyfodol sy’n cael ei ymestyn i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn cynnwys yr un lefel o degwch, os hoffech chi, ag i’r rhai hynny sydd dros 60 oed?

Mae hefyd yn hanfodol bod y cynllun hwn yn cael ei ariannu'n briodol er mwyn bod yn llwyddiant. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn awyddus iawn i siarad am gynigion sydd wedi'u costio'n llawn. Felly, ar y sail honno, a gaf i ofyn: pa arian fydd ynghlwm wrth eich cynllun arfaethedig, gan nad yw'n glir o'r gyllideb ddrafft?

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r cynllun fyngherdynteithio wedi cael eu disgrifio fel bod yn siomedig. Rwy'n sylwi yn eich dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw bod 15,000 o bobl ifanc wedi gwneud cais am y cynllun fyngherdynteithio. A ydych chi’n hapus â'r nifer hwnnw, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod unrhyw gynllun a ddaw ar ei ôl yn cael ei farchnata'n iawn mewn ffordd sy'n annog llawer o bobl ifanc i’w ddefnyddio?

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae manylion am rai o'r cwestiynau hynny wedi'u cynnwys yn y dogfennau, ond rwy'n sylweddoli na fydd yr Aelod wedi cael cyfle eto i bori’n ddwfn drwy’r dogfennau ymgynghori hynny, felly rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu ateb pob un o'ch ymholiadau yma heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn ymdrin â'r pwynt olaf a gododd yr Aelod, sydd, yn fy marn i, yn bwynt teg iawn, sef bod llai o bobl ifanc wedi defnyddio fyngherdynteithio nag y byddwn wedi'i ddymuno, a llai, rwy’n meddwl, nag y byddai unrhyw un yn y Siambr hon wedi’i ddymuno. Am y rheswm hwnnw, mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cytuno i ymgymryd ag ymarfer marchnata newydd i gynyddu nifer y bobl sy'n gwneud cais am fyngherdynteithio ac yn cael un. Yn wir, rwy'n meddwl bod y niferoedd bellach wedi codi o 15,000 i fwy na 17,000. Hoffwn weld y niferoedd hynny'n cynyddu ymhellach.

Rwy’n mynd i droi’n ôl at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc mewn eiliad, os caf i, ond rwy’n mynd i droi yn gyntaf at y manteision a gynigir i bobl hŷn. Mae’r system yn gweithio, ond, fel yr amlinellais, byddwn ni’n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl 60 oed a hŷn wrth inni agosáu at ran olaf y degawd nesaf, ac felly mae angen inni sicrhau heddiw bod y cynllun pwysig hwn yn addas ar gyfer y dyfodol. Byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud ystyried y trefniadau presennol ar gyfer pobl â chardiau teithio rhatach. Ni fyddem, dan unrhyw amgylchiadau, yn eu cymryd yn ôl gan ddeiliaid cardiau presennol, ond mae angen inni ymgynghori ar gynaliadwyedd y model presennol. Ond, fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae’n gweithio, ond mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol gan ystyried, wrth gwrs, y ffaith nad oes diwedd i gyni o hyd a bod pwysau ar gyllidebau ar draws y Llywodraeth ac ar sail y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio ei roi ar waith, yn ogystal ag ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill yn y DU ar yr un mater hwn.

Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â sut yr ydym wedi dysgu gwersi, sut yr ydym wedi gwella'r monitro, sut y gallwn wella'r broses o gyflawni, ac rwy’n meddwl bod hynny'n arwyddocaol iawn, iawn, oherwydd mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio'r cardiau wedi arwain at, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, erlyniadau. Credir bod hynny, yn ei dro, wedi cyfrannu at ostyngiad yng nghyfanswm nifer y siwrneiau teithwyr a wnaethpwyd yn flynyddol o tua 108 miliwn heb fod yn bell yn ôl i tua 101 miliwn y llynedd. Yn amlwg, mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio cynlluniau tocynnau teithio rhatach ac ad-daliadau ar eu cyfer yn arwain at lai o gamddefnyddio'r cynllun, ond rydym yn monitro'n barhaus ac yn gwneud hapwiriadau i sicrhau nad oes neb yn cam-drin y system.

Mae'r Aelod hefyd yn gofyn am newidiadau y gellid eu gwneud i sicrhau bod gwell monitro yn cael ei wneud o ran gweinyddu'r cardiau teithio rhatach yn y lle cyntaf. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn, ond, wrth gwrs, un o'r cwestiynau yr wyf i’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad hwn yw a ddylai Llywodraeth Cymru ddod yn awdurdod consesiynol. Byddai angen newid deddfwriaeth i wneud hynny, ond mae'n bosibl y byddai'n ein galluogi i wneud arbedion ond hefyd i fonitro'n well pwy sy'n cael y cardiau a phwy sy'n defnyddio'r cardiau, ar ba adeg o'r dydd ac yn y blaen. Byddai hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio technoleg newydd yn gyson ledled Cymru yn y modd y defnyddir y cerdyn teithio. Mae'r Aelod yn nodi nifer o dechnolegau newydd a rhai sy'n datblygu a allai olygu bod y ffordd yr ydym yn talu am gardiau teithio am ddim neu'n mynd ati i’w defnyddio’n newid yn sylweddol yn y blynyddoedd sydd i ddod, a phe bai Trafnidiaeth i Gymru yn gallu datblygu system tocynnau integredig, amlfodd ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel awdurdod consesiynol, rwy'n hyderus y byddem yn gallu manteisio ar yr holl dechnolegau sy'n datblygu er mwyn gwella profiadau teithwyr.

Rwy'n mynd i droi at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc yn awr—yn benodol am deithio rhatach i bobl ifanc. Ddylwn i sôn, fodd bynnag, mai un dewis arall y dylid ei ystyried fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn lle bod llywodraeth Cymru yn dod yn awdurdod consesiynol, yw sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol a allai, yn rhanbarthol, reoli'r cynllun hwn. O ran tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc, rwy’n croesawu cyfraniad y Ceidwadwyr Cymreig at y ddadl hon. Rwy'n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn sicr wedi helpu i’w godi’n uwch ar yr agenda newyddion, ond byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr Cymreig i drin y ffigurau’n fwy cywir yn y dyfodol. Y rheswm pam rwy'n dweud hyn yw bod £25 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y cynllun, cynllun y maen nhw’n awgrymu y byddai’n cynnig teithio am ddim ar fysiau a thraean oddi ar brisiau rheilffordd i 350,000 o bobl.

Rwy’n mynd i drin y ffigurau’n gyflym ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 i 17,000 o ddeiliaid cardiau. Byddan nhw’n cymryd tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac, felly, o gwmpas 100 o deithiau teithwyr gan bob deiliad cerdyn. Ar y sail honno—ac rwy’n meddwl y byddai'n gwbl resymol disgwyl i lawer mwy o bobl ifanc ddefnyddio tocyn am ddim na thocyn gostyngol—byddem yn disgwyl i'r 350,000 o bobl ifanc wneud o gwmpas 35 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Ac felly, os yw pris tocyn i oedolion—gadewch inni ddweud ein bod yn ei ddyfalu, sef yr union beth rwy'n credu y gwnaeth y Ceidwadwyr efallai—yn £2, byddai hynny’n agos i oddeutu £70 miliwn i ad-dalu teithiau bws, ac mae hynny cyn i chi gyrraedd cost ad-dalu traean o'r costau teithio ar y rheilffyrdd.

Felly, rwy’n edrych ymlaen at gael manylion llawn am sut y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu darparu cynnig ar y lefel honno am ddim ond £25 miliwn, ond, fel y dywedais, rwy'n croesawu eu cyfraniad at y ddadl bwysig iawn, iawn hon. Rwyf hefyd yn cytuno â Russell George pan fo’n dweud bod angen inni ysgogi newid ymddygiadol er mwyn datgarboneiddio’r amgylchedd, er mwyn ymdrin â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac i sicrhau bod gennym boblogaeth fwy egnïol yn gorfforol. Rwy'n meddwl bod gan gynlluniau teithio rhatach i bobl ifanc swyddogaeth hanfodol yn hynny o beth.

Mae gen i lawer o bobl, ac mae pobl yn ychwanegu at y rhestr bob yn dipyn, felly, bydd yn rhaid imi ofyn ichi fod ychydig yn fwy cryno â'ch atebion. Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad am yr ymgynghoriad am gynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol yng Nghymru? Yn amlwg, mae Plaid Cymru'n llwyr gefnogi'r polisi tocynnau teithio rhatach, a gyflwynwyd gan fy nghyn gyd-Weinidog ac yna Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, Ieuan Wyn Jones. Nawr, i’r grwpiau hyn sy'n agored i niwed—yr henoed, yr anabl a rhai cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu—mae'r cynllun teithio rhatach hwn yn hanfodol o ran ymdrin ag arunigedd a chynyddu ymadweithio cymdeithasol, ymdrin ag unigrwydd ac arunigedd, sef pwnc adolygiad gan y pwyllgor iechyd yr wyf i’n ei gadeirio ar hyn o bryd. Yn sicr, bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu, yn y modd cryfaf posibl, unrhyw ymgais i ostwng neu leihau'r ddarpariaeth yn y maes hwn.

Felly, rwy’n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond a wnewch chi ddweud yn bendant y prynhawn yma na fydd unrhyw ostyngiad yn y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael i bawb sy'n gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd? Yn ychwanegol at hynny, a wnewch chi hefyd ddiystyru’n bendant y posibilrwydd o godi'r trothwy o ran pryd fydd pobl hŷn yn gymwys ar gyfer y cynllun yn y dyfodol? Byddwn hefyd yn cefnogi unrhyw symudiadau i ymestyn y cynllun disgownt teithio ar fysiau i bobl ifanc ymhellach. Rwy'n ymwybodol o'r cyfyngiadau amser, felly ni wnaf drafod hynny, ond mae manteision clir i’r cynllun hwn, fel y nodwyd eisoes, o ran teithio i bobl ifanc.

A allech chi egluro, yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried Trafnidiaeth Cymru fel y corff cenedlaethol a fydd yn gweinyddu cynllun bysiau Cymru gyfan yn lle'r awdurdodau lleol? Diolch yn fawr.

Yr ateb yw: ydy, mae hynny'n bosibilrwydd. O ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynglŷn â phobl ifanc, gallaf ddweud bod yr ymgynghoriad nid yn unig yn gofyn a ddylem ni ymestyn y system bresennol o ran lefel y gostyngiad a gynigir, ond hefyd o ran oedran y rhai a allai fod yn gymwys. Mae hefyd yn cynnwys cwestiynau ynghylch cymhwyster gofalwyr a phrentisiaid, efallai. Hefyd, mae'n edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i'r rheini sy'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sy'n ddi-waith ac yn defnyddio cynllun cerdyn teithio’r Ganolfan Byd Gwaith.

Nawr, rwy'n awyddus i sicrhau y gall pobl hŷn yng Nghymru, ar hyn o bryd, fod yn sicr o wybod na fydd y ddarpariaeth bresennol yn lleihau. Mae'r ymgynghoriad yr ydym yn ei gychwyn yn ymwneud â threfniadau yn y dyfodol yng ngoleuni'r pwysau hynny y soniais amdanynt wrth Russell George. Rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol—ei fod yn fforddiadwy ar gyfer y dyfodol—a bod y gwasanaethau bysiau lleol eu hunain yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyna pam yr wyf i’n arbennig o awyddus i gasglu barn a chasglu tystiolaeth, drwy'r ddau ymgynghoriad hyn, cyn cynhyrchu nifer o gynigion y gwanwyn nesaf am sut y gallwn foderneiddio a chryfhau trafnidiaeth gyhoeddus leol ar draws ein cymunedau.

A gaf i, yn gyntaf oll, groesawu'r datganiad? A gaf i dynnu sylw at ddau beth? Pwysigrwydd deialog ynglŷn â gwasanaethau bysiau—yn rhy aml, mae gwasanaethau bysiau’n cael eu cynnal gan gwmnïau bysiau heb ddigon o ddeialog â defnyddwyr ac eraill. Yr ail beth: pwysigrwydd cyfnewidfeydd bws-rheilffyrdd. Nid wyf yn meddwl y gallwch chi or-amcangyfrif pa mor boblogaidd yw teithio rhatach. Mae cefnogaeth enfawr iddo yn fy etholaeth i. Mae caniatáu i bobl oedrannus a phobl anabl fynd allan, cwrdd ag eraill, neu, fel sy'n digwydd yn ystod yr haf yn Abertawe, mynd i’r Mwmbwls, yn cael effaith enfawr ar iechyd pobl. A dweud y gwir, mae'n debyg y byddai’n well cyfrif hyn fel gwariant ar iechyd oherwydd mae’n rhoi sylw i beth ofnadwy sy'n effeithio ar lawer iawn o bobl hŷn ac anabl: unigrwydd. Ac mae unrhyw beth sy'n ymosod ar hynny yn fudd iechyd mawr.

Mae gen i ddau gwestiwn ichi. Rydych chi'n sôn am weinyddu ar sail Cymru gyfan. Pam ddim? Mae llawer iawn o deithiau rhatach yn mynd ar draws ffiniau: i Abertawe a Chaerdydd yn y de, a byddwn yn dyfalu, er nad wyf i’n adnabod y gogledd yn dda iawn, i mewn i nifer o'r cyrchfannau ar arfordir y gogledd. Hefyd, o ran pobl ifanc 16 i 19, rwy'n meddwl y byddent yn elwa'n fawr o'r cynllun fyngherdynteithio, nid yn unig ar gyfer addysg, ac mewn ysgolion a cholegau, ond hefyd ar gyfer gweithgareddau hamdden ac, unwaith eto, i fynd allan a chwrdd â ffrindiau. Dydw i ddim yn meddwl mai dim ond yr henoed sy’n gallu dioddef o unigrwydd. Gallwch fod yn unig yn sownd gartref fel plentyn 17 mlwydd oed o flaen eich cyfrifiadur, lle mai dim ond drwy gyfrwng picselau rydych chi’n rhyngweithio’n gymdeithasol. Beth yw anfantais cynnal y cynllun fyngherdynteithio ar yr un sail orfodol yn union â'r cynllun tocynnau teithio rhatach?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiynau? Byddwn yn cytuno bod y fenter hon wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf Llywodraeth Cymru, ac nid oes amheuaeth gennyf ei bod wedi cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, gan ei bod wedi lleihau’r pwysau ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG a'r system ofal. Mae'r Aelod yn hollol gywir, fel yr oedd Aelodau eraill yn gywir, i dynnu sylw at werth y cynllun penodol hwn o ran herio unigrwydd ac arunigedd, ac mae hyn yn rhywbeth nad yw'n effeithio ar bobl hŷn yn unig—mae Mike Hedges yn iawn—a dyna pam yr wyf yn awyddus iawn i ofyn am farn ar sut y gallwn ymestyn y cynllun ar gyfer pobl ifanc.

Mae'n ffaith drist—ac rwy’n gwybod bod nifer o Aelodau yn bresennol yn y cyflwyniad pan gawsom wybod am hyn gan Gynghrair Mersey Dee—yn y rhan honno o Gymru, ac mae'n adlewyrchu gweddill Cymru hefyd, rwy'n ofni, na all 20 y cant o bobl ifanc fynd i gyfweliadau swydd oherwydd na allant fforddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y cyfweliad. Mae hynny'n ofnadwy. Rhaid i hynny newid. Rydym yn benderfynol o newid hynny a gwneud teithio cyhoeddus yn brofiad rhyddhaol sy'n galluogi pobl i gael swyddi’n nes at eu cartrefi, neu os oes rhaid iddynt deithio ymhellach o'r cartref, mewn amgylcheddau cyfforddus a dibynadwy. Felly, byddwn yn croesawu ymgysylltiad yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn y ddau ymgynghoriad, yn enwedig o ran y cwestiwn sut y gallwn wella'r cynnig i bobl ifanc a chynifer o bobl sy'n gwneud cymaint o les i'n gwlad—gwirfoddolwyr, er enghraifft. Iawn, rwy’n derbyn, ar y cyfan, eich bod yn fwy tebygol o weld pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch nag o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn gwirfoddoli, ond fy marn i yw, os ydych chi'n gwirfoddoli, y dylem ni roi rhywbeth yn ôl ichi. Dylem ni barchu a chydnabod yr hyn yr ydych yn ei roi i gymdeithas, ac felly rwy'n croesawu'n fawr sylwadau'r Aelodau am y cwestiwn penodol hwnnw.

O ran newid yn syml o gynllun gwirfoddol i gynllun statudol, dyna un o'r cwestiynau—pa un a ddylem ni wneud hynny—ond rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau gymryd y cyfle wrth ateb y cwestiwn hwnnw i edrych ar y posibilrwydd o ymestyn a newid a gwella'r cynllun ehangach, oherwydd, ar hyn o bryd, er bod traean oddi ar bris tocyn teithwyr i oedolion yn ddeniadol i lawer o bobl ifanc, i eraill nid yw'n ddigon, ac mae angen inni wneud mwy i ryddhau pobl ifanc o ddiweithdra, o unigrwydd ac o arunigedd, a sicrhau ein bod yn gweld y math o newid modd yr wyf i o’r farn y mae deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni ei gyflawni.

O ran gweinyddu cenedlaethol, byddwn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod bod hwn yn rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn ddifrifol. Dyna pam mae adran benodol yn yr ymgynghoriad ynghylch yr union fater hwn, ond, fel y dywedais, byddai angen newid deddfwriaethol, tra bo’r posibilrwydd o sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn un na fyddai angen newid deddfwriaethol. Rwy’n hapus i newid y gyfraith os mai dyna farn y mwyafrif o bobl a fydd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, oherwydd, yn y bôn, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod y system yn iawn i deithwyr.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r cyfle i sicrhau y gallwn ddarparu'r cynllun pwysig tocynnau teithio bws rhatach, ond nid wyf yn croesawu'r awgrym gan Blaid Cymru y dylem gadw'r system bresennol fel ag y mae hi. Rwy'n ddeiliad cerdyn bws dewisol, ond mae'n ymddangos i mi yn gwbl bosibl na fyddai angen tocyn bws rhatach ar bobl 60 oed sy’n gweithio, ac mae’n ymddangos yn gwbl anghywir bod rhaid i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu i fynd ar y bws i'r ysgol. Felly, rwy'n falch iawn o'ch ymrwymiad i gynyddu’r niferoedd sy'n cymudo i'r gwaith a'r ysgol, ond mewn man fel Caerdydd, mae'n wirioneddol anodd mynd ar y bws ar yr adeg pan fydd pawb eisiau cyrraedd yr ysgol a’r gwaith ar yr un pryd. Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech chi'n ystyried cyfyngu cardiau bws i, dywedwn ni, ar ôl 09:30, mewn ardaloedd lle mae mwy o alw na darpariaeth.

Wedi ichi sôn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a llygredd aer, sy’n rhywbeth y mae angen inni ymdrin ag ef, tybed a fyddech chi’n ystyried cymhellion i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl ddefnyddio'r bws pan fyddant yn cymudo, er enghraifft, drwy wneud parcio drwy'r dydd yng nghanol dinasoedd yn llawer mwy cosbol fel bod pobl yn dewis gwneud y peth iawn ac, yn yr un modd, wrth edrych arno o ran—. Mae parcio am ddim mewn ysbytai i bobl sydd â char, ond dim tocynnau bws am ddim i bobl sydd angen teithio i'r ysbyty, yn ymddangos ychydig yn annheg. Rwy'n credu bod angen inni ailystyried hynny, gan ein bod ni'n gwobrwyo pobl am wneud rhywbeth yr ydym yn ceisio argyhoeddi pobl, am resymau iechyd yr amgylchedd, i beidio â’i wneud. Felly, rwy’n croesawu’r ymgynghoriad ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniad.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniadau a'i chwestiynau? Rwy'n meddwl ei bod hi'n gwneud pwyntiau diddorol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan yr Aelod. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod angen inni ddiogelu pobl sydd â’r cardiau presennol, ond rwyf hefyd yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn diogelu’r ddarpariaeth benodol hon ar gyfer y dyfodol yn wyneb yr heriau yr wyf nawr wedi'u nodi ar sawl achlysur.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol hefyd ein bod ni'n edrych ar ddefnyddio mwy ar wasanaethau bysiau i alluogi pobl sy'n wynebu anawsterau wrth gysylltu â nwyddau, gwasanaethau, ac, at ddibenion hamdden, sy'n cael trafferth cysylltu â'u ffrindiau a'u teulu. Wrth wneud hynny, mae angen inni sicrhau ein bod yn nodi'r grwpiau hynny sydd wedi'u hymylu ar hyn o bryd. Dynododd yr Aelod un grŵp penodol, sef plant pobl nad ydynt yn gallu fforddio talu am drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y byddem yn dymuno cael barn arno.

Ond rwyf hefyd yn credu bod angen inni edrych ar feysydd gwasanaeth eraill sydd heb eu cynnwys yn y cynllun ar hyn o bryd, er enghraifft, dulliau trafnidiaeth eraill, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes bysiau. Felly, er enghraifft, a oes angen inni edrych ar ymestyn y cynllun i gynnwys gwasanaethau tacsis?

Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn archwilio swyddogaeth gweinyddu a chost gweinyddu'r cardiau. Ar hyn o bryd, er y gallech fod yn gymwys i gael cerdyn, efallai nad ydych yn defnyddio'r cerdyn, ac felly y cwestiwn fydd: a ddylai fod cyfraniad at weinyddu'r cerdyn? Mae'n costio tua £3 y cerdyn inni ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn teg i’w ofyn, yn fy marn i.

Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn deg gofyn a ddylai fod cyfyngiadau ar eu defnyddio o ran amser. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod tua chwarter y siwrneiau'n cael eu gwneud yn yr amser teithio brig, ac, felly, dri chwarter—y mwyafrif helaeth—o deithiau’n cael eu gwneud y tu allan i'r cyfnodau brig hynny. Yn y bôn, mae'r cynllun wedi cynnal gwasanaethau bws y tu allan i oriau teithio brig. Mae hynny wedi bod yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod llawer o gwmnïau bysiau wedi gallu dal i fynd yn yr amgylchedd heriol iawn y maent yn gweithredu ynddo.

Gallai awdurdodau lleol, rwy’n credu, pe byddent yn dymuno, archwilio'r strwythur codi tâl ar gyfer meysydd parcio, ac yn fy marn i, os ydym ni am gael newid moddol fel bod pobl yn gadael eu ceir ac yn defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gyfnewidfeydd. Mae hwn yn gwestiwn a ofynnodd Mike Hedges. Rwy'n meddwl y gall y metro a'r canolfannau trafnidiaeth y gallwn eu creu drwy gyfrwng y metro ddarparu'r cyfleoedd hynny i bobl barcio eu ceir, mynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau lleol neu ar reilffyrdd, ac rwy'n meddwl bod rhaid i hynny fod yn iawn i’r amgylchedd. Mae hynny'n dda i unigolion, a fydd yn dod yn fwy corfforol egnïol, ac mae hefyd yn fwy cynhyrchiol i'r gymdeithas oherwydd bydd gennym fwy o gysylltiad â'n gilydd. Ni allwn fyw mewn cymdeithas lle mae ein cysylltiad i gyd yn rhithwir. Mae'n gwbl hanfodol i'n lles ein bod ni'n cysylltu â'n gilydd yn fwy rheolaidd yn bersonol yn hytrach na dim ond yn rhithwir.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Wrth gwrs, rydyn ni yn UKIP yn llwyr gefnogi polisi trafnidiaeth am ddim Llywodraeth Cymru. Yn wir, roedd hwn yn un o ddim ond dau o bolisïau Llafur sy'n ymddangos eu bod wedi glynu ym meddyliau etholwyr Cymru yn ystod y blynyddoedd lawer yr wyf i wedi eu treulio’n ymgyrchu; y llall, wrth gwrs, yw presgripsiynau am ddim—polisi, gyda llaw, nad yw UKIP yn ei gefnogi, oherwydd ein bod yn credu ei fod yn arwain at lawer iawn o gamddefnyddio a gwastraffu.

O ran materion y cerdyn bws, a gaf i roi gair o rybudd? Nid yw cardiau bws, am ddim neu beidio, yn ddefnyddiol os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn gyffredinol. Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r broses ymgynghori ar drafnidiaeth bysiau i edrych ar ffyrdd arloesol o helpu pobl sy'n cael cardiau bws am ddim i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl yr angen. Efallai y dylem edrych ar unedau cludiant bach a allai ymateb i geisiadau i godi defnyddwyr o’u cartrefi. Fel y nodwyd mewn dadleuon blaenorol, yn rhy aml rydym yn gweld bysiau mawr â lle i 50 a mwy o deithwyr yn rhedeg gyda dim ond un neu ddau o deithwyr. Ac rwy’n nodi awgrym ardderchog Jenny Rathbone yma y dylai pobl â chardiau bws a all eu defnyddio y tu allan i oriau brig wneud hynny. Yn amlwg, rydych chi wedi sôn am hynny eich hun. Ond, o gofio bod y Cynulliad hwn wedi ymrwymo i bolisi gwrth-lygredd, does bosib nad yw bysiau mawr â pheiriannau diesel mawr, sydd bron yn wag, yn gwbl groes i fodloni unrhyw dargedau lleihad. Siawns na fyddai unedau cludiant bach, lleol, hyd yn oed yn gallu rhedeg ar drydan, a fyddai'n codi ac yn cludo yn ôl yr angen, yn llawer gwell ac yn fwy cost-effeithiol na'r dulliau trafnidiaeth a ddefnyddir nawr. Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i archwilio'r dewisiadau eraill hyn.

Diolch i David Rowlands am ei gyfraniadau ac am ei gwestiynau. Rwy'n falch bod UKIP yn cefnogi'r tocynnau bws am ddim i bobl hŷn. Mae'n anffodus nad ydynt yn cefnogi presgripsiynau am ddim i bawb. Byddai rhoi'r gorau i bresgripsiynau am ddim, yn fy marn i, yn gyfystyr â threth ar salwch, ond nid fy lle i yw ateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.

O ran y pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, efallai y bydd yn cofio, yn ôl ym mis Ionawr, fy mod wedi lansio cynllun busnes pum pwynt, ac roedd hynny mewn ymateb i fethiant nifer o gwmnïau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys efallai y mwyaf adnabyddus, bysiau GHA. Rhan o'r cynllun pum pwynt oedd y byddai Busnes Cymru yn cynorthwyo gweithredwyr bysiau lleol i ganfod modelau busnes mwy cynaliadwy, ac mae rhan o'r gwaith hwnnw, yn ei dro, wedi canfod bod angen defnyddio cerbydau mewn modd mwy deallus. Nid dim ond David Rowlands yw hyn. Mae Lee Waters hefyd wedi sôn wrthyf ar nifer o achlysuron am yr angen i weithredwyr bysiau ddefnyddio cerbydau llai, lle maent yn gwybod mai dim ond cerbyd bach fydd ei angen ar daith. Nid yw'n dda i'r amgylchedd, nid yw'n dda i gynaliadwyedd cwmnïau bysiau, eu bod yn defnyddio cerbydau drud na fyddant byth yn llawn o ran y teithwyr sydd arnynt. Hoffwn weld y gwaith hwnnw gan Busnes Cymru yn parhau, a hoffwn weld mwy o gwmnïau bysiau lleol yn cael cymorth gan gynghorwyr arbenigol.

Rwy’n credu, o ran y gwasanaethau sydd ar gael, bod yr Aelod yn codi pwynt diddorol iawn, sef y byddwn yn y dyfodol yn gweld newid eithaf radical yn y ffordd y mae'r cyhoedd yn symud o gwmpas. Gyda dyfodiad Uber a gweithredwyr eraill, mae'n debyg y byddwn yn gweld nifer cynyddol o weithredwyr yn cynnig math o drafnidiaeth gyhoeddus a fyddai wedi cael ei ddarparu gan gwmnïau bysiau bach yn draddodiadol, ond y gellid eu darparu gan gerbydau cysylltiedig, ac felly mae'n gwbl bosibl y byddwn yn gweld tacsis yn gweithredu'n fwy fel bysiau bach. Mae hynny wedyn yn cyflwyno her i'r gweithredwyr bysiau presennol, ond mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i'm swyddogion weithio drwyddo ac archwilio ei botensial yn y dyfodol. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb a allai gael y cardiau hyn, ac am y rheswm hwnnw, rwyf wedi cynnwys cwestiwn yn yr ymgynghoriad i ofyn a ydym ni’n ymestyn y cerdyn cydymaith i ddau o bobl. Ar hyn o bryd mae'n berthnasol i un unigolyn yn unig sy'n helpu pobl anabl, ond rwy’n meddwl bod angen inni ofyn a oes angen dau gydymaith.

Diolch. Mae gen i nifer o siaradwyr ar ôl, felly rwy’n mynd i ofyn am gyflwyniad byr iawn i'ch un cwestiwn, ac yna, felly, caiff y pedwar ohonoch gyfle. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i eisiau canolbwyntio ar y mater o deithio ar fysys yng nghefn gwlad. Un peth sy’n fy ngwylltio i’n fwy na dim byd wrth imi deithio o gwmpas gorllewin a chanolbarth Cymru yw gweld bysys cyhoeddus yn teithio o gwmpas yn costio miloedd ar filoedd o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus, a thro ar ôl tro rydw i’n gweld nesaf i neb yn eu defnyddio nhw. Mae’r mater o sicrhau bod hen bobl, yn enwedig, yn gallu teithio o gwmpas ein cefn gwlad ni yn hynod o bwysig, ond fy ngofid i yw ein bod ni’n gosod atebion sy’n briodol ar gyfer ein dinasoedd a’n trefi ar gefn gwlad Cymru, lle byddai system sy’n fwy hyblyg ag sy’n ymateb i ofynion yr unigolyn yn fwy perthnasol.

Mae’n od: rydw i’n cytuno â David Rowlands— ar y mater yma yn unig, jest fel ein bod ni’n glir. Ond, rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni hefyd feddwl am y dyfodol, ac am geir trydanol. Rydw i’n meddwl bod yna chwyldro ar fin dod, ac mae hwn yn fater lle mae’n rhaid i ni gymryd hwn o ddifri. Wrth gwrs bod yn rhaid i ni gael bysys i gymryd myfyrwyr, er enghraifft, i goleg neu’r ysgol, ond mae’r mater yma o gael system hyblyg lle, er enghraifft, fydd e ddim yn hir nawr cyn ein bod ni’n cael ceir trydanol heb yrwyr—. Yng nghefn gwlad Cymru, fel ym mhob ardal arall, bydd angen i’r ceir yma ddarllen y ffyrdd. Ni allant darllen y ffyrdd os nad oes paent gwyn ar ochr pob ffordd. Mae yna ffyrdd mewn ardaloedd anghysbell lle nad yw hynny’n bodoli. Rydw i’n meddwl y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri am sut y mae hynny’n mynd i ddigwydd yng nghefn gwlad Cymru, a’n bod ni’n symud tuag at system lle rydym ni’n defnyddio ceir trydanol heb yrwyr yn ein ardaloedd cefn gwlad. Dyna yr hoffwn i ei glywed oddi wrthych chi heddiw.

A yw hynny’n rhywbeth yr ydych yn fodlon ystyried? Diolch.

A gaf i ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn? Rwy'n meddwl ei bod hi'n codi maes astudio cyffrous iawn, iawn ar hyn o bryd, ac mae'n un o'r meysydd gwaith y bydd y parc technoleg modurol yng Nglynebwy yn eu harchwilio, oherwydd rwy’n meddwl bod arbenigwyr nawr—yn wir, mae Paul Davies, o fewn Diwydiant Cymru, sydd wedi nodi'r angen i sicrhau nad yw cerbydau awtonomaidd cysylltiedig yn cael eu cynhyrchu ar gyfer defnydd trefol yn unig, ond y cânt eu gweithgynhyrchu ar gyfer defnydd gwledig hefyd. Am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth ddatblygu rhaglen awtonomaidd wledig, oherwydd gallai fod yn rhywbeth y gallem ei werthu, ei gyflwyno, diogelu hawliau deallusol ar ei gyfer, a’i gyflwyno ledled y DU ac, yn wir, mewn llawer o'r byd gorllewinol a rhannau mwy gwledig o rannau llai datblygedig o'r byd. Felly, rwy’n meddwl, wrth inni ddarganfod potensial cerbydau trydan, ein bod hefyd yn cofio y bydd cerbydau cysylltiedig a cherbydau awtonomaidd yn arwain, efallai, at lai o bobl yn bod yn berchen ar eu cerbydau eu hunain, ond yn hurio, yn rhentu cerbydau awtonomaidd sy’n eu gyrru eu hunain. Gallai hynny yn ei dro arwain at lai o geir wedi’u parcio ar dramwyfeydd ac ochr ffyrdd a mwy o geir yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd am fwy o'r amser ar ein ffyrdd. Mae'n cynnig cyfleoedd enfawr, heriau mawr, ond mae'n rhywbeth y mae fy adran, fy swyddogion yn edrych arno ar hyn o bryd, yn sicr gan ystyried nid yn unig sut y gallwn ddatrys problemau a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer ardaloedd trefol, ond sut y gallwn ni fodelu atebion pwrpasol i ardaloedd mwy gwledig hefyd.

Rwy’n sylwi, ym Mryste, y gall rhywun ifanc deithio o fewn y parth mewnol drwy'r dydd, gymaint ag y maen nhw ei eisiau, ar fws, am gwpl o bunnoedd. Dyna drafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, go iawn. Rwy'n gwybod mai canol dinas ydyw, ond dim ond £1.50 yn fwy ydyw i fynd i'r cylch allanol hefyd. Nawr, dyna'r sefyllfa ddelfrydol. Felly, a gaf i awgrymu, os edrychwch ar Ben-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, fel canolbwynt—mae pobl yn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr o'r Cymoedd ac allan mor bell â Chaerdydd ac allan mor bell i'r gorllewin ag Abertawe—bod yna gylch mewnol ac allanol delfrydol? Dylai fod yn fforddiadwy, dim mwy na phunt neu ddwy, i unrhyw un sy'n ei ddefnyddio, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad o ddweud wrth bobl ifanc, ‘Cewch chi ei gael am ddim’, os gallwn ni fforddio gwneud hynny, oherwydd nid dim ond mater o ddysgu’r arfer iddynt yw hyn, ond, os ydych chi'n gweithio mewn swydd ran-amser, achlysurol, lle, yn wir, maen nhw'n talu'r isafswm cyflog neu lai ichi, maen nhw'n eich galw chi i mewn pan fyddan nhw eisiau, bod gofyn iddynt dalu pumpunt i deithio yno ac yn ôl y tu hwnt i bob rheswm i'w wneud yn fforddiadwy. Felly, dyna syniad perffaith o ddefnyddio canolfan, ac mae angen parthau arnom y gall pobl eu deall yn eu hardaloedd teithio i weithio.

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau? Mae’n codi pwynt pwysig iawn—mae'n cael sylw ar dudalen 12 y ddogfen ymgynghori, y cwestiwn a ddylid cyflwyno cynllun cyfraniad defnyddiwr. Nawr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld ym Mryste ac mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Mae Merseytravel yn gweithredu cynllun y credaf ei fod yn codi £1.50 ar bobl ifanc am docyn sengl, ond £2 am 'unrhyw le, unrhyw bryd' yn ystod y diwrnod penodol. Mae hyn yn hynod bwysig wrth inni ystyried cost teithio cyhoeddus i bobl ifanc. Felly, mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â'r cynllun cyfraniadau posibl, ac rydym yn gofyn a fyddai cost unrhyw daith—ac y byddwn yn ei seilio o bosibl, nid ar barthau yn unig, ond 'unrhyw bryd, unrhyw le', fel y gallai fod yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag i ardaloedd trefol. Rydym wedi nodi efallai 20c, 50c, £1 neu £2—neu gall ymgyngoreion ymateb gyda'u swm awgrymedig eu hunain. Ond rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ei gymryd o ddifrif a’i ystyried yn ofalus iawn.

Roeddech yn holi Russell George yn gynharach ynglŷn â chostiadau’r Ceidwadwyr ar gyfer y cynnig trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf, a gallaf eich sicrhau eu bod wedi’u costio'n llawn, a byddwn yn hapus iawn i rannu'r costiadau hynny â chi. Yn wir, mae'r costiadau hynny’n seiliedig ar gostiadau'r cynllun tocynnau teithio rhatach presennol a’u cymhwyso'n uniongyrchol i bobl ifanc a fyddai'n gymwys. Hoffwn ofyn dau gwestiwn, os caf i, yn fyr iawn. Mae'r cyntaf yn ymwneud—[Torri ar draws.] Mae'r cyntaf yn ymwneud â chostau'r cynllun fyngherdynteithio presennol. Mae'n fy nharo, ar gyfer nifer yr unigolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwnnw, nad oedd y ffigurau ar gyfer 2016-17 yn bell o fod yn werth £1,000 i bob unigolyn a oedd yn cymryd rhan. Mae hynny'n ymddangos yn rhyfeddol pan ystyriwch y gallwch brynu tocyn blynyddol gyda'r rhan fwyaf o weithredwyr bysiau am lai na £500, a bod hynny'n talu am eich holl deithiau, nid dim ond rhoi traean i ffwrdd ichi.

Hefyd, gwnaethoch gyfeiriad cryno at deithio ar y rheilffyrdd yn eich datganiad. Wrth gwrs, gall myfyrwyr fanteisio ar gardiau rheilffordd myfyrwyr ar hyn o bryd, sy'n aml iawn—. Yn wir, maent ar gael ar hyn o bryd am £15, a fyddai'n rhoi traean i ffwrdd o'u tocynnau trên iddynt. Mae'n fy nharo bod myfyrwyr yn arbennig yn aml yn gorfod gwneud teithiau hir, yn enwedig i fynd i’w lleoedd addysg uwch ac yn ôl, i fynd yn ôl at eu teuluoedd. A wnewch chi edrych o ddifrif ar ein cynigion i ymestyn—i bob diben, i wneud pob person ifanc yng Nghymru yn gymwys i gael cerdyn trên person ifanc—o fewn y cynnig hwn yr ydych yn ei adolygu ar hyn o bryd?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n credu, yn gyntaf oll, wrth ddadansoddi'r data yr ydych wedi’u darparu hyd yn hyn am eich cynnig, y dylwn dynnu sylw at y ffaith eich bod yn sôn am gynnig teithio am ddim—nid gostyngiad, ond teithio am ddim—i bob person ifanc, rwy’n meddwl, hyd at 24 oed, gan gynnwys—

Un ar bymtheg i 24. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun—[Torri ar draws.] Wedi'i gostio â chyfrifiannell amheus o siop jôc, rwy'n meddwl. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn darparu tua 1.5 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn ac yn costio £1 miliwn, ond dim ond am draean i ffwrdd. Pe byddech chi wedyn yn cyfrifo 35 miliwn o deithiau teithwyr, rydych chi'n edrych ar lawer iawn mwy, sy'n ei wneud yn anfforddiadwy o fewn yr amlen gyllideb bresennol a ddefnyddiwyd ar ei gyfer. Serch hynny, fel y dywedais i wrth Russell George, rwy’n croesawu eich cyfraniad at y ddadl bwysig hon, ac os gall y ffigurau—[Torri ar draws.] Ac os gall y ffigurau adio—

Rydych chi wedi gofyn y cwestiwn; gwrandewch ar yr ateb, os gwelwch yn dda.

Ac, os yw'r ffigurau'n adio’n iawn, rydym yn fwy na pharod i asesu eu buddion. Ond, o ran y cwestiwn ehangach ynghylch faint yr ydym yn ei roi i mewn a faint yr ydym yn ei gymryd allan, mae'r Aelod yn hollol gywir. Ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, mae'n costio £1 miliwn. Mae yna o gwmpas, ar hyn o bryd, 17,500 o ddeiliaid cardiau; bu 1.5 miliwn o deithiau teithwyr. Cymharwch hynny â’r mwy na £0.25 biliwn yr ydym wedi'i roi i mewn i wasanaethau bws at ei gilydd fel Llywodraeth a gyda llywodraeth leol ar gyfer 101 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn. Rwyf wedi bod yn glir iawn yn y gorffennol, ac rwy’n mynd i'w ddweud eto heddiw, nad wyf yn credu bod y trethdalwr yn cael cymaint allan o'r gwasanaethau bws ag yr ydyn ni'n ei roi i mewn ynddynt, ac felly bydd diwygio trafnidiaeth gyhoeddus y flwyddyn nesaf yn hanfodol bwysig i gael gwerth am arian, i gael gwasanaethau sy'n fwy atebol i anghenion trethdalwyr a theithwyr, ac i sicrhau ein bod yn hybu ansawdd ym mhob maes.

4. 4. Datganiad: Y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, i wneud y datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Fe'i sefydlwyd yn 2014, gyda'r nod o ddiwygio a gwella arbenigeddau gofal wedi’i gynllunio yn y GIG. Mae'r rhaglen yn defnyddio arbenigedd clinigwyr yng Nghymru i nodi a hyrwyddo arfer gorau. Oni allwn sicrhau diwygiad a gwelliant ymarferol, ni fyddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel a chynaliadwy. Ein gweledigaeth yw gwasanaeth gofal iechyd modern sy'n sicrhau bod anghenion cleifion yn cael sylw ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, gan y clinigydd cywir. Mae'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn helpu i symud hynny ymlaen gyda nifer fach o gynlluniau gweithredu a chynlluniau trawsnewidiol arbennig.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar offthalmoleg, orthopedeg, y glust, y trwyn a’r gwddf, a wroleg. Mae'r rhain yn arbenigeddau lle mae’n rhaid i gleifion aros yn annerbyniol o hir am driniaeth neu lle mae elfennau o risg clinigol i arosiadau hir, a chyflwynwyd cynllun arbennig ar gyfer dermatoleg o fewn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn cynnig cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adolygu eu harferion, eu dyblygu a'u gweithredu ar y safon orau bosib. Mae pwyslais cynnar y rhaglen wedi cynnwys gweithio gydag arbenigeddau clinigol i'w helpu i ddeall y galw am eu gwasanaethau, eu capasiti, a'u cefnogi i ddatblygu cynlluniau i gydbwyso eu gwasanaethau. Mae hynny'n golygu diwygio os ydym am weld cynnydd. Mae wedi golygu cydnabod cyfyngiadau ar y ffyrdd presennol o weithio ac ymrwymo i fynd i'r afael ag amrywiadau mewn ymarfer o fewn sefydliadau a rhyngddynt, ac mae'r amrywiadau hynny mewn ymarfer hefyd yn arwain at rai amrywiadau mewn canlyniad.

Pan lansiwyd y rhaglen, roeddem eisiau adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes yn bodoli yn ein system. Mae gennym ystod o enghreifftiau cadarnhaol i dynnu sylw atynt. Yng Nghymru, er enghraifft, mae gennym bellach orthoptyddion yn rhoi pigiadau yn uniongyrchol i'r llygad i drin cyflyrau megis dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran ac edema macwlaidd diabetig, gan ddefnyddio dyfais a ddatblygwyd yma yng Nghymru gan ymgynghorydd yng Nghymru. Mewn nifer o fyrddau iechyd, gall awdiolegydd bellach archwilio pobl â phroblemau clyw heb orfod teithio ymhellach na'u meddygfa eu hunain. Bydd hyn bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys byrddau iechyd eraill yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus. Mae'r llwybr canser y prostad wedi'i ailgynllunio, sydd bellach ar waith ar draws Cymru, yn cynnwys sgan MRI aml-baramedrig cyn biopsi uwchsain trawsrefrol ac mae hynny'n lleihau nifer y biopsïau a gyflawnir, y gwyddom sy’n boenus ac o bosib yn beryglus i'r claf.

Cyhoeddodd y rhaglen gofal wedi’i gynllunio ychydig o newidiadau effaith allweddol ac mae'r rhain yn cyfarwyddo’r byrddau iechyd hyn i reoli camau dilynol, sef y maes blaenoriaeth nesaf dros weddill y flwyddyn hon. Mae apwyntiadau dilynol i gleifion allanol yn cyfrif am gryn dipyn o’r gweithgarwch a wneir gan y GIG. Yn draddodiadol, mae cleifion wedi cael apwyntiadau yn rheolaidd gyda’r gweithiwr gofal iechyd mwyaf priodol, yn hytrach na bod yr apwyntiad yn seiliedig ar eu hangen clinigol. Mae tystiolaeth wedi dangos inni fod tua 9 y cant o’r cleifion eisoes yn methu eu hapwyntiadau dilynol a bod hynny, ynddo'i hun, yn wastraff annerbyniol ar adnoddau. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar leihau nifer yr apwyntiadau dilynol a gynigir fel sy'n briodol yn glinigol ac ar gyfer y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir.

Mae rhai o'r newidiadau yr wyf yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno ledled Cymru yn cynnwys cyflwyno mwy o glinigau rhithwir. Roedd cyflwyno adolygiadau rhithwir a mesurau canlyniadau a nodwyd gan y claf yng Nghaerdydd a'r Fro wedi lleihau nifer yr apwyntiadau clun a phen-glin y mae angen i ymgynghorydd eu gweld 70 y cant—70 y cant. Mae angen i fyrddau iechyd ailgynllunio apwyntiadau fel y gall cleifion gael y driniaeth angenrheidiol yn ystod un ymweliad, a elwir hefyd yn ‘glinigau un stop’, ac mae'r rhain eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn wroleg ac yn cael ymateb cadarnhaol gan gleifion. Ac mae hyfforddiant arbenigwyr gofal iechyd i ymgymryd ag apwyntiadau sy'n rhyddhau capasiti ymgynghorwyr—. Yng Nghymru, rydym yn rhesymoli, er enghraifft, ein gwasanaethau offthalmoleg trwy gynyddu nifer yr apwyntiadau a wneir yn y gymuned gan ddefnyddio optometryddion a nyrsys. Mae hynny'n wedi rhyddhau capasiti mewn clinigau ymgynghorol prysur—mwy o gapasiti i bobl y mae gwir angen eu gweld gan ymgynghorydd.

Rydym eisoes, o ganlyniad i'r newidiadau hyn, yn cael adborth cadarnhaol gan glinigwyr, staff gweithredol a chynrychiolwyr cleifion, a fu'n gysylltiedig ers sefydlu'r rhaglen. Felly, mae'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn dechrau cyflawni newidiadau. Felly, mae rhai o'r canlyniadau a gyflawnwyd eisoes yn cynnwys cyflwyno canllawiau dilynol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau ENT. Cymeradwywyd hynny gan y byrddau iechyd. Mae tystiolaeth o fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dangos y potensial i leihau oddeutu 40 y cant o apwyntiadau dilynol dianghenraid ledled Cymru, ac mae byrddau iechyd eraill bellach yn gweithredu ac yn dilyn y canllawiau hynny. Maent eisoes yn cael effaith wrth i gleifion sy'n aros am eu hapwyntiad cyntaf ledled Cymru leihau o dros 3,000 ym mis Mawrth 2016 i 1,949 ym mis Mawrth 2017. Bu 863 yn llai o atgyfeiriadau eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Mae mwy o gleifion bellach yn cael eu gweld gan awdiolegydd yn hytrach nag ymgynghorydd ENT. Mae hynny'n golygu bod tua 72 o gleifion y mis bellach yn cael eu gweld ar lwybr diwygiedig yn uniongyrchol at wasanaeth awdioleg. Mae hynny'n golygu, ledled Cymru, y bydd cleifion yn cael eu gweld yn gyflymach gan nad ydynt yn aros i weld ymgynghorydd mewn clinig ond byddant yn cael eu gweld a'u hasesu mewn lleoliadau cymunedol priodol.

Cytunwyd ar ein dogfen genedlaethol ar gyfer egwyddorion asesu a thriniaeth gyhyrysgerbydol clinigol—sef CMAT yn gryno—yn seiliedig ar y modelau arfer gorau sydd ar waith ar hyn o bryd mewn gwasanaethau sefydledig. Gan ddechrau’r mis diwethaf, mae bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Dylai hynny sicrhau bod gan gleifion â phroblemau cyhyrysgerbydol fynediad at ystod eang o gyfleoedd triniaeth yn y gymuned yn ychwanegol at wasanaethau gofal eilaidd. Dylai hynny sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn gweld y claf fel y bo'n briodol. Dylai hefyd leihau'r galw ar ein gwasanaethau orthopedig.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion brys yr amheuir sydd â chanser sy'n cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd ers mabwysiadu'r canllawiau haematwria anweladwy asymtomatig.

Mewn offthalmoleg, mae nifer y Meddygon Teulu sy'n cyfeirio cleifion i ofal eilaidd ers i'r rhaglen gychwyn wedi gostwng o 17,775 ym mis Medi 2015 i 14,268 ym mis Mawrth eleni. Felly, o ganlyniad, mae mwy o gleifion yn cael eu gweld yn y gymuned gan optometryddion.

Mae'n dal yn wir bod rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i leihau arosiadau hir. Y mis diwethaf, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ychwanegol i helpu'r GIG i wella amseroedd aros ymhellach. Rydym yn gweld gwelliannau yn y gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn digwydd yn ddigon cyflym. Mae angen cyflymder a chysondeb ymhlith yr holl fyrddau iechyd wrth gyflawni gwelliant. Dyna pam fy mod i’n disgwyl gweld arfer da yn dod yn arfer safonol, cyson ledled Cymru. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fabwysiadu neu gyfiawnhau. Felly, bydd y rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn dod yn rhan annatod o'r broses cynllun tymor canolig integredig. Ni fydd gan fyrddau iechyd nad ydynt yn bwriadu darparu'r cynlluniau gweithredu gofal arfaethedig gynlluniau cymeradwy.

Dywedais fod hon yn rhaglen sy’n cael ei harwain gan glinigwyr, felly rwyf am orffen trwy ddiolch i Peter Lewis, y llawfeddyg fasgwlaidd ymgynghorol sy'n arwain y rhaglen ofal arfaethedig. Nid proses syml yw hon. Mae'n cynnwys pobl mewn gwahanol arbenigeddau sy'n dod ynghyd i gytuno, ac nid yw honno’n broses hawdd bob amser, ac mae'n cynnwys cynllunwyr ac arweinwyr gwasanaethau, felly mae pob prif swyddog gweithredol yn cymryd rhan yn y sgwrs. Ond yr her syml yn awr yw sut mae ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn cyflawni yn erbyn y rhaglen wella hon dan arweiniad clinigol y mae Peter Lewis wedi ein helpu i’w chreu.

Mae gwobr sylweddol iawn i’r staff a'r cyhoedd ehangach wrth i amseroedd aros leihau, gan leihau amrywiad a gwella effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion. Felly, edrychaf ymlaen at weld y camau gweithredu eleni a'r flwyddyn nesaf ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n tynnu sylw at rai enghreifftiau o arfer da sydd i’w croesawu. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw pryd yr ydym yn mynd i allu gweld canlyniadau'r holl gynlluniau peilot a gynhaliwyd—yn dda, yn wael neu'n weddol—megis yr holiadur llythrennedd iechyd gan Gwm Taf, neu'r mesurau ysgogi cleifion yng Nghaerdydd a'r Fro, oherwydd rwy'n credu y gallwn ddysgu gwersi o'r holl gynlluniau peilot. A oes unrhyw le y gallwn fynd i edrych arnynt fel y gallwn werthuso pob un ohonynt?

A allech chi hefyd gadarnhau eich bod chi'n adolygu enghreifftiau o arfer gorau nid yn unig yng Nghymru, ond a ydych chi'n edrych ar wledydd eraill, naill ai gwledydd eraill y DU neu wledydd Ewrop? Beth ydych chi'n ei ddefnyddio i feincnodi'r arferion gorau hyn fel bod rhywbeth sy’n dda yn ein barn ni gystal ag y gall fod? Sut ydych chi'n monitro yn erbyn datblygiadau mewn arferion da mewn mannau eraill?

Fy nhrydydd cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: rwyf ychydig yn bryderus am eich sylwadau am y 9 y cant o bobl nad ydynt yn mynd i apwyntiadau dilynol. Mae hynny'n amlwg yn gwbl annerbyniol, ac rwy'n cytuno â chi ar hynny, ond rydych yn sôn mai eich ffordd ci o ymdrin â hyn yw rhoi'r gorau i gynnig cymaint o apwyntiadau dilynol. A allech chi egluro a ydych eisoes yn adnabod y math o berson sy'n debygol o fod yn un o’r naw y cant hwnnw? Onid yw methu apwyntiadau yn digwydd oherwydd ein bod ni wedi bod yn rhy afradlon, gan gynnig apwyntiadau dilynol iddyn nhw pan nad oedd hynny’n angenrheidiol yn glinigol? Neu a ydyn nhw'n bobl sy’n methu apwyntiadau oherwydd eu bod yn teimlo'n well ac felly does dim pwynt mynd i’r drafferth?  Yr hyn na hoffwn ei weld yn digwydd wrth wrthod neu benderfynu cynnig llai o apwyntiadau yw ein bod yn taflu’r llo ac yn cadw’r brych ac nad yw'r bobl sydd angen yr apwyntiadau dilynol yn eu cael nhw.

Clinigau rhithwir: cam ymlaen i’w groesawu yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hynny'n syniad gwych, ond a allech chi ddweud wrthym beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw band eang gwael neu ddiffyg gwybodaeth TG yn rhwystr i’r sawl sydd angen eu defnyddio rhag eu defnyddio a bod yn rhan o glinig rhithwir?

Ac yn olaf, cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet, un digwyddiad cyd-ddylunio ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn 2015, ac roedd dau ar y gweill ar gyfer 2016. Ond er imi chwilio, ni allaf ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n dangos a gynhaliwyd y digwyddiadau hynny ai peidio. A allech chi ddweud wrthyf a gawsant eu cynnal neu beidio, ac a yw hon yn rhaglen barhaus? A oes mwy o'r digwyddiadau cyd-ddylunio ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ar y gweill? Ai dyma sy’n ffurfio syniadau Peter Lewis am gyflwyno'r model sydd gennym yma ger ein bron? Oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod gan bob un o'n rhanddeiliaid yr awdurdod a’r gallu gwirioneddol i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau hollol integredig. Diolch.

Diolch am eich cwestiynau, a byddaf yn hapus i ymateb iddynt. Ar eich pwynt cyntaf am yr holl gynlluniau peilot a'r gwerthusiad ac a yw'r holl werthusiadau ar gael: ni allaf ddweud wrthych yn y fan a’r lle a yw pob un o'r rhestr ar gael ai peidio. Serch hynny, gallai fod o gymorth pe byddech yn ysgrifennu ataf gyda'r rhestr o'r meysydd penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt lle nad ydych chi'n siŵr a fu gwerthusiad o gynllun peilot, ac yna gallaf roi atebion ichi a gwneud yn siŵr bod Aelodau eraill yn cael copïau ohonynt hefyd.

O ran arfer gorau, mae'n ddiddorol; rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd diddorol gyda Peter Lewis yn sôn am y gwaith o ddechrau'r rhaglen hyd at ei chwblhau. Mae un o'r ymadroddion a ddefnyddir ganddo—rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn—yn ymwneud â mabwysiadu’r ‘safon gorau yn y dosbarth', sef deall beth yw'r gorau yn y dosbarth, cael tystiolaeth i gyrraedd yno ac yna dweud, 'Dyma'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr'. A thrwy wneud hynny, ceir tystiolaeth o fewn Cymru, ond ar draws system y DU hefyd, wrth gwrs. A’r hyn sy’n ddiddorol, yn rhannol, yw bod ein llawfeddygon, er enghraifft, ond hefyd glinigwyr ar bob lefel, â diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol hefyd. Felly, mae gennym y dystiolaeth honno ac mae ar gael inni. Yr hyn nad wyf am ei wneud yw mynd ati i edrych ar hyn am byth bythoedd cyn dod i’r penderfyniad mewn gwirionedd, 'Dyma'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y fan hon ac yn awr, a dyma sut mae angen i ni gynllunio ein gwasanaeth.' Mae hynny'n golygu deall y galw sy'n dod i mewn a sut mae hynny'n cael ei reoli, yn ogystal â phenderfynu pryd mae angen gwahanol rannau o'n system arnom i'w gweld nhw: sut ydym ni'n gwneud hynny? Oherwydd fel arall, ni fyddwn byth yn cynllunio ar gyfer gwasanaeth; byddwn bob amser yn meddwl am y cam nesaf a'r newid nesaf yn y galw ac yna sut mae ein gweithgaredd mewn gwirionedd yn cydweddu.

Mae rhywfaint o hynny, wedyn, yn dod yn ôl at eich cwestiynau nesaf am y gyfradd 'methu apwyntiad’ a chael llai o apwyntiadau dilynol—rydym yn union yn y fan lle’r ydym (a) eisiau i bobl fynd i apwyntiadau priodol a (b) byddant yn parhau i gael cynnig apwyntiad sy'n briodol yn glinigol. Y pwynt cyntaf yw ein bod eisoes yn cydnabod ein bod yn gyrru gwastraff ac amrywiad annerbyniol o'n system mewn rhai meysydd drwy gynnig apwyntiadau dilynol safonol nad ydynt yn briodol yn glinigol. Ac yna mae hefyd yn ymwneud â deall, os oes angen i rywun gael ei weld, gan bwy y mae angen iddyn nhw gael eu gweld. Dyna ble, yn y maes offthalmoleg, er enghraifft, yr ydym eisoes yn symud at system lle’r ydym yn rheoli mwy a mwy o'r apwyntiadau dilynol hynny yn y gymuned. Felly, os byddwch yn mynd at amrywiaeth o optometryddion y stryd fawr, byddant yn gallu dweud wrthych am yr ystod o wasanaethau y maent yn eu darparu nawr. Mewn gwirionedd, pan siaradais ag optometryddion yn ystod wythnos iechyd y llygad, roedden nhw'n llawn cyffro am yr hyn yr oeddent yn ei wneud. Yn ôl disgrifiad un optometrydd, 'Mae hyn yn wych; mae'n wych. Mae pobl nawr yn cael eu cyfeirio atom ni ar frys, er enghraifft, gan feddygon teulu; nid oedd hynny'n digwydd o'r blaen. Ond hefyd rydym yn gwneud mwy a mwy o'r hyn sy'n digwydd o ran ôl-ofal. O'r blaen, roeddem yn beiriannau profi llygaid, erbyn hyn rydym yn defnyddio ein sgiliau clinigol, sy’n gwneud y gwaith yn fwy diddorol.'

Mae hyn yr un peth mewn ystod o feysydd eraill hefyd. Mae Orthopedeg yn enghraifft arall lle’r oedd gennym system hynod aneffeithlon mewn rhannau o'n gwasanaeth ni, ac mae enillion gwirioneddol i’w gwneud o ran effeithlonrwydd a gwerth i'r dinesydd, ond hefyd i’r gwasanaeth cyfan. Mae hynny'n gofyn am newid mewn ymddygiad gan ystod o'n clinigwyr sy'n penderfynu a ddylid rhoi apwyntiadau dilynol i bobl.

O ran clinigau rhithwir, mae'n enghraifft dda iawn o sut y gall pobl gael gofal gan glinigydd, neu, lle mae'n briodol, gan ymgynghorydd, o bosib, sydd wedi'i leoli mewn un man a lle mae pobl yn teithio i fan arall. Er enghraifft, gwelais hyn yn uniongyrchol yn Betsi Cadwaladr: roeddwn yn Ysbyty Gwynedd, ac roedd yr ymgynghorwyr yn gallu cynnal clinig gyda delweddau o ansawdd uchel iawn o bobl a oedd sawl milltir i ffwrdd, ond iddyn nhw roedd yn fan haws teithio iddo. Mae rhywbeth yma am ddeall ansawdd ein rhwydwaith band eang a'r gwaith y mae fy nghyd-aelod Julie James yn arwain arno— deall sut a ble mae gennym fand eang o ansawdd uchel. Gall olygu pellter teithio byr i bobl, ond byddant yn derbyn gofal mwy lleol, ac mae hynny'n golygu bod mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref.

O ran digwyddiadau cyd-ddylunio, cawsom ddau ddigwyddiad cyhoeddus mawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond, nid dim ond y digwyddiadau ar raddfa fawr sy’n bwysig: mae’r gwaith PREM—y mesurau profiad yr adroddir amdanynt gan y claf—a'r gwaith PROM—y mesurau canlyniad yr adroddir amdanynt gan y claf—yn bwysig iawn. Maen nhw’n ymwneud â cheisio deall yn rheolaidd beth sy'n bwysig i gleifion o ran profiad a beth sy'n bwysig iddyn nhw o ran canlyniadau, a sut y byddwn yn cyflawni wedyn yn erbyn hynny. Felly, mae pobl yn rhoi gwybodaeth inni a byddwn yn gweithredu ar yr wybodaeth honno yn ein system. Rydym yn ceisio gwneud y pethau cywir. Fel y dywedaf, fy rhwystredigaeth a'm dymuniad i yw ein bod yn gwneud mwy o hynny yn fwy cyson ac yn gyflymach.

Mae gennym bortread yma o sefyllfa sydd dan reolaeth. Wrth gwrs, mae rhai pethau, boed yn ardaloedd daearyddol neu’n feysydd arbenigedd, lle mae cynnydd gwych wedi'i wneud ac mae pethau'n gwella. Mae arwyddion bod pethau'n gwella, ond yn sicr, i lawer gormod o gleifion, yn enwedig cleifion orthopedeg ac offthalmoleg, ac yn sicr yn ardal Betsi Cadwaladr, mae anghysondeb gwybyddol gwirioneddol yma o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod pethau'n gwella pan nad yw hynny'n adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad.

Sut y gallwn ni gael arosiadau o 100 wythnos a mwy ar gyfer atgyfeiriadau brys mewn orthopedeg pan fo Ysgrifennydd y Cabinet yn honni bod pethau'n gwella, er nad yw hynny’n ddigon cyflym? Sut gallwn ni gael pobl i dderbyn bod pethau'n gwella— ein bod ar y ffordd i wella—pan fo gennym yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, sefyllfa lle na chynhaliwyd unrhyw lawdriniaeth ddewisol mewn orthopedeg rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Ebrill neu fis Mai eleni? Mae hon yn sefyllfa sy'n gwaethygu, nid yn unig o ran canfyddiad ond o ran realiti ar lawr gwlad, i lawer gormod o gleifion, a dywedaf hynny, fel y cyfeiriais ato'n gynharach, gan sylweddoli bod yna feysydd lle’r ydym yn gwella ynddynt, wrth gwrs. Ond, mae'r rhain yn feysydd lle na allwn guddio’r gwir o dan y carped.

Gadewch imi ofyn nifer o gwestiynau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi adroddiad archwilio llawn o reoli rhestrau aros, gan edrych ar sut mae rheoli rhestrau aros yn achosi oedi, faint o ffactor yw rheoli gwael, ac a fydd gan y GIG systemau ar waith a fydd yn atal llawdriniaethau rhag cael eu canslo oherwydd bod ymgynghorydd ar wyliau blynyddol, er enghraifft, sy'n ddigwyddiad rhagweladwy?

Byddaf yn gofyn un o'm cwestiynau arferol ar ddata: nid yw ystadegau amser aros yn mesur amseroedd aros dilynol, sy'n arbennig o bwysig, er enghraifft, mewn gofal llygaid, lle gall gofal dilynol gwael fethu cymhlethdodau a all arwain at golli golwg anadferadwy. Hefyd, ar gyfer orthopedeg, gall ôl-ofal cadarn ac archwiliad ar gynnydd ôl-ofal gael effaith wirioneddol ar y prognosis ar gyfer cleifion sydd wedi cael triniaeth.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet hefyd dderbyn, hyd nes y bydd materion sylfaenol sy’n ymwneud â’r gweithlu yn cael eu datrys, na allwn gael y math o GIG cynaliadwy sy’n hyderus o wybod ei fod yn rheoli’r broblem amser aros? Rydym wedi tynnu sylw yn aml yn y Cynulliad hwn at yr angen i sicrhau bod gennym y staff cywir yn y mannau cywir er mwyn bodloni'r gofynion—y galw cynyddol—sy'n cael eu rhoi ar y GIG. A allwn ni dderbyn, wrth wraidd symud ymlaen i'r cynaladwyedd sydd ei angen arnom i gyd, fod yn rhaid inni gael cynllun gweithlu llawer mwy uchelgeisiol a llawer mwy trylwyr a all roi hyder inni y bydd bylchau yn cael eu llenwi mewn blynyddoedd i ddod, fel y gellir datrys problemau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu, er enghraifft ym maes orthopedeg, mewn mannau fel y gogledd?

Mae gen i hefyd un cwestiwn olaf: mae offthalmoleg ac orthopedeg—meysydd lle mae'n ymddangos ein bod yn wynebu rhai o'r problemau mwyaf—yn feysydd lle ceir y nifer fwyaf o enghreifftiau o ymarfer preifat.  A yw hyn yw rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno i weld a oes modd sicrhau bod y GIG yn dod yn flaenoriaeth i'r bobl hynny sydd wedi cael eu hyfforddi i drin cleifion yng Nghymru?

Diolch am y cwestiynau. Dechreuaf fel hyn: yr wyf yn dymuno herio’n agored eich honiad bod ysbryd o afrealiti yn y datganiad yr wyf wedi'i wneud. Rwy'n credu mai fy ngwaith yw bod yn gytbwys yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud a'i wneud, ac nid wyf yn ymddiheuro am fod yn bositif am yr hyn sydd wedi digwydd, yn bositif am y dyfodol, ac ar yr un pryd yn rhwystredig nad ydym wedi gwneud mwy. Yn fy natganiad, mynegais yn glir iawn fod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dyna pam yr ydym wedi cael rhaglen gofal wedi'i gynllunio a, sawl blwyddyn ar ôl i ni gyflwyno hynny, nid ydym wedi gwneud digon o hyd, yn fy marn i. A rhan o'r pwynt o ddod â datganiad yma yw bod yn ddidwyll am y ffaith nad yw'r cynnydd a wnaethom yn golygu bod y fargen wedi cael ei gwneud—o bell ffordd.

Rwyf hefyd yn cydnabod—nid yn unig yn y lle hwn, ond yn rheolaidd—bod amrywiadau o fewn byrddau iechyd ac mae amrywiadau ar draws byrddau iechyd ynghylch gweithgarwch, ac mae orthopedeg yn enghraifft dda. Nid yw'r cynnydd a wnaed mewn rhai byrddau iechyd yn cael ei adlewyrchu mewn eraill. Rydych yn gweld her yn y gogledd a gaiff ei gweld yn fwy cyffredinol am y galw cynyddol a sut mae gallu a galw yn cyd-fynd â'i gilydd yn y pen draw, ond mewn gwirionedd mae problem fwy yn y gogledd ac mewn rhannau eraill o'n system. Bu’r rhestrau aros yno yn chwyddo’n uwch nag yn unman arall. Ac nid yw hynny’n fater o finnau’n cario clecs y tu allan i'r ysgol, gan fod y ffigurau yno i'w gweld.

Ac nid wyf yn ceisio esgus nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. I mi, dyna'r cynnydd mewn brys sy’n ofynnol i wersi beidio â chael eu dysgu a'u trafod, ond i gael eu cyflawni’n ymarferol. Nid wyf am barhau i ddod yma ac esbonio pam nad yw rhannau o'n gwasanaeth yn gwneud y cynnydd y mae eraill yn ei wneud hefyd. Mae'n rhaid cael galw priodol, gan glinigwyr eu hunain—dylen nhw fod yn rhwystredig ynghylch ble maen nhw ac am hyd y rhestr o'r bobl sy’n aros i’w gweld, a dylai'r arweinwyr a’r rheolwyr yn ein gwasanaethau fod yn rhwystredig hefyd. A dyna pam yr oeddwn yn wirioneddol glir, yn fy natganiad, ac fe welwch hynny eto yn y fframwaith cynllunio ar gyfer y cynlluniau canolig tymor canolig, fy mod yn disgwyl gweld y rhaglen ofal arfaethedig yn cael ei chyflwyno. Ac nid yw hynny'n mynd i fod yn rhan y gellir ei negodi o'r hyn y mae’r byrddau iechyd ei eisiau. Os ydyn nhw eisiau cael cynllun cymeradwy, rhaid iddyn nhw gynllunio i'w gyflwyno ac yna mae'n rhaid iddyn nhw allu dangos eu bod yn gwneud hynny hefyd.

Yn y gogledd, byddwch chi'n gwybod fy mod yn disgwyl gweld yn fuan y cynllun sydd gan y bwrdd iechyd ar gyfer gwella eu swyddogaeth orthopedig. Rwy’n disgwyl i’r cynllun hwnnw fod yn gadarn ac rwy'n disgwyl iddo weithio, ac os nad ydyw, bydd y sgwrs ychydig yn fwy anodd. Nawr, nid yw hwn yn fater ohonof i yn bygwth sefydliad, dim ond bod yn onest ynglŷn â ble’r ydym ni. Ac mae honno’n sgwrs syml yr wyf wedi'i chael ac a gafodd arweinwyr y system gyda'i gilydd hefyd. Felly nid gêm yw hon; mae hyn yn ddilys ac mae'n ddifrifol, a chredaf ei fod yn wir yn effeithio ar allu a pharodrwydd staff i weithio yn y gwasanaethau hynny hefyd: i wybod bod gwir ddealltwriaeth bod angen gwella.

O ran sut yr ydym yn rheoli ein system i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, unwaith eto mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well. Felly, mae rhywbeth nid yn unig am y pwynt dilynol, ond sut yr ydych chi'n gwneud yn siŵr bod ymgynghorwyr a phobl sy'n dweud y byddant yn gweld pobl ar gael. Nid mater ynghylch ymgynghorwyr yn unig ydyw. Mae hynny'n arwain at un o'ch pwyntiau eraill am sut yr ydym mewn gwirionedd yn ymdrin â materion gweithlu ac amseroedd aros. Rydym wedi siarad o’r blaen am Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi dod i fodolaeth o'r diwedd gyda'r cadeirydd wedi dechrau gweithio, a chredaf fod hynny'n wirioneddol gyffrous. Mae gennym y corff cysgodol yn dechrau, gan edrych ymlaen at y ffurfioli a dod i fodolaeth yn statudol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Dylai hynny ein helpu ni i wella ein swyddogaeth wrth gynllunio a deall pwy sydd ei angen arnom, pa nifer, ac ym mha feysydd penodol o staff.

Eto, ni wnaf ymddiheuro am ailadrodd y neges, yn enwedig oherwydd ein bod wedi cael mwy o sgyrsiau cyhoeddus ynglŷn â chyni a'i realiti: os yw cyni yn parhau, bydd yn gyrru gwasanaeth cyhoeddus yn erbyn gwasanaeth cyhoeddus, a gwelwn hynny mewn rhai o'r galwadau a wnaed gan rai actorion yn y maes y tu allan i’r fan hyn. Mewn gwirionedd, er bod cyni yn parhau, mae gennym ddewisiadau ofnadwy i'w gwneud lle nad oes modd i neb ennill. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn gwneud dewisiadau anodd rhwng gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus. Felly, fy neges i'r gwasanaeth iechyd, yn gyhoeddus ac yn breifat yw hyn: mae cyfrifoldeb i ddefnyddio'ch adnodd ychwanegol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn awr ac wrth symud ymlaen. Ac mae hynny yn dod ochr yn ochr â’r galw am gael mwy o staff nag erioed o'r blaen yn ein gwasanaeth, y galw parhaus am fwy o staff—ac ymhob maes arbenigol a phob grŵp lobïo, maent bob amser yn galw am fwy o staff—mewn gwirionedd, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei ddeall yw faint yn fwy o staff y credwn sydd eu hangen arnom a faint y gallwn ni ei wneud gyda'r staff sydd gennym eisoes. Oherwydd os ydym yn meddwl am ehangu ein gwasanaethau a'n rhifau fel yr unig ateb, byddwn yn methu rhywbeth priodol yn yr hyn yr ydym ni’n gallu ei wneud. Dyna pam mae neges gofal iechyd darbodus ynghylch gwneud dim ond yr hyn y gallwch chi ei wneud mewn gwirionedd yn bwysig. Dyna pam mae’n bwysig iawn fod pobl yn gweld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, oherwydd gallwn greu mwy o gapasiti i ymgynghorwyr os oes gan wahanol weithwyr gofal iechyd wahanol rannau o'u gwaith y gallant ei wneud hefyd. Dyna pam mae gwaith ffisiotherapi a'r gwasanaeth asesu a thriniaeth gyhyrysgerbydol glinigol mewn gwirionedd yn bwysig. Bydd yn wasanaeth gwell yn aml ar gyfer dinasyddion unigol, byddant yn cael eu gweld yn gyflymach, ac os bydd angen iddyn nhw fynd i weld ymgynghorydd, bydd ansawdd yr atgyfeiriad yn well ac ni fyddwn yn rhoi pobl mewn ciwiau yn ddiangen ar gyfer llawdriniaeth na fyddent efallai ei hangen. Rhaid i hynny fod yn rhan hanfodol o'r hyn a wnawn.

Yn olaf, hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ddilyniant ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth. Nid wyf yn dymuno osgoi hyn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwyf wedi cydnabod yn flaenorol nad yw rhai o'n mesurau mewn amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth o reidrwydd yn gwneud synnwyr, nad ydynt yn rhoi'r sicrwydd i ni y buasem ei eisiau oherwydd mai dim ond gweithgaredd ac amser y maent yn ei fesur, ac amser ar bwynt penodol yn unig. Ac ar y pwynt hwnnw, efallai na fydd yn sbarduno’r ymddygiad clinigol iawn. Felly, o ran gofal llygaid, er enghraifft, derbyniais nad yw ein mesurau cyfredol fwy na thebyg yn rhoi'r adlewyrchiad a'r sicrwydd mwyaf posibl inni. Dyna pam mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar gynllun peilot sydd i fod i ddechrau'r hydref hwn mewn dwy ardal bwrdd iechyd—yn ABM ac yn Betsi—gan edrych ar yr hyn y gallem ei wneud i gael cyfres newydd o fesurau i sbarduno ymddygiad clinigol mwy priodol. Yna bydd gennym ddealltwriaeth well o'r risgiau yr ydym yn eu cario yn ein system, a dull nodi priodol sy'n edrych ar apwyntiadau dilynol lle mae'n briodol gwneud hynny’n glinigol. Felly, bydd gennym system y credaf fydd yn gwneud mwy o synnwyr, ond ni fydd yn debyg i system Lloegr. Nid yw hyn yn dweud fy mod i'n newid pyst y gôl er mwyn osgoi cymhariaeth â Lloegr—rwy'n ei wneud oherwydd fy mod yn credu ac rwyf wedi cael fy mherswadio gan yr achos clinigol mai dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y staff ac, yn bwysicach fyth, dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein cleifion.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno ag egwyddorion cyffredinol eich cynllun chi, sy'n cynnwys gwella profiad y claf trwy gadw costau gofal ar lefel resymol. Ac yn hyn o beth, mae'r gwelliant 1000 o Fywydau i helpu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a sicrhau profiad gwell i gleifion mewn arbenigeddau gofal wedi’i gynllunio i’w groesawu.

Yn wir, mae rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 a gynhelir gan Ysgol Fusnes Caerdydd wedi rhoi'r dewisiadau yng Nghymru yn gliriach yn ei hadroddiad diweddar, pan ddywed, dan rai rhagdybiaethau, y gallai 56 y cant o'r gyllideb fynd i mewn i GIG Cymru erbyn 2021 a gallai'r ganran fod hyd yn oed yn uwch yn y blynyddoedd dilynol. Felly, gan hynny, mae gennym broblem yma lle’r ydym ni'n rhoi mwy o arian i mewn ac nid ydym yn cyflawni ein targedau. Felly tybed a allech chi wneud sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet?

Mae'r term 'profiad y claf' yn cwmpasu nifer o feysydd sy'n cynnwys canlyniadau i gleifion ac amseroedd aros i gleifion. Fel y dywedasoch mewn atebion i'm cwestiynau fis Ionawr diwethaf, mae angen i ni gydbwyso'r gostyngiad mewn amserau aros ag ansawdd yr ymyriadau a'r canlyniadau i gleifion yng Nghymru. Felly, sut ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwriadu gwneud hyn?

Croesawaf y newyddion yn eich datganiad ynghylch ailgynllunio llwybr canser y prostad ar draws Cymru, ar ôl clywed gan lawer o etholwyr yn fy rhanbarth i am anawsterau triniaethau blaenorol cyn y llwybr. Yn yr un modd, mae croeso i gyflwyno clinigau un stop, a grybwyllir yn eich datganiad, a bwriad y rhaglen hefyd i ddatblygu’r mesurau profiad yr adroddir amdanynt gan y claf—PREM—a’r mesurau canlyniad yr adroddir amdanynt gan y claf—PROM—i gofnodi a dadansoddi profiad cleifion o wasanaethau ar hyd llwybrau etholedig. Fodd bynnag, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y bydd cynghorau iechyd cymuned yn ymwneud â chasglu profiadau cleifion. Os nad ydynt yn cymryd rhan ddigonol, yna efallai y byddwn mewn perygl o gael dau gofnod o brofiadau cleifion, un yn yr adroddiadau PREM a PROM a'r llall trwy gynghorau iechyd cymuned. A fyddai'n llawer gwell pe gellid dwyn ynghyd brofiadau cleifion a gofnodwyd trwy bob un o'r llwybrau hyn er mwyn cael y darlun mwyaf amlwg o brofiadau cleifion?

Rwy'n croesawu dull holistaidd o ofalu am gleifion ac addasu ffordd o fyw, a byddwn yn gofyn hyn: pa gyngor ac ymchwil gyfredol gan grwpiau eraill fydd yn cael eu hymgorffori yn y dull holistaidd ac addasiadau ffordd o fyw?

Mae dogfennau blaenorol yn ymwneud â'r rhaglen ofal yn sôn mai un o'r nodau yw lleihau amrywiad ledled Cymru. Er enghraifft, gall nod o'r fath arwain at leihau nifer yr apwyntiadau dilynol a gynigir yn dilyn llawdriniaeth, gan y gall hyn fod yn arfer derbyniol mewn gwasanaethau iechyd eraill y DU.

Er fy mod yn gefnogol yn fras i'r nod cyffredinol o sicrhau bod costau GIG Cymru yn cael eu cadw ar lefelau rhesymol, rhaid imi bwysleisio, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pob achos yn wahanol. Weithiau, mae amrywiad mewn gwasanaethau ac apwyntiadau i drin yr un cyflyrau neu gyflyrau tebyg, mewn ardaloedd gwahanol hefyd, yn hollol angenrheidiol, felly mae angen digon o hyblygrwydd yn y rhaglen.

Mae'r dystiolaeth yn eich datganiad o’r 9 y cant o bobl nad ydynt yn mynd i apwyntiadau dilynol yn peri anesmwythyd. Ond mae pob achos yn wahanol, ac ni ddylem geisio lleihau apwyntiadau dilynol yn gyffredinol os nad yw ymarfer o'r fath yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau posib i’r claf. Croesewir y dystiolaeth y mae eich datganiad yn ei ddyfynnu gan fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, sydd â'r potensial i leihau apwyntiadau dianghenraid ledled Cymru, ar yr amod y gallwn sicrhau bod apwyntiadau o'r fath yn wirioneddol ddiangen—hynny yw, eu bod yn achosion cyffredinol heb gymhlethdodau neu eithriadau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ar yr hyn sy'n gyfystyr ag amgylchiadau eithriadol mewn achos penodol? Ac, ar ben hynny, pan ystyrir bod achos yn eithriadol, a allech chi sicrhau bod gan fyrddau iechyd arweiniad clir ynghylch pa adnoddau pellach fyddai'n cael eu hystyried yn ganiataol neu'n arfer gorau?

Nodaf fod eich datganiad yn dweud y bu gostyngiad yn nifer y cleifion yr amheuir sydd â chanser nad ydynt yn rhai brys. Fodd bynnag, rwyf wedi sôn yn y gorffennol, pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, a bod y diagnosis yn fater brys iawn iddyn nhw, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau i gleifion. A phan fo rhywun yn cael gwybod bod posibilrwydd bod ganddyn nhw ganser, mae angen inni drin y rhain i gyd ar frys, oherwydd i'r person hwnnw, mae'r gair 'canser' yn golygu bod rhywbeth yn digwydd sydd angen triniaeth ar frys.

Yn olaf, deallaf fod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bedwar arbenigedd llawfeddygol: offthalmoleg; y glust, y trwyn a’r gwddf; orthopedeg; a niwroleg. Rwyf wedi darllen yn eich datganiad ers hynny fod yna fwy ar y gweill. Felly, nid wyf eisiau rhedeg cyn gallu cerdded, ond hoffwn ofyn a oes unrhyw gynlluniau hirdymor i’r rhaglen fod yn berthnasol i arbenigeddau llawfeddygol eraill neu feysydd eraill yn GIG Cymru ac, os felly, pa ddulliau fyddai'n cael eu defnyddio i werthuso effeithiolrwydd y rhaglen ar y pedwar arbenigedd llawfeddygol cychwynnol. Diolch yn fawr iawn.

Wrth ymateb i'r cwestiynau a'r pwyntiau a wnaed, dechreuaf drwy ailadrodd ac yna ychwanegu ychydig at rai o'r pwyntiau a wnes i yn gynharach am gyllid a realiti gwasanaethau. Rydych chi'n iawn: mae ein rhagamcanion presennol yn dangos y byddwn yn gwario mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru ar y gwasanaeth iechyd yn y tymor canolig yn y dyfodol. Mae hynny oherwydd y dewis y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar y naill law i flaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd, i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hariannu a bod gennym system gyffredinol gynaliadwy. Nid ydym yn gwneud hyn dim ond ar sail ein hymrwymiad gwleidyddol hirsefydlog i'r gwasanaeth ond oherwydd y nodau gwrthrychol yr ydym wedi'u cymryd gan Nuffield ac yna'r Sefydliad Iechyd am y bwlch y mae angen ei fodloni i gadw'r gwasanaeth yn gynaliadwy. Mae hynny'n cynnwys mwy o arian yn mynd i mewn; ond mae hefyd yn cynnwys enillion effeithlonrwydd parhaus a wneir o flwyddyn i flwyddyn yn ein gwasanaeth. Y risg yn hynny o beth yw’r staff hefyd. Mae angen elfen barhaus o ataliad cyflog, fel arall nid yw'r gwasanaeth yn fforddiadwy. Ac yna rydym yn dod yn ôl at y cap cyflog a phenderfyniad Llywodraeth y DU ac a ydyn nhw’n barod i fod o ddifrif ynghylch y cap cyflog. Sylwaf eu bod wedi cadarnhau yn ddiweddar eu bod yn mynd i beidio â rhoi tystiolaeth ar gyfer y cyrff adolygu tâl. Mae hynny'n golygu na fydd ein gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus, sy'n disgwyl i'r adolygiad ddigwydd, yn gwybod beth yw'r sefyllfa tan yn hwyrach yn y flwyddyn ac y bydd unrhyw gynnydd mewn tâl ar unrhyw lefel yn debygol o gael ei ohirio o ganlyniad i hynny. Efallai y bydd hynny'n golygu arbediad i'r Trysorlys, ond credaf ei fod yn rhoi mwy o bwysau ar ein staff sydd dan bwysau. Mae'n mynd yn ôl at y dewis canolog ynglŷn â chyni. Fe wnaeth arweinydd ariannol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Anthony Hunt, wneud y pwynt y penwythnos hwn fod cyni’r Torïaid yn bwrw gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Os na fydd yn dod i ben, bydd canlyniadau trychinebus i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

O ran ein her ni yma o fewn y gwasanaeth i leihau amseroedd aros ac i sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu mewn ansawdd, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am sut yr ydym yn ceisio mesur a deall beth yw profiad y claf. Nid yw’n fater o PREM a PROM yn erbyn y mudiad cyngor iechyd cymunedol yn unig. Mae'n ymwneud â deall lle mae swyddogaeth wahanol ar gyfer gwahanol rannau o'n system. Rwy'n credu y gallai ac y dylai PREM a PROM fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddeall profiad pobl a gofyn i bobl beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac yna’n dylunio gwasanaethau o gwmpas yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud wrthym. Ond yn yr un modd, mae'n ymwneud â deall bod mwy nag un lle i fynd a chael hyn. Felly, mae yn y niferoedd sydd gennym, ond mae yn y gwaith archwilio clinigol sy'n digwydd hefyd. Mae meysydd cyfoethog i'w gwella yno hefyd, ac mae hynny'n ein meincnodi ar draws rhannau eraill o system y DU. Ym mhob un o'r grwpiau gweithredu sydd gennym ar gyfer prif gyflyrau, mae'r trydydd sector bob amser yn rhan o hynny. Felly mae gennych her o’r grwpiau hynny sy'n gweithredu, os hoffech, fel llais y claf yn y gwasanaethau hynny hefyd. Ceir enghraifft dda o grŵp trydydd sector yn ein helpu i ddeall llais y claf yn yr arolwg Macmillan yr ydym newydd ei gael, sy’n dweud wrthym am wasanaethau canser a chyfraniad uniongyrchol y claf. Felly, rydym yn deall o amrywiaeth o ffynonellau yr hyn y mae cleifion yn ceisio ei ddweud wrthym am y gwasanaethau y maen nhw’n eu gwerthfawrogi a sut maen nhw’n dymuno eu gweld yn cael eu gwella. Ac wrth geisio gwneud y rheini'n fwy cyson neu'n gyflenwol, ni ddylem rwystro gwahanol feysydd er mwyn deall yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Rwy’n credu fy mod wedi ymdrin yn fras â’ch pwyntiau am ddilyniant. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod apwyntiadau ENT yn Aneurin Bevan wedi gostwng 40 y cant. Yr her, fel yr oedd Angela Burns yn ei ofyn, yw sut yr ydym yn sicrhau bod apwyntiadau dilynol yn briodol yn glinigol ac nad ydym yn gyrru galw amhrisiadwy i mewn i'n system nad yw o ddim gwerth, naill ai i'r clinigwr nac i'r dinesydd. Ac ni chredaf fod llawer o sicrwydd mewn gofyn ichi ddod i ysbyty i gael apwyntiad dilynol gydag ymgynghorydd, rydych chi wedyn yn gorfod aros am gyfnod o amser, yn gorfod chwilio am le parcio yn rhywle, mynd yno a threulio rhan sylweddol o'ch diwrnod, ac yna rydych yn cael pum munud gyda’r clinigydd ac yntau’n dweud, 'Mae popeth yn iawn, diolch yn fawr iawn'. Nid yw hynny'n ddefnydd gwych o amser yr ymgynghorydd hwnnw ac yn aml nid yw'n ddefnydd gwych o amser y dinesydd chwaith. Felly, gellir bod yn llawer mwy effeithlon, mewn gwirionedd, mewn modd sy'n briodol yn glinigol, gan newid y ffordd y mae apwyntiadau dilynol yn digwydd a phwy mae pobl yn mynd i’w gweld.

Ynghylch eich pwyntiau eraill am feysydd eraill o'r rhaglen gofal wedi’i gynllunio, wel, mae’n fater o’r cyngor y byddwn yn ei gael am y nifer cywir o feysydd, ond hefyd gallu'r system i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y meysydd hyn lle mae llawer iawn o weithgaredd. O ran canser, rydym yn gwneud rhagor o waith ar fireinio ein llwybr canser i ddeall sut mae cael y system gywir i gyflwyno'r canlyniadau cywir i'n cleifion.

Mae'n amlwg bod yn rhaid inni gael mwy o ddinasyddion i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn hytrach na thagu ein meddygfeydd â dolur gwddf, er enghraifft, pan allant gymryd moddion eu hunain yn hawdd.

Ond roeddwn i eisiau siarad am yr ymweliadau a gefais gydag Optegwyr Pearce a Bowler ym Mhentwyn, lle mae Clare Pearce a Francesca Bowler wedi treialu cysylltiad delweddu amser real gyda'r ysbyty Iechyd er mwyn galluogi'r ymgynghorydd yn yr ysbyty i weld llygad y claf, a allai fod ag anhwylder macwlaidd neu efallai ddim, a allai fod angen triniaeth frys, neu efallai ddim. Mae'n ymddangos ei fod yn beilot arloesi gwych sy'n galluogi mwy o bobl i beidio â gorfod mynd i'r ysbyty oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol. Rydym eisiau i bobl fynd i'r ysbyty os oes ganddyn nhw gyflwr difrifol sy'n fygythiad i fywyd ac y mae angen ei drin ar unwaith. Felly, credaf fod hynny'n enghraifft wych o arloesedd y gallem fod yn ei wthio, rwy’n gobeithio, mewn rhannau eraill o Gymru.

Yfory yw Diwrnod Gordewdra’r Byd ac mae’n fy nychryn i ddarllen y bydd gordewdra oedolion yn codi o 27 y cant i 34 y cant os na wnawn ni rywbeth yn ei gylch. Mae'n amlwg bod angen i ni newid y sgwrs gyda dinasyddion os ydym yn mynd i atal cwymp ein gwasanaeth iechyd, sydd dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn canserau a diabetes a chyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â gordewdra.

Rwy’n croesawu'r adolygiad rhithwir sydd wedi digwydd ar apwyntiadau clun a phen-glin, sydd wedi lleihau'n sylweddol nifer y bobl y mae angen i ymgynghorydd eu gweld. Pan gafwyd bwrlwm o weithgarwch yn ymwneud ag amseroedd aros gormodol am lawdriniaethau ychydig cyn diwedd y toriad, roedd yn amlwg i mi nad oedd Cwm Taf wedi cael problem yn gyson dros nifer o flynyddoedd. Felly tybed sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod arfer gorau, yr ymddengys ei fod yn bresennol yng Nghwm Taf, yn cael ei gyflwyno ar draws gweddill y byrddau iechyd i sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn i sicrhau nad yw pobl yn aros am fwy nag sy’n rhaid, a'n bod ni'n dileu ymgynghoriadau diangen o'r system.

Diolch. Credaf fod cwpl o sylwadau a chwpl o gwestiynau a byddaf yn ceisio eu hateb yn brydlon, Dirprwy Lywydd. Ar anhwylder cyffredin, rwy'n credu eich bod chi'n iawn— mae'n bwynt teg i'w wneud—rydym eisiau i bobl fynd i weld y person priodol yn ein system, neu eu bod yn prynu eu moddion eu hunain ac yn gofalu amdanynt eu hunain. Dyna pam mae cyflwyno ein rhaglen fferyllfa gymunedol—y rhaglen Dewis Fferyllfa ar gyfer anhwylderau cyffredin—yn bwysig iawn. Ac rydym yn gwneud cynnydd da iawn—rydym yn sicrhau bod mwy a mwy o fferyllfeydd ar gael i fod yn bwynt cyswllt cyntaf heb orfod cymryd amser meddyg teulu.

Ar y pwynt ynglŷn ag Optegwyr PB ym Mhentwyn, rwy'n teimlo’n llawn cyffro am y cynllun peilot yno gydag optegydd lluosog mawr arall, Specsavers, yng nghanol y ddinas a hefyd yn eich etholaeth chi. Mae gen i ddiddordeb mewn mynd ar ymweliad dilynol â nhw, gan fod model eu treialon wedyn yn cael ei ddefnyddio trwy gyfnod hirach o amser. Felly, rwy'n gobeithio mynd yn ôl dros y flwyddyn newydd ac edrych unwaith eto i weld, ar ôl misoedd o ymarfer, a yw'n llwyddo i gyflawni'r manteision y credwn y gallai ei wneud, i'r clinigwyr yn y naill leoliad a’r llall, ond hefyd, yn bwysig iawn, i’r dinasyddion. Gan dybio ei fod yn gweithio, rwyf wedyn yn awyddus i weld hynny’n cael ei gyflwyno ar draws gweddill y wlad hefyd. Felly, mae'n gynllun peilot gwirioneddol gyffrous i’w ddatblygu.

O ran y pwynt ar ordewdra, fe wyddoch fod Rebecca Evans yn arwain ein strategaeth genedlaethol, i dynnu ynghyd. Rydym yn cydnabod bod ein heriau o ran diet ac ymarfer corff yn heriau gwirioneddol a sylweddol ym mhob maes gweithgaredd, ac mae annog pobl i gynnal pwysau iach a gwneud mwy o weithgareddau yn rhan bwysig iawn o yrru galw allan o'n system. Os na allwn wneud hynny, mae gennym heriau gwirioneddol iawn ynghylch cael gwasanaeth mwy cynaliadwy. Felly, rwy'n edrych ymlaen at allu manteisio ar y gallu i wneud hynny, ac rwy'n optimistaidd ynghylch ble y byddwn ni fel Llywodraeth. Yr her yw hyn: a allwn ni ddarbwyllo'r cyhoedd i wneud mwy o bethau drostynt eu hunain, oherwydd mae o fudd iddyn nhw wneud hynny, ac nid yn unig er mwyn gwneud bywyd yn haws i'r Llywodraeth?

5. 5. Datganiad: Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr adolygiad cyflym o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer 2017 i 2020, ac rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i wneud y datganiad.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi gosod sylfaen gryf ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg, ond mae cymaint wedi newid ers i’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddod i rym statudol. Mae’n rhaid inni nawr addasu a moderneiddio’r ffordd yr ydym ni yn cynllunio addysg Gymraeg er mwyn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’, gan gydnabod bod addysg yn gatalydd allweddol ar gyfer newid.

Yn yr haf eleni, mi wnes i ddatgan cynllun y Llywodraeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mi fydd hyn yn gofyn am uchelgais, cefnogaeth ac arweiniad gan awdurdodau lleol, llywodraethwyr, penaethiaid ysgolion ac, wrth gwrs, rhieni a phlant eu hunain. Er mwyn cyrraedd ein targed o 40 y cant o ddysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i bob un ohonom ni gydweithio gyda’n gilydd.

Cefais fy siomi gan y diffyg uchelgais o fewn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar ddechrau’r flwyddyn, a dyna pam cafodd Aled Roberts ei benodi i gynnal adolygiad brys o’r system, ynghyd â chysylltu â’r awdurdodau lleol i drafod eu cynlluniau cyfredol. Dirprwy Lywydd, mae ‘adolygiad brys’ yn ddisgrifiad teg o’r wibdaith o amgylch Cymru a gyflawnodd Aled Roberts. Rwy’n hynod ddiolchgar iddo, ac i’r 22 o awdurdodau lleol am eu cydweithrediad ar fyr rybudd, ynghyd â rhanddeiliaid eraill am eu mewnbwn ac ymroddiad. Mae’n bwysig i ni i gyd nodi bod lot fawr o bobl ar draws y wlad wedi cydweithio’n galed iawn gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd y nod lle’r ydym ni i gyd eisiau bod.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae adroddiad Aled yn cynnig 18 o argymhellion ar gyfer datblygu’r cynlluniau i’r dyfodol. Mi fyddwn ni’n derbyn pob un o’r argymhellion. Mae’r broses hon wedi cynnig gorolwg annibynnol i mi o’r hyn sydd angen ei newid, a sut y gallwn ni weithredu’r newidiadau hynny mewn ffordd gynhwysol. Mae Aled wedi cynnig adolygiad i ni o gynlluniau pob un awdurdod lleol. Ar ddechrau mis Awst, mi wnes i lythyru’r awdurdodau er mwyn rhannu ei sylwadau. Mae fy swyddogion i wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r awdurdodau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn diwygio, cefnogi a herio’r cynlluniau. Rydym ni yn disgwyl derbyn y cynlluniau diwygiedig o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae adroddiad Aled hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’r argymhellion yn cynnwys adolygiad o amserlenni’r WESPs i gyd-fynd â rhaglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac y dylid targedu’r buddsoddiad cyfalaf er mwyn sicrhau cysylltiad rhwng rhaglenni ysgolion a chyn ysgol. Yn ail, dylid sefydlu panel neu fwrdd er mwyn trafod a phwyso a mesur y newidiadau sydd eu hangen i’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyn iddynt gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad. Yn drydedd, cryfhau’r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf ar lefel pob sir a fydd yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar hyd y daith at 2050. Yna, symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion; a chynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu’r nifer o athrawon sydd yn cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.

Llywydd, un o’r argymhellion oedd sefydlu bwrdd, ac rydw i eisiau symud ymlaen i sicrhau bod yna gynrychiolaeth o bob rhan o’r sector addysg yn rhan o’r bwrdd yma. Rydw i wedi datgan sawl tro na all y Llywodraeth wneud hyn ei hun ac mae angen i bawb sydd â rôl yn addysgu ein pobl ifanc gymryd rhan ar y siwrnai hon.

Mi fydd cynlluniau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ganolog i dwf addysg Gymraeg. Bydd unioni’r wybodaeth sydd o fewn y cynlluniau strategol a cheisiadau busnes ar gyfer pob un awdurdod lleol am gyllid yn sicrhau cysondeb. Rydym ni eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr, ac mae cynlluniau drafft cynnar yr awdurdodau lleol yn edrych yn addawol. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: ni fyddaf i’n cymeradwyo dim un cynllun sydd ddim yn dangos uchelgais. Mi fyddaf i’n parhau i drafod gydag awdurdodau lleol hyd nes y byddwn ni wedi derbyn cynlluniau sydd yn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’.

Mae’n bwysig nodi bod rhagamcanion poblogaeth ysgolion yn awgrymu y bydd niferoedd yn eithaf statig rhwng y 10 ac 20 mlynedd nesaf, ac felly mi fyddaf i’n gofyn i’r cynlluniau diwygiedig hyn ystyried dulliau arloesol ar gyfer tyfu’r ddarpariaeth. Mi fydd hyn yn gofyn am fwy nac agor ysgolion newydd yn unig. Mi fydd y Llywodraeth, gyda chymorth ac arweiniad y bwrdd, hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ieithyddol er mwyn cynnig gwell eglurder ar natur y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ein hysgolion ni.

Sialens amlwg arall fydd sicrhau niferoedd digonol o fewn ein gweithlu addysg er mwyn cwrdd â’r cynnydd yr ydym ni’n anelu at ei weld. Mi ddaru’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg gyhoeddi rhai wythnosau yn ôl ei bwriad i fuddsoddi £4.2 miliwn o’r gyllideb addysg i ddatblygu gweithlu sydd â’r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd hyn yn cynnwys ehangu ar y cynllun sabothol—£1.2 miliwn—ac ehangu rôl y consortia addysg gyda £2 miliwn.

Felly, er ein bod ni wedi cychwyn ar ein taith i weithredu’r newidiadau angenrheidiol i weld twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, nid oes gen i ddim amheuaeth bod angen gwneud mwy. Mae’n rhaid i ni ddeddfu i gryfhau ac mae’n rhaid i ni edrych mewn mwy o fanylder ar y strwythurau presennol, rôl y consortia a sut ydym yn datblygu dulliau clir ac effeithlon o adnabod y galw am addysg Gymraeg.

Llywydd, yn unol â’n hymrwymiad i ymateb i’r sialensiau uchelgeisiol yr ydym yn eu hwynebu yn yr hirdymor i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, mi fyddaf i fel Gweinidog yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gweithio i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am gael copi ymlaen llaw o'r datganiad y prynhawn yma? Fel yntau, roeddwn yn siomedig iawn o weld y prinder uchelgais yn rhai o gynigion a chynlluniau'r awdurdodau addysg lleol a gafodd eu cyhoeddi. Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r adolygiad cyflym a gyhoeddodd ef yn gynharach eleni, sydd bellach wedi'i gwblhau gan ein cyn-gydweithiwr yn y Cynulliad, Aled Roberts. Rydym i gyd yn gwybod na fyddwn ni'n cyrraedd y targed uchelgeisiol o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru heb gynyddu nifer y bobl ifanc a phlant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, yn wir, mae angen inni wthio'r uchelgais honno, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau addysg strategol newydd, a ddaw gan yr awdurdodau lleol maes o law.

Cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith fod rhywfaint o ohebiaeth wedi bod rhyngddo ef ag awdurdodau lleol am y cynlluniau hynny. Ys gwn i, Gweinidog, a fyddech chi'n cyhoeddi’r ohebiaeth ohono i’w chofnodi, fel y gallwn weld beth yn union a wnaethoch i herio'r awdurdodau lleol hynny? Credaf i, er tryloywder, ac er mwyn i bawb allu cytuno ag ef a chefnogi’r awgrymiadau yr oedd yn eu gwneud, y byddai'n dda cael gweld hynny ar gofnod cyhoeddus.

Rwyf hefyd yn nodi, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi cyfeirio, yn gwbl ddilys, at y cynnig i sefydlu bwrdd i gyflawni’r gwelliannau ac mae wedi awgrymu y bydd y bwrdd hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr o bob sector ym myd addysg. Roeddwn yn arbennig o falch o'i glywed yn cyfeirio at y sector addysg feithrin, y ‘cylch meithrin’. Yn wir, byddwn yn mynd mor bell â dweud fy mod wedi ymweld â’m cylch meithrin lleol yn Abergele, a oedd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ddydd Gwener, a gallaf weld pa mor werthfawr ydyw a chymaint o ased ydyw i'r gymuned leol. Y llwyddiant hwnnw, gyda’r plant o oedran cynnar iawn, sydd yn annog y rhieni hynny i symud eu plant ymlaen i addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac, yn wir, sydd yn rhoi'r hyder iddyn nhw i alluogi'r plant hynny i fynd ymlaen i addysg uwchradd.

Un maes nad ydych chi wedi siarad llawer amdano yn eich datganiad, mewn gwirionedd, yw swyddogaeth y sector addysg bellach. Tybed a oes modd ichi ddweud wrthym i ba raddau y maen nhw’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol, oherwydd, yn amlwg, un o'r gwendidau a nodwyd gan Aled Roberts oedd yr angen i sicrhau bod dilyniant yn cael ei alluogi, os hoffech chi, a bod twf sylweddol mewn addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwyddom nad yw hyn yn digwydd fel y dylai ar hyn o bryd, ac mae gennym blant a phobl ifanc sy’n gadael addysg uwchradd ac yn awyddus i fynd ymlaen i addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg, ac nid oes modd iddyn nhw gael hynny. Ac os yw ar gael, rhyw fath o ffug ddarpariaeth ydyw, oherwydd yn aml iawn mae’n golygu sefyll arholiadau trwy gyfrwng cyfieithwyr yn hytrach na gallu dilyn holl gwmpas eu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydych chi hefyd wedi cyfeirio yn eich datganiad at swyddogaeth werthfawr gwaith ieuenctid—gwaith ieuenctid yn y Gymraeg—a gwn mai un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn edrych arnyn nhw yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw'r ddarpariaeth o waith ieuenctid ledled Cymru. Un o'r pryderon a nodwyd gennym yn ein hadroddiad diweddar oedd yr angen i sicrhau bod y ddarpariaeth o waith ieuenctid ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. O gofio mai cymunedau ffydd ledled Cymru sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth unigol fwyaf o waith ieuenctid yn y wlad, a wnewch chi ddweud wrthyf ba weithgaredd sy'n digwydd o ran ymgysylltu â'ch Llywodraeth chi? Pa fath o ymgysylltiad yr ydych chi'n disgwyl i'r awdurdodau addysg lleol ei gael gyda chymunedau ffydd, o ystyried eu bod yn ddarparwyr mor bwysig? Ac os oes modd cefnogi rhai o'r cymunedau ffydd hynny i gyflwyno mwy o Gymraeg yn eu darpariaeth, a fyddai hynny’n rhywbeth y byddai gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb ynddo?

Nodaf hefyd eich bod wedi cyfeirio at yr amcanestyniadau poblogaeth a ragwelir yng Nghymru o ran niferoedd plant ysgol, a bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hyn fod yn weddol sefydlog dros y 10 i 20 mlynedd nesaf. Gwyddom fod cynlluniau datblygu lleol yn cael eu cyflawni ledled y wlad, lawer ohonyn nhw â thwf tai sylweddol. Yn y Gogledd, pe byddech yn cyfuno'r cynlluniau datblygu lleol unigol, credaf fod tua 100,000 o gartrefi newydd yn mynd i gael eu codi yn ystod gweithredu’r cynlluniau hynny. Mae hynny'n enfawr—. Mae'n ddrwg gen i, 100,000 o ran twf poblogaeth yw hynny, ddim ond yn y Gogledd yn unig. Rwy'n amau ​​bod lefelau twf tebyg yn cael eu cynllunio ar gyfer mannau eraill. A wnewch chi ddweud wrthym a ydych yn ystyried y twf hwnnw yn eich ffigurau poblogaeth amcanestynedig? Hefyd, a wnewch chi ein hysbysu o’r hyn y disgwyliwch i awdurdodau lleol ei wneud o ran yr arian adran 106 a allai fod ar gael o ganlyniad i'r twf hwnnw, i’w fuddsoddi yn y seilwaith cyfalaf i gefnogi twf darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau a allai gael eu heffeithio?

Rwy’n bryderus, a dweud y gwir, nad yw'r asesiadau effaith presennol ar yr iaith Gymraeg, y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgymryd â nhw o ran datblygiadau dros faint penodol, bob amser yn chwilio am gyfleoedd, drwy eu cytundebau adran 106, i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu cymunedau. Rwyf i o’r farn fod hynny'n rhywbeth y bu ychydig o ddiffyg gweld yn ei gylch, ac efallai y gallwch ddweud wrthym a yw’n rhywbeth sy'n ymddangos yn thema yn rhai o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft a gafodd eu cyflwyno i chi.

Yn olaf, o ran amserlen unrhyw ddeddfwriaeth a allai ddod i'r amlwg ar ôl sefydlu’r bwrdd, wrth gwrs, rwy’n tybio y byddwch yn gofyn iddo archwilio sut y gellir fframio'r ddeddfwriaeth orau a chyflwyno cynigion ger eich bron chi. Ond mae’n amlwg fod angen inni wneud rhywfaint o gynnydd yn gyflym yn y Cynulliad hwn i bennu’r llwybr ymlaen fel y gallwn gyflawni'r uchelgais sydd yn 'Cymraeg 2050'. Hoffwn i weld amserlen glir iawn ar gyfer y bwrdd hwnnw, fel y gallwn ni eich dal chi i gyfrif fel Gweinidog y Llywodraeth i gyflwyno yn ôl yr amserlen honno. Tybed a oes gennych unrhyw syniad ar hyn o bryd pa bryd y byddwch yn disgwyl i'r bwrdd adrodd yn ôl i chi—gwn nad yw wedi cael ei sefydlu eto, ond i adrodd yn ôl i chi o ran amserlen unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer y fframwaith a allai fod yn angenrheidiol. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y ffordd adeiladol y mae wedi mynd i’r afael â'i sylwadau y prynhawn yma. Credaf fod cytundeb bras ar y dadansoddiad sylfaenol yr ydym wedi'i wneud ar bob ochr i'r Siambr, a chytundeb bod angen inni i gyd rannu'r un uchelgais, a maint yr uchelgais, ar gyfer y cynlluniau ym mhob ardal awdurdod lleol.

A gaf i ddweud wrtho—? Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, y cytunwyd arno, erbyn diwedd y flwyddyn. Yna, byddaf yn edrych ar sut yr ydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth gynhaliol a chefnogol, ac yn edrych ar sut yr ydym yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar yr Aelodau, nid yn unig er mwyn ein dal ni i gyfrif o ran y penderfyniadau a gymerwn ni, ond hefyd er mwyn deall y ffordd yr ydym wedi datblygu polisi yn y maes hwn, a galluogi eraill i ddeall y broses yr ydym wedi mynd trwyddi dros y cyfnod diwethaf.

Rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y maes hwn, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi bod yn gyson wrth geisio codi pontydd bob amser ac wrth geisio dod i gytundeb bob amser. Rwyf wedi ceisio annog, cefnogi, galluogi, hwyluso. Rwyf wedi ceisio cael trafodaeth yn hytrach na dim ond anfon llythyrau a gofynion a gorchmynion o'r lle hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y dull hwn o weithredu yn dwyn ffrwyth, a gobeithio y bydd y cydweithio, ledled ein gwlad, yn un a fydd yn cael cefnogaeth eang ar bob ochr i'r Siambr eto heddiw.

O ran sefydlu'r bwrdd, fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn bwrw golwg ar ba mor gyflym y gallwn symud ymlaen ar wneud hyn. Rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau ar ddeddfwriaeth. Yn amlwg, cyhoeddais Bapur Gwyn ar yr iaith Gymraeg yn yr haf. Nid yw'r cynigion hyn yn rhan o'r Papur Gwyn hwnnw. Er hynny, nid oes gennyf unrhyw gynigion ffurfiol hyd yn hyn ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w wneud yw edrych ar y cydgysylltiad rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw rhai o'r meysydd hyn a bydd angen inni gael barn ystyrlon ar sut yr ydym yn mynd ati i gael fframwaith statudol cyfannol a chynhwysfawr sy'n ein galluogi i wneud y penderfyniadau hyn, ond hefyd sy'n ein galluogi i gael cydlyniad ar y llyfr statud. Felly, byddaf yn edrych ar y berthynas rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a phan fyddwn mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau ar hynny, byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Siambr hon.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am fod ychydig yn betrus gydag amserlennu yn hyn o beth. Rwy’n dymuno gallu ystyried y cynigion yr wyf wedi'u gwneud yn y Papur Gwyn yn gyntaf. Rwy’n dymuno gallu sicrhau bod gennym gydlyniad yn y maes polisi hwnnw, ac yna sicrhau bod gennym gydlyniad o ran ein cyfres bresennol o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac yna ddysgu gwersi o’r ddau orchymyn polisi hynny cyn dod at ein gilydd i roi eglurder pellach o ran sut y byddwn yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes hwn. Ond, yn sicr, byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr i wneud datganiadau pellach ar yr holl faterion hynny.

O ran symud ymlaen, mae'r materion ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar ac addysg feithrin yn feysydd yr wyf wedi bod yn rhoi ystyriaeth ddofn iddyn nhw. Rydym yn ymwybodol o nifer o enghreifftiau—mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fy atgoffa am sefyllfa yn ei hetholaeth hi yn Llanfair-ym-Muallt lle mae cylch meithrin wedi arwain at dwf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dref honno. Mae'n enghraifft ddiddorol, rwy'n credu, o’r hyn allasai fod yn bosibl mewn ardaloedd eraill hefyd.

Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweld twf sylweddol yn y profiad o’r iaith Gymraeg gan blant yn y blynyddoedd cynharaf. Rwy’n dweud hynny mewn ystyr eang iawn, oherwydd bydd yna leoliadau amrywiol a chymwys, sy’n darparu gwahanol lefelau o'r iaith mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ond yr hyn y byddwn yn gobeithio ei wneud yw sicrhau bod gan bob plentyn, o'r oedran ieuengaf posib, brofiad o wrando a chlywed a dysgu siarad Cymraeg, p'un a ydynt yn mynd ymlaen i addysg ffurfiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny.

O ran y sector AB, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad am hyn dros yr haf o ran y grŵp gorchwyl a gorffen y mae Delyth Evans wedi'i gadeirio a'i arwain, a bydd datganiadau pellach ar sut y byddwn yn symud hynny ymlaen yn yr wythnosau nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cwrdd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ystyried goblygiadau gwaith Delyth Evans a byddwn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny maes o law.

O ran gwaith ieuenctid, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed ac rwy'n credu bod y defnydd o'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth a'r iard yn hollbwysig. Rwy'n gobeithio y bydd grwpiau ffydd yn chwarae eu rhan yn hynny ac y bydd pob grŵp mewn gwahanol gymunedau yn chwarae rhan wrth alluogi pobl i gymdeithasu, a phobl ifanc yn arbennig i gymdeithasu, trwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran cynlluniau datblygu lleol, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwnc llosg yn lleol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd i drafod sut y gallwn fynd â'r materion hyn yn eu blaenau. Rydym yn ystyried ein safbwynt ar hynny o hyd. O’m rhan fy hunan, ni welaf unrhyw reswm o gwbl pam na all awdurdodau lleol sicrhau y bydd unrhyw ysgolion a gaiff eu hadeiladu yn rhan o gytundebau 106 mewn cynlluniau datblygu lleol sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan o hynny.

Yn amlwg, eto, mewn gwahanol leoliadau mewn gwahanol gymunedau, bydd gennym wahanol ganlyniadau o'r ystyriaeth honno. Ond ymddengys i mi nad oes rheswm o gwbl, yn sicr nid oes rheswm da, pam na ddylai'r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol o ran telerau o'r cytundebau 106 hynny ac y dylid ystyried ysgolion cyfrwng Cymraeg ar yr un sail ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu symud hynny yn ei flaen.

Rwy'n gobeithio fy mod wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a ofynnwyd gennych. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd ystyriol y mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi mynd i’r afael â'r datganiad.

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ategu’r diolch ar y record—ac rydw i’n siŵr ein bod ni wedi diolch yn y gorffennol—i Aled Roberts am ei waith ar y cynlluniau strategol yma?

Rŷch chi’n dechrau eich datganiad drwy ddweud bod y cynlluniau wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Wel, nid wyf eisiau anghytuno â chi yn y frawddeg gyntaf, ond yn amlwg mae yna bobl wedi cwestiynu a ydyn nhw wedi bod yn ddigon cryf, ac mae’r ffaith ein bod ni lle rydym ni nawr yn awgrymu i mi nad ydyn nhw. Nid oes ond yn rhaid edrych ar y ‘critique’ gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, er enghraifft, ar rai o’r cynlluniau unigol i ddangos bod yna achos mawr am gonsýrn. Ond mae pethau’n gwella o fan yna ymlaen, Gweinidog, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ac rydw i’n cytuno â chi bod yn rhaid addasu a moderneiddio nawr y ffordd rydym ni yn cynllunio.

Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud nid dim ond rôl i’r Llywodraeth yw hon. Mae’r awdurdodau lleol, y byrddau llywodraethwyr, y prifathrawon, y rhieni, y plant eu hunain, a’r gymuned yn ehangach, wrth gwrs, â rôl bwysig i’w chwarae. Ond y Llywodraeth sydd yn gorfod dangos yr arweiniad. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos arweiniad cryf, arweiniad dewr, arweiniad diwyro, er mwyn sicrhau bod y gweddill yn dilyn. Heb hynny, yna rydw i yn ofni y byddwn ni’n cychwyn o fan o wendid. Mae gen i ffydd y byddwch chi’n gwneud hynny fel Gweinidog, ond, yn amlwg, byddwn ni’n pwyso arnoch chi i sicrhau bod hynny yn digwydd.

Nawr, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith eich bod chi’n derbyn y 18 o argymhellion yn adroddiad Aled Roberts. Ond, fel rŷch chi’n gwybod, wrth gwrs, nid derbyn yr argymhellion yw’r prawf, ond y modd yr ydym ni i gyd yn ymateb i’r argymhellion hynny ac yn gweithredu yn sgil yr argymhellion hynny.

Rŷch chi’n dweud na fyddwch chi’n cymeradwyo’r un cynllun nad yw’n dangos uchelgais, ac ni allaf anghytuno â chi. Ond y cwestiwn sydd gyda fi fan yna yw: beth yw’r ffon fesur y byddwch chi’n ei defnyddio i benderfynu a oes yna ddigon o uchelgais neu beidio? Beth yw uchelgais? Achos mae uchelgais mewn un rhan o’r wlad yn amlwg yn mynd i fod yn wahanol i uchelgais mewn rhan arall o’r wlad, ac mae hynny’n bwysig oherwydd, er mwyn i ni allu eich dal chi i gyfrif, er mwyn i chi fod yn atebol, er mwyn tryloywder hefyd, mae’n rhaid i ni ddeall beth yw eich diffiniad chi o uchelgais. Rydw i’n gwybod nad yw’r argymhellion ddim yn argymell targedau penodol i wahanol rannau o’r wlad. Yr unig gyfeiriad, rydw i’n credu, i dargedau yw i edrych ar dargedau meini prawf sy’n cyfeirio at sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol. Nawr, byddem ni’n leicio clywed sut, efallai, y bydd rheini’n cael eu creu, ond mae angen yr eglurder yna ynglŷn â beth yw uchelgais. Ac, a dweud y gwir, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl hefyd, oherwydd liciwn i gael eglurder gennych chi prynhawn yma ynglŷn â’r targed mwy cyffredinol o safbwynt nifer y siaradwyr: a ydy’r targed sy’n dod o ‘Cymraeg 2050’ ar gyfer y ganran o blant saith oed sy’n derbyn addysg Gymraeg wedi cymryd lle y targed o strategaeth 2010? Oherwydd roedd strategaeth 2010 yn dweud y dylai 30 y cant o ddisgyblion saith oed dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020, ond mae strategaeth ‘Cymraeg 2050’ yn dweud y dylai 30 y cant gael ei gyrraedd erbyn 2031. Felly, byddwn i’n licio bach o eglurder ynglŷn ag yn union pa darged rydym ni’n gweithio tuag ati.

Mae cyfeiriad wedi’i wneud yn barod at y blynyddoedd cynnar, wrth gwrs, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, oherwydd os ydym ni’n colli ein pobl ifanc ni yn y blynyddoedd cynnar yna, yna mae’n bosib, neu’n fwy tebygol, yn sicr, y byddwn ni wedi colli ein gwir iaith am byth. Mae’r cynnig gofal plant yn gwbl ganolog i hyn, ac, yn y cytundeb ar y gyllideb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs, rŷm ni wedi sicrhau y bydd yna ariannu ychwanegol i Mudiad Meithrin, a byddwn ni’n edrych ymlaen i drafod gyda chi sut y gallwn ni sicrhau bod hwnnw’n cyfrannu at yr uchelgais rŷm ni’n rhannu fan hyn o safbwynt cynyddu niferoedd y plant sydd yn cael gofal plant ac addysg cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg.

Rŷch chi’n sôn am yr angen i symleiddio’r broses gategoreiddio, a byddwn i’n cytuno â hynny, oherwydd nid oes gen i ddim ffydd bod y broses gategoreiddio ar hyn o bryd yn ddigon ystyrlon. Mae yna ysgolion yn yr un categori yn yr un sir sydd yn gwbl wahanol o safbwynt eu naws a’u hanian ieithyddol, ac felly mae angen mynd i’r afael â hynny. Ond fel rhywun, wrth gwrs, sydd â phrofiad—a byddwn i’n datgan budd fel llywodraethwr ar ysgol gynradd fan hyn lle mae yna frwydr wedi bod—mae’n rhaid i ni, yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac yng nghyd-destun yr uchelgais mae’r Llywodraeth yn ei ddangos, beidio â bod mewn sefyllfa lle mae yna ysgol mewn un categori iaith yn mynd i gael ei israddio i gategori arall yng nghyswllt neu yng nghyd-destun ad-drefnu. Felly, mae’n rhaid gwarchod rhag hynny.

Rŷch chi’n cyfeirio at rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, wrth gwrs, ac mae hynny’n sefyll i reswm. Rŷch chi’n dweud eich bod chi eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr. Efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â hynny: sut yn union ydych chi’n gweld hynny’n digwydd, a pha sicrwydd sydd yna y bydd hynny’n digwydd?

Jest i orffen, ac i bigo i fyny ar y pwynt wnaethpwyd ynglŷn â’r ffaith eich bod chi’n dweud bod yn rhaid i ni ddeddfu i gryfhau, rydw i’n deall y bwriad i newid y fframwaith ddeddfwriaethol, rydw i’n deall y bydd y panel neu’r bwrdd yn pwyso a mesur y newidiadau. A ydych chi’n rhoi canfas wag lwyr i’r bwrdd yma, neu a ydych chi’n gweld ef yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth bresennol yn unig? Mae eisiau eglurder, rydw i’n credu, ynglŷn â, yn amlwg, deddfu o gwmpas cynlluniau strategol, a bydd categoreiddio’n dod i mewn i’r cyd-destun hynny, ac yn y blaen—jest efallai bach mwy o gig ar yr asgwrn yna. Rydw i’n gwybod hefyd eich bod chi wedi cyffwrdd â’r amserlen, ac rydw i’n deall, yn amlwg, eich bod chi am glywed barn y bwrdd neu’r panel ac yn y blaen cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol, ond mi oedd argymhelliad Aled Roberts yn sôn y dylid deddfu erbyn y cylch nesaf o gynlluniau, neu cyn hynny os yn bosib. Felly, byddai cadarnhad ei bod hi’n fwriad i sicrhau deddfwriaeth cyn y cylch nesaf yn rhywbeth y byddwn i’n ei groesawu. Diolch.

Llywydd, liciwn i ddechrau drwy hefyd ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei ymateb adeiladol i’r datganiad yma ac i’r ffordd rydym ni’n datblygu polisi yn y maes. Mi wnes i ddefnyddio’r gair ‘sylfaen’, wrth gwrs, fel ffordd o ddechrau—nid yw’n ddiwedd ar y broses. Nid ydych yn bennu’r tŷ gyda’r sylfaen, ond mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen. Dyna beth rwyf wedi trio ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy’n deall y pwynt rŷch chi’n ei wneud amboutu’r Llywodraeth yn dangos arweinyddiaeth. Rwyf hefyd yn gwybod y buasech chi’n deall ‘A fo ben bid bont’, achos mae’n bwysig ein bod ni’n symud ymlaen yn cydweithio â phobl.

Rwy’n edmygu cynghorwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud, ac rwy’n edmygu’r ffordd y mae cynghorwyr yn delio â’r heriau gwahanol y maen nhw’n eu hwynebu yn eu hardaloedd gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod bod cynghorwyr yn gwybod yn well nag ydym ni fan hyn yn y bae, ac mae hynny’n meddwl bod yn rhaid inni gael perthynas lle rydym yn parchu ein gilydd, a’n bod ni’n cydweithio â’n gilydd. Dyna beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Drwy wneud hynny, rwy’n mawr obeithio bod y Llywodraeth yn dangos gwir arweinyddiaeth, ac arweinyddiaeth sy’n dod o eistedd i lawr, siarad a thrafod, ac nid dadlau yn y papurau. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi'r math yna o arweinyddiaeth.

Ar y cwestiwn mwyaf difyr rwyf wedi’i glywed rhywun yn gofyn i mi ers sbel yn y Siambr yma—sut ydw i’n diffinio uchelgais—nid wyf yn gwybod yr ateb, ond rwy’n gwybod bod yr uchelgais sydd gen i ar gyfer Blaenau Gwent yn wahanol iawn i’r uchelgais sydd gennych chi yn sir Ddinbych. Rwy’n credu bod angen inni gydnabod lle mae’r sefyllfa a’r cymeriad ieithyddol yn wahanol yn rhannau gwahanol o’r wlad, a dechrau drwy gydweithio â rhieni a’r cymunedau i sicrhau ein bod ni’n symud yn yr un cyfeiriad i sicrhau bod yna fwy o Gymraeg a mwy o gyfle i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg, ac i wneud hynny drwy gytundeb. Felly, yr uchelgais sydd gen i yw ein bod ni’n gallu symud ymlaen drwy gytundeb i ehangu addysg Gymraeg ym mhob un rhan o’r wlad.

Beth sydd ddim yn dderbyniol yw nad ydym yn cynllunio ar gyfer tyfiant yn unrhyw le—nid yw hynny’n dderbyniol. Felly, mae’n rhaid cael tyfiant, a bydd y fath o dyfiant yr ŷm ni eisiau ei weld, a’r cyfnod yr ydym eisiau gweld y tyfiant hynny ynddo, yn dibynnu ar natur ieithyddol, rwy’n meddwl, y gymuned leol a natur yr arweinyddiaeth sydd gennym ni’n lleol. Mae gen i uchelgais am y ddau beth.

Mi fyddwn ni yn gosod targedau, achos mae’r llwybr yr ydych chi wedi’i ddisgrifio yn un pwysig. Y targed sydd gennym ni yw’r targed y gwnes i ei gyhoeddi yn yr haf, nid y targedau blaenorol. Y targedau presennol yw’r targedau yr ydym ni’n gweithio atyn nhw. Rwy’n credu bod yn rhaid imi gyhoeddi’r llwybr mwy manwl yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn dangos y llinyn mesur, a hefyd y targedau a’r amcanion sydd gennym ni ar gyfer y daith yr ŷm ni’n ei hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwy’n gobeithio, Llywydd, y bydda i’n gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn.

Gyda’r materion eraill rydych chi wedi cyffwrdd â nhw yn eich cyfraniad, rwy’n cytuno â chi ar y pwyntiau rydych chi wedi’u gwneud amboutu’r Mudiad Meithrin—sefydliad Cymraeg sy’n gwneud gwaith hanfodol o bwysig nid jest i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ond i sicrhau lle’r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Rwy’n edmygu’r gwaith y mae’r mudiad yn ei wneud reit ar draws y wlad, ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi dod i gytundeb i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ariannu hynny a chefnogi gwaith y Mudiad Meithrin.

Hefyd, pan mae’n dod i’r cynllun gofal plant, rwy’n mynd i gyfarfod yr Ysgrifennydd Cabinet i drafod hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld ffigurau mwy manwl o argaeledd gofal plant yn y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut ydym ni’n datblygu’r sefyllfa. Rwy’n cymryd na fydd pob man lle’r ŷm ni eisiau iddo fod. Nid wyf wedi gweld y ffigurau eto, ond, pan rwy’n gweld y ffigurau, bydda i’n gweithio gyda Carl Sargeant i sicrhau ein bod ni’n gweld y math o gynnydd y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld, sy’n mynd yn ôl, wrth gwrs, at y cwestiwn yr oedd Darren Millar yn ei ofyn amboutu ysgolion meithrin.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwneud datganiadau ar y rhaglen cyfalaf, ac mi fydd hi’n dod yn ôl i’r Siambr i wneud datganiad arall ar hynny. Beth rwy’n gallu ei ddweud y prynhawn yma yw ein bod ni’n cydweithio’n agos iawn ar hynny, ac mi fydd gennym ni’r fath o raglen o’n blaenau ni fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau ni. Ac mi fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiadau ar hynny maes o law.

Roedd y cwestiwn olaf amboutu deddfwriaeth a rôl y bwrdd. Pan rwy’n gofyn i bobl wneud y gwaith yma, rwy’n dweud wrthyn nhw i ddilyn eu trwynau a gweld ble mae hynny’n eu harwain. Mi fydd yna gymysgedd, siŵr o fod, o ddeddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth, a bydd yn rhaid inni weld ble y mae hynny’n ein harwain ni. Os ydym yn sôn amboutu newid is-ddeddfwriaeth, mae’n bosibl y byddwn ni yn gallu gwneud hynny cyn bod y rownd nesaf o WESPs yn dod i mewn, a liciwn i symud mor glou â phosibl ar hynny. Os ydym ni’n newid y gyfraith, wrth gwrs, mi fydd hynny’n cymryd mwy o amser. Ond, ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gwneud y gwaith. Liciwn i adael i’r bwrdd wneud y gwaith, a rhoi tudalen wag iddyn nhw er mwyn iddyn nhw wneud hynny, ac unwaith maen nhw’n dod yn ôl gydag adroddiadau, mi fyddwn ni mewn sefyllfa i wneud datganiad arall i’r Siambr a hefyd datganiad ar sut rydym yn gweld yr amserlen yn datblygu.

Wel, yn briodol iawn i wlad y gân, rydym i gyd yn canu mewn cytgord yn hyn o beth, os nad yn gyfan gwbl unsain. Rwy’n cymeradwyo'r Gweinidog am yr egni a’r arweinyddiaeth y mae wedi'i ddangos gyda’r polisi arloesol hwn. Rwy'n cymeradwyo'r dull, y cyfeiriodd ato yn ei ymateb cynharach i Darren Millar, o adeiladu pontydd a dod â phobl ynghyd gan gymell, yn hytrach na gorfodi. Mae Aled Roberts, yn ei adroddiad, yn cyfeirio at hynny a sut mae rhai awdurdodau lleol yn wan iawn wrth geisio creu unrhyw alw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Creu’r galw yw hanfod gwirioneddol llwyddiant y polisi, ac rwy’n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn dwyn ffrwyth yn hynny o beth —ac rwy'n siŵr fod dawn y Gweinidog i berswadio yn atebol i’r dasg o geisio denu’n wirfoddol unrhyw awdurdodau lleol ystyfnig sydd wedi mynegi ond ychydig o frwdfrydedd dros y prosiect hwn. Fe gaiff yn sicr fy nghefnogaeth gref i yn hynny o beth.

Un rhan o'r adroddiad nad ydyw wedi ei grybwyll yn yr ymatebion hyd yn hyn yw paragraff 1.35, lle mae Aled Roberts yn cyfeirio at y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion. Mae'n dweud ei bod yn

amser i gael trafodaeth gadarn gyda Chymwysterau Cymru o ran newid y ffordd yr addysgir yr iaith wrth fynd ymlaen.

Wel, rwy'n gwybod ei bod hi'n amser maith iawn, iawn wir ers i mi fod yn yr ysgol ac roedd Cymraeg yn bwnc a oedd yn cael ei addysgu mewn ffordd wahanol iawn, iawn i'r ffordd y mae'n cael ei addysgu yn awr. Cafodd yr iaith Gymraeg ei haddysgu i mi fel pe bai’n iaith dramor, ac nid wyf i byth wedi dod dros hynny, rywsut. Ond, byddwn yn hoffi i'r Gweinidog, efallai, ehangu ychydig ar yr agwedd honno ar y polisi: sut yr ydym yn mynd i newid y ffordd y mae'r iaith yn cael ei haddysgu er mwyn helpu i gyflawni'r amcanion hyn? Wrth gwrs, mae'n amlwg mai'r unig ffordd y bydd y polisi hwn yn llwyddo yw trwy gael rhagor o blant blynyddoedd cynnar yn cael eu magu i siarad Cymraeg fel rhywbeth sy'n naturiol ac nid rhywbeth sy'n cael ei ddysgu fel rhywbeth sych a diflas, fel sydd yn wir am lawer o ieithoedd tramor eraill. A hoffwn ganmol, yn hyn o beth, yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Siân Gwenllian ychydig o amser yn ôl, a drafodwyd yn y tŷ hwn, sef 'Cyrraedd y Miliwn'. Roedd ynddo rai ffigurau diddorol iawn—a ffigurau calonogol, o ran hynny—yn dangos bod cyfran gynyddol o’n plant tair a phedair oed, wedi cael eu haddysgu yn y Gymraeg—o 18.8 y cant yn 2001 i 23.3 y cant yn 2011. Wel, roedd hynny chwe blynedd yn ôl; rwy'n gobeithio bod y ffigur hwnnw bellach yn fwy na hynny, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud hynny wrthym.

Agwedd ddiddorol arall ar hynny oedd sut mae nifer y plant sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu, o ran y rhai sydd yn byw mewn cartrefi lle nad yw'r naill riant na'r llall yn siarad Cymraeg. Y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw oedd 9 y cant yn 2001 a 14 y cant yn 2011. Mae’n amlwg mai hyn fydd yn digwydd am beth amser i ddod. Ac rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth ateb Llŷr Gruffydd funud yn ôl ynghylch sut mae'r uchelgais yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, a sut mae Blaenau Gwent yn wahanol i Wynedd neu Sir Ddinbych. Ond bydd yn anochel mewn mannau fel Blaenau Gwent ac ardaloedd nad oes ganddyn nhw gyfran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd, y bydd y plant yn siarad Cymraeg ond ni fydd y rhieni yn gallu eu deall nhw. Yn fy marn i, dyna’r her a ddaw i’n rhan yn y degawdau nesaf.

Ond, yn ogystal â chynyddu'r galw am y Gymraeg, wrth gwrs, mae'r cwestiwn hollbwysig o gynyddu'r cyflenwad o athrawon sy'n gallu bodloni'r galw hwnnw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi'r £4.2 miliwn hwn i helpu i fynd i’r afael â hynny. Mae hynny i’w groesawu yn fawr iawn, ond ys gwn i a oes angen gwneud mwy i annog athrawon. Nid wn a oes modd cyflwyno unrhyw gymhellion ariannol neu a yw hynny'n wir yn ddymunol, ond os oes yna ffordd o ategu’r hyn sydd eisoes wedi'i wneud, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylai'r Gweinidog yn sicr ei ystyried.

Rwyf yn bendant yn cymeradwyo'r hyn a ddywedwyd am y Mudiad Meithrin a phwysigrwydd cylchoedd meithrin i gyflawni'r amcanion uchelgeisiol yr ydym wedi’u gosod i ni ein hunain. Mae'n hollbwysig inni gael mwy o enghreifftiau fel yr un y soniwyd amdani yn Llanfair-ym-Muallt ac yn yr ardaloedd, yn arbennig, lle bydd angen cynnal twf yr iaith yn y dyfodol. Cytunaf yn llwyr â'r rhai sy'n dweud, yn gyntaf oll, bod yn rhaid inni atgyfnerthu’r iaith yn yr ardaloedd lle mae traddodiad o siarad Cymraeg a hithau yn iaith cyfathrebu naturiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned. Ond mewn ardaloedd lle mae 100 mlynedd efallai ers i unrhyw Gymraeg gael ei siarad neu gael ei glywed ar y strydoedd, yna mae hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r genhedlaeth nesaf ei ddatblygu, wrth i bobl o’m hoedran i ddechrau mynd i wth o oedran a chael ein disodli gan rai sydd â’r cyfleuster naturiol i helpu'r Gweinidog i gyflawni hynny. Byddaf i’n 101 mlwydd oed os caf fyw tan 2050, ond wyddoch chi ddim—bu mam fy mam fyw i fod yn 103, felly gallwn i fod yma o hyd. Wel, efallai nid yma, ond yn sicr yn byw ar y ddaear ac yn ychwanegu fy llais at y ddadl wleidyddol.

Ond, ar ran UKIP, hoffwn i groesawu'r adroddiad hwn, sydd yn estyniad pellach i'r gwaith da a wnaeth y Gweinidog, ac rydym wedi’i gefnogi ar hyd y daith.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd UKIP. Dechreuodd ei sylwadau drwy sôn am wlad y gân. Wel, mae yna Aelodau yn y Siambr hon—efallai eich bod chi, Llywydd, yn un ohonyn nhw—sydd mewn gwirionedd wedi fy nglywed i’n canu. Rwy’n credu mai’r un peth sy'n uno’r Aelodau ar bob ochr y Siambr hon yw nad ydyn nhw am glywed hynny eto. Ni fyddwn yn dymuno gwneud i neb ddioddef hynny.

Rwy'n deall y pwyntiau sydd wedi’u gwneud ynglŷn â chynyddu ac ysgogi'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni sydd â phlant yn y system neu wedi bod trwy'r system yn cydnabod y manteision, ac yn cydnabod manteision dysgu iaith yn ifanc. Yn sicr, mae fy mab saith mlwydd oed bellach yn gallu siarad, ysgrifennu a defnyddio'r iaith Gymraeg mewn ffordd a fyddai wedi bod y tu hwnt i fy nychymyg i yn ei oedran ef. Ac o ganlyniad i hynny, mae'n rhywbeth fydd ganddo nawr ar hyd ei oes, a chredaf y bydd hynny o fudd mawr iddo, fel y byddai i bob plentyn o'r oedran hwnnw. Rwy’n gobeithio, wrth inni symud ymlaen yn y ddadl hon, y byddwn yn gallu dangos—. Nid wyf yn hoffi defnyddio'r ymadrodd 'mantais dwyieithrwydd', ond yn sicr mae dwyieithrwydd yn rhywbeth sydd wedi ychwanegu at fy mywyd i, ac rwy’n sicr ei fod yn rhywbeth sy'n ychwanegu at ein bywydau gwahanol ni i gyd, ac yn ein galluogi ni i werthfawrogi hanes a diwylliant ein gwlad ond hefyd i werthfawrogi hanes a diwylliant gwledydd eraill, cenhedloedd eraill a phobl eraill hefyd.

Rwy’n petruso hefyd cyn ceisio diffinio'r uchelgais prin a ddaeth o du rhai awdurdodau lleol, ond byddaf yn dweud hyn wrth ateb cwestiwn yr Aelod: mae’r sgyrsiau y mae Aled wedi eu harwain ac y mae fy swyddogion i wedi parhau â nhw gyda phob awdurdod lleol o bob lliw gwleidyddol ym mhob rhan o'r wlad wedi bod yn hynod bositif. Mae’n ymwneud â sut yr ydym yn symud ymlaen ac nid yn ymwneud ag a ydym yn symud ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn deyrnged i arweinwyr awdurdodau lleol—fel y dywedais, o bob lliw gwleidyddol o bob rhan o'r wlad—eu bod yn edrych ar yr agenda hon mewn modd cadarnhaol ar adeg pan fyddan nhw’n ymgodymu â phwysau ariannol anodd iawn. Felly, yn hytrach na phwysleisio cyn lleied o uchelgais neu gyn lleied o frwdfrydedd, hoffwn bwysleisio'r uchelgais cadarnhaol a'r brwdfrydedd cadarnhaol a welsom ni gan awdurdodau lleol.

Gofynnodd llefarydd UKIP i mi am gategorïau, ac anghofiais i ateb cwestiwn Llŷr Gruffydd ar yr un mater. Nid diben edrych ar gategorïau o reidrwydd yw newid na thanseilio statws iaith mewn ysgolion fel y mae heddiw, ond i ddeall yr hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth mewn gwahanol gategorïau o ysgolion, gan ein bod yn cydnabod y gall categorïau fod yn gymysgedd ddryslyd a dyrys o lu o wahanol gyfuniadau o iaith lle cant eu defnyddio. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai cryn dipyn o rieni ganfod hynny’n ddryslyd eu hunain. Felly, rwyf yn awyddus i ddeall yr union beth sy'n digwydd ym mhob un o'r ysgolion hynny ac a oes modd i ni symud ymlaen gan osgoi’r math hwnnw o strwythur sydd weithiau'n rhy gymhleth o lawer. Gwneir hynny heb unrhyw ragfarn. Fe'i gwneir er mwyn dysgu a deall ac edrych ar arfer gorau a dysgu ohono. Nid y pwrpas o reidrwydd yw tanseilio—yn sicr nid tanseilio statws yr iaith yn unrhyw le.

Yr hyn yr wyf eisiau ei bwysleisio yw fy mod yn awyddus bod angen inni edrych hefyd ar y sector cyfrwng Saesneg, ac mae'r pwyntiau a wnaed am addysgu'r Gymraeg wedi'u gwneud yn dda ac yn bwyntiau yr wyf yn eu derbyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â’r mater hwn a bydd yn parhau i wneud hynny wrth inni edrych tuag at symud trwy gwrs amser a chyflwyniad y cwricwlwm newydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae'r iaith Gymraeg yn rhywbeth sy'n perthyn i bawb, ni waeth beth fo cyfrwng yr addysg yn yr ysgol y maen nhw’n ei mynychu. Mae'n bwysig i mi fod plant sy'n ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gallu gadael yr ysgolion hynny â gwybodaeth weithredol o’r iaith Gymraeg ac yn gallu sgwrsio yn yr iaith o leiaf. Rydym yn gwybod nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae angen inni allu deall pam, a sicrhau, trwy'r cwricwlwm newydd sydd i’w gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn gallu newid profiad pobl o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion.

Gwn fod amser yn mynd yn ei flaen, Llywydd, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod swyddogaeth rhieni yn hanfodol. Mae swyddogaeth y gymuned yn hanfodol. Mae'r ysgol bob amser yn rhan o'r gymuned, lle bynnag y bo'r gymuned honno, ac mae swyddogaeth iaith addysg mewn ysgolion yn bwysig—mae'n adlewyrchiad o'r gymuned honno—a chredaf fod pobl ledled y wlad yn awyddus iawn iawn i weld mwy o Gymraeg a chaniatáu iaith yr addysg i alluogi rhieni ac eraill i ddysgu'r iaith eu hunain. Rwy'n gobeithio y bydd y ganolfan genedlaethol a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl ar gyfer dysgu Cymraeg yn edrych ar hyn ac yn edrych ar sut y gallwn helpu rhieni i gael gwybodaeth weithredol o leiaf o'r iaith ar yr adegau gwahanol y mae angen hynny yn ystod addysg plentyn.

Mae'r materion sy'n ymwneud â chyflenwi athrawon ac eraill yn faterion a godwyd eisoes gan lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Rwy’n cydnabod bod her enfawr yn ein hwynebu ni. Pan fyddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau cyflawni yn sgil strategaeth 2050 a'r gwaith y byddwn ni'n ei gwblhau yn ystod y Cynulliad presennol, byddwn yn nodi sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hynny ac yn cyflawni’r targedau hynny.

A gaf i groesawu’r datganiad gan y Gweinidog a chroesawu’r ffaith ei fod e’n bwriadu derbyn yr argymhellion i gyd oddi wrth Aled Roberts? Gwnaethoch chi sôn yn y datganiad am ba mor bwysig yw e i adnabod y galw. Rŷch chi newydd gydnabod, yn yr ateb diwethaf, pa mor bwysig yw creu galw, hynny yw ysgogi galw newydd efallai lle nad oes galw ar hyn o bryd, neu ddim cymaint ag y gallai fod, ac esbonio manteision ac ennill pobl i achos addysg Gymraeg.

Un o’r argymhellion yn yr adroddiad yw perthynas fwy strategol rhwng awdurdodau lleol a’r mudiadau meithrin, fel rŷm ni wedi bod yn ei drafod yn barod. Er mwyn cyrraedd nod y strategaeth, mae’n sicr y bydd angen gwneud mwy na hynny er mwyn gallu ysgogi galw ar lefel digon eang. Felly, rŷch chi’n edrych ar sefyllfa fel hyn lle mae aelodau etholedig a swyddogion, mewn awdurdodau lleol efallai, yn mynd i gael digon o sialens i ateb y galw sydd yn bresennol. Felly, beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn digwydd ar lawr gwlad, tu hwnt i’r berthynas strategol gyda’r mudiadau meithrin, i ysgogi’r galw yma ac ennill y ddadl dros fanteision addysg Gymraeg i gynulleidfa fwy eang, efallai, nag ŷm ni’n ei chyrraedd ar hyn o bryd?

Llywydd, rydw i’n cytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi’i wneud. Mae’r Llywodraeth wedi bod, yn hanesyddol, yn eithaf swil amboutu’r materion yma. Rydw i’n llai swil. Rydw i wedi gweld manteision addysg Gymraeg yn fy nheulu fy hun, ac rydw i’n gweld manteision cael addysg Gymraeg i blant ar draws y wlad, sy’n eu galluogi nhw i adnabod a bod yn rhan o’r cyfoeth rŷm ni wedi’i etifeddu yn ein diwylliant ni. Rydw i’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n hynod o bwysig.

Mi fyddaf i, yn ystod y misoedd nesaf, yn ystyried sut rydym ni’n gallu ysgogi’r galw, fel rŷch chi wedi disgrifio, a hefyd i wneud yn sicr ein bod yn perswadio pobl fod addysg Gymraeg yn opsiwn real ar gyfer eu plant nhw, lle bynnag maen nhw’n byw a beth bynnag ydy iaith y tŷ, ac i alluogi pobl i gael ‘access’ i addysg Gymraeg. Yn aml iawn, cael ‘access’ i addysg Gymraeg ydy un o’r prif bethau sy’n rhwystro pobl rhag mynd i mewn i’r system Gymraeg. Felly, gwneud addysg Gymraeg yn opsiwn real i bobl ym mhob un rhan o’r wlad, sicrhau bod pobl yn gallu cael ysgolion yn agos at eu cartrefi nhw, sicrhau, wedyn, bod pobl yn teimlo’n gartrefol wrth symud i’r opsiwn Gymraeg os nad yw’r Gymraeg yn iaith y tŷ, ac wedyn cefnogi teuluoedd sydd yn gwneud y dewis hynny, a symud ymlaen yn y ffordd y mae sawl Aelod wedi’i disgrifio’r prynhawn yma, trwy gael mwy o gyfleoedd i blant ifanc iawn, iawn, iawn ddysgu a dechrau cael gafael ar y Gymraeg—.

6. 6. Datganiad: Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyma ni’n cyrraedd yr eitem nesaf, felly: y datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar integreiddio a gweithio mewn partneriaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydw i’n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Diolch. Aeth dros flwyddyn heibio erbyn hyn ers gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd bellach yn gweddnewid y ffordd y caiff gwasanaethau gofal a chymorth eu darparu ledled Cymru. Bûm yn falch o allu gweld gyda’m llygaid fy hun sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn arwain at well canlyniadau i’r bobl â'r angen mwyaf yn ein cymdeithas. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy, er gwaethaf y cyni parhaus mae Llywodraeth y DU yn ei orfodi arnom.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd ynghylch darparu gwasanaethau gofal mewn modd integredig a chydweithredol, sydd wrth wraidd y Ddeddf, ac yn ofyniad statudol ohoni. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol fel yr hyn sy’n symbylu’r agenda integreiddio. Sefydlwyd saith bwrdd ledled Cymru i gyfateb i ardaloedd y byrddau iechyd. Maent yn dwyn ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, darparwyr preifat a dinasyddion.

Rwyf wedi cwrdd â chadeiryddion y byrddau hyn, y tro diwethaf ym mis Gorffennaf, i drafod eu cynnydd wrth ddarparu gwasanaethau integredig effeithiol ac effeithlon. Rwyf yn falch bod y byrddau hyn bellach wedi ymsefydlu'n gadarn, ac rwy'n talu teyrnged i'w haelodau am eu harweinyddiaeth a'u gwaith caled hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio’n agos â nhw i gefnogi eu gweithrediad parhaus. Rydym ni wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru dros y 12 mis diwethaf i gefnogi byrddau rhanbarthol ac ystyried gwahanol agweddau ar eu swyddogaethau. Bydd y gefnogaeth hon yn parhau ac yn seiliedig ar ba gymorth y mae'r partneriaid yn ei ddweud wrthym sydd ei angen arnynt.

Un o gyflawniadau nodedig y byrddau oedd cyhoeddi ym mis Ebrill asesiadau poblogaeth fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf. Rwy'n gwybod bod yr asesiadau hyn wedi cynnwys proses sylweddol o ymgysylltu a dadansoddi. Mae'r adroddiadau gwerthfawr hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth glir ar lefel ranbarthol o’r ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Mae partneriaid bellach yn gweithio tuag at gynhyrchu cynlluniau ardal ar y cyd mewn ymateb i'r asesiadau hynny. Mae’n rhaid i'r cynlluniau hyn gael eu llunio erbyn mis Ebrill 2018, a dyna fydd yn gosod yr agenda ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol. Rwyf wedi cyfarwyddo byrddau i ddefnyddio'r broses hon i ystyried yn strategol sut y byddan nhw’n cryfhau eu trefniadau integredig ymhellach.

Ochr yn ochr â fframwaith cyfreithiol Deddf 2014, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth ariannol sylweddol i annog mwy o waith integredig a chydweithredol trwy'r gronfa gofal integredig a gafodd ei hail-frandio yn ddiweddar. Mae £60 miliwn arall ar gael ledled Cymru eleni, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gadw'r gronfa bwysig hon. Ers ei sefydlu yn 2014, defnyddiwyd y Gronfa Gofal Canolraddol i ddatblygu ystod eang o fodelau arloesol o weithio integredig. Credir bod y rhain wedi helpu i atal derbyn pobl i'r ysbyty yn ddiangen a galluogi pobl hŷn i barhau i fod yn annibynnol. Mae cwmpas y Gronfa Gofal Canolraddol wedi ehangu'n raddol fel bod ei amcanion bellach yn cwmpasu meysydd blaenoriaethu byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer integreiddio. Er bod y gronfa yn parhau i gefnogi gwasanaethau gofal canolraddol, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau integredig i bobl ag anawsterau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth, ac erbyn hyn caiff gofalwyr eu cynnwys yng nghwmpas y gronfa. Bydd yr amcanion hyn yn weithredol am dair blynedd, a bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i ranbarthau ac yn eu galluogi i gynllunio'n strategol mewn ymateb i'w hasesiadau poblogaeth.

Comisiynwyd ymgynghorydd annibynnol i helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol i nodi ymarfer da yn ymwneud â mentrau a ddatblygwyd trwy'r Gronfa Gofal Canolraddol. Mae'r canfyddiadau wedi cynorthwyo i sicrhau bod amcanion y gronfa a threfniadau adrodd gwell bellach yn canolbwyntio ar gyflawni deilliannau lles. Dros yr haf, ymwelais â nifer o brosiectau amrywiol a chyffrous sy’n bodoli oherwydd y Gronfa Gofal Canolraddol, ac fe welais y pwyslais cadarnhaol yn glir.

Rwyf wedi penderfynu comisiynu adolygiad cynhwysfawr o'r Gronfa Gofal Canolraddol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd diben y gwaith hwn yn cynnwys darganfod y manteision cenedlaethol o ran sut y caiff yr arian hwn ei wario gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol a phenderfynu ar ba un gyflawnwyd gwerth am arian.

Rwyf yn sicr bod llwyddiannau cadarnhaol y Gronfa Gofal Canolraddol yn deillio o’r ffaith ei fod yn cael ei wario ar y cyd gan bartneriaid. Nid yw gwneud pethau 22 gwaith yn gynaliadwy. Felly mae'r Gronfa Gofal Canolraddol yn cynrychioli un enghraifft glir o fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni eu blaenoriaeth allweddol o wneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau. Gellir gweld enghraifft arall yn y disgwyliad a geir yn y canllawiau statudol y dylai partneriaid roi proses gomisiynu integredig ar waith. Mae hyn yn cynnwys strategaethau comisiynu ar y cyd yn ogystal â dulliau cyffredin o osod manylebau, cytuno ar ffioedd a sicrhau ansawdd. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ganolbwyntio ar well ansawdd yn ogystal â sicrhau gwell gwerth am arian.

Mae'r Ddeddf yn gosod rheidrwydd ar y Rhanbarthau i sefydlu cyllidebau cyfun o ran darparu lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion erbyn mis Ebrill 2018. Bydd y cronfeydd cyfun hyn yn fodd o roi cefnogaeth sylweddol i’w trefniadau comisiynu ar y cyd, ac yn ddilyniant naturiol o hynny. Rwyf wedi datgan yn glir lawer gwaith fy mod yn disgwyl y caiff y cronfeydd cyfun hyn eu sefydlu ar y cyd ar lefel ranbarthol rhwng y bwrdd iechyd a'r holl awdurdodau lleol o fewn ardal y bartneriaeth. Rydym ni i gyd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd effeithiol sy'n gwella lles ein pobl, a gellir cyflawni hynny dim ond drwy gydweithio pwrpasol rhwng partneriaid sy'n arwain at weithio integredig a chynaliadwy yng ngwir ystyr y gair. Ni ellir cyflawni'r canlyniadau hynny yn llawn os nad oes ymrwymiad llwyr i gydweithio. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd drafod yn agored sut y gellir defnyddio arian cyhoeddus i fynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol yn y modd mwyaf effeithiol. Mae ymdrin â chronfeydd cyfun yn y modd hwn yn gwbl gyson â'r cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol.

Yn dilyn ymatebion i ymgynghoriad yn 2015, oedwyd y gofyniad am gronfeydd cyfun ar gyfer cartrefi gofal hyd fis Ebrill 2018. Yn ôl unrhyw safonau, mae partneriaid wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer y gofyniad hwn ac fe ofynnais i gadeiryddion rhanbarthol ysgrifennu ataf erbyn diwedd mis Medi, yn nodi pa gynnydd a wnaed ganddynt. Er eu bod yn nodi heriau, roedd partneriaid yn mynegi yn gyffredinol eu huchelgais i symud tuag at fabwysiadu trefn o gomisiynu rhanbarthol ar y cyd, ac mae hynny yn fy nghalonogi, ond ni ddylai fod unrhyw amheuaeth y dylai hyn gynnwys gweithio i gyllidebau cyfun. Yr wythnos diwethaf fe drefnodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad cenedlaethol i drafod y cyfleoedd a'r heriau mae cyllidebau cyfun yn eu cyflwyno. Byddwn yn trefnu cymorth ychwanegol i ranbarthau yn ystod y misoedd nesaf i'w helpu i sefydlu a rheoli cronfeydd cyfun ar y sail a amlinellais yn gynharach. Byddaf yn asesu cynnydd eto yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Rwy'n cydnabod bod rhanbarthau wedi gwneud cynnydd wrth sefydlu'r cyllidebau cyfun hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod, er hynny, bod problemau yn dal i fodoli o ran gallu rhai rhanbarthau i weithredu'r gofyniad hwn yn llawn erbyn mis Ebrill. Os, fodd bynnag, nad wyf yn fodlon â'r ffordd y cyflwynwyd y gofyniad hwn ym mhob rhanbarth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol sydd ar ddod, bydd angen i mi ystyried dewisiadau o ran ymyrraeth fwy uniongyrchol. Mae'r rhain yn wasanaethau pwysig sy'n ymdrin â rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed.

Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau wrth ddarparu gwasanaethau integredig a chydweithredol. Bydd yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio ac am newid diwylliannol sylweddol. Fodd bynnag, nid yw pobl yn poeni ynghylch ble mae gwasanaethau iechyd yn dod i ben na ble mae gwasanaethau cymdeithasol yn dechrau. Maen nhw eisiau gwasanaethau gofal a chymorth integredig a di-dor, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi'r arweiniad a'r buddsoddiad i sicrhau'r newid hanfodol hwn. Diolch.

Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw. Rwyf i hefyd yn croesawu cyhoeddi'r asesiadau poblogaeth, er fy mod mewn cryn ddryswch ynghylch sut y llwyddodd y byrddau iechyd hyn a sefydliadau eraill i lunio cynlluniau strategol yn y gorffennol heb y fath bethau. Rwy'n synnu’n fawr o glywed y cymerodd gyhyd i'w rhoi ar waith, oherwydd byddwn wedi meddwl mai elfen allweddol o ddeall pa wasanaethau y mae angen i chi eu darparu fyddai gwybod pa boblogaeth yr ydych chi'n ei gwasanaethu.

Hefyd, ychydig ar ôl hynny, soniasoch am y ffaith ynghylch y byrddau rhanbarthol a’u bod i ddefnyddio hyn yn rhan o'r broses i ystyried eu cyfranogiad strategol. A allwch chi gadarnhau pa un a yw ymddiriedolaeth y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn rhan o'r cynnig hwnnw hefyd, oherwydd, wrth gwrs, maen nhw’n rhan annatod o ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?

Rydych chi’n sôn, Gweinidog, am y gronfa gofal integredig, ac mae croeso i arian bob amser, does dim dwywaith am hynny. Fodd bynnag, wrth graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg iawn bod rhai byrddau iechyd yn nodi nad yw’r ffactorau sy’n rheoli costau a buddsoddiadau mewn meysydd allweddol yn cael eu lliniaru gan y lefel ofynnol o arbedion y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a yw hyn yn ddigon? Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi, neu beth ydych chi'n disgwyl i'r byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau integredig ei wneud er mwyn sicrhau bod digon o arian yn y cronfeydd hyn i fwrw ymlaen a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn eu hardal benodol nhw? Fel y dywedais i, mae hyn i’w weld yn eglur iawn pan fo’r pwyllgor iechyd yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Pa fetrigau y byddwch chi'n eu defnyddio wrth edrych ar eich adolygiad cynhwysfawr o'r Gronfa Gofal Canolraddol? Ydych chi mewn difrif wedi meddwl sut y bydd hynny—neu a yw eich swyddogion wedi ystyried sut y bydd hynny'n cael ei farnu? Pa feincnodau fyddwch chi'n eu defnyddio? Mae'n gwestiwn a godais gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach ynglŷn â datganiad blaenorol. Mae’n iawn cael yr adolygiadau hyn, ond mae'n rhaid bod gennych chi fframwaith y gwyddoch chi y gall yr adolygiadau hynny weithio oddi mewn iddo, a gweithio'n dda.

Nid yw eich datganiad ar integreiddio a chydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol heddiw yn sôn am integreiddio cynllunio gweithlu. A fyddwch chi’n edrych ar hynny? A fyddwch chi’n gofyn i'r byrddau rhanbarthol hynny edrych ar hynny yn rhan o'u proses waith, wrth symud ymlaen? Oherwydd nid oes unrhyw ddiben bod gennym, er enghraifft, yr holl feddygon a nyrsys yn y byd y dymunwn ni—oni byddem ni yn y sefyllfa honno—i ddarganfod wedyn nad oes gennym ni ddigon o weithwyr cymdeithasol i gael pobl yn ôl i'w cartrefi, ac yn y blaen.

Nid ydych chi ychwaith yn sôn am sut y gallwn ni ddefnyddio'r byrddau hyn i feithrin diwylliant o arloesedd. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n dod yn amlwg iawn, iawn yn yr adolygiad seneddol ac yn y dystiolaeth arweiniol sy'n cael ei chyflwyno gan y King’s Fund, ac ati, yw bod angen y gallu arnom ni i ganiatáu i hadau bychain o arloesi fwrw gwreiddiau, i wneud y newidiadau hynny, i sicrhau bod yr integreiddio hwn yn gweithio'n dda. Mae’n rhaid inni groesawu’r sector preifat i diriogaeth y sector cyhoeddus. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut y byddwch chi'n gwneud y gwaith hwnnw a sut y byddwch chi’n gallu rheoli'r tensiwn nid annaturiol rhwng monolithau enfawr y sector cyhoeddus, os mynnwch chi, a'r sector gofal preifat ac, wrth gwrs, ein hawdurdodau lleol, sydd, fel y gwyddom ni eisoes, yn awdurdodau lleol trist iawn, a hwythau newydd dderbyn eu cyllidebau, ac yn pendroni sut y gallan nhw gyflawni eu rhan nhw o'r fargen hon. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy siarad am yr asesiadau anghenion poblogaeth, ac maen nhw wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth nodi rhai themâu craidd, rwy'n credu, sy'n berthnasol i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Gwelwyd yn glir iawn bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r meysydd penodol hynny sy’n gyffredin i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny, ond mae tlodi ac amddifadedd, pwysigrwydd annibyniaeth i bobl, a phwysigrwydd meithrin gwytnwch mewn unigolion a chymunedau, mae nhw wedi eu hamlygu fel themâu o ran y ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r anghenion a nodwyd yn yr asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Mae'r asesiadau anghenion eu hunain yn ymwneud ag wyth thema graidd: plant a phobl ifanc, iechyd pobl hŷn, anableddau corfforol, anableddau dysgu ac awtistiaeth, iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau, gofalwyr sydd angen cymorth, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol. Felly, rwy'n credu eu bod yn rhoi darlun clir a chadarn iawn inni ynghylch anghenion y gwahanol grwpiau amrywiol hynny o bobl, ledled y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny. Fy mwriad yw cyhoeddi asesiad anghenion poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar yr hyn a ddaeth i’r amlwg o’r asesiadau anghenion poblogaeth ar lefel ranbarthol, oherwydd y buon nhw mor ddadlennol ac mor ddiddorol, felly rwyf wedi gofyn i Ofal Cymdeithasol Cymru ymgymryd â'r darn hwnnw o weithio gyda golwg ar adrodd ym mis Tachwedd. Dyna'r nod: adrodd ar y dyddiad hwnnw.

O ran sut y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod i gytundeb o ran cyfuno cyllidebau a faint y maent yn ei gronni o fewn y cyllidebau hynny, ac a oes ganddynt ddigon i ddiwallu anghenion y bobl y maen nhw wedi eu nodi trwy eu hasesiad anghenion poblogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol o dan Ran 9 o'r Ddeddf, sy'n rhoi canllawiau cam wrth gam bron iawn ynglŷn â chyllidebau cyfun. Er enghraifft, mae'n cychwyn gydag asesiad anghenion poblogaeth, ond yna mae'n symud ymlaen i gytuno ar ddatganiad sefyllfa marchnad integredig briodol a strategaeth gomisiynu fel canlyniad i hynny, a chytuno ar gontractau a manylebau cyffredin, a datblygu ffordd integredig o fynd ati i gytuno ar ffioedd gyda darparwyr, a ffordd integredig o sicrhau ansawdd, gan sicrhau tryloywder bob amser hefyd. Felly, dylai'r camau hynny ar hyd y ffordd arwain at sefyllfa pan mai’r dilyniant naturiol nesaf yw cyllidebau cyfun, ac y cânt eu cyfuno mewn ffordd ddeallus sy’n caniatáu digon o adnoddau er mwyn diwallu'r anghenion hynny hefyd. Felly, mae'r camau hynny wedi eu hamlinellu mewn canllawiau statudol.

Fe wnaethoch ofyn hefyd sut y gallwn ni sicrhau bod y Gronfa Gofal Integredig yn caniatáu arloesi, a dyna un o'r rhesymau dros sefydlu’r Gronfa yn y lle cyntaf, er mwyn rhoi caniatâd, os mynnwch chi, i bobl sy'n gweithio yn y sector ac i arweinwyr ym maes iechyd a chymdeithasol, i roi cynnig ar bethau gwahanol ac i wneud pethau'n wahanol. Mewn gwirionedd, sefydlwyd y Gronfa Gofal Integredig i annog arloesi, ac a dweud y gwir, roedd hi’n iawn os nad oedd pethau'n gweithio; fe allem ni ddysgu oddi wrth hynny cymaint ag yr ydym yn dysgu o bethau sydd yn gweithio. Felly, mae arloesi wedi bod yn rhan ganolog iawn o hynny erioed, ac mae yna rai enghreifftiau gwych, wrth gwrs. Efallai eich bod yn ymwybodol o Dîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolradd Sir Benfro, PIVOT, sydd wedi defnyddio £160,000 o gyllid eleni i gefnogi’r agwedd o ryddhau pobl yn amserol ac yn effeithiol o'r ysbyty, a hefyd i wella cyfleoedd i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Hyd yn hyn, yn y flwyddyn ariannol hon, mae 1,320 o ddiwrnodau gwely wedi'u rhyddhau a 132 o dderbyniadau i ysbytai wedi eu hosgoi, ac fe gafodd 80 o bobl eu rhyddhau gyda’r cynnig o gymorth dilynol dim ond yn rhan o’r prosiect penodol hwnnw hefyd. Felly, mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd, a phobl yn meddwl mewn ffordd wahanol iawn.

O ran cynllunio gweithlu, unwaith eto mae hyn yn rhywbeth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymwneud llawer iawn ag ef o ran eu cyfrifoldebau newydd a helaethach o ran datblygu a goruchwylio'r gweithlu yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio'n agos iawn o fewn y sector a chyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd.

Yn olaf, soniasoch am y sector gofal preifat hefyd, a sut yr ydym ni’n sicrhau ein bod yn cydnabod y partneriaid pwysig sy’n rhan o hyn i gyd. Wel, mae rheidrwydd ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, drwy'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i gael cynrychiolydd o'r sector annibynnol ar bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, fel y gallant hwythau roi eu safbwynt unigryw i'r byrddau hynny hefyd.

Mae yna ddwy brif elfen i’r datganiad, am wn i, ac rwy’n diolch i’r Gweinidog am y datganiad hwnnw. Yn gyntaf: cryn ganmoliaeth o rai elfennau o waith y gronfa gofal ganolraddol—bellach yn gronfa integredig. Mi gymeraf i’r cyfle hwn, os caf, i atgoffa’r Siambr yma bod y gronfa honno yn rhan o gytundeb y gyllideb flaenorol efo Plaid Cymru, a’n bod ni’n falch ein bod ni wedi dod a’r syniad hwnnw at y bwrdd, oherwydd y ffordd rydym ni wedi ei weld o yn cael ei ddatblygu. Prif elfen y datganiad, wedyn, ydy’r cyd-destun ehangach yma o gyfuno cyllidebau a gweithio mewn partneriaeth, ac mae gen i nifer o gwestiynau yn codi allan o hynny. Mae’r datganiad yn awgrymu bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd rhywsut ddim yn rhoi ymrwymiad llawn i’r byrddau rhanbarthol:

‘Those outcomes cannot be…achieved by anything less than a full commitment to working together.’

Beth ydych chi’n meddwl ydy’r prif rwystr i gael y math o ymrwymiad llawn i lwyddiant y byrddau? Rydych chi’n ein hatgoffa ni, ar ôl ymgynghoriad, fod gohiriad wedi bod yn yr angen am gyllidebau cyfun i gartrefi gofal tan 2018. Rydw i’n cytuno efo chi, neu efo’r awgrym, fod hyn yn ddigon o amser. Ond o ddarllen rhwng y llinellau, mae’n ymddangos bod rhai partneriaid yn canfod hyn yn anodd o hyd. Yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi fel Gweinidog yn difaru ymestyn y dedlein ar y sail ei bod hi’n ymddangos, beth bynnag ydy’r dedlein, fod rhai partneriaid yn cael trafferth ymrwymo iddo fo?

A ydych chi hefyd yn cydnabod bod arwahanrwydd iechyd a gofal cymdeithasol, a’r diffyg dyletswyddau statudol, yn golygu bod wastad peryg mai’r hyn y byddai gweithio partneriaeth yn ei olygu byddai rheolwyr yn cyfarfod i ddadlau i’w cyfraniadau nhw i’r gyllideb gyfun fod cyn lleied â phosib, ac felly bod cyfyngiadau gweithio partneriaeth heb ymrwymiadau statudol yn cael eu harddangos yn eithaf clir yn y fan hyn? O bosib fe wnaf i ofyn hefyd am eich sylwadau chi ynglŷn â’r opsiwn arall, sef, wrth gwrs, i roi cyllideb benodol i’r byrddau rhanbarthol yn hytrach nag i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar wahân.

Y cwestiwn nesaf: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn erbyn cyflwyno newidiadau strwythurol eang i gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, yn dadlau y byddai newidiadau o’r math hynny yn ddrud, a hefyd yn aflonyddgar neu’n ‘disruptive’. Pam felly ydych chi yn cynllunio i newid iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf a ddim hyd yn oed yn defnyddio’r cyfle hwnnw i greu corff mwy integredig, lle y byddai adnoddau yn cael eu targedu ar wasanaethau rheng-flaen, pan rydych chi wedi cymryd y penderfyniad i wneud newid strwythurol?

Nesaf, mi wnaf i’ch atgoffa am ambell i welliant gan Blaid Cymru a wrthodwyd gan y Llywodraeth wrth i’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol gael ei thrafod. Un o’r rheini fyddai i ganiatáu i awdurdodau lleol i gyflogi yn uniongyrchol nyrsys cofrestredig, a drwy hynny rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu gofal cymdeithasol cryfach. A ydych chi’n difaru gwneud hynny? Hefyd, yn cyfeirio nôl at yr hyn a ddywedais i’n gynharach, ein gwelliant ni hefyd i gryfhau’r ddyletswydd go iawn ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio ar gyfuno cyllidebau; hynny ydy, mi oeddem ni’n dweud y dylen nhw, yn hytrach na ‘fe ddylen nhw ystyried’, neu ‘fe ddylen nhw allu’.

Ac yn olaf, heddiw mi ydym ni’n clywed awdurdodau lleol ledled Cymru yn ymateb gyda chryn bryder, a hynny yn ddealladwy iawn, i’r cyhoeddiad ynglŷn â’u cyllidebau drafft nhw eu bod nhw’n wynebu blynyddoedd yn rhagor o doriadau. A ydych chi fel Gweinidog yn credu ei bod hi yn bosib i wasanaethau cymdeithasol gynnal y math o lefel o wasanaeth y maen nhw yn ei ddarparu ar hyn o bryd, heb sôn am eu gwella a’u cryfhau nhw, o fewn cyd-destun lle mae cyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu torri ac, ar yr un pryd, lle mae yna gynnydd mewn galw ar eu gwasanaethau nhw? Oni ddylem ni mewn difri fod wir yn meddwl yn nhermau cyllideb sengl rŵan—iechyd a gofal cymdeithasol? Oherwydd mi fyddwn i’n dadlau yn gryf iawn ei bod hi yn gamarweiniol i danlinellu cynnydd o £200 miliwn mewn gofal iechyd os ydy gofal cymdeithasol, sydd â chymaint o impact ar yr NHS, yn mynd i lawr, neu mewn peryg o fynd i lawr, yn y blynyddoedd nesaf.

Diolch yn fawr iawn. Dechreuaf drwy ddweud, yn y llythyrau hynny y cyfeiriais atynt yn fy natganiad, pryd yr ysgrifennodd holl gadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol ataf erbyn diwedd y mis diwethaf, gan roi diweddariad ar y cynnydd— roedd pob un o'r llythyrau hynny'n cynnwys diweddariad ar y cynnydd a wnaed tuag at y chwe cham gwahanol hynny tuag at gyllidebau cyfun, y soniais amdanynt yn fy ymateb i Angela Burns. Mae'n deg dweud bod gwahanol ranbarthau ar wahanol gamau ar y daith honno, ond rydym ni wedi bod yn gwbl glir y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pa gymorth bynnag sydd ei angen er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y pwynt hwnnw pryd y gallant gyfuno'r cyllidebau hynny. Ond nid oes amheuaeth o gwbl bod yr holl ranbarthau hynny'n llwyr ymrwymedig i gyllidebau cyfun. Rwyf wedi siarad â chadeiryddion byrddau partneriaeth rhanbarthol, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd. Er enghraifft, ddoe ddiwethaf, cyfarfûm â'r holl arweinyddion mewn llywodraeth leol sydd â chyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol, ac mae pob un ohonynt yn gwbl gefnogol i gyllidebau cyfun ac yn cydnabod pwysigrwydd hynny. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth o ran yr ymrwymiad i hynny. O ran pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd, mae'n rhywbeth sy’n eithriadol o gymhleth i'w wneud, ond, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pa bynnag gymorth ychwanegol sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw.

O ran gweithio mewn partneriaeth, nid yw hynny’n ymwneud mewn gwirionedd â rheolwyr yn siarad; y gwir gydweithio yw'r hyn sy'n digwydd o ran, ar lawr gwlad, sut yr eir ati i ddiwallu’r angen gofal a chymorth hwnnw y mae’r unigolyn sy'n derbyn gofal a chefnogaeth ei angen. Mae’n siŵr eich bod yn gwybod am enghreifftiau yn eich ardal chi yn y gogledd lle mae'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi neilltuo £1 miliwn eleni i wella eu gwasanaethau camu i fyny, camu i lawr. Felly, mae hynny'n cefnogi pobl sy'n dod allan o'r ysbyty sy'n feddygol iach ond bod angen rhywfaint o ofal a chymorth arnynt. Mae dros 800 o bobl eisoes wedi elwa ar y gwasanaeth hwn ac mae mwy na 2,000 o ddyddiau gwely wedi eu harbed hefyd.

Hefyd, yn rhanbarth gogledd Cymru, defnyddiwyd dros £1 miliwn o'r gronfa gofal integredig i sefydlu gwasanaethau un pwynt mynediad aml-ddisgyblaeth, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion mewn ffordd amserol, effeithiol ac effeithlon. Yn wir, mae llawer o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi mabwysiadu’r ffordd honno o weithio gyda’r drefn un pwynt mynediad, wedi gweld pa mor wirioneddol effeithiol yw hynny.

Cyfeiriasoch at Ben-y-bont ar Ogwr, ac, wrth gwrs, yn y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 18 Mehefin, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ein bod yn cynnig y dylid addasu ffin bwrdd iechyd lleol Cwm Taf i gynnwys ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd, bydd y Llywodraeth yn trafod y cynnig hwnnw ac yn datblygu dogfen ymgynghori ffurfiol ac fe gyhoeddir datganiad arall ar hyn yn ystod yr hydref hwn. Ond gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau trafod mewn cryn fanylder â’r partneriaid yng Nghwm Taf a bwrdd partneriaeth ranbarthol Bae’r Gorllewin y trefniadau trosglwyddo posibl pe byddai ffin Cwm Taf yn cael ei ymestyn i ymgorffori Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni drin ein holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol a'n holl awdurdodau lleol a'n byrddau iechyd yn yr un modd, yn hytrach na bod gennym drefniadau pwrpasol ar gyfer byrddau iechyd unigol ac yn y blaen.

O ran y gyllideb benodol, rydych chi'n iawn, mae mwy nag un ffordd o gyfuno cyllideb; mae hynny'n bendant yn wir. Fodd bynnag, y dewis erioed oedd annog a rhoi rhyddid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, trwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, i berchnogi hynny ac i fod yn gyfrifol eu hunain am arwain y gwaith o gyfuno cyllidebau eu hunain. Rwy'n credu bod honno'n ffordd fwy effeithiol ac yn ffordd fwy dymunol, yn sicr, na bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi’r drefn cyfuno cyllidebau arnynt. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi ei gwneud hi’n glir yn fy natganiad heddiw, os na fyddaf yn fodlon ar y cynnydd a wnaed, y byddaf yn ystyried ffyrdd eraill o gyfuno cyllidebau hefyd.

Os caf i, dim ond ar un pwynt arall, soniasoch am y setliad anodd y mae awdurdodau lleol yn gorfod ymdopi ag ef. Mae'n ganlyniad i saith mlynedd o gyni a llai o arian i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs byddwch wedi darllen datganiad y Gweinidog, sy’n amlinellu'r setliad a wnaed. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod gweithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth yn rhoi cyfleoedd i awdurdodau lleol yn yr ystyr, pan fydd cyllidebau cyfun yn dod i rym ac y byddwn ni’n comisiynu’r lleoedd hynny mewn cartrefi gofal oedolion ar y cyd, ceir cyfle gwych mewn gwirionedd i wneud pethau saith gwaith yn hytrach na 22 gwaith, gan rannu arbenigedd a rhannu manteision y trefniadau comisiynu ehangach hynny hefyd. Felly, mae yna gyfleoedd, yn sicr, gyda'r dull hwn.

Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Mae'r ymgyrch 1000 o Fywydau wedi dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn ni'n unedig wrth ymgyrraedd at un nod—nod o wella profiad pob claf o'r gofal y mae’n ei dderbyn. Mae’n wych gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y timau gofal iechyd. Gan gydweithio mewn ffordd sydd â thystiolaeth yn sail iddi, maen nhw wedi parhau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a gwneud gwelliannau sylweddol i brofiadau a diogelwch cleifion. Felly, mae’n rhaid inni gydnabod, pa mor galed bynnag yr ymdrechwn ni, bod camgymeriadau dynol yn parhau i fod yn un o ffeithiau fywyd. Felly, mae’n rhaid inni barhau i archwilio diwygiadau cadarnhaol i reoli ein gwasanaeth iechyd, a blaenoriaethu gofal a diogelwch cleifion bob amser.

Yn gyntaf oll, mae’n rhaid inni gydnabod natur unrhyw faterion a phroblemau a gwneud ymrwymiad clir i newid systemau diffygiol sy'n esgeuluso cleifion. Er mwyn gwella profiad pob claf yn ein GIG mae’n rhaid i bawb sy’n rhan ohono gydweithio gyda'r clleifion a'u teuluoedd. Elfen hanfodol o wella profiadau cleifion a staff yw cydlynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac os yw hyn yn methu, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol. Enghraifft yr wyf wedi sôn amdani o’r blaen yn y Siambr hon, ond rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig sôn amdani eto, yw achos gŵr bonheddig 83 oed o'm rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru a gafodd lawdriniaeth fawr a thriniaeth ddilynol, a chafodd brofiad o’r diffygion yn y system ac ni lwyddodd i fanteisio ar ofal cydweithredol rhwng gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Yn syml, nid oedd unrhyw gynllun pan gafodd ei ryddhau o'r ysbyty ac ni soniwyd gair wth neb ei fod yn dod adref o'r ysbyty, ac roedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio driphlyg ar ei galon ac yntau’n 83 oed.

Felly, a yw'r Gweinidog felly yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r integreiddio rhwng y gwasanaethau hyn gynnwys symleiddio'r wybodaeth y mae'n ofynnol i gleifion ei chyflwyno, a thrwy hynny atal claf rhag gorfod rhoi, fel yn yr achos hwn, yr un wybodaeth i asiantaethau a gweithwyr proffesiynol lluosog ac yn y diwedd, peidio â chyflawni'r canlyniad. Byddai hyn yn gwella'r broses o rannu gwybodaeth, na ddigwyddodd yn yr achos hwn, ac yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-fynd yn well â’i gilydd, gan esgor ar fwy o gydgysylltu rhwng y ddau? Ydych chi'n ystyried bod swyddogaeth awdurdodau lleol yn yr achos hwn yn gadarnhaol? Pa brofiadau a gawsoch chi wrth drafod a chytuno gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'r materion hyn? Un o'r heriau mawr sy’n bodoli o ran trosglwyddo llyfn o’r gwasanaethau iechyd i ofal cymdeithasol yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Ers canol y degawd diwethaf, rydym ni wedi gweld gwelliannau cyflym yn nifer y bobl sy'n gorfod aros. Yn wir, mae'r nifer wedi gostwng o 775 yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2004 i 472 yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe ŵyr pob un ohonom ni fod cynllunio gweithlu yn hanfodol bwysig, ac mae pob bwrdd iechyd wedi datgan bod cost staff asiantaeth oherwydd prinder yn cael effaith fawr ar eu cyllideb ac yn amsugno llawer iawn o gostau. Felly, mae hon yn dasg enfawr, ac fe hoffwn i ofyn sut y byddwch chi’n mynd i'r afael â'r mater hwn, os gwelwch yn dda.

Er gwaethaf y gostyngiad sylweddol hwn mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, mae'n amlwg bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi sefydlogi ers 2010. Rwy'n sylweddoli y bydd yna amrywiad bob amser yn y ffigurau hyn. Fodd bynnag, yn 2013, roedd 5,393 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal o’i gymharu â bron i 6,000 yn 2016. Felly, un o brif achosion yr oedi hwn yw faint o welyau sydd ar gael, gan fod nifer y gwelyau oedd ar gael yn 2010 wedi gostwng gan 15 y cant. Ar adeg pan fo Cymru'n wynebu pwysau cynyddol ar wasanaeth y GIG, mae darparu gwelyau yn hanfodol i leihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Felly, mae'r gostyngiad o 15 y cant yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau ac yn cael effaith andwyol ar brofiad y claf. Felly, yn arbennig, mae pobl hŷn yn dioddef oedi o ran eu gofal, ac yn aml yn cael eu gadael yn yr ysbyty oherwydd nad oes lle iddyn nhw fynd iddo— felly, dyma wasanaethau sydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld cwtogi ar eu cyllideb, gan waethygu'r broblem ymhellach. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nifer y gwelyau sydd ar gael yn rhwydd er mwyn lleddfu’r pwysau yn ysbytai Cymru a, hefyd, gwneud popeth o fewn ei gallu i atal cartrefi gofal rhag cau ledled Cymru?

Mae toriadau i gyllidebau gwasanaethau cymdeithasol wedi rhoi mwy o bwysau ar ofal cymdeithasol pan fydd cleifion yn cael eu trosglwyddo o'r ysbyty. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r henoed, ac mae llawer ohonyn nhw'n profi oedi wrth drosglwyddo ac yn dibynnu, felly, ar y gwasanaethau cymdeithasol am y cymorth hanfodol a gânt. Er enghraifft, mae Cyngor Caerdydd yn wynebu toriadau difrifol i'w gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cyngor eisoes wedi gwneud gwerth £200 miliwn o arbedion yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Os gwneir toriadau pellach— [Torri ar draws.] Os gwneir toriadau pellach i gyllidebau cyngor fel yn achos Cyngor Caerdydd, yna bydd gallu’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyfyngu fwyfwy, gan adael llawer o gleifion, yn ifanc ac yn hen, heb ofal hanfodol.

Os na all y gwasanaethau cymdeithasol ddiwallu’r galw, yna mae'n anochel y bydd hyn yn effeithio'n sylweddol ar faint o welyau sydd ar gael mewn ysbytai. Felly, mae hyn yn cael effaith bellach ar drosglwyddo gofal, gan achosi mwy o rwystrau i ddarparu gwasanaethau gofal integredig.

Oherwydd bod cynghorau, nid dim ond yma yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, yn wynebu cyfnod heriol yn economaidd, a wnaiff y Gweinidog flaenoriaethu cyllid hanfodol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol i'r henoed a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac ystyried yr argymhellion a wnes yn gynharach yn fy araith, gan sicrhau bod pawb yn ein gwasanaeth iechyd yn elwa ar iechyd a gofal cymdeithasol cydweithredol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau yna ac fe ddechreuaf drwy gydnabod eich sylwadau yn arbennig ynglŷn â brwdfrydedd ac ymroddiad y bobl sy'n gweithio ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol—rwyf wedi gweld hynny gyda’m llygaid fy hun wrth ymweld â llawer o brosiectau’r Gronfa Gofal Integredig sy'n digwydd ledled Cymru. Mi fyddwn i’n sicr yn annog Aelodau, fel yr wyf bob amser yn ei wneud, i ymweld â'r prosiectau i gael eu hysbrydoli gan waith arloesol a brwdfrydedd pur pobl ar lawr gwlad drwy’r Gronfa Gofal Integredig

Hefyd, soniasoch am bwysigrwydd blaenoriaethu'r unigolyn, a dyna'n union yr hyn y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn bwriadu ei wneud, yn yr ystyr ei bod yn rhoi'r unigolyn wrth wraidd y penderfyniadau a wneir amdano. Mae'n ymwneud â chanlyniadau personol, ynglŷn â chael y sgwrs honno gyda nhw ynghylch 'beth sy'n bwysig' er mwyn deall yr hyn y byddai'r unigolyn yn hoffi ei weld yn digwydd, a deall eu bod yn arbenigwyr cydradd ochr yn ochr â'r gweithwyr proffesiynol—nhw yw’r arbenigwyr ar eu bywydau, felly dylen nhw gael eu trin fel arbenigwyr cydradd yn y sgyrsiau hynny.

Fe wnaethoch chi grybwyll hefyd bod cydlynu’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn hollbwysig, ac rwyf yn llwyr gytuno â chi yn hynny o beth.  Cyfeiriasoch at achos gofidus iawn fel enghraifft o pam y mae hi mor bwysig ein bod yn cael cydlyniad rhwng y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae'r gronfa gofal integredig yn ceisio'i gyflawni. Er enghraifft, yng Nghwm Taf, maen nhw wedi gwario £1 miliwn i ddatblygu gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref. Mae hwnnw ar waith saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae'n cynnwys tîm amlddisgyblaeth yn yr ysbyty, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Maent yn cynnal asesiadau cychwynnol o unigolion ac yn comisiynu neu'n darparu gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal cymdeithasol trydydd sector i hwyluso’r broses o anfon pobl adref yn ddiogel ac yn amserol ac atal mynediad diangen yn y lle cyntaf. Felly mae hyn yn sicrhau bod gan bobl y pecyn cymorth eang hwnnw o'u cwmpas, gan ystyried iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i sicrhau bod pecyn ar gael i alluogi pobl i aros gartref.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd peidio â bod angen i bobl ddweud eu hanes lawer gwaith, oherwydd gall hynny beri gofid i bobl ac nid oes angen hynny o gwbl ar adeg pan fo cymaint o dechnoleg ac ati ar gael i ni. Dyna, mewn gwirionedd, yw un o'r pethau y maen nhw’n eu defnyddio yn y gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref yng Nghwm Taf. Rydym ni hefyd wedi buddsoddi £2 filiwn o'r Gronfa Gofal Integredig eleni yn system gwybodaeth gofal cymunedol Cymru yn benodol, ac mae’r gwasanaeth hwnnw eisoes wedi ei roi ar waith rhwng y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys, i ddechrau, fel bod yr un math o wybodaeth ar gael iddyn nhw. Roeddwn yn falch o lansio'r fenter benodol honno yn gymharol ddiweddar, a chael y cyfle i siarad â staff, a ddywedodd cymaint o wahaniaeth mae’n ei wneud bod y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn gallu cael gafael ar yr un math o wybodaeth am yr unigolyn. Mae’r gwasanaeth wedi ei roi ar waith hefyd yn awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys Môn, Gwynedd, Bro Morgannwg, Ceredigion a Thorfaen. Powys yw'r unig ardal lle mae wedi'i integreiddio'n llawn ar hyn o bryd, ond rydym ni yn symud tuag at hynny, ac, i ddweud y gwir, rydym ni wedi darparu £6.7 miliwn o arian cyfalaf, ar gyfer costau sefydlu a chostau cychwynnol i gael trwydded ar gyfer Cymru gyfan—sy’n dangos yn glir y flaenoriaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’r fenter benodol honno.

Nid wyf yn siŵr a wyf yn adnabod y ffigurau a ddyfynnwyd gennych chi o ran dadwenwyno fel y ffigyrau diweddar, oherwydd maen nhw’n sicr wedi gostwng eto ers y ffigurau y gwnaethoch chi eu dyfynnu i ni. Mae'r cyfanswm yn awr 7 y cant yn is nag yn yr un cyfnod y llynedd, ac fel yn achos yr holl gyfansymiau, mewn gwirionedd, yn y flwyddyn bresenol, mae'n is nag unrhyw un o'r cyfansymiau a adroddwyd yn y ddwy flynedd flaenorol ar gyfer yr un misoedd. Felly, rydym ni’n sicr yn gwneud cynnydd da, ac mae hyn ar adeg pan fo anghenion unigolion yn cynyddu, gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, ac yn y blaen. Felly, mae hyn yn sicr yn faes lle yr ydym ni’n gwneud cynnydd da iawn.

Un o'r pethau oedd o ddiddordeb i mi pan gychwynnais ar fy swydd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal oedd y ffaith bod nifer fawr o'r achosion o oedi, mewn gwirionedd, oherwydd dewis unigolyn. Felly, peidio â gallu mynd i’w dewis cyntaf o gartref gofal, er enghraifft. Mae llawer iawn o'r oedi oherwydd hynny, a dyna pam mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mor bwysig o ran codi safonau drwy’r sector cyfan fel nad oes gan bobl ddewis mor anodd ei wneud pan eu bod yn pwyso a mesur y dewisiadau rhwng dau gartref gofal gwahanol. Mewn gwirionedd, mae arnom ni eisiau sector cartrefi gofal lle mae'r holl gartrefi gofal yn ddeniadol i'r unigolyn, felly ni fydd angen pendroni yn y fath fodd wrth wneud y dewisiadau anodd hynny.

Diolch ichi am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n siŵr bod unfrydedd barn yn y Siambr bod gofal cymdeithasol yn un o'r materion mwyaf ac yn un o heriau mwyaf cynyddol ein hoes ni, ac mae angen inni gael gwell cyswllt a chydweithredu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i ateb yr heriau hyn, a'r cwestiwn yw, mewn gwirionedd, sut orau ydym ni am wneud hynny’n ymarferol. Gweinidog, soniasoch yn eich datganiad mai cyfrifoldeb rhanbarthau fydd sefydlu'r cyllidebau cyfun hyn ar gyfer darparu lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion erbyn mis Ebrill 2018, ac rwy'n ddiolchgar am eich ymatebion blaenorol ynglŷn â hyn. Dim ond meddwl yr wyf i, tybed a allwch chi ymhelaethu ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol a lle yr ydym ni arni o ran sicrhau bod hynny’n gweithio'n effeithiol yn ymarferol.

Rydych chi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio; a allwch chi ymhelaethu ar hyn ac a ydych chi'n cytuno y dylai cydweithio o ran cyllidebau cyfun a'r agenda integreiddio gynnwys gweithio trawsbleidiol effeithiol? A'r sylw olaf yr hoffwn ei wneud yw: pa ystyriaeth a roddwyd, neu y gellid ei roi, i'r modd y gellid defnyddio asedau cymunedol presennol yn well neu roi diben newydd iddynt a'u defnyddio mewn modd arloesol a chydweithredol er mwyn diwallu anghenion gofal cymdeithasol ac iechyd y gymuned—yn enwedig o ran edrych ar y diffyg darpariaeth o ran gofal seibiant meddygol ar gyfer yr henoed, y rhai mwyaf agored i niwed a bregus, gan weithio law yn llaw â gofal cymdeithasol? A oes ystyriaeth hefyd i'r swyddogaeth y gallai’r trydydd sector ei chwarae, o bosib, o ran cynnal cyfleusterau er mwyn sicrhau bod hynny'n gallu digwydd yn well?

Diolch am y cwestiynau yna. Rydych chi’n hollol gywir bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn rhai o'r heriau mawr yr ydym ni’n eu hwynebu yn ein hoes ni, a dyna pam, yn ein rhaglen lywodraethu, y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod y sector fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod y sector wedi ei gydnabod, yn 'Ffyniant i Bawb', yn un o'r pum maes allweddol a all wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru, a chredaf fod hynny'n gadarnhaol iawn, iawn.

O ran sut mae cyllidebau cyfunol yn gweithio'n ymarferol, rydym ni wedi darparu'r canllawiau statudol i awdurdodau lleol fel modd o ddisgrifio hynny, ac mae cyllidebau cyfun mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd ati mewn modd integredig i gytuno ar y ffioedd gyda darparwyr, cytuno ar fanylebau, a chytuno ar yr ymrwymiadau ariannol hynny y bydd pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth yn eu gwneud.

Mae'r mater trawsbleidiol a awgrymwyd gennych chi yn ddiddorol iawn mewn gwirionedd yn yr ystyr bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys partneriaid y daethpwyd â nhw at ei gilydd o’r holl sectorau. Felly mae hi yn bwysig bod gweithio trawsbleidiol da yn digwydd, ac yn sicr nid wyf i wedi cael unrhyw wybodaeth i awgrymu fel arall. Mae'r trydydd sector hefyd yn bartneriaid hollbwysig, a dyna pam, mewn gwirionedd, ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol, mae hawl i ddau berson fod yn cynrychioli'r trydydd sector ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chredaf fod hynny’n dangos, mewn gwirionedd, y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae o ran diwallu anghenion gofal cymdeithasol a hefyd yr arbenigedd y maen nhw’n ei gyfrannu a'r ffaith eu bod yn agos iawn, iawn at bobl ar lawr gwlad, fel y gallant yn sicr fod yn llais i bobl y maen nhw’n eu cynrychioli.

Mae gan y Gronfa Gofal Integredig elfen o gyllid cyfalaf gwerth £10 miliwn yn rhan ohono, ac yn sicr mae hynny yn cynnig cyfleoedd, efallai, i addasu’r cyfleusterau presennol, ac yn y blaen, er mwyn eu gwneud yn addas i ddiwallu anghenion pobl. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hyn mewn rhai o'r gwasanaethau camu i fyny, camu i lawr, er enghraifft, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus o ran atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen, ond hefyd o ran hwyluso’r broses o ddychwelyd adref yn gynharach.

Dim ond i ddatblygu'r cwestiwn hwn ynglŷn â’r bartneriaeth ranbarthol a'r berthynas rhwng y cyllidebau cyfunol. Fe wnaethoch egluro i Hannah Blythyn y gall amrywiaeth eang o bobl fod yn rhan o'r bartneriaeth ranbarthol a fydd yn gyfrifol am wario'r gyllideb gyfun honno, ond mae'r cyllidebau cyfun—os wyf i’n deall y rheoliadau yn gywir—yn dod oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a'r awdurdod lleol, nid o ffynonellau eraill hefyd. Os ydych chi hefyd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a oes gan y Byrddau Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol unrhyw ryddid i wahodd partneriaid eraill i gyfrannu at gyllideb gyfun? Nid wyf yn glir o'r ddeddfwriaeth a yw hynny'n bosibl. O dan yr amgylchiadau hynny, neu hyd yn oed os yw ond yn cynnwys y Byrddau Iechyd Lleol a'r cynghorau, yn amlwg bydd y swm y mae pobl yn ei gyfrannu at gyllidebau cyfun yn wahanol. A oes mwy o ddylanwad mewn bywyd go iawn gan y bobl hynny sydd fwyaf hael eu cyfraniad i’r gronfa honno, os caf ei fynegi yn y ffordd honno? Fe wn i na ddylai fod, ond a ydych chi'n cael ar ddeall o'ch ymweliadau y gallai hynny fod yn duedd y gallai fodoli o dan yr wyneb?

Mae dinasyddion, wrth gwrs, yn rhan o'r partneriaethau rhanbarthol. Rydych chi bellach wedi siarad â phenaethiaid y byrddau. A allwch chi roi rhyw syniad imi o sut y bydd dinasyddion yn cyfrannu? Byddai'n syfrdanol meddwl mai dim ond cynghorwyr ychwanegol ydynt ar ryw adeg o’r broses, yn hytrach na’u bod yn rhan flaenllaw a chanolog yn y cynlluniau hyn.

Ac yna yn olaf, rwy'n falch o glywed eich bod yn gwerthuso'r Gronfa Gofal Integredig ar ei newydd wedd; Sylwais ichi ddweud hynny. A allwch chi roi ychydig o sicrwydd inni na fydd y dangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn edrych arnynt yn hynny o beth—ni wnaethoch chi ateb cwestiwn Angela Burns yn llwyr ynghylch hyn—yn sylweddol wahanol i'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a ragwelwyd yn wreiddiol pan sefydlwyd y gronfa ar ei hen ffurf? Rwy'n credu bod angen ffydd arnom ni na fydd unrhyw newidiadau i’ch targedau, os caf ei roi felly, a fyddai’n cuddio diffygion, annisgwyl neu fel arall; rwy'n credu y byddai’n well gennym ni gael gwybod y gwir. Diolch.

Diolch, a dyna un o'r rhesymau yr wyf i wedi comisiynu’r craffu sylweddol hwn—neu y byddaf yn ei gomisiynu yn y flwyddyn ariannol nesaf—ar y Gronfa Gofal Integredig, ac mae hynny er mwyn darganfod y gwir: wyddoch chi, pa fath o werth am arian yr ydym ni’n ei gael? Rydym ni eisoes wedi gwneud y gwaith o edrych ar enghreifftiau o arfer da, felly fe wyddom ni fod hwnnw'n bodoli, ond mewn gwirionedd mae angen i ni fod yn deall y gwir werth am arian, ac yn y blaen. O ran manylebau'r darn hwnnw o waith, ni chawsant eu pennu eto. Felly, yn amlwg, byddaf yn eangfrydig iawn ynghylch hynny.

Rydych chi'n hollol iawn; mae'n rhaid i gyfranogiad ac ymgysylltiad dinasyddion fod yn ganolog i waith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Roedd y gwaith a wnaethant o ran datblygu’r asesiadau anghenion poblogaeth yn eang iawn, ac yn sicr roedd dinasyddion yn rhan o hynny. Ond ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd, mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu cynrychioli ar y byrddau hynny. Mae'n wirioneddol bwysig bod ganddyn nhw lais cryf, yn ogystal â thrwy fforymau dinasyddion ac yn y blaen, o ran sicrhau, fel mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi rheidrwydd arnom i’w wneud, bod yr unigolyn a’r defnyddiwr gwasanaeth yn gwbl ganolog hefyd. Felly, mae hynny'n hollol angenrheidiol. Ac wrth gwrs, mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddyletswydd i wneud y boblogaeth leol yn ymwybodol o'r gwaith y maen nhw’n ei wneud hefyd. Gwn fod hynny'n rhywbeth y caiff ei drafod, mewn gwirionedd, yn y cyfarfod gyda chadeiryddion y byrddau a gynhelir yfory,.

O ran pwy sy'n cyfrannu faint i’r gronfa, mae hynny i raddau helaeth yn benderfyniad lleol, a chredaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud o ran caniatáu i'r partneriaid hynny edrych yn y modd cydweithredol ac arloesol hwnnw o ran sut y gallan nhw ddod i gytundeb ynghylch pwy sy'n cyfrannu beth i'r gronfa. Gwn nad yw'r trafodaethau hynny'n hawdd, ond, mewn gwirionedd, gyda'r brwdfrydedd a fu a'r ymrwymiad a gafwyd gan yr holl bartneriaid dan sylw, rwy'n ffyddiog y gallan nhw gynnal y sgyrsiau hynny heb gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i’r Gweinidog. Daw hynny â thrafodion y dydd i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:54.