Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn i fi alw ar y Prif Weinidog, rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau am ymuno â fi yn anfon ein cydymdeimladau at bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad erchyll yn Las Vegas ddoe.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda, felly, yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

Cymru fel Gwlad Amrywiol o ran Ethnigrwydd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Cymru wedi elwa ar fod yn wlad amrywiol o ran ethnigrwydd? (OAQ51135)

Gwnaf. Drwy gydol ein hanes, mae pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi dod â sgiliau ac entrepreneuriaeth i Gymru. Ac, wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae'r thema, 'Ein sêr, ein dyfodol, ein hanes' yn cefnogi ein huchelgeisiau yn rhan o 'Ffyniant i Bawb', gan ein bod yn gwybod bod angen pobl amrywiol, greadigol, hynod fedrus a hyblyg ar Gymru ffyniannus.

Diolchaf i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i wrth fy modd o fod yn bresennol ac o siarad yn lansiad degfed Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae digwyddiadau, a gynhelir trwy fis Hydref, yn ein helpu i fyfyrio ar dreftadaeth gyfoethog Cymru a chyfansoddiad amrywiol ei phobl a'u cyfraniad at lunio Cymru. Ac mae'n rhoi cyfle i ni fel corff seneddol estyn allan i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’u hannog i ymgysylltu â ni a'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, bydd ein cynllun prentisiaeth Cynulliad nesaf yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ceisiadau gan gymunedau pobl dduon ac ethnig?

Wel, rydym ni'n darparu £360,000 yn ystod 2017-20 ar gyfer rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru ar faterion a heriau allweddol, a bydd hynny'n ein helpu ni, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gallu recriwtio mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn poblogaeth a chyfansoddiad Cymru.

Tair wythnos yn ôl, roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod yn Wrecsam gyda llysgennad Gwlad Pwyl o Lundain, y prif gonswl o Fanceinion, cynrychiolydd y cyngor, gwahanol asiantaethau a oedd yn bresennol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr o’r cymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd, yn trafod sut y gallem ni ddatblygu canolfan gyswllt. Yn yr achos hwn, siaradodd conswl Gwlad Pwyl am y ffaith y byddai’n bosibl y gallai clybiau busnes cymunedol Pwylaidd godi'r cyllid i gael mynediad at hyn. Ond mae angen rhywun arnom i hwyluso’r ffordd ymlaen, i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl yn y cymunedau hyn yn parhau i’w hwynebu, a hefyd, o ganlyniad, i leihau pwysau ar wasanaethau statudol. Sut gallai Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso cynnydd yn y maes hwn?

Wel, rydym ni’n ceisio gweithio, wrth gwrs, trwy ein hymgysylltiad â'r gwahanol gymunedau, trwy'r gwahanol fforymau sydd gennym, a hefyd, wrth gwrs, y gwaith gyda llysgennad Gwlad Pwyl a chynrychiolwyr diplomyddol Gwlad Pwyl yn y DU. Rydym ni’n fwy na pharod i weithio gyda'r llysgennad er mwyn nodi lle mae grwpiau o'r fath yn bodoli yng Nghymru a sut y gallwn ni ymgysylltu â nhw orau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod. Os byddaf yn ysgrifennu at lysgennad Gwlad Pwyl, efallai pe gallem amgáu'r geiriau y mae wedi eu defnyddio yn y Siambr hon yn rhan o'r llythyr, ac yna wrth gwrs, gallwn weld sut y gallwn gydweithio gyda'n gilydd orau i sicrhau'r canlyniad y mae wedi ei ddisgrifio.

Prif Weinidog, ddydd Gwener, roeddwn i gyda'r tîm cymorth ieuenctid ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud yr hoffent gael llawer mwy o gefnogaeth wrth fynd i ysgolion a lleoliadau addysg o ran ceisio cael cymunedau i gydweithio. Ac felly, mewn un ysgol, roedd ganddyn nhw ferch wen yn gwisgo hijab, a cherddodd i lawr y stryd, ac yna daeth yn ôl a dweud pa mor wahanol yr oedd hi'n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin oherwydd ei bod yn gwisgo un darn o benwisg a oedd yn wahanol i'r ffordd y byddai’n gwisgo fel rheol. Ac rwy'n credu y byddai'r mathau hyn o bethau yn helpu plant nad ydynt erioed wedi cael eu cyflwyno i gymunedau eraill, neu ethnigrwydd arall, yn eu bywydau i geisio deall sut beth yw byw’r profiadau beunyddiol hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi siarad â nhw—gwn eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru—i roi adnoddau ychwanegol iddyn nhw fynd a gwneud hyn mewn ysgolion eraill ledled Cymru, i sicrhau, pan fyddwn ni'n dechrau’n ifanc, y gellir lliniaru’r problemau posibl hynny trwy ddechrau cyn gynted fyth ag y gallwn?

Wel, a gaf i awgrymu bod y sefydliad dan sylw yn dilyn y llwybr arferol—yn siarad â swyddogion y Gweinidog—ac yna, wrth gwrs, gallwn ystyried pa adnoddau allai gael eu rhoi ar gael yn y dyfodol?

Gwasanaethau Eiriolaeth i Gleifion

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau eiriolaeth i gleifion yng Nghymru? (OAQ51134)

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth cleifion effeithiol yng Nghymru. Darperir gwasanaethau i oedolion gan gynghorau iechyd cymuned, ac mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am drefnu darpariaeth gwasanaethau eirioli i blant ac eiriolwyr iechyd meddwl arbenigol.

Diolch. Yn ystod ein dadl yn ddiweddar, roedd eich Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wir o blaid diddymu cynghorau iechyd cymuned a’u disodli gyda chorff newydd. Mae hyn er gwaethaf llawer iawn o wrthwynebiad gan y cyhoedd. Pa mor eironig felly, Prif Weinidog, yn fy ngohebiaeth ddiweddaraf â’r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch achos anodd yn ymwneud ag etholwr, bod ganddo’r hyfdra i awgrymu y dylwn i argymell i'm hetholwyr gysylltu â'u CIC, gan drosglwyddo cyfrifoldeb, i bob pwrpas, am ddiffygion ei wasanaeth iechyd ef a chithau. Prif Weinidog, oni fyddech chi’n cytuno â mi bod hyn braidd yn ddauwynebog gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac a fyddech chi hefyd yn rhoi ar goedd eich cydnabyddiaeth a’ch cefnogaeth i'r gwaith y mae'r cynghorau iechyd cymuned a'u gwirfoddolwyr wedi ei wneud ar ran ein cleifion fel gwasanaeth eirioli dros flynyddoedd lawer?

Dauwynebog—dyna air y dydd. Rwy'n credu i ni gael hwnnw ddoe gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei araith a anwybyddwyd yn eang. [Chwerthin.] Nid wyf yn derbyn o gwbl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ddauwynebog mewn unrhyw fffordd. Wrth gwrs, byddai'n cyfeirio etholwr i chi at wasanaeth eirioli annibynnol. Dyna sy'n bodoli o dan y strwythur presennol a dyna fydd yn bodoli yn y dyfodol—gwasanaeth annibynnol. Ni all y Gweinidog fod yn annibynnol, wrth reswm, felly rwy'n credu bod yr ateb y mae wedi ei roi i chi yn gwbl gywir: sef os oes angen eiriolaeth ar eich claf, mae'n briodol y dylai'r gwasanaeth eirioli hwnnw fod yn annibynnol. Mae'n briodol, felly, mai'r cyngor iechyd cymuned ydyw, gan mai nhw sy’n darparu'r gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, ac—rydym ni’n aros i weld, wrth gwrs, beth fydd yr ymatebion i'r Papur Gwyn—rhoddwyd y cyngor cywir i’ch etholwr, yn fy marn i, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrthyf yn y Siambr heddiw.

Prif Weinidog, cyhoeddwyd hyrwyddwyr cyn-filwyr a lluoedd arfog byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017. Enwodd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholwyr yn Islwyn, Brian Mawby fel yr hyrwyddwr. Llongyfarchiadau iddo. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd yr hyrwyddwyr hyn yn ei chael ar sicrhau bod cynlluniau gwasanaeth lleol yn darparu cymorth, a bod eu cynlluniau lleol yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau’r dynion a menywod dewr yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu ein cenedl gyda dewrder yn ein lluoedd arfog?

Yn sicr. Gwyddom, wrth gwrs, bod hyrwyddwyr effeithiol iawn mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac maen nhw'n gwneud llawer i ddylanwadu'n gadarnhaol ar gyfeiriad y Llywodraeth ac, yn wir, cyrff ac asiantaethau cyhoeddus. Felly, ydw, rwy’n sicr yn cydnabod y gwaith y mae eich etholwr wedi ei wneud, fel y mae llawer o bobl eraill wedi ei wneud ledled Cymru, gan eu bod yn ychwanegu at yr wybodaeth sydd gan y Llywodraeth fel y gall y Llywodraeth weithredu yn y ffordd fwyaf priodol i'r bobl.

Prif Weinidog, mae llais cleifion annibynnol yn hanfodol, yn enwedig i’r rheini na allant gael gwrandawiad. Rydym ni wedi gwneud cynnydd enfawr o ran darparu eiriolwyr i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond mae gwasanaethau eiriolaeth cleifion hefyd yn hanfodol i bobl â dementia. Bu galwadau i bawb â dementia gael mynediad at eiriolwr medrus ac annibynnol sy'n deall dementia ac sy’n gallu eirioli’n effeithiol. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwn ac a wnewch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella gwasanaethau eirioli i bobl â dementia?

Wel, byrddau iechyd sy’n gyfrifol am drefnu’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth cleifion cyffredinol ar gyfer plant, a gellir cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal iechyd meddwl ymhellach i godi pryderon trwy fanteisio ar eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru drefniadau ar waith i ddarparu eiriolwyr iechyd meddwl sydd wedi'u hyfforddi i weithio gyda phlant a phobl ifanc—mae hynny'n wir. Ac wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod llais y claf yn cael ei gryfhau pan ddaw i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Rydym ni wedi gwneud llawer, wrth gwrs, i gynorthwyo'r sefydliadau hynny sy'n helpu pobl a'u teuluoedd sy'n ymdrin â dementia fel, er enghraifft, trwy fwrw ymlaen â lleoedd ystyriol o ddementia fel y gall pobl fynd a byw eu bywydau cyhyd â phosibl ac mewn amgylchedd mor gyfarwydd â phosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae digartrefedd yn aflwydd ar unrhyw gymdeithas wâr. A ydych chi wedi sylwi bod nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn cynyddu ar hyn o bryd?

Yn ôl y cyfrif diwethaf, 141 yw nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Cynhaliwyd y cyfrif hwnnw ym mis Tachwedd 2016. Mae'n anodd, wrth gwrs, cyfrif y nifer yn rheolaidd gan ei fod yn amrywio i fyny ac i lawr, ond mae hi'n iawn i nodi'r ffaith fod cysgu ar y stryd yn broblem, a dyna pam— bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud ei ddatganiad ar y gyllideb yn ddiweddarach—byddwn yn ceisio darparu'r holl adnoddau y gallwn er mwyn lliniaru'r broblem.

Mae digartrefedd ar gynnydd, Prif Weinidog, ac mae hynny o gyfrifau pobl sy’n cysgu ar y stryd, ceisiadau am gymorth digartrefedd, pobl mewn llety dros dro, achosion o droi pobl allan—y cwbl. Yma yng Nghaerdydd, mae'r Wallich yn amcangyfrif y bu cynnydd o 18 y cant i’r nifer sy’n cysgu ar y stryd o'i gymharu â'r un chwarter yn 2016. Nid yw'n unrhyw syndod, i ni o leiaf, bod hyn yn digwydd. Rhagwelodd pawb y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i doriadau lles, a ddechreuodd, i’ch atgoffa, o dan Lywodraeth Blair pan benodwyd Arglwydd Freud i’w swydd weinidogol gyntaf. Ond roedd hefyd yn hawdd rhagweld y byddai system wleidyddol ddiffygiol San Steffan yn anwybyddu'r rhybuddion hyn ac yn bwrw ymlaen â'u toriadau beth bynnag. Pam nad oedd eich Llywodraeth a'ch plaid chi yn fwy rhagweithiol wrth geisio'r pwerau i beidio â gorfod gweithredu'r toriadau hyn?

Wel, mae'n un peth meddu ar y pwerau, peth arall yw meddu ar yr arian. Un peth yw dweud, 'Rydym ni’n mynd i wneud rhywbeth'; os nad yw'r arian yno i'w wneud, yna mae'n dod yn fwy anodd. Beth ydym ni wedi ei wneud? Wel, rydym ni newydd gyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ifanc, ac yn hollbwysig rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae ymdrin â phobl sydd eisoes ar y stryd yn bwysig, ond does bosib nad yw’n wir hefyd bod ataliaeth yn flaenoriaeth i ni. Mae'r ddeddfwriaeth wedi golygu mwy o gymorth i fwy o bobl a chymorth yn gynharach, gan gynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd, ac mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon yn dangos cyfradd sefydlog o lwyddiant ar adeg o alw cynyddol—ataliwyd digartrefedd 63 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd. Ni fyddai hynny wedi digwydd mewn unrhyw le arall, ac mae hynny o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth.

Prif Weinidog, ni allwch chi gondemnio San Steffan am ddiffyg tosturi gan barhau i dderbyn bod y pwerau i atal digartrefedd yn dal i fod yn San Steffan. Rydych chi'n iawn—rydych chi wedi diwygio'r system ddigartrefedd yn ddiweddar i fabwysiadu dull mwy ataliol, ond yn amlwg ceir nifer fawr o bobl sydd wedi syrthio drwy'r tyllau llydan iawn yn eich rhwyd ​​ddiogelwch. Nawr, os ydych chi'n derbyn ein bod ni’n wynebu argyfwng digartrefedd—a byddwn i'n synnu o’ch clywed yn gwadu ein bod ni’n wynebu argyfwng—a wnewch chi ymrwymo i ddiddymu prawf Pereira i gael gwared ar fwriaded digartrefedd, gan roi terfyn ar angen blaenoriaeth, fel bod gan bawb hawl i gartref?

Mae'r ddeddfwriaeth wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â hynny. Mae ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau. Nid wyf yn credu ei bod hi’n gwneud synnwyr datganoli lles gan ein bod ni’n gwybod bod Cymru'n dderbynnydd net o'r pot cyffredinol. Rwy’n cytuno â hi bod gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn ddidostur, ac wedi arwain at fwy o bobl i fod yn ddigartref. Roeddwn i yn Brighton yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n hynod amlwg pa mor wael oedd y broblem yn Brighton. Mae gennym ni broblem yng Nghymru, rydym ni’n gwybod hynny. Roedd yn llawer gwaeth yno. Rwy'n credu bod rhan o hynny oherwydd, yn Lloegr, nad ydynt wedi deddfu deddfwriaeth a fyddai'n helpu i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Yr ateb i hyn, wrth gwrs, yw cael system les sy'n gweithio i bobl, system les sy'n drugarog, a system les a weinyddir gan Lywodraeth Lafur yn Llundain.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith yn ddiweddar a dynnodd sylw at y ffaith bod ysgolion uwchradd yng Nghymru nad oeddent wedi bod yn cyflwyno yr un disgybl ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU tan yn ddiweddar—dim un disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Hefyd, bu tuedd i lawer o ysgolion gyflwyno disgyblion ar gyfer y cyrsiau BTEC haws, pan, yn 2016, roedd cyfradd basio o 99 y cant. Mae Estyn, mewn adroddiad diweddar, wedi amlygu'r anawsterau y mae rhai pynciau gwyddoniaeth yn eu hwynebu yn y ffordd y maent yn cael eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi’n hanfodol, os ydym ni’n mynd i fod yn uchelgeisiol ynghylch darparu economi cyflog uchel, economi fedrus, bod gennym ni fwy o ddisgyblion yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth? A pha hyder allwch chi ei roi, yn yr arholiadau PISA yn 2018, y byddwn ni’n gweld gwelliant gwirioneddol yn y pynciau gwyddoniaeth? Rydym ni wedi mynd yn ôl 20 safle, o 505 i 485, rhwng 2006 a 2016. Mae'n rhaid iddo fod yn faes gwella allweddol. Ac eto, o dan eich arweinyddiaeth chi, mae gennym ni ysgolion nad ydynt wedi bod yn cyflwyno disgyblion ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth o gwbl.

Yn gyntaf oll, rydym ni wedi bod yn pwysleisio ers cryn amser yng Nghymru yr angen i greu cydraddoldeb parch rhwng yr academaidd a'r galwedigaethol. Felly, ni ddylem wneud cymariaethau negyddol rhwng cymwysterau BTEC a TGAU. Mae un yn gymhwyster galwedigaethol; mae'r llall yn fwy o gymhwyster academaidd. Bydd ysgolion yn cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad priodol yn unol â’r hyn y maen nhw'n teimlo sydd ei angen arnynt, o ran eu sgiliau yn y dyfodol.

Mae'n gofyn am PISA. Wel, rydym ni wedi gweld canlyniadau TGAU yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn—mae hynny'n arwydd da o ran PISA. Rydym ni wedi gweld gwelliannau mewn pynciau safon Uwch—mae hynny'n arwydd da y bydd PISA yn gwella yn y dyfodol. Mae gennym ni arholiadau newydd, wrth gwrs—rydym ni wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno heb fawr o anhawster. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i ohirio cyflwyniad y cwricwlwm—dyna'r penderfyniad cywir, a gwyddom fod athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan—ysgolion na fyddent yn cael eu hadeiladu pe byddai ef yn fy swydd i.

Prif Weinidog, roedd hwnna'n ateb truenus. Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi, rydym ni wedi bod ag ysgolion uwchradd yng Nghymru—. Ac nid fy sylwadau i yw’r rhain, oherwydd ni allwn ni gael y data—rydym ni wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael y data y seiliodd Ysgrifennydd y Cabinet ei haraith arnynt. Dyma’r araith—. Mae'r araith yn y fan yma; ei sylwadau hi ydyn nhw, nid fy sylwadau i, sy'n dweud mor gywilyddus y mae pethau wedi bod, o dan eich Llywodraeth chi, y bu gennym ni ysgolion uwchradd nad ydynt wedi cyflwyno yr un—dim un—myfyriwr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—nid Safon Uwch, TGAU. Sut ar y ddaear allwch chi amddiffyn hynny a chithau wedi bod yn Brif Weinidog ers saith mlynedd? Sylwadau eich Ysgrifennydd y Cabinet yw’r rhain, nid fy rhai i, felly sut gallwn ni fod â ffydd y byddwn ni’n gweld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg pan ein bod ni wedi cael agwedd mor laissez-faire gan eich Llywodraeth?

Roedd hwnna'n ymateb a oedd yn deilwng o Ysgrifennydd Gwladol Cymru—ac nid canmoliaeth yw hynny, gyda llaw. Y gwir amdani yw bod y system wedi cael ei newid. Rydym ni newydd gyflwyno, wrth gwrs, y cymwysterau TGAU newydd; mae hynny wedi digwydd. Felly, ymhell o fod yn eistedd yn ôl a gwneud dim, rydym ni’n annog ysgolion i gyflwyno disgyblion ar gyfer TGAU a chymwysterau eraill, ac ar yr adeg iawn—ac ar yr adeg iawn—fel nad ydynt yn eu cyflwyno yn gynnar er mwyn eu cael nhw trwy bwnc penodol a bod y graddau’n gostwng o ganlyniad. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth. [Torri ar draws.] Wel, mae'n anarferol i David Melding fod fel hyn, ond, yn amlwg, mae rhywbeth wedi codi ei wrychyn y bore yma, neu y prynhawn yma.

Rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud: rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran newid y maes llafur; rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran canlyniadau—rydym ni’n gweld canlyniadau'n gwella, ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld arian yn mynd i mewn i addysg mewn ffordd sydd wedi cael ei hatal i ysgolion gan ei blaid ef yn Lloegr. Rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru na fyddai ei blaid ef wedi eu hadeiladu pe bydden nhw mewn grym yma. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod cymaint o'n disgyblion yn cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i sefyll arholiadau i gael y cymwysterau sydd eu hangen arnynt—dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud o ran y system yr ydym ni wedi ei chyflwyno erbyn hyn.

Prif Weinidog, mae'n debyg bod David Melding yn cael ei gythruddo gan eich perfformiad y prynhawn yma, oherwydd mae’n agwedd laissez-faire iawn, mae’n rhaid i mi ei ddweud. Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi—[Torri ar draws.] Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi bod yn cyflwyno myfyrwyr TGAU ar gyfer y pynciau gwyddoniaeth, ac yna sefyll yn y fan yna a cheisio ei hamddiffyn. Rwyf eisiau bod â ffydd, Prif Weinidog, y byddwn ni’n gweld gwelliant. Rwyf i eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru. Rydym ni i gyd eisiau gweld hynny. Ond cawsom ni’r canlyniadau gwaethaf ers 10 mlynedd yn yr arholiadau TGAU diwethaf. Mae gennym ni’r arholiadau PISA yn dod nawr yn 2018. Gofynnais i chi yn y cwestiwn cyntaf: ble yr ydym ni'n mynd i fod? Rhowch awgrym i ni o ble yr ydym ni’n mynd i fod—rhowch rywbeth i ni ddod allan o’r cwestiynau hyn i'r Prif Weinidog lle gallwn farcio eich gwaith cartref o ran ble bydd gwyddoniaeth yn 2018.

Mae’r nifer sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer gwyddoniaeth wedi cynyddu. Newidiwyd y system gennym yn rhannol i annog ysgolion i gyflwyno mwy o fyfyrwyr, a'u cyflwyno nhw ar yr adeg sy'n briodol iddyn nhw. Gwnaed hynny. Mae'n sôn am y canlyniadau TGAU gwaethaf ers 10 mlynedd—nid wyf yn cydnabod hynny, os cymharwch chi debyg gyda thebyg. Os yw'n credu bod pethau'n wych yn Lloegr, awgrymaf fod angen iddo edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr gyda'r system yno. Ac mae'n gwneud y gymhariaeth honno o bryd i’w gilydd. Edrychwch, byddwn yn sicrhau bod y system addysg yn cael ei hariannu'n briodol yn ôl y setliad y byddwn yn ei gael ganddo fe a'i Lywodraeth. Os yw eisiau gweld—[Torri ar draws.] Os yw eisiau gweld mwy o arian yn mynd i mewn i addysg, a gaf i awgrymu ei fod yn lobïo—oherwydd mae’n fwy effeithiol na'i gydweithiwr seneddol—ei gydweithwyr yn Llundain i gael mwy o arian i mewn i addysg ledled y DU ac i Gymru’n arbennig? Gallem wneud llawer mwy gyda setliad tecach. £1 biliwn i ddenu Gogledd Iwerddon—dim gair, dim gair, gan y blaid gyferbyn; dim gair. Gadewch i ni weld Cymru'n cael yr un chwarae teg a gadewch i ni weld pa un a all y Ceidwadwyr Cymreig sefyll yn erbyn eu cydweithwyr yn San Steffan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Y prynhawn yma— [Torri ar draws.] Roeddwn i'n gwybod bod y Siambr yn gylch, Llywydd; nid oeddwn i’n sylweddoli ei fod yn troi hefyd. Y prynhawn yma, byddwn yn clywed y gyllideb amlinellol gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n amlwg bod ei ryddid wedi ei gyfyngu gan natur y ffordd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Daw naw deg dau y cant o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy grant bloc. Felly, mae llwyddiant economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i wario yn dibynnu, yn hollbwysig, ar gyflwr economi'r DU, sydd, yn ei thro, yn dibynnu, yn hollbwysig, ar bolisïau economaidd y Llywodraeth yn San Steffan. A yw'n credu y byddai canlyniadau i Gymru y math o gynlluniau gwario a amlinellodd Jeremy Corbyn yr wythnos diwethaf yn Brighton, yn yr hirdymor, o fudd i economi Cymru? Maen nhw wedi dod i gyfanswm o tua £312 biliwn. Mae'n rhaid mai dyna un o’r areithiau drutaf yn hanes dynoliaeth. Mae hynny’n £4.15 biliwn y funud, £69.3 miliwn yr eiliad. Byddai rhaglen araith o'r fath yn gwneud economi’r DU yn fethdalwr mewn gwirionedd, ac ni all hynny fod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru.

Nid yw erioed wedi bod yn rhatach i fenthyg. Ym 1945, daeth Llywodraeth i rym yn y DU, yn llywyddu gwlad wedi ei dinistrio ac economi wedi ei dinistrio, gyda llawer llai o arian ar gael iddi. Ac eto llwyddodd i greu'r gwasanaeth iechyd gwladol, llwyddodd i roi diwydiant yn ôl ar ei draed. Llwyddodd i sicrhau bod safon byw pobl yn dechrau codi. Aeth i’r afael â gwlad a oedd wedi cael ei dinistrio oherwydd effeithiau rhyfel. Os gallan nhw wneud hynny, yna gall Llywodraeth Lafur ei wneud nawr. Rydym ni wedi cael saith mlynedd o gyni ac nid oes dim wedi newid er gwell. Mae wedi gwaethygu a gwaethygu a gwaethygu. Saith mlynedd wedi eu gwastraffu: mae'n amser am newid.

Nid wyf eisiau dadlau hanes economaidd â'r Prif Weinidog, ond, yn syth ar ôl y rhyfel, roedd gennym ni, wrth gwrs, y rhaglen cymorth Marshall ac roedd gostyngiad sylweddol iawn mewn gwirionedd i gyfran y ddyled i CMC yn ystod Llywodraeth Attlee rhwng 1945 a 1951. Pan ddaeth Tony Blair i rym ym 1997, £359 biliwn oedd y ddyled genedlaethol ac, yn ei dymor cyntaf yn y swydd, fe'i gostyngodd ymhellach. Gostyngwyd hynny i £317 biliwn yn 2001. Yna, fe wnaeth Gordon Brown droi’r tapiau gwario ymlaen, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd gyda'r argyfwng ariannol yn 2008. Mae’r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol bron yn £2 triliwn erbyn hyn ac rydym ni’n gwario, bob blwyddyn, £56 biliwn ar log y ddyled yn unig. Pe byddai rhan Cymru o’r llog dyled hwnnw, a fyddai’n ugeinfed rhan—mae hynny tua £2 biliwn y flwyddyn—ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, beth bynnag, byddai Cymru'n llawer gwell ei byd nag y mae ar hyn o bryd.

Mae’n rhaid i bob Llywodraeth fenthyg. Wel, prin iawn yw’r llywodraethau nad oes rhaid iddynt fenthyg—y rhai â chyfoeth olew fel rheol. Y gwir amdani yw eich bod yn benthyg i fuddsoddi. Yr hyn yr ydym ni’n ei weld ar hyn o bryd yw Llywodraeth sy'n taro economi Prydain oddi ar y ddaear. Rydym ni’n gwybod, cyn belled ag y mae chwistrelliadau ariannol yn y cwestiwn, nad yw hynny'n digwydd. Nid yw'r economi yn cael ei hysgogi. Nawr, nid yw ef eisiau i mi roi darlith iddo ar hanes economaidd—rwyf am wneud hynny, a hanes economaidd diweddar y bydd yn ei gofio. Oherwydd roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu mai Gordon Brown oedd yn gyfrifol am argyfwng ariannol y byd yn 2008. Y gwir yw i’r argyfwng gael ei achosi gan fanciau anghyfrifol yn gwerthu cynhyrchion ariannol i bobl yr oeddent yn gwybod yn iawn na fyddent yn gallu eu had-dalu. Yna, fe wnaethant fwndelu'r dyledion hynny a'u gwerthu nhw i fanciau eraill, gan heintio'r system gyfan. Dyna beth ddigwyddodd. Rydym ni’n dal i fyw gyda chanlyniadau hynny. Mae'n eithaf eglur i mi, felly, na ellir dilyn yr hen ffyrdd o wneud pethau yn y dyfodol. Mae arnom angen chwistrelliad Keynesaidd o arian parod i'r economi er mwyn sicrhau ein bod ni'n creu mwy o gyflogaeth, ein bod ni’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, ac yn ysgogi'r economi yn y modd hwnnw. Oherwydd mae’n gwbl eglur, dros y saith mlynedd diwethaf, nad yw'r hyn a wnaed yn gweithio.

Byddech chi’n meddwl, o'r hyn y mae’r Prif Weinidog newydd ei ddweud, na fu Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2008 ac nad Gordon Brown oedd Canghellor y Trysorlys, yn gyfrifol am reoleiddio banciau, ond rydym ni’n gwybod ei fod yn credu mewn rheoliad ysgafn o fanciau, felly roedd yn gyfrannwr at yr argyfwng ariannol, a wnaeth ei foddi yn y pen draw. Roedd Jim Callaghan yn gwybod sut beth oedd ymdopi ag argyfwng ariannol. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cofio'n dda iawn iddo ymddangos ym 1976 mewn cynhadledd Plaid Lafur dra gwahanol gan ddweud:

Roeddem ni’n arfer meddwl y gallech chi wario eich ffordd allan o ddirwasgiad a chynyddu cyflogaeth trwy...gynyddu gwariant gan y llywodraeth. Gallaf ddweud wrthych yn gwbl ddidwyll nad yw’r dewis hwnnw’n bodoli mwyach, ac i'r graddau yr oedd yn bodoli erioed, fe lwyddodd ar bob achlysur...trwy chwistrellu dos mwy o chwyddiant i'r economi, ac yna lefel uwch o ddiweithdra fel y cam nesaf.

Mae’n ymddangos bod Jeremy Corbyn wedi anghofio’r wers honno, os gwnaeth ei dysgu hi erioed. Nid ei ffordd ef fel rhyw fath o Siôn Corn hen ffasiwn, yn estyn i mewn i fag diwaelod o anrhegion i'w taflu allan i blant hawdd eu twyllo yw’r ffordd ymlaen i unrhyw blaid wleidyddol synhwyrol neu realistig sydd ag unrhyw fwriad o ddal swyddi uchaf y wlad.

Rydym ni wedi cael datgeliad y prynhawn yma o strategaeth UKIP ar gyfer ymdrin ag apelio at bleidleiswyr ifanc. 'Rydych chi i gyd yn blant hawdd eich twyllo' yw'r ffordd y maen nhw’n mynd i gael eu disgrifio yn y dyfodol, felly ni allaf weld llawer ohonyn nhw’n pleidleisio dros UKIP yn y dyfodol.

Yn y 1970au, roedd heriau penodol gyda ‘stagflation’, fel y dylai gofio, oherwydd y cynnydd mawr i bris olew o ganlyniad i argyfwng olew 1973. Gwyrodd hynny’r cylch economaidd arferol ac, o ganlyniad, gwelsom ddiweithdra cynyddol a chwyddiant cynyddol ar yr un pryd, a oedd yn golygu bod y ffordd draddodiadol o chwistrellu arian i'r economi i ymdrin â diweithdra uchel— [Torri ar draws.] Gallaf roi darlith ar hanes economaidd i arweinydd yr wrthblaid, os yw'n dymuno, gan ei fod yn gwybod llai na dim am y peth—[Torri ar draws.] Ac felly mae amgylchiadau'r 1970au yn wahanol iawn, iawn. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho am 1976—. Dyma ystadegyn iddo: 1976 oedd yr adeg mewn hanes pan oedd Prydain fwyaf cyfartal—pan roedd Prydain fwyaf cyfartal. Ers hynny, mae'r Torïaid wedi ei gwneud yn fwy a mwy a mwy anghyfartal, a dyna’r hyn y bydd Llywodraeth Lafur yn ei newid.

Tlodi Ymysg Menywod Ifanc

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar dlodi ymysg menywod ifanc yng Nghymru? (OAQ51108)[W]

Mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod yn rhan o aelwydydd un rhiant ac aelwydydd gwaith rhan amser sydd mewn mwy o risg o fyw mewn tlodi. Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gefnogaeth i hybu ffyniant drwy eu helpu i ddod dros y rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd i mewn i fyd cyflogaeth er mwyn eu gwneud nhw yn fwy cyflogadwy ac i’w dodi nhw mewn sefyllfa i gael gwaith addas sy’n talu’n dda.

Diolch yn fawr. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Angela Rayner, ysgrifennydd addysg yr wrthblaid, wedi awgrymu yng nghynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn ymrwymo i roi terfyn ar dlodi misglwyf mewn ysgolion. A oes gan y Prif Weinidog unrhyw fwriad i gyflwyno mesur o'r fath yng Nghymru?

Do, sylwais ar y cyhoeddiad. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod y byddwn ni’n edrych arno fel Llywodraeth i weld sut y gellir ymdrin ag ef yn y modd mwyaf effeithiol. Ond mae'n gysyniad y mae angen ei archwilio'n ofalus iawn er mwyn sicrhau y gellir ymdrin ag ef yn effeithiol yng Nghymru.

Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ymwelais â labordai profi Severn Trent ym Mhen-y-bont ar Ogwr—efallai y byddwch yn gyfarwydd â nhw eisoes—ac roedd y rhan fwyaf o'r uwch dîm yno yn fenywod. Ni chawsant eu haddysgu'n ddiweddar yng Nghymru, mae gen i ofn, felly nid yw'n eich helpu chi o ran cwestiwn Andrew, ond, serch hynny, mae'n enghraifft wych o fenywod yn ymgymryd â gyrfaoedd STEM da. Maen nhw hefyd yn enghraifft dda, mewn cyfleuster lle byddech chi’n disgwyl addysg lefel gradd fel rheol, bod eu diddordeb yn troi nawr at y sector addysg bellach i weld a all myfyrwyr o’r fan honno gael eu penodi i swyddi priodol, ac fel y gwyddom, mae pobl o gefndiroedd tlotach yn tueddu i ddefnyddio addysg bellach ychydig yn fwy. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr bod Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn sefydlu gweithgor mewnol sy'n datblygu canfyddiadau adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allwch roi diweddariad i ni ar hynny, o ran pryd y gallem ni weld rhai canlyniadau yn ei sgil.

Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen honno. O ran yr orsaf bwmpio, byddaf yno ddydd Gwener, felly byddaf yn gallu clywed yn bersonol yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei ddweud wrthi hi.

Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 17 Gorffennaf, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi hyn: ni fyddai’n ddoeth cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer tlodi. Onid ydy hyn yn ddatganiad cwbl rhyfeddol? Dim cynllun gweithredu penodol. Dim targedau ar gyfer lleihau tlodi. Dim monitro, oherwydd nid oes yna ddim byd i’w fonitro, er gwaetha’r ffaith bod dros 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. A ydych chi’n cytuno efo fi bod hyn yn arwydd clir fod y Llywodraeth Lafur yma wedi troi’i chefn yn llwyr ar deuluoedd tlawd Cymru?

‘Na’ yw’r ateb i hynny. Mae tlodi yn rhywbeth sy’n cael ei ddelio ag ef ar draws Llywodraeth; nid yw’n rhywbeth sydd dim ond yn dod o dan bortffolio un Gweinidog, ac rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw hwn. Os edrychwch chi ar beth y gwnaethom ni gyhoeddi wythnos diwethaf, mae’n amlwg ein bod ni’n ystyried tlodi fel rhywbeth sydd yn hollbwysig i’w ddatrys yma yng Nghymru, a’r ffordd i wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau bod pobl â’r sgiliau sydd eu heisiau arnyn nhw, bod yna gyfleon i bobl, y ffaith bod nhw’n gallu cael gofal plant am ddim—rhywbeth, wrth gwrs, sy’n bolisi y gwnaethom sefyll arno yn yr etholiad, ac rydym ni’n symud ymlaen er mwyn gweithredu hynny—ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna swyddi ar gael sydd yn talu’n dda. Nid yw pob ‘lever’ gyda ni—o achos y ffaith rydym ni’n gwybod, ynglŷn â chyflogaeth ac ynglŷn â thâl, eu bod yn rhywbeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—ond rydym ni moyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud y mwyaf rydym ni yn gallu wneud yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â thlodi.

Prif Weinidog, mae'r grŵp gweithredu ar dlodi plant wedi nodi'n gynnar iawn bod y ffordd y mae credyd cynhwysol wedi'i strwythuro yn peri risg wirioneddol i annibyniaeth ariannol menywod yn y cartref. Mae wir yn tanseilio eu gallu i fod yn annibynnol ac i gael annibyniaeth ariannol.

Rydym ni’n gwybod erbyn hyn gan Gyngor ar Bopeth Cymru bod rhai pobl yn yr ardaloedd treialu, rhai menywod, yn rhoi'r gorau i weithio oherwydd problemau gofal plant, o ganlyniad uniongyrchol i gynllun a chyflwyniad credyd cynhwysol fel ag y mae. Ac rydym ni’n gwybod nawr, wrth gwrs, yr wythnos hon, yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun, bod dros 80 y cant—dros 80 y cant—o dderbynwyr credyd cynhwysol sy'n cael ei gyflwyno yn mynd i ôl-ddyledion rhent. Mae ardaloedd treialu y Llywodraeth ei hun yn dangos ei fod yn drychineb llwyr a’i fod yn gyrru menywod ifanc, ond hefyd pawb, i dlodi. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa sylwadau pellach y gall eu gwneud i Lywodraeth y DU? Oherwydd mae’r effaith yng nghymunedau pob un ohonom yn mynd i fod yn sylweddol.

Wel, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ond bydd yn rhaid i ni ymuno â’r ciw. Hynny yw, mae eu ASau eu hunain yn dweud y dylid rhoi'r gorau i'w gyflwyno. Pe gallwn i grynhoi agwedd y Llywodraeth Geidwadol, byddwn yn ei wneud fel hyn: lleihau'r baich ariannol ar y cyfoethog—torri trethi—a chynyddu'r baich ariannol ar y tlotaf—cael gwared ar gredydau treth, y dreth ystafell wely, credyd cynhwysol. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yn ogystal â hyn eu bod nhw’n gwneud y pethau hyn mewn ffordd ddi-glem, a dyna mae cyflwyniad presennol credyd cynhwysol yn ei wneud. Mae arweinydd yr wrthblaid yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Pan ein bod ni’n siarad am les, mae'n meddwl ei fod yn ddoniol. Wel, pam na aiff ef i siarad â phobl sy’n cael eu heffeithio gan hyn? Pam na aiff ef i siarad â phobl am fygythiad digartrefedd? Pam na aiff ef i siarad â phobl sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n mynd i ôl-ddyledion rhent? Efallai y byddai'n dysgu sut beth yw bywyd go iawn wedyn. Oherwydd rydym ni’n ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd, ar sail etholaeth, ac rydym ni’n gweld creulondeb credyd cynhwysol, ynghyd â chymaint o’r polisïau eraill a ddatblygwyd gan Lywodraeth Geidwadol o fantais i’r cyfoethocaf yn unig.

Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? (OAQ51114)

Mae datganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn parhau gyda Llywodraeth y DU. Maen nhw wedi gwrthod datganoli hynny. Er gwaethaf y sefyllfa hon, ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu £200 miliwn mewn rhaglen o welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd ychwanegol a gwell yn y canolbarth a’r gorllewin.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rydym ni’n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o adfywio rheilffyrdd a gaewyd yn bennaf yn y 1960au o dan gynllun Beeching fyddai creu cyfleoedd cost isel ar gyfer y trenau a'r cerbydau a fyddai'n gweithio ar y rheilffordd. Oherwydd y costau gweithredu fydd y rhwystr mawr. Cafwyd amcangyfrif o gyfanswm cost o £700 miliwn i ailagor y rheilffordd benodol hon. Ond bu rhai astudiaethau calonogol iawn a gynhaliwyd o drenau sylfaenol yn cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau ysgafn ac yn rhedeg ar gyflymder isel, y gellid eu cyflwyno yn y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i dreial gwerth £4 miliwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog bopeth o fewn ei allu i annog cyflwyniad y dechnoleg newydd hon a fydd yn cynnig y cyfle i efallai agor llawer mwy o reilffyrdd yng Nghymru wledig a gafodd eu cau flynyddoedd yn ôl?

Na. Yr hyn y mae'n sôn amdano yw rheilffyrdd ysgafn. Mae'n fodel a ddefnyddir ar gyfer rheilffyrdd maestrefol ac ar gyfer teithiau byr. Nid wyf yn credu y bydd taith o 50 milltir rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael ei gwasanaethu orau gan gerbyd rheilffordd ysgafn â seddi caled, er enghraifft, heb y math o gyfleusterau y byddech chi'n eu disgwyl mewn trên pellter hwy. Ac, wrth gwrs, gyda rheilffyrdd ysgafn, rydych chi'n canfod eich hun mewn sefyllfa lle mae’n rhatach, mae’n wir, gan nad yw’r gofynion o ran signalau yr un fath, er enghraifft, ond mae'r lefelau cysur yn llawer iawn is ac nid wyf yn meddwl y dylai pobl yng ngorllewin ein gwlad gael gwasanaeth trên sy'n llawer llai cyfforddus na fyddai’n cael ei ddisgwyl ar hyd llwybr cyfatebol yn Lloegr. Os ydym ni’n mynd i symud ymlaen—. Mae'n her sylweddol—nid wyf yn credu y gallwn ni ei thanbwysleisio—her sylweddol a chost sylweddol i ailgyflwyno rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, ond os yw’n mynd i gael ei wneud, mae'n rhaid ei wneud yn iawn.

Prif Weinidog, roeddwn i’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd gorsaf Carno yn cael ei chynnwys yn y broses asesu cam 2 bresennol ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru. Bydd deiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yfory gan grŵp gweithredu gorsaf Carno, 10 mlynedd ar ôl y ddeiseb gyntaf, yn annog y Llywodraeth i ailagor gorsaf Carno o fewn cyfnod o bum mlynedd. Nawr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd Carno yn cael ei ystyried, a wnewch chi amlinellu beth yw'r camau nesaf yn ystod y broses hon, ac a ydych chi'n teimlo bod pum mlynedd yn amserlen realistig ar gyfer ailagor gorsaf Carno?

Dim ond i hysbysu'r Aelod, y cam nesaf, fel y mae’n gwybod, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu cynnwys Carno yn y rownd bresennol o asesiadau cam 2. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu cael gwybodaeth gan Network Rail ar y modd y gellir ei gyflawni ac ystyriaethau gweithredol ar y gorsafoedd a flaenoriaethwyd. Hefyd, rhedwyd model asesu safonol i asesu'r galw a ragwelir yn y gorsafoedd arfaethedig hefyd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â'r grŵp gweithredu yn rhan o’r broses cam 2. Felly, dyna lle’r ydym ni ar hyn o bryd, bydd yn gwybod, wrth gwrs, beth yw ein bwriad ni. Ceir llawer o ffactorau anhysbys. Pan fyddwch chi'n ymdrin â Network Rail, nid yw bob amser yn eglur beth yw'r heriau. Rydym ni wedi darganfod hynny yn y gorffennol, pan nodwyd problemau nad oeddent yn hysbys ar yr adeg y gwnaed cyhoeddiad. Ond ein bwriad, bydd yn gwybod, yw ailagor Carno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr asesiad.

Yn ôl beth rwy’n ei ddeall o beth mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol, y sefyllfa bresennol yw bod y fasnachfraint yn mynd i gychwyn heb fod y pwerau llawn na’r arian llawn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac felly mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn mynd i fod yn asiant dros Lywodraeth San Steffan. Os dyna’r sefyllfa, a gaf i ofyn i chi’n blwmp ac yn blaen, yng ngoleuni beth ddigwyddodd i drydaneiddio i Abertawe, a ydych chi’n ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau llawn mewn pryd ac, yn bwysig, i drosglwyddo’r arian llawn mewn pryd yn ogystal?

Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, ni allwn ni ddim symud ymlaen, yn blwmp ac yn blaen. Rŷm ni wedi gwneud popeth sydd eisiau arnom ni, ac felly mae’n rhaid iddyn nhw nawr weithredu. Nid oes dim arwydd nawr y bydd yna broblem yn y pen draw. Rŷm ni’n moyn sicrhau bod y ‘franchise’ yn symud ymlaen ym mis Ebrill fel y dylai fe. Rŷm ni’n siarad, wrth gwrs, gyda’r undebau hefyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall beth rŷm ni’n ceisio ei wneud. Byddai wedi bod yn llawer yn rhwyddach—llawer yn rhwyddach—petaen nhw wedi datganoli’r gyllideb a’r pwerau i ni y tro cyntaf, yn enwedig y pŵer i gyfeirio Network Rail. Nid yw hynny ddim gyda ni ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid inni ystyried ffyrdd newydd o wneud pethau, ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n gallu gweithredu nawr dros bobl Cymru mewn ffordd nad oedd yn bosib o’r blaen.

Prif Weinidog, roedd llawer iawn i'w groesawu yn natganiad diweddaraf y Gweinidog trafnidiaeth ar y fasnachfraint nesaf, a'r hyn a groesawyd yn arbennig oedd yr ymrwymiad i gadw gardiaid ar bob gwasanaeth, rhywbeth y mae pobl wedi ymgyrchu'n weddol ddwys i'w weld, ac maen nhw’n ei groesawu. Yr ymrwymiad arall oedd y dylai’r cerbydau newydd gael eu cynnal a’u cadw, yn ddelfrydol, gan weithwyr yma yng Nghymru. Yn ddiweddar iawn, cefais daith o gwmpas y buddsoddiad a wnaed yn nepo Machynlleth, a chyfarfûm â rhai o'r 33 o weithwyr hynod fedrus sy'n byw yno ac yn gweithio yno. Felly, yn y dyfodol, Prif Weinidog, a gaf i ofyn y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'r hyn yr ydym eisoes wedi buddsoddi ynddo, yng ngorsaf Machynlleth ac yn y bobl sy'n gweithio yno?

Yn sicr. Os cofiaf yn iawn, roedd gan Fachynlleth ddepo yn y 1980au, yna fe gaeodd, yna fe’i hailagrowyd, gan fod ei angen, yn amlwg, i wasanaethu trenau ar reilffyrdd canol Cymru ac Arfordir Cambria. Felly, ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ein rhwydwaith o ddepos, ond hefyd yn cynyddu'r nifer yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd cerbydau newydd, y bydd moddau trafnidiaeth newydd y byddwn ni’n eu hystyried, ac mae'n bwysig, wedyn, bod yr offer yn cael eu cynnal a’u cadw yng Nghymru cyn belled ag y mae hynny’n bosibl.

Polisïau Creu Cyfoeth

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant ei pholisïau creu cyfoeth? (OAQ51116)

Mae'n bwysig ystyried perfformiad economi Cymru drwy ddefnyddio basged o ddangosyddion a pheidio ag edrych ar un mesur unigol. Wrth gwrs, mae 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y ffordd ymlaen. Bydd y cynlluniau a fydd yn dilyn yn rhoi mwy o fanylion.

Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond o fesur nid yn unig creu cyfoeth, ond hefyd iechyd, addysg, darpariaeth tai ac ati, a yw Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Cymru Llafur, yn iawn pan ei fod yn dweud, ar ôl 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol dan reolaeth Llafur, bod Cymru bellach yn dlotach nag yr oedd 20 mlynedd yn ôl? Aeth cyn-seren y blaid Lafur hwn ymlaen i ddweud nad yw'n gallu enwi unrhyw fenter sydd wedi gwella bywydau pobl Cymru. Does bosib, Prif Weinidog, bod yn rhaid i chi gytuno bod hwn yn ddadansoddiad yr un mor ddamniol o bolisïau Llafur ers datganoli ag unrhyw un a fynegwyd yn y Siambr hon.

'Na' yw'r ateb. Nawr, ble’r ydym ni am ddechrau? Beth am ddechrau gyda Twf Swyddi Cymru, ie? Y ffaith bod cymaint o bobl wedi eu cynorthwyo i mewn i swyddi, rhoddwyd hyfforddiant i bobl ifanc. Edrychwch ar y cymorth a roddwyd i weithwyr i gadw eu swyddi pan darodd y dirwasgiad yn galed yn 2008-09. Gadewch i ni siarad am y bobl sy'n fyw oherwydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Siambr hon. Edrychwch ar y ffaith bod gennym ni’r ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd. Edrychwch ar ein lefelau cyflogaeth. Rwy’n amau, mewn gwirionedd, bod angen i Ron ddarllen mwy o bapurau newydd.

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi honni bod swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor wedi methu yn eu nod o hybu allforion i'r gwledydd hynny. Mae'r ffigurau'n awgrymu bod allforion i'r gwledydd hynny, mewn gwirionedd, wedi gostwng rhwng 2013 a 2016, i lawr 13 y cant i'r Unol Daleithiau, i lawr 22 y cant i Wlad Belg a 55 y cant i Japan. Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd ei swyddfeydd tramor i hybu masnach gyda'r gwledydd y maent wedi eu lleoli ynddynt?

Mae wedi syrthio i drap yn y fan yna, a osodwyd iddo gan Lywodraeth y DU, oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y fethodoleg wedi newid, felly—os cofiaf yn iawn—os oes gennych chi ffatri yng Nghymru sy'n allforio, ond bod ei phencadlys yn Lloegr, mae'n cael ei gyfrif fel allforio o Loegr. Dyna'r broblem. Felly, yn sydyn, rydym ni’n gweld y newidiadau sydyn hyn i’r ffigurau allforio, nid oherwydd bod llai o nwyddau'n cael eu hallforio’n ffisegol, ond oherwydd eu bod yn cael eu cyfrif fel rhai sydd wedi dod o Loegr gan fod eu pencadlys yn Lloegr. Gwyddom fod llawer o sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw eu pencadlys yng Nghymru.

Mae'n gofyn cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud i roi hwb i'n presenoldeb dramor? Rydym ni’n bwrw ymlaen â strategaeth i wneud yn union hynny. Mae’r cydbwysedd hwnnw y mae'n rhaid ei daro rhwng: a ydych chi'n hybu swyddfa sy'n bodoli eisoes neu a ydych chi'n agor swyddfa newydd? Comisiynwyd gwaith gennym gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru; rhoddasant wybodaeth i ni ynghylch sut y dylem fynd ati i wneud hynny. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Aelodau'n clywed am agor swyddfeydd newydd ac, wrth gwrs, hybu staff dramor er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi hwb i'n presenoldeb, gan weithio'n aml iawn gyda'r Adran Masnach Ryngwladol—yn fwyaf aml, gyda’r Adran Masnach Rhyngwladol mewn gwirionedd—ond yn y marchnadoedd hynny lle mae gan Gymru bresenoldeb cryf ac mae angen iddi gryfhau ei phresenoldeb yn y dyfodol.

Onid yw'n wir, serch hynny, Prif Weinidog, er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch am lefelau diweithdra—ac mae hynny i’w groesawu; eu bod wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU am gyfnod ddechrau’r 1990au hefyd, oni wnaethant? Ond mae'r broblem yn ymwneud ag incwm, â ffyniant. Gallwch ddewis unrhyw nifer o fasgedi o ddangosyddion, boed nhw’n enillion cyfartalog, yn incwm gwario aelwydydd, yn werth ychwanegol gros y pen, yn incwm fesul awr a weithiwyd, ac ati. Rydym ni wedi gwaethygu o gymharu â lle’r oeddem ni ar ddechrau datganoli, ac nid dyna’r hyn a addawyd. Felly, beth ydym ni’n ei wneud yn anghywir a beth yw'r dangosydd—sut ydym ni'n mynd i fesur y llwyddiant, gobeithio, a ddaw rywbryd yn y dyfodol?

Nid yw’n fater o’n bod ni wedi gwaethygu, a bod pobl rywsut yn dlotach nag yr oeddent. Yr hyn sy'n gywir i’w ddweud, wrth i’n cynnyrch domestig crynswth—neu os hoffech chi fesur incwm aelwydydd domestig gros hefyd—gynyddu, nid yw wedi gwella ar yr un raddfa â rhannau eraill o'r DU. Dyna'r disgrifiad cywir. Gofynnodd y cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? Wrth wraidd popeth mae sgiliau—sgiliau. Yr hyn a ddigwyddodd ar ddechrau datganoli yw ein bod wedi gweld llawer o'r busnesau hynny, rwy’n credu, a ddaeth yma oherwydd yr arian gan ddarparu gwaith heb sgiliau—fe wnaethant adael. Aethant i Hwngari. Aeth busnes yn fy etholaeth i fy hun i Hwngari. Aethant at economïau cost is, oherwydd mai'r cyfan yr oedden nhw eisiau ei wneud oedd gweithgynhyrchu'n rhad. Nawr, ni allwn chwarae'r gêm honno, ac ni ddylem geisio gwneud hynny. Felly, mae'r pwyslais nawr, yn drwm, ar sgiliau. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i ni gan fuddsoddwyr tramor erioed yw 'A yw eich pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnom ni er mwyn i ni allu gweithredu yng Nghymru'? Yn gynyddol, wrth gwrs, yr ateb yw 'ydyn'.

Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda cholegau addysg bellach ac rydym ni’n gweithio gyda'n prifysgolion mewn ffordd nad oedd yn digwydd 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd gan ein prifysgolion ddiddordeb mewn gweithio tuag at ddatblygu economaidd bryd hynny; roedden nhw’n ystyried eu hunain yn sefydliadau academaidd yn unig. Er tegwch iddynt, maen nhw wedi newid. Bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i ffrwyth y gwaith hwnnw ymddangos, ond rydym ni’n gweld buddsoddwyr yn dod i Gymru na fyddai, i siarad yn blaen, wedi dod 20 mlynedd yn ôl—buddsoddwyr pen uchaf sy'n talu mwy o ran y swyddi y maen nhw’n eu creu. Yr hyn sy'n allweddol nawr yw parhau i symud ar y llwybr hwnnw, nid yn unig o ran FDI. Bydd yn gwneud y pwynt, rwy'n deall, o ran annog BBaChau yng Nghymru. Nid yw'n gwestiwn o’r naill neu'r llall, a dyna'n union yr ydym ni eisiau ei wneud hefyd, gan weithio eto gyda'r prifysgolion ac eraill, gan sicrhau bod entrepreneuriaid ifanc sydd â syniadau da yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i roi'r syniadau hynny ar waith. Yn gynyddol, ledled Cymru, rydym ni’n gweld y busnesau hynny nawr yn dechrau cael eu creu ac yn tyfu.

'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu 'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'? (OAQ51136)

Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 'Addysg yng Nghymru: Ein cenhadaeth genedlaethol' ar 26 Medi. Mae hwnnw'n ailddatgan ein hymrwymiad i lunio cwricwlwm gweddnewidiol er mwyn darparu system addysg well i Gymru.

Rwy'n croesawu'n gyffredinol agwedd Llywodraeth Cymru at weithredu argymhellion yr Athro Graham Donaldson, ond bydd Aelodau'n ymwybodol o sylwadau'r Athro Donaldson a adroddwyd gan y BBC y bore yma, pryd y dywedodd fod cynnydd yn parhau i fod yn dda, ond rhybuddiodd hefyd yn erbyn

unrhyw golli momentwm yn holl ddeinamig y diwygiad hwn.

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r Athro Donaldson ynghylch y newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf? A beth fyddai ymateb y Prif Weinidog i bryderon yr Athro Donaldson ynghylch y colli momentwm posibl?

Wel, mae'r Athro Donaldson yn goruchwylio'r bwrdd gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n cytuno ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir i gyflwyno'r cwricwlwm fel cyflwyniad graddol yn hytrach na phopeth ar yr un pryd. Bydd y dull yn golygu bod gan bob ysgol yr amser i ymgysylltu â datblygiad y cwricwlwm a bod yn gwbl barod, wrth gwrs, ar gyfer y newidiadau. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eisoes wedi dweud bod angen i ni barhau â'n hymgyrch i greu cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyna beth fyddwn ni’n ei wneud, ond ar y cyflymder priodol.

Prif Weinidog, er i ni groesawu gohirio gweithrediad y cwricwlwm, un agwedd sy'n dal i beri pryder i ni yw'r ffaith y bydd yn ofynnol i ysgolion uwchradd gyflwyno dau gwricwlwm ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion hynny am gyfnod o bum mlynedd. Nawr, mae hynny’n mynd i achosi anhrefn llwyr ac rwy'n credu ei fod yn mynd i sicrhau dryswch, yn enwedig i athrawon sydd newydd gymhwyso ac sy'n dod i mewn i'r system, a fydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cwricwlwm newydd ond yn gorfod darparu’r hen un, ac i’r proffesiwn sydd eisoes dan bwysau sydd gennym ni allan yn y fan yna, y dywedodd oddeutu 70 y cant ohonynt eu bod yn teimlo eu bod yn gorweithio a dan straen oherwydd eu llwyth gwaith. Felly, beth ydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu dau gwricwlwm i'r disgyblion yn yr ysgolion hynny a sicrhau nad yw cyrhaeddiad disgyblion yn gostwng o ganlyniad, ac nad yw'r staff yn gorweithio mwy nag y maen nhw nawr?

Wel, pe byddai hynny'n bryder, ni fyddai'r undebau addysgu yn cefnogi hyn, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi cefnogi gweithrediad graddol. Mae sgiliau addysgu yn drosglwyddadwy. Nid yw'n wir bod rhywun wedi'i hyfforddi i addysgu cwricwlwm penodol. Mae ganddyn nhw sgiliau addysgu y maen nhw’n eu haddasu yn ôl y cwricwlwm sydd o'u blaenau. Nid yw’n ddigynsail, wrth gwrs, i ysgolion addysgu gwahanol gwricwla ar yr un pryd. Pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol, bu’n rhaid i ysgolion baratoi ar gyfer hynny. Roedd gorgyffwrdd yn aml bryd hynny. Roedd y cyfnod sylfaen yr un fath. Roedd fy nhad yn gweithio ym maes addysg yn y 1980au a gallaf ddweud wrthych, roedd pethau'n arfer newid bob chwe mis bron, yr oedd yn rhaid i'r athrawon ymdopi â hynny. Roedd gan Weinidogion gymaint o obsesiwn ar y pryd—ac nid Gweinidogion Cymru oedden nhw; nid oedd ganddynt reolaeth dros addysg bryd hynny, dros y maes llafur—roedd athrawon yn canfod eu hunain yn gorfod bodloni mympwy Gweinidogion a oedd eisiau newid pethau drwy'r amser. Nawr, does bosib mai dyna fyddai'r dull gorau. Mae'n hynod bwysig nad ydym yn cyflwyno cwricwlwm tan fod y proffesiwn yn barod. Maen nhw wedi nodi eu bod yn fodlon gyda'r dull hwn, a dyna pam yr ydym ni wedi dilyn y dull yr ydym ni wedi ei ddilyn.

Recriwtio Nyrsys yng Ngogledd Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio nyrsys yng ngogledd Cymru? (OAQ51115)[W]

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw, wrthi yn recriwtio rhagor o nyrsys.

Wel, yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 92 o swyddi nyrsys yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn wag, gyda nifer, wrth gwrs, cynyddol o nyrsys yn agosáu at oed ymddeol yno hefyd. Nawr, mae prinder y niferoedd yna o nyrsys yn golygu bod nyrsys arbenigol erbyn hyn yn gyson yn gorfod gweithio ar wardiau cyffredinol ac mae’n argyfwng dyddiol yn yr ysbyty, sef y mwyaf, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru. Nawr, mae recriwtio tramor drudfawr y bwrdd iechyd, yn India a Barcelona, drwy asiantaeth breifat, wedi bod yn fethiant llwyr; dim ond pedwar nyrs o India, er enghraifft, sydd wedi llwyddo i basio’r prawf iaith. Felly, ar ôl methiant cynllunio’r gweithlu eich Llywodraeth chi dros nifer fawr o flynyddoedd, ar ôl gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers dros ddwy flynedd a hanner erbyn hyn, a ydych chi yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa druenus yma?

Rydym ni’n gweld bod pethau yn gwella. Er enghraifft, mae yna gynyddiad wedi bod yn nifer y nyrsys sydd yn hyfforddi yn y gogledd. Mae’r nifer nawr yn fwy uchel nag yn unrhyw flwyddyn o’r 10 mlynedd diwethaf. Felly, rydym ni wedi buddsoddi mewn recriwtio, a hefyd, wrth gwrs, mewn hyfforddi. Mae hynny wedi meddwl bod 13 y cant o gynyddiad wedi bod yn nifer y llefydd hyfforddi nyrsio yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydym wedi dodi £95 miliwn o fuddsoddiad i mewn i hyfforddi, ac mae hynny’n meddwl bod yna 3,000 o fyfyrwyr newydd yn gallu astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru, ar draws Cymru. Un her, wrth gwrs, yw’r ffaith nad yw pobl yn moyn dod i’r Deyrnas Unedig rhagor o achos Brexit, am un rheswm, a’r ffaith nad ydyn nhw’n credu bod unrhyw fath o groeso yma nawr. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, a ddigwyddodd y llynedd, ond er mwyn delio â hynny, rydym yn deall bod yn rhaid hyfforddi mwy o nyrsys yng Nghymru. Dyna pam yr ydym yn gweld, wrth gwrs, y cynyddiad sylweddol yn y ffigurau sydd yn hyfforddi.

Ymchwiliad Cyhoeddus yr M4

8. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o gyflwyniad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwiliad cyhoeddus yr M4? (OAQ51122)

Wel, wrth gwrs, mae'r cyflwyniad i’w groesawu. Mae'n bwysig bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn agored ac yn fanwl. Dyna, wrth gwrs, yw’r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd.

Diolch. Yn ei thystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus yr M4, cydnabu'r Llywodraeth y bydd traffordd newydd yn achosi niwed hirdymor, ond y byddai’r manteision economaidd byrdymor yn gorbwyso hyn. Mae cynghorydd annibynnol y Llywodraeth ei hun, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru erbyn hyn, wedi dweud nad yw hyn yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae corff gwarchod y Ddeddf yn dweud nad yw'r cytundebau hyn yn gyfreithlon yng Nghymru mwyach. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i sefydlu grŵp arbenigol i lunio ateb yn gyflym i'r tagfeydd ar yr M4 sy'n gydnaws â chyfraith a basiwyd gennym ni?

Wel, dyna'n union beth sy'n digwydd nawr oherwydd mae gennym ni ymchwiliad annibynnol sy'n edrych ar yr M4. Fe'i cynlluniwyd i fod mor eang â phosibl—felly nid oedd yn edrych ar un cynllun penodol yn unig—a dyna beth mae'n ei wneud. Felly, mae'n bwysig bod yr ymchwiliad hwnnw'n gallu adrodd yn ddiduedd ac yn annibynnol, gan ystyried yr holl dystiolaeth sydd ger ei fron.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw—mae'r amser a neilltuwyd i'r gyllideb ddrafft wedi ei ymestyn i 90 munud. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r agenda, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â’r adroddiad ynghylch ad-drefnu ysbytai cyffredinol dosbarth yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf? Hyd yn hyn, nid wyf yn credu y cafwyd datganiad. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol iawn i bobl yng ngorllewin Bro Morgannwg sy'n defnyddio Ysbyty Tywysoges Cymru fel eu prif ysbyty cyffredinol dosbarth, a meddygfeydd yn arbennig yng ngorllewin y Fro sy'n atgyfeirio eu cleifion i Ysbyty Tywysoges Cymru. I sicrhau bod gennym ddealltwriaeth o sut y gallai’r cynigion hyn fynd yn eu blaenau neu beidio mynd yn eu blaenau, byddai croeso i ddatganiad gan y Llywodraeth er mwyn gweld mewn gwirionedd beth yw’r meddylfryd am y rhesymeg sydd y tu ôl i unrhyw newidiadau arfaethedig i drefn bresennol y byrddau iechyd sy’n rheoli Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, h.y. Byrddau Iechyd Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg.

Wel, wrth gwrs, mae’r materion hyn yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad, a gwnaed y dewisiadau a'r awgrymiadau hynny yn glir yn y datganiad diweddar ac yn y Papur Gwyn. Felly, yn amlwg, mae cyfle i ystyried hyn o ran yr hyn sy’n bwysig, sef darparu gwasanaeth i'r bobl leol.

A allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng cynllunio ym mwrdeistref sirol Caerffili? Nid oes cynllun datblygu lleol gweithredol ar gael ar hyn o bryd ac, o ganlyniad i hyn, mae'r system gynllunio wedi’i gogwyddo’n sylweddol o blaid datblygwyr ac, yn wir, datblygiad anghynaladwy ac amhriodol. Mae’r dyfarniadau diweddar gan yr arolygydd cynllunio wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gofyniad am gyflenwad tir pum mlynedd yn trechu'r holl ystyriaethau eraill, gan gynnwys deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol y mae cymaint o sôn amdani. Felly, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn atal yr angen i Gaerffili ddefnyddio’r cyflenwad tir pum mlynedd hyd nes bod cynllun datblygu lleol cynaliadwy ar waith yn y fwrdeistref sirol honno?

Wel, wrth gwrs, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hwn. Yn amlwg, maen nhw’n ymwybodol ac yn ymdrin â'r mater hwn ac, wrth gwrs, ceir trafodaeth a dadl gadarn yn lleol amdano. Ac wrth gwrs, dyna beth y byddwn ni’n ei ystyried o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet â hyn.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bwlio lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol mewn ysgolion. Rwy'n cydnabod parodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod â mi a Hannah Blythyn i drafod y mater hwn. Bydd hi'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Stonewall Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n amlygu bod mwy na hanner y bobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru, a 73 y cant o bobl trawsryweddol yng Nghymru, yn dal i wynebu bwlio yn yr ysgol, gyda chanlyniadau difrifol iawn mewn nifer o enghreifftiau. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol i weithredu nifer o argymhellion, a byddwn yn croesawu datganiad yn ymwneud â pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar fater y mae'r Llywodraeth cydnabod ei fod yn fater o bwys.

Ac ail ddatganiad, os gwelwch yn dda, o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gais Abertawe i fod y Ddinas Diwylliant, a gobeithiwn y bydd hynny o fudd i ranbarth ehangach bae Abertawe. Mae Hull, Dinas Diwylliant bresennol y DU, , wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ei rhanbarth o ganlyniad. Mae ein rhanbarth ni wedi dioddef brad gan y Ceidwadwyr o ran trydaneiddio, ac rydym yn ofni y bydd hynny’n digwydd mewn cysylltiad â'r morlyn, felly byddem ni’n croesawu datganiad ar gefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer y cais hwnnw.

Diolch i Jeremy Miles am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r 'Adroddiad Ysgol' 2017 diweddaraf gan Stonewall Cymru, ac mae'n galonogol nodi bod yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, yn dangos bod nifer y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael eu bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wedi gostwng gan bron i draean. Ond rydym yn amlwg yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy i atal y niwed addysgol ac emosiynol hirdymor posibl y gall bwlio ei achosi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn glir iawn ei bod hi’n disgwyl i ysgolion fabwysiadu agwedd o ddim goddefgarwch i bob math o fwlio, gan gynnwys bwlio homoffobig, biffobig neu drawsffobig, a chydnabyddwn, wrth gwrs, o ran yr adroddiad ysgol hwnnw, a'r canllawiau gwrth-fwlio presennol, bod hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr adroddiad diweddaraf ac ystyried pa un a oes angen ei ddiweddaru.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais dinas a sir Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2021. Byddai, os yw’n llwyddiannus yn amlwg, yn darparu arian sylweddol i Abertawe. Rydym ni eisoes wedi darparu cefnogaeth ychwanegol ar ffurf adnoddau i helpu Abertawe â heriau ymarferol cyflawni’r flwyddyn, er enghraifft o ran arbenigedd mewn twristiaeth a marchnata, ac wrth gwrs mae'n cyd-fynd â’r fargen ddinesig ac yn cyflymu’r broses o adfywio’r ddinas. Ac wrth gwrs, ar ôl Brexit, bydd yn dangos i’r byd bod Cymru'n parhau i edrych tuag allan ac ar agor i fusnes. Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn ymuno â chyngor Abertawe, ac uwch swyddogion, pan fydd y panel asesu Dinas Diwylliant yn ymweld â'r ddinas ar 23 Hydref. Roeddwn i’n falch iawn o fod yn Abertawe yr wythnos diwethaf, ddydd Iau diwethaf, pan gyflwynwyd y cais yn ffurfiol gan arweinydd y cyngor, gyda'i gabinet a'i bartneriaid, pan ymwelais â Thabernacl Treforys yn etholaeth Mike Hedges, i ddathlu'r ffaith eu bod nhw wedi ennill anrhydedd Cymru Sanctaidd.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am gefnogaeth i fusnesau yng Nghasnewydd? Ym mis Mawrth eleni datgelwyd bod Newsquest yn cau ei ganolfan is-olygu yng Nghasnewydd a fydd yn golygu y bydd 14 o bobl yn colli eu swyddi, er gwaethaf derbyn cymorth grant gwerth mwy na £340,000 gan Lywodraeth Cymru. Yna, ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Essentra ei gynlluniau i gau ei ffatri pacio, gan roi cannoedd o swyddi mewn perygl. Roeddent eisoes wedi cael mwy na £0.5 miliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Arweinydd y tŷ, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y telerau a'r amodau y mae grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i gwmnïau ac a yw ef yn credu bod angen adolygu’r telerau ac amodau hynny er mwyn sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu cyflawni ac ein bod yn sicrhau'r buddion gorau i'r trethdalwr? Diolch.

Gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf nid yn unig am y buddsoddiad yng Nghasnewydd a’r cymorth i fusnes, ond hefyd am y newyddion da a gyhoeddwyd yn ddiweddar o ran datblygu, y bydd yr economi leol yn elwa arno. Wrth gwrs, mae ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos, pan fo busnesau'n cael anawsterau, yn enwedig y busnesau hynny yr ydym ni eisoes wedi eu cefnogi o ran eu datblygiad.

Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn rali Cyllido Teg i Gymru yn erbyn cyni, yn neuadd y ddinas yng Nghaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Cynulliad, ac yn fwy diweddar, aeth arweinwyr a meiri ledled y DU i San Steffan er mwyn cael cyfarfod, roedden nhw’n gobeithio, gyda'r Llywodraeth ynglŷn â mater cyllid teg, ond ni ddigwyddodd y cyfarfod hwnnw, ac wrth gwrs heddiw mae gennym ddatganiad ar y gyllideb ddrafft gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl naw mlynedd o gyni, a thoriadau parhaus. Ac felly, o gofio y disgwylir y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru, erbyn 2019-20, £1.2 biliwn yn llai, a allai arweinydd y tŷ awgrymu unrhyw ffordd, trwy fusnes y tŷ hwn, y gallwn ni flaenoriaethu’r mater hwn yn well?

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna. Ac wrth gwrs, yn syth ar ôl ein datganiad busnes, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oeddech chi yn ei ddweud, yn cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, gan wneud datganiad llafar. Rydym wedi galw dro ar ôl tro—yn sicr o dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet—ar Lywodraeth y DU i ddod â’i pholisi niweidiol a diffygiol o gyni i ben. Ac roedd yn dda gweld partneriaid yn dod at ei gilydd—arweinwyr a meiri, ac, yn wir, Aelodau'r Cynulliad—yn cefnogi'r alwad honno, y rali honno yn erbyn cyni, yn neuadd y ddinas yng Nghaerdydd. Ond mae gennym ni’r cyfle cyntaf y prynhawn yma i drafod y gyllideb ddrafft, ar y diwrnod y mae'n cael ei chyhoeddi. A bydd cyfle arall i ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddewis llwybr gwahanol, i ddod a’r cyni i ben.

Ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â'r tŷ SOLCER ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf. Cawsom wybod nid yn unig am ganlyniadau perfformiad y tŷ gwych hwn fel gorsaf bŵer, sydd bellach yn cynhyrchu mwy o drydan nag y mae'n ei ddefnyddio am naw mis o’r flwyddyn, ond clywsom hefyd am bump ôl-osodiad gwahanol y mae Prifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill wedi eu gweithredu, mewn pum math gwahanol iawn o dai. Ac, am brisiau fforddiadwy yn sicr, roedden nhw’n gallu gweddnewid y cartrefi hyn yn gyfan gwbl, a hynny ar gyfer yr hyn a fyddai, fel arall, yn gartrefi anodd iawn eu gwresogi, gan gynnwys un a oedd yn wag—ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer—ac sydd bellach yn denu rhent premiwm oherwydd y safon uchel y mae’n ei gynnig.

Felly, rwy'n gwbl ymwybodol bod Arbed wedi gwneud gwaith gwych—dros £70 miliwn dros nifer o flynyddoedd, ac mae tua 20,000 o gartrefi, rwy'n credu, wedi’u gwella—ond tybed a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth am sut y mae rhaglen Cartrefi Clyd Lywodraeth Cymru yn mynd i roi sylw i’r strategaeth neu ei chyflymu, gan ein bod ni bellach yn gwybod y gallwn ni ôl-osod cartrefi presennol, o gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2030 eisoes wedi'u hadeiladu. Nid yn unig y mae’n rhaid inni adeiladu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae'n rhaid i ni, yn amlwg, drechu’r tlodi tanwydd y mae llawer o'n cymunedau yn ei ddioddef. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ynglŷn â sut y gallwn ni gyflymu'r rhaglen honno, ar sail dealltwriaeth newydd o ran sut y gallwn ni fynd ati i wneud hynny.

Yr ail bwynt yr oeddwn i’n meddwl tybed a allem ni gael datganiad arno yw y gwelwyd, yr wythnos diwethaf, adroddiad ar y niferoedd mewn gwahanol awdurdodau lleol sy'n manteisio ar ostyngiadau i’r dreth gyngor i ofalwyr pobl anabl a phobl sâl iawn, fesul awdurdod lleol. Ac roedd gwahaniaeth aruthrol rhwng un awdurdod lleol a’r llall—mewn rhai achosion, roedd hyd at 77 gwaith yn fwy yn manteisio arno. Felly, tybed a yw hi'n bosibl cael datganiad ar y niferoedd sy'n manteisio ar ostyngiad i’r dreth gyngor i ofalwyr yng Nghymru, fesul awdurdod lleol, er mwyn i ni weld pa awdurdodau lleol sy'n ei hyrwyddo'n briodol.

Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn o glywed, yn dilyn ymweliad eich pwyllgor a thŷ SOLCER, yn dysgu am y mathau gwahanol o ôl-osod, yn unol â’r iaith frodorol leol, rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, i wella 25,000 o gartrefi eraill. A byddwn yn parhau i edrych ar ddewisiadau i gynyddu ein rhaglenni arbed ynni ein hunain. Ac, wrth gwrs, gan gydnabod na ellir cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio gydag arian y Llywodraeth yn unig. Mae hyn yn gofyn am gydweithio ar draws pob sector, i gynyddu’r mesurau arbed ynni y manteisir arnynt, yn enwedig ymhlith y cartrefi hynny sydd â’r modd i dalu. Felly, dyna rywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei ystyried yn ofalus, o ran sut i sbarduno’r newid hwn orau, a chynyddu gweithgarwch yn y maes hwn.

O ran eich ail bwynt, rwy’n credu mai adroddiad MoneySavingExpert oedd yr adroddiad yr oeddech chi’n cyfeirio ato. Mae'r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth ychwanegol i ni ynghylch sut y rheolir y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ei gynlluniau ar gyfer cyllid llywodraeth leol yr wythnos nesaf, gan ein bod newydd gyhoeddi gwaith ymchwil i'r dulliau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ymdrin â dyled y dreth gyngor, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y dystiolaeth amrywiol sydd ar gael yn y maes hwn, a byddwn yn cymryd nifer o gamau i sicrhau bod ein hymrwymiad i'r dreth gyngor yn decach.

4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar gyllideb ddrafft 2018-19, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rwy’n gosod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n gyllideb a gafodd ei llunio mewn cyfnod o gynni, sydd bellach wedi para mwy na saith mlynedd, ac yng nghysgod mwy fyth o doriadau. Heddiw, am y tro cyntaf, wrth ochr y gyllideb rwy’n cyhoeddi adroddiad gan brif economegydd Cymru am gyllid cyhoeddus yn y dyfodol a’n rhagolygon economaidd. Mae’r neges yn glir: os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i barhau ar ei thrywydd presennol, fe fyddwn ni’n wynebu estyniad pellach mewn cyfnod o gynni sydd eisoes yn hirach ac yn ddyfnach nag a welwyd erioed o’r blaen.

Llywydd, this is the bleak background against which today’s Welsh budget has been prepared. As the difficulties deepen, we remain committed to doing everything we can to help our public services meet the very real challenges they face today, while acting now to improve the prospects for the future.

In line with the new procedure this National Assembly has agreed for this year’s budget, the information before Assembly Members today sets out the major building blocks of the budget: where the money comes from and how it will be allocated to the different government departments. Later this month, the Government will publish a greater level of detail than previously provided, explaining how individual portfolio Ministers intend to deploy the resources available to them. Llywydd, I have listened very carefully to the calls from the health service, local authorities and others who provide vital services across Wales about the importance of being able to plan over more than a 12-month horizon. Despite the very real uncertainties that we face, and within which this budget has been drawn up, I have been able to set out revenue plans for the next two years and capital plans for three.

Llywydd, in setting out the building blocks of our budget, I turn first to the important issue of reserves. As I have previously discussed with the Finance Committee, I have taken a particularly stringent approach to reserves during the first two years of this Assembly term. While in-year allocations have been made from reserves for essential purposes, my intention has been to make maximum use of the new Welsh reserve, negotiated as part of the fiscal framework. That agreement means that we are able to take a maximum of £350 million forward into that reserve from April next, and to do so unencumbered by the restrictions we have faced by having to abide by the UK Treasury’s budget exchange mechanism. Thanks to the help of all my Cabinet colleagues, I have been able to plan this budget on the basis of the Welsh reserve being at, or very near, its maximum at the start of the next financial year. I am then able to deploy the benefits of this prudent management to help protect our public services against the worst of the cuts in the more difficult years that lie ahead.

Specifically, Llywydd, I intend to take two actions. I have decided to reduce the level of in-year contingency, which I would otherwise need to retain. As a result, £40 million in revenue in each year has been released to invest in public services. At the same time, the level of the Welsh reserve will be such as to allow me to release, in a managed way, a further £75 million in 2019-20 to support our revenue funding.

Without these decisions, Llywydd, Welsh public services would face further reductions of £115 million in 2019-20. This is almost exactly the sum of money by which the Chancellor intends to reduce our budgets in that year, as a result of the £3.5 billion-worth of unallocated cuts that still hang over our services. I repeat, once again, my call to him this afternoon not to proceed with those unfair and counterproductive reductions. Welsh taxpayers will contribute no less in that year than they do now, but they will be badly short-changed as a result of the actions the Chancellor still intends to pursue.

Llywydd, I turn now to capital expenditure. I repeat the message that I and finance Ministers from Scotland and from Northern Ireland have put to the Treasury team in London: while interest rates remain at a historic low, now is the time to borrow to invest in our collective futures and to create the conditions in which prosperity can be secured.

In his autumn statement last year, the Chancellor went some way to repair the damage done by his predecessor. I urge him to do more this year. As a result of the additional capital and the new needs factor in the Barnett formula, our budget in 2019-20 for vital investment purposes will now be 20 per cent below where it stood in 2009-10, rather than 27 per cent, but, a 20 per cent reduction at a time of urgent need is a very big cut indeed.

We have therefore continued to build on the foundations set in place by my predecessor, Jane Hutt, in developing new and innovative ways in which we can fill that capital gap. The principle that underpins all this is that we will always exhaust the use of the least expensive forms of capital before moving on to other sources. In line with this principle and in this budget, we will deploy £4.8 billion-worth of conventional capital, including grant and financial transactions funding provided through the block grant. We will then borrow £375 million in capital—£125 million annually over the next three years—making the first use of the new borrowing powers directly available to the Welsh Government. Even when we have done that, we will go further and alleviate the budgetary pressures on other public bodies and housing associations to enable them to carry out £400 million-worth of borrowing for essential capital investment.

And, Llywydd, when all of that has been achieved, we will go further still. We will secure over £1 billion-worth of investment through the mutual investment model schemes, which are so important in our health service, our education service and in transport. Beyond that as well, we will look to draw down as much of the £208 million of EU structural funds available to us for capital projects, and we will press ahead in seeking approval of further key projects in the next period, including the south Wales metro.

Central to all of this is the cumulative revenue impact of the capital financing decisions we are taking. Historic decisions, including PFI, most often made before devolution itself, result in just over £100 million in revenue being required on average in each year of the budget. The decisions made more recently to enable innovative investment in public infrastructure add another £30 million to that sum.

All of that, Llywydd, brings me to our revenue resources. With the devolution of tax powers, the funding arrangements for the Welsh Government have changed. We now have the power to raise revenue directly to fund public services through devolved taxes. Nevertheless, the vast majority of funding for Wales will continue to be through the block grant from the UK, still accounting for almost 80 per cent of the revenue available in 2019-20.

This draft budget is operating for the first time under the fiscal framework agreed between the Welsh and UK Governments last December. These arrangements mean that Wales will receive an additional £47 million over the period of this budget, and all of that money has been put to work to support our public services.

Llywydd, this is an historic moment for us in Wales. This will be first time we, as Members of the National Assembly, have the powers to set the rates for our very own taxes. With those new powers come, of course, increased responsibilities, and as we enter this new phase of devolution, we will provide stability and certainty for taxpayers and the citizens of Wales. That does not mean that we must keep the taxes as they are today; we now have an opportunity to use these new tools to make changes to help take Wales forward.

Llywydd, in this budget, I make decisions in relation to the first two taxes to be devolved to Wales. I’ll begin with the landfill disposals tax. I can announce today that the standard and lower rates will remain consistent with the UK tax for the next two years, providing the stability that businesses have so clearly told us they need. I intend to set the rate for unauthorised disposals at 150 per cent of the standard rate. Wales becomes the first country in the United Kingdom to set a higher rate for unauthorised landfill disposals, creating an additional financial deterrent for people disposing of waste illegally, and this decision will complement the regulations laid today by my colleague, the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, which will enable fixed-penalty notices to be issued for small-scale fly-tipping offences. I also reaffirm my commitment this afternoon to allocating £1.5 million a year to the landfill disposables tax community scheme in Wales for each of the next four years. This ensures that our commitment to communities affected by landfill disposals is upheld, and provides a stable funding stream to those communities for the next four years, even as we expect the revenue taken from this tax to decline gradually over that period.

Llywydd, I turn now to land transaction tax. I have decided to introduce a new, higher starting threshold for homebuyers here in Wales. From 1 April 2018, a starting threshold of land transaction tax in Wales will move from £125,000 to £150,000—the highest starting rate anywhere in the United Kingdom. This will mean the average first-time buyer in Wales will pay no tax at all when they buy a home. Indeed, the average homebuyer in Wales will pay nearly £500 less in tax than they would under the existing stamp duty land tax regime. Indeed, nine out of 10 homebuyers will now pay less or the same tax in Wales under land transaction tax. The decision I announce today will mean that those who purchase the most expensive properties in Wales will pay more, but that is inherent in any progressive approach to taxation.

Turning now to businesses, Llywydd, decisions I make today will mean that Wales will now have the lowest starting rate of land transaction tax for businesses anywhere in the United Kingdom. This means that businesses will either pay no tax or less tax than under stamp duty land tax for all property purchases up to £1.1 million. This will benefit small and medium-sized businesses right across our country—the lifeblood of the Welsh economy. As with residential property, I have rebalanced taxation on business premises to improve progressivity.

Llywydd, as well as setting the rates for the new taxes, we have produced revenue forecasts for the first time. I would like to thank Bangor University for providing independent scrutiny and assurances of those forecasts. Landfill disposals tax is forecast to contribute £28 million to the Welsh budget in 2018-19, falling to £26 million in 2019-20. Land transaction tax is forecast to raise £266 million in the next financial year, rising to £291 million in 2019-20.

In July, Llywydd, we began a national debate asking people to put forward ideas for potential new Welsh taxes. A significant number of responses has been received, and I would like to thank everyone who has become involved and helped shape future Welsh taxes. Today, I can announce the four new tax ideas on which further work will be carried out before we propose one idea to the UK Government early next year.

The growing demands for social care place significant pressures on the Welsh budget. I therefore want to explore potential financial levers, including taxation, to support social care provision in Wales, building on the work of Professor Gerry Holtham. We will explore the efficiency of a possible tax to end land banking and a disposal of plastics tax in Wales, and we will work with local government to explore how a tax on tourist accommodation could be used to support the local industry and encourage jobs and growth in Wales.

Llywydd, I will now set out how our combined capital, revenue and reserves resources are to be applied across Government. This announcement takes account of our two-year budget agreement with Plaid Cymru, which sees a number of the measures we agreed in last year’s agreement being made recurrent, and which sees other important investments in agreed areas across the budget. I want to take this opportunity to put on record my gratitude to Adam Price and his team for all of the time they took with us to reach this agreement over the summer period.

As a result of all of that, the total health, well-being and sport main expenditure group will now stand at £7.5 billion in 2018, rising to £7.8 billion in 2019-20. That MEG will include an additional £450 million over two years for the NHS in Wales. It will include an extra £16 million in each of the two years to support the new treatment fund, and I am able to provide an additional £90 million for the NHS Wales capital programme over the next three years.

The total local government MEG, including non-domestic rates, will now stand at £4.5 billion in 2018-19, and will remain at £4.5 billion in 2019-20. That will include protecting the front-line schools budget and social care, and it will provide an extra £12 million over the next two years for homelessness services through the revenue support grant. All of this means that local government in Wales will once again enjoy a far more favourable settlement than its counterparts across our border in England.

Llywydd, the total communities and children MEG now stands at £874 million in 2018-19, and £777 million in 2019-20, to include extra investment amounting to £70 million over two years to expand our flagship childcare offer, to guarantee that there will be no cuts to the Supporting People grant, and to release an extra £340 million in capital over the three years to build 20,000 affordable homes. It will invest an additional £14.9 million in capital over that period to support the regeneration of our community facilities, and I am able to allocate an additional £1 million in both years for the discretionary assistance fund, directly to help some of the poorest families in our land.

The total economy and infrastructure MEG will now stand at £1.2 billion in 2018-19 and rise to £1.3 billion in the following year. That will provide £220 million over two years to support our determination to create 100,000 all-age apprenticeships over this Assembly term. It will include £50 million over three years to develop a new rail station and park-and-ride facility in Llanwern, and I intend to earmark money in the reserves to buy new rolling stock for the new Wales and borders franchise, subject to the outcome of the ongoing procurement process.

In education, the total MEG will now stand at £1.6 billion in both 2018-19 and the following year. That will allow us to invest £50.5 million to raise school standards over the two years, to maintain our level of investment in the pupil deprivation grant and to invest a new £40 million-sum over two years to accelerate the twenty-first century schools programme, bringing band A of that programme to an end even faster than we would otherwise have been able to achieve.

The total environment and rural affairs MEG now stands at £344 million in 2018-19 and £322 million in 2019-20, including delivering £150 million-worth of investment through our innovative flood and coastal risk management programme and an extra £7.5 million in capital in 2018-19 for targeted flood prevention measures. I intend to provide a further sum of £5.4 million over the three years to support the rural development programme to ensure that we can maximise match funding opportunities to support our rural communities as we prepare to leave the European Union.

The total central services and administration MEG now stands at £297 million in 2018-19 and will fall to £286 million in 2019-20.

To conclude, Llywydd, I want to put on record my commitment to public services in Wales by saying that if the Government of the United Kingdom decides not to go ahead with the £3.5 billion-worth of unallocated cuts, then I will aim to make the maximum use of the resources that would then be available to this National Assembly between the draft budget and when I have to lay the final budget at the end of December this year. As a result, the budget in front of the National Assembly today sets out a bold and balanced set of proposals that deliver the priorities of this Welsh Government and the priorities of the people here in Wales. We will use our powers to invest in our health service, provide 20,000 new affordable homes, create the most generous childcare offer anywhere in the United Kingdom and set out on our new tax responsibilities in a way that provides the most help to those who need it the most. I commend the budget to the National Assembly.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad am y gyllideb ddrafft ac am y cyfarfod a gawsoch gyda mi’n gynharach heddiw. A gaf i hefyd groesawu'r ffordd newydd o wneud y gyllideb, a'r newidiadau sydd wedi'u gwneud i fformat y datganiad hwn heddiw i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli treth y flwyddyn nesaf? Bu hyn yn alwad allweddol gan y Pwyllgor Cyllid, a gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ers cryn amser, gyda dyfodiad y pwerau treth y flwyddyn nesaf.

Mae'r gyllideb hon, fel yr ydych wedi’i ddweud, yn cael ei ffurfio yn erbyn cefndir fframwaith cyllidol newydd, sy'n sicrhau refeniw ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru—mwy o refeniw nag y byddech wedi'i gael heb y fframwaith ariannol. Rwy’n gwerthfawrogi'ch sylwadau am sut, oherwydd toriadau, yr ydym yn dal i fod, rwy’n meddwl eich bod wedi dweud, 20 y cant i lawr o ran arian. Mae hynny'n llawer gwell na'r 27 y cant y byddem wedi bod yn ei wynebu heb ddyfodiad y fframwaith cyllidol, felly mae hynny i’w groesawu.

Ond a gaf i droi, yn gyntaf, at eich cyhoeddiad am gyfraddau a bandiau'r trethi newydd, oherwydd mae hynny’n wybodaeth newydd, gwybodaeth yr wyf i a gweddill y Siambr wedi bod yn galw amdani ers amser maith? Mae cyhoeddi hynny’n newyddion da a chaiff groeso gan y sefydliadau hynny sydd angen sefydlogrwydd a sicrwydd o ran cynllunio'r dirwedd dreth.

Os caf i droi at dreth trafodiadau tir yn gyntaf, a'r trothwy cychwyn newydd o £150,000, £25,000 yn uwch nag yn Lloegr, rwy’n credu eich bod wedi’i ddweud, a £5,000, rwy’n credu, yn uwch nag yn yr Alban, mae hynny i'w groesawu. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers amser maith am gymorth ychwanegol, yn sicr ar gyfer y bobl hynny sy'n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru a’r bobl hynny sydd ar waelod yr ysgol dai, felly mae croeso i hynny. Wrth gwrs, roedd tro yn y gynffon, fel petai—pigyn yn y gynffon—sef bod angen adennill yr arian hwnnw a gwnaethoch gyhoeddi y byddai cyfradd uwch newydd. Felly, a gaf i ofyn ichi pa asesiad a wnaethpwyd o'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar economi Cymru, yn enwedig yn ardaloedd gororau Cymru? Rwy'n meddwl eich bod wedi dweud bod Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i Lywodraeth Cymru i wneud rhagolygon. A wnewch gyhoeddi manylion y rhagolygon hynny unrhyw bryd, ac a fyddwn yn gallu gweld sut yn union y mae’r dadansoddiad annibynnol hwnnw’n credu y bydd y newidiadau hynny i fandiau’n effeithio ar yr economi? Yn amlwg, dim ond dechrau datganoli treth yw hyn, felly, dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, bydd hyn yn dod yn bwysicach fyth.

Soniasoch am y dreth gwarediadau tir hefyd, ac rwy'n meddwl, o ran manteision amgylcheddol addasu'r dreth honno, y bydd gennych gefnogaeth y rhan fwyaf o’r pleidiau, os nad pob plaid yn y Siambr hon, ac rydym am i’r dreth gwarediadau tir lwyddo cymaint ag y bo modd a bod yn well, yn wir, os yn bosibl, nag mewn ardaloedd eraill yn y DU.

Nawr, gwnaethoch chi sôn am y dreth dwristiaid, a bydd yn rhaid imi sôn am hyn. Rwy'n gobeithio mai dim ond teitl gwaith yw hwnnw ac na fydd yn mynd ymlaen yn y dyfodol. Nawr, yn amlwg, nid yw er budd neb yn y Cynulliad hwn na neb yng Nghymru i beidio â chymell twristiaeth. Rydym yn gwybod pa mor ddibynnol yw economi Cymru ar dwristiaeth. Mae'n un o brif bileri economi Cymru ac felly mae'n hollbwysig, nid yn unig bod unrhyw dreth dwristiaid, os a phryd y caiff ei datblygu—[Torri ar draws.] Nid yn unig bod unrhyw dreth dwristiaid yn osgoi cael effaith negyddol o ran y ffordd y caiff ei hamlinellu, ond hefyd nad yw Llywodraeth Cymru’n rhoi’r argraff, nac yn creu’r argraff, nad yw Cymru ar agor i fusnes o ran ein heconomi twristiaeth. Felly, rwy’n meddwl eich bod wedi rhoi syniad inni o'r cyfeiriad yr ydych yn gweld trethiant yng Nghymru yn mynd iddo, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn glir cyn gynted ag y bo modd ac nad ydym yn peri i bobl a hoffai ddod i Gymru i ymweld, am ba hyd bynnag o amser, beidio â gwneud hynny, felly mae angen inni weld rhywfaint o eglurder cyn gynted ag y bo modd ar hynny.

Gwnaethoch ddweud wrth agor eich datganiad fod hyn yn ymwneud â threthiant ar y lefel uwch, y darlun mwy. Rydych yn disgwyl i’r manylion ddilyn yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, ac mae’n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb ddrafft dros y cyfnod hwnnw. Felly, os caf i droi at y ffordd y bydd y gyllideb hon yn cyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru, y strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’, dywedodd y Prif Weinidog y byddai hyn

‘yn sbardun i integreiddio a chydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, ac yn rhoi pobl wrth wraidd gwell darpariaeth gwasanaeth.’

Mae hwnnw’n nod mawrfrydig, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ag ef. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi ddweud wrthym sut y mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y ffrydiau cyllido ar gyfer y gyllideb hon a pha amddiffyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet—pa amddiffyniadau ydych chi wedi'u gwneud—i sicrhau bod rhai prosiectau pwysig wedi'u neilltuo o fewn y ffrydiau?

Nawr, yn amlwg, mae gennym fargen arall o'n blaenau rhwng Llafur a'ch partneriaid yn y gyllideb hon, sef Plaid Cymru, rhywbeth yr ydym wedi dod i arfer ag ef dros y blynyddoedd diwethaf, rhywbeth y mae Cymru wedi gorfod dod i arfer ag ef, pa un a oeddent yn ei hoffi ai peidio, a rhan o fargen cyllideb dwy flynedd a fydd yn clymu dwylo Llywodraeth Cymru am y cyfnod hwnnw. Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i honiad Plaid Cymru bod dros 50 y cant o'i ymrwymiadau gwario, neu £500 miliwn, wedi'u sicrhau'n llawn neu'n rhannol dros y ddwy gyllideb ddiwethaf? Nid yw hyn wir yn gytûn â’r sylwadau a wnaethoch dros y penwythnos, felly byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurhad ynghylch hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n hollbwysig bod pobl Cymru'n credu bod y gyllideb hon wedi cael ei gwneud er pennaf les Cymru—er eu pennaf les nhw—ac nid yw’n rhywbeth sydd wedi'i ruthro er mwyn cael ateb gwleidyddol cyflym; rwy'n siŵr y byddech am osgoi’r cyhuddiad hwnnw.

Hefyd, os yw sylwadau Plaid yn gywir, faint o ymrwymiadau gwariant y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod eu hildio er mwyn sicrhau cefnogaeth Plaid i’r gyllideb hon? A allwch chi roi manylion inni am yr ymrwymiadau yr ydych wedi cefnu arnynt? Oherwydd, yn sicr, fel y byddech yn ei dderbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid hepgor rhywbeth. Rydych chi wedi dweud bod cyllidebau'n dynn, felly ni allwch chi ariannu popeth, felly mae gennym gytundeb newydd gyda Phlaid Cymru. Pa rai o flaenoriaethau'r Blaid Lafur yng Nghymru sydd wedi gorfod cael eu gohirio neu eu hepgor? Os caf i droi at—

Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'r Aelod yn hoffi ceiniog, oherwydd mae hynny’n fwy nag y mae erioed wedi’i gael o unrhyw gytundeb cyllideb gydag unrhyw Lywodraeth yng Nghymru.

Mae bob amser yn braf clywed—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr a yw hwnnw'n sylw gan Plaid—

[Yn parhau.]—neu’n sylw gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Mae'r ymyriad wedi'i wneud. Gadewch i lefarydd yr wrthblaid barhau, os gwelwch yn dda.

Diolch. Os caf i droi at rai o'r manylion a'n gwasanaeth iechyd gwladol, mae'r GIG yn flaenoriaeth allweddol i bobl Cymru ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai fod yn flaenoriaeth allweddol i ninnau. Wrth gwrs, rydym yn dal i ddal i fyny oherwydd diffyg amddiffyniad i’r gyllideb mewn termau real dros nifer o flynyddoedd, ond dyma lle'r ydym ni. Mae'r ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn cronni eu cyllidebau. Felly, a yw'r gyllideb gyfredol wedi rhoi cyfrif am gyflawni'r nod hwn? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym a yw'r sefydliadau dan sylw wedi cael gwybod yn llawn sut y bwriedir iddynt roi hyn ar waith.

Er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad parhaus y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi i gronfa driniaeth newydd, nid ydym yn credu o hyd bod hynny'n gwneud iawn am ddiffyg cronfa trin canser, rhywbeth yr ydym wedi galw amdani ers amser maith yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi cyhoeddi 2,000 o nyrsys, ymgynghorwyr a therapyddion ychwanegol ar gyfer gwasanaethau i blant a’r glasoed, a’u bod yn cyflwyno safonau amser aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. A all pobl Cymru ddisgwyl yr un lefel o fuddsoddiad, a faint o'r £40 miliwn a addawyd yn y gyllideb a fydd yn caniatáu ar gyfer newidiadau o'r fath yng Nghymru hefyd, ac, yn hollbwysig, a fydd hyn wedi'i glustnodi'n briodol?

Mae'n hysbys bod gan fyrddau iechyd ledled Cymru ddyledion mawr iawn. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw olau go iawn ym mhen draw’r twnnel o ran rheoli'r ddyled hon yn effeithiol. Pa mor hyderus ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y gall dyledion y byrddau iechyd, fel y £49 miliwn ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda—gallwn i fynd ymlaen—gael yr arian sydd ei angen arnynt drwy'r gyllideb iechyd ac na fyddwn yn gweld dyledion yn cynyddu yn y dyfodol?

I droi at drafnidiaeth a seilwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu pa mor dynn yw’r gyllideb ac rydych chi wedi dweud sut rydych chi'n bwriadu defnyddio pwerau benthyca cyllid cyfalaf. Mae’n amlwg bod arian parod yn brin, ond gobeithio y byddwch yn gallu bodloni’r nodau hynny. Ac, os caf i droi at yr M4, mae'n ddiddorol fy mod yn cofio, nid yn hir iawn yn ôl, Plaid Cymru yn dweud y byddai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r llwybr du, sef eu hoff opsiwn, yn golygu na fyddent yn gallu dod i gytundeb o ran unrhyw gefnogaeth i gyllideb yn y dyfodol. Mae'n siŵr bod hwnnw’n fwy o gwestiwn i Plaid nag i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, wedi dweud hynny—ac rwy'n siŵr y gwnewch ddweud mai mater i'r ymchwiliad cyhoeddus yw hwn ar hyn o bryd—mae’n amlwg nad oes cefnogaeth ddofn i draffordd newydd, un o brif bwyntiau polisi trafnidiaeth y Llywodraeth, y tu ôl i'r fargen hon, felly a yw hyn wir yn sail gadarn i fwrw ymlaen arni, ac a yw’r cytundeb hwn wedi’i brofi o dan straen?

I gloi, Llywydd, ac, ar nodyn cadarnhaol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus i fanc datblygu. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r gwaith o ailstrwythuro Cyllid Cymru ers amser maith, ac rwy’n gobeithio y bydd yn talu ar ei ganfed fel yr hoffem i gyd iddo wneud. I gloi, edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid a gyda chi eich hun i graffu'n llawn ar y gyllideb ddrafft hon dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd gan Gymru, erbyn y diwedd, gyllideb ddrafft a chyllideb derfynol a fydd wir yn cyflawni ar gyfer anghenion pobl Cymru.

Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod Cymru wastad wedi bod yn wlad lle mae’r angen yn llawer mwy na’r adnoddau sydd gyda ni i gwrdd â’r angen hynny. Ac mae hynny yn sicr yn wir ar hyn o bryd am y rhesymau yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu darlunio, a hynny, wrth gwrs, yn ganlyniad i’r polisi llymdra o San Steffan.

Ond mae wedi bod yn wir, wrth gwrs, am gyfnod hirach na hynny. Mae haneswyr yn galw Cymru yn ‘genedl hwyr’ yn yr ystyr ein bod ni ddim wedi medru, wrth gwrs, adeiladu’r isadeiledd sydd yn angenrheidiol ar gyfer bod yn genedl lewyrchus. Mae pennu cyllideb, felly, yn un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gyda ni yn y lle hwn oherwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid inni flaenori’r gwaith yna o ailadeiladu’r genedl yna a mynd i’r afael â rhoi ateb i’r esgeulustra sydd wedi bod am genedlaethau.

Dyna’r chwyddwydr rŷm ni’n ei ddefnyddio ym Mhlaid Cymru wrth asesu sut i ddwyn i gyfrif y Llywodraeth lle mae hynny’n angenrheidiol, ond hefyd, wrth gwrs, i weithio o blaid cydweithio lle mae yna dir cyffredin. Des i mewn i wleidyddiaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth, a dyna beth mae Plaid Cymru wedi ei wneud, wrth gwrs, trwy’r cytundeb rydym ni wedi ei wneud unwaith eto gyda’r Llywodraeth Lafur. A dweud y gwir, byddai’n well gyda fi fod yn sedd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd Plaid Cymru yn arwain Llywodraeth ar ryw bwynt, achos mae yna bethau, wrth gwrs, lle rydym ni’n anghytuno’n chwyrn.

Mae yna feysydd lle na wnes i ddim llwyddo i berswadio’r Ysgrifennydd Cabinet: ar hyn o bryd, wrth gwrs, yr holl gwestiwn ynglŷn â’r cyflogau a’r cap ar gyflogau yn y sector gyhoeddus, y cwestiwn ynglŷn â’r ffioedd dysgu, wrth gwrs, a chynyddu’r baich a’r dyledion sydd yn mynd i fod ar fyfyrwyr. Yn fanna, rydym ni’n anghytuno â’r Llywodraeth, ac, am y rheswm hwnnw, wrth gwrs, nid ydym ni’n mynd i gefnogi’r gyllideb yma, ac mi fyddwn ni’n dal i anghytuno ar y meysydd hynny ac ar feysydd eraill. Ond lle mae yna dir cyffredin, wrth gwrs, rydym ni’n barod i gydweithio gyda phobl o bleidiau eraill er budd Cymru, a dyna beth mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl oddi wrthym ni, a dweud y gwir, ydy gwleidyddiaeth sydd yn aeddfed, sydd yn edrych i’r hirdymor. All Cymru ddim aros tair blynedd a hanner am etholiad i gael Llywodraeth newydd er mwyn adeiladu’r seiliau sydd eu hangen ar gyfer yr hirdymor. Felly, nid ydw i’n ymddiheuro am eiliad am wneud ein rhan ni dros adeiladu’r Gymru well rydym ni eisiau ei gweld.

There are a number of areas where Wales cannot wait for a change of Government, and, therefore, in a Parliament where the Government does not have a majority, it is incumbent upon all of us, as parliamentarians, to do our bit to actually put into action the kind of policies that we want to see, that we were elected on, and that’s what we try to do in the agreement that we have that has been set out. We’ve clearly made the point on many occasions in recent years that we must ensure that Wales does not become, in microcosm, a version of the UK’s problem of an overcentralisation, overconcentration, of wealth in one corner of Wales. We want to see success in that corner of Wales, but we want to see that spread equally, and that also requires public investment in those areas as well. And, yet again, in this budget agreement, we tried to emphasise having that investment in all parts of Wales.

So, we have the £4 million to kick-start the development of the third Menai bridge, we have the development of the integrated healthcare centre in Cardigan, £15 million for the improvement north-south links, and the upgrading of the TrawsCymru service as well, of course, the work continuing on the feasibility study of the Aberystwyth-Carmarthen railway line, as was referred to earlier, and the national football museum in north-east Wales as well. And, indeed, if we’re removing tolls on the Severn bridge in that corner of Wales, then it’s right as well that we follow through on the principle and remove the tolls on the Cleddau bridge in south-west Wales as well.

It’s good to see a commitment for making sure that the south Wales metro reaches all parts of the Valleys in its area, and so looking at extending and linking into the Rhondda Fach, and creating a new metro as well for Swansea bay and the south Wales Valleys. So, making sure that this is a budget for the whole of Wales is a core principle for us, and that’s what we tried to do with the agreement, but it’s also about investing in our future, so it’s good to see an additional £40 million there for higher and further education. Young people are absolutely our most critical resource—true for any country and certainly true for us. There is £6 million, as well, for young farmers to actually ensure that we have a future for that sector that is grounded within new entrants into the industry. In north Wales, £14 million for medical training and a development fund for undergraduate medical training, building on the £7 million for last year.

Our deal is also about new ideas—new ideas that try to come up with solutions for some of the long-standing problems that we address in this Chamber, looking at new innovations within health and social care. The Buurtzorg pilot that will lead to the training of 80 new district nurses, the foundational economy, which has broad cross-party support—it’s here in the Plaid Cymru agreement so we can start the work, not just talk about it, but start the work on actually putting that into action in tangible ways, beginning with care and procurement as sectoral focuses.

So, there are a number of areas here that we also feel have been underinvested in in the past, and we’re trying to set the balance right. Mental health—I think there’s a broad consensus that that is a sector that has not had the support it deserves, and so, yet again, right at the core of the agreement, an additional £40 million on top of the £20 million from last year, but now, crucially, baselined, so that will be there, recurrent into the future, as it should be if we’re to meet the requirements of that important sector of our public health service. Agriculture and tourism get additional money. They’ve often been cinderella sectors in recent years. We need to see them actually—. They’re at the core of the rural economy, and it’s good to see additional money here as a result of Plaid Cymru priorities in this budget.

There is £15 million overall additional money for the Welsh language, and if you count all the additional Welsh language-related areas, there’s an additional £20 million investment. Additional money—that’s the way that we’re going to achieve the ambitious target that the Government has set out in terms of the million Welsh speakers by 2050.

Diolch. Byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan lefarydd cyllid Plaid Cymru—. Rwy'n deall bod yr Ysgrifennydd cyllid, wrth amlinellu’r gyllideb, wedi dweud ei fod yn bwriadu archwilio mesurau treth penodol yn y sector twristiaeth i godi arian. Nid oedd yn bwriadu lliniaru trethi yn y sector twristiaeth; ei fwriad oedd codi arian. O gofio eich bod wedi cael trafodaethau manwl gyda'r Llywodraeth, beth yw eich dealltwriaeth o uchelgais y Llywodraeth yn y sector penodol hwn, y diwydiant twristiaeth yng Nghymru?

Wel, roedd yr arian ychwanegol y cyfeiriwyd ato ar gyfer marchnata. Hoffwn i'r Blaid Geidwadol nodi'r meysydd y mae'r holl syniadau cadarnhaol hyn y mae Plaid Cymru wedi'u dwyn at y bwrdd—pa un yr ydych chi'n anghytuno ag ef? Ydych chi'n meddwl y dylai fod llai o arian ar gyfer y sector twristiaeth?

O ran yr ardoll dwristiaeth, credaf fod hwn yn syniad sy'n haeddu cael ei archwilio. Fe'i defnyddir yn eang—[Torri ar draws.] Fe'i defnyddir yn eang yn y rhan fwyaf o economïau. Mae gan lawer ohonynt sectorau twristiaeth mwy na ni ac maent yn ei defnyddio i fuddsoddi'n ddeallus yn y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen i gael economi twristiaeth lwyddiannus. Buddsoddi yn nyfodol eich gwlad yw hyn, a dylech roi cynnig arni rywbryd, yn hytrach nag achwyn o’r ymylon. Pam nad ydych chi'n gweld gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol Cymru ac yn dod â'ch syniadau yma i'r Siambr hon? Dyna'r hyn yr ydych wedi eich ethol i’w wneud. O ganlyniad i'r cytundeb hwn a chytundeb y llynedd, a'r compact y gwnaethom ei lofnodi'n wreiddiol, bydd syniadau Plaid Cymru o'n maniffesto wedi'u cyflwyno'n rhannol neu'n llawn am gost o £565 miliwn. Yn wir, bydd y rhan fwyaf o'n prif ymrwymiadau ariannol o'n maniffesto o 2016 wedi eu cyflawni’n rhannol neu'n llawn. Dyna wleidyddiaeth ddemocrataidd ar waith, byddwn yn awgrymu’n barchus i arweinydd y Blaid Geidwadol. Dylai roi cynnig arni rywbryd. Nid ydym ni’n cael ein talu i wneud sylwadau bachog a datganiadau i'r wasg; rydym yn cael ein talu i geisio gwneud ein rhan i wella bywydau pobl Cymru. Dyna pam yr ydym yma yn y Siambr hon, ac ni wnaf ymddiheuro iddo ef nac i neb arall am wneud ein gwaith.

Efallai y gwnaf geisio tawelu pethau ychydig yn fy ffordd arferol. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y cwrteisi y mae wedi’i ddangos imi, hefyd, wrth roi amlinelliad bras imi o ddatganiad y prynhawn yma pan fuom yn siarad y bore yma. Rwy'n cytuno â'm cymydog newydd, Adam Price—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a ddylwn nawr ei alw'n ffrind anrhydeddus, neu a—[Torri ar draws.] Cymydog agos. Mae yna fath o cordon sanitaire rhyngom ni, ar ffurf Simon Thomas. [Chwerthin.] Ond rwy'n falch iawn o ymuno â'm cyd-genedlaetholwyr, beth bynnag, ar yr ochr hon i'r Siambr—[Torri ar draws.]

Rwy’n cytuno â'r pwynt a wnaeth Adam Price gyda chymaint o angerdd eiliad yn ôl, sef ei bod yn iawn i’r pleidiau yn y tŷ hwn gydweithio er budd Cymru. Felly, cefais fy synnu ychydig, a dweud y gwir, pan ffoniodd Ysgrifennydd y Cabinet fi heddiw, oherwydd ar y radio fore Sul, dywedodd nad oes ganddo lawer o gyswllt â'r Ceidwadwyr ac na allai byth ddychmygu cael sgyrsiau gydag UKIP. Beth bynnag, rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi diarddel o fewn ychydig ddyddiau y farn eithaf eithafol honno.

Mae'r ddadl hon, i raddau, yn un o esgus paffio, oherwydd er fy mod yn deall bod y fargen y mae Plaid Cymru wedi'i tharo â Llafur wedi eu galluogi i wneud cyfraniad go iawn i'r gyllideb hon yn fanwl—nid yw tua £500 miliwn yn swm ansylweddol—ond mae cyllideb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn £15 biliwn i £16 biliwn ac maent wedi’u cyfyngu, beth bynnag, o ran yr hyn y gallant ei wneud ag ef oherwydd y pethau amlwg y mae'n rhaid i unrhyw Lywodraeth eu hariannu. Mae'n anochel bod yr elfen o ddisgresiwn yng nghyllideb Cymru yn gyfyngedig iawn, er y bydd hynny'n sicr yn cynyddu pan gawn ni ddatganoli treth ymhen dwy flynedd. Yna, bydd mwy o opsiynau i wleidyddion etholedig Cymru allu dewis o’u plith o ran (a) lefelau trethi a (b) yr hyn a wnawn â hwy. Ond, wrth gwrs, mae cefndir y gyllideb hon wedi’i nodi yn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am bolisi Llywodraeth y DU. Mae'n dweud:

‘Os yw Llywodraeth y DU yn parhau ar eu llwybr presennol, rydym yn wynebu estyniad pellach mewn cyfnod o gyni sydd eisoes heb ei debyg o ran hyd a dyfnder.’

Mae hefyd yn dweud, yn yr un paragraff yn y datganiad hwn, bod adroddiad gan brif economegydd Cymru am gyllid cyhoeddus yn y dyfodol a'n rhagolygon economaidd yn dangos rhai negeseuon llwm. Yr un neges yr wyf i’n ei chael o'r pecyn a ddaeth gyda'r ddogfen gyda'r holl fanylion am y gyllideb ynddi heddiw, ac o adroddiad y prif economegydd—mae ar y diwedd, ar dudalen 27, gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol:

‘byddai “rhoddion” newydd heb eu hariannu yn symud y Llywodraeth ymhellach i ffwrdd o'i hamcan cyllidol tymor canolig ac ni fyddent ond yn ychwanegu at heriau tymor hwy. Mewn llawer o ddigwyddiadau ariannol diweddar, mae rhoddion heddiw wedi cael eu hariannu gan addewid o gymryd yn ôl yfory. Y risg yno, wrth gwrs, yw na fydd yfory byth yn dod.’

O ystyried y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn sôn am yr economi, byddai unrhyw un yn meddwl nad oes rhaid talu biliau gwariant byth. Rydym wedi bod i lawr y llwybr difrifol hwnnw lawer, lawer gwaith yn ystod fy mywyd i. Yn y pen draw, mae’n dod yn fater o reidrwydd ac mae’n rhaid ichi allu ad-dalu'r arian yr ydych chi'n ei fenthyca. Yn aml iawn, wrth gwrs, daw'r amser talu’n ôl pan mae hi’n hynod o anghyfleus, ac weithiau'n amhosibl, i wneud hynny. Unwaith y bydd Llywodraeth yn colli ei statws credyd a'i gallu i fenthyca ar gyfraddau rhesymol, y bobl sy'n dioddef fwyaf o dan yr amgylchiadau hynny—mae pob cynsail hanesyddol yn dangos hyn—yw, mewn gwirionedd, y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rwy'n ildio i Mike Hedges.

Onid yw'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan eisoes wedi colli ei gradd AAA?

Ydy, mae hi. Diolch am atgyfnerthu’r pwynt yr wyf yn ei wneud. O ganlyniad i afradlonedd yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Llywodraeth wedi colli ei gradd AAA. Rhoddais y ffigyrau yn fy nghwestiynau'n gynharach i'r Prif Weinidog. Bellach mae gennym ddyled genedlaethol o £2 triliwn y flwyddyn. Mae'n costio bron i £60 biliwn y flwyddyn i dalu’r ddyled. Mae’r arian yr ydym yn ei wario ar log dyledion yn arian a fyddai fel arall ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen go iawn. Felly, economeg ffantasi yw’r syniad y gallwch fenthyca am byth a pheidio â phoeni am sut i ariannu hynny, fel y mae pobl Venezuela, Zimbabwe a llawer o wledydd eraill yn gwybod er eu cost. Ac felly, efallai ei bod yn ffodus nad oes gan Lywodraeth Cymru ryw lawer o bwerau benthyca, a dweud y gwir, ac nad oes ganddynt gyfrifoldeb llawn am y cyllidebau sydd yn eu gofal, oherwydd pe baent yn gallu gwneud hynny, efallai y byddent yn ailadrodd rhai o'r enghreifftiau gwaethaf yn Llywodraeth Prydain ers y rhyfel. Felly, mae’r holl siarad hwn am gyni, a dweud y gwir, yn amhriodol iawn. Rydym wedi cael y gwrthwyneb i gyni dros y saith mlynedd diwethaf, ond ein bod ni'n talu'r pris, am flynyddoedd a blynyddoedd cyn hynny, am orwario enfawr ar y sail na fydd yfory byth yn dod. Felly, dyna realiti bywyd. Rhaid inni dalu yn y pen draw am orwario. Ni allwn barhau i orwario am byth. Rwy'n ildio.

Diolch, Neil, am ildio. Roeddwn i eisiau gwneud y sylw bod Moody’s, wrth israddio statws credyd y DU tua phythefnos yn ôl—maent hefyd wedi nodi'n gadarnhaol bod hynny oherwydd y mater penodol iawn o ansicrwydd dros Brexit. Tybed a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud am hynny—mae Moody’s wedi nodi bod eu hisraddio yn uniongyrchol oherwydd ansicrwydd dros Brexit.

Nid wyf yn meddwl y caf fy nhemtio, Llywydd, i ddechrau sôn am Brexit yn y ddadl gyllidebol.

Rwyf am ymdrin hefyd â'r pwynt a ddaw allan o'r datganiad a'r cynigion amlinellol yn y gyllideb am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Gogledd Iwerddon. Mae'n anochel, o dan yr amgylchiadau hyn, y bydd pris i’w dalu am eu cefnogaeth wleidyddol. Mae’r un peth yn union wedi digwydd yn y Siambr hon rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Bydd Gogledd Iwerddon yn cael £1 biliwn ychwanegol y flwyddyn, a phob lwc iddynt. Hoffwn y gallem ninnau wneud hynny. Pe bai Plaid Cymru ond wedi chwarae rhan gadarnhaol yn San Steffan fel y gwnaeth yr Undebwyr Democrataidd, efallai y bydden nhw'n gallu brolio heddiw am arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru hefyd. Rwy'n sylweddoli bod eu barn am Brexit yn wahanol iawn i farn y Llywodraeth, ond nid wyf yn meddwl mai lle Gweinidogion Cymru yw cwyno am yr hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan a hwythau’n gyfrifol am yr un math o fargen yn union yma yng Nghaerdydd.

A dweud y gwir, rwy’n croesawu'r rhan y mae Plaid Cymru wedi'i chwarae wrth ddatblygu rhan o'r gyllideb hon. Rwy'n meddwl ei fod yn beth da bod pob plaid yn y tŷ hwn yn cydweithio yn y ffyrdd hyn. Dyna, yn fy marn i, yw beth mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym ni hefyd. Rwy’n gwybod na fydd y dyfodol yn hawdd. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod ei ddatganiad, at y posibilrwydd o doriadau heb eu dyrannu gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2020, ac nid ydym yn gwybod hyd yn hyn i ba raddau y bydd y toriadau hynny’n effeithio ar feysydd polisi datganoledig. Os ydynt yn effeithio ar feysydd fel amddiffyn, sy’n annhebygol yn fy marn i, bydd hynny’n ganlyniad da i ni. Os ydynt yn effeithio ar iechyd ac addysg, neu rywbeth tebyg, byddwn ni'n dioddef yn sylweddol iawn, o bosib, a byddwn yn gresynu’n fawr wrth hynny. Ond rwy'n ofni mai realiti’r amgylchiadau economaidd y mae'n rhaid inni fyw ynddynt yw y bydd angen inni ddod i arfer â hyn hyd y gellir rhagweld.

Gallwn i gyd ddymuno y byddai gennym gyfrif banc diderfyn, ond nid yw hynny’n bosibl i unrhyw lywodraeth. Mae'r ddyled genedlaethol nawr ar y trywydd iawn i ostwng fel cyfran o gynnyrch domestig gros, a dyna'r unig ffordd y gellir cadw cyllid cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gallem oll ddymuno y byddai'n haws bob blwyddyn, ond cyn gynted ag y mae lefelau dyled yn gostwng, mae pethau’n mynd yn haws. Yn sicr, roedd Llywodraeth gyntaf Blair yn deall hyn, oherwydd cafodd y ffigur dyled genedlaethol a etifeddwyd ganddynt yn 1997 ei gynnal oherwydd eu bod yn cadw at bolisïau tynn Kenneth Clarke—polisïau ariannol—pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys i’r weinyddiaeth gyntaf, er mwyn cael eu hethol am yr ail dro. Yn wir, fe wnaethon nhw orffen cyfnod cyntaf Blair yn y swydd â dyled genedlaethol is na'r hyn y dechreuon nhw, ond yna aeth Gordon Brown ar drywydd hollol wahanol ar gyfer y ddwy Senedd nesaf, gan arwain at y drychineb inni i gyd yn 2010 ac etifeddiaeth y Llywodraeth Geidwadol, y maent yn dal i geisio ymdopi â hi heddiw. Rwy’n credu y gallent fod wedi bod yn fwy llym yn y modd yr oeddent yn trin cyllid cyhoeddus.

Rydym wedi cynnig toriadau i’r rhan nad yw'n ddyngarol o'r gyllideb cymorth i helpu gyda hynny. Gwnaethom gynnig, wrth gwrs, mynd allan o'r UE, a fydd yn ein galluogi i leihau gwariant cyhoeddus. Mae'r dyfodol yn ddisglair, a dweud y gwir, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Edrychwch ar y buddsoddiadau sydd wedi bod yn digwydd ym Mhrydain, neu sydd wedi cael eu cyhoeddi gan gwmnïau mawr, fel Müller â £100 miliwn ychydig wythnosau yn ôl, a Dyson, hefyd, gyda £3 biliwn yn eu parc technoleg, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Rwy'n credu y gall y dyfodol fod yn ddisglair i Gymru, ond dim ond gyda Llywodraeth sy'n deall pwysigrwydd entrepreneuriaeth, i godi'r sylfaen dreth yn y wlad hon, drwy gynyddu’r potensial economaidd a'r gallu cynhyrchiol i godi’r trethi y bydd eu hangen arnom er mwyn gwario yn y dyfodol. Ac ni welaf ddim arwydd o hynny, yn anffodus, gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon.

Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gyllideb hon, maes o law, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd drwyddi fesul llinell yn y Pwyllgor Cyllid, ac, yn wir, yn y Siambr hon yn y misoedd i ddod.

A gaf i yn gyntaf oll ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei araith a’r hyn y mae wedi’i ddweud wrthym heddiw? Rwy'n meddwl bod y cyfeiriad y mae wedi'i amlinellu yn un sydd er lles pobl Cymru. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni i gyd, weithiau, gofio hyn: y gallwn ni ddod yma a dangos ein hunain, i wneud ein hunain deimlo'n dda, ond y gwir amdani yw ein bod yma i wella pethau i holl bobl Cymru, ac mae’n ymddangos mai dyna beth fydd y gyllideb hon yn ei wneud, o fewn y cyfyngiadau difrifol a osodwyd gan Lywodraeth San Steffan.

Ac rwyf am ymdrin â thri phwynt. Y cyntaf yw parhad y cyni, yr ail yw codi trethi, a’r trydydd yw’r gwariant arfaethedig. Rydyn ni'n gwybod nad yw cyni’n gweithio—rydym wedi cael wyth mlynedd ohono. Hynny yw, faint o flynyddoedd mwy ohono y mae'n rhaid inni ei gael cyn inni ddarganfod nad yw'n gweithio? Mae bron fel dyn neu fenyw yn taro eu pen yn erbyn y wal a chanfod nad yw'n gwneud dim lles i’w pen. Hynny yw, ar ôl wyth mlynedd o wneud hynny, byddech wedi meddwl y byddent wedi sylweddoli nad yw taro eu pen yn erbyn y wal wedi gwneud dim lles. Yn anffodus, nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn dysgu o'r hyn maen nhw'n ei wneud.

Mae twf yn amrywio rhwng bod yn araf a ddim yn bodoli. Mae gwariant cyhoeddus yn disgyn mewn termau real. Drwy ddiffiniad, nid yw cyni’n gweithio. Ond a ydym yn synnu? Nid yw erioed wedi gweithio. Ni allaf feddwl am unrhyw enghraifft—felly byddwn i'n derbyn pe byddai unrhyw un ohonoch eisiau dweud wrthyf am un—lle mae cyni wedi dod â thwf i economi. Ac mae arnom angen twf. Twf o bump y cant yn ein heconomi yw lle y dylem fod, lle mae angen inni fod, ac, os ydym yn bwriadu bod yn wlad gyfoethog, lle bydd rhaid inni fod.

Ac nid dim ond ni. Os gallaf gymryd enghraifft o'r wlad Farcsaidd adnabyddus honno, America, yn yr 1930au defnyddiodd Hoover gyni yn America i droi dirwasgiad o ddrwg i waeth. Sut y daeth America allan ohoni? Cyflwynodd Franklin Delano Roosevelt Fargen Newydd. Beth oedd y Fargen Newydd yn ei gynnwys, a gyflwynwyd ganddo pan ddaeth yn Arlywydd yn 1933? [Anghlywadwy.]—oedd ei angen gan y Llywodraeth ffederal i ddod â’r wlad allan o'r dirwasgiad. Yn ystod dyddiau cyntaf gweinyddiaeth Roosevelt cafodd deddfau diwygio bancio, rhaglenni rhyddhad brys, rhaglenni rhyddhad gwaith, a rhaglenni amaethyddol eu pasio. Yn ddiweddarach, esblygodd ail Fargen Newydd, gan gynnwys rhaglenni amddiffyn undebau, deddf nawdd cymdeithasol, a rhaglen i gynorthwyo ffermwyr a oedd yn denantiaid a gweithwyr mudol. A oes unrhyw un sydd wedi meddwl am hyn o gwbl yn credu nad oes angen bargen newydd arnom ym Mhrydain bellach? Ac rwy'n siŵr mai Jeremy Corbyn yw’r dyn a fydd yn ei rhoi inni yn y dyfodol agos iawn—y fargen newydd sydd ei hangen arnom.

Oherwydd mae’n rhaid inni ddod allan o'r dirwasgiad hwn. [Torri ar draws.] Os hoffai David Melding edrych yn ôl, gall weld mai fi oedd un o’r gwleidyddion cyntaf yng Nghymru i gefnogi Jeremy Corbyn, ac rwyf wedi ei gefnogi'n gyson, ac rwy’n meddwl ei fod yn gwneud gwaith gwych, a bydd yn gwneud gwaith gwell fyth swydd pan mae'n Brif Weinidog, a gobeithiaf y bydd hynny’n fuan iawn.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen bargen newydd arnom i Brydain, yn San Steffan, sy’n cynnwys rhoi mwy o arian i mewn i'r economi, er mwyn i’r economi allu dechrau symud, a dechrau gwneud Cymru yn lle mwy cyfoethog?

Rwy'n croesawu cyflwyno'r ddwy dreth newydd, a gosod eu cyfraddau. Mae treth trafodiadau tir yn cymryd lle’r dreth stamp. Un o'r gwendidau, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn hyn, yw ei bod yn dreth hynod anwadal. Mae'n dreth gylchol iawn, ac mewn blynyddoedd da, gallwn gymryd llawer mwy nag y disgwyliwn, ond gall ostwng yn ddifrifol mewn blynyddoedd gwael. Gall ostwng tua 50 y cant rhwng blwyddyn dda a blwyddyn wael, fel y gwyddom o gyfnod 2008-9, pan aeth i lawr bron i hanner. Felly, mae'n dreth hynod anwadal.

A gaf i groesawu'r newidiadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno? Yn ddi-os, bydd cynyddu'r gyfradd ddechrau’n helpu'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas sy'n ceisio mynd ar yr ysgol dai. Ac mae system dreth gynyddol, rwy'n meddwl bod hynny’n rhywbeth nad ydym wedi ei glywed ers amser maith, yn cael ei rhoi ar waith, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n meddwl ei fod yn bwysig iawn. Y mwyaf sydd gan bobl, y mwyaf y dylent ei dalu. Ni ddylai fod yn system lle gallwch chi osgoi talu, ac mae’r dreth stamp yn un o'r trethi hynny sy'n anodd iawn, iawn i'w hosgoi. Felly, beth am inni gael system dreth gynyddol lle bydd y bobl sydd â'r mwyaf yn talu fwyaf.

Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi’n un sy'n cynhyrchu enillion sy’n lleihau. Rwy'n croesawu'n fawr y gyfradd anawdurdodedig. Rwy'n meddwl, os oes un peth a fydd wir yn atal pobl rhag tipio ar safleoedd heb awdurdod, mai'r ffaith y byddant yn talu mwy pan gânt eu dal nag ar safleoedd awdurdodedig yw hwnnw. Rydym wedi cael problemau—rwy'n meddwl bod llawer ohonom yn ein hetholaethau ein hunain wedi cael problemau—â phobl sy'n agor tir amaethyddol a thir arall lle maent wedi caniatáu i bobl dipio ac maent yn cael dirwyon, sy'n sylweddol is na'r hyn y byddai'r dreth tir wedi bod. Felly, roeddent ar eu hennill, fel petai. Nawr, o dan y system newydd, pan fyddant yn cael eu dal, bydd rhaid iddynt dalu mwy na phe baent wedi mynd i safle priodol. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sy'n anfon neges ynglŷn â’n hymrwymiad i'r amgylchedd. Ac a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny?

Y pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud yw bod cyfalaf yn bwysig iawn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio arian cyfalaf wrth adeiladu ysgolion newydd er mwyn lleihau costau refeniw cynnal yr ysgolion hynny.

Wrth gwrs, yn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Er, pe byddem wedi ceisio cynyddu'r diffyg yn gyflymach, byddem wedi gorfod wynebu toriadau mwy. Pe byddem wedi ceisio lleihau'r diffyg yn arafach—mae’n ddrwg gen i, y ffordd arall. Pe byddem wedi cynyddu'r diffyg drwy wario mwy, byddai ein dyled wedi cynyddu. Pe byddem wedi benthyca, neu geisio benthyca i wario mwy, byddem wedi gorfod wynebu toriadau mwy. Wedi'r cyfan, cafodd y gwledydd hynny â dyledion mawr, a wrthododd gyni, hynny yn llawn. Roedd y gyfradd dreth uchaf ers 2010 wedi bod yn uwch ym mhob un ond y mis olaf o 156 mis blaenorol y Blaid Lafur mewn grym. Mae'r enillwyr mwyaf nawr yn talu cyfran uwch o dreth nag erioed o'r blaen ar gofnod.

Ond i droi at yr adroddiad hwn, mae prif economegydd Cymru, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, wedi llunio adroddiad ochr yn ochr â hyn. Mae hwn yn dweud bod adeiladu tai’n creu effeithiau economaidd pwysig mwy hirdymor ac nad yw Cymru wedi bod yn adeiladu digon o dai newydd. Mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad yw'r DU yn adeiladu digon o dai, ond, yn amlwg, mae hynny wedi bod yn broblem sylweddol wrth i adeiladu tai ostwng i'r lefel isaf ers yr 1920au yn negawd cyntaf y ganrif hon. Mae hefyd yn dweud bod Cymru wedi gweld twf cyflym mewn costau tai dros y degawdau diwethaf ac mae tystiolaeth yn awgrymu ymatebolrwydd cyflenwad isel, h.y. mae diffyg adeiladu’n rhan fawr o'r broblem, ac yn berthnasol i'r sector preifat ac i gymdeithasau tai. Wrth gwrs, yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, gostyngodd nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a ddarparwyd yng Nghymru 71 y cant wrth i restrau aros luosogi. Erbyn 2009-10, roedd gan Lywodraeth Cymru y lefel gymesur isaf o wariant ar dai o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y DU. Erbyn 2012, dywedodd 'Adolygiad Tai y DU' mai Llywodraeth Cymru ei hun oedd yn rhoi blaenoriaeth is i dai yn eu cyllideb gyffredinol. Yn 2013, Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle aeth adeiladu tai tuag yn ôl ac mae'n dal i fod ar ei hôl hi ers hynny.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged nad yw’n uchelgeisiol i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu tai cymdeithasol, ond mae'n cynnwys elfen fach o dai cymdeithasol. Mae'n cynnwys prynu cartrefi gyda chymorth a rhent canolraddol ar gyfer pobl sy'n ennill mwy na phobl a fyddai'n gymwys i gael tai cymdeithasol ac fel arall ar adeg pan fo adroddiadau olynol gan gyrff annibynnol wedi dweud bod angen rhwng 12,000 a 15,000 o dai, neu gartrefi newydd, a ddylwn ddweud, bob blwyddyn yng Nghymru os ydym am dorri'r argyfwng tai, nad oedd yn bodoli ym 1999. Felly, pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i sut i dorri'r argyfwng tai hwnnw gyda chytundeb tai newydd i Gymru sy'n ymwneud â'r sector cyfan?

Wyth mlynedd ar ôl i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ganfod bod Cymunedau yn Gyntaf wedi methu â gweithredu gyda rheolaethau llywodraethu corfforaethol effeithiol, rheolaethau ariannol ac adnoddau dynol a llwybrau archwilio, chwe blynedd ar ôl adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, a ddywedodd mai’r cynhwysyn coll oedd ymwneud â'r gymuned, ac ar ôl £0.5 biliwn o wariant ar y rhaglen, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr haf hwn na fyddai'r cynllun yn cael ei ddisodli, bod hanes ei waith yng Nghymru yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi bod yn gymysg, ac nad yw'r ffigurau'n symud.

Felly, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet, o ran sut i ddyrannu cyllidebau, yn ymateb i'r datganiad yn lansiad Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fis Mai diwethaf, Mai 2016, gan gyfarwyddwr tai cymdeithasol Sir Fynwy, a ddywedodd, ‘Roedden ni’n arfer dweud wrth bobl beth y gallant ei gael. Rydyn ni nawr yn gofyn iddynt beth maen nhw am ei gyflawni’, gan symud o ddulliau seiliedig ar anghenion i ddulliau seiliedig ar gryfderau? Rwy'n gwybod yn bersonol bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu'n gryf yn hyn, ond nid wyf yn credu efallai fod dyraniadau’r gyllideb yn adlewyrchu'n llawn yr angen i symud at broses sy'n unioni sefyllfa lle gall pobl a chymunedau deimlo eu bod yn derbyn gwasanaethau’n oddefol yn hytrach na’u bod yn asiantau gweithredol ym mywydau eu teuluoedd eu hunain.

O ran atal ac ymyrryd yn gynnar, sy'n allweddol i agendâu Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau, ac i'ch deddfwriaeth eich hun, nid oes diffiniad gwirioneddol o atal yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Groes Goch wedi tynnu sylw at y ffaith eu bod, yn Lloegr, wedi bod yn monitro'r dyletswyddau atal, gan edrych ar sut y mae awdurdodau lleol yn eu gweithredu, ac yn tynnu sylw at bryderon a phroblemau yno. Ond sut y mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif faint o arian y bydd ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau atal, a sut y mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr rheng flaen a phobl sy'n gweithio gyda hwy sy'n cael y gwasanaethau i ofyn sut y gallwch, efallai drwy fuddsoddi mwy yn y gwasanaethau hynny, leihau llawer mwy o gostau i'r gwasanaeth statudol? Diolch.

Rydw i am wneud ychydig o sylwadau, os gallaf i, ynglŷn â’r flaenoriaeth a osodwyd gan Blaid Cymru i warchod cyllidebau rhaglenni Cefnogi Pobl. Mae’n rhyfeddol, mewn difri, ei bod hi wedi cymryd ymyrraeth Plaid Cymru i sicrhau parhad y cyllid yma.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi cyfarfod â nifer o gyrff yn fy etholaeth i sy’n gweithio ym maes digartrefedd—mae’r Wallich, Digartref Ynys Môn a Gorwel yn gwneud gwaith pwysig iawn mewn amgylchiadau anodd tu hwnt, yn cynnig cymorth, yn cynnig lloches i bobl sydd wedi canfod eu hunain mewn lle lle nad oes ganddyn nhw unlle arall i droi. Mae’r gwasanaethau y maen nhw yn eu darparu yn cael eu gwasgu yn barod gan eu sefyllfa ariannol, sefyllfa gyllid a gafodd ei chynnal, cofiwch, diolch i ymyrraeth Plaid Cymru mewn trafodaethau cyllideb blaenorol. Ond mi oedd cyflwyno toriad rŵan o ryw 10 i 15 y cant yn eu cyllidebau, fel yr oedd y Llywodraeth wedi arwyddo’n glir, ac wedi dweud wrth y sector eu bod nhw am ei wneud, mewn perig o wirioneddol danseilio eu gallu i helpu’r rhai o’r bobl fwyaf bregus sydd yna yn ein cymdeithas ni.

I could have opposed any pre-budget agreement with the Labour Government and then attacked them when they inevitably went ahead and cut the Supporting People budget. But I wasn’t prepared to do that if we could actually, in Plaid Cymru, get the job done and make a real gain on Supporting People, or mental health, or district nurses, or transport, or a host of other matters. To play those games would be Tory-style opposition, shouting from the sidelines—zero gain, zero influence, and irrelevance. The leader of the Conservatives was chortling earlier about Plaid Cymru having sold out for a bag of chips. He did intervene in this debate, but didn’t have the respect to stay here for the remainder of this debate. But let me tell the leader of the Conservatives this: his bag of chips is a roof over the head of a homeless person. His bag of chips is support to help a vulnerable young person try to get his or her life back on track. And my message to a Tory leader for whom a platter of sweet potato wedges in a warm comfortable home is more the norm is: try to see the real world, and try to see how Plaid Cymru is helping those who are desperate for a helping hand.

It shouldn’t have taken a Plaid Cymru negotiating team to secure this funding, but it did. Labour surely should have been doing this. For those on the back benches suggesting, ‘We would have done this anyway’, the sector had been told to expect these cuts. It was a bizarre situation where Labour Members were lobbying us to lobby the Labour Government to protect this vital piece of funding. But it did take Plaid Cymru to negotiate this, and I’m very grateful to our negotiating team for that.

Labour should have foreseen the effects of not continuing with this funding. Homelessness is on the rise. It has a terrible human toll for those affected, but it also has a terrible financial toll. Even the Republicans in the United States now can see that spending on cutting homelessness is saving money for the public sector in the long term. I’m proud that we have come to this agreement on the budget, if only for the sake of protecting the Supporting People budgets—holding Labour to account as an effective opposition party whilst making real gains for those who need it most.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon? Ar gyfer fy nghyfraniad eithaf byr, rwyf am dynnu sylw at egwyddor bwysig iawn sydd wedi'i chynnwys a'i hategu yn y gyllideb hon a’r elfennau allweddol ar hynny sy'n helpu i sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn effeithiol, ac mae hi’n rhywbeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato'n gynharach, sef egwyddor ymyrraeth gynnar. Felly, boed yn ymyrraeth gynnar yn y rhaglen Cefnogi Pobl ynteu yn y buddsoddiad i symud ein gwasanaethau iechyd i leoliadau cymunedol, i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, neu i atal trais yn erbyn merched, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai'r mwyaf y gwnawn fuddsoddi ein cyllideb mewn ymyrraeth gynnar a chymorth, y byddwn yn gweld gwell canlyniadau i bobl.

Rydym hefyd yn arbed arian drwy leihau nifer ac amlder argyfyngau bywyd costus o ganlyniad. Mae'r ymagwedd hon, sy’n seiliedig ar yr egwyddor bwysig hon, wedi'i hymgorffori yn ein polisïau yng Nghymru ac, yn fy marn i, mae'n gyferbyniad llwyr i’r hyn y mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn ei wneud. Mae'n wahanol i gynifer o elfennau ar y rhaglen diwygio lles—rydym ni'n gwybod bod honno’n rhoi pwysau enfawr ar unigolion a theuluoedd. Mae'n wahanol i'r toriadau enfawr i gyllidebau cynghorau yn Lloegr a cholli gwasanaethau cymorth hanfodol mewn cysylltiad â hynny yno. Mae'r toriadau hynny, wrth gwrs, yn wrthgynhyrchiol ac yn fwy costus i'r pwrs cyhoeddus gan fod yn rhaid i bob un ohonom wynebu’r canlyniadau.

Dylem fod yn falch ein bod, yng Nghymru, er gwaethaf y toriadau o tua £1.5 biliwn i'n cyllidebau, yn dewis sefyll gyda phobl agored i niwed yn eu hangen. Ac wrth inni ddechrau'r broses o graffu ar y fargen gyllideb ddwy flynedd hon, dewch inni gydnabod yn glir bod gwleidyddiaeth cyni, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach, yn parhau i greu hinsawdd galed i'n gwasanaethau cyhoeddus. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n cytuno â mi bod ar Gymru, fel gweddill y DU, angen newid cyfeiriad a gobaith newydd? Oherwydd mae’r llwybr hwn o gyni parhaus yn datod yr union ffabrig cymdeithasol sy'n dal ein cymunedau at ei gilydd. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth y bydd penseiri’r anobaith hwn, y blaid a gynrychiolir ar y meinciau gyferbyn, yn parhau i gyflwyno eu beirniadaethau o Lywodraeth Cymru, gan fynnu mwy o wario a gwell gwasanaethau, ond heb gynnig dim atebion eu hunain. Siarad gwag fydd hyn hyd nes iddynt ddechrau ein helpu i wrthdroi llanw cyni a mynnu bod eu Llywodraeth yn ariannu Cymru yn briodol.

Unwaith eto, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n cytuno, yng ngoleuni'r bygythiad parhaus i union gyfansoddiad ein cymunedau, a yw’r egwyddorion sy'n sail i'r rhan fwyaf o'r gyllideb ddrafft hon yn dda i Gymru? [Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen. Felly, wrth orffen, Llywydd, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am ddod i gytundeb â Phlaid Cymru sy'n ein galluogi ni i anrhydeddu blaenoriaethau maniffesto Llafur Cymru ac sy’n parhau i symud Cymru i’r cyfeiriad iawn, er gwaethaf yr holl anghyfiawnderau sylfaenol ​​y mae rhaglen gyni y Torïaid wedi eu gwthio arnom?

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig bod datganiadau yn cael eu gwneud yn y Siambr hon. Roeddwn yn falch iawn na ddatgelodd ei safbwyntiau ar bethau fel y materion treth tan yn union cyn y Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn dda, iawn, iawn i fod mor o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldeb i’r Siambr hon.

Nawr, nid dweud yw hynny fy mod i’n gwbl fodlon wrth gwrs â'r cynigion cyllidebol y mae wedi eu gosod ger bron, ac rwy’n pryderu'n arbennig am y cynigion ar gyfer treth dwristiaeth ac y bydd yn edrych ar hynny ac yn dechrau gwneud rhywfaint o waith yn ei gylch, oherwydd fe wyddom ni werth y diwydiant twristiaeth i Gymru: mae'n hynod bwysig, yn enwedig yn y gogledd, gan gynnwys yn fy etholaeth i, ac rydym ni’n gwybod am yr anawsterau y mae cyrchfannau glan môr wedi eu cael dros y blynyddoedd, ar hyd arfordir y gogledd mewn mannau fel Bae Colwyn, Llandudno a'r Rhyl. Gallai rhyw fath o dreth ar lety, sef yr hyn yr wyf yn credu yr ydych chi’n sôn amdano, gael effaith hollol ddinistriol ar y trefi hynny, a chredaf y byddai'n ergyd farwol i lawer o gymunedau yn y gogledd sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr. Felly, byddai gosod arwydd sy’n dweud, ‘Nid oes croeso ichi', yn fy nhyb i, yn beth niweidiol iawn y gallech chi fod yn bwriadu ei wneud. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Dim ond meddwl yr oeddwn i, ynglŷn â’r sylw yr ydych chi newydd ei wneud, tybed a ydych chi wedi dweud bod Cynghrair Twristiaeth Cymru, sef wrth gwrs y corff sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o safbwyntiau twristiaeth yng Nghymru, yn gwneud yr union bwynt yr ydych chi yn ei wneud.

Rwy'n credu bod Cynghrair Twristiaeth Cymru yn hollol gywir, ac nid oes raid ichi siarad â nhw yn unig. Fe allwch chi siarad ag unrhyw fusnes unigol sy'n dibynnu ar dwristiaid o ran ei hyfywedd a byddwch yn gwybod y bu llawer ohonyn nhw’n hwylio’n eithriadol o agos i’r gwynt ers sawl blwyddyn. Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth. [Torri ar draws.] Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth—nid oes gennyf amser. Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o dwristiaid nac erioed o’r blaen yn dod i Gymru. Dyna rywbeth y dylem ni ei ddathlu, ond rydym ni’n rhwystro'r llwyddiant hwnnw os byddwn ni’n dechrau trethu pobl am ddim ond eisiau cael y cyfle i ddod i aros yn ein cymunedau.

Rwyf yn meddwl tybed pam nad ydych chi wedi ystyried ffyrdd eraill posibl o godi trethi. Un o'r pethau a awgrymais yn y gorffennol yw treth ar gwm cnoi: ardoll gwm cnoi. Rydym ni i gyd wedi cael llond bol ar weld gwm cnoi yn sownd i’n strydoedd, yn achosi llanast ar ein ffyrdd. Mae hynny'n ddrud i’w glirio. Pam nad ydych chi'n ystyried cynigion synhwyrol ynghylch hynny? Pam nad ydych chi'n ystyried cyflwyno ardoll ar ddeunydd lapio bwyd cyflym? Pam nad ydych chi'n ystyried pethau fel derbynebau peiriannau arian parod, sy'n llifo o’n peiriannau ac yn cael eu gadael—yn amlach na pheidio—ar y llawr ger y peiriannau arian hynny? Mae'r rhain yn bethau syml y gallech chi eu hystyried ac na fyddai unrhyw un yn y Siambr hon, rwy’n tybio, o anghenraid yn eu gwrthwynebu.

A gaf i hefyd droi at rai o'r pethau yn y gogledd sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau’r gyllideb? Roeddwn i’n falch iawn o weld cyfeiriad at y gogledd. Fel arfer, wrth gwrs, mae’n cael ei anwybyddu yn nogfennau'r Llywodraeth yn y Siambr hon, ond roeddwn i’n falch iawn o weld cyfeiriad at wella’r A55 a'r A548. Wrth gwrs, mae angen dirfawr am fuddsoddi yn y ddwy ffordd ac rydym ni’n gyson yn gweld y diffyg buddsoddiad a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran llif traffig ar y ffyrdd hynny. Ond tybed pa rannau o'r A55 a'r A548, oherwydd mae tueddiad gan y Llywodraeth hon i ddim ond gwario mewn etholaethau Llafur, a dweud y gwir, sydd yn fy nhyb i yn annerbyniol. Rydym ni wedi gweld hynny o ran cynigion buddsoddi yn y seilwaith ffyrdd yn y gogledd, gyda metro gogledd Cymru: dim ond mewn etholaethau Llafur mae hynny’n digwydd. Wel, beth am ymhellach i’r gorllewin? Beth am Orllewin Clwyd? Beth am Aberconwy? Beth am Ynys Môn? Beth am rannau o Wynedd sydd hefyd mewn angen dirfawr am rywfaint o fuddsoddiad? Efallai y gallwch chi egluro beth yw'r sefyllfa o ran yr ardaloedd hynny.

Sylwaf hefyd eich bod yn ceisio buddsoddi'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf yn ein seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Mae hynny rwy’n credu yn rhywbeth sy’n gwbl angenrheidiol. Rydym ni wedi gweld canlyniadau dinistriol llifogydd mewn cymunedau yn y blynyddoedd diwethaf. Y lle sydd fwyaf agored i effaith llifogydd ar hyd arfordir y gogledd yw Hen Golwyn, yn fy etholaeth i fy hun. Mae'r amddiffynfeydd môr yno yn gwarchod cefnffordd yr A55 ac maent hefyd yn diogelu seilwaith y rheilffyrdd, prif reilffordd y gogledd. Nid oes llawer o gartrefi sydd dan fygythiad llifogydd yn Hen Golwyn, a dyna pam na fu unrhyw fuddsoddi yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yno, er y bu angen hynny. Felly, tybed beth ydych chi’n ei wneud, ynghyd â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i sicrhau bod y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a mathau eraill o seilwaith allweddol hefyd yn cael eu gwarchod rhag llifogydd, a bod cydnabyddiaeth i hynny pan eich bod chi’n gwneud penderfyniadau am fuddsoddi er mwyn amddiffyn rhag llifogydd. Felly, efallai y gallwch chi sôn wrthym ni am hynny.

Felly, yn gryno, mae rhai pethau yr wyf yn eu croesawu yn eich cyllideb, ond rwy'n bryderus iawn eich bod wedi awgrymu, eich bod hyd yn oed wedi crybwyll y pwnc o dreth dwristiaeth bosibl. Credaf fod ffyrdd eraill o godi arian na fyddai ein hetholwyr yn eu gwrthwynebu.

Diolch, Llywydd, am alw arnaf i siarad heddiw. Mae'r ddadl hon yn nodi datblygiad arall eto yn y daith ddatganoli a ddechreuodd ychydig dros 20 mlynedd yn ôl. Yn wir, er gwaethaf y rhybuddion difrifol gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn gweld bod llawer i fod yn obeithiol yn ei gylch, o ran y pellter yr ydym ni wedi teithio a'r cynigion gwario y mae wedi eu hamlinellu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cynllun clir ar gyfer egluro cynlluniau gwario'r llywodraeth, a gwella lefelau craffu ac atebolrwydd.

Rwyf hefyd yn croesawu’r egwyddorion o gydweithio a chydweithredu y mae’r gyllideb yn seiliedig arnynt, sy’n dod â gwahanol bleidiau a safbwyntiau at ei gilydd i gael y canlyniadau gorau i Gymru. Mae’r agwedd hon i’w gweld hefyd yn y gwaith clos rhwng y tair gweinyddiaeth ddatganoledig, gan ddangos aeddfedrwydd y broses ddatganoli wrth iddi ennill ei phlwyf. Nid yw hyn i’w weld yn gliriach yn unman nag yn sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â defnyddio’r pwerau codi trethi y bydd gan y Cynulliad o fewn chwe mis, ac yng ngwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynnig treth newydd sydd wedi ei lunio yng Nghymru.

Fel y mae'r prif economegydd yn ein hatgoffa, mae yna benderfyniadau difrifol y bydd angen i ni eu gwneud ynghylch sut y gellir defnyddio'r pwerau newydd hyn orau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth i ddisgwyliadau’r cyhoedd newid, ac o gofio agwedd gul Llywodraeth y DU, gyda'i hobsesiwn unllygeidiog ar gyni. Felly, croesawaf sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn ceisio lleihau faint o arian sydd wrth gefn ac yn y cronfeydd yn ystod y flwyddyn a fyddai wedi ei gronni fel arall, gan ryddhau gwariant refeniw y mae gwir angen ei fuddsoddi yn y gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt.

Hoffwn gyfeirio’n fras at rai elfennau penodol o'r cynigion a amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. O ran y Prif Grŵp Gwariant cymunedau a phlant, croesawaf y buddsoddiad yn ein cynnig gofal plant blaengar. Gallwn fod yn falch bod ein cynigion yn cynrychioli'r fargen fwyaf hael ei natur yn unrhyw le yn y DU, a dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi rhieni a theuluoedd Cymru. Mae'r cynllun arbrofol yn Rhondda Cynon Taf sy'n cwmpasu fy etholaeth i eisoes yn gwneud gwahaniaeth, er fy mod i’n awyddus i weld pa wersi fydd yn cael eu dysgu ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cymryd rhan.

Mewn mannau eraill o dan y pennawd hwn, rwy’n croesawu’r ffaith y bydd y grant Cefnogi Pobl yn parhau, y gwyddom ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ddegau o filoedd o ddinasyddion agored i niwed yng Nghymru. Yn yr un modd, gwn mai un o'r cynigion a gaiff y croeso mwyaf gan grwpiau yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon yw'r cyllid ychwanegol i gefnogi adfywio cyfleusterau cymunedol. Mewn ardal fel Cynon, mae llawer o'r adeiladau hyn bron iawn yn rhai o bwys hanesyddol, gyda chysylltiadau balch â threftadaeth mwyngloddio y cymunedau y maent i'w canfod ynddynt, ac mae'n iawn ein bod ni’n sicrhau eu bod yn diwallu anghenion heddiw.

I unrhyw un sydd wedi fy nghlywed i’n codi pryderon am wasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd, rwy'n siŵr nad yw hi’n syndod fy mod yn gefnogol iawn o ryddhau arian i brynu cerbydau rheilffordd newydd. Bydd prynu'r stoc hwn yn arbed arian yn y tymor hir, a bydd hefyd yn dileu rhwystr hanfodol i negodi masnachfraint newydd Cymru a'r gororau. Mae'r ymrwymiad newydd i'r model buddsoddi ar y cyd a gaiff ei ddefnyddio i ariannu’r gwaith o ddeuoli’r A465 a'r ymrwymiad newydd i fetro de Cymru yn dangos bod seilwaith trafnidiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn parhau i fod yn nod canolog i Lywodraeth Cymru. Mewn mannau eraill, gwn fod ymrwymiad wedi'i wneud i fuddsoddi mewn mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, ac mae hynny'n elfen allweddol arall o’r seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am y cynnig hwn, pan gaiff ei rhyddhau maes o law, i sicrhau ein bod yn cael y manylion yn iawn er mwyn gallu ateb y galw yn y dyfodol.

Mae'r pwyslais parhaus ar addysg hefyd i'w groesawu, yn enwedig y cynlluniau i gyflymu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae Cwm Cynon wedi elwa ar dros £100 miliwn o fuddsoddiad o dan y polisi hwn—mwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru—felly rwy'n gwybod yn iawn pa mor bwysig y gall y cynllun hwn fod. Ymwelais yn ddiweddar ag Ysgol Gymunedol Aberdâr, ysgol yr unfed ganrif ar hugain, ar ben-blwydd y refferendwm datganoli. Roedd hi’n wych trafod â'r disgyblion yno sut mae datganoli wedi ein galluogi i dorri ein cwys ein hunain yng Nghymru, ac mae'r ysgol hon, a'r polisi hwn, yn un enghraifft o hyn, lle mae ein penderfyniadau gwariant yn wahanol iawn i sut yr aeth y DU ati i ddiddymu cynlluniau i adeiladu ysgolion a sut y gwnaethant wrthod buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf.

Fe hoffwn i ofyn ambell gwestiwn a chodi rhai materion ynglŷn â rhai o'r trafodaethau cyllidebol â Phlaid Cymru. Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedwyd eisoes: a minnau wedi bod yma ers 10 mlynedd bellach, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni geisio dod o hyd i dir cyffredin lle y gallwn ni, a defnyddio ein galluoedd fel gwleidyddion i ddod o hyd i atebion, ynghyd ag i graffu ar bethau. Felly, rwy’n croesawu yn y cytundeb cyllideb hwn y buddsoddiad o £30 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer creu gorsaf ynni newydd ar gyfer Tata.

Mae hyn yn rhywbeth y bu ymgyrchwyr lleol a gwleidyddol o wahanol bleidiau yn ymgyrchu amdano ers cryn amser a chredaf fod hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Hoffwn gael mwy o wybodaeth ynghylch pa un a yw Llywodraeth Cymru wedi siarad â Tata ynghylch yr ymrwymiad penodol hwn, yn enwedig mewn cysylltiad â'r buddsoddiad arall y mae Tata wedi ei addo i'r undebau ac i'r gweithlu. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn ar gyfer gorsaf o’r math hwn, ein bod yn sicrhau’r arian gan Tata ar gyfer y gweddill ohoni, a’n bod yn sicrhau bod Tata wedi ymrwymo i'r ardal. Rwy'n credu bod hyn yn dangos arwydd clir bod hyn yn wir, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig, yn enwedig gyda newidiadau i'r gronfa bensiwn a'r gyd-fenter bosibl, ein bod yn gweld hyn yng ngoleuni presenoldeb Tata yma ar gyfer y tymor hir. Roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hefyd na fydd y cyhoeddiad hwn o ran Gwaith Dur Tata yn effeithio ar ymrwymiadau ariannol eraill a wnaed gan Lywodraeth Cymru, sydd bron iawn yn £13 miliwn. Ond fe hoffwn i gofnodi fy niolch am wneud hyn yn flaenoriaeth.

Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud â'r gronfa newyddiaduraeth. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny—£100,000 am un flwyddyn a £100,000 am yr ail flwyddyn. Rwyf eisoes wedi bod yn siarad â phobl yn y sector am yr hyn y gallai hynny ei olygu. Felly, rwy'n meddwl tybed sut y gall y sector helpu i lunio hynny ac i sicrhau ar goedd y byddai'r gronfa honno ar gyfer newyddiadurwyr lleol ac nid ar gyfer sefydliadau cyfryngol mawr a allai fod eisoes yn elwa ar gynllun arall—cynllun y BBC, er enghraifft. Fe hoffwn i i hyn fod yn benodol ar gyfer pobl sy’n ymsefydlu yn y maes fel na fyddai, er enghraifft, Port Talbot MagNet yn fy ardal i wedi dod i ben, byddai wedi gallu bod yn gynaliadwy. Dyna'r math o beth sydd ei wirioneddol angen arnom ni i i sicrhau bod sector newyddiaduraeth naturiol a llawr gwlad yn ffynnu yng Nghymru.

O ran y buddsoddiad mewn cerddoriaeth ym myd addysg, credaf ei fod yn £2 filiwn dros ddwy flynedd. Mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth yr wyf i’n ddiolchgar iawn amdano. Unwaith eto, sut gallwn ni fod yn rhan o lunio lle mae'r arian hwnnw'n mynd a sut y caiff ei wario? Fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i’n ei gadeirio wedi cynnal ymchwiliad i gerddoriaeth mewn addysg ac rydym ni wrthi’n llunio ein casgliadau terfynol. Rwy'n siŵr y bydd pobl o bob plaid yma yn y Siambr yn barod i feddwl am syniadau ynglŷn â sut y gellir gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon fel na fyddwn ni’n dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar lawr gwlad.

I orffen, fe hoffwn i ddweud hefyd fy mod i’n croesawu’r £14 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl. Er fy mod i’n meddwl y bu mwy o gefnogaeth i iechyd meddwl yn y blynyddoedd diwethaf, mae croeso i hynny bob amser. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yn digwydd yw—rydym ni’n sôn am y gyllideb ac rydym ni’n sôn am arian, ond, yn y pen draw, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni’n defnyddio'r arian sydd gennym ni mewn ffordd well. Felly, er mai arian newydd yw hwn, sut gallwn ni newid strwythurau a sut mae pethau'n gweithio yn y maes iechyd meddwl fel bod hyn yn wirioneddol adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar bobl ar lawr gwlad? Yr un enghraifft a roddaf yw efallai y gallem ni feddwl ynglŷn â rhoi’r arian hwn i roi cefnogaeth iechyd meddwl i'r gymuned bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a cheiswyr lloches. Unwaith eto, fel y soniais i, roeddwn i yr wythnos diwethaf gyda phobl o'r gymuned bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud bod rhai pobl yn cael eu troi ymaith rhag cael gweld meddygon teulu dim ond oherwydd bod y meddygon teulu yn gwrthod cael cyfieithydd yno. Ychydig wythnosau yn ôl cyflawnodd ceisydd lloches hunanladdiad yn Abertawe oherwydd na allai gael triniaeth. Felly, os ydym ni am ystyried sut yr ydym ni’n defnyddio'r arian hwn yn greadigol, a gawn ni feddwl amdano gyda hynny mewn golwg?

Fe hoffwn i orffen trwy adleisio sylw Rhun o ran Cefnogi Pobl. Nid wyf eisiau dadl fawr ynghylch pwy a sicrhaodd fodolaeth Cefnogi Pobl ond rwyf eisiau diolch i'r tîm trafod am gadw'r arian hwnnw, oherwydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl wahanol o bob cefndir a fydd yn hapus iawn, iawn â chyhoeddiad heddiw. Dyna beth yw ystyr hyn i mi. Gall pobl ddweud yr hyn a fynnon nhw, ond, mewn gwirionedd, bydd hynny'n golygu y bydd pobl yn dal ar y rheng flaen yn helpu'r bobl hynny sydd mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Felly, os mai’r cwbl y gallaf i apelio amdano yw, pan fyddwn yn trafod hyn yn y dyfodol, nad ydynt yn teimlo bod eu cyllideb o dan fygythiad bob blwyddyn ac y gallant gael rhywfaint o gysur yn y system ar gyfer y blynyddoedd i ddod—[Torri ar draws.] Wel, byddwn i wrth fy modd yn cefnu ar gyni, Lee. Nid wyf yn eich beirniadu yn hyn o beth. Dim ond dweud yr wyf i pe gallem ni gael sgwrs o bosib fel eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o drafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru ac y gallwn ni sicrhau y cefnogir y rhaglen honno yn y dyfodol.

Fe hoffwn i ymhelaethu ar y pwynt a wnaed ynghylch cyni, oherwydd, wrth gwrs, dyna'r cefndir i'r holl drafodaeth hon ynglŷn â’r gyllideb. Pan fo Llywodraeth y DU yn parhau i fynnu cadw at y mesurau cyni difäol hynny, yna mae'n amlwg y bydd yn rhaid cwtogi ar bethau. Nawr, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio pam mae gennym ni'r mesurau cyni hyn. Fe'u bwriadwyd i sicrhau ein bod yn lleihau ein diffyg a'n lefelau o ddyled, ond y gwir amdani yw, ers 2010, bod lefel ein dyled genedlaethol wedi cynyddu dros £800 biliwn i dros £2 triliwn—mae hyn o danoch chi ers 2010—ac mae’r Llywodraeth Geidwadol hon—

Gwnaf. Gadewch i mi orffen fy mhwynt, oherwydd mae gen i lawer mwy i ddod—[Torri ar draws.] Mae’r—[Torri ar draws.] Mae’r Llywodraeth Geidwadol hon—. Hei, ar ôl ichi orffen. Diolch. Mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi benthyca mwy o arian na phob Llywodraeth Lafur mewn hanes. Ewch ymlaen.

Y rheswm y bu'n rhaid iddi fenthyca mwy o arian yw oherwydd y diffygion enfawr digynsail a adawodd Gordon Brown yn y Trysorlys—

[Yn parhau.]—ac yn y cyllid cyhoeddus. Dyna pam yr ydym ni’n ceisio gwyrdroi hynny. Rydych chi eisiau benthyca mwy mewn gwirionedd. Byddai wedi cyflymu o danoch chi.

Wnaethoch chi wrando o gwbl ar yr hyn a ddywedais i?

Rydych chi wedi benthyca mwy o arian na phob Llywodraeth Lafur mewn hanes. Eich polisi chi yw hwn, ac nid yw cyni yn gweithio- [Torri ar draws.] Nawr, mae Llywodraeth Cymru- [Torri ar draws.] Yr unig arian y gall Llywodraeth Cymru ei wario yw’r hyn a gaiff gan Lywodraeth y DU, er, yn ystod y flwyddyn hanesyddol hon byddwn ni fel—[Torri ar draws.] Darren, os gwelwch yn dda—

Na, na, na, na. Nid oes angen i chi ddweud wrth Darren Miller i gau ei geg. Mi wnaf i hynny. [Chwerthin.] Darren, cau dy geg. [Chwerthin.] Eluned Morgan.

Diolch, Llywydd. Nawr, mae hon yn flwyddyn hanesyddol oherwydd, am y tro cyntaf nawr, rydym ni’n cyflwyno'r pwerau hyn i godi trethi neu newid trethi. Croesawaf hyn yn fawr—[Torri ar draws.]

O, nid un arall. Na, wnaf i ddim, os nad oes ots gennych chi.

Diolch. Mae’r newyddion da—y newyddion y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi eu cyhoeddi y bydd gennym ni yn awr y cyfraddau cychwynol isaf o dreth trafodion tir yn y DU. Ac fe deimlais i wefr wirioneddol yn y Siambr pan gyhoeddwyd hynny. Roeddem ni’n teimlo fel Senedd wirioneddol aeddfed, a dyna'r hyn yr wyf eisiau gweld y lle hwn yn datblygu i fod. Fe hoffwn i gael gwybod gan yr Ysgrifennydd cyllid faint fydd hynny’n cei gostio. Nid wyf yn siŵr a amlinellwyd hynny ganddo, ond credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol.

Nawr, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio bod y mesurau cyni hyn yn parhau ar adeg pan fo cyflogau wedi aros yn eu hunfan ers 10 mlynedd. Ac, ar ben hyn, yn ystod y 10 mlynedd hynny, tra bu Llywodraeth y Torïaid wrth y llyw yn San Steffan, mae biliau nwy wedi cynyddu 49 y cant, mae biliau dŵr wedi cynyddu 25 y cant, mae prisiau teithio ar y trên wedi cynyddu 27 y cant , mae rhent preifat wedi cynyddu 25 y cant, ac mae bwyd wedi cynyddu 21 y cant. Nid oes unrhyw un o’r rhain yn foethusion. Ond yn hytrach na chefnogi’r tlotaf mewn cymdeithas, beth mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi penderfynu ei wneud? Mae hi wedi penderfynu cosbi’r tlawd drwy gyflwyno credyd cynhwysol. Bydd pedwar can mil o deuluoedd yng Nghymru ar eu colled o £3,400 y flwyddyn erbyn 2020 oherwydd cyflwyno'r mesur newydd hwnnw.

Nawr, yn Lloegr, mae Llywodraeth y Torïaid wedi amddifadu’r tlodion. Mae'r toriadau hynny wedi arwain at gynnydd o 65 y cant yn y lefelau digartrefedd yn Lloegr. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru. Rydym ni wedi cyflwyno’r gyfraith newydd hon, gan roi cyfrifoldebau newydd i lywodraeth leol yng Nghymru o ran digartrefedd, a bu’r rhaglen Cefnogi Pobl yn hanfodol yn hyn o beth. Mae angen atgoffa unrhyw un a oedd o bosib yn amau ​​ymrwymiad personol Mark Drakeford i'r mater hwn, ei weithgarwch parhaol ynglŷn â digartrefedd, ei ymdrechion diflino i helpu dechrau a sefydlu Llamau, a'i angerdd a’i waith hirhoedlog i sicrhau cefnogaeth i'r digartref. Nid oes toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl ac nid oeddwn yn credu y byddai Mark Drakeford, gyda'i hanes hir, wedi cyflwyno’r rheiny. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny, a’r £20 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd.

Nawr, bydd digon o amser i gnoi cil dros fanylion y gyllideb, ond rwyf yn credu ei bod hi’n werth nodi’r £240 miliwn ychwanegol hwnnw i leihau’r pwysau sydd ar ein staff gweithgar yn y GIG. Wrth gwrs, y ddelfryd fyddai rhoi i'n gweithwyr yn y GIG a gweithwyr sector cyhoeddus eraill y codiad cyflog y maent yn ddiau yn ei haeddu, ond, gyda chyllideb benodol a chyfyngedig, yr unig ffordd i wneud hynny fyddai cwtogi ar wasanaethau mewn mannau eraill. Felly, os yw Plaid Cymru mor awyddus i gyflwyno'r codiad cyflog hwn heb gael yr arian ychwanegol gan Drysorlys y DU, mae'n rhaid ichi nodi pa ysbytai yr ydych chi’n mynd i’w cau er mwyn gwneud hynny. Ac o ran y Torïaid yn dweud bod y lefelau dyled yn ysbytai Cymru—. Ydych chi'n gwybod beth yw lefelau dyled ysbytai Lloegr? Mae'n £2.4 biliwn. Peidiwch â dod draw yma i ddweud wrthym ni am lefelau dyled mewn ysbytai.

Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, y ffaith ein bod ni'n helpu i sicrhau cyllid ar gyfer gofal; mae'n faes hollbwysig, ac rwyf wrth fy modd y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn edrych ar fater trethiant yn y maes hwn. Mae hwn yn rhywbeth y byddwn ni’n edrych arno yn y Pwyllgor Cyllid ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyflwyno syniadau diddorol am hynny yn yr wythnosau nesaf.

Yr un maes yn arbennig yr hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd cyllid yn ei gylch yw ei ymrwymiad i ddiddymu'r tollau ar bont Cleddau erbyn 2020. Mae hwn yn fater y mae'r Blaid Lafur yn lleol wedi ymgyrchu drosto ers blynyddoedd, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi gallu cyflawni hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a busnesau yng nghyffiniau’r Aber. Rwyf wrth fy modd hefyd yn clywed bod arian ychwanegol wedi'i neilltuo i dynnu arian o raglen datblygu gwledig yr UE, ond rwyf yn meddwl tybed a allai'r Ysgrifennydd cyllid egluro pa un a fyddwn yn cael, yn yr wythnosau nesaf, mwy o eglurder ynghylch y strwythurau cystadleuol ar gyfer datblygu gwledig economaidd yng Nghymru.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi gosod cyllideb dwy flynedd. Hoffwn wybod: a yw hynny'n golygu y byddwn ni’n gweld yr un peth yn union y flwyddyn nesaf, ar wahân i ychydig o fân newidiadau? Ac a yw hynny'n golygu na fydd ein hangen ni, sef y Pwyllgor Cyllid, y flwyddyn nesaf? Beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd o ran sut mae'r mecanwaith yn gweithio? Nawr, fe wn i fod meintioli'r gyllideb ar adeg o gyni yn orchwyl anodd, ond fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd cyllid am gadw at yr ymrwymiadau hynny a wnaeth ef ac a wnaethom ninnau ym maniffesto Llafur Cymru, ac am anrhydeddu’r addewidion a wnaethom ni i'r cyhoedd yng Nghymru ac i'r etholwyr.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cryn dipyn i roi sylw iddo yma, ond mae un peth sy'n hollol glir a hynny yw bod y gyllideb hon wedi'i llunio i ofalu am y bobl hynny sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf, i gefnogi'r bobl yng Nghymru yn erbyn y cyni sy'n deillio o'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Ac mae honno’n Llywodraeth sy'n gwbl benderfynol i wneud bywyd yn anodd i'r rhai tlotaf mewn cymdeithas. Rwy'n credu y bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol sy’n—[Torri ar draws.] Na, wnaf i ddim. Newydd ddechrau siarad wyf i. Gallwch chi eistedd i lawr.

Does arnoch chi ddim eisiau derbyn ymyriad. Dyna'r cyfan sy’n rhaid i chi ei ddweud.

[Yn parhau.] — y credyd cynhwysol sy’n mynd i adael pobl heb arian am chwe wythnos, ac i’r Prif Weinidog, pan gafodd ei chyfweld ar yr egwyddor honno, wfftio at hynny gan ddweud, ‘Fe ddown ni i ryw drefniant’. Wel, rwy'n falch y gall hi ddod i ryw drefniant, oherwydd fe wn i un peth: pan nad oes gennych chi arian o gwbl am chwe wythnos i fwydo eich hun, i dalu eich rhent, neu i anfon eich plant i unrhyw le, ni fyddwch yn medru ymdopi ac ni fyddwch yn gallu dod i ryw drefniant. Felly, o ran diogelu'r £1 miliwn ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sydd mewn gwirionedd yn ddim ond elfen fechan iawn, ond yn elfen hanfodol ac yn rhwyd ​​ddiogelwch, a gafodd ei diddymu gan y Torïaid yn Lloegr ac a adferwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol yng Nghymru, croesawaf hynny ac rwy’n meddwl tybed faint o bobl a gaiff eu cefnogi gan hynny.

Y mater arall yr wyf yn fwy na bodlon yn ei gylch yw—. Ac roeddwn yn gyn-gynghorydd sir yn Sir Benfro, ac wedi hen arfer â hanes hir ac amheus y doll ar bont Cleddau, felly rwy'n croesawu diddymu honno. Ac mae hanes ynglŷn â sut y codwyd yr arian hwnnw a sut y cafodd ei wario. Felly, wrth edrych ymlaen, croesawaf, yn y lle cyntaf, y ffaith na fydd yn rhaid i’r bobl sy'n teithio i’w gwaith ac yn ôl, na’r busnesau sy'n gweithredu ar y naill ochr neu’r llall i'r sir dalu’r dreth leol honno. Rwyf yn gwerthfawrogi bod angen amser i wneud trefniadau pontio, ond o ystyried y gall y cyngor lunio cyllideb yn gwybod y caiff costau cynnal a chadw eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru mewn dwy flynedd, o ystyried y cwestiwn hanesyddol o sut y gwariwyd yr arian dros y blynyddoedd, ydych chi'n meddwl y gallai fod yn syniad da, hyd yn oed yn arwydd o ewyllys da, pe byddai cyngor Sir Benfro yn diogelu’r refeniw doll o nawr tan ei fod wedi'i ddiddymu ac ymgynghori â threthdalwyr ynghylch sut y dylid gwario'r arian hwnnw? Bu hwn yn faes enfawr yr wyf i ac arweinwyr Llafur eraill ar Gyngor Sir Benfro wedi dadlau yn ei gylch flwyddyn ar ôl a blwyddyn. Edrychaf ymlaen at eich ymateb.

Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth eang iawn ynglŷn â’r gyllideb. Fe wnaf fy ngorau i ymateb i gymaint â phosib o'r pwyntiau a godwyd, a gwnaf hynny'n gyflym.

Dechreuodd Nick Ramsay y drafodaeth ynghylch hyn ar adeg sy'n ymddangos fel amser maith yn ôl erbyn hyn. Diolchaf iddo am y croeso a roddodd i'r broses gyllideb newydd. Cydnabûm yn fy sylwadau agoriadol effaith y fframwaith cyllidol. Rwy'n falch o gadarnhau i'r Aelod bod adroddiad Prifysgol Bangor ar gael i'r Aelodau ac ar gael yn llawn ac ar gael heddiw. O ran y ddwy dreth newydd, rwy’n amau ​​y bydd wedi sylwi ar y gyfradd o 150 y cant am warediadau treth anawdurdodedig yn y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, oherwydd fe soniodd wrthyf am yr union gyfradd honno yn y Pwyllgor Cyllid ar adeg pan nad oeddwn yn gallu cadarnhau hynny. Ond fe'i cadarnheir ar y gyfradd honno heddiw.

A gaf i ddweud wrth Aelodau'r Grŵp Ceidwadol yma fy mod i’n credu bod angen iddyn nhw ymbellhau ychydig o'r iaith a ddefnyddiwyd ganddyn nhw ynglŷn â threth dwristiaeth? Yr hyn yr wyf i wedi'i wneud y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn a ddywedais; Rwyf wedi cyhoeddi rhestr fer o gynigion posibl ar gyfer gwaith pellach, ac mae hyn yn un o'r pethau y mae llawer o bobl wedi ei argymell. Roedd Adam Price yn hollol gywir pan nododd bod hon yn dreth a ddefnyddir mewn llawer rhan o’r byd, ac a benderfynir ar lefel leol fel arfer. Y rheswm dros y dreth—gan y bobl hynny sy'n ei hyrwyddo— yw er mwyn gallu buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n arwain at fwy o dwristiaid yn yr ardal honno. Dyna ddiben treth dwristiaeth. Nid i ddychryn twristiaid rhag dod; ei diben yw creu amodau lle gall y diwydiant twristiaeth barhau i ffynnu a gwneud mwy. Felly, dyna'r achos dros ei chyflwyno, a byddwn yn ei harchwilio ymhellach. Yn sicr, ni ddylid wfftio at y syniad fel pe na byddai unrhyw werth iddo o gwbl. Efallai na fydd yn cyrraedd y rhestr fer, ond rwyf yn credu bod y syniad nad yw'n werth ei archwilio yn gor-bwysleisio’r achos.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â siarad am ddim ond archwilio treth dwristiaeth ar hyn o bryd, ond a ydych chi'n cydnabod bod perygl y bydd canfyddiad yn lledaenu bod treth ar dwristiaid yn dod i Gymru nad yw’n bodoli ar draws y ffin yn Lloegr? Mewn ardaloedd fel fy un i fy hun, ar hyd ardaloedd y ffin, mae angen i ni warchod rhag creu’r math hwnnw o ganfyddiad. Felly, rwyf yn credu bod angen inni sicrhau mai dim ond archwilio yr ydym ni ar hyn o bryd.

Llywydd, nid wyf yn dweud nad yw'r pwyntiau hynny'n bwyntiau y mae angen eu hystyried, ond y cwbl yr wyf wedi ei ddweud heddiw yw ein bod ni’n bwriadu ystyried pethau, a byddwn yn ystyried yr achos cadarnhaol a wnaed ac yn cloriannu’r dadleuon hynny sy'n dweud wrthym pam y gallai fod angen i ni droedio’n ofalus. Dim ond eisiau bod yn glir oeddwn i ynglŷn â statws yr hyn a gyhoeddais y prynhawn yma.

Gwnaeth Adam Price gyfres o bwyntiau pwysig am y cytundeb a gyrhaeddwyd â Phlaid Cymru. Rydym ni yn Llywodraeth heb fwyafrif. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ôl yn gynnar yn ystod haf 2016 pan ddechreuodd y tymor hwn yn y Cynulliad, bod angen i Lywodraeth yn ein sefyllfa ni allu gwrando ar syniadau o rannau eraill o'r Siambr a cheisio dod i gytundeb pan fo hynny'n bosibl, ac mae'r gwaith gofalus iawn sydd wedi ei wneud dros yr haf wedi ein galluogi i wneud hynny. Nid ydym yn cytuno ar bopeth, fel y nododd Adam Price, ond mae'r pethau yr ydym ni wedi gallu cytuno arnynt yn bwysig, byddant yn gwneud gwahaniaeth, ac fe'u hamlinellwyd ganddo.

Llywydd, gwrandewais, ar bob gair, o’r hyn yr oedd gan Neil Hamilton i’w ddweud. Bu ond y dim imi â rhoi’r gorau iddi ar un adeg, ond daliais ati i wrando. Rwy'n credu mai dyma'r math o gyfraniad y gellid ei ddisgrifio orau gyda’r syniad o 'ffrwd o led-ymwybyddiaeth'. Roeddwn bron â rhoi'r gorau i wrando pan geisiodd fy narbwyllo fy mod i’n byw mewn cyfnod o afradlonedd ariannol ac mai’r hyn y mae pobl yng Nghymru wedi gorfod ei ddioddef am yr wyth mlynedd diwethaf yw —ac rwy’n meddwl fy mod yn ei ddyfynnu air am air—gwrthwyneb i gyni. Wel, nid yw'n teimlo felly, gallaf ddweud wrtho, i bobl sy'n byw yn fy etholaeth i, sy'n canfod nad yw eu cyflogau wedi codi dros y cyfnod hwnnw, y bu’n rhaid cwtogi ar eu gwasanaethau, a bod eu rhagolygon o unrhyw beth gwell yn cilio ymhellach fyth i'r dyfodol.

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn na allwch chi fenthyca symiau diderfyn yn dragwyddol, ac, felly, mae'n rhaid penderfynu, weithiau, pryd y mae'n rhaid rhoi'r gorau iddi. Mae cyfraddau llog wedi bod ar eu hisaf erioed. Maent eisoes ar gynnydd yn yr Unol Daleithiau; efallai y byddant ar gynnydd yn y wlad hon yn fuan. Sut ydym ni wedyn yn talu'r biliau ar adeg pan nad ydym ni wedi trwsio'r to, pan fydd yr haul yn peidio â disgleirio a’r glaw yn arllwys?

Llywydd, rydym ni'n hynod ffodus yn ein hamser ni ein bod wedi elwa ar y penderfyniadau buddsoddi yr oedd y bobl hynny a fu yma o’n blaenau ni yn barod i'w gwneud. Pe bydden nhw wedi gwrando ar Neil Hamilton, bydden nhw wedi rhoi’r gorau i wneud yr holl bethau yr ydym ni’n dibynnu arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae'n bosibl, mewn ffordd nad wyf i’n credu bod yr Aelod yn ymddangos ei fod byth yn ei deall na'i chydnabod, i fenthyca er mwyn buddsoddi, gan fod buddsoddi yn creu amodau llwyddiant economaidd, ac mae'r llwyddiant economaidd hwnnw wedyn yn caniatáu ichi dalu'r arian yr ydych chi wedi'i fenthyg yn ôl. Dyna'r wers syml y mae Llywodraethau blaengar yn ystod y 100 mlynedd diwethaf a mwy wedi ei deall, ac rydym ni’n dweud bod angen deall hynny yn well heddiw.

Gwnaeth Mike Hedges gyfres o bwyntiau pwysig iawn. Roedd yn deall yn llwyr y gallwch chi fuddsoddi eich ffordd i lwyddiant, nid yn unig mewn mannau, ond, fel y dywedodd, mewn pobl hefyd. Cytundeb newydd i Brydain yw’r union hyn sydd ei angen arnom ni i gael ein heconomi ar y llwybr hwnnw. O ran ansefydlogrwydd treth, bydd yn gwybod bod y fframwaith cyllidol yn rhoi mynediad i ni i refeniw wrth gefn o £500 i ganiatáu inni unioni ansefydlogrwydd treth o flwyddyn i flwyddyn. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gynlluniau i ddefnyddio'r arian hwnnw sydd wrth gefn yn y gyllideb sydd ger bron y Cynulliad, ond mae yno pe byddai ei angen yn y dyfodol. Y ffordd yr ydym ni wedi defnyddio ein cyfalaf yn y gyllideb hon yw'r union ffordd y dadleuodd Mike Hedges drosti. Dywedais wrth fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet y byddaf yn rhoi blaenoriaeth i gynlluniau buddsoddi cyfalaf sy'n rhyddhau refeniw yn y dyfodol, a dyna pam mae prynu cerbydau rheilffordd yn y ffordd yr amlinellodd Vikki Howells mor bwysig.

Roeddwn yn ddiolchgar i Mark Isherwood am yr hyn a ddywedodd am dai, oherwydd rwyf eisiau dweud wrtho fod anghenion tai wrth wraidd y gyllideb hon. Pa un a yw hynny drwy’r rhaglen Cefnogi Pobl, a'r £10 miliwn ym mhob un o'r ddwy flynedd nesaf y gallwn ni yn awr ei fuddsoddi mewn gwasanaethau digartrefedd; pa un a yw drwy’r hyn yr ydym ni’n ei wneud i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; neu pa un a yw drwy’r cyhoeddiad yr wyf wedi gallu ei wneud heddiw ynglŷn â pheidio â threthu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru o gwbl—mae'r pethau hynny i gyd yn ymwneud â sicrhau y gallwn ni, o ran tai, rhywbeth sy'n effeithio ar bob teulu yn y wlad, wneud mwy i helpu pobl yn y sefyllfa honno.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Dirprwy Lywydd, cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at nifer o agweddau pwysig yn y cytundeb yr ydym ni wedi gallu cytuno arno rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Mae'n rhaid i mi anghytuno ag ef ar un pwynt yn unig, ond mae'n bwynt pwysig, a dyma'r unig bwynt, rwy’n credu, yn y ddadl hon lle rwy'n teimlo fy mod yn gorfod sicrhau y caiff y cofnod ei ddeall yn iawn. Dywedodd Rhun ei bod hi’n anochel y byddai toriadau i Cefnogi Pobl heb gytundeb cyllideb. Hoffwn ei gwneud hi’n gwbl glir i'r Siambr nad oedd unrhyw beth anochel ynghylch hynny. Mae Cefnogi Pobl yn rhaglen, fel pob un arall, sy'n dod o dan bwysau pan fydd yn rhaid inni greu cyllideb yn yr amgylchiadau anodd yr ydym ynddynt. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu dod i'r cytundeb a wnaethom. Rwy’n credu i Bethan Jenkins fynegi hynny yn yr union ffordd gywir, o ran Cefnogi Pobl. Mae wedi bod yn flaenoriaeth gyffredin ar draws y Siambr hon ers blynyddoedd lawer. Mae wedi ymddangos mewn tri chytundeb cyllideb. Roedd yn fater a oedd o’r pwys mwyaf imi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r rhaglen gyda’n gilydd, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi'i chyrraedd. Dim ond eisiau gwneud yn siŵr yr wyf i bod hynny'n glir i bawb.

Rydych chi'n gwybod yn iawn y dywedwyd wrth y sector i ddisgwyl y toriad hwn o 10 i 15 y cant.

Rwy'n treulio fy amser yn gorfod dweud wrth bobl sy'n darparu gwasanaethau y mae ein cyd-ddinasyddion yn dibynnu arnynt fod yn rhaid iddyn nhw baratoi ar gyfer yr adegau anoddach a'r dewisiadau anoddach sydd ar y gorwel. Rwyf wedi dweud hynny lawer gwaith yn y Siambr hon, felly rwy’n deall bod pobl ar lawr gwlad yn deall yr amodau y mae'r gyllideb hon yn cael ei chreu ynddynt ac y bydden nhw’n bryderus ynglŷn â’r hyn y gallai hynny ei olygu iddyn nhw. Yn ffodus, trwy weithredu gyda'n gilydd fel y gwnaethom ni, rydym ni’n gwybod erbyn hyn, ac fe allwn ni roi sicrwydd am ddwy flynedd—oherwydd gofynnodd Bethan ynglŷn â sicrhau ein bod ni’n gallu cynnig mwy na blwyddyn—mae gennym ni ddwy flynedd o sicrwydd nawr i bobl yn y sector bod y gyllideb honno'n cael ei diogelu, ac o ganlyniad i'r gyllideb hon, mae £10 miliwn arall yn y ddwy flynedd ar gael i gynyddu'r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu yn y maes digartrefedd hefyd. A bydd £4 miliwn o hynny yn mynd trwy gyllideb fy nghyd-Aelod Carl Sargeant, lle bydd yn gallu gwario'r arian hwnnw gyda chymdeithasau tai a'r trydydd sector, gan ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni'n gwybod—. Mae digartrefedd yn fwy na brics a morter; mae'n ymwneud â rhoi sylw i’r anawsterau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu—o ran iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anawsterau gydag alcohol ac yn y blaen — sy’n deillio o fod yn yr amgylchiadau ofnadwy hynny. Bydd yr arian a ddarparwn, trwy Cefnogi Pobl a thrwy'r gyllideb hon, yn ein galluogi i wneud mwy i helpu pobl ar lawr gwlad. Dyna pam, pan gyfeiriodd Dawn Bowden a Joyce Watson ac Eluned Morgan i gyd at y cyfansoddiad cymdeithasol, bod yr arian yr ydym ni wedi gallu ei ddarganfod ar gyfer digartrefedd, ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, mor bwysig.

Gadewch imi yn fyr iawn, Llywydd, ddweud rhywbeth wrth Darren Millar. Mae syniadau eraill ar ein rhestr drethi; mae ardoll ar ddeunydd pecynnu bwyd cyflym ar y rhestr a amlinellais heddiw. Rwy'n siŵr, Llywydd, y tro diwethaf i mi edrych, bod pont Menai yn y gogledd-orllewin, a phe byddai wedi edrych yn ofalus ar y cytundeb â Phlaid Cymru, byddai wedi gweld ein bod wedi canfod arian i weithredu’n gynt ar yr ymrwymiad a wnaeth y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod ym mis Awst i drydedd groesfan ar draws y Fenai. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyhoeddi manylion y gyllideb ymhen tair wythnos, a bydd yn gweld wedyn y cynlluniau sydd gennym ni, ar gyfer yr amddiffynfeydd rhag llifogydd gwerth £150 miliwn ac ar gyfer gwelliannau i ffyrdd yn y gogledd.

Mae yna fwy, wrth gwrs, y gellid ei ddweud, ond rydym ni ar ddechrau proses, nid y diwedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud sylwadau ar y gyllideb y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at y cyfnod craffu a fydd yn dilyn yn awr.

5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Diolch. Ym mis Gorffennaf, derbyniais a chyhoeddais adroddiad y panel annibynnol ar eu hadolygiad o Chwaraeon Cymru, gydag ymrwymiad cadarn i ystyried yr adroddiad a'i argymhellion dros y toriad a gwneud datganiad ar ymateb y Llywodraeth yn yr hydref.

Rwy’n croesawu’r adolygiad a'i argymhellion, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r panel annibynnol a wirfoddolodd eu hamser i gwblhau'r adolygiad, ac am wneud hynny yn ddidwyll ac yn broffesiynol. Mae'r adroddiad dilynol yn fyfyrdod ar sail tystiolaeth ar swyddogaeth a phwrpas Chwaraeon Cymru, a sut mae’n cael ei ystyried gan ei randdeiliaid a'i bartneriaid. Mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Rwy'n cytuno â chanfyddiadau'r adolygiad ac rwy'n falch bod Chwaraeon Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol iddo. Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu ataf yn nodi sut y bydd y sefydliad yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau a'r argymhellion, y maent eisoes wedi dechrau gweithredu rhai ohonynt, a chyfarfûm â'r Cadeirydd yr wythnos diwethaf i drafod eu hymateb ymhellach. Rwy’n hollol hyderus y bydd Chwaraeon Cymru yn adeiladu ar sail y llwyddiant a gydnabyddir yn yr adroddiad ac yn uno'r sector chwaraeon i ddarparu buddion diriaethol a pharhaol i bobl Cymru.

Heddiw, rwy’n ymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru trwy wneud y datganiad hwn i ddarparu eglurder, diffiniad a chyfeiriad am yr hyn a ddisgwyliwn gan Chwaraeon Cymru a'r sector chwaraeon, gan gynnwys sut yr ydym yn disgwyl iddynt weithio, a sut yr ydym yn disgwyl iddynt gyfrannu at ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.

Rydyn ni'n aml yn sôn am bŵer chwaraeon i uno cenedl, ac rydym wedi bod yn ffodus i weld hyn sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Nid oes dim byd tebyg i lwyddiant chwaraeon i ddod â ni at ein gilydd a rhoi'r achos i ni ddathlu ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith. Mae chwaraeon yn meithrin talent ac yn cyflawni llwyddiant, ac mae gwylwyr a chefnogwyr yn mwynhau llwyddiant, yn ogystal â'r athletwyr a'r timau eu hunain.

Mae'r adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cydnabod yn briodol y rhan y mae'r sefydliad wedi'i chwarae wrth gefnogi athletwyr elitaidd a chyrff llywodraethu cenedlaethol i gyflawni llwyddiannau medalau i Gymru a Phrydain Fawr. Dylent gael eu canmol am hynny, ac am y cyfraniad y mae hyn yn ei wneud i'n heconomi a'n delwedd fyd-eang.

Mae chwaraeon gwerin gwlad yn cynnig cyfle i bawb fod yn egnïol ac i fwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, mae pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn fwy tebygol o fodloni’r canllawiau gweithgaredd corfforol. Ac mae pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol hefyd yn llai tebygol o ysmygu, yn fwy tebygol o fwyta pum ffrwyth a llysieuyn y dydd, ac yn llai tebygol o fod yn ordew.

Yr her sydd gennym fel cenedl, ac un na all chwaraeon yn unig fynd i'r afael â hi, yw mai dim ond traean y boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol i'r lefelau a argymhellir. Fel Llywodraeth, byddwn yn annog a chefnogi cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl fel rhan o'n dull ni o hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da. I wneud hynny, mae angen i chwaraeon barhau i chwarae ei ran ac i ddangos ei effaith. Ond, fel sawl gweithgaredd a difyrrwch hamdden arall, mae'n rhaid iddo barhau i fod yn berthnasol ac yn gydnerth. Mae'n rhaid iddo gynnig rhywbeth i bob oedran a gallu ar adegau ac mewn mannau sy'n gyfleus. Rhaid i'r cynnig fod yn ddigon hyblyg i bobl allu ei gynnwys o fewn ymrwymiadau eraill eu bywydau. Mae'n rhaid i chwaraeon gofleidio a defnyddio technoleg i ymgysylltu ac ailgysylltu pobl, ac i gynnal eu diddordeb a'u brwdfrydedd gyhyd â phosib. Mae gan Chwaraeon Cymru ran hollbwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r cynnig chwaraeon hwn, ac mae ein buddsoddiad drwy Chwaraeon Cymru yn hanfodol i les y genedl yn y dyfodol.

Dros dymor y Llywodraeth hon, byddaf yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon, trwy Chwaraeon Cymru, ond byddaf yn disgwyl i'r sector addasu, i fod yn fwy cydnerth a dangos yn well ei gyfraniad at ein nodau lles a'n hamcanion. Y blaenoriaethau yr wyf yn disgwyl i Chwaraeon Cymru ganolbwyntio arnyn nhw yw: cael mwy o bobl yn egnïol ym mhob cam yn eu bywydau—tra maen nhw yn yr ysgol, pan fyddant yn gadael addysg, pan fyddant yn cael swydd, os oes ganddyn nhw deulu eu hunain, a phan fyddan nhw’n ymddeol; darparu'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant, trwy helpu ysgolion i ddysgu sgiliau iddynt a rhoi iddynt wybodaeth, cymhelliant a hyder i fod, ac i aros, yn egnïol; buddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, lle mae amrywiadau sylweddol mewn cyfranogiad a lle mae diffyg cyfle neu ddyhead i fod yn egnïol; helpu chwaraeon i barhau i feithrin, datblygu a chefnogi talent i gyflawni llwyddiant sy'n ysbrydoli pobl ac yn atgyfnerthu ein hunaniaeth fel cenedl. Mae hyn yn cynnwys ysgolion a chyflogwyr, y cyfryngau, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Mae'n golygu gwneud y mwyaf o botensial ein strategaethau teithio egnïol. Mae'n golygu bod ein darparwyr gofal iechyd yn gwneud pob cysylltiad â phobl sy’n gleifion, a gwyddom y gall ymyriadau byr i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a chefnogi newid ymddygiad fod yn fwy cost-effeithiol na rhagnodi cyffuriau i ostwng lefelau colesterol, er enghraifft.

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro ein bwriad i weithio'n wahanol. Rydyn ni’n disgwyl i'r cyrff sector cyhoeddus yr ydym yn buddsoddi ynddynt wneud yr un peth. Rydyn ni’n disgwyl cydweithrediad yr holl asiantaethau sy'n ymwneud â hybu ffyrdd iachach o fyw, a disgwyliwn iddynt ddefnyddio adnoddau naturiol sylweddol Cymru i gynyddu gweithgarwch corfforol pobl. Cafodd Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru eu dwyn ynghyd yn bwrpasol dan un portffolio. Rwy'n disgwyl iddynt barhau i gydweithio yn y misoedd nesaf i ddatblygu blaenoriaethau a chamau gweithredu hirdymor i gyfrannu at ein cynllun gweithredu i gyflawni amcanion ein strategaeth genedlaethol.

Mae addysg yn sbardun allweddol ar gyfer newid, ac mae ei swyddogaeth yn cael ei chydnabod yn ein strategaeth genedlaethol. Mae gan ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion gynulleidfa gaeth i ddylanwadu arni, ac mae ganddynt gyfleusterau y gellir ac y dylid eu rhannu gyda'u cymunedau. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a gweithgareddau i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, ac mae eu hymrwymiad parhaus yn hanfodol. Mae eu buddsoddiadau nhw a ni mewn seilwaith yn hollbwysig os ydym eisiau ymgysylltu ac annog ffyrdd o fyw egnïol a theithio egnïol.

Dim ond un parth yn y sbectrwm gweithgaredd corfforol yw chwaraeon. Ail barth yw gweithgareddau hamddenol fel cerdded, beicio, rhedeg a nofio. Mae eraill yn cynnwys mwy o weithgareddau arferol, fel teithio egnïol i'r gwaith neu’r ysgol, a gweithgareddau megis garddio, DIY a gwaith tŷ. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion a'i adnoddau ar y meysydd chwaraeon a gweithgareddau hamddenol, er mwyn cynyddu ymhellach nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn aml ac yn rheolaidd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys pwysigrwydd gweithgaredd corfforol, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol i gefnogi'r seilwaith sy'n angenrheidiol i bobl fod yn egnïol yn gorfforol yn yr awyr agored.

Ond er mwyn cyflawni'r newid sylweddol hwnnw i leihau anghydraddoldebau iechyd a newid y duedd mewn afiechyd a marwolaethau cynnar, mae angen i bob partner weithio gyda'i gilydd. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi gofyn i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yn gyfrifol ac yn atebol ar y cyd am ddatblygu set gyfun o gamau gweithredu yn ein cynllun gweithredu 'iach ac egnïol’ a fydd yn cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol pobl, a byddant yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny. Bydd y camau gweithredu yn cael eu llunio gan y strategaeth genedlaethol a byddant yn cynnwys: mesurau cyffredin a chyson, dangosyddion perfformiad ac amcanion a rennir; eglurder swyddogaethau asiantaethau allweddol a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein hamcan polisi i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol; a meysydd a nodwyd lle bydd adnoddau ac ymyriadau yn cael eu halinio i gyflawni canlyniadau cyffredin.

Fel yn achos yr holl nodau ac amcanion ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, mae'r cyfrifoldeb dros gynyddu gweithgarwch corfforol yn gorwedd gyda ni i gyd yn y Llywodraeth. Ond byddwn ond yn cyflawni ein nodau trwy weithio ar draws portffolios, a chyda'n holl bartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Felly, heddiw rwy'n egluro fy mwriad i wneud y mwyaf o gyfraniad chwaraeon at greu cenedl sy'n egnïol yn gorfforol ac i ddarparu'r mandad ar gyfer camau ar y cyd i sicrhau cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl. Rwyf yn egluro gwerth chwaraeon i unigolion, cymunedau a'n cenedl, a byddwn yn parhau i fuddsoddi ynddo, i wneud y mwyaf o’i fanteision i ni ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, sy'n tanlinellu, byddwn i’n dweud, yr angen am weithio llawer agosach rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau difrifol gan yr adolygiad hwn ynghylch pam y caniatawyd i Chwaraeon Cymru ddatblygu i fod mor gamweithredol. Bellach, mae'n amlwg bod angen mwy o integreiddio rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn hanesyddol, nid yw hyn wedi digwydd, ac mae Chwaraeon Cymru wedi gallu gweithredu ar bellter annerbyniol heb oruchwyliaeth weinidogol ers gormod o amser, byddwn i’n dweud, ac mae hyn wedi bod ar draul aelodau’r cyhoedd y mae'n eu gwasanaethu.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa oruchwyliaeth fydd gennych chi yn y dyfodol o weithgareddau a llywodraethu Chwaraeon Cymru, a beth mae llwyddiant yn ei olygu, Weinidog? Beth yw llwyddiant? Mae eich datganiad yn cynnwys llawer o eiriau cynnes, ond nid oes unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol a dim targedau y gallwn ni, fel Aelodau'r Cynulliad, eich dal chi a Chwaraeon Cymru i gyfrif amdanynt. Argymhellodd yr adolygiad fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arweiniad ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac mae peth ansicrwydd ynghylch pa ddogfen ddylai ddarparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Chwaraeon Cymru. A allwch chi roi sylwadau, os gwelwch yn dda, ar hynny hefyd?

Cyfeiriasoch yn fyr yn unig at y ddogfen 'Ffyniant i Bawb'. A wnaiff y Gweinidog ystyried cyflwyno strategaeth wedi'i diweddaru sy'n dod â themâu 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol' a'r strategaeth chwaraeon elitaidd ynghyd i egluro cylch gwaith cyffredinol Chwaraeon Cymru?

Ar adeg pan ydym ni'n agos at waelod tablau’r gynghrair ar gyfer diabetes a gordewdra, a dim ond traean o'r boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol, mae'n amlwg bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru roi mwy o bwyslais ar ei gylch gwaith i wella chwaraeon cymunedol ac iechyd cyhoeddus yn ogystal â chanolbwyntio ar chwaraeon elitaidd. Felly, i'r perwyl hwnnw, ac o ystyried bod yr adroddiad yn nodi mai ychydig iawn o gydweithio sydd wedi bod rhwng y ddau dîm sy'n arwain ar y meysydd hyn yn Chwaraeon Cymru, pa ystyriaethau yr ydych chi wedi'u rhoi i'r argymhellion bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rhaglen chwaraeon a gweithgareddau cymunedol? Pam ydych chi'n teimlo bod un sefydliad yn well model na dau sefydliad gwahanol, un sy'n canolbwyntio ar chwaraeon cymunedol a sefydliad ar wahân i chwaraeon elitaidd? Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o gonsensws yn y Siambr hon ynghylch yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, a allai fod wedi'i lleoli yn Wrecsam, neu yn wir pam ddim y Drenewydd, fel aelod sylfaenol o Gymdeithas Pêl-droed Cymru, ond yn sicr yn y rhanbarth hwnnw o Gymru. Tybed a allech chi ddarparu unrhyw ddiweddariad ar botensial y cynnig hwn, a fyddai wrth gwrs yn helpu i hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon a chreu swyddi a chefnogi'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth hwnnw.

Yn olaf, argymhellodd y Gweinidog y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllidebau tymor hwy ar gyfer Chwaraeon Cymru, i gynnig setliadau ariannu tair blynedd i alluogi partneriaid Chwaraeon Cymru i ddatblygu eu cynlluniau busnes yn fwy effeithlon. Ydych chi wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a sut fyddwch chi'n datblygu’r argymhelliad penodol hwn?

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny. Mae'n debyg y byddaf—wel, yn sicr, ni fyddwn yn cytuno â'ch sylwadau agoriadol ynglŷn â'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Ni chredaf eu bod yn rhoi darlun teg ac yn sicr nid ydynt yn rhoi darlun teg o Chwaraeon Cymru fel sefydliad. Rwyf wedi bod yn glir o’r dechrau, gyda'r holl hanes yr ydym wedi'i gael gyda'r bwrdd ar ddiwedd y llynedd ac ar ddechrau'r flwyddyn hon, rwyf wedi bod yn glir iawn nad oedd Chwaraeon Cymru fel sefydliad ei hun erioed yn gamweithredol. Roedd y problemau yr oedd gennyf i mewn gwirionedd yn ymwneud â dull gweithio'r bwrdd, a oedd yn cyrraedd pwynt lle na allai barhau â'i waith a bod angen arweiniad newydd arno. Felly, credaf fod angen inni wahanu'r ddau fater hynny yn ofalus iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn i’r sefydliad, mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn parhau ddydd ar ôl dydd i wneud gwaith ardderchog ar hyd a lled Cymru. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng y sefydliad ei hun a gwaith y bwrdd, lle'r oedd y pryderon gennyf.

Ond ynglŷn â llywodraethu, ac eto, mae hwn yn faes yr edrychwyd arno gan y cadeirydd dros dro newydd pan ddaeth i'r swydd yn gyntaf—. Roedd yn glir iawn nad oedd ganddo bryderon ynghylch trefniadau llywodraethu na threfniadau ariannol y sefydliad. Unwaith eto, mae'r trefniadau hynny yn gadarn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn cael cyfarfodydd perfformiad rheolaidd gyda'r unigolion dan sylw yn y sefydliad o ran sicrhau bod gennym ni'r llywodraethu cryf hwnnw. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad cylch gwaith, sy'n nodi'n glir y cyfeiriad yr ydym yn disgwyl i'r sefydliad ei gymryd. Ac, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda chadeirydd a phrif weithredwr y sefydliad hefyd.

O ran y cyfeiriad strategol, fe welwch mai un o'r argymhellion allweddol ar gyfer Chwaraeon Cymru ei hun yn yr adroddiad annibynnol yw creu dull o weithredu hirdymor newydd, strategaeth hirdymor newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Dylai hynny ymateb i'r cyfeiriad a bennwyd gennym ni heddiw ac a nodwyd mewn trafodaethau blaenorol gyda'r sefydliad am fwy o bwyslais ar fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau iechyd sydd gennym yng Nghymru— anghydraddoldebau, efallai, o ran cyfleoedd i gael mynediad at chwaraeon, tra hefyd yn parhau â'r gwaith ardderchog y maen nhw’n ei wneud, ochr yn ochr â chyrff llywodraethu chwaraeon, yn ein rhoi ni ar lwyfan y byd gyda rhai o'n cyflawniadau rhagorol yr ydym wedi'u cael ar lefel elitaidd hefyd.

Mae hefyd yn bwysig bod Chwaraeon Cymru yn cynnwys rhai canlyniadau, metrigau a fframweithiau perfformiad cadarn, gydag eglurder perchnogaeth a phroses fuddsoddi dryloyw o fewn y darn hwnnw o waith. Dyna un o'r eitemau y cyfeirir atynt yn benodol yn yr adroddiad annibynnol fel camau i Chwaraeon Cymru eu datblygu hefyd.

O ran y rhaglen chwaraeon a gweithgareddau cymunedol, rydyn ni'n cynnal rhai trafodaethau ar hyn o bryd gyda Chwaraeon Cymru o ran sut y byddem yn bwrw ymlaen â hynny, gan edrych ar y ddarpariaeth yn fwy rhanbarthol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y gwahanol bartneriaethau sy'n bodoli yn ein cymunedau. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda'r sefydliad i ddod â'r trafodaethau hyn, debygwn i, i ben, gan fy mod yn sylweddoli bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod yn gwneud cynnydd arno ar hyn o bryd hefyd. Felly, byddwn yn gobeithio gallu dweud mwy ar hynny yn y dyfodol agos hefyd.

O ran yr awgrym a ddylai fod gennym ddau sefydliad ai peidio, sef un sefydliad yn canolbwyntio ar chwaraeon gwerin gwlad a sefydliad arall sy'n canolbwyntio ar chwaraeon elitaidd, rwy'n gwybod bod hynny’n rhywbeth sydd wedi'i drafod a'i ystyried dros gyfnod o amser nawr, a dyma un o'r materion yr edrychodd y panel adolygu annibynnol arno. Eu hargymhelliad cryf a chlir oedd, mewn gwirionedd, na ddylid gwahanu’r chwaraeon elitaidd a'r chwaraeon gwerin gwlad o ran lle y maent o fewn sefydliad. Rwy'n credu mai un o'r rhesymau dros hynny yw ei bod yn bwysig cael y llwybrau llawr gwlad hynny i fyny at chwaraeon elitaidd hefyd, er mwyn cynnal llinell glir rhwng adnabod talentau ar lawr gwlad ac yna sicrhau bod cyfle i’r bobl hyn fynd ymlaen a'n gwneud ni'n falch iawn ohonyn nhw ar y llwyfan rhyngwladol hefyd.

Yr amgueddfa genedlaethol, ie, mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo iddo, a gallaf gadarnhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros economi yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar hyn o bryd hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n ateb yr holl gwestiynau.

Yn amlwg ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd cael ein cynnig chwaraeon yn iawn yng Nghymru. Nid yn unig mae hyn yn wir o ran lles cenedlaethol a dathlu ein treftadaeth ac yn y blaen, fel y dywed y Gweinidog, ond yn bwysicach fyth mae’n ffordd o sicrhau ein bod yn bobl iachach. Ac wrth i ni edrych ymlaen at ffurfio'r strategaeth gordewdra gyntaf i Gymru—mae'n deillio o ganlyniad i'n gwelliant i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)— rydym yn gwybod bod yn rhaid cael pobl sy’n egnïol yn gorfforol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau a thynnu sylw at bethau nad ydynt yn y datganiad, os caf. Yn gyntaf, os caf ofyn i'r Gweinidog roi sylwadau ar yr hyn a ddisgwylir gan Chwaraeon Cymru nawr o ran mynd i'r afael â nifer o anghydraddoldebau. Anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn chwaraeon fel yr un cyntaf: yr angen i fwy o ferched gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a beth ddylai Chwaraeon Cymru ei wneud yn ei gylch, er enghraifft, cyllid teg; sicrhau cyfleusterau diogel; herio stereoteipiau. Gellid dweud yr un peth am anableddau. Ni chredaf fy mod wedi clywed yr hyn a ddisgwylir yn awr gan Chwaraeon Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yno. Hefyd, mynd i'r afael â hiliaeth: yn sicr mae rhwystr yn dal i fodoli o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yw anghyfartaledd, rwy’n credu, ond yn cael ei grybwyll yng nghyd-destun gofyn i Chwaraeon Cymru fuddsoddi adnoddau lle mae eu hangen fwyaf o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, ond mae enghreifftiau eraill o anghydraddoldebau—rhai yr wyf wedi'u crybwyll yma. Hefyd, mae anghydraddoldebau a gaiff eu hachosi gan godi tâl am gyfleusterau. Felly, efallai y gallwn ofyn am sylwadau ynghylch y modd o leihau'r costau hynny, lle mae’n bosibl.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru weithio gydag ystod eang o bartneriaid: ysgolion, cyflogwyr, teithio egnïol, y trydydd sector ac yn y blaen. Sut ydym ni'n sicrhau, fodd bynnag, fod hynny'n arwain at ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon? Nid yw’n ymwneud yn unig â chynnal cyfarfodydd rhwng y cyrff hynny. Pwy fydd yn sicrhau bod y partneriaethau newydd hyn mewn gwirionedd yn arwain at fwy yn digwydd yn y rheng flaen, fel petai? Ac er mai gorau i gyd po fwyaf o bartneriaid sydd gennym yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth o gyfleoedd chwaraeon, ble mae atebolrwydd yn gorwedd os yw pawb i gymryd mwy o gyfrifoldeb? Ac, yn olaf, mae chwaraeon yn rhy aml yn dioddef o orfod tynhau llinynnau’r pwrs ar lefel llywodraeth leol, ac wrth gwrs, rwyf yn cydymdeimlo â chynghorau sy'n ceisio cael dau ben llinyn ynghyd. Ond tybed pa fesurau yr ydych chi'n ymchwilio iddynt i helpu awdurdodau lleol i wneud buddsoddiadau mewn amserau anodd, er enghraifft, drwy sicrhau bod cronfeydd ychwanegol, efallai, ar gael lle mae cyfleusterau chwaraeon presennol yn cael eu diogelu at ddefnydd cymunedau lleol.

Iawn, diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Roeddwn yn falch iawn o allu gweithio gyda Phlaid Cymru i gynnwys y gwelliant hwnnw yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 o ran cyflwyno strategaeth gordewdra genedlaethol i Gymru. Rwy'n falch o'ch hysbysu chi hefyd ei fod yn un o feysydd y Bil yr wyf yn ei ystyried yn flaenoriaeth. Felly, bydd yn un o Rannau'r Bil yr wyf yn awyddus iawn i roi dyddiad gorchymyn cychwyn cynnar iawn iddi hefyd. Felly, rwy'n blaenoriaethu'r rhan benodol honno o'r Bil.

O ran menywod a merched, mae Chwaraeon Cymru yn parhau i dargedu buddsoddi mewn cyfleoedd i fenywod a merched, yn enwedig trwy’r rhaglen Galw am Weithredu, ac maent wedi buddsoddi tua £1.5 miliwn yn benodol mewn prosiectau i wella cyfranogiad gan fenywod. Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld ym mis Awst eu bod yn lansio Ein Carfan. Ymgyrch yw hon sy'n anelu at ddathlu menywod a merched egnïol o bob cwr o Gymru, a chyfeirio cyfranogwyr newydd at gyfleoedd newydd hefyd. Mae'r ymgyrch honno hefyd yn ymwneud â herio rhai o'r stereoteipiau ynghylch menywod mewn chwaraeon, a pha fath o chwaraeon sy'n chwaraeon addas i fenywod ac yn y blaen. Mae'n ymwneud â rhoi modelau rôl i fenywod a gweledigaeth iddyn nhw weld eu hunain mewn ffordd wahanol mewn cyd-destun chwaraeon hefyd.

Un o'r prosiectau sy'n mynd i'r afael â phroblemau cynnwys mwy o fenywod, ond hefyd menywod yn benodol mewn cymunedau mwy difreintiedig, yw mudiad Us Girls Wales, a sefydlwyd gan GemauStryd Cymru ac a ariannwyd gan Chwaraeon Cymru. Mae hynny'n parhau i wella cyfranogiad menywod ifanc mewn chwaraeon yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ledled Cymru. Unwaith eto, mae honno’n rhaglen wirioneddol gadarnhaol hefyd.

Fel y dywedais yn y datganiad, nid yw’r cyfan ar gyfer Chwaraeon Cymru. Mewn gwirionedd, credaf fod gan y cyrff llywodraethu chwaraeon a chymdeithasau chwaraeon eraill ran wirioneddol bwysig a pharhaus i'w chwarae yn hyn hefyd. Gwn fod Undeb Rygbi Cymru, er enghraifft, yn gwneud rhywfaint o waith da i geisio annog mwy o ferched i feddwl am ddechrau chwarae rygbi. Yn yr un modd, mewn pêl-droed hefyd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud gwaith gwych i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mewn gwirionedd, mae'r gêm yn tyfu'n gyflymach ar gyfer menywod a merched yng Nghymru ar hyn o bryd nag ar gyfer bechgyn, felly rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol gadarnhaol hefyd.

O ran anableddau a rhan Chwaraeon Cymru yno, rwy'n falch iawn fy mod wedi cyhoeddi'n ddiweddar mai is-gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru yw Pippa Britton. Mae Pippa Britton hefyd yn gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru, felly mae hynny’n gysylltiad agos iawn rhwng y ddau sefydliad. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cefnogi dros 1 miliwn o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, ac mae ganddynt 17,500 o aelodau sy'n mynychu dros 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru. Ond mae eu hethos gwirioneddol yn ymwneud â chwaraeon cynhwysol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, o ran sicrhau bod yr holl gyfleoedd chwaraeon yn agored i bobl ag anableddau hefyd. Felly, nid yw'n ymwneud â chael clybiau penodol, yn hytrach mae'n ymwneud â chael ethos gwirioneddol gynhwysol hefyd. Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd oddeutu 5,000 o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi pobl ifanc i ymgymryd â chwaraeon yn y gymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr i’w ganmol hefyd.

O ran cyfleusterau, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi cyfle i awdurdodau lleol ddatblygu eu cyfleusterau. Rydym yn gwneud hyn gan wybod bod pobl yn gweithredu mewn cyfnod ariannol cyfyngedig iawn. Felly, mae ein cynllun benthyciadau cyfalaf di-log wedi cynhyrchu buddsoddiad o dros £5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden eleni yng Nghonwy, Wrecsam a Chaerdydd. Mae hyn yn un enghraifft o'r ffyrdd arloesol yr ydym yn ceisio cynnal a gwella ein seilwaith cyfleuster ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn yr un modd, trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ein buddsoddiad mewn ysgolion mewn gwirionedd yn fuddsoddiad yn y gymuned ehangach hefyd. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw yno ar ôl oriau ysgol i glybiau ar ôl ysgol ac i oedolion yn y gymuned eu defnyddio hefyd. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan gymdeithas pêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, o ran eu grŵp cydweithio trydedd genhedlaeth. Maent wedi buddsoddi, rhyngddynt, fwy na £2 filiwn mewn cyfleusterau chwaraeon ysgol. Felly, er gwaethaf adeg o gyni cynyddol, mae buddsoddi da yn digwydd mewn cyfleusterau.

Fe wyddoch hefyd fod Ken Skates wedi gofyn am adolygiad cyfleusterau—felly, gan edrych ar y cyfleusterau sydd gennym ar lefel elitaidd yng Nghymru—er mwyn ceisio denu digwyddiadau mawr amlwg i Gymru yn y dyfodol, oherwydd rydym yn sicr yn cael enw da a rhagorol am gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau.

Weinidog, rwy’n falch iawn o gyfeiriad y daith a'ch datganiad chi heddiw. Yng Nghasnewydd, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddod â gweithgareddau hamdden, chwaraeon, iechyd, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, clybiau chwaraeon proffesiynol a chwaraeon gwerin gwlad at ei gilydd. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd i geisio cael poblogaeth leol fwy egnïol ac i geisio mynd i'r afael â'r agenda iechyd ac ansawdd bywyd ehangach a gynigir gan chwaraeon. Rwy'n credu bod angen ail-ganolbwyntio ymdrechion Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru tuag at yr agenda ehangach honno, oherwydd mae gennym lawer o heriau iechyd. Rwy'n credu y byddai llawer yn cydnabod, os ydym yn dymuno bod ar y blaen gydag iechyd a chael agenda fwy ataliol, yna dyma'r union bolisïau a strategaeth y mae angen inni eu hystyried a'u dilyn. Felly, rwy'n falch iawn o hynny.

Tybed a allech chi ddweud ychydig am sut y gallai Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac eraill annog mentrau lleol fel yr un sy'n digwydd yng Nghasnewydd, boed hynny drwy ddatblygiadau newydd fel bondiau lles neu unrhyw gyfle arall, i edrych ar arferion da a’u cefnogi a gobeithio wedyn eu cyflwyno ymhellach i ffwrdd. Tybed a fyddech hefyd yn cydnabod mentrau fel yr un gan Newport Live, sy'n bartner gweithredol a chryf iawn yn y datblygiad lleol hwnnw yng Nghasnewydd, fel yr ymddiriedolaeth sy’n datblygu gwasanaethau hamdden. Yn ddiweddar, maent wedi lansio menter nofio, Draig Dŵr, yr aeth Jayne, Jessica Morden, yr AS dros Ddwyrain Casnewydd, a minnau iddo yr wythnos ddiwethaf. Mae'n rhaglen i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn nofio, ac yna symud ymlaen a gosod targedau iddynt eu hunain, er mwyn elwa ar hyfforddiant ac awgrymiadau i wella eu techneg ac i fonitro a hwyluso'r cynnydd hwnnw. Dyna un o nifer o fentrau y mae Newport Live yn eu datblygu ar hyn o bryd, sy'n ei wneud yn bartner gweithredol a chryf iawn yn y fenter leol honno.

Tybed hefyd a fyddech yn cytuno bod y gweithgareddau rhedeg mewn parciau ledled Cymru (y “park runs”) yn enghraifft gref iawn o sut y gallwch ddefnyddio technegau ymgysylltu, megis gwefannau, a chaniatáu i bobl fonitro eu cynnydd trwy amseru eu gweithgareddau rhedeg, a chael ystod o weithgaredd cymdeithasol, a sut y gallem efallai edrych ar y model hwnnw ar gyfer rhedeg a gweld a fyddai’n addas i weithgaredd corfforol arall, a fyddai'n ein helpu ni i gael y boblogaeth fwy egnïol yr ydym am ei gweld.

Ynghylch teithio egnïol, Weinidog, tybed a allech chi ddweud ychydig am sut yr ydych chi'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod teithio egnïol yn effeithiol ac yn gwireddu’r agenda hon. Roeddwn yn falch iawn eich clywed yn sôn amdano yn eich datganiad cychwynnol.

Yn olaf, ar ysgolion cymunedol, rwyf wedi credu ers amser y dylai ysgolion cymunedol fod ar gael at ddefnydd mwy cyffredinol ledled Cymru. Pe byddent, credaf y byddai'n haws i ni gael y boblogaeth leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a gwneud y cynnydd yr hoffem ei weld. Felly, unwaith eto, tybed a allech chi roi syniad inni o sut yr ydych chi'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion cymunedol ar gael ledled Cymru yn drefn arferol yn hytrach nag arfer da.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Ar ôl eich clywed yn siarad yn flaenorol gyda chymaint o angerdd am Newport Live a'r potensial yno a beth y mae eisoes yn ei gyflawni, roeddwn yn falch iawn o fynd yno i weld drosof fy hunan yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Gwnaed cymaint o argraff arnaf ag y disgwyliais ar ôl eich clywed chi yn siarad amdanyn nhw. Ar yr un pryd, ar yr un ochr, cawsom bobl yn hyfforddi ar lefel elitaidd a hefyd cawsom grwpiau o blant ysgol yn gwneud gweithgareddau a dysgu am fwyta'n iach ac yn y blaen. Felly, roedd y sbectrwm cyfan ar un safle. Roedd yn ysbrydoledig a chyffrous iawn. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog ardaloedd eraill i edrych arno a dysgu o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Newport Live oherwydd mae’n gyffrous iawn.

Soniasoch am fondiau lles a dyma un o'n hymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Rydym yn datblygu'r syniadau ar hyn o bryd ar gyfer bondiau lles ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gwn eich bod yn awyddus i Newport Live ei drafod, i weld yr hyn y gallwn ni ei ddysgu ganddyn nhw wrth inni ddechrau datblygu hynny. Mae gwahanol fodelau yr ydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, gallem fod yn edrych ar fenthyciadau, er enghraifft, neu fodelau talu yn ôl canlyniad. Mae gwahanol fodelau ar gael, ond ar yr un pryd, nid oes unrhyw rai sefydlog a sefydledig y gwyddom yn bendant y byddant yn gwneud y gwaith yr ydym yn ei ddymuno. Felly, rwy'n cadw meddwl agored wrth inni ddatblygu bondiau lles Cymru.

Y gweithgareddau rhedeg mewn parciau, y “park runs”, rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am y rhain oherwydd, unwaith eto, maent yn dod â phobl o bob lefel o brofiad at ei gilydd: mae pobl a oedd yn anweithgar yn flaenorol yn mynd yno oherwydd ei fod yn ddigwyddiad mewn parc, mae'n amgylchedd hwyliog, hysbys, lleol gyda phobl groesawgar ac yn y blaen, a hefyd mae’n denu pobl sy’n gallu rhedeg 5, 10, 20 cilomedr heb golli unrhyw chwys. Felly, mae'n dod â phobl o bob gallu at ei gilydd ac rwy'n croesawu hynny. Enghraifft dda arall fyddai'r grwpiau beicio Breeze i fenywod. Maent yn dod â menywod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel, yn ddechreuwyr yn aml, sy’n cymryd y cam cyntaf hwnnw i wneud gweithgaredd corfforol, ac mae hynny'n enghraifft wych arall o waith sydd eisoes yn digwydd ar hyd a lled Cymru.

Teithio egnïol: mae hyn yn hynod bwysig o ran creu seilwaith ar gyfer gweithgaredd corfforol, oherwydd credaf fod dwy ochr i hyn. Mae’n creu neu roi ysbrydoliaeth i bobl, ond yna hefyd mae’n rhoi cyfle i bobl, ac ochr seilwaith y cyfle. Bydd ein mapiau rhwydwaith integredig yn cael eu cyflwyno gan bob un o'r awdurdodau lleol i Lywodraeth Cymru erbyn mis Tachwedd eleni, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda nhw. Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu atyn nhw i bwysleisio'r pwynt eto yn weddol ddiweddar, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i'r mapiau rhwydwaith integredig hynny fod yn ymwneud â theithio'n egnïol yn hytrach na dyheadau ar fwy o lwybrau hamdden yn y dyfodol, oherwydd, os ydym eisiau newid y ffordd yr ydym yn symud a'n bod yn ymgymryd â’n teithiau a'n siwrneiau byr, yna, mae'n rhaid i ni fod yn canolbwyntio yn amlwg iawn ar lwybrau teithio egnïol.

O ran ein gwaith ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio asedau ein hysgolion a beth y gallwn ni ei wneud yn ystod y diwrnod ysgol i annog plant i fod yn fwy egnïol hefyd. Rydym wedi cael llwyddiant da iawn o ran y filltir ddyddiol. Nawr, mae miloedd ar filoedd o blant Cymru yn gwneud y filltir ddyddiol bob dydd. Gwyddom fod hyn yn cael effaith ragorol ar ymddygiad plant yn yr ysgol, ar eu sylw yn y dosbarth ac yn y blaen. Mae'r athrawon yn caru hyn; mae rhieni'n caru hyn. Dywed y rhieni, 'Pe na fyddech chi’n gwneud y filltir ddyddiol yn yr ysgol, byddem ni'n ei gwneud beth bynnag nawr gan fy mod wedi gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fy mhlentyn i o ran sut mae’n dysgu yn yr ysgol hefyd.’ Felly, mae llawer o syniadau arloesol yn digwydd ar hyn o bryd ac awydd gwirioneddol i weithio ar draws y Llywodraeth ar yr agenda bwysig hon.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn amlwg, cafwyd rhai problemau yn ymwneud â rhedeg Chwaraeon Cymru, y cyfeiriodd Russell George atynt yn gynharach, ac nid ydym ni, fel Aelodau, yn meddu ar yr wybodaeth fewnol i ddeall popeth a oedd yn ymwneud â hyn. Ond ymddengys i mi fod rhan o'r broblem gyda'r sefydliad yn y flwyddyn ddiwethaf fwy na thebyg wedi bod yn ymwneud â'i gylch gwaith. Nawr, gwnaethom gyffwrdd â hyn yn gynharach heddiw, ond byddaf yn mynd dros ychydig o'r pwyntiau a wnaed. Yn draddodiadol, roedd Chwaraeon Cymru yn tueddu i arbenigo ar elitaidd chwaraeon a dim ond yn fwy diweddar y rhoddwyd unrhyw fath o gyfrifoldeb arno i oruchwylio chwaraeon gwerin gwlad. Ymddengys i mi, er y gall fod yn syniad da grwpio'r ddau sector gyda'i gilydd, yn ymarferol maen nhw’n wahanol iawn, a gall hyn achosi problemau i sefydliad fel Chwaraeon Cymru.

Nawr, roedd peth tystiolaeth yn yr adolygiad annibynnol fod rhai rhanddeiliaid o'r farn bod Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu chwaraeon elitaidd ar draul lefel llawr gwlad. Fy nghwestiwn cyntaf oedd: o ystyried y sefyllfa honno, a oeddech chi'n dal yn credu ei bod yn ymarferol cael un sefydliad sy'n cynrychioli'r lefelau elitaidd a llawr gwlad? Rwy'n credu eich bod wedi ateb hynny, i fod yn deg, yn eich ymateb eithaf cryf i gwestiynau Russell George. Ond, o ystyried y syniad hwn gan randdeiliaid bod y flaenoriaeth yn tueddu i gael ei roi ar lefel elitaidd, sut allwn ni oresgyn hyn? A sut allwch chi sicrhau y rhoddir yr un ystyriaeth i lefel llawr gwlad â'r lefel elitaidd? Os oes anghydfodau o ran gwariant, o ran adnoddau, sut mae hynny'n cael ei ddatrys? Nawr, soniasoch yn eich ymateb i Russell fod angen inni greu llwybr i bawb at chwaraeon elitaidd. Ac oes, wrth gwrs, rhaid i'r athletwyr elitaidd ddechrau yn rhywle. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, efallai mai'r plant fydd yn y pen draw yn cyrraedd y lefel elitaidd fydd y rhai sy'n dod o deuluoedd sydd eisoes â diddordeb brwd mewn datblygu gweithgareddau chwaraeon eu plant. Ond yr hyn y mae'n rhaid inni ei sicrhau yw ein bod yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar weithgareddau corfforol cyffredin o blith gweddill y boblogaeth neu, fel y dywed rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru, gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol dinasyddion Cymru yn y grwpiau hynny sydd â lefelau gweithgaredd corfforol isel iawn ar hyn o bryd.

Yn awr, siaradodd John Griffiths am y gweithgareddau rhedeg mewn parciau, y “park runs”, a chredaf mai dyna'r math o weithgaredd yn union y dylem fod yn ei annog. Felly rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi gan eich sylwadau cefnogol, a gobeithio, yn y dyfodol, y bydd mentrau fel y “park run”, os oes angen cymorth ariannol arnyn nhw, gobeithio y gallant ei gael, er, yn achos y “park run”, rwy’n tybio efallai mai'r un peth nad oes arnynt angen llawer ohono yw cymorth ariannol. Ond gyda phethau fel teithio egnïol, yn sicr bydd angen help gydag adnoddau.

Mae hyn yn dod â ni at fater y gwahaniaeth rhwng chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Mae siarter brenhinol 1972, a sefydlodd y corff a oedd yn rhagflaenu Chwaraeon Cymru, yn amlwg yn defnyddio'r term 'chwaraeon a gweithgareddau corfforol'. Ond dim ond weithiau y mae dogfennau diweddarach sy'n gysylltiedig â Chwaraeon Cymru wedi defnyddio'r ddau derm. Weithiau, maen nhw'n sôn am chwaraeon yn unig mewn cysylltiad â Chwaraeon Cymru, ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at weithgareddau corfforol. Nawr, dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu:

Mae'r anghysondeb hwn yn ddryslyd iawn i bartneriaid Chwaraeon Cymru, a honnodd rhai ohonynt fod y sefydliad yn "newidiol" a bod diffyg pwrpas eglur. Mae yr un mor ddryslyd i staff Chwaraeon Cymru.

Felly, fy nghwestiwn nesaf yw: a yw'r Gweinidog o'r farn bod staff Chwaraeon Cymru yn cael arweiniad digon clir gan eu rhiant-gorff ar beth yw eu cylch gwaith? Ac a oes angen i Lywodraeth Cymru egluro rhywfaint ar y sefyllfa? Mae mater arall hefyd, sef y bwlch rhwng chwaraeon ac iechyd. Y perygl yw y gallai'r dull hollgynhwysol adael ymdrechion gorau Chwaraeon Cymru yn disgyn yn y bwlch rhwng chwaraeon ac iechyd.

Yn awr, y bwriad a nodwyd yn 2015 oedd datblygu strategaeth newydd sy'n sicrhau bod mesurau Chwaraeon Cymru yn cyd-fynd â chanllawiau gweithgarwch corfforol y prif swyddog meddygol. Fodd bynnag, gan ddyfynnu eto o'r adroddiad,

er gwaethaf cyflwyno Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Chydffederasiwn y GIG, ychydig iawn o gynnydd a wnaed i sefydlu llwyfan ... rhwng y sectorau chwaraeon ac iechyd.

Yn awr, gwelaf, yn natganiad y Gweinidog heddiw, ei bod yn sôn am Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r syniad o gydweithio tuag at dargedau ar y cyd. Ond, dim ond i egluro'r pwynt hwnnw, a yw'r Gweinidog o'r farn bod angen i Lywodraeth Cymru roi rhagor o wybodaeth inni ynghylch sut yn union y dylai chwaraeon ac iechyd ryngweithio? A pha gorff y mae'r Gweinidog yn credu a ddylai fod yn arwain o ran ymchwilio a goruchwylio gweithgarwch corfforol—Chwaraeon Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu eich bod yn iawn yn yr ystyr bod yr adolygiad ei hun yn cydnabod bod peth gwaith i Chwaraeon Cymru ei wneud o ran ei berthynas â rhanddeiliaid a sut mae’n rheoli'r perthnasoedd hynny.  Felly, un o'r argymhellion ar gyfer Chwaraeon Cymru yn yr adolygiad oedd iddo ystyried sut mae'n rheoli'r perthnasoedd hynny gyda'r cyrff llywodraethu cenedlaethol ac awdurdodau lleol fel bod lefel y gwirio a'r her yn gymesur a chytbwys â darparu cyngor a gwerth ychwanegol. Felly, gobeithio, bydd hynny'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny o ran dealltwriaeth o swyddogaeth Chwaraeon Cymru a sut mae'n ymwneud â'i bartneriaid.

Rwy’n hoffi hefyd yr argymhelliad yn yr adroddiad sy'n awgrymu ei fod yn ystyried mabwysiadu perthynas ffurfiol gydag addysg bellach ac addysg uwch ar gyfer casglu gwybodaeth, comisiynu ymchwil, a thrafod meysydd ar gyfer cydweithredu hefyd. Rwy'n credu bod hwnnw’n gam cadarnhaol iawn hefyd.

Rwy'n cytuno: dylai chwaraeon fod yn rhywbeth i bawb. Felly, ni ddylem gael sefyllfa lle mai dim ond y rheini sydd wedi cael cefnogaeth o oedran ifanc iawn gan rieni sy’n hoffi chwaraeon ac sy'n cael eu harwain i ddilyn chwaraeon penodol, sy'n gallu manteisio ar yr holl wybodaeth a'r llwybrau sydd ar gael. Mewn gwirionedd, dylai fod yn rhywbeth i bawb. Felly, pan fo talent ifanc wedi'i nodi, boed hynny yn yr ysgol neu mewn clwb lleol, er enghraifft, dylai'r llwybrau fod yno i’w dilyn os ydyn nhw eisiau hynny, ac os oes ganddyn nhw’r sgiliau a'r awydd i wneud hynny, yr holl ffordd at y llwybr elitaidd hefyd. Ac mae gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol y llwybrau cryf, cadarn hynny ar waith hefyd. Felly, y nod, mewn gwirionedd, yw sicrhau, wrth i ni gael mwy o bobl yn fwy egnïol, fod cyfle i’r bobl hynny hefyd gael y cyfle i ddringo’r ysgol os dymunant.

O ran y diffiniad, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi peth eglurder yn y datganiad heddiw ein bod yn sôn am chwaraeon a gweithgaredd corfforol, felly gweithgaredd egnïol hefyd. Nid wyf yn disgwyl i chwaraeon na Chwaraeon Cymru allu dechrau cael pobl yn egnïol, sydd ar hyn o bryd yn byw bywydau ar eu heistedd yn gyfan gwbl. Ni chredaf fod hynny’n ddisgwyliad teg iddyn nhw, neu hyd yn oed yn realistig nac yn gyraeddadwy. Y swyddogaeth a welaf i yno yw swyddogaeth sylweddol iawn ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG yn ehangach, gan edrych ar swyddogaeth cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd o fewn y byrddau iechyd ac yn y blaen. Rwy'n credu bod swyddogaethau yno, gan ddefnyddio'r ymyriadau byr hynny ac yn y blaen, i gael sgyrsiau a fydd yn arwain pobl ar hyd cam cyntaf y daith honno.

Felly, rwy'n gobeithio bod swyddogaeth glir, debygwn i, ar gyfer Chwaraeon Cymru. Ond, o ran y llwyfan y cyfeiriasoch atoch rhwng chwaraeon a'r sectorau iechyd sydd angen bod yn llawer cliriach yn y dyfodol, credaf mai'r pwrpas y tu ôl i'r ymateb heddiw, mewn gwirionedd, oedd gorchymyn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i weithio’n agosach at ei gilydd yn y dyfodol. Felly, byddent yn cydweithio i lywio ein strategaeth 'iach ac egnïol’ o ran y camau sydd angen eu cymryd a phwy fydd yn eu cymryd, a beth yw’r canlyniadau a ddisgwyliwn ni ganddynt hefyd.

Cefais gyfle i gwrdd â chadeirydd newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe, ac achubais ar y cyfle hwnnw i bwysleisio pwysigrwydd swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran cynyddu gweithgaredd corfforol, yn enwedig ymhlith y rheini sydd bellaf oddi wrth weithgaredd corfforol ar hyn o bryd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am roi’r newyddion diweddaraf i ni heddiw. Mae gennyf ychydig o bwyntiau a chwestiynau i'w codi mewn cysylltiad â'ch datganiad heddiw, yr adolygiad, a rhai materion ehangach hefyd. Yn eich datganiad, rydych chi'n iawn i gydnabod swyddogaeth llwyddiant chwaraeon i uno a chyffroi'r genedl, ac mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod y rhan y mae Chwaraeon Cymru wedi'i chwarae wrth gefnogi a meithrin ein hyfforddeion elitaidd a'n helpu ni i ddod â llwyddiannau medal yn ôl adref. Wrth gwrs, dylem fod yn awyddus i adeiladu a dylem adeiladu ar hyn. Ond mae angen i Chwaraeon Cymru hefyd gyrraedd cymunedau ledled y wlad, fel yr ydym wedi bod yn trafod heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n cael y cymorth a'r cyfle hwnnw i gael mynediad at wasanaethau, yn ogystal â buddsoddi, nid yn unig yn y brifddinas a’r de. Yn aml, bydd llawer o bobl yn fy ardal i yn cael anhawster i gael mynediad at y cyfleoedd hynny sydd yng Nghaerdydd, nid dim ond oherwydd y pellter daearyddol; nid ydych yn mynd i deithio tair awr a hanner am sesiwn hyfforddi o awr neu beth bynnag, ac mae rhwystrau cost amlwg yn gysylltiedig â hynny. Gwn ei bod yn eithaf hawdd teithio i gael manteisio ar gyfleusterau yng ngogledd orllewin Lloegr, ond credaf fod cyfleoedd i edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r gwasanaethau hynny sydd eisoes yn y gogledd-ddwyrain, ac efallai, ymhellach ymlaen, i weld buddsoddiad pellach i alluogi cyfleoedd a chefnogi pobl iau yn arbennig yn y rhanbarth.

Weinidog, mae'r adolygiad yn cyfeirio at Chwaraeon Cymru—. Croesawaf y sylwadau heddiw o ran edrych ar y ddarpariaeth yn y rhanbarthau, a gobeithio y gellid ystyried y pryderon hynny yn rhan o hynny. Mae'r adolygiad yn cyfeirio at fenter chwaraeon yn y gogledd, a sut mae’r cynlluniau wedi’u gohirio ar hyn o bryd. Tybed a oes unrhyw ddiweddariad ar hynny ac, yn amlwg, os ydych chi'n cytuno â mi fod angen inni sicrhau cyfle cyfartal ar draws y wlad.

Rwyf hefyd yn falch o weld pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol, y trydydd sector, a chyfleusterau addysg, yn enwedig gan gynnwys mwy o gysylltiadau ag ysgolion. Gwn ichi ddweud, mewn ymateb blaenorol, sut yr ydym yn buddsoddi mewn ysgolion ac yn annog cydweithredu. Rwy'n ymwybodol bod rhywfaint o anesmwythyd dealladwy weithiau ar ran ysgolion o ran agor eu cyfleusterau i'r gymuned. Tybed pa swyddogaeth sydd ar gael i Chwaraeon Cymru neu gyrff tebyg eraill wrth weithredu fel hwylusydd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r materion hynny mewn gwirionedd. A tybed a allwn ni ddod o hyd i ffyrdd o rannu arfer gorau pan fo hynny’n llwyddiannus a lle, yn y pen draw, y gallai fod o fudd i ysgolion os gallant godi refeniw o agor eu cyfleusterau hefyd.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf o bell ffordd, crybwyllodd Rhun ap Iorwerth fater cydraddoldeb rhywiol mewn chwaraeon, a chredaf fy mod yn dymuno codi a phwysleisio heddiw y rhan sydd gan Chwaraeon Cymru a chyrff chwaraeon cenedlaethol eraill yng Nghymru i sicrhau bod mwy o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond hefyd roi cydnabyddiaeth, triniaeth, a chydraddoldeb cefnogaeth gyfartal i chwaraeon menywod yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir, drosodd a throsodd, nad ar gyfer bechgyn yn unig y mae chwaraeon, ac nid yw chwaraeon elitaidd yn ymwneud â thimau dynion yn unig. Er fy mod yn cydnabod bod llu o fentrau ac ymgyrchoedd i gael mwy o ferched a menywod yn egnïol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon, cyfyng fydd effaith hyn os nad oes gennym y gwelededd hwnnw i anelu ato ar y cam cyhoeddus. Ni all merched ifanc anelu i fod yn chwaraewyr rygbi cenedlaethol i Gymru neu fod yn chwaraewyr pêl-droed elitaidd os nad oes ganddyn nhw—chi'n gwybod, os na allan nhw weld bod hynny'n ddyhead cyraeddadwy iddyn nhw un dydd.  Mae'n 2017 ac rwy'n siŵr y cytunwch, Weinidog, fod angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn darparu llwyfan, llwyfan gwell, i fenywod, a gwell cefnogaeth i chwaraeon menywod yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Cyfeiriasoch yn benodol at bwysigrwydd cael y cymysgedd iawn o gyfleusterau yn y rhannau iawn o Gymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae adolygiad cyfleusterau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn edrych arno, o ran yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru eisoes, ond hefyd ymhle mae angen i'r buddsoddiad fod yn y dyfodol er mwyn denu'r digwyddiadau mawr hynny, a hefyd i gael y seilwaith cywir ar gyfer cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl o fewn ein cymunedau amrywiol yng Nghymru. Cytunaf fod angen inni wneud cynnydd ar y dull rhanbarthol hwnnw. Felly dyma un o'r blaenoriaethau yr wyf i a fy swyddogion yn eu datblygu mewn partneriaeth â chadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru o ran dod â'r darn hwnnw o waith i derfyn. Credaf fod yma lawer o gyfleoedd i ni. Felly, credaf fod angen inni symud ymlaen i edrych ar y dull rhanbarthol hwnnw a'r hyn y gallwn ei wneud orau yno, oherwydd gwn fod y partneriaid yn lleol yn awyddus iawn i gydweithio, a chredaf fod hynny ynddo'i hun yn wir yn arwydd cadarnhaol.

Byddwn yn annog pob ysgol i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud i agor eu cyfleusterau y tu allan i oriau craidd ar gyfer y gymuned. Fel y dywedwch, mae yna gyfleoedd, yn sicr, i sicrhau eu bod yn cefnogi gweithgaredd corfforol y gymuned yn ehangach. Rwy'n credu, weithiau, mai’r broblem yw efallai bod llywodraethwyr ysgol ychydig yn rhy ofalus. Felly, credaf y gall Llywodraeth Cymru, a sefydliadau chwaraeon hefyd, anfon neges atyn nhw fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu ac y byddem yn disgwyl i ysgolion ei wneud fel rhan o'u swyddogaeth wrth wraidd eu cymunedau.

Byddaf yn sicr yn ymuno â chi yn llwyr i ddathlu llwyddiant ein merched mewn chwaraeon, ar bob lefel. Rwy'n cytuno â chi bod angen iddynt gael y clod a’r parch a’r bri am eu cyflawniadau yn yr un modd ag y byddem yn edmygu dynion am eu cyflawniadau nhw mewn chwaraeon. Felly, mae angen inni fod yn gweithio ar hynny fel unigolion, gan ddathlu'r llwyddiannau yr ydym yn eu gweld yn lleol, ond hefyd annog y cyfryngau i barhau i hyrwyddo menywod mewn chwaraeon.

6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rhaglen dileu TB buchol. Galwaf ar Lesley Griffiths i gyflwyno ei datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn cofio fy natganiad ym mis Mehefin pan amlinellais fy nghynlluniau i wella'r rhaglen dileu TB yng Nghymru, ac ar 1 Hydref dechreuwyd gweithio mewn ffordd well er mwyn dileu TB—ffordd a fu’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dileu'r clefyd hwn, neu sydd ymhell ar eu ffordd at wneud hynny.

Mae'r ffordd ranbarthol hon o weithio tuag at ddileu clefydau, trwy greu ardaloedd lle mae lefelau TB isel, canolraddol ac uchel ledled Cymru, yn ein galluogi i ymdrin yn wahanol ac yn gymesur â'r clefyd ym mhob un o'n hardaloedd TB mewn modd sydd wedi'i dargedu, yn dibynnu ar y risgiau a'r sbardunau lleol sy'n gysylltiedig â chlefydau. Mae'r ffordd hon o weithio hefyd yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar amddiffyn ac ehangu'r ardal TB isel a lleihau clefydau a lleihau maint yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.

Ym mis Mehefin, lansiais ein rhaglen dileu TB ddiwygiedig a’n cynllun cyflawni cyntaf, sy'n rhoi manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a gaiff eu defnyddio ym mhob rhanbarth o'r wythnos hon ymlaen. Mae pawb sy’n cadw gwartheg yng Nghymru wedi cael llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am yr ardal TB lle mae eu fferm wedi'i lleoli, ac mae fy swyddogion wedi ymgymryd â rhaglen lawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ffermwyr, milfeddygon, arwerthwyr a gwerthwyr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Trwy'r dull rhanbarthol o ddileu TB, rydym ni wedi sefydlu ardal TB isel. Mae dadansoddiad epidemiolegol o ddata gwyliadwriaeth yn dangos bod y mwyafrif, os nad pob un, o’r achosion o TB yn yr ardal TB isel yn deillio o haint heb ei ddarganfod yn cael ei gyflwyno trwy symud gwartheg o ardaloedd eraill. Mae'r dystiolaeth hon o glefyd nad yw'n endemig yn yr ardal TB isel yn golygu ein bod erbyn hyn mewn sefyllfa i newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â phrofi. Un o'r prif newidiadau yw dileu'r gofyniad i brofi gwartheg cyn eu symud o fewn neu o’r ardal TB isel. Mae profion cyn symud wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2006 ac mae'n parhau i fod yn ddull gwerthfawr yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel o adnabod haint cyn iddo ymledu.

Fodd bynnag, rydym ni wedi cyflwyno profion ar gyfer gwartheg ar ôl eu symud o ardal clefyd uwch. Rydym ni’n cydnabod nad yw unrhyw brawf TB yn berffaith, felly mae cyflwyno prawf ychwanegol ar y fferm yn y pen draw yn darparu sicrwydd dwbl o statws TB y gwartheg sy'n cael eu symud i'r ardal TB isel. Byddwn yn monitro ac yn adolygu llwyddiant y polisi hwn cyn ystyried a yw'n briodol ehangu ei gyflwyniad i'r ardal TB canolraddol y flwyddyn nesaf.

Mae unedau pesgi eithriedig yng Nghymru yn cael eu dileu yn raddol ar hyn o bryd oherwydd y nifer cymharol uchel o achosion o TB yn y math hwn o weithredu a'r risg gynhenid ​​o ledaenu clefydau. Er mwyn taflu goleuni ar y newid hwn, mae oddeutu 20 o unedau pesgi eithriedig sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a chysylltwyd â phob gweithredwr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Er mwyn amddiffyn Llywodraeth Cymru rhag cost yr anifeiliaid sydd â’r gwerth mwyaf, cyflwynwyd terfyn uchaf o £5,000 ar iawndal TB sy'n daladwy am bob anifail. Bydd cyfran yr anifeiliaid y bydd y newid hwn yn effeithio arnyn nhw yn fach. Y llynedd, o’r holl wartheg a brisiwyd at ddibenion TB, dim ond 68 o anifeiliaid—llai nag 1 y cant—oedd â gwerth yn fwy na £5,000. Pe bai’r terfyn uchaf wedi bod ar waith y llynedd, byddai arbedion o ychydig llai na £200,000 wedi'u gwneud—arbediad sy'n bwysig yng nghyd-destun colli arian yr Undeb Ewropeaidd ar ôl 2018.

Mae darparu a rhoi cynlluniau gweithredu pwrpasol ar waith ar gyfer achosion mynych o TB sy'n para 18 mis neu fwy yn parhau. Mae'r rhain yn cael eu llunio, mewn ymgynghoriad â'r ffermwr, gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a milfeddyg preifat y ffermwr, yn ôl cais y ffermwr. Cytunwyd ar oddeutu 40 o gynlluniau gweithredu hyd yn hyn, ac mae rhagor yn cael eu hychwanegu bob mis. Ar yr un pryd, mae’r cyfyngiad ar rai achosion mynych o TB mewn buchesi yn cael ei godi ac maen nhw’n dod i ffwrdd o’r rhestr. Fodd bynnag, ar unrhyw adeg, mae rhwng 50 a 60 o achosion mynych o TB yn agored ac mae'r rhain yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.

Drwy broses y cynllun gweithredu, mae cyfres o fesurau yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i glirio heintiau. Mae'r rhain yn cynnwys profion TB mwy sensitif, dileu adweithyddion amhendant, a’i gwneud yn ofynnol i gynnal prawf TB ychwanegol cyn caniatáu i wartheg gael eu symud ar ôl codi’r cyfyngiadau. Gellir hefyd cyflwyno hysbysiad o ofyniad bioddiogelwch er mwyn codi safonau bioddiogelwch ar fferm i'r lefel ofynnol er mwyn lliniaru afiechydon mynych.

Mewn rhai achosion mynych o TB pan yr ystyrir bod moch daear yn cyfrannu at fynychder y clefyd yn y fuches, bydd y cynlluniau gweithredu yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â’r trywydd hwn o’r haint. Yn dilyn arolygon o frochfeydd, bydd y mesurau hyn yn cynnwys dal a phrofi moch daear ar y fferm lle mae’r achos o TB a lladd moch daear mewn modd gwaraidd os oes TB arnyn nhw. Bydd moch daear nad oes TB arnyn nhw yn cael eu rhyddhau ar ôl i ficrosglodyn gael ei osod, a bydd gwaed yn cael ei dynnu i gynnal rhagor o brofion.

Rwyf wedi parhau i fonitro sefyllfa'r frechlyn moch daear yn ofalus, gan fy mod i’n credu bod brechu moch daear yn chwarae rhan yn ein rhaglen dileu TB. Pan fydd y sefyllfa gyflenwi ar gyfer pobl wedi ei datrys ac y gallaf fod yn siŵr y gallwn ni gael brechlynnau o ffynhonnell foesegol, byddaf i’n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r brechlynnau yn rhan o'n rhaglen dileu TB.

Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw dileu’r achosion hirsefydlog hyn o TB, mae rhai ohonyn nhw wedi bod dan gyfyngiadau ers 16 mlynedd neu fwy. Ar gyfartaledd, cost profi’r buchesi hyn a’r iawndal ar gyfer gwartheg a gaiff eu difa yw £179,000 ar gyfer pob buches. Byddwn ni’n monitro effeithiau'r holl fesurau hyn yn fanwl ac yn ceisio bod mewn sefyllfa i adolygu ffiniau'r ardaloedd TB pan fydd gennym ni’r set ddata lawn o'r flwyddyn galendr ar gyfer 2018.

Mae’r gwaith modelu a gosod targedau yn parhau. Dylai fod adroddiad ar y gwaith hwn ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwn yn sefydlu targed dileu ffurfiol ar gyfer Cymru gyfan a cherrig milltir interim ar gyfer pob un o'r ardaloedd TB. Ochr yn ochr â'r gwelliannau hyn, mae'r drefn o brofi buchesi yn flynyddol am TB yn parhau ledled Cymru. Mae gennym ni bron i wyth mlynedd o ddata profion blynyddol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae'r lefel uchel hon o oruchwyliaeth weithgar yn darparu sicrwydd diamau o statws TB gwirioneddol y buchesi gwartheg yng Nghymru, ac mae 95 y cant o'n buchesi gwartheg yn rhydd rhag TB.

Er mwyn ychwanegu at ein gwybodaeth am TB buchol mewn moch daear a mathau eraill o fywyd gwyllt allai gludo’r haint, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr arolwg Cymru gyfan o 'foch daear marw' yn parhau, yn dilyn ymarfer caffael llwyddiannus. Dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn i Ganolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru, ac mae ei gwmpas wedi'i ehangu i gynnwys casglu a chynnal archwiliad ar ôl lladd ar unrhyw rywogaethau bywyd gwyllt eraill yn ogystal â moch daear.

Mae'r ystadegau TB yn parhau i fod yn galonogol. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 40 y cant ers 2009, y lefel isaf ers 12 mlynedd. Er yr ymddengys fod y duedd hon wedi sefydlogi ar hyn o bryd, gellir disgwyl cyfnodau sefydlog yn rhan o'r patrwm hirdymor cyffredinol. Dyna pam yr ydym ni wedi gwella ein rhaglen i barhau i ostwng lefelau’r clefyd.

Hoffwn i ddiolch i'r diwydiant ffermio, a'r proffesiwn milfeddygol a rhanddeiliaid eraill am eu cydweithrediad a'u hymgysylltiad parhaus wrth i’n rhaglen ddatblygu a gwneud cynnydd tuag at ein nod yn y pen draw o weld Cymru sy’n rhydd rhag TB.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Ar gyfer y cofnod, hoffwn i, unwaith eto, nodi bod TB buchol wedi effeithio ar fferm fy rhieni yng nghyfraith yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth gwrs, mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod y gwaith ar fodelu a gosod targedau yn parhau, ac rwy’n croesawu’r ffaith y bydd targedau mwy ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn hon. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y targedau hyn yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r diwydiant amaethyddol i sicrhau eu bod yn gymesur ac yn gadarn.

Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer cynigion Llywodraeth Cymru i ddechrau dileu’r clefyd hwn o'r boblogaeth bywyd gwyllt. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach yn dechrau cymryd y cam anodd hwnnw ymlaen trwy gael gwared â moch daear heintiedig yn ogystal â gwartheg heintiedig. Wrth gwrs, o ystyried sensitifrwydd y mater hwn, ar gyfer tirfeddianwyr a Llywodraeth Cymru, rwy'n deall, a hynny’n iawn hefyd, na fydd unrhyw wybodaeth benodol yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Fodd bynnag, efallai y gallai roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae hi’n bwriadu monitro'r trefniadau hyn i sicrhau bod y broses hon yn digwydd mor esmwyth â phosibl. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n asesu effeithiolrwydd y polisi hwn, fel bod y rheolaethau sydd wedi’u targedu yn cael eu gweithredu'n briodol.

Nawr, wrth gwrs, mae ffordd ranbarthol o weithio wrthi’n cael ei gweithredu, ac mae'n hollbwysig nad yw'r ffordd hon o weithio yn arwain yn anuniongyrchol at fwy o faich a biwrocratiaeth i ffermwyr. Mae'n hollbwysig nad yw'r dull rhanbarthol yn rhwystro unrhyw ymdrechion i gyflawni'r bargeinion masnach gorau posibl ar gyfer diwydiannau cig coch a llaeth Cymru, a’i bod yn sicrhau nad oes effaith negyddol ar fasnach ddomestig rhwng Cymru a Lloegr. Yn wir, wrth ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â hyn cyn y toriad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod ei swyddogion yn sicr wedi siarad â DEFRA ac wedi cynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y mae'r trafodaethau hynny'n datblygu, a pha gamau y mae hi wedi eu cytuno arnynt â Llywodraeth y DU.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yn ddiweddar gan ffermwyr yn fy ardal fy hun ynglŷn â’r effaith negyddol y gallai'r rheolaethau newydd ei chael ar fridwyr pedigri mewn ardaloedd lle mae cyfraddau TB yn uchel. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant pedigri yn benodol, sy'n pryderu y gallai'r ffordd ranbarthol o weithio ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw fasnachu yn y dyfodol.

Wrth gwrs, un o nodau tymor hwy Llywodraeth Cymru, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru, yw datblygu cynllun prynu ar sail gwybodaeth. Yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet cyn y toriad, cadarnhaodd mai cynllun gorfodol oedd yr unig ffordd ymlaen, a'i bod hi wedi gofyn i swyddogion edrych ar gynllun gorfodol. Nawr, gan nad yw'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gynllun prynu ar sail gwybodaeth, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn parhau i fod ar agenda Llywodraeth Cymru ac, felly, a wnaiff hi ddweud wrthym yn union beth y mae ei swyddogion wedi ei wneud i ddatblygu cynllun gorfodol?

Cadarnhaodd y cynllun cyflawni dileu TB y byddai terfyn uchaf yr iawndal yn cael ei ostwng i £5,000. Mae hyn bellach wedi'i gyflwyno yn ystod y dyddiau diwethaf, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach o ffermydd yn unig. Mewn ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â’r pwnc hwn yn ystod ei datganiad blaenorol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n annog pobl sydd o’r farn bod ganddynt wartheg mwy gwerthfawr i ystyried yswiriant. Fodd bynnag, dywed cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru fod pryderon na fyddai yswiriant yn ddewis ymarferol oherwydd cost y premiymau. Felly, er fy mod i’n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach iawn o ffermwyr yn unig, mae pryderon, yn naturiol, am y ffermwyr yr effeithir arnyn nhw gan achosion sylweddol o’r clefyd na allan nhw gael yswiriant ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u prisio yn fwy na £5,000. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n cefnogi'r ffermwyr hynny fel bod effaith y cynnig hwn mor fach â phosibl.

Agwedd arall ar y rhaglen dileu TB yw datblygu pecyn bioddiogelwch safonol, ar-lein. Mae'n hollbwysig bod y pecyn hwn yn cael ei ddatblygu gyda'r diwydiant i sicrhau ei fod yn ddigon hyblyg i ystyried amgylchiadau unigol, y gwahanol risgiau, a’r hyn sy’n sbarduno’r clefyd ym mhob ardal TB. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn nodi pwysigrwydd bioddiogelwch ar y fferm i liniaru mynychder y clefyd. Fodd bynnag, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni felly rhywfaint yn fwy am sut y bydd yn sicrhau bod unrhyw becyn bioddiogelwch ar y fferm yn berthnasol i anghenion unigol? A wnaiff hi ddweud wrthym ni rhywfaint yn fwy am sut y bydd y diwydiannau amaethyddol a milfeddygol yn ymwneud â datblygu unrhyw becynnau bioddiogelwch ar-lein?

Felly, i gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, am ei datganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i, unwaith eto, gofnodi fy nghefnogaeth lwyr i gynigion Llywodraeth Cymru? Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant amaethyddol i ddileu TB buchol er mwyn amddiffyn pa mor gynaliadwy a chystadleuol yw’r diwydiant ar gyfer y dyfodol, yn arbennig wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.

Diolch i Paul Davies am y sylwadau, am groesawu'r datganiad, ac am ei gwestiynau. Rydych chi'n hollol gywir, rhaid i ni weithio'n agos iawn gyda'r diwydiant, gyda'r undebau ffermio, gyda'r milfeddygon, gyda'r ffermwyr unigol nad ydyn nhw’n aelodau o undebau ffermio, a chyda'r holl randdeiliaid hefyd. Rwyf yn awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau mai dyna yn hollol yw’r ffordd yr ydym ni wedi dynesu at hyn. Fe wyddoch chi y bu nifer o sioeau amaethyddol dros yr haf—mi wnes i bob tro fanteisio ar y cyfle i siarad â phobl am ein rhaglen ddileu ddiwygiedig, ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae fy swyddogion yn sicr wedi trafod yn ddwys â'n rhanddeiliaid ac â'r sector yn ystod yr haf cyn y dyddiad dechrau ar 1 Hydref.

O ran eich cwestiynau penodol, fe wnaethoch chi ofyn ynglŷn â thargedau, a dywedais fy mod i’n gobeithio bod mewn sefyllfa, yn sicr erbyn diwedd eleni, i gyflwyno targed, ac yn sicr wrth i swyddogion ddatblygu hyn, rydym ni’n ystyried a fyddai’n fuddiol cael targedau interim. Rydych chi’n gofyn pa gamau y cytunwyd arnyn nhw gyda DEFRA. Wel, fel y dywedais o'r blaen, nid wyf i wedi cael trafodaethau penodol â DEFRA ynglŷn â hyn. Mae hyn yn amlwg yn fater i ni, felly nid wyf i wedi cytuno ar unrhyw gamau penodol gyda DEFRA, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn trafod y rhaglenni. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol bod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori erbyn hyn—mae un o'r materion yn ymwneud â lleihau’r iawndal a rhoi terfynau uchaf ar iawndaliadau fel yr ydym ninnau wedi’i wneud yma yng Nghymru. Felly, mae'r trafodaethau hynny yn parhau, ond nid oes gennyf unrhyw gamau y cytunwyd arnyn nhw oherwydd, fel y dywedais i, mae hyn yn fater i ni.

Fe wnaethoch chi sôn am brynu ar sail gwybodaeth. Yn hollol, dyna'r bwriad o hyd—i gyflwyno cynllun prynu gorfodol ar sail gwybodaeth. Mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, bod ffermwyr yn arddangos gwybodaeth am TB ar adeg y gwerthu, a byddwch chi’n ymwybodol ein bod wedi rhoi arian i farchnadoedd da byw, er enghraifft, ond nid wyf i’n fodlon o hyd bod yr wybodaeth honno ar gael pob tro. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod ein holl farchnadoedd da byw yn gwella eu cyfleusterau. Fel yr wyf wedi’i ddweud, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer gwneud hynny, ac mae angen darparu mwy o wybodaeth i werthwyr. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â grymuso ffermwyr fel y gallan nhw wneud y penderfyniadau prynu hynny ar sail gwybodaeth wrth symud ymlaen. Felly, ydy, yn sicr, hynny yw ein bwriad ni o hyd.

Fe wnaethoch chi ofyn hefyd am ffermwyr pedigri yn eich etholaeth chi ac ynglŷn â’u hamheuon, o fod mewn ardal TB uchel. Rwy'n deall yn llwyr yr amheuon sydd gan nifer o ffermwyr ynglŷn â bod mewn ardal TB uchel, ac yn sicr pan ddes i sioe Penfro roedd hynny yn un o’r materion y trafodais i. Ond rwy'n hyderus iawn y bydd y ffordd hon o fynd ati yn ein galluogi i gyflymu’r cynnydd, a dyna'r neges yr wyf i wedi’i rhoi i'r sector. Rwyf i’n wirioneddol awyddus i leihau nifer yr achosion a difrifoldeb pob achos, fel yr ydych chithau wedi’i ddweud hefyd.

Roedd eich cwestiwn olaf, rwy’n credu, yn ymwneud â bioddiogelwch, a byddwch chi’n cofio y daeth y rhaglen ddileu ddiwygiedig hon i fodolaeth yn sgil ein gwaith ymgynghori. Yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, rhoddais i dasg i swyddogion ddatblygu pecyn bioddiogelwch safonol ar-lein, a oedd yn ychwanegu mewn gwirionedd at y gwaith blaenorol a wnaed yn y maes hwn. Felly, mae nifer o offer bioddiogelwch ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd. Yr hyn yr wyf i’n dymuno ei wneud yw mynd ati o ddifrif i safoni'r cyngor, oherwydd nid wyf i’n credu ein bod ni eisiau—. Fe wnaethoch chi sôn am fiwrocratiaeth, ac rydym ni’n dymuno yn fawr iawn gwneud y broses mor syml â phosibl, a chael gwared ar y cymhlethdod hwnnw. Felly, yr hyn yr wyf i’n wirioneddol dymuno ei gael yw un pecyn cynhwysfawr ar gyfer bioddiogelwch i alluogi ffermwyr i asesu eu risgiau clefyd yn llawn ac yna eu lliniaru yn briodol.

A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i’n croesawu’r datganiad sydd yn cadarnhau beth sydd ar waith erbyn hyn, ac yn sgil y datganiad blaenorol gan y Gweinidog, sydd wedi cael cefnogaeth hefyd yn gyffredinol gan Blaid Cymru. Wrth gwrs, at ei galon, yr hyn y mae’r materion hyn yn ymwneud ag ef yw iechyd y cyhoedd ar yr un llaw, a lles anifeiliaid ar y llaw arall. Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen trin lles anifeiliaid—y gwartheg sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gymaint â lles moch daear. Ac yn ogystal â mynd i’r afael ag anifeiliaid sydd wedi’u heintio, beth bynnag yw rhywogaeth yr anifail hwnnw, rydym yn croesawu’r camau sydd wedi’u cymryd yn y datganiad yma ac yn gobeithio y bydd hefyd yn gweithredu, i ryw raddau, i godi’r cysgod sydd dros y diwydiant ar hyn o bryd. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod nifer y buchesi sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gostwng, yn sicr mae’r effaith mewn nifer o rannau o Gymru yn drwm iawn.

Nid wyf am ailadrodd cwestiynau Paul Davies—mae e wedi gofyn y rhan fwyaf o’r cwestiynau roeddwn i’n mynd i ofyn—felly, fe wnaf jest ddweud fy mod i hefyd yn croesawu eich atebion i’r cwestiynau ynglŷn â phryniant doeth, fel mae’n cael ei adnabod, rwy’n meddwl, yn Gymraeg, y farchnad fewnol, a beth sy’n digwydd rhwng buchesi pedigri yn ogystal.

Roedd un cwestiwn rwy’n credu i Paul Davies ofyn, ac roeddwn i am ofyn, na chawsoch chi gyfle i’w ateb, ac efallai y byddech yn ateb i fi, sef: er ein bod ni wrth gwrs yn cydnabod na fyddem ni eisiau gwybodaeth i ddod allan ynglŷn â lle efallai y mae gweithredu ymysg bywyd gwyllt yn digwydd, sut y gallwn ni fod yn siŵr, nid yn unig ei fod yn cael ei fonitro ac yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf llesol, os caf i ddweud e fel hynny, neu fwyaf ‘humane’, ond ein bod ni hefyd yn deall a ydy e’n gweithio ac a ydy e wedi helpu i ostwng y dicáu yn y parthau hynny ac ar y ffermydd penodol hynny lle mae eich datganiad yn dweud ei fod wedi bod yn gronig am gyfnod hir iawn?

Os felly, fe wnaf jest symud ymlaen at ddau neu dri chwestiwn newydd. Mae un ohonyn nhw’n troi o gwmpas y ffaith eich bod chi wedi dweud yn glir mai un o’r rhesymau dros gyflwyno cap oedd i wneud arbedion. Roeddech yn sôn bod yr arbedion yna yn rhyw £200,000 y flwyddyn, sydd yn codi’r cwestiwn: beth sy’n digwydd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydym ni’n gwybod am y dyddiadau hynny. Rydym ni’n gwybod yn iawn beth yw’r dyddiad. Nid ydym yn gwybod pa fath o fasnachu fydd yn digwydd, ond yn y cyd-destun yma, ni fyddwn bellach yn rhan o gytundeb yr Undeb Ewropeaidd. A fyddech chi’n gallu cadarnhau heddiw y byddwch chi yn cadw gwariant y Llywodraeth ar y clefyd yma ar y lefel bresennol, o leiaf tan ddiwedd y Cynulliad hwn, fel bod hynny’n gyrru neges gywir i’r diwydiant eich bod chi am gydweithio gyda nhw a bod y cap, os liciwch chi, yn werth y pris i dalu, gan y bydd arian yn dal i gael ei wario i leihau a chael gwared ar y clefyd yma?

Yr ail gwestiwn sydd hefyd yn codi, wrth groesawu’r ffaith eich bod chi wedi ehangu’r profi sydd yn digwydd ar anifeiliaid marw, yw bod yna ambell i sôn yn y cyd-destun Cymreig am gyflwyno rhywogaeth newydd i gefn gwlad Cymru. Mae’r afanc wedi cael ei grybwyll sawl gwaith ac rwy’n deall bod cynlluniau eithaf penodol nawr i gyflwyno afanc i rannau yng nghanolbarth Cymru. Mae’r afanc, yn ôl beth rwy’n deall, yn gallu cario’r clefyd hwn, felly pa gamau a pha sicrwydd fedrwch chi ei roi yn y cyd-destun yma na fydd unrhyw rywogaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gefn gwlad a all ledaenu’r clefyd yma?

Rwy’n gobeithio y bydd ffermwyr a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y rhaglen ar ei newydd wedd yn llwyddiannus. Rwy’n gobeithio’n fawr y gwelwn ni leihad yn nifer y buchesi ond hefyd yn y ffordd y mae’r clefyd yma’n cael ei wasgaru mewn rhannau poeth, fel maen nhw’n cael eu galw, yng Nghymru. Rwyf jest am ofyn pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych a yw’r parthau sydd gyda chi, y tri pharth gwahanol yng Nghymru, yn gwneud y job a pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych ar hyn i weld a ydy’r cynllun yma’n llwyddo ai peidio?

Diolch, Simon Thomas, am groesawu'r datganiad ac am eich cwestiynau. Rydych chi'n iawn, mae’n fater o iechyd y cyhoedd yn ogystal â lles anifeiliaid. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn rhannu'r nod hwnnw o fod yn rhydd rhag TB. Dyna pam, oherwydd y sefydlogi hynny—roeddem ni’n gwybod ei fod ar y ffordd—roedd yn bwysig iawn ein bod yn adnewyddu'r rhaglen TB.

O ran eich cwestiwn penodol, rydych chi'n iawn, mi wnes i anghofio ateb cwestiynau Paul Davies ynghylch monitro. Felly, byddwch chi’n ymwybodol, mewn cysylltiad â dal moch daear, bod hynny ond yn digwydd yn yr achosion hynny o fuchesau sydd ag achos cronig o TB. Soniais fod rhwng 50 a 60 buches o’r fath, felly mae'r cynlluniau gweithredu hynny yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Rwyf i wedi gofyn i'r cynlluniau gweithredu hynny gael eu monitro. Soniais am y milfeddyg, ac yn amlwg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Fe hoffwn i adrodd yn flynyddol, yn ôl pob tebyg, ynglŷn â sut y mae hyn yn datblygu. Felly, bydd blwyddyn yn mynd heibio, mewn gwirionedd, cyn imi allu adrodd mewn modd sylweddol a fyddai'n fuddiol.

O ran y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a grybwyllwyd gennych chi hefyd, a chan Paul Davies, fel yr wyf i wedi’i ddweud, rydym ni’n bwriadu cyflwyno cynllun prynu gorfodol ar sail gwybodaeth. A'r rheswm yr ydym ni’n gwneud hynny yw oherwydd ei fod wedi cyfrannu'n sylweddol at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd ac roeddwn i’n ffodus iawn i siarad â rhywun o Seland Newydd ynglŷn â hyn. Rydych chi’n iawn, ni fyddwn yn adrodd pa ffermydd sydd â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol oherwydd, yn amlwg, mae mater o ddiogelwch yn ei gylch, ond fel yr wyf wedi’i ddweud, byddaf i’n adrodd, yn sicr—fy mwriad yw gwneud hynny yn flynyddol.

O ran y terfyn uchaf ar yr iawndal, rwyf wedi ymrwymo i dalu swm iawndal rhesymol ar gyfer lladd gwartheg oherwydd TB, ond mae'n fwy hanfodol erbyn hyn ein bod ni'n edrych ar ba arian y gallwn ni ei arbed, oherwydd rydych chi’n iawn, nid ydym ni’n gwybod ble mae'r arian hwnnw. Felly, yn sicr, fy mwriad i fyddai parhau i ariannu ar y lefel yr ydym ni ar hyn o bryd, ond rydych chi’n sylweddoli bod cyllidebau'n cael eu llunio yn flynyddol a bydd yn rhaid i ni ystyried hynny. Ond nid yw'n ymwneud ag arbed arian, mae'n ymwneud â dileu TB, ac rwy’n pryderu bod gorbrisio yn cynyddu'r gost i'r trethdalwr, ac rwyf wir yn dymuno osgoi hynny. Ac wrth gymharu ein taliadau iawndal cyfartalog, maen nhw 60 y cant yn uwch o’u cymharu â Lloegr, ac nid wyf i’n credu bod hynny’n dderbyniol.

Fe wnaethoch chi sôn am ddyfrgwn ac afancod: fe glywais i hefyd dros doriad yr haf eu bod yn ystyried cyflwyno afancod yng Nghymru, ond y tro diwethaf i mi wirio, ni fu unrhyw geisiadau am drwyddedau, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried, yn amlwg, os yw hynny yn digwydd. A soniais y bydd yr arolwg o foch daear marw yn cynnwys rhywogaethau eraill bellach, a byddwn i’n annog yr holl Aelodau i wneud yn siŵr bod y rhif ffôn hwnnw—nid yw ef gen i wrth law; mae yma rhywle—ar gael i bawb, ac os byddan nhw’n dod o hyd i fochyn daear marw, eu bod yn rhoi gwybod amdano.

Rwyf i hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at welliant sylweddol, yn arbennig yn yr achosion hynny o fuchesi ag achosion cronig, sydd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae rhai ohonyn nhw—neu un ohonyn nhw, wedi bod yn y cyflwr hwnnw ers 2001. Mae'n gwbl annerbyniol ar gynifer o wahanol lefelau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda ni i ddatblygu rhaglen ddileu ddiwygiedig.

Wel, gallaf i fod hyd yn oed yn fwy cryno na Simon Thomas, o ystyried bod llai o gwestiynau heb eu hateb erbyn i chi ddod ataf i. Ond rwy'n croesawu'r datganiad, ac fe hoffwn i hefyd gofnodi fy marn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn adeiladol iawn yn y ffordd y mae hi wedi datblygu polisi yn y maes hwn ac mae'r gymuned ffermio yn gwerthfawrogi’n fawr y natur agored y mae wedi ei dangos a'i pharodrwydd i wrando ac ymgysylltu â nhw mewn trafodaethau ymarferol ynglŷn ag ymdrin â'r afiechyd ofnadwy hwn. Mae yr un mor bwysig i'r gymuned ffermio ac, yn wir, y wlad gyfan, y dylid ymdrin â hyn fel yr ymdriniwyd â BSE bryd hynny. Yn sicr, o ran y dyfodol, a photensial marchnata cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru, bydd ymdrin â TB a'i ddileu, cyn belled ag y gallwn ni, yn hanfodol yn y byd ar ôl Brexit. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy marn i ar hynny.

I'r perwyl hwnnw, er fy mod yn credu'n gryf, fel y gŵyr hi, mewn rheoleiddio cymesur, mae’r newid yn y rheoliadau sy’n ymwneud â phrofion cyn symud mewn ardaloedd TB isel yn rhywbeth y mae angen ei adolygu yn barhaus, ac fe hoffwn i wybod a fydd hynny'n digwydd. Fe hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes ynglŷn ag iawndal i ffermwyr ar gyfer anifeiliaid sydd gwerth mwy na £5,000, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddweud bod yr iawndal ar gyfartaledd 60 y cant yn fwy nag yn Lloegr—fe glywais i Llyr Gruffydd yn dweud ychydig yn ôl bod hynny oherwydd bod gennym ni wartheg sydd 60 y cant yn well. Nid wyf i’n gwybod a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ond serch hynny, yn amlwg, nid ydym ni eisiau talu’n fwy na’r angen am wartheg, ond serch hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod incwm ffermydd o dan bwysau eithafol ac mae hyn yn gosod cost wirioneddol ar bobl yn y byd go iawn. Felly, rwy'n gobeithio, unwaith eto, y bydd hi’n parhau i adolygu hynny.

Un o'r problemau mawr, wrth gwrs, yw anifeiliaid y gwyllt, oddi ar ffermydd sydd wedi eu heintio. Rwyf i’n cydnabod y cam sylweddol y mae hi wedi'i gymryd, ac mae’n rhaid, yn iaith briodol Syr Humphrey, yr ystyrid hynny yn ddewr, i benderfynu difa hyn a hyn o foch daear ble maent i’w canfod gyda’r haint arnyn nhw, ac i wneud hynny mewn modd gwaraidd. Mae hynny yn gam ymlaen arwyddocaol iawn mewn egwyddor, ac, yn fy marn i, mae hi’n haeddu ein llongyfarchiadau am hynny.

O ran brechu moch daear, tybed a yw hi'n cytuno â mi nad yw hyn mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn gam ymarferol i ddileu'r clefyd hwn. Rydym ni i gyd yn cofio pan oedd y brechlynnau ar gael, roedd y gost am bob mochyn daear a frechwyd yn rhyfeddol: cymaint â, rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, rhywbeth fel £1,000. Felly, mae'n ddrud iawn ac mae poblogaeth y moch daear yn anodd ei monitro, felly rwy'n credu mai gam gwag yw meddwl os bydd y brechlyn erioed ar gael eto mewn niferoedd sylweddol, y bydd hynny’n ateb i'r clefyd hwn.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â swyddogaeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r gofyniad, felly, i gael dau filfeddyg ar y fferm i archwilio anifeiliaid. Fe wn i fod hwn yn gam ymlaen mewn sawl ffordd, ond mae hyn yn gost ychwanegol i’r ffermwr. Mae'n debygol y bydd ei filfeddyg ei hun yn adnabod ei fferm a'i anifeiliaid ei hun yn well na milfeddyg yr Asiantaeth, tybed felly, er mwyn cynorthwyo, a allai’r Llywodraeth dalu am gost milfeddyg yr Asiantaeth hefyd.

Un pwynt arall yr hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd yn ei gylch yw fy mod i’n gwybod na all Ysgrifennydd y Cabinet roi union amseroedd i ni, ac fe wn i y cyflwynwyd rheolaethau uwch ar gyfer gwartheg yr hydref hwn, ond a all hi gadarnhau y bydd y broses o ddal a phrofi moch daear hefyd yn digwydd ar yr un pryd yr hydref hwn, yn unol â'r rheolaethau ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar ffermwyr Cymru? Mae'r diwydiant ffermio wedi dweud na allai dderbyn rhagor o reolaethau ar wartheg heb fod hynny’n digwydd ar yr un pryd, ac rwy’n gobeithio ei bod hi’n gallu rhoi sicrwydd i mi heddiw fod hynny'n debygol.

Diolch, Neil Hamilton, am y cwestiynau hynny. Mae'n debyg mai'r ateb byr i un neu ddau o'r cwestiynau hynny yw y byddwn ni’n adolygu’r rhaglen gyfan yn barhaus—yn ei adolygu’n gyson. Fel yr wyf wedi’i ddweud, rwyf i wedi ymrwymo i adrodd i'r Cynulliad ar ein cynnydd. Fe wnaethoch chi ofyn am ychydig o bwyntiau ac a fyddem ni’n adolygu pethau penodol yn barhaus. Yr ateb yw ein bod yn adolygu’r rhaglen gyfan yn barhaus.

Fe wnaethoch chi sôn am y profion cyn symud yn yr ardal TB isel. Rwy'n credu bod hynny yn arf pwysig ac effeithiol iawn wrth gadw afiechydon rhag ymledu i fuchesi sy’n rhydd rhag TB. Rwy’n credu, os gallwn ni ddatgan bod y gogledd-orllewin yn rhydd rhag TB, byddai hynny'n rhoi hwb mawr i bawb. Rydym ni o fewn cyrraedd gallu gwneud hynny, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n amddiffyn yr ardal honno fel hyn. Rwy'n credu bod angen i geidwaid anifeiliaid gymryd perchnogaeth o ddifrif o sefyllfa'r afiechyd, fel y gallwn ni ddiogelu statws ffafriol yr ardal honno yn wirioneddol.

O ran iawndal, byddwch chi wedi clywed fy atebion cynharach. Fel yr wyf wedi’i ddweud, braf yw gweld nawr bod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori ar hynny hefyd. Rwyf i'n annog ffermwyr, os ydyn nhw o’r farn bod ganddyn nhw wartheg gwerth mwy na £5,000, i chwilio am yswiriant. Rwy'n gwybod ei fod yn faes yswiriant eithaf newydd, ond mae ar gael.

O ran dal moch daear, nid ydym yn eu difa, nid yw’n broses ddifa gyfyngedig. Rwy'n credu y byddai'n dda i boblogaeth y moch daear os byddwn ni’n dileu—. Os oes TB ar fochyn daear, pam fyddech chi eisiau ei gadw yno? Soniais yn fy natganiad agoriadol ynglŷn â sut y byddai hynny'n digwydd—y bydden nhw’n cael eu profi ac y byddai microsglodyn yn cael ei osod ynddyn nhw, a byddai gwaed yn cael ei brofi eto hefyd. Felly, rwy'n credu ei fod yn dda i boblogaeth y moch daear yn ogystal â gwartheg, yn amlwg.

Mae'r brechlyn yn chwarae rhan, yn fy marn i. Nid wyf i’n credu y byddai unrhyw fesur unigol gennym ni yn dileu TB—rwy'n credu ei bod yn ymwneud â chyfres gyfan o fesurau. Rwyf yn credu, fel yr wyf wedi’i ddweud, bod y brechlyn yn chwarae rhan. Os bydd ar gael yn y ffordd yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, byddaf i’n sicr yn ei ystyried yn rhan o'r rhaglen ddileu.

Felly, y cynlluniau gweithredu, soniais fod rhwng 50 a 60 o achosion cronig mewn buchesi ar unrhyw adeg, nid yr un rhai pob tro, yn amlwg. Rwy'n deall bod oddeutu 45 o'r cynlluniau gweithredu hyn wedi'u llunio bellach yn ystod yr haf ers i mi wneud fy natganiad ym mis Mehefin, cyn y dyddiad cychwyn ar 1 Hydref. Yn amlwg, bydd hyn wedyn yn rhan o'r cynlluniau gweithredu hynny wrth i ni fwrw ymlaen.

O ran cael milfeddyg preifat a milfeddyg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn gweithio ochr yn ochr â'r ffermwr, nid wyf i wedi cael unrhyw feirniadaeth ynglŷn â’r gost, ond nid wyf i’n dymuno ychwanegu at feichiau ffermwyr chwaith, felly byddaf i’n sicr yn edrych ar sut y mae hynny'n cael ei ariannu.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac rwy'n ffyddiog y bydd y mesurau gwell a newydd hyn yn parhau â'r cynnydd sylweddol a wnaed tuag at ddileu TB buchol yng Nghymru, sydd eisoes wedi arwain at ostyngiad o 40 y cant mewn achosion ers 2009. Rwy'n rhannu eich penderfyniad i glirio'r achosion hirsefydlog o TB, y gost i'r cyhoedd a'r gofid personol y mae’r rhain yn ei beri.

Ond, mae’r Aelodau yn gwybod fy marn ar ddifa bywyd gwyllt: credaf y dylem wneud popeth yn ein gallu i'w osgoi. Felly, byddwn i’n annog y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd newydd, arloesol a gwaraidd wedi’i seilio ar wyddoniaeth o ddileu’r clefyd. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng Cymru a'r difa diofal yn Lloegr. Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych chi’n cefnogi difa llwyr ac rwy'n croesawu'r dull hwnnw, ond rwyf yn meddwl tybed pa mor aml y bydd cewyll yn cael eu harchwilio a pha mor siŵr y gallwch chi fod, pan fydd mochyn daear wedi ei ddal, y byddai'n dianc rhag marwolaeth a dioddefaint diangen. Fe wnaethoch chi sôn am gael gwybod am laddiadau ar ochr y ffordd. Tybed a ydyn nhw wedi’u hasesu i ganfod a oedden nhw’n farw eisoes cyn cyrraedd ochr y ffordd, a faint ohonyn nhw mewn gwirionedd sy’n rhydd rhag TB. Mae gen i lawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hynny'n ffordd o gael gwared ar foch daear sydd wedi eu lladd yn anghyfreithlon ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd ochr y ffordd. Felly, yr unig ffordd y gallwn ni bennu hynny yw trwy edrych yn agosach ar y cyrff hynny.

Mae’r peth arall yr hoffwn i ei ofyn yn ymwneud â’r gollyngiadau slyri o'r ffermydd llaeth mawr a lledaeniad posibl TB buchol o ganlyniad i hynny. Rwy’n gofyn, oherwydd nid oes sôn o gwbl yn y datganiad hwn, pa un ai a fyddai modd cyn i ni drwyddedu rhagor o ffermydd llaeth mawr, ystyried o ddifrif y cais cynllunio hwnnw o ran cyfyngu’r slyri i’r fferm, yn hytrach na'i bod i’w weld yn yr afon o fewn ychydig o ddyddiau ac yn eithaf aml hefyd.

Byddai gennyf i ddiddordeb hefyd mewn clywed eich barn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar dechneg profi newydd sy'n cael ei defnyddio ar fferm yn Nyfnaint a allai helpu i adnabod ac ynysu gwartheg heintiedig yn fwy cywir a chyflym, gan ddileu TB o’r fuches heb orfod ymyrryd â'r bywyd gwyllt cyfagos. Rydym ni’n gwybod, er bod moch daear yn gallu dal TB oddi wrth wartheg, nad ydyn nhw’n ei gadw'n fyw am agos gyn hired. Ymddengys bod y prawf yn Nyfnaint yn dangos hyd yn oed pan fo moch daear o amgylch y fferm wedi eu profi'n bositif am TB, oherwydd bod y clefyd wedi ei ddileu o'r fuches yn gyfan gwbl, nid yw'n dychwelyd. Mae'r Save Me Trust yn cynorthwyo’r astudiaeth ac yn gobeithio, drwy wella’r profi, y bydd lladd moch daear yn amherthnasol, ac rwyf innau yn gobeithio hynny hefyd.

Y peth arall sydd wedi fy ngofidio, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gofidio pobl eraill sy'n gwrando ar y ddadl hon heddiw, yw cynnwys erbyn hyn, nid moch daear yn unig, ond dyfrgwn ac afancod hefyd. Mae hynny’n peri gofid mawr i mi, ac fe hoffwn i weld unrhyw dystiolaeth y gall unrhyw un ei gyflwyno ynglŷn â hynny.

Diolch. Wel, fel yr wyf wedi’i ddweud, y tro diwethaf i mi holi, nid oedd unrhyw gais wedi ei wneud am unrhyw drwyddedau i ddod ag afancod i Gymru, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni barhau i gadw golwg arno pe byddai hynny yn digwydd. Rydych chi'n iawn, rwyf i wedi gwrthod difa yn yr un modd â Lloegr, ac nid wyf i’n bersonol yn credu bod unrhyw beth i awgrymu bod darlun y clefyd yn Lloegr yn gwella yn sgil yr hyn maen nhw'n ei wneud. Felly, yn hollol, rydym ni wedi gwrthod difa, a byddwch chi’n ymwybodol o'r hyn yr ydym ni yn ei wneud dim ond yn yr achosion cronig hynny mewn buchesi o ran moch daear. Caiff ei wneud mor gyflym â phosibl. Bydd y moch daear yn cael eu dal a'u profi yn gyflym iawn, ac rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi y byddan nhw’n cael eu trin yn waraidd drwy’r amser.

O ran yr arolwg o ‘foch daear marw’, efallai y byddai o gymorth pe bawn i’n rhoi ychydig o ffigurau i chi. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau â hynny—fel yr wyf wedi’i ddweud, cawsom ni ymarfer caffael—oherwydd rwyf yn credu ei fod yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr iawn yn yr ymgyrch yn erbyn TB mewn gwartheg. Rydych chi’n gofyn y cwestiwn: a ydyn nhw'n cael eu hasesu i gael gwybod sut maen nhw'n cyrraedd ochr y ffordd neu sut maen nhw wedi eu lladd? A’r ateb yw 'ydyn', ac yn sicr, nid wyf i wedi cael unrhyw awgrym bod y moch daear sydd i'w gweld ar ochr y ffordd wedi'u rhoi yno yn anghyfreithlon. Felly, rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny. Dangosodd y canlyniadau dros dro a gawsom ni o'r arolwg Cymru gyfan o 'foch daear marw' a gynhaliwyd yn 2016, o blith y 681 o garcasau moch daear a brofwyd, roedd 50, felly 7.3 y cant, yn profi’n bositif am TB buchol. O 1 Ionawr eleni hyd at 31 Awst eleni, profwyd 44 o garcasau; profodd wyth yn bositif ac rydym yn aros am ganlyniadau 12 ohonynt. Felly, fe allwch chi weld ei bod hi’n hollbwysig bod gennym ni’r wybodaeth honno a hefyd am y lleoliadau—mae hynny’n helpu gyda'r ardaloedd TB isel, canolraddol ac uchel, bod yr wybodaeth honno gennym ni. Felly, rwyf i wedi dod o hyd i'r rhif ffôn erbyn hyn. Felly, rwyf i, fel yr wyf wedi’i ddweud, yn annog pawb i sicrhau bod y rhif ffôn hwn ar gael: sef 01970 612374. Mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar gael ynglŷn ag ymdrin â'r carcasau hynny, ond rwy’n annog pawb i ffonio Canolfan Gwyddorau Milfeddygol Cymru os ydyn nhw’n dod o hyd i fochyn daear marw.

O ran gollyngiadau slyri, rydym ni wedi gweld rhywfaint o lygredd amaethyddol sylweddol eleni, ac rwyf i wedi ei wneud yn hollol glir bod hyn yn gwbl annerbyniol. Felly mae hyn, yn amlwg, yn rhywbeth yr ydym ni’n cadw golwg arno. Byddwch chi’n ymwybodol ein bod wedi cynnal yr ymgynghoriad ynglŷn â’r parthau perygl nitradau, a byddaf i’n gwneud datganiad ar hynny erbyn diwedd eleni.

Fe wnaethoch chi sôn am y dechneg profi newydd yn Nyfnaint. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn, ond nid oes gennyf i unrhyw wybodaeth—nid wyf i wedi cael gwybodaeth amdano hyd yn hyn. Ond, yn sicr, byddwn yn ystyried unrhyw beth a all ein helpu yn y frwydr hon.

Yn y rhaglen gyflenwi, rydych chi’n dweud y bydd dadansoddiad pellach o ddulliau eraill yn lle iawndal yng Nghymru, ac rwyf yn gofyn i chi adolygu’r cam i ddileu’r terfyn uchaf. Fe glywsom ni dystiolaeth glir gan yr undebau ffermio y bydd hyn yn cael effaith wael ar fuddsoddiad ac yna ansawdd y gwartheg. Ac mae'n doriad eithaf llym o £15,000 i £5,000. Rydych chi’n iawn nad yw'n effeithio ar lawer o achosion bob blwyddyn, ond mae yn rhywbeth sylweddol, yn enwedig yn y maes pedigri. Rwy’n credu y byddai'n rhesymol i chi wirio bod cynnyrch yswiriant ar gael ar y farchnad am bris rhesymol, oherwydd os nad oes, mae gennym ni broblemau gwirioneddol. Felly, rwy’n credu mai hynny ddylai fod yn sail i'ch adolygiad.

Yn ail, dywedodd argymhelliad 11 o adroddiad y pwyllgor y dylech chi ddiogelu'r gwariant presennol ar ddileu TB. Mae'n ymddangos eich bod yn symud yn gyflym iawn i ddweud, 'Wel, wyddoch chi, mae'r rhaglen Ewropeaidd yn talu am lawer ohono ar hyn o bryd', ac, yn wir, un o'r rhesymau y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n gostwng y terfyn uchaf yw bod angen i chi arbed arian oherwydd y posibilrwydd o dynnu—wel, oherwydd tynnu arian Ewropeaidd yn ôl, na fydd yn cael ei dalu. Ond, wyddoch chi, dywedodd ein pwyllgor yn bendant y dylech chi neu Lywodraeth Cymru ddiogelu'r gwariant presennol, ac fe hoffwn i glywed yr ymrwymiad hwnnw gennych chi.

Diolch i David Melding am ei gwestiynau, ac fe ddywedais i mai fy mwriad yn sicr yw ei ddiogelu. Nid yw'r arian Ewropeaidd mewn gwirionedd yn ganran enfawr o'r cyllid yr ydym ni’n ei ddefnyddio, ond, yn sicr, rydych chi'n hollol gywir bod angen i ni ystyried diogelu’r gwariant hwnnw, ac yn sicr dyna yw fy mwriad, ac rwy’n gobeithio yr eglurais i hynny i Simon Thomas gynnau. Mae yswiriant ar gael. Fe ddywedais i ei bod yn farchnad eithaf newydd, ond yn sicr mae yswiriant ar gael. Soniais fy mod i’n adolygu pob rhan o’r rhaglen ddiwygiedig yn barhaus. Fodd bynnag, soniais i hefyd fod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori erbyn hyn ar leihau'r iawndal a gosod terfyn uchaf o oddeutu £5,000. Felly, nid wyf i’n credu y byddem ni’n newid hynny yn y dyfodol agos, ond bydd yr holl raglen yn cael ei adolygu’n barhaus.

7. 6. Cynnig i Dderbyn y Penderfyniad Ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6517 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ar y penderfyniad ariannol hwn. Wrth wneud hynny, rwy’n awyddus i ddiolch yn gyntaf i bob un o'r Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu ar y Bil hwn. Byddwn ni, os gwnaiff yr Aelodau gytuno ar y penderfyniad ariannol y prynhawn yma, yn dechrau craffu ar Gam 2 yfory. I’r Aelodau hynny sydd ar y pwyllgor, byddan nhw’n gweld bod llawer o'r gwelliannau y byddwn yn eu trafod yfory yn deillio o’r craffu ar y Bil hwn yn ystod Cam 1 gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ogystal â’r Pwyllgor Cyllid. Ac rwy'n ddiolchgar am yr archwiliad cynhwysfawr o'r polisi a goblygiadau cyfreithiol ac ariannol y Bil. Rwy'n sicr fy marn fod y Bil a'r system yn well o ganlyniad i'r gwaith craffu hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair

Cyn troi at yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r goblygiadau ariannol, rwy’n dymuno rhoi ystyriaeth yn fyr iawn i’n rhesymau ni dros wneud hyn a pham yr ydym yn bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth hon. Mae'r Bil yn un o gonglfeini ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r gwelliant hwn yn hanfodol a bu hir aros amdano, ac mae'r gallu ganddo i gefnogi degau o filoedd o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i wireddu eu potensial yn llawn.

Yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y ddogfen 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl', sef cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Mae ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn agwedd allweddol ar y genhadaeth hon, a chredaf fod cefnogaeth eang i'r rhaglen drawsnewid, yn y lle hwn a thu allan ymhlith ymarferwyr ac ymhlith y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Cytunwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 6 Mehefin. Penderfynais beidio â chynnig y penderfyniad ariannol yr adeg honno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymgymryd â phroses o ddiwygio ac adolygu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Roeddwn yn awyddus i Aelodau gael y cyfle i weld a holi a chraffu’r fersiwn ddiwygiedig honno cyn gofyn iddyn nhw bleidleisio ar y cynnig.

Dirprwy Lywydd, ers mis Mehefin, rydym wedi ymgymryd eto â phrosesau sicrwydd ansawdd trylwyr ac rwy'n hyderus fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gywir ac yn gadarn. Dywedais i hyn pan oeddwn i yn y Pwyllgor Cyllid ar 21 Medi ac rwy’n ailadrodd y sicrwydd hwnnw heddiw. Gadewch imi amlinellu tair rhan y broses yr ydym wedi ymgymryd â nhw ers hynny. Rydym wedi ymgysylltu yn helaeth â SNAP Cymru er mwyn llwyr ddeall natur eu pryderon ynglŷn â'r wybodaeth ariannol wreiddiol a sicrhau eu bod yn gyffyrddus â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig. Rydym wedi derbyn sicrwydd eu bod yn fodlon â'r ffigurau a'r testun erbyn hyn. Mae cynrychiolwyr SNAP Cymru wedi cadarnhau hynny i'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud gyda fy swyddogion i gyrraedd y man hwn.

Yn ail, cynhaliwyd adolygiad mewnol cynhwysfawr o'r ffigurau a'r cyfrifiadau, a chafwyd tystysgrif iechyd yn sgil hynny. Ni welwyd unrhyw wallau yn y cyfrifiadau. Nodwyd gwahaniaeth o £20 a gwnaed rhai newidiadau i'r testun i wella eglurder a deallusrwydd. Mae'r ddwy elfen hynny yn achos calondid ynddyn nhw eu hunain. Ond, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i gael yr hyder mwyaf posibl o ran cywirdeb a chadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Cyn dod â'r cynnig i'r Siambr, roeddwn yn awyddus i sicrhau y gallem ni, ac y gallwn innau, roi i’r Aelodau y sicrwydd cyflawn o gywirdeb, ac felly comisiynais adolygiad allanol. Canfyddiad yr adolygiad allanol hwn oedd bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gynhwysfawr ac yn fanwl gydag amcangyfrifon dibynadwy a phwyllog sydd wedi eu seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael. Rydym wedi ystyried yr holl argymhellion sy'n benodol i Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil hwn.

Edrychodd yr adolygiad yn ehangach hefyd ar y ffordd yr ydym yn cynhyrchu Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, gan gymharu’r ffordd hon â ffyrdd eraill o baratoi asesiad effaith rheoleiddiol. Dirprwy Lywydd, mae’r ffordd yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol a'r arweiniad a nodir gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae'r adolygiad allanol wedi rhoi set o argymhellion ehangach i'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i’w hystyried i’r dyfodol. Rhannwyd y rhain gyda'r Pwyllgor Cyllid ac o fewn Llywodraeth Cymru i'w hystyried ymhellach. Gyda'i gilydd, mae tair elfen y broses adolygu yn cyfeirio at ddogfen sy'n gywir ac yn gadarn, ac yn sail ddidwyll ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Gan droi at y goblygiadau ariannol a amlinellir yn y ddogfen hon, rwy’n awyddus i ddweud, yn ddiffuant ac yn blwmp ac yn blaen, nad bwriad y rhaglen drawsnewid yw arbed arian, ac nid dyna fu ei bwriad hi erioed. Mae hi'n ymwneud â symud adnoddau o'r swyddfa gefn i flaen y gad, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial a mwynhau taith eu gyrfa addysgol. Rydym yn gweithredu mewn hinsawdd economaidd heriol iawn o ganlyniad i agenda llymder Llywodraeth y DU. Rydym eisoes wedi trafod effaith hynny ar wasanaethau yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd nawr yn aml iawn, ond ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud yr hyn sy'n iawn a’r hyn y mae'r sector hwn yn ei ddyheu.

Mae'r ffaith yn aros fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dal i ragweld y bydd arbediad cyffredinol pan fydd y system newydd ar waith. Mae hyn yn galonogol, a dyna beth yr ydym yn ei brofi ar lawr gwlad. Rydym yn dymuno gweld yr arian sydd eisoes yn y system yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol, a llai ohono wedi ei gyfeirio at fiwrocratiaeth a mwy ohono at gefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr. Gwyddom fod enillion i’w gwneud trwy arbedion effeithlonrwydd. Mae Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Gwent i gyd yn gweithredu agweddau ar y system newydd, ac rydym i gyd yn gweld yr ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, y cynlluniau datblygu i unigolion ac osgoi anghydfodau a chael datrysiad cynharach yn ennill arbedion gyda gwasanaethau’r swyddfa gefn, sydd wedyn i’w hail-fuddsoddi yn y gwasanaethau rheng flaen. Ac mae hyn yn beth allweddol i mi ac, yn fy marn i, i bawb ohonom ni gyda'n gilydd ar bob ochr y Siambr. Bydd y system newydd yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio lle byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf.

Wrth gwrs, bydd yna gost ymlaen llaw o ran trosglwyddo o'r systemau presennol i'r systemau newydd. Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau y bydd angen buddsoddiad yn y cyfnod pontio hwn. Bydd y pecyn cyllid gwerth £20 miliwn yr wyf wedi ei gyhoeddi eisoes yn ymdrin â hyn yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn gofyn i bartneriaid cyflawni ariannu’r gwaith o weithredu hyn; bydd y Llywodraeth yn talu'r holl gostau hyn. Bydd ein pecyn cyllid trawsnewid, sy’n werth £20 miliwn , yn mynd y tu hwnt i'r gost o symud o un system statudol i un arall. Bydd yn buddsoddi mewn newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer, ac yng ngwella sgiliau'r gweithlu. I gael diwygiad o’r iawn ryw, mae’n rhaid inni wella arbenigedd a hyder ein gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn flaenoriaeth i bob un ohonom ni. Bydd angen inni barhau i gydweithio yn agos â phartneriaid cyflwyno i weithredu’r diwygiadau, ond hefyd o ran y goblygiadau ariannol. Rwyf wedi ymrwymo yn llwyr i wneud hynny a rhoi'r strwythurau priodol ar waith i hwyluso hynny. Rwy'n hyderus ein bod mewn safle da o ran hyn i gyd. Gobeithio fy mod wedi gallu rhoi'r sicrwydd angenrheidiol i aelodau'r Pwyllgor Cyllid eisoes, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei adroddiad. Gobeithio y bydd gan bob Aelod hyder yn y broses a'r sefyllfa gyfredol, yn dilyn y ddadl hon.

Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus nawr ein bod yn gallu symud ymlaen gyda'r ddadl. Fel y dywedais yn gynharach, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelodau heddiw i'r penderfyniad ariannol, byddwn yn symud yn syth i drafodion Cam 2 yfory. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil hwn a datblygu'r Bil i sicrhau bod ein prosesau ni yn y senedd yma yn cynhyrchu'r Bil gorau posibl, y ddeddfwriaeth orau bosibl a fydd yn gynsail i'r rhaglen drawsnewid orau bosibl i'n pobl ifanc. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd yr Aelodau yn dymuno pleidleisio ar y penderfyniad ariannol a phleidleisio ar y Bil hefyd ar sail polisi a'r gefnogaeth eang sydd i amcanion y Bil. Ond rwy’n credu ei bod yn briodol fy mod yn siarad am yr adroddiad y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ei gynhyrchu ar y Bil, ac er mwyn i rai Aelodau nad ydyn nhw’n rhan o'r broses hon ddeall sut y cafwyd sefyllfa lle mae Bil y gellid neu y dylid fod wedi ei gyflwyno cyn toriad yr haf bellach yn cael ei drafod nawr. Ac rydym mewn sefyllfa ryfedd, yn yr ystyr pe na fyddai'r penderfyniad ariannol yn cael ei gymeradwyo heno, yna ni fyddem yn gallu ei drafod yn y pwyllgor yfory. Rwy'n amau ​​na fydd hynny'n digwydd, ond dyna'r fath o sefyllfa athronyddol yr ydym ni ynddi.

Pan gyflwynwyd y Bil gyntaf, a phan edrychodd y Pwyllgor Cyllid gyntaf, ar 7 Chwefror rwy’n credu, ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol gyda'r Bil, rhagwelwyd y byddai arbedion o ryw £4.8 miliwn yn cael eu gwneud, ac yng nghyd-destun cyhoeddiad y Gweinidog bryd hynny o gronfa £20 miliwn i ariannu'r Bil, a'r gweithredu a’r rhaglen sy'n deillio o'r Bil hwnnw, yna roedd honno'n sicr yn edrych yn debyg i sefyllfa ariannol ddeniadol dros ben. Fodd bynnag, mae nifer o welliannau i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, y mae rhai ohonyn nhw, y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw yn ei sylwadau agoriadol, wedi arwain at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol presennol gerbron y Cynulliad hwn, yn sôn nid am arbedion o £4.8 miliwn, ond am gostau o £7.9 miliwn. Mae hynny'n golygu bod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger ein bron sydd â chynilion parhaus o ryw £3.7 miliwn, ond sydd â chostau pontio o £11.5 miliwn. Nawr, mae’n amlwg y telir am y costau hyn gan y cyhoeddiad o £20 miliwn a wnaeth y Gweinidog, er fy mod i o’r farn y dylid ei rhoi ar gofnod bod y £20 miliwn hynny, o safbwynt y Pwyllgor Cyllid, yn ymrwymiad o £10 miliwn mewn gwirionedd ac yn arwydd o £10 miliwn o ymrwymiad parhaus mewn penderfyniadau ariannol a chyllideb sydd eto i ddod.

Nawr, byddech yn credu fel arfer mai’r rheswm dros sefyllfa lle mae Gweinidog wedi cyflwyno Bil oedd yn cynrychioli arbedion yn y lle cyntaf, ac yna’n dangos bod costau sylweddol yn ei sgil, fyddai nad oedd y Gweinidog wedi ystyried costau gwirioneddol y Bil. Mewn gwirionedd, digwyddodd rhywbeth llawer mwy rhyfedd yn yr achos hwn. Y mater gwirioneddol yma oedd nad oedd yr arbedion cychwynnol a ragwelwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cymryd i ystyriaeth na fyddai'r arbedion yn cael eu dyrannu yn y gost. Roedden nhw’n codi o'r arbedion y byddai sefydliad yn eu gwneud trwy beidio â chynnwys ei wirfoddolwyr wrth weithio gyda theuluoedd a oedd yn wynebu tribiwnlysoedd ac anghydfodau anghenion dysgu ychwanegol. Mewn gwirionedd, ni allai Llywodraeth Cymru ddyrannu'r arbedion hynny fel arbedion ariannol gwirioneddol. Cododd hyn, fel y dywedodd y Pwyllgor Cyllid wrthym yr wythnos ddiwethaf, oherwydd camddealltwriaeth neu ddiffyg dealltwriaeth rhwng y sefydliad dan sylw a Llywodraeth Cymru—SNAP Cymru, y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdano. Gallaf gadarnhau y gwnaeth SNAP Cymru gadarnhau i'r Pwyllgor Cyllid yn ein sesiwn gyhoeddus, lle’r oedd y Gweinidog hefyd yn bresennol, bod ganddyn nhw nawr y ddealltwriaeth honno a’u bod yn rhannu gwybodaeth ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Felly, maen nhw'n siarad am yr un ffigurau; dyna'r peth pwysig i'w ddweud yma. Felly, yr hyn a welwch yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger eich bron chi heddiw yn sicr yw'r ffigurau y cytunwyd arnyn nhw rhwng y Llywodraeth a'r prif sefydliad sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn gyda theuluoedd.

I raddau helaeth, mater i’r Cynulliad ac i’r ochr bolisi nawr yw ystyried a yw hwn yn Fil sydd, ar sail cyhoeddi'r gronfa weithredu gwerth £20 miliwn ac ar sail y costau sydd bellach wedi eu nodi yn y Bil, yn un y mae'r Cynulliad yn dymuno ei ddwyn ymlaen. Er hynny, fel y dywedodd y Gweinidog hefyd, mae gwersi ehangach yma o ran sut yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cwblhau ei adroddiad ar Asesiadau Effaith Rheoleiddiol o'r fath, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle gennym yn y dyfodol i drafod. Pan wnawn ni hynny, efallai y byddwn am fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses hon hefyd.

Y peth olaf i'w ddweud yw bod yna gyfeiriad wedi ei wneud, ac mae yna gyfeiriad yn ein hadroddiad ni, at y gwerthusiad allanol a gomisiynwyd gan y Gweinidog. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod wedi comisiynu gwerthusiad allanol o'i Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Ar y cam hwnnw, dywedodd y gwerthusiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Aldaba Limited, nad oedd y fersiwn o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ddibynadwy i’r diben o wneud penderfyniadau ar y Bil. Mae hwnnw'n gasgliad damniol iawn i werthuswr allanol ddod iddo. Eto i gyd, rwy’n awyddus i sicrhau'r Cyfarfod Llawn nad y fersiwn honno yw’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yr ydych yn ei drafod yma heno. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn nodi, mewn dull ffeithiol, sut yr ydym wedi cyrraedd y sefyllfa hon, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau am fyfyrio ar hynny pan fyddan nhw’n pwyso a mesur gweithrediadau'r polisi hwn yn erbyn y dyraniad o adnoddau fydd ar gael iddo.

Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl cawl potsh yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol cyntaf, lle'r oeddem ni’n gweld ffigyrau a oedd yn gwbl anghywir mewn rhannau o’r papur hwnnw, mae’n syndod i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cael siâp mor dda ar y peth. Ymddengys bod trafodaeth well wedi bod, ddywedwn ni, gyda rhanddeiliaid, a bod gennym ni nawr set o ffigurau cywir a chadarn iawn, ac yn sicr, mae'r papurau bach ugain punt yma a thraw wedi cael eu didol.

Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, serch hynny, fod yna rai pryderon a godwyd gan rai rhanddeiliaid yn parhau o ran costau posibl datrys anghydfodau, er gwaethaf y ffaith fod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol newydd. Ond, wrth gwrs, maen nhw’n seilio eu pryderon ar y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi iddyn nhw gan SNAP Cymru. Rwy'n credu ei bod yn werth i ni gyd ystyried nad yw’n angenrheidiol mai SNAP Cymru fydd yn cynnig gwasanaethau datrys anghydfod yn y dyfodol. Efallai y bydd ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hynny yn costio llai mewn gwirionedd i'r trethdalwr yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny—fod yna wasanaethau posibl i ddatrys anghydfodau y gellid eu cynnwys a'u comisiynu gan awdurdodau lleol a chan eraill. Er enghraifft, mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hun, o'r enw Createasmile, sy'n cynnig gwasanaethau eirioli yn rhad ac am ddim i bobl lle maen nhw'n trafod materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth gydag awdurdodau lleol, ac nid oes unrhyw dâl o gwbl o bwrs y wlad am hynny. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rwy'n credu bod gennym benderfyniad ariannol erbyn hyn y gallwn ni ei gefnogi ar y sail fod gennym ffigurau cadarnach, ond mae'n achos siom ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y cam hwn.

Rydw i hefyd eisiau ategu'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, a dweud y gwir, a chofnodi anfodlonrwydd ar y modd y mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yma wedi dod i fod. Yn sicr, rŷm ni’n derbyn nawr ei fod e wedi cyrraedd pwynt lle gallwn ni ei gefnogi fe, ond mae’r newidiadau yma a’r ffaith bod angen mynd yn ôl a gweithio eto ar y ffigurau wedi tarfu rhywfaint ar broses craffu'r pwyllgor o fethu gallu craffu'r asesiad effaith rheoleiddiol terfynol ochr yn ochr â’r Bil.

Mae e hefyd, wrth gwrs, wedi tanseilio hyder nifer yn y sector, ac efallai yn ehangach, yng ngallu’r lle yma i fod yn datblygu'r ddogfennaeth berthnasol o gwmpas y ddeddfwriaeth, fel sydd angen ei wneud mewn modd cyhyrog efallai, mewn modd addas, ac mae hynny yn resyn o beth hefyd. Mae’r gwahaniaethau sylweddol yn y costau gwreiddiol a’r costau terfynol yn tanlinellu, rydw i’n meddwl, y blerwch sydd wedi bod.

Jest i ddweud, i gloi, hefyd, mae’r ffaith ein bod ni fan hyn oriau yn unig cyn bod yn trafod gwelliannau yng Nghyfnod 2, ar y funud olaf i bob pwrpas—nid yw hynny chwaith yn adlewyrchu’n dda iawn ar Lywodraeth Cymru nac ychwaith ar y lle yma. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i’n meddwl bod yna wersi sydd angen eu dysgu, ac rydw i’n gobeithio’n wir y bydd y Llywodraeth yn eu dysgu nhw.

Pedwar pwynt cyflym iawn. Y pwynt cyntaf: mae hyn wedi profi bod manteision o gael y Pwyllgor Cyllid yn adolygu cost deddfwriaeth.

Yn ail: mae’r gost yn bwysig, a'r allwedd mewn gwirionedd yw gwahaniaethu rhwng costau arian parod a chostau ansylweddol. Rwy'n credu mai dyna ble’r aeth y Bil ar gyfeiliorn. Nid oedd y rhifau’n anghywir, ond ni fyddech mewn gwirionedd wedi gallu gwneud rhai o'r arbedion a oedd yn cael eu dangos yn y Bil gan nad oeddent yn gostau mewn arian parod. Mae'r gost yn hynod bwysig. A yw'r Bil hwn yn werth £20 miliwn? Rwy'n credu hynny yn bendant. A yw'n werth £200 miliwn? Rwy'n credu y byddai’n rhaid inni ddechrau dadl fawr. Pe byddai'n codi hyd at £2 biliwn, ni fyddai'n werth yr ymdrech nac yn fforddiadwy. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y costau'n gywir, oherwydd bydd yna orgyffwrdd rywbryd gyda’r costau pan ddaw’r Bil yn llai o werth na’r costau a ddaw yn ei sgil.

Yn drydydd: byddai o gymorth mawr pe byddai'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i'r Llywodraeth gynhyrchu ystod o gostau ac arbedion posibl a'r rhagdybiaethau y tu ôl i’r rheini, yn hytrach na cheisio dod o hyd i ryw fan canol ymysg eu cyfrifiadau. Byddai hynny mewn gwirionedd yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r Pwyllgor Cyllid, wrth edrych arno, a byddai mewn gwirionedd yn deall nad gwyddor fanwl yw hon. Nid yw'r niferoedd hyn yn union gywir ac rwy'n eithaf sicr na fydd y canlyniad yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno i’r ddimai. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog yn disgwyl iddo fod, i'r ddimai, yr hyn y bydd yn ei gyflwyno. Bydd yn agos i’r rhif hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gennym rywfaint o ddealltwriaeth o hynny.

Y pedwerydd pwynt—ac mae angen inni feddwl am hyn bob amser ynglŷn â deddfwriaeth—yw’r galw cudd. Rydych chi'n cyflwyno deddfwriaeth, rydych chi'n taflu goleuni ar bwnc—a fydd hynny'n achos unrhyw alw cudd yn y system o ran pobl nad oedden nhw’n gwybod amdano neu nad oedden nhw’n rhan ohono, sydd bellach yn ei weld ac yna am gymryd yr hyn sydd ar gael?

Diolch yn fawr iawn, a'r Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy’n diolch i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol yn gyffredinol a’u geiriau haelfrydig yn ystod y ddadl hon. A gaf i ddweud hyn? Rwy'n poeni weithiau pan fydd Mike yn codi ar ei draed yn ystod dadl yr wyf yn ei hateb, oherwydd nid wyf byth yn hollol siŵr sut i ateb rhai o'i bwyntiau. Ond mae'n gwneud sylwadau teg a deallus iawn ynglŷn â’r gost. Ac ni fydd pris methiant, wrth gwrs, yn cael ei dalu gan yr Aelodau yma, ond gan y bobl y byddwn ni’n eu siomi, a'r plant a’r bobl ifanc sy'n methu â chyflawni eu potensial addysgol gan nad ydym ni, yma, yn cynnig y system i’w galluogi nhw i lwyddo. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed gan Llŷr. Ond byddwn i’n dweud wrth Llŷr mai cadernid y craffu seneddol i’r fath raddau sydd wedi taflu goleuni ar y pethau hyn a gorfodi Gweinidogion i ddod i'r lle hwn a phledio achos eu deddfwriaeth, a phledio achos yr hyn y maen nhw'n ceisio ei wneud, yn hytrach na gosod y bar yn llawer is. Felly, rwyf i o’r farn fod bar uwch yn ffordd well o fesur y materion hyn. Rwy'n credu mai’r hyn a ddangoswyd dros y misoedd diwethaf oedd cadernid y broses seneddol yn y lle hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cydnabod y byddwn bob amser yn ildio i'r prosesau a'r pwyllgorau sydd gennym ni yma, ac i’r argymhellion y mae'r pwyllgorau yn eu gwneud wrth sicrhau nad dim Bil yn unig sydd gennym, ond y Bil gorau posibl a fydd yn cyflawni ar gyfer y bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio eu cynrychioli.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 7. Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Rydym yn symud ymlaen i eitem 7 ar yr agenda heddiw, sef dadl ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, a galwaf ar Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6516 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch am amseru’r trafodaethau yma.

Mi fydd Aelodau yn cofio fy mod i wedi cyhoeddi ein strategaeth ni, ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’, a’n huchelgais ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg nôl ym mis Mehefin. Roeddwn i’n glir, ac roeddwn i’n gobeithio yr oeddwn i’n glir i bob un Aelod ar y pryd, fy mod i’n awyddus iawn i osod ein strategaeth ni a’n gweledigaeth ni ar gyfer y dyfodol cyn ein bod ni yn trafod deddfu a deddfwriaeth, achos mae’r strategaeth a’r weledigaeth yn fwy na Bil, yn fwy na deddfwriaeth, ac yn fwy na’r prosesau yr ydym ni’n eu dilyn fan hyn.

Mae’r weledigaeth o drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n gobeithio a fydd yn uno pob un rhan o’r Siambr yma. Ond rydw i eisiau sicrhau hefyd bod gennym ni y math o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gyda ni sylfaen i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei wneud ar ddiwedd y trydydd Cynulliad, yn dilyn oedi gan Lywodraeth San Steffan i roi’r pwerau angenrheidiol i’r Cynulliad i ddeddfu ym maes y Gymraeg. Oherwydd yr oedi, nid oedd digon o amser ar y pryd i ymgynghori ar bolisi’r iaith, ac mae’r diffygion hynny i’w gweld yn y Mesur. Mae calon y Mesur yn y lle iawn. Mae’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg. Mae’n rhoi rhyddid i bobl siarad Cymraeg â’i gilydd a, drwy’r safonau, mae’n rhoi hawliau i bawb gael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae’n rhaid inni nawr ystyried sut mae’r Mesur wedi cael ei weithredu. Pan fo cynghorau Gwynedd a Blaenau Gwent yn cytuno bod yna ormod o fiwrocratiaeth, mae’n rhaid inni wrando. Teitl y Papur Gwyn yw, ‘Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’; hynny yw, y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Yn gyntaf felly, rwy’n cynnig yn y Papur Gwyn sefydlu comisiwn y Gymraeg. Y bwriad yw i ddod ag arweiniad ac egni newydd at y gwaith o hybu’r Gymraeg.

Mae yna sawl rheswm dros sefydlu comisiwn yn hytrach na rhoi dyletswyddau ychwanegol i’r comisiynydd. Yn gyntaf, mae adroddiad awdurdodol Tŷ’r Arglwyddi ar lywodraethiant rheoleiddwyr yn glir iawn na ddylai corff sy’n rheoleiddio gael ei redeg gan un person. Rwy’n cytuno â hynny. Ac, yn ail, nid yw hybu a hyrwyddo yn golygu balŵns a beiros. Mae hybu yn golygu arbenigrwydd proffesiynol mewn meysydd fel cynllunio ieithyddol, cynllunio gweithlu, datblygu economaidd a newid ymddygiad, ac yn mynd ymhellach â’r cyfryngau a marchnata. Mae’n rhaid i’r comisiwn sy’n arwain y corff newydd gael trawstoriad o’r sgiliau hyn er mwyn gallu hybu’r Gymraeg yn effeithlon. Yn drydydd, ac ar wahân i’r comisiynwyr eraill, rydw i’n cynnig y bydd gan y comisiwn bwerau dyfarnu a chosbi, a bydd hefyd yn rhan ganolog o ran cyflwyno ‘Cymraeg 2050’. Mae cryfder mewn amrywiaeth y gwahanol safbwyntiau, mewn her a sialens.

Un gwrthwynebiad rydw i wedi ei glywed yw nad yw un corff yn gallu rheoleiddio a hybu ar yr un pryd. Nid ydw i’n derbyn y ddadl yma. Mae yna lawer o gyrff sy’n gwneud y ddau beth yn llwyddiannus iawn. Yr enghraifft amlwg, wrth gwrs, yw Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r Comisiwn Cyfrifoldeb a Hawliau Dynol.

Nid ydw i’n argymell mynd nôl at ddyddiau bwrdd yr iaith. Bydd gan y comisiwn gyfrifoldebau ehangach, ac mae safonau yn llawer mwy grymus na chynlluniau iaith. Bydd y comisiwn yn gweithredu mewn fframwaith a thargedau ‘Cymraeg 2050’. Nid oes amheuaeth gen i bydd Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, a’r cyhoedd, yn gofyn cwestiynau treiddgar iawn am berfformiad y comisiwn a’i gyfraniad at y miliwn.

Beth, felly, am y safonau? Yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gadw’r safonau. Mae hynny yn glir. Nid oes troi nôl ar hynny. Mae dau prif nod i’r cynigion yn y Papur Gwyn: (1) i dorri allan cymaint o’r biwrocratiaeth ag sy’n bosibl, a (2) i sicrhau gyfundrefn sy’n rhoi ffocws ar gywiro gwallau os oes rhywbeth yn mynd o’i le, ac er gwelliant. Rydw i hefyd yn credu y dylai fod gan y drefn atebolrwydd i ni mewn ffordd ddemocrataidd. Rydw i’n cynnig mai Llywodraeth Cymru y dylai wneud a gosod safonau, ac, wrth wneud hynny, gorfod cael cefnogaeth y fan hyn yn ein Senedd cenedlaethol ni. Rôl y comisiwn fydd monitro a gorfodi.

Nid ydw i wedi fy mherswadio bod angen trefn ar wahân pan fo cwyn yn cael ei wneud am wasanaethau Cymraeg. Gellir defnyddio’r un gyfundrefn sy’n bodoli os yw person yn cwyno am wasanaeth i gyngor lleol neu i’r gwasanaeth iechyd. Rydw i’n bwriadu, felly, i’r comisiwn ddilyn yr un drefn â’r ombwdsmon pan fo’r comisiwn yn derbyn cwyn. Yn y cyd-destun hwn, rydw i wedi derbyn ymateb i’r Papur Gwyn oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r ombwdsmon wedi copïo ei ymateb i’r comisiynydd ac i Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Mae’r ombwdsmon yn cynnig y gall ei swyddfa fe delio â chwynion ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â safonau fel rhan o’i dyletswyddau craidd. Bydd hyn yn debyg i’r drefn yng Ngwlad y Basg, lle mae’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn gyfrifol am yr iaith. Dirprwy Lywydd, rydw i’n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol. Mae’n dangos bod posibiliadau eraill i’w hystyried y tu hwnt i’r cynigion yn y Papur Gwyn. Mi fyddaf i yn ystyried ymateb yr ombwdsmon yng nghyd â’r holl ymatebion eraill i’r ymgynghoriad. Rydw i’n annog pawb i ymateb gyda’u syniadau cyn y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad, sef diwedd y mis hwn.

Rydw i’n gofyn, felly, i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn, gan dderbyn gwelliannau 1, 3, 5 a 7, a gwrthod gwelliannau 2, 4, 6 ac 8. Rydw i’n gwrthod gwelliant 2 oherwydd mae darlun ehangach yn ‘Cymraeg 2050’. Rydw i’n gwrthod gwelliant 4 oherwydd rydw i’n credu y bydd yn ddryslyd i’r cyhoedd ac yn gwastraffu adnoddau cyhoeddus i gael dau gorff sydd yn gyfrifol am y Gymraeg. Rydw i’n gwrthod gwelliant 6. Rydw i’n bwriadu gosod rheolau iechyd cyn diwedd y flwyddyn, ond, os oes cefnogaeth i’r cynigion yn y Papur Gwyn, bydd yn rhaid i ni gymryd hynny i mewn i ystyriaeth cyn gwneud mwy o reoliadau. Ac rydw i’n gwrthod gwelliant 8. Rydw i wedi gosod allan yn y Papur Gwyn, ac o flaen y Senedd heddiw, fy rhesymau clir dros ddiddymu rôl y comisiynydd a sefydlu comisiwn.

Rydw i’n derbyn gwelliant 1. Mae’r dystiolaeth yn adlewyrchu amrywiaeth farn ar rai o bethau, ac mae hynny’n iach ac yn beth da. Rydw i’n derbyn gwelliant 3. Mae’r Papur Gwyn yn gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg. Rydw i’n derbyn gwelliant 5. Mae pawb am weld llai o fiwrocratiaeth. Ac rydw i’n derbyn gwelliant 7. Mae’r Papur Gwyn yn gwneud cynnig cadarn a phendant i ymestyn y gyfundrefn safonau i’r sector breifat.

A gaf i ddweud hyn wrth gau, Dirprwy Lywydd? Rydw i’n awyddus iawn i glywed barn Aelodau'r prynhawn yma, ond rydw i hefyd yn awyddus iawn i glywed barn pobl ar draws y wlad. Beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud trwy gydol y broses yma yw sicrhau undeb ar draws ein gwlad amboutu dyfodol ein hiaith genedlaethol ni. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n sicrhau ein hawliau ni fel Cymry Cymraeg i siarad ac i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydym ni hefyd yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg i sicrhau bod mwy o’n cyd-Gymry yn defnyddio ac yn dysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith. Mae hynny yn golygu, ambell waith, ein bod ni’n gwrando ar bethau nid ydym ni eisiau eu clywed, ac rydym ni’n gwrando ar farnau sydd yn wahanol iawn i’n rhai ni. Beth rydw i wedi bod yn ei wneud fel Gweinidog dros y Gymraeg yw cynnal a chydio yn y math o drafodaeth a fydd yn sicrhau undeb ar ddiwedd y drafodaeth. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cylch gwaith cul Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n symud y gwelliannau yn enw Paul Davies. A allaf ddiolch i’r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw ac i Plaid hefyd am eu gwelliannau? Rydym yn cefnogi nifer ohonynt. Y peth cyntaf yr hoffwn i ddweud yw bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi tri amcan craidd y ddeddfwriaeth hon: gwerth am arian, lleihau biwrocratiaeth yn y gyfundrefn safonau a gwella’r cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo a hwyluso. Mae cyplysiad hyrwyddo a hwyluso yn benderfyniad diddorol rwy’n credu, ac mae’n gwahanu hwyluso a rheoleiddio a chydymffurfio, ac mae hyn yn cynnig i mi argraff o rôl comisiynydd yr iaith Gymraeg sy’n gul iawn ac sy’n cael ei lywio gan gyfnod penodol yn ystod stori’r comisiynydd sydd ddim yn adlewyrchu dyletswyddau’r comisiynydd fel y nodir ym Mesur 2010. Mae’r dyletswyddau hynny, cyn gwneud unrhyw sôn am reoleiddio a gorfodi, yn cynnwys hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith, ac nid yw wedi’i gyfyngu i gyd-destun y safonau. Felly, ar hyn o bryd, rwy’n ei chael hi’n anodd gweld ble mae’r gwahaniaeth rhwng amcanion eich comisiwn ffafriedig ac amcanion gwreiddiol y comisiynydd fel y rhagwelwyd gan Fesur 2010.

Rwy’n cytuno â chi o ran cael gwared ar fiwrocratiaeth ormesol o’r prosesau a gynhwysir yn y Mesur presennol. Mae rhywfaint o feddwl i’w wneud o hyd ar hyn; sut, er enghraifft, y gallai’r broses apelio ymddangos. Rwyf i jest yn meddwl am symud cwynion yn y lle cyntaf i’r corff sydd wedi, o bosib, gwneud camgymeriad, achos nid wyf yn siŵr os byddai’r ombwdsmon yn rhoi atebion—‘remedies’—i bobl yn y sefyllfa yna. Felly, mae’n werth tipyn bach mwy o ystyriaeth. Rwy’n cytuno hefyd am newid natur y safonau sydd ddim yn amddiffyn hawliau ystyrlon. Dyna pam fod gen i anhawster yn cefnogi gwelliant 4, oherwydd mae yna risg o weld unrhyw newid, yn enwedig colli prosesau, yn gwanhau’r hawliau yn eu cyfanrwydd. Nid wyf yn siŵr os ydych chi, Plaid, yn meddwl hynny, wir, ond jest oherwydd hynny, rwy’n mynd i ymatal heddiw. Ond, yn y dyfodol, efallai y byddwn yn newid ein meddyliau ar hynny.

Mae yna gwestiwn hefyd, ar wahân, sef: os oes rhai safonau—cadw cofnodion am flynyddoedd, er enghraifft—lle nad oes gan neb ddiddordeb mewn arfer yr hawl, a ydy’r safon yn dal i fod yn gymesur? Mae yna gwestiwn i’w ateb yn ystod broses yma. Mae angen cael gwared ar y rheini sydd ddim yn effeithiol i wella’r ffocws ar hawliau sy’n bwysig, ac, wrth gwrs, i ffocysu ar hyrwyddo a hwyluso. Gan ddweud hynny, rydym yn gohirio dedfryd ar hyn hyd nes y byddwn yn gweld rhai cynigion manwl gan y Llywodraeth, fel y dywedais i.

Rydym hefyd yn gohirio dedfryd ar welliant 4. Nawr, nid wyf yn derbyn yr awgrym a wnaed gan swyddogion yn ystod ein cyfarfod pwyllgor yr wythnos ddiwethaf, sef nad oes lle i ddau gorff Cymraeg yn y tirwedd hwn. Mae bodolaeth y canolfannau addysg oedolion yn tanseilio’r ddadl yna yn barod. Fy nadl i yw bod yna dystiolaeth gymysg iawn yn yr ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth, ac nid oes unrhyw gefnogaeth glir a phendant ar gyfer yr opsiynau a ffafriwyd gan y Gweinidog a Plaid. Pwrpas y gwelliant yw ceisio atal y Gweinidog rhag neidio i unrhyw gyfeiriad nawr pan fo dewisiadau credadwy eraill y mae’n rhaid gweithio trwyddynt. Ac, am yr un rheswm, byddwn yn cefnogi gwelliant 8.

Y prif ystyriaeth i ni, wrth i’r Papur Gwyn fynd yn ei flaen, yw’r lefel o annibyniaeth a roddir i bwy bynnag sy’n hyrwyddo a rheoleiddio’r iaith. Er gwaethaf y Mesur yn tanlinellu annibyniaeth y comisiynydd—cyfyngu cyn lleied â phosib ar ei gweithgareddau, ac yn y blaen—anwybyddodd Leighton Andrews yr amddiffyniad statudol hwnnw ac fe wnaeth e ddwyn dyletswyddau hyrwyddo’r comisiynydd yn ôl i mewn i’r Llywodraeth. Gadawodd hyn y comisiynydd gyda’r gwaith ar safonau a’r rôl hwyluso, ac, yn ôl ymatebion yr ymgynghoriad, mae croeso mawr iddi. Mae helpu cyrff i gydymffurfio â safonau yn well na’r rhwymedigaeth i orfodaeth drom sydd ei hangen ar y ddeddfwriaeth bresennol, ac mae’r comisiynydd yn gwneud mwy o hynny nawr yn ddiweddar. Felly, nid ydym yn gwybod beth allai’r comisiynydd ei wneud ynglŷn â hyrwyddo a hwyluso ehangach oherwydd ymyrraeth y Llywodraeth.

Wrth gefnogi gwelliant 8, rydym yn cytuno nad yw’r Llywodraeth wedi ennill y ddadl bod comisiwn yn well na rôl ddiwygiedig i’r comisiynydd, ac rwy’n credu bod y cychwyn ffug wedi ysgogi dewis y Llywodraeth i bwyso am strwythur newydd, gyda pherthynas â’r Llywodraeth sy’n bell o fod yn glir. A dyna pam rydym wedi cynnwys ein hail welliant, sef y gallai’r deddfwriaeth hon greu rôl newydd i’r comisiynydd sy’n fwy hyd braich ac yn atebol i’r Cynulliad hwn yn hytrach na’r Llywodraeth, fel rydym wedi dadlau ers tro.

Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith rheoleiddio a gwaith hyrwyddo mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i'r sectorau ynni, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysus.

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu yn glir ei rhesymeg dros gynnig cael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5, 6, 7 a 8.

Diolch i chi am gynnal y drafodaeth yma ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Mae’r ymgynghoriad, wrth gwrs, yn mynd ymlaen tan ddiwedd y mis ac mae’r ddadl yma yn ffordd dda o atgoffa pobl o’r angen i gofnodi eu sylwadau drwy’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau.

Rydym ni wedi gosod ein safbwynt ni fel plaid yn glir iawn drwy gyfrwng gwelliannau sy’n egluro’n gweledigaeth ni, a gweledigaeth sydd yn wahanol i un y Llywodraeth. Nid ydym ni am weld unrhyw wanhau na chyfyngu ar hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg. Rydym yn credu bod angen cadw rheoleiddio a hyrwyddo ar wahân, a’u bod yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol, ac rydym yn galw am symud ymlaen efo’r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac yn galw am amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, trenau a bysys. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector preifat. Felly, rydym yn gosod ein stondin yn glir ar gychwyn y broses.

Mi fyddai unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar y ddeddfwriaeth, yn gam sylweddol yn ôl i’r Gymraeg. Gyfeillion, mae’r Gymraeg yn colli tir. Dim ond mewn 7 y cant—7 y cant—o gymunedau Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith dros 70 y cant o’r boblogaeth, yn iaith fyw ar y stryd ac yn y dafarn. Mae hynny yn loes calon i mi, ac ni fedraf gefnogi unrhyw droi nôl, unrhyw wanhau ar yr hawliau sydd wedi eu sefydlo’n barod. I’r gwrthwyneb: ymlaen, gweithredu, cryfhau sydd angen os ydym o ddifri eisiau gweld y Gymraeg yn parhau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gawn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf? Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yma yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae mynd yn ôl at un corff a disgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth cwbl wahanol yn gwanio ein hawliau ni. Mae rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan ddyletswydd iaith, pa bryd ac ati—mae hynny yn gwanio ein hawliau ni. Mae dileu’r rhestrau presennol sy’n sicrhau bod hawl gan y Cynulliad i osod dyletswyddau iaith ar rai cwmnïau preifat yn gwanio ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dileu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg yn gwanhau ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dweud mai dim ond cwynion difrifol fydd yn cael eu hymchwilio—ac nid oes diffiniad o beth ydy difrifol—mae hynny eto yn cyfyngu ar ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg, ac mae Plaid Cymru yn erbyn unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar ein hawliau ni.

Ym maes hyrwyddo a hybu, mae Plaid Cymru yn credu bod angen corff annibynnol i wneud y gwaith pwysig yma, gan adael y comisiynydd yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith o osod safonau a rheoleiddio. Mi fyddai sefydlu comisiwn fyddai’n ceisio gwneud yr holl waith sydd ei angen yn gam sylweddol yn ôl, a dyna pam rydym ni wedi dadlau yn gyson dros gael asiantaeth hyd braich i hyrwyddo, hybu ac i gynllunio’n strategol dros y Gymraeg ar sail egwyddorion cynllunio ieithyddol cadarn.

Cryfhau ein hawliau ni sydd angen, a dyna ddod â ni at y sector preifat. Mae yna sawl esiampl o pam fod angen ymestyn y safonau i’r sector preifat. Mae’r rheini wedi amlygu eu hunain dros y misoedd diwethaf: saga Sports Direct, pan geisiwyd cyfyngu ar hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle; Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg, ac yn y blaen. Ac mi hoffwn i ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb chwyrn yn erbyn Sports Direct a’r banciau. Ond rwy’n nodi bod y Papur Gwyn yn dweud hyn:

‘Nid ydym yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Safonau’n fuan ar gyrff nad ydynt yn dod o fewn system y Safonau ar hyn o bryd.’

Sef y rhan fwyaf o’r sector preifat. Ac, yn anffodus, mae hanes yn dangos nad ydy dibynnu ar berswadio cyrff i fabwysiadu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn gweithio. Mae angen deddfu, ac mae angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector preifat, ond nid yw hynny yn y Papur Gwyn. Rwyf yn nodi eich bod chi y prynhawn yma wedi dweud eich bod chi o blaid ein gwelliant ni—gwelliant 7—ac rwy’n croesawu clywed hynny heddiw.

Mae angen i chi weithredu. Dyna ydy’r prif fater o dan sylw—mae angen i chi weithredu. Mae angen symud ymlaen efo gosod y safonau ar y cyrff iechyd, ac rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi’n dweud, o’r diwedd, ar ôl bron i ddwy flynedd—neu dros ddwy flynedd, a dweud y gwir—y bydd y Llywodraeth yn symud ar hyn. Mae gan gleifion hawl i gael trafod eu problemau yn y Gymraeg. Mae’r adroddiad ar safonau’r cymdeithasau tai ar eich desg chi ers dwy flynedd, y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd, bysiau a threnau a’r rheilffyrdd ers bron i flwyddyn. Mae yna lawer iawn o waith i’w wneud, a megis dechrau ydym ni. Rŵan ydy’r amser i weithredu. Ac efallai nad rŵan ydy’r amser i fod yn trafod Papur Gwyn fel hwn. Beth am symud ymlaen efo’r gwaith? Beth am ddechrau gweithredu?

Yn y cefndir, wrth gwrs, mae’ch strategaeth miliwn o siaradwyr chi. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ar y gwaith sydd angen ei gychwyn yn y fan honno, yn y strategaeth miliwn o siaradwyr, yn hytrach na chreu trafodaeth ddiangen am Ddeddf sydd angen amser i wreiddio, a safonau sydd angen eu gosod a’u gweithredu?

Rhaid inni ymrafael â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar sail un egwyddor bwysig—bod popeth nawr ym maes y Gymraeg yn ddarostyngedig i’r egwyddor o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac mae’r sialens y mae’r strategaeth newydd yn ei rhoi i bob un ohonom yn drawsnewidiol. Os ydym ni o ddifrif ein bod ni am weld uchelgais y strategaeth yn realiti, bydd yn rhaid i ni gydnabod bod y tirwedd ieithyddol yn newid yn llwyr. Ac, mewn cyfnod o gyni, bydd angen sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario, gan unrhyw gorff, ar dwf yr iaith yn cael impact uniongyrchol ar lawr gwlad.

Mae’r ffocws ar y mwyaf hyd yn hyn wedi bod ar hawliau—hawliau drwy safonau. Mae’n amlwg bod lle i ddiwygio y broses o greu a gosod safonau; gwelsom dystiolaeth o bob tu bod y broses yn feichus i bawb. Y nod sydd rhaid yn y fan yma yw sicrhau bod y safonau yn gweithio, a bod ymdrech ac adnoddau yn cael eu ffocysu ar yrru i fyny safonau darpariaeth, nid ar negodi a gweinyddu.

A gaf i ddweud fy mod i yn bersonol yn cefnogi’r cysyniad o hawl gyffredinol? Mae gyda ni sawl cyfundrefn sy’n llwyddo i greu hawliau, ynghyd â phroses o gloriannu hawliau pan mae’n nhw’n gwrthdaro. A gyda dychymyg, rwy’n credu y gallai hynny weithio gyda hawl gyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond rwy’n barod i dderbyn y pwynt a wneir yn y Papur Gwyn bod cymhlethdodau a chyfyngiadau hefyd yn dod yn sgil hynny. Rwy’n sicr y dylem ni ymestyn safonau i gwmpasu archfarchnadoedd, banciau ac ati. Rwy’n croesawu ymroddiad y Gweinidog i wneud hynny o dan y gyfundrefn arfaethedig, a hoffwn glywed ganddo, felly, beth yw ei gynllun ynglŷn â hynny.

Y gwir amdani yw na allwn ni gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr gyda’r cydbwysedd presennol sydd rhwng hawliau a hybu. Nid yw cynnal ac ehangu’r gyfundrefn safonau bresennol ddim yn ddigonol. Mae grym hawliau i greu newid yn dibynnu ar ein parodrwydd i fynnu ein hawliau. Ac mae’r Papur Gwyn yn glir bod llawer mwy o siaradwyr y Gymraeg na sydd o bobl sy’n manteisio ar eu hawliau. Dim ond drwy hybu a hyrwyddo y mae creu yr hyder i fwy a mwy o siaradwyr fynnu eu hawliau. Mae angen hybu mewn cymdeithas yn gyffredinol. Mae’r strategaeth a’r Papur Gwyn yn manylu ar hynny. Ond mae angen hybu o fewn y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r safonau—newid diwylliant, nid jest rheoleiddio. Gall newid ffyrdd o weithio i greu diwylliant dwyieithog feithrin hygyrchedd mewn gwahanol ffyrdd a meithrin creadigrwydd mewn ffyrdd amrywiol o weithredu, ac mae angen creu gofod am sgwrs gynhwysol, ddychmygus am fanteision y Gymraeg yn y cyrff hynny.

Rwy’n croesawu, felly, y cynnig i ailddiffinio safonau a chreu ffocws newydd ar ddyletswyddau cynllunio iaith—dyletswydd a fydd yn golygu mwy na bwrw tic mewn blwch a chyfundrefn a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswydd i ymchwilio, cynllunio a darparu. Dyma’r cyfle nawr i wir ddechrau trawsnewid y tirlun.

Un gair am strwythur, hynny yw y comisiwn newydd. Nid dyma’r elfen bwysicaf yn y Papur Gwyn yn fy marn i. Ond hefyd ni ddylem fod yn geidwadol yn ein hagwedd at ddiwygio strwythur os oes angen gwneud hynny i ateb galw newydd. Mae maint y sialens yn y strategaeth yn creu galw newydd. Y cynnig yw y dylai pwerau gorfodi a chydymffurfio’r comisiynydd barhau. Mae wedi bod yn gydnabyddedig ers degawd a mwy mai o fewn strwythur bwrdd ac nid trwy awdurdodi unigolyn y mae hynny’n fwy addas am amryw o resymau. Felly, mae’n briodol i esblygu’r corff sy’n rheoleiddio erbyn hyn.

Pum deg pum mlynedd yn ôl, yn Chwefror 1962, mewn cyfweliad radio, datganodd Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli, mai dyfodol y Gymraeg oedd her fwyaf Cymru—gosodiad cryn anarferol i Aelod Seneddol Llafur bryd hynny. Yr un mis, traddododd Saunders Lewis ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ a drawsnewidiodd ein hymwybyddiaeth fel cenedl o’r bygythiad i ddiwylliant Cymraeg. Gwnaeth ef ddarogan y byddai’r Gymraeg wedi marw erbyn dechrau’r ganrif hon. Wel, fel siaradwyr Cymraeg, rŷm ni yma o hyd, ond dim ond trwy weithio a gweithredu ac y mae mwy o’r ddau i’w wneud—

Cyn i chi gloi, a fyddech chi’n gallu, ac rwyf wedi bod yn gwrando’n astud—? Ar y cwestiwn canolog yma, sydd yn codi mewn cyd-destunau eraill hefyd, wrth gwrs, ai system sydd yn canoli grym gyda’r Llywodraeth neu system o gomisiynydd neu gomisiwn sydd yn annibynnol ar Lywodraeth er mwyn rhoi’r hygrededd a’r hyder i siaradwyr Cymraeg bod eu hawliau yn cael eu cydnabod—beth yw barn yr Aelod ynglŷn ag hynny?

Wel, rwy’n credu ei fod yn bosib i’r comisiwn fod yn ddigon annibynnol i allu darparu’r gwasanaeth hynny i bobl Cymru.

Rŷm ni nawr, rwy’n gobeithio, ar drothwy cyfnod o gynnydd yn y Gymraeg ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr offer a’r pwerau a’r adnoddau gyda ni, trwy Fil y Gymraeg, i wireddu hynny.

Mae fy mhlaid yn cefnogi'n fras y dull y mae'r Llywodraeth yn ei gymryd i hyrwyddo'r Gymraeg ac rydym yn cefnogi'n gryf y cynigion Cymraeg 2050. Rwy’n credu bod yr ymagwedd iawn gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—mae'n ymagwedd gydsyniol, a dyna'r unig ffordd y byddwn, yn fy marn i, yn gallu llwyddo yn yr amcan y mae pawb yn y Siambr hon yn ei gymeradwyo.

Rwy’n credu bod y cynigion yn y Papur Gwyn, ar y cyfan, yn rhai synhwyrol iawn. Dechreuodd Suzy Davies trwy ddweud bod gwerth am arian, lleihau biwrocratiaeth a gwella'r cydbwysedd rhwng hyrwyddo a grymuso yn amcanion canmoladwy iawn. Rwyf yn sicr yn cefnogi'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei araith am gyflwyno rheolaeth ddemocrataidd wirioneddol i ddatblygu a gosod safonau. Rwy'n credu ei bod yn iawn mai'r Llywodraeth ddylai gychwyn y rheini yn hytrach na chorff annibynnol. Rwy'n credu ei fod wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd mai’r hyn yr oedd eisiau ei gyflawni oedd undod ar draws y genedl ar gyfer consensws i symud hyn ymlaen. Mae hyn yn gwbl hanfodol oherwydd mae gennym ffordd faith i fynd ac mae llawer o bobl y mae angen eu hargyhoeddi mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fy hun ynglŷn â hynny. Rwyf i eisiau gweld cenedl ddwyieithog yn y pen draw. Mae'n debyg na fydd yn digwydd yn ystod fy oes i, ond serch hynny, credaf fod y strategaeth hon yn bendant yn mynd i’n helpu i gyflawni hynny.

Wedi dweud hynny, gallwn gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, heblaw am welliant 7, yn ogystal â gwelliannau'r Ceidwadwyr, ond nid wyf yn credu bod y geiriad ar y papur gorchymyn mewn gwirionedd yn gwrthdaro â'r hyn yr oedd y Gweinidog yn dadlau drosto yn gynharach. Rwyf yn credu y bydd y dadleuon a gyflwynwyd ar yr ochr hon i'r Siambr yn rhoi cig ar y geiriau hynny, ond ni fyddant ar y cofnod mewn gwirionedd yn yr un modd â chynnig diwygiedig. Felly, rwy’n credu bod hynny'n werth chweil.

Mae’r unig gafeat yr wyf yn dymuno ei gyflwyno i'r ddadl hon yn ymwneud ag ymestyn safonau i'r sector preifat. Mae hyn yn rhywbeth a ddylai ddigwydd ond yr amserlen yw’r mater allweddol yn y fan yma. Mae'n iawn y dylid trin cwmnïau mawr fel BT, neu gwmnïau cyfleustodau mawr, mewn gwirionedd, fel y sector cyhoeddus—gallan nhw ei fforddio—ond rydym wedi clywed dadleuon ynghylch effaith cyni heddiw, ac nid wyf yn mynd i ailadrodd y rheini, ond nid yw’r amgylchiadau yn hawdd i fusnesau ac mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gosod yn rhy gynnar yr hyn a allai fod yn gostau sylweddol ar fusnesau nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Cefais fy nychryn braidd, mewn ffordd, o glywed Siân Gwenllian yn dweud nad yw perswâd yn gweithio ac felly bod yn rhaid i ni gael gorfodaeth. Nid dyma’r agwedd iawn yn fy marn i. [Torri ar draws.] Gwnaf—

Diolch am dderbyn yr ymyriad, gan na chefais gyfle i siarad yn fy nghyflwyniad yn y fan yma. O ran y pwynt am gwmnïau preifat, yn amlwg, gwlad o fusnesau bach a chanolig ydym ni. Ydych chi'n credu bod y gofyniad i unrhyw safonau fod yn rhesymol a chymesur yn ddigon i sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny yn cael eu gwarchod rhag y posibiliadau yr oeddech chi’n cyfeirio atynt?

Wel, gallai fod. Nid yw’n rhywbeth yr wyf wedi fy argyhoeddi yn ei gylch hyd yma. Hoffwn ystyried hynny yn fanylach. Rwyf yn credu y dylid cael rhyw fath o brawf de minimis, boed hynny yn ymwneud â maint y cwmni, a boed hynny'n cael ei fesur drwy nifer y gweithwyr neu’r trosiant neu beth bynnag. Nid wyf i’n bersonol yn credu bod gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o gwbl i ymgymryd â dwy gyfres o rwymedigaethau llym iawn. Ond byddwn yn casáu meddwl y byddem yn creu gelyniaeth pan nad oes angen hynny trwy gynyddu ofnau pobl yn ddiangen.

Cawsom sefyllfa anffodus iawn yn Llangennech y llynedd yn yr ysgol, ac achosodd yr hyn a welais yno bryder mawr i mi, gan fy mod i eisiau gweld mwy o addysg ddwyieithog a fy mod i eisiau gweld mwy o addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid oedd rhieni'r ysgol honno wedi eu hargyhoeddi mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ac roedd polisi'r cyngor sir yn creu gelyniaeth wirioneddol yno, ac rwy’n credu y byddai'n golygu cam yn ôl i’r iaith mewn gwirionedd yn hytrach na cham ymlaen. Felly, rwyf o blaid agwedd esblygol tuag at hyn. Rwyf yn credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth arwain ac rwy'n meddwl y dylai ddylanwadu'n gryf i’r cyfeiriad iawn, ond rwyf yn credu bod angen i ni fod yn glir iawn, cyn i ni basio cynigion, o ran pa rwymedigaethau yn union yr ydym ni’n eu gosod. Yn fy marn i, byddai datganiadau bras, mewn termau cyffredinol, y gellid eu camddehongli mewn modd a fyddai’n anfanteisiol i gyflawni'r amcan yr ydym i gyd yn ei rannu. Rwy'n credu y byddai'n gam yn ôl.

Mae yna waith mawr i’w wneud i gyrraedd nodau’r strategaeth iaith, onid oes? Mae yna wagleoedd, yn sicr. A’r asiantaeth hyrwyddo a hybu ydy un ohonyn nhw, a dweud y gwir. Roedd ein plaid ni yn galw am greu asiantaeth o’r math hwnnw ac roedd sicr yn gamgymeriad strategol i gael gwared â’r elfen honno. Ond wrth geisio llanw’r gwagle yna, y perygl yw, wrth gwrs, ein bod ni wedyn yn gwanhau yn enbyd y rhan o’r gyfundrefn sydd yn ymwneud â rheoleiddio sydd yn dechrau delifro, a dweud y gwir.

Roeddwn yn edrych ar y ffigurau ar gyfer y cynnydd sydd wedi bod yn barod yn adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Maent yn syfrdanol, a dweud y gwir, o ystyried bod y gyfundrefn newydd o dan y Mesur ddim ond wedi bod yn gweithredu ers ychydig dros flwyddyn yn llawn. Hynny yw, cyfarchiad Cymraeg neu ddwyieithog i 90 y cant o alwadau ffôn—cynnydd o 31 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Pum deg pedwar o dderbynfeydd yn arddangos yn glir fod croeso i ddefnyddio’r Gymraeg—cynnydd o 28 y cant dros y flwyddyn flaenorol. A nawr 25 y cant o hysbysebion swyddi yn dweud bod y Gymraeg yn hanfodol—cynnydd o 9 y cant ers y flwyddyn cyn hynny.

Rŷm ni mewn perig o chwalu’r gyfundrefn reoleiddio, yntefe, wrth ei bod hi nawr yn dechrau delifro. Wel, nid fi sydd yn dweud hynny, Alun. Roeddech chi’n dweud eich bod chi eisiau consensws. Cael ei chwalu mae’r consensws iaith. Mae Dyfodol yr Iaith yn gwrthwynebu, mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu, mae hyd yn oed Huw Onllwyn, cyn-bennaeth uned iaith Llywodraeth Cymru, yn collfarnu rhai o’r awgrymiadau craidd yma sydd gyda chi. Hynny yw, mae creu un corff ar gyfer hybu a rheoleiddio yn gamgymeriad, oherwydd maen nhw’n nodau ac yn weithgareddau gwahanol iawn sydd yn galw am ymagwedd a llywodraethiant a sgiliau gwahanol iawn.

Mae’r cwestiwn yma’n ganolog, o roi’r grym i’r Llywodraeth i osod y safonau. Mae hynny’n gamgymeriad dybryd, ac mae Huw Onllwyn ei hunan yn dweud, ‘Rwy’n ofni ein bod ni ar fin colli gwasanaeth pencampwr iaith annibynnol’, a’r Llywodraeth fydd yn rheoli popeth. Ac yng nghyd-destun hawliau, wrth gwrs, mae hynny’n bryder mawr, yntefe, achos beth sy’n digwydd os ydy gwleidyddiaeth yn newid? Roedd y Gweinidog yn sôn bod sefyllfa’r comisiynydd yn rhoi’r grym i gyd yn nwylo un person. Wel, yn ffeithiol, mae yna ddirprwy gomisiynydd ac yn y blaen, ac mae yna system lywodraethiant, ac mae yna staff ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, beth rŷch chi’n ei awgrymu, wrth roi’r hawl i’r Llywodraeth osod y safonau, yn y pen draw, ydy rhoi—. Wel, ar hyn o bryd, Alun, ar hyn o bryd mae’r safonau’n dod yn ôl i’r Cynulliad yma. Mae hynny’n briodol, wrth gwrs, mewn system ddemocrataidd. Beth rydym ni’n sôn amdano fe, wrth gwrs, ydy rhoi gormod o reolaeth uniongyrchol i’r Llywodraeth, a’r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi hynny, yn wynebu gwrthdaro buddiannau. Maen nhw’n ariannu’r cyrff sydd yn cael eu rheoleiddio, a Gweinidogion yn dod atyn nhw wedi hynny i ddweud, ‘Wel, a ydym ni’n gallu gwanychu’r safonau yn y cyd-destun hwnnw?’

Mae system o annibyniaeth trwy system gomisiynydd neu gorff ‘collective’ yn golygu bod yna hyder gan siaradwyr Cymraeg fod yr hawliau yn mynd i gael eu gweithredu. Roedd Sian Gwenllian wedi dweud bod hyn yn hollol ganolog: yr hawl gyda’r unigolyn i gwyno’n uniongyrchol i gomisiynydd, i swyddfa comisiynydd, sydd wedi hynny yn mynd i ymchwilio. Yn lle hynny, ie, cwyno i’r cyrff sydd yn tramgwyddo. Wel, roedd hynny wedi gweithio yn arbennig o dda am flynyddoedd i siaradwyr Cymraeg, oedd e? Dyna pam roedd rhaid creu Mesur y Gymraeg: er mwyn rhoi sicrwydd i siaradwyr Cymraeg ein bod ni yn mynd i gael hawliau cyfartal yng Nghymru.

Alun, roeddet ti a fi yn rhan o’r ymgyrch yna dros hawliau i siaradwyr Cymraeg, ac rŷm ni nawr yn cefnu arno fe. Hynny yw, mae’n cael ei dynnu’n ôl, colli momentwm, glastwreiddio. Dyna mae eich Papur Gwyn chi yn ei gynrychioli. Mae eisiau dechrau o’r dechrau. Rwy’n cytuno â Jeremy Miles: pam ddim cael hawliau sylfaenol mewn deddfwriaeth? Dyna sydd wedi delifro i bobl eraill mewn cyd-destunau eraill o anfantais. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dangos y math yna o uchelgais a radicaliaeth yn lle’r Papur Gwyn tila yma sydd yn mynd â ni gam yn ôl?

Rydw i’n ddiolchgar, Llywydd, am y cyfle i gyflwyno’r drafodaeth yma a’r drafodaeth ar y Papur Gwyn, a sut rydym ni’n symud ymlaen gyda pholisi iaith. Rydw i’n hynod o ddiolchgar i bob un—pob un—sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Roeddwn i’n falch iawn o glywed sylwadau Suzy Davies, Neil Hamilton, hyd yn oed Adam Price, ac rydw i’n falch hefyd ein bod ni’n dal i allu cael y fath yma o drafodaeth amboutu dyfodol yr iaith Gymraeg.

Roeddwn i’n hynod o falch o glywed Jeremy Miles yn dyfynnu Jim Griffiths. Fe yw un o arweinyddion Llafur Cymru, a rhywun sy’n adlewyrchu’r fath o Gymreictod rydw i’n credu bod Cymru eisiau ei weld, nid jest gan y Llywodraeth ond gennym ni i gyd. Ond a gaf i ddweud cwpl o bethau wrth ymateb i’r drafodaeth? Rydw i’n clywed y cyhuddiadau yma ein bod ni yn gwanhau ein hawliau ni fel Cymry. Nid ydym ni’n gwanhau unrhyw hawliau sy’n bodoli heddiw. ‘In fact’, beth rydym ni’n ei wneud yw mynd yn bellach i ymestyn y math o hawliau sydd gyda ni, ymestyn yr hawliau rydym ni’n gallu eu gweithredu, a beth rydym ni’n mynd i’w sicrhau yw ein bod ni’n gallu gweithredu'r hawliau yma. Nid oes gen i amynedd o gwbl gyda hawliau sy’n byw—a dim ond yn byw—ar bapur. Beth rydw i eisiau eu gweld yw hawliau sy’n gallu cael eu gweithredu gan Gymry Cymraeg bob dydd, lle bynnag maen nhw yn y wlad yma, ond nid yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw’n digwydd ar hyn o bryd, a dyna pam mae’n rhaid i ni weld bod yna newid, nid i wanhau—.

Adam Price a gododd—

Na, nid ydw i’n mynd i adael i chi dorri i mewn ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—ond beth rydw i yn mynd i wneud yw sicrhau ein bod ni’n gallu gweithredu'r hawliau yna lle bynnag ydym ni ar draws Cymru. Dyna pam rydw i’n meddwl bod rhaid i ni ystyried sut ydym ni’n cryfhau ein hawliau ni. Nid yw’n ddigon da—nid yw e byth yn ddigon da—i jest ddod i fan hyn yn y Siambr a dweud nad ydym ni’n fodlon newid, bod gyda ni system sy’n bodoli ar hyn o bryd; nid yw hi’n ddigonol, ond nid ydym ni’n fodlon ystyried sut rydym ni’n newid y system honno.

Rydw i’n gwybod, Adam, eich bod chi’n eistedd ar bwys UKIP nawr, ond mi fuaswn i’n gofyn i chi beidio bod cweit mor geidwadol ag yr wyt ti wedi bod.

A ydy’r Gweinidog o leiaf yn ei hystyried hi yn dystiolaeth glir bod yna ddiffygion, o bosib, yn y Papur Gwyn yma fod pob cymdeithas, pob corff sy’n cynrychioli ymgyrchwyr iaith, siaradwyr Cymraeg, yn dweud eu bod nhw yn poeni bod y Papur Gwyn yma yn mynd i wanhau hawliau siaradwyr Cymraeg? Fe fyddech chi’n gwrando ar Stonewall petasai’n fater o hawliau pobl hoyw. Pam nad ydych chi’n gwrando ar y mudiadau iaith?

Rydw i yn gwrando. Rydw i yn gwrando. Roeddwn i yn Llandudno yn trafod â phobl ddoe. Roeddwn i yn Abertawe bythefnos yn ôl yn gwrando ar bobl. Rydw i’n mynd i barhau i deithio o gwmpas Cymru yn gwrando ac yn siarad â phobl. Beth rydw i’n ei ddweud wrthych chi nawr, Adam, yn eithaf clir, yw nad yw pobl yn cytuno â beth rydych chi’n ei ddweud y prynhawn yma. Mae yna bobl rydw i’n siarad â nhw, ar draws y wlad hon, nad ydynt yn cytuno â phob dim rydych chi a Sian wedi’i ddweud y prynhawn yma, ac mae angen i chi ystyried ac i feddwl hynny. Mae’n rhaid i ni, fel Senedd Cymru, adlewyrchu beth ydy ein gweledigaeth ni i gyd ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg. Rydw i’n hollol glir yn fy meddwl i bod rhaid i ni gryfhau'r hawliau sydd gyda ni fel Cymry Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag ydym ni ac i sicrhau ein bod ni’n gallu cael gwasanaethau yn y Gymraeg, ac mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud hynny.

Mae’r rhaid i ni hefyd wneud hynny mewn system ddemocrataidd, a system o ddemocratiaeth. Beth rydw i’n ei glywed ambell waith yw nad yw pobl yn trystio ein democratiaeth ni, nad yw pobl yn fodlon trystio’r ddemocratiaeth sydd gyda ni. Nawr, rydw i’n meddwl bod rhaid i ni gael rheoleiddio sy’n gwbl annibynnol o’r Llywodraeth, a dyna pam rydw i’n ystyried yr opsiwn o’r ombwdsman sydd yn hollol annibynnol o’r Llywodraeth, a hefyd yn sefydlu comisiwn gyda phwerau, gyda chyllideb, gyda grymoedd angenrheidiol i sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol am ei weithrediadau. Hefyd, rydw i eisiau cydweithio yn well ar gyfer sut rydym ni’n gorfodi’r safonau ar gyrff gwahanol. Beth rydw i’n ei weld yw rheoleiddio fel ffordd bositif o sicrhau, os oes gwallau wedi bod, fod pobl yn cael eu hawliau wedi’u gweithredu, ond hefyd ein bod ni’n rheoleiddio drwy gydweithio â phobl, cydweithio a chwmnïau mawr, cydweithio â hyd yn oed y banciau, ond cydweithio i sicrhau bod gyda ni bolisi iaith sy’n adlewyrchu ein gweledigaeth ni.

A beth rydw i’n mynd i ddweud, wrth bennu y drafodaeth yma yw: mae gyda ni drafodaeth i’w chael ar hyn o bryd, ac mi fydda i’n dod â chasgliadau’r drafodaeth yma yn ôl i’r Cynulliad yn ystod y flwyddyn nesaf ac wedyn symud i ddeddfu. Ond fe fyddwn ni’n deddfu i sicrhau system ddeddfwriaethol a fydd yn adlewyrchu ein gallu i gyrraedd ein gweledigaeth ni, a gweledigaeth rydw i’n credu bod pob un ohonom ni yn ei rhannu. Nid ydym ni’n mynd i dreulio amser yn trafod strwythurau gwahanol. Rydym ni’n mynd i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg, ac rydym ni yn mynd i sicrhau gweledigaeth a fydd yn cael ei rhannu ym mhob un rhan o’r wlad, o Gaerbybi i Fynwy—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—ac mi fyddwn ni yn arwain hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Gymraeg. Gwelliant 1: galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6516.

Gwelliant 2: pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, pedwar yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 11, Yn erbyn 40, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6516.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 43, 10 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 43, Yn erbyn 2, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6516.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 14, Yn erbyn 30, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6516.

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 54, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6516.

Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 6 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 30, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6516.

Gwelliant 7: galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 39, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6516.

Galwaf am bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 30, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 8 i gynnig NDM6516.

Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6516 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.

Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.

Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6516 fel y’i diwygiwyd: O blaid 40, Yn erbyn 11, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6516 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:09.